Llais chwefror 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

DATBLYGIAD PANT YR EITHIN, HARLECH

RHIF 438 CHWEFROR 2015

DWY FARN AM BONT Y CASTELL

Diwrnod Agored – galw i mewn Caffi Pwll Nofio Harlech 2:30 – 6:30 Dydd Mawrth, Chwefror 10, 2015 Croeso cynnes i bawb! Cyfle i gofrestru am dŷ newydd ar gyfer pobl leol sy’n chwilio am dŷ fforddiadwy.

Fel hyn y mae’r penseiri yn gweld y cynllun terfynol Bu bwrlwm mawr yn Harlech yn ystod y pythefnos ddiwethaf wrth i graeniau a lorïau trymion ddod i’r dref gan gario pont newydd ar gyfer y castell. Mae’r bont newydd hon yn rhan o brosiect £5.8 miliwn i adnewyddu Castell Harlech ac mae hi’n elfen bwysig yn y cynllun. Erbyn hyn, y mae’r bont yn ei lle. Cred rhai pobl ei bod yn werth ei gweld ac yn rhagori’n fawr ar yr hyn oedd yno hyd yn ddiweddar. Cred eraill fod y bont yn rhy fodern ac nad yw’n gweddu i safle mor hanesyddol. Yn y gorffennol, rhwystrwyd rhai cynlluniau yn y rhan hon o’r dref am ei bod yn ardal gadwraeth. Bydd y bont newydd yn caniatáu i ymwelwyr fynd i’r safle drwy’r fynedfa wreiddiol am y tro cyntaf ers dros 600 mlynedd. Bydd y bont yn creu cysylltiad o’r teras i borthdy’r castell, sy’n Safle Treftadaeth y Byd. Bydd y cynllun hefyd yn gweld hen westy Castell Harlech yn cael ei drawsnewid a’r maes parcio yn cael ei adnewyddu. Y gobaith yw cwblhau’r gwaith erbyn mis Ebrill. Hyderwn fod y cynllunwyr wedi gwneud yn fawr o’r lle parcio prin sydd ar y safle. Wedi’r cyfan, mae llefydd parcio yn ddigon prin yn y dref fel ag y mae pethau ar hyn o bryd. Beth yw eich barn chi?

Y bont newydd yn cael ei gosod yn ei lle

PLYGAIN LLANFAIR YN DENU’R CEWRI

Rhiannon Ifans

Arfon Gwilym

Trefor Puw

Mair Tomos Ifans

Iwan Morgan

Ian Rees

Pleser pur oedd cael bod yn y Gwasanaeth Plygain a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair ar nos Fercher, Ionawr 14. Trefnwyd y noson gan Gyfeillion Ellis Wynne a chyhoeddodd Gerallt Rhun, un o’r prif drefnwyr, mai Plygain traddodiadol oedd hwn i fod. Hynny yw, doedd neb yn gwybod ymlaen llaw sawl un oedd i gymryd rhan, nac ym mha drefn. Roedd disgwyl i bawb ganu caneuon gwahanol

i’w gilydd a hynny i gyd yn ddigyfeiliant. Roedd y rhan fwyaf yn defnyddio trawfforch i roi nodyn ar y dechrau. Braint fawr oedd gwrando ar rai o gantorion Plygain gorau’r genedl, a hynny yma yng nghanol Ardudwy. Fe welwch o’r lluniau uchod pwy oedd rhai ohonyn nhw. Hufen y genedl! Yn anffodus, nid oes gennym luniau o bawb fu’n perfformio. Er hynny, rhaid canmol pob un ohonyn nhw! [Gol.]


Llais Ardudwy GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

(07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar 27 Chwefror am 5.00. Bydd ar werth ar 4 Mawrth. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Chwefror 22 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

HOLI HWN A’R LLALL

Ydych chi’n bwyta’n dda? Mi fuaswn i’n dweud fy mod yn bwyta yn rhy dda ar adegau ac wedyn yn callio ar adegau eraill ac yn bwyta’n fwy iach! Hoff fwyd? Dwi’n hoff iawn o fwyd Indiaidd a Tsieiniaidd a ‘spare ribs’! Hoff ddiod? Gwin gwyn o Seland Newydd a chwrw’r Ship wrth gwrs!! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Teulu a ffrindiau. Enw: Iolo Williams Lle sydd orau gennych? Cefndir: Rydw i wedi fy ngeni a’m magu ym mhentref Talsarnau Dwi wrth fy modd yn teithio i lefydd newydd a dwi reit hapus yn ac yma fydda i bellach mae’n rhywle os ydw i hefo fy nheulu neu siŵr! ffrindiau. Gwaith: Garej R J Williams a Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? thafarn y Ship Aground. Gwyliau sgïo yn Avoriaz yn Ffrainc Man geni: Bangor yn 2014. Lle hyfryd a llawer o Sut ydych chi’n cadw’n iach? hwyl, er nad ydw i fawr o sgïwr i Dwi’n chwarae pêl-droed unwaith yr wythnos ac yn ceisio gymharu â’r plant! rhedeg rhyw unwaith neu ddwy’r Beth fuasech chi’n ei wneud hefo £5000? wythnos hefyd. Mynd â’r teulu ar wyliau i Florida. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Beth sy’n eich gwylltio? Dydw i fawr o ddarllenwr a Pan mae Arsenal yn colli! dweud y gwir heblaw’r papur Beth yw eich hoff rinwedd mewn newydd bob bora a’r Llais bob ffrind? mis wrth gwrs! Unigolyn sy’n gallu cael hwyl ac Hoff raglen ar y radio neu’r sy’n barod i helpu bob tro. teledu? Pwy yw eich arwr? Dwi’n hoff iawn o’r ‘soaps’ fel Thierry Henry, cyn-chwaraewr Rownd a Rownd, East Enders Arsenal a Shane Williams. a ballu, ac wrth fy modd hefo Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr rhaglenni dogfen ar sianel ardal hon? Discovery.

Roedd gen i edmygedd mawr o Gwynfor John oherwydd ei fod wedi bod mor weithgar i Dalsarnau a’r ardal yn gyffredinol. Beth yw eich bai mwyaf? Dwi’n tueddu i adael i waith fy mhoeni i ormod ar adegau. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pan mae pobl yn barod i feirniadu pobl am fentro. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Treulio amser hefo fy ngwraig a fy mhlant ar wyliau. Eich hoff liw? Coch. Eich hoff flodyn? Dydw i ddim yn ddyn blodau a dweud y gwir, heblaw’r Cennin Pedr wrth gwrs! Eich hoff gerddor? Dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth Bryn Fôn a dwi wedi trio ei gael i’r Ship i ganu lawer gwaith! Daeth heibio rhyw dro am beint ond dim i ganu eto! Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Tub Thumping gan Chumba Wumba! Pa dalent hoffech chi ei chael? Buasai wedi bod yn grêt i allu chwarae pêl-droed i safon well!! Eich hoff ddywediad? Siec ynteu arian parod gymrwch chi?! Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon fy myd ac yn lwcus iawn!

YN YR ARDD - BLODAU’R GAEAF Er gwaetha dyddiau byr ac eira cynnar a rhew, mae coed a phrysgwydd wedi blodeuo. Dyma ddeg sy’n codi calon ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Chimonanthus. Blodau melyn clir. Mae mwy o flodau ar ôl haf cynnes. Mae’n tyfu hyd at 6’. Cornus ‘Golden Glory’. Mae hwn yn cynhyrchu llawer o flodau, ffrwythau coch a deiliach porffor yn yr Hydref. 15’ Cornilla. Mae hwn yn blodeuo am amser hir ond ar ei orau nawr. 3’ Hamamelis. Blodau lliwgar ac mae ganddo bersawr cryf. 12’ Mahonia ‘Underway’. Mae hwn ychydig yn fyrrach na’r gweddill o’r teulu - blodau syth ar bigau hir yn drawiadol. 10’ Mae gan y 5 uchod flodau melyn, fel nifer o flodau’r gwanwyn. Mahonia ‘Underway’ Erica ‘Springwood White’ Mae’r grug yma yn dipyn o ffefryn, yn lliwgar a dibynadwy a heb fod yn ddibynnol ar bridd asid. Daphne. Un o’r goreuon o’r prysgwydd persawrus, a blagur coch yn agor i flodau mawr gwyn. 8’ Skimmia Kew Green. Cysylltwn Skimmia gydag aeron coch ond mae gan hwn lawer o flodau gwyn persawrus. 3’ Viburnum Bodnantense ‘Dawn’. Blagur coch-binc sy’n agor i sypiau toreithiog gwyn ag ymylon pinc, sy’n gwrthsefyll rhew. Viburnum Tinus Gwenllian. Mae’n fythwyrdd gyda blagur pinc tywyll yn newid i flodau gwyn ac wedyn fe geir aeron glas-ddu, weithiau ar yr un adeg. Tyfwyd yn Kew tua canol y ganrif ddiwethaf.


Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Cawsom ein cyfarfod cyntaf y flwyddyn ar nos Fawrth yr 20fed. Cawsom ymddiheuriadau gan amrywiol aelodau a chydymdeimlwyd gyda Pam wedi colli ei mam a Jean wedi colli Elwen. Cawsom ein hatgoffa am y casgliad o ategolion a dyddiadau pwysig yn y dyfodol. Gofynnodd Llewela am i ni gofio gwisgo coch ar y 6ed o Chwefror. Gofynnwyd am enwau at y gwahanol weithgareddau sydd i ddod. Croesawodd Llewela ein gŵr gwadd atom, sef Merfyn Thomas o Archifdy Dolgellau a’i wraig i’w gynorthwyo. Cawsom orig ddifyr yn eu cwmni yn edrych ar sleidiau o’r hen Bermo. Diddorol oedd gweld fel roedd y lle wedi newid. Hefyd cawsom wybod am y gwahanol ffeithiau a chymorth sydd ar gael yn yr Archifdy. Gofalwyd am y te gan Iris, Gwenda ac Elenor. Enillwyd y raffl gan Iris.

Y Gymdeithas Gymraeg Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf 2015 o’r Gymdeithas ar Ionawr 7fed. Daeth PSO Mark Hughes atom i sgwrsio am ‘Ddiogelwch yn y Cartref ’. Roedd ganddo lawer o daflenni inni i’w trafod a theclynnau i ni eu gweld ar sut i gadw’n cartrefi a’n heiddo yn ddiogel. Yna cafwyd cyfle i holi Mark am y teclynnau a oedd o ddiddordeb i’r aelodau, cyn cael paned. Noson dda iawn, wir. Llywydd y noson oedd Les Vaughan ac enillwyd y raffl gan Harri Jones. DALIER SYLW: Bydd cwmni drama Dinas Mawddwy yn dod atom ar nos Lun, 9 Chwefror. Croeso cynnes i bawb. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mair Jones, Amwythig [Bermo gynt] ar enedigaeth wyres fach, Freda Mair. Anfonwn ein cofion gorau atoch Mair. Cyngerdd Cofiwch am gyngerdd Gôr CF1 yn Eglwys Sant Ioan, nos Sadwrn, 28 Chwefror. Tocynnau: Theatr y Ddraig.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau

Honda Civic Tourer Newydd

Clwb 200 Côr MeibionArdudwy Mis Ionawr 2015

1 [£30] Ingrid Williams 2 [£15] Dafydd Thomas 3 [£7.50] I Bryn Lewis 4 [£7.50] Alun P Evans 5 [£7.50] Siân Edwards 6 [£7.50] Alun P Evans

CWMNI DRAMA DINAS MAWDDWY Nos Lun, Chwefror 9 yn Theatr y Ddraig am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb.

IAITH LIWGAR

Yn aml y dyddiau hyn, clywir llawer yn tyngu neu’n rhegi neu’n enllibio yn ailadroddus. Ac yn drist iawn, rhegfeydd Saesneg ydyn nhw os nad rhai Eingl Sacsonaidd! Genhedlaeth neu ddwy yn ôl, mi glywsech lawer mwy ar ebychiadau megis Nefoedd yr adar! Brensiach y brain! Brenin gogoniant! Rwtsh Meri Ann! A’m gwaredo! O, fy ngwlad! Myn chincos i! Myn coblyn i! ‘Rargol Dad! Dwbl wfft i ti! Myn diân i! O mam bach! Siort orau! Bobol annwyl! Dacia! Diaist i! Duwcs annwyl! Gan bwyll bach! Hawyr iach! Mawredd mawr! Myn cebyst i! ‘Rargian Fawr! Nefi blw! Rhad arnat ti! Twt lol! Twt twt! O’m profiad i, dydy mwyafrif ein pobl ifanc heddiw ddim yn defnyddio llawer o’r rhain. Prinder iaith sy’n gyfrifol medd rhai. Ond, wedi meddwl am ychydig, ’does ’na ddim prinder ebychiadau neu ansoddeiriau. Dyma i chi restr o rai o’r ymadroddion y clywais am ddynion a merched mewn gwahanol ardaloedd yn y gogledd [yn bennaf]. Pam defnyddio rhegfeydd pan fo rhain ar gael inni?

llechgi, cachgi, crewgi, surbwch, gingron, draenog, crinc, cocyn, llanc [tipyn o lanc], jarff â’i gynffon i fyny, sinach, un yn torri cyt [ni chlywais hyn yn cael ei ddweud am ferch]. Dwylo fel shelfiau ganddo. Fel swigen mochyn [pen moel].

Dywediadau am ddynion a merched

Yn siafio ddwywaith y dydd [dywedid am ferch hefyd]. Yn grwn fel budda’ [fel casgen hefyd]. Gall roi dau chwech am swllt i unrhyw un. Wyneb colli swllt a ffendio chwech. Siswrn [un sy’n mynnu tynnu’n groes]. Cloch dan bob dant ganddo[i]. Llawn stumia’, Blagard. Digywilydd fel talcen tas. Digon digywilydd i fynd â llefrith o de rhywun. Digon digywilydd i fynd â halen o ddagrau rhywun. Digon digywilydd i fynd i stopio cnebrwng i ofyn am bàs. Diog fel ffwlbart. Coesau fel robin goch. Dim mwy o goel na phen ôl babi. Dim mwy o afael na chlawdd Merched cerrig heb fortar. Hen hulpan, hurtan, het, jolpan, Cartref fel tŷ Jereboam. hen ast, cywan, ciatas, mules, Fel nyth gialchan [mwyalchen]. pladras, cenawes, slebog, swnan, Fel pin mewn papur. strapan, sopan, cowlad fel Fel clep melin. teyrnas, yn sgut am wario, fel Y lludw yn ei [g]chyfarfod yn y iâr fflegan, fel iâr ar fat rhacs, fel drws. iâr mewn taranau, hen dyrcan Mae mor debyg iddo/iddi fel ei fawreddog, hen rasal, llac ei fod wedi ei [ph]boeri ar bared. thafod, fel geneth ddeunaw Mae ganddo[i] geg fel ogof. [merch mewn oed yn edrych yn Mae fel cannwyll mewn drafft. ifanc], fel hen drigain [merch Yn denau fel weiren gaws. ifanc yn edrych yn hŷn]. Chwit-chwat. Fel pot llaeth cadw [disgrifiad o Yn bwyta gwellt ei [g]wely. het newydd ambell ferch]. Fel ryg-a-rug [rhegen yr ŷd], Fel colomen yn ei thŷ [gwraig siarad yn ddi-daw. fudr a blêr]. Fel malwen mewn côl tar. Natur yr hwch sydd yn y Mor ddireol â cheiliog y gwynt. porchell. Mor llawn o gelwyddau ag o gymalau. Dynion Mor wyllt â chacwn. Caridym, cadi-ffan, Meri-Ann, gwlanen, cenau, jolpyn, hulpyn, Misi [hefo bwyd]. hurtyn, lolyn, lobsyn, lob-lari, llo, llo cors, llipryn, llinyn trôns, Diau y gallwch chi feddwl am ragor. Anfonwch air! pen dafad, pen-bach, lleban, horwth, llabwst, swnyn, pwdryn, Jôc Orau Gŵyl Ymylol gwalch, ffleiar, cenau, hen gi, Caeredin yn 2014 ci drain, mochyn budr, mwnci, ‘Rydan ni wedi cael gwared ar mul, mwnci-mul, mynci-ciat, yr hwfer yn tŷ ni – dim ond hel mwlsyn, sglyfa’th budr, cyw llwch oedd o!’ dryw, carmon, slefyn, llwdwn,

3


LLANFAIR A LLANDANWG Colled i’r fro Yn drist iawn, yn ddim ond 65 oed, bu farw un o hen blant Llanfair, Korina Mort (Gregson gynt), yn ddisymwth ar 23 Ionawr. Roedd pawb yn gwybod am egni a brwdfrydedd Korina a’i hymroddiad i gymaint o achosion da yn yr ardal a bydd colled enfawr ar ei hôl. Cynhaliwyd ei hangladd yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech ar ddydd Mercher, 4 Chwefror, ac fe’i rhoddwyd i orffwys ym mynwent Eglwys Llanfair. Cydymdeimlwn yn fawr â’i gŵr Tom a’i brodyr a’i chwiorydd a’u teuluoedd yn yr ardal ac ar wasgar. Ymddeol Mae Mrs Gwen Edwards, Hafoty, Harlech, newydd ymddeol o’i swydd fel Swyddog Datblygu Meirionnydd am 18 mlynedd. Bu’n llenwi esgidiau Alwena Morgan ar gyfnod mamolaeth a chyn hynny gweithiodd fel Athrawes Iaith Meirionnydd. Bu Gwen yn weithgar a chydwybodol iawn yn ei swydd gan bob amser deithio’r filltir ychwanegol i sicrhau safon arbennig i bopeth a drefnwyd ganddi. Dymunwn bopeth gorau ac iechyd i fwynhau’r ymddeoliad i Gwen ac Ieuan yn y dyfodol. Hoffai Mudiad Meithrin Meirion ddiolch yn ddiffuant iawn i Gwen am ei gwaith diflino fel Swyddog Datblygu Meirionnydd. I’r perwyl hwn rydym wedi trefnu swper ffarwelio â Gwen ar nos Wener, Chwefror 27ain, 2015 ym Mwyty Mawddach am 7.00 o’r gloch. Os hoffech ymuno â ni, wnewch chi gysylltu â Heulwen Evans (Cylch Meithrin Llanbedr), Mai E Roberts (Nant-y-Coed, 01341 242744) neu eich Cylch Meithrin lleol os gwelwch yn dda. Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

Merched y Wawr Mai a Dai Roberts o’r Dyffryn oedd y wraig a’r gŵr gwadd y tro hwn. Cawsom fynd ar daith draw i’r Affrig, lle bu’r ddau ohonynt ar daith ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Trwy gyfrwng lluniau yng ngofal Dei a sylwebaeth gan Mai, cawsom gipolwg ar eu taith ddiddorol o gwmpas rhai o wledydd yr Affrig. Ar ôl glanio yn Johannesburg, teithiodd y ddau am Botswana lle’r oedd Ysgol Kuke ar gyfer plant pobl llwyth y San, cyn teithio drwy Namibia a chroesi’n ôl i Dde Affrica am dair noson cyn hedfan yn ôl adre. Roedd y lluniau o’r gwledydd a’r anifeiliaid yn werth eu gweld. Meinir a ddiolchodd i’r ddau am noson ddiddorol. Yna aethpwyd ymlaen gyda materion oedd i’w trafod. Diolchodd Linda ar ran y Cylch Meithrin am y gefnogaeth a gawsant i’r Stondin Gacennau. Gwnaed elw o £170 i’r Cylch. Cytunodd Ann i ddarllen stori ym mis Ionawr. Cytunodd y tîm Bowlio Deg roi ymdrech arall eleni ym mis Chwefror. Sue a Linda oedd yng ngofal y baned a Bronwen enillodd y raffl.

ADUNIAD

Blwyddyn Gychwynnol Medi 1966 Ysgol Ardudwy Nos Sadwrn, Mehefin 13 Clwb Golff Harlech am 7.00 o’r gloch Os ydych am ymuno â ni, dyma’r rhifau cyswllt :

Ann Mudie (Pierce) 07772 071322 e-bost ann.mudie@gmail.com Ann Jones (Harris) 01766 770846 e-bost annffynnon@btinternet.com

Tocynnau: £20 [yn cynnwys bwffe a disgo!]

Cyhoeddiadau Caersalem 2015

Am 2.15 oni nodir yn wahanol ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch

4

CHWEFROR 15 Parchg Edmwnd Owen MAWRTH 1 Parchg Christopher Prew 15 Br Eurfryn Davies

CYNGOR CYMUNED

Yr Elor Ni chafwyd y cytundeb yn ôl gan Gyfeillion Ellis Wynne hyd yma. Cyllideb Bydd angen clustnodi ar gyfer y canlynol: yswiriant y Cyngor £450, cyflog y Clerc £1,520, costau’r Clerc £300, treth ar gyflog y Clerc £380, torri gwair y fynwent £2,000, torri gwair y llwybrau cyhoeddus £1,200, cyfraniadau £1,000, pwyllgor y neuadd £1,000, pwll nofio Harlech £500, Un Llais Cymru £90, archwiliad £300, Dŵr Cymru £40, cynnal a chadw £1,500. Precept y Cyngor Penderfynwyd codi’r precept o £6,500 i £7,000 gan gofio am y cyfraniadau mae’r Cyngor yn mynd i’w rhoi i’r neuadd goffa a’r pwll nofio yn flynyddol. Hefyd o hyn ymlaen bydd raid i’r Cyngor edrych ar ôl y fynwent o’r gyllideb. Ceisiadau Cynllunio Sefydlogi’r twyni sydd wedi erydu - traeth Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Diddymu Amodau 8, 9 a 10 o ganiatâd “Cod Cartrefi Cynaliadwy” - Blaven, Llandanwg Cefnogi’r cais hwn. Unrhyw Fater Arall Datganwyd pryder bod dŵr yn casglu ar waelod rhiw Cae Cethin oherwydd bod y lori ysgubo ffordd yn ysgubo nodwyddau coed pin i’r cwteri a gofynnwyd i’r Clerc anfon llythyr at yr Adran Briffyrdd yn gofyn iddynt lanhau’r cwteri hyn yn rheolaidd er mwyn atal y dŵr rhag llifo i’r ffordd.

Marw Yn dawel, ar 25 Ionawr, yn 101 oed, bu farw Dr Mary Ellis wedi cyfnod byr o salwch. Roedd yn weddw i’r diweddar Dr T I Ellis, awdur y llyfrau adnabyddus ‘Crwydro Cymru’. Bydd rhai o’r ardal yn cofio ei mam, Mrs Hedley a oedd yn byw ym Murmur y Don, Llanfair, ac a fynychai Eglwys Llanfair. Cydymdeimlwn â’i merch Marged a’i mab Rolant, ei hwyrion Gwenllian, Llion ac Esyllt a’i gôr wyres Sioned. Roedd yn fam yng nghyfraith annwyl i Roger, yn fodryb gariadus, ac yn gyfaill triw i lawer. Cynhaliwyd yr angladd yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth ar ddydd Gwener, 30 Ionawr, ac fe’i rhoddwyd i orffwys yn ddiweddarach yn y prynhawn ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Llanfair. Marw Yn Ysbyty Gwynedd ar 18 Ionawr, bu farw Rhiannon Denman, Maesteg, Cae Garw, Llanfair. Roedd yn gyfnither hoff i Glenys, Josephine, Barbara, Cemlyn a’u teuluoedd. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanfair ar ddydd Llun, 2 Chwefror, ac yn dilyn fe’i rhoddwyd i orffwys ym mynwent yr Eglwys. Cafwyd casgliad tuag at Sefydliad y Galon. Rhodd i’r Llais Mari Poole Parry, Llandanwg £10

Cyngor Tref Penrhyndeudraeth MYNWENT MINFFORDD Cynnal a Chadw Beddau

Mae’r Cyngor yn ddiolchgar iawn i’r holl deuluoedd sy’n cadw beddau eu hanwyliaid yn daclus. Fodd bynnag, mae amryw o feddau wedi’u gorchuddio gan wair a thyfiant gwyllt (mae’n debyg am nad oes cysylltiadau teuluol yn yr ardal erbyn hyn) ac felly yn ystod y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn trefnu i’r beddau hynny gael eu tacluso. Am fwy o fanylion cysyllter â’r Clerc Glyn E Roberts 3 Tai Meirion Beddgelert LL55 4NB 01766 890483 glynctp@btinternet.com


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Mr Ioan Gruffydd o Bontnewydd, ŵyr Ifan Gruffydd, y Gŵr o Baradwys, oedd yn ein diddori ganol mis Ionawr. Mwynhawyd yn fawr y sôn a fu am droeon trwstan, yr hwyl yn y llofft stabal a’r hiwmor. Diolchwyd iddo yn gynnes gan Phil. Enillwyd y raffl gan Mair Thomas a Cledwyn Roberts. Ddiwedd mis Ionawr, daeth Criw-Ar-Y-Naw o ardal Trawsfynydd i’n diddori. Hyfforddwyd y dynion gan Gerallt Rhun ac roedd Iona Mair a Hefin Jones yn cyfeilio. Cawsom lawer o bleser wrth wrando ar eu rhaglen raenus. Enillwyd y raffl gan Cledwyn Roberts, Gweneira Jones a Trystan Griffiths. Edrychwn ymlaen at adloniant yng nghwmni’r Glaslancau, Porthmadog ar 23 Chwefror, Codi arian Cyflwynwyd £150 i Gymdeithas Cwm Nantcol yn dilyn yr Yrfa Chwist a gynhaliwyd yn Harlech ganol mis Ionawr. Dymuna’r swyddogion ddiolch yn ddiffuant iawn i Iwan Morus Lewis am ei waith trefnu a hefyd i’r merched a fu’n helpu i baratoi’r bwyd. Teulu Artro Cafwyd ymddiheuriad gan dair aelod selog, sef Myfanwy, Eleanor ac Elizabeth. Dymunodd Gweneira benblwydd hapus iawn i Iona. Ein gwraig wadd oedd Hilda Harris a chroesawyd h’n gynnes gan y Llywydd. Diolchodd Hilda am gael dod unwaith eto. Cafwyd ychydig o hanes cynnar am y pentref i ddechrau, hanes diddorol iawn. Yna, cafwyd cwis, a’r cystadlu’n frwd a hwyliog. Diolchodd Beth am brynhawn difyr. Enillwyd y rafflau gan Iona a Glenys. Cartref Newydd Croeso i Mathew a Sara Harris a’u plant bach Wiliam a Gwen i’w cartref newydd yn Ger y Coed. Bydd bod yn agos i nain, sef Mary Evans, Plas Caermeddyg, yn braf iawn. Dymunwn pob hapusrwydd iddynt.

Merched y Wawr Nantcol Cychwynnwyd y noson ar nodyn trist iawn gyda cholli aelod ffyddlon a gweithgar iawn, sef Elwen. Cydymdeimlwyd â’r teulu a ffrindiau oll ac fe dalwyd teyrnged hyfryd iawn iddi gan Gwen. Roedd Elwen wedi bod yn llywydd ac ysgrifennydd sawl tro a gyda’i diddordeb mewn gwaith llaw yn ein cynrychioli ar bwyllgor Celf a Chrefft y Rhanbarth. Roedd yn mwynhau mynychu’r gwahanol gyrsiau, yn enwedig felly gwaith llaw a gosod blodau. Bydd chwithdod a bwlch mawr yma yn Nantcol ar ei hôl. Cydymdeimlwyd hefyd gyda Heulwen, cyn aelod o’r gangen, wedi colli chwaer yng nghyfraith. Llongyfarchwyd Ann ar enedigaeth wyres; ganwyd merch fach, Elena Grug i Eleri a Gwyndaf, Maesygarnedd ac i Gweneira, hen nain i Nansi Angharad, merch fach i Rwth a Tristan, Graig Isa, a hefyd ar lwyddiant ei merch Haf Llewelyn ar lansiad ei llyfr newydd yn ddiweddar. Llongyfarchwyd Llion a Jaimee, sef ŵyr Jean ar eu dyweddïad. Dymunwyd ymddeoliad hapus i Gwen ar ôl bron i 25 mlynedd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Diolchwyd i Beti Mai am ein cynrychioli yn y Llith a Charol cyn y Nadolig. Cafwyd enwau ar gyfer cystadlaethau chwaraeon - dartiau, dominos a’r bowlio deg. Wedyn, croesawyd tri o ddysgwyr atom ynghyd â’r gŵr gwadd am y noson, sef Gwynne Pierce. Roedd Gwynne wedi paratoi taflenni pwrpasol ar ein cyfer. Gyda chyfeiliant y gitâr cawsom noson gartrefol yn cyd-ganu hen ffefrynnau Wil Coes Bren, Pictiwrs Bach y Borth, Lleucu Llwyd, Gafael yn fy Llaw, i enwi dim ond ychydig, ac fe gawsom ambell stori ddifyr iawn hefyd. Talwyd y diolchiadau gan Gwen. Diolchodd i ferched Dyffryn am y lluniaeth. Enillwyd y raffl gan Anwen. Mis nesaf byddwn yn ‘Cadw Gwenyn’ yng nghwmni Carys Edwards.

Côr Meibion Ardudwy CYFARFOD BLYNYDDOL

Adroddiad yr Arweinydd Diolchodd Aled Morgan Jones i bawb am eu gwaith ffyddlon ar hyd y flwyddyn. Diolchodd i’r unawdwyr am eu cymorth gwiw. Ychwanegodd ei ddiolch i’r swyddogion, yn enwedig Goronwy, Bryn, Ieuan a Gwilym ac Idris. Roedd y daith Iwerddon ar y cyd ag aelodau Cana-Mi-Gei yn llwyddiant ysgubol a gallwn fod yn falch o’r arian a godwyd gennym at Hospis Galway. Un elfen drist oedd nad oedd unrhyw aelod newydd wedi ymuno â’r Côr eleni. Mae dau gyngerdd eisoes ar y gweill, sef un yng Nghlwb Golff Harlech ar Chwefror 29 a’r llall ym Melin-y-coed ar Mawrth 13. Adroddiad y Cadeirydd Diolchodd Roger Owen i’r aelodau am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn. Roedd hefyd yn werthfawrogol o waith Aled, Idris a Gwilym Rhys ar yr ochr gerddorol, a Goronwy, Bryn ac Ieuan ar yr ochr weinyddol. Diolchodd hefyd i’r unawdwyr ac i Phil am drefnu’r daith i Iwerddon. Cyfeiriodd hefyd at Idris Williams, Tanforhesgan sydd wedi bod dan anhwylder ers tro. Roedd yn falch ei fod wedi gwella a nododd ei fod yn gobeithio ei weld yn yr ymarferion pan ddaw’r gwanwyn. Sefyllfa Ariannol Adroddodd Bryn Lewis fod y Côr wedi gwneud colled yn ystod y flwyddyn. Y daith i Iwerddon oedd yn bennaf gyfrifol am y golled. Er hynny, diolch i waith clodwiw Ieuan Edwards â’r Clwb 200, mae’r gyllideb yn gadarn. Diolchwyd i Bryn ac Ieuan am eu gwaith rhagorol. Etholiadau Cymerodd Ieuan Edwards y gadair, a diolchodd yntau i Roger am ei waith effeithiol dros y flwyddyn. Etholwyd Mervyn Williams yn Is-gadeirydd am y flwyddyn. Bydd Iwan Morus Lewis yn ysgrifennydd cofnodion yn dilyn ymsddiswyddiad Goronwy Davies wedi deg mlynedd o wasanaeth clodwiw fel ysgrifennydd. Bydd y swyddogion eraill a’r cynrychiolwyr ar y pwyllgor yn aros fel cynt. Y llywydd yn ystod 2015 fydd Bili Jones. Côr Merched Leelo Rydym yn aros am gadarnhad y bydd Côr Merched Leelo o Parnu yn teithio i Gymru eleni. Gobeithiwn yn arw y byddwn yn rhannu llwyfan gyda nhw yn ystod y flwyddyn. Aelodau Newydd Rydym yn parhau i chwilio am aelodau newydd. Buasai rhyw bedwar aelod newydd yn gwneud byd o wahaniaeth i ni! Ysbyty Bu Mrs Iona Anderson, Bryn Deiliog, yn Ysbyty Wrecsam yn cael llawdriniaeth ar ei llaw. Gobeithio ei bod yn dal i wella. Ein cofion at Mr Hywel Jones, Moelfre Terrace, nad yw wedi bod yn teimlo’n dda yn ddiweddar. Gobeithio ei fod yn gwella.

Cyhoeddiadau’r Sul

Capel Salem am 2.00 y prynhawn CHWEFROR 15 Parch Dewi Tudur Lewis MAWRTH 15 Parch Dewi Tudur Lewis 22 Parch Eirian Wyn Lewis 29 Parch Judith Morris * * * CHWEFROR Y gwasanaethau isod am 2.00 o’r Rhodd gloch oni nodir yn wahanol. Diolch i Edwyn Humphreys am 15 Capel y Ddôl, y rhodd o £30 i’r Llais a £6.50 Parch Adrian Williams oddi wrth Elwyn Evans er cof 22 Nantcol, am deulu Gilfach. Mrs Morfudd Lloyd MAWRTH Yn gwella 1 Capel y Ddôl, Anfonwn ein cofion at Mrs Miss Glenys Roberts Heulwen Jones, Cefn Uchaf gynt 8 Capel y Ddôl, sy’n gwella wedi iddi dderbyn Parch Marcus Robinson triniaeth yn Ysbyty Wrecsam.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen, Horeb Cyfarfu’r gymdeithas nos Iau, 8fed Ionawr. Croesawyd pawb gan Gwennie. Collasom un o’n haelodau, Elwen, ar ddechrau’r flwyddyn a chydymdeimlodd â’r teulu yn eu profedigaeth sydyn. Yna, croesawodd a chyflwynodd Huw Dafydd, llywydd y noson, ein gŵr gwadd, sef Tecwyn Ifan. Bu’n aelod o Berlau Taf ac Ac Eraill ac mae ganddo 10cd. Bu’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Sir Benfro ond mae wedi symud i’r gogledd ers rhai blynyddoedd. Canodd nifer o ganeuon gan sgwrsio’n ddiddorol am hanes bob cân. Canodd y gân gyntaf ‘Bythol Wyrdd’ er cof am y diweddar Alun Sbardun Huws gan i’r ddau gyd-ysgrifennu’r gân gyda’i gilydd. Canodd hefyd un gân newydd, ‘Cân i’r Tŷ Cwrdd’. Mwynhawyd pob munud yn gwrando arno’n sgwrsio a chanu a diolchwyd iddo gan Huw. Alma, Elenor, Anthia a Rhian oedd yng ngofal y lluniaeth. Ar 12fed Chwefror cawn gwmni Mari Gwilym. Clwb Cinio Cyfarfu nifer dda yn David Jones’ Locker yn y Bermo ar 20 Ionawr am 10.30 am goffi. Yna aethom i Institiwt y Morwyr lle’r oedd dau aelod o’r pwyllgor yn aros amdanom. Cawsom hanes yr adeilad ganddynt a chyfle i fynd o gwmpas yr arddangosfa. Sefydlwyd yr Institiwt yn 1890 gan y Canon Edward Hughes, rheithor yn y Bermo. Mae’r ystafell yn agored drwy’r flwyddyn. Mae yno hefyd ystafell snwcer a diddorol oedd gweld mewn cofnodion fod y diweddar O T Morris, Pentre Canol wedi cyrraedd ffeinal un gêm bwysig yn y 40au er nad ef enillodd. Yna ymlaen i’r Tŷ Gwyn, lle mae arddangosfa ddiddorol iawn gan gynnwys y Gloch Efydd a ganfuwyd yn y môr ger Dyffryn gan ddeifwyr lleol. Arni mae’r dyddiad 1677 a’r adnod ‘Molwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd’ yn y Ffrangeg. Yna ymlaen i’r Last Inn i fwynhau pryd o fwyd. Ar Chwefror 17 byddwn yn mynd ar y trên i Aberdyfi. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

6

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Lyn Simkiss, Trelawnyd ond yn enedigol o’r Dyffryn ar dderbyn y fedal uchaf y gall y Pab ei rhoi. Bu Lyn yn sgwrsio gyda Dylan Jones ar Radio Cymru fore Llun, 19 Ionawr a braf oedd gwrando arno. Rhoddwyd y fedal iddo am ei waith diflino dros ei Eglwys am flynyddoedd yn casglu arian at gynnal yr Eglwys; yn ystod y blynyddoedd casglodd £30,000. Cyflwynir y fedal iddo yn ei Eglwys cyn diwedd y mis gan Esgob Wrecsam a bydd ei frawd William, sy’n byw yn Nhywyn a’i frawd Eryl sy’n byw yng Nghaernarfon yn y gwasanaeth. Gadawodd Lyn y Dyffryn pan yn ugain ac aeth i weithio i Birmingham yn edrych ar ôl cerbydau British Relay, cwmni teledu. Yn ddiweddarach symudodd i Drelawnyd i weithio i Visionhire. Mae hefyd yn aelod o Gôr Trelawnyd ers dros 20 mlynedd. Da iawn ti, Lyn. Mae gan lawer ohonom atgofion annwyl iawn am ei fam oedd yn rhannu cinio i ni yn Ysgol Dyffryn. Diolch Dymuna Ifan a Glenys Richards, Minffordd, Dyffryn ddiolch o galon am y cardiau, galwadau ffôn a’r dymuniadau da a dderbyniasant ar achlysur dathlu eu priodas ddiemwnt. Diolch yn fawr. Diolch a rhodd £10 Dyweddïo Llongyfarchiadau i Jamie Sydenham a Llion Wellings ar eu dyweddïad tra ar wyliau sgïo dros y flwyddyn newydd. Pob hwyl iddynt yn eu cartref newydd yn Nhal-y-bont. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb CHWEFROR 8 Rhian a Meryl 15 Parch Gareth Rowlands 22 Dewi Jones MAWRTH 1 Parch Carwyn Siddall

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher 21 Ionawr. Gyda’r holl waith ar y neuadd wedi ei orffen, mae’n lle braf iawn i gyfarfod. Croesawyd pawb gan Gwennie, gyda chroeso arbennig i Mrs Ann Taylor, Bro Enddwyn oedd wedi dod am y tro cyntaf. Mae Ann yn enedigol o Dalsarnau, ac roedd ei thad yn brifathro yno ac yn gefnder i Mary Williams, Cynefin. Roedd rhai ohonom yn ei chofio yn Ysgol Ardudwy a gobeithiwn y daw eto. Cydymdeimlodd â Laura wedi colli ei chyfnither, Elwen, ac â Meinir wedi colli cyfnither yn y de. Yna croesawodd Mrs Gwen Pettifor, Llanfair, atom. Un o’r Penrhyn yw Gwen yn enedigol ond wedi crwydro llawer ac wedi byw yng Ngwlad Pwyl am gyfnod. Mae Gwen yn dalentog iawn ac yn gallu gwneud gwaith llaw o bob math. Roedd wedi dod â’i gemwaith i ddangos i ni ac yr oedd ei harddangosfa yn werth ei gweld. Cynllunio cardiau yw’r gwaith mae’n fwynhau fwyaf, a dangosodd i ni esiampl o sut y mae’n gwneud hynny. Mae’n rhoi ei chardiau i’w gwerthu yn siop elusen Hosbis yn y Cartref yn Harlech a rhoddodd dri cherdyn yn wobr raffl i ni. Cafwyd pnawn addysgiadol a difyr iawn yn ei chwmni. Diolchwyd yn gynnes iawn iddi gan Iona. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Laura, Ann a Rhiannon. Y Melinydd Olaf yn Dyffryn

‘King’s Mill’ yw’r enw swyddogol yn y gweithredoedd, ond y Felin ddefnyddiai’r plwyfolion. Dafydd Jones oedd y melinydd olaf, roedd yn ffermio ac yn gweithio’r felin flawd. Magodd bedwar mab ac un ferch, ond profedigaeth enbyd iddo oedd colli ei fab John yn bump oed trwy ddamwain yn 1893. Bu’r plant i gyd yn Ysgol Sir y Bermo, George

Dafydd Jones gyda’i briod a’r mab. Mae’r llun gwreiddiol yn yr Archifdy yn Nolgellau. Brymer y cyntaf o’r Dyffryn ym 1894. Aeth George a David i’r banc, aethant i Bensylfania ac aros yna. Daeth George i dreulio Nadolig 1911 gyda’i deulu; dod trosodd ar y llong Lusitania, ond yn ffodus nid aeth yn ôl arni. Suddwyd hi gan yr Almaenwyr, a dyna gychwyn y Rhyfel Mawr 1914-18. Ysgrifennodd George hanes diddorol yn y Dyffryn ac yn enwedig yr aduniad Ysgol Bermo. Yr oedd Dafydd Jones yn gapelwr selog. Yn athro Ysgol Sul penigamp; goleuedig iawn yn ei Feibl. Cafodd ddamwain a cholli bysedd ei law chwith, ac mae ei law ym mhoced ei got ymhob llun wedi hyn. Prynodd Llys Enddwyn ac adeiladwyd warws i werthu bwyd anifeiliaid, a glo. Gofalai am Restr Pleidleisio a chasglu trethi plwyf Llanenddwyn. Bu fy modryb yn cadw tŷ iddo am flynyddoedd. Hi oedd yn gyfrifol am lawer o’r gwaith papur. Byddent yn rhoi dyddiad hel y trethi, a byddai’n mynd ar y bws naw y bore, cerdded i Graig Isa pryd byddai Mrs Jones wedi ei gweld yn dod at Gilcychwyn, a byddai paned yn ei haros. Cerddai i’r ffermydd i lawr i Lanbedr a chael y bws yn ôl i’r Dyffryn. Dyma’r gorchwyl cyntaf i mi wedi dysgu dreifio. Byddai’r hen felinydd yn cael sbri ar adegau, cael David Humphrey, y torrwr beddau, i ddod â whisgi iddo o’r Bermo. Byddai fy modryb yn bygwth gadael – a’r hyn ddywedai bob tro oedd “Meddw oedd o, maddau iddo.” Bu farw ym 1943 yn 86 mlwydd oed, a’i gladdu gyda’r mab a’i briod ym mynwent Horeb. Lilian Edwards


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT TEYRNGED I FFRIND TRIW MAIR ELWEN PRYCE EVANS - dyma oedd yr enw llawn ac roedd y PRYCE hefo Y yn bwysig iawn. Fe gofir Elwen gyda hoffter arbennig ac nid anghofiwn yn fuan iawn am ei dywediadau craff a ffraeth. Gellir ei disgrifio fel clamp o gymeriad gyda chlamp o galon fawr. Un o blant y fro oedd Elwen, wedi ei geni a’i magu yma yn y Dyffryn. Ganed hi ar Ebrill 9fed, 1938, yn un o chwech o blant i William a Jennie Evans. Ergyd drom i’r teulu oedd colli’r mab hynaf yn blentyn ifanc ac yn ddiweddarach colli’r tad a phump o blant eisiau eu magu ar aelwyd Awelfryn. Wedi ymadael â’r ysgol aeth Elwen i ddilyn cwrs Llaw-fer a Theipio i’r coleg ym Mhorthaethwy ac yna dychwelyd i weithio i’r Adran Iechyd yn Nolgellau hyd ei hymddeoliad cynnar dros ugain mlynedd yn ôl. Yna, aeth i weithio’n rhan amser i’r Ganolfan Ymwelwyr yn Harlech. Bu wrth ei bodd yno am flynyddoedd. Byddai’n mynd â Siani’r ast yno yn gwmni a gorweddai honno’n dawel wrth ei thraed ar hyd y dydd. Fel y dywedodd Elwen wrth Iwan Parry, y milfeddyg, rhyw dro – Cofiwch, mae Siani yn un o’r teulu – ac felly yr oedd. Ni chafodd hi ddim cam ganddi erioed. Roedd yr union un i’r swydd hon gan ei bod yn medru cymdeithasu’n dda hefo pobl. Cofiwn amdani fel sgwrsiwr huawdl ac yn barod ei chyngor a phendant ei barn bob amser. Roedd yn ddifyr i fod yn ei chwmni oherwydd roedd yn adnabod ei chynefin a gallai adrodd hanesion difyr am yr hen amser ac am drigolion pentrefi Dyffryn a Thalybont ers talwm. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd y gymuned drwy wasanaethu ar amryw o bwyllgorau a mudiadau. Bu ei chyfraniad yn werthfawr ar Bwyllgor Iechyd Cymunedol Meirionnydd am sawl blwyddyn. Roedd cangen Nantcol o Ferched y Wawr yn agos iawn at ei chalon a

gwasanaethodd fel llywydd ac ysgrifennydd y gangen. Gellid ei chyfri yn dipyn o ffeminydd a byddai gwrthwynebiad taer gan Elwen petai rywun yn cynnig enw dyn fel siaradwr. Hefyd, bu’n ysgrifennydd gweithgar i gangen Dyffryn o Sefydliad y Merched. Annibynwraig i’r carn oedd Elwen a bu’n aelod ffyddlon a chefnogol i Eglwys Rehoboth, Dyffryn, hyd i’r Achos ddirwyn i ben. Er nad oedd yr iechyd mor hwylus ag y bu, cadwodd ei ffydd ac ymdrechodd i fynychu gwasanaethau yn Eglwys Llanenddwyn gan dderbyn croeso cynnes gan yr aelodau. Un o’i hoff ddiddordebau oedd gwaith llaw o bob math. Byddai’n treulio oriau wrth y gwaith a chai bleser di-bendraw yn y dosbarthiadau gwnïo yn Neuadd yr Eglwys a’r Stablau. Ymhyfrydai ei bod wedi llwyddo i gwblhau darn o waith ar gyfer yr Ocsiwn Mawr er budd elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhalybont yn ddiweddar. Ei diddordeb pennaf, fel y gŵyr pawb, oedd cerddoriaeth a chanu. Meddai ar lais alto cyfoethog a chofiwn amdani fel unawdydd ac aelod blaenllaw yng Nghwmni Opera’r Bermo yn ystod y chwech a’r saith degau. Yn aml, soniai am rai troeon trwstan a’r hwyl a’r chwerthin yn ystod y cynyrchiadau. Tua’r un cyfnod, roedd côr cerdd dant Mr O T Morris yn ei anterth. Roedd Elwen ac yntau yn deall ei gilydd i’r dim. Pobl y soh fah oedd y ddau a dim llawer i ddweud wrth hen nodiant, gan ddatgan mai doh me soh oedd pob canu! Roedd canu clasurol at ei dant a bu’n aelod ffyddlon iawn o Gôr Dyfrdwy a Chlwyd gan ganu gyda rhai o unawdwyr clasurol byd enwog. Bu’n aelod o sawl côr yr Eisteddfod Genedlaethol gan deithio cryn bellter i ymarferion yn wythnosol. Etholwyd hi yn ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987 a gwnaeth ei gwaith gyda graen. Gallai ganu gwerin yr un mor ddeheuig ac fel aelod o Gôr Gwerin y Gader cofir am ei llais

grymus yn cynnal adran yr alto. Mae sawl aelod o’r côr yn cofio’r amseroedd difyr a doniol yng nghwmni Elwen ar y teithiau i Rotterdam, Berlin a Llydaw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, Côr Bro Meirion oedd yn mynd â’i bryd. Roedd yn ei helfen yn canu amrywiaeth o ganeuon clasurol ac ysgafn ac yn tynnu coes Iwan Parry, yr arweinydd, gyda’i sylwadau hwyliog a bachog. Meddai ar ffordd arbennig o ymwneud â phobl o bob oed yn y côr a byddai’r bechgyn yn heidio i roi help llaw iddi bob amser. Bydd Côr Bro Meirion yn gweld bwlch mawr ar ei hôl. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â chwi - Alun, Jean, Einir, Robert Elwyn a’r holl gysylltiadau teuluol yn eich profedigaeth o golli Elwen. Er y tristwch o’i cholli, diolch am lawer iawn o hapusrwydd a dedwyddwch yn ei chwmni dros y blynyddoedd. Yn sicr, fe fydd yr atgofion yn gymorth i ni oll yn ein hiraeth. O’i cholli erys atgof A’i halaw’n “canu’n y cof.” EW ac EPO Elwen Hunodd yn hedd y plygain Nepell o’r hen gynefin, Cymerwch gysur deulu bach Cawn gwrdd yn ‘Ffald y Brenin.’ John Gornant

CYNGOR CYMUNED

Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio: TENDR 1 Yn y fynwent gyhoeddus o leiaf unwaith y mis a hefyd fel bod angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor, a gwneud gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio pedair gwaith y flwyddyn yn hen fynwent Llanddwywe a Llanenddwyn. TENDR 2 Y llwybrau cyhoeddus yn Nyffryn Ardudwy a Thalybont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. TENDR 3 Y ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri gwair a’i glirio o Barc Morlo, Gardd Penybont, toiledau Talybont, wrth fainc Bro Enddwyn, ar ben ffordd Ystumgwern, wrth y fainc rhwng Ffordd y Llan a Ffordd yr Efail a’r gofeb.

* * * Mwy o fanylion gan y Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.15 NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI EI ANFON I MEWN AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

TEULU RAYNER YN DATHLU Pum Cenhedlaeth Teulu Rayner

Diolch Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb, yn deulu ac yn ffrindiau, am y cardiau a’r anrhegion a’r dathliadau a drefnwyd ganddynt ar achlysur fy mhen-blwydd mawr yn ddiweddar. Mwy fyth o ddiolch i bawb wnaeth anghofio! Anwen L Roberts £10

Diolch Hoffai Dorothy Harper, Argraig, ddiolch o galon i’w ffrindiau a chymdogion am eu dymuniadau da, cardiau a galwadau ffôn tra’r oedd yn Ysbyty Gwynedd ac ar ôl iddi ddod adref. Mae’n gobeithio gweld pawb yn fuan. Rhodd a diolch £10

Bronwen gyda’i mab Colin, wyres Dionne, gor-ŵyr Arwel a’i gor-or-wyresau Elin a Lowri.

Braf iawn gweld Dylan yn ôl wrth ei waith ar ôl y ddamwain gafodd o ym mis Medi – anffawd pur gas i’w law. Fe wyddom fod Dylan o ddydd i ddydd yn ei waith yn gorfod trin peiriannau, a nifer ohonynt yn rhai peryglus. Ac yntau wedi dychwelyd i weithio ym mis Tachwedd, roedd Dylan yn cydnabod pa mor bwysig ydy gofal wrth drin peiriannau a’r angen i wisgo dillad addas wrth drin peiriannau, megis lli gadwyn. Cafwyd y llun a’r stori ar wefan www.talsarnau.com. Mae’n werth i chi fynd i chwilio am y wefan - mae yno doreth o ddeunydd difyr. Bronwen wedi mwynhau cinio pen-blwydd yng nghwmni ei phlant Colin, Liz, Linda, Ian, Alan a Michael. Mae gan Bronwen 13 o wyrion/wyresau, 16 o or-wyrion/orwyresau a dwy or-or-wyres.

CYNGOR CYMUNED

Cyllideb y Cyngor Mae angen clustnodi ar gyfer y canlynol: yswiriant y Cyngor £800, cyflog a chostau’r Clerc £1,360, treth ar gyflog y Clerc £340, costau’r Clerc £450, costau swyddfa £400, torri gwair y mynwentydd £1,500, torri gwair y llwybrau cyhoeddus £1,200, cyfraniadau £3,000, Pwll Nofio Harlech ymholiadau erbyn ein cyfarfod Merched y Wawr £1,000, Neuadd Bentref £1,500, Un Llais Cymru £100, archwiliad £300, nesaf. Croesawodd y Llywydd, Siriol seddi cyhoeddus £1,000. Gobeithiwn drefnu ymweliad â’r Precept y Cyngor Lewis, yr aelodau i gyfarfod Llyfrgell Genedlaethol yn mis Ionawr yn Neuadd Penderfynwyd gadael y precept ar £10,000. Aberystwyth yn ystod mis Mai a Ceisiadau Cynllunio Talsarnau, a dechreuodd drwy Cais i osod rheng 12 panel ffotofoltäig wedi eu gosod ar y ddaear threfnir bws i’n cario yno. ddymuno Blwyddyn Newydd Glanllyn, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Mae cwestiwn 25 wedi ei ateb Noson i’r dysgwyr oedd y tro Dda i bawb. Wedi derbyn rhai yma gyda Band Arall yn diddori. yn anghywir. Gellir gweld y datblygiad o’r ffordd. ymddiheuriadau, cyflwynwyd Newid ystafell capel yn estyniad deulawr i’r tŷ ac adeiladu sied bren i ochr y cofnodion cyfarfod 3 Tachwedd Daeth 9 aelod o ddosbarthiadau tŷ - Tŷ Capel Graig. Cefnogi’r cais hwn. ac adroddiad o’r Cinio ’Dolig ar Cymraeg Gwynne Wheldon Trenau Evans atom ac wedi i Siriol 12 Rhagfyr. Ni all teithwyr ddefnyddio eu tocynnau am ddim ar y trên yn ystod tymor groesawu pawb i’r ystafell, Trafodwyd rhai achlysuron yr haf. Cytunwyd i ofyn mewn cyfarfod o Reilffordd y Cambrian a oedd dosbarthwyd taflenni o ganeuon posib cael mwy o gerbydau ar y trên yn ystod tymor yr ymwelwyr. i ddod gan ddechrau gyda’r er mwyn i bawb gael ymuno yn Bowlio Deg yng Nglanllyn nos Unrhyw Fater Arall Cytunwyd i Margaret Roberts a Geraint Williams archwilio’r seddi y canu. Cyflwynwyd eitemau Wener 20 Chwefror ac enwyd cyhoeddus ac i Geraint Williams ddod â phris i’r Cyngor am unrhyw waith y tîm a gymrodd ran y llynedd cerddorol yn ogystal gan y angenrheidiol arnynt. i gynrychioli eto eleni: Siriol, Band a threuliwyd orig ddifyr Datganwyd pryder bod beiciau modur yn dal i fynd i fyny at Lyn Tecwyn Anwen, Dawn, Gwenda G, Mai yn cyd-ganu, gwrando a chlapio. Uchaf a gofyn i’r Parc osod arwyddion i’w gwahardd. a Maureen. Nododd pawb eu Wedi diolch i’r Band, cafodd Cytunwyd i gefnogi’r cais i ail agor lein y trên o Aberystwyth i Gaerfyrddin dewis o fwydlen Gwesty’r Eryrod pawb wahoddiad i helpu eu a gofynnwyd i’r Clerc anfon llythyr at Edwina Hart yn datgan hyn; hefyd ar gyfer y noson. hunain i’r lluniaeth ysgafn oedd cytunwyd iddi gysylltu gyda Chynghorau Cymuned yr ardal i ofyn iddynt Ystyriwyd a fyddem yn cael dau wedi’i baratoi gan swyddogion y anfon llythyr o gefnogaeth hefyd. gyfarfod Gŵyl Ddewi, hynny yw, Gangen a bu llawer o sgwrsio Mae llwybr cyhoeddus Y Wern wedi gwella’n sylweddol. sgwrs a chinio ar ddau ddiwrnod wrth y bwrdd bwyd a braf oedd Mae perchnogion Isgoed eisiau cyfleu eu diolchiadau i Mr Meirion Griffiths am y gwaith taclus mae wedi ei wneud o glirio tu ôl i’w tŷ ar dir gwahanol . Cytunwyd i wneud gweld pawb yn mwynhau. sy’n eiddo i’r Cyngor.

8


PRIODAS

Ar y 22ain o Dachwedd 2014, priodwyd Judith Evans, merch Michael a Stephanie Evans, Castle Gift Shop Harlech, a Simon Strevens, gynt o Lundain. Cynhaliwyd y briodas ym Mhortmeirion ar ddiwrnod hynod o braf. Y morwynion oedd Heledd Evans, Isobel Evans a Charlotte Strevens. Y gwas priodas oedd Mark Stebbings (ffrind y priodfab). Treuliwyd y mis mêl yn teithio o amgylch Sbaen. Mae’r ddau wedi symud i fyw i Drem-y-Castell, Ynys. Mae Judith yn rhedeg y busnes teuluol, Castle Gift Shop, ac mae Simon yn gweithio fel rheolwr yn Zip World Titan ym Mlaenau Ffestiniog. Dymuna’r ddau ddiolch i bawb am yr holl gardiau, anrhegion a negeseuon. Llun gan Celynnen Photography. Rhodd £10

YSGOL TANYCASTELL

Anti Gwyneth yn ymddeol Roedd hi’n ddiwrnod trist yn hanes Ysgol Tanycastell ddiwedd y tymor diwethaf, gan ei bod yn ddiwrnod olaf Anti Gwyneth. Mae Anti Gwyneth wedi gweini ar ddisgyblion yr ysgol ers 27 o flynyddoedd. Hoffem ddiolch o galon iddi am ei gwasanaeth dros y cyfnod yma a dymuno pob lwc iddi yn ei hymddeoliad.

PÊL-RWYD

Tîm Ysgol Llanbedr Bu tîm pêl-rwyd Ysgol Llanbedr yn llwyddiannus yn nhwrnament dalgylch yr Urdd ym mis Tachwedd ac aethant ymlaen i gystadlu yn y Sir. Yn dilyn eu llwyddiant yno mi fyddant yn cynrychioli ysgolion Meirionnydd yn Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth ym mis Mai. Llongyfarchiadau iddynt!

Tîm cymysg Ysgol Llanbedr ac Ysgol Dyffryn Ardudwy Cafodd y ddwy ysgol gyfle i ymuno er mwyn creu tîm pêl-rwyd i gystadlu yn nhwrnament Undeb Pêl-rwyd Cymru yn Harlech. Gan eu bod wedi ennill cawsant fynd ymlaen i gystadlu ym Mhorthmadog yn erbyn timau eraill o Wynedd. Da iawn blant!

Siarter Iaith Llongyfarchiadau mawr iawn i ddisgyblion Ysgol Tanycastell ar eu llwyddiant gyda Siarter Iaith Gwynedd. Cafodd yr ysgol ei gwobrwyo gyda’r Wobr Arian yn Nolgellau yn ddiweddar. Ymlaen â chi yn awr am y Wobr Aur!

TOYOTA YN CEFNOGI YMGYRCH Y TRWYNAU COCH - MAWRTH 13, 2015

Cofiwch osod trwyn coch ar eich car yn ystod y mis. Mae’n costio £5 ac mae pob ceiniog o’r arian a gesglir yn mynd at elusen y trwyn coch.

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

9


Mrs Lona Williams Teyrnged gan Glesni

Ar ôl sefyll yma ychydig dros bum mlynedd yn ôl yn talu teyrnged i Dad, dywedais na fuaswn i byth yn medru gwneud eto, ond prin y dychmygais y buasai Mam wedi ein gadael mor fuan. Cafodd Mam ei geni yn Nhŷ Nanney yn Nhremadog yn 1945 yn ferch i Ieuan a Tywyna Jones. Ymgartrefwyd yn y Lodge, Talsarnau cyn symud nifer o weithiau gan fod Taid yn was ffarm ym Moel Glo, Ronan, Croesor Uchaf a Chan y Coed - lle cafodd Yncl Medwyn ei eni. Symud wedyn i Stabal Mail cyn setlo yn Nhegfan, Cilfor yn 1966. Cefais nifer o straeon gan Mam o’i phlentyndod yn chwarae gyda phlant Llandecwyn, ac yn cerdded i’r ysgol yn 5 oed bob cam o Gan Coed, ond wrth ei bodd yn gwneud. Roedd ei magwraeth yn llawn cariad ond yn dlawd. Cofio Mam o hyd yn dweud wrthym ni fel plant amser Nadolig ein bod mor lwcus i gael cynifer o bresantau a’i bod hi wedi codi un Dolig ac, er siom iddi, wedi cael bocs o ddominos. Mi aeth i’r ysgol yn Llandecwyn ac yna i’r Bermo cyn mynychu Ysgol Ardudwy ac wedyn ymlaen i Brifysgol Caerdydd. Erbyn hyn roedd yn canlyn Dad. Astudiodd Mam yng Nghaerdydd am sawl blwyddyn ac yno mi wnaeth ffrindiau am byth sef Rhiannon, Olwen, Ann, Jayne a Margaret. Hyd at fis Medi diwethaf, roeddynt yn dal i gadw mewn cysylltiad ac yn cyfarfod bob ychydig fisoedd; fel arfer yn Aberystwyth i gael cinio a ‘catch up’. Roedd Mam a Dad yn cael hwyl fawr yn canlyn trwy fynychu dawnsfeydd a mynd am benwythnosau efo ffrindiau fel Gwenda a’r diweddar Charles. Mae amryw o luniau gan Mam o Gwenda, Anwen a Margaret Bach yn eu mini-skirts yn cael hwyl, gyda’r dynion yn eu hedmygu yn y cefndir. Ar ôl pasio fel athrawes Gwyddor Tŷ mi gafodd Mam ei swydd gyntaf mewn ysgol go arw yn Shotton, Glannau Dyfrdwy. Ymhen ychydig cafodd swydd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Yn 1970, mi briodwyd Mam a Dad yng Nghapel Soar gydag Yncl Bryn yn was a Siân

10

a Pamela yn forwynion. Yr oedd wedi gwneud ei ffrog briodas ei hun a’r morwynion, a hefyd wedi gwneud y gacen. Cafwyd diwrnod bendigedig ac aethant ymlaen i ymgartrefu yn Nhai Newyddion, yr Ynys ac ymhen dim roedd Ffion wedi ei geni. Brin dair mlynedd ymhellach yr oedd Sioned wedi ei geni - cochan ffreclyd a oedd yn adlewyrchiad pur o’i thad. Yr oedd dwy ferch yn y tŷ bach cyn iddynt gael lwc o gael symud a ffermio yn Rhosigor. O fewn tair blynedd roedd Mam yn fy nisgwyl i. Mi roddodd y gorau i’w gwaith fel athrawes i’n magu ni. Roedd ei bywyd yn llawn o gwmpas ei theulu. Roedd yn helpu dad ar y fferm yn ogystal â rhedeg adref i wneud yn siŵr fod bwyd ar y bwrdd i bawb. Oddeutu 1986, daeth Panch i fyw i Rosigor a daeth ei feibion Stuart a Lee ychydig yn ddiweddarach. Gofynnodd Panch i Mam eu gwarchod tra’r oedd yn gweithio a daethant fwy fel meibion i’r ddau a brodyr i ninnau. O fewn y blynyddoedd daeth y 3 ohonynt yn rhan fawr o’n teulu ni ac mae’n dal felly hyd at heddiw. Erbyn o’n i tua 10 oed roedd Mam yn barod i fynd nôl i weithio. Ond teimlodd fod pethau wedi newid cymaint mewn ysgolion nad oedd ganddi’r awydd i fynd yn ôl i ddysgu. Ymhen dim, cafodd swydd fel ‘house keeper’ ym Maesyneuadd. Roedd hi wrth ei bodd yn gweithio gydag Anti Pegi ac Anti Rosa. Ar ôl rhai blynyddoedd ym Maesyneuadd cafodd swydd fel cogyddes yng nghartref henoed Hafod y Gest, Porthmadog. Roedd yn mwynhau’r gwaith yn ofnadwy ac mi benderfynodd fynd ymlaen i geisio am swydd Prif Ofalwr yng nghartref preswyl Bryn Llewelyn, Llan Ffestiniog a lwyddo i gael y swydd. Enillodd radd mewn ‘Housekeeping’ trwy fynychu Coleg Llandrillo unwaith yr wythnos. Roedd ganddi

falchder mawr yn cael ei hail ‘gap a gown’ ac yr oeddem ni yn falch iawn ohoni hefyd. Roedd wrth ei bodd yn rhedeg Bryn Llewelyn ac mi roedd gan y staff a’r henoed barch mawr tuag ati. Tristwch mawr iddi oedd pan gaewyd Bryn Llewelyn ar ôl yr holl waith. Mi gwffiodd i’w gadw’n agored ond roedd bwlch gwag iawn pan gollodd ei swydd yno. Roeddem ni i gyd yn hapus iawn yn Rhosigor. Mi gawsom y fagwraeth berffaith. Mi roddwyd pob dim o fewn gallu ein rhieni i ni fel plant ac ni fuasem wedi gofyn am well. Ym 1998 ar noswyl Nadolig cafodd Llŷr ei eni. Roedd y nain a’r taid wedi gwirioni. Ymhen 10 mlynedd daeth deg ŵyr ac wyres a phob un yn cael ei ddifetha. Roedd Nain yn meddwl y byd o Llŷr, Cai, Iwan, Lois, Llio, Harri, Mali, Gwion, Guto a Cara ac mi roedd hitha yn nain orau yn y byd iddyn nhw. Roedd Mam wedi gofalu am Dad ar hyd ei hoes mewn un ffordd neu’r llall, ond pan oedd iechyd Dad yn gwaethygu mi roedd hi yno yn ei nyrsio. Yn wythnosau olaf Dad ym Mangor mi roedd hi yno bob awr o’r dydd yn gwneud yn saff ei fod yn cael y gofal gorau posib. Doedd bywyd byth run fath ar ôl iddo ein gadael. Collodd Dad ar ôl 36 mlynedd o briodas, colli ei swydd ym Mryn Llewelyn a hefyd gorfod gadael ei chartref, Rhosigor ar ôl 30 o flynyddoedd. Gyda lwc, mi gafodd mam gartref newydd lawr ffordd yn nhŷ Twm Ieu. Roedd wrth ei bodd yno gydag Anti Pegi drws nesaf a Ffion dau funud i ffwrdd. Roedd yr ardd hyd yn oed gefn yn gefn â Rhosigor. Mi roedd Mam yn hapus unwaith eto. Cafodd swydd gydag Aba Care, cwmni gofal preifat, ac roedd unwaith eto yn gwneud y gwaith yr oedd hi’n ei hoffi sef gofalu am eraill. Mi ddechreuodd fynd allan i gymdeithasu mwy i’r Vic a

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

chyngherddau gyda ffrind ffyddlon iawn iddi, sef Nia. Roedd hefyd wrth ei bodd yn mynd ar ei gwyliau. Cyprus oedd y ffefryn ac mi roeddynt yn mynd tua dwy waith y flwyddyn; Mam, Nia, Panch, Yncl Bryn ac Anti Hilda. Roedd ganddi gartref braf, teulu a ffrindiau a oedd yn ei charu, gwaith yr oedd yn ei fwynhau a bywyd cymdeithasol gwell na fi. Ond roedd cyrraedd yr oedran 69 yn ei phoeni. Yr oedd wedi gofalu a cholli ei mam, [sef Nain] yn 69 oed ar ôl gwaeledd o ganser ac mi roedd ganddi ofn yr afiechyd yn ofnadwy. Ofn mor ddifrifol fel na fynnai ymweld â’r doctor am dros 30 o flynyddoedd. Er gwell neu waeth, roedd yn well ganddi beidio gwybod. Yn frawychus o sydyn, aethpwyd â hi i’r ysbyty a chyn mynd i lawr i’r theatr fe ddwedodd pe bai nhw’n cael hyd i rywbeth ofnadwy, i beidio â’i deffro. Ar ddiwrnod Nos Calan aeth Mam i gysgu, a chollwyd y fam a’r nain berffaith. Nid oedd Mam eisiau ein rhoi ni trwy’r misoedd a dreuliwyd ym Mangor yn ystod salwch Dad. Mi benderfynodd ein harbed ni o’r blinder a’r poeni yn union fel yr oedd hi wedi ei wneud drwy gydol ei hoes. Diolch iti Mam am fod y fam a’r nain orau erioed. Yr wyt rŵan yn ôl ym mreichiau Dad yn ddi-boen a dibryder. Fydd ein bywydau byth yr un fath ond bydd yr atgofion melys o hyd yn fyw yn ein calonnau.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU 1. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio a gwneud gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau. 2. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. 3. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel y Traethau. * * * Mwy o fanylion gan y Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.15.


GWEITHIO FEL GWAS BACH, BACH

tri gorchymyn hefo Gel – ‘cer rownd’, ‘cer i ffwrdd’ a ‘gorwedd’, a dod i ben ag ambell i dasg ar fy Pan aem â’r defaid i bori ar Forfa mhen fy hun. Fel gwobr am eu gwaith, byddai’r ddau gi yn cael Malltraeth, cawsem aml i seiat felys gyda Sam a Richard Hughes, pilsen rhag llyngyr [Dr Martin?] ynghudd yn y wadin o’r hidlen a Glan-yr-afon. Roedden nhw’n osodwyd ar ben y can llaeth. cadw gwartheg duon pedigri. ‘Cowlad fach a’i gwasgu’n dynn,’ Massey Ferguson 35 oedd y chwedl Tom. Cofiaf holi’r hen ŵr, Sam Hughes, a oedd hi’n rhy tractor. Un o’r tasgau cyntaf oedd gynnar i blannu tatws, onid oedd dysgu sut i facio’r trelar at ddrws y peryg o farrug? Ei ateb i mi oedd, beudy er mwyn hwyluso’r gwaith carthu. Tasg bur anodd oedd ‘does ‘na ddim byd erioed wedi hon a bûm yn hir yn ei meistroli. rhewi ym mol ei fam!’ Roedd O dipyn i beth, dysgais ddigon i o’n un da am ddywediadau cofiadwy. Pleser pur fu cyfarfod barcio’r trelar o fewn troedfedd i’r drws. Pan oedd y chwalwr tail Richard Hughes a’i wraig yn weddol ddiweddar, a ‘Dic’ yntau yn llawn, aed â fo i’r cae i daenu’r tail; doedd dim angen PTO, dim wedi ei ddyrchafu yn llywydd y ond symud lifar ar y chwalwr. Gymdeithas Gwartheg Duon. Roedd hyn yn waith anodd mewn tir gwlyb ac roedd rhaid bod yn Roedd yno foch hefyd ac roedd gan bob un o’r rheiny enw. Sadie ofalus rhag i’r olwynion fynd yn sownd. oedd fy ffefryn. Coeliwch neu beidio, roedd honno yn dod i’r tŷ at y Capten weithiau. ‘Landrace’ Roedd y cynhaeaf gwair yn amser a ‘Large White’ a gedwid. Mawr difyr ond roedd yn waith caled. Roedd angen hogi pob cyllell oedd yr hwyl a’r chwilfrydedd pan oedd yn amser mynd â nhw unigol ar lafn hir y peiriant lladd gwair hefo ffeil, ac wrth dorri’r i Fethel at y baedd. Ar adegau gwair roedd rhaid gwylio’r llafn eraill, roedd yn bleser gweld y moch bach dan y lamp goch ‘infra yn barhaus rhag iddi dagu. Pan red’. Weithiau byddai’r hwch yn oedd angen gwaith trwsio, aed bwyta’r moch bach. Dysgais pam â’r peiriannau i’r efail at Alf yn Llangristiolus neu at Richie fod rhaid cael ffens focha neu yn Henblas. Roedd Mr Muir ‘farrowing crate’. Dysgais hefyd hefyd yn un gwych am drwsio bod rhaid chwilio am 16 o dethi peiriannau. Gwers arall oedd wrth ddewis ‘sbinwch. dysgu amddiffyn y llygad pan oedd gwaith weldio’n digwydd. Roedd rhaid bod yn ofalus rhag hwch beryglus, yn enwedig ar ddiwrnod cweirio. Byddai’r hwch Roedd yno beiriant chwalu gwair ‘Bamford’ os cofiaf yn iawn [roedd wedi ei hel drws nesaf. Fi oedd hwnnw’n tagu’n aml], ‘Vicon Lely yn y cwt yn dal y moch [am fy mod yn gallu neidio oddi yno yn Acrobat’ i Roedd yno ryw gant o ddefaid weddol handi]. Gosod y mochyn yn 1964. Yn fy nhro dysgais bach ar y cilbost, y Capten efo sut i dynnu oen, clirio’i lwnc, ei ddadebru, rhwbio trwyn y ddafad wadin a llond pot jam o ‘dettol’, a Tom yn cweirio’r mochyn efo ynddo ayyb. Ar adegau eraill byddwn yn trochi a thrin traed y llafn ‘Wilkinson’ unochrog. Gallai dynnu dwy gaill allan o un defaid ac yn helpu i lapio gwlân twll. Yn ôl Tom, roedd hynny’n ar ddiwrnod cneifio. Un tro, lleihau’r boen a’r gwaith gwella roeddwn wrthi’n dal defaid i’w rencio neu hel dwy renc yn un i’r moch bach. Roedd y ddau dosio pan sylwais fod gan Tom fawr, ac yn hawdd ei drin, a’r gi, Gel a Meg, yn gwledda ar y rhyw sylw i’w wneud am bron belar MF yr oedd angen ‘sheer ceilliau amrwd ac yn eu sglaffio bob un o’r defaid. Un ohonyn yn harti. Yn aml, gwelid yr hwch bolt’ arno yn aml iawn. Roedd nhw wedi magu oen da eleni, yn ceisio dringo dros y wal atom yno sled hefyd, a lle i sefyll arni, un arall yn dod ag efeilliaid bob ni a throchion o boer mawr gwyn i gasglu’r byrnau yn sypiau at blwyddyn, un wedi magu oen ei gilydd. Cofiaf inni lwyddo i llywaeth, un arall yn drafferthus, ar ei gweflau. gael gwair tridiau ar fwy nag un un arall wedi colli ei dannedd ers achlysur. Byddai’r gwair gorau yn Ci da a ffyddlon iawn oedd llynedd. I mi roedd 99 ohonyn cael ei gadw ar gyfer y lloi. Gel. Ond doedd fawr o siâp ar nhw yn edrych yn union yr un Meg, er ei bod yn ast ddymunol fath ar wahân i un ddafad ddu, PM iawn. Tueddai Meg i redeg i ond roedd Tom yn gallu eu bob man heb wrando ar unrhyw [i’w barhau] hadnabod yn unigol. Anghofiaf orchymyn. Dysgais ddefnyddio i byth! Cofiaf hefyd i’r Capten

oedd Tom ar gael. Byddai raid gosod y darnau mân oedd yn perthyn i dair bwced odro wrth ei gilydd yn y ‘dairy’ cyn nôl y gwartheg. Wedyn nôl Pan o’n i’n hogyn oddeutu 11 oed bagiad o nyts a sicrhau bod y gwely gwellt yn barod. Roedd ym Modorgan, Sir Fôn roedd llawer o’m cyfoedion yn weision angen rhyw droedfedd rhwng hwnnw a’r gwter carthu. Byddai bach rhan-amser ar ffermydd buwch laethog yn cael tair sgôp y fro. Ro’n innau’n awyddus i o nyts a buwch oedd yn agos efelychu fy ffrindiau ac ennill at hesbio yn cael un. Golchi’r rhyw geiniog neu ddwy. I fferm pyrsiau yn lân wedyn, godro a Gallt-y-balch, nepell o bentref sicrhau bod y tethi yn weigion Hermon, ac un o lecynnau [rhag y ‘mastitis’]. Swpera hyfrytaf Ynys Môn, yr es i i wedyn a rhoi hanner belan o chwilio am fachiad. Cyfarfod wair i bob buwch, a cheisio cofio Tom, y mab, yng Nghae Llwybr rhoi fy nhrowsus ar y tu allan wnes i, a dyma fo’n dweud i’r welingtons ar gyfer y joban bod un o’r buchod yn gofyn hon, neu mi fyddai’r sanau yn tarw. Cyn cael cynnig joban, y drybola o hadau gwair. Glanhau’r prawf i mi oedd cadw’r fuwch peiriannau yn y ‘dairy’ wedyn, ar wahân a’i cherdded yn ôl llenwi label ar y caniau llaeth, yn ddidramgwydd tua hanner milltir i’r beudy, ar gyfer ei hoed a golchi’r llawr efo llond bwced o ddŵr cynnes cyn troi am efo’r dyn tarw potel. Wedi cryn fygwth a thuchan, mi lwyddais ac adref. Byddai angen rhyw awr i gwblhau’r gwaith. Yn yr haf, wrth fel gwobr mi gefais joban rangwrs, roedd angen defnyddio’r amser fel gwas bach gan Tom. ‘cooler’. Joban a barodd am ryw saith mlynedd rhwng 1964 a 1970. Lle difyr oedd Gallt-y-balch bryd hynny. Capten John Roberts Buan iawn y deuthum i ddallt oedd y bos, a Mrs Menna Roberts y dalltings hefo’r fuches odro. yn gwneud bwyd ardderchog ac Rhyw bymtheg o wartheg oedd yno. Roedd lle i ddeg yn y beudy. yn gofalu am yr ieir, ac yn yr haf yn gofalu am bobl ar wyliau yn Yn y sied gyfagos, roedd rhyw y garafán. Tom, a fu’n fyfyriwr bump o heffrod newydd ddod yn Llysfasi, oedd yn gyfrifol am â lloi yn cyfnewid efo’r buchod y ffermio. Nid oedd unrhyw yn eu tro, rhai yn godro ar y chwith ac eraill ar y dde. Roedd ddiwrnod heb ei helyntion! yno un fuwch Jersey [i godi lefel Mae gen i lawer o atgofion am y cyfnod difyr hwn. Gyda llaw, y braster] un fuwch Ayrshire, mae Tom ac Ann ei wraig yn dal i a Friesian oedd y lleill i gyd. Roedd gan bob buwch enw. Ann fyw yno. oedd fy ffefryn i.

‘Alpha Laval’ oedd y peiriannau. Cofiaf y ‘pulsator’ yr oedd angen ei reoli, a’r modd yr oedd rhaid plygu’r peipiau rwber cyn eu gosod ar y tethi. Roedd strap ledr ar gael i ddal y fwced os oedd pwrs y fuwch yn uchel, ac roedd rhaid clymu coesau ambell heffer oedd yn fwy ffyrnig na’r lleill. Dros gyfnod o ryw ddwy flynedd, mi ddois i fedru godro’r cyfan heb gymorth a chofiaf mor falch oedd fy mam, a minnau’n gymharol ifanc, pan ddaeth Mrs Roberts, mam Tom, acw rhyw ddiwrnod i ofyn a allwn fynd i odro am nad

ddweud bod y ddos yn ddrutach na wisgi!

11


PUM CENHEDLAETH

HARLECH

Pat yn y cefn, yna Maggie, Samantha, Julie, a Kier ar lin ei fam. Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau gorau i Mrs Maggie Edwards (Maggie Wil John/Maggie Llan), 66 Y Waun Harlech, sydd yn dathlu pen-blwydd go arbennig ar 25ain o Ionawr yn 99 oed. Ganwyd Maggie yn Llanenddwyn, Dyffryn Ardudwy, a phan oedd hi’n 18 oed, aeth dros y ffin am gyfnod byr i weithio yn Lerpwl. Ar ôl dychwelyd i Gymru, aeth i weithio i Mrs Lloyd, Bron y Graig, a hefyd i Mr a Mrs Moss yn y Noddfa. Ar ôl cyfnod yn y Clwb Golff, dechreuodd weithio yn y gegin yn Ysgol Ardudwy a bu yno am sawl blwyddyn. Mae Maggie yn fam i 6 o blant, yn nain i 11, yn hen nain i 11 ac yn hen hen nain i oror-ŵyr bach. Pen-blwydd hapus iawn iddi oddi wrth ei theulu, ei ffrindiau a phawb yn yr ardal. Pen-blwydd Pen-blwydd arbennig i un arall o ffyddloniaid y Llais. Pob hwyl i Edwina Evans, Y Waun, sy’n dathlu pen-blwydd arbennig y mis hwn. Mae Edwina’n hynod o weithgar dros y Llais bob mis ac rydym i gyd yn gwerthfawrogi ei chyfraniad a’i hamser. Hwyl fawr ar y dathlu efo’r teulu, Edwina. Cofion oddi wrth griw’r Llais, y teulu a’ch ffrindiau lu yn ardal Ardudwy. Pen-blwydd Pen-blwydd hapus iawn a dymuniadau gorau i Beryl Barnett sydd newydd ddathlu pen-blwydd arbennig. Pob hwyl iddi gan ei theulu a’i ffrindiau. Gwella Dwi’n siŵr bod pawb yn falch o glywed bod Keira bach, merch Gethin a Kirsty, 13 Y Waun wedi gwella ar ôl bod yn yr ysbyty am gyfnod byr. Teulu’r Castell Cynhelir y cyfarfod nesaf yng Ngwesty’r Victoria, Llanbedr, ar 24 Chwefror 2015 am 2.30 y prynhawn.

12

Dyweddïo Llongyfarchiadau mawr iawn i Iwan Rees (34 Y Waun gynt) a Rhiannon Marks o Lanymddyfri sydd wedi dyweddïo’n ddiweddar. Dymunwn bob lwc i’r pâr ifanc, oddi wrth ei deulu a’i ffrindiau i gyd yn yr ardal. Dymuna Iwan a Rhiannon ddiolch am yr holl gardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd.

YSGOL TANYCASTELL

Diwrnod Siwmperi Nadolig Ar Ragfyr 12fed, cafwyd diwrnod gwisgo siwmper Nadolig yn yr ysgol. Codwyd £108 at elusen Achub y Plant. Da iawn chi blantos! YN EISIAU Yn eisiau: pram doli i’w phrynu. Math hen ffasiwn, gorau oll os yn Silver Cross. Ffoniwch 01766 780602 os gwelwch yn dda (gadewch neges os nad ydw i ar gael ac fe wna’i eich ffonio’n ôl). Rhodd £10 Diolch Hoffai Mrs Eirlys Stumpp, Bron Haul, Harlech, ddiolch i’r teulu, cymdogion a ffrindiau am y cardiau, anrhegion a galwadau ffôn a dderbyniodd tra’r oedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Diolch hefyd i’r doctoriaid a’r nyrsys am y gofal a dderbyniwyd tra’r oedd yno. Rhodd £5 Rhodd i’r Llais Mrs Marian Rees, 34 Y Waun £5

Sefydliad y Merched Rhoddodd y llywydd, Mrs Christine Hemsley groeso i’r aelodau a gwesteion i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa, Harlech ar nos Fercher 14 Ionawr. Canwyd y gân Meirion. Dymunwyd gwellhad buan i amryw o aelodau oedd yn sâl. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu penblwydd ym mis Ionawr. Darllenwyd y llythyr o’r sir a chofnodwyd dyddiau o bwys sef y te Cymreig, 27 Chwefror ym Mhlas yn Dre, Y Bala, am 2.00 o’r gloch, cyfarfod y gwanwyn yn Aberdyfi ar 28 Ebrill a llawer mwy o ddyddiadau i’w rhoi yn y dyddiadur. Mi fydd 2015 yn flwyddyn brysur iawn. Cafwyd adroddiadau gan y Trysorydd, Sheila Maxwell, a Denise Hagan ynglŷn â’r trefniadau gyda’r stesion. Ar ôl darfod y busnes, cyflwynwyd y gŵr gwadd Dr Peter Williams oedd wedi dod i roi sgwrs ar ei daith i Tsieina. Rhoddwyd croeso hefyd i Mrs Mair Eluned Jones oedd wedi dod i helpu i ddangos y lluniau a dynnyd tra’r oedd hi ac Edwyn wedi mynd hefo Dr Peter a’i wraig Haf ar y daith. Llongyfarchwyd Mair ar ei phriodas ag Edwyn yn ddiweddar. Cynigiwyd y diolchiadau am noson wych gan Annette Evans. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, 11 Chwefror, gyda ryseitiau ar gyfer noson San Ffolant. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.


CYNGOR CYMUNED

RHAGOR O HARLECH

a llinell wen i wahanu cerddwyr a cherbydau. Gofynnwyd iddynt anfon cynllun i’r Cyngor cyn i’r aelodau drafod y newidiadau. Adnewyddu hen Westy’r Swyddfa’r Post Castell Croesawyd Ms Delyth Davies o Gwmni R L Davies sy’n Bwriedir symud y gangen swyddfa bost bresennol i leoliad adnewyddu hen Westy’r Castell. newydd sef Siop Spar Plas a Dywedodd Ms Davies bod y bydd hyn o bosib yn digwydd yn cwmni yn gobeithio cwblhau’r ystod mis Ebrill/Mai 2015. Ar gwaith erbyn mis Ebrill eleni. ôl trafodaeth, pleidleisiodd yr Datganwyd pryder bod rhai o’r aelodau, heblaw am ddau aelod gweithwyr yn parcio ar y stryd a oedd yn atal eu pleidlais, i fawr drwy’r dydd ac addawodd gefnogi symud y swyddfa bost Ms Davies i ysgrifennu atynt. o’r adeilad presennol i’r lleoliad Rhandiroedd newydd sef Siop Spar Plas. Mae’r Ysgol Feithrin wedi Triathlon Harlech derbyn y cynnig i gymryd gofal Derbyniwyd llythyr oddi wrth o’r rhandir bach. Datganwyd yr uchod yn gofyn caniatâd pryder bod y ffens a’r giât yn dal y Cyngor am ddefnyddio cae o amgylch rhandir mae un yn chwarae Brenin Siôr fel maes ei rentu a chytunwyd unwaith parcio’n ystod y Triathlon eto bydd y rheolau wedi eu derbyn eleni. Bydd yn cael ei gynnal ar bod y Clerc yn anfon llythyr y 29ain o Fawrth. Penderfynwyd at y rhandirydd dan sylw os rhoi caniatâd. bydd y ffens a’r giât yn dal yno. Adroddwyd bod Mr Hywel Jones Llythyr wedi cychwyn ar y gwaith o osod Derbyniwyd llythyr yn datgan pryder bod cymaint y ffens. o’r chwynnyn clymog Japan o Cyllideb amgylch Coleg Harlech. Mae angen clustnodi ar gyfer Unrhyw Fater Arall y canlynol: yswiriant y Cyngor • Nid yw’r gwaith o £2,000, cyflog a chostau’r Clerc atgyweirio’r llochesi bws £2,500, treth ar gyflog y Clerc wedi ei wneud ac nid yw’r £320, torri gwair y fynwent hysbysfwrdd wedi ei drwsio. £1,800, torri gwair y llwybrau • Cytunwyd i anfon llythyr cyhoeddus £2,900, torri gwair at Ms Liz Haynes, Cyngor cae chwarae Brenin Siôr £1,000, Gwynedd yn gofyn a fyddai’n llwybr natur Bron y Graig £600, bosib gosod canllaw ar hyd cyfraniadau £5,000, pwyllgor ochr y llwybr yn dod i lawr neuadd goffa £1,000, pwll nofio o ffordd Pendref at Lyn Harlech £1,500, yr hen lyfrgell Rhaeadr, Parc Bron y Graig. £1,000, Un Llais Cymru £250, • Datganwyd siom bod rhai’n archwiliad £300, seddi cyhoeddus mynd ag addurniadau dal £750, llogi ystafell £150, Dŵr blodau ayyb oddi ar feddau Cymru £40, cynnal a chadw £500. yn y fynwent gyhoeddus. Precept y Cyngor Adroddwyd bod hyn wedi Gadewir y precept ar £16,000. digwydd yn ddiweddar. Ceisiadau Cynllunio Roedd addurn o’r fath wedi Codi tŷ ar wahân - Tir rhwng diflannu o fedd. Oherwydd Trem Arfor a Hiraethog, Stryd hyn, penderfynwyd gosod Fawr. camerâu cylch cyfyng yno. Dim penderfyniad ar y cais hwn nes derbyn cadarnhad o’r lleoedd Marw parcio a faint fyddai’n cael eu Ar ôl gwaeledd hir, bu farw defnyddio gan y tŷ newydd. Mrs Joyce Williams, Llaethdy Creu llecyn parcio oddi ar y stryd Arvonia a hithau yn 91 oed. - Seasons & Reasons, Stryd Fawr, Gwrthwynebiad i’r cais oherwydd Bu’n glaf mewn cartref nyrsio ym Mhentrefelin ers tro. Cofir pryderon ynglŷn â gwelededd amdani gyda chwithdod ac a diogelwch cerddwyr a annwyldeb mawr. Roedd yn thrafnidiaeth ar y ffordd gul. gwerthu’r Llais am flynyddoedd Adran Reoleiddio ond ni chymrai yr un geiniog o Bwriedir gosod marciau ffyrdd elw. Cydymdeimlwn â Menna ar Ffordd y Traeth sy’n haws i’w a Derfel, a John a Jane a’u gosod, gan gynnwys y canlynol: teuluoedd. ‘dannedd draig’, twmpathau ffug

CLWB-TRI/TRIATHLON HARLECH 29 Mawrth 2015 Newydd i 2015: • Diwathlon • 3 cilometr o redeg /cerdded – Ras Hwyl i bawb Triathlon: Nofio 400m, 21 cilometr ar y beic, 6 cilometr o redeg Diwathlon: 5 cilometr o redeg, 21 cilometr ar y beic a 2.5 cilometr o redeg Cofrestru ar-lein rwan: www.harlechtriathlon.org.uk Bydd Clwb Rhedeg yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy – ffoniwch 01766 780576 am fwy o fanylion.

CYNGOR CYMUNED

Gwahoddir ceisiadau am: 1. Dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. 2. Dendrau i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor. 3. Dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. * * * Mwy o fanylion gan y Clerc, Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.15.

Cyrchu’r Castell

- Ras fwyaf godidog Eryri

- Delfrydol i ddechreuwyr - Timau cyfnewid - Brechdan bacwn am ddim

Cynhelir y Triathlon a Phwll Nofio Harlech, gan y gymuned ar ran y gymuned. Os oes gennych awydd gwirfoddoli i weithredu fel swyddog ar y diwrnod uchod, byddem yn ddiolchgar iawn ac yn falch iawn pe baech yn cysylltu â ni. Rhoddion Diolch am y rhoddion i’r Llais gan Deilwen Hermer £6.50, Gwyneth Williams £6.50 a £10 gan Mr a Mrs Iorwerth Evans. Pen-blwydd arbennig I ddathlu pen-blwydd arbennig ei chwaer Cath Smith ym mis Tachwedd, trefnodd Carol O’Neill barti’n ddiweddar yn ei chartref yn Harlech. Daeth teulu a ffrindiau lu ynghyd i gydddathlu â Cath a Mike, ei gŵr, y ddau ohonynt yn byw yn Ffrainc ers rhai blynyddoedd bellach. Gwahoddwyd hefyd gynchwaraewyr hoci gyda Cath ers sefydlu Clwb Hoci Ardudwy, a daeth amryw o’r ‘hen’ aelodau draw i fwynhau’r noson. [Gweler y llun isod.]

Rhai o gyn-chwaraewyr Clwb Hoci Ardudwy ynghyd â ffrindiau

13


PÔS - MISOEDD Y BEIRDD

CROESAIR 1

3

2

4

5

7

8

9

10

11 14

16

17

21

18

20

22

Ar draws

1 Gwywo (5) 5 Heb eisiau (6) 7 Hynafiaid (7) 8 Y bar y mae olwyn yn troi arno (4) 9 Brith (7) 10 Acw (4) 11 Gwaedd (3) 13 Ymddiried yn (5) 17 Americanwr (5) 18 Teml (6) 21 Cafodd clawdd enwog ei enwi ar ei ôl (3) 22 Ochr neu ben tŷ lle mae’r wal a’r to yn cwrdd ar ffurf triongl (6,2)

I lawr

19

1 Un o adar y dŵr, mae ganddo blu llwyd tywyll a phig bach bwt (6) 2 Teitl Arglwydd ymhlith bonedd Gwledydd Prydain (2,4) 3 Ystafell breifat lle mae gweithiau celf yn cael eu harddangos (5) 4 Math o aderyn brith, fe’i gelwir hefyd yn aderyn yr eira (6) 5 Tref yn Ne Cymru (7) 6 Griddfan (7) 12 Terfysg (5) 14 Darfod (5) 15 Diffaith (5) 16 Cymryd enw Duw yn ofer (5) 19 Aflwyddianus(4) 20 Cyfres o ffeithiau neu wybodaeth

Marc llawn am enwi’r bardd. Marc bonws am enwi’r gerdd. Cynhwysir ambell gliw i’ch cynorthwyo. Pob hwyl ar y dyfalu a’r chwilota!

1. Dewch odd’na bois bach a mwstrwch, ’Sdim amser nawr i dindroi, Mae’n Chwefror a’r dydd yn ymestyn Ac yn bryd mynd ati i bar’toi. (y ‘cyw melyn ola’)

13

12

15

6

ENILLWYR MIS IONAWR Nododd amryw fod croesair mis Ionawr yn un anodd! Dyma’r enillwyr y tro hwn: Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Idris Williams, Tanforhesgan; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. ATEBION IONAWR AR DRAWS 1. Sesiwn 4. Cilan 7. Indigo 8. Awdur 10. Crafanc 11. Moduro 13. Amddiffyn 15. Lili 17. Chwalu 20. Eger 22. Ebychu 23. Sandal I LAWR 1. Sgil 2. Sadrwydd 3. Wagen 5. Iawndal 6. Aruthrol 9. Emynyddes 12. Balchder 14. Ial 16. Iâr 18. Asyn 19. Ufudd 20. Egni 21. Edau SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

2. Hyfryd gweld cwter Chwefror - i’w glannau O ddŵr glaw’n dygyfor, Cans felly bydd y sgubor Yn ystod Awst hyd ei dôr. (ymgais gan dîm o feirdd o Sir y Cardis yn y Talwrn ... pa dîm?) 3. Chwefror sy’n agor dorau Y gaer brudd i’r blagur brau, Yn torri byllt dur y bedd I’r hadau’n eu cyfrodedd; Rhoi grym sy’n dryllio’r gramen A chyffròi pob gwrych a phren; Rhoi sgytwad i’r sug eto, Bywhau’r gwraidd yn siambr y gro. (cofiwn ei ganmlwyddiant ar 11eg o Hydref, 2015) 4. Y baban na fu’i lanach - a anwyd Yn Ionor yn holliach A lorir fel hen gleiriach O eisiau bwyd ym Mis Bach. (deintydd ac englynwr ... ond nid Niclas y Glais!) 5. Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, Cryn fy ffenestr a fy nôr; Plyg y deri fel mieri Dyro ddawns i longau’r môr; Byr yw dydd a dyddiau Chwefror, Cynt y dêl yr hwyr na’r wawr; Chwyth y crinddail hyd y cwmwl, Chwyth y ceinciau hyd y llawr. ATEBION IONAWR

1. Eifion Wyn 2. Gwilym R Jones 3. Silyn Roberts 4. E Llwyd Williams 5. Roger Jones

THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com

CHWEFROR 8 - Ffilm - Leaves & Water, Plas Tanybwlch am 5.00 yp, ffilmiwyd o amgylch Llyn Mair. 19 - The Lunch Box, Theatr Harlech 7.30 20 - Dr Who: Masque of Mandrogora am 4.00 yp hefyd The Prisoner: Checkmate am 7.00 yh MAWRTH 6 - Grav am 7.30 yh, hanes y chwaraewr rygbi

14


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

01341 280436

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Cigydd, Bermo

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

GERALLT RHUN

DAVID JONES

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

Am hysbysebu yma? Y telerau yw £6 y mis neu £60 y flwyddyn [am 11 mis]

JASON CLARKE

Cewch ragor o wybodaeth gan Ann ar 01341 241297

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


RHAGOR O LUNIAU O’R CASTELL

YSGOL NEWYDD I’W CHODI YM MHENRHYNDEUDRAETH Golau gwyrdd i godi ysgol newydd gwerth miliynau

Y craen yn cyrraedd Harlech. Roedd angen gyrrwr da!

Bydd y bont newydd yn caniatau mynd drwy’r fynedfa wreiddiol

16

Mae gwaith ar fin dechrau ar brosiect i godi ysgol newydd sbon ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig o ardaloedd Meirionnydd a Dwyfor y sir. Mae hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet Cyngor Gwynedd i roi sêl bendith derfynol ar y cynigion fydd yn arwain i’r ysgol newydd sydd a’r adnoddau diweddaraf agor ym Medi 2016. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith ar gynllun busnes terfynol a buddsoddiad o £6.2 miliwn tuag at y prosiect a fydd hefyd yn cynnwys uned breswyl gyda chwe gwely a fydd yn caniatáu i ddisgyblion aros am gyfnodau byr neu hir, er mwyn rhoi seibiant gwerthfawr i’w teuluoedd. Bydd y ddarpariaeth bwysig hon yn golygu y bydd yn rhaid i lai o blant fynd y tu allan i Wynedd i dderbyn elfennau o’u gofal a’u haddysg. Gyda chost cyfanswm o £13 miliwn, bydd y cyfleuster newydd a fydd wedi ei leoli ym Mhenrhyndeudraeth yn cynnwys dosbarthiadau modern, pwll hydrotherapi, ystafelloedd therapi, offer synhwyraidd, ardaloedd addas tu allan ar gyfer chwarae a dysgu a gardd a chaffi lle caiff y plant hŷn ddatblygu eu sgiliau mentergarwch. Mae’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd sbon hon yn cynnwys y cyfleusterau diweddaraf a fydd yn gwella bywydau’r plant sy’n mynychu yn ogystal â’u teuluoedd. Er bod y staff yn Ysgol Hafod Lon, Y Ffôr ac Uned Tŷ Aran, Dolgellau yn darparu addysg ragorol, nid yw’r cyfleusterau presennol bellach yn cwrdd â’r gofynion sydd ohoni.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.