Llais Ardudwy Gorffenaf 2020

Page 1

Llais Ardudwy

70c

RHIF 500 GORFFENNAF 2020

Llanbedr

Dolgellau

Y Bermo

DIOLCH YN FAWR Diolch yn fawr iawn i chi ein darllenwyr am eich cefnogaeth gyson - nifer dda ohonoch o’r cychwyn cyntaf. Diolch hefyd i siopwyr yr ardal a chyfeillion eraill sydd wedi helpu i werthu Llais Ardudwy dros y blynyddoedd. Diolch i un o’n gweithwyr selog am greu cerdyn arbennig i ddathlu’r 500. Hi hefyd fu’n gyfrifol am dynnu’r rhan fwyaf o’r lluniau ar y dudalen hon. Diolch, diolch yw ein cân!

Dyffryn Ardudwy

Porthmadog

Penrhyndeudraeth

Harlech


GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com 3. Haf Meredydd Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 4 am 5.00 a bydd ar werth ar Medi 9. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Awst 31 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Siân Jones Gwaith: Wedi ymddeol ond yn gweithio fel tiwtor y Gymraeg yn achlysurol. Cefndir: Ces i fy ngeni yn yr Orsedd Goch (Rossett) ger Wrecsam, a’m magu yn Meirion House, Dyffryn Ardudwy. Siop oedd Meirion House adeg hynny, a mam a dad yn gweithio yno ac yn cynnal gwely a brecwast yn y tŷ. Es i i Ysgol Gynradd Dyffryn a chofio dosbarth derbyn Miss Blake a gwersi cerddoriaeth Dorothy Williams fel sa’i yn ddoe! Mae’r sol-ffa a ddysgais yn ddefnyddiol iawn pan yn dysgu harmonïau newydd hyd heddiw! I Ysgol Ardudwy Harlech wedi hynny, a diolch i Shirley Williams a Miss Lewis (Ma Lew), derbyn gwersi Cymraeg ail iaith ac ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio, treuliais flwyddyn yn Ffrainc yn addysgu Saesneg trwy gyfrwng dawns a meim ac yna dychwelyd i gyflawni cwrs ymarfer dysgu yn Hendrefoelan. Pan ddaeth S4C, ceisiais am swydd fel ymchwilydd yn HTV a bues i’n gweithio yno am 17 mlynedd fel ymchwilydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr rhaglenni. Gadewais HTV pan oedd Lisa fy merch yn ddwy a phenderfynu mynd yn ôl at y dysgu. Gweithiais fel tiwtor y Gymraeg yn y Cynulliad yn

dysgu Aelodau yn bennaf, a chanolbwyntio ar addysgu defnyddio’r Gymraeg yn y Cyfryngau. Erbyn hyn, dw i wedi ymddeol, ond yn ffodus iawn o’r cyfle i gael dysgu rhai o’m cynddisgyblion a rhai newydd bellach, yn San Steffan yn Llundain. Dwi’n byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, bellach ac yn mwynhau teithio i Lundain i weld fy merch, sydd hefyd yn athrawes ysgol gynradd ac yn byw yn ardal Kensington gyda’i chariad. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dw i’n hoffi codi pwysau a mynd i’r gampfa’n gyson. Er nad ydy hi di bod yn bosib mynd i’r gampfa yn nyddie Covid 19, dw wedi ceisio gwneud ryw fath o ymarfer corff gartre ac wedi dechrau ioga. Beth ydych chi’n ei ddarllen? ‘The Miracle Morning’- gan Hal Elrod (- newid bywyd)! Dwi’n mwynhau llyfrau yn ymwneud â gofalgarwch. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? ‘Homeland’ ond yn mwynhau ‘35 diwrnod’ ar hyn o bryd. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn gymharol dda! Llysiau, ffrwythau, dim llawer o gig coch ond digon o gyw iâr, pasta a reis. Dwi’n bwyta llawer o wyau a salad ond hefyd yn mwynhau darn o siocled! (Darn mawr.) Hoff fwyd? Bwyd Thai. Hoff ddiod? Gin a thonic! (Gin Talog os yn bosib a thonic iawn – nid y stwff ‘slimline’!) Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Fy ffrindiau a’n nheulu ond taswn i’n cael cyfle i wahodd rhywun arall Joanna Lumley Liam Neeson Idris Elba Bryan Adams Attenborough ... i enwi mond ychydig! Lle sydd orau gennych? Traeth Benar, Tal-y-bont Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Ar saffari yn Kenya efo Siân Thomas. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sydd ddim yn dweud ‘diolch’.

Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun yr ydych yn gallu ymddiried ynddi/ynddo. Pwy yw eich arwr? Fy nhaid, O R Evans. Fo oedd ac yw fy arwr o hyd. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Fy nheulu. Beth yw eich bai mwyaf? Poeni gormod am y pethau bach dibwys. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael iechyd da. Bod yng nghwmni teulu a ffrindiau ond hefyd cael amser i fi fy hunan yn cerdded ar draeth yn gwylio’r môr. Hefyd, un o’r pethau sydd yn fy ngwneud i’n hapus ydy canu! Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd yn ôl i Affrica efo fy merch. Eich hoff liw a pham? Melyn. Gwneud i mi wenu. Eich hoff flodyn? Peoni gwyn. Eich hoff gerddor? Jools Holland. Pa dalent hoffech chi ei chael? Y gallu i siarad nifer o ieithoedd. Eich hoff ddywediadau? Dyfal donc a dyrr y garreg. ‘We’ll get there in the end’ (un dwi’n ei ddweud wrth fy merch yn aml!) ‘Success is something you attract by the person you become’. ‘The wise begin with “whys”.’ ‘If you don’t make time for exercise, you’ll probably have to make time for illness.’ ‘Life begins at the end of your comfort zone.’ ‘When you change your inner world - you change your outer world too’ Adar o’r un nyth hedant i’r unlle. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hynod o lwcus ac yn werthfawrogol iawn o’r hyn sydd gen i.

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN

Llais Ardudwy


Y BERMO A LLANABER

Clwb Rygbi Harlech Yn ddiweddar, cyflwynodd Cadeirydd Clwb Rygbi Harlech, Gareth John Williams, dabled cyfrifiadurol i gartref Hafod Mawddach yn y Bermo. Yn y llun, gwelir dwy o weithwyr cydwybodol y cartref yn derbyn y ddyfais dabled ar gyfer preswylwyr a staff y cartref i gysylltu ar fideo gyda theulu a ffrindiau nad ydynt yn gallu eu gweld yn bersonol. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi cysur i’r rhai sy’n dioddef y boen o gael eu gwahanu oddi wrth anwyliaid. Bu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn cerdded neu redeg yn rhithiol o amgylch Cymru bedair gwaith gan deithio pellter o 4,120 milltir. Diolch i haelioni 475 o roddwyr, codwyd dros £11,500. Rhannwyd yr arian rhwng y cartrefi gofal yn ardal pob Clwb Rygbi yr ymwelwyd â nhw ar eu taith rithiol. Un o Ardudwy fu’n cymryd rhan yw Gareth Jones, cyn-chwaraewr i Glwb Rygbi Harlech, mab Peter (cigydd) a Jane Jones. Llawer o ddiolch i bawb fu ynghlwm â’r fenter. Cydymdeimlo Trist oedd clywed am farwolaeth Gareth Vaughan Jones. Cydymdeimlwn â’i weddw Ann, Alun ei fab a Helen ei ferch a’r teuluoedd. Cofiwn am Gareth yn organydd medrus a phob amser yn barod ei wasanaeth. Roedd yn aelod ffyddlon a gweithgar iawn o Eglwys Crist. Roedd yn aelod brwd o’r Gymdeithas Gymraeg ac yn hoff iawn o gerdded. Pen-blwydd arbennig Pob dymuniad da i Salmon Williams (cyn-sarjiant Sam) ar ei benblwydd arbennig ddydd Mawrth, 16 Mehefin. Bu’n aelod o’r heddlu am lawer o flynyddoedd yn y Bermo. Dymuniadau gorau gan ei ffrindiau yn ardal Ardudwy i Sam a’i wraig Mair – cawn ddathlu’r garreg filltir eto rhyw dro.

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

RHWYFO RHITHIOL

Dyma enwau’r hogia oedd yn gwneud y rhwyfo rhithiol. Ieuan Williams, Dafydd Foulkes, Siôn Rees, Martin Perch, Llion Kerry, Jack Brooks, Carwyn Jones a Llion Owen. Dros y cyfnod anodd hwn bu llawer yn codi arian. Penderfynodd Rowland Phillips, cyn-chwaraewr Rygbi Cymru, ei fod yntau am wneud yr un modd. Daliodd ei wraig, Sally, sydd yn nyrs, y feirws felltith gan wella’n llwyr a dychwelyd i’w gwaith. Hefyd gwelodd bod MIND Cymru yn gwneud gwaith cefnogi gwych ac roedd eisiau cydnabod eu gwaith arbennig. Penderfynodd Rowland rwyfo yn rhithiol o gwmpas arfordir Cymru gan alw yn y clybiau Rygbi ar hyd y ffordd a gofyn am eu cefnogaeth ymarferol. Daeth criw o hogia Clwb Rygbi Harlech at ei gilydd i gyflawni’r her o rwyfo milltir ar y peiriant a chyfrannu £10 yr un at yr achos da. Cyfrannwyd £50 gan Glwb Rygbi Harlech ynghyd â chyfraniadau unigol gan garedigion y Clwb. Cyflwynodd Avril Perch hanes byr o Glwb Rygbi Harlech a rhoddwyd lluniau o achlysuron amrywiol y Clwb ar wefan codi arian Row-Land Phillips. Diolch i bawb am bob cefnogaeth.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Diolch Dymuna Rhian ac Iola, Rhosfawr, Pwllheli, ddiolch o galon i deulu, ffrindiau, cymdogion a chydnabod o bell ac agos am y caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt wedi colli eu tad, Ieuan Jones, Brynffynnon, Rhosfawr. Diolch am drefniadau trylwyr a pharchus Ifan a Nia, Garej Ceiri, Llanaelhaearn ac am wasanaeth Popty Lleuar, Llanllyfni. Bydd y rhoddion hael yn cael eu rhannu rhwng Cymdeithas Cŵn Defaid Gogledd Cymru ac Ymchwil at Ddadfeiliad Macwlaidd. Diolch £10 Llun yn rhifyn Mehefin Yn dilyn ein rhifyn diwethaf, cafodd Iola Jones, Rhosfawr alwad ffôn gan William Large, sy’n byw yn Llangollen, yn dweud mai eu hen nain, sef ei hen nain ef ac Iola, yw’r ddynes ar ei phen ei hun, sy’n sefyll wrth giat fechan [t.3]. Ei henw oedd Dorathy Stephen (nid Dorothy)1849-1937 ac roedd yn byw yn Nhŷ Croes, nepell o Gapel Salem. Roedd yn fam i Griffith Stephen, Maesygarnedd. Yn gwella Gobeithio fod Mrs Wynne, Glanartro, yn gwella ar ôl ei hanaf. Anfonwn ein cofion ati.

Llongyfarchiadau Rydym ni yn Huchenfeld yn llongyfarch Llais Ardudwy ar ei 500fed rhifyn. Rydym yn falch eich bod wedi cyhoeddi eitemau am ein gefeillio gyda Llanbedr yn rheolaidd a gobeithio y bydd llawer mwy i ddod. Dymunwn pob lwc i chi a llwyddiannau lu ar gyfer y 500 rhifyn nesaf. Viele liebe Grüße/Cofion gorau Sabine Wagner, Maeres Huchenfeld Priodas ddiemwnt Llongyfarchiadau i Huw a Catherine, Ty’n Llan, sydd wedi dathlu eu priodas ddiemwnt. Dymuniadau gorau iddynt. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad â Mrs Mary Williams, y Ffôr a’r teulu. Bu iddynt golli Edward yn ddiweddar; roedd Edward yn un o’r ardal ac yn derbyn y Llais ers blynyddoedd. Wyres fach Llongyfarchiadau i Alun a Moira, Graig Isa. Ganwyd wyres fach iddynt, merch fach i Steffan a Freya, a chwaer fach i Jac.

DOSBARTH YSGOL SUL ELLIS JONES 1951

Capel Moriah, Llanbedr

GŴYL GWRW LLANBEDR RHYBUDD CANSLO

Yn dilyn trafodaethau dwys ac oherwydd cyfyngiadau yn codi o’r feirws Cofid-19, mae’r Pwyllgor wedi penderfynu canslo’r Ŵyl Gwrw eleni. Hon oedd y 15fed blwyddyn hefyd. Teimlwyd y byddai’n annhebyg y bydd y Llywodraeth yn codi rheolau ynysu erbyn mis Medi ac na fyddai’r Ŵyl, o dan yr amgylchiadau, yn hyfyw. Petai’r cyfyngiadau yn cael eu codi, byddai’n rhy hwyr i allu trefnu’n iawn ac efallai byddai llai o ymwelwyr o gwmpas, gyda llai o arian i’w wario. Byddai rhai trigolion lleol yn gyndyn i gymdeithasu gydag ymwelwyr hefyd. Penderfynwyd ar hyn rŵan er tegwch i’n cyflenwyr. Cynhelir Gŵyl Gwrw Llanbedr y flwyddyn nesaf ar 17/18 Medi. Byddwn yn gwneud penderfyniad ar y seremoni Goleuadau Nadolig yn ystod yr hydref.

LLYTHYR Annwyl bawb ar dîm Llais Ardudwy, Anrheg oedd fy nghopi cyntaf o Lais Ardudwy, anrheg oddi wrth fy nghymdoges Gweneira Jones, Allt Goch (cymdoges orau yn y byd mawr crwn, gyda llaw!) rhyw bum mlynedd yn ôl. Sôn am siom! Doeddwn i ddim yn gallu deall dim byd, dim ond ychydig iawn o eiriau yma ac acw. Dw i newydd ddarllen canlyniadau ymchwil am ddysgu ieithoedd estron: mae dysgwyr sy’n dysgu Ffrangeg angen 550 o oriau i feistroli’r iaith, rhywun sy’n dysgu Almaeneg 750 o oriau i ddelio ag Almaeneg, 900 o oriau i siarad Swahili ... ond y creadur druan sy’n meiddio ceisio dysgu Cymraeg? Dyfalwch! ... mae o angen 1,040 o oriau! Mae’n wir, mae yr iaith Gymraeg yn anodd dros ben. Mae gan pobol Cymru ddau ddywediad ydach chi’n eu clywed yn eithaf aml: “Daliwch ati” a “Dyfal donc...” a dyma fi rŵan, pan dw i’n cael fy nghopi o Llais Ardudwy bob mis, weithiau dw i’n medru deall bron popeth heb dreulio tudalennau fy ngeiriadur. Lyfli iawn yw darllen am bobol leol, clywed am ddigwyddiadau yn yr ardal, ac yn teimlo mwy fel rhan o gymuned. Diolch o galon i Lais Ardudwy... ac i Gweneira hefyd, wrth gwrs! Cofion gorau, Dysgwraig leol

SONED I grefftwyr cloddiau Ardudwy Yn sefyll yn y cefn - o’r chwith i’r dde: Miss Jinny May Roberts, Swyddfa’r Post (y Postfeistr oedd Mr Rhys Pugh Griffiths) Mrs Enid Morris, Brynhyfryd (mam Gwenda Morris) Mrs Lizzie Jane Griffiths, Bryndeiliog (mam Alun Griffiths) Mrs Eleanor Lloyd, athrawes piano (mam Cyril ac Edith Lloyd) Miss Susie Richards, Afallon Mrs Jane Jones, Ty’n Llan (mam Catrin) Mrs Myfi Griffiths, Artro Cottage (mam John Griffiths) Mrs Annie Williams, Tŷ Capel Moriah, (mam Meiriona a nain Olwen) Mrs Gwen Jones, Morfa Mawr, (mam Meirion Jones – gŵr Anna Wyn, Pen Isa’r Cwm) Yn eistedd, o’r chwith i’r dde: Mr R O Jones, Prifathro Ysgol Gynradd Llanbedr Y Parch John Owen, gweinidog Capel Moriah Mr Ellis Jones, postmon ac athro Ysgol Sul Mr Guto Dafydd Griffiths, Artro Cottage a’r Garej, Llanbedr (tad John Griffiths)

4

Does neb a ŵyr dy enw erbyn hyn, ’run câr i sibrwd gweddi uwch y gro. Dy esgyrn aeth yn un â’r cerrig gwyn a gwynt y glannau ddaeth i ’sgubo’r co’ yn lân; a phan ddaw’r machlud uwch y bae, ai’r un yw’r llwybr welaist ti unwaith? A glywaist sgrech y bwncath, teimlo gwae y dydd yn tynnu ato? Ac yn nhaith y lloer a’r sêr, a gest ti gwmni un a theimlo gwefr y cyffwrdd rhyngoch chi? Na, nid oes ’sgrifen na’r un trawiad cŷn all ddangos i mi ffurf dy wyneb di. Eto rwyf yn dy nabod, er mor faith y chwedlau rhyngom, am mai’r un yw’n hiaith. Haf Llewelyn


Coffadwriaeth/ Teyrnged Rhodri Dafydd 30 Ebrill, 1979 31 Mai, 2020

Ar y diwrnod olaf o fis Ebrill 1979 ganwyd Rhodri yn fab i Huw a Rhian, flwyddyn a naw mis cyn geni ei frawd bach Llion. Dros y blynyddoedd bu Rhodri yn frawd mawr gwerthfawr a gofalus i Llion a rhannai’r ddau ddiddordeb mawr mewn ceir a beicio. Fis Rhagfyr diwethaf bu’r ddau yn gyrru ceir rali yng nghanolbarth Cymru, ac ar ôl bod, dywedodd Rhodri ei fod wedi mwynhau’n ddi-ben draw a’i fod wedi gallu anghofio’i gyflwr am ychydig oriau. Roedd gan Rhodri ddiddordebau a gwybodaeth eang am bron i bopeth, ac amlygwyd hynny yn gynnar yn ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy. Dywedodd ei athrawes, “Roedd yn disgleirio ym mhob pwnc a meddai ar bersonoliaeth hyfryd – hollol ddiymhongar a didwyll.” Yna aeth i Ysgol Uwchradd Ardudwy ac ymlaen wedyn i Goleg Trydyddol Meirion/ Dwyfor i astudio ar gyfer ei lefel A. Graddiodd gydag Anrhydedd yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, ac wedyn aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Rheolaeth Cefn Gwlad ym Mhrifysgol Bangor. Dechreuodd ei yrfa gwaith gyda Menter Môn yn Llangefni ac yn ôl y rheolwr, “Roedd yn hogyn da a graen ar ei waith bob amser”. Llwyddodd wedyn i sicrhau gwaith gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn Nolgellau, a chafodd ofal am y Migneint, cyn dod yn UwchWarden ar arfordir Ardudwy, swydd yr oedd yn falch iawn ohoni. Gymaint oedd ei frwdfrydedd am bwysigrwydd gwarchod byd natur a’i awydd i addysgu eraill, fe’i dewiswyd i siarad ar raglenni teledu, megis ‘Arfordir Cymru’ a ‘Weatherman Walking’. Yn ogystal, cafodd slot wythnosol i gyflwyno byd natur i blant ar S4C, a chyfrannai’n gyson i’r rhaglen natur Galwad Cynnar ar fore Sadwrn. Fe dybiai ei Reolwr Gwaith mai Rhodri oedd un o’r naturiaethwyr gorau yng Nghymru. Dywedodd na honnai

Rhodri ar gopa Rhinog Fawr Rhodri fod yn arbenigwr mewn unrhyw faes ym myd natur, ond yr oedd ganddo wybodaeth a dyfnder ym mhob maes. Roedd ganddo wybodaeth eang am fyd natur o’r pryfyn lleiaf i’r mynyddoedd mawr. Dangosai ddiddordeb arbennig ym myd yr adar ac ysgrifennai golofn fisol am fyd natur ym mhapur bro Yr Odyn. Nid oedd yn un a hoffai sylw ond yn llawer gwell ganddo oedd crwydro, dringo a cherdded mynyddoedd Cymru, yr Alban a thu hwnt ar ei ben ei hun neu gydag ‘enaid neu eneidiau hoff cytûn’. Teithiodd o un arfordir i’r llall yng Nghanada gyda ffrind o’r coleg, i Benrhyn Valdez a Phatagonia ar ei ben ei hun, ac i Wersyll ‘base camp’ Annapwrna yn Nepal gydag Eleri. Aeth ef ac un o’i gyfeillion i Ogledd Norwy i weld Ffagl yr Arth. Roedd ganddo ddiddordeb, chwilfrydedd a pharch mawr at wahanol ddiwylliannau, a byddai’n mynnu dysgu ieithoedd y gwledydd yr ymwelai â hwy, megis iaith Portiwgal a Nepal. Treuliodd amryw o wyliau yn yr Alpau yn eirafyrddio

(snowbordio) a phenwythnosau gyda’i ffrindiau yn beicio a cherdded mynyddoedd yr Alban. Roedd ei feic o hyd yn bwysig iddo, ac fe ddywedai Eleri ‘fod yna gariad arall ym mywyd Rhodri - ei feic!’ Yn aml iawn os ai Eleri allan o’r tŷ am noson, byddai’r beic yn cael dod i mewn o’r sied i’r tŷ yn ei lle! Diddordeb enfawr arall ganddo oedd cerddoriaeth, o hip hop i werin. Bu’n aelod o Gôr Meibion Ardudwy ac, wedyn, o Gôr Godre’r Aran fel ail denor, a dychwelodd i Batagonia gyda’r côr hwn. Roedd wrth ei fodd gyda cherddoriaeth Gymreig yn enwedig Gorky’s Zygotic Myncis, Meic Stevens ac wrth gwrs, y Super Furry Animals. Mae’n debyg fod ganddo bob poster a CD a gyhoeddwyd gan y Super Furries. Fe deithiodd dros 35 o weithiau o amgylch Cymru a Phrydain i’w gweld yn chwarae yn fyw! Roedd yn Gymro i’r carn, a chefnogai lawer o fudiadau Cymreig. Bu’n ysgrifennydd i Gymdeithas Ted Breeze Jones ers sefydlu’r Gymdeithas am ddeng mlynedd a mwy, gan arwain

Englynion i Rhodri Gofalwr creigiog foelydd – a warden Arfordir Meirionnydd, Yn ŵr mwyn ar y mynydd, A gŵr doeth y cyfoeth cudd. Â chariad bu’n dad dedwydd – a dolen I’w deulu ’mhob tywydd; Ei warchod, haedda’n clodydd, A fyth yn ieuanc a fydd. HD

teithiau ar ddyddiau Sadwrn i’r Gymdeithas, cyfrannu erthyglau a chyd-olygu’r cylchgrawn, Llygad Barcud. Bu’n Llywydd ar Gymdeithas Cwm Nantcol ar ddechrau ei yrfa yn Nolgellau, ac ymwelai â’r cwm yn fisol yn y bore bach i wneud arolwg o’r adar am flynyddoedd wedi iddo symud i fyw o’r ardal. Bu’n Gadeirydd ar Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Capel Garmon ac wedyn ar y Corff Llywodraethol pan unwyd tair ysgol dan yr un Pennaeth. Tystia llu o ffrindiau ei fod yn unigolyn unigryw. Cawsant sgyrsiau difyr a llawer o hwyl ar deithiau cerdded, beicio a gwersylla yn ei gwmni. Dywedodd un o’i ffrindiau ei fod yn ‘gawr cyfeillgar, addfwyn a charedig; chlywais i erioed mohono yn yngan ‘run gair cas am unrhyw un’. Roedd ganddo ’wên oedd fel haul ar fryn yn codi ysbryd pawb’. Dywed yr emyn, ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na’i berlau mân, Gofyn ‘rwyf am galon hapus, Calon onest, calon lân’. A dyna ymgorfforiad o Rhodri. Calon fawr a chariad mwy at bawb a phopeth, a’i deulu ar frig y ‘pawb a’r popeth’ hynny. Er ei holl diddordebau a phethau pwysig eraill ym mywyd Rhodri, ei deulu oedd ‘y peth pwysicaf oll’. Roedd wrth ei fodd yn bod yn Dad, yn chwarae lego am oriau, tynnu lluniau a mynd am dro gyda’r teulu. Dywedodd sawl gwaith yn ddiweddar wrth Eleri, er ei fod wedi bod mor sâl yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf, roedd yn hynod o ddiolchgar ei fod wedi cael treulio gymaint mwy o amser gyda’r plant, eu gweld bob bore amser brecwast ac yna eu croesawu adra o’r ysgol yn y prynhawn. Ychydig fisoedd yn ôl ysgrifennodd Rhodri, ‘Diolch i Mabli, Miri a Twm am fod y plant gorau yn y byd; mae yn bleser cael bod yn rhan o’ch bywydau. Dach chi i gyd mor feddylgar, a chlên, a llawen, ’dach chi’n dod â gymaint o hapusrwydd i Mam a fi, a phawb sydd yn eich adnabod’. Mae’r plant yn union yr un fath â’u tad a bydd Rhodri yn fyw byth ynddynt hwy. Bydd colled enfawr i bawb ar ei ôl. Diolch, Rhodri. Huw a Rhian

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Daeth ton o dristwch dros yr ardal pan glywsom fod Rhodri Dafydd wedi colli’r frwydr yn erbyn afiechyd creulon iawn ar Fai 31ain yn Ysbyty Glan Clwyd yn 41 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei rieni, Huw a Rhian, yma yn y Dyffryn, ei wraig Eleri a’i blant bach Mabli, Miri a Twm yng Nghapel Garmon, ei frawd Llion a’r teulu oll yn eu colled a’u galar. Roedd Rhodri’n cyfrannu’n aml i’r’ rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru ac ar fore Sadwrn, 6 Mehefin, cafwyd teyrngedau teimladwy i Rhodri gan rai o’i gyd-gyfranwyr. Rydym fel ardal yn meddwl amdanoch yn eich profedigaeth lem. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Bethan Griffiths, 62 Bro Emrys, Tregarth (Bethan Bronwerydd) sydd yn Ysbyty Gwynedd ar ôl syrthio yn ei chartref. Bu Bethan yn nyrs yn yr hen Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty Gwynedd. Pan glywai Bethan fod rhywun o’r ardal yn Ysbyty Gwynedd byddai’n mynd yno i ymweld yn syth. Cofion annwyl atat, Bethan.

Clwb Gwau Ni fydd y Clwb Gwau yn ailgychwyn ym mis Medi chwaith. Gobeithio y daw cyfle eto’n fuan i wau a chael paned a sgwrs.

Dysgu o adra Mae Awel, Elain, Aron a Jac, Wendon, wedi cael llawer o waith i’w wneud gan eu hathrawon yn ystod y clo mawr. Yn naturiol, mae rhai tasgau wedi apelio’n fwy nag eraill. Un dasg gafodd Elain, Aron a Jac gan eu hathro Mr Carr oedd trefnu Gŵyl Gerdd.

Dyma nhw Elain, Aron a Jac, ‘Y Band’, yn eu crysau T, hen rai gwyn ond wedi defnyddio ‘tie and dye’ i’w lliwio ac wedi creu offerynnau cerdd.

Yn yr ysbyty Dymuniadau gorau i Mrs Doris Hughes, Penrhiw, sydd wedi cyrraedd gartre ar ôl bod yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Gwellhad buan i chwi. Ein dymuniadau gorau hefyd i Barbara, merch Mr a Mrs Ron Telfer, Dyffryn, sydd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cyrraedd adre o Gaerdydd.

Jac yn brysur yn paratoi pitsa i de. Mae Awel yn Ysgol Ardudwy wedi mwynhau’r tasgau technoleg yn fawr.

Smithy Garage Creu ‘Fake away’

Torri afal i greu alarch.

Dyma gerrig Awel, Elain, Aron a Jac.

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 6

Bu eu cefnder, Harri, yn tyfu planhigion a’u gwerthu yn ei siop fach.

Gofynnwyd i blant y Dyffryn greu neidr yn y parc gan ddefnyddio cerrig glan môr wedi eu peintio. Roedd pen y neidr wedi ei gosod yno’n barod ac mae’r neidr yn tyfu.

Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

smithygaragedyffryn

Elain ac Aron yn paratoi cebabs ffrwythau i’w gwerthu yn yr Ŵyl.

Genedigaeth Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Anton a Gwawr (Hendre Eirian) ar enedigaeth merch fach, Esther Grace Marie, yn ddiweddar. Mae hi’n chwaer fach i Noah a Joseph ac yn wyres i Meirion a Margaret, sydd yn daid a nain i chwech o blant. Rhodd £10

Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus i Aron, Wendon, oedd yn 10 oed ar 19 Mehefin a Jac, ei frawd bach oedd yn 8 oed ar 20 Mehefin. Diolch Dymunwn ddiolch fel pentref i siopau London House, Fox’s a Modurdy’r Efail am fod ar agor drwy gydol y cyfnod rhyfedd hwn i’n cynorthwyo.

Teulu Ardudwy Ni fydd Teulu Ardudwy yn ailgychwyn ym mis Medi oherwydd y coronafeirws. Ni wyddom a fydd caniatâd i gynnal cyfarfodydd o’r fath a buasai’n anodd i ni gadw dwy fetr ar wahân. Hefyd, mae bygythiad beunydd am ail don yn yr hydref sy’n codi ofn. Gwaetha’r modd, rydym i gyd yn mynd yn hŷn a theimlwn mai gwell i ni fod yn ofalus a chadw’n saff. Gobeithiwn, fodd bynnag, y gallwn ail ddechrau tua mis Chwefror ond amser a ddengys. Cofion cynnes atoch i gyd.


RHAGOR O HEN LUNIAU O DDYFFRYN ARDUDWY

Pwy yw’r Frenhines Carnifal? Cliw – Roedd ei thad yn brifathro.

Trip Dosbarth Ysgol Sul Horeb i Bournville ar 7 Mai 1953. Yr ail o’r chwith yn y rhes gefn, Edith Wyn a’i chwaer. Mary Priscilla yn ei hymyl, Lowri Jones, Bryn Dedwydd a Cassie Jones, Tŷ Capel. Y drydedd o’r chwith yn y rhes flaen, Gwenfron Wynne. Oes rhywun fedr enwi’r lleill?

Torri’r Gacen i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Sefydliad y Merched yn y Dyffryn yn Rhagfyr 1967. Rhes gefn: Beti Roberts, Cedri Wynne, Alun Pugh. Rhes flaen: Gwenfron Wynne, Miss Elsie Jones BA ? a chip o Rena Pugh.

Merched y Wawr, Cwm Nantcol efo’r darian a enillwyd yn Eisteddfod MyW Meirionnydd yn 1977

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20 Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac yn ardystio ei fod yn cyflwyno’n deg sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant y Cyngor am y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio’r datganiad o gyfrifon pan fydd pwysau uniongyrchol yr achos COVID-19 wedi gostwng. Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn Mehefin30, 2020. Oherwydd achos y COVID-19, nid yw’r Cyngor wedi cyfarfod i gymeradwyo’r cyfrifon.

7


50 MLYNEDD CLWB RYGBI HARLECH Bydd y Clwb Rygbi yn dathlu hanner can mlynedd eleni ond oherwydd y feirws felltith nid ydym wedi gallu cynnal Cinio Dathlu yng Nghastell Deudraeth fel y trefnwyd. Rydym wedi aildrefnu ar gyfer Gorffennaf 2021. Dyma ychydig o luniau o hanes y Clwb. A ydych yn gallu enwi y chwaraewyr talentog yma? Mae rhai’n dal i fyw yn lleol ac yn hybu rygbi gyda’u plant a’r bobl ifanc. Mae eraill wedi hedfan y nyth ac wedi magu gwreiddiau ymhell o gartref ond yn parhau i gefnogi o bell. Llawer o ddiolch i bawb.

8


TÎM RYGBI YSGOL ARDUDWY 1962-63

Stori o gyfnod agor y Clwb Dyma fi eto yn rhoi pwt at ei gilydd i’r Llais. Yn y cyfnod anodd hwn gyda’r Cofid-19 mae rhywun yn clirio a chwalu, ac wrth gasglu manylion am ddechreuad Clwb Rygbi Willenhall yn Wolverhampton, does ar draws rhaglen gêm Rygbi i agor Clwb Rygbi Newydd yn Harlech. Wrth ddarllen y rhaglen daeth llu o atgofion yn ôl i mi, pan es a rhai o dîm Willenhall i chwarae Harlech a Llangefni adeg y Pasg ryw 10 mlynedd ynghynt, yn 1974 dwi’n credu. Yr oeddem yn aros yn Hotel y Castell yn Harlech pan oedd Ron Hopkins yn rhedeg y lle. Yntau hefyd yn gefnogwr brwd i’r gêm. Cawsom benwythnos bendigedig. Mi ddaru hogiau o’r naill dîm wneud ffrindiau, yn enwedig Charlie a Richard. Ar y pryd roedd gwaith yn digwydd ar Gastell Harlech, ac roedd sgaffaldiau yno. Yn hwyr y nos ddaru un o hogiau Willenhall, Ted Hodson, ddringo yr ystolion i gyrraedd top y Castell a chwarae ei ‘fagpipes’. Credaf bod hyn tua 4 o’r gloch y bore. Albanwr ydi Ted, ac yn mynd a’r ‘bagpipes’ i bob man. Falle bydda rhai ohonoch yn cofio’r digwyddiad. Bydda hefyd yn chwarae’r ‘bagpipes’ wrth i’r chwaraewyr gerdded ar y cae. Drwy’r ffrindiau hynny cefais wahoddiad gan Glwb Rygbi Harlech i fynd a 3 chwaraewyr i chwarae i dîm y Llywydd, ac felly dyna sut ges i afael ar raglen y digwyddiad. Wedi perswadio fy ffrind o Wrecsam oedd yn gweithio i’r un cwmni â mi i ddod i aros gyda mi yn Willenhall, mynd a ni wedyn i Harlech ac yn ôl er mwyn i ni gael wisgi bach neu ddau, ac yntau lemonêd. Gan bod y Clwb newydd agor yr oedd y trefnwyr yn awyddus i gau’r bar ar amser. Ond mi ddaru Keith Bunning, Capten Harlech ar y pryd, ein gwahodd i’w gartref yn Llandecwyn. Wedyn, mwynhau yn fan honno hefyd. Nid oedd y dreifar yn hapus, gan ei bod yn bedwar o’r gloch bore arnom yn cyrraedd adre i Willenhall. Yr oeddem angen bod yn Llai (Wrecsam) erbyn 9.00 bore Mawrth. Yr oeddwn yn siomedig iawn nad oedd John Ceri yn chwarae yn y gêm, a’i fod yn rhy hen mae’n debyg. (Sori John.) Cofion atoch i gyd yna yn Ardudwy. Elfyn Pugh (Llwyn Onn, Llanbedr gynt)

Llun cynnar o Glwb Rygbi Harlech

Cefn o’r chwith i’r dde - David Griffiths, Bermo, Ken Williams, Talsarnau, Arthur Pugh Jones, Dyffryn, ?, Edwin Jones, Harlech. Canol - Nicholas Beard?, John Jones, Y Bermo, ?, ?, Roger Kerry, John Kerry, David Gumbly Blaen - Eifion Griffiths, Penrhyn, Graham Goodchild, Y Bermo, Mr Reg Morris, Michael Kay, Y Bermo, Mr M G Evans [Prifathro], Gwynfor John, Geraint Jones, Harlech. Diolch i Olwen Jones, Ty’n Braich a Roger Kerry am ymateb i’r cais am enwau.

Gair o groeso...o’r rhaglen swyddogol “Hoffwn, ar ran Clwb Rygbi Harlech, estyn croeso i chwi i gyd yma heno, i ddathlu agoriad swyddogol y Clwb Rygbi o Glwb Chwaraeon Ardudwy. Yr ydym yn falch iawn o weld chwaraewyr yn cynrychioli clybiau ledled y Gogledd, ynghyd â rhai o dros Glawdd Offa. Mae Clwb Rygbi Harlech, a fu’n allweddol yn natblygiad y Clwb Chwaraeon, wedi gwireddu hen freuddwyd trwy weld adeiladu y Clwb hardd hwn. Er iddi gymryd dwy flynedd ar bymtheg, o’r diwedd mae gennym rywle i’w alw’n gartref. Mae’n achlysur arbennig iawn i ni, a gobeithiaf y bydd i arddull benderfynol Harlech a’r doniau arbennig yn nhîm y Llywydd, arwain at gêm gyffrous, i’n diddanu i gyd. Felly, carwn ddiolch i’r gwesteion, aelodau a’r cefnogwyr i gyd am fynychu heno, i’n helpu ni i ddathlu’r achlysur pwysig yma yn hanes y Clwb.” Edmund Bailey [Cadeirydd] TÎM Y LLYWYDD

CLWB RYGBI HARLECH B Ifans A Jones C Price H Weale C Pugh A Evans R Rees E Bailey R Roberts A Shields H Parry G Williams P Major C Roberts K Bunning [Capten]

G P Jones M Kerr E Griffiths

15 14 13 12 11 10 9 8 7 6 5 4 3 2 1

T Vukenio [Willenhall] D Long [Bethesda] E Boardman [Leigh/Qatar] M Smith [Bro Ffestiniog] G Jones [Bethesda] G Hughes [Bethesda] D Morgan [Dolgellau] G James [Bro Ffestiniog] B Trowman [Willenhall] M Bischoff [Porthmadog] G Owen [Rhuthun] W Roberts [Dolgellau] T Roberts [Rhuthun] H Harris [Willenhall] A Jones [Bro Ffestiniog] Capten

15 14 13 12 11 10 9 8 7 6 5 4 3 2 1

WRTH GEFN R Atherton [Bro Ffestiniog D Evans [Porthmadog] I Owen [Porthmadog]

9


Hamdden Harlech ac Ardudwy Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi newyddion i gymuned Ardudwy ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Ganolfan Hamdden ers i ni orfod cau yn ôl ym mis Mawrth oherwydd pandemig Covid-19. Ers mis Ebrill mae ein holl staff wedi cael eu rhoi ar ryddhad (cynllun ‘furlough’ y llywodraeth) heblaw ein gweithiwr cynnal a chadw, Karl Nash. Ynghyd â rhai o aelodau gwirfoddol y bwrdd, mae Karl wedi bod yn sicrhau bod y ganolfan yn cael ei chynnal a bod gwiriadau diogelwch rheolaidd yn cael eu cynnal. Mae Karl hefyd wedi bod yn gwneud cryn dipyn o ailaddurno yn y ganolfan ac atgyweiriadau amrywiol. Gwnaethpwyd penderfyniad hefyd ddechrau mis Mai i ddraenio’r pwll ar ôl iddi ddod yn amlwg y byddai’r cloi i lawr yn llawer hirach nag a feddyliwyd yn wreiddiol. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn caniatâd cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer ailosod ffenestri ardal y pwll ac mae contractwyr sy’n ymgymryd â’r swydd eisoes wedi ymweld â’r safle. Y cynllun yw y bydd gosod y ffenestri yn dechrau ddiwedd yr haf. Mae gwagio’r pwll yn arbed costau rhedeg misol sylweddol a hefyd yn gwneud gosodiad y ffenestri yn llawer haws. Mae hefyd yn caniatáu inni achub ar y cyfle i ail-growtio pen dwfn basn y pwll, glanhau’r llwybr cerdded o amgylch y pwll, disodli’r holl deils nenfwd sydd wedi’u difrodi â rhai newydd a newid goleuadau presennol y pwll i LED. Mae’r uchod i gyd yn cael eu hariannu trwy’r Grant Cynllun Cymuned Treth Gwarediadau Tirlenwi gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan WCVA. Yn ogystal, fel rhan o’r arbedion effeithlonrwydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella peiriannau pyllau a disodli hen system

10

Newyddion gan Fwrdd Gwirfoddoli Hamdden Harlech ac Ardudwy

hidlo tywod â gleiniau gwydr. Yn ystod y cyfnod cloi hwn, rydym hefyd wedi gallu cynnal arolwg trydanol cynhwysfawr. Gyda’r pwll yn cael ei ddraenio mae hyn yn arbed yn sylweddol ar ein cost LPG a thrydan a gobeithiwn y bydd yr arbediad hwn yn caniatáu inni ddisodli’r hen garped sydd wedi treulio yn y dderbynfa â theils finyl gwisgo caled a fydd hefyd yn ei wneud yn haws i’w glanhau. Felly, er yn anffodus bu’n rhaid i’r ganolfan gau yn ôl ym mis Mawrth, mae’r bwrdd yn bachu ar y cyfle hwn i wneud y newidiadau hyn pan all; a gwneud yn fawr o sefyllfa wael. Mae ein costau refeniw parhaus yn cael eu talu gan y grant rhyddhad busnes o £ 25,000 a gawsom a’r rhan fwyaf o gyflogau’r staff a gwmpesir gan y cynllun rhyddhad. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus chwe Chyngor Cymunedol ardal Ardudwy. Rydym yn cyfathrebu’n gyson â’n staff a gobeithiwn dros yr ychydig fisoedd nesaf i ddechrau dychwelyd yn raddol i’r gwaith wrth barhau i ddefnyddio’r cynllun blewog. Fel ar gyfer ailagor y ganolfan - BYDD YN AIL-AGOR, ond mae’n anodd bod yn benodol ar hyn o bryd yn union pa bryd, yn enwedig wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi fesul cam ond hefyd yn wahanol ar gyfer gwahanol rannau o’r DU. Gallwn ddweud na fydd y pwll yn agor tan o leiaf 1 Hydref. O ran y Caffi a’r Wal Ddringo eto nid oes gennym ddyddiad penodol a byddwn yn dibynnu ar beth fydd arweiniad a chyfyngiadau’r llywodraeth ond hefyd gyda’r gwaith yr ydym wedi’i wneud ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y byddwn yn gallu agor rhai rhannau o’r ganolfan gerbron eraill ar sail cylchdro. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth uchod yn ddefnyddiol i bobl - nid yn unig y byddwn yn agor eto ond y bydd hefyd yn lle mwy effeithlon a mwy disglair i ymweld ag ef.


TALSARNAU YR OEDD MAM YN EI GOFIO PAN OEDD YN HOGAN FACH Thomas Gwilym Williams 1912-1996

EISINGRUG A LLANDECWYN

Bondwll John Edwards a Mary. Roedd Mary wedi bod yn byw yn Tynffordd Fawr, ar y ffordd i Tyddyn Siôn Wyn. Ty’n Twll Hen ferch a’i mam. Yr oeddynt yn selog iawn yn y capel Baptist. William y carter fu yn byw yno hefyd, ac Ann y ferch ddaru briodi John y Felin. Y Felin Gwyneth Vaughan, John a Bennet Jones. Roedd y Felin yn brysur yr adeg hynny. Mi gafodd Bennet Jones waith fel registrar. Mae Gwyneth Vaughan yn enwog am sgwennu llyfrau, ‘Plant y Gorthrwm’ ac ‘O Gorlannau’r Defaid’. Robert Williams fu yno wedyn, sef tad John a Hugh y Felin. Roedd yn mynd i lawr ar gefn ei geffyl at yr Ynys gan fod ganddo dir wrth ymyl yr Halt. Pen y Garreg Robin Hughes, Ffatri, Mary Ann a Tom. Aeth Robin Hughes i fyw i Blaenau, ac yr oedd yn gweithio yn chwarel yr Oakley, a buan iawn y cafodd yr enw ‘Robin Traed Oerion’, am ei fod y cwyno fod ei draed yn oer bob amser. Llofft Cellar William Morris. Eisingrug Thomas Morris a’i wraig, teulu Auntie Sal, mam Dic Hughes, a Mrs Jones, mam Meirion. Tynffordd Fawr Robert, ewythr i Mary Edwards. Tyddyn Sion Wyn Ellis ac Elin Price. Daeth Ellis Price i fyw i Angorfa at y ferch, Mrs Lloyd, Bronwylfa. Yr oedd Ellis Price yn frawd i Morgan Price.

Llidiart Garw Teulu Miss Thomas. Yr oedd ganddi ddau frawd yn ddoctoriaid. Yr oedd un ym Mhorthaethwy a’r llall yn arbenigwr. Yr oeddynt yn perthyn i Morris Hughes, Glanywern. Ef oedd y cyntaf yn yr ardal i gael wireless gyda headphones. Bu yn y Rhyfel Cyntaf yn yr India. Ffridd Fedw Teulu E M Roberts, Cefntrefor Isa. Teulu Grace Jones, Tŷ Mawr, fu yno wedyn. Plas Uchaf Rolant Edmunds, taid i Dafydd Edmunds a’i chwiorydd. Moel y Glo Ellis Jones, tad Dafydd Jones Ellis, Rhosigor Moel y Geifr Evan Williams, ac mi ddaeth i lawr i fyw i Fron Yw. Roedd wedi gwirioni ar bêl-droed, ac wrth ei fodd yn ein gwylio ni yn chwarae yn y cae o flaen Gwndwn. Ysgol Bach William Morris. Yr oedd yn dod i Gapel Soar ac yr oedd yn perthyn i deulu Mam. Bu Richard Hughes, Môr Edrin yn aros yno pan oedd yn hogyn. Ysgyrnolwyn David a Margaret Williams. Roedd David yn frawd i Taid, a Margaret yn chwaer i Nain. Dau frawd wedi priodi dwy chwaer, sef merched Barcdy, oedd o dan Caerwych, teulu nain Mrs Davies, Bronynys. Daeth Taid a’i frawd o Fryncroes, ger Aberdaron i weithio ar y ffermydd. Ty’n Bwlch Morgan Price. Tad William Price, Morgan, Ann, Catrin a Laura. Canbwlch Uchaf? Canbwlch Isaf? Maesycaerau Hugh Hughes, tad John Hughes, Ty’nllan, Meredydd Hughes, Glasfryn, Edmund Hughes, Tanforhesgian, Catherine Williams, Tallin, Mary Jones, Allt y Galch [Nain Gwilym Hedd], Margaret Roberts, Soar, Elin Griffith, Tyddyn Sianel, Chwilog, Hugh Hughes, Ynysgain, Cricieth [tad

Edward Hughes, Athro Cemeg, prifysgolion Llundain a Bangor. Coedty Bach Lewis Jones. Coedty Mawr William Williams. Garth Byr William Owen, brawd Richard Owen, Tynewydd. Pentre Farm Teulu William, Richard, Charles a Miss Jones. Roedd Miss Jones yn gwisgo côt a bwtwm melyn mawr, a dyna oedd y plant yn ei galw, Bwtwm Melyn Mawr. Roedd yn ffond iawn o bowdwr ar ei gwyneb, ac yn stopio wrth Trem yr Wyddfa i bincio a’r plant yn cael hwyl yn ei gwylio. Bwlch y Fedwen William a Laura Hughes a wedyn Robert Williams a’i wraig. Groes Newydd Taid a Nain, sef Thomas a Mary Williams. Yr oeddynt yno pan oedd y capel yn cael ei godi ac mi daflodd Johnie, brawd fy nhad, ei esgid i’r sylfaen ac yno mae hi hyd heddiw. Yr oedd taid yn frawd i hen ddyn Ysgyrnolwyn. Fe symudodd y teulu i Blaenau ar ôl bod yn byw drws nesa i Tecwyn Evans yn Glanllyn. Bu Taid yn gweithio weddill ei oes yn y chwarel. Yr oedd yn Wesla mawr ac yn flaenor am ddeugain mlynedd. Groesnewydd 2 William Roberts. Yr oedd ei fab yn weinidog Wesla, a’r mab arall yn gweithio yn Llundain. Roedd pedair merch, Jane a briododd Richard Williams, Caerwych, Elizabeth Ann a fu yn brifathrawes yn Brontecwyn, a Sally a briododd Lewis Owen, oedd yn ddall. A Sally yn athrawes yn Penrhyn. Glanllyn Bu Taid a Nain yn byw yn un o’r tai cyn symud i Groesnewydd, a daeth William a Mary Jones [Nain a Taid Gwilym Hedd] yno o Allt Galch wedyn. Drws nesa Roedd teulu’r Parch David Tecwyn Evans yn byw yno ar un pryd. Ty’n Lon Yr hen Peter. Yr oedd yn gloff, a gwraig y clochydd yn ei

ddynwared hefo brws llawr o dan ei chesail. Ganwyd merch iddi hi hefo pwt o fraich. Tŷ Newydd Richard Owen. Roedd yr hen deulu wedi bod yno ers blynyddoedd. Plas Llandecwyn Tad a mam Richard Roberts, Edward, Gwen, Mary, Ann a Jane. Priododd Jane a Hugh Hughes, Maesycaerau, ac aethant i fyw i Ynysgain, Cricieth. Yr Onnen Morgan ac Alice Jones, rhieni Sylfanus Jones, Tŷ Mawr. Cancoed Teulu Wil Tec Tallin John Davies Tynffrwd Robert Williams, teulu Hugh Morgan. Llennyrch John Evans. Aberdeunant Samuel Jones. Cyn hynny, teulu Edmund Evans. Pan oedd yn 13 oed, clywodd William Parry yn pregethu yn fferm Tynygroes, pregeth gynta’r Wesleaid yn yr ardal. Cafodd yr oedfa hon ddylanwad fawr ar y llanc ifanc a daeth yn bregethwr enwog drwy Gymru yn dwyn yr enw Udgorn Meirion. Roedd y teulu yn perthyn i deulu’r Parch D Tecwyn Evans, ac i Hedd Wyn. Nantpasgian Fawr Griffith Williams - yr oedd Guto Llaeth, Harlech yn perthyn i’r teulu yma. Nantpasgian Fach Ellis Ellis, a briododd ferch Nantpasgian Fawr, teulu Dafydd Rhosigor. Caerwych Richard Williams a’i wraig. Hen deulu eto oedd wedi bod yn Caerwych am flynyddoedd, sef teulu Will, Esther a Jennie. Glan yr Afon Morgan a Fanny Evans, nain a taid Fanny a Ceri. Roedd Morgan Evans yn saer coed. Allt Galch William a Mary Jones a’u merch Margiad a’i gŵr Huw Parry Morris, rhieni Gwilym Hedd.

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN PÊL-DROED

Noddwyd gan R J Williams Honda/Isuzu, Talsarnau

Noddwyd gan Bragdy Mŵs Piws, Porthmadog

Beca a Llio Enillodd Beca Williams o Dalsarnau wobr Chwaraewr y Chwaraewyr i dim Merched Bethel a gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (ar y cyd hefo Llio Henshaw, Minffordd - o deulu Rhosigor, Talsarnau). Mae’r ddwy wedi bod yn chwarae i dimau genod Bethel ers yr oedran o dan 14 ac wedi symud i fyny i lefel uwch eleni. Buont yn chwarae i dimau bechgyn Penrhyn cyn hynny. Mae Bethel yn chwarae yn adran 1 Cynghrair Merched Gogledd Cymru - felly maen nhw’n teithio llawer i chwarae yn erbyn timau fel Cei Connah, Brychdyn a Rhyl. Fe wnaethon nhw gyrraedd wyth olaf Cwpan Cymru eleni - chwarae yn erbyn Tim Merched Abertawe (sydd ar frig y Gynghrair) - colli wnaethon nhw ond y dyfarnwr yn dweud mai nhw oedd wedi rhoi’r gêm orau iddynt drwy’r tymor! Lois Enillodd Lois Williams o Dalsarnau wobr Chwaraewr y Chwaraewyr i dîm o dan 14 Porthmadog. (Enillodd Lois y wobr y llynedd hefyd!) Cyflwynwyd y wobr iddi gan Nadia Lawrence sy’n chwarae i dim merched Caerdydd a Chymru.Mae Lois yn chwarae iddyn nhw ers dwy flynedd rŵan ac wrth ei bodd! Llongyfarchiadau cynnes iddi.

12

Llongyfarchiadau i Owen Whiteley (mab Nerys, yr Ynys gynt, ac ŵyr i Betty Evans), pêl-droediwr o fri. Yn 12 oed, mae Owen wedi bod yn chwarae pêl-droed ers pan oedd yn 4 oed, ac rŵan mae o’n chwarae i Academi Bala a Bro Hedd Wyn Celts (Traws). Wrth ei fodd efo pêl-droed, mae Owen yn dilyn ôl troed ei frawd mawr Aaron fu’n chwarae i sawl clwb ac sydd bellach yn berchen ar fusnes barbwr yng Nghricieth – mae Aaron yn dal i roi tips am bêl-droed i’w frawd bach. Mae Owen yn weithiwr bach caled ac o hyd allan yn chware pêldroed, law neu hindda! Os ydy’r tywydd yn wirioneddol ddrwg, mae gôl fach yn y tŷ iddo gael chwarae o dan do. Rhoddodd Owen gynnig ar gystadleuaeth ar y rhaglen Heno am gôl y mis a daeth yn 6ed, ond daeth yn gyntaf efo gôl mis Mai. Roedd y teulu wedi gwirioni a Nain Ynys mor prowd ohono fo. Enillodd dlws cit newydd Manchester United fydd ar werth ym mis Gorffennaf. Mae Owen yn edrych ymlaen yn ofnadwy - ‘y tîm gorau’, medda fo - ac wrth gwrs Cymru. Ei arwr yw Ronaldo, unwaith eto ar ôl ei frawd a’i chwaer fawr sydd yn hoff iawn o’r dyn ei hun. Daeth Owain Tudur Jones a chriw Heno draw i ffilmio Owen a braf oedd gweld y ddau’n chwarae pêl-droed mor naturiol efo’i gilydd. Mae Owen am ddal ati i weithio’n galed hefo’i bêl-droed ac yn gobeithio chwarae i Man U a Chymru un diwrnod. Un peth y mae Owen yn ei ddweud wrth bawb, ‘Os dach chi eisiau rhwbath mewn bywyd, gweithio’n galed a phwy a ŵyr lle eith o a chi’. Pob lwc yn y dyfodol, Owen.

Rhodd Diolch am y rhodd o £10 i Llais Ardudwy er cof am Vernon gan Jean ac Idwal Roberts, Penrhyndeudraeth.

Capel Newydd Rydym yn parhau i addoli Duw. Mae croeso i chi ymuno hefo ni ar fore Sul am 10:30 ac ar nos Fercher am 7:30 ar Skype. Rydym yn darlledu ein hoedfaon nos Sul ar ein safle we (capelnewydd.org) ac ar youtube (eglwys efengylaidd ardudwy). Mae croeso mawr i chi ffonio 01766 770953 neu e-bostio ar dewi_lewis@sky.com am fwy o fanylion neu am sgwrs! Er gwaetha’r pandemig, mae rhai pethau yn aros ’run fath o hyd-Iesu Grist, ddoe, heddiw yr Un, ac yn dragywydd!

LLYTHYR A RHODD

Hafan Talsarnau

Annwyl Swyddogion, Dyma gyfraniad bach i Llais Ardudwy. Rwyf yn gwerthfawrogi’r ymdrech mae’r swyddogion wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i sicrhau ein bod ni y darllenwyr wedi derbyn Llais Ardudwy bob mis. Mae ei dderbyn yn gysur i lawer yn ystod y cyfnod anodd yma. Diolch yn fawr, Eluned Williams

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20 Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Talsarnau lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno’n deg sefyllfa ariannol Cyngor Cymuned Talsarnau ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant y Cyngor am y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio’r datganiad o gyfrifon pan fydd pwysau uniongyrchol yr achos COVID-19 wedi gostwng. Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Oherwydd achos y COVID -19, nid yw Cyngor Cymuned Talsarnau wedi cyfarfod i gymeradwyo’r cyfrifon.

Swyddfa’r Post Bydd Swyddfa Bost symudol ar faes parcio Ysgol Gynradd Talsarnau bob dydd Gwener o 19 Mehefin, 11:15-12:00.

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU


DYDDIADUR GARDDIO

Mehefin Dyma fy hoff fis o’r flwyddyn. Y diwrnodau yn hir a braf a chyfle i eistedd allan fin nos i fwynhau arogl y lilis. Fy hoff lili yn yr ardd, gyda’r arogl cryfaf, yw Lili Regale; mae arogl hon yn treiddio drwy ffenestri agored y tŷ fin nos ac yn arbennig iawn. Mae gennyf sawl math o ‘Tree lilies’ hefyd; mae’r rhain yn tyfu’n uchel a chryf a does dim angen eu cynnal ac yn gwneud sioe arbennig gydag arogl hyfryd sydd ymhen ychydig iawn yn dodwy a gwneud twmpath reit swmpus. Mae’r rhosod hefyd yn eu llawn blodau ac yn mwynhau’r tywydd poeth braf rydym wedi ei gael ers sawl wythnos bellach – siwtio’r rhosod i’r dim. Mae sawl un yma wedi bod yn yr ardd ers bron i hanner can mlynedd ac yn dal i roi sioe dda – gwerth am arian go iawn! Byddaf yn rhoi digon o fwyd iddynt a chwistrellu’r dail gyda hylif gwymon gwan ambell waith; rwyf wedi canfod fod hyn yn cadw’r pla smotyn du ddaw ar y dail draw, neu dan reolaeth, ac yn rhoi sglein da i’r dail. 18 Mehefin Ddim yn meddwl y byddwn yn dweud hyn ond mor falch o weld glaw ‘go iawn’ o’r diwedd. Wedi bod yn gorfod dyfrio am rhyw 2 awr bob dydd gan ei bod hi mor sych. Y ffa dringo wedi stopio tyfu ac yn fach iawn, ddim yn siŵr os oes na datws o dan y gwlydd a’r letys yn aros yn eu hunfan fel planhigion bach iawn. Erbyn bore heddiw, roedd y ffa dringo wedi cael bywyd newydd a hanner ffordd i fyny’r ffrâm ddringo a’r tatws yn edrych yn llawer hapusach – ddim ond gobeithio y gwelwn ni’r haul eto’n fuan ar ôl cwyno gymaint bod angen glaw arnon ni! Wrth sôn am y tatws, cofio rhyw ychydig o flynyddoedd yn ôl cael gwadd i fynd i’r Ysgol Feithrin i roi cymorth iddyn nhw gyda’u thema garddio. Roedd taid Efan wedi dod a phlanhigyn taten oedd wedi ei gychwyn mewn pot ond angen ei symud ymlaen i gartref newydd. Bu’r plant yn brysur yn ei blannu mewn bag tatws pwrpasol gan ychwanegu rhai eraill ato. Buont yn ei ddyfrio ac edrych ar ei ôl a mawr oedd y disgwyl am y cynhaeaf. Wedi ychydig wythnosau daeth y diwrnod mawr i edrych beth oedd yn y bag. Gan fy mod gymaint o ofn mai ychydig oedd ynddo bu’n rhaid claddu ychydig o datws o’r siop y noson cynt rhag eu siomi. Daeth Anti Meinir a bocs reit fawr tu allan yn barod i dderbyn cynnwys y bag. Roedd wynebau’r plant yn syfrdan o weld cnwd arbennig o dda, a mawr oedd yr hwyl wrth dyrchu am y tatws. I’r gegin wedyn lle’r oedd Gwynfor a Deborah yn aros i goginio’r tatws i wneud pryd o fwyd iddynt i ginio a’r hwyl wrth fwyta ffrwyth eu llafur. Pwysig i blant yw gweld o lle mae eu bwyd yn dod, yn enwedig yn yr oes ‘bwyd sydyn’ sydd ohoni. Tybed faint ohonynt sy’n cofio? 21 Mehefin Troad y Rhod heddiw a’r nosweithiau golau braf yn araf leihau o hyn ymlaen. Diwrnod braf ar ôl y tywydd garw ond yr ardd yn edrych yn ffres a’r lawnt wedi glasu. Cyfle i blannu planhigion a gefais gan Gwenda er mwyn rhoi cyfle da iddynt ar ôl y glaw. Ddim yn siŵr beth ydy rhai ohonynt ond yn edrych ymlaen i gael syrpreis ymhen ychydig wythnosau! Rwyf wedi cael planhigion cosmos hefyd ac mae’r rhain hefyd wedi eu plannu. Mae’r gwenyn yn hoff iawn o’r blodau a byddant yn rhoi sioe dda i mi hyd nes ddaw y tywydd oer. Mae’r tomatos a’r ciwcymerau yn dod yn eu blaenau yn dda yn y tŷ gwydr ac rwyf wedi cael dau blanhigyn pupur cryf iawn gan Ffion i mi gael rhoi tro ar geisio cael ffrwythau. Nid wyf wedi cael llawer o lwyddiant gyda’r rhain yn y gorffennol gan fod angen gwres reit uchel arnyn nhw ond os yw proffwyd y tywydd yn gywir mae disgwyl gwres uchel iawn ganol yr wythnos - hei lwc felly. Gyda diwedd mis arall ar y gorwel lle i ddiolch sydd ganddom ein bod yn gallu mwynhau bod allan yn yr ardd yn yr awyr iach a’r heulwen ac anghofio problemau’r byd am ychydig. Edrych ymlaen rŵan i fwynhau ffrwyth ein llafur a bwyd iach ffres o’r ardd. MR Diolch hefyd i Margaret am ei gwaith yn gwerthu’r papur yn ardal Llandecwyn.

GWARCHOD BYWYD GWYLLT YMYL FFORDD

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno newidiadau i’w dull o ymdrin ag ymylon ffyrdd yn y sir er mwyn gwarchod a hybu bioamrywiaeth. Mae poblogaeth 41% o rywogaethau Cymru wedi lleihau ers y 70au, ac mae 8% o’n rhywogaethau yn wynebu diflannu am byth. Drwy newid y ffordd o reoli ochrau ein ffyrdd, ceir dylanwad cadarnhaol ar fioamrywiaeth. Mae ymylon ffyrdd yn gweithredu fel coridorau o gynefinoedd pwysig i gefnogi pob math o greaduriaid; o famaliaid bychain i wenyn a gloÿnnod byw. Yn draddodiadol, mae tuedd wedi bod o dorri ymylon ffyrdd yn gynnar yn y gwanwyn; mae hyn yn cael effaith ar eu gwerth fel llecynnau i gefnogi ein bioamrywiaeth. Eleni, bu oedi yn y toriad cyntaf, sydd yn rhoi cyfle i blanhigion flodeuo a hadu cyn torri’r gwair. Mae hyn yn hybu twf mewn blodau gwyllt sydd nid yn unig yn edrych yn dlws, ond sydd hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell o fwyd a chynefin i nifer o rywogaethau.

Lle bod hynny’n bosib, bydd y toriad cyntaf yma yn ymestyn 1 medr yn unig o’r ffordd, gan adael y gweddill fel cynefin. Bydd toriad llawn ar ddiwedd yr haf/hydref unwaith y bydd y blodau gwyllt wedi hadu. Bu’n hyfryd gweld blodau gwyllt ar ein ffyrdd dros yr wythnosau diwethaf, gan wybod eu bod nid yn unig yn edrych yn dlws, ond hefyd yn cefnogi pob math o fywyd gwyllt. Gobeithiwn y bydd trigolion y sir yn cytuno y bydd y trefniadau newydd yn llwyddo i gadw cydbwysedd rhwng gwarchod natur arbennig ein sir, a chadw defnyddwyr ein ffyrdd yn ddiogel. Rhoddwyd y patrwm torri ar waith ym Meirionnydd tua canol mis Mehefin.

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

ALUN WILLIAMS

TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio

07776 181959

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys,Talsarnau

ADEILADWR

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru Tafarn yr Eryrod JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

Llanuwchllyn 01678 540278

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri.

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

Gwarantir gwaith o safon

Ffôn: 01766 780742 / 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL Gadewch i’r felin ddod atoch chi! Y cyntaf i’r felin gaiff lifio! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Llais Ardudwy

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930

argraffu da am bris da Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com

TREFNWYR ANGLADDAU

E-gopi llaisardudwy@outlook.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi holwch Paul am bris ar paul@ylolfa.com 01970 832 304 www.ylolfa.com

14 ARGRAFFU DA AM BRIS DA gwahanol feintiau.indd 9

19/12/2013 12:58:44

Gwasanaeth personol dydd a nos Capel Gorffwys Ceir angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb


CROESAIR gan Gerallt Rhun TOYOTA HARLECH Yn y pos hwn mae pob llythyren y wyddor Gymraeg rywle yn y croesair (ar wahân i Ph). Ceisiwch ddyfalu pa rif sy’n cynrychioli pob llythyren. Mae tair llythyren wedi eu dadlennu eisoes. 17

2

14

6

2

16 2

6

20

2

3

19 19

6

17

26 12

11

14

2

21

11

11

14

6

2

3

11

14

14 14

16

11

1 26

3

24

16

24

1

12

1

3

2

6

6

N

14

26

26

2

7

10

1

26

I

10

11

10

16

3

16

21

22

27

6

2

3

6

YARIS HYBRID NEWYDD

Dewch atom i roi cynnig ar yrru’r Yaris newydd!

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk

21

3

11

3

5

23

14

11

13

14

12

2

2

21

14

10

U

6

3

12

8

1

11

2

1 8

2

6

16

26

3 23

2

9

14

13

2

16

21

2

27

25

7 13

18

1

2

15

4

16

22

16

10

23

19

6

1

19

facebook.com/harlech.

Twitter@harlech_toyota

12 2

26

22

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P (Ph) R Rh S T Th U W Y 1

2

3

4

5

6

7

8

9

15

16

17

18

19

20

21

22

23

N

10

11

12

13

14

24

25

26

27

28

U

I

Ph

Ymddangosodd y pôs hwn gyntaf yn rhifyn mis Ebrill eleni. Ond gan mai rhifyn electronaidd oedd hwnnw, nid oedd y pôs mor hawdd ei drin â fersiwn bapur. Pob lwc ar geisio’i ddatrys!

MANYLION BANC

Llais Ardudwy

Mae amryw wedi holi am fanylion banc Llais Ardudwy er mwyn iddyn nhw fedru rhoi cyfraniad neu adnewyddu eu tanysgrifiad. Os ydi o’n gyfraniad, nodwch CYF ar y taliad ac os ydi o’n danysgrifiad [£7.70 y flwyddyn yn electronaidd] nodwch TAN. Cofiwch osod tic yn y blwch cyfrif busnes. Banc: HSBC Porthmadog Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Os ydych yn talu arian i gyfrif Llais Ardudwy buasai o gymorth mawr pe baech hefyd yn anfon e-bost i llaisardudwy@outlook.com i nodi eich bod wedi anfon yr arian i’r cyfrif. Diolch.

ENGLYN DA Y RHOSYN A’R GRUG

ENGLYN AMSEROL ANSICRWYDD

I’r teg ros rhoir tŷ grisial - i fagu Pendefigaeth feddal, I’r grug dewr y graig a dâl Noeth weriniaeth yr anial.

Gall gŵr fod neithiwr yn iach, - y bore Heb arwydd amgenach, Yfory’n annifyrrach, Drennydd ar obennydd bach.

John Owen Williams [Pedrog], 1853-1932

Anhysbys 15


HARLECH 101 oed Bu farw Douglas Owen gynt o’r Waun, Harlech yng nghartref Hafod Mawddach yn y Bermo ac yntau yn 101 oed. Roedd yn dad i David, Gaynor ac Angharad ac yn daid i chwech o wyrion. Mae coffa da amdano yn y fro lle roedd yn weithiwr diwyd ac yn gyfaill ffyddlon i lawer. Bu’n aelod o Gôr Meibion Ardudwy a Chôr y Brythoniaid yn ei dro. Cynhaliwyd gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bae Colwyn. Colli Emyr Rees Bu farw Emyr Rees, Hafan ar ôl cystudd hir. Bu’n gweithio yn y Maes Awyr, Llanbedr ac fel aelod ffyddlon o’r Gwasanaeth Tân lleol. Roedd yn gymeriad hwyliog, yn grefftwr da ac yn arddwr brwd a medrus. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i blant Robert, Rhian a Geraint a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

£400 i’r Banc Bwyd

Pen-blwydd Bydd Linda Soar, 15 Cae Gwastad yn dathlu ei phenblwydd yn 60 oed ar Awst 5. Gobeithio y cei di ddiwrnod i’w gofio Linda, gyda llawer iawn o gariad gan David, Joe, Fiona a Sam a’r ddwy wyres fach sydd yn meddwl y byd o Nain, sef Aria ac Esmi, hefyd dy holl ffrindiau yn yr ardal.

Dyma lun o Catherine Roberts, Cymhorthydd yn Ysgol Tanycastell, yn cyflwyno gwerth £400 i’r Banc Bwyd Lleol. Bu’n brysur yn creu a gwerthu addurniadau Enfys am £3.50 yr un. Llongyfarchiadau am fod mor feddylgar yn ystod y cyfnod anodd yma. Diolch yn fawr iawn iti, Catherine.

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Dr Peter Williams, Gwynedd ar farwolaeth ei fam yn ardal Abertawe yn ddiweddar.

ENFYS COVID

Llongyfarchiadau Roedd Dafydd Idwal, Bron y Graig, yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed ar Gorffennaf 2.

Llun Daniel Williams, Hafan Bach, Ffordd Tŷ Canol.

CYNGOR CYMUNED HARLECH

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

16

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20 Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Harlech lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno’n deg sefyllfa ariannol Cyngor Cymuned Harlech ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant y Cyngor am y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio’r datganiad o gyfrifon pan fydd pwysau uniongyrchol yr achos COVID-19 wedi gostwng. Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Oherwydd achos y COVID-19, nid yw Cyngor Cymuned Harlech wedi cyfarfod i gymeradwyo’r cyfrifon.


CofNodi COVID

Storiel, Bangor eisiau adrodd stori Gwynedd yng nghyfnod COVID-19 Mae’r pandemig COVID-19 yn ddigwyddiad heb ei debyg o’r blaen yn ystod ein hoes ni, ac mae Storiel, Bangor yn credu ei bod yn hollbwysig i gofnodi’r cyfnod hanesyddol yma drwy wneud apêl am eitemau. Mae Storiel yn chwilio am eitemau sydd yn adlewyrchu profiadau pawb yn y gymuned yn ystod y cyfnod yma. Fe all hyn fod yn waith celf, ffotograffau, fideos, barddoniaeth, darn o ddyddiadur, ryseitiau, straeon neu wrthrychau. Bydd hyn yn eu galluogi i ddweud stori’r pandemig yng Ngwynedd trwy archifau a gwrthrychau yn y dyfodol. Bydd yr eitemau hefyd yn cyfrannu at greu portread mwy cyflawn o hanes a diwylliant Gwynedd. Oherwydd y sefyllfa yn sgil COVID-19, ni ellir derbyn yr eitemau eu hunain ar hyn o bryd. Felly mae Storiel yn gofyn i’r cyhoedd cymryd rhan drwy anfon lluniau/fideos ar ffurf digidol a lluniau digidol o’r eitemau. I gymryd rhan e-bostiwch orielrithiolstoriel@gwynedd.llyw.cymru 1 Anfon lluniau ar ffurf digidol 2 Anfon lluniau digidol o’r gwrthrychau 3 Ffonio 01248 353368 4 Gyrrwch eich enw Instagram os oes gennych chi un.

HUNAN-YNYSU YN GREADIGOL

Anfonodd Bili Jones, 6 Stryd Fawr, Talsarnau nodyn atom o Newtown Forbes yn Iwerddon i ddweud ei fod wedi bod yn brysur yn diddori ei hun trwy wneud ychydig o bethau o sgrap. Mae’r rhai sy’n nabod Bili’n dda yn gwybod ei fod yn gallu troi ei law at unrhyw beth. Yn ôl Bili, “Dwi’n rhedeg allan o waith rŵan. Mi fydd yn hir iawn cyn imi gael peint o’r stwff du efo ffrindiau! Gobeithio y cawn ddod adra yn fuan.”

Bili Jones

17


Canu yn y Nefoedd

Canu yn y Nefoedd Pedr Hir 1847-1922

Soniais o’r blaen am blismyn sydd wedi cyfrannu at ein hemynau. Go brin fod yna lawer iawn ohonynt ond mae’n werth sôn am un yn arbennig. Peter Williams oedd ei enw ond fel byddai’r ffasiwn yn oes Victoria, dewisodd enw barddonol iddo ei hun, Pedr Hir. Ac yn wir dewisodd yn ddoeth gan ei fod yn ŵr tal a chryf yn ogystal â bod o natur lawen a charedig. Un o Ddyffryn Clwyd oedd Pedr Hir, o Lanynys yn Sir Ddinbych. Mae’n siŵr fod ei daldra a’i gryfder wedi dylanwadu ar ei deulu i’w berswadio y dylai ymuno â’r heddlu. Fe fu yn gwnstabl yn Heddlu Sir Ddinbych am rai blynyddoedd yn oes aur y plismon gwlad. Bu am ysbaid ym Mhentrefoelas ac wedyn yn Llanrwst ond does yna ddim llawer iawn o dystiolaeth sut blismon oedd o. Yn ei lyfr ‘Cwm Eithin’, mae Hugh Evans yn dweud bod sôn amdano yn mynd i fyny i’r Mwdwl Eithin er mwyn ceisio dal potsiars – wel i fod, beth bynnag. Y gwir oedd ei fod yn mynd i fyny i’r mynydd hefo geiriadur a Thestament Groeg i geisio meistroli’r iaith honno gan ei fod â’i fryd ar y weinidogaeth efo’r Bedyddwyr. Pan ddywedodd wrth ei uwch swyddog ei fod yn ymddiswyddo o fod yn heddgeidwad ac yn mynd i’r Weinidogaeth, atebodd hwnnw yn swta iddo, “Gobeithio’n wir, Pedr, y doi di â mwy o bechaduriaid at Grist nag a ddaethost o droseddwyr i`r carchar”. Wn i ddim beth am hynny ond fe fu Pedr Hir yn weinidog

18

llwyddiannus ac uchel ei barch am flynyddoedd lawer. Dechreuodd yn Abergele yn 1881 cyn symud i Dredegar yn 1886. Yn y flwyddyn 1897, daeth yn weinidog Capel Bedyddwyr Cymraeg Balliol Road yn Bootle, lle arhosodd weddill ei oes. Golygai ei waith fod yn rhaid iddo gerdded trwy ardaloedd digon peryg ac anodd ond bu ei gryfder a’i brofiad yn yr heddlu o fantais mawr iddo yn Lerpwl. Cyfansoddodd lawer o gerddi a dramâu hefyd mewn oes pan oedd cwmnïau drama amatur yn dechrau dod yn boblogaidd. Cofir am Pedr heddiw fel awdur yr emyn 714 yn Caneuon Ffydd: ‘Bydd canu yn y nefoedd pan ddelo’r plant ynghyd, y rhai fu oddicartref o dŷ eu Tad cyhyd; dechreuir y gynghanedd ac ni bydd wylo mwy, a Duw a sych bob deigryn oddiwrth eu llygaid hwy...’ Cyfansoddodd Pedr Hir yr emyn pan oedd yn 20 oed ac mae`n siŵr ei fod wedi cael ei ysbrydoliaeth o Lyfr y Datguddiad, pennod 7, adnod 17. Efallai bod y syniadaeth yn edrych yn hen ffasiwn i ni heddiw ond bu llawer o ganu ar yr emyn ac fe fu, ac mae o hyd, yn ffynhonnell cysur i lawer. Y dôn a roddir uwch ei phen yw un (mae`n debyg) a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr emyn gan Lewis Jones Roberts (1866-1931). Ni chlywais eiriau eraill erioed yn cael eu canu ar y dôn yma. Brodor o Aberaeron yn Sir Geredigion oedd L J Roberts. Arolygydd ysgolion oedd wrth ei waith bob dydd a chydweithiodd lawer gyda Syr O M Edwards. Cyfansoddodd sawl tôn ac mae`n debyg mai’r fwyaf adnabyddus heddiw yw’r dôn Llanbedr y byddwn yn canu’r garol ‘Odlau tyner engyl ...’ arni. Mae ein dyled iddo ef ac i Pedr Hir yn fawr. Diddorol yw sylwi i’r tri emynydd Pedr Hir, Pedr Fardd a Phedrog ddechrau eu hoes yng ngogledd Cymru a byw oes hir yn Lerpwl. Ond efallai nad oedd hynny yn beth od chwaith; bu adeg heb fod ymhell yn ôl pan oedd gan bawb yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn berthnasau yn Lerpwl. JBW

Gwasanaeth Llyfrgell ar gael yn fuan yng Ngwynedd o dan reolau newydd Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd chwe llyfrgell yn gallu darparu gwasanaeth i’r cyhoedd o 1 Gorffennaf. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth a gynigir yn wahanol i’r arfer, a bydd rhaid cysylltu gyda’r llyfrgell ymlaen llaw i archebu llyfrau. Bydd y llyfrgell wedyn yn cysylltu gyda’r defnyddwyr pan fydd y llyfrau yn barod i’w casglu, a threfnu amser ar gyfer gwneud hynny. Ar gyfer y sawl sy’n methu ag ymweld â’u llyfrgell i gasglu llyfrau bydd modd archebu llyfrau ar gyfer eu cludo i’w cartrefi yng Ngwynedd. Ar gyfer y bobl hynny oedd yn derbyn y Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref yn flaenorol, bydd y Cyngor yn ailgychwyn y gwasanaeth yma ar ei ffurf newydd yn fuan. Bydd y gwasanaeth fydd ar gael i drigolion Gwynedd yn wahanol i’r hyn oedd o cyn i’r

llyfrgelloedd gau, ond mae’r drefn newydd wedi ei chynllunio i sicrhau iechyd a lles trigolion a staff tra’n cynnig cyfle i bobl y sir gael mynediad at y cyfoeth o ddeunydd sydd ar gael o’n llyfrgelloedd ni. Diogelwch defnyddwyr a staff ydy’r flaenoriaeth, a bydd llyfrgelloedd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i drin llyfrau llyfrgell, er mwyn helpu diogelwch a llesiant pobl. Mae sawl ffordd i archebu llyfrau – trwy ffonio, e-bost neu ddefnyddio’r ffurflen archebu ar dudalen gwe Llyfrgelloedd Gwynedd www.gwynedd.llyw. cymru/llyfrgell. Bydd angen eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif cerdyn arnom. Os nad ydych yn aelod Llyfrgell yn barod, yna gallwch ymaelodi arlein neu ffonio’r gwasanaeth. Bydd Llyfrgelloedd Blaenau Ffestiniog a Dolgellau yn darparu’r gwasanaeth hwn.

COFIANT O M EDWARDS

Yn ddiweddar cyhoeddwyd OM, Cofiant Syr Owen Morgan Edwards gan Hazel Walford Davies. Mae’n sôn yn y llyfr trwchus am ddyn o Ddyffryn Ardudwy a fu’n cynorthwyo’r gŵr o Lanuwchllyn gyda Cymru Fydd, cylchgrawn y

Blaid Genedlaethol Gymraeg fel y’i gelwid, yn 1889. O M Edwards oedd yn golygu’r adran Gymraeg a Richard Humphreys Morgan, yr adran Saesneg. Fo oedd mab y Faeldref a fu’n weinidog yn y Bermo ac yna ym Mhorthaethwy. Nid oedd pethau’n rhwydd ar adegau i’r cylchgrawn a gyhoeddid yn Nolgellau. Medd Hazel Walford Davies: “Heb os, rhan o’r drwg oedd y ffaith bod Cymru Fydd yn ddwyieithog, ac er i’r ddau olygydd gydweithio’n gyfeillgar, yn awr ac yn y man bu i Owen ac R H Morgan anghytuno ar gynnwys y cylchgrawn.” Daeth oes y cylchgrawn i ben yn 1891 ac o hynny ymlaen aeth O M Edwards i ofalu am gylchgrawn Cymraeg mwy poblogaidd o’r enw Cymru.


LLANFAIR A LLANDANWG

FEIRWS Y GORON YN FFRAINC

Diolch Gair i ddiolch i bawb sydd wedi helpu ac wedi bod mor garedig i Terry a finnau yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Diolch o galon, Maureen Jones, Bryn Tanwg Diolch £5

HOGIA LLANFAIR

Pwy ydyn nhw tybed?

CYNGOR CYMUNED Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20 Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol y Cyngor lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno’n deg sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant y Cyngor am y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio’r datganiad o gyfrifon pan fydd pwysau uniongyrchol yr achos COVID-19 wedi gostwng. Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30ain Mehefin 2020. Oherwydd achos y COVID-19, nid yw’r Cyngor wedi cyfarfod i gymeradwyo’r cyfrifon.

Mae Cath a Mike Smith (Cath yn ferch i’r diweddar Ken a Blodwen Jones, Y Waun, Harlech a Mike o’r Bermo yn wreiddiol), yn berchen ar faes gwersylla ‘Le Cormier’ ger pentre Obterre yn Ffrainc. Cawsom ein rhoi dan glo yn swyddogol ar Mawrth 17, ond roedd y feirws o gwmpas cyn hynny. Ar yr un diwrnod, cafodd Bessie (fy mam yng nghyfraith), sy’n 97 oed apwyntiad meddyg a oedd yn golygu bod yn rhaid i ni lenwi dwy ffurflen i egluro pam ein bod ni allan. Roedd yn rhaid cario pasbort, masgiau a menig. Roedd y meddyg yn gwisgo menig, gŵn plastig a feisor ac roedd y cadeiriau 2 fetr ar wahân. Dim ond 1 unigolyn efo diheintydd ar y dwylo oedd yn cael mynd i’r fferyllfa, sgrîn wydr ar y cownter a marc dwy fetr ar y llawr. Roedd angen ffurflen arnoch chi yn egluro pam roeddech chi allan hyd yn oed i fynd i’r pentref [hanner milltir i ffwrdd].

Mike a Cath Smith

Roedd y dyn bara yn gwisgo menig a masg ac nid oeddem yn cael cyffwrdd ag unrhyw beth. Rydym yn byw ar lwybr hedfan ac mae’n rhyfedd heb unrhyw awyrennau. Roedd hi’n iasol yma heb geir ac yn dawel iawn ond fe allech chi glywed yr holl adar yn canu. Yn amlwg roedd siopa am fwyd yn anodd. Roedd yr archfarchnad yn llym iawn. Dim ond 50 i mewn ar unrhyw adeg. Caniatawyd un unigolyn i bob cartref; roedd popeth yn lanwaith a’r staff wedi’u diogelu’n dda gyda PPE. Os caech eich dal heb ffurflenni ac amddiffyniad personol fe gaech ddirwy o 135 ewro. Pe baech yn aildroseddu, byddai sawl un yn cael eu rhoi yn y carchar. Yn y siop DIY, roedd hyd yn oed yn llymach. Roedd yn rhaid i aelod o staff wthio’ch troli, ni allech gyffwrdd ag unrhyw beth ac ni allech bori. Roedd aelod o staff yn rhoi’r nwyddau ar y troli ac yna yn rhoi’r troli i aelod arall o staff i sganio’r nwyddau. Roedd popeth wedi’i orchuddio â phlastig ac roedd gan yr holl staff PPE llawn. Dim cerdyn i dalu, arian parod yn unig. Glanhawyd pob troli ar ôl pob defnydd gan y staff yn llym iawn. Ychydig wythnosau yn ôl cawsom fasgiau cartref gan y pentref. Rydym yn rhedeg maes gwersylla 12 cae yma yn Ffrainc, gyda ‘gite’ a fflatiau. Pan ddaeth y cloi, roedd yn rhaid i ni gau ar unwaith. Rydyn ni rŵan ym mis Mehefin ac mae pobl yn dal i ganslo oherwydd

cyfyngiadau teithio o’r DU. Ers Mehefin 2 rydym yn cael agor i’r cyhoedd ond dydyn ni ddim wedi cael cwsmeriaid eto. Bydd yn gyfnod anodd iawn i ni fel busnes a gobeithiwn y bydd pethau’n gwella’n fuan. Rydym yn y broses o adeiladu toiled a chawod newydd ac yn ffodus mae’r masnachwyr bellach yn cael gweithio arno eto. Mae ein 3 merch a’u teuluoedd yn byw yng Nghymru, felly rydyn ni’n bryderus ac yn poeni amdanyn nhw i gyd, ond oherwydd technoleg fodern gallwn ni gadw mewn cysylltiad â nhw. Ar nodyn cadarnhaol mae llawer o’r tasgau yr oeddem wedi gohirio eu gwneud dros y blynyddoedd wedi’u gwneud felly mae wedi ein cadw’n brysur dros y 4 mis diwethaf. Gobeithiwn yn fuan y gall bywyd fynd yn ôl i ryw normalrwydd i bawb. Cath Smith [Harlech gynt]

Dyma Bessie, mam Mike sy’n 97oed. Roedd hi’n byw yn Bermo ers talwm.

19


CÔR-ONA

Grŵp agored o bobl ar Facebook, gyda dros 43,000 o aelodau, sydd wedi bod yn postio fidios amrywiol ohonynt yn canu/chwarae offerynnau ac sydd wedi bod yn hynod o boblogaidd. Bu pobl Ardudwy yn amlwg iawn yn canu amrywiaeth o ganeuon ar safwe Côr-ona.

Cana-mi-gei

Arthur Pugh Roberts

John a Roger Kerry [a Lliwen]

Llion Williams

Mair Tomos Ifans

Gwyn Anwyl Golygydd y ffilmiau

Roger Kerry

Aled Morgan Jones

Catrin Angharad [Toffoc] Jones Sylfaenydd

Alaw Sharp

Rhys Meirion Cyflwynydd rhaglen deledu ar Côr-ona.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.