Llais Ardudwy
70c
LLWYDDIANT YN ‘CRUFTS’
RHIF 486 - EBRILL 2019
MYFYRWRAIG ORAU
Llongyfarchiadau i Delyth Jones-Evans, Cefn Isaf ar dderbyn gwobr myfyrwraig orau ‘The Society of Shoe Fitters’ 2018. Mae’r gymdeithas hon yn gweithio nid er elw i ddysgu ac i hybu y grefft o ffitio esgidiau fel gyrfa. Bu Delyth yn fyfyrwraig ar yr unig gwrs proffesiynol mewn bodolaeth sy’n canolbwyntio ar ‘iechyd y droed’ a’i datblygiad. Mae Delyth yn berchen ar siop esgidiau ym Mlaenau Ffestiniog, sef Siop Esi, neu’r Cambrian Boot, sydd mae’n debyg wedi bod mewn bodolaeth yn y Blaenau ers dros ganrif bellach. Mae hi hefyd yn mynd o gwmpas gwahanol ganghennau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched i hyrwyddo’r busnes ac mae hynny yn amlwg wedi talu ar ei ganfed gyda chwsmeriaid o bob cwr o’r gogledd, o Benllyn i Ben Llŷn a chyn belled â Chaernarfon, wrth i bobl ddod i wybod am ei gwasanaeth clodwiw, yn enwedig efo’r plant. Bellach, mae gan Delyth y gallu i arbenigo mewn ffitio cwsmeriaid sydd â phroblemau iechyd neu sy’n cael trafferth dod o hyd i esgidiau oherwydd problemau iechyd. Mae cwmni DB Shoes yn arbenigo mewn esgidiau llydan. Cwmni arall sydd i’w gweld yn y siop yw’r enw mawr Hotter Shoes. Bu Delyth yn Birmingham yn ddiweddar i dderbyn y wobr o gwpan a thystysgrif. Pob hwyl ar y gwerthu!
Llongyfarchiadau i Samantha Cooper a Maddie (Cae Gwastad, Harlech) ar ddod yn gyntaf mewn cystadleuaeth sioncrwydd [agility]yn Sioe ‘Crufts’. Cafodd Samantha a Maddie ac Eleri Jones a Nel o Gaernarfon (Eleger, Harlech gynt) eu dewis i fod yn ran o her y Kennel Club yn sioe gŵn fwyaf y byd yn yr ‘NEC’ yn Birmingham. Mae’r cynllun yn hyrwyddo perchnogaeth cyfrifol a hyfforddiant cywir i gŵn. Roedd yr her yn cynnwys dau asesiad. Roedd Maddie yn nerfus o dan yr amgylchiadau swnllyd a phrysur ac roedd Nel yn amheus o’r holl bobl ddiarth. Roedd yn rhaid i Maddie a Nel ddangos disgyblaeth wrth aros yn llonydd am funud cyfan a hynny heb fod yn rhy agos at Eleri a Samantha. Hwn oedd y prawf anoddaf i’r cŵn. Gweithiodd Maddie a Nel yn ddygn iawn o dan yr amgylchiadau heriol ac fe lwyddon nhw i basio’r prawf. Llwyddodd 6 allan o’r 8 i wneud hynny. Mynychodd Maddie ddosbarthiadau ym Mhorthmadog pan nad oedd ond yn 10 wythnos oed, ond mae hi bellach yn mynychu dosbarthiadau sioncrwydd gyda chlwb ‘Cŵn Dysynni’ yn Arthog a dosbarthiadau ufudd-dod yn Nyffryn Ardudwy ac Arthog o dan ofal Sally Friswell. Dywed Samantha ei bod yn mwynhau’n arw iawn, a bod teithio i Sioe ‘Crufts’ yn brofiad arbennig. Pob dymuniad da i’r dyfodol.
BODDHAD CWSMERIAID
Llongyfarchiadau i Toyota Harlech ar dderbyn y wobr gyntaf trwy wledydd Prydain am foddhad cwsmeriaid. Yn y llun y mae Iwan Evans ac Emily Roberts yn derbyn y wobr.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Ebrill 26 am 5.00. Bydd ar werth ar Mai 1. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 22 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: Mair Tomos Ifans Gwaith: Diddanu ac yn y blaen. Cefndir: Cael fy magu yn Harlech ers pan oeddwn yn 8 oed pan symudodd y teulu yno wedi i fy nhad gael ei benodi yn bennaeth ar yr ysgol gynradd. Gadael yr hen dre i fynd i’r coleg ac wedyn dychwelyd yn 1983-4 i sefydlu Cwmni’r Frân Wen efo Llio Silyn, Gwen Lasarus, Llion Williams, Carys Huw a Martin Wigley Evans dan gyfarwyddyd Eirwen Hopkins a gweinyddiaeth Geraint Parry. Gadael tua 1985 i fyw a gweithio yng Ngheredigion am naw mlynedd. Glanio yn Nolgellau wedyn a thrio byd addysg am sbel yng Ngholeg Meirion Dwyfor cyn hwylio am Ynys Enlli am ychydig yn 1998-99. Erbyn hyn wedi ymagartrefu yn Ninas Mawddwy efo’r gŵr Alun a’r bechgyn – Osian ac Elis – ond yn dal i hiraethu am gael gweld y môr bob dydd! Gweithio ar fy liwt fy hun yn diddanu, adrodd chwedlau, canu gwerin ac yn y blaen. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n trio bwyta bwyd iach – ond gormod ohono beryg. Dwi’n licio bod yn yr ardd a mynd am dro bach weithiau – ond ar y cyfan, tydw i ddim yn un am wneud ymdrech fawr i gadw’n iach – mwya’r cywilydd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau llên gwerin, cofiannau
llychlyd, nofelau – ar hyn o bryd dwi’n pori yn Legends of the Flowers, Janet Hepworth, ‘Ei Ffanffer ei Hun’, cofiant E Cynolwyn Pugh a ‘Creigiau Aberdaron’, Gareth F Williams. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Methu dewis hoff raglen – ond mae unrhyw beth gan Victoria Wood yn plesio; The Archers a The Food Programme ar Radio 4; ‘Cynefin’ ar S4C. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, yn rhy dda ! Hoff fwyd? Cimwch a chranc ar Enlli, efo dim byd ond pupur a halen a sudd lemwn, salad a thorth newydd ei phobi, glasiad o win gwyn oer neu ddŵr efo rhew a lemwn. Hoff ddiod? Paned o de peth cynta’n y bore. Coffi du da ganol bore. Jin y Ddyfi ar achlysur arbennig a Chwisgi Penderyn i gadw pwysau gwaed i lawr! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Eneidiau hoff cytûn – neu unrhyw un sy’n fodlon trefnu – a thalu! Lle sydd orau gennych? Unrhyw le yn y garafan – yn enwedig ar yr arfordir. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Mae’n anodd curo Enlli, ac yno y byddwn yn dueddol o fynd ar ein gwyliau gan amlaf, ond mi fûm ar fordaith am dair wythnos pan oeddwn yn 50 – i’r Ynys Las [Greenland], Gwlad yr Iâ a Norwy – profiad gwefreiddiol. Beth sy’n eich gwylltio? Lot fawr o bethau – dwi’n ddynes reit flin! Diffyg parch at Gymru a’r Gymraeg, Brexit, pobol yn taflu sbwriel neu’n gwrthod ailgylchu, meibion yn fy anwybyddu a gwrthod diffodd yr Xbox, methu rhoi edau yn llygad nodwydd, malwod yn yr ardd, ffesantod yn dwyn bwyd yr ieir, smwddio ... ac yn y blaen ... Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gonestrwydd. Pwy yw eich arwr? Dwi’n edmygu nifer fawr iawn o bobl – ond mae arwr neu arwres yn
LLYTHYR Annwyl Olygydd Diddorol a thrist oedd darllen hanes Robert W Roberts, y Postmon o’r Bermo a fu farw ym 1886 mewn storm o eira tra’n teithio o Silverton, Colorado i Red Mountain. Yr hyn a’m synnodd i oedd sylweddoli fod Jane Roberts (Griffith o Tynyffridd, Llanfachreth) yn chwaer i hen nain fy mam, Hannah, Ifan a gweddill teulu Graig Isa’, Cwm Nantcol. Diolch i W Arvon Roberts am ddod a’r hanes i’n sylw a da oedd deall i’w weddw ddod dros y brofedigaeth a byw hyd nes roedd yn ddeg a phedwar ugain oed ymhell o’r wlad lle maged hi. Awel Jones, Llwyn Cadi, Llanuwchllyn
gorfod bod yn unigolyn arbennig dros ben – rhywun fel Mo Mowlam efallai? Dwi hefyd yn meddwl bod ffoaduriaid sy’n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a’u gwledydd ac yn cael eu trin mewn modd mor giaidd a di-hid gan wledydd cyfoethog fel y Deyrnas Unedig yn bobl arwrol iawn. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Gwyneth Vaughan. Beth yw eich bai mwyaf? Diogi. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Swn y môr a blas yr heli. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mae’n siŵr y dyliwn i ddweud y byddwn yn ei roi o i elusen - ond mi fyddwn wrth fy modd yn cael Polytunnel mawr – felly mi brynwn Bolytunnel cymhedrol a rhoi’r gweddill i elusen Cefn. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Briallu. Eich hoff gerddor? Amhosibl dewis – mae’n dibynnu sut hwyliau sydd arna i - dwi’n hoff iawn o Joan Baez; ac mae cerddoriaeth y ‘Rhes Ganol’ yn codi ’nghalon; Mary Lloyd Davies ffwl blast yn y car yn gwaredu unrhyw gymylau duon a Hergest yn hel atgofion. Gershwin. Meirion Williams. The Proclaimers. Debussy. Gai Tom ... Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Gweler uchod – a charolau Plygain ... ‘Yma mae ’nghalon’ Dafydd Iwan, holl CD ‘Distaw’ Sian James, EP Mary Lloyd, Lasynys yn canu cerdd dant. Pa dalent hoffech chi ei chael? Y gallu i arlunio. Eich hoff ddywediadau? Un o rai Nain – Siw Williams, mam fy mam – ddaeth i fyw efo ni i Res Bronwen yn 1968. Pan fyddwn i yn grwgnach bod rhaid i mi fynd allan o’r tŷ i nôl neges a hithau’n bwrw glaw, ‘Dos yn dy flaen - dwyt ti’m yn halen nac yn siwgwr!’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn aros am y ‘bus pass’!
PEN-BLWYDD HAPUS Mae Llais Ardudwy yn 44 oed y mis hwn. Dyma garreg filltir bwysig arall i’r papur. Diolch i bawb yn y tîm am eu gwaith ac i’n darllenwyr am barhau i anfon deunydd atom bob mis.
Llais Ardudwy
LLANFAIR A LLANDANWG
Daw’r erthygl ganlynol o’r cylchgrawn ‘Rhamant Bro’, gaeaf 1999-2000, rhif 18. Diolch i’r golygydd Steffan ab Owain am ei ganiatâd i ni gyhoeddi’r erthygl. Fe’i hysgrifennwyd gan Dafydd Jones, Siop yr Hen Bost, Blaenau Ffestiniog. Dyma ran 2.
Sut un oedd Ellis Wynne o’r Las Ynys?
Merched y Wawr Harlech a Llanfair Noson y Dysgwyr Croesawyd saith o ddysgwyr atom y mis hwn ynghyd â Pat Thomas oedd yn gyfrifol am y noson Gyrfa Chwilen. Cafwyd orig ddifyr a hwyliog yng nghwmni’r dysgwyr wrth chwarae’r gêm. Roedd yn gyfle i’r dysgwyr ymarfer rhai patrymau iaith yr oeddent wedi eu dysgu ac hefyd ambell i air newydd. Cyn troi am adref, cafwyd paned, bara brith a theisennau cri. Diolchodd Bronwen i Pat a’r dysgwyr gan obeithio eu bod wedi elwa o’r noson. Cyflwynwyd planhigyn i Pat i ddangos ein gwerthfawrogiad o’i gwaith.
Neuadd Goffa Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Neuadd Goffa Llanfair yn y Neuadd ar Ebrill y 10fed am 7.30 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb. Gwellhad buan Dymuniadau gorau i Gwyneth Meredith (Gwyneth Ceg-y-Bar gynt) am wellhad buan ar ôl llawdriniaeth yn Lerpwl. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn ag Ann Chidgey (Tŷ Mawr gynt) a Paul Jarvis a’u teuluoedd ar farwolaeth eu mam, Marian Jarvis, Ty’n y Berllan, Llanfair, ganol mis Mawrth. Roedd yn wraig boblogaidd ac yn gefnogol i sawl mudiad yn yr ardal. Derbyniodd Mrs Jarvis gymorth gofalus staff cartref Plas Gwyn, Pentrefelin, yn ystod wythnosau olaf ei hoes. Eglwys Llanfair EBRILL Nos Lun, 15fed, Complin am 7.00 gyda’r nos Dydd y Pasg, 21ain gwasanaeth Ewcarist am 9.30 y bore.
Bore coffi Cynhelir Bore Coffi yn Neuadd Goffa Llanfair ar Ebrill yr 20fed rhwng 10.00 a 12.00 er budd y pwll nofio. Mae angen ffenestri newydd cydrhwng y caffi a’r pwll, pob un paen yn costio £500.00. Trïwch gefnogi yr adnodd pwysig. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Rosie Berry, 01766 780952. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Pam Richards, Llwyn (Y Foel gynt) ar farwolaeth ei brawd yn ardal Croesoswallt.
Mae yna agwedd arall ar Ellis Wynne y person plwyf. Yn ei ewyllys gadawodd Ellis W ynne rodd i dlodion y plwy, ond ddim ond punt, ac roedd hynny’n ychydig iawn, iawn hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw. Cybydd-dod? efallai, ond yn fwy na dim, enghraifft, gredaf i, o amharodrwydd, greddfol bron, yr uchelwyr i rannu tir a chyfoeth. Ac fel rhywbeth sydd yn gwrth ddweud unrhyw amheuaeth o gybydd-dod mae’n werth cofio i Ellis Wynne pan gafodd ei wneud yn berson Llanfair roddi heibio ei swydd fel person Llandanwg a cholli cyflog wrth wneud hynny. Mewn oes pan oedd aml blwyfoldeb yn beth cyffredin roedd Ellis Wynne yn ymylu ar fod yn unigryw yn hyn o beth. Medrwn ddod i rai casgliadau am Ellis Wynne fel tad ac fel gŵr, ac mae’r dystiolaeth honno yn gymorth i ddirnad sut gymeriad oedd o. Yn ei ewyllys gadawodd Ellis Wynne symiau sylweddol i’w blant, a gofalodd hefyd fod William, y mab hynaf, yn cael ei benodi yn berson Llanfair ar ei ôl. Gofalodd hefyd fod Edward, y mab ieuengaf, yn derbyn prentisiaeth. Ond un o’r pethau trawiadol am Ellis Wynne fel tad yw iddo enwi un o’i ferched yn ysgutor ei ewyllys. Mewn oes pan oedd safle’r ferch yn llai teg na heddiw mae hynny’n dweud gryn dipyn am Ellis Wynne fel tad ac fel dyn. Amdano fel gŵr yr un dystiolaeth amlwg sydd gennym yw’r hyn ddigwyddodd pan fu farw ei wraig Lowri Llwyd. Ellis Wynne ei hun
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Llinellau Melyn ger stesion Llandanwg Gofynnwyd i Dylan Wyn Jones o’r Adran Drafnidiaeth yng Nghaernarfon a fyddai’n bosib ymestyn y llinellau melyn dwbl ar y ffordd i lawr am Landanwg hyd at Glangors gan fod pryder a chwynion wedi eu derbyn bod ceir yn parcio’n agos iawn i’r bont ac yn gadael eu ceir yna drwy’r dydd ar rai adegau gan nad oes llinellau melyn dwbl wedi eu peintio ar y ffordd. Pwyllgor Neuadd Goffa – 20.2.19 Mae’r pwyllgor yn y broses o waredu offer y cae chwarae. Cynhelir y cyfarfod blynyddol ar y 10fed o Ebrill. Hefyd bydd y pwyllgor yn trefnu noson agored i David Evans ddod i roi hyfforddiant ynglŷn â sut i ddefnyddio y peiriant diffib. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod cyswllt carthffosiaeth tanddaearol ar dir i gefn Llwyn Onn, Pant yr Onnen, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Mae’r gwaith o docio coed y gwnaed cais amdano ar riw Cae Cethin wedi ei gwblhau. Mae’r mater o’r caead manol ym maes parcio Llandanwg wedi ei gyfeirio i Gwenan Huws Tomos yng Nghaernarfon.
ysgrifennodd gofnod y farwolaeth yng nghofrestr y plwyf, ac fe wnaeth gamgymeriad. Methodd efo’r flwyddyn a methodd â chynnwys rhai o’r manylion arferol. Yn fuan ar ôl hynny cafodd y cofnod ei gywiro gan rhywun arall ond yn y digwyddiad mae rhywun cael cip sydyn a dynol ar Ellis Wynne yn ei ing a’i alar wrth golli ei wraig. Campwaith Ellis Wynne wrth gwrs yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg, ond wrth geisio dirnad sut gymeriad oedd Ellis Wynne peth peryglus iawn, greda’ i, fyddai rhoddi gormod o bwys ar be geir yn y llyfr. Cymeriad yn y llyfr yw’r Bardd Cwsg, ac nid ef yw Ellis Wynne y dyn o gig a gwaed. Petaech yn cymryd o ddifrif fod ymateb y Bardd Cwsg i’w oes yn adlewyrchu’’n ffyddlon farn Ellis Wynne ei hun yna ni fyddai unrhyw ddewis ond derbyn fod Ellis Wynne yn un o’r dynion mwyaf rhagfarnllyd gerddodd ddaear Cymru erioed. Ond nid un felly oedd o ac ambell i waith yn y llyfr mae’r Ellis Wynne go iawn yn dod i’r brig ac yn profi hynny. Mae un o gymeriadau’r llyfr yn dweud mai ‘bodlonrwydd’ a ‘llonyddwch’ yw hapusrwydd dyn. Dyw’r cymeriad hwnnw ddim yn dod o hyd i’r naill na’r llall yn y byd sydd ohoni, ond fe wyddai’n iawn beth oedd y ddeupeth – ac fe wyddai Ellis Wynne hynny hefyd. Mewn lle arall yn y llyfr cewch gip ar Ellis Wynne, Las Ynys, pan mae’n sôn mai gwell ar noson ddu-oer yw bod yng nghegin Glyn Cywarch nac ar ben Cadair Idris, neu mewn ystafell glyd gyda chywely gynnes nac mewn amdo ym mhorth yr eglwys. Tybied yr ysgolheigion fel y mynnont, ond mae gen i bellach ddarlun yn fy meddwl o sut un oedd Ellis Wynne, a phan fyddaf yn y Las Ynys medraf ddychmygu sut ddyn oedd yr athrylith hwnnw fu’n troedio’r stafelloedd ddau can mlynedd a mwy yn ôl. A’r darlun sydd gennyf yw o uchelwr cadarn a diwylliedig. Dyn ysbrydol ei naws ond ar yr un pryd dyn oedd yn fwrlwm o hiwmor diniwed. Dyn hefyd oedd yn dad a gŵr annwyl a gofalus o’i deulu, ac yn fwy na dim arall dyn a wyddai werth sgwrs ddifyr yng nghegin Glyn Cywarch ac a wyddai rinwedd ystafell glyd gyda chywely cynnes.
3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Cyfarfu Teulu Artro yn y Neuadd ddydd Mawrth 5ed o Fawrth, gyda Glenys yn llywyddu. Dymunodd wellhad buan i Winnie a Jennifer a dymunodd ben-blwydd hapus i Catherine. Yna cawsom sgwrs ddifyr gan Glyn Williams, Borth-y-gest, yn sôn am ei fagwraeth yn Rhydymain a’i gyfnod yn mynd o amgylch y ffermydd yn cario llaeth i Hufenfa Rhydymain. Bu hefyd yn gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru cyn symud i Borth-y-gest a phrynu modurdy yno. Soniodd am y newid syfrdanol sydd wedi digwydd yn yr hanner can mlynedd ddiwethaf. Bu Greta yn ei atgoffa o’r adeg y bu’n canu yn Eisteddfod Groglith y Gwynfryn. Roedd wedi dod ar gais Edward Cefnisa, ac hefyd roedd Greta’n cofio fod Eirian Owen yn cystadlu ar ganu’r piano. Roedd yn aros ar ei gwyliau gyda’i chyfnither Glenys a’i rheini yn Cwmbychan. Enillwyd y raffl gan Glyn Williams. Yna cawsom de arbennig gan Jane. Balch oeddem o’i gweld wedi gwella, a diolch yn fawr iawn iddi.
Diolch Diolch diffuant i bawb a fu mor ffyddlon a charedig pan oeddwn yn yr ysbyty ac wedi i mi ddod adref. Am y llu cardiau, ymweliadau, a galwadau ffôn; gwerthfawrogir y cyfan gan y teulu i gyd. Olwen, Werngron £10 Rhodd
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu Robin Jones, Llys Brithyll, yn eu profedigaeth. Gobeithiwn gynnwys coffâd llawn yn y rhifyn nesaf.
Chwaer fach Llongyfarchiadau i Elfyn Davies (gynt o Ystad-y-Wenallt) a’i wraig Carla ar enedigaeth Isabel Nia, chwaer fach i Isla. Llongyfarchiadau hefyd i nain, Susanne Davies, ar enedigaeth wyres fach newydd.
Pen-blwydd Bydd Ieuan Jones, Rhosfawr, yn 99 oed ar Ebrill 7fed. Dymunwn ben-blwydd hapus iawn iddo. Mae Ieuan yn derbyn Llais Ardudwy ers y dechrau ac mae’n feistr ar ddatrys croeseiriau.
Colli Brian Bu farw Brian Taylor yn dawel yn ei gartref Alltwen ddydd Sul, 10fed o Fawrth yn 84 oed. Cydymdeimlwn â’i wraig Betty a’i blant Michael, Jenny, Jane ac Emma a’u teuluoedd yn eu profedigaeth.
Cymro bach newydd Llongyfarchiadau i Iddon a Joy Hall, Garth Engan, Uwchartro, ar enedigaeth ŵyr bach, Caio Llywelyn, a anwyd yn ddiweddar i’w mab Tom a’i bartner Serian. Mae Caio’n frawd bach i Ella Wyn, sy’n bedair oed. Symudodd y teulu bach o Gaerdydd i Aberystwyth yn ddiweddar, ac mae Ella Wyn eisoes yn dysgu sut i chwarae rygbi efo’r Urdd yno.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn EBRILL 21 Capel Nantcol, Dafydd Iwan 28 Capel y Ddôl, Mrs Greta Benn MAI 5 Capel Nantcol, Aled Lewis Evans
Merched y Wawr Nantcol I ddathlu Gŵyl Ddewi cawsom gwmni aelodau cangen Maesywaun. Croesawodd y Llywydd, Rhian, bawb i’r cyfarfod yn Festri Capel Horeb ar nos Fercher, Mawrth 6ed. Rhoddwyd croeso arbennig i aelodau ifanc o Fand Harlech a’u harweinydd Ceri Griffith. Cafwyd noson ddifyr gyda’r band yn cyflwyno trefniannau amrywiol o ganeuon adnabyddus gan gynnwys Calon Lân, Cwm Rhondda a Gwŷr Harlech. Yn ogystal mwynhawyd unawdau, deuawdau a datganiadau medrus ar y piano. Roedd pawb wedi mwynhau gwledd o gerddoriaeth a diolchodd Rhian iddynt i gyd gan bwysleisio mor braf oedd gweld pobol ifanc lleol yn barod i rannu eu dawn ag eraill. Yn dilyn, mwynhawyd gwledd ardderchog wrth y byrddau a chyfle i gymdeithasu â phawb. Cyflwynodd Llywydd Cangen Maesywaun ddiolchiadau i aelodau Nantcol am y gwahoddiad, y croeso cynnes ac am noson bleserus iawn.
DAWNSIO CREADIGOL
‘Parti Lois’ o Ysgol Llanbedr a ddaeth yn ail yn Eisteddfod Cylch yr Urdd Mudo Dymunwn flynyddoedd o hapusrwydd ac iechyd i Mr a Mrs Peter Crabtree, Iscoed, sydd wedi symud i’w cartref newydd yn Hafod y Gest, Porthmadog.
Babi newydd Ganwyd merch fach, Elliw Nel, i Delyth (Tyddyn Bach gynt) a Deian, a chwaer fach i Osian. Llongyfarchiadau iddynt ac i taid a nain, Tyddyn Bach.
LLESTRI CAPEL GWYNFRYN
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY
Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930 4
Mae nifer o lestri te ar gael gyda’r stamp GWYNFRYN MC arnynt. Cynigir cwpan, soser a phlat i unrhyw un â chysylltiad â’r Capel yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â: Glenys Jones, rhif ffôn 01341 242648 neu Evie Morgan Jones, rhif ffôn 01341 247022.
dda yr aeth â ni bob tro. Roedd o’n dipyn o gourmet!
GARETH JONES Atgofion Roger Kerry Cwmnïwr diddan, poblogaidd efo pawb - chwerthwr harti, caredig ei anian, yn helpu llawer yn y cefndir, heb fod yn ymwthiol, dyn egwyddorol a chanddo argyhoeddiad pendant ar nifer o faterion. Roedd pawb yn mwynhau ei gwmni ac roedd gan bawb air da amdano. Canu oedd prif ddiddordeb Gareth. Bu’n aelod o bedwar côr, sef Côr Meibion Caernarfon, Côr Meibion Madog, Côr Colin Jones a Chôr Meibion Ardudwy am odduetu 35 mlynedd – lle’r oedd yn unawdydd o fewn y Côr. Roedd ganddo lais bas llawn, meddal a mwyn ond roedd ganddo lais cryf hefyd pan oedd ei angen. Mae nifer o aelodau Côr Ardudwy yn ei gofio mewn gwesty yn Galway yn canu ‘Cân yr Arad Goch’ am 5.35 y bore! Oherwydd ei bersonoliaeth radlon, roedd yn aelod poblogaidd iawn yn y corau a chafodd bleser mawr iawn o gyd-ganu a chyd-deithio gyda’r aelodau dros y blynyddoedd. Pan oedd Meibion Ardudwy yn yr Almaen aeth Gareth i siop win enfawr. Roedd ambell i botel i’w chael am ychydig sylltau bryd hynny. “Beth brynaist ti, Gareth?”, holodd yr hogia. “Dwy botel gwerth rhyw bunt yr un,” oedd ei ateb, ac roedd punt yn bunt bryd hynny! A dyna Gareth i’r dim. Dyn o safon. Yn hoffi pethau da bywyd ac nid yn ymhel â sothach rhad. Os aech chi allan i fwyta gyda Gareth, y clefyd siwgr oedd yn penderfynu pryd a lle roedden ni’n bwyta. Ac i dŷ bwyta go
Mae ’na stori dda amdano mewn tafarn yn Iwerddon pan oedd gornest focsio Barry McGuigan ymlaen ar y teledu. Rhyw ddeg o’r gloch y nos oedd hi a syrthiodd Gareth i gysgu ar ganol y ffeit. Rhaid bod rhywun wedi rhoi côt drosto i’w gadw’n gynnes. Beth bynnag i chi, roedd tomen o gotiau drosto erbyn i’w ffrindiau fynd i chwilio amdano ac roedd yn anodd dod o hyd i Gareth. Mi gafwyd llawer o hwyl efo fo ar deithiau rygbi – ac, wrth gwrs, roedd wrth ei fodd yn canu – yn arbennig ar ôl cael llymaid. Cafodd gyfle i fwynhau gwyliau dros y dŵr i sawl gwlad dros y blynyddoedd a hynny yng nghwmni Hari Ty’n Wern yn bennaf. Er hynny, dyn y werin oedd o ac efo pobl ei filltir sgwâr yr oedd Gareth yn hoffi bod. Ac roedd ganddo gyfaill gwahanol ar gyfer bob dydd o’r wythnos er mwyn cael rhywun i fynd allan am fwyd efo fo. Mi fydd y ffrindiau hynny yn cofio amdano fel cyfaill agos iawn a chwmnïwr diddan. Mi brynodd ‘cooker’ newydd rhyw wyth mlynedd yn ôl a’r unig dro i mi ei gofio yn ei ddefnyddio oedd un Dolig rhyw bedair blynedd yn ôl pan roddodd wahoddiad i mi gael cinio Dolig efo fo. Ond nid wyf am fanylu am y cinio – digon yw dweud byth eto! Bu’r ddwy flynedd ddiwethaf yn anodd i’w ffrindiau wrth i ni sylwi ar y dirywiad yn ei iechyd. Ond cofio’r blynyddoedd da wnawn ni, cofio ei gyfeillgarwch, ei addfwynder, yr hwyl a’i wên barod. Hen foi iawn oedd o. Hen drymp. Un o’r goreuon. Bydd chwith mawr ar ei ôl. Mae gan y diweddar Dic Jones gerdd wych am gyfaill ac mae’n gweddu i’r dim i Gareth. Mae fy ngobeithion yn rhan ohonot, Mae fy nioddef a’m hofnau’n eiddot, Yn d’oriau euraid, fy malchder erot, Yn d’oriau isel, fy ngweddi drosot, Mae’n well byd y man lle bot, – mae deunydd Fy holl lawenydd, ’nghyfaill ynot.
