Llais Ardudwy
Poster Noa
Bydd gwaith celf disgybl Ysgol Ardudwy yn cael ei ddangos wrth ochr y ffordd ger ysgolion ledled Cymru i annog gyrwyr i barchu’r terfyn cyflymder o 20mya fydd yn dechrau ar y rhan fwyaf o strydoedd 30mya yng
Nghymru, o 17 Medi 2023 ymlaen.
Llongyfarchiadau i Noa Williams o B7 sydd wedi ennill cystadleuaeth drwy Gymru i ddylunio arwydd ar gyfer hyrwyddo’r cyfyngiad cyflymder newydd i 20mya. Gwaith campus, Noa - mae’r ysgol yn falch iawn ohonot ti.
Nododd y beirniaid bod dyluniad Noa yn un trawiadol ac yn gwbl addas ar gyfer y gwaith o godi ymwybyddiaeth o’r newid i 20mya ar strydoedd lle mae pobl yn byw.
Cafodd Noa ei wobr o £250 a delwedd o’r cynllun terfynol gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn
Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS, yn ystod ymweliad â’r Senedd ganol mis Mawrth. Llongyfarchiadau
hefyd i’r enillwyr eraill a’r holl ddisgyblion talentog a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.
Aquathon
Bu disgyblion lleol o Ysgol Tanycastell yn cystadlu yn Aquathon Harlech, 2023. Cafodd Isla Vaughan Cowan (9 oed) a James Ioan Rees Mathews (10 oed) hwyl yn nofio a rhedeg am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth hon. Da iawn chi am gynrychioli eich ysgol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn cystadlu eto yn y dyfodol.
Enillwyr Snwcer
Ar ôl 20 rownd o chwarae brwd a chystadleuol a gychwynnodd mis Hydref diwethaf daeth y cyfan i ben ddiwedd mis Mawrth yn Neuadd Gymuned Taslarnau gyda Llifon Williams yn bencampwr yn mynd â’r tlws. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddo. Daeth Haydn Rayner yn ail agos, Gwion Roberts yn 3ydd a Sion Richards yn 4ydd. Braf yw nodi hefyd i Sam Roberts ennill Y Tlws dan 18 oed a gorffen yn 8fed.
Bu i 29 gymryd rhan a chafwyd llawer iawn o hwyl a thynnu coes yn ogystal â chwarae brwd. Diolch cynnes iawn i Siôn Richards am yr holl waith trefnu ac i bawb arall am gefnogi a thrwy hynny hybu gweithgareddau’r Neuadd yn adeiladol. Eisoes mae yna holi pa bryd fydd y gystadleuaeth yn ailgychwyn yn yr hydref. Yn barod mae yna edrych ymlaen!
RHIF 530 - EBRILL 2023
£1
James Ioan Rees Mathews [chwith] ac Isla Vaughan Cowan (de] gyda’u medalau
GOLYGYDDION
1. Phil Mostert
Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
2. Anwen Roberts
Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com
3. Haf Meredydd
Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com
01766 780541, 07483 857716
SWYDDOGION
Cadeirydd
Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion
Ann Lewis 01341 241297
Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Trysorydd
Iolyn Jones 01341 241391
Tyddyn y Llidiart, Llanbedr
Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com
Côd Sortio: 40-37-13
Rhif y Cyfrif: 61074229
Ysgrifennydd
Iwan Morus Lewis 01341 241297
Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com
CASGLWYR NEWYDDION
LLEOL Y Bermo
Grace Williams 01341 280788
Dyffryn Ardudwy
Gwennie Roberts 01341 247408
Mai Roberts 01341 242744
Llanbedr
Jennifer Greenwood 01341 241517
Susanne Davies 01341 241523
Llanfair a Llandanwg
Hefina Griffith 01766 780759
Bet Roberts 01766 780344
Harlech
Edwina Evans 01766 780789
Ceri Griffith 07748 692170
Carol O’Neill 01766 780189
Talsarnau
Gwenda Griffiths 01766 771238
Anwen Roberts 01766 772960
Gosodir y rhifyn nesaf ar 28
Ebrill a bydd ar werth ar 4 Mai.
Newyddion i law Haf Meredydd erbyn 25 Ebrill os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy
Y BARDD CWSG
Yr oedd y bobl gyffredin yn agos i Harlech, lle’r oedd Elis Wyn yn byw, yn credu mai damweiniau a ddigwyddodd.
Mewn gwirionedd y gwir oedd i Elis Wyn gael ei gymryd i fyny gan y Tylwyth Teg oddi ar ben y mynydd a elwir Moelfre, ac iddynt ei ddwyn gyda hwy drwy’r holl fyd; ac iddo feddwl ei fod wedi bod gyda hwy lawer iawn o flynyddoedd; ond pan ddaeth ef yn ôl, nid oedd ei forefwyd yn hanner parod er bod ei dylwyth wedi bod yn ddiwyd iawn i’w baratoi iddo, erbyn yr amser yr arferai gymryd ei bryd bore.
LLYTHYR
Bodiwan
21 Lôn y Wennol
Llanfairpwllgwyngyll
Ynys Môn
LL61 5JX
Annwyl Olygydd
Wrth ddidol llyfrau fy nhad, mi ddois ar draws llyfryn bach - ‘Ail Lyfr Anrheg - i Blant Cymru ar Wasgar, Gŵyl Ddewi 1944’.
Difyr iawn ydi darllen yr hanes am y llyfryn a deall mai Cynan ac eraill oedd yn gyfrifol am gasglu’r darnau o’i fewn. Amgaeaf lungopi o’r clawr, y cyflwyniad oddi fewn ac yng nghefn y llyfryn. Mae ’na amryw byd o ddarnau byrion o’r Beibl oddi fewn iddo, darn gan W J Gruffydd o ‘Cofiant Owen Morgan Edwards’, Pedrog, O M Edwards, T Gwynn Jones, T H Parry Williams, E Llwyd Williams, D J Williams, W Llywelyn Williams, Watcyn Wyn, Tegla ayyb.
Yn eu mysg, mae darn difyr o waith Daniel Silvan Evans [allan o ‘Ystên Sioned’] am y Bardd Cwsg - a’r cynnwys yn ddifyr iawn, yn arbennig i drigolion Ardudwy.
Teimlwn y gwnai hwn i ‘Llais Ardudwy’ gan fod gofyn am erthyglau.
Diolch am eich gwaith gyda’r papur. Cofion, Gwenda Davies
Ac am Weledigaeth Uffern, yr oeddynt yn credu ei fod ef mewn gwirionedd wedi cael ei ddwyn i Uffern gan angel o’r nef. A phan ddaeth yn ei ôl (meddent) yr oedd ei ddillad a’i benguwch wedi eu greidio a’u llosgi, a chymaint o sawr ffiaidd uffern arnynt fel na thalent mwyach eu gwisgo; eithr eu llosgi ar lan y môr a wnaed, mewn lle y byddai’n sicr i’r llanw eu cyrraedd, a chymryd ymaith eu lludw’n lân.
Yn ei daith drwy Uffern, ni bu ef mewn gwirionedd ond meityn bychan o amser, er iddo feddwl ei fod wedi bod oesoedd meithion yno.
Yr oedd amryw goelion eraill o’r cyfryw am Elis Wyn ym mhennau hen wragedd eisingrug y wlad o amgylch y Las Ynys. Daniel Silvan Evans [Allan o ‘Ystên Sioned’]
2
Atgofion am Ysgol Ardudwy
Fe’i hedmygaf. A’r tro yma chwaith ddaliodd o erioed ddig.
Yn 1961, rwy’n meddwl, y des i yn athro i Ysgol Ardudwy. Roeddwn wedi treulio blwyddyn mewn Ysgol Fodern dda yn Nhreorci lle y bu i mi elwa yn fawr ar anogaeth a chefnogaeth Prifathro blaengar. Un o wŷr y Rhondda oedd Percy Griffiths, wedi graddio mewn Saesneg ac wedi arbenigo wedyn ar Chwedlau Ynys yr Iâ. Brodor o Flaenau Ffestiniog a gwyddonydd disglair oedd Morris G Evans, prifathro Ysgol Ardudwy. Yr oedd iddo barch uchel fel athro galluog, brwdfrydig. Yr oedd yn ddisgyblwr llym ond yn brifathro a sicrhai degwch a chyfle i bob un o’i ddisgyblion, beth bynnag fo’i gefndir. Elwais yn fawr ar ei arweiniad a’i gefnogaeth a’i gyfeillgarwch yn ystod y blynyddoedd y bûm yn Harlech. Daliaf i’w barchu heddiw.
Bu bron, fodd bynnag, i bethau fod yn wahanol. Yn Ysgol Ardudwy y cyfnod hwnnw, arhosai’r dosbarthiadau yn eu hystafelloedd gan adael i’r athrawon grwydro. Y pnawn arbennig yma roedd yn rhaid i mi gerdded o un pen o’r ysgol i’r llall at ddosbarth yr oedd eu cael i wrando ac i ddeall yn dipyn o her. Hanes oedd y pwnc a gofynion y wers oedd agweddau ar wleidyddiaeth Lloegr o dan y Stiwardiaid. Toedd gen i, mwy na’r hogia, ddim diddordeb yn y Court of Star Chamber na’r Habeas Corpus Act
Pan gyrhaeddais yr ystafell yr oedd y prifathro yno yn barod. Treuliodd ddeng munud a mwy yn holi’r disgyblion ar yr hyn y disgwylid i mi fod ei gyflwyno iddynt yn y wers flaenorol. Tawelwch llwyr oedd yr ymateb. Dwysawyd fy nheimlad o fethiant. Ddiwedd y pnawn gelwais yn ystafell y prifathro a dadlau na chytunwn â’r modd yr oedd wedi amlygu fy methiant i ddysgu dim i’r plant, a hynny yn eu gwydd. Nid dyna’r
ffordd y byddai fy hen brifathro wedi gweithredu, meddwn. ‘Caewch y drws,’ oedd geiriau cyntaf Mr Evans. Ac yna meddai, ‘Os dyna’ch teimlad croeso i chi fynd yn ôl ato.’ Parhaodd y dadlau rhyngom ymhell dros oriau swyddogol yr ysgol. Ddaliodd Mr M G Evans erioed ddig ataf am hyfdra’r athro ifanc newydd.
Bu un digwyddiad arall cofiadwy y tu ôl i ddrws caeëdig y prifathro. Yr oedd athro ifanc arall yn yr ysgol, Elfyn Thomas, athrylith o hanesydd a raddiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, a minnau yn byw mewn carafán ar derfyn Ysgol Ardudwy. Y bore arbennig yma yr oedd y ddau ohonom wedi cysgu’n hwyr. Daeth dau athro caredig, Silyn Hughes ac Alun Williams, i chwilio amdanom a’n rhybuddio bod y gloch wedi canu. Llwyddasom i gyrraedd yr ysgol cyn i’r gwasanaeth bore orffen. Teimlai Elfyn a minnau i ni droseddu a fel dau hogyn drwg dyma sefyll y tu allan i ddrws ystafell y prifathro yn barod i ymddiheuro.
Y bore arbennig yma dewisodd Mr Evans fynd ar ryw drywydd o bwys i ben arall yr adeilad. ‘Ŵyr o ddim am hyn. Toes dim angen i chi ymddiheuro,’ oedd y cynghorion a gawsom gan athrawon a blynyddoedd o brofiad ganddyn nhw. A dyna fu. Ni chlywyd dim am ein trosedd trwy’r dydd.
