TRIATHLON I GODI ARIAN
PRYSURDEB YN YSGOL
DYFFRYN ARDUDWY
Wedi iddo ddarllen stori yn Llais Ardudwy, fe
benderfynodd Elgan Evans (Eithin Fynydd) drefnu
triathlon er mwyn codi arian at elusen Young Lives Versus Cancer yn dilyn diagnosis canser Emi, merch Gwion
Thomas a Nicky John.
Fe drefnodd Elgan ei fod am nofio 20 hyd o bwll nofio
Porthmadog, beicio o Ddolgellau i’r Bermo ac yna cerdded adref i Dal-y-bont. Penderfynodd Moi Williams (Hendreclochydd) a Siôn Williams (Hendre Eirian) ymuno yn y triathlon i’w gefnogi.
Fe ddechreuodd y daith fore Sul 16eg o Hydref. Roedd y tywydd yn berffaith a’r hogia yn teimlo’n gyffrous. Fe gwblhawyd y triathlon gan yr hogiau gyda dathliad o swper yn nhafarn yr Ysgethin yng nghwmni ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd.
Fe lwyddodd y tri i gasglu swm o £1385.51. Dymunwn longyfarch yr hogiau yn gynnes iawn. Dyma stori i godi calon pawb. Da iawn chi!
Bu disgyblion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy yn brysur iawn y tymor hwn. Trefnwyd bore coffi er budd elusen
Macmillan ym mis Medi gan y Cyngor Ysgol ac fe godwyd £762 at yr achos. Roedd yn fore prysur iawn a braf oedd gweld cymaint o bobl yn cefnogi’r fenter. Mae’r disgyblion hefyd wedi trefnu casgliad ar gyfer banc bwyd y Bermo, gyda nifer sylweddol o eitemau bwyd yn cael eu cyfrannu gan y teuluoedd.
RHIF 525 - TACHWEDD 2022GOLYGYDDION
1. Phil Mostert
Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
2. Anwen Roberts
Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com
3. Haf Meredydd
Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com
01766 780541, 07483 857716
SWYDDOGION
Cadeirydd
Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion
Ann Lewis 01341 241297
Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Trysorydd
Iolyn Jones 01341 241391
Tyddyn y Llidiart, Llanbedr
Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com
Côd Sortio: 40-37-13
Rhif y Cyfrif: 61074229
Ysgrifennydd
Iwan Morus Lewis 01341 241297
Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com
CASGLWYR NEWYDDION
LLEOL
Y Bermo
Grace Williams 01341 280788
Dyffryn Ardudwy
Gwennie Roberts 01341 247408
Mai Roberts 01341 242744
Susan Groom 01341 247487
Llanbedr
Jennifer Greenwood 01341 241517
Susanne Davies 01341 241523
Llanfair a Llandanwg
Hefina Griffith 01766 780759
Bet Roberts 01766 780344
Harlech
Edwina Evans 01766 780789
Ceri Griffith 07748 692170
Carol O’Neill 01766 780189
Talsarnau
Gwenda Griffiths 01766 771238
Anwen Roberts 01766 772960
Gosodir y rhifyn nesaf ar Rhagfyr
2 a bydd ar werth ar Rhagfyr 7. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Tachwedd 28 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn.
‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
ddim yn chwarae ar ei ffôn trwy’r adegheb enwi neb!
Lle sydd orau gennych?
Edrych allan am y môr ar y balconi ym
Mhortiwgal (Albufeira) gyda miwsig
Cymraeg yn y cefndir a photel o win gwyn yn y gwydr.
Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau?
Pan es i weld Cwpan y Byd [rygbi] yn
Seland Newydd yn 2011.
Beth sy’n eich gwylltio?
Dylanwad cyffuriau yn y gymdeithas.
Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind?
Ffyddlondeb, gonestrwydd ac un sydd
ddim yn jibio rownd.
Pwy yw eich arwr?
Fy nhad.
Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon?
Wyn Jones. Mae hi’n 97 oed ac mae’n dal i deithio’r byd
Beth yw eich bai mwyaf?
Cytuno i ateb holiaduron!
Beth yw eich syniad o hapusrwydd?
Enw: Iwan Rhys Aeron.
Gwaith: Tafarnwr y ‘Ship Aground’ yn Nhalsarnau.
Cefndir: Cefais fy magu ym Mlaenau Ffestiniog. Rydw i yn fab i Siôn a Christine Aeron ac yn frawd i Ceri a’r diweddar Dylan. Bûm yn aelod o Fand yr Oakeley am ugain mlynedd. Rydw i wedi gweithio yn chwareli Blaenau (a Bethesda) cyn cymryd gwaith fel Tafarnwr y Ship Aground ym mis Gorffennaf eleni.
Sut ydych chi’n cadw’n iach? Trwy fwyta bwyd iach wedi ei baratoi gan Betsan.
Beth ydych chi’n ei ddarllen?
Bob math o bethau ond invoices y Ship Aground yn bennaf y dyddiau hyn!
Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Game of Thrones, House of Dragons, Repair Shop ac unrhyw beth sydd yn ywneud ag adnewyddu ceir.
Ydych chi’n bwyta’n dda?
Ydw.
Hoff fwyd?
Chicken Kiev ydi fy hoff bryd. Rydw i’n eithaf hoff hefyd o ginio dydd Sul yn y Ship.
Hoff ddiod?
Nokota o fragdy Wild Horse yn Llandudno.
Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi?
Mi fyddai raid iddo fod yn rywun sydd
Gweld Wil Morgan yn prynu rownd yn y Ship.
Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000?
Talu bil trydan mis yma.
Eich hoff liw a pham?
Coch fel crys rygbi Cymru.
Eich hoff flodyn a pham?
Blodyn haul, ffefryn fy nhad.
Eich hoff gerddorion?
Meic Stevens, Dafydd Iwan a Fats Domino. Pa dalent hoffech chi ei chael?
Medru chwarae piano.
Eich hoff ddywediadau?
Happy days!
Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd?
Prysur iawn! Wedi colli ychydig o wallt a lot o bwysau.
Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed
Taith gerdded Llanbedr i Harlech, Dydd Sadwrn, 29 Hydref
Pleser ac anrhydedd oedd arwain pedair taith gerdded fer yn ystod mis Hydref, i ddathlu deng-mlwyddiant Llwybr
Arfordir Cymru. Mae’r llwybr cerdded unigryw hwn yn 870 milltir ar hyd yr arfordir, o Gas-gwent yn y de ddwyrain, i’r ffin efo Lloegr, yn agos i Gaer ac yn denu miloedd o ymwelwyr i’r arfordir i fwynhau nid yn unig y cerdded, ond ystod eang o dirwedd, byd natur a diwylliant, gan gynnwys dros ddeugain o draethau Baner Las byd enwog.
Cynhaliwyd y tair taith gyntaf yng
Nghaerfyrddin, Bangor, a Chasnewydd a chafwyd oddeutu 25 o gerddwyr ar y tair. Bu’r cerddwyr, a gofrestrodd yn rhad ac am ddim, yn cerdded ar hyd y llwybr arfordirol ac yn gwrando ar siaradwyr ac arbenigwyr gwadd a mwynhau ymweliadau arbennig.
Y daith gerdded olaf i’w threfnu genna’i oedd rhwng Llanbedr a Harlech. Er gwaetha’r tywydd cymylog a gwyntog, roedd hi’n galonogol gweld deunaw o gerddwyr, o bob oedran, yn ymuno â fi, Rhys Gwyn Roberts o Gyngor Gwynedd a dwy ‘ddylanwad wraig’ cyfryngau cymdeithasol, Carys Rees (@this. girlwalks) a Stacey Taylor (@wales_on_ my_doorstep)
Ar ôl cael ein cludo o Harlech, bu’r tywydd yn gymharol garedig i’r cerddwyr, wrth i Rhys Gwyn Roberts arwain y cerdded ar hyd y llwybr ar lan yr afon Artro. Digon gwastad yw’r rhan yma o’r llwybr ond cyn bo hir, bu’n rhaid cerdded drwy gaeau gwlyb dros ben ac heibio ambell fuwch, cyn cyrraedd porthladd Pensarn ac aber yr afon Artro. Gwych oedd y golygfeydd be bynnag y tywydd er hynny, a phawb yn mwynhau’r cerdded, y cwmni a’r wybodaeth leol gan Rhys ac ambell un arall o’r cerddwyr. Eglwys Sant Tanwg oedd yr arhosiad cyntaf, dim ond tafliad carreg o’r traeth
a’r môr ac wedi ei hamgylchynu yn y twyni tywod. Bu’r grŵp yn lwcus dros ben i gael cyflwyniad gan Owain Pritchard o Esgobaeth Bangor ynglŷn â hanes yr eglwys a’i gwreiddiau a chysylltiadau Celtaidd, cyn parhau’r cerdded ar hyd y llwybr.
Traeth Harlech yw un o draethau mwyaf arbennig Cymru ac mi roedd hi’n bleser ac yn brofiad pleserus cerdded ar hyd y traeth am beth amser (er cofiwch gadw llygad ar amseroedd y llanw!), gyda phawb yn gwenu, yn sgwrsio, yn tynnu lluniau ac yn wir yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored ac ar y llwybr. Fel rhan o’r teithiau cerdded, mi es ati i drefnu nid yn unig siaradwyr a chyfraniadau gwadd, ond ymweliadau â busnesau neu atyniadau lleol a Chymreig. Felly, ar ôl cerdded, yn araf, i fyny stryd fwyaf serth y byd (er efallai mai yn yr ail safle mae Ffordd Pen Llech yn Harlech erbyn hyn!), fe gawsom groeso gwych gan Jean ac Eddie yn Yr Hen Farchnad Gaws ar sgwâr y castell, a sgwrs am hanes
ARHOLIADAU GORSEDD CYMRU
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Lŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf, beth am fynd ati dros
fisoedd y gaeaf i baratoi ar gyfer sefyll arholiadau’r Orsedd, a thrwy hynny ddod yn aelod o’r Orsedd a chymryd rhan yn ei seremonïau a’i gorymdeithiau lliwgar?
Cynhelir yr arholiadau ysgrifenedig ar y Sadwrn olaf yn Ebrill a gallwch ddewis o blith nifer o feysydd cyfoes i arbenigo ynddynt: Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Cerdd Dant, Iaith,
Rhyddiaith, ynghyd ag arholiad arbennig i Delynorion. Mae rhai agweddau ar yr arholiadau Cerddoriaeth a Cherdd Dant yn rhai ymarferol y gellir eu cwblhau ar fideo a/neu yn electronig. Os hoffech fwy o fanylion am yr arholiadau a’r gwahanol feysydd astudio, cysylltwch â mi cyn gynted â phosib yn: Llys Cerdd, 80 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL (e-bost: wgwyn.lewis@btinternet. com), ac fe anfonaf gopi o lyfryn y Maes Astudiaeth ar gyfer 2023-24-25 atoch.
Beth am roi cynnig arni, felly, er mwyn i chi gael bod yn rhan o seremonïau Gorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddaw i Foduan y flwyddyn nesaf?
Yr eiddoch yn gywir
Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon) Trefnydd Arholiadau
y siop, y cynnyrch Cymreig a bwydydd o Gymru, yn ogystal â chyfle i flasu’r caws ac i brynu. Diolch o galon i’r ddau. Yn ogystal â’r cerdded wrth gwrs, i ddathlu’r deng-mlwyddiant, fe gomisiynwyd deg darn o waith celf a deg darn o farddoniaeth gan feirdd ag artistiaid lleol, ac yng Nghastell Harlech felly, bu cyfle i’r grŵp o gerddwyr
fwynhau lansiad gwaith celf gan Liz Neal a darn o farddoniaeth gan Haf Llewelyn, a phanad a bara brith!
Diolch o galon eto i bawb am wneud yr ymdrech i ddod ar y daith gerdded, er gwaetha’r cymylau; diolch i’r siaradwyr a’r cyfranwyr a diolch arbennig i Rhys Gwyn Roberts am ei frwdfrydedd a’i amser ac am ei barodrwydd i ateb y cwestiynau nad oeddwn i yn medru eu hateb!
Os am awr neu ddwy neu dros benwythnos, ewch ati i ddarganfod Llwybr Arfordir Cymru a phen-blwydd hapus iawn iddi!
Chris ‘tywydd’ Jones ar ran Llwybr
Arfordir Cymru
Colli Stephen Stephens
A NANTCOL
Grŵp Llanbedr-Huchenfeld
SWPER A CHWIS
Nos Wener, Tachwedd 18
Neuadd Gymdeithasol Llanbedr
7.00 y.h.
Tocynnau £15
Ar gael gan Helen Johns Llanbedr 01341 241617
Capel y Ddôl
Trist yw adrodd am farwolaeth Stephen Stephens oedd yn byw yng Nghanada ers 1955. Ef oedd yr ieuengaf o bedwar o blant i Griffith Stephens a Sarah Grace, Maesygarnedd, Cwm Nantcol gynt. Ar yr 28ain o Fedi eleni bu iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed, ac er mwyn cael dathlu’r pen-blwydd arbennig gyda’u hewythr, aeth Rhian a Iola Jones Rhosfawr drosodd i Ganada. Maent yn ddwy ferch i Dorothy (Maesygarnedd gynt) ac Ieuan Jones a bu’r teulu’n byw yn Alltgoch, Llanbedr yn ystod plentyndod cynnar y merched.
Yn y llun yn y cefn o’r chwith i’r dde mae Rhian, Iola a Debi (merch Stephen) ac ar y blaen gyda Stephen mae ei wyres Kelsey. Cydymdeimlwn yn fawr gyda’r teulu oll.
Byddaf yn agor yr Hen Ysgol, Cwm Nantcol fel siop ar:
Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 19 a 20 Tachwedd
11.00 – 5:30
Cyfle i weld fy nghynnyrch newydd, a gwneud ychydig o siopa Nadolig Oherwydd nad oes cyfleusterau Wi-Fi na signal ffôn ar y safle ni fydd yn bosib derbyn taliadau cerdyn ar y diwrnod.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â mi os gwelwch yn dda: marilloydphotos@gmail.com
Cynhaliwyd Cyfarfod Diolchgarwch ar ddydd Sul, 23 Hydref pan ddaeth nifer dda ynghyd. Cafwyd pregeth bwrpasol gan y Parch Huw Dylan Jones o Langwm. Diolchwyd i bawb a fu’n gwasanaethu mewn amrywiol ffyrdd i gario’r Achos teilwng ymlaen ac am eu ffyddlondeb ar hyd y flwyddyn. Hefyd diolchwyd yn gynnes iawn i bawb o’r aelodau am eu haelioni a’u parodrwydd i gyfrannu nwyddau i’r banc bwyd yn y Bermo.
Byddaf hefyd yn bresennol yn y ffeiriau a ganlyn eleni: Ysgol y Moelwyn - 16 Tachwedd, 4:30 – 6:30
Nant Gwrtheyrn - 26 Tachwedd
Clwb Rygbi Dolgellau - 27 Tachwedd, 11.00 - 4.00
Chwarel Llanfair ‘Nadolig dan ddaear’ – 3 Rhagfyr, 11.00 - 3.00
Cei Llechi Caernarfon – 10 Rhagfyr, 10.00 - 4.00
Babi newydd yng Nghwm Nantcol
Daeth Hana Ifan i’r byd ar y 29ain o fis Medi, merch i Rwth a Thrystan Powl-Jones, a chwaer fach i Ned, Nansi, Jeni ac Enya, Beudy’r Ddôl, wyres i Moira ac Alun, Cilcychwyn, a gor-wyres i Gweneira Jones.
Cyhoeddiadau’r Sul
Capel y Ddôl am 2.00
TACHWEDD
20 Parch Huw Dylan Jones
27 Br Elfed Lewis
RHAGFYR
4 Glenys Jones
Cylch Meithrin Llanbedr
Bu’r plant yn cofio’r Frenhines trwy wahanol weithgareddau – creu coron a cherdyn a chael taith i’r pentref i brynu stamp. Hefyd astudiwyd peth Hanes Du a bu’r plant yn dysgu am arlliwiau croen. Mwynhawyd chwarae yn yr awyr agored yn y parc, gan wneud yn fawr o’r tywydd braf i gasglu arwyddion yr hydref a’r torreth o fwyar duon yn y perthi. Rhaid oedd wedyn coginio bisgedi, sgons a chrymbl mwyar duon ac afal, gan adael gwên biws inni i gyd ar ôl llenwi ein boliau! Trefnwyd parti Calan Gaeaf ddiwedd y mis yn y Neuadd.
Babi newydd yn ein geffeilldref
Huchenfeld
Mi groesawodd Sabine Wagner ei hail ferch Sophia i’r teulu ar 5 Hydref.
Roedd Sabine yn Faeres Huchenfeld tan y llynedd ac yn ffan frwdfrydig o’r bartneriaeth. Ymwelodd â Llanbedr
sawl gwaith yn y gorffennol. Mae gan
Huchenfeld faeres newydd rŵan o’r enw Julia Wieland. Mae hi hefyd yn
gefnogwr brwd i’r bartneriaeth rhwng ein dwy gymuned.
Teulu Artro
Cyfarfu aelodau o Deulu Artro am y tro cyntaf ers amser hir oherwydd y cyfnod clo. Mi gawson nhw de p’nawn blasus iawn yng Ngwesty Tŷ Mawr.
Sul y Cofio yn Llanbedr
Bydd gwasanaethau Sul y Cofio yn Llanbedr ar 13 Tachwedd yn dilyn y drefn arferol gyda gwasanaeth yn yr eglwys i ddechrau gyda’r ATC yn ymgynnull ym maes parcio’r Vic wedyn yn barod i gerdded i fyny at y gofgolofn tua 10:40.
Bydd y gwasanaeth wrth y gofgolofn yn cychwyn ar ôl i’r ATC gyrraedd y gofgolofn. Bydd y ffordd rhwng y Vic a’r gofgolofn a’r ffordd o Stad y Wenallt i’r pentref ar gau rhwng 10.30 ac 11.10.
LLANFAIR A LLANDANWG
Marwolaeth
Bu farw Mrs Margaret Williams, Trem Artro, Llanfair yn 85 oed ym
Mryn Seiont, Caernarfon ar 6 Hydref.
Roedd yn wraig i’r diweddar Alun
Lloyd Williams ac yn fam i Catherine
a’i gŵr Trebor, David a’i wraig Jenny
a Karen a’i gŵr Richard ac yn nain
i Arwel. Cynhaliwyd gwasanaeth
yn Eglwys Llanfair ar Hydref 24. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth.
Merched y Wawr, Harlech a Llanfair
Braf oedd cael croesawu cangen
Nantcol atom. Y Parch Iwan Ll Jones
oedd y gŵr gwadd. Cafwyd hanesion
ganddo am sut y daeth i wybod am
Agnes a Thomas Arthur Jones pan yn
blentyn a’r cysylltiadau fu rhyngddo ac aelodau o’r teulu trwy ei oes.
Bellach, ac yntau yn weinidog yng
Nghricieth, mae gor-ŵyr y ddiweddar
Agnes Arthur Jones yn un o blant yr Ysgol Sul yno. Cawsom noson ddifyr dros ben. Diolchwyd iddo gan Eirlys a Beti Millar ar ran Cangen Nantcol. Roedd y baned yng ngofal Edwina, Carys ac Ann. Bu i Carys a Pat (Nantcol) ennill y ddwy wobr raffl. Ym mis Rhagfyr bydd Edwina yn
dangos i ni sut i wneud addurn
bwrdd ar gyfer y Nadolig. Croeso i aelodau newydd - 6 Rhagfyr, am 7.00 yn Neuadd Goffa Llanfair.
Plygain Llanfair
Mae’n bleser nodi y bydd
Cyfeillion Ellis Wynne, y
Lasynys Fawr, yn cynnal
Plygain unwaith eto yn
Eglwys y Santes Fair, Llanfair, ar nos Fercher, 11
Ionawr 2023.
Cofiwch gysylltu gydag un o wirfoddolwyr y Lasynys
Fawr os oes gennych
ddiddordeb mewn canu efo
grŵp plygain y Lasynys.
Cofio bywyd Mari Teskey
11 Rhagfyr 1924 - 27 Medi 2022
Ar ddiwedd Medi eleni, bu farw Mari Teskey o Caversham, Reading (Mari John gynt, o Alltwen, Lanfair). Bu fyw Mari am 98 mlynedd. Fe’i ganed ar 11 Rhagfyr 1924, y drydedd hynaf o wyth brawd a chwaer, i’w rhieni, Margaret a’i thad Morris. Ei mam oedd yn gyfrifol am Swyddfa Bost Llanfair ac roedd Morris yn gweithio yn ‘signal box’ Pensarn sydd bellach yn adeilad rhestredig. Gydag wyth o blant i’w bwydo a’u dilladu, roedd y plant i gyd wedi hen arfer â gweld eu rhieni’n gweithio’n galed i ofalu amdanyn nhw. Roedd y teulu’n byw mewn tŷ bychan ym mhentref Llanfair, Alltwen, ac roedd Mari, fel y plant eraill, yn mynychu ysgol Llanfair. Doedd Mari ddim yn hoffi mynd i’r ysgol, ond roedd yn hoff iawn o ddawnsio. Yn 17 oed, ymunodd Mari â’r ATS, yr Auxilliary Territorial Service. Cangen y merched oedd hon o Fyddin Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe’i ffurfiwyd ar 9 Medi 1938, fel gwasanaeth gwirfoddoli i’r merched yn gyntaf, a bodolodd hyd 1 Chwefror 1949, pan ddaeth yn un â’r Women’s Royal Army Corps. Cafodd ei hanfon ledled y Deyrnas Unedig yn ystod ei chyfnod gyda’r ATS ac
roedd wrth ei bodd gyda’r rhyddid a’r anturiaethau a gafodd yn ystod y cyfnod cyffrous hwn o’i bywyd ifanc. Ond gogledd Cymru oedd gwir gartref Mari. Wedi i’r rhyfel ddod i ben, aeth Mari i weithio ar y bysys, lle’r oedd unwaith eto’n hynod boblogaidd efo’r teithwyr.
Priododd Mari â Cyril o Iwerddon a chafodd y ddau dri o blant, Mike, Chris a Margaret. Tyfodd y teulu ac roedd gan Mari bump o or-wyrion. Yn ei 70au, aeth am y tro cyntaf ar daith fws i’r Eidal gyda ffrind da iddi ac roedd wedi cael modd i fyw.
Hyd fis Awst eleni, byddai Mari’n dod i aros am wythnos yn Llandanwg efo’i mab – uchafbwynt ei blwyddyn a chyfle i gyfarfod ag aelodau o’r teulu sy’n byw yn yr ardal.
Yn ystod ei hangladd, chwaraewyd fersiwn Bryn Terfel o Hen Wlad fy Nhadau a chafwyd datganiad o Gwŷr Harlech gan Gôr Meibion Treorci ac Orffiws Treforus.
Cysgwch yn dawel, Mari.
Cydymdeimlwn â theulu a ffrindiau Mari Teskey yn eich colled.
Diolch a rhodd er cof am Mari £10
Blodau ar fedd Mari a roddwyd gan ei chwaer-yng-nghyfraith Mrs Beryl John o Lanfair.
Wedi cael triniaeth
Rydym yn anfon ein cofion annwyl at Mrs Bet Roberts, Ysgubor, Llandanwg, un o ffyddloniaid y papur hwn, sydd wedi cael triniaeth yn ysbyty Gobowen yn ddiweddar. Dymunwn y gorau iddi am wellhad buan ac edrychwn ymlaen i’w gweld o gwmpas yr ardal cyn bo hir.
Gwasanaeth Sul y Cofio
Tachwedd 13 am 11.00 y bore
yn y Neuadd Goffa Llanfair
Merched y Wawr
Harlech a Llanfair
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Croesawyd Donna Marie Morris-Collins, Rheolwr Hamdden Harlech ac Ardudwy i’r cyfarfod. Mae’r pwll wedi ailagor ers mis Awst. Caiff cyrsiau achub bywyd eu cynnal a bydd pobl leol yn mynychu’r rhain. Mae gwersi nofio i ysgolion wedi ailgychwyn. Mae’r mwyafrif o’r lleoedd ar y gweithgareddau eraill yn llawn yn barod.
Y gost fwyaf fydd prynu rholiwr a gorchudd newydd i’w rhoi dros y pwll. Gwneir cais am noddwyr i godi arian i archebu’r rhain. Wrth gael gorchudd dros y pwll byddai hyn yn arbed tua 30-40% ar y costau gwresogi. Hefyd, maent yn gweithio’n agos iawn hefo Ysgol Ardudwy. Diolchwyd iddi am ddod atom. Hefyd nodwyd y bydd taliad olaf y cynllun presept yn cael ei dalu y mis hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4,282.19 – hanner y cynnig presept
GOHEBIAETH
Ar nos Fawrth, 1 Tachwedd, daeth Mirain Gwyn, Taldraeth, Penrhyndeudraeth, i sgwrsio â ni ynghyd â’i dwy ferch fach, Anest ac Alys.
Mae gan Mirain fusnes llwyddiannus yn eu cartref, Taldraeth, ar lan afon Dwyryd, sy’n llety o safon 5-seren, ynghyd â chwmni cynhyrchu bwydydd rhagorol, o jamiau i siytni a wnaed gyda chynnyrch yr ardd, o gacenni a phwdinau Nadolig i dorchau hyfryd a lliwgar wedi eu llunio o flodau a llwyni gardd Taldraeth, fel y trilliw-ar-ddeg a chelyn.
Adeiladwyd Taldraeth yn 1858, yr un pryd ag Eglwys y Drindod, Penrhyn.
Ariannwyd y ddau adeilad gan Louisa
Jane Oakeley, gweddw William
Gruffydd Oakeley. Cartref y teulu yma
oedd Plas Tan y Bwlch, Maentwrog ac roedden nhw’n berchen ar sawl
chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog.
Credir mae Thomas M Penson oedd pensaer Taldraeth. Yn rhan o’r tŷ mae
gwaith cerrig ardderchog ac mae logo
cyfredol Taldraeth wedi ei ysbrydoli
gan batrymau yn y garreg y tu mewn a’r tu allan i’r tŷ.
Wedi ei ddefnyddio fel Ficerdy’r
Eglwys felly hyd at 2013, prynwyd y
tŷ gan Mirain a Geraint a’i ail-enwi yn
Taldraeth. Bu’r ddau’n hynod o ofalus
wrth warchod nodweddion gwreiddiol y tŷ a’r ardd wrth eu hadfer. Yn yr
ardd mae gardd furiog Fictoraidd.
Adroddodd Mirain hanes prynu ac
adfer y tŷ ac mae’n amlwg eu bod wedi
treulio cryn amser yn sicrhau ei fod yn
lle hyfryd i ddenu ymwelwyr.
Diolchwyd iddi gan Bronwen, a dymunwyd yn dda i’w busnes a’i syniadau newydd yn y dyfodol.
Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol
Bydd y ffordd gyferbyn â Bron y Garth, Llanbedr, hyd at Hen Bandy, Llanbedr, ar gau ar 24 Hydref er mwyn i BT gael adnewyddu polyn diffygiol, hefyd gwaith ar geblau ar hyd y ffordd.
Mr David Young - Snowdonia Aerospace
Derbyniwyd nodyn yn awgrymu y byddai’n syniad da cynnal cyfarfod gyda Chynghorau Cymuned yr ardal er mwyn cael rhoi cyflwyniad byr o beth sydd yn digwydd ym maes awyr Llanbedr. Awgrymwyd y byddai cynnal cyfarfod yn y maes awyr ddechrau’r flwyddyn nesaf yn fuddiol.
Network Rail
Holwyd a fuasai gosod offer ‘byrddau chwibanu’ ger groesfan clogwyni Harlech yn syniad da oherwydd bod damweiniau bron â digwydd yna eleni gyda phobl yn croesi’r groesfan a thrên yn agos. A yw aelodau’r Cyngor Cymuned yn ystyried y byddai gosod y rhain yn gwneud gwahaniaeth?
Hefyd, bydd raid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunwyd ei fod yn syniad da i’r gwaith yma gael ei wneud.
Cafwyd noson wych iawn yn y Gymdeithas ar nos Fawrth, 1 Tachwedd pan ddaeth Meibion Jacob o ardal Penllyn i’n diddori. Ymatebodd y gynulleidfa fawr yn wresog iddyn nhw.
Cawsom amrywiaeth o ganu safonol yn cynnwys canu emynau, canu clasurol, cerdd dant a chaneuon modern o waith Tudur Huws Jones a Robat Arwyn. Roedd y tri thenor, Arfon Williams, Arfon Griffiths a Steffan Prys Roberts ar eu gorau.
Roedd yn gyngerdd campus a chofiadwy. Cafwyd cyfraniad gwiw a chlodwiw hefyd gan eu cyfeilydd medrus, Gwerfyl Williams.
Ar 15 Tachwedd, Haf Llewelyn fydd yn ein diddori. Croeso cynnes i bawb ymuno â ni yn Neuadd Gymdeithasol Llanbedr am 7.30. Dymunwn ddiolch i ‘Noson Allan Fach’ am noddi’r adloniant.
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
Festri Lawen
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Gymdeithas ar nos Iau, Tachwedd
10 yn Festri Horeb am 7.30 yng
nghwmni Dwyryd a Bethan Williams a fydd yn cyflwyno hanes eu hymweliad â Phatagonia. Byddwn yn cyfarfod ar yr ail nos Iau o’r mis fel arfer a chynhelir ein Cinio Nadolig ar Rhagfyr 8. Cewch ragor o fanylion yng nghyfarfod mis Tachwedd.
Croeso mawr i bawb a dyma gyfle inni ddod at ein gilydd unwaith yn rhagor. Dewch i gefnogi.
Newydd ddyfodiad
Llongyfarchiadau i Aled a Glesni Shenton, Bryn Celyn, Glan Ysgethin, Tal-y-bont ar enedigaeth eu merch fach Gwawr Enlli Shenton ar Hydref 3, chwaer fach i Manon Fflur. Llongyfarchiadau i’r teulu i gyd.
Cofion
Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Einir Jones, Penrhiw a dderbyniodd lawdrinaieth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Rydym yn falch o glywed ei bod adre ac yn gwella.
Treialon Cŵn Defaid Ardudwy ac Egryn 18/8/22
Treialon Elusennol
Anfonwyd £100 i Ysbyty Alder Hey a’r Ambiwlans Awyr. Roedd 31 ci yn rhedeg.
Beirniad: Arfon Pugh, Harlech AGORED
1. Dewi Jenkins, Tal-y-bont, Aberystwyth, BOB
2. Dewi Jenkins, Tal-y-bont, Aberystwyth, JOCK
3. Medwyn Evans, Dolgellau,NAN
4. Dylan Davies, Tywyn, SAM
5. Dewi Jenkins, Talybont, Aberystwyth, MEG
6. Ceri Rundel, Bodfari, BRECCA AIL DDOSBARTH
1. Medwyn Evans, Dolgellau, SIÂN
2. Iolo Jones, Corwen, BUD
3. Idris Thomas, Dolgellau, BEN
4. Dylan Davies, Tywyn, BEN
PRYNHAWN: - 52 ci yn rhedeg; Beirniad: Iolo Jones, Corwen AGORED
1. Elgan Jarman, Llanbrynmair, PEG
2. Dewi Jenkins, Talybont, Aberystwyth, JOCK
3. Aled Owen, Llangwm, BUD
4. Dylan Davies, Tywyn, BEN
5. Kirsten Schwarze, Llansannan, LUFT
6 Jack Hull, Y Bala, JIM
AIL DDOSBARTH
1. Elgan Jarman, Llanbrynmair, PEG
2. Trystan Powel-Jones, Llanbedr, ANIA
3. Gwynfor Evans, Tal-y-bont, GYP
4. Dylan Davies, Tywyn, BEN 10 BUGAIL IFANC: 1. Elgan Jarman, PEG
Treialon cŵn defaid yn Sarnfaen AGORED (Meirionnydd)
1af Dylan Davies a SAM
2il Trystan Powel Jones ac ANIA
3ydd Dylan Davies a BEN
4ydd Stephen Williams a LAD
2il DDOSBARTH (Meirionnydd)
1af Gwynfor Evans a GYP
2il Gwynfor Evans a QUEEN
3ydd Osian Jones a NEL
Cafwyd munud o dawelwch i gofio am Ken Owen, Tyddyn Mawr a Norman Davies, Ysbyty Ifan. Rhodd o £10 gan Jean Jones, Sarnfaen
Trefnwyr Angladdau
Cofio
Can mlynedd yn ôl, ar Dachwedd 1af, ganwyd dwy ferch fach yn Nyffryn Ardudwy a fu’n ffrindiau oes, sef Jane Morris Jones, Berwyn a Beti Parry, Uwch y Nant. Bu i Jane ein gadael yn Ionawr 2018 a bu inni golli Mam yn Nhachwedd 2019, ychydig ar ôl iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 97. Byddwn yn dathlu ei bywyd yn ddiolchgar gyda’n gilydd ac yn ymfalchio ein bod wedi cael ei chwmni difyr cyhyd.
Diolch - Mai, Rhian, Iona a’r teulu
• Gofal Personol 24 awr
• Capel Gorffwys
• Cynlluniau Angladd Rhagdaledig
Heol Dulyn, Tremadog.
Ffôn: 01766 512091
post@pritchardgriffiths.co.uk
Diolchgarwch
Dydd Sul, 9 Hydref, cynhaliwyd
Gwasanaeth Diolchgarwch yn
Horeb. Trefnwyd y gwasanaeth gan
Meryl a Mai gyda phlant yr Ysgol
Sul a’r oedolion yn cymryd rhan, a chafwyd gwasanaeth arbennig iawn.
Casglwyd nwyddau i’w hanfon i’r
Banc Bwyd yn y Bermo.
Ar ddiwedd y gwasanaeth diolchodd
Edward Owen i Meryl a Mai am drefnu’r gwasanaeth ac i bawb a gymrodd ran ac yna cyflwynodd dusw o flodau i Mai a Rhian
Roberts fel ein gwerthfawrogiad o’u gwasanaeth i’r Ysgol Sul am dros ugain mlynedd.
Clwb Cinio
Ddydd Mercher, 12 Hydref, cyfarfu’r Clwb Cinio am y tro cyntaf ers y pandemig yn y Grapes, Maentwrog. Cafwyd bwyd ardderchog a sgyrsiau difyr iawn.
Clwb Gwau
Cychwynnodd y Clwb Gwau am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig ar ddydd Mawrth, 11 Hydref. Ar hyn o bryd rydym yn gwau cardigans a siwmperi ar gyfer babanod i Rhian Davenport eu gwerthu er budd yr
Ambiwlans Awyr. Croeso i unrhyw un ymuno â ni i wau neu am sgwrs a phaned. Cychwyn am 2 o’r gloch yn Festri Horeb ar ddydd Mawrth.
NOSON GAROLAU
Neuadd y Pentref, Dyffryn ARDUDWY
Nos Fawrth, Rhagfyr 13 am 7.00
gyda Cana-mi-gei a Chôr Meibion Ardudwy Cadwch y dyddiad yn rhydd!
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Croesawyd Donna Marie MorrisCollins, Rheolwr Hamdden Harlech ac Ardudwy i’r cyfarfod. Mae’r pwll wedi ailagor ers mis Awst. Caiff cyrsiau achub bywyd eu cynnal a bydd pobl leol yn mynychu’r rhain. Mae gwersi nofio i ysgolion wedi ailgychwyn. Mae’r mwyafrif o’r lleoedd ar y gweithgareddau eraill yn llawn yn barod. Y gost fwyaf fydd prynu rholiwr a gorchudd newydd i’w rhoi dros y pwll. Gwneir cais am noddwyr i godi arian i archebu’r rhain. Wrth gael gorchudd dros y pwll byddai hyn yn arbed tua 30-40% ar y costau gwresogi. Hefyd, maent yn gweithio’n agos iawn hefo Ysgol Ardudwy.
CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Christian Bowater am ofalu bod y fflagiau ger y Gofeb yn chwifio ar hanner mast adeg marwolaeth y Frenhines Elizabeth II. Hefyd, datganwyd bod Mr Bowater wedi gofyn am ganiatâd i chwifio baner Owain Glyndŵr ar 16 Medi, 2023 sef Diwrnod Owain Glyndŵr a rhoddwyd caniatâd i hyn gael ei wneud.
Datganodd y Cadeirydd bod ganddi hi a’r Is-gadeirydd gyfeiriad e-bost newydd sef cyngor dyffryntalybont@ gmail.com.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ffurfio teras a grisiau, symud
parwydydd i ffurfio cegin, newid ffenestri cegin, newid nenfydau estyllod yn blaster. Ffenestr lobi newydd, drws mynediad ffrynt newydd a sgriniau ochr. Adnewyddu lloriau gwaelod i gynnwys pibellau gwresogi ac inswleiddio, cypyrddau yn y stydi, newid i ddrws astudio, tynnu rheiddiaduron ar y llawr
gwaelod, gosod dwy ystafell ymolchi en-suite gyda leinin a phibellau ar y llawr cyntaf. Ffurfio ystafell wisgo ac ystafell offer, ffurfio cwpwrdd silindr, uwchraddio drws y grisiau i atal tân, bondo tân i’r grisiau, gosod ystafell gawod ar lawr yr atig, nenfwd ac inswleiddio i ychwanegu ffenestri to i’r adain ddwyreiniol, gosod paneli ffotofoltäig, system wresogi pwmp gwres o’r ddaear, gwelliannau i’r system ddraenio ac ailosod llechi ar y to - Taltreuddyn Fawr, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Ffurfio teras a grisiau, gosod ffenestri to yn yr adain ddwyreiniol, gosod paneli ffotofoltäig, a gosod pwmp gwres o’r ddaear - Taltreuddyn Fawr, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn.
Adeiladu estyniad ochr - Tŷ Gwyn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Ceisiadau am gymorth ariannol
Ambiwlans Awyr Cymru - £500
Pwyllgor Neuadd Bentref - £3.000
Hamdden Harlech ac Ardudwy£5,531.85 – hanner y cynnig presept
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb
TACHWEDD
13 Iola a Glesni – 10.00
20 Parch Huw Dylan Jones – 5.30
27 Anwen Williams – 10.00
RHAGFYR
4 Canu Carolau – 10.00
LLIWIAU’R HYDREF
Mae cysylltiad teulu’r Lloyd â Thŷ Newydd, Dyffryn Ardudwy, yn mynd yn ôl 70 mlynedd.
Preswylwyr a pherchnogion
presennol yr eiddo yw Guy a Margaret Lloyd; bu’n gartref iddynt ers 2002. Cefndir garddwriaethol a botanegol sydd gan Guy ac nid syndod felly fod yr ardd wedi gweld
llawer o ddatblygiad yn ystod yr
ugain mlynedd ddiwethaf. Mae’r tir o gylch yr eiddo yn ymestyn
rhyw ddwy erw ac ar wahân i un cae bach, mae’r gweddill wedi ei neilltuo
i’r ardd addurniadol, lawntiau
planigion a choed, ynghyd â rhannau ar gyfer tyfu llysiau a ffrwythau.
Mae’r amrywiaeth o rywogaethau yn drawiadol ac hyd at ychydig
flynyddoedd yn ol, roedd yr ardd ar restr y Gymdeithas Arddwriaethol
Frenhinol o erddi i ymweld â nhw. Un o nodweddion yr ardd yw’r coed, nifer nad sydd yn frodorol
i’r wlad hyn. Yn nhymor yr hydref
daw’r coed yma â lliwiau fforestydd, megis rhai Gogledd America, i Fro
Ardudwy. Mae’r lluniau yn dangos
pedair enghraifft sef Acer rubrum (teulu’r fasarnen), Liquidamber
styraciflua, Nyssa sylvatica a Sorbus ulleungensis. Rwy’n ddyledus i Guy am y lluniau a’r termau botanegol wrth gwrs! RO
Goffa
Y BERMO A LLANABER
Cymdeithas Gymraeg y Bermo
Ar nos Fercher, Hydref 5, daeth criw ynghyd i wledda a chymdeithasu unwaith eto yng Ngwesty Min y Môr, Bermo. Awgrymwyd rhaglen ar gyfer 2022/2023. Byddwn yn cyfarfod ar y dydd Mercher cyntaf yn y mis. Y dyddiad nesaf fydd 9 Tachwedd yng nghwmni Mair Tomos Ifans yn y Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig am 7.30. Croeso mawr i chwi ymuno â ni a chael pleser wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn y Bermo.
Capel Siloam
Gyda thristwch cyhoeddaf fod Achos yr Annibynwyr yn y Bermo wedi dod i ben. Diolch i’n rhagflaenwyr, dechreuwyd yr Achos yn ardal Cwm Sylfaen a Chaerdeon ac roeddent yn cyfarfod mewn ffermdai megis Tyncoed, Tynllwyn a Maesafallon. Yn 1770, cofrestrwyd cegin Maesafallen i gynnal gwasanaeth unwaith y mis ac yn 1806 adeiladwyd capel y Cutiau, uwchben Melin Glandwr. Yn 1828, adeiladwyd addoldy cyntaf yr Annibynwyr yn y Bermo, sef Siloam yn Heol y Dŵr (tu cefn i gyn-westy Cors y Gedol).
Adeiladwyd Capel Siloam newydd ar Ffordd y Traeth yn 1875 a’r gweinidog cyntaf oedd y Parchedig James Jones a oedd hefyd yn bugeilio Cutiau a Rehoboth, Dyffryn Ardudwy. Oherwydd y dirywiad cyffredinol yn ein heglwysi, penderfynwyd cau Capel Siloam yn 2002 a bu’r ffyddloniad yn ffodus iawn o gael cyd-addoli gydag aelodau Caersalem yn adeilad Christchurch. Roedd hwn yn gyfnod braf unwaith eto ond gydag aelodau’r ddwy eglwys yn lleihau, penderfyniad anorfod oedd terfynu’r Achos.
Cynhaliwyd gwasnaeth datgorffori Capel Siloam ar 2 Hydref 2022. Roedd y gwasanaeth dan ofal ein cyn weinidog, y Parchedig A Brian Evans, gyda chymorth John Williams a Raymond Owen. Wrth yr organ roedd Grace Williams a Llewela Edwards. Fel y cyfeiriais uchod, roedd yn benderfyniad trist ond pellgyrhaeddol hefyd gan mai dyma ddiwedd ar addoli yn y Gymraeg yn y dref. Cawsom y fraint a’r pleser o brofi cymdeithas felys o fewn y capel dros y blynyddoedd a diolch am hynny.
JW
Merched y Wawr y Bermo
Cynhaliwyd ein cyfarfod
prynhawn 18fed o Hydref yn Theatr y Ddraig Bermo.
Anfonwyd cofion at Megan sydd wedi cael triniaeth yn Ysbyty
Lerpwl. Ar ôl trafod materion y Mudiad, croesawodd ein Llywydd Llewela [dros dro] Geunor Roberts, Llanymawddwy, Islywydd Cenedlaethol MyW ac Olwen Jones, Dinas Mawddwy, Llywydd y Rhanbarth. Cawsom
brynhawn difyr iawn gyda Geunor
yn sôn am deulu ei thad a’i mam. Bydd y cyfarfod nesaf yng ngofal Morwena, Llywydd y Gangen am 2.00yp. Croeso cynnes i aelodau newydd.
Y GEGIN GEFN - Sgons Ffrwythau
Cynhwysion:
12 owns o flawd plaen 3 owns o fargarîn
3 owns o siwgr mân ¼ peint o laeth
3 owns o syltanas ½ llond llwy de o bowdwr codi.
Dull:
Rhowch y blawd, powdwr codi, syltanas, siwgr a’r margarîn mewn desgil, a rhwbiwch y margarîn i mewn.
Yna ychwanegwch y llaeth nes bydd y gymysgedd yn does.
Yna sbrinclo blawd ar y bwrdd a rholiwch y gymysgedd a’u torri gyda thorrwr cacen.
Brwsiwch top y sgons gyda llaeth, cyn eu rhoi yn y popty ar dymheredd o 180°c am tua chwarter awr.
Gweiniwch gyda menyn, hufen a jam os dymunwch.
Mwynhewch!
Rhian Mair
Merch y Cwm, Haf Llewelyn
Yn fardd galluog ac yn awdures adnabyddus, mae Haf Llewelyn wedi cael ei dewis i sgwennu cerdd i ddathlu pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn ddeg oed. Mae ei cherdd hi i’w gweld yng nghanolfan Castell Harlech.
Ym mis Hydref, rhoddodd Haf sgwrs yn Oriel Brondanw am ei gwaith ymchwil ar gyfer ei dwy nofel hanesyddol ‘Y Traeth’ a ‘Mab y Cychwr’. Mae’r nofelau wedi eu gosod yn ardal y Traeth Mawr a’r
Traeth Bach yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ac yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol gan gynnwys
teulu Syr John Wynn o Gastell Gwydir, ger Llanrwst.
Mi wnaeth sgwrs Haf ysgogi
trafodaeth fywiog iawn ymhlith y gynulleidfa am fywyd merched y cyfnod. Roedden nhw’n cael eu trin yn aml iawn fel eiddo i gael eu cyfnewid mewn priodas rhwng teuluoedd. Noson ddifyr iawn!
R J Williams Honda Garej
Talsarnau
Ffôn: 01766 770286
CRACIO’R CÔD - Rhif 18
Dyma’r pos cracio’r cod diweddaraf at fis Tachwedd. Mi gredaf fod y pos rhif 18 yn bur anodd, ond canolbwyntiwch i ddechrau ar y llythrennau posib i sgwariau llythyren 1 a sgwariau llythyren 2. Bydd hyn yn help ichi gael cychwyn arni. Gerallt
Llongyfarchiadau i Mrs Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Mary Jones, Dolgellau; Mai Jones, Llandecwyn; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll; Mair Rich, Pantymwyn, Yr Wyddgrug; Dotwen Jones, Cilgwri Wirral
Anfonwch eich atebion i’r Pôs Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].
Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk
BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI
Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant
Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil
Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant
PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317
60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
Os ydych yn dymuno cyflwyno cyfarchion Nadoligaidd eleni, a fuasech cystal â’u hanfon erbyn canol mis Tachwedd os gwelwch yn dda?
Cost: £10 y blwch [50mm x 50mm]
Llais Ardudwy
Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/
Ieuan Gwyllt eto
‘Na wn i ddim wir, Mr Roberts bach,’ meddai’r gŵr yn ddigon geirwir. ‘Wel, yr ydych wedi fy herio eich bod yn well pregethwr, yn well cerddor ac yn well paffiwr na mi. Fe benderfynwn ni hynny yn awr, ac fe ddechreuwn gyda’r olaf.’
Ar ôl cyfnod gweddol fyr yn weinidog yn y Pant Tywyll, Merthyr Tydfil, sefydlodd Ieuan Gwyllt [neu John Roberts (1822–1877) a rhoi iddo ei enw bedydd] yn weinidog ar y Capel Coch yn Llanberis ym 1865. Dyma adeg hapus a phrysur yn ei fywyd ac ym mywyd ei wraig, Jane Richards o Aberystwyth. Roedd hi yn adeg ffyniannus ar y capeli hefyd ac roedd y Capel Coch yn prysur fynd yn rhy fychan ar gyfer y gynulleidfa. Oherwydd hyn, codwyd ail gapel sef Gorffwysfa ym 1867 ac roedd gofal yr achos newydd ar Ieuan Gwyllt hefyd.
Cerddoriaeth, a cherddoriaeth y cysegr yn arbennig, oedd un o brif ofalon Ieuan Gwyllt a threuliodd lawer o’i amser yn dysgu ac yn cyhoeddi emyn-donau i godi safon y canu yn y capeli. Ond roedd yn weinidog llawn-amser hefyd yn pregethu a chynnal dosbarthiadau darllen ac ati mewn oes pan oedd addysg ffurfiol i blant yn ddiarhebol o sâl ac mewn iaith estron. Roedd cyfarfodydd dirwest yn cael sylw mawr ganddo; y sôn yw bod hoffter ei dad tuag o’r ddiod gadarn wedi tlodi llawer ar y cartref yn ystod ei blentyndod.
I ni yn yr oes hon, mae sŵm llafur capeli’r oes yn anhygoel ei faint. Yn ei gofiant taclus i Ieuan Gwyllt, mae T J Davies yn rhestru rhaglen yr eglwys yng Nghapel Gorffwysfa tua diwedd y 1860au.
Dydd Sul 7.00 Cyfarfod Gweddi
10.00 Pregeth
1.00 Cyfarfod Holi’r Plant
2.00 Ysgol Sul
5.00 Cyfarfod Canu
6.00 Pregeth gyda
Chyfarfod Canu neu Gyfarfod
Eglwysig yn dilyn.
Nos Lun Cyfarfod Gweddi
Nos Fawrth Y Gobeithlu
Nos Fercher Cyfarfod Eglwysig
Nos Iau Cyfarfod Darllen.
Ac ar ben hyn oll roedd gan y gweinidog y Capel Coch hefyd dan ei ofal!
Tystiolaeth y rhai fu yn blant a phobol ifanc dan ei ofal oedd ei fod yn ddyn oedd o ddifri gyda phob peth – dim ysgafnder na thynnu coes. Er hynny, mae yna ambell i hanes lled ysgafn amdano.
Yn hanes Capel Gorffwysfa, Llanberis mae yna sôn am ŵr o’r pentref nad oedd yn mynychu’r capel ond a fyddai yn ddifeth yn treulio nos Sadwrn a nos Sul yn y dafarn. Un noson ac yntau wedi cael cratshiad go iawn ac ar ei ffordd adref, fe welodd olau yn ffenest tŷ’r Gweinidog. Yn gawr i gyd ar ôl y llyncu a fu, gwaeddodd nerth esgyrn ei ben, ‘Ieuan Gwyllt. Hy! Mi wyt ti’n meddwl dy fod yn llanc. Mi heria i di am y gora fel pregethwr, fel cerddor ac fel paffiwr.’ Nid agorodd Ieuan Gwyllt y drws na rhoi ateb iddo ar y pryd ond y noson ganlynol cyfarfu’r ddau â’i gilydd. ‘Sut ych chi heno,’ gofynnodd Ieuan. ‘Da iawn, Mr Roberts,’ meddai’r llall oedd wedi hen anghofio ei wrhydri’r noson gynt.
Gwahoddodd Ieuan y gŵr i’w dŷ ac wedi mynd i mewn gofynnodd iddo, ‘Wyddoch chi beth ddywetsoch chi neithiwr?’
Symudodd Ieuan y bwrdd o’r ffordd, tynnu ei gôt oddi amdano a thorchi ei lewys. Dychrynodd y gŵr ac erfyn ar Ieuan am faddeuant. Dywedir i’r helynt beri i’r gŵr hwnnw newid ei ffordd o fyw yn llwyr a mynychu’r Capel Coch yn ffyddlon wedi hynny. Dylwn bwysleisio nad wyf yn cymeradwyo’r dull yma o ennill eneidiau i weinidogion yr oes hon. Mae’n debyg i’r holl gyhoeddi llyfrau, cylchgronau ac ati a wnaeth Ieuan Gwyllt droi yn elw go lew iddo. Ymddengys nad oedd yn brin o geiniog neu ddwy erbyn 1869 pan ymddeolodd o ofal y ddau gapel yn Llanberis a chymryd prydles ar blasty bach o enw’r Fron ger Caernarfon. Ond allai dyn oedd yn arian byw ddim ymddeol chwaith. Yn ogystal â phregethu, cyhoeddi ac arwain y cymanfaoedd canu cynharaf, cymrodd ofal o Gapel Penygraig, Llanfaglan a hynny yn ddigyflog gan weithio yno cyn galeted â neb. A digwyddodd tro arall ar fyd. Yn ystod ei ddyddiau cynnar yn ysgrifennu i’r Amserau, byddai Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn pwysleisio nad oedd yr hyn a gyhoeddid ganddo yn farn swyddogol yr enwad. Yn wir roedd yr Ieuan ifanc braidd yn anwadal i’r Corff a ystyriai ef yn un braidd yn sydêt. Ond yn awr wele Ieuan yn cael cynnig swydd golygydd y Goleuad – papur swyddogol yr enwad.
Rhaid cofio bod y papurau enwadol yn yr oes yma yn ddylanwadol dros ben. Roeddynt yn cyhoeddi newyddion y dydd [neu’r wythnos beth bynnag] ac yn lleisio a ffurfio barn ar lywodraethau’r byd a phob digwyddiad yn gyffredinol heb gyfyngu eu hunain i faterion enwadol pur. Cofier hefyd y darllenid hwy gan y werin pan oedd papurau a chofnodolion Saesneg allan o’u cyrraedd am resymau ieithyddol ac ariannol.
Cawn weddill hanes Ieuan y tro nesaf. JBW
HYSBYSEBION
Telerau gan Ann Lewis 01341 241297
ALAN RAYNER
07776 181959
ARCHEBU A GOSOD CARPEDI
ALUN WILLIAMS
TRYDANWR
GALLWCH
HYSBYSEBU
* Cartrefi
YN Y
* Masnachol
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Tafarn yr Eryrod
Llanuwchllyn 01678 540278
JASON CLARKE
Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth
LL48 6BN
Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk
E B RICHARDS
Ffynnon Mair
Llanbedr
01341 241551
CYNNAL EIDDO
O BOB MATH
Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
BLWCH HWN
* Diwydiannol
Archwilio a Phrofi
AM £6 Y MIS
Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com
Bwyd cartref blasus
Cinio Dydd Sul
Dathliadau Arbennig
Croeso i Deuluoedd
Arbenigwr mewn gwerthu
GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803
gwionroberts@yahoo.co.uk
dros 25 mlynedd o brofiad
CAE DU DESIGNS
DEFNYDDIAU DISGOWNT
GAN GYNLLUNWYR
Stryd Fawr, Harlech
Gwynedd LL46 2TT
01766 780239
ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni:
Oriau agor:
Llun - Sadwrn
10.00 tan 4.00
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN
Darlith Bob Owen
Neuadd Gymuned Talsarnau
FFAIR NADOLIG
Nos Iau, 1 Rhagfyr am 6.30
Gwin cynnes
Stondinau amrywiol
Paned a sgwrs
Oedolion £1
Plant ysgol am ddim
Llogi bwrdd gwerthu £5 01766 772960/770757
Bob Owen Croesor – Yr Ysgolhaig a’r Casglwr Llyfrau
Braf iawn oedd gweld cynifer o bobl wedi dod ynghyd yn Neuadd Gymuned
Talsarnau nos Iau 20fed o Hydref, rai ohonynt wedi dod o gyn belled â Sir Fôn a Bangor. Cylch Ardudwy yn tynnu ei phlant yn ôl at eu gwreiddiau! Noswaith wedi ei threfnu gan Bwyllgor Rheoli’r Neuadd fel rhan o raglen y gaeaf oedd hon. Len Jones Groeslon – o Groesor gynt, oedd yn cyflwyno sgwrs arbennig o ddifyr ar Bob Owen Croesor, yr ysgolhaig a’r casglwr llyfrau. Atgyfnerthwyd y sgwrs gydag amrywiaeth helaeth o luniau ac enghreifftiau o lawysgrifau a llythyrau yn cael eu dangos ar y wal drwy daflunydd. Hynny a dawn Len i bortreadu digwyddiadau – rhai’n deimladwy ac eraill yn hynod o ddoniol yn gwneud y noson yn arbennig o ddiddorol. Ac i orffen y cyflwyniad
cafwyd cyfle i glywed llais unigryw Bob Owen ei hun. Braf ar y diwedd oedd clywed profiadau personol ambell un yn y gynulleidfa oedd yn ei adnabod hefyd. I gwblhau’r noson, cafwyd cyfle am baned a sgwrs a phawb yn troi am adre wedi cael eu boddhau. Diolch cynnes iawn yn wir i bawb a ddaeth i gefnogi.
