Llais ebrill 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 462 EBRILL 2017

CYMRU

MENTER NEWYDD GWARCHODAETH I GREADURIAID Y MÔR ODDI AR ARDUDWY

Pob dymuniad da i’r ddwy chwaer, Melissa ac Alys Hughes, Argoed, Llanfair wrth iddyn nhw ailagor Siop Goffi ‘Goodies’ ar Stryd Fawr, y Bermo. Maen nhw yn agored bob dydd ac yn arbenigo mewn cacennau cartref. Galwch i mewn am baned os ydych chi yn y Bermo!

Bydd parthau cadwraeth arbennig yn cael eu sefydlu oddi ar ein harfordir mewn ymgais i warchod llamhidyddion, adar môr ac anifeiliaid eraill. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd, cyhoeddwyd cynlluniau am dair parth wahanol, yn cynnwys y rhan hon o ogledd Bae Ceredigion.

GWAU MENYG Yn ôl Llywodraeth Cymru, penodwyd ardaloedd y parthau cadwraeth oherwydd y nifer uchel o lamidyddion sy’n byw yma. Y mamal mwyaf cyffredin a welir oddi ar ein harfordir, mae’n hawdd drysu’r llamhidydd, un o’r mamoliaid morol lleiaf sy’n bodoli, oddeutu pum i chwe troedfedd o hyd, gyda’r dolffin mwy. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, corff ymgynghorol y Llywodraeth, mae’n anhebygol iawn y bydd y parthau cadwraeth yn effeithio ar weithgareddau sy’n digwydd ar hyn o bryd oddi ar yr arfordir.

Yn dilyn cais gan Gyfarfod Cenhadol y Chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru daeth criw ohonom i Festri Capel Horeb, Dyffryn Ardudwy, bob pnawn Mawrth i wau menyg cof ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddementia. Cafwyd cymaint o fwynhad a hwyl wrth wau fel bod nifer fawr wedi eu gwneud. Aed ati wedyn i wau capiau i fabanod bach a hefyd blancedi glin i’r henoed. Bu rhai yn gwau gartref ac rydym yn ddiolchgar iddynt hwythau hefyd am eu cefnogaeth. Byddwn yn eu rhannu i gartrefi henoed lleol.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 28 am 5.00. Bydd ar werth ar Mai 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Enw: Fiona Williams Gwaith: Swyddog Gweinyddol yn Ysgol Ardudwy. Mae fy swydd bresennol yn amrywiol iawn - y dyddiau, yr wythnosau a’r tymhorau yn hedfan. Cefndir: Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Moelwyn. Gadewais yr ysgol ar ôl sefyll yr arholiadau Lefel ‘O’ a chwblhau cwrs ysgrifenyddol dwyieithog yng Ngholeg Meirionnydd yn Nolgellau. Wedi gadel y coleg bûm yn gweithio fel clerc yn swyddfeydd Ffatri ‘Metcalfes’ yn y Blaenau (am flwyddyn) ac wedyn mynd i weithio i swyddfa twrna ‘Edward Jones a’i Fab’ am flwyddyn. Wedyn ymunais â Banc y Midland yn y Blaenau yn 1986. Cyn fy mhenodiad i fy swydd bresennol yn 2005, treuliais bron i 20 mlynedd yn gweithio i Fanc y Midland/HSBC mewn nifer o ganghennau lleol mewn amryw o swyddi gwahanol. Rwy’n fam i ddau o hogia Osian (20) ac Ynyr (17) sydd yn

parhau i fy nghadw’n brysur! Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded fy nghŵn, Macs a Moli, ar draethau lleol. Rwyf hefyd wedi ymuno gyda band Samba ‘Batala Bermo’ ychydig fisoedd yn ôl. Yn ogystal â chael rhythm mae angen lefel dda o ffitrwydd a stamina gan fod gorymdeithiau a pherfformiadau yn eithaf caled a blinedig ond yn brofiad anhygoel. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Mae gen i gywilydd dweud nad ydwi’n un am ddarllen fawr ddim! Cylchgronau yn bennaf. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Coronation Street neu unrhyw raglen crime/thriller/suspense ar y teledu ac rwyf wrth fy modd yn gwrando ar raglen radio Trevor Nelson ‘Rhythym Nation’ ar nos Sadwrn - cerddoriaeth ‘Soul’ o’r 70/80au. Dwi’n hoffi mynd i’r pictiwrs hefyd. Fy hoff ffilmiau ydi ‘Forest Gump’, ‘Shawshank Redemption’, ‘Zul’ ac ‘A Fish Called Wanda’. Ydych chi’n bwyta’n dda? Bwyta’n rhy dda ac yn rhy aml! Hoff fwyd? Stecen dda neu fwyd Groegaidd neu Tsieineaidd Hoff ddiod? Dwi’n eithaf hoff o win. Fy ffefryn ydi ‘Pinot Grigio’. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rob Kearney, chwaraewr rygbi Gwyddelig sy’n chwarae i swydd Leinster ac Iwerddon os gwelwch yn dda! Lle sydd orau gennych? Traeth Morfa Harlech - ni fyddaf byth yn blino ar yr olygfa ogoneddus unwaith dros y Twyni. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau?

Kalami - pentref bychan iawn ar arfordir Gogledd Ddwyrain Ynys Corfu - fy ngwynfyd. Rwy’n edrych ymlaen i dreulio pythefnos yno ym mis Awst. Beth sy’n eich gwylltio? Creulondeb a chasineb o unrhyw fath tuag at y ddynoliaeth neu tuag at anifeiliaid Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffyddlondeb a hiwmor. Beth yw eich bai mwyaf? Rydw i’n llawer rhy hunanfeirniadol! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Hunanoldeb a diffyg parch. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Byw bywyd braf yn yr haul dwi’n eithaf hoff o’r haul!- gyda’r rhai sydd yn agos ataf. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Mynd ar wyliau gyda’r hogia am un tro eto cyn iddyn nhw adael y nyth. Eich hoff liw? Pinc llachar. Eich hoff flodyn? Lili ‘Stargazer’ Pinc Eich hoff fardd? Bob Dylan. Pa dalent hoffech chi ei chael? Y gallu i ganu yn broffesiynol er fy mod yn gallu dal tiwn yn eithaf . Eich hoff ddywediad? ‘Daw eto haul ar fryn.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Prysur! (gyda fy nheulu, ffrindiau, cartref, gwaith a fy niddordebau).

CANU HAF Lansio ‘Canu Haf ’ ar Ŵyl Banc Calan Mai, 1af o Fai

Bydd y gyfrol o garolau ‘Canu Haf ’ yn cael ei chyhoeddi eleni, ac mae Arfon Gwilym a Sioned Webb yn awyddus i gynnal gweithdy o ryw awr a hanner i ddysgu’r carolau a’u cydganu. Gobeithir y bydd hynny’n digwydd yn Neuadd Talsarnau. Y bwriad ar hyn o bryd yw ymweld â’r Lasynys tua 11.00 y bore, a chanu tipyn yno (yn yr awyr agored os ydy’r tywydd yn braf), yna paned a chinio yn Neuadd Talsarnau (pawb i ddod â phecyn bwyd), cyn cynnal y gweithdy ei hun rhwng 1.30 – 3.00 y prynhawn. Gobeithiwn gadarnhau’r uchod yn nes at y dyddiad, felly cofiwch gadw llygad ar wefan y Lasynys ac ar y cyfryngau.


NEUADD GOFFA PENRHYNDEUDRAETH HARLECH YN YSBRYDOLI FFAIR EGIN GWYRDD ECOBRO PASIANT CERDDOROL A CHYFNEWID HADAU A PHLANHIGION

10.00 tan 15.00, Mai 13 - MYNEDIAD AM DDIM

Dowch ag unrhyw eginblanhigion, coed a phlanhigion gardd sbâr. Dowch i gyfnewid syniadau am sut i dyfu eich bwyd blasus, heb gemegion. Dysgwch sut i gadw gwenyn ac i fyw bywyd mwy hunan-ddibynnol sy’n cael llai o effaith ar y ddaear. Dysgwch am drafnidiaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, ailgylchu a chrefftau lleol, a pha grantiau sydd ar gael i brosiectau cynaliadwy. Dowch â’ch plant, a’ch nain a’ch taid. Mae rhywbeth yma i bawb. Bydd bwyd cartref blasus a wnaed yn defnyddio cynhwysion lleol ar gael am brisiau rhesymol iawn. Raffl fawr: y wobr gyntaf ydi Coeden Afal Ynys Enlli. Bydd yn ddiwrnod gwych! Mae gŵyl gerddoriaeth glasurol fwyaf mawreddog Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen ar gyfer 2017 a bydd diweddglo dramatig iddi yn nhref Harlech. Eleni, Gŵyl Gregynog fydd y fwyaf uchelgeisiol eto yn cymryd Pasiantri fel ei phrif thema, a bydd yn cyflwyno perfformiadau cerddorol, cynyrchiadau dawns, arddangosfeydd hanesyddol a sgyrsiau gafaelgar mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru rhwng 16 Mehefin a 2 Gorffennaf. I gloi’r ŵyl eleni cynhelir 5 diwrnod o ddathliad mewn amryw o leoliadau yn Harlech gyda pherfformiadau ar y traeth hyd yn oed, yn ogystal ag ymweliadau a theithiau o gwmpas lleoliadau eiconig a pherfformwyr byd enwog gan gynnwys y chwaraewr soddgrwth Narek Hakhnazaryan, y feiolinydd Sara Trickey, y pianydd Clare Hammond, y grŵp siambr pres Septura, a llawer mwy. Gregynog yw gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru sy’n dal i gael ei chynnal, ond ei rhagflaenydd fwyaf arwyddocaol oedd Gŵyl Gerddorol Castell Harlech, a dyma sydd wedi ysbrydoli curadur gŵyl Gregynog, Rhian Davies. ‘Mae dod â’r ŵyl i Harlech yn anrhydedd mawr ac rwy’n edrych ymlaen at weld fy ugain mlynedd o waith ymchwil yn dod yn fyw yn y gymuned yno. Rwyf wastad wedi cael fy synnu gan greadigrwydd a gweledigaeth y gymuned artistig ryfeddol a ymgasglodd yn Harlech ganrif yn ôl. Roedd y rhain yn cynnwys artistiaid enwog, ffotograffwyr, awduron a dawnswyr yn ogystal â cherddorion, ac fe fyddai miloedd o bobl yn heidio i fod yn rhan o berfformiadau cofiadwy o fewn muriau’r Castell. Mae pob cyngerdd eleni yn adfer repertoire gan aelod neu aelodau o’r grŵp ac ysgrifennwyd llawer o’r cyfansoddiadau hyn yn Harlech neu fe’u hysbrydolwyd gan dirwedd a chwedlau Cymru, sy’n amserol iawn o gofio ein bod yn cychwyn ar ein taith trwy Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.’ Ychwanegiad arloesol eleni fydd cynhyrchiad arbennig a gomisiynwyd gan Ŵyl Gregynog gan y gydweithfa ddawns, Light, Ladd ac Emberton, ac a berfformir fel ymateb i’r llanw ar draeth Harlech. Mae’r berfformwraig Eddie Ladd ei hun yn edrych ymlaen yn awchus at y profiad, “Ysbrydolir y cynhyrchiad dawns hwn, fel gweddill yr ŵyl yn 2017, gan greadigrwydd a dychymyg toreithiog yr artistiaid a fu’n ymweld â Harlech ganrif yn ôl, a chan Margaret Morris yn enwedig, oedd yn arloeswraig ym myd dawns a gwaith symud. Gwna chwedleuon a hanes Harlech yn ogystal â thirwedd syfrdanol yr arfordir ddarn a fydd yn swyno’r synhwyrau.” Daw’r ŵyl i ben gyda chyngerdd trawiadol yng nghastell Harlech a ddaw â’r holl elfennau at ei gilydd drwy ailddeffro hud pasiantau’r gorffennol yn ogystal â’r gwyliau cerddorol a fu’n gymaint ran o fywydau’r criw ymgasglodd yn Harlech ganrif yn ôl. Am wybodaeth bellach ac am docynnau ewch i www.gregynogfestival.org neu ffoniwch 01686 207100.

Ffarwelio ag un annwyl Ar brynhawn Sadwrn gwyntog, gwlyb a niwlog ar ddiwedd mis Chwefror fe gyfarfu rhai o deulu’r diweddar Alwyna Barnes i wasgaru ei llwch ar ffridd Caerffynnon, sef ei hen gartref, yn yr un man lle gwasgarwyd llwch dwy o’i chwiorydd Margaret a Laura. Hi oedd yr ieuengaf a’r olaf o ferched Caerffynnon. Cerddodd y fintai fechan i fyny’r ffridd a chafwyd gwasanaeth hyfryd i ffarwelio â hi. Darllenwyd teyrnged, Salm 121 - ‘Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd’, a phenillion er cof. Yna gwasgarwyd ei llwch gan ei mab, Ron, a oedd wedi dod â’r llwch i Dyffryn, ynghyd â’i wraig Sharon, a nododd mai yma yng Nghymru fach yr oedd Alwyna yn dal i alw yn ‘adra’. Rhoddwyd tusw tlws o gennin Pedr wrth y graig ac i orffen gwrandawyd ar yr emyn ‘Calon Lân’ yn cael ei chanu gan y brodyr Jones o Batagonia a greodd awyrgylch fythgofiadwy i bawb a oedd yn bresennol. Yr oedd Ann, sef merch Alwyna yn Awstralia, drwy’r dechnoleg ddiweddaraf yn rhan o’r gwasanaeth gyda’r teulu. Trist iawn yw meddwl fod y chwaer olaf wedi ein gadael, ond y mae’r chwech yn ôl yn Ardudwy – yr ardal a oedd mor annwyl iddynt. Er Cof am Anti Alwyna Dydd Sadwrn Chwefror 25ain 2017 Y glaw yn arllwys yn ddi-baid A’r Moelfre yn ei ddagra’ Wrth weled teulu bach yn dod Yn wylaidd at ei odra. Llafur cariad o daith yw hon Dychwelyd llwch Alwyna, A’i wasgar lle bu’n chwarae gynt Mewn gwynt a glaw, ac eira. Ond nawr mae defod fach i’w gwneud Ger carreg ar y borfa, Sef canu emyn, darllen salm Alwyna nawr sydd adra. John Vincent Jones

3


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Cydymdeimlad Ar Fawrth 1af bu farw Mr Ieuan Lloyd, gynt o 4 Pentre Uchaf, Dyffryn, ym Mhlas Cwmcynfelin, Aberystwyth. Cydymdeimlwn â’i fam, ei frodyr a’i chwiorydd a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Festri Lawen, Horeb Ar Fawrth 9fed, i ddiweddu tymor y Festri Lawen cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen.57. Croesawyd pawb gan y cadeirydd, Edward Owen a diolchodd i bawb am eu ffyddlondeb ar hyd y tymor. Diolchodd yn arbennig i’n hysgrifennydd, Mai Roberts am drefnu rhaglen amrywiol a diddorol ar ein cyfer. Wedi’r gwledda croesawyd a chyflwynodd Edward ein gwraig wadd, Mair Tomos Ifans. Ganwyd Mair yn Abergynolwyn ond symudodd y teulu i Harlech pan ddaeth ei thad yn brifathro Ysgol Tanycastell. Mae Mair a’r teulu’n byw yn Ninas Mawddwy. Cafwyd orig ddifyr iawn yn ei chwmni’n gwrando arni’n canu gyda’i gitâr a’i thelyn, yn darlledu ei barddoniaeth, yn adrodd chwedl a dweud storïau. Diolchwyd yn gynnes i Mair gan Edward a diolchodd i Siôn, Iola a’u staff am y wledd a’r gwasanaeth arbennig. Rhodd Diolch i Mr Cyril Jones am y rhodd o £16 i’r Llais.

4

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys brynhawn Mercher, 15 Mawrth. Croesawyd pawb gan Gwennie ac roedden yn falch o weld Glenys Roberts wedi gwella. Dymunodd ben-blwydd hapus i Catherine Jones. Fel arfer ym mis Mawrth cawsom gwmni athrawon a phlant yr ysgol gynradd ac roeddem yn edrych ymlaen at wrando arnynt ac ni chawsom ein siomi. Roedd canu’r plant yn ardderchog. Cafwyd unawd gan Alaw a ddaeth yn gyntaf yn Eisteddfod Cylch yr Urdd a bu Tomos yn llefaru, yntau wedi cael cyntaf hefyd. Cafwyd parti canu a pharti llefaru. Actiwyd stori am Dewi Sant gan Aron, Elain, Ieuan, Marged, Erin a Finley. Mawr oedd y mwynhad a diolchwyd yn gynnes iddynt gan Beti Parry ac Eleri Bowater. Cafodd y plant ddiod oren a bisgedi cyn dychwelyd i’r ysgol. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Mrs Gretta Cartwright, Mrs Beti Parry a Miss Lilian Edwards. Rhodd Diolch i Mrs Enid Owen am y rhodd o £9 i’r Llais.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb EBRILL 9 Anwen Williams 16 Parch Eric Greene 23 Mair Penri Jones 30 Parch Gareth Rowlands MAI 7 Parch Megan Williams

MATERION YN CODI Eitem 2.12 Adroddodd Emrys Jones ei fod wedi trefnu bod Mr Gary Coates o gwmni Evergreen yn glanhau a thacluso llwybrau’r fynwent gyhoeddus a hefyd yn torri’r gwrych oedd wedi gordyfu a bod y gwaith yma rŵan wedi ei gwblhau; dangoswyd lluniau o’r gwaith cyn ac ar ôl iddo gael ei wneud. Cytunwyd bod gwaith da wedi ei gyflawni a bod y llwybrau yn edrych llawer gwell. Eitem 2.12 Adroddodd Emrys Jones fod Mr J Barrott wedi gwaredu’r tyrchod oedd yn y fynwent gyhoeddus a chytunwyd i ofyn iddo waredu’r rhai oedd ym mynwent Llanddwywe. DATGAN BUDDIANT Datganodd Edward Williams fuddiant yng nghais cynllunio Ynys Gwrtheyrn, Dyffryn Ardudwy. Datganodd Eryl Jones Williams fuddiant yng nghais ariannol Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy. CEISIADAU CYNLLUNIO Trosi adeilad amaethyddol segur i dŷ fforddiadwy, gosod tanc septig 3800 litr a gosod tanc olew 1800 litr - Ynys Gwrtheyrn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Trosi ysgubor yn llety gwyliau hunangynhaliol a gosod tanc septig newydd - Nant Eos, Dyffryn Ardudwy Cefnogi’r cais hwn. Cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithiol (Defnydd Arfaethedig) i godi tŷ - Llain 5 Tyddyn Du, Dyffryn Ardudwy Cytunwyd bod yr aelodau oedd yn ysgrifennu i mewn i’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â’r cais uchod yn gwneud hynny’n uniongyrchol. Datblygu Maes Parcio Adroddodd y Clerc ei bod wedi gwneud ymholiadau hefo CCG i ofyn beth oedd yn digwydd hefo’r darn tir y tu ôl i’r hen barc chwarae ond nad oedd wedi cael ateb ganddynt eto; roedd hefyd wedi cysylltu gyda’r Swyddog Adfywio Bro, Ms Gwen Evans, ac wedi gofyn i aelod o’r is-bwyllgor gysylltu â hi. Cytunwyd bod Edward Williams yn gwneud hyn. Tendrau torri gwair Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn tair tender i wneud y gwaith uchod. Ar ôl trafodaeth cytunwyd bod Mr Gary Coates o gwmni Evergreen yn cael tendr 1 (mynwentydd), Mr Gary Martayn o gwmni West Coast Properties yn cael tendr 2 (llwybrau cyhoeddus) a thendr 3 (parciau chwarae) a bod Eurig Hughes a Roy Carter yn cael tendr 4 (amrywiol lefydd o amgylch y pentref). Datganodd Owen Gwilym Thomas siom nad oedd y gwaith i gyd wedi ei roi i un contractwr; hefyd roedd o’r farn y dylai’r gwaith gael ei gadw’n lleol. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Fwrdeistrefol Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynghyd â chytundeb ynglŷn â’r toiled cyhoeddus yn Nhal-y-bont yn datgan bod angen i’r Cyngor arwyddo’r ddau gopi o’r cytundeb hwn ac anfon un yn ôl iddynt. Byddant yn anfon anfoneb am y swm sydd yn ddyledus gan y Cyngor am fynd i mewn i’r bartneriaeth hyn gyda Chyngor Gwynedd yn fuan. Cytunwyd bod y Cadeirydd yn arwyddo’r cytundeb hwn ar ran y Cyngor.


Hu Gwilym o’r Cambrian News & Merioneth Standard 1916

Yn y papurau newydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf mae nifer o lythyrau gan Hu Gwilym Lewis, Brynteg, Dyffryn un o blant Gwilym Ardudwy, y bardd, a’i wraig. Roedd wedi ymfudo i Ganada yn 18 oed ac ymunodd â 7fed Bataliwn Canada yn British Columbia yn 1914. Dyma rannau o lythyr o’r ffosydd oedd yn y Gwyliedydd Newydd, Chwefror 22, 1916 yr oedd ei dad wedi ei anfon iddynt. Rhywle yn Ffrainc, Dydd Sadwrn, Chwefror 5ed, 1916. Annwyl Dad, Gair neu ddau eto i’ch hysbysu fy mod ar dir y rhai byw hyd yn hyn. Yn mwynhau iechyd rhagorol, ac mewn ysbryd gweddol ac ystyried y sŵn magnelau aml eu rhif a glywir yn feunyddiol o bob ochr yn y frwydr ofnadwy sydd yn myned ymlaen yn y fangre hon y dyddiau hyn. Ychydig o ddirnadaeth sydd gan lawer yng ngwlad Shon Darw am yr ysgarmes a’r alanas hon. Ydwyf dyst heddyw mai nid chwareu sydd yn myned ymlaen ddydd ar ôl dydd yma ar nosweithiau hirion y gaeaf hwn. Rhaid gwylio a brwydro yn ddi-baid, am mai yn y tywyllwch y rhyfelir mwyaf. Y gwir yw ein bod yn peri braw ac ofn i’r Almaeniaid pan y byddwn yn agor i fyny am frwydr weithiau yn y nos, am y byddant yn saethu goleuadau wrth y cannoedd uwch ein pennau. Mae yn debyg i chwi weled Rockets lawer gwaith o dro i dro. Mae y rhain yn rhan fawr yn y rhyfel hwn yn ystod y nos. Diolch lawer am y papurau newyddion a dderbyniais oddi wrthych chwi a Luned o dro i dro er pan yma. Yn sicr i chwi caf foddhad a gwledd wrth eu darllen. Melys oedd y farddoniaeth yn y G-- a dderbyniais ddoe oddi wrth Luned. Hyderaf yn fawr fod pawb yn iach ar yr hen aelwyd, ac fod mami druan bach yn dal heb fod yn waeth. Cofion lawer lawer ati. Cyfarfyddais ag aml i Gymro yn y cylch yma gyda byddin Prydain Fawr. Cefais ymgom ddifyr gyda Cymro o Machynlleth y dydd o’r blaen. Perthyna yn awr i’r ail frigade o’r Canadians, ac erys tu ol i’r llinell gwarchod ... Er nad yn feistr ar iaith Gwalia oblegid diffyg ymarferiad i’w hysgrifennu yn ramadegol, eto y mae hi yn llawer mwy annwyl

i mi nag iaith Shon Darw. Mae’r tywydd yn hynod o braf yma, ychydig o wlaw ydym wedi ei gael hyd yn hyn er pan wawriodd y flwyddyn newydd. Y ffermwyr o gwmpas y cylch yn brysur ddodi yr hadau yn y ddaear yn barod. Rhaid addef mai gwlad hardd ydyw hon - tir bras a toreithiog ymhobman. Dwy filltir yn ôl o’r llinell dân, y ddwy filltir hynny yn fwd at ein gliniau mewn rhai mannau. Gwyddoch nad ydym yn cael rhyddid i anfon newyddion am y rhyfel tra trosodd yn y wlad hon, neu buaswn yn croniclo yr holl hanes a wn. Cymeraf yn ganiataol na chaiff y llythyr hwn ei agoryd, trwy fod gennyf amlen las i’w ddodi ynddo at fy ngwasanaeth. Anaml y byddant yn agor y rhain. Popeth arall anfonaf ni byddaf yn eu cau o gwbl, ond eu trosglwyddo i’r awdurdodau i’w hanfon trosodd. Nid ydynt yn agor llythyrau cartrefol. Rwyf yn awr allan o’r gwarch-ffosydd ers rhai dyddiau. Af iddynt eto mewn dydd neu ddau. Hwyrach yn bellach ymlaen y caf ryddid gan fy swyddog i anfon llith agored ynglŷn â’r rhyfel, ond ni chymeraf y chance y tro hwn rhag ofn trwbl. Rhaid bod yn wyliadwrus iawn yn y nos pan ar daith rhag myned i’r pyllau a wnaeth Fritz a’i ynau mawr. Gofynna CM i mi pa le mae fy nhrigfa yn y wlad yma. Wel, rhyw 60 milltir o Loegr ydwyf. Gwelwch felly fy mod mewn taith diwrnod a noson i fro Ardudwy deg. Prin yw y papur ysgrifennu y tro hwn, ychydig mewn stoc, na’r un fountain pen yn y camp i ysgrifennu. 0 dan yr amgylchiadau hyderaf y byddwch yn alluog i’w ddarllen. Maddeuwch fy Nghymraeg a blerwch fy ‘sgrifen. Ysgrifennaf hwn a’r papur ar fy nglin. Rhaid yw anghofio llawer o bethau a arferem gael tra yn mwynhau bywyd heddychol. Os cewch hamdden byddaf yn falch o gael gair yn aml, ac os oes rhywbeth y dymunech wybod mewn rhyw gylch, byddaf yn falch o’ch hysbysu os bydd hynny yn ganiataol. Cofion at bawb a ofynnant am danaf yn y fro heb enwi neb. Y tro nesaf ceisiaf gael caniatâd fy swyddog i anfon ychydig o hanes y rhyfel. Dim rhagor y tro hwn. Cofion atoch un ac oll yn Brynteg a Glanaber. Eich ffyddlon fab, Hu GWILYM. Llwyddodd i ddod drwy’r heldrin, a’i frawd Ithel oedd ym Macedonia. Wedi’r rhyfel aeth i America ac roedd yn byw yn Kellogg, Idaho pan fu farw ei dad yn 1925. Mae cofnod ohono wedi ei gladdu yn Alaska yn 1934 yn 44 oed. Yno yr oedd ei chwaer, Luned, yn byw. Roedd ei chwaer arall, Blodwen yn byw yn Glanaber, Dyffryn ac roedd yn nain i David a John Blake.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 5


DIWRNOD Y LLYFR YN YSGOL DYFFRYN

NEWYDDION O YSGOL TALSARNAU

Ar ddydd Iau, 2 Mawrth, cafodd disgyblion yr ysgol gryn hwyl yn dathlu Diwrnod y Llyfr.