Bore drannoeth, cyrhaeddodd Elfyn a minnau yr ysgol toc wedi wyth. Wrth fynd heibio drws ystafell y prifathro, oedd yn llydan agored, dyma glywed llais. ‘Munud bach. Caewch y drws.’ Gwyddem ein dau ein bod ar fai a gwyddem nad oedd gennym sill o Gymraeg i amddiffyn ein heuogrwydd. Fe’n disgyblwyd yn llym ac yn gwbl deg. Gwarchod ei safonau uchel yr oedd ein prifathro a dysgu gwers i ni.
Dyna ddau atgof a ddaeth i mi yn dilyn gweld llun yn Llais Ardudwy o un o’m disgyblion hoffusaf yn Ysgol Ardudwy yn sefyll ar gopa Moelfre a hithau wedi cyflawni dyhead. Trueni iddi gael diwrnod niwlog a golygfeydd mor odidog i’w cael o’r copa. Cofiaf hyd heddiw am Gymraeg graenus Gwenda (Owen) ac am ei dychymyg byw. Cofiaf am ei chwrteisi tawel a’i hymroddiad llwyr i’w gwaith ysgol. Ganddi hi a Wil Owen, un arall o gewri Ysgol Ardudwy fy nghyfnod i, y caf hyd heddiw newyddion pwysig am yr hen ardal. Nid anghofia Meira a minnau chwaith gyfeillgarwch triw Haf Meredydd, un o hoelion wyth y Llais, dros agos i bum degawd o amser. Ystyriaf y cyfnod a dreuliais yn Ysgol Ardudwy ac yn Ardudwy yn un o’r cyfoethocaf yn fy mywyd. Deil y llu atgofion yn fyw iawn.
Cyd-ddigwyddiad hyfryd i hyn oedd i mi rai dyddiau yn ôl gael sgwrs fendigedig ar y ffôn efo cyn-ddisgybl arall y cofiaf amdano ef a’i frawd yn dda iawn. Un o’m dulliau i gadw’n heini pan fo hi’n dywydd drwg ydi troi pedalau beic llonydd sy’n sefyll wrth ochr fy nesg. Anelaf at hanner awr a rhagor o weithio. Yn ‘gwmni’ i mi byddaf yn gwrando ar recordiau, yn farddoniaeth R S Thomas a T H ParryWilliamsac ac yn ganeuon Cymraeg hen a diweddar.
Flynyddoedd yn ôl bellach yn angladd Colin Palmer yn Amlosgfa Bangor yr oedd Roger a John Kerry wedi rhoi anrheg i mi – Hogia Harlech: Hen Ffefrynnau. Yr wyf wrth fy modd yn gwrando ar yr hogia yn canu am Lleucu Llwyd, Yr Hogyn Pren, Llanc Ifanc o Lŷn, Un Dydd ar y Tro a llu eraill. Y noson o’r blaen dyma fentro galw rhif ffôn oedd gen i i Roger. Er mawr bleser Roger atebodd. Cofiaf yn dda amdano ef a John yn ddisgyblion annwyl iawn yn yr ysgol. Yng nghwrs y blynyddoedd deuthum ar eu traws yng Nghlwb Golff Harlech a dyma adfywio’r berthynas. Cofiaf weld cyfeiriad at arddangosfa o baentiadau
John yn y Llais. Rywdro cyn yr haf, rwy’n gobeithio rhoi tro eto i Ardudwy. Galwaf yn sicr i sgwrsio efo Roger a John a chaf bicio draw ar y beic i Gwm Nantcol.
Diolch am yr atgofion.
Geraint Percy Jones
3
Geraint Percy a Meira Jones
TRIATHLON HARLECH
Mae’n bryd imi ddweud diolch yn fawr iawn i bobl Harlech a’r gymuned ehangach. Dros yr wythnosau diwethaf mi fu cyd-dynnu arbennig er mwyn sicrhau Triathlon llwyddiannus. Mae ysbryd cymunedol cryf iawn yn yr ardal hon. Rydw i’n hynod ddiolchgar i bawb - maen nhw’n llawer rhy niferus i’w henwi. Dave Sullivan [Cadeirydd]
Llongyfarchiadau cynnes iawn i aelodau Clwb Triathlon Harlech am weithio mor galed i sicrhau Triathlon llwyddiannus unwaith eto. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl leol yn cystadlu ac yn cefnogi’n ymarferol.
Llongyfarchiadau ar ddigwyddiad mor drefnus ac anhygoel. Roedd awyrgylch cymunedol braf yn Harlech dros y penwythnos. Rhian Jones
Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau
01766 780742 / 07769 713014
www.gwyneddmobilemilling.com
Pei yr Aradwr
(Ploughman’s Pie)
I wneud y pei yma, gallwch ddefnyddio tun cacen sbwng 6 modfedd.
Cynhwysion – crwst plaen
6 owns o flawd plaen
3 owns o fargarîn
Halen
Dŵr i’w gymysgu yn does
Llenwad
Pwys o gig selsig
Hanner afal wedi ei gratio
1½ owns o stwffin saets a nionyn
*MELIN LIFIO SYMUDOL
Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau
Dŵr
Pupur a halen
4 owns o gaws cryf wedi ei gratio Picl Branston
Leiniwch y tun gyda’r crwst. Gwnewch y stwffin gan ddefnyddio tua 4 owns o ddŵr poeth, a gadewch iddo sefyll.
*COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU
Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael
*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU
*SAER COED
Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan
Cymysgwch y stwffin, cig selsig a’r afal gyda’i gilydd.
Rhowch hanner y gymysgedd yn y tun, a thaenwch Branston ar ei ben, yna ychwanegwch y caws. Yna hanner arall y gymysgedd stwffin i orffen. Pwyswch i lawr yn dda.
Gorchuddiwch y top gyda’r crwst. Coginiwch ar dymheredd o 150°c am tua 3/4 awr i awr.
Rhian Mair
Tyddyn y Gwynt gynt
4 Y GEGIN GEFN
Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk
BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI
Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant
Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil
Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant
PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317
60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
R J Williams
Garej Talsarnau
Ffôn: 01766 770286
• Ceir ail-law
• Trwsio
• Teiars
• Partiau
• Gwasanaeth
• MOT
Llais Ardudwy
Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/
640123
5
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL
Marwolaeth
Gyda thristwch y nodwn y bu farw Tony Bowers, Lluest, Llanbedr ar 24 Chwefror. Cynhaliwyd yr angladd yn eglwys Sant Pedr a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn y fynwent. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at Pam ei weddw, a hefyd i’w ferch Nicola a’i wyresau Louise a Kate sy’n byw yn Swydd Efrog.
MOELFRE YN YR EIRA
Ysgol Llanbedr 2023
SALEM [Y darlun gan Curnow Vosper]
Siân Owen Ty’n-y-Fawnog yw’r hen wraig A wisgai’r siôl a’i hurddas benthyg, mwy, Hen wreigan seml a chadarn fel y graig Uwch Cefncymerau, lle’r addolant hwy, Y cwmni gwledig ar ddiarffordd hyntSiân Owen, Wiliam Siôn ac Owen Siôn, A Robat Wilias o Gae’r Meddyg gynt, A Laura Ty’n-y-Buarth fwyn ei thôn.
Mi gwrddaf wybodusion llawer byd, Y prysur-bwysig, y ceffylau blaen, A chlychau’n harnes, heb un eiliad fud, Yn gyrru powld, fawreddog sŵn ar daen. Mor felys wedyn yw eich byd di-sôn, Siân Owen Ty’n-y-Fawnog, Wiliam Siôn!
6
DIWRNOD Y LLYFR
Ar 1 Mawrth, bu aelodau Teulu Artro yn dathlu trwy flasu cinio ardderchog yng ngwesty Tŷ Mawr.
Aelodau Teulu Artro yn mwyhau pwdin blasus! Glenys Roberts, Llywydd ac Eirwen Evans, Trysorydd
Llun: Jennifer Greenwood
T Rowland Hughes
Merched y Wawr Nantcol
Dyma aelodau Merched y Wawr Nantcol yn dathlu Gŵyl Ddewi mewn noson gartrefol yn Neuadd Llanbedr. Mwynhawyd gwledd o gawl cennin a chawl llysiau, bara brith a chacennau cri wedi eu paratoi gan Jean, Einir ac Anwen. I orffen, rhannodd Gwen wydriad o fedd Cymreig i bawb. Yn ystod y noson darllenodd Einir ychydig o hanes Dewi Sant a rhai cerddi a ddysgwyd gennym amdano pan yn blant. Cyflwynodd Enid hanes Non, mam Dewi, gan ddangos lluniau o olion Capel Non a’r ffynnon sanctaidd sydd wedi ei chysegru iddi yn Nhŷ Ddewi. Aeth ymlaen i ddarllen cerdd Eurig Salisbury o dan y teitl ‘ Y Pethau Bychain’, cerdd sy’n dangos fod geiriau olaf Dewi Sant yn dal yr un mor berthnasol ag erioed i ni heddiw yng Nghymru a thu hwnt. I ddiweddu, cafwyd darlleniad gan Jean o waith Gareth Maelor a oedd yn nodi’r rheidrwydd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg gyda phob peth ac ymhob man os am gadw’r iaith yn fyw.
Aethom adref gan gofio geiriau Dewi am fod yn llawen, am gadw’r ffydd a gwneud y pethau bychain y bu ef ei hun yn esiampl ohonynt.
Gwasanaeth Coffa yn Huchenfeld
Cynhaliwyd gwasanaeth teimladwy yn Eglwys Huchenfeld ar 17 Mawrth, er cof am y pump aelod o griw John Wynne a gafodd eu lladd gan grŵp ieuenctid Natsi yn 1945.
Prif thema’r gwasanaeth oedd heddwch, ar y pryd ar ôl yr ail ryfel byd, a rŵan wrth gwrs, efo’r gwrthdrawiad yn Ewcrain. Canwyd “Dona Nobis Pacem”. Mi gafodd geiriau’r offeiriad, Susanne Bräutigam, eu cyfieithu i Saesneg gan Petra Alexy, oherwydd darlledwyd y gwasanaeth dros Zoom i Lanbedr ac i Loegr. Mi gymerodd rhai pobl yma yn Llanbedr ran, hefyd Stephanie a Tony Beacon, gynt o Harlech, sy’n byw rŵan ger Rhydychen, ac Elisabeth Grant, merch John a Pip Wynne, Glyn Artro.
Dydd Gŵyl Ddewi hapus yn Ysgol Llanbedr
Ar ddiwedd y gwasanaeth mi
wnaeth Petra a Susanne gynnau pum cannwyll, un i bob un o’r criw a laddwyd ar 17 Mawrth 1945. Wedyn mi gludodd Petra a Rotraut, hefyd aelodau’r Cross of Nails, y pum cannwyll o’r eglwys a’u rhoi nhw o dan y plac coffâd efo enwau’r pump aelod o griw John Wynne, sef Harold Frost, Gordon Hall, Flt Lt Sidney Matthews, Flt Sgt Edward Percival, FO James Vinall. Diolch o galon i Susanne a Petra am gynnal y gwasanaeth coffa ac am ein gwahodd ni i ymuno â fo.
7
Petra a Rotraut yn cludo’r pum cannwyll i’w rhoi nhw o dan y plac er cof am y pum aelod o griw John Wynne.
Llongyfarchiadau gwresog i Hana
Wellings oedd yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed ym mis Mawrth. Dymuniadau gorau i ti oddi wrth Dad, Mam a’r tri brawd a’u teuluoedd, ynghyd â theulu’r Efail i gyd.
Cyhoeddiadau’r Sul Horeb
I gyd am 10.00 o’r gloch y bore
EBRILL
9 – Parch Carwyn Siddall
16 – Huw Dafydd
23 – Parch Eirian Wyn
30 – Cyfarfod Gweddi
MAI
7 - Parch Eric Greene
Dydd Gweddi’r Byd
Cynhaliwyd y Dydd Gweddi yn Festri Horeb, bnawn Gwener, 3 Mawrth. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan ferched Cristnogol Taiwan. Arweiniwyd y cyfarfod gan Glenys Jones a Bethan Evans. Yr organydd oedd Meinir Lloyd Jones gan fod Rhian Dafydd wedi cael triniaeth ar ei llygad y diwrnod cynt. Cafwyd gwasanaeth bendithiol iawn a diolch i bawb am fod mor barod i gymryd rhan eto eleni. Gwnaed casgliad o £67.50.
Festri Lawen Horeb
I ddiweddu’r tymor cafwyd cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen57 ar 9 Mawrth. Croesawyd pawb gan y cadeirydd John Gwilym Roberts. Wedi’r gwledda, croesawodd Glesni a Gethin i’n diddanu. Cafwyd orig arbennig yn eu cwmni, Gan fod Gethin wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth ac ysgrifennu geiriau y caneuon roedd ganddo straeon diddorol iawn i’w dweud. Diolchodd John iddynt am noson wych, a phawb wedi mwynhau.
Cydymdeimlad
Anfonwn ein cydymdeimlad at Huw ac Aldwyth Wynne, Frongoch, yn eu profedigaeth o golli cefnder Huw, sef Mr Iwan Evans, Aberhosan, mewn damwain erchyll.
Trist iawn oedd clywed am farwolaeth sydyn Mathew Moxlaw, Berwyn. Roedd Mathew yn adnabyddus iawn yn y pentre ac yn gymeriad hoffus iawn. Yn anffodus, doedd gan Mathew ddim teulu agos ond roedd ganddo lu o ffrindiau da a fydd yn gweld ei golli. Ei brif ddiddordeb oedd saethu colomennod clai ac roedd yn un da iawn am wneud hynny.
Daeth y newydd am farwolaeth un o ferched y Dyffryn, sef Mrs Margaret Slack. Roedd Margaret yn ferch i John a Laura Williams (oedd yn gogyddes ardderchog yn Ysgol Dyffryn) ac yn chwaer i Hughie, Nellie a’r diweddar Joan. Mae’n siŵr fod llawer yn ei chofio. Roedd yn derbyn y Llais drwy’r post ac yn mwynhau ei ddarllen, meddai ei merch. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei theulu yn eu profedigaeth.
Pen-blwydd
Pen-blwydd hapus iawn i Eileen (Jones) Lloyd, Bro Arthur, ar ei phen-blwydd arbennig yn 90 oed ar 16 Ebrill. Dymuniadau gorau oll gan y teulu i gyd a gennym ninnau oll yn Ardudwy. Mwynhewch y dathlu.
THAL-Y-BONT 8 Neuadd Dyffryn Ardudwy CYNGERDD Côr Meibion Ardudwy a Treflyn Jones Nos Sul, 9 Ebrill am 7.30 Tocyn: £7.00 Elw at gostau taith Huchenfeld
DYFFRYN ARDUDWY A
*
* *
CWRS WYNA
Neuadd Dyffryn Ardudwy
FFAIR WANWYN
Dydd Sadwrn, 8 Ebrill
10.00 tan 3.00
Stondinau amrywiol
gan grefftwyr lleol
Manylion: Caffi Cymunedol 01341 247933
Traeth Benar yn ddiweddar
Grŵp Hyfforddi Amaethyddol Ardudwy
Â’r grŵp ar drothwy dathlu hanner can mlynedd ers ei sefydlu yn 1974, cynhaliwyd dau gwrs tynnu ŵyn ar gyfer beth sydd erbyn hyn yn drydedd
genhedlaeth, gydag Iwan Parry ar fferm Hendre Eirian.
Cynhaliwyd y ddau ddigwyddiad i blant ysgol gynradd ac uwchradd a chafwyd gwledd o weld eu hwynebau. Bu Iwan yn wych hefo nhw, a’r cwestiwn cyntaf a ofynnodd iddynt oedd “Faint ohonoch chi sydd wedi tynnu oen o’r blaen?”, a’r ateb a gafodd oedd bron pob un.
Ar y cwrs i ddisgyblion ysgol uwchradd roedd Cai Thomas, Faeldre, Nia a Lewis Evans, Penisarcwm, Thomas Williams, Hendre Eirian, Cari ac Erin Evans, Maes y Garnedd, Aron Roberts, Uwch Glan, a Daniel Williams, Llwyngriffi.
Ar y cwrs i blant ysgol gynradd roedd Elenna Evans, Maes y Garnedd; Siôn ac Enlli Williams, Hendre Eirian; Caia Shenton, Caerddaniel; Elgan, Mared a Gethin Evans, Eithin Fynydd; Gwenno a Gruffydd Edwards, Parc Isa; Aron ac Ifan Thomas, Morfa Mawr.
Gwobr adeiladu
Lowri Evans, a’i gŵr Meilyr (Cyf. Darowen) yn derbyn gwobr gan
Karl Jones, Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd. Maen nhw wedi altro adeiladau, fel siediau, yn ddau dŷ i bobl leol ger Llwyngwril. Mae Lowri yn ferch i Ieuan Thomas (gynt o Bronfoel Uchaf, Dyffryn) a Helen Thomas, Llys Ardudwy, Llanfachreth.
9
Lluniau: Jennifer Greenwood
Gwerth papur bro i’r gymuned
Bu Mrs Hilda Thomas o Lerpwl yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan bapur bro Lerpwl gyda chydweithrediad y golygydd, Dr D Ben Rees. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am erthygl yn trafod gwerth papur bro i’r gymuned.
Merch y diweddar Mr a Mrs Williams Evans, Cefn Trefor Isaf yw Hilda ac y mae hi a’i gŵr Brian yn cael ‘hyfrydwch pur’ o ddarllen
Llais Ardudwy bob mis. Cred y ddau fod y cynnwys yn batrwm o bapur bro llwyddiannus ac maen nhw’n gobeithio’n arw y bydd yn parhau felly am amser hir i’r dyfodol. Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r ysgrif.
Newyddion braf a ddaeth i’n bro, Hwy haeddant gael eu dwyn ar go’.
Yn ferch ifanc yn Nhalsarnau ers talwm, nid oedd sôn am bapur bro. Nid oedd angen papur o’r fath canys roedd yr hanes lleol ar dafod leferydd pawb. Roedd bröydd Cymru yn fwrlwm o Gymraeg bryd hynny. Roedd hi’n saff inni i gyd fynd allan a chwarae ar y stryd fawr. Pan gyrhaeddwn adref o unrhyw le, cwestiwn cyntaf fy nhad oedd, ‘Be stori s’gen ti imi Hild?’ Roedd ein rhieni yn cwrdd neu’n siopa ar y stryd yn ddyddiol. Ychydig iawn o famau oedd yn gweithio. Ychydig iawn oedd â rhewgell yn eu tai. Roedd hi’n ofynnol iddynt fynd yn rheolaidd i brynu nwyddau a bwydydd oedd mewn rhewgelloedd yn y siopau. Roedd becws lleol yn y rhan fwyaf o’r pentrefi. Bryd hynny, roedd hanes lleol dyddiol yn cael ei wasgaru yn gymdeithasol yn sgîl y clebran oedd yn digwydd. ‘Pwy sydd wedi ymddeol? Pwy sydd ag anhwylder? Pwy sy’n pregethu’r Sul nesaf? Pwy sy’n disgwyl? Peidiwch â dweud!’
Roedd y rhan fwyaf o’r newyddion sydd ar gael yn y papurau bro heddiw ar gael yn gyffredinol. Ond, dros amser, daeth newid ar fyd. Diflannodd y plant oddi ar y stryd fawr. Roedd hi’n rhy beryg mwyach. Daeth moethusrwydd a rhewgelloedd
a theledu i bob tŷ. Nid oedd angen mynd allan yn ddyddiol rŵan. Er mwyn cynnal y moethusrwydd sydd i’w gael heddiw, daeth hi’n angenrheidiol i’r wraig fynd allan i weithio hefyd.
Amddifadwyd y wlad o blant galluog Cymru, a symudasant wrth y cannoedd i drefi mawr Lloegr, a gwledydd eraill y byd. Nid oedd digon o waith cymwys ar gael i’w cadw yn yr henwlad. Sylwyd gan rai gwybodusion fod angen rhyw ddull o gofnodi y digwyddiadau a hanesion llafar y fro. Felly, sefydlwyd canghennau bychain o bwyllgorau, i roi ar gof beth oedd yn digwydd yng nghefn gwlad. Hebddynt ni fyddai yr ‘aur’ sydd ar gael i’n diddori ni i gyd heddiw.
O’r dechrau, edrychwn ymlaen yn awchus i ddarllen Llais Ardudwy bob mis. Roedd gwacter dwfn bob mis os oeddwn wedi colli rhifyn. Teimlwn fy mod wedi colli cysylltiad bron â’m cefndir.
Mae Llais Ardudwy yn rhan o’m hachau. Byddaf yn ei drysori ac yn edrych ymlaen i’w ddarllen bob mis. I ddechrau, ar ôl gadael cartref i ganlyn fy ngyrfa fel athrawes, byddai fy mam yn ei yrru imi, neu byddwn yn ei ddarllen pan fyddwn gartref.
Wedyn trefnais iddo gael ei yrru, i’w gasglu, i Siop Eifionydd bob mis. Yn awr caiff ei yrru i’m cartref yma yn Lerpwl. Fe’i darllenaf o glawr i glawr fel y daw allan o’r amlen. Caf wybod beth oedd, a beth sydd, yn digwydd yn fy hen gartref, fy hen ardal. Caf
wybod hefyd beth mae fy hen gyfeillion yn ei wneud.
Yr un math o bleser a gawn yn blentyn yn darllen Y Winllan, papur yr ieuanc yn henaduriaeth y Wesleaid. Pwy oedd yn cael ei benblwydd bob mis? A minnau’n nabod bron neb ohonynt yn bersonol. Ond yn cael y pleser mwyaf o ddarllen eu henwau ac enwau eu pentrefi. Mae gwybod, a gwybodaeth, yn rhan o’m gofyniad fel unigolyn. Hoffaf yn arbennig hanesion am yr hen amser, a gweld enwau fy hen ffrindiau, a chyfeillion fy rhieni, a darllen am eu gwrhydri. Aiff yr hanesion hyn a mi’n ôl i’m plentyndod hapus, a byddaf yn hel hiraeth am hen amgylchiadau anturus. Gallaf synfyfyrio a gweld a chlywed y gorffennol; bron ail-fyw hen ddigwyddiadau pleserus.
Person wyf sy’n hoffi cwmnïaeth. Hoffaf yn fawr gwrdd â gwahanol bobl, hoffaf eu hadnabod. Rwy’n hoffi cyrraedd adref efo stori neu ddigwyddiad i’w hadrodd, a chael rhywun i wrando. Fy nhad, fy ngŵr, rhywun sydd â chlust hapus i wrando. Byddaf yn darllen ‘Y Llais’ yn union fel y byddaf yn gwrando ar storïau diddorol fy ffrindiau. Mae darllen ‘Y Llais’ yn union ’run fath â chlebran fy nghyn-gymdogion a’m ffrindiau. Diolchaf, o waelod fy nghalon, yn ddiffuant i’r rhai sy’n gysylltiedig ag argraffu a dosbarthu fy mhapur bro. Rwy’n gyfoethocach person o’r herwydd. A ydynt tybed yn sylweddoli mor bwysig yw eu llafur? A ydym yn esgeulus o adael iddynt wybod? Mor dlawd fuasai’n bywyd heb yr argraffiadau misol. Mae Yr Angor a Llais Ardudwy hefyd, yn bwysicach i mi nac unrhyw bapur dyddiol. Maent wedi cadw’m cysylltiad â’m bro a’m ffrindiau am ddegawdau. Maent yr un mor bwysig ym 2023 ac a fuont erioed.
Diolch mawr i’r gwirfoddolwyr hynod sy’n gweithio ar y papurau bro hyn, lle bynnag y bônt yn y wlad annwyl. Diolch i’r teipyddion, cysodwyr, y bobol sy’n casglu’r newyddion a’r dosbarthwyr.
Hilda Thomas
10
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Croesawyd Mrs Cathryn Davey, Pennaeth yr ysgol gynradd a Mrs Annest Williams, Cadeirydd Corff Llywodraethwyr, i’r cyfarfod er mwyn codi ymwybyddiaeth y Cyngor bod yr ysgol yn ceisio sefydlu clwb brecwast i’r disgyblion. Y broblem yw nad oes llwybr diogel i’r disgyblion gerdded i’r clwb hwn oherwydd bod yr athrawon yn gorfod parcio ar iard yr ysgol, felly’n dod i fyny’r ffordd gul at fynediad yr ysgol. Bwriad yr ysgol yw codi ffens ar hyd yr ochr a chreu llwybr diogel ond byddai angen tarmacio’r llwybr hwn, hefyd darparu goleuadau, a byddai’r gwaith hwn yn costio oddeutu £40,000. Gofynnodd Mrs Davey am gefnogaeth y Cyngor, hefyd syniadau, er mwyn i’r gwaith hwn gael ei wireddu oherwydd bod yr ysgol yn colli disgyblion i ysgolion cynradd eraill yn yr ardal sydd â chlwb brecwast. Cafwyd gwybod bod digon o le parcio i 6 o geir y tu ôl i Neuadd yr Eglwys. Penderfynwyd y byddai’r Cyngor yn ysgrifennu at Swyddogion yr Eglwys, hefyd at y Pennaeth Addysg yng Ngwynedd. Diolchodd y Cadeirydd i’r ddwy am ddod i’r cyfarfod.
CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD
Cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu y diweddar Mr Mathew Moxlow yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar.
Cydymdeimlodd y Cadeirydd â Mr Edmund Bailey a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, sef Syr Meurig Rees yn ddiweddar.
MATERION YN CODI
Agor tendrau torri gwair
Derbyniwyd 2 dendr i wneud y gwaith uchod. Cytunwyd bod Mr Gary Coates o gwmni Evergreen yn cael tendr 1 (mynwentydd) a Mr Gary Martyn o gwmni West Coast Properties yn cael tendr 2 a 3 (llwybrau cyhoeddus, parciau chwarae ac o amgylch y seddi ger Ffordd Ystumgwern, Bro Enddwyn, i lawr Ffordd y Llan a Ffordd yr Efail). Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn pris gan Mr Gareth John Williams i dorri a chlirio’r gwair o amgylch y toiledau yn Nhal-y-bont, hefyd i dorri a chlirio’r gwair ym Mharc Morlo a thorri a chlirio’r gwair yng Ngardd Pen-y-bont a byddai y gwaith o edrych ar ôl y pot blodau ger arwydd Tal-y-bont yn cael ei gynnwys gyda’r gwaith yng Ngardd Pen-y-bont a’r gwaith gyda’r potiau blodau ger y toiledau yn Nhal-y-bont.
GOHEBIAETH
Mr Michael Tregenza
Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor ei fod yn ymddiswyddo o fod yn aelod o’r Cyngor, hefyd o bob is-bwyllgor yr
RHAN O’R WAL GOCH
oedd yn cynrychioli’r Cyngor arno, yn enwedig y Neuadd Bentref. Cytunwyd bod angen rhywun i gynnal y wefan a’r system hybrid sydd yn y Neuadd a phenderfynwyd rhoi’r mater hwn ar agenda y mis nesa.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Ceisiadau am gymorth ariannol
Ysgol Ardudwy - £4,000
Ysgol Hafod Lon - £500
CFfI Meirionnydd - £500
Banc Bwyd Bermo - £500
Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fôn Jones o Adran Gyllid Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr
Mewnol y Cyngor eto eleni a’i bod wedi cytuno i hyn.
Dyma Gareth Owen, mab Edward ac Enid Owen , Coed Uchaf, Dyffryn.
Mae Gareth yn Brif Hyfforddwr
Piano yng Ngholeg Eton. Mae hefyd yn teithio fel unawdydd piano gyda cherddorfeydd. Ef oedd y pianydd yn y cyngerdd yn Neuadd Fawr, Aberystwyth, oedd dan ei sang, nos Sadwrn, 25 Mawrth.
Arweinydd Philomusica Aberystwyth oedd Iwan Teifion Davies.
Perfformwyd gwaith Boulanger, Schumann a’r cyntaf o’r Concerto i’r
Piano gan Rachmaninov gyda Gareth Owen yn unawdydd.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gareth. Braf gweld talent Ardudwy ar y brig.
11
Criw o’r ardal fu yng Nghaerdydd nos Fawrth i wylio Cymru yn curo Latfia o un gôl i ddim. [O’r chwith i’r dde] Siôn, Llion, Adam, Gareth, Liam, Tyler, David a Hana
Llwybr i ddatrys Pos 22
Cefais adborth cadarnhaol i’r canllaw i ddatrys y pos y tro dwytha. Y tro hwn, ym Mhos 22 mae gennych
E, D, ac I. Y gair i ddechrau datrys y pos ydi’r trydydd gair ar i lawr yn y rhes uchaf.
Mae gennych E _ D I D _ _. Y cwestiwn ydi pa lythrennau all fynd rhwng E a D? Dim llawer, a chan fod gennym D I D yn dilyn, rhaid i’r gair fod yn rhywbeth sy’n gneud synnwyr.
Wnaiff ‘esdid’, ‘erdid’, ‘ebdid’ mo’r tro.
Credaf mai ENDID yw’r unig air posibl (ystyr=existence, bodolaeth).
Felly N yw 27. I orffen y gair gallwch
ddyfalu mai lluosog endid yw
‘endidau’ – ddim yn air pob dydd ond
mae’r gair yn bod! Felly dylech fod ag
A yn 25 ac U yn 10.
Ar ôl hyn, mae gennych air yn y
trydydd rhes N E _ I D I A E _.
Dylech fedru dyfalu mai Newidiaeth yw’r unig air posib.
Neu gallwch fynd at air yng ngwaelod y pos N E _ _ N U. Os dyfalwch
Newynu yna mae’n cadarnhau yr W yn 24 ac Y yn 15. Mae hyn yn agor y croesair mi gredaf, yn enwedig wedi ichi sefydlu O, ac yn y blaen.
BANC BWYD LLEOL
Rydym angen yr isod ar fyrder:
• Bisgedi
• Pacedi bach o reis (500g)
• Tatws
• Llefrith UHT
Tuniau o:
• Pys melyn
• Pwdin reis
• Cwstard
• Sardîns
• Mecryll Pethau ymolchi:
• Past dannedd
• Shampŵ a chyflyrydd
• Sebon cawod
Mae gennym ddigon o’r isod, diolch
• Pasta
• Ffa pôb
• Cawl
• Grawnfwyd
Diolch am bob cyfraniad. (Gallwch adael unrhyw gyfraniad gyda staff Harlech Ardudwy Hamdden)
PÔS CRACIO’R COD Rhif 22
ATEBION PÔS CRACIO’R COD Rhif 21
Llongyfarchiadau i Mary Jones, Dolgellau; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Gwenfair Ayckroyd, Y Bala; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll; Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Mai Jones, Llandecwyn; Margaret Darling, Llandudno; Wendy Haverfield, Garn Dolbenmaen; Dotwen Jones, Cilgwri; Laura Phillips, Tal-y-bont.
Anfonwch eich atebion i’r Pôs Cracio’r Cod at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].
12
POS GEIRIAU Phil Mostert (7) POS Phil Mostert A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P ( Ph ) R Rh S T Th U W Y 1 D 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 T 17 18 19 20 21 22 23 A 24 25 26 27 28 PH A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y POS CRACIO’R COD RHIF 22 9 3 11 14 20 12 25 18 20 4 6 3 6 12 27 7 25 3 20 27 20 E 24 6 13 D 6 I 25 20 26 27 3 13 22 21 6 12 20 15 24 25 16 14 10 13 1 14 15 22 15 27 25 25 14 3 13 6 19 3 13 4 25 10 23 23 24 20 4 15 12 22 25 25 13 25 8 3 21 13 5 4 25 22 10 14 14 12 6 23 3 1 2 25 23 3 12 24 16 15 23 25 13 6 24 3 20 20 24 20 18 4 20 5 3 12 6 13 3 12 25 10 15 22 20 26 24 25 25 27 20 24 15 27 10 7 12 15 17 27 6
I E D
Y BERMO A LLANABER
Petplan 2023
Llongyfarchiadau i Filfeddygon Williams, sy’n cynnal cymorthfeydd i anifeiliaid anwes yn y Bermo, ar ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth milfeddygon Petplan 2023. Cawson nhw eu henwebu gan eu cwsmeriaid. Derbyniwyd y wobr mewn seremoni ym Manceinion yn ddiweddar. Mae ganddynt gymorthfeydd hefyd yn Nhywyn a Glantwymyn.
Merched y Wawr
Croesawodd Grace aelodau’r gangen a ffrindiau oedd wedi ymuno â ni a braf oedd cael eu cwmni. Cafwyd sawl ymddiheuriad ac rydym yn danfon ein cofion at Iris, Megan a Gwyneth sydd yn methu bod yn bresennol. Roedd cryn edrych ymlaen at gwmni Sioned Williams o Lanuwchllyn sydd erbyn hyn yn rhedeg Cwmni SteiLysh. Yn ystod y cyfnod clo bu’n dilyn cyrsiau ar lein, cwrs cyntaf oedd yn ymwneud â’r croen, yna ymlaen i steil a lliw.
Siaradodd Sioned yn frwd am ei phrofiadau a chawsom ambell i awgrym ynglŷn â’r steiliau gorau i siwtio eich siâp. Gobeithio y cawn ei chwmni eto ar ôl i’r aelodau chwynnu eu cwpwrdd dillad! Cofiwch bod
Sioned yn fodlon dod i’r tŷ i’ch helpu. Diolchodd Llewela i Sioned am bnawn diddorol a lliwgar. Pam enillodd y raffl a hi hefyd fydd yn gyfrifol am ein cyfarfod i’r dysgwyr ar 18 Ebrill.
Profedigaeth
Trist iawn oedd clywed am
farwolaeth sydyn Robert Wyn Jones, Cader Beti. Roedd Bob yn gymeriad hynod boblogaidd efo pawb ac roedd yn un garw am sylw doniol a ffraeth.
Roedd yn ganwr da ac yn aelod o Gôr Meibion Ardudwy am flynyddoedd lawer. Byddai ef a Sybil yn ymuno’n aml â’u teithiau tramor. Anfonwn ein cydymdeimlad at Sibyl, ei briod sydd wedi ymgartrefu yn Hafod
Mawddach, a’i blant Sally a David.
Ficer newydd
Mae’n bleser gan Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor gyhoeddi penodiad y Parchedig Ben Griffith yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy sy’n gwasanaethu’r cymunedau o amgylch Harlech ac Abermaw yn Archddiaconiaeth Meirionnydd.
Bydd Ben yn dechrau ei weinidogaeth newydd ar 22 Mawrth 2023 yn Eglwys Ioan Sant, Abermaw am 7.00pm. Gweddïwch dros Ben, Jean a phobl Bro Ardudwy wrth iddynt ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.
Gwahoddiad i Ddysgwyr gan Merched y Wawr, y Bermo a’r Cylch Croeso i ddysgwyr, dynion a merched, ddod atom ni am brynhawn cymdeithasol â chwis efo Cymry Cymraeg.
Byddwn yn cyfarfod dydd Mawrth, 18 Ebrill, am 2:00 yp yn Theatr y Ddraig, Y Bermo, i lawr y grisiau yn Ystafell y Celfyddydau.
Cymdeithas Gymraeg y Bermo
Ar nos Fercher, 15 Mawrth cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn y Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig. Adroddwyd ein bod wedi cael rhaglen ardderchog yn 2022/23 ac awgrymwyd enwau artisitiaid ar gyfer 2023/24. Cytunwyd yn unfrydol cael Cinio Cychwyn yn Y Banc, Bermo ar nos Fercher, ar 4 Hydref.
Bydd Llewela, Alma a Mai yn aros yn eu swyddi am y tro.
Yna cafwyd orig diddorol iawn gan Dr Ania Z Skarzynska, Archifydd Meirionnydd yn dangos hen fapiau o Feirionnydd ac yn benodol Ardudwy a’r cyffiniau. Hefyd dangoswyd hen luniau o’r Bermo - y frigad dân yn yr harbwr ac yn ymarfer; yr heddlu ger yr hen Orsaf heddlu yn y stryd fawr; y toll borth ger yr Eglwys Gatholig - oedd heb ei hadeiladu eto!
Cyflwynwyd a diolchwyd i Ania gan Edward a mwynhawyd sgwrs dros baned gan hel atgofion o’r Bermo pan oeddem ni a’n teuluoedd yn iau.
JONES
Robert Wyn, 15fed o Fawrth 2023. Yn dawel yn ei gartref yn y Bermo, yn 93 mlwydd oed. Priod annwyl Sybil Elizabeth, tad hoff Sally Wyn a David Alan, taid cariadus Matthew Rhys ac Emma Lousie. Gwasanaeth yn Eglwys Crist, Y Bermo, dydd Mawrth 11eg o Ebrill am 11.00 o’r gloch. I ddilyn yn breifat mewn Amlosgfa.
Yn lle blodau, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir, tuag at Cronfa Cysur Criw y Bermo trwy law Glyn Rees a’i Fab, Trefnwyr Angladdau, Stryd Fawr, Y Bermo, Gwynedd, LL42 1DS. Ffôn: 01341 280321.
13
Soniais y tro dwythaf am Gwilym
Hiraethog fel newyddiadurwr, fel nofelydd ac fel ymgyrchydd
dros hawliau dynol hefyd, y cyfan yn ogystal â bod yn weinidog a phregethwr. Pan godwyd ef yn
Llywydd Undeb yr Annibynwyr
Cymraeg (y cyntaf i fod felly) ym
1872, testun ei araith o’r gadair oedd ‘Satan’.
Ond nid Satan oedd testun ei gerdd
fawr arwrol - ei epig felly. Soniais y tro dwythaf am ei gerdd anferth
‘Emmanuel neu Ganolbwngc
Gweithredoedd a Llywodraeth
Duw’, cerdd o tua 154,000 o eiriau sy’n llenwi dau lyfr cyfan ac sy’n hollol amddifad o unrhyw naws
farddonol yn ôl chwaeth ysgolheigion
heddiw. Aeth Gwilym i ddilyn
ffasiwn canol a diwedd oes Victoria i bentyrru geiriau a llinellau i adrodd ac ailadrodd gwirioneddau a damcaniaethau’r diwinydd.
Er hynny, gallai ganu’n afaelgar a hwylus ar brydiau.
Ym 1851 lluniodd awdl ar y testun
‘Heddwch’. Yn yr awdl yma mae yna
gywydd yn disgrifio’r gof a hynny
mewn modd celfydd iawn. Daeth y cywydd yma yn adnabyddus
oherwydd bod y diweddar William
Edwards, Rhydymain wedi’i osod ar gerdd dant a’i ganu ar record 78.
Dyma sut mae’n dechrau:
‘Chwythu’i dân dan chwibianu
Ei fyw dôn wna y gof du;
Un llaw fegina a’r llall
Faluria’r glo fel arall...’
Wedyn ar ôl cael trefn ar y tân mae’r gof yn mynd ati i ailwampio arfau rhyfel yn offer amaethyddol yn union fel y proffwydir yn y Beibl: ‘Fe’i cura nes â yn swch Gywrain ei gwasnaethgarwch, I aru’r ddaear iraidd,
A thy’ o hon wenith a haidd.’
Syniad Gwilym Hiraethog, ac yn wir syniad llawer iawn o feirdd a llenorion ei oes oedd mai cyfrwng i addoli Duw oedd creu cerddi.
Fel y dywedodd ef ei hun: ‘Gwir ddyben a swyddogaeth y ddawn farddonol ydyw meithrin... ysbryd i ufuddhau, parchu ac addoli y Bod Goruchaf, a’r teimladau sydd briodol at bob dyn’. Syniad braidd yn ddiarth heddiw efallai ond ni ellir deall ysbryd yr oes honno’n iawn heb ddeall hyn.
A bu Gwilym Hiraethog cystal â’i air. Gadawodd ar ei ôl gasgliad o emynau hwylus iawn ac addas i’w canu yn ein gwasanaethau ni heddiw.
Mae yna chwech ohonynt yn y Caneuon Ffydd ac yn wahanol i ambell i gyfansoddiad yn y casgliad, mae yna gryn dipyn o ganu arnynt i gyd.
Dyna i chi’r emyn cyntaf un yn y casgliad:
‘Cydganwn foliant rhwydd
i’n Harglwydd, gweddus yw; yn nerth ein hiechyd llawenhawn, mawr ydyw dawn ein Duw.’
A beth yn well allech chi ei gael i agor gwasanaeth o addoliad?
‘O plygwn bawb ei lin o flaen ein Brenin mawr; addolwn ef, ein dyled yw, rŷm arno’n byw bob awr’.
A bu’r pwyllgor fu’n paratoi’r Caneuon yn ddigon gofalus i roi’r
dôn ‘Dennis’ ar gyfer y geiriau. Gŵr o’r Swistir oedd y cyfansoddwr, sef Hans Georg Nageli (1768–1836) ac mae’r dôn yn gweddu i’r dim. Yn y trydydd pennill, mae yna sôn am ‘donnau’r môr’. Efallai mai ffansi ar fy rhan i yn unig yw’r peth ond fe dybiaf fy mod yn clywed y tonnau yn codi ac yn disgyn yn yr alaw. Rhowch gynnig arni!
Mae emyn 38, ‘Cariad Tri yn Un’ yn fyfyrdod ar y Drindod, pwnc digon anodd i’w ddeall heb sôn am ei esbonio. Er hynny, mae Gwilym Hiraethog yn dangos y cariad a amlygir gan y Drindod yn y gwaith o achub dynion.
Ac eto nid ydi Gwilym Hiraethog yn osgoi delio ag athrawiaethau astrus crefydd yn ei emynau. Yn emyn 453 mae yn ymdrin â’r ymgnawdoliad –‘O ddirgelwch mawr duwioldeb’ gan symud at yr atgyfodiad yn emyn 545 – ‘Dyrchafodd Crist o waelod bedd’. Ond er cystal ac er praffed yr emynau yma a’i emynau eraill i mewn ac allan o’r Caneuon Ffydd, yr emyn y cysylltir Gwilym Hiraethog ag ef byth fydd emyn 205:
‘Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y lli:
T’wysog bywyd pur yn marw, Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano? Pwy all beidio â thraethu’i glod?
Dyma gariad nad â’n angof Tra bo nefoedd wen yn bod.’
Barn y diweddar ysgolhaig mawr, Pennar Davies, oedd mai hwn oedd emyn mwyaf yr iaith Gymraeg ac mae llawer un arall wedi cytuno ag ef. Mae’r ail bennill yn ymddangos yn Caneuon Ffydd er ei fod wedi ei hepgor o sawl casgliad.
Y dôn Pennant (rhif 169) o waith T Osborne Roberts a roddir uwchben yr emyn yn Caneuon Ffydd gyda’r dewis o roi Ebeneser (neu Dôn y Botel rhif 168) yn ei lle. Tôn y Botel a roddid yn ystod y canu a’r ailganu mawr fu ar yr emyn yn ystod y diwygiad mawr yn 1904/05 ond mae’r geiriau’n gorffwys yn esmwyth ar Moriah (rhif 156) a Dim Ond Iesu (rhif 599) hefyd. Dyma yn wir drysor o emyn.
JBW
14
Gwilym Hiraethog Eto
John Bryn Williams
HYSBYSEBION
Telerau gan Ann Lewis 01341 241297
ALAN RAYNER
07776 181959
ARCHEBU A GOSOD CARPEDI
ALUN WILLIAMS
TRYDANWR
GALLWCH
HYSBYSEBU
* Cartrefi
YN Y
* Masnachol
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Tafarn yr Eryrod
Llanuwchllyn 01678 540278
JASON CLARKE
Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth
LL48 6BN
Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk
NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech
E B RICHARDS
Ffynnon Mair
Llanbedr 01341 241551
CYNNAL EIDDO
O BOB MATH
Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
BLWCH HWN
* Diwydiannol
Archwilio a Phrofi
AM £6 Y MIS
Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com
Bwyd cartref blasus
Cinio Dydd Sul
Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri.
CHADW TU
THU
Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391
E-gopi llaisardudwy@outlook.com
£11 y flwyddyn am 11 copi
CAE DU DESIGNS
DEFNYDDIAU DISGOWNT
GAN GYNLLUNWYR
Stryd Fawr, Harlech
Gwynedd LL46 2TT
01766 780239
ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni:
Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00
GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803
gwionroberts@yahoo.co.uk
dros 25 mlynedd o brofiad
Arbedwch arian ar drydan,nwy, band eang, ffôn symudol, ffôn cartref ac yswiriant
Utility Warehouse (UW)
Peter Jones (Partner ID 119770)
Hafod Talog, Penrhyndeudraeth
Ffôn: 01766 771410
01766 770504 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com
Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth https://uw.partners/peter.jones
Os ydych chi am hysbysebu eich busnes yn Llais Ardudwy, cysylltwch â: Mrs Ann Lewis
Min-y-môr
Llandanwg Harlech
LL46 2SJ
01341 241297
15
Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Am argraffu diguro Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com 01970 832 304
CYNNAL A
MEWN A
ALLAN 07814 900069 Llais
Ardudwy
Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN
Ar y teledu
Griffith Dei yn cael ei holi gan Rick Stein am rinweddau cig oen Hyfrydwch pur oedd gwrando ar Griffith Dei Williams, Cefn Trefor Uchaf yn trafod rhinweddau cig oen y glastraeth [salt marsh lamb] a gynhyrchir ganddo ef a’i deulu yn Nhalsarnau.
Mae’r cig rhagorol hwn yn cael ei flas nodedig ac arbennig o’r amgylchedd unigryw y mae’r defaid yn pori arno. Mae cogyddion enwog, arbenigwyr cig a pherchnogion bwytai, fel ei gilydd, wrth eu bodd efo cig oen halennog y morfa. Pluen yn het y busnes teuluol hwn oedd i Griffith Dei gael ei holi gan gogydd mor enwog â Rick Stein.
DARLITH FLYNYDDOL CYFEILLION
ELLIS WYNNE
Nos Iau, 27 Ebrill, am 7.00 o’r gloch, bydd Shân Robinson, Cydlynydd Casgliadau Arbennig, Llyfrgell Prifysgol Bangor yn rhoi darlith a chyflwyniad gweledol am yr awdures leol Gwyneth Vaughan yn Neuadd Talsarnau. Paned a bisged yn gynwysedig yn y pris mynediad, sef £5.00. Croeso i bawb o bell ac agos.
Eglwys
Llanfihangel-y-traethau
EBRILL 9
Gwasanaeth y Pasg am 11.30
Croeso cynnes i bawb!
