Llais Ardudwy Chwefror 2022

Page 1

CYFLEUSTERAUGWELLAHYFFORDDI

PARTIYRPEN-BLWYDDURDD

Diolch i Ysgol Talsarnau am anfon lluniau o weithgareddau amrywiol atom. Mae mwy o’r hanes ar dudalen 14.

Beth sy’n digwydd ar gae Brenin Siôr V yn Harlech? Mae Clwb Rygbi Harlech, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, APCE (Cronfa Gymunedol Eryri), Cyngor Cymuned Harlech a’r busnesau lleol yn ailddatblygu’r cae hyfforddi cymunedol. Bydd y maes hyfforddi newydd yn ardal ddiogel a gwastad o’r cae chwarae i dimau/ grwpiau cymunedol gymryd rhan mewn hyfforddiant chwaraeon. Bydd y datblygiad yn cymryd 3 mis yn y lle cyntaf i wella’r tir nes iddo gyrraedd y lefel ofynnol er mwyn caniatáu i hadau glaswellt cryf gael eu gosod. Dechreuodd y gwaith paratoi cynnar yn ddiweddar wrth aredig y cae, a bydd hyn yn cael ei ddilyn yn fuan gyda’r broses o osod ffens i atal bywyd gwyllt fel moch daear ac anifeiliaid domestig rhag cael mynediad i’r ardal. Unwaith y bydd y ffens wedi’i gosod yn ei lle bydd cam nesaf y gwaith yn dechrau a bydd y clwb rygbi yn rhoi gwybod i chi am y datblygiadau. Rhagwelir y bydd y datblygiad yn cymryd tua 18 mis i wella’r tir i’r pwynt lle bydd yn barod ar gyfer hyfforddiant.

Llais Ardudwy 70c RHIF 516 - CHWEFROR 2022

3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716

Ond o’r rhai rwy’n eu cofio o’m hamser yn

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Unrhyw raglen yn ymwneud â gwyddoniaeth, hanes a rygbi byw. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw. Digon o lysiau a ffrwythau (ond gormod o win!) Hoff fwyd? Risotto efo prosciutto ham. Paella. Lasagne. Cinio rhost. Hoff ddiod? Sancerre. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Nid unigolyn ond y teulu. Does dim gwell na chael y teulu i gyd o amgylch y bwrdd cinio yn clebran ac yn mwynhau eu hunain. Lle sydd orau gennych? Fy nghartref, ac aber y Fawddach. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Ym Morth-y-gest yn 2020, ac yn Florence yn 2017 yn mwynhau trysorau y ‘Renaissance’. Beth sy’n eich gwylltio? (i) bod yna gymaint o dlodi a newyn ymhlith cymaint o gyfoeth, byd-eang ond ym Mhrydain (ii)hefyd,bod gwyddoniaeth wedi bod yn rhybuddio am hanner canrif am y perygl o losgi carbon, ond mae’r gwleidyddion a’r busnesau mawr wedi gwneud nesaf peth i ddim. Gall unigolion wneud ychydig ond mi fydd yn rhy hwyr cyn bo hir.

Ysgol Ardudwy, yr awdur Philip Pullman, cyd-ddisgybl trwy’r saith mlynedd, ac un sydd â’i galon yn yr ardal. Beth yw eich bai mwyaf? Gorweithio.

Mae’n rhy hawdd o lawer i foddi yn y gwaith ymchwil. Ond nifer eraill, mae’n siŵr. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Eistedd wrth y bwrdd cinio efo’r teulu.

HOLI HWN A’R LLALL 2 Enw: Aneurin Evans. Gwaith: Wedi ymddeol bellach, ac yn awr yn athro emeritus mewn astroffiseg ym Mhrifysgol Keele. Cefndir: Cefais fy ngeni yn Nhremadog, fy magu yn y Bermo. Mynd i Ysgol Gynradd y Bermo, ac Ysgol Ardudwy, Harlech. O Ardudwy i Goleg y Brifysgol Aberystwyth i astudio ffiseg a mathemateg. Wedyn i Brifysgol Keele i weithio yn yr arsyllfa yno ac i ddarlithio mewn seryddiaeth. Fy uchelgais fel plentyn oedd bod yn seryddwr. Rwyf yn eithriadol o lwcus fy mod wedi gwneud gyrfa o’m hobi. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded, mynd i’r gampfa, a bwyta’n iach. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Er fy mod i wedi ymddeol rwyf yn dal i wneud gwaith ymchwil mewn astroffiseg. Felly y mwyafrif o’m darllen ar hyn o bryd yw papurau ymchwil ar bynciau seryddol. Ond darllen hamdden, llyfrau am hanes, yn enwedig (i) y canol oesoedd, a (ii) y Rhyfel Mawr a’r farddoniaeth o’r cyfnod hwnnw.

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960

Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mae £5000 yn swm cyfleus! Mil yr un i’n tair wyres ac i’m hoff elusennau (Tŷ Gobaith a Winston’s Wish). Eich hoff liw a pham? Isgoch. Wedi treulio fy ngyrfa yn mwynhau astudio rheiddiad isgoch o’r sêr. Eich hoff flodyn a pham? Rhosyn coch a gawsom gan fy merch pan symudon i mewn i’n tŷ ryw ddeuddeg mlynedd yn ôl. Mae o’n blodeuo tan mis Hydref bob blwyddyn. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Nid mewn trefn arbennig: 1. 3ydd Consierto Brandenburg (Bach) 2. 7fed Symffoni Beethoven 3. ‘Miserere mei’ (Allegri) 4. ‘Galar Dido’ o opera ‘Dido ac Aeneas’ 5.(Purcell)Mystery Sonatas (Biber) Pa dalent hoffech chi ei chael? Hoffwn fedru chwarae’r gitâr. Eich hoff ddywediadau? ‘Yr hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth’. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus iawn ac wrth fy modd.

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Mawrth 4 a bydd ar werth ar Mawrth 9. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Chwefror 28 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffyddlondeb a gonestrwydd. Pwy yw eich arwyr? Y meddygon, nyrsys ac eraill yn y gwasanaethau iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor galed i gario ni drwy’r ddwy flynedd ddiwethaf. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Gan fy mod i wedi gadael ardal Ardudwy ers dros hanner canrif, does na neb yr ydw i yn eu adnabod yno yn awr.

Daeth disgyblion o Ysgol y Traeth i ymweld â’r Adran Wyddoniaeth yn ddiweddar. Roedd yn rhaid i’r plant ddylunio ac adeiladu model o fframwaith y gall ffermwyr ei ddefnyddio i dyfu cnydau hyd yn oed mewn llifogydd. Llwyddwyd i greu gardd arnofiol a lwyddodd i ddal pwysau o 5.7kg! Anhygoel, yn wir.

Cafodd disgyblion B7 gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy gyda Marged Gwenllian a Branwen Haf o’r Urdd. Bu’r disgyblion yn dysgu am y Mabinogi, creu storïau drwy gelf ac ysgrifennu cân yn ystod y dydd i gydfynd â hyn. Dyma i chi sesiwn lle daeth yr ochr gelfyddydol yn amlwg a phawb yn llwyr fwynhau ar ddiwedd y dydd. Creu cân mewn diwrnod? Wel i ddeud y gwir, dim ond cwpl o oriau gymrodd hyn ac roedd yn werth ei chlywed yn y dosbarth. Gobeithio y gall y gân newydd yma fynd y tu allan i’r bedair wal yn y dyfodol agos. I griw celf yn B11, daeth ymwelydd tra gwahanol i’r dosbarth. Daeth Andy Birch i gynnig gweithdy ar y grefft o greu graffiti. I’r rhai hŷn yn ein mysg, roedd graffiti yn rhywbeth y byddai pobl ifanc yn ei wneud ar adeiladau yn ystod eu hamser rhydd. Ond erbyn heddiw, a thrwy ddylanwad Banksy, mae’n mynd yn fwy a mwy poblogaidd fel mae’r blynyddoedd yn mynd heibio. Cafodd y criw gyfle i greu gweithiau eu hunain a thrwy hynny ddysgu mwy am y ffordd o greu celf debyg. Dyma i chi brofiad arbennig i bawb a hyn yn yr ychydig fisoedd cyn iddynt sefyll eu harholiadau TGAU. Bydd y diwrnod yma yn aros yn eu cof am amser i ddod, rydym yn sicr o hynny. Roedd y criw wedi mwynhau gymaint o dan reolaeth medrus y Graffitiŵr nes y cymrodd dipyn o berswâd iddynt fod y gloch ar ddiwedd dydd wedi canu a’i bod yn bryd mynd am Dynaadre. yr ydych chi yn ei alw yn weithgaredd o fri. Gobeithio y bydd pawb yn parhau gyda’r gwaith o feistroli’r grefft a chynnig delweddau posib ar gyfer waliau’r ysgol. Dyna syniad i’w ystyried.

3

Cafodd criw B10 y blas cyntaf o’r arholiadau wrth i’r disgyblion eistedd y tu ôl i ddesg yn Neuadd yr Ysgol a chwblhau pum diwrnod o bapurau arholiad mewn sawl pwnc. Dyma oedd y tro cyntaf iddynt ddod ar draws y math yma o sefyllfa ond yn sicr yn ystod y deunaw mis nesaf, fe fydd hyn yn dod yn rhan annatod o’u cyfnod yn yr Ysgol. Mae hyn yn eu paratoi ar gyfer mis Mai 2023 pan fydd y broses o gwblhau papurau terfynol yn digwydd. Dyma fydd eu cyfle i gyrraedd y Coleg neu’r chweched dosbarth.

MaeTRIATHLONHARLECHangengwirfoddolwyr ar gyfer bore Sul, Mawrth 27. Fedrwch chi helpu? ebost: triharlech@gmail.com Mae ein rhoddion wedi helpu: Ysgol Ardudwy Neuadd Goffa Harlech Ysgol MarchogionHamddenTanycastellHarlechArdudwyBandHarlechYClwbBeicioYCadetiaidAwyrTeulu’rCastell

YSGOL

ARDUDWY

Anodd iawn i ymateb iddo, a d’eud y gwir! Mae’n teimlo fel pe bai bron dim byd wedi digwydd yn y pentref ers misoedd! Yn lwcus iawn, cofiodd Eurwyn Thomas, Tyddyn Bach, am yr ardd gymunedol newydd yn ein pentref, a soniodd amdani. Ar ôl gweld rhai lluniau o’r ardd gymunedol (diolch unwaith eto i Eurwyn) dechreuodd trafodaeth fywiog ar y syniad o blannu coeden arbennig yn yr ardd i gynrychioli’r gefeillio rhwng Llanbedr a Huchenfeld. Beth am goeden fydd yn blodeuo yng nghanol mis Mawrth, er cof am aelodau criw John Wynne a laddwyd yn Huchenfeld ar Mawrth 17, 1945? Bydd ein ffrindiau yn Huchenfeld hefyd yn chwilio am goeden i’w phlannu yn agos at eglwys Huchenfeld, fel symbol o bartneriaeth. Os oes gynnoch chi awgrymiadau am fath o goeden i’w phlannu, neu os oes gynnoch chi ddiddordeb yn y linc Zoom nesaf efo Huchenfeld, cysylltwch â Jennifer Greenwood? (ysgrifennydd Grŵp LlanbedrHuchenfeld): 01341 241517.

HelNANTCOLcalennig

Difyr oedd darllen am yr arferiad o hel calennig yn rhifyn Ionawr o Llais DymaArdudwy.hanes tair ohonom sef Anna Wyn a Lisbeth, Penisarcwm a finna, Elizabeth, Cefn Isa. Y bennill oeddem yn ei chanu oedd: “Clennig, Blwyddynclennig,Newydd Dda, Mr a Mrs – os gwelwch yn dda.”

Cychwyn yn fore o Cefn Isa i lawr am Salem a Thai Croesion, Aberartro, Beser, a chael croeso arbennig gan Mrs Williams, Werncymerau. Yna, i lawr i Bentref Gwynrfyn at fodryb Anna Wyn a Lisbeth sef Anti Jenat ym Mryn Derwen – y trigolion a gofiaf hefyd oedd Mrs Thomas, Siop Fawr, Mrs Kerr, Griffith Griffiths a Bob Williams. Hefyd, Mrs Ruth Jones, Tŷ Isaf a Beti a’r teulu yn Alltwen (hen siop Rhys Jones) a Thŷ Capel Beser. Yna, gadael y pentre i lawr am Bron Afon a Thy’n Ddôl, troi i fyny ar gyfer y Felin am Penrhiw a Phlas a fferm ErbynGwynfryn.hyn, roeddem yn dechrau blino, a’r amser yn mynd ymlaen! Yr alwad olaf cyn deuddeg o’r gloch oedd yng Nghefn Ucha hefo Anti Leah ac Anti Martha a hwythau wrth eu boddau ein gweld. Gobeithio y bydd yr hanes yma o ddiddordeb i ddarllenwyr Llais Ardudwy. Elizabeth Rees, Llwyngwril (Cefn Isa gynt)

Newyddion o Huchenfeld Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus iawn nos Wener 21ain Ionawr rhwng ein ffrindiau yn Huchenfeld a rhai ohonom ni yma yn Llanbedr. Neis iawn oedd gweld Susanne, Bernd, Petra a Wolfgang o Huchenfeld drwy gyfrwng Zoom. Mi gychwynnodd y sgwrs efo cwestiwn gan Bernd: “Be sy wedi digwydd yn Llanbedr yn ddiweddar?”

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A

Cyhoeddiadau’r Sul Capel-y-Ddôl a Nantcol CHWEFROR 6 – Parch Olwen Williams 13 – Mrs Eirwen Evans 20 – Mrs Morfudd Lloyd, Nantcol 27 – Dim oedfa MAWRTH 6 – Parch Gwenda Richards Ysgol Llanbedr Thema amgylcheddol ysgol gyfan sydd gennym ni’r tymor hwn er mwyn i’r plant ddatblygu i fod yn ddinasyddion egwyddorol a Maegwybodus.dosbarth Cyfnod Sylfaen, wedi dysgu am y gylchred ddŵr, sbwriel a chadw’n ddiogel yn yr amgylchedd. Maen nhw hefyd wedi bod yn dilyn y thema ‘Dŵr’ yn eu gwersi dawns! Mae pawb yn CA2 wedi bod yn datblygu eu syniadau ac yn dysgu am arbed ynni, trydan a chwtogi ar garbon deuocsid. Mae pawb wir yn mwynhau gweithio ar heriau yn annibynnol pob prynhawn hefyd!

y

4ydd rhes: Lowri Thomas ac O Gwilym, Bronfoel ucha; Catherine Jones, Graig isa; Sarah P Jones, Twllnant; Jean P Jones, Twllnant; Anna Wyn Richards, Penisarcwm. Rhes flaen: Iorwerth Evans, Maesygarnedd; Evie M P Jones, Cefn Ucha; John A Evans, Maesygarnedd; O Gwynli Jones, Graig isa.

Wedi darllen hanes Bessie Williams y Crydd yn Llais Ardudwy, daeth atgofion melys iawn amdani i’m cof. Roedd hi a’i chwaer, Mair, yn ffrindiau mawr gyda’n teulu, ac ar nos Sadwrn, wedi bod o amgylch ein cwsmeriaid oedd yn prynu menyn a wyau gennym, byddem yno yn Llys Iolyn gyda’r ddwy yn cael paned a Antisgwrs.Bessie Crydd oedd hi i ni, a bum yno yn dysgu gwnïo gyda hi. Gofalai fy mod yn gwneud pwythau mân a chyfartal, a brodwaith oedd i fod yn daclus yn y cefn hefyd.

Aelodau Capel NantcolAtgofion1949amMiss Bessie Williams, Llys Iolyn, Llanbedr Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091

Bryd hynny roedd Mam yn pobi bara a byddai gennym fagiau blawd (peilliad) ac enw’r cwmni arnynt. I gael gwared o’r enw byddai rhaid eu rhoi yn wlych mewn llaeth enwyn am ddyddiau ac yna eu sgwrio, a’u berwi. Anodd iawn oedd eu cael yn hollol wyn. Roedd un bag yn gwneud dau liain, ac roedd yn rhaid rhoi hem daclus gyda phwythi mân o’i amgylch. Does gen i ddim cof o’r wobr, ond roedd llieiniau sychu llestri yn siŵr o fod yn ddefnyddiol iawn i Mrs Rees Jones adeg y rhyfel gan ei bod yn cadw ymwelwyr. Roedd dwy siop grydd yn Llanbedr bryd hynny - cadwai Evan Tomos un yn Bronmeini, mewn sied yn yr ardd a choed afalau o’i chwmpas. Llawr pren oedd i’r sied ac ambell hoelen esgid wedi ei tharo i mewn i’r llawr.

Llywelyn Lloyd o aelodau Capel Nantcol yn 1949 pan oedd yn symud oddi yma yn weinidog i Bwllglas, Rhuthun. Rhes uchaf o’r chwith: Edward Edwards, Cilcychwyn; R I Richards a Lisbeth, Penisarcwm; Morris E Evans, Maesygarnedd; Meurig W Jones, Hendre Waelod; John T Jones, Graig isa; Gruffydd Thomas, Bronfoel ucha; Robert P Evans, Maesygarnedd; Ifan O Jones, Graig isa; Edward M Jones, Graig isa; O Andro Jones, Graig isa.

Byddai cystadleuaeth wnïo yn eisteddfodau’r ardal a chofiaf unwaith fod Mrs Rees Jones, Dolafon, yn rhoi gwobr am 4 lliain sychu llestri yn Eisteddfod Moriah.

Gydag Anti Bessie byddwn i’n gadael fy meic pan oeddwn yn hŷn ac angen mynd i Harlech neu Bermo ar y bws. Roedd hi wedi cael damwain i’w llygad pan yn ferch ifanc, ond nid wyf yn meddwl i hynny amharu dim ar ei chrefft. Yno y byddem yn prynu esgidiau a chael eu trwsio. Roedd yn ddynes garedig iawn, a’i chwaer, Mair hefyd. Cario’r post oedd Mair, fel eu tad a fu’n cario’r post yng Nghwm Nantcol am flynyddoedd. Gweneira P Jones

5

Ail res: Mrs A Llywelyn Lloyd; John O Jones, Hendre Waelod; Eirlys W Jones, Graig isa; Glenys Edwards, Cilcychwyn; Elizabeth J Jones, Twllnant; Margiad Jones, Graig isa.

Llun a dynnwyd gan y Parch A

3ydd rhes: Anne Edwards, Cilcychwyn; Gweneira P Jones, Twllant; Nellie Jones, Hendre Waelod; Nansi Richards, Penisarcwm; Harriet Evans, Maesygarnedd.

Buom yn sôn am yr hen wron Hugh Jones, Maesglasau (1749–1825) a’i emyn mawr, ‘O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn’. Gwelsom hefyd sut y bu i’r emyn gael ei gyplysu â’r dôn Dorcas mewn sawl casgliad ond ei fod, er ei docio o ambell i bennill wedi cyrraedd y Caneuon Ffydd (rhif 525) gyda`r dôn William (rhif 442) wrth ei Cyfansoddwydben. y dôn ‘William’ gan Morfydd Llwyn Owen (1891–1918). Merch o Drefforest oedd hi a hanai o deulu cerddorol. Credai bod William Williams Pantycelyn yn un o’i chyndeidiau a’i bod hi ei hun o dras Romani. Gwelwyd o’r dechrau ei bod yn gerddor gwych ac yn gantores fedrus hefyd fel mezzo-soprano. Graddiodd yng Nghaerdydd ac ennill ysgoloriaeth i astudio ymhellach yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Yn ei hoes fer, cyfansoddodd nifer helaeth o weithiau ar gyfer cerddorfeydd a chorau a chaneuon gafaelgar hefyd. Un o’r caneuon yma ydi ‘Gweddi Pechadur’, hen hen ffefryn ar lwyfanau eisteddfodol. Mae tair tôn ganddi yn y Caneuon Ffydd. Enwodd ‘William’ ar ôl ei thad a ‘Trefforest’ ar ôl pentref ei Glanioddphlentyndod.Morfydd Llwyn Owen yn Llundain yn ystod y cyfnod cyn dechrau’r Rhyfel Mawr; dyddiau y byddai llawer yn edrych yn ôl arnynt fel egwyl dawel baradwysaidd bron cyn y gyflafan erchyll a ddaeth.

Roedd cylch Cymry Llundain y dydd yn cynnwys pobol ddylanwadol y cyfnod – David Lloyd George a sawl gwleidydd diwylliedig arall o Gymro. Roedd Syr Herbert Lewis (1858–1933) AS Sir y Fflint yn awdur tonau (Tafwys, 582 yn Caneuon Ffydd) a’i wraig yn casglu a thacluso alawon gwerin gyda help Morfydd. Enwodd Morfydd un dôn o’i heiddo yn Pen Ucha ar ôl cartref y teulu yng Nghaerwys. Cyhoeddodd Syr Haydn Jones (1863–1950) AS Meirionnydd lyfr o emynau a thonau gan gynnwys gwaith Morfydd. Bu sôn ar un adeg y gallai fynd i St Petersburg i astudio ymhellach ond rhoddodd y Rhyfel derfyn ar bob gobaith o hynny. Ond roedd cylch Llundain Morfydd Llwyn Owen yn ehangach na chylch Cymru ffasiynol a llwyddiannus yr oes. Roedd yn rhan o set a gynhwysai hefyd bobol fel yr awdur D H Lawrence (1885–1930) a’r bardd Americanaidd, Ezra Pound (1885–1972). Gŵr arall y daeth i gysylltiad ag ef yn y cyfnod yma oedd y Tywysog Felix Yusopov (1887-1967).

Uchelwr goludog iawn o Rwsia oedd hwn ac fe briododd nith i’r Tsar. Wedi iddo ddychwelyd i Rwsia fe ymunodd â chynllwyn i lofruddio Rasputin. Credai’r cynllwynwyr fod gan Rasputin ormod o ddylanwad ar y teulu ymerodraethol ac ar y Tsarina yn arbennig felly ac fe aethant ati i’w ladd yn y gobaith y byddai hynny’n cryfhau pwer y goron yn Rwsia a diogelu sefyllfa’r Tsar. Cafodd y cynllwynwyr y trafferth mwyaf i gyflawni eu tasg. Rhoisant ddogn helaeth o wenwyn yn ei fwyd ond nid oedd hyn i’w weld yn effeithio dim arno. Saethwyd ef dair gwaith ond cododd ar ei draed wedyn! Diwedd y gân oedd ei luchio i’w foddi yn Afon Neva ym mis Rhagfyr. Ni chosbwyd Yusopov am ei anfadwaith a daeth teyrnasiad y Tsar i ben yn fuan wedyn. Ffodd Yusopov a’i deulu i Paris i osgoi llywodraeth y OndComiwnyddion.iddychwelyd at Morfydd Llwyn Owen, o blith y Cymry y cafodd hi ŵr sef Ernest Jones (1879–1958), un o seiciatryddion pennaf ei oes a disgybl i Sigmund Freud (1856–1939). Priodwyd hwy yng Nghapel Cymraeg Charing Cross ym mis Medi 1917 (er eu bod wedi priodi gerbron y Cofrestrydd rai misoedd cyn hynny). Yn drist iawn bu farw’n sydyn y flwyddyn ganlynol o drafferthion y pendics cyn cyrraedd 27 oed. Cred yr abenigwyr y bu ei marw cynnar yn golled enbyd i fyd cerddorol Cymru ac yn wir y byd cyfan. Pwy a wyr beth a fuasai wedi gallu ei gyflawni? Mae hanes ei gŵr Ernest Jones yn ddiddorol hefyd. Roedd ei hen athro Sigmund Freud yn byw yn Fienna yn Awstria. Yn y 1930au, roedd Hitler wedi dod i rym yn yr Almaen a’i fryd ar feddiannu’r gwledydd o’i gwmpas. Ym 1938, cerddodd ei fyddinoedd i mewn i Awstria a datgan bod y wlad honno bellach wedi ei huno â’r Almaen. Gan fod Freud yn Iddew a dros ei bedwar ugain oed roedd ei sefyllfa’n eithaf bregus a phenderfynodd Ernest Jones fod yn rhaid gweithredu. Aeth i Vienna a threfnodd i Freud ffoi oddi yno i Lundain lle y gallodd dreulio gweddill ei ddyddiau mewn hedd. Wel dyna drip bach rownd Ewrop a rownd yr ugeinfed ganrif. Os oes yna unrhyw gysylltiad pellach cydrhwng Hugh Jones, Maesglasau a Rasputin wn i ddim amdano fo! JBW TORRI GWAIR Tendr 1. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Llanfair o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn Amwahanol.fwyo fanylion cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Dyddiad cau 24.2.22. CYNGORLLANFAIRCYMUNED

6 O FaesglasauiFienna

Bydd hwn-a-hwn wedi dyfod i lawr o’r fan-a’r-fan, a chlywir bod hona-hon wedi mynd i ffwrdd, neu bod rywun arall yn mynd i briodi. Eithr nid dyma’r cyfan – gan amlaf bydd yr ymddiddan o safon uwch, megis y Llywodraeth, y Cyngor Sir, pris y moch a’r defaid, heb sôn am Gymanfa a Chyfarfod Misol. Tai twt Gellir dweud ar lawer cyfrif mai lle bach aristocrataidd ydyw Llanbedr. ac y mae rhywbeth yn anghyffredin yn ei drigolion hwythau. Nid oes un tŷ tlawd yr olwg nac adeiladau blêr. Ychydig iawn o dai tebyg hollol mewn rhes, sydd yno; eithr bron nad oes i bob preswylfod rywbeth nodweddiadol, yn mynegi syniadau a phersonoliaeth ei deulu, - gardd flodau fechan i hwn, coed mwy i’r nesaf, a chanllaw yn unig o flaen y llall. Y mae i bob tŷ bron o leiaf bwt bach o dir. Tai cerrig llwydion ydynt, gan mwyaf, a’r ychydig diweddar a wnaethpwyd o frics wedi eu gwynnu’n ddeniadol iawn, i gydfynd â’r llwyd a’r gwyrdd mwynaidd sy’n toi’r fro. Ceir dŵr oer a phoeth mewn amal dŷ, ac i’r gweddill y mae tap dŵr oer mewn man cyfleus wrth ddrws y cefn. Saif ‘reservoir’ y pentref ychydig i fyny’r bryn y tu ôl iddo. Hei lwc! Yr hyn â’n tery wrth gerdded ar hyd y ffyrdd ydyw gweled eu cadw mor dda a glân. Ceir bod y draeniau, hwythau mewn cyflwr iawn. Daw trol y Local Bôrd o gylch unwaith bob wythnos. Ni cheir llawer o oleuni ar hyd y ffyrdd yn y gaeaf, a lampau a ddefnyddir fel rheol yn y tai, er fod i rai pobl eu trydan eu hunain. Hei lwc y daw trydan llyn Maentwrog heibio’n Nidfuan!oes weithfeydd yno, eithr amaethyddiaeth sydd fwyaf cyffredin. Y mae’n wir bod chwarel yn agos i’r pentref ond fe’i caewyd ers amser. Y bobl ddieithr Dibynna’r pentrefwyr lawer iawn ar bobl ddieithr. Dônt yno’n yr haf i fwynhau môr a mynydd ac i bysgota yn afon Artro. Y mae’n gyrchfan pobl wedi riteirio, yn Gymry a Saeson. Daw eraill er mwyn eu hiechyd, oherwydd dywedir gan feddygon yn Lloegr fod aroglau’r pinwydd yn dda at y Cymernerfau.ySaeson ddiddordeb ym mywyd y pentref ynglŷn â Sefydliad y Merched a chlybiau pobl ieuainc. Ceir gwnïo, gwaith lledr, gwneuthur basgedi ac ambiwlans yn eu tro. Er bod cynifer o Saeson wedi ymgartrefu yno, chwarae teg iddynt, rhoddant enwau Cymraeg eu tai fel y Cymry –eithriadau prinion iawn ydyw tai yn dwyn enwau Saesneg yn Llanbedr. Deil y pentref bach yn Gymreig, er, gwaetha’r modd, nad oes yno eto gangen o’r Urdd. I’w barhau

7

Yn ardal ramantus Ardudwy, yng nghesail bryniau godre’r Rhiniog a’r Moelfre, gorwedd pentref bychan tawel a hynod dlws o’r enw Llanbedr. Ymdroella’r afon Artro’n hamddenol (ond adeg llif mawr) drwy ei ganol, wedi crynhoi dyfroedd yr ardal hanesyddol y tu cefn – nentydd yr Hendre, Cwmbychan a’r Gerddi Bluog – a’u dwyn rhwng ei glannau coediog i’r dolydd gwyrddion draw tua’r Morfa Mawr a Mochras i Fae Ceredigion. Deutu’r bont. Saif y pentref ar y ffordd fawr rhwng y Bermo a Harlech, lly try ffordd lai ohoni am y Gwynfryn. Gellir dywedyd bron mai un heol hir ydyw Llanbedr (gydag un fechan draws), a phont yn ei rannu’n ‘fyny bont’ a ‘lawr bont’. Pont garreg gadarn ydyw hon Dywedir i’r Brenin Siarl I gerdded dros yr hen bont. Gerllaw iddi y mae sedd bren fel hanner cylch, mewn cornel, ac ar y clawdd y tu cefn iddi y geiriau – Never cut a friend. Y tu isaf i’r bont y mae efaill y gof, tafarn, banc a dwy siop (y post ydyw un). Dyma’r ‘sgwâr’. Yma, ar y bont ac ar ‘Never cut ...’ y saif bechgyn y pentref a’r ardal oddi amgylch (sydd yn anffodus, heb feddu ar fotor beics i’w cipio i Harlech neu i’r Bermo) ar nos Sadwrn yn enwedig, nes peri ofn pasio ar aml ferch braidd yn nerfus! Teimla fel pa bai’n barod i’r ddaear ei llyncu wrth weled yr holl lygaid yn syllu! Lleoedd i gael ‘hanes’ Y mae yno siopau eraill – groser, dau gigydd, haearnwerthwr, seiri a dau weithdy crydd. Lleoedd penigamp am yr hanes diweddaraf ydyw’r olaf.

Pentref heb un tŷ tlawd yr olwg ‘Pentref heb un tŷ tlawd yr olwg’, Y Ford Gron, Pentrefi Cymru, IV, 1932, gan Beti Lloyd Roberts, athrawes Gymraeg yn Ysgol Dr John Williams, Dolgellau Llun: Pentref Llanbedr, Y Ford Gron Cyfrol II, Rhif 5

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8 CYNGORTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDAGenedigaeth Ar Rhagfyr 21ain, 2021 ganwyd mab bychan, Jac Wyn i Iwan a Bethan Shenton, Crud yr Awel, Tal-y-bont, a brawd bach i Erin a Caia. Llongyfarchiadau cynnes iawn i’r teulu cyfan. Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Sulwen Thomas, Fflatiau Pentre Ucha (Lluesty gynt). Anfonwn gydymdeimlad llwyraf at ei meibion Andrew a Julian a’i bartner Jo, ei hwyres Zoe a’i hŵyr Mathew yn eu Arprofedigaeth.21Rhagfyr yn Ysbyty Gwynedd bu farw Mrs Pamela Joan Davies, Gerddi, Dyffryn yn 81 mlwydd oed. Priod Ian, mam Mark, Tracy a Nicola a nain a hen nain falch. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf atynt yn eu profedigaeth. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Evie Morgan Jones, Penybryniau, Dyffryn, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ond wedi cael dod adref erbyn hyn. MATERION YN CODI Presept y Cyngor am y flwyddyn 2022/23 Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater uchod. Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £50,000. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Adroddodd y Trysorydd bod £43,890.00 yn y banc, £4,569.75 yn y cyfrif wrth gefn a £69.60 yng nghyfrif y AdroddoddCadeirydd. y Trysorydd ei bod wedi derbyn datganiadau banc yn dangos y costau banc am y mis diwethaf a bod HSBC yn codi £5.00 y mis fel tâl am warchod cyfrif y Cadeirydd. Cytunodd yr Aelodau i gau’r cyfrif hwn ac arwyddwyd y ffurflen bwrpasol. MATERION A DRAFODWYD AR ÔL Y PWYLLGOR CYLLID CEISIADAU CYNLLUNIO Diddymu Cytundeb Adran 106 (Meddiannaeth Lleol) ynghlwm i Ganiatâd Cynllunio - 3 Tan y Foel, Dyffryn Gwrthwynebu’rArdudwycais hwn oherwydd eu bod o’r farn bod y tŷ hwn wedi ei adeiladu i fod yn dŷ fforddiadwy i bobl Newidleol. defnydd o dŷ (Dosbarth Defnydd C3) yn uned gwyliau sengl a throsi’r gweithdy ynghlwm yn gegin yn cynnwys ffenestri to newydd - Bennar Fawr, Dyffryn Ardudwy Dim sylwadau i’w gwneud ar y cais hwn ond bod ganddynt bryder ynglŷn ŷ mwy o drafnidiaeth yn mynd ar hyd y ffordd gul, hefyd bod diffyg ymgynghori wedi digwydd efo trigolion lleol.

Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Annwen a Chris Shelton, Gorwel Deg, Dyffryn, a’u meibion, Aled ac Iwan a’u teuluoedd, yn eu profedi gaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl, sef Mrs Jennie Williams, Caerddaniel, Llanaber.

Y Parch Hywel Evans, y Llywydd Cyntaf, gyda phlant yr Ysgol Feithrin yn y Neuadd Bentref yn 1967-1968. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb CHWEFROR 13 Parch Dewi Lewis, am 10.00 20 Raymond Owen, am 10.00 27 Parch R O Roberts, am 5.30 MAWRTH 6 Iwan Morgan, am 5.30 MUDIAD

Cydymdeimlad1967-68MEITHRIN

Penderfynwyd

9 Rhagor o DDYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

7 I agor yr ysgol ar ddydd Mawrth, 9 Mai 1967.

Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we.

Llais Ardudwy

5 I gynnal yr ysgol o 10-12 bob bore Mawrth ac Iau.

Hanes y Cylch Meithrin

TENDR 2 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont.

Efail. Am fwy o fanylion a chopiau

ffurflenni tendr, cysylltwch

sedd

Mro

sedd ar Ffordd

2 I dalu 10 swllt yr awr i’r athrawes

TENDR 3 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri gwair a’i glirio o amgylch y ym Enddwyn, amgylch y Ystumgwern, Ffordd y a Ffordd yr o’r â’r Clerc: dyddiad cau cyfarfod cyntaf yn Ebrill 1967, pedair mlynedd cyn i’r Mudiad Ysgolion Meithrin gychwyn, yn Festri Horeb am 8 o’r gloch ar 8 Ebrill 1967. mynd ymlae i drefnu sefydlu Ysgol Feithrin Gymraeg Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont. Etholwyd y swyddogion canlynol: Llywydd – y Parch Howell Evans Ysgrifennydd – Mrs Myra Jones Trysorydd – Mrs Gretta Cartwright. Ychwanegwyd enwau Miss Thomas, Morwylfa a Mrs Eirlys Blake at y swyddogion i ffurfio Pwyllgor CytunoddGwaith. Mrs Dilys Evans i fod yn

o

6 I godi tâl o 2 swllt y plentyn y bore, ond lle bo dau blentyn o’r un teulu, swllt i’r ail blentyn.

TORRI GWAIR TENDR 1 Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio unwaith y mis, hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus, a gwneud gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio unwaith y mis yn hen fynwent Llanddwywe a mynwent Llanenddwyn. Hefyd tocio’r coed bach sy’n tyfu rhwng y beddi ym mynwent Llanddwywe yn rheolaidd.

2 I ofyn i swyddogion Capel Horeb am ganiatâd i ddefnyddio’r festri.

8 I ymholi ynglŷn â’r posibilrwydd o gael cymorth oddi wrth gronfa’r 9Degwm.Ianfon at Gronfa Glyndŵr i ofyn am gymorth ariannol i gychwyn yr Mynegoddysgol. y Parch Howell Evans ei fod wedi cael cynnig peth dodrefn tuag at yr ysgol gan y cyfarwyddwr addysg am bris rhesymol. Penderfynwyd cynnal Noson Goffi i godi arian at yr ysgol a chynigiodd Mrs G Cartwright ei chynnal ym Mharc CynigioddUchaf.Mr Iorwerth Williams fenthyg swm o arian o’r ysgol gynradd pe bai angen. Roedd 14 o blant ar lyfrau’r ysgol ar y cychwyn ond buan iawn y tyfodd nifer i 31 yn ystod y flwyddyn gyntaf. Newid aelwyd fu’r hanes yn y flwyddyn gyntaf hefyd, o festri Horeb i Neuadd y Pentref, oherwydd y cynnydd yn nifer y plant a bod gwell cyfleusterau yn y Neuadd ac yno y bu hyd Gweithiodd1998-1999.ypwyllgor gwaith yn ddygn yn y blynyddoedd cynnar rheini yn cynnal gweithgareddau i godi arian yn ogystal â cheisio am arian o wahanol ffynonellau. Yn y dechrau roedd yr ysgol yn cyfarfod am ddau fore’n unig, Newidiwyd i ddau brynhawn o 1 o’r gloch tan 3 yn Hydref 1967 ac felly y bu tan 1974 pan y cafwyd dosbarth ychwanegol ar fore Mawrth. Ychwanegwyd bore Gwener yn ogystal ym Mai 1975 a bore Iau i’r plant hŷn yn hydref 1980. Yn 1983 newidiwyd y dyddiau eto i fore Llun, Mercher a Gwener. Ers y cychwyn mae nifer fawr iawn o weithgareddau codi arian wedi eu cynal o ddawns werin, nosweithiau cawl a chân, stondinau cacennau, paratoio bwyd yn y sioe gŵn a theithiau cerdded noddedig gyda Super Ted, Smotyn a Sam Tân. Yna, yn y nawdegau, cafwyd caniatâd i adeiladu adeilad pwrpasol, modren ar gyfer yr ysgol feithrin ar dir yr ysgol gynradd. Unodd y pentref i gyd i godi arian at y fenter arbennig yma a gweithiodd llawer yn ddygn i gael grantiau a nawdd. Agorwyd yr ysgol feithrin yn ei lleoliad newydd yn Mae’n1998-99.agored bum diwrnod yr wythnos ac yn hwylus iawn i’r rhieni. Mae’r plant sy’n dair oed yn yr ysgol feithrin yn o bore ac yna’n mynd i’r dosbarth meithrin yn yr ysgol gynradd yn y prynhawn. Efallai y bydd parti i ddathlu penblwydd yr ysgol feithrin yn 55 oed. [Gweler y lluniau ar dudalen 10.]

ar gyfer derbyn tendrau 28.2.22. NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI CAEL EI ANFON I MEWN AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL CYNGORTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDA Mae Cylch Meithrin Dyffryn a Thaly-bont yn dathlu ei ben-blwydd yn 55 oed Cafwydeleni.y

https://bro.360.cymru/papurau-bro/llaisardudwy/docshttp://issuu.com/neu

Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Y

Llan

1Penderfyniadau:athrawes.MaiCymraegfyd iaith yr ysgol, ond derbynnir plant o gartrefi diGymraeg lle bo’r rhieni yn awyddus i’r plant ddysgu’r iaith, hyd at gyfartaledd o 25%.

4 I’r oed fod o dair i bedair a hanner.

i drafod ei sefydlu

10 Trem yn ôl ar y Mudiad Meithrin yn Nyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Rhai o’r gweithwyr brwdfrydig yn gosod arddangosfa yn Sioe Llanelwedd: Jan, Rhona, Mair, Helen, Beryl a Carol. Rhai o bwyllgor Menter Meithrin oedd yn codi arian i godi adeilad pwrpasol ar dir yr ysgol. Cychwynnwyd ym 1984 gan gwblhau’r prosiect ym 1998. Mrs Alwena Morgan, Swyddog Datblygu Meirionnydd a Mrs Jane Corps yn dathlu pen-blwydd y Cylch yn 25 mlwydd oed.Plant y Cylch tua 1970. Y plant yn dathlu Miri Meithrin yn 1983 a thema’r Ŵyl Feithrin oedd ‘Dwylo dros y Byd’. Mrs Dilys Evans, yr athrawes gyntaf, gyda’r plant yn 1967-1968.

Mae wedi

anfon lluniau at y Peiriannydd Ardal yn gofyn iddynt adnewyddu’r arwydd a’r polion. Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.uk Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.ukFacebook.com/harlechtoyotaTwitter@harlech_toyota Teulu’r Castell Fe fydd Teulu’r Castell yn ailgychwyn wedi’r pandemig ar bnawn Mawrth, Mawrth 8 am 2.00 o’r gloch yn Neuadd Goffa, Llanfair. Croeso cynnes i bawb ymuno â ni yn y te bach Cymreig.

LLANFAIRDiolch Dymuna Mrs Doreen Roberts, Ffin y Llannau, ddiolch yn ddiffuant iawn i’w theulu a’i chyfeillion am yr holl negeseuon, cardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniodd tra oedd hi yn glaf yn yr ysbyty yn ddiweddar. Gwerthfawrogwyd pob un ohonyn nhw. Rhodd a diolch £10 Marwolaeth Bu farw Roy Gregson, cyn Dditectif Arolygydd gyda Heddlu’r Gogledd ac un o blant Llanfair. Roedd ganddo ef a’i bartner, Myfanwy, deulu estynedig yn ardal Tŷ Croes, Ynys Môn. Roedd yn 74 mlwydd oed ac yn frawd i Raymond, Karen, Dorinda, Yasmin a’r diweddar Caradog, Lyn a Korina. Bydd yn golled enfawr i’w deulu a’i gyfeillion niferus. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth.

11 LLANFAIR A LLANDANWGCYNGORCYMUNED

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn ag Anita Schenk a’r teulu, Lug in’s Land, Awstria, ar farwolaeth ei gŵr Heinz ym mis Ionawr. Mae gan Anita gysylltiadau teuluol ag Ardudwy, gan ei bod yn aelod o hen deuluoedd Uwchglan a Brwynllynnau. Bu Heinz a hithau’n cadw Plas Newydd, Llanbedr, fel gwesty yn 60au’r ganrif ddiwethaf, cyn symud yn ôl i Awstria, cartref Heinz. Mi fydd amryw o Ardudwy yn cofio ymweliad Côr Meibion Ardudwy ag Awstria, gan aros yng ngwesty Anita a Heinz yn Altenmarkt rai blynyddoedd yn ôl, a bydd eraill wedi bod yno’n aros efo nhw, yn sgïo neu’n cerdded y mynyddoedd efo Heinz.

Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol - 6, 7, 8, 9, 10 ac 11

MATERION YN CODI Presept y Cyngor am y flwyddyn 2022/23 Cytunwyd i adael y presept ar £16,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Diwygio Amod Rhif 2 o Ganiatâd Cynllunio ar gyfer newidiadau mewnol ac adfer 3 ffenestr to ar yr edrychiad blaen - Tŷ’n Llan, Llanfair. Cefnogi’r cais.

CyngorGOHEBIAETHGwynedd

Derlwyn, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn.

– Adran Priffyrdd Bydd y Cyngor Sir yn darparu halen i’r biniau halen pwrpasol sydd yn y gymuned yn ddi-dâl o hyn ymlaen. Llythyr Holwyd a fyddai’n bosib peintio murlun ar wal flaen y toiledau cyhoeddus yn Llandanwg, hefyd a fyddem yn cefnogi gosod diffibrilydd yn Llandanwg pe bai ymgyrch codi arian i archebu un yn cael ei drefnu. Rhaid cysylltu gyda Chyngor Gwynedd fel perchnogion y toiledau i ofyn am ganiatâd i beintio murlun. Cytunwyd bod archebu diffibrilydd yn syniad da a byddai’r Cyngor yn fodlon cefnogi’r gost a hefyd bod yn gyfrifol am archebu’r peiriant.

MATERION CYNGOR GWYNEDD Sylwodd y Cyng Annwen Hughes ar arwydd talu ag arddangos yn y Maes wedi dechrau pydru a rhan o’r Saesneg ar goll, hefyd sylwodd bod y ddau bolyn sy’n dal arwydd ‘Llanfair’ wrth groesffordd Fron Deg mewn cyflwr drwg iawn.

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â Caerwyn a Bet Roberts a’r teulu i gyd ym marwolaeth ei chwaer, Jennie Williams, Caerddaniel, Llanaber yn 91 mlwydd oed. Roedd yn briod annwyl i’r diweddar John ac yn fam a mam-yng-nghyfraith i Aeron a Rhian, ac Annwen a Chris. Roedd hefyd yn nain i Damian, Aled ac Iwan ac yn hen nain i Millie, Layla, Caia, Malan a Jac. Rydym yn meddwl amdanoch.

12Llongyfarchiadau i Mai Jones, Llandecwyn; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Bethan Ifan, Llanbadarnfawr; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll a Rhian Mair Jones, Betws yn Rhos; Dotwen Jones, Cilgwri [Wirral]. Anfonwch eich atebion i’r Sgwâr Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y 1 - 2 - 3 - N 4 - 5 - 6 - 7- O 8 - 910 - 11 - 12 - 13 - 14 -I 15 - 16 - 17 - 1819 -P 20 - 21 - 22 - 23 - 24 - 25 - 26 - 27 - 28 - Ph Eisiau gaelMaegydagweithiophlantbach?niferowahanolswyddiarmewnCylchoeddMeithrinaMeithrinfeyddMudiadMeithrin. Am sgwrs pellach: Leanne.marsh@meithrin.cymru neu ffoniwch 01970 639639 Dyma gyfle i chi gyflwyno’r Gymraeg i blant bach yn eich ardal chi. Byddwch yn cael pleser o’u gweld yn datblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus gan wybod eich bod chi wedi cyfrannu at hynny! Am wybodaeth am ein holl swyddi ewch i’n gwefan –www.meithrin.cymru/prentisiaethwww.meithrin.cymru/swyddi Angen cymhwyster gofal plant? Mae gennym nifer o gyrsiau ar gael i’ch helpu –Rhif elusen: 1022320 Yn cyrhaeddoddanffodus, ateb cywir Mai misgynnwys10SgwârLlandecwynJones,iGeiriaurhifynrhyhwyri’wynrhifynIonawr. POS RHIF 12 15 27 21 5 5 17 26 17 2 7 27 1 3 8 17 2 11 26 10 4 24 5 1 10 18 26 19 P 22 3 N 13 10 25 14 7 O 10 25 20 12 8 6 16 2 14 25 22 18 5 9 13 7 27 22 17 17 24 25 22 24 19 5 22 2 25 10 11 7 2 8 19 1 6 17 22 4 5 7 23 22 25 11 7 3 12 20 27 1 10 22 13 7 18 22 27 9 25 22 22 19 7 1 6 22 12 3 22 7 3 7 18 20 3 13 3 Olwen Evans, Penarth £10 Kate Whitehead, Erw Beudy, Llandecwyn £20 Bronwen Williams, Harlech £5 Sgwâr Geiriau Rhif 12 Diolch am y rhoddion canlynol:

13 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

Croesawyd yr aelodau gan yr Is-lywydd, Eluned Williams i gyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd yn Neuadd Talsarnau, dydd Llun, 10 Ionawr, gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal cyfarfod am 2.00 o’r gloch y pnawn gan i ni benderfynu gwneud hynny yn ystod misoedd y gaeaf. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Siriol, Bet, Margaret a Gwenda Paul. Cafwyd adroddiad o’n cinio Nadolig ym Mhlas Tan y Bwlch gyda llun da o’r achlysur wedi ymddangos yn Llais Ardudwy mis Ionawr. Eglurodd Eluned y bydd copi o raglen y flwyddyn yn barod erbyn y cyfarfod nesaf ac aeth drwy’r cynnwys. Roedd angen trafod lleoliad a dyddiad cinio Gŵyl Ddewi a chytunwyd i wneud ymholiadau mewn tri lle – Gwesty Seren, Bryn Arms a Phlas Tan y Bwlch. Cytunwyd hefyd mai’r dyddiad addas i bawb fyddai dydd Gwener, 25 Chwefror. ‘Brethyn Cartref’ oedd dan sylw y tro yma a chafwyd cyfraniadau gan Gwenda, Rhiannon, Haf a Frances (ein haelod hynaf yn cofio’n wych am bobl a digwyddiadau diddorol). Parhawyd gyda’r sgwrsio yn hel atgofion gyda phawb yn ychwanegu sylwadau. Bu’n bnawn pleserus a mwynhawyd y cymdeithasu gyda’r baned. Paratowyd y baned gan Anwen a Mai; tynnwyd y raffl ac roedd tair gwobr ar gael ac enillwyd rhain gan Anwen, Rhiannon a Mai. Bydd ein cyfarfod nesaf ar bnawn dydd Llun, 7 Chwefror am 2.00 o’r gloch pan y bydd Paula Stewart, Plismon Cymunedol yn cyflwyno sgwrs.

14 TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN*MELINLIFIOSYMUDOLLlifiocoedi’chgofynionchiCladin,planciau,pystathrawstiau*GWAITHADEILADUACADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com Ysgol Talsarnau Ar y 25ain, bu’r plant yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen. Cawsant gyfle i wneud cerdyn Santes Dwynwen hefo neges gudd wedi’i chreu trwy ddefnyddio siwgr a dŵr. Er mwyn datgelu’r neges roedd rhaid i’r derbynnydd baentio drosto. Yn ogystal, cawsant wneud bom bath yn defnyddio petalau hylif cawod a jelatin. Dyma anrheg i rywun arbennig. Unwaith eto roedd y plant yn dysgu trwy brofiad llawn hwyl ac yn gweld sut oedd cynhwysion y bom bath yn adweithio hefo’i gilydd ac yn newid o hylif i solid yn ogystal â dysgu am nawddsant Cariadon Cymru wrth gwrs. Diolch i Hunaniaith am drefnu’r gweithdy hefo cwmni Sbarduno ar ein cyfer. Yn ddiweddarach, bu’r plant yn ymuno yn rhithiol hefo criw yr Urdd a chymeriadau Stwnsh i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd. Buont yn mwynhau dawnsio a chanu’r gân enwog ‘Hei Mistar Urdd’ gan gymryd rhan yn her yr Urdd i dorri record byd wrth uwchlwytho fidio ohonynt yn canu’r gân ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd hwn yn ddiwrnod hanesyddol iddynt a chawsant fyrdd o hwyl yn ymuno yn yr holl ddathliadau! Marwolaeth Yn dawel yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, yn 91 oed, bu farw Rhiain Philips, gwraig y diweddar Glyn O Philips. Roedd yn enedigol o ardal Talsarnau. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Iolo a Sioned Lewis, Penrhyndeudraeth ar enedigaeth eu merch fach Elan Grug ar 20 Ionawr, chwaer i Cynan Sion, ac ychwanegiad hyfryd i deulu Dewi Tudur a Siriol Lewis, Llwyn Dafydd, Talsarnau. Pob dymuniad da i’r teulu i gyd.

Merched y Wawr

15 Capel Newydd, Talsarnau CHWEFROR 6 - Dewi Tudur, 13 - Tomos R Young, 20 - Dewi Tudur, 27 - Dewi Tudur MAWRTH Bob nos Sul am 6:00. Mae croeso i bawb ond plîs cysylltwch i ddweud eich bod yn bwriadu bod yno fel bod sedd gadw i chi. Rydym yn dymuno cadw mor ddiogel ag sy’n bosib. Gallwch ffonio 770953 am fwy o fanylion neu ewch i’n safle we ar capelnewydd.org. Hefyd, gallwch ddilyn ein hoedfaon ar sianel ‘eglwys efengylaidd ardudwy’ ar Youtube. CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

William ac Anne, Owen, Roberts, Croesnewydd, Llandecwyn - taid a nain Sarah Ellen Park, 1890au

16Dyma

Priododd John a Sarah Ellen Park yn 1924. Yr oeddynt yn aelodau o’r Eglwys Fethodistaidd Gyntaf yn Great Falls, Montana. Ganwyd iddynt un mab, John Gwilym Park (1925-1981), a ddaeth yn berchennog ransh yn Great Falls. Mynychodd JG yr ysgolion cyhoeddus yn Dutton, Montana. Ar 28 Medi 1946, priododd â Betty Margaret Grover (g 1 Mai 1924), yn Mapleton, Minnesota – bu farw 19 Hydref 2013, yn Rapid City, De Dakota, mam i’r tri plentyn. Bu John Gwilym farw 20 Ionawr 1981, yn Ysbyty Columbus, Great Falls, yn 55 mlwydd oed. Yn 1907, yn 24 mlwydd oed, ymfudodd John Park i’r Unol Daleithiau, a threuliodd ddeunaw mis yn nhalaith Efrog Newydd yn gweithio fel mwynwr a gwneuthurwr llechi. Yna symudodd i Montana a bu’n gweithio yn Ffwrnais Mwyndoddi Boston a Montana yn Great Falls cyn symud i Dutton, Sir Teton, Montana, yn 1909, oedd 34 milltir i ffwrdd i’r gogledd o Great Falls, i ddilyn ei yrfa fel ffarmwr. Ar ôl blynyddoedd o lafur caled daeth yn berchennog ransh fawr a bu hefyd yn rhedeg gorsaf arbrofi yn ardal Rheilffordd y Great Northern. Ymwelodd â’i berthnasau ac ardal enedigol yn achlysurol gydol y blynyddoedd y bu ef yn byw yn Montana. Gwnaeth ei gartref yn 2200 4th Avenue North, Dutton, ac ymddeolodd yn 1947. Bu farw 8 Mawrth 1964 mewn ysbyty yn Conrad, Sir Pondera, MT, yn 80 mlwydd oed; a Sarah, ei briod, bu farw 20 Mawrth 951, yn Great Falls, yn 54 mlwydd oed. Claddwyd ym Mynwent Coffa Hillcrest, Great Falls. Gadawodd $64,150 yn ei ewyllys i’w fab, John Gwilym Park.

Ganwyd John Park 12 Tachwedd 1883, yn fab i Griffith Park (1847-1926) a Catherine (Lewis) Park (1854-1937), Fronolau, Llanfair, Sir Feirionnydd.

Ganwyd iddynt naw o blant: Mrs Catherine Parry (1876-1953), Betws-y-coed; Mrs Mary Williams (g 1877), Harlech; Mrs Ann Griffiths (1879-1964), Llety Perygl, Harlech; Joseph Lewis Park (1881-1962), Conwy; John Park (18831964), Montana; Mrs Margaret Gwendoline Thompson (1886-1967), Lerpwl; Mrs Jane Jones (1889-1959), Llanbedr; Mrs Elizabeth Jamieson (1897-1965), Lerpwl; Griffith Park (1899-1946), Llanbedr.

W Arvon Roberts,JohnPwllheli.Park, Llanfair

Ganwyd ei dad yn Muriau Bach, Llanystumdwy, Eifionydd, yn fab i John Park, ffarmwr, a anwyd yn Lutton, Swydd Westmoreland, Lloegr, ac a fu’n byw ar ôl priodi yn Llanfair a Llanenddwyn. Un o Harlech oedd Catherine (Lewis) Park ei fam, merch i Joseph a Mary Lewis. Hanai Sarah Ellen Roberts (1897-1951), priod John Park, o Landecwyn, merch i John Roberts (1866-1930), chwarelwr, o Landecwyn, a Lavinia Lloyd (1866-1931), a anwyd yn Sir Gloucester, Lloegr, ac a fu farw yn Ffestiniog.

hanes Dewi Prysor yn cerdded 100 copa uchaf Cymru. Yn ogystal â chyfarwyddiadau a disgrifiadau taith, cyfeirir at hanes lleol, enwau mynyddoedd, rhennir atgofion, dyfynnir caneuon a cherddi a cheir lluniau anhygoel sy’n cynnwys ambell i olygfa annisgwyl a welwyd ar y Mabtopiau.ymynydd ydi Dewi Prysor, ac yn y mynyddoedd mae ei le. Yn byw ac yn bod yn crwydro’r uchelfannau, mae’n gerddwr brwd yn ei ardal enedigol ym Meirionnydd ac yn wir, ymhob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am y mynyddoedd, y llwybrau a’r creigiau; yn ogystal â gwybodaeth am darddiad enwau, a hanesion am y bobl a fu’n byw a gweithio ar y Byddmynyddoedd.llawerohonoch yn gwybod eisoes am y llyfr gwych gan Dewi Prysor sydd newydd ei gyhoeddi gan Y Lolfa (£19.99), a’r rhai lwcus wedi derbyn copi yn eu hosan ‘Dolig. Cawn ei hanes yn dringo 100 o’r copaon uchaf gan roi peth gwybodaeth gefndirol diddorol a rhannu ei brofiad personol o wneud hynny. Mae ynddo luniau arbennig iawn a phob un wedi eu tynnu gan yr awdur ei hun; mae’r llun clawr a welir yn yr atodiad yn rhoi syniad i chi o’r Llyfrsafon.rhagorol a fyddai’n ffitio’n daclus ar y silff ochr yn ochr â Chopaon Cymru! A (heb frolio gormod arnom ein hunain) dwy gyfrol sy’n llawer gwell na’r holl lyfrau Saesneg sydd wedi eu cyhoeddi am fynyddoedd FellyCymru.pob hwyl ar y darllen yn ogystal â’r mynydda! Eryl Owain

17 R J

Pwdin bisgedi brau a mefus Digon i bedwar o bobl. Rysáit 9 owns o flawd plaen. 6 owns o fenyn wedi ei doddi. 3 owns o siwgwr castor. 1/2 peint o hufen dwbwl. 1 pwnet o mefys. BagSiwgrSiocledeising.peipioa tihwben blodyn Dull Mi fydd angen 2 dorrwr (cutter) siâp calon, 1 mawr ac 1 bach. Cymysgwch y menyn, y blawd a’r siwgr nes y bydd yn belen. Rholiwch allan, a thorrwch 8 o galonnau mawr a 4 o rai bach. Coginiwch am 10 munud, tymheredd 180. Gadewch iddynt oeri. Whisgiwch yr hufen dwbwl nes y bydd wedi twchu digon i’w beipio. Torrwch y mefus yn ddarnau bach. Peipiwch hufen ar y calonnau mawr ac ychydig o’r mefus a rhowch un galon ar ben y llall fel bod gennych ddigon i bedwar o bobl. I orffen, rhowch y calonnau bach ar y top ac addurnwch gyda hufen ffrw ythau a siocled, a thaenu siwgr eising drosto.

TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU

Y GEGIN GEFN y coco wedi ei gymysgu gyda’r dŵr iddo, a chymysgwch yn dda. Rhowch y papurau pobi yn y tun twll a rhannu’r gymysgedd iddynt; mi ddylech gael rhwng 12 a 14. Coginiwch am tua 10 munud gwres Gadewch180oC. iddynt oeri. Cymysgwch y menyn neu margarin a’r coco gyda’r siwgr eising. Peipiwch yr hufen ar dop y cacenni, neu os nad oes gennych fag peipio, defnyddiwch lwy de.

RysáitbachCacennausiocled

Torrwch lawer o galonnau bach allan o’r eising coch, ac addurnwch fel y dymunwch. Diwrnod Sant Ffolant hapus i chi i Rhiangyd. Mair Jones [Tyddyn y Gwynt Cystadleuaethgynt]SanFfolant Beth am i chi ofyn i’r plant wneud y rhain a gyrru llun ohonyn nhw i olygydd Llais Ardudwy erbyn Chwefror 20? Gallwn gynnal cystadleuaeth fach i weld pa rai yw’r Migoreuon.fyddgwobr o focs o siocledi i’r enillydd. Diolch i Rhian Jones am gytuno i noddi’r gystadleuaeth. Anfonwch luniau i ni o’r cacennau a hefyd llun ohonoch chi gyda’r Diolchcacennau.iJanet Mostert am gytuno i feirniadu’r gystadleuaeth. Anfonwch y lluniau Diolch.pmostert56@gmail.comat:

4 owns o siwgr castor. 4 owns o fargarin. 4 owns o flawd codi. 2 Llondŵy llwy fwrdd o bowdwr coco Llond llwy fwrdd o ddŵr cynnes. 2 dorrwr siâp calon bach. Eising ffondant lliw coch i rowlio Papurau pobi. Bag peipio a thiwben blodyn. Hufen menyn. 6 owns o fenyn neu fargarin 10 owns o siwgr eising 2 owns o bowdwr coco Dull Rhowch y siwgr, y margarin, blawd codi a’r wyau mewn desgil, adiwch

Y mis yma dwi wedi cael 2 rysáit i’w gwneud ar gyfer diwrnod Sant Ffolant. Gobeithio y byddwch yn mwynhau eu gwneud, ac hefyd y plant sydd yn hoff o goginio.

lle bu iddo gwrdd â Gwyneth a phriodi yn 1966 a symud i fyw i’r dre. Mewn amser aeth i weithio i’r Comisiwn Coedwigaeth ac yno y bu nes Roeddymddeol.Les yn weithgar o fewn y gymuned – gynt yn aelod o Gyngor Dosbarth Ffestiniog, y Seiri Rhyddion ym Mlaenau wedyn gyda’r

18 Y BERMO LLANABERA

Les DarbyshireCoffâd Ganed Les yn 1924 yn Manod, Blaenau Ffestiniog – yr ieuengaf o dri phlentyn i Arthur Eric ac Ellen Ann Darbyshire. Mynychodd hen Ysgol y Manod, Ysgol Ganol ac Ysgol Ramadeg, Ffestiniog. Ei ddymuniad, pan ddaeth y rhyfel, oedd ymuno â’r ‘Royal Electrical and Mechanical Engineers’ – y gatrawd a fu ei dad yn aelod ohoni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oedd yn bosib iddo ddilyn ei ddymuniad oherwydd gwaharddiadau yn bodoli yr amser hynny. Cafodd ei brentisio i’w dad fel saer coed. Bu wedyn yn gweithio ar adeiladu maes awyr Llanbedr, wedyn yn aelod o dîm cynnal a chadw y camp milwrol ym Mronaber, Trawsfynydd. Bu hefyd yn gweithio yn chwarel Bwlch Slaters (Chwarel Manod) yn paratoi lle pwrpasol i ddal trysorau a lluniau o’r National Art Gallery, Llundain. Wedyn bu’n gweithio yn ddirgel ym Morfa Conwy ar y ‘Mulberry Harbours’. Pan yn 18 ymunodd â’r Llynges Frenhinol ac ymuno â ‘Combined Operations’ gyda’r ‘Royal Marine Commandos’ a gwasanaethodd yn yr Iseldiroedd. Ar ôl y rhyfel, ymunodd eto â’i dad fel saer coed ac yn ddiweddarach cafodd swydd gyda Chyngor Deudraeth fel peiriannydd, wedyn ymunodd â Bwrdd Dŵr Meirion yn y Bermo, ‘Barmouth Community Centre’, ‘Sailors’ Institute’ i enwi ond rhai. Bu’n flaenor yng Nghapel Caersalem y Bermo am dros 40 Roeddmlynedd.ganddo ddiddordeb mewn hanes lleol ac ysgrifennodd llawer o erthyglau dros y blynyddoedd ar wahanol bynciau. Cyhoeddodd dri llyfr – ‘Barmouth Sea Heroes’ yn 2012, ‘Our Backyard War’ yn 2015 a’r olaf ‘Cynefin yr Alltud’ yn 2021. Bu farw yn dawel fore Sadwrn yr 8fed o Ionawr 2022 yn Ysbyty Tywyn. Roedd ei angladd yn breifat (o achos cyfyngiadau’r Covid) yn Eglwys Crist (Christ Church), y Bermo dydd Llun 17eg o Ionawr, 2022 dan arweiniad y Parch Patrick Slattery. Dymuna’r teulu ddiolch yn gywir iawn i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth.

Eirlys Mai Teyrnged1929-2022Williams

Ganwyd Eirlys yn Tyddyn Cwtyn, Blaenau Ffestiniog, yr ieuengaf o naw o blant Robert a Mary Evans. Roedd yn gartref prysur a hapus, roedd Eirlys yn berson cymdeithasol a phawb yn hoff o’i chwmni. Ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio mewn ffatri yn gwneud dillad i’r milwyr yn ystod y rhyfel. Ar ôl rhai blynyddoedd symud at ei chwaer Jinnie i’r Bermo gan weithio yn y laundry. Yma cyfarfu â Jack a bu iddynt briodi yn Eglwys Santes Fair, Bu’nLlanaber.byw yn y Bermo am y rhan helaethaf o’i hoes ond roedd yn dal yn ferch driw i Blaenau Ffestiniog. Bu sawl siwrnai car efo Jack yn hel atgofion am Tyddyn Cwtyn a’r ardal. Roedd 24 Heol y Llan yn gartref hyfryd a chroesawus. Yno ganwyd Rhona, Cerys a Siân. Roedd y merched yn hoff iawn o goginio gyda Mam ar sawl achlysur. Yn ôl yr wyrion rhaid oedd cael cinio dydd Sul hyd yn oed ar bnawn poeth yn yr haf. Roedd cwmni teulu o gwmpas y bwrdd yn golygu llawer iddi; roedd yn llawn cariad tuag atynt. Roedd yn falch o groesawu teulu a ffrindiau i’r tŷ i gael sgwrs a phaned. Yn ogystal â chadw cartref clud, bu Eirlys yn gweithio am sawl blwyddyn yn ffreutur Ysgol y Traeth lle roedd ei gwên yn codi calon pawb Bu’n aelod ffyddlon o Merched y Wawr a’r Gymdeithas Gymraeg am flynyddoedd ac wrth ei bodd yn trefnu lluniaeth ar gyfer cyngherddau yn y Mae’rBermo.teuluyn cofio ac yn hiraethu am un a fu yn rhan bwysig o’u bywyd. Bydd gwacter a chwithdod mawr ar ei Hoffai’rhôl. teulu ddiolch i ‘r gofalwyr yn y Gymuned oedd yn galw’n ddyddiol am eu gofal ohoni. Cariad mewn bywyd, trysor mewn côf.

Merched y Wawr Ar bnawn Mawrth, 18 Ionawr dymunodd Llewela, ein llywydd Flwyddyn Newydd Dda i bawb, gan gofio am aelodau sy’n methu bod yn bresennol oherwydd anhwylderau. Cydymdeimlwyd â theulu Eirlys Williams. Bu Eirlys yn aelod hwyliog a gwerthfawr; roedd wrth ei bodd yn trefnu lluniaeth ar gyfer y gangen a chyngherddau yn y Bermo. Braf oedd cael Pam Cope yng ngofal gweddill y cyfarfod. Teitl y sgwrs/cwis oedd barddoniaeth Gwyn Thomas wedi ei seilio ar y llyfr ‘Blaenau Ffestiniog’ gyda lluniau bendigedig gan Jeremy Moore. Darllenodd dair cerdd: ‘Tomen Fawr yr Oclis’; ‘Pethau Gwaeth Na’i Gilydd’; ‘Yr Wythnos Ryfeddod’. Roedd Pam wedi gwneud copïau o’r cerddi, llinell wrth linell. Wrth weithio mewn parau, ein tasg ni oedd gosod llinellau’r cerddi yn eu trefn. Roedd yn dasg hwyliog a gwahanol. Rydym yn ffodus o gael aelod mor dalentog â Pam. Ym mis Chwefror edrychwn ymlaen at gwmni Mari Wyn yn sôn am ei gwaith ffotograffiaeth.

Ni welwyd yn Harlech na’i chylchoedd erioed, Un cyfaill fwy barod â Baldwin Charles Lloyd, A hithau Miss Lovegrove, alluog ei dawn, O blaid y gwirionedd wna bobpeth yn iawn, Ac felly mi dawaf rhag bod yn rhy ffol, Onide bydd y llywydd yn edrych ar f’ôl.

Llyfr Olaf Les Darbyshire Plas Tan y Bwlch

Ond heddyw ceir bechgyn cyn cyrhaedd deg oed, Yn well ysgolheigion na’n tadau erioed. Pa le y ceir tyrfa fwy siriol a llonFwy peraidd eu cydgan, fwy siriol eu bron?

Yr oes dywell hono, eu gwleddoedd llawn maeth, ‘Oedd tatws a llymru, uwd rhynion a llaeth; Y fath gyfnewidiad sy’n awr yn ein plith: Tea parties rhagorol a’r hoff fara brith, A digon o ladies i dendio o hyd, Yn siriol yr olwg - yn wenau i gyd.

Llinellau a adroddwyd yng Nghyngerdd y plant, yn Ysgoldy Harlech, Chwefror, 1882

Dyma hanes Manod, Blaenau Ffestiniog yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf - hanes y bobl, eu diddordebau, eu gwaith a’u dull o fyw. Dilynir hanes cynnydd y fro i fod yn ganolbwynt dosbarthu’r llechi o’r chwareli; y dull trafnidiaeth a chreu ffyrdd newydd; y capeli a’u dylanwad a’u disgyblaeth; yr ymfudo i America o Gae Clyd; hanes meddygon lleol a dirywiad ardal wledig.

19

Bu’r “tylwyth teg” unwaith yn canu yn gu Ar hen Forfa Harlech yr oesau a fu, Gan ddawnsio a neidio yn llawen a llon, A rhedeg eu cylchoedd yn ysgafn eu bron, Nes denu rhyw benwan yn nhrymder y nos, A’i gael yn y boreu y’nghanol y ffos.

Er gwyched eu canu, er uched eu bri, Nid oeddynt yn agos i’n tylwyth teg ni.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru Wyddoch chi fod yr #WythnosAwyrDywyllCymru gyntaf erioed yn cael eich chynnal rhwng 19 a 27 Chwefror? Cadwch lygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Parc Cenedlaethol Eryri a Prosiect NOS i weld diweddariadau am yr wythnos arbennig hon.

LLAIS ARDUDWY Bydd Llais Ardudwy ar werth yn Siop Spar, Bermo o fis Mawrth 2022 ymlaen.

Moesolrwydd a rhinwedd sy’n fyw yn eu mysg, A deilliodd y cyfan o ffynnon fawr dysg.

Am lafur ac ymdrech i gyrraedd y nod, Mae’r Athraw caredig yn haeddu y clod. Pan oedd Castell Harlech yn ieuangc ei wedd, A’i ddillad yn newydd a phrydferth ei sedd: Heb boen yn ei ochr, na chur yn ei ben, Yn gwenu yn siriol ar Gymru fach wen; Peth dieithr hollol i blant bach y dre’, Oedd d’od at eu gilydd i gyd-yfed tê.

Gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru wedi newid i Lefel Rhybudd 0 cofiwch fod ystafelloedd addas ar gyfer cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau ym Mhlas Tan y Bwlch. Er enghraifft, mae Ystafell Oakeley yn gallu cynnal digwyddiadau amrywiol gyda golygfa hyfryd o ddyffryn Dwyryd yn y cwm. Gall yr Awditoriwm gynnal cyflwyniadau i hyd at 80 unigolyn o fewn y Stablau. Yn ogystal ag ystafelloedd amrywiol mae lluniaeth o’ch dewis chi ar gael ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Gallwch drafod a chreu bwydlen addas gyda’r Adran Arlwyo am bris cystadleuol iawn. Cysylltwch â Derbynfa Plas Tan y Bwlch i wneud ymholiad pellach - plas@eryri.llyw.cymru, 01766 772600.

D’oes debyg i Harlech i’w chael yn y byd, Ceir rhywbeth yn newydd yn Harlech o hyd, Mae Harlech yn hynach, yn harddach yn wir Na’r un llecyn arall o fewn yr holl Sir; Ei chastell henafol ar gopa y graig, Sy’n chwerthin bob amser yn wyneb yr aig, Yng nghanol ystormydd fe ddaliodd ei dir; Mae’n uwch ac yn dalach na thyrau y Sir; Mae’n ddystaw, mae’n siarad, mae’n ieuangc, mae’n hên, Mae’n sarrug yr olwg, ac eto’n llawn gwên, Mae’n destyn rhyfeddod - mae’n gyfrol o swyn; Mae Harlech yn annwyl gan bawb er ei fwyn.

Ceir Foster ac Ioan a Robert a Jim, A Martha a Chatherine yn canu i’r dim, A’r “Bronwen Glee Party” yn ganu i gyd, Na cheir ei gyffelyb yn unman drwy’r byd, A phlant bach yr Ysgol yn ffurfio yn gôr, A’u canu soniarus fel ymchwydd y môr.

Ioan Glan Menai (John P Jones, 1830-1915), o’r llyfr ‘Cyfansoddiadau Barddonol’. Diolch i Sheila Maxwell am anfon y gerdd atom.

O! ‘r fath gyfnewidiad sydd yma yn awr, Er pan roddwyd sylfaen y Castell i lawr. Fe ddywed traddodiad yn uchel ei llef, Nad oedd yr un Ysgol i’w chael yn y dref; Ni cha’dd plant y werin ‘run fath â’n plant ni, Erioed eu hyfforddi i ddysgu’r A B

• Parhewch i osod bwyd i’r adar ar y ddaear a llenwi’r bwydwyr. Symudwch yr orsaf fwydo bob hyn a hyn fel nad ydy bwyd yr adar yn aros ar y ddaear (fe all hyn annog ymwelwyr llai dymunol megis llygod mawr a gall arwain at ledaeniad heintiau adar). Mae’n helpu hefyd i osgoi rhoi darnau mawr o fwyd iddyn nhw.

• Mae diwedd y gaeaf yn amser delfrydol i greu pwll. Efallai y bydd y llyffantod cyntaf yn cyrraedd erbyn y gwanwyn.

• Gosodwch flychau nythu rhyw 1-3 metr o’r ddaear ar furiau neu goed a rhowch blatiau metel efo twll ynddyn nhw dros y twll yn y pren i rwystro ysglyfaethwyr fel y wiwer lwyd a’r sgrech y coed rhag rheibio’r cywion. Gosodwch wyneb y blwch ar i lawr Bywyd gwyllt yr ardd ychydig bach i rwystro glaw rhag mynd i mewn i’r blwch.

• Ceisiwch amrywio dyfnder y dŵr fel bod yna rannau bas yn ogystal â dŵr dyfnach.

Apêl at Gyfeillion y Neuadd Gymuned Mae dros dwy flynedd bellach wedi mynd heibio ers i Bwyllgor Rheoli’r Neuadd ofyn am eich cefnogaeth ariannol blynyddol fel Cyfeillion y Neuadd, ac rydym yn awr yn gobeithio y byddwch yn barod i gyfrannu’r swm arferol fel a ganlyn£20 i deulu o bedwar, £10 i oedolyn a £5 i bensiynwr – tuag at gostau rhedeg y Neuadd. Mae’r Neuadd wedi ailagor i rai gweithgareddau, ond ar hyn o bryd mae gwaith uwchraddio sylweddol yn cael ei wneud ym mhrif ystafell y Neuadd a bydd hyn yn parhau am rhyw fis eto. Mae’r Neuadd Gymuned yn dathlu 20 mlynedd o fodolaeth ym mis Ebrill eleni ac rydym wedi dechrau ystyried cynnal rhai gweithgareddau i ddathlu’r achlysur, gan ddechrau gydag arddangosfa o luniau o’r ardal a’i phobl. Gwnawn apêl arbennig felly i ofyn a oes gennych unrhyw luniau addas y gallwn eu defnyddio yn yr arddangosfa; byddem yn falch o’u benthyg i’w sganio cyn eu dychwelyd i chi’n ddiogel. Os hoffech gyfrannu’n ariannol, mae croeso i chi roi eich cyfraniad un ai i Margaret Roberts, Gwenda Griffiths neu Colin Rayner. Neu, os gwell gennych gyfrannu drwy’r banc, dyma rif BACS Cyfrif y Neuadd: Cod didoli:- 40-37-13 : Rhif y Cyfrif : 31676970 – a rhoi eich enw fel Gobeithiwncyfeirnod.ycawn eich cefnogaeth wrth ailgychwyn ar weithgareddau’r Neuadd.

• Cofiwch gynnwys rhan gyda gro neu gerrig ar ochr y pwll i ddarparu mannau yfed hawdd ar gyfer gwenyn a pheillwyr eraill.

• Rhowch gynnig ar blannu llystyfiant o amgylch cyrion y pwll neu adael i’r glaswellt dyfu’n uchel er mwyn creu llwybr diogel i anifeiliaid fel penbyliaid fynd i mewn ac allan o’r pwll.

Sgrech y coed Llun: The Irish Times

PYLLAU

• Dyma’r amser i ystyried creu neu brynu cartref i wenyn sy’n dymuno dod o hyd i gartref yn y gwanwyn.

• Mae pwll dŵr yn ffordd wych o annog amrywiaeth o fywyd gwyllt i’ch gardd. Bydd hyd yn oed y pwll lleiaf yn denu adar, pryfed, madfallod, a llyffantod, ac yn darparu ffynhonnell bwysig o ddŵr yr un pryd.

• Gwnewch yn siŵr bod y blwch nythu’n wynebu rhwng y gogledd a’r dwyrain, oherwydd fe all gwres golau’r haul ei wneud yn rhy boeth yn yr haf.

ACYNEFINOEDDLLOCHES

YGORCHWYLIONMIS

• Dewiswch leoliad golau a heulog gydag o leiaf un ochr â llethr i wneud yn siŵr ei bod yn hawdd i unrhyw greadur fynd i mewn ac allan o’r pwll.

GYMUNEDOLNEUADDTALSARNAU

• Gosodwch flychau nythu ar gyfer yr adar. • Os yn bosibl, cadwch y baddon adar yn llawn ac heb rew ar wyneb y dŵr, oherwydd mae angen ymolchi ar adar beth bynnag yw’r tywydd.

• Fe all twr o foncyffion neu frics ddarparu lloches i bryfed a mân greaduriaid eraill.

CREU PWLL

20

2. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol.

byd o chwilfrydedd a rhyfeddod. Rhennir y stori’n 5 pennod, pob pennod yn ymwneud â chadair lleoliad ac adrodd straeon yn Harlech. Mae’r llwybr yn ymestyn o barc chwarae Llyn y Felin hyd at faes chwarae Brenin Siôr V, oddeutu 1.5 milltir, gan gymryd tua 2 awr i’w Maegwblhau.rhifar bob cadair ynghyd â chod QR, a fydd yn cysylltu’r gwrandawr â thudalen we Llwybr Croeso Harlech Meirion, harddangosByddamgylchbenarwyddionacpobRhoddirdrwyarddewis,UnwaithailgychwynllwybratddilynAwgrymiryrllwybr-meirion/,https://visitharlech.wales/acâ’rgadairbriodolymwelwydâhi.bodyllwybryncaeleiynnhrefncadeiriauo1hyd5,ernadoesangenichigwblhau’rigydaruntro.Gelliroedineuynôleichmympwy.ybyddycodQRwedi’ibyddwchyngallugwrandoystoriargyferygadairhonnoddewisyropsiwn‘chwarae’.ycyfarwyddiadaurhwngcadairarddiweddbobpennodmaearwyddionrhwngcadeiriau,glasgydasaethauallunoMôrFarch,wedi’iosodarbystoyllwybr.yDorchAuryncaeleiynHarlechoddechrauEbrill2022. LLWYBR NEWYDD MEIRIONTALSARNAUCYMUNEDCYNGOR Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd â’r Cyng Eifion Williams a’r teulu yn ei brofedigaeth o golli ei wraig sef Mrs Gwen Williams. MATERION YN CODI Presept y Cyngor am 2022/23 Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater uchod. Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn

– Adran Priffyrdd Bydd y Cyngor Sir yn darparu halen i’r biniau halen pwrpasol sydd yn y gymuned yn ddi-dâl o hyn ymlaen. Gofynnwyd am gael ailosod y golau solar yng Nglan y Wern. Mae’r Adran Goleuo Priffyrdd wedi addo y bydd golau newydd yn cyrraedd erbyn diwedd y mis hwn.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU TORRI GWAIR

CyngorGOHEBIAETHGwynedd

3. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leia unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc, Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Dyddiad cau: 24/2/22.

21

Agorir Llwybr Newydd Meirion yn Harlech ar gyfer 2022. Dywedodd y Cyng Gwynfor Owen, ‘mae hon yn fenter wych ar ran y Gymdeithas Ymwelwyr, ac mae o ddiddordeb i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Awdur y stori yw’r storïwraig leol enwog Mair Tomos Ifans ac mae ei sgiliau adrodd straeon yn siŵr o gipio’r gynulleidfa.’ Esboniodd Mr Graham Perch, Cadeirydd y Gymdeithas Ymwelwyr, sut mae’r stori yn gweithio: ‘Ymhell bell yn ôl, ymhell cyn i’r castell gael ei godi, roedd dyn yn byw yng Nghymru o’r enw Cuneddau ap Edern, neu Cuneddau Wledig. Roedd ganddo o leiaf wyth mab ac un ferch. Enw un o’r meibion oedd Meirion. Mae Meirion yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r MaeMabinogion.Cymdeithas Dwristiaeth Harlech bellach wedi cwblhau’r gwaith o greu Llwybr Meirion newydd, sef llwybr o amgylch y dref yn adrodd hanes Meirion a’r Dorch Aur. Gallwch ddilyn y llwybr a gwrando ar y stori wrth i frwydr Meirion a’r Morfeirch (ceffylau môr anferth) greu ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £22,000. CYNLLUNIO Estyniad llawr cyntaf uwchben y garej presennol yn ymgorffori balconi ar y drychiad blaen - Dros y Môr, 5 Bryn Eithin, Cilfor. Cefnogi’r cais hwn. Newid ffenestri a gwelliannau cyffredinol i’r edrychiad de - Neuadd Gymunedol Talsarnau. Y Cynghorwyr nad oedden nhw’n Aelodau o bwyllgor y neuadd gymunedol yn cefnogi’r cais hwn.

1. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio a gwneud gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD Mae HSBC yn codi £8.00 fel tâl am warchod cyfrif y Cyngor. Bu’r clerc yn cwestiynu hyn oherwydd ei bod o dan yr argraff mai £5.00 oedd tâl am warchod cyfrif elusennol. Roedd wedi cael eglurhad nad oedd cyfrif y Cyngor yn gymwys i fod yn gyfrif elusennol, felly ei fod wedi ei drosglwyddo i fod yn gyfrif busnes.

CEISIADAU

22 HARLECHCYNGORCYMUNED HARLECH

TORRI GWAIR Tendr 1. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol.

Tendr 2. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor.

Tendr 3. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Dyddiad cau 24.2.22.

Marwolaeth Cydymdeimlwn â theulu Siop Sgidiau, Harlech, ar farwolaeth Richard Powell Williams, mab annwyl y diweddar Richard a Nancy, ar 27 Rhagfyr 2021, yn Ysbyty Gwynedd yn ddim ond 55 mlwydd oed. Roedd yn dad ffeind i Arran a brawd hoff i Edgar. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Rehoboth, Harlech, ar ddydd Sadwrn, 8 Ionawr, gan ddilyn yn y Fynwent Newydd. Derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gapel Rehoboth trwy law’r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths, Tremadog. Dan anhwylder Bu Linda Evans, 38 Y Waun dan anhwylder yn ddiweddar. Mae hi’n weithgar yn y gymuned a dymunwn adferiad iechyd buan iawn iddi hi.

Marian GenedigaethThomas Llongyfarchiadau mawr iawn i Ryan ac Eirian, sydd yn byw yn Prescot, Lerpwl ar enedigaeth eu mab Theo Thomas John ar yr 20fed o fis Ionawr yn 6 pwys 10 owns. Hefyd, llongyfarchiadau cynnes i’r neiniau a’r teidiau, sef Huw (Tommy) ac Yvonne Jones, Tŷ Canol, ac Iona a John Forster, Y Waun, heb anghofio yn arbennig am hen nain Betty Evans, Maes Mihangel,yr Ynys. Dymuniadau gorau a llawer o gariad i’r teulu bach LLINELLSAMARIAIDifanc.GYMRAEG08081640123

ADRODDIAD Y TRYSORYDD Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi derbyn datganiadau banc yn dangos y costau banc am y mis diwethaf a bod HSBC yn codi £8.00 fel tâl am warchod cyfrif y Cyngor a’i bod wedi bod yn y banc yn cwestiynu hyn oherwydd ei bod dan yr argraff mai £5.00 oedd tâl am warchod cyfrif elusennol. Roedd wedi cael eglurhad nad yw cyfrif y Cyngor yn gymwys i fod yn gyfrif elusennol felly roedd wedi ei drosglwyddo i fod yn gyfrif busnes.

Caniatâd Adeilad Rhestredig am waith mewnol i gymhwyso newid defnydd y bwyty ar y llawr gwaelod o A3 (Gwerthiant bwyd) i C3 (Preswyl) - Y Plas, Stryd Fawr, Harlech. Gwrthwynebu’r cais cynllunio uchod oherwydd bod yr aelodau o’r farn na fu’r adeilad erioed yn dŷ, hefyd yn pryderu y bydd y dref yn colli busnes arall. Hefyd, roedd gan yr aelodau bryderon gan fod problem parcio yn bodoli yn y dref yn barod a bod yr adeilad mewn Ardal Gadwraeth. Codi estyniad unllawr ar yr ochr a gosod ffenestri to - Hiraethog, Stryd Fawr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Lleoli 4 pod glampio o fewn yr ardd gwrw gefn a defnydd o’r cyn adeilad selar/storfa i ddarparu cyfleusterau toiled/cawod - Lion Hotel, Harlech. Cefnogi’r cais hwn ond yr aelodau yn bryderus ynglŷn â pharcio y ceir ychwanegol, hefyd pryder ynglŷn â mynediad i’r podiau gan y gwasanaethau brys.

Marian Thomas

MATERION YN CODI Presept y Cyngor am 2022/23 Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £70,000. Arwyddion Tŷ Canol Nid oedd y cais a oedd wedi ei gyflwyno yn gyflawn oherwydd bod rhai pwyntiau heb eu cwblhau, ac nad oedd y cynlluniau o’r safon derbyniol. Cytunwyd bod y Cadeirydd yn cysylltu gyda Mr Richard John i ofyn iddo lunio cynlluniau, hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi gorfod rhoi hysbysiad dan erthygl 10 ‘cais am ganiatâd cynllunio’ yn y Cambrian News. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd rhan o’r bwyty ar y llawr gwaelod o A3 (Gwerthiant bwyd) i C3 (Preswyl) - Y Plas, Stryd Fawr, Harlech. Gwrthwynebu’r cais cynllunio uchod oherwydd bod yr aelodau o’r farn na fu’r adeilad erioed yn dŷ, hefyd yn pryderu y bydd y dref yn colli busnes arall. Hefyd, roedd pryderon am barcio yn y dref yn barod ac mae’r adeilad mewn Ardal Gadwraeth.

Pen blwydd arbennig Pen-blwydd hapus iawn i mam, mam yng nghyfraith, nain a hen nain arbennig gan Donna a Richard, Kevin a Gill, Karen a Geraint, Gavin, Erin, Rebecca, Kieran, Carrie a Cai, Dylan, Laila ac Olivia bach. xxxx Rhodd a diolch £10 Marian ‘Crossing’ yn 80 oed Diolch yn fawr iawn i bawb am yr holl anrhegion, blodau a’r cardiau a dderbynais ar fy mhen-blwydd arbennig ar Ionawr 25. Dathlais yr achlysur yng Nghaerdydd hefo fy nheulu Donna, Richard, Kevin a Gill ac mi ges i amser gwych.

Bethan Frances Jones Trist yw gorfod cofnodi marwolaeth

Hen Lyfrgell Harlech

Roedd Bethan yn ffyddlon iawn i’w theulu agos ac roedd wrth ei bodd yn ei chartref, Caerau, lle roedd ganddi hi a John olygfa wych o Fae Tremadog.Roedd yn Gymraes i’r carn ac yn gadarn iawn ei barn. Ymddiddorai yn yr hen dref ac roedd yn barod iawn i weithredu dros unrhyw Cynhaliwydanghyfiawnder.ygwasanaeth angladdol yng Nghapel Rehoboth a rhoddwyd hi i orffwys ym mynwent y capel.

Bethan Jones, Caerau, Harlech [Gorffwysfa gynt] a hithau yn 63 mlwydd oed. Roedd yn ferch i’r diweddar Evan a Betty Ellis Evans ac yn wraig ffyddlon a chariadus i John Sam. Roedd yn chwaer agos iawn a gofalgar i Sioned, yr ieuengaf o’r teulu ac hefyd yn chwaer feddylgar i Michael, Rhian, Gareth a’r diweddar Elspeth.

Llongyfarchiadau i Cara Wyn Rowlands, 12 Tŷ Canol ar ei phen-blwydd yn 21 oed. Dymuniadau gorau gan y teulu i gyd.

23

Mae cam olaf y gwaith adeiladu ar yr Hen Lyfrgell ar y gweill ac rydym yn cynllunio ar gyfer ‘Diwrnod Ail-agor’ ar 1 Mawrth 2022. Mae system gynhesu newydd wedi ei gosod diolch i grant gan dreth claddu sbwriel/Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae toiled sy’n briodol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn cael ei osod diolch i grant gan Sefydliad y ‘Clothworkers’. Mae deunydd newydd wedi ei osod ar y byrddau snwcer diolch i gyfraniadau gan Grŵp Snwcer yr Hen YnLyfrgell.olaf,mae’r gwaith o osod ramp i sicrhau mynediad i bobl gydag anableddau bron â’i gwblhau. Cofiwch ddod draw i’r Hen Lyfrgell ar 1 Mawrth – fyddwch chi ddim yn adnabod y lle!

Bu sawl cyfeiriad at Bellaport yn y Llais yn ddiweddar. O dro i dro clywir y cwestiwn o le daeth yr enw Bellaport ar fferm yn Nhal-y-bont, WrthArdudwy?ymchwilio ar wefan Papurau Newydd Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, gwelir nad yw’r enw’n ddieithr, yn Lloegr na Chymru. Daw i’r golwg ar sawl achlysur ond nid o dan newyddion Dyffryn a Thal-ybont yn unig. Mae cyfeiriad at Bellaport Hall yn Sir Amwythig yn 1869 pan briododd un o lysferched E F Coulson, perchennog Bellaport Hall a Gorsygedol, Dyffryn Ardudwy. Bu farw ei wraig, Elizabeth Ker, yn 1876. Roedd yn gyfnither iddo ac yn awdures dan yr enw Roxburghe YnLothian.1889, mae cofnod fod Edward Foster Coulson, a fu’n Uchel Siryf Meirionnydd, wedi marw yn Neuadd Gorsygedol, Dyffryn. Y sgutor oedd ei lysfab Hugh Ker Colville, Bellaport, Sir Amwythig. Ker Colville a ddaeth yn berchennog Gorsygedol wedyn. Pan oedd cais i ddefnyddio Bodlyn i roi dŵr i’r Bermo yn 1891 roedd yn gwrthwynebu’r datblygiad fel ‘tenant’ stad Gorsygedol. Yn y dystiolaeth yn ei erbyn nid oedd yn byw yn y Gors. Yn 1897, roedd Hugh yn byw yn Bellaport Hall yn ardal Market Drayton pan gafodd ei enwebu yn Siryf Sir Amwythig. Ymhen dwy flynedd ef a ddewiswyd. O’r adroddiadau mae’n glir fod y tir o gwmpas neuadd Bellaport yn dir hela Roeddnodedig.y fferm yno’n adnabyddus am fagu gwartheg byrgorn ac mewn hanes yn 1900 mae’n gwerthu byrgyrn mewn arwerthiant. Yn yr un sêl mae heffer winau o’r enw Lady Bellaport yn cael ei gwerthu a buwch winau, Bellaport Gwynne 3ydd.

Mae’r fferm – Bellaport Home Farm - yn dal i fynd a lle o’r enw Bellaport Lodge ond mae Bellaport Hall wedi ei chwalu yn y ganrif ddiwethaf. Hyd y gwelir nid yw enw Bellaport, Dyffryn yn ymddangos ar ffurflenni’r

BELLAPORTYrolygfaoBellaport,Tal-y-bont

Cyfrifiad tan 1871. Mae cofnod yn y papurau newydd fod Anthony Ellis yn ffermio yno yn 1870. Y gred yw mai cyn hynny yr oedd E F Coulson, y Gors wedi codi tŷ ar gyfer un o’i weithwyr – y garddwr neu’r bugaila’i alw’n Bellaport fel ei gartref yn Sir RoeddAmwythig.rhai yn ffafrio’r syniad mai enw Eidaleg oedd hwn am olygfa hardd wrth ddychmygu fod rhywun wedi dod allan o’r coed a gweld golygfa werth chweil o’u blaen. Cyn codi’r Bellaport newydd roedd tŷ ar y tir - Ffridd yr Ŵyn - ac mae ei olion yn dal yno hyd heddiw.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.