Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange
28 Tachwedd 2020 – 30 Ionawr 2021 Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange
Rydym ar ben ein digon o gael croesawu Laura Thomas yn ôl. Mae’n
artist, dylunydd, curadur ac yn addysgwr Cymreig sydd wedi cyfrannu, ac wedi curadu nifer o arddangosfeydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange o’r blaen. Mae angerdd Laura dros wehyddu yn amlwg yn ei gwaith ei hun, a hefyd yn y ffordd mae’n eiriol dros ei chyd-wehyddion.
Mae O Dan Y Gorchudd yn arddangosfa o flancedi wedi’u gwehyddu cyfoes a guradwyd gan Laura ac sy’n cynnwys gwneuthurwyr o bob rhan o Gymru, y DU ac o bedwar ban byd. Mae eu dehongliadau o flancedi yn estyn ffiniau gwehyddu â llaw traddodiadol, am eu bod yn dylunio ar gyfer cynhyrchu masnachol ynghyd â mynd i’r afael â materion cynaliadwyedd. Mae sgiliau traddodiadol fel gwehyddu mewn perygl o ddiflannu wrth i’r galw amdanynt ostwng yn yr oes ddigidol. Mae’r bygythiad i’r sgiliau hyn, a fyddai gynt yn cael eu haddysgu yn y cartref neu yn yr ysgol, yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar y diwydiannau creadigol – mae gweithwyr proffesiynol meddygol hyd yn oed yn dweud eu bod wedi gweld gostyngiad yn y sgiliau corfforol sy’n hanfodol mewn llawfeddygaeth. Mae’r gwneuthurwyr yn yr arddangosfa hon yn sicrhau bod crefftau traddodiadol yn parhau nid yn unig i oroesi ond hefyd i ffynnu, gan ddathlu ac arloesi yn y traddodiad cyfoethog o gynhyrchu blancedi gwlân. Mae’r sgiliau, traddodiadau a’r symbolaeth sydd wedi’u lapio mewn blancedi yn eu gwneud yn eitemau gwerthfawr ym mhob cartref, yn ddarparwyr cysur a chynhesrwydd sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Louise Jones-Williams Cyfarwyddwr ✜ Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange
C Y F LW Y N I A D 4 A N G I E PA R K E R 6 B E AT R I C E L A R K I N 8 C ATA R I N A R I CC A B O N A 10 E L E A N O R P R I TC H A R D 12 L AU R A T H O M A S 14 L L I O J A M E S 16 M A R G O S E L BY 18 M A R I A S I G M A 20 M E G H A N S P I E L M A N 22 M E L I N T R E G W Y N T 24 S I O N I R H YS H A N D W E AV E R S 26 WA L L AC E S E W E L L 28
Gellid ystyried bod blancedi yn un o’r symbolau magwraeth mwyaf atgofus a chynhyrfiol. Ers
ein geni, rydym yn lapio ein cyrff yn y paneli llyfn hyn o frethyn wedi’i wehyddu sy’n rhoi cysur a
gwarchodaeth. Mae gan bob diwylliant yn y byd
draddodiad o flancedi, ac fel y cyfryw gellid dadlau
bod iddynt apêl gyffredinol a symbolaeth gynhenid sydd y tu hwnt i iaith. Mae’r cynnig neu’r rhodd o
flanced yn ddealladwy, heb fod angen esboniad.
Mae fformat graddfa fawr y flanced bob amser yn cynnig ‘cynfas gwag’ dymunol ar gyfer mynegiant creadigol, sy’n mynd y tu hwnt i’w defnyddioldeb. Mae ei lliw, patrwm a chyfansoddiad yn mynnu sylw ac yn darparu canolbwynt beiddgar o fewn ei lleoliad domestig ymarferol. Ers tro byd, mae artistiaid a gwneuthurwyr wedi manteisio ar y cyd-destun grymus hwn ar gyfer eu sgiliau dylunio. Gan fod Cymru’n meddu ar dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog o ran cynhyrchu blancedi, mae’n amserol i ni edrych ar wehyddion heddiw sy’n creu eu traddodiad personol, ond gan dalu teyrnged barchus i’r hyn sydd wedi mynd o’u blaen. Mae’r arddangosfa hon yn amlygu amrywiaeth o arferion, o waith wedi’i wehyddu â llaw i ddarnau wedi’u gwehyddu yn y felin, a phob un yn blaenoriaethu ansawdd a manwl gywirdeb. Mae pob darn yn dangos defnydd medrus o liw, adeiledd gwehyddu a’r dewis o edau sy’n arwain
4
O DAN Y GORCHUDD
i flancedi tra dymunol, o ansawdd eiddo etifeddol a fydd yn rhoi cysur i’n cyrff ac yn dodrefnu ein cartrefi. Mae Llio James yn un o ddylunwyr tecstilau mwyaf cyffrous Cymru. Cafodd ei magu ger y melinau gwlân yng Ngheredigion, a gadawodd hyn farc annileadwy ar ei chreadigrwydd. Mae wedi creu llwybr cymeradwy yn gwehyddu ffabrigau nodweddiadol Cymreig, ond mewn modd cwbl gyfoes, trwy ei defnydd detholus o liw, adeiledd gwehyddu a manylder y gorffeniad. Mae Gwehyddion Sioni Rhys Handweavers yn fusnes dylunio Cymreig arall a edmygir yn fawr. Mae’n arbenigo mewn gwehyddu carthenni traddodiadol â llaw yn defnyddio twil clasurol, ond mewn palet cyfoes o liwiau. Mae’r defnydd beiddgar o liwiau mewn gwlân moethus Prydeinig yn creu carthenni swmpus sy’n apelio at bawb. Mae Eleanor Pritchard, Margo Selby a Wallace Sewell bob un wedi sefydlu busnesau llewyrchus sydd wedi meithrin perthnasoedd ffrwythlon gyda chynhyrchwyr Prydeinig. Mae eu dyluniadau wedi’u gwehyddu â llaw yn cael eu mireinio a’u datblygu yn eu stiwdios cyn iddynt gael eu mwyhau’n gymesur ar gyfer swpgynhyrchu. Mae’r berthynas ‘law yn llaw’ hon rhwng crefft a chynhyrchu wedi cyflwyno ffyrdd newydd i ymarferwyr crefftau cyfoes o gynnig eu nwyddau i gynulleidfa ehangach. Mae gan Beatrice Larkin ddull tebyg o gydweithio â’i phartner, sef melin jacquard Brydeinig, i greu ei
chasgliadau moethus o flancedi unlliw. Mae gweithio gyda gwŷdd jacquard yn caniatáu iddi ail-greu llinellau a dynnwyd â llaw yn ffyddlon. Mae hon yn elfen annodweddiadol ym myd dylunio blancedi. Graddiodd Meghan Spielman yn ddiweddar o’r Coleg Celf Brenhinol lle cafodd ei chasgliad graddio o waith celf tecstilau ei edmygu’n fawr oherwydd y tro tra dyfeisgar ar decstilau traddodiadol, fel gingham a sieciau. Ar gyfer yr arddangosfa hon, bu Meghan yn cydweithio â’r artist llifynnau naturiol, Madeleine Provost, i baratoi ikat ystof wedi’i lifo â llaw, cyn mynd ati i greu’r gwaith celf o sidan wedi’i wehyddu â llaw sy’n gyfeiriad at ddyluniadau blancedi wedi’u dadaleiladu. Mae’r gwehydd Angie Parker yn adnabyddus yn bennaf am ei gwaith celf a’i rygiau Krokbragd lliwgar. Yn ddiweddar mae wedi ehangu ei repertoire i gynnwys blancedi. Mae’r cyfnod clo wedi ysgogi gwerthfawrogiad newydd o’r tai wedi’u peintio’n lliwgar o gwmpas ei chartref ym Mryste. Arweiniodd hyn at ddyluniad blanced newydd sy’n cael ei gynhyrchu ar y cyd â melin wehyddu leol, The Bristol Weaving Mill. Mae Maria Sigma a Catarina Riccabona yn frwd dros gynaliadwyedd yn eu holl waith wedi’i wehyddu â llaw. Mae eu hestheteg goeth, gryno yn hwyluso’u dewis o edafedd naturiol, heb eu lliwio, sydd wedi’u hailgylchu neu eu huwchgylchu, i ysgogi moeth perffaith ac ‘ethos brethyn araf’.
Ac yn olaf, ni fyddai unrhyw arddangosfa sy’n canolbwyntio ar flancedi yng Nghymru yn gyflawn heb Felin Tregwynt. Mae’r felin wedi bod ym meddiant y teulu Griffiths ers dros canrif, a than oruchwyliaeth o Eifion ac Amanda Griffiths, mae’r felin wedi datblygu ei henw da yn fyd-eang am ei thro cwbl fodern ar y dyluniadau brethyn dwbl Cymreig eiconig. Mae archif helaeth Melin Tregwynt wedi darparu adnodd cyfoethog sy’n cael ei gyfuno â phalet modern o liwiau i greu blancedi eiconig sydd â llu o edmygwyr. Fel gwehydd ers bron pum mlynedd ar hugain, mae fy nhaith i faes tecstilau wedi’u gwehyddu wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn blancedi. Mae gen i atgof plentyndod clir o orwedd yn y gwely yn y nos yn astudio’r blancedi crwybr a brethyn dwbl yn ofalus, yn eu troi drosodd a cheisio deall pam fod yr wyneb yn wahanol i’r cefn. Llawer yn ddiweddarach pan oedden i yn y coleg, ac wedi darganfod cyswllt naturiol â gwehyddu blancedi, cefais fy nharo’n gryf gan yr atgof hwn. Daeth fy chwilfrydedd dros flancedi yn sylfaen i’m dyfodol, ac rwy’n cael fy nghyfareddu’n ddi-feth gan ddyluniad blanced gwych. Mae cyfansoddi’r sioe hon wedi bod yn bleser o’r mwyaf. Laura Thomas ✜ Tachwedd 2020
O DAN Y GORCHUDD
5
6
O DAN Y GORCHUDD
Dychmygodd a dyluniodd Angie Parker ei Blanced Fryste mewn ymateb i gyfnod clo Covid-19. Wrth fynd am dro bob dydd, byddai Angie yn cael ei hysbrydoli gan bensaernïaeth liwgar Bryste a’r cysylltiadau cryfach a wnaed gyda’i chymdogion a’r gymuned leol ehangach yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r palet o liwiau’n adlewyrchu’r bensaernïaeth, ond mae hefyd wedi cael ei ddewis yn ofalus i godi’ch calon ac ysgogi llawenydd. Ar ôl creu sampl ar ei gwŷdd llaw, comisiynodd Angie y felin fechan arbenigol, Bristol Weaving Mill, i gynhyrchu rhediadau byr nifer gyfyngedig o’i dyluniad. Am bob blanced a werthir, bydd 10% o’r elw yn mynd i MIND, yr elusen iechyd meddwl.
O DAN Y GORCHUDD
7
8
O DAN Y GORCHUDD
Daw ysbrydoliaeth Beatrice Larkin o bensaernïaeth, tecstilau Gorllewin Affrica a nodiant arluniol adeileddau gwehyddu. Mae’n tynnu lluniau sydd wedyn yn cael eu trosi i ffabrigau wedi’u gwehyddu jacquard unlliw. Mae’n chwarae gyda llinell, graddfa a fformat ailadrodd a sut mae hyn yn ei dro yn ymgysylltu ag adeiledd wedi’i wehyddu. Caiff y ffabrigau eu gwehyddu mewn rhediadau byr mewn melin jacquard yn Swydd Gaerhirfryn. ‘ Mae bywyd mewn patrwm sy’n edrych fel pe bai newydd gael ei greu. Dwi’n gwneud yn siwr bod
y braslun cychwynnol yn dal i fod yn weladwy
yn y defnydd gorffenedig. Rwy’n dwli ar linellau nad ydyn nhw’n cwrdd yn iawn, blot o inc, ffurf geometrig wedi pylu a thorri.’
O DAN Y GORCHUDD
9
10
O DAN Y GORCHUDD
Mae Catarina Riccabona yn wehydd llaw sy’n gwneud carthenni a blancedi a edmygir yn fawr. Mae pob eitem yn un ‘untro’ wrth iddi archwilio cyfosod blociau o adeileddau wedi’u gwehyddu ac edafedd naturiol. Mae’n cynnwys ac yn dathlu clymau, uniadau ac elfennau angenrheidiol eraill sy’n cael eu cuddio fel arfer yn y broses wehyddu, gan arwain i decstilau sy’n llawn uniondeb a dilysrwydd. ‘ Mae pob darn a wnaf yn gwbl unigryw. Rwy’n
creu’r hunaniaeth wahanol drwy ffordd o weithio sythweledol ac arsylwadol, sy’n caniatáu i’r
dyluniad ymffurfio’n ddigymell tra byddaf yn
gwehyddu wrth y gwydd. Nodweddir pob darn hefyd gan yr elfennau bychain afreolaidd sy’n
nodweddiadol o wneud â llaw, fel selfais naturiol.’
O DAN Y GORCHUDD
11
12
O DAN Y GORCHUDD
Mae Eleanor Pritchard yn cael ei hedmygu’n eang am ei dull esthetig a deallusol coeth o greu blancedi wedi’u gwehyddu tra chwenychadwy sydd â’u gwraidd mewn arbrofi â gwŷdd llaw. Mae’r dyluniadau wedi’u gwehyddu â llaw hyn yn cael eu cynhyrchu mewn melinau yn y DU, fel Melin Teifi yn Sir Gâr ac maent yn cael eu gwerthu ledled y byd. ‘ Dwi wedi mwynhau chwarae â lliw a
phatrwm erioed. Yn aml, mae naws canol y
ganrif i’m gwaith ac mae gen i gydnawsedd cryf ag estheteg ac athroniaeth ddylunio’r cyfnod hwnnw. Ar y cyd â hyn, mae gen i
ddiddordeb mawr mewn tecstilau brodorol Prydeinig a dwi’n ystyried bod llawer o’m gwaith yn ail-ddehongli’r traddodiadau a’r technegau hyn i gynulleidfa gyfoes.’
O DAN Y GORCHUDD
13
14
O DAN Y GORCHUDD
Er ei bod yn adnabyddus yn bennaf am ei chelfwaith tecstilau cyfryngau cymysg, mae diddordeb Laura Thomas mewn tecstilau wedi’i wreiddio’n gadarn mewn blancedi Cymreig. Pan oedd yn fyfyriwr yn 1997, gwnaeth Laura leoliad gwaith ym Melin Tregwynt, ac mae hyn wedi arwain at berthynas broffesiynol barhaus ers hynny. Mae hyn wedi cynnwys ymgynghori technegol a dylunio, ynghyd â chynhyrchu rhediadau byr achlysurol o flancedi i gleientiaid fel Heals neu ar gyfer ei label ei hun. Ar gyfer yr arddangosfa, mae Laura wedi mwynhau cael cyfle i weithio gyda Melin Tregwynt unwaith eto, ac archwilio defnyddio Gwlân Cymru Mynyddoedd Cambria 100% i gynhyrchu blanced nifer gyfyngedig. Ategir hon gan ddyluniad gwehyddiad agored wedi’i wehyddu â llaw, a gynhyrchir yn ei stiwdio ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
O DAN Y GORCHUDD
15
16
O DAN Y GORCHUDD
Am i iddi gael ei magu mewn pentref bach yng Ngheredigion lle’r oedd dwy felin wehyddu draddodiadol, meithrinwyd diddordeb Llio James mewn tecstilau yn ystod ei phlentyndod. Mae ei gwerthfawrogiad o gynhyrchu brethyn yn greiddiol i’w harfer creadigol gan ei bod yn gwehyddu blancedi â llaw a hefyd yn cynhyrchu rhediadau byr wedi’u gwehyddu gyda Melin Teifi. Ar gyfer yr arddangosfa hon, mae Llio wedi manteisio ar y cyfle i greu corff newydd o waith wedi’i wehyddu â llaw. ‘ Mae lliw yn rhan bwysig o’r broses ddylunio,
gan edrych ar gymesuredd, graddfa a ffurfiau geometrig. Rydw i’n creu dyluniadau papur i
weld pa syniadau sy’n datblygu, ac yna byddaf yn symud ymlaen at y gwydd. Wrth wehyddu brethyn pwrpasol â llaw, mae’r dyluniad yn datblygu wrth i mi wehyddu gan ganiatáu i mi addasu’r gwaith wrth iddo dyfu.’
O DAN Y GORCHUDD
17
18
O DAN Y GORCHUDD
Cynhyrchir y flanced Kozo wrthdroadwy o wlân oen 100% yn Yr Alban, ac mae’n defnyddio fformat y flanced fel cynfas celf, sy’n dangos cyfansoddiad geometrig ar raddfa fawr. Mae dyluniad y Kozo a’r Sakuru yn efelychu’r elfennau clytwaith a welir mewn tecstilau Boro Japaneaidd â’u cyfansoddiad beiddgar, gyda chyfeiriad at gwiltiau Americanaidd. Mae manylion cymhleth y dyluniad hwn yn hanu o’r darnau datblygu niferus wedi’u gwehyddu â llaw ar y gwyddiau yn stiwdio Margo yn Whitstable. Mae’r broses o ddechrau gyda samplau a gynhyrchir â llaw yn rhan o ethos Margo o ‘gelf i ddiwydiant’, sy’n eiriol dros grefft y gwehydd llaw ar y cyd â sgìl ac arbenigedd melinau diwydiannol.
O DAN Y GORCHUDD
19
20
O DAN Y GORCHUDD
Mae Maria Sigma yn wehydd llaw cynhyrchiol sy’n creu ffabrigau coeth, gonest sydd â materion cynaliadwyedd wrth eu craidd. ‘ Mae fy ymagwedd at ddylunio yn seiliedig ar y
syniad o greu tecstilau a gwrthrychau ymarferol hardd trwy ddylunio a chrefftwriaeth ‘sero
wastraff’ gan ail-ddehongli technegau crefft
traddodiadol mewn ffordd gyfoes a bywiog.
Mae ffibrau naturiol cynaliadwy, o safon uchel (gwlân Prydain) yn allweddol i athroniaeth
fy ngwaith, lle mae’r dyhead am hirhoedledd
tecstilau trwy symlrwydd ac ymwybyddiaeth yn elfen hanfodol. Gwehyddu yw fy ffordd
innau o roi trefn ar yr anhrefn beunyddiol a
chreu rhywbeth gonest a hardd allan ohono.’
O DAN Y GORCHUDD
21
22
O DAN Y GORCHUDD
Mae Interchange, yn ddarn o gelfwaith gan Meghan Spielman a ysbrydolwyd gan flancedi ac sy’n cyfuno’r dechneg ikat â brethyn dwbl i greu haenau cywrain o liw a phatrwm beiddgar. Mae’r gwaith yn cael ei lywio gan adeiledd a symbolaeth y flanced gwŷdd cul draddodiadol a welir mewn llawer o ddiwylliannau ar draws y byd, yn cynnwys Cymru. Gan ddechrau gydag ystofau sidan pinc golau a chobalt wedi’u clymu yn ôl y dechneg ikat, bu Meghan yn cydweithio â’r artist llifynnau naturiol Madeleine Provost gan ddefnyddio madr a logwd i orlifo’r ystofau i gyflawni lliw pinc cwrel a dulas cyfoethog. Wedyn, cafodd y ddwy haen o ystofau ikat streipïog eu gwehyddu i ymgyfnewid mewn dilyniant cymhleth ond sythweledol, gan amlygu harddwch unigol pob lliw.
O DAN Y GORCHUDD
23
24
O DAN Y GORCHUDD
Mae Melin Tregwynt yn adnabyddus ledled y byd am ei thecstilau wedi’u gwehyddu cyfoes sy’n seiliedig ar archif sylweddol o ‘dapestrïau’ traddodiadol Cymreig (brethyn dwbl) a gwlanen. Mae gweithle Eifion ac Amanda Griffiths yn swatio mewn cornel darluniadwy ar arfordir Sir Benfro, ac maent wedi llwyddo i arwain y busnes o nerth i nerth trwy barhau i ddatblygu eu dewisiadau o liw a phatrwm sy’n cael eu llywio gan ddyluniad. ‘ Mae’r ffabrigau hyn yn gynnyrch ffordd o
feddwl, o weithio ac o fyw a drosglwyddwyd ar hyd tair cenhedlaeth o’n busnes teulu.
Mae sgiliau a gwybodaeth yr holl staff, yn y
gorffennol a’r presennol, yn cadw traddodiad gwehyddu Cymru yn fyw ym Melin Tregwynt.’
O DAN Y GORCHUDD
25
26
O DAN Y GORCHUDD
Mae Gwehyddion Sioni Rhys Handweavers yn bartneriaeth hirsefydlog rhwng y dylunydd Dennis Mulcahy a’r gwehydd llaw Stuart Neale, sy’n cydweithio yn eu stiwdio wrth ymyl y Mynyddoedd Duon yng ngogledd Sir Fynwy. Drwy rannu eu harbenigedd, maent yn cynhyrchu carthenni wedi’u gwehyddu â llaw sydd wedi’u gwreiddio mewn dylunio Cymreig traddodiadol. Daw eu hysbrydoliaeth o’r dirwedd leol a sut mae’n newid o un tymor i’r llall. Caiff hyn ei drosi’n archwiliad o’r perthnasoedd rhwng lliwiau ar ffurf sieciau a streipiau o wehyddiad caerog sy’n creu effeithiau gweledol dynamig. Cânt eu gwehyddu o wlân, ac maent yn arbennig o hoff o edafedd llawn cymeriad gyda siobynnau a brychau o arlliwiau cyferbyniol i fwyhau’r effaith.
O DAN Y GORCHUDD
27
28
O DAN Y GORCHUDD
Mae Wallace Sewell yn stiwdio dylunio yn y DU a sefydlwyd gan Emma Sewell a Harriet Wallace-Jones. Daw ysbrydoliaeth Wallace Sewell o ideoleg esthetig a dylunio Bauhaus, ac mae’n ceisio uno crefft a chynhyrchu. Mae’r broses ddylunio gychwynnol yn dechrau gyda samplu helaeth ar wyddiau llaw, cyn i’r dyluniadau gael eu dewis i’w cynhyrchu mewn melin deuluol yn Swydd Gaerhirfryn. Mae Wallace Sewell yn arbennig o adnabyddus am eu defnydd o liw, adeiledd ac edau mewn fformatau geometrig dynamig. Cânt eu hysbrydoli gan baentiadau, ac maent yn creu ffabrigau cyfoes unigryw gyda blociau a streipiau anghymesur tra beiddgar ar amrywiol raddfeydd, sy’n dod â llu o elfennau ar ei gilydd mewn un darn.
O DAN Y GORCHUDD
29