Llais mai 2016

Page 1

Llais Ardudwy 50c

CYNLLUN HYBU DARLLEN

RHIF 452 MAI 2016

MARATHON LLUNDAIN O’r chwith i’r dde: Mrs Ann Evans [Merched y Wawr], Rhian Eleri, Gail Roberts [Arweinydd], Linda Evans a Mrs Bronwen Williams [Merched y Wawr]. Bu tair o aelodau Cangen Harlech a Llanfair yn rhan o’r cynllun Bodo rhwng y Mudiad Meithrin a Merched y Wawr. Gofynnwyd i’r aelodau fynychu sesiynau darllen stori unwaith y mis am bum mis ac fe ddarparwyd llyfrau Dewin a Doti gan y Mudiad. Yn dilyn yr ymweliadau, cyflwynwyd siec am £50 i’r Cylch Meithrin gan y gangen. Yn absennol o’r lluniau mae Mrs Janet Mostert, y drydedd aelod i gyfrannu i’r cynllun. Iolo Williams a’r plant Beca, Lois a Siôn yn dilyn y ras. Chwilio am her bersonol oedd Iolo Williams, Garej Talsarnau pan benderfynodd ei fod am redeg ym marathon Llundain. Bu’n ymarfer ers mis Ionawr drwy redeg hyd ffyrdd yr ardal a weithiau trwy ddal y trên i Bwllheli a rhedeg adref. Llwyddodd i gwblhau’r ras mewn 4 awr a 34 munud. Mae’n codi arian at elusen canser plant. Y mae’r gronfa’n dal yn agored a buasai Iolo yn croesawu unrhyw gyfraniadau. Rhif ffôn Garej Talsarnau yw 01766 770286.

CANA-MI-GEI YN CANU YNG NGHAER

Ar benwythnos 23/24 Ebrill, bu’r côr yn cystadlu yng Ngŵyl Gerdd Caer am y 3ydd tro. Eleni daeth y côr yn ail agos iawn i’r enillwyr, Decibellis, a chafwyd beirniadaeth dda iawn. Diolch i Ann, ein harweinydd ac Elin, ein cyfeilydd, am eu gwaith. Arhosodd llawer o aelodau’r côr yng Nghaer ar y noson, gan ddychwelyd y diwrnod canlynol. Ar y nos Sadwrn aeth merched y côr am bryd o fwyd Eidalaidd yn y ddinas.

YMGEISYDD

Fel y gŵyr nifer dda o’n darllenwyr, mae Arfon Jones, yn wreiddiol o Dyddyn y Gwynt, Harlech yn ymgeisio am swydd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru. Roedd yn arolygwr yn Heddlu Gogledd Cymru cyn iddo ymddeol. Mae’n gweithio’n galed fel cynghorydd sir yn Wrecsam ar ran Plaid Cymru. Mae Elisabeth ei fam wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Broadgreen Lerpwl ac yn disgwyl symud i ysbyty gymunedol yn ardal yr Wyddgrug.

Arfon Jones, gynt o Dyddyn y Gwynt, Harlech


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960

Enw: Aneurin Evans. Cefndir: Wedi fy ngeni yn y Grogan, Harlech yn un o efeilliaid [Emyr ydi’r llall] - yn fab i John Henry ac Annie Mary. Gwaith: Cefais fy mhrentisio yn fecanic yn Garej Llanbedr. Bûm yn gyrru lorïau i gwmni Pierce ac ar hyn o bryd rwyf yn gyrru ambiwlans car. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dydw i ddim! Ro’n i fel sgwarnog yn hogyn ond rydw i wedi twchu yn ddiweddar. Maen nhw’n dweud fod chwerthin yn donic ac rydw i’n gwneud digon o hynny. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Fawr o ddim heblaw’r TV Times. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Mrs Brown’s Boys. Bûm yn gweld y sioe yn fyw ac ar y ffordd allan o’r theatr roedd fy mol yn brifo gan fy mod wedi chwerthin cymaint. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n bwyta bob dim sy’n cael ei

roi o fy mlaen. Hoff fwyd? Stecsan heb ei gorwneud efo tatws neu sglodion. Dydw i ddim yn hoff o gyri neu fwyd Indiaidd. Hoff ddiod? Peint o gwrw chwerw. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y wraig, y plant, y teulu a ffrindiau. Lle sydd orau gennych? Allan yn yr awyr iach yn hela - ar y ffriddoedd neu ar Forfa Harlech. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Dwi wedi teithio llawer efo’r gwaith ac wedi bod i bob man bron yn y gwledydd hyn. Dwi reit hoff o ardaloedd Evesham, Blackpool a Plymouth. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n gyrru’n ddiofal ar y ffordd fawr. Pobl sy’n gwybod bob dim, ond yn gwybod dim am amryw o bethau! Beth yw eich hofff rinwedd mewn ffrind? Ffyddlondeb wrth gwrs ac mi fyddaf yn hoff o bobl sy’n chwerthin - mae eisiau dipyn o hwyl yn yr hen fyd ’ma. Pwy yw eich arwr? Ann y wraig - rydan ni’n dipyn o ffrindiau; a hefyd fy niweddar dad, John Henry - roedd hwnnw yn gymeriad ac yn un gwerth ei nabod. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Teulu Glan y Môr, Talsarnau sydd mor groesawgar ac amryw o ffermwyr yr ardal sy’n ffrindiau da i mi. Mae llawer o fy hen ffrindiau wedi’n gadael ni erbyn hyn.

roedd Wil Spoonley yn glamp o gymeriad, felly hefyd Lewis Roberts, Garej y Morfa a John Williams, Tanycastell. Beth yw eich bai mwyaf? Un gwael iawn ydw i o gwmpas y tŷ. Dwi’n iawn ar y tu allan! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl ifanc uchel eu cloch sy’n swnllyd a gwirion. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Allan yn yr ardal brydferth yma o’n cwmpas yn crwydro ac yn hela bod yn agos iawn at natur. Eich hoff liw a pham? Glas - am yr awyr a’r môr. Byddai fy niweddar ŵyr, Steven yn dweud, ‘Helo, Blue’ wrtha i o hyd. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr - ar lawnt y plas yn ôl I D Hooson. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Ei wario ar wella’r tŷ acw. Gosod cawod ac ati. Eich hoff gerddor? Dwi’n hoffi caneuon Bryn Fôn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Mae’r ‘Chwarlewr’ yn plesio ond fy hoff gân ydi ‘Rebal Wicend’ gan Bryn Fôn. Pa dalent hoffech chi ei chael? Maen nhw’n dweud fod gen i ddigon o dalent! Ro’n i’n arfer chwarae cornet yn y band yn Harlech cyn i mi falu fy nannedd. Eich hoff ddywediad? Gan y gwirion y ceir y gwir! Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Nacyrd - fel hen geffyl!

YN YR ARDD - MIS MAI

Mae’r haf ar ei ffordd! Fel mae bylbiau’r gwanwyn yn darfod mae’r borderi yn dechrau tyfu o ddifri. Gallwch ddechrau plannu hadau yn syth i’r ardd ac o ganol y mis ymlaen gallwch blannu’r blodau blwyddol. [Er bod rhai o’n garddwyr hŷn wedi gweld barrug yn Ardudwy yn hwyr ym mis Mai.] Gellir cymryd toriadau oddi ar goed meddal. Mi fydd angen torri’r lawnt yn rheolaidd rŵan.

Tasgau 1. Gwyliwch rhag nosweithiau oer, barugog. Mi fydd angen amddiffyn planhigion nad ydyn nhw wedi arfer â bod allan. 2. Mae angen priddo’r tatws wrth iddyn nhw dyfu. Os oes rhai dros ben, mae’n hen bryd eu plannu.

Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mehefin 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Mehefin 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mai 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

3. Plannwch y blodau blwyddol yn ail hanner y mis. 4. Ystyriwch ddulliau o gasglu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr. Mae dŵr glaw yn fwy bendithiol i blanhigion ac mae’n rhad! 5. Dylai’r hof fod yn brysur iawn y mis hwn. Mae’n talu ar ei ganfed i’w ddefnyddio’n aml. 6. Agorwch ddrws a ffenestri’r tŷ gwydr ar ddiwrnod cynnes. 7. Torrwch y lawnt bob wythnos. 8. Cyn i chi dorri gwrychoedd, archwiliwch nhw yn ofalus rhag ofn bod adar yn nythu ynddyn nhw. 9. Gallwch godi’r cennin Pedr a bylbiau eraill y gwanwyn - a rhannu clystyrau mawr ohonyn nhw.


Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr y Bermo Cydganwyd Cân y Mudiad i ddechrau’r cyfarfod. Croesawodd Iona Anderson y gŵr gwadd sef Mr Ken Robinson atom i sôn am hanes cychwyn ‘Lein y Cambrian’. Dangosodd luniau gwych inni a hefyd cawsom hanes diddorol ac addysgiadol iawn. Dyma rai dyddiadau ganddo o ddiddordeb: 1871 Cyrhaeddodd y trên stêm cyntaf erioed i Bermo. Cynyddodd poblogaeth y Bermo ar ôl dyfodiad y trên, wedi i bobl ddiarth ddechrau dod ar eu gwyliau. Byddai’r trên nwyddau’n cario llechi, glo a hyd yn oed wartheg. 1865 Y cledrau cyn cyrraedd Bermo. 1867 Cyrraedd Porthmadog ac wedyn i Bwllheli. 1869 Y lein o Gyffordd Mawddach i Ddolgellau. 1933 Damwain ddrwg iawn yn Friog. 1966 Trên stêm olaf. 1975 Agorwyd y ‘swing bridge’, Pont Bermo er mwyn i long arbennig fynd i fyny’r afon Mawddach. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 17 Mai am 7.00 yr hwyr pan fydd Beryl Jones yn dangos gwaith llaw. Heulwen a Lorraine fydd yng ngofal y noson, a byddwn yn cwrdd yng Nghanolfan Gymunedol y Bermo.

Ras y Tri Chopa, Bermo i An Gearasdan (Fort William), Yr Alban Mae Elin Haf Davies a Lowri Morgan yn cystadlu ar gwch ‘merched yn unig’ yn y ras sy’n cychwyn ar Fehefin 11eg 2016. Mae S4C yn ffilmio tair rhaglen o hanner awr yn dilyn hanes y merched yn ystod y ras. Gellir cael mwy o wybodaeth am y ras, y “Barmouth to Fort William Three Peaks Yacht Race”, ar ein gwefan fel a ganlyn: www.threepeaksyachtrace.co.uk Cymorth Cristnogol Ar 19 Mai, rhwng 10.00 a 2.00, cynhelir bore goffi a stondin gacennau at Gymorth Cristnogol yn Eglwys Crist y Bermo. Gwerthfawrogir yn fawr unrhyw gymorth i gasglu rhoddion ar y stryd. Llyfryn ymwelwyr Tybed a ydych chi wedi darllen y llyfryn ymwelwyr sydd wedi ei gynhyrchu ar gyfer tref y Bermo eleni? Mae’n lliwgar, yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol ac mae’n werth ei ddarllen. Arddangosfa celf Bydd Grŵp Celf Mawddach yn cynnal eu harddangosfa yn Theatr y Ddraig o 10.00 tan 3.00 tan yr 8fed o Fai.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Torri gwair Derbyniwyd pris gan Mr Arwel Thomas i dorri gwair y fynwent gyhoeddus. Cytunwyd i dderbyn y pris hwn. Cyfarfod gyda Chyngor Gwynedd Adroddodd Dylan Hughes ei fod wedi mynychu’r cyfarfod uchod a bod Cyngor Gwynedd yn ystyried trosglwyddo cyfrifoldeb am y toiledau cyhoeddus i Gynghorau Cymuned a Thref; nid oedd penderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â pha doiledau fyddai’n cau. Pwyllgor Blynyddol y Neuadd Goffa Roedd Mair Thomas a Robert G Owen wedi mynychu’r cyfarfod. Mae sefyllfa ariannol y pwyllgor yn iach iawn. Bydd tu mewn y Neuadd yn cael ei pheintio’n ystod yr haf. Bydd Mrs Meinir Lewis yn rhoi’r gorau i fod yn Drysorydd a Mrs Hefina Griffith yn cymryd y gwaith yn ei lle. Ceisiadau am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - £50 Cyngor Gwynedd Mae mesurydd cyflymder traffig wedi ei osod ar yr A496 ger Pensarn yn dilyn pryderon gan breswylwyr lleol bod ceir yn goryrru ar hyd y ffordd dan sylw. Bydd y mesurydd traffig hwn yn cael ei adael ar y safle am wythnos. CEISIADAU CYNLLUNIO Gwaith peirianyddol i sefydlogi’r twyni sydd wedi erydu - traeth Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Amnewid garej - Maes Teg, Cae Garw. Cefnogi’r cais hwn.

Aelodau o’r grŵp dawnsio ‘Dizzee Dancers’ fu’n trefnu stondin gacennau yn y Co-op er mwyn codi arian i fynd i Glasgow i gystadlu ym mhencampwriaeth y byd. Pob lwc iddyn nhw.

LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Harlech a Llanfair

Dechreuwyd trwy drafod materion y Mudiad. Cytunodd pedair aelod i helpu ym mhabell Merched y Wawr yn y Sioe yn Llanelwedd. Atgoffwyd yr aelodau am y noson ranbarth ar gyfer y Dysgwyr ar Fai 12 yn Neuadd Llanelltyd. Penderfynwyd danfon £200 i Aelwyd Ardudwy a £50 i’r Cylch Meithrin. Gwen Pettifor oedd y wraig wadd. Mae Gwen yn ymddiddori mewn sawl math o waith crefft. Y tro hwn noson ar emwaith a gawsom. Cawsom hanes sut mae’n mynd ati i wneud mwclis. Daeth a’r offer a’r cerrig roedd yn ei ddefnyddio ac enghreifftiau o fwclis roedd wedi eu creu. Roedd yn werth gweld yr amrywiaeth yr oedd Gwen wedi eu creu. Bu dwy aelod yn ffodus i ennill gwobrau a roddwyd gan Gwen. Hefina ddiolchodd iddi ac fe baratowyd y baned gan Hefina, Eirlys a Janet.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Diolch Hoffai Gwilym a Gwenllian Jones, Bryn Awelon, Llanfair, ddiolch i bawb am y negeseuon a’r cardiau pen-blwydd a dderbyniodd Gwilym ar ei ben-blwydd arbennig ym mis Mawrth. Anfonwn ein dymuniadau da am y dyfodol iddo. Hefyd, diolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad â Gwenllian ar golli ei chwaer yng nghyfraith Mair, gwraig Artro, yn dilyn damwain. Cydymdeimlwn â’r teulu i gyd yn eich profedigaeth. Rhodd a diolch £10 Côr Aelwyd Ardudwy Pob lwc i Gôr Aelwyd Ardudwy a David Bisseker a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Fflint, David ar ddiwrnod olaf mis Mai a’r Côr ar ddiwrnod cyntaf mis Mehefin. Byddwn yn siŵr o’u gwylio.

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr. 3


Plant Ysgol Llanbedr ym Mhensarn

Bu plant B5 a 6 yn mwynhau gweithgareddau awyr agored yng nghanolfan CMC, Pensarn yn ddiweddar. Cafodd B6 fynd i’r goedwig wrth Fryn-y-Moel a chael profiad o fyw yn y gwyllt (bushcraft) wrth chwilio am blanhigion allwn eu bwyta a hefyd cael cyfle i wneud tân. Bu disgyblion B5 yn adeiladu rafft a’i brofi ar y dŵr - gyda llwyddiant!

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

DAMSEL IN THIS DRESS

RHAGOR O LUNIAU CANA-MI-GEI YNG NGHAER

Ar benwythnos 23/24 Ebrill, bu’r côr yn cystadlu yng Ngŵyl Gerdd Caer am y 3ydd tro. Eleni daeth y côr yn ail agos iawn i’r enillwyr, Decibellis, a chafwyd beirniadaeth dda iawn. Ar y nos Sadwrn aeth merched y côr am bryd o fwyd Eidalaidd yn y ddinas. Efo Ann yn y llun mae dwy fu’n dathlu eu pen-blwyddi’n ystod y penwythnos.

[Twtil, Harlech]

Siop Ddillad i Bawb

Yn agored bob dydd 9.30 - 5.30

5

Rhywbeth newydd bob dydd yn ein siop unigryw. Disgownt o 10% wrth gyflwyno’r hysbyseb hon [un yn erbyn bob taliad]. Ffôn: 01766 780199

Rhwng Tymhorau a Rhesymau ac ‘As Is’, gyferbyn â’r siop hufen iâ. Chwiliwch amdanom ar ein Gweplyfr [Facebook]

4

Grŵp o’r aelodau yn ymlacio wedi’r gystadleuaeth.


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Ar 27 Mawrth yn Ysbyty Gwynedd bu farw Miss Mary Elizabeth Williams, Cynefin, Talybont (Caerelwan gynt) yn 90 mlwydd oed. Cydymdeimlwn â Lloyd, Liz a Geraint a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli modryb annwyl. Anfonwn ein cydymdeimlad hefyd at Mary a Meirion, 10 Penrhiw yn eu profedigaeth o golli eu mam, Mrs Myfanwy Jones, oedd yn 92 mlwydd oed. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 20 Ebrill, pnawn arbennig o braf ond pnawn digon trist gan i ni golli un o’n haelodau, Miss Mary Williams, Cynefin, Talybont neu Mary Caerelwan, fel roeddem i gyd yn ei hadnabod. Ymunodd Mary â ni ym Medi 2013 yn dilyn colli ei chwaer Jennie ac roedd yn mwynhau dod i’r cyfarfodydd a braf oedd cael ei chwmni a byddwn yn gweld ei cholli. Roeddem yn falch o glywed fod Mrs Elizabeth Jones yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl. Anfonwn ein cofion ati a hefyd at Lilian Edwards, Leah Jones a Meinir Lewis sydd wedi methu dod yn ddiweddar. Cawsom gwmni Raymond Owen o Dalybont am y prynhawn. Daeth Raymond yn ddarlithydd i Goleg Meirionnydd ym 1975. Mae’n enedigol o Sir Benfro a thestun ei sgwrs oedd Sŵn a Swyn Sir Benfro. Aeth â ni ar daith i’w fro enedigol drwy gyfrwng disgrifiadau, barddoniaeth a straeon difyr iawn. Diolchwyd i Raymond am brynhawn diddorol iawn gan Hilda. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Glenys, Elinor a Catherine a diolch i Margaret Pauline am wobrau raffl hefyd. Ar 18 Mai byddwn yn cyfarfod yn y Neuadd Bentref am ein Cyfarfod Blynyddol a the prynhawn. Diolch Diolch i Heulwen Jones am y rhodd o £11.50 i’r Llais.

Diolch Hoffai Siôn ac Iola ddiolch am y gefnogaeth a gafwyd yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn Nineteen 57. Diolch i’r staff am eu cydweithrediad, ac yn arbennig i’r bobl a’r cymdeithasau lleol am eu cefnogaeth barhaus. Mae wedi bod yn bleser gweini arnoch. Rhodd £10 Clwb Cinio Ddydd Mawrth, 19 Ebrill cyfarfu’r Clwb Cinio yng ngwesty’r Ship yn Nolgellau. Yn ddiweddar mae llawer o arian wedi ei wario ar y gwesty ac mae’n werth ei weld. Ar 17 Mai byddwn yn mynd i Feddgelert. Ambiwlans Awyr Cymru Trwy gyfrwng raffl a drefnwyd gan Adam a Karen Greenfield, Cadwgan a gêm bêl-droed a drefnwyd gan Christian Bowater, llwyddwyd i godi’r swm anrhydeddus o £1,233.10 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Ar fore teg o Fai

A fuost ti, ddarllenydd, I raddau mwy neu lai, Yn teimlo’th fod yn brydydd Ar fore teg o Fai? Yn wir mae’r blodau’n ’sblennydd Sy’n tyfu gylch ein tai Yn creu rhyw deimlad newydd Ar fore teg o Fai. Mor hardd yw gwisg y dolydd! Does neb yn credu’n llai Nad ydyw’r byw yn newydd Ar fore teg o Fai. Mae’r wennol fach yn gweithio – Yn prysur gario clai I’w nyth o dan y bondo Ar fore teg o Fai. Ar ôl distawrwydd gaua’ Daeth llanw wedi’r trai – Mae’r llwyn yn llawn caniada’ Ar fore teg o Fai. Yng nghanol twrf y trefydd Yn byw mae llawer rhai, Ni welant hwy ddim newydd Ar fore teg o Fai.

Dyma lun o Gruffydd Jones, Tynywern a dynnwyd yn Kuala Lumpur yn 1956 pan oedd yn y lluoedd arfog. Mae’n siŵr fod brodorion hŷn yr ardal yn ei gofio’n dda. Tristwch mawr i bawb yn deulu, ffrindiau a chymdogion oedd ei golli mewn damwain erchyll yn 1959. Aeth llawer blwyddyn heibio Ers dy golli di, Mor ddisymwth annwyl frawd Yn ddim ond dau ddeg tri. Ond dal i gofio mae y teulu, Nid yw’r hiraeth byth yn pylu. JVJ

Os nad yw’r gân yn swynol, Ni wiw i neb roi’r bai Ar destun mor farddonol Ar fore teg o Fai. Talfardd, Dyffryn 1887

Diolch Dymuna teulu’r diweddar Miss Mary Williams, Cynefin, Tal-y-bont (Caerelwan gynt) ddiolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch hefyd am yr arian a roddwyd er cof amdani tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Rhodd £10 Priodas ddiemwnt Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i John a Heather, Byrllysg, sydd yn dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol ar 12 Mai. Radio Cymru Hyfryd iawn oedd clywed Gareth Eilir, Coed Uchaf gynt yn trafod ei yrfa ar raglen Beti George ar Radio Cymru yn ddiweddar - a hynny mewn Cymraeg coeth iawn. Mae’n ddarllenwr brwd o’r papur hwn. Cofion atat Gareth. Rhodd Teulu Coed Uchaf £9

Gwasanaethau’r Sul, Horeb MAI 2016 MAI 8 Parch Megan Williams 15 Parch Christopher Prew, 5.30 22 Parch W H Pritchard, 5.30 29 Mair Penri Jones MEHEFIN 5 Parch Dafydd Rees Roberts

Y FUWCH GOCH GOTA

Y fuwch goch gota P’un ai glaw ai hindda? Os taw glaw, cwymp o’m llaw Os taw teg, hedfana.

ENGLYN DA Y Gadair Ddu

Mae du wawr drom y deri - yn gaddug Tragwyddol amdani; A naddwyd yn ddwfn iddi Dristwch yn ei harddwch hi. James Nicholas [1928-2013] 5


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

TEYRNGED I ISHMAEL JAMES JONES 9/9/1923 hyd 2/4/2016

Tynnwyd y llun gan Mari Wyn Lloyd yng Nghwm Nantcol ar Ebrill 9. Diddorol bod eira i’w gael mor ‘hwyr’ yn y flwyddyn. Merch fach Ar 28 Mawrth ganwyd Erin Fflur, merch fach i Elliw a Dei Hendy. Dymuniadau gorau i chi. Llun yn rhifyn Ebrill Yn rhifyn mis Ebrill o’r Llais ceir llun o Ginio Blynyddol NFU. Y trydydd o’r dde yn y llun yw John O Jones, Hendre Waelod, tad Meurig W Jones. Os oes gan unrhyw un ragor o luniau diddorol, buasem yn falch iawn o’u cael. Marw Bu farw Ishmael Jones, Talgarreg yn 92 oed. Cydymdeimlwn ag Olwen, ei ferch a’i theulu a Gwenfair Howie, ei chwaer a’i theulu yn eu profedigaeth.

CYFARFOD PREGETHU yn Salem, Cefncymerau (trwy ganiatâd caredig) Mai 27ain (nos Wener) am 7:00. Pregethwr: Parch Adrian Brake, Aberdâr Trefnir gan Eglwys Efengylaidd Ardudwy Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

MAI 1 Capel y Ddôl, Parch Gareth Rowlands 8 Capel Nantcol, Gweneira Jones 22 Capel y Ddôl, Parch Elwyn Pryse MEHEFIN 5 Capel y Ddôl, Dafydd Iwan Capel Salem MAI 15 Parch Dewi Tudur Lewis 22 Mr Eurfryn Davies

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

6

Ganwyd Ishmael, Gwen a’r ddiweddar Jane yn blant i Gruffydd a Laura Jones yn Nhalgarreg. Cafodd y tri fywyd hapus a braf. Pan oedd Ishmael yn hogyn ifanc, pêl-droed oedd yn mynd â’i fryd. Dywedodd Ishmael rhyw dro, wrth glywed rhywun yn canu’r piano, fod ei fam a’i dad wedi prynu piano iddo oedd yn costio 40 gini. Byddai’n cofio’r pris bob amser. Roedd dyn yn dod bob cam o’r Blaenau i roi gwersi piano ond roedd Ishmael yn dianc drwy’r drws i fynd i chwarae pêl-droed. Pan ddaeth adref, roedd ei fam yn crio. Ddaru Ismael byth anghofio. Roedd yn mwynhau gwrando ar gorau ac ar gyngerdd piano. Aethom ein dau i lawer o gyngherddau. Yn ystod yr Ail Ryfed Byd ei waith oedd gyrru lorri i’r Royal Signals. Dywedodd ei fod wedi gweld rhyfeddodau a difyr oedd gwrando arno yn adrodd ei storïau. Cafodd ei alw adref oherwydd fod ei dad yn wael. Ymhen dau ddiwrnod cafodd ei wahodd i fynd i chwarae pêl-droed efo West Bromwich Albion ac Everton. Gan fod ei dad yn ddyn gwael penderfynodd aros adref i edrych ar ei ôl. Wedi i’w dad farw cymerodd y busnes drosodd. Ei fam oedd wrth y llyw yn edrych ar ôl y tŷ a gwneud bwyd. Dyn cymwynasgar iawn oedd Ishmael, un yr oedd pawb yn ei ganmol. Gweithiodd yn galed ar hyd ei oes. Doedd dim diogi yn perthyn iddo. Cawsom lawer o sbort yn gwrando arno yn dweud hanesion ffermwyr ac anifeiliaid. Un tro roedd Ishmael wedi mynd â gwartheg i Allt Goch [paned a chacen gan Gweneira bob amser]. Mi dalodd Gweneira efo siec a chyn i Ishmael afael

yn y siec mi gydiodd y ci ynddi a dechrau ei bwyta. Sôn am chwerthin! Roedd y ffermwyr a’r gwragedd tŷ yn ffeind tu hwnt ac roedd wrth ei fodd yn cael maldod. Cofiaf iddo ddweud hefyd mor hapus oedd y cyfnod pan oedd Hubert ac Eira yn blant bach yn dod i aros efo Nain ar eu gwyliau haf. Ishmael wrth ei fodd yn cael chwarae pêl-droed efo Hubert. Dyna lle cafodd Hubert ei ddawn i chwarae pêldroed. Roedd mor falch ohono. Cafodd deyrnged haeddiannol gan reolwyr Porthmadog lle bu’n chwarae am flynyddoedd. ‘Cefnwr chwith digyfaddawd oedd o i’r tîm enillodd Gwpan Amatur Cymru yn 1956 a 1957. Chwaraewr corfforol, caled oedd Ishmael a oedd yn ennyn parch gan bawb.’ Roedd ganddo gic fel mul. Dywedodd un ffrind iddo, ‘os buasai Ismael yn cicio’r bêl ym Mhorthmadog rwyf yn ffyddiog y buasai hi wedi cyrraedd Harlech!’ Roedd yn chwarae yn yr un tîm ag Arwel Jones, Garth Bach a dywedai Arwel mai Ishmael roddodd o ar ben y ffordd efo pêl-droed. Bu’r ddau yn gyfeillion agos iawn. Dyn boneddigaidd, caredig a chymwynasgar nad oedd yn hoffi ffraeo hefo neb. Byddai’n dweud yn aml, ‘Calla dawo.’ Mi fydd yn golled fawr i’r teulu ac i lawer iawn o’i ffrindiau. Gadawodd dwll mawr gwag ar ei ôl ac ni fydd dim yr un fath eto. Cysga’n dawel. Dy ffrind am byth. Rhodd £10 DIOLCH Dymuna Eira, Terry, Anti Gwen a’r teulu ddiolch o galon am yr holl gardiau, y galwadau ffôn a’r ymweliadau a gawsant ar achlysur colli tad, tad yng nghyfraith, taid a hen hen daid oedd mor annwyl ganddynt. Diolch i Gwen a George Workman a staff Mochras am baratoi gwledd o fwyd blasus. Diolch hefyd i Glyn Evans a’i Fab, trefnwyr yr angladd am eu trefniadau gofalus a meddylgar. Diolch i’r Parch Dewi Tudur Lewis a’r organyddes, Miss C Richards yn y capel ac i Beryl a Robert Jones am eu gofal meddylgar a’u cariad tuag at Dad.


Teulu Artro Cynhaliwyd ein cyfarfod dydd Mawrth 5 Ebrill, gyda Gweneira’n llywyddu. Wrth groesawu’r aelodau, dywedodd mai Teulu Bach oeddem y tro hwn, ac yn teimlo’n drist iawn wedi colli aelod ffyddlon - sef Mary Caerelwan gynt. Cydymdeimlwyd â’i pherthnasau yn eu colled. Roedd llawer o’r aelodau wedi bod yn cwyno, ac Iona wedi cael triniaeth i’w llygad. Dymunwyd yn dda i Beti a oedd yn mynd i gael llawdriniaeth ar ei llygad, ac Elisabeth yn disgwyl triniaeth yn Broadgreen. Anfonwyd ein cofion at Howel, a da oedd gweld Catherine yn y cyfarfod. Un o’n haelodau oedd yn rhoi sgwrs i ni – sef Nesta – ac aeth â ni’n ôl i’r Rhyfel Mawr, a rhai hanesion am Ebrill 1916 – rhai ohonynt yn ymwneud â pherthynas iddi. Diolchodd Glenys iddi am ein hatgoffa am yr erchylltra. Enillwyd y rafflau gan Eleanor ac Iona.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Mrs Wynne, Glynartro, ar ei phen-blwydd yn 90 oed. Dymuniadau gorau iddi.

Ishmael James Jones 1923 – 2016 Teyrnged gan Olwen (ei ferch)

Dymuno’n dda Dymunwn yn dda hefyd i Gwenda Titley, Bryn Deiliog, sydd yn derbyn llawdriniaeth ar ei chlun. Damwain Cafodd Graham Tottle, Maesartro, ddamwain ar ei gwch. Gobeithio ei fod yn gwella.

Cwmni Theatr Bara Caws ALLAN O DIWN gan Emyr Roberts [Sioe un dyn] Canllaw oed: 14+ Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Nos Fawrth, Mehefin 28 am 7.30 o’r gloch

Taith Calon Fôr Yn dilyn stormydd y gaeaf y darganfuodd Mwff galon fôr ar draeth Mochras, ac mae’n ei thrysori’n fawr. Mi wnaeth Rhian a John, ei blant, y gwaith ymchwil i ddarganfod tarddiad y ‘galon fôr’. Ar ddiwedd yr haf, mae’r ffa aeddfed yn troi’n frown ac yn fregus ac yn cwympo oddi ar y winwydden. Mae rhannau o godennau sy’n denau fel papur yn gorchuddio llawr y goedwig ac yn pydru i ddatgelu dipyn o syndod - trysor wedi ei guddio y tu mewn iddyn nhw! Fel perl sy’n cuddio yn ei gragen, mae pob adran yn gartref i un hadyn hardd. Yn frown ac yn sgleiniog, mae gan yr hadau deimlad llyfn a chynnes sy’n braf i’r llaw. Mae pob hadyn yn unigryw gyda’i faint, ffurf ac ansawdd yn wahanol i bob hadyn arall. Mae rhai hadau’n grwn, yn hirgrwn neu’n ffurf wahanol ond y rhai sy’n hoff gan bobl yw’r rhai sydd ar ffurf calon perffaith. Mae hadau bach oddeutu modfedd mewn diamedr a’r rhai mawr deirgwaith y maint hwnnw. Mae cragen gneuen lliw mahogani cyfoethog yn gwarchod embryo llysieuol rhag cael ei fwyta gan bryfed ac mae hefyd yn rhwystro lleithder rhag dod i mewn ac egino’r had. Mae’r embryo lliw hufen y tu mewn yn chwerw ac fe all fod yn wenwynig. Fodd bynnag, wrth ei baratoi’n ofalus, gellir defnyddio’r rhan hon fel meddyginiaeth a gellir hefyd ei yfed a’i ddefnyddio fel coffi.

Yr amrywiaeth ym maint ffa’r galon fôr.

Unwaith yn rhagor, mae cymeriad Cymreig arall o’r ardal wedi ymadael - y tro yma, amser fy nhad, sef Ishmael Talgarreg oedd ymadael. Un o Lanbedr oedd nhad o’r cychwyn – oni bai am gyfnod yr Ail Ryfel Byd, yn Llanbedr y bu ar hyd ei oes. Fe’i ganwyd mewn tŷ bychan ar dir Talgarreg (dwy ystafell oedd i’r tŷ yma) - y rheswm am hyn oedd bod Talgarreg wrthi yn cael ei adeiladu fel y tŷ a welir heddiw. Mab Griffith a Laura Jones oedd ac roedd ganddo ddwy chwaer; Lizzie Jane a Gwenfair (Gwen Howie fel ei hadweinir heddiw). Priododd yn ifanc iawn ac fe gafodd dri o blant. Erbyn i mi ddod i’r byd fodd bynnag, hefo Meiriona Tanwenallt oedd fy nhad ac fe’m ganwyd i yn 1960. Roedd nhad yn berson distaw iawn, cadw ei hun iddo’i hyn - ond un o’i brif bethau oedd ei waith! Cofion gennyf pan oeddwn i’n fychan o nhad yn gyson yn gweithio - ar ei lorïau. Allan am oriau maith ac yn weithgar ofnadwy. Cof plentyn sydd yn dod gan fwyaf i’m pen y dyddiau hyn gan gofio plentyndod euraidd iawn - Dad, Mam a minnau. Teulu bach dedwydd. Doedd dim yn ormod i nhad ei brynu i mi, y dillad ysgol gorau gan gynnwys ‘satchel’ newydd lledr a hyd yn oed ceffyl! I’r diwedd, er iddynt gael ysgariad, roedd Mam yn uchel iawn yn ei feddwl a bu i’r ddau ddod yn ôl at ei gilydd cyn marwolaeth mam. Roedd fel yr hen ddyddiau; y ni ein tri yn erbyn y byd. Mae henaint yn beth digon annifyr heb ryw hen salwch ofnadwy fel dementia yn dod yn ei sgil. Y llun ola’ sydd gen i o Nhad yw’r llun hwn hefo Summer a Kian ei or-wyrion, hwn wedi ei dynnu wythnos union cyn ei farwolaeth. Roedd yn meddwl y byd o Gemma a’r ddau yma. Heddwch i’w lwch. Olwen

DEFAID YN EU HOED A’U HAMSER blwyddiad - dros flwydd ond yn llai na dyflwydd dafad - wedi bwrw ei hoen cyntaf hesbin - oen benyw hyd yn flwydd oed a heb fagu hesbwrn - oen gwryw hyd yn flwydd oed hwrdd - hesbwrn/llwdn wedi cyrraedd ei oed llwdn dafad - oen gwryw hyd yn flwydd oed llydnes - oen benyw hyd yn flwydd oed mamog - dafad feichiog mollt - hwrdd disbaidd 7


HARLECH Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau gan Lywydd Sefydliad y Merched sef Christine Hemsley, brynhawn dydd Mawrth 12 Ebrill. SyM oedd yn gyfrifol am y prynhawn yma yn ôl eu harfer bob blwyddyn. Diolchwyd iddynt gan Edwina am eu parodrwydd i gynnal y prynhawn ac am helpu’r aelodau i baratoi’r bwyd, rhoi’r rafflau ac i ddod i helpu i weini’r te. Trist iawn oedd gorfod cydymdeimlo gyda dau deulu oedd wedi colli rhai annwyl iawn sef teulu Ishmael Jones, Talgarreg, ac efo Menna Jones, ei ffrind annwyl, ac efo teulu Mrs Blodwen Jones, 23 y Waun. Roedd Anti Blodwen wedi bod yn aelod o Deulu’r Castell ers dros 50 o flynyddoedd ac yn edrych ymlaen bob mis at ddod i’r cyfarfodydd. Colled fawr i ni yn Teulu’r Castell ac i’w theulu a’i ffrindiau i gyd. Ar nodyn mwy llawen, dymunwyd pen-blwydd hapus i Nancy, Jack, Myfanwy, Gwenda a Rhiannon. Dymunwyd gwellhad buan i Olwen Jones ac i Dorothy Harper oedd yn ôl yng Nghartref Madog. Y mis nesaf Merched y Wawr fydd yn gofalu am y prynhawn gydag Iwan Lewis yn ein diddori. Ym mis Mehefin disgwyliwn gael mynd allan i de ar ôl i’r trefniadau gael eu gwneud. Ar ôl trafod y busnes croesawyd Geraint Williams a Margaret ei wraig. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn a gweld sleidiau o fwyngloddiau aur yng Nghymru. Diolchwyd iddo gan Christine Freeman ac i SyM am baratoi’r te. Yna cawsom de ardderchog ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod nos Fercher, 13 Ebrill, gan y llywydd Christine Hemsley. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r rhai oedd yn dathlu penblwydd y mis yma. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn sâl a dymuniadau gorau i Dorothy Harper oedd wedi dod

