Llais ebrill 2014

Page 1

50c Pen-blwydd

Llais Ardudwy RHIF 429 EBRILL 2014

CLWB RYGBI HARLECH AR Y BRIG

Hapus

Wyddech chi fod Llais Ardudwy yn dathlu ei ben-blwydd yn 39 oed y mis hwn? Rydym yn llawenhau yn ei lwyddiant ac mae criw bach ohonom yn gweithio’n ddygn i gynhyrchu rhifynnau difyr. Diolch i bawb sy’n helpu i’r cyfeiriad hwnnw. Roedd y papur yn gwerthu dros 1200 o gopïau yn y blynyddoedd cynnar, ond erbyn hyn y mae’r gwerthiant yn llai na 750. Tebyg bod mwy nag un rheswm am hynny, ond mae marwolaethau, colli Cymry o’r ardal a’r mewnlifiad yn siŵr o fod yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad. Bid a fo am hynny, rhaid dal ati - a dyna wnawn ni!

PONT BRIWET

Mae Clwb Rygbi Harlech yn cael tymor da. Maen nhw ar ben cynghrair Adran 3 Swalec ac maen nhw newydd guro Llanidloes, y tîm sydd yn yr ail safle. Ar ben hynny, mae Harlech wedi chwarae dwy gêm yn llai. Gêm gyffrous iawn oedd hon, gyda Harlech yn ennill 28-3 yn yr hanner cyntaf, ond fe ddaeth Llanidloes yn ôl yn gryf yn yr ail hanner a’r sgôr terfynol oedd 28-22. Yn ddiweddar, maen nhw wedi curo Rhos [52-8] a’r Trallwng [60-3]. Dyn lleol, Mark Armstrong, sy’n Arolygydd gyda’r heddlu, yw hyfforddwr y blaenwyr ac mae’n llawn canmoliaeth i’w gwaith eleni. “Maen nhw’n ennill cymaint o bêl dda,” meddai, “ac mae’r olwyr yn ddigon da i sgorio pentwr o geisiau fel y mae’n amlwg o’n canlyniadau diweddar ni.” Bennet Richards yw hyfforddwr yr olwyr, cymeriad lliwgar a chwaraewr profiadol sy’n gallu tynnu’r gorau allan o’r bechgyn. “Mae gynnon ni siawns dda o godi i Gynghrair 2 eleni dim ond i ni ddal ati,” meddai Bennet. Gwion Llwyd ac Iwan Evans yw’r ddau hyfforddwr arall. Andy Stone Williams yw’r capten eleni a Llion Kerry yw’r is-gapten. Cafwyd buddugoliaeth wych yng Nghaergybi yn ddiweddar. Y sgôr oedd Caergybi 3 Harlech 64. Bydd y tair gêm nesaf yn rhai diddorol; tair gêm i ffwrdd o gartref ym Mhorthaethwy, Porthmadog a Llangollen. Bydd amryw o bobl yr ardal yn teithio i’r llefydd hyn gyda’r tîm i’w cefnogi. Fel y gwelwch, mae siawns dda iddyn nhw ennill y gynghrair!

Siôn Rees ar ruthriad nerthol arall

Yn dilyn cyfarfod ym Mhenrhyndeudraeth yn ddiweddar, cafwyd gwybod y bydd y drefn o osod goleuadau traffig ar yr A496 yn debyg o barhau. Yn ôl swyddog o Gyngor Gwynedd, roedden nhw am fonitro’r sefyllfa ond nid yw’n debygol y bydd pont dros dro yn cael ei chodi os bydd hynny’n golygu costau ychwanegol. Mae cynghorau cymuned Penrhyndeudraeth, Talsarnau a Harlech yn gefnogol i’r system o reoli traffig ar yr A496, am resymau diogelwch yn bennaf. Ond nid oes arian ar gael i gael y ddau beth, sef pont dros dro a’r system reoli traffig. Ni allai’r swyddog oedd yn bresennol nodi union gost codi pont dros dro. Yn ôl swyddog o Gwmni Hochtieff, sy’n gyfrifol am godi’r bont, bydd pont y rheilffordd wedi’i chwblhau erbyn diwedd Mehefin a bydd y ffordd newydd yn barod cyn y Nadolig. Cwynodd amryw yn y cyfarfod am gostau, amser a straen ychwanegol i’r rhai hynny sy’n gorfod teithio o gwmpas Maentwrog yn aml. Roedd cwynion hefyd gan bobl busnes. Cafwyd cwynion hefyd am ddiffygion cyfathrebu ar ran Cwmni Hochtieff a Chyngor Gwynedd. Afraid dweud bod y daith i Ysbyty Gwynedd i bobl Ardudwy oddeutu ugain munud yn hirach erbyn hyn.

Alex Evans ar ei ffordd i sgorio cais


Llais Ardudwy

HOLIADUR HWYLIOG

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

14 Stryd Wesla, Porthmadog (01766 514774

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Gosodir y rhifyn nesaf ar Mai 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Mai 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 28 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Olwen Jones Gwaith: Wedi ymddeol fel athrawes ond yn dal yn wraig tŷ ffarm, mam a nain yn ôl y galw! Man geni: Tŷ Nanney, Tremadog. Fy magu ym Mhensarn, Glanywern a Bryntirion, Ynys. Sut ydych yn cadw’n iach? Siarad a chymdeithasu! Ceisio bwyta’n gall ond rydw i’n gwybod nad ydw i’n gwneud digon o ymarfer corff. Beth ydych yn ei ddarllen? Nofelau, hunangofiannau, papurau bro a’r Daily Post – unrhyw beth mewn print mewn gwirionedd! Dal i gael y Cambrian News ond yn ei weld yn anghofio’r Gymraeg a digwyddiadau Cymreig

Dywediadau am y Tywydd

EBRILL

Chwech o bethau sych yn sydyn, Carreg noeth a genau meddwyn, Cawod Ebrill, tap heb gwrw, Pwll yr haf a dagrau gwidw. Ni saif eira yn Ebrill, fwy nag ŵy ar ben ebill. Ebrill oer a leinw’r sgubor. Ebrill sych popeth a nych. Yn Ebrill mi gynhesith ar ôl pob cawod. Gwyn ein byd os Ebrill mwyn, a wisg y llawr a gwisg y llwyn.

Meirionnydd ac yn cael trafferth sillafu’n gywir yn yr ychydig Gymraeg sydd ynddo. Mae’n ddyletswydd arnom eu cywiro. Pa un yw eich hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Mwynhau llawer o raglenni ar y ddau gyfrwng. Gwrando’n rheolaidd ar ‘Cofio’ gyda John Hardy ar y radio, stori dda fel ag sydd yn ‘Rownd a Rownd’ a ‘Downton Abbey’ ac yn gaeth i raglenni fel ‘Restoration’ a ‘Grand Designs’! Ydych chi’n bwyta’n dda? Os yn onest, ddim digon da ar hyn o bryd ac yn cymryd y tywydd oer yn esgus! Hoff fwyd? Cinio Sul. Rydw i’n hoffi llawer o wahanol fwydiach ond yn gorfod bod yn ofalus beth rydw i’n ei fwyta erbyn hyn. Hoff ddiod? Paned o de di-laeth, di-siwgr. Blas da ar y Guinness ers talwm hefyd! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Fy nheulu o ochr fy nhad, sef cyfnitherod a chefndryd teulu Pensarn, Glanywern a’m teulu o ochr fy mam, sef teulu Islaw’rcoed, Trawsfynydd gynt ac Wyn y gŵr wrth gwrs a’r plant a’r wyrion. Criw iawn hefo’i gilydd am unwaith. Pa le sydd orau gennych? Mae dau le cystal â’i gilydd – ar y Fonllech yn edrych lawr ar filltir sgwâr fy nghynefin cyntaf ac ym mhen pellaf y cwm lle rydw i’n byw rŵan – Cwm Maesglasau. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Mae’r Iwerddon yn agos iawn at fy nghalon ond cawsom wyliau bendigedig ym Mhatagonia yn 2012 gyda chriw Taith I’r Paith. Criw hwyliog dan drefniant arbennig Gareth a Margaret Roberts o’r Bala ac wedi creu côr dan ofal Bethan Smallwood. Buom yn cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa a chanu lle bynnag roedd cyfle. Wedi darllen llawer am Batagonia yn llyfrgell Ysgol Ardudwy ers talwm a braf oedd gwireddu breuddwyd. Beth sydd yn eich gwylltio? Cymry Cymraeg sydd yn ddifater am eu hiaith, diwylliant a’u treftadaeth. Rydw i’n ddigalon iawn o weld yr holl bobl sydd yn siarad Saesneg hefo’u plant a’u hwyrion am fod ganddynt chwilen yn eu pennau nad ydy’r Gymraeg o werth. Hefyd y diogi sydd ar bobl wrth beidio

cefnogi gweithgareddau yn eu cymdeithas eu hunain ac yn cwyno’r un pryd eu bod yn ddiflas ac nad oes dim i’w wneud yn eu hardaloedd. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffyddlondeb. Pwy yw eich arwr/arwyr? Dafydd Iwan am imi wrando cymaint ar negeseuon ei ganeuon yn hytrach na gweithio mwy na wnes i yn y 6ed dosbarth yn yr ysgol! Beth yw eich bai mwyaf? Gadael pethau heb eu gwneud tan y funud olaf. Beth ydych yn casáu fwyaf mewn pobl? Bod yn oriog a mawreddog. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael cwmni’r rhai sy’n bwysig imi. Eich hoff liw? Gwyrddlas. Eich hoff flodyn/flodau? Briallu a bwtsias y gog a dyfai yn y Nant (ar y llwybr a gerddai Eirlys Cartrefle a minnau rhwng Rhydgoch ac Eglwys Llanfihangel-y-traethau ers talwm). Eich hoff feirdd? T H Parry Williams. Gyda diolch i’n hathro Cymraeg yn Ardudwy, Mr H J Hughes am ddod â’i waith mor fyw inni a’n bod wedi dysgu cymaint o farddoniaeth ar ein cof yn wythnosol dan ei ofal. Yn ddiweddarach Dic Jones am iddo ddehongli llawer iawn o deimladau ni’r Cymry yn ei farddoniaeth a rhannu ac egluro blas y pridd i bobl nad ydynt wedi profi bywyd cefn gwlad. Eich hoff gerddor? J Rhyddid Williams a roddodd o’i ddawn a’i amser i Gôr Ysgol Ardudwy yn ystod ei amser yno. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Mwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth ee clasurol, jazz, cerdd dant a chorau meibion. Pa dalent hoffech ei chael? Y dalent i farddoni a chynganeddu. Eich hoff ddywediad? Diolch am yr hyn a gawd. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddiolchgar fod yr iechyd cystal, bod y plant a’r wyrion o fewn cyrraedd a mod i’n byw mewn llecyn tra phleserus yn fy ngwlad fy hun.


Y BERMO A LLANABER

Llongyfarchiadau i Alun Llŷr Williams, mab John a Grace Williams, Hendreclochydd, Llanaber ar ennill ras 15km Motatapu yn Seland Newydd yn ddiweddar. Roedd yn rhedeg yn ardal Arrowtown sydd ar Ynys y De. Mae’r lle yn adnabyddus gan fod llawer o Gymry wedi mynd yno i weithio yn y mwynfeydd aur. Roedd 600 o athletwyr yn cystadlu yn erbyn Alun ar hyd llwybrau’r mwynfeydd aur. Llwyddodd Alun i’w trechu i gyd gydag amser o 1 awr 16.29 munud, oedd yn record i’r cwrs. Deallwn fod dau funud a hanner rhyngddo a’r ail yn y ras! Da ynte?! Cofion atat yn Aotoaroa (“gwlad y cwmwl hir gwyn” - Seland Newydd) bell, Alun. Gallwn anfon y Llais atat i’w ddarllen yn electronig rŵan! Amser trist Mae Ebrill yn amser trist i deuluoedd wrth i ddeg mlynedd fynd heibio ers colli Keith Allday ac Alan Massey mewn amgylchiadau trist. Byddwn yn cofio amdanynt yn yr amser anodd hwn. Ysgol y Traeth Bydd sesiwn o godi arian at gronfa Ysgol y Traeth yn cael ei threfnu gan Gyfeillion yr Ysgol ar Ebrill 11 rhwng 3.00 a 5.00 o’r gloch. Dewch yno am baned a dewch i chwilio am wyau Pasg. Bydd yno stondin tombola a raffl a chystadleuaeth am yr het orau. Buasem yn falch o gael eich cefnogaeth.

Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 26 Chwefror croesawodd John bawb i Westy Min y Môr, Y Bermo i swper dathlu dydd Gŵyl ein nawddsant Dewi. Ein gŵr gwadd oedd y Parch Ddr Huw John Hughes a siaradodd am y Galanthus nivalis. Yr enw cyfarwydd i ni yw’r lili wen fach neu’r eirlys a defnyddiodd y blodyn bach hardd yma i’n hatgoffa am fywyd Dewi Sant. Cynhaliwyd ein cyfarfod blynyddol ar 12 Mawrth. Cafwyd braslun o weithgareddau’r tymor gan John a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth. Diolch i Elenor, ein trysorydd am ei gwaith dros lawer blwyddyn. Diolch i Alma am ymgymeryd â’r gwaith o hyn ymlaen. Les Vaughan a groesawodd ein gŵr gwadd, sef Twm Elias. Ei destun oedd planhigion a chawsom ddeall trwy gyfrwng sgwrs a sleidiau y defnydd meddygol a wnaed o lawer ohonynt. Bydd y Gymdeithas yn ail ddechrau yn yr hydref.

Merched y Wawr Bu Cangen y Bermo yn ymweld â Changen Harlech ar y 4ydd o Fawrth. Cawsom groeso twymgalon a lluniaeth blasus dros ben i ddynodi Gŵyl Ddewi. Cawsom ein diddanu gan Tecwyn Ifan oedd yn hynod o ddiddorol fel arfer. Diolchwyd iddynt i gyd gan Llewela. Mwynhawyd y noson yn fawr. Bu i Ferched y Wawr gyfarfod ar 17 Mawrth am 7 fel arfer o dan lywyddiaeth Llewela. Anfonwyd ein cofion at Gretta a Lilian oedd yn methu bod hefo ni a dymunwyd adferiad buan iddynt. Llongyfarchwyd y tîm bowlio deg a hefyd Dorothy ar eu llwyddiant yn ddiweddar. Fe gawsom gwmpeini Cangen Pennal a Brithdir atom i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ac i edrych ymlaen yn eiddgar at glywed Haf Llewelyn yn ein diddori. Cawsom wledd ganddi yn dweud ei hanes ac o le daeth y syniadau i sgwennu’r holl lyfrau. Diolchwyd iddi gan Llewela. Paratowyd y bwyd gan y merched. Ar y 15fed o Ebrill disgwyliwn Rhian ac Eifiona atom i ddweud hanes eu taith i Ganada.

PWYLLGOR APÊL ABERMAW

Sioe Ffasiynau gan “Pyramid” yn y Wayside, Llanaber nos Sadwrn, 12 Ebrill 2014, am 7.00 o’r gloch. Tocynnau: £10

yn cynnwys canapés, caws a gwin, te a choffi. 10% o ostyngiad oddi ar ddillad ac esgidiau tan 19/4/14 Elw’r noson at Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, Meirionnydd 2014 Tocynnau ar gael gan: Grace Williams, 01341 280788

LLAIS ARDUDWY YN ELECTRONIG

Erbyn hyn gallwn anfon copi electronig o’r Llais i’w ddarllen ar e-bost, iPad ac ati am 50c y mis h.y. £5.50 y flwyddyn. Siec a manylion e-bost, os gwelwch yn dda, i sylw: Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf Harlech, Gwynedd LL46 2SS

Dathliadau Calan Haf Cyfeillion Ellis Wynne

Eleni am y tro cyntaf mae Cyfeillion Ellis Wynne yn trefnu digwyddiadau i ddathlu Calan Haf. Gwraidd hyn yw bod Ellis Wynne wedi ysgrifennu ambell i Garol Haf. Mae Cyfeillion Ellis Wynne eisiau gwneud defnydd o’r carolau yma a’u hadfywio, ac eisiau dathlu’r haf yn enw Ellis Wynne, yn Ardudwy. Nos Fercher, Ebrill 30 – Dathliadau Calan Mai Sgwrs gan Dr Rhiannon Ifans yn Neuadd y Gymuned yn Nhalsarnau am 7.00 yh yn trafod cefndir y traddodiad hwn. Rafflau a phaned a chacen ar gael. Mynediad am ddim Y 3ydd a’r 4ydd o Fai Penwythnos Calan Haf Cyfuniad o ganu carolau haf Ellis Wynne (a charolau haf eraill) yn eglwysi’r plwyf, a theithiau cerdded rhwng yr eglwysi a’r Lasynys, ac adloniant gwerin yn y Lasynys i gloi’r dyddiau. Bydd gofyn i unrhyw un â diddordeb logi ei le ymlaen llaw oherwydd nifer cyfyngedig

o leoedd fydd ar gael. Mae’r penwythnos hwn yn rhad ac am ddim yn cynnwys cludiant yn y bws, brecwast, a theithiau cerdded gydag arweinydd lleol, profiadol. Cynnig gwerth chweil - felly llogwch eich lle ar frys.

Dydd Sadwrn, Mai 3, 2014 Parcio a chyfarfod yn y maes parcio yn Llandanwg am 8.30 yb Gwasanaeth a chanu carolau haf yn Eglwys Llandanwg. 9.15 yb - Brecwast yng Nghaffi’r Maes, Llandanwg. 9.45 yb – Cychwyn ar daith gerdded o Landanwg i Lanfihangel-y-traethau. Prynhawn - Gwasanaeth a chanu carolau haf yn eglwys Llanfihangel-y-traethau a chyfle i fwyta pecyn bwyd. Bws yn ôl i’r Lasynys ag adloniant gan Band Arall a dawnswyr gwerin. Trefnir bws i gyrchu’r mynychwyr yn ôl at eu ceir.

Dydd Sul, Mai 4, 2014 8.00 yb - Cyfarfod ym maes parcio’r Lasynys a chael bws i Landecwyn. 8.30 yb - 9.00 yb – Gwasanaeth a chanu carolau haf yn Eglwys Llandecwyn. 9.00 yb - Brecwast yn Llandecwyn (wedi ei baratoi gan gaffi’r Maes). 9.45 yb - Taith gerdded i’r Lasynys. 11.30 yb - Canu carolau haf ac adloniant ysgafn yn y Lasynys yna cyfle i fwyta pecyn bwyd. Gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r Penwythnos Calan Haf. Bydd paned a chacen ar gael yn y Lasynys wrth ddychwelyd, ond bydd angen pecyn bwyd i ginio ar gyfer y ddau ddiwrnod. Casgliad Bydd casgliad yn ystod y digwyddiadau i Gyfeillion Ellis Wynne sy’n gweithio’n ddygn i gynnal a chadw’r adeilad a’i gadw ar agor i’r cyhoedd gan hyrwyddo pwysigrwydd Ellis Wynne a’i waith.

3


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr

Cafwyd noson i ddathlu Gŵyl Ddewi gyda’n gwesteion, cangen y Bermo gyda’r Parch Tecwyn Ifan, ein gŵr gwadd. Croesawodd Bronwen, ein Llywydd, bawb i’r cyfarfod ac yna canwyd y gân i gyfeiliant Meinir. Cafwyd cawl cennin a thatws, bara brith, teisen gri a phaned ac yna noson ddifyr yng nghwmni ein gŵr gwadd gyda sgwrs a chân. Bronwen a gyflwynodd y diolchiadau gyda Llewela yn diolch ar ran y Bermo. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Roedd Eirlys a Winnie am ein cynrychioli yn yr yrfa chwist ar Fawrth 12fed yn Nolgellau. Cwblhawyd trefniadau ar gyfer paratoi’r lluniaeth ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Mis Ebrill Cafwyd gair o groeso i’r aelodau ynghyd â nifer o ddysgwyr a’u tiwtor Lowri Thomas Jones gan Bronwen, ein Llywydd. Dechreuwyd trwy ganu’r gân gyda Meinir yn cyfeilio. Cydymdeimlwyd

â Sylwen Davies, ein Llywydd Anrhydeddus yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr, a hefyd gyda theulu Jean Thomas, (Pendyffryn) a fu’n aelod gyda ni am sawl blwyddyn tra bu’ n byw ym Mhant yr Eithin. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Diolchodd Bronwen i bawb a gyfrannodd tuag at y lluniaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac fe wnaed elw sylweddol i’r gangen. Llongyfarchwyd Eirlys a Winnie ar ddod yn ail yn y Chwist Rhanbarth a byddant yn cynrychioli’r Rhanbarth yn yr Ŵyl Haf ym mis Mai. Cafwyd adroddiad am y daith gerdded sydd i’w chynnal ym mis Mehefin gan Hefina. Gwnaed trefniadau ar gyfer yr Ŵyl Ranbarth, ymweld â Chwmni Seren ym Mlaenau Ffestiniog a the ar gyfer Teulu’r Castell. Atgoffwyd yr aelodau am y Noson y Dysgwyr sydd i’w chynnal ym mis Mai yn Neuadd Llanelltyd. Cafwyd adroddiad am y gweithgareddau Calan Haf wedi eu trefnu gan Gyfeillion Ellis Wynne.

Yna croesawyd Lowri a’r dysgwyr. Lowri oedd yn gyfrifol am y noson ac roedd wedi paratoi holiadur, gêm o adnabod pobl adnabyddus a gêm bingo gyda Linda a Gwenda yn ennill gwobrau. Gwenda a Christine Hemsley (un o’r dysgwyr), a enillodd y gwobrau raffl. Diolchodd Simon ar ran y dysgwyr. Ar ddiwedd y noson, mwynhawyd danteithion wedi eu paratoi gan y Swyddogion. Cartref newydd Croeso cynnes iawn i Mrs Doreen Roberts i’w chartref newydd yn Ffin y Llannau. Cyhoeddiadau Caersalem 2014 Am 2.15 oni nodir yn wahanol EBRILL 27 – Br Rhys ab Owen MAI 4 - Parch Olwen Williams am 2.00 o’r gloch 11 – Parch Iwan Ll Jones am 3.30 o’r gloch MEHEFIN 8 – Br Marc Jon Williams 15 – Parch Tecwyn R Ifan am 10.30 o’r gloch

Wedi priodi ers 65 o flynyddoedd

TRACTORAU ERYRI Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932 Teulu Artro Estynnwyd croeso i bawb i gyfarfod Gŵyl Dewi gan y Llywydd, Gweneira, a dywedodd ei bod yn falch o weld Beti, a oedd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Diolchwyd i Elisabeth am y rhodd o arian, ac i’r aelodau a ddaeth â nwyddau i’r Bwrdd Gwerthu. Croesawodd y Llywydd, Miss Catherine Richards, Cartref, atom a hynny ar fyr rybudd oherwydd gwaeledd y gŵr gwadd gwreiddiol. Cafwyd prynhawn hynod o ddifyr yng nghwmni Catherine a phawb yn gwrando’n astud ar yr hanesion. Dechreuodd trwy sôn am ei phlentyndod yn fferm Penrhos, yn ysgol Bronaber, yr Ysgol Sul yng Nghapel Jerwsalem, a ‘Lancaster bomber’ yn dod i lawr nepell o’i chartref. Yna, sôn am symud i Gwmrafon a Chapel Salem, gyda hanes am y cymeriadau yn y darlun enwog gan Vosper. Mwynhawyd y sgwrs yn fawr. Diolchwyd iddi gan Glenys a oedd wedi bod yn gymdoges i Catherine am flynyddoedd. Enillwyr y rafflau: Iona a Greta. Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

