Ar ddechrau’r flwyddyn hon, bu i Gyngor Cymuned Harlech roi caniatâd caredig i ardal o dir segur sy’n wynebu Cae Chwarae Brenin Siôr V ddod yn ardd flodau gwyllt. Cyfrannodd deiliaid tai yr oedd eu heiddo’n ffinio â’r tir hwn i’r prosiect. Tynnwyd ffens rydlyd o ochr y ffordd a gosodwyd ffens newydd. Talodd deiliad tŷ arall am symud coed conwydd marw. Ariannodd grŵp Parciau Harlech 180 o blygiau blodau gwyllt a bu deiliad tŷ arall yn paratoi’r tir ar eu cyfer, eu plannu a’u dyfrio. Yn olaf, gwnaeth perchennog tŷ arall giât gardd a’i gosod. Rhoddwyd mainc i’r ardd ac i gynorthwyo ecosystem yr ardal, adeiladwyd tŷ trychfilod sydd eisoes yn denu pryfed diddorol. Ar Mehefin 18, agorwyd yr Ardd Flodau Gwyllt - ‘Gardd Sarah’ - yn swyddogol gan Sarah Badham. Yng nghwmni ei mam, Avril, buont yn astudio’r blodau cyntaf - y pabi, blodyn yr ŷd, glas y gors a blodyn yr haul, cyn ymlacio ar fainc yr ardd. Yn hwyr yn yr hydref, wrth i gnwd eleni farw, bydd bylbiau’n cael eu plannu. Ac yna, yn y gwanwyn, y gobaith yw gweld saffrwm gwyn, pinc a phorffor yn swatio ymhlith torf o gennin Pedr euraidd. Yna wrth i’r haf agosáu bydd amrywiaeth o flodau gwyllt coch, melyn, glas, gwyn a phorffor yn creu dôl hardd i bob gwenynen, aderyn a thrychfil eu mwynhau. A ninnau, wrth gwrs!
CadeiryddNewydd
Llais Ardudwy RHIF 522 - GORFFENNAF £12022 Steilydd Gwallt
Avril a Sarah Badham ger y fynedfa i’r ardd
Llongyfarchiadau i Sophie Collins o Studio 58, Llanbedr ar ennill y wobr ‘Steilydd Gwallt y Flwyddyn 2022’ yng nghystadleuaeth genedlaethol Gwallt a Harddwch ’22 yn ddiweddar.YngNghyfarfod
GarddGymunedolFlodau
Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, etholwyd y Cynghorydd Annwen Hughes fel Cadeirydd. Hi yw’r ferch gyntaf erioed yn y rôl. Mae’n Gynghorydd Gwynedd dros Harlech a Llanbedr ac wedi bod yn Aelod Awdurdod ers pum mlynedd ac yn Isgadeirydd am ddwy o’r rheini. Dymunwn longyfarch Annwen yn gynnes iawn ar yr anrhydedd a dymuno’n dda iddi yn y swydd hon yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gwyddom yn dda am ei gweithgarwch dygn ac am ei gallu i frwydro dros yr ardal hon. Croesawyd chwe aelod newydd i’r Cyfarfod Blynyddol ac am y tro cyntaf erioed mae nifer cyfartal o ddynion a merched ar y pwyllgor.
Rydan ni’n lwcus iawn ein bod yn byw mewn ardal hyfryd efo digon o lefydd i fynd iddyn nhw - mae Llandanwg yn denu o hyd a thraeth Harlech. Dwi hefyd yn hoffi mynd i Bwllheli ac i Fangor. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Madeira. Lle braf, tywydd da, bwyd gwych a phobl garedig iawn.
Sut buasech chi’n disgrifio eic hun ar hyn o bryd? Mynd yn hŷn ond yn fodlon fy myd, hapusach pe bai gen i fwy o egni!
HOLI HWN
2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960
Beth yw eich bai mwyaf? Rhegi gormod! Dwi’n sâl am golli pwysau! Rhy hoff o fwyd melys a hel fy mol. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Byddaf yn hapus iawn yn sŵn canu pop. Dwi reit hoff o ganu gwlad hefyd. Ond dwi’n cael yr hapusrwydd mwyaf yng ngwmni Mabli a Tomos yng Nghaerdydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5,000? Crwydro mwy ar Gymru ac aros mewn gwestai neis cyn mwynhau sioe dda. Eich hoff liw a pham? Lliwiau llachar ond glas fel y môr sydd orau gen i. Dwi’n hoffi edrych ar y môr. Eich hoff flodyn a pham? ‘Carnation’ a phys pêr. Mae ’na oglau hyfryd iawn ar bys pêr. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu. Dwi’n canu’n reit dda yn y bath! Eich hoff ddywediadau? Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia. Mae o’n bwyta gwellt ei wely! Gweiddi fel mochyn dan giât! Rhy hwyr codi pais ar ôl ----.
2 Enw: Marian Rees. Gwaith: Helpu yn y gegin yn Ysgol Tanycastell a helpu efo’r Clwb Brecwast. Dwi wrth fy modd efo plant. Cefndir: Wedi fy magu ar fferm Maes yr Aelfor, topiau Harlech. Yn ferch i John a Gweneth ac yn chwaer i Emyr. Dwi’n fam i Iwan a Siôn ac yn nain i Mabli a Tomos. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mae ’na golled fawr ar ôl y pwll nofio yn Harlech. Un o fy hoff bleserau oedd cael mynd yno i’r dosbarth Aqua-aerobics. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Daily Post a Llais Ardudwy. ‘Woman’s Own’ a ‘Facebook’, wrth gwrs. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rhaglenni Tudur Owen ar y radio ac Ifan Davies yn y pnawn. Mae chwith ar ôl rhaglen Wil Morgan yn hwyr nos Sadwrn. Dwi’n gwylio Rownd a Rownd yn rheolaidd ond mae’r Noson Lawen wedi mynd yn beth sâl erbyn hyn. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rhy dda o lawer! Dydw i ddim yn bwyta digon o fwyd iach, dyna’r drwg. Hoff ddiod? Lle dwi’n dechrau! Byddaf yn hoff iawn o lasiad o win ac rydw i’n cael blas ar ambell i goctel hefyd. Mae ambell i lasiad o lager hefyd yn ddigon derbyniol. Dwi’n yfed lot o goffi ac yn hoff o cappuccino. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? David Cassidy i ddechrau, ro’n i’n hoff iawn ohono fo ers talwm. A George Clooney - pisyn! Beryg y buasai raid gofyn i Mike ddod efo ni hefyd. Lle sydd orau gennych? Yr hyn sy’n fy mhlesio yn fawr ydi cael mynd am dro i rywle fel Llandudno a chrwydro’r strydoedd cyn mynd am bryd o fwyd ac yna i weld sioe. Caf lot o bleser yn gwneud hynny.
3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716 A’R LLALL
Marian efo’r wyres, Mabli
Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n mynd a chŵn am dro heb glirio ar eu hôl. A Chymry sy’n medru Cymraeg ond yn siarad Saesneg efo’i gilydd. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Mae ffyddlondeb yn bwysig imi. Rydw i hefyd yn hoffi cael rhywun i chwerthin efo fi - mae ’na ddigon o dristwch yn yr hen fyd ’ma. Pwy yw eich arwr? Dafydd Iwan. Rydw i reit hoff o Bryn Fôn hefyd. Yn Saesneg, byddaf yn hoffi David Essex [dwi’n mynd i’w weld o cyn bo hir] a Bon Jovi. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Mae Iori, brawd Dad yn fardd da iawn ac yn ddyn hwyliog. Dwi’n edmygu pawb sy’n gweithio i helpu pobl eraill.
SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 2 a bydd ar werth ar Medi 7. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Awst 29 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635
Teyrnged Delyth i’w Nain, Keturah Mary Lewis Roedd Nain neu Kêt fel roedd hi’n hoffi cael ei galw, yn berson preifat iawn, a chawson ni ’rioed wybod llawer o’i hanes. Os byddai un ohonon ni’n gofyn rhywbeth iddi, a hithau ddim ishio ateb, byddai’n gwenu’n ddel a chymryd arni beidio clywed. Ond dyma yr ychydig wybodaeth sy’ gynnon ni. Mi gafodd ei geni yn Gwelfor, Llanfair, yn 1942, yn ferch i Gwilym a Megan Davies a chwaer i William, a thyfodd i fyny yn Llanfair a Dyffryn Ardudwy. Mi anwyd ei phlentyn cynta’, Dennis, ac yna mi briododd ar Mawrth 7, 1964 efo Taid, sef Edward Lewis, neu Ned Warin fel roedd pawb yn ’i nabod o. Roedd Nain wrth ei bodd a gwên ar ei wyneb bob amser y byddai’n deud yr hanes bod y ddau ohonyn nhw wedi mynd i Ddolgellau i briodi, yn ddistaw bach, heb i lawer o neb wybod. Ganwyd Heather, sef Mam, yn 1966, a’r teulu erbyn hyn yn bedwar. Setlo i lawr yn Llanfair i ddechra’, cyn symyd i Harlech wedyn. Roedd Nain yn gweithio’n galed iawn yn y cyfnod yma, yn y ffatri yn Llanbedr yn ystod y dydd, ac yn y Castle Hotel yn Harlech, fin nos. Roedd ei mam, fy hen nain, Megan, yn help mawr i’r teulu, yn rhedeg y cartre’ a gofalu am y plant. Mi ddaeth tristwch mawr yn 1979, pan fu farw Taid, a fynta ddim ond yn 41 oed. Roedd hon yn golled fawr iawn i Nain, hitha’ ddim ond yn ei thri-dega’ canol. Roedd ’na lun o’u priodas i fyny yn y tŷ ac roedd ’na wên yn dod i’w gwyneb bob tro y byddai’n edrych arno fo. Mi fu Nain drwy dipyn o adegau anodd a thro ar ôl tro mi ddangosodd ei bod yn gymeriad cry’. Roedd hi’n gwybod pwy oedd hi, yn un oedd yn deud ei deud, ond gyda synnwyr digrifwch da hefyd.
3
Dwi’n cofio mynd am dro efo hi, pan oedd Ffion a finna’n fach, rownd Glan Gors i ddwyn daffodils, hel bwnshiad ohonyn nhw i roi ar y bwrdd erbyn i mam ddod adra o’i gwaith. Roedd hi wrth ei bodd yn mynd allan am ‘ddrinc’ bach i’r Lion neu’r Rum Hole a bob amser yn gwisgo ear-rings, lipstick pinc, eyeshadow glas, llond bysedd o fodrwya’ a nail varnish pinc
Roeddllachar.hi’n hoff iawn o handbags hefyd a dwi’n siŵr ei bod yn mynd ar y bys i Bermo efo un handbag ond yn dod yn ôl efo dau! Roedd hi’n mwynhau siopa yn ofnadwy. Roeddan ni’n cael storïau am Janet, a merched Llanbedr – Gwen a Rhiannon, oedd yn trafeilio ar y bys i Bermo efo hi bob dydd. Roedd hi’n prynu rhywbath bob tro, ac yn llenwi’r tŷ efo petha’ – doeddan ni’m yn dallt sut roedd hi’n dod â’r holl betha’ ’ma yn ôl ar y bys, ond roedd pob ornament efo stori ac yn golygu rhywbeth iddi. Pan oeddan ni’n mynd heibio, roedd hi’n licio clywed am unrhyw beth oedd yn digwydd, yn lleol neu’n genedlaethol; roedd hi’n darllen y Daily Post bob dydd ac yn gwylio ‘News at 10’, a’r tywydd Cymraeg yn syth ar ei ôl o.
DiolchDelyth
Diolch hefyd i Pritchard a Griffths am eu gwasanaeth canmoladwy. Rhodd a diolch £10
Dymuna Heather a’r teulu ddiolch yn fawr iawn i bawb am y blodau a’r cardiau ac am yr holl garedigrwydd; diolch yn arbennig i’r rhai fu’n gofalu am Mam yn ystod y cyfnod diweddar.
Roedd Nain yn hoff iawn o anifeiliaid, roedd ’na gi yn y tŷ bob amser pan oeddan ni’n fach, a fel ‘Nain Benji’ oeddan ni’n ei nabod hi – ar ôl yr hen chihuahua bach gwyn oedd ganddi. Pan symudodd i Lanfair, mi gafodd gi bach o’r enw Mali gan Ffion ac wedyn mi gafodd fwji bach. Roedd hi wrth ei bodd yn gwylio a chadw llygaid ar y gwartheg a’r ceffyl oedd yn y caeau o gwmpas y cartre’ yn Llanfair hefyd. Yn y blynyddoedd diwetha’ ’ma, roedd Mam yn aml yn mynd a hi am dro yn y car ac roedd mynd i Bermo yn ffefryn. Ac i Bermo aethon nhw ar ei phen-blwydd hi ychydig yn ôl. Doedd hi ddim ishio mynd i siopa y diwrnod hwnnw, roedd hi’n fodlon a hapus cael bwyta fish a chips yn y car, nid i mewn yn y siop. Petha’ bach, syml oedd hi’n eu mwynhau – cnesrwydd y stêm o’r chips, blâs yr halen a finag, yr olygfa o lan y môr a’r atgofion am y tripiau dyddiol i siopa flynyddoedd yn ôl ar y Ynbys.yblynyddoedd diwetha’ ’ma, roedd bywyd wedi newid cymaint iddi, a hitha’n methu mynd allan lawer. Roedd angen mwy o help arni efo gwahanol betha’ a Mam erbyn hyn oedd yn gofalu amdani hi. Mi newidiodd y berthynas rhwng y ddwy i fod yn un agosach a mwy sbeshial ac mi roddodd Mam lawer o’i hamser a’i hegni i ofalu am Nain. Roedd ’na ofalwyr yn mynd i mewn ati hefyd ac roedden ni’n cael dipyn o straeon amdanyn nhw ond Nain fysa’r cynta’ i ddiolch iddyn nhw am y gofal, yn enwedig Jaqui a Katie. Roedd Nain yn un reit anodd i’w phleshio a rydan ni fel teulu yn ddiolchgar iawn ac yn gwybod bod pawb wedi mynd above & beyond i ofalu amdani - yn enwedig Bethan Howie; mi fuodd hi’n anhygoel yn yr wythnosa’ diwetha’.
Bywyd syml, llawn, gafodd Nain, ond bywyd fel roedd hi ishio – priodi, cael teulu, gweithio’n galed i ofalu amdanyn nhw, a tripiau ar y bys. Bywyd syml, hapus a dwi’n meddwl bod ’na le i ni i gyd ddysgu o hynny. I orffen, roedd gan Nain ffordd arbennig o ffarwelio â phawb, rhywbeth sy’ wedi nhiclo i erioed a dwi’n siŵr mai dyna fysa hi’n ddweud wrthon ni rŵan, ‘Twdwl pinc’, ‘Tatibye’ i chi i gyd, ac oddi wrthon ni i gyd ‘Twdwl pinc’, ‘Tati-bye’ Nain a diolch am bopeth.
4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL
RHODDION Diolch i’r canlynol am eu rhoddion at y Heather,papur: Delyth a Ffion £10 D J Roberts a theulu Uwch-glan £25
Gŵyl Flodau Eglwys Sant GwasanaethGorffennafLlanbedrPedr,12-1710.00tan6.00oganumawlnosSul,Gorffennaf17am6.00o’rgloch
Côr Meibion Ardudwy Mae cyngherddau ar y gweill yn Llanbedr, Llandudno a Phorthmadog. Mae tenoriaid yn brin ar hyn o bryd, ond os medrwch chi ganu unrhyw lais, buasem yn falch o ’ ch gweld yn y Ganolfan yn Llanbedr ar nos Sul am 7.30.
Colli Catherine Ty’n Llan Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Mrs Catherine Jones, Ty’n Llan yn Ysbyty Alltwen a hithau yn 80 oed. Roedd yn briod annwyl i Huw ac yn fam i Gareth, Elfed, Iestyn a’r ddiweddar Non. Roedd hefyd yn nain i Siân, Rhian, Dylan, Trystan a Phoebe ac yn hen nain i Ella, Osian, Mili, Catrin, Iwan, Lily, Eifion ac Eryn. Cofir amdani fel cymeriad hoffus, agos-atoch a pharod ei gwên a’i chymwynas. Cydymdeimlwn yn arw iawn â Huw a’r teulu yn eu profedigaeth a’u colled enfawr. Derbynnir rhoddion er cof amdani tuag at Broject Goleudy Josh a Chronfa Huchenfeld drwy law Pritchard a Griffiths, yr ymgymerwyr. Dwi’n siŵr fod gan lawer ohonoch riwbob yn yr ardd eleni. Mi rydan ni wedi cael cnwd da a dwi wedi bod yn meddwl be allaf ei wneud fydd yn newid o grymbl a tharten! Dwi wedi dod ar draws dau rysáit, a dwi’n gobeithio y gwnewch eu mwynhau.
Y GEFNGEGIN
Jam Riwbob a Mefus 475g o riwbob wedi ei sleisio 300g o fefus wedi eu torri yn eu 775ghannero siwgr ‘granulated’ 3 a hanner llwy de o sudd lemwn. Dull Rhowch y riwbob a’r mefus mewn dysgl ac ychwanegwch y sudd lemwn a’r siwgr ato. Rhowch ‘cling film’ drosto a’i adael dros nos. Rhowch y ffrwythau a’r siwgr mewn sosban gweddol fawr a chynheswch nes y bydd y siwgr wedi toddi. Gadewch iddo ddod i ferw, yna gadael iddo ferwi am tua 20 munud, gan ei droi rhag ofn iddo losgi. Ar ôl 15 munud, bydd angen checio y jam i weld os ydy o yn setio. I wneud hyn, rhowch soser yn yr oergell i oeri, yna rhowch ychydig o jam arni a’i rhoi yn ôl yn yr oergell am funud. Mi fydd angen gwneud hyn bob dau funud wedyn i wneud yn siŵr ei fod wedi setio. Salsa Riwbob 8 owns o riwbob wedi ei sleisio yn 1/2denaunionyn bach coch wedi ei dorri yn 1/2fânpupur gwyrdd, coch a melyn wedi eu torri’n ddarnau bach. 2 tomato plwm bach Ychydig o ddail coriander wedi eu Llondtorri llwy de o siwgr brown 2 lwy fwrdd a hanner o sudd leim 1 llond llwy de o halen Pinsiad o bowdwr garlleg a phupur du. Dull Rhowch y riwbob mewn sosban o ddŵr sydd yn berwi, a’i goginio am 10 eiliad. Yna draeniwch a’i rinsio mewn dŵr oer. Rhowch mewn dysgl fawr. Ychwanegwch ato’r nionyn coch, pupur melyn, coch a gwyrdd a’r coriander a hefyd y tomatos bach. Toddwch y siwgr brown yn y sudd leim, yna ychwanegwch at y gymysgedd riwbob, yna ychwanegwch yr halen, powdwr garlleg a’r pupur du a chymysgwch y cyfan. Rhowch yn yr oergell am tua 2 awr i’r blas gael cymysgu. Rhian Mair Jones gynt o Dyddyn y Gwynt, Harlech
Huchenfeld Roedd Hoffnung, y ceffyl siglo, anrheg gan John Wynne i’r ysgol feithrin yn Huchenfeld, yn dathlu ei ben-blwydd ar Mehefin 19. Dyma lun o barti pen-blwydd Hoffnung y llynedd.
5
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Pip yn ‘land girl’; roedd John, 5 mlynedd yn hŷn, yn beilot. Ar ôl y rhyfel, mi briododd y ddau ac yn 1950 ganwyd Ben a’r flwyddyn wedyn, Elisabeth. Roedd John yn dal yn beilot ac mi deithiodd y teulu dros y byd efo’r RAF, i Norwy, i’r Eidal ac i’r Unol Daleithiau. Tua diwedd y 1970au, daeth Pip a John i fyw i Lanbedr, lle roedd rhieni John wedi bod yn ffermio Glyn Artro ers 1947.
Teyrnged i Anne Elizabeth Audrey ‘Pip’ Wynne
Cyfarfu Pip â’i gŵr, John pan oedd hi’n eitha ifanc ... mi aeth o â Pip i edrych ar rai nythod adar pan oedd y ddau’n blant!
John yn ei waith i sefydlu perthynas efo Huchenfeld yn yr Almaen, lle lladdwyd pump aelod o’i griw awyren yn yr Ail Ryfel RoeddByd.cymodi (reconciliation) a chyfeillgarwch rhwng Llanbedr a Huchenfeld yn bwysig iawn i Pip a John ac, o ganlyniad i’w hymdrechion, gefeilliwyd Llanbedr â Huchenfeld yn 2008 ac, yn 2011, mi wobrwywyd Llanbedr â Chroes Hoelion, y gymuned gyntaf yng Nghymru i gael yr anrhydedd Miyma.wnaethon ni ddweud ffarwel ag unigolyn eithriadol. JG Llun: Ian Shaw Pip gyda’i thad
Yng nghanol mis Mehefin, mi wnaethon ni ddweud ffarwel i ffrind annwyl a hen breswylydd yr ardal hon, Pip Wynne, Glyn Artro. Roedd yn ddiwrnod trist i ni i gyd ond roedd Eglwys Sant Pedr, Llanbedr, yn llawn blodau ac mi gawson ni wasanaeth mor hyfryd a arweiniwyd gan Stephanie a Tony Beacon, hen ffrindiau GwasanaethPip.personol iawn oedd o, efo chyfraniadau gan aelodau teulu Pip: mi ddarllenodd wyres Pip, Angela Wynne, ‘She walks in Beauty’ gan Lord Byron ac mi wrandon ni ar wyres arall, Taisie Grant, yn darllen ‘The Glory of the Gardener’ gan Rudyard Kipling, hoff gerdd John Wynne, diweddar ŵr Pip, ac yn briodol iawn hefyd, achos roedd Pip yn arddwraig brwdfrydig, efo gardd dlos tu Rhoddwydhwnt.
Pip a John yn eu gardd
Mi ddwedodd Angie, ‘Dw i’n cofio Granny yn chwibanu‘n y gegin ac yn dweud ‘righty ho!’ yn aml iawn! Roedd hi’n berson hapus a chadarnhaol ac roedd hi mor fodlon cael te a chacen yn ei gardd hyfryd efo ffrindiau a theulu!’
John a Pip yn eu gardd Y Groes Hoelion
y folawd gan William Grant, ŵyr Pip, gyda Jenny Wynne, gweddw Ben Wynne, mab Pip a John. Roedd Jenny, y Bwthyn, yn helpu Elisabeth Grant, merch Pip, i ofalu am Pip yn y blynyddoedd diweddaraf.
Ganwyd Pip ar 11eg Chwefror 1926 ac fe’i magwyd yn Glynwylfa, Y Waun (Chirk). Mi gollodd Pip a’i chwaer Barbara eu mam yn ifanc iawn ac felly roedd Pip yn agos iawn at ei thad. Mi gafodd Pip ei diddordeb yn natur a’i chariad o anifeiliaid gan ei thad hi. Yn blentyn roedd gan Pip ferlyn o’r enw Tommy a, tan ddiwedd ei bywyd, roedd Pip yn cadw llyfr am sêr, anrheg pen-blwydd yn 5 oed gan ei thad hi, wrth ochr ei gwely.
Roedd Pip yn cadw tŷ ac yn helpu ar y fferm. Mi ddyfeisiodd hi hyd yn oed beiriant cartref i fwydo ŵyn amddifad cyn i ddyfais i wneud hynny fod ar gael yn fasnachol. Atgof annwyl Jenny Wynne yw gweld Pip, yn 90 oed, efo dau o ŵyn bach o dan ei chesail yn cerdded adre i’r Tra’nffermdy.byw yn Glyn Artro, mi ddaeth ceffylau unwaith eto yn ôl i fywyd Pip: Flika, eboles Flika o’r enw Merry, a’i heboles hi, Libby. Ar wahân i arddio a thyfu llysiau a ffrwythau, roedd Pip yn wniadwraig dalentog iawn… mi wisgodd merch Pip, Elisabeth, i’r angladd ffrog smart iawn roedd Pip wedi ei gwneud 40 mlynedd yn Maeôl!gan yr wyresau, Angie a Katie, atgofion annwyl am eu nain yn annog eu diddordeb mewn ceffylau. Roedd Pip yn prynu’r cylchgrawn ‘Your Horse’ iddyn nhw ac yn eu gyrru nhw i wersi marchogaeth yma yng Nghymru. Mae Katie yn byw yn Seland Newydd rŵan ac yn magu ceffylau fel hobi.
Mi ychwanegodd Angie, ‘Roeddwn i’n lwcus iawn i fedru aros blwyddyn yma yn Llanbedr efo Granny, yn ystod y cyfnod Covid. Mi wnaethon ni dreulio llawer o bnawniau difyr iawn, cael panad, trafod pob dim oedd yn digwydd, ac edrych ar Countryfile a Pointless ar y teledu.’ Ac, wrth gwrs, fel ddwedodd y Parch Stephanie, tu cefn i bob dyn llwyddiannus, mae ’na fel arfer ddynes gefnogol iawn. Roedd Pip yn cefnogi
6 LLANFAIR A LLANDANWG
CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu sied amaethyddol - Fron Oleu, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel y storfa caiac, siediau storfa ac ystafelloedd newid presennol, ailwampio’r safle a chodi adeilad gweithgareddau awyr agored. Trosi’r swyddfeydd presennol yn storfa caiac ac offer - Cei Pensarn, Llanbedr. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu storfa ysgubor newydd - Pen y Garth Isaf, Llanbedr. Cefnogi’r cais hwn.
CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Amgylchedd Adroddodd y Clerc, yn dilyn e-bost yr oedd wedi ei dderbyn gan Mair Thomas ynghyd â lluniau, ei bod wedi cysylltu â Chyngor Gwynedd a’i bod wedi derbyn ateb oddi wrth Mr Rhys Gwyn Roberts ar ran yr uchod ynglŷn ag arwyddion ger Y Maes, Llandanwg, yn datgan ei fod yn anfon rhywun yna i roi trefn ar yr arwydd a’r giât fochyn oedd ar lwybr yr arfordir rhwng Argoed ac Ymwlch. Hefyd, yn datgan eu bod wedi bod yna i drio trwsio’r giât ond yn amlwg doedd hyn ddim wedi gweithio, felly byddant yn gosod giât newydd yna.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2022/23: Cadeirydd: Eurig Hughes Is-gadeirydd: Russell Sharp Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr ynghyd â map yn datgan cyfyngiadau parcio arfaethedig – Ardal Meirionnydd (9) 2022 Llandanwg, yn datgan o ganlyniad i faterion yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd ac yn dilyn archwiliadau diweddar, bod y Gwasanaeth hwn yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau parcio yn Llandanwg fel sydd wedi eu dangos ar y map ac yn datgan y byddant yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau o fewn 28 diwrnod, ac os na fyddai ymateb yn cael ei dderbyn eu bod yn cymryd yn ganiataol nad oedd gwrthwynebiad. Adroddodd y Cyng Hughes ymhellach bod un o drigolion Llandanwg wedi cysylltu â hi yn gofyn a fyddai modd ymestyn y llinellau melyn ychydig i lawr y ffordd a’i bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn a’i bod wedi derbyn llythyr ynghyd â map yn dangos y newid hwn. Hefyd adroddodd ei bod wedi derbyn un gwrthwynebiad i’r llinellau melyn hyn gael eu rhoi i lawr y ffordd i gyd a bod yr unigolyn hwn yn gofyn a fyddai modd cadw lle i un neu ddau o geir barcio ar ôl y bont.
Colli Ketura Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Keturah Mary Lewis, 10 Derlwyn a hithau yn 79 oed. Roedd yn wraig i’r diweddar Edward [Ned Warin], yn fam i Heather a Dennis, yn nain i Delyth a Ffion ac yn hen nain i Jac, Cadi, Caleb ac Elan. Cofir am Keturah fel cymeriad lliwgar a hoffus gan bawb. Roedd ganddi wên barod ac roedd yn un garw am dynnu coes. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Dyweddïo Llongyfarchiadau i Gethin Sharp a Kate Bannister, Pant yr Onnen ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Pob lwc i’r ddau ohonoch chi yn y dyfodol. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Heulwen ac Emyr, Maes yr Aelfor ar ddod yn daid a nain unwaith eto, heb anghofio Gweneth Evans, Glan Gors, Llandanwg yr hen nain.
Genedigaeth Dymuna Alun Evans a Romana ddiolch am y cardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd ganddynt ar enedigaeth eu merch, Sara Christina Evans. Rhodd £10
Peiriant Diffib Erbyn hyn mae’r peiriant diffib wedi ei osod yng Nghaffi’r Maes, Llandanwg. Diolch i bawb fu’n gweithio i’w sicrhau. Hwb i’r Galon Cyfieithiad amgen ar gyfer y Diffibriliwr - ‘Hwb i’r Galon’! Pen-blwydd Llongyfarchiadau i Hefina Griffith, Berwyn, 2 Llwyn y Gadair, Llanfair ar gyrraedd pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Braf gweld y merched a’r wyresau wedi dod ynghyd i ddathlu.
Ar ran y Cyngor, cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda David John Roberts a’r teulu yn dilyn marwolaeth sydyn ei wraig Mrs Gwyneth Roberts. Croesawodd y Cadeirydd y Cyng Gwynfor Owen i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor fel un o Gynghorwyr Gwynedd newydd dros ward Harlech a Llanbedr.
Diolch Dymunwn fel teulu ddatgan ein gwerthfawrogiad o’r mwyaf a fynegwyd yn ein profedigaeth o golli Gwyneth. Yr ydym fel teulu wedi cael ein cyffwrdd gan y niferoedd a theimlwn yn hynod o falch o’ch geiriau caredig yn ein hiraeth o’i cholli a fydd yn nerth i ni fel teulu. Dafydd, Meilir, Llŷr, Natalie a’r wyrion gofalgar Cai ac Aron a’r wyres fach Eleri Fflur a oedd yn seren yn ei chalon. Diolch £20
Beth bynnag, dyfarnwyd y gacen gnau Ffrengig yn fuddugol, a chafodd fy modryb dipyn o sioc bod Gwyneth wedi rhoi cynnig arni ac roedd yn reit flin, ond daethom yn ffrindiau eto’n fuan iawn.
I ddilyn cefais lawdriniaeth yn Walton a Chlatterbrige oherwydd bod fy mam wedi derbyn y cyffur Diethylstilbestrol (DES) cyn fy ngeni, a thynnais ei choes y bod gennyf nawr ddwy, a gofynnais pa un oedd hi, a galwodd fi’n “Dei double vision”. Bu’n gefn mawr imi, gan edrych ar fy ôl a’r ffarm tra bum yn methu ar adeg anodd o glwy’r traed a genau. Yn anffodus, mi ddirywiodd ei hiechyd hithau, a bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth ar ei phen-glin yn 2014, a tipyn o gystudd cyn cael llawdriniaeth ar y glun, ond ni fu hwnnw yn llwyddiant oherwydd blerwch ac, yn anffodus, doedd dim modd iddynt adfer y cymal, ac o hynny ymlaen mi ddirywiodd ei cherddediad, ond o leia roedd hi’n falch o fod yn ddi-boen.
‘Hon oedd fy Ngwyneth i.’
Roedd Gwyneth bob amser yn coginio cacennau ar gyfer stondinau codi arian, ac roedd sawl un o’r cwsmeriaid yn arbennig yn llygadu ei bara brith, a chawsom ninnau fel teulu ein sbwylio dros y blynyddoedd gyda hwy. Tra yn ysgol Rhiwlas fe’i dewiswyd hi i wisgo “Gwisg Gymreig” mewn cystadleuaeth a gwelwyd ei llun mewn papurau y fro ar y cyntaf o Fawrth. Pan ddathlodd ei phen-blwydd yn 60eg, aethom i lawr i’r Sioe Frenhinol, a be welodd hi ar bostyn y giât wrth inni gyrraedd ond y llun yma ohoni a ‘Phenblwydd Hapus Gwyneth’ arno - (ro’n i wedi trefnu i ffrind roi’r llun yno cyn inni gyrraedd), ac roedd y syndod ar ei wyneb yn werth ei weld. Mi recordiwyd record o’r gân “Defaid William Morgan” gan Hogiau Llandegai yn Neuadd Glynceiriog a thra’n recordio daeth “Now” yn slei o’r tu cefn yn ei rigowt bugail a syllu i’w llygaid, ac yn ei braw fe roddodd sgrech a thrwy wrando yn ofalus fe glywir y sgrech ar y record. Yn 2001 mi ddaeth anlwc i’m rhan a oedd yn achosi ‘double vision’ difrifol oherwydd tiwmor y bitwiden (pituitary).
Ganwyd Gwyneth yng Nghroesoswallt ar Orffennaf 22ain,1947, y trydydd o bedwar plentyn Charles Griffith a Jane Ellen Jones, Fron Isa, Rhiwlas, ger Llansilin, yn yr hen Sir MynychoddDdinbych.ysgol fach y pentre tan iddi gau, ysgol lle bu Miss Jones, Llwyngwian, Dyffryn Ardudwy, yn athrawes am flynyddoedd, a symud i ysgol fach Llanrhaeadr, yna ymlaen i Ysgol Uwchradd Llanfyllin ac, yn ddiweddarach, cyfnod byr yng Ngholeg Llysfasi cyn cael swydd yn Siop Tesco yn ‘Soswallt, a gweithio yno am nifer o flynyddoedd. Wnes i ei chyfarfod gyntaf mewn dawns werin yn Ninas Mawddwy a chanfod ei bod yn amlwg yn hen law ar y grefft o ddawnsio gwerin. Fel y deallais wedyn, roedd yn aelod o dîm Dawnsio Gwerin Urdd Llansilin a fu’n cystadlu yn Steddfodau’r Urdd, Mentrais ofyn gawn i fynd a hi adref, heb wybod ar y pryd lle’r oedd hwnnw, ac mi wnaeth dderbyn fy nghynnig, ac mi ges fy hun yn teithio i ardal ddiarth ac, fel mae’r gân Tony ac Aloma yn ei ddweud, ‘mi aeth yn un, dau a thri o’r gloch’ arnaf cyn ei throi am adref. Rhyw dro wedyn ei chyfarfod eto ychydig cyn Nadolig 1974 mewn Dawns Werin yn Neuadd Llansilin a’i danfon adref tra’r oedd fy ffrindiau yn aros amdanon yn Llansilin, ond yr wythnos ganlynol cael gwahoddiad i mewn am baned, a chyfarfod ei thad a’i mam, a’u cael yn bobol hynod o glên, a dyna fuodd trefn nosweithiau Sadwrn o hynny ymlaen, gyda chroeso arbennig ar yr aelwyd yn Fron Isa, a chyfarfod hefyd ag Ifan, Nant Ganol, perthynas i’r teulu, a oedd yn galw yno bob nos Sadwrn i nôl copi o’r ‘Farmers Weekly’, cymeriad hynod o ddifyr ei sgwrs, a oedd yn ffermio ac yn gweithio fel hwsmon ym marchnad y Trallwng a Chroesoswallt. Roedd yn ardal glos a diwylliedig ac yn digwydd bod, roedd Llais Ardudwy newydd ei sefydlu, a rhoddais gopi iddynt i’w weld, ac mi daniodd ddiddordeb ei thad i gychwyn papur bro eu hardal eu hunain, a chredaf y bu yn ddechreuad i ‘Yr AethYsgub’.yrwythnosau yn fis a’r mis yn bedwar, a daeth y cwestiwn digon rhyfedd ganddi un noson, “Pryd gawn ni briodi ?”, a gyda’r wên arbennig oedd ganddi, sut allwn i ei gwrthod! Mi benderfynasom ddyweddïo ar Mai 17eg, 1975, sef ar ddiwrnod rali Clwb Ffermwyr Ieuainc yn y Bala (ac roedd yn gyd-ddigwyddiad llwyr ei bod wedi ein gadael ar yr union ddyddiad yma o Fai) a phriodi ar ddiwrnod olaf Ebrill 1977, ac ymgartrefu yn yr hen dŷ bach yn Uwch SetloddGlan. yn fuan iawn yma yn Ardudwy, a chafodd mam gwmpeini i fynd i’r capel a Merched y Wawr, sef mudiad a oedd yn agos iawn at ei chalon, ac mi fu yn aelod yng nghangen Nantcol a Harlech am Gydaflynyddoedd.dantmelys, fe sylweddolais reit fuan fy mod i’n lwcus o fod wedi cael hogan a oedd yn gogyddes arbennig, a dyma ei pherswadio i gystadlu mewn sioeau a steddfodau bach lleol, yn ogystal â Sioe Llanelwedd, ac mi gafodd sawl llwyddiant. Un tro fodd bynnag, roedd Anti Jane (chwaer mam), yn beirniadu yn Steddfod fach Y Cwm, ac i wneud yn siŵr na fysa ddim ffafriaeth, mi wnes wisgo hosan dros fy mhen i fynd a’r gacen a’i gadael ar stepen y drws tŷ yn stad Derlwyn, a’i goleuo hi oddi yno rhag ofn bod Anti Jane neu Ceri yn sbecian pwy oedd yn dod a chynnyrch i’w feirniadu.
Roedd hi wrth ei bodd yng nghwmni plant ac unwaith fel athrawes ysgol Sul gyda’r plant yn ôl adra’n Rhiwlas, a phan ddaeth yr wyrion bach i’n byd, roedd yn hynod o falch o gael coginio gyda hwy ac fe olygai y tri bach gymaint iddi. Ond daeth yn amser fel y bu’n gaeth i’w chadair ers tua 7 mlynedd a bellach daeth fy nhro i edrych ar ei hôl a theimlaf mai braint oedd hynny hyd orau fy ngallu.
Tra’r oeddwn i yn mynd i ymarferion Côr Meibion Ardudwy bob nos Sul, roedd hithau yn mwynhau mynd atynt i ddysgu gwau, a chael hanes pethau fel eu taith i Ganada ag ati, rai blynyddoedd ynghynt i weld eu brawd Morus. Ymhen amser aethom o fod yn deulu o ddau i dri ac yna’n bedwar, ac mi gawson flynyddoedd hapus yn magu’r hogia –Meilir a Llŷr. Roedd yna gymdeithas arbennig o rieni gweithgar yn yr Ysgol Feithrin yn Harlech, ac mi gawsom hwyl yn Eisteddfod Genedlaethol 1987 yn Porthmadog efo “Pasiant y plant” a Charnifal Harlech, a nifer o bethau eraill - cyfnod hapus iawn oedd hwnnw.
7 Teyrnged i Uwchglan,GwynethRoberts,Llanfair
RhoddDJR a diolch £25 Pennill Coffa Gwyneth Cyffwrdd wnaeth dy wên heintus Y rhodd gawsom gennyt ti, Ac ni all treiglad amser Ddwyn hon oddi arnom ni.HT
Rygbi Llongyfarchiadau i Cai Rhys Thomas, Faeldref. am ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn 2022. Mae Cai yn chwarae rygbi i Ddolgellau o dan 12 oed. Rydan ni wedi clywed ei fod o yn un da am redeg hefyd! Llongyfarchiadau, Cai, a phob lwc yn y dyfodol.
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8 Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Robert John Evans, Werncynyddion, Catrin Hughes, Bryn Awelon a Nia Williams, Islwyn, sydd mewn ysbytai ar hyn o bryd. Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn Dewi Evans, Bro Arthur, yn 61 mlwydd oed, mab y diweddar Emrys a Gwyneth Evans a brawd Iwan Bryn, Glenda, Derek a Karen. Cydymdeimlwn yn fawr â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb Am 10.00 oni nodir yn wahanol. Gorffennaf 10 Parch Goronwy P Owen 17 Jean ac Einir 24 Anthia a Gwennie 31 Rhian a Meryl Awst 7 Mai a Rhian 14 Parch Olwen Williams 21 a 28 Dim oedfa Medi 4 Parch Dorothi Evans, 5.30 Pêl-droed Llongyfarchiadau i Hana Jane Wellings, merch Paul ac Iola, Modurdy’r Efail, ar dderbyn gwobr chwaraewraig y tymor gan ei hyfforddwr pêl-droed yn nhîm Genod Llanystumdwy. Mae wedi derbyn gwobr ‘Seren y Gêm’ droeon gyda Llanystumdwy. Bu Hana yn chwarae pêl-droed gyda Merched yr Amwythig pan oedd yn hyfforddi i ymuno gyda’r Awyrlu yng Nghosford. Bu’n rhan o sgwad yr RAF ac mae wedi bod yn aelod o dîm pêl-rwyd yr Awyrlu gan deithio o gwmpas Gwledydd Prydain a rhai gwledydd tramor - Cyprus ac ArAwstralia.hynobryd, mae Hana yn gweithio yn Adran y Priffyrdd, Cyngor Gwynedd ac yn mwynhau ei milltir sgwâr gan gerdded a rhedeg y llwybrau a’r mynyddoedd. Bydd hefyd yn dangos symudiadau i’w thri brawd wrth ymarfer pêl-droed gyda’r criw yn y gampfa yn Harlech ar nos Fercher o 7-8 o’r gloch! Dymuniadau gorau iti Hana yn y dyfodol. Mawl a Chân Fore Sul, 19 Mehefin, cynhaliwyd oedfa o Fawl a Chân yn Horeb. Trefnwyd ac arweiniwyd y gwasanaeth gan Alma a Rhian. Roeddynt wedi trefnu i Treflyn ac Ann Jones o Borthmadog ddod atom, Treflyn yn canu ac Ann yn cyfeilio a mwynhawyd eu cyfraniad yn fawr iawn. Rhian Dafydd oedd wrth yr organ a chafwyd oedfa hyfryd iawn.
CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel y modurdai presennol ac adeiladu tŷ deulawr gyda pharcio cysylltiol a thirlunio - modurdai, tir ger yr A496, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn, er bod gan yr aelodau bryder ynglŷn â’r fynedfa i dai cyfagos.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD Adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi ei gwblhau ac nad oedd materion arwyddocaol yn codi heblaw am y ffaith bod methiant i gyhoeddi Datganiad o Daliadau Blynyddol wedi digwydd ar gyfer taliadau a wneir i aelodau ar y wefan.
UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod goryrru yn digwydd i lawr Ffordd Benar a chytunwyd i ofyn i’r Adran Briffyrdd a fyddai modd symud yr arwydd 30 mya ar y groesffordd ychydig i lawr y ffordd oherwydd nad yw teithwyr yn sylwi ar yr arwydd yn ei sefyllfa Datganwydbresennol. pryder bod goryrru yn digwydd i lawr Ffordd Glan y Môr, Tal-y-bont a chytunwyd i gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ynglŷn â hyn. O’r diwedd, o’r diwedd! Mae’r Lasynys yn barod i ailagor! Bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng un y pnawn a phedwar o’r gloch trwy gyfnod yr haf bydd drysau Y Lasynys ar agor i’r cyhoedd. Bu’n gyfnod llwm iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gyda lleoliadau fel y Lasynys yn gorfod ildio i reolau Covid. Bellach, ar ôl sgwrio a llnau dygn mae’r Lasynys yn barod i groesawu’r cyhoedd unwaith eto. Trwy drefniant personol hefyd, ffonio, neu e-bostio, gall grwpiau drefnu i gael ymweliadau y tu allan i’r oriau hyn. Y neges ydi i ledaenu’r newydd yma, bawb sydd a chysylltiadau â thwristiaeth yr ardal neu wybod am ffrindiau sydd heb fod erioed i weld y lle. Neu hyd yn oed os ydych wedi bod yno rai blynyddoedd yn ôl, cofiwch ei fod yn lleoliad hyfryd o heddychlon lle mae natur yn teyrnasu! Efallai y cewch Weledigaeth o’r newydd, neu gael eich ysbrydoli i farddoni yn eich cwsg! Siân Llywelyn Os am drefnu ymweliad, cysylltwch â: sianllywelyn@googlemail.com
Y Lasynys Fawr
MATERION YN CODI Ethol Cynghorwyr Adroddodd y Clerc, yn dilyn gosod rhybudd cyhoeddus yn datgan bwriad y Cyngor i gyfethol gan fod dwy sedd wag ar y Cyngor, ei bod wedi derbyn tri enw oedd â diddordeb yn y ddwy sedd dan sylw. Cynhaliwyd pleidlais gudd o fewn y Cyngor a chafodd William Hooban a Nia Rees eu cyfethol fel Aelodau o’r Cyngor.
Band y Dyffryn Diolch i Dilys Roberts am y llun ac am enwi nifer o’r bobl. Rhes flaen o’r chwith i’r dde: Mr Palmer Jones, Y Ffridd, Mr Penrhyn Jones, Parc Uchaf, Dafydd Edwards, Morwylfa. Ail res: Billo (brawd Dilys), Ellis Owen Edwards (Pant Enddwyn), Meirion (crydd), Kenneth Bellaport, Gwyn Jones. Y drydedd res: John Foulkes, ?, Ernest Williams, ?, Evan Jones, Meirion Griffiths, George (brawd Dilys). Y bedwaredd res: Peter Pugh, Evan David, ?, Dewi Stockwell, ? John Harlech ?
9 CYNGORTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDA
Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Keturah Lewis, 10 Derlwyn, Llanfair yn 79 mlwydd oed. Ganwyd a magwyd Keturah yn y Dyffryn ac anfonwn ein cydymdeimlad at ei phlant, Dennis a Heather a’i brawd William a’r teulu oll yn eu profedigaeth.
Deallodd ar unwaith mai twyll oedd y cwbl a gwibiodd i ffwrdd i’r gwyll dros y coed fel cudyll bychan i barhau ei helfa o wyfynod a phryfed. Cefais innau ddihangfa oddi wrth bigiadau di-drugaredd y gwybed bach. Erthygl gan y diweddar Wil Ifor Jones O.N. Mae’r bobl a arferai weithio yn hen waith Cooke’s, Penrhyn, yn gyfarwydd â chân yr aderyn prin hwn – ei enw ganddyn nhw oedd yr ‘aderyn naw o’r gloch’ gan mai dyna pryd y byddai’n dechrau galw.
mynd allan yn y gwyll a dewisais fin nos fwll gymylog i fynd i chwilio amdano yn ei gynefin, sef ffriddoedd eang ar gyrion uchaf llethrau coediog. Roedd yr ardal leol o greigiau grugog, rhedynog yn ymddangos yn ddelfrydol ac yno yr euthum fel yr oedd yn tywyllu a’r gwybed bach yn fy mwyta yn fyw. Ei glywed yn galw oedd fy ngobaith ac nid yw ei alwad yn debyg o gael ei gamgymryd am ddim arall canys rhyw rygnu yn fecanyddol y bydd fel moto beic tŵ-strôc egwan sydd brin o fewn y clyw. Cefais fy nghynghori i chwarae ei lais o’i hun iddo ar recordydd tâp gan fod hyn, yn ôl yr arbenigwyr, yn ei ysgogi i ateb yn ôl. Felly dyna lle yr oeddwn yn eistedd ar graig a’r recordydd tâp yn clebran yn y grug. Wedi rhoi taw arno gwrandewais yn astud. Ni fedrwn goelio fy nghlustiau; credwn mai clychau bach oedd ynddynt wedi bod yn gwrando ar y tâp, ond yn wir yr oedd aderyn yn ateb a daeth yn nes. Yn nes, meddwn ... gwelais ei ffurf hir frith yn swatio ar y graig dim ond chwe llath oddi wrthyf ac roedd yn dal i alw! Fe daerwn yn ôl y sŵn ei fod gryn hanner milltir i ffwrdd; dyma un o nodweddion yr alwad. Bydd yn troi ei ben yma ac acw wrth alw a hyn yn cael yr effaith o daflu llais rhywsut. Nid oedd eto wedi deall mai tâp oedd yn ei ddenu ac nid ceiliog troellwr arall, a dechreuodd gadarnhau ei hawliau tiriogaeth drwy hedfan mewn cylch bychan o’m hamgylch gan guro ei adenydd yn ddwfn ac
CORNEL NATUR Clebran yn y grug achosi iddyn nhw glecian yn ei gilydd ac yngan dwy wich sydyn rŵan ac yn y man. Euthum innau yn rhy ddigywilydd a’i annog i brotestio yn fwyfwy drwy’r roi’r tâp ymlaen eto.
Cefais10 y profiad prin o ddod i gyfarfyddiad â’r aderyn yma un tro. Y troellwr mawr, neu’r nyddwr (nightjar), ydyw i rai ohonoch chwi hwyrach. Cymryd rhan yr oeddwn mewn arolwg sydd yn cael ei wneud ar ei boblogaeth yng ngwledydd RhaidPrydain.oedd
Piciwch draw i warchodfa’r Gwaith Powdwr gyda’r nos ac mi fydd gennych siawns dda o’i glywed, a’i weld!
Mae arholiadau TGAU wedi eu cwblhau am eleni gyda’r disgyblion rŵan yn gorfod aros yn eiddgar tan ddiwedd mis Awst am eu Dymacanlyniadau.gyfnod sydd wedi bod yn heriol yn sicr ond o hyn ymlaen mae yna gyfle i’r criw symud ymlaen gan obeithio gwireddu eu breuddwydion. Yn ddiweddar, cynhaliwyd Seremoni Ffeil Cynnydd yn yr Ysgol ar gyfer disgyblion B11. Roedd y neuadd dan ei sang ac roedd cyfle i bawb ddod at ei gilydd am y tro olaf. Yn ystod y prynhawn, derbyniodd y ddisgyblion isod y gwobrau canlynol: Gwobr Elfed Evans Caiff y wobr hon ei rhoi er cof am Elfed Evans a oedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ardudwy. Rhoddir y wobr yma i unigolyn sydd wedi dangos dawn yn y maes chwaraeon, boed hynny o fewn yr ysgol neu’r tu allan. Enillydd – Cali Hughes
mae’n rhaid llongyfarch yr athletwyr hynny am eu hymdrechion yn Athletau NASUWT, Treborth, Bangor, ar ddiwedd WediMehefin.ymroddiad a dyfalbarhad, cafwyd canlyniadau gwerth adrodd amdanynt. Dyma’r athletwyr buddugol. B7Merched Gwaywffon – Cari Evans – 2il 100m – Heidi May - 3ydd B8 Disgen – Kasey Roberts – 2il Clwydi – Cêt ap Tomos – 3ydd Naid hir - Cêt ap Tomos – 3ydd Ras gyfnewid – Cêt, Catrin, Keisha ac Efa – 3ydd B9 a 10 Clwydi – Nansi Evans-Brooks – 1af Naid hir - Nansi Evans-Brooks – 1af Ras gyfnewid – Katie, Lois, Sioned a Catrin – 3ydd B7Bechgyn Clwydi – Iwan Evans-Brooks – 1af Gwaywffon – Guto Sandland – 3ydd Naid hir – Cai Thomas – 3ydd Naid uchel – Iwan Evans-Brooks –3ydd B8 Disgen – Sam Roberts – 3ydd B9 a 10 Disgen – Jago Jones – 1af Gwaywffon – Ben Whitehouse – 1af Naid uchel – Callum Jenkins – 2il Naid driphlyg – Karl Griffith – 3ydd Enillydd – Jess Hughes
ran
David Bisseker Gwobr Ymdrech ac Ymroddiad Mae’r wobr yma yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi dangos eu parodrwydd i weithio yn ddygn ac ymdrechu yn eu gwaith gan ymroi yn llwyr i sicrhau eu bod yn cyflwyno gwaith o’r safon uchaf posib, fel eu bod yn cyflawni eu potensial. Enillwyr y prif wobrau gyda’r Prifathro, Mr Aled Williams a Mr Gareth Thomas. Cyflwynwyd gwobrau gan Mr Gareth Thomas ar Llywodraethwyr Ysgol. maes
y
Ar y trac a’r
Gwobr Jordan Baker Mae’r wobr yma yn cael ei rhoi er cof am Jordan Baker a oedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ardudwy. Cyflwynwyd y wobr hon am y tro cyntaf eleni. Dyfernir y wobr i unigolyn sydd yn barod i roi eraill yn gyntaf a pharodrwydd i gefnogi unigolion
yr
Enillydderaill.–
Gwobr Colin Palmer Mae’r wobr yma yn cael ei rhoi er cof am Colin Palmer a oedd yn gyn-athro celf yn Ysgol Ardudwy. Rhoddir y wobr yma i unigolyn sydd wedi dangos dawn arbennig ym maes celf. Enillydd – Chloe Roberts
11 YSGOL ARDUDWY
12 Y BERMO LLANABERA ENILLWYR Roedd y pos diwethaf yn un eithaf Llongyfarchiadauanodd!iMrs Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Mary Jones, Dolgellau; Mai Jones, Llandecwyn; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Gwenfair Ayckroyd, Y Bala; Wendy DotwenPantymwyn,Llanfair;Wrecsam;AngharadDavies,Garndolbenmaen;Haverfield,GwendaLlanfairpwllgwyngyll,Morris,YWaun,BetRoberts,MairRich,YrWyddgrug;Jones,Cilgwri Wirral. Anfonwch eich atebion i’r Pos Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. POS GEIRIAU [Cyfaill Di-enw] ATEBION POS GEIRIAU Rhif 15 POS GEIRIAU Phil Mostert (7) POS Phil Mostert A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P ( Ph ) R Rh S T Th U W Y D1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 T16 17 18 19 20 21 22 A23 24 25 26 27 PH28 8 7 16 23 2 14 6 12 22 16 T 27 2 19 12 24 24 19 24 2 19 21 23 1 8 22 22 17 13 24 23 2 7 23 22 16 20 12 8 19 25 17 14 18 19 1 26 16 20 17 7 8 1 26 24 20 14 19 17 19 12 19 9 23 27 19 20 17 23 7 23 1 8 26 23 12 1 14 5 15 1 8 22 8 20 3 17 23 1 D 14 18 23 4 20 17 4 8 23 A 24 8 17 15 16 17 23 1 10 23 22 27 19 8 1 17 3 2 23 23 22 7 24 12 16 23 16 12 11 14 24 12 7 20 25 14 A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Merched y Wawr y Bermo 21 Mehefin oedd ein cyfarfod olaf am y tymor. Yr haul yn gwenu a’r aelodau yn edrych ymlaen at ein taith fws i Harlech. Cerdded a sgwrsio yn hamddenol ac edmygu y siopau bach ar y stryd, llawer o bethau difyr. Cafwyd bwyd blasus yng Nghaffi’r Castell a braf oedd cael cwmni deg o ferched wrth y bwrdd. Wedi gwledda cafwyd cyfle i fwynhau’r golygfeydd o’r castell a’r mynyddoedd o gwmpas. Diolch i Gwenda a Heulwen am ddarllen Llais Ardudwy i’r deillion. Diolch i Gwenda a Morwena am drefnu bocs o nwyddau ar gyfer trigolion Wcrain sydd wedi cyrraedd Y DymuniadauBermo. gorau i bawb dros yr haf ac edrychwn ymlaen at ein cyfarfod ar 20 Medi am 2.00yp yn Theatr y Ddraig. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad â theulu a chyfeillion y diweddar Gwyneth Evans, 2 Llys Dedwydd, y Bermo gynt, yna cartref nyrsio Llys Cadfan, Tywyn, a fu farw’n ddiweddar yn 89 oed yn Ysbyty Bronglais, CynhaliwydAberystwyth.ei hangladd ddydd Mercher, 29 Mehefin yn Amlosgfa Aberystwyth. Priodas ruddem Llongyfarchiadau gwresog iawn i Andy a Delyth Griffiths, Bermo erbyn hyn, sy’n dathlu eu pen-blwydd priodas ruddem y mis hwn. Carreg filltir nodedig!
13
Yr oedd Hugh Evans (1878-1942) hefyd yn un o blant William a Mary (Jones) Evans, ac yn frawd i Mary Milla Evans, y nyrs nodedig. Ganwyd yn y Bala, 10 Ebrill 1878, a’i rieni ar y pryd yn cadw Gwesty’r Bull yno. Symudodd y teulu i Gaernarfon cyn ei fod yn ddeunaw oed. Ymunodd â’r fyddin ar ôl hynny, yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n debyg ei fod ef wedi ymfudo yn 1907 i Pony, Montana, ac yno ar 24 Awst, ymrestrodd â’r Canadian Expeditionary Force, Bataliwn Gorsaf Un, Catrawd Alberta. Ar 21 Ionawr 1918, hwyliodd am Lerpwl ar fwrdd y llong SS Scotia, i Wersyll Militaraidd Bramshott, yn Swydd Hampshire, Lloegr. Ym mis Ebrill o’r flwyddyn honno ymunodd yn aelod o’r 50fed Infantry Bataliwn, a aeth allan i Etaples, Gogledd Ffrainc, a chymerodd ran ar faes y frwydr. Dychwelodd i Loegr, 26 Ebrill 1919, ac ar 14 Mehefin 1919, yn 41 oed, ac yntau erbyn hynny yn gwneud ei gartref yng ngwesty Saracen’s Head, Cerrigydrudion, priododd Hugh â Miss Pauline Buckley, Bwlch Lodge, o’r un pentref.
canodd Mrs R M Jones i gyfeiliant Mrs Paul Ballor, ‘Jesus Saviour, Pilot Me’, ‘Beautiful Isle of Somewhere’, a hefyd dewisiad Cymraeg. Merch i Hugh Buckley (g 1858, yng Ngherrigydrudion – m 1935), distyllwr, ac Elinor Ellen (Roberts) Buckley (1855-1915) oedd Pauline Buckley, priod Hugh Evans. Ei chyfeiriad pan bedyddiwyd hi 30 Mai 1886 oedd Tynypren, Llanfor, Sir Feirionnydd. Wrth ddilyn ychydig o’i dawn cerddorol fe cawn hi ar 5 Chwefror 1891, yn bump oed, yn cymryd rhan mewn Cygerdd Meithrinfa yn Ysgol y Bwrdd, y Bala, yn canu dwy gân: ‘Bye baby bye,’ ac ‘If I had a pony.’ Yr oedd Pauline yn byw yng Ngherrigydrudion erbyn yr oedd hi yn bymtheg oed. Yn Eisteddfod y Bala, 23 Mai 1902, daeth yn gyntaf allan o ddeunaw o gystadleuwyr am gân solo i blant, sef ‘Merch Megan’, pryd y’i gwobrwywyd â chopi o’r llyfr ‘Gems of Welsh Melody’. Yna, yng Nghorwen, 14 Mehefin 1919, priododd â Hugh Evans. Dydd Sul, 16 Tachwedd 1919, cyflwynodd aelodau yr Ysgol Sul yng Ngherrigydrudion god o arian a ‘travelling rug’ i Pauline Evans, Bwlch Lodge, ar ei hymadawiad am yr Unol Daleithiau, lle yr oedd Hugh yno yn barod. Bu’n un o brif ffyddloniaid Côr yr Eglwys Gymraeg a’r Ysgol Sul yn Butte am lawer blwyddyn. 5 Chwefror 1922, yn theatrau y Rialto a’r American, yn Butte, yr oedd Pauline Evans yn un o 17 a gymrodd ran mewn cystadleuaeth canu. 31 Ionawr 1924, yn 38 oed, cynhaliwyd opereta ysgafn, ‘Red Riding Hood’s Revenge’ gan aelodau Capel Presbyteraidd Cymraeg Butte, gyda Pauline Evans a William ‘Willie’, ei mab yn cymryd rhan. Symudodd Pauline a’i theulu i Twin Bridges, Montana, am ychydig wedyn. Ond daeth yn ôl i Butte ymhen rhyw ddwy flynedd, a chymrodd ran yn nathliadau Dydd Gŵyl Ddewi, Butte, yn 1932 a 1933 fel unawdydd soprano a hefyd mewn gwasanaeth yn y Capel Cymraeg yno 23 Hydref 1932. Bu hi farw mewn ysbyty lleol yn Butte, 17 Mawrth 1936, yn 49 oed, gan adael ei phriod, a mab, William; brawd Dennis Buckley yng Nghernyw, a dwy chwaer yng Nghymru.
W Arvon Roberts, Pwllheli
Parhad - Rhai o dylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn - Rhan 4 Hwyliodd o Southampton, Lloegr, 2 Gorffennaf 1919, a chyrhaeddodd Halifax, Nova Scotia, Canada, ar yr 8fed o’r mis. Cafodd Hugh ei ryddhau o’r fyddin ar 13 Gorffennaf 1919. Symudodd gyda’i wraig i Sweet Grass, Montana, yn yr un flwyddyn, ac yna i Butte a Twin Bridges, ac yna yn ôl i Butte. Bu Pauline farw 17 Mawrth, 1936, yn Butte, Montana, yn 50 mlwydd oed, a threuliodd Hugh ei flynyddoedd olaf yn byw yng Ngwesty yr Highalnd, 431 Stryd South Main, Butte, lle bu farw 13 Ionawr 1942 yn 63 oed. Claddwyd ef ym Mynwent Mount Moriah, Butte, ym meddrod ei briod. Yn ystod y gwasanaeth angladdol
Carreg fedd Hugh a Pauline ym Mynwent Mount Moriah, ButtePauline (Buckley) Evans Hugh Evans
14Gwelsom o’r blaen sut y bu i lawer o feirdd a cherddorion Cymru fabwysiadu enw barddonol ar gyfer cyfansoddi. Yn wir, yn oes Victoria roedd unrhyw fardd gwerth grot yn sicrhau enw fel handlen er mwyn dangos bod yr Awen (hefo llythyren fawr) wedi disgyn arno neu arni ac wedi ysbrydoli’r prydydd. Tebyg mai’r mwyaf tila erioed o feirdd Cymru oedd John Evans (1827?–1895) o Borthaethwy, Sir Fôn. Mae ei gerdd i’r llewod ger Pont Britannia yn enwog: ‘Pedwar llew tew, Heb ddim blew, Dau’r ochor yma a dau’r ochor drew.’ Heb anghofio’r clasur o gerdd i dŵr a delw Ardalydd Môn yn Llanfairpwll: ‘Marcwis of Anglesea yn ddifraw a’i gledda yn ei law, fedar o ddim newid llaw pan fydd hi’n bwrw glaw.’ Roedd gan John Evans hyd yn oed enw barddonol. Ac nid rhyw enw barddonol pitw ffwrdd-a-hi chwaith ond clamp o deitl a oedd, yn ei farn ef, yn gweddu i’w dalent a’i safle. Dyma fo – Archfardd Cocosaidd Cymru. Fodd bynnag, at iws bob dydd bodlonai ar gael ei alw y Bardd Cocos. Mae yna lawer o’i waith ar gael, er yn ôl pob sôn tadogwyd gwaith ambell i wag arno o bryd i’w gilydd. Mae’n hawdd gweld sut y mabwysiadodd llawer un ei enw barddonol. Er enghraifft, bardd a gweinidog hefo’r Annibynwyr ym Mhorthmadog oedd William Ambrose (1813 – 1873). Cymerodd ‘Emrys’ fel enw barddol ac, wrth gwrs, Cymreigiad o’i gyfenw oedd hynny. Wedi ei farw, codwyd Capel Coffa Emrys yn y Port i anrhydeddu’r cof ohono ac er gwerthfawrogiad o lafur Ondoes. beth am Gwyllt y Mynydd? Pam tybed y dewisodd y gweinidog William Hugh Evans (1831–1909) y fath Gweinidogenw? hefo’r Wesleaid oedd Gwyllt y Mynydd, genedigol o Ysceifiog yn Sir y Fflint. Clywais y byddai pobl ers talwm yn dweud bod gan y Wesleaid enw am weiddi wrth bregethu ac mai hyn oedd tarddiad yr hen bennill dychan: ‘Wesla wyllt ar ben y bonc yn gweiddi mellt a thrana’. ’ Clywais fersiwn arall o’r pennill hefyd: ‘Wesla binc ar ben y bonc Yn gweiddi mellt a thrana’. ’ Yr esboniad a gefais i oedd fod y pregethwr yn bloeddio cymaint nes bod ei wyneb yn binc! Go brin yntê?
Ar y pryd, roedd yr Enwad Wesleaidd yn symud ei weinidogion o gwmpas bob tair blynedd ac felly yn ystod ei gyfnod yn ‘teithio’, fel yr oedd yn cael ei alw, fe fu Gwyllt y Mynydd mewn 15 o wahanol gylchdeithiau. Bu ar un cyfnod yn y Bermo a thra y bu ym Mhorthmadog, bu’n gyfrifol am sefydlu a chodi capel i’w enwad yn
y Mynydd a adroddodd ei fod yn ei ieuenctid wedi clywed canu ar yr emyn yma: ‘Daeth anghrediniaeth ataf â chlamp o bastwn mawr, fe’m tarodd i yn fy nhalcen nes own i’n bowlio i lawr; tarewais anghrediniaeth, rhois iddo farwol glwy, a rhedodd yntau ymaith na welais mono mwy.’ Wel, waeth i chi’r Bardd Cocos ddim am wn i. Er bod yna ambell i beth bron cyn ryfedded wedi sleifio i mewn i Caneuon Ffydd! JBW Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091
OndBorth-y-gest.nifodlonodd ar fod yn weinidog yn unig. Cyfrannai’n gyson at lenyddiaeth ei enwad gan ysgrifennu erthyglau i’r Eurgrawn a’r Winllan, golygu cylchgronau a chyhoeddi esboniadau a chasgliadau o emynau. Roedd yn amlwg mewn gwleidyddiaeth mewn oes pan na chymeradwyid llawer ar hynny gan ei enwad ac ymgyrchodd lawer yn erbyn y rhyfel rhwng Prydain a De Affrica Mae(1899–1902).uno’iemynau wedi goroesi i gyrraedd Caneuon Ffydd. Mae yn parhau yn emyn poblogaidd ac yn un addas iawn ar gyfer dechrau gwasanaeth – rhif 14. ‘Addolwn Dduw ein Harglwydd mawr, mewn parch a chariad yma nawr; y Tri yn Un a`r Un yn Dri yw`r Arglwydd a addolwn ni.’
Mae yna adlais yma o Salm 100. Fel y Salm ei hun, mae’r emyn yn un urddasol a delfrydol i osod cywair priodol i wasanaeth o fawl. Y dôn a roddir i’r emyn yw’r Hen Ganfed (rhif 12), hen dôn enwog yn dyddio o’r 16eg Ganrif yn y Swistir a thôn sy’n ddelfrydol ar gyfer y geiriau.
Beth bynnag ydi’r esboniad am y pennill, a beth bynnag a barodd i Wyllt y Mynydd ddewis ei enw unigryw, fe fu yn weinidog cymeradwy a llwyddiannus am gyfnod maith iawn.
Mwy wylltinebo
‘Mawr yw a chanmoladwy iawn, cyduno i`w ddyrchafu wnawn; bendithiwn byth ei enw ef, a chaiff y clod holl ddyddiau’r nef.’
Mae E Tegla Davies yn dweud yn ei hunangofiant ei fod ef yn gyw pregethwr 21 oed wedi mynd i Gyfarfod Taleithiol y Wesleaid yn Llandudno ym 1902. Rhoddwyd lle iddo letya mewn clamp o dŷ mawr, urddasol a’i gydletywyr oedd dau hen weinidog barfog a hybarch. Dywed ei fod yn swil ac fel llygoden yn eu cwmni. Un ohonynt oedd Gwyllt
15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222
Eleni cafodd y disgyblion gyfleoedd arbennig i grwydro hyd a lled Eryri ar y cyd. I ben Yr Wyddfa aeth plant B6. Fe lwyddon nhw i gyrraedd y copa ar hyd Llwybr Cwellyn er gwaetha’r tywydd garw. Taith o gwmpas ardal Rhyd-ddu a Beddgelert gafodd B5 a 4. Tywydd garw unwaith eto ond pawb wedi mwynhau’r golygfeydd gwych a chlywed hanesion cyfoethog yr ardal. Mae gan B3 daith gerdded o amgylch Rhyd-ddu ar y gweill.
Llongyfarchiadau i Guto Anwyl a gynrychiolodd yr ysgol ar dîm bêl-droed Ysgolion Gwynedd (dan 11) a ddaeth yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Tom Yeoman Ysgolion Cymru. A diolch i Anna Mitchelmore am gynrychioli’r ysgol yn rownd ranbarthol cystadleuaeth CogUrdd. Da iawn, chi’ch dau! I Crocky Trail, ger Caer, aeth yr Adran Iau ar eu gwibdaith eleni. Diwrnod hwyliog ac egnïol yn y tywydd braf. I’r Den ym Mhwllheli ac yna ymlaen i Fferm Wningod Llanystumdwy aeth dosbarth CA1. Pawb wedi cael hwyl a’r cyfle i anwesu a bwydo amrywiaeth o anifeiliaid.
GŴYL FLODAU FLYNYDDOL 22-28 Awst 10.00 - 4.00 o’r gloch Eglwys y mwynhauPenrhyndeudraethDrindodPlantyrysgolynmwytho’rcwningod!Plantyrysgolargopa’rWyddfa.Bechodamyniwl!
Yr ardal leol oedd thema cystadleuaeth gelf y Neuadd Gymuned. Dewisodd plant yr Adran Iau Portmeirion fel ysbrydoliaeth, a’r ‘Ysgol’ oedd pwnc dosbarth y CA1. Dyma’r canlyniadau: B5 a 6 – 1af Mia, 2il Anna; B3 a 4 – 1af Amelia, 2il Osian; B1 a 2 – 1af Isla, 2il Alexa; Derbyn a Meithrin (a’r Cylch) – 1af Tomi (Cylch), 2il Harper. Diolch i Bwyllgor y Neuadd Bentref am drefnu. Mae’r plant yn gweithio gyda Siân Elen, arlunydd lleol, i greu murlun o Mia ar un o waliau’r ysgol.
Cylch Meithrin Talsarnau Dymuniadau gorau i Gylch Meithrin Talsarnau sydd newydd gael arolygiad Estyn. Llongyfarchiadau ar eich gwaith arbennig drwy’r flwyddyn, rydym yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad a’ch brwdfrydedd bob amser. Diolch i Anti Sonia am ei gwaith diflino dros y blynyddoedd a dymuniadau gorau dros y cyfnod mamolaeth a phob lwc i Anti Meinir sydd wedi cymryd yr awennau. Dymuna’r ddwy ddiolch am bob cefnogaeth a dderbyniwyd gan y rhieni dros y cyfnod hwn ac yn y gorffennol. Mwynhewch y gwyliau, bawb.
16 TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYNDwychwaer,BethanThomasaDeilwenCooperoLandecwynyngweiniteyngnghaffiPwllNofio,HarlechddechrauMehefineleni.
Ysgol Talsarnau
17 R J TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU Capel GORFFENNAFNewydd 10 – Dafydd P Morris 17 – Dewi Tudur 24 – Dewi Tudur 31 – Dewi Tudur AWST 7 – Dewi Tudur 14 – Dewi Tudur 21 – Dewi Tudur 28 - Hywel M Davies MEDI 4 – Dewi Tudur
Merched y Wawr Aeth 11 o aelodau y gangen ar ymweliad â Phlas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ddydd Gwener, 17 Mehefin. Er nad oedd y caffi newydd wedi ei agor hyd yma, roedd modd archebu bwyd ymlaen llaw ac wedi cyrraedd erbyn 12.30, roedd ein cinio yn barod i ni yn yr ystafell ar y llawr uchaf, sy’n gaffi dros dro. Cawsom bryd blasus iawn a mwynhawyd amser difyr yn bwyta a sgwrsio ac edrych allan ar y môr is law’r Plas. Wedi trafod ychydig o faterion y Gangen, yn cynnwys trefnu ymweliad ym mis Medi i ddechrau rhaglen y flwyddyn nesaf, ac anfon cofion arbennig at Gwenda Paul yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn ei anhwylder diweddar, cafwyd cyfle i weld o gwmpas yr adeilad ac i brynu nwyddau yn y siop. Buan iawn aeth tair awr heibio a phawb wedi cael amser pleserus mewn cwmni da. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Mark a Beci, 8 Cilfor, ar enedigaeth eu mab, Ellis yn ddiweddar. Mae’n frawd bach i Anna. Anfonwn ein dymuniadau gorau iddynt. NeuaddTalsarnauGymuned BYRDDAU GWERTHU dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Awst, Yn dechrau dydd 10.30GorffennafSadwrn,6-4.00o’rgloch Mynediad am ddim Elw at y Neuadd Swyddfa’r Post Yn wahanol i’r arferol, NI gwasanaethFYDDpost yn bresennol yn y Neuadd ar 8 Gorffennaf.
Ennill yn yr Iseldiroedd
MaeGwynedd.hanes eu hymweliad yn stori a hanner ynddo’i hun, oherwydd ar ôl cyrraedd y maes awyr am 3.00 o’r gloch ar y bore dydd Gwener, gwelwyd bod eu hawyren o Amsterdam wedi ei chanslo. Doedd ’na neb wedi dod i ddweud dim byd wrth neb a chafwyd dim help o gwbwl - doedd dim desg Easyjet iddyn nhw gael gofyn be oedd yn digwydd. Wedi trio a thrio chwilio am help, dyma’r ddynas Easyjet yn dweud ‘You will have to phone at 7’. Wel, oedden nhw i gyd yn meddwl adra â nhw, a phennau’r bobol ifanc i lawr. Ar ôl i’r holl oriau fynd heibio, dyma nhw’n dweud bod yna gwch yn mynd o Newcastle! I ffwrdd â nhw felly i Newcastle hefo 5 o dacsis duon a dal y cwch ‘16 hrs’! Cyrraedd Amsterdam ar y bore dydd Sadwrn ac yn syth i’r twrnament. Ddaru’r hogia gael 3 gêm y diwrnod hwnnw, 0-0 oedd canlyniad y gêm gyntaf ac ennillson nhw y ddwy arall. Bore dydd Sul i ffwrdd â nhw a chwarae 4 gêm arall ac ennill y twrnament! Mae’r hogiau yn haeddu eu canmol gan eu bod nhw a’u rhieni wedi bod o dan gryn dipyn o bwysau. Roedd ennill y twrnament er gwaethaf popeth yn glod iddyn nhw, un ac oll. Yn y llun ar y dde, fe welir Owen gyda’r tlws a enillwyd yn yr Iseldiroedd. Mi fydd ei nain, Betty May Evans o’r Ynys, yn falch iawn o’i lwyddiant.
Yn ddiweddar, bu hogiau tîm pêl-droed ysgolion Gwynedd o dan 15 yn yr Iseldiroedd ar benwythnos twrnament ‘Dutch Youth Soccer’, a nhw a enillodd y gystadleuaeth. Roedd Owen Whiteley o Benrhyndeudraeth yn cynrychioli Ysgol Ardudwy yn nhîm
HARLECH
Cydymdeimlwyd ag Enid yn ei phrofedigaeth o golli David ei phriod, ac â Gweneth a oedd wedi colli ei brawd yng nghyfraith, Ifor Parry. Cyfeiriodd Eirlys hefyd at brofedigaeth teulu Uwchglan. Bu Gwyneth yn aelod triw iawn o’r gangen am flynyddoedd nes i’w hiechyd ddirywio.
Daeth Jennifer, a fu’n cystadlu yn yr Ŵyl Haf yn y gystadleuaeth crefft, â’i hymdrech gyda hi. Roedd ganddi frigyn ac roedd wedi beindio’r canghennau gydag edau brodio glas a melyn – lliwiau Wcrain; roedd dail bach glas a melyn yn cynrychioli y miliynau oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Roedd ganddi galon las a melyn ac roedd y canol wedi’i dorri allan - ymdrech greadigol ac effeithiol Paratowydiawn.ybaned a’r danteithion gan Bronwen, Eirlys a Janet. Mae rhaglen lawn wedi ei pharatoi ar gyfer tymor 2022/23. Bydd y cyfarfod cyntaf ar Nos Fawrth, Medi 6, am 7.00 o’r gloch yn Neuadd Llanfair. Byddwn yn disgwyl Linda Jones, aelod o gangen Aberdyfi atom i’n diddori gydag enghreifftiau o’i gwaith llaw. Roedd Linda yn fuddugol yn yr Ŵyl Haf yn y gystadleuaeth i greu seren mewn unrhyw gyfrwng. Pam na ddewch atom? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl!
18 Llwyddiant Llongyfarchiadau i Lois Peris Owen, Ger-y-môr, merch Iolo ac Alison Owen, sydd wedi ennill gradd BSc anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheolaeth Busnes ar ôl astudio ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl. Da iawn Lois ar dy lwyddiant arbennig. Profedigaeth Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant ag Enid Smith, 69a Cae Gwastad yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr, David [gynt o’r Bermo] yn ddiweddar. Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Bangor ar ddydd Mawrth, Mehefin 21.
12 5.00 tan 7.00 Stondinau amrywiol
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mrs Judith Roberts, Gorwel Deg, Heol y Bryn ym marwolaeth ei thad, Stanley John Roberts ym Mlaenau Ffestiniog ar Mai 30. Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus iawn i Dylan Howie oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed ar Mehefin 29. Llawer o gariad gan ei deulu a’i holl ffrindiau. Merched y Wawr Harlech a Llanfair Cafwyd gair o groeso gan Eirlys ac roedd 10 aelod yn bresennol.
Yr Hen Lyfrgell Ar hyn o bryd mae Carys Huw yn cynnal sesiynau sgwrsio i ddysgwyr y Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell ar brynhawn Iau am 1.30 am oddeutu awr. Diolch i Sheila a Jim Maxwell am hyrwyddo’r digwyddiad ac am ddod o hyd i’r cyllid i gynnal y gweithgaredd. Mae 3 sesiwn ar ôl, a bydd siaradwr gwadd yn cyflwyno pwnc i’r dysgwyr ei drafod a sgwrsio amdano. Hyd yma mae Carys wedi cyflwyno enwau llefydd lleol, dywediadau am y tywydd, mis Mehefin, gwyliau traddodiadol fel Dygwyl Ifan a Heuldro’r haf, ac awduron Cymraeg lleol. Dau brif nod a phwrpas y sesiynau ydy bod y pwnc/testun yn lleol/ardal Ardudwy a bod y dysgwyr yn cael digon o amser i ymarfer sgwrsio yn y Gymraeg. Diolch i Jean Hammond sydd yn dod draw bob wythnos ac yn gwneud gwaith gwych yn sgwrsio efo’r dysgwyr. Agor cil y drws i annog a sbarduno’r dysgwyr i sgwrsio sy’n bwysig. Dysgwyr y Gymraeg yn sgwrsio efo Carys Huw yn yr Hen Lyfrgell am awduron lleol Dyweddïo Llongyfarchiadau i Ryan Jones ac Eirian Foster o Harlech ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Llawer o gariad a dymuniadau gorau i’r ddau gan eu teuluoedd a’u ffrindiau i gyd. Ysgol NosFFAIRTanycastellHAFFawrth,Gorffennaf
Cafwyd adroddiadau am weithgareddau’r gangen yn ystod y flwyddyn. Yr uchafbwynt oedd dathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r gangen.
Diolchodd Eirlys i bawb oedd wedi cyfrannu mewn unrhwy ffordd at de Teulu’r Castell ac fe ddiolchodd Edwina, trefnydd Teulu’r Castell, am bnawn difyr.
19 CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Cae Chwarae Brenin Siôr V Adroddodd Christopher Braithwaite bod Ms Tracey Dawson o grŵp beicio Harlech Ardudwy yn mynd i drosglwyddo’r arian grant i’r Cyngor Cymuned er mwyn archebu offer ffitrwydd gan fod raid i’r arian hyn gael ei wario ar offer sydd yn gysylltiedig â beiciau. Cafwyd gwybod gan Mr Braithwaite ei fod yn dal i aros am gwmni G L Jones ddod i atgyweirio’r offer angenrheidiol yng nghae chwarae Brenin Siôr. Datganwyd siom bod un o’r seddi cyhoeddus wedi eu difrodi a chytunwyd i’w symud o’r safle ar sail diogelwch; cytunodd Christopher Braithwaite a Tegid John wneud hyn. Tanciau nwy ar dir Llwybr Natur Derbyniwyd e-bost gan Mr Dylan Edwards o gwmni Guthrie Jones & Jones, Cyfreithwyr. Arwyddwyd y trawsgludiad ar gontract gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar ran y Cyngor.
Mae 3 Cynghorydd newydd ar y Cyngor. Daeth 9 enw i law, a mawr yw diolch y Cyngor am yr holl ddiddordeb. Yn yr etholiad ar y 5.5.22 daeth 2 enw newydd ar y Cyngor sef
Dymunwyd yn dda i Bethan Johnstone a fu yn Ysbyty Gwynedd,ac hefyd i Menna Jones oedd yn mynd am gyfnod gofal i Benygroes. Cydymdeimlwyd ag Enid Smith oedd wedi colli ei gŵr annwyl David Smith. Braf iawn oedd gweld Maureen Jones efo ni i gael te. Darparwyd bocsys te i’r aelodau oedd yn sâl. Diolchodd Edwina am gymorth y pwyllgor i gael ailagor Teulu’r Castell ac hefyd i’r gwahanol fudiadau, Merched y Wawr a Sefydliad y Merched, am fod mor barod i drefnu cyfarfodydd Ebrill a Mai a threfnu siaradwyr, adloniant a the. Bydd Teulu’r Castell yn ailgychwyn yn yr hydref.
UNRHYW FATER ARALL Datganodd Huw Jones ei bryder ynglŷn â chyflwr rhywfaint o’r offer yn y toiledau ger y Neuadd Goffa sydd dan berchnogaeth y Cyngor Cymuned erbyn hyn, a dywedodd bod angen dau droethle newydd yn nhoiledau y dynion gan fod y rhai presennol wedi rhydu; cytunwyd i archebu’r rhain a’u gosod yn y toiled ar ddiwedd tymor yr haf. Hefyd, cytunwyd bod angen cau’r toiledau am gyfnod ddiwedd y flwyddyn er mwyn gwneud gwaith uwchraddio. Bu trafodaeth ar yr angen o gael glanhawr wrth gefn i edrych ar ôl y toiledau hyn pan mae’r glanhawr arferol yn cymryd gwyliau neu ddim yn dda a datganodd Huw Jones bod Mrs Yvonne Jones yn barod i wneud y gwaith hwn; cytunodd pawb â hyn. Datganwyd pryder nad oedd y pwll nofio byth wedi ailagor. Datganwyd pryder bod y tir ger Siop y Morfa a’r hysbysfwrdd yn edrych yn flêr. Adroddodd y Clerc y bydd y diffribylydd yn cael ei osod ar wal yr Hen Lyfrgell ddydd Mawrth y 14eg o’r mis hwn a chytunwyd iddo gael ei osod ar dalcen y wal wrth ddod i fyny’r ramp.
- Mynedfa i Stad Tŷ Canol, Harlech. Roedd yn rhaid i’r Cyngor fel Corff ddatgan buddiant personol yn y cais uchod oherwydd mai nhw oedd wedi rhoi’r cais gerbron. Adeiladu tŷ fforddiadwy deulawr ar wahân - Tir i gefn Nant-yMynydd, Hwylfa’r Nant, Harlech. Cefnogi’r cais hwn cyn belled â bod amod 106 yn cael ei roi ar y cais.
Jane Taylor Williams a Luise HelenVassi. Yna mae Annwen Hughes, John Evans a Nia Jones wedi ymuno; Eirwyn Thomas, Helen Johns, Kevin Titley a Robin Ward yn gwneud Cyngor llawn. Gwefan newydd Mae gwefan yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Bydd yn barod erbyn ganol Gorffennaf, gobeithio. Sbwriel a baw cŵn Gresyn bod yn rhaid i mi gwyno fel hyn ond mae sbwriel a baw cŵn yn broblem enbyd o gwmpas y pentref. Traffig Gan fod Cyngor Gwynedd yn dal mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru parthed gwelliannau ffordd yn Llanbedr, mae’n rhaid gofyn i berchnogion ceir sydd yn parcio ar y ffordd fod yn fwy gofalus ac ystyriol i drafnidiaeth arall sydd yn defnyddio’r ffordd, er diogelwch i unigolion sydd yn cerdded drwy’r pentref gyda’r diffyg palmentydd yma. Llinellau melyn Mae’r cais am linellau melyn o Tŷ Mawr hyd at Lys Brithyll yn dal heb ei ateb. Gwnaed cais am arwyddion ‘pasio yn unig’ ar ffordd Cypla. Cyfoeth Naturiol Cymru Asesir sefyllfa parthed coed yn yr afon Artro. Cais amlinell yr hen safle cŵn ger Capel Salem - yn lle adeilad ar gyfer cadw cyrff anifeiliaid marw, wedi troi i leoli 10 pod ar gyfer twristiaeth. Nid oes gwrthwynebiad i hyn. Tybed beth fydd barn y rhai oedd yn gwrthwynebu y cais cychwynnol? Yr agoriad ar gyfer bwrdd hysbysebu Diolch i Janet Griffiths am gysylltu efo Vernon Watts. Rhoddodd 2 oriad am ddim i’r Cyngor. Diolch i’r ddau
Ynohonynt.olaf,hoffwn ar ran y Cyngor i’r 3 cynghorydd Gruffydd Price, Iolyn Jones a Caroline Evans sydd wedi ymddeol o’r Cyngor. Hyderwn yn fawr y byddant yn parhau i wirfoddoli ar y prosiect llwybrau/coedlannau, prosiect y bu i’r tri weithio’n ddygn arno, a bellach mae arwydd ymhob coedlan ac yng nghanol y pentref, a mainc. Cyfarfodydd y Cyngor Mae cyfarfodydd y Cyngor yn agored i aelodau o’r cyhoedd, dim ond i chi adael i mi wybod mewn da bryd cyn y cyfarfod. Byddwn yn cyfarfod ar nos Iau cyntaf bob mis yn y Neuadd Bentref erbyn hyn. Does dim cyfarfod ym mis Awst. Teulu’r Castell Cafwyd prynhawn hwyliog iawn ym mis Mawrth yn chwarae bingo gyda Fiona Roberts o’r pwll nofio. Roedd pawb wedi cael hwyl ac yn falch o gael cymdeithasu ar ôl y cyfnodau Covid. Cafwyd te wedi ei drefnu gan y Pwyllgor. Mis Ebrill Cafwyd, prynhawn wedi ei drefnu gan Sefydliad y Merched, Harlech. Cafwyd sgwrs ddiddorol gan Sheila Maxwell am ‘Foneddigion Harlech’, hefyd am y cysylltiad oedd gan ei chartref hi, Bronheulog, â phobl y Plas uwchlaw Bronheulog. Cafwyd te a’r raffl ei roi gan aelodau Sefydliad y Merched. Mis Mai Merched y Wawr oedd yn gyfrifol y tro hwn. Cafwyd prynhawn hwyliog eto gyda Bronwen Williams yn gyfrifol am y ras chwilod. Trefnu te gwych eto’r flwyddyn yma a diolch am y rafflau. Mis Mehefin Cafwyd te ardderchog yn y Queens’ Hotel gan Rachel a Liam. Prynhawn braf iawn a gweld dau leol yn gwneud mor dda yn y Queens’. Diolch i’r ddau am roi tocyn i 2 i gael pryd o fwyd yno am ddim; Stella Calvert enillodd y tocyn. Diolchwyd gan Edwina Evans.
NEWYDDION CYNGOR LLANBEDR
CEISIADAU CYNLLUNIO Caniatâd Hysbysebion i arddangos 2 arwydd diogelwch ffyrdd
profiadau erchyll o’r rhyfel ac yna ffoi o’u mamwlad. Yn y dyfodol, gobeithiwn ddarparu
pellach iddynt gyfarfod. Mae pwyllgor y Neuadd yn falch iawn o gael y cyfle i gefnogi’r teuluoedd. *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com TOYOTA HARLECH Ffordd www.harlech.toyota.co.uk01799LL46HarlechNewydd2PS780432info@harlechtoyota.co.ukDewchiroicynnigaryrru’rYarisCrossnewydd!Facebook.com/harlechtoyotaTwitter@harlech_toyota
wedi
Ganwyd awdur y dôn ‘Harlech’, Owen Henry Hughes, ym Mlaenau Ffestiniog, 4 Awst 1900, yn fab i Henry Hughes, glöwr, ac Elizabeth Ellen Hughes, 53 Stryd Glyn Gwyn, Miskin, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf. Brodor o Garndolbenmaen oedd ei dad a’i fam o Flaenau Ffestiniog. Yn 1939, yr oedd O H Hughes yn byw yn 65 Stryd Phillip, Aberpennar a’i fam weddw yn byw gydag ef, yn ogystal â’i briod Margaret May Powell (ganed16 Mai 1902). Yr oedd yn dad i William Henry Powell Hughes (1923-2009) ac Elizabeth Ellen Hughes. Ei alwedigaeth oedd hel yswiriant i Gwmni Pearl. Bu farw yn 1960. W Arvon Roberts
20 Y Dôn Harlech
Cefnogi Teuluoedd o Wcráin Yn Neuadd Bentref Llanbedr, ddydd Sadwrn, 18 Mehefin cafwyd cyfarfod gyda chinio i deuluoedd Wcráin sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar. Trefnwyd hyn gan y teuluoedd lleol a gwirfoddolwyr eraill i roi cyfle i’r ffoaduriaid gyfarfod a chefnogi ei gilydd wrth iddynt lywio bywyd yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r teuluoedd wedi’u gwasgaru ledled Ardudwy a Dwyfor ac nid oedd llawer ohonynt wedi cwrdd â’i gilydd cyn y Roeddcyfarfod.saithodeuluoedd rhai cael cyfleoedd
yn bresennol gyda thua 12 -15 o blant. Pleser oedd gweld y plant yn chwerthin ac yn chwarae gyda’i gilydd yn enwedig gan fod
21 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Ar hyn o bryd, mae dau bapur £20 mewn cylchrediad - papur efo llun Adam Smith ar y cefn ac arian polymer efo llun JMW Turner arno. Ni chaiff y papurau £20 nâ’r papurau £50 eu defnyddio ar ôl Medi 30, 2022. Arian polymer fydd y drefn wedi hynny. Papurau £20 a £50
Dyffryn Ardudwy A Ysgol Cefn Coch A Ysgol
PhillipsYsgol
YsgolTanycastellTalsarnau
22 CYSTADLEUAETH GOFFA GWYNFOR JOHN Cynhaliwyd Cystadleuaeth Goffa Gwynfor John nos Fercher, Mehefin 22 yng Nghae Chwarae’r Brenin Siôr V yn Harlech. Braf oedd cyfarfod unwaith eto er gwaetha’r pandemig. Mwynhawyd prynhawn cyfeillgar o rygbi gyda’r enillwyr Ysgol Talsarnau yn curo Ysgol Dyffryn Ardudwy yn y gêm derfynol gyffrous. Trueni bod y glaw wedi cyrraedd erbyn diwedd y noson ond nid amharwyd ar ddathlu Ysgol CyflwynwydTalsarnau.ymedalau i’r ddau dîm gan Caryl Anwyl, merch Gwynfor John a chafwyd gair gan Elfyn Anwyl ar ran y teulu. Y timau eraill oedd yn cystadlu oedd Y Garreg, Cefn Coch, Tanycastell, Llanbedr a’r Traeth. Diolch i’r ysgolion am eu cefnogaeth ac i Siân Edwards, Victoria Redman, Graham Perch, Gavin Fitzgerald am hyfforddi yn yr Hoffemysgolion.ddiolch i Toyota Harlech hefyd am gefnogi’r noson yn ariannol unwaith eto. Diolch o galon i bawb am eu cydweithrediad parod ac am sicrhau noson lwyddiannus: Y trefnwyr - Gavin Fitzgerald a Mai Roberts Y dyfarnwyr- Graham Perch ac Euros Williams Cefnogwyr y dyfarnwyr - Luke, Brody a Ken Perch Trefnu’r timau - Siân Edwards a Dafydd Foulkes Sain - Gordon Howie Lluniaeth - Olwen Richards, Glesni Fitzgerald, Gill Cadby Paratoi’r cae a’r babell - Gareth John, Dafydd Foulkes, Gavin Fitzgerald, Meilir Roberts (a chasglu sbwriel), Iwan a Cai Evans Cadw sgôr - Jim Procter Cymorth Cyntaf - Vanessa Edwards Ffotograffydd - Keith Phillips URC - Adam Price Cau pen y mwdwl - David Henry, Edward a Nedw Williams a’r pwyllgor. Yn bennaf, diolch i’r plant a’u rhieni, a’r athrawon am gefnogi’r noson. Gobeithir trefnu hyfforddiant rygbi i B5/6 yn y dyfodol agos. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda Chlwb Rygbi Harlech cofiwch gysylltu gydag un o’r uchod. Lluniau gan Keith
Cylch Meithrin y Gromlech
Bydd
Derbyniodd Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy, grant Gweithgareddau
Darparwyr Addysg Feithrin. nhw ar y wal ddringo yn Harlech yn ddiweddar a chawsant fwyd yn y caffi. Roedd pawb wedi mwynhau.
Aethon
unrhyw
com
23Lluniau rygbi gan Keith Phillips Ysgol y Traeth Ysgol Llanbedr Ysgol Dyffryn Ardudwy B Ysgol Cefn Coch B
Clwb Rygbi Harlech y cae hyfforddi yn barod i’w ddefnyddio o ddiwedd 2023, unwaith bydd y glaswellt yn ddiogel i’w ddefnyddio. Bydd Clwb Rygbi Harlech yn gyfrifol am y cae o ddydd i ddydd. Bydd trydan ar gael gyda’r goleuadau am ffi cymhedrol. wnewch chwi, ymwelwyr a’ch anifeiliaid anwes atal rhag mynd ar y cae hyfforddi tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Os gallwch helpu Clwb Rygbi Harlech mewn ffordd – yn ymarferol, hyfforddi, trefnu, cysylltwch gydag unrhyw un o’r criw neu Mai Roberts ar mairoberts4@btinternet.
llif
A
ArdudwyLlais Yn ôl ein harfer, ni fyddwn yn cyhoeddi rhifyn ym mis Awst. Os byw ac iach, bydd y rhifyn nesaf ar werth yn y siopau ar Medi 7. Cofiwch adnewyddu eich tanysgrifiad o fis Medi ymlaen. Mae copi electronaidd ar gael am £10 y flwyddyn a chopi papur drwy’r post yn costio £25
• Yr adeg hon o’r flwyddyn yw’r orau ar gyfer gwylio ystlumod gyda’r nos. Yn gyffredinol, mi fyddan nhw’n chwilio am eu llecynnau eu hunain, ond gallwch ddarparu blychau iddyn nhw glwydo.
• Cadwch lygad am weision neidr a llyffantod ifanc wrth iddyn nhw adael y pwll.
• Tynnwch lystyfiant a blodau marw o lili dŵr a phlanhigion eraill y pwll.
• Gwnewch flwch i’r draenog gysgu dros y gaeaf.
• Peidiwch â phoeni am ddifrod gan y siani flewog a phryfed gleision er mwyn annog eu hysglyfaethwyr ac annog cydbwysedd naturiol.
• Rhowch fwyd i’r draenogod a gwnewch yn siŵr nad ydy tyllau wrth waelod ffensys wedi eu cau er mwyn i’r anifeiliaid symud o un gardd i’r llall.
• Peidiwch â thorri gwrychoedd tan ddiwedd yr haf fel bod bywyd gwyllt yn gallu nythu, cysgodi a bwydo ynddyn nhw.
• Peidiwch â chlirio hen flodau rhosod sy’n cynhyrchu egroes (hips), gan fod y rhain yn ffynhonnell gwerthfawr o fwyd i adar ym misoedd y gaeaf.
CYMORTH I SER BYDCeisiadauCHWARAEONilawcynMedi30
• Mae llawer o bryfed hofran o gwmpas yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r oedolion yn peillio ein planhigion ac mae’r larfâu yn bwydo Bywyd gwyllt yr ardd ar bryfed gwyrdd a phryfed gleision (aphid).
YSTLUMOD Mae pob rhywogaeth o ystlum yn cael ei gwarchod yn gyfreithiol, ac mae’r warchodaeth yma’n ymestyn i’w safleoedd clwydo a gaeafu. Yn ystod y dydd, mae ystlumod yn hoffi cuddio mewn mannau tywyll fel ceubrennau, felly cofiwch gadw hen goed gyda thyllau yn y bonion lle bod hynny’n bosib.
Cofiwch eu gadael ar ochr y pwll am ychydig i alluogi creaduriaid y pwll i ddychwelyd i’r dŵr.
• Cofiwch lenwi eich pwll a’ch pistyll fel bo angen, gyda dŵr glaw os yn bosib.
• Mae ystlumod yn bwydo ar bryfed. Bydd tomenni compost a phyllau yn cynhyrchu’r math o bryfed y mae ystlumod yn hoff o’u bwyta.
• Tyfwch blanhigion gyda blodau sy’n debygol o ddenu gwyfynod a phryfed eraill sy’n hedfan yn y nos. Mae’n well ganddyn nhw flodau gwyn neu olau, gan eu bod yn fwy tebygol o gael eu gweld gan bryfed y nos. Cofiwch osgoi chwynladdwyr.defnyddio
PRYFED • Mae’r tymor paru yn cychwyn ym mis Gorffennaf, felly mi welwch lawer o bryfed yn hedfan wrth iddyn nhw chwilio am gymar.
Ydech chi yn rhagori mewn chwaraeon neu’n nabod rhywun sy’n anelu’n uchel mewn unrhyw gamp? Os felly, efallai y gall ‘Cofio Robin’ fod o gymorth i chi/iddyn nhw. Elusen ydi ‘Cofio Robin’ sy’n rhoi cymorth ariannol i unigolion o Wynedd a Chonwy o dan 25 oed sydd wedi gwneud eu marc ym myd chwaraeon ac yn anelu’n uwch. Ewch i www.cofiorobin.co.uk i weld mwy am yr elusen a phwy sydd wedi cael nawdd yn y gorffennol. Yno hefyd cewch gopi o’r ffurflen gais. Mae angen i’r ffurflen gais fod wedi ei derbyn gan yr Ymddiriedolaeth erbyn y dydd olaf o Fedi Ers sefydlu’r elusen ‘Cofio Robin’ bedair blynedd yn ôl, mae dros £50,000 wedi ei gyfrannu i hyrwyddo chwaraeon yng Ngwynedd a Chonwy. Mae yn agos i 60 o unigolion wedi eu cefnogi a hynny mewn amrywiaeth eang o chwaraeon: dringo a sgio, nofio a chodi pwysau, pysgota a Mae’rmarchogaeth.Ymddiriedolaeth yn hynod falch fod tri o’r bobl a gafodd gyfraniad gan yr elusen, Medi Harris, Catrin Jones ac Osian Dwyfor Jones yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf. Dymunwn y gorau iddynt. I’W GWNEUD Y MIS HWN
• Plannwch flodau unflwydd a bythol i ddenu pryfed.