Merched y Wawr
Aeth aelodau Cangen Talsarnau am eu cinio Gŵyl Ddewi i’r Oakeley Arms, Maentwrog. Cawsom ein rhoi i eistedd mewn cornel gynnes, o flaen tanllwyth o dân, i fwynhau pryd o wahanol fwydydd blasus dros ben. Cafwyd cyfle i sgwrsio mewn awyrgylch gyfforddus braf wrth fwyta. Wedi croesawu pawb, derbyniwyd ymddiheuriad gan Ann, Eluned a Beryl, fe’n hatgoffwyd gan Siriol, ein Llywydd, am ein cyfarfod nesaf yn Neuadd Talsarnau nos Lun, 3 Ebrill, a hefyd cyhoeddwyd y gwahoddiad i ymuno gyda Changen Harlech yn Neuadd Llanfair nos Fawrth, 4 Ebrill. Gwneir trefniadau ar gyfer mynd yno yn nes at y dyddiad. Tynnwyd y raffl ac roedd nifer o wobrau i’w hennill. Diolchwyd i’r gwesty am baratoi yn ardderchog ar ein cyfer.
Wedi cael anaf
Dymunwm adferiad buan i Sian Mai Ephraim, Tanforhesgan a gafodd anaf drwg i’r Achilles tendon rai wythnosau’n ôl bellach tra’n chwarae badminton. Brysia wella Sian!
Capel Newydd
Oedfaon am 6:00
EBRILL
9 - Dewi Tudur
16 - Dafydd Job
23 - Dewi Tudur
30 - Dewi Tudur
MAI
7 - Dewi Tudur
Croeso cynnes i bawb. Fore’r Groglith, 7 Ebrill, am 10:30, Oedfa Gymundeb.
Bore coffi
Diolch i bawb gefnogodd y bore coffi ar 11 Mawrth i godi arian at drychineb
Syria/Twrci. Y swm terfynol oedd £250.
Beth yw ffydd?
Cyfarfod i ferched nos Iau, Mai 4ydd am 7:00 yng nghwmni Dr Sara Webster.
Pwll Nofio Harlech
Gyda gofid mae Harlech ac Ardudwy Hamdden (HAL) yn gorfod cyhoeddi, oherwydd y costau ynni presennol a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Ganolfan, fod HAL bellach yn wynebu anawsterau ariannol sylweddol ac wedi cyrraedd pwynt o argyfwng. Yn y tymor byr, bydd y pwll nofio, y caffi a’r wal ddringo yn parhau yn agored. Roeddem yn falch ein bod wedi medru cadw’n agored er mwyn i Driathlon Harlech allu digwydd ar y 26 Mawrth.
Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl clywed a fu ein ceisiadau am grantiau yn llwyddiannus.
Diolch,
Heidi Williams
16
Gwraig o flaen ei hoes
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU
Cyn cychwyn ar gyfarfod cyffredinol y Cyngor, cytunwyd i drafod yr hyn oedd wedi cael ei ddweud yn y cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan y Clerc ar ran y Cyngor gydag Aelodau o Fwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy. Bu trafodaeth a ddylai’r Cyngor barhau gyda’r cynllun presept i gyfrannu swm penodol o arian i’r ganolfan hon yn benodol tuag at gynnal a rhedeg y pwll nofio; y taliad eleni am y flwyddyn fyddai £4,412.22. Cytunwyd i dalu hanner y swm hwn yn unig er mwyn i’r Bwrdd gael amser i dderbyn y grant £100k yr oeddynt wedi gwneud cais amdano, hefyd i gael amser i weld a oeddynt wedi bod yn llwyddiannus i gael paneli solar. Cytunwyd bod eisiau datgan y byddai’r Cyngor angen gweld yr amodau canlynol yn eu lle cyn y byddent yn barod i dalu’r hanner arall o’r arian, sef y canlynol:
1) Cael mwy o aelodau ar y Bwrdd a rhai hefo arbenigedd mewn meysydd penodol,
2) Bod cynllun busnes yn cael ei greu,
3) Bod y Cyngor yn cael adroddiad misol ynghyd â mantolen ariannol gan y Bwrdd a
4) Bod y Cyngor yn gallu penodi un aelod i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd.
MATERION YN CODI
Cae Chwarae’r Pentre
Adroddodd y Cyng Lisa Birks ei bod wedi trefnu i gwmni Creative Play ymweld â’r safle uchod i gynnal archwiliad ac y byddai’n anfon yr adroddiad ymlaen i bawb. Roedd y cwmni hwn yn awgrymu tynnu’r darnau rwber a gosod llawr rwber caled o dan y gadair siglen, a chytunodd pawb i hyn.
Agor tendrau torri gwair
Merch a wisgodd sawl het oedd
Gwyneth Vaughan o Dalsarnau. Roedd hi’n awdures, yn flaenllaw yng ngwleidyddiaeth ei chyfnod, yn ymgyrchydd dros ddirwest ac yn aelod o Orsedd y Beirdd, mewn cyfnod pan nad oedd yn barchus i ferched gael eu gweld yn chwarae rhan rhy amlwg mewn bywyd cyhoeddus.
Ysgrifennodd dair o nofelau, ac roedd yna bedwaredd ar y gweill pan fu hi farw ar y 25ain o Ebrill 1910.
Cafodd ei geni ym Mryn y Felin, Eisingrug, Talsarnau ar y 5ed o Orffennaf 1852. Melinydd oedd ei thad, a byddai Gwyneth yn ei helfen yn gwrando ar sgyrsiau’r rhai a ddeuai i’r felin am flawd ac i roi’r byd yn ei le. Dyma lle y dysgodd cymaint, o oed ifanc, am draddodiadau a diwylliant ei hardal.
Ar ôl wyth mlynedd o addysg yn
Ysgol Ty’n Llan, Llandecwyn ac Ysgol Fritanaidd Talsarnau, aeth i ddysgu gwneud hetiau yn Llan Ffestiniog. Bu’n dilyn y grefft honno gartref am beth amser, cyn symud i siop yng Nghlwt y Bont, Deiniolen ger Caernarfon, a chyn bo hir, byddai mab y siop yn dod yn ŵr iddi.
Aethant i fyw i Lundain am gyfnod er mwyn i’w gŵr, John Hughes Jones, hyfforddi’n feddyg. Fe wnaethant ddychwelyd wedyn i Gymru, ond fe fu farw John Hughes yn weddol ifanc
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tendr ynglŷn a gwneud y gwaith uchod gan Mr Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus ac un i dorri gwair mynwentydd Llanfihangel-y-traethau a Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn tendr Mr Meirion Griffith.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Adeiladu tŷ fforddiadwy, creu cwrtil, ymestyn trac mynediad, a newidiadau i’r fynedfa cerbydau bresennol - Tir ger Tŷ Mawr, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn ar yr amod y bydd yn gartref i rhywun lleol, i’w brynu neu i’w osod ar gyfer pobl leol
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ail-doi arfaethedig Capel Soar (Rhestredig Gradd II) ynghyd ag adeiladu storfa goed fel rhan o fesurau lliniaru ecolegol - Capel Soar, Soar. Cefnog’r cais hwn.
Caniatâd Adeilad Rhestredig i newid y tulathau to diffygiol ar adeilad iard - Glyn Cywarch, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor y Neuadd Bentref - £1,500.00
Pwyllgor Cylch Meithrin Talsarnau - £1,500.00
Ysgol Ardudwy - £1,000.00
Ysgol Hafod Lon - £1,000.00
Ambiwlans Awyr Cymru - £1,000.00
CFfI Meirionnydd - £200.00
Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fôn Jones o Adran Gyllid Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni a’i bod wedi cytuno i hyn.
oherwydd ei gaethiwed i alcohol. Mudodd Gwyneth a’i phedwar plentyn i Fangor, ac yno dechreuodd lenydda’n broffesiynol, gan lwyddo i roi addysg dda i bob un o’r plant er mor dlawd oedd hi.
Ysgrifennai i bapurau lleol a chylchgronau fel Cymru’r Plant, Y Genhinen a Cymru, ac roedd ei chyfraniadau i’r cylchgronau hynny, ym marn neb llai na Syr O M Edwards, yn nodedig. Roedd hi hefyd yn un o sefydlwyr Cymru Fydd, y mudiad a ymgyrchai dros
annibyniaeth i Gymru.
Cewch wybod mwy amdani pan fydd Shân Robinson, Cydlynydd
Casgliadau Arbennig, Llyfrgell
Prifysgol Bangor yn rhoi darlith a chyflwyniad gweledol yn Neuadd
Talsarnau nos Iau, y 27ain o Ebrill am 7.00 o’r gloch. Paned a bisged yn gynwysedig yn y pris mynediad, sef £5.00. Mae gan Shân ddiddordeb arbennig yn hanes merched Cymru; a hanes addysg merched yng Nghymru oedd pwnc ei thraethawd MA.
17
Gwyneth Vaughan
Tipyn o gamp
Llongyfarchiadau i David Bisseker ar lwyddo yn arholiad yr ABRSM i’r trwmped. Llwyddodd i gyrraedd Gradd 8 gyda rhagoriaeth. Tipyn o gamp!
Mae David yn astudio yng Ngholeg Meirion/Dwyfor ym Mhwllheli ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i astudio mewn conservatoire cerddoriaeth ar ôl cwblhau ei astudiaethau lefel A.
Mae David hefyd yn brif chwaraewr cornet ym Mand Gwynedd a Môn.
Llongyfarch
Llongyfarchiadau i Rhian Rees, y Waun ar ddod yn nain i Griff. Mae Lena a Gwion, Llanbedr wedi cael mab bychan ar 1 Mawrth. Mae’n siŵr bod Anti Lois wedi gwirioni hefyd. Pob lwc i’r teulu bach.
Gwasanaethau
Capel Jerusalem
EBRILL 7, Gwener y Groglith
Cymun am 10.30
Parch Dewi Morris
Capel Engedi
EBRILL 9
Gwasanaeth am 3.30
Parch Iwan Ll Jones
Llyn y Felin
Llongyfarch
Llongyfarchiadau calonnog i Damon a Leanne John, Cae Gwastad, Harlech, ar enedigaeth eu mab Enzo Anthony ar 16 Mawrth yn 8 pwys 4 owns. Llongyfarchiadau hefyd i Nain a Taid, Dev a Sally John, 30 Tŷ Canol. Dymuniadau gorau i’r teulu bach newydd.
Llongyfarch
Llongyfarchiadau hefyd i Damon a Dev ar eu hymdrechion yn rhedeg mewn sawl cystadleuaeth yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, yn cynnwys y ras i fyny Llech yn Harlech. Ddaru Damon hefyd gwblhau Triathlon Harlech y diwrnod wedyn, a hynny 7 munud yn gyflymach na’r flwyddyn ddwytha. Arbennig Damon.
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!
TOYOTA HARLECH
TOYOTA HARLECH
Ffordd Newydd
Ffordd Newydd
Harlech
Harlech
LL46 2PS 01766 780432
LL46 2PS 01766 780432
www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk
www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk
Facebook.com/harlechtoyota Twitter@harlech_toyota
HARLECH 18
Felin Fawr, pibell yn dod o Lyn y Felin i droi’r olwyn i gynhyrchu trydan i Harlech. Diolch i Arthur Pugh Roberts, Pen-Llech gynt, am anfon y llun atom.
Gymnasteg
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Callum Jenkins, Cae Gwastad, Harlech ar ddod yn gydradd gyntaf ym Mhencampwriaeth Gymnasteg Ysgolion Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’n ddisgybl yn B11 yn Ysgol Ardudwy. Bydd yn mynd ymlaen i gystadlu ym
Mhencampwriaeth Ysgolion Prydain mis nesaf. Pob lwc iddo!
CYNGOR CYMUNED HARLECH
MATERION YN CODI
HAL
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Mrs Donna Morris-Collins, Rheolwr HAL a Chadeirydd y Cyngor Cymuned, i drefnu cyfarfod cyhoeddus a bod dyddiad wedi ei gytuno i gynnal y cyfarfod hwn. Cynhelir y cyfarfod hwn yn y Neuadd Goffa, i gychwyn am 7.30 o’r gloch. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon e-bost i bob aelod eisoes yn eu hysbysu o’r cyfarfod hwn, hefyd wedi gosod hysbyseb yn Llais Ardudwy ac ar yr hysbysfyrddau. Agor tendrau torri gwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn 1 tendr ynglŷn â gwneud y gwaith uchod gan Mr Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a’r fynwent gyhoeddus. Cytunwyd i dderbyn y tendr yma. Hefyd cytunwyd i dderbyn pris Mr Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae’r Brenin Siôr a’r cae pêl-droed eto eleni Cytunwyd i dderbyn y tendr yma.
Llyfrgell ac Institiwt Harlech
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Nos Iau, 13 Ebrill, am 7.00 o’r gloch yn yr Hen Lyfrgell Croeso cynnes i bawb
CEISIADAU CYNLLUNIO
Estyniad deulawr yn y cefn, gosod simnai allanol ac ail-leoli’r corn simnai bresennol, dormer newydd a balconi llawr cyntaf ar y drychiad blaen. Gwaith peirianyddol i greu man parcio a wal gynnal newydd - Aelfor, Ffordd Isaf, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.
Dymchwel yr ystafell haul ac adeiladu estyniad unllawr ar yr ochr (Cais diwygiedig) – Ynys y Niwl (Buckland), Hen Ffordd Llanfair, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.
Newidiadau i ledu’r fynedfa gerbydol bresennol 1.3medr - Eryl y Môr, Heol y Bryn, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £66,860.90 yn y cyfrif cyfredol a £31,186.32 yn y cyfrif cadw.
Ceisiadau am gymorth ariannol:
Ysgol Ardudwy - £5.000
Cyfeillion Ysgol Tanycastell - £3,000
Ysgol Hafod Lon - £1,000
Pwyllgor y Neuadd Goffa - £1,000
CFfI Meirionnydd - £250
Ambiwlans Awyr Cymru - £1,000
Pwyllgor yr Hen Lyfrgel - £1,000
Mae Ms Luned Fôn Jones o Adran Gyllid Cyngor Gwynedd yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni.
Eglwys Rehoboth
Cynhelir ein gwasanaeth cymun bore Sul y Pasg am 10.00 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb. Edrychwn ymlaen i’ch gweld a’ch croesawu i ymuno â ni yn y gwasanaeth.
Pen-blwydd hapus i’n haelod hynaf, Mrs Olwen Evans, Wern Gron, sydd wedi dathlu pen-blwydd arbennig ar 29 Mawrth. Llongyfarchiadau a chariad mawr oddi wrth aelodau y ddwy Eglwys.
Cymdeithas Hanes Harlech
Bydd David Craik yn siarad am ‘The Inns and Taverns of Harlech since 1640’ ar nos Fawrth, 11 Ebrill yn y Neuadd Goffa, Twtil, Harlech, am 7.30pm. Croeso i bawb. Am ddim i aelodau; £2 os nad yn aelod.
Codi arian
Llongyfarch
Llongyfarchiadau i Glesni Wyn
Rowlands, 12 Tŷ Canol ar ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed ac ar lwyddo yn ei phrawf gyrru yn ddiweddar. Dymuniadau gorau gan y teulu oll.
£5
Pen-blwydd
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Andrew Jones, 11 Y Waun, fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ar 28 Ebrill eleni. Llawer o gariad gan Julie, Carwyn, Joseph, Billy a’r teulu oll.
£10
Trwy wisgo’u dillad eu hunain am ddiwrnod, llwyddodd disgyblion
Ysgol Ardudwy i godi dros £500 tuag at yr elusen ‘Bywydau ifanc yn erbyn canser’ yn ddiweddar.
19
LLANFAIR A LLANDANWG
Marwolaeth
Anfonwn ein cydymdeimlad
llwyraf at deulu y diweddar John
Gruffydd Jones, Abergele, a fu farw’n ddiweddar yn 90 oed ar ôl gwaeledd byr.
Yn wreiddiol o Nanhoron ym Mhen
Llŷn, roedd yn llenor a chemegydd a fu’n byw yn ochrau Manceinion am 17 mlynedd cyn ymgartrefu yn
Abergele gyda’i ddiweddar wraig
Eirlys (yn wreiddiol o Ardudwy - un o’r teulu John, Bryn Meirion (Swyddfa Bost), Llanfair).
O ganol yr 1970au enillodd rai o brif gystadlaethau yr Eisteddfod
Genedlaethol yn cynnwys y Fedal
Ryddiaith a’r Fedal Ddrama.
Wedi ymddeol bu’n olygydd ar Y
Goleuad, cylchgrawn wythnosol y Methodistiaid Calfinaidd, am ddeng
mlynedd rhwng 2000 a 2010. Aeth ati
hefyd i ennill gradd MA Ysgrifennu
Creadigol dan gyfarwyddyd Yr Athro
Angharad Price yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn 2012.
Cydymdeimlwn â’i ferch Delyth
a Gerwyn Wiliams, ei fab Dafydd
Llewelyn, ei wyresau, a’r teulu oll yn Ardudwy a thu hwnt.
Rhodd a diolch £10
Diolch
Dymuna Mrs Maureen Jones a’r plant, Bryn Tanwg, ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb o’i chydnabod am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt yn dilyn eu profedigaeth o golli Terry. Gwerthfawrogwyd y negeseuon a’r ymweliadau a gafwyd yn fawr. Anfonwyd arian er cof am Terry i gymdeithasau Motor Neurone ac Alzheimer.
£10
Merched y Wawr
Bwyd blasus, cwmni diddorol mewn ystafell gynnes - dyna gafwyd pan ymunodd cangen y Bermo gyda ni, Cangen Harlech a Llanfair i swper Gŵyl Ddewi yn y Ship Aground, Talsarnau ddechrau mis Mawrth. Wedi gair o groeso gan Eirlys, ein llywydd, pan atgoffwyd ni o eiriau Dewi Sant i wneud y pethau bychain, aethom ymlaen i wledda. Cafwyd noson braf yng nghwmni ffrindiau hen a newydd. Diolchodd Morwenna, llywydd y Bermo, am y gwadd, y croeso a’r bwyd. Diolch yn fawr i staff y Ship am eu lletygarwch.
PRIODAS
CYRTIAU TENIS YSGOL ARDUDWY
Mae’r ysgol yn falch o gyhoeddi bod yr hen gyrtiau tenis wedi cael eu haddasu i greu cae aml bwrpas. Bydd yr adnodd hwn ar gael i’r gymdeithas ei ddefnyddio drwy gydweithrediad â’r ysgol.
Cawsom gefnogaeth dda gan y mwyafrif o’r Cynghorau Cymuned yn y dalgylch (ac eithro’r Bermo) ac hefyd elusennau lleol megis Gŵyl Gwrw Llanbedr a Roc Ardudwy. Buom yn llwyddiannus hefyd gyda’n cais am arian gan Magnox drwy eu cronfa economaidd a chymdeithasol. Byddwn yn cyhoeddi’r cynlluniau o ran llogi’r cae amlbwrpas yn y dyfodol agos ar ôl trafod gyda
Chyngor Gwynedd o ran telerau ac amodau. Rydym yn awyddus iawn i glybiau chwaraeon lleol ac ysgolion cynradd lleol fedru defnyddio’r adnodd hwn.
Bydd llinellau hoci, pêl-rwyd a phêl-droed ar yr arwyneb ‘astro turf’ ac rydym yn gobeithio gwneud cais pellach am arian drwy Gyngor Chwaraeon Cymru er mwyn gosod llifoleuadau erbyn gaeaf 2023.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth hael er mwyn sicrhau adnodd fydd ar gael ym mhob tywydd, drwy’r flwyddyn i ddisgyblion yr ysgol a’r gymuned ehangach.
20
Yn ôl ym mis Rhagfyr, ym Mhortmeirion, priodwyd Rebecca Roberts, Y Bermo â Gareth Owen, Bontddu. Mae Rebecca yn unig ferch Scott a Tracy Roberts. Mae Gareth yn fab i Wynn ac Alison Owen, Cae Gronw. Yn y llun gwelwn Scott, Tom a Saul, Tracy Roberts, Rebecca a Gareth Owen, Alison a Wynn Owen, John Owen a Rhiannon Boswell.
O’r entrychion – gwenoliaid
Ysgrif gan y diweddar Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o’r Dyffryn), o’i lyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), Gwasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i deulu Wil a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi ei erthyglau yn Llais Ardudwy.
gwennol gwennol y glennydd gwennol y bondo gwennol ddu
Gwennol, gwennol y glennydd, gwennol y bondo, gwennol ddu ... Byddwn yn sylwi ar ddyfodiad y wennol i’n gwlad, ac yn doethinebu’n aml pa mor arwyddocaol ydyw o ddyfodiad y gwanwyn. Ychydig o sylw a roddir i pa wennol ydyw, ac mae pedwar math i’w cael yn weddol gyffredin yng Nghymru.
Y gyntaf i gyrraedd yw’r mwyaf dinod ohonynt, sef gwennol y glennydd. Gwennol frown, fechan, a gwyn oddi tani ydyw ac yn eithaf cyffredin, ond braidd yn lleol ei dosbarthiad hwyrach. Twll wedi ei gloddio mewn torlan neu glogwyn o bridd yw nythfan hon, a gan ei bod yn aderyn cymdeithasol iawn, ceir amryw o dyllau nythod gyda’i gilydd, ac eheda’r adar yn haid niferus yng nghyffiniau’r nythfa fel arfer.
Y wennol i’r rhan fwyaf ohonom yw’r un sydd yn cyrraedd yma tua chanol Ebrill. Mae’n hawdd ei hadnabod pan fo’n ehedeg yn chwim yn dal pryfed ychydig yn uwch na’r ddaear neu wyneb y dŵr. O’i gweld yn agos, mae ganddi gefn glasddu ac yn olau oddi tani ac eithrio ei gên a’i thalcen rhuddgoch. Fforchog a pigfain yw ei chynffon. Oddi mewn, dan do y nytha hon, ac ar rhyw ddistyn neu silff mewn beudy neu adeilad allan y gesyd ei nyth o fân weiriach a llaid. Hon yw’r wennol gefn gwlad gyfarwydd.
Un arall a ddaw yma tua’r un pryd yw gwennol y bondo. Du yw hon hefyd,
ond gyda gwyn mwy helaeth oddi tani, a hwnnw’n ymestyn ar draws ei chefn wrth fôn ei chynffon. Mae ei hadenydd a’i chynffon ychydig yn fyrrach na’r un flaenorol, ac nid yw mor chwim. Bydd y gwenoliaid yma’n nythu’n gymdeithasol ac wedi darganfod adeilad pwrpasol gyda chysgod o dan ei fondo, bydd amryw ohonynt yn gosod eu cacen laid o nyth yn ei gesail, gan adael twll bach i fynd i mewn tros ei ymyl. Gellir eu gweld yn aml yn cydio’n dynn yn y wal neu’r nyth gyda’u crafangau bach, bacsiog o blu, yn aros eu tro i fynd i mewn.
Yr olaf i gyrraedd, yn gynnar ym mis Mai, yw’r wennol ddu. Gwennol
yr entrychion o ddifrif yw hon, a threulia’r rhan fwyaf o’i bywyd yn hedfan ar ei hadenydd main hir. Disgyn i gilfachau silffoedd mewn adeiladau uchel i wneud ei nyth. Glud o boer a manion wedi eu casglu o’r awyr yw defnydd ei nyth. Yn yr awyr y bydd hefyd yn casglu ei bwyd, a gall glwydo a chysgu tra deil i hedfan. Caiff gryn anhawster i godi i’r awyr os digwydd iddi ddisgyn i’r llawr. Yr awyr yw ei helfen, ac mae’n ymddangos fel pe bai’n ymfalchïo yn hyn pan welir hi gyda’i thylwyth yn gwanu’r awyr yn heidiau chwim, gwichlyd o gwmpas toeau’r tai. Pa wennol ddaw â’r gwanwyn eleni tybed?
Ffarwelio â Bethan
Ar ôl 39 a hanner o flynyddoedd yn gweithio ym mhwll nofio Harlech, mae Bethan Thomas, yn wreiddiol o Landecwyn, wedi ymddiswyddo. Yn ystod y cyfnod hwn bu i Bethan roi gwersi nofio, cynnal dosbarthiadau Aquafit ac yn ddiweddar bu’n gyfrifol am y caffi pan fyddai nifer o drigolion yr ardal yn troi i mewn am baned neu pryd o fwyd, yn ogystal â chyfle i’r mamau a’r tadau gael paned wrth i’w plant gael gwersi nofio.
Daeth criw da i Neuadd Llanfair i ddymuno’n dda i Bethan yn ei swydd newydd. Cyflwynwyd tusw o flodau i Bethan gan Tainia a chacen arbennig iawn wedi ei threfnu gan Beryl Williams. Cafwyd gair gan dair o wirfoddolwyr, Chris Meller, Pauline Nash a Janet Griffith oedd wedi cydweithio gyda Bethan. Diolch yn fawr i ti Bethan am dy ffyddlondeb dros y blynyddoedd a phob lwc i ti yn y dyfodol.
21
Band yr Oakeley
Y Cinio Mawr – Mehefin 2023
Mae Cymunedau’r Eden Project yng
Nghymru, yn gwahodd darllenwyr
Llais Ardudwy i gymryd rhan yn Y
Cinio Mawr!
Caiff y Cinio Mawr ei gynnal bob
Mehefin, fel rhan o ‘Mis y Gymuned’. Mae’n esgus da i bawb ddod at ei gilydd er mwyn dod i adnabod eich cymdogion yn well, cymdeithasu a dathlu eich cymuned chi.
Llynedd daeth bron i 700,000 o bobl at ei gilydd yma yng Nghymru i gymryd rhan yn Y Cinio Mawr!
Mae’n syml! Gallwch drefnu paned gyda’ch cymydog, picnic yn y parc, barbeciw yn yr ardd, parti ar y stryd neu mewn neuadd leol… beth bynnag sydd ore i chi a does dim rhaid gwario!
Pryd? Mae penwythnos swyddogol
Y Cinio Mawr eleni ar y 3-4 o
Fehefin, ond gallwch drefnu eich Cinio Mawr unrhyw bryd ym mis Mehefin.
Am syniadau, ryseitiau a mwy ewch i www.yciniomawr.com i archebu pecyn digidol a dwyieithog am ddim. Cofiwch gofrestru eich digwyddiad ar ein map ar y wefan hefyd, er mwyn inni gadw llygad ar y datblygiadau cyffrous ar hyd a lled Cymru!
Cofiwch rannu eich cynlluniau a’ch lluniau gyda ni!
Y CinioMawr
Facebook/Instagram/Twitter: Eden Communities Cymru bfutia@edenproject.com
22
Llwyddodd Band yr Oakeley i gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Bandiau Grŵp 4. Mae David Bisseker, Iwan Morus Lewis, Linda Roberts ac Alan Smith, y pedwar o ardal Harlech, yn aelodau. Byddant rŵan yn cystadlu yn Cheltenham ym mis Medi. Pob lwc iddyn nhw.
Teyrnged i Richard Evans
Rydyn ni i gyd yn cael ein geni i fywyd wedi’n hamgylchynu gan bobl, y mwyafrif ohonyn nhw’n ddieithriaid, ond ychydig iawn ohonon ni fydd yn gadael bywyd wedi’n hamgylchynu gan bobl sy’n ein caru ni.
Ar adeg marwolaeth Richie, roedd wedi’i amgylchynu gan y bobl yr oedd yn eu caru, ac yn bwysicach fyth, y bobl oedd yn ei garu o. Doedd pawb ddim yn gallu bod yno ar y diwrnod y gadawodd Richie y byd hwn, ond roedd cymaint o gariad yn yr ystafell honno gan bawb oedd yn meddwl amdano fo a’i deulu ar y pryd. Diwrnod na fyddwn byth yn ei anghofio.
Heb bobl rydyn ni ar ein pennau ein hunain yn y byd hwn, ac ni ddylai neb byth fod ar ei ben ei hun. Fy neges yma yw ‘Pobl’. Roedd Richie yn un o’n pobl ni.
Ni yn ei griw o ffrindiau agos, chi ei deulu, ei bartner a’i ffrindiau, pawb sy’n sefyll ar hyn o bryd yn Nhafarn yr Outback ar Ynys Manaw yn gwylio’r gwasanaeth hwn, a phawb sy’n methu cyrraedd Harlech heddiw…chi oedd ei bobl! Doedd Richie byth ar ei ben ei hun. Yn Harlech heddiw ac ar Ynys Manaw a hyd yn oed yn Gibraltar, mae yna grwpiau o bobl wedi sefyll gyda’i gilydd er cof am ein hannwyl ffrind. Mae grwpiau o bobl efallai nad ydyn nhw’n arfer sefyll gyda’i gilydd, neu’n siarad â’i gilydd, ond gan bod Richie yn ffrind i bawb, fe ddaeth â phobl at ei gilydd ac mae’n destament iddo fod pawb yma rŵan, yn y foment hon, gyda’i gilydd.
Roedd Richie yn cyffwrdd â chalonnau ym mhob man yr aeth. Derbyniwyd ef gan bawb a gyfarfyddai. Byddai’n dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr ac yn gneud ffrindiau gorau ohonyn nhw o fewn munudau . . . a dyna’n union sut y deuthum i’w gyfarfod ychydig dros 12 mlynedd yn ôl.
Byddai’n siarad â chi’n ddiddiwedd am beth bynnag oedd yn digwydd y tu mewn i’w ben ar y pryd… ond byddai ganddo angerdd ac empathi a chariad bob amser. Weithiau
roeddech chi’n cael yr un stori ddwywaith mewn wythnos, ond cymeriad fel ’na oedd Richie. Mae wedi gadael llawer o’i straeon i ni i’w hadrodd, straeon y gallwn ni eu rhannu ymysg ein gilydd bellach, straeon i’w rhannu gyda phobl newydd yn y blynyddoedd i ddod. Bydd atgof am straeon Richie yn para am byth. Ni ellir ailadrodd rhai, yn anffodus, yn yr adeilad hwn heddiw. Roedd yn fab, yn frawd, yn dad, yn bartner, yn ffrind anhygoel. Er mawr syndod i ni, roedd yn gigydd cymwysedig hefyd (cadwodd mor dawel am hynny!).
Roedd hefyd yn blastrwr gwych - a deud y gwir roedd mor dda fel y byddai weithiau’n taflu wal ychwanegol i mewn er mwyn cael hwyl, ac yn anghofio’n llwyr am yr un y cafodd ei dalu i’w gneud. Plastro oedd ei sgil, ond doedd clirio ar ei ôl ddim yn un o’i gryfderau! Ond dyna pam roedden ni’n ei garu! Roedd Richie’n hynod wladgarol ac yn falch o’i dreftadaeth. Hynod o falch o fod yn Gymro ac mae ei gampau wrth gefnogi tîm rygbi Cymru yn chwedlonol (etifeddiaeth y bydd yn rhaid i ni ei chadw . . . y broblem yw y byddai unrhyw un arall yn debygol o gael ei arestio neu ei daflu allan o’r dafarn). Roedd yn caru ei deulu i gyd yn annwyl ac roedd bob amser yn siarad ac yn hel atgofion annwyl iawn am bawb a phopeth yn Harlech.
Gallai ganu a dawnsio (os dawnsio hefyd!), a buom yn ffodus weithiau i weld y sgiliau hyn ar ôl sesiwn dda ar y cwrw.
Mewn bywyd mae gan bob grŵp
o bobl a phob grŵp o ffrindiau yr un person hwnnw sy’n sefyll allan uwchlaw pawb arall ... yr un enaid arbennig hwnnw! Richie oedd ein henaid arbennig.
Gallai fod yn ganolbwynt pob parti. Roedd yn ysgwydd wych i grio arni os oeddech chi’n cael diwrnod gwael. Ac os oeddech chi’n ffansïo cwtsh mawr, Richie oedd eich boi.
Pe bai ei ddiwrnod yn waeth na’ch un chi, ni fyddai’n deud dim, byddai’n gwrando arnoch chi yn gyntaf, ar beth bynnag oedd gennych i’w ddweud.
Roedd yn ddyn hael iawn. Os oedd o’n coginio cinio dydd Sul a phlât sbâr ganddo, ac ychydig o dafelli ychwanegol o gig eidion, Richie oedd eich boi. Roedd yn hael fel yna. Gwnaeth Richie bethau da, drwy’r amser, lle bynnag yr aeth.
Ni fydd ein bywydau byth yr un fath ar ôl hyn, ond byddai Richie eisiau inni i gyd symud ymlaen. Byddai eisiau i ni chwerthin, cofleidio, adrodd straeon a byw bywyd i’r eithaf bob dydd, weithiau gyda photel o Gorona yn y llaw ac weithiau ddim. Byddai hefyd eisiau i ni gyd golli deigryn weithiau, achos mae hynny’n ein gwneud ni’n ddynol, mae’n ein gwneud ni’n bobl weddus [decent]…. fel Richie Evans; y dyn mwyaf gweddus i mi ei adnabod erioed. Hoffwn orffen gyda rhai geiriau a gymerwyd o ddarlleniad a ddarllenais ddiwethaf 21 mlynedd yn ôl:
‘Hiraethwch ychydig, ond nid yn rhy hir, Ac nid â’ch pen wedi plygu’n isel, Cofiwch y cariad a rannwyd gennym unwaith, Hiraethwch, ond gadewch i mi fynd. Pan fyddwch chi’n unig ac yn glaf o galon, Ewch at y ffrindiau rydyn ni’n eu hadnabod, A chladdwch eich gofidiau wrth wneud gweithredoedd da, Hiraethwch, ond gadewch i mi fynd.’
Barry Hand
Ynys Manaw
23
PROTEST YN LLANBEDR
Daeth tua 150 o bobl ynghyd i gerdded yn araf drwy bentref Llanbedr ddydd
Sadwrn, 25 Mawrth gan alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried codi ffordd osgoi yno.
Penderfynodd gweinidogion ym Mae Caerdydd atal y cynllun i godi ffordd o gwmpas y pentref yn 2021 gan nad oedd yn cyd-fynd â’u gweledigaeth i leihau allyriadau carbon.
Ond mae’r trigolion yn dal i wrthwynebu gan gredu bod diffyg ffordd osgoi yn creu mwy o lygredd yn yr awyr.
Gŵyr ein darllenwyr yn dda am anawsterau efo trafnidiaeth yn y pentref yn ystod tymor yr haf.
Wrth i’r trigolion gerdded ar hyd y lôn, roedd ceir a cherbydau eraill yn teithio’n araf ac yn methu pasio.
Roedd rhai yn gweiddi bod angen ‘Achub Llanbedr’. Mae AS Plaid Cymru yr ardal, Liz Saville Roberts, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymeradwyo’r cynllun.
‘Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi nodi fod poblogaeth ardal fel hon yn cynyddu 6 gwaith yn yr haf, meddyliwch felly am lefel y traffig.’