Gogledd Cymru - Yn Brydferth ar y Bws

Page 1


Gogledd Cymru.

Yn brydferth ar y Bws.

Y sedd orau

ar y bws

Arfordir ysblennydd, cestyll a lleoedd

arbennig i fwyta ac yfed. Y ffordd orau o deithio trwy ogledd Cymru yw ar wasanaethau Arriva. Taith diwrnod neu

benwythnos i ffwrdd – defnyddiwch yr

arweiniad hwn i ddod o hyd i’ch ffordd, cynllunio teithiau a chael y tocyn sy’n gywir i chi.

Ar ap Arriva Bus UK

Ar eich bws

Bangor

Yn brydferth ar y bws.

Bangor i... Bws

Caernarfon 5C

Cartref i gastell fwyaf enwog Cymru a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Porthaethwy 4, 4a, 58, 62

Tref hardd sy’n gartref i bont grog haearn gyntaf y byd.

Biwmares 58

Tref lan môr ddymunol ag adeiladau canoloesol, Sioraidd, Fictoraidd ac Edwardaidd.

Moelfre 62

Hen bentref bysgota â hanes glan môr hir a thraethau hyfryd.

Caergybi 4, 4a

Tref fwyaf Ynys Môn â phorthladd fferi prysur.

Castell Conwy 5/5D

Cadarnle tyrog o’r 13eg ganrif â grisiau tro a golygfeydd o Eryri.

Llandudno

Brenhines trefi glan môr Cymru â chyfoeth o hanes Fictoraidd, atyniadau diwylliannol ac arfordir bythgofiadwy.

Ewch i weld

Eryri

Defnyddiwch eich tocyn 1bws i gysylltu â rhwydwaith bysiau Sherpa’r Wyddfa.

Pier Bangor

Y pier hiraf ond un yng Nghymru â chiosgau Fictoraidd yn gwerthu bwyd a diod.

Promenâd Bangor

Promenâd hardd sy’n arwain o ganol y dref, at lwybr arfordirol a heibio’r marina.

5/5D

5/5D

5/5D

Castell Penrhyn 5

Castell arddull Normanaidd ag addurniadau mewnol trawiadol a gardd furiog.

Terfyn Tocynnau Rhad Parth Menai

5,5D

Terfyn Tocynnau Rhad Parth Dinas Bangor

58,58L

Parth Menai

Sganiwch i weld rhagor o wybodaeth am lwybrau a thocynnau

Diwrnod ar fws rhif 5

5/5C/5D

Caernarfon

Ewch nôl mewn amser trwy brynu tocynnau i weld castell mawreddog, canoloesol

Caernarfon Frenhinol neu cerddwch drwy hanes strydoedd cul y dref am ddim. Ar ôl crwydro, cewch flasu diwylliant caffi’r dref a chael brecwast Cymreig llawn.

Neidiwch ar fws rhif 5C o Orsaf Fysiau

Caernarfon i Orsaf Fysiau Bangor er mwyn crwydro’r ddinas brifysgol, neu ar fws rhif 4 neu

4A i Ynys Môn. Ewch ar daith trwy Eryri ar fws y Rhwydwaith Sherpa (gweler tudalennau 10 a 11) neu ewch ar fws rhif 5 i Landudno.

Llandudno

Dewch oddi ar y bws yng Nghanolfan Fictoria i weld trysorau Llandudno, o arddangosfeydd celf a hanes diddorol i’r pier hiraf yng Nghymru, sy’n 2,295 o droedfeddi. Mae yma fwynglawdd copr hynafol, siopau gwych a hyd yn oed amgueddfa siocled!

Pen y Gogarth

Mae unig reilffordd halio Prydain Fawr llai na 10 munud o waith cerdded o’r pier. Yn weithredol ers can mlynedd, mae’n dringo 1500m trwy warchodfa natur. O gopa Pen y Gogarth ar ddiwrnod clir, gallwch weld Tŵr Blackpool, Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd. Yn ystod yr haf, gallwch gyrraedd y copa ar wasanaeth 26 Arriva.

Nôl i lawr yn nhref Llandudno gallwch ddod o hyd i ddigon o leoedd bwyta a dulliau coginio gwahanol, cyn gorffen eich diwrnod gyda diod yn un o’r tafarndai traddodiadol sy’n wynebu’r môr.

Llandudno

Yn brydferth ar y bws.

Llandudno i... Bws

Conwy 14, 15, 5

Tref farchnad ganoloesol mewn cyflwr da â chastell anhygoel o’r 13eg ganrif.

Llandrillo-yn-Rhos 12,14,15

Pentref glan môr sy’n cynnig traethau gwych a hwyl i’r teulu.

Bae Colwyn 12, 13, 14, 15

Tref â thraethau hardd, mannau gwyrdd a’r theatr weithredol hynaf yng Nghymru.

Y Rhyl 12

Mae traeth tywodlyd llydan a phromenâd

trawiadol y Rhyl yn ei wneud yn lle poblogaidd i fynd am dro a mwynhau awel y môr. Mae plant o bob oed yn mwynhau’r acwariwm, waeth beth fo’r tywydd.

