2 minute read
Enghreifftiau o waith
Simon accessed the ADTRAC project as heEnghreifftiau was o waith
Defnyddiodd Simon y prosiect ADTRAC gan ei fod yn teimlo’n unig ac yn bryderus iawn am ei ymddangosiad. Roedd Simon wedi colli cysylltiad â’i ffrindiau, nid oedd yn gadael y tŷ, ac roedd hyn yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith. Derbyniodd Simon gymorth i’w helpu â’i bryderon, cael mynediad at y gymuned a mynychu grwpiau, ac fe wnaeth hyn ei helpu i fagu hyder. Mae Simon bellach yn gweithio 16 awr yr wythnos yn y maes manwerthu.
Advertisement
Atgyfeiriwyd Samantha at ADTRAC gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, roedd Sam â’i phryd ar fynd i’r brifysgol, ond roedd hi’n teimlo nad oedd hynny’n opsiwn gan ei bod yn dioddef ag Aspergus. Roedd Sam yn ferch ifanc, greadigol a chlyfar a oedd yn gallu chwarae nifer o offerynnau cerddorol. Gyda chefnogaeth gan ADTRAC, datblygodd Sam yr hyder i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a mynychu cwrs hyder lle llwyddodd hi i wneud ffrindiau newydd. Daeth Sam yn fwy hyderus yn defnyddio’r bws a dechreuodd deithio i leoliad gwirfoddol mewn stiwdio gerddoriaeth leol. Mae Sam bellach yn y Sam in now at University and living independently in student accommodation. Brifysgol ac yn byw’n annibynnol mewn llety myfyrwyr.
Simon accessed the ADTRAC project as he was
Ymunodd Aaron â’r prosiect ADTRAC gan nad oedd yn gallu canolbwyntio ar beth hoffai ei wneud ac roedd arno eisiau datblygu ei hyder. Cefnogodd ADTRAC Aaron i fynychu apwyntiadau gan gynnwys y Ganolfan Swyddi. Drwy dderbyn cefnogaeth gan ADTRAC, dechreuodd yr unigolyn ifanc fynychu cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac mae’r profiadau dysgu cadarnhaol hyn wedi annog Aaron i ymgeisio am le yn y Coleg a dechrau cwrs arlwyo. Daeth Sarah i siarad gydag ADTRAC oherwydd bod arni hi angen cymorth â’i hyder, roedd Sarah yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol ac yn cael trafferth yn yr ysgol. Mynychodd Sarah sawl cwrs gan gynnwys cwrs datblygu hyder, lle llwyddodd i ennill sawl cymhwyster, fe wnaeth y cwrs ei helpu i beidio â bod ofn mynd yn ôl i addysg. Fe wnaeth Sarah hefyd fynychu ein grŵp ieuenctid wythnosol, a oedd yn rhoi cyfle iddi gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae Sarah bellach yn y brifysgol yn astudio cwrs celfyddydau theatr a Sam in now adawns lefel 2. t University and living independently in student accommodation.
Roedd Naomi wedi cael trafferth ymgysylltu â’r ysgol; roedd ei phresenoldeb yn wael, ac roedd hi hefyd yn ofalwr ifanc a oedd yn dioddef â’i hiechyd meddwl pan ddaeth hi at ADTRAC am gymorth. Roedd Naomi’n teimlo’n ansicr iawn am fynychu’r coleg yn sgil cyfleoedd dysgu negyddol yn y gorffennol, roedd hyn hefyd wedi cael effaith ar ei hyder ac roedd Naomi’n teimlo ei bod wedi colli cysylltiad â’i ffrindiau. Gweithiodd ADTRAC gyda Naomi i ddatblygu ei hyder drwy fynychu grwpiau a chyrsiau byr, a llwyddwyd i’w helpu i fagu’r hyder i gofrestru ar gyfer y coleg. Er mwyn helpu Naomi yn y coleg, mae ADTRAC wedi bod yn gweithio gyda’r coleg i’w helpu i ddeall anghenion cymorth Naomi, roedd y trefniadau hyn yn eu lle erbyn i Naomi ddechrau ei chwrs.