Llais Ardudwy 50c
CLOD MAWR I ARWYN
RHIF 471 - CHWEFROR 2018
Sefydliad y Merched y Bermo Mae aelodau o Sefydliad y Merched y Bermo yn dathlu eu canmlwyddiant eleni. Yn eistedd yn y ganolfan mae’r Llywydd, Jacqui Puddle, ac ar ei chwith Jill Houliston, Ysgrifennydd y Ffederasiwn; ar ei llaw dde mae Reta Evans, Trysorydd y Ffederasiwn. Cynhaliwyd y cinio canmlwyddiant yng Ngwesty Min-y-Môr ar 19 Ionawr. Rhoddodd Jacqui amlinelliad o rôl SyM y Bermo ym 1918. Eu tasg gyntaf oedd agor cegin cawl yn ysgol y cyngor. Yna, darllenwyd negeseuon llongyfarchiadau gan Meinir Lloyd Jones, Llywydd y Sir, gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gan aelod o’r gorffennol, Mair Jones. Y siaradwr gwadd oedd Dr Rob Howarth, a rhoddodd sgwrs ddiddorol ar hanes Bad Achub y Bermo. Roedd yn brynhawn pleserus a chafwyd llwnc-destun i aelodau o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn SyM y Bermo gyda gwydraid o ‘bubbly’.
Ffotograffydd o fri Llongyfarchiadau i Arwyn Williams, Tŷ Newydd, Yr Ynys ar ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth ‘Lluniau’r Hydref ’ ar raglen ‘Heno’. Daeth Arwyn i’r brig yn gyntaf allan o dros 400 o luniau gan ennill I-pad yn wobr gyda chanmoliaeth uchel gan Geraint Thomas y beirniad.
Cinio Clwb y Werin
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mawrth 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Mawrth 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Chwefror 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook
@llaisardudwy 2
Enw: Morris Evans Tri o gŵn sydd gena’i ’leni Eu henwa ydy Sali a Tobi, A Ffan ydy’r llall, Mae honno reit gall, Ond am y ddau arall, am helpo’i. Gwaith: Wedi ymddeol, ond yn dal i drin y cŵn. Cefndir: Gweithio ar fferm a ffarmwr (gweddol) am ran o’m gyrfa, yna siopwr (sobor) am ychydig, yna’n ôl i ffermio, cwningod a nifer o anifeiliaid eraill, a gwadd y cyhoedd i fewn i’w gweld (llawer difyrrach na’r siop!). Sut ydych chi’n cadw’n iach? Ceisio bwyta’n ofalus, peidio bwyta’n ormodol, nac yfed. Fu yfed erioed yn demtasiwn er i nhaid fod yn dipyn o alcaholic meddan nhw, ond wrth lwc nis etifeddais y gwendid hwnnw (nid fy mod yn brin o wendidau eraill). Beth ydych chi’n ei ddarllen? Papurau dyddiol y Mirror a’r Daily Post ac unrhyw lyfr barddoniaeth go afaelgar a doniol, gwaith Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen yw’n
ffefrynnau. Hoff raglen ar ar y radio neu’r teledu? Hyd yn ddiweddar Dechrau Canu Dechrau Canmol, ond am ryw reswm mae’n rhaglen sydd wedi dirywio’n ddiweddar. Gwell gen i rŵan raglen Hywel Gwynfryn ar bnawn Sul, ond iddo beidio adrodd englyn Pont Menai gan ei fod yn ei adrodd yn anghywir bob tro. Bardd yn camacennu (wel, wel). Ydych chi’n bwyta’n dda? Cefais fy nysgu i fwyta beth bynnag roid o’m blaen, felly mae i fyny i Mair os yw beth bynnag ddyru o mlaen yn dda imi ai peidio. Hoff fwyd? Lopscows hefo lympiau go iawn o gig ynddi. Hoff ddiod? Coffi neu de, a chefais fy nysgu gan Ieuan Jones, Alltgoch gynt, os y byddwn eisiau rywbeth cryfach, i gadw at lemonêd. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Mair, ac unrhyw ddau ffrind â stumog heb fod yn rhy fawr (rhag ofn mai fi fyddai’n talu). Lle sydd orau gennych? Godre’r Rhinog Fawr, yn nhop Cwmnantcol: “Lle nad oes lef, na dim ond bref A Duw yn sŵn y dŵr.” Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn yr Alban, ca’dd Mair a finnau amser da yn crwydro’r mynyddoedd, a chwrdd â phobl hynod groesawus a chlên a chael tywydd hynod o braf. Beth sy’n eich gwylltio? (Medd Mair dwi byth yn gwylltio!) ond na, a bod yn onest, dipyn yn fyr gyda’r
GARDDIO A MWY
amynedd, ond yr hyn a gwyd fy nhymer yn go iawn, yw rhywun yn camfarnu ei gyd-ddyn heb fod yn siŵr o’i ffeithiau. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Un y gallaf ei ymddiried â chyfrinach, a bum yn ffodus iawn o gael un neu ddau o ffrindiau felly. Pwy yw eich arwr? Dafydd Wigley, er iddo godi’n uchel ni edrycha i lawr ar neb, a bob amser yn barod i gynorthwyo. Beth yw eich bai mwyaf? Anodd dewis gan fod cymaint, ond “Pe na bai un bai’n y byd, Beiem undonedd bywyd.” Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Iechyd da, cartra da (a bonws ... ci da). Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Ei rannu, gobeithio, â rhywrai sydd yn llai ffortunus na mi. Eich hoff liw? Gwyn Eich hoff flodyn? Briallu. Eich hoff gerddor? Robert Arwyn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? ‘Myfanwy’. Pa dalent hoffech chi ei chael? Talent i allu canu, mi fuaswn falched, mi ganwn drwy’r dydd heb stopio. Eich hoff ddywediad? Ysbyty. Lle annifyr yw i’r iach ond nefoedd i’r dyn afiach. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon, ac ymwybodol iawn o’m braint o gael iechyd da am dros 80 mlynedd.
Annwyl Olygydd, Ysgrifennaf ar ran tîm cynhyrchu’r gyfres ‘Garddio a mwy’ ar S4C, fydd yn dychwelyd i’r sgrîn yn y gwanwyn am gyfres arall. Unwaith eto, bydd ein cyflwynwyr - y garddwyr brwd Iwan a Sioned Edwards a Meinir Gwilym - yn ymadael â’u gerddi eu hunain yn achlysurol i gynnig help llaw i arddwyr eraill ar hyd a lled Cymru. Nid trawsnewid gerddi yw’r bwriad, ond yn hytrach dod a bywyd newydd iddi trwy ganolbwyntio ar ran ohoni a welai fudd diwrnod o dorchi llewys. Felly, pa bynnag agwedd o’r ardd sydd angen sylw, anogwn eich darllenwyr i ddod i gysylltiad â ni. Yn ddelfrydol, dylid anfon cyfres o luniau a disgrifiad byr o’r joban dan sylw, neu o ddyheadau’r perchennog (a fydd wrth gwrs yn cymryd rhan yn yr eitem!). Yn ogystal â gerddi preifat, rydym hefyd yn agored iawn i glywed am brosiectau garddio cymunedol neu grwpiau lleol, eto a hoffai fewnbwn gan y tîm. Am ragor o wybodaeth, neu i gynnig syniad am eitem, dylid e-bostio garddioamwy@cwmnida. tv, ffonio 01286 685300 (a gofyn am Euros neu Meinir) neu adael neges ar ein tudalen Facebook (facebook.com/garddioamwy). Cofion cynnes, Tîm Garddio a mwy
OPUS YN HELPU I ROI’R CAM CYNTAF YN ÔL I WAITH
Mae tîm Opus newydd Cyngor Gwynedd yn mynd ati i helpu pobl 25 oed neu hŷn sydd wedi bod yn ddi-waith ers peth amser yn ôl i waith cyflogedig. Un o’r bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth trwy gynllun Opus Cyngor Gwynedd ydi Anthony Evans. Roedd Anthony, sy’n wreiddiol o Harlech ac sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, wedi bod yn Anthony Evans wrth ei chwilio am waith ers peth amser waith yn Llyfrgell Bangor cyn derbyn help a chefnogaeth gan dîm Opus Gwynedd. Pan oedd yn gofalu am ei fam a oedd yn sâl, bu’n rhaid i Anthony roi’r gorau i’w astudiaethau ac i’w ymdrechion i ymgeisio am swyddi. Wedi colli ei fam, cafodd ei adael yn ddigartref a heb waith. “Roedd hi’n sefyllfa anodd a’r flaenoriaeth imi yn y tymor byr oedd cael hyd i le i fyw cyn y gallwn i chwilio o ddifri am waith,” meddai Anthony, sy’n 29 oed. “Ond ar ôl gorffen fy ngradd uwch, ro’n i’n cael trafferth i gael hyd i swydd ac roedd yn digalonni rhywun ar ôl tipyn.” Ar ôl gwirfoddoli yn amgueddfa ac oriel Storiel am dros flwyddyn, roedd yn awyddus iawn i gael swydd barhaol. Dywedodd fod yr help ymarferol wrth lenwi ceisiadau am swyddi yn hwb gwirioneddol iddo. “Ro’n i’n tueddu i fynd dros ben llestri wrth anfon ceisiadau am swyddi, ond ar ôl trafod efo tîm Opus ro’n i’n gweld yr angen i ddewis y pethau pwysicaf i’w cynnwys. Mae’r help rydw i wedi’i gael ganddyn nhw wedi bod yn grêt, ac mae’n ffantastig fod help ar gael i bobl dros 25 oed,” meddai Anthony. Ers mis Medi, mae Anthony wedi cychwyn ar swydd newydd fel cynorthwyydd cyffredinol yn y llyfrgell gyhoeddus ym Mangor. “Rydw i wrth fy modd yn y llyfrgell. Roedd yr hunan hyder y gwnes i ei ddatblygu efo’r tîm Opus yn help go iawn ac rydw i’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth”. Ydych chi’n 25 neu’n hŷn? Ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant ar hyn o bryd? Mae’n bosib y gallai tîm Opus Gwynedd eich helpu chi’n ôl i waith – am fwy o fanylion neu drafod gydag aelod o dîm Opus Gwynedd, cysylltwch â nhw trwy e-bostio Opus@ gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01286 682730.
DOD Â PHOBL AT EI GILYDD Ydych chi yn ysu cyfarfod rhywun eto? Ydych chi’n chwilio am berthynas gwaed? Neu’n dymuno dod o hyd i’r unigolyn hwnnw wnaeth gymwynas â chi flynyddoedd yn ôl? Oes arnoch chi angen dweud diolch wrth rywun? Neu ail-gynnau tân ar hen aelwyd? Dyma gyfle ichi gael dod ynghyd… Bydd cyfres newydd gyffrous ar S4C yn rhoi’r cyfle i bobl gyfarfod – boed ers blynyddoedd maith neu am y tro cyntaf un – mewn cyfres o aduniadau ddaw â phobl yn ôl at ei gilydd i wireddu dyhead i weld rhywun o’r gorffennol unwaith yn rhagor. Mi fydd aelodau teulu gwaed sydd wedi bod ar wahân am flynyddoedd yn ail-gyfarfod, rhwng unigolion sydd wedi colli cysylltiad, rhwng cyn gyd-weithwyr, cyn-filwyr, aelodau o’r gwasanaethau brys a’r rhai a achubwyd. Dyma gyfle bythgofiadwy i ail-gydio yn y gorffennol, i ddod i adnabod perthynas am y tro cyntaf, i ail fyw profiadau melys a thrist, cyfle i ail-gydio mewn hen garwriaeth, cydnabod rhywun wnaeth eich ysbrydoli, neu ddweud diolch wrth rywun wnaeth dro da pan oedd wir angen. Mae’r cwmni teledu Darlun yn estyn gwahoddiad i unrhyw rai sydd â diddordeb i gysylltu i drafod ymhellach efo Gwen o gwmni teledu Darlun ar 01248 531531 neu drwy e-bost at gwen@darlun.tv
Merched y Wawr Nantcol Cyfarfu’r gangen nos Fercher, Ionawr 10fed. Cafwyd gair o groeso gan Anwen y llywydd, a dymunodd Flwydddyn Newydd Dda i bawb. Y gŵr gwadd oedd Twm Elias, o Nebo. Yn ŵr prysur iawn, mae’n adnabyddus am ei waith gwych ym Mhlas Tan y Bwlch cyn iddo ymddeol, yn ogystal â bod yn olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn ac yn gyfrannwr sefydlog i’r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cafwyd orig ddifyr iawn yn olrhain hanes “Y Porthmyn Cymreig” trwy luniau a dawn y storïwr brwdfrydig. Diolchodd Anwen yn gynnes iawn iddo am noson ddiddorol dros ben. Yn dilyn paned wedi ei pharatoi gan griw Nantcol, a sgwrs, aethpwyd ymlaen i drafod ychydig o faterion swyddogol y gangen. Cydymdeimlwyd â Rhian Dafydd oedd wedi colli cefnder o Landderfel yn ddiweddar, ac â Ceri a Gwen oedd wedi colli cefnder hefyd, sef Evan Richards Dyffryn Ardudwy, a Chwm yr Afon gynt. Cydymdeimlwyd â theulu Cefn Isaf yn eu profedigaeth fawr a sydyn ychydig ddyddiau ynghynt, sef colli Meinir, gwraig, mam, nain a chwaer arbennig, a chyn aelod o’r gangen yn Nantcol am rai blynyddoedd. Derbyniwyd y bwydlenni ar gyfer y Cinio Gŵyl Ddewi ar Fawrth 7fed, a phasiwyd i fynd i “Nineteen.57”. “Pwt gan bawb” fydd cyfarfod mis Chwefor, a chafwyd syniadau ac awgrymiadau ar gyfer y noson amrywiol a diddorol gan Enid.
Annwyl Ddarllenwr Yn Nhachwedd 2018 mae Gŵyl Genedlaethol Cerdd Dant Cymru yn ymweld â Blaenau Ffestiniog a’r Fro. Mae hwn yn ddigwyddiad cenedlaethol cyffrous i`r ardal ac mae edrych ymlaen garw at y digwyddiad. Cynhelir yr ŵyl dros benwythnos ym mis Tachwedd. Mae hi’n ŵyl sy’n denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a chaiff ei darlledu`n llawn ar S4C. Mae’r pwyllgor gwaith a sefydlwyd yn dilyn cyfarfod cyhoeddus y llynedd wedi dechrau ar y dasg o godi arian i sicrhau gŵyl lwyddiannus a chofiadwy. Targed ariannol yr ŵyl yw £40,000. Mae’r pwyllgor gwaith yn gweithio’n ddygn trwy drefnu digwyddiadau er mwyn codi arian i gyrraedd y nod. Rydym yn troi atoch fel darllenwyr i ofyn yn garedig am eich cefnogaeth. Rydym yn gobeithio y byddwch mewn sefyllfa i ystyried y cais am gefnogaeth i’n galluogi i gyrraedd ein targed. Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mae croeso i chi gysylltu hefo ni yn uniongyrchol. Edrychwn ymlaen i glywed gennych. Yn gywir iawn, Iwan Morgan (Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith) Ty’n Ffridd, Ffestiniog Blaenau Ffestiniog 01766 672687 Dewi Lake (Cadeirydd Pwyllgor Cyllid) 3
LLANFAIR A LLANDANWG Irene O’Halloren Roedd Irene yn bartner i Gary Hall, Tal-y-wern, Llanfair am dros 15 mlynedd. Roedden nhw’n rhannu eu hamser rhwng Llanfair a Perth yn yr Alban. Ym mis Gorffennaf 2017, mi ddaru’r meddygon ddarganfod fod ganddi salwch angeuol ac fe roddwyd rhyw dri mis iddi fyw. Bu farw yng nghartref nyrsio Ruthven yn Auchterarder ar Ragfyr 28, 2017. Arhosodd Gary yn yr Alban drwy gydol ei gwaeledd i fod wrth ei hochr a bu’n gefn mawr iddi. Bu’r angladd yn Eglwys Sant Ioan, Perth ar Ionawr 11 yng nghwmni teulu agos Gary, Eiddwyn a Helen, Iddon a Joy, Mair ac Eurona. Mae Irene yn gadael tair merch, Margaret, Angela a Carrie-Anne. Diolch Dymuna Gary ddiolch i bawb a fu mor gefnogol iddo ef ac Irene yn ystod y cyfnod anodd hwn ac am feddyliau caredig sawl cyfaill yn dilyn ei marwolaeth. PW Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Russell Sharp ym marwolaeth ei dad, Albert [Sandy] Sharp, Bryn a Môr, Pant yr Onnen. Roedd yn ddyn tawel a diymhongar ond er hynny yn fonheddig ac yn raslon bob amser. Roedd ganddo feddwl mawr o Russell, Jane, Gethin, Cynan, Alaw a Cerys. Anfonwn ein cofion atoch.
Merched y Wawr Llanfair a Harlech Croesawyd yr aelodau i gyfarfod cyntaf 2018. Trafodwyd nifer o faterion ar ddechrau’r cyfarfod yn ymwneud â’r Bowlio Deg, yr Ŵyl Ranbarth a Noson y Dysgwyr. Daeth gwahoddiad i ymuno â changen Talsarnau ym mis Mawrth a chytunwyd i dderbyn y gwahoddiad. Mair Tomos Ifans oedd y wraig wadd, wyneb cyfarwydd i ni a braf oedd cael ei chroesawu yn ôl i’r ardal. Y tro hwn hanes y Fari Lwyd a gawsom. Treuliwyd orig ddiddorol yn ei chwmni hi a’r Fari. Daeth â phenglog ceffyl gyda hi ac esboniodd sut y daeth i’w phrynu yn Eisteddfod Meifod. Daeth â’r penglog yn fyw drwy roi llygaid, rhubanau a chlychau arni. Cawsom beth o hanes y Fari Lwyd a dywedodd bod cyfeiriad i’r Fari Lwyd ymweld â’r Bermo yn ôl yn 1951. Mae’r traddodiad yn dal yn fyw yn ardal Dinas Mawddwy. Edwina a ddiolchodd i Mair, Maureen a Sue oedd yn gyfrifol am y baned ac Ann enillodd y raffl. Rhoddion Diolch i Deilwen Hermer a Gwyneth Williams am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Lloches Bws Frondeg
Oherwydd nad yw’r lloches bws uchod bellach yn cael ei ddefnyddio, a’r gred y bydd angen gwaith arno yn y dyfodol, mae Cyngor Cymuned Llanfair wedi penderfynu dymchwel y lloches hwn. Mae’r deunyddiau ar gael i unrhyw un sy’n fodlon ei dynnu i lawr, gwaredu’r deunyddiau o’r safle a gadael y safle’n daclus. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.18.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Cynllun Cyllideb Adroddwyd bod £18,395.09 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £4,392.23 o wariant yn llai nag oedd wedi ei glustnodi yn y gyllideb. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2018/19 Gan fod y Cyngor wedi cytuno i roi cyfraniad am y pum mlynedd nesaf i Hamdden Harlech ac Ardudwy a chyfrannu at y bartneriaeth gyda Cyngor Gwynedd i gadw’r toiled yn agored yn Llandanwg, penderfynwyd codi’r praesept o £9,000 i £13,000. Materion Cyngor Gwynedd Nododd Annwen Hughes ei bod wedi cael gwybod gan yr Adran Draffig yng Nghaernarfon bod 85% o gyflymder ceir i lawr Ffordd Llandanwg yn 36mya a’u bod yn bwriadu ail-leoli’r cychwyniad y 30mya yn nes i lawr y ffordd. Bydd gweddill y ffordd yn 40mya i fyny at y briffordd. Bydd rhaid i’r newid hwn fynd trwy’r broses gyfreithiol (ymgynghoriad cyhoeddus, gorchymyn traffig ac ati).
PLYGAIN EGLWYS LLANFAIR Cynhaliwyd Plygain traddodiadol Eglwys Llanfair eto eleni. Nid yw dechrau’r flwyddyn yn gyflawn bellach heb y Plygain hwn. Fe’i trefnir yn flynyddol gan Gyfeillion Ellis Wynne ac mae yn blygain unigryw gan fod Ellis Wynne ei hunan wedi ei gladdu dan allor yr eglwys hon. Eleni roedd pump o bartïon, dau driawd a dau unigolyn yn cymryd rhan. Roedd dau barti cwbl newydd i Eglwys Llanfair sef parti ardal Mawddwy, a pharti o ardal Penrhyn Coch ger Aberystwyth. Braf cael amrywiaeth o eitemau. Gwerthfawrogir yr ymdrech gan eitemau lleol Ardudwy yn ogystal. Roedd clywed geiriau carol plygain Ellis Wynne yn gyffyrddiad pleserus iawn. Roedd y rhannau arweiniol eleni yng ngofal y parch Tony Hodges a rhaid yw
diolch am gydweithrediad rhwydd rhwng swyddogion yr eglwys a’r Cyfeillion. Yn ôl yr arfer canodd y dynion am eu lluniaeth i ddilyn yn Carol y Swper. Rhaid diolch unwaith eto i’r criw ffyddlon a ddarparodd ac a fu’n gweini’r swper yn Neuadd Goffa Llanfair. Roedd digon o fwyd yno nid yn unig i’r rhai a gymrodd ran ond hefyd i weddill y gynulleidfa! Mawr yw’r diolch i’r gynulleidfa leol yma yn Ardudwy sy’n cefnogi’r Plygain yn flynyddol, ac hefyd yn cyfrannu yn hael i goffrau Cyfeillion Ellis Wynne ar ddiwedd y cyfarfod. Dim Beibl Cymraeg Nid oedd Beibl Cymraeg ar gael yn y gwasanaeth Plygain. Dyma rhywun yn dweud ‘mi fydd sôn am hyn yn Llais Ardudwy’. Siawns y bydd un yno y flwyddyn nesaf!
Pen-blwyddi arbennig Llongyfarchiadau i Lance a Falmai Wilder, Gwêl y Don, Pant yr Onnen, Llanfair oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed yn ystod mis Ionawr, Lance ar 1 Ionawr a Falmai ar 29 Ionawr. Roeddynt hefyd yn bresennol yn yr oedfa olaf yng Nghapel Soar sef diwrnod dathlu eu pen-blwydd priodas yng Nghapel Soar 57 mlynedd yn ôl ar 17 Rhagfyr,1960.
4
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL
Cymdeithas Nantcol Daeth Linda’r Hafod o Lannerch-y-medd atom ddechrau mis Ionawr i ddarllen gweithiau ‘Rhai Awduron Môn’ megis Richard Jones, Audrey Mechell a William Owen. Cawsom noson ragorol yn ei chwmni ac roedd ei gweld yn amrywio’i llais i ddod â’r cymeriadau yn fyw yn rhyfeddol.
Trefor Puw a Dr Rhiannon Ifans fu’n trafod y Plygain efo ni ar ddiwedd y mis. Roedd yn bleser eu clywed yn canu. Dr Rhiannon yw ein hawdurdod pennaf ar ganu carolau a chanu gwerin ers y canol oesoedd. Colli Meinir Brawychwyd yr ardal o glywed am farwolaeth sydyn Meinir Evans, Cefn Isa. Cydymdeimlwn yn ddwys â Gwilym, ei gŵr a Delyth a Gareth a’r teulu yn eu profedigaeth lem. Gwellhad buan Anfonwn ein cofion at Mrs Kathleen Roberts, Y Felin, sydd wedi cael damwain ac yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio ei bod yn gwella. Hefyd, mae Mrs Lesley Howie, fferm Gwynfryn, yn Ysbyty Gwynedd. Cofion annwylaf ati hithau hefyd. Neuadd Nantcol Nos Lun, Chwefror 19
BAND ARALL
am 7.30 Croeso cynnes i bawb!
Crynodeb o’r deyrnged i Meinir, Cefn Isa, gan Les Pegler (brawd yng nghyfraith), a draddodwyd yn yr angladd Diolch i Gwilym am y fraint a’r anrhydedd o gael siarad heddiw am fy chwaer yng nghyfraith a’m ffrind Meinir Ellis Evans, neu Meinir Pandy Bach/Meinir Cefn Isa fel roedd pawb yn ei hadnabod. Rydym yma i ddathlu bywyd Meinir, gwraig i Gwil, mam i Delyth a Gareth, mam yng nghyfraith i Oz a nain balch iawn i Lois ac Elin, chwaer i’w holl frodyr a chwiorydd, a ffrind i lawer. Ganed Meinir ym mis Rhagfyr 1954 i Griffith Wyn a Mary Pughe Rowlands, yn un o naw o blant a fagwyd ar fferm Pandy Bach. Wedi marwolaeth ei thad, symudodd y teulu i Froneirian, Dolgellau, cyfnod anodd yn eu hanes fel teulu. Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Gader, ac roedd wrth ei bodd efo chwaraeon. Dim ond tair blynedd oedd rhyngddi hi a’i dwy chwaer ac roedd y tair ieuengaf yn hynod ddireidus. Ar un achlysur penderfynodd y dair y byddai’n hwyl gollwng botymau ar ben moel gweinidog a oedd yn digwydd eistedd o dan grac yn llawr y llofft pan ddaeth heibio un gyda’r nos, a dyna wnaeth Meinir! Bu’n aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ieuainc Dolgellau oedd yn rhan fawr o’i bywyd cymdeithasol. Pan symudais i Ddolgellau i weithio, cefais fyw’n hapus ar aelwyd y teulu ym Mroneirian – cyfnod hapus iawn i mi. Daeth Gwil a Meinir i adnabod ei gilydd yn gyntaf drwy’r Ffermwyr Ieuainc a dawnsio gwerin, ond roedd eu dêt cyntaf yng nghyngherdd olaf Edward H Dafis ym Mhafiliwn Corwen. Priodwyd y ddau yn 1977, a symud i Gefn Isa i fyw gyda mam Gwil, Mrs Mair Evans. Roedd y Cwm yn mynd i fod yn bwysig iawn ym mywyd Meinir, ac roedd wrth ei bodd yn byw unwaith eto ar fferm yng nghefn gwlad. Ganwyd iddynt ddau o blant, Delyth a Gareth, a chafodd y ddau blentyndod hapus iawn yng Nghefn Isa. Pan oedd y plant yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, helpodd Meinir efo’r clybiau ar ôl ysgol, heb sôn am helpu hefyd efo Clwb Ffermwyr Ieuainc Ardudwy. Gweithiodd Mei ar hyd ei hoes, i’w modryb pan yn ifanc iawn, cyn cychwyn ym Manc y Midland y Bermo. Gadawodd y banc i fagu’r plant ond daliodd ati i weithio gan gadw gwely a brecwast ar y fferm, helpu pobl yn eu cartrefi, yna i’r Pearl, mewn cartref hen bobl, yn siop Llanbedr a siop Tal-y-bont, ac roedd yn dal i helpu Jane yn Ystumgwern. Y pethau pwysicaf ym mywyd Meinir oedd ei theulu, y Cwm, a helpu pobl. Gofalodd am fam Gwil am flynyddoedd ac roedd y ddwy yn deall ei gilydd ac, er fod y ddwy’n bersonoliaethau cryf, fyddai’r ddwy byth yn ffraeo. Byddai’n mynd i Ddolgellau bod dydd Iau am gyfnod hir i helpu ei mam ac Anti Beti, yn enwedig efo gwneud neges a’r gwaith tŷ, ac roedd yn ffeind wrth bawb. Yn ôl Gwil roedd yn help mawr iddo fo efo’r fferm, yn brysur bob dydd, a byddai’n gwneud y shifft nos ar adeg wyna, ac yn gwybod yn iawn sut i dynnu oen. Roedd yn hynod o falch o’i phlant, ac wedi i Delyth briodi Oz, ganwyd Lois ac Elin. Roedd yn dotio arnyn nhw ac roedd ganddyn nhw berthynas arbennig iawn. Roedd croeso bob amser i fyny yng Nghefn Isa, ac roedd wrth ei bodd efo tŷ llawn a bwyd i bawb ar y bwrdd. Bydd y teulu’n cofio am byth sut oedd wrth ei bodd yn trefnu dyddiau i’r teulu ddod at ei gilydd, yn y Bala, ym Meddgelert a Chastell Penrhyn a mwy, lle’r oedd pawb yn cael cyfle i sgwrsio a chael hwyl. Roedd bob amser â gwên ar ei hwyneb, ac yn hwyliog iawn. Roedd yn mwynhau darllen, Sudoku, a cherdded, yn enwedig yn y Cwm. Roedd yn aelod o Ferched y Wawr y Cwm ac yn gwneud gwaith gwirfoddol i godi arian gyda’r elusen RABI. Ym mis Rhagfyr, dathlodd Meinir a Gwil 40 mlynedd o fywyd priodasol ac aeth y teulu allan i ddathlu gyda phryd o fwyd. Aeth saith aelod o’r teulu i Ganada fis Medi diwethaf, a dyma’r gwyliau gorau gawsom ni erioed. Mae’r lluniau ar wal y gegin yn dyst i’r mwynhad a’r hwyl a gawsom wrth ymweld â’r holl fannau trawiadol ar ein gwyliau gyda Meinir. Roedd ei marwolaeth yn sioc enfawr i ni i gyd gan nad oedd ond 63 oed, a byddwn yn colli ei chyfeillgarwch a’i chariad parod. Mi fydd yn anodd iawn rŵan i Gwil, Delyth, Oz, Gareth a Sophie, ac hefyd i’r genod bach Lois ac Elin. Bydd Meinir efo ni am byth yn ein calonnau a’n meddwl, a bydd gan bob un ohonom atgofion melys amdani. Nos da, Meinir, diolch am bob dim gan bawb o’r teulu; roedd yn fraint dy adnabod. Yn ystod y gwasanaeth, darllenwyd yr englyn canlynol gan W Rhys Nicholas: Gwên siriol oedd ei golud – a gweini’n Ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd; Bu fyw’n dda, bu fyw’n ddiwyd A lle bu hon mae gwell byd.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch CHWEFROR
18 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis 25 Capel Nantcol, Mrs Morfudd Lloyd MAWRTH 4 Capel y Ddôl, Parch Gerallt Lloyd Evans 11 Capel y Ddôl, Mrs Eirwen Evans CAPEL SALEM 25 Chwefror Parch Dewi Tudur Lewis 25 Mawrth Parch Hywel Wyn Richards
Teulu Artro Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf yn 2018 ar 2 Ionawr. Wedi croesawu pawb, cyfeiriwyd at farwolaeth sydyn Mrs Leah Jones a fu’n aelod selog iawn am flynyddoedd. Byddai ei diweddar briod yn mwynhau ymuno â ni yn ein cinio Nadolig. Mae’n drist iawn colli un arall o “hen ŷd y wlad”, a neb yn dod i lenwi’r bylchau. Rhoddwyd dymuniadau penblwydd i Winnie ac Iona. Cafwyd prynhawn gyda nifer o’r aelodau yn sôn am rywle neu rhywbeth a wnaeth argraff arnynt. Enillwyd y rafflau gan Winnie a Glenys. Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad at Elizabeth a Catherine Richards, Cartref, yn eu profedigaeth o golli eu brawd Evan. Yn yr ysbyty Rydym yn meddwl llawer am Meurig Jones, Hendre Waelod y dyddiau hyn ac yntau yn glaf yn Ysbyty Gwynedd. Rhodd Elwyn Evans £7 Diolch Hoffai’r teulu ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a’u gofal yn dilyn eu profedigaeth. Mae Pritchard a Griffiths, Tremadog LL49 9RH yn casglu rhoddion tuag at Nyrsys Macmillan a Chanolfan Walton yn Lerpwl a derbynnir rhoddion tan ddiwedd mis Chwefror. Rhodd £20
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
TEYRNGED I EVAN RICHARDS
Taid - Y dyn â’r ymennydd a’r cof anhygoel Cafodd Taid ei eni yn Gellilydan ar yr 22ain o Chwefror 1925. Fe’i magwyd yn Penrhos, plwyf Trawsfynydd, yn fab i’r diweddar John a Janet Richards a’r hynaf o chwech o blant. Mynychodd Ysgol Bronaber, ond bu raid iddo adael yn dair a’r ddeg oed er mwyn helpu ei dad ar y ffarm, ac i ofalu am ei fam a oedd yn wael ei hiechyd. Fe ddaeth yn arbenigwr mewn coginio, pobi bara a gwneud menyn i fwydo’r teulu. Ei chwiorydd yn dweud ei fod heb ei ail am wneud Victoria sponge, bara brith a jeli mwyar duon (sef jam Taid). Hefyd fe ddaeth yn adnabyddus i fod yn beiriannydd o reddf yn ifanc iawn a hynny heb gael unrhyw fath o hyfforddiant yn y maes peirianyddol. Roedd wrth ei fodd yn mynd i garej Jos y postmon a’r diweddar Edgar ei fab, ar fin nos i drwsio hen beiriannau. Yn 15eg oed cafodd swydd gyda’r Comisiwn Coedwigaeth a thra roedd yn plannu coed yng Nghwm Graig Ddu torrodd allan yr Ail Ryfel Byd. Yn 1947 symudodd y teulu o Benrhos i Gwm yr Afon, Llanbedr. Dilyn y teulu yno wnaeth Taid y flwyddyn ganlynol i gynorthwyo gyda’r gwaith ffarm. Roedd hefyd yn mynd o amgylch y ffermydd i gneifio gyda gwella, trin anifeiliaid ac wrth ei fodd yn mynd o gwmpas gyda Lewis Emlyn a’r injan ddyrnu. Bu Taid gwrdd â Nain o Lwyngwril yn Harlech yn 1952 a’i phriodi ar yr 20fed o Dachwedd 1954 yn Eglwys Sant Gelynnin. Llwyngwril, ac yn dilyn oedd 61 mlynedd o fywyd priodasol hapus a dau blentyn, sef John Llewelyn ac Eireen Janet. Yn y cyfnod hwn bu’n gweithio i Dalgarreg yn gyrru lori i gludo anifeiliaid i wahanol farchnadoedd. Yna gweithio i’r diweddar W O Williams a oedd yn ffrind agos
6
iddo tan ei farwolaeth yn y 60au cynnar. Yma fe ddysgodd sut i drin y JCB a gwneud ffrindia’ da yr un meddylfryd â fo ei hun. Yna ymlaen i Bwllheli Plant Hire i wneud yr un un gwaith a gwneud mwy o ffrindia’. Roedd ganddo lawer o hanesion diddorol a doniol ohono’i hun a’i gydweithwyr. Doedd Taid ddim yn hoffi canmoliaeth, felly dwi ddim am ail adrodd be’ ddywedwyd gan rai o’i gydweithwyr. Hogyn ffarm fu Taid er ei holl brofiadau ac felly pan ofynnai OG, ffrind triw iddo, gadw golwg ar yr anifeiliad mi fydda’ Taid wrth ei fodd gyda’r cyfrifoldeb. Bu Nain farw ar y 19eg o Hydref 2015 ar ôl gwaeledd cymharol hir. Ar hyd yr adeg aeth Taid ddim ymhell o’i hochr. Ond ergyd greulon arall oedd i ddilyn pan ddarganfuwyd fod y canser yn ôl ar Eireen ddechrau Mawrth 2016. Prin dau fis wedyn ar Fai y 9fed 2016, bu Eireen farw. Roedd y golled yn aruthrol i Taid gan ei fod yn disgwyl iddi ddod drwyddi unwaith eto. Y cof anhygoel Yr holl bobl oedd yn ei holi am sut haf oedd o’n blaen. “Sut haf mae hi am ei wneud Ifan?” “Wel dwi’n cofio mis Ebrill debyg iawn yn 1949. Cynhesu ac yn boeth at ganol y mis ac oeri’n sydyn at ei ddiwedd ac felly y bu hyd at ganol Mai. Wedyn yn sych Mehefin a Gorffennaf ac wedyn poethi at ganol Awst ac felly y bu tan ddechrau Hydref. Anodd credu ar ôl y mis Mawrth, y mis oera’ o’r flwyddyn”. Ia, y cof anhygoel. Faint o bobl Ardudwy a phlwy’ Trawsfynydd oedd yn ffonio neu ddod heibio i ofyn sut oedd hwn a hwn yn perthyn, neu y rhai oedd yn olrhain eu hanes teuluol ac yn cael eu syfrdanu at ei wybodaeth. Mi fydda Taid yn gallu tynnu pethau’n ddarnau ac yn gwylltio pan oedd dad yn dweud wrtho eu rhoi mewn rhestr, - ‘hist, gad lonydd’. Roedd ei allu i ganolbwyntio a chofio yn annaturiol. Doedd dim o bwys i le roeddem yn mynd ar siwrna, byddem yn siwr o ddod ar draws rhywle lle roedd taid wedi bod yn gweithio. Lle dwi’n cychwyn? Stori’r JCB a Chadair Idris, y felltan dduwiol, swpar yn tŷ y dyn budr a llawer llawer mwy! Dwi’n siwr fod ganddoch chithau storiau cofiadwy Taid! Mae hi’n newid byd arnom fel teulu bellach, yn enwedig i Euros fy mab. Roedd Euros a Thaid Ifan yn gymaint o ffrindiau. Mi fydda Euros yn codi’r Daily Post bob bore cyn mynd i’r ysgol a heibio taid
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, Ionawr 17. Croesawyd pawb gan Gwennie ac anfonodd ein cofion at Hilda a Beti oedd ddim yn teimlo’n ddigon da i fod gyda ni. Llongyfarchodd Mrs Enid Thomas ar ddathlu ei phen-blwydd yn 90 ar 15 Ionawr. Yna croesawodd Mai atom a’i llongyfarch hithau ar ddathlu penblwydd arbennig ym mis Ionawr. Bu Mai a Dei ar daith i Raeadrau Victoria a’r cyffiniau a daeth a’r hanes yn fyw i ni drwy sgwrs ddifyr a lluniau bendigedig. Roedd yn cofio enwau’r holl anifeiliaid a’r adar lliwgar a welodd. Taith fythgofiadwy. Diolchwyd i Mai am bnawn diddorol ac addysgiadol gan Laura. Ar 21 Chwefror, bydd John Blake yn dod atom i rannu atgofion. Er cof am Dani fach Dymuna Iona, George, Haydn a Siôn ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran yn y daith gerdded ‘Peidiwch ag anghofio’ er cof am Dani. Er gwaethaf y tywydd drwg fe lwyddwyd i gwblhau’r daith a diolch arbennig i’r plant a ddaliodd ati i’r diwedd. Llwyddwyd i godi £3,025.87 a mawr yw ein diolch am y cyfraniadau hael. Diolch £5 Geni Llongyfarchiadau i Vivian ac Alaw ar enedigaeth eu plentyn cyntaf, Rhys Llywelyn, a anwyd ddiwrnod cyn y Nadolig 2017. Mae Rhys yn ŵyr i Meirion a Val, Cwm Mynach, ac i Iwan ac Eirian, Hen Dŷ. Llongyfarchiadau mawr oddi wrth y ddau deulu. Ifan. Rhoi Radio Cymru ’mlaen i Taid er mwyn iddo gael amser i ddarllen y tudalennau chwaraeon ar y cefn! Mor ffodus o dy gael fel tad, taid a hen daid. Wna’i byth anghofio dy eiriau, “Bydd yn hapus, byw yn hapus, paid â gwneud dy hun allan yn well na neb, trin pawb fel yr hoffet cael dy drin dy hun, ond yn fwy na dim, bydd yn onest gyda chdi dy hun.” Diolch i chi i gyd am eich cymorth - teulu, ffrindia’, pobl Dyffryn a’i gydweithwyr amrhisiadwy sy’n dal ar ôl. A diolch i chdi Taid, mi fydd dy atgofion yn cael eu pasio lawr trwy’r cenedlaethau fel y dyn â’r ymennydd a chof anhygoel. GW Diolch Dymuna teulu’r diweddar Evan Richards ddatgan eu diolchiadau diffuant i ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd yn ystod eu profedigaeth. Bu’r holl gardiau, ymweliadau a galwadau ffôn yn gymorth mawr. Ein diolchiadau cynnes i Mrs Gwen Edwards, Mrs Bethan Johnstone a’r Parch Dewi Tudur Lewis am gynnal y gwasanaeth. Ein diolchiadau hefyd i Pritchard a Griffiths am fod mor broffesiynol gyda’r trefniadau. Rhodd £10
Geni mab Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mark a Llio (merch Einion a Rhian Roberts, Modurdy’r Efail), ar enedigaeth mab bach, Gethin Ellis, brawd bach i Ella. Cydymdeimlad Ar 9 Ionawr mewn cartref nyrsio yn Llanarmon yn Iâl bu farw Mrs Elsie Humphreys, gweddw Mr Dic Humphreys. Bu’r ddau’n byw yn y Bermo ac yn Nhal-y-bont. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth. Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Jane Jones, Byngalo Berwyn, yn Ysbyty Bronglais ar 22 Ionawr. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at y teulu yn eu profedigaeth. Clwb Cinio Daeth nifer dda i’r Grapes ym Maentwrog ar 16 Ionawr i fwynhau pryd a sgwrs. Gobeithir fynd i’r Sgwâr yn Nhremadog ar 20 Chwefror. Diolch Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’m teulu, ffrindiau a chymdogion am y cyfarchion a’r anrhegion a dderbyniais ar fy mhen-blwydd yn 90 mis Ionawr. Diolch yn fawr iawn. Diolch a rhodd £10 Enid Thomas, 3 Borthwen
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
CYFARFOD BLYNYDDOL CÔR MEIBION ARDUDWY Adroddiad yr Arweinydd Nododd Aled Morgan Jones ein bod wedi cael blwyddyn brysur unwaith eto. Diolchodd yn fawr i’r holl aelodau am y canu da ac i’r unawdwyr Roger, Kevin, Iwan Morgan, Meirion, Ieuan, Gwilym, Bryn, Bili ac Iwan Morus, am eu cyfraniadau. Roedd cyngerdd Nadolig Aber Artro yn llwyddiant ysgubol, a diolchodd i Phil am drefnu’r noson ac am ei waith fel cyflwynydd. Diolchodd i holl aelodau’r Côr am eu cefnogaeth drwy’r flwyddyn; mae’r gefnogaeth yn ei gwneud yn haws i arwain y Côr. Diolchodd i Andy ac Adrian am symud yr allweddell o gyngerdd i gyngerdd, i Meirion ac Wyn am deithio mor bell i’r ymarferion, i’r swyddogion, Bryn, Iwan, ac Ieuan am eu gwaith yn y cefndir, a diolch mawr i Mervyn am fod yn gadeirydd penigamp. Diolchodd i Gwilym ac Iwan Morgan fel is-arweinyddion, ac i Idris am ei waith cyfeilio. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y daith i Norwy. Croesawodd John ac Ifor i’r Côr. Adroddiad y Cadeirydd Mae 30 aelod yn y Côr erbyn hyn. Y ddau uchafbwynt yn 2017 oedd bod yn westeion i gôr o’r Ffindir ym mis Mehefin a’r cyngerdd Nadolig cofiadwy yn Aber Artro. Diolchodd Mervyn Williams i bawb sydd wedi helpu’r Côr yn ystod y flwyddyn, yn arbennig y swyddogion Ifan, Bryn, Ieuan ac Iwan. Roedd cyfraniad Aled, Idris a Gwilym hefyd yn allweddol i lwyddiant y Côr. Cyfeiriodd at Meirion Thomas, Glyn Roberts a Bill Roberts, tri cyn-aelod a fu farw yn ddiweddar. Adroddiad y Trysorydd Eglurodd Bryn Lewis fod y sefyllfa ariannol yn weddol iach. Clwb 200 Nododd Ieuan Edwards nad oes 200 o aelodau yn y Clwb 200 a bod angen i ni chwilio am ragor o aelodau ar gyfer diwedd mis Mawrth. Diolchodd i bawb am eu cefnogaeth. Ethol swyddogion Cadeirydd: Ifan Lloyd Jones Is-gadeirydd: Mervyn Williams Bydd y swyddogion eraill i gyd yn aros yn eu swyddi. Unrhyw fater arall Mae pryder nad oes lle i gadw creiriau a chofroddion yn y neuadd ymarfer. Mae llawer o’r rhain yn drysorau ac yn haeddu eu cadw yn llygad y cyhoedd. Byddwn yn gofyn eto i’r pwyllgor am ganiatâd i osod cwpwrdd pwrpasol yn y neuadd. Trefnwyd cyngherddau yn 2018 yn Harlech, Llanbedr, Lerpwl, Llwyngwril a’r Drenewydd yn ogystal â’r daith i Norwy. Bwriedir gwneud cryno ddisg mewn cyngerdd byw yn ystod y flwyddyn a threfnir unwaith eto i gael llun swyddogol o’r Côr.
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy IONAWR 2018 1. £40 Rhys Morgan Owen 2. £20 Eleri Jones 3. £10 Llion Dafydd 4. £10 Ronnie Davies 5. £10 Rob Lewis 6. £10 Ieuan Edwards Gallwch ddod yn aelod am £9 a chael cyfle i ennill un o 72 o wobrau yn ystod y flwyddyn - a chefnogi’r Côr yr un pryd! Cysylltwch ag unrhyw aelod o’r Côr.
Gwahodd ceisiadau am dendrau
TENDR 1 Torri gwair a’i glirio unwaith y mis a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus, a chwblhau gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio unwaith y mis yn hen fynwent Llanddwywe a mynwent Llanenddwyn. TENDR 2 Torri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. TENDR 3 Torri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri gwair a’i glirio o amgylch y sedd ym Mro Enddwyn, o amgylch y sedd ar ffordd Ystumgwern, ffordd y Llan a ffordd yr Efail. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflenni tendrau, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau 28.2.18. NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI EI ANFON AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL
CRYNODEB O’R COFNODION Cynllun Cyllideb Adroddwyd bod £37,857.46 wedi ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £1,566.18 o wariant yn llai nag oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Cytunwyd i godi’r gyllideb ar gyfer datblygu y maes parcio o £1,000 i £2,000. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2018/19 Penderfynwyd cadw’r praesept ar £29,742. Ceisiadau Cynllunio Adeiladu 3 ffenestr dormer a dymchwel simdde - Isfryn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn oherwydd nad yw’r datblygiad yn effeithio ar neb arall. Defnyddio’r 10 pod gwersylla sydd wedi cael caniatâd eisoes rhwng Chwefror 14 mewn un blwyddyn a’r 3ydd o Ionawr y flwyddyn olynol a diddymu’r gofyniad i’w symud i’r ardal storio gaeaf - Parc Carafanau a Gwersylla Trawsdir, Llanaber Dim sylwadau i’w wneud ar y cais hwn nes bydd y Cyngor wedi cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cais ee beth yw’r rheolau ynglŷn â phod gwersylla. Roedd gan yr aelodau bryderon y byddai peryg os na fyddai y pods yn cael eu symud byddant yn dod o dan amod statig ac yn cael eu defnyddio drwy’r flwyddyn.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb CHWEFROR
11 Gwennie ac Anthia 18 Rhian a Meryl 28 Huw a Rhian MAWRTH
4 Parch Dd Goronwy P Owen
DYDDIADAU GOSOD LLAIS ARDUDWY 2018
Fel y gŵyr y cyfarwydd, caiff y papur ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf ymhob mis [ar wahân i fis Awst]. Dyma’r dyddiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod: NEWYDDION I LAW Chwefror 26 Mawrth 26 Ebrill 30 Mai 29 Mehefin 25 Awst - 27 Medi 24 Hydref 29 Tachwedd 26
GOSOD Y PAPUR Mawrth 2 Mawrth 30 Mai 4 Mehefin 1 Gorffennaf 6 Awst 31 Medi 28 Tachwedd 2 Tachwedd 30
PAPUR AR WERTH Mawrth 7 Ebrill 4 Mai 9 Mehefin 6 Gorffennaf 4 Medi 5 Hydref 3 Tachwedd 7 Rhagfyr 5
Edward Jones Pugh Bu farw Edward Jones Pugh (Ned), yn wreiddiol o’r Dyffryn, yn 79 mlwydd oed, ar 27 Ionawr. Roedd yn ŵr gweddw ers colli ei wraig Sandra ac yn dad i Carys, tad yng nghyfraith John, llys-dad Carol a David, ac yn frawd hoff i’w naw brawd a chwaer. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol ar ddydd Mercher, 7 Chwefror, yng Nghapel Seilo, Llandudno, ac fe’i rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanrhos. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn yr ardal hon a thu hwnt. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â’n gohebydd Mrs Gwennie Roberts, Branas a’r teulu i gyd ym marwolaeth ei brawd Edward Pugh yn Llandudno yn ddiweddar.
7
HARLECH
Jeff Maidment
Trist cofnodi colli un o hogiau Harlech sef Jeff Maidment. Ar ôl cystudd blin, collodd Jeff y frwydr Ionawr 1. Ganwyd Jeff ar Medi 15, 1948, y canol o dri o blant i Arthur ac Edith Maidment. Byddai yn aml yn helpu yn siop ei rieni gyda’i frawd Barry a’i chwaer Jean. Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Ardudwy roedd yn chwaraewr rygbi brwdfrydig, yn gapten tîm rygbi’r Sir a hefyd yn aelod o dîm ysgolion Gogledd Cymru. Tra ym Mhrifysgol Bangor, roedd yn aelod o’r tîm rygbi cyntaf. Priododd â Jean Day yn 1968, merch Ken a Fanny Day, ag ymgartrefu yn Kidsgrove lle cafodd swydd gydag English Electric. Yn ystod eu cyfnod yn Kidsgrove ganwyd eu mab
cyntaf Robert. Peiriannydd meddalwedd oedd Jeff a bu’n cynllunio meddalwedd ar gyfer y felin ddur awtomatig gyntaf yn Gijon, Sbaen. Treuliodd y teulu naw mis yn Sbaen er mwyn comisiynu’r felin ddur newydd. Ar ôl dychwelyd adref ym mis Gorffennaf 1973, prynwyd eu tŷ cyntaf yn Sandbach a hwn fu ei gartref parhaol. Ganwyd Mathew yn 1973, chwe wythnos cyn symud i Sandbach ac wedyn Joseph yn 1975. Er mai dilyn gyrfa yn cynllunio meddalwedd wnaeth, roedd yn gas gan Jeff gyfrifiaduron. Roedd yn llawer iawn hapusach yn yr awyr agored gyda’i deulu, yn chwarae rygbi neu bêl-droed neu allan yn hela gyda’i ddau sbaniel. Yn 2012, dim ond chwe mis ar ôl derbyn triniaeth garw, cwblhaodd daith gerdded ar hyd Clawdd Offa er budd Ymchwil Canser. Cynhalwyd angladd Jeff yn Amlosgfa Crewe ar Ionawr 16 ac roedd poblogrwydd y teulu yn amlwg gan y niferoedd ddaeth i dalu teyrnged i gyfaill annwyl. Dyn tawel diymhongar yn ganolbwynt ei deulu gyda phleserau syml oedd o. Cydymdeimlwn gyda Jean, Robert, Mathew, Joseph a’u teuluoedd yn eu colled. Rhodd a diolch £20
Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod ar nos Fercher, 10 Ionawr 2018, gan yr Is-lywydd Debbie Jones gan fod y Llywydd, Jan Cole, ar ei gwyliau. Roedd Gwenda Jones yn well ac eisiau diolch i’r aelodau am y cardiau a dderbyniodd gan bawb. Roedd Sue Downes, Libby Williamson a Jenny Dunley hefyd yn cwyno a dymunwyd yn dda i bawb sy’n sâl. Rhoddwyd cerdyn pen-blwydd i Ross a Pat Church. Cydymdeimlwyd â Pat Church oedd wedi colli ei mam yn ddiweddar. Roedd Christine wedi gwneud trefniadau i fynd i’r Ship yn Nhalsarnau ar 25 Ionawr ac hefyd i’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, ym mis Chwefror. Bydd y Clwb Crefft yn dechrau 18 Ionawr efo addurno gwydr gydag Annette Evans. Pleidleisiwyd ar y ‘Cynigion’ a’r hyn a gafodd y rhan fwyaf o bleidleisiau oedd materion yn ymwneud â iechyd meddwl. Fe fydd llythyrau yn gwahodd y gwahanol fudiadau o Sefydliad y Merched yn Grŵp Artro yn cael danfon ddechrau Chwefror at y Noson Gymraeg ym mis Mawrth. Cafwyd cwynion gan rai o’r aelodau gan fod y bysus wedi stopio mynd i’r dre ac i Bermo a Phorthmadog. Bydd Edwina, yr ysgrifennydd, yn sgwennu at Gyngor Gwynedd ar ran Sefydliad y Merched am hyn. Mae Ross wedi dechrau cwmni sydd yn helpu pobl efo cael papur newydd, darparu bwyd, a mynd a nhw i siopio. Os oes gan rhywun ddiddordeb cysylltwch am bamffledi. Maent yn cael eu galw’n ‘Angylion Harlech’, a mae llawer o bamffledi ar gael. Ar ôl gorffen y busnes a chael te, cafwyd bingo wedi ei drefnu gan Edwina a Denise. Roedd pawb wedi cael hwyl, rhai wedi ennill gwobrau ond rhai’n anffodus heb gael dim. Rhoddwyd y diolchiadau gan Jill Houliston.
8
Pen-blwydd Dymuniadau gorau i Mr Bill Cruise oedd yn dathlu penblwydd yn 90 ar 27 Ionawr 2018. Hefyd roedd Emyr Price, 31 Y Waun, yn 60 ar 29 Ionawr.
CYNGOR CYMUNED HARLECH
TORRI GWAIR Gwahoddir ceisiadau am dendrau: 1. i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Teulu’r Castell Harlech o leiaf ddwywaith y Fe fydd cyfarfod Teulu’r Castell flwyddyn oni bai fod y Cyngor ar brynhawn dydd Mawrth, 13 yn dweud yn wahanol. Chwefror, yn Neuadd Goffa 2. i dorri gwair a’i glirio yng Llanfair am 2.00 o’r gloch. nghae chwarae Llyn y Felin o Croeso i unrhyw un ymuno â ni leiaf unwaith y mis a hefyd fel am y prynhawn. bod angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor. Yn yr ysbyty 3. i dorri a chlirio’r gwair o Anfonwn ein cofion at Hazel leiaf unwaith y mis, a hefyd fel Jones, Y Waun sydd wedi treulio bod angen trwy gyfarwyddyd y cyfnod yn yr ysbyty yn diweddar. Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen AR WERTH Hughes, Plas Uchaf ar 01766 Oergell - £40 780971. Dyddiad cau 28.2.18. Rhewgell - £40 Peiriant golchi - pris i’w drafod Capel Jerusalem Ail law, glân ac yn gweithio’n CHWEFROR iawn 11 Parch Iwan Llewelyn Jones Cysylltwch am fanylion ar Undebol am 3.30 772960 neu 07712 676192. 25 Parch Olwen Williams am 2.00
ENGLYN DA
Brys
I beth y rhuthrwn drwy’r byd? - Gwirion yw Gyrru’n wyllt drwy fywyd; Daw blino brysio ryw bryd A daw sefyll disyfyd. Parach O M Lloyd, 1910 -1980
HARLECH TOYOTA
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota
Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn o’r Gymdeithas Gymraeg ar 3 Ionawr 2018 yng ngofal ein gŵr gwadd Mr Raymond Owen, Tal-ybont. Drwy gyfrwng sleidiau a sgwrs fe aeth â ni ar daith gerdded o “Dinas Oleu i Hafod Eryri”. Aethom ar hyd lwybrau, cymoedd, a llynnoedd Y Rhinogydd cyn cyrraedd copa’r Wyddfa. Roedd y daith yn ddiddorol a’r golygfeydd yn anhygoel, a phawb wedi mwynhau yn fawr iawn. Enillydd y raffl oedd Mai Roberts. Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar y 7fed o Chwefror gyda Chwmni Drama Dinas Mawddwy yn ein diddanu am 7 30 yr hwyr. Dewch yn llu.
Teyrnged i Mrs. Margaret Owen Ganwyd Margaret yn ail o bump o blant; tair merch a dau fab yn Afonwen ger Chwilog, Pwllheli ar Mehefin 6, 1917. Bu iddi ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed fis Mehefin diwetha. Derbyniodd ei haddysg yn ysgol Chwilog ac wedi gadael yr ysgol bu’n gweithio fel gwarchodwr plant yng Nghricieth a Phwllheli. Wedi ychydig flynyddoedd yn y swydd hon aeth i ysbyty Alder Hay yn Lerpwl i dderbyn hyfforddiant i fod yn nyrs. Yn fuan wedi hyn torrodd y rhyfel allan ac fe’i perswadiwyd i adael y ddinas a dychwelyd i’w milltir sgwâr gan weithio fel nyrs plant ym Mhwllheli. Yn y cyfnod hwn bu iddi gyfarfod â bachgen o Ddolgellau a fu ymhen ychydig flynyddoedd ddyfod yn ŵr iddi. Y gŵr hwn oedd Robert William Owen, gŵr o gymeriad ffraeth a adwaenir fel ‘Robin ’. Bu iddynt briodi ar y 15fed o Ebrill, 1944. Dechreuad ei bywyd priodasol oedd edrych ar ôl ei mam yng nghyfaith a gafodd strôc ar ddiwrnod eu priodas. Bu i’r orchwyl hon barhau am rai blynyddoedd. Roedd y ddau yn hoff iawn o ganu a bu i Robin ei hannog a’i chefnogi yn y maes hwn. Daeth hi a’i ffrind Marian Eames at ei gilydd i bracteisio cerdd dant yng nghartref Margaret, Brynfa gerllaw eglwys y Tabernacl O’r Amwythig yn Nolgellau. Marian ar y delyn i ddechrau a thrwy annogaeth Robin Mae Gwen Johanson a Mair ffurfiwyd deuawd cerdd dant. Bu iddynt ennill ar y ddeuawd cerdd dant Jones, gynt o Bermo yn aelodau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerffill yn 1950, pryd hefyd yr o Gymdeithas Gymraeg yr enillodd Margaret ar yr unawd cerdd dant. Mawr oedd y balchder ar y Amwythig. O ddiddordeb, dyma maes y diwrnod hwnnw. gân y Gymdeithas honno. Yn ystod eu priodas anodd iawn oedd sôn am un heb sôn am y llall ac yr oedd y naill yn gefn mawr i’r llall. Heb ei egni a’i ysbrydoliaeth ef digon Cân y Gymdeithas posib y byddai’r peth wedi gorffen yn y fan yna ond na, mynnai Robin ffurfio parti a’i alw’n ‘Parti Wnion’ i fynd o amgylch y wlad yn cadw Dros ffin ein gwlad ymgasglwn cyngherddau. Gŵr y tu ôl i’r llenni, fel petai oedd Robin yn y dyddiau I gadw’n iaith yn bur hynny tra roedd Margaret ac aelodau eraill y parti yn perfformio. Ond yr A meithrin hen draddodiad oedd yn rhan annatod o’r cwmni, yn trefnu ble i fynd nesaf, yn sioffer ac yn gwlad cario’r delyn. Yr oedd ei frwdfrydedd yn heintus ac yn cadw’r parti gyda’i Y Cymry yn y tir gilydd am rai blynyddoedd. Gyda’i gefnogaeth fyrlymus aeth Margaret yn A chyfarch ffrindiau yn yr iaith ei blaen i ennill rhagor o wobrwyon cenedlaethol a dod yn feirniad o fri. A fu mewn bod er amser maith. Ond bu newid byd ar y ddau yn enwedig i Robin o fod yn ddreifar lorri laeth gan symud i’r Bermo i fod yn Rheolwr Tafarn Laeth Meirion yn Ymdaenu drosom beunydd 1958. Mewn dim o amser yr oeddynt wedi ymgartrefu ac wedi gwneud ei braich, a wna’r hen wlad ffrindiau newydd, a bu’r Bermo yn ffordd i’w tynnu allan mewn ffordd newydd sbon. Ffurfiwyd parti newydd a’r tro hwn clywyd dawn newydd A ninnau oll a’i carwn hi ar lwyfannau Cymru, pan glywyd triawd o feibion yn canu ‘Wil Coes A serch o hir barhad A chanu wnawn, â gwefr di-lyth Bren’ lawer gwaith. Treuliodd y parti lawer awr yn diddori ymwelwyr yng ngwesty Min y Môr yn y Bermo yn ystod misoedd yr haf. Cymraeg Amwythig fydd byw Pan symudon i’r Bermo bu Margaret yn Rheolwraig ar y dafarn laeth efo am byth. Robin nes iddi gael swydd yn Ysgol y Traeth yn edrych ar ôl plant anabl, May Dolphin lle’r oedd wrth ei bodd ac yn uchel iawn ei pharch. Bu iddi aros yn y swydd hon nes iddi ymddeol. Treuliodd lawr iawn o’i hamser yn dysgu plant a phobl hŷn i ganu yn Nolgellau ac wedi iddi symud i’r Bermo, bu i rai ohonynt ennill gwobrau CASGLU A sylweddol. DOSBARTHU’R Roedd yn aelod selog iawn o Orsedd y Beirdd gan fynychu’r eisteddfod yn y gogledd a’r de yn selog iawn a hynny am flynyddoedd maith a gwnaeth PAPUR ffrindiau da yn y mudiad hwn hefyd. Cawsom ddau ymateb yn dilyn Bu iddi golli Robin ar y 4ydd. o Orffennaf, 1987, ond cadwodd ei hun yn ein cais diweddar am gymorth brysur a buan y death i ymwneud ag amryw o fudiadau yn y cylch cyn ac wedi ei hymddeoliad. Ymunodd â’r ‘League of Friends’ ac yr oedd yn un i ddosbarthu’r papur. Diolch o’r grŵp a gychwynnodd y mudiad ‘Friends of Hafod Mawddach’. Daeth i’r ddau am eo parodrwydd i i ymwneud â’r ‘Clwb Ffrindiau’ lleol ym Min y Môr yn ddiweddarch gan helpu. ‘dendio’ ar rai oedd yn llawer ieuengach na hi a chael cysur mawr yn Os oes gennych ddiddordeb gwneud hyn. Bu hefyd yn aelod selog o’r gangen leol o ‘Ferched y Wawr’ mewn rhannu’r baich, yna ac yn ddiacon yn Eglwys Siloam Bermo am rai blynyddoedd. Pan yn ei dewch i gysylltiad ag un o’r wythdegau daeth yn aelod o grŵp cerdded lleol i bobl hŷn; ‘Cerdded er golygyddion. Diolch yn fawr. mwyn Iechyd’ a mawr oedd ei diddordeb ar deithiau byr o amgylch Bermo. brysur a buan y daeth i ymwneud ag amryw o fudiadau yn y cylch cyn ac
Llais Ardudwy
wedi ei hymddeoliad. Ymunodd a’r ‘League of Friends’ a chael rhan mewn cychwyn ‘Cyfeillion Hafod Mawddach’. Daeth i ymwneud a’r ‘Clwb Ffrindiau’ ym Min y Môr yn ddiweddarch gan ‘dendio’ ar rai oedd yn llawer ieuengach na hi. Bu hefyd yn aelod selog o’r gangen leol o ‘Ferched y Wawr’ ac yn ddiacon yn Eglwys Siloam am rai blynyddoedd. Pan yn ei wythdegau daeth yn aelod o grŵp cerdded lleol i bobl hŷn; ‘Cerdded er mwyn Iechyd’ a mawr oedd ei diddordeb ar deithiau byr o amgylch Bermo. Pallodd ei golwg ddechrau’r ganrif hon ac o achos dirywiad yn ei hiechyd symudodd i gartref Hafod Mawddach yn barhaol yn 2011 lle cafodd ofal diflino a hynod ymroddgar gan y staff. Chlywech chi byth mohoni yn cwyno am ei lle. Daeth cerdyn i law yn fuan wedi iddi farw yn sôn am Anti Margaret a nodwyd ei bod yn wraig dalentog oedd yn rhannu ei doniau ag eraill. Soniwyd mwy am y coffa da fydd amdani gyda llawer o gariad a hoffter. Trwy ei hymroddiad a’i hagosatrwydd ymddengys iddi fod yn ‘Anti’ i lawer.
Merched y Wawr Cyfarfu’r gangen nos Fawrth Ionawr 16. Croesawodd Llewela yr aelodau i’r cyfarfod. Cydymdeimlodd hefyd â Mair o golli ei modryb Margaret Owen a thalodd deyrnged i Margaret a fu’n aelod gwerthfawr o’r gangen er pan gafodd ei sefydlu, a lle bu hefyd yn Llywydd yn y dyddiau cynnar. Trafodwyd yr Ŵyl Ranbarth ar Ebrill 25 yn Nhrawsfynydd ac hefyd yr Ŵyl Pum Rhanbarth, ddydd Sadwrn ar Fai 12. Croesawodd Llewela, Mai a Dei, Garej Dyffryn Ardudwy i’n plith. Thema’r noson oedd eu hymweliad â Rhaeadr Fictoria a’r cyffiniau yn Zimbabwe. Roedd y sleidiau’n wych gyda lluniau o’r anifeiliaid gwylltion yn arbennig iawn. Diolchwyd iddynt gan Jean am noson fendigedig ac addysgiadol iawn. Jean a Mair oedd yng ngofal y te a Jean hefyd oedd enillydd y raffl. Colli Dr Gareth Gyda thristwch mawr y cofnodir marwolaeth Dr Gareth Williams. Craig-yr-wylan, Llanaber a fu dan anhwylder am gyfnod estynedig. Roedd parch aruthrol iddo yn yr ardal hon. Anfonwn ein cofion at y teulu yn eu galar. Bwriadwn gynnwys coffâd llawn iddo yn ein rhifyn nesaf.
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Cydymdeimlad Gwynfor Lloyd Williams Estynnwn ein cydymdeimlad i Beryl Williams, Angorfa a’r teulu oll yn eu profedigaeth ddiweddar o golli Gwynfor (Ging), gŵr, tad, taid a hen daid hoff ganddyn nhw i gyd. Rydym hefyd yn meddwl am Iona, ei chwaer, sydd yn byw yn ardal Wrecsam, ac yn cofio ati hithau. Rhian Lloyd Lockett Gyda thristwch y cofnodwn y newydd trist am golli Rhian, mam annwyl Gwion ac Emma a nain hoff y plant. Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant iddynt, ac i Angharad, ei chwaer, yn eu profedigaeth. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Deborah Williams, Caryl, Geraint a’r teulu, Gwrach Ynys, yn eu profedigaeth o golli mam Deborah ym Mhontllyfni yn ddiweddar. Rydym yn meddwl amdanoch yn eich colled. Neuadd Gymuned Yn dilyn cau dau gapel yn yr ardal, rhagwelwn hwyrach y gallai fod anhawster i gynnal rhai gwasanaethau. Dan rhai amgylchiadau, gallai’r niferoedd fod yn broblem. Hoffem felly roi gwybod bod adnoddau i gynnal gwasanaethau ar gael yn Neuadd Gymuned Talsarnau. Ymholiadau pellach, cysylltwch â Mai Jones ar 01766 770757.
Menna Ifans Mae’r arian, sef union dri chan punt, a gasglwyd ar ddiwedd cynhebrwng y diweddar Menna Ifans, Ty’n Bonc, plwyf Llandecwyn, ac wedi hynny, wedi’i drosglwyddo i ofal Tŷ Gobaith. Diolchir i’r Trysorydd diwyd Meinir Lloyd Jones, Llwyn Hudol, Penrhyndeudraeth, am dderbyn y rhodd. Ar ran y gwahanol deuluoedd, diolchwn i’r trefnwr angladdau, sef Malcolm Griffiths, a’r staff yn Nhremadog, ac i chwithau am y ffasiwn haelioni o’ch eiddo. Mi roedd Tŷ Gobaith bob amser yn agos iawn at galon y diweddar Menna Ifans. Ylwch! Diolch i chwi i gyd. Rhodd £10 Diolch Dymuna John a Gwyneth Richards, 2 Bryn Eithin, Llandecwyn gydnabod yn ddiolchgar iawn pob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod eu profedigaeth o golli Evan Richards, tad John. Rhodd £10
Capel Newydd
Oedfaon am 6:00 CHWEFROR 11 - Dewi Tudur 18 - Dewi Tudur 25 - Dafydd Job MAWRTH 4 - Dewi Tudur. Croeso cynnes i bawb. Pam na ddowch chi? Mae tro cyntaf i bopeth!
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
10
Merched y Wawr Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf 2018 ar nos Lun, 8 Ionawr. Derbyniwyd ymddiheuriad gan hanner yr aelodau, a hefyd ni chafwyd cwmni’r dysgwyr oherwydd gwahanol resymau. Trefnwyd tîm ar gyfer y gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglanllyn ar 23 Chwefror. Cyhoeddwyd Gŵyl Ranbarth Meirion yn Nhrawsfynydd ar 25 Ebrill - yr enwau i mewn yn y cyfarfod nesaf. Trafodwyd cyfarfod Gŵyl Ddewi ar 5 Mawrth a phenderfynwyd Cyfleusterau i gynnal noson o gawl a chân Mae cyfleusterau’n y Neuadd yn y Neuadd ac i wahodd dwy i chwarae bowls, gyda dau fat Gangen atom – Harlech a hir sy’n agor ar hyd y Neuadd, Thrawsfynydd, gydag adloniant ynghyd â’r holl offer sydd ei angen i’w weithredu. Gallai hyn gan Band Arall. Er mwyn peidio mynd adre heb fod yn fodd i ffurfio clwb arall i gael rhyw adloniant, wrth aros bobol iau gyda’r nos fel modd i am y baned, rhoddwyd rhestr o gadw’n iach. Oherwydd maint ddiarhebion i bawb gydag storfa’r neuadd, teimlwn mai gwastraff yw cadw’r matiau yma ond cytseiniaid wedi’u nodi a rhoi’r dasg iddynt i ddod o heb neb yn eu defnyddio. Bydd hyd i’r ddihareb gyflawn. Yna Pwyllgor y Neuadd yn falch o i fyd hollol wahanol a chael dderbyn syniadau am hyn. perfformiad gan Anwen ar droelli plât ar ben ffon heb Cydymdeimlad stopio - a heb i’r plât ddisgyn! Cydymdeimlwn â Margaret Roedd yn amlwg bod Anwen yn Williams a’r teulu, 13 Cilfor ar hen law arni ac yn cael hwyl ar farwolaeth ei thad yn y Bermo y troelli - ac er i bawb oedd yno yn ddiweddar. geisio gwneud yr un peth, ni chafwyd lawer o lwyddiant gan Clwb y Werin yr un ohonom! Yng nghanol Bu’n ddechrau da i’n blwyddyn llawer o chwerthin, mwynhawyd i gael cinio yn nhafarn y Ship, Talsarnau ddydd Llun, 8 Ionawr yr adloniant gwahanol ac 2018 – 15 yn bresennol, 14 aelod, annisgwyl yma! ynghyd ag Alan, sy’n dod â’i fam Anwen a Mai oedd yn gyfrifol am y baned ac enillwyd y raffl o Harlech bob wythnos ac yn gan Gwenda. ein helpu hefo gosod y byrddau a’r cadeiriau yn y neuadd. Dyma’n cyfle i ddangos ein Cydnabyddiaeth gwerthfawrogiad iddo - diolch Dymuna John Richards, 2 Alan. Bryn Eithin, ddiolch i’m holl Cawsom ginio ardderchog. gwsmeriaid am eu cwsmeriaeth Diolchodd Eirlys i Gwenda tra’r oeddwn yn gwasanaethu am wneud y trefniadau, ac i’r boileri olew ac yn y blaen. Gwesty am y wledd a’i gwnaeth Byddaf yn rhoi gorau i’r gwaith yn bnawn cofiadwy a hwyliog i yma ddiwedd Chwefror 2018. ni i gyd. Rhodd £10 Bydd Clwb y Werin yn cyfarfod Rhoddion yn wythnosol (heblaw am Ŵyl Diolch am y rhodd o £10 gan y Banc) yn Neuadd Gymuned Eluned Williams, Hafan, Talsarnau, ar bnawn dydd Llun, a Trefor ac Annwen Hughes, rhwng 1.30 a 3.30 o’r gloch, ac Plas Uchaf. mae’r Swyddfa Bost yma hefyd yn ystod yr amser yma. Mae Neuadd Talsarnau gennym ystafell fechan, glyd GYRFA CHWIST gyda dewis o gemau i’w chwarae, Nos Iau, Chwefror 8 hefo paned i ddilyn. Croeso i am 7.30 o’r gloch aelodau newydd. Cyfeillion y Neuadd Gair i’ch atgoffa ei bod yn amser derbyn eich cyfraniad blynyddol. Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth unwaith eto a gofynnwn yn garedig i chi roi eich arian un ai i Colin Rayner, Gwenda Griffiths neu Margaret Roberts yn ôl y manylion canlynol: £20 i deulu (2 oedolyn + plant oed ysgol), £10 i oedolyn a £5 i bensiynwr. Byddwch yn derbyn tocyn aelodaeth am y flwyddyn.
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU
CYNGOR CYMUNED HARLECH
Cynllun Cyllideb Adroddwyd bod £10,710.16 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,287.00 o wariant yn llai nag oedd wedi ei glustnodi yn y gyllideb. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2018/19 Gan fod y Cyngor wedi cytuno i ddatblygu’r maes parcio yng Nghilfor a bod angen cynnal a chadw’r cae chwarae a’r maes parcio newydd, penderfynwyd codi’r praesept o £15,000 i £20,000. Cofeb Llandecwyn Oherwydd bod Capel Brontecwyn wedi cau, mae angen symud y gofeb o’i lleoliad presennol. Bydd Eifion Williams a John Richards yn gwneud ymholiadau ynglŷn â safle addas. Ceisiadau Cynllunio Estyniad ffrynt unllawr - 4 Caerffynnon. Cefnogi’r cais hwn. Estyniad ffrynt unllawr - 5 Caerffynnon. Cefnogi’r cais hwn. Gohebiaeth Derbyniwyd cytundeb gan BT ynglŷn â’r blychau ffôn nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio yn Llandecwyn a’r Ynys. Mae’r Cyngor wedi eu harchebu am £1 yr un er mwyn gosod diffribiliwr ynddyn nhw. Bydd hyn yn trosglwyddo i gyfrifoldeb pwyllgor y Neuadd Bentref. Bydd y Cyngor yn archebu y diffribilwyr ar ran Pwyllgor y Neuadd.
Cyllideb Adroddwyd bod gwariant y Cyngor yn £33,681.79 ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £14,327.41 o wariant yn llai nag oedd wedi ei glustnodi yn y gyllideb. Oherwydd nad oedd yr aelodau wedi codi’r praesept yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, nid oedd y sefyllfa ariannol yn un iach. Cytunwyd yn unfrydol nad oedd y praesept wedi ei chodi’n ddigonol ym mis Ionawr 2017. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2018/19 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesaf, hefyd rŵan fod y Cyngor wedi cytuno i roi cyfraniad am y pum mlynedd nesaf i Hamdden Harlech ac Ardudwy, cyfrannu at y bartneriaeth gyda Cyngor Gwynedd i gadw’r toiledau yn agored, hefyd bod angen gwneud gwaith brys cynnal a chadw ar yr Hen Ladd-dŷ a chodi wal yn y fynwent gyhoeddus, heblaw am y costau eraill oedd eu hangen i redeg y Cyngor o fis i fis, penderfynwyd bod angen codi’r praesept i £70,000. Cyfarfod Adfywio Harlech - 20.12.17 Cyfarfod cychwynnol oedd hwn gyda’r gwahanol grwpiau yn y dref. Roedd penderfyniad wedi ei wneud i’r Cyngor gydweithio mwy hefo ‘Harlech ar Waith’. Bydd penderfyniad ynglŷn â Gwesty Dewi Sant yn gorfod cael ei wneud erbyn diwedd y mis hwn. Bu trafodaeth ynglŷn â’r pryderon gyda’r gwasanaeth bws yn yr ardal gan fod cwmnïau newydd wedi gorfod cymryd drosodd. Materion Cyngor Gwynedd Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi derbyn sawl cŵyn ynglŷn â’r gwasanaeth bws newydd a’i bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â’r sefyllfa. Cynhelir cyfarfod rhwng y Cynghorwyr Sir lleol a Chyngor Gwynedd yn y dyfodol agos i drafod y sefyllfa. Datganwyd pryder bod honiadau fod Bont Briwet yn cau a chytunodd Freya Bentham i holi ynghylch hyn. Ceisiadau cynllunio Adeiladu estyniad unllawr yn y cefn, dymchwel simnai ac ad-drefnu siâp y to presennol - Aldburie, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.
TORRI GWAIR
Gwahoddir ceisiadau am dendrau: 1. i dorri gwair a’i glirio a chwblhau gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau. 2. i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. 3. i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, a hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau. Am fwy o fanylion a chopi o’r tri chytundeb uchod, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.18.
CAU CAPEL BRYNTECWYN Cynhaliwyd y Gwasanaeth olaf ym Mryntecwyn nos Fawrth, 16 Ionawr 2018 am 6.30 o’r gloch dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Parry Ephraim. Daeth cynulleidfa deilwng i’r gwasanaeth ac estynnwyd croeso cynnes i bawb, yn gynrychiolwyr yr Henaduriaeth, yn aelodau a chyn-aelodau a chyfeillion eraill. Croesawyd yn arbennig rai a ddaeth o bell, ac a fu’n gynaelodau yma – Robert ac Eurwen Jones a’u merch Sharon Owen o Sir Fôn, ac un arall a ddaeth ymhellach fyth – Bili Jones, trysorydd cyntaf y Capel a fu wrth y gwaith am bymtheng mlynedd, wedi dod o’r Ynys Werdd! Roedd y Gwasanaeth wedi’i baratoi’n drefnus gan y Parch Anita Ephraim a hi arweiniodd y cyfarfod. Cafwyd darlleniadau o’r Beibl gan Mrs Mai Jones, gweddi gan y Parch Christopher Prew, Porthmadog a phregeth gan y Parch Iwan Llewelyn Jones, Borth-y-gest. Cyflwynodd Mrs Ella Wynne Jones gefndir i hanes yr Eglwys a sefydlwyd yn 1880, gan gyfeirio’n arbennig at ail-ddechrau’r Ysgol Sul yma’n niwedd y 60au, gyda Mr Gwilym Owen, Warden gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, yn arolygwr, a hithau’n ei gynorthwyo, yn enwedig trwy ddysgu’r plant i ganu. Tyfodd yr Ysgol Sul i fod yn hynod o lwyddiannus gyda nifer fawr o blant yn mynychu dros y blynyddoedd. Olrheiniodd hanes yr eglwys yn fras ers hynny, gan egluro sut y daeth y Parch Anita Ephraim i gael ei sefydlu yn Weinidog rhan-amser yma’n 2006 ac mor ffodus y buom o’i chael fel Gweinidog. Mrs Mai Jones oedd wrth yr organ ac roedd canu bendigedig, gyda nifer o leisiau da yn creu naws ardderchog. Cafwyd cyflwyniad byr ar y diwedd gan Anita Ephraim a mynegodd ei gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth a’r cyfeillgarwch gafodd hi ym Mryntecwyn ers iddi ddechrau ddod atom i bregethu tua 26 o flynyddoedd yn ôl, ac yn enwedig ers ei sefydlu yn Weinidog yma yng Ngorffennaf 2006. Wedi canu’r emyn olaf, cydadroddwyd y fendith i ddiweddu. Roedd swyddogion y capel wedi trefnu lluniaeth ysgafn, wedi’i baratoi gan Einir Jones, Bryn Eithin, i bawb ei fwynhau cyn mynd adref a bu hyn yn ddiweddglo braf i’r noson gyda phawb yn cael y cyfle i sgwrsio a hel atgofion. Diolch i bawb a fynychodd y Gwasanaeth – da oedd cael eich cwmni am y tro olaf ym Mryntecwyn.
NEWYDDION YR URDD Choeliwch chi fyth ond mae yna dros fis wedi mynd heibio ers y flwyddyn newydd ac mae llawer iawn o bobl yn cynllunio’n brysur ar gyfer eu gwyliau haf. Ond, i lawer iawn o aelodau’r Urdd yn Ardudwy a thu hwnt, ceisio taro’r nodau cywir yn ogystal â pherffeithio’r grefft o lefaru a dawnsio yn gywir sydd ar eu meddyliau. Ia wir, mae hi’n gyfnod yr Eisteddfodau yn lleol i’r Cynradd a’r Uwchradd Eisteddfod Cylch Nodyn pwysig i atgoffa pawb mai’r dyddiad cau er mwyn cofrestru i gystadlu yn yr Eisteddfod Cylch eleni yw dydd Mawrth, 13 Chwefror am 6yh. Bydd posib gwirio’r wybodaeth yma hyd at ddydd Gwener, 16 Chwefror am 6yh. Bydd angen bod yn aelod i gystadlu ac mae’n bosib ymaelodi drwy fynd i safle we’r Urdd a dilyn y cyfarwyddiau yna. Cynhelir yr Eisteddfod Cylch yn Ysgol Ardudwy ar 3ydd Mawrth Nofio Diolch yn fawr iawn i’r plant a’r oedolion hynny aeth lawr i’r nofio cenedlaethol yn ddiweddar. Roedd yna garfan dda yn teithio i lawr yr A470 a rhoddwyd perfformiadau llawn egni ar y diwrnod ac fe all pawb fod yn falch iawn; mae’n bluen yn eu het. Daliwch ati. Pêl-droed Talaith y Gogledd Timau o fechgyn a merched B7 a B8 Ysgol Ardudwy gafodd y cyfle i gystadlu yng Nghanolfan Hamdden Brailsford, Bangor yn erbyn pump ar hugain o dimau eraill yn ddiweddar. Llwyddodd y bechgyn i gyrraedd y gemau cyn-derfynol a chawsant eu curo gan Ysgol Brynrefail yn y pedwar olaf a Rhyl wedyn yn eu trechu i ddod yn drydydd. Felly safle parchus o bedwerydd a hyn yn erbyn timau cryf o Ysgolion mawr. Perfformiadau penigamp gan bawb i ddweud y lleiaf. Diolch am eich cefnogaeth. Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd
11
CYFARFOD TE YN SOAR
Dechrau’r Flwyddyn Capel Soar 175 o flynyddoedd yn ôl i eleni, ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror 1843, cynhaliwyd Cyfarfod Te yn Soar, Talsarnau, i gynorthwyo yr achos yn y Gylchdaith Wesleaidd yn bennaf. Hwnnw oedd y cyfarfod cyntaf o’i fath a gynhaliwyd yn y Gylchdaith honno. Ac oherwydd ei fod yn beth mor ddiarth yn yr ardal, yr oedd ambell un gwan yn arswydo yn ddirfawr – yn amau ei ddiniweidrwydd a’i ddefnyddioldeb – ac yn disgwyl yn bendant y byddai i’r “peth diarth” ddod i ymweld â hwy â llaw drom i daro yr achos i lawr, yn hytrach nac â braich gref i’w godi yn uwch i’r lan. Sut bynnag nid oedd eu hofnau hwy, druan, yn peri unrhyw ddigalonrwydd ar y rhai oedd yn gofalu dros yr achos yno, ac aethant ymlaen yn galonog: ac yn ôl adroddiad y wasg, gwnaed yn amgenach na disgwyliadau y ffyddloniaid heb sôn am ofnau’r gweiniaid. Am 3.00 o’r gloch y prynhawn, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel, pryd y bu i amryw o frodyr diarth gyfarch gorsedd gras, a chafwyd arwyddion amlwg o bresenoldeb Pen mawr yr Eglwys. Am 4 o’r gloch, terfynwyd y cyfarfod gweddi, a hysbyswyd y gynulleidfa fod y paratoadau yn barod yn yr Ysgoldy yn perthyn i’r capel. Wedi llond y capel, gofynnwyd bendith ar y bwyd, ac aed ymlaen yn llawen a chyfeillgar, eto yn hollol syml. Wedi i bawb gael eu digon, cyd-ganwyd yn wresog yr emyn: “Am luniaeth corff rhown fawl i Dduw, ayyb”.
12
Yr amcan oedd cael ychydig i areithio ar ôl y bwyd; ond oherwydd fod yna nifer mawr drachefn oedd yn disgwyl am le i ddod i mewn, bu rhaid anghofio hynny i roi lle iddynt hwy. Ar ôl y rhai hyn cafodd y plant eu gwala o’r bwyd moethus. Am 6 o’r gloch, daeth tyrfa fawr i Soar, a thraddodwyd yno ddwy bregeth, un gan y Parch R Bonner, a’r llall gan B Roberts, Maentwrog. Ar ôl yr oedfa cyflwynwyd diolch gwresog i bawb a fu mor ymdrechgar gyda’r cyfarfod, ond yn neilltuol i’r teuluoedd haelionus a gymerasant holl draul y cyfarfod arnynt eu hunain, ynghyd â thalu am eu tocyn. Hysbyswyd drachefn fod digonedd o fwyd i’r bobl ddiarth cyn cychwyn am adref; a gwelyau i’r rhai hynny oedd wedi dod o bellter. Mewn canlyniad swperodd rhai ac yna mynd adref, tra yr arhosodd eraill hyd drannoeth gyda’r teuluoedd caredig yn ardal Soar. Yr oedd yr elw oddi wrtho’n llawer mwy na’r disgwyliad, a phawb yn lleisio, “Pa bryd y cawn ninnau un?” W Arvon Roberts, Pwllheli
SAMARIAID Llinell Gymraeg
0808 164 0123
Gobeithio nad yw’n rhy hwyr i mi gael dymuno Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Llais Ardudwy ac i ofyn iddyn nhw tybed beth yw’r cysylltiad rhwng afon Dyfi a’r Cup Final. Y tro diwethaf, soniais am y Plygain a’r modd y mae cyfarfodydd Plygain yn ennill yn eu poblogrwydd yn enwedig yn y gogledd. Nid yw hyn mor wir, fodd bynnag, am yr hen arferiad cyffredin o gynnal cyfarfod gweddi ar ddechrau’r flwyddyn. Byddai’r capeli bron i gyd yn gwneud hyn ychydig ddegawdau yn ôl ac fe gaed yr hen flaenoriaid yn gweddio’n helaeth o’r frest ac yn ledio emynau fyddai’n boblogaidd o ddechrau blwyddyn hyd ddechrau blwyddyn. Un o’r rheini wrth gwrs oedd ac yw emyn Nantlais ‘Yn dy law y mae f ’amserau’ a chredaf fod un arall o’r emynau yma yn un o’r emynau gorau sydd genym yn yr iaith Gymraeg – dyma emyn rhif 92 yn Caneuon Ffydd. Mae’r pennill cyntaf fel hyn ‘Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron, Ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon; Trwy blygion tywyll ei dyfodol hi, Arweinydd anffaeledig, arwain fi.’
Awdur yr emyn yw Thomas John Pritchard 1853–1918, brodor o Eglwys Fach yn sir Geredigion a ddefnyddiai’r enw barddonol ‘Glan Dyfi’. Roedd yn weinidog gyda’r Wesleaid mewn sawl cylchdaith yn Ne Cymru ac yn olygydd eu cylchgrawn sef ‘Y Winllan’. Yn ôl Hanes Ystadegol yr Eglwys Fethodistaidd, fe fu farw yng Nghaerodor (Bryste) ond yn ôl llyfr Emynau a’u
Hawduriaid gan John Thickens yng Nghaerdydd y bu farw. Yr oedd ganddo frawd, Joseph Pritchard oedd hefyd yn weinidog gyda’r Wesleaid ac a anwyd yn yr un flwyddyn (efeilliaid efallai?) ac a fu farw yn 1912 yng Nghaerdydd. Credaf fod pennill olaf yr emyn yn un o’r penillion mwyaf gafaelgar yn ein hemynyddiaeth ac y mae’n addas i’w ganu, nid yn unig ar ddechrau blwyddyn ond hefyd ar unrhyw adeg: ‘Heneiddia’r greadigaeth, palla dyn, Diflanna oesoedd byd o un i un; Er cilio popeth, un o hyd wyt ti: Y digyfnewid Dduw, o arwain fi.’
Yr ydym yn ffodus fod yr emyn yma yn Caneuon Ffydd gan na chynhwyswyd ef yn llyfrau’r Annibynwyr na’r Bedyddwyr. Roedd, fodd bynnag, yn Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd. Y dôn yn Caneuon Ffydd yw’r dôn ‘Holley’ gan George Hews. Efallai y dyliwn nodi nad hwn yw’r un gŵr a ymddangosai yn C’mon Midffild ond Americanwr oedd yn byw o 1806 i 1873 ym Massachusetts. Gŵr amryddawn oedd hwn. Roedd yn ganwr, yn organydd, yn athro ac yn wneuthurwr pianos ac mae’r dôn i’r dim yn cyfleu yr ansicrwydd a’r hyder cyferbynniol a geir yn y geiriau. Yn yr hen lyfr Emynau rhoddwyd dwy dôn uwchben y geiriau. Un ohonynt yw Troyte’s Chant sy’n boblogaidd iawn o hyd a’r llall yw Eventide gan W H Monk. Mae’r dôn ‘Eventide’ yn gyfarwydd i ni, wrth gwrs ar y geiriau Saesneg ‘Abide with Me’. Mae yna rywfaint o dystiolaeth bod T J Pritchard wedi cyfansoddi’r geiriau ar gyfer y dôn ‘Eventide’ ac wrth gwrs maen nhw’n priodi’n dda. Yn ychwanegol, mae yna ambell i adlais o ‘Abide With Me’ yng ngeiriau emyn T J Pritchard. A’r Cup Final? Wel, wrth gwrs fe genir ‘Abide With Me’ ar y dôn ‘Eventide’ wrth gychwyn y gêm er mae’n debyg nad yw enw T J Pritchard ar feddwl llawer o’r rhai sy’n bresennol! JBW
CHWILIO AM EI WREIDDIAU
Yn ddiweddar, cawsom roi croeso i ŵr ifanc a ddaeth yma i weld yr ardal a chael ymdeimlad o ble daeth ei deulu. Mae Emlyn Stephens yn ŵyr i Stephen Stephens a ymfudodd o Faes-y-garnedd i Ganada yn nechrau’r pumdegau. Dafydd, mab Stephen yw tad Emlyn. Nid oedd Cymraeg ar yr aelwyd yng Nghanada gan nad oedd y fam, o ardal Wrecsam, yn siarad yr iaith. Er hynny, yr oedd gan Dafydd ddiddordeb ac aeth ati i ddysgu’r iaith yn rhugl. Pan ddaeth i’r drws tua phum mlynedd yn ôl credais mai Cymro oedd o. Mae’r brwdfrydedd am Gymru a’r iaith yn amlwg yn enwau’r plant, Emlyn, Bryn a Gwyneth. Ar ôl bod mewn amryw o wledydd, ymgartrefodd Dafydd a’i wraig Lorena, sy’n wreiddiol o Chile, ym Munich ac yno mae’r plant wedi eu magu. Nid yw Emlyn yn siarad Cymraeg yn rhugl ond fe all ddweud ychydig frawddegau Cymraeg gydag ynganiad sy’n gwneud i rywun feddwl mai un o Batagonia ydi o; dylanwad Sbaeneg, sef iaith ei fam, sy’n cael ei defnyddio yn y cartref. Roedd yn amlwg o’r cyfarfod cyntaf fod yr iaith a’r ardal yn bwysig iawn i Emlyn a’r croeso a gafodd yn ei wneud i deimlo yn gartrefol iawn. Bu’n cyfarfod â Gweneira Jones, Allt Goch sydd â chofion o fod yn yr ysgol gyda’i daid (Taid mae o yn ei alw), a rhai lluniau o blant yn ysgol Cwm Nantcol. Cafodd groeso mawr a gwahoddiad i’r tŷ ym Maes-y-garnedd. Mae’n debyg mai dyma oedd uchafbwynt yr ymweliad iddo. Mae Emlyn yn ddiolchgar iawn am y croeso. Buasai wedi hoffi cyfarfod ag eraill ond ychydig o amser oedd ganddo cyn cychwyn yn ôl am yr Almaen ac roedd rhaid ymweld â’r gangen o’r teulu sy’n byw ym Môn. “Byddaf yn dod yn ôl,” oedd ei addewid wrth ymadael. IJ
Llais Ardudwy
CANOLFAN HAMDDEN ARDUDWY
CYSTADLEUAETH
Ysgrifennu tair erthygl ar gyfer Llais Ardudwy, oddeutu 600 gair ar unrhyw bwnc.
Mae £100 o wobr ar gael i’w rhannu rhwng y buddugwyr yn unol â barn y beirniaid. Beirniaid: Golygyddion Llais Ardudwy Dyddiad cau: Y deunydd i gyrraedd unrhyw olygydd erbyn diwedd mis Mawrth 2018.
Pnawn Sadwrn Chwefror 17 am 2.30 £1 y gêm
Cristingl Llanfihangel-y-traethau
Y plant a’u horenau Cristingl gyda Pam Odam Cynhaliwyd gwasanaeth Cristingl ar fore Sul, Rhagfyr 24, 2017 yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau dan ofal Pam Odam gyda Siân Mai a Lea Effraim yn cynorthwyo. Wedi’r gwasanaeth mwynhawyd danteithion gyda gwin y Nadolig wedi eu paratoi gan Christine Hemsley a Priscilla Williams. Hefyd roedd Siôn Corn wedi bod yn ffeind iawn a gadael sachaid o anrhegion i’r plant a rhai oedolion. Diolch i Tec a Meic am ddarparu trafnidiaeth i rai at yr eglwys. Cafwyd casgliad o £150 tuag at Uned Babanod Ysbyty Alder Hey. Diolch i bawb a fynychodd y gwasanaeth arbennig yma. Edrychwn ymlaen am Gristingl 2018.
CLOD I DRAETHAU LLANDANWG A HARLECH
Mae traethau a dyfroedd ymdrochi Llandanwg a Harlech wedi eu gwobrwyo â Gwobr Arfordir Gwyrdd Cadw Cymru’n Daclus. Mae rhywfaint o arfordir harddaf Cymru yma yn Ardudwy, ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r traethau hefyd yn boblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr ac am fynd a’r ci am dro drwy gydol y flwyddyn. Mae traeth Llandanwg, ynghyd â’r eglwys o’r 13eg ganrif, yn boblogaidd ac yn hawdd eu cyrraedd gan fod y maes parcio, ynghyd â’r toiledau a’r caffi, wrth ymyl y fynedfa i’r traeth. Ewch draw am dro – cyfle i gadw’n heini ac i fwynhau’r awyr iach a golygfeydd gwych o’r Rhinogydd. Cyfle hefyd i gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig – be am i bawb addunedu eleni i godi tri darn o blastig (neu fwy os liciwch chi, wrth gwrs!) o’r traeth (neu gefn gwlad) bob tro yr ewch am dro. Dywed gwyddonwyr bod dros wyth biliwn tunnell fetrig o blastig wedi ei gynhyrchu ers dechrau’r 1950au ac mae’r rhan fwyaf ohono bellach wedi ei gladdu mewn tomenni byd neu’n llygru ein moroedd, ein traethau a’n cefn gwlad. Cynhyrchwyd oddeutu hanner y gwastraff plastig yn y 13 mlynedd diwethaf yn unig a dim ond 9% sydd wedi cael ei ailgylchu a 12% wedi ei losgi. Ffeithiau dychrynllyd ...
13
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799
BWYD A DIOD
Gwinoedd Ardal Trefaldwyn
www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy
Wrth deithio i Drefaldwyn i gasglu archeb o win, tarodd Dylan a minnau fod tair gwinllan o safon o fewn pum milltir i’w gilydd yn yr ardal hon. Gwir, mae Gwinllan Kerry Vale ganllath o ffin Cymru yn Lloegr. Ond, mae’r ffin igam ogam yn driblan drwy ffermydd a phentrefi heb barch at hanes, ac mae pentref y winllan - Pentreheyling – yn adleisio cefndir Cymraeg yn ogystal â Rhufeinig i’r lle, felly maen nhw’n cael gwahoddiad i fod yn rhan o gystadleuaeth Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru yn flynyddol. Cafodd Shropshire Lady, un o winoedd Kerry Vale, ei gymeradwyo yn yr International Wine Challenge 2017 yn ogystal ag ennill y gwin gwyn gorau yng Ngwobrwyon Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru 2016. O fewn tafliad carreg, mae gwinllan Penarth yn cynhyrchu gwin byrlymus gan ddefnyddio grawnwin siampên, sef: Chardonnay, Pinot Noir a Pinot Meunier ac yn ei wneud yn y
dull traddodiadol. Fel arfer, mae grawnwin fel Seyval, Phoenix neu Rondo i enwi rhai, yn llawer mwy cyffredin yng Nghymru a Lloegr, ond maenn nhw’n credu fod hinsawdd ficro’r ardal yn caniatáu iddyn nhw dyfu grawnwin a ystyrir yn hanesyddol yn rhai nad oedd modd eu hystyried yn addas i’n hinsawdd ni, ac yn wir, mae llwyddiant yma. Gwinllan Montgomery oedd pen y daith y diwrnod dan sylw, y ‘new kids on the block!’ Plannodd y teulu’r winllan bedair blynedd yn ôl ar ben bryn yn edrych dros ddyffryn Kerry, felly mae’n ddyddiau cynnar iawn. Er hyn, gyda’r gwin gwyn cyntaf a gynhyrchwyd, enillodd wobr efydd yng Ngwobrwyon Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru 2017 a’i gymeradwyo yn yr International Wine Challenge o’r un flwyddyn. Mae gan Woody Lennard a’i deulu gynlluniau mawr i ddatblygu gwin yn y categori ansawdd uwch ac roedd hwn yn ddechrau da. Yn y blasu diweddar yn Dylanwad, roedd nodau ffres y gwin gwyn a gynhyrchwyd o rawnwin Solaris yn plesio pawb. Cawn wylio’r datblygiadau yn y winllan addawol iawn yma ac edrychaf ymlaen at flasu’r Rondo (coch) a’r rhosliw yn fuan. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine, Dolgellau
PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU CYDNABYDDIAETH AM BOB CYFRANIAD TUAG AT BRYNU DIFFIBRILWYR I’R ARDAL
^
14
Mae Pwyllgor Rheoli’r Neuadd yn gwerthfawrogi’n fawr iawn pob cyfraniad a dderbyniwyd gan drigolion yr ardal gyfan tuag at yr Apêl i brynu diffibrilwyr i’r gymuned. Diolch yn arbennig i Alison Rayner am ei rhodd o £1,000 er cof am ei gŵr Ian. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gyfraniad o £1,000 gan ‘Grŵp Cynefin’ a chyfraniad o £1,000 gan Gyngor Cymuned Talsarnau. Yn ogystal, codwyd arian gan y Pwyllgor drwy drefnu teithiau cerdded yn yr ardal a bu rhain yn llwyddiannus iawn. Hefyd cafwyd cyfraniad o £180 gan Ysgol Gynradd Talsarnau yn dilyn cynnal eu cyngerdd ym mis Mai tuag at gostau mynd i Eisteddfod yr Urdd. Mae nifer fawr o roddion eraill wedi dod i law oddi wrth drigolon yr Ynys, Talsarnau a Llandecwyn ac mae’n braf gallu adrodd y bydd dau diffibriliwr arall yn cael eu harchebu rŵan, i ychwanegu at yr un sydd yn ei le yn barod ar safle Garej Talsarnau. Bydd y ddau yma’n cael eu gosod mewn hen flychau ffôn BT, trwy gydweithrediad y Pwyllgor Rheoli a’r Cyngor Cymuned, un yn Cilfor a’r llall ger Gwyndy Mawr yn yr Ynys. Diolch am bob cefnogaeth i’r Apêl i brynu’r offer arbennig yma.
H YS B YS E B I O N MWY NA SIOP BAPUR...
SIOP DEWI
14/15 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth 01766 770266
dewi11@btconnect.com Papurau, cylchgronau, llyfrau a chardiau Ac yn NEWYDD Bwydydd Cyflawn a Bwydydd Iach Cefnogwch eich siop leol, Cymraeg ei hiaith
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
-
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297
CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239
ARCHEBU A
01341 421917 07770 892016
Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
i unrhyw le yn yr UK!
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
GERALLT RHUN
07776 181959
1 Osmond Terrace, Penrhyn Ceir ar gael yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd Ffoniwch 01766 772926 07483 166901
Llais Ardudwy
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk
C.E.F.N Tacsi Cyf
Tafarn yr Eryrod
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
dros 25 mlynedd o brofiad
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
HOFF GERDDI CYMRU Cafodd Gwasg Gomer y weledigaeth beth amser yn ôl i gasglu a chyhoeddi barddoniaeth boblogaidd y Cymry. Mae’r hen ffefrynnau yma, wrth reswm, cerddi a ddysgwyd mewn ysgolion drwy gydol y ganrif ddiwethaf, a byddai’r to hŷn yn sicr o gefnogi’r rheini – gwaith Ceiriog, Crwys a Wil Ifan, Cynan, T H ParryWilliams, R Williams Parry, W J Gruffydd a T Gwynn Jones. Mae Dewi Emrys a Hooson yma, Gwenallt, Waldo, a B T Hopkins gyda’u cerddi enwog ‘Pwllderi’, ‘Seimon Fab Jona’, ‘Rhydcymerau’, ‘Cofio’
GOLYGON
a ‘Rhoshelyg’. Efallai y cawn ein synnu at y dewis o ambell gerdd megis ‘Broseliawnd’ (T Gwynn Jones), ‘Y Tlawd Hwn’ (W J Gruffydd), ‘Yr Heniaith’ (Waldo Williams) o’u cymharu â cherddi ystwythach a mwy adnabyddus gan yr un awduron. Nid beirniadaeth yw hyn, dim ond tynnu sylw at ffaith ddiddorol – a gobeithiol hefyd – sef bod yna bobl yng Nghymru sydd yn dal i ddarllen a dehongli barddoniaeth glasurol. Wedi’r cyfan dyma oedd eu dewis hwy. Awn at feirdd ein cyfnod ni gan awchu am weld beth yw archwaeth plant ysgol ac oedolion am farddoniaeth y dydd. Mae Gerallt Lloyd Owen yma yn sgil ‘Fy Ngwlad’, ‘Etifeddiaeth’ a ‘Cilmeri’, Twm Morys ac ‘Y Gwyddel Du’ a ‘Gwyn’, Steve Eaves ac ‘Y Canol Llonydd Distaw’, Gwyn Thomas a ‘Croesi’r Traeth’ a ‘Drama’r Nadolig’, Geraint Løvgreen ac ‘Y Diwrnod Cyntaf ’, Iwan Llwyd a ‘Far Rockaway’, Aled Lewis Evans ac ‘Over the Llestri’ a Grahame Davies a’i ‘DIY’. Cynhwysir yma un bryddest o’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei chyfanrwydd, sef ‘Y
Glannau’ gan John Roderick Rees. Nodir droeon mai dyma’r bryddest orau a ddaeth o’r Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf a hawdd gwerthfawrogi’r farn honno. Detholiadau yn unig a geir yma o ‘Ymadawiad Arthur’ (T Gwynn Jones), ‘Y Cynhaeaf ’ (Dic Jones), a’r ‘Ffenestri’ (W J Gruffydd, Elerydd). Wrth gwrs mae gennym oll ein hoff gerdd/cerddi. Ar dro dim ond adnabod neu gofio llinell neu gwpled a wnawn megis ‘Draw dros y don mae bro dirion . . .’, ‘Mae hiraeth yn y môr . . .’, neu ‘Mieri lle bu mawredd’, ond heb wybod rhagor, neu pwy yw’r awdur neu beth yw’r ffynhonnell. Mae yma gant o gerddi, adnabyddus ac annwyl i’r sawl a’u dewisodd. I’r trwch ohonom mae yma gerddi newydd nad ydynt eto wedi taro tant yn y cof, cerddi gwastad eu safon, modern, ond heb y llinell gofiadwy honno a fydd yn glynu yn y cof tra pery’r iaith. Ac eto clywaf rywrai yn canu ‘Dim ond ffŵl sydd yn gofyn/ Pam fod eira’n wyn’ neu’n sibrwd ‘Wylit, wylit, Lywelyn’ . . . Vernon Jones
hytrach na threfn gronolegol. Amrywiaeth y darnau yw un o gryfderau’r gyfrol, gan arddangos dawn yr awdur i ymateb yn graff ac yn grefftus i ystod hynod o eang o bynciau – o stormydd Aberystwyth i drychineb Aber-fan, o Brexit i Brangelina, o’r ffrae dros addysg Gymraeg yn Llangennech i’r trais terfysgol yn Nice, Paris ac Orlando. Mae yma hefyd ysgrifau teimladwy ar achlysur marwolaeth ffigyrau adnabyddus fel Rhodri Morgan a Gareth F Williams, a darnau sy’n deillio o fywyd bob dydd a chylch byd natur. Mae pob un, heb eithriad, yn bwrw goleuni amgen a disglair ar bynciau a digwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt. Er yr amrywiaeth yma, mae yna naws waelodol gyffredin i’r darnau sy’n ymateb i ddigwyddiadau cyfredol – rhyw ymdeimlad o fod eisiau dadlennu anghyfiawnder a rhagrith. Cyflwyna Manon Steffan Ros, drwy ddarnau o lên micro cynnil a chofiadwy, y cig a’r
gwaed y tu ôl i ffeithiau moel y penawdau, y teimladau a’r tensiynau y tu ôl i’r dyfyniadau a’r datganiadau, gan gyfleu persbectif a safbwyntiau amrywiol, ac yn aml yn annisgwyl, lu o gymeriadau sy’n codi cwestiynau o bwys ym meddwl y darllenydd. Mae un o ysgrifau cryfaf y casgliad yn cyfleu hanfod y gyfrol i’r dim. Sbardunwyd ‘Burkini’ gan stori am heddlu Ffrainc yn gorfodi menywod Mwslemaidd i ufuddhau i’r gwaharddiad ar eu dillad nofio ceidwadol mewn ymateb i’r ymosodiadau ar y wlad. Ond nid stori am y gwaharddiad yw ‘Burkini’. Nid oes sôn am draethau Ffrainc, na chrefydd nac eithafiaeth na therfysgaeth yn y darn. Yn hytrach cawn bortread o fam ifanc newydd yn ymbaratoi ar gyfer noson allan gyda’i gŵr, sy’n ei gorfodi yn y pen draw i wisgo i’w blesio ef, er gwaethaf ei theimladau hithau. Mae yma ddawn dweud feistrolgar a dealltwriaeth ddofn o’r natur ddynol. Mae’r ysgrifau, er eu cysylltiad â materion y
‘Rhinogydd’ Yn ddiweddar, cyhoeddwyd llyfr newydd ar y Rhinogydd gan Jean Napier, sy’n ffotograffydd ac yn byw erbyn hyn hyn Nhywyn. Yn y llyfr mae hi’n dilyn hen ffyrdd hynafol yr ardal. ‘Bûm yn crwydro a thynnu lluniau yn Sir Feirionnydd ers blynyddoedd lawer,’ meddai Jean. ‘Rydym yn byw mewn ardal hyfryd ac rydw i wrth fy modd cael cyhoeddi lluniau wedi eu tynnu mewn llefydd diarffordd ac anghysbell Ardudwy; ardaloedd na fyddai llaer iawn o bobl wedi cael cyfle i ymweld â nhw eu hunain.’ Yn y llyfr bach hwn mae hi wedi ceisio rhoi blas ar y gweddillion hanesyddol rhyfeddol a’r tirlun trawiadol sydd i’w weld yma. Mae’r ardal yn llawn o gladdfeydd hynafol, ceiri mynyddig a chylchoedd cerrig, meini hirion a llawer mwy. Mae amryw o ffermydd mynydd yr ardal yn wag erbyn hyn ac mae mannau aros yr hen borthmyn a arferai ddilyn hen ffyrdd wrth yrru’r gwartheg i gael eu gwerthu dros y ffin yn Lloegr bellach yn adfeilion. Mae ffotograffau Jean i’w gweld mewn arddangosfa yn Ystafell y Gwladwyr yn oriel MOMA, Machynlleth, hyd tua canol Chwefror. Ewch i wefan MOMA i wirio’r dyddiad y daw’r arddangosfa i ben; mynediad am ddim. Mae hefyd ar werth ym mhwll nofio Harlech. Gwasg Carreg Gwalch, £5.95.
Mae’n hawdd gweld sut y gallai penawdau newyddion fod yn dir ffrwythlon i lenor. Wedi’r cyfan, maent yn cyflwyno i ni straeon dramatig llawn trasiedi a thrais, arwriaeth a dewrder, yn sôn am argyfyngau ac am newidiadau cymdeithasol mawr ac yn cofnodi bywyd a marwolaeth unigolion blaenllaw. Bob wythnos ers dydd, yn trin a thrafod themâu 2014, bu Manon Steffan Ros oesol gan sicrhau i’r gyfrol yn ymateb yn greadigol i stori apêl barhaol. Mae Golygon yn y newyddion ar ffurf darn yn cynnig nid yn unig olwg cynnil o lenyddiaeth yng newydd ar bynciau cyfarwydd nghylchgrawn Golwg. Mae a phwysig ond hefyd olwg Golygon yn cyflwyno detholiad ddyfnach arnom ni ein hunain. o’r darnau hyn, wedi eu casglu Sioned Williams yn ôl categorïau thematig yn Adolygiadau oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
16