Prestatyn 13

Mae’r dref lan môr yn enwog am ei thraethau a’i chwaraeon dŵr.

Ewch i weld

Pier Llandudno

Mae’r pier hiraf yng Nghymru, sy’n ymestyn 700m dros y môr, yn un o berlau arddull Fictoraidd canol tref Llandudno.

Taith fer i ffwrdd...

Pen y Gogarth 26

Mwynhewch olygfeydd syfrdanol o’r unig dramffordd wedi’i halio â cheblau ym Mhrydain Fawr.

Castell Conwy 14, 15, 5

Mae’r cadarnle enwog hwn, a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yn ystod ei goncwest o Gymru, yn daith fer i ffwrdd.

Llandudno network

Diwrnod ar fws rhif 12 Ymlaciwch a theithiwch o'r Rhyl

Y Rhyl

Mae’r glan y môr a ailddatblygwyd yn llwyr yn cyfuno’r newydd â’r traddodiadol ar gyfer profiad syfrdanol. Plymiwch i barc dŵr dan do SC2 a phrofi gwefrau’r sleidiau a phyllau nofio. Neu am brofiad llai anturus, ewch ar daith hyfryd o amgylch y dref ar y rheilffordd fach, cyn dal y bws o Ffordd Cilgant tuag at Landudno.

Traeth Pen-sarn

Mae’n daith fer at Draeth Pensarn, lle mae milltiroedd o dywod euraidd a graean, cynefinoedd bywyd gwyllt a mannau pysgota yn y môr yn disgwyl amdanoch. Syllwch ar y golygfeydd godidog neu ewch i’r dŵr. Ar ôl ichi sychu, ewch nôl ar y bws ac ymlaen i Landudno.

Bae Colwyn

Dewiswch le i fynd o’r bws wrth iddo wau ei ffordd i Fae Colwyn. Crwydrwch y siopau yn Ffordd Greenfield neu ewch am fwyd yn y caffis a’r bistros cyfagos. Ewch am bicnic yn 50 o erwau gwyrdd Parc Eirias, lle gall y plant fwydo’r hwyaid a chwarae ar y siglenni.

Pan fyddwch yn barod, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd ar y ffordd nôl i Orsaf Fysiau’r Rhyl.

Neu os oes gennych fwy o amser, ewch i Landudno, un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y llwybr hwn. Mae atyniadau’r dref i’w gweld ar y dudalen flaenorol.

Y Rhyl

Yn brydferth ar y bws.

Y Rhyl i... Bws

Llandudno 12

Brenhines trefi glan môr Cymru â hanes cyfoethog o oes Fictoria, atyniadau diwylliannol ac arfordir bythgofiadwy.

Prestatyn 35, 36, 11M, 11C

Mae’r dref lan môr yn enwog am ei thraethau a’i chwaraeon dŵr.

Llandrillo-yn-Rhos 12, 14 15, 24

Pentref dymunol sy’n cynnig traethau gwych, caffis clyd a hwyl i’r teulu oll.

Wrecsam

51/X51

Dinas newydd, yn llawn lleoedd i fwyta neu yfed, wedi’i hamgylchynu gan harddwch gwyllt a rhyfeddodau hynafol.

Ewch i weld

Traeth y Rhyl

Mae’r traeth tywodlyd euraidd yng nghanol y Rhyl yn le delfrydol i blant chwarae.

Rheilffordd fach y Rhyl

Ewch am dro o amgylch Llyn Morol yng nghanol y Rhyl ar y rheilffordd fach hynaf ym Mhrydain.

Rhyl SC2

Diwrnod gwych i’r teulu gyda gweithgareddau dŵr dan do ac yn yr awyr agored.

Parc Hwyl - Tir Prince

Taith fer ar wasanaeth 12, mae’r Parc Hwyl hwn hefyd yn cynnal diwrnodau marchnad rheolaidd rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd.

SC2 12

11C,11M

35,36 - bob 30 munud

51,51B - bob 30 munud

83,83A - bob 30 munud

84,84A - bob 30 munud

Sganiwch i weld rhagor o wybodaeth am lwybrau a thocynnau

Wrecsam Yn brydferth ar y bws.

Wrecsam i... Bws

Caer 1

Tref gadeirlan â muriau Rhufeinig a’r amffitheatr fwyaf ym Mhrydain.

Llangollen 5

Tref hardd ar lan afon Dyfrdwy â chaffis, marchnadoedd, teithiau ar gamlas a mwy.

Parc Gwledig Dyfroedd Alun 27

Parc gwledig mawr yn nyffryn Alun, ar safle a enillodd gwobr y Faner Werdd.

Ewch i weld

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Mae un o’r clybiau pêl-droed hynaf yng nghanol dinas Wrecsam, dan berchnogaeth dau actor o Hollywood.

Canolfan Darganfod

Gwyddoniaeth Xplore!

Cartref gwyddoniaeth yng ngogledd Cymru, mae Xplore! yn llawn anturiaethau, hwyl a darganfyddiadau diddorol.

