Simon accessed the ADTRAC project as he was
Enghreifftiau o waith
Defnyddiodd Simon y prosiect ADTRAC gan ei fod yn teimlo’n unig ac yn bryderus iawn am ei ymddangosiad. Roedd Simon wedi colli cysylltiad â’i ffrindiau, nid oedd yn gadael y tŷ, ac roedd hyn yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith. Derbyniodd Simon gymorth i’w helpu â’i bryderon, cael mynediad at y gymuned a mynychu grwpiau, ac fe wnaeth hyn ei helpu i fagu hyder. Mae Simon bellach yn gweithio 16 awr yr wythnos yn y maes manwerthu.
Atgyfeiriwyd Samantha at ADTRAC gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, roedd Sam â’i phryd ar fynd i’r brifysgol, ond roedd hi’n teimlo nad oedd hynny’n opsiwn gan ei bod yn dioddef ag Aspergus. Roedd Sam yn ferch ifanc, greadigol a chlyfar a oedd yn gallu chwarae nifer o offerynnau cerddorol. Gyda chefnogaeth gan ADTRAC, datblygodd Sam yr hyder i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a mynychu cwrs hyder lle llwyddodd hi i wneud ffrindiau newydd. Daeth Sam yn fwy hyderus yn defnyddio’r bws a dechreuodd deithio i leoliad gwirfoddol mewn stiwdio gerddoriaeth leol. Mae Sam bellach yn y Brifysgol ac yn byw’n Sam in now at University annibynnol mewn llety and living independently in myfyrwyr. student accommodation.