Llais Ardudwy rhagfyr 2022

Page 1

£1

Llais Ardudwy

RHIF 526 - RHAGFYR 2022

Roc Ardudwy yn rhannu £7000

Llwyddo ar ‘Masterchef’

Mae tîm Roc Ardudwy, sy’n trefnu digwyddiad cerddorol yn flynyddol, wedi rhannu £7000 i elusennau a sefydliadau’r ardal eleni, diolch i lwyddiant y bandiau byw. Dros y blynyddoedd, mae’r tîm wedi rhannu miloedd o bunnau i wahanol sefydliadau ond eleni, galwyd ar y gymuned i wneud ceisiadau am yr arian, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd bob rhan o ardal Harlech a Llanbedr. Un o’r criw ffodus fydd yn elwa o’r arian eleni yw Tîm Pêl-droed Ysgol Ardudwy. Maent yn ddiolchgar iawn am yr arian a byddant yn ei ddefnyddio i brynu dillad pêldroed newydd i holl ddisgyblion B7 a B8 gan gynnwys y merched.

Yn ôl y Cynghorydd dros Harlech a Llanbedr, Gwynfor Owen: ‘Mae’r ymroddiad a’r gwaith mae criw Roc Ardudwy yn ei wneud yn lleol yn anhygoel. Roedd y digwyddiad ym mis Mai eleni yng Nghastell Harlech yn wych gyda bandiau teyrnged Stereophonics a Tom Jones yn canu a’r band lleol, JD&Co, yn agor y digwyddiad gyda chymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg.’

Yn ôl Jim a Sheila Lees, ‘Rydym yn trefnu’r digwyddiadau hyn gan fod y ddau ohonom yn mwynhau’r gerddoriaeth. Ond ein prif bleser yw gweld pobl yn mwynhau eu hunain a mwynhau cerddoriaeth fyw yma’n lleol. Mae’r ffaith ein bod bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn roi arian i sefydliadau lleol yn rhywbeth arbennig iawn.’

Llongyfarchiadau i Owen Vaughan, gynt o’r Bermo, ond sydd bellach yn byw yn Harlech. Llwyddodd Owen i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Masterchef’ y BBC. Yn 23 oed, llwyddodd i ddod yn Brif Gogydd a chadw’r ddwy Rosette AA ym Mhenmaenuchaf. Dywed ei fod wastad wedi mwynhau coginio gartref. Mi ddaeth yn obsesiwn wrth iddo ddechrau gwylio rhaglenni coginio a darllen llyfrau coginio. Cychwynnodd goginio ym Mwyty Mawddach yn 15 oed, wedyn bu’n Sous Chef yng ngwesty Pale cyn symud i Benmaeuchaf am gyfnod. Y mae rŵan yn gweithio fel Sous Chef ym Mhortmeirion. Pob lwc i’r dyfodol, Owen.

Swyddogion

Ysgol Ardudwy

Dewiswyd Euros Williams a Lois Enlli Williams yn Brif Swyddogion ac Osian Lockett, Erin Mitchelmore, Ruby Jones a Jago Jones yn Ddirprwyon a Filip Staszewski, Saskia Duncan, Cara Thomas a Cai Jones yn Swyddogion. Nid yw Jago Jones yn y llun. Llongyfarchiadau cynnes i bawb. Mwynhewch y profiad!

GOLYGYDDION

1. Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

2. Anwen Roberts

Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com

3. Haf Meredydd

Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com

01766 780541, 07483 857716

SWYDDOGION

Cadeirydd

Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion

Ann Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Trysorydd

Iolyn Jones 01341 241391

Tyddyn y Llidiart, Llanbedr

Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com

Côd Sortio: 40-37-13

Rhif y Cyfrif: 61074229

Ysgrifennydd

Iwan Morus Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com

CASGLWYR NEWYDDION

LLEOL Y Bermo

Grace Williams 01341 280788

Dyffryn Ardudwy

Gwennie Roberts 01341 247408

Mai Roberts 01341 242744

Llanbedr

Jennifer Greenwood 01341 241517

Susanne Davies 01341 241523

Llanfair a Llandanwg

Hefina Griffith 01766 780759

Bet Roberts 01766 780344

Harlech

Edwina Evans 01766 780789

Ceri Griffith 07748 692170

Carol O’Neill 01766 780189

Talsarnau

Gwenda Griffiths 01766 771238

Anwen Roberts 01766 772960

Gosodir y rhifyn nesaf ar Rhagfyr 30 a bydd ar werth ar Ionawr 5. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Rhagfyr 28 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

CORNEL NATUR Y cyffylog

Aderyn yr heliwr yw’r cyffylog wrth draddodiad ond yn sicr byddai’n rhaid wrth fwy nag un ohonynt i wneud pryd. Dyma darddiad y ddihareb ‘Nid wrth ei big y mae prynu (neu ‘fesur’ i rai) cyffylog’ wrth gwrs, gan nad yw’r pig hir ddim yn fesur o faint corff yr aderyn. Er ei fod yn cael ei gyfrif yn flasusfwyd, nid yw’n perthyn dim i’r adar eraill fel y petris a’r ffesant sydd hefyd yn dod i’r bwrdd cinio.

I’r naturiaethwr, mae’n perthyn i’r heidiau prysur o adar hir-big, heglog (y rhydwyr) sydd yn mynd a dod yn finteioedd hyd y glannau lleidiog. Yn wahanol i aelodau eraill o’r grŵp fel y gylfinir a phioden y môr, nid y traethau agored yw ei hoff gynefin ond llecynnau llaith meddal mewn coedydd, lle mae’n medru gwthio ei big hir i’r pridd wrth chwilota am bryfaid genwair a llynghyrod eraill.

Yn y gaeaf yr ymddengys yma amlaf pan gyfyd yn sydyn oddi ar lwybr lleidiog neu lan ffos yn y coed. Twmplyn o aderyn o liw gwinau yn curo’i adenydd yn swnllyd a welir, a hwnnw’n gwau ei ffordd yn fedrus a chyflym rhwng bonion y coed ac o’r golwg yn fuan. Prin mae cyfle ar arddangosiad fel hyn i weld ei big

hir, ei lygaid gloywddu a phatrwm brith ei blu hardd. Rhai arbennig o’r plu yma a ddefnyddir gan enweirwyr i wisgo plu pysgota. Defnyddir un bluen fach fain arbennig o’r adain gan arlunwyr fel brws ar un pryd. Mae’r cyffylog yn weddol brin yma yn y tymor nythu ond cynydda’r nifer pan ddaw adar o wledydd oerach yma i dreulio’r gaeaf a dyma’r amser tebycaf i’w gweld.

Pigion tymhorol gan Wil Ifor:

Faint o gelyn ydych chi wedi ei weld ar goed celyn hyd yma yr hydref hwn? Arwydd o aeaf caled yn ôl rhyw goel yw bod aeron celyn yn brin, ond mae’n debycach fod a wnelo’r cnwd hydrefol fwy â’r tywydd a fu nac â’r tywydd sydd i ddod.

Misoedd Mai a Mehefin cynt sy’n bwysig, mae’n debyg, pan fo tywydd teg yn caniatáu i’r gwenyn ymweld â’r blodau a chario paill o gwmpas. Caiff mwyalchod a bronfreithod eu denu i’r gelynnen gan yr aeron coch, ac mae creaduriaid gwyllt a dof hefyd yn cael eu denu ato am loches y dail clos bythwyrdd.

2
‘Nid wrth ei big ...’
o lyfr y diweddar Wil Ifor Jones, ‘Cacwn yn y Ffa’

QATAR

Cafwyd taith arbennig i Qatar i wylio Cymru yn cystadlu yng Nghwpan Pêl-droed y Byd - breuddwyd a wireddwyd gan Hana Wellings, Masara Sandalls, Siôn Wellings a Liam Charlton.

Mi ddaru nhw aros yn Dubai cyn hedfan i Qatar, a gwirioni wrth i Gareth Bale sgorio o’r smotyn a sicrhau gêm gyfartal.

Mi gawson nhw hwyl wrth gymdeithasu gyda’r Cymry ar wasgar a chyfarfod Joe Ledley, cyn-chwaraewr oedd mor allweddol yng ngemau’r Euros yn ôl yn 2016 yn Ffrainc. Cafodd Siôn ei gyfweld gan bobl y wasg – hwyrach eu bod wedi ei weld yn serennu yn fidio swyddogol yr ymgyrch ‘Yma o Hyd’.

Cawsant brofiadau bythgofiadwy a hwythau’n gallu dweud gyda balchder wrth gefnogwyr y dyfodol – roedden ni yno!

CELTIC CABIN

Llongyfarchiadau i Suzy Simpson a Paul Thomson o’r Celtic Cabin, Bermo ar ennill gwobr anrhydeddus iawn BBC Radio 4 yn eu gwobrau bwyd a ffermio. Fe lwyddon nhw yn y categori bwyd stryd/tecawê.

Cawson nhw eu henwebu gan eu cwsmeriaid ac maent yn falch iawn o hynny. Maen nhw’n gweini wraps Mecsicanaidd, cacennau a choffi.

Maen nhw wedi breuddwydio ers tro am gael lle sy’n gweini byrbrydau gwahanol i’r cŵn poeth a sglodion arferol.

Llongyfarchion iddyn nhw ar wireddu’r freuddwyd!

3

LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Noson Gymdeithasol

Ar Dachwedd 18, cynhaliwyd noson o Swper a Chwis llwyddiannus yn

Neuadd Llanbedr.

Roedd elw’r noson yn mynd tuag at Gronfa Grŵp Llanbedr - Huchenfeld. Yn bwysicach, pwrpas y noson oedd hybu a chodi ymwybyddiaeth o’r bartneriaeth sydd gennym yn Llanbedr efo Huchenfeld yn yr Almaen.

Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd y noson ac yn arbennig i Gareth Evans, Cefn Isaf am ei waith clodwiw fel cwisfeistr.

Rydym yn edrych ymlaen i groesawu criw bychan o Huchenfeld yma ym mis Ebrill.

Merched y Wawr Nantcol

Yn ein cyfarfod mis Tachwedd, treuliwyd noson ddifyr a hwyliog yn gwneud cardiau Nadolig yng nghwmni Morwena Lansley o gangen y Bermo. Gyda chefnogaeth a chymorth gan Morwena, llwyddodd pob un ohonom i blygu papur i wneud seren effeithiol iawn i’w rhoi ar gerdyn. Cafodd pawb bleser yn addurno’r hosannau Nadolig gan arbrofi gydag amrywiaeth o addurniadau lliwgar. Llwyddodd pawb i gwblhau dau gerdyn unigryw. Diolchodd Beti Mai i Morwenna am noson ddiddorol iawn. Fe sylwch fod dau gynllun o’i gwaith wedi eu cynnwys ym mhecyn cardiau Nadolig y Mudiad a llongyfarchwyd hi ar ei llwyddiant.

Yn dilyn paned a sgwrs, trafodwyd gwaith y gangen. Dymunwyd gwellhad buan i Einir yn dilyn ei llawdriniaeth. Llongyfarchwyd Pat a Dewi ar achlysur dathlu priodas aur yn ddiweddar. Dosbarthwyd Adroddiad Ariannol y gangen a diolchwyd i Gwen am ei gwaith fel Trysorydd.

Y mis nesaf byddwn yn dathlu’r

Nadolig gyda chinio ym mwyty’r Sgwâr, Tremadog.

Atgoffwyd yr aelodau am wasanaeth Llith a Charol y Rhanbarth yng

Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog, nos Lun, Rhagfyr 5ed am 7 o’r gloch.

Cymdeithas Cwm Nantcol

Crëwyd tua 350 o osodiadau ar 230 o geinciau amrywiol gan Iwan Morgan ers iddo ddechrau ymddiddori mewn cerdd dant. Yn ein cyfarfod ddiwedd Tachwedd cawsom wybod am ei waith gydg amryw o bartion ac unigolionrhai o’n hardal ni.

Bu O T Morris, Dyffryn yn gefn mawr iddo ar ddechrau ei yrfa ym 1972. Cafodd hyfforddiant yn ‘Berwyn’ - tŷ Jane, ei chwaer a hithau’n cyfeilio ar yr harmoniwm, cyn cystadlu yn Steddfod yr Urdd 1973.

Roedd dyfodiad Aelwyn Gomer, arbenigwr ar y sol-ffa, yn brifathro ym Medi 1975 - dyn y pethe - yn ddylanwad mawr arno.

Llwyddodd i gael y wobr gynta’ efo parti yn Steddfod Meirion ym

1976 a mynd â nhw i Borthaethwy, lle daethon nhw i’r brig yn erbyn partïon Traws, Llanuwchllyn, Bro Tegid, Rhydymain, Dinas Mawddwy a Thalsarnau yn y Sir.

Cyfeiriodd at Nia Wynne, Frongoch a gyrhaeddodd rhagbrofion Prifwyl yr Urdd ar sawl achlysur. Cawsom glywed ei llais ar dâp. Ei champ fwya’ fu dod yn ail yn Eisteddfod

Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan ym 1984 ar yr unawd i rai o 12-16 oed yn canu’r ‘Llwynog’ [I D Hooson] ar y gainc ‘Moel yr Wyddfa.’ Bu’n canu mewn cyngerdd ym Manceinion pan oedd Atomfa Traws yn dathlu’r 21ain [tua 1985/6].

Cafodd Dave Taylor lwyddiant yn Steddfod Sir yr Urdd 1998 a chyrraedd rhagbrofion Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ar yr unawd 15-19 oed. Ym Mhrifwyl Abertawe yn 2006, cafodd yr ail wobr ar yr unawd cerdd dant agored - ‘Morfudd Llwyn Owen’ ar ‘Twyn yr Hydd’ ac ‘Ar lan y môr’ ar ‘Tannau Tawe.’

Soniodd Iwan hefyd am unigolion eraill: Jen a Margaret Pugh, Tyddyn Goronwy; Deiniol Wynne, [brawd Nia]; Eifion Roberts, Frongaled a Jean Roberts [gwraig John Modurdy’r Efail]. Bu hefyd yn canu deuawdau efo Jean yn Steddfod y Ffermwyr Ifanc ym mlynyddoedd ola’r 1970au a chael llwyddiant ar ddau neu dri achlysur. Noson i’w thrysori yn wir!

Enwau Babis

Cyhoeddwyd rhestrau o’r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2019. Dyma restrau Cymru Fyw o’r deg enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru’r

llynedd:

Enwau merched (a’r nifer)

1. Mali (92)

2. Erin (78)

3. Ffion (70)

4. Alys (62)

5. Seren (57)

6. Eira (38)

7. Cadi (37)

8. Lowri (37)

9. Nia (39)

10. Lili (34)

Enwau bechgyn (a’r nifer)

1. Arthur (168)

2. Osian (130)

3. Dylan (116)

4. Elis (113)

5. Harri (111)

6. Tomos (80)

7. Jac (69)

8. Macsen (62)

9. Evan (58)

10. Owen (46)

Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn yn fawr iawn â Hefina Auroux [Penybont gynt] ym marwolaeth ei gŵr, Patrice yng Nghaerdydd yn dilyn gwaeledd byr. Anfonwn ein cofion ati.

GWASANAETH CAROLAU

Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Dydd Sul, Rhagfyr 18 am 3.00 o’r gloch

Lluniaeth ysgafn i ddilyn

4

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk

BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI

Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant

Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil

Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant

PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317

60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

CALENDR 2023

DRWY’R POST

£7 fydd y gost am galendr drwy’r post. Gan fod y banc yn codi am bob siec, mae’n haws os talwch drwy BACS. Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229

Os gwelwch yn dda, anfonwch e-bost hefyd at: llaisardudwy@outlook.com

i nodi eich cyfeiriad a’ch bod wedi talu drwy BACS.

Llais Ardudwy

Mae ôl-rifynnau

i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/

5
LLINELL GYMRAEG
SAMARIAID
08081 640123

LLANFAIR A LLANDANWG

Colli Marie

Dydd Iau, 17 Tachwedd, daeth y newydd trist am farwolaeth Mrs

Marie Poole Parry, Maesmwyn, Llandanwg yng Nghartref Llys

Cadfan, Tywyn. Cydymdeimlwn á’i mab Gareth a’i merch yng nghyfraith Nuala yn eu profedigaeth.

Diolch

Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r teulu a ffrindiau triw a fu mor garedig wrthyf yn dilyn fy nhriniaeth yn Gobowen. Bellach rwyf dipyn rhwyddach fy ngherddediad! Ond mae gennyf hefyd werthfawrogiad diffuant i’r rhai â fu mor arbennig o ffyddlon imi yn ystod anhwylder Caerwyn. Mae pob gair a gweithred a dderbyniais wedi bod yn wir gysur ar gyfnod anodd.

Ni fyddaf yn anfon cardiau eleni, yn hytrach rhoddaf gyfraniad i elusen Dementia UK.

Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Llais Ardudwy.

Bet Roberts

Sgubor, Llandanwg Rhodd a diolch £15.00

Llythyr

Annwyl ddarllenwyr

O ran diddordeb i ddarllenwyr y Llais, hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith fod 2022 yn gan mlynedd union ers i Lloyd George ddadorchuddio y plac sydd ar wal tŷ Y Lasynys, a oedd yn cydnabod cyfraniad Ellis Wynne i lenyddiaeth Cymru yn bennaf yn sgîl ei gampwaith, Gweledigaethau y Bardd Cwsg.

Cofiant bach

Mari Poole Parry, Llandanwg

Cafodd ei geni ar 17eg Mawrth 1923, yn Bron Foel Uchaf, Dyffryn

Ardudwy. Ei rhieni oedd Jane a David Llewelyn Richards. Roedd ei thad yn fasnachwr cyffredinol llwyddiannus, yn gweithio o Pensarn, Llanbedr.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Bermo a choleg ysgrifenyddol ym Mae Colwyn.

Priododd â John Idris Parry yn 1946, ar ôl dychwelyd o wasanaethu yn y llynges frenhinol yn ystod yr ail ryfel byd.

Wedi priodi, symudodd i Coventry, fel y gallai John weithio yn ffatri Triumph. Yn ddiweddarach, dychwelodd i Awelfryn, Llanbedr. Roedd John yn gweithio fel pensaer yn Nolgellau, a Marie fel gwerthwr tai yn Nolgellau. Symud wedyn i Maesmwyn, Llandanwg yn 1980. Bu farw John yn 1998.

Mae ei mab Gareth yn gweithio fel mathemategydd yn y brifysgol yn Loughborough a’i merch yng nghyfraith Nuala yn dod o Carlow, Iwerddon. Roedd hi’n gweithio fel ystadegydd/genetegydd yng Nghaerlŷr.

Roedd Marie yn 99 oed pan fu farw. Cydymdeimlwn â’i theulu yn eu colled fawr.

Teulu’r Castell

Croesawodd y Llywydd Edwina

Evans aelodau Teulu’r Castell i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd yn Neuadd Goffa Llanfair.

Dymunwyd yn dda i’r aelodau oedd yn sâl, ac i’r rhai oedd yn dathlu penblwyddi y mis yma.

Eileen Greenwood oedd wedi gofalu am adloniant y prynhawn; roedd wedi trefnu cwis, gydag 80 o gwestiynau; pob un yn ymwneud efo rhywbeth i’w wneud â’r gegin. Cafwyd hwyl wrth drio ateb y cwestiynau, efo pawb â rhai gwahanol. Tîm Christine a Myfanwy oedd yr enillwyr, ond mi oedd Eileen wedi gofalu bod pawb yn cael gwobr bach. Diolchwyd iddi gan Edwina a threfnwyd te gan y Pwyllgor. Diolch i bawb am brynhawn hwyliog a hapus ac i bawb oedd wedi dod â rafflau.

Plygain Llanfair

Bydd Cyfeillion Ellis Wynne, y Lasynys Fawr, yn cynnal Plygain unwaith eto yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair, ar nos Fercher, 11 Ionawr 2023.

Cofiwch gysylltu gydag un o wirfoddolwyr y Lasynys Fawr os oes gennych ddiddordeb mewn canu efo grŵp plygain y Lasynys.

A’r hyn sy’n ddiddorol yw fod clip ffilm o’r digwyddiad ar gael. Dim ond ichi gwglo (ydi mae hwnna’n air!) gan ddefnyddio’r geiriau canlynol ‘British Pathe Lloyd George honours bard at Harlech 1922’, pennawd sy’n bur ogleisiol i mi gan ei bod yn amwys pwy sy’n cael ei anrhydeddu, Lloyd George yn anrhydeddu’r bardd p’run ta y bardd sy’n anrhydeddu Lloyd George!

Y mae’r clip yn dangos pasiant sy’n cael ei actio yng nghastell Harlech hefyd, yn amlwg yn ddigwyddiad dwbwl ar y dyddiad yma yn 1922. Mae’r digwyddiad yn dangos statws Ellis Wynne ac yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y gwaith llenyddol Gweledigaethau Y Bardd Cwsg.

Mae hyn gan mlynedd union yn ôl a gallwn fod yn siŵr nad oes unrhyw un yn y ffilm yn dal yn fyw heddiw, ond efallai y gall rhai wynebau fod yn gyfarwydd i rai o’r genhedlaeth hŷn yn Ardudwy.

Ro’n i’n pendroni hefyd pwy oedd y tu ôl i’r dathliad arbennig yma. Gwyddom fod pasiantau fel hyn yn hen draddodiad yn Harlech ac mae elfen ohono yn parhau. Oes yna rywrai o hen deuluoedd Harlech yn gallu taflu goleuni ar bwy oedd y tu ôl i’r trefnu ? (Fel rhywun o deulu Min y Don efallai ?) Oedd aelodau o’u teuluoedd yn ymwneud â phethau o’r fath yn ddiweddarach hefyd? Roedd rhywun yn noddi hefyd siŵr o fod. Byddai’n ddiddorol gwybod. Diolch.

Gerallt Rhun

6

Bywyd gwyllt yr ardd

I’W GWNEUD Y MIS HWN

• Cofiwch lenwi eich pwll a’ch pistyll fel bo angen, gyda dŵr glaw os yn bosib.

Dyma rysáit dipyn bach yn wahanol; mae’n bosib ei wneud yn ddigon buan cyn y diwrnod y bydd ei angen arnoch. Mwynhewch ei fwyta dros y ‘Dolig!

Cyffug siocled a chnau pistachio

350g siocled tywyll (Bournville)

Tun 397g o laeth trwchus [condensed]

30g o fenyn

Pinsiad o halen

150g o gnau pistachio.

Rhowch y darnau siocled, menyn, halen a’r llaeth trwchus mewn sosban

a’u toddi yn ara deg.

Rhowch y cnau pistachio mewn bag

plastig a’u malu yn ddarnau bach gyda rholbren.

Pan fydd y gymysgedd siocled wedi toddi yn llwyr, ychwanegwch y cnau a’i gymysgu yn dda.

Leiniwch dun sgwâr 23cm (tua 8 modfedd) gyda ffoil, yr ochor i fewn ar y tu allan.

Rhowch y gymysgedd yn y tun a’i daenu nes yn llyfn. Yna, ei roi yn yr oergell dros nos, neu nes y bydd wedi setio. Yna ei dynnu allan o’r tun a’i dorri yn ddarnau bach sgwâr.

Rhowch y darnau bach mewn bag plastic a’u rhoi yn y rhewgell. Does dim angen ei ddadrewi, bwytewch yn syth o’r rhewgell.

• Tynnwch lystyfiant a blodau marw o lili dŵr a phlanhigion eraill y pwll.

• Cofiwch eu gadael ar ochr y pwll am ychydig i alluogi creaduriaid y pwll i ddychwelyd i’r dŵr.

• Plannwch flodau unflwydd a bythol i ddenu pryfed.

• Peidiwch â chlirio hen flodau rhosod sy’n cynhyrchu egroes (hips), gan fod y rhain yn ffynhonnell gwerthfawr o fwyd i adar ym misoedd y gaeaf.

‘Mae plannu un coeden yn darparu cynefin i amrywiaeth eang o bryfed a chreaduriaid eraill’

Cofiwch wneud yn siŵr bod digon o ddŵr ffres a hwnnw heb rewi yn eich baddon adar.

Cofiwch lenwi bwydwyr adar a gosodwch fwyd ar y ddaear ac ar fyrddau adar. Ceisiwch gynnal trefn fwydo rheolaidd, gan y bydd hyn yn annog adar i ddychwelyd.

Cymysgwch gompost i mewn i bridd gwelyau llysiau ond peidiwch â thorri borderi tan y bydd yn hwyr yn y gaeaf er mwyn darparu lloches i bryfed. Plannwch wrychoedd, rhosod un-blodyn, a choed ffrwythau er mwyn cynnig llawer o adnoddau i fywyd gwyllt, yn cynnwys blodau a ffrwythau.

ADDURNIADAU’R NADOLIG

PRYFED

Mae gloÿnnod byw a gwyfynod yn treulio’r gaeaf mewn mannau sydd wedi eu cysgodi rhag gwynt, barrug a glaw. Mae’n well ganddyn nhw gynefin o blanhigion bytholwyrdd a thrwch o ddail a bonion, felly plannwch lwyni i’w hannog. Bydd rhai hefyd yn defnyddio siediau’r ardd a garejys, felly cymerwch ofal os byddwch yn eu clirio.

Mae plannu un coeden yn darparu llu o gynefinoedd ar gyfer amrywiaeth eang o bryfed a chreaduriaid eraill.

Gallwch lunio torch sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt i’ch drws ffrynt o fwsogl yr ardd, celyn ac eiddew. Os yw adar wedi bwyta’r aeron yn barod, gallwch osod afalau surion bach efo weiran yn eu lle.

Chwiliwch am goed gyda gwerth bywyd gwyllt ychwanegol fel ceirios addurniadol sy’n blodeuo’n y gwanwyn neu goed criafol sydd ag aeron yn yr hydref. Hefyd, gofalwch ddewis coeden sy’n mynd i fod yn addas i’ch gardd chi oherwydd fe all rhai dyfu’n dal iawn.

7
Y GEGIN GEFN

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Cydymdeimlo

Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Chris a Karen Roberts, Noddfa

a’r teulu yn eu profedigaeth o golli

Glenda, chwaer Karen a hynny ychydig fisoedd ar ôl colli eu brawd, Dewi. Rydym yn meddwl amdanoch.

Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf hefyd at Raymond a Barbara

Owen, Llwyn Ynn, a’r teulu yn eu profedigaeth o golli brawd Raymond. Rydym yn meddwl amdanoch

chwithau hefyd.

Trist oedd clywed am farwolaeth

Beryl Wyn Hughes, Llys Cerdd, Arthog, yn 81 mlwydd oed. Roedd gan Beryl gysylltiadau agos â’r

Dyffryn ac roedd llawer ohonom yn ei hadnabod yn dda iawn. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei phriod Gwyn, ei mab Alwyn a’i briod Tracy a’u plant Bedwyr ac Elain.

Llongyfarch

Llongyfarchiadau i Aled a Glesni

Shenton, Dyffryn Ardudwy ar enedigaeth eu merch Gwawr Enlli, chwaer fach i Malan Fflur.

[Drwg gennym am y llithriad efo’r enw cywir yn y rhifyn diwethaf. Gol.]

Colli Robert Wyn Pugh

Trist iawn yw gorfod adrodd am farwolaeth Robert Wyn Pugh (Robbie), Pentre Bach, Dyffryn Ardudwy. Bu farw Robert, Medi 19 yn 62 mlwydd oed. Yn dilyn ei addysg gynradd, bu’n ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, cyn symud ymlaen i astudio yng Ngholeg Meirionnydd. Cydymdeimlwn â’i deulu a’i ffrindiau oll, gan feddwl yn arbennig am ei fam Margaret, Noel, ei frodyr Alan a Colin, a’i chwaer Gwenan. Ymddiheurwn nad oedd modd inni gynnwys y stori hon y mis diwethaf. [Gol.]

PWYLLGOR ’81

Neuadd y Pentref, Dyffryn Nos Fawrth, Rhagfyr 13 am 7.00

gyda Chôr Meibion Ardudwy a Cana-mi-gei

Dewch i gefnogi ein corau lleol. Croeso cynnes iawn i bawb a chyfle unwaith eto i gymdeithasu dros baned a mins pei. Welwn ni chi yno!

Festri Lawen, Horeb

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o’r Festri Lawen ers dechrau’r pandemig nos Iau, 10 Tachwedd, ac roedd nifer dda iawn yn bresennol. Croesawyd pawb gan John Gwilym Roberts, gyda chroeso arbennig i Dwyryd a Bethan Williams, Dolgellau, oedd wedi dod atom i roi hanes eu taith i Batagonia, ynghyd â dangos sleidiau o’u taith. Cafwyd orig ddiddorol iawn yn eu cwmni a diolchodd John yn gynnes iawn iddynt.

Ar 8 Rhagfyr byddwn yn mynd i Nineteen57 i gael cinio Nadolig yng nghwmni Gwyn a Siri – Nadolig, pwy a ŵyr!

Clwb Cinio

Ar 9 Tachwedd aeth criw ohonom i’r Pant Du ym Mhen-y-groes am ginio. Roedd yn ddiwrnod braf iawn a’r golygfeydd, y croeso a’r bwyd yn fendigedig. Ni fyddwn yn cyfarfod ym mis Rhagfyr. Gobeithiwn gyfarfod ym mis Ionawr gan obeithio y bydd tai bwyta ar agor.

Cofion

Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mair Thomas (Faeldre gynt) a gafodd lawdriniaeth yn ddiweddar. Mae hi adre erbyn hyn ac yn gwella.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb

RHAGFYR

11 Rhian a Meryl 10.00

18 Gwasanaeth Nadolig, 10.00

25 Llith a Charol

IONAWR

1 Anthia a Gwennie

8

Y parc gwyliau gorau yng Nghymru

Trefnwyr Angladdau

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Barc Gwyliau Islawrffordd, Tal-y-bont a ddyfarnwyd y Parc Gwyliau gorau yng Nghymru gan yr AA. Cychwynnwyd y busnes yn 1957 ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth. Nid dyma’r tro cyntaf iddynt ennill, gan iddynt ddod yn gyntaf yn 2012 a dod yn Barc ‘Premier’ yn 2015.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD

Datganodd y Cadeirydd bod y Cyngor wedi derbyn cerdyn o ddiolch gan yr Ysgol Feithrin am y cyfraniad ariannol diweddar yr oeddynt wedi ei dderbyn gan y Cyngor tuag at gael drws newydd i’r fynedfa.

Llongyfarchwyd Elgan Evans, Siôn Williams a Moi Williams am gwblhau triathlon yn ddiweddar i gasglu arian tuag at ‘Young Lives v Cancer’

CEISIADAU CYNLLUNIO

Adeiladu estyniad cefn - Coastal View, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Lleoli pwmp gwres ffynhonnell aer o fewn 3 metr i’r ffin – Hen Dŷ Cerbyd, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad unllawr ar y cefn a’r ochr ynghyd â phorts newydd ar y blaen a gwaith allanol cysylltiedig - Tŷ Isaf, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn.

MATERION YN CODI

Cynnal cyfarfod cyhoeddus gyda

HAL

Mae’n bryd cynnal cyfarfod cyhoeddus i weld a fydd y Cyngor yn parhau gyda’r cytundeb praesept gyda HAL gan fod y cytundeb 5-mlynedd presennol wedi dod i ben. Cytunwyd i gynnal y cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd ar nos Iau y 24ain o’r mis hwn am 7.30 o’r gloch.

GOHEBIAETH

Bro Arthur

Cafwyd neges fod deiseb wedi’i threfnu gan drigolion stad Bro

Arthur ynglŷn â gwneud y stad yn un

parcio i breswylwyr yn unig. Mae’r Cynghorydd Sir yn cefnogi’r ddeiseb hon a phe bai’r Cyngor Cymuned yn ei chefnogi yna byddai’r Adran Briffyrdd yn gallu cychwyn ar yr ymgynghoriad swyddogol. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i beidio â chefnogi’r ddeiseb hon oherwydd bod diogelwch plant yn cymryd blaenoriaeth a bod angen sicrhau bod cymaint o geir â phosib ddim yn parcio ar hyd ochr y ffordd wrth fynd i nôl plant o’r ysgol. Hefyd nid oes llawer o le i barcio ger stad Bro Arthur beth bynnag, gan fod cerbydau’r preswylwyr yn llenwi’r lle yn barod. Nid oedd y Cyngor yn cytuno gyda’r sylw bod rhai sydd yn ymweld â’r cartref gofal a Neuadd yr Eglwys yn parcio ger y tai hyn oherwydd bod gan y ddau safle hwn le parcio eu hunain, ac nid oes neb yn parcio yna i fynd i siop Spar gan eu bod yn parcio gyferbyn â’r siop ger y garej.

• Gofal Personol 24 awr

• Capel Gorffwys

• Cynlluniau Angladd Rhagdaledig

Heol Dulyn, Tremadog.

Ffôn: 01766 512091

post@pritchardgriffiths.co.uk

Parcio am ddim

Bydd parcio am ddim yn holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar ôl 11.00am bob dydd rhwng 10 a 27 Rhagfyr, gyda ffioedd yn ailgychwyn o 28 Rhagfyr. Mae’r Cyngor yn annog pobl Gwynedd i gefnogi busnesau lleol y sir dros gyfnod y Nadolig - cyfnod sydd mor allweddol i’r sector siopau ac adloniant. Os ydych yn chwilio am anrhegion arbennig, yn prynu bwyd a diod ar gyfer y tymor

gwyliau neu’n paratoi at wledd i ddathlu – cofiwch am fusnesau bach a chrefftwyr yma yng Ngwynedd, a manteisiwch ar y parcio am ddim.

NOSON GAROLAU

gyda CHÔR MEIBION ARDUDWY

yn NINETEEN.57

Mae croeso cynnes i bawb i ymuno â ni yn NINETEEN.57

Tal-y-bont i fwynhau carolau

yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy.

Nos Sul, Rhagfyr 18

dechreuir am 5.30

Mynediad drwy docyn: £12

9

Telynau Mair

Bob pnawn Iau mae criw o ddysgwyr a siaradwyr

Cymraeg yn mwynhau cwrdd yn yr Hen Lyfrgell

[Hwb Harlech] i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg. Ganol

Tachwedd, mi gaethon ni sesiwn ychydig yn wahanol a difyr iawn pan ddoth Mair Tomos Ifans aton ni i sgwrsio am ei thelynau. Roedd pawb wedi dotio at gyflwyniad diddorol Mair ac roedd ambell un yn awyddus i gael tonc fach ar y telynau ar ddiwedd y sesiwn. Dan ni i gyd yn gobeithio y daw Mair yn ôl aton ni i sgwrsio [a chanu] eto yn fuan.

Carys Huw

Pedair telyn wahanol

Yr hynaf, a’r fwyaf yn digwydd bod, oedd telyn bedal fechan Grecian, wedi ei gwneud gan Sebastian Erard tua 1820. Mae 6 ‘wythawd/octave’ ar y delyn. Esboniais sut roedd 7 pedal wrth fôn y delyn, un ar gyfer pob nodyn o’r raddfa gerddorol CDEFGAB - a bod pob pedal yn gallu gostwng neu godi pob un o’r nodau hynny hanner tôn.

Adeiladwyd y delyn deires gan John Weston Thomas tua 1988 ac mae wedi ei seilio ar delyn deires o’r ddeunawfed ganrif. Y telynau teires oedd y delyn gyffredin ledled Ewrop cyn ddatblygiad y delyn bedal. Fe barhaodd y delyn deires yng Nghymru ac fe’i mabwysiadwyd fel ein hofferyn cenedlaethol. Hon yw ‘Y delyn Gymreig’. Diolch i lond dwrn o delynorion ymroddgar, mae’r niferoedd o delynorion teires yn cynyddu bob blwyddyn a chymdeithas Y Delyn deires wedi ei sefydlu i’w hybu.

Telyn gweddol leol i Harlech oedd y delyn o ddiwedd y 70au/ dechrau’r 80au, wedi ei hadeiladu gan George Morris ym Mhorthmadog. Bum yn lwcus iawna’i gweld ar werth ar Ebay a’i phrynu a chael bargen - ond yr unig broblem oedd bod rhaid mynd lawr yr holl ffordd i Torquay i ‘w nôl. Ond, dwi’n falch iawn i mi wneud. Mae ganddi dair coes felly dwi’n gallu ei chanu tra’n sefyll ar fy nhraed - does dim rhaid i mi gael cadair neu stôl er rhaid i mi ddweud fy mod yn fwy cyfforddus yn eistedd i’w chanu.

Telyn fechan ben-glîn ydi’r Wini y delyn fini. Dim ond 22 o dannau sydd iddi ond yn llwyddo i greu sain felys a threiddgar. Mae hon wedi bod efo mi ym mhobman - gan gynnwys pendraw’r byd i Batagonia. Mae wedi ei henwi ar ôl Winston Churchill gan i mi ei phrynu ar gyfer teithio i’r Wladfa pan gefais Ysgoloriaeth Deithio y gŵr hwnnw yn ôl yn 1992.

Gofynnodd rhywun i mi pa delyn yw fy ffefryn - alla’i ddim ateb hynny - mae o fel gofyn i rhywun pa un yw ei hoff blentyn! Mae pob un yn annwyl i mi, mae pob un a’i stori a’i hanes unigryw, mae pob un â sain cwbl wahanol i’r naill a’r llall ac mae pob un yn addas ar gyfer achlysuron gwahanol. Dwi’n lwcus iawn fy mod yn cael rhannu fy mywyd efo nhw!

Mair Tomos Ifans

YSGOL FEITHRIN HARLECH

Dyma Gylch Meithrin Harlech yn mwynhau eu Dis-coch sef disco i ddangos eu cefnogaeth i dim pêldroed Cymru yng Nghwpan y Byd.

01766 770286

Hefyd roeddem yn codi arian i ariannu a gosod llawr newydd yn y cylch. Hoffem ddiolch am bob cefnogaeth yn enwedig i Ceri Griffiths am gael defnyddio ystafell y Band, i Mark Stanton Hughes am gael benthyg goleuadau at y disco a Dawn Williams am yr offer sain, i Catrin, Linda a Karen am addurno a gwerthu cŵn poeth, cacennau, creision a diodydd - y cyfan er budd y Cylch.

10
R J Williams, Talsarnau
TRYCIAU IZUZU
Cylch Meithrin Harlech yn brysur yn casglu at y Plant Mewn Angen. POB LWC I GYMRU

Straeon Merched Dewr y Celtiaid

Nifer o storïwyr: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen

Dyma gasgliad o chwedlau yn cael eu hadrodd yn y Gymraeg a fydd yn dod â rhamant a rhyfeddodau a hefyd natur tir a môr ac amgylchfyd yr hen Geltiaid yn fyw i bobl ifanc Cymru heddiw.

Cawn hanes pymtheg o ferched Celtaidd yn y gyfrol hon, a gallwch ddisgwyl yr annisgwyl yn y straeon. Mae hud a lledrith yn rhan naturiol o fywyd y cymeriadau hyn. O hanes Nia Ben Aur yn carlamu ar hyd Tir na-nÓg i’r Frenhines Lupa yn teyrnasu Galisia, bydd pob stori yn eich arwain ar hyd tiroedd cythryblus y gwledydd Celtaidd. Cawn gip ar ddarnau o hanes rhyfeddol a dod i adnabod y merched dewr sy’n perthyn i’r diwylliant arbennig hwn. Roedd y llwythau Celtaidd yn crwydro tiroedd Ewrop rhai miloedd o flynyddoedd yn ôl, gan gasglu a rhannu straeon ar hyd y daith. Dychmygwch dywyllwch y gaeaf, mwg y tân agored a hanesion

Dymuna

Rhian Mair

[Tyddyn y Gwynt gynt]

ddymuno

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

i bawb yn deulu a ffrindiau yn ardal Ardudwy.

am anturiaethau yn cael eu hadrodd mewn cerdd a dawns a delwedd. Ymhen canrifoedd, cafodd y straeon eu cofnodi mewn hen lyfrau ac yn y gyfrol hon mae rhai o storïwyr mwyaf profiadol Cymru yn eu hailadrodd, gyda lluniau deniadol gan dalent newydd, sef Elin Manon, darlunydd y gyfrol. Mae ganddi ddiddordeb byw mewn chwedlau, hanesion am hen oesoedd a phatrymau a dychymyg y Celtiaid. Dyma’r gyfrol lawn gyntaf iddi ei dylunio ac mae’r darluniau’n ein tywys ar antur drwy’r straeon. ‘Dyma lyfr anrheg delfrydol i blant a phobl ifanc rhwng 9-13+,” meddai Elen Williams golygydd llyfrau plant y wasg “Cawn ddod i adnabod y merched rhyfeddol hyn sy’n rhan o chwedlau’r Celtiaid a dod i ddeall mwy am eu hanes a’u breuddwydion trwy ddelweddau teimladwy Elin Manon sy’n dod â’r straeon yn fyw i’r darllenydd.’

Sgwrsio gyda dysgwyr

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i ymuno yn eu cynllun ‘Siarad’, sy’n paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr.

Mae cannoedd o ddysgwyr ledled Cymru eisoes yn rhan o’r cynllun, ac wedi eu paru, ond mae cannoedd mwy ar restr wrth gefn, yn aros i gael eu paru.

Nod y cynllun ydy rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder trwy sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg a’u cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg yn lleol.

Un o’r siaradwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ers blynyddoedd yw’r gyflwynwraig deledu a’r tiwtor Cymraeg, Nia Parry.

R J Williams Honda

Garej Talsarnau

Ffôn: 01766 770286

Dywedodd Nia, ‘Mae ’na 300 o bobl yn disgwyl am bartner siarad, felly mi allech chi wneud gwahaniaeth mawr i daith unigolyn sy’n dysgu Cymraeg efo ’chydig iawn o ymdrech.

Rydym yn gofyn am ymrwymiad o 10 awr – ac mi all hynny fod wrth sgwrsio dros baned, mewn gêm bêldroed, yn y côr, wrth fynd am dro neu lle bynnag sy’n apelio.’

Mae galw am bobl ar ledled Cymru ac mae modd cofrestru trwy ymweld

â gwefan dysgucymraeg.cymru neu e-bostio swyddfa@dysgucymraeg. cymru

11

Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Gyda llawer o bobl yr ardal yn wynebu amser anodd dros y misoedd nesaf, gyda chostau ynni wedi cynyddu yn aruthrol, hoffwn dynnu sylw eich darllenwyr at y cynllun isod sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd.

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad un tro o £200 er mwyn helpu i dalu am danwydd. Mae hwn yn daliad ychwanegol i’r ad-daliad Bil Ynni gan Lywodraeth y DU, a’r Taliad Tanwydd Gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr. Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys (un taliad yr aelwyd) sut bynnag maent yn talu am danwydd.

Mae ymgeisydd yn bodloni’r amod hwn os bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn cais cymwys i’r cynllun erbyn dydd Mawrth, 28 Chwefror 2023.

Bydd y cynllun ar gael i aelwydydd lle mae ymgeisydd, neu bartner, yn cael un o’r budd-daliadau cymhwyso unrhyw bryd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023. Mae’r rhan fwyaf o fudd-daliadau yn gymwys gan gynnwys Lwfans Gweini.

Os nad yw deiliad tŷ sy’n talu am y tanwydd yn cael unrhyw un o’r budddaliadau cymwys, dylid ystyried bod deiliad y tŷ yn gymwys i gael taliad os oes unigolyn cymwys yn byw gydag ef/hi.

Dylid gwneud y cais ar-lein neu os oes unrhyw broblem, gallwch gysylltu â Chyngor Gwynedd ar 01286 682689. Croeso hefyd i unrhyw etholwr yn Ward Harlech/Llanbedr gysylltu â mi os oes angen unrhyw gymorth arnynt.

Yn gywir, Cyng Gwynfor Owen

POS CRACIO’R COD - RHIF 19

ATEBION CRACIO’R COD - Rhif 18

Mae’r pos y mis hwn yn cynnwys un lythyren gyffredin iawn yn y Gymraeg; mae hi’n cael ei defnyddio lawer iawn y tro hwn fel y gwelwch. Unwaith y dyfalwch y lythyren hon mi ddylai’r pos fod yn weddol hawdd !

Llongyfarchiadau i Mrs Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Mary Jones, Dolgellau; Mai Jones, Llandecwyn; Bethan

Ifan, Llanbadarn Fawr; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll; Mair Rich, Pantymwyn, Yr Wyddgrug; Bet Roberts, Llandanwg.

Daeth ateb cywir i bôs

geiriau 16 gan Dotwen

Jones, Cilgwri ond cafodd ei ddal yn y streic bost.

Anfonwch eich atebion i Cracio’r Cod at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].

12
R
POS GEIRIAU Phil Mostert (7) POS Phil Mostert A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P ( Ph ) R Rh S T Th U W Y 1 D 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 T 17 18 19 20 21 22 23 A 24 25 26 27 28 PH A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y POS CRACIO’R COD RHIF 19 19 18 25 15 4 25 4 25 21 25 20 22 11 13 3 6 10 7 12 9 26 22 8 15 27 25 17 13 12 10 9 22 20 25 22 12 25 15 6 25 25 23 25 22 25 10 18 4 7 12 6 25 11 25 22 15 8 13 4 11 22 13 23 8 21 11 25 23 8 11 18 11 1 13 22 8 15 13 21 11 23 D 12 22 R 20 18 C 11 13 23 13 8 25 4 25 4 10 21 3 25 15 21 7 22 22 23 25 22 15 6 25 19 11 24 25 14 25 3 21 10 7 2 17 24 12 22 20 8 11 11 12 13 23 8 5 23 8 16 25 15 12 22 21 D C

Y BERMO A LLANABER BANC BWYD Y BERMO

Rhwng y cyfnod hwn a’r Nadolig bydd man casglu nwyddau ar gyfer

Banc Bwyd y Bermo ym Mhwll

Nofio Harlech ac Ardudwy. Os yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i gasglu yn y Flwyddyn Newydd. Rydym angen yr isod ar fyrder:

• Bisgedi

• Pacedi bach o reis (500g)

• Tatws

• Llefrith UHT

Tuniau o:

Yr aelodau gyda’u torchau Nadolig hardd wedi sesiwn greadigol ddifyr gyda’n Llywydd talentog Morwena Lansley.

Cwis Hwyl Cenedlaethol.

Ar nos Wener, Tachwedd 11 aeth tîm o bedair ohonom, sef Glenys, Morwena, Pam a Gwenda, draw i neuadd bentref Llanelltyd i gymryd rhan yn y cwis. Olwen Jones, Dinas Mawddwy a Bethan Edwards oedd yn goruchwylio’r cwis, ac roedd gan y ddwy yn addas iawn hen gloch ysgol i’w chanu er mwyn cadw trefn arnom.

Cafwyd awr ddifyr o bendroni, crafu pen, cytuno ac anghytuno dros y cwestiynau cyn i’r gloch ganu i ddynodi bod ein hamser ni ar ben. Roeddem yn fwy na pharod am baned a bisged a baratowyd gan gangen Dolgellau.

Wedi tynnu’r raffl, roedd yn amser cyhoeddi’r canlyniadau a thynnu lluniau’r enillwyr, sef canghennau Dolgellau a Dinas Mawddwy.

A beth oedd hanes ein tîm ni? Wel, mae’n deg dweud mai nid y ni oedd y rhai diwethaf. Ac yng ngeiriau’r enwog Mr Picton, rydym eisoes yn trafod ‘tactics’ erbyn cwis y flwyddyn nesa!

Merched y Wawr

Ym mis Tachwedd, estynnwyd croeso cynnes iawn i’n Llywydd newydd, sef Morwena Lansley. Roeddem yn falch o weld Mair yn bresennol ar ôl cael triniaeth yn ddiweddar. Anfonwyd ein cofion at Megan Vaughan gan ddymuno’r gorau iddi gan fod angen triniaeth eto. Hefyd cofion at Gwyneth Edwards.

Cafwyd prynhawn difyr a chreadigol yn creu torchau Nadoligaidd dan arweiniad medrus Morwena.

Diolchwyd iddi am ei gwaith paratoi a’i hamynedd gan Glenys, hefyd llongyfarchodd Morwena ar ennill cystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig trwy Gymru gyfan y llynedd. Gwych iawn. Ar ddiwedd y pnawn, cawsom ddanteithion arbennig sef mins peis cartref bendigedig gan Gwenda a hefyd bisgedi blasus o’r Almaen gan Morwena. Paratowyd y baned gan Heulwen ac Iris Pugh.

• Pys melyn [India corn]

• Pwdin reis

• Cwstard

• Sardîns

• Mecryll Pethau ymolchi:

• Past dannedd

• Shampŵ a chyflyrydd

• Sebon cawod

Mae gennym ddigon o’r isod, diolch

• Pasta

• Ffa pôb

• Cawl

• Grawnfwyd

Noson Tân Gwyllt yn y Bermo

Diolch i Wyn Edwards am y lluniau

13

Ieuan Gwyllt Eto Fyth

Y tro dwythaf gadawsom Ieuan Gwyllt (1822–1877) yn ymddeol o’i waith fel gweinidog yn Llanberis ym 1869. Mae’n debyg ei bod yn eitha taclus arno’n ariannol gan fod mynd ar ei lyfrau a’i gylchgronau. Ymddeol, meddwn i, ond nid ymddeol chwaith gan ei fod yn arwain cymanfaoedd, yn beirniadu a dysgu a chyhoeddi heb sôn am bregethu a gweithredu fel gweinidog answyddogol i Gapel

Penygraig, Llanfaglan.

Ar ben hyn oll, fe’i gwahoddwyd i fod yn olygydd y Goleuad i ddilyn

Gwyneddon. Papur oedd hwn oedd yn fenter breifat ond a ddaeth maes o law yn newyddiadur enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Aeth Ieuan ati o ddifri (fel y gwnai gyda phopeth) i ymgyrchu dros yr hyn a gredai ac i addysgu ei gyd-Gymru ar bynciau’r dydd. Taranai yn erbyn yr Eglwys Wladol oedd, meddai ef, wedi colli gafael ar y rhelyw o’r bobl ond yn dal i hawlio’r degwm er gwaethaf hynny. Roedd yr Eglwys Babyddol hefyd dan ei lach ond y prif gocyn hitio ganddo oedd y Mormoniaid; dychwelai dro ar ôl tro i’w cystwyo. Gallwn ddychmygu darllenwyr uniongred

Methodistaidd y Goleuad yn wfftio wrth ddarllen hanes Dinas yr Halen yn y Mericia bell oedd yn gartref i Brigham Young a’i 16 o wragedd (neu ordderchwragedd).

Ond byddai llawer o gynnwys

Goleuad Ieuan Gwyllt yn taro tant gyda ni heddiw. Ymgyrchai dros gael cyflog teg i’r gweithiwr a chefnogai

sefydlu Prifysgol Cymru. Roedd yn falch o gael gweld cwymp

caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Mwy dadleuol yn ein golwg ni heddiw efallai fyddai’r croeso a roddai i sefydlu capeli Saesneg yng Nghymru – pwnc llosg ar y pryd. Amlygai’r papur o dan ei olygyddiaeth barch tu hwnt tuag at y frenhiniaeth; canmolid y frenhines Victoria yn aml a rhoddid hanes ei theulu yn y colofnau er adeiladaeth y werin. Mynegid pryder pan fyddai un o’r teulu’n wael a byddai cydymdeimlad y golygydd yn amlwg pe collid un ohonynt trwy farwolaeth. Pan gofir fod gan y frenhines ei hun naw o blant a’r rheiny yn epilio’n gyson gellwch fentro y byddai angen mawr am le yn y papur i’r newyddion yma. Daeth cyfnod ei olygyddiaeth ar y Goleuad i ben ym 1872. Gallwn gredu ei fod yn dal yn brysur gyda’r holl waith arall oedd ganddo. Daeth trobwynt yn ei fywyd ym 1874. Dyma pryd y daeth y ddau efengylwr Americanaidd Dwight L Moody (1837–1899) ac Ira D Sankey (1840–1899) drosodd i efengylu. Moody oedd y pregethwr ond roedd gan Sankey ddawn i lunio tonau ysgafn hwylus a chanadwy gyda chynganeddion syml. Roedd y rhain yn wahanol iawn i donau syber Ieuan Gwyllt ond buan y sylweddolodd fod yma ffordd i gyrraedd pobol gan roi iddyn nhw donau hwyliog i’w canu fyddai yn help i feithrin cariad ynddynt at wirioneddau’r Efengyl. Yn wir ar ôl ychydig o amheuaeth ar y dechrau daeth Ieuan yn hoff o’r canu newydd yma fel y daethai gynt i gredu yn effeithiolrwydd solffa. Cyffelybwyd emynau Sankey a Moody i gerddoriaeth y music hall a chondemniai llawer eu gwaith o`r herwydd.

Ond aeth Ieuan Gwyllt ati i drosi’r gwaith i Gymraeg gyda bendith yr

awduron. Ymysg yr emynau yma mae ‘Rwy’n caru dweud yr hanes’ (Tell me the old, old story) a ‘Nac ildia i demtasiwn’ (Yield not to temptation). Daeth emynau fel hyn yn boblogaidd. Gwelodd rhai eu ffordd i’r llyfrau emynau enwadol a chaed casgliadau fel Perorydd yr Ysgol Sul yn llawn o emynau o’r fath.

Bu farw Ieuan Gwyllt fis Mai 1877 yn ddim ond 54 oed. Claddwyd ef yng Nghaeathro gyda thyrfa fawr yn bresennol; yr oedd o leiaf 60 o weinidogion yn y dorf. Ym 1879, rhoddwyd cofadail enfawr uwch y bedd a gellir ei gweld yno o hyd. Er hynny, ei gofadail fwyaf yw’r cariad sy’n dal i fod ymysg y Cymru at ganu ac yn benodol at ganu mewn cynghanedd.

Ond nid dyna’r unig beth mae Ieuan Gwyllt wedi ei adael i ni. Rhoddodd i ni etifeddiaeth gyfoethog o emynau a thonau. Yn y Caneuon Ffydd, cawn bum tôn wreiddiol o’i waith ynghyd â phedair tôn arall wedi’u trefnu ganddo. Yn ogystal, cawn hefyd yn y gyfrol dri emyn sydd wedi eu trosi o’r Saesneg ganddo. Mae’r tri yn adnabyddus iawn ac yn enwedig felly emyn 483 – ‘Mi glywaf dyner lais’. Fe genir yr emyn hwn yn aml iawn mewn angladd y dyddiau hyn ac, wrth gwrs, mae yna fwy nag un trefniant ohono ar gyfer corau meibion.

Pe gofynnech i mi p’run yw fy hoff dôn gan Ieuan Gwyllt fe fyddai hi yn gystadleuaeth dynn iawn. Mae’n bosib mai’r enillydd fyddai Eden sef rhif 278 yn Caneuon Ffydd; urddasol a bywiog ac yn gweddu i’r dim ag emyn John Thomas Rhaeadr o dani.

Heddwch i lwch Ieuan Gwyllt – un o arwyr ein cenedl.

JBW

14

HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297

ALAN RAYNER

07776 181959

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

ALUN WILLIAMS

TRYDANWR

GALLWCH

HYSBYSEBU

* Cartrefi

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

Llanuwchllyn 01678 540278

JASON CLARKE

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth

LL48 6BN

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

E B RICHARDS

Ffynnon Mair

Llanbedr

01341 241551

CYNNAL EIDDO

O BOB MATH

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

YN Y BLWCH HWN

* Masnachol

* Diwydiannol

Archwilio a Phrofi

AM £6 Y MIS

Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com

Bwyd cartref blasus

Cinio Dydd Sul

Dathliadau Arbennig

Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk

dros 25 mlynedd o brofiad

CAE DU DESIGNS

DEFNYDDIAU DISGOWNT

GAN GYNLLUNWYR

Stryd Fawr, Harlech

Gwynedd LL46 2TT

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

15
a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £11 y flwyddyn am 11 copi Arbedwch arian ar drydan, nwy, band eang, ffôn symudol, ffôn cartref ac yswiriant Utility Warehouse (UW) Peter Jones (Partner ID 119770) Hafod Talog, Penrhyndeudraeth Ffôn: 01766 771410 Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth https://uw.partners/peter.jones

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Merched y Wawr

Cyfarfu saith aelod yn Ystafell Adnoddau Neuadd Talsarnau pnawn dydd

Llun, 7 Tachwedd. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Siriol, Bet a Gwenda Paul. Cyrhaeddodd Eluned yn hwyrach a llywyddu rhan olaf y cyfarfod.

Yn absenoldeb y Llywydd a’r Is-lywydd, croesawyd ein gẃr gwadd, y Parch

Iwan Llewelyn Jones gan Mai, a gwahoddwyd ef i gyflwyno ei sgwrs ar ddechrau’r cyfarfod, gan fod angen iddo adael yn fuan i fynd i alwad arall yn ymwneud â’i alwedigaeth.

Roedd gan Iwan stori ddifyr i adrodd wrthym, gan ddechrau gyda’i gysylltiad ffôn â gwraig o’r enw Agnes Arthur Jones o Amlwch pan oedd ef yn blentyn, oedd yn byw yng Nghemaes, lle roedd ei dad yn Weinidog. Yn ystod ei fywyd coleg, daeth cysylltiad eto gyda hi, trwy fod ei hŵyr yn un o’i gyfoedion yno, ac ymhellach, pan yn dechrau ei waith fel Gweinidog ifanc ym Mhenygroes, ac yn ymweld â’i aelodau, galwodd yng nghartref gwraig o’r enw Marion Arthur a deall ei bod yn ferch i’r Parch Thomas Arthur Jones a’i wraig Agnes Arthur Jones. Daeth Iwan i wybod llawer mwy am hanes bywyd prysur a gweithgar ei rhieni, ynghyd â’r helynt a fu ym Methesda ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, pan oedd ei thad yn Weinidog yno. Roedd yn fwriad ganddi gyhoeddi’r hanes ac yn 2018 cyhoeddwyd y llyfr ‘Y Diwyd Fugail a Helynt yr Ifaciwis’. Roedd yn hanes hynod o ddiddorol a hawdd iawn oedd gwrando ar Iwan yn adrodd y stori yn ei ddull arbennig ef ei hun. Diolchwyd iddo ar ein rhan gan Frances. Paratowyd y baned gan Margaret, a Frances enillodd y raffl.

Cyngor Cymuned Talsarnau

MATERION YN CODI

Camerâu CCTV

Mae’r gwaith o osod yr offer yn Llandecwyn wedi ei gwblhau ac y bydd yn cael ei gomisiynu ddechrau’r mis nesa. Hefyd, cafwyd gwybod bod y Cyngor yn talu yn fisol i BT am y lein i’r camerâu yn Llandecwyn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy - £2,141.71 – hanner y cynnig praesept

GOHEBIAETH - Snowdonia Aerospace

Adroddodd y Clerc ei bod wedi awgrymu wrth y Cwmni y byddai cynnal cyfarfod yn y maes awyr ddechrau’r flwyddyn nesaf yn fuddiol. Cytunwyd i hyn. Capel Newydd, Talsarnau

Mae’r Capel yn bwriadu darparu lle cynnes, bwyd a Wi-Fi am ddim a chwmnïaeth i unrhyw un o bobl yr ardal. Byddant yn agored rhwng 3.00 a 6.00 o’r gloch bob pnawn dydd Mercher gan gychwyn ar 7 Rhagfyr. Maent yn gofyn am gymorth ariannol i gefnogi’r fenter hon. Cytunwyd i drafod y cais ymhellach yng nghyfarfod mis Ionawr.

UNRHYW FATER ARALL

Nid yw’r eithin sydd wedi gordyfu ar hyd ochr y ffordd i lawr am stesion Llandecwyn wedi’i dorri. Mae angen sicrhau bod y llwybr sy’n rhedeg gyfochrog â chyn-Gapel Bethel yn cael ei ddefnyddio. Mae angen tocio’r tyfiant ar hyd ochrau’r ffordd o Lyn Tecwyn Isaf at Eglwys Llandecwyn.

Capel Newydd

Gwir Naws y Nadolig

RHAGFYR

Am 6.00 os na nodir yn wahanol.

11 - Dewi Tudur

18 - Gwasanaeth Carolau

25 - Dewi Tudur (Oedfa am 10:30).

IONAWR 2023

1 - Dewi Tudur

8 - Rhodri Glyn

Drwy Lith a Charol yn Eglwys

Llanfihangel-y-traethau

Ynys, Talsarnau

Dydd Sul, Rhagfyr 11 am 11:30 a.m.

Croeso cynnes i bawb!

Neuadd Gymuned - Taith bws i Lerpwl Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd aeth llond bws ohonom ar daith i Lerpwl. Cafodd pawb amser difyr iawn yn mwynhau eu hunain mewn gwahanol ffyrdd, ar ddiwrnod heulog braf.

Trefnwyd y daith gan Betsan Emlyn ac Iwan Aeron, y Ship Aground, i godi arian at y Neuadd Gymuned. Diolch yn fawr iawn iddynt.

Pryd mae’r nesa, Betsan?

Cana-mi-gei

Bu’r Côr yn rhannu’r llwyfan gyda Chôr y Brythoniaid mewn cyngerdd yn Llanfairfechan ym mis Hydref. Cyngerdd oedd hwn oedd yn codi arian at elusen DPJ sy’n cynnig cymorth i ffermwyr sy’n isel eu hysbryd drwy gynnig llinell ffôn 24 awr, 0800 587 4262, i’w cynorthwyo. Cafwyd canmoliaeth mawr i’r Côr ac i’w harweinyddes, Mrs Ann Jones a’u cyfeilydd, Elin Williams.

Roedd gŵr Ann, sef Treflyn Jones hefyd yn canu yn y cyngerdd a chafwyd canmoliaeth mawr i’w gyfraniad yntau.

ENGLYN NADOLIG

Celyn a thelyn a thân - ar aelwyd, A charoli diddan;

A’r hen fyd i gyd yn gân

O achos y Mab Bychan. Robert Owen

16

Cofiant i Geraint Rees Jones

25.08.1933 – 10.10.2022

Ganwyd Geraint yn Bryn Street, Talsarnau ar 25 Awst 1933, yr ieuengaf o chwech o blant Robert a Maggie. Yn ystod ei ddyddiau cynnar treuliodd lawer o amser yng nghartref plentyndod ei fam yn Gwndwn, Soar. Mynychodd Ysgol Gynradd Talsarnau ac ar ôl llwyddo yn yr arholiad 11+, aeth i Ysgol Ramadeg y Bermo a gwnaeth yn dda iawn mewn llawer pwnc gan lwyddo’n arbennig mewn arlunio.

Roedd ganddo atgofion da a drwg o’i amser mewn addysg, a chan ei fod yn law chwith, fe geisiodd yr athro gywiro hyn! Yn ei amser sbâr, byd natur oedd ei ddiddordeb – cerdded o gwmpas ei fro, gwylio adar a chasglu rhai wyau!

Roedd hefyd yn mwynhau a chwarae pêl-droed a chriced yn y cae chwarae lleol. Wrth dyfu’n hŷn, dangosodd ddiddordeb mewn peirianwaith, gan dreulio amser yn yr efail leol ac yn garej ei ewythr yn Nhalsarnau. Hefyd dechreuodd bysgota; gan sôn ychydig am botsio ar adegau!

Dechreuodd ei hoffter o ganu pan oedd yn 17 oed pan y gofynnwyd iddo ymuno â Chôr Madrigal Penrhyndeudraeth a mwynhaodd hyn yn fawr iawn.

Yn y pumdegau cynnar, mentrodd ar draws y ffin i ddechrau prentisiaeth fel ffiter mecanyddol yn Sentinels yn yr Amwythig, yn yr adran oedd yn cynhyrchu peiriannau diesel, gyda’r gwaith theori yn digwydd yng Ngholeg Technegol Amwythig cyn, ymhellach, cael ei drosglwyddo i brofi peiriannau a fyddai’n cael eu hallforio. Yn 1956, ychydig cyn gorffen ei amser yno, fe’i galwyd i wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol, ac ymunodd â’r Awyrlu gan weithio ar wahanol fath o awyrennau fel ffiter peirianyddol.

Wedi iddo gwblhau ei brentisiaeth, dychwelodd gartref, a’i rieni erbyn hyn wedi symud i Rhif 8 o’r tai newydd a adeiladwyd yng Nghilfor, Llandecwyn. Wedi cael profiad yn yr Awyrlu, dechreuodd weithio yn RAE Llanbedr, eto’n gweithio gyda nifer o wahanol awyrennau, yn cynnwys injan jet am y tro cyntaf. Roedd hefyd yn gyfrifol am y systemau barau ar y maes glanio. Yn dilyn dychwelyd i Gymru, cyfarfu â’i ddarpar wraig, Pauline mewn neuadd ddawns ym Mhorthmadog, gyda’i ffrindiau yn ei annog bod ’na ferch o Harlech eisiau dawnsio gydag ef! Priodwyd hwy ar 29 Hydref 1960 a threuliwyd eu misoedd cyntaf mewn carafan yn Min-y-Don, Harlech, yna cyfnod byr ym Mhorthmadog cyn symud i 3, Trem y Garth, Llandecwyn. Ymgeisiodd am swydd fel ffiter yn y Pwerdy Niwcliar newydd yn Nhrawsfynydd (CEGB) lle treuliodd y 21 mlynedd nesaf. Yn ystod y cyfnod yma, ganwyd eu pum plentyn, Pamela, Kevin, Elfyn, Alan a Heather ac roedd angen tŷ mwy a symudwyd i Rhif 4, Cilfor ac yna symud am y tro olaf i Rhif 7, Cilfor lle bu iddynt aros am 45 o flynyddoedd.

Parhaodd ei gariad at ganu, ymunodd â Chôr y Moelwyn a fwynhaodd yn fawr iawn, gan grwydro mor bell â Llydaw ac Ynys yr Iâ. Ei ddiddordebau eraill oedd garddio, pysgota a saethu o gwmpas Llandecwyn, weithiau yn crwydro ymhellach gyda thripiau pysgota i’r Alban ac Iwerddon gyda’i ffrind gorau (hyd heddiw) Treflyn. Daeth ei gariad at saethu â hoffter o gŵn, a chafodd dri dros gyfnod o 50 mlynedd, a garodd yn fawr iawn – Taff, Honey a Misty.

Wedi iddo ymddeol, yn gynnar yn 1983, parhaodd i arddio, cael ail dŷ gwydr a thyfu coed a llwyni bach a’u gwerthu’n lleol, heb anghofio y llysiau blasus. Byddai’r plant yn hoff iawn o gymryd un o’r tomatos blasus ar ôl ysgol a’u bwyta fel afal – pleser cyn bod y te yn barod!

Parhaodd i gerdded yn lleol, yn aml iawn i fyny at yr eglwys yma, lle bu ei hynafiaid yn byw yn y bwthyn gerllaw - Tynllan.

Bu i Pauline ac yntau drafeilio i ymweld â’u plant, wyrion a gor-wyrion lle bynnag roeddynt yn byw ledled y

wlad. Cawsant fwynhau ychydig o wyliau dramor, (yn enwedig Portiwgal gyda’i frodyr, chwiorydd a’u gwŷr), Madeira, Jersey, Ynys Wyth, ynghyd â thaith llong ar Fôr y Canoldir.

Cafodd broblemau iechyd dros y blynyddoedd, gan gael triniaeth fawr ar ei galon – triple heart bypass yn ei saithdegau, a dilyniant pellach o lawdriniaeth ar ei galon ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond parhaodd i gerdded i fyny i fryniau Llandecwyn ymhell i’w wythdegau. Yn anffodus, cafodd strôc yn 2020, yn ystod y cyfnod clo Cofid, yr un flwyddyn y bu iddo ef a Pauline ddathlu eu priodas ddiemwnt! Roedd yn fwriad gan y teulu i drefnu dathliad hwyr iddynt ym mis Hydref eleni. Cafodd fywyd amrywiol ardderchog a dangosodd ei fod yn benderfynol hyd y diwedd.

Fe fydd Pauline, y plant, y teulu a’i ffrindiau i gyd yn gweld colled enfawr ar ôl Geraint.

Ysgrifennodd englyn yn dilyn un o’i droeon i fyny i Eglwys Llandecwyn a darllenwyd hwn gan Kevin yn y gwasanaeth angladdol.

‘Yma bu dyddiau mebyd – yn nhegwch

Anhygoel Bro Dwyryd Hafau a’u oriau hyfryd Ninnau bawb yn wyn ein byd.’

Diolch

Hoffai Pauline, Pamela, Kevin, Elfyn, Alan a Heather ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd atynt ar golli gŵr a thad hoffus. Diolch i bawb ddaeth i’r cynhebrwng yn Eglwys Llandecwyn, ei hoff ardal, a’r rhoddion hael at elusennau agos i’r teulu. Bydd y swm anhygoel o £510 yn cael ei rannu rhwng Ymchwil Canser a Sefydliad Prydeinig y Galon.

Diolch yn fawr i griw Pritchard a Griffiths a’r Parch Iwan Llewelyn Jones, yn ogystal â phawb yn gysylltiedig â’r Eglwys.

Hoffai Heather ddiolch yn arbennig i Anwen Roberts am bob help a Mai Jones am fod mor garedig yn cyfieithu teyrrnged ei thad ar gyfer Llais Ardudwy.

Rhodd a diolch £25

17

Triathlon Harlech

Mae’r cwmni Always Aim High wedi rhoi £2020 i bwyllgor Triathlon

Harlech i ddiolch am waith y cyfeillion oedd yn hebrwng pobl [marshals]. Yn dilyn ceisiadau gan grwpiau lleol, mae’r pwyllgor wedi

dosbarthu’r arian fel a ganlyn:

Cadets Awyr Ardudwy - £150 i brynu offer newydd

Marchogion Ardudwy - £150

Cyfeillion Ysgol Tanycastell - £150 i brynu offer ffitrwydd

Pwll Nofio Harlech - £500 i brynu

gorchudd newydd i’r pwll

Band Arian Harlech - £150

Clwb Triathlon Harlech - £600 i dalu am hyfforddi lefel dau

Pwyllgor Triathlon Harlech - £150 at gost y noson caws a gwin i’r hebryngwyr.

Hen Lyfrgell Harlech - £170 at gost adnewyddu’r gegin

Diolch i’r Cyng Gwynfor Owen am fod yn dyst annibynnol. Cynhelir y Triathlon nesaf ar 26 Mawrth, 2023. Rydym yn edrych ymlaen am ddiwrnod ardderchog unwaith eto. Nodyn Golygyddol

Diolch am y gydnabyddiaeth o £20 gafodd Llais Ardudwy am helpu gyda’r cyhoeddusrwydd.

Cymdeithas Hanes Harlech

Bydd y Gymdeithas

yn troi’r cloc yn ôl i 1876 ar gyfer sgwrs

olaf y flwyddyn. Mae’r

Gymdeithas yn croesawu

Mrs Anne Holland, gwraig yr AS Samuel

Holland o’r 19G, i sgwrsio am waith ei gŵr yn Harlech a rhannau

eraill o’i etholaeth ym

Meirionnydd.

Cynhelir y sgwrs ar 13

Rhagfyr am 7.30 yr hwyr

yn y Neuadd Goffa, Harlech. Mynediad am ddim i aelodau, £2 i rai nad ydyn nhw’n aelodau yn cynnwys gwin cynnes a mins peis. Croeso i bawb.

Diolch

Carwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i bawb am bob caredigrwydd a dderbyniais yn ystod fy salwch – am bob dymuniad da, galwadau ffôn ac ymweliadau, yr holl flodau hardd, a’r cacennau blasus iawn.

Hefyd, ar ran Judith (fy merch) a minnau, hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb am eu cefnogaeth

a’u haelioni yn dilyn damwain Harri, fy ŵyr. Ar ôl tri mis yn yr ysbyty yn Stoke, mae Harri wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Gobowen. Mae arbenigedd yr ysbyty yma yn adnabyddus iawn. Dywed llawer eu bod yn gallu gwneud gwyrthiau yma, a dyma, wrth gwrs, yw ein gweddi a’n gobeithion. Ar adegau, anodd iawn yw cadw’n bositif ond meddai Salm 130 ‘yr ydym yn disgwyl wrth yr Arglwydd, Ef yw ein cymorth a’n tarian. Rhoddwn ein gobaith ynddo Ef’. Heb Grist nid oes gobaith –trwyddo bydd ein dyheadau dwysaf yn cael eu gwireddu. Eleni gadewch i ni gofio gwir ystyr y Nadolig, ‘Ganwyd i chwi heddiw Geidwad, hwn yw Crist yr Arglwydd’, syniad sydd i’w drysori a’i orfoleddu. Nadolig Llawen a phob dymuniad gorau ar gyfer 2023 i bawb. Diolch, Bethan a Judith. Rhodd £30

Yn gwella

Rydym yn falch fod Mrs Dilys Williams, Heol y Bryn yn gwella ar ôl ei thriniaeth ddiweddar. Pob dymuniad da iddi.

Sefydliad y Merched

Croesawodd y Llywydd Jan Cole i’r cyfarfod nos Fercher, 9 Tachwedd, yn Neuadd Goffa Harlech.

Cafwyd placiau i’w rhoi ar y tri twb blodau o flaen yr Eglwys oedd yn rhodd gan Sefydliad y Merched. Cynhelir te Sefydliad y Merched yn y Queens Hotel brynhawn dydd

Mercher 14 Rhagfyr ac fe fydd yr adloniant gan rai o’r aelodau wedi ei drefnu gan y llywydd.

Cafwyd seibiant, te a chacennau cyn cychwyn ar y Cyfarfod

Blynyddol. Rhoddwyd adroddiad gan yr Ysgrifennydd oedd wedi dal ei swydd am bedair blynedd. Diolchodd y Llywydd i’r Trysorydd am ei chymorth drwy’r adeg yma. Rhoddwyd adroddiad gan y Trysorydd Sheila Maxwell, a gan y Llywydd Jan Cole. Y Llywydd newydd fydd Sheila Maxwell. Hi ddaru osod y dorch o flodau ar ran Sefydliad y Merched ar Sul y Cofio.

Sul y Cofio

Pen-blwydd

Pen-blwydd hapus hwyr i Helen Williams, Ty’n Ffordd, Harlech ar gyrraedd pen-blwydd arbennig ddiwedd Tachwedd. Mae’n siŵr iddi gael amser arbennig yng nghwmni’r teulu.

Gwelwyd y dorf fwyaf ers tro byd wedi casglu ynghyd wrth y Gofgolofn. Roedd mor braf gweld Seindorf Harlech yno hefyd. Cymerwyd y gwasanaeth gan Sheila Naylor, a’i gŵr David oedd yn canu’r gloch. Chwaraewyd y Last Post a Reveille gan Gethin Sharp. Adroddwyd yr Exultation a’r Kohima gan Roy Gamlin. Gosodwyd y torchau blodau pabi gan wahanol fudiadau o’r dref a gan deulu lleol. Diolch i bawb a fu’n cymryd rhan ac i Jan a Geoff Cole am roi’r blodau pabi mawr trwy’r dref, ac i Graham Perch am drefnu i gael y blodau pabi mawr. Diolch i siopau ac i’r ysgolion a’r gwestai am werthu’r blodau pabi. Mae’r elw yn mynd i gadw a rhoi cymorth i deuluoedd y Lleng Brydeinig sydd wedi colli rhai annwyl yn y ddwy ryfel neu wedi cael eu hanafu. Diolch i aelodau’r Goleudy, Harlech, am drefnu lluniaeth yn Neuadd Goffa Harlech ar ôl y gwasanaeth.

Capel Jerusalem, Harlech

11 Rhagfyr, Parch Iwan Ll Jones am 3.30 o’r gloch.

18

Hwb Harlech/Hen Lyfrgell

Diolch i pawb a gyfrannodd nwyddau i’w gwerthu yn ein digwyddiad (diwrnod y goleuadau Nadolig) a gododd £193 tuag at y gost o redeg yr adeilad.

Mae croeso i bawb ymuno â’n grwpiau rheolaidd, y grŵp cymdeithasol ddydd Mercher (2-4) a grŵp hanes Harlech ddydd Gwener (2-4). Mae’r ddau grŵp yn rhad ac am ddim ac mae’r ystafell yn gynnes. Ym mis Ionawr edrychwn ymlaen at ddosbarth Cymraeg newydd i ddechreuwyr (5.30-7.30 ar ddydd Mawrth yn dechrau 10fed Ionawr) a Ti a Fi (10-11 bore Mercher yn dechrau 25ain Ionawr). Diolch.

Sheila Maxwell

Trydydd

6 Mary Richards 7 Eirianwen

Ail

6 Sally Lloyd 7 Olwen Evans

Rhes blaen:

6 Mary Williams 7 Liz Evans

Os gallwch chi lenwi’r bylchau, buasem yn falch iawn o glywed gennych. Diolch yn fawr i Mary Ellis am anfon y llun atom. [Gol.]

Cyngor Cymuned Harlech

MATERION YN CODI

Cae Chwarae Brenin Siôr V

Ennill gwobr

Llongyfarchiadau i Gwion Lloyd, Lasynys, sydd wedi ennill gwobr fel un o ddau hyfforddai mwyaf addawol gan CECA Cymru [Civil Engineering Contractors Association]. Cafodd y wobr bythefnos cyn ei ben-blwydd yn 23 oed. Cyflwynwyd y wobr iddo gan Jonathan Davies mewn seremoni yng Nghaerdydd. Dywedodd Gwion, ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill ond mae’n gydnabyddiaeth o ’ngwaith caled dros 4 blynedd. Diolch i’r Brodyr Jones am eu cefnogaeth. Roedd Gwion yn un o’r saith uwchbrentisiwyr i gwblhau’r cwrs. Mae’n gweithio rŵan ar brosiect ger yr M6 yn Middlewich, Sir Gaer. Pob lwc i ti Gwion!

Capel Rehoboth, Harlech

18 Rhagfyr, Gwasanaeth Nadolig am 2.00 o’r gloch.

Mae Christopher Braithwaite wedi cysylltu â MacVenture, Llangefni a dangosodd luniau o wahanol offer a fyddai’n addas i’r parc chwarae gyda’r arian grant o Grŵp Beicio Harlech ac Ardudwy. Cytunwyd i archebu hyfforddwr seiclo a ‘recumbent’ seiclo. Cytunwyd i lunio cynllun o’r ardal chwarae er mwyn gweld lle gellid lleoli’r offer. Mae hysbysfwrdd newydd wedi cyrraedd Garej Morfa a chytunwyd i ofyn i Mr Meirion Evans ei osod ar y llecyn tir ger Siop y Morfa; cytunodd Tegid John a Christopher Braithwaite ofalu am hyn. Cynnal cyfarfod cyhoeddus gyda HAL –dyddiad i’w benodi Adroddodd y Clerc ei bod wedi cynnwys yr eitem uchod ar yr agenda oherwydd ei bod yn bryd cynnal cyfarfod cyhoeddus i weld a yw y Cyngor am barhau gyda’r cytundeb praesept gyda HAL gan fod y cytundeb 5-mlynedd presennol wedi dod i ben. Cytunwyd i gynnal y cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Goffa a phenodi dyddiad yn y flwyddyn newydd.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Amrywio Amodau Rhif 3 & 4 ynghlwm i Rybudd Caniatâd Cynllunio, dyddiedig 16/06/2008 i ymestyn y man eistedd y tu allan i’r cwrt cyfan a newid oriau agor

y cwrt i 0930 i 2200 - Llew Glas, Stryd Fawr. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel yr ystafell haul a chodi estyniad unllawr gyda tho gwastad ar yr ochr - Buckland (hefyd yn cael ei adnabod fel Ymyl y Niwl), Ffordd Uchaf. Cefnogi’r cais hwn.

GOHEBIAETH

Adran Amgylchedd, Gwynedd

Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynglŷn â newid yr amser aros cyfyngedig 2 awr i lawr i 1 awr ar ochr y ffordd gyferbyn â’r cyn-Gapel Tabernacl ac yn datgan, pe bai gan y Cyngor unrhyw sylwadau parthed hyn, iddynt gysylltu â hwy, ac os na fyddant wedi derbyn unrhyw sylwadau o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr hwn, cymerir yn ganiataol nad oes gwrthwynebiad.

Adran Briffyrdd, Gwynedd

Bydd y Tîm Tacluso Ardal Ni yn ymweld â’r ardal yn ystod y mis hwn.

Mr Geraint Williams

Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynglŷn â Ffair Fop Fictoraidd Harlech yn datgan bod y cyllid i gynnal y Ffair hon wedi dod i ben ac yn gofyn a fyddai hi’n bosib i’r Cyngor Cymuned gyllido’r Ffair. Cytunodd yr aelodau i hyn a datganwyd ei fod hyn wedi ei drafod eisoes gyda

Mr Williams pan ddaeth i gyfarfod â’r Cyngor ym mis Medi.

19 YSGOL GYNRADD HARLECH 1948-50?
Rhes gefn: 1 Marian Evans 2 ? 3 Olwen Jones 4 Eirlys Jones, 5 Pat Edwards Rhes: 1 Betty Jones 2 ? 3 Enid Thomas 4 Ann ? 5 Rosemarie Jones Jones Res: 1 Frances Cable 2 ? 3 Audrey Jones 4 Rhiannon 5 Thelma Jones 1 ? 2 Meinir Pugh 3 Lilian Owen 4 Rhiannon Jones 5 Pat Horne

Yn dilyn gwyliau’r hanner tymor, daeth Ameer DaviesRanna atom i gynnal gweithdai blogio gyda’r plant. Bu i bawb lwyddo i greu blog ar y thema ‘Fi fy hun’. Diolch i Ameer am gynnal gweithdai llawn hwyl.

Blythswood

Daeth Mr Robin Williams atom i sôn am ymgyrch Bocsys Nadolig Blythswood. Roedd y plant wedi mwynhau ei gyflwyniad yn fawr iawn. Llwyddwyd i anfon 12 o focsys i deuluoedd llai ffodus yn nwyrain Ewrop.

Diolchgarwch

Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch cyn gwyliau’r hanner tymor. Bu’r plant a’r athrawon yn brysur yn paratoi ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwn. Cafodd pawb gyfle i gyfrannu trwy ganu a llefaru a braf oedd gweld y Neuadd unwaith eto yn orlawn. Derbyniwyd £126 o roddion ar ddiwedd y gwasanaeth a chyflwynwyd yr arian i ymgyrch Macmillan.

Cyngor Ysgol

Eleni mae’r Cyngor yn cydweithio gydag Ysgol Cefn Coch i ganfod barn y plant am faterion sydd angen eu datblygu ac i drefnu gweithgareddau ar y cyd rhwng y ddwy ysgol yn ogystal â threfnu rhai gweithgareddau sy’n benodol ar gyfer Ysgol Talsarnau. Hyd yma maent wedi trefnu prynhawn goffi Macmillan, Diwrnod Plant Mewn Angen ac Wythnos Gwrthfwlio.

Tylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn [parhad]

Yr aelod teuluol olaf yn hanes tylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn, yn fy ymchwil personol i, yw Hugh Owen Evans (g 15 Rhagfyr 1944, yn Seattle, Washington – m 15 Mawrth, 2016, yn Spokane, Washington), un o feibion William a Theodora Evans. Graddiodd ym Mhrifysgol Washington, a Choleg Ysgol Uwchradd Gonzaga (Adran y Gyfraith). Anrhydeddwyd ef â nifer o fedelau ar ôl gwasanaethu fel Lifftenant Cyntaf gyda’r Adran Infantry

Cyntaf yn Rhyfel Viet Nam, yn cynnwys tair Calon Porffor, dwy Seren Efydd gyda ‘V’ am ddewrder (valour), a Seren Arian am ddewrder mewn brwydr. Yr oedd yn fargyfreithiwr llwyddiannus, yn feddyliwr blaengar ac yn bysgotwr plu dawnus. Ef oedd sylfaenydd Cwmni Cyfreithwyr Evans, Craven a Lackie yn Spokane. Bu farw o drawiad ar y galon, 15 Mawrth, 2016, yn 71 mlwydd oed. Cafodd ei gladdu gydag anrhydeddau llawn ymysg 400,000 o aelodau swyddogol, ffigyrau gwleidyddol ac eraill, ym Mynwent Genedlaethol Arlington, Virginia.

W Arvon Roberts, Pwllheli

20
YSGOL TALSARNAU
Ameer Davies Ranna Carreg fedd H O Evans, Mynwent Genedlaethol Arlington, Va.

YSGOL ARDUDWY

Daeth nifer dda o ddisgyblion B5 a B6 o’r dalgylch i noson agored yn ddiweddar. Dyma oedd cyfle i weld beth sydd ar gael yn y gwahanol adrannau a chael blas cynnar o fywyd mewn ysgol uwchradd. Cafwyd perfformiad gwerth chweil gan gôr o ddisgyblion B7 wrth iddynt ganu

‘Ar hyd y nos’ gyda Miss Lona Williams yn arwain a Miss Siân Evans yn cyfeilio. Dyma oedd cyfle cyntaf i’r disgyblion yma ar y llwyfan mawr a hyn o flaen cynulleidfa niferus. Da iawn bawb gan obeithio y bydd cyfle i chi wneud mwy o ganu dros y Nadolig ac i’r flwyddyn newydd.

Yn flynyddol, mae Ysgol Ardudwy yn cynnal diwrnod o gasglu arian ar ddiwrnod Plant mewn Angen a doedd eleni ddim gwahanol wrth i’r disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad hamdden a chyfrannu arian tuag at yr elusen bwysig yma. Hefyd yn ystod amser egwyl a chinio cafwyd cyfle i godi mwy o arian wrth i ddisgyblion B10 gynnal gwahanol weithgareddau yn y neuadd. Diwrnod gwerth chweil.

Roedd llawer iawn o gynnwrf yn yr ysgol wrth i bawb sôn am ymdrechion

Cymru yng Nghwpan y Byd. Doedd dim gwers yn mynd heibio heb ogwydd at y pêl-droed. Daeth Marged Gwenllian ac Osian Williams o’r Urdd i gynnal y brwdfrydedd yma a chynnig nifer o weithgareddau i ddisgyblion B7 er mwyn iddynt gael blas llawn o’r hyn sy’n digwydd yn Qatar. Gwelwyd y disgyblion yn chwarae rôl o gemau mawr Cymru dros y blynyddoedd, yn cael ysgrifennu llythyr yn annog Robert Page a’r garfan wrth iddynt gystadlu ac aed ati i lunio penillion a chytgan a chreu cân hyfryd. Cyn troi am adre, roedd amser i wneud ychydig o gelf, megis Origami gan greu crysau pêl-droed Cymru gydag enwau eu harwyr ar y cefn. Diwrnod i ysbrydoli yng ngwir ystyr y gair. Diolch i’r ddau am y cyfle i gydweithio.

Taith i Borthmadog gafodd disgyblion B9 a chyfle i ymweld â Ffiws. ‘Roedd hwn yn gyfle da i bawb gael cyfle i weld y gwahanol beiriannau technoleg newydd oedd ar gael yna a thrwy hynny gynllunio a chreu gwahanol eitemau ar yr argraffwyr.

Hoffai pawb yn yr ysgol ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i drigolion yr ardal gan ddiolch i chi am eich cefnogaeth yn ystod 2022. Dymuniadau gorau i chi yn 2023.

21
Trefnwyd ffair lyfrau wrth i Awen Meirion, siop lyfrau yn y Bala, ymweld â’r ysgol. Yn amlwg, roedd yna gwpl o lyfrau yn mynd â llygaid y disgyblion, sef y rhai hynny oedd yn ymwneud â Chwpan y Byd. Ond roedd diddordeb y gwahanol flynyddoedd i’r llyfrau Cymraeg eraill hefyd yn amlwg. Bydd yna oriau o ddarllen yn digwydd o hyn allan wrth i bawb fynd drwy’r hyn gafwyd o’r Ffair lyfrau. Bu disgyblion o B7 yn yr Adran Dechnoleg yn brysur iawn yn creu cadeiriau.

Clwb Rygbi Harlech

Hoffai Joy a Dylan, Ysgubor Hen, Eisingrug ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd

Dda i’r teulu a’u ffrindiau yn yr ardal.

Clwb Rygbi Harlech dan 8 oed

Ava May Nevin, Lewis Weedall (Bermo), Gruffudd Edwards, William Jones (Dyffryn), Ellie Labrum (Penrhyndeudraeth), Tyler Richards (Harlech), Nevaeh Simons (Bermo), Nathaniel Poulton (Harlech), Steffan Kerr (Penrhyndeudraeth).

Cawsom dywydd sych ym Mhorthmadog ddydd Sul, Tachwedd 27 er mwyn chwarae tîm dan 8 oed y dre. Derbyniwyd croeso a mwynhawyd y chwarae gan y plant o flaen lygaid balch y rhieni. Ynyr Lane oedd yng ngofal plant

Clwb Rygbi Porthmadog gyda Siân Edwards ac Anthony Richards yng ngofal plant Clwb Rygbi Harlech. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Cynhelir gemau gan y tîm dan 8 oed yn Nolgellau ar Rhagfyr 4 yn erbyn Dolgellau ac Aberystwyth. Dewch am dro i gefnogi.

Hefyd cynhelir Cinio Clwb Rygbi Harlech yn Hendrecoed Isaf ar Rhagfyr 10.

Dewch i roi cynnig ar yrru’r

Yaris Cross newydd!

Dewch i roi cynnig ar yrru’r

Yaris Cross newydd!

Dymuna

Trefor ac Annwen a’r teulu, Crafnant, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w teulu a’u cyfeillion, a phob bendith yn 2023.

Dymuna

Mark, Julie, Gerry a Janice, Siop Tymhorau a Rhesymau, Stryd Fawr, Harlech

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

i’w cwsmeriaid i gyd.

TOYOTA HARLECH

TOYOTA HARLECH

Ffordd Newydd

Ffordd Newydd

Harlech

Harlech

LL46 2PS

LL46 2PS 01766 780432

01766 780432

www.harlech.toyota.co.uk

www.harlech.toyota.co.uk

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

i’m cyfeillion i gyd!

Eifion Williams

5 Cilfor

info@harlechtoyota.co.uk

info@harlechtoyota.co.uk

Facebook.com/harlechtoyota

Twitter@harlech_toyota

Llandecwyn

22
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan John a Gwyneth Richards, Hafan Deg, Bryn Eithin, Llandecwyn.

Dymuna Wyn ag Olwen, Erw Wen, Ty’nybraich, Dinas Mawddwy, Nadolig Dedwydd a Blwyddyn Newydd well

i bawb o’u teulu, ffrindiau a chydnabod yn ardal Ardudwy.

Hoffai Bili a Katherine, 6 Stryd Fawr, Talsarnau ddymuno

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl ffrindiau yn yr ardal.

Dymuna Emrys a Delyth [Glan-y-wern gynt]

ddymuno

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

i bawb yn deulu a ffrindiau yn yr ardal.

Dymuna Mari Williams, 5 Trem y Garth, Llandecwyn, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl deulu a’i chyfeillion.

Dymuna David a Mai Roberts, Nant y Coed, Dyffryn Ardudwy, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda yn 2023

i deulu, ffrindiau a chydnabod yn yr ardal. Cofion cynnes atoch i gyd.

Dymuna Gwenda Davies a’r teulu, Bodiwan, 21 Lôn y Wennol, Llanfairpwllgwyngyll, Nadolig Llawen

i’w ffrindiau yn Ardudwy a Blwyddyn Newydd Dda lewyrchus ac iach i bawb.

Dymuna Geoff ac Ann Booth Minffordd

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w ffrindiau yn yr ardal.

Eto eleni, nid ydym yn Nhyddyn Hendre yn anfon cardiau Nadolig. Byddwn yn cyfrannu at DPJ. Ond hoffem anfon ein dymuniadau gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Newydd Dda i bawb o’n cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen at eich gwasanaethu yn 2022.

Dymuna Cyril Jones, Rhuthun [Pennaeth Ysgol Ardudwy gynt] ddymuno

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Well i bawb o’i hen ffrindiau.

Ni fydd Hefin Jones, Arfor yn anfon cardiau eleni. Er hynny, hoffai ddymuno

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w gyfeillion.

23 *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com
Llawen
a Blwyddyn
Dymunwn Nadolig
iawn

Noson Siopa Hwyr yn Harlech

Noson siopa hwyr

Fel y gwelwch o’r lluniau, llwyddwyd i greu awyrgylch Nadoligaidd hyfryd iawn yn Harlech ar nos Sadwrn, 26 Tachwedd pan gynhaliwyd noson siopa hwyr. Daeth tyrfa dda ynghyd wrth fynedfa’r castell i wrando ar blant Tanycastell cyn iddynt ymuno â’r orymdaith drwy’r dref gyda’u llusernau lliwgar. Roedd nifer o stondinau deniadol wedi’u gosod ym maes parcio Bron y Graig.

Diolch i Pauline Benson, Crud yr Awel, Harlech am y lluniau

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.