![](https://assets.isu.pub/document-structure/220629102015-c3a55f1b2c6ae4071a552e25b3541223/v1/24d86d468ea7eb52b94f40012b530f9c.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
1 minute read
Rydym yn cynnig
Cefnogaeth mentor un i un wedi’i theilwra i anghenion yr unigolyn.
Cynlluniau gweithredu personol a ddatblygir gyda’r unigolyn ifanc er mwyn nodi dyheadau i’r dyfodol a fydd yn helpu i’w harwain ar eu siwrnai.
Advertisement
Cefnogaeth i ddatblygu hyder a goresgyn unrhyw rwystrau sy’n atal yr unigolyn ifanc rhag datblygu.
Cymorth lles gan gynnwys cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd meddwl ysgafn/cymedrol gan dîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) y GIG.
Mynediad at gyfleoedd megis hyfforddiant, gwirfoddoli a grwpiau cymheiriaid sy’n galluogi’r unigolyn ifanc i gyflawni eu nodau.
Gwaith partneriaeth gyda gwasanaethau eraill i helpu’r unigolyn ifanc i ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol.