Llais chwefror 2014

Page 1

Llais Ardudwy 50c

CADAIR I ELAN

RHIF 427 CHWEFROR 2014

Y prif lenor, ac enillydd y Gadair yn eisteddfod Ysgol Ardudwy eleni, oedd Elan Roberts. Llongyfarchiadau cynnes iddi.

PLYGAIN

Cafwyd llwyddiant ysgubol yn ail Blygain Cyfeillion Ellis Wynne yn Eglwys y Santes Fair yn Llanfair. Roedd yr Yn dilyn y llifogydd mewn cartrefi a thir amaethyddol yn Llanbedr eglwys eto’n llawn, a’r cadeiriau yn ddiweddar, dywedodd y Cyng Annwen Hughes mewn cyfarfod ychwanegol yn y cefn yn llawn. lleol bod cyfathrebu a chydweithio yn hollbwysig i ddatrys rhywfaint Cafwyd carolau gan amrywiaeth o’r difrod a achoswyd. “Yn ogystal â difrod i dai ac eiddo personol, eang o unigolion, deuawdau, collwyd stoc, porthiant, peiriannau a cherbydau i ddŵr y môr. triawdau a phartïon, ac roedd Rydym yn ddiolchgar na ddaeth niwed i unrhyw unigolyn; rhaid i y sain yn fendigedig. Gwelwyd ni ddiolch am hynny. Mae’n dorcalonnus gwylio anifeiliaid yn cael ffrwyth llafur yr ymarferion yn eu hysgubo i ffwrdd gan y môr a ffermwyr yn sefyll yno’n gwylio’n y Lasynys hefyd wrth i’r criw ddiymadferth - teimlad digalon iawn. oedd wedi bod yn ymarfer “Mae’r ymdeimlad cymunedol, cefnogaeth teulu, ffrindiau a gymryd rhan, ac mae’n rhaid i chymdogion yng nghanol yr helbul wedi cadw pawb ar fynd. Roedd mi ddweud eu bod wedi canu’n cymdogion yn cyrraedd o bob man gyda pheiriannau i gynorthwyo. ardderchog. Da iawn chi. Mae’r agosatrwydd o fewn y byd amaeth yn un arbennig iawn. Rhaid i ni bellach ddechrau cyfri’r gost a gweithio gyda’r asiantaethau i glirio a cheisio rhywfaint o normalrwydd eto,” eglurodd Y Cynghorydd Hughes. Mae’r gwaith wedi dechrau ar greu ffordd i gael mynediad at y bwlch yn y clawdd llanw. Llwyddodd y pwyllgor lleol i berswadio swyddogion i ddefnyddio gwastraff chwarel o Chwarel Hen, Llanfair yn hytrach na chario yr holl ffordd o’r Blaenau. Arfon Gwilym Yn y cyfamser, er mwyn atal rhywfaint ar y llanw, bydd bagiau mawr yn llawn cerrig yn cael eu cario o’r Blaenau i’r maes awyr ac yna bydd Braf iawn yw cydweithio gyda’r hofrennydd yn eu codi a’u gosod yn y bwlch. eglwys i drefnu’r gwasanaeth

LLIFOGYDD LLANBEDR

blynyddol hwn a hoffwn ddiolch yn fawr i’r Canon Beth Bailey a swyddogion yr Eglwys am eu cydweithrediad a’u brwdfrydedd. Mae’r berthynas hon, a’r cysylltiad amlwg rhwng Ellis Wynne â’r eglwys, yn hynod bwysig i’r Cyfeillion, a’r gobaith yw cydweithio eto yn y dyfodol. Mae cynllun ar waith i drefnu gwasanaethau gyda chyfuniad o deithiau cerdded ag adloniant yn y gwanwyn, i

Gerallt Rhun yn dweud gair ar ddechrau’r gwasanaeth. ddathlu Calan Mai. Cewch fwy o fanylion yn fuan. Diolch o galon i’r holl blygeinwyr am roi gwledd i’r glust. Cafwyd gwledd o swper hefyd yn Neuadd Goffa Llanfair, a diolch o waelod calon i bawb a gyfrannodd tuag at y bwyd. Mae’n braf iawn fod cymaint ohonoch mor gefnogol i Gyfeillion Ellis Wynne ac yn barod i helpu bob tro.

Iwan Morgan Diolch arbennig i Anwen Roberts, Mai Jones, Elisabeth Roberts, Bet Roberts, Gweno Glyn a Mair Tomos Ifans am weini degau o baneidiau a golchi’r holl lestri, a chlirio. Catrin Glyn


Llais Ardudwy

Dywediadau HOLIADUR am y Tywydd HWYLIOG

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

14 Stryd Wesla, Porthmadog (01766 514774

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (280788 David Jones(280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (247725 Susan Groom (247487 Llanbedr Gweneira Jones (241229 Susanne Davies (241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (780759 Bet Roberts (780344 Ann Lewis (241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (780789 Carol O’Neill (780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (771238 Anwen Roberts (770736 Gosodir y rhifyn nesaf ar Chwefror 28 am 5.00. Bydd ar werth ar Mawrth 5. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Chwefror 25 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Yn anffodus, nid yw’n bosib i ni gynnwys newyddion hwyr.

2

CHWEFROR

Chwefror teg yn difetha’r unarddeg. Os yn Chwefror tyf y pawr Trwy’r flwyddyn ni thyf fawr. (pawr = porfa) Ni saif eira fis Chwefror, mwy nag ŵy ar ben trosol. Chwefror a leinw’r cloddiau a Mawrth a’u tyf yn foleidiau. Byr yw Chwefror ond hir ei anghysuron. Ceir oeraidd dymor ar ddiwedd Chwefror. Chwefror a chwyth y neidr oddi ar ei nyth.

Carwyn Evans Yr Hen Swyddfa Bost Bontddu

Am astudio Cerdd Lefel A TGAU neu AS? Eisiau gwersi ychwanegol? Eisiau gwersi preifat yn eich ardal?

Awydd chwarae offeryn pres?
 Ffôn : 01341 430342 / 07974 139530

Un sydd wedi dysgu Cymraeg, a hynny yn dda iawn, yw Lucinda Yemm. Enw: Lucinda Yemm Gwaith: Wedi ymddeol ond roeddwn i’n arfer gweithio i’r heddlu yng Nghaint yn ymweld â safleoedd lle’r oedd trosedd wedi digwydd. Man Geni: Mi ges i fy ngeni yng Nghaerwynt (Winchester). Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n mynd i’r pwll nofio yn wythnosol. Dwi’n hoffi cerdded yn y mynyddoedd o nghwmpas i. Dwi hefyd yn mynd i ddosbarth Pilates yn Nhalsarnau ac yn mynd ar gefn fy meic. Dwi’n garddio yn fy ngardd sydd fel dryswig!! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Wel, dwi ddim yn darllen digon a dweud y gwir, ond dwi’n hoff iawn o nofelau Thomas Hardy. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi’n mwynhau gwrando ar y radio yn ystod y dydd, yn enwedig Radio 4, ond gyda’r nos dwi’n mwynhau gwylio rhaglenni fel ‘Y Côr’ [ond mae’n gas gen i locsyn Gareth!] a ‘Homeland’. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n meddwl mod i ond weithiau dwi’n gorfwyta.

SIOP DEWI MWY NA SIOP BAPUR

14 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth 01766 770266 Dewi11@btconnect.com Ar Agor: Llun–Sadwrn o 6.00 tan 6.00, Dydd Sul o 6.00 tan 1.00

BARA A BWYDYDD POETH

Y dewis gorau o bapurau a chylchgronau, melysion, baco, mapiau, llyfrau, diodydd meddal, hufen iâ a Loteri.

Hoff fwyd? Wel ers i mi fod yn India dwi’n casáu cyrri, achos roeddwn i mor sâl! Felly, dwi’n mwynhau popeth [heblaw cyrri!]. Hoff ddiod? Gwin coch, gwin gwyn, gin a thonic, Guinness... ac yn y blaen! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Haf, wrth gwrs, a Mair ac Edwin a Doc. Pa le sydd orau gennych? Harlech wrth gwrs. Cwestiwn twp! Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Seland Newydd. Beth sy’n eich gwylltio? Ar hyn o bryd yr hyn sy’n fy ngwylltio fwyaf ydy bod Pont Briwat ar gau mor aml. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn wir i’w hunan. Pwy yw eich arwr? Fy hen athrawes ddaearyddiaeth. Roedd hi’n llym iawn ac roedd gen i ei hofn, ond roedd yn rhaid i mi weithio’n galed yn ei gwersi ac mae’r hyn wnaeth hi ei ddysgu i mi wedi aros yn y cof. Does dim diwrnod yn mynd heibio nad wyf yn meddwl amdani, yn arbennig pan fyddaf yn gweld ffurfiant y tirwedd o fy nghwmpas yma yng nghysgod yr Wyddfa. Beth yw eich bai mwyaf? Does gen i DDIM amynedd o gwbl! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Dwi’n casáu pobl sy’ ddim yn cadw apwyntiad. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gwylio machlud haul o feranda ein tŷ a gwydryn bach yn fy llaw. Eich hoff liw? Glas wrth gwrs. Eich hoff flodyn? Unrhyw flodyn gwyn. Eich hoff fardd? John Bunyan. Eich hoff gerddor? Dwi’n eitha hoff o Bizet a dwi’n hoffi Schumann. Pa dalent hoffech chi ei chael? Fe hoffwn yn fawr pe bawn i’n gerddorol. Eich hoff ddywediad? Yn yr ardal hon – ‘Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus iawn.


Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Fel arfer cynhaliwyd y noson yn y Ganolfan Gymunedol ar nos Fawrth y 12fed Ionawr am 7 o’r gloch o dan Lywyddiaeth Llewela. Yn gyntaf gwaith trist oedd cydymdeimlo gydag Iris, Gretta a Catherine Richards oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Wedyn symud ymlaen i waith mwy pleserus o longyfarch Dorothy a Gareth ar ddod yn Nain a Thaid i Gwenno Fflur. Cafwyd adroddiad byr gan Jean am Gwrs Crefft y Gogledd ym Mhlas Isaf, Corwen ar ddydd Sadwrn 18fed o Ionawr. Dewiswyd Iris a Jean i wneud baneri i babell MyW yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala. Croesawyd y wraig wadd, Catrin Cwmrafon, atom am weddill y noson. Hir fu’r disgwyl gan iddi orfod gohirio’r noson yn yr Hydref pan fu iddi golli ei brawd. Cawsom noson ddifyr iawn a hanesyddol dros ben yn ei chwmni yn sôn am ei phlentyndod yn Nhrawsfynydd adeg y Rhyfel cyn symud i fyw i Gwmrafon. Roedd ganddi wrth gwrs hanes Capel Salem yn llawn o atgofion melys iawn a hynod o addysgiadol a diddorol. Diolchwyd iddi gan Dorothy. Enillwyd y raffl gan Gwyneth. Roedd y te o dan ofal Elinor, Gwenda a Mair.

Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 8 Ionawr cawsom noson ddifyr a hwyliog ar saffari yng nghwmni Mai a Dei Roberts, Dyffryn Ardudwy. Agorwyd y noson gan ddangos eu taith ar fap mawr gyda Mai yn mynd un ffordd a Dei’r ffordd arall, ond yn y lluniau roedd y ddau gyda’i gilydd! Cawsom weld golygfeydd godidog ar draws gwlad Namibia ac roedd ganddynt grefftwaith amrywiol a diddorol i’w ddangos. Diolch i Alma am lywyddu a threfnu’r noson. Dramâu Nos Fercher, 12 Chwefror bydd cyfle i weld dwy ddrama fer yn Theatr y Ddraig am 7.30yh. Trefnir y noson ar y cyd gan Gymdeithas Gymraeg Y Bermo a Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch. Beth am ddod i gefnogi? Bydd yn noson hwyliog. Nos Fercher, 12 Chwefror Perfformir dwy ddrama fer gan Gwmni Drama Dinas Mawddwy yn Ystafell y Celfyddydau, Theatr y Ddraig, Y Bermo am 7.30 yh Mynediad am ddim ond bydd cyfle i brynu raffl.

Cyngor Tref Penrhyndeudraeth

Cytundeb: Gwaith agor beddau ym Mynwent Minffordd Gwahoddir tendrau am gytundeb 3 blynedd gan gontractwyr profiadol gyda chofrestriad CHAS neu gyffelyb

Cefnogi Harlech yn ystod cyfnod anodd

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i faes parcio cymunedol un o drefi Meirionnydd fel arwydd o ddiolch i bobl leol am eu hamynedd wrth i waith adeiladu gael ei gwblhau ar ffordd bwysig yn yr ardal. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cyngor y bydd yr hen Bont Briwet yn anffodus yn cau yn barhaol oherwydd materion diogelwch. Ym mis Mai 2014 bydd pont ffordd dros dro yn agor yn lle’r hen bont 154 mlwydd oed, hyd nes bydd gwaith i godi pont ffordd a rheilffordd newydd gwerth £20 miliwn yn cael ei gwblhau. Mae pryderon wedi eu lleisio’n lleol am effaith hyn ar draffig, a’r sgil-effaith posibl ar yr economi lleol, gan fod rhaid i deithwyr wneud taith llawer hirach rhwng Llandecwyn a Phenrhyndeudraeth. Bu i’r Cynghorydd Caerwyn Roberts ddod â’r pryderon lleol i sylw’r Cyngor, a thrafodwyd y mater gyda swyddogion o’r Cyngor. Bydd y Cyngor felly’n ail-wynebu’r ffordd sy’n arwain o’r brif ffordd i Bwll Nofio Harlech fel dull o gefnogi Harlech a’r ardal gyfagos yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r pwll nofio yn boblogaidd gydag ysgolion lleol a bydd yn ganolog i’r triathlon yn y gwanwyn. Bydd y gwaith yn sicr yn rhoi hwb ariannol i Harlech. Bydd hefyd o fudd i’r economi leol gan fod y maes parcio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth parcio-atheithio, sydd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn ystod yr haf. Mae’r gwaith ail-wynebu yn cyd-fynd gyda’r gwaith uwchraddio yn y castell, lle mae canolfan wybodaeth newydd yn cael ei hadeiladu. Dywedodd y Cynghorydd Caerwyn Roberts: “Dyma newyddion gwych i Harlech. Mae cyflwr y ffordd hon wedi bod yn peri pryder ers peth amser, ond does dim cyllid wedi bod ar gael yn y gorffennol i ddatrys y broblem. Dw i’n falch iawn fod y gwaith yma am gael ei gwblhau. Dw i’n hyderus hefyd y bydd y gwaith yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r pwll nofio lleol, sydd yn adnodd cymunedol hynod bwysig yn ogystal â chyfrannu i’r economi leol ehangach.” Mae disgwyl i’r gwaith o ail-wynebu’r ffordd ddechrau yn fuan. Neuadd Gymuned, Talsarnau

GYRFA CHWIST

Neuadd Goffa, Llanfair GYRFA CHWIST

yr ail Nos Iau yn y mis am 7.30 o’r gloch

3ydd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch

LLUN ARALL O LANBEDR

Manylion pellach a phecyn tendro ar gael gan: Glyn E Roberts Clerc Cyngor Tref Penrhyndeudraeth 3 Tai Meirion Beddgelert, Gwynedd LL55 4NB 01766 890483 - glynctp@btinternet.com Dyddiad cau derbyn y tendrau: Dydd Gwener 8 Mawrth 2014

Hofrennydd yn cludo bagiau tywod i gau’r bwlch yn y clawdd llanw ar Forfa Llanbedr. Diolch i Iolyn Jones am y llun.

3


LLANFAIR A LLANDANWG Iorwerth Simon 1924 - 2014

Ganwyd Iorwerth yn 1924, y canol o dri o blant, Gwenfair, Iorwerth a John, i Robert a Jane Simon yng Nghwmtirmynach, lle’r oedd ei dad yn athro ysgol. Ychydig flynyddoedd y bu yng Nghwmtirmynach, cyn i’r teulu symud, ac i’w dad ddod yn brifathro yn Arthog. Yn Arthog y lluniwyd ei feddylfryd, yn ysbrydol, yn addysgol ac yn ddiwylliannol, ac ar ôl pasio’r 11+, aeth i Ysgol Ramadeg y Bermo. Mae nifer o’i gyfoedion yn ei gofio yn yr ysgol fel bachgen tawel, a galluog iawn, nid yn unig yn y meysydd academaidd, ond hefyd ar y cae pêl-droed. Treuliodd gyfnod yng Ngholeg yr Annibynwyr, a thra yno cafodd wahoddiad i de efo’r Parch a Mrs R G Owen. Gweinidog Capel Pendref ym Mangor, a daeth Rhiannon eu merch ac yntau’n ffrindiau. Erbyn dechrau’r pumdegau roedd Iorwerth wedi dod adref a chychwynnodd ar ei yrfa dysgu yn Ysgol Ramadeg y Bermo. Rhyw flwyddyn ar ôl sefydlu Ysgol Ardudwy yn 1957, priodwyd Iorwerth a Rhiannon, a symudodd y ddau i fyw i Lys Tanwg yn Llanfair. Oddi yno wedyn i lawr y ffordd i’r Wern Las yn Fron Deg, lle bu i’r ddau gydfyw yn hapus hyd ddiwedd eu hoes. Ar ddiwedd y saithdegau penodwyd Iorwerth yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Ardudwy. Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig yn 1980 bu farw’r pennaeth ar y pryd, Mr J O Jones yn ddisymwth. Daeth Iorwerth yn bennaeth dros dro yn Ionawr 1981, a bu yn y swydd am flwyddyn gron. Unigolyn tawel a phreifat oedd Iorwerth, ond fe weithiodd yn ddiflino dros ei enwad yn y cylch rhwng Bryn Tecwyn a’r Bermo. Roedd yn flaenor, yn ysgrifennydd ac yn ofalwr Capel Bethel yn Llanfair, a gwnaeth y gwaith yma eto am flynyddoedd lawer. Pan dorrodd ei iechyd fel na allai barhau gyda gofal y capel, caewyd yr achos a bu hyn yn gryn ergyd iddo. Er hyn ni phallodd ei ffydd a pharhaodd i fynychu oedfaon y Bedyddwyr yn Llanfair. Ymddeolodd Iorwerth o Ysgol Ardudwy ym 1984, ac er iddo gael 30 mlynedd o ymddeoliad, bu’r blynyddoedd hynny yn rhai digon trafferthus. Ymdrechodd yn galed ar ôl cael y strôc i gynnal ei ddiddordeb mewn nifer o feysydd ac yn eu mysg rhestrai’r hen drenau stêm, cerddoriaeth, pêl-droed a rygbi ac wrth gwrs y datblygiadau diweddaraf yn y byd gwyddonol. Fe fu cyfnod pan oedd y ddau, Iorwerth a Rhiannon mewn gwahanol ysbytai ar yr un pryd ac yna yn 2005 bu iddo golli ei frawd John ym mis Ionawr, ac yna Rhiannon chwe mis yn ddiweddarach. Bu hynny’n ergyd drom arall iddo. Ers hynny bu Iorwerth ei hunan i mewn ac allan o’r ysbyty nifer o weithiau, ond o hyd fe ddychwelai i’r Wern Las ac yn ôl i ofal llu o ofalwyr. Fe gafodd ofal tyner a charedig gan bob un ohonynt. Hoffai’r teulu ddiolch yn ddiffuant i’r gofalwyr hynny, i Mr Gwilym Jones, Mrs Meinir Lewis a’r holl gymdogion a chyfeillion a fu mor garedig wrtho dros y blynyddoedd. Rwy’n sicr y byddai Iorwerth ei hunan am ddiolch i ddau arall, sef Nia ei nith a’i gŵr Dyfrig. Ers colli Rhiannon ddaeth Nia’r holl ffordd o Fangor i ymweld ag Iorwerth yn wythnosol; un waith yn unig y bu iddi fethu a dod, a hynny oherwydd eira.

Er y gallai sgwrsio yn ddi-ben-draw, nid oedd yn un i afradu geiriau. Cefais sgyrsiau diddorol iawn yn ei gwmni a dangosai ddiddordeb bob amser yn hynt a helynt y teulu. Mae’n debyg mai dyma eich profiad chithau hefyd. Diolchwn am bob atgof ohono a thrysorwn yr atgofion hynny. [Detholiad o’r deyrnged a draddodwyd gan Huw Dafydd.]

4

CYNGOR CYMUNED

Coed yn y fynwent Cysylltwyd gyda Tree Fella am bris i wneud y gwaith a gofyn iddo gyfarfod â Robert G Owen ar y safle’n gyntaf. Nid oedd Tree Fella wedi bod mewn cysylltiad eto a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gydag ef unwaith yn rhagor. Adroddwyd bod Mr Emlyn Griffiths wedi trwsio’r llechen oedd wedi dod yn rhydd ar do porth yr eglwys. Presept y Cyngor Penderfynwyd codi’r presept o £5,750 i £6,500 ar ôl ystyried y cyfraniadau y mae’r Cyngor yn mynd i’w cyfrannu i’r Neuadd Goffa a’r pwll nofio’n flynyddol. GOHEBIAETH Pwyllgor y Neuadd Derbyniwyd llythyr diolch am y cyfraniad ariannol a gafodd y pwyllgor yn ddiweddar. Cyngor Gwynedd - Aelod Cabinet Amgylchedd Eisiau datgan bod yr awgrymiad o gasglu’r bin gwyrdd neu 3 sach ddu bob tair wythnos yn lle pob pythefnos yn warthus oherwydd ei fod yn fygythiad i iechyd, hefyd ddim wedi ystyried faint sy’n byw mewn tŷ a bod bin gwyrdd yn llenwi’n gyflym. UNRHYW FATER ARALL Eisiau tynnu sylw’r Adran Briffyrdd at y ffaith fod y bont bren oedd ar y clawdd llanw ger Pensarn wedi ei dymchwel yn ystod y llanw mawr. Angen tynnu sylw Cyfoeth Naturiol Cymru at y ffaith fod y clawdd llanw gyferbyn ag Ymwlch wedi llithro ar ôl y llanw mawr a hefyd bod twyni Llandanwg wedi eu difrodi. Cafwyd gwybod bod yr hysbysfwrdd newydd wedi ei osod, hefyd bod y gwaith wedi dechrau ar yr hysbysfwrdd ger Morlyn, Llandanwg.

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Chris King, Ffridd, gŵr bonheddig ac addfwyn a fu farw’n ddiweddar wedi gwaeledd hir. Cyn dod i Ardudwy dros hanner can mlynedd yn ôl, roedd Chris yn athro ffiseg yn ardal Northampton. Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth ac yn organydd dawnus. Bu ei nai William yn gofalu’n dyner amdano yn y Ffridd ers tro. Merched y Wawr Nid oedd cyfarfod ym mis Ionawr oherwydd bod y gŵr gwadd yn methu â bod yn bresennol. Ym mis Chwefror byddwn yn disgwyl Gethin Davies o’r Parc Cenedlaethol atom ac ym mis Mawrth edrychwn ymlaen at ddathlu Gŵyl Ddewi gyda Changen y Bermo a Tecwyn Ifan.

Eglwys St Tanwg, Harlech

DYDD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD Mawrth 7 am 11.00 o’r gloch Clwb 200 Côr MeibionArdudwy Mis Rhagfyr

1 [£40] Carys Williams 2 [£20] Christina Jones 3 [£10] Lea Ephraim 4 [£10] Gwyneth Meredith 5 [£10] Heulwen Jones 6 [£10] Idris Williams

Mis Ionawr

1 [£30] Guto Anwyl 2 [£15] Carys Williams 3 [£7.50] David Grey 4 [£7.50] Aneurin Evans 5 [£7.50] Helen Johns 6 [£7.50] Alun P Evans

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Cymdeithas Cwm Nantcol Cawsom noson ddifyr tu hwnt ganol Ionawr yng nghwmni Glyn Williams, Borth-y-gest a’i gyfeilydd, Alan Roberts. Yn ogystal â chlywed nifer o’r hen alawon, mi gawsom wledd o straeon gan Glyn, a hynny mewn dull cartrefol a rhadlon. Yn ogystal, fe ganodd Glyn ddeuawd bersain gydag un o’r aelodau, sef Mrs Glenys Jones. Diolchwyd i’r gwesteion gan Gwynli Jones, oedd yn adnabod Glyn ers dyddiau ieuenctid. Ddiwedd Ionawr, gwahoddwyd y cyfreithiwr, Bryn Williams, a’r cyn-brifathro, Iwan Morgan, atom i sesiwn holi dan arweiniad Phil Mostert. Cawsom wybod am eu hoffterau a’u diddordeb mawr mewn crefydd, llenyddiaeth, hanes, canu, emynau a’r byd eisteddfodol. Gwynli ddiolchodd am y noson ddifyr. Cawn y fraint o gwmni Haf Llewelyn yn ein cyfarfod nesaf, sydd i’w gynnal ar Chwefror 10. Wedyn ar 24 Chwefror, bydd Parti’r Ogof, Llanfyllin gyda ni. Her y Triathlon Mae criw o rieni Ysgol Llanbedr yn bwriadu cystadlu yn Nhriathlon Harlech ar Ebrill 4; rhai’n cystadlu fel rhan o dîm a rhai fel unigolion, a’r rhan fwyaf ohonynt am y tro cyntaf erioed. Bydd holl gymuned yr ysgol yn helpu i gasglu arian. Os ydych chi eisiau cefnogi’r criw, gallwch gysylltu â Helen Bailey ar 01341 241412.

Teulu Artro Cafwyd cyfarfod cyntaf 2014 ar 7 Ionawr gyda Gweneira yn llywyddu. Croesawodd yr aelodau’n gynnes gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bob un. Ychydig o nifer oeddem y tro yma - cawodydd a tharanau wedi cadw rhai i ffwrdd. Roedd rhai aelodau o dan annwyd trwm a Mary yn Ysbyty Dolgellau. Anfonwyd ein cofion at y rhai oedd heb fod yn y cyfarfod, a dymunwyd adferiad buan i Mary. Rhoddwyd dymuniadau penblwydd diweddar i Elisabeth. Darllenwyd cofnodion mis Tachwedd a’r cinio Nadolig. Roedd pawb wedi mwynhau’r cinio yn y Fictoria. Croesawyd ein gŵr gwadd, Mr Caerwyn Roberts, a chyfeiriwyd at ei wasanaeth yn yr ardal a thu hwnt. Cafwyd hanes diddorol, gyda lluniau am y Parc Cenedlaethol, a’r aelodau’n dangos diddordeb, gan ofyn amryw o gwestiynau. Diolchodd Glenys yn gynnes am y sgwrs, gan sôn am ei hen gartref yng Nghwmbychan, a rheolau’r Parc. Enillwyd y raffl gan Gweneira. Cyhoeddiadau’r Sul CHWEFROR 9 Undebol yn Eglwys Sant Pedr am 5.30 yh 23 Capel y Ddôl, Miss Glenys Roberts MAWRTH 2 Capel y Ddôl, Parch Reuben Roberts Capel Salem 16 Chwefror, Morfudd Lloyd 9 Mawrth, Parch Dewi Tudur Lewis Llais Ardudwy - Diolch Derbyniwyd cyfraniad o £200 at Lais Ardudwy gan Gyngor Cymuned Llanbedr. Diolch i’r aelodau am eu cefnogaeth.

Rhai o’r rhieni sydd wedi penderfynu rhoi cynnig arni, o’r chwith: Gari Lewis, Emma Leeke, Sophie Jones a Helen Bailey. Hefyd yn bwriadu cymryd rhan mae Sheena Lewis, Ed Bailey, Delyth Evans a Jane Downey.

Côr Meibion Ardudwy CYFARFOD BLYNYDDOL

Adroddiad y Cadeirydd Diolchodd Mervyn Williams i’r aelodau am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn. Roedd hefyd yn werthfawrogol o waith Aled, Idris a Gwilym Rhys ar yr ochr gerddorol, a Goronwy, Bryn ac Ieuan ar yr ochr weinyddol. Diolchodd hefyd i’r unawdwyr ac i Phil am drefnu’r daith i Estonia. Roedd croesawu’r Band Acordion o Huchenfeld yn yr Almaen yn uchafbwynt, felly hefyd croesawu Côr Seingar ac, wrth gwrs, y daith i Estonia. Sefyllfa Ariannol Adroddodd Bryn Lewis fod y sefyllfa ariannol yn iach er gwaethaf costau’r flwyddyn. Adroddodd Ieuan Edwards fod aelodau’r Clwb 200 ychydig yn is ond bod y gyllideb yn gadarn. Diolchwyd i Bryn ac Ieuan am eu gwaith rhagorol. Adroddiad yr Arweinydd Cychwynnodd Aled Morgan Jones drwy nodi bod Mervyn wedi bod yn chwip o gadeirydd. Diolchodd yn gynnes iddo am ei waith. Bu 2013 yn brysur iawn ac ategwyd sylwadau’r Cadeirydd. Diolchodd i’r aelodau am eu hymroddiad ac i’r unawdwyr am eu cymorth gwiw. Ychwanegodd ei ddiolch i’r swyddogion, yn enwedig Goronwy, Bryn, Ieuan a Gwilym ac Idris. Roedd taith Estonia yn llwyddiannus mewn sawl agwedd ac yn fodd i gadw diddordeb a denu aelodau newydd. Roedd Aled yn hynod falch bod tri wyneb newydd gyda ni eleni, ac roedd gweld Roger Kerry wedi ailymuno yn galondid mawr. Gorffennodd ei sylwadau drwy grybwyll rhai o’r cyngherddau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a thrwy ailadrodd ei apêl am wynebau newydd i ymuno yn rhengoedd y Côr. Etholiadau Cymerodd Roger Owen y gadair, a diolchodd yntau i Mervyn am ei waith effeithiol dros y flwyddyn. Etholwyd Ieuan Edwards yn Is-gadeirydd am y flwyddyn. Bydd y swyddogion a chynrychiolwyr ar y pwyllgor yn aros fel cynt. Llywydd 2014: Phil Mostert. Côr Merched Leelo Yn dilyn y daith lwyddiannus i Estonia ddiwedd Hydref, rydym am wneud ein gorau glas i helpu Côr Merched Leelo o Parnu i deithio i Gymru. Buom yn rhannu llwyfan gyda nhw yn ystod y daith ac rydym wedi gwneud ffrindiau da. Aelodau Newydd Rydym yn parhau i chwilio am aelodau newydd. Dyma eich cyfle! Cofion Anfonwn ein cofion at John Wyn Jones, Crafnant, a fu yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio ei fod yn teimlo’n well, hefyd ein cofion at ei wraig Elenor sydd yng Nghartref Nyrsio Bryn Awelon yng Nghricieth. Mae Robert J Jones hefyd yn Ysbyty Gwynedd; gobeithio ei fod yntau’n gwella. Tywydd garw Yn y tywydd garw ddechrau Ionawr cafodd tair fferm Morfa Mawr brofiad erchyll pan dorrodd y clawdd llanw a llifodd y môr i’r tai a thros y tir. Cafwyd colledion enfawr; gobeithio y bydd y clawdd llanw wedi ei drwsio’n fuan.

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn yn ddwys â Mrs Mary Evans, Plas Caermeddyg, a’r merched Elen, Catrin a Sera a’u teuluoedd yn eu profedigaeth lem o golli Gareth Evans, gŵr a thad annwyl ganddynt. Lili wen fach Bu’n ddechrau blwyddyn drist iawn yn ardal Ardudwy, ond mae’r dydd yn ymestyn a’r lili wen fach wedi ymddangos. Edrychwn ymlaen at y gwanwyn. Diolch Diolch i Gwyn Thomas am y rhodd o £1.50 a £10 oddi wrth Elwyn Evans er cof am deulu Gilfach gynt.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 15 Ionawr. Croesawyd pawb gan Gwennie a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i bawb. Cydymdeimlodd â Mrs Gretta Cartwright yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer a gydag Anthia yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd yng nghyfraith. Cydymdeimlodd Hilda ag Enid a Gwennie yn eu profedigaeth o golli eu brawd Emyr. Anfonodd Gwennie ein cofion at Mary Williams, Cynefin, sydd yn Ysbyty Dolgellau. Dymunodd ben-blwydd hapus i Enid Thomas ac Olwen Telfer. Yna croesawodd y ddwy gyfnither Rhian ac Eifiona atom. Y llynedd aeth y ddwy am wyliau i Ganada i gyfarfod teulu eu hewythr William a ymfudodd yno’n ystod y ganrif ddiwethaf. I ddechrau, rhoddodd Eifiona beth o hanes y teulu i ni ac yna cawsom hanes y daith gan Rhian a oedd wedi cadw dyddiadur manwl, diddorol a doniol ynghyd â sleidiau bendigedig. Braf oedd clywed fod y teulu yng Nghanada wedi cadw rhai o enwau teulu Ty’n Wern er enghraifft Alice, Robin a Lewis. Diolchodd Laura iddynt am brynhawn diddorol a hwyliog ac roedd wedi ei swyno â Chymraeg coeth Rhian. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Laura, Ann a Jean ac enillwyd y raffl gan Iona, Leah, Glenys, Lorraine, Ann a Dilys. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb CHWEFROR 9 Parch Dewi Morris 16 Mai ac Alma 23 Parch Harri Parri, 5.30 MAWRTH 2 Parch Reuben Roberts Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mrs Gretta Cartwright, Heulwen, Talybont a’r teulu yn eu profedigaeth o golli chwaer a modryb annwyl, Mrs Jean Williams, Dolgellau. * * * Hefyd at Mr a Mrs Emlyn Owens, Drws y Nant yn eu profedigaeth o golli brawd Emlyn oedd yn byw yn yr Amwythig.

6

Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf hefyd at Mrs Beti Parry, Uwch y Nant a’r teulu yn eu profedigaeth o golli chwaer a modryb annwyl, Mrs Gwyneth Morris, Y Bermo (Gwelfor, Dyffryn gynt). Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Llio, merch Einion a Rhian, Llys y Garnedd, a Mark, mab Mr a Mrs David Williams, Y Bermo, ar enedigaeth merch fach Ella Fflur. Mae’r teulu bach yn byw yng Nghaint. Clwb Cinio Cyfarfu un ar bymtheg ohonom yng Ngwesty’r Tŷ Mawr, Llanbedr, brynhawn Mawrth, 21 Ionawr. Mwynhawyd pryd blasus iawn a chwmnïaeth dda a sgwrsio difyr. Ym mis Chwefror byddwn yn cyfarfod ym Mryn Artro, Llanbedr, ar y 18fed o’r mis am 12.30. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd Cynhelir y cyfarfod gweddi yn Festri Horeb, ddydd Gwener, 7 Mawrth am 2 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb i’r cyfarfod ac i gael paned a sgwrs i ddilyn. Noson o Garolau Cafwyd noson o ganu carolau arbennig eto eleni yn Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy gyda’r neuadd yn orlawn. Estynnwyd y croeso i bawb gan y Parch Ganon Beth Bailey. Arweiniwyd y canu carolau a Chôr Meibion Ardudwy gan Mr Aled Morgan Jones. Cyflwynwyd y carolau gan Mr Phil Mostert, gyda Chôr Merched Cana-mi-gei dan arweiniad Mrs Ann Jones yn ymuno â Chôr Meibion Ardudwy. Yn ystod yr egwyl cafwyd amser i gymdeithasu a chael sgwrs dros baned a mins-pei. Cyn y garol olaf, diolchodd Canon Bailey i’r corau, i Kevin ac Olwen am y ddeuawd, i Bwyllgor ’81 am y trefniadau, i Ron Telfer a Gretta Cartwright â’r tîm o helpwyr, ac i’r gynulleidfa am noson a ganolbwyntiodd ein meddyliau ar Ŵyl y Nadolig.

Festri Lawen Horeb Bywyd gwyllt arfordir Cymru oedd testun nos Iau, Ionawr 9 yng nghwmni Alison Palmer Hargrave. Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig gyda Chyngor Gwynedd yw Alison a hi sy’n gofalu am warchodfa Pen Llyn a’r Sarnau oddi ar arfordir Ardudwy. Rydym yn ffodus iawn fod yr arfordir yma’n cynnal creaduriaid arbennig a phlanhigion lliwgar a drwy’r sgrin gwelsom nifer o luniau ohonynt - dyfrgwn, crancod, morloi llwyd, dolffiniaid, y crwban môr cefnlledr - gyda’r mwyaf erioed wedi ei ddarganfod ar y lan yn Harlech, hefyd anemonïau môr hyfryd iawn. Mae’n amlwg fod Alison yn mwynhau ei gwaith a phleser oedd gwrando ar ei chyflwyniad. Cawsom noson arbennig ac addysgiadol a diolchodd Mr Raymond Owen, Llywydd y noson yn gynnes iawn i Alison ar ein rhan. Nos Iau, Chwefror 13eg byddwn yn croesawu “Pwy sa’n Meddwl” atom, sef grŵp/parti o ardal Pen Llŷn.

NOSON LAWEN S4C

1, 2, 3, 4 Mai 2014 recordir rhaglenni Noson Lawen ar gyfer S4C yng Nghanolfan Hamdden Glanwnion, Dolgellau. Mwy o fanylion i ddilyn.

LLYTHYR

Annwyl olygydd, Braf oedd gweld atgofion ‘Gwen Gors’ am y Dyffryn. Os yw hi’n 92 erbyn hyn mae’n siŵr mai yn ei thridegau oedd hi’r unig dro i mi ei gweld. Roeddwn yn hogyn ysgol beth bynnag pan ddaeth Gwen Evans i siarad am ei gwaith i Gapel Sentars fel roeddan ni’n ei alw, Rehoboth er parchus goffadwriaeth. Sôn am ei gwaith yn genhades yn yr India oedd hi ac mae’r enw Shillong yn canu cloch. Roedd hi wedi dod ag enghreifftiau o waith yr Indiaid i ddangos i ni, crefftwaith bychan graenus a rhai wedi eu gwneud o ddant eliffant os cofiaf yn iawn. Nid bob dydd yr oedd plant y Dyffryn yn gweld pethau o’r fath nac yn clywed am lefydd pell y maes cenhadol gan rywun oedd wedi mynd yno i weithio. Bob tro yr oedd enw’r India’n codi wedyn roedd sgwrs Gwen Evans yn dod i’r cof. A dyma hi, yn 2014, yn ein hatgoffa o’r Dyffryn a gofiai. Er y gwahaniaeth oed mae’n rhyfedd fy mod yn cofio’r rhan fwyaf o’r enwau. A bod Miss Thomas, Dolgau, Miss Griffith a Mrs Davies, London House wedi bod yn athrawon arni hithau. Mae’n rhaid fy mod yn mynd yn hen! William H Owen, Bangor

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT CYNGOR CYMUNED

Cydymdeimlodd y Cadeirydd â Mrs Iona Pouch a’r teulu yn dilyn eu profedigaeth fawr o golli eu merch Danielle Wrighton mewn damwain ffordd, gyda Catrin Edwards a’r teulu yn dilyn eu profedigaeth drist iawn o golli ei thad Mr Gareth Evans, a chyda Mrs Iris Pugh a’r teulu yn dilyn eu profedigaeth o golli ei gŵr Mr Emyr Pugh a oedd am flynyddoedd lawer yn Gynghorydd dros yr ardal ac a oedd wedi gweithio’n ddiflino dros yr ardal pan oedd yn aelod o’r tri gwahanol Gyngor.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llifogydd oedd wedi digwydd yn yr ardal yn ystod yr wythnos gynt, gan ddatgan bod yr aelodau’n meddwl am bawb oedd wedi dioddef difrod yn y llifogydd hyn. Cytunwyd ar gais Eryl Jones Williams i anfon llythyr o ddiolch i weithwyr y Cyngor yn gofyn iddo gyfleu diolchiadau’r Cyngor am y gwaith da a wnaed ganddynt yn ystod y tywydd garw. Ar nodyn hapusach, estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau’r Cyngor i Siân Edwards a’r gŵr ar achlysur genedigaeth eu merch fach, Gwenno Fflur. Presept y Cyngor 2013/14 Penderfynwyd gadael y presept ar £19,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid yr estyniad to fflat presennol gydag estyniad to brig - Crud yr Awel, Talybont Cefnogi’r cais. Adeiladu porth car, codi uchder to’r garej - 66 Llwyn Ynn, Talybont. Cefnogi’r cais. Estyniad i ddarparu cyfleusterau ar gyfer unigolyn ag anableddau a chodi garej - Henborth Fawr, Talybont. Cefnogi’r cais. Diddymu Amod 8 oddi ar ganiatâd i alluogi defnyddio’r 5 uned gwyliau ffurf caban drwy’r flwyddyn - Barmouth Bay Holiday Village, Ffordd Glan y Môr, Talybont. Gwrthwynebu’r cais hwn oherwydd bod pryder bod llifogydd yn effeithio ar y safle a hefyd fel safle gwyliau ac nid preswyl y mae’r lle’n cael ei hysbysebu.

GOHEBIAETH Parc Cenedlaethol Eryri Datblygiad ar Ffordd Gors y Gedol. Mae’r Parc yn ymchwilio i unrhyw honiad o dorrheolaeth cynllunio o dderbyn cŵyn gan y Cyngor Cymuned; hefyd mae Swyddogion yn ymweld â’r safle a chadw golwg ar y sefyllfa ond ni all yr Awdurdod atal perchennog y tir rhag chwalu’r waliau. Mrs Olwen Lewis Wedi cael llythyr yn gofyn am ganiatâd i newid ychydig o’r ysgrifen ar y plac sydd wedi ei osod ger coeden ym Mharc Morlo. Penderfynwyd rhoi caniatâd.

Gwahoddir ceisiadau am: 1. Tendrau i dorri gwair a’i glirio o leiaf unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus a gwneud gwaith tacluso fel bo angen a hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio bedair gwaith y flwyddyn yn hen fynwent Llanddwywe a Llanenddwyn. 2. Tendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. 3. Tendrau i dorri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd angen i dorri gwair a’i glirio o Barc Morlo, Gardd Penybont, toiledau Talybont, wrth fainc Bro Enddwyn, ar ben ffordd Ystumgwern, wrth y fainc rhwng Ffordd y Llan a Ffordd yr Efail, a’r gofeb. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflenni tendr, cysylltwch â’r Clerc, Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau, ar 01766 780971. Dyddiad cau - 28.2.14 RHAID I BOB TENDR FOD AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL

TEYRNGED I MR EMYR PUGH, LLWYN, TALYBONT.

Ganed Emyr Pugh ym Mhant Heulog, Dyffryn Ardudwy ar 15 Awst 1930 yn bumed o ddeg o blant i Mr a Mrs John Pugh. Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed aeth i weithio fel gwas yn Nhyddyn Du, yna i Ystumgwern a Llanddwywe. Fe fyddai wedi bod wrth ei fodd yn ffermio, ond yn anffodus aeth yn wael yn 17 oed a bu’n rhaid iddo dreulio pedair blynedd mewn ysbytai a chafodd lawdriniaeth fawr a oedd yn golygu na fu ganddo ond un ysgyfant am weddill ei oes. Ond nid un i roi’r gorau i’w ysbryd oedd Emyr - bu hynny yn nodwedd o’i gymeriad gweddill ei oes. Cyn gynted ag y teimlodd ei hun yn gwella aeth allan i chwilio am waith, a llwyddodd i gael gwaith ar y Rheilffordd. Cafodd waith yn Atomfa Trawsfynydd yn 1966 a threuliodd 20 mlynedd hapus iawn yno. Yn fuan iawn fe welodd ei gydweithwyr botensial ynddo i fod yn gynrychiolydd iddynt i drafod cyflogau, cwynion ac amgylchiadau gweithio teg gyda’r rheolwyr. O ganlyniad cafodd ei enwebu gan y rheolwyr i dderbyn y BEM – anrhydedd a drysorai yn fawr. Cafodd flynyddoedd o gynrychioli’r ardal ar Gyngor Dosbarth Meirionnydd a Chyngor Sir Gwynedd wedyn. Bu’n Gadeirydd Cyngor Dosbarth Meirionnydd. Cafodd lawer o bleser yn y gwaith hwn, a chlywais ei ddisgrifio fel un a aeth yn Gynghorydd er mwyn gwneud ei orau i’r ardal a’r bobl yr oedd yn eu cynrychioli, ac nid er mwyn unrhyw elw personol iddo ef ei hun. Bu’n weithgar hefyd am flynyddoedd ar y Cyngor Cymuned lleol yn y Dyffryn a Thalybont ac ar Bwyllgor Neuadd Bentref y Dyffryn. Y pethau pwysicaf, ar wahân i’w gartref a’i deulu yn ei olwg, oedd ei ardd a’r capel. Treuliai oriau yn yr ardd ac yn y tŷ gwydr, ac yr oedd y cynnyrch, yn llysiau a blodau, yn werth eu gweld a’r ardd bob amser yn gymen a thaclus. Enillodd sawl gwobr mewn sioeau lleol, ac yn ddiweddarach cafodd y fraint o feirniadu mewn rhai o’r sioeau hyn. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Garddio’r Bermo. Am sawl blwyddyn bu Emyr ac Iris yn cynnal Noson Goffi yn eu gardd a chodi llawr o arian at achosion da. Y diddordeb arall oedd y Capel, a pharhaodd i roddi’r pwys mwyaf ar ei Gapel ac ar Efengyl Iesu Grist ar hyd ei oes. Wedi priodi Iris, a mynd i fyw i’r Bermo, ymaelododd yng Nghaersalem ac yn fuan iawn wedyn fe’i codwyd yn Flaenor yno yn 1961. Ef oedd Ysgrifennydd yr Eglwys ac Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau i’r diwedd. Yr oedd yn barod iawn i ddatgan ei farn yn gyhoeddus, yn ddoeth ei gynghorion ac yn abl iawn i gymryd rhan. O feddwl mor wael y bu Emyr pan yn ifanc, cafodd fywyd llawn a phrysur iawn a llawer iawn o fwynhad yn yr hyn a gyflawnodd. Yr oedd wrth ei fodd yng nghwmni pobl bob amser ac yr oedd croeso mawr i bawb ar aelwyd Llwyn, lle cafodd yntau gymaint o gariad a gofal gan Iris. Cafodd lawer iawn o foddhad yng nghwmni ei blant a’i wyresau hefyd. Gellir dweud yn ddibetrus am Emyr Pugh, “Da was da a ffyddlon”. Bydd colled a bwlch mawr ar ei ôl. Diolch am y fraint o gael ei adnabod. [Detholiad o’r deyrnged a draddodwyd gan Geraint Lloyd Jones.]


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Nadolig Prysur yr Ysgol Sul Roedd tymor y Nadolig yn brysur iawn i blant Ysgol Sul Llanfihangel-y-traethau. Ar ddydd Sul Rhagfyr y cyntaf, cynhaliwyd Gwasanaeth Cristingl o dan ofal y Parchedig Bob Hughes. Hen arferiad traddodiadol ydy’r Cristingl yn sôn am greadigaeth a thymhorau, am gariad Duw, am aberth ac ysbrydoliaeth Iesu, a goleuni’r byd. Mae’r plant yn hoff o’r hanes ac yn ymateb yn dda. Wedyn, ar ddydd Sul Rhagfyr 15, cyflwynwyd Drama Nadolig fel gwasanaeth – y sgript gan rieni’r plant efo darlleniadau – a charolau i bawb - o dan ofal Siân Mai Ephraim. Ar ddiwedd y gwasanaeth, cyflwynodd y Canon Beth Bailey anrheg i bob un o’r plant trwy garedigrwydd Ann Booth a Mari Williams.

Drama Nadolig 2013 - Ysgol Sul Llanfihangel-y-traethau

Y LASYNYS FAWR

Rydym ni yn y Lasynys yn edrych ymlaen yn arw at y gwanwyn ac yn arbennig tuag at gynlluniau i drefnu rhaglen o ddosbarthiadau amrywiol yn y Lasynys, ar y cyd â Choleg Harlech, felly cofiwch edrych ar ein gwefan - www.lasynys.co.uk am y newyddion diweddaraf neu cysylltwch drwy e-bostio ylasynys@btconnect.com neu ffonio 01766 781395. Rydym yn apelio am wirfoddolwyr hefyd i gyfrannu ychydig o’u hamser tuag at fenter y Lasynys. Mae diddordeb mawr yn yr ardal yn yr hyn sy’n digwydd yma ac mae nifer o ddulliau y gallwch chi ein helpu, felly rydym yn eich gwahodd i ymateb i’r alwad am wirfoddolwyr. Mae Cyfeillion Ellis Wynne yn gweithio’n eithriadol o ddygn er mwyn cadw drysau’r Lasynys ar agor i bawb, ac fe allai ychydig o’ch amser chi gyfrannu’n sylweddol tuag at ddyfodol y lleoliad arbennig hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r Cyfeillion trwy wirfoddoli mewn unrhyw ffordd, cysylltwch am fwy o fanylion. Cofion Anfonwn ein cofion at rai yn yr ardal nad ydynt wedi bod yn dda eu hiechyd yn ddiweddar. Deallwn fod Dei Jones, Bryn yr Aur a Jonet Slatter, Trem yr Wyddfa yn yr ysbyty ac nad yw Megan Williams, Coedty wedi bod yn dda. Anfonwn ein cofion atynt a dymunwn wellhad buan iddynt oll. Mudo Pob dymuniad da i Bili Jones, 5 Bryn Eithin, Llandecwyn, sy’n mudo i Iwerddon. Diau y bydd yn ymwelydd cyson â’r ardal ac na fydd yn colli cysylltiad â’i gyfeillion niferus ym mro Ardudwy.

Cristingl 2013 - Ysgol Sul Llanfihangel-y-traethau

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Derwyn, Gwen, Mari ac Ann a’u teuluoedd yn eu profedigaeth ddiweddar o golli eu brawd Gwynogfryn. Hefyd â Geraint Williams a’r teulu, 13, Cilfor yn eu profedigaeth o golli Dewi, brawd Geraint. Anfonwn ein cofion diffuant at y ddau deulu.

Noson o Hwyl gyda’r Dewin Howard Hughes Plant yr Ysgol Gynradd Band Arall Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Wener, 4ydd Ebrill am 6.30 Mynediad Oedolion £5/ Plant yn ddi-dâl

8

Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau gan Gwenda Paul. Cynhelir cyfarfod yn Neuadd Llanelltyd nos Lun, 20 Ionawr i wneud y trefniadau ar gyfer ein pabell ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirion a chytunodd Gwenda P, Mai ac Anwen i fynd yno. Cafwyd tîm i fynd i’r Gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglanllyn, nos Wener, 21 Chwefror – y bwyd i’w ddewis yn ein cyfarfod nesaf. Noson ar gyfer y dysgwyr oedd y tro yma ac estynnwyd croeso cynnes gan y Llywydd i griw ohonynt. Wedi rhannu’r dysgwyr ymysg yr aelodau ar bedwar bwrdd, roedd pawb yn barod i gystadlu a chafwyd dwy gystadleuaeth. Yn gyntaf, cwis o 20 o gwestiynau i’w hateb ac yna gêm i wneud cymaint o eiriau â phosib gydag ychydig o lythrennau. Bu’n noson hwyliog a chartrefol gyda nifer o ddysgwyr da iawn. I gloi’r noson, roedd lluniaeth ysgafn wedi’i baratoi a chafwyd gwledd i bawb ei mwynhau. Cyflwynodd Susan Jones o Harlech y diolchiadau ar ran y dysgwyr, gan ddiolch am y cyfle i gael dod i Dalsarnau unwaith eto, am y bwyd blasus ac am gael noson bleserus iawn. Bu nifer dda o’r dysgwyr a’r aelodau yn ffodus o ennill gwobr yn y raffl. Arian i Lais Ardudwy Diolch Derbyniwyd cyfraniad o £300 i goffrau Llais Ardudwy gan Gyngor Cymuned Talsarnau. Diolch am y gefnogaeth.


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Polisi Iaith Dosbarthwyd copïau o’r Polisi Iaith. Anfonir copi at Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith, yn gofyn am ei barn ar y polisi cyn i’r Cyngor ei fabwysiadu. Mynwent Llandecwyn Mae crac i lawr un ochr o borth yr eglwys ac mae’n beryglus. Nid cyfrifoldeb y Cyngor yw’r porth na’r wal o amgylch yr eglwys. Cytunwyd i gysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â’r mater. Mae gan yr eglwys yr hawl i ofyn i’r Cyngor am gymorth ariannol at gostau atgyweirio’r porth. Cyllideb y Cyngor am 2014/15 Penderfynwyd clustnodi nifer o symiau ariannol am y flwyddyn. Presept y Cyngor Penderfynwyd gadael y presept ar £10,000. GOHEBIAETH Llais Ardudwy Penderfynwyd cyfrannu £300. Mrs Sheelagh Rothero Cafwyd llythyr yn gofyn am ganiatâd i osod plac ym mynwent Llanfihangel-ytraethau er cof am ei modryb, y ddiweddar Miss Ruth Walkden. Penderfynwyd rhoi caniatâd. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd siom bod cartref preswyl Hafod y Gest yn cau. Mae coeden wedi cwympo ar y llwybr o Soar i lawr am Bont y Glyn (gamfa gelyn). Bu Gwenda Griffiths yn gwrando ar Galwad Cynnar yn ddiweddar. Roeddent yn trafod cerdded yn Nhalsarnau ac yn cwyno am y dŵr oedd ar y ffordd ger Rhosigor yn ystod y llifogydd

diweddar; hefyd bod dŵr ar y llwybr o Bont y Glyn i gyfeiriad Bont Glan y Wern. Datganwyd pryder bod beiciau modur wedi bod i fyny ger Llyn Tecwyn eto a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gyda’r Parc ynglŷn â hyn; hefyd i gysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i dynnu eu sylw at y ffaith fod argae Llyn Tecwyn yn gollwng.

LLUNIAU O’R ARDAL YN DILYN Y TYWYDD GWLYB A GAFWYD YN DDIWEDDAR

Gwahoddir ceisiadau am: 1. Tendrau i dorri gwair a’i glirio a thacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw. 2. Tendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol.

Uchod ac isod - dŵr ym Mhensarn.

3. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-ytraethau. Manylion gan y Clerc, Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.14. Cyfarfod Cyhoeddus Cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Bentref, ar nos Lun, 17 Chwefror am 7.30 o’r gloch i sefydlu pwyllgor cae chwarae er mwyn datblygu cae chwarae newydd yn y pentref. Croeso cynnes i bawb.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau

Traeth Llandanwg - yn brin iawn o dywod!

Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

Yr olygfa o Forfa Mawr, Llanbedr i gyfeirad Dyffryn Ardudwy.

9


HARLECH Philip Bleriot Williams Ac yntau yn 97 mlwydd oed, bu farw Philip Williams, Bryntirion, Llechwedd. Credir mai ef oedd y dyn hynaf yn Harlech. Daeth tyrfa fawr ynghyd i’r gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys St Tanwg ar Ionawr 17. Roedd Philip yn gymeriad nodedig. Cofir amdano fel saer maen crefftus a daliodd at y gwaith ymhell i’w 90au. Mae llawer o’i waith graenus i’w weld o gwmpas yr ardal. Roedd yn gomiwnydd brwd a’r ‘Morning Star’ oedd ei bapur boreol. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion. Roedd yn mwynhau bywyd ac yn llawn dywediadau. Nid oedd yn bwyta cig ac roedd yn hoff o win coch. Llawer tro y gwelais ef â gwydriad yn ei law yn eistedd ger bwrdd yn ei ardd ym Mryntirion, a gwên fawr ar ei wyneb. Bydd yn chwith pasio’r fangre honno heb weld y trwbadŵr hoffus. Aeth y casgliad yn dilyn yr angladd at y Gymdeithas Amddiffyn Cathod. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth. PM Diolch Dymuna Mrs Laura Jones, 9 Y Waun, Harlech, ddiolch o waelod calon am yr holl gardiau ac anrhegion a dderbyniodd yn ystod y Nadolig. Hoffai ddiolch yn ddiffuant i’w chymdogion a’r teulu oll. Rhodd a diolch: £10

Pwll Nofio Harlech Dewch i gefnogi digwyddiad a gynhelir yn adeilad y Pwll Nofio, Harlech, ac a drefnwyd gan y criw bach gweithgar sy’n gwneud eu gorau glas i gadw’r pwll ar agor ac ar gael i’r cyhoedd ei fwynhau. Sgwrs gan y mynyddwr adnabyddus, Jim Perrin Bydd yr awdur a’r mynyddwr adnabyddus, Jim Perrin, yn rhoi sgwrs am ei yrfa fel dringwr am 7.00 o’r gloch nos Sadwrn, 8 Chwefror, yn y Pwll Nofio, Harlech. Tocynnau £10 yn cynnwys bwyd poeth. Tocynnau ar gael o’r Pwll Nofio ei hun ar 01766 780576 neu cysylltwch â Gwynfor, Gwrach Ynys. Cyfle hefyd i weld y wal ddringo, a chyfle hefyd i Jim Perrin lofnodi unrhyw lyfr o’i eiddo, er enghraifft, ei lyfr newydd ar Yr Wyddfa, sy’n rhagorol. Dewch â’ch copi. Nodwch y dyddiad: nos Sadwrn, 8 Chwefror.

thaith y Batwn trwy Gymru, a threfniadau am yr wythnos o ddathlu ar y 15 Ionawr 2014. Derbyn y Batwn ar y Cob Porthmadog gan Gwynedd, Caernarfon, ac yna ei drosglwyddo ar 16 Ionawr i Grŵp Artro yng Ngwesty’r Victoria, Llanbedr. Cafwyd adroddiadau am Stesion Harlech, a digwyddiadau wedi eu trefnu gan Jan Cole a Myfanwy Jones, a’r Clwb Cinio i’w gynnal ym Mryn Artro, Llanbedr, ar 24 Ionawr am 7 o’r gloch. Gwnaed trefniadau ar gyfer te Teulu’r Castell ar 11 Chwefror 2014 yn y Neuadd Goffa, Llanfair gan mai SyM Harlech sydd yn ôl eu harfer yn gyfrifol am fis Chwefror. Gwnaed trefniadau ar gyfer y noson Gymraeg nos Fawrth. Yna croesawyd y gŵr gwadd sef Steven Rowlands o Harlech sydd yn gweithio ym Mhortmeirion. Cawsom hanes diddorol iawn am ei waith a chawsom brofi’r danteithion gwych yr oedd wedi eu gwneud tra’r oedd gyda ni ar Sefydliad y Merched Croesawodd y Llywydd, Edwina y noson. Roedd pawb wedi mwynhau’r Evans, yr aelodau i gyfarfod bwyd a hanes ei waith yng cyntaf y flwyddyn newydd ar nos Fercher, 8 Ionawr 2014, yn y Ngwesty Portmeirion. Gwenda Jones a ddiolchodd iddo ar ran Neuadd Goffa. Dymunwyd gwellhad buan i Mrs yr aelodau. Y mis nesaf byddwn yn cyfarfod Libby Williamson ac edrychwn ar nos Fercher 12 Chwefror ymlaen at ei gweld yn ôl gyda a’r gŵr gwadd fydd Dr Peter ni’n fuan iawn. Williams. Bydd yn rhoi sgwrs Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys. ar ei daith i Tsieina. Croeso i ymwelwyr ac aelodau newydd. Y dathlu canmlwyddiant a

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn ddwys â Gwyneth a Glyn Williams, Amwythig, ar farwolaeth eu merch Helen yn ddim ond 52 oed ar 4 Ionawr 2014. Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Emstrey ar gyrion yr Amwythig ar 29 Ionawr. Cafodd Gwyneth, gynt o Gorwel, Harlech (merch y diweddar Bob Evans, Brwynllynnau, a’i wraig Gwen), ei magu yn Ardudwy, ac anfonwn ein cofion at y teulu oll, yn yr ardal hon a thu hwnt, yn eu colled fawr. Rhagbysbysiad Côr Meibion Ardudwy yng Nghlwb Golff Dewi Sant Nos Sadwrn, Mawrth 1.

10

YARIS Dewch i holi am ein cynigion arbennig ar Yaris ac Auris.

AURIS

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

Cydymdeimlad Bu farw Dewi Williams, mab y diweddar Ernest a Megan Williams, gynt o 58 Y Waun, ond a oedd bellach yn byw yn Llundain, yn ddisymwth yn ddiweddar wedi gwaeledd creulon. Cydymdeimlwn â’i frodyr Bryan, Geraint, Idris, Gareth a Gwyn yn eu colled. * * * Daeth y newyddion i law hefyd bod Gordon Calvert wedi marw, a chydymdeimlwn â’i deulu yntau. Roedd Mr Calvert yn aelod o staff Coleg Harlech ar un pryd. Teulu’r Castell Yn Rhagfyr fe aeth 24 o aelodau i gael cinio yn y Wayside, Llanaber. Cafwyd cinio ardderchog a chroeso arbennig gan Jennifer a’r staff. Diolchwyd i bawb gan Hefin Jones. Doedd dim cyfarfod ym mis Ionawr ond fe fydd y cyfarfod nesaf ar 11 Chwefror yn y Neuadd Goffa, Llanfair. Sefydliad y Merched fydd yn gyfrifol am y prynhawn, ac fe fydd siaradwr o Age Concern Gwynedd a Môn yn dod i roi sgwrs. Croeso i bawb ac i aelodau newydd ymuno â ni am y prynhawn. Pwll Nofio Daeth criw da o’r cyhoedd i’r cyfarfod cyhoeddus ac mae’r bobl sydd wrth y llyw yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch dyfodol y pwll. Cafwyd nifer o syniadau da er mwyn codi mwy o arian. Er hynny, mae’r dyfodol yn parhau yn ansicr. Rhaid i ragor ohonom ddefnyddio’r lle a’i gefnogi’n ymarferol. Ydych chi’n aelod? Pen-blwydd arbennig Pen-blwydd hapus iawn i Mrs Bet Jones, gynt o Henllys, Pentre’r Efail, Harlech, a bellach yn byw yn Llanddaniel, Ynys Môn, sydd yn 70 oed ar 1 Chwefror. Cariad mawr oddi wrth Mike, Heulwen a Soffia fach a’r teulu i gyd. Rhodd Diolch i Gwyneth Williams am y rhodd o £6.50 i’r Llais.


RHAGOR O HARLECH

CYNGOR CYMUNED Gwahoddir ceisiadau am: 1. Tendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn Harlech. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor. 2. Tendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. 3. Gwahoddir ceisiadau i rentu garej dan glo ger hen ladd-dŷ Harlech. Am fwy o wybodaeth am yr uchod a thelerau rhentu’r garej, cysylltwch â’r Clerc, Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, ar 01766 780971. Dyddiad cau 28/2/14. Cyngerdd Nadolig y Cyngor Adroddwyd bod yr uchod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Ysgol Ardudwy a bod amryw o bobl wedi ei fynychu er bod y tywydd mor ddrwg. Cytunwyd bod angen trafod y mater o osod goleuadau Nadolig yn y dref yn gynt y flwyddyn nesa. Gwefan y Cyngor Bu trafodaeth ynglŷn â chael y grant o £500 a gynigir i greu gwefan ac adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi anfon cyfrinair i rai o’r aelodau i’w galluogi i fynd ar wefan y Cyngor y mae wedi ei sefydlu. Cyllid Pwll Nofio, y Neuadd Goffa a’r Hen Lyfrgell Penderfynwyd rhoi £1,500 y flwyddyn i’r pwll nofio, £1,000 y flwyddyn i’r Neuadd Goffa a’r Hen Lyfrgell a hyn i gael ei dalu mewn dau daliad, un ym mis Mawrth a’r llall ym mis Hydref. Presept y Cyngor Penderfynwyd codi’r presept eleni o £15,000 i £16,000. GOHEBIAETH Adran Briffyrdd Mae’r gwter ger Pant Mawr wedi cael ei ostwng a’r system wedi ei glanhau; hefyd mae’r cwteri ar y Stryd Fawr ac ym Mron y Graig wedi eu glanhau. Mr Neil Collis, Pant Mawr Derbyniwyd ateb gan yr uchod ynglŷn â dwy goeden oedd wedi

eu torri ar dir llwybr natur Bron y Graig yn datgan bod hyn wedi gorfod cael ei wneud oherwydd bod ymweliad safle gan eu cyflenwyr nwy yn eu cynghori bod rhai o’r coed wrth ymyl y tanciau nwy yn torri rheolau iechyd a diogelwch gan eu bod yn gwyro dros y tanciau; felly nid oedd ganddynt ddewis ond i gwympo’r coed dan sylw. Hefyd yn datgan y bydd, o hyn ymlaen, yn cysylltu gyda’r Cyngor cyn torri unrhyw goed. UNRHYW FATER ARALL Adroddodd Caerwyn Roberts bod Mr Colin Jones wedi cysylltu ag ef ar ôl y cyfarfod diwethaf a bod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i gael gwared ag un lle parcio dan wal yr eglwys gyferbyn â’r Hen Lyfrgell gan ei fod ar gornel. Hefyd, cytunodd i gysylltu ymhellach â Mr Colin Jones i ofyn a oedd bosib ymestyn y llinellau melyn i fyny o groesffordd y ffordd uchaf.

CODI TRAMFFORDD O WESTY’R NODDFA I DRAETH HARLECH

LLYTHYR 11 Turner Road, Edgware, Middlesex HA8 6AT Annwyl Olygydd Roedd y ddiweddar Jane Williams, Ty’n Llan, Llanfair, ac R G Owen, Cae Cethin, yn ail gefndryd i mi. Arferwn alw i’w gweld yn y dyddiau a fu. Gallaf ddeall Cymraeg yn dda ac rwyf yn gallu darllen Llais Ardudwy yn iawn. Fel y gwelwch, tynnais lun o’r dramffordd yn 1962. Roedd yn bosib ei gweld yn weddol glir bryd hynny, yn y rhan hon o leiaf. Hwyrach y bydd gan rywun ddiddordeb yn y llun, er y buasai’n optimistaidd iawn ar fy rhan i ddisgwyl unrhyw wybodaeth newydd. Yn ddiffuant Dilwyn Chambers

Ynghyd â’i lythyr, anfonodd Dilwyn Chambers nifer o bapurau o’r cyfnod atom. Samuel Holland, AS oedd perchennog y tir ac ef a Adroddodd James Maxwell ei dalodd am godi tramffordd i draeth Harlech ym 1878. Agorwyd y fod yn y broses o gysylltu gyda lein ym mis Gorffennaf. Credir bod y trac yn mesur dwy droedfedd Mr Kightley, Ystâd Castell Morfa ac mai stoc ail law o’r chwareli a ddefnyddiwyd. Roedd y trac yn ynglŷn â’r darn o dir sydd rhwng 600 llath o hyd ac yn cychwyn ger y rheilffordd wrth ymyl Gwesty’r yr ystâd dai a’r ffordd fawr. Noddfa. Roedd y tram cyntaf yn cychwyn am 7.30 y bore a’r olaf Mae angen torri eiddew ar y yn mynd am 8.30 yr hwyr. Nid yw dyddiad cau’r lein yn glir, ond ffordd uchaf a hefyd bod angen credir bod hynny o gwmpas 1888. Nid oedd cofnod o’r trac pan symud cerrig. wnaed arolwg yn 1889. Eisiau rhoi hysbyseb yn Llais Ardudwy i ddatgan bod garej dan glo ar rent ger yr hen ladddŷ. Cytunwyd i bwyllgor y triathlon osod giât ddwbl newydd ar gae chwarae Brenin Siôr. Cafwyd gwybod bod Clwb Rygbi Harlech yn mynd i dynnu’r llifoleuadau sydd yng nghae chwarae’r Brenin Siôr a gosod rhai newydd a chytunwyd bod hyn yn digwydd.

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig, i daffi a jamiau!

Tybed pam ddaru hi gau ar ôl cyfnod mor fyr? Tybed a oedd y lein yn rhy fyr ac y buasai modd cerdded i’r traeth yr un mor gyflym? Neu hwyrach nad oedd digon o ymwelwyr yn dod i’r ardal bryd hynny iddi fod yn gost effeithiol! Mae’r clawdd y codwyd y lein arno i’w weld yn glir yn y llun uchod. Tybed a yw i’w weld heddiw os ewch chi am dro i’r un ardal? Tybed, hefyd, a oes cof gwerin am y lein yn parhau yn yr ardal hyd heddiw? Yn ôl ein harfer, buasem yn falch iawn o glywed gennych.

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

4

3

5

6

01766 780667 www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

CHWEFROR

7 8

9

10

11

12

14

13

15

16

17

18

19

20

21

AR DRAWS

1 Stesion (6) 4 Mynd yn ddrwg (5) 8 Symud yn gyflym (5) 9 Lle y mae cwrw yn cael ei facsu (6) 10 Atgoffa rhywun am hen fai (5) 11 Rhan o gant (6) 12 Y gallu i ymdrin â phobl heb godi eu gwrychyn (4) 14 Rheswm annilys neu gelwyddog (5) 18 Bro (5) 19 Meddyg (6) 20 Israniad (5) 21 Planhigyn â blas drwg sy’n cael ei ddefnyddio weithiau fel moddion (6)

ENILLWYR CROESAIR MIS IONAWR

Ymddiheurwn bod camgymeriad yng ngliw 16 y tro diwethaf. Er hynny, diolch i’r rhai anfonodd ymgais i mewn Elizabeth Jones, Gweneira Jones, a Ceinwen T Owen, Llanfachreth.

ATEBION MIS IONAWR

AR DRAWS 1 Clebran 5 Gras 7 Newid 8 Waldio 9 Loncian 10 Rŵan 11 Graenu 13 Cablu 14 Aberth 16 Uno 19 Esmor 20 Etifedd I LAWR I LAWR 1 Cenel 2 Egwan 1 Brwydr gystadleuol (7) 3 Rwdlian 4 Newynu 2 Teclyn crafu blew (5) 5 Galarnad 6 Anifail Anwes 3 Rhywun sy’n addoli (6) 5 Tref yng Ngogledd Cymru ar y 12 Abermo 14 Aber ffin rhwng Cymru a Lloegr (1, 4) 15 Therm 16 Edwyn 17 Ael 18 Sil 6 Cyboli (6)

7 Ffrâm neu fwrdd sy’n gymorth i rifo (6) 13 Grymus (6) 15 Anifail chwedlonol (6) 16 Bechgyn neu ferched ifanc (5) 17 Atalnod (5) 18 Math o ffrwyth (4) 19 Gwrol (4)

TATWS AR WERTH (unrhyw bwysau) Parc Isaf, Dyffryn 01341 247447

12

SYLWER

Atebion i sylw: Haf Meredydd, 14 Stryd Wesla, Porthmadog LL49 9DS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

5 - Dosbarthiadau swmba a Philates gydag Eirian Roberts, dawns, cadw’n heini a gwneud les yn ail-gychwyn (cysylltwch â’r Theatr. 6 - 1-2 yp, Sesiwn Pnawn Da (pob Iau 1af y mis) efo Gai Toms fydd yn canu caneuon personol am ardaloedd arbennig Blaenau Ffestiniog. £5 am gacen a phanad. 6 a 7, FFILM - ‘Thor: The Dark World’ (PG13) 8, Sadwrn, 8.00 yh - A Regular Little Houdini, gan Daniel LlewelynWilliams (cynhelir gweithdy drama efo Daniel o 11-1 ar gyfer oedran 12+. 9, Sul, 5yh - FFILM, Rust and Bone, hanes Ali a’i fab ifanc yn heicio ar draws Ffrainc, a’r hyn sy’n digwydd iddyn nhw. 15, Sadwrn - Five Star Swing, sef jazz, swing a blues gan y pianydd a’r trwmpedwr Chris Smith, gyda chaneuon ee Ella Fitzgerald a Glenn Miller. 20, Iau - FFILM, Blancanieves, ffilm deyrnged ddu a gwyn. 21/22/23 - FFILM ‘The Secret Life of Walter Mitty’ (PG) 7.30yh 25/26/27, Mawrth-Iau - Cwrs dawns gyda Joanna Young am dridiau i ieuenctid lleol 13+, i greu darn ar gyfer 1 Mawrth a dathlu Gŵyl Ddewi. 28 - 8.00 yh, Celf Ardudwy, Clwb Ffilm Pobl Ifanc, gwahoddiad i ieuenctid ymuno i greu clwb ffilm newydd. Dangos ffilm am 9.00 yh.

MAWRTH

1, Sadwrn - Criw Celf Bach Gwynedd, clwb dylunio i blant 7-11 oed, 10 yb hyd hanner dydd yn yr Ystafell Werdd. 1, Sadwrn - Sesiwn ddawnsio i gadw’n heini gyda Siri, 10.15 hyd 11.45 yb. 1 Sadwrn - Diwrnod dawns Dydd Gwyl Ddewi, Recall, darn newydd; dawns fer ‘The Two Bessies’ am 7.00 yh, mynediad am ddim. 6, Iau, 1-2 yp - Sesiwn Pnawn Da gyda Huw Warren ag awr o gerddoriaeth jazz anffurfiol. £5 yn cynnwys cacen a phanad (2-3 yp). 6, Iau, 3.15 hyd 4.15 - Dawns ag ymlacio gyda Siri ar gyfer dawnswyr mwy aeddfed; prif lwyfan. 8, Sadwrn - Cenhedloedd Dan Ddyfroedd, cyd-gynhyrchiad Theatr Mwldan ac Access All Areas. Cymru a Nubia, dwy genedl, un bennod gyffredin. Gyda Siân James, Gai Toms a Nuba Nour, drymwyr ffrâm o’r Aifft.

LLYTHYR Annwyl Ffrindiau, Pontio! Dyna enw canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi ym Mangor, sy’n agor ei drysau eleni. Fe fydd Pontio yn gartref i theatr ganolig ei maint, theatr stiwdio, sinema, bar caffi, a llawer mwy. Yn y gorffennol, mae’n siŵr eich bod chi wedi ymweld â Theatr Gwynedd, ac yn dal i gofio rhai o’r cynyrchiadau gwych fu ar lwyfan y sefydliad hwnnw - sefydliad a gyfrannodd mor sylweddol at fywyd diwylliannol Cymru. Wel, mae Pontio yn codi fel ffenics o seiliau’r theatr honno, a’r bwriad ydy cynnwys eich atgofion chi o’r nosweithiau ddaru chi eu mwynhau yn Theatr Gwynedd, mewn arddangosfa weledol, a lleisiol, i gyd-fynd ag agoriad Pontio. Os oes gennych chi unrhyw atgofion am Theatr Gwynedd yr hoffech chi eu rhannu, cysylltwch efo mi drwy e-bost, neu fe allaf drefnu i alw draw i’ch gweld a chael sgwrs efo chi - dros baned. Llefrith - ond dim siwgr! Dyma fy nghyfeiriad e-bost hywel.gwynfryn@bbc.co.uk. Beth am gyfrannu i ddyfodol Pontio drwy rannu eich atgofion o’r gorffennol yn Theatr Gwynedd? Cofion cynnes, Hywel Gwynfryn


RHAGOR O OFERGOELION RHOI PWRS GWAG YN ANRHEG Bydd pwrs gwag yn aros yn wag meddan nhw. Mae lle i’r Diafol mewn pwrs gwag! Ai dyna pam mae fy nghyfeillion yn rhoi swm bach o arian mewn pwrs neu waled sydd i’w gyflwyno fel anrheg? GWAHANU AR BONT

Os ydych am weld cyfaill eto, ni ddylid gwahanu ar bont. Mae afonydd yn rhannu darnau o dir; mae’r tiroedd ar wahân ac os byddwch yn gwahanu ar bont, mae peryg i chi â’ch cyfaill aros ar wahân. Hyd heddiw, onid ydym yn gwahodd rhyw bwysigyn i ‘fendithio’ pont newydd? TYLLUANOD

Aderyn corff! Aderyn y nos ydyw, wrth gwrs, ac fe gysylltir y tywyllwch ag ysbrydion ysgeler. Dywedir bod clywed tylluan yn hwtian yn arwydd bod merch newydd golli ei gwyryfdod. Yn yr Almaen, os clywir tylluan wrth eni babi, fe gaiff y babi fywyd trist. Yn Ffrainc, os bydd merch feichiog yn clywed tylluan, merch fydd y babi. Byddai’r hen bobl yn taflu halen neu finag i’r tân er mwyn rhoi tafod llidiog i’r dylluan a’i thawelu am byth. SEFYLL AR FEDD Credid bod enaid yr ymadawedig yn aros am gyfnod cyn symud i fyny am y nefoedd neu i lawr am uffern. Yn y cyfnod hwn, byddai’r enaid ymadawedig yn chwilio am enaid arall fel cwmni. Felly, annoeth iawn oedd pechu yn erbyn y sawl oedd newydd ei gladdu.

LLADD ROBIN GOCH

Aderyn poblogaidd iawn. Dywedir fod robin goch wedi canu i’r Iesu ar y groes ac wedi ceisio tynnu ambell i ddraenen o’i ben. Dywedir hefyd ei fod yn bresennol pan anwyd Iesu. Bu’n ceisio ailgynnau’r fflamau pan oedd Mair a Joseff yn oer, dyna pam mae ei frest mor goch. Cred y Gwyddel y daw lwmp poenus ar law dde unrhyw un fydd yn lladd robin goch. PEIDIO LLADD PRY COPYN

Mae hwn yn gwneud synnwyr oherwydd bod y pryf copyn yn lladd mân bryfetach niweidiol. Roedd yn well gan bobl dioddef ambell i we pry cop na chael pryfed hyd y lle ymhob man. Tybed faint ohonoch sy’n cario’r pry copyn yn grynedig at y drws cefn i’w ollwng yn rhydd yn hytrach na gwahodd anlwc drwy ei wasgu i farwolaeth? MYND HEIBIO AR RISIAU Mae’n anodd osgoi mynd heibio rywun ar risiau mewn bloc o swyddfeydd, gorsafoedd trên a siopau mawrion. Ond byddai ein cyndeidiau yn osgoi mynd heibio rhywun ar risiau. Mae’n bosib bod rheswm ymarferol am hyn yn y canol oesoedd pan oedd staeriau yn gulion. RHIF 13

13

Mae rhif 13 yn anlwcus meddan nhw. Codir rhai adeiladau uchel heb lawr 13, mae sawl awyren heb res 13 ac mae sawl gwesty heb ystafell 13. Y gred gyffredinol yw ei fod yn tarddu o’r Swper Olaf lle’r oedd tri ar ddeg yn bresennol, gan gynnwys Jiwdas. Ond mae esboniadau eraill hefyd ee 13 cylch i’r lleuad mewn blwyddyn; mae 13 prif gymal yn y corff dynol.

DIARHEBION DIDDOROL Os medri di siarad mi fedri di ganu, os medri di gerdded mi fedri di redeg. [Affrica - Shona]. Mae amryw o adar yn y goedwig. [Tsieina] Buan y mae’r sawl sy’n hoffi ceirios yn dysgu dringo. [Yr Almaen] Gwell cynnau un gannwyll na melltithio’r tywyllwch. [America] Wedi caledi daw ymwared. [Swahili] Os yw bywyd yn rhoi lemonau i ti, gwna lemonêd. [?] Gofyn am gyngor, ond defnyddia dy synnwyr cyffredin. [America] Paid â chynnig cyngor heb i rywun ofyn amdano. [Yr Almaen] Nid yw hen geffyl yn difetha’r rhych. [Rwsia] Nid yw dicter yn gwella dim ar wahân i’r bwa ar gefn cath. [America] Mae dyn heb ddiwylliant fel sebra heb streipiau. [Affrica –Masai] Nid yw pob hydref yn llenwi’r ysgubor. [Estonia] Yn yr hydref y dylid cyfrif cywion ieir. [Rwsia] Yn y tywyllwch y dylid cyfrif afalau. [Arab] Yr aderyn tlws gaiff ei roi mewn cawell. [Tsieina] Mae dechrau yn hawdd, parhau sy’n anodd. [Siapan] Bwyda gi am dridiau ac mi fydd yn cofio am dair blynedd, bwyda gath am dair blynedd ac mi fydd yn anghofio mewn tridiau. [Siapan] Ni ddylai’r sawl sy’n plannu drain ddisgwyl medi rhosod. [Arab] Rho dy ffydd yn Allah, ond clyma dy gamel. [Arab] Waeth pa mor hir y bydd boncyff yn arnofio yn yr afon, ni ddaw byth yn grocodeil. [Affrica] Os bydd pawb yn cyfrannu edefyn, fe gaiff y dyn tlawd grys. [Rwsia] Mae angen pentref i fagu plentyn. [Affrica – Yoruba] Plant bach, gofidiau bychain; plant mawr, gofidiau mawr. [Denmarc] Os wyt ti’n byw yn yr afon, dylet wneud cyfaill o’r crocodeil. [India] Un diwrnod mêl, diwrnod arall nionod. [Arab] Os am flasu’n dda, rhaid i bysgodyn nofio deirgwaith; mewn dŵr, mewn menyn ac mewn gwin. [Gwlad Pwyl] Gallwch dorri un saeth ond nid felly ddeg mewn bwndel. [Siapan] I fedru dawnsio, rhaid cael mwy nag esgidiau dawnsio. [America] Pan ddaw’r gêm i ben, aiff y brenin a’r gwas i’r un blwch. [Yr Eidal] Waeth pa mor uchel y bydd aderyn yn hedfan, fe ddaw i’r ddaear i fwydo. [Denmarc] Pan fydd y goeden olaf wedi’i thorri, yr afon olaf wedi’i gwenwyno, a’r pysgodyn olaf wedi marw, fe ddarganfyddwn na fedrwn ni fwyta arian. [Canada – Indiaid brodorol] Mae hyd yn oed neithdar yn wenwynig os bwyteir gormod ohono. [Hindw] Mae cerdded deg mil o filltiroedd yn well na darllen deg mil o lyfrau. [Tsieina] Nid yw’n ddigon i arddwr garu blodau, rhaid iddo gasáu chwyn. [America]

Mae gan bob pomgranad un hedyn ddaeth o’r nefoedd. [Arab] O gawl a chariad, y cyntaf yw’r gorau. [Sbaen] Dylid gafael mewn cyfaill go iawn hefo dwy law. [Affrica] Paid â gwthio’r afon, fe lifa ohoni’i hun. [Gwlad Pwyl] Gofal, nid stabl gwych, sy’n gwneud ceffyl da. [Denmarc] Beth yw’r peth pwysicaf mewn bywyd? Pobl, pobl, pobl. [Maori] Paid â bargeinio am bysgod sy’n dal yn y dŵr. [India] Pan ddaeth y fwyell i’r goedwig, fe ddywedodd y coed, ‘mae’r handlen yn un ohonom ni!’ [Rwsia] Os wyt ti’n bwyta pysgod hallt, rhaid i ti ddioddef bod yn sychedig. [Tsieina] Mae glaw yn y gwanwyn mor werthfawr ag olew. [Tsieina] Dim ond mewn trap llygod y cei di gaws am ddim. [Rwsia] Un genhedlaeth yn plannu coed, un arall yn eistedd yn eu cysgod. [Tsieina] 13


YSGOL ARDUDWY Eisteddfod

Diwrnod anhygoel yng nghalendr Ysgol Ardudwy yw ei Heisteddfod hi, yn fywiog, yn gyffrous - ac yn swnllyd! Dyma gyfle i ganfod doniau disgyblion nad oeddem yn gwybod amdanynt gynt, a chyfle i rai a lwyddodd yn y gorffennol i ymgyrraedd at safonau hyd yn oed yn uwch nag o’r blaen. Cafwyd cystadlu brwd, yn ddifyr ac yn wirion, yn ganu ac yn llefaru safonol, yn chwibanu, garglo ac yn fand cegin. Cafwyd dawnsio gwefreiddiol, actio dwys a meddylgar, unawdau offerynnol medrus a grwpiau pop proffesiynol eu hagwedd a thynn eu perfformiadau. A phob dim yn arwain at yr uchafbwynt, sef y corau, gyda phob disgybl yn cymryd rhan. Prif lenor yr eisteddfod, ac enillydd y Gadair, oedd Elan Roberts. A’i thŷ hi, sef Ysgethin, a ddaeth i’r brig eleni, gan ennill yn hollol ddiamheuol. Mawddach oedd yn ail, gyda Dwyryd yn drydydd ac Artro’n bedwerydd. Heb os, roedd naws cystadleuol iawn i’r diwrnod a phob disgybl yn cefnogi eu tŷ i’r eithaf, gan wisgo’r lliwiau perthnasol a chreu baneri. Ond, yn galonogol iawn, ac yn allwedd i lwyddiant y diwrnod, cafwyd arweinwyr brwd, trefnwyr parod, talentau amlwg a’r parchusaf a thawelaf un yn dawnsio disgo yn y modd mwyaf annisgwyl!

YR YMSON FUDDUGOL

Ymson Hen Filwr Y trydydd o Fedi 1939 ‘Y bore yma, rhoddodd y Llysgennad Prydeinig ym Merlin nodyn terfynol i’r llywodraeth Almaenaidd. Roedd yn datgan, os na fyddem yn clywed gennyn nhw erbyn unarddeg o’r gloch eu bod yn fodlon tynnu eu byddin allan o Wlad Pwyl, a byddai stad o ryfel yn bodoli rhyngom ni. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych chi nawr nad oes unrhyw gytundeb o’r fath wedi cael ei dderbyn. O ganlyniad, mae’r wlad yma wedi datgan rhyfel yn erbyn yr Almaen.’ Iesu mawr, mae hyn wedi digwydd eto. Mae pob rhith o heddwch wedi’i anghofio. Cytundeb Munich yn faw o dan draed y milwyr fydd yn cael eu gyrru i farw yn yr Almaen. Be ddigwyddodd i’r Rhyfel oedd am ddarfod pob rhyfel? ‘Byth eto’ ddywedwyd. Am gelwydd noeth. Ydyn nhw wedi anghofio? Anghofio’r miloedd o hogiau ifanc yrron nhw i uffern Ffrainc, a threulio eu diwrnodiau olaf mewn dioddefaint tu hwnt i amgyffred bodau dynol? Anghofio’r teuluoedd oedd yn colli cwsg yn poeni am eu meibion? Y rhai sy’n dal i ofidio am fechgyn sy’n gorwedd yn nhir estron Gwlad Belg? Wel, dydw i ddim wedi anghofio. Na’i fyth anghofio. Mae o dal yn fyw yn fy nghof. Mae heddiw’n ddydd trychinebus iawn. Am ffyliaid. Am lofruddwyr. Tydyn nhw heb ddysgu dim? Roeddwn i wir wedi gobeithio na fydda yna byth ryfel arall ar ôl y Rhyfel Mawr. Ro’n i’n credu eu bod wedi dysgu eu gwers. Yn amlwg ddim. Aeth y bywydau yna i gyd yn ofer. Buasai’r bechgyn yna wedi bod yn dadau, yn golofnau pwysig o’r gymdeithas, oni bai am y rhyfel. Ac eto rŵan, bydd y rhyfel yma’n cipio cenhedlaeth arall o fechgyn, a gadael haen newydd o ofid. Mae’r newydd yn erchyll. Y cwbwl rwyf eisiau yw heddwch. Pam na all hyn fod yn bosib? Ar ôl y rhyfel diwethaf, dydyn ni ddim yn ei haeddu? Yr oll rwyf eisiau yw cael aros yn y pentref yma am weddill fy oes, yn sicr nad oes neb arall am ddioddef yr erchylltra a wynebais i. Ydy hynna’n ofyniad rhy anodd? Dwi eisiau crio tros y bywydau fydd yn cael eu colli o ganlyniad i angen dyn am bŵer. Distawrwydd. Nid oes sŵn o gwbl ar wahân i lais Chamberlain, yn codi ofn ym mhob calon. Mae hi’n debyg i Sul y Cofio. Cofiaf pan gafodd y Rhyfel ei gyhoeddi. Roeddent yn honni byddai’r rhyfel drosodd cyn y Nadolig. Nadolig yn wir, sôn am gael ein twyllo! Roedd yr awyrgylch yn hollol wahanol ar y dydd yna.

14

Roedd yr awyr yn fyw hefo cynnwrf. Bechgyn brwd yn awyddus i fod yn arwyr, yn ddiamynedd i gael mynd i’r rhyfel a dod yn ôl mewn blwyddyn a derbyn canmoliaeth am achub y byd. Am ffyliaid. Ffyliaid diniwed, ond ffyliaid wedi’r cyfan. A minnau’n un ohonynt. Yn credu ein bod yn anorchfygol; yn dduwiau. Ond yr oll oeddem oedd gwystlon dibwys yng ngêm yr awdurdodau. Cawsom ein tywys at byrth uffern a’n gadael yno i ddioddef. Mae sŵn y gynnau’n dal i atsain yn fy nghlustiau. Mae arogl marwolaeth yn dal i ymdrenglo yn fy ffroenau. Bydd rhan ohonof yn bodoli yna ar hyd fy oes. Tydi eistedd yn fama o flaen y tân derw, sŵn yr adar yn fy nghlustiau a’r tecell yn canu’n hamddenol ar y ffwrn ddim yn teimlo’n iawn. Yn llwtra’r ffosydd, dyma beth oedd yn llenwi fy mreuddwydion. Cael bod yng nghysur cartref a byw’n dawel. Roeddwn yn ysu i gael eistedd ar y garreg fawr ar ben Moelsenegl yn edrych i lawr ar fy myd bach i yng nghesail Cymru, gydag awel bur y mynyddoedd yn llenwi fy ysgyfaint heb ei heintio gan mwg y gynnau. Dyna beth oedden ni i gyd eisiau - cael bod adref yn ein hen bywydau di-newid. Ond mae’r pleser syml yna wedi cael ei gipio oddi arnaf - yr oll a welaf rwan ar Foel Goedog yw cae marwolaeth. Weithiau meddyliaf fy mod yn dal yno, fy mod yn gweld rhithiau. Pam atebodd Duw fy ngweddïau a dim rhai’r lleill? Maen nhw dal i fy mhoeni yn y nos, wynebau fy nghyfeillion yn gwenu arnaf; wedyn gwelaf nhw’n syllu’n welw, y fflam wedi diffod o’u llygadau. Mae’n gas gennyf feddwl mai dyna beth fydd yn digwydd i filoedd o fechgyn eraill rŵan. Byddan nhw yn dioddef fel y gwnaethom ni, wedyn os maent yn ffodus, gwnânt ddod yn ôl. Yn wag, ond llawn gofid. O, pe bai’r hogiau yma ond yn deall erchylldra maes y gad! Maes y gad. Mae’n swnio mor fonheddig. Ond hollol groes i’r gwir yw hyn. Bydd hogiau o’r pentref yma’n mynd yno mae’n siŵr. Bechgyn, oedd dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl yn rhuthro o amgylch y bychau ŷd ar ddiwrnod cynhaeaf yn chwarae. Ydyn nhw’n dal i feddwl fod bywyd yn gêm? Druan ohonyn nhw. Buaswn yn gwneud unrhyw beth i atal y rhyfel yma, i atal y llofruddio diangen. Ond mae hyn i gyd tu hwnt i fy ngallu. Mae trachwant yr awdurdodau’n rhy gryf i ymladd yn ei erbyn. Camgymeriad enfawr fydd y rhyfel yma. Camgymeriad costus hefyd. Pam nad ydym wedi dysgu o’r rhyfel diwethaf? Mae heddiw’n ddiwrnod trist i ni gyd! Bydd dwylo Hitler yn waedlyd iawn. Fedrai’m dioddef hyn. Ond dwi wedi colli’r frwydr ynof, collais hi amser maith yn ôl. Dwi wedi blino. Mae fy nghorff yn brifo hefo’r ymdrech i ddyfalbarhau. Nid oes gobaith yn y byd ddim mwy. Dwi awydd mynd i fy ngwely a chuddio o dan y gobennydd nes i’r uffern yma ddod i ben. Yr hogiau yma, gogoniant sy’n llenwi eu pennau. Dydyn nhw ddim yn meddwl am y dinistr fydd raid iddynt ymdopi â fo am weddill eu bywydau. Mewn chwinciad, mae’r dorf o edmygwyr yn diflannu, a’r unig gwmni sydd gennych ar ôl yw eich meddyliau a’ch hunllefau. Dyna pryd dechreuais i fyfyrio, myfyrio dros fy ngweithredoedd yn y rhyfel. Y cwestiwn sydd yn fy mhoeni yw, oedd o’n iawn i mi ladd y milwyr? Ia, ein gelyn ni oedden nhw. Ond pa mor wahanol oedden ni mewn gwirionedd? Bechgyn gorffwyll yn bell oddi cartref, pawb eisiau cael gadael maes y gad a ffoi oddi yno. Dwi’n dal i gofio’r rhai a leddais i. Pwysant ar fy nghydwybod, ni allaf ddianc rhag hyn. Mae gwaed ar fy nwylo. Nid oes le yn y nefoedd i mi. Gwn na fyddaf yn cael fy nerbyn ar ôl lladd y milwyr Almaenaidd yna. Hyn sy’n fy anesmwytho, faint o sarhâd yw hyn i’r meirw. Yn Belg, bydd eu cyrff yn troi a throsi. Collon nhw eu bywydau er mwyn dod â diwedd i ryfela. Ac eto nawr rydym yn clywed, bydd mwy o filwyr yn cymryd eu lle. Gobeithio y maddeuant i ni. Cywilydd mawr yw’r rhyfel yma. Camgymeriad mawr. Bydd miloedd o bobl yn gorfod talu’r pris uchaf unwaith eto. O nefi wen, am oes erchyll i fod yn fyw.

Elan Roberts

Gobeithiwn gynnwys yr ail ymson y tro nesaf. [Gol.]

Arian i Lais Ardudwy Diolch Derbyniwyd cyfraniad o £150 at goffrau Llais Ardudwy gan ddisgyblion Ysgol Ardudwy. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r disgyblion am eu cefnogaeth.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Llanuwchllyn 01678 540278

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

drwy’r post

T N RICHARDS

GERALLT RHUN

Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Tafarn yr Eryrod

Llais Ardudwy

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Adnewyddu Hen Ddodrefn

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch Llanbedr 01341 241229

Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor Dydd Mawrth - Dydd Gwener 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00 Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 8.00

Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Tacsi Dei Griffiths Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll, ddarllenwyr y Llais. Bu i griw bach o’r Clwb fwynhau eu parti Nadolig yn y Pwll Nofio a hefyd y wal ddringo yn Harlech ar ddechrau Rhagfyr. Paratoi ar gyfer cadw’n heini cyn y gwledda Nadolig!

Hefyd, bu rai o’r aelodau yn cynnal gwasanaeth Nadolig ar Sul 15fed o Ragfyr yng Nghapel Nantcol. Roedd y capel wedi ei addurno gyda chelyn. Testun ein gwasanaeth oedd anrheg y Nadolig. Gwnaethpwyd y casgliad tuag at apêl Llanbedr at Eisteddfod yr Urdd Cylch Meirionnydd 2014. Casglwyd £111. Ar ddydd San Steffan cynhaliwyd y ras hwyaid flynyddol. Siom unwaith eto eleni ydoedd bod yn rhaid ei gwneud fel raffl, gan fod yna ormod o lif yn yr afon, a bod hynny felly’n beryglus. Roedd hanner yr arian yn mynd tuag at RABI Meirionnydd, gan fod aelodau o’r Pwyllgor hwnnw wedi bod yn gwerthu hwyaid ar ein rhan, a diolch yn arbennig i Jane a Meinir am eu cymorth ar y diwrnod hefyd. Dyma’r enillwyr lwcus sy’n cael £10 yr un: Ras 1 – Rhif 33 Louise Llwyd , Byrdir Ras 2 – Rhif 135 Tegid Lewis, Llanbedr Ras 3 – Rhif 224 Cari Evans, Harlech Ras 4 – Rhif 345 Gerwyn Jarrett, Trawsfynydd Ras 5 - Rhif 486 Brian Williams, Llanbedr Ras 6 - Rhif 582 Gwynant, Talsarnau Ras 7 – Rhif 676 Geunor, Dinas Mawddwy Ras 8 - Rhif 773 Meurig, Hendre. Ras 9 – Rhif 863 Ann Jones, Rhydymain Ras 10 - Rhif 924 Lewis Aeth y brif wobr o £100 i Sioned Richards, Tregarth, Bangor, merch Mair ac Euron, Llanbedr. Hoffwn ar ran y Clwb ddiolch yn fawr i bawb sydd yn cefnogi bob blwyddyn, i’r rhai sy’n gwerthu, yn prynu ac yn helpu ar 16

y diwrnod. Mwya’n byd sy’n cael eu gwerthu mwya’r elw wrth gwrs. Gwnaethpwyd elw o £734.30 gyda £200 yn mynd yn wobrau. Bydd £367.15 yn mynd i gymdeithas RABI. Bydd CFfI Ardudwy yn rhoi peth o’r arian eleni fel a ganlyn - £90 tuag at y Neuadd Newydd yn Llanbedr a £90 at apêl Llanbedr o’r Urdd. Gyda diolch i bawb am bob cymorth. Rydym wedi mwynhau sawl noson ddifyr yn y clwb - noson gwneud marmaled, noson cyflath, noson gemau gwirion a noson gwneud bisgedi sunsur. Edrychwn ymlaen rŵan i dderbyn rhaglen testunau’r Rali a’r dyddiad holl bwysig. Yna bydd bwrlwm o baratoi. Nid yw’n rhy hwyr i ymaelodi â ni, a gwnaf gais ar i unrhyw un sy’n dymuno ein helpu ar gyfer y Rali i gysylltu â mi. Edrych ymlaen at glywed oddi wrthych. Mari Wyn Lloyd

TRACTORAU ERYRI

Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.