Llais Ardudwy
70c
RHIF 484 - CHWEFROR 2019
CADW CYSYLLTIAD Â HUCHENFELD
CROESAWU FICER NEWYDD Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Tony Hodges fel Ficer ac Arweinydd Bro Ardudwy sy’n gwasanaethu’r cymunedau yn nalgylch Harlech, Dyffryn Ardudwy a’r Bermo. Yn frodor o Ferthyr Tudful, bu’n gweithio fel offeiriad mewn sawl plwyf ledled de-ddwyrain Cymru. Bu Tony yn gaplan i bobl fyddar a thrwm eu clyw ac mae’n arwyddo’n gyson ar gyfer gwasanaethau trwy Gymru gyfan. Mae’n ei chyfrif hi’n fraint bod yn aelod o’r Orsedd, anrhydedd a gyflwynwyd iddo am ei waith yn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant fel offeiriad plwyf yng Nghaerdydd. Ei enw barddol ydy Glas y Dorlan. Bu’n gweithio i’r RSPB fel Rheolwr Ardal Canolbarth Cymru dros Ddatblygu Aelodaeth a hyfforddi fel
Tony Hodges ymgynghorydd ecolegol. Dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, “Bu Tony yn ased i dîm gweinidogaeth Ardudwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gweddïwn y bydd ei sgiliau arwain yn galluogi Bro Ardudwy i ffynnu. Gweddïwch dros Tony, Dominic a phobl Bro Ardudwy os gwelwch yn dda.” Bydd Tony yn dechrau ei weinidogaeth newydd fel Ficer ac Arweinydd Tîm yr Ardal Weinidogaeth mewn gwasanaeth arbennig cyn bo hir.
GWOBR AUR AM GOGINIO
Ym mis Hydref y llynedd, aeth grŵp bach o Lanbedr i Huchenfeld yn yr Almaen, i ddathlu pen-blwydd y gefeillio rhwng Llanbedr a Huchenfeld yn ddeg oed. Eleni, ar Chwefror 23, mi fydd James, ŵyr y diweddar Gadlywydd John Wynne o Lanbedr, yn teithio i Huchenfeld i osod torch o gennin Pedr er cof am y rhai a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Blodyn cenedlaethol Cymru yw’r genhinen Bedr, wrth gwrs, ond mae hefyd yn symbol o ailenedigaeth a dechreuad newydd. Daeth grŵp o bobl leol ynghylch yn ddiweddar i geisio adfywio’r cyfeillgarwch rhwng Llanbedr a Huchenfeld. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y berthynas arbennig yma, gwahoddir chi i ddod i’r cyfarfod nesaf ar Ebrill 5 am 9.00 o’r gloch y bore yn Neuadd Llanbedr. Am ragor o fanylion cysylltwch â Jennifer Greenwood ar 01341 241517 neu Susanne Davies ar 01341 241523.
Llongyfarchiadau i Gethin Jones, Pant-yr-Eithin ar ennill y wobr gyntaf, sef y Wobr Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Coginio Cymru yn y Drenewydd yn ddiweddar. Bu raid iddo baratoi te prynhawn er mwyn ennill y wobr. Bydd Gethin yn mynd ymlaen rŵan i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth yn Birmingham yn yr hydref. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y gystadleuaeth honno gan obeithio y cawn gynnwys stori arall amdano yn Llais Ardudwy bryd hynny.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Mawrth 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Mawrth 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Chwefror 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: Osian Wyn Ephraim. Gwaith: Disgybl B11 yn Ysgol Ardudwy. Cefndir: Mab Gerwyn a Siân ac yn frawd hŷn i Lea. Eirlys ac Idris Williams, Tanforhesgan ydi Nain a Taid sy’n byw drws nesaf. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n chwarae pêl-droed i dîm dan 16 Blaenau Ffestiniog a dwi’n hoffi rhedeg. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Mmm – ydw i’n gorfod ateb hwn? Dim ond beth sydd yn rhaid i mi ei ddarllen fel gwaith ar gyfer TGAU a hynny ar ôl i Mam refru arna i!
LLYTHYR Annwyl Olygydd, Derbyniais lythyr gan Marian Davies (Daniels) [Siop Esgidiau Harlech gynt] sy’n byw ym Mhorth Talbot. Mae hi’n awyddus i wybod a oes unrhyw un yn gallu nabod rhywun yn y llun hwn a dynnwyd yn 1935. A hefyd pwy yw’r athrawes? Olwen Siop Chips yw’r ail yn y rhes ganol ac mae Myra Williams a Sheila Balch ar ben y rhes. Eira Parry sydd yng nghanol y rhes blaen a Nanw Wynne a Peggy Min-y-don ar ei hochor chwith. Diolch am bapur difyr bob mis. Doreen Thomas
Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rownd a Rownd. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yndw, dwi’n meddwl bod bwyd Mam yn ddigon maethlon. Hoff fwyd? Cinio dydd Sul Mam a ffajitas. Hoff ddiod? Diet Coke, does dim i’w guro pan fo gennych chi syched, a dydi o ddim yn ychwanegu gormod at y calorïau. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu i gyd. Lle sydd orau gennych? Adra. Dydw i ddim yn un am grwydro yn rhy bell. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Sa Coma, Majorca yn yr haf yn y flwyddyn 2018. Roedd hi’n braf iawn yno a digon i’w wneud i bobl ifanc. Beth sy’n eich gwylltio? Pan dwi’n cael bai ar gam. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffrind da i mi ydi un sy’n cadw eich cefn pan mae pethau yn mynd yn anodd. Pwy yw eich arwr? Cristiano Ronaldo, oherwydd ei allu i chwarae pêl-droed ac mae’n rhoi arian i helpu pobl anghennus. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Taid – achos mae o wedi bod yn sâl ers amser hir ond mae o
yn parhau i gwffio yn erbyn ei anawsterau ac yn dal i wenu. Beth yw eich bai mwyaf? Taflu dillad glân i’r cwpwrdd heb eu cadw’n daclus. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael mynd ar wyliau i’r haul ddwy neu dair gwaith y flwyddyn. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei roi o yn y banc er mwyn ei ddefnyddio i roi ernes ar fy nghar cyntaf. Eich hoff liw? Coch, fel cit fy hoff dîm pêldroed, Lerpwl. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr. Eich hoff gerddor? Yws Gwynedd. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Fy hoff gân yw Mr Brightside gan The Killers’. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae pêl-droed ar lefel broffesiynol. Eich hoff ddywediadau? ‘Mi wna i ei wneud o mewn munud!’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Angen amynedd er mwyn astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU ac yn eithaf cyffrous am yr hyn fydd yn digwydd wedyn.
Ysgol Harlech 1935
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Llanfair a Harlech, Ionawr 2019 Rob Booth o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oedd y gŵr gwadd yng nghyfarfod mis Ionawr. Testun ei sgwrs oedd ‘Y Wennol Ddu’. Trwy gyfrwng lluniau a sgwrs cawsom olwg ar fywyd y wennol ddu. a’r problemau sy’n wynebu’r rhywogaeth hon ar hyn o bryd. Cawsom wybod hefyd am y camau y gallwn ni eu dilyn i helpu i warchod safleoedd nythu traddodiadol yr adar yn adeiladau uchel ein trefi a’n pentrefi. Orig addysgiadol iawn gyda nifer o aelodau yn cyfrannu at y sesiwn gwestiynau ar ddiwedd y sgwrs.
Diolch Dymuna Winnie Griffith, Bryn Gro, ddiolch o galon i bawb am y cardiau ac anrhegion a dderbyniodd ar achlysur ei phen-blwydd yn 80 yn ddiweddar. Diolch i Edwina, Meirion ac Aled am drefnu’r dathliadau a gafodd ym Mryn Gro gyda ffrindiau ac hefyd efo’i theulu yn Mhen Llŷn. Cafodd benwythnos prysur iawn. Er cof Diolch am rodd o £50 gan Sally ac Emyr Williams, Llanfairpwll er cof am Falmai o Lanfair a Cassie a Philip o Landecwyn.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Cyllideb y Cyngor am 2019/20 Penderfynwyd ar yr amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa – yswiriant y Cyngor £450, cyflog y Clerc £1,520, costau’r Clerc £300, treth ar gyflog y Clerc £380, Cyfrifydd y Clerc £192, cyfraniadau £1,000, pwyllgor Neuadd Goffa £1,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £8,023.90, torri gwair y mynwentydd £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, costau’r fynwent £1,500, Un Llais Cymru £100, Dŵr Cymru £40, biniau halen £300, cynnal a chadw £1,200, amrywiol £1,000, llogi ystafell bwyllgor £150, partneriaeth toiledau £4,000, archwilwyr £600. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2019/20 Penderfynwyd cadw’r praesept ar £13,000. GOHEBIAETH Llywodraeth Cymru Y nifer diweddaraf o etholwyr sydd yma yw 347, felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £2,817.64 i gyrff allanol. Cyngor Gwynedd Er mwyn cael sefydlogrwydd a threfniadau effeithlon, byddwn yn mabwysiadu cytundebu am ddwy flynedd (2019-20 a 2020-21), gyda’r cyfraniadau’n cael eu talu flwyddyn ar y tro. Theatr y Ddraig, Bermo Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod yn gofyn am £450. Cytunwyd i beidio â rhoi cyfraniad ariannol i’r uchod oherwydd bod gan y Cyngor ddigon o wariant eu hunain sydd angen ei wneud heb ddechrau cyfrannu at gadw safleoedd y tu allan i’r ardal yn agored. UNRHYW FATER ARALL • Mae’r arwydd ‘Araf ’ wedi ei beintio ar y ffordd cyn cyrraedd maes parcio Llandanwg. • Derbyniwyd cwyn bod angen sylw ar un o seddi maes parcio’r Maes yn Llandanwg. Cytunwyd bod rhai’n edrych ar y sedd hon i weld beth sydd angen ei wneud iddi. • Mae angen torri’r coed o dop rhiw Cae Cethin i lawr at giât fynedfa Cae Cethin oherwydd eu bod yn dod i’r llwybr; mae’r llwybr hwn ar daith Sustrans 8. • Mae angen sylw ar yr arwydd 40 mya ar waelod rhiw Cae Cethin. • Mae angen gwybod pwy sy’n gosod maint y taliadau yn y meysydd parcio oherwydd bod cymaint o amrywiaeth gyda’r tâl mewn meysydd parcio ledled y Sir.
CÔR MEIBION ARDUDWY Yn dilyn y cyfarfod blynyddol, penderfynwyd cadw pob swyddog yn ei le am flwyddyn arall. Cadeirydd: Ifan Lloyd Jones Is-gadeirydd: Mervyn Williams Mae Llywydd Anrhydeddus, sef Mr Idris Williams, Tanforhesgan yn aros yn y swydd gydol ei oes. Adroddiadau Cafwyd adroddiadau cadarn iawn gan yr Arweinydd, Aled Morgan Jones, a’r Cadeirydd, Ifan Lloyd Jones. Diolchodd y ddau i’r aelodau am gyfrannu mor ddygn tuag at lwyddiant y Côr. Adroddodd y trysorydd fod y sefyllfa ariannol yn iach ac mae ychydig mwy na’r llynedd wedi ymuno a’r Clwb 200. Gdansk Mae’r aelodau yn edrych ymlaen yn fawr at gael canu yn Gdansk yng ngwlad Pwyl yn ystod mis Mai eleni. Byddant yn aros yno am bedair noson ac yn canu mewn llefydd gwahanol yn y ddinas hardd hon. Y mae’r bws yn llawn a’r ystafelloedd wedi eu cymryd i gyd. Aelodau Newydd Mae nifer yr aelodau ar i fyny!
Daeth tri chyn-aelod yn ôl i rengoedd y Côr yn ddiweddar, sef David Jones, Gareth Edwards a Roger Owen. Daeth aelod newydd hefyd, sef Jonathan Carley o Harlech ond a fu’n byw yng Nghernyw. Croesawyd yr hen gyfaill O G Thomas yn aelod ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Bellach mae 36 aelod ar y llyfrau. Mae dechrau’r flwyddyn yn amser da i ymuno – beth amdani? Crysau Polo Rydym yn y broses o archebu set o grysau newydd ar gyfer eu defnyddio’n bennaf pan fo’r hin yn gynnes. Penderfynwyd ar grysau glas tywyll. Cyngherddau Bydd y côr yn canu fel a ganlyn: Mawrth 2 - Clwb Golff Dewi Sant, Swper Gŵyl Ddewi am 7.30 Mawrth 23 - Hafan Artro, Llanbedr am 6.00 Ebrill 13 - Eglwys Sant Ioan, Bermo Ebrill 21 - Neuadd Gymunedol Dyffryn Ardudwy am 7.30 Mai 7 - Llandudno am 8.00 Awst 6 - Llandudno am 8.00 Medi 20 Gŵyl Gwrw Llanbedr. Mae eraill hefyd i’w cadarnhau.