Llongyfarchiadau i Basil a Doreen Jerram oedd yn dathlu 65 mlynedd o fywyd priodasol ar 19 Mawrth. Dyma garreg filltir nodedig iawn. Buont yn weithgar yn y gymuned am rai blynyddoedd ac yn uchel eu parch yn y fro. Mae llawer yn cofio Basil fel Swyddog-mewn-gofal ym Maes Awyr Llanbedr ac mae atgofion melys gan eraill am y cyfnod pan fu Doreen yn trin gwalltiau o’i chartref. Maent yn parhau i fyw yn eu cartref yn Llanfair ac yn ddiolchgar iawn i ofalwyr Abacare sy’n galw’n gyson i helpu gydag ambell i dasg o gwmpas y tŷ. Mae’n bleser eu llongyfarch gan edrych ymlaen at eu gweld yn dathlu 70 mlynedd gyda’i gilydd. Rhodd: £5

4

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Pamela Mary Haines

(Rowe gynt) Drwg oedd gennym glywed am farwolaeth Mrs Pam Haines (Rowe gynt) ar ôl gwaeledd hir a hithau ond 58 oed. Bu farw Pamela ar ôl cystudd hir ar 24 Chwefror eleni yn 58 oed a chynhaliwyd yr angladd yn Eglwys Llanaber ar Fawrth 11, dan ofal y Parch Kevin Horswell a’r Parch Gerard Storey. Ganwyd Pamela ddiwrnod cyn y Nadolig ym 1955, yn unig blentyn i Vic a Joyce Rowe. Daeth y teulu i fyw i Tan-y-dderwen, Llanbedr o Hollywood, ger Wythall, Birmingham pan oedd Pamela yn chwech oed. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanbedr ac yna Ysgol Ardudwy, Harlech a’i galluogodd i siarad Cymraeg yn rhugl. Ar ôl priodi ag Oliver Haines yn 1983, symudodd i Solihull i fyw, cyn i’r ddau ohonynt symud i fyw i’r Amwythig yn 2004. Wedi iddi golli ei thad yn 1995 a’i mam yn 2000, etifeddodd y cartref yn Llanbedr, a byddai’n aros yno’n aml. Yr oedd wrth ei bodd gyda golygfeydd

Cyhoeddiadau’r Sul Capel Salem 20 Ebrill – Parch Dewi Tudur Lewis 18 Mai – Parch Eirian Wyn Lewis EBRILL 13 Gwasanaeth Undebol yn Eglwys St Pedr am 9.45 y bore Am 2 o’r gloch 20 - Nantcol, Parch Patrick Slattery 27 - Capel y Ddôl, Mrs Nesta Wyn Jones MAI 4 - Capel y Ddôl, Mrs Eleri Owen Jones

godidog yr ardal. Darllenwyd cerdd a ysgrifennodd yn 2001 yn disgrifio’r olygfa o draeth Llandanwg yn ystod y gwasanaeth. Yr oedd ei hymweliad olaf â Llanbedr ar ddiwedd 2013 cyn i’w hafiechyd rwystro iddi wneud hynny mwyach. Bu’n gweithio fel athrawes cadw’n heini yn Solihull ac yn ogystal â hyn cwblhaodd Ddiploma mewn tylino pen Indiaidd. Ar ôl symud i’r Amwythig byddai’n cadw cyfrifon i fusnes ymgynghoriaeth marchnata Oliver, oedd yn cael ei redeg o’u cartref. Roedd yn mwynhau dawns fodern a cherddoriaeth a byddai’n mwynhau mynd i gyngherddau roc yn ogystal â pherfformiadau llwyfan, ffilmiau, arddangosfeydd, orielau a sefydliadau. Yr oedd hefyd yn hoff iawn o ddarllen ac yr oedd ganddi wybodaeth helaeth am gŵn, ceffylau, gwisgoedd a ffasiwn, gan wisgo’n ffasiynol bob amser. Byddai’n hoffi coginio creadigol a gosod blodau yn ogystal. Cafodd ddiagnosis o ganser yr ofari yn 2012 ac yn dilyn llawdriniaeth cafodd dair set o driniaeth bellach yng Nghanolfan Trin Canser Lingen Davies oedd hanner milltir o’i chartref yn yr Amwythig. Roedd y casgliad a wnaed yn yr angladd yn mynd at y ganolfan hon. Cydymdeimlwn ag Oliver, y teulu a’i ffrindiau oll. Merched y Wawr Nantcol Daeth criw da ohonom ynghyd i ddathlu Gŵyl Ddewi nos Fercher, 5ed o Fawrth yn y Ship Aground, Talsarnau. Cawsom noson hamddenol yn swpera a chymdeithasu, a diolchodd Mair i Heulwen am ofalu am y trefniadau i gyd ac i staff y Ship am y wledd flasus oedd wedi ei pharatoi ar ein cyfer. Mis nesaf, 2il o Ebrill edrychwn ymlaen at noson ‘gwau mawr a ballu’ yng nghwmni Ann P Williams, Penmachno. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mrs Ellen Oakley a’r teulu, Isallt, Pensarn, yn eu profedigaeth o golli ei gŵr Simeon yn 80 oed ar 23 Mawrth.

o hyd yn fodlon helpu pawb, ac yn glust i wrando cwyn. Mae’r golled yn drom iawn i’w brodyr Elfyn a John a’u teuluoedd, a theulu’r diweddar Ifor, a’i nith Ann a’i nai Alan a’u teuluoedd hwythau. Elfyn Pugh

Glenys Jones

Ar Mawrth 28 hunodd Glenys Jones yn ei chartref Llwyn Onn yng nghwmni ei theulu , yn 81 oed. Ganwyd Glenys yn Llanbedr a threuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yn y pentref. Aeth i Ysgol Gynradd Llanbedr, ac wedyn i Ysgol Ramadeg y Bermo, cyn ymadael am Ysbyty Alder Hay yn Lerpwl i ddilyn cwrs nyrsio. Yn anffodus daeth y cyfnod hwn i ben yn gynnar oherwydd ‘rheumatic fever’ a wnaeth niwed i’w chalon. Y man gwaith nesaf oedd Siop Gigydd John Price yn y pentref, ac yna wrth gwrs i weithio fel “cashier” yn Woolworth Bermo. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n gofalu am ei thad a’i mam trwy eu hanhwylderau. Oherwydd ei hiechyd bu iddi ymddeol ym 1959, ond bu’n helpu eraill o hyd, a chefnogi cymdeithasau lleol. Roedd ei diweddar ŵr, Lewis Emlyn, yn aelod o Gôr y Brythoniaid. Wedi ei farwolaeth bu Glenys yn driw iawn i’r côr, gan fynychu cyngherddau a rhoi cyfraniadau ariannol iddynt. Roedd yn hoff iawn o fandiau pres, ac yn gefnogol iawn i Fand Arian Harlech. Roedd yn hoffi cerdded a gwerthfawrogai’r tirlun a chefn gwlad, yn cynnwys y traethau cyfagos. Roedd yn ffyddlon yn yr Eglwys, a byddai’n hoff iawn o fynychu gwasanaethau yn Eglwys Llandanwg, a hefyd Capel Salem. Yr oedd tan yn ddiweddar iawn ar restr glanhau Eglwys St Pedr, ac yn cymryd cryn falchder yn y gwaith o lanhau’r celfi pres nes eu bod yn sgleinio. Bydd bwlch mawr yn Llanbedr o’i cholli, Anti Glen i bawb oedd hi, ffrind addfwyn a thyner, ac

Dymuna Elfyn a John ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth a gawsom yn ystod y cyfnod anodd yma. Diolch yn arbennig i Ann am ei gofal addfwyn a chariadus tuag at Glen hyd y diwedd, ac i’r teulu am eu cefnogaeth. I Dr Whitehead a’i dîm meddygol yn y Bermo, a wnaeth sicrhau gwireddu ei dymuniad olaf sef cael bod adref yn Llwyn Onn tan y diwedd un, gyda dewrder. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn yr Amlosgfa ym Mangor ar 28 Mawrth dan ofal Bethan Bailey. Diolch hefyd i’r trefnwyr angladdau Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trefnus. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Rosemary Workman Lismore a’i theulu ym marwolaeth ei phartner Ken Monhemius ar 13 Mawrth yn 67 mlwydd oed. Cofion Gobeithio fod Mrs Joan Eyre, Bryn Deiliog yn gwella ar ôl syrthio a thorri ei chlun. Anfonwn ein cofion at Mr Robert J Jones sydd wedi dod yn ôl i Hafod Mawddach wedi cyfnod yn Ysbyty Bronglais, a hefyd gobeithio fod Mrs Margaret Morgan yn teimlo’n well erbyn hyn.

Tendro am Waith Cyngor Cymuned Llanbedr

Torri Mynwent Eglwys Llanbedr Pris fesul toriad, bob 4 wythnos Torri llwybrau o amgylch y pentref – categorïau 1 a 2 yn unig. Pris fesul awr. Prisiau i’r Clerc: Morfudd Lloyd Tyddynhendre@tiscali.co.uk Arian i Lais Ardudwy Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad o £50 i Lais Ardudwy gan Ŵyl Gwrw Llanbedr.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cynhaliwyd y cyfarfod bnawn Mercher, 19 Mawrth yn y Neuadd Bentref. Croesawodd Gwennie Mrs Ann Jones a phlant Blwyddyn 3, 4 a 5 yr ysgol gynradd atom i’n diddanu ac rydym yn edrych ymlaen am gael eu cwmni bob mis Mawrth. Cawsom nifer o ganeuon, darlleniadau am Dewi Sant ac yna dawnsio creadigol egnïol iawn gan griw o’r merched wedi eu hyfforddi gan Lowri, Byrdir, sy’n ddisgybl yn Ysgol Ardudwy. Diolchwyd i Mrs Jones a’r plant yn gynnes iawn gan Glenys Jones am bnawn pleserus iawn. Braf oedd gweld Blodwen yn ôl yn ein plith ar ôl ei llawdriniaeth. Anfonwyd ein cofion at Mrs Gretta Cartwright sydd wedi cael dod adref o’r ysbyty, ac at Miss Lilian Edwards sydd wedi torri ei garddwrn. Gobeithiwn eich gweld yn ôl yn fuan a diolch am eich rhoddion i’r Teulu. Mwynhawyd te blasus wedi ei baratoi gan Gareth a Mel a diolch am eu croeso. Enillwyd y raffl gan Hilda, Rhiannon, Olwen, Enid Thomas, Catherine a Glenys Jones. Ar 16 Ebrill byddwn yn ôl yn Neuadd yr Eglwys. Cyfarfod Gweddi Byd-eang y Chwiorydd Cynhaliwyd y cyfarfod uchod yn Festri Horeb bnawn Gwener, 7 Mawrth am 2 o’r gloch ac roedd nifer dda o chwiorydd yn bresennol. Arweiniwyd y cyfarfod gan Enid Owen, yr organyddes oedd Rhian Jones a hi hefyd a roddodd yr anerchiad. Cafwyd cyfarfod o naws hyfryd iawn ac anerchiad arbennig gan Rhian. Gwnaed casgliad o £52. Yn dilyn mwynhawyd sgwrs uwch ben paned a chacen. Diolch am eich cefnogaeth ac i bawb am fod mor barod i gymryd rhan eleni. Pobol y Cwm Cofiwch wylio Pobol y Cwm tua chanol mis Ebrill - fe welwch wyneb cyfarwydd iawn, sef Dave Taylor, Tyddyn Goronwy gynt. Pob dymuniad da iddo yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ei weld ar y sgrin eto’n fuan.