Bydd y cyflwyniad nesaf ym mis Chwefror gan Ken Robinson ar Ynys Gifftan.
Capel Newydd
TACHWEDD
13 - Dewi Tudur
20 - Eifion Jones
27 - Gwydion Lewis
RHAGFYR
4 - Dewi Tudur
Oedfaon am 6:00. Croeso cynnes i
bawb, fynychwyr arferol a newydd!
Paned ar ddiwedd pob oedfa.
SIOPA NADOLIG YN LERPWL 12 Tachwedd
Bws yn gadael Ysgol Talsarnau am
7.30 y bore
Gadael Lerpwl am 5.00 yr hwyr
Cost: £20
Tocynnau gan Betsan Emlyn
07979 597712 neu o’r Ship Aground
Mae angen talu i sicrhau sedd
Elw at y Neuadd Gymuned
Gwir Naws y Nadolig
Drwy Lith a Charol yn
Eglwys
Llanfihangel-y-traethau
Ynys, Talsarnau
Dydd Sul, Rhagfyr 11 am 11:30 a.m.
Croeso cynnes i bawb!
Cystadleuaeth Snwcer
Bob Nos Wener
Neuadd Gymuned Talsarnau
Tynnu Enwau am 7.00
Gêm Gyntaf am 7.10
Noson gyntaf, 11 Tachwedd 2022
Croeso cynnes i bawb ymuno!
Myfyr wedi ennill eto efo’r oen du
Pleser pur oedd gwylio’r rhaglen Cefn
Gwlad yn ddiweddar pan gawsom flas ar fywyd Bryn, ei bartner Mari a’u dau blentyn Myfyr a Lina, Draenogan
Fawr yn brysur wrth eu gwaith ar eu ffermydd teuluol.
CYFARFOD BLYNYDDOL
CYFEILLION ELLIS WYNNE
Dydd Mercher, 23 Tachwedd am 6.30 yr hwyr
yn yr Hen Lyfrgell, Harlech
Croeso cynnes i bawb
Merched y Wawr
Croesawodd Siriol bawb i’r cyfarfod yn y Neuadd pnawn dydd Llun, 3 Hydref, ac estynnwyd croeso arbennig i dair aelod newydd. Mynegwyd ein bod
yn cofio am Mai yn Ysbyty Gwynedd wedi cael llawdriniaeth ac yn dymuno’r gorau iddi. Darllenodd Anwen y neges diweddaraf oedd wedi ei dderbyn ganddi. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Meira, Bet a Mai.
Yna estynnodd Siriol groeso i Sioned
Costa atom i ddangos ei gwaith llaw. Cawsom sgwrs ddifyr a chartrefol gan
Sioned am sut y bu iddi hi, a’i chwaer yn ieuanc iawn, gael y cyfle i ddiddori
mewn gwnïo o bob math, a gwau a chreu mewn gwahanol ffyrdd. Roedd hynny oherwydd fod eu mam a’u nain yn arbenigwyr ar y gwaith ac fod pob math o ddefnyddiau a thaclau o gwmpas y tŷ a rhyddid i ddwy ferch fach gael eu defnyddio. Roedd yr amrywiaeth o bethau ddaeth Sioned i’w dangos i ni yn werth eu gweld.
Roedd defnyddiau creu cardiau o bob math ar gael i bawb arbrofi a bu rhai aelodau wrthi’n brysur am weddill y prynhawn.
Diolchodd Ann ar ein rhan ni i gyd i
Sioned am bnawn difyr iawn. Margaret oedd yn paratoi’r baned ac enillwyd y raffl gan Beryl Williams.
Cinio Nadolig
Pasiwyd ein bod yn dewis y Ship
Aground i gael ein cinio Nadolig
eleni a bydd Anwen yn gwneud ymholiadau. Y dyddiad fydd dydd Iau 8 Rhagfyr. Rhaid gofyn am fwydlen yn y Gymraeg.
Cydnabyddiaeth
Trwy gyfrwng Llais Ardudwy, dymunaf ddatgan fy ngwerthfawrogiad o’r ymweliadau, galwadau ffôn a chardiau gwellhad a dderbyniais yn dilyn fy llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Llawer iawn o ddiolch i bawb am eu dymuniadau da.
Mai Jones, Rhodd a diolch £10
Cydymdeimlad
Estynnwn ein cydymdeimlad â Mrs
Pauline Jones, 7 Cilfor, Llandecwyn yn ei phrofedigaeth o golli ei phriod, Geraint. Hefyd i’w blant, Pamela, Kevin, Elfyn, Alan a Heather a’u teuluoedd yn eu colled. Anfonwn ein cofion atynt oll. Gobeithiwn gynnwys teyrnged a diolchiadau’r teulu yn y rhifyn nesa.’
Dechreuwch osod bwyd llawn braster fel cacenni cnau mwnci a peli saim ar gyfer adar yr ardd.
Lluniwch bentwr o ddail ar gyfer mamaliaid sy’n gaeafgysgu a gadewch ddail wedi cwympo wrth waelod gwrychoedd ar gyfer adar duon a bronfreithod, sy’n hoff o chwilota yn eu mysg am chwilod a chynrhon blasus.
Os bydd yn rhewi, ac er mwyn i greaduriaid gael mynediad at ddŵr ffres, toddwch dwll mewn rhew ar ochr pwll drwy lenwi sosban gyda dŵr poeth a’i osod ar y rhew nes bydd twll wedi toddi. Peidiwch â tharo’r rhew i’w dorri neu ei gracio oherwydd fe all hyn beri niwed i fywyd gwyllt.
Ystyriwch ffyrdd arall o gael gwared â gwastraff gardd heblaw ei losgi. Os byddwch yn llosgi, cofiwch chwilio am anifeiliaid ym môn y pentwr cyn ei danio.
Gadewch bennau hadau ar eu traed i ddarparu lloches a bwyd i fywyd gwyllt.
Cofiwch wagio a glanhau blychau nythu gyda dŵr berwedig. Wedi i’r blwch sychu’n iawn, gosodwch lond dwrn o lwch lli y tu mewn iddo. Efallai y bydd rhywbeth yn chwilio am loches yno dros y gaeaf.
Cofiwch glirio dail o rwydi dros byllau. Cadwch unrhyw rwydi eraill sydd o gwmpas yr ardd a’u storio’n ddiogel – fe all rhwydi rhydd niweidio bywyd gwyllt.
GWYFYNOD
Mae dros 2,500 rhywogaeth o wyfyn (moth) i’w gweld yng ngwledydd Prydain ac mae ganddyn nhw rôl bwysig ym mhob ecosystem, yn cynnwys gerddi iach.
Mae gwyfynod a’u larfâu (siani flewog) yn ffynhonnell allweddol o fwyd i sawl anifail yn cynnwys y draenog, pryfed cop, llyffantod, ystlumod ac adar.
Gadewch laswellt hirach ac ysgall yn yr ardd a gadewch wrychoedd heb eu tocio os yn bosib.
Bydd plannu llwyni bytholwyrdd yn darparu safleoedd i loÿnnod byw a gwyfynod dreulio’r gaeaf.
Bydd plannu bedw, drain gwynion, helyg a chriafol yn helpu i gynnal siani flewog y gwyfynod.
Marwolaeth
Yn drist iawn, ar 3 Hydref, bu farw’r
Parchedig Pam Odam, Deacon Ardal
Weinidogaeth Bro Ardudwy.
Bu Pam yn rhan annatod o fywyd
Eglwysig Ardal Weinidogaeth Bro
Ardudwy ers blynyddoedd lawer.
Mae Eglwysi’r Fro’n hynod ddiolchgar am ei chyfraniadau lu mewn amrywiaeth o ffyrdd tuag at fywyd ein Hardal Weinidogaeth.
Teulu’r Castell
Ar 11 Hydref 2022, roeddem yn falch iawn o weld Sandra Atkins, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd gyda Betty Grant oedd wedi colli ei chwaer, a gydag Enid Smith oedd wedi colli ei gŵr annwyl David Smith yn ddiweddar.
Roedd rhai o’r aelodau wedi ymddiheuro gan eu bod yn sâl neu rhai ar eu gwyliau.
Diolch yn fawr iawn i Roc Ardudwy sydd wedi rhoi £300 i Deulu’r Castell. Mae’n rhaid diolch i’r grŵp yma – maent yn
cefnogi llawer o fudiadau yn yr ardal.
Diolch i Susan Jones am wneud y daflen ariannol ac i Peter Smith am ei arwyddo fel ei fod yn un cywir. Mae Susan wedi cynnig gwneud y rhaglen hefyd.
Diolch hefyd i aelodau pwyllgor paratoi’r te, ac am ddod a’r aelodau i’r cyfarfodydd a’r rafflau at bob cyfarfod.
Croesawyd Christine Freeman, un o’r aelodau oedd wedi dod a’i gwaith llaw i ni gael ei weld.
Cawsom brynhawn difyr iawn –Christine wedi gwneud yr holl waith trwy gyfnod y Covid.
Mi oedd wedi gwneud lluniau i’w rhoi ar bob wal a’r rheini i gyd o fyd natur mewn gwaith llaw, ac un ‘wall hanger’ er cof am ei chwaer, pob un o’r lluniau gyda stori i’w ddweud am bob llun.
Diolchwyd iddi gan Betty Grant. Mi oedd Christine wedi rhoi’r tapestri bach i fynd ar wal ac enillwyd hwn gan Sue Wager.
Bore Coffi Macmillan
Llwyddodd Judith Strevens, Siop Anrhegion y Castell, i godi £721 yn y bore coffi a drefnwyd tuag at elusen ganser Macmillan yn ddiweddar. Diolch i bawb a gyfrannodd mewn amrywiol ffyrdd.
Cyfarfod Blynyddol
Neuadd Goffa Harlech
Roedd 9 yn bresennol yn y cyfarfod ar 25 Hydref gyda 4 ymddiheuriad.
Dywedodd Laurence Hooban ei fod yn dymuno ymddiswyddo fel Cadeirydd ar ôl nifer o flynyddoedd. Cytunodd Jim Maxwell i dderbyn y swydd. Etholwyd Janet Mostert yn Is-gadeirydd, gyda’r swyddogion eraill yn aros yn eu swyddi. Diolchwyd i Lawrence am ei waith dros y blynyddoedd. Adroddwyd bod y sefyllfa ariannol yn eithaf iach. Diolchwyd i Sheila a Jim Maxwell am eu gwaith yn diweddaru’r cyfansoddiad. Diolchodd Edwina Evans i Linda, Denise a Sue am eu gwaith fel ysgrifennydd a thrysoryddion. Bydd y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr.
Cardiau Nadolig
Mae gan Eirlys Williams gardiau Nadolig ar werth yn y siop ac mae’r elw tuag at Ymchwil Canser.
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!
TOYOTA HARLECH
TOYOTA HARLECH
Ffordd Newydd
Ffordd Newydd
Harlech
Harlech
LL46 2PS 01766 780432
LL46 2PS 01766 780432
www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk
www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk
Facebook.com/harlechtoyota Twitter@harlech_toyota
CYNGOR CYMUNED HARLECH
Croesawyd Donna Marie MorrisCollins, Rheolwr Hamdden Harlech ac Ardudwy i’r cyfarfod. Mae’r pwll wedi ailagor ers mis Awst. Caiff cyrsiau achub bywyd eu cynnal a bydd pobl leol yn mynychu’r rhain. Mae gwersi nofio i ysgolion wedi ailgychwyn. Mae’r mwyafrif o’r lleoedd ar y gweithgareddau eraill yn llawn yn barod.
Y gost fwyaf fydd prynu rholiwr a gorchudd newydd i’w rhoi dros y pwll. Gwneir cais am noddwyr i godi arian i archebu’r rhain. Wrth gael gorchudd dros y pwll byddai hyn yn arbed tua 30-40% ar y costau gwresogi. Hefyd, maent yn gweithio’n agos iawn hefo Ysgol Ardudwy. Diolchwyd iddi am ddod atom. Hefyd nodwyd y bydd taliad olaf y cynllun presept yn cael ei dalu y mis hwn.
MATERION YN CODI
Cae Chwarae Brenin Siôr V Gosodwyd rhywfaint o offer newydd yn y parc chwarae uchod. Nid oedd yr arian gan y Clwb Beicio byth wedi ei drosglwyddo. Dangoswyd lluniau o wahanol offer a fyddai’n addas i’r parc chwarae er mwyn gallu gwella’r cyfleusterau. Ar ôl trafodaeth, cytunwyd i archebu dringwr amlchwarae a 25m rhedfa o’r awyr. Mae Mr Meirion Evans wedi adnewyddu
Sefydliad y Merched Harlech
Cynhaliwyd ein cyfarfod nos Fercher, 12 Hydref, a chroesawodd y Llywydd, Jan Cole, yr aelodau ac ymwelwyr i’r cyfarfod. Y mis yma mi oedd bwrdd gwerthu a’r aelodau wedi gwneud jam ac wedi dod a phlanhigion o’r ardal.
Trefnwyd y prynhawn ‘Byw yn Iach’ yn y Sosban yn Nolgellau a bingo yn
Rhydymain, a bwyd amser cinio yn Penmaen Uchaf.
Ar ôl trafod y busnes i gyd, croesawyd Gwen a’i merch Caroline oedd wedi dod i ddangos cardiau a’r aelodau yn cael dewis a gwneud rhai eu hunain.
Noson ddifyr iawn a diolchwyd i’r ddwy gan Jill Houliston.
Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 9 Tachwedd a bydd yn noson y Cyfarfod Blynyddol gyda dewis swyddogion a phwyllgor newydd.
ardaloedd y goliau; bydd rhaid iddynt gael llonydd am dipyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi archebu hysbysfwrdd newydd fel yr un yn y dref er mwyn ei osod ar y llecyn tir ger Siop y Morfa.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diwygiad ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio i dynnu ffenestr ochrBeaumont, Hen Ffordd Llanfair, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad cefn unllawr – 9 Pant yr Eithin, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor Hen Lyfrgell - £1,000
Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000 Hamdden Harlech ac Ardudwy£10,457.38 – hanner y cynnig presept
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran
Gyfreithiol
Derbyniwyd e-bost ynghyd â mapiau oddi wrth yr Adran uchod yn dangos lle maent yn bwriadu gosod llinellau melyn dwbl yn yr ardal. Maent yn bwriadu gosod rhai ar hyd dwy ochr ffordd Pen y Bryn o’r gyffordd gyda Phendref i gyfeiriad y gogledd am bellter o oddeutu 24 metr ac ar ochr orllewinol y ffordd gyferbyn â mynedfa Pant Mawr.
Gwasanaeth Sul Cyntaf yr Adfent yng Nghapel Engedi Pnawn Sul, 27 Tachwedd am 2.00 o’r gloch
Pregethwr gwadd Br Iwan Morgan
Noson siopa hwyr a gorymdaith lusern, Stryd Fawr, Harlech 26 Tachwedd am 5.00 o’r gloch
Dydd Sul y Cofio, 13 Tachwedd. Fe fydd y gwasanaeth wrth ymyl o Gofeb am 10.50. Fy fydd gwahanol fudiadau a theuluoedd yn rhoi eu torchau gyda blodau’r pabi ar ôl y gwasanaeth.
Tacluso Llain O Dir
Symudodd Jane Emmerson a’i gŵr i Harlech ychydig flynyddoedd yn ôl o ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yn ddiweddar, gwirfoddolodd Jane i dacluso llain o dir ar y Llech yn Harlech gan ei fod mewn cyflwr ofnadwy ac wedi gordyfu â mieri. Mae hi’n arddwr brwd. Diolch i’r Cyngor Cymuned am gynnig ad-dalu’r arian a wariwyd ar blannu. Dywed Jane fod mwy o waith i’w wneud a dymunwn yn dda iddi gyda’r gwaith.
Clwb Rygbi Harlech (Adran Iau)
Trefnwyd taith i’r Wyddgrug i Glwb
Rygbi Harlech ar ddydd Sul, Hydref
16. Roedd y tîm dan 8 oed, sef B3, yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth
gyda 5 tîm arall yn yr ardal sef yr
Wyddgrug, Rhuthun, Abergele, Nant
Conwy a’r Rhyl.
Diolch i Victoria Redman, Bermo am hyfforddi ac Anthony Richards am gynorthwyo ar y diwrnod.
Noddwyd dillad chwarae Harlech
gan Mr Graham Perch, Caffi’r Maes, Llandanwg, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei gefnogaeth. Yn yr un modd , hoffem ddiolch i
Fferyllfa Harlech ac i Faes Carafanau
Hendrecoed Isaf, Llanaber, am noddi ein bag cymorth cyntaf.
Diolch i’r rhieni am eu cefnogaeth.
Cafwyd mwynhad wrth wylio a chwarae rygbi ar ddiwrnod hydrefol braf.
Cynhelir hyfforddiant i blant B3 o’r Bermo i Lanfrothen ar bnawniau
Mawrth, am 4.30. Croeso i chi ymuno â ni ar Gaeau Chwarae Brenin Siôr V (ger y Pwll Nofio) neu yn y
Gampfa yn Ysgol Ardudwy (dibynnu ar y tywydd). Diolch i Siân Edwards, Victoria Redman a Gavin Fitzgerald am hyfforddi B3 yn yr ysgolion yn Ardudwy. Cynhelir cwrs gan Glwb Rygbi Harlech i ddarpar hyfforddwyr yn y dyfodol agos, felly cysylltwch os oes gennych ddiddordeb.
Clwb Rygbi Harlech
Cafodd y Clwb grant a chaniatâd i ddatblygu’r cae ar Gaeau Chwarae
Brenin Siôr V a gobeithir y bydd yn gymorth mawr, pan fydd wedi ei gwblhau, ar gyfer hybu chwaraeon o bob math i’r gymuned yn Ardudwy.
Cynhelir Cinio Nadolig Clwb Rygbi Harlech ar nos Sadwrn, Rhagfyr 10 am 7.00 ar gyfer 7.30 yn Hendrecoed Isaf, Llanaber, Bermo. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r Cadeirydd, Gareth John Williams neu unrhyw un o’r Pwyllgor am fanylion.
Bydd angen eich dewisiadau cyn
Tachwedd 30. Edrychwn ymlaen at gymdeithasu yng nghwmni cefnogwyr Clwb Rygbi Harlech unwaith eto.
Dyma dîm dan 8 oed Clwb Rygbi Harlech yn yn barod i chwarae yn erbyn yr Wyddgrug.
[Rhes gefn] Victoria Redman, Leo Bradshaw, Lewis Weedall, Ava May Nevin, William Jones, Gruffudd Edwards, Anthony Richards.
[Rhes flaen] Ellie Labrum, Steffan Kerr, Tyler Richards, Nathaniel Poulton, Zac Charlton, Nevaeh Simons.
CWIS CYMREIG HWYLIOG
1. Enwch y gwleidydd Cymreig a sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
2. Enwch y 3 Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
3. Pwy sy’n noddi’r Stadiwm Rygbi Cenedlaethol yng Nghaerdydd?
4. Pa actor o Borth Talbot sydd wedi ennill gwobr Oscar?
5. Pa un ydi’r llyn mwyaf yng Nghymru?
6. Pa mor uchel yw’r Wyddfa?
7. Pa mor hir yw Llwybr Arfordir Cymru – 870m, 970m neu 1070m?
8. Beth yw enw go iawn Tom Jones, y canwr byd-enwog?
9. Beth ydi enw canol Bryn Terfel?
10. Lle mae’r ddinas leiaf yng Nghymru?
11. Sawl dinas sydd yng Nghymru?
12. Enwch y dinasoedd sydd yng Nghymru.
13. Sawl prifysgol sydd yng Nghymru - 4, 8 neu 16?
14. Pa actores o Abertawe sydd wedi priodi Michael Douglas?
15. Lle cynhaliodd Owain Glyndŵr ei senedd gyntaf?
16. Pwy oedd yr unig Brif Weinidog ar Wledydd Prydain i siarad Cymraeg fel mamiaith?
17. Beth ydi prif gynhwysyn bara lawr?
18. Yn ôl y chwedl, beth a wisgai milwyr Cymreig yn eu helmedau?
19. Pa gastell yw’r mwyaf yng Nghymru?
20. Sawl cân ganodd Shirley Bassey fel themâu i ffilmiau James Bond?
21. Pwy ganodd ‘Yn Bedair Oed’.
22. Pwy yw Prif Weinidog Cymru?
23. Pa ddinas yw’r ail fwyaf poblog yng Nghymru?
24. Ym mha ran o Gymru cafodd ‘Wonder Woman’ ei ffilmio yn 1984?
25. Beth oedd prifddinas Cymru cyn Caerdydd?
26. Pwy oedd yr arweinydd cyntaf i uno gogledd a de Cymru?
27. Pa gaws a ddefnyddir mewn selsig Morgannwg?
28. Lle mae’r ogof ddyfnaf yng Nghymru [a gwledydd Prydain]?
29. Os ydych yn hedfan i faes awyr VLY, i lle rydych chi’n hedfan?
30. Pwy ysgrifennodd ‘Un Nos Ola Leuad’?
31. Pa newyddiadurwr o Gymru gyflwynodd yr hanes am ddringo Everest yn 1953?
32. Pa gomedïwr a chanwr oedd yn ymddangos ar y ‘Goon Show’?
33. Pa gynllunydd sefydlodd gadwyn o siopau yn gwerthu dillad a dodrefn?
34. Pa waith pridd amddiffynnol a godwyd yn yr 8fed ganrif?
35. Lle cynhelir y ras geffylau ‘Grand National’ Cymru?
36. Ym mha bentref y ffilmiwyd ‘The Prisoner?’
37. Pa waith gan Dylan Thomas sy’n sôn am fywyd mewn pentref pysgota Cymreig?
38. Pa afon sy’n rhedeg drwy Gaerdydd?
39. Sawl llythyren sydd yn enw llawn Llanfairpwllgwyngyll?
40. Beth yw enw rheolwr tîm pêl-droed [dynion] Cymru?
11.
10. Tŷ Ddewi
9. Terfel
8. Thomas John Woodward
7. 870m
6. 3560 troedfedd, 1085
5. Llyn Tegid
4. Anthony Hopkins
3. Principality
Sir Benfro
Difyrion Digidol
1. Hoffwn drafod un ffordd hwylus iawn a di-drafferth o gyrraedd gwefan benodol ar eich ffôn neu dabled heb orfod teipio ei chyfeiriad yn llawn.
2. Ydych chi wedi sylwi ar gornel posteri neu docynnau rhyw gôd rhyfedd yr olwg? Ydych chi wedi meddwl beth yw pwynt y côd hwn? I ateb y cwestiwn, dyma beth sy’n cael ei alw’n gôd QR neu Quick Response i roi ei enw llawn. Mae’r dull hwn yn bodoli ers blynyddoedd, yn mynd a dod o ran poblogrwydd ond mae’r côd hwn wedi ennill ei blwyf fel ffordd hwylus o allu cael mynediad sydyn a diffwdan at wefan.
3. Os ydych yn yr awyr agored ac eisiau manylion pellach am ddigwyddiad neu weithgaredd, mae’n gyfleus ac yn hawdd. O ran gwella hygyrchedd i bobl sy’n cael trafferth teipio, mae QR yn ffordd wych o allu osgoi y rhwystr hwnnw. Y cwbl sydd angen i chi
ei wneud yw agor camera eich ffôn a’i bwyntio at y côd a’i ddal yno am eiliad er mwyn ei sganio. Wedyn
fe ddaw cyfeiriad y wefan i’r golwg,
yna, pwyswch ar y ddolen ac fe fydd hynny yn eich arwain at y wefan. Mae’n bosib canfod codau QR mewn pob math o sefyllfaoedd bellach. Maen nhw’n boblogaidd gyda thocynnau digwyddiadau, yn rhoi gwybodaeth am leoliad o bwys amgylcheddol, safleoedd hanesyddol neu atyniadau twristaidd a llawer iawn mwy. Mae rhai sefydliadau yn defnyddio codau QR i greu helfa drysor i blant. Felly cadwch lygaid am y côd QR ac ewch ati i’w sganio os ydych yn chwilfrydig.
4. Mae’n bosib hefyd i greu eich côd QR eich hun i hyrwyddo unrhyw fath o ddigwyddiad ar boster - a hynny am ddim! Gallwch dywys defnyddiwr i ganfod manylion pellach ar eich gwefan Facebook. Mae sawl gwefan yn cynhyrchu codau QR am ddim e.e. https:// www.the-qrcode-generator.com/
5. Er mwyn creu eich côd QR unigryw, mae’n rhaid copïo a phastio cyfeiriad llawn y wefan yn y blwch ac mae’r wefan uchod yn trosi’r cyfeiriad yn gôd QR yn awtomatig. Gallwch wedyn
ei lawrlwytho fel delwedd ffeil
png/jpg i’w ddefnyddio mewn dogfen Photoshop neu Word er mwyn ei osod ar ddelwedd arall. Mae’n bosib hefyd creu codau QR sy’n storio neges destun yn cynnwys gwybodaeth bellach am ddigwyddiad, lleoliad, hanes neu rywogaeth ym myd natur.
6. Mae llwybrau treftadaeth yn tueddu i gynnwys QR ar hysbysfwrdd i roi gwybodaeth am leoliadau pwysig ar hyd y daith. Ond mae’n bosib hefyd i arwain y defnyddiwr at ddogfen PDF neu ‘ap’ cysylltiedig. Mae’r potensial yn ddi-ben-draw. Felly, beth am roi cynnig arni? Allwch chi greu eich côd QR eich hun a’i osod mewn hysbyseb? Mae’n hwyluso mynediad i bawb ac yn arbed y drafferth i bobl orfod teipio’r cyfeiriad hir.
7. Os hoffech chi fel mudiad neu gymdeithas dderbyn arweiniad pellach ar godau QR, neu gael hyfforddiant am ddim ar wella ymgysylltiad cymunedol trwy’r cyfryngau cymdeithasol, gallwch gysylltu gyda mi.
deian.apRhisiart@wales.coop
Chwarael Hen, Llanfair
Agorwyd y Chwarel am y tro cyntaf gan Robin Griff Owen a’i wraig, Linor. Mae’n dilyn y bydd Chwarel Hen, Llanfair yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2023 fel canolfan ar gyfer diddori ac addysgu twristiaid.
Wyddoch chi fod bron i 20 tunnell o gaws yn cael ei storio yn Chwarel Llanfair? Caiff ei gludo o Hufenfa De Arfon yn y Ffôr a’i storio yma yn y Chwarel i’w aeddfedu am hyd at 6 mis.
Gwilym Rhys Jones yn arwain Côr Meibion
Ardudwy yn yr Ogof. Credir i’r llun gael ei dynnu yn hydref 1975. Roedd Robin Griff, Cae Cethin yn Gadeirydd y Côr yn 1976.
Rob a Linor, Cae Cethin yn esbonio cefndir yr hen chwarel i grŵp o ymwelwyr
Linor yn y siop yn gwerthu cofroddion i’r ymwelwyr.
Dewch am dro i’r Chwarel yn ystod y Ffair Nadolig i gael y cyfle i Siopa Nadolig hefo nifer o stondinau busnesau bach lleol a chael prynu ychydig o gaws at y Nadolig.
Pitsa
Bu’r cyfnod diweddar yn un prysur iawn yn Ysgol Ardudwy.
Unwaith eto, bu’r adran Bwyd a Maeth yn brysur yn cynhyrchu cacennau a pitsas. Paratowyd y cacennau gan ddisgyblion B10 fel rhan o’u gwaith cwrs TGAU tra bu B8 yn brysur yn hel archebion er mwyn cynnal busnes pitsa o fewn yr ysgol. Ymdrechion gwerth chweil gan y ddau ddosbarth. Gobeithiwn weld a blasu mwy o’r danteithion hyfryd yma yn ystod y misoedd nesaf.
Banc Bwyd y Bermo
Dros nifer o flynyddoedd, mae’r ysgol wedi trefnu nifer o ymgyrchoedd er mwyn casglu arian tuag at elusennau gwahanol ac, eto eleni, mae’r gwaith o hel arian wedi dechrau.
Cafwyd diwrnod ‘gwisg hamdden’ ar ddiwedd mis Medi gydag unrhyw gyfraniad yn mynd tuag at yr elusen ‘Young lives vs Cancer’. Mae’r elusen hon yn agos iawn at galon Nicky John o Harlech, sef cyn-ddisgybl o’r ysgol. Mae’n siŵr fod nifer o bobl ardal Llais Ardudwy yn ymwybodol fod Emi, sef merch fach Nicky a Gwion, wedi bod yn hynod sâl ac wedi cael cymorth gan yr elusen yma yn ystod y misoedd diwethaf. Felly, aeth Nicky ati i gynnal nifer o ymgyrchoedd er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth o’r elusen a’r cyflwr sydd wedi taro eu teulu bach hwy. Mae ymdrechion y disgyblion a’r athrawon gyda’r gweithgarwch hwn wedi sicrhau bod cyfanswm o £460 wedi ei godi. Ar ddiwrnod codi ymwybyddiaeth o ‘hiliaeth drwy ddangos y cerdyn coch’, penderfynwyd y byddai’n syniad gofyn am gyfraniadau tuag at Fanc Bwyd De Gwynedd yn y Bermo.
Roedd yr hyn welwyd wrth i’r disgyblion gario bagiau o fwyd i fewn i’r ysgol yn anhygoel. Dyma griw bychan o ddisgyblion yn dod at ei gilydd eto er mwyn cefnogi elusen sydd mor agos at galonnau pawb.
Aeth bws mini yr ysgol i lawr i Bermo er mwyn trosglwyddo’r bwyd i’r elusen ac roedd eu gwerthfawrogiad o’r hyn a gafwyd gan yr ysgol yn anhygoel. Diolch i ddisgyblion o B9 am helpu drwy gludo’r bagiau i’r Banc Bwyd. Gwaith tîm eto.
Medal aur gymnasteg
Llongyfarchiadau i Millie Williams ar ei champ yn y byd gymnasteg.
Llwyddodd y disgybl B7, a oedd mewn tîm gyda Lili Gray, Blaenau Ffestiniog a Tesni Pugh, Dolgellau, i ennill medal aur ym
Mhencampwriaeth Gymnasteg
Acrobatig Cymru yng Nghaerdydd!
Hon oedd y brif gystadleuaeth hefyd!
Dal ati, Millie, gyda’r gwaith gwerth chweil yma.
Pêl-droed
Cafodd tîm pêl-droed bechgyn B9 y cyfle i herio Ysgol Dyffryn Nantlle yng Nghwpan Cymru ar gaeau’r ysgol. Wedi gêm galed, hogia Ardudwy oedd yn fuddugol ar y diwedd drwy rwydo 5 gôl yn erbyn 3 gan y gwrthwynebwyr. Daliwch ati, hogia, yng Nghwpan Cymru.
Gwobr Dug Caeredin
Cafodd disgyblion B10, sydd yn rhan o gynllun Dug Caeredin, gyfle i ymweld â choedwig law yn lleol.
Aed ati i ddangos nifer o rinweddau’r goedwig yn ystod y dydd. Yn
ychwanegol, cafodd pawb fynd ati i wneud ychydig o waith ymchwil eu hunain er mwyn cyflawni tasgau fel rhan o’r cwrs.