8

yn ôl i Gartref Madog. Darllenwyd y llythyr o’r sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys. Mae rhai o’r aelodau’n mynd i Gyfarfod Blynyddol Cymru yn Llandrindod ar 20/21 Ebrill, ac i gyfarfod y gwanwyn yn Rhydymain 26 Ebrill, noson gwis yn Nolgellau ar 29 Ebrill, a sioe ffasiwn ym Mhorthmadog ar 19 Mai, lle bydd pedair o aelodau Harlech yn fodelau. Mae Jan Cole wedi trefnu teithiau cerdded i ni ym mis Mai yn ogystal â chinio allan. Ar ôl trafod y busnes i gyd croesawyd Hazel Jones oedd wedi dod i roi sgwrs ar Aerona Berries. Mi oedd Hazel Jones a’r teulu wedi cychwyn busnes a thyfu’r aeron ac wedi gwneud ‘liquers’ a jam ohonyn nhw. Cawsom brofi pob dim oedd ganddi a chawsom sgwrs ddifyr iawn am bob dim yr oedden nhw’n eu cynhyrchu. Braf iawn oedd gweld a chlywed am deulu Cymraeg wedi llwyddo cymaint yn y fenter hon. Diolchwyd iddyn nhw ar ran yr aelodau gan Edwina Evans. Fe fydd y noson nesaf gan SyM ar 11 Mai, a’r noson fydd ‘Bonedau’r Gwanwyn’. Edwina fydd yn trefnu’r noson, a bydd pawb wrthi’n gwneud bonedau’r gwanwyn at y noson yma. Ymchwil Canser Harlech Nos Iau, 14 Ebrill cafwyd y cyfarfod yn y Llyfrgell, Harlech, gyda Myfanwy Jones yn y gadair. Yn y cyfarfod cyflwynwyd Gwenda Jones ac Edwina Evans efo tystysgrif fel gwobr am wasanaeth hir dros 25 mlynedd mewn gwerthfawrogiad diolchgar am 25 mlynedd o wasanaeth rhagorol ac ymrwymiad i Bwyllgor Harlech o’r NWCR. Llongyfarchwyd y ddwy a diolchodd Myfanwy Jones i’r ddwy am eu gwaith dros y 25 mlynedd. Cynhelir y noson goffi ar nos Iau, 14 Gorffennaf yn Neuadd Goffa Harlech. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gyda Tony Wainwright a’r teulu, 49 Y Waun. Mae Tony wedi colli ei fam yn ddiweddar.

Cyngherddau yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech

Nos Sul, 29 Mai Côr Meibion Ardudwy gyda Treflyn Jones, bariton. Nos Wener, 24 Mehefin Cana-mi-gei.

Nos Wener, 8 Gorffennaf Ysgard, Band Blŵs a Jazz o Ysgol Ardudwy. Nos Sadwrn, 10 Medi Cerddorfa Linynnau Volante. Ann Edwards Sioe arddio Wedi ugain mlynedd o fod yn gyfrifol am ddwy sioe y flwyddyn fel ysgrifennydd Sioe Arddio Harlech, mae Mrs Ann Edwards, 43 Y Waun wedi penderfynu ymddiswyddo o’r swydd. Mae pawb yn gytûn fod y gwaith a wnaed ganddi wedi bod yn ardderchog. Cafodd ei anrhegu yn y cyfarfod blynyddol a derbyniodd dusw o flodau yn y sioe olaf am ei gwaith gwiw. Yr ysgrifennydd newydd fydd Mrs Lucinda Yemm, Llain y Grug. Gwellhad buan Dymunwn wellhad buan i Mr Alan Smith, Maes yr Haf sydd wedi cael pen-glin newydd yn ddiweddar. Brysia wella Al! Rhodd i’r Llais Mr Aneurin Evans £10

Pob cyngerdd yn dechrau am 7.30. Talu wrth y drws - £10. Lluniaeth a gostyngiadau ar gael.

Profedigaeth Wedi cystudd hir, bu farw Mr Keith Johnstone, Encil y Coed, gŵr Bethan a thad Peter a Judith. Roedd Keith yn ŵr siriol a hawddgar ac yn ddymunol iawn yng ngolwg ei gydnabod. Hyderwn y gallwn gynnig mwy o’i hanes yn y rhifyn nesaf. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i wraig Bethan a’r teulu lluosog. Diolch Mi fuaswn yn hoffi diolch am y cardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau i’r tŷ, i’m holl ffrindiau am eu cymorth bythgofiadwy sydd wedi bod yn gymorth mawr i mi o golli un mor annwyl a meddylgar ers yr holl flynyddoedd a mwy na dim ein cyfeillgarwch. Menna Rhodd £10


Rhagor o HARLECH

Mrs Blodwen Jones Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu Blodwen Jones, Y Waun, ar ei marwolaeth ar 12 Ebrill. Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu ei bywyd yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech ar ddydd Mawrth 19 Ebrill. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch Bob Hughes a’r organydd oedd Myfanwy Jones. Anfonwn ein cydymdeimlad â’r teulu i gyd yn eu colled enfawr. Diolch i Mike Smith, gŵr Cath a mab-yng-nghyfraith Blodwen, am y deyrnged hon a ddarllenwyd yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, ar ddydd ei hangladd. Rydym yma heddiw i ddathlu bywyd Blodwen Jones, y ddynes yr oedd pobl yn falch o’i galw’n fam, yn nain, yn hen nain, yn fam-yng-nghyfraith ac, wrth gwrs, yn ffrind. A’r enwau arall amdani? Anti Blod, Blodyn, a gan Huw? Blod Baaaach! Roedd Blod yn ffodus iawn o ofal ei theulu agos a chariadus, yn enwedig dros yr ychydig fisoedd diwethaf wrth i’w hiechyd ddirywio. Fel y bu hi yno iddyn nhw dros gymaint o flynyddoedd, roedden nhw yno iddi hi. Parhaodd i ddangos nerth a phenderfyniad wrth i’w salwch waethygu. Anaml iawn y byddai hi’n cwyno am ddim er gwaethaf ei phoen. Ganwyd Blod ar 12 Medi 1919 yn 66 Smith Street, Kirkdale, Lerpwl yn ferch i David ac Elizabeth Jones. Treuliodd ei phlentyndod a chafodd ei haddysg yn Lerpwl a gweithiodd yn Ffatri Feddygol Speke. Symudodd y teulu sawl gwaith

yn ystod yr Ail Ryfel Byd rhwng Lerpwl a Phenbedw (Birkenhead). Ar ôl y Rhyfel, cafodd tad Blod ddyrchafiad yn ei waith i’r Prudential a symudodd y teulu cyfan i Nottingham. Priododd Blod ar 25 Hydref 1947 yn West Bridgford, Nottingham efo John Kenneth Jones (neu Ken Temps fel yr oedd pawb yn ei nabod) a symud yn ôl ar ddechrau’r 50au i Dalsarnau cyn symud i Harlech yn 1960. Cafodd Blod a Ken 7 o blant a bu’n gweithio am y rhan fwyaf o’i hoes yng Ngwesty’r Castell a’r ddwy ysgol leol yn ogystal â gofalu am ei thad a’i mam yn Wyndcote, Harlech. Roedd yn hynod o falch o’i 17 o wyrion a’i 12 o or-wyrion ... ac un arall ar y ffordd. Yn fam gynnes, gariadus a hael, roedd ei hysbryd optimistaidd a llawen yn donic ac yn ysbrydoliaeth i lawer. Arferai Blod fynychu Eglwysi Tanwg Sant, Harlech a Llanfihangel-y-traethau. Roedd wrth ei bodd efo cerddoriaeth a chael mynd i’r Theatr, cyngherddau o bob math yn ogystal â Chymanfa’r Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd yn cymryd rhan mewn llu o gymdeithasau lleol – Teulu’r Castell, Clwb y Werin, Undeb y Mamau – ac yn mynd i bob un ohonyn nhw boed yn bwrw glaw, yn wynt mawr neu’n bwrw eira. Yn ei hugeiniau, roedd Blod yn aelod o gôr Cymdeithas Gorawl Lerpwl ac roedd yn gwybod geiriau’r Meseia i gyd. Yn ddiweddar iawn, siaradodd Blod efo disgyblion yr ysgol gynradd a disgrifio iddyn nhw sut oedd bywyd yn ystod y rhyfel pan oedd yn byw yn Lerpwl, a sut roedd yn teimlo i fod yng nghanol y ‘blitz’. Ar un achlysur, roedd wedi mynd i weithio fel arfer ond oherwydd y bomio ni ddaeth adref am dri diwrnod, ar ôl treulio amser yn y gorsafoedd dan ddaear i fod yn ddiogel, ond heb fwyd na diod. Yn ffodus, roedd docwyr harbwr Lerpwl yn fodlon rhannu’r hyn oedd ganddyn nhw. Er ei bod yn poeni na fyddai ei chartref yn dal yno wedi’r bomio, roedd ei stryd hi’n gyfan ond collodd

