Portal 2020

Page 1



Portal 2020 Yn cynnwys gwaith graddedigion gorau eleni yn y celfyddydau Featuring the work of this year’s top graduates in the arts 03.10.20 - 14.11.20 Nicole Allard, Nathan Barnard, Sian Broderick, Cathryn Gwynn, Rhian Herbert, Grace Hubbard-Smith, Denise Johansen, Karen Jones, Imogen Mills, Ffion Morgan, Jess Parry, Ceridwen Powell, Amy Sainsbury, Maria Elorza Saralegui, Jasmine Sheckleford.

© Llantarnam Grange Arts Centre Gellir archebu copi caled o’r cyhoeddiad hwn gan www.lgac.org.uk/catalogues A hardcopy of this publication can be ordered from www.lgac.org.uk/catalogues



Portal 2020 Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg, ond fel erioed mae ‘Portal’ yn parhau i fod yn arddangosfa hanfodol. Eleni daeth ‘Portal’ yn gyflwyniad agored i’r holl raddedigion creadigol, yn cynnwys ym maes Darlunio, Dylunio Theatr, Ffotograffiaeth a mwy. Mae’r pandemig wedi amddifadu myfyrwyr o gymaint o bethau, yn cynnwys eu sioeau a’u dathliadau terfynol, felly rydym yn falch iawn o gyflwyno gwaith 15 o artistiaid graddedig eithriadol. Mae’r rhain wedi cyflwyno gwaith cyfareddol sy’n sylwi, yn herian ac yn archwilio toreth gyfoethog o syniadau a themâu. Mae ‘Portal’ yn cyflwyno gwaith gan raddedigion BA ac MA, gan estyn y ffin rhwng crefft a chelf weledol, archwilio defnyddiau, gwneud traddodiadol a thechnoleg newydd. Mae ‘Portal’ nid yn

2020 has been a year like no other, but as ever ‘Portal’ remains a vital exhibition. This year ‘Portal’ became an open submission to all creative graduates, including Illustration, Theatre Design, Photography and more. The pandemic had taken so much away from students, including their final shows and celebrations, so we’re delighted to present the work of 15 exceptional graduate artists, who have presented thrilling work that comments, provokes and explores a rich glut of ideas and themes. ‘Portal’ presents work from both BA and MA graduates which stretches the boundary between craft and visual art, exploring materials, traditional making and new technology. ‘Portal’ offers them not only an opportunity to show their work to the public but also invaluable practical


unig yn cynnig cyfle iddyn nhw arddangos eu gwaith i’r cyhoedd, ond hefyd cyngor ymarferol amhrisiadwy ynghylch llawer o agweddau o weithio fel artist trwy fentora pwrpasol. Mae catalog ar-lein yn dod gyda’r arddangosfa, gan roi eu profiad cyntaf i raddedigion newydd o gael eu cynnwys mewn cyhoeddiad. Mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn ymdrechu’n gyson i gefnogi artistiaid, yn rhai datblygol a sefydledig. Mae’r arddangosfa hon yn un o uchelbwyntiau ein calendr, gan ei bod yn sbringfwrdd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid a gwneuthurwyr – mae’n rhoi’r cam cyntaf hollbwysig iddyn nhw fel artistiaid gweithredol ac yn eu galluogi i ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol. Mae ‘Portal 2020’ yn giplun o arfer creadigol, sy’n nodi man cychwyn 15 o

advice on many areas of working as an artist through bespoke mentoring. The exhibition is accompanied by an online catalogue, giving the new graduates their first experience of inclusion in a publication. Llantarnam Grange Arts Centre strives to consistently support artists, both emerging and established. This exhibition is a highlight on our calendar, as it creates a spring-board for the next generation of artists and makers, giving them that crucial first step as a practicing artist and enabling them to develop their professional careers. ‘Portal 2020’ is a snapshot of creative practice, marking the start of 15 flourishing careers to come. “We are delighted to have had so many of our graduates selected for the ‘Portal’


yrfaoedd llewyrchus yn y dyfodol. “Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n graddedigion wedi cael eu dewis ar gyfer arddangosfa ‘Portal’ eleni. Rydym yn goleg celf bychan yng Ngorllewin Cymru a’n cenhadaeth yw datblygu graddedigion sy’n dra medrus ac sydd hefyd yn gallu cynhyrchu gwaith sy’n berthnasol i’r farchnad gyfoes. Mae’r cyfle hwn i arddangos yn arbennig o dderbyniol yn sgil blwyddyn mor anodd, gan fod cymaint o’r gwaith a arddangosir wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’n gadarnhad anhygoel o ansawdd y gwaith ac yn safle lansio gwych at y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.” Pennaeth Ysgol Gelf Caerfyrddin, Paula Phillips Davies Medi 2020

exhibition this year. We are small art college in West Wales and our mission is to develop graduates that are both highly skilled and able to produce work that is relevant to the contemporary market. This exhibition opportunity is particularly welcome following such a difficult year, as much of this work exhibited was produced during lockdown. It is a fantastic endorsement of the quality of the work and a great launch pad to the next stage in their careers.” Head of Carmarthen School of Art, Paula Phillips Davies Sept 2020


Cathryn Gwynn


Cathryn Gwynn B A Tecstilau: Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg - Ysgol Gelf Caerfyrddin BA Textiles: knit, weave and mixed-media - Carmarthen School of Art

Arwyddocâd gwrthrychau a lleoedd; cyseiniant mewn geiriau; cysylltiadau rhaflog; treigl amser; enydau darfodedig; pethau sy’n ein rhwymo. Dyma’r themâu dychweliadol a welir yng nghelfwaith tecstilau Cathryn Gwynn.

The significance of objects and places; the resonance of words; fraying connections; time passing; transient moments; things that bind us. These are the recurring themes in Cathryn Gwynn’s textile artwork.

Yn aml, mae ei syniadau gweledol yn gysylltiedig â thirwedd ei chartref yng Ngorllewin Cymru. Graddiodd Cathryn o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2020 gyda chasgliad o lyfrau tecstilau cyfryngau cymysg, ‘Llinellau / Lines’. Hoff gerddi ynglŷn ag amser a harddwch; llond wardrob o eiriau hir-anghofiedig; y teimlad wrth ddarllen llinell gyntaf llyfr da; llinell y llanw ar lan y môr - mae pob darn o waith yn y casgliad hwn yn fynegiant o gysylltiad personol.

Her visual ideas are often connected to the landscape of her home in west Wales. Cathryn graduated from Carmarthen School of Art in 2020 with a collection of mixed media textile books, ‘Llinellau / Lines’. Much loved poems about time and beauty; a wardrobe of long forgotten words; the feel of the first line of a good book; the tideline on the shore - each work in this collection is an expression of personal connection.


Ffion Morgan


Ffion Morgan D arlunio - Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Illustration - Cardiff Metropolitan University

Mae ‘Palms off my Palm Oil’ yn ymgyrch addysgol i amlygu’r effeithiau dinistriol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu olew palmwydd yn Indonesia, ac yn benodol yn Borneo a Sumatra.

‘Palms off my Palm Oil’ is an educational campaign that highlights the devastating effects associated with palm oil production in Indonesia, in particular Borneo and Sumatra.

Ar y cyd â Malaysia gyfagos, mae Indonesia yn cyflenwi dros 85% o olew palmwydd y byd. Hwn ydy prif achos y datgoedwigo yn yr ardaloedd hyn, gan ddinistrio cynefinoedd llawer o rywogaethau sydd mewn perygl difrifol. Prif nod Ffion Morgan yw addysgu plant a’u rhieni am y pwnc hwn, gan fydd y mater yn dod yn fwyfwy argyfyngus ar gyfer y genhedlaeth honno.

Together with neighboring Malaysia, Indonesia supplies over 85% of the world’s palm oil, which is the main cause of deforestation in these areas, destroying habitats of many critically endangered species. Ffion Morgan’s main aim is to educate children and parents on this subject, as this issue will only become more urgent for this generation.


Rhian Herbert


Rhian Herbert BA (Anrh) Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg - Coleg Sir Gâr BA (Hons) Knit, Weave & Mixed Media - Coleg Sir Gar

Mae Rhian Herbert yn artist o Dde Cymru. Mae’n creu celf, gemwaith a thecstilau, ac mae’n cael ei hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas.

Rhian Herbert is an artist from south Wales. She creates art, Jewellery and textiles; finding inspiration in the world around her.

Y cysyniad y tu ôl i’r casgliad ‘Purer Waters: A Journey to the Source’ yw archwiliad o bedair o’r tarddellau sy’n agos i’w chartref. Roedd y tarddellau’n hanfodol i iechyd a lles ein hynafiaid. Ffynnon sanctaidd, tarddell boeth, ffynnon ofuned a tharddell baganaidd. Creodd Rhian dri chroglun a thri llestr ar gyfer y casgliad hwn. Mae ‘Stream, Ripple and Flow’ yn cynrychioli’r elfennau ffisegol a darfodedig yn nŵr y tarddellau.

The concept behind the collection Purer Waters: A Journey to the Source is an exploration into four of the wellsprings found close to her home. The wellsprings were essential to the health and wellbeing of our ancestors. A holy well, a hot spring, a wishing well and a pagan spring. Rhian created three wall hangings and three vessels for this collection. Stream, Ripple and Flow, represent the physical and ephemeral elements of the water at the wellsprings.


Maria Elorza Saralegui


Maria Elorza Saralegui B A (Anrh) Darlunio - Prifysgol Metropolitan Caerdydd

BA (Hons) Illustration - Cardiff Metropolitan University

Mae Maria’n defnyddio darlunio fel erfyn i ymchwilio, gan chwarae gyda deuoliaethau er mwyn gwneud synnwyr o’r realitioedd amgylchynol. Yn sefyll o flaen y cefndir cyfarwydd o ddadleuon ynglŷn ag ‘ôl-wirionedd’, ‘newyddion ffug’ a ‘ffeithiau amgen’, mae ei gwaith yn herio’r syniad o un gwirionedd cyffredinol trwy archwilio amrywioldeb, cymhlethdod, ac amrywiaeth y gwirioneddau a brofwn yn ein bywyd bob dydd. Mae ymchwiliad Maria’n diweddu yn ‘The Printed Word’, sef cyhoeddiad croniclo darluniadol. Nod y gwaith yw cynnig amrywiaeth o bersbectifau ac atgoffa’r gwyliwr y gall stori gael ei llunio ar sail llawer o hanesion, ac y gall realiti gael ei ganfod ar lawer o lefelau.

Maria uses illustration as a research tool, playing with dualities to make sense of surrounding realities. Sitting against the familiar background of debates about ‘post-truth’, ‘fake news’ and ‘alternative facts’, her work challenges the idea of one universal truth by exploring the variety, complexity, and diversity of truths experienced in everyday life. Maria’s investigation culminates in The Printed Word, an illustrated reportage publication. The work aims to offer a variety of perspectives and remind the viewer that a story can be constructed from many accounts, and reality perceived from many levels.


Grace Hubbard-Smith


Grace Hubbard-Smith C elfyddyd Gain - Prifysgol Aberystwyth Fine Art - Prifysgol Aberystwyth

Mae Grace Hubbard-Smith yn artist sy’n byw yn Ne Cymru. ‘Fy amcan yn y gyfres ‘Eye of the Storm’ yw portreadu natur golau a chysgod, ei byrhoedledd a’i harwyddocâd ysbrydol, gan ennyn trafodaeth ontolegol ar unigedd ac ymwybyddiaeth ofalgar. Gwneir hyn drwy bortreadu ffenestri a gofod mewnol, a chreu dimensiwn trwy olau a chysgod. I minnau, mae darnau o olau’n cyfleu ymdeimlad o ymwybyddiaeth ofalgar, heddychlon; wrth beintio, dwi wedi dod yn llawn ymwybodol o olau a gofod a’r rhyddid enydol wrth edrych ar ei ffrwd fer o oleuedd drwy ffrâm ffenestr. Trwy olchlunio’n denau gyda phaent acrylig, fy nod yw cipio ennyd mewn amser, profiad ymwybodol fel pe tasech yn gweld ystafell yn ei henydau olaf, cyn iddi gael ei gadael am byth.’

‘My objective in the series, ‘Eye of the Storm’ is to portray the nature of light and shadow, its ephemerality and its spiritual connotations, allowing for an ontological discussion on isolation and mindfulness. This is completed through a portrayal of windows, interior space and the creation of dimension through light and shadow. To myself, areas of light convey a sense of peaceful mindfulness; in painting I have become fully aware of light and space and the momentary freedom in looking at its brief luminosity stream across a window frame. Through thin washes of acrylic paint on board, I aim to capture a moment in time, a conscious experience like that of seeing a room in its last moments, before it is abandoned.’


Karen Jones


Karen Jones Cerameg - Prifysgol Metropolitan Caerdydd Ceramics - Cardiff Metropolitan University

Mae harddwch yn y byd naturiol, yng ngwead, lliw a ffurfiannau tir a môr. Gall lliwiau’r cefnfor ac adeileddau organig y riff gwrel, a chymhlethdod planhigion, petalau a blodau gwyllt gael eu cipio bob un trwy glai. Mae’r tymhorau bythol gyfnewidiol yn ein hatgoffa o’r trawsnewid naturiol ym myd natur.

There is beauty in the natural world, the texture, colour and formations of land and sea. The colours of the ocean and organic structures of the coral reef, the intricacy of plants, petals and wildflowers can all be captured through clay. The ever changing seasons remind us of the natural transformation in nature.

Mae porslen wedi’i danio, yn benodol, yn gallu ymddangos fel pe bai’n tyfu mewn adeileddau cain a brau sy’n digwydd yn naturiol. Mae’r siapiau cerameg amryfal hyn a ffurfiwyd â llaw yn ail-greu ffractalau a gydosodir ar ffurfiau organig.

Fired porcelain in particular can appear as if growing in naturally occurring delicate and fragile structures. These multiple hand-formed ceramic shapes recreate the effects of fractals assembled onto organic forms.


Jasmine Sheckleford


Jasmine Sheckleford BA Celf Gain (Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau) - Ysgol Gelf Caerfyrddin

BA Fine Art (Painting, Drawing and Print-Making) - Carmarthen School of Art

‘Only Traces Remain’

Only Traces Remain.

Fel​​artist, mae iechyd meddwl, hunaniaeth a theulu wedi dylanwadu ar Jasmine erioed. Yn ddiweddar, mae ei hiechyd meddwl wedi bod yn ffactor blaenllaw. Mae wedi tynnu casgliad o luniau Polaroid sy’n defnyddio technegau dinoethi hir a dwbl i bortreadu hyn. Yna mae Jasmine wedi trosi’r lluniau Polaroid yn syanoteip er mwyn dwysáu’r ymdeimlad hwn o golled, arlliw, a diraddiad. Gan ddefnyddio dulliau arlliwio, mae wedi creu arae o amrywiadau lliw a naws.

​​ an artist, Jasmine has always been As influenced by mental health, identity and family. Recently, her mental health has been a prominent factor. She has taken a collection of Polaroids which employ techniques of long and double exposure to portray this. Jasmine has then translated the Polaroids into cyanotype to further this sense of loss, trace, and degradation. Using toning methods she has created an array of colour variants and moods.


Jess Parry


Jess Parry B A (Anrh) Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,

Coleg Celf Abertawe BA (Hons) Fine Art: Studio, Site & Context - University of Wales Trinity Saint David, Swansea College of Art

Mae arfer Jess yn ddigymell. Mae’n dihuno yn y bore, heb wybod i ble bydd ei gwaith yn ei harwain yn ystod y dydd. Mae Jess yn gwybod bod ganddi un peth mewn golwg. Cnawd. Ei gwaith yw’r cnawd gormodol nad yw hi ei eisiau ar ei chorff, ac mae’n archwilio hyn trwy gerflunio, perfformio, ffotograffiaeth, darlunio a pheintio.

Jess’ practice is spontaneous. She wakes up in the morning, not knowing where her work shall lead her throughout the day. Jess knows that she has one thing in mind. Flesh. Her work is the excess flesh she does not want on her body and explores this through sculpture, performance, photography, drawing and painting.

Iddi hi, mae cnawd yn sylwedd hydrin ac mae wedi’i chyfareddu’n llwyr gan ei gnawdolrwydd grotésg, treisgar sy’n tanio ei gwaith. Mae’n teimlo bod llaw’r artist yn ddiamau yr un mor dreisgar â llaw cigydd. Mor gain â llaw gwniadyddes ac mor bersonol â llaw llawfeddyg.

Flesh to her is a malleable substance and she’s utterly fascinated by its violent, grotesque carnality that fuels her work. She feels that the hand of the artist is indeed as violent as the hand of the butcher. As delicate as the hand of a seamstress and as intimate as the hand of the surgeon.


Imogen Mills


Imogen Mills B A Tecstilau, Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg - Ysgol Gelf Caerfyrddin BA Textiles, Knit, Weave & Mixed Media - Carmarthen School of Art

‘Pan deimlaf orfodaeth i nofio yn y môr er fy mod yn ofni y bydd y dyfnderoedd yn fy llusgo oddi tanynt, rwy’n cyfleu’r profiad angerddol o nofio yn yr aruchel. Dwi wedi nofio mewn moroedd, afonydd a llynnoedd, trwy gydol y gaeaf; ac wedi mynegi fy ymatebion trwy wneud marciau, ffotogramau a phrintiau helaeth. Ac yna eu trosi’n gerfluniau sy’n archwilio graddfa, golau, lliw a gweadedd trwy arwyneb brethyn wedi’i wehyddu. Gwehyddiadau gwifren Leno a chotwm, lleiniau llydan yn cael eu trin, adeiladweithiau dirdynedig. Gosod edafedd yn fain i fynegi ofn gyddfol dyfnderoedd.’ Dyma’r tri cherflun gwahanol sydd wedi’u gwehyddu â llaw, a phob un â’i naratif unigryw yn gysylltiedig â’r profiadau o nofio mewn dŵr oer trwy gydol y gaeaf.

‘Compelled to swim in the sea yet fearful of the deep dragging me under I am communicating the visceral experience of swimming the sublime. I have swum in seas, rivers and lakes, through the winter; articulated responses through extensive mark-making, photograms and print. Translation then into sculptures exploring scale, light, colour & texture through the surface of woven cloth. Leno wire and cotton weaves, wide stretches manipulated, contorted constructions. Tenuous placement of threads to express a guttural fear of the deep.’ These are three separate hand woven sculptures, each with their own narrative relating to the experiences of cold water swimming through the winter.


Nathan Barnard


Nathan Barnard BA (Anrh) Cerameg - Prifysgol Metropolitan Caerdydd Ceramics Ba (Hons) - Cardiff Metropolitan University

Mae sinc yn un o’r gwrthrychau ceramig mwyaf cyffredin a ddefnyddiwn bob dydd, ond serch hynny, yn anaml caiff ei gydnabod yn ymwybodol yn rhywbeth sydd wedi mynd drwy brosesau ceramig. Mae ystafell ymolchi yn ei chyfanrwydd yn fan lle gallwn deimlo’n fregus, ond eto’n ddiogel. Hon yw’r unig ystafell yn y tŷ sydd â chlo, a’r unig ystafell lle gallwn deimlo’n fwyaf abl i fod yn noeth: mae’n mynnu lefel o breifatrwydd.

The sink is one of the most common ceramic objects that we use on a daily basis and yet, is rarely consciously recognised as having gone through ceramic processes. The bathroom as a whole is a place in which we can feel vulnerable, yet safe. It is the one room in the house that has a lock and the one room where we feel most able to be naked; it demands a level of intimacy.


Nicole Allard


Nicole Allard B A Dylunio Theatr a Chynhyrchu - Coleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin

BA Theatre design and production - University of Wales Trinity Saint Davids Carmarthen

Wrth astudio dylunio theatr a chynhyrchu, mae Nicole wedi ennill amrywiaeth o sgiliau, yn cynnwys celf olygfaol, methodolegau dylunio setiau, a blaen tŷ trwy ei phrofiad proffesiynol, cynyrchiadau, a chyflwyno blaenorol. Mae ei phrif feysydd o ddiddordeb yn ymgodi o ddarnau mwy traddodiadol o theatr fel dramâu clasurol a Shakespeare. Mae Nicole wedi cydweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau a gweithwyr proffesiynol fel: Tinshed Scenery, Leviathan Workshop, Beth Tearle a David Atkinson. Mae’r darnau hyn yn dangos uchafbwyntiau ei gradd greadigol.

During her study of Theatre design and production, Nicole has gained a variety of skills including, scenic art, set design methodologies and front of house through the productions, presentation and professional experience she has already accomplished. Her main fields of interest stems from more traditional pieces of theatre such as classical plays and Shakespeare. Nicole has worked with a variety of companies and professionals such as: Tinshed scenery, Leviathan Workshop, Beth Tearle and David Atkinson. These pieces show the highlights of her creative degree.


Ceridwen Powell


Ceridwen Powell M A Celfyddydau Cain – Wolverhampton MA Fine Art – Wolverhampton

Mae Ceridwen Powell yn artist rhyngddisgyblaethol anabl. Gan arbrofi gyda defnyddiau a thechnegau fel peintio, cerflunio cyfryngau cymysg, a ffotograffiaeth ddigidol ac analog, mae Powell yn archwilio cynrychiolaeth ym myd anabledd a materion sy’n ymwneud a hawliau pobl anabl. Mae ‘Disability Now’ a ‘Re-formed’ yn ystyried sut mae’n teimlo i fod yn berson anabl dan lywodraethau’r Ceidwadwyr ers 2010, teimlad o erledigaeth wrth i hawliau anabledd gael eu herydu ac i les a gwasanaethau gael eu cwtogi. Mae’r gweithiau’n codi’u llais yn erbyn y driniaeth o bobl anabl dan y polisïau caledi ac oherwydd yr arfer gan y cyfryngau a’r llywodraeth bresennol o bardduo pobl anabl.

Ceridwen Powell is a disabled interdisciplinary artist. Experimenting with materials and techniques such as painting, mixed media sculpture and digital and analogue photography, Powell explores representation within disability and issues around disabled rights. ‘Disability Now’ and ‘Re-formed’ consider what it’s like to be a disabled person under the Conservative governments since 2010, feeling persecuted with the erosion of disability rights and cuts to services and welfare. The works speak out against the treatment of disabled people under austerity policies and the demonising of disabled people by the current government and media.


Amy Sainsbury


Amy Sainsbury C elfyddyd Gain - Prifysgol Metropolitan Caerdydd Fine Art - Cardiff Metropolitan University

Scatter / Fracture / Trace

Scatter / Fracture / Trace

Mae ymarfer presennol Amy yn naratif gweledol personol, a grëwyd o luniau, paentiadau a gwaith gosod sy’n benodol i’r safle. Mae’n archwilio’r cysylltiadau â lle, twf, hiraeth a phwysigrwydd yr amgylchedd drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau organig ac wedi’u hailgylchu. Mae’n ystyried cymhlethdodau natur a’r dirwedd Gymreig mewn ffordd haniaethol a mynegiannol. Er mai un casgliad ydyw, mae’r rhain yn ddarluniadau unigol o’r gwahanol benodau ym mywyd Amy a’r daith trwy Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.

Amy’s current practice is a personal visual narrative, compiled of photographs, paintings and site-specific installation work. Exploring connections to place, growth, nostalgia and the importance of the environment by using a range of organic and recycled materials. Looking at the intricacies of nature and the Welsh landscape in an abstract and expressive way. Although one collection, these are individual representations of the different chapters of Amy’s life and journey through Cardiff School of Art and Design.


Sian Broderick


Sian Broderick BA (Anrh) Ffotograffiaeth - Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr

BA (Hons) Photography - Carmarthen School of Art, Coleg Sir Gar

Mae portreadau Sian yn naturiol, yn arw ac yn rymus. Mae’r cefndir, sydd yn arddull Rembrandt, yn arwain y llygad at bresenoldeb, harddwch a chryfder noeth y ceffylau hyn. Trwy eu llygaid byddwch yn gweld y grym a’r balchder sy’n hanfodol i geffylau. Cipolwg bychan i enaid y ceffyl. Mae ceffylau’n cyfathrebu â’u clustiau a’u llygaid, maent yn dangos teimladau trwy ffroeni a gweryru. Mae ffotograffiaeth Sian yn cyfleu’r meddyliau a’r teimladau hyn, trwy ddelweddau grymus ac emosiynol.

Sian’s portraits are natural, raw and powerful. The Rembrandt-esque background focuses the eye toward the sheer strength, beauty and presence of these horses. Through their eyes you will find the power and pride that is the essence of the equine. A small insight into the soul of the horse. Horses communicate with their ears and eyes, they show feelings through snorts and whinnies. Sian’s photography conveys these thoughts and feelings, through powerful and emotive imagery.


Denise Johansen


Denise Johansen BA (Anrh) Crefft Dylunio - Prifysgol Swydd Hertford

BA (Hons) Design Craft - University of Hertfordshire

Mae gwaith Denise yn canolbwyntio ar greu cysylltiad rhwng cerameg ac elfennau o fyd natur yn ei gardd i helpu i wella lles meddyliol parhaus y gwylwyr. Mae prif ffurfiau ei gwaith yn canolbwyntio ar gylchoedd. I Denise, mae cylchoedd yn cynrychioli heddwch a chyfanrwydd trwy symlrwydd eu ffurf a rhwyddineb eu trafod. Mae natur gyffyrddol cerameg yn addas iawn i’r hyn mae hi wedi ei greu. Mae’r gwaith yn fwy cerfluniol nag ymarferol.

Denise’s work concentrates on creating a connection between ceramics and elements of nature in her garden to help enhance a viewers’ mental ongoing wellbeing. The main forms of her work are centred on circles. To Denise, circles represent peace and wholeness through their simplicity in shape and easiness to handle. The tactile nature of ceramics lends itself well to what she has created. The work is more sculptural than functional.


‘Portal 2020’ Arddangosfa Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange A Llantarnam Grange Arts Centre Exhibition Hoffem ddiolch i’r holl arddangoswyr am fod yn rhan o arddangosfa eleni. We would like to thank all the exhibitors for being part of this year’s exhibition. Dylunio / Design: Hillview Design Cyhoeddwyd gan Ganolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange. Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange, Heol Dewi Sant, Cwmbran, Torfaen NP44 1PD Published by Llantarnam Grange Arts Centre. Llantarnam Grange Arts Centre, St.David’s Road, Cwmbran, Torfaen NP441PD +44(0)1633 483321 info@lgac.org.uk www.lgac.org.uk Mae Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange yn rhan o bortffolio Sefydliadau Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymrun – “Portffolio Celfyddydol Cymru”. Elusen Gofrestredig rhif: 1006933. Cwmni Cyfyngedig trwy Warant rhif: 2616241 Llantarnam Grange Arts Centre is part of Arts Council of Wales portfolio of Revenue Funded Organisations – “Arts Portfolio Wales”. Registered Charity no: 1006933. Company Limited by Guarantee no: 2616241 Ariennir Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Yr Sefydliad Moondance Llantarnam Grange Arts Centre is funded by the Arts Council of Wales, Torfaen, County Borough Council and The Moondance Foundation Ni chaniateir atgynhyrchu’r cyhoeddiad hwn, boed yn rhannol neu yn ei gyfanrwydd, ar unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyhoeddwr. This publication may not be reproduced in whole or in part in any form without written permission from the publisher.




Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.