Cawsom gyfle i ganu’r delyn a gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi.

Mae disgyblion CA2 yn gweithio ar y cyd â disgyblion B3 Ysgol Cefn Coch i greu ‘app’ byd natur safle Cookes fel rhan o brosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol. Dyma rai ohonynt yn cyfrifo stôr carbon gwahanol goed ar y safle.

Ysgol Dyffryn Ardudwy Y tymor yma cafodd plant B4, B5 a B6 Ysgol Dyffryn gyfle unwaith eto i ymweld â Chanolfan CMC ym Mhensarn. Bu un grŵp yn canŵio a’r llall yn caiacio. Cafodd pawb amser bendigedig a chawsant gyfle i ddysgu sgiliau newydd dan hyfforddiant arbennig yr arweinwyr.

6

Llongyfarchiadau i’r grŵp cerddoriaeth greadigol ddaeth yn gyntaf yn yr Eisteddfod Sir. Llongyfarchiadau hefyd i David a Chloe a ddaeth yn fuddugol am chwarae offerynnau unigol. Pob lwc yn yr Eisteddfod Genedlaethol.


H YS B YS E B I O N Cefnog wch e in hysbyseb wyr Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

01341 421917 07770 892016

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Tiwniwr Piano

Gwynedd

g.rhun@btinternet.com

www.raynercarpets.co.uk

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ARCHEBU A

Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Llais Ardudwy

GERALLT RHUN

07776 181959

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Tafarn gymunedol gyfeillgar. Dewis amrywiol o gwrw.

Rhif ffôn: 01766 770777

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 7


MARATHON LLUNDAIN

HARLECH

Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau a’r gwesteion o wahanol ganghennau o SyM i’r cyfarfod i ddathlu Gŵyl Ddewi ar nos Fercher, 8 Mawrth gan y llywydd, Christine Hemsley. Wrth i’r gwesteion gyrraedd rhoddwyd cenhinen wedi ei gwneud gan yr aelodau ac roedd y Neuadd wedi’i harddu gyda basgedi o gennin Pedr ar y llwyfan a phob bwrdd wedi’i addurno gyda chennin Pedr hefyd. Ar ôl trafod y busnes, testun y noson oedd ‘y genhinen yn ein calonnau’, sef dathlu Cymreictod Pob lwc i Damon John o Harlech Harlech. Sgwrsiodd Sheila fydd yn rhedeg Marathon Maxwell am y bardd Eifion Llundain ym mis Ebrill. Wyn, gyda darlleniad o ‘Os Efallai i chi gofio gweld ei hanes Wyt Gymro’, canwyd caneuon yn y Llais yn ôl yn yr hydref Cymraeg a gwelwyd hen luniau mae Damon wedi rhedeg nifer ar sgrîn a rhoddwyd hanes y o rasys 10k, a hanner marathon wisg Gymraeg genedlaethol gan ym Manceinion dros y cwpl o Ann Edwards. flynyddoedd diwethaf, gan godi Yna cafwyd hanes gwych y swm sylweddol o arian i elusen Mabinogi sef stori Branwen gan Alzheimer yn y broses er cof am Jill Houliston, a hanes crefydd ei daid Basil Jerram. ac Eglwys Tanwg Sant gan Jenny Cychwynnodd redeg yn Dunley. wreiddiol am iddo dorri asgwrn Cafwyd hanes Castell Harlech wrth chwarae pêl-droed i gan Myfanwy Jones a chawsom Harlech, a olygodd bod angen glywed recordiad o’r gân Gwŷr iddo ffeindio ffordd arall o Harlech gan gôr catrawd. gadw’n heini am gyfnod! Cafwyd hanes fel y bu yn 1947 Yn fuan iawn roedd yn cael gan Edwina a gan Gwenda am ei cymaint o fwynhad o redeg hanes ar hyn o bryd. penderfynodd drio ras 10k yn Yna cafwyd hanes Siôn Phylip, Abersoch, a tydi o heb edrych Ellis Wynne ac am eisteddfodau yn ôl ers hynny! Roedd o wrth a hanes Hedd Wyn yn mynd ei fodd o fod ymysg canran isel i’r Rhyfel ac am Eisteddfod y iawn o bobl i gael eu derbyn i Gadair Ddu. redeg Marathon Llundain ar Gorffennwyd gyda Sheila wahoddiad eleni. Maxwell yn dweud hanes y Efallai eich bod chi wedi’i weld ‘tyllau canu’; mae 2 i’w gweld ym o’n ymarfer yn ddiweddar - ers Mron y Graig. Ionawr 1af eleni mae o wedi Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhedeg milltiroedd bob cymryd rhan yn y noson ac wythnos ym mhob mathau o i Sheila Maxwell am drefnu’r dywydd, o Gricieth i Harlech, adloniant. tua Bermo a thu hwnt er mwyn Yna cafwyd bwffe a danteithion ceisio camu’n agosach at y 26.3 Cymraeg wedi eu paratoi gan yr milltir fydd disgwyl iddo redeg i aelodau. lawr yn Llundain ar Ebrill 23ain Fe fydd y cyfarfod nesaf ar eleni. 12 Ebrill gyda Mary Post yn Wrth i’r diwrnod mawr nesáu, arddangos gwaith nyddu. cofiwch godi llaw os welwch chi o’n ymarfer - a chofiwch wylio’r Yn gwella ras ar y bocs rhag ofn i chi’i weld Anfonwn ein cofion at Dafi o ymysg y llu o bobl ar y sgrîn Owen, 7 Ael-y-glyn sydd wedi fach! derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Pob lwc i ti Damon - mae pawb Deallwn ei fod yn gwella’n dda yn dymuno’r gorau i ti, ac yn erbyn hyn. falch iawn ohona ti unwaith eto!

8

Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i Ysgol Tanycastell ddydd Mawrth, 28 Mawrth gan yr Ysgol Feistres Mrs Anwen Williams. Cafwyd cyngerdd gwych gan y plant dosbarth iau yn canu ac yn adrodd. Roedd rhai o’r dosbarth hŷn yn chwarae’r recorder, dawnsio disgo, adrodd, yn canu, ac yn canu’r piano a’r clarinét. Roedd yr aelodau a’r plant wedi mwynhau prynhawn ardderchog. Mae yn yr ysgol yma dalent fawr a diolch i’r athrawon am yr holl waith maen nhw’n ei wneud gyda’r plant. Rhoddwyd y diolchiadau ar ran yr aelodau gan Bronwen Williams. Mi oedd hithau’n diolch i’r athrawon am y gwaith oedd yn cael ei wneud yn yr ysgol, a phawb yn ddyledus iawn i’r brif athrawes a’r athrawon. Rhoddwyd diolch hefyd i Gyfeillion yr Ysgol oedd wedi paratoi gwledd o fwyd i’r aelodau, a phlant y chwe dosbarth yn edrych ar ôl pob bwrdd gyda the a choffi a bwyd. Rhwng y pres te a phres y raffl trosglwyddwyd £63 i’r ysgol. Mae pawb yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf pan gawn fynd yn ôl i Ysgol Tanycastell. Triniaeth yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Steve O’Neill, 30 Cae Gwastad sydd wedi derbyn triniaeth i’w benglin yn ddiweddar. Mae ef a’i wraig, Carol yn gymwynaswyr mawr i’r papur hwn ers nifer o flynyddoedd. Brysia wella Steve. Tymhorau a Rhesymau [Seasons & Reasons] Edrychwn ymlaen at groesawu Gerry yn ôl i’r siop yn dilyn ei driniaeth ddiweddar yn Ysbyty Gobowen.

THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667 EBRILL

8, Caitlin. Cylch o gadeiriau ac yn eistedd yn un mae Caitlin Thomas, gwraig Dylan Thomas. 9, Bale Bolshoi: A Hero of Our Time. Hanes Pechorin, swyddog ifanc, yn teithio mynyddoedd y Caucasus. 10, 11, 12 a 13, The Lego Batman Movie (U). Rhaid i Bruce Wayne fynd i’r afael â throseddwyr Dinas Gotham yn ogystal â chyfrifoldeb am fachgen a fabwysiadodd. 10,11, 12, 13, Logan (15). Mae angen cymorth ac mae angen i Logan fynd ar un cyrch olaf. 14, 16, 17, 18, 19, Smurfs: The Lost Village (U). Ras gyffrous drwy’r Goedwig sy’n arwain at y gyfrinach. 14, 16, 17, 18, 19, Beauty and the Beast. Taith ryfeddol Belle, merch ddawnus sy’n cael ei chipio gan fwystfil. 15, Darkside yn perfformio The Pink Floyd Show – ‘Any Colour You Like’. 20, NT Live: Rosencrantz and Guildenstern are Dead (12A), comedi sefyllfa wych a doniol Tom Stoppard. 21, 22, Power Rangers (12A). Hanes pump yn eu harddegau yn y ffilm fywiog hon i blant. 23, Macbeth (Encore), Theatr Genedlaethol Byw. Ail-ddarllediad. Perfformiad grymus llawn angerdd. 28, 29, 30, ac 1, 2, 3 a 4 Mai, Fast & Furious 8 (12A). Ffilm am fyd o drosedd a thwyll.

Cynlluniau Cae Du Pob dymuniad da i Dee Bentham sydd wedi symud ei siop i hen fanc yr HSBC ar y stryd fawr. Mae yno ddewis helaeth o Capel Jerusalem ffabrigau ar gyfer y cartref ac HARLECH mae pobl yn dod o bell ac agos EBRILL i dderbyn cyngor arbenigol gan 9 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 Dee. 14 Y Groglith Parch Dewi Morris am 10.30


HEN LUNIAU O HARLECH

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd i Mrs Sheila Maxwell i’r cyfarfod i drafod y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol gyda’r Aelodau. Diolchwyd i Mrs Maxwell am ddod i’r cyfarfod a chytunwyd ei bod wedi agor llygaid yr aelodau hefo rhai materion o bwys. DATGAN BUDDIANT Datganodd y Cyng Siân Roberts fuddiant yn y trafodaethau ynglŷn â chae chwarae Llyn y Felin. MATERION YN CODI Torri gwair Dim ond un tendr yr oedd wedi ei derbyn, gan Mr Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau. Cytunwyd i dderbyn y tendr yma. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi mynychu cyfarfod o Fwrdd yr uchod a gynhaliwyd ar y 9fed o’r mis diwethaf. Cynhelir cyfarfod nesa’r Bwrdd ar y 9fed o’r mis hwn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Ms Heidi Williams, Cadeirydd y Bwrdd yn gofyn a fyddai modd anfon cyfraniad ariannol y praesept yn gynnar ym mis Ebrill. CEISIADAU CYNLLUNIO Ailwampio strwythurol yn cynnwys cladin allanol - 1, 5, 6, 7, 29, 33, 35, 37, 46, 47, 49, 51, 52, 53, 54, 55, 56 Y Waun, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio strwythurol yn cynnwys cladin allanol - 7, 13, 15 Penyrhwylfa. Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio strwythurol yn cynnwys cladin allanol - 2, 3, 4 Trem y Castell. Cefnogi’r cais hwn. Diwygio Amod Rhif 1 o ganiatâd cynllunio i ymestyn y cyfnod dechrau gwaith am 5 mlynedd ychwanegol - Morfa Newydd, Ffordd Glan y Môr. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel y garej a’r ports presennol, codi estyniad cefn deulawr ac estyniad ochr unllawr - Min y Mynydd, Stryd Fawr. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor yr Hen Lyfrgell - £500 Pwyllgor Neuadd Goffa - £500 Gwion Lloyd - £100 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd Derbyniwyd ateb oddi wrth yr uchod ynglŷn â diogelwch disgyblion ysgol yn croesi’r A496 o’r orsaf drên, ac yn datgan bod enghraifft o’r arwyddion yr oedd y Cyngor yn cyfeirio atynt i’w gweld ar y gefnffordd ym Montnewydd, Llanuwchllyn a’r Ganllwyd a bod y rhain yn rhan o ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiadau cyflymder 20 mya rhan amser o flaen ysgolion sydd ar y rhwydwaith Cefnffyrdd neu’n agos ato. Mae’r cynlluniau hyn wedi costio oddeutu £40,000 yr un i’w gwaredu ac nid yw hyn yn cynnwys costau cynnal a chadw; hefyd, nid oes tystiolaeth fod y buddsoddiad yma wedi bod yn llwyddiannus yn gostwng cyflymder cerbydau. Yn sgil hyn, ni all y Cyngor gyfiawnhau gwariant o’r fath yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Fodd bynnag , maent am drefnu bod swyddog yn ymweld â’r safle er mwyn asesu’r trefniant presennol ac i weld a oes modd ei wella er mwyn diogelu plant sy’n croesi. Cyngor Gwynedd - Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor, unwaith y bydd y llyfrgell bresennol wedi cau, bod y Strategaeth’Mwy Na Llyfrau’ yn cael ei wireddu ledled yr awdurdod ac yn gofyn am farn y Cyngor ar y lleoliad ar gyfer y gwasanaeth teithiol misol, sef Y Waun a maes parcio Bron y Graig. Cytunwyd i’r lleoliadau hyn. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod yr eithin wedi tyfu’n ôl ar hyd ffens cae chwarae Brenin Siôr ac yn dod i’r ffordd am y pwll nofio. Cytunwyd i ofyn i Mr Meirion Griffith ei dorri. Datganwyd pryder bod enw Wern Fach wedi ei newid i ‘Railway Cottage’ a datganodd y Cyngor siom nad oedd dim y gallant wneud am hyn.

RHIFYNNAU NESAF GOSOD Ebrill 28 Mehefin 2 Mehefin 30

George Hughes o Flaenau Ffestiniog yn arwain Carnifal Harlech wedi’i wisgo fel Charlie Chaplin.

Y criw fu’n cymryd rhan mewn ras goets yng Ngharnifal Harlech. Mr a Mrs Lynne George o Borthmadog oedd y beirniaid. Ymhlith yr enillwyr yr oedd Mrs Margaret Jones, Mrs Eira Evans, Miss Mair Edwards, Cyril Williams, Arwyn Jones, Mrs Nellie Jones, Huw Jones, Robert Rees ac Eurwyn Owen.

ENGLYN DA

Llais Ardudwy NEWYDDION ERBYN Ebrill 24 Mai 29 Mehefin 26

Diolch i Anna Ashton am anfon y lluniau isod atom.

YN Y SIOPAU Mai 4 Mehefin 7 Gorffennaf 5

Henaint

‘Henaint ni ddaw ei hunan’; - daw ag och Gydag ef a chwynfan, Ac anhunedd maith weithian, A huno maith yn y man. John Morris-Jones [1864-1929] 9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Clwb y Werin Hoffwn ar ran Clwb y Werin a Neuadd Gymuned Talsarnau ddiolch o galon i deulu Bronwen Rayner am y rhodd ariannol er cof amdani. Bu’n aelod selog yn y Clwb am rai blynyddoedd ond ers iddi symud i’r Madog mi’r ydym yn sôn amdani o hyd a’i hoffter o ennill y tun samon coch i’w gael ar ei brechdan. Er iddi fod yn wraig weddw am flynyddoedd mi’r oedd yn Llwyddiant Chloe berchen ar hiwmor iach oedd yn Chloe Lois Roberts gyda’i ei gwneud yn aelod gwerthfawr thystysgrif ar ôl pasio arholiad o’r Clwb. gradd 3 gyda’r ffliwt. Cynhelir y Clwb ar bnawn Llun o 1.30 hyd at 3.30 ynghyd â Ysgol Talsarnau gwasanaeth y Swyddfa Bost sydd Cafodd yr ysgol gryn lwyddiant yn y stafell snwcer. Cynhelir y yn yr Eisteddfod Sir yn Nolgellau Clwb yn ystafell y gloch sy’n glyd a Thywyn gydag amryw o ac yn agos i’r gegin am baned. eitemau yn mynd trwodd i’r Gallai fod yn fodd i chwithau Genedlaethol. fwynhau ein neuadd ardderchog yn Nhalsarnau. Gwenda

cyrraedd cawsom ein hebrwng yn syth at lond bwrdd o bob math o ddanteithion i dynnu dŵr i’n dannedd. Yna treuliwyd noson arbennig o ddifyr yn gwrando ar Cass Meurig yn chwarae ac yn adrodd hanes y crwth - hen offeryn a fyddai’n boblogaidd iawn yn y gorffennol pell, nes daeth y fiolín/ffidl i gymryd ei le. Gwnaeth Cass ddoethuriaeth mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig a threuliodd rai blynyddoedd yn perfformio ar hyd a lled y wlad, a thramor. Aeth ymlaen wedyn i sôn am sut y bu iddi roi’r gorau i’r bywyd hwnnw a throi at y weinidogaeth. Mae rŵan yn cyfansoddi emynau cyfoes i’w canu ar gerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Cawsom wrando arni hi ac Ali yn canu rhai enghreifftiau ohonynt. Roedd eu lleisiau a’r harmonïau yn hyfryd i wrando Merched y Wawr yn arnyn nhw a mwynhawyd y Dathlu Gŵyl Ddewi datganiad yn fawr gan bawb. Aeth nifer dda o aelodau’r Enillwyd gwobr raffl gan gangen i dafarn Brondanw, Gwenda Jones. Talwyd brynhawn dydd Iau, 2 Mawrth. diolchiadau i Cass ac Ali gan Roedd yn ddiwrnod oer ond braf lywydd cangen Trawsfynydd ac roedd yr olygfa o’r Garreg o a diolchwyd ar ein rhan ni fynyddoedd Eryri dan eira yn un gan Gwenda Paul. Anfonwyd David yn cael cyntaf am drawiadol. Mwynhawyd pryd ein cofion cynnes at Mai a’n chwarae’r corn a’r piano a o fwyd ardderchog a chafwyd dymuniadau gorau am wellhad Chloe’n gyntaf am ganu’r amser difyr yng nghwmni ein buan. Teimlwyd chwithdod ffliwt. Bu’r grŵp cerddoriaeth gilydd. Enillwyd y byrddaid o mawr hebddi gennym i gyd. creadigol hefyd yn fuddugol wobrau raffl gan nifer fawr o’r ac yn amddiffyn eu camp y aelodau - rhy niferus i’w henwi Cydymdeimlad llynedd pan ddaethant yn fan hyn! Digon yw dweud fod Estynnwn ein cydymdeimlad i gyntaf yn y Genedlaethol. aml un ohonom wedi bod yn Bili Thomas, 1, Cilfor a’r teulu Daeth Lois Williams yn ail yn y lwcus iawn! Diolchwyd drosom oll yn eu profedigaeth o golli gystadleuaeth dawnsio unigol gan ein llywydd, Siriol, i staff y chwaer Bili – Eirlys Williams, a’r Grŵp Dawns hefyd yn ail gwesty, ac i Mai, yn arbennig, Penrhyndeudraeth. ynghyd â’r parti unsain Bl 6 ac am ei gwaith trylwyr yn trefnu Yr ydym hefyd yn meddwl am iau. ac yn ein hatgoffa ni i gyd beth Bryn Williams, yn Ysbyty Stoke, Llongyfarchiadau iddynt i oeddem wedi archebu i fwyta! ac yn cydymdeimlo’n ddwys gyd a phob llwyddiant yn Dathlu Gŵyl Ddewi hefo ag yntau yn ei brofedigaeth o yr Eisteddfod Genedlaethol Cangen Trawsfynydd golli ei fam. Rydym yn meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr; Derbyniodd rhai o’n haelodau amdano ac yn anfon ein cofion edrychwn ymlaen am eich gweld wahoddiad i ymuno hefo cangen ato. ar y llwyfan. Trawsfynydd nos Iau 16 Mawrth. i ddathlu Gŵyl Ddewi gyda nhw Neuadd Gymuned Diolch yng nghwmni Dr Cass Meurig Mae ein tîm adloniant eisoes yn Dymuna Lowri ac Anwen (Ty’n ac Ali Roberts. Roedd amryw trefnu nosweithiau difyr ar gyfer y Bwlch gynt) ddiolch am bob o’n haelodau yn absennol ac, yn y gaeaf sydd i ddod. Un noson arwydd o gydymdeimlad a anffodus iawn, ni allodd Mai, ein arbennig iawn i chi ei rhoi yn charedigrwydd a dderbyniasant hysgrifenyddes, fod hefo ni gan eich dyddiadur yw nos Sadwrn yn eu profedigaeth o golli eu ei bod yn Ysbyty Gwynedd ers y 18 Tachwedd, pryd y bydd TRIO chwaer Mair Williams (Tywyn). diwrnod blaenorol. ac Annette Bryn Parri hefo ni. Diolch am y galwadau ffôn a’r Roedd merched Traws wedi Rhown fwy o wybodaeth yn y ymweliadau. bod yn brysur iawn yn paratoi Llais maes o law. Rhodd a diolch £5 gwledd ar ein cyfer. Wedi

10

Gwella Yr ydym yn falch iawn o weld Mai Jones, Bronallt, Bryn Eithin wedi dod adref, ar ôl arhosiad yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion ati a dymunwn wellhad llwyr a buan iddi. Diolch Trwy gyfrwng y Llais, hoffwn gyfleu fy ngwerthfawrogiad am yr ymholiadau, y negeseuon a’r cardiau ddaeth i law yn ystod y cyfnod y bum yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Diolch i bawb am feddwl amdanaf. Mae’n dda cael bod adref! Mai Jones - Diolch £5 Taith Gerdded at gronfa’r Di-ffib Mae’r daith gerdded yn ôl ar y gweill, gan ddisgwyl cawn well tywydd y tro hwn! Y dyddiad newydd yw dydd Mercher, 19 Ebrill am 10.30 wrth yr ysgol gynradd. Ni fydd y daith yn un galed ond cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas a dod â phecyn bwyd ar gyfer cinio bach ar y ffordd. Croeso i oedolion a phlant (plant i fod dan ofal oedolyn). Gofynnir am gyfraniad o £5 gan bob oedolyn tuag at y gronfa.

Cyngerdd yr Ysgol Gynradd Nos Fercher, 24 Mai am 6 o’r gloch Mynediad £5 (tâl gan oedolion yn unig) Yn y cyngerdd hwn ceir perfformiadau gan ddisgyblion yr Urdd a’r rhai sydd wedi llwyddo i fynd drwodd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr. Longyfarchiadau mawr iddynt a phob lwc yn yr eisteddfod fawr. Bydd elw’r cyngerdd yn cael ei rannu rhwng cyfrannu at gostau’r plant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r peiriant di-ffib. Y Neuadd Gymuned Pwyllgor Rheoli’r Neuadd Cyfarfod Blynyddol Nos Lun, 24 Ebrill am 7.30. Croeso cynnes i bawb. Dewch yn llu - mae eich diddordeb a’ch cefnogaeth yn werthfawr er sicrhau dyfodol ein neuadd.


Y Capel Newydd, Talsarnau

Darlith Y CAPEL NEWYDD, TALSARNAU.

Y BERMO A LLANABER

Merched Y Wawr Y Bermo a’r Cylch “WILLIAMS, PANTYCELYNCOFIO’R DYN, Fe’n gwahoddwyd i ddathlu COFIO’R DYN, CREDU’R NEGES”. CREDU’R NEGES dydd Gŵyl Ddewi gyda changen Brithdir eleni, ynghyd â sawl cangen arall o’r ardal, a braf oedd cael cyfle i gymdeithasu a dod i adnabod ein gilydd yn well. Roedd neuadd Brithdir wedi ei haddurno’n hyfryd ar gyfer yr achlysur, ac roedd awyrgylch gynnes a chroesawgar yn ein DARLITHYDD-­‐Dr OBERT RHYS, haros. Darlithydd: DrRRobert PRIFYSGOL ABERTAWE. Rhys, Prifysgol Abertawe Roedd y gangen wedi gwahodd NOS FERCHER, Ebrill 26ainam 7:30 dau o gyn-feibion y fro i’n Nos Fercher, diddanu - sef John Price, Ebrill 26 am 7.30 Tyddyn y Garreg, Tabor gynt, a’i gyfeilydd medrus Arwyn Evans, Capel Newydd Ty’n Clawdd gynt, ac fel pe bai Oedfaon am 6:00 hynny ddim yn ddigon roedd y EBRILL canwr Raymond Roberts wedi 9 Dewi Tudur dod hefyd. Cawsom noson 14 Dydd Gwener y Groglith hwyliog a chartrefol yn gwrando Oedfa Gymundeb am 10:30. ar lais cyfoethog John, darnau 16 Dewi Tudur ar y piano gan Arwyn a hen 23 Parch R O Roberts, ffefrynnau gan Raymond. Yn Morfa Nefyn gwau trwy’r cyfan roedd straeon 30 Dewi Tudur digrif a jôcs ffraeth John. MAI Wedi’r adloniant cafodd pawb 7 Dewi Tudur fwynhau swper hyfryd wedi ei baratoi gan aelodau’r gangen. Neuadd Talsarnau Rhoddwyd y diolchiadau gwresog ar ran cangen y Bermo gan Glenys Jones. Roedd Glenys Nos Iau ,Ebrill 13 yn cofio sefyll ar lwyfan neuadd am 7.30 o’r gloch y Brithdir yn cystadlu mewn Croeso cynnes i bawb eisteddfod pan yn eneth fach.

WILLIAMS PANTYCELYN DARLITH-­‐

GYRFA CHWIST

Neuadd Gymuned Talsarnau DARLITH FLYNYDDOL CYFEILLION ELLIS WYNNE Arfon Gwilym a Sioned yn cyflwyno

Arwyr Canu Gwerin Meirionnydd Drwy Sgwrs a Chân 7.30yh Nos Iau, 27 Ebrill Mynediad yn cynnwys lluniaeth: £5 Tocynnau ar gael: 01766 770621 neu 01766 770757 ‘Noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.’

Ar werth Tŷ teras, Talsarnau. Ymholiadau: 01766 772960

Gwasanaeth Dydd Gwener y Groglith Bydd gwasanaeth cymun yn Eglwys Christchurch am 9.30yb o dan ofal y Parch Patrick Slattery. Yn gwella Anfonwn ein cofion at Gwyneth Edwards, Bod Gwilym, sy’n gwella ar ôl cael damwain i’w braich yn ddiweddar.

Eglwys St Ioan, Y Bermo Nos Sul, Ebrill 16 am 7.30 o’r gloch

CYNGERDD Y PASG gyda

Cana-Mi-Gei Côr Meibion Ardudwy Tocyn: £5

Merched y Wawr Cyfarfu’r gangen ar nos Fawrth, 21ain Mawrth. Croesawodd Llewela’r aelodau i’r cyfarfod ac anfonwyd ein cofion at Gwyneth sydd yn yr ysbyty wedi damwain yn ei chartref. Derbyniodd yr aelodau fag siopa i ddathlu’r Aur a thynnwyd lluniau ohonynt gyda’u bagiau. Hefyd, gwerthwyd sgwariau raffl cenedlaethol Carthen Melin Tregwynt. Darllenodd Megan adroddiad o’r pwyllgor rhanbarth a gynhaliwyd yn Llanelltyd y nos Lun flaenorol. Cafwyd gwahoddiad i gangen Nantcol nos Fercher 5ed Ebrill i noson draddodiadol Gymreig yng nghwmni’r Band Arall. Rhoddodd Megan groeso i Jane Williams, ein gwraig wadd o Ddyffryn Ardudwy, i’r cyfarfod. Cyflwynodd Jane ei hun i ni fel yr oedd yn ei dyddiau cynnar yn ferch fferm Cors y Gedol, Dyffryn Ardudwy a’i dyddiau coleg yn astudio a chreu crochenwaith. Mae’n awr yn ddarlithydd mewn crochenwaith yng Ngholeg Meirion/ Dwyfor yn Nolgellau. Cawsom hefyd hanes difyr iawn ganddi o’i hamser ar y rhaglen deledu boblogaidd ‘The Great Potttery Throw Down’ pan greodd waith canmoladwy iawn. Daeth a rhywfaint o’r cynnyrch roedd wedi ei greu ar y rhaglen gyda hi a hefyd waith arall i’w arddangos a’i werthu. Rhoddodd gyfle i bawb greu ei grochenwaith bach ei hun a chawsom andros o hwyl yn maeddu ein dwylo wrth geisio siapio’r clai i ‘bot pinch’. Ar y diwedd aeth Jane a’n gwaith adref i’w roi yn yr odyn i sychu. Diolchodd Megan yn gynnes iawn iddi am ei hamser a’i hymroddiad. Paratowyd y baned gan Megan a Mair ac enillwyd y raffl gan Iona. Y Gymdeithas Gymraeg Daeth yn ben tymor llwyddiannus i Gymdeithas Gymraeg y Bermo. Cafwyd nosweithiau difyr ac amrywiol ond pa well modd i gloi na chael cwmni gŵr ifanc lleol sef Steffan John ein fferyllydd. Trwy gyfrwng sleidiau aeth Steffan â ni ar daith gyda Chôr CF1 i Mizoram sef talaith yn yr India. Yn cyd-deithio gyda’r côr roedd y Parchedig Aneurin Owen, Llansannan, un a anwyd yn Mizoram gan fod ei dad yn genhadwr yno. Roedd presenoldeb y cenhadwyr i’w weld yn amlwg gan fod y mwyafrif o’r boblogaeth yn Gristnogion a hefyd roeddent wedi sefydlu ysbyty yn y brifddinas Aizawl. Peth anodd i ni oedd deall sefyllfa’r trigolion gan fod tlodi’n cyd-fyw â chyfoeth ond roedd gan bawb eu ffonau symudol ac i-pad ac roedd Cristnogaeth yn bwysig ganddynt. Roedd un o gyngherddau CF1 yn nhref Champai ac yn rhan o ŵyl Gristnogol gyda dros ugain mil yn bresennol mewn pafiliwn anferth. Hoffwn trwy dudalennau’r Llais ddiolch i Steffan am ei wasanaeth clodwiw i drigolion y Bermo a’r fro a dymuno pob llwyddiant iddo yn ei fenter newydd ym Mlaenau Ffestiniog.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

11


NEWYDDION YR URDD

Eisteddfod Rhanbarth - Dyma’r enillwyr o’r ardal hon: Chloe Lois Roberts, Ysgol Talsarnau – Unawd Chwythbrennau Bl 6 ac iau David Bisseker, Ysgol Talsarnau – Unawd Pres ac Unawd Piano B6 Ysgol Talsarnau, Grŵp Cerddoriaeth Greadigol B6 ac iau Alaw Mai Sharp, Unawd Pres B10 a dan 19 oed Trŵps Ardudwy, Aelwyd Ardudwy – Grŵp Hip-Hop/Stryd/Disgo Disgyrchiant, Aelwyd Ardudwy - Grŵp Hip-Hop/Stryd/Disgo B7-9 Alexia Cartwright, Ysgol y Traeth – Llefaru Unigol B2 ac iau (Dysgwyr) Iris Izuogu, Ysgol y Traeth – Llefaru Unigol B3 a 4 (Dysgwyr) Cafodd yr isod safleoedd da hefyd: Parti Sioned, Ysgol Talsarnau – Trydydd – Parti Unsain B6 ac iau (Ysgolion hyd at 50 o blant) Parti Hanner Nos, Ysgol Ardudwy – Trydydd – Parti Merched B7-9 Erin Wynne Lloyd, Ysgol Llanbedr – Ail – Unawd Telyn B6 ac iau Alaw Mai Sharp, Aelwyd Ardudwy – Ail – Unawd Cerdd Dant B10 a dan 19 oed Lois Enlli Williams, Ysgol Talsarnau – Ail – Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo B6 ac iau Taranau Talsarnau - Ail - Grŵp Hip-Hop/Stryd/Disgo B6 ac iau. Pob lwc hefyd yn y Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mai i Lewys Meredydd o Ddolgellau, ŵyr Mair M Williams, Llanfair, ar ôl iddo ennill yr unawd i fechgyn o dan 19 oed a’r unawd alaw werin i fechgyn o dan 19. Yn ogystal, hoffwn ddiolch o galon i’r ysgolion a’r adrannau am eu holl waith yn cystadlu ac i’r stiwardiaid lleol, Merched y Wawr Harlech a Phwyllgor Neuadd Goffa Harlech am weini bwyd yn y ddwy Eisteddfod. Diolch i Gwion Lloyd am fynychu’r Eisteddfodau yn gwerthu nwyddau er mwyn casglu arian tuag at ei daith i Batagonia gyda’r Urdd yn ystod Hydref 2017.

Celf a Chrefft

Caiff Celf y pum Cylch ei feirniadu yn Neuadd Rhydymain gyda’r gwaith buddugol wedyn yn cael ei drosglwyddo i Ben-y-bont ar Ogwr. Pob lwc i bawb. Diolch am eich cefnogaeth.

Dylan Elis, Swyddog Datblygu Meirionnydd

12

BWYD A DIOD Bordeaux – rhan 2

Wel, mae’r archeb wedi mynd i Bordeaux nawr ac mae’n gyffrous meddwl am dderbyn ein mewnforiad cyntaf o Claret. Soniais yn yr erthygl ddiwethaf am Fanc De a Banc Chwith yr ardal hon: cyfeiriad at lannau’r afonydd yw hyn, cartref i rai o’r gwinoedd drytaf yn y byd. Ar y Banc De mae’r enwau adnabyddus o St Emillion a Pomerol er enghraifft, ond i Chateau Delacour roedd Dylan a minnau yn teithio iddo gyntaf. Roedd croeso cynnes yno ac ar ôl taith i weld lle’r oedd y gwin yn cael ei gynhyrchu roedd yn amser blasu. Y prif rawnwin a ddefnyddir yn yr ardal yw Merlot gyda phosibilrwydd o ychydig o Cabernet Franc ac efallai canran fach iawn o Petit Verdot. Gallwch hefyd gael Cabernet Sauvignon neu Malbec yn y gwinoedd yma yn ôl y rheolau a cheir rhinweddau ychydig yn wahanol yn ôl penderfyniadau’r gwinwyr. Roedd hwn ar lefel uwch nac yr Entre Deux Mers lle’r aethom gyntaf a bydd yn fuddsoddiad tymor hir, ond roedd y gwinoedd o safon a bydd yn cyfoethogi’n casgliad yn y seler! Ymlaen wedyn i’r Banc Chwith, sef Medoc. Wrth deithio trwy’r ardal yn ein jalopi bach rhad, roedd stadau byd-enwog Margaux, Saint-Estèphe, St Julien a Pauillac i’w gweld: mae o ychydig bach fel gweld ‘selebs’ i ni! Bras iawn yw’r darlun yma, ond, grawnwin pennaf yr ardal hon yw Cabernet Sauvignon. Hefyd, i’r dwyrain mae Loupiac a Sauternes i’w cael, sef y gwinoedd

melys adnabyddus. Gwinwraig oedd yn Haut Médoc dwi’n falch o ddweud: Alix Marès o Château Puy Castéra sydd â 28 hectar drws nesaf i Chateau Lafite, stad werth miliynau ond gwahanol ‘terroir’ yn golygu fod ei gwin yn llawer rhatach. Dynes neis iawn a lamodd atom o’r cae gyda’i dwylo’n frown efo ôl y pridd. Yn amlwg roedd Alix yn caru gweithio ar y tir a gydag ymrwymiad i gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy. Roedd yn eithaf beirniadol o ffordd hen ffasiwn gwinllannoedd Bordeaux: ‘Mae’n rhaid chwythu’r llwch i ffwrdd,’ dywedodd gyda gwên ddireidus. Mae hi’n ychwanegu Merlot, Cabernet-Franc, Malbec a Petit-Verdot at y Cabernet Sauvignon. Ddwy flynedd yn ôl, priododd ddyn blaengar yn y byd gwin ac roedd Dylan yn gweld dyfodol addawol a diddorol i’r winllan yma yn eu dwylo. Y cysylltiad biodeinameg ddaeth â chyd-ddigwyddiad i’r wyneb yma, sef roedd hi’n nabod gwinllan Gymraeg, oherwydd roedd David, mab Richard Morris o Ancre Hill yn Sir Fynwy, wedi bod yn gweithio gyda’i gŵr i ddarganfod mwy am y ffordd yma o gynhyrchu gwin. Yn amlwg o’i ymateb roedd perthynas dda iawn wedi datblygu rhwng y ddau gamp yma. Rheswm da iawn i ymestyn gwahoddiad iddynt i Gymru dwi’n meddwl – noson blasu Bordeaux/Sir Fynwy! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau


YSGOL ARDUDWY Mawr’ yn ddieuog! Bydd y prosiect yn datblygu amrywiaeth helaeth o fedrau’r disgyblion megis medrau cerdd, celf, drama, ffilmio, golygu, sgriptio, cyflwyno a llawer mwy. Ariannwyd y prosiect ar y cyd rhwng Ysgol Ardudwy a’r Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd y prosiect yn parhau o flwyddyn i flwyddyn. Dyddiau difyr iawn! Daeth Y Cynghorydd Eric M Jones (Cadeirydd Cyngor Gwynedd), Y Cynghorydd R H Wyn Williams, ynghyd â Catrin Glyn, i’r ysgol i gyfarfod â’r disgyblion ac i gyflwyno gwobr o £100 i’r ysgol a chyflwynwyd y sticer yn swyddogol i’r disgyblion. Llongyfarchiadau mawr i’r tri!

Cystadleuaeth dylunio sticer Cod Morwrol Gwynedd Bu disgyblion B7 yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Ymgyrch Neifion (ymgyrch ar y cyd rhwng Aelod Seneddol Dwyfor a Meirionnydd, Liz Saville Roberts, Rob Taylor o Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, y Cynghorydd R H Wyn Williams a Catrin Glyn o Gyngor Gwynedd). Lansiwyd y gystadleuaeth ar gyfer disgyblion Bl7 Ysgolion Ardudwy, Botwnnog, Eifionydd, Glan y Môr a Thywyn i ddylunio sticer i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â Chod Morwrol Gwynedd ymysg pobl leol ac ymwelwyr er mwyn annog cychwyr i barchu bywyd gwyllt a pheidio â tharfu ar famaliaid morwrol sydd yn trigo yma yng Ngwynedd, yn enwedig dolffiniaid. Cafwyd ymgais wych iawn gan ddisgyblion Bl7 Ysgol Ardudwy dan arweiniad Mrs Sara Edwards, y Pennaeth Gwyddoniaeth. Roedd y disgyblion yn amlwg wedi deall y briff a’r disgyblion i gyd wedi cyflwyno dyluniadau o safon uchel. Pleser oedd derbyn y newyddion bod dau enillydd wedi eu dewis o’r ysgol hon, sef Liberty Goddard a Madoc Patterson a chyfunwyd syniadau’r ddau mewn un sticer. Roedd dyluniad Mali Wilkes yn hynod o agos ac roedd dewis enillwyr wedi codi cryn dipyn o gur pen i’r trefnwyr!

HARLECH TOYOTA

Ysgol Arweiniol Greadigol - Prosiect yr Hwntw Mawr Eleni mae rhai disgyblion o B9 yn cymryd rhan mewn prosiect arloesol sydd yn defnyddio’r celfyddydau i ddatblygu sgiliau cyfathrebu’r disgyblion. Cafodd Ysgol Ardudwy’r fraint o’i dewis fel yr Ysgol Arweiniol Greadigol i gynnal y prosiect yma. Dewisodd y disgyblion John Fraser Williams ac Owain Llŷr fel dau unigolyn sydd â phrofiad yn y maes i helpu arwain y prosiect. Mae John Fraser Williams yn gyn-gynhyrchydd teledu sydd wedi cynhyrchu rhaglenni ar gyfer ‘Week in Week Out’ ac mae Owain Llŷr yn gyflwynydd radio gyda Capital FM ac yn berchen ar gwmni ffilmio proffesiynol ac wrth gwrs yn gyn-ddisgybl Ysgol Ardudwy. Themâu’r prosiect yw’r stori leol ‘Yr Hwntw Mawr’. Nod y prosiect yw creu rhaglen ddogfen sydd yn ymchwilio i’r digwyddiadau arweiniodd at y llofruddiaeth a’r posibilrwydd bod ‘Yr Hwntw

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota

13


Yn y nofel hon dilynwn hynt a helynt criw o bobl ifanc, sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU, tra maent ar gwrs tridiau mewn canolfan awyr agored. Llion Jones, neu Llinyn Trôns, sy’n adrodd yr hanes a thrwyddo ef y down i adnabod y prif gymeriadau sef Gwenan, Olwen, Nobi, Gags, Dei a Donna eu hyfforddwraig. Er mwyn ‘adeiladu cymeriad’ rhaid iddynt ddysgu cydweithio a dibynnu ar ei gilydd er mwyn cyflawni tasgau arbennig – dringo, canŵio, abseilio ac ati.

Mae hyn yn profi’n anodd iawn ar brydiau, yn arbennig i Llion a oedd, yn yr ysgol, yn fachgen distaw a hoffai ei gwmni ei hun ac a gâi ei fwlio gan Nobi a Gags. Ond mae’r tridiau yn agoriad llygad iddo ac mae’n dysgu llawer amdano’i hun ac am bobl eraill hefyd. Stori fodern sydd yma gyda chymeriadau byw, crwn, wedi’u darlunio’n effeithiol. Mae’r nofel yn llifo’n gyflym o un dasg i’r llall, gan roi inni stori afaelgar mewn iaith raenus. Er y gallai’r problemau (personol yn ogystal â phroblemau’r tasgau) fod braidd yn drwm i’r darllenydd, nid felly o gwbl yma. Mae’r cyfan yn ddoniol ac ysgafn, hyd yn oed y digwyddiadau difrifol. Ond mae’r diweddglo yn eithaf annisgwyl. Yn sicr mae yma stori ‘bril’ ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau, yn arbennig felly bechgyn. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2001 am y Ffuglen Gymraeg orau. Rhiannon Clifford Jones Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Y NANT Bet Jones

Mae Y Nant yn dechrau gyda gwrthdaro wrth i Owi Williams ddadlau bod y tywydd am droi’n arw ac y dylid gohirio’r cwrs gloywi iaith sydd ar fin dechrau. Ac mae’r gwrthdaro’n parhau wrth i’r criw o ddysgwyr gyrraedd ar gyfer y penwythnos. Mae gan bob un o’r bobl sydd yn Nant Gwrtheyrn y penwythnos hwnnw eu cyfrinachau, ac wrth i’r eira ddisgyn a chau’r lôn fach mae yna lofruddiaeth, ac yn yr oriau sy’n dilyn mae’r cyfrinachau hynny’n cael eu datgelu fesul un. Nofel dditectif glasurol yw hon. Pawb yn yr un lle, awyrgylch llawn tensiwn a sawl cliw yn arwain y darllenydd ar gyfeiliorn. Ac mae’r ddiweddglo’n glyfar, er fy mod i wedi dyfalu pwy oedd y llofrudd

cyn y datgeliad mawr. Ond yr argraff ges i oedd bod gan Bet Jones, efallai, fwy o ddiddordeb yn y cymeriadau lliwgar sy’n cael eu caethiwo yn y Nant nag yn yr elfen ddirgelwch o’r stori. Mae yna ambell gwestiwn heb ei ateb: oni fyddai rhywun sydd â delweddau anweddus ar ei ffôn symudol yn cloi’r ffôn; pam nad oes neb yn gofyn sut cafodd y llofrudd fynediad i dŷ oedd dan glo? Mae’r stori’n symud ar wib, ac oherwydd hynny roeddwn i’n teimlo bod y cyfrinachau’n cael eu datgelu ychydig yn rhy gyflym ar adegau. Tybed a fyddai mynychu cwrs preswyl wythnos o hyd yn hytrach na phenwythnos wedi caniatáu i’r awdures ddatblygu’r agweddau seicolegol a’r tensiynau y mae’n amlwg wedi mwynhau eu cynllunio? Mae’r cymeriadau i gyd mor ddiddorol: Pedro, er enghraifft, wedi cyrraedd o Batagonia gyda chysgod rhyfel y Falklands dros ei fywyd, ac wedi ei ynysu gan yr holl Saesneg sy’n cael ei siarad yng Nghymru ac yntau’n methu deall yr iaith honno. Mae yna waith meddwl mawr wedi ei roi i’r cymeriadau a’u cymhellion ac fe allent yn hawdd fod wedi cynnal nofel hwy. Cerian Arianrhod Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Atgofion cynnar am Gymdeithas Difa Llwynogod Ardudwy Pan glywais fod Cymdeithas Rheoli Llwynogod Ardudwy wedi dod i ben, daeth atgofion yn ôl imi pan ei sefydlwyd yn 1956 ond enw’r gymdeithas bryd hynny oedd Cymdeithas Difa Llwynogod Ardudwy. Sefydlwyd y Gymdeithas gan fod y Weinyddiaeth Amaeth wedi rhoi’r gorau i gyflogi helwyr. Yn sêl Harlech ar 25 Ebrill 1956, penderfynodd rhai ffermwyr eu bod yn sefydlu cymdeithas i i gario’r gwaith ymlaen. Cafwyd pwyllgor yng Ngwesty’r Queens, Harlech, ar ôl y sêl ar 2 Mai. Dewiswyd swyddogion: Cadeirydd – Dafydd Jones Ellis, Rhosigor, Trysorydd – Edward Evans, Cefn isa, Ysgrifennydd – Evan O Jones, Graig isa. Penderfynwyd cael dau

14

gynrychiolydd o bob ardal sef Penrhyndeudraeth, Llanfrothen, Llandecwyn, Talsarnau, Llanfair, Llandanwg, Llanbedr, Llanenddwyn, Llanddwywe Uwch-y-Graig, Llanddwywe Is-y-Graig, Llanaber a Llanelltyd. Bu’r rhai hyn wedyn yn mynd o gylch y ffermydd yn eu hardaloedd yn casglu arian i redeg y Gymdeithas, y rhan fwyaf ohonynt yn archebion banc. Roedd y Weinyddiaeth Amaeth yn rhoi cyfraniad i’r Gymdeithas a’r gŵr a fyddai’n dod i gyfrif cynffonnau oedd Swyddog Plâu’r Sir sef H Lloyd Owen (sef tad y prifeirdd Geraint a Gerallt Lloyd Owen). Byddai’n dod tua dwywaith y flwyddyn i’w llosgi, a byddai Ifan yn eu cadw mewn

hogsied a chalch drostynt. Gŵr bonheddig oedd Henri Lloyd Owen, a’i sgwrs a’i straeon yn ddifyr. Un tro daeth ei dad efo fo a oedd mewn tipyn o oed ond yn llawn bywyd ac yn siaradwr byrlymus - doedd H Lloyd Owen ddim yn cael cyfle i ddweud gair. Cofiaf fod gan ei dad lyfr bach du yn ei boced gesail a rhaid oedd ganddo gael rhoi enwau’r teulu ac enwau’r fferm ynddo. Wedi ymddeoliad H Lloyd Owen daeth Ken Roberts, Bellaport, i gyfri’r cynffonnau a’u llosgi. Roedd y Gymdeithas hefyd yn derbyn cyfraniad o’r Comisiwn Coedwigaeth ac yn nes ymlaen oddi wrth y Comisiwn Coedwigaeth Economaidd. Penderfynwyd rhoi cwpan i’r helwyr a gai fwyaf o gynffonnau

yn ystod y flwyddyn. Erbyn y Cyfarfod Blynyddol byddai tipyn o gyffro i wybod pwy fyddai yn ei hennill. Roedd yr aelodau hefyd yn cael swper ar ôl y Cyfarfod; pris y swper oedd 10/-. Buont yn cyfarfod yng Ngwesty’r Queens am flynyddoedd lawer. Ychydig iawn o aelodau’r pwyllgor cyntaf sydd yn dal gyda ni erbyn heddiw; meibion ac wyrion rhai ohonynt oedd ar y pwyllgor olaf. Deuthum yn gyfarwydd iawn ag enwau’r aelodau ac enwau ffermydd y cylch, enwau fel Abergafren a Choedrhygyn. Ar adegau byddem yn ymweld â’r cadeirydd a fyddai yn newid bob blwyddyn. Dyddiau difyr! GPJ


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL PRIODAS

NEUADD NEWYDD LLANBEDR Caiff y neuadd newydd yn Llanbedr ei hagor ar ddydd Gwener, Ebrill 28, rhwng 2.00 ac 8.30 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb alw i weld y datblygiad newydd a beth sydd gennym i’w gynnig. Bydd paned a bisged am ddim a cheir eitemau gan blant Ysgol Gynradd Llanbedr am 3.30 ac adloniant gwahanol i gychwyn am 7.00 yr hwyr.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

Capel Salem, 2.00 y prynhawn EBRILL 16 Parch Iwan Llewelyn Jones 30 Parch Eirian Wyn Lewis MAI 21 Parch Dewi Tudur Lewis

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Elfyn Davies (gynt o Ystad-y-Wenallt, Llanbedr) a Carla Walsh ar achlysur eu priodas ym Mhlas Sychdyn ar Fawrth 4ydd. Mae’r ddau wedi ymgartrefu ym Mynydd Isa ger Yr Wyddgrug. Diwedd cyfnod Ers dechrau’r pumdegau bellach mae Cymdeithas Reoli Llwynogod Ardudwy wedi bod mewn bodolaeth. Fe sefydlwyd y Gymdeithas i fod yn gefnogaeth i’r rhai sydd yn gorfod mynd ati’n flynyddol i geisio cadw poblogaeth y llwynog yn isel. Ym myd amaeth mae’r gwaith yma’n dal i fod mor bwysig ag erioed er mwyn arbed yr ŵyn yn y gwanwyn, ond ei bod erbyn hyn wedi mynd yn anodd iawn cael neb i redeg y Gymdeithas. Ar nos Sadwrn 25 Chwefror daeth y cefnogwyr mwyaf selog at ei gilydd i’n Cyfarfod Blynyddol ac yn unfrydol fe benderfynwyd na allem gario mlaen am nad oedd neb iau am gymryd yr awenau. Bydd y cyfrif banc yn cael ei gau o 12 Mawrth ac mae llythyr wedi ei yrru at bob aelod. Fe benderfynodd y Pwyllgor y byddai’r arian sydd yn weddill yn cael ei roi i’r Ambiwlans Awyr. Dymuno’n dda Dymunwn yn dda i Meurig Jones, Hendre Waelod ar gyrraedd 88 oed. Cafodd fwynhau diwrnod ei benblwydd gyda’i deulu a ffrindiau yn y Victoria. Dymunwn iechyd iddo am flynyddoedd lawer eto.

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Elin Jones, Uwch y Sarn, ar gael ei dewis yn gadet i Arglwydd-Raglaw Gwynedd sef Mr Edmund Bailey. Derbyniodd Elin fathodyn mewn seremoni yn Llanrug yn ddiweddar. Rhodd Ymddiheuriadau i Paul Jones. Derbyniwyd rhodd o £26 ganddo yn rhodd i’r Llais. Teulu Artro Croesawyd pawb a chafwyd ymddiheuriad gan Catherine. Anfonodd Elisabeth ei chofion atom, a dymunwyd yn dda iddi yn Glan Clwyd. Wrth gyflwyno ein gwraig wadd, sef Morfudd Lloyd, diolchodd y Llywydd iddi am yr holl waith a wna yn yr ardal. Cafwyd prynhawn hynod o ddifyr gyda hanesion a sleidiau o Llanbad yn yr oes a fu – mae’n rhyfedd meddwl mor wahanol oedd y pentref heb Brongwynedd fel ag y mae heddiw, a dim sôn am lawer o’r tai eraill! Cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau neu ychwanegu unrhyw wybodaeth. Rhoddodd Eleanor ddiolch i’n gwraig wadd, ac enillwyd y rafflau gan Jennifer a Gretta.

Capel y Ddôl, 2.00 o’r gloch EBRILL 9 Parch John Owen 16 Parch Eric Greene 23 Mr E M P Jones 30 Parch Gareth Rowlands

Neuadd Newydd Llanbedr

CYNGERDD AGORIADOL Nos Sul, Mai 7 am 7.30 o’r gloch gyda

Côr Cymunedol Côr Meibion Ardudwy Treflyn Jones ac artistiaid eraill Mynediad: £5

Cyngor Cymuned Llanbedr

Tendro am waith torri’r fynwent a hefyd torri llwybrau. Mae hi’r adeg o’r flwyddyn unwaith eto i bawb sy’n awyddus dendro am waith. Torri’r fynwent – bob 5 wythnos a chlirio gwair (cost fesul toriad). Gofalu am ychydig o lwybrau cyhoeddus y plwyf (cost yr awr). Derbynnir ceisiadau drwy e bost cyngorllanbedr@gmail.com neu drwy law’r Clerc, Morfudd Lloyd, i gyrraedd erbyn 30 Ebrill.

ER COF Er cof am Ishmael Jones, Talgarreg, Llanbedr gynt. Cymar a ffrind anwylaf. Hunodd ar Ebrill 2, 2016. Mynd mae amser a newid mae’r byd, Ond aros mae’r hiraeth amdanat o hyd. Gan Menna, £10

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

15


FFEDERASIWN YSGOLION DYFFRYN DULAS CORRIS ac YSGOL PENNAL

(Cynradd 3 - 11: 63 o ddisgyblion) Yn eisiau cyn gynted â phosib CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 1 (Rhan Amser) (CYMHORTHYDD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL GOFAL) Swydd dros dro yw hon yn ystod salwch tymor hir un o gymorthyddion yn Ysgol Dyffryn Dulas Corris. Daw’r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i’w gwaith. Swydd am 32.5 awr yr wythnos hyd at 31/8/2017. Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol. Graddfa Cyflog GS4 pwyntiau 10-13 (£11,472 - £12,190). Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mrs Helen Newell-Jones. (Rhif ffôn 01654 761622) e-bost: helenlousienewelljones@gwynedd.llyw.cymru Ffurflenni cais i’w cael gan Meryl Wyn Jones, Cymhorthydd SIMS, Uned Gefnogi Addysg, Cyngor Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA (Rhif ffôn: 01758 704047) e-bost merylwynjones@gwynedd.llyw.cymru

LLAETH NEU LEFRITH?

Mae’r wraig, sy’n ferch o Dywyn, yn defnyddio’r gair ‘llaeth’ a minnau, yn fachgen o Sir Fôn, yn defnyddio ‘llefrith’ yn ein tŷ ni. Mae fy wyrion i gyd yn dweud ‘llaeth’! Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn awgrymu bod ‘llaeth’, fel laez yn Llydaweg a lait yn Ffrangeg, wedi cael ei fenthyg o’r Lladin lactis. Ond mae llefrith yn gyfuniad o’r ddau air llef a blith. Ystyr llef ydi ‘gwan’ neu ‘feddal’ ac ystyr blith ydi ‘llaeth’ neu ‘rhoi llaeth’. Mae ‘buwch flith’ yn enw arall ar ‘fuwch odro’. Weithiau bydd llythyren yn newid mewn gair fel y bydd yn haws ei ddweud. Mae’n debyg mai dyna pam mae ‘lleflith’ wedi troi yn ‘llefrith’. Mewn rhai mannau mae pobl yn dweud ‘llaeth llefrith’ ar gyfer llaeth llawn, nid ‘llaeth enwyn’ [buttermilk]. [I gymhlethu pethau, llaeth yw buttermilk yn Sir Fôn! Ond lorri laeth sy’n dod i gasglu llefrith yno!] Yn Llydaweg ceir laezh-livrizh. Dyma rai ymadroddion sy’n cynnwys y geiriau ‘llaeth’ neu ‘lefrith’. llaeth anwedd - evaporated milk llaeth cyddwys[edig] - condensed milk llaeth sgim - skimmed milk llaeth powdwr/sych - powdered, dried milk coffi drwy laeth - milky coffee, ‘latte’ ceffyl lliw llaeth a chwrw - piebald, roan horse fel llyn llefrith, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, llaeth y gaseg gwyddfid, llaeth mwnci - diod feddwol, Llwybr Llaethog - y Milky Way. PM

16

Mae’r llyfr hwn yn amserol iawn, o ystyried y sylw aruthrol a ‘r ganmoliaeth gafodd tîm pêl-droed Cymru yn ystod 2016. Un a oedd yn seren ynghanol y cyfan oedd Owain Fôn Williams, a’r syndod i nifer ohonom yw deall ei fod nid yn unig yn bêl-droediwr proffesiynol, ond y mae hefyd yn gerddor ac yn artist. Trueni nad yw’r gyfrol yn cynnwys enghreifftiau o’i waith, gan fod y rhain yn haeddu mwy o sylw. Dwi’n hoff iawn o iaith syml a naturiol y gyfrol y mae modd i bawb ei deall. Hefyd, roedd nifer o gymhariaethau rhwng ei gartref yng ngogledd Cymru a’i brofiadau yn yr Alban, a thirwedd y wlad honno’n ei atgoffa o’i gartref, er bod mwy o ffatrïoedd chwisgi yn yr Alban – ac ambell garw yn yr ardd! Yn y gyfrol cawn hel atgofion am chwarae yn y gôl mewn welingtons coch, ac yntau yr ieuengaf o dri brawd. Sonia am orfod rhoi’r gorau i’r gêm oherwydd afiechyd difrifol. Mae’n sôn hefyd amdano’n torri’i fraich a’r hyn a ddigwyddodd yn sgil hynny. Roedd cyfarfod sêr megis David Beckham a John Barnes yn brofiadau cofiadwy a hynod gadarnhaol, ond ceir nifer o gyfeiriadau at ddiffyg hyder Owain wrth iddo geisio siarad Saesneg, a’r ffordd y bu’n rhaid iddo orchfygu’r anhawster. Mae unrhyw berson sydd â diddordeb mewn pel-droêd yn mynd i fwynhau’r storïau gan fod cymaint o droeon llon a lleddf yn ymddangos am yn ail. Cyfeiria at un o’i athrawon fel ‘Wil Art’, gŵr mae’n amlwg a fu’n ddylanwad mawr arno. “Mae arlunio’n therapi i mi,” meddai Owain. Mae’r chwaraewr pêl-droed hefyd yn chwarae gitâr a diyr yw darllen am ei brofiadau cerddorol. Mae hefyd yn amlwg ei fod yn berson amyneddgar – bu ar y fainc am 29 o gemau cyn cael y cyfle i fynd ar y cae ar ôl 73 munud. Mae’r profiadau a gafodd yng ngharfan Cymru yn ddiddorol iawn. Braf iawn ydyw darllen am y ganmoliaeth i Gymdeithas Pêl-droed Cymru am roi lle amlwg i’r Gymraeg yn ystod y bencampwriaeth yn Ffrainc, a rhaid yw cyfeirio at rôl ganolog Ian Gwyn Hughes o fewn y Gymdeithas. Mae’r llyfr hwn mewn gwirionedd yn sôn am freuddwyd bachgen bach yn cael ei gwireddu. Cefais wefr bersonol wrth ddarllen am y profiad o ddod o’r castell yng Nghaerdydd ar ôl dychwelyd o Gwpan y Byd; ro’n i’n un o’r dorf enfawr oedd yn croesawu’r tîm. Prynwch, darllenwch a mwynhewch! Tegwen Morris Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy


DILYN LLWYBRAU’R HEN BORTHMYN

Mae nifer o lwybrau’r porthmyn yn cychwyn yn Ardudwy cyn anelu tua’r dwyrain a gwastadeddau Lloegr, a braf oedd cael cyfle i weld ffotograffau hynod Fay Godwin o lwybrau’r ardal hon a rhannau eraill o Gymru mewn arddangosfa ym Machynlleth. Hi fu’n gyfrifol am yr holl ffotograffau yn y clasur o lyfr ‘The Drovers’ Roads of Wales’, sydd â llun llawn awyrgylch o Bont Ysgethin ar ei glawr. Hyd at 1 Ebrill cynhaliwyd arddangosfa o hen brintiau o’r clasur o lyfr ‘The Drovers’ Roads of Wales’, yn MOMA, Machynlleth. Bydd rhai’n cofio’r llyfr hwn fel clasur i gerddwyr ac roedd ynddo arweiniad manwl i’r llwybrau yr arferid eu dilyn gan y porthmyn a’u gwartheg, eu defaid a’u moch ar eu teithiau garw a phell o ucheldir Cymru i drefi a dinasoedd Lloegr. Esgorodd y ffotograffau o’r llwybrau hyn a’r rhai mewn llyfr cynharach, ‘The Oldest Road: An Exploration of the Ridgeway’, gyda J R L Anderson, y ddau gan Fay Godwin, ar osod safon newydd i ffotograffiaeth y tirlun sy’n parhau i ddylanwadu ar ffotograffwyr hyd heddiw. Yn yr arddangosfa o waith Godwin ym MOMA, Machynlleth, detholwyd hen brintiau o’r llyfr ‘The Drovers’ Roads of Wales’, ar fenthyg o Lyfrgell Genedlaethol Cymru,

i nodi 40 mlynedd ers yr arddangosfa wreiddiol yng Nghaerdydd a chyhoeddiad y llyfr yn 1977. I adlewyrchu statws Godwin fel ffotograffydd dogfen o’r tirlun, roedd yr arddangosfa’n cynnwys ffotograffau, ar fenthyg o’r Llyfrgell Brydeinig, a ddewiswyd gan ei mab, a gan bobl a oedd yn ei hadnabod ac a oedd yn gweithio gyda hi. Ymysg y rhain mae ffotograffwyr sy’n adnabyddus yng Nghymru heddiw megis Marian Delyth, Pete Davis, Aled Rhys Hughes, Jeremy Moore a Jean Napier, yn ogystal â David, mab J R L Anderson, ac ysgrifenwyr fel Jim Perrin a Mike Parker. Roedd eu heglurhad i’r lluniau, ochr yn ochr â’u dewis waith, yn darparu gwerthfawrogiad personol iawn o waith Godwin. Yn ei lluniau mae gweundir moel, cymylau byrlymus, a chipolwg ar hen ffordd o fyw: darn o glawdd cerrig sych, rhychau ffyrdd y porthmyn yn amlwg yn y tir, carreg i nodi’r llwybr, a thir garw sy’n cynnal dim byd ond defaid.

Dyma dirluniau sydd wedi eu llunio gan yr elfennau ac sydd wedi eu defnyddio gan bobl a’u hanifeiliaid wrth eu tramwyo. Daeth gwaith Godwin, yng ngeiriau’r ffotograffydd hanesyddol Roger Taylor, yn ‘gynyddol wleidyddol ac emosiynol’ yn ystod ei gyrfa. Ei dymuniad oedd deall y

Awdur y llyfr ‘The Drovers’ Roads of Wales’, Shirley Toulson, 93 oed, yn yr arddangosfa ym MOMA ym Machynlleth.

tirlun o bersbectif y bobl oedd yn ei weithio. Roedd hefyd yn adnabod y tir ei hun fel cerddwr ac ymgyrchydd amgylcheddol, ac roedd yn ymwybodol o bwy oedd yn berchen ar ganran fawr ohono ac yn aml yn ei reoli

mewn ffordd anghytbwys. Rhwng 1987 ac 1990 roedd yn Llywydd Cymdeithas y Cerddwyr. Bu farw yn 2005. I adlewyrchu dylanwad cynyddol Godwin, cynhaliwyd arddangosfa o’r enw ‘A Clearly Marked Path’ yn Siop Lyfrau Pen’rallt, Machynlleth, i ddangos gwaith gwreiddiol rhai o’r ffotograffwyr sy’n gweithio’r dyddiau yma, ac a oedd wedi eu cyffwrdd gan ddull arbennig Fay Godwin o ddarlunio’r tir. Yn ystod mis Mawrth hefyd cynhaliwyd diwrnod o sgyrsiau a thrafodaeth am waith Godwin yn cynnwys y ffilm ‘Don’t Fence Me In’ yn olrhain pum mlynedd olaf bywyd y ffotograffydd.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU DATGAN BUDDIANT Datganodd Geraint Williams fuddiant yng nghais cynllunio Gwrach Ynys, Talsarnau. MATERION YN CODI Maes Parcio Cilfor Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon llythyrau i dri chwmni yn gofyn am brisiau i wneud y gwaith ar y safle uchod a dim ond un oedd wedi ateb. Adroddodd y Clerc ymhellach mai pris gan Harlech Plant Services oedd hwn i wneud y gwaith. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i dderbyn y pris hwn. Mynwent Llanfihangel-y-traethau Adroddodd John Richards nad oedd wedi cysylltu gyda Mr M J Kerr ynglŷn â phrinder beddi yn y fynwent uchod. Cytunwyd i gadw llygad ar y sefyllfa a’i drafod ymhellach pan fydd yr aelodau’n gwneud eu harchwiliad blynyddol o’r mynwentydd ym mis Mehefin. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Mae’r Bwrdd yn chwilio am Gadeirydd newydd, hefyd eu bod yn ceisio am grant astudiaeth ynni. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost oddi wrth Ms Heidi Williams, Cadeirydd y Bwrdd, yn gofyn a fyddai modd anfon cyfraniad ariannol y braesept yn fuan ym mis Ebrill. Cytunwyd i beidio â thalu hanner y praesept iddynt ym mis Ebrill fel y gofynnwyd, ac aros tan gyfarfod nesa’r Cyngor. Agor tendrau torri gwair Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a’r mynwentydd a chynnal a chadw Gardd y Rhiw gan Mr Meirion Griffith. Penderfynwyd derbyn y prisiau hyn. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi gweithdy 446 medr sgwâr a swyddfa 107 medr sgwâr at bwrpas cynhyrchu coed a mynedfa ffordd newydd, man caled a thirweddu Gwrach Ynys, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500 Gwion Lloyd - £150.00 CFfI Meirionnydd - Dim

17A


LLANFAIR A LLANDANWG

COFFÂD

Elisabeth (Beth) Rhys Jones 9 Tachwedd 1963 – 7 Chwefror 2017

Teyrnged i Beth ar ran y teulu gan ei thad, Gwilym Rhys Jones. Darllenwyd y deyrnged yn y gwasanaeth i Beth a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn, 25 Chwefror yn Eglwys Llanfair gan y Tad Deiniol, ffrind i’r teulu. Ganed Beth ar y 9fed o Dachwedd 1963 yn Ysbyty Rhuthun tra’r oedd y teulu’n byw yn Leamington Spa. Bedyddiwyd Beth yn Eglwys Gymraeg Ford St, Coventry ar y 5ed o Ebrill 1964, yna symudodd y teulu i Lanfair ym mis Mai’r un flwyddyn. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfair, Tanycastell ac Ysgol Ardudwy tan1980. Dechreuodd hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Llandudno. Pan gafodd Tudor ei ddamwain ym mis Ebrill 1985, gofynnodd Beth am amser i ffwrdd o’i gwaith yn syth a fflio i’r ysbyty yn Harrogate i ofalu amdano. Roedd Beth yno hefo Tudor am bum wythnos, a heb amheuaeth roedd gwasanaeth ac ysbrydoliaeth Beth yn rhannol gyfrifol am adferiad Tudor. Erbyn hyn roedd swydd Beth yn Llandudno wedi mynd a bu’n rhaid iddi chwilio am swydd newydd. Fe gafodd hi swydd yn Charing Cross Hospital, Llundain, wedyn Frenchay Hospital, Bryste. Yn 1992 aeth hi i’r Swistir a chael gwaith yn Ysbyty Lausanne, profiad

18 A

arbennig yn broffesiynol a lle dysgodd hi’r iaith Ffrangeg i safon uchel. Wedi dod yn ôl o’r Swistir, cafodd Beth waith yn ysbyty ‘Princess Royal’ yn Telford, a thra yno, fe wnaeth hi gyfarfod â’i gŵr Andrew. Ganwyd Isabella yn 2002 a Tom yn 2005. Erbyn troad y ganrif, roedd yr awydd i ddod yn ôl i Gymru’n cryfhau ac fe gafodd hi swydd efo Awdurdod Iechyd Powys. Prynu tŷ yn Brilley a thaflu ei hun i fywyd cymdeithasol a cherddorol yr ardal lle’r oedd ei llais a’i ffraethineb yn cyfareddu ei ffrindiau i gyd. Ddeunaw mis yn ôl ymddangosodd y clefyd creulon yn ei chorff a buodd hi’n brwydro yn ei erbyn hyd y diwedd. Dros y cyfnod y bu hi’n ardal dyffryn Gwy, mae hi wedi profi cyfeillgarwch a chariad di-ben-draw gan ei ffrindiau a’i chydnabod ac, yn ei thro, mae Beth wedi cyfoethogi eu bywydau hwythau. Hoffai’r teulu ddiolch yn ddiffuant am yr holl alwadau, cardiau a chefnogaeth dros y cyfnod anodd hwn. Hoffant hefyd ddiolch i ffrindiau Beth a oedd mor selog iddi dros y flwyddyn a hanner diwethaf ac yn enwedig i Gwyneth (Davies), ffrind arbennig a roddodd cymaint o ofal iddi yn enwedig yn ystod ei dyddiau olaf. Rhodd a diolch £25

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Edwin Osborne Williams, gynt o Fryn Hoel, Llanfair, yn 89 oed. Bu farw Edwin ar 15 Mawrth yn Ysbyty Glan Clwyd, gyda’i deulu o’i gwmpas. Magwyd Edwin ym mhentref Llanfair. Roedd yn dad i Nigel, Jackie, Christine, William a Kathryne, a bu’r plant yn mynychu Ysgol Llanfair cyn i’r teulu symud o’r ardal ac i Ben Llŷn. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol cyhoeddus i Edwin yn Amlosgfa Bae Colwyn, Mochdre ar ddydd Llun, 27 Mawrth. Anfonwn ein cydymdeimlad â’i wraig a’i blant a’u teuluoedd oll.

Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS

Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost! Rhodd Diolch i Mr Colin Williams, Canada [Bron Fair gynt] am anfon rhodd o £10 i Llais Ardudwy. Mae’n darllen y papur yn electronig yn y wlad bell honno.

MA Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor Annwyl Olygydd, Hoffwn dynnu sylw eich darllenwyr at y Cwrs MA Gwaith Cymdeithasol sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor, sydd yn gwrs 2 flynedd llawn amser. Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn ar gyfer y rhai sydd ag awydd cryf i helpu i wella ansawdd bywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau. Bydd gweithwyr cymdeithasol proffesiynol yn helpu unigolion sy’n wynebu tlodi; anabledd; afiechyd sy’n peryglu bywyd; anawsterau iechyd meddwl neu broblemau cymdeithasol, megis tai annigonol, diffyg addysg, trais, gwrthdaro, camdriniaeth, diweithdra neu gamdrin sylweddau. Mae gweithwyr cymdeithasol yn cynorthwyo a chefnogi pobl i ymdopi â materion yn eu bywydau bob dydd; i ddelio â’u perthnasoedd a datrys problemau personol a theuluol. Mae gweithwyr cymdeithasol hefyd yn cynorthwyo unigolion sydd angen cefnogaeth mewn cyfnod neu mewn amgylchiadau anodd, am ba bynnag reswm. Yn ogystal â bod yn gwrs academaidd ar lefel Meistr, mae disgwyl i fyfyrwyr dreulio cyfnodau ar leoliad, yn cael eu hasesu mewn ymarfer. Mae’r ddarpariaeth yn caniatáu i fyfyrwyr astudio’r cwrs yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn gyfle unigryw, ac yn ymateb i’r gofynion cynyddol am sgiliau dwyieithrwydd o fewn y gweithlu. Y gofynion mynediad ar gyfer yr MA Gwaith Cymdeithasol ym Mangor yw: Gradd BA (Anrhydedd) Dosbarth 2(ii) neu uwch; Medrau dwyieithog Cymraeg a Saesneg; Gradd ‘C’ neu uwch mewn Mathemateg a Chymraeg/ Saesneg TGAU (neu gyfwerth), ac o leiaf 6 mis llawn amser (cyfwerth) yn gweithio neu wirfoddoli mewn gofal cymdeithasol neu brofiad tebyg perthnasol. Cewch fwy o fanylion am y cwrs ar y wefan isod: www.bangor.ac.uk/courses/cymraeg/post/gwaithcymdeithasol.php. cy


Merched y Wawr Llanfair a Harlech

Llais Ardudwy YN EISIAU GOLYGYDDION YR IFANC

Clwb Golff Dewi Sant oedd y man cyfarfod i ddathlu Gŵyl Ddewi. Ar ddechrau’r noson trafodwyd nifer o faterion yn ymwneud â’r gangen cyn mwynhau pryd blasus iawn gan staff y Clwb. Ar ôl ciniawa daeth côr Cana-mi-gei, gydag Ann Jones (arweinydd), Elin Williams (cyfeilydd) ac Eirian Evans (cyflwynydd). Estynnodd Hefina groeso i’r côr gyda Bronwen yn diolch am noson dda. Ar ddiwedd y noson dosbarthwyd bagiau’r Mudiad i ddathlu’r aur.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Torri gwair Adroddwyd bod pris wedi ei dderbyn gan Mr Arwel Thomas i dorri gwair y fynwent a bod y pris fel y llynedd; hefyd adroddwyd bod pris wedi ei dderbyn gan Mr Meirion Griffith i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a chytunwyd i dderbyn y pris hwn. Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddwyd bod y Bwrdd yn chwilio am Gadeirydd newydd, hefyd eu bod yn ceisio am grant astudiaeth ynni. Roedd awgrym ganddynt hefyd bod aelodau o’r Cynghorau oedd yn mynychu’r cyfarfodydd hyn yn mynd yn aelodau o’r Bwrdd yn swyddogol. Pwyllgor Neuadd Goffa - 22.3.17 Adroddodd Robert G Owen a Mair Thomas eu bod wedi mynychu cyfarfod blynyddol yr uchod ar ran y Cyngor; hefyd, adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn mantolen ariannol y pwyllgor. Adroddwyd bod Swyddogion y pwyllgor yn aros yn eu lle sef Cadeirydd, Mrs Maureen Jones, Ysgrifennydd, Mrs Ann Lewis a Thrysorydd, Mrs Hefina Griffith. CEISIADAU CYNLLUNIO Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol - 8, 9, 10 Haulfryn, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol. Gwion Lloyd - £100.00 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - toiled cyhoeddus yn Llandanwg Mae angen i’r Cyngor arwyddo’r ddau gopi o’r cytundeb hwn ac anfon un yn ôl iddynt. Byddant yn anfon anfoneb am y swm sydd yn ddyledus. UNRHYW FATER ARALL Adroddwyd bod cais wedi ei dderbyn oddi wrth Swyddogion yr Eglwys yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn fodlon talu am wagio bin brown y fynwent. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i wneud hyn.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Ydych chi’n teimlo mai papur i bobl hŷn ydi Llais Ardudwy? Hwyrach eich bod chi’n iawn! Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n medru annog ffrindiau i sgwennu pytiau [rhyw 300 gair] ar destunau difyr. Wrth bobl ifanc, rydan ni’n sôn am rheini sydd wedi gadael yr ysgol. Os teimlwch chi yr hoffech chi rannu’r baich o baratoi’r papur bob mis, a’i wneud yn fwy apelgar i’r ifanc, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion.

Seindorf Arian Harlech

BINGO PASG

Nos Fercher, Ebrill 12, am 6.30 yn Ystafell y Band, Harlech Elw at y Band Croeso cynnes i bawb!

Dafydd Elis-Thomas yn annerch aelodau NFU Cymru

Ymunodd Dafydd Elis-Thomas ag aelodau NFU Cymru Canolbarth Gwynedd yn eu cyfarfod diweddar ym Meddgelert lle bu’n trafod rhai o oblygiadau’r trafodaethau Brexit a’r gwaith sy’n wynebu llunwyr polisi yn y ddwy flynedd nesaf. Soniodd Mr Thomas am y trafodaethau y bu’n rhan ohonyn nhw yn Nhŷ ’r Arglwyddi yn ystod ailddarlleniad y Mesur (Hysbysiad Cilio) Ewropeaidd. Dadleuodd fod angen sicrhau pris teg i ffermwyr ac y dylai unrhyw bolisi amaethyddol y dyfodol ymdrechu i gadarnhau hyn, a lle na fyddai hynny ’n bosib, dylai rhyw fath o daliad sylfaenol fod ar gael. Hefyd dywedodd ei fod yn teimlo bod dealltwriaeth dda o ffermio yn Nhŷ ’r Arglwyddi yn ogystal â chynrychiolaeth o’r diwydiant bwyd ehangach. Pwysleisiodd fod ffermio, tir a thwristiaeth oll yn ddibynnol ar ei gilydd ac mai nawr yw’r amser i bobl yn y tri sector dynnu ynghyd i sicrhau’r cytundeb orau y gellir ei chanfod. Ychwanegodd y bydd rheoli tir yn llwyddiannus, yn cynnwys rheolaeth gynefin, yn parhau i fod angen mewnbwn y gymuned amaeth i’w weithredu ac mai’r gyd-ddibyniaeth hon sy’n hanfod i’r dyfodol.

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy EBRILL 2017 1. £30 Anne Jones 2. £15 Iona Anderson 3. £7.50 S G Corps 4. £7.50 Sylvia Buckley 5. £7.50 Roger Kerry 6. £7.50 Guto Anwyl

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

19 A


LLUNIAU O EISTEDDFOD SIR YR URDD

I’r Pasg, 1937 Enillydd y wobr gyntaf yn Steddfod Beulah – Pasg 1937. Bennett Jones, gwas ffarm ar y pryd yn Egryn; tad Anthia, Eleri, John a’r diweddar Peggy.

Merched y Wawr Dwyfor yn ymweld ag Ardudwy

I’r Pasg 1937 Wele’n nesu’r greulon Groglith Barodd chwerw angau loes A’n hachubodd ar Galfaria Pan y trengodd ar y groes. Er ei roi mewn beddrod diogel Dyma’r hanes byth a fydd, Cododd Crist o eigion uffern Bore’r Pasg y trydydd dydd. Wedi’r dioddef mawr a’r dirmyg Achos sydd i lawenhau, Cododd Crist o eigion uffern Fore’r Pasg i’n cyfiawnhau, Gŵyl y Pasg dros byth a erys Megis cofnod ym mhob oes, Gŵyl i gofio atgyfodiad Un fu’n gwaedu ar y Groes.

20 A

Aelodau MyW Dwyfor yn cael seibiant ar Bont Fadog Ar ddiwrnod braf o wanwyn, ond yn debycach i ddiwrnod o haf, aeth 21 ohonom, Ferched y Wawr Dwyfor, ar y trên i Ddyffryn Ardudwy. Roedd Raymond Owen yno yn ein croesawu, ac fe’n harweiniodd at Eglwys Llanenddwyn yn gyntaf, cyn dechrau dringo heibio’r gloddfa gladdu yn y pentref ac at blasty hynafol Gorsy-Gedol. Yno, ymunodd Haf â ni i’n harwain ar weddill y daith. Cawsom seibiant am ginio rhwng y môr a’r mynydd; y môr yn llonydd a Sarn Badrig yn amlwg iawn. Aethom draw wedyn at Bont Fadog a dilyn afon Ysgethin drwy’r coed yn ein holau i lawr i Daly-bont. Roedd arwyddion y gwanwyn yn amlwg yn y goedwig ac ar lan yr afon - clychau’r gog yn dechrau blodeuo a’r suran y coed fel gemau bach wrth fôn y coed. Roedd diod oer yn Islaw’r Ffordd yn dda cyn i’r trên ddod i mewn i’n cludo yn ôl i Gricieth a Phwllheli. Diwrnod i’w gofio oedd hwn ac yn sicr, mi ddown yn ôl eto yn fuan.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.