6

Festri Lawen, Horeb I ddwyn tymor y Festri Lawen i ben cafwyd Noson o Gawl a Chân, nos Iau, 14 Mawrth, yng nghwmni Gwenan Gibbard gyda nawdd ariannol gan ‘Noson Allan Fach’, Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwnaed y paratoadau gan aelodau’r pwyllgor a pharatowyd y bwyd gan nifer o’r merched a chafwyd gwledd. Yn dilyn croesawyd Gwenan Gibbard gan Enid, llywydd y noson, a hefyd ei mam oedd wedi dod yn gwmni iddi. Mae Gwenan yn hanu o Bwllheli ac ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor aeth ymlaen i wneud gwaith ymchwil ac ennill MA mewn cerddoriaeth. Aeth wedyn i’r Academi Frenhinol yn Llundain i wneud cwrs pellach. Swynwyd ni gan ei ffordd gartrefol, ddiymhongar o gyflwyno ei chaneuon, ei llais peraidd a’i bysedd yn dawnsio ar dannau’r delyn. Canodd nifer o ganeuon morwrol Pen Llŷn a cherdd dant. Diolchwyd i Gwenan am noson arbennig gan Enid. Cafwyd tymor llwyddiannus iawn eto eleni ac mae’r diolch yn bennaf i’n hysgrifennydd gweithgar, Anwen. Diolch yn fawr i ti Anwen am dy waith diflino dros y pedair blynedd ddiwethaf, i aelodau’r pwyllgor am eu cefnogaeth ac i Dei’r cadeirydd am gadw trefn arnom. Oherwydd bod angen aelodau newydd ar y pwyllgor a bod cyfnod y Swyddogion presennol wedi dod i ben cynhelir Cyfarfod Agored yn y Festri i’r holl aelodau nos Iau, 17 Ebrill am 7.30 o’r gloch. Gofynnwn am eich cefnogaeth a’ch syniadau ar gyfer y tymor nesaf. RAOB Ardudwy Bydd RAOB Ardudwy yn cyflwyno elwa menter 2013 nos Sadwrn 12fed Ebrill am 7.00 o’r gloch yng Ngwesty Ael y Bryn. Ac yna, i ddilyn, am 7.30 ‘rasio ceffylau’ a chyri – tocynnau yn £10 a’r elw yn mynd at Uned Canser Ysbyty Glan Clwyd, y dewis o elusen am eleni.

Cydymdeimlad Ar 26 Chwefror bu farw Mrs Margaret Ann Roberts, 2 Gwelfor, Talybont yn 81 mlwydd oed. Bu’r gwasanaeth yn Eglwys Sant Enddwyn ar 6 Mawrth ac i ddilyn yn y Fynwent Newydd. Cydymdeimlwn â’i phlant Gwen, Til, John, Dafydd, Gag, Del a Diana a’u teuluoedd a hefyd â’i chwiorydd Mary a Catrin a’i brawd George yn eu profedigaeth.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb EBRILL 13 – Cyfarfod Gweddi 20 – Y Parch Dafydd Rees Roberts 27 – Anwen Williams MAI 4 – Y Parch Carwyn Siddall

Cydymdeimlad Trist iawn oedd clywed am farwolaeth sydyn Miss Jean Thomas, Pendyffryn yn 71 mlwydd oed. Ganwyd Jean yn y Blaenau yn ferch i’r diweddar Mr a Mrs Ifan Thomas, Gorwel. Roedd ei thad yn flaenor yng Nghapel Bowydd, Blaenau. Un o ferched Bron Ynys, Ynys, Talsarnau, oedd ei mam Netta. Bu Jean yn byw ym Mhendyffryn am ugain mlynedd lle cafodd ofal arbennig. Roedd yn mwynhau bywyd ac roedd gwên lydan ar ei hwyneb bob amser ac roedd diolch yn bwysig iddi. Bu am gyfnod yn gwirfoddoli yn siop Achub y Plant a Tenovus yn y Bermo. Roedd yn aelod ffyddlon o Deulu Ardudwy ac ar 19 Mawrth roedd wrth ei bodd yn gwrando ar y plant. Roeddem i gyd yn adnabod Jean a bydd chwith ar ei hôl a bydd lle gwag ym Mhendyffryn lle’r oedd mor hapus ei byd, diolch i’w gofalwyr. Cydymdeimlwn â’i chwaer Margaret sydd yn byw yn America a’r teulu estynedig yn eu profedigaeth o golli un annwyl iawn.

Y Clwb Cinio Ar 18 Chwefror aethom i Fryn Artro yn Llanbedr i giniawa ac yna ar 18 Mawrth aethom yn gyntaf i Abaty Cymer yn Llanelltyd ac fe roddodd Nia Rowlands fraslun o hanes diddorol yr Abaty i ni. Yna aethom ymlaen i Westy Siôr III ym Mhwllpenmaen i gael cinio. Ar 20 Mai byddwn yn ymweld â Nant Gwrtheyrn. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Aled, mab Dei a Jane Corps, Bryn Ifor, Dyffryn a Susan ar eu dyweddïad ar 1 Mawrth. Maent yn gweithio yn Llundain ac wedi symud i fyw i Harrow. Llongyfarch Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Eluned Williams, Islwyn, Dyffryn fydd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 19 Ebrill.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mr Glyn Edwards, Arfryn, oedd yn dathlu ei benblwydd yn 90 ar 2 Ebrill.

Sioe Arddio’r Gwanwyn Cynhaliwyd y Sioe yn y Neuadd Bentref bnawn Sadwrn, 22 Mawrth. Roedd y trefniannau o flodau’r gwanwyn a’r holl flodau oedd yn cael eu harddangos yn y gwahanol ddosbarthiadau yn wledd i’r llygad. DIOLCH - Dymuna Gwyneth, Erddyn, Iorwerth, Hywel, Bethan a theulu’r diweddar Mair Wynne Davies, 24 Bro Enddwyn, Dyffryn Ardudwy, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain, hen nain a chwaer annwyl. Diolch yn arbennig am y rhoddion hael er cof i Dŷ Gobaith, i’r Parch Ganon Beth Bailey am arwain y gwasanaeth angladdol a’r ymgymerwyr, Glyn Rees a’i Fab, am eu trefniadau trylwyr.

Côr Meibion Ardudwy Clwb 200 - Mis Mawrth 1af £30.00 Llion Dafydd 2il £15.00 Heulwen Jones 3ydd £7.50 Dafydd Thomas 4ydd £7.50 Llysfoel Davies 5ed £7.50 Trefor Grey 6ed £7.50 Dr Gareth Williams


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Dymunodd y Cadeirydd adferiad iechyd llwyr a buan i Margretta Cartwright a oedd yn yr ysbyty ar ôl damwain. Diolchodd y Cyng. Eryl Jones Williams i’r Cadeirydd am ei waith dygn gyda’r Cyngor er nad oedd yn dda ei iechyd. Datgan Budd Datganodd Owen Gwilym Thomas fudd yng nghais cynllunio Caerffynnon, Dyffryn Ardudwy. Nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais. Ceisiadau Cynllunio Amnewid ac ail-leoli 24 caban gwyliau - Dyffryn Seaside Estate Codi estyniad i’r gamfa ac addasiadau i’r ystafell ymolchi Llechryd, Ffordd Glan y Môr Adeiladu sied storfa a sied ddefaid - Caerffynnon Gosod ffenestr dormer a chodi estyniad cefn deulawr - Tŷ’n Ffynnon, Dyffryn Ardudwy Cefnogwyd pob cais. Ceisiadau cynllunio a phenderfyniad arnynt Newid defnydd o safle gwersylla ar gyfer 50 pabell i safle gwersylla a theithiol ar gyfer 30 pabell a 10 carafán deithiol/pod gwersylla Tyddyn Goronwy, Talybont - caniatáu. Adeiladu porth car, codi uchder to’r garej presennol a gosod ffens drelis - 66 Llwyn Ynn, Talybont - caniatáu. Archwilio’r llochesi bws, mynwentydd a pharciau chwarae Cytunodd Edward Williams i gynnal yr archwiliad erbyn y cyfarfod nesaf. Gwefan y Cyngor Mae Mr Gareth Corps yn barod i sefydlu gwefan i’r Cyngor. Derbyniwyd y cynnig caredig hwn. Cartrefi Cymunedol Gwynedd Maent yn obeithiol erbyn hyn y byddant yn gallu rhaglennu gwaith gwelliannau i fflatiau Pentre Uchaf, hefyd er mwyn asesu’r galw am fflatiau un llofft yn y pentref, eu bod wedi ysgrifennu at ymgeiswyr sydd wedi cofrestru. Unrhyw Fater Arall Cytunwyd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn datgan pryder bod ambiwlans yn cymryd gymaint o amser i gyrraedd galwadau brys yn yr ardal.

CEIR MITSUBISHI

PEN-BLWYDD HAPUS Dymuna Glyn Edwards (Hendre Eirian) ddiolch am yr holl gardiau ac i’r llu cyfeillion a alwodd i’w weld ac i ddymuno’n dda iddo ar achlysur ei ben-blwydd yn 90 oed ar yr 2il Ebrill. Hoffai hefyd ddiolch i’r gofalwyr i gyd am eu gofal a’u cymorth parod. Ymysg y cardiau roedd y pennill canlynol. Tybed pwy a’i hanfonodd? Wel pen-blwydd hapus yr hen “Glyn” Oddi wrth hen ffrind o Ffridd y Llyn. “Let bygones be bygones” chwedl y Sais, Anodd yw credu na chlywn dy lais Yn hela ein teulu dros fryn a dôl Ond wele mae Siani a finnau ar ôl I ddymuno pob bendith ac iechyd i ti Daw’r dymuniadau o’r galon, coelia di fi.

Dyma hefyd englynion a gyflwynwyd iddo ar yr achlysur: Yn erwau Hendre Eirian - y gwron Flagurodd yn ddiddan, Un â chof am fro, â chân, A’i eiriau fyth i’n herian. Dyma gymêr a wisga’i ‘feret’ - ddydd gwaith, Ddydd gŵyl a’r Sul weithie, Gŵr â’i lwydd, gŵr gwir ei le Gŵr a’i eglwys yn greigle. Ffrindiau cun a’th deulu’n deg - weli’n Dy galon, ŵr glandeg, Yn daer ar ddathlu’r naw deg Yn chwennych cei ychwaneg. HD

TAITH I GALWAY

4 noson, gwely a brecwast, yng Ngwesty’r Imperial

Ebrill 13 - 17, £255

Mae ychydig o lefydd gweigion ar y bws ar hyn o bryd. Hwyrach y gallwn eich cynnwys ar y funud olaf - ond rhaid brysio! Rhagor o fanylion gan: Phil Mostert 01766 780635 Iwan Morgan 01766 762687

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Pen-blwydd Llongyfarchiadau mawr iawn i Aaron Wyn, 4 Maes Gwndwn, ar gyrraedd ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ebrill 6. Dymuniadau gorau i ti gan dy deulu a dy ffrindiau.

TŶ AR RENT YN NHALSARNAU 2 lofft + lle parcio Ffôn: 01766 780359 Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Gwenda Paul yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 3ydd Mawrth. Darllenwyd cofnodion cyfarfod 3ydd Chwefror a hefyd gofnod o’r gystadleuaeth Bowlio Deg ar 21ain Chwefror. Llongyfarchwyd tîm y gangen ar ddod yn ail yn Rhanbarth Meirion a rŵan yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol yn erbyn canghennau Gogledd Cymru yn Llandudno ar 13eg Mehefin. Derbyniwyd cadarnhad o’r manylion ar gyfer pabell MyW yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Rhoddwyd pleidlais ar gyfer enw Is-ysgrifennydd Cenedlaethol a chefnogwyd enw’r Is-lywydd Cenedlaethol. Cadarnhawyd y trefniadau ar gyfer Cinio Gŵyl Ddewi y gangen yng Ngwesty’r Llong, Talsarnau amser cinio dydd Iau, 6ed Mawrth. Yna croesawyd ein gwraig wâdd a gwaith pleserus iawn gan y Llywydd oedd estyn croeso i Caryl Anwyl o Harlech, athrawes Technoleg Bwyd yn Ysgol Ardudwy. Roedd Gwenda yn cofio Caryl yn ddisgybl gweithgar yn Ysgol Talsarnau pan roedd hi’n Bennaeth yno ac yn falch iawn o’i gweld yn ôl yn ei chynefin. Cwis ‘Bwyd a Diod’ oedd gan Caryl ar ein cyfer heno a chafwyd cwis difyr ac addysgiadol ar y testun. Roedd dipyn o grafu pen dros rhai cwestiynau, a chafwyd llawer o hwyl wrth feddwl am yr atebion. Diolchodd Bet Roberts yn gynnes iawn i Caryl, ar ran yr aelodau, am ddod atom, gan fynegi mor braf oedd gweld merch ifanc o’r ardal wedi dod yn ôl i’w chynefin i fyw

8

a gweithio a magu teulu. Mwynhawyd noson bleserus gan bawb. Paratowyd y baned gan Anwen a Mai ac Anwen hefyd enillodd y raffl. Cinio Gŵyl Ddewi Croesawyd yr aelodau i ginio Gŵyl Ddewi y gangen yng Ngwesty’r Llong, Talsarnau ar ddydd Iau, 6ed o Fawrth. Gweiniwyd amrywiaeth o fwydydd ac roedd popeth wedi’i baratoi’n ardderchog, gyda digon i’w fwyta. Mwynhawyd yr achlysur mewn awyrgylch gartrefol, cynnes braf a diolchwyd i’r staff am eu croeso. Damwain ar wyliau Dymunwn wellhad buan i Win Jones, sydd wedi cael damwain anffodus iawn tra ar ei gwyliau. Roedd yn ymweld ag un o drefi Norwy yn ystod mordaith pan lithrodd a thorri ei ffer. Anfonwn ein cofion cynnes ati. Neuadd Gymuned Rhaghysbysiad er gwybodaeth i fudiadau eraill yn yr ardal sydd yn trefnu digwyddiadau. Bwriedir cynnal noson o adloniant yn y neuadd ar 24 Hydref 2014.

Clwb Plant Dydd Llun i ddydd Iau , Ebrill 14 – 17 rhwng 10 a 12 o’r gloch yn y Capel Newydd, Talsarnau. Stori, crefft, hwyl! Croeso i blant oed cynradd. Bydd Cyfarfod bore Gwener y Groglith ar Ebrill 18 am 10.30 yn y Capel Newydd. Dewch i gofio am beth wnaeth Iesu Grist ar y groes - cymryd y gosb am ein pechod ni er mwyn i ni gael maddeuant. Croeso i bawb. Cynhelir oedfa bregethu bob nos Sul yn y Capel Newydd Ebrill 13 Mr Gwydion Lewis Ebrill 20 Parch Dewi T Lewis Ebrill 27 Mr Wyn Davies

Mai 4 Parch Tudur Lewis

HEN LUN

Y diweddar Hugh Morgan, Tŷ Cerrig gyda Richard, William a’r diweddar John ar y tractor. Credir bod y llun wedi ei dynnu tua canol y 50au.

CYFARFOD PREGETHU

YN SALEM, CEFNCYMERAU. (Trwy ganiatâd caredig) NOS WENER, MAI 9 am 7:00 PREGETHWRY Parch Martin Williams, Abergwaun. TREFNIR GAN EGLWYS EFENGYLAIDD ARDUDWY

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig, i daffi a jamiau!

Honda Civic Tourer Newydd

HONDA


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

Cyfarfodydd Maes Parcio a Cae Chwarae Adroddwyd bod cyfarfodydd wedi eu cynnal ym mis Chwefror. Cynhelir cyfarfodydd eraill yn fuan. Ceisiadau Cynllunio Ymestyn cwrtil ac adeiladu garej ar wahân - Craig y Nos, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Codi lolfa wydr newydd, aildoi ac ymestyn y cyntedd - Ysgoldy, Ynys. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Neuadd Bentref Talsarnau £1,000 Pwyllgor Urdd Talsarnau £500 Aelwyd Ardudwy £200 CFfI Meirionnydd £50 Coed wedi cwympo Derbyniwyd llythyr ynglŷn â choed wedi cwympo ar lwybr cyhoeddus Y Gelli ac wedi peri difrod i’r wal ger Isgoed. Penderfynwyd anfon copi o’r llythyr i’r Adran Briffyrdd yn Nolgellau. Unrhyw Fater Arall Datganwyd pryder bod lorïau yn goryrru drwy’r pentref a’r Ynys ac adroddodd y Cyng Caerwyn Roberts ei fod wedi cysylltu gyda’r Heddlu ynglŷn â’r mater yma a bod swyddog o Gyngor Gwynedd yn cysylltu gyda’r cwmni lorïau sydd yn dod â deunydd i Ffridd Rasus. Cytunwyd bod angen ysgrifennu at yr Adran Briffyrdd yn gofyn a fyddai’n bosib iddynt ostwng y cyflymder gyrru yn Llandecwyn o 40mya i 30mya, yn enwedig tra bod yr holl drafnidiaeth yn gorfod dod ar hyd yr A496 o gyfeiriad Maentwrog. Angen tynnu eu sylw hefyd at y ffaith fod camfa wedi disgyn yr ochr arall i’r rheilffordd ar y llwybr cerrig ger Draenogau a bod coed wedi cwympo ar y llwybr cyhoeddus o Soar am Faesyneuadd. Angen nodi hefyd fod y ffordd ger gwaith dŵr Llandecwyn wedi disgyn. Datganwyd pryder bod plant yn gorfod croesi’r ffordd i ddal y bws ysgol yn y pentref a phenderfynwyd gofyn i Mr Harri Pugh a fyddai’n fodlon adeiladu cysgodfan ar dir Bron Trefor. Datganwyd pryder bod amryw o waliau angen sylw uwchben Llandecwyn. Diolch Neuadd Gymuned, Gair bach i ddweud bod Gwynfor, Talsarnau Gwrach Ynys yn cadw’n eithaf da’r GYRFA CHWIST dyddiau hyn ac yn diolch i bawb yr ail Nos Iau yn y mis am eu cefnogaeth yn ystod yr am 7.30 o’r gloch wythnosau diwethaf. Croeso cynnes i bawb. Rhodd a diolch - £20

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

HOFFECH CHI FOD AR FFERM FFACTOR?

Buddion eraill? Mi wnes i wneud llawer o ffrindiau newydd yn ystod y gwaith ffilmio. Mae cystadleuwyr eraill fel Rhys, Dewi a Carys wedi dod yn ffrindiau am byth. Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud ers ennill y sioe? Rydw i wedi cael fy ngwahodd i ymddangos ar raglenni teledu a chymryd rhan mewn cyfweliadau radio. Rydw i hefyd wedi cael fy ngwahodd i rai digwyddiadau gyda’r FUW, yr NFU, a Mudiad y Ffermwyr Ifanc. Yn ddiweddar cefais wahoddiad i feirniadu yn Sioe Nefyn ym mis Mae’r gyfres boblogaidd yn Mai. Dwi wedi cael llawer iawn dychwelyd i S4C yn yr hydref a o hwyl ac rydw i’n mwynhau bod gwahoddir ymgeision gan rai yn enwog am gyfnod bach. sy’n dymuno cystadlu. Ond, gyda phlentyn bach a Isod, mae Gwenno Pugh o Dalsarnau yn bwrw trem yn ôl ar bywyd prysur ar y fferm, mi fydd ei phrofiad ac yn rhannu rhai o’i fy nhraed yn ôl ar y ddaear yn ddigon buan. hatgofion gorau, a gwaethaf. Dafad ynta buwch? Oeddech chi’n meddwl y Y fuwch bob tro! Dydw i ddim byddech yn ennill? wir yn hoff o ddefaid ond Ar y dechrau, na, dim o gwbl. rydw i’n magu gwartheg croes Mi o’n i’n meddwl y byddwn yn Limousin ac rydw i’n meddwl cael fy nhaflu o’r gystadleuaeth nad oes eu curo fel anifail a fegir yn gynnar, ond wrth i bethau yn fasnachol. Fy nod yw parhau fynd yn eu blaen roeddwn yn i wella’r gyr er mwyn cael y stoc gobeithio’n ddistaw bach y gorau posibl. gallwn fod yn well na’r Cig moch neu oen? ymgeiswyr eraill. Mi fydda’n well i mi ddeud Gorchwyl anoddaf? mochyn. Rydyn ni’n magu Dysgu plant ysgol am ffermio! Moch Cymreig adref ac yn Doeddwn i ddim yn gyfforddus cynhyrchu ein selsig, cig moch o gwbl yn gwneud hyn a doedd gen i fawr o syniad sut i fynd ati. a byrgyrs ein hunain. Ond mae gen i ofn mai dyna fo cyn belled Roedd yn hunllef – 10 munud ag y mae coginio yn y cwestiwn; gwaethaf fy mywyd! gallaf baratoi pryd o fwyd, ond Gorchwyl gorau? dydw i ddim yn Nigella! Creu ymgyrch hysbysebu ar gyfer marchnad da byw – roedd Unrhyw ganllawiau ynglŷn â’r Fferm Ffactor? honno’n her go iawn. I bob un ohonoch chi ferched Fel cystadleuydd, rydach chi’n sy’n ffermio – os alla’i ei wneud cael cyfle i ddysgu am wahanol o, fe allwch chithau hefyd! Ac agweddau’r diwydiant ffermio. Roeddwn yn gorfod ymchwilio’r i bawb sy’n ystyried ymgeisio – farchnad ac ystyried y dyfodol yn byddwch yn chi’ch hun o flaen o eang. Yn sicr, roedd hwnnw’n y camera a gwnewch eich gorau! Ond peidiwch â bod yn rhy brofiad gwerthfawr. A oedd rhyw eiliad na fyddwch hyderus, oherwydd fe all hynny greu pob math o broblemau i yn ei anghofio? Bydd blas yr iau ofnadwy yna o’r chi! gorchwyl blasu yn aros efo fi am Cynigir Isuzu D Max Yukon byth! gwerth £20,000 i enillydd 2014. Wnaethoch chi ddysgu rhywbeth amdanoch eich hun? I wneud cais, neu i enwebu ffrind neu berthynas, cysylltwch Mi wnes i ddysgu bod â mwy â thîm y Fferm Ffactor ar 01286 o hyder yn fy ngallu fy hun. 685300, neu ewch i wefan Fferm Wrth i’r amser fynd yn ei flaen Ffactor ar S4C. Rhaid i bawb mi wnes i ddysgu, pe bawn yn sy’n ymgeisio fod yn 18 neu fwy, canolbwyntio ar y gorchwyl yr oeddwn yn ei wneud, y byddwn a bod â rhywfaint o brofiad o yn gallu ei gwblhau, gobeithio ffermio. Pob lwc!! hyd gorau fy ngallu.

9


HARLECH Ysgol Tanycastell - Diwrnod y Llyfr

DRINGO’R WYDDFA

Plant Ysgol Tanycastell yn mwynhau dathliadau Diwrnod y Llyfr. Roedden nhw wedi gwisgo fel pob math o gymeriadau megis môr-ladron, tywysogesau a marchogion.

Yn dringo’r Wyddfa, Awst 1967 – tywydd clos, annifyr a niwl wedi cyrraedd y copa – dim sôn am unrhyw adeilad tebyg i Hafod Eryri bryd hynny! Jean M Jones, Byngalo Talsarnau (Hafod Bontddu rŵan), Gweneth Lloyd, Y Lasynys (Rhydypennau a newydd symud i Gaerdydd), Menna Williams, Harlech (Bethesda rŵan).

Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i gyfarfod o Deulu’r Castell ar brynhawn dydd Mawrth yr 11eg a hefyd rhoddwyd diolchiadau arbennig i Mrs Williams, prifathrawes Ysgol Tan y Castell am y gwahoddiad i gael dod yn ôl i’r ysgol eto’r flwyddyn yma. Cafwyd prynhawn hynod o ddifyr yn gweld a chlywed y plant bach yn canu yn y côr, ac yna’r plant mwy yn canu, actio, adrodd, dawnsio disco, a chanu’r cornet a’r piano. Rhoddwyd y diolchiadau i’r plant ac yn arbennig i’r athrawon am eu hymroddiad a’r amser y maen nhw’n ei roi i’r plant i helpu’r doniau sydd yn yr ysgol yma; hefyd, i’r teuluoedd oedd yn helpu wrth wneud y gwisgoedd i’r gwahanol eitemau yr oedd y plant eu hangen at yr Eisteddfodau. Dymunwyd yn dda i’r plant oedd yn mynd ymlaen i Eisteddfod y Sir ac mae llawer o waith llaw’r plant hefyd yn cael ei ddangos yn Eisteddfod y Sir. Diolch hefyd am y wledd a ddarparwyd gan staff a ffrindiau Tanycastell. Yn ôl ein harfer trosglwyddwyd pres y raffl a phres y te i’r ysgol, sef £83. Diolch yn fawr iawn i bawb am amser hynod o braf yn yr ysgol. Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau a gwesteion, ac yna Meinir Lloyd Jones, cadeirydd Ffederasiwn Meirionnydd, i’r noson Gymreig a gynhaliwyd nos Fercher, 12 Mawrth, gan y llywydd Edwina Evans.

10

Dymunwyd yn dda i’r aelodau oedd yn sâl a rhoddwyd cyfarchion pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu penblwyddi’r mis yma. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys, sef Cyfarfod y Gwanwyn ym Mhenrhyndeudraeth ar 29 Ebrill yn y Neuadd Goffa am ddau o’r gloch; cyfarfod yng Nghaer; a chyfarfod Cymreig yn Wrecsam 1-2 Ebrill. Cawsom glywed am y gwaith angenrheidiol o blannu yn y tybiau ac yn y blaen yn y stesion. Fe fydd cinio blynyddol yn cael ei gynnal yng Nghlwb y Golff Harlech ar 24 Ebrill. Croesawyd y Dr Rhian Parry, y wraig wadd oedd wedi dod i sôn am yr hen enwau ffermydd a chaeau yn ardal Ardudwy. Mae Dr Rhian Parry yn

ymddiddori yn neilltuol mewn codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth Ardudwy yn archeolegol, hanesyddol a diwylliannol, ac mae wedi bod yn allweddol yn y gwaith o greu safwe sy’n galluogi pobl drwy’r byd i werthfawrogi hanes y fro hon. Diddorol iawn oedd hanes yr ardal yma. Rhoddwyd y diolchiadau gan yr Is-lywydd Jill Houliston. Yna eisteddodd pawb i gael bwyd Cymreig wedi ei baratoi gan aelodau Sefydliad y Merched. Enillwyd llawer o’r rafflau gan ein gwesteion o’r gwahanol ganghennau o’r Sefydliad o Benrhyn i’r Bermo. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 9 Ebrill gyda Carys Edwards yn sôn am gadw gwenyn ym Meirionnydd.

YARIS Dewch i holi am ein cynigion arbennig ar Yaris ac Auris.

AURIS

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

Cyfarfod Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd. Cynhaliwyd y gwasanaeth hwn ar fore Gwener 7 Mawrth yn Eglwys St Tanwg. Dilynwyd y gwasanaeth a baratowyd eleni gan wragedd Cristnogol yr Aifft ar y testun ‘Ffrydiau yn yr Anialwch’ a chymerwyd rhan gan aelodau capeli Caersalem, Jerwsalem, Rehoboth, Eglwysi Llanfair, Llanfihangel, St Tanwg ac Eglwys Gatholig Dewi Sant. Y Canon Parchedig Beth Bailey oedd yn gyfrifol am anerchiad pwrpasol. Gwnaethpwyd casgliad eleni at ‘Water Aid’. Paratowyd paned ar y diwedd gan wragedd yr Eglwys. Geni Llongyfarchiadau i Vicky a Dylan, Gilar Wen ar enedigaeth merch, Ingrid Rhiannon, chwaer fach i Morgan Wyn, ac wyres i Helen a Bedwyr, Ty’n Ffordd, Harlech. Cywiriadau Yn y deyrnged i Arfor Jones o Harlech yn rhifyn mis Mawrth, hoffem gadarnhau bod £700 wedi ei gasglu er cof amdano, nid £100, a bod yr arian yn cael ei rannu rhwng Sefydliad y Galon ac Ymchwil Canser. Ddrwg gennym am y camgymeriadau.


RHAGOR O HARLECH

NOS YSTWYLL

Drama Ysgol Ardudwy - Nos Ystwyll [Twelfth Night] 1966? Rhes ôl - William Henry Owen a Dewi Thomas o’r Dyffryn, ? o Lanbedr, Tudor ?, Goronwy Morris o’r Bermo, Roger ? Peckham Llanbedr. Rhes flaen - Roger Knight, Eisingrug, Helia? Gapper, Llanbedr, Nicholas Parker, Llanbedr. Llun gan Olwen Jones, Dinas Mawddwy [Pensarn gynt]

Glasenwau Timau Rygbi a Geni Phêl-droed yng Nghymru Llongyfarchiadau i Emma a Dave ar enedigaeth eu babi Richard E. Huws

cyntaf , Archie Wyn ar Ebrill 3. Ŵyr cyntaf i Bethan a Gordon Howie a gorwyr i Glenys Griffiths a Gwenfair Howie.

Dyma lun clawr llyfr difyr a gyhoeddwyd gan Paul Watkins yn ddiweddar. Tynnwyd y llun gan Leanne Bacigalupo o Borthmadog. Mae’r llyfr yn cynnwys llawer o hanesion difyr o bob rhan o Gymru. Mae’n debyg mai ‘Gwŷr y Castell’, nid ‘Brain’ yw glasenw tîm pêl-droed Harlech. Gelwir tîm Cwmbrân yn frain am reswm amlwg. Pwy yw’r Caneris a phwy yw’r Dynion Cocos?

CAPEL JERUSALEM CYMUN Y GROGLITH Ebrill 18 am 10.30 Croeso cynnes i bawb

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Cofion Anfonwn ein cofion at Deio Williams, Awel y Môr a fu’n glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Bu Deio dan anhwylder ers tro byd, ond deil i anfon y croesair atom yn ffyddlon bob mis. Diolch am dy gefnogaeth Deio. Hyderwn dy fod yn teimlo’n well erbyn hyn.

ARWERTHIANT PEN BWRDD £5 y bwrdd Neuadd Goffa, Harlech Ebrill 26 10.00 - 2.00 o’r gloch Cysylltwch â Linda ar 01766 780966

CYFARFOD BLYNYDDOL

Neuadd Goffa, Harlech Ebrill 29 am 7.00 o’r gloch Croeso cynnes i bawb!

CYNGOR CYMUNED

Trafnidiaeth Croesawyd Mr Gareth Roberts, Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd i drafod cynlluniau trafnidiaeth ar Ffordd y Morfa a Ffordd Glan y Môr. Dangoswyd 4 opsiwn i’r aelodau. Cytunodd Mr Roberts wneud ymholiadau ynglŷn â gosod camerâu integredig ond datganodd bod y math yma o gamerâu yn ddrud i’w cynnal a bod Gwynedd yn ceisio rhoi’r cyfrifoldeb yma i’r Cyngor Cymuned. Datgan Budd Datganodd Ceri Griffith fudd yng nghais ariannol Aelwyd Ardudwy. Datganodd Edwina Evans fudd yng nghais ariannol Teulu’r Castell. Datganodd Caerwyn Roberts fudd yng nghais ariannol y pwll nofio. Rhandiroedd Derbyniwyd un cais am rentu’r garej dan glo ger y safle uchod. Cytunwyd i dderbyn y cais a chynnig cytundeb blwyddyn yn unig i ddechrau. Tendrau Torri Gwair Derbyniwyd un tendr a chytunwyd i’w dderbyn. Penderfynwyd derbyn tendr Mr Gareth J Williams i dorri gwair cae chwarae’r Brenin Siôr a’r cae pêl-droed eto eleni. Gwefan y Cyngor Mae’r gwaith o sefydlu’r uchod ar y gweill. Penderfynwyd mynd am y grant o £500 sydd ar gael. Ceisiadau Cynllunio Gosod seilo pelenni coed - Pwll Nofio Harlech Cefnogi’r cais hwn. Estyniad - Woodland View, 37 Cae Gwastad, Harlech Gwrthwynebu’r cais oherwydd teimlwyd y byddai’r estyniad yn rhy agos i’r tŷ drws nesa. Ceisiadau am gymorth ariannol Teulu’r Castell - £250 Ysgol Feithrin Harlech - £250 Aelwyd Ardudwy - £300 Llais Ardudwy - £250 CFfI Meirionnydd - £150 Maes Parcio’r Hen Ysgol Cafwyd llythyr gan Mr Alan Wynne Jones yn gofyn a oes posib gwneud maes parcio’r Hen Ysgol yn un arhosiad hir yn lle byr. Anfonir copi o’r llythyr at Mr Colin Jones, Cyngor Gwynedd, yn datgan bod y Cyngor yn cefnogi’r cais a hefyd i ofyn a oes posib rhoi llinellau melyn dwbl i lawr ochr y ffordd gyferbyn â Rock Terrace i lawr at y groesffordd. Unrhyw Fater Arall Perchennog tŷ ar Ffordd Uchaf wedi dechrau adeiladu stepiau i lawr i’r ffordd. Cysylltwyd â swyddog o Gyngor Gwynedd ynglŷn â hyn. Dangosodd Korina Mort luniau o wal beryglus ar y Ffordd Uchaf a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu â Mr Dafydd W Williams ynglŷn â hyn ac anfon y lluniau iddo; hefyd i ddatgan wrtho fod y Cyngor wedi bod yn ceisio ers 2 flynedd i gael trwsio’r waliau hyn a’u bod yn beryglus i gerddwyr a modurwyr. Datganwyd pryder bod y stôf wedi mynd o gegin yr Hen Lyfrgell a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gyda Chadeirydd pwyllgor yr Hen Lyfrgell yn gofyn i le’r oedd y stôf wedi mynd. Penderfynwyd gofyn i’r pwll nofio drefnu cyfarfod rhyngddynt hwy a’r Cynghorau Tref/Cymuned yn yr ardal. Mae coeden wedi cwympo o’r llwybr natur ar sied Mehefin, Bron y Graig. Mae angen gofyn i Mr Harri Pugh osod polyn tynnu ar Ffordd Glan y Môr rhwng cae chwarae’r Brenin Siôr a’r maes golff. Mae eisiau ysgrifennu at Mr Dafydd W Williams i nodi bod wal angen sylw gyferbyn â Tegfan a Bryn Teg. Arian i Lais Ardudwy - Diolch Derbyniwyd cyfraniad o £250 i goffrau Llais Ardudwy gan Gyngor Cymuned Harlech. Diolch am y gefnogaeth.

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

3

2

4

5

6

7

EBRILL

9

8 10 11

12

13 16

15

14

18

17 20

19

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

21

13, Sul – Sesiwn ddawns gyda Siri ar gyfer oedolion. 10.15-11.45 yb. £3, prif lwyfan 13, Sul – Cyngerdd Cymdeithas Cerdd Harlech. Oedolion £8, gostyngiad £5, plant £3. 17, Iau – FFILM ‘Hannah Arendt’ 18, 19 a 20, 6.30 yh – Ffilmiau teulu i’w chadarnhau. 19, Sadwrn 5.00 yh, 20 Sul – matine 2.30 yp 22-24, Mawrth-Iau - Cwrs celf 3 diwrnod gydag Annie Durrant, 25, Gwener – Clwb Ffilm Ieuenctid Celf Ardudwy, 9.00 yh 26, Sadwrn – Dawns fer yn y cyntedd gyda Gwyn Emberton. 26, Sadwrn – ‘Take on Take That’, band teyrnged

MAI

22

23

Ar draws 1 Bwyd meddal sy’n crynu (4) 3 Trafnidiaeth dwy olwyn (7) 8 Math o ddesg (5) 9 Y gorau hyd yma [mewn cystadleuaeth] (6) 10 Atsain (3) 11 Tymer (5) 12 Yn ymyl (6) 13 Ffawd (3) 15 Ceffyl bach (4) 17 Priodi (3) 19 Pennill byr (5) 20 Llamu (6) 22 Grym (3) 23 Merch sy’n etifedd (8)

Mis Mawrth tan fis Hydref

I lawr 1 Math o aderyn (2, 4) 2 Darn bach o borfa mewn gardd neu barc (5) 4 + 16 i lawr - Dinas yn yr Unol Daleithiau (5, 5) 5 Sylwedd cemegol melys (7) 6 Clymblaid (6) 7 Yr hylif naturiol yn y geg (5) 14 Curo (7) 15 Gwneud smonach (6) 16 Gweler 4 i lawr 17 Cyflwr o fod mewn cytundeb (5) 18 Cylch y gellir weindio arno (5) 21 Israeliad (4)

12

Sêl Cist Car

ENILLWYR CROESAIR MIS MAWRTH Yn gywir ym mis Mawrth roedd: Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Ieuan Jones, Rhosfawr; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy. Un ateb bach yn anghywir gan: Elizabeth Jones; Sue Mills, Bryn Bugeilydd, Harlech; Gweneira Jones, Llanbedr (22 ar draws wedi peri trafferth i ambell un). Atebion mis Mawrth AR DRAWS 1 Sbageti 5 Braw 7 Aerwy 8 Gair da 9 Egni 10 Argoeli 12 Calon 14 Addo 18 Croenddu 19 Achub 21 Enaid 22 Odiaeth I LAWR 1 Siaced 2 Aeron 3 Emyn 4 Iogwrt 5 Beison 6 Ardalydd 11 Cofnodi 13 Agosáu 15 Octef 16 Buchod 17 Rasio 20 Uchel SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

Clwb Chwaraeon Porthmadog

Dydd Sul 8 tan 1 £5 y car Ymholiadau - 01766 128667

1, Iau - Grŵp creu les, 10 yb-4 yp yn yr Ystafell Werdd 1, Iau – Pnawn Da gyda Gwyn Vaughan Jones ac Annette Bryn Parri rhwng 1.00 a 2.00 yp, yn cynnwys coffi a chacen 2-3yp 1 Iau - Dawns ac ymlacio gyda Siri; 3.15-4.30 yp, prif lwyfan 2, Gwener – Ffilm ‘Away from her’, prif lwyfan 3, Sadwrn - Criw Celf Bach Gwynedd, i blant rhwng 7 ac 11. 10.00-12.00, yn yr Ystafell Werdd 3, Sadwrn – Dawnsio’n heini i oedolion gyda Siri, am10.15 3, Sadwrn – Ffilm ‘Away from her’, 7.30 yh 4, Sul a 5, Llun - Theatr Iolo a Theatr Hullabaloo yn cyflwyno ‘Luna’, profiad theatrig hudolus DIGWYDDIAD ARBENNIG 19-31 Mai - Sioe Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd, Perfformiadau ar y 23, 24 a 26 am 7.30 yh

NODIADAU A ADAWYD MEWN POTELI I DDYNION LLEFRITH “Rydw i newydd gael babi, fedrwch chi adael un arall?” “Peidiwch â gadael rhagor o lefrith, y cyfan maen nhw’n ei wneud ydy ei yfed o!” “Hoffwn gael torth o fara, ond nid heddiw.” “Dyn llefrith, wnewch chi gau’r giât ar eich hôl os gwelwch yn dda, gan fod yr adar yn cnoi’r topiau oddi ar y poteli?” “Wnewch chi ganslo’r llefrith, does gen i’m byd yn dod i’r tŷ, dim ond dau fab ar y dôl.” “Ddrwg gen i am ddoe, do’n i ddim wedi meddwl sgwennu un ŵy a dwsin o boteli llefrith, ond yn groes i hynny.” “Ddrwg gen i nad ydw i wedi talu’r bil, ond mae’r wraig wedi cael babi ac rydw i wedi bod yn ei gario yn fy mhoced am wythnosau.” “O hyn ymlaen, wnewch chi adael dau beint bob yn ail ddiwrnod ac un peint ar y dyddiau rhyngddyn nhw, ar wahân i ddydd Mercher a dydd Sadwrn pan nad ydw i eisiau llefrith?” “Mae’r drws cefn ar agor. Rhowch y llefrith yn y rhewgell, ‘stynnwch y pres o’r drôr a gadwch y newid mewn ceiniogau ar fwrdd y gegin, achos rydan ni eisiau chwarae bingo heno.” “Hoffwn gael ffurflen ar gyfer llefrith rhad. Mae gen i fabi dau fis oed a do’n i ddim yn gwybod am y peth nes i gymydog ddeud wrtha i.” “Peidiwch â gadael llefrith heddiw. Pan dwi’n deud heddiw dwi’n golygu yfory, gan fy mod i wedi sgwennu’r nodyn yma ddoe.” “Dyn llefrith. Rhowch y glo ar y bwyler os gwelwch yn dda, gollyngwch y ci, a rhowch y papur newydd yr ochr arall i’r drws gwydr. O.N. dim llefrith heddiw.” “Dim llefrith. Peidiwch â rhoi llefrith yn rhif 14 ‘chwaith gan ei fod o wedi marw hyd nes clywch chi gen i.”


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY

Dringo Ar Fawrth 12, roedd rownd derfynol bowldro i ysgolion gogledd Cymru. Bu Ysgol Ardudwy yn fuddugol yn rownd ysgolion de Gwynedd. Yn anffodus nid oedd yn bosibl i’r tîm cyfan ddod i’r rownd derfynol gan fod Joe Joscelyne wedi anafu ei fraich ac roedd hyn yn anfantais i’r ysgol. Serch hynny daeth Ysgol Ardudwy yn drydydd yn y gystadleuaeth, a llongyfarchiadau i’r aelodau. Dawnsio Llongyfarchiadau i Jake Threadgill, B10 ac Alaw Jones, B7 a gafodd gyntaf yn y ddawns unigol ac i Aaliyah Pratt ac Elin Williams, B7, a gafodd drydydd yn y ddawns grŵp mewn cystadleuaeth ddawns ym Mhorthmadog gyda 5x60. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn gyda llawer o ddisgyblion yn cystadlu. Mae’r disgyblion yn mynd ymlaen i berfformio yn Y Galeri cyn bo hir. Da iawn chi!! Un Antur Fawr Cafodd grŵp busnes B10 y fraint o gymryd rhan mewn gweithgareddau “Un Antur Fawr” yng Nghoed y Brenin.

Pwrpas y digwyddiad oedd dangos cyfleoedd lleol yn y byd hamdden a chafodd y disgyblion siarad gyda busnesau lleol a hefyd gwneud tasg datblygu sgiliau. Roedd pawb wedi mwynhau’r profiad yn fawr ac wedi dysgu llawer am y posibilrwydd o yrfaoedd yn lleol. Eisteddfod Cynhaliwyd Eisteddfod Cylch Ysgol Ardudwy yn neuadd yr ysgol. Roedd dros bymtheg o gystadlaethau o ddawnsio disgo i’r gân actol, ac o unawd pres i barti llefaru. Braf oedd gweld nifer fawr o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu. Y beirniaid oedd Iwan Morgan, Jessica Cavanagh a Siôn Eirug, a diolch yn fawr iddynt. Ddydd Sadwrn, Mawrth 22 bu Eisteddfod y Sir yn Ysgol y Gader, a braf unwaith eto oedd gweld nifer o ddisgyblion Ysgol Ardudwy yn cystadlu. Llongyfarchiadau i’r gân actol ac i Elan Roberts, B11, fydd yn mynd drwodd i’r Genedlaethol yn Y Bala, a llongyfarchiadau i barti llefaru Genod Ardudwy, ymgom Harri D, Angharad, Logan a Brychan ap Gareth ac

unawd corn Gwenno Lloyd a ddaeth yn drydydd. Diolch yn fawr i bawb wnaeth gystadlu a diolch i’r athrawon a wnaeth hyfforddi a helpu yn yr Eisteddfod Cylch. Everton vs Abertawe Yn ddiweddar aeth criw o fechgyn yr ysgol i weld gêm bêl-droed Everton yn erbyn Abertawe. Cafwyd diwrnod gwych yn Lerpwl efo’r bechgyn yn cael mynd ar y cae ar ddechrau’r gêm i greu gosgordd er anrhydedd i’r chwaraewyr. Roedd y gêm yn un gyffrous iawn hefo Everton yn ennill o dair gôl i un. “Cefais ddiwrnod gwych yn Everton. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cael bod ar y cae pan oedd y chwaraewyr yn cerdded allan. Rwyf yn teimlo’n ffodus iawn o gael y profiad bythgofiadwy yma. Rwyf yn ddiolchgar iawn i’r ysgol am drefnu’r diwrnod arbennig yma.” Rygbi – Ennill o 40-13 Ar ddydd Iau, Mawrth 13, ar ddiwrnod hynod o braf, chwaraeodd bechgyn dan 13 Ysgol Ardudwy yng nghystadleuaeth rygbi ysgolion

Gwynedd yn erbyn Y Berwyn. Cafwyd gêm gyffrous iawn gyda cheisiadau gwych gan Ysgol Ardudwy. Cafodd William McKenzie a Cedri Jones ddau gais yr un, gyda Ben Davies ac Aron Moore yn cael un cais yr un. Pêl droed Ar ddydd Llun, Mawrth 17 chwaraeodd bechgyn B7 Ysgol Ardudwy gêm gynghrair yn erbyn Ysgol Botwnnog. Cafwyd ddechrau da gan y ddau dîm, yn enwedig gan fechgyn Ysgol Ardudwy. Yn ystod yr hanner cyntaf sgoriodd Ysgol Ardudwy gyda gôl gan Logan Brading. Sbardunodd hyn fechgyn Ardudwy ac fe sgoriodd Cian Cunliffe i wneud y sgôr yn 2-0. Ar ôl hanner amser fe sgoriodd Botwnnog yn syth ond mewn ychydig o funudau fe sgoriodd Justin Firth y drydedd gôl i Ardudwy. Gêm gyntaf i Santi ers cyrraedd Ysgol Ardudwy/ perfformiad gwych!

Ifan Jones, B7, cefnogwr Everton

13


CLWB FFERMWYR IFANC ARDUDWY

YMGYRCH I ATGYFODI AWYREN

Dyma’r Lockheed P-38 Lightning a ddarganfuwyd yn 2007 ar ôl treulio 65 mlynedd o dan y tywod. Rydan ni yma o hyd, ond gyda nifer fechan o aelodau. Rydan ni wedi cael nosweithiau amrywiol yn y Clwb yn ddiweddar gyda ffocws ein gwaith yn mynd ar y gystadleuaeth Ciwb, ar y testun Gwasanaethu’n Gwlad. Bu i Ryan a Mari wneud crefftau, a Mari ac Elliw arddangos blodau, gyda Llinos, Mari, Cara ac Alaw yn gyfrifol am wneud y lluniau yn y cefndir. Yn anffodus, wedi’r holl waith, nid oedd eraill yn cystadlu wedi’r cwbl, ac felly roedd gwaith Ardudwy yn ennill gyda chanmoliaeth gan y beirniad a rŵan yn cynrychioli Meirionnydd yn y gystadleuaeth drwy Gymru yn Llanelwedd ar y 29 o Fawrth. Bu i Llinos ac Aron gystadlu yn y gystadleuaeth gyrru ATV hefyd. Mae digon o amrywiaeth i’w gael gyda’r Mudiad. Bydd Rali CFfI yn cael ei chynnal eleni yn y Mart yn Nolgellau ym mis Mehefin. Hoffwn wahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn ein helpu tuag at y Rali i bwyllgor Rali am 7.30 nos Fawrth Ebrill 15fed yn Neuadd Bentref Llanbedr. Thema’r Rali eleni fydd “Arwyr”. Croeso i bawb ymuno - gyda llwythi o syniadau, gobeithio. Hoffwn ddymuno’n dda i Llinos Ford sydd yn mynd ar brofiad gwaith o’r Coleg i weithio ar fferm odro yn Hwlffordd am fis. Felly, codi’n gynnar iawn fydd ei hanes. Hwyl am y tro, Mari

AELWYD ARDUDWY AR Y BRIG

Eisteddfod y Cylch a’r Sir Mi wnaeth yr Aelwyd eu ‘debut’ eisteddfodol ar Fawrth 8, gyda gwobrau cyntaf i’r Band a Chôr yr Aelwyd, a Beca Williams a Cerys Sharp yn ail yn y ddeuawd B6 ac iau.

Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus i’r aelwyd gyda’r band yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cerddorfa/Band dan 25 oed a’r Côr yn ail yn y gystadleuaeth i Gôr Aelwyd Blwyddyn 9 ac iau. Cafwyd perfformiad canmoliadwy o ‘Dod ar fy Mhen’ o dan arweiniad Mrs Elin Williams, gydag Iwan Morus yn cyfeilio. Dymuniadau gorau i’r ddeuawd

14

yn Eisteddfod Sir Cynradd yn Y Bala. Pob lwc yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Celf, Dylunio a Thechnoleg Cafwyd wythnos brysur yn ystod gwyliau hanner tymor, gydag aelodau’r aelwyd yn dylunio a chreu campweithiau celfyddydol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfod y cylch aeth eitemau ffasiwn a thecstilau ymlaen i’r Sir yn Rhydymain ar Fawrth 18. Yn y gystadleuaeth ffasiwn daeth Cara Wyn Rowlands yn 1af, Gwenno Lloyd yn 2il ac Alaw Mai Sharp yn 3ydd. Mi fydd gwaith Cara a Gwenno yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol yn Y Bala.

Yr unig aelod o’r teulu bellach, sef y Capten Robert Moyer Elliott am aros chwe blynedd arall Mae nai peilot a gafodd Rydw i wedi treulio ddamwain yn ei awyren rhyfel o’r Ail Ryfel Byd yng nghyffiniau blynyddoedd lawer yn ceisio darganfod ym mhle’r aeth fy Harlech yn ymgyrchu dros ewythr ar goll uwchben Tunisia, godi’r gweddillion a’u gosod ond hyd yma dydyn ni ddim mewn amgueddfa. wedi darganfod dim. Felly, Roedd yr Ail Lt Robert F pan gysylltodd rhywun o’r Elliott ar ymarfer hyfforddi Grŵp Rhyngwladol dros Adfer pan fethodd injan ochr dde Awyrennau Hanesyddol â mi ei awyren Lockheed P038 chwe blynedd yn ôl wedi iddyn Lightning ac fe laniodd yn y nhw gynnal arolwg, roeddwn môr ar 27 Medi 1942. Cafwyd wedi fy synnu o glywed eu hyd i’r awyren brin o Lu Awyr bod wedi dod o hyd i awyren Byddin yr Unol Daleithiau, fy ewythr ar arfordir Cymru. a elwir bellach yn Maid of Roedd yn newyddion anhygoel Harlech, ym mis Gorffennaf ac yn fwyfwy cyffrous wrth i ni 2007 wedi 65 mlynedd o dan y gael y manylion i gyd. Rydw i’n tywod. gwybod eu bod yn gwneud eu Goroesodd Robert Elliott y gorau glas oherwydd mae angen ddamwain hon yn ddianaf dilyn y camau priodol, ond ond dri mis yn ddiweddarach byddwn wrth fy modd yn gweld roedd yn cymryd rhan mewn yr awyren yn cael ei harddangos ymosodiad awyr uwchben yn yr Imperial War Museum Tunisia, ac ni ddaeth yn ôl. neu yn Amgueddfa’r RAF.” Ni chafwyd hyd i’w gorff na’i Yn ôl y dystiolaeth awyren hyd y dydd heddiw. gorchuddiwyd gweddillion yr Mae ei berthynas, ei nai, sef y awyren gan y tywod symudol Capten Robert Moyer Elliott, o dan y môr ac felly y bu nes i’r 70, wedi bod yn ymgyrchu tywod symud eto yn 2007. dros y chwe blynedd ddiwethaf Nid ydy’r Capten Elliott wedi i symud gweddillion yr ymweld â Chymru erioed, awyren a’u harddangos mewn ond hoffai ddod draw rhyw amgueddfa. Meddai’r Capten ddiwrnod. Mae wedi gweld Elliott: “Fy unig obaith yw y lluniau o’r Maid of Harlech bydd gweddillion yr awyren oherwydd mae ei lleoliad yn yn cael eu codi o’r môr a’u gyfrinach, ac fel yr unig aelod o’r cludo i amgueddfa’n rhywle i’w teulu sydd ar ôl byddai wrth ei harddangos. Rydw i wedi bod fodd pe bai modd rhoi’r awyren yn aros am chwe blynedd i hyn a’i hanes ar gof a chadw. ddigwydd a dydw i wir ddim Yr Ail Lt Robert F Elliott


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Sgwâr Llew Glas Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Llanuwchllyn 01678 540278

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

drwy’r post

T N RICHARDS

GERALLT RHUN

Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Tafarn yr Eryrod

Llais Ardudwy

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Adnewyddu Hen Ddodrefn

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch Llanbedr 01341 241229

Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor Dydd Mawrth - Dydd Gwener 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00 Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 8.00

Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Tacsi Dei Griffiths Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


Siân Jones

Er cof am Barney Dylan Warburton Roedd Barney yn byw yn Llys Brithyll, nepell o’r gofgolofn yn Llanbedr. Roedd yn chwaraewr rygbi, yn cefnogi Cymru, ac yn aelod o dîm Clwb Rygbi Harlech. Roedd hefyd yn bysgotwr brwd. Ymunodd â’r fyddin yn y Royal Engineers wedi gadael Ysgol Ardudwy. Collodd rhai o’i fodiau trwy frath rhew wrth ymarfer yn yr Alban, ond gwrthododd waith y tu ôl i ddesg wrth fynnu cadw’n filwr llawn. Bu’n bocsio tra yn y fyddin ac enillodd fedalau dros ei garfan. Arbenigodd mewn difa dyfeisiadau ffrwydrol, a chyrhaeddodd y rheng o gorporal pan gafodd ei leoli ym Mosnia i wasanaethu â lluoedd y Cenhedloedd Unedig. Yr oedd Bosnia yn rhan o Iwgoslafia cyn i frwydro gychwyn ym 1993. Terfynwyd y gwrthdaro yn Chwefror 1994 gyda’r cadoediad a’r sefydliad o dalaith Bosnia a Herzegovina. Ymwelodd John Major, y Prif Weinidog â’r milwyr ym Mosnia ar 18 Mawrth 1994, ac ysgwydodd law â Barney. Trannoeth, lladdwyd Barney gan un o’r nifer o fomiau nad oedd wedi ffrwydro wedi’r cadoediad. Yr oedd Barney yn di-ffiwsio ordnans ger y stadiwm pêl droed yn nhref Stari Vitez pan ffrwydrodd bom wedi’i gyfaddasu. Yr oedd yn 27 oed. Dychwelwyd ei gorff i Lanbedr i’w gladdu ym mynwent yr Eglwys. Crëwyd plac iddo ger cofgolofn rhyfel y pentref. Naddwyd plac arall er cof iddo ym 1994 gan Ruzid Stipo, saer maen o Croatia, a’i leoli ger y twll a adawyd o’r ffrwydrad. Collodd Ruzid Stipo ei fab ei hun ychydig fisoedd yn gynharach, mewn ymladd ger Stari Vitez, ac addawodd i Barney y buasai yn gofalu am y gofeb trwy weddill ei oes. Safodd offeiriad Catholig ac imam Moslemaidd ochr yn ochr yn y seremoni coffáu, a disgrifiwyd Barney fel “dyn ifanc a ddaeth o dramor i helpu pobl na chwrddodd o’r blaen” gan Uwchgapten Alan Macklin o’r Royal Engineers.

16

Ychydig fisoedd yn ôl yn y cylchgrawn Golwg, cafwyd cyfweliad â Siân Jones, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Ardudwy, ac sydd bellach yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg fel Ail Iaith i swyddogion ac Aelodau’r Cynulliad. Mae hi hefyd yn cyd-gyflwyno’r rhaglen Hwb i ddysgwyr ar S4C. Dyma flas o’i hatebion i rai o’r cwestiynau a ofynnwyd iddi: Pam aethoch chi ati i addysgu’r Gymraeg yn y lle cynta? Newid gyrfa a mynd yn ôl at fy ngyrfa flaenorol yn athrawes. Ydych chi wedi cyflwyno rhaglen deledu o’r blaen? Nac ydw, erioed. Pa mor bwysig oedd penderfyniad S4C i adfer rhaglen yn arbennig i ddysgwyr y Gymraeg? Pwysig iawn. Roedd hi’n hen bryd. Mae angen parchu’r dysgwyr a’u cefnogi mewn unrhyw fodd sy’n bosib. Beth ydych chi’n dipyn o arbenigwr ar ei wneud? Fel athrawes ail iaith, rwy’n arbenigo ar annog, cefnogi a gwrando. Beth ydych fwyaf anobeithiol am ei wneud? Coginio! Pryd mae dysgwyr yn rhoi’r gorau i fod yn ddysgwr, a bod yn rhugl yn yr iaith? Pan maen nhw’n gallu deall yr ateb i gwestiwn a baratowyd yn ofalus, maen nhw wedi croesi’r bont. Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini? Swmba a chodi pwysau mewn campfa.

Sut le yw eich cartref? Cyfuniad o linellau glân, modern a hen bethau sy’n golygu llawer i fi. Pwy fyddech chi’n ei wahodd i’ch pryd bwyd delfrydol a beth fyddai’r wledd? Joanna Lumley (dynes osgeiddig a thalentog), Liam Neeson (am resymau amlwg!), Dawn French (hiwmor) a’r Dr John Davies (athrylith o hanesydd) i wledda ar fwyd môr a phwdin siocled i ddilyn, wedi eu paratoi gan Sioned Mair. Pwy yw eich cymar delfrydol? Fy ngŵr, wrth gwrs. Beth sy’n eich gwylltio fwyaf am Gymru/Cymry? Casáu’r syniad dilornus bod yr ymadrodd, ‘Gwell Cymro, Cymro oddi cartref ’, yn wir. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwerthin nes eich bod yn sâl? Heddiw wrth deithio yn fy nghar a gwrando ar Lisa fy merch yn dynwared pobl yn canu. Mae’n gweithio bob tro a bu bron imi fynd i’r clawdd heddiw. Pa ddigwyddiad achosodd fwyaf o embaras i chi? Gorfod diosg fy esgidiau ar raglen deledu a sylweddoli fy mod yn gwisgo sanau gwahanol i’w gilydd. Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo? Dathlu pen-blwydd mawr yn y bar siampên ar ben Tŵr Eiffel efo criw o ffrindiau gwyllt. Oes angen i bob sefydliad yng Nghymru, megis cynghorau sir ac ysbytai gyflogi athro/tiwtor Cymraeg? Mewn byd delfrydol, oes. Mae mynd â’r gwersi at y bobol yn y gweithle yn gweithio. Beth yw eich hoff ddiod feddwol? G a T (neu G a Th – treiglad llaes!) Beth yw’r peth anoddaf o safbwynt dysgwyr sy’n ceisio cael crap ar y Gymraeg? Poeni’n ormodol am rai treigladau. Beth oedd eich swydd waethaf? Glanhau bocsys o ffrwythau a llysiau wedi pydru wrth weithio mewn siop ffrwythau a llysiau. Beth yw eich hoff air? Amen.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.