Llais ebrill 2016

Page 1

Ardal y Castell ar ei Newydd Wedd

Llais Ardudwy 50c

RHIF 451 EBRILL 2016

Tref Harlech yn adfywio! Wedi cyfnod digalon o weld y swyddfa bost, siopau a banciau’n cau yn Harlech, mae’n hyfryd cyhoeddi ychydig o newydd da am ddatblygiadau yn y dref. Mae Siop Murphy wedi ailagor, mae adeilad yr HSBC wedi ei werthu i gwmni Cynlluniau Cae Du, ac mae’r hen fanc Barclays a fu’n swyddfa i gwmni cyfreithwyr Breese Gwyndaf [Llys y Graig] yn mynd i fod yn siop prydau parod. Mi fydd Seler Gwyndy yn siop ddillad. Bydd hen Fwyty’r Castell yn dod yn fwyty Eidalaidd ac mae’r hen swyddfa bost bellach yn asiantaeth gosod tai. Erbyn hyn mae Caffi’r Castell, dan reolaeth Freya Bentham, wedi cael trwydded i agor fel bar tapas min nos ac wedi cychwyn masnachu. Coflaid o newyddion da am dref Harlech felly; dyna ffordd amheuthun o edrych ymlaen at y gwanwyn.

Llys y Graig

Hen fanc HSBC

Gall tref Harlech fod yn falch iawn o’r newidiadau diweddar a fu o gwmpas y castell. Derbynnir bod dwy farn am y bont newydd ond mae’r ganolfan groeso yn werth ei gweld, felly hefyd y siop a’r caffi. Yn wir, heb i chi fynd i ben yr Wyddfa ar ddiwrnod braf byddai’n anodd meddwl am gaffi sydd â golygfa cystal â honno sydd i’w gweld o’r caffi hwn. Mae’r bwyd yno yn ardderchog hefyd. Hyfryd yw gweld cymaint o bobl leol yn mynd yno’n rheolaidd i fwynhau eu hunain ac i ddangos ein trysorau i berthnasau a chyfeillion.

Bwyty’r Castell

Yr hen swyddfa bost

Siop Murphy

Seler Gwyndy


Llais Ardudwy GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 29 am 5.00. Bydd ar werth ar Mai 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

HOLI HWN A’R LLALL

Cymraeg yw ‘Rownd a Rownd’ a hoff raglen deledu Saesneg ydy Gogglebox. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, dwi’n bwyta’n hynod o dda - rhy dda a dweud y gwir. Fe fydda’n well i’m hiechyd ac i sefyllfa ariannol Mam a Dad pe bawn yn bwyta llai. Hoff fwyd? Does dim byd gwell na ffa pob ar dost gyda chaws wedi’i doddi. Hoff ddiod? Unrhyw ddiod oren yn enwedig J2O. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Mam a Dad er Enw: Iwan Morus Lewis mwyn iddynt gael talu am fy Gwaith: Myfyriwr. Astudio i fod mwyd; buasai’n well gwahodd fy yn athro ysgol gynradd mrawd i gadw’r ddysgl yn wastad. Cefndir: Geni a’m magu yn Tudur Owen i ddod â hiwmor i’r Llandanwg ac yn dal i fyw yno. bwrdd. Wrth fy modd gyda’r ardal a gobeithio y gallaf gael swydd sydd Lle sydd orau gennych? Unrhyw le lle mae yna yrfa chwist yn fy ngalluogi i barhau i fyw yn neu gêm o golff ar gael. yr ardal. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mae Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Taith Meibion Prysor i’r Ffindir, unrhyw un sydd yn fy adnabod yn gwybod nad ydw i yn gwneud trip a gafodd ei drefnu yn ardderchog, hefyd gwlad braf, llawer i gadw’n iach. Ond rwyf brydferth a phobl gyfeillgar. yn chwarae golff cymaint ag y gallaf; yn anffodus y ffordd dwi’n Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n gyrru yn rhy araf, yn chwarae yn aml dwi’n gorfod enwedig rhai sydd yn gyrru’n cerdded milltiroedd yn fwy na araf mewn PRIUS gwyn (car tun phawb arall. beans). Beth ydych chi’n ei ddarllen? Beth yw eich hoff rinwedd mewn Rydw i’n cael darlith yn aml gan Mr Mostert am y ffaith nad ydw i ffrind? yn darllen digon o lyfrau. Y llyfr Caredigrwydd a hefyd person diwethaf i mi ei ddarllen o glawr i sydd yn hwyliog. Pwy yw eich arwr? glawr oedd ‘Dyddiadur Ffarmwr Mam a Dad. Pobl gref, garedig ac Ffowc.’ yna i mi a Rob unrhyw adeg ’da Hoff raglen ar y radio neu’r ni eu hangen. Hefyd gweithwyr y teledu? gwasanaethau brys. Fy hoff raglen radio yw ‘Bore Beth yw eich bai mwyaf? Cothi’. Fy hoff raglen deledu

Diogi - dylwn wneud mwy i helpu adref. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl besimistaidd neu sydd yn ddigalon drwy’r adeg a phobl dau wynebog. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Teulu, iechyd, ffrindiau da ac ennill yn y chwist. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Byswn yn hoffi dweud y buaswn yn ei roi i elusen neu achos da ond mwy na thebyg ei wario ar offer golff. Eich hoff liw? Glas - mae’n fy atgoffa o’r môr a hefyd cartref. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr - arwydd fod y gwanwyn wedi cyrraedd. Eich hoff fardd? Harri Webb am ei gerdd ‘Colli Iaith.’ Eich hoff gerddor? Robat Arwyn heb os nac oni bai. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Anfonaf Angel. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae tenis - byddwn wrth fy modd cael mynd i chwarae yn Wimbledon. Eich hoff ddywediad? Pe byddai’r lleuad yn gaws mi fwytwn lond fy mol. (Mae’n rhaid bod rhywbeth sydd yn ymwneud â bwyd yn dda.) Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon iawn a dim achos i gwyno o gwbl. Mae bywyd ar hyn o bryd yn dda iawn i mi.

YN YR ARDD - MIS EBRILL Mae’r gwanwyn i’w weld o’n cwmpas ym mhob man ac mae’n amser i dorchi llewys yn yr ardd. Mi fydd y coed blodeuog yn harddu’r fro ym mis Ebrill. Dyma un o’r misoedd mwyaf cynhyrfus i’r garddwr gan fod modd plannu’r rhan fwyaf o hadau. Fel arfer, y mae’r hadau a blannwyd eisoes dan wydr yn tyfu ymlaen yn llwyddiannus. Mae’n amser i blannu y tu allan - ond gwyliwch rhag barrug a rhew dros nos. Gallwch ddechrau rhoi sylw i’r lawnt hefyd. Ar ôl yr holl law rydan ni wedi’i gael, gallai ychydig o fwyd wneud lles iddi ynghyd â’i hawyru drwy balu fforc drwyddi fesul troedfedd.

TASGAU

1. Cadwch y chwyn dan reolaeth - eu dal nhw’n gynnar sydd eisiau cyn iddyn nhw wneud meistr arnoch chi. 2. Gwyliwch rhag i flodau’r coed a’r llwyni ffrwythau gael barrug. 3. Clymwch y rhosod sy’n dringo. 4. Rhowch fwyd i’r rhosod a llwyni eraill. 5. Mae’n amser hau blodau blwyddol a hadau perlysiau. 6. Gallwch roi ychydig mwy o ddŵr i blanhigion tŷ. 7. Gallwch hau lawnt newydd neu drwsio mannau moel. 8. Gallwch roi pryd o fwyd i’r rhosod ddechrau mis Ebrill ac eto wedyn ddechrau mis Mehefin.


Y BERMO A LLANABER Cwmni Drama Dinas Mawddwy yn y Bermo Ar noson drybeilig o oer ym mis Chwefror eleni gwelwyd golygfa anarferol y tu allan i Theatr y Ddraig, Y Bermo, sef lori ddefaid wedi’i pharcio gyferbyn â drws ochr y theatr. Ffarmwr wedi mynd ar goll? Na, go brin - dyma oedd fan ‘props’ Cwmni Drama Dinas Mawddwy ac fel roedd y gynulleidfa’n cyrraedd roedd yn rhaid iddynt gamu o’r neilltu’n sydyn wrth i actorion cyhyrog gario byrddau, soffa a hyd yn oed dresel i lawr y grisiau i Stafell y Celfyddydau. Roedd yn amlwg bod noson ddiddorol o’n blaenau. Y Gymdeithas Gymraeg a Merched y Wawr, Y Bermo a’r Cylch oedd yn cynnal y noson ar y cyd. Estynnodd Mr Dei Griffiths, ein Llywydd hwyliog, groeso cynnes i bawb cyn mynd ymlaen i dynnu’r raffl, ac un hael oedd hi hefyd oherwydd haelioni’r aelodau, ac roedd nifer o’r gynulleidfa’n lwcus. Yna cawsom weld dwy ddrama ddoniol a chriw o actorion dawnus oedd yn amlwg yn mwynhau cymaint â ninnau. Wedi cymaint o chwerthin, roedd cyfle i bawb gymdeithasu dros baned a chacen wedi eu paratoi gan yr aelodau. Mae’r Cwmni wedi bod yn ymweld â’r ardal ers dros ddeugain mlynedd bellach; roeddynt yn dod i’r Gymdeithas yn Nhalybont ar un adeg cyn dod i’r Bermo. Rydym yn dymuno pob lwc iddynt yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ôl yn 2017.

Eglwys St Ioan, Bermo

CYNGERDD Ensemble yr Hermitage

o St Petersburg, Rwsia

Ebrill 18 am 7.30 o’r gloch Tocynnau: £10

Y Gymdeithas Gymraeg Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Gymdeithas nos Fercher, 16 Mawrth, o dan lywyddiaeth Llewela Edwards. Rhoddodd fraslun o gynnwys y rhaglen a diolchodd i bawb a drefnodd nosweithiau amrywiol a difyr. Diolch hefyd i Megan am baratoi’r sgons. Bydd y swyddogion yn aros yn eu lle am flwyddyn arall. Dilynwyd hyn gan ychydig o frethyn cartref; cafwyd gan Megan storïau difyr a direidus o’i phlentyndod yn ardal Llangadfan, a darllenwyd ambell stori fer ddoniol gan Alma a Rhian. Diolchodd Llewela am yr eitemau uchod ac i Megan am baratoi’r paned. Merched y Wawr Ym mis Mawrth dechreuwyd efo materion y Mudiad dan arweinyddiaeth Llewela a Gwenda. Cawsom ein hatgoffa ei bod yn 50fed pen-blwydd Merched y Wawr yn 2017. Prif weithgaredd y noson oedd darlith gan Elfed ap Gomer YH. Gwyneth ddaru ei gyflwyno. Roedd o’n ei chofio hi, Llewela a Grace yn gweithio efo’i gilydd yn Ysgol Ardudwy, rhai blynyddoedd yn ôl. Ar ôl i Elfed ymddeol fel athro, aeth yn Ynad Heddwch ac yn y cyfarfod esboniodd i ni waith yr Ynad. Dechreuodd efo cyflwyniad PowerPoint am hanes yr Ynadon, yn dechrau yn ôl yn 1195, amser Richard ‘Calon Llew’, yn datblygu dros y canrifoedd ac, yn y blynyddoedd diweddar, yn wynebu toriadau. Wedyn dangosodd Elfed luniau o Lys Ynadon Dolgellau, hen a chyfoes, gan eu defnyddio i esbonio sut mae Llys Ynadon yn gweithio. Gorffennodd efo ni yn gweithio mewn grwpiau o dair (fel tri Ynad ar y Fainc), yn ystyried achosion dychmygol ond nodweddiadol. Roedd y cyflwyniad yn dda, ac roedd yn ddiddorol iawn i ni gael cipolwg ar fyd y llysoedd, a dod i ddeall mwy am waith Ynad. Ar ôl sesiwn gwestiynau, diolchwyd i Elfed gan Pam dros bawb. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 19eg mis Ebrill, pan fydd Ken Robinson yn dod atom i siarad am Lein y Cambrian.

Y Llais yn dathlu ei ben-blwydd Deugain mlynedd a mwy? Pwy feddylia? Atgofion braf o fwrlwm y dyddiau cynnar hynny yn Llyfrgell Coleg Harlech wrth i ni geisio cael rhyw fath o drefn ar y jig-so misol. Mae’r papur bro wedi sefyll yn gadarn yn y bwlch byth ers hynny ac wedi rhoi pleser amlwg i sawl to o ddarllenwyr. O bydded i’r dyddiau hynny barhau. Mae’r angen yno o hyd. Pob dymuniad da i Lais Ardudwy, a phob papur bro arall trwy Gymru benbaladr o ran hynny, yn y dyfodol. Y Drudwy (ddoe a heddiw) Ddrudwen annwl, dos â negas Draw i Gymru, dros y dŵr; Dôs i ddeud wrth Bendigeidfran Bod fy mywyd yn llawn stŵr; Fe gei groeso yn Ardudwy, Bro sy’n llawn o ffrindiau cu, Croesa draeth o hen atgofion Am y dyddiau da a fu.

CLOC HAUL

Ddrudwy annwl, ewch yn gwmwl I wau patrymau yn y nen; ’Sgwennwch negas yn y machlud Bod y dyddiau da ar ben; D’wedwch wrth y Gymru gyfoes Ei bod hi’n unfed-awr-ar-ddeg, Cerdyn oedd ar gael mewn A bod ei thynged yn ei dwylo pacedi sigaréts W D & H O Fel un Branwen dirion, deg. Wills ers talwm. Enw’r gyfres Brian Ifans oedd ‘Old Sundials’. Diolch i Hugh Roberts, Bermo am ei anfon i’n sylw.

‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’

Bydd cynhyrchiad unigryw yn ymweld â Neuadd Cricieth ar nos Fawrth, 12 Ebrill. Mae ‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’ yn dod â dyddiaduron o’r 18fed ganrif yn fyw drwy ddrama a cherddoriaeth. Dyma ail daith y ddrama lwyddiannus. Yr actor adnabyddus, Wyn Bowen Harries sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad ac meddai:

“Mae bywyd William Bulkeley yn darllen fel opera sebon. Priododd ei ferch â môr-leidr, bu farw ei fab o alcoholiaeth, cafodd ei fam ei lladd gan ysgol yn syrthio ar ei phen cyn cael ei sathru gan wartheg! Fel sgweier ac Ustus Heddwch, mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun diddorol iawn o fywyd cefn gwlad Cymru yn y 1700au. Byddwn yn cyflwyno uchafbwyntiau o’r dyddiaduron, gan gynnwys hanes ei deithiau i’r Iwerddon ynghyd â ffeiriau, ymladd ceiliogod, a sgandalau’r llys ym Miwmares. Cofnodwyd nifer o ganeuon yn y dyddiaduron ac fe gynhwysir digonedd o gerddoriaeth yn y perfformiad gan Stephen Rees o Ysgol Gerddoriaeth y Brifysgol, sy’n arbenigwr ar gerddoriaeth gwerin y cyfnod.”

D.S. Gyda Llais Ardudwy ar fin mynd i’r wasg, symudwyd y cynhyrchiad hwn o Theatr Harlech i Neuadd Cricieth. Mae tocynnau yn parhau i fod ar gael gan theatrharlech.com, rhif ffôn 01766 780667.

3


LLANFAIR A LLANDANWG Alergedd i rai bwydydd

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau calonnog i Lewys Meredydd, ŵyr Mair M Williams, Llanfair, ar ei lwyddiant yn Eisteddfod Sir yr Urdd i ysgolion uwchradd a gynhaliwyd yn y Bala yn ddiweddar. Daeth Lewys yn gyntaf mewn tair cystadleuaeth - yr unawd alaw werin, yr unawd i fechgyn, a’r ddeuawd efo Mared Fflur Jones, ac yn ail yn yr unawd gerdd dant. Pob hwyl i ti, Lewys, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ddiwedd mis Mai a gynhelir eleni yng nghyffiniau’r Fflint. Pob lwc hefyd i bob un o blant ardal Ardudwy sydd wedi llwyddo yn Eisteddfod y Sir ac yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Fflint. Colin Palmer Bu farw Colin Palmer wedi cystudd hir. Bu’n athro celf yn Ysgol Ardudwy am gyfnod maith lle’r oedd yn gymeriad lliwgar ac yn uchel ei barch gan staff a disgyblion. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu colled. Bydd coffâd llawn iddo’n ymddangos yn ein rhifyn nesaf.

4

Ydych chi’n dioddef o alergedd bwyd? A hoffech godi ymwybyddiaeth o alergeddau bwyd a sut brofiad yw byw gydag un? Caiff Wythnos Ymwybyddiaeth Alergedd 2016 ei chynnal rhwng 25 Ebrill ac 1 Mai, a bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio’n agos ag Allergy UK i gefnogi’r ymgyrch. Rydym yn chwilio am siaradwyr Cymraeg a fyddai’n fodlon siarad am y profiad o fyw gydag alergedd bwyd er mwyn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o’r mater. Cysylltwch â ni drwy gysylltu ar yr isod: comms. wales@foodstandards.gsi.gov.uk neu 02920 678944

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Geraint Williams, Gwrachynys ar y gwaith cywrain a wnaed ganddo wrth drwsio porth Eglwys y Santes Fair yn y pentref. Mae’n waith cywrain iawn o bren cedrwydd ac yn gweddu’n dda iawn i’r lleoliad. Diolch Hoffai Meinir Ll Lewis ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cysylltu efo hi dros yr wythnosau diwethaf yma ac i Rydym yn y broses o gael llun swyddogol o’r Côr; bydd angen bawb sydd wedi holi amdani ac gwneud hyn cyn y daith nesaf i Gernyw ddiwedd mis Hydref. anfon eu cyfarchion trwy gydol Adroddiad y Trysorydd: y cyfnod yr oedd yn yr ysbyty ac Mae’r sefyllfa ariannol yn gadarn. Roedd cost y bysus ar gyfer Côr yna’n aros efo Geraint a’r teulu Leelo o Estonia yn uchel ond roedd merched Côr Leelo hefyd wedi yn Harlech. Mae hi’n hynod o cyfrannu at y costau hyn. Bydd mwy o gostau eleni gan fod y daith ddiolchgar i bob un ohonoch i Gernyw ar y gweill. Diolchwyd i Bryn Lewis am ei waith trwyadl. am eich cefnogaeth barhaus a’ch Clwb 200: parodrwydd i’w helpu. Mi gollodd y Clwb 200 wrth golli 18 o aelodau dros y flwyddyn ond Mae hi’n falch iawn bellach o mae’n dal i wneud elw da i’r Côr. fod wedi gwella’n ddigon da i Adroddiad yr Arweinydd: fynd adre’n ôl i’w chartref yn Bu’n flwyddyn gyda llawer o gyngherddau gan gynnwys ymweliad Llanfair. Côr Merched Leelo. Un ergyd fawr i’r Côr eleni oedd marwolaeth

Cyfarfod Blynyddol Côr Meibion Ardudwy

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

Geraint Meifod; roedd ei gyfraniad yn enfawr dros nifer o flynyddoedd. Colled arall oedd colli Alun Evans wedi iddo fudo i Loegr. Ar nodyn mwy cadarnhaol, rydym wedi derbyn dau aelod newydd, sef Andy ac Adrian. Mae’r daith i Gernyw yn bwysig ac yn rhywbeth i’r Côr gael edrych ymlaen ato. Nododd Aled bwysigrwydd dod i’r ymarferion er mwyn sicrhau rhaglen o safon. Diolchodd i’r holl swyddogion a hefyd i Gwilym am sefyll yn y bwlch ac i Idris am ei waith arbennig, hefyd i Merfyn am edrych ar ôl y dillad a bod yn drefnydd llwyfan proffesiynol iawn. Adroddiad y Cadeirydd: Ategodd Ieuan negeseuon Aled a diolchodd am y cyfle o gael bod yn Gadeirydd. Diolchodd yntau i’r holl aelodau am eu hymroddiad. Soniodd am yr ergyd drom o golli aelodau blaenllaw fel Geraint ac Alun. Diolchodd i Phil am ei waith trefnus a hefyd am ddiweddaru’r wefan, i Aled, Idris a Gwilym am eu gwaith gwiw ac i holl aelodau’r pwyllgor am eu gwaith. Diolchodd hefyd i bawb a fu’n helpu i letya ein gwesteion o Estonia. Ethol Swyddogion: Cadeirydd: Merfyn Williams Is-gadeirydd: Ifan Jones Llywydd y Côr - Gwynli Jones Penderfynwyd cadw’r swyddogion eraill heb eu newid. Unrhyw fater arall: Trafodwyd yr angen am grys â thei bo newydd. Mae’r Côr hefyd am brynu allweddell newydd o ansawdd da.


YSGOL ARDUDWY Cystadleuaeth Mathemateg Cymerodd grŵp o ddisgyblion B8 a 9 ran yng nghystadleuaeth Heriau Mathemateg ym Mae Colwyn ar Chwefror 25. Aelodau tîm yr ysgol oedd Gwenno Lloyd a Lowri Llwyd (B9) a Mared Rees Jones ac Osian Myfyr Jones (B8). Mwynhaodd y disgyblion yr her yn fawr iawn ac maen nhw’n awyddus iawn i gymryd rhan eto’r flwyddyn nesaf. Prosiect Ffenics y Gwasanaeth Tân Treuliodd Natalya Norman, Jessica Cunnington-Holmes a Guto Thomas o B9 wythnos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Prif nod y prosiect yw buddsoddi mewn pobl ieuanc, gan ddefnyddio sgiliau, profiad ac enw da’r Gwasanaeth Tân ac Achub er mwyn cydweithio gyda’r bobl ieuanc yma i’w haddysgu am bwysigrwydd diogelwch tân. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis ymarferion rhedeg pibelli dŵr, diffodd tân a chwilio ac achub ynghyd â dysgu sgiliau defnyddiol fel Cymorth Cyntaf, Trin Offer gyda Llaw, Rheoli Risg a Diogelwch Tân. Llawer o ddiolch am y gefnogaeth gan y tîm ymroddedig, a diolch arbennig i Mr Gerallt Hughes o’r Gwasanaeth Tân am drefnu’r cwbl. Cystadleuaeth Lori Ni Ymwelodd ‘Lori Ni’ â’r ysgol yn ddiweddar - gwasanaeth gwybodaeth ‘galw i mewn’ symudol ar gyfer pobl ifanc Gwynedd. Yn ystod yr ymweliad cynhaliwyd cystadleuaeth ‘Facebook’ llongyfarchiadau i Brychan John Roberts o Benrhyndeudraeth am ennill y gystadleuaeth eleni. Derbyniodd Brychan gerdyn anrheg iTunes. Gweithgareddau 5x60 Trefnodd Jess Kavanagh, ein Swyddog 5x60, gystadleuaeth ‘Dodgeball’ yn ddiweddar rhwng Ysgolion Ardudwy, Y Moelwyn, ac Eifionydd. Dyma’r un gyntaf i’w threfnu a bu’n llwyddiannus dros ben gydag Ardudwy ar y brig yn ennill pob gêm!

Yr Urdd Bu llond bws o ddisgyblion ar daith sglefrio’r i Lannau Dyfrdwy. Roedd pawb wedi mwynhau ac wedi dychwelyd heb unrhyw anafiadau! Pêl-rwyd Cymerodd Tîm Pêl-rwyd B8 ran yn Nhwrnament Pêl-rwyd Heddlu Trafnidiaeth Gogledd Cymru yng Nghanolfan Brailsford, Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Aelodau’r tîm yw Elan Williams, Elin McKenzie, Ella Papirnyk, Cerys Sharp, Cêt Roberts, Elin Lane, Llio Henshaw a Beca Williams. Perfformiodd y merched yn eithriadol o dda yn erbyn timau cryf iawn a daethant yn 3ydd yn eu grŵp. Cystadleuaeth Athletau Dan Do Bu nifer o ddisgyblion B7-9 yn cystadlu yng nghystadleuaeth Athletau Dan Do ym Mangor ddechrau mis Mawrth. Daeth merched B7 ac 8 yn 3ydd drwy ysgolion Gwynedd a daeth merched B9 yn 4ydd. Perfformiodd Nikita Gannon a Bethany Doughty yn dda yn y cystadlaethau neidio ac felly yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn ysgolion Gogledd Orllewin Cymru yn y rownd nesaf. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu. Gemau Rygbi 6 Gwlad dan 20 Teithiodd rhai disgyblion i Barc Eirias ym Mae Colwyn ym mis Chwefror i wylio Tîm Rygbi Cymru Dan 20 yn chwarae yn erbyn Yr Alban, Ffrainc a’r Eidal. Mwynhaodd y disgyblion y profiad.

Bowldro Llongyfarchiadau mawr i’r ddau dîm o Ysgol Ardudwy am ddod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Bowldro De Gwynedd. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Bobl Ifanc Egnïol Gwynedd ar y cyd gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored. Bydd y ddau dîm rŵan yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol rhwng Gogledd Gwynedd, De Gwynedd a Môn. Dymunwn bob lwc i’r bechgyn.

Gig Ysgard - Neuadd Goffa Cafwyd noson o gerddoriaeth rythmig a heintus yn y Neuadd Goffa gan y band Ysgard! Aelodau’r band y tro hwn oedd Cerys ac Alaw Sharp, Rhys Jones, Gwion Lloyd, Erin Ward, Mr Elfyn Anwyl, (offerynnau pres), Dafydd Hughes (piano a llais), Tirion Evans (gitâr), Oscar Fields (gitâr fas), Miki Adamkiewicz (offerynnau taro) a Max Liggett (drymiau) o dan arweiniad Mr Einion Dafydd (sacs ac allweddell). Yn ogystal â bod yn grŵp offerynnol, mae Ysgard yn rhoi cyfleoedd i gantorion mewn amryw o arddulliau. Dangosodd Dafydd Hughes ei fod yn ganwr tan gamp wrth roi unawd o ‘Georgia On My Mind’, ‘Imagine’ a chân a gyfansoddodd ei hun, sef ‘Rhyfel Nadolig’. Hefyd, perfformiodd Tirion Evans ddau ddarn y mae o wedi eu cyfansoddi; darnau ydy’r rhain sy’n dangos ei ddawn efo looping ar bedal effeithiau yn ogystal â’i ddawn byrfyfyrio. Profiad newydd i’r band oedd cael offerynnau pres ond mae eu heffaith yn creu sain gyffrous a phwerus iawn ac rydym yn chwilio am ffyrdd o ehangu’r nifer o gerddorion ifanc sy’n perfformio efo Ysgard.

A5


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Bu aelodau o gangen Talsarnau yn dathlu Gŵyl Ddewi ddwywaith eleni. Y tro cyntaf derbyniwyd gwahoddiad Cangen Harlech i ymuno â hwy yn y Ship Aground, Talsarnau am swper ar ddydd Gŵyl Ddewi a chafwyd swper ardderchog yn ôl yr arfer yma, cyn mwynhau sgwrs gan Hazel Jones o Gwmni Aerona Berries, Chwilog a chael cyfle i flasu ychydig o’i chynnyrch - gwin, jam a siocled. Bu’n noson bleserus iawn a diolchodd Mai, ar ran aelodau Talsarnau am y gwahoddiad ac am gael mwynhau cyd-ddathlu Gŵyl Ddewi gyda Changen Harlech. Amser cinio, ddydd Iau, Mawrth 3 aeth aelodau Talsarnau i Westy Seren, Llan Ffestiniog i ddathlu Gŵyl Ddewi a chafwyd diwrnod braf i ymweld â’r Gwesty hyfryd yma ac i fwynhau’r olygfa wych a geir oddi yno. Fe’n croesawyd ni gan Sioned ac Alex, ac wedi mynd i eistedd wrth y bwrdd yn yr ystafell fwyta, croesawodd Siriol Lewis, ein Llywydd, bawb yno a chydadroddwyd y fendith cyn i’r bwyd gyrraedd. Gweinyddwyd y bwyd ac roedd canmoliaeth uchel i’r safon, gyda digonedd i’w fwyta a’r cyfan yn cael ei weini’n ddymunol iawn gan y ddwy a’n croesawodd. Wrth gael y baned ar y diwedd, cyflwynodd Siriol rhai materion oedd angen ein sylw, ac wedi cwblhau’r rhain, tynnwyd y raffl cyn cychwyn am adref - ac roedd nifer dda o wobrau i’w hennill! Diolchodd Siriol i staff y Gwesty am y lluniaeth ardderchog, ac i Mai am wneud y trefniadau i gyd.

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau Ebrill 14 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb

6

NEUADD GYMUNED TALSARNAU CYFARFOD BLYNYDDOL CYHOEDDUS Cynhelir y cyfarfod uchod nos Lun, 25 Ebrill 2016 am 7.30 o’r gloch. Mae croeso cynnes i unrhyw un i ddod i’r cyfarfod i ddangos eu diddordeb a’u cefnogaeth i weithgareddau’r Neuadd. Byddai’r Pwyllgor Rheoli’n falch iawn o gael y cyfle i estyn croeso i aelodau newydd ar y Pwyllgor. Mae angen eich cefnogaeth arnon ni – dewch i’r cyfarfod pwysig yma! Marwolaeth Trist yw cofnodi marwolaeth un o blant Talsarnau sef Dafydd (Bronynys) ar ôl gwaeledd hir a ddioddefodd yn ddewr i’r diwedd. Cofiwn Dafydd fel un oedd yn llawn hwyl a direidi gyda chwerthiniad iach bob amser. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli cymeriad oedd mor annwyl gan bawb.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

FI SY’N CAEL Y CI Rhian Cadwaladr

Diolch Dymunaf ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu caredigrwydd ar ôl fy llawdriniaeth yn Broadgreen, Lerpwl, yn ddiweddar. Nia, Fuches Wen Rhodd a diolch £10 Diolch Dymuna Mrs Gwyneth Jones, Dolwen, Penrhyndeudraeth, (Glanymôr, Ynys gynt) ddiolch o galon i bawb am y cardiau a’r galwadau a gafodd yn dilyn ei phrofedigaeth ddiweddar o golli ei merch, Heulwen. Diolch hefyd i’r Parch Bob Hughes, Eglwys Llanfihangely-traethau am y gwasanaeth angladdol, i Priscilla Williams am ei gwasanaeth wrth yr organ, ac i Pritchard a Griffiths am y trefniadau trylwyr. Rhodd £10.00 Dathlu Pen-blwydd Bydd Bill Roberts, Tremadog, yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar 12 Ebrill. Anfonwn ein dymuniadau da iddo.

Does dim yn well na setlo i ganol stori dda. Dyna’n union a ddigwyddodd i mi gyda’r gyfrol hon wrth ddarllen hanes Gwen a’i hanturiaethau. Y stori’n fras yw bod Gwen newydd ddathlu ei phen-blwydd yn hanner cant ond drannoeth y pen-blwydd mawr mae ei chymar Eifion yn penderfynu ei gadael. Dyw’r rhesymau ddim yn glir ac yn sicr dyw cael coblyn o ben tost yn dilyn y dathliadau ddim yn help wrth iddi geisio ymresymu. Stori Gwen, a’r modd y mae hi’n delio â’r amrywiol sefyllfaoedd, sy’n llenwi gweddill y tudalennau. I’r sawl sydd oddeutu’r hanner cant mae yna, siŵr o fod, nifer o brofiadau cyffredin – mam oedrannus yn ffonio’n aml ac arni angen help, dau blentyn blêr ond eto sy’n torri calon eu mam wrth iddynt

ymadael â’r nyth, yfed gormod o win a delio â chanlyniadau hynny, a delio â chyn-ŵr ac ambell edmygydd newydd. Yr hyn sy’n dda am y nofel hon o’i chymharu â nifer o rai tebyg iddi yw nad yw Gwen yn gollwraig. Nid wyf am ddatgelu’r stori ond mae Gwen yn llwyddo i oresgyn e’i hanawsterau ac yn troi’n enillydd – hynny, wrth gwrs, gyda chymorth ei chi Idwal. Er nad oes siâp arno yntau chwaith, mae e’n dipyn o arwr yn y stori hon. Dyma gyfrol hawdd iawn ei darllen. Mae’r stori a’r naratif yn llifo’n hynod rwydd ac y mae’r ddeialog yn bwrpasol. Os ydych wedi blino ar ôl diwrnod hir o waith, neu os ydych ar eich gwyliau, dyma, heb os, y llyfr delfrydol ar eich cyfer. Mi waranta i y byddwch yn medru uniaethu â llawer o’r profiadau ac fe fydd yr anturiaethau a’u canlyniadau yn dod â gwên i’ch wyneb. Edrychwn ymlaen at gael nofel arall gan yr awdures naturiol a thalentog hon.

Sarah Down-Roberts

Adolygiad oddi ar www. gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


Rhagor o ardal TALSARNAU Cinio Blynyddol NFU Cymru yn 1950au neu 1960au’r ganrif ddiwethaf Dyma aelodau NFU Cymru yn eu Cinio Blynyddol yng Ngwesty Dewi Sant, Harlech yn 50/60au’r ganrif ddiwethaf. Fel y gwelwch, mae rhai’n ymaflyd gyda chwchan o felon o’u blaenau ac eraill gyda’u cawl! O’r chwith i’r dde: Robert Jones, Ty’nybraich, Dinas Mawddwy (tad yng nghyfraith Olwen, Pensarn, Glanywern) a’i ewythr Edward Jones yr Hafod, ardal Corwen (prynwr a gwerthwr anifeiliaid yn ei ddydd), John a May Pugh, Llechwedd Du, Harlech, ? William Jones, Glanymôr a’i ferch yng nghyfraith, Beti (Coety) a’i fab Lewis Jones, Yr Onnen, Llandecwyn. Ar y chwith - cefn, tu ôl i Edward Jones - David Jones Ellis, Rhosigor, ewythr Ellis Wyn Lloyd, Moelyglo a Gweneth Lloyd Jones, Caerdydd. Anfonwyd y llun gan Olwen Jones

THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

Ffilmiau Cymdeithas Ffilm Harlech Dydd Iau 14 Ebrill - In Bloom

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

CYNGOR CYMUNED MATERION YN CODI Cae Chwarae/Maes Parcio Adroddodd Geraint Williams ei fod wedi cael 4 mwy o lwythi o ddeunydd i’w roi i’w daenu ar y maes parcio uchod a hefyd ei fod wedi cael pris i lefelu a rowlio’r maes parcio, hefyd, gosod cyrbiau radiws wrth y fynedfa. Hefyd, adroddodd ei fod wedi cael pris i osod draen Ffrengig yn y cae chwarae a derbyniwyd y ddau bris yma. Cafwyd gwybod bod angen mynd allan am brisiau ffens rŵan a bod Mr Chris Rayner a Mrs Charlie Roberts yn edrych ar gael offer i’r cae chwarae. Hysbysfwrdd yr Ynys Adroddodd John Richards a Geraint Williams eu bod yn mynd i archebu un o’r uchod a’i osod ger arosfa bws yr Ynys. Torri Gwair Adroddodd y Clerc nad oedd wedi derbyn dim ond un tendr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a’r mynwentydd a chytunwyd i dderbyn y tendr yma. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid adeilad allanol gyda gwasanaeth cegin/toiled - Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-traethau Cefnogi’r cais hwn ond roedd yr aelodau’n cwestiynu’r angen am gegin. Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor Neuadd Bentref - £1500.00 Cylch Meithrin Talsarnau - £500.00 CFfI Meirionnydd - £100.00 Roc Ardudwy - Dim GOHEBIAETH Adran Briffyrdd Cafwyd atebion am nifer o’r cwynion o’r cyfarfod diwethaf. Mae’n fwriad gostwng y cyfyngiad cyflymder presennol sydd ar hyd yr A496 Llandecwyn o 40mya i 30mya; bydd yn cynnwys y cyfyngiad heibio stad Bryn Eithin. Heddlu Gogledd Cymru Bydd y ddau blismon cymunedol, sef Elliw Jones a Darren Walters yn mynychu cyfarfod o’r Cyngor Cymuned o leiaf ddwywaith y flwyddyn. UNRHYW FATER ARALL A oes posib ailddefnyddio’r blwch post yn yr Ynys? Mae llanast o amgylch y blwch post ger y Motel. Datganwyd pryder ynglŷn â’r ffens y tu allan i rif 4 Tai Newyddion, Ynys. A yw’n bosib cael safle tynnu i mewn cyn y rhiw i’r Garth, Soar? Mae angen trwsio lloches bws Llandecwyn. Mae rhai’n parcio gyferbyn ag Isfryn, Llandecwyn. Mae’n fwriad i osod llinellau melyn dwbl ger y safle. Mae baw cŵn i lawr ffordd y stesion ac i fyny am Fryn Eithin. A oes posib gosod giât ynghyd â chamfa ar y llwybr o Bont Briwet draw am Gei Newydd? Mae pryder am gyflwr y gamfa ger Llyn Tecwyn Uchaf.

7


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawodd y Llywydd, Mrs Christine Hemsley, yr aelodau a’r gwesteion i’r cyfarfod Cymraeg ar nos Fercher, 9 Mawrth. Rhoddwyd croeso arbennig i Lywydd y Ffederasiwn, Mrs Meinir Lloyd Jones. Canwyd y gân Meirion gyda Mrs Myfanwy Jones yn cyfeilio. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn sâl ac wedi methu bod gyda ni ar y noson arbennig yma. Dymunwyd pen-blwydd hapus i’r aelodau oedd yn dathlu eu pen-blwyddi’r mis yma, a chyfarchion arbennig i Mr a Mrs John Houliston oedd yn dathlu priodas aur ar 21 Mawrth. Darllenwyd y llythyr o’r sir a chofnodwyd dyddiadau arbennig, sef Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cymru yn Llandrindod ar 20/21 Ebrill, a’r Sioe Ffasiwn ym Mhorthmadog ar 19 Mai. Cynhelir Sioe Llanelwedd rhwng 18-22 Gorffennaf ac mae angen stiwardiaid. Cymerwyd enwau gan aelodau oedd yn barod i wneud hyn. Cynhaliwyd y clwb cinio yn y Ship, Talsarnau ar 17 Mawrth a chynhelir y cinio blynyddol yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech ar 15 Ebrill; yno rhwng 7 a 7.30 yr hwyr. Trefnwyd gwahanol ddigwyddiadau ar gyfer mis Mai yng Ngwaith Powdwr (Cookes) ym Mhenrhyndeudraeth. Ar ôl trafod y busnes i gyd, cawsom adloniant gan dri cherddor lleol. Diolchwyd iddyn nhw ar ran yr aelodau gan Mrs Jan Cole. Cafwyd lluniaeth gwych o gaws Cymreig, bisgedi, sgons, bara brith a chacenni cri, wedi eu paratoi gan aelodau’r pwyllgor. Enillwyd llawer o’r rafflau a’r botel da da gan lawer o’r gwesteion o wahanol ganghennau SyM yn yr ardal. Cynhelir y noson nesaf ar 13 Ebrill yn y Neuadd Goffa a’r siaradwr fydd Hazel Jones yn sôn am y busnes sydd ganddi hi a’r teulu o’r enw Aerona Berry Liqueur. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y noson.

Capel Jerusalem

EBRILL

17 Parch Dewi Lewis am 4.00 o’r gloch

8

Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Ysgol Tanycastell brynhawn dydd Mawrth, 15 Mawrth, gan y brifathrawes, Mrs Williams. Mwynhawyd prynhawn gwych Pen-blwydd hapus Pob hwyl hefyd i Ryan Jones, 14 yn cychwyn efo’r plant lleiaf yn Tŷ Canol, sydd newydd ddathlu canu, ac yna gan y plant hŷn yn adrodd, canu, dawnsio disgo, a ei ben-blwydd yn 21. rhai’n chwarae’r recorder. Maen nhw’n edrych ymlaen i’n gweld Dymuno’n dda Dymuniadau gorau i Mrs Olwen ni ac mae’r aelodau yn edrych ymlaen o flwyddyn i flwyddyn i Jones, Rock Terrace, wedi fynd i Danycastell. dod adref ar ôl bod yn Ysbyty Rhoddwyd y diolchiadau i’r Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Dymuniadau gorau i Mr Gwilym brifathrawes, yr athrawon, ac wrth gwrs i’r plant, a hefyd Williams, 41 Y Waun, sydd yn i Ffrindiau Tanycastell oedd Ysbyty Alltwen. Felly hefyd i Mrs Blodwen Jones, wedi paratoi te gwych i ni ar ôl y cyngerdd, gan y Llywydd 23 Y Waun, a fu gartref am Edwina Evans. sbel ond sydd wedi mynd yn ôl Yn ôl ein harfer, roedd pres y i’r ysbyty. Rydym yn meddwl te a’r raffl yn mynd at yr ysgol. amdanoch. Trosglwyddwyd y swm o £68.70. Rydym hefyd yn dymuno’n Enillwyd y bocs o nwyddau dda i Mrs Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt sydd wedi cael gan Bronwen Williams a’r tun o siocledi gan Rhiannon Jones. llawdriniaeth i’w chalon mewn Cynhelir y cyfarfod nesaf ysbyty yn Lerpwl. Deallwn ei yn Neuadd Goffa Llanfair bod yn gwella erbyn hyn. brynhawn dydd Mawrth, 12 Ein cofion hefyd at un o Ebrill. Trefnir gan Sefydliad y hynafgwyr y dref, sef Mr Jim Merched, Harlech. Nelson, Anwylfa sydd wedi Y siaradwr gwâdd fydd Geraint bod dan gryn anhwylder yn Williams yn sôn am gloddio am ddiweddar. Bu’n glaf yn Ysbyty aur yng Nghymru. Mae croeso Gwynedd am gyfnod ac mae’n cynnes i unrhyw un ymuno â ni. disgwyl cael symud i Ysbyty Alltwen yn fuan. Pen-blwydd hapus Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Mrs Ann Bryan a’r teulu, 14 Heol y Bryn yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd, Dafydd yn ddiweddar. Pen-blwydd arbennig Pen-blwydd hapus iawn i Wendy Evans sy’n 50 oed ar 7 Ebrill. Hwyl fawr ar y dathlu, oddi wrth y teulu a ffrindiau.

Moto beics Y mae Glesni Non Jones o Gwm Prysor, Trawsfynydd yn cael cryn hwyl ym myd y moto beics y dyddiau hyn. Mae’n rhan o dîm rasio CF Racing Corwen Husqvarna. Daeth Glesni yn drydydd ym Mhencampwriaeth Gwledydd Prydain yn ddiweddar a hynny er gwaethaf methu’r rownd olaf oherwydd anaf. Hi dderbyniodd dlws Personoliaeth Fenywaidd y Flwyddyn gan Ffederasiwn Beiciau Modur Cymru. Mae Glesni yn gyw o frid. Sara [Evans gynt] a Rhodri Jones yw ei rhieni ac mae Gerallt ac Ann o Garej Toyota yn daid ac yn nain iddi.

Diolch Dyma lun o Sam Elwyn Thomas, ŵyr David a Sally John a nai i Damon, sy’n diolch i bawb am yr holl negeseuon a’r anrhegion, ac yn edrych ymlaen at ddigon o ddyddiau allan yn chwarae efo’i ffrindiau yn yr ardal! Rhodd a diolch - £10

Cae Chwarae’r Brenin Siôr Braf yw medru cyhoeddi fod ffens newydd ar fin cael ei gosod o gwmpas offer chwarae’r plant lleiaf yng Nghae Chwarae’r Brenin Siôr. Diolch i’r criw bach ffyddlon am eu gwaith dygn yn sicrhau hyn.

Bydd Eleri Jones yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar Ebrill 10. Llongyfarchiadau gan y teulu i gyd. Seindorf Harlech Cafwyd noson o fingo hwyliog yng Nghanolfan y Band yn Harlech ddiwedd mis Mawrth. Ceri Griffiths oedd yn galw’r rhifau. Cafwyd nifer o gemau a chyfle i bawb ennill wyau Pasg fel gwobr. Gwnaed elw o £242 i goffrau’r band. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Twll yn y wal Wedi i ni fod heb yr un am gyfnod gweddol faith, mae croeso cynnes iawn i’r peiriant Twll yn y Wal sydd, erbyn hyn, wedi ei osod ger Tymhorau a Rhesymau uwch ben Llech ger y Stryd Fawr.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

01766 780186 07909 843496

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 9


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT PRIODAS

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Susan a Darren, 1 Horeb Terrace, ar enedigaeth mab bychan, Dylan Wyn. Profedigaeth Ar 13 Mawrth bu farw Mr David Wyn Jones, 28 Glan Ysgethin, Talybont. Roedd yn enedigol o’r Ynys, Talsarnau. Cydymdeimlwn â’i wraig Janice, y plant a’r teulu estynedig yn eu profedigaeth.

Llongyfarchiadau i Llion Paul Wellings a Jaimee Louise Sydenham ar eu priodas yn ddiweddar. Festri Lawen Horeb Daeth tymor llwyddiannus arall i ben gyda chinio Gŵyl Ddewi yn 1957 yn Nhalybont. Cafwyd pryd o fwyd ardderchog ac yna i ddilyn cawsom gwmni Karen Owen y newyddiadurwraig a’r bardd o Benygroes. Dewisodd Karen roi cefndir rhai o’i cherddi i ni ac yna eu darllen ac yn ystod ei sgwrsio hwyliog gwelwyd ochr arall i Karen a phawb yn mwynhau bob eiliad. Diolchwyd i Karen Owen am noson fendigedig gan Gwennie. Diolchodd hefyd i’r pwyllgor gweithgar, i Rhian y trysorydd ac yn enwedig i Enid, ein hysgrifennydd gweithgar am y trefniadau trylwyr am y ddwy flynedd ddiwethaf ac i’r holl ferched am baratoi lluniaeth mor ardderchog i’r cyfarfodydd yn y festri. Colli Lilwen Jeffrey Ddechrau mis Mawrth bu farw un o blant y Dyffryn yn 91 oed, Lilwen Enid Jeffrey (gynt Jones, Morfa View). Yn 1946 priododd a symud i Wimbledon i fyw ac yno y bu tan y llynedd pan symudodd i fyw i West Sussex yn nes at ei merch. Tra gallai deuai’n ôl i’r Dyffryn ond wedi hynny cadwai gysylltiad a derbyniai’r Llais yn gyson (diolch i Emyr ac Iris) ac roedd ei Chymraeg mor naturiol ag erioed er mai gyda’r teulu’n unig y cai gyfle i’w siarad. Gedy ferch Anne, ŵyr Andrew, wyres Helen a’u teuluoedd a’r teulu estynedig yn yr ardal hon.

10

Radio Cymru Braf oedd gwrando ar Ceri, merch Gareth ac Anwen Williams, Glanffrwd, yn siarad mor gartrefol a hamddenol hefo Dylan Jones, fore Mercher, 16 Mawrth, yr holl ffordd o Melbourne, Awstralia.

Clwb Cinio Cyfarfu’r Clwb yng Ngwesty’r George, Penmaen-pwl ddydd Mawrth 15 ac roedd yn ddiwrnod arbennig o braf. Wedi gwledda cawsom gyfle i fynd i weld y wal arbennig sy’n cael ei hadeiladu ger yr hen flwch signalau gydag enwau rhoi o byllau’r afonydd Wnion a Mawddach arni a chawsom sgwrsio gyda Rhys Gwynn sy’n gyfrifol am y gwaith. Ddydd Mawrth, 19 Ebrill byddwn yn cyfarfod yn y Ship yn Nolgellau am hanner dydd.

Llongyfarchiadau i Hana Jane Wellings ar gael ei derbyn yn yr RAF. Tynnwyd y llun ar ddiwrnod y seremoni graddio yn RAF Halton, Aylesbury mis Chwefror. Pob lwc iddi ar ôl symud i RAF Cosford.

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys brynhawn Mercher, 16 Dydd Gweddi Fyd-eang y Mawrth. Croesawyd pawb gan Chwiorydd Gwennie. Cynhaliwyd y cyfarfod Anfonwyd ein cofion at brynhawn Gwener, 4 Mawrth, Elizabeth Jones sydd yn Ysbyty yn Festri Horeb. Paratowyd Maelor ac at Mary Williams y gwasanaeth gan Chwiorydd sydd yn cwyno ac at Meinir Cristnogol Ciwba a’r thema oedd Lewis sydd wedi cael mynd adre ‘Derbyniwch blant, Derbyniwch i Lanfair erbyn hyn. Roeddem Fi’. Arweiniwyd y cyfarfod gan yn falch fod Elinor yn ddigon da Mai Roberts a’r organydd oedd i ymuno â ni yn dilyn damwain Rhian Jones. Cymerwyd rhan a Laura a fu yn yr ysbyty a gan 16 o chwiorydd a chafwyd Beti oedd wedi methu dod gwasanaeth hyfryd iawn. am ddau fis. Yn ôl yr arfer ym Gwnaed casgliad o £45. I ddilyn mis Mawrth cawsom gwmni cafwyd cyfle i fwynhau paned a Ar Ebrill 29 eleni, bydd Aled athrawon a phlant yr ysgol sgwrs. Corps (gynt o Ddyffryn gynradd i ddathlu Gŵyl Ddewi. Ardudwy), Ynyr Edwards Cyflwynwyd yr eitemau gan y Cydymdeimlad (Harlech), Mike Shaw, (gynt o brifathrawes Mrs Ann Jones a Anfonwn ein cydymdeimlad Lanbedr), Alex Ashely-Roberts chafwyd prynhawn difyr iawn llwyraf at Dei ac Alma Griffiths (gynt o Flaenau Ffestiniog), Paul o ganu, llefaru, cyd-adrodd, a’r teulu, Bryn Coch, yn eu Townsin (Peterborough) a Paul dawnsio gwerin a dawnsio disgo profedigaeth o golli tad, Le Blanc Smith (Guildford) yn a phawb wedi gwirioni hefo’r taid a hen daid annwyl, Mr gadael John O’Groats gyda’r her hen blant. Ieuan Griffiths, Llety’r Bugail, o feicio 900 milltir i gyrraedd Diolchwyd yn gynnes iawn i’r Glantwymyn. pen pellaf Cernyw naw diwrnod plant a’u hathrawon gan Enid yn ddiweddarach. Owen a dymunodd yn dda Y nod yw codi arian at elusen i’r parti dawnsio gwerin ac i Gwasanaethau’r Sul, Horeb Gofal Canser y Fron, sydd wedi Lois Williams (llefaru) oedd bod yn elusen hanfodol bwysig yn mynd ymlaen i gystadlu yn EBRILL i un aelod o’n tîm. Os hoffech Eisteddfod Sir yr Urdd. 10 Anwen Williams chi gefnogi’r achos, mae ffurflen Rhoddwyd y te a’r raffl gan 17 Parch Philip de la Haye noddi ar gael yn Garej Smithy, Gretta, Lilian, Meinir a Beti. 24 Huw a Rhian Jones Dyffryn Ardudwy, neu ewch Bydd y cyfarfod nesaf ar 20 MAI i wefan www.justgiving.com/ Ebrill a dewch â syniadau ar 1 Parch Gareth Rowlands JOGLE9days. Caiff unrhyw swm gyfer y trip blynyddol ym mis ei werthfawrogi’n fawr. Mehefin.


Teyrnged i J E Ritchie, Ynys Wen [25/6/1930 - 3/1/2016]

Daeth dad i Ddyffryn Ardudwy fel faciwî yn 1939 yn 9 oed gyda’i frawd Fred yn dilyn marwolaeth eu mam ar enedigaeth eu chwaer ieuengaf sef Edna. Cafodd Edna a Betty eu chwaer arall eu magu gan deuluoedd oedd yn byw yn yr un stryd â nhw ym Mhenbedw. Arhosodd dad yng Nghymru ac roedd yn cyfri ei hun yn Gymro i’r carn. Cafodd ei fagwraeth o 9 oed gydag Anti Ann a Taid Arall ym Mryn Meirion a chawsom ni’r fraint o’u hadnabod fel taid a nain inni am gyfnod. Roedd dad bob amser yn sôn am Anti Ann a’i hanesion doniol – roedd ychydig yn eccentric ac yn siwtio dad i’r dim. Treuliodd gyfnod yn Llechryd, Talybont yn helpu’r teulu wrth odro cyn mynd i’r ysgol. Roedd wedi gobeithio mynd i’r Navy ond cafodd y diciâu/ TB pan oedd tua 16 oed ac nid oedd hyn yn bosib wedyn. Pan oedd yn ddyn ifanc bu’n gweithio fel gwas ffarm ym Mronfoel Isa a Meifod Ucha ac yna Ystumgwern ac roedd yn adrodd llawer o’r hanesion difyr am y cyfnod yma. Bu’r teuluoedd yn hynod dda wrtho ac yn ei drin fel un ohonynt - roedd wrth ei fodd. Hefyd rwyf yn ei gofio yn dreifio lori i Ishmael Jones. Gornant Isa oedd ein cartref cyntaf. Mae’n siŵr bod yna gryn fargeinio wedi bod am y pris - roedd rhaid cael dadlau am bris popeth a thrio ei gael yn rhatach. Dyna sut un oedd o – roedd yn benderfynol iawn ac yn un am ddyfalbarhau. Yno roedd dad yn godro, cadw moch a defaid ac yn yr haf roedd pobl yn dod i wersylla. Pan mae plant yn fach mae rhieni wrth gwrs yn dysgu hwiangerddi iddynt ac roedd mam yn dysgu’r rhai traddodiadol i ni, ond roedd dad yn dysgu rhigymau stryd o Birkenhead/Penbedw i ni ond nid oeddent yn safonol nac yn wir addas ar gyfer plant. Er hyn roedd gan dad iaith Gymraeg graenus iawn ac roedd yn aml yn ein cywiro - roedd yn gas ganddo fratiaith. Roedd wedi dysgu stôr o englynion, adnodau, emynau a thonnau ar ei go’ ac yn gallu eu hailadrodd bron hyd y diwedd. Symudsom fel teulu i Flaen y Coed, Ysbyty Ifan yn 1969 ac roedd dad wrth ei fodd yno. Roedd bob amser yn ein hannog i wneud ein gorau ac roedd ganddo lawer o gynghorion doeth ini. Roedd dad yn credu y dyliech dderbyn a gwneud yn fawr o unrhyw sefyllfa. Roedd ganddo lawer o ddiddordebau, ac un ohonynt oedd pysgota. Un arall oedd gwylio ymaflyd codwm (wrestlo) yn ystod y rhaglen o’r enw ‘World of Sports’ am 4 o’r gloch bob dydd Sadwrn. Roedd yn ddarllenwr brwd cyn i’w olwg ddirywio a’i hoff faes oedd llyfrau cowbois. Diddordeb arall oedd ganddo oedd garddio. Symudodd mam a dad i Ynys Wen tua

20 mlynedd yn ôl ac roedd gardd Ynys Wen yn werth ei gweld. Chwarae drafftiau oedd un arall o hoff ddiddordebau dad. Wrth gwrs ei brif ddiddordeb oedd cŵn defaid - roedd yn angerddol am hyn ac wedi beirniadu a chystadlu lawer mewn sioeau cŵn ymhell ac agos, gan ddefnyddio cŵn oedd wedi eu magu a’u hyfforddi ganddo. Roedd dad yn adnabod llinach gwahanol gŵn oddi wrth eu marciau a’u lliw. Byddai ganddo ffasiwn amynedd hefo ci anystywallt a byddai bob amser yn llwyddo i’w dysgu. Roedd dad wedi cynnal ‘classes’ fel roedd yn eu galw ar gyfer hyfforddi pobl i ddysgu cŵn defaid ac roedd pawb yn ei adnabod ble bynnag yr aem ac yn dal hyd heddiw. Cafodd bleser mawr o hyn ac mae wedi dysgu dwsinau o bobol ac wedi mwynhau yn eu cwmni. Doedd gan dad ddim ofn, ac roedd braidd yn rhy fentrus, a dyna beth ddigwyddodd pan dowladd y tractor wrth ‘sprayo’ ar y llechwedd uwchben Blaencoed. Collodd ei olwg mewn un llygad a thorri ’chydig o ’senna ac asgwrn yn ei gefn, ond roedd yn lwcus ei fod yn fyw. Roedd wrth ei fodd pan ddaeth yn daid. Mae wedi ymfalchïo yn llwyddiannau pob un ohonom ni a nhw ar hyd y blynyddoedd -roedd dad yn hoffi gweld pobol yn llwyddo ac yn trio eu gorau, a byddai yn barod iawn i gefnogi unrhyw un. Roedd wrth ei fodd pan fyddai’r gor-ŵyr a gorwyresau yn dod i’w weld hefyd. Roedd cyflwr meddygol dad hefo’r Parkinson’s a phopeth eraill oedd yn dod hefo fo yn golygu ei fod yn dirywio yn gorfforol a meddyliol yn raddol ers blynyddoedd. Er hynny, mi fywiodd yn ddewr a hapus hefo’i gyflwr tan yn ddiweddar, ac o achos hynny mi ddaru ninnau hefyd. Roedd mam a dad wedi dathlu eu priodas arian yn 2006 a byddent wedi dathlu 60 mlynedd eleni. Dau hollol wahanol oeddent, a dau oedd yn amharod i ildio mewn dadl. Ar adegau roedd hyn yn golygu bod pethau’n mynd braidd yn boeth rhyngddynt, ac wedi erioed. Dyna oedd eu perthynas. ‘Can’t live with and can’t live without’ yw’r ymadrodd oedd yn eu disgrifio weithiau er bod y ddau’n caru ei gilydd. Ac yn amlwg mae’r ffaith i’r ddau ein gadael o fewn 2 fis i’w gilydd, bod gwirionedd yn y geiriau nad oeddent yn gallu byw heb y naill a’r llall. ‘Hedd, perffaith hedd’ i’r ddau ohonoch. Meri Jones, ar ran y teulu

CYLCH MEITHRIN Grŵp Dawnsio Gwerin Dyffryn Ardudwy B4 Rhes gefn: Isabella, Tom, Chloe a Bryony Rhes flaen: Euros, Awel, Enlli a Ben

Diolch Dymuna Gwenda, Alwen ac Eifion Frongaled a’u teuluoedd ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar. Rhodd £10 Cylch Meithrin y Gromlech yn dathlu ‘Diwrnod y Llyfr’.

Bore Coffi

Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy 16 Ebrill 2016 10:00 - 12:00

wedi ei drefnu gan Glwb Ieuenctid Dyffryn Ardudwy i godi arian at ddwy elusen sef Hosbis Tŷ’r Eos a’r Ysgol Feithrin. Croeso cynnes i bawb.

11


BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

Ardudwy

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne

COFIANT CRWYDRYN JOHN PREIS 1894 - 1985

Neuadd Gymuned Talsarnau 7.00 o’r gloch, nos Iau, Ebrill 21ain, 2016

TRADDODIR GAN GERAINT JONES

Mynediad yn cynnwys lluniaeth £5.00 Noddir gan Llenyddiaeth Cymru

“Er bod tua deugain mlynedd wedi mynd heibio ers i John Preis, crwydryn hynotaf Cymru, luchio’i ‘hen ffaga’ budron, gadael y ‘joseffwt’ a phob ‘hen bedair olwyn fawr’, heb ofni gwg yr ‘hen docyn faw sglyfath’ na bygythiad ‘hen dwll mawr’ Merswy, deil y straeon a’r cof amdano yn fyw iawn ymysg y Cymry. Rydym fel petaem yn dal i glywed ei lŵon a’i chwerthin yn rhwyfo ar yr awel dros y weilgi fawr o’r hen British Columbia. Ia, a hyd yn oed ei ogla!”

I archebu tocynnau ffoniwch: 01766 770421, 770757 neu 770621

12

Gwin y gwanwyn - Prosecco Pan mae’r gwanwyn yn cyrraedd a’r nosweithiau’n ymestyn, teimlaf ysfa am rywbeth gwahanol i’r gwinoedd coch rwy’n tueddu i’w hyfed yn y gaeaf. Er fy mod yn hoff iawn o Champagne, ac mae enghreifftiau ardderchog eraill o win byrlymus fel Cremant o Ffrainc ac, wrth gwrs, o Brydain gan gynnwys Ancre Hill o Sir Fynwy, does dim i guro gwydraid o Prosecco a bowlen o fefus melys gyda chyfaill ar noson braf. Ardal yng ngogledd ddwyrain Ffrainc yw Champagne ac mae’r broses o gynhyrchu’r ddiod yn dechrau wrth wneud gwin yn y ffordd arferol. Wedyn mae’n cael ail eplesiad yn y botel, ac maent yn ychwanegu ychydig o siwgr a burum i’r gwin. Yna, mae’r botel yn cael ei chau gyda ‘crown top’. Mae’r Co2 sy’n cael ei ollwng yn ystod yr ail eplesiad yma’n cael ei ddal yn y botel i greu swigod. Hwn yw’r ‘methode champenoise’ a dim ond gwin sydd wedi’i wneud yn y ffordd yma, yn yr ardal yma gaiff ddefnyddio’r enw

Champagne. Mae Prosecco yn dod o ogledd ddwyrain yr Eidal. Yma, ceir ardal fach o amgylch y trefi Valdobbiadene a Conegliano lle mae’r bryniau’n dechrau codi i’r Dolomitiau. Hon yw’r ardal sy’n cynhyrchu’r gwin o’r safon uchaf. I wneud Prosecco, rhaid dal cael dau eplesiad, ond mae’r ail un yn digwydd mewn ‘autoclave’, sef tanciau dur gwrthstaen arbennig wedi’u selio dan wasgedd i ddal pwysau’r ail eplesiad. Yn wahanol i Champagne, ceir ychydig o felyster trwy’r dull yma o wneud yr ail eplesiad. Y nod yw cadw’r gwin mor ffres â phosib gyda’r nodweddion blodeuog ysgafn sydd mor boblogaidd. Nid yw hwn yn fath o win i gadw, mae’n barod mwy na lai i’w yfed yn syth ar ôl ei botelu. Cofiwch ei yfed o fewn y flwyddyn neu ddwy gyntaf. Dydy hynny ddim yn broblem yn ein tŷ ni. Iechyd! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau

DYWEDIADAU MIS EBRILL

Ebrill garw porchell marw. Mawrth a ladd, Ebrill a fling. Chwech o bethau sych yn sydyn, Carreg noeth a genau meddwyn, Cawod Ebrill, tap heb gwrw, Pwll yr haf a dagrau gwidw. Ni saif eira yn Ebrill, fwy nag ŵy ar ben ebill. Ebrill oer a leinw’r sgubor. Ebrill sych popeth a nych. Yn Ebrill mi gynhesith ar ôl pob cawod.


CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawodd y Cadeirydd aelodau o Grŵp Parciau Cymunedol Harlech i’r cyfarfod i drafod y diweddaraf ynglŷn â datblygu cae chwarae’r Brenin Siôr. MATERION YN CODI Hysbysfyrddau Y Cyngor Cymuned sy’n gyfrifol am archebu hysbysfyrddau newydd a mwy na thebyg ni fydd arian o’r prosiect blitz trefi taclus Harlech ar ôl i archebu rhai. Torri Gwair Dim ond un tendr dderbyniwyd a chytunwyd i dderbyn y tendr yma; hefyd, penderfynwyd derbyn tendr Mr Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae’r Brenin Siôr a’r cae pêl-droed eto eleni. Mae angen gofyn i Mr Gareth John Williams dorri gwair cae chwarae’r Brenin Siôr yn amlach. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd o ardd breswyl i lwybr - 70 Cae Gwastad. Mae angen mwy o wybodaeth ar yr aelodau cyn gwneud penderfyniad ar y cais hwn. Codi hafdy yng ngardd gefn yr eiddo - Ty Mawr, Stryd Fawr. Cefnogi’r cais hwn. Caniatâd Adeilad Rhestredig i greu ystafell wely fwy - Y Wern. Cefnogi’r cais hwn. Codi linc ports - Hendre Mur, Ffordd Uchaf. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd o swyddfeydd i lety staff a siop prydau parod - Llys y Graig. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £750.00 Pwyllgor Neuadd Goffa - £500.00 Pwyllgor Hen Lyfrgell - £500.00 CFfI Meirionnydd - £100.00 Pwyllgor Twristiaeth Harlech - £500.00 Roc Ardudwy - £300.00 GOHEBIAETH Adran Briffyrdd Bydd y gwaith o dorri’r gordyfiant o wal wrth Blas Owain yn digwydd yn fuan. Bydd gwelliannau ar y llwybr cyhoeddus o Fron y Graig Uchaf i Bendref cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Heddlu Gogledd Cymru Bydd y ddau blismon cymunedol, sef Elliw Jones a Darren Walters yn mynychu cyfarfod o’r Cyngor Cymuned o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mr Joseph Jones Mae wedi ymddiswyddo o fod yn aelod o’r Cyngor. UNRHYW FATER ARALL Dangosodd Caerwyn Roberts gynllun o’r gwelliannau arfaethedig ar Ffordd Glan y Môr. Cafwyd gwybod bod Sefydliad y Merched Harlech wedi rhoi’r gorau i edrych ar ôl y stesion a cheisio ei chadw’n daclus oherwydd y llanastr a wnaed yno’n ddiweddar. Nid oes goleuadau ar hyd ffordd y pwll nofio. Hamdden Harlech ac Ardudwy sy’n gyfrifol am y ffordd hon ac maen nhw wedi eu diffodd er mwyn arbed costau. Mae’r canllaw ar y llwybr igam ogam angen sylw. Mae Coleg Meirion Dwyfor yn anfon myfyrwyr i wneud gwaith cymunedol am 30 o oriau. Cytunwyd i gynnwys y mater ar agenda’r mis nesaf. Datganwyd bod angen gosod arwyddion sydd yn dynodi’r meysydd parcio’n gynt. Mae angen aelodau sydd ag anableddau i fynd ar bwyllgor yr Hen Lyfrgell a’r Neuadd Goffa.

ENGLYN DA Y Rhaeadr

Unlliw fwa llif ewyn - yw’r rhaeadr Yn chwilfriwio’n sydyn! Gogoniant gallt o’i gwallt gwyn Hyd ei hysgwydd yn disgyn. Eifion Wyn[1867-1926]

ALOE VERA

Mi losgais fy mys beth amser yn ôl. Nid mor ddrwg fel bo raid mynd at y meddyg ond yn digon drwg iddo fo frifo’n arw, hyd yn oed ar ôl ei osod dan y tap dŵr oer am gyfnod. Digwydd taro wedyn ar Gerallt Garej wnes i a dyma hwnnw’n dweud wrthyf am roi aloe vera ar fy mys. ‘Lle ga’ i afael ar hwnnw?’ ‘Gofyn i Ann, mi fydd yn arfer cario tiwb efo hi.’ A dyna wnes i. Ac fe ddiflannodd y boen yn fuan iawn. Ond o fewn dim roedd y briw hefyd wedi diflannu. Mi welais y blodyn yn tyfu pan o’n i ar wyliau yn Tenerife. Fel mae’n digwydd, teithio mewn car efo Ann a Gerallt oeddwn i ar y pryd. Planhigyn gwyrdd ydi o gyda dail hir danheddog. Ann ddangosodd o i mi a’m siarsio i dorri coesyn a mynd â fo adref efo fi. Am sbel wedyn, pan o’n i’n cael briw byddwn yn estyn am y planhigyn aloe vera ac yn rhwbio’r ‘gel’ ar y briw. Bu’n gymorth hawdd ei gael. O ymchwilio ychydig, gwelaf fod y gwyddonwyr wedi adnabod y cemegolion sy’n lladd bacteria ac yn lleihau poen ac yn hybu’r broses o wella. Nodir ei fod yn gymorth i leddfu llosg eira, psoriasis, acne a dolur annwyd [herpes]. Mae ymchwil hefyd yn nodi bod yfed y sudd yn gallu bod yn llesol o safbwynt clefyd siwgr, pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel ac afiechydon y coluddion. Wrth gwrs, mae angen i bawb weld meddyg pan fo afiechydon fel hyn yn eu poeni. Bûm yn trafod aloe vera efo Ann. Mae hi’n prynu’r sudd yn rheolaidd ac yn taeru fod ei iechyd hi a’i gŵr wedi gwella wrth ei ddefnyddio’n rheolaidd. Os byddwch am brynu peth, mae’n bwysig prynu stwff da. Nid yw pob potel yn cynnwys aloe vera pur! Mae Ann yn ei brynu fesul litr ac mae hi a Ger yn cymryd joch fach amser

brecwast bob dydd. Dywedir ei fod yn weddol hawdd ei dyfu ac rydw i am roi cynnig arni. Mae’n bwysig cael pridd sy’n draenio’n dda a rhaid ei gadw rhag barrug. Hwyrach mai ei dyfu yn y tŷ fuasai orau a’i roi allan ym misoedd yr haf. Mae gan Ann un mewn potyn. A dyna chi’n gwybod lle i fynd y tro nesaf y byddwch yn llosgi eich bys! PM

O! Tyred, y Gwanwyn

Bloeddiaf ar ddechrau blwyddyn – O! tyred, Y tirion wych wanwyn; Oeri’r gwaed mae’r eira gwyn, O! mae’n oer fel min erfyn. Nid yw llais ednod y llwyn I mi o reddf mor addfwyn Ac ydoedd, byddai’n codi Lawn hwyl yn fy nghalon i; Un gweddus, fel y gwyddoch, Yn ei gân oedd robin goch: Aeth hwnnw wrtho’i hunan, Rhywfodd fe gollodd ei gân. O! wanwyn, rho dy wenau, Erlid y boen o’r lwyd bau; A dyro i aderyn Egwyl o hwyl ar ôl hyn. Haul melyn, hwyl a moliant, Daw a’r nef i dduoer nant; A blodau cain y drain drud Yn baradwyd i brydydd; Rho dy wenau, rhed, wanwyn, I godi hwyl gyda hyn, Nes delo mynwes dolydd I gyd o dan “lygad dydd;” Ar y waen bydd yr ŵyn bach Yn dangos byd ieuengach; Oes llinach harddach na hwy, Ddyn – edrych ddiniweidrwydd! Pan rydd sbonc beth sydd sioncach Yn y byd na naid oen bach? Talfardd, Dyffryn Ardudwy, 1887

13


Sefydliad y Merched, Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont tua diwedd y 60au dechrau’r 70au?

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011 Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw:

http://issuu.com/llaisardudwy/docs

CREITHIO (llosgi grug a glaswellt)

Ni wyddom achlysur tynnu’r llun ond meddwl tybed a yw’n llun o aelodau Sefydliad y Merched Dyffryn tua diwedd y 60au neu ddechrau 70au’r ganrif ddiwethaf? Efallai y gall rhywun ein goleuo. Rhes ôl o’r chwith i’r dde: Nel Williams, Ann Catrin Harris, Mrs Emlyn Jones, Meiriona Parry, Mair Davies, Mrs Thomas, Faeldre, Jinnie Griffiths, Mrs Roberts, Brynfelin, Mrs Jones, Penarth, Olwen Thomas, Luned Wynne, ? Rhes ganol: Gretta Cartwright, Phoebe Mitchelmore, Glenys Griffith, Olwen Evans, Rena Pugh, Helen Davies, Gwyneth Parry, Beti Roberts, Enid Evans, Dilys Jones, Isgoed, Mrs Iorwerth Williams, Cissie Jones, Kitty Evans, Janet Roberts. Rhes flaen: Barbara Jones, ?, Nyrs Davies, ei chwaer Annie Williams, Elsie Jones, Nansi Ellis, Dilys Jones, Perthi, Margretta Humphreys, Gwenfron Wynne, Mrs Ellis, Bryn Melyn.

CÔR TANYCASTELL 1975 - YR ENWAU!

Mae NFU Cymru yn atgoffa ffermwyr ucheldir Cymru bod ganddyn nhw hyd at ddydd Iau, 31 Mawrth 2016, cyn daw’r cyfle i greithio i ben. “Gall creithio fod yn beryglus, felly gosodwyd canllawiau caeth i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith yn gywir.” Cyn i chi gychwyn y llosgi rhaid: • Rhybuddio tirfeddianwyr a deiliaid tir cyfagos • Rhybuddio’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Rhif ffôn gogledd Cymru yw 01745 535805. • (Ar gyfer tir dynodedig) gofyn am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) neu CADW ac mae angen i’r rheiny sy’n rhan o Glastir gysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru • Paratoi Cynllun Rheoli Llosgi • Sicrhau bod gennych ddigon o bobl i reoli’r tân Ar gyfer ardaloedd iseldir mae’r dyddiad cwblhau wedi mynd heibio’n barod ac os oes unrhyw un yn dymuno llosgi ar ôl y dyddiadau hyn rhaid gwneud cais am drwydded ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion llawn am losgi grug a glaswellt ar gael gan Lywodraeth Cymru wrth alw 0300 0622283 neu 0300 0622285.

Diolch i Gwilym Rhys Jones, Llanfair, arweinydd Côr Tanycastell yn 1975, gallwn gyhoeddi enwau’r aelodau:

Rhes gefn: Santina Jones, Ann Morgan, Carol Jones, Susan Richards, Catherine Allen, Glenys Jones, Susan Lumb, Ann Roberts. Rhes 2: Alison Harvey, Eleri Williams, Anwen Roberts, Jane Owen, Susan Ellen Jones, Aelwen Roberts, Julie Jones, Susan Jones, Bethan Jones, Nerys John, Caroline Poole. Rhes 3: Gavin Jones, Richard Newing, Michelle Parry, Delyth Jones, Linda Steward, Annes Thomas, Beth Jones, Alan Williams, Gwyn Jones. Rhes flaen: Tudor Jones, Wendy Evans, Linda John, Ruth Gunnery, Rhian Rees, Ann Williams, Gwyneth Davies, Karen Jones, Marie Lloyd. Bu’r Côr yn fuddugol yn Eisteddfod Sir yr Urdd ac aethant ymlaen i gystadlu yn Llanelli. Dyddiau da!

14 A


Robert Owen, Bardd y Môr

Mae’r mwyafrif ohonom wedi clywed am Robert Owen (17711858) y diwygiwr, o Drefnewydd, ond glywsoch chi am Robert Owen y llyfr bach a chas glasddu amdano, a’i deitl ‘Robert Owen’? Syr O M Edwards ysgrifennodd hanes ei fywyd, a chyhoeddwyd gan R E Jones a’i Feibion, Conwy (1904). Ganwyd y gwrthrych 30 Mawrth, 1858, yn ffermdy Tai Croesion, ger Eglwys Llanaber, Meirionnydd, a bu farw yn Awstralia yn 1885. Roedd yn fab i Gruffydd Owen, badwr ar y Fawddach, cyn troi yn ffarmwr, a Margaret ei wraig. Yn 4 oed symudodd Robert gyda’i rieni i fyw ar fferm Llwyn Gloddaeth, tua milltir o’r Bermo.

yr ysbyty yn Llundain ac yn dilyn hynny aeth ar fordaith i geisio adfer ei iechyd. Cyrhaeddodd Melbourne, Awstralia, 7 Ebrill 1879, a chafodd swydd fel athro preifat gyda theulu o Babyddion Gwyddelig yno, ger Harrow, Victoria. Hiraethai am Gymru “O fy mam, fy annwyl fam,” gweddïai, “mor wahanol fuasai pe byddech yn fyw, a gyda’ch mab gwael”. Cafodd fyw chwe blynedd ar ôl glanio, eithr bu farw yno 23 Hydref, 1885, yn 29 oed o’r ddarfodedigaeth [TB]. Ar ei daith i Awstralia ar y llong ger Penrhyn Da, ysgrifennodd ei ganeuon ‘Llinellau at Owen, nos dan y cyhydedd’, ac yntau’n ddigyfaill, tra’r oedd pawb arall yn bwyta ac yfed, edrycha Robert Owen yn gyson ar y tonnau neu’r sêr, a’i feddwl am y Bermo, y gân ryfeddol o dlws ‘At fy Nheulu ...’ Fin yr hwyr fy hunan yma, Pan yn syllu ar y lli, Eirian gan belydrau’r lleuad, Hedeg wna fy ysbryd i Tua chartref pell a dedwydd, Tuag aelwyd glyd a glân, Ac anwyliaid sydd yn eistedd Yno’n grwn o gylch y tân.

Roedd ganddo un brawd, y Parch Owen Parry Owen, a dwy chwaer. Methodd ei dad a gwneud i ffarmio dalu, aeth yn dlawd, a bu ef a’i wraig farw gan adael y teulu’n ddibynnol ar Robert. Daeth yntau yn isathro yn yr Ysgol Frutanaidd yn y Bermo, ac yn gyfaill â bonheddwr Ffrengig. Dysgodd hwnnw amryw o ieithoedd iddo a chyn ei fod yn 27 oed roedd yn rhugl mewn chwech ohonynt, sef Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg. Yn dilyn cyfnod byr yn athro cynorthwyol yn Ysgol Jasper House, Aberystwyth, aeth i ddilyn yr un swydd yng Ngholeg Bourne, Birmingham. Yn ystod ei dymor yno ymrodd ati i baratoi ei hun ar gyfer arholiad Prifysgol Llundain, am radd BA. Ond yn 1878 ac yntau’n 20 oed, cafodd wybod mai ond ychydig dros flwyddyn neu chwe mis y byddai byw. Gallai ei yrfa fod wedi dod i ben yn dilyn newydd ysgytwol fel yna, ac yntau wedi cynllunio dros ei chwiorydd, hwy i fynd i’r ysgol yn Nolgellau, ac Owen, ei frawd i baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth. Bu yn

GEIRIAU AR GARREG FEDD Nid dy ddewis di yw pryd y byddi farw … dy ddewis di yw sut y byddi fyw. Joan Baez Duw biau edau bywyd A’r hawl i fesur ei hyd.

Daniel Ddu o Geredigion

‘Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru oherwydd cânt hwy eu cysuro.’ ‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn canys hwy a etifeddant y ddaear.’ ‘Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan Dduw Nid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth fyw.’ John Gwilym Jones Mynwesol gymwynaswr, Un oedd yn wir fonheddwr; Y bywiocaf, fwynaf ŵr.

W R Evans

‘Mae cariad yn dragwyddol; gorwel yn unig yw marwolaeth, ac nid yw gorwel yn ddim ond terfyn eithaf llygad dyn.’ T H Parry Williams Ceisiwch amser i garu a chael eich caru, dyma rodd mwyaf Duw. Hyd eithaf dy allu, a heb ildio, Bydd yn gyfaill i bob enaid byw. Max Ehrmann Os deui byth i oedi uwch fy medd Ac ing a hiraeth yn cynhyrfu’r hedd Cofia’r nwyf . . .

Cen Williams

Cofier na roir y cyfan Yn y blwch yn llwch y llan.

Idwal Lloyd

Ni chaf ddangos mwy fy nghariad Tuag atoch, ond o draw – Byth gusanu’r plant ond hynny, Byth eu harwain yn fy llaw I hel blodau hyd y meysydd Tra’n gwrando ar eu sgwrs fach hwy – Gwisgo amdanynt hwy, a’u danfon I’w gorweddfa, byth, byth mwy!

Bydd y cof yn boddi cur, O hwn fe geisiwn gysur.

Idwal Lloyd

Try y llu adegau llon Yn gyfoeth o atgofion.

Idwal Lloyd

Darn o hud o’r hyn a aeth Ac sy’n aros yw’n hiraeth.

Idwal Lloyd

Beth bynnag oedd rhyngom ni Mae’n dal i fodoli.

Henry Scott Holland

Pan ga Ellen bach ffrog newydd Fe fydd yna un yn llai I’w hedmygu ac i’w chanmol, Ac o’i gwynfyd i’w fwynhau; A’r tro nesaf y gall Gruffydd Mewn siwt newydd oedd ei hun, Ni chaiff ‘Dewi Bob’ roi ceiniog Yn ei ddwrn, na’i alw’n ddyn.

Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd Sy’n mynd o blith y byw.

Ieuan Glan Geirionydd

Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes, Nerth wedi llesgedd, coron ‘r ôl croes

J Vernon Lewis

A’m chwiorydd bach amddifad, Er dyheu o’m calon am Allu erddynt fyw i wneuthur Olaf gais fy nhad a’m mam, Er eu caru’n fwy na phopeth, Iddynt ni bydd ‘Bob y brawd’ Mwy ond enw, megis argraff Carreg beddrod dyn tlawd. Diolch i W Arvon Roberts, Pwllheli, am yr hanesyn hwn.

Rho im yr hedd, na ŵyr y byd amdano. Elfed Carodd ei deulu, carodd ei gyd-ddyn, Carodd ei fro, carodd ei wlad. Ni allai gelyn ond ei [g]alw’n deg.

William Shakespeare

‘Mae alaw pan ddistawo Yn mynnu canu’n y co’. ’

Dic Jones

Hir yw galar i gilio, – ac araf Yw hen gur i fendio, Am un annwyl mae’r wylo’n Ddafnau cudd o fewn y co’.

Dic Jones

1A5


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Nos Fawrth, Mawrth 2il Derbyniwyd croeso cynnes gan ein llywydd Gwen Edwards gyda chroeso arbennig i gangen Deudraeth atom ar noson mor aeafol, i Festri Capel Horeb, Dyffryn Ardudwy i ddathlu Gŵyl Ddewi. Croeso arbennig hefyd i’n diddanwyr am y noson, sef Siân Parry o Ysbyty Ifan a Siân Edwards o Lanrwst - a’u gwŷr oedd wedi dod gyda nhw i’w helpu heno. Cyn trosglwyddo’r noson i’r ddwy Siân, darllenodd Gwen y pennill perthnasol hwn: Daw’r wyrth flynyddol eto i’r erwau llwm Mae cennin Pedr heddiw’n aur ar gwm; Ac uwch eu pennau yn goleuo’r nen Mae arwydd Dewi - y golomen wen. Noson amrywiol oedd o’n blaenau gan y ddwy ddawnus a thalentog yma - cychwyn gyda chwis doniol ‘Mastermind Cymru’, sgets a gafodd wobr yn yr Eisteddfod am ddwy chwaer ar eu gwyliau yn ‘Jamaica boeth’, sgets ddigri arall am jogio/deietio, darlleniad o’r ‘Feirniadaeth’, clywed am helyntion Siân Parry oedd wedi priodi ffermwr ar raglen ‘Jenni Kyle’! Gorffennwyd gyda stori am y ‘Mamau’. Gwen a ddiolchodd ar ein rhan am ‘lond bol o chwerthin’ a diolchodd Helen Ellis ar ran cangen Deudraeth am y croeso, y bwyd, y gweini a’r chwerthin. Dyna noson fendigedig, llawn hwyl yng nghwmni’r ddwy Siân.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

Capel Salem EBRILL 17 Parch Dewi Tudur Lewis 24 Rhys ab Owen * * * 10 Capel Nantcol, Parch Marcus Robinson 17 Capel y Ddôl, Ms Nesta Lloyd MAI 1 Capel y Ddôl, Parch Gareth Rowlands

Y Sarn Newydd Sarn Newydd yw’r ffordd newydd yn unig. Mae’r enw Sarn Hir ar y ffordd bresennol yn aros. Bu cyfarfod ymgynghori llwyddiannus iawn gyda 180 yn galw i weld y cynlluniau arfaethedig. Mae’n amlwg fod rhai yn gwrthwynebu’r cynllun yn gryf ond o gyfrif y sylwadau a adawyd gwelir nad yw y rhan fwyaf yn gwrthwynebu’r cynllun. Mae’r Cyngor Cymuned wedi penderfynu nad yw am wrthwynebu ond wedi mynnu cael ymgynghori yng nghylch manylion ee cylchfan i droi am Fochras ac arwyddion ffyrdd. Mae’n anorfod y bydd y ffordd newydd yn cael effaith ar y siopau ond gobeithir y bydd yn gyfle i ddenu cwsmeriaid newydd drwy ddatblygu’r pentref fel lle i ymdroi ynddo. Mae’n bentref tlws iawn a’r unig un ar yr arfordir sy’n fynedfa i’r Rhinogydd. Mae cynlluniau ar y gweill yn barod i greu cyfres o bamffledi teithiau cerdded/beicio.

16

Colli Ismael Bu farw Ismael Jones, Talgarreg wedi cyfnod o salwch ac yntau mewn gwth o oedran. Roedd yn un o gymeriadau mawr y fro. Bydd bwlch mawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn â’r holl deulu a phawb oedd yn agos ato. Bwriedir cynnwys coffâd llawn iddo yn ein rhifyn nesaf.

Taith Gerddorol y Pererin Yn ddiweddar, trefnwyd ‘taith gerddorol y pererin’ gan Ganolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon, sef cyfres o gyngherddau amser cinio a gynhaliwyd ar lwybr traddodiadol y pererinion i Ynys Enlli ers llawer dydd. Cynhaliwyd y cyngerdd cyntaf yn Eglwys Llanberis, yr ail yn Eglwys Clynnog Fawr, y trydydd yng Nghapel Nant Gwrtheyrn, a’r pedwerydd a’r olaf yn Eglwys Aberdaron. Mynychwyd rhai o’r cyngherddau gan ambell un o Ardudwy ac yn y cyngerdd yn Aberdaron cyfarfu Teresa Ross o Lanbedr â Richard Ellis, mab y diweddar Osian Ellis, y telynor adnabyddus oedd â chysylltiadau â Lluest, Llanbedr, yn agos at gartref presennol Teresa. Roedd y gyfres o gyngherddau’n ardderchog ac ymysg y cerddorion oedd yn cymryd rhan yn y cyngherddau roedd Twm Morys ynghyd â phlant ysgolion oedd yn agos at yr eglwysi, Elinor Bennett, Mary Lloyd Davies, Sioned Webb, a Rhiannon Mathias, merch y diweddar William Mathias. Tybed oes rhywun yn gwybod mwy am gysylltiad Osian Ellis â Llanbedr ac Ardudwy?

PRIODAS

Priodas Llongyfarchiadau mawr i Rhian a John Watts ar achlysur eu priodas yn ddiweddar. Merch i Mwff ac Ann Williams, Llanbedr yw Rhian. Priodwyd y ddau yng Nghaer ar Chwefror 29. Dymuniadau gorau i’r dyfodol.

Neuadd Llanbedr Mae’r cynllunio ar gyfer y gwelliannau yn symud ymlaen yn dda. Ar hyn o bryd mae ymgynghorwyr yn paratoi manylion. Rhagwelir y bydd dogfennau yn barod i gontractwyr erbyn diwedd Ebrill ac y byddid yn dechrau ar y gwaith tua diwedd Mai. Diolch i gwmni Llanbedr Aerospace, mae safle ar y maes awyr ar gael tra bydd yr adeiladu yn digwydd. Ni fydd rhent i’w dalu ond mae angen ychydig o waith i baratoi’r ystafell ar gyfer yr Ysgol Feithrin. Mae’r gwaith hwn wedi ei ddechrau. Mae’r manylion diweddaraf i’w cael ar dudalen Gweplyfr (Facebook) Neuadd Llanbedr. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Elinor Evans, Moelfre, gan ddisgwyl ei bod yn dal i wella ar ôl ei damwain, a hefyd Miss Elizabeth Richards, Cartref, sydd heb fod yn dda ei hiechyd yn ddiweddar.


DEUGAIN MLYNEDD, HEB UNWAITH FOD YN YR ANIALWCH! Llais Ardudwy Ydi! Ydi! Ydi! ac mi ellir ei ailadrodd ddeugain, os nad mwy o weithiau - y mae Llais Ardudwy wedi dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain mlwydd oed. Hefo ei ymddangosiad cyntaf, sef ym mis Ebrill y flwyddyn 1975, crëwyd cofnod newydd sbon danlli, a hwnnw’n gynhyrchGymreig, a hyn i gyd yn y rhanbarth hwn o Ardudwy (nid y cyfan ohono, dalier sylw!). Bu i drigolion Croesor, Minffordd, Penrhyndeudraeth (Pendryn) ei gweld hi’n ogystal, gan ymuno hefo papur bro Yr Wylan, a’r Blaenau, Llan, Maentwrog, y Traws, Tanygrisiau, hefo Llafar Bro. Llais Ardudwy? Papur bro ydoedd hwn, a wasanaethai rhan o Ardudwy, o’r Bermo (er mai’n ddiweddarach y cafwyd gohebydd/cysylltwr i’r dref honno) hyd Moel Tecwyn a’r cyffiniau. Ni chafwyd hyd yn oed hysbysebion Cymraeg eu hiaith yn y rhifyn cyntaf, ond gyda gwaith dyfal Phil (Mostert) roedd rhifyn Nadolig dan ei bwysau hefo hysbysebion Cymreig! Phil a ofalodd yn ogystal fod hysbysebion yn rhan o Lais Ardudwy Ionawr 1976 gan osod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol y papur bro. Rhaid yma ddiolch i hysbysebwyr ddoe a heddiw, ac i chwithau’r cysylltwyr lleol, a’r colofnwyr, a hefyd yn anad dim byd arall, chwi’r darllenwyr am eich cefnogaeth, o brynu’r papur newydd misol, a danfon newyddion iddo. Y mae hi’n ddigon hawdd breuddwydio, hyd yn oed cael gweledigaeth; peth arall ydi eu gwireddu, ac ni wneir hynny ond drwy greu, cynllunio, dyfalbarhau, cyd-drafod, cydweithio, a dyfod â’r holl syniadau ynghyd. Camp meddech? Nage! digwyddiad ydyw!

Dydw i heb fod yn sicr-benodol pryd yn union dechreuwyd rhoi trefn ar bethau, ond yr hyn a welaf, a daliaf i glywed tonfeydd addfwyn-wylaidd ei lais. Martin, y diweddar Martin Eckley, yn gofyn “Elli di fod o gymorth?” cyn iddo fynd ati’n frwdfrydig i amlinellu ei syniadau, a’i obeithion. Gan mai un o blith llawer, a oedd yn rhan o Fudiad Adfer oeddwn i (yn parhau i fod ran hynny) roedd cael cyfle i weithio’n ymarferol dros yr iaith Gymraeg, drwy sefydlu papur bro, yn apelio’n fawr ataf. Nid y fi oedd yr unig un i gynorthwyo – bu llawer yn ysgwyddo’r baich, gan roi o’u hamser yn rhad ac am ddim. Gwirfoddoli a wneid, heb gyfrif y draul na’r gost. Marged, gwraig hynaws Martin, yn un! Cyfeillion Llais Ardudwy drwyddynt oll, a’r rhestr enwau’n cynyddu bob rhifyn a gyhoeddid. Bellach, mi alla’i ddatgelu rhai pethau er’ill! Bu i Martin ofyn am gymorth rhadlon Wil, sef William Henry Owen, Dyffryn Ardudwy, a oedd yn gweithio i’r Cymro. Mi fues dipyn o feddwl o Wil ers dyddiau Ysgol Ardudwy, ac yn wir wedi hynny. Braint oedd cael ei gefnogaeth, a’i gyfarwyddiadau buddiol ynghylch diwyd ein babi newydd o bapur bro, a’r math o glytiau ran newyddion i’w cynnwys ynddo. Gweledigaeth Martin oedd Llais Ardudwy, ac yn aml y tyrchai i’w boced ei hunan am gelc i brynu deunydd. Hebddo, cym’int tlotach fyddai ein dernyn ni o Ardudwy. Bu’n gyfaill da imi, a’m hysgogi i sgwennu. Fel llawer un arall, perodd imi weld bod cymaint o drysorau’r henwlad yn llechu ar bwys carreg y drws. Bu iddo greu’r ysfa ynof fynd i chwilota, a cherdded ledled Ardudwy - er mwyn taro ar stori! Ifanc oeddwn i ar y pryd, ac ni allaf fesur dylanwad Martin arnaf. Credaf iddo fod o ddylanwad ym mywydau eraill yn ogystal. Wrth gyhoeddi Llais Ardudwy am y tro cyntaf hwnnw, mis Ebrill 1975, ein hamcan oedd trosglwyddo newyddion mewn Cymraeg syml hawdd ei ddeall, a bod yn gryno o ddifyr. “Rwy’n moyn ar gyfer y Llais”, ebe Martin, bryd hynny, “ddigonedd

o lunia, a’r rheiny’n adrodd storïau.” Pastiwyd y rhifyn cyntaf, gan ddefnyddio blawd a dŵr (ni wyddem ni ddim am Gwm Buwch/Cow Gum, a phan fentrwyd draw at Robat i’r Lolfa (yr hen safle) yn Nhal-ybont, Ceredigion. Mi roedd y tudalennau’n fwy o dwyni na dim byd arall! O weld y lympiau, mi roedd Robat, y cyhoeddwr, yn laddar o chwys, ond whare teg iddo, a’r staff clên, llwyddwyd i gyhoeddi rhifyn cyntaf Llais Ardudwy, a hynny heb ddyddiad ar gyfyl y dudalan bla’n! Ni chaed stori fla’n chwaith, ond cafwyd colofnau, wedi eu cwmpasu hefo llinellau breision-duon - ych! Yn y golofn gyntaf ar y dudalen fla’n datganodd y golygydd, sef Martin, a’i gysgod-bychan o Is-olygydd: “Ymgais yw’r papur hwn i gael papur Cymraeg misol fydd yn dod a newyddion i ran o Ardudwy. Os bydd newyddion am bobl yn eich ardal, cofiwch ddanfon pwt. Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw luniau y medrwn gael eu benthyg o gorau plant neu dîm dartiau a phêl-droed. Bydd y papur yn dod allan ar y dydd Gwener cyntaf o bob mis. Cyhoeddir y papur 10 gwaith y flwyddyn gan adael dau fis gwyliau’r haf yn rhydd. Cyflwynwyd inni yn y rhifyn hwnnw Yr Oriel, dan ofal Martin, hefo ffotograff a hanes Dorra Lloyd Jones, Cerrig Gwaenydd, ffotograff o Gôr buddugol dan 12 oed Ysgol Tancastell, Harlech, yn Eisteddfod yr Urdd, dan arweinyddiaeth Gwilym Jones, Tamaid i’w Brofi - ryseitiau godidog Janet Anwyl (Mostert wedi hynny), hanes lleol efo Dr Lewis Lloyd (yr Is-olygydd fu’n gyfrifol am gyfieithu stwff Lewis i’r Gymraeg, gan ei fod o’n llawer mwy cartrefol siarad y Gymraeg na’i sgwennu). Cafwyd digonedd o gartwnau, straeon trwstan, Cornel y Plant efo Defi daff ’o’dil, sef Brei Ifans, Talsarnau, ffotograff, a hanes Toc H Llanfair; run modd ffotograff a hanes Gwenan Morgan Jones yng Nghwmnantcol yn cyflwyno rhodd i Elwyn Richards, cyn lythyr-gludwr, ar ei ymddeoliad, pwt o hanes am Mary Green, myfyrwraig o Batagonia; Eisteddfod Ysgol Ardudwy, Storïau Nain gan Gwenda Lewis, Llanbedr, stori’r botel - Marnel

Jones, Bryngolau, pentref Talsarnau, Rhod y Rhigymwr, hefo Iwan Corus, sef colofn farddoniaeth, ond bu’n rhaid aros hyd y rhifyn nesaf cyn cael tudalen chwaraeon, a rhywbeth i’w groesawu dros ben. Do! diolch i Martin, a fynnodd drefnu gwerthiant mewn siopau ledled ein rhan ni o Ardudwy, erbyn cyhoeddi’r ail rifyn, fe allwyd dweud i’r rhifyn cyntaf (Ebrill 1975) werthu dros chwe chan copi, a diolchir i’r prynwyr, gwerthwyr, ac i’r cyfeillion a ddaeth heibio hefo newyddion. Amlygir hefyd: “Pan fydd costau yn caniatáu, byddwn yn rhoi tudalen ychwanegol” (fel y tro hwn). Fel Adferwr, gallaf ychwanegu i freuddwyd, a gweledigaeth y cyfaill triw, y Cymro twymgalon, sef Martin Eckley, gael eu gwireddu. Diolch i Farged ei wraig am ofyn imi sgwennu peth o’r hanes. Hebddi hi, fel llawer un arall, ni fyddai’r papur bro wedi dyfod o’i grud i gropian, a dechrau cerdded. Braint ydoedd cael y cyfle i ddwyn peth o’r hanes i fodolaeth, a’i ffosileiddio ran geiriau ar bapur, yn lle ei fod yn byrlymu mewn hyn o gof. Hanesyn i orffen: Martin yn danfon dau ohonom ni am adref yn ei fodur, hynny am ddau o’r gloch y bore, wedi inni fod yn gosod Llais Ardudwy yn stafell gefn Llyfrgell Coleg Harlech yna’n brecio, a sefyll yn stond. “Ylwch rhen fois! Welwch chi be wela i?” ac ar y gwastad, cyn croesfa’r trên, ger Tŷgwyn, nepell o’r Ynys - tylluan frech yn ei hunfan ar frigyn coeden. Hyd yn oed yn y twyllwch a’r hanner goleuni mi roedd craffter llygaid Martin wedi dyfod o hyd i fywyd. Gŵr cwbl egnïol, trylwyr ei waith, cyfaill da, ac yn ymdebygu i’r hyn roedd Llais Ardudwy yn amcanu ato, sef bod yn bapur bro llawn difyrrwch, a newyddion y ceid boddhad o’u darllen, a’r cyfan drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dafydd Guto Ifan Diolch i Dafydd Guto am ei erthygl. Bydd llawer ohonoch yn cofio’r cyfnod cyffrous hwn yn ein hanes. Er mwyn y rhai pedantig, rydan ni’n dathlu 41 o flynyddoedd y mis hwn! [Gol.]

Llais Ardudwy 17A


GOLWG YN ÔL AR RAN O HANES LLAIS ARDUDWY

Gofynnais i un o weithwyr presennol y Llais beth oedd pwrpas y papur heddiw. Rheswm tebyg i’r uchod a roddodd yntau – mae’n rhoi cyfle i bobl ddarllen hanesion eu hardal yn y Gymraeg; mae llawer nad ydynt yn darllen Cymraeg. Credaf fod y papur yn darparu ar gyfer yr angen am bapur sy’n rhoi’r newyddion lleol i’r bobl leol.

Ysgrifennwyd yr erthygl isod gan Angharad Jones, Allt Goch, pan oedd yn y Coleg. Yn dilyn sgwrs gyda Gweneira, mam Angharad, meddai Margaret Eckley: “Ar ôl sgwrs gyda Gweneira, dyma hi’n anfon darn o waith Angharad yn y Coleg. Roedd hi’n cytuno imi ei danfon atoch fel golwg yn ôl ar hanes y papur. Dwi eto heb roi f ’atgofion i ar bapur, ond yn cofio’r holl ewyllys da a chefnogaeth ar y dechre.” Llais Ardudwy Ymddangosodd y rhifyn cyntaf o’r papur bro Llais Ardudwy yn Ebrill 1975, yn ardal Ardudwy yng Ngwynedd. Papur o bedair tudalen yn unig oedd y papur cyntaf. Roedd y papur cyntaf o dan olygyddiaeth Martin Eckley; ei syniad efo oedd cychwyn y papur. Dafydd Guto Ifan oedd yr is-olygydd. Ef a Martin Eckley oedd yn gyfrifol am y baratoi’r rhifyn cyntaf. Argraffwyd y papur gan wasg Y Lolfa, Talybont, Dyfed. Pan oedd Martin Eckley a Robat Gruffydd gyda’i gilydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, roeddynt wedi cyhoeddi papur Cymraeg. Roedd Robat Gruffydd wedi cychwyn Papur

18 A

Pawb yn ei ardal a gallodd roi gwybodaeth i Martin Eckley. Tua’r pumed papur bro i’w gyhoeddi oedd Llais Ardudwy. Gwerthwyd dros chwe chant o’r rhifyn cyntaf hwnnw. Golygai hyn ei bod yn bosibl cyhoeddi dalen ychwanegol. Cafwyd ychwaneg i weithio hefo’r papur ac ehangwyd y gwaith. Ar gyfer y ddau rifyn cyntaf y golygydd oedd yn chwilio am y newyddion. Yna cafwyd cynrychiolwyr ym mhob pentref i gasglu newyddion. Erbyn y trydydd rhifyn roedd y golygydd wedi cysylltu â William Owen, Bangor. Cafodd wybod ganddo beth oedd anghenion papur bro, a chael syniadau ac awgrymiadau ar gyfer y papur. Fel y dywed ei enw papur bro ardal Ardudwy ydyw Llais Ardudwy. Yn wreiddiol roedd y dalgylch yn cynnwys Talsarnau, Harlech, Llanfair, Llanbedr, Cwm Nantcol a Dyffryn. Nid oedd Bermo yn cael ei gynnwys ar y dechrau. Ond pan ddarfu’r papur newydd y Barmouth Advertiser cafwyd cynrychiolwyr ar gyfer ardal Bermo hefyd.

Un rheswm dros sefydlu’r papur oedd bod Ardudwy wedi Seisnigo a’r iaith Gymraeg yn dirywio’n gyflym. Ymgais ydoedd i gael pobl i ddarllen mwy o Gymraeg, ac i feithrin diddordeb mewn llyfrau a chylchgronau Cymraeg. Ceisiwyd ennyn diddordeb pobl drwy gyflwyno newyddion a lluniau o ddiddordeb iddynt. Dywedodd Martin Eckley yr ymddangosodd Llais Ardudwy “er mwyn trwytho a chadw Cymreictod yr ardal, a chlymu Cymry Cymraeg heddiw.” Credai’r golygydd y byddai’n beth da cyflwyno hanes eu hardal i’r darllenwyr. Roedd llyfrau i’w cael ond doedd pobl ddim yn eu darllen. Felly cafwyd erthyglau i ennyn diddordeb pobl yng ngorffennol eu hardal. Bu’r Dr Lewis Lloyd, sy’n ddarlithydd hanes yng Ngholeg Harlech, yn cyfrannu i’r papur.

Dyma restr o swyddogion cyntaf y papur: Golygydd: Martin Eckley Is-olygydd: Dafydd Guto Ifan Trysorydd: Phil Mostert Y cynrychiolwyd oedd: Cwm Nantcol: Evie M P Jones Harlech: Maldwyn Hughes Talybont: Tom Davies, Lena Davies a Beti Roberts Llanfair: Bet Evans Talsarnau: Brian Evans Dyffryn: Iwan Morgan Llanbedr: Gwenda Lewis Y flwyddyn yma pedwar cynolygydd sydd yna ar y Llais: Annie Davies (Talsarnau), Ken Roberts (Dyffryn), Phil Mostert (Harlech), a Bryn Williams (Llanbedr). Mae’r ddau ddiwethaf yn bwriadu ymddiswyddo; Phil Mostert oherwydd ei fod yn dilyn cwrs colegol a Bryn Williams oherwydd ei fod yn symud o’r ardal. Aelodau eraill y pwyllgor ydyw: Cadeirydd: Nansi Richards (Gwynfryn) Is-gadeirydd: Beti Roberts (Talybont) Trysorydd: Iorwerth Williams (Dyffryn) Ysgrifennydd: Angharad Jones (Llanbedr). Ceir cyfarfod blynyddol ac ambell i bwyllgor arall yn ôl y galw. Mae yna dîm o gysylltwyr

Llais Ardudwy


lleol yn ychwanegol at y pwyllgor. Gwaith gwirfoddol yw’r gwaith ynglŷn â’r papur i gyd, ond am y teipio a’r argraffu. Mae’r gwaith o baratoi a chyhoeddi’r papur yn dilyn yr un patrwm bob mis. Erbyn dydd Llun ola’r mis dylai pob darn o newyddion a phob llun fod wedi cyrraedd un o’r golygyddion. (Nid yw hyn yn digwydd yn anffodus, ac o achos hynny mae llawer o waith teipio ar y noson gosod). Bydd y golygyddion yn edrych ar y deunydd ac yn ei anfon i’r teipydd. Ar y dydd Gwener canlynol, mae hi’n noson gosod y papur, pryd y bydd y rhai sy’n ymwneud â’r gwaith a’r teipydd gwirfoddol yn cyfarfod yn yr Hen Lyfrgell yn Llanbedr. Tua dau gynrychiolydd o bob ardal fydd yn dod i osod. Bydd y rhain yn cael y newyddion wedi eu teipio’n golofnau tair neu chwe modfedd o led ac yn cael lluniau. Disgwylir iddynt eu torri a’u glynu mor daclus ag sydd bosibl ar ddalennau mawr

pwrpasol a ddarperir gan Wasg y Lolfa. Mae hysbysebion yn helpu garw i lenwi llefydd gwag. Yng ngwasg y Lolfa mae’r Llais yn cael ei argraffu trwy ddefnyddio’r dull leithograffig. Mae’r papur yn cael ei argraffu trwy dynnu llun y gwreiddiol. Bydd y papur yn llai na’r gwreiddiol. Gall newid lluniau lliw i ddu a gwyn ond nid ydynt cystal. Aiff y trysorydd i’w nôl i Dal-y-bont. Dosberthir y papur o gwmpas siopau’r ardal. Bydd un neu ddwy o siopau ym mhob pentref neu dref yn ei werthu. Mewn rhai pentrefi, fel Llanfair, mae gwirfoddolwyr yn mynd o amgylch y drysau i’w werthu. Mae pobl mewn ardaloedd a gwledydd eraill yn derbyn Llais Ardudwy drwy’r post gan fod y golygyddion neu berthnasau yn eu gyrru iddynt. Mae gwerthiant y rhifynnau diweddaraf tua un cant ar ddeg o’i gymharu â chwe chant ar y dechrau. Y cyfanswm a gafwyd am werthiant y papur yn 1982 oedd £1,324.60; roedd y costau argraffu yn

£2168.00. Yn yr un flwyddyn cafwyd £640 o gymhorthdal gan Gyngor y Celfyddydau, a chafwyd £400 oddi wrth hysbysebion. Ceir llawer o roddion gan sefydliadau lleol a cheir noson lawen flynyddol i godi arian. Eleni cawsom noson lwyddiannus iawn gyda Band yr Oakeley, Dai Jones Llanilar, Richard Rees, Pennal, Gari Williams, Mochdre, ac Iolo Wyn Williams, Bangor, yn gadeirydd. O edrych ar y Llais Ardudwy cyntaf a’r un diweddaraf mae’n ddiddorol eu cymharu. Yn y cyntaf ceir adroddiadau o Eisteddfod dosbarth yr Urdd ac Eisteddfod y Gwynfryn, hynny ydyw, newyddion lleol. Mae colofn ‘Yr Oriel’ yn rhoi hanes hen gymeriad o’r ardal. Ceir ynddo hanes lleol – hanes y bedd siambr sydd tu ôl i Ysgol Dyffryn gan Dr Lewis Lloyd. Ceir cartwnau a chornel y plant a cholofn o farddoniaeth gan Iwan Morgan. Sylwir fod y Llais Ardudwy diwethaf wedi ehangu i ddeg tudalen. Ceir mwy o

hysbysebion a mwy o erthyglau a llythyrau o du allan i gylch y Llais ee hysbyseb i’r gêm o Goleg y Drindod ‘Cipio’r Cestyll’ a llythyr gan Angharad Tomos ynglŷn ag agwedd Awdurdod Iechyd Gwynedd tuag at y Gymraeg. Mae dyddiadur y mis yn rhestru’r digwyddiadau sydd i ddod yn yr ardal. Ceir llythyrau gan y cyhoedd. Mae hen luniau yn dal yn boblogaidd a cheir ambell i gystadleuaeth sy’n gofyn am enwi’r rhai sydd yn y llun. Yn sylfaenol yr un yw’r deunydd sydd yn y papur yn awr ag a oedd ar y dechrau gyda’r newyddion a’r lluniau lleol yn cymryd y lle blaenaf. Dyna mi gredaf ydy’r hyn y mae’r bobl yn gyffredinol ei eisiau. Credaf mai nod Llais Ardudwy erbyn hyn yw rhoi papur difyr i’r bobl leol, gyda’u hanesion hwy ynddo ac wrth wneud hyn yn annog mwy o bobl i ddarllen Cymraeg. Gol: Diolch am yr hanesyn difyr hwn am flynyddoedd cynnar y Llais. Nid yw’r nod wedi newid!

19


Clwb Hoci Ardudwy/Arfon

CYSGODFAN ANDERSON

Llongyfarchiadau i’r genod sy’n chwarae i dîm hoci Ardudwy/Arfon ar eu llwyddiant eleni. Maen nhw wedi dod ar frig yr 2il adran yng Nghynghrair Hoci Gogledd Cymru, sy’n golygu y byddan nhw’n chwarae yn y gynghrair 1af y tymor nesa. Ymysg y merched yn y llun mae Jacquie, wyres Mrs Blodwen Jones, Y Waun, a’i chyfaill, Nic. Mae’r ddwy wedi chwarae i Ardudwy ers rhai blynyddoedd bellach, a diolch i’w hymdrechion nhw mae’r Clwb yn dal i ffynnu. Pob lwc i chi, genod.

Y Carneddau o Ysbyty Gwynedd

Tra’n clirio brwgaits yn yr ardd, daeth Elfyn Anwyl o hyd i gysgodfan Anderson yn Kiltan, Harlech. Does dim llawer o fanylion ynddo, dim ond bod ‘Capt Jones, Kiltan, Harlech, Wales’ wedi ei beintio ar bob panel. Fe wnawn chi ychydig o waith cartref erbyn y rhifyn nesaf ac os gallwch helpu - rhowch wybod.

FFAIR EGIN GWYRDD ECOBRO A CHYFNEWID HADAU A PHLANHIGION Llun: Wyn Edwards

Dyma’r olygfa o Ward Moelwyn, Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn edrych at fynyddoedd y Carneddau. Siawns y bydd amryw o gyn-gleifion yn gwybod yn dda am yr olygfa hon. Diolch i Wyn Edwards am y llun.

Rhwng 10.00 y bore a 3.00 y prynhawn ar 7 Mai yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth; Mynediad am ddim. Dewch ag unrhyw eginblanhigion, coed a phlanhigion gardd sbâr, a chasglu rhai nad oes gennych yn barod, i gyd am ddim! Dewch i ffeirio syniadau am sut i dyfu eich bwyd blasus, heb gemegau eich hun. Dysgwch sut i gadw gwenyn ac i fyw bywyd mwy bywiol a hunan-ddibynnol sy’n cael llai o effaith negyddol ar y ddaear. Dysgwch am drafnidiaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, ailgylchu a chrefftau lleol, a pha grantiau lleol sydd ar gael i brosiectau cynaliadwy. Dowch â’ch plant, a nain a thaid. Mae rhywbeth yma i bawb. Bydd bwyd cartref blasus a wnaed yn defnyddio cynhwysion lleol ar gael am brisiau rhesymol iawn. Ymunwch yn ein raffl: y wobr gyntaf yw coeden Afal Ynys Enlli. Bydd yn ddiwrnod gwych! Am fwy o wybodaeth: Ffôn: 01766 770933 ecobro@live.co.uk www.ecobro.org

20


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.