sawl ffrind mewn stryd gyfagos a ddinistriwyd. Yn y blynyddoedd diweddar roedd wrth ei bodd yn cael dod i Ffrainc atom ni. Wrth ddod o’r awyren byddai’n cael ei thrin fel brenhines ac yn cael cymorth llawer i ddod i lawr y grisiau. Daeth yn ffrindiau efo llawer o’r bobl leol nad oedden nhw’n siarad Saesneg – na Chymraeg! Doedd Blod ddim yn poeni am bethau materol o gwbl gan ei bod yn gytûn â’r hyn oedd o’i chwmpas - ei chartref, ei theulu a’i chyfeillion hoff. Mae’r teulu’n hynod o ddiolchgar am y nifer o ffrindiau a fyddai’n cynnig mynd â Blod i’r amrywiol ddigwyddiadau yr oedd mor hoff ohonyn nhw, yn ogystal â’i ffonio’n gyson. Roedd ganddi egwyddorion cryf ac yn byw’n ôl y rheini. Er hynny, doedd hi byth yn barnu ac roedd yn meddwl y byd o bobl oherwydd yr hyn oedden nhw. Roedd yn hoff iawn o hwyl, ac roedd ganddi’r gallu i ymateb yn sydyn a doniol wrth i rywun dynnu ei choes. Serch hynny, roedd yn gallu bod yn ddifrifol pan oedd angen hynny ac yn gallu sgwrsio’n ddifyr efo pobl o bob oedran. Aeth aelodau o’r teulu â hi ar daith o Lerpwl ar fws heb do ac roedd yn egluro beth oedd yr holl adeiladau. Gan ei bod i’w gweld yn gwybod mwy na’r arweinydd swyddogol, cafodd wahoddiad i siarad ar y meicroffon! Mae llawer o bobl yn mynd a dod yn ein bywydau, ond ychydig iawn sy’n gwneud argraff mor gofiadwy â Blod. Mae gan bob un ohonom atgofion hapus iawn amdani a byddwn yn trysori’r rhain, fel yr oedd hi’n trysori ein cariad a’n cyfeillgarwch ni. Roedd Blod yn wir yn ddynes ryfeddol. Diolch Hoffai Glenys Parry ddiolch i’r teulu i gyd a ffrindiau am y cardiau, anrhegion, a blodau a gafodd ar achlysur dathlu ei phen-blwydd yn 80 yn ddiweddar. Rhodd a diolch £10

Diolch Dymuna teulu’r diweddar Blodwen Jones, 23 y Waun, Harlech, ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Mam, Nain, Hen Nain, Chwaer, Modryb a ffrind annwyl i bawb. Bu’r cacennau, blodau, galwadau ffôn, yr ymweliadau a’r cardiau yn gysur a chymorth iddynt. Diolch i holl staff Meddygfa Harlech ac i’r Ymatebwyr Cyntaf [First Responders] lleol. Diolch yn arbennig i’r Parch Bob Hughes am ei gefnogaeth a geiriau caredig, ac i’r organyddes Mrs Myfanwy Jones am wasanaeth hyfryd yn Amlosgfa Bangor ac Eglwys Sant Tanwg, Harlech. Diolch hefyd i Staff y Clwb Golff am baratoi’r lluniaeth. Diolch yn arbennig hefyd i holl staff Pritchard a Griffiths, Tremadog, am fod mor gefnogol a charedig ac am y trefniadau trylwyr ac urddasol. Bydd colled enfawr ar ei hôl. Gwên siriol oedd ei golud - a gweini’n Ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd; Bu fyw’n dda, bu fyw’n ddiwyd, A lle bu hon mae gwell byd. W Rhys Nicholas Rhodd a diolch £20 Gwellhad Dymunwn wellhad buan i ŵyr bach Bethan a Gordon Howie, Tŷ Canol, Harlech, sef Charlie Howie, mab Dylan a Vicky, sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Alder Hay, Lerpwl. Dymuna’r teulu ddiolch o galon i bawb am y galwadau ffôn a negeseuon, a dymunwn wellhad buan i Charlie bach. Rhodd a diolch £5 Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Steffan a Ffion ar enedigaeth merch fach, Cadi Mai, ar y 4ydd o Ebrill yn 7 pwys 7 owns, chwaer fach i Jac, wyres gyntaf i Heather a Merfyn, Pen yr Hwylfa, Harlech, a gor-wyres i Kate Lewis, Llanfair ac Emyr Rees, Harlech. Cofion at y teulu bach sydd yn byw yng Nghaerfyrddin.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 4 Ebrill, gan y Llywydd, Siriol Lewis a braf iawn oedd gweld yr aelodau i gyd yn bresennol. Darllenwyd cofnodion dau achlysur i ddathlu Gŵyl Ddewi ac aethpwyd drwy gofnodion y Pwyllgor Rhanbarth diwethaf gan nodi rhai materion. Trosglwyddwyd gwybodaeth ynglŷn â’r daith gerdded ar hyd glan afon Mawddach ar 17 Mehefin, y gystadleuaeth golff ar 20 Mai a Gŵyl Ranbarth Meirion ar 27 Ebrill. Cadarnhawyd yr archeb am gardiau Nadolig 2016 a dyddiaduron 2017 i’w anfon i’r swyddfa’n ganolog. Wedi cwblhau’r materion uchod, croesawodd Siriol ein gŵr gwadd, Steffan ap Owain o Flaenau Ffestiniog a oedd wedi dod atom i gyflwyno sgwrs ar y testun ‘Merched y dyddiau gynt’ gan sôn am y rhai oedd wedi gwneud eu marc a chwarae rhan amlwg mewn cymdeithas, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, ar hyd y canrifoedd. Trwy gyfrwng taflunydd, cawsom sgwrs ddiddorol a hanesyddol ganddo, ynghyd â gweld sleidiau arbennig o’n hardal. Cyflwynodd ei sgwrs yn hamddenol braf a diolchwyd i Steffan gan Gwenda Paul am yr holl hanesion difyr roedd wedi’u rhannu gyda ni. Paratowyd y baned gan Margaret a Dawn; enillwyr y ddwy raffl y noson yma oedd Ella a Mai. Diolch Dymuna Eirwen Roberts, Maes Trefor, ddiolch yn fawr iawn am yr holl gardiau, blodau, anrhegion a galwadau ffôn a dderbyniodd ar ddathlu ei phenblwydd yn 80 yn ddiweddar, ac i Mair, Hefina, Ceri, Sally, Michelle, a’r plant Sam, Mia, Ben a Charlie am y ‘te parti’ penblwydd. Llawer o ddiolch i chi i gyd. Diolch a rhodd £5

Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol Neuadd Gymuned Talsarnau Cynhaliwyd y cyfarfod uchod nos Lun, 25 Ebrill, ac er hysbysebu’n lleol mewn gwahanol leoedd, siomedig iawn oedd yr ymateb gan y gymuned leol. Yn wir, dim ond aelodau Pwyllgor Rheoli’r Neuadd oedd yn bresennol, ac mae’n fater o bryder i’r Pwyllgor bod cyn lleied o ddiddordeb gan aelodau’r gymuned mewn gofalu am yr adnodd pwysig yma. Mi fuasai’n biti garw pe bai’r neuadd yn gorfod cau oherwydd diffyg diddordeb lleol yn ei rhedeg. Dim ond 10 gwaith mewn blwyddyn mae’r Pwyllgor Rheoli’n cyfarfod a braf iawn fyddai gweld mwy o bobl ifanc yr ardal yn ymddiddori mewn cadw’r neuadd i fynd. Nid yw’n golygu gwaith – dim ond mynychu’r pwyllgor sy’n dechrau am 7.30, ar y 4ydd nos Lun yn y mis am 10 tro. Does dim cyfarfod ym mis Rhagfyr na mis Awst. Dowch i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor a gynhelir nos Lun, 23 Mai am 7.30 o’r gloch. Gwneir apêl arbennig am eich cefnogaeth. Cyflwynwyd Mantolen Ariannol y Neuadd am 2015-16 ac mae’n braf gallu adrodd bod y sefyllfa’n iach o ran yr arian, gyda nifer dda o weithgareddau’n cael eu cynnal yn gyson, ynghyd â nifer o achlysuron eraill yn defnyddio’r cyfleusterau gwych sydd yma. Gobeithiwn yn fawr iawn y bydd hyn yn parhau. Fe fydd swyddogion presennol y Pwyllgor Rheoli yn aros yn eu swyddi am flwyddyn arall: Cadeirydd: Eifion Williams Is-gadeirydd: Gwenda Griffiths Ysgrifenyddion: Mai Jones ac Anwen Roberts. Trysorydd: Margaret Roberts

Diolch

Dymuna Eleri Morgan, Tŷ Cerrig ddiolch yn ddiffuant iawn i’w holl gydnabod am bob ymholiad, y cardiau a’r blodau a bob arwydd o gefnogaeth a Yn yr ysbyty gafwyd yn ystod ei anhwylder Anfonwn ein cofion at Mr diweddar. Gwerthfawrogwyd y Richard Owen, Fuches Wen sydd cyfan yn fawr. wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Diolch a rhodd £10 Gwynedd yn ddiweddar.

10

Dangos Fideos Grŵp Trysorau Talsarnau Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp bychan lleol wedi derbyn hyfforddiant ar sut i greu cofnodion o ddigwyddiadau o fewn yr ardal ar ffurf fideos. Hefin Williams a Sarah o Deudraeth Cyf sydd wedi bod yn ein hyfforddi ac mae’r grŵp, sef Gwenda Griffiths, Anwen Roberts, Mai Jones, Margaret Roberts a Celt Roberts yn cael blas a llawer o hwyl yn ffilmio, tynnu lluniau a recordio gwybodaeth am yr ardal. Bellach mae 4 fideo wedi’u cwblhau a chafwyd cyfle i’w dangos yn y Neuadd Gymuned nos Lun 25ain Ebrill. Cafwyd cyfle i weld Ymweliad Merched y Wawr Talsarnau â’r Llyfrgell Genedlaethol; Trychineb y Cwch Fferi a suddodd yn 1863 rhwng Porthmadog a Thalsarnau; Ffilm fer ar Gapel Soar, Talsarnau a Hanes y Diwydiant Torri Tywyrch ar Draeth Talsarnau.

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i Drudwen a Llion Jones a’r teulu, Lliwen, yn eu profedigaeth o golli mam Drudwen. Rydym yn meddwl amdanoch. Diolch Dymuna Bil Roberts, Tremadog, ddiolch yn fawr am y cardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniodd ar ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar. Diolch hefyd am gael clywed Côr Godre’r Aran yn canu iddo ar raglen gais Dei Jones. Mae’n falch hefyd o gael dweud ei fod wedi derbyn llythyr gan reolwr tîm pêl-droed Arsenal. Diolch £5 Diolch Mi fyddai Meira a Celt yn dymuno diolch yn gynnes iawn i gymaint o bobl sydd wedi dangos consyrn, wedi bod yn holi ac am yr holl ddymuniadau da i Gwynedd a Dyfed – y ddau ohonyn nhw ddim wedi bod yn dda yn ystod y misoedd diwethaf. Mae pethau i’w gweld yn well erbyn hyn ac maen nhw’n dal i wella. Mae’r ddau ohonyn nhw’n cydnabod ac yn diolch yn fawr hefyd am bob cyswllt, neges a dymuniadau da.

Cafwyd ymateb braf gan y rhai a ddaeth i weld y 4 fideo ac mae edrych ymlaen at gael gweld rhai Gwellhad buan Dymunir gwellhad buan i Julie, eraill yn dilyn. 12-15 Stryd Fawr ar ôl iddi dderbyn llawdriniaeth frys ym Mangor rai dyddiau’n ôl. Mi gafodd Brymor dipyn o fraw!

Capel Newydd Talsarnau Gan fod cael cofnodion o ddigwyddiadau ar gof a chadw o fewn ein hardal yn bwysig a bod cyfle i gyflwyno hynny mewn dull efallai’n fwy diddorol na mewn print yn unig, fe fydd y grŵp yn parhau i gasglu a chyflwyno gwybodaeth. Gan fod y pethau hyn i gyd yn werthfawr, penderfynwyd bathu enw i’r grŵp, sef Grŵp Trysorau Talsarnau. Os oes unrhyw unigolion neu grwpiau lleol yn awyddus i recordio digwyddiadau o fewn ein hardal, mae posib benthyg camerâu o’r neuadd i dynnu lluniau neu/a recordio fideos.

Seiat dros ginio: 12:30-2:00 Bob dydd Iau yn ystod mis Mai. Darperir cinio ysgafn. Mai 5 - Oes ’na Dduw? Mai 12 - Pam fod pethau drwg yn digwydd? Mai 19 - Ydi’r Beibl yn wir? Mai 26 - Pwy oedd Iesu Grist? Cyfle i gael sgwrs anffurfiol am gwestiynau pwysig. Croeso cynnes i bawb. Oedfaon am 6:00 MAI 8 - Dewi Tudur 15 - Dewi Tudur 22 - Dewi Tudur 29 - Adrian Brake


Carcharorion rhyfel Almaeneg 1945-1947

Iolo Williams gyda’i fedal wedi iddo gwblhau marathon Llundain. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddo ar gyflawni’r fath gamp.

Diolch i May Wells, yr Ynys, am gael benthyg y ddau lun yma o garcharorion rhyfel a arferai fyw mewn camp ar dir fferm Tŷ Cerrig, Talsarnau. Arferai’r ffermwyr lleol ddod i nôl unigolion i weithio iddyn nhw fesul diwrnod. Roedden nhw’n weithwyr hynod o galed ac yn cael bwyd i fynd efo nhw i’w rannu yn y camp fel cyflog. Byddai arweinydd yn eu martsio i’r capel bob Sul – sef i’r Eglwys Gatholig yn Harlech. Roedd Albert Wells yn un o’r rhai oedd yn gofalu amdanyn nhw, ac mae May yn cofio enwau fel Walter Paslat, o’r Bryn ger Draenogan, ac Albert Stumpp, a ymgartrefodd yma ar ôl y rhyfel.

Cpl Albert Wells, 1947 Arferai Paslat weithio i’r War Ag ers talwm. Tybed fedar rhywun roi mwy o wybodaeth i ni am y carcharorion yma?

Cilfor Llandecwyn

22 Castle Park Newtown Forbes LONGFORD Iwerddon Annwyl Olygydd, Dim ond pwt byr i nodi fy ngwerthfawrogiad o gael Llais Ardudwy yn electronig bob mis. Mae’n gymorth mawr i gadw cysylltiad â’r ardal. Pob dymuniad da i bawb sy’n gweithio ar y papur. Diolch yn fawr. Yn ddiffuant Bili Jones Rhodd £10

Annwyl Olygydd, Gair bach i ddweud cymaint wnes i fwynhau eich erthygl am Aloe vera yn rhifyn diwethaf Llais Ardudwy. Yn union fel Ann a Gerallt Evans, mae gen innau ffydd mawr ynddo fo. Mi gefais i doriadau gan fy nghyfnither, Elen ac rwyf wedi anfon un at Phil. Mi fydd yn iawn os torrith ei fys eto! Diolch am bapur difyr bob mis. Yn gynnes, Margaret Roberts

Rhai o’r carcharorion o’r Almaen a ddaeth yma ar ôl yr ail ryfel byd.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Gwelwn o wisgoedd y dynion yma bod eu gorchwylion yn ystod y rhyfel wedi amrywio’n fawr. Yn y cefndir gwelir bryncyn yr Ynys y tu ôl i fferm Tŷ Cerrig.

Honda Civic Tourer Newydd

Wedi cwympo Anfonwn ein cofion at Mrs May Wells, Yr Ogof, Ynys, sydd wedi cwympo a thorri ei chlun, ac wedi cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Mae pobl yr ardal i gyd yn cofio atoch ac yn dymuno gwellhad buan i chi, felly hefyd gyflwynwyr Radio Cymru sy’n eich nabod yn dda.

11


BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

Ardudwy

Straeon Gwin o Ddolgellau i Verona

Cofio Dick White Ar 12 Chwefror bu farw Richard White o Gricieth, a oedd yn adnabyddus i bawb fel Dick. Cynhaliwyd ei angladd yn yr Amlosgfa ym Mangor ar 18 Chwefror. Roedd newydd gyrraedd ei ben-blwydd yn bedwar ugain ar 31 Ionawr. Ganwyd ef yn Birmingham ond symudodd y teulu i Harlech yn 1940 i osgoi’r bomio yn y ddinas. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Harlech ac yna aeth i Ysgol Ramadeg y Bermo. Roedd yn aelod medrus o dîm pêl-droed yr ysgol. Ar ôl gadael, aeth yn brentis i Jimmy Black, y golffiwr proffesiynol, yng Nghlwb Golff

12

Harlech. Roedd Dick yn aelod brwdfrydig o Fand Arian Harlech a phan wnaeth ei wasanaeth milwrol yng Nghatrawd y Parasiwtwyr dewisodd ymestyn ar ei gyfnod a bu’n fyfyriwr yn Kneiller Hall, ysgol gerddoriaeth filwrol. Dros y blynyddoedd câi fwynhad o fynychu perfformiadau bandiau pres yn Harlech neu Borthmadog. Priododd â Glenys Owen, yn enedigol o Bwllheli, yn 1960 a ganwyd tri mab iddynt – efeilliaid, Martin a Michael, ac yna Peter. Magwyd y tri yn y dref. Arallgyfeiriodd Dick yn 1969 ac aeth i’r Coleg Normal i’w gymhwyso ei hun fel athro. Yn 1972 apwyntiwyd ef yn athro yn Ysgol Glan y Môr lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1992. Saesneg oedd ei brif bwnc a dangosid parch uchel tuag ato gan y disgyblion a ddysgai, a pharhaent i ddangos hoffter ohono. Fe’i collir gan ei ffrindiau ond yn arbennig gan Glenys a’r hogiau. Estynnwn ein cydymdeimlad dwys iddynt.

Cafodd perthynas fusnes hir-sefydlog rhwng gwneuthurwr gwin o’r Eidal a mewnforiwr gwin o Gymru ei selio gyda chyflwyno llyfr yn y ffair win enwog Vinitaly yn Verona yn ddiweddar. Fe deithiodd Dylan Rowlands a dau aelod o staff, Emma Williams a Terri Jones, i’r Eidal gan fynd â chopi gyda hwy o’r gyfrol newydd ‘Rarebit and Rioja - Recipes and Wine Tales from Wales’ i’w gyflwyno i Vincenzo Bossotti a’i ferch Cristina. Mae gwinllan Bossotti yn ymddangos yn llyfr y mewnforiwr gwin o Gymru sydd yn trafod gwahanol fathau o win. Mae penodau a ryseitiau’r llyfr wedi eu strwythuro o amgylch y gwahanol wledydd sydd yn cynhyrchu gwin o’r sawl mae Dylan yn eu mewnforio ac fe adroddir straeon ei deithiau o amgylch Ewrop yn chwilio am win. Mae Vincenzo yn ymddangos – yn addas iawn - yn y bennod gyntaf. Dechreuodd y stori gyda chamau cyntaf Dylan i’r byd gwin wrth iddo fentro i Turin yn yr Eidal bymtheg mlynedd yn ôl er mwyn darganfod y gwinoedd cyntaf i’w mewnforio a mynychu’r union un ffair win – tipyn o gamp gan fod dros bum mil o gynhyrchwyr gwin ar y safle. Yma cyfarfu â Vincenzo cyn ymweld â’r winllan yr oedd ef yn ei rhedeg gyda’i deulu yn Cisterna D’asti, mewn tref hardd ar ben bryn yn Piedmonte, yng ngogledd yr Eidal. Creodd ansawdd arbennig gwinllan Bossotti argraff ar Dylan yn syth. “Mae safon a gonestrwydd y gwneuthurwr gwin yn holl bwysig mewn partneriaeth fel hon ac mae’n rhaid i chi ymddiried yn yr unigolyn yr ydych chi’n masnachu gyda fo i fod yn gyson. Dyw’r teulu Bossotti erioed wedi fy ngadael i lawr dros y blynyddoedd ac rwy’n falch o werthu gwin y cynhyrchwyr hyn”, meddai Dylan. “Does fawr o amheuaeth bod angerdd y teulu yn cael ei adlewyrchu yn eu cynnyrch – o’r labeli hardd i’r gwin yn y botel. Hir oes i’r berthynas Eidaleg – Gymreig hon!’ meddai. Saif siop win a chaffi bar Gwin Dylanwad Wine ym Mhorth Marchnad yn Nolgellau. Ers 2003 mae Dylanwad wedi bod yn mewnforio gwinoedd unigryw yn uniongyrchol o Sbaen, Ffrainc, yr Eidal ac Awstria. Mae’r rhain ar gael i’w hyfed neu eu prynu yn Gwin Dylanwad Wine neu i’w dosbarthu drwy Brydain. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine


CYNGOR CYMUNED HARLECH

STORFA CANOLBARTH CYMRU www.midwalesstorage.co.uk STORFA CARTREF A BUSNES

Ystafelloedd storio ar gyfer eich anghenion Monitro diogelwch 24 awr - wedi’i wresogi Siop ar lein: www.boxshopsupplies.co.uk Ffôn: 01654 703592 Heol y Doll, Machynlleth, Powys SY20 8BQ

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy

Cae Chwarae Brenin Siôr Derbyniwyd llythyr gan ysgrifennydd y Clwb Rygbi yn nodi eu bod yn bwriadu ailwampio’r llifoleuadau ar y tir hyfforddi. Cytunwyd i ofyn iddynt osod goleuadau newydd cyn gynted â phosib oherwydd nad yw’r rhai presennol i fyny â’r gofynion. Hysbysfyrddau Mae’r hysbysfwrdd yn dal i edrych yn flêr a chytunwyd i archebu un newydd yn ei le. Gwaith Cymunedol Bydd myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor yn gwneud gwaith cymunedol gan lanhau a pheintio’r sedd ger y toiledau yn y gwaelod ar yr A496, peintio’r hysbysfwrdd ger Siop y Morfa a chasglu ysbwriel o draethau Harlech a Llandanwg. CEISIADAU CYNLLUNIO Caniatâd Adeilad Rhestredig i dynnu ymaith dwy ystafell ymolchi a newidiadau i i’r llawr cyntaf - Crown Lodge. Cefnogi’r cais hwn. Croesawyd Mr Geraint Lewis, pensaer o Lanelltyd, i drafod y cais cynllunio canlynol: Estyniad i’r parc â newid defnydd o dir amaethyddol i greu unedau gwyliau - Safle Preswyl Pant Mawr. Gwrthwynebwyd y cais hwn oherwydd ei fod yn mynd yn erbyn polisïau’r Parc Cenedlaethol i gyd ac roedd pryder hefyd gan yr aelodau ynglŷn â mwy o drafnidiaeth ar ffordd gul; hefyd, nad oedd angen lleol am fwy o dai o’r math yma. Cais am gymorth ariannol Cylch Meithrin Harlech - £750 UNRHYW FATER ARALL A yw’r llwybr sydd yn cyd-redeg ag ochr gwesty’r Queens yn un cyhoeddus? Nid yw cae chwarae Llyn y Felin byth wedi ailagor. Mae car yn dal i gael ei barcio ger ceg y llwybr sy’n mynd i gae chwarae Llyn y Felin er bod arwydd ‘dim parcio’ yno. Datganwyd siom a phryder bod cymaint o olwg ar y stesion. Penderfynwyd gwahodd PCSO Darren Walters i gyfarfod y mis nesaf a hefyd un o Heddlu Trafnidiaeth Prydain er mwyn cael gwybod beth maent yn mynd i’w wneud ynglŷn â’r stesion. Datganwyd pryder ynglŷn â chyflwr rhan o’r ffordd drwy’r dref yn enwedig o’r Hen Lyfrgell draw am Glogwyn Villa. Cafwyd gwybod bod darn o’r ffens o dan Blas Owain wedi disgyn i’r ffordd a bod pridd wedi dod i lawr hefyd.

Noson Gosod Blodau yng nghwmni Edwina Evans Merched y Wawr, Harlech a Llanfair

13


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

01766 780186 07909 843496

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

14

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014


BETH AM OSOD MAINC YN EICH GARDD? Dyma i chi rai syniadau!

15


CYSGODFAN ANDERSON THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr ffoniwch 01766 780667 neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Amser y digwyddiadau isod yn amrywio - ewch i’r wefan i gael y manylion llawn.

Mai 2016

Ffilm: Batman v Superman: Dawn of Justice, 1- 6 Mai Criw Celf Bach - 7 Mai, 11 Mehefin, 2 Gorffennaf Ffilm: The Jungle Book (PG), 7 - 11 Mai Ffilm -‘Eye in the Sky’ (15), 16 - 20 Mai Ffilm: Adrift in Tokyo (PG) - 19 Mai Sioe yn y theatr ‘A Regular Little Houdini’ - 21 Mai Ffilm: Robinson Crusoe (PG), 28 - 31 Mai, 1 - 4 Mehefin

PENCAMPWRIAETH DEUATHLON EWROP

Yn dilyn hanes Elfyn Anwyl yn ein rhifyn diwethaf yn dod o hyd i gysgodfan Anderson yn ei ardd yn Ciltan, Harlech, addawson ni chwilio am ragor o wybodaeth am y gysgodfan. • Fe gafodd ei gynllunio yn 1938 gan Syr John Anderson, ef oedd yn gyfrifol am baratoi gwledydd Prydain i wrthsefyll y cyrchoedd bomio gan yr Almaenwyr yn ystod y rhyfel. • Cynlluniwyd y gysgodfan ar gyfer 6 o bobl. • Roedd ei gwneuthuriad yn weddol syml. Y brif ran oedd 6 panel o ddur - 4 i greu’r ochrau ac 1 ym mhob pen, gydag un panel yn cynnwys y drws. • Y mesuriad oedd 1.4m o led, 2m o hyd ac 1.8m o daldra. Roedd yn anodd iawn i rywun oedd yn mesur 6 troedfedd i sefyll ynddi. • Wedi eu codi, cawsant eu claddu dros 1 metr o dan y ddaear a’u gorchuddio gan haen dew o bridd a thywyrch. • Roedd y gysgodfan yn costio £7 ond roedd i’w chael am ddim os oedd eich incwm yn llai na £250 y flwyddyn. • Codwyd oddeutu 3.5 miliwn ohonyn nhw. • Dywedir eu bod wedi chwarae rhan allweddol wrth achub bywydau a rhwystro anafiadau. • Roedden nhw’n llefydd sobor o oer yn ystod misoedd y gaeaf. • Credir bod llawer wedi goroesi ac wedi eu cadw. • Defnyddiwyd rhai fel siediau garddio. Tybed a oes rhagor ohonyn nhw yn yr ardal? Rhowch wybod. Diolch.

DYWEDIADAU AM Y TYWYDD Mis Mai

Awel oer mis Mai, ni wna’r cnydau ddim llai. Mis Mai oer a wna’n ddi-nag sgubor lawn a mynwent wag. Mai oer a gwlyb, llond lle o ŷd. Glaw Sulgwyn, ffrwythlon drwy’r flwyddyn. Glaw fis Mai i ladd llau. Dau leuad llawn ym mis Mai, dim cynhaeaf a dim cnau.

16

Llongyfarchiadau i Gethin Wyn Owen, mab Ray a Barbara Owen, Llwyn Ynn, Talybont, ar gymhwyso i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Deuathlon Ewrop. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Kalkar, tref fechan yng ngorllewin yr Almaen. Roedd Gethin yn cystadlu yn yr hyn a ddisgrifir fel deuathlon sbrint, lle’r oedd disgwyl i’r athletwyr redeg 5 cilomedr, trosglwyddo i’r beic am ras 20 cilomedr cyn gorffen trwy redeg 2.5 cilomedr ychwanegol. Yn ei gategori oedran, 40-44 oed, llwyddodd Gethin i orffen yn y nawfed safle. Yn ôl Gethin, bu’n brofiad anhygoel ac mae’n gobeithio cyrraedd y safon cymhwyso eto’r flwyddyn nesaf, a hwyrach gyda mwy o ymarfer, gorffen mewn safle uwch. Yn y llun, gwelir Gethin yn ymlacio ar ôl y ras yng nghwmni ei ferched, Eva a Ria.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.