1 minute read
Gwasanaethau eraill ac ADTRAC
“Rwyf wedi atgyfeirio dau unigolyn ifanc at ADTRAC ac mae’r gefnogaeth y maent wedi’i derbyn wedi bod yn wych, mae eu hyder wedi datblygu gymaint, ac o ganlyniad, mae un ohonyn nhw bellach mewn gwaith a’r llall wedi cael ei derbyn ar gyfer We Mind The Gap, a gobeithir y bydd hynny’n arwain at gyflogaeth. Roedd yr unigolion ifanc hyn wedi cael trafferth yn gymdeithasol a gyda’u hunan-hyder, ac mae ADRTAC wedi eu helpu i sicrhau dyfodol disglair.” - Cwnselydd
Advertisement
“Fel tîm, rydym wedi gweithio’n agos gydag ADTRAC dros y tair blynedd diwethaf, ac maent wedi cefnogi rhai o’r bobl ifanc anodd eu cyrraedd yr ydym yn eu cefnogi. Mae rhai o’r bobl ifanc hyn bellach yn gweithio neu’n astudio mewn coleg neu brifysgol, ac arferai’r bobl ifanc gredu y byddai hynny’n amhosibl! Cynigir gwersi Mathemateg a Saesneg i’r bobl fanc, ac nid oeddem erioed wedi meddwl y byddai’r bobl ifanc yn mynychu’r rhain, ond yn sgil darpariaeth y cwrs, mae’r bobl ifanc wedi bod yn mynychu’n wythnosol!” - Awdurdod Lleol