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY
Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930
3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Ar noson oer o fis Ionawr, mwynhawyd noson gartrefol yng nghwmni un o gerddorion mwyaf dawnus Cymru. Mae Cass Meurig yn canu’r crwth a’r ffidil ac yn gantores gwerin adnabyddus. Yn dilyn gair o groeso gan Beti Mai, yr Is-lywydd, eglurodd Cass iddi dyfu i fyny yn chwarae cerddoriaeth werin gan dderbyn hyfforddiant glasurol ar yr un pryd. Wedi symud i Gymru tyfodd y diddordeb yng nghanu gwerin ein gwlad a chafodd yrfa lwyddiannus yn canu’r crwth a’r ffidil fel unawdydd ac mewn bandiau gwerin drwy Gymru a thu hwnt. Mewn amser rhoddodd Cass y gorau i gigio a recordio er mwyn dilyn galwad i weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae hi bellach yng ngofal Gwasanaeth Plant a Theulu yn y Bala. Yn ystod y cyfnod hwn o newid bu’n ysgrifennu caneuon yn sôn am ei phrofiad a’i ffydd, gan eu gosod ar alawon traddodiadol megis Lisa Lân, Mil Harddach Wyt a Tra Bo Dau. Cawsom gyfle i glywed Cass yn canu nifer o ganeuon oddi ar ei chryno ddisg Taith sy’n deillio o’i thaith bersonol yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd geiriau’r cerddi yn priodi’n berffaith gyda’r alawon traddodiadol a’r canu a’r cyfeiliant teimladwy yn cyffwrdd calon. Diolchwyd yn gynnes iawn i Cass Meurig am noson arbennig gan Beti Mai. Ar ôl paned, trafodwyd gwaith y gangen. Llongyfarchwyd Ryan John, ŵyr Jane, ar ei lwyddiant yn ennill y wobr arian yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yng Ngholeg Gwent. Dymunwyd yn dda i Rhodri, mab Rhian, a fydd yn derbyn triniaeth yn fuan. Derbyniwyd gwybodaeth am nifer o weithgareddau’r mudiad a darllenwyd gair o ddiolch am gyfraniad hael y gangen tuag at waith Canolfan Farchogaeth y Brae. Cymdeithas Cwm Nantcol Ddechrau mis Ionawr daeth Mair Tomos Ifans, Dinas Mawddwy, atom i adrodd hanes y ‘Fari Lwyd’. Bu’n olrhain sut y dechreuodd y traddodiad gan gymharu ag arferion mewn gwledydd amrywiol. Ac, wrth gwrs, fe gawsom glywed llawer o ganeuon swynol a gwrando ar y melyslais hyfryd sydd ganddi. Roedd gandi ben ceffyl go iawn ac roedd hwn yn ychwanegu llawer at y ddrama. Yn agosach at ddiwedd y mis, daeth John Price, Machynlleth atom. Mae ef yn enwog fel gof arian, ac yn fwyaf arbennig am lunio dros gant o fedalau a choronau ar gyfer eisteddfodau amrywiol gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Dechreuodd drwy sôn am ei fagwraeth yn Aberffraw a Llangadwaladr, Sir Fôn a dylanwad tri gŵr arno, yn arbennig y gof lleol. Aeth ymlaen wedyn i ganolbwyntio’n benodol ar Eisteddfod 2011 yn Wrecsam pan enillodd ei gyfaill, Geraint Lloyd Owen y goron. Roedd pawb yn y gynulleidfa wedi dotio at ei grefftwaith cywrain. Noson wych unwaith eto!
4
Teulu Artro Bu cyfarfod cyntaf 2019 ddydd Mawrth 8fed o Ionawr a dymunodd ein Llywydd Glenys Roberts Flwyddyn Newydd Dda i ni i gyd, a chroesawodd aelod newydd atom sef Pat Thomas. Gobeithio y gwneith fwynhau ei hun yn ein mysg. Yna croesawodd Glenys ein gŵr gwadd sef Raymond Owen, Tal-y-bont, ac roedd yn falch ei fod wedi gwella’n dda ar ôl ei lawdriniaeth. Aeth Raymond Owen a ni am dro yng nghwmni ei gyfrifiadur yn dangos y llwybr o’r Bermo i Hafod Eryri ar ben yr Wyddfa, gan gychwyn yn dangos bedd y Ffrancwr uwchben y Bermo a thoi tipyn o’i hanes inni. Dangosodd y llwybr dros Bont Sgethin a heibio Llyn Hywel, dros y Rhinogydd ac i olwg Llyn Cwmbychan ac yna ymlaen i ddangos llwybrau i ben yr Wyddfa a’r llynnoedd o gwmpas. Y tro cyntaf iddo ddringo’r Wyddfa oedd yn 1964 ac mae wedi gwneud y daith laweroedd o weithiau wedyn. Diolch iddo am ddod atom unwaith eto a chawsom bnawn difyr fel arfer.
CYMDEITHAS CWM NANTCOL
Chwefror 18: Iwan Morgan, ‘Dylanwadau’ Mrs Megan Scott Bu farw Megan Scott, 19 Bryn Deiliog (Tan’alla gynt), yn 82 oed, ar y 5ed o Ionawr yng nghartref Bodawen. Fe’i rhoddwyd i orffwys gyda’i gŵr Alan ym mynwent Capel Salem, wedi gwasanaeth yng ngofal Alma Griffiths, ar y 15fed o Ionawr. Hoffai Robert, Rowena, ac Idris ddiolch i bawb a ddaeth i’r angladd i ffarwelio â’u modryb, ac am y cardiau a geiriau o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt. Bydd arian y casgliad yn mynd i Gronfa Capel Salem. Cydymdeimlwn â’i nith a’i neiaint yn eu colled. Rhodd £10
Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Brian Taylor, Alltwen, gan ddymuno’r gorau iddo. Ymweld ag Awstralia Bu Wendy Duenas a Lauren, Bryn Deiliog, ym mhriodas Natalie, merch Wendy a Michael Barry yn Awstralia ddiwedd y flwyddyn. Roeddynt wedi mwynhau eu hunain yn fawr yna. Priodas aur Llongyfarchiadau i Bryn a Hilda Williams, Gorffwysfa. Byddant yn dathlu eu priodas aur ar y 15fed o Chwefror. Ein dymuniadau gorau i chi. Dymuno’n dda Gobeithio fod Kathleen Roberts, Y Felin, yn teimlo’n llawer iawn gwell erbyn hyn, a’i bod wedi cael dod adra. Rhoddion Diolch i Elwyn Evans, Paul Jones a John Pugh am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau i Llais Ardudwy. Cyhoeddiadau’r Sul CHWEFROR I gyd yng Nghapel y Ddôl ac am 2 o’r gloch 10 – Mrs Glenys Jones 24 Parch Gareth Rowlands MAWRTH 3 – Parch Adrian Williams
CAPEL Y DDÔL LlANBEDR
PYTIAU OLWEN
Dyma ychwaneg o’r casgliad o atgofion a ffeithiau difyr am Ardudwy a gasglwyd gan Olwen Jones pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy. John Ieuan Jones Ganed ef ym 1924 yn Nhalsarnau a bu’n yr Ysgol Gynradd yno ac yn Ysgol Ramadeg Abermo. Enillodd ddwy gadair yn eisteddfodau Clybiau’r Ffermwyr Ieuainc. Mae’n awr yn gweithio dan Bwyllgor Addysg Meirion. Yn Eisteddfod Genedalethol y Bala yr oedd yn gydradd yng nghystadleuaeth y delyneg ‘Y Stryd Gefn’. Hanes sydd yn y delyneg am adeg y rhyfel a phan ddoi’r ymgilwyr i’r ardal a Jane Humphreys yn rhoi cartref iddynt. Bu hi farw ychydig amser yn ôl ac mae ei brawd, sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty, yn gwneud ei gartref yn Llechollwyn, Ynys, Talsarnau.
Llun: Mari Wyn Ar ddechrau 2019, newid aelwyd fu hanes Capel y Ddôl. Yn anffodus mae cyflwr y capel wedi dirywio ac mae angen gwariant mawr i’w wneud yn ddiogel. Mae dros 150 mlwydd oed ac wedi rhoi blynyddoedd teilwng o wasanaeth i’w aelodau. Mae’r gwasanaethau bellach yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Gymdeithasol, Llanbedr. Mae’n safle newydd, cyfforddus a chynnes gyda phob hwylustod. Mae croeso cynnes i unrhyw un fynychu’r gwasanaethau.
Y Stryd Gefn Siân Wmffra, Bryniau’r Hendre, O’i bwthyn ar odre’r Garn Drwy’r nos yn gwrando’r trymru, A’r ddinas draw yn Sarn. Siân Wmffra, Bryniau’r Hendre Yn ddeg a thrigain oed. Yn agor drws ei bwthyn A’i chalon yn ddi-oed. “Siân Wmffra, Bryniau’r Hendre, Y ffeindiaf, fwynaf fu,” Roes llanc o slymiau Lerpwl Mewn aur ar farmor du. Ffoadur Bach Edwin Fredrick Guido Brandt (Edwin o’r Llan) Ganed ef yn Llundain ym 1937, ac ar hyn o bryd yn byw yn ardal Dolgellau. Almaenwr o dras ond wedi dysgu Cymraeg ac yn ennill ar englynion a cherddi mewn eisteddfodau lleol, a hefyd yng nghystadleuaeth cyfansoddi englyn ‘Sêr y Siroedd’ ar y radio. Mae wedi llwyddo yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi cipio’r Gadair yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ieuanc Meirion yn 1964. Mae’n awr yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor.
Llun: Mari Wyn Mae nifer o lestri te ar gael gyda’r stamp GWYNFRYN MC arnynt. Cynigir cwpan, soser a phlat i unrhyw un â chysylltiad â’r Capel yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â: Glenys Jones, rhif ffôn 01341 242648 neu Evie Morgan Jones, rhif ffôn 01341 247022.
Ei waith: Caterpillar Un cadarn a’i draciau’n cydio – ar riw, Gall droi a gwrteithio; Arth ddur â nerth i herio Holl aceri bryntni bro. Dyn a oedd yn was fferm Pan ddaw’r heulwen i’w ddenu – i weled Eilwaith gae a ffermdy, Â heibio lle adnabu Y braenar a’i ddaear ddu. Gwanwyn cynnar Dyma’r cennin Pedr oedd yn blodeuo yng ngardd Bryn Tirion, Ynys ar Ionawr 8 eleni. Mae Olwen Jones, sy’n cefnogi’r papur hwn mor dda o hirbell yn siwr o fod yn adnabod y wal yma yn dda! Diolch i Mike Hemsley am y llun.
5
HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau a dau westai gan yr Is-lywydd Debbie Jones i’r cyfarfod brynhawn dydd Mercher, 9 Ionawr 2019. Canwyd y gân Meirion, a chyflwynwyd cardiau penblwydd i rai oedd yn dathlu’r mis yma. Cafwyd adroddiad gan y trysorydd, a darllenwyd y llythyr o’r Sir. Cofnodwyd y dyddiadau o bwys; mae’r Ffederasiwn yn dathlu 100 y flwyddyn yma ac fe fydd cinio dathlu yn Portmeirion ar 3 Hydref 2019. Trip i Goleg Denman, 3-4 Tachwedd 2019. Te Cymraeg yn Nyffryn Ardudwy, 15 Mawrth yn y Neuadd gyda phlant Ysgol Dyffryn yn cymryd rhan. Mae eisiau eitemau i’r gyfrol Brethyn Cartref. Bydd sêl ben bwrdd yn y Cemlyn, Harlech, ar 23 Chwefror 2019. Ar ôl trafod y busnes, yn anffodus yr oedd Christine Freeman yn sâl ac yn methu a bod gyda ni, ac yn fyr rybudd fe gymerwyd ei lle gan Edwina Evans yn siarad am Harlech yn yr 1950au. Diolchwyd iddi gan Denise Hogan. Enillwyd y raffl gan Jo Johnson. Fe fydd y siaradwr y mis nesaf, sef dydd Mercher 13, Clare Harris, yn siarad am dementia gydag ymarferion. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Eglwys Sant Tanwg Ar nos Fercher, 13 Chwefror, am 7.00 o’r gloch bydd gweinidogaeth newydd, y Tad Tony fel Ficer ac arweinydd ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy yn dechrau gyda gwasanaeth arbennig. Croeso cynnes i bawb.
Colli Eirlys Bu farw Mrs Eirlys Stumpp, Bron Haul yn dilyn salwch. Roedd yn wraig gymeradwy iawn gan bawb yn yr ardal. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Colli Maureen Bu farw Mrs Maureen Williams, 20 Tŷ Canol yn dilyn cystudd hir. Roedd yn wraig i Cyril ac yn fam i Mark. Bu’n gweithio’n ddiwyd fel nyrs ardal yn Ardudwy am nifer o flynyddoedd ac roedd canmol mawr i’w gwaith.
6
Yn yr ysbyty Bu Al Smith, Maes yr Haf yn cael trin plisgyn ei lygad ‘cataract’ yn Ysbyty Crewe yn ddiweddar. Mae’n teimlo’n well erbyn hyn, yn gweld fel cath ac yn edrych ymlaen at gael trin y llygad arall. Babi newydd Llongyfarchiadau i Beth a Ben Bailey, Cors-y-gedol ar enedigaeth mab bychan, Eban Haydn. Pob cariad hefyd gan Al a Bev Smith ar ddod yn naini a taid am y tro cyntaf. XXX £20 Damwain Hyderwn fod Bedwyr Williams, Ty’n y Ffordd yn gwella ar ôl ei ddamwain ddiweddar. Neuadd Goffa Cynhaliwyd pwyllgor ar Ionawr 24 a braf gweld nifer yno. Diolchwyd i Hefina Griffith am wasanaethu fel trysorydd am 28 mlynedd a chyflwynwyd tusw o flodau iddi gan y cadeirydd, Lawrence Hooban. Croesawyd Denise Jones i’r swydd trysorydd a Sue Davies yn is-drysorydd. Braf cael dweud bod y sefyllfa ariannol yn eithaf boddhaol. Derbyniwyd £800 gan bwyllgor y triathlon, a £500 gan Debbie Jones at broject y gegin. Yn dilyn noson Sesiwn ar nos Calan gwnaethpwyd elw o £1505. Diolch i Edwina, Sam, Lisa a Ceri am eu cymorth ar y noson. Mae ein diolch yn fawr i Linda Soar, yr ysgrifenyddes am eu gwaith. Dyweddïad Llongyfarchiadau i Nick Standring, (Cae Gwastad gynt) ar ei ddyweddïad yn ddiweddar gyda Laura Betts. Erbyn hyn, mae Nick yn gweithio ar fferm yn ardal Henfordd. Pob dymuniad da i’r ddau. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Robert ac Ann Edwards,43 y Waun ar golli cyfnither Margaret (Megan) Hughes, yr Ynys.
