Llais Ardudwy 50c
NEWID CYFNOD
RHIF 473 - EBRILL 2018
RHESTR FER AM WOBR FAWR Ganol mis Mawrth mi gafodd Megan Smith [Maes yr Haf, Harlech gynt] ei gwahodd i dderbyniad ym Mhalas Buckingham. Trefnwyd y digwyddiad i anrhydeddu staff nyrsio rheng flaen. Roedd Meg yn cynrychioli myfyrwyr Cymru fel aelod o raglen arweinyddol sy’n cael ei noddi gan Gyngor y Deoniaid. Y mae Meg hefyd ar restr fer gwobr y Nursing Times am Fyfyrwraig Nyrsio’r Flwyddyn [Iechyd Meddwl]. Bydd yn westai yn y Seremoni Wobrwyo yn Llundain ar Ebrill 26 ac fe gyhoeddir yr enillydd ar y noson. Ni chaiff wybod ei thynged ymlaen llaw. Bydd ei chyfeillion i gyd yn gobeithio am y gorau i Meg. Hei lwc!
Parch Beth Bailey
Parch Miriam Beecroft
Dymunwn ddiolch yn ddiffuant iawn i’r Canon Beth Bailey am ei gwaith enfawr yn eglwysi Ardudwy yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Bu’n ficer poblogaidd ac effeithiol iawn. Merch o’r ardal hon yw hi ac mae’n nabod y trigolion yn dda. Gweithiodd yn ddiarbed dros eglwysi’r fro ers 2013 a daeth â rhyw ffresni i’r gwasanaethau. Bu’n flaenllaw wrth sicrhau bod pobl yr ardal yn ymateb yn gadarnhaol i sefyllfa’r ffoaduriaid a phobl ddigartref. Dymunwn ymddeoliad hapus iawn iddi a diolchwn ar ran holl eglwysi’r fro am y cydweithio hapus a fu.
Yr un yw ein diolch i’r Parch Miriam Beecroft a fu’n giwrad yn eglwysi Ardudwy ers 2015. Bu’n arbennig o weithgar gyda theuluoedd a phlant ac yn yr ysgolion a’r clybiau. Rhaid nodi hefyd bod parch mawr iawn iddi ymhlith y to hŷn. Dymunwn bob bendith iddi hi a’i gŵr Darren a’u merch Anwen wrth iddyn nhw symud i Ddyffryn Dyfi. Bu Miriam yn gaffaeliad enfawr i’r ardal hon ac fe ddysgodd y Gymraeg i safon dda. Pob dymuniad da yn y swydd newydd Miriam, a diolch am gyfnod bendithiol yn ein plith.
MyW yn Dathlu
GWOBR GOFAL CWSMERIAID
Y GORAU DRWY WLEDYDD PRYDAIN
Llongyfarchiadau i Toyota Harlech am ennill y wobr gyntaf am ofal cwsmeriaid trwy Wledydd Prydain. Yn y llun fe welir Iwan Evans yn derbyn y wobr gan gynrychiolwyr Toyota ar ran y cwmni lleol.
Merched y Wawr Nantcol yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn Nineteen57
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mai 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Mai 10. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook
@llaisardudwy 2
Enw: David Gwynn Jones Gwaith: Wedi ymddeol, wnes i adael Harlech yn 1967 i weithio yn Banc Barclays yn Lerpwl am 35 o flynyddoedd, ac ar ôl hynny dychwelyd i Harlech yn 2002 i edrych ar ôl Mam. Cefndir: Cefais fy ngeni yn Nottingham (Mam a Dad, y ddiweddar Blod a Ken Temps wedi byw yna am gyfnod ar ôl diwedd yr ail ryfel). Cefais fy magu yn Rhostrefor, Stryd Fawr, Talsarnau cyn symud i 23 Y Waun, Harlech yn 1960. Dwi’n cofio John O Roberts yn helpu Mam a Dad i symud y dodrefn hefo’r lori lo a wedyn Nain a Taid yn gorfod gneud sawl siwrne hefo’r plant yn y car! (7 ohonom ni). Es i hen ysgol Talsarnau, ac wedyn dros y ffordd i’r ysgol newydd o dan ofal y pennaeth Mr Bennett Williams. Wedyn i Ysgol Ardudwy, Harlech o dan ofal Mr Evans. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded a garddio. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Y Daily Express bob diwrnod.
Llawer o ddiolch i Pam Ainsworth, Cae Gwastad, Harlech, am sgwennu’r stori fach ddifyr ganlynol i’r Llais: Roedd ’na gymdeithas gyfrin yn Harlech yn y 50au! Pan oedden ni yn yr hen ‘Standard 5’ yn yr ysgol gynradd roedden ni, y genod, yn falch iawn yn chwarae ein rhan yn y gymdeithas gyfrin. Syniad Miss Clarissa Graves oedd y gymdeithas. Miss Graves oedd chwaer Robert Graves ac roedd hi’n dipyn bach o egsentric. Roedd hi’n gwisgo mantell hir efo sgert ‘tweed’ a ‘brogues’ lledr, ac roedd hi’n gwisgo ei gwallt mewn bwn. Roedd hi’n gyfeillgar iawn ac roedd hi’n dŵad i’r ysgol i gael sgwrs bach efo ni.
Cylchgrawn ar awyrennau bob mis, heb anghofio Llais Ardudwy. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ar Radio 2 rydw i yn hoff iawn o Ken Bruce yn y bore. Mae Hazel a finna yn gystadleuwyr brwd ar Pop Master. Mi fyddaf yn gwylio llawer o chwaraeon ar y teledu, yn enwedig golff a chriced. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dipyn bach ac yn aml oherwydd clefyd y siwgr. Hoff fwyd? Cyw iar, pysgod a phys! Ac yn hoff iawn o damad o fara menyn. Hoff ddiod? Gwin coch o Ffrainc. (Mae’n handi cael chwaer yn byw yno.) Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y wraig Hazel, y plant Karen a Jenny a’r wyrion Dylan a Harley a’r wyres fach Jessica. Am eu bod nhw i gyd yn byw yn yr Alban mae’n anodd iawn dod at ein gilydd yn aml. Ond byddaf wrth fy modd pan fyddwn ni’n cael cyfle. Lle sydd orau gennych? Ynysoedd y Canaries, yn enwedig Lanzarote. Mae Hazel a finna wedi bod yna am wyliau am dros 20 mlynedd rŵan. Mi fyddaf yn hoff iawn o fynd i lawr i Llechollwyn hefyd ar ddiwrnod braf. Beth sy’n eich gwylltio? Baw ci dros bob man a sbwriel ar hyd y lle. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Cadw cyfrinach. Pwy yw eich arwr? Ian Woosnam y golffiwr a hefyd
tîm Everton yn y 60au. (Bûm yn cefnogi Everton ar hyd fy oes.) Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Fy nheulu. Beth yw eich bai mwyaf? Diamynedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gwyliau yn Lanzarote a bod yng nghwmni fy nheulu, a mynd am dro ar hyd draethau Harlech, Llandanwg a ’Chollwyn. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd â Hazel ar wyliau, a gwario ‘chydig bach ar y tŷ. Eich hoff liw? Gorfod bod yn las (Everton)! Eich hoff flodyn? Cennin Pedr. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? It’s Time to say Goodbye gan Andrea Boccelli a Sarah Brightman. Led Zeppelin, Status Quo, Killers, Shires, a M People. Pa dalent hoffech chi ei chael? Buaswn wrth fy modd taswn i yn medru chwarae unrhyw offeryn cerdd. Eich hoff ddywediadau? Na. No, Never, Byth. (Mr Picton, C’mon Midffîld) Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Wel, ar ôl cyfnod reit sigledig ar ddiwedd 2017 a dechrau 2018 i finnau a Hazel hefo’n iechyd, hoffwn edrych ymlaen at gadw’n iach a heini i’r dyfodol. Dwi’n ddiolchgar iawn am bob dim dwi wedi cael ei wneud a’r cyfleoedd dwi wedi eu cael dros y blynyddoedd.
‘DWI’N COFIO’
cyfarfod y gymdeithas yn Seashell Cafe. Yna roedden ni’n cael te crand efo brechdanau bach, cacennau a phaned o de neu sudd oren. Mr a Mrs Ashwood, tad a mam Madeline, oedd perchnogion y caffi, ac mi wnaeth Mrs Ashwood gacennau hyfryd a blasus iawn. Roedden ni o hyd yn gwisgo bathodyn wedi ei guddio dan ein coler ni. Roedden ni’n teimlo’n bwysig iawn efo’n gwaith a bod yn aelodau o’r gymdeithas, ac roedd y foneddiges glên yn sgwrsio efo ni fel hen ffrind. Dyna sut roedd ’na amser cyffrous a chyfeillgar amser maith yn ôl a roedden ni, y genod, yn teimlo fel y ‘Secret Seven’ at ein gwaith.
Roedd hi’n beintiwraig a dwi’n cofio pan wnaeth hi beintio arwydd newydd i Siop Eisteddfa ar y stryd fawr. Darlun o hen fardd efo’i delyn yn eistedd ger y graig oedd yr arwydd. Pwrpas y gymdeithas oedd i gadw Harlech yn daclus. Roedden ni i gyd yn tacluso’r lle yn ddistaw. Ond os welon ni bobl yn taflu gwastraff mi ddudon ni, ‘Rydan ni’n caru Harlech ac rydan ni eisiau cadw’r lle’n edrych yn hyfryd. Wnewch chi helpu ni, os gwelwch yn dda, gan beidio taflu sbwriel?’ Fel ‘treat’ bach, roedd Miss Graves yn mynd â ni i gael
DOMINÔS PUMP A THRI
Bu’r gêm dominôs yn boblogaidd iawn yn Ardudwy ers blynyddoedd lawer yn nhafarnau Llanbedr a Dyffryn ond yn enwedig yn Harlech. Cartref y gêm 5 a 3 oedd tafarn y Llew am flynyddoedd lawer. Dywed Dr Peter Williams, un o’r selogion, ei fod yn cofio iddyn nhw chwarae ar yr un bwrdd efo’r un set o ddominôs am 40 mlynedd. ‘Yr unig newid yn y niferoedd,’ yn ôl Doc Pete, ‘oedd pan oedd pobl wedi marw neu pan oedd pobl yn symud o’r ardal.’ Dywed John Thomas [John Meirion neu John Thom] ei fod yn chwith meddwl am rai o gewri’r gorfennol, yn arbennig Phil Williams a Gareth Rees a fu farw yn weddol ddiweddar. Y mae colled fawr ar eu hôl. Eraill a enwyd ganddo oedd John Lewis, Meirion Penlan, Tips Lloyd, John Pugh, Ffridd a hyd yn oed Ted Carroll, y cynberchennog ei hun. Erbyn hyn, gan fod Tafarn y Llew wedi cau, mae’r dynion [a does yr un ferch yn chwarae 5 a 3 hyd y gwn i!] yn chwarae yn Nhafarn y Frenhines. ‘Ar nos Iau fyddwn ni’n cyfarfod,’ meddai Aneurin wrthyf. ‘Rydan ni yma ar hyd y flwyddyn ond yn fwy selog ym misoedd y gaeaf.’ Yn ôl Edwin Jones [Morlais] does dim pres yn newid dwylo, ‘ond mi ydan ni’n cael llawer iawn o hwyl a thynnu coes.’ Ymhlith y criw eiddgar ar hyn o bryd y mae un Sais, sef Brian [Carter] o Tamworth. Yn ôl Aneurin y mae o ‘yma yn Harlech am 10 mis o’r flwyddyn, chaiff o ddim aros yn y garafan am 12 mis!’
Y rhai sy’n mynychu y dyddiau hyn ydi Al Smith, Dafydd Idwal, Aneurin Evans, Doc Pete, Dafi Owen, John Meirion, Edwin Morlais, Eric Penlan, Siôn Rees a Brian Carter. Yn ôl Dafi, rydych yn sgorio pan fo’r rhifau ar bob ochr i’r set yn rhannu efo 3 neu 5. Felly os oes 1 ar un pen a 2 ar y pen arall, dyna i chi sgôr o un. Os oes dwbl 6 ar un pen a 3 ar y pen arall, dyna i chi gyfanswm o 15. Mae 15 yn rhannu deirgwaith efo 5 a phum gwaith efo 3, a dyna i chi sgôr o 8. Os oes gennych awydd rhoi cynnig arni, fy nghyngor i fuasai i chi ymarfer gartref am gyfnod hir cyn dod i gwmni’r criw yma - maen nhw’n deall y gêm i’r dim! *****
CEINIOG AM SMOTYN Rai blynyddoedd yn ôl, mi fyddai Tafarn y Frenhines yn adnabyddus fel cyrchfan i’r bobl rheini oedd yn chwarae ffurf
arall ar ddominôs, sef ‘Ceiniog am Smotyn’, lle mae’r rheolau yn dra gwahanol. A bod yn hollol gywir, dimai am smotyn oedd y drefn yn Harlech hyd yn oed flynyddoedd ar ôl i’r hen ddimeiau ddiflannu yn 1984. Barn rhai o’r selogion oedd bod modd colli ‘pres mawr’ os oedd raid talu cymaint â cheiniog am smotyn. Mae’r gêm hon yn cael ei chwarae yn ôl y drefn arferol, ond y mae pob chwaraewr yn gwneud ei orau i beidio gorffen y gêm efo gormod o smotiau yn ei law. Buasai chwaraewr sy’n gorffen gyda dwbl chwech yn gorfod talu 12 o ddimeiau i’r enillydd, sef 6c. Pe buasai’r gosb yn geiniog am bob smotyn buasai raid talu 12c. Weithiau byddai’r gêm yn dod i ben heb enillydd a’r rheol bryd hynny oedd bod y gêm nesaf yn dyblu i geiniog y smotyn. ‘Pwytho’ fyddai’r gair am hyn - sef cyfieithiad llythrennol o ‘to stitch’. Os oedd ‘pwytho’ ddwy waith yna byddai raid talu
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon Blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 097930 748930
ceiniog a dimai am bob smotyn. Meddyliwch am chwaraewr yn gorffen efo’r dyblau 6/6, 5/5 a 4/4. Dyna gyfanswm o 30 smotyn x1.5 = 45c. Tipyn o glec! Buasai angen rhoi ‘spanar fawr’ ar y bwrdd i dalu, sef darn 50c. Wrth dalu efo 20c byddai ‘spanar fach’ yn dod i’r bwrdd. Doedd ryfedd bod llawer i chwaraewr yn gorffen y gêm efo 1/0 neu 0/0 yn ei law. Byddai cryn ddadlau, taeru, tynnu coes ac enllibio wedyn! Am ryw reswm, gelwid y dwbl 4 yn ‘Siani’, ac mae’n amlwg pam y bedyddiwyd y dwbl 6 yn ‘ddannedd gosod’. Ymhlith y criw a fyddai’n dod ynghyd i chwarae dominôs yn Nhafarn y Frenhines yn y dyddiau euraidd hynny yr oedd: Twm Rees, Ken ‘Temps’ Jones, Griff [Gandhi] Lloyd, Harry Jones, John Bach [gŵr Myrdeg], Dafydd Jones, Tyddyn Du, Dafydd Lewis, Warin, John Pugh, Ffridd, John Richards, Gilar a Llinos Parry - yr unig ferch oedd yn chwarae’r gêm. PM
COSTAU HYSBYSEBU Llais Ardudwy Hanner tudalen - £100 Chwarter tudalen - £50 Wythfed - £25 Blwch ar y dudalen hysbysebion - £60 y flwyddyn Un golofn x 10cm - £10 y rhifyn Dwy golofn x 5cm - £10 Cynigir disgownt am hysbysebion rheolaidd.
3
LLANFAIR A LLANDANWG Diolch Dymuna Gwenllian, Gwynn a Delyth ddiolch i bawb am eu cyfraniadau, sef £750, er cof am y diweddar Gwilym Jones, Bryn Awelon, Llanfair. Rhoddir yr arian at brynu peiriant diffib i’r ardal. Rhodd a diolch £10 Plygain Eglwys Llanfair Yn yr adroddiad yn dilyn y Plygain yn Eglwys Llanfair ym mis Ionawr, nodwyd nad oedd Beibl Cymraeg yno. Diolch i garedigion yr Eglwys am y datganiad isod: Beibl Cymraeg - Fe hoffai Warden yr Eglwys, a fethodd y Plygain eleni oherwydd salwch, ymddiheuro ac egluro fod Beibl Cymraeg yr Eglwys ar yr ochr dde o’r ddarllenfa rhwng y ddau Feibl mawr. Mi fydd ar y blaen y tro nesaf!
Pobl Newydd yn y Caffi Pob lwc i Tainia a Graham Stone yn eu menter newydd yn gofalu am y caffi uwchben y fferm blant yn Llanfair. Maen nhw’n gobeithio denu pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr i fwynhau eu bwyd blasus pan fyddan nhw’n bwrw iddi dros y Pasg.
Llun gwych o’r machlud a dynnwyd gan Neal Parry, Harlech. Tybed a oes gennych luniau da a dynnwyd o Lanfair. Mae’n lle di-ail am lun da. Anfonwch atom. Diolch.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Merched y Wawr Ddechrau mis Mawrth cafwyd gwahoddiad gyda changen y Bermo, i ymuno â Thalsarnau i ddathlu Gŵyl Ddewi. Croesawyd ni yn gynnes iawn gan Siriol Lewis, eu Llywydd. Wedi gwledda ar gawl blasus, amrywiaeth o gacennau a phaned, croesawyd y ‘Band Arall’ i’n diddori. Cafwyd amrywiaeth o gerddoriaeth Gymreig a phawb wedi dotio at y gân o Estonia roedd y band wedi ei dysgu pan yn Estonia ddiwedd y flwyddyn. Diolchwyd gan Hefina ar ran cangen Harlech a Glenys Jones ar ran cangen y Bermo. Noson werth chweil i ddathlu gŵyl ein nawddsant. ***** Ar Mawrth 6, cyfarfu’r gangen yn Neuadd Llanfair. Llongyfarchwyd Gweneth ac Edwina, y ddwy wedi dod yn hen neiniau yn diweddar. Llongyfarchwyd Cassie hefyd ar ei phen-blwydd arbennig y diwrnod hwnnw. Wedi delio gyda materion y mudiad, croesawodd Hefina y gŵr gwadd, Ray Owen o Dal-y-bont. Aeth Ray â ni ar daith ‘O Fron Oleu i Hafod Eryri’ trwy gyfrwng lluniau a hanesion diddorol. Cawsom hanes Fanny Talbot a gofir fel y ddyngarwraig gyntaf i roi darn o dir, sef 4.5 acer, yn 1845 i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a elwir yn ‘Fron Oleu’. Ymlaen â ni wedyn dros y Rhinogydd i fynyddoedd Meirion ac Arfon cyn gorffen yn Hafod Eryri. Roedd rhai o’r lluniau’n gyfarwydd i rai a phawb yn rhyfeddu at y golygfeydd godidog sydd ar stepen ein drws. Ann roddodd ddiolch ar ein rhan, gyda Mair Thomas yn gofalu am y baned, a Linda enillodd y raffl. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Elin Haf Jones, Pensarn, ar ennill Ysgoloriaeth Hedfan. Mae hi wedi bod yn hynod lwcus i gael ei dewis, a hyn drwy’r ATC, Llanbedr. Bydd Elin yn mynd i Dundee am bythefnos ddiwedd mis Ebrill. Da iawn ti, Elin, a mwynha dy hun!
4
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Torri Gwair Derbyniwyd pris i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus gan Mr Meirion Griffith a phris i dorri gwair y fynwent gan Mr Arwel Thomas. Cytunwyd i dderbyn y prisiau hyn. Neuadd Goffa Llanfair Mae aelodau’r Cyngor yn fodlon i deulu’r diweddar Mr Gwilym Jones, Bryn Awelon osod y peiriant diffib maent yn ei archebu er cof ar wal y neuadd. Ceisiadau Cynllunio Dymchwel tŷ allanol a chodi ystafell ardd pren - Hen Ysgol, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Codi modurdy newydd - Windrush, Llandanwg . Cefnogi’r cais hwn. Cynyddu lefel bondo’r tŷ gan gynnwys aildoi a gosod 7 ffenestr to, adeiladu ports blaen a estyniad blaen/ochor fel rhandy preswyl, gosod to brig ar yr ystafell aml-bwrpas arfaethedig a gosod cladin carreg - Hafan, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Codi tŷ ar wahân a newid y fynedfa - Tir i gefn Llwyn Onn, Pant yr Onnen, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - dim am nad oes clwb yn yr ardal ar hyn o bryd Cyfeillion Ellis Wynne - dim, gan fod ganddynt ddigon o arian yn y banc Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog - dim am ei bod tu allan i’r ardal RABI Meirionnydd - dim am ei fod tu allan i’r ardal Adran Priffyrdd Cedwir toiled Llandanwg yn agored am y flwyddyn am y swm o £4,000. Cyngor Gwynedd Nid yw’r llinellau melyn dwbwl wedi eu gosod yn ôl ar hyd ochor y ffordd yn Llandanwg i lawr am y maes parcio. Gobeithir cwblhau’r gwaith yn fuan. Gofynnwyd hefyd am gael ailfarcio y llinellau gwyn yn y maes parcio.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Taith fer nad aeth yn anghof Wrth edrych trwy ffenest y gegin ar y gwynt cryf o’r dwyrain a’r eira yn cael ei chwythu ganddo yn ystod y tywydd garw gawsom ddechrau Mawrth, daeth atgofion o dywydd tebyg ddechrau 1947. Roeddwn ar y pryd yn Ysgol y Bermo a bu rhaid inni ddod adre efo trên ganol dydd gan fod yn bwrw eira trwm. Cofiaf Mr M G Evans yn sefyll ar dop y grisiau a galwodd arnaf i beidio cychwyn o Lanbedr tan y doi rhywun i’m cyfarfod. Pan gyrhaeddodd y trên Talwrn Bach, roedd John Griffith, Garage, tad y ddiweddar Mair Highley, yn disgwyl amdanom a daeth a fi cyn belled â Bont Beser. Cefais gwmpeini Evan Jones, Gellibant, o fan yno ymlaen. Erbyn inni gyrraedd top rhiw y dam ac o’r fan honno ymlaen doedd yna ddim cysgod brwynen. Roedd gwynt cryf yn chwythu’r eira i’n gwynebau ac Evan Jones druan yn gwthio ei feic hefyd. Dyna’r daith sydd yn dal yn fyw yn fy nghof ac mor falch oeddwn o gyrraedd Cefn Uchaf. GJ Diolch Mae darllenwyr y Llais yn gwerthfawrogi’r gwaith caled mae criw y Llais yn ei roi yn fisol yn wirfoddol. Derbynnir cyfraniadau hael gan amryw o’n cefnogwyr. Diolch yn fawr iddynt. Marw’n sydyn Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn Jonathan Cooke ac yntau ond 53 oed. Cydymdeimlwn yn ddwys â’i deulu yn eu galar. Rhodd Er cof am Meirion Jones - £10 Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel y Ddôl EBRILL 8 Capel y Ddôl, Eleri Owen Jones 15 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis 22 Capel Nantcol, Elfed Lewis 29 Capel y Ddôl, Parch Gwenda Richards
Difrod Gwnaed llawer o ddifrod yn yr ardal yn ystod y storm wynt ddechrau Mawrth. Daeth coeden i lawr ar y bont droed yn y Gwynfryn a’i malu, a syrthiodd llawer iawn o goed Garthgoch. Cauwyd y ffordd gan i 17 o goed praff syrthio ar ei thraws, ond diolch i’r Cyngor Sir am eu clirio mor sydyn. Bu’n fis tymhestlog iawn o wynt, eira a rhew. Edrychwn ymlaen at y gwanwyn. Marw Bu farw Mrs Jean De Jonah, Y Glyn, yn 94 oed. Roedd yng Nghartref Bodawen ers rhai blynyddoedd. Gwellhad buan Dymunwn wellhad buan i Alex Howie ar ôl ei lawdriniaeth, hefyd i Emsyl Davies sydd wedi cael llawdriniaeth. Gobeithio fod hithau’n dal i wella. Dymunwn wellhad buan hefyd i Rosemary (Workman), Lismore, ar ôl y ddamwain gas gafodd hithau. Mae hi wedi cyrraedd adref o’r ysbyty. Bu Louise Jones, Bryndeiliog, a Ken Howie o dan driniaeth yn ddiweddar. Gobeithio eu bod yn teimlo’n well erbyn hyn. Diolch Dymuna Catherine Jones, 6 Moelfre Terrace, ddiolch i’w ffrindiau a’i chydnabod am yr holl alwadau ffôn, cardiau ac anrhegion a dderbyniodd ar ddathliad ei phen-blwydd yn 90 oed. Diolch yn fawr. £10
RHAGOR AM MEURIG Dy wên a ffrind diwenwyn - a gofiwn Ac hefyd un addfwyn, I ochel mynd i achwyn, Ara’i gam oedd Meurig Wyn. Annwyl y sôn amdano - gennych chi Gwn chaf i ddim eto Un a fydd ’run fath a fo, Dau ffrind, a ’rioed di ffraeo. O’i alw gan ’rhen elyn. Yr Iesu A roes ei orchymyn, ‘O ewch, ewch at ei erchwyn I roi gwadd i Meurig Wyn.’ Ei fwyn naws anghofia neb Na’r wên oedd ar ei wyneb. [ME]
PEN-BLWYDD HAPUS OSIAN ELLIS
Bydd amryw o’r ardal yn cofio bod Osian Ellis, y telynor adnabyddus, sy’n dathlu ei benblwydd yn 90 oed eleni, wedi byw ar un pryd yn Llanbedr, Erbyn hyn mae’n byw ym Mhwllheli. Yn ddiweddar bu Osian Ellis yn hel atgofion am gynherddau a pherfformiadau, eisteddfodau a rhaglenni teledu, efo Dei Tomos ar Radio Cymru, pan arferai Osian ysbrydoli cerddorion ifanc ledled Cymru. Gyda llond llaw o gerddorion eraill, sicrhaodd Osian bod y delyn yn cael lle blaenllaw a haeddiannol yng Nghymru. Yn 1965, perfformiodd gerddoriaeth o Gymru ym Mhatagonia yn ystod dathliadau canmlwyddiant y Wladfa. Gweithiodd am 30 mlynedd fel Athro Cerddoriaeth Telyn yn yr Academi Frenhinol. Bydd pen-blwydd Osian yn 90 yn cael ei ddathlu yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru, lle mae’n Llywydd, yng Nghaernarfon ym mis Ebrill. Bydd telynorion o ddau ddwsin o wledydd yn cynnwys Rwsia, Siapan ac America, yn cystadlu yn y bedwaredd Ŵyl hon. Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd, mae Osian unwaith eto yn canu’r delyn ac yn cyfansoddi cerddoriaeth. Fel rhan o’r dathliad, mae Osian yn ddiweddar wedi cyfansoddi ‘Cylch Caneuon Gwerin Cymru’ ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone, a bydd yn cael ei berfformio yn y cyngerdd a fydd yn dod a’r Ŵyl i ben. Dylai Ardudwy a Chymru gyfan ymuno yn y dathlu, felly penblwydd hapus, Osian, a diolch am y cyfraniad.
Os oes gennych chi atgofion am Osian a’i deulu yn Llanbedr, cofiwch anfon atom. Diolch i Gwenda Davies, Llanfairpwll (Owen gynt o Lanbedr) a anfonodd ei stori hi: Dieithryn yn y Capel Ar gychwyn y 60au, os cofiaf yn iawn, daeth y Parch T G Ellis a’i briod i fyw yn Lluest, Llanbedr. Gweinidog gyda’r Wesleaid wedi ymddeol oedd o ac fe fyddai yn galw am sgwrs hefo fy nhad i’n cartref ni yn Bodafon yn rheolaidd iawn. Un hynod o glên a difyr ei sgwrs oedd Mr Ellis. Un bore Sul yng Nghapel Moreia, doedd yr un o’r ddwy organyddes yn medru bod yn y gwasanaeth a gofynnwyd i mi fynd at yr organ. Rhaid pwysleisio nad oeddwn yn giamstar am gyfeilio ond yn llawn hyder mi es i drio cyfeilio!! Mae gen i ofn mai digon trychinebus oedd y canu a’r cyfeilio y bore hwnnw. Ar ddiwedd y gwasanaeth sylwais fod dyn dieithr yn eistedd yn un o’r seddau. Doedd gen i ddim syniad pwy ydoedd. Gallwch feddwl sut y teimlwn pan glywais mai Osian Ellis, un o gerddorion a thelynor mwyaf y byd oedd yno’n eistedd ac yn gwrando ar y fath gerddoriaeth. Roedd wedi dod draw am benwythnos at ei rieni i Lluest. Ac yntau newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed anfonais gerdyn ato i Bwllheli i ddymuno’n dda iddo ac i ymddiheuro am y bore Sul hwnnw ar gychwyn y chwedegau!! Tybed os oedd o’n cofio? Sut allai anghofio?
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Stuart, Siân a Richard a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli eu tad Mr John Khoring, Llwynion, gweddw Marian, Siop Newydd gynt. Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Einir Jones, 16 Penrhiw, ar ddathlu pen-blwydd arbennig ar 25 Mawrth. Festri Lawen, Horeb Ym mis Ionawr cawsom gwmni’r Parch Marcus Robinson ac yna yn Chwefror Rhys Gwynn o’r Parc Cenedlaethol. Daeth y tymor i ben ar 8 Mawrth gyda Chinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen 57. Wedi’r gwledda cawsom fwynhad mawr yn gwrando ar Meinir Gwilym yn canu’n swynol iawn. Diolch i Mai, yr ysgrifennydd, am yr holl drefniadau ar hyd tymor llwyddiannus arall. Mawl a Chân Fore Sul 11 Mawrth cafwyd gwasanaeth o Fawl a Chân yn y festri. Trefnwyd y gwasanaeth gan Alma a Rhian ac arweiniwyd y cyfarfod gan Alma. Roedd nifer dda yn bresennol a chafwyd hwyl ar ganu rhai o’r hen ffefrynnau. Cafwyd cân gan Ieuan, Casi ac Elgan ac fe ganodd Ieuan ar ei ben ei hun a Casi ac Elgan efo’i gilydd. Diolch i’r organydd Rhian Dafydd ac i Huw ar y gitâr, ac i Alma a Rhian am drefnu’r cyfarfod. Teledu Yn ystod mis Mawrth ymddangosodd Emrys Jones, Sarnfaen a’i fab Osian ar y rhaglen ‘Coast and Country Auctions’ ar BBC1. Gwelwyd Emrys ac Osian yn gweithio gyda’u cŵn yn Sarnfaen ac yna’n mynd i’r arwerthiant cŵn defaid yn y Bala. Roedd gan Emrys ddau gi i’w gwerthu, Jim a Ross, ac ar waethaf y glaw ofnadwy, perfformiodd y ddau yn ardderchog ac fe’u gwerthwyd am brisiau da iawn i wŷr o’r Alban. Rhaglen ddiddorol iawn.
6
Hefyd, ymddangosodd un arall o blant y Dyffryn, sef Tomos, mab Dei ac Alma, Bryn Coch, ar y rhaglen Celwydd Noeth ar S4C gyda’i ffrind Siân, ac fe lwyddodd y ddau i ennill £5,000. Mae Tomos yn byw ym Methel ac yn gweithio i’r elusen Gisda sy’n helpu pobl ifanc rhwng 16 a 24 sy’n fregus a digartref. Teulu Ardudwy Bnawn Mercher, 21 Mawrth, daeth plant yr ysgol gynradd atom i’r Neuadd Bentref i’n diddanu. Croesawyd y plant a’r athrawon gan Gwennie a chafwyd amser bendigedig yn eu cwmni. I ddechrau, cafwyd cân gan y plant i gyd, yna partïon yn canu a llefaru y darnau roeddynt wedi eu dysgu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Mawr oedd y mwynhad wrth wrando arnynt yn llefaru am y Llau Penna. I orffen canodd y plant emyn. Diolchodd Hilda iddynt yn gynnes iawn am ddod a rhoi cymaint o fwynhad i ni eto eleni. Cawsant ddiod oren a bisgedi cyn dychwelyd i’r ysgol. Tra’n cael te, diolchodd Gwennie i Mrs Bronwen Williams, Harlech, am y rhodd ariannol i’r Teulu er cof am y ddiweddar Mrs Leah Jones a fu’n aelod ffyddlon iawn am flynyddoedd. Diolch Diolch i Brenda, Pentre Canol am ei rhodd o £5 i Llais Ardudwy. Mae Brenda wedi bod yn y Dyffryn am rai wythnosau yn dilyn marwolaeth ei modryb Mrs Jane Jones, Berwyn Byngalo. Tra yma mynychodd yr oedfaon yn Horeb, ymuno â’r Clwb Cinio a Theulu Ardudwy a braf oedd cael ei chwmni. Bydd yn mynd yn ôl am Seland Newydd ddiwedd Mawrth a dymunwn siwrna saff iddi gan obeithio y daw yn ôl i’r Dyffryn eto yn y dyfodol. Diolch Dymuna Meinir a Gwynfor, Eithinfynydd ddiolch yn fawr am y dymuniadau da a’r anrhegion a dderbyniasant ar enedigaeth Gethin Rhys. Rhodd a diolch £10
Clwb Cinio Gan nad oedd yn bosibl i ni fynd i Aberdunant ar 20 Mawrth, daeth criw da iawn i’r Nineteen 57 i fwynhau pryd a sgwrs. Ar 17 Ebrill, byddwn yn mynd i’r Afr yng Nglandwyfach erbyn hanner dydd. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Diolch Dymunaf ddiolch yn fawr iawn i’m teulu a’m ffrindiau am y caredigrwydd a gefais tra bum yn ysbyty Maelor, Wrecsam a hefyd ar ol i mi ddod adref. Gwerfawrogwyd y cwbl yn fawr iawn. Diolch o galon. Jean Edwards, Parc Isaf Rhodd £10
Gwasanaethau’r Sul, Horeb
EBRILL 8 Parch Iwan Llewelyn Jones 15 Dafydd Charles Thomas 22 Elfed Lewis 29 Parch Megan Williams MAI 6 Parch Harri Parri
MAE ANGEN ... Rhywun i ddarparu... Gwasanaethau Arlwyo a Gwasanaethau Goruchwylio i’r Neuadd Gymunedol yng Nghaffi pentref Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont. Anfonwch eich llythyr cais a’ch cv at Ysgrifennydd Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont, Dyffryn Ardudwy, LL44 2BE, erbyn 7 Ebrill. Am wybodaeth/manylion ychwanegol - galwch heibio’r Caffi Cymunedol, mae’n agored rhwng 9.00 a 4.00.
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy MAWRTH 2018
1. £30 Gwyneth Davies 2. £15 Barbara Owen 3. £7.50 Mrs O M Evans 4. £7.50 Eleri Williams 5. £7.50 Llysfoel Davies 6. £7.50 Kirsty Jones Rhodd Diolch i Mr Ray Owen, Tal-ybont am ei rodd o £20 i Llais Ardudwy.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Materion yn Codi Byddwn yn gosod posteri i fyny yn gofyn am wirfoddolwyr i redeg y Clwb Ieuenctid. Ceisiadau Cynllunio Sied - 45 Llwyn Ynn, Tal-y-bont. Gwrthwynebiad i’r cais hwn oherwydd bod gan yr aelodau bryder na fyddai yn gweddu gyda gweddill y tai ar yr ystad. Adeiladu estyniadau ar flaen ac ochr yr eiddo, gosod ffenest to a ffenestri ddormer ar yr edrychiad blaen a chefn, dymchwel simnai a gosod ffliw Gelli, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Datblygu Maes Parcio Rydym yn aros am ateb gan Mr. Gareth Thomas o’r Adran Priffyrdd ynglŷn â lledu’r adwy. Mae swyddog o Barc Cenedlaethol Eryri wedi nodi bod hon yn ardal agored oherwydd bydd y safle wedi cael ei ailwynebu ac hefyd bod parc chwarae newydd wedi cael ei ddatblygu. Diffibriliwr yn Nhal-y-bont Mae’r pris am osod diffibriliwr yn Nhal-y-bont fel a ganlyn: diffib £960, cabinet £402 yn cynnwys TAW a byddai padiau a batris newydd am ddim a byddai trydanwr yn costio o gwmpas £100-200, hefyd byddai 2 sesiwn hyfforddiant yn cael eu cynnal am ddim. Mae’r cynllun wedi ei gymeradwyo. Adran Briffyrdd Byddwn yn cadw toiled Tal-y-bont yn agored. Y pris fydd £4,000 y flwyddyn. Ceisiadau am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - £200 Cyfeillion Ellis Wynne - Dim, am fod ganddynt ddigon yn y banc Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog 2018 - £100 Clwb Pêl-droed Dyffryn Ardudwy - £500
CYNGOR CYMUNED HARLECH
RHYFEL TAID
Mae Ceri Jones yn gynllunydd gyda Chyngor Sir Benfro ac yn dysgu Cymraeg rhan amser i oedolion. Yma, mae’n sôn am ei brofiad wrth ymweld â maes y gad y Rhyfel Byd Cyntaf lle’r oedd ei daid yn ymladd am bedair blynedd. Saif tŷ Fach Wyddel wrth ymyl Ffordd y Llan ym mhentref Dyffryn Ardudwy. Mae’n ardal braf ac mae’r ffordd gul hon yn arwain at Eglwys Llanddwywe ac wedyn draw at y môr. Yn Fach Wyddel y magwyd fy nhaid, Thomas Jones, ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, gyda’i frawd, William Richard Thomas. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr oedd Taid yn rhingyll yn y South Wales Borderers ac mi ddioddefodd ryfel galed yn ardal Ieper, neu Ypres fel yr adnabyddir y dref yn y Ffrangeg, yn Fflandrys. Cafodd ei wenwyno ddwy waith gan nwy mwstard – sy’n gallu dallu dyn – a phan fu farw ym 1976 dim ond un ysgyfaint oedd gynno fo. Darfu iddo golli hanner ei glust hefyd. Mae’n anodd dygymod â’r amodau yr oedd rhaid i Taid, a miliynau o filwyr eraill, eu dioddef yn ystod y rhyfel. Wrth ymyl Ieper, dim ond rhyw bedair milltir o le y symudodd y ffrynt dros ryw 25 o filltiroedd o hyd dros y bedair blynedd erchyll, hynny yw rhyw gan milltir sgŵar i gyd. Ac yn yr ardal fechan hon, yr oedd y ddwy ochr yn pentyrru shells yn ddibaid, rhyw 1.5 biliwn ohonynt i gyd. Mae’r ardal yn fflat iawn ac yn llawn ffosydd dŵr, nentydd, afonydd a chamlesi, ac o ganlyniad i’r holl fomio, yr oedd y system ddraenio’n rhacs: môr o fwd a dŵr. Ac, yng nghanol hyn, yr oedd yr Almaenwyr yn defnyddio bomiau clorîn a mwstard, ynghyd â flame throwers. Nid yn unig yr oedd yr amgylchiadau’n ofnadwy ond mae’n anodd dygymod â beth oedd yn ofynnol i’r milwyr eu hunain ei wneud. Yr oedd Taid yn gyfrifol am wn peiriant, a oedd yn cael ei oeri gyda dŵr gyda thîm o ryw dri o ddynion. Yr oedd y gwn hwn yn gallu saethu chwe chant o fwledi fesul munud. Fodd bynnag, goroesi wnaeth Taid ac ar ôl cyfnod yn Iwerddon ym 1919, daeth yn ôl i Gymru gan fyw ym Mhenrhyndeudraeth lle yr oedd o’n gweithio ar y rheilffordd ac yn magu cŵn defaid. Yr oedd ei frawd, William Richard Thomas ddwy flynedd yn hŷn na Thaid ac yr oedd yn ymladd yn y Royal Lancashire Fusiliers. Fel mae’n digwydd, yr oedd yn ymladd yn yr un ardal, sef Ieper, ac ar ddechrau 1918 yr oedd yn ymladd yng nghyffiniau Coed Polygon, rhyw ddwy filltir i’r dwyrain o Ieper ac yn agos iawn at y ffrynt efo’r Almaenwyr. Mae cofnodion y fyddin yn dweud bod y gatrawd, ar 10 Ionawr 1918, yn agor ffosydd yn yr ardal. Digwyddodd rhywbeth, ni wyddys beth, a chafodd o ei gludo i ysbyty ar Heol Menin, Ieper, gyda nifer o’i gydfilwyr. Bu farw yr un diwrnod gyda dau o’i gydfilwyr ac mi gawsant eu claddu yn y fynwent drws nesaf i’r ysbyty. Ar ei garreg fedd mae’n datgan yn Saesneg, ‘Greater love hath no man than this that a man lay down his life for his friends.’ Es i gyda fy mrawd Russell ar ganmlwyddiant y golled draw i Ieper ac aethon ni i’r fynwent ar 10 Ionawr 2018. Trist, a dweud y lleiaf, oedd gweld y beddau wrth ymyl ei gilydd. Yr oedd yn drist hefyd gweld y diwrnod hwnnw bod blodau ar rai o’r beddau eraill a oedd yn nodi canmlwyddiant colled milwyr eraill. Mae geiriau’n annigonol i ddisgrifio’r sefyllfa. Bu farw’r bardd Hedd Wyn, a oedd yn dod o ochr arall mynyddoedd y Rhinogydd i Taid a’i frawd, yn yr un ardal rhyw chwe mis ynghynt. Mae’n datgan yn ei gerdd enwog Rhyfel bod “Duw ar drai ar orwel pell” ac, yn ôl y bardd, mae dyn “yn codi ei awdurdod hell”. Gallwn ond gobeithio bod dyn yn gallu rheoli ei awdurdod yn well erbyn hyn.
Tendrau Torri Gwair Adroddodd y Clerc nad oedd wedi derbyn ond un tendr gan Mr Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau a chytunwyd i dderbyn y tendr hwn. Penderfynwyd derbyn tendr Mr Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae Brenin Siôr a’r cae pêl-droed eto eleni. Cyngor Gwynedd Bu cwynion am yr or-yrru ar hyd Ffordd Morfa ac mae Freya Bentham wedi cysylltu gyda’r Heddlu ynglŷn â hyn. Ceisiadau Cynllunio Codi sied, newid y fynedfa, waliau cynnal, adeiladu ramp, stepiau, tanc olew a dec coed - Creigiau. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu hafdy yn yr ardd flaen - Tyn y Gwynt, 5 Pen y Bryn. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad ochr a thynnu simdde - Prysg Melyn, Hen Ffordd Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4,604.10 Pwyllgor Hen Lyfrgell - £500 Pwyllgor Neuadd Goffa - £500 Clwb Nofio PBP - dim am fod y Cyngor yn cyfrannu cymaint at y pwll. CFfI Meirionnydd - dim am ei fod allan o’r ardal ac arian yn brin. Cyfeillion Ellis Wynne - dim am fod ganddynt ddigon yn y banc. Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog - dim - allan o’r ardal, arian yn brin. Adran Briffyrdd Byddwn yn cadw’r toiled ym maes parcio Bron y Graig Isaf yn agored drwy’r flwyddyn, y toiled ger y Tafarn y Frenhines a maes parcio Min y Don yn agored am 6 mis o’r flwyddyn am y swm o £8,000. Gwesty Dewi Sant Mae’r Parc Cenedlaethol wedi penderfynu gofyn i’r perchennog ddymchwel yr adeilad. Llwyddwyd i erlyn y perchennog am yr uchafswm o £1,000. Mae Awdurdod y Parc yn awr yn partatoi am erlyniad pellach; bydd y ddirwy dipyn uwch na £1,000 y tro hwn os bydd yn llwyddiannus. UNRHYW FATER ARALL Nid yw rhai o’r goleuadau ar Ffordd Morfa yn gweithio; cytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater yma. Mae coeden wedi disgyn ar lwybr Pen-y-graig. Nid oes arwyddion Cymraeg o amgylch y cwrt tenis. Cytunwyd i anfon nodyn i sylw Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy. Pan fydd bysiau yn parcio ym maes parcio Bron y Graig Uchaf ni fydd lle i rai gyda thocyn parcio aros yno. Mae angen gwneud maes parcio yr Hen Ysgol yn un arhosiad hir yn lle byr. Mae’r llwybr sy’n mynd o’r Coleg i’r traeth yn drwm gyda baw cŵn. Mae angen symud y bin baw cŵn. Mae’r bin baw cŵn ger Parc Bron y Graig yn llawn ac mae bagiau baw cŵn yn frith ar y llawr. Cytunwyd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799
www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 7
HARLECH Sefydliad y Merched Ar nos Fercher, 14 Mawrth croesawyd pawb gan Jan Cole. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys Meinir Lloyd Jones, Cadeirydd y Ffederasiwn ac 80 o aelodau o Bermo, Llanfair, Deudraeth a Ffestiniog; hefyd 10 aelod o Fand Arian Harlech dan arweiniad Ceri Griffith. Yr oedd y Neuadd yn edrych yn wych gyda byrddau a’r llwyfan wedi eu haddurno gyda chennin Pedr, a phawb yn derbyn cennin wedi eu creu, hefyd rhuban piws at y cennin gan ei fod yn ganmlwyddiant mudiad y Suffragettes. Roedd yr aelodau wedi bod yn brysur iawn yn creu’r cennin. Roedd bore coffi Apêl Denman yn Llanfair wedi gwneud elw o £167.05 at yr achos. Ar ôl y busnes, cafwyd cyngerdd gwych gan Fand Arian Harlech; rhaglen ardderchog gan yr aelodau i gyd gyda Sheila Maxwell yn cyflwyno’r grŵp. Rhoddwyd y diolchiadau ar ran yr aelodau gan Edwina Evans, a rhoddwyd diolch arbennig i Ceri Griffith am yr holl waith ac oriau yr oedd hi yn eu rhoi i’r Band. Ar ôl y cyngerdd, cafwyd gwledd o gawsiau Cymraeg, bisgedi, bara brith, teisenni cri a ffrwythau. Rhoddwyd y diolchiadau gan y gwahanol ganghennau o Sefydliad y Merched am noson i’w chofio, a phawb yn edrych ymlaen at y Noson Gymreig yn 2019. Croeso i unrhyw un ymuno â ni ar yr ail nos Fercher o bob mis; y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa, Harlech am 7.00 o’r gloch.
Llongyfarch Llongyfarchiadau gwresog i Aron a Becky Payne (Min y Don, gynt) ar enedigaeth merch fach yng Nghaerdydd, Esme Olivia ar Chwefror 2 yn 5 pwys a 14 owns. Dymuniadau gorau i’r teulu bach newydd.
Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus iawn i Gwynn Jones, 23 Y Waun a fydd yn 70 oed ar Ebrill 23. Gobeithio y cei di ddiwrnod i’w gofio, Gwynn. Pob bendith i ti gan y teulu i gyd. Rhodd a diolch £10 Gwynn a Hazel Jones Genedigaeth Llongyfarchiadau cynnes iawn a dymuniadau gorau i Dafydd Ifan a Bethan ar enedigaeth eu mab bach, Deio Ifan ar Mawrth 6, hefyd llongyfarchiadau i Nain a Taid, sef Ifan a Helen Pritchard 26 Tŷ Canol, Harlech. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn yn ddwys iawn gyda Hefin Jones a theulu Arfor yn eu profedigaeth drist o golli Gwenda. Roedd yn wraig ddymunol a siriol iawn bob amser ac yn cynrychioli popeth da yn y gymuned, gan gefnogi nifer fawr o gymdeithasau. Bydd chwith mawr ar ei hôl mewn sawl cymdeithas yn yr ardal.
Llongyfarch Llongyfarchiadau i Iwan Evans a Siôn Williams ar ddod yn 3ydd yn eu dosbarth, ac yn 6ed drwy’r gystadleuaeth yn Rali Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Nolgellau yn ddiweddar. Dim ond ei 3ydd rali oedd hon i Siôn sy’n wreiddiol o Landecwyn. Subaru ydi’r car sydd ganddyn nhw fel y gwelwch yn y llun uchod.
8
Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus iawn i Karen Kerry [KK i’w ffrindiau!], 33 Tŷ Canol a fydd yn dathlu penblwydd arbennig iawn ar Ebrill 23. Mi fydd yna ddathlu go arw! Llawer o gariad gan dy deulu a dy holl ffrindiau. A mwynha dy wyliau yn Butlins efo’r merched! Pen-blwydd Pen-blwydd hapus iawn a’n dymuniadau gorau i Mary Williams (Mary Groes Lwyd) sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ar Ebrill 16.
Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at Mary [Byrdir gynt] yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr Alun Lloyd Williams o Gaernarfon [gynt o Fferm Rhwngddwyafon, Cwm Pennant]. Teulu’r Castell Yn anffodus, nid oedd aelodau Teulu’r Castell yn gallu mynd i Ysgol Tanycastell ddydd Mawrth 20fed o Fawrth, ond maent yn cael mynd i’r ysgol ym mis Mehefin. Capel Jerusalem EBRILL 29 Parch Dewi Morris am 2.00 o’r gloch Croeso cynnes i bawb!
PEN-BLWYDD ARBENNIG
Braf oedd cael cwmpeini Iola a Bronwena i ddathlu. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’m teulu a’r ffrindiau a ddaeth atom i Ystafell y Band, bnawn Sadwrn Mawrth 17, i ddathlu fy mhen-blwydd arbennig yn 80 oed. Braf oedd gweld cymaint wedi gwneud yr ymdrech a’r tywydd mor arw - rhai wynebau nad oeddwn wedi eu gweld ers peth amser. Byddaf yn trosglwyddo y rhoddion pen-blwydd a gefais, yn gyfanswm o £275 i Gronfa Pwll Nofio Harlech. Diolch i bawb am eich haelioni. Rhaid inni ddod at ein gilydd yn amlach. Diolch eto. Bethan Rhodd a diolch £10
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN TREM YN ÔL
Merched y Wawr Cafwyd noson i ddathlu Gŵyl Ddewi yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 5 Mawrth a chroesawodd y Llywydd, Siriol Lewis aelodau Cangen Harlech a Changen Bermo atom i gyd-ddathlu’r achlysur, a chafwyd noson gymdeithasol braf yng nghwmni’n gilydd. Mwynhawyd lluniaeth o gawl cennin, bara Ffrengig a dewis o gacennau gyda phaned i orffen, cyn croesawu Band Arall a chael orig o adloniant gwych a chyfle i ganu rhai o hen ffefrynnau gyda’r Band.
Talsarnau a’i hamgylchedd Y diwrnod cyntaf o Fawrth, 1861, bu farw E Richard, drwy foddi yn y Traeth Bach, ac ni chafwyd hyd i’w gorff er pob ymdrechion. Ar y 13eg drachefn, hysbyswyd am farwolaeth W Evans drwy losgi. Digwyddodd hynny mewn llai na milltir i’r fan y boddodd y llall. Ar yr 26ain o’r un mis hysbyswyd fod merch ifanc wedi rhoi genedigaeth i blentyn rhwng Harlech a Thalsarnau, a’i bod wedi gwneud rhywbeth iddo. Cymerwyd y ferch i fyny, a chafwyd hyd i gorff y baban wedi ei gladdu mewn gardd. Traddodwyd y fam i garchar y sir, i aros ei phrawf. Tra yr oeddynt allan mewn cerbyd o amgylch y Glyn, ei phreswylfod, Medi 1, cyfarfu yr Arglwyddes Harlech ac Arglwyddes Maud Seymour â damwain ddifrifol, yr ail yn ystod pythefnos o amser. Ymddengys ddarfod i ddefaid oedd yn rhedeg ar draws y maes cyfagos ddychryn y ceffylau nes peri iddynt redeg ymaith yn wyllt, a chollodd y gyrrwr pob llywodraeth arnynt. Aeth yr olwynion mewn gwrthdrawiad â’r wal oedd ar ochr y ffordd, a dymchwelwyd y cerbyd. Taflwyd yr Arglwyddes Seymour ynghyd â’r gyrrwr, allan, ond claddwyd yr Arglwyddes Harlech o dan y cerbyd, a derbyniodd niweidiau trwm. Cynorthwywyd hi allan o’i sefyllfa beryglus gan yr Arglwyddes Seymour (yr hon oedd yn ddianaf), ynghyd ag ychydig chwarelwyr oedd wedi ymgasglu i’r fan. Yr oedd y gyrrwr yn ddideimlad, a pharhaodd felly am beth amser. 10/9/1881
Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf â Cassie Hughes, 2, Cifor Diolchodd Siriol i bawb am ddod, ac i Band Arall am ein diddori. a Sian a’r teulu, Dinas Mawddwy Tynnwyd y raffl ac enillwyd nifer o wobrau gan aelodau pob cangen. yn eu profedigaeth drist o golli Cyflwynwyd y diolchiadau i Gangen Talsarnau, ar ran aelodau Gwenda; chwaer a modryb Harlech gan Hefina Griffith a chan Glenys Jones, ar ran aelodau annwyl ganddynt. Bermo. Roedd colli Gwenda o’n plith tra bu’n wael ei hiechyd yn Capel Newydd - oedfaon am 6:00 Rhodd EBRILL Diolch i Mrs Deborah Williams, ddiweddar yn anodd iawn i 15 - Dewi Tudur Gwrach Ynys am ei rhodd o £20 lawer ohonom yn yr ardal a 22 - Dewi Tudur gallwn ddychmygu maint y i Llais Ardudwy. 29 - Dewi Tudur golled i Hefin a’r teulu. Rydym MAI yn meddwl am y teulu oll. Neuadd Talsarnau 6 - Trystan Hallam Rydym yn cofio hefyd am Sally Capel anenwadol ydy Capel GYRFA ac Emyr yn Ynys Môn. Newydd. Nid ydym yn perthyn i unrhyw enwad na fudiad. Rydym yn credu mai ein braint ydy cael addoli Duw a Thad ein Harglwydd, Iesu Grist.
CHWIST Nos Iau, Ebrill 12 am 7.30 o’r gloch
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
Neuadd Gymuned Talsarnau
Cyfarfod Cyhoeddus Cynhelir cyfarfod blynyddol y pwyllgor rheoli Nos Lun, 23 Ebrill am 7.30 Mae’r cyfarfod yma yn agored i bawb a gwerthfawrogir eich presenoldeb yn fawr.
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU
MATERION CYNGOR GWYNEDD Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am y llecyn parcio ger Capel Soar. Cytunwyd i nodi ein gwrthwynebiad. Gosodir y llygaid cathod ar ganol y ffordd ger Tregwylan yn fuan. Caiff y llinellau gwyn sydd heb gael ei gwneud eu hailbeintio ar ôl yr ailwynebu. Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500 CFfI Meirionnydd - £100 Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog - £100 Taith Feicio Elfyn a Caryl - £250 (allan o Gronfa’r Cadeirydd) Cyfeillion Ellis Wynne - Dim am bod ganddynt ddigon yn y banc Clwb Nofio PBP - Dim, am bod y Cyngor yn cyfrannu gymaint at y pwll lleol Adran Briffyrdd Nid yw Cyngor Gwynedd yn ymwybodol o unrhyw ofynion cyfreithiol sy’n gorfodi ffermwr i osod giât mochyn ar y lleoliad. Mae’r llwybr troed yn agored. Nid oedd y Cyngor yn hapus gyda’r ymateb a chytunwyd i godi’r mater gyda’r swyddog perthnasol. Mae Archwiliwr yr ardal wedi trefnu i lenwi’r tyllau ar ystad Bryn Eithin dros dro. Gobeithir y bydd yr ystad ar y rhestr ailwynebu yn y flwyddyn ariannol newydd. Comisiwn Ffiniau Mae’r Comisiwn yn awgrymu bod ward Harlech a Talsarnau yn ymuno hefo Ward Llanbedr a Llanfair i greu un ward gyda dau Gynghorydd Sirol yn ei chynrychioli. Datganodd yr Aelodau eu bod yn hapus gyda’r cynigion hyn. UNRHYW FATER ARALL Bu cwyno ynglŷn â’r ffaith bod y clybiau ieuenctid yn mynd i gau ac nad oedd y Cynghorau wedi cael y llythyr ynglŷn â’r mater yn ddigon buan.
9
Y BERMO A LLANABER
Glanhau traeth y Bermo Ddydd Sul, 25 Mawrth, cliriodd cwir o aelodau’r Sea Shepherd UK, ar y cyd â’r glanhawyr traeth lleol, Gwarchodwyr Traeth Cambria, 110kg o blastig, rhaff a sbwriel morol arall o draeth y Bermo. Ymunodd 75 o wirfoddolwyr o bob cwr o’r wlad â bobl leol i gasglu’r sbwriel peryglus o’r traeth a’r twyni tywod. Ymunodd llawer o berchnogion busnes y dref, yn cynnwys tair cenhedlaethol o’r teulu Radford o Westy Ocean Drive, Paul Conroy a Liz Williams o’r Gym, Kristy Corbett o’r Fussy Cow a’r teulu Brown, Bryn Melyn. Rhoddwyd bathodynnau Sea Shepherd i blant fel diolch yn ogystal â chacan siocled fegan cartref a wnaed gan y Caffi Cymunedol, Neuadd Bentref y Dyffryn. Corff byd-eang yw Sea Shepherd sydd wedi ymrwymo i warchod bywyd y môr drwy weithredu uniongyrchol. Maen nhw wedi bod yn flaenllaw yn y frwydr yn erbyn pysgota anghyfreithlon ac achub morfilod ledled y byd. Bellach maen nhw’n berchen ar lynges breifat fwya’r byd sydd i gyd yn cael ei gweithredu gan wirfoddolwyr, trwy werthu cynnyrch, a rhoddion uniongyrchol. Trwy ymuno â Gwarchodwyr Traeth Cambria yn lleol i lanhau’r traeth gwarchodir un o ddim ond pump o safleoedd magu dolffiniaid trwyn potel yn y DU yma ym Mae Ceredigion. Mae un bag creision yn gallu lladd mamaliaid y môr ac fe all cyn lleied â 7g o sbwriel ladd aderyn y môr.
Ymysg y darganfyddiadau difyr a gafwyd roedd hen gapiau pacedi Smartie, teganau soldiwrs, falf wydr i radio, bwledi o WW2, pacedi creision 40+ oed, poteli hylif golchi llestri o gyfnod yr hen bres, pot halen o Sbaen, tagiau cewyll cimychiaid o Ganada, potel Coke yn dathlu’r Briodas Frenhinol yn 1981 a photel lefrith wydr o Hufenfa Meirion, Rhydymain, sydd wedi cau bellach ers rhai degawdau. Mae llawer o bobl leol yn codi sbwriel eu hunain, ac wrth wneud hynny maen nhw’n arbed miloedd o fywydau yn yr amgylchedd morol. Mae plastig yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i fynd o’r amgylchedd, gan ladd miliynau yn y cyfnod hwnnw, yn gwenwyno dŵr a hyd yn oed ein cadwyn fwyd ni ein hunain. Mae Gwarchodwyr Traethau Cambria wedi casglu 862kg o sbwriel eleni ac maen nhw’n cyhoeddi dyddiadau sesiynau glanhau traethau ar eu tudalen Facebook. Cewch fwy o wybodaeth ar Sea Shepherd, yn cynnwys sut i gyfrannu at eu hymgyrchoedd ledled y byd, ar www.seashepherd.org.uk. Beth am fynd am dro i lan y môr a chodi tri darn o blastig bob tro, neu beth am ymuno â’r criw y tro nesaf a chyfrannu at warchod ein hamgylchedd ni yma yn Ardudwy?
10
Merched y Wawr Cawsom ein croesawu i gyfarfod mis Mawrth gan Llewela, ein llywydd. Diolchodd i Gwenda a Heulwen am ddarllen rhifyn Ionawr a Chwefror o Llais Ardudwy. Cawsom enwau ar gyfer yr Ŵyl Rhanbarth yn Nhrawsfynydd. Trefnwyd taith gerdded gan aelodau Llan Ffestiniog ar 15 Mehefin. Derbyniasom lythyr diddorol gan ddysgwraig, sef Liz Corbett o Awstralia. B u ar ymweliad â Chymru yn 2015 a 2017 a bu mewn sawl noson gydag aelodau Corris a Bro Ddyfi. Edrychwn ymlaen at ei chwrdd a chael mwy o’i hanes yn ystod ei hymweliad yma rhwng mis Awst a mis Tachwedd eleni. Cynhelir noson y dysgwyr ar 24 Mai yn Neuadd Llanegryn. Roedd gweddill y noson yng ngofal medrus Llewela. Cawsom ddarlleniadau, penillion a gwybodaeth am draddodiadau gwahanol wledydd yn ymwneud â dydd cyntaf y gwanwyn. Yna cawsom gwis cerddorol, a brofodd yn dipyn o her. Diolchodd Grace i Llewela am noson gartrefol a hwyliog. Yn dilyn cafwyd paned a chyfle i fwynhau sgwrs. Ar 17 Ebrilll edrychwn ymlaen at noson yng nghwmni’r dysgwyr; croeso cynnes i bawb. Sefydliad y Merched y Bermo Cynhaliwyd cyfarfod mis Chwefror ar noson arbennig o oer yn ystod y tywydd garw. Croesawyd 29 o aelodau a chyfeillion ac yn arbennig Jan Cole a Sue Wager oedd wedi teithio o Harlech, gan Mari O’Rourke, yr Islywydd.
Cafwyd gwledd o ddatganiadau ar y delyn gan Chris Knowles. Chwaraeodd nifer o alawon Cymreig gan gynnwys “Ar y Traeth yn y Bermo” a gyfansoddwyd gan Dafydd Roberts, y Telynor Dall, a fu’n byw yn y Bermo. Diddorol oedd clywed bod Chris yn berchen ar delyn a oedd yn eiddo i Dafydd Roberts. Dilys Williams o Abergynolwyn oedd y siaradwraig yn ein cyfarfod ar Mawrth 28. Pennawd ei sgwrs oedd Magic Lantern and Victorian Reality. Rhoddodd hanes y llusern hud yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pryd y byddai lluniau yn cael eu defnyddio i anfon negeseuon cymdeithasol gyda phwyslais arbennig ar effaith alcohol. Dyma oedd cychwyn y Band of Hope a’r Gymdeithas Ddirwest. Dangosodd nifer fawr o sleidiau difyr i ni. Diolchwyd iddi gan Susan Wallace. Atgoffwyd yr aelodau gan Jacqui Puddle, y Llywydd, am y digwyddiadau sydd i ddod gan gynnwys cwis yn Nolgellau, Cyfarfod y Gwanwyn ym Mhenrhyndeudraeth, digwyddiad y gwanwyn yn y Bala, a’r trip haf i Ynys Môn. Manylion pellach gan Janet Davies. Llongyfarchwyd Pauline Roberts am ennill cystadleuaeth Scrabble y Sir. Diolchwyd i Anne, Carol a Val am y lluniaeth blasus. Enillwyd y raffl gan Geraldine, a’r blodau gan Mary.
Teyrnged i Dr Gareth Williams Ganwyd Dad yn Lerpwl ar Medi 24, 1933 yn unig blentyn i Gwyneth a Richard Morris Williams. Roedd Taid yn feddyg yn y ‘Liverpool Royal Infirmary’ pan anwyd Dad. Wedyn daeth Taid yn feddyg teulu yn Harlech. Ym Mryn Meillion, Harlech y magwyd Dad a chafodd ei addysg gynradd yn Harlech. Gan fod cadw reiat a chwarae pêl-droed ac ati’n bwysicach o lawer ar y pryd, methu â phasio ei 11+ oedd ei hanes, ac aeth i’r ysgol uwchradd yn Nolgellau. Yno yn 1950 y cyfarfu â Mam, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams. Ar ôl pasio’i arholiadau Lefel A ymunodd â’r llu awyr. Roedd wrth ei fodd yn y llu awyr, ond pan ddaeth ei gyfnod i ben, dilyn ôl traed ei Dad a wnaeth gan fynd i’r brifysgol yn Lerpwl i astudio meddygaeth. Ar ôl graddio, cafodd swydd fel ‘Houseman’ fel Taid o’i flaen o yn yr Infirmary yn Lerpwl. Roedd Mam hefyd yn gweithio yno fel sister yn yr adran ddamweiniau. Priodwyd Mam a Dad yng Nghapel Mawr, Amlwch ar Gorffennaf 29, 1961 ac ymgartrefu yng Nghaer. Deunaw mis yn ddiweddarach, ganwyd Richard - yntau hefyd, fel Dad, yn yr Infirmary. Pan oedd Rich yn 7 mis oed, cafodd Dad ei swydd gyntaf fel meddyg teulu yn y Bermo ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ganwyd Hywel. Saith mlynedd wedyn, a Dad, Mam, Rich a Hywi erbyn hynny wedi ymgartrefu yng Nghraig-yrWylan, Llanaber, fe landies i! Mae ’na si, bod yna gysylltiad genetig cryf rhwng Dad a chymeriad Action Man. Er nad oes tystiolaeth bendant i gadarnhau hyn, mae’r ffaith bod y ddau ohonynt yn debyg iawn o ran maint a thaldra yn gwneud i rywun amau’n gryf bod y straeon yma’n wir, a bod Action Man rhywsut neu’i gilydd yn perthyn i’n teulu ni! Mae’n debyg bod ’na fwy nag un enghraifft lle roedd nodweddion yr Action Man yn amlwg yn ystod gyrfa Dad. Dwi’n meddwl fy mod i’n gywir i ddweud mai fo oedd y meddyg cyntaf ym Mhrydain i gael ei ‘winsho’ allan o hofrennydd, pan gafodd ei alw at gerddwr oedd wedi disgyn ar un o’r Rhinogydd. Cafodd ei alw i ddigwyddiad arall ar y Rhinog Fach a’r tro hwnnw bu’n
tynnu coes a chwarae triciau ar ambell i aelod o’r côr. Heb fynd i ormod o fanylder, fo mae’n debyg oedd tu ôl i’r gwahoddiadau ‘answyddogol’ i ‘Barti Coctêls y Capten’ ar daith y côr i Denmarc. Doedd y ‘llysgenhadon’ diniwed a ddewiswyd yn arbennig gan y ‘capten’, ddim callach mai Dad oedd y gŵr o dan yr het, yr iwnifform wen a’r locsyn coch pan ymddangosodd ‘swyddog meddygol’ y llong i gynnal archwiliad meddygol ar yr hogia. Ni wnaf ddatgelu pwy oedd y llysgenhadon na chanlyniad yr ‘archwiliad meddygol’, ond er mawr siom, a chywilydd i’r hogia ni chawsant y fraint o rannu yr un coctêl gyda’r capten ar y daith honno nac unrhyw daith arall Roedd hefyd wrth ei fodd yn rhaid iddo fynd gyda chlaf yn yr chwaith! sgïo, ac felly yr oedd yn treulio’i hofrennydd i’r adran gofal dwys Mae gennyf go arall o fynd efo yn Lerpwl. Wrth agosáu at ddinas wythnos o wyliau blynyddol, Mam i wrando ar y côr yn canu hefo gweddill y teulu in-tow yn Lerpwl, a chyda bywyd y claf yn yn Chwarel Hen Llanfair, pan ymweld â llethrau Ewrop a thu y fantol, daeth yn amlwg nad yng nghanol crescendo cân olaf hwnt. oedd y peilot na’r co-peilot yn hanner cyntaf y gyngerdd (ac Mae’n debyg bod nifer ohonoch gyfarwydd â’r ddinas na lleoliad un o denoriaid rhes flaen y côr yr ysbyty. Gan fod Dad yn nabod yn gwybod ei fod hefyd yn hoff ar goll), rhuthrodd gorila mawr iawn o bysgota ac wrth ei fodd y lle fel cledr ei law, bu raid blewog (wel, gorila bach blewog yn treulio’i benwythnosau (pan iddo gamu i mewn i esgidiau’r oedd o i ddweud y gwir) o’r nad oedd ar alwad) yn castio’i navigator. Penderfynodd bod cysgodion gan ‘ymosod’ ar yr ganddyn nhw ddwy opsiwn o ran wialen ar Lyn Perfeddau neu ar hen ddiarwybod Eddie Pentra. lannau’r afon Artro. Roedd yn glanio’r hofrennydd. Y cyntaf Er mawr gywilydd i mi a Mam, ffrindiau mawr hefo’r diweddar oedd Goodison Park (cae pêlmi oedd y ddwy ohonom wedi Eddie Pentra, Russell Hughes a droed Everton) a’r ail opsiwn adnabod cerddediad y bwystfil Tudor Thomas. Gwyddai sawl oedd trac rasio Aintree - cartref bach yn syth. Roedd wyneb Eddie un am ‘antics’ a drygioni Dad y Grand National. Gan ei fod Pentra druan yn bictiwr a Dafydd a’i fêts wrth geisio cael mantais yn cefnogi tîm Everton ac nad dros yr hen eog diniwed! Gallwn Bryn wedi cynhyrfu’n lân wrth oedd eisiau difetha’r cae, a chan geisio cadw decorum a threfn ar gyfeirio at un digwyddiad yn fod ganddo lai o ddiddordeb arbennig pan gafwyd ‘anghydfod’ chwerthin yr hogia a’r gynulleidfa! mewn rasio ceffylau, mi aeth ati Fe weithiodd yn galed dros y rhwng Eddie Pentra a Tudor a’r i gyfeirio’r peilot a’i hofrennydd blynyddoedd, ond mi chwaraeodd cipar! Er ei fod yn ddyn bach i ganol trac Aintree er mwyn yn galed hefyd a chael lot o sbort o ran maint, roedd yn eithaf trosglwyddo’r claf i’r ambiwlans a thynnu coes. Ymddeolodd fel oedd, erbyn hynny, yno’n disgwyl chwim ar ei draed, a llwyddodd meddyg teulu o Feddygfa Minfor i osgoi’r ‘anghydfod’ (a goleuni’r amdanyn nhw. y Bermo ym mis Awst, 1992. Yn Ar ddechrau’r 80au, cafodd ei alw lamp), drwy ddianc nerth ei anffodus oherwydd ei iechyd, ni draed a phlymio ar ei ben i’r ffos at ddigwyddiad ar draeth Benar, chafodd lawer o gyfle i fwynhau ei lle’r oedd bachgen 16 mlwydd oed nes bod y perygl wedi pasio. Yn ymddeoliad. Cafodd gystudd hir wedi cael ei gladdu o dan dunelli ddiweddarach, tra bod Eddie a blin a rhaid diolch yn fawr iawn a Tudor ar ‘ymweliad’ â gorsaf o dywod wrth iddo gloddio i Mam am ei gofal tyner ohono heddlu Dolgellau, mi oedd Dad twll ar lan y môr. Yn anffodus, wedi dianc dros fryn a dôl tuag at dros y blynyddoedd. bu’r bachgen ifanc farw, ond Rydym fel teulu’n ddiolchgar derbyniodd Dad, ynghyd â dau o Cefn Uchaf. Rhaid diolch i Evie iawn i bawb am y caredigrwydd fois brigâd dân y Bermo wobr gan Morgan am y tacsi adra’r noson a’r cydymdeimlad a ddangoswyd honno. A gwir yw dweud, bod y Royal Humane Society am eu Dad wedi cael tipyn llai o bregeth yn ein profedigaeth o golli Dad. hymdrechion wrth geisio achub Diolch hefyd am y cyfraniadau gan Mam na gafodd Eddie a ei fywyd. Tudor gan Gwladys a Marian ar ôl tuag at Gronfa Bad Achub y Yn ystod ei amser hamdden, Bermo er cof amdano. dychwelyd adra’r bore wedyn! roedd yn mwynhau ystod eang Siân Bu Dad hefyd yn aelod o Gôr o chwaraeon. Roedd wrth ei Rhodd a diolch £10 Meibion Ardudwy, ac mi wn ei fodd yn chwarae tenis, cerdded Ein gwron a fu Gareth - y meddyg fod wedi cael llawer iawn o hwyl mynyddoedd ac yn chwarae a Â’r moddion at bopeth, dros y blynyddoedd yn canu a gwylio rygbi. Pan oedd yn iau, Ynddo fo ceid yn ddi-feth theithio i wahanol lefydd gyda’r chwaraeodd i dimau’r llu awyr, y Rhyw swynol wir wasaneth. brifysgol ac i Glwb Rygbi Harlech. hogia. Mi oedd wrth ei fodd yn Tecwyn Owen
11
Bws anghywir efo’r Rwsiaid Aeth Mair a fi ar wyliau i’r Costa Brava, Catalonia un tro. Ar y noson gynta aethom ar fws llawn o ymwelwyr o Rwsia i dreulio gyda’r nos mewn rhyw gastell ffug, anhebyg i gastell Harlech! Doedd gan gondyctor y bws fawr o Saesneg. Roedd ffordd bell a serth i fyny o’r arfordir nes cyrraedd y lle, a’r bws yn aros i godi rhagor o deithwyr ar hyd y ffordd. Roedd yn dywyll erbyn i ni gyrraedd a rhoddodd y condyctor gyfarwyddyd i bawb, gan bwyntio at enw’r cwmni oedd ar ffenest flaen y bws, mewn iaith nad oeddem ni ein dwy yn ei deall, ynglyn â’r daith yn ôl ar ddiwedd y noson. Yna, i ffwrdd â ni i fwynhau’r noson. Roedd byrddau anferthol wedi eu gosod ar ein cyfer yn llawn o bob math o ddanteithion, a llwyfan hefo adloniant amrywiol o ganu a dawnsio a rhyw Houdini o foi yn gwneud pob math o driciau, yn cynnwys cau ei hun mewn cês bach oedd ond ddigon mawr i gath. Ar y diwedd, dyna ni’n dilyn y dorf anferthol eto tuag at lle oedd ein bws wedi ein danfon yn gynharach. Erbyn hyn roedd tua ugain o fysus yn aros, ac i mewn â ni i’r bws cyntaf welsom hefo’r enw priodol ar ei ffenest. Unwaith eto Rwsiaid oedd y teithwyr eraill i gyd. Yr unig wahaniaeth oedd mai dynes oedd y condyctor tro yma ond roedd Mair yn ffyddiog fod y condyctor arall wedi dweud nad y fo fyddai hefo ni ar y bws yn mynd yn ôl. Cychwynnodd y bws ar daith hirfaith gan aros i ollwng pobl oddi arno ar hyd y daith. Yn y diwedd, doedd ond Mair a fi a’r gondyctres ar ôl! Ar ôl trafod mawr a chwifio breichiau a ballu cawsom ddeall mai y stop nesaf oedd pen y daith! Roedd hi’n un o’r gloch y bore ac roedd y ddynes Rwsian wedi gwylltio’n racs hefo ni! Er nad oeddem yn bell, fel hêd y frân, o ardal ein gwesty, doedd yr un ffordd yn arwain yno dros y tirwedd garw (Costa Brava ydi o yntê!) ac roedd milltiroedd maith o daith fel arall. Y diwedd fu i ddreifar y bws dosturio wrthym a mynd â ni yr holl ffordd adref hefo’r bws! Anwen Roberts
STRAEON AR THEMA Thema’r Mis: Teithio
Rhiannon a Macbeth Neidio ar y trên Roedd Macbeth a Rhiannon Spoonley o Harlech yn teithio i Borthmadog ar y trên a hithau’n ddiwrnod braf. Dyma benderfyu y buasai’n syniad da iddyn nhw gerdded yn ôl i stesion Minffordd a dal y trên i Harlech o’r fan honno. Dyma wneud hynny, cyrraedd Minffordd a neidio ar y trên yn unol â’r cynllun. Ymhen sbel mi welson nhw eu bod wedi cyrraedd yn ôl i stesion Port! Ond peidiwch â dweud wrth neb! Darren Williams Cawl tenau Roedden ni ar daith efo Côr Meibion Ardudwy ym 1990 ac yn crwydro ardal Conamara. Aethom i dafarn yn Oughterard i brynu cawl [a Guinness] i ginio. Cawl blasus oedd o hefyd. Fel roedden ni’n gorffen y cawl, daeth Jack Carson, Llion ac Oscar i mewn. Dyma nhw’n holi, ‘Be gawsoch chi i’ fyta?’ ‘Cawl llysiau! Un da ydy o hefyd.’ [Mae rhai yn taeru mai hwn yw’r unig fath o gawl sydd i’w gael ar yr Ynys Werdd!] Mi benderfynon nhw archebu’r cawl. Pan ddaeth cawl yr ail set o bedwar i’r bwrdd, roedd yn amlwg fod y cogydd wedi cyrraedd gwaelod y sosban, oherwydd cawl dyfrllyd iawn gafodd ein cyfeillion!
PM
Siopa Roedd Carys, fy niweddar wraig wedi mynd i Gaer i siopa gan adael ei char yng Nghyffordd Llandudno. Tua 5.00 y pnawn mi ges alwad ffôn ganddi. ‘Lle’r wyt ti?’ ‘Bangor.’ ‘Be wyt ti’n ei wneud yn fanno?’ ‘Mi gysgais ar y trên ar y ffordd adref ac mi ddeffrais i yn Llanfairfechan!’ Bu raid i mi fynd i Fangor i’w nôl hi a wedyn teithio i Landudno i nôl y car! Bili Jones
Llun del Ar fordaith oedden ni ac roedd Gwenan wrth ei bodd yn y gwersi arlunio. Un pnawn fe ddaeth yn ôl i’r caban efo’r llun a wnaed ganddi a’i osod ar y bwrdd gwisgo. Pan ddaethon ni yn ôl i’r caban wedi swper, roedd y forwyn wedi gosod y llun ar wal y caban - â’i ben ucha’n isa’. Chwerthin ddaru Gwenan. JBW Y testun ar gyfer rhifyn mis Mai fydd ‘Ffermio’.
12
Cawl oer Cwynodd y diweddar Sulwyn Roberts fod ei gawl yn oer rhyw amser cinio mewn tafarn yn Iwerddon. Roeddwn i wrth y bar ac yn gweld drwodd i’r gegin. Yr hyn a welais oedd perchennog y dafarn yn rhoi ei fys yn y cawl er mwyn mesur ei dymheredd! Mae’n dda fy mod wedi cadw’r gyfrinach rhag Sulwyn neu mi fuasai croen y Gwyddel ar y pared! Bili Jones Bagbip Roedd Dafydd Lewis, Warin yn yfed mewn tafarn yn Kilkenny, rai blynyddoedd yn ôl, a ninnau’n gwrando ar offerynnwr yn creu sŵn drwg hefo offeryn traddodiadol debyg iawn i fagbip - y pibau uilleann. ‘Mae hwn yn swnio’n union fel pe bai’n gwasgu’r gath’, meddai Sulwyn Roberts. ‘Y peth nesaf welwn ni fydd neidr yn codi o’r fasged ‘na,’ meddai Dafydd, gan gyfeirio at fasged wiail yng nghornel yr ystafell, a chyn pen dim, roedd Dafydd eto wedi fy ysbrydoli i weithio englyn i’r achlysur: Aeth ‘Warren’ i Kilkenny - i wylio Band Gwyddelig wrthi; Yn hwyl y diwn ffidl-i-di Ei neidr fynnodd godi.
Rheoli traffig Yn Amsterdam efo Côr Ardudwy yn ystod y 90au oedden ni ac mi gawsom drafferth efo’r traffig. Heb lol aeth Ifor Thomas [Ifor Fawr] allan a sefyll yng nghanol y ffordd fel plismon a stopio pawb er mwyn i ni fedru mynd yn ein blaenau. Cymeriad a hanner oedd Ifor. PM Dim fisa Roedd Gerallt Rhun a minnau ar fin teithio o Helsinki i St Petersburg pan welson ni nad oedd gennym fisa. Camgymeriad gweinyddol oedd yn gyfrifol am hynny. Mae’n rhaid i chi gael fisa i fynd i Rwsia. Doedd dim amdani ond aros noson mewn gwesty yn y dref a theithio bore wedyn ar drên am 9 awr; dechrau am 3.00 y pnawn a chyrraedd am hanner nos. Neb yn siarad gair o Saesneg ar y trên a’r giard yn edrych yn sarrug arnon ni! Bu un cwpl yn glên iawn efo ni. PM Pacio Dwi’n falch bod Mam wedi cael y cyfle i deithio i Ffrainc sawl gwaith i weld ei merch a’i mab yng nghyfraith, sef Cath a Mike Smith. Roedd hi wrth ei bodd yno. Dwi’n cofio un tro pan oeddan nhw yn gofyn cwestiynau iddi wrth checio i mewn, ‘Have you packed your own case Madam?’ ‘No,’ medda hi! ‘You haven’t?’ medda’r boi ar y ddesg, wedi dychryn. ‘It’s ok,’ medda fi, ‘she did’. ‘Wel I didn’t,’ medda Mam, ‘Gwynn and Hazel did it for me!’ Aeth y boi bach oedd tu ôl i’r ddesg ymlaen i ofyn mwy o gwestiynau. ‘Any Sharp items in your bag madam? (Mae pawb fel arfer yn dweud ‘Na’.) ‘YES a pair of scissors in my toiletry bag!’ Mam, druan. Carol O’Neill
Gyrru Un tro, roeddwn yn gyrru gyda’m cyfaill Now Siop o Ddinas Strach efo potel Mawddwy (a fu’n cadw Tafarn yr Dro arall roedden ni’n teithio efo’r Eryrod, Llanuwchllyn gyda’i wraig, Côr i Neuadd Albert yn Llundain. Beryl am nifer o flynyddoedd), a Roedd ambell i gan o gwrw yn y sêt hynny mewn car mini - ar y ffordd gefn ond roedd gan Dei ofn yfed gul o Brithdir at yr A470 - ac yn gormod rhag ofn y buasai raid iddo coedio mynd. ‘ollwng deigryn’. A ninnau newydd groesi’r bont gul ‘Paid â phoeni,’ meddai Dr Gareth, ar gryn gyflymder, daeth car arall ‘mae gen i boteli pwrpasol.’ A dyma i’n cyfarfod. Doedd dim dewis ond fo’n estyn bag oedd yn cynnwys 4-5 gwasgu’r brêc cyn galeted ag oedd o boteli cardfwrdd. Ymhen sbel modd, a dyma’r mini bach yn troi cafodd Dei gyfle i ddefnyddio un mewn cylch cyfan nes oedd o’n o’r poteli - ond roedd y Doc wedi wynebu’r un ffordd ag a oedd cynt. gwneud tyllau ynddyn nhw efo ‘Wyt ti’n iawn, Now?’ holais i wedi i syringe. Mi oedd ’na gryn strach mi gael fy ngwynt ataf. ar ran Dei a chryn chwerthin gan y ‘Na, dwi isio ca**u!’ oedd ateb lleill yn y cefn, gallwch fentro petrus yr hen Now. PM Gerallt Evans Cofiwch anfon atom. Diolch ymlaen llaw. [Gol.]
Iwan Morgan
Dŵr, dŵr, dŵr. Rwyf yn greadur sy’n hoffi pori mewn siopau llyfrau. Mae siop lyfrau ail-law yn well byth achos does wybod pa drysorau ddaw i’r golwg mewn lle felly. Byddaf, fe fyddaf yn prynu yno o bryd i’w gilydd ond plîs peidiwch â’m spragio i’r teulu. Mewn siop felly yn Llangollen y deuthum o hyd i lyfr bach diddorol iawn – Perorydd yr Ysgol Sul, hen nodiant dan olygiaeth J T Rees. Dyddiad ei argraffu oedd 1915 ac mae’r perchennog gwreiddiol wedi ei lofnodi. Annie M Rees oedd hi yn byw yn James Street, Tal-y-bont. Nid Tal-y-bont Ardudwy sylwer ond Tal-y-bont, Cards. Mae’r golygydd yn pwysleisio bod y casgliad ar gyfer pob oed ac, wrth gwrs, yn 1915 roedd yna ddosbarthiadau lluosog o blant ac oedolion yn yr ysgolion Sul. Mae rhai o’r emynau plant yn swnio’n eitha hen ffasiwn bellach ond mae’r tonau at ei gilydd yn ganadwy. Mae yn y casgliad hen, hen ffefrynnau fel ‘Telyn Seion’, ‘Yr Ysgol Sul Nefolaidd Le’ a ‘Hoff yw’r Iesu o Blant Bychain’. Mae yna ambell i emyn sydd yn dal i gael ei ganu fel ‘O Llefara Addfwyn Iesu’ a ‘Dyma Feibl Annwyl Iesu’. Adlais trist o`r cyfnod hwnnw ganrif yn ôl yw ambell i emyn fel ‘Ar y Lan’ ac ‘A Oes Yno Le i Mi’ lle sonnir am blant sydd wedi croesi i’r byd nesaf yn yr oes pan oedd hynny yn beth digon cyffredin a phlant yn colli ffrindiau neu frodyr neu chwiorydd. Un emyn, os emyn hefyd, a hoeliodd fy sylw oedd rhif 148 – ‘Diod Duw’. J Cradoc Owen yw’r awdur ac mae’n canu clodydd dŵr fel diod i bob creadur, “Dŵr a ŷf y blodau gan wenu’n llon a hardd, Dŵr a ŷf y llysiau a dyfant yn yr ardd, Dŵr a ŷf yr oenig a chwery ar y bryn Clodydd dŵr yn unig a ganai`r holl rai hyn.” Ac mae yna gytgan neu fyrdwn ar ôl pob pennill – ‘Dŵr, dŵr, dŵr i bob sychedig un, Dŵr a rof yn barod i bob sychedig un, Dŵr, dŵr, dŵr a roir gan Dduw ei Hun, Dŵr yw`r unig ddiod a roir gan Dduw ei Hun.’ Go brin fod yma farddoniaeth
CYLCH MEITHRIN TALSARNAU
aruchel iawn ond mae’r dôn yn cario’r geiriau yn ardderchog. Mae ar fesur chwech wyth sy’n symud bron fel dawns ac o eiddo gŵr (neu wraig) o’r enw P Rees, Abercwmboi, enw na welais erioed o’r blaen na wedyn. Byddai’r gerddoriaeth i’r dim ar gyfer cân actol Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, ac mae`r Perorydd ar gael gennyf ar fenthyg os oes gan rywun ddiddordeb. Mae’r pennill olaf yn dangos i ni nad te na choffi nac yn wir lemonêd ydi gelyn mawr J Cradoc Owen, ‘Dŵr a yfaf finnau- nid diod gref yn awr, Dŵr yn loewon ffrydiau a’m gwna i yn ddewr a mawr.’ Ie, emyn dirwest ydi hwn, peth diarth iawn heddiw. Ni welaf fod yna un yn y Caneuon Plant Cylch Meithrin Talsarnau yn dathlu dydd Gŵyl Ddewi. Ffydd ac nid ydynt bellach yn cael Diolch i siop Morfa Stores am y rhoddion o wyau Pasg. Casglwyd eu canu gan neb; maent oll wedi £232 ar y raffl i goffrau’r Cylch Meithrin. Diolch yn fawr i bawb. mynd yn anghof. Ond tybed? Mae yna un yn dod allan o’r dror ambell i dro ‘I bob un sy`n ffyddlon Y CI DEFAID Dan ei faner ef...’ Sylwch ar ddechrau’r ail bennill Ei gabol ddysg a’i wybod - yn awr hel ‘Medd`dod fel Goliath Y praidd sy’n rhyfeddod, Heria ddyn a Duw: Lle’u llechu a ŵyr, lle lluwch ôd, Myrdd ar fyrdd garchara Hebddo ef ni bydd hafod. Gan mor feiddgar yw… A dyma`r peth od: mewn tafarnau Evan George Jones, 1892-1953 ar ôl gwydriad neu ddau y bydd y Cymry yn canu yr emyn dirwest yma ond byth mewn gwasanaeth. Yn wir ni chafodd ei le yn Caneuon Ffydd o gwbl er ei fod yn rhai o hen lyfrau emynau yr enwadau. Ap Hefin a’i cyfansoddodd. Henry Lloyd oedd ei enw bedydd, gŵr yn wreiddiol o Islawrdref ger Dolgellau a fu’n byw o 1870 i 1946. Am ran helaeth o’i oes roedd yn argraffydd yn Aberdâr. Er na ddewiswyd ei emyn dirwest ar gyfer Caneuon Ffydd mae emyn arall o’i waith yn y casgliad, sef rhif 203. Mae`r emyn hwnnw yn un o’r gwir glasuron: ‘Arhosaf yng nghysgod fy Nuw, i mewn yn nirgelwch y nef…’ Fyddai neb yn canu`r emyn yma mewn tafarn ond mae yn emyn clo effeithiol iawn i unrhyw wasanaeth. www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk Mwy o ddŵr tro nesaf. facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota JBW
Cylch Talsarnau
Dydd Gŵyl Ddewi
ENGLYN DA
HARLECH TOYOTA
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432
13
BWYD A DIOD
DYDDIADUR Y MIS
Donyts Cymreig ym Manceinion
Ebrill 12 - Gyrfa Chwist, Neuadd Talsarnau am 7.30 Ebrill 19 - Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne am 7.00 yn Neuadd Talsarnau. Siaradwr gwadd: Dr Iwan Rees Ebrill 21 - Cynhadledd ‘Diwylliant y llyfr yn Eryri’ Plas Tan-y-bwlch, Maentwrog, 10.00 tan 4.00 Os am gynnwys manylion yn y dyddiadur, cysylltwch â Mrs Mai Roberts, Dyffryn Ardudwy Rhif ffôn: 01341 242744 Cyfeiriad e-bost: mairoberts4@btinternet.com
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
^
Llais Ardudwy
Fel arfer, rwy’n canolbwyntio ar gynnyrch o Gymru neu ein cyflenwyr gwin o dramor, ond mae un dyn o Ddolgellau yn haeddu sylw am sefydlu busnes ym Manceinion ac yn gosod y Gymraeg yn gyntaf fel rhan o’i ddelwedd yng nghanol Lloegr. SiopShop yw enw caffi a becws Iwan Roberts, mab i Meinir, perchennog Popty’r Dref yn Nolgellau, felly mae’r pobi yn rhedeg yn y teulu! Menter a ddechreuodd ei oes o dan yr enw ‘Blawd’ oedd hon, felly mae’r naws Gymreig wedi bod yna o’r cychwyn. Gwneud donyts oedd Iwan a’u gwerthu yn y ddinas mewn marchnadoedd ac i fusnesau eraill. Y llynedd, mentrodd ar ei liwt ei hun a sefydlu caffi a becws yn Tib Street. Lle modern glân ydy hwn sy’n adlewyrchu ei gefndir creadigol. Mae’n hollol ‘quirky’ ac roeddwn wrth fy modd yn gweld cês o recordiau finyl sy’n cael eu chwarae yn y siop. Rhoddir sylw manwl i safon y peiriant coffi sydd â phedal troed i greu ager i’r bwyd syml a blasus.
Cewch fynd i fwynhau o ddydd Mawrth i ddydd Sul ac mae cynlluniau i ehangu’r oriau agor. Dwi’n gwirioni gyda’r arwyddion Cymraeg: ‘caffi a becws’ ar y ffenestr a hyd yn oed ‘toiled’ wedi’u gyfieithu, ond y brenin yw’r cynnyrch yn y pen draw ac nid yw’n methu yn y maes yma: mae’r bwyd yn dda a choffi perffaith wedi’i weini ar grochenwaith ‘retro’ wrth gwrs! Ar ôl brecwast yno ar y bore dydd Sul, her y dydd oedd dewis pa ddonyt i fynd efo ni am de prynhawn: siocled gwyn a mafon ac un tiramisu gafodd eu sglaffio ar stryd Manceinion ar ôl ymweld â Llyfrgell John Rylands. Uchafbwynt Manceinion – peidiwch â’i fethu! Llinos Rowlands Clwb 200 Gwin Dylanwad Wine Côr Meibion Ardudwy Dolgellau Rŵan yw’r amser i ymaelodi â’r Clwb 200 am y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n costio £9 y flwyddyn ac mae cyfle i ennill 72 o wobrau mewn blwyddyn. Rhagor o fanylion gan Ieuan Edwards 01766 780609
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123
14
H YS B YS E B I O N MWY NA SIOP BAPUR...
SIOP DEWI
14/15 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth 01766 770266
dewi11@btconnect.com Papurau, cylchgronau, llyfrau a chardiau Ac yn NEWYDD Bwydydd Cyflawn a Bwydydd Iach Cefnogwch eich siop leol, Cymraeg ei hiaith
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
-
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297
CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239
ARCHEBU A
01341 421917 07770 892016
Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
i unrhyw le yn yr UK!
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
GERALLT RHUN
07776 181959
1 Osmond Terrace, Penrhyn Ceir ar gael yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd Ffoniwch 01766 772926 07483 166901
Llais Ardudwy
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk
C.E.F.N Tacsi Cyf
Tafarn yr Eryrod
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
dros 25 mlynedd o brofiad
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
NEWYDDION YR URDD Dyma’r canlyniadau ar gyfer yr Eisteddfodau Rhanbarth oedran Cynradd, Uwchradd ac Aelwydydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb ar eu llwyddiant. Bydd y rhai sydd wedi cael cyntaf yn yr Eisteddfod Rhanbarth yn cael cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd ddiwedd mis Mai. Unawd Telyn B6 ac iau 3ydd - Erin Wynne Lloyd, Ysgol Llanbedr Unawd Piano B6 ac iau 1af - Erin Wynne Lloyd, Ysgol Llanbedr 3ydd - Erin Mitchelmore,Ysgol Talsarnau Grŵp Cerddoriaeth Greadigol B6 ac iau 1af - Ysgol Talsarnau Unawd Chwythbrennau B7 - 9 2il - Chloe Lois Roberts, Ardudwy Unawd Pres B7 - 9 1af - David Harry Bisseker, Aelwyd Ardudwy Unawd Piano B7 - 9 3ydd - David Harry Bisseker, Aelwyd Ardudwy Unawd Cerdd Dant B7 - 9 2il - Nel Ap Tomos, Ardudwy Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo B6 ac iau 2il - Lois Enlli Williams, Ysgol Talsarnau Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo B7, 8 a 9 2il - Lois Angharad Jones, Ardudwy 3ydd - Ysanne Duncan, Ardudwy Grŵp Dawnsio Hip-Hop/Stryd/ Disgo B7, 8 a 9 1af -Disgyrchiant, Aelwyd Ardudwy Llefaru Unigol B2 ac iau (D) 1af - Seren Roberts, Y Traeth 2il - Charley Harvey, Y Traeth Llefaru Unigol B3 a 4 (D) 2il - Iris Izuogu, Y Traeth 3ydd - Megan Taylor, Y Traeth Dyma’r canlyniadau yn yr adran Celf, Dylunio a Thechnoleg. Fe fydd y darnau gafodd gyntaf yn yr oedran cynradd a chyntaf ag ail yn yr uwchradd yn mynd ymlaen i gael eu beirniadu i sicrhau lle yn yr arddangosfa ar faes Eisteddfod yr Urdd. Gwaith Lluniadu 2D B3 - 6 A.D.Y.(C) 3ydd - Cian Pugh, Tanycastell Gwaith Creadigol 2D B2 ac iau (Unigol) 3ydd - Tomos Williams, Dyffryn Ardudwy Gwaith Creadigol 2D B5 a 6 (Unigol) 2il - Macey Barry, Ysgol Llanbedr 3ydd - Jessica Hayward, Y Traeth Gwaith Creadigol 2D B3 - 6 ADY (D) 1af – Caio Williams, Tanycastell Print Monocrom B2 ac iau 2il - Daniel Griffith, Y Traeth
16
Print Monocrom B5 a 6 1af - Kyle Jellicoe, Y Traeth 2il - Harvey Taylor, Y Traeth Print Lliw B2 ac iau 1af - Moi Williams, Dyffryn Ardudwy Print Lliw B5 a 6 1af - Luke Greer, Y Traeth 2il - Lilly Corbett, Y Traeth Cyfres o Brintiau Monocrom B2 ac iau 1af - Tomos Williams, Dyffryn Ardudwy Printiau Monocrom B5 a 6 1af - Sam Young, Y Traeth Cyfres o Brintiau Lliw B5 a 6 1af - Michael Collins, Y Traeth Argraffu B2 ac iau 2il - Moi Williams, Dyffryn Ardudwy Gwaith Creadigol 2D Tecstilau B5 a 6 (Grŵp) 1af - Parti Nansi, Ysgol Llanbedr 2il - Grŵp Macey, Ysgol Llanbedr Gwehyddu B2 ac iau (Gwaith Grŵp) 2il - Parti Joshua, Y Traeth Pyped B3 a 4 3ydd - Aron Jones, Dyffryn Ardudwy Pyped B5 a 6 2il - Lois Jones-Evans, Ysgol Llanbedr 3ydd - Nansi Evans-Brooks, Ysgol Llanbedr Gwaith Creadigol 3D Bl. 2 ac iau (Gwaith Grŵp) 3ydd - Parti Charley, Y Traeth Gwaith Creadigol 3D B3 a 4 (Gwaith Grŵp) 2il - Dyffryn Ardudwy Gwaith Creadigol 3D B5 a 6 (Gwaith Grŵp) 3ydd - Ysgol Dyffryn Ardudwy Gemwaith B5 a 6 2il - Summer O’Brien-Jones, Ysgol Llanbedr 3ydd - Erin Wynne Lloyd, Ysgol Llanbedr Diolch am eich cefnogaeth. Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd
Isod fe welwch ddau o’r gweithiau buddugol yn y Rhanbarth:
Cynhadledd Undydd ‘Diwylliant y llyfr yn Eryri’ Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2018 Ym Mhlas Tan-y-bwlch, Maentwrog 10.00 tan 4.00 o’r gloch
Richard Glyn Roberts ‘Cadw llên a cholli gwareiddiad’ Gwen Angharad Gruffudd ‘Ymdrech bardd-chwarelwr i gyhoeddi yn yr “oes aur” ’ Ffion Eluned Owen ‘ “Gore Cof, Cof Llyfr” Llew Owain a’i gofiannau’ Karen Owen ‘ “Y dyn na flinai fod yn aflonydd”: Eifionydd a chymeriadau eraill Prifddinas yr Inc’ Alun Lloyd Price ‘Eisteddfod Cymrodyr Dolwyddelan 1923-31’ Bleddyn Owen Huws ‘W. J. Davies Tal-y-sarn, nofelydd yr Herald’ Ni chodir tâl cofrestru, ond hoffem i bawb sy’n bwriadu dod rag-gofrestru cyn 18 Ebrill drwy anfon gair at cymraeg@aber.ac.uk, neu drwy ffonio 01970 622137.
Dechrau - 7.00 ogp. Mynediad yn cynnwys lluniaeth: £5 Croeso cynnes i bawb
Tocynnau ar gael gan Aled Ellis 01766 770421, Elfed Roberts 01766 770621, neu Mathew Jones 01766 770757. Os allwch chi helpu efo’r lluniaeth ar gyfer y noson, byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn cysylltu ag Elfed ar 01766 770621.
Caio Williams, Ysgol Tanycastell
Moi Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy