‘Dizzee Dancers’ 50c Ymlaen â’r Ddawns!
Llais Ardudwy RHIF 449 CHWEFROR 2016
CYSGU ALLAN Ar 24 Ionawr, bu dau griw o ddawnswyr stryd o Dizzee Dancers yn cystadlu yn un o’r cystadlaethau dawns stryd mwyaf sy’n cael eu cynnal. Roedd y ddau dîm yn hynod o lwyddiannus gyda’r ddau dîm yn cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau dawns stryd y byd yn Glasgow ym mis Awst a’r cystadlaethau Ewropeaidd yn yr Almaen ym mis Mai. Gosodwyd ‘Gravity’ yn gyntaf a ‘hi-energy’ yn bumed. Hefyd, daeth Lowri ac Amber yn ddegfed gyda’u deuawd a daeth Eirian a Jess yn ail. Rŵan mae angen codi digon o bres arnon ni i gael mynd draw i’r digwyddiadau pwysig yma! Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Eirian Foster
Bu’r Canon Beth Bailey a thîm o gefnogwyr yn cysgu allan dros nos yn y Bermo ddiwedd Ionawr er mwyn tynnu sylw at anghenion y ffoaduriaid niferus sydd yn ein byd cythryblus ni. Mae’r weithred yn ein hatgoffa o gyflwr truenus y meysydd lle mae’r holl ffoaduriaid yn gorfod chwilio am loches y dyddiau hyn. Rydym yn falch o gefnogi’r weithred trwy gyhoeddi’r rhestr o bethau o gallwch eu cyfrannu at yr achos teilwng hwn.
Oer... Gwlyb... Newynog... Wrth i’r tymhered ostwng, mae dynion, merched a phlant, yn cysgu yn yr awyr agored yn yr oerni. Gallwch gefnogi’r ffoaduriaid drwy gyfrannu’r eitemau canlynol sydd eu hangen ar frys: dillad gaeaf mewn cyflwr da, siacedi diddos, siwmperi trwchus neu wlân, topiau llewys hir, trowsusau o ansawdd, festiau thermal a legins, dillad isaf, sanau, hetiau, menig, sgarffiau, esgidiau cryfion da, blancedi, sachau cysgu, matiau cysgu, pebyll, sachau cefn, cludwyr babanod. Dalier sylw: Dim ‘duvets’. Bwyd (gweler y rhestr yng nghefn yr eglwysi isod). Gallwch adael yr eitemau yn Eglwys Dewi Sant, Y Bermo (wrth yr harbwr), neu yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech – maen nhw’n agored bob dydd. Arwyddwch gyda’ch manylion cyswllt yn yr eglwys os allwch chi gynorthwyo gyda chludo nwyddau i’r Blaenau ar gyfer eu hanfon neu eu dosbarthu, neu rhoddwch yn https://barmouth.church/solidarity-sleepout/ EGLWYSI BRO ARDUDWY Gwybodaeth: bethbaileybro@gmail.com, 01341 247499 (Beth) 01341 280524 (Linda, Y Bermo) 01766 780245 (Myfanwy, Harlech).
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mawrth 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Mawrth 9. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn diwedd Chwefror fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Loraine Ann Russell. Gwaith: Cogyddes yn Ysgol Tanycastell. Cefndir: Wedi fy ngeni yn Boston, Lincs, wedyn daethom i fyw i Borthmadog. Dwi’n byw yn Harlech efo Amber, Joshua, Jordan, Gareth a Paul ers 20 mlynedd Sut ydych chi’n cadw’n iach? Byddaf yn mynd i’r gampfa 5 gwaith yr wythnos a dwi’n cerdded yn aml. A dwi’n yfed llawer iawn o ddŵr. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Storïau o gyfnod Fictoria. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rhaglenni natur neu raglen ddogfen wir. Dydw i ddim yn edrych ar operâu sebon. Ydych chi’n bwyta’n dda?
Ydw a nac ydw. Mae clefyd siwgr yn broblemus a dwi’n chocoholic. Hoff fwyd? Bwyd môr mewn lasagna a salad, a siocled wedyn! Hoff ddiod? Coffi efo digon o lefrith. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Marian Rees i ni gael hwyl a Marie fy ffrind gorau, a Paul y gŵr pe bai o’n fodlon dod efo ni. Lle sydd orau gennych? Mewn coedwig. Byddaf yn mynd a’r plant i’r goedwig yn aml. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Nyfnaint efo’r teulu ar lan y môr. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl yn cnoi gwm ac yn waeth fyth, yn ei dynnu allan o’u cegau. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gonestrwydd a bod yn hwyliog. Pwy yw eich arwr? Fy nhad. Does dim angen ymhelaethu. Beth yw eich bai mwyaf? Fy ngwendid am siocled. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl sy’n straella.
Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Rhedeg mewn coedwig, prynu dillad a gemwaith, a mynd allan am fwyd. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Dysgu gyrru car a phrynu hen fangar. Mi fasa’r gwersi’n costio ffortiwn; dwi mor anobeithiol. Eich hoff liw? Pinc. Dwi’n hoffi dillad pinc. Eich hoff flodyn? Rhosyn pinc. Eich hoff fardd? Byddaf yn sgwennu ambell i gerdd fy hun ond does gen i ddim hoff fardd. Eich hoff gerddor? Kylie, Madonna, Brandon Flowers a’r Killers ond dwi’n hoffi bob math. Fedra i ddim byw heb gerddoriaeth. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? ‘Runaway’ gan y Killers. Unrhyw gân y gallaf i ei chanu. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru canu piano. Eich hoff ddywediad? Wyt ti am ddod i brynu dillad efo fi? ‘Live life to the full.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus, llawn bywyd ac mewn gwell lle nag oeddwn i rai blynyddoedd yn ôl.
YN YR ARDD - MIS CHWEFROR Chwefror – mae’r gwanwyn yn agosáu!
Fel arfer, y mis hwn mae arwyddion fod y gwanwyn yn agosáu. Mae rhai o’r bylbiau yn ymateb i lefelau uwch o oleuni ac yn deffro a chan fod y tywydd yn cynhesu mae rhai anifeiliaid yn ddeffro o’u gaeafgwsg. Mae digonedd i’w wneud dan do wrth gynllunio ar gyfer y tymor sydd i ddod. Y tu allan, mae’n amser i docio llwyni a phlanhigion sy’n dringo, megis Wisteria a llwyni bythwyrdd.
Tasgau mis Chwefror 1. Pan fo’r pridd yn weddol sych, paratowch y gwely ar gyfer rhai llysiau. Gallwch blannu rhai hadau yn y tŷ gwydr. 2. Gosodwch eich tatws hadyd i egino. Mae bocsys wyau yn ardderchog ar gyfer hyn - ac mae dewis tatws o faint wyau yn syniad da. Cofiwch osod y llygaid ar i fyny.
4. Gallwch docio unrhyw lwyni sydd wedi blodeuo dros y gaeaf. 5. Rhannwch fylbiau eirlysiau a phlannwch nhw tra bod y gwyrddni yn dal arnyn nhw.
6. Tociwch y Wisteria. 3. Rhowch rwyd ar y llysiau a’r ffrwythau er mwyn cadw’r adar oddi arnyn nhw.
7. Gallwch dorri llwyni coed bythwyrdd a thacluso rhai eraill.
Y BERMO A LLANABER Gwasanaeth Capel Siloam Daeth criw bach ynghyd bore Nadolig i ddathlu geni’r baban Iesu. Croesawyd pawb gan John Williams. Cafwyd darlleniad o waith Mererid Hopwood gan Llewela Edwards a chyflwynodd John ddarn o waith Huw John Hughes. Dau ddarlleniad amserol yn cyfeirio ein meddyliau at wir neges Gŵyl y Nadolig. Calondid oedd cael croesawu dau ymwelydd i’n plith. Canwyd dwy garol ac wrth yr organ oedd Grace Williams. Rhoddion Diolch i Dr Iwan Bryn ac Enid Williams am eu rhodd o £25 i’r Llais. Bu Iwan yn derbyn y Llais am flynyddoedd lawer. * * * Hefyd derbyniwyd rhodd o £30 oddi wrth Mr Gwyn ac Irene Thomas, yntau wedi bod yn selog iawn i’r Llais am flynyddoedd. Anfonwn ein cofion at y ddau a’u teuluoedd ar adeg bryderus. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mrs Jinnie Jeffs, Arianfryn a’r teulu ym marwolaeth ei chwaer, Elizabeth Jones o Harlech.
Diolch Dymuna Jinnie Jeffs, Tony, Karen, Helen a Joanne a’u teuluoedd ddiolch o galon i bawb am y caredigrwydd, yr holl gardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli Ken, gŵr, tad a thaid a oedd mor annwyl ganddynt. Diolch i bawb. Rhodd £20 Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 6 Ionawr croesawyd yr aelodau i gyfarfod cyntaf y flwyddyn 2016 a dymunwyd Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan lywydd y noson Les Vaughan. Cawsom ‘Noson Cwis Gweledol’ dan ofal Dwyryd Williams, Dolgellau. Roedd wedi ein rhannu yn bum tîm, ac angen inni ddyfalu beth a phwy oedd y lluniau, o adar, coed, operâu, trefi Cymru, awduron, symbolau hysbysebion, adnabod enwogion. Noson ddiddorol a llawer o hwyl. Enillydd y raffl oedd Eifiona.
DYFRGI
Ychydig ddyddiau cyn Nadolig 2015, sylwodd John, Trem Enlli, Llanaber, ar gorff dyfrgi oedd wedi ei ladd gan gar ar y ffordd fawr is law ei gartref. Doedd John erioed wedi gweld dyfrgi’n y lleoliad hwnnw o’r blaen ac mae’n bosib mai dilyn y nant gerllaw oedd y dyfrgi gan fod cymaint o ddŵr yn ein hafonydd ar y pryd ar ôl y glaw diddiwedd ers dechrau Tachwedd. Casglwyd corff y dyfrgi ac fe’i anfonwyd i adran biomeddygol Prifysgol Caerdydd a fydd yn dadansoddi meinwe (tissue) y creadur i weld a oes gwenwyn neu lygredd yn ei gorff. Mi fyddan nhw hefyd yn ceisio canfod be oedd y dyfrgi wedi bod yn ei fwyta. Os gwelwch chi ddyfrgi wedi ei ladd yn unrhyw le, cofiwch gysylltu â’r Llais oherwydd mae’r corff yn werthfawr i sefydliadau fel y Brifysgol.
Merched y Wawr
Croesawyd yr aelodau i gyfarfod cyntaf y flwyddyn 2016 gan Jean, Llywydd y noson. Y siaradwr gwadd oedd ‘Emrys Sarn Faen’. Gan ei fod yn trafod cŵn defaid, roedd ganddo esgidiau pwrpasol iawn ar ei draed, sef siâp pennau cŵn. Aeth ymlaen efo hanes y bridio a hyfforddi’r cŵn, a sut oeddynt yn cael eu gwerthu ymlaen i bob rhan o’r wlad, a chafwyd ambell stori ddigri am sut oeddynt yn ymdopi wedi cyrraedd y cartref newydd! Cawsom hanes y treialon cŵn defaid yn genedlaethol a rhyngwladol sy’n cael eu cynnal yn Nhywyn y flwyddyn yma. Daeth ag ambell ffon fugail inni gael ei gweld. Cafodd yr aelodau amser i’w holi gydag ambell gwestiwn. Ar ddiwedd ei sgwrs daeth â dwy ast fach i mewn atom, un yn 3 mis oed ac wrth ei bodd efo mwythau, a’r llall yn 2 flwydd a hanner. Wel, sôn am ufudd-dod - un gair a gwrando’n syth. Diolchwyd iddo am noson hwyliog a dysgedig iawn. Daeth y noson i ben gyda phaned a phwyllgor byr i drafod y materion. Megan enillodd y raffl.
Bardd Mawddach Ei enw bedydd oedd Robert Jones. Ganwyd ef yn y Bermo, yn 1801, y flwyddyn pan oedd Llundain y ddinas fwyaf yn Ewrop gyda phoblogaeth o 864,000, a’r flwyddyn hefyd pan ddaeth Thomas Jefferson, o dras Cymraeg, yn drydydd arlywydd yr Unol Daleithiau. Mab ydoedd Robert Jones i Gapten Ellis a Catherine Jones, a brawd i Ellis Jones (m 1871), Swyddfa Bost, y Bermo, un a fu’n amlwg gyda’r achos Wesleaidd yn y dref honno. Bu’n arweinydd y gân, yn flaenor, ac yn oruchwyliwr y gylchdaith (Cylchdaith Dolgellau ac Abermaw’r adeg honno). Yr oedd ei nith yn briod â’r Parchedig William Evans, Mônwyson, 1834-97), Amlwch, un a fu’n wneuthurwr hwyliau, cyn ei ordeinio yn weinidog gyda’r Wesleaid. Perthynai Robert Jones o ochr ei fam i linach Morisiaid Môn, o Lanfihangel Tre’r Beirdd, oedd yn adnabyddus yn eu dydd fel beirdd, llenorion, ac ysgolheigion. Perthynas arall iddo oedd Edward Thomas, Tyddyn Du, Dyffryn, a fu yn flaenor a phregethwr cynorthwyol am gyfnod maith. Capten llong oedd Capten Ellis Jones, tad Robert Jones, a fu farw yn Plymouth, Ionawr, 1812. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonic cymerwyd ei long gan y Ffrancod, a suddwyd hi ym mae Biscay, yng ngogledd ddwyrain Môr yr Iwerydd, oddi ar arfordir Ffrainc a Sbaen, ond cafodd Ellis, ei fab, brawd Robert a’r gweddill o’r dwylo eu hachub. Cafodd Robert Jones swydd yn egwyddorwas i ddysgu’r grefft o argraffu gyda Richard Jones, Dolgellau. Pan symudwyd y swyddfa o Ddolgellau i Lanfair Caereinion yn 1824 dyrchafwyd ef yn brif gysodydd gyda’r wasg o dan ei ofal, a chafodd ei enw ar ‘Yr Eurgrawn Wesleaidd’, y cylchgrawn misol hynaf yn y Gymraeg. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf yn Ionawr 1809 a’r olaf yn Hydref 1983. Ar waelod y dudalen flaen ceir y geiriau Llanfair: Argraffwyd gan R Jones dros E Jones (y Parch Edward Jones, Llandysilio oedd yn olygydd ar y pryd). Yn 1826 priododd â Sarah, merch ieuengaf Mr Vaughan, Bryntirion, Llanfair, ac yna y treuliont y rhan fwyaf o’u hoes, gan wasanaethu’r achos am flynyddoedd fel blaenor a phregethwr cynorthwyol. Ar ôl bod yn Llanfair am rai blynyddoedd symudodd Robert Jones i Ddolgellau, ac yn 1845 i Stryd Duke, Llundain, lle y cafodd swydd yn ffyrm William Clowes a’i Feibion, Argraffwyr y Llywodraeth, a sefydlwyd yn Llundain yn 1803 gan William Clowes (1779-1847). Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg unodd y cwmni â’r Caxton Press, ac erbyn heddiw y mae yn un o gynhyrchydd llyfrau cyfeiriadau mwyaf sydd yn y Deyrnas Unedig. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain daeth i gysylltiad â John Jones (Talhaiarn), 1810-70), y pensaer a bardd, ynghyd â Chymry talentog eraill, yng Nghymdeithas y Cymrodorion. Bu farw yn 1866. Ymddangosodd llawer o’i farddoniaeth yn ‘Yr Eurgrawn’ naill o dan y ffugenw Asser neu Bardd Mawddach, yn ystod ei gyfnod yn y swyddfa, ac ar ôl hynny hefyd hyd at flwyddyn ei farw. Ymysg rhai o’i gerddi roedd Gyrfa Bywyd, Gwaed y Groes, Y Bore, Iechyd, Tywysog Cymru, a nifer o gyfieithiadau o emynau Wesley. Dechreuodd gyfieithu Hanes Bywyd John Wesley gan R Watson, yn y Gymraeg. Ymddangosodd dau neu dri o rifynnau ohono, ond ni chafodd y gefnogaeth a ddisgwyliai. W Arvon Roberts, Pwllheli
3
LLANFAIR A LLANDANWG Dymuniadau gorau Anfonwn ein cofion at Meinir Ll Lewis sydd bellach wedi cael dod o Ysbyty Alltwen ac sy’n aros am gyfnod i gryfhau efo’i mab Geraint, Linda a Glesni yn Y Waun, Harlech. Mae Meinir yn adnabyddus am ei chymorth i lawer yn yr ardal a dymunwn wellhad buan iddi. Priodas aur Llongyfarchiadau i David E (Dei) a Jennifer Evans, Haulfryn, ar ddathlu eu priodas aur ar 22 Chwefror. Priodwyd y ddau yn Eglwys Harlech yn ôl ym 1966. Triniaeth Anfonwn ein cofion at Mrs Doreen Roberts, Ffin y Llannau gafodd driniaeth i’w bawd yn ddiweddar. Glenys Mairliw Williams Rhieni Glenys oedd Lewis a Dora Evans (un o deulu Brwynllynnau, Llanfair). Yn un o bedwar o blant, collodd ei chwaer fawr Doris yn bur ddiweddar yn 102 oed a chollodd ei brawd mawr Griffith, Penystumllun, ger Cricieth, rai blynyddoedd yn ôl. Gedy ar ei hôl ei chwaer fawr Ceinwen sy’n byw yng Ngellilydan. Dim ond ychydig dros flwyddyn a hanner oedd rhwng y ddwy. Ganwyd Glenys ar 14 Awst 1925 ac aelwyd y teulu oedd Cae’n Coed Uchaf ym mhlwyf Llandecwyn. Yn y cyfnod yma byddai Doris a Griffith yn cerdded i’r ysgol ym Maentwrog. Bedyddiwyd Glenys yng Nghapel Gilgal Maentwrog. Pan oedd yn ddwy flwydd oed symudodd y teulu i fyw i Bant y Wrach, Llanfrothen ac o’r fan honno mynychodd ysgol Penrhyndeudraeth. Yn 1937 pan oedd Glenys yn 12 oed, cafodd ei rhieni denantiaeth Llech y Cwm ar stad Mrs Ing a dyma symud yno. Dechreuodd Glenys ei chyfnod yn Ysgol Gellilydan. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Ceinwen a Glenys oedd yn gweithio adref ar y ffarm. Roedd Glenys fwy am weithio gyda’i mam o gwmpas y tŷ tra’r oedd Ceinwen allan ar y caeau. Eto, profodd Glenys ei hun yn odrwraig wych. Roedd Doris wedi arfer gwerthu llefrith tra
4
Gwasanaeth Plygain
Triawd o ardal Aberystwyth Mwynhawyd y Gwasanaeth Plygain eleni yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair gan eglwys orlawn unwaith eto. Roedd rhai o’r perfformwyr wedi teithio o gyn belled â Dinas Mawddwy ac Aberystwyth i’r de ac o Fangor, Cricieth a Chaernarfon i’r gogledd. Croesawyd pawb gan Gerallt Rhun, Cadeirydd Cyfeillion Ellis Wynne, a’r Parchedig Ganon Beth Bailey a arweiniodd y gwasanaeth dechreuol. Cafwyd 12 o wahanol eitemau a phawb yn canu ddwywaith. Gwledd i’r glust a balm i’r enaid. Yn dilyn y gwasanaeth, mwynhawyd lluniaeth yn Neuadd Goffa Llanfair wedi ei baratoi gan y Cyfeillion a llu o gefnogwyr o’r ardal a thu hwnt. Diolch am gymorth pawb i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth a’r croeso a’r lluniaeth dilynol.
Y tri brawd Gerallt Rhun, Dyfan Roberts ac Arfon Gwilym yn Llanfrothen ond dechreuodd Lewis Evans fusnes llaeth yng Ngellilydan. Glenys fyddai’n godro a Ceinwen yn mynd hefo’r ceffyl i werthu’r llaeth. Yn ystod y rhyfel roedd cryn waith megis troi’r tir, hau a chynaeafu. Roedd Glenys wrth ei bodd yn llithio’r lloi ac yn magu ŵyn llywaeth. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd byddai Glenys yn mynd i’r festri yn y pentref i nôl edafedd a byddai yn gwau gydag eraill eitemau i’w hanfon i’r milwyr a frwydrai yn y Rhyfel. Parhaodd i wau am weddill ei hoes. Roedd yn weithgar yn y gymdeithas - yn aelod o’r Ffermwyr Ifanc, Sefydliad y Merched a chymdeithasau lleol. Aeth y blynyddoedd heibio. Ganwyd Rhian ac Alan - a daeth Glenys yn fam fendigedig. Gweithiodd Glenys yng nghegin
Ysgol Gellilydan fel cogyddes a bu’n coginio yn ffatri Hotpoint yng Nghyffordd Llandudno hefyd ymhlith pethau eraill. Coginio oedd ei gwaith hi, ond roedd o hefyd yn bleser ganddi - gwau, coginio a darllen. Ymhen amser priododd Glenys â Gwilym Williams o Drawsfynydd ac roedd y ddau’n hoff o grwydro i lefydd fel Iwgoslafia a Chanada. Dreifar trên rhwng Cyffordd Llandudno a Crewe oedd Gwil a symudodd y ddau i ‘Junction’ i fyw. Pan ddaeth yn amser ymddeol dod yn ôl i gylch Stiniog i fyw fu eu hanes. Ar 21 o Dachwedd 2015 daeth ei bywyd prysur i ben, ciliodd y wên dyner a thawelodd y galon ofalus. Anfonwn ein cydymdeimlad ag Alan a Ceinwen, yn ogystal â’i hwyrion a’i hwyresau a gweddill y teulu i gyd.
Cyfeillion y Lasynys Fawr
Hoffwn trwy gyfrwng colofnau Llais Ardudwy ddiolch ar ran Cyfeillion Ellis Wynne am yr holl weithwyr tawel a wnaeth noson Plygain Eglwys Llanfair yn llwyddiant. Mae’r nifer a fu wrthi yn helpu gyda’r bwyd yn y Neuadd wedi’r Plygain yn rhy niferus i’w henwi ond hoffwn gydnabod eu cyfraniad i gyd, pawb yn wir a wnaeth y noson yn gymaint o lwyddiant. Buom fel Cyfeillion yn gofalu am y Lasynys dros y blynyddoedd ond hefyd rydym wedi credu fod creu gweithgareddau yn ymwneud â threftadaeth, diwylliant , hanes a llenyddiaeth yn bwysig, ac yn hynny o beth credwn fod diwylliant yn Ardudwy wedi cael ei hyrwyddo. Ceisiais yn bersonol fel Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Cyfeillion wneud fy rhan dros y dreftadaeth yma yn Ardudwy. Fe ŵyr y rhan fwyaf ohonoch fy mod wedi ymrwymo i lawer o waith tebyg yn fy ardal fy hun yn Nhrawsfynydd, ac o’r herwydd yn ei chael yn anodd gwasanaethu dwy ardal. Wrth i’m tymor fel Cadeirydd Cyfeillion Ellis Wynne ddod i ben hyderaf fod rhai o ddarllenwyr y Llais yn fodlon llenwi’r bwlch ar Bwyllgor Rheoli’r Cyfeillion fel bod diwylliant yn enw Ellis Wynne yn parhau i’r dyfodol. Diolch am bob cefnogaeth a fu gan drigolion yr ardal yn y gorffennol a dymunaf yn dda i ardal Ardudwy yn y blynyddoedd a ddaw. Yn gywir, Gerallt Rhun ***** Marwolaeth Trist yw cofnodi marwolaeth Mr Brian Mitchelmore, Haulfryn - brawd i Gareth a George. Dyn dymunol iawn oedd Brei a chanddo gylch eang o ffrindiau. Roedd hefyd yn weithiwr diwyd a gonest. Cydymdeimlwn yn fawr â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Cyhoeddiadau Caersalem 2015 am 2.15 o’r gloch
CHWEFROR
7 Parch’g Dewi Tudur Lewis 14 Marc Jon Williams
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas y Cwm Hedd Bleddyn o Benegoes oedd yn ein diddori ganol mis Ionawr. Cawsom gip ar dri llyfr o’i eiddo - sef ‘Hiwmor Hedd’, ‘Cymeriadau Maldwyn’ a ‘Dwyn i Gof a Dyna i Gyd’. Siaradodd yn fyrlymus am 80 munud ac roedd yn hyfryd clywed ei hanesion difyr a mwynhau rhywfaint o’i limrigau a cherddi mwy dwys. Anfon cofion Anfonwn ein cofion at Ismael Jones, Talgarreg sydd yn Ysbyty Gwynedd, Mrs Pat Hughes sydd yn Hafod Mawddach, a John Wyn Jones, Crafnant, yng nghartre Alexandra, Tywyn. Mi ydan ni’n falch o glywed bod Dafydd Thomas, Faeldre gynt, adre ar ôl llawdriniaeth frys ar ei galon. Gobeithio ei fod yn dal i wella. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Mrs Gwen Simpson, Bryn Deiliog, yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer Olwen yn ddiweddar. Rhoddion Diolch i Gwyn Thomas am y rhodd o £30 i’r Llais, hefyd £6.50 gan Elwyn Evans a £6.50 gan y Parch Paul Jones.
Teulu Artro Cyfarfu’r Teulu yng Ngwesty’r Fictoria brynhawn Mawrth, 5 Ionawr. Croesawydd y Llywydd yr aelodau, a rhoddwyd dymuniadau pen-blwydd i Iona. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Beti, Leah a Myfanwy. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Mr Raymond Owen oedd y gŵr gwadd, a chroesawyd ef gan Gweneira, gan ddymuno’n dda iddo yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl. Cafwyd prynhawn hynod o ddiddorol ac addysgiadol ganddo ar y testun ‘Arferion Traddodiadol Cymru yn Nhymor y Nadolig’. Yr oedd ganddo nifer o luniau i’r aelodau ddyfalu beth oeddynt, gan ddechrau hefo’r testun “Y Gwyliau” a diweddu gyda “Nos Ystwyll”. Bu iddo drafod ac egluro rhai arferion dieithr i ni yn Ardudwy, ond yn boblogaidd yn Sir Benfro, yn y blynyddoedd a fu. Da yw deall bod y Plygain yn cael ei gynnal yn Llanfair a’r Blaenau. Diolchodd Elinor i Mr Owen am ein hatgoffa o’r hen arferion tymhorol. Enillwyd y raffl gan Catherine.
Cylch Meithrin Llanbedr
Llais Ardudwy yn 41 oed!
Byddwn yn dathlu ein penblwydd yn 41 oed ym mis Ebrill. Mae croeso i unrhyw un sydd am gyfarch neu longyfarch Llais Ardudwy wneud hynny. Gorau po gyntaf i ni gael y cyfraniadau. Yn ôl ein harfer, gofynnwn i chi anfon y deunydd at Haf Meredydd. Hoffem gael y deunydd i law erbyn canol mis Mawrth os gwelwch yn dda. Diolch ymlaen llaw am eich cyfraniadau.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch
Capel y Ddôl CHWEFROR
7 Mrs Eirwen Evans 14 Mrs Gretta Benn 21 Parch John Owen MAWRTH 6 Mrs Glenys Jones
Capel Nantcol CHWEFROR
28 Mrs Morfudd Lloyd
Capel Salem
CHWEFROR 21 Parch Dewi Tudur Lewis MAWRTH 20 Parch Dewi Tudur Lewis 27, Sul y Pasg - Parch Irfon Roberts
CYFOETH Y GYMRAEG Ystyriwch am eiliad y gair ‘poen’. Sawl ffordd wahanol sydd gennym ni o fynegi bod gennym boen mewn rhannau arbennig o’r corff? Gallwch gael poen yn eich bol [neu gallwch gael hen gnoi yno] ond pigyn fydd yn eich clust, cur yn eich pen, dolur yn y gwddf, gwayw yn y cefn, pwys ar y stumog, cric yn yr ysgwydd ac mae llawer iawn o’r merched yn gwybod yn dda am wewyr esgor. Dyna sawl gair am ‘boen’ a phrawf o gyfoeth yr iaith Gymraeg! Tybed a oes gan ein darllenwyr ragor o enghreifftiau?
ENGLYN DA Hen Efail
Y gêr tan rwd seguryd, - a’r taw hir Lle bu’r taro diwyd; A wêl fwth ac efail fud A wêl fedd hen gelfyddyd. Tîm Ymryson y Beirdd Sir Aberteifi, 1953
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Llongyfarchiadau mawr i Gylch Meithrin Llanbedr ar ennill cystadleuaeth creu poster Nadoligaidd dan nawdd Bendigedig, Y Bermo. Diolch hefyd i’w hathrawon am eu gwaith rhagorol.
NEWYDDION O SWYDDFA’R URDD Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer Eisteddfod Cylch Ardudwy i’r adrannau cynradd ac uwchradd ydi 9 Chwefror am 6.00 yh
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen Horeb Nos Iau, 14 Ionawr, cawsom olwg ar olygfeydd gorau Cymru gan Geraint Thomas. Cyflwynwyd a chroesawyd Geraint gan lywydd y noson, Rhian Jones. Yn enedigol o Ddyffryn Nantlle mae Geraint erbyn hyn yn byw yn Llidiardau, ger Y Bala, gyda’i wraig Meleri a’r plant. Ffotograffydd yw Geraint ond gadawodd y gwaith yma am rai blynyddoedd i ymuno â’r diwydiant teledu gan weithio ar raglenni fel Rownd a Rownd ac Amdani. Yna aeth yn ôl at ei yrfa wreiddiol ac erbyn hyn mae ganddo siop yng Nghaernarfon ac mae’n brysur iawn gyda phriodasau, portreadau a thirluniau a hefyd yn gwneud gwaith i gwmnïau mawr. Soniodd am ddwy gyfrol o’i eiddo, y gyntaf Llynnoedd Eryri ar gais Lefi Gruffydd. Mae 144 o lynnoedd yn Eryri a bu’n ymweld â nhw i gyd ac yntau’n ysgrifennu testun i fynd gyda’r lluniau. Eto ar gais Lefi Gruffydd aeth Geraint a’r bardd Gwyn Thomas ati i baratoi cyfrol arall sef 50 o leoedd llenyddol. Mae’n ffotograffydd arbennig ac yn siaradwr byrlymus, diddorol a chafwyd gwledd o olygfeydd godidog. Diolchwyd iddo’n gynnes iawn gan Rhian. Y gwragedd te oedd Mai, Alma, Anthia a Mair. Ar 11 Chwefror byddwn yn cael cwmni Hogia Criw ar y Naw. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 20 Ionawr. Cafwyd ymddiheuriad gan Leah, Catherine a Blodwen. Anfonwyd ein cofion at Meinir Lewis sydd wedi bod yn yr ysbyty ac at Beti Parry sydd wedi bod yn cwyno’n ddiweddar ond yn gwella. Cawsom gwmni Emsyl Davies o Lanbedr. Fe’i ganwyd ym Mhorthmadog ac mae ganddi gysylltiad â’r Dyffryn gan fod Capten a Mrs Humphreys, Hendre Wen, yn daid a nain iddi ac mae amryw ohonom yn eu cofio’n dda. Wedi treulio blynyddoedd yn ne Cymru
6
daeth hi a’i gŵr i fyw i Lanbedr a bu Emsyl yn mynd o gwmpas ysgolion i roi gwersi ffidil. Ond ei phrif ddiddordeb yw gwaith llaw, yn enwedig gwau a chwiltio ac roedd dod ag enghreifftiau cywrain iawn o’i gwaith i ddangos i ni a bu Anthia ac Iona’n modelu peth o’i gwaith. Roeddem i gyd yn edmygu ei dawn arbennig a diolchwyd iddi gan Glenys Jones. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Ann, Laura, Rhiannon, Mary a Glenys. Clwb Cinio Bnawn Mawrth 19 Ionawr cyfarfu criw ohonom yn y Sgwâr, Porthmadog am ginio a sgwrs. Dydd Mawrth, 9 Chwefror byddwn yn cyfarfod yn y Last Inn yn y Bermo am 12.00. Dewch yno, byddwch yn siŵr o fwynhau.
Pen-blwydd hapus Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Laura Jane Phillips, Llwyn Ynn (Eithin Fynydd gynt), oedd yn dathlu penblwydd arbennig ar 22 Ionawr a hefyd i Beryl Sarricker (Panteinion gynt) fydd yn dathlu ar 15 Chwefror. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Ann a Delyth yn eu profedigaeth o golli eu tad, Mr Glyn Edwards, Arfryn. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Jane Jones, Byngalo Berwyn, sydd wedi cael dod adre o’r ysbyty a hefyd at Mr Dafydd Thomas, Faeldre, a fu yn yr ysbyty ond wedi cael dod adre ac yn gwella.
THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
Ffilmiau Cymdeithas Ffilm Harlech Dydd Iau 18 Chwefror - Han Gong-Ju Dydd Iau 17 Mawrth - Shell Dydd Iau 14 Ebrill - In Bloom
CEIR MITSUBISHI
CYNGOR CYMUNED TORRI GWAIR
TENDR 1 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i a) dorri gwair a’i glirio o leiaf unwaith y mis fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus a b) gwneud gwaith tacluso fel bo angen, a hefyd c) torri’r gwrych yn y fynwent. ch) Torri gwair a’i glirio bedair gwaith y flwyddyn yn hen fynwent Llanddwywe a Llanenddwyn. TENDR 2 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. TENDR 3 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri gwair a’i glirio o Barc Morlo, Gardd Penybont, toiledau Talybont, wrth fainc Bro Enddwyn, ar ben ffordd Ystumgwern, wrth y fainc rhwng Ffordd y Llan a Ffordd yr Efail a’r gofeb. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflenni tendr ar gyfer yr holl dendrau uchod, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau 28.2.16. NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI EI ANFON I MEWN AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
CHWEFROR 7 Buddug Medi 14 Rhian a Meryl 21 Parch Gareth Rowlands 28 Parch Harri Parri MAWRTH 6 Beryl a Rhiannon
Hanes Robert Boynton y Dihiryn
Robert Boynton gyda dau heddwas yn Lerpwl
Yn 1950 aeth fy nhad Idris Roberts, Beiliff Gors y Gedol, i fyny i agor giât y mynydd i ollwng defaid i lawr i’r ffriddoedd gan ei bod yn bygwth eira. Ar ei ffordd i lawr gwelodd fwg yn codi o’r sied ger corlannau Gors Uchaf ac aeth draw a chanfod dyn yno’n brysur yn coginio pryd o fwyd iddo fo ei hun ar dân bach. Yn ei ymyl roedd bag yn llawn o duniau bwyd a chi defaid a ddygwyd o Gwm yr Afon ddyddiau’n gynt. Ar ôl sgwrsio ychydig dywedodd ei fod yn disgwyl dau ddyn i fyny ato gan eu bod yn gwneud arolwg i’r RAF. “Ers faint ydych chi yma?”, gofynnodd fy nhad a’i ateb oedd “Newydd gyrraedd y prynhawn ’ma”. Ymhen ychydig dywedodd, gan bwyntio at Blas Gors y Gedol, “Mae yna olau yn y tŷ mawr acw trwy’r nos!”, a dyna pryd y sylweddolodd fy nhad nad oedd yn dweud y gwir. Wedi cyrraedd yn ôl i Gors y Gedol cododd y ffôn i gael gair hefo’i ffrind, John James, plismon y Dyffryn [deuai James o Langrannog a fy nhad o Gwm Ystwyth] a chael gwybod bod yr heddlu yn chwilio am ddyn a oedd yn torri i mewn i dai gweigion! Roedd y disgrifiad ohono yn berffaith. “Arhoswch funud”, meddai James. “Believed to be carrying firearms!” Roedd James ar fin mynd “off duty” y diwrnod hwnnw a galwyd PC Arthur Rowlands o’r Bermo at fy nhad a minnau ac aethom i fyny i weld beth oedd yn digwydd. Erbyn hyn roedd trwch o eira wedi disgyn a gwelwyd ôl traed yn cerdded drwy’r eira gan hanner llusgo ei fag ar ei ôl ac i mewn i blanhigfa goed a dyfai ar lethrau Moelfre, lle’r oedd Coleg Bangor yn arbrofi gyda gwahanol goed, ond gan ei bod yn hwyr penderfynwyd troi am adref.
Bore wedyn aeth fy nhad a minnau gyda Wil Williams, Pant Einion, a Norman Jones, Glanywern (gweision Gors y Gedol ) ynghyd â dau heddwas o’r Bermo, John James a Gareth Tanner, a’r ddau yn gwisgo cotiau dros eu lifrau a minnau’n cario gwn. Aethom i fyny i’r mynydd gan gogio ein bod yn hela llwynog. Ar ôl gweld mwg yn codi o’r goedwig anfonwyd Wil i mewn efo’r cŵn i dynnu sylw, ac aethom ninnau i mewn o gyfeiriad arall. Os digwyddai Boynton anelu gwn atom roeddwn i’w saethu yn ei goesau! Daethpwyd o hyd iddo yn bwyta ei frecwast ac eglurwyd iddo ein bod yn hela llwynog. Gofynnodd a gâi ymuno a ni gan ei fod eisiau mynd i Faesygarnedd – hyn yn dangos pa mor wybodus yr oedd â’r ardal. Cododd ar ei draed gan hanner troi i roi ei law i mewn yn nhop ei drowsus. Neidiodd Gareth Tanner amdano a’i ddal yn llonydd. Roedd ganddo ddau drowsus a rhyngddynt roedd gwn ‘12 bore’, y baril wedi ei lifio a’r morthwylion yn barod i’w danio, belt o getris rownd ei ganol a chyllell finiog. Ar y ffordd i lawr ar ôl ei arestio gofynnwyd iddo, “Were you going to shoot?”, a’i ateb “Yes, the chap with the gun was going to get it first and then I’d get the lot of you”. Yna trodd at fy nhad a dweud “If I’d known you were not an innocent shepherd I would have killed you”. Dygwyd ef o flaen y Llys yng Nghaernarfon a charcharwyd ef am dair blynedd gyda’r sôn na fyddai byth i ddod yn rhydd eto, ond mae’n debyg iddo greu argraff dda tra yn y carchar a gollyngwyd o yn rhydd cyn ei amser. Yna aeth i lawr i Bontrhydfendigaid a thra yno cysgai yn llofft stabl Ystrad Fflur,
sef cartref Charles Arch; cafodd Charles ef yn ŵr dysgedig iawn ar yr olwg gyntaf. Ar ddechrau’r chwedegau symudodd i fyw i ardal Aberangell gan barhau i fyw yn wyllt a thorri i mewn i dai gweigion. Erbyn hynny roedd yr Heddwas Arthur Rowlands wedi ei symud i Gorris. Byddai’n arferiad tra ar ei ddyletswyddau i gyfarfod â heddwas o Fachynlleth sef y tro hwn Heddwas David Williams (Dei Llwyngwian a oedd yn gefnder i fy ngwraig Beti) ar y Bont ar Ddyfi am hanner nos fel yr arfer. Ar y noson benodol hon pasiodd gŵr go garpiog ei olwg ar gefn beic a throi i lawr heibio rhes o dai. Ffarweliodd Dei gydag Arthur a throeson yn ôl, ond mae’n siŵr bod Arthur Rowlands wedi cael peth amheuaeth am y gŵr, ac aeth i lawr heibio’r rhes o dai i chwilio amdano a’i gornelu, ond fe saethodd Arthur Rowlands yn ei wyneb ar ôl dweud “You shouldn’t have come”. Ar ôl clywed yr ergyd rhedodd Dei i chwilio beth oedd yr ergyd a darganfod Arthur Rowlands ar ei liniau ar lawr. Trodd ef a gwelodd bod ei wyneb yn waed i gyd a’i lygad wedi mynd. Cafodd gymorth y trigolion ac aed ag ef i’r tŷ gerllaw, a galwyd am feddyg ac ambiwlans. Ychydig o ddyddiau wedyn ag Arthur yn gorwedd ar ei wely yn yr ysbyty gyda rhwymau tros ei lygaid daeth un o uwchswyddogion yr heddlu ato ac eistedd ar ei wely gan gydio yn ei law a dweud “I’m very sorry to say the face of the man who shot you will be the last face you will ever see”, a dyna pryd y sylweddolodd Arthur Rowlands ei fod wedi colli ei olwg am byth.
Arthur Rowlands
Daliwyd Robert Boynton a’i garcharu yn Broadmoor, sef carchar i droseddwyr gorffwyll, ac yno y bu tan ei farwolaeth ymhen ychydig o flynyddoedd wedyn.
TARGEDAU YN NHAL-Y-BONT
Ken Roberts, Bellaport Stori arall sydd gennyf am adeg rhyfel ydy am griw o’r Amerig wedi dod drosodd y noson gynt i gynnal ymarferiad hedfan/ saethu o faes awyr Llanbedr, a’u nod oedd saethu at dargedau ar lan y môr yn Nhal-y-bont. Roeddent yn hedfan yn agos i dŷ Bellaport ac roedd peth niwl a tharodd un awyren goeden yn ymyl y tŷ a chrwydrodd i gyfeiriad ysgubor Parc Isaf, ac yn y cae ger y sgubor canfuwyd coes neu ei ben cyn iddi ddisgyn ar ben wal wrth ddreif Gors y Gedol.
Roedd Ifor Jones a oedd yn bobydd yn Isgoed, Tal-y-bont ar ei rownd fara gyda’i feic i fyny dreif Gors, ac ar y pryd ger y man lle y digwyddodd. Bu’r coed lle disgynnodd gyda hollt ynddynt am flynyddoedd wedi’r digwyddiad.
*** Cafwyd digwyddiad arall pan roedd y fyddin yn arfer dod i fyny i Gors y Gedol yn wythnosol i gynnal ymarferiad saethu, ac ar y diwrnod arbennig yma ger Parc Uchaf roedd un o’r swyddogion yn dadlwytho bocsys gyda ffrwydron ynddynt. Collodd ei afael ar un nes y ffrwydrodd gan ei ladd yn y fan.
“Grŵp Hyfforddi Ardudwy - Pawb â’i bwt o Ardudwy”, 1974-2014, D J Roberts” 7
HARLECH Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Gethin, Cornel Dawel, Stad Tŷ Canol, ar ddathlu ei ben-blwydd yn 18 oed ar 14 Ionawr; oddi wrth y teulu i gyd. Rhodd £5.
Diolch Hoffai Mr Edwyn Lewis, 26 Y Waun, ddiolch o galon i Gwyn a Hazel Jones, Marian Rees, a Neil Parry am eu caredigrwydd pan gafodd ddamwain yn yr ardd. Hefyd i staff yr ambiwlans, pawb yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alltwen – wedi cael gofal arbennig o dda ganddynt i gyd. Hefyd i’w ffrindiau a’i gymdogion am y cardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniwyd.
Teulu’r Castell Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Neuadd Goffa Llanfair ar 9 Chwefror. Fe fydd y prynhawn yng ngofal Gwenda Jones sydd wedi trefnu prynhawn bingo. Cofiwch ddod â phensel neu feiro. Fe fydd bwrdd gwerthu ar gael hefyd. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.
Marwolaeth Bu farw Mrs Elizabeth Jones, Trem Eifion, Ffordd Uchaf a hithau yn 94 oed. Fe’i magwyd yn y Gilar Wen a bu’n byw gyda’i diweddar ŵr, Harry yng Nghanada am nifer fawr o flynyddoedd. Daethant yn ôl i Sefydliad y Merched Gymru wedi iddynt ymddeol a Croesawyd yr aelodau i’r gwneud eu cartref yn y dref. Er Neuadd Goffa, nos Fercher, 13 ei bod mewn gwth o oedran, Ionawr, gan y Llywydd Christine Merched y Wawr Llanfair a roedd yn byw ar ei phen ei hun Hemsley. Harlech heb unrhyw gymorth ac yn bur Canwyd y gân Meirion gyda Croesawodd Hefina’r aelodau i annibynnol ei hysbryd. Roedd Myfanwy Jones yn cyfeilio. gyfarfod cyntaf y flwyddyn. Babi newydd ei meddwl yn chwim hyd y Dymunwyd yn dda i’r aelodau Anfonwyd ein cofion at Meinir Dymuna Lis Jones, Min y diwedd. Bu’n aelod ffyddlon o oedd yn sâl a dymunwyd penLewis, sydd bellach wedi cael Morfa ddiolch i bawb am Deulu Artro am flynyddoedd blwydd hapus i rai oedd yn dod at Geraint a Linda a hefyd eu dymuniadau da ac am eu lawer ac yn hael ei chyfraniadau dathlu ym mis Ionawr. at aelodau eraill oedd o dan haelioni yn dilyn genedigaeth at y bwrdd gwerthu. Roedd Yr oedd pawb wedi mwynhau’r anhwylder. Dylan Wyn Steven. yn hoff iawn o ddarllen Llais cyfarfod Nadolig a gynhaliwyd Aethpwyd ymlaen i drafod Ardudwy o glawr i glawr bob ym Mwyty’r Castell a diolchwyd pwyntiau o’r Pwyllgor Rhanbarth mis. Cydymdeimlwn â theulu Mewn ysbyty i Myfanwy a Jenny am drefnu’r i) bod angen cymorth ariannol ei chwaer Jinnie yn y Bermo a’i Anfonwn ein cofion a’n adloniant ar y noson honno. tuag at gynnal y babell yn chwaer yng nghyfraith, Pam a dymuniadau gorau at Mrs Trist iawn oedd clywed am y Llanelwedd, theulu’r Foel yn eu colled. difrod mawr a wnaethpwyd ar y Blodwen Jones, Y Waun, sydd ii) bod angen cymorth i baratoi’r wedi bod yn yr ysbyty dros yr stesion yn Harlech dros gyfnod Damwain baned yn y Sioe, wythnosau diwethaf yma. y Nadolig. Torcalonnus oedd Ein cofion at Marian Rees, 37 iii) bod y gystadleuaeth bowlio hyn gan fod aelodau o Sefydliad Dymuna’r teulu ddiolch i bawb Y Waun a gafodd ddamwain yn deg ar Chwefror 19, ac fe am fod mor ffeind yn holi y Merched yn gwneud eu gorau ddiweddar a brifo ei hysgwydd. benderfynwyd anfon tîm i bob wythnos i gadw’r stesion yn amdani, am anfon blodau a Brysia wella, Marian. gefnogi’r noson. chardiau, ac am y galwadau daclus ac edrych ar ôl y blodau. Cofion oddi wrth y teulu a dy Yn anffodus methodd y ffôn. Mae’r teulu i gyd yn Mae hyn yn wirfoddol gan yr ffrindiau i gyd. aelodau, a rhai ohonyn nhw wedi gwerthfawrogi cael ffrindiau mor wraig wadd fod yn bresennol oherwydd salwch. Paratowyd y dda. gweithio yn y gwynt a’r glaw. Diolch baned gan Gweneth a Mair. Darllenwyd y llythyr o’r sir a Hoffai Trevor, Gerwyn, Julie a nodwyd y dyddiadau o bwys, Peter, a’r teulu oll, ddiolch i bawb Triniaeth sef y te Cymreig yn Nyffryn am yr holl negeseuon a chardiau Anfonwn ein cofion at Mrs Ardudwy, 26 Chwefror, a Rhiannon Owens, Pen-yr-hwylfa a dderbyniwyd yn cydymdeimlo Chyfarfod Blynyddol Cymru ar â nhw wedi colli Llion yn sydd wedi cael triniaeth yn yr 20/21 Ebrill yn Llandrindod. ddiweddar. ysbyty yn ddiweddar. Mae’r llyfr ‘100 facts about Diolch a rhodd £20 Harlech’ yn gwerthu’n dda. Mae Cofion rhai ar werth mewn gwahanol Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Cyril a siopau yn Harlech ac maen Maureen Williams, 20 Tŷ Canol Anfonwn ein cofion at Keith nhw’n werth eu cael. sy’n parhau i fod yn breswyl ym a Bethan Johnstone, Encil y Ar ôl trafod y busnes, croesawyd Coed - y ddau yn gleifion yn Mryn Blodau, Ffestiniog. y gŵr gwadd, Mr Graham Perch, Ysbyty Gwynedd ar yr un pryd. a chafwyd sgwrs ddiddorol am ei waith gyda lluniau o Belize. Diolchwyd iddo ar ran yr Marw Iorwerth Ellis aelodau gan Edwina Evans. Roedd parch mawr i waith y peiriannydd a rheolwr Iorwerth Ellis Y mis nesaf, 10 Chwefror, fe Pen-blwydd arbennig a fu farw’n ddiweddar ac yntau yn 87 oed. Wedi bod yn gweithio fydd coginio ar gyfer dydd San Llongyfarchiadau i Sara O’Neill Ffolant. Croeso i ymwelwyr. ar ddathlu ei phen-blwydd yn 21 i’r Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan am 25 mlynedd, daeth yn ôl o Lundain i fod yn gyfrifol am y gwaith arloesol ar gynllun trydan oed ar 8 Chwefror. dŵr Dinorwig, yr un mwyaf o’i fath yn Ewrop. Rhodd Hoffai Mam a Dad, Leah, Nain Roedd yn enedigol o Lys Maelor, Harlech a threuliodd 25 mlynedd Diolch am y rhodd o £7 oddi a’r teulu a’r ffrindiau i gyd yn gweithio i’r Bwrdd y tu allan i Gymru. Penodwyd ef yn gyfrifol wrth Deilwen Hermer. ddymuno pob lwc i ti ar gyfer y am y gwaith yn Llanberis yn 1974 wedi iddo fod yn gweithio dyfodol, Sara. Capel Jerusalem yn adran De Lloegr o’r Bwrdd. Roedd yn uchel ei barch fel Rhodd £10 peiriannydd a rheolwr ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant y HARLECH * * * gwaith yn Llanberis a gostiodd £110 miliwn yn y saithdegau. CHWEFROR Hefyd newydd ddathlu pen7 Parch Iwan Llewelyn Jones blwydd arbennig yn 60 oed mae Ym Mangor y bu Iorwerth yn byw tra’r oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Bu’n byw yno wedi ymddeol a chollodd ei wraig ddeng am 3.30 - Undebol Gillian Edwards. Cyfarchion 28 Parch Dewi Morris am 4.00 iddi oddi wrth bawb yn yr ardal. mlynedd yn ôl. Roedd ganddynt dri o blant.
8
CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Cyngerdd Nadolig y Cyngor 2015 Roedd y cyngerdd yn llwyddiannus eto eleni. Mae trafodaethau ar y gweill i gynnal wythnos o weithgareddau Nadolig fis Rhagfyr nesaf. Hysbysfyrddau Mae’r Pwyllgor Twristiaeth wedi gwneud cais am y grant i brynu’r hysbysfyrddau. O safbwynt yr hysbysfwrdd ger siop y Plas, y cwbl sydd ei angen yw drws newydd, ailosod y bord y tu ôl a rhoi farnish neu olew ar y pren i gyd. Precept 2016/17 Gan fod y Cyngor wedi cytuno i dderbyn cyfrifoldeb am y biniau halen o’i gyllideb a thalu am wobr y traeth, penderfynwyd cynyddu’r precept o £16,000 i £17,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Ailgodi balconi gan gynnwys estyniad - Windsong, 6 Heol y Bryn. Cefnogi’r cais hwn. Cais am ganiatâd i osod hysbyseb - Clwb Golff Dewi Sant. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Adran Gyfreithiol Derbyniwyd llythyr am barcio ar y stryd yn 2016 er gwybodaeth i’r Cyngor. Adran Economi a Chymuned Holwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon talu’r gost o £456 i Cadw Cymru’n Daclus. Cytunwyd i dalu’r gost yma. Adran Briffyrdd Trefnu i osod llinellau gwyn ar y ffordd o ben rhiw Dewi Sant pan fydd y tywydd yn ffafriol. Mae’r mater o’r cerrig o’r fynedfa newydd gan berchennog ar Ffordd Uchaf wedi ei drosglwyddo i’r Swyddog priodol. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder ynglŷn â diffyg goleuadau Nadolig yn y dref eto eleni a’r cwynion a dderbyniwyd ynglŷn â hyn. Cafwyd gwybod bod pwyllgor Nadolig yn mynd i gael ei sefydlu.
Dywediad i’w gofio Ia, dywediad i’w gofio a gafwyd yn Llais Ardudwy mis Tachwedd. “Nid rhoi’r gorau i chwarae oherwydd i chi fynd rhy hen y byddwch chi, ond mynd yn hen oherwydd i chi roi’r gorau i chwarae.” Calonogol iawn yw gweld cymaint o bobl sydd wedi ymddeol a ddim yn credu eu bod yn rhy hen i chwarae yn ymweld â’r ganolfan. Mae rhai wedi ymddeol ers amser maith ac yn mynychu’r ganolfan i wella eu hiechyd, cadw’n heini a mwynhau cwmpeini eraill. Mae nosweithiau’r gaeaf yn gallu bod yn hir ar adegau, yn enwedig os yw’r tywydd wedi bod yn ddiflas, felly dyma awgrymiad. Ewch draw i un o ganolfannau chwaraeon yr ardal neu i’r pwll nofio er mwyn cael egwyl o’r tŷ.
syml - gall unrhyw un fynd ati i ymarfer ond mae’n bwysig peidio gorwneud y gwaith ar y cychwyn. Yn Harlech mae sesiwn ymarfer wedi ei threfnu yng nghampfa’r ysgol ar nos Fawrth o 6.30 - 7.00; ie, cyfnod hanner awr lle gallwch ymarfer ar eich cyflymder eich hun. Os ydych â diddordeb mewn ymuno rhaid archebu lle a gallwch wneud hyn trwy ymweld â’r ganolfan rhwng 4.00 - 8.00 yn ystod yr wythnos.
Mae Hamdden Harlech yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth a gafwyd ers agor y ganolfan ym mis Tachwedd. Mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r ganolfan wedi codi yn syfrdanol. Diolch arbennig i gynghorau cymunedol yr ardal am eu cefnogaeth ariannol. Mae’r TORRI GWAIR Nid ydych chi byth rhy hen i arian wedi ei ddefnyddio i wella badlo beic cyfforddus, cerdded Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng cyfleusterau. Yn ddiweddar nghymuned Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dan do’r ganolfan neu fynd ar cafwyd cadarnhad bod Cynllun y peiriant cerdded. Mae ein dweud yn wahanol. CAE gan y Parc Cenedlaethol Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae haelod hynaf yng Nghanolfan am gyfrannu dros ddwy fil at Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Harlech yn 84 ac yn mynychu’r y ganolfan. Hefyd, mae First Cyngor. ystafell ffitrwydd bob nos o Hydro wedi cyfrannu un mil Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith 4.00 - 5.00. A’r rheswm - teimlo tuag at y prosiect. Mae hyn yn y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent yn llawer gwell, mwy o sbarc ac cyfrannu at ein dyhead o gael gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen egni a’i gael allan o’r tŷ. Mae’r canolfan o safon yn yr ardal. Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.16. dywediad uchod yn addas iawn i Mae offer newydd eisoes wedi ei sut mae’n byw ei fywyd. osod yn yr ystafelloedd ffitrwydd a hefyd cysylltwyd y ddwy Mae llawer ohonom wedi ystafell. gwneud addewidion am y Brethyn cartref (Hob y deri dando) flwyddyn newydd. Yn aml Os ydych chi’n unigolyn gyda 1 Chi sy’n cofio ’Newyrth Dafydd, Patriarch y Felindre, mae’r rhain yn ymwneud â’n lefel ffitrwydd uchel iawn, yna Rych chi’n cofio’n burion hefyd am ei frethyn cartre; hiechyd. Mae’r bwriad i ymarfer darllenwch ymlaen. Bydd Aeth ei gôt yn hen heb golli dim o’i grân; a cholli pwysau yn amlwg iawn cystadleuaeth MEGA FFIT yn Roedd hi’n llwyd pan gas ei phannu: Cytgan (x2): yn neheuadau nifer o bobl ond cael ei threfnu ym mis Chwefror. Brethyn gwlân y defaid mân, dyna fel y gwisgai’r oes o’r blân. yn aml mae’n haws dweud na Cystadleuaeth yw hon i ferched gwneud. Os ydych am fynychu a dynion dros 16 oed yn yr 2 Felly’r elai gynt i garu – yn ei frethyn cartre, gweithgareddau ffitrwydd ardal. Os ydych yn hoffi sialens Ac ar fore ei briodi gyda Neli’r Hendre; ewch draw i’ch canolfan leol ‘Ironman’ byddwch â diddordeb I ffair G’lamai a chymanfa’n ddiwahân, a holi am gyfleon eu rhaglen yn y gystadleuaeth hon. Bydd ’Run hen wisg a’r un hen grefydd: (Cytgan) ymarfer. Mae’r ganolfan yn profion ffitrwydd yn cynnwys Harlech a’r Bermo yn cynnig Prawf Amlgam (Bleep Test), 3 Gwelodd ’Newyrth lawer ffasiwn, do yn enw’r annw’l, gweithgareddau cylchdro neu prawf Cylchdro (Circuit); prawf Ond effeithiodd ’run ohonynt ddim ar ddillad ’Nwncwl: circuit lle mae unigolyn yn rhedeg a phwysau. Mae yn Ni freuddwydiai am wisg newydd mwy na’r frân, ymarfer am gyfnod byr yna’n agored i drigolion ardal dalgylch ’Run hen dorrad yn dragywydd: (Cytgan) gorffwys. Dyma ffordd effeithiol Ysgol Ardudwy, sef o’r Bermo iawn o golli pwysau. i Finffordd. Bydd manylion ar 4 Gwisg o liain main a derw sydd amdano heno, Weplyfr Hamdden Harlech yn Ac mae’r awel yn yr ywen dan yr hon mae’n huno: Cwestiwn sydd yn cael ei ofyn fuan neu ar gael yn y ganolfan. Ond mae’r defaid eto’n pori ’ngwlad y gân, yn aml yw faint o heini mae’n Pob hwyl, Iolo. Ac mae arnynt wlân yn tyfu: (Cytgan) rhaid i ni fod i ymarfer. Ateb
CANEUON I’W CANU
9
Mwy o Hanes Syr Charles Phibbs Plas y Gwynfryn Parhawyd ymlaen gan Meurig Jones, Hendre Waelod, Llanbedr
Cofnodaf hanes Syr Charles Phibbs ar ôl iddo ddod drosodd o Iwerddon. Oherwydd tlodi’r adeg honno gwerthwyd nifer o ffermydd yr ardal iddo, a’r gyntaf oedd fferm y Gwynfryn, ac i ddilyn, Penrallt, Llanbedr, Wern Einion, Hafod y Coed, Llwyn Hwlcyn, Fferm Coed, ac yn olaf Tyddyn Du, Llanbedr. Fe gytunwyd i’r cyn-berchnogion aros yn y tai tra’n gweithio iddo. Gwnaeth gryn waith o wneud y caeau yn Wern Einion yn fwy ac adeiladodd ddau dwr silwair anferth yno, a chyn y rhyfel cadwai tua 30 o weision ond bu rhaid iddo ddiswyddo rhai wedyn. Ymgeisiodd hefyd yn etholiad cyffredinol y Sir dros y Torïaid yn 1929 - pleidleisiau - (4731), 1931 (6372) a 1935 (5868) a bu yn gynghorwr ar Gyngor Sir Meirionnydd. Un o’r gwŷr a ddiswyddwyd ganddo oedd gwr o’r enw John Thomas a arferai fyw yn Wern Einion, ac a gafodd waith gyda David Richards yng Nghei Pensarn, a llety yn ogystal yn Nhyddyn Llidiart, Pensarn. Dosbarthu nwyddau amaethyddol oedd un o fusnesau’r Cei ac arferai
nwyddau ddod i mewn gyda thrên neu gychod yn yr hen amser trwy fynedfa i’r ochr orllewinol o Fochras cyn y newid i ochr Llandanwg yn 1819 gan Iarll Winchilsea (sef teulu’r Finch) er mwyn gwella’r mynediad. Defnyddiwyd y Cei hefyd i allforio llechi o chwarel Llanfair a Llanbedr. Fe welwyd hyd yn ddiweddar ger ochor yr afon nepell o’r Cei weddillion esgyll hen gwch a arferai gario calch i’r Cei, ond ar ei mordaith olaf torrodd y frech wen allan a bu farw gwraig a merch y capten o’r clefyd ac fe’u claddwyd yng ngwern Pensarn gerllaw. Difrodwyd y cwch trwy ei losgi, ond nid wyf yn gwybod beth ddigwyddodd i’r capten na gweddill y criw a oedd arni. David Richards oedd y prif asiant i dryciau glo’r adeg honno a âi drwy Bensarn i Benllyn, a byddai’n cael arian am bob tryc a âi heibio. Cofiaf hefyd am hanes taid i Dafydd Uwch Glan, sef Gruffydd Evans a arferai ffermio yn Brwynllynnau, a arferai fewnforio injans torri gwair ‘Dearing’ mewn bocsys o’r Amerig. Byddai’n llogi un o’r adeiladau os wyf yn siŵr ym Mhenrallt, Llanbedr ac nid
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
Llanfair er mwyn eu gosod cyn eu gwerthu am £5. Stori arall a gofiaf am Aneurin Lewis, Llwynion, y Dyffryn a rhywun yn gofyn iddo a oedd ganddo gwningod ar ei fferm ac yntau yn dweud ei fod wedi cael gwared ohonynt i gyd trwy osod carreg tu allan i’w tyllau a thollti ychydig o bupur wrth ei hymyl, a phryd ddeuai’r gwningen allan byddai’n tisian a tharo ei phen yn y garreg nes byddai’n gelain!
Cofiaf am byth brofiad chwerw iawn a ddaeth i’n rhan fel teulu pan gollais fy mrawd Bennet, Gan Tom Richards (bellach y sef efell i fy chwaer Catherine, diweddar Tom Cwm yr Afon, ac ef ond yn dair a hanner oed ar y pryd. Ond, ar y diwrnod Llanbedr) Hanes sydd gennyf yn gyntaf am arbennig yma sef dydd Llun, Llungwyn 1937, roedd fy frawd a chwaer sef Jonnie Wili a’i chwaer Mari Gertrude a oedd nhad yn torri mawn ac Ifan fy mrawd a minnau yn hel cerrig yn arfer ffermio fferm fechan nepell o’r tŷ ac roedd Bennet fy yng Nghwm Nantcol sef Garreg mrawd bach gyda ni. Yn ystod Lwyd. Roedd ganddynt ferlen, ac unwaith bu iddynt redeg allan y prynhawn aeth Bennet yn ôl tua’r tŷ, a daeth amser i ninnau ei o fwyd i’r ferlen, ac aeth Jonnie throi am baned, ond er syndod Wili a’i sach gydag ef i fferm i ni nid oedd Bennet wedi gyfagos rhyw noson, sef Pwll March, i ddwyn ychydig o fân us cyrraedd y tŷ a bu chwilio mawr (chaff) ond yn ddiarwybod iddo amdano. Ond cyn i ni fynd i hel cerrig roedd hen domen roedd twll yng nghornel ei sach ludw ar dân ac yn ei hymyl a bu hwnnw’n fodd i ddilyn ei roedd y car llusg, a chododd fy lwybr yn ôl i Garreg Lwyd. mrawd ef ar ei ochr rhag y tân, ond yn anffodus iawn roedd Cofiaf stori gan fy nhad am fy Bennet wedi cael ei hudo i’r fan a ewyrth Robin Penrhos o gwm disgynnodd y car llusg arno a fe’i Greigddu (lle gyda llaw y cefais fy magu) a Huw Evans o Fferm y lladdwyd yn y fan.
Pawb â’i bwt o Ardudwy
Stori arall gan Bet Roberts
Dyma hanes un o ddau frawd o’i hardal enedigol sef y Foel, Sir Drefaldwyn, a aeth i garu i ardal gyfagos ac aeth i’r tŷ at ei gariad. Wrth garu yno daeth hogiau’r ardal a chlymu handlenni’r drysau gyda chortyn i’w rwystro rhag dod allan a bu rhaid iddo aros am y noson. Beth bynnag, yn oedfa’r Sul canlynol roedd cwrdd gweddi. Gofynnwyd iddo ledio emyn a dewisodd emyn a oedd yn berthnasol iawn i’w brofiad y noson gynt sef: Disgwyl rwyf ar hyd yr hirnos, Disgwyl am y bore ddydd, Disgwyl clywed pyrth yn agor A chadwyni’n dod yn rhydd.”
“Grŵp Hyfforddi Ardudwy - Pawb â’i bwt o Ardudwy”, 1974-2014, D J Roberts” 10
Cwrt. Wrth sgwrsio dywedodd Robin bod ganddo fuwch wedi bwrw llo gwryw da gythraul neithiwr a Huw Evans yn trio ei brynu ac yn cynnig punt amdano a Robin yn dweud, “Na, men diawl, mae’n rhaid i mi gael swllt.” Wel, mi roddaf bunt i ti, Robin.” “Na, men diawl, mae’n rhaid i mi gael swllt.”
Stori arall gan Caerwyn
Carwn sôn hefyd am hanes sydd o leiaf dros 70 mlynedd oed a mwy mewn cyfnod pan nad oedd anogaeth at ddefnydd o’r Gymraeg yn ein hysgolion a’r anfantais a gafodd plant uniaith Gymraeg pan na allant ddeall geiriau Saesneg. Clywais am hanes plentyn na allaf ei enwi a oedd wedi camymddwyn yn yr ysgol, ond galwaf o yn John Williams am y tro, o dan ofal rhyw ormeswr o brifathro o’r cylch. “John Williams, what are you, boy? A gentleman or a hooligan?” a gan nad oedd gan John druan unrhyw syniad beth oedd ‘gentleman’ na ‘hooligan’ dywedodd yn ei ddiniweidrwydd “Hooligan, Syr” a dyma’r gansen i lawr.
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN
Gradd uwch Llongyfarchiadau cynnes iawn i Corinna Gittins sydd bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth ond sydd yn wreiddiol o Ffridd Fedw, Talsarnau. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Talsarnau ac Ysgol Ardudwy. Yn ystod yr haf hwn mae wedi derbyn gradd MA o Brifysgol Bangor mewn Troseddeg Gymharol a Chyfiawnder Troseddol. Rydym ni yn ymhyfrydu yn llwyddiant Corinna ac yn ei llongyfarch yn fawr ar ei champ ac yn dymuno’n dda iddi i’r dyfodol.
Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd Siriol Lewis yr aelodau i gyfarfod cyntaf 2016 yn y Neuadd nos Lun, 11 Ionawr, gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Wedi derbyn cofnodion dau gyfarfod olaf 2015, cyfeiriwyd at faterion yn codi o gofnodion y Pwyllgor Rhanbarth. Adroddwyd bod Cronfa’r Llywydd i godi arian at Sefydliad y Galon wedi cyrraedd £20,000; nodwyd mai Meirionnydd sydd yn noddi Sioe Llanelwedd eleni a bydd y Rhanbarth yn gyfrifol am babell MyW yno. Eglurwyd bod y Pwyllgor Rhanbarth wedi penderfynu gofyn am £2 gan bob aelod tuag at gostau’r babell. Cafwyd tîm i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglanllyn nos Wener, 19 Chwefror, a hysbyswyd yr aelodau o Ginio’r Llywydd yng Ngwesty Cinmel ar 12 Mawrth a Gŵyl y Pum Rhanbarth ym Mangor ar 14 Mai. Noson i’r dysgwyr oedd y tro yma, ac wedi iddynt ymrannu ar dri bwrdd gydag aelodau’r gangen, croesawyd pawb gan Gwenda Paul cyn dechrau gyda’r gêm i adnabod enwau lleoedd o luniau, yna cwis am y corff dynol, gan orffen gyda gêm gardiau i greu geiriau o 12 cerdyn ar bob bwrdd. Treuliwyd noson hwyliog, gyda chriw o ddysgwyr da, cyn i bawb fwynhau lluniaeth ysgafn wedi’i baratoi gan swyddogion y gangen. Roedd amryw o wobrau raffl i’w hennill a bu nifer dda o’r dysgwyr yn lwcus. Diolchodd Gwenda Paul i bawb am ddod a mynegodd Gwynne Wheldon Evans, tiwtor y dysgwyr, ei ddiolch yntau ar ran y dysgwyr, am y croeso a’r paratoadau ar eu cyfer.
GALA NOFIO
Rhoddion Diolch i Dafydd Williams am y rhodd o £6.50, a diolch i Rhian Owen, Tŷ Mawr, am y rhodd o £5.
CYNGERDD Aelwyd Ardudwy
Diolch Dymunaf ddiolch o galon i’r teulu, cyfeillion a chymdogion am y llu cardiau a galwadau ffôn a dderbyniais ar ôl fy llawdriniaeth yn Broadgreen, Lerpwl, ac Ysbyty Gwynedd. Diolch i bawb. Eifion Williams, 5 Cilfor. Rhodd £10 Swyddfa’r Post Mae’r Swyddfa Bost yn y Neuadd hefyd rhwng 12.30 a 3.00 yp. Mae’r Neuadd yn adnodd mor werthfawr i’r pentref - gall llawer o bobl sy’n byw gerllaw ddod i fwynhau ac i’n cefnogi.
Clwb y Werin Cynhelir y clwb yn y Neuadd yn Nhalsarnau rhwng 1.30 a 3.30 bob pnawn Llun. Yn ystod y gaeaf cynhelir y cyfarfod yn Ystafell y gloch - sy’n ystafell lai a mwy clyd, pryd y cynhelir gemau o ‘Scrabble’ (yn y ddwy iaith), gemau cardiau a dominos. Tua thri o’r gloch ceir paned a sgwrs a gêm o bingo i ddilyn. Yn y Neuadd fawr mae bwrdd tennis a matiau hir a digon o beli i chwarae bowls. Hoffem weld defnydd o’r rhain hefyd yn cael ei wneud ar bnawn Llun. Y tâl mynediad yw £2 a raffl am 50c.
Neuadd Gymuned Talsarnau Ysgol Gynradd Talsarnau Aeth Erin, Lois, Cara a Cari i Gaerdydd i gynrychioli Ysgol Talsarnau yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd 2016 ar Ionawr 23ain. Roedden nhw’n Nos Wener, Chwefror 26 cystadlu mewn ras gyfnewid am 6.30 o’r gloch rydd merched blwyddyn 3 a 4. Daethant yn drydydd yn eu rhagras gan wella eu hamser Mynediad: blaenorol o saith eiliad. Raffl a lluniaeth
Cyngerdd y Neuadd Gymuned Nos Wener 22 Ionawr daeth Meibion Prysor i’n diddori dan arweiniad Iwan Morgan, gydag Iona Griffiths yn cyfeilio. Cawsom noson ddifyr iawn, gyda lleisiau arbennig a rhaglen amrywiol. Braf gweld nifer o hogiau ifanc yn aelodau o’r côr a braf hefyd oedd gweld Eifion Williams, Cadeirydd Pwyllgor y Neuadd, wedi mendio’n ddigon da i fod yn bresennol ar ôl ei lawdriniaeth. Diolch i bawb am eu cymorth i sicrhau fod y noson yn llwyddiant. Bydd yr elw o £208 yn mynd tuag at gostau cynnal y neuadd.
Marwolaeth Trist clywed i ni golli Idris Lloyd, Glanllyn, Ynys. Cydymdeimlwn â’i wraig Olwen a’r plant. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Margaret Aliso draw yn Efrog Newydd ar ôl iddi golli Audrey ei mam. Cofion atat Margaret gan dy deulu a dy ffrindiau yn Nhalsarnau.
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau Chwefror 11 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb
Capel Newydd Talsarnau
Cynhelir Oedfa bregethu bob nos Sul am 6 o’r gloch CHWEFROR 7fed Dewi Tudur Lewis 14eg Dewi Tudur Lewis 21ain Dewi Tudur Lewis 28ain John Lewis MAWRTH 6ed Dewi Tudur Lewis 13eg Dewi Tudur Lewis 20fed Dewi Tudur Lewis 27ain Dewi Tudur Lewis
11
Potensial enfawr porth ofod yng Ngwynedd
BWYD A DIOD
Chowder Cranc Pen Llŷn
Mae Liz Saville Roberts AS yn galw ar y Llywodraeth i fwrw ymlaen gyda chyhoeddi meini prawf ar gyfer gweithredu’r cynllun. Mae’r Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi defnyddio dadl yn y Senedd ar Bolisi’r Gofod i ddadlau dros sefydlu Porth Ofod cyntaf y DU yn Llanbedr. Mae tri safle’n cael eu hystyried fel safleoedd potensial ar gyfer y Porth Ofod arfaethedig sef Prestwick yn yr Alban; Newquay yng Nghernyw a hen faes awyr Llanbedr. Os bydd y project yn llwyddo i gael cefnogaeth ariannol y Llywodraeth, disgwylir y bydd y gwaith o ddatblygu’r Porth Ofod yn dechrau yn 2018. Mae Liz Saville Roberts AS yn galw ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r cynllun a chyhoeddi’r meini prawf ar gyfer gweithredu’r cynnig. Meddai Liz Saville Roberts AS: “Mae potensial enfawr wrth leoli’r Porth Ofod yng Ngwynedd, o fewn yr ardal leol ac yn yr ardal ehangach. Mae dadl economaidd gref dros ddatblygu porth ofod yn y sir. Mae’r sir yn hynod ddibynnol ar swyddi yn y sector cyhoeddus a chyflogaeth dymhorol o fewn y diwydiant twristiaeth, ac yn yr etholaeth ceir cyflogau isel a diffyg gwaith. Dyma beth sy’n digwydd wrth i ni ddibynnu ar y diwydiant twristiaeth a sector cyhoeddus sy’n crebachu’n ogystal â diffyg cefnogaeth ar gyfer swyddi gyda chyflogau da lle mae angen medrau. Ni fyddai buddion project
12
arloesol o’r fath yn cael eu cyfyngu i Wynedd. Mae potensial i Lanbedr fod o fudd i ogledd Cymru. O’r tri safle sy’n cael eu hystyried ar gyfer y porth ofod, Llanbedr yw’r safle agosaf at sawl canolbwynt teithio rhyngwladol megis Manceinion a Lerpwl, yn ogystal â bod yr agosaf at y fynedfa i’r gofod yn Rhydychen. Mae gan Lanbedr record hir o reoli gofod awyr, a saif tair rhedfa hir yma sy’n sicrhau nad ydy awyrennau’n hedfan uwchben mannau lle mae trwch y boblogaeth yn byw. O ystyried y meini prawf diogelwch llym y byddai’n rhaid eu dilyn, byddai safle anghysbell Llanbedr, ei leoliad ar yr arfordir a dwy fil milltir sgwâr o ofod awyr neilltuedig yn sicrhau ei fod yn unigryw ymysg y tri ymgeisydd. Mae potensial i’r porth ofod wneud gwir wahaniaeth a hwnnw’n un parhaol i Wynedd, wrth gyfrannu at sicrwydd economaidd ehangach Cymru a thu hwnt. Rŵan mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu’r meini prawf gweithredol ar gyfer y porth ofod fel bod y sawl sy’n gweithio’n ddygn i sicrhau’r buddsoddiad hwn yn gallu ymrwymo adnoddau pellach i atgyfnerthu ein hachos yn y broses o roi cais ger bron.”
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy CHWEFROR 1. £40 Mrs O M Evans 2. £20 Ms Pauline Williams 3. £10 Mr I Bryn Lewis 4. £10 Mrs Anne Jones 5. £10 Mr Edward Thomas 6. £10 Mr Harry Jones
Mae’r cawl yma yn un o’r mwyaf poblogaidd yn y bar/caffi ac mae’n hawdd ei wneud. Mae o hefyd wedi’i gynnwys yn y llyfr Bwyd a Gwin. Rhowch gynnig ar ei wneud yn y tywydd diflas yma - mae’n hawdd, dwi’n addo. Os hoffech win bach i’w fwynhau gyda’r pryd, mae Riesling gyda blas leim i dorri ar draws y braster yn un da. Mwynhewch! Er bod hwn yn gawl sy’n dirywio’n gyflym mae o’i werth o am bryd amheuthun ar y bwrdd! 1 llwy bwdin de blawd plaen 50g ymenyn 1/2lt hufen dwbl 2 moronen 1lt stoc pysgodyn neu lysiau 1 nionyn 500g cig cranc 1 genhinen - tafellwch yn denau Perlysiau cymysg 2 goes seleri Pupur a halen 2 tun x 200g corn melys 1 llwy de piwrî tomato Persli ffres wedi ei falu’n fân i addurno 1. Toddwch yr ymenyn a chwyswch y llysiau ynddo yn araf dros dymheredd isel am tua 10 munud. 2. Ychwanegwch y piwrî a’r blawd a’i gymysgu i mewn gyda llwy bren. Bydd hwn yn tewychu tra’r ydach yn ei gymysgu. 3. Wrth ddal i gymysgu, ychwanegwch y stoc ychydig ar y tro gan ei adael i dewychu’n araf. 4. Ychwanegwch un tun o’r corn melys a’i fudferwi am 5 munud. 5. Tynnwch y sosban oddi ar y pentan a hanerwch y gymysgedd yn ofalus. Rhowch un hanner yn y prosesydd bwyd a’i brosesu. Dychwelwch hwn i’r sosban. Mae ganddoch gymysgedd sydd ag ansawdd ‘chowder’ erbyn hyn. 6. Ychwanegwch yr ail dun o gorn melys, pupur a halen, perlysiau a’r hufen ac aildwymo’r gymysgedd cyn ei mudferwi am 5 munud. 7. Ychwanegwch y cig cranc a dod ag o’n ôl i dymheredd mudferwi. Gallwch ei weini gyda phersli ffres a bara.
Llinos, Dylanwad, Dolgellau
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Precept 2016/17 Gan fod y Cyngor wedi cytuno i dderbyn cyfrifoldeb am y biniau halen o’i gyllideb a thalu am wobr y traeth, penderfynwyd cadw’r precept ar £7,000. Ceisiadau cynllunio Amnewid tŷ - Tegfor, Llandanwg - caniatáu GOHEBIAETH Adran Economi a Chymuned Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynglŷn â gwobrau traeth 2016 yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn fodlon talu’r gost o £480.00 ynglŷn â gwneud cais am y wobr hon i Gadw Cymru’n Daclus. Cytunwyd i dalu’r gost yma. UNRHYW FATER ARALL Angen tynnu sylw’r Adran Briffyrdd bod yr arwyddion 30mya a 40mya mewn rhai mannau angen sylw, hefyd bod angen casglu arwyddion rhybuddion sydd wedi cael eu gadael mewn gwahanol leoedd. Cafwyd gwybod bod rhai’n methu cael mynediad i’r traeth oherwydd y rhwystr ar draeth Llandanwg a phenderfynwyd cadw golwg ar y sefyllfa.
Y BWTHYN
Caryl Lewis, heb os, yw un o’n prif awduron erbyn hyn, Veritas - Mari Lisa ac y mae cryn ddisgwyl wedi Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2015 bod am Y Bwthyn - ei degfed nofel. Pori tir tebyg i Martha, Mae amryw o rinweddau’r nofel hon yn yr hyn nad yw ynddi. Nid Jac a Sianco mae Y Bwthyn yw’n amlhaenog, nid yw’n ceisio gwneud unrhyw ddatganiadau wrth iddi bortreadu bywyd yng mawr am fywyd, nid yw’n ceisio bod yn glyfar wahanol, ac nid yw’r nghefn gwlad Cymru. Y tri arddull yn tynnu sylw ati hi ei hun. phrif gymeriad yw Enoch - y tad, Isaac ei fab ac Owen a ddaw Y mae iddi hefyd rinweddau cadarnhaol. Y mae yma stori dda, i aros yn y bwthyn ar fferm wedi’i hadrodd yn uniongyrchol mewn arddull gwbwl addas i’r fynyddig Hen Hafod. Nyddwyd deunydd a’r driniaeth ohoni, ac y mae’n gorfodi’r darllenydd i hefyd i’r stori nifer o fân droi’r tudalennau a darllen ymlaen. Fe berthyn i’r math o lyfr sy’n gymeriadau - hwynt oll yn rhoi dwyn amryw o agweddau at ei gilydd, sy un funud fel pe’n mynd cipolwg i ni ar fywyd syml ond ar drywydd hollol wahanol ac yna’n dychwelyd at y brif thema. Y eto cymhleth y mynydd. mae iddi sawl pen llinyn a rhaid darllen i’r diwedd i ddatgordeddu y Stori sy’n symud yn weddol araf llinynnau. yw hon ond mae’r tensiynau a’r tawelwch sydd rhwng y Nid af i ymhelaethu ar y plot a’r stori rhag rhoi awgrym o beth cymeriadau – yn enwedig sy’n digwydd ond rhaid cyfaddef imi gael peth anhawster gyda’r rhwng y tad a’r mab - yn datrysiad tua’r diwedd, a gwelaf fod awgrym o feirniadaeth gan un cymell y darllen a dim ond ar y o’r beirniaid hefyd. Byddai pennawd i bob pennod, fel y gwnaed i’r diwedd y datgelir y stori. Ceir mwyafrif, neu ddyddiad hyd yn oed, wedi bod o gymorth. yma ddarluniau byw iawn o’r cymeriadau. Teimlaf fy mod Cefais beth anhawster gyda’r dafodiaith hefyd neu’n hytrach y yn adnabod Enoch ac Isaac yn modd y cofnodwyd hi. Rwy’n dal i gredu mai iaith i’w siarad nid rhyfeddol o dda – mae eu gwedd iaith i’w hysgrifennu yw tafodiaith, fel y dywed y gair, ac mai yn fyw iawn yn fy meddwl. Fe awgrym yn unig sydd ei angen wrth ei chofnodi. Ond rwyf bron fyddwn, er hynny, wedi hoffi mewn lleiafrif o un yn dweud hynny, debyg, gan fod pob beirniad yn ddieithriad yn canmol tafodiaith. Ond mae sut i’w chofnodi yn codi cwestiwn. Os mai ‘bech’ a ddywedir ac nid ‘bach’, ai fel ‘bech’ y dylid ei gofnodi, ynteu a fyddai gwybod mai ‘iaith Maldwyn’ a siaredir gan y cymeriad yn ddigon? Tanlinellir y broblem gyda gair fel ‘ded’ am ‘dad’, a chan ein bod yn ddarllenwyr dwyieithog gellid meddwl mai at farwolaeth y cyfeirir!
dod i adnabod Owen ychydig yn well ac efallai am gael gwybod pam y’i cymhellwyd i ddod i’r mynydd a beth fu ei hanes wedyn. A minnau wedi cael fy magu gan rieni a oedd yn gyfarwydd â bywyd mynydd Ceredigion, mae’r nofel hon yn dod yn ôl â sawl atgof. Portreadir yma brydferthwch rhyfeddol cefn gwlad a gweithgareddau angenrheidiol pob tymor ond yn gefndir i’r cyfan mae yna hagrwch cynyddol. Mae yna densiwn rhwng teuluoedd, rhwng anifeiliaid, ac y mae’r gwn – arf a arferai fod ym mhob ffermdy anghysbell – weithiau yn rhy gyfleus. Hyfryd yn wir yw cael cofnod o arferion difancoll bywyd y mynydd ac fe werthfawrogais i, yn fawr, ddawn yr awdur i gofnodi ambell dro ymadrodd yr arferwn ei glywed yng nghefn gwlad Ceredigion - ee ‘meddwl bŵer’ sef meddwl llawer. Go gostus ac anodd, mae’n debyg, y byddai creu ffilm o’r gyfrol, ond mi fyddai’n braf gael cofnod gweledol o arferion y bywyd mynyddig cyn iddynt gael eu colli yn llwyr. Beth felly am roi cynnig ar y gyfrol hon? Gwledd! Sarah Down-Roberts Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Does dim dwywaith nad yw’r nofel hon yn gwbl deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen. Ond yn bwysicach na hynny y mae hefyd yn cyfiawnhau cynnal y gystadleuaeth ac yn cyfiawnhau ei geiriad. Y mae yna rai fyddai am weld dileu’r geiriau ‘gyda llinyn storïol cryf ’ ohoni a’r hyn a gaem wedyn, beryg, yw dwy fersiwn o’r Fedal Ryddiaith. Hir y parhaed y gwahaniaeth rhyngddynt. I gael pregeth fe af i’r capel, i weld gwrthdaro dramatig rhwng cymeriadau af i weld drama, ac i gael sialens i’r meddwl darllenaf farddoniaeth neu lenyddiaeth y Fedal, ond darllenaf nofelau fel hon er mwyn ymlacio ac er mwyn diddanwch, er mwyn ymgolli mewn bydoedd gwahanol ac nid i ymaflyd codwm gyda syniadau astrus awduron sy’n meddwl mwy am eu crefft nag am y darllenydd. Pob clod i Mari Lisa am roi’r darllenydd yn gyntaf. Elfyn Pritchard Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
13
136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT
Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.
DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy
Ardudwy
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai Clynnog Fawr
Chwefror 13: Yr Hen Bowys a’r Canu Englynol Yr Athro Peredur Lynch a’r Prifardd Myrddin ap Dafydd dechrau yn brydlon am 10.30 y bore ac yn dod i ben tua 2.30 y prynhawn.
STORFA CANOLBARTH CYMRU www.midwalesstorage.co.uk STORFA CARTREF A BUSNES
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Cae Chwarae/Maes Parcio Adroddodd Geraint Williams ei fod wedi gallu sicrhau mwy o lwythi o ddeunydd ar gyfer wyneb y maes parcio. Cytunwyd bod angen ffensio o amgylch y maes parcio ac adroddodd John Richards bod Mr Meirion Griffith yn barod i wneud y gwaith yma. Hysbysfwrdd yr Ynys Adroddodd John Richards ei fod wedi cael hanes hysbysfwrdd i’w osod yn yr Ynys a chytunwyd i’w osod ar y safle ger y safle bws. Cytunodd John Richards a Geraint Williams archwilio’r safle hwn cyn gwneud penderfyniad terfynol. Precept 2016/17 Er fod y Cyngor wedi cytuno i ofalu am y biniau halen o’i gyllideb a thalu am wobr y traeth, penderfynwyd gadael y precept ar £10,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel ysgubor a’i ailgodi - Carreg y Ro, Ynys Cefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Mae biniau yn cael eu gadael ar y darn tir ger Rhiw Derwydd a chytunwyd i gadw llygad ar y sefyllfa. Mae’n anodd cael mynediad i’r blwch post ger y Motel gan fod cymaint o rwystr o’i amgylch. Cytunwyd i lunio rhestr o sawl mainc newydd sydd ei hangen. Mae weiren bigog wedi ei gosod yn isel i’r llawr wrth ochr llwybr cyhoeddus a chytunwyd i anfon y llun a ddaeth i law i Liz Haynes, Cyngor Gwynedd. Bydd Dŵr Cymru yn gwneud gwaith ger Llyn Tecwyn yn y gwanwyn. Datganwyd pryder bod cymaint o faw cwn ar hyd ffordd y stesion a chytunwyd i gysylltu gyda’r Warden Cŵn. Datganwyd siom nad oedd yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y trên a bod yr arwyddion hysbysu i gyd yn Saesneg. Datganwyd pryder fod ambiwlans yn gorfod dod o gryn bellter at glaf. A fyddai’n bosib ymestyn y parth 30mya yn Llandecwyn hyd at stad dai Bryn Eithin gan fod yna bryder o oryrru ar y ffordd hon? Hefyd, angen tynnu eu sylw bod y ffordd o Ysgubor Hen draw am Ddolorgan angen sylw a bod angen glanhau’r cwteri ar y ffordd i fyny am Stryd Bryn gan fod y dŵr yn llifo i’r ffordd fawr yn ystod tywydd garw.
TORRI GWAIR
Ystafelloedd storio ar gyfer eich anghenion Monitro diogelwch 24 awr - wedi’i wresogi Siop ar lein: www.boxshopsupplies.co.uk Ffôn: 01654 703592 Heol y Doll, Machynlleth, Powys SY20 8BQ
Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio a gwneud gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau. Am fwy o fanylion a chopi o’r cytundeb, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.16. ***** Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bod angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel y Traethau. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.16.
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau Ffôn: 01766 780742 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
14
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959
Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Llais Ardudwy
Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
01766 780186 07909 843496
Pritchard & Griffiths Cyf.
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Sŵn y Gwynt Talsarnau,
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS
Gwrachynys, Talsarnau Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
GWAITH ADEILADU AMRYWIOL Gwarantir gwaith o safon Ffôn: 01766 780742 07769 713014
15
TAITH B9 I LUNDAIN Bu disgyblion B9 ar daith i Lundain a drefnwyd gan yr Adrannau Hanes a Cherdd ar y 9fed a 10fed o Ragfyr. Buont yn ymweld â phrif leoliadau’r ddinas. Cerddwyd y ‘Jack the Ripper Walk’ ac ymwelwyd â’r “London Dungeons” - lleoliadau a wnaiff roi mewnwelediad byw i’r disgyblion o’r hyn sy’n cael ei hastudio yn B9. Trefnwyd hefyd i’r disgyblion fynd i Theatr yr Apollo i weld y sioe gerdd “Wicked”. Roedd y daith yn llwyddiannus iawn ac roedd pawb wedi cael amser da. EISTEDDFOD YR YSGOL Bu prysurdeb mawr yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod gyda phawb yn paratoi ac yn ymarfer. O ganlyniad, cafwyd Eisteddfod lwyddiannus dros ben gyda safon uchel yn y cystadlu ar y llwyfan ac yn y gwaith cartref. Ar y llwyfan, roedd cystadlaethau o bob math yn cynnwys y traddodiadol megis adrodd unigol ac mewn parti, unawd, canu’r piano ac offerynnau pres ynghyd ag eitemau mwy modern fel dawnsio disgo, sgets a grwpiau roc.
YSGOL ARDUDWY
Bu cystadlu brwd hefyd ar y cystadlaethau gwaith cartref gyda phob pwnc wedi gosod testunau amrywiol a diddorol i’r disgyblion fynd i’r afael â nhw. Uchafbwynt y dydd oedd Seremoni Cadeirio’r Bardd ac enillydd y Gadair oedd “Jac y Jwc”, sef Kelly Williams, Blwyddyn 11, am ei hymson “Y Diwrnod Olaf i mi Garu” darn dirdynnol am ei chariad yn cael ei ladd mewn damwain car. Rydym yn mynd drwy’r profiad erchyll yn y car ar ôl y ddamwain a’r darganfyddiad bod ei chariad “Oliver” wedi marw. Mae’r disgrifio’n fanwl ac rydym yno gyda’r awdur yn yr ing llethol. Cafwyd diweddglo grymus gyda chystadleuaeth Corau’r Tai a phawb yn morio canu “Yma o Hyd” - ni welwyd canu mor ysbrydoledig a gwladgarol erioed yn yr ysgol! Eisteddfod gwerth chweil! Llongyfarchiadau i CNICHT, y Tŷ buddugol ac i bawb a gystadlodd i wneud yr Eisteddfod hon yn un o’r rhai gorau eto.
Kelly Williams, B11 - prif lenor yr eisteddfod. Gobeithiwn gynnwys ei gwaith yn rhifyn mis Mawrth.
16