30 oed Mae tri o hogia Harlech wedi dathlu pen-blwydd arbennig yn 30 oed yn ddiweddar, sef Siôn Rees, Joe Soar a Jamie Howie. Dymuniadau gorau i chi gan eich teuluoedd a ffrindiau i gyd.
Mae’n bleser gan Glyndwr a Jacqueline Roberts, Castle Cottage, gyhoeddi priodas eu merch hynaf, Megan Sian Roberts a Ryan Louis Britland ar Ionawr 12. Cynhaliwyd y seremoni yn Nant Gwrtheyrn ac arweinwyd y gwasanaeth gan y Parch Marcus Wyn Robinson. Mwynhaodd y gwahoddedigion wledd a baratowyd gan Mair. Dymunwn hir oes i’r cwpwl hapus a bywyd priodasol dedwydd.
18 oed
CYNGOR CYMUNED HARLECH
TORRI GWAIR
Llongyfarchiadau i Cara Rowlands, merch Stephen ac Olwen Rowlands, 12 Tŷ Canol ar ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed ar Chwefror 15. Pob dymuniad da iti gan y teulu i gyd. Capel Jerusalem Chwefror 10 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 Mawrth 3 Parch Dewi Morris am 4.00
Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio gwair yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis ac hefyd fel bod angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.19.
YN EISIAU
Gofalwr i Neuadd Goffa, Harlech
Dyletswyddau i gynnwys agor a chau’r neuadd a glanhau. Mae’r oriau yn hyblyg, ond gwaith min nos yw gan amlaf.
Dyddiad cau: Chwefror 21
Rhagor o wybodaeth ar gael gan yr ysgrifennydd ar 01766 780966 neu 07717 357363
TREVOR WYNNE ROBERTS Roedd Capel Rehoboth dan ei sang ar Ionawr 14 pan ddaeth y gymuned at ei gilydd i dalu’r gymwynas olaf i Trevs Wyn. Roedd y festri hefyd yn llawn a bu raid i nifer o alarwyr sefyll y tu allan. Dyna un prawf o ‘i boblogrwydd. Roedd yn fab i Lewis a Jennie Roberts, Garej y Morfa ac yn frawd i Brenda, Christine a Cledwyn. Bûm yn byw drws nesaf i Trevor a Pat yn Nhŷ Canol a deuthum i’w hadnabod yn bur dda ynghyd â’r plant, Gerwyn a Llion a phlant Pat, Peter a Julie. Roedden nhw’n deulu hapus iawn ac yn mwynhau gwyliau tramor rheolaidd ar un cyfnod. Ar wahân i’w deulu, roedd tri pheth yn mynd â llawer o’i amser. Y cyntaf oedd ei fusnes llewyrchus yn y garej, lle bu ef a Pat yn gweithio oriau hir. Does dim syndod bod Trevor yn cynnal safonau uchel yn ei grefftwaith - wedi’r cyfan yr oedd wedi gadael y coleg gyda thystysgrif rhagoriaeth mewn mecaneg ceir. Ond roedd yn weithiwr taclus hefyd ac yn barod iawn ei gymwynas. Tasech chi wedi darllen ‘Facebook’ ar ôl i’r newydd dorri am ei farwolaeth mi welech cymaint o bobl yr oedd o wedi eu cyffwrdd gyda’i garedigrwydd - a llawer o hynny yn y cefndir, wrth gwrs. Yn y blynyddoedd diweddar, bu Tegid ei nai yn gymorth mawr iddo ac yn rhannu llawer o’r baich yn y garej. Yr ail oedd byd rygbi. Rhyw bythefnos cyn y Nadolig es i’w weld yn y garej i ddweud ei fod wedi cael ei anfarwoli gan Arthur Tomos, Porthmadog mewn llyfr ar rygbi gogledd Cymru. Rhoddais gopi o’r llyfr iddo. Yn y llyfr, y mae Dafydd Owen [Sgwbi], hen ffrind imi, yn nodi pwy oedd y bois caletaf iddo ddod ar eu traws ar y cae rygbi. Trevs Wyn sy’n dod i’r brig ganddo! Ymhen dyddiau es i’r garej eto a daeth Trevor ataf, a rhyw wên ddireidus ar ei wyneb, yn dweud yr hoffai gadw’r llyfr a’i fod wedi mwynhau ei ddarllen. Hyfryd oedd gweld cymaint o fois y Clwb Rygbi yn ei angladd a llawer yn tystio i’w
chwarae caled, ei gwmni difyr a’i ffyddlondeb i’r Clwb. Cofiaf ei weld yn Nulyn yn ystod gêm ryngwladol. Roedden ni’n dau yn gwrando ar griw o ddynion o’r de yn canu. Roedd nifer o fechgyn Côr Llanelli yn eu plith. A dyma Trevor ataf gan ddweud, ‘Dyma iti beth ydi canu! Ydi dy gôr di gystal a rhain tybed?’ Eto roedd y wên ddireidus honno i’w gweld, y tynnu coes, yr aros am ymateb. Roedd hefyd yn amlwg bod ganddo wir ddiddordeb mewn canu. Y trydydd faes fu’n ganolog i’w fywyd oedd y Gwasanaeth Tân. Pe bai wedi cael parhau yn y gwaith tan fis Mawrth, buasai wedi gwasanaethu’r Frigâd Dân yn Harlech am 40 mlynedd. Oherwydd toriechyd diweddar, roedd yn mynd i gael trafferth i basio’r prawf meddygol. Bid a fo am hynny, mae ei record o wasanaethu pobl yr ardal yn un loyw iawn. Roedd yn un o’r hoelion wyth, yn deall materion diogelwch tân, yn deall lori, yn gryf fel arth ac yn barod iawn i wasanaethu eraill. Dywedodd Cyril Williams, a fu’n arwain y frigâd leol am flynyddoedd, gymaint yr oedd yn gallu ymddiried yn Trevor ond hefyd cymaint yr edrychai ymlaen at gael ei gwmni yn gymdeithasol ar ôl i’r sesiwn hyfforddi ddod i ben. Cafodd ddwy ergyd greulon pan gollodd Pat a Llion a chred rhai na ddaeth dros y ddwy ergyd loriol yn iawn. Yn sicr, bu dirywiad yn ei iechyd. Er hynny, bu’r newydd am ei farwolaeth yn 68 oed yn sioc fawr i’r ardal. Talwyd teyrnged iddo yn yr angladd gan ei lysferch, Julie. Y chwiorydd Bethan Johnstone a Gwen Edwards oedd yng ngofal y gwasanaeth a chyfeiliwyd gan Iwan Morus Lewis. Soniodd Bethan am garedigrwydd Bronwen ac Olwen tuag ato dros y misoedd diwethaf. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled. PM Diolch Dymuna teulu Garej y Morfa, Harlech ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth o golli Trevor yn ddiweddar. Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth yn fawr iawn.
CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor Penderfynwyd mabwysiadu’r un polisi asesiad risg ariannol ag o’r blaen trwy fonitro’r taliadau fydd yn cael eu gwneud gan y Cyngor, hefyd gofyn am ddau bris o leiaf os yn bosib pan yn gofyn am dendrau os yw’r amcan gost yn mynd i fod yn fwy na £1,000. Hefyd eisiau nodi bod angen i bob cais sydd yn dod ger bron am gymorth ariannol (ar wahân i’r rhai sydd wedi eu clustnodi yn y cynllun busnes eisoes) amlinellu pam eu bod yn gwneud y cais ac am beth, neu sut fydd yr arian yn cael ei wario. Cyllideb y Cyngor am 2019/20 Penderfynwyd ar yr amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa – yswiriant £2,000, cyflog y Clerc £2,200, costau’r Clerc £1,800, costau swyddfa £500, treth ar gyflog y Clerc £320, Cyfrifydd y Clerc £192, cyfraniadau £5,000, pwyllgor Neuadd Goffa £1,000, pwyllgor Hen Lyfrgell £1,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £19,594.90, torri gwair y mynwentydd £2,000, codi wal yn y fynwent gyhoeddus £4,000, torri gwair y llwybrau £2,500, torri gwair cae chwarae Brenin Siôr £1,000, seddi cyhoeddus £750, costau’r fynwent £3,500, treth cwrt tenis £120, gwagio biniau cae chwarae Brenin Siôr £600, llwybr natur Bron y Graig £600, Un Llais Cymru £300, Dŵr Cymru £40, cynnal a chadw £500, amrywiol £1,000, llogi ystafell bwyllgor £143, partneriaeth toiledau £10,000, biniau halen £400, archwiliad y parciau chwarae £300, gwefan y Cyngor £120, archwilwyr £650, cyfrif y Cadeirydd £100. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2019/20 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd cadw’r praesept ar £70,000. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd Er mwyn cael sefydlogrwydd a threfniadau effeithlon, cytunwyd i fabwysiadu cytundebu am ddwy flynedd (2019-20 a 2020-21), gyda’r cyfraniadau’n cael eu talu flwyddyn ar y tro. Theatr y Ddraig, Bermo Gofynnwyd am gyfraniad ariannol gan y Cyngor ac yn amlinellu eu bod wedi gofyn i Gyngor Tref Bermo am 30% o’r costau rhedeg, ac yn gobeithio am 30% gan weddill y dalgylch. Felly drwy dorri’r cyfraniadau i lawr rhwng Cynghorau’r dalgylch ar sail maint poblogaeth pob Cyngor, maent yn gofyn i Harlech, Dyffryn Ardudwy a Ddolgellau am £1,050 yr un, a Llanfair, Llanbedr a Llanelltyd am £450 yr un. Cytunwyd i beidio â rhoi cyfraniad ariannol i’r uchod oherwydd bod gan y Cyngor ddigon o wariant ei hunain sydd angen ei wneud heb ddechrau cyfrannu at gadw safleoedd y tu allan i’r ardal yn agored. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder a siom bod rhai’n caniatau i’w cŵn faeddu yn y fynwent gyhoeddus, hefyd ym maes parcio’r fynwent, a chytunwyd y dylid cael a gosod arwyddion ‘Dim cŵn’ newydd ar y gatiau a chytunodd Freya Bentham ofalu am hyn.
TOYOTA HARLECH
AYGO X-CITE
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Aygo - chewch chi mo’ch siomi!
Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk facebook.com/harlech.toyota Twitter@harlech_toyota
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen, Horeb Nos Iau, Ionawr 10fed, cawsom gwmni tri o bobl ifanc dawnus iawn o ardal Trawsfynydd, sef Tomos Heddwyn sydd yn ddisgybl yn Ysgol y Berwyn, Awel Haf sydd ym Mhrifysgol Bangor a Jordan Evans sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Cyflwynwyd a chroesawyd hwy a’u cyfeilyddes, Wenna Francis, gan lywydd y noson, Mai Roberts. Cafwyd unawdau gan Tomos Heddwyn ac Awel Haf ac unawdau ar yr arcordion gan Jordan. Cafwyd deuawdau gan Tomos ac Awel a deuawd gan Tomos ar y piano a Jordan ar yr acordion. Tomos Heddwyn wnaeth y cyflwyno i gyd a hynny’n hollol naturiol a dilol. Roedd y gwrando astud a’r gymeradwyaeth frwd yn arwydd o’r mwynhad a gawsom. Diolchodd Mai yn gynnes iawn iddynt am ddod atom am roi cymaint o bleser i ni gan ddymuno’n dda i’r tri ifanc yn y dyfodol. Ar Chwefror 14eg byddwn yn cael cwmni John Ogwen a Maureen Rhys. Clwb Cinio Dydd Mawrth, Ionawr 15, daeth nifer dda i’r Last Inn yn y Bermo am ginio. Ar ddydd Mawrth, Chwefror 19 byddwn yn mynd i’r Sportsman ym Mhorthmadog. Yna erbyn 12.00. Croeso i unrhyw un ymuno â ni i gymdeithasu a sgwrsio.
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd bnawn Mercher, Ionawr 16. Croesawyd pawb gan Gwennie a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i bawb. Llongyfarchodd Ronnie a Gwyneth Davies ar ddathlu 60 mlnedd o fywyd priodasol ar 3 Ionawr. Llonngyfarchodd ac anfonodd ein dymuniadau gorau at Mrs Gretta Cartwright ar ddathlu pen-blwydd arbennig iawn ddechrau’r mis. Hefyd, llongyfarchodd Iona Anderson a fyddai’n dathlu ei phenblwydd yn 80 ar Ionawr 26, gan ddymuno pen-blwydd hapus iddi. Tair o’n haelodau oedd yn ein diddori y mis yma, sef Mrs Beti Parry, Mrs Elinor Evans a Miss Glenys Roberts. Gan Beti cawsom ei hanes yn forwyn fach yn Ynysfechan, Arthog yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Griff Jones, Tyddyn Pandy, Llanbedr, yn was yno hefyd ac roedd carcharor rhyfel o’r Almaen yno hefyd, Hans Sondroch. Codi am 6.30 a gweithio’n galed drwy’r dydd ond yn amser hapus iawn. Dod ar ei beic o Arthog i’r Dyffryn i’r oedfa yn Horeb. Yn ddiweddarach dod yn forwyn i Goed Bachau. Ymuno â chwmni drama gydag Emyr Wynne, Gruffydd Owen, Dafydd Foulkes, Beti Coed Coch, Mary Priscilla ac eraill a mynd o gwmpasi berfformio’r ddrama er mwyn codi arian i Rhiannon Owen oedd yn dioddef o TB. Gan Elinor cawsom hanes ei phlentyndod yn Bronfoel Isa, yn Nhalsarnau a Caerllwyn. Plentyndod hapus iawn er yn dlawd. Chwarae tŷ bach hefo Alwyna Caerffynnon a mynd i aros i Bentre Ucha at Catrin, ei chyfnither. Llyfr llofnodion ganddi a merched Caerffynnon wedi ysgrifennu ynddo a’u merched hwythau sy’n aelodau o’r Teulu, wedi eu cyffwrdd wrth weld llawysgrifen eu mamau pan yn blant. Llawer o straeon difyr iawn ganddi. Ganwyd a magwyd Glenys yng Nghwm Bychan. Aeth a ni am dro drwy’r Cwm a sôn am y bobl oedd yn byw yn y ffermdai a’r tyddynnod gan eu henwi i gyd. Cofiant gwerthfawr iawn. Sôn am y dulliau o ffermio a phawb yn gweithio’n galed, yn gymdogol ac yn helpu ei gilydd. a’r drafnidiaeth – cerdded, beicio, ceffyl a chart a gambo. Diolchwyd yn gynnes iawn i’r dair gan Rhian am bnawn arbennig iawn ac fe’u hanogodd i anfon rhai o’r hanesion i’r Llais. Ar Chwefror 20 byddwn yn cael cwmni Edwina Evans.
CYFARFOD YN AWSTRALIA
Diolch Dymuna Ronnie a Gwyneth Davies, Pentre Uchaf, ddiolch am y cardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniwyd ar achlysur dathlu 60 mlynedd eu priodas ar 3 Ionawr. Diolch a rhodd £10. Priodas ruddem Anfonwn ein llongyfarchiadau a’n dymuniadau gorau i Dei ac Alma Griffiths, Bryn Coch, fydd yn dathlu 40 mlynedd o fywyd priodasol ar 17 Chwefror. Diolch Diolch i gyfaill di-enw o’r ardal am gyflwyno ei ffi am ddarlithio i Llais Ardudwy yn ddiweddar.
8
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
Gwahoddir ceisiadau am: TENDR 1 Tendrau i dorri a chlirio gwair unwaith y mis ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus a gwneud gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio unwaith y mis yn hen fynwent Llanddwywe a mynwent Llanenddwyn. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflen dendr, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. TENDR 2 Tendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thaly-bont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflen dendr, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. TENDR 3 Tendrau i dorri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri a chlirio gwair o amgylch y sedd ym Mro Enddwyn, o amgylch y sedd ar ffordd Ystumgwern a ffordd y Llan a ffordd yr Efail. Am fwy o fanylion a chopi o’r ffurflen dendr, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau 28.2.19 NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI EI ANFON I MEWN AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL
Ar ymweliad ag Awstralia yn ddiweddar, cyfarfu Glesni a Gavin Fitzgerald, Aelwyd y Gof, Dyffryn, â ffrind ysgol i Glesni, sef Zara Mills, merch ieuengaf Nick a Meirwen Mills, Murmur yr Afon, Dyffryn. Ar ôl derbyn ei haddysg yn lleol, graddiodd Zara mewn nyrsio ym Mhrifysgol Caer. Mae wedi ymfudo i Sydney, Awstralia ers 2008 ac erbyn hyn mae ganddi radd Meistr ym Maes Iechyd Meddwl. Llongyfarchiadau Zara. Yno hefyd mae ei dwy chwaer, Krysta sy’n briod â Gwyddel, ac mae ganddynt fab bach; a Jessica, sy’ briod â brodor o Fiji ac mae ganddynt ferch fach. Mae Nick a Meirwen yn ymweld mor aml ag sy’n bosib. Dymuniadau gorau i’r teulu i gyd.
Gwasanaethau’r Sul Horeb CHWEFROR 10 Elfed Lewis 17 Anthia a Gwennie 24 Parch Gareth Rowlands MAWRTH 3 Parch Harri Parri, am 5.30
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Yn ddiweddar, mae Jodie Pritchard, sy’n Arolygwr a Phrisiwr Siartredig gyda chwmni Bailey a’u Partneriaid, wedi llwyddo yn arholiadau Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol. Llongyfarchiadau mawr iddi gan Ed, Helen a gweddill tîm Bailey a’u Partneriaid.
Ambiwlans awyr Braf oedd gweld Nineteen57 yn orlawn Nos Sul, Rhagfyr 23. Diolch am bob cefnogaeth. Codwyd £313.25 ar y noson a gyda chyfanswm y bocsys ar y bar rhoddwyd £578.10 i elusen Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru. Diolch hefyd i Gôr Meibion Ardudwy am yr adloniant gwych. Byddwn yn cynnal noson garolau eto ym mis Rhagfyr 2019. Dymuna Siôn ac Iola ddiolch yn ddiffuant i bawb am eu cefnogaeth i’r noson arbennig hoh. Rhodd £20
Dyweddiad Llongyfarchiadau i Lucy, merch Barbara Telfer, Llanfair ac ŵyres Ron ac Olwen Telfer, Pentre Uchaf, Dyffryn ar ei dyweddiad â James yn Southampton. Dymuniadau gorau i’r pâr ifanc.
ÔL-RIFYNNAU Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy
AR OSOD 8 PENTRE UCHAF, DYFFRYN ARDUDWY. LL44 2HF FFLAT 1 LLOFFT, LLAWR GWAELOD
Mae gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) fflat sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar ar osod ym Mhentre Uchaf - adeilad sydd wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer pobl hŷn, anabl neu fregus sy’n mwynhau byw yn annibynnol. Cyfleusterau’r fflat: Lolfa Cegin Un llofft Ystafell ymolchi gyda chawod anabl System wresogi gymunedol Cyfleusterau’r safle: Lifft Lolfa gymunedol Cegin gymunedol Decin allanol Gwasanaeth warden a larwm argyfwng System mynediad electroneg Maes parcio ar y safle
I wneud cais am un o’r cartrefi hyn, cysylltwch â Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd ar 01286 685100 neu e-bostiwch opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
MATERION YN CODI Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor Cytunwyd i ofyn i Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd ddod i roi hyfforddiant i’r aelodau ynglŷn â’r Cod Ymddygiad, hefyd newid risg y praesept o ganolig i isel ac ychwanegu’r cae pêl-droed i’r polisi. Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2019/20 Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r mater uchod a phenderfynwyd ar yr amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa – yswiriant y Cyngor £2,200, cyflog y Clerc £2,205, costau’r Clerc £1,920, treth ar gyflog y Clerc £441, Cyfrifydd y Clerc £192, cyfieithydd £1,800, cyfraniadau £2,000, Neuadd Bentref £3,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £10,365.50 , Ambiwlans Awyr Cymru £500, torri gwair y mynwentydd £3,500, torri gwair y llwybrau £1,500, torri gwair bob man arall £3,000, biniau halen £300, rhent y cae pêl-droed £52, goleuadau Nadolig £500, meinciau £1,000, costaur Cyngor £200, costau mynwent £3,500, Un Llais Cymru £300, amrywiol £1,000, llogi’r Neuadd Bentref £220, cyfraniad i gadw toiled Tal-y-bont yn agored £4,000, archwiliad y parciau chwarae £300, cynnal a chadw’r potiau blodau yn Nhal-y-bont £250, gwefan y Cyngor £120, datblygu maes parcio £3,000, archwilwyr £650, potyn argyfwng £1,500, cyfrif y Cadeirydd £100. Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2019/20 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd codi’r praesept i £35,000. MATERION A DRAFODWYD AR ÔL Y PWYLLGOR CYLLID CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu estyniad ochr unllawr, newidiadau i ffenestri, trosi garej yn ystafell wely a newidiadau i do penty polycarbonad i ffurfio to brig gwydr ar ben yr ystafell haul – Pant yr Wylan, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’rcais hwn. GOHEBIAETH Llywodraeth Cymru Gan mai 1179 o etholwyr sydd gennym, mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £9,573.48 i gyrff allanol. Cyngor Gwynedd Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon, ac er mwyn cael sefydlogrwydd a threfniadau effeithlon, fabwysiadu cytundebu am ddwy flynedd (2019-20 a 2020-21), gyda’r cyfraniadau’n cael eu talu flwyddyn ar y tro. Cytunwyd i ymrwymo i’r cynllun hwn am ddwy flynedd. Theatr y Ddraig, Bermo Gofynnwyd am gyfraniad ariannol gan nodi eu bod wedi gofyn i Gyngor Tref Bermo am 30% o’r costau cynnal a chadw, ag yn gobeithio am 30% gan weddill y dalgylch. Felly drwy dorri’r cyfraniadau i lawr rhwng Cynghorau y dalgylch ar sail maint poblogaeth pob Cyngor, maent yn gofyn i Harlech, Dyffryn Ardudwy a Ddolgellau am £1,050 yr un, a Llanfair, Llanbedr a Llanelltyd am £450 yr un, i wneud cyfanswm o £4,500 i gyrraedd yr un cyfanswm â Chyngor Tref Bermo. Cytunwyd yn unfrydol i beidio rhoi cyfraniad ariannol i’r uchod oherwydd bod gan y Cyngor ddigon o wariant ei hunain ar yr hyn sydd angen ei wneud heb ddechrau cyfrannu tuag ag gadw safleoedd y tu allan i’r ardal yn agored.
Neuadd Goffa, Harlech Wayne Denton yn dynwared caneuon
NEIL DIAMOND Nos Wener, Chwefror 15 am 8.00 o’r gloch Tocyn: £10 Bar Llawn
CYMDEITHAS HANES HARLECH Llongddrylliadau a llongau tanddaerol (U-boats) ym Mae Ceredigion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fydd pwnc y ddarlith nesaf gan Gymdeithas Hanes Harlech yn y Neuadd Goffa, ar Nos Fawrth Chwefror 12 am 7.30. Croeso i bawb. Mynediad am ddim i aelodau; £2 i eraill gan gynnwys te/coffi a bisgedi.
9
DIWEDD TRALLODUS ROBERT W ROBERTS, POSTMON, GYNT O’R BERMO - Rhan 2
Hanai Robert W Roberts (185586) o Lanaber, y Bermo. Ei rieni oedd Owen Roberts (1804-58), Llanaber, a Laura Roberts (181099), Goetre Isaf, Llanenddwyn. Yr oedd yn frawd i Ellis Roberts, saer maen, y Bermo; Ebenezer L Roberts (m 1908) yn Tacoma, Washington, ac yno y claddwyd ef. Cyrhaeddodd Silverton yn 1875 lle bu’n cadw siop ddodrefn a nwyddau metel am nifer o flynyddoedd. Yr oedd wedi buddsoddi llawer mewn eiddo a mwyngloddio. Symudodd i
Tacoma yn 1901 ar ôl gwerthu ei fusnesau yn Silverton. Brawf hefyd i Gwendolyn Roberts (1856-1917) a ymfudodd yn 1887. yr oedd R W Roberts yn ŵr i Jane Griffith (1857-1947) o Ddolgellau, ac yn dad i Laura (1881-1955), Robert, Owen (1883-1963), ac Evan Roberts (1885-1937). ymfudodd or Bermo i Silverton, Colorado, yn Ebrill 1885, ynghyd â’i fam weddw, ei wraig, a thri o blant. Gwnaeth ei gartref yn San Juan,
Silverton. Yn dilyn claddedigaeth R W Roberts yn 1886, codwyd cofeb ar ei feddrod, ar ochr mynydd Boulder, yn yr adran Gymraeg o’r fynwent, sef Hillside. Pan fu farw ei fam, dair blynedd ar ddeg ar ei ôl, claddwyd wrth ei ymyl a chodwyd colofn ar ei bedd hithau, un mwy ei faint, yn cynnwys enwau y ddau. Ail-briododd Jane, ei wraig, yn Hydref 1900, gyda Joseph Felton (1857-1930) o Ohio. Bu Jane farw yn 1947. Blwyddyn marwolaeth R W Roberts ymddangosodd llythyr ym mhapus ‘Y Dydd’, papur wythnosol a chyffredinol i Gymru, cyhoeddwyd yn Nolgellau, dyddiedig Mai 23, 1886, gan Jane Roberts, priod R W Roberts: ‘Hoffus gyfeillion yng ngwlad fy ngenedigaeth, Y mae gennyf y gorchwyl pruddaidd o’ch hysbysu am farwolaeth fy annwyl briod, R W Roberts, ‘mail carrier’, yr hyn a ddigwyddodd ym mis Ebrill diweddaf. Cafodd ei ladd gan ‘snow slide’ pan yn marchogaeth ar fastard mul gyda’r ‘mail sack’ o Silverton i Red Mountain. Nid oedd ond blwyddyn er pan yr ymfudasom o’r Goetre Isaf, Abermaw.’
R W Roberts ‘Byddaf yn dra ddiolchgar am air o gydymdeimlad oddi wrth rhai o’m hen gyfeillion, a darllenwyr y Dydd. Y mae gennyf bedwar o blant bach, yr ieuengaf yn bymtheng mis oed. Duw a rodda nerth i mi ddal dan y brofedigaeth. Ydwyf ei weddw, Jane Roberts, gynt o Tyn y ffridd, Llanfachreth, Meirion.’ Wele ei feddargraff: Nid henaint blin na chystudd chwaith A roddodd derfyn ar fy nhaith Ond eira ddaeth drwy arch fy Nuw A hwy o funud ni chawn fyw. W Arvon Roberts, Pwllheli [I’w barhau]
DYDDIADUR Y MIS
SGWRS A SLEIDIAU
/\
COFIWCH GEFNOGI 10
Chwefror 7 – Hyfforddiant Peiriant Diffibriliwr, Neuadd Gymuned Talsarnau, 7.30 Chwefror 9 – Sgwrs gan Jean Napier, Caffi Glan Dŵr, Pwll Nofio, Harlech, 7.30 Chwefror 12 – Teulu’r Castell, Neuadd Llanfair, 2.00 Chwefror 13 – Gwasanaeth yn Eglwys Sant Tanwg, Harlech Chwefror 14 – Festri Lawen, Festri Horeb, Dyffryn Ardudwy, Maureen Rhys a John Ogwen, 7.30 Chwefror 15 – Sefydliad y Merched, Te Cymraeg, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, Chwefror 15 – Wayne Denton fel Neil Diamond, Neuadd Goffa Harlech, 8.00 Chwefror 18 – Cymdeithas Cwm Nantcol, Iwan Morgan, Chwefror 19 – Clwb Cinio, Sportsman, Porthmadog, 12.00 Chwefror 20 – Teulu Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, Edwina Evans, 2.00 Chwefror 23 – Sefydliad y Merched, Sêl Bwrdd, Cemlyn, Harlech, Mawrth 2 – Clwb Golff, Harlech, Côr Meibion Ardudwy, 7.30 Mawrth 6 – Darlith Gŵyl Ddewi, Capel Newydd, Talsarnau, 7.30 Mawrth 23 – Hafan Artro, Llanbedr, Côr Meibion Ardudwy, 6.00 Ebrill 13 – Cyngerdd Coffa Elen Meirion yn 50 oed, Y Ganolfan Porthmadog, 7.30, Côr Godre’r Aran, Rhys Meirion, Steffan Lloyd Owen, Elan Meirion, a Nic Parry yn arwain. Ebrill 14 – Treiathalon Harlech 2019, rhaghysbysiad er mwyn paratoi.
STRAEON AR THEMA: Canu Canu’n hwyr Un flwyddyn yr oedd fy nhaid, y diweddar Evan Wyn Evans, Tyddyn Llidiart, yn arwain Eisteddfod yn y Gwynfryn. Yr oedd yr eisteddfod wedi bod yn llwyddiant mawr a’r cystadlu yn frwd. Yr oedd yn agos at ddau o’r gloch fore trannoeth pan ddaeth hi yn amser y gystadleuaeth olaf, sef cystadleuaeth yr wythawd. Yr oedd dau yn cystadlu ac roedd Taid yn canu yn un ohonynt. Ar ôl y canu, dyma alw ar y beirniad, Mr Rhyddid Williams, i gloriannu. Dywedodd fod safon y canu yn yr eisteddfod yn uchel iawn ac nad oedd y Atal dweud Yn Eisteddfod Harlech ddiwedd gystadleuaeth hon yn eithriad. Roedd wedi ei chael yn anodd y 70au oedden ni ac Evie oedd i wneud y penderfyniad a’i fod yn arwain. Daeth John Morfa wedi gorfod manylu oherwydd Mawr ymlaen i gystadlu ar unawd unrhyw offeryn dan 15 os bod safon y ddau wythawd mor uchel. Ond, meddai, gan fod yr cofiaf yn iawn. Chwythu’r corn oedd o, ond rhaid bod ei wefusau wythawd a ganodd gyntaf wedi dal eu diweddebau yn well na’r yn brifo achos chafodd o ddim llawer o hwyl arni. Cysurwyd ef wythawd ganodd yn ail roedd y wobr yn mynd iddyn nhw a’r gan Evie gyda, ‘Doedd dim bai arnat ti John, rhyw hen atal deud wythawd arall yn ail da yn y gystadleuaeth. oedd ar y corn yntê!’ Roedd Taid yn canu yn yr PM wythawd ddaeth yn ail. Wrth gloi’r eisteddfod, diolchodd i’r Beirniadu beiniaid a dweud wrth Rhyddid Aeth beirniad ifanc dibrofiad Williams, ‘Wel, mi fysa ninna i feirniadu canu yn Eisteddfod wedi dal y diweddebau na hefyd, Ysgolion Sul Pen Llŷn rai wyddoch chi, ond ein bod ni’n ei blynyddoedd yn ôl. gweld hi’n mynd yn hwyr.’ Y gystadleuaeth gyntaf oedd unawd dan bump oed a’r pennill Heulwen Williams cyntaf o ‘Iesu Tirion’ oedd i’w Angen sol-ffa ganu. Yn eisteddfod bach Capel Daeth criw o blant bach del i Peniel, Tremadog, roedd y lawr i’r sêt fawr; rhai yn swil gweinidog wedi casglu tri ato i iawn a rhai yn morio o’i hochor hi. Roedd ambell un ar ei nodyn wneud pedwarawd ac roeddent wedi bod yn ymarfer nes cael ac ambell un fel arall. cryn safon. Yn ystod pnawn Wedi i’r olaf ganu, trodd y yr eisteddfod, teimlodd un beirniad at y beirniad adrodd a o’r blaenoriaid mai da o beth dweud nad oedd yn fodlon ar fyddai iddo yntau hefyd gasglu safon y gystadleuaeth a’i fod yn bwriadu datgan nad oedd neb yn pedwarawd at ei gilydd er mwyn cael cystadleuaeth. deilwng o’r wobr. Meddai’r beirniad adrodd wrtho, Ychydig iawn o ymarfer a gafodd yr ail bedwarawd ac ar y noson “Bobol annwyl, ddyn, ydach fe aeth hi’n flêr arnynt yn syth. chi’n gall? Os gwnewch chi Erbyn canol y pennill cyntaf, hynna awn ni ddim oddi yma yn fyw, mi fydd pob nain a phob roeddent wedi mynd i’r gors a bu’n rhaid ailgychwyn ac fe aeth mam wedi ein tagu ni cyn i ni yn drydydd-gychwyn wedyn. allu rhedeg allan trwy’r drws. Cododd y beirniad (O J Roberts, Yn y diwedd perswadiwyd y Cricieth) ar ei draed a lluchio beirniad canu i rannu’r wobr copi atynt gan holi, ‘Fysach chi yn gyfartal rhwng yr holl lecio cael ei sol-ffeuo hi gynta?’ gystadleuwyr. JBW JBW Eisteddfod hwyr Cofiaf fynd i Eisteddfod Llanfachreth. Tua 1976 oedd hi. Meirion Williams oedd yn beirniadau’r canu ac roedd o mor boblogaidd, roedd yno ddegau o gantorion eisiau beirniadaeth ganddo, a hynny ar yr unawd Gymreag a’r her unawd! Roedd hi’n eisteddfod hwyr iawn ac yn oriau mân y bore pan ddaethon ni adref. Dywedodd y diweddar Robin Griff, Chwarel Hen, Llanfair wrthyf ei fod wedi mynd yn syth i odro ar ôl cyrraedd adref! PM
Cadw at ei nodyn Roedd arweinydd wedi casglu côr at ei gilydd ar gyfer yr eisteddfod leol. Roedd un o’r cantorion yn peri blinder mawr iddo oherwydd ei fod yn canu allan o diwn yn y modd mwyaf ac wedi anwybyddu pob awgrym y dylai adael y côr neu wneud siap ceg tra roedd pawb arall yn canu. Roedd yr arweinydd wedi mynd cyn belled â rhoi amser a lleoliad anghywir yr ymarferion iddo, ond roedd yr hen foi yn cyrraedd pob ymarfer yn ddiffael. Fe wyddai’r arweinydd hefyd y byddai’n sicr o fod ar y llwyfan yn ystod y gystadleuaeth a chwynai am hyn wrth un o aelodau eraill y côr oedd yn un ffraeth ei sylwadau. Ei ateb oedd, ‘Peidiwch â phoeni am yr hen foi, mae o’n reit saff o’i nodyn.’ ‘Saff o’i nodyn?’ ‘Ydi siŵr, unwaith mae o’n cael ei nodyn tydi o ddim yn ei adael o wedyn tan ddiwedd y darn!’ Di-enw Pitsio’n uchel Gofynnwyd imi ganu wedi cinio cwmni ‘Transmara’ yn Iwerddon flynyddoedd yn ôl. A dyma bitsio cân Wyddelig yn ôl fy arfer, ond y tro hwn roedd y pits yn llawer rhy uchel. Chwarae teg iddo, mi geisiodd Phil gywiro pethau heb unrhyw lwc. Bu imi ddifetha lleisiau y rhai oedd yn cyd-ganu â mi am rai wythnosau ac maen nhw’n dal i edliw hynny imi. Bili Jones Recordydd tâp Meirion Thomas oedd aelod hynaf Côr Meibion Ardudwy am gyfnod maith. Ei drafferth fwyaf wrth heneiddio oedd dysgu’r geiriau ar y cof. I helpu gyda hyn, fe brynodd recordydd tâp. Byddai’n recordio cân ac yn yn ei chwarae gartref drosodd a throsodd. Roedden ni’n canu yn Theatr Ardudwy un tro ac wrth inni baratoi i ganu, dyma Meirion yn estyn am y recordydd o’i boced. Ond yn lle pwyso ‘record’ fe bwysodd o ‘play’. Ac fe glywsai rhai ohonom ddau gôr yn canu! Roedd o’n gymeriad a hanner. Roger Kerry
Adrodd Roedd y diweddar Glyn Roberts, Bermo yn unawdydd tenor gyda Chôr Meibion Ardudwy am flynyddoedd a bu’n swyno aml i gynulleidfa gyda’i lais melys. Melys iawn yw nifer o’r atgofion amdano. Roeddem yn canu yng Ngwesty Maesyneuadd i gynulleidfa o Saeson rhyw noson pan gafodd Glyn encore. ‘Beth arall s’gen ti Glyn? ‘Does gen i ddim cân arall,’ meddai Glyn, ‘ond mi fedra i adrodd ‘Y Cudyll Coch’ iddyn nhw!’ Ac fe wnaeth! PM
Llais Ardudwy Llais Ardudwy mis Ebrill 1977 Canlyniadau Eisteddfod Talsarnau UNAWD CÂN WERIN DAN 12 OED 1af Aled Morgan Jones, Cwm Nantcol. 2il Bryn Terfel Jones, Pantglas. Y TESTUNAU NESAF: Mawrth: Cadw ymwelwyr Ebrill: Garddio Mai: Gwyliau Diolch i bawb am ymateb i’r cais am straeon. ‘Cadw ymwelwyr’ amdani y tro nesaf, felly. Dylai bod stôr ddiddorol ar gael.
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU
Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair a thacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau. Am fwy o fanylion a chopi o’r cytundeb, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.19. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 28.2.19.
11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Dymunodd yr Is-lywydd, Gwenda Paul, Flwyddyn Newydd Dda i bawb yn nghyfarfod cyntaf eleni ar nos Lun, 7 Ionawr ac yna cyd-ganwyd cân y mudiad. Derbyniwyd nifer o ymddiheuriadau. Darllenwyd cofnod o’r cinio Nadolig ardderchog yn y Bistro, Harlech. Darllenwyd hefyd y llythyr o ddiolch gan Ymchwil Canser Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ein rhodd hael o £100 a gasglwyd ymysg yr aelodau a’i anfon atynt cyn y Nadolig. Fe’n hatgoffwyd am y gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglanllyn ar 22 Chwefror a chafwyd enwau’r rhai oedd yn barod i gymryd rhan – Anwen, Ann a Gwenda G – a hefyd tair arall nad oedd yn bresennol heno sef Siriol, Haf a Maureen. Penderfynwyd mynd allan am ginio Gŵyl Ddewi ar Mawrth 1af a chytunwyd i wneud ymholiadau am fwydlenni mewn dau le – y Grapes, Maentwrog a Chlwb Golff Harlech. Fe’n hatgoffwyd bod Cangen Harlech wedi cael gwahoddiad, ac wedi derbyn, i ymuno â ni ar 4 Chwefror, i glywed sgwrs gan John Christopher Williams o Feddgelert ar fyw a dysgu yn Papua New Guinea. Noson dan ofal yr aelodau oedd y tro yma a dechreuwyd gydag Anwen yn cyflwyno rhestr o enwau lleoedd i ni eu hadnabod, ar y ffurf oedd yn cael eu hynganu yn y modd rhyfedda’ gan y di-Gymraeg! Dipyn o waith dyfalu! Ymlaen wedyn i chwarae cardiau ac roedd rhai o’r aelodau yn awyddus i ddysgu chwarae chwist, gydag Ann a Gwenda G yn barod i ddangos sut i bawb - ond dechreuwyd gyda saith cerdyn yr un i’r timau a bu llawer o hwyl a chwerthin yn ceisio meistroli’r cyfan – a chofio beth oedd y ‘trumps’! Bydd angen dipyn mwy o ymarfer cyn cymryd rhan mewn gêm chwist go iawn!! Roedd y baned dan ofal Gwenda G a Meira, gyda Margaret yn ennill y raffl.
12
WELE’N CYCHWYN Wele’n cychwyn deithwyr hy’ Ar ryw hwyrol noson ddu. Wele ‘Penrhyn’ ddewr ei fron Ar y wibdaith fentrus hon. Ffordd y Barcdy wedi’i chau A’r trigolion yn eu gwlâu. Wedi bod yr oeddynt hwy Yn y Plygain, awr neu ddwy. Roedd angen capten ar y criw, I arwain confoi, oedd heb gliw Pa ffordd i ddilyn welwch chi, Tu hwnt i Soar, debyga i. Antur enbyd ydoedd hon, Ond hyder oedd gan bawb o’r bron. Cul y ffordd, rhaid cymryd pwyll Rhaid dilyn hwn heb frad na thwyll. Ond ar y daith, does neb a ŵyr O le y daeth, a hi mor hwyr, Y Mountain Rescue lydan, fawr, Yn dod i’w cwfwr... ‘Be wnawn ni nawr?’ Rhaid bacio beth.. ond yn y strach O basio’n saff, bu ennyd fach O ddrysu’r map – aeth pethau’n rong! “Mae’r ffordd ’ma’n arwain i Hong Kong!” Troi’n ôl a wnaed ’mhen hir a hwyr. Pa le y buont? Wel, Duw a ŵyr! Ond anffawd pellach nes ymla’n Car styfnig arall wrthodai’n lân A bacio’n ôl, a dyna’r cam A gaed i’n llywydd, ŵr dinam! Y stori’n fyr, arbedwyd ffeit, Cyrhaeddwyd adre’n ddiogel reit!
TEYRNGED
Margaret ‘Megan’ Hughes
Ganwyd Margaret, ond Megan i ni, yn Brynstryd, Talsarnau, yn ferch i Jane Ellen Smith a William Henry Smith yn 1935, yn un o bedwar o blant, sef Gladys, Ken, Martha a Margaret. Mynychodd ysgol gynradd Talsarnau a’r ysgol Central yn Blaenau. Cafodd amryw o swyddi; bu yn forwyn yn Rhosigol, yn glanhau yn y Ship, ac yn gweini mewn caffi yn Harlech cyn cyfarfod ei darpar ŵr, Evan oedd ar y pryd yn was ffarm yn Tŷ Mawr, Talsarnau. Mynd ar y bws i’r Blaenau i briodi oedd y drefn yn 1952, ac yna ymgartrefu yn 29 Stryd Fawr, Talsarnau, cyn symud i Maes Mihangel yn Ynys lle magwyd y genod Jean, Helen, Beth a Linda. Treuliodd y ddau 46 mlynedd hapus o fywyd priodasol gyda’i gilydd cyn colli Evan. Roedd nid yn unig yn fam wych ond hefyd yn nain annwyl a charedig i 11 o wyrion a 15 o or-wyrion. Roedd yn ffrind ffyddlon i Betty a’r ddwy wrth eu boddau’n mynd i’r bingo, a chafwyd lot o hwyl a chwerthin. Wrth i’w hiechyd ddirywio roedd yn ddiolchgar iawn i ofalwyr Abbacare am eu cyfeillgarwch, cwmpeini a gofal, felly hefyd y nyrsys cymuned a meddygon Bron Meirion, ac er nad oedd llawer o grwydro na gadael y tŷ’n aml iawn, roedd yn gwybod be oedd yn digwydd ym mhobman a byddai’r ffôn yn aml yn brysur, gan fwyaf efo Robat – y ddau’n rhannu hanes hwn a’r llall a chael chwanag o sgandals! Roedd Megs yn aelod ffyddlon o’r eglwys, hefyd roedd yn hoffi gwnïo a gwau, ac mae ei chlustog penlinio priodasol yma hyd heddiw. Wrth i’w golwg waethygu roedd yn cael pleser o wrando ar ddisg Llais Ardudwy, ac roedd hefyd yn hoff o fyd natur, anifeiliaid, ac adar. Dynes garedig, hwyliog, yn barod ei chymwynas ag unrhyw un oedd Megs. Ei theulu oedd yn bwysig iddi, a byddai wastad yn holi’r wyrion be oedd yn digwydd yn eu bywydau ac yn rhoi hwb i bawb. Bydd bwlch enfawr ar ei hôl, a thrwy’r dagrau cawn gysur o’r atgofion melys a’r amser a dreuliwyd yn ei chwmni.
Ac wele heddwch rhwng dyn a dyn! Diolch A’r wers i bawb? ‘Pawb drosto’i hun!’ Carwn ddiolch yn fawr i bawb Di-enw
Cydymdeimlo Carem gydymdeimlo â theulu, cymdogion a ffrindiau Joyce Wood, Soar, a fu farw’n ddiweddar. Bu’n aelod o Sefydliad y Merched ag amryw gymdeithas yn ogystal â Chlwb y Werin yn y Neuadd. Mi’r oedd yn siriol bob amser a llawn diddordeb ym mhopeth yn arbennig byd natur. Hoffai gerddoriaeth a bu’n dawnsio llinell am flynyddoedd; gwnaeth ffrindiau da ac roedd hyn mor amlwg yn y nifer yn yr angladd a’r te i ddilyn yn y Neuadd. Cyn ei marwolaeth, ar noson olaf y flwyddyn, cafwyd noson gymdeithasol fach yn Garth, Soar (cartref Joyce), digwyddiad blynyddol i’w theulu a chyfeillion. Daeth 6 o’r teulu agosaf i aros ati am ychydig nosweithiau oherwydd byddai Joyce yn gant oed eleni pe byddai wedi cael byw.
am eu caredigrwydd, gyda’r ymweliadau, cardiau a galwadau ffôn ar ôl imi golli fy mab Alun Gerallt Huws. Diolch yn fawr i chwi. Llinos Llyfni Hughes. Rhodd a diolch £10 Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad i deuluoedd yn yr ardal sydd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Rydym yn meddwl am Eifion Williams, Cilfor, a’r teulu, wedi colli brawd hynaf Eifion ym Mhenmachno. Hefyd am deulu Megan Hughes, Maesmihangel, yr Ynys yn eu colled hwythau. Bu farw Dafydd Hughes, Penrhyn, ei nai, yn fuan ar ei hôl, a rydym yn meddwl am Ann, chwaer Dafydd.
Colli Prydwen Bu farw Mrs Prydwen Jenkins, gynt o’r Ynys, yn Llandudno yn ddiweddar ac anfonwn ein cofion at ei theulu. Deallwn y cynhelir gwasanaeth coffa i Prydwen yn Eglwys Llanfihangel yn y dyfodol – y dyddiad i’w gyhoeddi. Rhoddion Diolch i Sally ac Emrys Williams ac i Trebor Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau i Llais Ardudwy.
Darlith Gŵyl Ddewi Capel Newydd, Talsarnau. Nos Fercher, 6 Mawrth am 7:30 “William Salesbury - Dadeni, Diwygiad a dyn ar dân” Darlithydd Dr Rhun Emlyn, Aberystwyth. Croeso i bawb.
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Cydymdeimlodd y Cadeirydd ag Eifion Williams a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei frawd yn ddiweddar. MATERION YN CODI Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor Byddwn yn gofyn am ddau bris o leiaf os yn bosib pan yn gofyn am dendrau os yw’r amcan gost yn mynd i fod yn fwy na £1,000. Cyllideb y Cyngor am 2019/20 Dosbarthodd y Trysorydd gopïau o gyfrifon y Cyngor hyd at y 31ain o Ragfyr 2018 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r mater uchod a phenderfynwyd ar yr amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa – yswiriant y Cyngor £800, cyflog y Clerc £1,700, costau’r Clerc £1,500, costau swyddfa £400, treth ar gyflog y Clerc £340, Cyfrifydd y Clerc £192, cyfraniadau £3,000, pwyllgor Neuadd £1,500, Cylch Meithrin Talsarnau £1,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £4,013.10, torri gwair y mynwentydd £1,800, costau’r fynwent £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, cynnal a chadw Gardd y Rhiw £300, seddi cyhoeddus £1,000, Un Llais Cymru £100, cynnal a chadw cae chwarae £5,000, datblygu maes parcio Cilfor £10,000, amrywiol £1,000, llogi ystafell bwyllgor £150, archwilwyr £650, biniau halen £1,000, cyfrif y Cadeirydd £100. Presept y Cyngor am y flwyddyn 2019/20 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd cadw’r presept ar £20,000. MATERION CYNGOR GWYNEDD Nid yw Cyngor Gwynedd yn fodlon rhoi llinellau melyn dwbl ar y rhiw am Soar oherwydd eu bod o’r farn bod y ffordd yn ddigon llydan; datganwyd siom am hyn a gofynnwyd i Freya Bentham fynd yn ôl atynt a datgan bod ceir yn parcio ar y ddwy ochr a bod y gwasanaethau brys yn cael trafferth i fynd i fyny’r ffordd, a gofyn iddynt ailosod y llinellau melyn oherwydd bod rhai yna yn y gorffennol. Cynhelir arolwg cyflymder yn Llandecwyn yn fuan. Nid yw maes parcio ger Capel Soar wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir er ei fod yn berchen iddynt. Rhaid gweithredu ar y llecyn hwn ar fater o frys oherwydd bod y sawl sydd wedi prynu’r pedwar tŷ gyferbyn â’r llecyn hwn yn ei hawlio. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynghyd â map yn dangos y lleoliadau lle maent yn bwriadau gosod llinellau melyn dwbl yn yr ardal yn gofyn a oes gan y Cyngor unrhyw sylwadau ar hyn. Cytunwyd bod angen ymestyn y llinellau melyn y maent yn bwriadu eu rhoi gyferbyn ag ystad dai Cilfor yr holl ffordd i fyny am ystad Bryn Eithin ar yr ochor chwith i’r ffordd a gwneud i ffwrdd hefo’r rhai maent yn bwriadu eu gosod ar yr ochor dde o groesffordd ystad dai Cilfor ar i fyny. Cylch Meithrin Talsarnau Cytunwyd i gyfrannu £1,000 i Gylch Meithrin Talsarnau rŵan a gadael iddynt wybod y bydd y Cyngor yn cyfrannu £1,000 iddynt yn flynyddol bob mis Mawrth o hyn ymlaen oni bai eu bod mewn argyfwng ariannol ac angen cymorth yn gynt. Bydd rhaid i’r Cyngor gael llythyr cais ganddynt
Neuadd Gymuned HYFFORDDIANT DEFNYDDIO DIFFIBRILIWR Neuadd Gymuned Talsarnau nos Iau, 7 Chwefror 2019 am 7.30 o’r gloch. Mae Pwyllgor y Neuadd wedi trefnu hyfforddiant arbennig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio’r offer uchod. Rhoddir yr hyfforddiant gan un o Ymatebwyr Cyntaf Harlech ac aelod o’r Gwasanaeth Ambiwlans. Mae croeso cynnes i unrhyw un ddod i’r noson.
Capel Newydd Oedfaon am 6:00yh CHWEFROR 10 - Alun Thomas 17 - Dewi Tudur 24 - Rhodri Glyn MAWRTH 3 - Dewi Tudur EBRILL 10 - Dewi Tudur
BWYD A DIOD Madarch Eryri a Sir Drefaldwyn
Hawdd yw digalonni gyda’r sefyllfa wleidyddol bresennol. Yn y byd gwin, gwelir cwmnïau mawr yn prynu gwerth cannoedd o filoedd o stoc i allu cadw’r gadwyn cyflenwi yn fyw a ddi-stŵr. Felly, mae’n rhaid i ni wneud yr un peth fel cwmni bach a cheisio dyfalu sawl ces o win ychwanegol fydd eu hangen arnom: ‘B’ caled/meddal, rhywle yn y canol? Duw a ŵyr! Felly braf oedd cael ein hysbrydoli yn lansiad menter newydd Yr Ardd Fadarch gan Cynan a June Jones mewn partneriaeth gydag Arwyn a Gwenllian Davies yn ddiweddar ym mwyty Y Checkers. Wrth gwrs, nid yw’r cwmni yn ddiarth i ni; mae Cynan a June wedi bod yn tyfu madarch ers blynyddoedd – rhowch binsiad o bowdwr madarch yn eich cawl, omlet neu pate i’w droi’n rhywbeth sbeshial. Ond, daeth yr amser i wneud penderfyniad allweddol am y busnes: datblygu a thyfu neu gychwyn cwtogi, ac yn ffodus, trwy bartneriaeth gydag Arwyn ar ei fferm ger Llanerfyl roedd yn bosib cael mynediad i’r tir ychwanegol roedd ei angen i godi dau dwnnel polythen a chynhyrchu ar raddfa sylweddol fwy. Ar adeg fregus fel hyn, mae arallgyfeirio yn ddewr ac yn fentrus ond hefyd yn hanfodol ac yn gwneud synnwyr llwyr i’r ddau deulu. Yn ogystal â’r powdwr madarch, cyflwynwyd cynnyrch newydd gyda ‘refferendwm’ (doniol iawn!) ar y noson i bawb roi barn ar ba un oedd y gorau. O croutons â blas madarch i greision madarch, mae’r safon yn wych ac mae’r stori yn un dda hefyd. Trwy arbrofi a damweiniau lwcus yn aml y tyfodd y syniadau: gwneud croutons i allu blasu’r powdwr madarch a sylweddoli bod syniad newydd wedi magu. Rŵan ta, mae dipyn o sôn am y trafferthion o bartneru madarch gyda gwin ond roedd gwydraid o goch o Bourgogne yn hyfryd gyda’r Shiitake a ffriodd Dylan gyda saws gwin gwyn a hufen ar ôl cyrraedd gartref. Mae’n dda cael rhyw flas bron yn llysieuol yn y gwin. Dwi’n gwybod nad ydy hyn yn swnio’n neis iawn ond mae o bron fel bresych wedi’i ferwi. Gall hyn gydweddu gyda blas eithaf pwerus a dwys y ffwng heb ladd yr elfennau eithaf cain. Pob lwc i’r bartneriaeth newydd a hynod gyffrous yma sy’n dal golau (prin ddyddiau yma) i’r ffordd ymlaen i ffermwyr ac unigolion o Gymru sydd awydd mentro. Safon uchel, unplygrwydd a stori dda – mae hud y madarch yn un cryf! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad, Dolgellau
13
HYSBYSEBION
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR * Cartrefi * Masnachol * Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831
e-bost:alunllyr@hotmail.com
14
LASYNYS FAWR, HARLECH Pe teithid oddi ar yr A478 tua Maentwrog ac ymuno â’r B4537 ar hyd hen lôn Harlech, heibio Glyn Cywarch, cartref teulu Arglwydd Harlech, nes gweld tyrrau castell Harlech yn y pellter, fe ddeid at fynediad Lasynys Fawr. Dyma gartref y llenor anfarwol Ellis Wynne 1671-1734. Wrth glywed ei enw, cysylltir ef â sawl campwaith llenyddol, a’r enwocaf ohonynt – a egyr gyda’r geiriau “Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn, tesog, mi a gymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru a chyda mi sbienddrych i helpu ‘ngolwg egwan i weled pell yn agos a’r bychain yn fawr.” (Gweledigaethau’r Bardd Cwsg 1703). Nid llenor yn unig oedd y gŵr hwn, ond person mawr ei barch yn ei blwyf. Bu eglwys Llandanwg, Llanbedr a Llanfair dan ei ofalaeth ac yn yr olaf o’r tair y gorwedd y gŵr ei hun o dan lechi’r allor. Ond roedd o hefyd yn ŵr a feddai ar fwy nag un math o weledigaeth. Pan godwyd y rhan wreiddiol y Lansynys Fawr nôl yn 1600 gellid ond fod wedi teithio ato mewn cwch, neu ar droed pan fo’r môr ar drai. Gellir gweld siap yr “ynys” yn glir heddiw wrth edrych i gyfeiriad y tŷ. Roedd yr ynys hon yn un o bump o ynysoedd, a dim ond un o’r rheiny sydd â rheswm dilys i’w galw ei hun yn “ynys” heddiw, sef Ynys Gifftan. Ond yn y Lasynys, lle codwyd y tŷ yn llythrennol ar graig, os nad hefyd yn drosiadol, golyga fod tywydd gwlyb yn tampio tu fewn i’r cartref yn ogystal. Gellid ond dychmygu pa mor llaith oedd awyrgylch y tŷ na wnai les i iechyd y sawl a drigai yno. Wrth wynebu’r tŷ hynafol hwn heddiw, gellir gweld rhaniad amlwg ble unir yr hen a’r newydd. Yr hen a berthyn i’r ail ganrif a’r bymtheg, a’r newydd a berthyn i 1715. Gwynebu’r hen ran o’r tŷ gastell Harlech i’r gorllewin. Ond pan benderfynodd Ellis Wynne, yn ddeugain a phump oed ei fod am ymestyn y Lasynys, penderfynodd y byddai’r rhan newydd, fodern hon yn wynebu Moel Goedog, sef cefnen goedog, fel yr awgryma’r enw, sy’n cyd redeg gyda hen lôn Harlech oddi tano. Rhamantir weithiau gan dywyswyr y tŷ hwn mai ar ben Moel Goedog y gosododd yr awdur ei hun ar ddechrau’r Gweledigaethau. Yn wir, fe welai Ellis Wynne ymhell, ac adlewyrchir hyn yn ei gartref. Gorffennwyd y gwaith yn 1721.
Mae’r llawr isaf yn ddigon syml, gyda’r llechi wedi eu gosod ar lawr yno ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yn wreiddiol, fodd bynnag, pridd oedd yno. Yma cedwid yr anifeiliaid, yn ôl yr arfer er mwyn gwresogi’r llawr cyntaf. Soniwyd eisioes bod y tŷ yn sownd i’r graig yn ei gefn. Nid oedd hyn heb ei fanteision chwaith. Yma, yng nghefn y llawr isaf, cedwid steilin anferth y tu ôl i’r grisiau gwreiddiol mewn cilfach oer. Enwir y gilfach hon yn “Deri” gan y tywysywyr. Mae tyllau draen i’w gweld yn y llechi ar lawr hefyd, ond, afraid dweud, yn allweddol i arwain y gwlybaniaeth am allan. Ar y llawr cyntaf cysgai’r gŵr ei hun. Ni ddylid datgelu gormod o gyfrinachau’r tŷ yma, ond dylid dweud bod gwefr i’w chael wrth weld prif ddodrefnyn ei lofft. Yn ôl y sôn, nid oedd yn rhannu’r ystafell hon gyda’r un o’i ddwy wraig. Gwell egluro mai marw ddaru Lowri Wynne, ei wraig gyntaf o Foel y Glo ym 1699 ar enedigaeth eu mab cyntaf, Edward Wynne. Bu
farw ei ail wraig, Lowri Llwyd o’r Hafod Lwyfog, Sir Gaernarfon ym 1720. Ar yr un llawr â’i lofft, mae’r neuadd. Agora ddrws y Neuadd i ardd deras, ble y croesawid ymwelwyr i’r tŷ. Llecyn braf a edrychai dros y môr ‘slawer dydd, sydd hefyd yn gartref i syndod nas datgelir yn y darn hwn. I fewn yn y neuadd ceir lle tân anferthol gyda distyn pren o’r un lled ar ei thraws. Ac unwaith eto, ceir celficyn cerddorol hynod iawn yn y neuadd hefyd a berthynai i Ellis Wynne ei hun sydd ar fenthyg gan yr Amgueddfa Genedlaethol. Pe dilynid y grisiau cerrig o’r neuadd i’r llofftydd, fe ddeid yn syth i lofft y morynion (cysgai’r gweision yn y stabl tu allan). Yna ceir labyrinth o lofftydd yn arwain i’w gilydd gan gynnwys llofft Lowri Llwyd, meithrinfa, capel bychan a llofft fawr y plant. Wedi priodi Lowri Llwyd yn fuan ar ôl colli ei wraig gyntaf a’i fab, ganwyd iddynt naw o blant. Diau fod cyflwr llaith y tŷ wedi bod yn achos colli pedwar ohonynt hwythau, ond arhosodd y teulu yn ddigon mawr i’r plant oedd ar ôl hawlio’r llofft fwyaf ohonynt i gyd. Ond o’u llofft nhw arweinia grisiau pren i’r ystafell fwyaf godidog ohonynt i gyd, sef yr ystafell werdd. Unwaith eto, nid gwaith yr erthygl hon ydy dadlennu cyfrinach yr ystafell, ond gellid dweud mai yn oes Ellis Wynne, â chalch a baw gwartheg y cynhyrchwyd paent o’r lliw hwn. Erbyn heddiw, rhedir y Lasynys Fawr gan Cyfeillion Ellis Wynne, a chynhelir teithiau tywys hynod ddifyr ac addysgiadol i grwpiau waeth pa mor fawr neu fach, a chynigir paned a rhywbeth melys yn y Tŷ Popty, sef hen fecws o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i adnewyddu ar y safle ; profiad pleserus ynghanol un o ardaloedd godidocaf Ardudwy. Dymuna’r Cyfeillion estyn gwahoddiad i drigolion Cymru ben baladr a thu hwnt draw i’r Lasynys ac i ymuno fel aelod o’r elusen. Gall cynyddu nifer yr aelodau arwain at ddatblygiadau pellach ar y safle, megis arlwy addysgiadol gydol oes – nad yw’n cyrraedd ei lawn botensial ar hyn o bryd. Am ymaelodi, rhennir holl wybodaeth gyda’r aelodau am yr holl achlysuron a drefnir gan y Cyfeillion yn ystod y flwyddyn, a llyfryn gwybodaeth am y tŷ yn ogystal. Pe dymuna’r darllenydd ymaelodi, dylid cysylltu â tudur.colwyn@tiscali.co.uk, sef trysorydd y Cyfeillion. Edrychwn ymlaen at eich croesawu acw.
15
Atgofion bore oes
– rhan 6, gan Ann Doreen Thomas
Yn dilyn ei phlentyndod cynnar yn Harlech, symudodd y teulu o’r ardal. Dyma’r hanes yn parhau: Roeddwn wedi dod i arfer â sŵn awyrennau ni ond daeth yna aeroplanes â sŵn gwahanol, a dyma Mam yn dweud os clywon ni rai fel yna, bod eisiau inni fynd o dan y gwrych yn syth, nes fyddai’r sŵn wedi mynd, pa tae ni ar y ffordd hebddi hi. Daeth yna lythyrau i’r ysgol i ni fynd adref i’n rhieni; be oeddynt, oedd y llywodraeth yn annog i blant fynd i Canada am adeg y rhyfel. Mi ddwedodd Mam os oedden ni yn mynd i gael ein lladd, wel, y basa ni i gyd yn mynd gyda’n gilydd ac ni chawsom fynd. Ond mi aeth yna rai a mi suddwyd y cwch gan submarine ond fe guddiwyd y newyddion oddi wrth y cyfryngau rhag ofn creu stŵr. Roedd dros 400 o blant a bobl ar y cwch. (Rwyf yn siŵr bod posib cadarnhau hyn.) Mi aeth pethau yn eu blaen yn yr ysgol ond oedd yna sawl desg wag nes ddaru nhw aildrefnu y stafell. Un bore newydd inni gyrraedd yr ysgol ac yn setlo hefo’r register, dyma’r seiren yn mynd a’r athrawes yn dweud inni godi ein gas masks a bag bwyd a mynd allan i’r iard a leinio i fyny. Y merched mewn un rhes a’r hogiau yn y llall. Roedd Mam wedi siarsio fi i gadw llygad ar Hilary bob amser, ‘Paid â gadael iddo fo fynd ar ei ben ei hun o dy olwg,’ fydda hi yn ei ddweud. Felly dyma fi yn chwilio amdano fo yn rhes y bechgyn, a dyna lle’r oedd o yn crio. Felly dyma fi drosodd ato fo a dod â fo i res y merched. Wel, mi welodd yr hen Miss Fish fod Hilary yn rhes y merched a finnau yn gafael yn dynn yn ei law, a dyma hi aton ni efo gwyneb fel stormas. Dyma hi’n dweud wrthyf i ollwng llaw fy mrawd ac yntau yn gafael yn dynn ynof fi. Roedd yr ‘air raid warden’ yn chwythu y chwiban ac yn ysgwyd braich a phwyntio dros y ffordd ac roedd Miss Fish yn gweiddi nerth ei phen arnaf ond pe basa hi ddim ond yn gwybod, roedd gennyf fwy o ofn fy rhieni na hi. Ta waeth, mi fu raid iddi adael inni fynd i shelter y merched, fy mrawd a fi oedd yr olaf a hithau yn dod tu ôl i ni. Roed y gysgodfan wedi cael ei addasu i ddal plant gyda bwrdd a chadeiriau o’i gwmpas o a llyfrau ac ati. Tilly lamp oedd yn goleuo’r gysgodfan ac yn y darn gwaelod roedd yna Elsan. Ar ochor y wal oedd yna fainc wedi dod o’r ysgol. Dyma Miss Fish yn dweud wrthyf, ‘Cer i fanna a dos a dy frawd efo chdi,’ gan gyfeirio at y rhan dywyll lle’r oedd yr Elsan. Roedd y genod eraill yn cael eistedd rownd y bwrdd a chael golau o’r Tilly lamp. Doedd coesau fy mrawd ddim yn cyrraedd y llawr o’r fainc, felly roedd rhaid imi ei ddal o ac mewn sbel aeth o i gysgu. Roedd o wedi ymlâdd mae’n siŵr, wedi’r holl grio. Rhyw bedair a hanner oedd ei oed o ar y pryd. Yr unig adeg oeddan ni yn cael symud oedd pan oedd rhai o’r merched eraill eisiau defnyddio’r Elsan. Mewn amser roedd yr arogl yn ofnadwy a dim ond pan ddaru mi sylwa bod fy nhraed yn wlyb ddaru mi ddeall bod yr Elsan yn gorlifo. Roedd fy mrawd yn iawn achos doedd o ddim yn twtsiad y llawr. Wedi deall, roedd y ‘raid’ yma wedi para dros ddeg awr, un o’r rhai hiraf fuodd. Pan ddaeth yr ‘all clear’, chwiban fawr; wir, roeddwn bron methu â sefyll a bu raid i mi ddeffro fy mrawd. Y fo a fi oedd yr olaf allan o’r gysgodfan a Miss Fish ar ben y staer yn gweiddi. Roedd yn ddu fel y fagddu pan aethom allan; roedd ein rhieni i gyd allan ar y ffordd yn nôl eu plant a dyma’r athrawes yn gweld Dad. Roedd o wedi dod â beic efo fo hefo clustog ar y bar inni, sbarin inni gerdded. Mi waeddodd yr athrawes ar Dad a dweud bod ganddo ferch oedd yn cau gwrando,‘disobedient’. Esboniodd nad oeddwn i wedi gollwng llaw fy mrawd a’i fod o wedi bod yn y gysgodfan y genod trwy’r
16
amser. ‘Cywilydd imi’, medda hi. Dyma Dad yn dweud wrtha’i, ‘Da iawn ti, merch i, mi ddaru ti wneud yn union fel roedd dy fam wedi dweud wrthyt.’ ‘Ddo’i i’ch gweld chi yfory,’ dywedodd Dad wrth yr athrawes. Mi oedd yn gwybod ei bod wedi bod yn gas wrthyf ers imi fynd i’r ysgol. Nid oes gennyf gof o’r siwrna adref; roedd Hilary ar y clustog a finnau ar y sedd. Dyma Dad yn dweud ein bod wedi cyrraedd y tŷ ac agorodd Mam y drws, a’r peth cyntaf ddaru hi ei wneud oedd holi beth oedd yr arogl. Ond mi welodd bod fy esgidiau a sana yn wlyb a dyma eu tynnu nhw a’u gadael ar stepen y drws. Buom yn ein gwely trwy’r dydd wedyn. Wedi inni godi ddaru Mam ddweud bod hi a Dad wedi ymolchi ni’n dau ac roeddwn yn cysgu tra oeddynt wrthi. Daeth Dad adre a dyma fo a Mam yn dweud wrthyf fy mod wedi bod yn hogan dda yn edrych ar ôl fy mrawd ac nid oedd angen imi ofni Miss Fish achos roedd Dad wedi bod yn ei gweld hi. Dwn i ddim be ddywedwyd wrthi ond oedd hi’n fwy serchog hefo fi wedyn. Cyn i’r shelters gael eu codi yng ngerddi ein tai, fe ddywedwyd bod rhaid inni ddefnyddio’r twll dan y staer fel cysgodfan. Fe gliriwyd o allan a gosodwyd matresi ar y llawr. Y plant lleiaf yn mynd i’r gwaelod yn gyntaf. [I’w barhau] Cefnogaeth dydd ar gyfer unigolion sydd yn byw efo dementia cyfnod cynnar i ganolig. Caiff y gwasanaeth hwn ei gynnal yng nghartref galluogwyr y cynllun am dâl. Derbynnir ceisiadau trwy Wasanaethau Oedolion, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn chwilio am alluogwyr newydd i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Cysylltwch â Medi Griffiths am fwy o wybodaeth. Cyfeiriad: Cynllun Cysylltu Bywydau, Swyddfa’r Cyngor, Ffordd -y-cob, Pwllheli, Gwynedd LL53 5AA Ffôn: 01758 704144 Lleoli.oedolion@gwynedd.llyw.cymru
Y BERMO A LLANABER
CYNGERDD NADOLIG YSGOL Y TRAETH
Ysgol y Traeth Dyma luniau sioeau Nadolig y Cyfnod Sylfaen (Meithrin a Derbyn yn paratoi un sioe a B1 a B2 yn paratoi sioe arall) gafodd eu perfformio yn neuadd yr ysgol a Gwasanaeth Nadolig CA2 yn eglwys St Ioan. Dyma ddisgyblion B3 yn fflatiau’r henod Hafan Deg. Bu’r plant yn cymryd rhan mewn prosiect ‘Pontio’r Cenedlaethau’ sydd wedi ei drefnu gan Uned Llesiant Cyngor Gwynedd. Bwriad y gwaith oedd pontio’r cyswllt rhwng y cenedlaethau iau a’r hŷn ac yn sgîl hyn yn hybu llesiant y plant a’r oedolion a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Bu’r prosiect yn llwyddiant mawr a byddwn yn parhau efo’r cyswllt yn y flwyddyn newydd.
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy RHAGFYR 2018
1. £40 2. £20 3. £10 4. £10 5. £10 6. £10
Merched y Wawr Dymunwyd Blwyddyn Newydd Dda i bawb o’r aelodau yn ein cyfarfod diwethaf. Croesawyd Margaret Roberts o Rosneigr, Ynys Môn, atom gan Heulwen Jones. Teitl ei sgwrs oedd ‘Dylanwadau’. Mwynhawyd orig ddifyr yn gwrando arni. Mae wedi cael bywyd diddorol, lliwgar ac amrywiol iawn. Ganwyd Margaret yng Nghaerdydd. Pan yn dair oed, symudodd i Morannedd, Dyffryn ac wedyn i Taicynhaeaf. Aeth i ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yna aeth i Lerpwl i ddysgu bod yn aelod o’r heddlu. Cafodd waith yng Nghaergybi, Pwllheli a’r Bermo. Roedd yn gweithio yno ar Orffennaf 22, 1966, adeg y drychineb arswydus pan suddodd cwch ger Llyn Penmaen, pan foddwyd pymtheg o bobl. Wedyn bu gartref am ddeg mlynedd yn magu’r plant cyn cael swydd fel gofalwr ym Mhlas Bodedern nes iddi ymddeol. Bu’n gweithio’n ddiflino gyda Merched y Wawr. Mae’n hoff iawn o ganu ac yn enwedig cymanfaoedd canu ac eisteddfodau. Aeth ar Zipwire rhyw ddeunaw mis yn ôl i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 ac fe lwyddodd i godi dros fil o bunnoedd. Gwych ynte! Diolchwyd iddi gan Glenys.
Beti Wyn Jones Lowri Llwyd Kirsty Jones Roger Kerry Iwan Morgan Blodwen Williams
IONAWR 2019
1. £30 2. £15 3. £7.50 4. £7.50 5. £7.50 6. £7.50
Barbara Owen Bedwyr Williams Jini Grug Jean Beazley Ieuan Edwards Hywel Williams
17
ENGLYN DA I esgor ar ragorwaith rhaid uno’r Deunydd yn gyfanwaith: Pa ddiben gorffen y gwaith Heb ei orffen yn berffaith?
CANU EFO BAND Y FFIWSILWYR CYMREIG
Alan Llwyd, 1948 -
Plygain Eglwys Llanfair
Cynhaliwyd Plygain traddodiadol Eglwys Llanfair eto eleni. Y gorau eto yn ôl rhai! Fe’i trefnir yn flynyddol gan Gyfeillion Ellis Wynne ac mae yn blygain unigryw gan fod Ellis Wynne ei hunan wedi ei gladdu o dan allor Eglwys Llanfair. Cyfeiriwyd at waith enwog Ellis Wynne “Gweledigaethau Y Bardd Cwsg” gan nodi mor berthnasol yw y beirniadu llym sydd ar y rhai sy’n rheoli ein cymdeithas. Eleni eto roedd pump o bartïon, un triawd, dau ddeuawd a dau unigolyn yn cymryd rhan. Daeth dau barti cwbwl newydd i Eglwys Llanfair sef parti Penmorfa, a pharti o ardal Llanwnda, Caernarfon. Braf oedd cael amrywiaeth o eitemau ac roedd safon uchel i nifer o’r caneuon. Gwerthfawrogir ymdrech yr holl berfformwyr. Roedd y rhannau arweiniol eleni yng ngofal y parch Tony Hodges a rhaid yw diolch am gydweithrediad rhwydd rhwng swyddogion yr eglwys a’r Cyfeillion. Yn ôl yr arfer, canodd y dynion am eu lluniaeth i ddilyn efo Carol y Swper. Rhaid diolch unwaith eto i’r criw ffyddlon a ddarparodd ac a fu’n gweini’r swper yn Neuadd Llanfair. Roedd digon o fwyd yno nid yn unig i’r rhai a gymrodd ran ond hefyd i weddill y gynulleidfa! Mawr yw’r diolch i’r gynulleidfa leol yma yn Ardudwy sy’n cefnogi’r Plygain yn flynyddol. Diolch hefyd am y cyfraniadau hael i goffrau Cyfeillion Ellis Wynne ar ddiwedd y cyfarfod. Bellach mae cynulleidfa deilwng yn dod i wrando, y rhan fwyaf yn lleol. Mae pobl yn tueddu i ddod yn ôl dro ar ôl tro. Os na chawsoch gyfle i ddod hyd yma rydych ar eich colled. Mae’n weithgarwch diwylliannol pwysig ar galendr ardal Ardudwy ac mae hefyd yn ymestyn i’r di-Gymraeg yn lleol gan fod criw o Lanbedr yn cymryd rhan yn flynyddol. Mae’n wir werth ei gefnogi.
18
Aelodau o o gorau meibion Ardudwy, Moelwyn, Meibion Prysor a Meibion Dyfi oedd yn cydganu â Band y Ffiwsilwyr Cymreig yng Nghastell Harlech ar ddydd Sul, Ionawr 20fed. Roedd y canu yn cynnwys Gwahoddiad - ‘Mi glywaf dyner lais’, Cwm Rhondda a Gŵyr Harlech. Aled Morgan Jones oedd yr arweinydd ac Idris Lewis oedd yn cyfeilio.
Roedd y Ffiwsilwyr yn coffáu brwydr Amddiffyn ‘Rorke’s Drift’, sef y frwydr yn erbyn llwyth y Zulu. Brwydr ffyrnig a budr oedd hon pan laddwyd miloedd o filwyr. Roedd 32 milwr o Gymry yn y frwydr. Anfarwolwyd y digwyddiad mewn ffilm a gynhyrchwyd gan Stanley Baker. Ffilmwyd rhannau ohoni yn yr ardal hon. Dywed rhai beirniaid fod y ffilm yn gwneud safiad dros ffyrnigrwydd anwaraidd rhyfel drefedigaethol. Coffáu oedd y bwriad y tro hwn nid clodfori unrhyw fuddugoliaeth mewn brwydr - a da o beth yw cofio hynny.
Lluniau: Wyn Edwards
Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal
30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch Am cysylltwchgyda gyda UnedGofal Gofal Plant Plant Gwynedd Gwynedd aaMôn Uned Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru
EIRLYSIAU
Ar yr adeg yma o’r flwyddyn gyda rhialtwch y Nadolig wedi ein gadael a’r tywydd gan amlaf yn ddigon gwlyb ac oer mae yna rywbeth cysurlon iawn mewn gweld yr eirlysiau yn codi eu pennau hyd y fro. Gwyddom i gyd am rywle yn agos at gartref lle maent i’w gweld ac mae rhoi tro heibio iddynt yn siŵr o godi`r galon. Sawl bardd sydd wedi canu iddynt tybed? Un pennill o emyn a fu yn boblogaidd iawn erstalwm oedd un a genid yn aml mewn angladdau. Roedd i’w gael yn hen lyfrau emynau y pedwar enwad ymneilltuol. Pennill yn sôn am yr atgyfodiad ydi o: ‘Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad bore wawr, Pan ddelo plant y tonnau Yn iach o`r cystudd mawr; Oll yn eu gynau gwynion, Ac ar eu newydd wedd, Yn debyg idd eu Harglwydd Yn dod i`r lan o`r bedd.’ Mewn hen gasgliadau o emynau doedd enw’r bardd ddim i’w gael o dan yr emyn. Yn y Llawlyfr Moliant Newydd (Bedyddwyr) 1956 dywedir fod y pennill wedi ei “briodoli” i David George Jones (1780-1879). Ond erbyn i’r Caniedydd ymddangos yn 1961 roedd David George Jones yn cael ei enwi fel y bardd dan y pennill. Ond pwy oedd o? Does yna ddim hanes amdano yn cyfansoddi dim byd arall er ei fod yn ôl pob golwg wedi byw nes ei fod bron yn gant oed. Gof oedd D G Jones o Lanarthne yn Sir Gaerfyrddin a byddai yn teithio cryn bellter o bryd i’w gilydd er mwyn cael gwaith. Ymddengys ei fod ef a Chymro arall wedi mynd i Loegr i weithio am gyfnod pan oedd gwaith yn brin. Tra’r oeddynt yno bu gŵr pwysig
lleol farw ac ar ganiad cloch yr eglwys aeth y ddau Gymro o’r efail at y fynwent i weld yr angladd yn mynd heibio. Roedd yno lawer o glerigwyr yn eu gwenwisgoedd. Gwnaeth yr olygfa yma gryn argraff ar y gof a’i ysbrydoli i gyfansoddi’r pennill a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru yn fuan iawn. Er hynny ni ddaeth y bardd ei hun i olwg y cyhoedd. Does yna ddim sôn am y pennill yn y Caneuon Ffydd ond mae’n debyg nad ydi hynny yn ddim syndod. Anffasiynol iawn bellach ydi unrhyw sôn am atgyfodiad, neu o leiaf atgyfodiad fel y byddai pobl fel David George Jones wedi meddwl amdano. Ond dylanwadodd yr emyn yn fawr ar Cynan (18951970). Mae gan Cynan gân i’r eirlysiau lle mae yn cyffelybu ymddangosiad y lili wen fach yn y gaeaf i’r atgyfodiad mawr ei hun. ‘Ni chlywais lais un utgorn Uwch bedd y Gaeaf du, Na sŵn fel neb yn treiglo Beddfeini, wrth ddrws fy nhŷ...’ Ond roedd y blodau bach gwynion ond gwydn yno, wedi codi fel cododd Crist ac fel y cyfyd eraill yn ôl pennill D G Jones. Rodd Cynan yn hoff o addasu cerddi traddodiadol a’u cynnwys yn ei gerddi ei hun. Mae’n gwneud hynny yma ac yn trawsblannu rhan olaf pennill D G Jones a’i roi i gloi ei gerdd ei hun: ‘Oll yn eu gynau gwynion Ac ar eu newydd wedd, Yn debyg idd eu Harglwydd Yn dod i`r lan o`r bedd.’
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123
19
YSGOL ARDUDWY
Nosweithiau Agored a Gweithgareddau Pontio gyda’r Ysgolion Cynradd Cafwyd Noson Agored lwyddiannus tu hwnt yn yr ysgol ar gyfer disgyblion B5, 6 a 7 a’u rhieni, i gael blas ar y gweithgareddau a phrofiadau sydd yn cael eu cynnig. Bu cyfle hefyd i wrando ar berfformiadau gan yr adran Gerddoriaeth. Ymwelodd disgyblion B5 a B6 hefyd a chwblhau gweithgareddau gyda’r Adran Chwaraeon a’r Adran Fathemateg. Roedd sesiwn hefyd gyda Mr Gethin Jones o Glwb Pêl-droed Porthmadog. Edrychir ymlaen at groesawu disgyblion B6 yn ôl i Ysgol Ardudwy yn ystod tymor yr haf.
Eisteddfod yr Ysgol Cynhaliwyd Eisteddfod yr Ysgol yn y Neuadd ar ddiwedd 2018 gyda chystadlu brwdfrydig ymysg y disgyblion wrth gynrychioli eu tai. Carmel Jones enillodd y gadair - llongyfarchiadau enfawr iddi. Diolch i Bethan Gwanas a Steffan Prys Roberts am feirniadu eleni.
Elusennau Casglwyd £510 ar ddiwrnod Plant Mewn Angen, £65 ar Ddiwrnod AIDS y Byd a £176 er budd Achub y Plant fel rhan o weithgareddau’r Diwrnod Siwmper Nadolig. Yn ogystal, bu’r disgyblion yn brysur yn casglu nwyddau ar gyfer Banc Bwyd De Gwynedd, elusen sy’n ddiolchgar am y cymorth.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk Chwaraeon Llongyfarchiadau i Pipi-Honeysuckle Griffith a gynrychiolodd Cymru yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Agored Gymnasteg yn Prague yn ystod y tymor. Daeth yn bedwerydd allan o 26 o wledydd oedd yn cystadlu. Hefyd, llongyfarchiadau i Seren Llwyd ar gael ei dewis i gynrychioli Gogledd Cymru ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Rhanbarthau Cymru yn Llandrindod yn ddiweddar. Gwasanaeth Carolau Nadolig Cafwyd cyfle arall i weld disgyblion yr ysgol yn perfformio, a hynny ddwywaith dros y Nadolig, mewn cyngherddau yn Eglwys Sant Tanwg ac yn neuadd yr ysgol.
smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes