Llais Ardudwy
70c
RHIF 489 - GORFFENNAF 2019
TAITH GERDDED – ER COF AM GWYNFOR
‘Aros mae’r mynyddau mawr, Rhuo trostynt mae y gwynt.’ Nid fel’na y buodd hi ar ddydd Sadwrn Mehehefin 22ain, pan gynhaliwyd taith gerdded er cof am Gwynfor a lle cawsom dywydd braf iawn gydag awel dyner i’n tywys; bach o lwc ar ôl y tywydd gwael mor belled eleni. Daeth tua 60/70 ohonom, o bob oedran, ynghyd, o Ardudwy, Eifionydd, Caernarfon, Hen Golwyn a Dolgellau, yn cynnwys plant 7/8 mlwydd oed ac oedolion yn eu saithdegau. Dechreuodd y daith yn y
Bermo gyda llwybr serth i fyny a heibio Bedd y Ffrancwr tuag at Bontddu, gyda golygfeydd godidog o’r Mawddach tuag at Ddolgellau a Chadair Idris yn y cefndir. Hwn oedd y rhan caletaf o’r daith gyda’r rhan fwyaf ohonom yn gweld y dringo yn lladdfa. Ar ôl tua dwy awr, cyrhaeddom Bwlch y Rhiwgyr, cyn cychwyn i lawr tuag at yr afon Sgethin, ar ffordd llwybr Ardudwy, heibio i lefydd hanesyddol yr ardal, sef carnedd Hengwm, Llety Lloegr (lle’r oedd yr hen borthmyn yn arfer dod at ei gilydd cyn
cychwyn ar y daith i Lundain), Pont Fadog a Gors y Gedol. Roedd y golygfeydd eto’n rhagorol ar yr ochr ogleddol o’r Bwlch, sef Ynys Enlli, Pen Llŷn, Eifionydd, mynyddoedd Eryri, Mochras a Morfa Dyffryn o’n blaenau. Ar ôl cyrraedd Gors y Gedol roedd yr awr a hanner olaf o’r cerdded yn weddol gyffyrddus, drwy Goed Aber Artro, gan ddiweddu ein taith yn y Tŷ Mawr, Llanbedr. Cawsom groeso cynnes yn y Tŷ Mawr a mawr yw ein diolch. Roedd y lle dan ei sang gyda
Gŵyl Gerddorol Llanbedr yn ei hanterth a Chôr Meibion Ardudwy yno i’n diddanu a chloi diwrnod cofiadwy. Llwyddodd Mr Richard Hughes, Harlech ac eraill hel £520 tuag at Apêl Gwaddol Ward Alaw, ac eto mawr yw ein diolch iddynt. Ar ôl llwyddiant eleni, ac yn ôl galw poblogaidd, disgwylir cynnal taith gerdded eto’r flwyddyn nesa, gan obeithio y bydd Côr Ardudwy yna i’n croesawu eto ar ben y daith! Rwy’n siŵr bod pawb yn cytuno bod y daith yn deyrnged haeddiannol iawn i Gwynfor John, a oedd mor hoff o gerdded a chymdeithasu, ac a wnaeth gymaint o waith da dros drigolion a sefydliadau’r ardal. Gwobrau Dyddiadur Pen-blwydd 1. £150 Mawrth 12 Bleddyn Hughes, Cricieth 2. £50 Mawrth 10 John Williams, Ystumgwern 3. £25 Gorffennaf 13 Richard Roberts, Llanbedr
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Awst 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Medi 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Awst 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: Robert Emyr Lewis. Gwaith: Technegydd TGCh a Chlyweledol, ym Mhrifysgol Bangor. Cefndir: Cefais fy magu yn Llandanwg yn fab i Bryn ac Ann Lewis a brawd i Iwan Morus. Bûm yn ddisgybl yn Nhanycastell, Ysgol Ardudwy a Choleg Meirion Dwyfor cyn ennill gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Ymarfer corff bob dydd ar hyn o bryd. Mam yn cwyno’n fawr nad wyf gartref yn aml. Rwyf yn ymweld â Chanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog bob dydd; rhwng y dosbarthiadau ffitrwydd, mynd i’r ystafell ffitrwydd, chwarae badminton ddwywaith (weithiau tair) yr wythnos, a chwarae sboncen mae’n wythnos brysur. Fe welwch pam nad yw Mam yn rhy hapus mae arna’ i ofn. Beth ydych chi’n ei ddarllen?: Ar y funud rwy’n darllen llyfrau ar iechyd a chadw’n heini. Diflas i lawer o bobl ond rwyf yn ei mwynhau’n fawr. Rwyf hefyd yn hoff o ddarllen nofelau dirgelwch, llyfrau Dan Brown, y llyfrau Harry Potter oll i enwi ychydig. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Nid wyf yn gwrando llawer ar y radio. Mae Mam a minnau yn gwrando ar Sarah Tarbuck ar Radio 2 pan yn mentro i Wrecsam i’r pêl-droed, chwerthin mawr ar y storïau sy’n cael ei gyrru i’r gyflwynwraig. O ran teledu, rwy’n gwylio bob math o raglenni. Ar hyn o bryd, rwy’n hoff o raglen newydd Codi Hwyl ar S4C, Vera ar ITV ac hefyd yn gwylio gwahanol
fathau o raglenni ar Netflix ac Amazon Prime. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rwy’n ceisio bwyta’n iach drwy beidio bwyta gormod o bethau melys ond mae’n rhaid mwynhau y rheini ambell waith, onid oes? Hoff fwyd? Caws. Dim cystadleuaeth. Cefais benwythnos hir yn Amsterdam gyda ffrindiau ar Stag Do yn ddiweddar. Es i a ffrind i ymweld â’r Amgueddfa Gaws, gyda’r gweddill yn mynd i weld Amgueddfa Van Gogh. Cefais brynhawn penigamp yn blasu’r amrywiol gawsiau oedd ar gael i’w profi. Hoff ddiod? Rwy’n hoff o lawer diod alcoholig yn ei dro ond yn hapus iawn gyda dŵr soda ac ychydig o leim ynddo hefyd. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu oll. Nid ydym yn cael siawns i ddod at ein gilydd yn aml gan fod pawb gyda bywydau prysur y dyddiau yma. Lle sydd orau gennych? Rwy’n hoff iawn o deithio i lefydd gwahanol ond rwy’n hapus iawn yn fy ardal leol. Mae mor brydferth. Mae’n braf ofnadwy cyfarfod rhywun yr ydych yn ei adnabod bob dydd a chael sgwrs sydyn. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Rwyf wedi teithio dipyn rhwng teithiau’r côr, pêl-droed, teithiau gyda ffrindiau a theithiau teuluol. Y trip gorau sy’n dod i’r meddwl ar hyn o bryd yw ein ymweliad diweddar â Gdansk yng Ngwlad Pwyl. Dinas hanesyddol a deniadol ofnadwy ond gyda digon o fywyd cymdeithasol hefyd. Beth sy’n eich gwylltio? Llawer o bethau! Dyma restr fer: Gyrrwyr ceir araf – esiampl da ydi golygydd ein papur bro yn y Bat Mobile fel yr wyf yn galw ei gar. Pobl anhrefnus hefyd – sy’n trefnu pethau y munud olaf a chithau’n gorfod dioddef oherwydd eu hanhrefn nhw. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Pobl y gallwch ymddiried yn llwyr ynddyn nhw; os ydych mewn picl o gwbl gallwch wybod y gwnawn nhw eich helpu gydag ond eiliad o rybudd. Pwy yw eich arwr? Nid oes gennyf arwr. Dydw
i ddim yn hoffi gosod neb ar bedestal. Pwy ydych yn edmygu yn yr ardal hon? Rwy’n edmygu’n fawr y bobl sy’n edrych ar ôl pobl gydag anableddau, gofalwyr cartref a gofalwyr pobl ifanc. Maent yn cael bywyd caled gyda chyflogau isel. Maen nhw’n haeddu gwell. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Rwyf yn mwynhau bywyd, swydd yr wyf yn ei fwynhau, gwylio llawer o bêl-droed a theithio ar draws y byd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Buaswn yn ei roi i helpu i dalu blaendal morgais tŷ. Diflas iawn dwi’n gwybod ond mi fuasai’n help mawr tuag at gael prynu tŷ. Os na fuaswn angen y pres mi fyswn yn ei roi i’r tîm pêl-droed gorau yn y byd, sef Wrecsam. Rwyf wedi cael amser gwerth chweil yn mynd i’w gwylio yn chwarae, cael hwyl a sgwrs gyda’r cefnogwyr o’n cwmpas. Eich hoff liw? Coch. Lliw y tîmau pêl-droed gorau yn fy marn i, Wrecsam, Chymru a Lerpwl. Eich hoff ddarnau o gerddoriaeth? Mae gennyf flas eclectic iawn o James Morrison, Will Young, Michael Jackson, Stereophonics i Alffa, Gwilym a Fleur De Lys i enwi ond ychydig. Pa dalent hoffech ei chael? Gallu troi fy llaw at unrhyw offeryn cerddorol. Roeddwn yn chwarae piano pan yn iau, ond mi roddais y gorau iddi ac rŵan rwyf yn dyfarru hynny yn fawr. Mae cerddoriaeth yn dod â phobl at ei gilydd. Eich hoff ddywediadau? Rhoi’r ffidil yn y to. Mynd dros ben llestri. Rwyf hefyd yn berson sydd yn hoff iawn o roi glasenwau i bobl. Dyma ddau ohonyn nhw, cewch chi geisio dyfalu pwy ydyn nhw: Jîn Blin, Victor Meldrew. [Dydyn nhw ddim yn byw ymhell o’n tŷ ni!] Sut buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Fel person hapus sy’n mwynhau bywyd yn fawr iawn. Rydym yn byw mewn ardal brydferth tu hwnt ac rwy’n falch iawn o gael bod yn un o drigolion yr ardal.
Os hoffech lenwi’r holiadur, dewch i gysylltiad â ni. Diolch.
LLANFAIR A LLANDANWG CASGLU SBWRIEL
Y Fets, S4C I’r rhai ohonom sydd yn ymddiddori yn y gyfres gyfredol. ‘Y Fets’ ar S4C, mae un sydd â chysylltiadau ag Ardudwy yn ymddangos ar y rhaglen. Sôn yr ydym am Catrin Dafis, merch Margiad, Cilybronrhydd. Da iawn ti, Catrin, a rhwydd hynt i’r dyfodol. Ffermio Hyfryd oedd gwylio, a mwynhau, y rhaglen Ffermio yn ddiweddar a gweld teulu Eithinfynydd ar y cae efo’r gwartheg duon. Mae’n siŵr bod teulu Maes yr Aelfor a nain Min y Don wrth eu boddau yn gweld yr wyrion bach. Nhw fydd yn cario’r traddodiadau ymlaen ym myd amaeth ynte? Da iawn. Cerdded llwybrau Ardudwy Yn dilyn llwyddiant taith cofio Gwynfor, dyma gyfle i’r cerddwyr gyfarfod eto nos Wener, 19 Gorffennaf am 6.30, yn y maes parcio wrth ymyl hen Gapel Bethel, Llanfair. Dro bach hamddenol o rhyw ddwy awr ar hyd llwybrau Llanfair a Llanbedr. Am fwy o fanylion ac i gadarnhau eich bod am ddod am dro, cysylltwch â Haf Meredydd (manylion y tu mewn i’r clawr). Genedigaeth Llongyfarchiadau i Huw Thomas (Hengaeau) a Katie ar enedigaeth merch fach, Cara Enlli, chwaer fach i Aron. Pob dymuniad da i’r teulu, heb anghofio Taid a Nain, Hengaeau, hen nain Ffin y Llannau, ag Anti Lis, Tŷ Gwyn, John a’r teulu oll.
James Whitehouse a Meilir Roberts a yn cael paned haeddiannol ar ôl bod yn casglu sbwriel o gwmpas Cae Brenin Siôr, Harlech cyn i’r plant ymarfer rygbi arno. Llawer o ddiolch i’r ddau ohonyn nhw.
Colli Margery
Anfonwn ein cydymdeimlad at deulu Margery Warren, Ty’n Llidiart Mawr, Pensarn, a fu farw yn ddiweddar, yn dilyn cystudd byr. Roedd yn gerddwraig o fri ac wedi gwneud ymdrech lew i ddysgu’r Gymraeg. Merched y Wawr Cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor ar y 4ydd o Fehefin. Cydymdeimlodd Bronwen ag Eirlys yn ei phrofedigaeth. Diolchodd Bronwen i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn, i’r ysgrifennydd a’r trysorydd am eu gwaith. Hefyd diolchwyd i Maureen ac Ann am baratoi’r Neuadd ar ein cyfer bob mis. Cafwyd braslun o waith y flwyddyn gan yr ysgrifennydd a’r trysorydd. Byddwn yn cael adroddiad manwl ar ddiwedd flwyddyn ariannol. Diolchodd Edwina am y te blasus a baratowyd i Deulu’r Castell gan yr aelodau; roedd pawb wedi mwynhau’n fawr. Aethpwyd ymlaen i drefnu’n fras y rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf a chafwyd nifer o syniadau diddorol. Cafwyd
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2019/20: Cadeirydd: Cyng Eurig Hughes Is-gadeirydd: Cyng Russell Sharp Llinellau Melyn ger stesion Llandanwg Derbyniwyd dau wrthwynebiad i osod y llinellau uchod, a rhai o blaid y llinellau hyn ar sail diogelwch. Bu trafodaeth ynglŷn â’r sylwadau oedd wedi eu derbyn, ac er bod yr Aelodau yn gweld safbwynt y ddwy ochr, cytunwyd i ofyn i Mr Dylan Jones o Gyngor Gwynedd ddod i’w cyfarfod er mwyn iddo weld y safle a gweld beth yw yr angen, hefyd gofyn a fyddai hi’n bosib, yn lle bod gorchymyn y llinellau hyn yn weithredol o’r 1af Ebrill tan y 30ain o Fedi, ei fod yn cychwyn ym mis Mai. Ar ôl cyfarfod y Cyngor, ymwelodd rhai aelodau â’r safle a chytunwyd bod angen y llinellau melyn hyn ar sail diogelwch. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi estyniad unllawr ar yr ochr - Penrallt, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Gosod 2 dormer ar y gwedd de orllewinol ac 1 ar y gwedd gogledd ddwyreiniol ynghyd â chodi cyntedd - Y Berth, Llanfair. Cefnogi’r cais. Gosod ffenestri to ar y drychiadau blaen a cefn - Lorelei, Frondeg, Llanfair. Cefnogi’r cais. Amnewid y to presennol i gynnwys deunydd “GRP” a gosod ffenestri to newydd – Windy Ridge, Bronfair, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn ond eisiau gwybod a oes estyniad yn cael ei godi hefyd. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4,011.95 – hanner y cynnig praesept Mae’r llyfrau i gyd mewn trefn a’r cyfrifon yn gywir. UNRHYW FATER ARALL Mae Mr Hywel Jones wedi gosod yr hysbysfwrdd yn y lloches bws ger groesffordd Caersalem ond ei fod angen gwybod ym mhle i osod y goriad. Cytunwyd i osod cadwyn ar ochr yr hysbysfwrdd i ddal y goriad. Hefyd cytunwyd i osod arwydd yn yr hen hysbysfwrdd yn datgan bod un newydd ar gael yn y lloches bws. Mae angen torri gwair y llwybr sy’n mynd i fyny’r grisiau o’r ffordd fawr ac yn dod allan yn stad Cae Garw. A fyddai hi’n bosib cael gosod bin ysbwriel ar groesffordd Caersalem oherwydd nad oes bin ysbwriel yn yr ardal o gwbl. MATERION CYNGOR GWYNEDD Adroddodd Annwen Hughes ei bod wedi trefnu cyfarfod â Liz Saville Roberts AS a Mr Richard Poole a Mr Jon Webb o Grŵp Gwarchod Twyni Llandanwg yn ddiweddar er mwyn gweld beth oedd y Grŵp hwn wedi ei wneud i warchod y twyni. Roeddynt wedi cerdded o’r maes draw am adeilad y clwb rhwyfo ac yna’n ôl ar hyd y traeth ac roedd pawb yn teimlo bod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol; diolchwyd i’r Grŵp am eu gwaith gyda hyn.
paned, bara brith a theisen gri cyn troi am adref. I gloi gweithgareddau’r tymor aeth nifer o’r aelodau draw i Westy’r Seren, Ffestiniog am swper. Cafwyd croeso arbennig gan y staff a phryd blasus mewn awyrgylch pleserus. Ymlaen rŵan i baratoi rhaglen y flwyddyn nesaf. Bydd cyfarfod cyntaf y tymor ar nos Fawrth, Medi 3 yn Neuadd Llanfair pryd disgwylir Siân Roberts o Harlech atom a ‘Chwedlau’ fydd y testun. Cynhelir y Te Cymreig blynyddol bnawn Gwener, Medi 6 yn Neuadd Llanfair, rhwng 2.00 a 3.30. Cofiwch gefnogi!
Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau newydd er mwyn i ni allu parhau gyda’r weledigaeth a gafodd merched y Parc dros 50 mlynedd yn ôl i hyrwyddo materion merched ac i gefnogi’r celfyddydau, diwylliant ac addysg.
Merched y Wawr Harlech a Llanfair
TE CYMREIG
yn Neuadd Llanfair Pnawn Gwener, Medi 6 2.00 tan 3.00 Stondinau amrywiol Cofiwch gefnogi! 3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Grŵp Llanbedr - Huchenfeld Rydym yn edrych ymlaen i groesawu dirprwyaeth o Huchenfeld yn ystod penwythnos yr Ŵyl Gwrw (Medi 20fed-23ain) pan fyddant yn cael cyfle i ymweld â’r ysgol, yr Ysgol Feithrin, a’r eglwys, clywed Côr Meibion Ardudwy yn ymarfer, a mwynhau prydferthwch yr ardal. Gan ein bod eisiau iddynt gyfarfod â chymaint o bobl y pentref â phosib rydym wedi trefnu prynhawn agored yn Neuadd y Pentref ar ddydd Sul, Medi 22ain o 2.00 tan 5.00 yp. Mi fydd yna groeso i ddarllenwyr y Llais a’u ffrindiau ymuno efo ni a mwynhau paned a chacen, a bydd nifer o fudiadau lleol yn arddangos ac egluro eu gwaith. Mi fydd hefyd eitemau cerddorol gan bobl leol i’n diddanu ar ddechrau’r prynhawn. Croeso i bawb.
Yn ddiweddar dathlodd Hoffnung, sef y ceffyl siglo a roddodd John Wynne i’r Ysgol Feithrin yn Huchenfeld, ei ben-blwydd yn 25ain. Gyrrwyd cerdyn iddo gan bentrefwyr Llanbedr. Braf iawn bod cysylltiad y ddau bentref yn dal i barhau er cof am John Wynne. Diolch Diolch i Edwyn Humphreys am y rhodd o £23. Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn GORFFENNAF 7 Capel y Ddôl, John Williams 14 Capel Nantcol, G P Jones 14 Capel Salem, Marc Jon Williams 28 Capel y Ddôl, Greta Benn AWST 25 Capel Salem, Eurfryn Davies MEDI 1 Capel y Ddôl Parch Dafydd Andrew Jones
4
Diolchiadau Dymuna Catherine a Huw Jones a’r teulu yn Tynllan ddiolch o galon am yr holl alwadau, cardiau a galwadau ffôn a gawsom yn ddiweddar. Fe fu’n gymorth mawr ar adeg trist iawn o golli merch oedd mor annwyl i ni i gyd sef Eifiona Wyn neu ‘Non’ fel oedd pawb yn ei hadnabod. Diolch hefyd i’r nyrsys cartref ac yn Ysbyty Gwynedd ac Alltwen am eu gwaith gofalus. Diolch arbennig i’r Tad Tony Hodges am ei wasanaeth. Roedd yn gymorth mawr i’r teulu. Hefyd, diolch i Westy Tŷ Mawr, Llanbedr, am fod mor feddylgar a hael. Llongyfarchiadau hefyd i Rhian Eleri Williams sef merch Non am gasglu dros £2,000 at Ymchwil y Canser ar ei phen-blwydd yn ddiweddar. Diolch £20 Teulu Artro Cynhaliwyd ein Cyfarfod Blynyddol ar brynhawn Mawrth, 4 Mehefin. Rhoddwyd croeso i ni i gyd gan Glenys, ein llywydd, ac anfonwyd ein cofion at Winnie a Pat oedd yn cwyno. Cafwyd ychydig o hanes cyfarfodydd cyntaf Teulu Artro yn 1969 gan Mrs Greta Benn. Dymuna Greta roi’r gorau i fod yn ysgrifennydd wedi bod yn y swydd ers 21 o flynyddoedd. Diolch yn fawr iddi am wasanaeth clodwiw am yr holl flynyddoedd. Wedi’r adroddiad ariannol aethom ymlaen i dynnu rhaglen at y tymor nesaf dan ofal Iona, ein hysgrifennydd. Bu i Glenys longyfarch Catherine ar fynd i gyfarfod y Frenhines yn Eglwys Windsor ac yna yng Nghastell Windsor. Derbyniodd Catherine Arian Cablyd oherwydd ei gwasanaeth fel Warden am 30 mlynedd yn Eglwys Sant Pedr ac fel aelod gweithgar o Dîm yr Ymwelwyr Bugeiliol. Bydd y cyfarfod nesaf yn nechrau Medi. Llwyddiant Llongyfarchiadau i Elliw Nantcol, Cefn Uchaf ar dderbyn gradd mewn Rheoli a Thwristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dymuniadau gorau hefyd iddi ar ei swydd newydd fel derbynnydd yng Ngwesty Portmeirion.
TEYRNGED I ROBIN JONES
Ganwyd Robin yn Chwefror 1942 yng nghanol yr ail ryfel byd. Yr oedd yn bumed plentyn i Harry ac Ardudwen Jones, Ty’n-y-Wern, a ganwyd tri arall iddynt ar ei ôl. Cafodd blentyndod ddigon hapus, allan gyda’r cŵn a’r anifeiliaid lle roedd yn hoffi bod ac ychydig iawn o amser a dreuliai yn y tŷ, fel ei frodyr, gan fod yn well gan bawb ohonynt chwarae allan yn yr awyr agored ac edrych ar ôl yr anifeiliaid. Cofiai am yr amser y byddai ef a’i frawd yn cerdded yr hwch at y baedd o Ty’n-y-Wern i Trawsdir ar hyd y brif ffordd, rhaff yn sownd yng nghoes ôl yr hwch ac yna un ohonynt yn cerdded wrth ei phen i’w chadw yn yr ochr pan oedd ceir yn dod. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy ac yna ymlaen i ysgol ramadeg y Bermo ond gadawodd cyn gynted ac y gallai i fynd i weithio i Tŷ Isaf, Tal-y-bont. Yna, symud i’r Ynys yn Dyffryn lle y bu am flynyddoedd. Pan yn ugain oed priododd â Jean ac aethant i fyw i 3 Glan Rhos Dyffryn ac yno ganwyd eu merch Gwenfair. Yn Nhalwrn Bach, Llanbedr roedd ei swydd nesaf ac yn fuan iawn cafodd gyfle i symud i 2 Morfa Mawr lle roedd tŷ a thir i’w gael, ac yno y ganwyd ei ail ferch Lynwen. Roedd wrth ei fodd rŵan gan fod ganddo ei anifeiliaid ei hun. Un o’i ddyletswyddau yn Nhalwrn Bach oedd rownd laeth yn Llanbedr, lle y cafodd gryn bleser yn gwasanaethu ei gwsmeriaid a chyflawni unrhyw gymwynas fel roedd y gofyn. Daeth tro ar fyd yn Nhalwrn Bach pan fu farw Emyr Davies a bu rhaid edrych am waith arall; bu yn hapus iawn fel tirmon ar y Maes Awyr yn Llanbedr. Roedd yn fywyd prysur, codi yn fore i wneud y rownd laeth, yna edrych ar ôl ei anifeiliaid ei hun ac yna i’r Maes Awyr erbyn 8 yn y bore ac yn ôl at ei anifeiliaid gyda’r nos. Fe gariodd ymlaen i wneud hyn hyd nes i’r Maes Awyr gau ac yn fuan wedyn rhoddodd i gorau i’r rownd laeth. Jean, Gwenfair a Lynwen oedd cannwyll ei lygad ac roedd yn hapus iawn pan gyrhaeddodd ei ŵyr a’i wyresau, Robert, Christine ac Amber, a’i orwyres Seren a gor-wyr Tyler ac wrth ei fodd ynghanol ei deulu clos. Hoffai wrando ar gerddoriaeth yn enwedig emynau ar y Sul. Cafodd drafferth gyda ei ben-glîn ers blynyddoedd lawer, gan wrthod yn bendant fynd i weld y meddyg ac fe aeth yn fwy cloff dros y blynyddoedd ac erbyn y diwedd roedd yn cael trafferth mawr i gerdded. Tua pum mlynedd yn ôl cafodd brofiad erchyll. Wrth iddo gerdded rownd y defaid torrodd y clawdd llanw a bu raid iddo frysio yn ôl i’r tŷ i rybuddio Jean gan fod y môr yn rhuthro i mewn. O fewn hanner awr roedd y dŵr yn y tŷ ac yn fuan at eu canol. Bu raid achub y ddau mewn cwch. Collodd Robin lawer o’i ddefaid a bu yn brofiad chwerw iawn iddo. Drwy drugaredd roedd ganddynt dŷ yn y pentref, felly bu raid symud i mewn ar frys. Yn anffodus cafodd Robin strôc yn dilyn yr helynt ac ar i lawr yr aeth ei iechyd wedyn, ond er hyn i gyd roedd yn ddi-gŵyn ac yn meddwl y byd o Lanbedr a’r bobl. Daliodd ati i ffermio yn Morfa Mawr i’r diwedd gyda Lynwen a Gwenfair yn cynorthwyo a mynd a fo yn ôl ac ymlaen ar ôl iddo fo orfod roi’t gorau i yrru car. Bu Robin a Jean yn briod am 57 o flynyddoedd ac yn hapus iawn yn Llanbedr. Yn anffodus bu yn yr ysbyty am y saith mis olaf o’i fywyd a bu Jean a’r plant yn hynod o ffyddlon iddo, yn mynd i’w weld bob dydd ac yn aros efo fo am oriau. Bydd colled fawr iddynt ar ei ôl ond cysur i’w gydnabod yw fod ganddo deulu cariadus ac agos yn ei salwch ac felly y gadawodd y byd gyda Jean, Gwenfair a Lynwen yn gafael yn ei law a’i gofleidio. Diolch Dymuna Jean, Gwenfair, Lynwen a’r teulu ddiolch yn ddiffuant iawn i gymdogion a chyfeillion am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Robin. Diolch am y rhoddion hael tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, casglwyd £727.20. Diolch i’r Parch Christopher Prew am arwain y gwasanaeth, i Edward Owen yr organydd ac i’r trefnwyr angladdau Pritchard a Griffiths am eu gofal a’u trefniadau trylwyr. Diolch a rhodd £20
D
DIARHEBION D-Ff
a gadael pob da fel y mae Da yw dant i atal tafod Darllenwch ddynion yn gystal â llyfrau Dau ddigon sydd Dedwydd pob di-falch Deuparth gwaith ei ddechrau Deuparth llwyddiant, diwydrwydd Diflanna geiriau, ond erys gweithredoedd Dim glaw Mai, dim mêl Medi Diwedd pob peth yw cyffes Doeth a wrendy; ffôl a lefair Doeth pob tawgar Drych i bawb ei gymydog Dyfal donc a dyr y garreg. Dyn a chwennych, Duw a ran Dyngarwch yw’r ddawn orau
Cyhoeddodd y Loteri Genedlaethol bod grant o £38,000 wedi ei ddyfarnu i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ar gyfer datblygu prosiect treftadaeth o’r enw LLWYBRAU. Prif amcanion y prosiect fydd codi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd fel rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol ac annog cofnodi enwau er mwyn eu diogelu i’r dyfodol, a hynny gan ddefnyddio llwybrau ar hyd a lled Cymru yn thema ar gyfer y gwaith. Mae ein henwau lleoedd yn wynebu bygythiad difrifol a chyson wrth iddynt gael eu newid, eu cyfieithu neu eu diystyru. O’u colli, fe ddiflanna talp sylweddol o’n hetifeddiaeth a dolen gyswllt holl bwysig â’n gorffennol. Yn wahanol i elfennau eraill o’n treftadaeth megis adeiladau, anifeiliaid, a phlanhigion, rhaid gweithredu a’u gwarchod yn niffyg grym deddfwriaethol. Dros y ddwy flynedd nesaf bwriad y Gymdeithas yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd yn lleol a chenedlaethol. Gwneir hyn trwy drefnu sgyrsiau, teithiau cerdded, ac arddangosfeydd. Bwriedir cynnal, yn ogystal, weithdai a grwpiau trafod er mwyn casglu a chofnodi mân enwau lleol (yn enwedig y rheini sydd wedi eu cadw a’u trosglwyddo hyd yma ar lafar yn unig). Gobeithiwn hwyluso dadansoddi a dehongli’r enwau hynny. Trwy wneud hyn byddwn yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd dan adain Gwarchod, ein prosiect cyntaf i dderbyn cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r prosiect yn berthnasol i Gymru gyfan a bydd croeso i bawb a all wneud cyfraniad. Edrychwn ymlaen i gydweithio ag unigolion, cymdeithasau lleol a sefydliadau cenedlaethol. Wrth wneud hyn byddwn yn estyn ein gweithgarwch i gylchoedd newydd a fydd yn cynnwys y to hŷn, pobl fregus eu hiechyd, a thrigolion ardaloedd llai breintiedig. Ein gobaith yw y bydd yr enwau a gofnodir yn rhan o’r prosiect yn adnodd gwerthfawr a chynhwysfawr fydd yn hygyrch i bawb drwy ein gwefan. -----------------------------------------------------------------Falle y bydd rhai o’ch darllenwyr yn awyddus i gyd-drefnu sgwrs neu weithdy casglu enwau gyda ni. Diolch Rhian Parry
Eglwys cybydd, ei gist
Egni a lwydd Eli i bob dolur yw amynedd Enfys y bore, aml gawodau Enw da yw’r trysor gorau Esgeulus pob hen Etifeddiaeth werthfawr ydyw gair da Euog a wêl ei gysgod rhyngddo â’r haul
Fallai yw hanner y ffordd i felly
Fe fynn y gwir ei le Fe gwsg galar, ni chwsg gofal Fel yr afon i’r môr yw bywyd dyn
Ffawd ar ôl ffawd a wna ddyn yn dlawd
Ffôl pawb ar brydiau Ffolog sydd fel llong heb lyw Ffon y bywyd yw bara Ffordd nesaf at olud, talu dyled Ffynnon pob anffawd, diogi
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr
PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc
office@bg-law.co.uk
CYMDEITHAS ENWAU LLEOEDD CYMRU YN SICRHAU CEFNOGAETH GAN Y LOTERI GENEDLAETHOL
ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY
Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930
5
CYSTADLEUAETH RYGBI TARIAN GWYNFOR JOHN
Cefn Coch - medalau efydd
Y Traeth - medalau arian
Tîm B - Ysgol Tanycastell
Tîm A - Ysgol Tanycastell
Tîm Ysgol Llanbedr
Ysgol y Garreg
Tîm B - Ysgol y Traeth Mae llun y buddugwyr ar dudalen Talsarnau. Ar brynhawn braf ond braidd yn oer, cynhaliwyd Cystadleuaeth Goffa Gwynfor John ar gaeau Brenin Siôr, Harlech. Diolch i Mr Elfyn Anwyl a Mr Gareth Williams, Ysgol Ardudwy am eu cymorth a’u cefnogaeth i gynnal yr achlysur. Diolch hefyd i Graham Perch, Dai Higgs a Colin Jones am ddyfarnu, i Olwen am goginio, i Ffion am y baned ac i bawb fu’n trefnu. Wrth gwrs, y rhai pwysicaf ar y noson oedd y plant. Diolch i ysgolion cynradd Ardudwy am eu cefnogaeth. Daeth dros 100 o blant i chwarae un o hoff gemau Gwynfor gan bwysleisio bod Clwb Rygbi Harlech a chwarae’r gêm yn agos at ei galon ynghyd â’r cyfeillgarwch oedd yn amlwg wrth gydweithio ar y cae. Hoffai Clwb Rygbi Harlech hefyd ddiolch i deulu Toyota Harlech am eu nawdd , unwaith eto, yn rhoi crys-T i bob plentyn oedd yn cymryd rhan.
6
Dyffryn Ardudwy - medalau efydd
Dau dîm Ysgol Cefn Coch
LLYTHYRAU
Tîm C - Ysgol y Traeth
Annwyl Olygydd Hoffwn gymryd y cyfle yma i gyflwyno fy hun fel Comisiynydd newydd y Gymraeg. Mi ddechreuais i yn y swydd ar 1 Ebrill eleni. Fy nod i a’r tîm o swyddogion sy’n gweithio efo fi ydy cynyddu’r cyfleoedd sydd gennych chi i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich bywyd bob dydd. Mae gennym bedair swyddfa; yng Nghaernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin a Rhuthun. Er mwyn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl ac er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael effaith wirioneddol ar lawr gwlad, mi fyddwn yn gosod blaenoriaethau. Dyma lle mae angen eich help chi arna’i. Rydw i’n dŵad yn wreiddiol o Rosllannerchrugog ger Wrecsam, ac yn dal i fyw yn y pentref gyda fy ngwraig Llinos. Mae gen i ddarlun clir o beth ydy’r cyfleoedd a’r heriau i ddefnyddio’r Gymraeg yn fy ardal i, ond mae arna i angen gwybod sut mae pethau ym mhob rhan o Gymru. Oes yna ddigon o gyfleoedd i chi neu’ch plant ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol? Ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau? Pa mor hawdd neu anodd ydy defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn eich ardal chi? Oes yna unrhyw rwystrau i ddefnyddio’r iaith? Beth ydych chi’n credu y dylai Comisiynydd y Gymraeg fod yn ei wneud i wella’ch profiad chi o ddefnyddio’r Gymraeg? Byddwn yn ddiolchgar tu hwnt os allwch gysylltu â mi gyda’ch sylwadau. Gallwch wneud hynny drwy e-bostio post@comisiynyddygymraeg.cymru neu ysgrifennu ataf: Comisiynydd y Gymraeg, Bloc C, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1TH. Yn gywir, Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg Urdd Gobaith Cymru 1922-2022 Cyfrol yn casglu’r archif o atgofion a lluniau Annwyl ddarllenwyr, Mae cyfrol helaeth, yn cynnwys llawer o luniau ac atgofion, ar y gweill i ddathlu canrif Urdd Gobaith Cymru 1922-2022. Croesewir pob atgof/ llun/archif at y prosiect hwn – yn rhodd i’r Urdd neu yn fenthyciad. Mae swyddfeydd gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd yn barod i’w derbyn (neu drwy e-bost ar archif@urdd.org). Eisoes mae trysorau o flynyddoedd cynnar y mudiad wedi dod i’r fei. Ond peidiwch ag anghofio bod angen hanes y blynyddoedd diweddaraf yn ogystal! Edrychwn ymlaen at gael rhannu’r cyfan. Yn gywir, Myrddin ap Dafydd Golygydd y gyfrol
TAITH AT GRAIDD Y MATER
Tina a Nia cyn iddyn nhw adael Harlech
Y beic tandem sydd wedi ei greu yn bwrpasol
Ymwelodd Tina Marie Evans a Nia Evans â Harlech yn ystod eu taith ddiweddar o Fangor i Gaerdydd. Reidio beic tandem yr oedden nhw er mwyn codi ymwybyddiaeth am anabledd a dangos i’r cyhoedd fod modd i bobl fyw gydag anabledd difrifol. Mae Tina yn byw gyda chyflwr o’r enw Friedrich’s Ataxia ac mae’n defnyddio cadair olwyn, ond nid yw hynny yn ei rhwystro rhag byw bywyd llawn. Yn ystod y daith cadwyd y beic yn Garej Toyota, Harlech. Mae’r beic tandem wedi costio oddeutu £7000 ac, wrth gwrs, mae wedi ei saernïo’n bwrpasol i gario oedolyn gydag anabledd. Mae’n rhyfeddol meddwl sut y gall y ddwy reidio hwn mor llwyddiannus. Arhosodd y ddwy yn Noddfa, diolch i letygarwch caredig Linda Soar, cyn cychwyn ar ail ran y daith i Aberystwyth, lle roedd y ddwy yn fyfyrwyr. Rhoddodd y ddwy sgwrs am eu hantur ac am y cyflwr Friedrich’s Ataxia i’r cyhoedd yng Nghaffi’r Castell ar nos Fawrth, Mehefin 4. Cafodd pawb oedd yn gwrando eu cyffwrdd gan onestrwydd a dyfalbarhad Tina a chan benderfyniad a theyrngarwch Nia. Os hoffech gyfrannu at gronfa’r daith, gallwch wneud hynny drwy alw heibio Ann neu Gerallt yn Garej Toyota, Harlech. Mae tad Nia, Edwin yn gefnder i Gerallt. Chwiliwch am ‘Journey to the Core’ ar JustGiving.
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
SELSIG GORAU
BUDDUGOL YN STEDDFOD LLANFACHRETH
Tomos,
Llongyfarchiadau i Paul Wellings a Mark Hughes, London House am ennill gyda eu selsig blasus. Llongyfarchiadau i siop London House, Dyffryn ar ennill gyda’r selsig traddodiadol yng Nghystadleuaeth Cigyddion Gwledydd Prydain yn 2019 a gynhaliwyd yn Harrogate ar Fai 19. Rydym yn gwybod am eu dawn yn creu selsig blasus ac mae ganddyn nhw amryw o wobrau i dystio i hyn. Daeth Paul a Diane Wellings yma i fyw i’r Dyffryn yn 1982 ac roedd Mark Hughes yn gweithio yn y siop ers ychydig o flynyddoedd. Bu Paul a Mark yn cystadlu ers blynyddoedd gan gyrraedd y brig – Pencampwyr Selsig Cymru yn 2007, 2009, 2011, a 2015. Yn 2017, enillodd y ddau gyda’u byrger cig oen drwy Gymru a Sir Gaer. Yn 2018, coronwyd nhw yn bencampwyr dros Gymru a Sir Gaer yn Abergele gyda’u selsig unwaith eto. Hoffai Paul a Diane, a Mark ddiolch i drigolion Ardudwy am y gefnogaeth a dderbyniwyd dros gyfnod maith o amser. Teulu Ardudwy B’nawn Mercher, 19 Mehefin, o orffen y tymor, aethom i Westy’r Eryrod yn Llanuwchllyn i gael te prynhawn. Roedd yn ddiwrnod braf a chawsom groeso cynnes a the prynhawn ardderchog. Roedd Eleri wrth ei bodd yn cael sgwrsio hefo criw o Ardudwy ac roedd pawb wedi mwynhau’r prynhawn yn fawr. Cofion Anfonwn ein cofion at Mr John Gwilym Owen, Bro Arthur, sydd yn Ysbyty Dolgellau. Gwasanaethau’r Sul Horeb GORFFENNAF
7 Taith Capel 14 Edward ac Enid Owen 21 Parch Reuben Roberts 28 Ceri Hugh Jones 11 Alma Griffiths 18 Huw a Rhian Dafydd 25 Rhian a Meryl AWST 4 Anwen Williams
8
Diolch Dymuna Barbara Owen, Llwyn Ynn, Tal-y-bont, ddiolch am y cyfarchion a dderbyniodd ar achlysur ei phen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Ymhlith y cyfarchion barddol, roedd yr englyn isod o waith Tecwyn Owen. I eneth mor arbennig – boed hwyliau Byd heulog caredig, A Ray yno yn ei thrig, A dyddiau diddan diddig. Rhodd £20
Moi
Lilly,
Casi
Casi
Ellis
Alffi
Ella
Celyn
Alaw
Mari
Lilly
Megan
Rhyddiaith B1/2 1. Moi, 2. Casi, 3. Alffi/Ella Rhyddiaith B3/4 2. Mari 3. Lilly Arlunio B1/2 1. Casi 2. Celyn 3. Megan Arlunio B3/4 1. Tomos 2. Lilly 3. Ellis Clwb Rygbi Harlech Eleni bydd Clwb Rygbi Harlech yn dathlu 50 mlynedd o fodolaeth. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i gasglu cymaint o luniau, straeon, atgofion ayb ag sydd bosib. A fyddech mor garedig â gyrru lluniau i mairoberts4@btinternet. com neu sôn wrth unrhyw un o’r criw os gwelwch yn dda? Llawer o ddiolch. Gareth John Williams, Cadeirydd Clwb Rygbi Harlech.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Priodas aur Llongyfarchiadau cynnes iawn i John a Jean Roberts, Gorwel a fydd yn dathlu eu Priodas Aur ym mis Gorffennaf. Clwb Cinio Dyffryn Dydd Mawrth, Gorffennaf 16 bydd y Clwb Cinio yn mynd i Aberdaron. Byddwn yn cyrraedd yno erbyn hanner dydd ac yn cael cinio yn Nhŷ Newydd.
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Ar ran y Cyngor diolchodd y Cadeirydd i Cambrian Beach Guardians am lanhau traeth Tal-y-bont. MATERION YN CODI O’R COFNODION Eitem 5.2 - datganwyd siom enfawr yn dilyn darllen e-bost roedd Eryl Jones Williams wedi ei anfon at y Clerc yn datgan ei fod yn tynnu’n ôl yr ymddiheuriadau yr oedd wedi eu rhoi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor pan oedd Mrs Meinir Thomas yn bresennol i drafod ailsefydlu y Clwb Ieuenctid. Ni chafwyd eglurhad gan y Cyng Jones Williams pam ei fod wedi gwneud hyn. CEISIADAU CYNLLUNIO Render allanol hufen – 38 Llwyn Ynn, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Cadw gwaith di-awdurdod i’r adeilad a throsi i uned gwyliau, yn cynnwys ffordd mynediad newydd a gosod gwaith trin carthion – Nant Eos, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Archwilio’r lloches bws, mynwentydd a pharciau chwarae Roedd y fynwent gyhoeddus yn iawn ond datganwyd siom fawr a phryder pan adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cael gwybod gan y torrwr gwair bod baw ci yn drwch yna, ac roedd yr Aelodau’n siomedig iawn bod hyn yn digwydd mewn man fel hyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael arwyddion ynglŷn â gwahardd cŵn er mwyn eu gosod ar y ddwy giât a chytunwyd i gadw golwg ar y sefyllfa. UNRHYW FATER ARALL Datganodd Michael Tregenza bod offer yn yr hen barc chwarae yn beryglus a chytunwyd i dynnu’r offer cyn gynted â phosib. Hefyd cytunwyd i osod rhybudd yn datgan bod y Cyngor wedi gwneud hyn gan nad oedd yr offer yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch. Cytunwyd i ofyn i Edward Griffith dynnu’r darnau pren sydd yn yr hen barc chwarae, hefyd ger y toiled yn Nhal-y-bont oherwydd eu bod wedi pydru ag yn beryglus. Angen anfon at yr Adran Briffyrdd unwaith eto yn datgan pryder y Cyngor bod y polyn ar ochor Ffordd Tyddyn Felin, Tal-y-bont yn rhwystr i bethau llydan ddefnyddio’r ffordd a’u bod yn gorfod teithio ar hyd ffordd arall.
Ym mynwent Llanddwywe mae carreg fedd a fu unwaith yn felynwawr ei gwedd, ar ffurf croes. Dyma ychydig o hanes cefndir y bedd hwn. Ganwyd John Williams (Ap Ithel) yn Tŷ Nant, plwyf Llangynhafal, Dyffryn clwyd yn 1811. Cymerodd y ffugenw ‘Cynhafal’ oddi wrth sant ei blwyf genedigol ym mlynyddoedd cyntaf ei yrfa llenyddol. Hanai o linach Ithel ap Robert Goch, Archddiacon Llanelwy yn 1375. Graddiodd yn BA yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen yn 1832. Ei guradiaeth cyntaf oedd Llanfor, ger Y Bala, ac yno yn 25 oed, y dechreuodd ei yrfa fel awdur, drwy gyhoeddi traethawd ar ‘Eglwys Lloegr ym mhob oes yn annibynol ac Eglwys Rhufain.’ Yno hefyd, ar 11 Gorffennaf, 1836, y priododd ag Elizabeth, merch i Owen Lloyd Williams, Dolgellau. Yn 1838 enillodd radd MA. Cyhoeddodd ‘The Ecclesiastical Antiquities of the Cymry’ yn 1844, ac o 1846 i 1853 bu’n gyd-olygydd ‘Yr Archaelogia Cambrensis’ gyda’r Parchedig H Longueville Jones, Sir Gaerhirfryn. Cafodd ei ddyrchafu
GWERYDDON
Rhagor o hanes Gweryddon (Hugh Evans), Penybont, Tal-y-bont o’r Traethodydd yn 1923. Y Parch Z Mather, y Bermo yw’r awdur. Un o ddyddiau mwyaf oes Gweryddon oedd dydd Sadwrn, Medi 14, 1878 — diwrnod i ryfeddu ynddo... y diwrnod bythgofiadwy hwnnw y cyrhaeddodd ei dirion fam ei chanmlwydd oed. Yr oedd yn ddiwrnod neilltuol i minnau a gafodd y fraint a’r mwynhad o fod yno ar y pryd. Pan yn camu dros y rhiniog i’r tŷ teimlwn y perthynai iddo swyn a chysegredigrwydd nad oeddwn wedi eu teimlo o’r blaen. Un o’r pethau cyntaf ddywedodd Gwen Evans tan wenu, wrth gyfodi yn y bore, oedd, “Wel, gan mlynedd i heddyw ’roedd raid i mi gael un arall i wisgo amdana i, ond heddyw ’rydw i’n gallu gwisgo am danaf fy hun.” Galwodd yno liaws mawr o bell ac agos, ac yn eu plith rai ymwelwyr o Saeson o’r Bermo, i’w llongyfarch a dymuno iddi estyniad oes ac iechyd i weled rhai pen blwyddi yn rhagor. Tybid y gallasai fyw o leiaf am rai blynyddoedd o’i hail ganrif. Yr oeddwn i wasanaethu yn y Dyffryn y Sul canlynol, ac wedi trefnu i bregethu am ddau o’r gloch y prynhawn mewn tŷ o’r enw Henborth, yng nghwr y pentre, a chael cymundeb ar ôl yr oedfa er mwyn Gwen Evans. Ond er fy siomedigaeth digwyddodd fod yn un o’r Suliau mwyaf ystormus a gwlyb y buaswn allan arno erioed, ac ofnwn na anturiai hi allan o’r tŷ ar y fath dywydd. Ond rhag y gallai ddyfod (oblegid gwyddwn am ei dewrder), ac i mi ei siomi, penderfynais fyned drwy’r gwynt a’r glaw, er fod gennyf dros filltir o ffordd ddigysgod i gerdded o’r lle yr arhoswn. Pan o fewn ychydig lathenni i Henborth, er fy llawenydd pwy welwn yn dyfod drwy’r ystorm ond Gwen Evans ym mraich Gweryddon. Pan longyferchais hi am ei gwroldeb dywedodd yn siriol, gan droi ei phen i edrych ar Gweryddon, “Y fo ydi fy ffon i, welwch chi.” Yr oedd yr oedfa a’r cymundeb, y cymundeb cyntaf iddi hi ddechreu ei hail ganrif, i’w gofio byth. Wedi iddi gyrraedd ei chant a chwe mis, pan ofynnid i Gweryddon, “Faint ydi oed eich mam ’rwan, Hugh Evans?” ei hatebiad chwareus fyddai, “Cant a hanner.” Yn raddol dechreuodd ei nerth ballu; a dydd Mawrth, Gorffennaf 22, 1879, gorffennodd ei gyrfa faith mewn hyder a thawelwch nefol, yn gant deng mis ac wyth niwrnod oed.
AP ITHEL
Eglwys Llanddwywe yn Rheithor Llanymawddwy yn 1849. Ap Ithel hefyd oedd golygydd cyhoeddiadau y ‘Llawysgrifau Cymreig’ a gyhoeddwyd yn Llanymddyfri. Bu yn allu mawr gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig yr un a gynhaliwyd yn Llangollen yn 1858; ef a’i sylfaenodd a’i hysgogi. Sefydlodd gyhoeddiad chwarterol o’r enw ‘Taliesin’ i gyhoeddi
cynnyrch yr eisteddfodau ynghyd â hynafion eraill. Yn haf 1862, symudodd o Lanymawddwy i Landdwywe a Llanenddwyn, Dyffryn Adudwy, ond bu farw 27 Awst y flwyddyn honno yn 51 oed. Dros gan mlynedd a hanner ers pan rhoddwyd y Cymru dysgedig a brwdfrydig i orffwys yng ngro mynwent hynafol Eglwys
Llanddwywe, huna dan gysgod hen gelynnen wyrddlas, canghennau bytholwyrdd a wyrant uwchben ei feddrod, fel pe mynnent dynghedu cadw ei goffa yn wyrdd, megis ac y gwnaeth yntau ei ran i gadw’n fyw goffadwriaeth ‘Enwogion Cymru’. Ieithydd rhagorol, a wnaeth lawer dros ei wlad, ei iaith, a’i genedl oedd Ap Ithel. Wedi misoedd o nychdod blin cyn ei farw, cafodd yr athrylithgar ‘Glasynys’ i’w gynorthwyo, cyfaill mynwesol iddo. Carreg nadd feddal, a fu unwaith yn felyn-wawr ei gwedd, ar ffurf croes, wedi ei llychwino’n fawr ers blynyddoedd bellach gan y tywydd a’r stormydd, yw ei garreg fedd, gyda’r geiriau canlynol yn gerfiedig arni: In loving remembrance of one of Cambria’s most faithful sons, The Rev John Williams (Ap Ithel) late Rector of this Parish, and for many years Rector of Lan-y-Mowddy, Died August 27th, 1862, Aged 51. “Blessed are the pure in heart; for they shall see God.” “Coeth, doeth, drud, termud, tyner.” W Arvon Roberts, Pwllheli
9
YSGOL ARDUDWY PENNAETH NEWYDD
RAS LLANDECWYN
Llongyfarchiadau i Mr Aled Williams ar ei benodi yn bennaeth Ysgol Ardudwy. Mae’n frodor o Langybi ond erbyn hyn yn byw yn y Bala. Bu’n dysgu mathemateg ac yn ddirpwy yn Ysgol y Gader cyn ei benodi i’r swydd. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg.
Llwyddodd criw o ddisgyblion Ffrangeg B10 i ddod yn ail ar draws Cymru mewn cystadleuaeth i greu fidio cân bop Ffrangeg. Anhygoel! Aruthrol! [Formidable!] Chwiliwch ar y we am y fidio, fe ddaw a gwen i’ch wyneb.
Gwelwyd Chloe Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nghaerdydd ar ôl iddi ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth sirol ar y chwythbren.
Gwaith celf Bessi Williams a enillodd lawer o glod iddi mewn cystadlaethau cylch a sirol.
Rociwyd yr Ysgol gyfan, a hyd yn oed seiliau’r castell o bosib, gan synnau egnïol Candelas mewn cyngerdd arbennig yn y Neuadd. Dyma ran o’r dathliadau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru 2019. Mae fidios o’r perfformiad ar y we.
10
Dyma ddisgrifiad o’r her oedd yn wynebu’r rhedwyr! Hyd Ras Llandecwyn yw 10 km gydag oddeutu 1,000 o droedfeddi o ddringo. Mae llwybr y ras yn dilyn nifer o lwybrau cyhoeddus yn cynnwys ffordd raean yng nghoedwig Felenrhyd, hefyd ffordd darmac o Eglwys Llandecwyn ymlaen. Mae’r ras yn cychwyn gyferbyn â safle trin dŵr Dŵr Cymru ac ar dir preifat. I ddechrau, mae llwybr y ras yn dilyn llwybr yr arfordir, yn gyfochrog â pheilonau’r Grid Cenedlaethol, tuag at Lyn Tecwyn Uchaf. Yno mae llwybr y ras yn dilyn y llwybr sengl tuag at goedwig Felenrhyd. Mae oddeutu dwy filltir a hanner o ffordd raean i’w dilyn gan ddychwelyd i Lyn Tecwyn Uchaf ar hyd llwybr sengl. Yno mae llwybr y ras yn parhau ar hyd ffordd o raean tuag at Eglwys Llandecwyn. Mae ychydig dros filltir o ffordd darmac i’w defnyddio i arwain y rhedwyr heibio Llyn Tecwyn Isaf ac i stryd Bryn Eithin. Yno dilynir llwybr yr arfordir unwaith eto i arwain y rhedwyr at derfyn y ras oddeutu 400 llath heibio tŷ Beudygil. Ar Mehefin 25, am saith o’r gloch yr hwyr, fe ddechreuodd hyd at 53 o redwyr ar eu siwrne i ennill ras gyntaf Ras Llandecwyn. Braf oedd cael gweld cymysgedd o bobl leol ardal Ardudwy, hefyd rhedwyr eraill profiadol o glybiau Hebog, Meirionnydd ac Eryri yn cystadlu. Ar ôl 43 munud a 40 eiliad, fe ddaeth Gwion Roberts o Gaer-Delyn Trawsfynydd yn fuddugol a hawlio’r fraint o ennill y ras am y tro cyntaf. Yn fuan iawn ar ei ôl daeth Richard Harris Jones o Lwynffynnon, Talsarnau yn ail. Elliw Haf oedd yn fuddugol yng nghategori’r merched gyda Siân Williams o Borthmadog ychydig dros funud ar ei hôl. Damon John o Harlech ddaeth yn bumed i orffen y pump cyntaf. Dros yr hanner awr nesaf, fesul un, daeth gweddill y criw at derfyn y ras yn saff ac ychydig yn flinedig, i ddweud y lleiaf! Bwriad y ras wreiddiol oedd denu hyd at 50 o redwyr i gofrestru a gobeithio hyd at 30-40 i gymryd rhan ar y noson. Fe gofrestrodd
hyd at 61 o bobl gyda 53 yn cymryd rhan; llwyddiant mawr i’r ras. Ni fuasai hi’n bosib cynnal y ras heb gyfraniad y noddwyr a’r gwirfoddolwyr lleol a fu yn cynnig arweiniad a diodydd ar hyd llwybr y ras. Rhaid pwysleisio ein diolchgarwch i griw Tîm Achub a Chwilio De Eryri am eu cefnogaeth drwy gynnig cymorth ar hyd llwybr y ras. Diolch yn fawr iawn. I’r rhai sydd â thudalen Facebook, mae’n rhaid gwylio fidio a grëwyd gan un o feibion cymuned Talsarnau; Owain Llŷr, a ddaeth yno i diddori a dal ysbryd a chynnwrf y ras! Derbyniwyd rhodd o £10 gan y trefnwyr. Ymlaen i Ras Llandecwyn 2020… tydi hi ddim yn hawdd. Y pum cyntaf: 1. Gwion Roberts 43:40 2. Richard Harris Jones 46:41 3. Elliw Haf 47:47 4. Siân Williams 48:50 5. Damon John 48:54
Gwion Roberts enillydd Ras y Dynion
Elliw Haf enillydd Ras y Merched