2 minute read

Pobl ifanc ac ADTRAC

Next Article
Beth yw ADTRAC+?

Beth yw ADTRAC+?

“Mae gennyf ADHD, ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cefnogaeth gan ADTRAC, rwy’n cael trafferth gyda phethau fel trefnu a rheoli amser oherwydd yr ADHD, ac roedd yn ddefnyddiol iawn cael rhywun i’m harwain a’m helpu gydag apwyntiadau. Fe wnaeth ADTRAC fy helpu i ymgeisio am le yn y brifysgol yn ogystal ag ymgeisio am gyllid, roedd cael rhywun i eistedd gyda mi a sicrhau fy mod ar y trywydd iawn yn ddefnyddiol tu hwnt. Mae ADTRAC wedi cynnig llawer o gefnogaeth i mi, rwy’n gwybod bod arnaf angen cefnogaeth, ac mae hynny’n iawn. Rwyf bellach yn sylweddoli fy mhotensial ac yn fwy hyderus, rwy’n gallu gofyn am gymorth!

“Rwy’n gwybod fy mod angen cefnogaeth, mae hynny’n iawn.”

Advertisement

“Rwyf wedi dioddef trawma ac anaf i’r ymennydd, mae ADTRAC wedi bod yn ddefnyddiol iawn, maent wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chwrdd â phobl sydd yr un oed â mi. Rwyf wedi mynychu rhai cyrsiau gyda phobl ifanc eraill sydd wedi fy helpu i ryngweithio gyda phobl eraill, ac rwy’n awyddus i fod yn rhan o gymdeithas eto. Mae ADTRAC wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus a wynebu heriau mwy, rwy’n gwybod na allaf wneud popeth, ond rwyf bellach yn teimlo fy mod yn gallu gweithio o amgylch fy nghyfyngiadau”

“Mae ADTRAC wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus.”

“Gallant helpu i wneud pethau’n haws i chi.”

“Mae ADTRAC wedi rhoi cyfle i mi gael mynediad at gyfleoedd newydd, heb eu hanogaeth a’u cefnogaeth nhw, fe fyddwn i’n dal i fod yn yr un sefyllfa, yn gwneud dim byd. Rwyf wedi cwrdd â phobl newydd, cwblhau cyrsiau a mynychu grwpiau. Mae’r mentoriaid wedi fy helpu â chyllidebu ac wedi helpu fy iechyd meddwl, a phan fyddaf yn cael diwrnod drwg, maent yn cysylltu i weld sut ydw i ac yn deall, nid ydynt yn fy ngorfodi i wneud pethau nad oes arnaf eisiau eu gwneud, ond maent bob amser yn fy ngwahodd i’r pethau y maent yn eu cynnal! Gallant helpu i wneud pethau’n haws i chi.”

“Mae ADTRAC wedi fy helpu i fagu’r hyder i siarad gyda phobl nad wyf yn eu hadnabod, mynd ar fws ar fy mhen fy hun, mynd i’r siop heb rywun wrth fy ochr drwy’r amser, talu am bethau ac arbed arian”

“Mae’r prosiect ADTRAC wedi rhoi mwy o hyder i mi yn gyffredinol, mae wedi fy helpu i gymysgu gydag amrywiaeth o bobl ac wedi fy helpu i anelu at yrfa yn ogystal â gwirfoddoli mewn gwahanol lefydd cyn dod o hyd i swydd”

This article is from: