Mrs Ann Jones
Merch sy’n enedigol o Harlech ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ardudwy yw Mrs Ann Jones.
Wedi 24 mlynedd yn bennaeth ar Ysgol Gynradd
Dyffryn Ardudwy y mae Ann Jones wedi penderfynu ymddeol. Wedi iddi adael y Coleg ym Mangor, bu’n athrawes boblogaidd yn Ysgol Llanbedr am oddeutu
6 mlynedd. Wedyn fe dreuliodd chwe mlynedd yn
bennaeth egnïol ar Ysgol Brynaerau ym Mhontllyfni cyn symud i Ddyffryn Ardudwy lle bu’n gwasanaethu yn llwyddiannus iawn.
Fel y gŵyr y cyfarwydd, mae’n gerddor dawnus ac yn arwain côr merched Cana-mi-gei. Mae hi hefyd yn cyfeilio i’w gŵr, Treflyn, sy’n unawdydd poblogaidd. Pob dymuniad da i’r ddau wrth i Ann gamu’n ôl o’i swydd brysur. Mae Treflyn ac Ann am grwydro tipyn yn ystod eu hymddeoliad ac am ddechrau yn yr Eidal ym mis Medi. Lwc dda iddyn nhw. Buona fortuna!
Le Tour de Côr, yn cael brecwast yn Nhalsarnau
Yn ôl rheolwyr newydd tafarn y Ship yn Nhalsarnau, pleser o’r mwyaf oedd cael cwmni Le Tour de Côr yn ddiweddar, sef aelodau a chyfeillion Côr Meibion Machynlleth, am frecwast i’w helpu nhw ar eu taith o 250 milltir o Gaergybi i Gaerdydd, i godi arian at yr Uned Gemotherapi yn Ysbyty Bronglais. Mi gafodd Côr Machynlleth gefnogaeth hael iawn ar hyd y daith gan gynnwys pan alwon nhw yn y Ship, Talsarnau am frecwast.
Mae rheolwyr newydd yn y Ship ers deg wythnos, sef Iwan Aeron sy’n gofalu am y bar a Tom Bartrum sy’n paratoi bwyd yn y gegin. Maen nhw ar agor am fwyd o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn am ginio rhwng 12.00 a 3.00 ac am fwyd min nos rhwng 5.00 a 8.30. Mae’r dewis o gwrw hefyd wedi newid ers iddyn nhw gychwyn. Pob dymuniad da iddyn nhw yn y fenter newydd.
GOLYGYDDION
1. Phil Mostert
Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
2. Anwen Roberts
Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com
3. Haf Meredydd
Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 01766 780541, 07483 857716
SWYDDOGION
Cadeirydd
Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion
Ann Lewis 01341 241297
Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Trysorydd
Iolyn Jones 01341 241391
Tyddyn y Llidiart, Llanbedr
Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com
Côd Sortio: 40-37-13
Rhif y Cyfrif: 61074229
Ysgrifennydd
Iwan Morus Lewis 01341 241297
Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com
CASGLWYR NEWYDDION
LLEOL
Y Bermo
Grace Williams 01341 280788
Dyffryn Ardudwy
Gwennie Roberts 01341 247408
Mai Roberts 01341 242744
Susan Groom 01341 247487
Llanbedr
Jennifer Greenwood 01341 241517
Susanne Davies 01341 241523
Llanfair a Llandanwg
Hefina Griffith 01766 780759
Bet Roberts 01766 780344
Harlech
Edwina Evans 01766 780789
Ceri Griffith 07748 692170
Carol O’Neill 01766 780189
Talsarnau
Gwenda Griffiths 01766 771238
Anwen Roberts 01766 772960
Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 30 a bydd ar werth ar Hydref 4. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Medi 26 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy
Enillodd Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog yr ail wobr [Adran 4] yn Eisteddfod Tregaron dan arweiniad Paul Wilson. Mae nifer o’r aelodau yn byw yn ardal Ardudwy gan gynnwys Iwan Morus Lewis, Llandanwg; Alan Smith, David Bisseker a Linda Roberts, y tri ohonyn nhw o Harlech. Llongyfarchiadau gwresog i’r seindorf.
Bardd y Goron
Hyfrydwch o’r mwyaf yw llongyfarch
Esyllt Maelor ar ei champ yn ennill coron Eisteddfod Tregaron. Un o Harlech yw Esyllt Maelor, merch y diweddar Barch Gareth Maelor a Brenda, ond yn Abersoch, Llŷn y cafodd ei magu a’i haddysgu cyn mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor a graddio yn yn y Gymraeg.
Bu’n byw yn 2 Tŷ Canol, Harlech wedi iddi briodi a bu’n athrawes Ysgol Sul boblogaidd yng Nghapel Moreia. cyn symud i ardal Morfa Nefyn. Gyda’i
gŵr Gareth mae ganddi dri o blant: Dafydd [a fu farw mewn damwain car yn 2019], Rhys a Marged. Ym 1977 hi oedd y ferch gyntaf i ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd.
Roedd Gwyn Anwyl, gynt o Bryn Awel, Harlech, yn amlwg yn y seremonïau yn Nhregaron gan ei fod yn un o’r ddau ffanfferwr oedd yn canu’r cyrn gwlad yng nghyfarfodydd Gorsedd y Beirdd [Dewi Griffiths oedd y llall]. Dywed
Gwyn mai llenwi i mewn mae o tra bod ei gyfaill, Paul Hughes yn treulio cyfnod yn gweithio yn Norwy.
Llongyfarchiadau i Gwyn hefyd ar ennill y wobr gyntaf gyda Band Biwmares yn Eisteddfod Tregaron; mae Gwyn yn aelod selog.
Mae’n dysgu technoleg gwybodaeth yn Ysgol Amlwch ac yn byw gyda’i wraig, Meinir ym Maenaddwyn, ger Llannerchymedd.
HOLI HWN A’R LLALL
Cerdded drwy’r Siop Barbar i’r gegin gyfrin yng nghefn Gwynfa, blasu menyn cartre’ am y tro cyntaf a gadael yn ddi-ffael hefo bag papur a’i lond o dda-da. Yn y cyfamser gwrando ar oriau o sgwrsio a hanesion wedi eu britho gydag ambell i gân i gyfeiliant organ a llais tenor Wncl Gruff yn glir fel cloch, fel yr oedd tan y diwedd.
Yr un oedd y patrwm yn Derwen a Bryndeiliog gan hepgor y da-da. Yma roedd ysgol brofiad lle dysgais am bwysigrwydd gwreiddiau a des i adnabod fy nhylwyth.
Gwaith: Pan yn cael, actio. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rhedeg, sgïo a beicio i nunlle yn y gampfa ynghyd ag ychydig o waith llawr a phwysau.
Enw: Olwen Medi
Cefndir: Merch Matthew Owen
Griffiths, teulu Cwm Mawr (nepell o Lyn Cwm Bychan), Llanbedr a Janet Margaret Griffith o Bontddu.
Chwaer fach Gareth Owain Griffiths
a’r diweddar Iwan Aneurin Griffiths.
Aeth ei waith â nhad i Gorwen lle’m magwyd. Gwynfa, Derwen ac yn
ddiweddarach Bryndeiliog oedd y mannau galw yn Llanbad. Ymweld
ag Wncl Gruff (Gruff Barbar) ac
Anti Sarah, ac ambell drip i’r Wern, Pensarn hefyd ond fel arfer byddai
Anti Catrin yn ymuno â ni yn Llanbad.
Roedd trip lan môr o Gorwen i Harlech yn diweddu yn Llanbad tra byddai trip lan môr i’r Bermo yn diweddu yn Bontddu i ymweld â fy Wncl Gruff arall ac Anti Mari, ochr Mam.
Beth ydych chi’n ei ddarllen? Yn gloddesta ar arlwy llenyddol Eisteddfod Tregaron ar hyn o bryd. Yn dychwelyd yn achlysurol at ‘Yn Hon Bu Afon Unwaith’, Aled Jones Williams a The Book Thief, Markus Zusak.
Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?
Yr haf yma, rhaglenni Radio Cymru ac S4C o Dregaron, am ŵyl o ddathlu! Yn mwynhau arlwy BBC Radio 4 yn gyffredinol ond byth yn colli’r Archers.
Ydych chi’n bwyta’n dda? Ceisio. Wedi bod yn llysieuwraig am blwc ac yna ychwanegu pysgod i’r fwydlen ond yn ôl yn bwyta cig erbyn hyn. Ychydig bach o bopeth heb orwneud.
Hoff fwyd?
Carbonara heb anghofio calamari o Carluccio’s yn Stratford. Hoff ddiod? Dŵr tap.
Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi?
Ar wahân i ngŵr, heb anghofio’r teulu, Neil Nunes sy’n darllen y newyddion ac yn cyhoeddi ar Radio 4. Pan yn ymateb i bennod o’r Archers mae’n amlwg ei fod fel minnau yn ddilynwr.
Lle sydd orau gennych?
Theatr neu unrhyw ofod lle mae perfformiad ar droed.
Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Cernyw.
Beth sy’n eich gwylltio?
Y miri Torïaidd tua San Steffan.
Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind?
Y canol llonydd.
Pwy yw eich arwr?
Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky.
Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon?
Mrs Owen (yn flaenorol Mrs Marian Antonia Gamwell) a sefydlodd ysbyty yn Neuadd Aber Artro i drin milwyr clwyfedig y Rhyfel Mawr.
Beth yw eich bai mwyaf?
Mynd o flaen gofid.
Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Dedwyddwch.
Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000?
Rhodd i Ymchwil Canser.
Eich hoff liw a pham?
Lliw llygaid glas fy mam.
Eich hoff flodyn?
Llygad y dydd.
Eich hoff gerddor?
Michael Nyman.
Pa dalent hoffech chi ei chael?
Y gallu i hyrwyddo tangnefedd yn yr hen fyd ’ma.
Eich hoff ddywediadau?
Gormod o bwdin dagith gi.
Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid.
Fe gwsg galar, ni chwsg gofal.
Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd?
Lwcus, hapus a bodlon.
Gŵyl
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL
Diolch
Dymuna Huw Jones a’r teulu yn Ty’n Llan, Llanbedr ddiolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Catherine Iola. Roedd pob cerdyn a galwad yn gymorth mawr.
Rhodd a diolch £20
Grŵp Llanbedr-Huchenfeld
Yn ystod mis Gorffennaf, cynhaliwyd gŵyl flodau lwyddiannus yn eglwys Llanbedr. Y thema oedd ‘Dathliadau’ a chafodd nifer o achlysuron eu cynrychioli trwy arddangosfeydd yn cynnwys bedydd, priodas, penblwydd, y Nadolig a’r Pasg. Daeth nifer o bobl leol a phobl ddiarth i ymweld â’r eglwys, llawer heb fod tu mewn i’r eglwys o’r blaen. Diolch yn fawr i bawb fu’n gweithio mor galed.
Pen-blwydd yn 97
Ar yr 20fed o fis Gorffennaf mi ddathlodd Gretta Benn, Llenyrch, ei phen-blwydd yn 97 oed. Mi ddaeth nith Gretta, Ruth, i fyny o Gaerdydd ac roedd rhai ffrindiau o Loegr ac, wrth gwrs, llawer o ffrindiau o’r ardal hon yno hefyd i helpu i ddathlu diwrnod mor arbennig.
Mi fydd y Grŵp yn cyfarfod am 7 o’r gloch nos Lun, 12 Medi, yn Nhŷ Mawr, Llanbedr. Mae croeso i bawb! Blwyddyn nesaf byddwn yn dathlu ein 15fed pen-blwydd o efeillio efo Huchenfeld. Dowch efo eich syniadau sut i ddathlu’r garreg filltir bwysig yma!
Nos Fercher, 28 Medi, bydd sesiwn Zoom efo ein ffrindiau yn Huchenfeld ... am fwy o fanylion cysylltwch â Susanne Davies ar 01341 241523 neu gyda Jennifer Greenwood ar jgbrookwood@icloud.com
Côr Meibion Ardudwy
Bu’r Côr yn canu mewn tri chyngerdd yn diweddar gan ddenu clod mawr gan y cynulleidfaoedd.
Ar Awst 14, roedden nhw’n canu ym Metws-y-coed yng nghwmni Treflyn Jones gydag Ann Jones yn cyfeilio. Ailymweliad â Betws-y-coed wedyn ar Awst 28 gyda Tomos Heddwyn, Trawsfynydd yn unawdydd gwadd ac Iwan Morus Lewis yn cyfeilio iddo. Llandudno wedyn ar 1 Medi gyda Sioned Wyn yn unawdydd gwadd ac Iwan Morus Lewis yn cyfeilio.
Gŵyl Gwrw Llanbedr
Mae Gŵyl Cwrw Llanbedr yn ôl eleni yn Nhŷ Mawr ar y 9fed a’r 10fed o Fedi. Dewch i ymuno â ni i flasu a mwynhau ein cwrw a bwyd. Sylwer mai dim ond arian parod fydd yr Ŵyl yn ei gymryd. Bydd cyflenwyr Cymreig yn cyflenwi bwyd poeth drwy gydol penwythnos yr ŵyl. Bydd 16 o gwmnïau gwerthu cwrw a seidr yn bresennol eleni.
Dydd Gwener
1200-1800 Cyfnod o gerddoriaeth cefndir, wedi’i recordio.
1800-1900 Côr Meibion Ardudwy
1900-2030 Welsh Whisperer
Traethau
Mewn rhestr ddiweddar o draethau gorau gwledydd Prydain, dyfarnwyd traeth Mochras yn 5ed, a thraeth y Bermo’n 10fed.
2100-2300 Martyn Rowlands
Dydd Sadwrn
1200-1800 Cyfnod o gerddoriaeth cefndir, wedi’i recordio .
1800-1900 Côr Meibion Ardudwy.
2000-2300 Sesiwn yn chwarae casgliad o Roc a Blŵs.
Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk
BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI
Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant
Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil
Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant
PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317
60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
Gŵyl Gwrw Llanbedr yn
Tŷ Mawr
Gwener a Sadwrn, 9 a 10 Medi 12:00 – 23:00
Adloniant amrywiol
Llais Ardudwy
Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/
LLANFAIR A LLANDANWG
Merched y Wawr
Harlech a Llanfair
Hydref 4
Sgwrs gan
Parch Iwan Llewelyn Jones yn Neuadd Llanfair am 7.00 o’r gloch
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn â Winnie Griffith, Bryn Gro, Llanfair wedi iddi golli chwaer yn ddiweddar.
Trefnwyr Angladdau
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Estynnodd y Cadeirydd
longyfarchiadau’r Cyngor i’r Clerc/ Cyng Annwen Hughes ar gael ei hethol fel y ferch gyntaf i fod yn Gadeirydd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
MATERION YN CODI
Llinellau melyn ger stesion Llandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn ynglŷn â gosod y llinellau melyn uchod a bod angen mwy o wybodaeth ar y Swyddogion ynglŷn â’r gwrthwynebiad hwn oherwydd nid oeddynt yn sicr ai gwrthwynebiad neu sylw oeddynt wedi ei dderbyn. Byddant yn darparu conau fel y llynedd dros gyfnod yr haf.
GOHEBIAETH
Sgwad nofio Cymru
Llongyfarchiadau i Gruff Rhys, Tŷ
Nanney, Tremadog, ŵyr Winnie Griffith, Bryn Gro ac ŵyr hefyd
i Meic a Gwenda Elis, Dyffryn
Ardudwy, sydd wedi cael llwyddiant yn ddiweddar mewn cystadlaethau nofio. Mae wedi ei ddewis yn aelod o sgwad Nofio Cymru.
• Gofal Personol 24 awr
• Capel Gorffwys
• Cynlluniau Angladd Rhagdaledig
Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd Adroddodd y Cyng Annwen Hughes ei bod wedi ymweld â’r safle ger croesffordd Frondeg ac wedi anfon e-bost ynghyd â lluniau at yr Adran uchod. Roedd wedi cael ateb yn datgan bod Swyddog o’r Adran wedi asesu a mesur y safle a’u bwriad yw gosod palmant isel yma er cynorthwyo’r cerddwyr. Mae’r gwaith wedi ei gynnwys ar eu rhaglen waith a bydd yn cael ei weithredu yn ystod yr haf pan fydd adnoddau ar gael.
Cyngor Gwynedd – Adran Cefnogaeth
Corfforaethol
Derbyniwyd e-bost gan yr uchod ynghyd â holiadur ynglŷn ag Ymgynghori ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd yn datgan eu bod yn awyddus i dderbyn sylwadau’r Cyngor am y ddogfen drwy lenwi holiadur.
Cyngor Gwynedd – Adran Economi Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost oddi wrth Adran uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn bwriadu cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro
Gwynedd - Cynllun Gwelliannau
Trafnidiaeth coridor A496 Ardudwy - yn gofyn am lythyr cefnogaeth gan y Cyngor. Adroddodd y Clerc ymhellach bod y llythyr cefnogaeth i fod i mewn erbyn y 30ain o’r mis diwethaf a’i bod wedi llunio llythyr ar ran y Cyngor a’i anfon i’r Swyddog perthnasol.
Cyngor Gwynedd – Adran Economi Wedi derbyn e-bost o’r adran uchod ynglŷn â Gweithdai Ardal Ni 2035 yn datgan eu bod yn bwriadu cynnal y Gweithdai hyn ymhob ardal ac yn gofyn i’r Cyngor benodi 2 Aelod i fynychu’r rhain ar ran y Cyngor. Cytunwyd bod y Cadeirydd a Dylan Hughes yn cynrychioli’r Cyngor yn y gweithdy hwn.
Y BERMO A LLANABER Eisteddfod Llŷn ac
Nwyddau i Deuluoedd Wcráin
Eifionydd
5-12 Awst 2023
OCSIWN GELF
Nos Sadwrn, Hydref 22 am 7.30
Neuadd Goffa Cricieth
Tocyn: £10
(Adloniant, Band Arall a chaws a gwin ) ac ar lein
am bythefnos cyn hynny. (@llynaceifionydd2023)
Ymysg gweithiau gan arlunwyr enwog fe fydd y fersiwn wreiddiol, yn llawysgrifen yr awdur o Eifionydd, R Williams Parry. Manylion gan Eirwen Jones [01766] 523794, [07484] 312839
anneirwenjones7@gmail.com
Mewn ymateb i apêl y Parchedig Ganon Beth Bailey am nwyddau i’r teuluoedd o’r Wcráin sydd wedi ymgartrefu yn yr ardal, bu ein haelodau yn cyfrannu at focs croeso sydd, erbyn hyn, wedi ei drosglwyddo i’r teuluoedd.
Roeddent yn ddiolchgar iawn am y rhoddion ac roedd Beth yn synnu ein bod wedi casglu cymaint a ninnau’n gangen mor fechan.
Mae croeso i unrhyw un helpu ymhellach trwy gynnig pass, rhoi gwersi Saesneg, neu gyfrannu nwyddau.
Cysylltwch â: bethbaileybro@gmail. com neu 01341 281406
Gwenda Ellis
Ysgrifennydd Merched y Wawr y Bermo a’r Cylch
Y GEGIN GEFN
Gobeithio eich bod wedi mwynhau y tywydd braf. ’Dan ni wedi bod yn lwcus iawn y flwyddyn yma!
Mae gen i goeden fwyar duon yn yr ardd, a’r ha’ yma dwi wedi cael
10 pwys o fwyar duon. Dyma,un rysáit dwi yn ei neud, sef fflapjacs mwyar duon; maent yn hawdd iawn i’w gwneud, a gobeithio y gwnewch eu mwynhau, a ddim yn gostus, chwaith!
Fflapjacs mwyar duon
1 pwys a 2 owns o geirch (oats)
10 owns o fargarîn
10 owns o driog melyn (surop)
5 owns o siwgwr castor
6 owns o fwyar duon.
Tun 9 modfedd x 10 modfedd.
Dull
Leiniwch y tun gyda phapur pobi, y gwaelod ac i fyny ochor y tun.
Rhowch y margarîn, y surop a’r siwgwr mewn sospan, a thoddwch yn raddol ar wres isel. Ar ôl iddo doddi yn llwyr, ychwanegwch y ceirch, a chymysgwch yn dda. (Os yw’r gymysgedd i weld yn rhedegog (runny), ychwanegwch fwy o geirch).
Rhowch hanner y gymysgedd ar waelod y tun gan ei bwyso i lawr gyda’ch llaw neu lwy bren.
Rhowch y mwyar duon ar ben y gymysgedd, yna rhoi gweddill y gymysgedd ceirch ar y top, gan ei daenu yn ofalus dros y mwyar duon. Coginiwch am tua hanner awr, gwres 150c.
Ar ôl tynnu’r fflapjacs o’r popty, torrwch yn ddarnau bach, yna gadewch yn y tun i oeri.
Mae’r fflapjacs yn setio wrth oeri. Mwynhewch!
Rhian Mair, Tyddyn y Gwynt gynt
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
Gwirfoddoli
Yn ddiweddar bu Seren Llwyd, Byrdir, yn gwirfoddoli yn Sri Lanka, India a Bali. Bu’n gofalu am fywyd gwyllt yn Sri Lanka (crwbanod y môr) ac am blant amddifad yn India - dysgu Saesneg ac ychydig/lot o Gymraeg (canu Pen-blwydd Hapus yn y Gymraeg, wrth gwrs, i’w chwaer Lowri). Yn ôl wedyn at y bywyd gwyllt yn Bali, ac ychydig o joio, meddai Taid!
Yn ôl i Heathrow wedyn ar ddechrau mis Medi. Ei thad aeth â hi i Heathrow i gychwyn y daith, wedyn bu am naw wythnos ar ei liwt ei hun! (Lot o guts, meddai Taid!)
I goroni’r cyfan, cafodd lwyddiant yn ei harholiadau safon uwch - 1A seren, 1A ac 1B. Bydd yn mynd ymlaen i astudio Marchnata ym Mhrifysgol Bryste (ac nid adre yn ffarmio gyda Taid, bechod!).
Pob lwc i ti, Seren, efo pob dim yn y dyfodol.
Pen-blwydd arbennig iawn
Mi ddathlodd Eirwen Evans, Llwyn y Môr, ei phen-blwydd yn 90 oed ar Awst 11eg. Mi ddaeth ei mab, John, yn ôl o’r Almaen i ddathlu efo’r teulu. Mi dderbyniodd Eirwen hanner cant o gardiau pen-blwydd a digon o flodau i agor siop flodau!
CYFARFOD
BLYNYDDOL
Llais Ardudwy
yn Ystafell y Band, Harlech
Nos Wener, 7 Hydref am 6.00 o’r gloch
Croeso cynnes i bawb!
Mae’n amlwg iawn o’r llun uchod fod Seren Llwyd yn boblogaidd iawn gyda’r brodorion.
Dyweddïad
Llongyfarchiadau i Aron Rhys
Wellings a Mari Brame, Dolgellau ar eu dyweddïad ddiwedd mis Gorffennaf. Dymuniadau gorau yn y dyfodol i chi eich dau.
Diolch
Dymuna Mrs Eirwen Evans, Llwyny-môr, Dyffryn Ardudwy [Morfa Mawr gynt] ddiolch o galon am y cardiau, anrhegion, galwadau ffôn a’r dymuniadau da a dderbyniodd ar ei phen-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Diolch yn fawr. Rhodd a diolch £10
Cyflwynedig i Ann Jones ar achlysur ei hymddeoliad ar ôl 24 mlynedd o wasanaeth fel Pennaeth Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy, Gorffennaf 2022.
Arweinydd wyt o dras Wern Ddu, mae cerdd
Ac mae cân i’th deulu, Rhannu’n falch yr hyn a fu A fynni drwy lwyfannu.
I’n harwain, o Fryn Aerau y daethost, A doeth fu dy eiriau Yn didol newidiadau Lu, oedd yno i’w cwblhau.
Babi newydd
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Gareth a Bethany Lees ar enedigaeth eu merch fach Sienna Sian yn Ysbyty Gloucester ar 22 Gorffennaf, yn pwyso 6 pwys 6 owns. Dymuniadau gorau i’r teulu bach ac i’r neiniau a’r teidiau, Dawn a Simon Jones, Pentre Uchaf, a Luke a Helen Elliott. Rhodd a diolch £10
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb pob cyfarfod am 10.00 y bore
Medi 11 Elfed Lewis
Medi 18 Anwen Williams
Medi 25 Edward ac Enid Owen
Hydref 2 Alma Griffiths
Diymwâd dy gyfraniadau i’n dysg Drwy holl dasgau’r dyddiau, Rhwydd ydyw’r adroddiadau A rown am ddyfalbarhau.
Rhedeg ‘banc’ a’r deg o bynciau bob dydd
Bu dy waith o’r gorau, Mor brysur â’r papurau, Yn awr, ‘does dim, ond mwynhau!
Wedi’r gwaith cei fynd i deithio Ewrop, Ei thiroedd a’u croeso, Mewn gwestai crand cei wrando Hoff alaw, draw ar dy dro.
Haeddiannol dy ymddeoliad ar ôl Bod trwy oes yn siarad!
Daw’r cyfle ’nawr am fwynhad Yn rhydd o bob ymroddiad.
HDJ
CODI ARIAN AT BLANT WCRÁIN
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
CYHOEDDIADAU Y CADEIRYDD
Croesawyd Nia Rees a William Hooban i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor.
Llongyfarchwyd y Cyng Annwen Hughes ar gael ei hethol fel y ferch gyntaf i fod yn Gadeirydd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. CEISIADAU CYNLLUNIO
Codi balconi llawr cyntaf ar flaen y tŷ - Llinon, Ffordd Glan-Môr, Tal-ybont. Cefnogi’r cais hwn.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran
Yn gynharach yn y flwyddyn bu Mabli, Miri a Twm o Gapel Garmon, plant Eleri a Rhodri Dafydd, yn brysur yn arlunio. Eu bwriad oedd tynnu 100 o luniau mewn 10 diwrnod i godi arian at blant Wcráin. Y nod oedd codi £100 drwy wneud lluniau o blant dewr fel y plant oedd yn dioddef erchyllderau’r rhyfel yn Wcráin. Trwy gyfraniadau teulu a ffrindiau llwyddwyd i godi £2300, ac fe’i cyflwynwyd i’r UNHCR (sefydliad ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig). Yn y llun gwelir Mabli, Miri a Twm gyda rhai o’r lluniau yn cael eu harddangos yn Neuadd Capel Garmon.
Ymddeoliad Mrs Ann Jones
Economi
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost o’r Adran uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn bwriadu cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro
Gwynedd - Cynllun Gwelliannau
Trafnidiaeth coridor A496 Ardudwy, ac yn gofyn am lythyr o gefnogaeth gan y Cyngor.
Cylch Meithrin y Gromlech
Derbyniwyd e-bost oddi wrth Gylch Meithrin y pentref yn gofyn am gyfraniad ariannol tuag at brynu drws newydd a chlo diogelwch oherwydd bod y clo presennol wedi torri, hefyd mae’r drws yn crebachu gan beri bwlch ac mae oerni yn dod i mewn oherwydd hyn. Cytunwyd i gyfrannu £2,500 iddynt.
Mr David Wilson
Gofynnodd Mr Wilson am ganiatâd i blannu bylbiau cennin Pedr ar yr ymylon o amgylch y pentref.
Cytunwyd bod hyn yn syniad da ond bod angen trafodaeth o le i’w plannu a chytunodd y Cadeirydd drefnu hyn gyda Mr Wilson.
Cyngor Gwynedd – Adran
Economi
Gweithdai Ardal Ni 2035
Bwriedir gweithdai ym mhob ardal a gofynnir am 2 Aelod i fynychu’r rhain ar ran y Cyngor. Cytunwyd enwebu’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.
Teyrnged
rhy uchel!
Symudodd i Lanuwchllyn ac yna i Felin y Wig fel prifathro am y tro cyntaf ac yna Glyndyfrdwy gan gymryd ymddeoliad cynnar ar ôl gweld sefydlu Ysgol Caer Drewyn yng Nghorwen.
Bu’n flaenor ffyddlon am dros
60 mlynedd gan dderbyn cydnabyddiaeth y Gymdeithasfa yn y Gogledd, yn glerc i’r Cyngor Tref, ysgrifennydd Gŵyl Gerdd Dyfrdwy a Chlwyd. Bu’n pwyllgora gyda nifer o eisteddfodau a bu’n aelod o gôr a band.
Bu’n brysur hefyd yn datblygu ei ddawn fel saer coed. Mae llawer iawn o’i waith cywrain yng nghartrefi ei deulu a’i ffrindiau a chan rai oedd wedi eu hennill mewn raffl!
Huw – dyn teg, diffuant a ffeind, llawn hwyl a thalent. Braint oedd cael ei adnabod a chael dweud ein bod yn perthyn.
Cymdeithas Hanes
Teuluoedd Gwynedd
Rhaglen
Cangen Meirionnydd 2022-23
7.00 yn Nhŷ Siamas, Dolgellau. Mwy o fanylion ar chtgwyneddfhs.cymru/
8 Medi - Llew Williams
Dilyn Meredith
13 Hydref - Menna Lloyd Jones
Ysbytai Rhyfel y Rhyfel Byd Cyntaf
10 Tachwedd - Merfyn a Linda
Tomos
O Galiffornia i’r Carafanserai: cipolwg ar rai o dafarnau a gwestai Dolgellau
2023
12 Ionawr - Ken Robinson
Ynys Gifftan
9 Chwefror - Catrin Hughes
Teulu Cynowrach
9 Mawrth - Ann Jones
Mary Doladd
13 Ebrill - Penri Jones
Stad Glanllyn
Yncl Huw
Huw Griffith Roberts, Corwen
Mae’n debyg nad oes llawer ohonoch yn cofio fy ewythr, sef unig frawd fy mam, Beti Parry a’i chwiorydd May, Dilys a Gwyneth Ty’n Bryn a Gwelfor gynt. Dywedai Mam – fel yr unig fachgen yn y teulu cafodd ei ddifetha!
Ond yn sicr roedd ei chwiorydd yn falch iawn ohono, ei ddiddordebau a’i yrfa a’i deulu, sef ei wraig am bron i 70 mlynedd Mari, ei blant a’u priod Gareth a Jackie, Merian a David a’r wyrion Tom, Robbie, Will a’r orwyres Lila Rae.
Yn fachgen ifanc roedd wrth ei fodd yn crwydro ei filltir sgwâr, yn enwedig i lan y môr, gyda’i fam yn ei siarsio i ‘beidio â dod adre wedi boddi’!
Gyda’r rhyfel yn cychwyn rhaid oedd ymuno â’r Llynges yn y Môr Tawel ac yna ymlaen i Awstralia lle treuliodd flynyddoedd y rhyfel. Soniodd fy nain ei fod wedi treulio amser yn y môr mawr ond bod y pwdin reis a’r cwstard ŵy wedi ei gynnal!
Ar ôl y rhyfel aeth i’r Coleg Normal, Bangor gan gychwyn ei yrfa fel athro yn Ysgol Frongoch yn Ninbych. Roedd yn byw uwchben syrjeri’r doctor gan greu dipyn o gyffro gan ei fod yn ymarfer ei gornet braidd yn
Mai Roberts
11 Mai - Trip a phryd.
GWEILCH PYSGOD Y GLASLYN
Aderyn fu’n ddieithryn ddaeth yn ôl I aelwyd chwedloniaeth, Wedi’r trai mae’n dod i’r Traeth, I lanw ei olyniaeth.
Cuddiedig fu’r nyth o frigau ddoe Ger ‘Foel Ddu’ a’i chreigiau, Heddiw, mae’r holl adnoddau Yma i ni eu mwynhau.
Daeth Mrs G’n nain i’w llinach, a’i nyth
Roes sawl nyth ymhellach, Â’r sôn am ei chywion iach Bu’r gawres heb ragorach.
Hedfan ymhen mis a hanner, a dod Fesul dydd i gryfder, Byr yw’r haf sy’n hwb i’r her O hedeg tros fôr â hyder.
’Madael yn Awst a mudo i osgoi Ias gaeaf digroeso, Ond swyn y gwanwyn gano A’u denu’n frwd i’w hen fro.
HDJ
Mai 2022
CALENDR
DATHLIADAU PÊL-DROED DYFFRYN
Dathliadau diwedd tymor clwb Pêl-droed Dyffryn Ardudwy. Cafwyd noson wobrwyo yn y Neuadd Bentref. Diolch yn fawr i’r hyfforddwyr am eu gwaith caled dros y flwyddyn. Dyma enillwyr y gwobrau ar y noson.
Dan 9 - Chwaraewr y Chwaraewyr - Joe Horn
Wedi Datblygu Orau - Ned Powl-Jones
Chwaraewr y Rheolwr - Axl-Cain Carr
Dan 11- Chwaraewr y Chwaraewyr - Elis Foulkes
Wedi Datblygu Orau - Charlie Lumsdon
Dewch i roi cynnig ar yrru’r
Chwaraewr y Rheolwr - Jac Jones
Yaris Cross newydd!
Dewch i roi cynnig ar yrru’r
Yaris Cross newydd!
Huw Lewis, mab Edwin Lewis a’r ddiweddar Martha Lewis, 26 Y Waun, Harlech fu’n gofalu am luniau calendr Llais Ardudwy eleni. Bydd ar werth o ganol mis Medi ymlaen.
TOYOTA HARLECH
TOYOTA HARLECH
Ffordd Newydd
Ffordd Newydd
Harlech
Harlech
LL46 2PS 01766 780432
LL46 2PS 01766 780432
www.harlech.toyota.co.uk
www.harlech.toyota.co.uk
info@harlechtoyota.co.uk
info@harlechtoyota.co.uk
Facebook.com/harlechtoyota Twitter@harlech_toyota
CYNGOR CYMUNED HARLECH
CEISIADAU CYNLLUNIO
1. Dymchwel y tŵr ymarfer presennol ac adeiladu tŵr ymarfer ffrâm ddur newydd gyda golau cysylltiedig - Gorsaf Dân, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Cais ôl-weithredol i gadwi’r teras wedi ei godi sydd o flaen y brif fynedfa - Tafarn y Llew. Cefnogi’r cais hwn.
2. Darparu canllawiau gwarchod dur di-staen gyda chanllawiau pren ar lwybrau cerdded lefel uchel i berimedr y castell, gosod dwy giât a newidiadau i’r grisiau a landin i’r porthdy i gwrt y ward fewnol, gosod 1 giât i waelod tŵr y gogledd ddwyrain, a gosod 1 giât i waelod tŵr y de ddwyrain - Castell Harlech. Cefnogi’r cais hwn.
3. Trosi sgubor yn anecs un ystafell wely ynghyd â chodi estyniad a gosod 4 ffenestr to (3 ar y drychiad blaen ac 1 ar y drychiad cefn) - Foel, Harlech. Adroddodd y Clerc mai newydd dderbyn y cais cynllunio uchod oedd hi ac y byddai yn ei anfon ymlaen i’r aelodau.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Cefnogaeth
Corfforaethol
Cwblhawydd holiadur ynglŷn ag Ymgynghori ar Gynllun Gwella Hawliau
Tramwy Cyngor Gwynedd.
Cyngor Gwynedd – Adran Economi
Mae’r Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro Gwynedd - Cynllun Gwelliannau Trafnidiaeth
coridor A496 Ardudwy, ac yn gofyn am lythyr cefnogaeth gan y Cyngor. Cytunwyd i hynny.
Cyngor Gwynedd – Gweithdai Ardal Ni
2035
Bwriedir cynnal y gweithdai hyn ym
mhob ardal. Cytunodd Christopher
Braithwaite a Mark Armstrong gynrychioli’r Cyngor yn y gweithdy hwn.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae ymgeisydd cais cynllunio Caffi
Weary Walkers, Harlech, wedi apelio ynglŷn â phenderfyniad gwrthod y caniatâd cynllunio gan yr Awdurdod, ac yn gofyn os oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau i’w gwneud. Bydd y sylwadau mae’r Cyngor wedi ei wneud ynglŷn â’r cais hwn yn cael eu hanfon ymlaen i’r Arolygwr.
CRACIO’R COD - POS 16
Sylwch fod newid enw ar y pos y mis hwn. Mae ‘Cracio’r Cod’ yn disgrifo’n well beth yw’r dasg. Mae angen sgiliau ditectif arnoch i ddatrys y pos! Ond wrth gwrs yr un ydi gofynion y dasg ag o’r blaen: dod o hyd i’r llythrennau coll, sy’n cynnwys holl lythrennau yr wyddor Gymraeg (ar wahân i ‘ph’) sy’n ffitio i’r croesair.
Gobeithio ichi lwyddo i ddatrys pos mis Gorffennaf ar waetha’r ddau gamgymeriad! Roedd un bocs gwag heb rif arno (isobar) ac roedd un yn cynnwys gair yn cynnwys y llythyren ‘o’ ddwy waith pan ddylsai fod yn ‘oi’ (boiler). Rhag i’r awdur caredig gael bai ar gam, rhaid imi syrthio ar fy mai a datgan mai fi fu’n esgeulus wrth gopïo - y llygaid yn crwydro! Ac heb ei wirio’n iawn ar y diwedd. Gobeithio na fydd yr un anhawster y mis yma. Gerallt Rhun
Llongyfarchiadau i Mrs Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Mary Jones, Dolgellau; Mai Jones, Llandecwyn; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Gwenfair Ayckroyd, Y Bala; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll.
Anfonwch eich atebion at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].
Fel un a dreuliodd ei yrfa’n archifydd proffesiynol yn y Llyfrgell Genedlaethol, gallaf dystio mai’r dosbarth pwysicaf o ddogfennau y bu mwy o ddefnydd ohonynt nag unrhyw archif arall o gofnodion gwreiddiol oedd ewyllysiau gwreiddiol a llythyrau gweinyddu ystadau mewn achosion pan nad oedd ewyllys ar gael.
I raddau helaeth, haneswyr teulu ac ymchwilwyr oedd yn awyddus i olrhain hanes tai neu eiddo arall oedd yn eu hymchwilio gan amlaf. Ond maent o ddiddordeb mawr i haneswyr cymdeithasol ac economaidd, yn fwyaf arbennig felly’r rhestri eiddo manwl, oedd weithiau ynghlwm wrth yr ewyllysiau, ac weithiau ceir llythyrau difyr yno’n ogystal.
Cyn 1858 roedd yn rhaid profi pob ewyllys mewn llys eglwysig, ac yn ystod y flwyddyn honno’n unig y cyflwynwyd y system bresennol o brofeb sifil sydd yn parhau mewn grym hyd at heddiw. Yn weddol hwyr yn hanes y Llyfrgell Genedlaethol, sef yn ystod y 1990au, yr aethpwyd ati o ddifrif i lunio rhestri o’r dogfennau arbennig hyn, ac o hynny ymlaen gwelwyd cynnydd sylweddol yn y defnydd a wnaed ohonynt gan ymchwilwyr.
Un o’r ymchwilwyr hyn yw Gerald Morgan, hanesydd prysur a hynod gynhyrchiol. Pleser arbennig yw croesawu’r llyfr hwn ar yr ewyllysiau o brofwyd yng Nghymru cyn 1858, maes anghyffredin o ddifyr y bu’r awdur yn trwytho ei hun ynddo ers blynyddoedd lawer. O ganlyniad mae Gerald Morgan mewn sefyllfa digymar, i ddadansoddi cyd-destun hanesyddol y dogfennau hyn.
Rhennir y testun yn 17 o benodau, pob un yn gymharol fer a hawdd ei darllen. Mae’r gyntaf, ‘Tameidiau i Aros Pryd’, yn edrych ar nifer fechan o’r ewyllysiau mwyaf diddorol y daeth yr awdur ar eu traws wrth ymchwilio, a’r rhain naill ai’n gyfangwbl neu’n rhannol wedi eu llunio yn Gymraeg. Yna eir ymlaen i drafod nifer o themâu difyr ac arwyddocaol yn ein hanes rhwng 1560 ac 1858.
Rhyfeddol yw gweld cymaint o ddefnydd o’r Gymraeg a wnaed yn y dogfennau hyn. Yr ewyllys gyntaf a luniwyd yn Gymraeg oedd un Hugh ap Siôn Goch, gŵr o blwyf Aberriw nepell o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn 1563. Yna gwelwyd bwlch o bron i ddeugain mlynedd cyn dod o hyd i ewyllys arall yn Gymraeg, sef ewyllys Owain Griffith o blwyf Penmorfa, Eifionydd, yn 1600.
Trafodir ewyllysiau rhai o’r merched, a chynigia Gerald Morgan ddadansoddiad o’r math o ddynion a aeth ati i lunio ewyllysiau yn Gymraeg, sef gwŷr dosbarth canol, cysurus eu byd gan amlaf. Ni welwyd yr un offeiriad yn eu mysg,
nac aelodau o’r dosbarth bonedd cyfoethog.
Y pwnc nesaf sy’n derbyn sylw yw enghreifftiau o dafodiaith o fewn yr ewyllysiau hyn. Yna eir ymlaen i edrych ar rai o’r trafferthion a ddigwyddodd o fewn ambell deulu gwaed, yn enwedig pan nad oedd digynyddion, sefyllfa nad yw wedi newid rhyw lawer ers hynny. A gwneir ymgais lew yma i geisio deall teithiau meddwl rhai o’r unigolion dan sylw.
Ymhlith y themâu eraill a drafodir mor feistrolgar yma yw’r anawsterau a godai adeg ceisio profi ewyllys mewn llys eglwysig, y cyfrifon a ddaeth i fodolaeth yn sgil claddu’r ymadawedig, a rhai o’r cyfrolau print a nodwyd gan ddynion mwy academaidd eu hanian. Roedd ambell ŵr yn ddigon hyddysg i lunio’i ewyllys yn ei law ei hun, ac i wneud hynny hefyd ar ran eraill o fewn ei ardal neu ei blwyf. Ond teg nodi mai’r offeiriad lleol oedd yn mynd ati i lunio’r ewyllysiau fel arfer, ac weithiau’n derbyn tâl ychwanegol am ei gymwynas. Yna pwysleisir gwerth y rhestri eiddo i oleuo bywydau’r werin yn ystod y canrifoedd hyn.
Ceir llyfryddiaeth fer i orffen yr astudiaeth, a rhyfeddol yw sylweddoli cyn lleied o erthyglau academaidd a gyhoeddwyd hyd yma. Bu Gerald Morgan yn hynod o lwyddiannus yn ei ymgais i lenwi’r bwlch.
J Graham Jones
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Ffôn: 01766 770286
Roedd rhai o feirdd a cherddorion oes Victoria yn dewis enwau barddonol crand iawn iddynt eu hunain. Un a aeth dros ben llestri hefo hyn oedd John Roberts (1822–1877) a fabwysiadodd yr enw Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindwr pan oedd yn laslanc. Fodd bynnag, daeth doethineb i’r adwy maes o law a bodlonodd ar Ieuan Gwyllt fel enw cyfaddas i wynebu’r byd. Creaduriaid digon carbwl a rhyddieithol oedd rhai o feirdd yr oes. Nid felly Ieuan Gwyllt. Roedd yn emynydd campus ac yn well cerddor byth. Mae ei ddylanwad ar Gymru o hyd a theg ydi deud mai iddo ef yn bennaf mae’r clod ein bod fel cenedl yn harmoneiddio yn naturiol wrth ganu, peth sydd wedi peri syndod ac edmygedd i genhedloedd eraill dros y blynyddoedd.
Ganwyd Ieuan Gwyllt heb fod ymhell o Aberystwyth ym 1822. Tlawd oedd ei gefndir ond roedd ei ddau riant yn gerddorol ac yn awyddus i’w mab gael hynny o freintiau addysg oedd ar gael yn y fro. Roedd ei fam yn anllythrennog a phan oedd Ieuan yn ei arddegau, lluniodd benillion seiliedig ar y Salmau a rhannau eraill o’r Ysgrythur er mwyn iddi gael eu dysgu ar ei chof gan na allai ddarllen y Beibl. Anwastad yw eu safon ond pwy o hogiau’r oes hon a wnelai’r fath beth?
‘Pwy gredodd i’n hymadrodd, I bwy y datguddiwyd rywfodd Fraich r’Arglwydd mawr a’r hyn a wnaeth
Ei arfaeth a’i weithredoedd.’
Gwnaeth gynnydd yn yr ysgol ac wedi gadael cafodd swydd fel clerc i Griffith & Roberts, fferyllwyr yn Aberystwyth, lle bu am ddwy flynedd. Bu wedyn yn athro yn Aberystwyth cyn symud i Goleg Normal Borough Road, Llundain i gael ychwaneg o hyfforddiant.
Anffodus fu ei arhosiad yn Llundain. Cafodd y frech wen a andwyodd lawer arno ac ar ôl naw mis daeth yn ôl i ardal Aberystwyth i geisio adferiad iechyd. Un canlyniad o’i salwch oedd i’w wallt newid ei liw bron dros nos o fod yn ddu bygddu i droi’n glaer wyn. Gan ei fod yn ŵr ifanc llawn brwdfrydedd a syniadau ffres ganddo tybiai llawer o hen arweinwyr Capel y Tabernacl nad oedd yn dangos dyledus barch atyn nhw a’i fod yn dipyn o jarff. Credai rhai mai wig oedd y gwallt gwyn a’i fod wedi dod â hi o Lundain i dorri cyt. Aeth un hen frawd o’r tu ôl i’w gadair a thynnu yn ei wallt. Er siom i’r tynnwr, roedd y mop gwallt gwyn wedi ei angori yn ei le ac yn hollol naturiol. Bu Ieuan Gwyllt am gyfnod byr yn cadw ysgol cyn mynd i weithio fel clerc i ffyrm o gyfreithwyr yn y dref, sef y Mri Hughes & Roberts. Bu ei gyfnod fel clerc i gyfreithiwr yn hapus a llwyddiannus iawn iddo. Yn yr oes honno, yr oedd gweinyddiad y Gyfraith yn hollol yn Saesneg a gelwid ar Ieuan i gyfieithu
yn y llysoedd mewn oes pan oedd mwyafrif llethol y werin yn uniaith Gymraeg. Ymddiddorai fwyfwy mewn cerddoriaeth ac yr oedd yn un o bedwar sylfaenydd cylchgrawn newydd ‘Blodau Cerdd’. Pwrpas y ‘Blodau’ oedd dysgu cerddoriaeth i bobol i godi safon y canu yn y capeli a dyma yn wir brif waith Ieuan Gwyllt fel y cofiwn amdano heddiw. Roedd Ieuan awydd cychwyn pregethu hefyd ond roedd yna broblem. Fel y gwelwyd, credai rhai o flaenoriaid yr oes ei fod yn rhy ddigywilydd a’i syniadau’n rhy fodern. Os na allent dynnu ei wig credent y dylid torri ei grib. Diwedd y gân (yn llythrennol) oedd i’r awdurdodau wrthod iddo fynd ymlaen fel pregethwr. Ond nid un i dorri ei galon ar chwarae bach oedd Ieuan Gwyllt. Buan iawn y gwelwyd o’n ei gwneud hi am Lerpwl gan dderbyn swydd is-olygydd ar bapur ‘Yr Amserau’, cyhoeddiad radical a phoblogaidd a wnaeth lawer i ffurfio barn y Cymru yn yr oes honno. Roedd arweinwyr y Methodistiaid yn fwy eangfrydig yn Lerpwl nag yn Aberystwyth a chafodd fynd yn ei flaen i ddechrau pregethu. Gwnaeth hynny am y tro cyntaf yn Runcorn ym 1856. Amser digon anodd a gafodd Ieuan Gwyllt fel dyn papur newydd a phregethwr. Roedd yn ddyn sicr ei farn ac yn aml iawn roedd y farn honno’n groes i syniadau’r meistri tir a byddigions oedd â’r grym gwleidyddol yn eu dwylo ac hefyd yn groes i ddaliadau arweinwyr ei enwad, sef y Methodistiaid Calfinaidd. Er enghraifft, cawn ef yn datgan ei farn am rai o’i gydbregethwyr:
‘Y mae llawer iawn gormod o gorachod meddyliol yn llenwi pulpudau Cymru, dynion eiddil, cysglyd, diogel...’
Nid y ffordd orau o wneud ffrindiau, siŵr o fod, ac allai neb gymhwyso’r un o’r ansoddeiriau yna i Ieuan Gwyllt.
Tro nesaf cawn olwg ar ei gyfraniad at ganiadaeth y cysegr a rhan sol-ffa yn hynny.
JBW
HYSBYSEBION
Telerau gan Ann Lewis 01341 241297
ALAN RAYNER
07776 181959
ARCHEBU A GOSOD CARPEDI
ALUN WILLIAMS
TRYDANWR
GALLWCH
HYSBYSEBU
* Cartrefi
YN Y
* Masnachol
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Tafarn yr Eryrod
Llanuwchllyn 01678 540278
JASON CLARKE
Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth
LL48 6BN
Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk
BLWCH HWN
* Diwydiannol
Archwilio a Phrofi
AM £6 Y MIS
Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com
Bwyd cartref blasus
Cinio Dydd Sul
Dathliadau Arbennig
Croeso i Deuluoedd
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri.
GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803
NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech
CAE DU DESIGNS
DEFNYDDIAU DISGOWNT
GAN GYNLLUNWYR
Stryd Fawr, Harlech
Gwynedd LL46 2TT
01766 780239
gwionroberts@yahoo.co.uk
dros 25 mlynedd o brofiad
Glanhäwr
Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata
E B RICHARDS
Ffynnon Mair
Llanbedr
01341 241551
CYNNAL EIDDO
O BOB MATH
Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ebost: sales@caedudesigns.co.uk
Dilynwch ni:
Oriau agor:
Llun - Sadwrn
10.00 tan 4.00
07713 703222
Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Am argraffu diguro Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com 01970 832 304
CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi Am hysbysebu yn Llais Ardudwy? Manylion gan: Ann Lewis Min-y-môr Llandanwg, Harlech LL46 2SD 01341 241297
H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128
Clwb y Werin
Trefnwyd i aelodau’r Clwb fynd i Westy’r Ship, Talsarnau ar ddydd Mawrth, 16 Awst i gael te prynhawn, cyn cael toriad am ychydig amser. Dechreuwyd trwy gael gêm o bingo ac yna gweiniwyd y te ardderchog, gydag amrywiaeth o fwyd blasus yn edrych yn ddeniadol iawn ar stondinau llechen, gyda dewis o fwyd sawrus a melys. Mwynhawyd y lluniaeth arbennig yma’n fawr iawn a threuliwyd amser difyr yn bwyta a sgwrsio, gan werthfawrogi’r cyfle i gefnogi gweithwyr ifanc lleol newydd sy’n rhedeg y Ship. Diolchwyd i Hannah Pugh ac Iwan Aeron am y paratoadau ar ein cyfer, ac am y croeso cynnes a’r gweini hawddgar.
Bydd y Clwb yn ailgychwyn yn y Neuadd Gymuned ar bnawn dydd Mawrth, 6 Medi, am 1.30 o’r gloch, ac mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno.
Ennill gradd
Llongyfarchiadau mawr i Rhian
Tomos, Caernarfon, merch Mathew a Mai Jones, Bronallt, Llandecwyn, ar gwblhau Gradd Meistr yn y Celfyddydau drwy ymchwil ym
Mhrifysgol Bangor yr haf hwn.
Profedigaeth
Cydymdeimlwn yn ddwys iawn
â Margaret a Benjie Williams a’r teulu, 13 Cilfor, yn eu profedigaeth ddiweddar. Bu farw mam Margaret, gynt o’r Bermo, yn 90 oed.
Eglwys Llandecwyn
GWASANAETH
DIOLCHGARWCH
25 Medi am 3.00 o’r gloch
Pregethwr Gwadd: Y Tad Deiniol
Llongyfarchwyd y Cyng Annwen Hughes ar gael ei hethol fel y ferch gyntaf i fod yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddar.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Adeiladu sied gardd a storfa goedCaerffynnon, Talsarnau. Cefnogi’r cais. Tynnu simdde - Bryn Mair, 21 Stryd Fawr, Talsarnau. Cefnogi’r cais. Ffurfio ffordd fynediad newyddCaerffynnon, Talsarnau. Heb ei drafod.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd
Cwblhawydd holiadur ynglŷn ag Ymgynghori ar Gynllun Gwella Hawliau
Tramwy Cyngor Gwynedd..
Adran Economi
Mae’r Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro Gwynedd - Cynllun Gwelliannau Trafnidiaeth coridor
A496 Ardudwy, ac yn gofyn am lythyr cefnogaeth gan y Cyngor. Cytunwyd i hynny.
Adran Economi - Ardal Ni 2035 Bwriedir cynnal y gweithdai hyn ym mhob ardal. Cytunodd y Cadeirydd a Dewi Tudur Lewis gynrychioli’r Cyngor yn y gweithdy hwn.
Ysgol Gynradd Talsarnau
Mae’r ysgol yn cynnwys linc i holiadur y mae’r staff wedi ei greu ar gyfer y gymuned leol. Pwrpas yr holiadur yw canfod barn y gymuned leol wrth iddynt ddylunio cwricwlwm newydd a chyfoes.
Geni Llongyfarchiadau i Garmon a Catrin Lewis, Porthmadog ar enedigaeth eu mab bach, Elidir Gwydion ar 25 Awst, ŵyr newydd i deulu Dewi Tudur a Siriol Lewis, Llwyn Dafydd, Talsarnau. Pob dymuniad da i’r teulu.
Neuadd Gymuned Talsarnau
Nos Iau, 20 Hydref am 7:30
Sgwrs ddifyr gan Len Jones am Bob Owen Croesor, yr ysgolhaig a’r casglwr llyfrau. Paned ar y diwedd. Dim tâl mynediad.
Ysgol Talsarnau
Cafwyd ymweliad i’w gofio a Chaerdydd gyda B5 a B6. Ymwelwyd â nifer o lefydd ddiddorol gan gynnwys stiwdios newydd y BBC. Diolch i Gyngor Cymuned Talsarnau am y rhodd tuag at ein costau teithio.
Trefnwyd y Mabolgampau blynyddol ddiwedd y tymor a rhoddodd y plant o’u gorau wrth gynrychioli eu tai: Tecwyn, Gelli a Soar. Y tŷ buddugol oedd Gelli. I gloi gweithgareddau’r flwyddyn trefnwyd disgo i ddiolch i ddisgyblion B6 am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd. Roedd yn chwith ffarwelio hefo Ioan, Cai, Mia, Ellen, Aron, Hari, Guto, Nedw a Tyler ar ddiwedd y tymor. Bu’n bleser eu haddysgu a bod yn eu cwmni. Dymuniadau gorau iddyn nhw yn Ysgol Ardudwy ym mis Medi. Diolch arbennig i Bwyllgor y Neuadd Bentref am drefnu’r disgo ac i Sion Richards am fod yn DJ.
Bywyd gwyllt yr ardd
GORCHWYLION Y MIS
Wrth i ni ddod at ddiwedd tymor nythu’r adar, gallwch ddechrau torri’r gwrychoedd eto.
Sicrhewch bod digon o ddŵr glân yn y baddon adar.
Bydd draenogod yn falch o fwyd ar eu cyfer ar ddiwedd yr haf. Rhowch fwyd ci neu gath iddyn nhw; peidiwch byth â rhoi bara neu lefrith.
Adeiladwch flwch i ddraenogod aeafgysgu.
Gorchuddiwch wyneb pwll eich gardd gyda netin lle bod
gormod o ddail yn cwympo iddo a’i fygu. Torrwch y ddôl unwaith yn rhagor; gadewch y toriadau am ddiwrnod neu ddau i alluogi hadau blodau gwyllt i gwympo’n ôl i’r borfa. Gallwch greu pentyrrau o foncyffion neu greigiau fel lloches i fywyd gwyllt.
PARATOI AR GYFER Y GAEAF
Gallwch helpu creaduriaid oroesi’r tywydd oer drwy greu pentwr o foncyffion yn eich gardd, drwy greu gwesty i bryfed o fonion gweigion neu greu blwch draenog. Bydd hyd yn oed gadael pentwr o ddail crin heb eu casglu’n darparu cartref i famaliaid bychan a llawer o bryfed. Gwnewch flwch i’r draenog neu crëwch bentyrrau o greigiau neu friciau fel man i amffibiaid a chreaduriaid eraill dreulio’r gaeaf.
I helpu gloÿnnod byw sy’n bwydo ar neithdar, plannwch ystod o flodau llawn neithdar fel falerian coch ac aster sy’n blodeuo o fis Mawrth hyd mis Tachwedd.
Yn hwyr yn yr haf, bydd rhai gloÿnnod byw’n falch o ffrwythau a adewir ar y ddaear.
Ymddeoliad Tirmon
Diolch
Dymuna Enid, 69a Cae Gwastad, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniodd yn ei phrofedigaeth chwerw o golli ei phriod David. Diolch arbennig i’r Parch Iwan Llewelyn Jones am ei wasanaeth teimladwy yn yr
Amlosgfa. Diolch hefyd i Dylan a’r hogiau o Pritchard a Griffiths am eu gwasanaeth trylwyr. Diolchaf hefyd am y rhoddion hael tuag at Nyrsus
Y
Wedi 47 mlynedd o wasanaeth, mae Emyr Price wedi penderfynu ymddeol o’i waith fel tirmon yng Nghlwb Golff Dewi Sant yn Harlech. Talwyd teyrnged haeddiannol iddo gan Trefor Davies, Rheolwr y Clwb. Diolchodd Trefor i Emyr am ei ymroddiad i’w waith dros y blynyddoedd. Dywed Roger Kerry, ei bennaeth am sawl blwyddyn, mai Emyr oedd y ‘cymeriad’ yn y tîm o weithwyr, yn arbennig yn ystod yr egwyl ginio gyda’i hiwmor unigryw. Mae’n debyg mai Emyr yw’r unigolyn sydd wedi gwasanaethu’r Clwb am y cyfnod hiraf yn eu hanes. Ac er na fu ei iechyd yn dda yn ddiweddar, fe gadwodd ei wên a’i gymeriad hwyliog. Dymunir yn dda iddo ef a’i wraig Julie yn ei ymddeolaid.
Cymunedol Ardudwy, hefyd diolch o waelod calon i’m teulu, ffrindiau a chymdogion am eu caredigrwydd yn awr ac yn ystod gwaeledd David. Rhodd a diolch £25
Marwolaeth
Bu farw Mr Brian John Evans, Brig y Wern, Ffordd y Traeth ac yntau yn 90 oed. Roedd yn ŵr i’r diweddar Bronwena ac yn dad i Colin, Wendy a’r diweddar Gerald, ac yn dad yng nghyfraith i Julie a Gareth. Roedd yn ŵr tawel ond poblogaidd iawn ac yn aelod ffyddlon o Seindorf Arian Harlech am nifer o flynyddoedd. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth.
Pwll Nofio
Llongyfarchiadau i Donna MorrisCollins ar gael ei phenodi yn rheolwr ar Hamdden Harlech ac Ardudwy sy’n cynnwys y wal ddringo, y caffi a’r pwll nofio.
Cymdeithas Hanes Harlech
Cynhelir sgwrs gyntaf rhaglen y gaeaf
Cymdeithas Hanes Harlech ar nos
Fawrth, 13 Medi, yn Neuadd Goffa
Harlech, am 7.30 yr hwyr. Y siaradwr
fydd Nia Powell, yr hanesydd, a bydd yn sôn am Wylliaid Cochion Mawddwy.
Mae aelodaeth yn £10 y flwyddyn. Croeso i bawb.
Teulu’r Castell
Fe fydd Teulu’r Castell yn ailgychwyn ddydd Mawrth, 11 Hydref yn Neuadd Goffa Llanfair am 2 o’r gloch.
Fe fydd sgwrs ac arddangosfa o’i gwaith a gwnued pwythwaith gan
Mrs Christine Coleman tra roedd yn y cyfnod clo, Covid. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y prynhawn sy’n diweddu efo te.
Julie’n dathlu 50
Llongyfarchiadau i Julie Jones, 11 Y Waun a oedd yn dathlu ei phenblwydd ar 31 Awst yn hanner cant oed. Cyfarchion cynnes iawn i ti Julie gan y teulu i gyd.
Te Pnawn
Ar Awst 13, cynhaliwyd Te Pnawn yn Neuadd Goffa, Harlech. Penderfynodd criw o ffrindiau Sally John baratoi te er mwyn codi arian tuag at Emi a’i theulu ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle mae Emi yn derbyn ei thriniaeth. Mae Emi yn ferch i Gwion a Nicky Thomas (John gynt), chwaer fach i Sam Elwyn ac yn wyres i Sally a David John, Tŷ Canol, a Gareth a Dawn Thomas, Caernarfon (gynt o Benrhyndeudraeth). Bu Emi dan anhwylder ers mis Mawrth ac mae wedi treulio cyfnodau yn Ysbyty Alder Hey ac Ysbyty Gwynedd. Braf oedd gweld Gwion, Nicky, Sam ac Emi yn bresennol a chafwyd gair gan Nicky i ddiolch am y gefnogaeth a dderbyniwyd ganddyn nhw fel teulu yn ystod y misoedd diwethaf.
Dymuna’r rhai a baratodd y te ddiolch yn fawr iawn am y rhoddion ariannol, y gwobrau raffl ac i bawb a gefnogodd. Hyd yma fe gasglwyd dros £3,000 tuag at yr achos.
Graddio
Llongyfarchiadau i Harri Tudur
Miller sydd wedi graddio gyda gradd BSc dosbarth cyntaf mewn Bioleg ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl. Mae’n fab i Marc a Santina
Miller, Y Waun. Cychwynnodd ar ei swydd fel Dietegydd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dros siroedd Gwynedd ac Ynys Môn. Pob dymuniad da iti yn dy swydd newydd Harri.
Sefydliad y Merched
Fe fydd Sefydliad y Merched yn ailgychwyn ar ôl seibiant yr haf nos Fercher, 14 Medi am 7 o’r gloch yn Neuadd Goffa Harlech.
Fe fydd Jayne Windmill yn rhoi sgwrs ar ddod yn awdur. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y noson.
Diolch
Fel teulu, hoffem ddiolch i chi o waelod calon am y te prynhawn arbennig gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa yn Harlech yn ddiweddar. Roedd yn brofiad eithriadol o emosiynol i weld cymaint ohonoch chi yno yn cefnogi’r achos. Diolch o waelod calon i’r merched fu mor brysur yn trefnu ac yn cynnal y pnawn arbennig, a diolch yn ogystal i bawb am eu rhoddion hael eithriadol tuag at y raffl. Mae’n anodd rhoi’n gwerthfawrogiad mewn geiriau, ond heb os, mae’ch cefnogaeth a’ch caredigrwydd chi yn ystod y chwe mis diwethaf ers diagnosis Emi Elea wedi helpu i’n cynnal ni drwy’r cyfan.
Gyda chofion cynhesaf atoch chi oll, Nicky, Gwion, Sam ac Emi.
Ffair Fop Fictoraidd yn Harlech, 30 a 31 Gorffennaf 2022
Cafwyd llawer o hwyl yn y Ffair Fop Fictoraidd yn Harlech ar ddiwedd Gorffennaf. Yno roedd arddangosfa o fedrau ac roedd bobl leol mewn gwisgoedd wrth iddyn nhw
fwynhau’r bwyd blasus oedd ar gael iddyn nhw. Cafwyd cerddoriaeth hyfryd ar y delyn gan ferch ifanc leol ac roedd yn bosib i chi ddysgu mwy am hanes lliwgar tref Harlech gan ‘Mrs Holland’!!
Diolch i bawb a roddodd gynnig ar y gystadleuaeth i enwi ein pethau o Oes Fictoria. Yr enillydd oedd Jackie Drew ac, i’r sawl sydd â diddordeb, dangoswyd yr holl atebion yn siop y Groser.
Capel Jerusalem
Medi 11 Parch Dewi Morris am 4.00
Hydref 2 Br Iwan Morgan am 4.00
Erbyn hyn, mae gwyliau’r haf wedi dod i ben gyda’r disgyblion, y rhieni a’r staff yn ceisio dod i drefn â’r flwyddyn addysgol newydd.
Cyn inni gau am wyliau’r haf, roedd digon yn digwydd. I ddechrau, trefnwyd gêm bêl-droed rhwng bechgyn B9 a B10. Bu tipyn o dynnu coes yn y dyddiau yn arwain at y gêm fawr ond wedi iddyn nhw gyrraedd y cae, fe welwyd wynebau difrifol gyda’r meddwl a’r lygad yn sicr ar y bêl. Ar ddiwedd y chwarae, bechgyn B9 enillodd o 1-0.
Yr ochr bwysig i’r gêm hon oedd ei bod yn rhan o ddiwrnod codi arian tuag at elusen Macmillan. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd tuag at y diwrnod hwn. Gobeithio bydd y gêm yma yn parhau o hyn allan. Prynhawn gwerth chweil yn sicr.
Mae yna amser maith ers i griw o’r ysgol gael yr hawl i deithio oherwydd effaith Covid ers Mawrth 2020. Ond eleni, fe ddaeth cyfle eto i fynd ychydig ymhellach na’r daith trên ddyddiol. Trefnwyd i’r disgyblion gael mynd i Lerpwl er mwyn mwynhau golygfeydd y ddinas. Yn ogystal, aeth disgyblion B7 am dridiau o antur i wersyll yr Urdd yng Nglan-llyn. Gyda’r tywydd yn braf, roedd yn anodd meddwl am le gwell i fynd a hynny ar stepan ein drws.
Daeth criw o B6 yr ysgolion cynradd lleol i ymweld â’r ysgol am dridiau ar ddechrau Gorffennaf. Cafwyd nifer o weithgareddau i’w cadw yn brysur yn y dosbarth, ar y caeau a thrwy gerdded i’r traeth.
Dros y blynyddoedd, bu un cerddor dawnus yn gadael ei farc ar nifer fawr o eisteddfodau a chyngherddau. Yn ystod yr haf, bu’n hogi ei dalent yn Ysgol Haf Coleg Cerdd Chetham ym Manceinion. Rydym yn hyderus y bydd David Bisseker yn gwneud ei farc yn y byd cerddorol yn y blynyddoedd nesa’. Mae’n berson ifanc prysur. Gobeithio bydd y gwaith caled yn dod â llwyddiant iddo yn y maes hwn.
Cais am ddillad nad oes mo’u hangen Byddai’r ysgol yn falch o dderbyn unrhyw ddillad ysgol di-angen er mwyn ein cynorthwyo i greu ‘banc gwisg ysgol’. Gallai hyn gynnwys:
Cafodd yr ysgol ei pheintio yn ddiweddar gan adfywio nifer o ystafelloedd a choridorau. Dros nifer o wythnosau, mae’r peintiwr graffiti enwog, Andy Birch, wedi bod yn gweithio ei hud a lledrith i ddod a golygfeydd lleol i’r waliau.
• crys chwys/polo gyda logo’r ysgol
• trowsus/sgert ysgol
• crys T gwyn addysg gorfforol gyda logo’r ysgol Diolch yn fawr iawn o flaen llaw.
Treftadaeth Harlech ac Ardudwy
ein gorffennol diweddar yr un mor ddifyr, y rhai oedd yn byw yn yr adfeilion yr ydym yn gweld heddiw - yn llenwi lle gyda bywyd, profiad a hanes a’r hyn rydym ni yn y prosiect yn geisio ei ddogfennu, ei ddathlu a’i warchod.
Cewch wybod mwy am yr agwedd hon o’r prosiect ym mis Hydref, trwy Llais Ardudwy neu ar raglen boblogaidd Cynefin ar S4C fydd yn cael ei ddarlledu ar ddiwedd y flwyddyn.
Ers cychwyn prosiect Treftadaeth
Harlech ac Ardudwy dros flwyddyn yn ôl bellach bu ymateb y gymuned y tu hwnt i’r gofyn. Diolch i bawb sydd wedi codi ffôn, sgwennu e-bost, gyrru llythyr neu fynd â fi am dro i hela murddunnod.
Un o’r pleserau mwyaf yw clywed am lên gwerin a straeon lleol sydd yn gysylltiedig â ffermydd, murddunnod neu enw llefydd. Craig y Ddinas, er enghraifft, sydd yn Nyffryn Ardudwy.
Wyddoch chi mai cawres fu’n byw yma yn y dyddiau gynt, a chrib Moelfre oedd ei hoff encilfa? Yno y carai grwydro ar ddyddiau hyfryd o haf. Welsoch chi hi yn ystod yr ‘gwres’ diweddar?
Ond mae straeon o gymeriadau
Un peth oedd ar goll yn y prosiect oedd arolygon archaeolegol. Fe ddaeth y crème de la crème wrth i archaeolegwyr o Brifysgol Sheffield ymuno ag archaeolegydd y Parc Cenedlaethol a llond llaw o wirfoddolwyr lleol i gwblhau arolwg ar ddau furddun yn Llanenddwyn, sef LlamMaria a Tan Daran. Nid golygfa o ‘Time Team’ a gawsom, gyda phobl ar eu gliniau mewn mwd yn tyrchu am drysor, ond cofnodi pwyllog wrth ddefnyddio cyfuniad o dechnoleg a phapur a phensil. Cwblhawyd cynlluniau manwl o seiliau y ddau ffurddun i gofnodi eu maint a’u gosodiad, ac er mor fach oeddynt fe gymrodd hyn dipyn o amser. Tynnwyd cannoedd o luniau i bwrpas photogrammetry, proses sy’n golygu y gallwn ailgreu modelau 3D ohonyn nhw. Defnyddir drôn i ddarganfod mwy o’r awyr a chamerau 360 i ni fedru camu i mewn i’r adfeilion yn
ddigidol, heb yr angen i grwydro ar dir unrhyw un.
Ond at ba bwrpas oedd hyn i gyd?
Nid yn unig y gallwn ddarganfod mwy am sut roedd y murddunnod hyn yn edrych a sut y cawsant eu ddefnyddio ond mae’n bwysig eu cofnodi fel ag y maen nhw heddiw. .
Fe’ch gadawaf gyda gair gan Dafydd
Styllan, fu’n byw yn Styllan (neu Castellhen/Castellan ar fap) yn
G19eg, sydd erbyn hyn yn furddun. Byddai’n [Dafydd] mynd o gwmpas i werthu ysgubau grug ac un diwrnod aeth cyn belled â Llanbedr ac at ddrws rhyw wraig i gymell un.
Meddai’r wraig, ‘Un sâl iawn gefais i gennych chi y tro o’r blaen.’
‘Hy, wel wir, fe’i cariais hi bob cam o’r Dyffryn a chwynodd hi yr un waith wrtha i ei bod hi’n sâl.’
O’R SIOE SIR YNG NGHORWEN
Teulu Uwch-glan
Hwrdd
Cyntaf ac Is-bencampwr y brîd.
Oen Fenyw
Cyntaf a phencampwr y brîd.
Oen Fenyw - Ail wobr.
Grŵp o Dri (1 hwrdd a 2 fenyw) –Cyntaf
Merched y Wawr
Ceri Williams, cangen Nantcol – 1af ac 2il, siaced i blentyn bach efo hwd.
Janet Mostert, cangen Harlech a Llanfair – jar o unrhyw jeli, 2il.
Jean Jones, cangen y Bermo – 3ydd efo bag addurniedig.
Margiad Davies, cangen Bro
Tryweryn – wyau Albanaidd, 1af; cacen sbwng heb ei haddurno, 1af; macarŵns, 2il.
Sefydliad y Merched
Caroline Pettifor-Robson, cangen Harlech – ffotograffiaeth, 1af.
Gwaith crefft
Gwen Pettifor, cangen Harlech.
Garddio
Enillodd Robert Edwards, Harlech, lu o wobrau yn yr adran lysiau.
Llongyfarch
Llongyfarchiadau hefyd i Ellis
Wynne. Yn dilyn ei ymddeoliad o fwrdd y Farmers’ Marts ers blynyddoedd, cafodd ei wobrwyo â ffon fugail. Mae Aled Morgan Jones wedi ei benodi fel aelod newydd o’r bwrdd.
Stondin ddeniadol
Roedd stondin Mari yr Hendre, Cwm Nantcol, yn brysur drwy gydol y dydd.
Annwen a Trefor yn stiwardio yn adran y defaid
Ailagor Hen Lyfrgell Harlech
wrth gwblhau gwaith ychwanegol heb gost. Mae aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gyda chymorth gwirfoddolwyr, wedi gweithio’n ddygn wrth reoli’r gwaith grant, glanhau, clirio, peintio a chyflawni’r holl waith angenrheidiol
Mae Hen Lyfrgell Harlech yn barod i ailagor ei ddrysau i ddefnyddwyr cymunedol. Bydd Diwrnod Agored ar 22 Medi (11.00-6.00), gyda seremoni agor am 2.00, yn gyfle i bobl leol alw heibio’r adeilad a gweld yr holl welliannau a wnaed, diolch i grantiau a llawer o waith gan wirfoddolwyr a chyfranwyr o’r gymuned.
Cafwyd grant o £3,000 gan Gronfa Sefydliad Cymunedol Cymru i helpu i dalu am newid defnydd ystafell i greu Llyfrgell Gyfeirio ac hefyd i greu cegin newydd. Cyfrannwyd llyfrau ar hanes lleol o Lyfrgell Coleg Harlech i’r llyfrgell newydd gan Addysg Oedolion Cymru cyn i safle Coleg Harlech gael ei werthu. Rydym hefyd wedi derbyn cyfraniadau hael o lyfrau ar hanes lleol gan stadau Les Derbyshire (Bermo) a Bryn Jones (Blaenau Ffestiniog). Mae grant o £4,460 gan Ymddiriedolaeth y Pererinion wedi talu am gatalogio’r llyfrau.
Mae grant o £20,000 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau
Tirlenwi wedi talu am system wres
canolog newydd ar gyfer yr adeilad
cyfan yn ogystal ag inswleiddio’r to a mynd i’r afael â phroblemau lleithder difrifol.
Cyfunwyd yr arian a godwyd gan yr
Hen Lyfrgell gyda grantiau’r Cyfnod Clo i dalu £18,000 ar gyfer y ramp mynediad newydd i’r adeilad.
Diolch i grant o £7,400 gan
Sefydliad y Brethynwyr gosodwyd
toiled newydd sy’n addas i bobl ag anableddau, hefyd crëwyd agoriad
llydan i’r prif ystafell er mwyn
galluogi mynediad i bobl mewn cadair olwyn.
Mae bron y cwbl o’r gwaith adeiladu wedi ei gwblhau gan gontractwyr lleol ac rydym yn diolch iddyn nhw i gyd am ansawdd eu gwaith a’u haelioni Mae hyd yn oed y byrddau snwcer wedi cael gorchuddion newydd