Llais Ardudwu Chwefror 2020

Page 1

Llais Ardudwy

70c

RHIF 495 - CHWEFROR 2020

POBL LEOL AR Y TELEDU

Cerddwyr ‘Am Dro’ yn crwydro ardal Talsarnau Carren yw’r drydedd ar y dde ac mae Gareth ar y dde eithaf Y gyfres ‘Am Dro’ ar S4C Ar y rhaglen ‘Am Dro’ gwelsom Gareth Williams, sydd â chysylltiad â Thalsarnau, yn mynd am dro o gwmpas ardal Talsarnau yng nghwmni tri unigolyn arall. Ar yr un rhaglen aeth Carren Lewis o’r Bermo â ni i fyny’r Cnicht. Dwy ardal sydd â golygfeydd godidog, wrth gwrs. Dyma raglen roddodd lawer o bleser i’r gwylwyr. Wyneb cyfarwydd arall i bobl Ardudwy ar raglen 3 y gyfres ‘Am Dro’ oedd Llio Silyn, o Benrhyndeudraeth yn wreiddiol, a fynychodd Ysgol Ardudwy. Mae Llio’n ferch i’r diweddar Silyn Huws, a fu’n dysgu yn Ysgol Ardudwy ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Harlech, a Gweno Huws, cyn-athrawes yn Ysgol Tanycastell. Dewisodd Llio arwain taith yn yr ardal lle mae hi wedi byw am flynyddoedd lawer erbyn hyn, ger Llandeilo, a chawsom ei gweld yn tywys tri arall trwy goedlan leol cyn eu darparu â chinio picnic. Cawsom dipyn o hanes ei cholled fawr pan gollodd ei gŵr Andrew o ganser dros dair mlynedd yn ôl. Cofion ati oddi wrth ei chydnabod yn Ardudwy.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelsom nifer o drigolion yr ardal, a rhai â chysylltiadau â’r fro, ar y teledu. Ar y rhaglen ‘Waliau’n Siarad’ bu Jon Parry, darlithydd hanes yng Ngholeg Harlech, yn sôn am yr amser y bu’n gweithio yn y Coleg.

Marian Roberts Smith yn y canol uchod sy’n nyrs yn Ysbyty’r Felindre

Sheila Maxwell

Edwina Evans

Bu Edwina Evans yn uwch bursar domestig yn y Coleg a bu hithau yn trafod y cyfnod y bu’n coginio i’r myfyrwyr. Fe sicrhaodd Sheila Maxwell bod rhai o lyfrau’r Coleg yn cael eu cadw ac maen nhw bellach yn Yr Hen Lyfrgell. Roedd oddeutu 30,000 mil o lyfrau yn y Llyfrgell ac fe aeth y rhai pwysig i’r Llyfrgell Genedlaethol. Magwyd Mair Tomos Ifans yn Harlech yn niwedd y 60au ac roedd yn cofio ymweld â’r bloc llety pan yn ei harddegau. [Mae llun o Mair dan y stori am y Gwasanaeth Plygain ar dudalen Llanfair.] Daeth Carys Huw i weithio fel actores gyda Chwmni’r Frân Wen, sef Cwmni Theatr mewn Addysg yn 1984. Os na welsoch chi’r rhaglen ‘Waliau’n Siarad’, mae i’w gweld ar S4C Clic.

Nyrsus Fe welson ni Marian Roberts Smith, merch Doreen â’r diweddar Sulwyn Roberts, ar y rhaglen ‘Nyrsus’. Mae Marian yn nyrs yn Ysbyty’r Felindre, sef ysbyty sy’n arbenigo mewn triniaeth canser. Ymddangosodd rhai hefyd ar raglen ‘Newyddion 9’ i sôn am y siopau sy’n cau ers i fanc HSBC gau eu cangen yn Harlech. Yn eu plith yr oedd Chris Parry, un o hynafiaid y dref erbyn hyn. Mae’n amlwg fod y cyfryngau wedi cael y stori am siopau’n cau yn Harlech o dudalen flaen Llais Ardudwy mis Rhagfyr. Ond does dim byd o’i le yn hynny! Hogyn lleol arall a welwyd ar S4C yn ddiweddar oedd Iwan Roberts o’r Dyffryn. Wedi dilyn gyrfa fel pêl-droediwr, a chael ei adnabod fel un oedd yn penio’r bêl yn aml, roedd Iwan yn cyflwyno rhaglen oedd yn ymchwilio i sgîl-effeithiau penio’r bêl. Dyma raglen oedd yn agoriad llygad i amryw ym maes chwaraeon, gan ei bod yn gofyn cwestiwn pwysig i hogiau a merched ifanc sy’n chwarae’r gêm.


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Gosodir y rhifyn nesaf ar Chwefror 28 am 5.00. Bydd ar werth ar Mawrth 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Chwefror 24 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Arfon Jones Gwaith: Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Cefndir: Yn enedigol o Tyddyn Gwynt, Llanfair, cyn Arolygydd yr Heddlu. Bûm yn blismon am 30 blwyddyn cyn ymddeol yn 2008. Wedyn yn Gynghorydd Sir yn Wrecsam o 2008 i 2017 ac yn aelod o’r cabinet. Cael fy ethol yn Gomisiynydd yn 2016 ac wedi fy ailenwebu i sefyll dros y Blaid eto yn 2020. Yn briod hefo Gwenfair a dwy ferch, Esyllt ag Einir a phedwar ŵyr, Caitlynn, Owain, Eilidh a Bethan, ac yn dal i fyw yn Gwersyllt ers 1985. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dydw i ddim i ddeud gwir! Dim ond cerdded pan mae gen i amser, sydd ddim yn amal. Trio bwyta’n iach ac wedi colli peth pwysau dros y blynyddoedd ond stryglo i gadw fo i ffwrdd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Nofelau Grisham, Michael Connelly a Lee Child (storis ‘cops and robbers’, felly dim yn newid). Hefyd yn cadw i fyny hefo materion cyfoes a darllen y Guardian yn rheolaidd. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Gwrando ar Radio Cymru yn amal, Post Cyntaf ac weithia John Hardy (cyn saith), hiraeth ar ôl Garry Owen a Post Prynhawn. Hefyd yn hoff o Al Huws, Tudur, Manon a Dyl Mei. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yndw, lot rhy dda yn amal, ond ddim ar adegau rheolaidd, bwyta rywsut rywsut. Hoff fwyd? Bwyd Mediterranean fel pasta ac hefyd bwyd Asiaidd neu Bangladeshi ond ddim yn rhy amal. Do’n i ’rioed yn ffan mawr o lysiau ond bwyta lot

mwy yn ddiweddar yn cynnwys brocoli ond na’i byth byth fwyta sprouts... ‘line in the sand’! Hoff ddiod? Coffi du cryf neu te herbal peppermint neu Redbush, hefyd yn hoffi cwrw (Porth Neigwl gan Cwrw Llŷn ydy’r ffefryn). Glasiad neu botel o Malbec hefyd yn dderbyniol iawn. Hefyd yn gwerthfawrogi brandi fel ffisig yn arbennig fel aperitif. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu yn gyntaf wrth gwrs; ond hefyd fel gwleidyddion â syniadau blaengar, dwi’n siŵr fasa swper hir a thrafodaeth hefo Barrack Obama, Bill Clinton a Bernie Sanders yn codi’r galon o’r duwch gwleidyddol sydd ohoni. Lle sydd orau gennych? Dwi wedi dod i nabod gogledd Cymru yn dda ond does na ddim golygfeydd gwell nag wrth yrru rhwng y Waunfawr a Rhyd-ddu ac ymlaen i Feddgelert. Dwi hefyd yn hoff iawn o Ynys Môn a Thraeth Coch... gwae neb ei alw yn ‘Red Wharf Bay’! Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Dan ni wedi bod yn mynd i Groeg yn rheolaidd ers tua 20 mlynedd, ac wedi bod mewn niferoedd o’r ynysoedd a’r tir mawr. Dwi’n hoff iawn o ddiffuantrwydd a chyfeillgarwch Groegwyr heb sôn am y golygfeydd a’r hen hanes. Hefyd rhaid fi ddeud fy mod yn hoff iawn o’r dirwedd a’r golygfeydd yn ne Chile a’r Ariannin a gweld pedwar tymor mewn diwrnod yn y Tierra Del Fuego. Hoffwn dreulio mwy o amser yno. Beth sy’n eich gwylltio? Pobol hunanol sydd yn rhoi eu buddiannau eu hunain gyntaf a ddim buddiannau cymdeithas yn gyffredinol. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind?

Diffuantrwydd a theyrngarwch. Pwy yw eich arwr? Nicola Sturgeon am ei harweinyddiaeth ac am ddangos y ffordd ymlaen i ni yng Nghymru. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Evie Morgan. Mae o wedi bod yn ffyddlon ac yn weithgar iawn dros ei ardal ag yn unigolyn diffuant a hawddgar. Beth yw eich bai mwyaf? Dim amynedd, isio petha wedi eu g’neud ddoe! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gweld y teulu i gyd yn iach ac yn hapus a chael iechyd fy hun i gario ’mlaen. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Rannu fo rhwng yr wyrion a’r wyresau. Eich hoff liw a pham? Glas, dwi wastad yn gwisgo glas. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr a’r cyswllt Cymreig. Eich hoff gerddor? Stevie Ray Vaughan a Dafydd Iwan... tipyn o wahaniaeth steil! Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu chwarae sacsaffon fel y cerddorion ‘blues’ enwog. Eich hoff ddywediadau? Mae na fwy nag un ffordd o gael Wil i’w wely (dywediad pwysig ac ymarferol i bob gwleidydd). “No man (or woman) has a right to fix the boundary of the march of a nation, no man has a right to say to his country – thus far thou shalt go and no further.” (Charles Stewart Parnell) “The only thing necessary for evil to triumph is for good men (and women) to do nothing.” (Edmund Burke) Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Mwynhau bywyd a bod yn brysur ond tipyn hapusach os fasa na well siâp ar Glwb Pêldroed Wrecsam!

SYLW AM SEFYLLFA HARLECH Beth sy’n drist am weld y siopau yn cau ydy clwad ymwelwyr a fy nheulu, sydd wedi bod yn dod i Harlech ar eu gwyliau am flynyddoedd, yn gweld y lle yn dirywio. Ydy hwn yn mynd i gael effaith fawr ar y busnes twristiaeth? Gobeithio ddim! Mae Harlech fel lleoliad yn un o’r llefydd mwya godidog hefo golygfeydd arbennig ac mae’r dref yn ddibynnol iawn ar hyn a bywoliaeth cymaint o drigolion yr ardal,. Doswch i Gricieth, Betws-y-coed, llefydd braf a siopau o bob math ac yn brysur trwy’r flwyddyn, ond mae gennym gymaint mwy i’w gynnig yn Harlech sef y Castell, Clwb Golff, llwybrau a mynyddoedd. Traeth arbennig, heb anghofio ‘stryd fwyaf serth y byd’! Does gen i ddim ffon hud, ond mi fasa’n braf gweld busnesau newydd yn dod i’r dref. Carol O’Neill


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Roedd y Neuadd yn llawn ganol y mis i groesawu’r comedïwr Dilwyn Morgan. Cawsom ddarlith ar gomedi ganddo yn llawn storïau doniol ac roedd y gynulleidfa yn chwerthin yn hapus am dros awr yn ei gwmni. Yna ddiwedd y mis, daeth Rhys Gwynn, un o wardeniaid y Parc Cenedlaethol, atom i drafod hen enwau sydd i’w gweld yn ne Meirionnydd lle mae o’n gweithio. Mae rhai enwau yn mynd yn ôl dros 800 mlynedd ac maen nhw i’w gweld mewn barddoniaeth gynnar. Bu Rhys yn flaenllaw yn gosod yr hen enwau ar rai o lwybrau’r ardal ac mae i’w ganmol yn fawr am ei waith. Noson addysgiadol iawn. Grŵp Llanbedr-Huchenfeld Nos Wener 17eg Ionawr cynhaliwyd noson arbennig i godi arian i’r Grŵp LlanbedrHuchenfeld. Gwnaeth Helen Johns a Susanne Davies bryd o fwyd Mecsicanaidd blasus iawn i dros ddeugain o bobl yn Neuadd Bentref Llanbedr. Mi ddaeth ymwelwyr o Ddolgellau, Harlech, Bermo a Dyffryn i gymryd rhan yn y noson. Ar ôl y bwyd cawsom gwis difyr gan Nick White o Ddyffryn Ardudwy. Roedd yn noson wych iawn. Diolch yn fawr iawn i bawb am ddod i’n cefnogi ni, yn enwedig i Nick White o Ddyffryn Ardudwy am drefnu’r cwis am ddim. Gwnaed elw o £490. Cyfarfod nesaf Grŵp LlanbedrHuchenfeld: dydd Llun 17eg Chwefror, 7.00yh, Tŷ Mawr, Llanbedr.

Merched y Wawr Nantcol Fe’n croesawyd i gyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd gan Rhian, ein Llywydd. Rhoddodd groeso arbennig i Jean a John, y ddau wedi dod atom i roi peth o hanes eu taith yn yr India. Trwy sgwrs a lluniau cawsom grwydro rhannau o Delhi, Aggra a Jaipur gan ryfeddu at yr adeiladau ysblennydd gan gynnwys y Taj Mahal, y Palas, caer enwog Amber a welir ar y bryn uwchben Jaipur a’r porth adnabyddus sy’n coffáu milwyr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cawsom hanes eu taith o wyth awr ar y trên i ddinas Shimla sy’n boblogaidd iawn hefo twristiaid ac yn enwog am yr adeiladau Fictoraidd. Un o uchafbwyntiau y daith iddynt oedd cael gweld un o’r teigrod urddasol, prin sydd bellach yn cael eu gwarchod ym Mharc Cenedlaethol Ranthambhore. Rhian ddiolchodd i’r ddau a thystiodd pawb i ni gael noson hynod o ddiddorol ac addysgiadol iawn. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Christopher Smith, Bryn Deiliog, yn eu profedigaeth. Yn gwella ar ôl salwch Bu Mrs Catherine Brown, Bryn Deiliog, yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar, ond adra erbyn hyn; gan obeithio ei bod yn dal i wella. Rhoddion Diolch am y rhoddion i Llais Ardudwy gan Ieuan Jones ac Elwyn Evans.

Adduned i fyw bywyd mwy gwyrdd

Ydych chi wedi bod yn ystyried byw bywyd mwy gwyrdd er mwyn helpu i atal newid hinsawdd yn y tymor hir? Be am roi cynnig ar fod yn eco-gyfeillgar yn eich cartref? Fe all hynny dalu ar ei ganfed i chi drwy arbed arian tra’n helpu’r blaned. Dyma chwe syniad i chi eu rhoi ar waith: 1. Newidiwch i fylbiau golau sy’n ynni effeithiol. Maen nhw yn defnyddio 80% yn llai o ynni na bylbiau traddodiadol ac yn para hyd at dair gwaith yn hirach. 2. Ceisiwch arbed dŵr. Cymerwch gawod fer yn lle llenwi’r baddon a chasglwch ddŵr glaw mewn casgen yn yr ardd i’ch planhigion. Mae llawer o gyflenwyr dŵr yn cynnig offer am ddim gan gynnwys pennau cawod sy’n cwtogi ar y defnydd o ddŵr. 3. Defnyddiwch bapur toiled a phapur cegin wedi ei ailgylchu – mae’r gost yr un fath. 4. Byddwch yn ddarbodus wrth goginio. Peidiwch ag agor cymaint ar ddrws y popty wrth goginio, defnyddiwch y cylch o’r maint priodol ar eich hob ac yfwch goffi o botyn coffi confensiynol, gan fod podiau coffi ffasiynol yn golygu gwastraff plastig. 5. Glanhewch mewn dulliau sy’n eco-gyfeillgar. Rhowch y gorau i lanhawyr artiffisial sy’n llawn cemegau a all beri niwed i fywyd y môr a dewiswch fersiynau mwy naturiol. Neu gwnewch rai eich hunain gyda finag gwyn a sudd lemwn. Cewch hyd i ryseitiau creu glanhawyr ar goodhousekeeping.com/home/cleaning/tips/a24885/ make-at-home-cleaners/. 6. Inswleiddiwch. Fe all ychwanegu’r defnydd priodol i’ch llofft neu furiau arbed arian i chi ar gynhesu’r tŷ. Mae newid ffenestri i fod yn rhai dwbl neu hyd yn oed â thair haen o wydr yn ddrud ond bydd yn arbed mwy o gostau eto. Lloriau pren? Taenwch rygiau a matiau i rwystro gwres rhag dianc. Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn CHWEFROR 16 Capel y Ddôl, Parch Gareth Rowlands 23 Capel Nantcol, Parch Huw Dylan Jones MAWRTH 1 Capel y Ddôl, Miss Glenys Roberts

Y criw ddaeth i fwynhau’r cwis

CYMDEITHAS CWM NANTCOL

yn Neuadd Llanbedr Croeso cynnes i bawb! Chwefror 11 Dr John Williams, Lerpwl ‘Clefydau’r Beibl’ Chwefror 25 Dafydd Iwan ‘Hanes y 60au a’r 70au trwy ambell i gân’

3


LLANFAIR A LLANDANWG Ar y teledu Braf gweld Marian, merch Doreen a’r diweddar Sulwyn, Ffin-y-llannau ar raglen ‘Nyrsus’ S4C. Cydymdeimlo Cydymdeimlir â Mair Lloyd a’r teulu, Fedwen Aur, Pant yr Onnen yn eu profedigaeth o golli ei gŵr Llewelyn. Diolch Diolch i Mr Colin Williams, Fergus, Ontario, Canada [Bron Fair gynt] am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad. Gwellhad buan Pob dymuniad da i Edward, Hen Gaeau, am wellhad buan ar ôl derbyn clun newydd. Pwyll am ’chydig bach rŵan, Edward.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Llanfair o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 24.2.20.

Merched y Wawr Llanfair a Harlech Wedi ymdrin â materion yn ymwneud â’r mudiad, aethpwyd ymlaen i sôn am yr hyn dymunai Meirwen i ni ei wneud gyda ‘r arian a gasglwyd yn ystod mis Rhagfyr er lles plant yn ein rhanbarth. Penderfynwyd prynu copi o ‘Llyfr Adar Mawr y Plant’ i’r pump ysgol gynradd yn yr ardal, sef y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Llanbedr, Harlech a Thalsarnau – gan fod gan aelodau’r Bermo a Harlech gysylltiadau â’r pump ysgol. Edwina, un o’n aelodau, oedd y wraig wadd. Daeth Edwina i fyw i Harlech yn 1947 a chafwyd ganddi hanes ‘Harlech fel y bu’. Diddorol oedd clywed am yr holl siopau a busnesau oedd yn Harlech bryd hynny. Anodd credu fel mae Harlech wedi newid erbyn heddiw. Llawer o’r aelodau yn cofio, ac yn cael eu hatgoffa o’r amser hynny ac am rhai o’r cymeriadau oedd yn berchen ar y siopau. Eirlys dalodd y diolchiadau ar ran y gangen, hithau hefyd yn ennill y raffl, Sue a Maureen, gyda chymorth Linda, oedd yn gofalu am y baned.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Russell Sharp a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei fam yn ddiweddar. MATERION YN CODI Presept y Cyngor am y flwyddyn 2020/21 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, hefyd y ffaith bod y presept heb ei godi ers dwy flynedd, penderfynwyd codi’r presept o £13,000 i £16,000. Panel Cyfrifiad Annibynnol Adroddodd y Clerc bod rhaid i bob Cynghorydd arwyddo ffurflen ynglŷn â’r uchod eto eleni. Mae angen rhestru pob rheol sy’n cael ei mabwysiadu yng nghofnodion y Cyngor ac os bydd rheol daliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr NAD ydyn nhw am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol daliadau ar gyfer costau eto eleni ac arwyddwyd datganiad gan bob aelod oedd yn bresennol nad ydyn nhw am hawlio costau. GOHEBIAETH Llywodraeth Cymru Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor mai’r swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2020/21 fydd £8.32 yr etholwr. Adroddodd y Clerc mai’r nifer diweddaraf o etholwyr sydd ganddi yw 331, felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £2,755.92 i gyrff allanol.

4

Llewelyn Lloyd ‘Llew Glo’

Cyflwynwyd yr isod gan y Parch Anita Ephraim yng Nghapel Maentwrog Uchaf, Gellilydan, ddydd ei angladd.

Un o hogia’ Harlech oedd Llew, wedi ei eni a’i fagu yno, yn un o dri o blant. Yn un o deulu niferus, roedd yn un o dros hanner cant o gefndryd a chyfnitherod. Cofiwn hefyd heddiw am ei gyfnither Mona sydd wedi’n gadael ni ychydig ddyddiau yn ôl draw yn ardal Tywyn. Ychydig dros 88 mlynedd yn ôl y gwelodd Llewelyn Lloyd olau dydd am y tro cyntaf erioed. Fe’i ganwyd yn Rock Terrace, Harlech cyn i’r teulu symud i Pen Waun ar Ffordd Morfa pan oedd Llew yn 6 mlwydd oed. Yng nghefn y tŷ yno roedd y camp milwrol ac roedd Llew wrth ei fodd yn treulio ei amser gyda’r milwyr yno. Yna dechreuodd weithio ar ffermydd yr ardal gyda’r War-Ag, yn gweithio’r Injian ddyrnu gyda Gwilym Jones gynt. Yn gyfarwydd iawn ag ardal Gellilydan, Trawsfynydd a Chwm Prysor, yng Ngellilydan y daeth Llew o hyd i’w briod Mair. Wedi priodi, bu’r ddau fyw yng Ngellilydan am 26 o flynyddoedd cyn symyd yn ôl i gyffiniau Harlech, y tro yma i Lanfair yn 1980. Wrth gwrs fel Llew Glo y cawsai ei adnabod, gan iddo fo a Hefin Humphreys brynu busnes glo yn 1959. Yn sgil y gwaith yma, daeth yn ŵr adnabyddus a buan y daeth yn gyfarwydd â thrigolion ardal eang iawn. Bu’r blynyddoedd o weithio hefo Hefin yn rhai hapus iddo a’r cydweithio rhyngddynt yn rhwydd iawn. Roedd y lori lo yn gerbyd cyfarwydd ar heolydd yr ardal a phan ddeuai yn adeg y carnifals byddai’r lori yn

cael ei thrawsnewid. Roedd Llew wrth ei fodd yn gyrru’r lori, a charnifal Tanygrisiau, Trawsfynydd a Blaenau yn dod yn ddigwyddiadau blynyddol ar ei galendr. Gyda threigl y blynyddoedd daeth Llew yn annwyl briod i Mair Wyn, tad Deilwen, Gwynfor a Robat Wyn, tad-yngnghyfraith Siân a Mog, taid Llŷr a Catrin, Nathan, Nicola, Martin, Chris a Gemma. Pan symudodd i fyw i Fedwen Aur yn Llanfair, gweithiodd i glirio’r brwgaits i gyd a chreodd ardd gwerth ei gweld. Roedd wrth ei fodd yn garddio. Roedd yn cael pleser yn chwarae golff hyd rhyw dair blynedd yn ôl, ond yn fuan wedyn dirywiodd ei iechyd. Roedd yn gryf iawn ei gyfansoddiad a bu hynny’n help mawr iddo wella pan gafodd sepsis. Erbyn 2018, roedd yn ôl yn garddio. Daeth y cyflwr dementia i gydio yn dynn ynddo, nes yn y diwedd bu’n rhaid i Mair gael gofal proffesiynol ac yn y Madog y cafodd o’r gofal hwnnw. Oedd, roedd teulu a ffrindiau yn bwysig iddo. Bu farw ei frawd Idris a’i chwaer Mair ers peth amser, a bu Llew’n ffodus o’i deulu, ei ffrindiau a’i gydnabod. Cafodd y ddau, Mair ac yntau, gymdogion arbennig ym Mhant yr Onnen yn Ieu ac Eirian. Pob bore byddai Ieu yn dod at Llew gyda’i bapur newydd ac yn eistedd i sgwrsio hefo fo. Gwn i Mair fod heb eiriau digonol i werthfawrogi cefnogaeth a chymorth Eirian. Ar Ionawr 3ydd 2020, yn dawel yng Nghartref Nyrsio Meddygcare, Porthmadog, yn 88 mlwydd oed y llithrodd Llew i’w wynfyd a hynny wedi cystudd blin a’i diraddiodd i’r eithaf. Aeth gan adael bwlch enfawr ar ei ôl. Diolch Dymuna Mair Wyn, Deilwen, Gwynfor, Robat Wyn a’r teulu ddatgan eu diolch diffuant i’w holl gyfeillion am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o goll gŵr a thad annwyl iawn. Rhodd a diolch £20


PLYGAIN CYFEILLION ELLIS WYNNE

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant Nid yn aml mae eglwysi neu gapeli yn llawn i’r ymylon (ar wahân i ambell angladd efallai). Ond dyna oedd yr hanes yn Eglwys Llanfair ar gyfer Plygain blynyddol Ellis Wynne yng nghanol Ionawr eleni. Llewyrchus yw’r gair sy’n dod i’r meddwl wrth grynhoi y Plygain yma. Ar wahân i’r eitemau lleol eleni cafwyd partïon o Fawddwy, ardal Aberystwyth, ac ardal Nefyn hefyd. Triawdau, deuawdau, partïon ac un unigolyn, dyna oedd yr arlwy. Un ar ddeg o eitemau (ddwy waith wrth gwrs, gan fod dwy ‘rownd’). Pob un â’i sain a’i arddull ei hun, a wnaeth y cyfan yn hynod ddiddorol. Braf oedd clywed geiriau Ellis Wynne ei hunan, fel y’u cyflwynwyd gan Mair Tomos Ifans. Cyfeiriwyd ar y dechrau at golledion a fu i Gyfeillion Ellis Wynne yn ddiweddar, sef Dr Arthur Boyns a Dafydd Wyn Jones, a thalwyd teyrnged i’r ddau am eu gwasanaeth. Y Parch Tony Hodges lywiodd y rhannau agoriadol a chafwyd canu cynulleidfaol hynod raenus hefyd ar garolau cyfarwydd. Da gweld fod y Plygain yn mynd o nerth i nerth ac eleni daeth un neu ddau o gantorion lleol i ymuno o’r newydd ac roedd hwn yn brofiad cwbwl newydd iddynt. Diolch i bawb a gymrodd ran ac mae’n braf fod cymaint o bobl leol wedi troi allan hefyd fel cynulleidfa. Credwn fod pawb wedi eu plesio. Diolch arbennig i’r rhai fu’n darparu a gweini bwyd ar y diwedd yn Neuadd Llanfair. Da dweud fod digonedd o fwyd!

Diolch Dymuna Russell a Jane Sharp, Bryn a Môr a’r teulu oll ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth mam Russ, sef Ceinwen Thomas (Rowlands). Rydym yn gwerthfawrogi pob un ohonynt. Diolch Diolch am y rhodd i Llais Ardudwy gan Gwyneth Williams.

PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Cyfarfod Blynyddol Côr Meibion Ardudwy Cadeirydd: Mervyn Williams, Is-gadeirydd: Meirion Richards Swyddogion eraill i gyd yn aros yn eu swyddi. Adroddiadau Cafwyd adroddiadau cadarn iawn gan yr Arweinydd, Aled Morgan Jones, a’r Cadeirydd, Ifan Lloyd Jones. Diolchodd y ddau i’r aelodau am gyfrannu mor ddygn tuag at lwyddiant y Côr. Adroddodd y trysorydd fod y sefyllfa ariannol yn iach er ein bod wedi cael dwy daith dramor yn ystod 2019. Nododd Ieuan Edwards bod ychydig mwy na’r llynedd wedi ymuno â’r Clwb 200. Aelodau newydd Cyfeiriodd Aled Morgan Jones at y ffaith fod 40 aelod ar y llyfrau erbyn hyn. Mae dechrau’r flwyddyn yn amser da i ymuno – beth amdani? Gwasgod Rydym yn y broses o archebu gwasgodau newydd ar gyfer eu defnyddio’n bennaf pan fo’r hin yn gynnes. Teimlir fod gwisgo cotiau yn anaddas mewn rhai sefyllfaoedd. Cyngherddau Codwyd dros £5000 wrth ganu mewn cyngherddau amrywiol yn ystod 2019. Mae nifer ar y gweill yn ystod 2020. Tâl aelodaeth Bydd y tâl aelodaeth am y flwyddyn 2020 yn £20. Llywydd Anrhydeddus am oes Enwebwyd Evie Morgan Jones ar gyfer y swydd anrhydeddus hon. Bu’n aelod o’r Côr am 63 o flynyddoedd ac fe ŵyr pawb am ei gyfraniad aruthrol i fywyd diwylliannol y fro. Dywedodd wrth yr aelodau ei fod yn teimlo fod hon yn anrhydedd fawr iawn a diolchodd yn gynnes am y fraint o gael ei enwebu i’r swydd. Noson Gymdeithasol Byddwn yn trefnu noson gymdeithasol yn y Neuadd yn Llanbedr ar nos Fawrth, Chwefror 18 pan fydd cyfle i gyfeillion ymuno â ni i wylio fidoes o deithiau tramor y Côr yn y gorffennol. Gobeithir arddangos nifer o greiriau, arteffactau, tystysgrifau ayyb yn ystod y noson.

Colli Philip Wilson Yn 95 mlwydd oed, bu farw Philip Wilson, Morfryn, Llandanwg, a Harlech cyn hynny, yng nghartref Plas y Don, Pwllheli, ar 26 Ionawr. Bydd amryw yn cofio ei ddiweddar wraig Isobel a’i ddwy ferch Gwyneth a Dorothy a fynychodd Ysgol Ardudwy. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa ar ddydd Gwener, 7 Chwefror, ym Mhwllheli, ac fe’i rhoddwyd i orffwys yn Noddfa Boduan. Croesawyd rhoddion yn enw Philip tuag at y Groes Goch.

5


CYRIL WILLIAMS - DWY DEYRNGED Atgofion ei fab, Marc Williams

Yn y 10 mis ers angladd fy mam, mae fy nhad a minnau wedi treulio llawer o amser yn hel atgofion am hanes a chysylltiadau ein teulu. Bu’n gweithio fel mecanic yng ngarej Kilmister, yn dosbarthu nwy Calor i’r ffermydd, gyrrwr a mecanic yn RAF Llanbedr a Glanhawyr Cambrian. Yn ogystal â’i waith yng ngorsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd roedd hefyd yn brif swyddog yr orsaf dân yn Harlech. Roedd yn un da am ddweud stori. Caem glywed hanes ei wyliau gyda Peggy, Haydn, Arwyn a Brenda. Dysgais sut roedd yn casáu’r ysgol yn y Bermo a sut y gwnaeth ef a’i ffrindiau roi cynnig ar bob math o ffyrdd i gyfyngu ar eu hamser yno. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai stribedi o gig moch ar y lein wedi bod mor effeithiol wrth ohirio trên yr ysgol?! Fe adroddodd stori ryfedd carnifal tref yn y 1970au. Roedd yn cynnwys dynion tân mewn dillad merched a sodlau uchel yn rhedeg i lawr yr hyn sydd bellach yn stryd fwyaf serth y byd i fynychu galwad allan mewn tref gyfagos. Pan ddwedodd sut y cafodd y ddau o’i deidiau eu taflu allan o’r Gwarchodlu Cartref yn dilyn patrôl nos enwog yng Nghastell Harlech, roeddwn yn eithaf siŵr bod rhai o’i helyntion yn etifeddol. Roedd fy nhad yn adnabod pawb, roedd pawb yn ei hoffi ac roedd yn mwynhau chwerthin yn fawr. Dros y blynyddoedd, roedd fy nhad a minnau weithiau’n cael trafferth dod o hyd i feysydd cyffredin. Yn yr amseroedd hyn yr edefyn â’n daliodd gyda’n gilydd oedd clwb pêl-droed Everton. Ar y diwrnod y bu farw, gwyliodd Megan a minnau ffilm yr oeddem newydd ei phrynu iddo am dîm gorau Everton erioed. Cytunodd cefnogwyr a chwaraewyr pe bai un gêm y gallent fynd â hi i’r nefoedd gyda nhw mai gêm Everton yn erbyn Bayern Munich fyddai hi yn rownd gyn-derfynol cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop, yr ail gymal ddydd Mercher 24 Ebrill 1985 - roedd Dad yno. *****

Atgofion Amina - ei wyres hynaf

Rydw i eisiau cofio fy nhaid heddiw am bopeth roedd yn ei olygu i mi. Byddai wedi chwerthin ar fy mhen yr ychydig ddyddiau diwethaf yn ceisio meddwl beth i’w ddweud. Roedd byth a hefyd yn dweud wrtha i am gau fy ngheg (yn Gymraeg wrth gwrs), am siarad yn ddi-baid am un peth neu’r llall tra roedd yn ceisio darllen ei bapurau, gwrando ar Radio Cymru neu wylio ei bêl-droed annwyl. Lle dwi’n dechrau? Oherwydd, er gwaethaf y pellter a’r bylchau, mae gen i filiwn o atgofion o Taid ac rydw i eisiau sicrhau fy mod i’n creu darlun cywir ohono. Roeddwn i wrth fy modd efo’i Gymraeg. Taid oedd y dyn mwyaf Cymraeg roeddwn i’n ei adnabod! Rydw i’n mynd i’w fethu yn dysgu geiriau Cymraeg i mi ac yn chwerthin arna i am eu cael yn anghywir drosodd a throsodd. Mi gollaf ei weld yn cerdded i mewn i’w ystafell les a theimlo hiraeth am fy mhlentyndod, goslef sioeau radio Cymreig, Taid yn clebran efo’i ffrindiau niferus ar y ffôn. Dwi’n hynod falch o wreiddiau Taid a Dad yn Harlech, bydd bob amser yn le hapus yn fy ngolwg i. Fydda i byth yn gallu cerdded i lawr Ffordd y Traeth heb gofio Taid yn ceisio fy nysgu i yrru yn ei gar Smart bach. Byddwn yn erfyn arno i fynd â mi allan ynddo ac yn y pen draw byddai bob amser yn ildio. Yna byddai’n sgrechian ei ben i ffwrdd mewn panig unwaith y byddem allan ar y ffyrdd. Bydd ei gartref yn Nhŷ Canol yn fy atgoffa o’r Nadolig yn blentyn, winc bryfoclyd Taid o amgylch y bwrdd bwyta wrth iddo glwyfo fy nhad drosodd a throsodd; Taid yn fy ngwthio i fyny ac i lawr y stryd yn fy nghar tegan bach neu ar fy meic. Er mai Harlech yw’r man lle byddaf bob amser yn teimlo agosaf ato fo, mae gen i gymaint o atgofion yn agos at adref hefyd. Nain a Taid yn fy ngyrru i gwrdd â fy chwaer fach newydd, Megan, a phawb ohonom mor gyffrous. Rwyf am i’r ddwy o fy chwiorydd bach wybod pa mor falch oedd Taid ohonyn nhw. Byddai bob amser yn holi amdanoch a sut roeddech chi’n dod ymlaen. Cerys a’i cherddoriaeth a Megan a’i hastudiaethau a’i huchelgais. Byddaf yn gweld eisiau ei straeon am wyliau egsotig, ei ddyddiau diffodd tân a’r holl ddrygioni a wnaeth. Pryd bynnag yr oedd Taid o gwmpas, doeddwn i byth yn brin o chwerthin, roedd yn dynnwr coes o’r radd flaenaf hyd y diwedd. Roedd Taid yn ddyn hynod ddoniol, hynod ddiddorol, rhyfeddol o Gymraeg ac rydw i’n mynd i’w golli yn arw iawn.

6

Y Robin goch Dim ond os ydych mor hen â fi y byddwch chi’n sylweddoli gymaint mae’r hen fyd yma wedi newid. Ydach chi’n cofio’r hen set weiarles yn craclo yng nghornel y lolfa? A mynd â’r batris mawr i’r garej lleol i’w gwifro? Mi wnaeth y byd symud ymlaen fesul camau mawr pan ddoth y radio transistor, yr un roedden ni’n ei hongian ar ddrych y car er mwyn cael rhyw fath o ‘in-car entertainment’. I ni dyna oedd newid mawr. Darllenais yn ‘Y Times’ yn ddiweddar am robin goch a oedd yn byw bywyd dedwydd yn Heligoland. Roedd wedi penderfynu treulio’r gaeaf yn ne ddwyrain Lloegr. Aeth i chwilio am siop Thomas Cook ond doedden nhw ddim yna bellach. Beth i’w wneud? Cymerodd anadl ddofn ac ar un noson pan oedd gwynt ysgafn yn mynd yr un ffordd â fo dechreuodd ar y daith. Roedd hi’n wyth o’r gloch y nos a, chredwch neu beidio, roedd o wedi cyrraedd cyrion Llundain erbyn toc wedi hanner nos . Ond sut ydan ni’n gwybod hyn? Roedd o’n gwisgo nanotag - erbyn hyn mae pob aderyn eisio un. Dim ond 0.3 gram mae’r tag yn ei bwyso ond mae’n ein galluogi i astudio pa mor bell mae adar bach yn crwydro i chwilio am dywydd gwell. Taith o 140 milltir roedd y robin wedi ei wneud yn y pedair awr yna, hynny yw, roedd wedi teithio ar 35 milltir yr awr. Mae cymaint i’w ddysgu am fyd natur ac mae technoleg yn datblygu’n gyflym i’n galluogi ni i ddysgu’n llawer cyflymach. Yn tydi’r byd wedi newid ers yr hen weiarles, dwedwch? Edrychwch ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru i weld os ydan ni’n cerdded yn eich ardal. Bydd croeso mawr i chi, yn enwedig os ydach chi wedi bod mor garedig â dysgu’n hiaith hyfryd ni. Rob Evans, Cymdeithas Edward Llwyd

NOSON BURNS YN Y PWLL NOFIO

Llwyddwyd i godi dros £600 tuag at Hamdden Harlech mewn noson swper i ddathlu Gŵyl Robert Burns yn ddiweddar.


TELYNOR MAWDDWY A’I DEULU gan Les Darbyshire [Rhan 4] Robert Ifor

Ganwyd Robert Ifor yn 1923, yn ail fab i Delynor Mawddwy a’i wraig Jennie, brawd i Elio. Mynychodd ysgol elfennol ac wedyn Ysgol Sir y Bermo lle llwyddodd i gael tystysgrif y ‘Central Welsh Board’ gyda rhyddhad o ‘matriculation’. Gadawodd yr ysgol yn 1940 ac ymuno â’r Llynges Brydeinig. Yn gyntaf roedd wedi gwirfoddoli am swydd sylwedydd ar y môr ond er gwneud yn dda yn yr holl brofion, gwrthodwyd ef gan nad oedd ei olwg yn cyrraedd y nod angenrheidiol i’r swydd. Er ei siom ymunodd â’r llynges fel morwr a chael hyfforddiant fel ‘Asdic Operator’. Roedd ‘Asdic’ yn rhyw fath o ‘radar tanddwr’ ond yn trosglwyddo sain o’r llong i’r môr er mwyn lleoli llongau tanfor y gelyn; pan oedd y sain yn taro’r gwrthrych, roedd yn dychwelyd i’r llong, a gallasent wybod lle roedd y gelyn. Byddai y sŵn ‘ping’, ‘ping’, ‘ping’ yn achos pryder a phoen i’r sawl a oedd yn ei ddefnyddio; roedd sŵn y sain yn byddaru’r glust. Bu ‘Asdic’ yn effeithiol iawn i ddarganfod llongau tanfor yr Almaen ac o’i achos fe lwyddwyd i ennill brwydr Môr Iwerydd. Darllenais bod yr Almaenwyr yn ddiweddarach wedi darganfod ffordd i osgoi effaith ‘Asdic’ trwy orchuddio eu llongau tanfor gyda llen o rwber tew a hyn yn peri i’r sain fynd yn ôl. Gwasanaethodd Robert Ifor ar ‘Frigates’ a ‘Mine Sweepers’ a chafodd ei anfon i’r America i ddysgu a dangos i’w llynges hwy sut i weithredu yr ‘Asdic’. Pan yno, yn 1943, cyfarfu â Constance Alice Lundelius, disgybl yn ‘Bloomfield High School, New Jersey’. Byddai genethod hŷn yr ysgol yn gwirfoddoli fel gwestai forwynion yn y Clwb Llu Arfog yn Newark, New Jersey. Er bod Robert rhyw ddwy flynedd yn hŷn na hi, syrthiodd

mewn cariad a phriodi ym mis Mehefin, 1945. Buddiol fuasai rhoi ychydig o hanes teulu Connie. Cafodd ei thad August Lundelius a’i mam Daisy Fajella eu geni yn ninas Efrog Newydd. Roedd ei thaid ar ochr ei thad yn enedigol o Sweden ac ymfudodd i’r America yn 1881. Yr oedd yn arlunydd o fri, ffotograffydd a dyfeisiwr. Yr oedd wedi priodi Alice Sherman, ei theulu yn hannu o Loegr. Roedd ei thaid ar ochr ei mam wedi ei eni yn yr Eidal ac yn gweithredu fel cyfreithiwr yn Prezza cyn iddo ymfudo i’r America yn 1901. Yn wir, roedd Connie o dras ‘multi national’. Ar ôl i Robert Ifor gael ei rhyddhau o’r llynges ar ddiwedd y rhyfel, daeth yn ôl i’r Bermo ym mis Ebrill, 1946 a bu Connie adael America ac ymuno ag ef a chartrefu yn Llys y Delyn. Bu i’r pâr wahanu ym mis Awst yr un flwyddyn ac yn ôl Robert Ifor aeth Connie i Lundain lle bu’n byw gyda phump o enethod o Ganada i gyd yn gweithio i gwmni teithio o’r Iseldiroedd. Yr oedd llawer o’r staff yn ffoaduriaid o Ewrop a dysgodd Connie iaith yr Iseldiroedd a’r Almaen; hynny at y stôr o Ffrangeg yr oedd wedi ei ddysgu yn yr ysgol. Does dim gwybodaeth pam fu i’r pâr wahanu, ond mae nifer o resymau wedi eu cynnig. Yn bersonol, credaf fod Connie wedi ei syfrdanu pan ddaeth i’r Bermo a darganfod bod ei thad-yng-nghyfraith a’i chwaeryng-nghyfraith yn ddall. Roedd hyn yn peri cryn bryder iddi gyda’r ofn y buasai eu plant yn yr un sefyllfa hefyd. Cawsant ysgariad ac yn ôl Clara, chwaer Robert Ifor, bu i’r Daily Sketch gynnwys adroddiad o’r ysgariad ac yr oedd hi yn bur flin o’i ansawdd. Mae Robert Ifor yn ei nodiadau yn dweud: “Ar ymweliad â Llwyngwril yn 1946, arhosodd Connie ar ffarm ‘gwely a brecwast’ lle cyfarfu â Karl Klein, carcharor

rhyfel yn gweithio ar y ffarm, a mab i westeiwr yn Wiesbaden, Yr Almaen. Ysgrifenasant at ei gilydd a bu i Connie ymweld ag ef yn Rugby, lle roedd mewn gwersyll yn disgwyl cael ei anfon yn ôl i’r Almaen yn niwedd 1947.” Doedd teithio i’r Almaen ddim yn bosib bryd hynny i ddinasyddion cyffredin ond gyda chymorth a chyngor ei ffrindiau a oedd â gwybodaeth sut i wrthdroi amodau y ‘Border Controls’, ymunodd â theulu Karl Klein yn Wiesbaden erbyn Nadolig 1947. Roedd y gwesty mawr, cartref Karl, wedi ei fomio yn Chwefror 1945 ac ymunodd gyda’r teulu i geisio ei adfer. Dysgodd sut i drin y tîm ceffylau a oedd yr unig ddull o drafnidiaeth i ddod a nwyddau angenrheidiol i adfer y gwesty. Cymdeithas o ffeirio nwyddau ydoedd ar y pryd ac roedd y teulu yn ffodus o fod yn berchen ar berllan fawr a chaeau lle roedd yn bosib iddynt dyfu anghenion bwyd a ffeirio am nwyddau eraill nad oedd ganddynt. Er bod presenoldeb Connie yn Wiesbaden yn wybodus i lawer o bobl ynghyd ag aelodau’r heddlu, nid oedd yn bosib iddi aros yn gyfreithlon o dan reolau y llywodraeth militaraidd. Ar y pryd, doedd neb yn petruso llawer tan y bu i rhywun dynnu sylw amdani mewn papur lleol yn Wiesbaden a bu i’r wasg ryngwladol ddilyn y stori. Bu raid i’r llywodraeth gymryd sylw ohono. Cynghorwyd Connie i adael y wlad ond roedd ganddi drwydded gyfreithiol yn rhoi hawl iddi drafeilio drwy’r Almaen i fynd i Basel yn y Swisdir i barhau â’i hastudiaeth o’r iaith. Yr oedd ganddi fisa â’r hawl i dramwyo drwy yr Almaen, ac nid oedd yn bosib i’r awdurdodau gael ymadael â hi.

Yn answyddogol bu un o genhadon y Cadfridog Lucius Clay, pennaeth y fyddin Americanaidd yn yr Almaen, ei chynghori i ymgynghori â’r awdurdod lleol ac iddynt hwy roi yr hawl iddi aros a buasai y fyddin yn fodlon ar hynny - ac felly y bu. Aeth bywyd yn ôl i normal, gorffennwyd adfer y gwesty ac agor i fusnes. Bu i Karl a Connie briodi a chael dau o blant - Karl Heinz a Barbara, y mab yn byw yn awr yn Stuttgart a’r ferch yn Los Angeles, Califfornia lle hefyd mae y ddwy wyres. Bu ei gŵr, Karl, farw yn sydyn yn mis Ionawr 1987 yn 63 oed. Bu i Robert Ifor, am gyfnod ar ôl dychwelyd gartref, yn gonductor ar fysys Crosville, hyn i aros mynediad i’r Coleg Normal, Bangor, ym Mehefin 1949, lle enillodd dystysgrif athro. Fe briododd â Mair Meiriona Lloyd, un o Stiniog, yn ferch i John Lloyd y saer ac yn hanu o deulu enwog Morrisiaid y Manod. Bu i mi gyfeirio ati fel swyddog gyda Margaret yn Swyddfa Fwyd y Bermo. Penodwyd ef yn athro cerdd a phynciau eraill yn ‘Baddesley Ensor County School, Warwickshire’ yn 1950 ac yn Ebrill 1953 symudodd i ‘Pendorlan Secondary Modern School’, Bae Colwyn i ddysgu addysg gorfforol a phynciau eraill. Bu am flwyddyn ym Mhrifysgol Lerpwl a chael diploma mewn addysg uwch ac yn ôl i Ysgol Pendorlan fel pennaeth addysg. Ymunodd yr ysgol ag Ysgol Ramadeg Bae Colwyn a’i galw yn ‘Eirias High School’ ysgol gyfun gyda thua 1,500 o ddisgyblion. Fe benodwyd Robert Ifor yn bennaeth ar ddosbarthiadau pedwar a phump. Yn 1975, enillodd radd meistr mewn addysg a symudodd i ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, a bu hefyd yn gynghorwr addysg yno. [i’w barhau]

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Ann E Pryce, Bro Enddwyn sydd wedi gorfod mynd yn ôl i Ysbyty Glan Clwyd i gael llawdriniaeth eto. Gobeithiwn y caiff ddod adra’n fuan. Pwyllgor ’81 Roedd Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy yn llawn ar gyfer y 38fed Noson o Garolau ar 17 o Ragfyr 2019. Croesawodd y Tad Tony Hodges bawb i’r noson arbennig. Cyflwynodd y corau, Côr Meibion Ardudwy a Chanami-gei, ac arwain y gynulleidfa mewn gweddi. Mr Aled Morgan Jones, arweinydd Côr Meibion Ardudwy, gyflwynodd y noson fendigedig o ganu cymunedol. Hefyd, canodd y ddau gôr garolau fel eitemau unigol. Yn yr egwyl, cafwyd cyfle i gyfarch y naill a’r llall dros baned a mins pei, a baratowyd gan aelodau Pwyllgor ’81. Wedi rhagor o ganu yn creu naws Nadoligaidd hyfryd, diolchodd y Tad Tony Hodges i Aled am arwain y noson mor gartrefol a hapus, ac i’r ddau gôr am ganu carolau hen a newydd. Diolchodd hefyd i’r Cyngor Cymuned leol am gyfarfod cost y Neuadd, i Bwyllgor ’81 am y lluniaeth ac am drefnu’r noson, ac i bawb a fynychodd y digwyddiad arbennig hwn. Yna rhoddodd y Fendith a dymuno’n dda i bawb am y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Daeth noson hudolus i ben gyda phawb yn cydganu yng ngwir ysbryd y Nadolig. Colli Ifan Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Mr Ifan Pugh yng Nghaerdydd, yn ŵr ifanc 43 oed. Mae ein cydymdeimlad yn fawr â’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli un annwyl a thalentog iawn. Gwasanaethau’r Sul Horeb CHWEFROR 9 Parch Geraint Roberts 16 Parch Gareth Rowlands 23 Dafydd Charles Thomas MAWRTH 1 Parch Pryderi Ll Jones

8

Teulu Ardudwy Croesawyd pawb i’r cyfarfod yn y Neuadd Bentref bnawn Mercher, 15 Ionawr gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Jean Pryce Jones yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd, Alun, ac â’i wraig Margaret a’r plant. Cawsom bnawn difyr iawn yng nghwmni Margaret pan ddaeth atom i ddangos ei gwaith llaw rai blynyddoedd yn ôl cyn iddynt symud i fyw o Dal-ybont i Warmington. Yna croesawodd un o blant y Dyffryn atom am y prynhawn sef Peter Telfer, mab Mr a Mrs Ron Telfer. Cychwynnodd Peter ei yrfa fel ffotograffydd, yna bu’n ddyn camera, ac mae wedi cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y teledu a gwneud ffilmiau. Dechreuodd ei sgwrs trwy sôn ei fod yn cofio perfformio ar lwyfan y Neuadd Goffa gyda’i fand tra yn yr ysgol. Mae wedi teithio’n bell iawn ers hynny. Yn 17 oed bu’n bodio ei ffordd trwy’r Eidal a Denmarc. Roedd ei luniau i gyd mewn du a gwyn ac wedi eu fframio mewn du ac yn hynod effeithiol. Mae ganddo lun nodedig o Miss Elinor Williams (Elinor Post), llun o wal Berlin pan ddaeth i lawr ac yntau yno, llun o Siân James, y Tad Deiniol a Rhys Mwyn a’r band Anrhefn a llawer mwy. Mae wedi teithio’n helaeth yng ngwledydd Dwyrain Ewrop. Roedd yn Croatia yn ystod y rhyfel. Bu’n gwneud rhaglen deledu yn Ewrop gyda’r Tad Deiniol, yn cerflunio’r eira yn y Ffindir, teithio Gwlad y Basg a’r Weriniaeth Czech gyda’r Anrhefn ac roedd ganddo straeon difyr iawn i’w rhannu. Cafwyd pnawn gwych yn ei gwmni a diolchodd Gwennie iddo a gobeithiwn y daw atom eto y flwyddyn nesaf i sôn am ei deithiau yn America. Ar 19 Chwefror byddwn yn cael cwmni Mrs Sheila Maxwell o Harlech.

Cydymdeimlad Ar 27 Rhagfyr, 2019, yn Warmington, bu farw Mr Alun Pryce Evans (Awelfryn gynt) yn 87 mlwydd oed. Bu’r angladd yn Peterborough ar 15 Ionawr. Roedd yn gymeriad didwyll ac onest ac roedd ganddo wên barod bob amser. Bydd llawer yn ei gofio fel aelod ffyddlon iawn o Gôr Meibion Ardudwy lle’r oedd o’n canu bas cyntaf. Bu’n gadeirydd yn ei dro ac yn cyfrannu llawer y tu allan i’r ystafell ymarfer. Roedd hefyd yn weithgar y tu allan i’r ymarferiadau ac yn driw iawn mewn cyngherddau. Gwyddom cymaint yr oedd yn colli bod yn aelod o’r Côr wedi iddo symud o Bryn Bwyd. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei wraig Margaret a’r plant, ei chwiorydd Jean ac Einir a’i frawd Robert Elwyn a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Er cof am Alun Dyddiau difyr ein hieuenctid Yn gweini ar ffermydd y fro, Alun ar fferm Hendre Eirian A minnau yn Sebonig dros dro. Y gwaith yn sicr yn galed, Ond pleser ar ddiwedd y dydd Mwynhau cyfeillgarwch y werin Ger y tân yng ngweithdy y crydd. Wedyn mis Mai cael pentymor Wythnos i ymweld â’r dre, I ffwrdd ar gefn y beic modur Anghofio y ffermio, hwrê! Alun a syrthiodd mewn cariad, Priododd â Margaret, Bryn Bwyd. Symudodd y ddau i Loegr, Roedd Alun yn awr yn y rhwyd! Margaret gafodd waith mewn ysbyty Ac Alun swydd bwysig, dyn tân, Y ddau yn awr yn gysurus Yn diolch ar lafar a chân. Daeth ychwanegiad i’r teulu Fe aned iddynt fab a merch, Yr aelwyd yn llawn o gyffro Yn gorlifo o hwyl a serch. Yna daeth amser ymddeol, A’r llwybr yn arwain yn ôl I fryniau aur Meirionnydd, Taith bywyd yn awr yn eu côl. JVJ

Heno Yn dilyn llwyddiant Nineteen,57 yn dod i’r brig yng nghategori y Bwyty Gorau yng Ngogledd Cymru cafodd Siôn Wellings ei gyfweld gan Elin Fflur ar y rhaglen ‘Heno’ a chafodd hithau brofi pryd blasus a baratôdd Siôn ar ei chyfer. Clwb Cinio Daeth nifer dda iawn i westy’r Victoria yn Llanbedr ar 21 Ionawr. Mae’r gwesty wedi ei adnewyddu yn chwaethus iawn yn ddiweddar a phawb wedi eu plesio’n fawr gyda’r bwyd. Roeddem yn falch iawn fod John V Jones wedi dod gan ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 ar y diwrnod a chawsom gyfle i’w longyfarch a chanu pen-blwydd hapus iddo. Byddwn yn mynd i’r Grapes ym Maentwrog ar 18 Chwefror. Festri Lawen, Horeb Ar nos Iau, 9 Ionawr, tri o’n haelodau oedd yn cynnal y noson i ni, sef John V Jones, Raymond Owen a Huw Dafydd. Mae’r tri yn hoff iawn o farddoni a buont yn rhannu eu gwaith â ni. Darllenodd Huw ddarnau o waith y diweddar Mr Bennet Jones yn ogystal. Cafwyd y llon, y lleddf a’r digri. Roeddem yn teimlo’n falch iawn fod gennym dri mor ddawnus yn ein plith a diolchwyd iddynt am noson gartrefol a hwyliog gan Gwennie. *** Ar 13 Chwefror byddwn yn cael noson yng nghwmni Band Ysgard ac unigolion Ysgol Ardudwy. Penderfynwyd mynd i gael cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen.57 ar 12 Mawrth a byddwn yn cael cwmni Myrddin ap Dafydd, yr Archdderwydd. Diolch Dymuna teulu’r diweddar Alun Pryce Evans ddiolch yn fawr i bawb, yn deulu a chyfeillion, am eu caredigrwydd a’u cydymdeimlad ar ei farwolaeth yn ddiweddar. Diolch i bob un ohonoch. Diolch £10


PEN-BLWYDD ARBENNIG

John Vincent Jones, Delfryn, Dyffryn Ardudwy (tad Meryl, gŵr y diweddar Alice, Ty’n y Wern a thaid Rhys). Magwyd John yng Ngornant Isa, a bu’n gweithio am flynyddoedd yn y Camp yn Llanbedr. Un o’i ddiddordebau mawr yw’r Gymraeg ac mae’n awdur sawl cerdd a gwaith arall. Bu’n gefnogol i’r Capel Annibynwyr, hefyd Horeb, ar hyd ei oes. Roedd Ionawr 21ain yn ddiwrnod i’w gofio iddo! Dathlodd John ei ben-blwydd yn 90 mlwydd oed ar y diwrnod hwnnw. Llongyfarchiadau gwresog iddo. Cafodd fwynhau te prynhawn a chacen hyfryd gyda’i deulu. Yn digwydd bod, ar y dyddiad, roedd Clwb Cinio Horeb yn cyfarfod, a chafwyd pryd blasus a sgwrs ddiddorol yng nghwmni ffrindiau. Diolch i’r teulu a’r cyfeillion Am y wledd a’r danteithion, Am y cardiau a’r anrhegion Daw y diolch yn syth o’r galon. Hefyd am iechyd i fwynhau Cwmni’r werin, fel petai. Rhodd a diolch £10

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

MATERION YN CODI O’R COFNODION Eitem 12.9 (F) - adroddodd y Clerc ei bod wedi llunio hysbyseb ynglŷn â gwerthu’r ddwy ffrâm siglen yn yr hen barc chwarae ond bod angen cael sêl bendith y Cyngor bod hyn yn iawn cyn ei roi i fyny. Cytunwyd bod yr hysbyseb yn iawn ond bod angen cynnwys ‘os oes angen mwy o wybodaeth’, i bobl gysylltu gyda’r Cadeirydd. Eitem 12.9 (H) - adroddodd y Clerc ymhellach ynglŷn ag ethol Cynghorydd a datganodd ei bod, rŵan, wedi derbyn hysbyseb ynglŷn â rhybudd o etholiad am y sedd wag. Os bydd mwy nag un enw wedi ei dderbyn gan y Swyddog Etholiadol yng Nghaernarfon erbyn Ionawr 17, yna cynhelir etholiad ar Chwefror 13. MATERION YN CODI Panel Cyfrifiad Annibynnol Mae’n rhaid i bob Cynghorydd arwyddo ffurflen ynglŷn â’r uchod eto eleni. Mae angen rhestru pob rheol sy’n cael ei mabwysiadu yng nghofnodion y Cyngor a, phe bai rheol daliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu, bydd angen i’r Cynghorwyr NAD ydyn nhw am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ôl trafodaeth, cytunwyd i fabwysiadu’r rheol daliadau ar gyfer costau eto eleni ac arwyddwyd datganiad gan bob Aelod oedd yn bresennol nad ydyn nhw an hawlio costau ar wahân i Gadeirydd y Cyngor ac Eryl Jones Williams a oedd yn datgan eu bod yn mynd i hawlio costau os byddant yn mynd i gyfarfodydd ar ran y Cyngor. Presept y Cyngor am y flwyddyn 2020/21 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd codi’r presept o £35,000 i £50,000. Cytunwyd i godi’r presept oherwydd y canlynol, codi cyfraniad y Cyngor ar gyfer y Neuadd Bentref o £3,000 i £6,000, rhoi £2,000 ar y presept fel gwariant i drwsio offer yn y parc chwarae newydd, a £400 ar y presept ar gyfer talu am logi’r Neuadd Bentref i’r Clwb Ieuenctid. CEISIADAU CYNLLUNIO Amnewid 23 caban gyda 23 carafan statig steil caban pren, codi swyddfa safle newydd, tirlunio a gwelliannau amgylcheddol – Parc Rhinog, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Gosod 12 carafan deithiol yn lle 21 llain gwersylla - Murmur-yr-Afon, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Llywodraeth Cymru Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor mai’r swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2020/21, fydd £8.32 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y nifer diweddaraf o etholwyr sydd ganddi yw 1,136 ac felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £9,451.52 i gyrff allanol.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Cydymdeimlad Ar 24 Ionawr bu farw Mr Hugh Arwyn Humphreys, Brynerwast, Bryncrug. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod Ann (Meifod Uchaf gynt), ei blant, ei wyrion a’i wyresau a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes

AR WERTH

DWY FFRÂM SIGLEN Mae Aelodau wedi cytuno i werthu’r ddwy ffrâm siglen segur sydd yn yr hen barc chwarae yng nghanol y pentref. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu’r fframiau hyn (neu am archebu un) a fyddai’n bosib i chi anfon eich pris mewn amlen dan sêl i’r cyfeiriad canlynol: Mrs Annwen Hughes, Clerc y Cyngor, Plas Uchaf, Talsarnau, Gwynedd, LL47 6YA erbyn Chwefror 28, 2020. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r uchod, mae croeso i chi gysylltu gyda Chadeirydd y Cyngor, Edward Griffiths (01341 242424/07900 908058) TORRI GWAIR TENDR 1 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio unwaith y mis, hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus, a gwneud gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio unwaith y mis yn hen fynwent Llanddwywe a mynwent Llanenddwyn. TENDR 2 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. TENDR 3 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri gwair a’i glirio o amgylch y sedd ym Mro Enddwyn, o amgylch y sedd ar ffordd Ystumgwern, ffordd y Llan a ffordd yr Efail. Am fwy o fanylion a chopiau o’r ffurflenni tendr, cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar 01766 780971. Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau 28.2.20 NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI CAEL EI ANFON GERBRON AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL

9


T

Dyma ail offrwm John Alwyn Griffiths. Mae hon yn dilyn ar sawdl nofel gyntaf yr awdur, Dan yr Wyneb. Mae’r stori’n dod o lygad y ffynnon. Cyn iddo ymddeol roedd yr awdur yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Ac mae’r ffaith honno’n amlwg ym manylder y stori. A dyma beth yw chwip o stori. Yr ymadrodd Saesneg am y fath nofel yw ‘page turner’. A phrin fod yna well enghraifft ymhlith nofelau datrys a diogelwch Cymraeg. O’r agoriad i’r clo, mae’r stori’n cydio. Rwy’n un o’r rheiny sy’n hoffi storïau sydd ag awyrgylch yn perthyn iddynt. Y rhywbeth anniffiniol hwnnw sy’n troi stori dda yn un gofiadwy. Mae fferm hynafol Glan Morfa mor bwysig i’r nofel ag unrhyw un o’r cymeriadau cig a gwaed sy’n britho’r tudalennau. Mae’r hen le a’i ddirgelion yn gwbl ganolog i’r nofel. Ac er mai Meurig Morgan yw’r cymeriad allweddol, fy hoff gymeriad i yw’r Ditectif Gwnstabl Jeff Evans. Mae pob un o’r cymeriadau’n greadigaethau crwn. Ond mae hwn yn gymeriad sy’n sefyll allan. Nid arwr yw hwn ond gwrtharwr, plismon deallus ond gyda thraed o glai. Y gair allweddol wrth ddisgrifio’r nofel yw ‘gafaelgar’. Ydi, mae hi’n cydio ac yn gwrthod gollwng gafael. Mae yma hen wraig sy’n cael ei phoeni gan ysbryd. Anodd yw iddi hi – ac i ninnau – benderfynu ai ysbryd go iawn neu ei mab hi ei hun o’r gorffennol sy’n ei phoenydio. Mae rhywun neu rywbeth yn stelcian o gwmpas Glan Morfa. Ar ben hynny cawn stori o lygredd mewn llywodraeth leol ac o fewn yr heddlu eu hunain. Ond does neb na dim yn gwbl ddu a gwyn. Mae hyd yn oed y dihirod tywyllaf yn rhyw fath o ddioddefwyr eu hunain. A rhywbeth felly yw bywyd go iawn, onid e? Lyn Ebenezer

Cyfrol ar ffenomenon murluniau diweddaraf Cofiwch Dryweryn sydd wedi ymddangos ar hyd a lled Cymru mewn ymateb i’r trosedd casineb yn erbyn y murlun eiconig gwreiddiol yw hon. Ynghyd â lluniau o’r murluniau, mae’r rhai fu’n eu peintio yn egluro pam eu bod wedi gweithredu yn y fath fodd a cheir cyfraniadau gan rai fu’n llygad dystion i foddi Capel Celyn. Rydym i gyd wedi gweld un – neu fwy – yn rhywle, y slogan dau air hwnnw, ‘Cofiwch Dryweryn’, ac mae’r awdur Mari Emlyn yn nodi’n gofiadwy bod ‘egni mewn graffiti’. Ac mae’r egni yn llifo o’r gyfrol syml hon – o’r detholiad o’r cannoedd o wahanol leoliadau lle ymddangosodd geiriau eiconig Meic Stephens fel ymateb i’r difrod a wnaethpwyd i’r murlun gwreiddiol, ac o’r lluniau a’r hanesion a geir gan yr arlunwyr newydd a’u rhesymau dros eu paentio. Daw egni hefyd o’r lluniau du a gwyn o’r protestio fu yn erbyn boddi Cwm Celyn, ond i mi, atgofion pwerus tri o gynddisgyblion ysgol y pentref sy’n aros yn y cof, gydag un wraig yn cofio swyddog o gyngor Lerpwl yn dweud wrth ei mam, ‘I hope you realise, we don’t drink your water, we only use it to flush toilets’. Ac mae Emyr Llewelyn yn cofio’r eiliad, wrth iddo ymweld â’r ysgol yn y cyfnod hwnnw, pan benderfynodd weithredu yn erbyn y sarhad hwn i’r genedl gyfan. Ond nid dŵr yn unig ddaeth trwy lifddorau’r gronfa. Daeth deffroad cenedlaethol hefyd. Da gweld bod y gyfrol werthfawr hon yn ddwyieithog, i ledaenu’r hanes mor eang â phosibl, a sicrhau ein bod nid yn unig yn cofio Tryweryn, ond ein bod yn deall hefyd pam fod yr un enw hwnnw mor bwysig. Tweli Griffiths

Adolygiadau oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

10

DIARHEBION T-Y

Taer yw’r gwir am y golau Tafl garreg at fur, hi a neidia at dy dalcen Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn Tecaf fro, bro mebyd Trech cariad na’r cyfan Trech gwlad nag arglwydd Trech serch nag arfau dur Trechaf treisied, gwannaf gwaedded Tri brodyr doethineb: a wrendy, a edrych, a daw Trwy dwll bychan y gwelir goleuni Trydydd troed i hen ei ffon Twyllo arall, twyllo dy hunan

U

Ufudd-dod ydyw llwybr bywyd Un celwydd yn dad i gant Utgorn angau yw peswch sych

Y

Y ci a gyfarth ni fratha Y ddraig goch ddyry gychwyn Y doeth ni ddywed a ŵyr Yf dy gawl cyn oero Y fesen yn dderwen a ddaw Y groes waethaf yw bod heb yr un Y gwaith a ganmol y gweithiwr Y mae gweithred yn well na gair Yng ngenau’r sach y mae cynilo’r blawd Ymhob clwyf y mae perygl Ymhob gwlad y megir glew Ymhob pen y mae ’piniwn Y mwyaf ei fost, lleiaf ei orchest Yn yr hwyr y mae nabod gweithiwr Yr afal mwyaf yw’r pydraf ei galon Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid Yr hen a ŵyr, yr ieuanc a dybia Yr hyn ni wêl y llygad ni flina’r galon

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930


Y BERMO A LLANABER Mrs Eurwen Thomas Ar Tachwedd 24 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor bu farw Mrs Eurwen Thomas, Llys-y Delyn yn 89 mlwydd oed. Gwraig Gareth, mam Carys, Geraint, Iola a Siân, nain Jade, Katie, Betsan a Gwenno Nel a mam-yng-nghyfraith Simon a Matthew. Dymuna’r teulu ddatgan eu diolch diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch hefyd i Pritchard a Griffiths am y trefniadau trylwyr ac i’r Parch Brian Evans a’r Parch R W Jones am y gwasanaethau arbennig yn yr Amlosgfa yn Aberystwyth ac yn Christ Church, y Bermo. £10 Ymddiheurwn am fethu cynnwys y cyhoeddiad uchod yn y rhifyn diwethaf. [Gol.] Merched y Wawr Nos Fawrth, 21 Ionawr, daethom at ein gilydd i gyfarfod cyntaf y flwyddyn. Aethpwyd ymlaen i drafod materion rhanbarthol a chendlaethol. Roedd yr adloniant yn nwylo medrus yr aelodau. Gofynnwyd i bawb ddod ag eitem roeddent yn drysori. Cafwyd amrywiaeth o eitemau diddorol ag yn eu plith roedd – hen lyfrau, gemwaith, gwaith llaw, hen offer a sawl eitem o Morocco. Diolchodd Llewela i bawb am noson hwyliog a difyr iawn. Edrychwn ymlaen at gwmni drama Dinas Mawddwy yn Theatr y Ddraig ar 10 Chwefror. Croeso cynnes i bawb.

Cymdeithas Gymraeg y Bermo Ar yr 8fed o Ionawr, cafwyd noson hynod o gartrefol a llwyddiannus i ddechrau blwyddyn newydd yng nghwmni ein gŵr gwadd Mr Glyn Williams, Borth-y-gest. Swynwyd y gynulleidfa niferus gan ei lais hyfryd a’i raglen ddiddorol, amrywiol a oedd yn cynnwys emynau, cerdd dant a straeon digri. Mae ganddo’r ddawn o gynnal noson hwyliog a hapus gyda digon o chwerthin, a thynnu coes ambell i aelod. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr iawn. Diolch i Glyn o Borth-y-gest Am noson o adloniant, Ei wreiddiau’n ddwfn yng nghefen gwlad A’i ganu mor ddiffuant. Merch fach Llongyfarchaiadau gwresog i Megan a Ryan Britland o’r Bermo, ar enedigaeth merch fach, Ivy Alys ar Ionawr 24. Llongyfarchiadau hefyd i Glyn a Jackie Roberts, Castle Cottage, Harlech ar ddod yn Nain a Taid am y tro cyntaf. Dymuniadau gorau i’r teulu bach newydd.

Theatr y Ddraig, Bermo

Cwmni Drama Dinas Mawddwy Chwefror 10 am 7.30 Mynediad am ddim Cofiwch gefnogi!

LEWIS EVANS, ‘Y CERDDOR’

Un o Gymry mwyaf blaenllaw dinas Racine, Wisconsin, ac arweinydd corawl adnabyddus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd Lewis Evans. Ganwyd ef yn Llanenddwyn, Dyffryn Ardudwy, 28 Mawrth, 1844, lle yr oedd ei dad, y Parch Evan Evans (g 1811 yn Llangelynin, Meirion), yn weinidog ar y pryd ar eglwysi Annibynol y Dyffryn a’r Bermo. Yn 1851 yr oedd Lewis, Anne ei chwaer 7 oed, a’i dad gweddw, yn byw yn Chapel St, Maentwrog, ac yna yn Glanrafon, Llangollen, dwy eglwys Annibynol arall lle bu ei dad yn gweinidogaethu. Adnabyddid Evan Evans gan hen drigolion Llangollen y cyfnod hwnnw fel un o brentisiaid ‘Shop Griffiths’, ac ar ôl hynny partner gyda R Edwards, yn cadw siop groser yn Stryd y Capel. Cafodd Lewis Evans fanteision yr ysgolion cyffredin gorau oedd yn y wlad pryd hynny, a chafodd gwrs mewn ysgol neilltuol a gedwid gan y Parch Robert Parri, Ffestiniog, lle y lletyai gyda’r Parch Robert Thomas, Llidiardau. Yr oedd ynddo duedd naturiol at gerddoriaeth a datblygodd y dalent ynddo yn ifanc. Yr oedd o deulu athrylithgar o’r ddwy ochr. Yr oedd ei dad yn awdurdod safonol ar ddarllen a siarad, megis ‘Coleg y Darllenydd’ ac ‘Esboniad ar Ddamegion Crist’, ynghyd ag amryw lyfrau eraill. Yr oedd ei fam, Mary Broster Evans, yn chwaer i’r llenor a’r hynafiaethydd Thomas Lloyd Williams (18301910), Frongaled, Llanddwywe, a Bennett Williams Porthmadog, ac yr oedd y cerddor a’r datganwr, yr Athro John Henry (1859-1914) hefyd o Borthmadog, awdur ‘Gwlad y Delyn’ a ‘Cân y Bugail’, yn gefnder iddo. Ar ôl bod yn gwasanaethu mewn masnachdai yn y Drenewydd ac Wrecsam, ymfudodd Lewis Evans i’r America, yn Hydref 1866, ac ymsefydlodd yn Racine, dinas ar lan orllewinol Llyn Michigan, ac yno y cartrefodd gweddill ei oes, ag eithrio blwyddyn yn Colorado, ac Iowa. Yn y flwyddyn 1870, yr oedd poblogaeth Racine dros ddeng mil, a’i masnach yn fwy bywiog nag erioed. Erbyn 1872 yr oedd yno dros ddwy fil o Gymry parchus a chrefyddol o fewn terfynau Racine, ac amryw ohonynt yn fasnachwyr cyfoethog, morwyr llwyddiannus, a chrefftwyr medrus: hefyd llenorion a cherddorion dysgedig. Yr oedd yno gapel gan y Methodistiaid ers 1843, ac un arall gan yr Annibynwyr Cymraeg ers 1847. Mehefin 10fed, 1873, priododd â Miss Elizabeth Jones (1850-1920), merch Capten Hugh W Jones (1825-1892) a Margaret Lewis (18271857), Racine, y tad wedi ei eni yn y Rhiw, Llŷn, a’r fam yn Remsen, Efrog Newydd, yn ddisgynnydd i William I Lewis (1779-1849), Remsen, gynt o Aberdaron, Llŷn. Ganwyd i Lewis ac Elizabeth Evans dri o blant: dau fab, Lewis Jones Evans, yr Ieuengaf (1874-1932), Sheboygan, Wisconsin, a Bennett G Evans (1880-1919), Racine; ac un ferch, Laura Evans (1877-1878).

‘Llanfihangel-y-traethau’ Llanfihangel y Traethau? Daeth ymholiad i law yn gofyn pam ein bod yn sgwennu’r enw ‘Llanfihangel-y-traethau’ gyda chysylltnod a llythyren fach ar y gair olaf. Cwestiwn digon teg. Rydym yn hapus i gynnig yr esboniad isod i’n darllenwyr. O ran enwau lleoedd Cymru, rydyn ni fel golygyddion yn dilyn ‘Rhestr o Enwau Lleoedd’, Gwasg Prifysgol Cymru, bob amser, ac fel uchod y mae’r sillafiad yn hwnnw, yn yr un orgraff â Llanddwywe-is-y-graig a Llanfihangel-y-fedw, gan nad ydy ‘traethau’ (na chraig na bedw) yn enw neb. Does felly dim angen llythyren fawr. [Gol]

Bu Lewis Evans yn gwasanaethu i J I Case, Cwmni Peiriant Dyrnu, am ddeugain mlynedd fel ‘head timekeeper and paymaster’, hyd rhyw flwyddyn cyn ei farw, pan y bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r swydd oherwydd cyflwr ei olwg. Cyn hynny bu mewn gwasanaeth gyda Vaughan a Williams (sef Thomas Lloyd Williams), ei ewythr, swyddfa busnes amlwg. Yn haf 1914, bu o dan lawdriniaeth feddygol, er ceisio gwella ei olwg. Pan ymddeolodd o Gwmni Chase, cafodd flwydd-dal anrhydeddus fel gwerthfawrogiad o’i wasanaeth maith. W Arvon Roberts, Pwllheli. [I’w barhau]

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau gan y Llywydd, Siriol Lewis, i gyfarfod cyntaf y flwyddyn yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 13 Ionawr a dechreuodd trwy ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Anfonwyd cofion arbennig at Maureen yn dilyn cwblhau un math o driniaeth yn ddiweddar ac sy’n aros am driniaeth pellach, gan ddymuno’r gorau iddi pan ddaw’r amser. Darllenwyd cofnodion dau achlysur – Gwasanaeth Llith a Charol yn Nhrawsfynydd ar 2 Rhagfyr, gyda Siriol yn cymryd rhan, a’r Cinio Nadolig ym Mhlas Tan y Bwlch ar 11 Rhagfyr. Cyhoeddwyd rhai digwyddiadau yn cynnwys y gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglanllyn ar 28 Chwefror a chafwyd enw 6 aelod i gymryd rhan. Trafodwyd dyddiad a lleoliad cinio Gŵyl Ddewi ac wedi cytuno ar ddydd Gwener, 6 Mawrth enwyd tri lle i wneud ymholiadau am fwydlen. Cadarnhawyd y trefniant i ymuno â Changen Harlech yn Neuadd Llanfair nos Fawrth, 4 Chwefror am 7.00 o’r gloch pryd y cawn glywed sgwrs gan y Parch Christopher Prew, Porthmadog. Yna pleser mawr oedd i’r Llywydd groesawu ein gŵr gwadd y noson yma, sef Elgan Tudur Lewis a ddaeth atom i roi ychydig o’i hanes yn byw a gweithio yn yr Antarctig am 16 mis. Trwy gyfrwng sleidiau rhagorol a sgwrs, cawsom lawer o wybodaeth am yr orsaf lle roedd yn gweithio fel saer coed, y gymdeithas o bobl oedd yno gydag ef, a sut oedd yn hamddena. Cafwyd cyflwyniad diddorol ac addysgiadol a mwynhawyd orig wych yng nghwmni Elgan. Diolchwyd iddo ar ein rhan gan Gwenda Paul a fynegodd mor braf oedd cael clywed ei hanes mewn lle mor bell i ffwrdd a’r hyn roedd wedi’i gyflawni tra roedd yno. Enillwyd y ddwy raffl gan Eluned a Margaret. Roedd y baned yng ngofal Gwenda G gyda chymorth Margaret.

Naw Llith a Charol yn Llanfihangel-y-traethau

Plant Cylch Meithrin Talsarnau a dderbyniodd y casgliad o £100 o’r gwasanaeth ‘9 Llith a Charol’ yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau Cawsom wasanaeth Naw Llith a Charol yn yr Eglwys ar ddydd Sul 15 Rhagfyr, 2019 o dan arweiniad Tecwyn Williams a Priscilla Williams wrth yr organ, a brofodd yn llwyddiant mawr gyda chynulleidfa deilwng iawn. Darllenwyd y llithoedd gan: Llŷr Griffths, Catrin Richards, Louise Jones, John Richards, Carol O’Neill, Osian Ephraim, Carwyn Richards, Lea Ephraim a Mike Hemsley. Canodd y gynulleidfa saith o’r carolau a chanodd Roger Kerry ddwy garol i gyfeiliant ei gitâr. Roedd Siôn Corn wedi gofalu bod digon o felysion a siocled i’w dosbarthu i bawb oedd yn bresennol. Gwnaed casgliad ariannol gyda chyfanswm o £100 tuag at Gylch Meithrin Talsarnau. Diolch enfawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y gwasanaeth arbennig yma

12

Noson Ysbrydegol gydag Eifion Williams Gwasanaeth bar proffesiynol a ddarperir gan

Chwefror 28, 2020 am 7.00 yn Neuadd Talsarnau Mynediad: £5 Yr holl elw at Neuadd Talsarnau Diolch Diolch am y rhoddion i Llais Ardudwy gan Sali ac Emyr Williams, Dafydd Williams, John Roberts a Trefor Jones.

Darlith Gŵyl Ddewi

Capel Newydd, Talsarnau. Nos Fercher, Mawrth 4 am 7:30 “Edmwnd Prys y dyn a’i waith” Darlithydd Parch Dr Adrian Morgan Gorseinon Croeso i bawb.

Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00. Croeso i bawb. CHWEFROR 9 Dewi Tudur 16 Steffan Jones 23 Dewi Tudur MAWRTH 1 Dewi Tudur 8 Dewi Tudur

Neuadd Gymuned Talsarnau

Gyrfa Chwist

nos Iau, 13 Chwefror 2020 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb!

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio a gwneud gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 24.2.20.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286


R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU Dyma ddau dŷ yn ardal Llandecwyn. Wyddoch chi lle maen nhw? Fedrwch chi ddweud ychydig o’u hanes wrthon ni? Diolch ymlaen llaw am eich cyfraniadau.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

Ysgol Ardudwy, Harlech Llais Ardudwy

CYNGERDD DATHLU’R 500fed Rhifyn

Nos Wener, Gorffennaf 10 am 7.00 o’r gloch gyda

DONIAU BRO ARDUDWY Hyderwn y gallwn ddenu amryw o dalentau’r fro i’n diddori ar y noson. A fuasech mor garedig â chysylltu ag Iwan Morus Lewis, ymlaen llaw, os ydych yn rhydd i berfformio dwy eitem ar y noson? Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad. 01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau’r Cyngor i Geraint Williams a’r teulu ar enedigaeth merch fach yn ddiweddar. MATERION YN CODI Praesept y Cyngor am y flwyddyn 2020/21 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd codi’r praesept o £20,000 i £22,000. Panel Cyfrifiad Annibynnol Ar ôl trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu’r rheol daliadau ar gyfer costau eto eleni ac arwyddwyd datganiad gan bob aelod oedd yn bresennol nad ydyn nhw am hawlio costau. GOHEBIAETH Llywodraeth Cymru Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor mai’r swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2020/21 fydd £8.32 yr etholwr. Adroddodd y Clerc mai’r nifer diweddaraf o etholwyr sydd ganddi yw 428, felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £3,560.96 i gyrff allanol. Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Fe all y Cyngor hwn benderfynu i dderbyn cyfrifoldeb llawn neu benderfynu gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd wrth gymryd yr asedau ymlaen a bod Cyngor Gwynedd yn dal i archwilio ar ein rhan. Dyma amcan gostau cynnal y tri maes chwarae ar gyfer 2018/19 – sef maes chwarae Cilfor - £757.91, maes chwarae yr Ynys - £543.12. a maes chwarae Soar - £502.19. Cytunwyd bod y Cyngor yn mynd i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd. SP ENERGY NETWORKS Bu Swyddog sy’n gweithio ar ran y cwmni uchod yn gofyn am ganiatâd i docio coeden sy’n amharu ar y wifren drydan ger mynwent Llanfihangely-traethau. Rhaid gwneud hyn ar sail iechyd a diogelwch. Rhoddwyd caniatâd ar ran y Cyngor. UNRHYW FATER ARALL Cytunwyd bod angen cefnogi Cyngor Gwynedd i godi treth o 50% ar dai haf, hefyd rhwystro rhai sy’n gosod tai haf i droi at drethi busnes rhag talu treth. Mae un preswylydd yn parcio’r ochr arall i’r ffordd ar Ffordd Soar yn barhaus ac mae’r llecyn gwyrdd erbyn hyn wedi mynd yn flêr. Cytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater yma. Cafwyd gwybod bod baw cŵn sylweddol ar y ffordd i lawr am y stesion. Cytunwyd i anfon cwyn ynglŷn â hyn at Gyngor Gwynedd. Eisiau arwyddion 20mya tu allan i’r ysgol gynradd. Cytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater yma. Mae rhai trigolion yn ddiolchgar iawn bod y Cyngor wedi trefnu i lanhau’r ffos ger y Neuadd.

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru


DYDDIADUR Y MIS MIS CHWEFROR

Talu gwrogaeth i fand chwedlonol

ROC ARDUDWY yn y Neuadd Goffa, Harlech Neuadd Llanbedr

Nos Fawrth, Chwefror 18 am 7.00 NOSON GYMDEITHASOL

i wylio fidoes o’r gorffennol yng nghwmni CÔR MEIBION ARDUDWY Gwahoddir cyfeillion y Côr yn gynnes i ymuno yn y noson o rannu atgofion Bydd lluniaeth ysgafn a raffl ar gael Cyflwynir unrhyw elw i’r Ambiwlans Awyr

10 – Cwmni Drama Dinas Mawddwy, Theatr y Ddraig, Y Bermo, am 7.30 11 – Cymdeithas Cwm Nantcol, Dr John Williams, Lerpwl, Neuadd Llanbedr, 7.30 13 – Gyrfa Chwist, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.30 13 – Festri Lawen, ‘Ysgard’, Festri Horeb Dyffryn, 7.30 15 – Straeon am Goed Llenyrch, Caffi Prysor, 5.30 (manylion ar wefan Coed Cadw) 15 – Bingo, Caffi Pwll Nofio, Harlech, 2.30 17 – Grŵp Huchenfeld, Tŷ Mawr, 7.00 18 – Gwylio fideos Côr Meibion Ardudwy, Neuadd Llanbedr, 7.00 18 – Clwb Cinio, Gwesty Grapes, Maentwrog 25 – Cymdeithas Cwm Nantcol, Dafydd Iwan, Neuadd Llanbedr. 28 – Noson Ysbrydegol gydag Eifion Williams, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.00

MIS MAWRTH

4 – Darlith Gŵyl Ddewi gan Dr Adrian Morgan, Gorseinon, Capel Newydd Talsarnau, 7.30 4 – Cinio Gŵyl Ddewi, Cymdeithas Gymraeg y Bermo, gyda Mair Tomos Ifans, Hendrecoed Isaf, Llanaber, 7.00 12 – Cinio Gŵyl Ddewi, Festri Lawen gyda Myrddin ap Dafydd, Nineteen.57, 7.30 18 – Cyfarfod Blynyddol, Cymdeithas Gymraeg y Bermo, Sleidiau a Sgwrs, Parlwr Bach Y Bermo, 7.00

MIS GORFFENNAF

10 – Cyngerdd Dathlu 500fed rhifyn, Ysgol Ardudwy, Harlech, 7.00 (Cofiwch gysylltu!) Cysylltwch â Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy RHAGFYR 2019 1. Delyth Jones £40 2. Eileen Greenwood £20 3. Evie Morgan Jones £10 4. Gareth Williams£10 5. Olwen Evans £10 6. Jean Jones £10

IONAWR 2020 1. Ken Roberts £30 2. Manon E Thomas £15 3. Pauline Williams £7.50 4. Huw Dafydd £7.50 5. Arthur G Jones £7.50 6. Beti Wyn Jones £7.50

Stori Coed Felenrhyd a Llenyrch – digwyddiad gan Coed Cadw Ymunwch â ni yng Nghaffi Prysor, Llyn Trawsfynydd, ar 15 Chwefror 2020, am bowlen o gawl blasus, ac i wrando ar straeon gwerin gyda Dafydd Davies Hughes, Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, a fydd yn adrodd hanes y dewin Gwydion, o chwedlau’r Mabinogi, a ddaeth â byddin o goed yn fyw i ymladd wrth ei ochr mewn brwydr. Yn ôl y chwedl hon, digwyddodd y cyfan yn ein coetir hynafol hardd sef Coed Felenrhyd, rhwng Llandecwyn a Maentwrog! Bydd Dafydd yn adrodd ei straeon o 7.30 yr hwyr ymlaen. Wedyn, cewch ymweld â’r gwahanol stondinau sy’n rhoi hanes Prosiect Dyfodol Llenyrch a choedwigoedd glaw Celtaidd de Eryri. Mae angen neilltuo lle ymlaen llaw ac mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich lle yn fuan drwy fynd i wefan Coed Cadw. 15


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod brynhawn ddydd Mercher 8 Ionawr 2020 gan yr is-lywydd Debbie Jones. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r rhai oedd yn dathlu y mis yma. Dymunwyd yn dda i Ann Edwards gafodd ddamwain cyn y Nadolig, ac i Edwina Evans oedd wedi dod yn hen nain am y trydydd tro ym mis Rhagfyr. Cafwyd llythyr gan Bill Downes yn diolch i’r aelodau oedd wedi trefnu y blodau yn yr Eglwys ddiwrnod claddu ei wraig Sue Downes yn ddiweddar. Talwyd aelodaeth gan yr aelodau am y flwyddyn 2020. Trefnwyd y bwyd i’r Plygain oedd yn Llanfair ar 15 Ionawr, ac hefyd trefnwyd amser i’r aelodau fod yn Llanfair i ddarparu’r bwyd ar ddiwedd noson y Plygain. Gofynnodd Sheila Maxwell i’r aelodau am erthyglau i’w rhoi yn y cylchgrawn Brethyn Cartref. Ar ôl cael te, cafwyd helfa chwilen wedi ei baratoi gan Christine Freeman. Cafwyd hwyl wrth chwarae hwn a thalwyd y diolchiadau gan Edwina Evans.

Pen-blwydd Cyfarchion cynnes iawn i Beryl Barnett, Cae Gwastad ar ei phenblwydd arbenning yn ddiweddar. Dymuniadau gorau gan dy ffrindiau i gyd. X

Anfon cofion Anfonwn ein cofion at Richard a Cassie Jones, Llain Hudol gynt, sydd bellach yn byw ym Mhorthmadog. Bu Richard yn bur wael yn Ysbyty Gwynedd ar ddechrau’r flwyddyn. Rhoddion a diolch Margiad Parry £20 Lynn Bisseker £5 Diolch hefyd am y rhodd i Llais Ardudwy gan Deilwen Hermer. Brysiwch wella Anfonwn ein cofion at Elfyn Anwyl, Ciltan a George Sutherns, Trem y Wawr. Cafodd y ddau driniaethau i’w pengliniau yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Maen nhw’n gwella’n araf iawn ac yn gallu symud ar faglau erbyn hyn. Pêl-rwyd Dewch i ymuno â ni i chwarae pêl-rwyd wrth gerdded. Amser i gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a chadw’n heini. Rydan ni’n cyfarfod yn y Ganolfan Chwaraeon, Harlech, bob nos Iau, o 4.00yh tan 5.00yh Croeso cynnes i bawb. Gwasanaethau’r Sul Capel Jerusalem CHWEFROR 8 Parch Iwan Ll Jones am 4.00

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

16

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

Llongyfarchiadau i David Bisseker ar ennill cwpan goffa Robin Gwynant sy’n cael ei dyfarnu i’r chwaraewr ifanc mwyaf addawol eleni yn Seindorf Arian yr Oakeley. Dyma David yn derbyn y gwpan gan Paul Wilson sy’n arwain Seindorf yr Oakeley. Marwolaeth Yn Ysbyty Bronglais bu farw Mrs Ann James (Muir gynt). Bu Ann a Richard Muir yn byw yn Wern-y Wylan, Ffordd Uchaf am rai blynyddoedd. Roedd Richard Muir yn athro poblogaidd yn Ysgol Ardudwy ar y pryd ac fe fu’r ddau yn rhedeg y Clwb Ieuenctid yn Harlech am rai blynyddoedd. Ar ôl i Richard farw, cafodd Ann swydd yn Ysgol Uwchradd Tywyn. Ymhen y rhawg mi briododd Elfyn James, aelod o staff yr ysgol, ac ymgartrefodd y ddau ym Mryncrug. Cydymdeimlwn â James a Jane a’u teuluoedd yn eu profedigaeth.

CYNGOR CYMUNED HARLECH

MATERION YN CODI Presept y Cyngor am y flwyddyn 2020/21 Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater uchod. Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £70,000. Panel Cyfrifiad Annibynnol Ar ôl trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol daliadau ar gyfer costau eto eleni ac arwyddwyd datganiad gan bob aelod oedd yn bresennol nad ydyn nhw am hawlio costau ar wahân i Caerwyn Roberts a oedd yn datgan ei fod yn mynd i hawlio costau pa bai yn mynd i gyfarfodydd ar ran y Cyngor. Swyddfa Bost Harlech Adroddodd Freya Bentham bod y gwasanaeth post wedi cychwyn yng nghaffi’r Llew Glas ac y bydd yno bob bore Llun a Mercher o 10.00-12.00. Cafwyd gwybod ganddi bod rhai’n gofyn a fyddai yn bosib ei gael mewn lleoliad yng ngwaelod y dref un bore yr wythnos a’i bod wedi holi; doedd ddim wedi cael hyd i leoliad addas eto. CEISIADAU CYNLLUNIO Trosi bloc toiledau segur yn unedau gwyliau ynghyd â newidiadau allanol – Parc Carafanau Woodlands, Harlech. Cefnogi’r cais hwn oherwydd bydd y safle yn edrych yn daclusach. GOHEBIAETH Llywodraeth Cymru Y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Lywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2020/21 fydd £8.32 yr etholwr. Adroddodd y Clerc mai’r nifer diweddaraf o etholwyr sydd ganddi yw 1,052, felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £8,752.64 i gyrff allanol.


Cylch Meithrin Harlech Mae angen aelodau newydd ar y Cylch, sy’n darparu Addysg Blynyddoedd Cynnar yn yr iaith Gymraeg ar gyfer plant o 2 oed. Mae yma awyrgylch cynnes, hwyliog, lle mae plant yn dysgu drwy chwarae. Mae hefyd yn cynnig gofal plant hyblyg a fforddiadwy i rieni. Mae Cylch Meithrin Harlech wedi bodoli dros 10 mlynedd, ac wedi gweld newidiadau cyffrous yn y blynyddoedd diwethaf: 1 Ail-leoli i Ysgol Tanycastell Yn Hydref 2018 symudon ni o’r Hen Ysgol i Ysgol Tanycastell, lle mae gennym adnoddau gwych a chysylltiad gyda’r ysgol. 2 Arweinyddion newydd - yn Ionawr 2019 croesawyd Rwth Powl-Jones a Helen Jennings fel ein Harweinyddion Cylch newydd, gan ddod â’u profiad gyda nhw o redeg gwasanaeth gofal plant eu hunain yn Nyffryn Ardudwy. 3 Codi arian - bydd gwaith yn cychwyn cyn bo hir ar y man chwarae tu allan newydd wedi i ni dderbyn rhoddion hael gan Gyngor Cymuned Harlech a Roc Ardudwy. Rydan ni hefyd yn ddiolchgar i Gangen Bermo o’r RAOB am y rhodd hael yn dilyn llwyddiant ymweliad Siôn Corn â’r ardal. Mae’r Cylch yn cael ei gynnal gan yr arweinyddion a phwyllgor o wirfoddolwyr. Mae ein Cadeirydd presennol yn bwriadu ymddiswyddo o’r swydd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd yma. Rydym yn chwilio am aelodau newydd i’r pwyllgor, i ddod a syniadau ffres ac egni newydd i’r Cylch. Rydym yn cynnal Noson Agored ar Fawrth yr 2il am 6yh yn Ysgol Tanycastell i roi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Pwyllgor ddod draw i weld y gwaith y mae’r staff a’r Pwyllgor presennol yn ei wneud.

Geirio Braidd yn Flêr

Mae’n siŵr fod llawer o ddarllenwyr Llais Ardudwy yn cofio dweud adnod ar fore Sul. Roedd hyn yn arferiad yn y capel ond wn i ddim a oedd yn digwydd yn yr eglwys. Wn i ddim chwaith a oes unrhyw gapel yn cadw at yr arferiad yma erbyn hyn. Y drefn fyddai i’r plant gerdded yn un rhes i flaen y capel at y sêt fawr ar ôl y casgliad ac adrodd pennill neu adnod wedi ei ddysgu ar y cof. Fe fyddai Taid a Nain yn dotio a’r pregethwr yn canmol. Fel arfer, yr adnod gyntaf fyddai plentyn yn ei dysgu fyddai, ‘Duw, cariad yw’. Graddio wedyn i ‘Wele oen Duw’ neu rhywbeth mwy cymhleth. Clywais sôn am un ferch fach oedd wedi dysgu’r adnod ‘Cofiwch wraig Lot’. Pan ddaeth ei thro yn y rhes, roedd wedi anghofio’n llwyr a bu’n rhaid iddi gribinio’i chof i ffeindio’r adnod. Yn sydyn, daeth gweledigaeth ac meddai wrth y pregethwr ‘Mae gwraig Lot yn cofio atoch chi’. Byddai Wil Sam yn sôn am un bachgen oedd wedi dysgu adnod o salm Paul i gariad yn ei Epistol Cyntaf at y Corinthiaid

– ‘Y mae cariad yn hir ymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu’ ond yn ôl y bachgen hwn, ‘Y mae cariad yn hir ymaros yn Madagascar’ – ond efallai fod hynny’n wir hefyd; fûm i erioed yno. Emyn poblogaidd iawn i’w ddysgu a’i adrodd ar fore Sul fyddai emyn 373 yn y Caneuon Ffydd: ‘Iesu Tirion gwêl yn awr Blentyn bach yn plygu i lawr’. Trosiad yw’r emyn, wrth gwrs, o emyn Charles Wesley (1707 – 1788) wedi ei gyfieithu gan Wesle arall, W O Evans (1864 – 1936). Clywais gymydog imi yn dweud bod y pennill cyntaf wedi peri llawer o ddryswch iddi pan oedd yn blentyn, y drydedd llinell oedd y broblem: ‘Wrth fy ngwendid trugarha’ – roedd hi wedi camddysgu fel hyn, ‘Wrtho Wendy trugarha’. Ond pwy oedd Wendy? Beth tybed oedd hi wedi ei wneud o’i le i fynnu ‘sbeshal mensh’ yn yr emyn? Cofiaf un peth oedd yn ddryswch i mi pan oeddwn mewn oed deud adnod. Roeddwn wedi dysgu emyn Pedr Fardd (1775 – 1845) rhif 692 yn Caneuon Ffydd bellach, ‘Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes I garu’r hwn fu ar y groes; Mae mwy o bleser yn ei waith Na dim a fedd y ddear faith.’ Doedd dim problem gyda’r pennill cyntaf ond fy mod i natur dweud ‘ar fedd’ yn hytrach nag ‘a fedd’ gan newid yr ystyr braidd. Ond yn yr ail bennill yr oedd y tramgwydd, ‘Cael bod yn fore dan yr iau Sydd ganmil gwell na phleser gau’ Roeddwn yn gwybod yn iawn

beth oedd ‘iau’ – byddai Mam yn ei brynu yn siop Austin y Cigydd a byddwn yn ei gael i ginio hefo tatws wedi eu ffrio, ond pam ar y ddaear yr oedd eisiau mynd odanyfo ? Efallai bod iau i gario pwcedi dŵr yn beth cyfarwydd i blant yn oes Pedr Fardd ond roedd o’n beth dieithr iawn i mi. Gallai daearyddiaeth achosi dryswch i ambell un: clywais am hogyn o Fôn a ddywedodd fod Doethion wedi teithio “o Dwyran i Jeriwsalem” a phlentyn o Lŷn a adroddodd wrth sôn am helynt Adda ac Efa adeg y cwymp ‘Yn Edern cofiaf hynny byth’. Doedd cael llyfr emynau o’i flaen ddim yn help mawr i ambell un hŷn chwaith. Clywais y diweddar Ffowc Williams yn sôn am ei blentyndod yn Nhanyrallt, Dyffryn Nantlle lle byddai un hen frawd yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y cyfarfod gweddi. Ei hoff emyn i’w ledio oedd emyn Pedr Fardd sy’n sôn am bobl o holl gyrrau’r ddaear yn tyrru at yr Efengyl, “Daw miloedd ar ddarfod amdanynt o hen wlad Assyria cyn hir, preswylwyr yr Aifft ac Ethiopia at Grist y Gwaredwr yn wir ...” Ond fel hyn y darllenai’r hen frawd, “Daw miloedd ar ddarfod amdanynt o hen wlad Assyria cyn hir, preswylwyr yr Aifft hyd ei thopia ...” Chwarae teg iddo, roedd yr hen foi fel Pedr Fardd ei hun eisiau i bawb ddynesu at y Gwaredwr. A chwarae teg hefyd a diolch i’r rhieni a’r athrawon wnaeth gymaint i sicrhau bod gennym gyfoeth yn y cof yn waddol i’n helpu ar ein taith. JBW

ENGLYN DA Y CILIE Mynnaf nad fferm mohoni, - ei hawen Yw’r cynhaeaf ynddi A blaenffrwyth ei thylwyth hi, Yw y grawn geir ohoni.

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Huw Lewis, 26 Y Waun ar ddathlu ei benblwydd yn 50 oed yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i Llion Kerry oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed ar Ionawr 16.

Gerallt Lloyd Owen, 1944 - 2014 17


CYNGOR CYMUNED HARLECH TORRI GWAIR

Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971.

Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Chwefror 15, am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN Llais Ardudwy

Cyngor Cymuned Llanbedr

Tendro am waith gan Gyngor Cymuned Llanbedr Llwybrau – categori 1 a 2 yn unig. Tendro yn ôl gwaith fesul awr Mynwent St Pedr – tendro fesul toriad. Disgwylir i’w dorri bob 5 wythnos, o fis Mai hyd at fis Hydref, ond yn dibynnu ar y tyfiant misol. Am fwy o fanylion cysyllter â: M W Lloyd, Clerc y Cyngor (e-bost cyngorllanbedr@gmail.com) Tendr i law erbyn Ebrill 2il. 18

ENWAU AR Y FFORDD I GWM NANTCOL

Enwau ar wahanol fannau ar hyd y ffordd i Gwm Nantcol, yn cychwyn o Rhiw Felin i’r Cwm.

Enwau ar wahanol fannau ar hyd y ffordd i Gwm Nantcol, yn cychwyn o Rhiw Felin i’r Cwm ac yn nodi’r holl giatiau oedd ar ffordd y Cwm ers talwm. Ceisiaf hefyd ychwanegu ambell i hen enw ar fannau ar y daith rhag iddynt fynd yn angof. Felly dyma gychwyn ar y daith o Rhiw Felin, heibio i dro Ty’n Ddôl. Clawdd Plas Gwynfryn ar y chwith, yna Graig yr Hwch (tir Fferm Gwynfryn). Tro Capel Wesla, Capel Wesla i Bentre Gwynfryn. Yna dowch at Llyn Ffatri, gyferbyn â Chapel Gwynfryn (Capel y Ddôl). O Gapel Gwynfryn hyd at Bont Beser, gelwir y ffordd yn “Rhych dri pwll.” O Bont Beser wedyn, “rhwng y ddwy bont” a Llidiart Tŷ Croes. Dringo i fyny Rhiw Salem, heibio i Gapel Salem ar y chwith. Heibio i Rhiw Beudy Ceunant (o dan Plas Nantcol), tro Dam a Rhiw Dam. Giât rhwng Cefn Isaf a Cefn Ucha, ac yna Llwybr Gwyddau ar y chwith. Heibio Coed Mawr Cefn Ucha (ddim yno bellach). Yna drwy giât iard Cefn Ucha. Gwastad Gelliwaen a heibio

Llun: Mari Lloyd Llidiart y Gwynt (rhwng Gelliwaen a Moelfre Cottage). Yna cyrraedd Rhiw Bont a Croesffordd Pwllymarch. Pont y Cwm a Llidiart ar y Bont. Diolch byth am ‘cattle grids’! Down at Rhiw Bach, Penisarcwm a giât unwaith eto ar waelod y Rhiw, sef terfyn Penisarcwm a’r ffriddoedd. Yna, tro Penisarcwm ac ymlaen at y Gilwart (darn ffordd rhwng Penisarcwm a Twllnant). Ar y terfyn roedd yna giât arall. Daw’r Capel, yr ysgol a’r ciosg i’r golwg, yna Rhiw Capel a giât eto ar un adeg. Yna Rhiw Hendre, a giât eto ger y gorlan. Yna pistyll gwyn (top y ffordd sy’n arwain at Glanrhaeadr. Yna Rhiw Groesffordd (ffordd yn troi am Dyffryn), a thrwy adwy eto, terfyn Hendre a Glanrhaeadr ers talwm, lle byddai giât yn arfer â bod. Trafeilio ar hyd gwastad Cae Hirwaith (Cae Iorwerth), ffridd Glanrhaeadr nes cyrraedd giât derfyn rhwng Cilcychwyn a Glanrhaeadr. I lawr y Rhiw am Cilcychwyn, a giât eto yn yr iard. Mae hon yn dal yno, yn sefyll ar ei bachau. Heibio i Beudy Ddôl a hwylfa Cilcychwyn tuag at Bont Gerrig Cilcychwyn a dod

ar draws giât arall ar draws y bont. Camdda Green yw enw’r giat derfyn rhwng Maesgarnedd a Cilcychwyn. Heibio i Rhiw Beudy Ddôl, Maesygarnedd, a thro bach wrth cae tŷ, Maesygarnedd. Giât yn arwain i’r iard ar y dde, syth ymlaen dros y nant am lwybr Drws Ardudwy, ac i’r chwith giât yn mynd i Nantcol. A dyna ddiwedd y daith. Y diweddar Meurig Jones, Hendre Waelod Mae’r ciosg wedi diflannu bellach er mawr siom i drigolion y Cwm. Beudy Ddôl, Cilcychwyn yn dŷ i deulu ifanc. Y postyn carreg oedd yn dal yr hen giât yn dal yno, wedi ei phlethu i wal gerrig newydd. Wedi cael esboniad ar enw’r Gilwart gan Rhys Gwynn yn ddiweddar yn y Gymdeithas – sef man cul, lle i gasglu neu hel defaid. Gwerthfawrogwn yn fawr os all unrhyw un ychwanegu at hwn, er mwyn cadw’r hen enwau yma yn fyw ar gof a chadw. Neu efallai enwau caeau diddorol yn yr ardal. Morfudd Jones


POBOL Y PRIFFYRDD - Edward M Thomas Hogia (a merched) yr ‘Highways’ - Rhan 1

Dwi wedi meddwl ers rhai blynyddoedd bellach, y byddwn yn cofnodi ychydig o hanes adran briffyrdd Meirionnydd yn yr wythdegau a’r nawdegau cynnar, adran y cefais y fraint o fod yn rhan ohoni am oddeutu 33 o flynyddoedd, drwy gyfnod cynghorau Meirionnydd, Gwynedd (yn cynnwys Môn a Chonwy), ac yn ddiweddarach y Gwynedd presennol. Y bwriad ydyw cynnwys cynifer ag sydd bosibl o’r enwau hynny a fu’n gysylltiedig â’r adran, llawer iawn wedi ein gadael, yr ychydig a erys, ond yr enwau hynny fydd yn sicr yn tanio ambell gof y darllenwyr a’u teuluoedd. Ychydig o gefndir yn gyntaf. Cychwynnais ar fy ngyrfa ym mis Hydref 1971, yn gweithio i adran safonau masnach Cyngor Meirionnydd, wedi fy lleoli yn y ‘Brown Horse’, Sgwâr Eldon , Dolgellau. Adeilad ydi hwn ar y gornel, drws ’nesa i hen siop ffrwythau Townsends. Cael cyfweliad o flaen yr Henadur Tom Jenkins, Aberdyfi. Yn ddiweddarach, holl staff cyngor sir Meirionnydd, yn cael beiro arbennig ganddo ei hun, pan grëwyd y Gwynedd newydd. Dyma rai enwau o’r cyfnod: T R Edwards (Reg Edwards), Henddol, Friog. J D Hackney, Llwyngwril. David A M Clay, Bermo. J A Hughes, (John Hughes) Brithdir. William Owen (Tyddyn Bach). G A Williams (Arwel Bach, Bryn Bras) Brithdir. Delyth Dunn (Delyth Yr Hafod, Llanelltyd). Cyfnod euraidd o saith mlynedd yn ymdrin â ‘food and drugs, weights and measures, weighbridge testing unit, consumer protection, dipio defaid, pympiau petrol’ - gwaith amrywiol a llawn hwyl, yn enwedig pan oedd Arwel Bach ynghanol y pwdin! Un enw arall, Wilf Roberts, Pump Maintenance – gŵr o Benrhyndeudraeth a fyddai’n trwsio a selio pympiau petrol ledled y sir. Yr oeddem yn ei gyfarfod yn rheolaidd yn garej Arwyn, Dinas Mawddwy i

wneud ‘gwaith’ ar y pympiau ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Ac yna i’r Llew Coch am ginio! Sut oedd pawb yn cyrraedd gartref noson honno, dwn i ddim! Symud ymlaen wedyn, a chael swydd technegydd yn yr adran astudio gwaith, adain yn Nolgellau oedd o dan reolaeth E D Powell (Doug Powell, Sioe Sir). Roedd yr uned yn darparu gwasanaeth i’r adran briffyrdd dan y cynllun bonws i’r gweithlu. Bryd hynny, rhaid oedd gwneud astudiaethau ar y gwahanol weithgareddau yr oedd pob un o’r gweithlu yn ymgymryd ag o, o ffosio, walio, tocio, graeanu ac yn y blaen. Os yn cyflawni, neu gyflawni mwy na’r gofyn, yna taliad ar ben y cyflog, hyd at 30% o’r tâl wythnosol. ‘Time and motion’ mewn enw arall, neb a dweud y gwir, eisiau canmol yn gyhoeddus, ond gwir dweud fod y mwyafrif wedi elwa yn ariannol dros y blynyddoedd. Roedd Doug yn hollol ymrwymedig i’w swydd a’i waith, ac yn aml iawn yn cael nemor ddim o gefnogaeth gan ei gydweithwyr, na chyd-reolwyr yn gyffredinol. Mae gennyf barch mawr iddo hyd heddiw. Cefais ddwy flynedd o waith caled, ond amrywiol, y rhan fwyaf yn paratoi ffigyrau bonws ar gyfer yr ‘hogia’, cyfanswm o rhyw 190 bryd hynny, os y cofiaf yn iawn. Yr adeg yma, y bu imi gyntaf ddod i gyfarfod y gwŷr hynny oedd yn gweithio yn uniongyrchol â’r gweithlu, yn bennaf y peirianwyr, y fformyn a’r clercod cofnodi. ‘Timekeepers’ ac ‘allocation clerks’ oedd rhai o’r enwau, ond gallaf eich sicrhau fod nifer o enwau eraill yn cael eu defnyddio yn ddyddiol hefyd! Bryd hynny, roedd yn arferiad cael aelod o’r gweithlu yn y swyddfa i sicrhau bod yr hogia yn cael eu trin yn deg o safbwynt gweinyddu’r cynllun bonws. A dyma fi yn cyfarfod cymeriad arbennig iawn, gŵr hoffus , llawn hiwmor, sŵn a ffraethineb yn ei ganlyn i

bobman. Thomas Lavender Jones, neu ‘Twm Lavi’ o Ddolgellau. Doedd dim yn ormod iddo. Roedd ganddo ffordd i oroesi ac ymdrin â sefyllfaoedd a phobl. Gyrrwr wrth ei alwedigaeth, ond erbyn hyn ei iechyd yn dechrau torri, ac yn cynrychioli’r dynion ledled Meirionnydd, o safbwynt sicrhau tegwch. Eto, cymeriad a hanner, a hawdd fyddai ysgrifennu llith hirfaith am ei hanesion yn ei waith. Daethom yn ffrindiau da, ac mae Jonnet ei ferch, yr un mor driw heddiw. Stori fechan i ddirwyn y cyfnod hwn i ben. Rhaid oedd ambell waith wneud astudiaeth o weithgaredd arbennig a chyflwyno adroddiad ar ymateb neu berfformiad yr unigolyn dan sylw, crynhoi’r data a’i gymharu â ffigyrau tebyg o astudiaethau o rannau arall o’r sir. Ysgubo trefol oedd dan sylw. Bryd hynny, cyflogid dynion yn y pentrefi mwyaf a’r trefi i ysgubo a chodi ysbwriel yn ddyddiol hyd y strydoedd. Brwsh, rhaw, cryman neu siswrn, troli neu ferfa , ac arni y llythrennau MCC y rhan amlaf. Dyna’r cwbl o’r offer, a lleoliad i’w cadw. Chefais i nemor ddim o ‘hyfforddiant’. Roeddwn yn medru defnyddio oriawr, a doedd stopwatch, clipboard a phapur, a phensil neu ddwy, ddim llawer o offer i minnau ei gario! Cyrraedd Aberdyfi yn blygeiniol rhyw fore braf o haf cynnar i arsylwi Tom Harding, gŵr o Bennal. Pawb yn cychwyn yn llawn egni, a minnau’n cofnodi rhwng 65% a 79% ar y papur. Dal ati

i lawr y stryd fawr, ac erbyn tua chwarter wedi naw, wedi cyrraedd Copperhill Square. Pawb yn cyfarch Harding, ac yn gwgu a dirmygu’r ‘time and motion’. Drws yn agor, a gwraig yn cyfarch Tom – ‘brecwast ar y bwrdd mewn rhyw ddeg munud,’ meddai. Ein dau yn edrych ar ein gilydd, a finnau yn ymateb drwy ddweud – ‘Dim problem. Mi arhosa’i o’r golwg’. Ches i ddim gwadd, ond fe gofnodais dros 65% i 72% o chwys brwsio dros y cyfnod brecwast hwnnw! Arferiad yr wyf wedi ceisio cadw ati gydol fy nyddiau! Bryd hynny, roedd Meirionnydd ar y blaen i gynghorau eraill, ac yn ymgymryd â gwelliannau ffyrdd ledled y dosbarth. Cael fy hunan rhyw brynhawn yn Carleg, Bontnewydd, Dolgellau, yn arsylwi ar waith lledu dan ofal gŵr hynaws iawn, George Davies, Dinas Mawddwy, Fforman Dosbarth Cyntaf penigamp. Fel y soniais yn gynharach, doedd gen i fawr o brofiad mewn byd adeiladwaith o unrhyw fath. Gwir dweud imi y prynhawn hwnnw ddod i wybod beth oedd ‘formwork’ yn ei olygu, nid llenwi ffurflenni, ond offer i gynnal concrid yn bennaf, yn y gwaith adeiladu. Roedd George wedi hen ganfod fy anwybodaeth, ond yn hytrach na’m dirmygu o flaen y gang, fy nwyn i’r ochr, ac yn dawel egluro be oedd be. Yna y geiriau rwyf yn eu cofio byth – ‘trin di dy hogia yn iawn, ac fe wnawn hwythau dy drin dithau yn iawn!’ Diolch, George. [I’w barhau.]

Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk -

19


TAITH SGIO YSGOL ARDUDWY I ANDORRA

Aeth 38 o ddisgyblion ynghyd â phedwar o’u hathrawon am daith sgio i Andorra am wythnos ddiwedd mis Ionawr. Yr athrawon a oedd yn ddigon dewr i ymuno â’r daith oedd Mr Gareth Williams, Mrs Caryl Anwyl, Mr Robert Chidley Williams a Ms Llio Emyr. Mae’n amlwg oddi wrth y lluniau uchod fod y disgyblion wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Hyfrydwch yw gweld ysgolion yn cadw’r cysylltiad Ewropeaidd yn y dyddiau pan fo Llywodraeth Gwledydd Prydain am gilio a’n gweld ni i gyd yn llawer tlotach. Edrychwn ymlaen i ddarllen eu hanes yn rhifyn mis Mawrth.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.