Llais chwefror 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

FFORDD PEN LLECH

y ffordd gyhoeddus mwyaf serth yng ngwledydd Prydain!

RHIF 460 CHWEFROR 2017

ANRHEGU ELFYN

Elfyn Pugh, gynt o Llwyn Onn, Llanbedr yn derbyn cydnabyddiaeth gan Eddie Jones, hyfforddwr tîm rygbi Lloegr, am ei wasanaeth o dros 50 mlynedd i’r gêm yn Lloegr. Mwy o’r hanes ar dudalen 5.

Ffordd Pen Llech, Harlech Dywedir mai Ffordd Pen Llech yn Harlech yw’r ffordd gyhoeddus fwyaf serth ledled gwledydd Prydain ymhlith y rhai hynny sydd wedi eu tarmacio. Fel y gŵyr y cyfarwydd, mae dwy ffordd yn amgylchynu Castell Harlech, sef Llech a Twtil. Yn ôl yr arbenigwyr, mae’r llethr ar Ffordd Pen Llech yn mesur 1:2.73 ar ei fwyaf serth. Mae hyn yn cyfieithu i ddisgyniad / graddiant o 36.63% o godiad tir mewn 165 troedfedd [neu 50 metr] ond mae’r Awdurdod Priffyrdd, yn ôl eu harfer, wedi gosod y rhif cyfan agosaf ar yr arwydd, sef llethr o 40%. Er mwyn osgoi problemau, mae hon rŵan yn ffordd unffordd o’r top i’r gwaelod. Mae’r ffordd yn boblogaidd iawn gyda beicwyr sy’n cael eu denu gan yr her o geisio’i dringo ar gefn beic, er bod pethau wedi newid ers iddi gael ei gwneud yn ffordd unffordd gan na ellir ond reidio i lawr y rhiw. [Mae rheolau traffig yn trin beic yr un fath yn union â cherbydau eraill.] Does dim i rwystro beicwyr mentrus rhag dringo Twtil, sydd bron yr un mor serth – 25%. Ond nid yw’n addas ar gyfer y gwangalon! Stryd Baldwin, Seland Newydd ydi’r ffordd fwyaf serth yn y byd ond nid yw wedi ei tharmacio! Mae’r disgyniad /graddiant arni yn mesur 1:3.41.

LLYWYDD ANRHYDEDDUS CÔR MEIBION ARDUDWY Etholwyd Mr Idris Williams, Tanforhesgan yn Llywydd Anrhydeddus Côr Meibion Ardudwy yn eu cyfarfod blynyddol ganol Ionawr. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un lenwi’r swydd hon. Dewiswyd Idris oherwydd ei hir wasanaeth i’r Côr a hynny er iddo fod dan anhwylder am lawer blwyddyn. Erys yn un o’r aelodau selocaf a chymaint yw’r parch iddo o fewn y côr fel eu bod yn teimlo nad oedd ei ddyrchafu yn llywydd yn ddigon o anrhydedd iddo. Mae’n gerddor dawnus ac yn fedrus iawn wrth y piano a’r organ. Daeth llu o blant ato i ddysgu canu dros y blynyddoedd. Mae’n meddu ar lais bas peraidd iawn ac mae’n sicr iawn ei nodyn. Bu’n gaffaeliad mawr i’r adran bas

Stryd Baldwin, Dunedin, Seland Newydd

Mr Idris Williams cyntaf ers iddo gychwyn fel aelod oddeutu 1975/76, ac mae chwith ar ei ôl yn ystod ei absenoldeb. Dioddefodd drawiad lem iawn ymron i 20 mlynedd yn ôl ond nid yw hynny wedi lleihau

ei frwdfrydedd a’i ymwneud â’r Côr. Y newydd da yw ei fod yn bwriadu dychwelyd i’r rhengoedd yn fuan. Cyfrannodd yn helaeth iawn i fywyd cymdeithasol, crefyddol a diwylliannol yr ardal hon. Roedd yn un o sefydlwyr Eisteddfod Harlech. Ef oedd yr ysgrifennydd cyntaf. Bydd amryw yn ei gofio yn arwain corau lleol i gystadlu yn yr eisteddfod honno a hefyd ei gyfraniad fel arweinydd llwyfan. Ef yw prif ddiacon a thrysorydd Capel Jerusalem,

Harlech a deil i fod yn gyfrifol am y daflen gyhoeddiadau ac amryw faterion eraill. Bu’n gwasanaethu’r ardal hefyd fel cynghorydd cymuned, dosbarth a sir. Bu hefyd yn weithgar iawn ymhlith y gymuned amaethyddol - yn arbennig y Sioe Sir. Llongyfarchwn ef yn gynnes iawn ar yr anrhydedd hon. Dymunwn iechyd a hoen a phob bendith iddo gan hyderu y bydd yn parhau i gefnogi’r pethe yn yr ardal hon am flynyddoedd lawer i ddod.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mawrth 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Mawrth 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Chwefror 28 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Enw: Colin Williams Gwaith: Wedi ymddeol o redeg y busnes ‘Nantcol Industrial Electronics’. Cefndir: Wedi fy magu a ’nwyn i fyny yn Bron Fair, Llanfair. Gweithio yn Atomfa Trawsfynydd tan benderfynais yn 1983 i ymfudo i Ganada. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Pleser mwyaf i mi ydi cael y fraint o gerdded yn y wlad gyda fy nghi, gwn, neu wialen bysgota. Mae fy atgofion gorau ym myd natur wedi digwydd o gwmpas ffermydd fel Uwchglan, Tyddyn Siocyn a Phenarth heb sôn am Gwm Nantcol, Cwm Bychan a’r llynnoedd y tu ôl i Dalsarnau. Felly, hyd heddiw byddaf yn cael y pleser mawr o fynd am dro am ryw ddwy awr bob dydd hefo Bela’r ast. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Bûm erioed yn greadur heb ddigon o amynedd i ddarllen llyfr. Ond wrth ddweud hyn, y llyfrau diwethaf i mi eu darllen oedd hunangofiant Jackie Stewart a bywyd John Lennon, gan ei wraig gyntaf. Ar hyn o bryd, rydw i’n darllen y llyfr ‘The True History of The Black Adder’, ond pwy a ŵyr pryd y gwelaf y cas cefn. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Mae rhaglenni ar y teledu yn Canada yn cynnwys llawer iawn o raglenni’r USA. Mae rhai rhaglenni da ar fyd natur, a chyngherddau, ond ar y cyfan sothach ydi’r rhan fwyaf ohono fo. Fy ffefryn ydi ‘Heartbeat’. Wrth wrando ar y gerddoriaeth a sylwi ar yr hen geir mae yn fy rhoi (am beth amser) mewn byd arall. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rydw i’n ceisio. Mae gen i gof am bobol o genhedlaeth fy nhad yn marw’n gynnar o ddiffyg ar y galon. Roedd llawer pryd blasus yn dod allan o’r hen badell ffrio, gyda’r sospan chips yn byrlymu wrth ei hochor. Roedd colesterol yn adnabyddus ond nid oedd cymaint o bwyslais gan y meddygon. Hoff fwyd? Rydw i’n hoff iawn, yn enwedig yn yr haf, o ddefnyddio’r barbeciw. Mae llawer iawn o lyfrau coginio

ar gael heddiw, yn cynnwys cant a mil o ffyrdd gwahanol o baratoi bwyd. Rydw i’n lwcus iawn yn byw mewn ardal sy’n cynnwys llawer o ffermydd, yn pesgi gwartheg eidion a moch. Does dim pryd o fwyd gwell na senna cefn mochyn neu stecen flasus wedi eu paratoi ar y barbeciw. Hoff ddiod? Rydw i’n hoff iawn o winoedd coch Awstralia, Chile a’r Ariannin. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Sue y wraig. Mae hi’n dweud bod peidio gorfod paratoi’r bwyd yn rhoi mwy o bleser wrth fynd allan. Lle sydd orau gennych? Mae tafarn wrth ochr yr afon Grand yn llifo trwy dref Fergus, lle rydym yn byw. Mae’n braf iawn cael pryd o fwyd wrth lygadu’r afon lle byddaf yn treulio awr neu ddwy ar fin nos yn lluchio pluen i’r pyllau am frithyll. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Llawer blwyddyn yn ôl penderfynais fynd, gyda hen gyfaill, mewn hen fan A35 i lawr i Gernyw am bythefnos o wersylla. Gyda’r tywydd yn braf ac yn boeth, cawsom wyliau bendigedig. Beth sy’n eich gwylltio? Cyfrifiaduron. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Hiwmor. Mae’r Cymro yn ffodus iawn i gael ei eni gyda chyfoeth o synnwyr digrifwch ac, i gysylltu â’r iaith Gymraeg, mae o’n taro nodyn arbennig iawn. Wrth feddwl am rai o hen gymeriadau’r fro fel John Pugh, Llechwedd Du, Griff Williams (Llaeth), Richard Evans Pen Sarn, yr oedd hiwmor yn nhoriad eu bogail. Yn aml iawn, wrth fynd i bysgota neu saethu, buaswn yn dod ar draws un o’r hen gymeriadau yma, ac yn cael sgwrs hwyliog dros ben; ffordd dda iawn i gychwyn y diwrnod. Pwy yw eich arwr? George Best (ar y cae chwarae). Beth yw eich bai mwyaf? Natur braidd i ddweud, ‘mi wnaf o yfory.’ Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobol yn lluchio plastig a ‘styrofoam’, yn enwedig ar lannau’r afonydd. Ar y cyfan, mae pobl Canada yn rai taclus iawn gyda meddwl mawr o’u gwlad, ond fel pob man arall, mae un neu ddau yn euog. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael eistedd ar graig yn edrych i lawr dros y merddwr yng Nghwm Nantcol, gan wybod bod pawb yn y teulu yn iach, a gwrando ar y gylfinir yn galw. Mi gefais wyliau bendigedig ym mis Medi 2013, yn aros hefo Alec a Leslie

Howie yn Llanbedr. Ar y diwrnod cyntaf, es i weld bedd fy nhad ac wedyn i Gwm Nantcol i wrando ar y gylfinir, ond oedd dim sôn amdani. Dywedodd Evie Morgan wrthyf nad oedd wedi clywed y gylfinir na’r gornchwiglen ers ugain mlynedd. Dyna chwithdod. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Ei rannu efo’r teulu, a’r gweddill at Sick Kids Hospital yn Toronto. Yr haf diwethaf, mi gawson ni, gyda llawer o deuluoedd eraill, gymryd rhan mewn taith gerdded yn Toronto a gorffen gyferbyn â’r ysbyty hon. Yn sgil y daith gerdded a phethau eraill yn digwydd dros gyfnod o rai misoedd, mi godwyd yn agos iawn i filiwn o ddoleri at yr ysbyty. Roeddwn i mor falch. Eich hoff liw? Glas Eich hoff flodyn? Does dim yn harddach na chlychau’r gog yn chwifio yn y gwynt yng nghoed Aber Artro Eich hoff fardd? Gwaith R Williams Parry yn disgrifio byd natur, sef y Ceiliog Ffesant, y Llwynog a’r Wenci. Ar ôl dod i fyw i Ganada, fe ddes i ar draws barddoniaeth drist iawn wedi ei ysgrifennu yn ystod y rhyfel cyntaf, gan Lt Col John McCrae, sef ‘Flanders Fields’. Eich hoff gerddor? Medrwn sgwennu llyfr! Rhwng y bandiau pres, opera, a pop maen nhw i gyd yn cael gwrandawiad aml. Mae Placido Domingo yn hen ffefryn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Mae ‘Panis Angelicus’ yn dal i godi blew’r gwar, yn enwedig yr intro. Pa dalent hoffech chi ei chael? Does gen i ddim gymaint o angen heddiw am dalent, ond yn y dyddiau chwythu corn, buaswn wedi hoffi medru chwarae heb edrych ar y papur o fy mlaen. Eich hoff ddywediad? Mae’r merched dros y blynyddoedd wedi clywed eu tad yn dweud llawer tro, ‘to quote an old Welsh saying’. Pan oedden nhw yn mynd drwy’r ysgol, roedd amal i stori am rieni hwn a’r llall, a finna yn dweud wrthyn nhw - ‘Gwyn y gwêl y frân ei chyw’. Mae Becky, y ferch hynaf, wedi gofyn lawer tro i mi i’w sgwennu nhw mewn llyfr. Gydag eglurhad a digwyddiad i egluro’r dywediadau, maen nhw erbyn hyn mewn llyfr bach iddi hi. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn lwcus iawn ac yn ddiolchgar i gael iechyd da. Ar ôl ymddeol, peth braf ydi cael y rhyddid i wneud fel yr wyf yn ei ddymuno a’r teimlad o foddhad. Gyda theulu triw a’r ffrindiau gorau yn fy mywyd, pwy all ofyn am ragor?


ENNILL Y BRIF WOBR DRWY GYMRU

Llongyfarchiadau mawr i Megan Thomas, Hendre Canol, Llanaber sy’n mynychu Cylch Meithrin Llanbedr, am beintio llun o ‘Dewin’ mascot y cylchoedd meithrin - ac ennill y brif wobr drwy Gymru.

CHWEFROR

Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, Cryn fy ffenestr a fy nôr; Plyg y deri fel mieri, Dyro ddawns i longau’r môr; Byr yw dydd a dyddiau Chwefror, Cynt y dêl yr hwyr na’r wawr; Chwyth y crynddail hyd y cwmwl, Chwyth y ceinciau hyd y llawr. Yn dy rwysg ac yn dy ryddid Tros y Cnicht a’r Moelwyn chwyth; Cadw’r moethus yn ei gaban, Cadw’r neidr ar ei nyth;

Clwb Rygbi Harlech Mwynhawyd noson hwyliog ym mwyty ‘Nineteen .57’ ar Ragfyr 17eg ar ôl gêm ddiddorol yn erbyn Dolgellau. Cafwyd gêm gystadleuol iawn ac ym munudau olaf y gêm sgoriodd Ddolgellau gyda ‘drop goal’. Fodd bynnag, ni thorrwyd calonnau’r chwaraewyr a’u hyfforddwyr. Gêm Goffa Mr Reg Morris (Moi Mop) 1917-2015 oedd y gêm hon a chafwyd presenoldeb rhai o deulu Mr Morris yn y gêm, ar ôl y gêm ac yn y dathliadau Nadolig. Brodor o ogledd Sir Benfro oedd Mr Reg Morris ond roedd ei galon yn Ardudwy. Cyn athro Daearyddiaeth yn Ysgol Ardudwy yn y 50au-70au oedd Mr Morris neu Moi Mop fel byddai’r disgyblion yn ei adnabod. Roedd ganddo fop o wallt hyd yn oed wrth ymddeol - er bod y lliw wedi pylu erbyn hynny! Roedd yn un o’r athrawon oedd yn cefnogi ac yn cynorthwyo’r tîm rygbi yn Ysgol Ardudwy. Roedd yn aelod o’r Clwb Rygbi ers ei sefydlu , ac wrth ei fodd yn holi am hanes y Clwb a’r hen gymeriadau, yn enwedig hen ddisgyblion direidus y Clwb. Diolch i’r teulu am noddi’r gêm ac am eu presenoldeb a’u cefnogaeth. Câr y wennol awel feddal, Câr y glöyn glaear si, Caraf finnau’th ruad dithau Edn y ddrycin ydwyf fì. Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, Cladd y mynydd dan y lluwch, Cladd y môr o dan yr ewyn, Chwyth, aeafwynt, eto’n uwch; Ond pe clywit ar ryw dalar Oenig cynnar yn rhoi bref, Tro oddi wrth y dalar honno, Paid a chwythu amo ef. Eifion Wyn

GEIRIADUR PRIFYSGOL CYMRU Mae siarad am y tywydd yn ail natur i ni, ac yn fodd i gynnal sgwrs pan nad oes llawer arall i’w ddweud. A phetai’n bwrw eira, mae hynny’n destun siarad gan bawb! Ond faint o eiriau sydd i ddisgrifio eira yn benodol? Mae yna ystôr ohonynt yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, a rhai ohonynt yn hen iawn. Er enghraifft sonnir am friwod, sef eira mân a yrrir gan y gwynt, a chynneiry, sef eira cyntaf, tua’r flwyddyn 1400 yn Llyfr Coch Hergest. Mae’r bardd Iolo Goch yn cyfeirio at liw nyf, sef lliw eira, yn y 14eg ganrif, a Dafydd ap Gwilym yn sôn am ôd (eira), gair sydd ar lafar o hyd mewn rhai ardaloedd yn y ferf odi (bwrw eira). Ar ddiwrnod eiriog (llawn o eira), efallai mai ffluwch (haen denau), ffrechen (cawod ysgafn), neu sgimpen (haen denau) a gwymp, neu daw eirwynt a lluwch neu luchfa o fanod (mân ôd, eira mân) i’n cadw i ffwrdd o’r lonydd ac o’r gwaith. Ac wrth gwrs mewn ychydig o ddiwrnodau, bydd y gwynneiry (eira gwyn) neu’r hiffiant (eira wedi ei yrru gan y gwynt) wedi troi yn isgell neu botes eira (eira tawdd) hyll a budr. A wyddoch chi am unrhyw hen eiriau lleol neu anghyffredin i ddisgrifio’r eira (neu unrhyw dywydd arall)? Chwiliwch amdanynt yn GPC ar-lein (ac am ddim), http://gpc.cymru. Ac os nad ydynt yno, byddwch mor garedig â chysylltu â ni ar gpc@geiriadur.ac.uk neu Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth SY23 3HH. Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthoch!

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

GWOBRWYO ELFYN PUGH

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

CHWEFROR 12 Capel Nantcol, Parch Huw Dylan Jones MAWRTH 5 Capel y Ddôl, Miss Glenys Roberts CAPEL SALEM CHWEFROR 19 Parch Dewi Tudur Lewis MAWRTH 19 Parch Dewi Tudur Lewis 26 Parch Peter Thomas Profedigaeth Bu farw George Kerr yn 81 oed ar 4 Ionawr. Cydymdeimlwn â’i chwaer Irene Newett a’i frawd Leslie Kerr yn eu colled. Roedd George yn byw yn Ninbych.

Braf iawn yw cael adrodd am lwyddiant un o hen hogiau Llanbedr, sef Elfyn Pugh, gynt o Llwyn Onn. Er i Elfyn adael Llanbedr yn hogyn 16 oed i weithio i gwmni Rubery Owen yn Wolverhampton, mae Llanbedr yn dal yn rhan annatod ohono, ac mae wrth ei fodd yn dod adref ar bob achlysur posib. Cafodd Elfyn gydnabyddiaeth haeddiannol gan Eddie Jones, hyfforddwr tîm rygbi Lloegr, am ei wasanaeth o dros 50 mlynedd i’r gêm yn Lloegr. Gwnaeth Cath (ei wraig) ac yntau fwynhau’r profiad yn fawr a chael ymweld â Twickenham cyn gêm rhwng Awstralia â Lloegr y llynedd, oedd yn anrhydedd a chlod iddo am ei wasanaeth o dros 50 mlynedd i helpu Clwb Rygbi Willenhall a Swydd Stafford. Mae wedi dal pob swydd posib, fel ysgrifennydd gemau, ysgrifennydd, is-lywydd a llywydd, ac wedi cynrychioli ar nifer o bwyllgorau. Yn 1970 pasiodd fel RFU ‘Preliminary Award Holder’ a bu’n hyfforddi ysgolion drwy’r rhanbarth. Bu hefyd yn Llywydd Undeb Rygbi Swydd Stafford rhwng 2002 – 2004. Llongyfarchiadau mawr iawn i ti, Elfyn.

4

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Bethan Scotford, Refail gynt, yn ei phrofedigaeth o golli ei hannwyl ŵr ar 9 Ionawr yn y Trallwng. Cydymdeimlwn â Chris Smith, Bryn Deiliog, yn ei brofedigaeth o golli ei wraig Jill. Yn gwella Gobeithio fod William Stephens (Maesygarnedd gynt) yn gwella ar ôl dod adre o Ysbyty Gwynedd. Cydymdeimlwn â fo a’r teulu a theulu Rhosfawr sydd wedi colli chwaer-yngnghyfraith yng Nghanada, gwraig ei ddiweddar frawd Morris Jones. Yn yr ysbyty Bu Olwen Evans, Werngron, yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Gobeithio ei bod yn cryfhau, hefyd gobeithio bod Hywel Jones, 6 Moelfre Terrace yn gwella. Bu yntau yn yr ysbyty am gyfnod. Colli Pat Bu farw Mrs Pat Hughes, Glas y Dorlan, yn 88 oed yn Ysbyty Aberystwyth. Bu hi a’i diweddar ŵr Russell Hughes yn cadw Artro Garage yn y pentref am flynyddoedd lawer. Cydymdeimlwn â’i mab Terrence a’i wraig Dona a’u merch Joanna yn eu profedigaeth. Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Bangor.

Cymdeithas Nantcol CHWEFROR 13 Dr Peredur Lynch, ‘Mae yna Wyddel yn y Dre’. 27 Parch Christopher Prew, ‘Dylanwadau’. Cofion Anfonwn ein cofion at Gwen Simpson, Bryn Deiliog, sydd yn Ysbyty Gwynedd. Hefyd, ein cofion at Megan Scott, Bryn Deiliog. Gobeithio y bydd y ddwy mewn gwell iechyd yn fuan. Rhodd Diolch am y rhodd o £6 gan Elwyn Evans. Teulu Artro Daeth y Teulu ynghyd i gyfarfod cyntaf y flwyddyn i Westy’r Fictoria. Croesawyd a dymunwyd Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan Gweneira, a rhoddwyd croeso arbennig i Jennifer, Penbryn, a oedd wedi ymaelodi. Bu Howel yn Ysbyty Gwynedd, ond yn ôl yng Nghartref Madog erbyn hyn. Gobeithio y bydd yn dal i wella. Rhoddwyd ein dymuniadau gorau i Pam yn ei chartref newydd yn Llandanwg, a diolchwyd am ei rhodd o arian. Roedd yr aelodau yn meddwl bod y goleuadau Nadolig yn wych yn y pentref, a diolchwyd i swyddogion yr Ŵyl Gwrw am hyn. Cydymdeimlwyd ag Eleanor wedi colli cyfnither – sef Catherine, Pentre Uchaf, Dyffryn Ardudwy. Iona a Winnie oedd yn dathlu pen-blwydd yn Ionawr, a dymunwyd yn dda iddynt. Prynhawn cartrefol gyda’r aelodau’n rhoi ambell i rysáit i ni, a rhai wedi dod â thamaid i’w brofi, a chafwyd orig ddifyr a hwyliog. Tybed faint sydd wedi gwneud pwdin pîn-afal Beti, a oedd yn ffefryn gan lawer? I orffen y cyfarfod, darllenodd Iona ddau ddarn o farddoniaeth am yr afon Artro. Enillwyd y rafflau gan Catherine, Elisabeth a Gretta.

NEWYDDION YR URDD

Am eleni, 14eg Chwefror ydi’r diwrnod olaf i roi eich enwau i mewn yn y drefn sydd ar-lein. Dyma’r linc berthnasol http://www.urdd.cymru/cy/ eisteddfod/cystadlu/cofrestru-igystadlu/ Peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr i wneud. Cynhelir yr Eisteddfod Gylch ar 11 Mawrth eleni. Am y tro cyntaf mewn sawl blwyddyn, fe fydd Eisteddfod Rhanbarth i’r Uwchradd yn cael ei chynnal yn Ysgol Ardudwy ar 25 Mawrth. Os oes rai ohonoch eisiau gweld doniau’r Cylch yma a’r Rhanbarth, gwnewch yn siŵr eich bod ar gael y diwrnod yma. Os oes yna rai yn awyddus i stiwardio, byddwn yn falch o glywed gennych. Manylion cysylltu ar waelod y golofn yma. Patagonia 2017 Llongyfarchiadau mawr i Gwion Lloyd, Harlech, ar gael ei ddewis i fod yn rhan o daith yr Urdd i Batagonia yn ystod mis Hydref eleni. Dyma gyfle i deithio’r byd ac i ychwanegu at ei brofiadau a hyn ymysg pobl ifanc Cymru ben baladr. Teithiau Mae taith yn cael ei threfnu o Ysgol Ardudwy i Gaerdydd ar ddiwedd mis Ebrill ar gyfer disgyblion blwyddyn 8 a 9. Ceir cyfle i weld gemau’r Gleision a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Lleoedd ar ôl, felly dewch yn llu. Mwy o fanylion yn Ysgol Ardudwy. Yr Eidal Mae’r Urdd wedi cyhoeddi taith dramor ar gyfer Haf 2017. Bydd cyfle i ymweld ag ardal Llyn Garda rhwng 27ain Gorffennaf a 3ydd Awst. Mae’n rhaid bod rhwng blwyddyn 9 ac 11 i fanteisio ar y daith yma. Mae nifer wedi dangos diddordeb hyd yma, felly ewch amdani a gofynnwch am fwy o fanylion yn Ysgol Ardudwy. Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd


NEUADD NANTCOL DAN EI SANG

Dr Iwan Wyn Rees Roedd Neuadd Nantcol yn llawn i’r ymylon ar nos Lun, Ionawr 16 pan ddaeth Dr Iwan Rees [o Harlech yn enedigol] atom i ddarlithio ar y testun, ‘O Lysau Cochion Ardudwy i Garets y Wladfa: Ar Drywydd Tafodieithoedd Cymraeg.’ Hyfryd hefyd oedd gweld nifer o aelodau o’i deulu yn bresennol gan gynnwys ei fam, Marian Rees o Harlech a’i nain, Gweneth Evans o Landanwg. Dechreuodd drwy sôn am y modd y mae geiriau fel melysion, moron a glöyn byw yn cael eu defnyddio gan y to hŷn a’r to iau yn yr ardal hon. Ymhlith yr amrywiadau ar

Arfon Jones

Arfon Jones, gynt o Dyddyn y Gwynt, Harlech oedd y gŵr gwadd yn ein cyfarfod ddiwedd mis Ionawr. Ei destun oedd ‘Profiadau Plismon’. Dringodd ysgol gyrfa yn llwyddiannus gan orffen ei waith proffesiynol fel Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Erbyn hyn, fel y gŵyr y cyfarwydd ac unrhyw un sy’n darllen y Daily Post, mae’n Gomisiynydd yr

felysion y mae minciag, da da, fferins a swîts. O ran moron fe geir hefyd llysa cochion a charots ac mae’r glöyn byw hefyd yn cael ei adnabod gan y Cymry lleol fel pili pala, iâr fach yr haf a butterfly! Dangosodd Iwan sut yr oedd y to hŷn a’r to iau yn gwahaniaethu yn hyn o beth. Aeth ymlaen wedyn i drafod sut y mae’r ‘a’ a’r ‘e’ yn newid yn Ardudwy ee llyfrau, llyfre, defaid/defed, blodau/blode ayyb. Yn rhan olaf ei ddarlith, aeth â ni i Batagonia a chawsom gyfle i wrando ar leisiau pobl y Wladfa. Mae Iwan yn parhau i ddadansoddi’r tapiau hyn ond nododd fod ambell i ddefnydd diddorol o hen eiriau ganddyn nhw, megis athraw, modur, diwedda [diwethaf]. Roedd yn noson ddifyr ac addysgiadol ac roedd yn braf gweld nifer o wynebau newydd yn y Gymdeithas. Roedd dros 56 o bobl yn bresennol gan gyfri merched y gegin - a mawr yw ein diolch iddyn nhw am fwydo pawb heb unrhyw ffwdan. Diolch hefyd i Iwan am rannu ei ddysg efo ni mewn dull mor ddiymhongar. Heddlu yng Ngogledd Cymru. Bu’n weithgar iawn yn ei ardal fabwysiedig ac yn Gynghorydd Sir dros Gwersyllt yn Wrecsam, lle bu’n arweinydd Grŵp Plaid Cymru. Yn ddiddorol iawn, mae Arfon yn gefnder i fam y siaradwr gwadd oedd efo ni ganol y mis, sef Marian Rees. Yn ystod ei gyflwyniad, soniodd Arfon am ei waith fel plismon mewn ardaloedd cymharol dawel fel Abergynolwyn a Thywyn cyn iddo gael dyrchafiad a symud i lefydd mwy poblog a gwneud mwy o waith ditectif. Cawsom glywed am droeon trwstan ac fe gawsom hefyd gefndir diddorol i droseddau mwy difrifol yn ardaloedd Manceinion a Lerpwl. Wedyn bu’n sôn am waith y Comisiynydd a’i flaenoriaethau am y flwyddyn i ddod. Noson dda arall ac agoriad llygad.

Uchod ac isod - rhan o’r gynulleidfa oedd yn gwrando ar Dr Iwan Rees yng Nghymdeithas Cwm Nantcol ar nos Lun, Ionawr 16. Daw criw da o bobl i’r cyfarfodydd ac mae croeso cynnes iawn i unrhyw un sydd am ymuno â ni.

Rhan o’r gynulleidfa fu’n gwrando ar Arfon jones. Yn ein cyfarfod nesaf ar Chwefror 7, byddwn yn croesawu Dr Peredur Lynch o Goleg Bangor. Ei destun fydd, ‘Mae ’na Wyddel yn y dre’. Mae’n siaradwr huawdl iawn ac yn siŵr o’n difyrru a’n diddanu. Cofiwch fod croeso cynnes i bawb, ac mae hynny’n cynnwys aelodau newydd.

Heulwen a Morfudd ar ddyletswydd yn y gegin.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Pen-blwydd arbennig Pen-blwyddd hapus iawn gan y teulu oll i Ann Eurwen Price yn 70 oed ar Chwefror 3. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Olwen Lewis, Ger y Nant, Talybont, sydd wedi bod yn yr ysbyty ers rhai wythnosau, yn gyntaf yn Ysbyty Gwynedd ac yna’n Ysbyty Alltwen. Cofion cynnes iawn atoch, Olwen. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Dei ac Alma Griffiths, Bryn Coch a’r teulu yn eu profedigaeth o golli mam Dei yn ddiweddar. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf hefyd at Mrs Eifiona Shewring, 11 Glanywerydd, y plant Marjorie, Andrew a Simon a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli Mr James Shewring, gŵr, tad a thaid annwyl. Drannoeth y Nadolig bu farw Miss Catherine Euronwy Evans, Pentre Uchaf yn 93 oed. Bu’r gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor dan ofal y Parch R W Jones a thalwyd teyrnged i Miss Evans gan Aled Lewis Evans. Anfonwn ein cydymdeimlad at y teulu oll.

Diolch Dymuna teulu Catrin Evans, Pentre Uchaf, ddiolch o galon i berthnasau a chyfeillion am bob arwydd o gydymdeimlad yn eu profedigaeth o golli Catrin. Diolch i staff Ysbyty Dolgellau a Chartref Madog, i’r Parch R W Jones am ei wasanaeth ac i Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr. Diolch a rhodd £20 Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Olwen Telfer, Pentre Uchaf oedd yn dathlu ei phenblwydd yn 80 ar 17 Ionawr. Festri Lawen, Horeb Ar 12 Ionawr cawsom gwmni’r Parch Carwyn Siddall o Lanuwchllyn. Croesawyd a chyflwynwyd Carwyn gan lywydd y noson, Huw Dafydd. Un o Fôn yw Carwyn a thestun ei sgwrs oedd Ynys Llanddwyn. I ddechrau, rhannodd ni’n grwpiau a chawsom gwis am y Santes Dwynwen. Gan ei fod wedi ei fagu yn y rhan honno o Fôn, roedd hanes yr ynys ar flaenau ei fysedd a thrwy sgwrsio a dangos sleidiau cawsom weld yr ynys fel yr oedd yn yr hen ddyddiau, hanes diddorol iawn, ac fel y mae heddiw. Cododd awydd mewn llawer am fynd i ymweld â’r ynys gyfareddol hon. Diolchwyd i Carwyn gan Huw Dafydd. Gofalwyr y te oedd Mai, Alma, Anthia a Mair. Rhodd Diolch yn fawr iawn am y rhodd o £20 gan Mrs Eirian Williams.

PRIODAS

Er cof am Catrin gan Jane Louisa Jones Atgofion plentyndod gan Jane, Pentre Canol Dyma ychydig o atgofion sy’n dal yn fyw yn fy nghof heddiw. Roedd teulu Pentre Uchaf yn adnabyddus am godi’n fore a mynd â’r llaeth o gwmpas, ac felly byddwn innau’n mynd yno erbyn 10 o’r gloch y bore. Roedd Catrin yn blentyn gwantan a byddai’n gorfod dod adref o’r ysgol yn aml. Byddwn i’n mynd ati i chwarae a byddem yn mynd i’r parlwr i sgwennu. Cofiaf fel y byddai ei thad yn dod atom i arolygu’r gwaith ac i wneud yn siŵr fod yr ysgrifen yn berffaith. Pen oeddem yn mynd allan i chwarae roeddynt yn gosod weiar netin ar y ddwy gât rhag ofn i ni fynd allan i’r ffordd. Unwaith aethom allan at yr afon a chroesi i’r ochr arall i hel bwtsias y gog, ac fe gwympodd Catrin i’r dŵr a gwlychu ei sanau a’i hesgidiau. Daeth ei mam o rywle a mynd â ni’n ôl i’r tŷ a’n gosod i eistedd ar y setl wrth y tân. Fe ddaeth ei thad yno a dechrau dwrdio am fod Catrin wedi gwlychu ei thraed. Ymateb Catrin oedd bygwth y Gweinidog gan ddweud “Mi ofynnai i’r Gweinidog ddod atoch”! Mae gen i atgofion hapus am gael mynd i fyny i Bronyfoel at y teulu, y ni’n dwy yn eistedd yn y gambo a thad Catrin yn gofalu am y gaseg. Atgofion melys am yr oes a fu ac am hen ffrind annwyl iawn. Diolch yn fawr i Mrs Jane Jones am yr atgofion. Ar hyn y bryd mae hi’n Ysbyty Dolgellau ac anfonwn ein cofion cynnes ati.

Cydymdeimlad Bu farw Mr William Simkiss, Tywyn, oedd yn enedigol o’r Dyffryn ac yn frawd i’r diweddar Mrs Augusta Williams, Llwyngwian Fawr. Yn dilyn dwy brofedigaeth, anfonwn ein cydymdeimlad at blant Llwyngwian gynt ac at Lyn Simkiss. Derbyniwyd rhodd o £20 i’r Llais er cof am Llongyfarchiadau i Ffion a T J Woods a briodwyd ar Fai 20, 2016. Maen nhw’n byw yn Gresford. Mae Ffion yn ferch i Carys ac Ian Mr William Simkiss gan blant McDonald sy’n byw yn Tarporley, Swydd Gaer ac yn wyres i’r diweddar Llwyngwian gynt. Lewis a Beti Jones, Yr Aelwyd. Pob dymuniad da i chi eich dau.

6

Clwb Cinio Aeth criw da i’r Last Inn, yn y Bermo, ar 17 Ionawr i giniawa a sgwrsio. Ar 21 Chwefror byddwn yn mynd i’r Oakeley Arms ym Maentwrog, yno erbyn 12. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu bnawn Mercher 18 Ionawr. Croesawyd pawb gan Gwennie a dymunodd flwyddyn newydd dda i bawb. Cydymdeimlodd ag Eleri wedi colli ei hewythr ac ag Elinor, Laura a Hilda wedi colli cyfnither. Hefyd, anfonodd ein cydymdeimlad at Mrs Eifiona Shewring yn ei phrofedigaeth o golli ei phriod. Mae Eifiona wedi bod yn rhoi’r te i Deulu Ardudwy bob mis Tachwedd ers blynyddoedd er cof am ei mam. Llongyfarchodd Olwen ar ddathlu ei phen-blwydd yn 80 y diwrnod cynt. Roedd Olwen wedi dod â darn o gacen penblwydd i bawb. Yna treuliwyd orig ddifyr iawn yn rhannu atgofion am ein plentyndod ac am ein dyddiau ysgol. Roedd Dilys wedi dod â hen luniau i’w dangos. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Ann, Rhiannon, Laura a Glenys Roberts. Derbyniwyd llythyr gan Gymorth Cristnogol yn diolch am ein cefnogaeth i’r daith gerdded o Fethlehem i’r Aifft. Ar 15 Chwefror byddwn yn cael cwmni Mrs Olwen Jones o Rydymain i arddangos ei gwaith llaw.

Gwasanaethau’r Sul Horeb CHWEFROR 12 Dafydd Charles Thomas 19 Anna Jane Evans 26 John Cadwaladr MAWRTH 5 Jean ac Einir

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy IONAWR 2017 1. £30 Rhys Morgan Owen 2. £15 Iwan Prys Owen 3. £7.50 Jean Jones 4. £7.50 Heulwen Jones 5. £7.50 Iorwerth Davies 6. £7.50 Guto Anwyl


YMADAWIAD Y BRODYR SIMKISS Dyma ddyfyniad o ddwy deyrnged gan Lynn Ardwyn Simkiss, Treffynnon ar achlysur angladdau ei dau frawd a fuont farw o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd. Fy niweddar fam (Nancy Augusta Simkiss - Llwyngwian gynt) oedd yr hynaf o’r chwe phlentyn a dim ond Lynn sydd ar ôl. [Gwyndaf, Llwyngwian gynt.] Eryl Meirion Simkiss, Glyn Ellen, Ffordd Bangor, Caernarfon. Bu farw Medi 11 2016 yn 84 mlwydd oed. Rhoddwyd i orffwys ym mynwent Santes Helen, Penisa’r-waun. Ganwyd fy mrawd Eryl Meirion ar 6ed Ionawr 1932 yn Nhal y Wern, Dyffryn Ardudwy, y pumed o chwech o blant, a mynychodd yr Ysgol Gynradd. Bu farw ein tad William Evans Simkiss (Snr) yn 1946 pan nad oedd Eryl ond 14eg oed a bu raid iddo gael gwaith ar fferm Cae Tani, Tal-y-bont, gan reidio beic yno ac yn ôl am ddwy flynedd nes iddo gael gwaith gyda chwmni peintio ac addurno yn Harlech. Pan yn 18 oed ymunodd ar Wasanaeth Milwrol gyda’r Royal Artillery yng Nghroesoswallt (Oswestry), yna Woolwich ac yna BOAR 25 Koln (Cologne), Yr Almaen. Cyfarfu pan adref ar doriad â Betty, merch ieuanc o Ganolbarth Lloegr oedd mewn cartref gofal preswyl ar ôl salwch. Wedi iddo orffen â’r fyddin fe aeth i Willenhall i fod yn agos at Betty ac ymbriodi ym 1954. Symudasant yn fuan wedyn a chael tŷ yn y Dyffryn lle ganwyd eu mab Paul yn 1955. Cyflogwyd Eryl fel gyrrwr fan yn cludo gweithwyr Rheilffordd y Cambrian am flynyddoedd. Fe adeiladont fyngalo a adweinid fel ‘Y Berllan’ wrth ymyl y llall. Symudasant yn 1990 i Gaernarfon a phrynu byngalo yno. Cafodd wefr ar chwarae golff yng Nghaernarfon ar ôl ymweliad a mi yn Nhreffynnon, Y Fflint. Cafodd Betty ac yntau flynyddoedd o fwynhad yn crwydro’r llwybrau beicio lleol a mynd ar dripiau gyda’r ‘motorhome’. William Evans Simkiss, Tywyn. Bu farw 7fed Ionawr 2017 yn 92 mlwydd oed a bu gwasanaeth emosiynol yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn ar 16eg Ionawr 2017, gyda chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig a Seren Burma gyda’i baneri a biwglwr y Royal Marines yn chwarae’r Last Post a medalau ac yn y blaen yn cael

eu cyflwyno i’w fab Billy, cyn parhad y seremoni ar lan y bydd lle’i rhoddwyd ef i orffwys ym mynwent Tywyn. Fe aned fy hanner brawd William Evans Simkiss yn y Tymbl, ger Llanelli, ar y 13eg o Fai 1924 pan oedd ei dad (o’r un enw) yn gweithio yn y pyllau glo ers dechrau’r Rhyfel Mawr. Bu farw ei fam yn fuan ar ôl ei enedigaeth. Fy mam i a ddigwyddai edrych ar ôl y teulu ar y pryd ac felly’r unig fam a feddai William. Ymhen dwy flynedd fe briododd fy nhad fy mam, Hannah Davies. Ganwyd chwech o blant i gyd, 3 o’r briodas gyntaf a 3 o’r ail briodas. William oedd y trydydd a minnau’r chweched. Yn anffodus oherwydd iechyd bregus fy nhad dychwelodd y teulu i Ddyffryn Ardudwy ym 1928. Mynychodd William Ysgol Gynradd Dyffryn ac yna yn 1936 aeth i Ysgol Ramadeg y Bermo. Pan adawodd yr ysgol yn 15 oed fe’i cyflogwyd ar fferm Llanddwywe ac yna pan ond yn 17 oed ymunodd â’r Llynges Frenhinol. ‘Gunner’ oedd William ar ‘gun boat’ a phrofodd y rhan fwyaf o’r brwydro ar yr afonydd yno yn erbyn y Siapaneiaid. Anrhydeddwyd ef â’r ‘Burma Star’, y sawl yr oedd yn falch iawn ohoni. Pan ddychwelodd William o’r rhyfel fe wynebodd y neges fod ei dad wedi marw ychydig fisoedd cynt a bu’n amser anodd iddo, rhwng profiadau erchyll y rhyfel a marwolaeth ei dad. Yn 1947 cafodd waith yn Aberdyfi a phan yn lletya yno cyfarfu â Mary a’i phriodi. Bu iddynt ddau o blant, sef Billy a Susan. Gweithiodd William wedyn, nes ei ymddeoliad gyda’r MOD. Yn 1999 bu farw Mary ei wraig a bu hynny’n ergyd drom iddo. Roedd William yn chwaraewr golff ac aelod brwd o Glwb Golff Aberdyfi ac yn falch fod Billy ei fab a Jamie ei ŵyr wedi dangos eu gallu o gyrraedd safon uchel ym myd golff ac wrth ei fodd yn trafeilio a’u cefnogi. Fe fwynhai beint neu ddau yn y ‘working men’s club’ lleol. Diolch, £20 Eleri Bowater

William, Lynn ac Eryl yn 2004

Ffermwr mynydd â busnes arallgyfeiriad yn annerch cynhadledd flynyddol NFU Cymru Meirionnydd

Bernard Llewellyn, ffermwr mynydd â busnes arallgyfeiriad, oedd y siaradwr gwadd eleni yng nghynhadledd flynyddol sir NFU Cymru Meirionnydd a gynhaliwyd yn Yr Eryrod, Llanuwchllyn ar 19 Ionawr. Darparwyd lluniaeth trwy nawdd caredig Banc HSBC ac yn dilyn cafwyd anerchiad Mr Llewellyn am ei fywyd fel ffermwr mynydd â busnes arallgyfeiriad a’i farn am y newidiadau sy’n wynebu’r diwydiant ffermio. Mae Mr Llewellyn wedi byw ar y fferm fynyddig 80 hectar Castell Carreg Cennen, Trap ger Llandeilo, ers 1977 ar ôl i dad ei wraig Margaret ei phrynu fel tenant eisoes oddi wrth Ystâd Cawdor. Ynghyd â Margaret a’u dwy ferch Angharad a Nia, mae Mr Llewellyn yn rheoli busnes teuluol ffyniannus gydag oddeutu 80,000 o ymwelwyr yn galw heibio’r safle bob blwyddyn, un ai i weld adfeilion y castell, i eistedd am banad yn yr ystafell de, neu fel gwesteion priodas yn y neuadd bren fawreddog.

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 7


FFILMIO DEIAN A LOLI

Erin Gwilym Llongyfarchiadau i Erin Gwilym, merch Carys ac Iddon Tŷ’r Acrau sy’n byw yn Llanrug ac ar ei blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yno. Cafodd hi ei dewis i ffilmio cyfres deledu o storïau i blant o’r enw Deian a Loli ac fe’i gwelir yn actio Loli bob dydd Mawrth am hanner awr wedi saith y bore, sef rhan o raglen Cyw. Cyfres yw hon wedi ei chynhyrchu gan Angharad Elen. Bu Erin yn brysur iawn yn ystod gwyliau’r haf y llynedd yn ffilmio 13 rhaglen sy’n ymwneud â hud a lledrith. Roeddynt yn ffilmio mewn llawer man ee Dinas Dinlle, Glynllifon, Llandwrog a Hafan y Môr ac roedd wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn. Swydd newydd Pob dymuniad da i Arwel Jones wrth iddo ddechrau ar ei swydd newydd fel cogydd yng Nglwb Golff Dewi Sant. Teulu’r Castell Cynhelir y cyfarfod nesaf ar brynhawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017 am 2.00 o’r gloch yn Neuadd Goffa Llanfair. Yma bydd Haf Meredydd yn dod i sôn am Ynys Enlli. Mae pawb yn edrych ymlaen at y prynhawn yma. Croeso i unrhyw un ddod atom am y prynhawn.

HARLECH Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau i gyfarfod cyntaf y flwyddyn ar 11 Ionawr 2017 gan y Llywydd Christine Hemsley. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu penblwyddi’r mis yma. Roedd pawb wedi mwynhau’r noson yng nghaffi Freya ym mis Rhagfyr. Darllenwyd llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys ar y calendr, yn arbennig y te Cymreig ym Mhlas Tanybwlch ar 6 Mawrth. Yr adloniant fydd y ddau frawd John a Roger Kerry. Ar ôl trafod y busnes i gyd cymerwyd y noson gan Edwina a Gwenda gan mai noson bingo oedd wedi ei threfnu. Cafwyd noson yn llawn hwyl a llawer o wobrau’n cynnwys canhwyllau persawrus, digon o siocledi, a photeli bach o Prosecco a llawer o anrhegion o bob math. Cafwyd hwyl a chwerthin a’r peli’n mynd i bob man ond lle’r oeddynt i fod i fynd! Diolchwyd i’r ddwy gan Jill Houliston a hefyd i’r pwll nofio am gael benthyg y peiriant bingo. Bwffe pen-blwydd yn 21 oed fydd y cyfarfod nesaf lle bydd cyfle i flasu gwaith coginio sawrus neu felys yr aelodau; bydd pawb yn a’r ryseitiau efo nhw. Cynhelir hyn nos Fercher, 8 Chwefror am 7 o’r gloch yn Neuadd Goffa Harlech. Croeso i unrhyw un ymuno â ni ar y noson. Ymddeol Dymuniadau gorau i Mrs Anne Ashton, Pen yr Hwylfa, Harlech, sydd wedi ymddeol ddiwedd Ionawr 2017 ar ôl gwneud gwaith gyda phlant dros y 42 o flynyddoedd diwethaf. Mwynha dy ymddeoliad ar ôl y gwaith gwych wyt ti wedi ei wneud yn gofalu am blant.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Gwahoddir ceisiadau am dendrau: 1 i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. 2 i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor. 3 i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion am y tri chytundeb uchod, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.17.

8

Genedigaeth Llongyfarchiadau i Alun Rhys a Jade Elford, Maesyraelfor ar enedigaeth Oliver Emyr; heb anghofio llongyfarch Taid a Nain hefyd, wrth gwrs.

THEATR ARDUDWY Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Theatr Ardudwy wedi mwynhau rhaglen o weithgareddau celfyddydol dyfeisgar a llewyrchus dan arweiniad Siri Wigdel, ei Chyfarwyddwr Creadigol. Damwain Syrthio a thorri ei fraich fu hanes Yn ddiweddar, daeth yn amlwg nad yw swydd y Cyfarwyddwr Osian Llyr, mab Meirion ac Creadigol yn gwasanaethu Emma Evans, 42 Cae Gwastad. Hyderwn y bydd yn teimlo’n well anghenion y rhaglen bresennol na blaenoriaethau cyllidol ac yn ôl yn ei hwyliau yn fuan. y theatr. Oherwydd hyn, penderfynwyd y byddai’r swydd Anhwylder yn cael ei diddymu. Y Bwrdd Dymunwn yn dda i Bob Major, fydd yn gyfrifol am gyd-lynu Eisteddfa sydd wedi bod yn glaf gweithgareddau celfyddydol y yn yr ysbyty yn ddiweddar. Theatr dros dro. Gobeithir, trwy bartneriaeth gyda Yn yr ysbyty Siri Wigdel ar brosiectau unigol, Bu Derek Jones, 32 Y Waun y bydd Theatr Ardudwy’n parhau hefyd yn glaf yn yr ysbyty i gyfrannu tuag at weithgareddau ond mae wedi cael dod adref celfyddydol dyfeisgar yng erbyn hyn ac yn teimlo’n well. Nghymru yn y dyfodol. Anfonwn ein cofion ato. Yn y cyfamser mae’r Theatr yn agored fel arfer ac yn cynnig Cydymdeimlo rhaglen gyffrous o ddarllediadau Cydymdeimlwn â Linda a David byw, ffilmiau newydd, a Soar, 15 Cae Gwastad a’r teulu digwyddiadau byw. yn eu profedigaeth o golli mam Ben Ridler, Cadeirydd, Linda, Mrs Bronwen Rayner yn Clwb Pysgota ddiweddar. Artro a Thalsarnau CYFARFOD BLYNYDDOL Rhodd yn yr Orsaf Dân, Harlech Diolch am y rhodd o £10 gan Chwefror 16 Deilwen Harris. am 7.00 o’r gloch Croeso cynnes i bawb!


CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Cyngerdd Nadolig y Cyngor 2016 Bu’r noson uchod yn llwyddiannus iawn ac roedd yr ymgyrch codi arian wedi mynd yn dda. Siop Hosbis yn y Cartref enillodd y gystadleuaeth ffenestr siop orau wedi ei haddurno ond bod y disgo a drefnwyd ar gyfer y plant yn siomedig dros ben. Bydd cyfarfod o’r pwyllgor yn fuan. Cynllun Cyllideb Penderfynwyd derbyn y cynllun cyllideb. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2017/18 Penderfynwyd codi £1,500 ar y praesept a’i gynyddu o £17,000 i £18,500. CEISIADAU CYNLLUNIO Cynllun Cynhyrchu Trydan o’r Nwyon Tirlenwi - Safle Tirlenwi Ffridd Rasus. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad deulawr yn y cefn - 6 Cae Gwastad. Cefnogi’r cais hwn. Cyngor Cymuned Llanbedr Derbyniwyd llythyr oddi wrth y Cyngor uchod ynglŷn â’r datblygiad o wella’r mynediad i’r maes awyr. Cytunwyd i gefnogi’r cynllun hwn. Cyfeillion Ellis Wynne Cafwyd cais gan Gerallt Rhun am gefnogaeth y Cyngor i helpu cais Cyfeillion Ellis Wynne ac Wyn Bowen Harries am grant i lwyfannu perfformiadau yn y Lasynys o dan y teitl ‘Tanau’r Lasynys’. Cytunwyd i gefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Mae eleni yn Flwyddyn y Chwedlau. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn Harlech a bydd cyfarfod i drefnu’r rhain yn fuan. Mae angen gwybod lle fydd y llyfrgell yn ail-leoli pan fydd y safle presennol yn cau ar ddiwedd mis Mawrth.

THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667

CHWEFROR

15, ICoDaCo yn cyflwyno ‘Babulus’, darn cyfareddol ond cignoeth gan bump o ddawnswyr. 16 Yn fyw o’r NTL; ‘Saint Joan’, am 7.00 o’r gloch 17-23 – FFILM, The Lego Batman Movie, 2.30 yp 17-23 – FFILM, Fifty Shades Darker 24 Sioe newydd sbon gan dair o ferched lleol sef Mair Tomos Ifans, Nia Medi a Carys Huw – Y LADIS. Yn seiliedig ar luniau Ruth Jên o ferched Cymreig, cawn gan y merched gyfres o sgetsys ffraeth, gwreiddiol a doniol. Rhaghysbys – Cynhelir The Pink Floyd Show, Darkside, ym mis Ebrill. Prisiau 2017: Oedolion £6.50; gostyngiad £5.50, plant £4.50.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

CYFARFOD BLYNYDDOL CÔR MEIBION ARDUDWY Adroddiad yr Arweinydd Nododd Aled Morgan Jones ein bod wedi cael blwyddyn brysur unwaith eto gyda’r daith i Falmouth yng Nghernyw yn uchafbwynt. Taith lwyddiannus iawn oedd hon a diolchodd Aled yn fawr i Phil am ei waith trefnu. Roedd y Côr wedi canu’n dda iawn; llawn cystal â’r corau eraill! Diolchodd yn fawr i’r holl aelodau am y canu da ac i’r unawdwyr Roger, Kevin, Iwan Morgan, Meirion, Ieu, Gwilym, Bryn, Bili ac Iwan Morus, am eu cyfraniadau. Roedd cyngerdd Nadolig Aber Artro yn llwyddiant ysgubol, a diolchodd i Phil eto am drefnu’r noson a sicrhau gwasanaeth y band. Diolchodd i holl aelodau’r Côr am eu cefnogaeth drwy’r flwyddyn; mae’r gefnogaeth yn ei gwneud yn haws i arwain y Côr. Diolchodd i Andy ac Adrian am symud yr allweddell o gyngerdd i gyngerdd, i Meirion ac Wyn am deithio mor bell i’r ymarferion, i’r swyddogion, Bryn, Iwan, ac Ieuan, a diolch mawr i Merfyn am fod yn gadeirydd penigamp. Diolchodd i Gwilym fel is-arweinydd, ac i Idris am ei waith cyfeilio. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda’r gobaith am daith efallai i Ganada. Bu’n arwain y Côr ers 12 mlynedd a dywedodd ei fod yn barod iawn i fynd yn ôl i ganu gyda’r Côr pe bai modd cael rhywun arall i arwain. Croesawodd yr aelodau newydd Ethan, Russell a Rob i’r Côr. Adroddiad y Cadeirydd Dywedodd Merfyn Williams ei fod yn ddiolchgar am y gefnogaeth mewn blwyddyn eithaf prysur gydag uchafbwynt y flwyddyn yn daith i Gernyw. Diolchodd i Phil am ei waith trefnu ac i bawb sydd wedi helpu’r Côr yn ystod y flwyddyn, yn arbennig y swyddogion Ifan, Bryn, Ieuan ac Iwan. Roedd cyfraniad Idris Lewis, y cyfeilydd a Gwilym Jones, yr is-arweinydd hefyd yn allweddol i lwyddiant y Côr. Adroddiad y Trysorydd Eglurodd Bryn Lewis fod y daith i Gernyw wedi golygu rhyw £4000 o gostau. Serch hynny, roedd y Côr wedi gallu talu am y daith gyda swm derbyniol o arian wrth gefn. Clwb 200 Nododd Ieuan Edwards fod y Clwb 200 yn cadw ei drwyn uwchben y dŵr. Nododd ei fod un aelod i lawr o’r llynedd ac wedi gwneud £286 o elw eleni. Diolchodd i bawb am hel yr arian ar gyfer y Clwb 200. Ethol swyddogion Bydd y swyddogion i gyd yn aros yn eu swyddi. Llywydd Anrhydeddus I gydnabod ei hir wasanaeth clodwiw i’r Côr, dewiswyd Idris Williams, Tanforhesgan yn Llywydd Anrhydeddus cyntaf y Côr a hynny gyda phleidlais unfrydol. Unrhyw fater arall Bydd y Côr yn westeion i gôr o’r Ffindir yn ystod mis Mehefin. Trefnir cyngerdd o ganeuon yn ymwneud â’r Pasg yn Eglwys St Ioan y Bermo ar nos Sul y Pasg. Bydd Cana-mi-gei yn ymuno â ni ar gyfer y cyngerdd hwn. Bwriedir gwneud cd mewn cyngerdd byw yn ystod y flwyddyn.

ENGLYN DA

Honda Civic Tourer Newydd

Fy Mam

Gwên siriol oedd ei golud, - a gweini’n Ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd;, Bu fyw’n dda, bu fyw’n ddiwyd, A lle bu hon mae gwell byd. W Rhys Nicholas [1914-1996]

9


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

MENTER NEWYDD

MATERION YN CODI Cynllun Cyllideb Penderfynwyd derbyn y cynllun cyllideb ond bod angen clustnodi £1,000 bob blwyddyn ar gyfer datblygu maes parcio yn y pentref. Praesept y Cyngor 2017/18 Penderfynwyd codi £9,742 ar y praesept a’i gynyddu o £20,000 i £29,742. Cytunodd pawb a oedd yn bresennol i hyn ar wahân i Owen Gwilym Thomas a oedd yn erbyn cymaint o gynnydd ac eisiau codi’r praesept i £25,000 yn unig. GOHEBIAETH Cyngor Cymuned Llanbedr Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor uchod ynglŷn â’r datblygiad o wella’r mynediad i’r maes awyr. Cytunwyd i gefnogi’r cynllun hwn. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu estyniad ochr deulawr - Bryn Tirion, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT TENDR 1 Torri gwair a’i glirio unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus, a chwblhau gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio bedair gwaith y flwyddyn yn hen fynwent Llanddwywe a mynwent Llanenddwyn. TENDR 2 Torri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. TENDR 3 Torri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd angen i dorri gwair a’i glirio o Barc Morlo, Gardd Penybont, toiledau Talybont, wrth fainc Bro Enddwyn, ar ben ffordd Ystumgwern, wrth y fainc rhwng Ffordd y Llan a Ffordd yr Efail a’r gofeb. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflenni tendr, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau 28.2.17. NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI EI ANFON AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL.

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 10

Gadawodd Aaron (mab Nerys o’r Ynys ac ŵyr i Mrs Beti Evans, Yr Ynys) yr ysgol pan oedd o’n 15 oed a chafodd ysgoloriaeth gan glwb pêl-droed Y Seintiau Newydd. Bu yno am ddwy flynedd cyn i glwb Tamworth ei weld, a bu yno efo nhw am ychydig cyn i Aaron benderfynu nad oedd yn hoff o fyw mewn lle mor fawr. Fodd bynnag, oddi yma aeth am Madrid, gan mai un o’i arwyr pêldroed oedd Ronaldo, ac yma bu’n gweithio mewn ysgol am ddwy flynedd yn dysgu plant, ac yn eu dysgu hefyd i chwarae pêl-droed. Cafodd chwarae pêl-droed ei hun ar ddyddiau Sadwrn efo tîm lleol - na, nid y Real Madrid go iawn! Er y bywyd gwahanol iawn yma, roedd yn methu ei ardal ond doedd o ddim am ddod adref heb gael gwaith. Rhyw ddiwrnod cododd y ffôn ar ei fam, Nerys, a dywedodd ei fod eisiau bod yn farbwr. Roedd yn arfer mynd yn rheolaidd at y barbwr yn Madrid, a bu ganddo ddiddordeb erioed mewn trin ei wallt ei hun, felly holodd Nerys yn yr ardal cyn iddo wneud penderfyniad ac mi gafodd le i Aaron yn y siop barbwr yng Nghaernarfon, a chafodd ei hyfforddi yno. Yn dilyn, cafodd siop ei hun a bellach mae’n gweithio oriau lawer. Beryg ei fod wedi cael dawn ei fam i drin gwallt! Ar hyn o bryd mae’n gweithio dydd Llun, Mawrth, Mercher ac Iau o 8 tan 6, dydd Gwener 8 tan 7 a dydd Sadwrn 8 tan 2 er y bydd yn gweithio’n hwyrach ar ambell i ddydd Sadwrn gan fod y Sadyrnau’n dechrau prysuro ganddo. Enw’r siop ydy Barbwr LA (am Liam Aaron, nid yr LA yn America bell!). Os bydd angen trin eich gwallt felly, ac awydd crwydro tua Chricieth, cofiwch gysylltu efo Aaron. Pob lwc i ti, Aaron, a hwyl fawr ar y fenter.


Y BERMO A LLANABER Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â John, Grace a’r teulu, Trem Enlli yn eu profedigaeth o golli mam John, sef Mary Elizabeth [Mair] Williams yng nghartref Hafod Mawddach, y Bermo, gynt o fferm Hendreclochydd, Llanaber. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus ar Ionawr 12 yn Eglwys Santes Fair, Llanaber. Diolch Dymuna John a Grace, Trem Enlli, Llanaber a’r teulu ddiolch am y cardiau, galwadau a rhoddion at Ffrindiau Hafod Mawddach yn dilyn eu profedigaeth o golli Mair - mam, nain a hen nain annwyl. Ar ddydd yr angladd diolch i’r Parchedig Ganon Beth Bailey am ei didwylledd a’i chyfeillgarwch, ac i Pritchard a Griffiths a’r staff am y trefniadau urddasol. Diolch hefyd i staff Hafod Mawddach am eu gofal caredig. £10 Y Gymdeithas Gymraeg Bu raid aildrefnu ein cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn ar nos Fercher, 4ydd o Ionawr. Peth braf yw cael aelodau sy’n barod i dorchi llewys a threfnu noson o frethyn cartref ar fyr rybudd. Diolch i Alma a Llewela am ein diddori gyda chwis amserol iawn. A hithau’n flwyddyn newydd, thema’r cwis oedd y gwahanol draddodiadau a dathliadau oedd i’w cael mewn gwledydd eraill o amgylch y byd. Nid oedd gwobr i’r enillwyr ond cafwyd llond bol o chwerthin a noson gartrefol iawn.

Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs

Merched y Wawr Nos Fawrth, Ionawr 17, cawsom ein cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn yn y Parlwr Mawr. Canwyd cân y mudiad a Heulwen yn cyfeilio a dymunodd Llewela, ein Llywydd, flwyddyn newydd dda i bawb. Anfonwyd ein cofion at Grace a Pam cyn mynd ymlaen i drafod yr ohebiaeth. Rydym wedi cael gwahoddiad gan gangen y Brithdir i ddathlu dydd Gŵyl Ddewi yn eu cwmni ac mae oddeutu 12 ohonom yn edrych ymlaen at yr achlysur. Cafodd pawb gyfle i weld Catalog Nwyddau Dathlu’r Aur; cawsom fanylion Gŵyl y Pum Rhanbarth ym Mangor ym mis Mai; manylion Cinio’r Llywydd Cenedlaethol yng Nghorwen ym mis Mawrth ac atgoffwyd pawb i chwilota am hen luniau neu eitemau ar gyfer Prosiect Treftadaeth Merched y Wawr. Mae Iona a Jean am fynychu Cwrs Crefft Aur y Gogledd yn Glasdir, Llanrwst ac am greu clawr i lyfr lloffion edrychwn ymlaen at weld eu gwaith cyn bo hir. Penderfynwyd cadw’r gystadleuaeth Punt y Sgwâr i ennill carthen Melin Tregwynt tan y mis nesaf gan fod ein gwraig wadd, Mair Tomos Ifans wedi cyrraedd. Cyflwynwyd Mair a’r Fari Lwyd gan Llewela ac roeddem yn gwybod bod awr ddifyr a hwyliog o’n blaenau.

Roedd Mair wedi prynu’r Fari yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod, lle gwelodd hi ar werth i gartref da. Roedd y Fari wedi ei lapio’n ofalus ac roedd pob llygad ar Mair wrth iddi ddadorchuddio’r penglog ceffyl yn ofalus. Rhoddwyd cymeriad a bywyd i’r Fari wrth i Mair roi llygaid, rhubanau, clychau ac yn olaf, gorchudd gwyn drosti. Cawsom beth o hanes y Fari Lwyd a diddorol iawn oedd clywed bod cyfeiriad at y Fari yn y Bermo yn 1951 ac yn awr roedd hi’n ôl gyda ni yn 2017! Mae hanes traddodiad y Fari yn niwlog ond mae’n debyg bod y Celtiaid yn addoli ceffylau ac yn eu mawrygu; credent eu bod yn arwydd o ffrwythlondeb ac yn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Diolchodd Glenys yn wresog iawn i Mair, a pharatowyd y baned gan Glenys, Gwenda a Jean. Enillydd y raffl oedd Megan Vaughan.

Eglwys Llanaber

Eglwys Llanaber Roedd Gwen Haines yn chwaer i’r ddiweddar Marjorie Blower (Llanbedr) a Brenda Edge (Llanfair), y tair ohonynt wedi cael eu symud i Flaenau Ffestiniog i fyw adeg yr Ail Rryfel Byd. Roedd hi hefyd yn fam-yng-nghyfraith i’r ddiweddar Pamela, Tan-y Dderwen, Llanbedr. Bu i Gwen Haines ysgrifennu nifer o erthyglau diddorol am Ardudwy. Un o’r erthyglau hyn oedd erthygl am Eglwys Llanaber a gyhoeddwyd yn Country Quest yn Awst 1978. Dywed i’r Eglwys bresennol gael ei hadeiladu oddeutu 1200 er cof am Sant Bodfan a sefydlodd eglwys ar y safle yn y chweched ganrif. Sonnir yn yr erthygl am y ddwy garreg hynafol sydd i’w gweld y tu mewn i’r eglwys bresennol ac sydd yn dyddio yn gynharach na’r ddegfed ganrif. Mae ysgrifen ar un o’r cerrig (mae’n hynod anodd ei weld yng ngolau’r eglwys) sy’n dweud CAELIXTUS MONEDO REGI sydd yn golygu, mae’n debyg, Caelixtus Brenin Môn. Darganfuwyd y garreg hon ger y traeth, nepell i ffwrdd, ac roedd wedi cael ei defnyddio fel pont gan ffermwr lleol i groesi ffos. Credai llawer fod cysylltiad rhwng y cerrig hyn ag Abaty Egryn. Yn yr erthygl, mae Gwen Haines yn cyfeirio at y cysylltiad rhwng yr eglwys â smyglo yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif. Mae murddun islaw’r eglwys y dywedid iddo fod yn dafarn gynt, lle y byddai’r smyglwyr yn cyfarfod i drefnu eu gweithgareddau. Gerllaw drws deheuol yr eglwys mae porth, lle gallai’r smyglwyr ddianc trwyddo i fynd i guddfan gerllaw. Gallai smyglwyr fyddai’n cael eu dal yn smyglo gael eu dedfrydu i farwolaeth. Byddai’r werin a’r uchelwyr yn gallu elwa o’r cynnyrch y byddai’r smyglwyr yn eu mewnforio. EJ

11


Er cof annwyl am COFFÂD

o bobl o bob cefndir i Bentre Ucha. Roedd ganddi synnwyr digrifwch praff a barhaodd tan ei dyddiau olaf. Pan siaradaf efo pobl Capel Horeb a Dyffryn a’r Bermo, roedd gan bawb barch aruthrol tuag at Catrin. Pan oedd ei hiechyd hi’n well fe fyddai yn ffyddlon iawn yn sêt y teulu yng Nghapel Horeb ar y Sul. A phan fyddai’n siopa ar ddydd Iau yn y Bermo fe âi â phaned o goffi’r un i Rhian fy chwaer, a staff Llyfrgell y Bermo. Ar gais pobl Dyffryn a oedd Addysg fyddai ei bywyd gwaith, yn bresennol yn yr angladd a bu ei llwybr hithau yn un yn Amlosgfa Bangor. diddorol. Ysgol y Dyffryn, Ysgol Ramadeg y Bermo, yna CATRIN EURONWY hyfforddi i fod yn athrawes EVANS, PENTRE yng Ngholeg y Normal UCHA, DYFFRYN Bangor. Dysgu wedyn am rai Catrin Euronwy Evans - neu blynyddoedd yn Lerpwl, yna i Anti Catrin i nifer ohonom. Faldwyn i Lanfair Caereinion, Bydd yn rhyfedd iawn peidio ac yn ddirprwy bennaeth â galw i mewn i Bentre Ucha Ysgol Gynradd Machynlleth nodd yn dawel Rhagfyr 26ain 2016 yn y Dyffryn a chael paned a ar ddiwedd ei gyrfa. Yn y sgwrs efo hi. Mae’n rhywbeth cyfnodau cynnar yn dysgu, Yn 93 mlwydd oed rydym wastad wedi ei wneud fe deithiodd Anti Catrin yn - ac roedd hi’n berson sefydlog helaeth gan fynd ar wyliau Gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor pan oedd pethau eraill yn - dramor ac yng ngwledydd newid o’n cwmpas ni. Rydym Prydain hefyd. Ddydd Gwener 13eg Ionawr 2017 bob un ohonom wedi profi o’i Pan gollodd Dodo Janet ei am 12.00 hanner dydd. charedigrwydd a’i chysur ar hiechyd - fe barhaodd Catrin adegau gwahanol yn sgyrsiau i ddysgu, gan gyfuno hyn efo Pentre Ucha. Mewn argyfwng gofal arbennig am ei mam. Arglwydd gad i’m dawel orffwys” fe allai Anti Catrin fod y “canol Byddai’n aros dros nos efo hi distaw llonydd” yn y storm, ac yn Ysbyty Caernarfon, yn gyrru yn un a oedd yn cynorthwyo. heibio Pentre Ucha i’w gwaith Bob tro yr awn yno, deuai’r ym Machynlleth. Wedi gwaith Cynhelir y gwasanaeth gan: cyfarchiad “Watsia dy ben!” y dydd, dyna ddychwelyd ar Y Parchedig R W Jones. wrth fynd ati i’r gegin gefn ar y daith i gael bod efo ei mam. hyd y coridor bach. Roedd John Dyna ddarlun o berson efo Byrllysg yn cael hynny fwy na fi egni a gweledigaeth, a’r gofal dwi’n siŵr. A dydy o ddim yn arbennig hwnnw a roddodd i’w gyngor rhy ddrwg mewn bywyd mam. yn nac ydy? Watsia dy ben! Wrth feddwl am Anti Catrin Roedd Anti Catrin yn meddu mae yna dri gair yn dod i’r ar bersonoliaeth hyfryd - ac fe meddwl: fyddai yn croesawu bob math 1. Unigolyn. Roedd hi’n

erine Euronwy Evans Pentre Uchaf, Dyffryn Ardudwy.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

unigolyn preifat ond doedd hi ddim yn berson unig. Byddai pobl yn taro i mewn i Bentre Ucha yn aml. Byddai Catrin yn mwynhau darllen cyflenwad cyson o lyfrau, gwylio ambell raglen goginio ar y teledu, a chwblhau croeseiriau. Roedd hi yn cael gofal dyddiol hollol arbennig gan John a Heather Byrllysg, ac ymweliadau gan bobl driw Capel Horeb, a pherthnasau yn galw. 2. Yr ail air wrth feddwl am Anti Catrin ydy Bonheddig - ond ddim yn fawreddog mewn unrhyw fodd. Roedd hi’n trin pobl yn anrhydeddus, ac yn gallu gweld y gorau mewn disgybl ysgol drwy roi swyddogaeth arbennig i blentyn dan anfantais yn aml. Roedd hyn yn wir hefyd am oedolion, waeth beth fo eu cefndir neu eu camwedd, fe gaent ei sylw a’i chwrteisi. Gallai ddweud ei dweud, ond heb fod yn gas. Yn aml roedd yr hyn nad oedd hi’n ei ddweud, yn fwy arwyddocaol. Pan aech yno, nid y hi oedd yn bwysig yn y sgwrs, ond yn hytrach y gwestai. Roedd Catrin yn wrandawraig dda, ac yn gwneud y gwestai yn ganolbwynt y sgwrs. Un o’i hoff ddywediadau oedd, “Hoffwn i fod yn bry ar y wal pan oedd hynny’n digwydd.” Roedd fy nwy chwaer Rhian a Gwenan yn eu harddegau pan fuodd Anti Catrin yn lletya gyda ni fel teulu ym Machynlleth. Roedd ganddi focs o dda-da a siocled. Os oedd y genod wedi bod yn dda, roedd hi’n caniatáu i ‘agor y bocs’ a chael dewis un o’r danteithion. Byddai’n mynd â ni gyd fel plant i gaffi Rendezvous ar Ffordd

Maengwyn. Roedd hi wastad yn deg iawn - ac os byddai’n rhaid dweud y drefn yn yr ysgol fe ddywedai hefyd, “A dwi’n siarad efo ti Rhian Evans hefyd,” er mwyn bod yn hollol deg a diduedd efo pawb. 3. A’r trydydd gair sy’n dod i’r meddwl wrth feddwl am Anti Catrin yw Cristion, ond doedd hi ddim yn Gristion ymwthgar - yn hytrach roedd hi’n gwneud daioni mewn modd tawel ac ystyrlon. Yn dilyn marwolaeth ei mam byddai Catrin yn ymweld â chymdogion yn fflatiau Pentre Ucha gerllaw, ac yn llonni eu dydd. Doedd hi ddim yn berson ‘Cymdeithas’ fel Merched y Wawr neu’r WI ond roedd hi yn cefnogi unigolion yn y gymuned, ac roedd hi’n driw iawn i’w chapel. Fe wyddai hi lawer am hanes y teulu ond doedd hi ddim yn difrïo neb wrth eu dwyn i gof. Yn ystod y cyfnod olaf, roedd yn enwi pobl mewn ffotograffau yn yr albwm roedd Heather wedi ei gywain ar ei chyfer. Codi llaw wrth ddrws y ‘porch’ fyddai Anti Catrin wrth i bobl ffarwelio efo Pentre Ucha bob tro. Roedd hi wastad yn dal i godi llaw tan oeddech wedi dechrau eich taith i fyny Ffordd yr Orsaf. Roedd y codi llaw fel ffilm wedi ei arafu, ac mae’n chwith meddwl y bydd amryw ohonom yn colli’r ffarwelio hwnnw rŵan. Diolch am gael adnabod Anti Catrin - dynes a siaradai gyfrolau yn ei thawelwch ac yn ei thynerwch, yn ei gwên gynnil a’i hiwmor, ac un sydd wedi gadael argraff ar bob un ohonom. Aled Lewis Evans, ar ran y teulu

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR

Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

12


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

01341 421917 07770 892016

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Tiwniwr Piano

Gwynedd

g.rhun@btinternet.com

www.raynercarpets.co.uk

Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ARCHEBU A

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

GERALLT RHUN

07776 181959

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

MELIN LIFIO SYMUDOL

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014

Rhif ffôn: 01766 770777

Amrywiaeth dda o gwrw a chroeso cynnes! 13


Merched y Wawr Nantcol

136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

Ardudwy

Rhagfyr 7fed 2016 Cyfarfu’r gangen nos Fercher, Rhagfyr 7fed, gydag Anwen y Llywydd yn croesawu Siân Jones o ardal Tywyn yn ôl atom i roi noson ar goginio ar gyfer y Nadolig, ac wedi dod yn gwmni i Siân, braf oedd croesawu Janet Crafnant yn ôl i’w hardal enedigol. Cafwyd amser difyr a hwyliog iawn yng nghwmni Siân - yn coginio dau fath o dameidiau dechreuol i demtio pawb, a dau bwdin i ddilyn, gyda phawb yn cael cyfle i’w blasu ar y diwedd, ac roedd popeth yn arbennig o flasus. Diolchodd Gwen yn gynnes iawn i Siân am noson ardderchog. I ddilyn trafodwyd materion eraill y Gangen. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Elinor Evans, Moelfre, Elizabeth Jones a Beti Roberts. Cydymdeimlwyd ag Elizabeth a Gweneira oedd wedi colli nai trwy ddamwain drychinebus yn Llanuwchllyn ddiwedd Tachwedd. Ar nodyn hapusach, llongyfarchwyd Elin Haf - wyres Beti Wyn - ar ei llwyddiant yng nghystadlaethau golff eto eleni. Ionawr 11eg 2017 Croesawodd Anwen bawb yn gynnes iawn, a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i bob un. Aeth ymlaen i gyflwyno ein gŵr gwadd am y noson sef John Parry o Forth-y-gest. Yn enedigol o ardal Bryncir, mae wedi dilyn gyrfa fel athro gwaith coed, ond erbyn hyn wedi ymddeol ac wrth ei fodd yn trafeilio’r byd, a cherdded a dringo mynyddoedd. Roedd ei fam wedi ei magu ar fferm Morfa, Harlech, felly roedd gan John gysylltiad agos ag ardal Ardudwy. Cafwyd hanes ei daith i ynysoedd y Galapagos gyda’i wraig Carys, hanes difyr tu hwnt am yr archipelago arbennig yma oddi ar gyfandir de America. Aeth a ni ar daith trwy gyfrwng lluniau, a stori ynghlwm â bob llun. Diolchodd Rhian yn gynnes iawn i John am ddod â’r profiad yn fyw inni. Trefnwyd timau ar gyfer cystadlaethau bowlio deg, dominos a chwist sydd i’w cynnal yn yr wythnosau nesaf. Darllenwyd gohebiaeth am raffl genedlaethol carthen Melin Tregwynt, Cinio’r Llywydd Cenedlaethol ym Mhlas Isaf, Corwen ar Fawrth 18fed a Gŵyl y Pum Rhanbarth yn Ysgol Friars, Bangor ar Fai’r 13eg. Derbyniwyd llythyr gan Tegwen Morris yn diolch i bawb fu’n casglu hanesion ayyb ar gyfer Dathlu’r Aur. Cytunwyd i Anwen a Beti Mai gynrychioli’r gangen mewn cyfarfod yn Neuadd Llanelltyd i drefnu’r dathliadau ym Meirion. Derbyniwyd gwahoddiad gan gangen Rhydymain i ymuno â nhw ar Fawrth 6ed i ddathlu Gŵyl Ddewi.

Taflu Goleuni Ar Awdur Anhysbys Ni Ddaw i Neb Ddoe yn Ôl Er arian ac er eiriol, - er wylo, Er alaeth beunyddiol, Er gweiddi yn dragwyddol, Ni ddaw i neb ddoe yn ôl.

Cyfeiriaf at yr englyn ‘Ni ddaw i neb ddoe yn ôl’ a ymddangosodd yn y Llais mis Rhagfyr 2016 ac a nodwyd nad oedd yr awdur yn hysbys. Er gwybodaeth, gallaf ddweud mai John Jones, Llanrwst yw’r awdur, a adwaenir yn ôl ei enw barddol Pyll Glan Conwy. Roedd John Jones (Pyll) yn argraffydd, cyhoeddwr a bardd pur adnabyddus yn ei ddydd. Fe’i ganed yn 1786, yn fab i Ismael Jones a Jane Davies. ‘Bryn Pyll’ oedd enw’r tyddyn ger Trefriw lle y’i ganed a chymerodd yr enw barddol ‘Pyll’ oherwydd hynny. Pan oedd yn llanc prentisiwyd ef yn of mewn gefail leol, ond yn 1817 bu farw ei dad, Ismael Jones, a chymerodd drosodd ei fusnes argraffu. Yn 1825, symudodd i Lanrwst gan sefydlu ei wasg yn y dref, ac yno y bu hyd ei farw yn 1865 yn 79 oed. Bellach mae argraffwasg John Jones yn grair yn Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Ne Kensington, Llundain. Mathew Jones

14


YSGOL TANYCASTELL

Sioe Nadolig ‘ Isio! Isio! Isio! Cafwyd dwy sioe arbennig gan y disgyblion yn Theatr Ardudwy ddiwedd y tymor diwethaf. Braf iawn yw cael defnyddio’r theatr ac i’r plant gael y cyfle i berfformio ar lwyfan ‘go-iawn’. Dyma ychydig o luniau o’r sioe.

Codi arian ar Hosbis yn y Cartref Ar ddydd Gwener olaf y tymor diwethaf, daeth y disgyblion a’r staff i’r ysgol yn eu siwmperi Nadoligaidd. Codwyd £109 tuag at yr elusen Hosbis yn y Cartref, sef elusen a ddewiswyd gan y Cyngor Ysgol. Treulio deuddydd yng Nglan-llyn Cafodd disgyblion B3 a B4 dreulio deuddydd yng Nglan-llyn. Er y tywydd oer ac eithaf gwlyb, cafwyd dau ddiwrnod gwerth chweil yn canŵio, yn dringo, yn bowlio deg, yn dringo’r cwrs rhaffau ac wrth gwrs yn gwario yn y siop!

Ymweliad gan Athletwr Olympaidd Cafwyd ymweliad gan un o athletwyr Paralympaidd Prydain, sef Beverly Jones o Sir y Fflint. Llwyddodd Beverly i ennill medal efydd yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Hefyd, mae Beverly yn dal record y byd yn y ddisgen i bobl gyda pharlys yr ymennydd, neu cerebral palsy. Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ffitrwydd ac fe godwyd £327 ar gyfer yr elusen ‘Sports for Champions’.

Sioe Trefi Taclus Daeth y Brodyr Gregory i’r ysgol i godi ymwybyddiaeth y disgyblion o sut i gadw tref Harlech yn daclus. Cafwyd cyflwyniad hwyliog a doniol ganddynt gyda neges bwysig dros ben.

Y Siarter Iaith - Achrediad Aur i’r Ysgol! Llwyddodd yr ysgol i gael ei hachredu gyda Gwobr Aur y Siarter Iaith am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae hyn yn fraint fawr i’r disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a hefyd y gymuned ehangach.

Cyfeillion yr Ysgol Gyda nifer o weithgareddau codi arian yn ystod y tymor, mae’r Cyfeillion bellach wedi prynu 24 o Chromebooks i’r ysgol i’w defnyddio. Bydd y disgyblion yn elwa yn fawr iawn yn y byd digidol o dderbyn y rhain. Diolch yn fawr iawn i’r Cyfeillion.

NEWYDDION ERBYN Chwef 27 Mawrth 27 Ebrill 24 Mai 29 Mehefin 26

Llais Ardudwy

GOSOD Mawrth 3 Mawrth 31 Ebrill 28 Mehefin 2 Mehefin 30

YN Y SIOPAU Mawrth 8 Ebrill 5 Mai 4 Mehefin 7 Gorffennaf 5 15


YN Y GWAED Geraint V Jones

Mae gan bob teulu sgerbwd yn ei gwpwrdd. Ond mae gan deulu Arllechwedd fwy na’i siâr. Ac mae un ohonynt yn gwrthod gorwedd yn dawel. Wn i ddim am un awdur Cymraeg sy’n well am greu naws na Geraint V Jones. O’r freuddwyd erchyll sy’n brawychu Robin ar y dechrau i’r giât yn cau ar ei chlicied ar y diwedd, mae’r naws annifyr a thywyll yn gefndir hollbresennol i’r nofel gelfydd hon. Nofel iasol yw Yn y Gwaed, nofel affwysol o drist gyda’r diweddglo anochel i’w weld o’r dechrau. Ond cryfder yw hynny, nid gwendid. Mae’r stori’n troi o gwmpas teulu o dri. Y fam yw’r teyrn sy’n rheoli’r aelwyd. Mae Mared, y ferch, yn dioddef yn seicolegol o ryw ddigwyddiad trawmatig yn

ei gorffennol. Mae’r mab, brawd Mared, yn brwydro yn erbyn dylanwad ei fam wrth iddo, ar yr un pryd, geisio crafu bywoliaeth o’r tir diffrwyth. Mae yna bedwerydd aelod. Ond mae ‘Fo’ wedi’i guddio rhag y byd. Yn wir, gellid dweud fod yna bumed aelod o’r teulu yno hefyd, Dewyrth Ifan. Ac er iddo farw, mae ei ddylanwad yn dal yn fyw. Yn wir, mae mwy na’i ddylanwad yn fyw. Ydi, mae hon yn nofel iasol, ac weithiau’n frawychus. Ac mae hi’n llawer mwy na hanes teulu. Ynddi gwelwn ddifodiant y bywyd gwledig a diwedd cymdeithas Gymraeg. Yn wir, gwelwn hau hadau difodiant y Cymry Cymraeg. Yn goron ar y cyfan mae arddull ryfeddol yr awdur. Fedra i ddim ond dyfynnu geiriau John Rowlands am nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen: ‘Does dim crafiad na tholc anghyfiaith arni, ac eto nid llyfnder mwyn sy’n ei nodweddu chwaith, ond rhyw arwder cras sy’n gweddu i’w phwnc.’ Er nad yw hi ond 148 o dudalennau o hyd, dyma glamp o nofel. Mae hi, oddi ar ei chyhoeddi gyntaf yn 1990, yn amlwg wedi dylanwadu ar ambell awdur wnaeth ddilyn. Campwaith. Lyn Ebenezer Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

GYRFA CHWIST

Plaid Cymru: Cangen Deudraeth Cynhaliwyd Ffair Aeaf Cangen Deudraeth y Blaid yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr. Cyflwynwyd Liz Saville Roberts AS a Simon Thomas AC i’r gynulleidfa gan y Cynghorydd Gareth Thomas. Fel yr aelod rhanbarthol yn y Cynulliad, yn enw Plaid Cymru, dywedodd Simon Thomas y byddai gan etholwyr Dwyfor Meirionnydd gynrychiolydd yn enw’r Blaid yno, o hyd, ynddo fo, ac y byddai’n gweithredu ar eu rhan. Wrth agor y Ffair, dywedodd Liz Saville Roberts y byddai’n cydweithio’n agos â Simon i sicrhau cynrychiolaeth gref i etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Diolchodd i bawb a fu ynglŷn â threfnu’r Ffair ac i bawb a’i cefnogodd a dymunodd yn dda iddi. I gyfeiliant cerddoriaeth werin, offerynnol a lleisiol, fywiog a diddanus Band Arall, bu’r plant yn gweld Siôn Corn a’r oedolion yn cerdded y stondinau neu’n sgwrsio uwchben ’panad a chacen gri. Gwnaed elw o £651.00.

Diolch, Elfed Roberts 16

Cynhaliwyd gyrfa chwist yng Nghwt y Band ganol mis Ionawr. Gwnaed £150 o elw at Neuadd Gymunedol Llanbedr. Diolch yn fawr iawn i Ceri Griffith a Gwenan Owen am eu cymorth. Diolch hefyd i Morfudd Lloyd, Eleri Jones (Cefn Uchaf) ac Iona Anderson am eu cymorth yn y gegin. Roedd gan yr enillwyr sgorau uchel. Ond aeth y noson yn drech ar ambell un, gan gynnwys Gerallt Evans (Toyota) oedd â sgôr dda iawn yn yr hanner cyntaf; yn anffodus nid oedd yr ail ddeuddeg mor lewyrchus iddo. Bob amser daw aelodau o deulu i gyd-chwarae fel partneriaid mewn chwist mae pobl yn eich rhybuddio i wylio am y negeseuon cudd, megis rhwbio bys priodas os maent eisiau diamwnt neu taro’r frest am galon. Ond mae’n rhaid bod trafferthion technegol ar wifrau cyswllt rhwng Heulwen ac Aled Cefn Uchaf, cawsant eu trechu o 10 tric i 3 mewn un gêm yn ystod y noson ond ni ddatgelwn pwy oedd y sawl a’i trechodd rhag ofn i bethau fynd yn ddrwg os daw’r bartneriaeth yma wyneb yn wyneb rhywdro eto! Cafwyd noson lawn hwyl a chwerthin ac roedd pawb mewn hwyliau da. Mae croeso mawr i unrhyw un sydd eisiau dod i chwarae chwist. Mae’n noson ddifyr iawn yng nghanol pobl cyfeillgar. Cofiwch am: TALSARNAU - yr ail Nos Iau o bob mis yn y Neuadd Bentref am 7.30. LLANFAIR - ar y 3ydd Nos Fawrth o bob mis am 7:00.


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Llanfair a Harlech Croesawodd Hefina bawb i gyfarfod cyntaf y flwyddyn trwy ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i’r aelodau gan gofio at aelodau oedd yn methu bod yn bresennol. Cydymdeimlwyd â Bronwen oedd wedi colli ei chwaer yn ddiweddar. Anfonwyd cofion at Janet oedd wedi cael llawdriniaeth cyn y Nadolig a balch oeddem ei gweld yn bresennol yn y cyfarfod. Daeth ugain o aelodau Aelwyd Ardudwy i’n diddori. Cafwyd amrywiaeth o unawdau a deuawdau, yn cynnwys cerdd dant, yn ogystal ag unawdau ar y cornet, piano a’r delyn. Cychwynnwyd gydag eitemau gan y côr dan arweiniad Elin Williams gyda Siân Ephraim, Carys Evans a Ceri Griffith yn ei chynorthwyo, heb anghofio am gyfraniad Iwan Morus Lewis fel cyfeilydd. Diolch hefyd i Jane Sharp am gyflwyno’r eitemau mewn ffordd ysgafn. Hefina roddodd y diolchiadau ar ran y gangen gan ddiolch hefyd i’r rhieni am gefnogi eu plant. Braf oedd gweld nifer o’r rhieni yn bresennol yn y cyfarfod. Dyna noson arbennig i gychwyn y flwyddyn 2017. Enillwyr y raffl oedd Gweneth a Hefina. Cafwyd cyfraniadau at y lluniaeth gan Eirlys, Hefina, Edwina, Bronwen a Janet.

Plygain Cyfeillion Ellis Wynne

Mwynhawyd y Gwasanaeth Plygain eleni yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair gan eglwys orlawn unwaith eto. Roedd rhai o’r perfformwyr wedi teithio o gyn belled â Dinas Mawddwy ac Aberystwyth. Ond roedd hi hefyd yn hyfryd gweld cynrychiolaeth dda o gyfranwyr lleol. Croesawyd pawb gan Gerallt Rhun, y prif drefnydd ar ran Cyfeillion Ellis Wynne, a’r Parchedig Ganon Beth Bailey a arweiniodd y gwasanaeth dechreuol. Cafwyd 9 o wahanol eitemau a phawb yn canu ddwywaith. Gwledd i’r glust a balm i’r enaid. Yn dilyn y gwasanaeth, mwynhawyd lluniaeth yn Neuadd Goffa Llanfair wedi ei baratoi gan y Cyfeillion a llu o gefnogwyr o’r ardal a thu hwnt. Diolch am gymorth pawb i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth a’r croeso a’r lluniaeth dilynol.

MATERION YN CODI Cynllun Cyllideb Penderfynwyd derbyn y gyllideb a chynnwys gwariant y fynwent o £2,000 ynddo. Praesept y Cyngor 2017/18 Penderfynwyd codi £2,000 ar y praesept a’i gynyddu o £7,000 i £9,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Amnewid ports blaen, gosod decin gyda balwstrad gwydr, tair ffenestr do, inswleiddio’r waliau allanol a llunio grisiau i fyny at yr eiddo - 6 Llwyn y Gadair, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Cymuned Llanbedr Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor uchod ynglŷn â’r datblygiad o wella’r mynediad i’r maes awyr. Cytunwyd i gefnogi’r cynllun hwn. Gosod Plac Gofynnwyd am ganiatâd i osod plac ar y sedd ger Frondeg er cof am Mrs Nanette Halewood. Cytunwyd yn unfrydol i hyn. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod rhai’n taflu gwastraff y tu ôl i wal y fynwent gyhoeddus a chytunwyd i gadw golwg ar y mater.

THEATR ARDUDWY

Chwefror 24 am 7.30 o’r gloch Sioe newydd sbon gan dair o ferched lleol sef Mair Tomos Ifans, Nia Medi a Carys Huw

Y LADIS

Rygbi

Yn seiliedig ar luniau Ruth Jên o ferched Cymreig, cawn gan y merched gyfres o sgetsys ffraeth, gwreiddiol a doniol. Tocyn: £6.50 Dau sy’n gefnogol iawn i’r Plygain yn Llanfair ydi Trefor Puw a Rhiannon Ifans.

Llongyfarchiadau i Alaw Sharp ar gael ei dewis i chwarae i dîm dan 18 oed Rygbi Gogledd Cymru yn erbyn y Gleision yn ddiweddar. Alaw sydd â’r bêl yn ei llaw yn y llun uchod. Mae’n chwarae i Glwb Rygbi Dolgellau. Mae’n dda gweld clybiau bach lleol yn meithrin talent fel hyn.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

Cwrs Undydd Ysgrifennu i Bapurau Bro yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy Dydd Sadwrn, Ebrill 8, 2017 Tiwtor: Karen Owen Ffi’r Cwrs: £32 y pen

Os ydych yn awyddus i gyfrannu at Llais Ardudwy ond ychydig yn ansicr ynghylch sut i fynd ati, beth am gofrestru ar y cwrs hwn? Cewch arweiniad ar sut i ddod o hyd i stori dda a’i hysgrifennu mewn ffordd ddifyr a bachog, a chyflwyniad ar sut i ddefnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae Llais Ardudwy yn barod i gefnogi hyd at dri unigolyn o’r ardal i fynychu’r cwrs. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch âg unrhyw un o’r golygyddion.

17A


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Cinio Nadolig Clwb y Werin Oherwydd prysurdeb cyn y Nadolig, penderfynwyd symud cinio’r Clwb ymlaen i ddechrau’r flwyddyn, ac ar bnawn dydd Llun, 9 Ionawr, cawsom wledd yn Nhafarn y Fic yn Llanbedr. Roedd yr holl aelodau, 14 i gyd, wedi gallu dod a chafwyd amser da yn bwyta a sgwrsio cyn tynnu’r raffl gyda phawb yn ennill gwobr. Diolchodd Jack Forster am y trefniant, a hoffem wahodd mwy ohonoch i ymuno â ni am ddwy awr bob pnawn Llun, drwy gydol y flwyddyn. Chwarae gemau a sgwrsio, yfed te a chael digon o hwyl mewn stafell fechan gynnes braf. Mae mor bwysig i ni wneud defnydd da o’n Neuadd arbennig yn Nhalsarnau. Y Neuadd Gymuned Ar ddechrau blwyddyn arall hoffai aelodau Pwyllgor y Neuadd ddymuno Blwyddyn Newydd Dda (fis yn hwyr!) i bawb yn yr ardal. Mae hi wedi dod yn adeg o’r flwyddyn unwaith eto i wneud apêl at y rhai fyddai’n dymuno bod yn Gyfeillion y Neuadd, ac i ofyn yn garedig, os hoffai unrhyw un wneud cyfraniad tuag at redeg y Neuadd, i gysylltu un ai gyda Margaret ar 01766 770599, neu Gwenda ar 01766 771238. Gyda diolch am bob cefnogaeth Llanfihangel-y-traethau Cynhaliwyd gwasanaeth Cristingl Eglwys Llanfihangel-y-traethau yn Neuadd Bentref Talsarnau ganol mis Rhagfyr. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parch Miriam Beecroft gyda Mrs Gwenda Paul yn egluro ystyr oren y Cristingl, y ffrwythau, y pedwar pren, y rhuban a’r gannwyll yn ei ffordd arbennig hi a’r plant wedyn yn cael cyfle i greu oren y Cristingl. Roedd ymateb y plant yn wych. Yn cyfeilio yn y gwasanaeth roedd David Bisseker. Yn sicr, dyma gyfeilydd gwych i’r dyfodol ac yntau ond yn 10 oed; ardderchog David. Dal ati! Ar ôl y gwasanaeth, cafwyd paned a danteithion y Nadolig ac orig i sgwrsio. Diolch i bawb a gyfrannodd at y bwyd. Roedd pawb wedi mwynhau ac edrychir ymlaen at Gristingl 2017.

Dyma’r plant wedi gorffen eu horen Cristingl ac wedi eu cynnau.

A 18

Peiriant Diffib Er mor falch ydym o fod wedi llwyddo i brynu un peiriant i’r pentref, rydym yn sylweddoli nad yw un yn ddigonol i ardal eang fel hon. Felly’r nod nesaf yw codi arian i brynu dau beiriant arall - un i’r Ynys a’r llall i Landecwyn. Dyma fanylion dau achlysur sydd wedi’u trefnu i’r perwyl yma : Parti ‘Body Shop’ yn y Neuadd Gymuned nos Iau, 23 Chwefror am 7.30. Trefnir y noson drwy garedigrwydd Hannah Jones (Llwyn Ffynnon gynt). Mae croeso cynnes i bawb ddod i weld ac i brynu’r nwyddau arbennig yma. Bydd paned hefyd ar gael ar y noson. Taith Gerdded. Yn dilyn yr hwyl a gafwyd ar y daith ddiwethaf, penderfynwyd trefnu un arall ar ddydd Mercher, 22 Chwefror, yn ystod gwyliau hanner tymor. Cyfarfod o flaen yr Ysgol Gynradd am 10.30 y bore. Ni fydd y daith yn un anodd, ond cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas, a dod â phecyn bwyd ar gyfer cinio bach ar y ffordd. Croeso cynnes i oedolion a phlant. (Rhaid i blant fod dan ofal oedolyn). Gofynnir am gyfraniad o £5 gan bob oedolyn tuag at y gronfa. DODREFN AR WERTH Soffa (efo lle i 3) a dwy gadair freichiau, lliw coco, mewn cyflwr ardderchog. Pris oddeutu £250. Ffôn : 01766 770757

Mrs Gwenda Paul yn helpu’r plant i greu eu horen Cristingl gyda’r Parch Miriam Beecroft a’i merch fach, Anwen, yn cadw golwg arnyn nhw.

Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 9 Ionawr gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Darllenwyd cofnod byr o’n Cinio Nadolig yn y Fic yn Llanbedr. Derbyniwyd catalog o wahanol eitemau sydd ar werth gan y Mudiad ar achlysur Dathlu’r Aur. Bydd pob aelod hefyd yn derbyn bag siopa yn rhodd cyn bo hir. Cafwyd cyfle i ennill carthen arbennig drwy brynu sgwâr ar ffurflen arbennig am £1. Cadarnhawyd y tîm fydd yn mynd i’r gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglan-llyn nos Wener, 17 Chwefror - Siriol, Dawn, Anwen, Gwenda, Maureen a Mai a dewiswyd y bwyd yn Nhafarn yr Eryrod wedyn. Daeth cais gan Gyfeillion Ellis Wynne yn gofyn am ein cefnogaeth fel Mudiad i’r bwriad sydd ganddynt i greu dramodig o Hanes y Tanau bach glas ar y Morfa, ger Y Lasynys drwy gyfrwng Theatr Pendraw, dan gyfarwyddyd Wyn Bowen Harris. Cytunwyd i gefnogi eu bwriad. Ein siaradwraig wadd heno oedd Bethan Wynne Jones, swyddog ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Cafwyd sgwrs ddiddorol ganddi am y Parc, gan gyflwyno tri maes o’r gwaith sy’n digwydd yno a soniodd yn arbennig am y prosiect ‘Awyr Dywyll’ y mae hi’n ymwneud ag o ar hyn o bryd. Diolchodd Gwenda Paul i Bethan am gyflwyno ei sgwrs mewn modd hamddenol a difyr, gyda phawb wedi cael pleser yn gwrando arni yn cyflwyno sgwrs fel hyn am y tro cyntaf. Paratowyd paned gan Frances a Meira ac enillwyd y ddwy raffl gan Gwenda Paul a Margaret. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Dewi Tudur a Siriol Lewis, Llwyn Dafydd, Soar ar enedigaeth eu hŵyr, Gruffudd Morgan ar 23 Ionawr, mab bach i Owain a Caryl Lewis, Penrhyndeudraeth. Ein dymuniadau gorau iddynt fel teulu.


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU MATERION YN CODI Maes Parcio Cilfor Adroddodd John Richards ei fod ef, gyda chymorth Eifion Williams, wedi creu cynllun o’r uchod. Anfonir hwn at Dafydd Gibbard, Cyngor Gwynedd, er mwyn sicrhau ei fod yn dderbyniol. Cynllun Cyllideb Dosbarthwyd copïau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi digwydd hyd at 31 Rhagfyr 2016 ers dechrau Ebrill 2016 a beth oedd wedi ei glustnodi yn y cynllun cyllideb. Penderfynwyd derbyn y cynllun cyllideb hwn ac ychwanegu gwariant mynwentydd o £2,000 ato. Praesept y Cyngor 2017/18 Penderfynwyd codi £5,000 ar y praesept a’i gynyddu o £10,000 i £15,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Cynhyrchu Trydan o’r Nwyon Tirlenwi - Ffridd Rasus. Cefnogi’r cais hwn. Cadw 9 pwynt cyswllt trydan - Parc Carafanau a Gwersylla Barcdy. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad - Minafon Bach, Ynys. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Cymuned Llanbedr Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor uchod ynglŷn â’r datblygiad o wella’r mynediad i’r maes awyr ac yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor gyda chynllun y mynediad newydd arfaethedig. Cytunwyd i gefnogi’r cynllun hwn.

TORRI GWAIR

Gwahoddir ceisiadau am dendrau: 1 i dorri gwair a’i glirio a chwblhau gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau. 2 i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. 3 i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau. Am fwy o fanylion a chopi o’r tri chytundeb uchod, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.17.

Gwella Mae’n braf iawn gennym glywed fod Bryn Williams, Tŷ Gwilym yn gwella, yn araf deg, yn Ysbyty Stoke. Mae ganddo lawer o waith gwella eto ac rydym yn anfon ein dymuniadau gorau a’n cefnogaeth iddo.

Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Gwynant Parry, Tŷ Cerrig a fu’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Hyderwn dy fod yn teimlo’n well erbyn hyn Gwynant.

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau Chwefror 9 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb

YSGOL TALSARNAU

Capel Newydd Talsarnau

Oedfa bregethu bob nos Sul am 6.00 yr hwyr CHWEFROR 5 Dewi Tudur Lewis 12 Dewi Tudur Lewis 19 Parch Steffan Jones, Pontardawe 26 Dewi Tudur Lewis MAWRTH 5 Dewi Tudur Lewis

Crëodd y disgyblion gardiau i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen. Dyma lun o Sioned (B5) a’i cherdyn.

Ymwelodd Guto Dafydd â phlant Ysgol Talsarnau, ym mis Ionawr i drafod materion pwysig oedd yn ymwneud â newid hinsawdd a choedwigoedd glaw.

Dyma rai o’r disgyblion yn mwynhau bwyd Tseinîaidd i ddathlu eu blwyddyn newydd.

Cydymdeimlad Trist oedd gennym glywed y newydd am farwolaeth Mrs Bronwen Rayner yng Nghartref Nyrsio Madog. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i’w theulu oll yn eu profedigaeth.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

Diolch yn fawr i Gyfeillion Ysgol Talsarnau am brynu offer amser chwarae i’r ysgol. Dyma rhai o blant Y Cyfnod Sylfaen o flaen un o’r goliau pêl-droed newydd.

Bu dosbarth y Cyfnod Sylfaen yn dysgu am draddodiadau dathlu’r Hen Galan. Bu pawb yn casglu calennig yng nghwmni’r Fari Lwyd.

19 A


BWYD A DIOD

Ein masnachwyr gwin lleol o Ddolgellau yn ennill Gwobr Bwyd Fawreddog Mae llyfr coginio Cymreig gan y ddau entrepreneur o Ddolgellau wedi ennill gwobr llyfr coginio Ffrengig mawreddog.

Cyhoeddwyd mai Rarebit and Rioja: Recipes and wine tales from Wales gan Dylan a Llinos Rowlands o Gwin Dylanwad Wine, Dolgellau, oedd enillydd Prydeinig yn ei gategori, Bwyd a Gwin Gorau yng ngwobrau 2017 Gourmand. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau. Mae’r llyfr bwyd a gwin Cymreig yn deillio o brofiad 30 mlynedd y ddau yn y diwydiant. Sefydlwyd Gwobrau Gourmand yn 1995 gan Edouard Cointreau. Bob blwyddyn, maent yn anrhydeddu’r llyfrau bwyd a gwin gorau. Mae llyfrau o dros ddau gant o wledydd yn cymryd rhan yn y gwobrau hyn - unig gystadleuaeth

20 A

ryngwladol y sector. Dyma’r llwyddiant diweddaraf yng ngyrfa Dylan a Llinos Rowlands yn y diwydiant bwyd a gwin yn dilyn canmoliaeth gan nifer o enwogion yn y byd gwin - megis yr arbenigwr Hugh Johnson a Nevill Bletch. Mae Rarebit and Rioja gymaint mwy na llyfr ryseitiau gan ei fod yn cynnwys straeon am deithiau Dylan yn ymweld â’r gwinllannoedd gwahanol ledled Ewrop gydag atgofion difyr a doniol am y cymeriadau y daeth ar eu traws oedd yn cynhyrchu’r gwinoedd. Ceir ynddo hefyd amrywiaeth eang o ryseitiau gan ddefnyddio’r cynhwysion Cymreig gorau, wedi eu rhannu i Canapés, Tapas, bwyd i ddechrau, prif gyrsiau a phwdinau - gydag argymhelliad o’r gwin gorau i’w gael gyda’r pryd. Ceir cyngor hefyd ar sut i flasu gwin yn gywir, beth sy’n

gwneud gwin da, a beth yw nodweddion amrywiol grawnwin. Mae rhestrau ar ddiwedd y llyfr hefyd yn awgrymu bwydlenni posibl a rhestr o gynhyrchwyr lleol. Mae Dylan yn gyflwynydd rheolaidd ar raglen gylchgrawn S4C, Prynhawn Da fel eu harbenigwr gwin, ac mae Llinos yn ysgrifennu erthyglau ar fwyd a gwin. Mae Gwin Dylanwad Wine yn boblogaidd am gynnal nosweithiau blasu gwin yn eu bwyty lle gall cwsmeriaid flasu’r amrywiaeth eang o winoedd y mae Dylan wedi eu darganfod wrth deithio o amgylch Ewrop, heb sôn am y gwin a ddaw o winllannoedd Cymru. Wrth sôn am y llyfr wedi iddo gael ei gyhoeddi yn 2016, meddai’r DJ Huw Stephens, “Wrth i’r stori hon o lwyddiant dyfu, felly hefyd mae ei chartref go iawn, gan nodi cyfnod newydd ar gyfer

y sefydliad Cymreig balch hwn. Mae’r llyfr yn ddathliad o’r stori hyd yn hyn, a’r dyfodol a’r oll sydd ganddo i’w gynnig.” Bydd seremoni Gwobrau Gourmand Awards yn cael ei gynnal yn Yantai, China eleni ar 27 a 28 Mai lle bydd Dylan a Llinos yn cystadlu yn erbyn yr enillwyr o wledydd eraill er mwyn cipio’r wobr, the Best in the World. Meddai Dylan a Llinos, “Mae ennill y categori drwy Brydain yn y wobr fawreddog hon yn gyffrous iawn ac mae’r adborth rydym wedi ei gael am y llyfr wedi bod mor gadarnhaol.” “Rydym eisoes yn ymweld â chynhyrchwyr yn Bordeaux a Rioja ym mis Chwefror a Mawrth felly efallai na chawn gyfle i ymweld â Tsieina ym mis Mai ar gyfer y gwobrau ond mae’r gobaith o gystadlu am lyfr bwyd a gwin gorau’r byd yn anhygoel!”, ychwanegodd y ddau. Y Lolfa


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.