Taith fer i ffwrdd...

Dyfrbont Pontcysyllte

Dyfrbont anhygoel Thomas Telford, un o olygfeydd mwyaf godidog gogledd Cymru.

Rheilffordd Llangollen 5

Rheilffordd dreftadaeth yng nghanol ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Amlder cyffredinol yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener

1 - bob 15 munud

2,2A - bob 30 munud

2C - bob 30 munud

3 - bob 30 munud

4A,4C - bob 60 munud

5 - bob 30 munud

7,8 - bob 30 munud

11 - bob 30 munud

12 - bob 30 munud

14 - bob 60 munud

21 - bob 60 munud

27 - bob 60 munud

33 - bob 30 munud

35 - bob 30 munud

41 - bob 60 munud

42 - bob 60 munud

44 - bob 60 munud

X51 - bob 120 munud

Parth Tocynnau Rhad Wrecsam

Parth Tocynnau Rhad Wrecsam

Dreftadaeth Llangollen Llangollen

Gwersyllt
Cefn-y-bedd
Sganiwch
lwybrau
thocynnau

Caer

Yn brydferth ar y bws.

Caer i... Bws

Brychdyn 4, x4, 11

Cartref parc manwerthu prysuraf gogledd Cymru gyda siopau, bwytai a sinema 11-sgrin.

Y Wyddgrug 4, x4

Mae’r dref farchnad hon yn bleser i haneswyr a bwydgarwyr fel ei gilydd.

Wrecsam 1

Dinas newydd, llawn lleoedd i fwyta neu yfed, wedi’i hamgylchynu gan harddwch gwyllt a rhyfeddodau hynafol.

Ewch i weld

Cae ras Caer

Mae’r cae ras gweithredol hynaf yn y byd (sefydlwyd yn 1539) yng nghanol Caer.

Muriau Dinas Caer

Cerddwch o amgylch muriau Rhufeinig Caer i weld y golygfeydd, y bwytai a’r bariau.

Marchnad Caer

Casgliad bywiog o gynnyrch a bwyd stryd annibynnol, y cyfan o dan yr un to.

Sganiwch i weld rhagor
wybodaeth am lwybrau a thocynnau

Tocynnau i deithio ar fysiau Arriva

Mae gennym docynnau o bob math ar eich cyfer.

P’un a ydych yn teithio ar ben eich hun neu fel rhan o grŵp, yn ymweld â gogledd Cymru am y diwrnod, penwythnos neu am gyfnod hirach.

Os ydych chi’n teithio trwy ogledd Cymru gyda grŵp o ffrindiau, y plant neu hyd yn oed y teulu cyfan – mae gennym docynnau i bawb:

Tocyn diwrnod diderfyn i oedolyn £6.30

Tocyn diwrnod diderfyn i deulu

Tocyn bwndel 3-diwrnod i oedolyn £17.00

Teithio am brisiau rhatach

Gallwch deithio’n ddi-dâl trwy’r amser gyda

Cherdyn Teithio Rhatach Cymru. Os oes gennych gerdyn o Loegr neu’r Alban, gallwch deithio tu allan i’r oriau brig am bris gostyngedig.

Pryd mae’r oriau brig?

*Ar ôl 9.30am dydd Llun i ddydd Gwener a thrwy’r dydd ar benwythnosau a gwyliau banc.

Llun: Castell Conwy
Tocyn diwrnod rhad
Tocyn wythnos rhad

1 BUS TICKET 1 TOCYN BWS ROUTES O LWYBRAU

The 1bws multi-operator ticket lets you travel around North Wales easily and without worrying about what buses you can get on. Simply hop on and hop off 27 different bus operators including Traws Cymru and Sherpa’r Wyddfa bus networks across our wonderful region and discover what it has to offer.

Adult

Child

(up to 16 years old)

MyTravelPass holder

Concession

(English or Scottish concessionary pass holders)

Family

(up to 2 adults and up to 3 children)

Find out more at Denbighshire.gov.uk/1bws

ONE TICKET. ONE NETWORK. UN TOCYN. UN RHWYDWAITH.

Mae tocyn aml-gwmni 1bws yn caniatáu ichi deithio o amgylch Gogledd Cymru hawdd a heb boeni am ba fysiau y gallwch chi eu defnyddio. Gallwch deithio ar fysiau 27 o gwmnïau bws gwahano gan gynnwys rhwydweithiau Traws Cymru a Sherpa’r Wyddfa, ar draws ein rhanbarth hyfryd, a darganfod beth sydd ganddo i’w gynnig.

Oedolyn

Plentyn (hyd at 16 oed)

Deiliad fyngherdynteithio

Consesiwn (deiliaid pàs consesiynol yn Lloegr neu’r Alban)

Teulu (hyd at ddau oedolyn a hyd at 3 o blant)

Cewch wybod mwy ar Denbighshire.gov.uk/1bws

North West Wales network

Parth Tocynnau Rhad Cymru Gyfan

Terfyn Tocynnau Rhad Parth

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.