Llais Ardudwy Gorffenaf 20198 Tud 11-20

Page 1

Y BERMO A LLANABER CORNEL Y FFERYLLYDD Gwarchod rhag haul yr haf

Ysgol y Traeth Mae tîm pêl-droed genethod yr ysgol wedi ennill Cwpan yr Urdd ym Meirionnydd. Llongyfarchiadau iddyn nhw. Diolch Diolch i’r Parch R W Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad. Penodiad Llongyfarchiadau i Dion Griffiths, Cei Cona, mab Andy a Delyth Griffith, Bermo ar ei benodiad yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Alexandra, Wrecsam. Dymuniadau gorau iti Dion, a Lisa ac Elis bach. Ysgol y Traeth Llongyfarchiadau i Jim ddaeth yn ail yn athletau’r Urdd yn Nhalaith y Gogledd yn y gystadleuaeth Naid Hir.

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

Mae cyfnod y tywydd braf pryd y gobeithiwn weld tipyn o’r haul yn brysur nesáu. Pwysig felly yw cofio bod yn ofalus tra’n treulio amser allan yn yr haul. Bob blwyddyn mae elusen Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig yn cynnal yr ymgyrch ‘Byddwch ddiogel yn yr haul’ ac mae’r neges yn un tu hwnt o bwysig. A ninnau’n byw mewn ardal o harddwch naturiol arbennig dydy hi ond yn naturiol i ni fod eisiau treulio amser allan yn yr awyr agored. Mae’n bwysig cofio y pwyntiau canlynol pan yn treulio amser yn yr haul: Treuliwch amser yn y cysgod, yn enwedig rhwng 11yb a 3yp pan mae’r haul ar ei gryfaf yma ym Mhrydain. Gorchuddiwch eich croen gyda dillad gan gynnwys het a sbectol haul. Defnyddiwch eli haul dim is na SPF15, pedair seren. Cofiwch ei daenu ar eich croen yn aml a rhoi digon ohono.

Mae pelydrau UVA ac UVB yn tywynnu o’r haul. Gall y ddau fath achosi cancr os nad ydych yn cymryd camau priodol i warchod y croen. Mae UVA yn treiddio’n ddwfn i’r croen gan ei heneiddio. UVB sy’n achosi llosg haul gan amlaf ac mae’n effeithio ar wyneb y croen. Wrth ddewis eli haul cofiwch edrych ar ei safon trwy edrych ar yr SPF a faint o sêr sydd gan yr eli. Mae nifer y seê yn dangos pa mor effeithiol ydy’r eli am warchod eich croen rhag UVA, 5 seren yw’r gorau sydd ar gael ym Mhrydain. Y radd SPF sy’n dangos pa mor dda yw’r eli i’ch gwarchod rhag UVB. Cofiwch nad yw unrhyw eli haul yn mynd i’ch gwarchod 100% rhag effeithiau’r haul. Felly. wrth i ni nesáu at y tymor gwyliau, byddwch ddiogel. Defnyddiwch eli haul yn aml a pheidiwch â threulio gormod o amser yn yr haul hyd yn oed os ydych yn gwisgo eli, yfwch ddigon o ddŵr a chofiwch ddefnyddio het neu ymbarél i warchod eich croen. Os oes gennych gwestiwn neu am fwy o wybodaeth cofiwch bod croeso i chi alw mewn i’ch fferyllfa leol. Steffan John

Eglwysi Bro Ardudwy Digwyddiadau 7 Gorffennaf Eglwys Bodfan Sant a’r Santes Fair, Llanaber 10.30 Gwasanaeth y Fro 12 Gorffennaf Eglwys y Neuadd Dyffryn Ardudwy 10:30 –1:00 Sêl Cist Car/Pen Bwrdd 18 Gorffennaf Llanfihangel-y-traethau, Ynys 7:00 Côr Meibion Prysor 19 Gorffennaf Eglwys y Santes Fair, Llanfair Neuadd y Pentref, Llanfair 2.00 – 4.00 Te Mefus 24 Gorffennaf Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg 7:00 Cyngerdd Cymdeithas Gerdd Harlech 31 Gorffennaf Eglwys Sant Ioan, Abermaw 7:00 Elvis. Cyngerdd a barbaciw 7 Awst Llanddwywe, Tal-y-bont Neuadd yr Eglwys Dyffryn Ardudwy 2.00 – 4.00 Ffair Haf, Mynediad £1.00

8 Awst Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg 7:00yh Chris Knowles Cyngerdd cerddoriaeth Geltaidd yng ngolau cannwyll gyda Ben Walker. 14 Awst Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg 7:00 Cyngerdd Cymdeithas Cerddoriaeth Harlech 15 Awst Eglwys y Santes Fair, Llanfair 10.30 Ewcarist ar gyfer Gŵyl Dyrchafael Mair 18 Awst Eglwys Sant Tanwg, Harlech 7.00 Côr Meibion Ardudwy 25 Awst Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg 3:00 Emynau ar y Maes Gyda Seindorf Arian Harlech. 29 Awst Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg 7:00 Chris Knowles

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

ENNILL TLWS COFFA GWYNFOR JOHN

Merched y Wawr I gloi rhaglen y flwyddyn eleni, aeth aelodau Merched y Wawr Talsarnau i Nefyn ar ddydd Mawrth, 18 Mehefin a chael tywydd braf iawn i fynd yno. Dechreuwyd yr ymweliad yn Eglwys Sant Beuno, Pistyll, lle mae Rupert Davies (Maigret) wedi’i gladdu, cyn mynd ymlaen i fwynhau lluniaeth ardderchog a blasus dros ben yn ‘Caffi Ni’ ar fferm Wern, a chael croeso cynnes yno gan Nia a Dylan Humphreys. Ar ôl cinio, ymlaen i ymweld â’r Amgueddfa Forwrol a chael sgwrs ddifyr gan Jina, gweld ffilm hanesyddol ac yna gweld yr arddangosfa wych sydd yno. Cafwyd diwrnod arbennig a diddorol i gwblhau gweithgareddau’r flwyddyn, gyda phawb wedi mwynhau’r achlysur yn fawr iawn.

Llongyfarchiadau i dîm rygbi Ysgol Talsarnau ar guro nifer o ysgolion mwy i ennill Tlws Coffa Gwynfor John am eleni. Mae’n amlwg o’r llun eu bod wrth eu bodd. Neuadd Gymuned Talsarnau

Eglwys Llanfihangel-y-traethau

Noson gyda GWERINOS

Cyngerdd

Nos Sadwrn, 28 Medi 2019 am 7.30 Adloniant ar ffurf ‘cabaret’ fydd hwn. Bydd croeso i chi ddod â’ch diodydd a’ch gwydrau gyda chi.

Mynediad - £10 i oedolion/ Plant ysgol am ddim Tocynnau : Mai 01766 770757 Anwen 01766 772960 Elw at y Neuadd

Neuadd Gymuned Talsarnau

ARWERTHIANT PEN BWRDD Rhwng 10.00 a 12.00

ar foreau Sadwrn a Sul yn ystod mis Awst Pob math o nwyddau ail law a newydd ar werth. Bydd unrhyw gyfraniadau at y byrddau yn dderbyniol iawn, ac yn gyfle i chi gael clirio tipyn ar y tŷ!

DIM DILLAD OS GWELWCH YN DDA Cysylltwch â: Gwenda Griffiths 01766 771238 Elw at y Neuadd

12

Cydymdeimlad Dymunwn estyn ein cydymdeimlad diffuant i Eirlys a’r teulu oll yn Tanforhesgan yn eu profedigaeth o golli Idris. Mae’r ardal gyfan yn meddwl amdanoch yn eich colled a’ch hiraeth. Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00. Croeso i bawb GORFFENNAF 7 - Dewi Tudur 14 - Eifion Jones 21 - Dewi Tudur 28 - Dewi Tudur AWST 4 - Sam Edwards 11 - Tomos Roberts-Young 18 – Dewi Tudur 25 - Hywel.M Davies MEDI 1 – Dewi Tudur

gyda

Meibion Prysor Tomos Heddwyn Alaw Haf Gorffennaf 18 am 7.00 o’r gloch Caws a gwin i ddilyn Tocyn: £7 wrth y drws Plant am ddim

Elw at adnewyddu’r eglwys Mae cyfleusterau toiled ar gael

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286


COFFÂD

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

Idris Wyn Williams Brodor o Nant Peris oedd Idris - yn fab i Blodwen ac Idris Williams, Penybryn, a brawd i Gwynfor a’r diweddar Robert Emlyn – ei dad yn ôf yn y chwarel a’i fam yn nyrs ardal. Mi gafodd ei fagwraeth yn y pethe ddylanwad fawr arno ar hyd ei fywyd. Roedd yn falch iawn o’i ardal enedigol. Cyfrannodd yn helaeth iawn i fywyd yr ardal hon. Bu’n gwasanaethu’r ardal fel cynghorydd cymuned, dosbarth a sir. Golygodd hyn oriau lawer o waith. Gwnaeth gymwynasau lu a bu’n hael ei gyfraniadau - ond ni fyddai byth yn tynnu sylw at hynny. Gŵr oedd yn cadw llawer iddo’i hun oedd Idris mae’n debyg mai ei hyfforddiant fel plismon oedd i gyfrif am hyn. Er fe wn i mai dyn digon swil oedd o yn y bôn. Cychwynnodd ei yrfa fel heddwas yn 1952. Roedd ei allu fel mynyddwr profiadol yn gefn iddo yn y gwaith hwn ac mae llawer i stori am ei ddewrder ar y mynydd - rhai nad ydyn nhw i gyd wedi gweld golau dydd. Mae hynny’n rhan naturiol o waith plismon, wrth gwrs, ond ni chlywais ef erioed yn cwyno. Roedd yn ddirprwy arweinydd Tîm Achub y Moelwyn ar un cyfnod ac enillodd dystysgrif am achub defaid ar lethrau heriol. Roedd yn hoff iawn o bêl-droed, snwcer a golff ac mae ei enw mewn llythrennau aur ar fur y clwb golff yn Harlech. Bu hefyd yn weithgar iawn ymhlith y gymuned amaethyddol - yn arbennig y Sioe Sir. Yn y blynyddoedd diweddar, cafodd flas ar arddio - yn arbennig yn ei dŷ gwydr lle roedd o’n cael pleser mawr ac roedd wrth ei fodd yn rhannu’r cynnyrch. Roedd yn mwynhau llyfrau hefyd, yn arbennig barddoniaeth. Roedd ganddo ddiddordeb yn y cynganeddion ac roedd yn tanysgrifio i Barddas. Gallai adrodd rhesi dirifedi o benillion ar ei gof a’u trafod yn ddifyr. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Eisteddfod Harlech a bu wrth y gwaith am rai blynyddoedd. Oherwydd ei waith ef yn bennaf, fe dyfodd Eisteddfod Harlech i fod yn boblogaidd iawn am gyfnod. Bydd amryw yn ei gofio yn arwain corau lleol i gystadlu yn yr eisteddfod honno a hefyd ei gyfraniad fel arweinydd llwyfan. Daeth nifer o blant ato i ddysgu canu dros y blynyddoedd. Gallai drin plant yn dda. Roedd yn gristion cadarn iawn ei ffydd. Ef oedd prif ddiacon

a thrysorydd Capel Jerusalem, Harlech a bu’n gyfrifol am y daflen gyhoeddiadau hyd y diwedd bron. Gallai weddïo o’r frest yn fedrus iawn. Roedd hefyd yn hael iawn ei roddion - ond yn y dirgel bob amser. Roedd yn fedrus wrth ganu’r piano a’r organ a meddai ar lais bas peraidd iawn ac roedd yn sicr iawn ei nodyn. Bu’n gaffaeliad mawr i’r adran bas cyntaf yn y côr meibion. Roedd yn dal i ddod i’r ymarferion tan yn weddol ddiweddar a’r mwynhad yn amlwg ar ei wyneb. Un o freintiau mawr ei fywyd oedd cael ei ddewis fel Llywydd Anrhydeddus Côr Meibion Ardudwy - y tro cyntaf i unrhyw un lenwi’r swydd hon. Dewiswyd Idris oherwydd ei hir wasanaeth i’r Côr ond hefyd am ei gyfraniadau enfawr drwy’r fro. Fel y gŵyr y cyfarwydd, dioddefodd drawiad lem iawn ymron i 21 mlynedd yn ô1 ac mi frwydrodd yn ddewr iawn i orchfygu ei anawsterau corfforol. Doedd pethau ddim yn hawdd i Idris na’r teulu ond chlywais i erioed mohono yn cwyno - dim ond diolch am ei fendithion bob amser. Roedd ei gael yn ôl y Côr yn lles mawr i ni ond roedd hefyd yn hwb mawr i Idris, gan ei fod yn cael cymaint o bleser yn canu. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn ag Eirlys ei wraig, a’i blant Pauline, Denise a Siân Mai, ei frawd Gwynfor a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Bu Eirlys a’r teulu yn gefn mawr iddo ar hyd y blynyddoedd ac mi ddaru nhw sicrhau bod Idris yn gallu mwynhau bywyd er gwaethaf ei anawsterau corfforol. Roedd Idris yn werthfawrogol iawn ohonyn nhw. Dyma englyn Iwan Morgan iddo: Ei ddiwylliant a ddeilliodd - o’i gariad At y geiriau glywodd Yn llanc ifanc, rhain dyfodd O’i fewn, ac roedd wrth ei fodd. Daw geiriau Dic Jones i’r cof hefyd wrth inni feddwl amdano: ‘Mae alaw pan ddistawo Yn mynnu canu’n y co’. PM

HOLI AM LUN

Amgaeaf lun o fferm yn ardal Llandecwyn. Teulu fy nain oedd yn byw yma a’r unig wybodaeth sydd gennyf yw clywed fy mam yn sôn fod Anti Mary wedi rhoi ornament Staffordshire yn anrheg priodas iddi oddi ar y dresel. Tybed fedr rhywun o’ch darllenwyr roi gwybod imi beth yw enw’r lle? Diolch am eich cydweithrediad. Annie Jones [Nan] Awel y Mynydd, 28 Ffordd Gwenllian, Nefyn LL53 6ND. Cywiriad: Yn y rhifyn diwethaf gosodwyd y pennawd ‘Eglwys y Bedyddwyr’ uwchben llun yn cyd-fynd â’r erthygl gan W Arvon Roberts. Y pennawd cywir oedd ‘Eglwys Fethodistaidd Esgobol Grace, Utica’. Ymddiheurwn am hyn. Dymuna Mrs Eirlys Williams, Tanforhesgan a’r teulu oll ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch i bawb fu’n cymryd rhan yng Nghapel Jerusalem ac yn yr Amlosgfa ym Mangor. Diolch i gyfeillion rhy niferus i’w rhestru am gymwynasau lu i Idris dros gyfnod estynedig. Diolch i gwmni Pritchard a Griffths am eu gwaith gwiw. Gwerthfawrogwyd y cyfan yn fawr. Rhodd a diolch £30

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru


Cwiltwyr Ardudwy Mwynhawyd te prynhawn blasus iawn ym Mhortmeirion dydd Llun, Mehefin 24 gan griw Cwiltwyr Ardudwy i gloi sesiynau’r tymor. Maent yn cyfarfod bob yn ail Llun yn Neuadd yr Eglwys, Dyfffyn Ardudwy gan ailgychwyn ym Medi. Diolch i Iona a Frances am drefnu prynhawn arbennig.

Athletau Urdd Meirionnydd Cynhaliwyd yr Athletau yn Ysgol Ardudwy, Harlech ar nos Iau, Mehefin 6ed. Dyma’r rhai a ddaeth i’r brig yn Ardudwy. Naid hir merched B5/6: Nansi Evans-Brooks, Ysgol Tanycastell 1af Naid hir merched B3/4: Lowri Howie, Ysgol Llanbedr 3ydd Ras unigol bechgyn 100m B5/6: Garrett Russell, Tanycastell 2il Ras unigol bechgyn 600m B5/6: William Bailey, Tanycastell 1af Ras unigol bechgyn 75m B3/4: Dewey Wright, Dyffryn Ardudwy 3ydd Ras unigol merched 100m B5/6: Nansi Evans-Brooks, Tanycastell1af Ras unigol merched B3/4: Lowri Howie, Ysgol Llanbedr 1af Taflu Pêl bechgyn B5/6: Sam Tomos Roberts, Ysgol Talsarnau 3ydd

Canlyniadau Cynradd Talaith y Gogledd 2019 Cynhaliwyd yr athletau ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn nos Fercher, Mehefin 26. Llongyfarchiadau i’r plant canlynol am gyrraedd y brig. Nansi Evans-Brooks, Ysgol Tanycastell, Cyntaf - Naid Hir Merched B5/6. Jim Tookey, Ysgol y Traeth, Ail - Naid Hir Bechgyn B3/4. Lowri Howie, Ysgol Llanbedr, Ail - Ras Merched 75m B3/4. William Bailey, Ysgol Tanycastell, Trydydd - Ras Bechgyn 600m B5/6.

YSGOL ARDUDWY

Mae’r ysgol yn chwilio am hen luniau o’r ysgol gyfan er mwyn medru creu set gyflawn. Dyma’r rhai rydan ni’n brin ohonyn nhw: 1962-67 1974, 1978 1989-1994 Buasem yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau. Diolch ymlaen llaw am eich cymorth. Ffôn: 01766 780331

DYDDIADUR Y MIS Gorffennaf 6/7 – Paddlefest, Bermo Gorffennaf 14 - Cystadleuaeth Bysgota Gareth Rees, Llyn Tecwyn Uchaf, 10.00 – 3.00 Gorffennaf 18 - Meibion Prysor, Eglwys Llanfihangel-y-traethau, am 7.00 Gorffennaf 19 - Dro hamddenol ar lwybrau Llanfair/Llanbedr, maes parcio Llanfair, 6.30yh Gorffennaf 21 - Gŵyl Fwyd Abermaw, Y Cei, 11.00 – 4.00 Pob Sadwrn yn Awst – Sêl Cist Car, Y Sgethin, Talybont, 10.00 – 3.00 Pob bore Sadwrn a Sul yn Awst – Arwerthiant Pen Bwrdd, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 10.00 – 12.00 Awst 7 – Rasus Malu Awst 16 – Sioe Arddio Dyffryn a Thal-y-bont, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 2.00 Awst 18 - Roc Ardudwy, Pwll Nofio Harlech Awst 24 – Sioe Arddio Harlech Medi 2 – Cyfarfod Grŵp Llanbedr a Huchenfeld, Gwesty Tŷ Mawr, am 7.00. jgbrookwood@icloud.com Medi 14-23 – Gŵyl Gerdded Bermo Medi 20-23 – Gŵyl Gwrw Llanbedr, Gwesty Tŷ Mawr, Medi 22 – Prynhawn Agored i ddathlu gefeillio Llanbedr/ Huchenfeld, Neuadd Llanbedr, 2.00 - 5.00 Medi 26 – Gŵyl Rygbi, Caeau Brenin Siôr, Harlech Medi 28 – Gwerinos, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.30 Cysylltwch â Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com

ENGLYN DA LLYS IFOR HAEL

Llys Ifor Hael, gwael yw’r gwedd - yn garnau Mewn gwerni mae’n gorwedd, Drain ac ysgall mall a’i medd, Mieri lle bu mawredd. Evan Evans [Ieuan Fardd], 1731-1788

15


HARLECH Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod nos Fercher, 12 Mehefin, gan y Llywydd Jan Cole. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i dair aelod oedd yn dathlu penblwyddi y mis yma. Darllenwyd y Llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys, sef: Ffederasiwn Gwynedd a Meirionnydd yn dathlu 100 oed, cinio ym Mhortmeirion Hydref 3, 2019; Byw yn Iach 27 Mehefin yn Llanelltyd ac yn chwarae Boccia; Helfa Drysor yn y Bermo 17 Gorffennaf; taith gerdded efo Sue Currie o Sefydliad y Merched Harlech yn trefnu yn yr ardal yma; Sioe Sir yn Nhŷ Cerrig, Harlech, 28 Awst a thrip i Goleg Denman, 3-4 Tachwedd 2019; Clwb Crefft 18 Gorffennaf; bowls i gychwyn yn Hafod Wen. Ar ôl trafod y busnes, cafwyd helfa drysor o gwmpas Harlech gyda Jill Houliston ac Ann Edwards wedi ei drefnu. Enillwyr y tu allan, Sheila Maxwell a Pat Church. Ac yr un yn y Neuadd i rai nad oeddan nhw eisiau mynd allan – enillwyr, tîm Stella Calvert, Jan Spicer a Myfanwy Jones. Diolchwyd ar ran yr aelodau gan Edwina Evans.

Wyres gyntaf Llongyfarchiadau i Suzanne a Richard, Moora, Gorllewin Awstralia ar enedigaeth merch, Isla Ellis Williams. Mae Suzanne yn ferch i Marilyn a Dafydd Jones, Hiraethog, Harlech, a Richard yn fab i Lynn Williams, Derlwyn, Llanfair a Bryn Williams, Bron-y-graig, Harlech. Deallwn fod Marilyn a Dafydd yn cychwyn ar daith i Awstralia cyn bo hir i weld yr wyres gyntaf. Dymunwn siwrnai ddiogel iddyn nhw ac anfonwn ein cofion at y teulu bach.

Priodas Berl

Bydd Steve a Carol O’Neill yn dathlu 30 mlynedd (priodas berl) ar yr 22ain o Orffennaf. Llongyfarchiadau iddyn nhw eu dau, a hwyl ar y dathlu.

FFAIR GYFLOGI FICTORAIDD Sadwrn a Sul 27 a 28 Gorffennaf 2019 Llain yr Eglwys Harlech 10.00yb – 4.00yh Digwyddiadau am ddim Stondinau Arddangosiadau Gemau

Cymdeithas Dwristiaeth Harlech mewn cydweithrediad â: Cronfa Partneriaeth Eryri

Diolch Dymuna Mrs Doreen Thomas, Garth, Ardd Fawr, Dolgellau ddiolch yn ddiffuant i’w chyfeillion am y sylwadau caredig a dderbyniodd yn dilyn cyhoeddi cyfres o erthyglau yn Llais Ardudwy. Roedd y cyfan yn galondid mawr iddi. Diolch £10 Gwasanaethau’r Sul GORFFENNAF 7 Capel Jerusalem Parch Iwan Ll Jones am 3.30

SIOE ARDDIO HARLECH

Sioe Haf Dydd Sadwrn, Awst 24 Sioe Glan Gaeaf Dydd Sadwrn, Tachwedd 2 am 2.00 Mynediad: £1.50 16

CLWB PYSGOTA ARTRO A THALSARNAU

Priodas Ruddem

Llongyfarchiadau gwresog iawn i David a Sally John, 30 Tŷ Canol, Harlech, sy’n dathlu 40 mlynedd o briodas ar Orffennaf 21ain mwynhewch y dathlu! Priodwyd y pâr ifanc yn Eglwys Santes Fair o dan ofal y diweddar Barchedig Gomer Davies. Dymuniadau gorau a llawer o gariad gan y teulu a ffrindiau oll yn yr ardal hon. Dyweddïad Llongyfarchiadau gwresog iawn i Gwyn Anwyl, Bryn Awel a Meinir Williams o Langwyllog, Sir Fôn sydd wedi dyweddïo’n ddiweddar. Mae Gwyn yn athro TGCh yn Ysgol Uwchradd Amlwch ac mae Meinir yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd. Salwch Brawychwyd yr ardal pan glywyd fod Christine Hemsley, Bryn Tirion, Ynys wedi ei tharo’n wael tra ar ei gwyliau yn Croatia. Deallwn fod y teulu gyda hi a’i bod yn gobeithio dod adref cyn bo hir. Dymunwn wellhad llwyr a buan iddi ac anfonwn ein cofion at ei gŵr, Mike a’r teulu. Mae’r ddau wedi dysgu Cymraeg ac yn cyfrannu’n gadarnhaol iawn i fywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal hon.

Cystadleuaeth Gareth Rees Llyn Tecwyn Uchaf, Dydd Sul, Gorffennaf 21 10.00 - 3.00 Agored i bobl o bob oedran. Gwobrau amrywiol Tâl cystadlu: Oedolion £5; Plant £3

JD & CO Awst 17

Grŵp Cymuned Harlech

Stryd Baldwin, Dunedin Mae Grŵp Cymuned Harlech wedi cwblhau’r gwaith o fesur ac archwilio Ffordd Pen Llech a chyflwyno eu cais i’r Guinness Book of Records am gael cydnabod y ffordd fel yr un mwyaf serth yn y byd. Yn Dunedin, Seland Newydd mae honno ar hyn o bryd. Ers i Llais Ardudwy ryddhau’r stori yn Chwefror 2017, mae wedi ymddangos ym mhrif bapurau Gwledydd Prydain ac ymhell tu hwnt. Mae’r criw lleol yn hyderus y bydd y cyhoeddiad yn gadarnhaol o blaid Harlech.


CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawodd y Cadeirydd Mr Arfon Hughes a Ms Vicky Kelly i’r cyfarfod i drafod y diweddaraf ynglŷn â’r tai yn Harlech. Cafwyd copïau o adroddiad oedd wedi ei ddarparu ganddynt yn dangos Arolwg Anghenion Tai yn yr ardal fydd yn weithredol am y 5 mlynedd nesa. Cytunwyd i anfon llythyr at Grŵp Cynefin, CCG a’r Parc Cenedlaethol yn datgan bod y Cyngor hwn yn cefnogi unrhyw ddatblygiad tai yn yr ardal oherwydd yr angen sylweddol sydd yna. Llongyfarchwyd Elfyn Anwyl ar gael ei benodi yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Ardudwy a dymunwyd y gorau iddo yn y dyfodol. Llongyfarchwyd Edwina Evans ar gael ei hethol yn Is-gadeirydd Ffederasiwn Sefydliad y Merched Gwynedd a Môn. Cydymdeimlwyd â Mrs Eirlys Williams a’r teulu, Tanforhesgan, yn dilyn marwolaeth Mr Idris Williams. MATERION YN CODI Toiledau ger y Castell Gobeithir y bydd fersiwn derfynol o’r ddogfen Pen Telerau yn barod yn fuan; wedyn gellir trosglwyddo’r ased i’r Cyngor. Gofynnodd Cyngor Gwynedd am gopi o bolisi yswiriant y Cyngor. Mae Mr Phil Griffiths wedi cytuno i ychwanegu y toiledau hyn ar ei restr o doiledau sy’n cael eu glanhau ganddo a chytunodd y Cyngor hwn i dalu yr un telerau iddo ac y mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud. Cytunwyd i ofyn i Gyngor Gwynedd a fyddant yn archwilio’r toiledau hyn yn fanwl, a bod unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud cyn iddynt gael eu hagor a chael eu trosglwyddo i’r Cyngor. Cae Chwarae Brenin Siôr V Cafwyd cwyn bod plentyn wedi disgyn i faw ci ar y cae pêl-droed; hefyd bod pryder wedi ei ddatgan nad oedd y gatiau ar hyd ochr y ffordd yn cael eu cau. Datganwyd pryder bod hyn wedi digwydd ar y cae pêl-droed er bod arwyddion “Dim Cŵn” ar bob giât, hefyd bod y gatiau yn cael eu gadael yn agored, a chytunwyd i gadw llygad ar y sefyllfa. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad ac addasiadau yn cynnwys dec haul yn y cefn, codi garej ddwbl ac addasiadau i’r anecs – Bryn Gwylan, Ffordd Uchaf, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd i stiwdio tatŵio – Llawr Gwaelod, London House, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Cynllun parcio a gosodiad y ffordd, cadw waliau cynnal ychwanegol, waliau terfyn a ffensys terfyn pren a chadw terasau cerrig, tirlunio, sgrinio a chadw tŷ haf – Pant Mawr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

YR YSGOL GYNGOR 1935

Tybed a oes unrhyw un o’n darllenwyr all adnabod rhai o’r plant yn y llun? Derbyniwyd y llun gan Marian Wynne Davies. Credir mai Stephen Roberts yw’r bachgen ar yr ochr dde yn y cefn, Marian Wynne Davies sydd wrth ochr yr athrawes, Miss Hughes, yn y blaen a Mair Williams sydd wrth ei hochr hi.

PYTIAU OLWEN

Dyma ychwaneg o’r casgliad o atgofion a ffeithiau difyr am Ardudwy a’i phobl ar ddiwedd y 60au o gasgliad Olwen Jones.

EISTEDDFODAU LLEOL Mae’r traddodiad Eisteddfodol unwaith eto’n gryf ym Meirionnydd, er fod yna gyfnod gwan iawn wedi bod yma ers ychydig flynyddoedd. Yn y 30au arferid cael dwy Eisteddfod yn Nolgellau – Eisteddfod Meirion ar ddydd Calan ac Eisteddfod y Gweithwyr ar y cyntaf o Fawrth. Y prif Eisteddfodau yn y sir yw Eisteddfodau Llanfachreth, Llanuwchllyn, Llandderfel a Llangwm. Fe gyhoeddir llyfryn ‘Llên y Llannau’, gwaith llenyddol a barddonol yr Eisteddfodau yma. Ceir eisteddfodau eraill yn Nhalsarnau, Tal-y-bont, Y Gwynfryn, Llanbedr; Cwm Nantcol, Eisteddfod y Tai ynghylch Bala, Sarnau, Bro Ffestiniog, Penstryd a Llawrplwyf, Trawsfynydd; Llanegryn; Arthog, ac Abergynolwyn. Cynhelir Eisteddfod Flynyddol Clybiau Ffermwyr Ieuainc y Sir yn Nolgellau ym mis Chwefror. Y flwyddyn yma cychwynnwyd Eisteddfod Canghennau Merched y Wawr. Pigion o daflen Cyfarfod Llenyddol Ieuenctid y Gwynfryn, a gynhelir yn Neuadd y Merched, Llanbedr, Nos Wener y Groglith, Ebrill 12fed, 1968. Cadeirydd: Mrs Eirianwen Pritchard, Maentwrog (Dinas, Cwm Bychan) Arweinyddion: Mr E O Jones a Mr E M P Jones, Gwynfryn. Beirniaid: Cerdd – Y Parch E Evans, Dolgellau. Adrodd a Barddoniaeth: Mr G R Williams, Taleifion, Tremadog. Rhyddiaith: Parch J Owen, Bodafon, Llanbedr. Arlunio: Mr Bennet Williams, Berthen Gron, Talsarnau. Crefft a Choginio: Mrs Mair Highley, Bryn Twrog, Harlech Crefft metel neu bren: Mr B Steven, Tŷ Croes, Llanbedr. Cyflenwi ateb i bôs ar ffurf cerdd: Beirniad: H Ll Roberts, 6 Moelfre Terr, Llanbedr. Cyfeilyddion: Mrs R P Lloyd Griffiths, Mrs E Owen, Mr R O Jones. Swyddogion y Pwyllgor: Llywydd: Mr Robert John Jones. Trysorydd: Mrs Mair Evans, Cefnisaf. Ysgrifenyddion: Miss Annwen Jones, Penarth; Miss Shân Evans, Cefnisaf. Cyhoeddwyd y daflen gan Barmouth Printers, Stryd yr Eglwys, Y Bermo, Meirionnydd. Dyma’r gerdd yr oedd angen ateb iddi; oes unrhyw un yn gallu gadael i ni wybod be yw’r ateb? Pa beth sydd eglur yn y byd?. Nad yw yn amlwg ar bob pryd; YN EISIAU Ar fron y meusydd mae er hyn, IS-OLYGYDDION Ar y mynydd, yn y glyn. I’R PAPUR HWN Nid yw greadur o un rhyw. Nid un llysieuyn greodd Duw, Ac eto yn eiddo pob peth byw Dywedwch wrthyf, pa beth yw? ----------------------------------

Llais Ardudwy

Anfonwn ein cofion at Wyn Ty’n Braich, gŵr Olwen sydd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar. Brysia wella, Wyn!

Diolch am bob cefnogaeth. Byddwn yn ôl gyda Rhifyn 490 ddechrau mis Medi.

17


HYBU’R AMGYLCHEDD

Oes gennych chi syniad am brosiect a fydd yn hybu’r amgylchedd yn eich cymuned? Rydym yn falch o gyhoeddi bod rownd gyntaf 2019-20 Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi bellach ar agor i geisiadau. Mae’r gronfa ar gael i ymgeiswyr sy’n cynnal gweithgaredd o fewn 5 milltir i safle tirlenwi neu drosglwyddo gwastraff cymwys. Mae’r cynllun yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar Fioamrywiaeth, Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi a Gwelliannau Amgylcheddol Ehangach. O’r bele i ailddefnyddio hen ddeunyddiau plastig, mae gweithgareddau lu ar waith ledled Cymru. Y dyddiad cau ydy 21 Gorffennaf 2019. Rydym yn cael llawer iawn o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu’n un gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Os oes gennych gwestiwn am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant WCVA drwy ebostio ldtgrants@wcva.org.uk

MARCHOGION ARDUDWY

Gŵyl y Pum Rhanbarth Merched y Wawr

Roedd ein gohebydd, Olwen Jones yn bresennol yng Ngŵyl y Pum Rhanbarth, Merched y Wawr a gynhaliwyd yn Ysgol Friars, Bangor ganol mis Mai.

Yno y gwelodd ddau o Ardudwy’n wreiddiol - Arthur o Harlech a Rhian o Dalsarnau gynt, y naill yn canu a’r llall yn cyfeilio i Meibion Goronwy, oedd yn diddanu ar y diwrnod.

Un arall o Ardudwy oedd yn diddanu ydi Mair Tomos Ifans. Fe’i gwelir yn y llun yng nghwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb. Aelodau Marchogion Ardudwy gydag Arweinydd Tîm Harlech, Dawn oedd yn diddanu yn ystod eu hail-gread diweddar yng Nghastell Harlech Llun: Coed Celyn

Penderfynodd Marchogion Ardudwy mai Hosbis Dewi Sant fyddai un o’r pedair elusen i elwa ar eu codi arian yn 2018 ac maent wedi rhoi £800 at yr achos. Grŵp dwyieithog o rai sy’n ailgreu’r gorffennol ac yn dod â chestyll Gogledd Cymru yn fyw yw Marchogion Ardudwy. Nod y grŵp yw annog twristiaeth i dref Harlech drwy ddarlunio bywyd yn y drydedd ganrif ar ddeg mewn ffordd hwyliog a diddorol, a chodi arian at elusennau lleol ar yr un pryd. Meddai Benjie Williams, un o’r aelodau: ‘Dewiswyd Hosbis Dewi Sant ynghyd â’r Sgowtiaid lleol, yr RNLI a Sefydliad Marchogaeth Therapiwtig Cymru fel ein helusennau yn 2018. Fe wnaethom ddewis cefnogi Hosbis Dewi Sant yn dilyn y berthynas sydd wedi’i ffurfio gyda Dawn, sef Arweinydd Tîm Siop Harlech.’ Yn 2018, unodd Hosbis yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn gydag elusen gyfagos Hosbis Dewi Sant, ac mae’n gweithredu dan yr enw Hosbis Dewi Sant. I gael mwy o wybodaeth am ofal Hosbis yng Ngogledd-Orllewin Cymru ewch i: www.stdavidshospice.org.uk

18

Creu sianel bersonol ar S4C Clic Mae datblygiadau newydd ar S4C Clic yn golygu bod modd i ddefnyddwyr greu sianel bersonol eu hunain. Yn rhan o’r datblygiadau bydd modd i ddefnyddwyr greu proffiliau ar gyfer y teulu, creu rhestr bersonol o raglenni a pharhau i wylio rhaglen o’r un man. Bydd gofyn i ddefnyddwyr gofrestru er mwyn defnyddio adnoddau S4C Clic. Bydd unrhyw un a fydd yn cofrestru rhwng 27 Mai i 10 Awst yn cael y cyfle i ennill Teledu Clyfar Sgrîn Lydan 49”. Dim ond unwaith sydd angen cofrestru ac mae’n cymryd munud neu ddau yn unig. Dros y misoedd diwethaf mae S4C wedi rhyddhau nifer o gyfresi Bocs Set ar S4C Clic. Mae’r cyfresi wedi profi i fod yn hynod llwyddiannus gyda nifer o glasuron fel Con Passionate, Y Gwyll a 35 Diwrnod yn dod i’r brig. Mae nifer o hen gyfresi hefyd fel Nyth Cacwn a Tair Chwaer wedi dal dychymyg a chreu atgofion i’n gwylwyr.


Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal

30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda Am gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru

WIL BIAU’R EMYN

Yn 1740, ordeiniwyd ef yn ddiacon a’i benodi yn gurad ym mhlwyfi Llanwrtyd, Llanfihangel Abergwesyn a Llanddewi Abergwesyn. Y ficer yno oedd Theophilus Evans (1693– 1767), awdur y gyfrol ryfeddol honno ‘Drych y Prifoesoedd’ sydd yn ôl y Bywgraffiadur yn ‘llyfr rhagfarnllyd ac anfeirniadol ond hynod ddifyr’ sy’n smalio bod yn llyfr ar hanes Cymru. Mae’n amlwg nad oedd y ficer a’i gurad yn llawer o ffrindiau. Credai’r hen berson nad oedd gan Williams fusnes i fod yn cyfeillachu â’r Methodistiaid ac, Rydym wedi sôn llawer am yn wir, gwrthododd roi trwydded emynau a thonau yn y golofn iddo ar derfyn ei dymor yno fel hon dros y misoedd ond wedi na chafodd Williams ei urddo yn osgoi enwi un gŵr arbennig iawn. offeiriad. Gair y werin ar y pryd am Dwi’n credu y cytunai pawb mai’r ddiacon na chawsai ei ordeinio’n dyn hwnnw ydi prif emynydd offeiriad oedd ‘offeiriad hanner pan’ Cymru. ac offeiriad felly fu Williams gydol ei Pwy felly? Wel neb ond William yrfa wedyn. Williams, Pantycelyn ei hun. Mewn sawl peth bu Williams yn Mae’r Cydymaith gwerthfawr hynod ffodus. Mae`n debyg ei fod i’r Caneuon Ffydd yn datgan yn eithaf cefnog a chanddo fferm mai Williams ydy’r ‘enwocaf o fras Pantycelyn i’w gynnal. Roedd o holl emynwyr y Gymraeg’ ac yn hefyd yn rhannu a gwerthu llyfrau, wir mae ei emynau Saesneg yn ei rai ei hun a rhai eraill. Clywais drysorau hefyd. hefyd ei fod ar brydiau yn gwerthu Mab fferm oedd Williams. Fe’i te, cyffur egsotig iawn y dyddiau ganed yn 1717 yng Nghefn hynny. Felly rhwng popeth roedd Coed, Llanfair ar y Bryn yn Sir ffon ei fara yn eitha diogel. Gaerfyrddin. Ei fwriad gwreiddiol Ac roedd ganddo un fendith fawr oedd mynd yn feddyg ac yn wir arall. Cafodd wraig ardderchog. ysgrifennodd lawer ar bynciau Mary Francis oedd ei henw ac yn gwyddonol ar hyd ei oes. Aeth i wreiddiol o Lansawel. Rheolai waith athrofa Llwyn Llwyd ger Talgarth y fferm a’r busnesau eraill yma mor yn Sir Frycheiniog fel y cam ddeheuig y gallai Williams deithio cyntaf i gymhwyso ei hun ar gyfer ledled Cymru i bregethu a threfnu ei yrfa feddygol. Mae awdur y ac arolygu seiadau. Pan oedd gyfrol ‘Y Tadau Methodistaidd’ Williams yn 73 oed ysgrifennodd yn dweud amdano, ‘Er cymaint ei fod yn amcangyfrif ei fod a ysgrifennodd Williams yn ei wedi teithio tua 40 i 50 milltir yr ddydd, gadawodd ei gydwladwyr wythnos ar ei geffyl dros gyfnod o mewn tywyllwch hollol ynghylch 43 mlynedd yn gwneud y gwaith ei helyntion personol ef ei hun’. yma heblaw ambell i drip hir o 200 Er hyn, mae Williams yn sôn milltir ar y tro (4 neu 5 o`r rheini am y profiad mawr a gafodd tua pan oedd yn 72 oed). 1737, profiad a newidiodd gwrs Mae yna un traddodiad am ei fywyd. Aeth i fynwent eglwys Williams a’i gyd-fethodistiaid Talgarth lle roedd gŵr ifanc cynnar. Roeddent yn pryderu mai huawdl a thanllyd, Howel Harris, ychydig iawn o emynau Cymraeg mab Trefeca Fach, yn pregethu. oedd ar gael i’r cynulleidfaoedd Ymhen blynyddoedd canodd am y cynnar hynny i’w canu. Roedd profiad, llawer o’r rhai hynny yn Salmau ‘Dyma’r bore, fyth mi gofiaf, Cân anodd a stiff i’w canu neu clywais innau lais y nef; drosiadau sâl o emynau Saesneg. daliwyd fi wrth wŷs oddiuchod Penderfynwyd fod pob un ohonynt gan ei sŵn dychrynllyd ef.’ yn ymneilltuo i wneud emyn neu Canlyniad hyn oedd iddo ddau a chyfarfod wedyn i weld benderfynu mynd yn offeiriad yn pwy oedd wedi cael hwyl arni. Ar Eglwys Loegr er mai Annibynwyr ôl dod at ei gilydd, gwelwyd mai oedd ei deulu. Yn y cyfnod hwn, coch iawn oedd cyfansoddiadau’r roedd Methodistiaeth yn rhyw rhelyw ond roedd Williams wedi fath o fudiad oddi fewn i’r eglwys cynhyrchu perlau. ‘Wel’, meddai ac roedd rhai o’r offeiriaid yn Daniel Rowland, y cadeirydd, ‘Wil gefnogol i bregethu rheolaidd biau’r emyn.’ yn iaith y bobl er nad oedd yr A siŵr i chi, Wil biau’r emyn o hyd awdurdodau eglwysig yn rhyw fel y cawn weld y tro nesaf. fodlon iawn. JBW

19


MACHLUD HAUL YN ARDUDWY

Yn ein rhifyn diwethaf gofynnwyd am luniau da o’r machlud yn yr ardal hon. Wele’r lluniau ddaeth i law.

Diolch i Dei Roberts, Garej Dyffryn am y lluniau hyn.

Llun: Paula Ceri

Machlud yn Nhal-y-bont - Ray Owen

Lluniau: Ray Owen


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.