Llais ebrill 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 440 Ebrill 2015

A FYDD PONT BRIWET YN AGOR AR AMSER?

Pen-blwydd Hapus yn Llais Ardudwy

40 oed

Llais Ardudwy

Daeth y rhifyn cyntaf o ‘Llais Ardudwy’ o’r wasg yn Ebrill 1975. Gwelwyd newidiadau mawr yn yr ardal ers hynny. Roedd y rhifyn cyntaf hwnnw yn costio 7c, yr un pris â stamp, ac roedd rhai yn meddwl bod hynny’n ddrud! Roedden ni’n argraffu dros fil o gopïau ar y dechrau, ond mae’r cylchrediad ychydig dan 750 erbyn hyn. Er hynny, o ystyried yr amgylchiadau, yn arbennig y dirywiad ieithyddol yn yr ardal, credwn bod y gwerthiant yn dda. Diolch i’r llu ohonoch sy’n helpu yn y cefndir drwy anfon deunydd amrywiol atom ni. Mae’n dyled yn fawr i lu o bobl eraill hefyd - yn gludwyr, gwerthwyr, swyddogion a chyn-swyddogion. Ni fuasai’n bosibl i ni gynhyrchu’r papur heb eich cefnogaeth chi. Byddwn yn dathlu rhifyn 500 ymhen rhyw bum mlynedd. Rhaid fydd ystyried dull priodol o nodi’r garreg filltir honno!

GWOBR GWASANAETHAU

Cawsom sawl addewid am agor Pont Briwet. Y tro diwethaf a glywsom, addawyd y buasai’n agored ddiwedd Mehefin. Ond y mae sawl un o drigolion yr ardal yn dechrau amau hynny. Mae sawl si ar led na fydd y bont ar agor erbyn dechrau tymor yr haf. Amser a ddengys, wrth gwrs. Dymunwn bob rhwyddineb i’r gwaith - tybed a fydd cwmni Hochtief yn ein siomi ar yr ochr orau?

Mae sawl un yn bryderus hefyd am led y ffordd newydd o Landecwyn i Benrhyndeudraeth. A oes yna ddigon o le arni i ddwy lorri fawr basio ei gilydd yn rhwydd? Deallwn y gall ffyrdd amrywio yn eu lled, ond tybed a yw hon yn rhy gul a bod cyfle wedi’i golli i sicrhau bod cerbydau mawr yn gallu pasio ei gilydd yn ddidrafferth. Diau y byddwch yn barod i sgrifennu atom i fynegi eich barn - yn arbennig pobl sydd â gwybodaeth fanwl am briffyrdd ac ati.

Llongyfarchiadau i Anna Ashton, merch hynaf Harry ac Eira Byrdir, Harlech, ar ennill gwobr yn seremoni wobrwyo Cyngor Sir Gwynedd ar ei orau. Enillodd Anna ar y wobr Gwasanaethau, sef gwasanaethau o’r ansawdd gorau i’r cwsmeriaid. Mae rhagor o hanes Anna ar dudalen 11.

COLLI GERAINT GRUFFYDD

Mae rhagor o hanes Yr Athro Geraint Gruffydd ar dudalen 13.

Yn 86 oed, bu farw Yr Athro R Geraint Gruffydd, un o ysgolheigion amlycaf Cymru. Cafodd ei eni ar fferm Egryn, Tal-y-bont yn fab i Moses a Ceridwen Griffith. Roedd ganddo un chwaer, Meinir. Roedd yn gefnder i Glyn Edwards, Arfryn, Dyffryn Ardudwy. Symudodd y teulu i Gwmystwyth a Chapel Bangor. Daliodd dair swydd o bwys. Bu’n Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Llyfrgellydd Cenedlaethol ac yn Gyfarwyddwr amser llawn cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Yn 2014, cyflwynwyd Medal y Cymmrodorion iddo i gydnabod ei gyfraniad nodedig i ddysg ac ysgolheictod yng Nghymru. Gedy wraig, dau fab a merch.


HOLI HWN A’R LLALL

Llais Ardudwy GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mai 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Mai 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Iwan Morris Gwaith: Rheolwr Adeiladu a darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Abertawe. Ar fin ymddeol. Byw yng Nghaerdydd ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ond mae nghalon yn dal yn Ardudwy “efo’r grug a’r adar mân”. Cefndir: Wedi fy ngeni yn y Bermo. Bûm yn byw yn Afallon, Harlech. Roedd fy nhad, Reg Morris yn athro daearyddiaeth yn Ysgol Ardudwy. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded mynyddoedd a llwybr yr arfordir (wedi teithio rhyw gan milltir hyd yma, dim ond saith cant i fynd). Ambell gêm o golff, ond ddim llawer o siâp arna i. Yn bwriadu mynd i’r gampfa ar ôl ymddeol. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Hoff o ddarllen llyfrau hunangofiant, neu lyfrau ffeithiol. Newydd orffen un o lyfrau Tristan Jones am ei amser ar y môr. Yn honni ei fod wedi ei fagu a’i godi yn ardal y Bermo yn ei lyfr “A Steady Trade”, ond dwi’n ei amau rywsut. Pam na wnewch chi ei ddarllen a gweld a ydych yn cytuno? Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Yn hoff o raglenni am fywyd gwyllt a materion cyfoes. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dim felly, dwi’m yn gallu bwyta un darn o siocled heb orffen y cwbl lot. Hoff fwyd? Bwyd Indiaidd neu unrhyw fwyd o’r dwyrain pell. Cacennau Mam

ers talwm, yn enwedig cacennau cri. Doedd dim byd gwell na dod adre ar ddiwedd prynhawn ac ogla pobi teisennau mam yn llenwi’r tŷ. Hoff ddiod? Paned o de cryf, gan fy mod wedi arfer gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac ambell beint o gwrw. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Teulu a ffrindiau. Lle sydd orau gennych? Ar ben Moel Senigl mewn tywydd braf, yn edrych i lawr ar Forfa Harlech, Portmeirion, mynyddoedd Eryri a Phen Llŷn. Un arall o’m hoff lefydd yw Stadiwm y Mileniwm, yn gwylio Cymru’n trechu’r Saeson (fel Owain Glyndŵr gynt o furiau Castell Harlech). Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn hwylio arfordir Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal i Gibraltar. Cael profi gwahanol ddiwylliannau a gweld yr holl lefydd gwahanol. Beth fuasech chi’n ei wneud â £5000? Hoffwn gynnal parti mawr i aelodau Clwb Rygbi Harlech, ar ôl ennill y bencampwriaeth. Gobeithio na fyddaf yn gorfod aros yn rhy hir ar ôl llwyddiant y llynedd. Beth sy’n eich gwylltio? Rhai gwleidyddion diegwyddor, a dynion sy’n cam-drin plant, fel Jimmy Saville. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Teyrngarwch a mwynhau cwmni ein gilydd. Pwy yw eich arwr? Ernest Shackleton am ei ymroddiad, ei ddyfalbarhad a’i ddewrder. Cafodd ei long, yr ‘Endurance’, ei hamgylchynu gan rew a thorrodd yn ddarnau wrth deithio i Begwn y De. Llwyddodd i hwylio mewn cwch bach agored ugain troedfedd o hyd, o Ynys yr Eliffant yn yr Antarctig i Ynys De Georgia, rhyw 700 o filltiroedd i ffwrdd, lle y cafodd help i achub gweddill y criw. Roedd yn dipyn o gamp yn y cyfnod, o ystyried nad oedd ganddo lawer o offer i nodi’r cyfeiriad angenrheidiol,

a’r ffaith ei fod ym Môr y De, sef môr mwyaf tymhestlog y byd. Un arall o’m harwyr yw Nelson Mandela am ei arweiniad moesol a’i allu i faddau. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y diweddar Gwynfor Williams, Gwrach Ynys am ei waith diflino dros gymdeithasau’r ardal, a’i haelioni. Y diweddar Alun ‘Sbardun’ Huws (Penrhyndeudraeth), cyngymydog i mi yng Nghaerdydd, am ei ganeuon bythgofiadwy. Hefyd, unrhyw un sy’n fodlon rhoi ei amser a’i egni i hybu cymdeithasau a gweithgareddau’r ardal, boed yn glybiau chwaraeon, capeli, corau, cynghorau cymuned, papur bro ayyb. Buasai Ardudwy yn dipyn tlotach heb eu gwaith diflino. Beth yw eich bai mwyaf? Y tueddiad i fod yn fyrbwyll iawn - a diffyg amynedd! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Anghyfiawnder a thrais, yn enwedig yn enw crefydd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod yng nghwmni’r teulu a ffrindiau, yn hel atgofion. Eich hoff liw? Coch Cymru. Eich hoff flodyn? Rhosyn. Eich hoff fardd? Ceiriog sydd wedi rhoi cerddi clasurol inni fel cenedl, yn cynnwys ‘Nant Y Mynydd’, ‘Ar Hyd y Nos’, ‘Dafydd y Garreg Wen’ a ‘Difyrrwch Gwŷr Harlech’. Eich hoff gerddor? Ludovico Einaudi â’i waith i’r piano. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Seindorf Arian Harlech yn chwara ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’. Richie Thomas (Penmachno) yn canu ‘Hen Rebel fel Fi’. Pa dalent hoffech chi ei chael? Y gallu i fod yn gerddor o fri. Eich hoff ddywediad: ‘Chwerthin ydy’r ffisig gorau’ - mae’r dywediad yn dod â gwên i fy wyneb bob tro y byddaf yn ei glywed. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Tyfu’n hen ac amharchus ond yn hapus fy myd.

YN YR ARDD - Mis Ebrill Dyma’r amser prysuraf o safbwynt plannu. Plannwch eich prif gnwd o datws. Tynnwch y rhan fwyaf o’r egin oddi arnyn nhw gan adael ond rhyw ddau neu dri. Cofiwch roi digon o dail i’r tatws a throedfedd dda rhyngddyn nhw. Gallwch hau persli hefyd; mae rhai yn rhoi dŵr cynnes iawn ar yr hadau gan nad ydynt yn egino’n hawdd. Gallwch hefyd hau pys, moron a sawl llysieuyn arall. Yn y tŷ gwydr, mae’n amser hau tomatos a’r blodau blwyddol. Mae’r betys yn un o’r llysiau gorau y gallwch eu tyfu. Mae’r croen piws yn cynnws ‘betaine’, sydd, mae’n debyg, yn lleihau clefydau ar y galon a’r posibiliad o gael strôc. Mae’n cynnws magnesiwm a haearn, felly mae’n dda i’r gwaed. Mae betys yn hoff o bridd gyda draeniad da (er heb fod yn rhy sych), gyda gwres. Rhaid plannu pob betysen gyda tua 4”- 6” [10cm - 15cm] rhyngddyn nhw, er mwyn i’r planhigion gael dechrau da.

Moneto

Pablo

Detroit


Y BERMO A LLANABER GALW AM FANER CYMRU

Priodas Llongyfarchiadau i Richard a Carrie Jones a briodwyd yn y Bermo ar Mawrth 7. Mae Richard yn fab i Nicola Jones, Y Waun ac yn ŵyr i Nerys a Derek hefyd o’r Waun, Harlech. Pob dymuniad da iddynt. Babi newydd Croeso i Betsan, merch fach i Mathew a Sian ac wyres i Gareth ac Eurwen, Llys y Delyn. Mae’r teulu bach newydd symud i fyw i Benyffordd. Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 11 Mawrth cadeirydd y cyfarfod blynyddol oedd John Williams. Rhoddodd fraslun o weithgareddau’r tymor a theimlai ein bod wedi cael nosweithiau llwyddiannus a difyr. Diolch i’r swyddogion a’r aelodau am eu gwaith a’u presenoldeb. Aethpwyd ymlaen i ethol swyddogion at y flwyddyn nesaf. Dilynwyd hyn gan ychydig o frethyn cartref, cafwyd tasg gerddorol gan Llewela – roedd ganddi gasgliad o bump baswr a’r dasg oedd eu henwi. Roedd ‘na lawer iawn o grafu pen. Cawsom hefyd glywed hen Gôr Dolgellau. Yna, rhoddodd Les dipyn o hanes geneth o Lanfyllin, roeddem ninnau i ddyfalu pwy oedd? Wel neb llai nag Ann Griffiths, Dolwar Fach, ym mhlwyf Llanfihangelyng-Ngwynfa un o feirdd ac emynwyr pwysicaf Cymru. Diolchodd John am dwy eitem ddifyr iawn ac i Megan a Grace am baratoi’r paned.

Mae’n glasur! Beth yw clasur ? Oes gennych hoff lyfr Cymraeg yr ydych yn ystyried yn glasur? Os oes, mae ymgyrch yn mynd rhagddi ar hyn o bryd gan Lyfrgelloedd Cymru yn gofyn am enwebiadau a’r bwriad yw creu rhestr er mwyn annog eraill i’w darllen a’u mwynhau. Mae cyfle i ddarllenwyr leded Cymri enwebu llyfr - nofel neu gasgliad o straeon byrion -trwy alw yn eu llyfrgell neu siop lyfrau lleol neu e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru. org a hynny cyn 30ain Mai. Cynigir gwobrau i’r tri enwebiad gorau, sef pryd o fwyd mewn bwyty moethus yng Nghymru neu £50.00. Felly, os ydych newydd ddarllen llyfr rydych yn meddwl ei fod yn glasur cyfoes, neu os oes gennych ffefryn ers bore oes, galwch yn eich llyfrgell leol, ac enwebwch eich llyfr! Am wybodaeth bellach, cysylltwch â ni ar 01286 679463 neu llyfrgell@gwynedd.gov.uk

AR Y DRWYDDED YRRU TRWYDDED YRRU

Cafodd deiseb gyda bron i 7000 o enwau ei chyflwyno i David Cameron yn gwrthwynebu bwriad Llywodraeth San Steffan i ddangos Jac yr Undeb ar bob trwydded newydd yng Nghymru. Clywsom lawer yn dweud os oes baner i fod ar drwydded yng Nghymru, dylai fod yn un Gymreig. Mae yna drefniadau gwahanol yng Ngogledd Iwerddon lle bydd baner y Gymuned Ewropeaidd yn cael ei defnyddio. Beth yw eich barn chi?

Harbwr Bermo cyn i’r rheilffordd gael ei hadeiladu yn 1867

Derbyn medal Llongyfarchiadau i Arwel Rees sydd i dderbyn medal am ei wasanaeth clodwiw gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans dros 30 o flynyddoedd. Newyddion Cofiwch bod modd gadael newyddion efo David yn y Siop Gig.

Anfonwch eich hen luniau diddorol atom. [Gol.]

3


LLANFAIR A LLANDANWG John Aneurin Evans Yn sydyn, ar 22 Mawrth, bu farw John Aneurin Evans, Glan y Gors, Llandanwg, gynt o Faes yr Aelfor, Llanfair. Cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel Rehoboth, Harlech, ar ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, ac yna fe’i rhoddwyd i orffwys yn y fynwent newydd. “Y gwir am John, ’roedd o’n ddyn, oedd werth ei gael yn perthyn.” Cwpled gan Morris Evans, Dolbebin, ei frawd. Arweiniwyd y gwasanaeth gan Mrs Bethan Johnstone, a chymerwyd rhan gan Iwan, ŵyr John, Gwen Edwards, a Meinir Lewis wrth yr organ. Derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ymatebwyr Cyntaf Harlech. Yn ystod y gwasanaeth darllenwyd teyrnged Meurig Jones, Hendre Waelod, i’w gyfaill John gan Bethan Johnstone, fel a ganlyn: “Dyma geisio rhoi teyrnged deilwng i un o hen blant y Cwm, John Aneurin, yr ieuengaf ond un o 10 o blant John a Harriet Evans. Bu farw dwy o’i chwiorydd, Maggie ac Ann, yn ifanc toc wedi eu genedigaeth. Ganwyd John ar y fferm uchaf yng Nghwm Nantcol, yn dwyn yr un enw - Nantcol. Dyma drefn enwau’r brodyr a chwiorydd fel ym Meibl y teulu - Maggie, (Maggie), Rhinogwen, Mair, Ann, William, Lewis, Robat Prysor, Morris, John ac Iorwerth. Yn gynnar yn y 40au gwerthwyd y cartref Nantcol i’r Grants, ac aeth y teulu i lawr y Cwm i Gelli Bant i fyw, ond yn parhau i ddal eu gafael ar y tir yn Nantcol. Mae’n parhau felly hyd heddiw. Ifanc iawn oedd John pan symudwyd i Gelli Bant. Yno y ganwyd Iorwerth. Trafaeliodd eu tad o Gelli Bant yn ddyddiol am bum mlynedd i ffermio Nantcol. Ond nid oedd John yn rhy hoff o ucheldir Nantcol, a’i enwau megis Llechi Nantcol, Ffridd Foel a Bwlch yr Haul. Byddent yn troi defaid i bori ar y Rhinog. Ei dad yn eu gyrru i fyny gyda chi’n ddyddiol at Fwlch yr Haul. Ond cofio John yn dweud iddo yntau roi 60 o ddefaid ar y Rhinog un

4

tro, ond pan aethpwyd yno i’w casglu dim ond pump oedd ar ôl. Roedd y gweddill wedi ymlwybro yn ôl i’r gwaelodion. Gwerthwyd y darn hwnnw o’r mynydd i’r Cyngor Gwarchod Natur yn ddiweddarach. Wedi i hen lanc Glanrhaeadr, William Lewis, farw, sef dewyrth i’w dad, daeth cyfle iddynt symud i dŷ mwy o faint. Ond buan daeth dwy ergyd i ran y teulu. Boddwyd ei frawd hynaf yn afon Nantcol ar brynhawn Sul braf o Awst 1944. Yn fuan wedyn bu iddo golli ei dad hefyd. Yn eu holau i ben ucha’r Cwm yr aethant fel teulu a hynny i Faesygarnedd, a mam John, Harriet, yn gwerthu Glanrhaeadr i’n nhad, John Jones yr Hendre. Wedi i’w frawd Robert Prysor briodi a dechrau ffermio ym Maesygarnedd, bu i’w fam a 2 o’i frodyr, Morris ac Iorwerth, symud i’r Fron ger Dolbebin. Arhosodd John i weithio i’w frawd ym Maesygarnedd. Yr oedd y gweddill wedi ymgartrefu yn yr ardal. Llawer o symud o gwmpas, ond mewn cylch bychan iawn, ei filltir sgwâr, a’r teulu i gyd o gwmpas. Y tir a’r teulu oedd y pethau pwysicaf i John. Ysgol Nantcol oedd ei unig addysg o 5 oed tan yn 14 oed. Ffermio oedd ei fywyd ac amaethu yn ei waed, er ei fod wedi pasio i fynd i Ysgol Bermo. Ffermio oedd ei bethe. Yr oedd digon o hwyl yn perthyn iddo, ond yn un deddfol iawn a phendant hefyd. Mae stori am Gwynli, Ioro a John yn mynd o’r ysgol i hel cnau i Sarnau Geifr, ond pan oedd cloch yr ysgol yn canu, byddai John yn deud “Dowch o’na yn ein holau rŵan.” Yn laslanciau aeth yr un tri eto i Bermo ar nos Sadwrn i’r pictiwrs, pob un ar ei fotobeic. Ond wedi iddo gyfarfod â Gweneth, roedd rhaid mynd i Harlech wedyn, y tri ohonynt. Pictiwrs yn fan honno hefyd. Gwyddai’n gynnar mai Gweneth oedd ei gymar oes, ac ym mis Mawrth 1958 priodwyd y ddau. Gweneth yn ferch ffarm Maesyraelfor. Symud yno i ffermio, ac yn hapus iawn. Roedd yn ffarmwr wrth reddf ac yn un da a thaclus iawn.

Roedd wrth ei fodd yn mynd ag ŵyn i sêl Bryncir, mewn tryc bach o Gae Du, Harlech, yn ddiweddarach. Tu ôl i bob dyn da, mae yna ferch dda hefyd. Ganwyd iddynt ddau o blant sef Marian ac Emyr, ac yn ymfalchïo ynddynt, a’i wyrion, sef Siôn ac Iwan, plant Marian a’r diweddar Gareth, a Meirion, Meinir ac Alun, plant Emyr a Heulwen. A bellach yn hen daid i Elgan a Mared, plant bach Meinir a Gwynfor, ac Osian, hogyn bach Meirion ac Emma. Ac wrth gwrs, roedd wedi gwirioni efo hwy hefyd. Byddai wrth ei fodd yn mynd i fugeilio yn lle Emyr a gwarchod yr hen blant bach. Yn Glan y Gors yr oedd yn byw bellach ers blynyddoedd wedi iddo riteirio o ffermio, neu yn hytrach ffeirio dau le efo Emyr. Bob tro y gwelwn John ar y stryd yn Harlech, byddai’n deud “Tyrd acw am baned”, ac wrth gwrs byddai’r baned yn arwain at swper. Byddai croeso i’w gael yno bob amser. Galwais draw ar ddydd Iau wythnos yn ôl, ond roedd John wedi mynd i Gae Du i fugeilio. Gweneth yn sôn fel yr oedd hi wedi galw i weld Mrs Lloyd wedi’r brofedigaeth o golli ei gŵr Norman Lloyd ddau ddiwrnod ynghynt. Roedd fawr o feddwl y byddai hithau’n colli John ychydig ddyddiau ar ôl hynny. “Pa enaid ŵyr ben y daith,” medd yr hen eiriau. Dyna un arall o hen blant y Cwm wedi’n gadael. Mae’r lle’n llawer tlotach o hen gwmnïaeth, sgwrs a gwên.” Meurig Jones, Hendre Waelod. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Sally a Dev John a’r teulu, 30 Tŷ Canol, yn dilyn marwolaeth tad Sally, Mr Basil Jerram, yn 89 oed. Mi oedd Mr a Mrs Jerram wedi byw yn Llanfair ers blynyddoedd lawer. Pen-blwydd arbennig Pen-blwydd hapus i’r hogan fach yma sy’n dathlu pen-blwydd arbennig ar Ebrill 7. Pen-blwydd hapus iawn i ti oddi wrth Mam a Dad, Stephen, Oskar a’r teulu i gyd. Rhodd £10

Norman Lloyd Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 89 mlwydd oed, o Cuddfa, Llandanwg, bu farw Norman Lloyd, gŵr annwyl Eileen, llys-dad Helen a Stuart, Ivor ag Elana,a Gareth a Corina, taid i saith a hen daid i bump. Roedd Norman yn fab i Annie, Garth Bach, a chafodd yr un enw â’i dad, sef Norman Lloyd, yn wreiddiol o Lwyn Du, Llanaber. Symudodd o’r ardal i weithio pan yn weddol ifanc. Adeiladwr oedd o, a symudodd yn ôl i’r ardal yma i fyw ym 1995. Bu’n aelod o Gôr Meibion Ardudwy a Chantorion Enddwyn. Daeth llawer ohonom i’w nabod yn dda yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yn ddyn direidus iawn ac roedd ganddo wên fawr ar ei wyneb bob amser. Roedd hefyd â’r ddawn i wneud i bobl eraill wenu. Roedd ganddo galon fawr a phersonoliaeth fawr. Pan fyddai yn ennill un o wobrau Clwb 200 Côr Ardudwy, ni fyddai byth yn cymryd yr arian - ‘rhowch o at y Côr’ fyddai’n ei ddweud bob tro. Roedd ei ddiddordebau eraill yn ymwneud â byd natur. Roedd wrth ei fodd yn pysgota neu yn saethu hwyaid. Roedd o hefyd yn un da hefo’i ddwylo ac roedd ei weithdy yn werth ei weld, popeth yn ei le a graen ar bopeth a wnai. Roedd Norman yn aelod ffyddlon o Gapel Rehoboth a byddai hefyd yn fodlon cymryd y rhannau arweiniol mewn gwasanaethau. Mae gan lawer ohonom atgofion cynnes iawn amdano. Cydymdeimlwn yn arw iawn gydag Eileen a’r teulu yn eu colled fawr. Cyhoeddiadau Caersalem 2015 Am 2.15 oni nodir yn wahanol EBRILL 12 Bnr Marc Jon Williams 19 Y Fns Mair Penri Jones MAI 10 Bnr Rhys ab Owain 24 Y Fns Buddug Medi


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Ysgol Feithrin Bu hi’n fis go brysur ar blant Cylch Llanbedr. Gwisgodd pob un yn smart yn eu gwisgoedd Cymreig i ddathlu dydd Gŵyl Ddewi. Diolch i Helen a Heulwen am roi cyfle i’r plant gael paratoi a choginio cacen gri i ddathlu’r ŵyl. Dathlodd y plant Ddiwrnod y Llyfr drwy wisgo fel eu hoff gymeriad a mwynhau darllen straeon. Diolch i bwyllgor yr Ŵyr Gwrw am y cyfraniad ariannol er mwyn buddsoddi a gwella’r gornel ddarllen. Unwaith eto, cafodd y plant gyfle i wisgo dillad nos i’r Cylch i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Coginion nhw fisgedi a’u haddurno i edrych fel Pudsey. Cawson nhw lond trol o hwyl! Ar ddiwedd y mis aeth pawb ar drip i chwarae yn ‘Bendigedig’ ar ôl ennill cystadleuaeth dylunio poster. Salwch Bu Catherine Brown, Bryn Deiliog yn yr ysbyty ar ôl damwain gas; gobeithio ei bod yn gwella. Dymunwn adferiad buan hefyd i Mr William Booth ar ôl ei lawdriniaeth yn Ysbyty Maelor. Mudo Mae David Richards, Caergynog gynt, wedi symud yn ôl i Gaer; dymunwn yn dda iddo. Marw’n sydyn Brawychwyd yr ardal fore Sul 22 Mawrth o glywed am farwolaeth sydyn John A Evans, Glan y Gors, un o’n cyfoedion oedd yn Ysgol Nantcol gyda’n gilydd. Anfonwn ein cydymdeimlad â Gweneth a’r teulu yn eu profedigaeth. GJ

Genedigaeth Llongyfarchiadau i taid a nain yn Uwch Artro, sef Iddon a Joy Hall o Benbont ar enedigaeth wyres fach ym mis Chwefror, Eila Wyn, merch i Tom Iwan eu mab a’i bartner Serian Elizabeth i lawr yng Nghaerdydd. Marwolaeth Yn ddiweddar, bu farw, yn 92 oed, Mrs Gwenllian Bright, neu Gwen, Plas y Bryn. Fe aned Gwen ym Mhlas y Bryn, sef cartref y teulu, yn ferch i Tom a Kit Jones. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn ardal y Ffôr, lle’r oedd ganddynt fferm. Daeth y teulu yn ôl i Lanbedr pan oedd Gwen tua 8 oed, a’i chwaer Amy yn 6 oed. Penodwyd ei mam yn Nyrs Ardal ac roedd canmoliaeth fawr iddi am ei gofal a’i charedigrwydd tuag at y cleifion, a byddai’n barod i weld rhai yn y cartref Mona. Cofion amdani yn mynd o gwmpas ar ei beic. Mynychodd Gwen Ysgol Gynradd y pentref, ac Ysgol Ramadeg y Bermo, ac yn ei blaen i weithio yn Swyddfa’r Sir yn Nolgellau. Symudodd i fyw i Landrillo-ynRhos a byddai wrth ei bodd yn derbyn Llais Ardudwy, gan ei chyfnither Audrey. Bu farw yn ei chwsg, a chynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Bae Colwyn. Cydymdeimlwn â’i hunig fab Peter, ei chwaer Amy a’r perthnasau eraill. Meibion Ardudwy Bydd y Côr Meibion yn croesawu Côr Merched Leelo o Estonia i’r ardal hon ddiwedd mis Mehefin. Mwy o fanylion y tro nesaf.

Teulu Artro Cynhaliwyd ein cyfarfod brynhawn Mawrth y 3ydd ac fe gawsom dreulio prynhawn Dydd Gŵyl Ddewi yn yr ysgol. Croesawyd ni’n gynnes gan y Brifathrawes a’r plant yn cynrychioli’r traddodiad Cymreig drwy wisgo lliwiau a chennin Pedr a oedd yn addas iawn i’r diwrnod arbennig. Cawsom wahanol eitemau gan y plant a’r plant lleiaf yn canu nerth eu pennau. Cafwyd boddhad mawr wrth wylio’r dawnsio gwerin a chreadigol a oedd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, a hefyd cawsom glywed unigolion a oedd yn cystadlu ar wahanol bynciau. Rhoddwyd y diolchiadau gan Gretta Benn a phawb o’r Teulu wedi mwynhau’r prynhawn yn fawr. Cyhoeddiadau’r Sul Capel Salem EBRILL 19 Parch Dewi Tudur Lewis MAI 17 Parch Dewi Tudur Lewis MEHEFIN 14 Parch Tecwyn Ifan * * * Am 2.00 o’r gloch y prynhawn EBRILL 12 Capel Nantcol, Parch Huw Dylan Jones 19 Capel y Ddôl, Nesta Wyn Jones 26 Capel y Ddôl, Parch Dafydd Andrew Jones

CYFARFOD PREGETHU yn Salem, Cefncymerau (Trwy ganiatâd caredig) Nos Wener, Mai 22ain am 7:00. PREGETHWR: Y Parch R O Roberts Morfa Nefyn TREFNIR GAN EGLWYS EFENGYLAIDD ARDUDWY

Profedigaeth Bu farw Elwyn Jones, Salem gynt, yng Nghartref y Pines, Cricieth, ar 1 Mawrth yn 86 oed. Cydymdeimlwn â’i chwiorydd Beti a Rhiannon a’r teulu yn eu profedigaeth. Eisiau gwaith yn Llanbedr? 1. Mae arnom angen glanhawr i lanhau Neuadd Bentref Llanbedr unwaith yr wythnos. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gydag Iolyn Jones neu Morfudd Lloyd. 2. Tendro am waith torri gwair ym Mynwent Eglwys Sant Pedr. Mae angen ei thorri’n fisol. Tendr am bob toriad, os gwelwch yn dda. 3. Mae angen tendr hefyd am ofalu am lwybrau cyhoeddus y plwyf, yn bennaf y rhai o amgylch y pentref. Mae rhestr llwybrau ac oriau ar gael gan y Clerc. Tendro fesul pris yr awr. Dyddiad cau ar gyfer y rhain ydy 30 o Ebrill.

Plant Ysgol Cwm Nantcol tua 1895

Diolch i Miss Mary Williams, Cynefin, Talybont, am y llun cyntaf, mae’n debyg, o blant Ysgol Nantcol a agorwyd ym 1895. Yn ôl cyfrifiad 1891 roedd teulu Mary yn byw yn Twllnant, ei mam Mary Anne yn 3 oed, felly roedd yn 7 oed pan agorwyd yr ysgol. Hi yw’r drydedd o’r chwith yn y rhes flaen. Roedd hi’n nain Caer Elwan i John Lloyd, Elizabeth a Geraint. Oes gan ddarllenwyr y Llais fwy o wybodaeth am y plant am y llun?

5


Y llythyr gan Merêd: Cwmystwyth, Aberystwyth

Cysylltiad Merêd ag Ardudwy

Diolch i Margaret Darling am y rhodd o £10 i’r Llais, a hefyd am rannu’r llythyr a dderbyniodd oddi wrth Meredydd Evans gyda ni. Yng ngeiriau Margaret: “Yn dilyn y rhaglen Merêd ar S4C, ysgrifennais ato gyda chofion am yr amser roedd ef a’i deulu’n byw yn Harlech. Mewn dim amser cefais lythyr ganddo yn ei lawysgrifen fel y gwelsom ar y rhaglen gyda phen ag inc du. Ysgrifennu yn ei ddyddiadur oedd yn lle ysgrifennu ei hunangofiant. Mae Merêd wedi ein gadael erbyn hyn ac roeddwn mor falch fy mod wedi cael y cysylltiad pwysig yma. Rwy’n amgáu copi o’r llythyr am ei fod yn dangos ei gariad tuag at Harlech a’i phobol. Llawer un wedi ein gadael erbyn hyn hefyd. Cofion gorau i’r Llais. Diolch i Menna am ei rhodd o’r Llais bob blwyddyn ac i Gweneira am ei anfon yn gyson bob mis. Cofion fil, Margaret Darling.” Rhodd £10

Clwb 200 Côr Ardudwy Mis Mawrth 2015 1 [£30] Gwen Edwards 2 [£15] Efan Anwyl 3 [£7.50] Elliw Nantcol 4 [£7.50] Sian Ephraim 5 [£7.50] Iorwerth Davies 6 [£7.50] Richard Morgan

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

6

Annwyl Margaret Diolch o waelod calon am lythyr mor hyfryd. Fe’i trysorwn fel teulu. Daeth â llu o atgofion melys yn ei sgîl. Yn Harlech y priodasom - yn benodol, yn hen Eglwys Elis Wyn, Y Bardd Cwsg, yn Llanfair, hynny yn 1948. Bu pobl Harlech yn hynod o groesawgar inni ac ni chawsom erioed, gydol y daith hyd yma, gymdogion agosach na theulu Martha: Misus Lloyd, Tom Lloyd a’r plant i gyd - halen y ddaear. Yna, cyfeillion fel eich tad, Ifan a hogia’r tîm pêl-droed; hogia’r band hefyd, a’u harweinydd, a wnaeth wisg raenus dros ben i mi! Pan roeddwn i yn y Coleg, yn Harlech yr oeddem yn byw. Dyna braf oedd cael ein derbyn fel ‘rhai o bobl y lle’. Gyda llaw, mi fyddwn yn cael sgyrsiau cyson hefo Ifan pan aeth i ofalu am y Clwb Golff a hefo John y gyrrwr tacsi - yn eu cwarfod yn aml gan fod eu mannau gwaith mor agos i’r Coleg. Lle cyfeillgar fel yna oedd yr Harlech a adwaenem ni. A’r ‘nosweithiau llawen’ yn yr hen sinema. Ac i feddwl ein bod wedi cael rhannu llwyfan hefo chi ac Ifan. Dyddiau difyr. Cyffyrddwyd â mi’n ddwys gan eich cyfeiriad at Miss Edwards. Bu’n athrawes Ysgol ac Ysgol Sul am sbelan hir arnaf ac roeddwn yn hoff ohoni. Bob amser yn deg hefo ni’r plant, a chofiaf yn dda bicio i’w gweld ym Mryn Llewelyn. Rwy’n dal mewn cysylltiad â gornith iddi. Wel, bendith arnoch am godi calonnau dau hen begor fel Phyllis a minnau. Luned yn gofalu’n dyner amdanom ac yn ymuno â’r ddau ohonom wrth anfon atoch ein dymuniadau gorau a’n cofion cynhesa. Merêd

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Yr Elor Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Mr Elfed Roberts unwaith yn rhagor ynglŷn â’r mater yma. Torri gwair Penderfynwyd gofyn i Mr Arwel Thomas, Tŷ Tryfar, Harlech am bris i dorri gwair y fynwent am y flwyddyn i ddod ac adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn pris gan Mr Meirion Griffiths, Islwyn, Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus eto eleni. Cytunwyd i dderbyn y pris hwn. Cais Cynllunio Trosi adeilad allanol yn anecs - Llanfair Uchaf Cefnogi’r cais hwn, ond angen holi a yw’r adeilad yn rhestredig. Ceisiadau am gymorth ariannol Eisteddfod Ardudwy - £50.00 CFfI Meirionnydd - £50.00 Y Blaid Lafur Derbyniwyd e-bost ar ran Mary Griffiths Clarke, ymgeisydd Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai, yn gofyn a fyddai yn bosib iddi ddod i annerch yr aelodau. Cytunwyd yn unfrydol i wrthod y cais hwn oherwydd nid oedd yr aelodau’n teimlo ei bod yn deg bod un ymgeisydd yn dod i’r Cyngor. UNRHYW FATER ARALL * Mae llawer o faw cŵn o amgylch y maes a chytunwyd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn. * Cytunwyd i archebu llyfr hanes teulu mynwent Llanfair. * Mae angen ysgrifennu at Ms Liz Haynes i dynnu ei sylw at y ffaith fod y gamfa ar gyfer tŷ Llanfair Isa sy’n mynd drosodd i’r hwylfa wedi malu. * Mae angen darparu ar gyfer pobl gydag anableddau sydd am fynd i’r fynwent gan ei bod yn anodd i gadair olwyn fynd dros y gris.

Coleg yn Cynnig Cymorth Ariannol Bydd modd i ddarpar fyfyrwyr ymgeisio am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £1,500 cyn 8 Mai 2015. Bwriad yr ysgoloriaethau yw cynnig cymorth ariannol i ddisgyblion sy’n dymuno astudio o leiaf 33% o’u cwrs trwy’r Gymraeg. Mae o leiaf 150 o’r ysgoloriaethau hyn ar gael a bydd rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais cyn 8 Mai. Bydd modd i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio cyrsiau ym meysydd gwyddoniaeth, mathemateg, daearyddiaeth, y gyfraith, ieithoedd modern, amaeth, seicoleg chwaraeon, busnes, meddygaeth ac athroniaeth wneud cais am yr arian. Yn ôl Llio Fflur Davies, dderbyniodd Ysgoloriaeth Cymhelliant y llynedd ac sydd bellach yn astudio Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Bangor: “Heb amheuaeth mi fuaswn i’n annog darpar fyfyrwyr i fynd ati i wneud cais am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant. Nes i benderfynu cyflwyno cais funud olaf ac roeddwn mor falch o glywed mod i wedi llwyddo. Mae’r broses o wneud cais yn syml a gall ysgoloriaeth gan y Coleg fod o fudd mawr yn ystod cyfnod yn y Brifysgol felly ewch amdani!” Mae rhagor o wybodaeth a phecyn ymgeisio llawn ar www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr

Gwasanaeth Pasg yng nghwmni Geraint a Nerys Roberts ac Alwena Morgan Pnawn Sul, Ebrill 19 am 2.00 o’r gloch

yn Engedi (Berw Goch) Croeso cynnes i bawb

Y Lasynys - dewch draw

Os ydych yn chwilio am rhywle i fynd eich hun - neu i fynd â’r plantos - dros y Pasg yma. Rhwng un o’r gloch y prynhawn a 4.00, bydd cyfle i’r plantos llai (a phobl fawr o bosib) chwilio am wyau Pasg o amgylch y gerddi a’r tŷ. Hefyd, bydd cyfle i weld yr arddangosfa o waith celf plant ysgolion lleol a fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth yn ddiweddar i ddylunio golygfa o lyfr Ellis Wynne. Ffoniwch 01766 781395 am fwy o fanylion.


Fferm Ffactor Teulu

STORFA CANOLBARTH CYMRU www.midwalesremovals.co.uk STORFA CARTREF A BUSNES

Mis Mawrth tan fis Hydref

Ystafelloedd storio ar gyfer eich anghenion Monitro diogelwch 24 awr - wedi’i wresogi Siop ar lein: www.boxshopsupplies.co.uk Ffôn: 01654 703592 Heol y Doll, Machynlleth, Powys SY20 8BQ

Sêl Cist Car

Clwb Chwaraeon Porthmadog

Dydd Sul 8 tan 1 £6 y car Ymholiadau - 01766 128667

Llais Ardudwy yn ddigidol Mae’n ddiwedd y flwyddyn ariannol ac yn amser adnewyddu’r taliad am y Llais digidol [electronig] Dylid anfon siec am £5.50 yn daladwy i Llais Ardudwy at:

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf Harlech LL46 2SS

Os ydych wedi talu am fwy na blwyddyn, anwybyddwch hwn! Gallwch archebu o’r newydd hefyd!

Ai chi fydd y teulu cyntaf i fod yn bencampwyr Fferm Ffactor – Teulu? Eleni, am y tro cyntaf erioed, bydd cyfle i’r teulu gystadlu am y teitl a’r brif wobr o gerbyd 4 x 4! Rydym yn chwilio am deuluoedd o bedwar aelod (dros 17 oed) fydd yn cystadlu â theulu arall yn wythnosol - nes yn y diwedd coroni un teulu gyda’r wobr a theitl Fferm Ffactor - Teulu 2015! Os ydy’ch teulu chi am ymgeisio i gystadlu yn Fferm Ffactor Teulu, neu am enwebu teulu arall, yna ffoniwch Cwmni Da ar 01286 685300, e-bostiwch fferm. ffactor@cwmnida.tv neu mae ffurflen gais ar gael ar www.s4c. cymru/ffermffactor/, Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr ydy 5 Mai 2015, a bydd Cwmni Da yn ffilmio’r gyfres dros yr haf. Edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan, Tîm Fferm Ffactor - Teulu

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen, Horeb Cynhaliwyd cyfarfod ola’r tymor nos Iau, 12 Mawrth. Croesawyd pawb gan Gwennie a diolchodd am y gefnogaeth ardderchog drwy’r tymor ac i bawb am eu gwaith, yn enwedig yr ysgrifennydd, Enid, er sicrhau tymor llwyddiannus arall. Wedi gwledda ar gawl a phwdinau croesawodd Meinir, llywydd y noson, Treflyn ac Ann Jones o Borthmadog atom i’n diddanu. Ann yw pennaeth Ysgol Gynradd Dyffryn ac arweinydd côr merched lleol Cana-mi-gei a Threflyn yn athro yn Llangybi. Pleser oedd gwrando ar lais bariton hyfryd Treflyn ac Ann yn cyfeilio’n ddeheuig iawn iddo. Cyflwynodd Treflyn y caneuon yn gartrefol a diddorol. Daeth yn ail ar yr unawd bariton yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli’r llynedd. Ymlaen i Feifod eleni! Diolchwyd yn gynnes iawn i Treflyn ac Ann gan Meinir am roi clo arbennig i dymor llwyddiannus o’r Festri Lawen. Adre’n ôl Croeso adre’n ôl o Melbourne, Awstralia, i Gareth ac Anwen, Glanffrwd, ar ôl bod yn ymweld â’u merch Ceri. Tra’n cael saib ym maes awyr Perth, daeth Mervyn a Jane Lewis, Cadwgan gynt i’w cyfarfod a threuliwyd teirawr yn eu cwnni. Ddechrau Ebrill, bydd Einion a Rhian, Y Garej yn teithio i Awstralia i briodas mab Mai, merch y diweddar Mr a Mrs Stanley Jones. Ewch â’n cofion at Mai a’r teulu. Gwella Roeddem yn falch o glywed fod Miss Catrin Evans, Pentre Ucha wedi cael dod adre o’r ysbyty ac yn gwella. Cofion atoch. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Elain, merch fach Craig a Suzanne, Wendon, a fu yn Ysbyty Gwynedd, ond sydd gartref erbyn hyn ac yn gwella. Rhodd £10 gan Mrs Jane Jones, Byngalo Berwyn i ddiolch am yr erthygl am ei thad yn rhifyn mis Chwefror.

8

Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd Cynhaliwyd y Cyfarfod Gweddi bnawn Gwener, 6 Mawrth, yn festri Horeb. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan Chwiorydd Cristnogol y Bahamas. Cymerodd ugain o ferched ran ac roedd naws hyfryd iawn i’r cyfarfod. Gwnaed casgliad o £48.50. Yn dilyn mwynhawyd sgwrs uwch paned a chacen. Diolch am eich cefnogaeth a’ch parodrwydd i gymryd rhan eto eleni. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 18 Mawrth. Croesawyd pawb gan Gwennie ac anfonodd ein cofion at Mrs Gretta Cartwright, Miss Lilian Edwards a Mrs Beti Parry oedd ddim yn teimlo’n ddigon da i fod hefo ni. Cydymdeimlodd â Mrs Meinir Lewis yn ei phrofedigaeth o golli chwaer yng nghyfraith. Fel arfer ym mis Mawrth daeth plant o’r ysgol gynradd atom i ddathlu Gŵyl Ddewi. Croesawyd y plant, Mrs Ann Jones, Mrs Rhian Williams, ac Anti Ffion atom. Cafwyd pnawn bendigedig yn eu cwmni. Roedd nifer o’r plant hynaf yn adrodd hanes Dewi Sant a pharti o’r plant ieuengaf yn canu nifer o ganeuon yn arbennig o dda a phawb wedi gwirioni hefo nhw. Diolchwyd yn gynnes iawn i’r plant a’u hathrawon gan Mrs Enid Owen am bnawn cofiadwy. Cafodd y plant ddiod a bisgedi cyn mynd yn ôl i’r ysgol. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Mrs Cartwright, Miss Edwards a Mrs Elizabeth Jones. Ar Ebrill 15fed bydd Annette Evans o’r Ynys yn dod atom i ddangos ei gwaith gwydr. Diolch Llawer o ddiolch i bawb am yr holl gardiau ac anrhegion caredig a dderbyniais ar achlysur fy mhen-blwydd arbennig yn ddiweddar - diolch yn fawr. Anwen, Glanffrwd £5

Trem yn ôl

Parti canu buddugol Miss Anita Griffiths yn Eisteddfod yr Urdd, Wrecsam, yn 1950. O’r chwith i’r dde: Dilys Roberts, Blodwen Francis, Eirian Roberts, Audrey Hughes, Miss Griffiths, Rhiannon Roberts, Jean P Jones, Mai Griffiths a Jane Jones.

Parti cerdd dant y diweddar O T Morris a gafodd y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Rhyl (1953?) Rhes gefn, o’r chwith i’r dde: Dilys Roberts, Rhiannon Roberts, Agnes Roberts, O T Morris, Pat Hughes, Joan Price (Bermo). Yn y canol: Alice Jones, Blodwen Francis, Catrin Edwards. Rhes flaen: Gwyneth Jones, Einir Evans, Elwen Evans, Blodwen Jones. Clwb Cinio Bydd y Clwb Cinio yn cyfarfod yn nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn am 12.00 dydd Mawrth, Ebrill 21 am ginio. Yna byddwn yn symud ymlaen i Eglwys Llanycil i ymweld â Chanolfan Mari Jones.

Llais Ardudwy Gallwch ddarllen y papur hwn ar e-bost mewn lliw llawn

Anfonwch at: pmostert56@gmail.com [£5.50 y flwyddyn]

Geidiau Dyffryn O’r chwith i’r dde: Haf Jones, Audrey Hughes, Blodwen Jones, Anona Lloyd Jones a Dilys Roberts.


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Y Gŵr o Faeldref Edward Morgan Humphreys 1882- 1955 Ganed ef yn y Faeldref, Dyffryn Ardudwy, 14 Mai, 1882, yr hynaf o feibion John ac Elizabeth Humphreys. Ganed ei dad yn Ystumgwern, ac yr oedd o’r un llinach â’r Cyrnol John Jones (1597-1660), y milwr a’r gwleidydd, o Faesygarnedd, Ardudwy. Yr oedd Elizabeth, ei fam, yn nith i Edward Morgan (1817-71), Dyffryn, ac yn gyfnither i Richard Humphreys Morgan (1850-99), GYNT o Luesty, Dyffryn Ardudwy, arloeswr llaw-fer yn y Gymraeg. Addysgwyd i ddechrau yn Ysgol y Dyffryn, ac yna yn Ysgolion Sir y Bermo a Phorthmadog. Rhoddodd ei fryd ar fod yn gyfreithiwr gan gychwyn ar ei yrfa ym Mhorthmadog. Ond nid oedd ei iechyd yn gryf iawn ac oherwydd hynny dychwelodd adref i fferm ei dad, y Faeldref. Bu i effaith môr a mynydd y cylch o’i amgylch lle y’i ganed iddo droi yn ifanc at ddarllen a myfyrio. Yr oedd digon o lyfrau

AR WERTH

2 Wely Bync 3 troedfedd o led Cysylltwch â: 01341 247258

yn ei gartref, a darllenai hwy i gyd. Yr adeg hynny byddai yn anodd taro ar neb oedd mor gynefin ag ef â llenyddiaeth Lloegr. Symudodd y teulu i Lerpwl a dechreuodd ysgrifennu i’r wasg Saesneg, a bu’n ohebydd am gyfnod byr i un o bapurau newydd Runcorn. Yn 1904 ymunodd fel gohebydd â’r Barmouth Advertiser, a’r flwyddyn ganlynol pan oedd cyfarfodydd Evan Roberts y Diwygiwr (1875-1951) yn tanio’r wlad, ysgrifennodd eu hanes i’r Liverpool Courier a’r Genedl Gymreig. Daeth yn olynydd i William Eames fel golygydd y North Wales Observer ac yna Y Genedl am amryw o flynyddoedd dan y ffugenw Celt, ac yr oedd yn cael ei ystyried yn un o newyddiadurwyr coethaf ei gyfnod. Bu am ddau gyfnod yn olygydd Y Goleuad, y tro cyntaf yn 1914. Yn 1908 priododd Annie, merch y Parchedig E J Evans, gweinidog Capel Presbyteraidd Cymraeg Walton Park, Lerpwl. Dyna rai o brif ddigwyddiadau ei fywyd, rhai oedd yn dangos llwyddiant mawr mewn amser byr, eto nid ydynt yn rhoi syniad am y dyn ei hun na’i wasanaeth clodwiw. Yr oedd iddo ddawn loyw a phwyll nodedig yn ei ymwneud â’r Genedl a’r Observer. Dyma Gymro rhydd, balch o bethau gorau ei wlad. Dywedai ei farn bob amser yn groyw a bonheddig, a gweithiai yn ddygn a threfnus. Enillodd ei adolygiadau ar lyfrau yn Y Genedl ymddiried awduron a darllenwyr ei ddydd, oherwydd iddynt fod mor graff a theg. Enillodd gyfeillgarwch rhai o wŷr blaenaf y genedl gan gynnwys D Lloyd George ac R T Jenkins. Yn ei nodiadau O Ddydd i Ddydd, cafwyd sylwadau byw ar ddigwyddiadau’r wythnos, ysbryd direidi iach, hoffter

mawr at natur, a chraffter un yn gweld ochrau difrif a digrif bywyd a chymeriadau dynion. Ysgrifennodd lawer o erthyglau rhagorol i’r Traethodydd, Y Drysorfa, Cymru, Y Beirniad, The Socialist Review, a’r papur dyddiol Saesneg, ar faterion llenyddol a chymdeithasol. Yr oedd yn un o’r awduron Cymraeg cyntaf i sylweddoli’r angen am ddefnydd darllen cyfaddas i bobl ifanc yn Gymraeg, fel y dangoswyd yn ei gasgliad o straeon Dirgelwch yr Anialwch ac Ystraeon Eraill, a gyhoeddwyd yn 1911. Ymysg ei weithiau eraill y mae Cymru a’r Wasg (1924), Dirgelwch Gallt y Ffrwd, Ceulan y Llyn Du, a’i gyfieithiad o Cwm Eithin gan Huw Evans (1854-1934). Er mai llyfrau a llên fu ei bethau erioed, ac mai yn nwndwr swyddfa papur newydd y treuliodd ei ddyddiau, yr oedd manyldeb gwelediad y gwladwr yn amlwg yn ei frawddegau, a’r rheini yn aml yn troi’n farddoniaeth tan ei ddwylo, hyd yn oed yn Saesneg. “The summer passes with muffled drums and sombre banners,” meddai yn y 1930au wrth ddechrau nodyn yn y Liverpool Daily Post. “The man’s a poet,” meddai rhyw ohebydd, wrth gyfeirio at y sylw hwnnw dridiau wedyn. Yng nghanol llafur swyddfa brysur, daeth yn un o’r beirniaid llenyddol sicraf

yng Nghymru yn ei ddydd. Yr oedd yn ieithwr da, ac yn un o’r ychydig iawn yn y wlad hon oedd yn gyfarwydd ag iaith a llenyddiaeth Sbaen. Bu â rhan flaenllaw ym mywyd llenyddol a chrefyddol tref Caernarfon, yn aelod yn Engedi (MC) yno. Meddai un o’i adnabod wrtha’i ychydig wedi ei farw, 11 Mehefin, 1955, yng Nghaernarfon: “Cofiaf amdano yn y 1930au fel gŵr talgryf, pwyllog ei gerddediad, ac mewn plus-fours rhan amlaf. Pe bai chwi yn cyfarfod â’i ddwylath hoyw ar un o lethrau Ardudwy, a gwn o dan ei gesail a chorgi wrth ei sawdl, byddech yn siŵr o ddweud, “Dyna ddyn yn ei gynefin.” ac nid syndod i chwi fyddai clywed mai’r Faeldref, lle y teyrnasai ei hen daid gynt, sef y Parchedig Richard Humphreys, Dyffryn, oedd man ei febyd.” W Arvon Roberts, Pwllheli Cyhoeddiadau’r Sul Horeb EBRILL 12 Huw a Rhian Jones 19 Mrs Mair Penri Jones 26 Parch Gareth Rowlands MAI 3 Anwen Williams

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 9


HARLECH

Ysgol Tanycastell 1973, B5 Cywiro’r Camgymeriadau

Sefydliad y Merched

Diolch i nifer o’n darllenwyr am ymateb i’r llun uchod a chynnig cywiriadau. Ymddiheurwn am y camgymeriadau hynny. Mae’n bleser cyhoeddi rhestr gywir o’r enwau isod. Rhes gefn: Peter Smith, Stephen Jones, Alan Thomas, Eurwyn Owen, Andrew Jones, Kelvin Jones, Michael Wearne, Andy Unwin, Steff Parry, Robert Rees, Malcolm Brown, Mr Carroll Hughes. Rhes ganol: Ian Morgan, John Nelson, Carys John, Annest Thomas, Ann Highley, Julie Jones, Alison Harvey, Sharon Hughes, Susan Richards, Gwyn Jones, David Oakely, Robert Newing. Rhes blaen: Eirona Jones, Janet Jones, Karin Williams, Eirian Williams, Gwen Owen, Aelwen Roberts, Cathryn Allen.

Merched y Wawr, Harlech a Llanfair

Merched y Wawr Llanfair a Harlech Daeth yr aelodau ynghyd i Fwyty’r Ship yn Nhalsarnau i ddathlu Gŵyl Ddewi. Mwynhawyd cinio blasus iawn gan y staff. Y côr merched lleol Cana-mi-gei a ffurfiwyd yn 2010 ddaeth i roddi adloniant. Cafwyd amrywiaeth o ganeuon gan griw da o’r côr o dan arweiniad Mrs Ann Jones, hithau hefyd oedd yn cyflwyno’r caneuon, a Mrs Elin Williams oedd y cyfeilydd. Dymunwn yn dda i’r côr fydd yn cystadlu mewn cystadleuaeth gorawl yng Nghaer cyn bo hir.

Croesawodd y llywydd Christine Helmsley yr aelodau ac aelodau o ganghennau eraill yn yr ardal, a rhoddodd groeso arbennig i Lywydd y Ffederasiwn, Mrs Meinir Lloyd Jones. Roedd pawb wedi dod atom i Harlech ar nos Fercher, 11 Mawrth 2015 i ddathlu ein noson Gymreig. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd, a dymunwyd gwellhad buan i rai oedd yn sâl. Yr oedd parti arbennig i aelodau’r Sefydliad wedi ei drefnu ym Mhalas Buckingham, Llundain, ar ddydd Mawrth, 2 Mehefin 2015. Os oes gan unrhyw aelod ddiddordeb dylid cysylltu â Christine Helmsley cyn gynted â phosib. Bydd cyfarfod y gwanwyn yn cael ei gynnal yn Aberdyfi ar 28 Ebrill. Ar ôl trafod y busnes yr oedd y noson yng ngofal Myfanwy Jones a’i ffrindiau, gan gynnwys rhai’n canu ac eraill yn canu gwahanol offerynnau. Roedd yn noson o edrych yn ôl fel yr oedd hi flynyddoedd yn ôl pan oedd pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gynnal adloniant. Cafwyd

YARIS

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

10 10 A

noson wych iawn ac yr oedd pawb yn gweld fod Myfanwy wedi gwneud gwaith arbennig i drefnu noson fythgofiadwy fel hon. Diolch hefyd i Sheila Maxwell am gyfieithu a dweud wrth bawb beth oedd ystyr pob cân. Diolchwyd i bawb gan Edwina Evans. Ar ôl y cyngerdd cafwyd lluniaeth wedi ei drefnu gan y Pwyllgor ac aelodau o Sefydliad y Merched Harlech. Yr oedd llawer o rafflau wedi eu hennill gan y gwahanol ganghennau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher 8 Ebrill a Sioned o Gwmni Seren sy’n dod atom i sôn am ailgylchu. Croeso i ymwelwyr. Diolch Hoffai Edwina Evans ddiolch i bawb am y cardiau, anrhegion ac am yr holl flodau a dderbyniodd ar ei phen-blwydd. Diolch yn arbennig i’w phlant am drefnu’r te parti gwych iddi hi, ac i aelodau Teulu’r Castell yng Ngwesty’r Victoria ddiwrnod cyn y pen-blwydd. Diolch hefyd i staff Gwesty’r Victoria sef Gemma, Kath a Siân am eu gofal y diwrnod yma. Rhodd £20 Pen-blwydd arbennig Pen-blwydd hapus iawn i Ben Howie, sydd yn dathlu ei benblwydd yn 30 oed ar y 3ydd o Ebrill, Dymuniadau gorau gan y teulu a dy ffrindiau oll.


RHAGOR O HARLECH

CYNGOR CYMUNED

Rhandiroedd Anfonwyd copi o’r rheolau i denantiaid y rhandiroedd. Bu cryn drafod ar osod ffens ar randiroedd rhif 2 ac 11. Pwyllgor Twristiaeth Trefnwyd cyfarfod rhwng rhai o Swyddogion y Parc, Pwyllgor Twristiaeth, Harlech a’r Cylch a rhai o’r Cyngor i fynd o amgylch y dref mewn bws mini ar y 24ain o’r mis hwn oherwydd bod pryder ynglŷn â dyfodol rhai o adeiladau’r dref; cychwyn o’r Hen Lyfrgell am 1.00 o’r gloch. Cytunodd Edwina Evans, Gordon Howie a Judith Strevens gynrychioli’r Cyngor. Ceisiadau Cynllunio Newid y peiriant twll yn y wal HSBC, Stryd Fawr Cefnogi’r cais hwn. Cais amlinellol i godi 4 tŷ annedd - Tir i gefn Wyndcote, Hen Ffordd Llanfair, Harlech Gwrthwynebwyd y cais hwn oherwydd nad oedd angen lleol; hefyd awgrymwyd yn gryf bod panel ymweld y Parc Cenedlaethol yn ymweld â’r safle. Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £750 Pwyllgor Neuadd Goffa - £500 Pwyllgor Hen Lyfrgell - £500 Eisteddfod Ardudwy - £400 CFfI Meirionnydd - £150 ATC Ardudwy - £250 Parcio ger y Castell Derbyniwyd llythyr gan Mr Colin Jones o Gyngor Gwynedd ynglŷn â maes parcio Gwesty’r Castell a bwriad y Cyngor i wneud Gorchymyn Parcio newydd oddi ar y stryd ac yn gwahodd sylwadau. Nid oedd gwrthwynebiad. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd ateb oddi wrth yr uchod ynglŷn â chais cynllunio annedd arfaethedig, tir rhwng Trem Arfor a Hiraethog, Stryd Fawr; ac yn datgan, o’r pedwar o leoedd parcio sy’n cael eu nodi gyda’r cais presennol fe fydd un ohonynt yn cael ei gadw ar gyfer un o’r fflatiau gyferbyn; mae gan y fflat arall gyferbyn le parcio oddi ar y ffordd o fewn ei ffiniau. Hefyd, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi nodi bod y trefniant hwn yn dderbyniol a byddai’n bodloni eu safonau hwy. Cytunwyd nad oedd sylwadau pellach i’w gwneud. Mrs Samantha Scriven Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod yn gofyn am ganiatâd i osod plac er cof am ei diweddar dad, Mr Michael Gough, ar un o’r seddau cyhoeddus ar y llain tir ger yr eglwys. Hefyd yn datgan eu bod yn

fodlon gwneud cyfraniad at gynnal a chadw’r Castell neu’r cae chwarae wrth ymyl y Castell. Teimlwyd oherwydd bod y tair sedd sydd ger yr eglwys yn rhai wedi cael eu rhoi er cof, ni fuasai’n dderbyniol gosod plac ar un ohonynt; cynigiwyd y dylid awgrymu bod sedd â phlac arni’n cael ei gosod yng nghae chwarae Llyn y Felin er cof am Mr Gough. Y Blaid Lafur Derbyniwyd nodyn ar ran Mary Griffiths Clarke, ymgeisydd Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai yn gofyn a fyddai’n bosib iddi ddod i annerch yr aelodau yn un o gyfarfodydd y Cyngor. Cytunwyd yn unfrydol i wrthod y cais. Harlech a’r Cylch Datganwyd siom nad oedd cofnodion y Cyngor yn Saesneg yn y Cambrian News yn rheolaidd ac yn cynnig y byddant yn fodlon dosbarthu copïau o’r cofnodion drwy eu mudiad hwy pe byddai rhai dwyieithog ar gael. Cytunwyd yn unfrydol i wrthod y cais hwn a datgan bod y cofnodion ar gael yn Llais Ardudwy a bod croeso iddynt gyfieithu’r rheini. UNRHYW FATER ARALL * Mae angen sedd gyhoeddus newydd ar Ffordd Penllech. * Mae baw cŵn mewn sawl lle o amgylch yr ardal ee ar Ffordd y Nant, Ffordd y Pwll Nofio a Ffordd Glan y Môr a chytunwyd y dylid cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn. * Angen ysgrifennu at BT i ddatgan pryder am gyflwr y blwch ffôn gyferbyn â Gilar Wen a hefyd yr un ar groesffordd Ffordd Bron yr Hwylfa a gofyn iddynt faint o ddefnydd mae’r blychau ffôn hyn yn ei gael ac a oes eu gwir angen. * Eisiau gofyn i Mr Martin Howie drwsio’r ffens lawr Ffordd Glan y Môr. * Hefyd diolchwyd i gwmni Dyffryn Iron Design am wneud gwaith mor dda yn trwsio’r lloches bws ger y toiledau yn y gwaelod; ar yr un pryd datganwyd pryder bod hyn y trydydd tro i’r lloches bws hwn gael ei drwsio ar gost sylweddol i’r Cyngor, a chytunwyd pe bai difrod yn cael ei wneud iddo eto bydd y Cyngor yn trafod y mater o’i ail-leoli neu ei dynnu oddi yna yn barhaol. Neuadd Goffa, Harlech

DAWNS SGUBOR Ebrill 23 am 7.00 Tocyn: £10 yn cynnwys swper Rhagor o fanylion: 781346

Elw at Grŵp Cefnogi Clefyd Parkinson

Ysgol Tanycastell 1973, B3

Rhes gefn: Mark Jenkins, Mark Griffiths, Gareth Jones, Michael James Roberts, Richard Powell Williams, John Yuill, Gareth Wyn Jones, Gareth Evans. Rhes ganol: Mrs Gretta Owen [Benn] Kevin Forster, Michael Lewis Roberts, Jane Owen, Anwen Roberts, Karen Jones, Mathew Allen, Gordon Williams. Rhes blaen: Linda Steward, Ann Morgan, Santina Jones, Nerys John, Sharon Hall, Anita Morton, Ann Williams.

Ysgol Tanycastell 1977/78, B5/6

Rhes gefn: Arwel Thomas, Richard Gartside, Adrian Lumb, Timothy Griffith, Iwan Roberts, Gavin Hughes, Eifion Ridley. Rhes blaen: Louise Foskett, Amanda Lee Powell, Jane Palfreyman, Bethan Lewis, Sally Unwin, Michael James Roberts, Timothy Harvey, John Gomersall, Jeremy Steward, Dylan Jones. Trist iawn yw nodi, er eu bod mor ifanc, bod pedwar o’r plant uchod [y rhai mewn inc tywyll] wedi marw’n gyn-amserol. Aelwyd Ardudwy Llongyfarchiadau ar berfformiadau clodwiw yn Eisteddfodau’r Urdd eleni. Braf oedd gweld bron i 40 o blant a phobl ifanc o 7 oed hyd at 21, yng nghrysau coch yr aelwyd. Buont mewn cystadlaethau ffasiwn, canu a cherdd dant, unawdwyr offerynnol, corau, partion a’r band. Mi fydd gwaith ffasiwn Cerys Sharp a Gwenno Lloyd, y Band, y Côr a’r Parti Uwchradd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili yn fuan. Pob lwc.

Llongyfarchiadau mawr i David Bissiker, Acregaled ar ennill cystadleuaeth yr unawd pres B6 ac iau. Roedd yn chwarae ‘Cytgan y Carcharorion’. Pob lwc i ti yng Nghaerffili David.

11 A 10


RHAGOR O HARLECH Dwy golled Gyda thristwch a loes mawr y clywyd am golli dwy o’r un teulu o Harlech o fewn wythnosau i’w gilydd yn ddiweddar. Bu farw Mrs Maggie Edwards, 66 Y Waun, yn ei chwsg yn ei chartref ar 5 Chwefror a bu farw ei merch Pat Roberts, 11 Tŷ Canol, yn sydyn yn Ysbyty Gwynedd ar 24 Chwefror. * * *

Margaret Edwards

25 Ionawr 1916 – 5 Chwefror 2015

Ganed Maggie yn Llanenddwyn, Dyffryn Ardudwy ar 25 Ionawr 1916, ac roedd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 99 oed. Priododd â Wil John Edwards ar 30 Ebrill 1938 a chawsant 6 o blant, sef Peggy, Pat, Chris, Terry, Gill a Mandy. Roedd ganddi 11 o wyrion - Angela, Mary, Stewart, Julie, Peter, Gerwyn, Llion, Siôn, Joseph, Brendan a Siân, a 12 o orwyrion - Stefan, Ellen, Liam, Aaron, Ethan, Samantha, Jamie, Louis, Jake, Sadie, Tess a Lily ac un gor-gor- ŵyr Kier. Roedd gan Maggie ddau frawd Evan a Willie a chwaer, Eleanor. Ar ôl mynd i weithio’n ifanc iawn i Lerpwl, gweithiodd Maggie am flynyddoedd lawer fel gofalwr tŷ i Mrs Lloyd, Bron y Graig. Roedd ganddi lawer o atgofion hapus am ei chyfnod yno a chyfarfu ag amryw o bobl enwog a ddeuai i aros at Mrs Lloyd ym Mron y Graig. Gweithiodd hefyd yn Noddfa, y Golff a’r Queens ond fe gofiwn ni hi’n bennaf yng nghegin Ysgol Ardudwy. Roedd yn siarad yn aml am yr adegau y byddai merched y cantîn yn mynd ar dripiau efo’i gilydd ac roedd yn falch iawn ei bod wedi dringo’r Wyddfa sawl tro i godi arian i elusennau lleol. Roedd wrth ei bodd yn dawnsio ac yn chwarae bingo. Roedd Maggie hefyd wrth ei bodd yn cerdded a gellid ei gweld yn aml yn cerdded o amgylch y Nant, yn aml iawn law yn llaw ag un neu ddau o’i hwyrion! Roedd yn caru ei theulu ac yn meddwl y byd o bob un ohonynt. Roedd Teulu Castell yn bwysig iddi, ac roedd wrth ei bodd gyda’r teithiau cymdeithasol dirgel a drefnwyd yn rheolaidd

12 A 10

ganddynt. Roedd wrth ei bodd hefyd yn gwylio’r ymaflyd codwm/reslo! Byddai’n gwylio’r reslo ar fore Sadwrn ac mae Chris yn cofio i’w thad fynd â hi i Ddolgellau i wylio rhai reslwyr enwog a ddaeth i’r dref. Gofynnwyd iddynt adael pan benderfynodd Maggie weiddi ar y reslwyr ac ymyrryd â’u perfformiad! Roedd yn mwynhau Cymanfa Ganu a hoffai ymweld â’r Eisteddfod ar y noson olaf i glywed y canu. Cafodd Maggie fywyd llawn a gweithgar hyd iddi golli ei golwg pan oedd yn 90. Nid oedd hynny’n ddigon iddi roi’r gorau iddi fodd bynnag, a brwydrodd ymlaen gan wneud yn fawr o’r sefyllfa a dysgu medrau newydd i ddygymod â’i dallineb. Roedd bob amser yn llawen ac ni fyddai byth yn cwyno. Hoffai’r teulu ddiolch i Liz Kelly am ei chyfeillgarwch a’i charedigrwydd at Mam dros y blynyddoedd a diolch enfawr i’r holl ofalwyr am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Diolch arbennig hefyd i’r nyrsys ardal am eu gofal a’u cefnogaeth i Maggie a’r teulu. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Nyrsus Ardal Harlech.

Pat Roberts 2 Rhagfyr 1948 – 24 Chwefror 2015

Ganed Pat ar 2 Rhagfyr 1948 a bu’n byw yn Nhop y Dre gyda’i rhieni Maggie a Wil John, ei nain a’i thaid Dodo ac Uncle Billy a’i chwaer Chris nes iddynt symud i dŷ newydd yn Y Waun. Roedd gan Pat 4 chwaer, sef Peggy, Chris, Gill a Mandy ac 1 brawd, Terry. Mae’n gadael ei gŵr - Trevor, ei merch Julie, 3 mab - Peter, Gerwyn a Llion, 3 ŵyr - Sam, Jamie a Lois a gor or ŵyr - Kier. Aeth Pat i’r ysgol yn y Bermo, a daeth i Ysgol Ardudwy pan agorodd am ei thymor olaf yn yr ysgol. Fel llawer o’i ffrindiau ysgol, aeth i weithio yn Cambrian Cleaners, a Cooks, Penrhyn a Market Gardens, yr hen siop yn y stryd fawr, cyn cychwyn ei gyrfa yn yr RAF.

Chwaraeodd Pat ym mand yr RAF ac roedd hefyd yn aelod o fand Harlech, fel y rhan fwyaf o’r teulu Edwards bryd hynny. Tra’r oedd yn yr RAF, anfonwyd Pat i’r dwyrain pell – ganwyd Peter yn Penang. Yn y pen draw, daeth yn ôl i Gymru ac ar ôl gadael yr RAF, dychwelodd i Harlech. Priododd Pat a Trevs ym 1975 a symud o 3 Y Waun i rif 36 ac oddi yno i Dŷ Canol, tra’n parhau i weithio dros y teulu yn y garej yng ngwaelod Harlech. Fel ei mam, gweithiodd Pat hefyd fel cogyddes yn Ysgol Ardudwy. Roedd hefyd yn rhannu camp ei mam o ddringo’r Wyddfa mwy nag unwaith i godi arian i elusennau lleol. Wrth godi arian hefyd, ymunodd Pat yn y Ras dros Fywyd sawl gwaith gan godi arian i Ymchwil Canser. Pan oedd yn iau, roedd wrth ei bodd gyda roc a rôl ac yn addoli Bill Haley. Roedd wrth ei bodd yn mynychu cyngherddau cerddoriaeth ac roedd yn arbennig o hoff o fynd i Lundain gyda Classic Travel John Charlton i wylio’r sioeau cerdd – rhywbeth arall yr oedd yn parhau i wneud, a’i ffefryn oedd Cats. Roedd wrth ei bodd gyda gwyliau teuluol yn ogystal â mynd ar wyliau gyda grŵp o ffrindiau da. Roedd hefyd yn edrych ymlaen bob amser at ei gwyliau yn Nhwrci gyda Julie. Roedd Pat yn wraig hardd, gofalus a chariadus, yn nain, yn hen nain, yn ferch, yn chwaer, yn fodryb, yn gyfnither, yn chwaer yng nghyfraith ac yn gyfaill da i lawer. Roedd bob amser yn edrych ar ôl ei theulu a phan oeddynt yn sâl roedd yno iddynt ac mae Trevor yn trysori’r atgofion hynny. Mae llawer o bobl wedi talu teyrnged i Pat – roedd yn wraig deg. Ni fyddai’n ochri â neb, byddai yno i bawb a byddai’n rhoi ail gyfle i unrhyw un. Roedd Pat bob amser yr un fath, ac nid oedd ots sut oedd hi’n teimlo ar y pryd. Bu farw Pat yn sydyn ac yn annisgwyl iawn. Bydd pawb a oedd yn ei hadnabod a’i charu’n

ei methu’n fawr iawn. Roedd llawer yn hoff ohoni ac roedd hynny’n amlwg yn ystod y gwasanaeth angladdol. Roedd y capel yn llawn a phobl leol hefyd yn sefyll y tu allan i dalu’r deyrnged olaf. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd. * * * Diolch Hoffai teuluoedd Maggie a Pat fynegi eu diolch diffuant i bawb am eu caredigrwydd a’u cydymdeimlad â hwy’n ystod y ddwy brofedigaeth. Diolch i Eirlys Williams am ganu’r organ yng nghynhebrwng Maggie, ac i Iwan Lewis am ganu’r organ yn angladd Pat. Diolch hefyd i’r chwaer Bethan Johnstone, Parch Dewi T Morris a’r Parch Bob Hughes, hefyd Pritchard a Griffiths am eu gofal a’u cefnogaeth yn ystod y cyfnod trist hwn. Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i Ysgol Tanycastell brynhawn dydd Mawrth y 24ain gan Edwina Evans. Diolchodd i Mrs Williams, y Pennaeth, yr athrawon, y plant a ffrindiau Tanycastell am eu gwahoddiad eto’r flwyddyn yma. Cafwyd cyngerdd bendigedig - canu, adrodd, dawnsio disgo, actio, a rhai’n canu offerynnau. Dymunwn yn dda i’r dawnswyr disgo sy’n mynd ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Diolchwyd i bawb gan Bronwen Williams. Yna cawsom wledd wedi ei pharatoi gan aelodau’r cantîn, a Ffrindiau Tanycastell. Yr oedd pres y raffl a phres y te’n mynd at gronfa Tanycastell. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Neuadd Llanfair ar brynhawn dydd Mawrth, 14 Ebrill am 2 o’r gloch. Bydd y prynhawn yng ngofal Sefydliad y Merched Harlech a bydd Annette Evans yn rhoi sgwrs a dangos ei gwaith gwydr. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y prynhawn.


Mrs Myfanwy Williams [Anti Nanw]

Cafodd Mam ei geni yn Nhŷ Gwyn yn 1919 yr wythfed plentyn o unarddeg o blant i Annie a William Williams, Groes Lwyd. Symudodd i Llam y Lleidr ac yna i Groes Lwyd. Roedd bywyd yn anodd i’r teulu bach a’r plant hynaf wedi helpu i fagu’r to ieuengaf. Ond roedd Mam o hyd yn dweud bod digon o fwyd ar y bwrdd, llysiau yn tyfu yn yr ardd a thaid yn pysgota ac yn hela a ‘photio’ reit aml. Gwnaeth neb lwgu. Mae’n siŵr fod y fagwraeth yma wedi gwneud lles i’r plant achos roedd pob un wedi byw i oedran mawr. Gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg i weini yng Nghaffi’r Plas pan oedd yn lle poblogaidd iawn a phawb yn gwisgo dillad du a ffedogau a chapiau bach gwynion. Byddai nifer o ymwelwyr yn heidio yno mewn ‘coaches’ ac roedd y llestri budron wedi eu pentyrru allan i’r drws! Wedi hynny aeth yn forwyn fach i Lasynys Fach cyn symud ymlaen i helpu Mrs Griffiths yn y Post – amser hapus iawn yn ôl ei geiriau hi. Bu yno hyd nes iddi briodi ym 1939 gydag Owen Idris. Roedd wedi dal ei llygaid wrth iddo yrru beic modur o gwmpas y dref. Cafodd Melvyn, Ann ac Alun eu geni yn y blynyddoedd wedyn ac arhosodd adre i fagu’r teulu. Wedi i’r plant ddod i oed ysgol bu’n gweithio yng nghegin yr ysgol gynradd, sydd rŵan yn Llyfrgell y Dref, ac yna yn Ysgol Tanycastell. Roedd Mam wrth ei bodd yng nghwmni’r plant a phawb yn ei hadnabod hyd heddiw fel Anti Nanw. Cafodd helynt weithiau gan rai o’r athrawon ei bod yn difetha’r plant! Er na allai ganu’r un nodyn roedd yn diddanu’r plant ar ddiwrnod gwlyb trwy ganu’r piano - hynny yw bangio unrhyw nodyn ar y

piano, nes codi cur pen mawr ar yr athrawon! Mae’n syndod bod cynifer o blant Harlech yn aelodau o gorau lleol erbyn hyn a hwythau wedi cael cychwyn mor dda! Yn ogystal â hyn, byddai yn gweithio yng Nghaffi ‘Summer Deli’ gyda’r nos i gael dau ben llinyn ynghyd. Bywyd caled iawn ac oriau hir ond roedd Mam wrth ei bodd yn sgwrsio efo’r plant yn y dydd ac efo’r bobl ifanc min nos a fyddai’n dod yno i wrando ar y juke box ac yn yfed coffi neu Vimto a hwythau’n gwneud i’r ddiod barhau drwy fin nos! Wedi gorffen yn yr ysgol bu’n gwarchod ei hŵyr Siôn Alun. Rhoddodd hyn bleser mawr iddi a byddai’r ddau yn cydgerdded ffriddoedd Pant Mawr yn sgwrsio’n ddi-baid ac yn hel madarch a mwyar duon a gwae pawb oedd wedi bod yno o’i blaen! Enw Siôn arni oedd Nain Baby, gan ei bod o hyd yn ei gyfarch efo ‘Helo Baby’ bob tro y deuai i’r tŷ. Roedd ganddi ŵyr arall hefyd sef Neil oedd yn byw yn yr Almaen ond ni chafodd ei ddifetha cymaint â Siôn gan ei fod yn byw mor bell. Roedd pawb yn adnabod Mam fel y ddynes siriol, siaradus a gwên ar ei hwyneb bob amser a fyddai wrth ei bodd yn eistedd yn yr haul o flaen ei thŷ. Byddai pobl ifanc o bob cwr o’r byd yn pasio i’r youth hostel ac yn aml pan oedd hwnnw’n llawn byddai’n cynnig lloches iddynt. Rhedodd fusnes gwely a brecwast lled llewyrchus adeg yna a hyd heddiw byddai’n cael cardiau Nadolig gan lawer ohonynt yn diolch ac yn cofio’r amser da a dreuliwyd yn ei chwmni. Dynes y filltir sgwâr oedd Mam – byth eisiau crwydro’n bell. Aeth unwaith i Berlin at Ann a’i theulu efo ei ffrind Cassin Pencraig. Dydw i ddim yn gwybod sut gyrhaeddodd y ddwy ac er iddynt fwynhau bod yno byddai’n dweud “Ai byth eto”! Caer oedd yr unig le arall pell y buodd erioed. Ar un achlysur efo Dilys ac Alun aeth ar goll ac wedi chwilio amdani ymhob man cael hyd iddi mewn siop cigydd yn prynu cig moch a sosej “lyfli” medda hi. Doedd hi ddim yn berson oedd yn rhoi

pwys ar grandrwydd nac ar ffasiwn – doedd pethau materol bywyd ddim yn bwysig iddi – roedd yn llawer gwell ganddi fynd i siopa bwyd. Dynes gymwynasgar hefyd oedd hi, bob amser yn barod i helpu eraill, cario negesau i bobl, mynd i nôl pensiwn o’r Post i bobl oedd yn gweithio a hefyd yn bancio pres i siop Spar pan oeddent yn brysur a doedd dim sôn am Securicor adeg hynny! Hoff flodyn Mam oedd y cennin Pedr a byddai’n dod â thusw bychan adra efo hi gan ddweud eu bod yn tyfu ar ochr y ffordd a ninnau’n dwrdio nad oedd i fod i’w casglu ond doedd dim yn tycio. Yn y deng mlynedd diwethaf doedd ei hiechyd ddim cystal. Cymrodd Alun ymddeoliad cynnar er mwyn gofalu amdani a bu’n ofalus iawn ohoni ac yn un o fil yn yr holl waith a gafodd. Wrth iddi ddirywio, cafodd Alun help amhrisiadwy gofalwyr yn y cartref yn galw bore a nos ac rydym yn gwerthfawrogi eu cymorth yn fawr. Byddai Ann yn dod o Berlin hefyd i leihau’r baich o bryd i’w gilydd. Yn y tair blynedd diwethaf bu’n rhaid i Mam fynd i gartref Bodawen ym Mhorthmadog. Mae ein diolch fel teulu yn fawr i’r criw gweithgar yno am eu gofal arbennig ohoni. Bu’n wraig weddw am 40 o flynyddoedd ac wedi bod yn driw i’w gŵr ar hyd yr amser. Mae’r amser wedi dod rŵan i fod nôl yng nghesail Owen Idris. Un o’i hoff ddywediadau oedd “I wish I was 17 again, I’d paint the town red”. Mae gennym lawer o atgofion melys a bydd y rhain yn byw yn ein calonnau am byth. Nos da, cysga’n dawel. Dilys Williams Diolch Dymuna Ann, Bernd, Alun a Dilys a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl iawn sef Mrs Myfanwy Williams (Nanw), Ael y Garth, Harlech. Diolch hefyd am y cyfraniadau at Ambiwlans Awyr Cymru er cof amdani. Rhodd a diolch £10

Anrhydedd i Anna

Llongyfarchiadau i Anna Ashton, merch hynaf Harry ac Eira, Byrdir gynt, Harlech, ar ennill gwobr yn seremoni wobrwyo Cyngor Sir Gwynedd ‘Ar Ei Orau’. Enillodd Anna ar y wobr Gwasanaethau, sef gwasanaethau o’r ansawdd gorau i’r cwsmeriaid. Dechreuodd Anna ei gyrfa yn bymtheg oed efo’r teulu Cook ym Mhlas Nantcol yn Llanbedr yn nani i dri o blant. Pan oedd yn 16 symudodd i weithio i Lerpwl gyda phlant ac yna cafodd gyfle i ddatblygu ei hun, wedyn symud i Wolverhampton gyda’i gŵr Brian a rhedeg cartref plant. Roedd angen cariad a disgyblaeth ac wedyn daeth yn ôl i’w chynefin i Harlech a rhedeg cartref plant i’r Cyngor. Caeodd y cartref ac aeth Anna i Fangor i weithio mewn dau gartref plant. Caeodd y ddau ac aeth i Gartref Bontnewydd ac yno y bu tan gafodd gynnig swydd hefo’r tîm plant mewnol yng Nghyngor Sir Gwynedd. Mae Anna wedi bod gyda Chyngor Gwynedd am yn agos at ddeugain mlynedd ac yn dal i weithio ymysg y plant ac yn dal i gael yr ysbrydoliaeth i weithio ac i hybu’r rhai sydd wir angen. Mae’r gwaith mae Anna yn ei wneud heddiw fel y mae wedi ei wneud am yn agos i 50 o flynyddoedd, ac mae clod mawr iddi fel y gwelwch am ennill y wobr yma. Haeddiannol iawn! Mae’r teulu i gyd yn ei llongyfarch am yr arweiniad mae hi wedi ei roi i’r plant dros y blynyddoedd. Mae rhai o’r plant sydd heddiw yn oedolion yn dal i gysylltu efo hi. Cofion gorau oddi wrth y teulu i gyd. Da iawn ti, Anna, rydym mor falch ohonot. Sis (Mary)

13 A 10


COLLI GERAINT GRUFFYDD iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Dywedodd Derec Llwyd Morgan: “Ef oedd ysgolhaig Cymraeg gorau’i genhedlaeth. Y peth rhyfedda oedd ei fod o’n gallu trafod pob cyfnod yn hanes Cymru fel pe bai’n arbenigwr arnyn nhw i gyd.

Cafodd ei eni ar fferm Egryn, Tal-y-bont yn fab i Moses a Ceridwen Griffith. Roedd ganddo un chwaer, Meinir a briododd ag Aneurin Thomas a fu’n athro yn Ysgol Ardudwy ar un cyfnod. Roedd yn gefnder i Glyn Edwards, Arfryn, Dyffryn Ardudwy. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu’n olygydd cynorthwyol Geiriadur Prifysgol Cymru cyn derbyn swydd fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1955. Cafodd ei benodi’n Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1970, ac yn Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1980. Bu’n Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Aberystwyth rhwng 1985 a 1993. Roedd yn arbenigwr ar lenyddiaeth y Dadeni, y Diwygiad Protestannaidd a’r Piwritaniaid cynnar. Ef oedd golygydd Meistri’r Canrifoedd a chasgliad o ysgrifau Saunders Lewis. Roedd yr Athro Geraint yn un o ysgolheigion mwyaf yr

“Roedd o’n gapten llong, yn hawddgar a phob amser yn eich cefnogi chi. Ac wrth gwrs, roedd o’n Gristion i’r carn.” Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yr Athro Dafydd Johnston: “Gyda marwolaeth yr Athro R Geraint Gruffydd mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd wedi colli un o’i sylfaenwyr a’i chefnogwr pennaf. “Gweledigaeth Geraint Gruffydd a’i gyfaill agos J E Caerwyn Williams oedd canolfan ymchwil arbenigol o’r fath, a Geraint oedd y Cyfarwyddwr cyntaf pan sefydlwyd y Ganolfan yn 1985. “Yn ystod ei wyth mlynedd wrth y llyw bu’n arwain tîm o ymchwilwyr i olygu holl gerddi Beirdd y Tywysogion a’u cyflwyno mewn cyfres fawreddog o saith gyfrol a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1991 a 1996. “Roedd gwaith tîm o’r fath yn beth newydd ym maes y dyniaethau ar y pryd, ac mae llwyddiant y prosiect hwn yn tystio i allu Geraint fel arweinydd academaidd. “O blith ei holl gyfraniadau disglair i ysgolheictod y Gymraeg, y gyfres hon efallai yw ei gampwaith mwyaf oll.”

LOTERI GYMUNEDOL Ydych chi wedi ymaelodi â’r loteri gymunedol? Dyma ffordd ymarferol i bawb gefnogi’r pwll. Ewch draw i’r pwll i holi’r staff. Pe bai pawb yn yr ardal yn rhoi taliad bach misol at y loteri, mi fyddai’n llawer haws ar y rhai sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol. Ac mae siawns o ennill gwobrau! 14

Rhagor o Enwau Adar Wedi rhagair byr, cawn restr yn gyntaf o bob enw Cymraeg a gasglodd, gyda’i enw gwyddonol, ac yna’r enw cyffredin yn y Saesneg. Yn briodol iawn, Gwasg Carreg Gwalch yw cyhoeddwyr y llyfr, ac mae’r rhestr yma’n cofnodi 13 o enwau Cymraeg ar gyfer amrywiol weilch, o’r anghyfarwydd (gwalch y nos, enw addas iawn o Aberdaron ar gyfer y troellwr mawr, neu’r ‘nightjar’), i’r poblogaidd (gwalch y pysgod, sydd wedi denu cymaint o adarwyr yn ddiweddar at filltir sgwâr yr awdur). Hefyd ymysg y gweilch, ceir adar nad ydynt yn ysglyfaethus, gan gynnwys un sy’n destun cwestiwn cwis tafarn o dro i dro, sef Puffinus puffinus, i roi ei enw Lladin. Yn groes i ymateb cyntaf nifer, nid y pâl neu’r puffin ydyw, ond aderyn drycin Manaw, aderyn sydd ond yn dod i’r tir i nythu, a’r enw gwalch y mecryll a ddenodd fy sylw. Hyfryd iawn. Galwch fi’n anorac os mynnwch, ond i mi, mae’r llyfr yn llawn o berlau bach fel hyn. Mae’r rhestr gyntaf felly, yn gyfeiriadur defnyddiol i ganfod enw safonol adar os mai enw llafar neu leol sydd gennych, ond yn yr ail restr mae’r glo mân, a hon yn fy marn i sy’n gwneud y gyfrol yn werth pob ceiniog o bum punt namyn pum ceiniog. Rhestrir enwau Saesneg yn nhrefn yr wyddor, gyda’r enw safonol Cymraeg a’r Lladin eto, ond wedyn ceir y casgliad o enwau lleol ar gyfer pob un. Pob un, hynny ydi, heblaw am y dieithriaid i dir Cymru fach, fel tinwen y diffeithwch! Os ydi’r rygarŷg bellach yn brin eithriadol, nid felly’r nifer o enwau a geir trwy Gymru amdani; 35 ohonynt, o Sir y Fflint i Sir Fôn, ac o Fangor i Faldwyn, ac mae Dewi Lewis yn chwilio am fwy. Ceir apêl ganddo ar ddiwedd ei ragair, am i ddarllenwyr yrru rhagor o enwau ato, ond cawn hefyd ddeall ei fod wrthi’n paratoi Llawlyfr ar Enwau Adar i ‘adrodd y stori tu ôl i’r enwau’. Paul Williams [codwyd o wefan Gwasg Carreg Gwalch]

DAU RYFEDDOD

Diffyg ar yr haul

Gwawl y gogledd

Bu canol mis Mawrth eleni yn gyfnod rhyfeddol yn yr ardal hon, ac yn wir drwy Ynysoedd Prydain. Ar nos Fercher, Mawrth 18 roedd gwawl y Gogledd [aurora borealis] i’w weld yn glir yn ardal Ardudwy pan oedd yr awyr yn llawn lliwiau llachar. Yna ar fore Iau, Mawrth 19 roedd y diffyg ar yr haul i’w weld yn ddigon clir yn y fro. Fe welwn ni ddiffyg fel hyn eto ymhen rhyw 11 mlynedd, ond digwyddiad prin iawn yw gweld gwawl y Gogledd mor amlwg yn ein hawyr ni. Dau ryfeddod yn wir!


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

CYNGOR CYMUNED

Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau gan Siriol Lewis, y Llywydd, i Westy’r Llong, Talsarnau am 12 o’r gloch ddydd Iau, 5 Mawrth i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd pawb wedi dod ychydig ynghynt er mwyn cael trafod rhai materion cyn y cinio, yn arbennig felly roedd rhaid hysbysu pawb bod dyddiad yr ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol wedi symud i 18 Mehefin, gan fod angen mwy o amser i’n cais am gymorth ariannol o’r Loteri Fawr gael ei weithredu. Wedi cwblhau’r trafod, roedd ein gŵr gwadd, Raymond Owen o Dalybont wedi cyrraedd a’r bwyd yn barod i’w weini. Croesawyd ef at y bwrdd a bu sgwrsio hamddenol wrth fwyta’r bwyd ardderchog oedd wedi ei baratoi ar ein cyfer - gyda digon ohono. Wedi’r gwledda, roedd yn amser i Raymond Owen gyflwyno ei sgwrs o dan y teitl ‘Sŵn a Swyn Sir Benfro’ a chafwyd dipyn o hanes y Sir - ei thafodiaith a lleoliadau arbennig, a soniodd am Ddewi Sant wrth gwrs.

Rhoddodd fraslun o’i fagwraeth ef yn y sir, a’i gefndir hyd at ei yrfa fel darlithydd, cyn cael swydd yng Ngholeg Meirionnydd ym 1976 ac yna’n ddiweddarach yng Ngholeg Meirion/Dwyfor, a dod yn Bennaeth Cynorthwyol gyda gofal am fwy nag un safle. Mwynhawyd gwrando arno’n fawr iawn a diolchodd Margaret iddo, ar ein rhan ni i gyd, am roi dipyn o hanes Sir Benfro i ni ac am wneud y cyfan mor ddiddorol. Diolchwyd hefyd i’r cogydd am y cinio arbennig o flasus. Tynnwyd y raffl a bu saith aelod lwcus. Bu’n achlysur pleserus iawn i ddathlu Gŵyl Ddewi. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau am wellhad buan i Wil Morgan, Môr Gân, Talsarnau, sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Brysia wella, Wil - rydan ni’n meddwl amdanat ti ac yn edrych ymlaen at dy weld yng nghwmni dy gyfeillion unwaith eto.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Cae Chwarae Cytunwyd i newid y cynllun i’r un yn debyg i gynllun Hochtief. Mae Siôn Richards a Chris Rayner wedi cytuno i addasu’r cynllun a rhoi cais cynllunio arall gerbron y Parc Cenedlaethol. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan Guthrie Jones & Jones, cyfreithwyr, yn datgan bod cofrestru’r tir yn Weirglodd Fawr wedi ei gwblhau. Cais Cynllunio Ailwampio allanol - Isfryn, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Eisteddfod Ardudwy - £500 CFfI Meirionnydd - £100 Neuadd Bentref Talsarnau - £1500 Y Blaid Lafur Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod ar ran Mary Griffiths Clarke, ymgeisydd Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai yn gofyn a fyddai’n bosib iddi ddod i annerch yr aelodau yn un o gyfarfodydd y Cyngor. Cytunwyd yn unfrydol i wrthod y cais. Mynyddoedd Pawb Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod yn ein hysbysu bod deiseb Mynyddoedd Pawb yn fyw ar wefan y Cynulliad ac yn gofyn yn garedig i bawb ei harwyddo https://www.assembly.wales/cy/gethome/e- petitions/ Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=758. Cytunodd pawb bod angen arwyddo’r ddeiseb bwysig yma. UNRHYW FATER ARALL * Datganwyd pryder nad oedd yr wybodaeth i deithwyr ar y trên yn ddwyieithog. * Datganwyd pryder nad oedd y goleuadau traffig yn gweithio’n iawn ym Maentwrog a chytunodd y Cyng Caerwyn Roberts i gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd. * Datganwyd pryder bod argae Llandecwyn yn dal i ollwng. * Angen ysgrifennu at yr Adran Briffyrdd yn gofyn a fyddai’n bosib creu man pasio ar y ffordd rhwng stad dai Maesgwndwn a Soar. * Datganwyd pryder bod cerrig wedi eu gosod ar y ffordd ger Cil y Graig, Soar.

Cyngerdd Rydym wedi trefnu noson yng nghwmni Meibion Prysor, nos Sadwrn, Hydref 3 eleni. Pris mynediad fydd £10 i oedolion. Rhagor o wybodaeth i ddod. Cadwch y dyddiad yn rhydd! GYRFA CHWIST NOS IAU , 9 EBRILL am 7.30 yn y Neuadd Gymunedol Croeso i bawb!

HEDD WYN - SEREN DDISGLAIR AR FFURFAFEN SEROG Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne Neuadd Gymunedol Talsarnau, Nos Iau, Ebrill 16eg, 2015. Traddodir gan Twm Elias Mynediad: £5.00 Dechrau: 7.30 o’r gloch yr hwyr Tocynnau: 01766 770757, 770421 neu 770621

Croeso cynnes i bawb!

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

15


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

4

5

6

8

7

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

EBRILL

15 Ffilm - I am Nasrine [15] 10

9

13

12 14

17

GALWAD CYNNAR

11

18

21

16

15

19

22

20

23

Trwy wahoddiad Cymdeithas Ted Breeze Jones, fe recordir rhaglen holi panel o arbenigwyr byd natur, ar gyfer Galwad Cynnar, ym Mhlas Tanybwlch, Maentwrog, ar nos Fawrth, Ebrill 28, am 7.00 o’r gloch. Aelodau’r panel fydd Bethan Wyn Jones, Rhys Owain, Kelvin Jones a Twm Elias. Estynnir gwahoddiad cynnes i unrhyw un i fod yn rhan o’r gynulleidfa. Darperir paned i bawb ar y diwedd.

Pôs y Beirdd - Mis Ebrill AR DRAWS 1 Gofod (6) 4 Y man lle y mae dau asgwrn yn dod ynghyd (5) 7 Adeilad yn gysylltiedig â chapel (6) 8 Brysio (5) 9 Cynulliad o bobl (7) 11 Dyfais i sicrhau drws neu gaead yn dynn (3) 14 Chwaraewyr mewn gemau pêl-droed neu rygbi sy’n chwarae mewn safleoedd amddiffynnol (5) 16 Amrantiad (4) 17 Gwastad (5) 19 Enw dyn (6) 21 Hylif sy’n cael ei ddefnyddio, losgi, neu goginio ayyb (3) 22 Rhoi olew neu rwbio braster ar rywbeth neu rywun am reswm arbennig (3) 23 Creadur â chlustiau hir sy’n perthyn i deulu’r ceffyl (4) I LAWR 1 Math o anifail (4) 2 Brawychu (7) 3 Trychfilyn tebyg i fwydyn bach (5) 5 Pentref yn ne Cymru (1, 3) 6 Sylwedd sy’n cael ei ychwanegu at sylwedd arall i’w gadw heb bydru (7) 10 Unionsyth (8) 12 Aderyn gyryw (7) 13 Siarad dwli (7) 15 Curo (6) 18 Mesur o rym trydanol (4) 20 Ffin (4)

16

ENILLWYR MIS MAWRTH Dyma’r enillwyr y tro hwn: Idris Williams, Tanforhesgan; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. ATEBION MIS MAWRTH AR DRAWS 1. Cino 4. Diachos 7. Teidiau 8. Echel 9. Amryliw 10. Draw 11. Cri 13. Credu 17. Ianci 18. Addoldy 21. Offa 22 Talcen tŷ I LAWR 1. Cotiar 2. Is Iarll 3. Oriel 4 Drudwy 5. Aberdâr 6. Ochenaid 12. Reiat 14. Diffodd 15. Anial 16. Cablu 19. Ofer 20. Data SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

gan Iwan Morgan

1. Obry blodeuai Ebrill, Ymwelai Mai a’i lu mill, A dawns y don sidanaidd A’r hallt fôr lle tyfai haidd. ’Disgrifiad o Gantre’r Gwaelod.’

4. Coed Mawr fe ddarfu’r crino Daeth Llygad Ebrill eto, O, na chawn awr wrth Gamdda Fawr I wylio’r cyll yn deilio. (Gwanwyn ym Mhantglas ... ond pa Bantglas? - Cartref bardd sy’n gallu ‘cyfleu’n syml a chynnil gyflyrau’r meddwl sy’n eu hanfod yn bur gymhleth.’)

2. Ni yw Ebrill y wybren - hyd y rhos Ni yw stranc y ferlen; Y gloywder yn winc seren, Â fflach amgenach i’n gwên. (torrodd ei ‘wawr’ fel Prifardd dros 5. A mi’n glaf er mwyn gloywferch, ugain mlynedd yn ôl) Mewn llwyn yn prydu swyn 3. Ni ddaeth rhyfeddod gwanwyn serch, Ddiwrnawd pybyrwawd pill, Â gwrid yn ôl i’w wedd; Ddichwerw wybr, ddechrau Ond pnawn o Ebrill tyner Ebrill, A’n dug ni at ei fedd. A’r eos ar ir wiail A chanai’r gog yng Nghoed y A’r fwyalch deg ar fwlch dail. Ffridd Pan glywn i’r arch yn crafu’r (aderyn o Ddyfed?) pridd. (‘y dewraf o’n hawduron’) ATEBION MIS MAWRTH 1. Saunders Lewis ... ‘Pregeth olaf Dewi Sant’ 2. Dic Jones ... Awdl ‘Gwanwyn’ 3. Alan Llwyd ... Awdl ‘Gwanwyn’ 4. Gerallt Lloyd Owen ... Awdl ‘Gwanwyn’ 5. I.D.Hooson ... ‘Daffodil’

Llais Ardudwy

YN EISIAU

Llais Ardudwy

Pobl i ymuno â’r criw sy’n dosbarthu’r Llais. Mae angen casglu’r Llais o’r Lolfa, Talybont, Aberystwyth. Yna ei ddosbarthu i siopau yn Nolgellau, Bermo, Dyffryn Ardudwy, Llanbedr, a Harlech. Mae’n golygu rhyw 5 awr o waith, rhwng 9.00 y bore a 2.00 y pnawn. Rydym yn talu 30c y filltir o gostau teithio. Rhowch wybod i un o’r swyddogion os gallwch ein helpu.


Gwobr Pencampwr Cymunedol NFU Cymru

Mae amser yn prinhau os am gystadlu am Wobr Pencampwr Cymunedol NFU Cymru, sy’n cydnabod gwaith ffermwyr i helpu eu cymunedau lleol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 10 Ebrill 2015 a chyhoeddir enw’r enillydd ar ddydd Sul yn yr Ŵyl Wanwyn ar stondin NFU Cymru. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £500 a chloc llechen Gymreig gyda’r ddau ail orau’n derbyn £100 yr un. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ceisio am y Wobr gysylltu â NFU Cymru am fwy o fanylion a ffurflen gais. Ysgrifennwch at: Gwobr Pencampwr Cymunedol Cymru Wledig, Tŷ Amaeth, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Powys, LD2 3TU. E-bost: sarah.jones@nfu.org.uk Ffôn 01982 554200 neu cewch lawrlwytho manylion pellach a ffurflen gais ar: www.nfu-cymru.org.uk.

Arwyddion y Gwanwyn

Penillion Coffa i Richard Jones (Dic), Gellibant, Llanbedr Yr hwn a roddodd ei fywyd yn aberth dros ei wlad. (Penillion buddugol yn Eisteddfod Gwynfryn, Groglith 1946)

Un eto o blant y pentra’ Yn aberth drosom ni; Un eto o’r hen hogiau Sydd wedi croesi’r lli; Ar allor chwant bu farw Chwant arall am ei wlad, Un eto o’r hen ffrindiau Na ddychwel ‘nôl o’r gad.

Ei fywyd oedd fel natur Dilychwin a di-ffug; Ei nefoedd ar y ddaear Oedd enwau’r brwyn a’r grug; Ac er na nodir man ei fedd Ond gyda chroes fach bren, Cof-golofn iddo bythol Fydd Rhinog a Foel Wen.

A rhoed ei gorff i orffwys Yn dawel, dros y môr, A’i ysbryd a ehedodd I fynwes glyd yr Iôr; Ac er na ddaw ei babell Byth eto i Gymru’n ôl, Ddi-lea lle mae amser ‘R atgofion sy’n ein côl.

Bu raid i DIC ymadael  byddin Prydain Fawr, I listio mewn un arall Uwchlaw i bethau’r llawr; Ac os na cha’dd fedalau Tra yma, heb un os, Caiff goron yn y nefoedd Yn lle’r Victoria Cross.

Tra deil ‘r hen afon Artro I suo ganu’n brudd, Fe gofia pawb am RICHARD A deigryn ar eu grudd; Tra pery cysgod Moelfra I warchod Gelli Bant, Fe gofir am y gwron Fu’n byw yn sŵn y nant.

CYFAILL Diolch i Mwff Williams am anfon copi o’r penillion i’r Llais. Tybed a ŵyr unrhyw un pwy oedd awdur y penillion er cof am Richard Jones, Gellibant?

BEIRDD FFOSYDD Y GWLEDYDD CELTAIDD

Collodd Cymru tua 40,000 o filwyr yn y Rhyfel Mawr. Collodd Iwerddon 49,000 a’r Alban tua 130,000. At hynny ychwanegwch tua 250,000 o Lydawyr. Anodd canfod y nifer o Gernyw a laddwyd ond mae yno 184 o fynwentydd lle claddwyd ei milwyr. Dyna’i chi ymhell dros hanner miliwn o Geltiaid a gollwyd. Wrth i ni gofio canmlwyddiant dechrau rhyfel a wnâi roi diwedd ar bob rhyfel, cyhoeddwyd toreth o gyfrolau perthnasol, gyda’r awduron yn cofio am eu pobl eu hunain. Gwych o beth, felly, fu cyhoeddi cofiant i’r colledigion Celtaidd, a rheiny’n feirdd. Yn ei ragair, dywed golygydd y gyfrol, Myrddin ap Dafydd, fod o leiaf wyth gant o’r cyfanswm o 12 miliwn o Brydain a Llydaw a laddwyd yn feirdd, awduron neu’n ddramodwyr. Lladdwyd hefyd, meddai, lawer o egin feirdd. Agorir gyda hanes y beirdd Gaeleg gan Eilidh NicGumaraid. Ymatebodd mwy o ddynion yr Alban i’r alwad i ymuno â rhengoedd y milwyr, ar gyfartaledd, nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol, meddai, oherwydd delwedd hanesyddol y milwr Albanaidd. Naomi Jones a Myrddin ei hun fu’n gyfrifol am bennod sy’n cysylltu’r Cymro Hedd Wyn â’r Gwyddel Francis Ledwidge, dau fardd sy’n gorwedd yn yr un fynwent. Cawn hanes beirdd Llydaw gan Ceridwen LloydMorgan. Yr unig enwau cyfarwydd i mi yw Taldir a Guilliame Apollinaire, ac mae’r bennod yn llenwi twll enfawr yn fy anwybodaeth. Roeddwn i’r un mor anwybodus am hanes beirdd y Ro-wen, a gofnodir gan Myrddin unwaith eto. Yma cawn hanes, nid yn unig y colledion o ran bechgyn Dyffryn Conwy, ond effaith hefyd y ffatri ‘miwnishons’ ar un o’r merched. Gan Tim Saunders cawn hanes Scrifer ân Mor, neu Robert Walling, ynghyd â chriw lliwgar o Gernyw. Wedyn cawn gan Llion Jones bennod ar bwysigrwydd canu a chydganu i’r milwyr Cymraeg. Y bennod olaf yw un o’r rhai mwyaf diddorol sef ‘Canu Gwyddelig y Rhyfel Mawr’ gan Myrddin. Cawn gefndir caneuon ymdaith, fel ‘It’s a Long way to Tipperary’, caneuon rebel fel ‘The Foggy Dew’ a chaneuon gwrthrecriwtio fel ‘Sergeant William Bailey’. Fel y dywed y rhagair, nid oedd yr un o’r gwledydd Celtaidd hyn yn wlad annibynnol pan dorrodd y Rhyfel Mawr. A Lloegr biau’r llais o hyd pan ddaw’n fater o bwysigrwydd. Ond newidiodd rhai pethau. Bu’n drothwy newydd o safbwynt gwleidyddiaeth y gwledydd Celtaidd. Ac wrth i ymerodraethau mawr Ewrop chwalu, daeth gobaith a gwawr newydd i hen ddiwylliannau Celtaidd. Lyn Ebenezer Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

17


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Gweledigaethau Manon Mewn cystadleuaeth Gelf, a drefnwyd gan Gyfeillion Ellis Wynne yn ddiweddar, daeth Manon Wilson [B9] yn gyntaf allan o dros 200 o gystadleuwyr – tipyn o gamp. Fel sbardun i’r creu, cafodd pawb ddewis tynnu ar un neu fwy o dri dyfyniad allan o gampwaith Ellis Wynne, sef Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. “Fe ddewisais i gyfuno’r tair golygfa,” meddai Manon. Creodd ddarlun - y mae hi ei hun yn ddisgrifio fel ‘hunllefus’ – o ferch yn cysgu gyda diafoliaid a chythreuliaid yn dawnsio o’i chwmpas, bryniau a mynyddoedd Cymru fel cwrlid ei gwely a dyn bach pell i ffwrdd yn syllu drwy sbienddrych ar yr olygfa arswydus. Defnyddiodd Manon baent acrylig yn bennaf, gyda phaent olew yn ogystal, wedi’i osod â brwsh. Cafodd ei chyfweld ar raglen nosweithiol S4C, ‘Heno’, pan ddaethant i adrodd ar y gystadleuaeth. Hefyd wedi gwneud yn dda oedd Molly Wattis (B7), a ddaeth yn bedwerydd.

Croesawu athrawon Hoffem estyn croeso i’n Pennaeth Mathemateg newydd, sef Llinos Murphy. Hefyd, croeso i dri ddarpar athro fydd yma tan fis Mehefin: Bleddyn Humphries – Gwyddoniaeth; Elgan Jones – Mathemateg; Gemma Forde – Dylunio a Thechnoleg. Gobeithio y byddwch yn hapus yn ein mysg. Casglu arian Yn ddiweddar, casglwyd £250 gan ein disgyblion mewn diwrnod gwisg hamdden. Bydd y swm yn cael ei gyflwyno i Sefydliad y Galon Brydeinig. Llys Ynadon Aeth criw o ddisgyblion cwrs BTEC Y Gyfraith i Lys Ynadon Caernarfon. Cafwyd diwrnod diddorol iawn yn eistedd yn gwrando ac yn cymryd nodiau ar yr achosion troseddol gwahanol oedd ymlaen ar gyfer eu defnyddio wedyn i lunio darn o waith cwrs. Hunaniaith Mae Hunaniaith ar hyn o bryd yn gweithio ar y cyd â Ysgol Ardudwy ar gynllun peilot sy’n edrych ar gynnal a hybu’r defnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg ymysg pobl ifanc a hynny drwy wahanol brosiectau a digwyddiadau. Gorsaf Radio Un o’r prosiectau sydd wedi dwyn ffrwyth yw sefydlu Gorsaf Radio Ysgol. Treuliodd disgyblion o B10 fore o hyfforddiant gyda Marc Griffiths (Marci G) ar y 5ed o Chwefror lle cafwyd cyfle i ddod yn gyfarfwydd â chynhyrchu, recordio a golygu rhaglenni eu hunain. Gall eitemau gynnwys rhaglenni

18

ar holi barn disgyblion ar bynciau arbennig, rhoi sylw i weithgareddau a llwyddiannau yn yr ysgol, sylwebiadau ar gemau rygbi neu bel-droed a fu, cyflwyno sgetsys ysgafn, slotiau yn trafod materion diwylliannol a chelfyddydol a llawer mwy. Gellir gwrando ar y rhaglenni a gynhyrchwyd gan Radio Ysgol Ardudwy drwy ymweld â gwefan Cymru FM: www.cymru.fm Pêl-droedwyr yn ymweld Bu’r ddau bêl-droediwr enwog fu’n cynrychioli Cymru, Malcolm Allen ac Iwan Roberts (fu’n ddisgybl yn Ysgol Ardudwy!) yn ymweld â disgyblion B10 ar brynhawn Gwener, 20fed o Fawrth i gynnal sgyrsiau ysbrydoli ar bwysigrwydd y Gymraeg a Chymreictod o fewn eu bywydau a’u gyrfa. Cafwyd sesiwn ymarferol o bêl-droed allan ar y cae hefyd! Pêl-rwyd Llongyfarchiadau i Chelsea Smedley am basio cwrs cychwynnol Pêl-rwyd Cymru. Chelsea oedd yr unig ddisgybl ysgol ar y cwrs; pobl hŷn a chwaraewyr ifanc oedd y lleill. Mae hyn yn dangos cymeriad cryf Chelsea i allu cynnal sesiynau hyfforddi i gyd-ddisgyblion. Mae Chelsea yn edrych ymlaen i helpu hefo sesiynau pêl-rwyd yn yr ysgol.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Bowldro De Gwynedd Yn y gorffennol, un tîm o ddeg o ddisgyblion oedd yn cynrychioli pob ysgol. Bellach, mae pedwar tîm i bob ysgol, ac mae chwech o ysgolion yn cystadlu. Daeth tri thîm o Ysgol Ardudwy - yn llythrennol – i’r brig yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd ar Chwefror 11eg, a byddant yn mynd yn eu blaenau i gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth derfynol Gwynedd a Môn. Pob lwc i’r tîmau. Rygbi Ar brynhawn Llun digon oer ganol mis Mawrth, aeth tîm dan 13 Ysgol Ardudwy i chwarae yn erbyn Ysgol y Gader, Dolgellau yng Nghwpan Eryri. Roedd nifer o chwaraewyr dibrofiad yn nhîm Ysgol Ardudwy [rhai ohonyn nhw o B7] ac roedd rhai yn chwarae eu gêm rygbi gystadleuol gyntaf. Cafodd Ysgol Ardudwy gychwyn da gyda dau gais cynnar; un gan yr hanerwr, Ben Davies, ac un arall gan y canolwr, Carwyn Foster. Sgoriodd Dolgellau gais wedyn cyn i’r capten, Brychan ap Gareth, sgorio dan y pyst. 19–7 ar hanner amser. Roedd tîm Ysgol y Gader yn chwarae yn well yn yr ail hanner ac fe sgorion nhw gais i’w gwneud hi yn 19–14. Daeth cais arall gan wythwr rhagorol Ysgol Ardudwy, Rowan Bavin, a chyda throsiad arall gan Davies roedd y sgôr yn 26–14. Nid oedd tîm Ysgol y Gader am orffwys ar eu rhwyfau a thrwy chwarae chwim sgoriwyd cais arall. 26–21 i Ysgol Ardudwy.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

01766 780186 07909 843496

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Telerau - £6 y mis neu £60 y flwyddyn

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

[am 11 mis]

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

01341 241297

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

gan Ann ar

Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

GERALLT RHUN

g.rhun@btinternet.com

Rhagor o wybodaeth

Pritchard & Griffiths Cyf.

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio

Am hysbysebu yma?

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00 Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Tacsi Dei Griffiths Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 19


Cefnogwch Theatr Harlech!

Mae’r gefnogaeth ariannol i Theatr Harlech wedi dirywio’n enbydus erbyn hyn. Ychydig iawn o gynyrchiadau gaiff eu llwyfannu yno y dyddiau hyn. Ni allwn ddweud pam, ond mae’n amlwg fod llawer o fwrlwm yn y Galeri yng Nghaernarfon. Tybed a ailgyfeiriwyd arian o Harlech i Gaernarfon? Ar hyn o bryd, er mwyn parhau i ddangos ffilmiau mae’n rhaid i Theatr Harlech drosi i system ddigidol. Buasai hyn yn hwb mawr i’r ardal, buasai’n creu swyddi ac yn cadw arian i droi yn y gymuned yn hytrach na 50 milltir i ffwrdd. Buasai hefyd yn galluogi’r Theatr i gynnig hyfforddiant yn y celfyddydau unwaith eto. Mae deiseb wedi ei threfnu yn lleol ac mae modd ei harwyddo yn llawer o siopau’r ardal. Cofiwch wneud hynny pan gewch gyfle.

YSGOL TANYCASTELL

DIWRNOD Y LLYFR Buom yn dathlu Diwrnod y Llyfr ar Mawrth 5. Bu’r disgyblion a’r staff yn gwisgo fel cymeriadau o lyfrau. Cafwyd cystadleuaeth am y wisg ffansi orau ac fe dderbyniodd y disgyblion a gafodd 1af, 2il a 3ydd wobr o docyn llyfr. Dyma rai o’r cymeriadau:

DATHLU DYDD GWŶL DDEWI Buom yn dathlu y diwrnod yma drwy cael cinio Cymreig o gig oen a chafodd y plant Meithrin wledda gyda gweddill yr ysgol.

EISTEDDFOD YR URDD Bu’r plant yn hynod brysur yn cystadlu yn adran Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd. Buont yn creu, peintio, gludo, a lliwio ac fe gafwyd llwyddiant arbennig yn yr Eisteddfod Cylch a’r Sir. Bydd Cherry Smith ac Ella John yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerffili ddiwedd mis Mai. Pob lwc!

CINIO SUL YM MHLAS TANYBWLCH Mwynhewch ginio dydd Sul yn hen ystafell fwyta’r teulu Oakeley gyda golygfeydd godidog dros Ddyffryn Maentwrog. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw. CINIO DAU GWRS - £12 yn cynnwys te/coffi Plant dan 15 oed - £6 Ffôn: 01766 772600

20

DAWNSWYR O FRI! Llongyfarchiadau mawr i Grŵp Dawnsio Disgo am ddod yn gyntaf yn yr eisteddfodau’r Cylch a’r Sir. Byddant yn awr yn cynrychioli Meirionnydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili. Pob lwc i chi genod!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.