LLYTHYR
Annwyl Llais Ardudwy, ‘Caewch nhw i gyd - mae crefydd yn achosi rhyfeloedd!’ Gyda gymaint o achosion crefyddol yn dod i ben a chapeli’n cau yn yr ardal, mae ymateb pobol yn amrywiol, â dweud y lleiaf. Y gwir yw nad yw’r mwyafrif llethol o’r boblogaeth - yn enwedig y tô ifanc, yn ymwybodol o’r peth o gwbl. Nid yw hynny ‘n syndod oherwydd iddyn nhw peth hen ffasiwn ac amherthnasol ydi crefydd cyfundrefnol. Ymhlith y lleiafrif sy’n mynychu lle o addoliad, mae’n sefyllfa digon trist. Mae’n cyhoeddi diwedd cyfnod a thraddodiad wnaeth gyfrannu yn helaeth at y bywyd Cymreig. Wedi’r cwbl, dyma un o’r ychydig sefydliadau, erbyn hyn, sydd wedi bod yn cynnal eu gweithgareddau yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Iddyn nhw, colled ddiwylliannol ydi’r golled a hen ffordd o fyw yn dod i ben. I eraill ohonom, mae’n sefyllfa enbydus a thorcalonnus. Nid bod y defnydd o hen adeiladau yn peidio - mae’r adeiladau eu hunain yn aml wedi mynd yn ormod o faich. Mae’n drychineb oherwydd yr hyn y mae’n ei arwyddo. Mae pobol Cymru wedi mynd i gredu y gallan nhw fyw heb Dduw ac nad oes angen Efengyl na Gwaredwr bellach. Codwyd y bocsys di-gysur a alwn ni yn ‘gapeli’ gan bobol oedd yn credu bod Duw, Efengyl a Gwaredwr yn ganolog mewn bywyd. Cwestiwn arall ydi a ddaliodd y rhai a ddilynodd y sylfaenwyr at y weledigaeth honno? Nid cau y capel, fel y cyfryw, ond y rheswm am hynny, ydi’r drychineb fwyaf. Mae’n bwysicach gan y mwyafrif llethol ddilyn eu breuddwyd i geisio cael rhywfaint o bleser yn y byd yma cyn marw. Ar wahân i’r Beibl drwyddo draw, mae yna hen ddihareb sy’n dweud - ‘Heb Dduw, heb ddim. Duw a digon.’ Ymateb arall sy’n cael ei wasgaru fel gwirionedd ydi - ‘Da iawn fod y capeli yma’n cau - mae crefydd wedi achosi gymaint o ryfeloedd.’ Dyma’r ffeithiau: Yn ôl yr ‘Encyclopaedia Of War’ (Alan Axelrod a Charles Philips ) a gyhoeddwyd yn 2006, 6.98% o ryfeloedd a achoswyd gan grefydd. Mae hynny yn 6.98% yn ormod - ond mae’n wahanol iawn i’r darlun a gawn gan elynion crefydd. Yn ystod yr ugeinfed ganrif lladdwyd mwy o bobol mewn rhyfeloedd a achoswyd gan atheistiaid na chan yr holl ryfeloedd eraill yn hanes y byd! Stalin - 42,672,000; Mao Zedong – 37,828,000;Hitler - 20,946,000, Chiang-Kai-shek - 10,214,000, Lenin – 4,017,000; Hideki Tojo 3,990,000 a Pol Pot, 2,397,000. Nid crefydd ydi’r broblem ond dyn yn ei awch am rym ydi’r broblem. Mae Cristnogaeth glasurol wedi rhoi bri ar fywyd yr unigolyn ac yma yng Nghymru, mae gennym draddodiad Cristnogol sy’n parhau i roi pwys mawr ar heddychiaeth. Bûm mewn cyfarfod yn ddiweddar lle roedd gwraig o’r enw Maureen Wise yn siarad am ei phrofiadau mewn gwlad fach dlawd o’r enw Moldova. Mae’r capeli yn llawn yno! A ninnau newydd ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi, dymuniad rhai ohonom o hyd ydi: ‘O deued dydd pan fo awelon Duw Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw A’r crindir cras dan ras cawodydd Nef Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef, A’n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen Yn seinio fry haeddiannau’r addfwyn Oen.’ Dewi Tudur
5
CANA-MI-GEI YN CYSTADLU
CERDDI I ‘MAM’ AR SUL Y MAMAU gan blant B1/2
Ysgol Tanycastell
Blodyn enfys yn yr awyr gynnes Mefus coch aeddfed Ci fflwfflyd yn mynd am dro Spaghetti bolognese blasus. Amelia
Bore dydd Sadwrn, Mawrth yr 2ail 2019, teithiodd 28 aelod o Gôr Cana-mi-gei, gyda’n harweinydd Ann Jones a’n cyfeilydd Elin Williams, i Hazel Grove yn Stockport, i gystadlu mewn Gŵyl Gorawl yno. Roedd 7 côr yn cystadlu, rhai yn gorau cymysg, un côr meibion a rhai ohonom yn gôr merched. Yr oeddem yn ein gwisg newydd sef gwisg ddu gydag addurniadau arian a sblash o goch. Dechreuodd y gystadleuaeth am 2.00 o’r gloch y prynhawn, ac roedd y gynulleidfa wedi ei phlesio’n fawr iawn. Mi gawsom ni feirniadaeth dda iawn gan Dr Andrew Padmore, gyda chanmoliaeth mawr am ein tair cân, sef ‘Clodforaf di’, ‘Ave Maria’ o waith R Vaughn ac, yn olaf, ein cân fywiog, sef ‘Wash that man right out of my hair’. Roedd y gynulleidfa ar ei thraed, wedi ei phlesio’n fawr iawn gyda’r gân yma, a’r beirniad yn ein canmol i’r cymylau. Mi ddaethom yn bedwerydd ac roedd y marciau yn agos iawn. Dim ond pedwar pwynt oedd rhwng yr enillydd, sef y Decibelles, côr o ferched o Blackburn, a ni, yr unig gôr o Gymru fach oedd yn cystadlu. Mwynhaodd pawb y diwrnod, a oedd wedi ei drefnu gan ein hysgrifennydd Gwen Edwards. Daeth y diwrnod i ben yn Carluccios yn Cheshire Oaks, cyn cychwyn ar y daith hir adref. MT
CORNEL Y FFERYLLYDD gyda Steffan John
COLESTEROL Yn ddiweddar bu cyfarfodydd cenedlaethol i drafod colesterol. Braster yw colesterol a dros y blynyddoedd diweddar mae yna lawer o drafod wedi bod ar lefelau braster y corff. Ym meddwl nifer ohonom mae colesterol yn beth drwg, ond rhaid cofio bod peth colesterol yn hanfodol i’r corff fedru gweithio’n iawn. Defnyddir colesterol yn y corff i wneud celloedd, i gadw’r corff yn gynnes a hefyd i wneud hylifau’r system dreulio. Gormod o golesterol sy’n achosi trafferthion a dyma’r rheswm fod ein meddygon yn profi lefel colesterol y corff. Mae colesterol yn cael ei greu yn naturiol yn ein iau ond hefyd yn cael ei amsugno o’r bwydydd yr ydym yn ei fwyta. Mae dau brif fath o golesterol – HDL (colesterol da) a LDL (colesterol drwg). Gall lefelau rhy uchel o golesterol arwain at broblemau megis
6
trawiad ar y galon, strôc, neu’r arterïau yn culhau. Un o’r prif bethau y gallwn ei wneud i gadw lefel colesterol o dan reolaeth yw edrych ar ein deiet. Gall bwyta llai o fwydydd llawn braster yn enwedig bwyd sy’n cynnwys braster dirlawn (saturated) helpu i ostwng lefel y colesterol. Mae’r bwydydd canlynol yn cynnwys tipyn o fraster dirlawn – cigoedd megis bacwn neu selsig, menyn, hufen, caws, cacennau a bisgedi. Pethau blasus yn anffodus!! O ran pethau llesol, mae nifer o arbenigwyr yn credu y gall bwyta pysgod olewog megis macrell neu sardîns sydd yn cynnwys Omega-3 fod o fudd. Ffactorau eraill sydd yn gallu
helpu yw mwy o ymarfer corff a rhoi’r gorau i ysmygu. Wrth gwrs mae hefyd yn bosib trin colesterol uchel gyda meddyginiaeth. Statin yw’r cyffur sy’n cael ei ddefnyddio gan amlaf ac mae yna dystiolaeth eang i ddangos bod cymryd statin yn lleihau achosion o strôc neu drawiad ar y galon. Mae yna lawer o drafod ar sgil effeithiau statins wedi bod yn y cyfryngau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cofiwch felly, os ydych yn poeni am sgil effeithiau, gofynnwch am gael sgwrs gyda’ch fferyllydd. Mae yna opsiynau y medrwn eu cynnig megis newid i statin gwahanol sydd yn aml yn peri llai o sgil effeithiau. Yr unig ffordd i weld os yw lefel eich colesterol yn uchel yw trwy gael ei brofi. Trafodwch gyda’ch meddyg teulu neu fferyllydd os am wybodaeth bellach.
Darn o aur sgleiniog Blanced gynnes fflwfflyd Blodyn hardd piws Mefus coch blasus. Siôn Mefus coch yn dy galon Yn gynnes fel yr haul Gummy worms glas Oren yn llawn sudd. Archie Cacen siocled flasus Mefus coch aeddfed Siocled wedi toddi Tedi bêr cynnes. Savannah Lleuad yn disgleirio yn y nos Arth fflwfflyd yn y goedwig Banana wedi toddi mewn smwddi Spaghetti bolognese ar drip yn fy ngheg. Isabella Rhosyn pinc yn agor ar ddiwrnod braf Siocled gwyn wedi toddi Gwres yr haul, candi fflos pinc. Jessica. Siocled gwyn, cacen siocled o’r popty Candi fflos glas, pinafal ffresh. Tommy Awyr braf glas, persawr yr haf Tedi bêr cynnes, siocled wedi toddi. Paige Awyr las, siocled wedi toddi Blanced gynnes, da da Starburst. Jac Brenhines brydferth yn y castell Pabi coch yn yr ardd Ceirios ar ben cacen siocled Tedi mawr fflwfflyd. Henry Yr haul cynnes ar ddiwrnod braf Persawr yr haf Dafad wen yn y cae Mefus coch yn yr ardd. James
BWYD BLASUS BERMO
Fel rhan o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol y Cyngor Celfyddydau cafodd disgyblion B5, Ysgol y Traeth gyfle gwych i weithio ar brosiect ‘Bwyd Blasus Bermo’. Cawsant gyfle i fod yn feirniaid bwytai yng ngwesty Portmeirion yn dilyn 4 wythnos o gyflwyno blasau newydd o bob math gan Lowri Haf Cooke a chreu gwaith celf godidog efo’r arlunydd Catrin Williams. Mae Catrin wedi gweithio droeon yn Ysgol y Traeth yn y gorffennol ond dyma’r tro cyntaf i Lowri ddod i’r ysgol. Mae gan Lowri gysylltiad agos efo’r ysgol gan y bu ei thaid, W D Williams yn bennaeth yr ysgol ac ef oedd sgrifennodd yr englyn enwog ‘Gras o flaen Bwyd’. Wrth archwilio blasau newydd a chrwydro’u bro trwy gyfrwng bwyd, daeth y plant i ddeall mwy amdanyn nhw eu hunain, a chyfle i gael hwyl trwy’r iaith Gymraeg. Cafodd y disgyblion gwrdd â chynhyrchwyr a phobl busnes bwyd yn Abermaw. Dechreuodd y prosiect efo ymweliadau â dau fusnes lleol Cymraeg sef y cigydd David Jones a chaffi y chwiorydd Alys a Melissa (Goodies) yn y Bermo. Bu’r disgyblion hefyd yn Bistro Bermo lle ddaru nhw gyfarfod y cogydd sef José Fernandez a chael cyfle i flasu bwyd môr a physgod Cymreig. Y cam nesaf yn y prosiect oedd ymweld â Phortmeirion. Dyma ‘brofiad bwyd’ mewn bwyty rhagorol o safon rhyngwladol. Roedd y cogydd o Gricieth, Mark Threadgill wedi paratoi bwydlen blasu pum cid:E69E792B6E84-4831-B3F4-24A25CFD7D66@home cwrs yn arbennig i’r plant. Yn dilyn y profiad bythgofiadwy hwn bu’r plant yn ysgrifennu adolygiad am y bwyd. Yn ogystal â hyn, bu’r arlunydd Catrin Williams yn gweithio efo’r plant yn dylunio llieiniau bwrdd ac yn creu lluniau braslunio i ddogfennu’r holl waith. Penllanw’r prosiect oedd tê prynhawn yn yr ysgol i’r rhieni, teuloedd a gwarcheidwad lle yr oedd cyfle iddynt weld yr holl waith celf ac ysgrifennu a mwynhau tê a baratowyd gan y plant. Mae’r plant a’r staff wedi mwynhau cymryd rhan yn y prosiect bythgofiadwy hwn. Cafodd rhannau o’r prosiect ei ffilmio ar gyfer dwy eitem ar y rhaglen Heno ar S4C.
CLWB RYGBI HARLECH
Dymuna Clwb Rygbi Harlech ddiolch yn fawr iawn i Mr Graham Perch, caffi’r Maes, Llandanwg am gyfrannu tuag at brynu crysau i ieuenctid Clwb Rygbi Harlech. Gwerthfawrogir ei haelioni yn fawr.
CANLYNIADAU EISTEDDFOD YR URDD EISTEDDFOD CYLCH ARDUDWY 2019 Unawd B2 ac iau Eva Mulholland, Ysgol y Garreg, 1af Anna Efa Mitchelmore, Ysgol Talsarnau, 2il Gwenno Edwards, Ysgol Dyffryn Ardudwy, 3ydd Unawd B3 a 4 Gadran Glyn Roberts, Adran Deudraeth, 1af Lowri Pugh-Jones, Adran Deudraeth, 2il Ella Haf Jones, Adran Deudraeth 3ydd Unawd B5 a 6 Nel Haf Humphreys, Adran Deudraeth, 1af Cet Ap Tomos, Adran Deudraeth, 2il Isaac Stone-Williams, Ysgol y Traeth 3ydd Deuawd B6 ac iau Cet a Nel Haf, Adran Deudraeth,1af Parti B6 ac iau (Adran) Parti Cherry, Adran Deudraeth, 1af Parti Leusa, Adran Deudraeth, 2il Côr B6 ac iau (Adran) Adran Deudraeth, 1af Côr B6 ac iau (YC) (Ysg. Hyd 150) Ysgol Talsarnau, 1af Unawd Merched B7-9 Nel Ap Tomos, Ysgol Ardudwy, 1af Alaw Werin Unigol B7, 8 a 9 Nel Ap Tomos, Ysgol Ardudwy, 1af Unawd Telyn B6 ac iau Erin Lloyd, Ysgol Llanbedr, 1af Unawd Pres B6 ac iau Elsie Bisseker, Ysgol Talsarnau, 1af Unawd Piano B6 ac iau Erin Lloyd, Ysgol Llanbedr, 1af Cari Jones, Ysgol Talsarnau, 2il Grŵp Cerddoriaeth Greadigol B6 ac iau Ysgol Talsarnau, 1af Unawd Chwythbrennau B7- 9 Chloe Lois Roberts, Ysgol Ardudwy 1af Unawd Pres B7- 9 David Bisseker, Ardudwy, 1af Unawd Piano B7- 9 David Bisseker, AArdudwy, 1af Unawd Cerdd Dant B5 a 6 Cet Ap Tomos, Adran Deudraeth, 1af
Unawd Cerdd Dant B7 - 9 Nel Ap Tomos, Ysgol Ardudwy 1af Dawns Werin B6 ac iau (Ysg.>100/Adr ) Dawnswyr Mawddach, Ysgol y Traeth, 1af Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo B6 ac iau Anna Efa Mitchelmore, Ysgol Talsarnau, 1af Cadi Ifan Cunnington, Ysgol y Garreg, 2il Grŵp Dawnsio Hip-Hop/Stryd/ Disgo B6 ac iau Grwp Betsy, Ysgol y Garreg, 1af Grwp Lois, Ysgol Llanbedr, 2il Llefaru Unigol B2 ac iau Anna Efa Mitchelmore, Ysgol Talsarnau, 1af Llywelyn Harris, Adran Deudraeth 2il Gwenno Edwards, Ysgol Dyffryn Ardudwy, 3ydd Llefaru Unigol B3 a 4 Alaw Thomas, Ysgol Dyffryn Ardudwy, 1af Tomos Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy, 2il Cedri Rhys Lloyd Evans, Adran Deudraeth, 3ydd Llefaru Unigol B5 a 6 Mari Jones, Adran Deudraeth, 1af Grŵp Llefaru B6 ac iau Ysgol y Garreg, 1af Grŵp Llefaru B6 ac iau (Adran) Adran Deudraeth, 1af Llefaru Unigol B2 ac iau (D) Layla Stone-Williams, Ysgol y Traeth, 1af Mathew Swai, Ysgol y Traeth, 2il Ymgom B6 ac iau Parti Efa, Adran Deudraeth, 1af Parti Cari, Adran Deudraeth, 2il Grŵp Elliot, Ysgol y Traeth, 3ydd Cân Actol B6 ac iau (Ysg. hyd 100) Adran Deudraeth EISTEDDFOD RHANBARTH MEIRIONNYDD 2019 Unawd Telyn B6 ac iau Erin Lloyd, Ysgol Llanbedr, 2il Unawd Pres B6 ac iau Elsie Bisseker, Ysgol Talsarnau, 1af Grŵp Cerddoriaeth Greadigol B6 ac iau Ysgol Talsarnau, 1af Llefaru Unigol B2 ac iau (D) Layla Stone-Williams, Ysgol y Traeth, 1af
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Colli Olwen Dydd Mawrth, Mawrth 26 yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, bu farw Mrs Olwen Lewis, Ger Afon, Tal-y-bont [Siopwen gynt]. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei phlant, ei chwaer Mai a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Clwb Cinio Aeth criw o tua 12 ohonom draw i’r Sgwâr yn Nhremadog i fwynhau pryd bach amser cinio a chael sgwrs ddifyr, wrth gwrs. Cawsom bryd blasus a gweld Y Sgwâr ar ei newydd wedd – cyfforddus a smart. Diolch am y croeso. I ble yr awn ni mis nesa tybed? Teulu Ardudwy Fel arfer ym mis Mawrth cawsom gwmni plant yr ysgol gynradd a’u hathrawon. Croesawyd hwy gan Gwennie. Mawr oedd y mwynhad yn gwrando arnynt yn canu eu hoff emynau. Llefarodd Tomos ‘Y Gornel Dywyll’ a bydd yn cystadlu yn Eisteddfod Sir yr Urdd. Canodd Gwenno ‘Mae’n ddrwg gen i’ ac adrodd ‘Pysgota Sêr’. Bu parti o B2 ac iau yn canu a llefaru ac Alaw a Margiad yn cyd-lefaru. Pawb ohonom wedi gwirioni hefo’r hen blant a diolchodd Gwennie iddyn nhw a’u hathrawon am ddod atom ac am roi gymaint o bleser i ni. Cyn dychwelyd i’r ysgol cawsant ddiod oren a bisgedi. Ar Ebrill 17 byddwn yn cael cwmni’r Parch Christopher Prew. Festri Lawen Ar nos Iau, Mawrth 14 daeth dros 40 ohonom i gymdeithasu, i fwynhau llond bol o fwyd da a chwerthin hwyliog. Cynhaliwyd ein Cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen.57 a’r gŵr gwadd oedd Dilwyn Morgan, Bala. Mwynhawyd y noson gan bawb a diolch i bawb am y trefniadau.a’r gefnogaeth drwy’r tymor. Gobeithiwn drefnu Rhaglen 2019/2020 yn y misoedd nesa a chynhelir ein cyfarfod nesa ar Hydref 10fed. Croeso cynnes i bawb.
Adre’n ôl Rydym yn falch o glywed bod Mr Arthur Jones, Isgoed, wedi cael dod adre o Ysbyty Dolgellau, ac anfonwn ein cofion ato. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn gyda Nia, Enid, Gwennie a holl deulu Mrs Eluned Jones Williams, Islwyn, Dyffryn Ardudwy yn eu profedigaeth o golli un mor annwyl iddynt.
Englyn Capten Tom Diolch i ddarllenydd di-enw a welodd yr englyn isod yn ‘Awen Meirion’ gan T H Davies, neu i bobol Dyffryn a Thal-y-bont, y Capten Tom Davies (Tom Henborth i rai mewn oed mawr!). Sarn Badrig Dŵr trystiog a dyr trosti – man y bu Meini balch uwch gweilgi; Dim ond croch donnau’n brochi Ddengys ple mae’i lle’n y lli. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at deulu Ty’n Wern yn eu profedigaeth o golli eu brawd, Robin. Cymeriad annwyl a ffraeth iawn oedd Robin a chanddo gylch eang o gyfeillion yn yr ardal. Gobeithiwn gynnwys coffâd llawn iddo yn y rhifyn nesaf.
Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mr Evie Morgan Jones, Penybryniau sydd yn Ysbyty Gwynedd yn derbyn triniaeth. Bu Evie dan gryn anhwylder ers peth amser ac rydym oll yn meddwl amdano ac yn disgwyl y daw newydd gwell am ei iechyd yn fuan.
Gwasanaethau’r Sul Horeb EBRILL 7 - Parch Dorothi Evans, 5.30 14 - Mawl a Chân 21 - Elfed Lewis 28 - Cyfarfod Gweddi MAI 5 - Aled Lewis Evans
Eluned Jones Williams Merch ei milltir sgwâr fu Eluned erioed – ni fu iddi symud lawer o’r Dyffryn a’r fro gyfagos erioed. Fe’i ganwyd yn ferch i John a Casi Pugh ym Mhant Heulog, Dyffryn ar Ebrill 19, 1934, yn chwaer i Enid a Gwennie, a’r diweddar John, Alun, William, Emyr, Edward ac Ella. Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Dyffryn ac Ysgol Ramadeg y Bermo. Arhosodd yn ei bro enedigol ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed a mynd i weithio i Siop Star Supply Stores yn y Bermo, a daethai i adnabod pobol y fro yn dda o ganlyniad i hynny. Yr oedd Capel Horeb yn lle pwysig iawn iddynt fel teulu ac yr oedd Eluned wrth ei bodd yn yr Ysgol Sul a’r Band of Hope yn arbennig. Yn Horeb y cafodd ei bedyddio, ei derbyn yn gyflawn aelod ac yma y priododd hefyd. Diwrnod mawr yn ei golwg oedd diwrnod y Gymanfa yn Bermo, pryd y cynhelid cyfarfodydd yn y bore, y prynhawn a’r hwyr, ac edrychid ymlaen am y prydau bwyd rhwng y cyfarfodydd yn y festri. Bu’n aelod o Barti Adrodd Mrs Davies, London House a fyddai’n ymgiprys gydag Ysgolion Sul eraill y cylch yn y Gymanfa am y darian. Bu’n mynychu oedfaon y Sul ar hyd y blynyddoedd nes iddi fethu yn ystod y blynyddoedd olaf. Cadwodd ei diddordeb yn y Capel i’r diwedd, gan holi eu hynt a’u helynt yno yn gyson iawn, a byddai’n cael pleser o wrando ar Oedfa’r Bore a Chaniadaeth y Cysegr ar y radio a Dechrau Canu Dechrau Canmol ar y teledu, yn arbennig ar ôl iddi fethu mynd i’r Capel ei hun. Cyfarfu â Robert Ifan a oedd yn ffarmio adref yn Hendre Forion, Bontddu a phriododd y ddau yn 1956 a mynd i fyw i Hendre Forion. Ganwyd Nia yn 1958. Roedd Eluned a Robert yn hoff iawn o ddod i’r Dyffryn i gyngherddau, dramâu ac ati a byddai Nain Pant Heulog wrth ei bodd yn gwarchod Nia tra byddent yno. Roedd gan Eluned hiraeth mawr am y Dyffryn a manteisiai ar bob cyfle i ddod yn ôl. Yr oedd gan Robat gar ac roeddynt yn hoff iawn o grwydro yn y car. Mewn rhyw flwyddyn neu ddwy ar ôl priodi symudodd y tri i Ty’n Ffynnon yn y Dyffryn, a chafodd Robat waith ar y Cyngor yn dreifio lori. Yn fuan wedyn gwerthodd y teulu Hendre Forion a symud i Draenogau, fferm yn Nhalsarnau. Ond daeth profedigaeth fawr i’w rhan. Bu farw Glenys, gwraig Sec, brawd Robat Ifan yn 29 oed, ac roedd ganddi ferch fach bedair oed, Sali. Symudodd Robat, Eluned a Nia i’r Draenogau at Taid, Dewyrth William, Sec a Sali i edrych ar ôl y teulu. Mewn peth amser penderfynwyd gwerthu Draenogau a symud yn ôl i Ty’n Ffynnon ac fe weithiodd Eluned yn galed iawn yn edrych ar ôl y teulu i gyd. Yn ddiweddarach prynodd Ellis Williams, sef Taid, Islwyn a symudodd pawb yno. Magodd Eluned Sali nes i’w thad ailbriodi ac roedd Nia a Sali fel dwy chwaer. Cafodd Eluned a Nia brofedigaeth fawr pan fu farw Robat Ifan yn 1981. Wedi hynny bu’r ddwy yn hynod ofalus o’i gilydd ac yn agos iawn. Bu Eluned yn ofalus iawn o Nia, ac wedi i’w mam fynd i fethu yr oedd Nia yn ofalus iawn o’i mam, ac yn garedig iawn wrthi. Bu’r ddwy yn driw iawn i’w gilydd ar hyd y blynyddoedd. Wedi iddi gollli ei mam, mae Nia wedi derbyn llawer iawn o garedigrwydd a chymorth gan ei Modryb Gwennie, ac mae hi wedi gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Fel y clywsom yn barod mae ei diolch yn fawr a diffuant i Seashells Carers ac Ysbyty Dolgellau am eu gofal a’u caredigrwydd hwy. Person dawel, ddi-ffws, ddi-ffwdan oedd Eluned, ond yn siriol bob amser, â gofal mawr am ei theulu. Roedd yn ardderchog am gofio dyddiadau pen-blwyddi, ac yn falch o weld pawb a fyddai’n galw. Roedd croeso bob amser yn Islwyn. Gweithiodd yn ddi-gŵyn ac yr oedd yn meddu ar bersonoliaeth addfwyn a hynod o hael. Yr oedd yn hoffi hwyl ac roedd ganddi gof ardderchog. Wrth feddwl am Eluned, yr ydym yn sicr fod y geiriau adnabyddus yn rhai addas iawn i’w disgrifio hithau. ‘Yr hyn a allodd hon, hi ai gwnaeth’, ac yr oedd hynny bob amser gyda gwên. Melys iawn yw ein myfyrdod amdani a bydded iddi gael gorffwys mewn hedd. Geraint Lloyd Jones Diolch Dymuna Nia, Enid, Gwennie a’r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Eluned, mam, chwaer a modryb annwyl iawn. Diolch i’r Parch Christopher Prew am ei wasanaeth ddydd yr angladd, i Mr Edward Owen am ganu’r organ, i Mr Geraint Lloyd Jones am draddodi’r deyrnged ac i’r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr a gofalus a’u caredigrwydd.
Diolch £10
8
CYNGOR CYMUNED CYFRIFIADURON DYFFRYN A THAL-Y-BONT diolch i Ŵyl Gwrw Llanbedr a CEISIADAU CYNLLUNIO Addasiadau i gynllun y ffordd wrth y fynediad a thirlunio caled Chyfeillion yr Ysgol cysylltiedig, a gosod nodweddion ger y fynediad - Barmouth Bay Holiday Village, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Datblygu Maes Parcio Derbyniwyd e-bost gan Mr Geraint Lewis yn datgan ei fod wedi mynd a’r cais cynllunio ynglŷn â’r datblygiad uchod i Apêl. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Derbyniwyd ateb gan yr Adran uchod i’r materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor a’u bod yn datgan bod yr Arolygwr Priffyrdd wedi bod i weld y tyllau yn y ffordd ger croesffordd Ffordd y Capel a Ffordd Gors y Gedol ac y byddant yn derbyn sylw yn ddiweddarach yn y flwyddyn; hefyd yn datgan bod Peiriannydd Goleuo wedi ymweld â’r golau fflachio ger yr ysgol ac wedi nodi bod problem gyda’r arwydd, felly wedi ei ddiffodd dros dro. Trefnir i’w atgyweirio maes o law. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - £250
Neuadd Gymuned Dyffryn Ardudwy
CYNGERDD gyda
Côr Meibion Ardudwy a Treflyn Jones
7.30 o’r gloch, nos Sul, Ebrill 21 2019 Tocyn: £7.00; plant am ddim Tocynnau wrth y drws
AR OSOD 8 PENTRE UCHAF, DYFFRYN ARDUDWY. LL44 2HF FFLAT 1 LLOFFT, LLAWR GWAELOD
Mae gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) fflat sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar ar osod ym Mhentre Uchaf - adeilad sydd wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer pobl hŷn, anabl neu fregus sy’n mwynhau byw yn annibynnol. Cyfleusterau’r fflat: Lolfa Cegin Un llofft Ystafell ymolchi gyda chawod anabl System wresogi gymunedol Cyfleusterau’r safle: Lifft Lolfa gymunedol Cegin gymunedol Decin allanol Gwasanaeth warden a larwm argyfwng System mynediad electroneg Maes parcio ar y safle
I wneud cais am un o’r cartrefi hyn, cysylltwch â Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd ar 01286 685100 neu e-bostiwch opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru
‘Chrome-books’ newydd Yn dilyn cyfraniad hael gan Ŵyl Gwrw Llanbedr a Chyfeillion Ysgol Dyffryn Ardudwy derbyniwyd ‘Chrome-books’ newydd ar gyfer y disgyblion fydd yn fuddiol iawn ar gyfer eu gwaith yn gyffredinol. Yn y llun fe welir aelodau’r Cyngor Ysgol yn eu harddangos. Diolch yn fawr! Côr Meibion Ardudwy Mi gafodd y crysau polo newydd eu gwisgo am y tro cyntaf mewn cyngerdd yn Llanbedr yn ddiweddar. Maen nhw’n edrych yn dda ac mae pawb yn falch ohonyn nhw. Byddwn yn canu yn y Bermo ar Ebrill 13 er mwyn helpu i godi arian at Tŷ Gobaith ac yna yn Nyffryn Ardudwy ar nos Sul y Pasg. Cofiwch mai mis Ebrill yw’r amser i adnewyddu eich tanysgrifiad i Glwb 200 y Côr. £9 y flwyddyn yw’r gost ac mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno. Bu dau aelod ffyddlon iawn yn glaf yn yr ysbyty yn ddiweddar, sef Evie Morgan Jones ac Idris Williams. Bu’r ddau yn allweddol i lwyddiant y Côr dros y blynyddoedd ac mae’r holl aelodau yn cofio’n annwyl atyn nhw ac yn edrych ymlaen at eu gweld nhw adref gyda’u teuluoedd yn fuan.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 9
Y BERMO A LLANABER
Bad achub newydd RNLI y Bermo
Daeth tyrfa fawr ynghyd i groesawu cyrhaeddiad trawiadol bad achub dosbarth Shannon newydd y Bermo, yr Ella Larsen, wrth iddi hyrddio ei hun drwy’r tonnau mewn gwyntoedd ffyrnig 40 milltir yr awr. Cyrhaeddodd bad achub Shannon newydd yr RNLI, sydd wedi costio £2.2 miliwn, ar ddydd Sul 10 Mawrth 2019 wrth i gannoedd o gefnogwyr ddod i’r traeth i gyfarch y bad achub arloesol yma. Yn cyfarch y bad achub ar y môr yr oedd bad achub dosbarth Mersey presennol y Bermo, y Moira Barrie; hefyd wedi dod i’w cwfwr ymhellach i lawr yr arfordir yr oedd bad achub Atlantic 85 dosbarth B Cricieth. Roedd yn brofiad gwefreiddiol gweld y cychod yma’n brwydro drwy’r tonnau mawr wrth iddyn nhw agosáu at y lan. Cafwyd arddangosfa o symudiadau’r cwch newydd gan lywiwr a chriw gwirfoddol y Bermo cyn iddi ddod at y traeth a chael ei llwytho ar grud lansio’r Shannon a’r cerbyd lansio. Yna llusgwyd y ddau fad achub bob tywydd i’r traeth o flaen y Tŷ Cwch i’w cyflwyno i’r dorf. Bydd hyfforddiant pellach ar gyfer y criw gwirfoddol yn parhau am nifer o wythnosau nes bydd y cwch newydd yn cymryd lle’r Moira Barrie, bad achub dosbarth Mersey’r orsaf sydd wedi bod yn gyfrifol am achub bywydau ym Mae Ceredigion ers iddi gyrraedd yn 1992.
Meddai’r Llywiwr Peter Davies: “Diolch i bawb o bell ac agos am ddod draw i’n croesawu yn y tywydd oer a gwyllt yma. Mi rydan ni wedi cael taith flinedig ond difyr o Poole. Mae’r ffordd y mae hi wedi perfformio mewn môr eithaf tymhestlog ar y ffordd yma wedi bod yn rhyfeddol. Rydym i gyd wedi ein synnu at ei chyflymder a’i gallu, ac mae gennym hyder llwyr ynddi, ac yn sicr bod ganddi’r potensial i’n helpu i achub hyd yn oed mwy o fywydau ar y môr.” Meddai Dr Rob Haworth, cyn-Gadeirydd RNLI y Bermo ac aelod o’r criw: ‘Ar ran aelodau’r criw yn y gorffennol hoffwn eich llongyfarch un ac oll. Mae gennych dîm arbennig yma yn y Bermo, a dau Lywiwr medrus yn eich arwain. Rydych wedi dangos ymrwymiad llwyr yn ystod eich hyfforddiant ar gyfer cyrhaeddiad y bad achub newydd ac mae cyfraniad parhaus y criw ar y lan i’w llongyfarch. Rydw i wrth fy modd bod yr RNLI wedi dangos eu hyder ynddoch chi drwy osod Shannon yma yn y Bermo.’
10
ER COF
tymor, cafwyd gwledd i’r llygad Cydymdeimlir yn ddiffuant iawn wrth wylio lluniau diddorol Mr Keith Phillips a gwrando gyda theulu y ddiweddar Eirlys arno’n egluro ble a sut tynnodd Pugh Nolan, 40 Heol y Llan fu y lluniau. Cawsom weld ei farw ar yr 20fed o Chwefror. gamerau gwahanol a oedd yn Roedd yn wraig i’r diweddar codi manylion y mamaliaid Benny, yn fam i Elisabeth a bychain neu’r pryfetach lliwgar Steven, ac yn Nain garedig i a synnu at agosrwydd yr Gareth a’r teulu. awyrennau cyflym. Diolchwyd Bu’r angladd yn Eglwys iddo gan Alma. Gatholig St Tudwal lle bu Eirlys a’i diweddar briod Benny Merched y Wawr yn aelodau gweithgar am Rhoddodd Llewela, ein llywydd, flynyddoedd lawer. groeso i bawb a dymunodd yn Roedd Eirlys yn gymeriad dda i’r aelodau oedd yn methu a hoffus a charedig ac yn barod i gyfrannu at unrhyw weithgaredd bod yn bresennol. Cafwyd cyfarfod blynyddol byr i lleol yn arbennig Elusen yr drefnu ar gyfer rhaglen y tymor Ambiwlans Awyr. Derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar tuag at y nesa. Diolch i Llewela, Heulwen, Mair a Megan a fu’n cynrychioli’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr. gangen yng nghystadleuaeth Dymuna’r teulu ddiolch o Bowlio Deg yn Nghlanllyn. galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd Ar ôl mynd trwy’r ohebiaeth cyflwynwyd a chroesawyd a ddangoswyd tuag atynt yn eu Gwawr Davalan a’r hogiau, profedigaeth. Gweltaz a Gwendal gan Grace. Rhodd £10 er cof am Eirlys Roedd llawer o gynhwysion Pugh Nolan, y Bermo. ar y bwrdd ynghyd â ‘peleg’ ar Y Gymdeithas Gymraeg gyfer gwneud y crempogau. Mwynhawyd Swper Gŵyl Ddewi Rhannodd Gwawr ei phrofiadau blasus iawn yn Hendrecoed o fywyd yn Llydaw, syndod pa Isaf, Llanaber. Diolch i Kevin mor debyg i’r Gymraeg ydi’r a’r holl staff am y gofal a’r iaith. Cafwyd tair cân ar y gwasanaeth. Anerchwyd y chwythbrennau gan Gweltaz a gynulleidfa gan Mr Elfyn Llwyd Gwendal. Roedd cryn edrych gydag Eleri yn bresennol i’w ymlaen at wneud y crempogau. gefnogi. Soniodd am y bobl mae Roedd Gwawr yn feistr ar y grefft wedi ei gyfarfod a’r llefydd mae ond mentrodd rhai aelodau wedi ymweld â nhw yn ystod hefyd! Cafwyd noson hwyliog a ei yrfa wleidyddol. Diolchwyd chartrefol yn eu cwmni. Diolch iddo am sgwrs ddiddorol gan iddynt am ddod atom. Llewela a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth a’u ffyddlondeb i’r Eisteddfod yr Urdd Gymdeithas dros y tymor. Llongyfarchiadau i Leila Ar Nos Fercher, Mawrth 20, Stone Williams ar ennill y cynhaliwyd ein Cyfarfod gystadleuaeth llefaru i ddysgwyr Blynyddol. Bydd y Swyddogion B2 ac iau. Pob dymuniad da iddi yn parhau am flwyddyn arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol a lluniwyd rhaglen ar gyfer yng Nghaerdydd ddiwedd mis 2019/2020. Diolchwyd i bawb Mai. am eu cefnogaeth. I gloi ein
Eglwys Sant Ioan, y Bermo
CYNGERDD gyda
Chôr Meibion Ardudwy a Glyn Williams
Nos Sadwrn, Ebrill 13, 2019 7.30 o’r gloch, Tocyn: £6.00 Elw at Tŷ Gobaith
STRAEON AR THEMA: Garddio Dysgu crefft Erbyn heddiw ’does fawr o Ystadau Byddigions yn bodoli o gwmpas Ardudwy ond fe fuont yn ysgol brofiad ac academi i sawl un ddysgu ei grefft, beth bynnag fo honno. Mae dau arddwr a ddysgodd eu crefft yng Nglyn Cywarch yn fy meddwl i, sef Richard Bowering, Fucheswen Fach, Glanywern a Jac Jones, Cambrian House, Talsarnau. Cafodd y cyntaf ei fagu a chydoesi yn yr un dreflan â’m tad a’r llall yn gefnder i blant Pensarn. Roedd tad Dic yn bengarddwr y Glyn a Jac wedi bwrw ei brentisiaeth yno. Saeson wedi symud i’r ardal oedd rhieni Dic a mam Jac yn ferch Pensarn, Glanywern. Cofiaf y ddau yn iawn ac fe fyddai Dic mewn cysylltiad â theulu Pensarn wedi iddo symud o’r ardal a Jac yn ymwelydd wythnosol os nad amlach yn Bryntirion, yr Ynys pan oeddwn yn tyfu i fyny. Ymwelydd cyson arall â Phensarn a Bryntirion oedd Gwilym Owen, Barcdy, yn enedigol o Ty’n Pant, Dyffryn Ardudwy (ewythr sawl un o ddarllenwyr Llais Ardudwy), warden cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri a chyn-Drefnydd Ffermwyr Ifanc Meirionnydd. Jac Cambrian, mi gredaf, oedd garddwr cyntaf Ysgol Ardudwy a mawr oedd ei ofal dros ei dir yn y fan honno a’r cylch o flaen y giât fach yn llawn coed rhosod
gwerth eu gweld ganddo. Yr adeg honno, roeddem ni blant Ardudwy yn gwybod yn iawn nad oedd yr un o’n traed i fod i gyffwrdd â’r gwelyau blodau nac i daflu ysbwriel yn unlle. Ychydig oedd Jac wedi’i grwydro ond wedi iddo benderfynu dysgu dreifio yn ei 50au - a phasio ei brawf er syndod i bawb - dan ofal Gwilym a John Pensarn (fy nhad), ehangodd ei fyd. Tra yn dysgu, y daith ddieithriad oedd rownd Bermo a thrwy Trawsfynydd, Maentwrog ac adref i Bryntirion i gael swper dan ofal un o’r athrawon a’r ddau hynny yn gwegian chwerthin yn eu tro, oherwydd byddai Jac yn gyrru ac yn cadw gormod at y cloddiau, yn enwedig dan Caerffynnon ac am Wastad Fucheswen Fawr, Talsarnau! Penderfynodd Gwilym y byddai ymweliad â Llundain bell yn brofiad gwerth chweil i Jac ac felly yno yr aeth y ddau ar y trên. Synnodd Jac at yr hyn a welodd ac fe benderfynodd brynu can dyfrio yno ac fe’i llusgodd adref ar y trên - yr holl ffordd o Lundain! Olwen Jones Yr enaid ‘Ni all yr enaid ffynnu yn absensoldeb gardd. Os nad ydych yn chwilio am baradwys dydych chi ddim yn ddynol. Ac os nad ydych chi’n ddynol, does gennych chi ddim enaid.’ Thomas More
GORYMDAITH
Diffiniad o chwyn ‘Mae chwyn yn blanhigion sydd wedi meistrioli pob gallu i oroesi ar wahân i’r sgil o fedru tyfu mewn rhesi.’ ‘Planhigion sydd yn y lle anghywir ydi chwyn a phlanhigion sydd am fynnu aros yno!’ Chwyn Chwynnu yng ngardd fy mam yng nghyfraith yn Nhywyn yr o’n i pan godais beth tybiais oedd clwmpyn o ddail tafol. Pan ddaeth fy mrawd yng nghyfraith adref, mi holodd yn bryderus ‘Lle mae’r rhuddygl [horseradish]? O diar! Mae’r ddau blanhigyn yn debyg iawn, wrth gwrs! PM Diolch am yr eira Yn sicr nid yw garddio at ddant pawb. Nid yw Aled Samuel yn cuddio’r ffaith ei fod yn ei plith a diddorol yw darllen ei golofn ddiweddara’ yn Golwg, ‘Pobol a’u Gerddi.’ I eraill, wrth gwrs, mae’r ardd yn lle hyfryd i encilio iddi, yn rhoi pleser a mwynhad. Roedd ewythr i mi yn falch o’i ardd a’i chynnyrch ac roedd y ffarmwr wedi ymddeol wrth ei fodd yn paratoi’r pridd, yn hau yn ei dro, cyn mwynhau’r cynhaeaf yn ’i amser. Byddai’r cymdogion yn cael rhannu yn y mwynhad nid yn unig trwy eu hedmygedd o allu fy ewythr fel garddwr ond trwy gael blasu’r llysiau hefyd. Un o’r cymdogion oedd ei weinidog ac aml i dro fe’i clywais yn sôn, gyda rhywfaint o eiddigedd, am yr ardd drws nesa’. Pan fu farw fy ewythr, y cymydog parchus oedd wrth y llyw. Yn ei deyrnged, cofiaf iddo sôn cymaint oedd yn croesawu eira, oherwydd ar ôl noson o eira trwm, byddai ei ardd o yn edrych cystal â’r ardd drws nesa’! Ray Owen Dŵr Mae gerddi angen llawer o ddŵr - llawer ohono ar ffurf chwys!
Gorymdaith Gŵyl Ddewi, Ysgol y Traeth oedd yn rhan o’r wythnos ‘Cŵl Cymru’
TYFU TOMATOS YN Y TŶ
Morgrug Ni all morgrug ddioddef mintys poethion [peppermint]. Gwnewch drwyth a’i dywallt drostyn nhw - fyddan nhw ddim o gwmpas yn hir.
Rhaid i domatos gael digon o haul - rhyw 6-8 awr y dydd. Wnaiff ystafell dywyll ddim mo’r tro, felly mae angen ffenest go fawr a gorau’n byd os ydi hi’n wynebu tua’r de neu’r de orllewin. Mae angen bwydo hefyd. Y cyfan mae’n ei gymryd i dyfu tomato ydi haul, dŵr, a bwyd o’r pridd. Dylech ddechrau bwydo pan fo’r planhigion oddeutu 6 modfedd o daldra ac yna bwydwch nhw bob wythnos. Mae hylif [liquid] yn well na gronynnau. Rhaid cael digon o le i’r gwreiddiau sy’n golygu bod angen potyn sy’n dal o gwmpas 5 galwyn. Os ydi’r potyn yn rhy fach mi fydd y gwreiddiau yn glynu i’r ochrau ac mae’n bosib na chewch chi ffrwythau. Mae rhai garddwyr yn symud y tomato o botyn bychan i un ychydig yn fwy bob hyn a hyn gan orffen efo potyn mawr. Mae sawl gwahanol math o domato i’w chael. Mae rhai yn tyfu’n uchel [indeterminate] ac mae angen tynnu’r lladron [side-shoots] oddi arnyn nhw. Mae rhai eraill yn tyfu fel llwyn bychan - determinate. Gallwch dyfu rhai bach cochion - Gardener’s delight, rhai bach melynion - Sungold, neu ffefrynnau fel Shirley, Alicante a Moneymaker. Pob lwc! Y TESTUN NESAF: Mai: Gwyliau
11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mr Idris Williams, Tanforhesgan sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd yn derbyn triniaeth. Bu dan anhwylder ers peth amser ac rydym oll yn meddwl amdano ac yn dymuno gwellhad buan iddo. Dan anhwylder Anfonwn ein cofio cynhesaf at Shilagh a Bob Hughes, Clogwyn Melyn, Yr Ynys. Bu’r ddau dan anhwylderau gwahanol yn ddiweddar ac yn derbyn triniaethau. Mae pobl yr ardal yn meddwl amdanoch ac yn cofio’n annwyl atoch.
MAE’N AMSER HAU
HEN BENILLION Pan fydd y ddraenen ddu yn wen Tafl dy gynfas dros dy ben, Pan fydd y ddraenen wen yn wych Hau dy had boed wlyb neu sych.
Canlyniadau’r Pêl Fonws Cyfeillion Ysgol Ardudwy
Mis Ionawr 1. Rhif 30 Osian Lockett 2. Rhif 10 Paula Hancock 3. Rhif 13 Gail Roberts Mis Chwefror 1. Rhif 28 Bernadette Beddall 2. Rhif 34 Sarah Foskett 3. Rhif 15 Heulwen Jones Diolch am eich cefnogaeth. Mae’r bêl fonws fisol yn agored i bawb, am fwy o wybodaeth cysylltwch â cyfeillionysgolardudwy@aol.com Pwyllgor Rheoli’r Neuadd Gymuned Hysbysir ein Cyfarfod Blynyddol ar nos Lun, 15 Ebrill, am 7.30. Mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno hynny ddod draw i’r cyfarfod hwn.
12
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU
MATERION YN CODI Agor Tendrau Torri Gwair Derbyniwyd un tendr gan Meirion Griffith, Islwyn. Cytunwyd i dderbyn y tendr hwn. CEISIADAU CYNLLUNIO Trosi eglwys yn dŷ, codi estyniad a chreu lle parcio – Eglwys Crist, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn er bod gan yr aelodau bryder parthed y fynedfa. Tynnu to fflat, codi to brig yn cynnwys ystafelloedd atig ac ehangu llety preswyl i’r llawr isaf – Y Fflat, Caerffynnon, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn oherwydd fydd y fflat yn edrych yn well hefo to brig. ADRODDIAD Y TRYSORYDD - Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor y Neuadd Bentref - £1,500 ; Ambiwlans Awyr Cymru - £200; CFfI Meirionnydd - £50 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Bydd y Swyddog Tramwy yn archwilio’r gamfa yng Nhlan-y-Wern a bydd camfa newydd yn cael ei gosod yno maes o law. Nid yw’n bosib gosod arwyddion ‘dim sat-nav’ mwyach oherwydd nad yw wedi ei gynnwys o fewn y rheoliadau, ond mae modd gosod arwydd ‘dim cerbydau trymion’ ar y gyffordd A496 a Chilfor. Credir y bydd hyn yn fwy effeithiol yn rhybuddio nad yw’r ffordd ymlaen yn addas i lorïau. Hefyd, nid yw’r ffens o Gapel Soar am Ddolorgan yn gyfrifoldeb yr adran. Awgrymir bod y Cyngor yn cysylltu gyda’r tirfeddiannwr -Coed Cadw. Anfonwyd cyfarwyddyd i’r gweithlu i anfon lori i ysgubo’r dail yn yr ardal a chafwyd gwybod bod lori wedi bod yno ond nad oedd wedi ysgubo’r ffordd o Gapel Bach i Soar. Yn anffodus, nid oes cyflenwad trydan gyferbyn â’r lloches bws yng Nglan-y-Wern i osod golau ond mae yn bosib gosod lamp solar am gost o tua £1,800; hefyd mae opsiwn i symud y lloches bws i ochr Glan-y-Wern gan fod golau yno eisoes. Cytunwyd i osod golau solar yno a gofyn i’r Adran Briffyrdd a fyddant yn fodlon ei osod. Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol Derbyniwyd e-bost ynghyd â map yn datgan rhybudd y bydd y ffordd am Eglwys Llanfihangel-ytraethau ar gau o’r 1af o Ebrill nes bydd y gwaith o osod pibellau dŵr newydd wedi ei gwblhau. Swyddfa’r Post Credir bod y blwch post yn y pentref yn ei leoliad presennol yn addas ac y byddai symud y blwch at yr ysgol gynradd yn mynd a fo ymhellach o’r pentref. Cytunwyd i gysylltu’n ôl yn datgan bod y blwch post mewn lle peryglus ar hyn o bryd oherwydd nad oedd lle addas i aros mewn car, bod mwyafrif y tai yr ochr arall i’r ffordd a bod palmant yr ochr honno a byddai yn galluogi rhai i gerdded yn ddiogel at y blwch post heb orfod croesi’r ffordd; hefyd bod y blwch post ar hyn o bryd ar dir preifat.
Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne TYNGED TEULU BRENHINOL GWYNEDD yn Neuadd Gymuned Talsarnau 7.00 o’r gloch nos Iau, 4 Ebrill 2019 Traddodir gan Ieuan Wyn Tocyn: £5.00 Croeso cynnes i bawb Tocynnau gan Mathew Jones 770757, Elfed Roberts 770621 Capel Newydd Oedfaon am 6:00
EBRILL 7 - Dewi Tudur 14 - Dewi Tudur 19 - Dydd Gwener y Groglith (oedfa am 11:00) 21 - Dewi Tudur 28 - Emyr James MAI 5 - Dewi Tudur
R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286
HEN LUNIAU O DALSARNAU
Merched y Wawr, Talsarnau
Peth o orffennol ardal Talsarnau Daeth tyrfa dda i’r Neuadd Gymuned nos Iau, Mawrth 21ain i fwynhau edrych ar luniau o’r gorffennol. Cafwyd cyfle i weld cymeriadau amrywiol iawn - rhai wedi’n gadael ers peth amser ac eraill, yn annwyl inni, wedi’n gadael yn fwy diweddar. Cawsom hefyd weld ambell un oedd yn bresennol yn y gynulleidfa ac er bod pryd a gwedd wedi newid rhyw fymryn, roedd posib eu hadnabod o hyd! Braf iawn oedd cael ymateb o’r gynulleidfa. Ambell un megis Olwen, oedd wedi dod yr holl ffordd o Ddinas Mawddwy, a’i chof hi fel rasal, yn rhestru’r enwau yn ribi-di-res. Robat Llidiart Garw wedyn yn adnabod ac yn cofio beth wmbreth o enwau, Priscilla Ty’r Acra yn cyfrannu ac Anwen hithau yn adnabod nifer yn ardal Llandecwyn. Difyr iawn oedd edrych ar y lluniau oedd yn cyfleu llawer am bobl yr ardal a sut oeddynt yn byw, eu gwaith, a’r hyn oeddynt yn ei wneud yn eu hamser hamdden. Rhai ohonynt yn amlwg wedi byw bywydau caled iawn. Sylweddolwyd yn fuan mai ychydig o’r rhaglen fyddai’n cael ei dangos gan i’r amser hedfan ac yn wir mae bwriad i gynnal noson debyg eto yn yr hydref pan fydd canolbwyntio’r noson honno ar storïau ar ffurf fideos o hanesion yr ardal. Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at y noson mewn unrhyw ffordd ond yn arbennig i’r merched am y baned. Mae Pwyllgor y Neuadd yn hynod o ddiolchgar am y cyfraniadau hael a dderbyniwyd yn ystod y noson. Bydd y cyfanswm o £155, yn cynnwys y raffl, yn mynd at gynnal a chadw’r neuadd gymuned.
Dic, Llechollwyn
Tomi Gwilym
R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU
Meirion, ‘Singrug 13
HYSBYSEBION
Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831
e-bost:alunllyr@hotmail.com
14
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
EVAN LEWIS EVANS (1871-1901)
Ganwyd ef yn Aberdeunant, Llandecwyn, Tachwedd 12, 1871, yn fab i Evan a Jane Evans. Bu ei fam farw pan oedd tua dwy flwydd oed. Ailbriododd ei dad â chwaer ei fam, a bu’n flaenor yn Soar ((W), Talsarnau. Yr oedd Evan Lewis yn hanner brawd i’r Parch D Tecwyn Evans (1876-1957). Hanai Evan Lewis o ochr ei dad i Edmwnd Prys, ac o ochr ei fam i Ellis Wynne, o’r Lasynys. Cydymaith Evan yn ysgol y pentref oedd John Roberts (1872 –1901), Plas Llandecwyn. Magwyd y ddau ar yr un bryniau, addysgwyd y ddau yn yr un ysgol, a chyd-chwaraeodd y ddau lawer â’i gilydd. Yn ôl arferiad mwyafrif o fechgyn cyffredin y plwyf, aeth Evan Lewis i weini ar rai o ffermydd y gymdogaeth. Ymaelododd gyda’r Methodistiaid yn Llennyrch (Maentwrog Isaf) ac yna yn Brontecwyn, Talsarnau. Yn Mai 1891, hwyliodd am yr Unol Daleithiau at ei frawd hynaf, Griffith O Evans, oedd yn byw yn Trenton, New Jersey, ac wedi treulio tua blwyddyn yn ei gwmni ef, symudodd i’r Gorllewin, ac ymsefydlodd yn Racine, Wisconsin, lle cafodd waith fel ‘brakeman’ ar Reilffordd Chicago, Milwaukee, a St Paul. Unwaith eto, ymaelododd gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, y tro hwn yng Nghapel Cymraeg y Tabernacl, Racine. Gweinidog y capel ar y pryd oedd y Parch Robert T Roberts (1825-80) gynt o Landdeiniolen, Arfon. Galwai ei waith arno i symud i Milwaukee, lle y gwnaeth ei gartref am weddill ei oes, o dan gronglwyd John H Hughes, brodor o Fethesda, Arfon.
Y Tabernacl - Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg, Racine Pasiodd Evan i fod yn ‘conductor’ - swydd o ymddiried mawr yn America y pryd hynny. Ddwy flynedd cyn ei farw ymwelodd â Llandecwyn, ar fwrdd yr Oceanic, ac ar ôl iddo gyrraedd Cymru cymerwyd ef yn wael iawn o dan y rhiwmatig fever. Bu yn dioddef yn drwm am wythnosau lawer yn nhŷ ei chwaer, Kate, ym Mlaenau Ffestiniog, ond trwy fedr y meddyg, a gofal y teulu a chyfeillion, trodd ar wella. Ond yn yr America yr oedd ei fryd, ac aeth yn ôl ym Medi, 1900. Ymhen blwyddyn union bron, am wyth o’r gloch, bore Sadwrn, Hydref 5ed, 1901, cyfarfu â damwain angheuol wrth ddilyn ei waith fel ‘conductor freight-train’, trên oedd newydd adael Milwaukee y bore hwnnw am Molene, Illinois. Yr oedd y gerbydes wedi aros yn yr orsaf i ddatgysylltu ceir. Fel ac yr oedd yn cerdded ar dop y cerbydau i roi gorchymyn i’r peiriannydd, syrthiodd rhwng dau gerbyd, a gan eu bod yn symud llusgwyd ef tua 120 o droedfeddi o’r man lle y syrthiodd fel y maluriwyd rhannau o’i gorff. Bu farw ymhen tua wyth munud ar ôl y ddamwain, a chyn i’r meddyg fedru cyrraedd ato. Pedwar diwrnod cyn ei farw, ysgrifennodd yn ei ddyddiadur, os digwyddai rhywbeth iddo, mai ei ddymuniad oedd cael ei gladdu yn Racine, lle yr oedd nifer o Gymry eisoes yn gorffwys. Digwyddodd hynny ddydd Mercher, Hydref 9 pryd y daeth nifer lluosog o gyfeillion o Milwaukee i’w angladd, ac yr oedd y Capel Methodistaidd yn orlawn. Gwasanaethwyd gan y Parch John C Jones, (1855-1945), Milwaukee, mab-yng-nghyfraith Alice Williams, Dodgeville, un o deulu lluosog y Morrisiaid, Tanygrisiau gynt; cynorthwywyd gan y Parchedigion R Vaughan Griffith, Racine, a John Roberts, Bontnewydd, Wisconsin. Yno yn Racine, bedair mil o filltiroedd oddi wrth ei hen gartref ym mynyddoedd Meirion y gorffwysa Evan Lewis Evans. W Arvon Roberts, Pwllheli
CYNGOR CYMUNED HARLECH CLWB BEICIO Croesawodd y Cadeirydd Mrs Tracey Dawson o Glwb Beicio Ardudwy i drafod y diweddaraf ynglŷn â’r cynlluniau i ddarparu trac beicio yng nghae chwarae Brenin Siôr V. Dywedodd Mrs Dawson bod y Clwb Beicio wedi cofrestru gydag archfarchnad Co-op y Bermo er mwyn codi arian, hefyd bod Ymgyrch Seiclo Diogel yn cael ei gynnal ar y safle ar yr 20fed o Ebrill i hyrwyddo’r defnydd o feiciau. Hefyd bod pwyllgor llywio wedi ei sefydlu gyda gwahanol fudiadau yn aelodau ohono a bod y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn Ystafell y Band ar Mawrth 25. Cafwyd gwybod hefyd y bydd trac o’r math maent yn gobeithio ei osod yn costio tua £10k. Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Dawson am ddod i’r cyfarfod. MATERION YN CODI O’R COFNODION Agor Tendrau Torri Gwair Derbyniwyd dau dendr, un gan Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus, hefyd i dorri gwair y fynwent gyhoeddus, ac un gan Mr Eifion Roberts, 28 Tŷ Canol, Harlech i dorri gwair y fynwent gyhoeddus yn unig. Cytunwyd i dderbyn tendr Meirion Griffith i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a’r fynwent gyhoeddus oherwydd bod yr aelodau o’r farn y byddai’n well bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud gan un unigolyn. Hefyd. penderfynwyd derbyn tendr Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae’r Brenin Siôr V a’r cae pêl-droed eto eleni. CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel y garej presennol ac adeiladu estyniad unllawr, gosod ffenestri to a balwstrad gwydr ar y wal bresennol – Tan y Garth, Ffordd Uchaf, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - Dim Ambiwlans Awyr Cymru - £250 Pwyllgor yr Hen Lyfrgell - £500 Pwyllgor y Neuadd Goffa - £500 RHYBUDD O GYNNIG Derbyniwyd Rhybudd o Gynnig gan Martin Hughes yn gofyn i’r Cyngor Cymuned gefnogi penderfyniad Cyngor Gwynedd a galw am Bleidlais y Bobl; hefyd eisiau gofyn i CADW chwifio’r faner Ewropeaidd wrth ochr baner y Ddraig ar y Castell nes bydd penderfyniad wedi ei wneud parthed yr Undeb Ewropeaidd. Ar ôl trafodaeth cytunwyd bod Martin Hughes yn gosod y cynnig ar yr hysbysfwrdd yn gofyn am farn y bobl o ran cefnogi hyn oherwydd roedd yr aelodau o’r farn bod yn well i bobl gefnogi’r cynnig fel unigolion ac na ddylai’r Cyngor wneud hyn fel Corff. HYSBYSEB Caeau Chwarae Brenin Siôr V a Llyn y Felin Mae Cyngor Cymuned Harlech yn chwilio am unigolyn cymwys i wneud y gwaith angenrheidiol ar yr offer yn y ddau barc chwarae sef Cae Chwarae Brenin Siôr V a Llyn y Felin. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwneud y gwaith hwn ac angen mwy o wybodaeth, dylid cysylltu gyda Chadeirydd y Cyngor, Judith Strevens ar 01766 781696/01766 780700.
ENGLYN DA
CRIST GERBRON PEILAT Dros fai nas haeddai, mae’n syn - ei weled Yn nwylo Rhufeinddyn, A’i brofi gan wael bryfyn A barnu Duw gerbron dyn. Robert ap Gwilym Ddu, 1766-1850 15
HARLECH
Teulu’r Castell Yn anffodus bu’n rhaid gohirio cyfarfod Teulu’r Castell yn Ysgol Tanycastell ym mis Ebrill ond maent yn awyddus i’n cael ni yno ym Mehefin – y dyddiad i’w gadarnhau. Ar 9 Ebrill bydd Sefydliad y Merched yn gyfrifol am y cyfarfod yn Neuadd Llanfair, lle bydd Sheila Maxwell yn trafod Laura Ashley. Ar 14 Mai bydd Merched y Wawr yn gyfrifol am y prynhawn efo gyrfa chwilen. Cynhelir cyfarfod mis Mehefin yn yr ysgol, ac ym mis Gorffennaf byddwn yn cael te mewn lleoliad i’w gadarnhau. Pen-blwydd Pen-blwydd hapus iawn i Merfyn Jones (Min-y-Don) ar dathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Ffion Pugh, Llechwedd Du Mawr ac i Andrew Owens ar enedigaeth Aria Lois Owens. Mae Nain a Taid Llechwedd a’r teulu i gyd wedi gwirioni.
PEN-BLWYDD ARBENNIG
Dymuniadau gorau i Emyr John, Trem-y-wawr, Harlech sydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Diolch yn fawr iawn i bawb am y cyfarchion, anrhegion a chardiau ar yr achlysur yma. Rhodd £10 Awstralia Bydd Amy Lumb, 2 Tŷ Canol, yn mynd i Awstralia ar Ebrill 9 am gyfnod. Pob lwc iddi a hwyl fawr ar y teithio. Dymuniadau gorau iddi gan Mam, Dad a Beca. Rhodd £10
16
OLWEN JONES ROCK TERRACE 10/10/28 - 1/3/19
Priodwyd Ken ac Olwen yn 1957 yng Nghapel Moreia, Harlech a chawsant dri mab, Allan, Gareth a Michael. Bu Michael farw yn 1980, a Ken yn 2000. Daeth Allan yn ôl i Harlech o Lundain yn 2007 a bu’n gysur a help mawr i Olwen pan fu Gareth farw yn sydyn yn 2008. Roedd Olwen yn meddwl y byd o dri phlentyn Gareth, sef Callum, Kayleigh a Charlotte. Mi fyddai ei hwyneb yn wên i gyd pan oeddent yn dod i’w gweld i Rock Terrace, ac roeddent yn rhoi llawer o bleser iddi ym mlynyddoedd diwethaf ei hoes. Mi oedd ei byd yn troi o gwmpas ei mab Allan a’i fyd yntau yn troi o gwmpas ei fam. Roedd Allan yn gofalu am frecwast, cinio a swper bob dydd ac yn mynd â hi allan i lle bynnag yr oedd Olwen eisiau mynd; yn arbennig i Glwb y Werin, Talsarnau a Theulu’r Castell lle bu’n aelod am dros 50 o flynyddoedd. Byddai hefyd yn mynd â hi i gael coffi yn y Llew Glas bob bore Sadwrn. Mi fu Olwen hefyd yn weithgar iawn am flynyddoedd gyda’r gangen leol o Ymchwil Canser yn Harlech, ac roedd yn hoff iawn o gerdded a darllen. Roedd yn colli’r llyfrgell leol ac roedd yn falch iawn pan ddaeth y llyfrgell deithiol i Harlech. Bydd pawb yn y gymuned yn colli Olwen Rock Terrace fel yr oedd pawb yn ei hadnabod. EE
Cafodd Olwen ei geni yn Harlech yn Rock Terrace ar 10 Hydref 1928. Roedd yn ferch i Owen a Margaret Jane Williams ac yn Rock Terrace yr oedd yn byw tan y dydd y bu farw yn 90 oed. Mi oedd tad Olwen yn chauffeur i Dr Williams ac roedd ei mam yn forwyn i deulu Graves yn Erinfa. Bu Olwen yn gweithio fel nyrs i blant ‘refugee’ yn y Glyn ac yna fel nyrs ym Mhlas Amherst. Ar un cyfnod fe gafodd y diciâu/ TB a bu yn Ysbyty Llangwyfan yn Ninbych; gwnaeth llawer o ffrindiau yno. Er bod Dinbych yn bell iawn o Harlech roedd ei hannwyl gariad Ken Wyn yn ymweld â hi yn rheolaidd ar y beic modur. Un gaeaf, a’r tywydd yn ddrwg, fe gafodd ei ddal mewn lluwchfeydd eira mawr ond roedd rhaid iddo fynd i weld ei gariad. Diolch Dymuna Allan a’r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt. Diolch yn fawr i Bethan [Johnstone] am arwain y gwasanaeth, i Edwina Evans am ddarllen y deyrnged ac i bawb a ddaeth i’r amlosgfa ym Mangor ac wedyn i’r te yn Neuadd Goffa, Harlech. Diolch yn arbennig i gwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr.
Pen-blwydd priodas Llongyfarchaiadau mawr i Phil a Melanie Griffiths, 24 Y Waun, Harlech ar dathlu eu priodas rhuddem yn ddiweddar. Dymuniadau gorau ichi gan eich teulu a’ch ffrindiau i gyd. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mrs Pat Hughes, Awel-y-morfa sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd yn derbyn triniaeth.
Gwasanaethau’r Sul EBRILL 7 Engedi - John Price, am 2.00. 14 Jerusalem - Parch Trefor Lewis am 2.00 - Undebol 19 Jerusalem - Gwener y Groglith. Gwasanaeth Cymun gyda’r Parch Dewi Morris am 10.30 MAI 12 - Jerusalem - Parch Iwan Llewelyn Jones am 3.30
MARATHON Ar Ebrill 28, bydd Simon a Judith Strevens yn rhedeg marathon Llundain. Maen nhw yn gobeithio codi £4000 at achos Parkinson’s UK. Ym 2017, yn 40 mlwydd oed, mi gafodd Simon wybod bod y clefyd ganddo. Mae’n gynfilwr hefo catrawd Parachute ac yn gwirfoddoli efo tîm achub mynydd Aberglaslyn. Mae Simon a Judith wedi penderfynu cymryd rhan yn yr her er mwyn codi arian at yr elusen ac i godi gwybodaeth am afiechyd Parkinson’s. Os hoffech gefnogi’r pâr gallwch ddilyn https://www.justgiving. com/fundraising/judith-strevens neu gallwch alw i mewn i’r Castle Gift Shop yn Harlech. Sefydliad y Merched Croesawodd Jan Cole yr aelodau i’r cyfarfod Cymraeg nos Fercher, 13 Mawrth. Dymunwyd yn dda i’r aelodau oedd yn sâl a rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r rhai oedd yn dathlu’r mis yma. Cyflwynwyd basged fawr o flodau cennin Pedr a cherdyn i Annette Evans oedd wedi bod yn sâl ac yn dechrau triniaeth yn fuan. Darllenwyd y llythyr misol a nodwyd y dyddiadau o bwys, sef y te Cymraeg yn Nyffryn Ardudwy ar 15 Mawrth, y cyfarfod yng Nghasnewydd 15 ac 16 Ebrill, a chwis yn Nolgellau 5 Ebrill. Cawsom sgwrs ddifyr iawn gan Siân Roberts a chwedlau ac hanesion Cymraeg. Diolchwyd iddi ar ran yr aelodau gan Edwina Evans. Cafwyd lluniaeth o fara brith a chacennau cri. Fe fydd Sefydliad y Merched yn gyfrifol am y te i Deulu’r Castell ar 9 Ebrill a bydd Sheila Maxwell yn siarad am Laura Ashley.
BWYD A DIOD
FFAIR BASG
Cawl garlleg gwyllt
Ysgol Ardudwy Nos Fawrth, Ebrill 9 5.30 tan 7.30
Stondinau crefft ac elusennol Raffl Gemau Bwyd Poeth Rhagor o wybodaeth neu i archebu stondin cyfeillionysgolardudwy@aol.com Croeso cynnes i bawb!
Y Gwyllt Os oes gennych ddiddordeb mewn celf a chrefft beth am i chi alw heibio Siop y Gwyllt ‘Wilderness’ ger y castell. Cewch baned yno a chacen ffres a chyfle i weld crefftau lleol diddorol. Mae yno hefyd gasgliad amrywiol o bob mathau o wlân. Mae ganddynt wefan sy’n werth ei gweld. Braf gweld rhywun yn mentro yn Harlech.
Llawdriniaeth Cafodd George John lawdriniaeth ar ei benglin yn ddiweddar. Mae’n gwella ac yn gobeithio cael chwarae pêldroed unwaith eto yn ystod tymor nesaf. Mudo Dymuniadau gorau i Mrs Nancy Nelson (Siop y Fferyllfa gynt) sydd yn symud i Hafod-y-gest, Porthmadog, i fyw.
TOYOTA HARLECH
Cawl garlleg gwyllt Tua’r adeg hon o’r flwyddyn mae arogl garlleg gwyllt yn taro’r ffroenau wrth fynd am dro ar lan afon. Gwell casglu dail newydd ac o le glân! Mae Dylan wedi bod yn gwneud y cawl blasus yma ers blynyddoedd. Cynhwysion 60g ymenyn 1 nionyn canolig ei faint wedi ei dorri’n fân 2 goes o seleri wedi eu torri’n fân 150g garlleg gwyllt wedi’i olchi a’i dorri’n fân. 1 lt stoc llysiau 300ml hufen dwbl Llwy bwdin o flawd corn Pupur a halen. Cyfarwyddiadau 1 Toddwch yr ymenyn mewn sosban a chwysu’r nionyn a seleri ynddi nes eu bod yn feddal. 2 Ychwanegwch y stoc, yr halen a phupur a’i fudferwi am 10 munud. 3 Ychwanegwch y garlleg gwyllt a’i fudferwi am 5 munud. 4 Ychwanegwch hufen a’i aildwymo. 5 Cymysgwch y blawd corn gydag ychydig o ddŵr mewn cwpan. Tra’n troi y cawl, ychwanegwch y blawd corn i’w dewychu.
Llinos Rowlands Gwin Dynawad Dolgellau
DYDDIADUR Y MIS
COROLLA HYBRID NEWYDD
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.
Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota
Ebrill 4 - Ebrill 5 – Ebrill 10 – Ebrill 13 – Ebrill 13 - Ebrill 14 – Ebrill 14 – Ebril 15 – Ebrill 17 – Ebrill 20 – Ebrill 21 - Ebrill 30 –
Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne Neuadd Gymuned Talsarnau am 7.00 o’r gloch. Darlithydd: Ieuan Wyn. Grŵp Huchenfield, Neuadd Llanbedr, 9.00 y bore. Cyfarfod Blynyddol Neuadd Goffa Llanfair, 7.30. Cyngerdd Coffa Elen Meirion yn 50 oed, Tocynnau wedi eu gwerthu i gyd. Cyngerdd yn Eglwys Sant Ioan, Bermo gyda Chôr Meibion Ardudwy a Glyn Williams am 7.30. Mawl a Chân, Capel Horeb, Dyffryn, 10.00 Treiathalon Harlech 2019. Cyfarfod Blynyddol Pwyllgor Rheoli Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.30. Teulu Ardudwy, Parch Christopher Prew, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 2.00. Bore Coffi Pwll Nofio Harlech, Neuadd Goffa Llanfair, 10.00 – 12.00. Cyngerdd yn Neuadd Dyffryn gyda Chôr Meibion Ardudwy a Treflyn Jones am 7.30. Perfformiad Cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Opra Cymru, Blaenau Ffestiniog.
17
PIGION O HEN RIFYNNAU
Dros y blynyddoedd mae llawer o erthyglau difyr wedi eu cyhoeddi am bob agwedd o fro Ardudwy – isod mae hanes [o’r 80au] un o gymeriadau blaenllaw yr ardal yn y ganrif ddiwethaf – Mrs Mary Griffith, Siopwen. Gobeithio y bydd yr eitem ganlynol yn dod ag atgofion melys yn ôl i bobl Ardudwy sy’n ei chofio. [Golygydd.] “Oriel – Ychydig amser yn ôl ar y rhaglen deledu ‘Yr Awr Fawr’, cawsom hanes diddorol am Gapel Egryn, Tal-y-bont yn amser Diwygiad 1904/05 gan Mrs Mary Griffith, Siopwen, a phwy yn well i groniclo’r hanes na hi gan fod Mary Jones, Islawr-ffordd (a welodd y ‘goleuni’ uwchben y Capel) yn gyfeillgar â’i theulu. Roedd ei thad, James Roberts a Mary Jones mewn dwy fferm gyfochrog (Dalar a Sarnfaen) ac yn gyfoedion ysgol. Mae Mrs Griffith erbyn hyn yn un o’r hanner dwsin hynaf yn yr ardal, a bydd, fel rhai o’r gweddill, yn dathlu ei 80 mlynedd yn ystod y flwyddyn. Cafodd ei geni yn Nhynycae, ond ar ôl arwerthiant fawr Gorsygedol ym 1908 symudodd y teulu i Siopwen. Ar ôl ymadael â’r ysgol penderfynodd fynd i weini i Birmingham gyda theulu a arferai dreulio eu gwyliau yn y cylch, ond dychwelodd adref pan gollodd ei hunig frawd, John Edwards, drwy ddamwain yn Llyn Erddyn ac yntau ond 18 oed. Yn 1927, priododd gyda Levi Griffith, Glanrhos ac yntau yn dod ati hi a’i mam weddw i fyw hyd ei farwolaeth yn 1949. Ganwyd iddynt dair o ferched, Enid, Olwen a Mai ac un mab, Peredur, a fu farw cyn cyrraedd ei ddwy flwydd oed. Mae’r merched ers blynyddoedd bellach wedi cartrefu gyda’u teuluoedd eu hunain, ac erbyn hyn mae’r teulu yn cynnwys naw o wyrion a wyresau. Yn ddi-os mae Mrs Griffith yn wraig ddiwylliedig, wedi darllen yn eang; ac anaml iawn y gellir galw yn ei chartref heb fod yna ryw lyfr yn ei llaw neu bensel a geiriadur i ymlafnio gyda chroesair y Daily Post. Mae’n sicr na fu unrhyw fudiad cymdeithasol na diwylliannol yn y cylch nad oedd hi yn cymeryd rhan flaenllaw ynddo. Bu’n selog i Gapel Horeb o’i mebyd ac yn arbennig i Ysgol Sul Egryn a thystia dwsinau o’i disgyblion am ei rhagoriaethau fel athrawes. Yn y cyfnod cyn i ofalon teuluol ei chaethiwo roedd yn un o sêr y cwmni drama lleol, a chyda’r blynyddoedd bu dosbarthiadau’r WEA, Cymdeithasau’r Merched a Theulu Ardudwy yn elwa ar ei dawn a’i gweithgarwch. Hyd yn oed heddiw nid oes neb mwy ffyddlon yng nghyfarfodydd misol Merched y Wawr a Chymdeithas Tal-y-bont. Ni raid ichi fod yn hir yn Siopwen na fydd y sgwrs yn troi at atgofion y blynyddoedd cynnar. Beth am ddyddiau ysgol? ‘I’r adeilad sy’n Neuadd y Pentref rŵan yr es i. Rhyw amser digon cymysglyd ges i yn yr ysgol gyda Robert Roberts ac athrawes y Babanod a ddaeth ymhen rhai blynyddoedd yn briod iddo ac â’i dilynodd wedyn fel Prifathrawes. Roedd yr hen Roberts yn gerddor gwych ac yn aml yr atgoffai ni fod ei ysgol yn cael yr addysg gerddorol orau yn y Sir. Mae’n bosib bod hyn yn wir – ond beidio bod hynny ar draul gwersi eraill?’ Beth am y cwmni drama? Wel, os na chefais i gymaint â hynny o addysg yn yr ysgol, mi ddysgais lawer iawn gydag Wynne Thomas oedd yn gyfrifol am y Cwmni, ac rwy’n siŵr mai dyna yw profiad y gweddill sydd ar ôl heddiw – Miss Laura Thomas a’i brawd, William Pugh, Dafydd Williams, Hen Dŷ, Cati Jones, Tom Davies a’r ddwy chwaer Mari a Jennie Griffith. Beth wmbreth o hwyl a gawsom yn perfformio o Rydymain i Harlech ac ambell dro trwstan ar y llwyfan. Pa un o’r merched ysgwn i, wedi gadael y llwyfan yn frysiog (yn y ddrama) a ddychwelodd â’i gwynt yn ei dwrn a cheisio egluro, ‘Rydw i wedi gadael fy ymbarel ar ôl!’ Ni fuasai rhifyn cyfan o’r Llais yn ddigon i groniclo holl atgofion Mrs Griffith, ac os oes rhywun arall eisiau’r mwynhad o adlais y gorffennol yn y cylch, nid oes angen ond cnoc ar y drws a cherdded i mewn. Felly y bu hi yn Siopwen erioed – dywedwyd wrth roi teyrnged i’w phriod ddydd ei angladd fod y tŷ hwn fel Cartref Dr Barnardo gyda’r arwyddair uwch ei ddrws, ‘This door is never closed.’ Boed i frenhines yr aelwyd yma gael blynyddoedd lawer eto o iechyd gan fod y gallu a’r dymuniad i gyfrannu i gymdeithas yn parhau.
18
CLWB RYGBI HARLECH
Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 2 aeth criw o aelodau ifanc y Clwb gyda’u rhieni i Barc Eirias, Bae Colwyn. Roedd Tim Rygbi Gogledd Cymru yn chwarae Tim Caerfyrddin a gwahoddwyd y plant i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi cyn y gêm gyda Tim Hoare, hyfforddwr URC i Ogledd Cymru. Cafodd y plant hwyl gydag eraill yn ymarfer ac yn chwifio’r baneri i groesawu’r chwaraewyr ar y maes cyn canfod sêt yn yr eisteddle i wylio’r gêm gynhyrfus gyda’r sgôr derfynol yn 15/15. Ar ôl y gêm, mwynhawyd pryd o fwyd cyn troi am adre gyda gwên ar wyneb pawb.
Y FFATRI AR DÂN!
weinidog y pryd hynny ac roedd yn ddibynnol ar ei fusnes am ffon ei fara. Addysg gynnar a gofal Un Sadwrn yn 1812, llosgodd y ffatri yn ulw i`r llawr. Roedd David Charles i fod i fynd i bregethu i Dalyllychau y Sul drannoeth. Fe aeth yno fel pe na bai dim wedi digwydd. Wyddai fawr neb oedd yn gwrando arno ei fod wedi cael y fath golled. Ond mae traddodiad yn dweud ei fod ar ei daith y bore Sul hwnnw wedi cyfansoddi ei emyn mawr, emyn sydd ym mhob un Mae’n siŵr bod holl ddarllenwyr bron o gasgliadau emynau’r iaith, Llais Ardudwy wedi clywed am sef ‘Rhagluniaeth fawr y nef ’. Thomas Charles o’r Bala [1755Roedd David Charles yn credu 1814]. Fo oedd un o sylfaenwyr fod Rhagluniaeth Duw yn Cymdeithas y Beiblau sydd wedi rheoli’r cyfan; roedd popeth 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u gweithio ar hyd y blynyddoedd i yn ddoeth ac yn dda o dan ei 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio ddarparu Beiblau yn rhad i bawb lywodraeth Ef. wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at yn eu hiaith eu hunain. Un arall Mae’r emyn yn y Caneuon o’r sylfaenwyr oedd William sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, Ffydd [rhif 114]. Gellir gweld y flwyddyn. Wilberforce [1759-1833] a pendantrwydd ffydd David a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. weithiodd gymaint i ddileu Charles trwyddo: caethwasiaeth. ‘Rhagluniaeth fawr y nef, Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch Am cysylltwchgyda gyda Fe gofiwch yr hanes - fe Mor rhyfedd yw UnedGofal Gofal Plant Plant Gwynedd Gwynedd aaMôn Uned Môn gerddodd Mary Jones, merch Esboniad helaeth hon 15 oed o Lanfihangel-ymO arfaeth Duw...’ Ffôn: 01248 352436 mhennant ym mro Dysynni i’r Ydi o efallai yn meddwl am y Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru Bala i brynu Beibl gan Thomas ffatri a’r golled fawr a gafodd yn E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru Charles ar ôl cynilo am gyfnod y tân? maith i gael arian i dalu amdano. ‘Mae’n tynnu yma i lawr, Pan gyrhaeddodd dŷ Thomas Yn codi draw...’ Charles cafodd ei siomi gan Waeth beth a ddigwydd, mae nad oedd copi ar ôl ganddo, David Charles am i ni wybod cymaint oedd y galw am Feiblau mai Duw sy’n rheoli a bod y Cymraeg. Rhoddodd Thomas cyfan oll er daioni: Charles ei Feibl ei hun iddi pan ‘Ei th`wyllwch dudew sydd welodd ei dagrau. Yn olau pur; Defnyddiodd Thomas Charles Ei dryswch mwyaf, mae yr hanes yma i berswadio ei Yn drefen glir: gyfeillion a’i gydweithwyr i Hi ddaw â`i throeon maith ffurfio Cymdeithas y Beiblau yn Yn fuan oll i ben, 1804 ac mae hi’n dal i weithio Bydd synnu wrth gofio`r rhain heddiw. Tu draw i`r llen.’ Roedd gan Thomas Charles Mae’n debyg mai ‘wrth olrhain frawd o’r enw David [1762rhain’ a ganodd David Charles 1834]. Magwyd nhw mewn yn hytrach nag ‘wrth gofio rhain’. cryn dlodi yn Llanfihangel Mae’n well gan rai y fersiwn Abercywyn, Sir Gaerfyrddin. wreiddiol a bu cryn drafod ar Cafodd Thomas addysg dda ond hyn ymhlith yr arbenigwyr. bu’n rhaid i David, y brawd bach, Gadawaf y mater i’r darllenwyr fynd yn brentis i ffatri gwneud ystyried ond mae yna bethau rhaffau yng Nghaerfyrddin. eraill yn hanes David Charles Aeth oddi yno i Fryste i gael sy’n ddigon diddorol ac efallai y profiad pellach. Maes o law cawn olwg arnynt y tro nesaf. daeth yn berchennog ar y ffatri JBW lle prentisiwyd ef ac yn ŵr busnes llwyddiannus. Ar yr un pryd, dechreuodd bregethu a phan ddechreuodd y Methodistiaid Calfinaidd ordeinio eu gweinidogion eu hunain, David Charles oedd un o’r rhai cyntaf yn y de. Doedd dim, neu fawr ddim, cyflog i
Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysg gynnar a gofal
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123
19
BLWYDDYN NEWYDD DDA! Blwyddyn Newydd Dda? Newydd, meddech chi! Braidd yn hwyr a hithau’n fis Ebrill! Wel, ydi mae hi’n carlamu yn ei blaen a dydi hi ddim yn aros i neb. Oeddech chi’n edrych ymlaen ar ei chychwyn? At beth tybed? Pob math o bethau gobeithio. Blwyddyn na chafodd erioed ei byw o’r blaen. Ydi hynny’n swnio’n anturus? Neu ydi profiadau’r flwyddyn, neu’r blynyddoedd blaenorol wedi’n gadael yn ansicr, os nad yn anesmwyth braidd wrth gamu i’r anwybod? Un peth sy’n sicr y gallwn edrych ymlaen ato ydi’r gwanwyn. Ac er mor anhebygol ydi hynny ar foreau rhewllyd, sgleiniog neu foreau stormus, gwlyb, mae’r bwrlwm sydd ar fin digwydd yn anochel. Mae’n siŵr fod gennym i gyd rhyw flodyn sy’n nodweddu’r gwanwyn i ni.
Go brin nad oes unrhyw flodyn yn fwy nodweddiadol na’r eirlys bach tlws a’i gloch fach wen, ddelicet, ddi-nôd sy’n tyfu’n glystyrau i’n calonogi. A beth am atgofion plentyndod sy’n gwneud i ni feddwl am yr hen bennill ‘O lili wen fach, o ble daethost ti ...?’ Do, fe’i canwyd gan genedlaethau o blant ar lwyfan Eisteddfod, ar lawr dosbarth neu adref ar ben stôl i ddiddanu aml i daid a nain, a’r rheiny’n dotio. Rhyfedd ydi cysylltiadau’r blodau ’ma.
gwylltion a’r enwau Cymraeg hyd yn oed yn harddach. Ydi, mae’r Geiriadur Mawr yn orlawn ohonyn nhw. Enwau fel sanau’r gwcw, pysen y ceirw, gold y gors a llygad doli i enwi ond rhai ohonyn nhw.
Yna’r tiwlip. Blodyn talsyth a thipyn o steil yn perthyn iddo fo ydi hwn. Ei flodyn mor siriol mewn pob math o liwiau, rhai unlliw, rhai’n ddeuliw ond rhowch y coch llachar i mi bob tro â’i betalau sidanaidd ar goesyn talsyth, urddasol. Mae’r lliw coch hwn yn f ’atgoffa o liw ffrog goch Catrin yn un o lyfrau’r ‘Dryw’ yn blentyn, sef ‘Catrin a’r Oen’. Tybed a oes rhywun yn gwybod am beth ydw i’n sôn? Dydw i ddim wedi gweld y llyfr ers blynyddoedd ac rydw i’n saff ei fod allan o brint ers degawdau.
Fedrwch chi ddychmygu llond caeau o’r blodyn hwn yn yr Iseldiroedd? Rydw i’n cofio rhyfeddu at y tiwlips coch rhyfeddol yma oedd gan Dad yn yr ardd, a sbecian i mewn i waelod melyn ei gwpan. Hwn hefyd ydi hoff flodyn rhywun yr ydw i’n ei nabod. Digon hawdd gweld pam.
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy MAWRTH 2019
Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Ebrill 20 am 5.30 Tocynnau: £1
1. £30 Deilwen Rowlands 2. £15 Llion Dafydd 3. £7.50 Gwen Edwards 4. £7.50 Delyth Jones 5. £7.50 Jean Jones 6. £7.50 Siân Edwards
Blodyn bach arall sy’n nodweddu’r gwanwyn ydi’r saffrwm ac, yn aml, mae’n brin o sylw. Bron na allech gerdded heibio iddo heb ei weld. Fel y dywedodd Syr T H ParryWilliams am Lyn y Gadair: ‘Ni wêl y teithiwr talog mohono bron.’ Felly hefyd y saffrwm isel, di-sylw a diniwed. Ond mor dawel a del yn amrywio o felyn cryf melynwy i biws hyfryd a gwyn; ei betalau hirion, pigfain yn agor liw dydd a chau at y nos. Rhyfeddod yndê?
A phwy sy’n cofio’r hen gywion gwyddau? Oes plant i gael sy’n gwybod eu henwau heddiw? Y bwndeli bach fflyffiog ’na yr oeddem yn eu casglu’n ddiwyd i ‘Miss’ i roi ar ei bwrdd natur a hithau, chwarae teg, byth yn eu gwrthod! Mynd ati wedyn i sgrifennu eu henwau’n ofalus ar gerdyn bach a’i osod yn ymyl y pot jam oedd yn eu dal. Roedd pawb yn nabod eu henwau; dyddiau y daith natur, y chwilota a’r casglu brwd. Y casgliadau hardd o flodau
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy
Dechrau Ebrill ydi’r amser i adnewyddu eich aelodaeth o’r Clwb 200. £9 y flwyddyn yw’r gost ac mae cyfle i ennill 72 o wobrau. Mae’n ffordd wych o gefnogi un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf yr
Ac, wrth gwrs, fedrwn ni fyth anghofio’r genhinen Bedr – ein blodyn cenedlaethol. Blodyn hapus yn chwifio’n ôl a blaen yn yr awel a’i drwmped hyderus yn cyhoeddi fod y tymor bellach yn ei anterth ac yn gwbl anochel. Y genhinen Bedr gynharaf welais i’n tyfu oedd yn Penrhyn ar ddiwrnod olaf mis Ionawr..
Mae ei gweld, eleni eto, yn rheswm teilwng iawn i ni i gyd edrych ymlaen, heblaw am y ffaith fod cymaint o gyfoeth yn y byd o’n cwmpas ac enw pwrpasol i bob un. Yr her rŵan fydd trosglwyddo hyn i’r genhedlaeth nesaf. Coblyn o her - ond nid amhosib. Delyth Jones
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy