Llais Ardudwy Gorffennaf 2021

Page 1

Llais 70c Ardudwy RHIF 511 - GORFFENNAF 2021

PARTI YN Y PARC Daeth dros 200 o bobl i barti ym Maes Chwarae’r Brenin Sior V Harlech ar brynhawn Sul, Mehefin 27. Cafodd y digwyddiad ei ysbrydoli gan Ymddiriedolaeth Jo Cox AS sy’n gweithio i ysgogi newid cadarnhaol trwy ddod â chymunedau ynghyd. Dyma’r tro cyntaf i’r gymdeithas leol ddod ynghyd ers y Cyfnod Clo a chafwyd tywydd braf i fwynhau ein diwylliant lleol. Darllenwyd straeon a ysgrifennwyd gan ddisgyblion ysgol lleol ac yna cafwyd anterliwtiau cerddorol ac eitemau telyn a chornet gan Fand Arian Harlech. Roedd grwpiau gwirfoddol lleol yn cynnal stondinau - yr achlysur cyntaf ers ymhell dros flwyddyn iddyn nhw gael cyfle i godi arian ar gyfer y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud yn y gymuned. Cafwyd cyfle hefyd i wrando ar sgyrsiau gan sefydliadau sy’n gofalu am ein cymuned, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Network Rail.

Llongyfarchiadau gwresog i Thio Walters, Erin Mitchelmore a Lois Williams. Tri o ddisgyblion Ysgol Ardudwy a enillodd wobr ariannol am ysgrifennu traethawd yn esbonio pam fod Ardudwy yn ardal arbennig. Cyflwynwyd y tystysgrifau a’r wobr o £50 yr un iddyn nhw yn nathliadau Parti yn y Parc, Harlech gan y Cyngor Cymuned. Llongyfarchiadau cynnes!

Paula yn brysur yn peintio wynebau plant

Denise, Linda a Sue yn brysur yn paratoi bwyd i godi arian at y Neuadd Goffa

Erin Lloyd, Las Ynys yn canu’r delyn a’i mam, Delyth wrth law i gynorthwyo Diolch i Carol O’Neill am anfon y lluniau atom


GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com 2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com 3. Haf Meredydd Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 01766 780541

HOLI HWN A’R LLALL

SWYDDOGION

Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 3 a bydd ar werth ar Medi 8. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Awst 30 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

2

Enw: Gwyndaf Lewis Evans Gwaith: Ffermwr Cefndir: Cefais fy magu ar fferm Maes y Garnedd, Cwm Nantcol gan fy rhieni Wil ac Ann Evans. Es i Ysgol Llanbedr, yna i Ysgol Ardudwy cyn mynd i Goleg Glynllifon i ddysgu ffermio a gadael wedi gwneud ffrindiau oes! Teithiais i Seland Newydd gydag Edward Williams, Ystumgwern yn 2000 am wyth mis gan ddysgu cneifio a ffensio. Fe ddes i adra a sylwi mai dyn fy milltir sgwâr ydw i, ond dwi’n falch iawn o’r profiad. Canlyn wedyn ar ôl cyfarfod Eleri o Sir Fôn, a’i phriodi yn Awst 2009 a setlo ym Maes y Garnedd. Symud stafell, nid tŷ! Job cael merch i setlo o Fôn i Feirion, ond dwi’n ama’ mod i wedi llwyddo. Ganwyd i ni dair o ferched sef Cari, Erin ac Elena. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n lwcus iawn o fy ngwaith a’r math o dir rydw i’n ffermio sy’n gofyn imi gerdded dipyn go lew. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cylchgrawn Farmers’ Weekly a Llais Ardudwy wrth gwrs! Fel arall, ’chydig iawn, dim ond biliau. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi newydd wylio rhaglen Clarkson’s Farm ar Prime – Gwych! Dwi’n hoff iawn o wrando ar raglen Tudur Owen, Dyl Mei a Manon ar Radio Cymru – maen nhw’n gymeriadau a hanner! Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, fwyta’i unrhyw beth. Dwi ddim yn ffysi... ond dim byd sydd â gormod o sbeis ynddo! Hoff fwyd? Cinio dydd Sul, cig oen – heb amheuaeth. Does dim byd gwell na chops cig oen cartref hefo saws mintys. Hoff ddiod? Paned o de i dorri syched!

Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Ffrindiau da a digon o hwyl i gael. Lle sydd orau gennych? Cerdded y Rhinogydd ar ddiwrnod braf – nunlle gwell. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Dwi ddim yn hoff o fynd ar fy ngwyliau; y darn gorau o wyliau imi ydy’r daith adre. Gofynnwch i ’Leri, gewch chi unrhyw beth gennai pan fyddai ar fy ffordd adre, ond tasa rhaid imi ddewis, America. Mae na ddeuddeg mlynedd ers inni fod, ond gawson ni dipyn o amrywiaeth ar ein taith o Efrog Newydd i Nevada. Byd gwahanol iawn i’r Cwm ’cw. Agoriad llygad. Beth sy’n eich gwylltio? Y fam yng nghyfraith! Dwi wedi meddwl chwythu’r bont aml i waith! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffrindiau triw sydd yr un peth dim ots pa mor aml neu anaml rydach chi’n eu gweld ac yn codi eich calon bob tro rydach chi yn eu cwmpeini. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Llawer o bobl... rhywun sydd yn gweithio’n galed ac yn ymdrechu i wneud ei orau bob amser. Beth yw eich bai mwyaf? Fysa’n nhad yn dweud peidio gwrando... ond tebyg at ei debyg. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Dwi’n lwcus iawn, dwi’n gwerthfawrogi popeth sydd gennai. Carwn weld fy mhlant yn setlo yn yr ardal yn y dyfodol a’u bod yn parhau i fyw yn y cwm. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Cadw nhw oddi wrth y wraig! Eich hoff liw a pham? Coch oedd o, ond ers cael tair merch... pinc! Mae popeth yn binc yn ein tŷ ni, hyd yn oed y welingtons! Eich hoff flodyn? Cennin Pedr, arwydd o wanwyn. Eich hoff gerddor? Bwncath ydy’r hoff fand Cymreig ar hyn o bryd. Caneuon da. Pa dalent hoffech chi ei gael? Talent technolegol. Does gennai ddim diddordeb ynddo, gwaetha’r modd. Beth yw eich hoff ddywediadau? Lle mae camp mae rhemp / Yr oen yn dysgu’r ddafad i bori. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Petai rhaid i mi ddisgrifio fy hun ar hyn o bryd, rhaid dweud fy mod i’n fodlon iawn fy myd. Llawer mwy bodlon ar gyrraedd fy neugain oed.


Gwasanaeth Cyfreithiol

Will Consult You Wales/Cymru Merch o ’Stinog ydi Bethan EdwardsNewport, wedi ei geni a’i magu yn Mlaenau Ffestiniog, yn ferch i Agnes a Bob Edwards (Bob Peintar gynt) o Heol Maenofferen. Ar ôl priodi yn 1999, ymgartrefodd Bethan gyda’i gŵr Garry yn Nyffryn Ardudwy a ganwyd iddynt dwy ferch, Tesni a Cari Emlyn. Cymerodd dipyn i Bethan setlo yn y Dyffryn, gan hiraethu am dipyn o flynyddoedd am bobl ’Stiniog. Ar ôl magu ei theulu, mae bellach wedi setlo ac yn hapus iawn yno, cyn belled â’i bod yn cael ymweld â’i chynefin genedigol yn rheolaidd. Mae gan Bethan gysylltiad teuluol yn y Dyffryn hefyd; roedd brawd ei thaid wedi priodi Eira. Roedd taid Eira yn rhedeg siop yr hen grydd yn y pentref. Roedd ei chwaer Lowri hefyd yn gweithio yno. Bu i Bethan dreulio 26 mlynedd yn gweithio mewn amryw o swyddi o fewn Cyngor Gwynedd, Adran Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol, dros Wynedd i gyd, gydag unigolion o bob oedran ac anghenion, gan gynnwys plant yn dioddef o waeledd ac anableddau. Dilynwyd hefo cyfnod o bedair mlynedd yn gweithio i elusen leol yn cefnogi pobl hefo materion budddaliadau, cyngor a gwybodaeth, ewyllysiau a phŵer atwrneiaid. Erbyn eleni, roedd Bethan yn teimlo’r angen i hybu hawliau unigolion ymhellach, eu gwneud yn gyfarwydd â phwysigrwydd cael dogfennau cyfreithiol mewn lle er mwyn diogelu yr ased y maent wedi treulio eu bywydau yn gweithio yn galed amdano. Dyma pryd gychwynnodd y sgwrs hefo’i ffrindiau agos, James a Sarah Hughes o Will Consult You ac mae’r gweddill, fel maent yn ei ddweud, yn hanes. Sefydlodd James & Sarah Will Consult You yn 2013. Maent hefyd yn rhannu angerdd Bethan i fod yn darparu gwasanaeth sy’n diogelu stad yr unigolyn mewn modd moesegol

ac mae’r Cwmni wedi mynd o nerth i nerth, a chwsmeriaid yn cyfeirio eu hunain drwy argymhelliad teulu a ffrindiau. Mae gan James hefyd gysylltiad teuluol ag ardal ’Stiniog a Dyffryn. Ei nain a’i daid yw Elinor a Morris Hughes, o Gellilydan yn enedigol, wedyn Ffordd Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog. Ganwyd pump o blant i Elinor a Moi, ac un ohonynt yw Morus, tad James. Setlodd Morus yn ardal Llanbedr a Dyffryn Ardudwy ac mae’n parhau i fyw yno heddiw. Erbyn hyn mae James a Sarah a’u mab Finley bach yn byw yn Kelsall, Sir Caer ac yn ymfalchïo yn llwyddiant eu busnes. Yn dilyn trafodaethau helaeth a chefnogaeth James a Sarah, sefydlodd Bethan gwmni bychan ei hun, Will Consult You Wales/Cymru a dyma rai o’r gwasanaethau mae hi’n eu cynnig:

* Ewyllys * Pŵer Atwrnai Parhaol

(Lasting Power of Attorney)

* Ymddiriedolaeth

Gan ddefnyddio ein gwerthoedd moesegol a blynyddoedd o brofiad, mae Bethan yn teimlo’n gryf y dylai pawb fod yn ymwybodol o’r opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn diogelu eu hasedau ac, yn bwysicach fyth, fod eich dymuniadau yn cael eu parchu a’u cyflawni. Mae hyn yn bwysicach fyth yn yr hinsawdd presennol. Mae’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn un annibynnol, diduedd, gyda chefnogaeth gwasanaeth cyfreithwyr proffesiynol, sy’n rhesymol. Er fod Bethan wedi ei lleoli yn Nghymru, diolch i dechnoleg gwybodaeth, mae’n bosib cynnal sgyrsiau neu gyfarfodydd dros Zoom neu Skype o bob rhan o’r wlad a’r byd! Mae hefyd yn fodlon ymweld â chi yn eich cartref er mwyn sicrhau preifatrwydd a chyfrinachedd. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â Bethan am unrhyw gyngor neu sgwrs ar 01341 242628 - 07775 670565.

Y Samariaid a Chymorth yn y Gymraeg Mae Cangen y Samariaid yng ngogledd orllewin Cymru ym Mangor ac yn gwasanaethu Gwynedd, Ynys Môn a gorllewin Conwy. Mae Llinell Gymraeg ar gael bob nos rhwng 7 a 11 ar y rhif 0808 1640123 ac mae’n bosib ysgrifennu llythyr atom yn y Gymraeg. Gweler ein gwefan am fanylion llawn – www. samariaidbangor.cymru. Yr angen am fwy o wirfoddolwyr yn arbennig siaradwyr Cymraeg Mae angen dybryd am fwy o wirfoddolwyr yn y ddwy iaith i ddelio â’r cynnydd parhaus yn y galw am ein gwasanaeth ac yn arbennig siaradwyr Cymraeg i gynnal ac ehangu ar y gwasanaethau Cymraeg yn ein cangen ddwyieithog yma yn y gogledd orllewin. Yr hyn sydd ei angen yw’r gallu i wrando ac mae cwrs hyfforddi manwl cyfrwng Cymraeg ar gael wrth baratoi ar gyfer bod yn wrandawr. Bydd y cwrs hyfforddi nesaf ym mis Medi. Yr ymrwymiad yw dyletswydd 4 awr yr wythnos gydag un dyletswydd dros nos bob 4-6 wythnos. Os teimlwch y gallwch chi wirfoddoli, cysylltwch â ni i gael y manylion llawn drwy ffonio 01248 674984 (ffôn swyddfa, nid ar gyfer cymorth emosiynol) neu ebostiwch – recriwtio@ samariaidbangor.org Sgyrsiau i Fudiadau a Chymdeithasau Rydym yn rhoi sgyrsiau a rhannu gwybodaeth yn rheolaidd am sgiliau gwrando ar eraill â mudiadau a chymdeithasau o bob math. Byddem yn falch o ddod atoch – cysylltwch â ni os gallwn fod o gymorth. Tudur Williams Cyfarwyddwr - Samariaid Gogledd Orllewin Cymru

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL CAWL LLUS YR HAF

Genedigaeth merch Llongyfarchiadau i Rwth a Trystan, Beudy’r Ddôl, Cwm Nantcol, ar enedigaeth eu merch Enya Ffydd, ar 8 Mehefin. Mae Enya yn chwaer fach i Ned a Nansi a’r ddiweddar Jeni. Llongyfarchiadau hefyd i Moira ac Alun Jones, Graig Isaf, ar fod yn nain a thaid unwaith eto! Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Meg Balderstone o Arosfa, Llanbedr yn ddiweddar. Cynhaliwyd yr angladd ym mynwent eglwys Sant Pedr yn yr awyr agored. Cydymdeimlwn â Mike, Jo a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Pen-blwydd yn yr Almaen

Trystan yng ngwisg yr Academi Hwyl ar y pêl-droed Llynedd cafodd Trystan Jennings, 7 oed, o Gilcychwyn, Cwm Nantcol, ei ddewis i chwarae i Academi PêlDroed y Bala, a mis Mai eleni mi gafodd o ei enwi yn chwaraewr y mis. Llongyfarchiadau, Trystan! Capel Salem

Bob blwyddyn mae Hoffnung, y ceffyl siglo oedd yn anrheg oddi wrth John Wynne i’r ysgol feithrin yn Huchenfeld, yn dathlu ei ben-blwydd ar 19 Mehefin. Yn anffodus, doedd yna ddim dathliadau eleni oherwydd achos o Govid-19 yn yr ysgol feithrin. Anfonwyd cerdyn pen-blwydd i Hoffnung a’n dymuniadau gorau i’r plant oddi wrth y pentref o Lanbedr. Rhodd Susanne Davies £20

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG

4

08081 640123

Hyfryd iawn oedd cael gwasanaeth yn Salem er bron i ddwy flynedd oherwydd atgyweirio y nenfwd yn y cyfnod clo. Gwasanaethwyd gan y Parch Dewi T Lewis ac anogodd ni ar y dechrau i gadw’n gaeth at y rheolau Covid-19. Fe gafwyd gwasanaeth bendithiol iawn. Sul, 18 Gorffennaf am 2.00 o’r gloch John Williams, Llanaber.

Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/llaisardudwy/docs neu https://bro.360.cymru/papurau-bro/

Mae hel llus yn hen draddodiad yma yn Ardudwy ac mewn llawer rhan arall o Gymru. Yr adeg gorau i fynd i hel llus ydy rhwng y Sioe Amaethyddol a’r Eisteddfod Genedlaethol (fel arfer er nad eleni!), felly’n ystod wythnos olaf Gorffennaf. Dyma rysáit o ddwyrain Ewrop am gawl llus yr haf i’w fwyta fel brecwast, byrbryd neu bwdin. CYNHWYSION 400g o lus 1 ffeuen fanila, wedi ei hollti ar ei hyd 3 llwy fwrdd o siwgr caster 1 llwy fwrdd o flawd corn hufen wedi ei chwipio, dail mintys wedi eu rhwygo a blodau bwytadwy, megis blodau glas yr ŷd (cornflower), ar gyfer gweini. CYFARWYDDIADAU 1 Cadwch ychydig o’r aeron i’w gweini ar wyneb y cawl gorffenedig. 2 Mewn powlen fechan, cymysgwch y blawd corn gyda 100ml o ddŵr nes bydd wedi creu past. Ychwanegwch at y cynhwysion eraill mewn sosben a’i droi’n gyson nes bydd y cawl yn tewychu. Tynnwch oddi ar y gwres a gadael y cawl i oeri i wres yr ystafell, yna ei roi yn yr oergell am o leiaf 30 munud neu hyd at 24 awr. 3 Defnyddiwch letwad [ladle] i’w weini mewn powlenni a gosodwch yr hufen wedi ei chwipio ar yr wyneb, ynghyd â’r aeron dros ben a thaeniad o ddail mintys a blodau bwytadwy. Mwynhewch!


RYSÁIT Y MIS

Torth Fanana

Mae’r dorth yma yn hawdd ei gwneud a gallwch ddefnyddio bananas sy’n dechrau mynd yn feddal. Mae hi hefyd yn blasu’n dda.

Cynhwysion

8 owns o flawd plaen 4 owns o siwgr gronynnog 2 lwy de a ¼ o bowdr pobi Pinsiad o bicarbonad soda Pinsiad o halen 1 banana a hanner 5 owns hylifol o laeth 1 ŵy 1¼ owns hylifol o olew llysiau

Dull

Cymysgwch y blawd, siwgr, bicarbonad, powdr pobi a halen mewn powlen. Rhowch y bananas, llaeth, olew llysiau a’r ŵy mewn hylifydd a’i gymysgu, wedyn adiwch at y cynhwysion sych a’i gymysgu gyda llaw. Rhannwch rhwng dau dun torth pwys a choginiwch am tua 40 munud, tymheredd 160°C. Mi allwch ei bwyta ei hun neu gyda menyn. Mwynhewch! Rhian Mair [Tyddyn y Gwynt gynt]

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

5


LLANFAIR A LLANDANWG Diolchiadau Dymuna Winnie Griffith, Bryn Gro a’r teulu ddiolch yn ddiffuant am y cardiau, y galwadau ffôn a phob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli Siân Rhys Elis yn ddiweddar. Diolch £5 Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Mererid ac Osian, Rhiwgoch ar enedigaeth merch fach, Mared Rhys ar Fehefin 27. Mae’n siŵr bod Nain a Taid, Gwen a Ieu, Hafodty wrth eu bodd. Merched y Wawr Cyfarfu’r gangen ar bnawn Mawrth Mehefin 8 yn Neuadd Llanfair dan ddilyn rheolau Cofid. Cawsom gyfarfod blynyddol a chyfle i drafod syniadau at y flwyddyn nesaf. Cyn troi am adref cafodd pawb o’r aelodau focs o de prynhawn wedi ei baratoi gan Ellie, Caffi’r Wenallt. Diolchodd Eirlys i’r rhai fu’n trefnu. Yna ar bnawn Sul, Mehefin 27 roedd gennym stondin boteli yn ‘Y Parti yn y Parc’. Bydd yr elw o gymorth i drefnu rhaglen y flwyddyn nesaf. Diolch i Sue a Bryn am ofalu am y ‘gazebo’ oedd yn ddefnyddiol iawn, hefyd i Bronwen, Eirlys, Ann a Janet am ofalu am y stondin. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf â Jill Houliston a’r teulu, Glan y Don, Llandanwg, ar farwolaeth ei gŵr John ar 8 Mehefin. Cynhaliwyd gwasanaeth preifat ar ddydd Mawrth 22 Mehefin yn Amlosgfa Bangor. Daeth amryw o gymdogion a chyfeillion John i dalu eu teyrnged olaf iddo yn Llandanwg, Harlech a Phorthmadog wrth i’r hers deithio am Fangor. Cofion atoch i gyd yn eich colled fawr.

Cydymdeimlad Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Mair Wyn Evans o Borthmadog rai wythnosau’n ôl. Roedd Mair yn briod i’r diweddar Goronwy, yn fam i Siôn, ac yn chwaer i Gwen a’r diweddar Hugh, Lewis, Herbert, Rhiannon, Artro, Gwynfryn ac Arthur. Roedd ganddi gysylltiad cryf ag Ardudwy, a theulu hefyd yn yr ardal hon. Cydymdeimlwn yn fawr â’i theulu a chyfeillion oll.

6

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2021/22 Cadeirydd: Eurig Hughes Is-gadeirydd: Russell Sharp Llinellau Melyn ger stesion Llandanwg Derbyniwyd yr ateb canlynol gan Iwan ap Trefor o Gyngor Gwynedd – eu bod yn llwyr ddeall ein pryderon mewn perthynas â diffyg cynnydd yn y mater canlynol ond gan fod Dylan Wyn Jones wedi gadael y Cyngor a bodolaeth y sefyllfa Covid presennol, dydy hi ddim yn debygol y bydd modd i’r gwasanaeth dderbyn penderfyniad i’r cais yn y tymor byr. Er hynny, maent yn obeithiol y gellir rhoi sylw i’r mater ym mis Hydref eleni. Er eu bod yn deall. dydy hyn ddim am ddatrys y broblem ar gyfer cyfnod yr haf yma, felly maent yn ein hysbysu y byddant yn edrych ar opsiynau dros dro yn yr ardal i geisio annog pobl i beidio â pharcio ar y rhan hon o’r ffordd dros gyfnod yr haf. Eglurodd y Clerc ei bod wedi cysylltu ag Iwan ap Trefor i ofyn am ddiweddariad ond nid oedd wedi cael ymateb eto. Cytunwyd i ofyn iddynt wneud rhywbeth i rwystro rhai rhag parcio yn y safle hwn oherwydd bod y ffordd yn gul ac ni fyddai’r gwasanaethau brys yn gallu mynd heibio. Ethol Cynghorydd Mae sedd wag yn bodoli ar y Cyngor. Os na fydd neb wedi rhoi ei enw gerbron bydd gan y Cyngor yr hawl i gyfethol. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad deulawr yn y cefn – Rhiwgoch, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Datganodd Osian Edwards fudd yn y cais cynllunio uchod ac nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais. UNRHYW FATER ARALL Angen anfon at yr Adran Briffyrdd i ofyn iddynt docio’r coed sy’n tyfu ar ochr y ffordd rhwng Argoed a Phensarn unwaith yn rhagor. Mae angen torri’r gwair ar hyd ochr y ffordd o Gastellfryn hyd at groesffordd Caersalem a chytunwyd i gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ynglŷn â hyn. Cafwyd gwybod gan Mair Thomas bod angen sylw ar yr hysbysfwrdd yn y Maes, Llandanwg a chytunwyd i ofyn i Mr Hywel Jones gael golwg arno i weld beth fyddai orau i’w wneud a chytunodd Robert G Owen i gysylltu ag ef. Angen gofyn i’r Adran Forwrol a fyddant yn cynnal arolwg o’r cylchoedd achub bywyd er mwyn cael gweld a oes digon ohonynt ar y traeth yn Llandanwg.

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota


Pamela Richards TEYRNGEDAU

Ganwyd Pamela Jean Constable ar Ebrill 4, 1938 ym Mwrdeistref Deptford. Bu farw ei thad Arthur Constable, aelod o’r Pioneer Corps, yn yr 2il ryfel byd pan oedd Pam yn 4 oed. Yn ddiweddarach, ailbriododd ei mam â Charles Ameson a’i mabwysiadodd. Roedd Pam yn chwaer gariadus i Tom a fu farw yn anffodus ddwy flynedd yn ôl ac yn chwaer i Bev sy’n byw yn Ne Affrica. Roedd tad mabwysiedig Pam yn y fyddin. Arweiniodd hyn iddi symud i Gaerlŷr cyn dod i Fryncrug. Arhosodd mewn fferm o’r enw ‘Y Bryn’ lle siaradodd yn annwyl am ei hanturiaethau yn helpu ar y fferm. Mae’n debyg bod ei chariad at ffermio wedi cychwyn tua’r adeg hon. Ar ôl byw ym Mryncrug, fe brynodd rhieni Pam fferm y Foel. Unarddeg oed oedd Pam bryd hynny. Nid oedd unrhyw ffordd i’r tŷ heblaw trac; nid oedd ganddo ddŵr na thrydan. Roedd bywyd yn galed. Byddai’n codi’n gynnar i odro’r gwartheg cyn mynd i’r ysgol. Roedd hi’n ffodus weithiau i allu bwyta tafell o fara yn frecwast ar y ffordd i’r ysgol. Bob hyn a hyn roedd arian yn brin a byddai’n cerdded yn ei welingtons a fyddai’n torri i mewn i’w choesau. Pan oedd Pam yn hŷn ac yn mynd i gwrdd â chariad, byddai’n agor y giât i ddyn ifanc a ddisgrifiodd fel y bachgen truenus a arferai weithio fel gwas fferm yn Ffridd. Ni fyddai byth yn dweud diolch. Bu’r dyn ifanc, Ieuan, yn ddigon dewr i ofyn iddi fynd i’r sinema yn Harlech a dechreuon nhw ganlyn ac ymhen y rhawg, priodi. Nid oedd y cynnig yn rhamantus iawn - rhoddodd y dewis o fodrwy neu gôt newydd iddi, dewisodd y fodrwy. Roedd tad Pam yn mynd i gael ei leoli yn yr Almaen ac nid oeddent yn hapus iawn am adael eu merch un ar bymtheg oed i briodi, ond dywedodd Nain Gilar [mam Ieuan] y byddai’n gofalu amdani, a gwnaeth hynny ac roedd fel ail fam iddi. Un mis ar ddeg yn ddiweddarach, ganwyd eu merch gyntaf, Kathleen. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyrhaeddodd eu hail ferch Jean a chwe blynedd yn ddiweddarach cawsant eu trydydd merch Linda. Gweithiodd Pam yn galed iawn yn ystod ei bywyd. Byddai’n cario dŵr o’r ffynnon, yn cerdded i Harlech ac yn cludo’r siopa i fyny’r bryniau gyda Kath, Jean a Linda wrth ei chwt. Ni fyddai hi’n meddwl dim am gerdded i lawr o Foel i weithio yn y

Clwb Golff yn Harlech, gweithio trwy’r dydd ac yna cerdded yn ôl adref eto, cyn dechrau bwydo’r teulu a’r anifeiliaid a godro’r fuwch. Bu hefyd yn helpu gyda’r ardd lysiau ac yn mwynhau tyfu blodau hardd. Dysgodd Pam yrru pan oedd bron yn 40 oed - cynilo’r arian a enillodd yn y Clwb Golff i dalu am wersi gyrru. Fe’i gwelwyd yn aml yn gyrru yn ei Triumph Herald gwyrdd wrth iddi deithio o gartref i gartref wrth weithio fel Cymorth Cartref. Roedd hi’n ofalgar iawn o’r henoed roedd hi’n eu cefnogi ac roedden nhw’n meddwl y byd ohoni. Cyn marwolaeth Ieuan, ymunodd Pam â’r Grŵp Celf yn Llanfair a gwneud llawer o ffrindiau. Cafodd farn meddygol bod ganddi ddirywiad macwlaidd a chafodd effaith sylweddol ar ei golwg. Er hynny, dangosodd ddawn arbennig mewn paentio gydag acrylig. Roedd hi wrth ei bodd pan brynwyd un o’i lluniau o’r Foel gan ddeliwr celf o Lundain yn ystod arddangosfa gelf. Roedd Pam wrth ei bodd yn byw yn y Foel a bu’n byw yno gydag Ieuan am dros hanner can mlynedd cyn iddo farw. Arhosodd yno yn gofalu am ei defaid a’i hieir gyda’i chŵn defaid ffyddlon wrth ei hochr am ddeuddeng mlynedd arall cyn symud i Landanwg gyda’i chŵn defaid Lassie a Jet - ac ni allwn anghofio Haf y gath. Y peth yr oedd Pam yn ei garu fwyaf ar ôl symud i Llandanwg oedd ei gardd. Doedd dim yn rhoi mwy o bleser iddi na gwylio ei blodau’n blodeuo. Roedd hi’n mwynhau siarad am ei gwahanol blanhigion a thyfu planhigion o hadau a thoriadau. Pan deflir carreg i bwll fe welir crychdonnau. Yr etifeddiaeth a adawodd Pam inni ydi darnau o ddoethineb, arweiniad, rhinwedd neu gysur sydd wedi’i drosglwyddo nid yn unig i’w thair merch, wyth o wyrion a phymtheg o or-wyrion ond i eraill gan gynnwys teulu a ffrindiau. Yn union fel y crychdonnau mewn pwll, mae’r gwerthoedd hyn yn fyw ac felly mae hithau hefyd. Roedd Pam bob amser yn trin pobl â charedigrwydd a pharch ac i bwy bynnag oedd yn galw heibio’r tŷ, roedd paned a darn o gacen bob amser. Nid yn unig y bydd ei theulu yn gweld ei eisiau, bydd ei ffrindiau a’r gymuned yn gweld ei heisiau hefyd. Annes Pugh [wyres]

Cefais fy magu yng nghymuned amaethyddol agos Uwchartro, uwchben Harlech, ac roedd Anti Pam, fel roeddwn i’n ei hadnabod, yn rhan arbennig iawn o

fy mhlentyndod yn y gymuned honno. Mae gen i atgofion melys iawn o fynd i fyny i Foel i ‘chwarae’ gyda Kath, Jean a Linda, a bob amser yn cael croeso mor gynnes gan Anti Pam. Yn sicr, gwnaeth Foel yn gartref cariadus a chroesawgar i bawb. Fel y dywedodd Annes, roedd hi’n caru anifeiliaid ac adar o bob math, ac roedd bwji neu ganeri bob amser yn trydar mewn cawell yn y tŷ. Yn ogystal â’r cathod a’r cŵn, mi welais gi dachshund [ci selsig] gyntaf, a sioe anifeiliaid y tu allan - defaid, gwartheg a phob math o ddofednod. Roedd gan bob un enw, gan eu bod i gyd yn rhan o’r teulu estynedig yr oedd hi’n ei garu ac yn gofalu cymaint amdano. Rwy’n cofio hefyd ei bod hi’n arlunydd da iawn, yn ‘Gwnstabl’ arall o bosib ar ôl dysgu ei chyfenw genedigaeth, ac i rywun oedd yn anobeithiol mewn celf byddwn yn rhyfeddu at ei lluniadau. Rydw i mor falch ei fod yn rhywbeth y gallai ddychwelyd iddo a mwynhau yn ddiweddarach mewn bywyd. Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd hapus hynny, doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi ar y pryd pa mor galed y bu’n gweithio. Gorfod cludo’r holl ddŵr o’r ffynnon ar Foel Senigl, cerdded yn ôl ac ymlaen i Harlech gyda’r holl siopa, gan edrych ar ôl ei merched, y tŷ, ei gardd a’r fferm oherwydd roedd Yncl Ieu allan yn gweithio. Rydym yn cwyno am waith caled y dyddiau hyn, pan mae gennym bob teclyn posibl i helpu gyda’r gwaith tŷ a char i fynd â ni i bobman. Ond dwi ddim yn credu iddi gwyno erioed, nid dyna oedd ei ffordd. Fe fwriodd ymlaen â phopeth heb ffwdan. Beth bynnag a wnaeth, boed yn helpu rhywun neu’n weithred o garedigrwydd, fe wnaeth hynny yn dawel heb unrhyw stŵr. Roedd Pam yn ymgorfforiad o garedigrwydd, ac yn galon fawr, gwelodd yr ymyl arian ym mhob cwmwl tywyll, ac roedd hi bob amser yn gweld y gorau ym mhawb. Bydd colled fawr ar ei hôl gan gynifer ond i chi, y teulu agos, y bydd y golled fwyaf, yn enwedig i Kath ac Ieuan, oherwydd roeddech chi yno, gyda hi, yn gofalu, yn cefnogi ac yn rhannu ei bywyd o ddydd i ddydd. Hi oedd y canolbwynt a’r angor i chi i gyd. Ac wrth i eiriau cân Rod Stewart adleisio yn ein meddyliau, geiriau Pam ydyn nhw hefyd - neges i chi i gyd ‘Taith bell a theithio’n ddiogel, Gwnewch y byd hwn yn lle gwell, Cadwch y wên honno ar eich wyneb, Byddaf bob amser, wrth eich ochr chi.’ Gwen Edwards

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn Mr David Edwards, Parc Isaf, yn 69 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei frawd Evan, ei chwiorydd Jane (sy’n byw yn Awstralia) ac Ann a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Cydymdeimlad Daeth ton o dristwch dros yr ardal ar ôl clywed am farwolaeth Siân Rhys Elis, Tŷ Nanney, Tremadog yn 49 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei rhieni Meic a Gwenda Elis, Llwyn March, Dyffryn, ei gŵr Aled, ei phlant Iago, Enlli a Guto, ei chwaer Nia a’r teulu oll yn eu colled a’u galar. Rydym yn meddwl amdanoch. Pen-blwydd Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Emlyn Owens, Drws y Nant fydd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar Orffennaf 11eg. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Hari Jones, (Ty’n Wern, gynt) sydd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Deallwn ei fod gartref erbyn hyn. Mae gan Hari gylch mawr o ffrindiau yn yr ardal ac mae llawer yn holi amdano ers ei anhwylder. Gobeithio ei fod yn teimlo’n well.

Pant Glas Yn rhifyn Mehefin o Llais Ardudwy, roedd Elwyn Williams yn holi a ydy Pant Glas yn dal i fodoli a’r englyn yn dal ar y talcen. Gwelodd yr englyn yn y llyfr ‘Crwydro Meirionnydd’. Ydi, mae’r tŷ yn dal i fodoli a’r englyn yno o hyd ond nid oes neb yn byw yno ers rhai blynyddoedd. Mae rhai ohonom yn cofio ei fod yn ddau dŷ ar un adeg. Roedd Edwin a Nora Roberts a’u mam, Lizzie Elin Roberts yn byw yn un rhan a Robert a Catherine Owen yn y rhan arall. Roedd Robert a Catherine Owen yn daid a nain i Gwyneth, a’r diweddar John Gwilym a’r ddiweddar Catherine Jane. Cafodd Pant Glas ei gondemnio gan nad nad oedd drws cefn iddo a symudodd y ddau deulu i fyw i Fro Arthur. Yn 1964 prynwyd Pant Glas gan Bobby (Tŷ’n Cae) a Diane Owen. Aethant ati i adnewyddu y tu mewn yn llwyr i’r safon ddisgwyliedig a’i wneud yn un tŷ gyda drws cefn. Symudodd Bobby a Diane i fyw i Lanbedr yn 1978 a phrynwyd Pant Glas gan Mrs Barbara Bellard. Roedd hi’n gweithio ym Modurdy’r Efail ond yn drist iawn bu farw’n sydyn rai blynyddoedd yn ôl ac mae Pant Glas wedi bod yn wag ers ei marwolaeth. Tybed ai Elwyn Gwndwn ydi Elwyn Williams o’r ffin a anfonodd y llythyr i’r Llais? Os felly, mae Gwyneth, wyres Robert a Catherine Owen a fu’n byw ym Mhant Glas, yn gyfnither iddo. Diddorol fuasai cael gwybod.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb Gorffennaf

11 Parch Huw Dylan Jones 18 Andrew Sitatree 25 Jean ac Einir

Awst

1 Parch Carwyn Siddall 8 Alma Griffiths 15 Cyfarfod Gweddi 22 Mai a Rhian 29 Gwennie ac Anthea

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 8


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod giatiau mynedfa drydanol – Crafnant, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Mynedfa cerbydau newydd i gynyddu gwelededd, cau mynedfa bresennol, trac mynedfa newydd ac estyniad i’r cwrtil - Llety’r Deryn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Anghenion Tai Dyffryn Ardudwy Mae’r Gymdeithas Dai Gwledig wedi nodi darn o dir ym Mhentre Uchaf a fyddai o bosib yn addas ar gyfer datblygu tai fforddiadwy i bobl leol. Mae ganddynt gynlluniau i godi 8 tŷ yn y pentre. Mae’r pamffledi a ddosbarthwyd yn rhy fach i’w darllen. Cytunwyd i gwyno am hyn. Ethol Cynghorydd Mae sedd wag yn Ward Llanddwywe. Mae copi o’r Rhybudd wedi ei osod yn yr hysbysfwrdd yn Nhal-y-bont, ar wefan y Cyngor a hefyd ar dudalen gwelyfr y Cyngor. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol Mae ymgynghoriad statudol ar waith er mwyn ystyried a ddylid cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar gyfer rheoli cŵn. Dyma’r cyswllt i’r fersiwn ar y we sydd yn cynnwys yr holiadur www.gwynedd.llyw. cymru/ymgynghoriadrheolicwn. Mae’n bwysig darllen yr wybodaeth sydd yn y Pecyn Gwybodaeth cyn llenwi’r holiadur. Os oes angen mwy o wybodaeth am yr Ymgynghoriad ar unrhyw un neu os oes unrhyw gwestiynau, mae hi’n bosib e-bostio RheoliCwn@gwynedd.llyw. cymru neu ffonio 01766 771000 y Cyngor am benderfyniad ar y ffordd ymlaen. UNRHYW FATER ARALL Cafwyd gwybod bod angen sylw ar y ffordd i lawr o Gadwgan draw am Roslin a chytunwyd i gysylltu unwaith yn rhagor gyda Dŵr Cymru ynglŷn â hyn. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r angen i dreillio’r afon Ysgethin oherwydd bod y twyni tywod yn diflannu a chytunwyd i gysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn a hyn. Cafwyd gwybod bod cwynion wedi eu derbyn gan sawl Aelod o’r Cyngor bod arwyddion yn ymwneud â’r Neuadd i gyd bron iawn yn uniaith Saesneg a chytunwyd i gysylltu gyda phwyllgor y Neuadd ynglŷn â hyn.

Pensarn 1939-1945 gan Mair Jones, Bermo gynt

Wrth ddarllen yr hanes yma cofiais fod gennyf benillion coffa i Robert Pugh Jones, Bryn Moel, Pensarn, Llanbedr, gan John Evans, Tyddyn y Felin, Llanfair, Harlech. Roedd yn frawd i fy nain. Mae dau o’i blant yn dal yn fyw, sef Gwenllian Jones yn Llanfair ac Artro Evans yn y Bala. John Evans ysgrifennodd geiriau ‘Y Blodau Ger y Drws’ ond, wrth gwrs, Meirion Williams sy’n cael y clod am y gerddoriaeth. Efallai, oni bai am y geiriau, na fuasai y gân boblogaidd, swynol yma wedi bodoli. John Evans hefyd oedd awdur ‘Perlau’r Ffriddoedd’, casgliad o farddoniaeth. Aldwyth Wynne Roedd Robert Pugh Jones, Bryn Moel, yn ewythr i Peter Jones (cigydd), Harlech, ac yn frawd i mam Peter. Roedd hefyd yn gefnder i mi, ei fam o a’m tad i yn frawd a chwaer. Gwennie Roberts

CERDD GOFFA

Er cof am Robert Pugh Jones, Bryn Moel, Llanbedr, yr hwn a gollodd ei fywyd yn yr Almaen, Mawrth 28ain, 1945, yn 24 mlwydd oed. Brwd a chain yw cerddi’r Gwanwyn Yn yr henfro, gylch Bryn Moel; Ond ar obaith, mwyn ei delyn, Ofer rhoddi nemawr goel. Llawer cân dry yn anobaith, Llawer blodyn syrth yn wyw, Hawdd fu sôn am oes ddianrhaith Uwch dy wanwyn, Robert Pugh.

Yn rhyferthwy mwya’r ddrycin Ac er gwaetha’r storm, a’i phla Dest yn arwr, drwy yr heldrin, Cadw wnest dy enw da. Ond er tlysed oedd dy fywyd, Torrwyd swyn dy hyfryd gainc; Annodd credu ambell ennyd Gyrrid un mor fwyn i Ffrainc.

Roedd dy fore’n dlws, addawol, Fel y gwanwn yn y coed; Ac fe dyfai blodau siriol Y ddi-feth, yn ôl dy droed. Teg o bry a hardd dy foesau, Ac ar burdeb yn rhoi bri; Pwyso pen y bu rhinweddau Ar dy gynnes fynwes di.

Bechan oedd y Rhein i’w chroesi, Wrth yr “afon” groesaist ti: Hiraeth sydd yn mynnu oedi Fel pererin wrth ei lli. Annwyl inni mwy fydd Dingen, Er ei stormus niwloedd, - trwch; A chysegrwyd tir yr Almaen Robert annwyl, â dy lwch.

Nid oedd gyfaill mwyn, addfwynach, Nac un galon mwy di-frad; Nid oedd siriol fron radlonach, Mwy di-stŵr ’mysg llanciau’r wlad. Roedd dy natur foneddigaidd Yn dy wneud yn ffefryn bro; A dy ysbryd tawel gwylaidd Eto’n hir a fydd mewn co’.

Os yw’r aelwyd o dan gwmwl, Os yw’r fro yn teimlo’n chwith; Dod y nês a wnest drwy’r cwbwl Dod i aros yn ein plith. Aros yn dy wisgoedd gwynion, Mewn atgofion lawer haen: A’th rinweddau fel angylion Eto’n dal i fynd ymlaen.

Udgorn rhyfel a’i erch ddolef Ar dy glyw ddisgynnai’n hŷ’; A gadewaist ti tithau gartref Gydag arwyr Cymru gu; Er i’r llwybr fod yn arw, Est heb gwyno dan y groes; Fel y dur yn bur a gloew Dan bob cur y bu dy foes.

Tremio’n syn ’rym dros y gorwel Tua dy ddiaddurn fedd; Byddai crwydro gyda’r awel Gylch y fan yn hyfryd hedd. O! na allem yno dywallt Dagrau, lle mae’n serch yn byw A rhoi blodyn bach o’r Wenallt Ar dy feddrod, Robert Pugh.

John Evans, Tyddyn y Felin, Llanfair, Harlech

9


‘Gwreiddiau Gwynedd’

Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd Yn rhifyn hydref/gaeaf 2020, cyfrol 2, rhif 79, cyhoeddwyd erthygl am hanes tai Ardudwy gan Margaret Dunn. Mae hi’n adrodd hanes diweddaraf gwaith Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig. Dyma grynodeb o’r hanes, er diddordeb i breswylwyr Ardudwy. Fel y rhan fwyaf o gyrff, mae’r Grŵp Dyddio Hen Dai wedi gorfod addasu eu gweithgareddau o ganlyniad i’r pandemig presennol. Rydym bellach yn chwilio am dai cyn-1700 ledled gogledd Cymru er mwyn sicrhau nad ydym wedi methu unrhyw dai gwerthfawr. Rhan bwysig iawn o ddatganiad gweledigaeth y Grŵp yw ‘Dathlu treftadaeth Cymru drwy astudio tai traddodiadol a bywydau’r bobl oedd yn byw ynddyn nhw’. Ar ddiwedd yr 1990au a dechrau’r 2000au mi wnes i ymchwil manwl i stad eang Egryn, Llanaber, a ddaeth, oddeutu 1700 yn rhan o stad Caerberllan, Llanfihangel y Pennant, Sir Feirionnydd. Mae Egryn bellach yn mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dydy o ddim yn agored i’r cyhoedd. Yn ddiweddar rydw i wedi ail-edrych ar y deunydd, ac wedi paratoi 24 hanes tai/teuluoedd ar gyfer ardal Dyffryn Ardudwy, llawer ohonyn nhw yn rhan o stad Egryn. Mae hanes y bobl oedd yn byw ym mhob eiddo’n rhan o’r wybodaeth. Byddwn yn falch o dderbyn ychwaneg o wybodaeth neu gywiriadau – cysylltwch ar y cyfeiriad e-bost brynbedd1@gmail.com Ysgifennydd Meirionnydd ydy Ieuan Tomos, Jeriwsalem, Llawrplwy, Trawsfynydd, LL41 4YE, (mab y diweddar Mair Tomos, Eden, Traws, gynt o’r Dyffryn). Yr hen dŷ neuadd yn Egryn

Ffermydd y teulu ‘Tudur’ o Egryn ar un pryd Plwyf Daliad fferm

Llanaber Tyddyn Mawr Llanddwywe Penybryn, Sarn Faen Llanaber Caerau, Cae Gwyn Llandanwg Ymwlch Llanfair Rhyd yr Eirin, gwerthwyd 1702 i Vaughan, Corsygedol Llanenddwyn Ynys Gwrtheyrn, Llwyn Cadwgan, Gornant Isa, Gornant Uchaf

Rhyd yr Eirin

Daliadau eraill Dyffryn Ardudwy

(nid ym mherchnogaeth teulu Egryn, ond gyda chysylltiadau teuluol ar un pryd o bosib) Plwyf Daliad fferm Llanenddwyn Bron y Foel Llanddwywe Bodwilym, Llwyn Griffri (Taltreuddyn), Llecheiddior, Tyddyn y Felin Llanaber Eithin Fynydd, Hendre Eirian, Tŷ yn y Ceunant (yn Hendre Eirian), Hendre Fechan, Sebonig, Bryn y Bywyd, Capel Egryn/Ysgoldy Llanenddwyn Mochras Capel Egryn

10


Y Bermo a’r cyffiniau ganrif yn ôl

Llyn Cwm Bychan Mae gen i dros hanner cant o lythyrau fy nhaid, John Griffith Roberts, Caerau, Abermaw, ac yn ystod y clo penderfynais eu copïo er mwyn iddynt fod ar gof a chadw. Llythyrau oedd y rhain a ysgrifennodd rhwng 1919 ac 1923 at ei fab hynaf, Gwilym, a oedd wedi mynd i weithio yn un ar bymtheg oed i swyddfeydd Cwmni Llongau Cunard yn Lerpwl, yn un o’r tri adeilad nodedig hynny ar y Pier Head. Yn Saesneg y mae’r llythyrau wedi eu hysgrifennu, er mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd bob amser a fy nhaid yn flaenor ac yn athro Ysgol Sul yng Nghapel Park Road, ond mae’n debyg bod hynny’n eithaf cyffredin yn y cyfnod yma. Mae pob math o bethau yn cael eu trafod yn y llythyrau - hanes y teulu a bywyd gartref yn y Bermo, lleoliadau yn Lerpwl yn ogystal â materion ym Mhrydain yn gyffredinol, ac efallai y bydd rhai o’r hanesion o ddiddordeb i ddarllenwyr Llais Ardudwy. Yn un o’r llythyrau, dyddiedig 17 Mehefin 1920, y mae’n sôn am drip Ysgol Sul Park Road i Gwm Bychan y diwrnod cynt. Teithio mewn tair ‘break’ efo ceffylau roedden nhw, hynny, y mae fy nhaid yn tybio, am nad oedd ‘char-à-banc’ ar gael! Fel y gwyddoch, mae Cwm Bychan tua phum milltir o bentref Llanbedr, a’r ffordd yn sicr yn gulach bryd hynny nag y mae hi heddiw hyd yn oed. Cychwyn o’r Bermo am un o’r gloch y prynhawn a chyrraedd am hanner awr wedi tri, felly amser go fyr a gâi’r plant yno, ac erbyn amser te roedd hi wedi dechrau tarannu. Roedd y gweinidog, y Parch Afonwy Williams, wedi rhybuddio’r plant i beidio â chrwydro, ac i fod yn ôl yn y ‘car’ erbyn 6 o’r gloch i gychwyn yn ôl, ond mae’n debyg iddo dorri ei reol ei hun a mynd efo dau neu dri oedolyn arall i fyny at y llyn, dros filltir o le roedd y plant, a chyrraedd yn ôl am ddeg munud i saith! Mae fy nhaid yn gresynu na fyddai’r plant wedi cael cychwyn am adref am 6 o’r gloch a gadael i’r lleill ddilyn yn y trydydd ‘car’, ond nid felly bu. Oherwydd yr oedi, roedd y glaw trwm wedi cyrraedd cyn iddyn nhw adael Cwm Bychan hyd yn oed, ac felly y bu hi yr holl ffordd i Lanbedr ac ymlaen i’r Bermo. Mellt a tharannau a glaw mawr. Mae fy nhaid yn disgrifio’r ffordd gul o Gwm Bychan fel un hynod o beryglus i goetsys, gyda cheunentydd dwfn, a’r ceffylau wedi dychryn gan y mellt. Roedd ni’n naw o’r gloch y nos cyn iddyn nhw gyrraedd adref, a’r plant yn wlyb at eu crwyn fel petasen nhw wedi eu tynnu o’r afon. Trip Ysgol Sul hynod o gofiadwy, mi dybiwn! Roedd trafnidiaeth yn newid cryn dipyn yn y cyfnod yma, wrth gwrs - roedd ‘char-à-banc’ ar gael erbyn hyn er mai mewn brêcs efo ceffylau yr aeth y plant ar eu trip i Gwm Bychan. Ar ei feic yr âi fy nhaid fel arfer i bobman, a chlywn er enghraifft mewn llythyr ar 14 Tachwedd 1922 ei fod ef a fy nain wedi seiclo i Lanbedr ar y dydd Sadwrn blaenorol ac ar y ffordd adref wedi cael cip ar drên ‘special’ Lloyd George yn pasio drwy stesion Dyffryn - roedd hi’n digwydd bod yn wythnos etholiad cyffredinol 1922. Ond roedd dyddiau’r car modur wedi cyrraedd a chlywn yn yr un llythyr ei fod ar y dydd Llun wedi mynd yng nghar modur ei frawd yng nghyfraith, Humphrey Jones, Tal-y-bont i’r Cyfarfod Misol ym Maenofferen lle roedd yn cael ei godi yn flaenor. Roedd y ddau ohonynt a thri arall o’r capel wedi teithio yn yr Austin 7 ac wedi cael pynctiar ar y ffordd yn ôl! Mae’n debyg na fyddai llawer o geir modur yn yr ardal ar y pryd ac efallai bod y rhai hynaf yn eich plith yn cofio Humphrey Jones a oedd yn cadw’r Llythyrdy a’r siop yn Nhal-y-bont.

Margaret Wallis Tilsley [i’w barhau]

GEIRIADUR PRIFYSGOL CYMRU ‘Does unman yn debyg i gartref’, sef, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ‘Y man lle bo dyn a’i deulu yn arfer byw, trigfan, preswylfa’. Dros gyfnod y pandemig, yr ydym wedi treulio mwy o amser nag arfer yn ein cartrefi wrth geisio gwneud ein rhan i rwystro lledaeniad y firws. Fel arfer, ein cartref yw’r lle yr ydym yn dychwelyd iddo i ymlacio ar ôl diwrnod o waith, ond oherwydd y gwaharddiadau, mae ein cartrefi yn awr hefyd yn weithle, gyda nifer ohonom wedi creu swyddfa fach ar fwrdd y gegin, neu yng nghornel ystafell arall. Tipyn o newid byd, gyda’r llinellau rhwng gwaith a chartref wedi pylu. Serch hyn, ein cartrefi yw ein noddfa (lle sy’n rhoddi cysgod neu amddiffyniad). Efallai mai maenordy (tŷ arglwydd y faenor), plas, bwthyn, byngalo, hendy (hen dŷ neu blasty) fflat, neu hyd yn oed tŷ â tho o gawn neu wellt crin, sef crindy, yw eich trigias (trigfan, preswylfa). Ond gobeithio bod modd i chi fudo (symud tŷ) os mai briwdy (tŷ drylliedig), cwthwal (hofel), lluest (trigfan dros dro wedi ei chodi ar frys), magwyren (adfail) neu furddun (adeilad wedi mynd a’i ben iddo) yw eich edrydd (cartref). Mae pawb yn haeddu adlam (trigfan sefydlog), petai’n faesty (tŷ yn y wlad), neu ddinasty (tŷ yn y dref), ac os ydych am godi tŷ newydd, gwnewch yn siŵr nad yw’n hogl (adeilad chwithig ei gynllun) nag yn dŷ trafaelus (a llawer o waith cerdded ynddo), a bod iddo ddrws ffrynt pwrpasol, nid berddor (drws allanol isel). Bydd angen digon o le tan y gronglwyd (yn y tŷ) ar gyfer pawb sydd am gytya (cyd-fyw) ynddo - fyddai’n annifyr gorfod didyo (troi allan o dŷ) aelod o’r teulu! Os ydych am ddarganfod rhagor, cymerwch olwg yn y Geiriadur, neu yn y Geiriadur Ar Lein - ewch i: http:// geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html. Os gwyddoch am enwau diddorol eraill yn ymwneud â’r cartref, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Medrwch gysylltu â ni ar e-bost (gpc@geiriadur. ac.uk), neu drwy ysgrifennu atom: Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, SY23 3HH

11


Y BERMO A LLANABER Ymweliad brenhinol â’r ardal Gan fod y cofio am ymweliad y Dug Caeredin a’r Frenhines i Harlech wedi codi dipyn o atgofion, meddyliais am ddwy ymweliad brenhinol i Bermo a fyddai o ddiddordeb i’r darllenwyr. Nid wyf yn cofio y dyddiad, ond daeth Dug Caint i Bermo yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd yr RNLI. Yn y gerddi uwchben, croesawyd ef gan gadeirydd y Cyngor Sir, cadeirydd y Cyngor Dosbarth ac yn olaf Cadeirydd (a Maer) Tref y Bermo, Ruth Fisher. Ar ôl yr ysgwyd dwylo dyma’r Dug yn troi at yr unigolyn oedd yn ei dywys o gwmpas a gofyn, “Lle yn union y mae Bermo?”! Wedyn, aeth i lawr i’r prom i gyflawni pwrpas yr ymweliad sef cwrdd â chriw y Bad Achub. Yr ail ymweliad oedd yn 1979, pan ddaeth y Dywysoges Anne i Bermo. Yr oedd ysgrifennydd cangen Bermo o’r mudiad Achub y Plant, Val Vine, wedi dod adref o gyfarfod rhanbarthol a dweud fod y dywysoges yn ymweld â Chymru gyfan a’r unig gangen yn y gogledd gyda rhywbeth yn digwydd ar y diwrnod oedd Bermo. A fedrem ni wneud rhywbeth arbennig? Wel, wrth gwrs fe fedrem! Fe symudwyd safle ein hachlysur a gofyn i Lady Russon a fedrem ei gynnal yn ei gerddi a’i chartref deniadol hi. Wrth gwrs! Wedyn dyma’r aelodau yn gweithio i gael y siop elusen yn y dref yn barod i gael ei hagor yn swyddogol gan y Dywysoges.

Mair Jones efo’r Dywysoges Anne. Y tu ôl iddyn nhw mae’r ‘bodyguard’ yn dal yr ambarel

12

LLYFR NEWYDD

Y Daith Ydi Adra Dyma rai o brofiadau John Sam Jones, gynt o’r Bermo, sydd wedi ei ysgogi i ysgrifennu ei lyfr diweddaraf. “Yn y misoedd ar ôl imi gael fy nhywys oddi wrth hunanladdiad, treuliais lawer o amser gyda Huw a Mair Wynne Griffith [Gweinidog Capel Seilo a’i briod] yn Aberystwyth. Eu cariad a’r modd yr oeddynt yn derbyn yn ddiamod yr hyn oedd yn wahanol amdanaf oedd yr angor a ddaliai’n gadarn ar adeg pan mai’r unig beth y medrwn obeithio amdano oedd gallu dal ati trwy’r ychydig oriau nesaf. Ac felly llwyddais i ‘ddal ati’ am ddyddiau, a’r dyddiau yn troi’n wythnosau, a’r wythnosau’n fisoedd. Weithiau byddai Huw yn cynnig Ar y diwrnod, daeth y Dywysoges mewn hofrennydd a glanio ar y prom, a dyma’r heddlu yn cymryd drosodd, a mynd a hi i’r siop lle’r oedd llywydd y gangen, Parch R W Jones, Val Vine, a dwy o ferched y siop Miss Beryl Morris a Mrs W Owen yn ei disgwyl. Ymlaen gyda’r heddlu i erddi Glan y Mawddach lle’r oedd aelodau o ganghennau eraill o Achub y Plant wedi ymuno â rhai Bermo a Lady Russon. Diolch i’r drefn, yr oedd yn bnawn braf, ond am ychydig bach o law, a chefais y fraint, fel cadeirydd y gangen, o dywys y Dywysoges o gwmpas y stondinau a’r aelodau

llyfr yr oedd wedi ei ddarllen imi – Is the homosexual my neighbour?” gan Mollenkot”t a Scanzoni a “Time for consent” gan Norman Pittenger. Byddai Mair yn aberthu dyddiau ar eu hyd i wneud dim mwy nag eistedd efo fi. ‘Y daith ydi adra,’ fyddai hi’n ei ddweud, ‘ac weithiau, pan mae pethau’n anghyfforddus neu pan ’dan ni yn teimlo ar goll, mae angen cwmni ar y daith honno.’ Roedd hi’n hoff o chwarae casét o ganu yr oedd un o’r merched wedi dod ag o adref o Taize … canu o symlrwydd cynhwysol. Roeddwn yn arbennig o hoff o ‘Ubi caritas, et amor, Deus ibi est’ – ‘Lle bo graslonrwydd a chariad, yno y mae Duw’, a chredaf fod llafarganu y Brodyr o Taizé nid yn unig wedi tawelu fy meddwl cythryblus ond hefyd wedi gwneud fy synhwyrau yn agored i fyfyrdod a gweddi. (tudalen 108).” Yn ôl un adolygydd ... “Dyma hunangofiant gonest – ar adegau, hyd yn oed yn boenus o onest – am fywyd a phrofiadau bachgen oedd yn ymwybodol yn ifanc iawn ei fod yn hoyw. Yn y gyfrol fe gawn hanes ei frwydr ag ef ei hun, ei ysgol a’i gymuned, ei eglwys ac â’i Dduw. Mae’n fwy na’r hunangofiant cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Mae’n bererindod ysbrydol gyfoes.” (PLlJ) Enw’r llyfr ydy ‘Y Daith Ydy Adra’ (Stori Gŵr ar y Ffin) ac mae ar gael yn eich siopau llyfrau Cymraeg lleol. eraill, cyn iddi gael mynd i’r tŷ am de a seibiant cyn i’r heddlu fynd â hi yn ôl i’r awyren-hofran. Aeth ymlaen i dde Cymru, lle yr oedd aelodau o Gaerdydd ac Abertawe wedi ymuno i gynnal cyngerdd plant. Yr wyf yn awr yn byw yn yr Amwythig – i lawr y ffordd o gyngartref Charles Darwin, unigolyn arall sydd wedi ymweld â’r Bermo. Bu yn ymweld â’i ffrind John Ruskin ar ochr Dinas Olau uwchben y dref. A dyma ni, a Bermo’n dal i ddenu ymwelwyr. Cofion cynnes atoch i gyd, Mair Jones


RHAGOR O’R BERMO A LLANABER Llwyddiant Llongyfarchiadau i aelodau tîm Ymatebwyr Cyntaf y Bermo ar ennill Gwobr y Frenhines am eu gwaith gwirfoddol yn y gymuned. Yn ystod y pandemig bu’n gyfnod gwahanol a phrysur wrth iddynt ddosbarthu meddyginiaeth i gleifion yn yr ardal; gwasanaeth yr oedd pawb yn ei werthfawrogi. Braf oedd clywed Damian Williams yn sgwrsio ar ran yr ymatebwyr ar raglen radio ‘Geraint Lloyd’ ym mis Mehefin. Merched y Wawr Ar brynhawn braf iawn ym mis Mehefin, cyfarfu un-ar-ddeg aelod ar yr Harbwr yn y Bermo. Roedd pawb yn awyddus i gael paned a chacen. Cafwyd pnawn hamddenol gyda golygfeydd bendigedig o’r bont a’r mynydd. Dymuniadau da i bawb dros fisoedd yr haf ac edrychwn ymlaen at gyfarfod gyda’n gilydd ym mis Medi.

SGWÂR GEIRIAU 12 12

5

22

25

19

17

11

3

17

18

17 12

19

A

Gosodwr: Phil Mostert

10

18

9

13

6

14 3

23

13

11

18

10

10

18

17

22

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll MR N O P Ph 6Rh S T 11 18 12 9 11

22

3

19

13

18

27 27

7

20

24

2

13 8

20 17

20

11

12

11 17

21

10

10

24

20 22

12

26

12

O 6

20

12

11

12

1

27

13

5 7

18

11

22

17

12

22

21

19

20

17

25

18

12

11

24

20 17

1

24

11

11

18

17

10

18

11

18

15

18

21

13

17

15

17

3

3

22

20

4

21

18

5

20

22

6 20

12

18

16

9

13

21 19

20

18

12

11

19

17

18

10

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y 1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

22

23

24

25

26

27

28

A

O

R

PH

ATEBION SGWÂR GEIRIAU 11

RHAGOR O’R PARTI YN Y PARC

Llongyfarchiadau i Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Mai Jones, Llandecwyn; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Janet Mostert, Harlech; Rhian Mair Jones, Geraint Williams [Benji] Nia ac Osian yn astudio’r dylluan Betws yn Rhos; Dotwen Jones, Cilgwri Wirral. yn arddangos tylluan yng nghwmni Margaret Williams, Anfonwch eich atebion at Phil Mostert. [Manylion ar yn y Parti yn y Parc yn Llandecwyn. dudalen 2].

Harlech.

13

R


Ewias ac Ardudwy

Byddai Bob Roberts, Tai’r Felin yn cael hwyl anfarwol ar ganu’r gân “Pan oedd Bess yn teyrnasu”. Byrdwn y gân oedd fod oes yr hen Frenhines yn oes aur a’r byd wedi mynd i lawr yr allt yn sylweddol oddi ar hynny. Wn i ddim a fyddai haneswyr heddiw yn cytuno ond roedd yr hen Bess yn ddigon poblogaidd yng Nghymru yn ei dydd. Hi oedd yr olaf o’r Tuduriaid – teulu â’i wreiddiau yng Nghymru, yn Sir Fôn neno’r Tad – ac yn hyddysg mewn saith o ieithoedd sef Saesneg, Lladin, Ffrangeg, Groeg, Sbaeneg, Eidaleg a Chymraeg. Os gwn i pryd y ceir ysgolhaig tebyg iddi ar yr orsedd nesaf? Roedd Elisabeth wedi peri i’r Llyfr Gweddi Gyffredin a’r Beibl gael eu trosi i’r Gymraeg er lles yr addoliad yn yr eglwysi. Ac erbyn yr 1590au, roedd beirdd ac ysgolheigion ar waith yn mydryddu’r Salmau er mwyn iddyn nhw fod ar gael i’w canu’n hawdd gan y bobol. Un o’r beirdd a fu wrthi oedd James Rhys Evans neu Eos Ewias (tua 1570 – 1625). Dyma fardd a oedd hefyd yn uchelwr ac yn byw yn Llanfihangel Esgle yn Swydd Henffordd. Sut, meddwch chi, oedd un o’r byddigions yn Lloegr yn ddigon hyddysg yn y Gymraeg i wneud gwaith fel hyn? Wel, yn yr 16eg ganrif, ac am ganrif neu ddwy wedyn, roedd rhannau helaeth o’r wlad yng ngorllewin Swydd Henffordd yn Gymraeg eu hiaith. Dyna pam fod y Senedd wedi deddfu fod yn rhaid i esgobion Cymru ac hefyd Esgob Henffordd ddarparu’r Llyfr Gweddi a’r Ysgrythurau yn Gymraeg. Cofiaf flynyddoedd yn

14

ôl fynd i hen eglwys St Margaret uwchben y Dyffryn Aur yn Swydd Henffordd rai milltiroedd o’r ffin â Chymru a gweld yno nid yn unig y Deg Gorchymyn ar fyrddau yn Gymraeg ond hefyd glamp o rybudd ar rhyw fath o ystyllen hynafol gyda’r geiriau brawychus ‘Karka dy ddiwedd’ yn ysgrifenedig arno. Nid fy mod yn gwneud yn rhy ddeddfol cofiwch. Deallaf fod salmau cân Eos Ewias i’w gweld mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol ond rhaid i mi gyfaddef na fûm yno eto i’w gweld. Deallaf eu bod ar fesurau’r hen garolau a bod Eos Ewias wedi eu dangos i’r Esgob William Morgan gyda golwg i’w hargraffu ar gyfer defnydd yn yr eglwysi. Doedd William Morgan ddim yn fodlon arnynt yn ôl y sôn am eu bod yn rhy werinol ac yn brin o’r urddas a ddymunai ef weld yn y gwasanaethau. Felly ni chafodd y penillion yma weld golau dydd. Roedd mab Eos Ewias, sef George Parry (tua 1613 – 1678) â diddordeb yng ngwaith ei dad ac aeth yntau hefyd i fydryddu’r Salmau ond ar amrywiaeth o fesurau caeth a rhydd ac mae’r gwaith hwnnw yn y Llyfrgell Genedlaethol hefyd. Yn ôl traddodiad, dangosodd yr Esgob William Morgan waith Eos Ewias i Edmwnd Prys a hyn a ysbrydolodd yr Archddiacon i osod yr holl Salmau yn benillion – gwaith enfawr. Roedd y cwbl wedi ei orffen erbyn 1621 ac roedd yna ddeuddeg o donau wedi eu hargraffu hefo nhw a’r cyfan fel atodiad i’r Llyfr Gweddi. Dyna i chi gamp! Ac mae’r cyfan yn darllen ac yn canu yn rhwydd heddiw ac wedi bod o fendith i’r Cymru dros y canrifoedd. Dyma i chi un enghraifft fach o ddawn fawr Edmwnd Prys. Trowch i’r nawfed Salm. Mae adnod 10 yn adrodd fel hyn: ‘A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist,

Tyddyn Du

Llun: Mai Jones

Eglwys Maentwrog

Llun: Mai Jones

O Arglwydd, y rhai a’th geisient.’ Mae Edmwnd Prys yn troi’r adnod yn bennill ac yn canu fel hyn: ‘A phawb a’th edwyn, rhônt eu cred, A’u holl ymddiried arnat; Canst ni adewaist, Arglwydd, neb A droes ei wyneb atat.’ Sylwch fel mae Edmwnd Prys wedi costrelu’r adnod i gyd i’r pennill syml. Nid yn unig mae’r ail a’r bedwaredd linell yn odli (arnat/atat) ond hefyd mae yna odl gyrch ddwywaith (cred/ ymddiried a neb/wyneb) heb ronyn o ôl straen. Os cenwch y pennill ar y dôn Mary (Caneuon Ffydd 480) cewch weld mor effeithiol yw’r cyfan. A bu’r Salmau Cân yn gyfryngau mawl am gyfnod hir iawn. Pan ddaeth Llyfr Emynau’r Methodistiaid a’r Wesleaid allan ym 1927, roedd cynifer â 42 o emynau Edmwnd Prys ynddo. Roedd yna 13 yn Llawlyfr Moliant Newydd y Bedyddwyr ym 1956 ond ni welodd yr Annibynwyr yn dda i roi mwy na chwech yn y Caniedydd ym 1961. A beth am y Caneuon Ffydd? DAU. Ie, dau yn unig o rai o brif drysorau’r genedl. Fel dywedodd Emlyn Evans yn ei gyfrol ‘Rhwng Cyfnos a Gwawr’, ‘A ellid dychmygu’r Saeson yn delio’n gyffelyb ag Isaac Watts neu Charles Wesley?’ Ie, gwn yn iawn am y dadleuon. Gwn nad blodeugerdd ydi Caneuon Ffydd i fod. Gwn fod gennym lyfr swmpus fel y mae hi heb ychwanegu ato. Ond, bobol bach, mae yna ambell i rigwm go dila na fydd neb eisiau ei ganu byth yn swatio yn y llyfr ac y gallasai fod wedi ildio ei le i un neu ddau o’r trysorau a gollwyd. JBW


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

ALUN WILLIAMS

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

GALLWCH HYSBYSEBU * Cartrefi YN Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol Archwilio a Phrofi AM £6 Y MIS

07776 181959

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech

Llais Ardudwy

TRYDANWR

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

JASON CLARKE

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. 01766 770504

Llanuwchllyn 01678 540278

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Glanhäwr Simdde

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT

Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Am argraffu diguro

Gosod, Cynnal aaChadw Stôf Stôf Gosod, Cynnal Chadw Stove Installation & Maintenance 07713703 703222 07713 222

H Williams

Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com

Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com

01970 832 304

Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128

Am hysbysebu yn Llais Ardudwy? Manylion gan: Ann Lewis Min-y-môr Llandanwg, Harlech LL46 2SD 01341 241297

15


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Chwefror. Roedd Maureen bob amser yn barod i helpu yn y Gangen, a hynny gyda gwên. Byddwn yn gweld ei cholli yn ein plith. Anfonwyd cofion at Gwenda Paul sy’ heb fod yn dda iawn ei hiechyd yn ddiweddar; mae Gwenda yn dymuno ymddiswyddo fel Is-lywydd, ond yn bwriadu parhau i ymuno â ni fel aelod o ail gangen. Cytunodd Eluned Williams i ymgymryd â swydd yr Is-lywydd dros dro. Cafodd pawb y cyfle i archebu cardiau Nadolig a dyddiaduron 2022. Roedd ein cangen wedi ennill yr Merched y Wawr ail wobr yn Rhanbarth Meirionnydd am lwyddo i gael Er mwyn cael cyfle i gyfarfod fel aelodau, trefnwyd i Gangen cynnydd aelodaeth yn 2020-21 a dangoswyd y dystysgrif Talsarnau fynd allan am ginio canol dydd yn y Bryn Arms, a’r ‘rosette’ glas tywyll i’r aelodau. Gellilydan. Cawsom ddiwrnod arbennig o braf, mewn Gan obeithio y byddwn yn gallu ail-gychwyn cynnal mangre delfrydol. Roedd gorchudd uwch ein pennau, ond cyfarfodydd yn ystod yr Hydref, y mater olaf i’w drafod y babell yn agored a’r byrddau picnic wedi’u gosod y pellter oedd syniadau ar gyfer rhaglen 2021-22 a chafwyd nifer priodol oddi wrth ei gilydd. Braf oedd gweld deg aelod o awgrymiadau, gan obeithio dechau gydag ymweliad â wedi ymgynnull wrth dri bwrdd. Roedd pum aelod wedi Gwinllan Pant Du ym mis Medi. ymddiheuro. Cafwyd pryd o fwyd blasus, gyda digon ohono - a Croesawodd Siriol, ein Llywydd, bawb i’r achlysur gan buan iawn aeth yr amser heibio wrth i bawb fwynhau’r ddiolch iddynt am ddod. Dechreuodd drwy sôn am cymdeithasu a’r sgwrsio, cyn troi am adref ddiwedd y ein colled fel Cangen ym marwolaeth Maureen ym mis prynhawn. Pwyllgor Rheoli Neuadd Gymuned Talsarnau Rydym yn bwriadu gwneud gwaith adfer/adnewyddu eithaf eang, mor fuan â phosib, ar un wyneb prif ystafell y neuadd lle mae’r ffenestri mawr, ac yn chwilio am adeiladwyr fyddai â diddordeb mewn cynnig pris i ni. I dderbyn cynllun manyldeb cysylltwch â’r ysgrifennydd, Mai Jones 01766 770757, gmaij@yahoo.co.uk Ymddeol Dymuniadau gorau i Alun Rhys (Jones) ar ei ymddeoliad o’r BBC. Bu’n ohebydd newyddion i radio a theledu ers yr wythdegau ar ôl iddo roi’r gorau i fyd addysg. Mae’n byw yn Llanbedrog, yn golffiwr brwd ac yn is-gapten Clwb Abersoch eleni. Mae Alun yn fab i Glenys Jones, Maes Trefor, Talsarnau. Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00 bob nos Sul Rhowch wybod i ni am eich bwriad fel

bod sedd gadw i chi. Ffoniwch 01766 770953 neu e-bostiwch.

Rhodd £15 Clwb Pysgota Artro a Thalsarnau

Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com

*MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau

*COED TÂN MEDDAL

WEDI EU SYCHU Bagiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael

*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU

*SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan 16


YSGOL TALSARNAU

Llyn Dinas

Nia Morgan

Rygbi Tre’r Ceiri

Ysgol Gynradd Talsarnau Croesawyd Mrs Nia Morgan i’r ysgol yn wythnosol yn ystod hanner tymor olaf y flwyddyn i weithio gyda phlant dosbarth Miss Chambers a Mr Owens gan ganolbwyntio ar elfennau cerddoriaeth oedd yn cynnwys gwaith rhythm trwy glapio a chwarae offerynnau taro yn ogystal â mwynhau canu caneuon gwersyll. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei gwaith ac am roi gymaint o fwynhad i’r plant ar ddiwedd blwyddyn anodd. Cafodd plant yr Adran Iau gyfleoedd arbennig yn ddiweddar i grwydro hyd a lled Eryri. Aeth disgyblion Blwyddyn 6 ar daith i ben Yr Wyddfa. Yn anffodus oherwydd y glaw a’r gwynt ni lwyddwyd i gyrraedd y copa. Wedi dweud hynny cafodd pawb fyrdd o hwyl yn cyd gerdded hyd at gledrau trên bach yr Wyddfa ar lwybr Cwellyn. Taith o gwmpas Nantmor a Beddgelert gafodd disgyblion B5, ac yn wahanol i blant B6 cawsant dywydd bendigedig a chyfle arbennig i fwynhau golygfeydd godidog o aber yr afon Glaslyn a chael cinio wrth Lyn Dinas. Mae gan B3 a B4 hefyd deithiau cerdded ar y gweill; mi fyddan nhw’n ymweld ag ardal Rhyd-ddu. Fel rhan o themâu dosbarth Mr Owens trefnwyd taith i gopa Tre’r Ceiri hefo cwmni Anelu. Roedd hwn yn gyfle arbennig i’r plant gael gweld olion Oes yr Haearn gan fod Tre’r Ceiri yn cael ei chydnabod fel y fryngaer orau yng Ngwledydd Prydain. Roedd y daith yma yn benllanw i weithgareddau’r tymor. Yn anffodus eleni oherwydd Covid-19 ni chynhaliwyd cystadleuaeth Gwpan Goffa Gwynfor John ond fe gafodd y plant gyfleoedd yn yr ysgol i dderbyn hyfforddiant gan aelodau clwb rygbi Harlech. Unwaith eto roedd hwn yn gyfle gwych i wella sgiliau rygbi plant a gwella eu ffitrwydd.

Yr Wyddfa

R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

17


HARLECH Genedigaeth Llongyfarchiadau calonnog i Maggie a John Gilbody (Worcester Park, Surrey), merch y ddiweddar Ken a Blod Jones, 23 Y Waun, ar ddod yn nain a taid am y tro cyntaf. Ganwyd Cooper John Gilbody i fab Maggie, sef Sam a’i bartner Danielle ar y 5ed o Fehefin yn 6 phwys 9 owns yn Epsom. Llongyfarchiadau cynnes i’r teulu bach newydd. Gwellhad buan Anfonwn ein cofion a gwellhad buan i sawl un yn ardal sydd wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar Sally John, 30 Tŷ Canol, Steve O’Neill Cae Gwastad a hefyd Mrs Nicola Hughes a Mr Trefor Davies, hefyd yng Nghae Gwastad. Gobeithio eich bod chi i gyd yn gwella erbyn hyn. Croeso’n ôl i’r ardal Croeso mawr yn ôl i Harlech i Mr a Mrs Dylan Howie a’r teulu bach sydd wedi symyd i fyw i 54, Cae Gwastad. Mor braf ydi gweld ein pobl ifanc yn dod yn ôl i’r ardal. Mae gan Dylan ei gwmni ei hun, sef Timber Frame Construction, ac mae Vicky ei wraig yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd fel Therapydd Galwedigaethol. Dan anhwylder Anfonwn ein cofion at fab Mrs Glennys Griffiths, 44 Y Waun, sef Ion, sydd wedi cael triniaeth mewn ysbyty yn Llundain yn ddiweddar. Deallwn hefyd bod wyres fach Ion hefyd yn cael triniaeth ar hyn o bryd. Anfonwn ein dymuniadau gorau iddyn nhw am wellhad buan. Genedigaeth Llongyfarchiadau cynnes i Nick a Laura Standring ar enedigaeth eu mab Arwyn William, yn 7pwys 9owns ar Mehefin 19. Mae Nick yn ŵyr i’r ddiweddar Arwyn a Brenda Jones (Min y Don). Llongyfarchiadau hefyd i Delyth a Dougie Standring, Cae Gwastad ar ddod yn nain a taid am y tro cyntaf, heb anghofio hen nain Maureen Standring. Dymuniadau gorau i’r teulu bach newydd yn Henffordd. Graddio Llongyfarchiadau gwresog i Mathew Standring, mab Delyth a Dougie ar ennill gradd 2.1 mewn Busnes a Marchnata o Brifysgol John Moores, Lerpwl.

18

Cyfarfod blynyddol y Neuadd Goffa Cydymdeimlwyd â Jill Houliston yn ei phrofedigaeth ddiweddar. Roedd 13 yn bresennol yn y cyfarfod. Mae gwaith wedi ei wneud i wella’r cyfleusterau yn y gegin a thu ôl i’r llwyfan â’r llawr wedi ei lanhau a’i adnewyddu. Diolch i Sheila a Jim Maxwell am sicrhau grant gan WCVA, i Linda (ysg) am ei gwaith i sicrhau grantiau gan Gyngor Gwynedd ac am drefnu i’r holl waith gael ei wneud. Mae ein diolch hefyd i Jim Lees am ei waith tacluso. Mae ychydig o waith i’w wneud y tu allan eto. Adroddwyd bod y sefyllfa ariannol yn eithaf iach ar hyn o bryd. Diolch hefyd i Laurence (Cadeirydd), Denise a Sue(Cyd-drysoryddion) am eu gwaith clodwiw. Llun o staff cantîn Tanycastell Dwi’n anfon ynglŷn â’r llun a ddangoswyd o dan Harlech yn rhifyn mis Mai o staff cantin Ysgol Tanycastell, wedi dod i weld y Frenhines yn 1949. Cefais air efo Nia Medi ac roeddem o’r un farn fod y dyddiad yn anghywir. Dwi’n credu mai Jiwbili y Frenhines oedd yr achlysur hwn yn 1977. Dwi yn cofio ni fel plant yn cael mynd yno hefyd a dwi’n cofio Mam (y diweddar Dilys Hughes, Llanfair gynt) yn y ffrog yna, un wen a blodau glas arni. Tasa hynna yn 1949 mi fuasa wedi gneud Mam yn 22, achos mai yn 1927 cafodd Mam ei geni, ac nid oedd yn edrych fel’na yr adeg hynny, a gan fy mod i yn cofio y ffrog yna, a finnau wedi fy ngeni yn 1962, mae rhywbeth o’i le yn y dyddiadau. Dwi’n gweld bod Gwyn Cable wedi anfon llythyr hefyd. Meddwl y baswn i’n gadael i chi wybod yn y Llais. Sharon Dodd (merch y diweddar Dilys a Tomi Hughes) Nodyn gan y golygydd: Llawer o ddiolch i Sharon am gysylltu gyda’r sylw uchod. Colli Arwyn Bu farw John Arwyn Owen, 99 Cefn y Gader, Morfa Bychan [Nantmor gynt] yn 78 oed, yn Ysbyty Gwynedd ar 16 Fehefin ar ôl cyfnod o salwch. Cydymdeimlwn â Lilian ei wraig, y mab Julian a’i wraig Helen a’r ŵyr James. Roedd y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ar Mehefin 28 yng ngofal Bethan Johnstone.

TEYRNGED

John Arwyn Owen Ganwyd Arwyn yng Nghamfalleiniau, Gellilydan. Wedi iddo ddod i fyw i Harlech y gwnes i ei gyfarfod gyntaf. Roeddem yn cyd-chwarae mewn timau dartiau yn nhafarn y Llew, Harlech ac yn nhîm y Pirates yn y Ship, Talsarnau. Roedden ni’n cael andros o hwyl bryd hynny ac roedd ’na ganu mawr bob amser wedi inni orffen chwarae. Cofiaf wynebau Arwyn a Ken Miners yn biws wrth iddyn nhw wynebu ei gilydd yn canu. Ymddiddorai hefyd mewn chwaraeon eraill megis pêl-droed, lle roedd o’n helpu i hyfforddi’r plant efo Iolo Owen a Bob Major. Roedd hefyd wrth ei fodd yn chwarae golff gydag Edwin Morlais, DI a fi a nifer o gyfeillion eraill. Roedd y canu yn bwysig yn y fan honno hefyd. Bu’n gweithio yn Atomfa Traws rhwng 1965 a 1986 pan aeth i weithio i Heysham a symud i Morecambe am gyfnod. Daeth Lilian ac yntau yn ôl i fod yn stiwardiaid yn y Clwb Golff cyn iddo fynd yn ei ôl i Traws ac ymddeol yn 1998. Symudodd y teulu i Forfa Bychan a dyna gychwyn pennod newydd arall yn eu hanes. Gweithiodd Arwyn yn galed gyda’r ieuenctid yng Nghlwb Golff Porthmadog ac roedd yn gapten y Clwb yn 2011. Bu’n canu gyda Côr y Brythoniaid am 20 mlynedd lle roedd yn aelod poblogaidd ac yn Gadeirydd yn ei dro. Roedd yn berffeithydd ym mhob dim a wnai ac yn driw iawn i’w deulu a’i gyfeillion. Pan ddaeth ei ddiddordeb mewn seiclo roedd rhaid iddo gael yr offer gorau. Eto, yn y maes hwn, roedd yn meddwl am eraill wrth sefydlu clwb yr ‘Harlech Wheelers’. Rydw i wedi colli ffrind da, ffyddlon a charedig. Un gwerth ei nabod. Hen foi nobl, hen foi iawn. Dafi Owen Dymuna Lilian, Julian, Helen a James ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad. Bu llawer iawn o bobl yn garedig dros y cyfnod anodd hwn. Gwerthfawrogwyd hyn yn fawr. Rhodd a diolch £25


CYMHARU DAU GARNIFAL 1949 A 1980

Brenhines Harlech 1980

Brenhines Harlech 1949 Esgynnodd y Frenhines Bronwena, sef Miss Bronwena Jones, Min y Don, Harlech, i’w gorsedd, ddydd Llun Gŵyl y Banc, i deyrnasu am y flwyddyn nesaf. Coronwyd hi gan y Frenhines Joyce, a’i rhagflaenodd yn frenhines y flwyddyn ddiwethaf. Aelodau llys y frenhines newydd oedd: Margaret Evans, Jean Williams, Jennie Richards, Helen M Jones, Dilys Hughes, Mair Lloyd, Enerys Evans, Caerwen Jones, Menna Jones, Catherine Spoonley, Iola Jones, Eileen Perrin, Bethan Jones ac Emsyl Williams. Y Gosgorddlu Y rhai a wasanaethai ar y frenhines oedd dwy flodeuferch (Carol A Lewis), a Margaret Ellis); Herald (Geraint Thomas ac Arwyn Evans); Ystlyswyr (Kenrick Evans, Richard Owen, Jim Jones a Gwyn Williams), Cludwyr y Goron (Gwyn Jones) a’i gynorthwyydd Cyril Johnson, Cynrychiolid Cymru gan Eifiona Williams a Britannia gan Amy McCormick. Cyngerdd Cafwyd cyngerdd anrhydedd i’r frenhines newydd dan lywyddiaeth Mr I D Harry, Coleg Harlech, a Dr R M Williams yn arwain. Gwasanaethwyd gan aelodau’r llys, yn gôr dan arweiniad Mr Owen Morris Jones, a nifer eraill yn cynorthwyo. Cyfeiliwyd gan Mrs Megan Thomas, Miss Eluned Roberts, a Mr Gethin Pugh. Yr ysgrifennydd oedd Mr Ralph Lloyd, Gwesty St David, a diolchwyd iddo ef ac aelodau’r pwyllgor a fu’n trefnu’r carnifal gan Mr H E Bailey, ar ran clwb y bêl-droed.

Carnifal Harlech, 1980 Noson coroni’r frenhines yn y Neuadd Goffa. Faint allwch chi eu henwi? Rhodd £10 Mrs Bethan Johnstone

CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Cynllun Cyllideb Adroddwyd bod £17,105.13 wedi ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £11,965.82 o wariant yn llai nag oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Tir Pen y Graig Derbyniwyd ateb gan Cath Hicks o Addysg Oedolion Cymru ynglŷn â’r tir uchod yn datgan y byddai cyfrifoldebau’r Cyngor Cymuned yn aros yr un fath ac fel maen nhw ar hyn o bryd o dan y brydles 7 mlynedd (cynnal a chadw, yswiriant, cadw mynediad agored i’r tir er mwyn y cyhoedd), ond byddai hyn yn dod yn barhaol oherwydd byddai’r tir dan berchnogaeth y Cyngor Cymuned. Hefyd yn datgan, os yw’r Cyngor o’r farn

bod angen asesiad risg o’r safle, eu bod yn cynnig bod hyn yn cael ei roi ar waith fel rhan o’r gweithrediadau cyfreithiol sydd yn ffurfio rhan o’r dogfennau trosglwyddo. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i fwrw ymlaen â’r cynnig hwn a gofyn iddynt lunio’r papurau cyfreithiol, hefyd datgan ei bod yn dibynnu ar y gost gyfreithiol a oedd y Cyngor yn mynd i dalu’r costau i gyd. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad unllawr yn y cefn - Nantmor, 33 Tŷ Canol, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol Derbyn dogfen ynglŷn ag Ymgynghoriad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GDMC): Rheoli Cŵn oddi

wrth yr adran uchod yn datgan bod Cyngor Gwynedd yn rhoi ymgynghoriad statudol ar waith er mwyn ystyried a ddylid cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar gyfer rheoli cŵn; yn datgan hefyd bod unrhyw un yn gallu cynnig sylwadau ar y Gorchymyn arfaethedig drwy lenwi’r holiadur ar lein; dyma’r cyswllt i’r fersiwn ar y we sydd yn cynnwys yr holiadur www.gwynedd.llyw.cymru/ ymgynghoriadrheolicwn. Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Cafwyd gwybod bod e-bost ynglŷn â goryrru ar Ffordd y Morfa wedi ei gyfeirio at Iwan ap Trefor ac nad oedd ymateb wedi ei dderbyn oddi wrtho eto, a chytunwyd bod y Clerc yn cysylltu ag ef.

19


GWAITH CREFFTUS MEIRA PIERCE

Meira Pierce

Pan ddaeth fy ngwaith yn y Maes Awyr yn Llanbedr i ben es i ddilyn cwrs 5 mlynedd ‘City and Guilds’ ar Gilgwri (y Wirral) ar gyrion Lerpwl. Wedi llwyddo i basio’r ddau ran mewn ‘Brodwaith Creadigol’ ymunais â phum crefftwr arall i greu arddangosfeydd o’n gwaith yn ardal Lerpwl. Parhaodd y berthynas hon am ddeng mlynedd. Bu gennyf ddiddordeb byw mewn crefftau o bob math ers pan oeddwn yn ifanc iawn a chefais agoriad llygad go iawn wrth ymaelodi ag Urdd Gwehyddwyr, Nyddwyr a Lliwyddion Meirionnydd yn yr 80au cynnar. Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ymunais ag Urdd y Brodweithwyr. Rhoddodd y cysylltiadau hyn y cyfle i mi weithio i gynllunydd a chynhyrchydd ffrogiau priodas sidan wrth eu haddurno â phwythau, perlau a gleiniau. Bum yn gwneud y gwaith hyn am dros ugain mlynedd.

20

Eto, trwy gysylltiadau ag aelodau y grwpiau hyn bûm yn ddigon ffodus i gael hyfforddiant yn y grefft o wneud ‘bobbin lace’. Rwy’n dal i fwynhau’r grefft hon hyd heddiw yn ogystal â nyddu, gwehyddu, gwaith ffelt, cwiltio a gwau. Bu’r rhain o fantais fawr i mi yn ystod y cyfnod clo.


GARDDIO YNG NGHAPEL FAWNOG Mi gawson ni wanwyn o dywydd amrywiol ac roedd yn hwyr yn cynhesu eto eleni. Mae hon yn hen stori o fethu aros i fynd i mewn i gynhesrwydd y tŷ gwydr i dwtio a glanhau waliau a’r to hefo dillad glaw rhag gwlychu. Mae’r dynion yn gosod sgaffold i greu silffoedd. Mae angen gofal mawr hefo hyn! Mynd i gwt yn yr ardd i nôl y plannwyr a’r potiau a’u golchi yn y gasgen dal dŵr glaw y tu allan yn yr oerfel. Mi fydd y compost yma yn barod ac yn demtasiwn i ddechrau arni ym mis Mawrth ac erbyn diwedd mis Ebrill roedd y lle yn llawn ac roedd yn rhy oer i symud pethau allan. Dyma’r rheswm fod pethau wedi eu plannu mewn potiau - y ffa, y pys a’r corbwmpen [courgette]. Erbyn hyn, a’r tywydd wedi cynhesu, mae gwaith dyfrio ar y potiau ac angen gwrtaith i gael cnwd i gael bwyd blasus ar y bwrdd. Eleni, a’r canolfannau garddio ar gau, doedd dim cyfle i brynu’r llysiau arferol fel y tatws cynnar ‘Rocket’, ond roedd modd cael rhai ar y we – ‘Casablanca’. Cawn weld beth ddaw o’r rheini. ‘Moneymaker’ oedd ffefryn Dad hefo hadau tomato. Roedden nhw’n blanhigion cryfion a ffrwythau mawr blasus arnynt; mae gen i hiraeth ar eu hôl. Mae abwydfa (wormery) gen i ers blynyddoedd a thap i wagio’r hylif. Mae’r pryfaid genwair yn eu cynhyrchu wrth dreulio crafion llysiau ac ati o’r gegin. Gyda llaw abwydyn a llyngyren ydi enwau eraill lleol ar y rhain. Newydd wagio’r abwydfa (gwaith blynyddol) a rhoi rhai o’r pryfed genwair yn ôl hefo gweddillion llysiau’r gegin i ailddechrau ar y gwaith. Mae hwn yn wrtaith hollol naturiol, wrth gwrs, ac yn cael ei ddefnyddio ar y llysiau. Cafodd fy mrawd wreiddyn gwelltyn hyfryd gan ffrind iddo, y diweddar Richie (mab John a Gladys Hughes, Maes Gwndwn) a dyna ei enw yma, sef gwair Richie (pearl grass) sy’n tyfu ym mhobman o boptu’r ffordd i lawr at y tŷ. Mae’n arbed i Noel dorri’r gwair ond yn cysgodi’r teiars a blannais i ar ochor y ffordd rhag dod i’w llawn ogoniant. Fy ngobaith y tro hwn yw cael llun o Noel hefo Hefin gan mai nhw sy’n gyfrifol am yr holl waith caled yn yr ardd heb sôn am sychu’r dillad a’u plygu mor ofalus i hwyluso’r smwddio. Diolch hefyd am gyfeillgarwch Noel hefo Henri sy’n hynod o effeithiol ond yn rhyfeddol o drwm yn enwedig i’w gario i fyny’r staer serth. Mae’r cyfrifiadur hefyd yn rhan o’r busnes yma ac, wrth lwc, mi alla’i ddygymod â hwn ond dydw i ddim yn arbenigwraig o bell ffordd. Ar y cyfan, mae gwaith tîm da yn y fenter yma, ond rhaid cofio am bwysigrwydd glanweithdra yn y tai ac mae gwaith caled i Mary a finna i’n cadw yn iach. Mae’n amser pryderus hefo’r pandemig yma fel cwmwl uwch ein pennau ond mae Capel Fawnog a’r gerddi mor hyfryd ag erioed. Gwenda Griffiths

21


Dathlu 50 mlynedd ers cael ei ordeinio

Daeth bywyd Tony a Stephanie yn llawer mwy prysur yn 1989 pan ddaeth Tony yn Ddeon Gwlad gan dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw blwyfi gwag yn y Ddeoniaeth. Ac yn 1991, i gydnabod ei waith fel Deon yr Ardal, gwahoddwyd Tony i fod yn aelod o Siapter y Gadeirlan yn ogystal â gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau Esgobaethol. Yn 1999, penodwyd Tony yn Ficer grŵp Harlech o eglwysi, gan wasanaethu Llanfair, Harlech a Llanfihangel-ytraethau am y 12 mlynedd nesaf. Roedd erthygl yn Llais Ardudwy ym 1978 yn croesawu Tony a’r Stephanie i’r ardal hon. Onid yw’n rhyfeddol sut mae’r blynyddoedd yn gwibio heibio. Diolch, Tony, am 43 mlynedd o waith caled!

Y Parchedig Tony Beacon Ar y 5ed o fis Mehefin eleni bu’r Parchedig Tony Beacon yn dathlu 50 mlynedd ers cael ei ordeinio yn Llandaf yn 1971. Saith mlynedd yn ddiweddarach, yn 1978, symudodd Tony, ei wraig Stephanie a’u dau blentyn bach i Dyffryn a chychwynnodd Tony ar ei waith fel Parchedig yn nwy eglwys Dyffryn a Thal-y-bont. Yn yr un flwyddyn ychwanegwyd Llanbedr a Llandanwg at ei gyfrifoldeb. Felly, dechreuodd 43 mlynedd o wasanaeth yn yr ardal hon.

Diolch i Stephanie Beacon am yr wybodaeth a’r lluniau o rifyn o ‘Bywyd Bro’ ar gyfer yr erthygl hon.

Ffair yr Haf 2005 Cyfarfu clwb ieuenctid y plwyf yn wythnosol yn Neuadd yr Eglwys yn ogystal â Brownies 1af Llanenddwyn. Ffurfiwyd côr eglwys yn Llanenddwyn a chafodd ei gysylltu â’r Royal School of Church Music.

Trefnwyr Angladdau

Tony a Stephanie, Katherine a Paul Roedd yn amser prysur iawn; er mewn codi arian i’r Plwyf cynhaliwyd garddwest bob blwyddyn yng ngardd y Rheithordy ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Daeth cannoedd o bobl leol i’r arddwest i fwynhau’r stondinau ac i gystadlu yn y gwahanol gystadlaethau, gan gynnwys dewis y ‘Miss Dyffryn’ a ‘Miss Rosebud’ blynyddol.

22

• Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig

Côr Llanenddwyn yng Nghaerdydd Llun: Pam Davies

Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk


DATHLU 50 MLYNEDD

Cylch Meithrin Talsarnau heddiw yn Dathlu Pen-blwydd 50 Mudiad Meithrin

Cylch Meithrin Talsarnau yn dathlu’r Nadolig flynyddoedd yn ôl. Pwy ydych chi’n ei adnabod?

Cylch Meithrin y Tonnau, Bermo

Cylch Meithrin y Bermo gyda’u harweinyddion yn 2005, Mair Williams - 31 o flynyddoedd a Rhona Lewis - 27 o flynyddoedd

Cylch Meithrin Harlech

Cylch Meithrin Harlech 2000. Yn y llun mae Anti Helen, Anti Kath, Anti Rhian, Anti Glenys a’r plant

Cylch Meithrin Llanbedr yn 1992

Cylch Meithrin Dyffryn Ardudwy yn y 70au

Cylch Meithrin Llanbedr yn mwynhau yn yr awyr agored. Mae ganddynt gartref newydd bellach yn y Neuadd Bentref newydd gyda’r ddwy arweinydd, Heulwen Evans a Helen Thomas yn parhau yn eu swyddi ers dros ugain mlynedd

Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy, yn eu cartref pwrpasol ar dir yr ysgol. Dechreuwyd y Cylch hwn cyn ffurfio MYM. Roedd yn dangos y galw am addysg feithrin Gymraeg a Chymreig

23


BLWYDDYN YR UCHEL SIRYF Cyfieithiad o erthygl a ymddangosodd gyntaf yng nghylchgrawn yr Uchel Siryfion, Rhifyn Haf 2020-21

Dymuniadau gorau a phob lwc! Mae’n ddiamau y bu blwyddyn yr Uchel Siryf 2020-21yn gwbl wahanol i’r mwyafrif ohonom. Gyda chyfyngiadau ar ein rhyddid, na phrofwyd erioed o’r blaen mewn cyfnod o heddwch, bu’n anodd cynnal proffil yr Uchel Siryf yn y ffordd arferol. Ni welwyd hyn yn fwy amlwg nag mewn sir wledig fel Gwynedd. Mae hi bron yn 100 milltir rhwng Caergybi ac Aberdyfi, sy’n codi problemau logistaidd, hyd yn oed heb orfod ymgodymu â llymder ychwanegol rheoliadau Covid-19. Yn yr un modd â llawer o bobl eraill, roedd methu mynd o gwmpas i gefnogi’r grwpiau a’r sefydliadau hynny yn y sir sydd fel arfer yn edrych at yr Uchel Siryf am gydnabyddiaeth, anogaeth a chymorth ymarferol yn brofiad siomedig a rhwystredig. Yn ôl ym mis Mawrth, dylai’r flwyddyn fod wedi cychwyn gyda Seremoni datgan ym Mhortmeirion. Roeddwn i’n edrych ymlaen at wneud fy natganiad ym mhresenoldeb tua 75 o ffrindiau ac urddasolion yn Neuadd Ercwlff ac yna cinio yng Ngwesty Portmeirion. Gyda dim ond tua wythnos i fynd, roedd yn siom aruthrol gorfod canslo popeth pan gyhoeddwyd y clo cyntaf. Bu raid imi wneud fy natganiad gerbron YH lleol yn llythrennol yn sefyll ar stepen fy nrws! Ond gydag optimistiaeth [gyfeiliornus, fel y digwyddodd] penderfynais ohirio’r seremoni ym Mhortmeirion tan ddiwedd mis Medi. Yn anffodus, bu’n rhaid canslo eilwaith hefyd. Fodd bynnag, er mwyn peidio â siomi nifer o ffrindiau a oedd wedi ymrwymo i deithio i Wynedd ar gyfer y digwyddiad, aethom ymlaen

â seremoni ddathlu yn fy ngardd, gan ddilyn y rheolau cadw pellter. Cawsom ein bendithio â diwrnod heulog gogoneddus ar ei chyfer. Am weddill y flwyddyn, bûm yn gyfyngedig iawn yn yr hyn yr wyf wedi gallu ei wneud. Bûm yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Crimebeat a PACT. Dim ond ar bedwar achlysur y cefais i gyfarfod ag unrhyw un yn bersonol neu wisgo gwisg llys y tu allan i gyfarfod rhithwir: eistedd gyda’r barnwr yn Llys y Goron Caernarfon, cyflwyno bathodynnau i ddau gadét heddlu yng ngogledd Cymru ar risiau Castell Caernarfon, gosod torch ar Sul y Cofio a ffilmio darn i gamera i lansio ymgyrch ddiogelwch rhyngrwyd Heddlu Gogledd Cymru. - cystadleuaeth poster ar gyfer ysgolion cynradd. Roedd gosod fy nhorch ar y gofeb ryfel yn Harlech, lle cefais fy magu, yn arbennig o ingol oherwydd mai yno mae fy hen ewythr Richard Williams, a laddwyd ar y Somme, yn cael ei goffáu. Roedd hefyd yn anrhydedd bod yn rhan o seremoni wobrwyo National Crimebeat 2020, yn anad dim oherwydd bod y cais buddugol ‘Rhannu Straeon’ - yn brosiect ar y cyd rhwng Gwynedd a Chlwyd a oedd yn llawn haeddu’r clod. Uchafbwyntiau fy mlwyddyn oedd cymryd rhan yn her cadetiaid heddlu Crimebeat - profiad pleserus oherwydd daeth y cais buddugol gan fy nghadét fy hun, Joshua Taylor. Bûm hefyd yn dyfarnu tystysgrifau mewn seremoni rithwir i gynrychiolwyr gwirfoddol o Wynedd yn y Coleg Brenhinol i Nyrsys yng Nghymru. Roeddwn yn teimlo’n wylaidd ac ysbrydoledig o ddysgu am ymroddiad anhunanol staff y GIG yn ystod y pandemig ofnadwy hwn. Ac felly mae’r flwyddyn ryfedd hon wedi dod i ben. Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion hynny sydd wedi rhoi eu cymorth a’u cyngor imi mor rhwydd a dymunaf flwyddyn ddiogel a llwyddiannus yn y swydd i’m olynydd, Gwyn Peredur Owen. Dymuniadau gorau a phob lwc! D Eryl Francis Williams Uchel Siryf Gwynedd 2020-21

Sul y Cofio yn Harlech

Uchod ar y chwith: Edmund Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd, D Eryl Francis Williams, Sarah Foskett YH, a’r Parch Shelagh Naylor yn y cyfarfod cymdeithasol lleol.

Yr Uchel Siryf yn cyflwyno bathodynnau i’r cadetiaid Joshua Taylor ac Olivia Ward yng Nghastell Caernarfon. Dymunir yn dda i Eryl wrth iddo wynebu triniaeth lawfeddygol i’w gefn mewn ysbyty yn Lerpwl.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.