Llais gorffennaf 2014

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 432 GORFFENNAF 2014

RALI’R FFERMWYR IFANC

Daeth Clwb Ardudwy yn 5ed yn y rali eleni ac ennill dwy gwpan, a hynny gydag wyth aelod yn unig yn y Rali yn ystod y bore. Oherwydd bod nifer o bethau eraill yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod roedd yn golygu nad oeddem yn gallu cystadlu ar y pethau llwyfan, ond roedd y gwaith a wnaethpwyd yn arbennig o dda. Dyma enillwyr Ardudwy: Arddangosfa Ffederasiwn – 1af Gwaith Coed dan 26 – Aron a Rhys – 1af Coginio cacen gaws – Alaw Sharp 1af Gwisgo – Mari a Cara 2il Crefft dan 16 – Cara 3ydd Creu Arwr Newydd – Ardudwy 2il Coginio dan 21 – ac ennill ysgoloriaeth 1af, Cai a Mari Barnu Stoc cyn y Rali - Llwyddiant i Llinos, 1af ar y moch, 2il am y gwartheg Holsteins a defaid Charolais, 2il hefyd am Wartheg Duon a 3ydd am y defaid Mynydd Cymreig. Llyfr Lloffion – Mari 3ydd Gosod blodau dan 21 – Mari 1af Gosod blodau dan 26 – Mari 2il Crefft dan 21 – Mari 2il Crefft dan 26 – Ryan 3ydd Ymlaen i’r Sioe Frenhinol yn awr i gystadlu.

PÊL-DROEDIWR GORAU

Llongyfarchiadau i Ysgol Tanycastell am ennill y gystadleuaeth pêl-droed yn y dalgylch eleni. Cafodd Osian Wyn Ephraim, Tanforhesgan, Talsarnau ei ddewis yn chwaraewr gorau y twrnament. Mae’n 10 oed ac yn symud o Ysgol Talsarnau i Ysgol Ardudwy ym mis Medi. Mae’n cefnogi Lerpwl ac yn cefnogi Brasil yng Nghwpan y Byd. Mae’n chwarae i dîm Penrhyndeudraeth bob dydd Sadwrn.

NOSON RASYS YN Y CLWB GOLFF

Cynhaliwyd barbeciw a noson rasys ceffylau NSPCC Ardudwy yng Nghlwb Golff Dewi Sant ar ddydd Gwener, 13 Mehefin. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i’r holl bobl ddaeth draw ar y noson, dros 100 ohonynt, a’r noddwyr a gyfrannodd at helpu i godi bron i £1,800 ar gyfer yr elusen. Byddent hefyd yn hoffi cydnabod y staff yn y Clwb Golff am eu lletygarwch, yn ogystal ag Eirwyn am ddarparu’r rasio, ac i bawb a gyfrannodd at wneud y noson yn un mor llwyddiannus.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

14 Stryd Wesla, Porthmadog (01766 514774

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Enw: Eifion Williams. Gwaith: Wedi ymddeol. Man geni: Penmachno. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Bwyta’n dda a gwneud ychydig o arddio. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llais Ardudwy a phapur dyddiol. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rownd a Rownd.

Dywediadau am y Tywydd

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Ni chyhoeddir Llais Ardudwy ym mis Awst. Cysodir y rhifyn nesaf erbyn Awst 29 a bydd ar werth ar Medi 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Awst 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, yn dda iawn. Hoff fwyd? Cyrri cyw iâr. Hoff ddiod? Fodca a phinafal. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Arthur Morgan Thomas ac Olwen ei wraig. Pa le sydd orau gennych? Fron Goch ger Caernarfon. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn y Bahamas ac yn Efrog Newydd. Beth sy’n eich gwylltio? Rhieni Cymraeg yn siarad Saesneg gyda’u plant. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ymddiriedaeth. Mae bod mewn cwmni ffrind a mwynhau ei gyfeillgarwch yn amheuthun. Pwy yw eich arwr? Y diweddar Meirion Jones, cyn arweinydd Côr y Brythoniaid. Beth yw eich bai mwyaf? Mae Gwen yn dweud nad wyf yn un da am wrando!

Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Bod yn ddau wynebog. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod yng nghwmni fy wyres a’r wyrion. Eich hoff liw? Melyn. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr. Eich hoff fardd? Eifion Wyn. Eich hoff gerddor? Y diweddar Richie Thomas; tenor gwych iawn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? ‘Y Tangnefeddwyr’ gan Eric Jones. Pa dalent hoffech chi ei chael? Buaswn wrth fy modd pe bawn yn gallu canu’r piano. Eich hoff ddywediad? Rydw i’n eithaf hoff o’r dywediad ‘fel mwnci hefo wats’. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd ? Ddim yn cwyno ac yn hapus fy myd.

LLYTHYR

Annwyl Ddarllenwyr,

Cafwyd Eisteddfod arbennig iawn ym Meirionnydd ddiwedd mis Mai a hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb am yr holl waith diflino dros y tair blynedd diwethaf i godi arian ac i hyrwyddo Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Ni fyddai’n bosibl sicrhau gŵyl o faint yr Eisteddfod heb eich cymorth diolch yn fawr. Roedd yn bleser bod ar y maes a chlywed gymaint o bobl yn canmol y croeso cynnes i’r sir.

GORFFENNAF Gwenwyn blin i’r march a’r ych mis Gorffennaf na fo sych. Tes Gorffennaf, ydau brasaf. Llwm a thlawd ar gyfer gaeaf, yw haid o wenyn yng Ngorffennaf. Glaw ar Swiddyn, bery ddeugain niwrnod cyfan. Gwell hanner had na hanner haf. Mae tymhestl Gorffennaf yn ddrwg ar les cynhaeaf, cyweiriwch wair a chludwch, rhag ofn glaw nac oedwch.

Diolch i’r criw brwdfrydig o wirfoddolwyr yn y maes parcio, y maes carafanau a’r degau o stiwardiaid wnaeth helpu ar y maes ei hun, roedd pawb mor barod i helpu gyda gwên ar eu hwynebau bob dydd. Hoffwn hefyd longyfarch yr holl athrawon, arweinwyr a chystadleuwr a fu’n cystadlu drwy’r wythnos, roedd hi’n braf gweld cymaint o dalent Meirionnydd yn llwyddo ac yn perfformio mor wych yn y seremonïau, cystadlaethau a’r sioeau nos. Yn gwbl ddiffuant – diolch yn fawr. Hedd Pugh

Englyn Waldo Williams i’r Daten Ymborth nobl i bobl y byd - yn y gwraidd Dan ei gwrysg mae’n golud; Ffein y bo, ffon y bywyd, Wele rodd sy’n ail i’r ŷd.


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau gan y llywydd Edwina Evans i gyfarfod mis Mehefin. Croesawyd hefyd saith gwestai a oedd ar eu gwyliau yn yr ardal. Dymunwyd yn dda i Mrs Dorothy Harper oedd wedi ei chymryd yn sâl yn Leeds ac wedi treulio dyddiau mewn ysbyty. Cydymdeimlwyd gyda Jennifer Dunley oedd wedi colli ewythr, sef Mervyn Roberts yn ddiweddar. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu penblwyddi’r mis yma. Darllenwyd llythyr o’r sir a nodwyd dyddiadau o bwys sef y Sioe Ffasiwn ym Mhorthmadog ar 26 Mehefin a’r Sioe Haf yn y Bermo ar 3 Gorffennaf. Cafwyd adroddiad am gyflwr y stesion gan Denise Hagan ac fe fydd cyfarfod gyda Rheolwr BR ar y stesion ar 20 Mehefin. Ar ôl trafod yr holl fusnes, croesawyd y wraig wadd sef Annette Evans. Mae Annette yn byw yn yr Ynys ac yn aelod o Sefydliad y Merched, Harlech ers rhai blynyddoedd. Yn ei hamser sbâr mae hi’n gwneud gwaith gwydr. Cawsom weld ei gwaith gwych o wydr mewn plwm, a chafodd rhai o’r aelodau helpu i dorri’r gwydr a dangosodd i ni sut oedd hi’n rhoi’r gwaith gyda’i gilydd. Mi oedd ganddi bob math o wahanol waith i’w ddangos i ni. Enillwyd un darn o’r gwaith sef glöyn byw mawr gwydr gan Mavis Kershaw. Roedd pawb wedi mwynhau’r noson yng nghwmni’r aelod talentog yma a phawb yn edrych ymlaen at gael mynd i’w dosbarth pan maent yn cychwyn. Mae newid yn y cyfarfod nesaf. Bydd Emma Quaeck yn dod ar 9 Gorffennaf gan ei bod wedi methu dod ym mis Mai. Croeso i unrhyw un ddod atom unrhyw noson. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at deulu Mr Richard Mitchelmore, Bron Blogwyn [Hen Dyrpeg gynt] yn enwedig ei ddwy ferch Alwena a Gwenllian. Cydymdeimlir hefyd â’i frodyr Gary, George a Brian. Coffa da amdano.

Cofion Ein cofion at Nancy, Siop Esgidiau a fu’n Ysbyty Alltwen am gyfnod ond sydd bellach wedi cael dod adref. Dymuniadau gorau i Mrs R Owens, 3 Pen yr Hwylfa, sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Atgofion Rhyfel Byd Cyntaf Rydym yn gobeithio trefnu arddangosfa fach er cof am y dynion a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Barbara Roberts gydag unrhyw wybodaeth a ffotograffau (byddwn yn eu dychwelyd). Ffôn 01766 780723; e-bost eric.barbara@tiscali.co.uk Swydd newydd Pob dymuniad da i Catrin Owen, merch Dafi a Gwen Owen, Ael y Glyn, Harlech, ar ei swydd newydd fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Caerffili. Pob lwc iti ym mis Medi, Catrin. Graddio Llongyfarchiadau i Leah O’Neill, merch Carol a Steve O’Neill, sydd wedi graddio gyda BSc Anrhydedd [Dosb. 1af]mewn Rheolaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd. Pob dymuniad da iti, Leah.

Ffair Haf Harlech Gorffennaf 12 - 12.30 yp

Eglwys St Tanwg, Harlech

CYNGHERDDAU’R HAF

am 7.30 Mynediad am ddim!

Mercher, Gorffennaf 16 Organ - Parch John Matthews Tregarth a Llandygai, Bangor Mercher, Awst 13 Organ - Martin Brown Cadeirlan Bangor Mercher, Awst 27 Organ - Barri Dodgson Knutsford Mercher, Medi 10 Cyngerdd - Cana-Mi-Gei Pen-blwydd Priodas Llongyfarchiadau calonnog i Steve a Carol O’Neill sydd yn dathlu eu priodas arian ar y 22ain o Orffennaf. Priodwyd y ddau yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, dan ofal y Parch Bob Hughes, a chafwyd y wledd briodas yng Ngwesty Bontddu a’r parti nos yng Ngwesty’r Castell yn Harlech. Cafwyd diwrnod i’w gofio, a bydd yr atgofion gennym am byth, ond dydy o’n siom fawr heddiw, 25 o flynyddoedd yn ddiweddarach, gweld y ddau westy mewn lleoliadau mor braf ar gau!

CAPEL JERUSALEM

Oedfa Undebol Gorffennaf 13 am 3.30 gyda’r Parch Dewi Tudur Lewis

YARIS

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Mae’r Aygo newydd wedi cyrraedd!

CYNGOR CYMUNED HARLECH Rhandiroedd Datganwyd pryder nad yw’r gwaith o godi’r wal a chreu mwy o randiroedd yn digwydd a chytunwyd bod Caerwyn Roberts yn cysylltu gyda Mr Harri Pugh ynglŷn â hyn. Adroddodd y Clerc bod pawb ond dau wedi talu am y flwyddyn. Cytunwyd i lunio rheolau ynglŷn â’r rhandiroedd ac ymchwilio ynglŷn ag yswirio’r sawl oedd yn gweithio yno. Darn Tir ger y Cwrt Tenis Adroddodd Gareth Jones ei fod wedi gofyn barn rhai o weithwyr y golff ynglŷn â’r darn tir uchod. Roeddent o’r farn y byddai’n bosib clirio’r darn tir yn gyfangwbl neu ddim ond ei dorri. Cytunodd Gareth Jones y byddai yn cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru i weld a oedd ganddynt reolau ynglŷn â’r darn tir dan sylw. Hefyd cytunwyd i glirio’r darn tir yn gyfan gwbl a gosod byrddau picnic ar y safle a chytunodd Gareth Jones i ofyn i Mr Martin Howie wneud y gwaith hwn, a gofyn iddo hefyd osod ffens fel na fyddai’n bosib i rai fynd a’u cŵn yno i faeddu. Adroddodd y Clerc bod Hamdden Harlech ac Ardudwy wedi cytuno i gymryd y cyfrifoldeb am gynnal a chadw’r cwrt tenis. Ethol Cynghorwyr Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyrau swyddogol gan Mr James Maxwell a Ms Heidi Williams yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn ymddiswyddo o fod yn aelodau o’r Cyngor. UNRHYW FATER ARALL Rhoddwyd caniatâd i Seindorf Arian Harlech gynnal eu Ffair Haf ar gae chwarae’r Brenin Siôr ar Gorffennaf 12. Mae angen bin ysbwriel ychwanegol ger siop y castell gan fod yr un sydd yno’n cael ei orlenwi bob dydd; hefyd eisiau tynnu sylw at y llanastr sy’n cael ei adael i lawr y stepiau sy’n arwain am Bentre’r Efail. Datganwyd pryder bod cerddwyr yn gorfod cerdded ar y ffordd rhwng yr hen lyfrgell a chaffi Bwyd Enaid. Datganwyd pryder bod arwyddion yn dal i gael eu gosod ar y ffordd ger yr ‘amusements’ a chytunwyd i ofyn i Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater. Cytunwyd i ofyn i ‘Tree Fella’ dorri’r ddwy goeden sydd y tu ôl i Fehefin ar lwybr natur Bron y Graig.

3


LLANFAIR A LLANDANWG Plentyn olaf Yn ddiweddar yn St Albans bu farw’r olaf o blant teulu Penrallt sef Meiriona Wyn (Mon). Cafodd ei geni yn 1927 ac mae’n siŵr y bydd rhai o ddarllenwyr hŷn y Llais yn ei chofio. Merched y Wawr Cafwyd adroddiadau gan y Llywydd, yr Ysgrifennydd a’r Trysorydd. Yna aethpwyd ymlaen i ethol pwyllgor a swyddogion am y tymor 2014/16. Llywydd y tymor nesaf fydd Hefina, gyda Janet yn Islywydd a Thrysorydd ac Eirlys yn Ysgrifennydd. Yna aethpwyd ymlaen â’r cyfarfod arferol. Llongyfarchwyd Gwenda a Hefin ar ddathlu eu priodas arian. Anfonwyd cofion at Gwyneth gan obeithio ei bod yn teimlo’n well erbyn hyn a bod ei hwyres Eleri Fflur hefyd yn well wedi cyfnod yn yr ysbyty. Anfonwyd cofion hefyd at Mair M sydd yn Ysbyty Alltwen. Llongyfarchwyd y Dr Iwan Rees, ŵyr Gweneth, ar dderbyn swydd ym Mhrifysgol Caerdydd a hefyd iddi ar ddod yn hen nain i Mared Elliw, merch Meinir a Gwynfor. Llongyfarchwyd Gethin, ŵyr Bronwen, ar ddod yn gyntaf mewn cystadleuaeth Celf a Dylunio yn Eisteddfod yr Urdd a dymunwyd yn dda i Elen, ei hwyres fydd yn treulio mis ar brofiad gwaith yn Sri Lanka. Roedd hefyd yn braf gweld y Band yn cystadlu ar lwyfan yr Urdd. Cydymdeimlwyd ag Elizabeth a Gweneth oedd wedi colli modryb yng Nghricieth. Diolchodd Edwina ar ran Teulu’r Castell am y te a’r adloniant pleserus gan Roger a John Kerry. Yn hytrach na derbyn cydnabyddiaeth roedd y ddau frawd am i ni gyflwyno siec i Ofal Canser y Fron. Treuliwyd gweddill y cyfarfod yn trefnu rhaglen y flwyddyn nesaf. Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd danteithion blasus wedi eu paratoi gan Bronwen ac Eirlys. Bydd Te Cymreig yn cael ei gynnal ar Fedi’r 5ed yn Neuadd Llanfair.

4

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Ethol Swyddogion Cadeirydd: Eurig Hughes Is-gadeirydd: Russell Sharp Diolchodd Dylan Hughes am bob cefnogaeth yr oedd wedi ei gael yn ystod y flwyddyn a dymunodd bob llwyddiant i’r Cadeirydd newydd. Wrth dderbyn y Gadair, diolchodd y Cadeirydd i’r cyn-Gadeirydd am y gwaith yr oedd wedi ei wneud i’r Cyngor yn ystod ei gyfnod yn y gadair. Yr Elor Ni chafwyd ateb pellach gan Catrin Glyn ynglŷn â’r uchod. Cytunodd Caerwyn Roberts gysylltu hefo Mr Elfed Roberts ynglŷn â’r mater. Ceisiadau Cynllunio Dymchwel y tŷ presennol ac adeiladu tŷ newydd - Sŵn y Môr, Llanfair Dim sylwadau ar y cais hwn ond pryderon bod y tŷ newydd yn rhy agos i’r terfyn. Ysgol Ardudwy Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn a fyddai’n bosib i rai o ddisgyblion B9 wneud gwaith yn y gymuned ym mis Gorffennaf. Cytunwyd gofyn iddynt beintio’r sedd ger y ciosg ym mhentref Llanfair, peintio’r sedd yn y fynwent gyhoeddus a pheintio’r sedd ger croesffordd Frondeg. Unrhyw Fater Arall Mae angen tacluso o amgylch eglwys Llandanwg. Diolchodd Mair Thomas i Gerallt Jones am waredu’r tyrchod a oedd yn gwneud llanast yn y fynwent. Datganwyd pryder bod y chwyn clymog Japan yn tyfu gyferbyn â Maes Annedd, Llandanwg a chytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater. Adroddodd Eurig Hughes ei fod wedi cyfarfod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a bod cynlluniau i drwsio’r clawdd llanw ger Ymwlch yn isel iawn ar y rhestr waith.

Marw Ar fore Gwener, 27 Mehefin, bu farw Mrs Doris Owens yn dawel yn Ysbyty Alltwen. Yn 102 mlwydd oed, magwyd Mrs Owens yng Nghilcychwyn, Cwm Nantcol, ac roedd yn ferch i Dora, yr hynaf o 12 plentyn y teulu Evans a fagwyd ar fferm Brwynllynnau ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Cydymdeimlwn â’i mab Dewi Aled Owens, Blaenau Ffestiniog, ei chyfnither Mair M Williams a’i chefnder David J Roberts, Uwchglan, ynghyd ag aelodau eraill o’r teulu yn yr ardal. Ymchwil Canser Cafwyd noson goffi lwyddiannus yn Harlech yn ddiweddar. Cawsom ein diddori’n wych gan ‘Ddoniau’r Aelwyd’, grŵp o Aelwyd yr Urdd, Ardudwy, ac roedd amryw o stondinau. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Llwyddwyd i godi oddeutu £1300 at yr achos teilwng hwn. Cymorth Cristnogol Harlech a Llanfair Roedd cyfanswm y rhoddion yn dilyn y Gwasanaeth a’r Bore Coffi yn £480. Diolch i bawb am gyfrannu a mynychu.

Cyhoeddiadau Caersalem Am 2.15 oni nodir yn wahanol GORFFENNAF 7 Fns Mair Penri Jones 13 Parch Dewi Tudur Lewis AWST 31 Br Rhys ab Owen MEDI 21 Parch Tecwyn R Ifan 28 Br G Eurfryn Davies HYDREF 12 Parch Tecwyn Ifan, Diolchgarwch 19 Parch C Prew 26 Br Marc John Williams

Yn gwella Hyfryd yw nodi bod Mr Bryn Lewis, Min y Môr, Llandanwg yn gwella ar ôl derbyn clun newydd mewn Ysbyty yn Wrecsam. Roedd i’w weld yn cerdded o gwmpas gwta dair wythnos ar ôl cael y driniaeth. Sgwrs radio Roedd llawer o ganmol i sgwrs radio ddiweddar gan David J Roberts, Uwchglan. Buasai’r hanes yn werth ei gynnwys yn y Llais rhywbryd.

TACLUSO CANOLFAN HAMDDEN HARLECH

Merched y Wawr Harlech a Llanfair

TE CYMREIG yn Neuadd Llanfair Pnawn Gwener, Medi 5 am 2.00 £2.50 Stondinau Amrywiol

Diolch i’r criw mawr ddaeth i helpu i lanhau’r Ganolfan Hamdden yn Harlech yn ddiweddar a’i gwneud yn barod ar gyfer tymor prysur yr haf. Buont wrthi yn peintio, glanhau, strimio, clirio a thacluso y tu mewn a thu allan. Diolch iddynt am eu dycnwch.


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Trip a swper oedd gweithgaredd mis Mehefin i Dŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, man geni’r Esgob William Morgan. Roedd y tywydd yn ffafriol a’r golygfeydd yn fendigedig. Wedi i bawb ymgynnull yn y tŷ, fe gawsom gyflwyniad diddorol gan Wil o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hanes y tŷ a hynt a helynt y bobl oedd yn byw yno yn y dyddiau cynnar yn ogystal â hanes yr Esgob William Morgan wrth gwrs. Cyfle wedyn i fynd o gwmpas y tŷ a gweld yr arddangosfa o Feiblau. Diolchodd Mair yn gynnes i Wil ar ein rhan. I ffwrdd â ni wedyn i wledda a chymdeithasu yn y Tŷ Gwyn, gyda diolch arbennig i Heulwen am wneud yr holl waith gyda’r trefniadau. Ysgol Llanbedr Roedd pedwar tîm wedi cystadlu ar ran Ysgol Llanbedr yn y Triathlon. Pawb yn llwyddiannus. Llwyddodd y pedwar tîm i godi’r swm anhygoel o £1302 a hynny cyn Rhodd Cymorth. Defnyddir yr arian gan yr ysgol i brynu offer dysgu i’r plant ac i helpu gyda chostau tripiau ayyb. Gwella Bu Mrs Margaret Morgan, Bodafon yn Ysbyty Gwynedd am ychydig ond daeth adre i ddathlu ei phen-blwydd yn 89 oed. Dymunwn yn dda iddi. * * * Drwg gennym glywed hefyd i Miss Elizabeth Richards, Cartref, syrthio yn ei chartref, a’i bod wedi cael seibiant bach yn Ysbyty Alltwen. Gobeithio ei bod yn gwella ac rydym yn falch o glywed ei bod adre’n ôl erbyn hyn. Llyfrgell Mae fan y llyfrgell yn galw yn Llanbedr yn fisol o flaen Gwesty’r Victoria. Y dyddiad nesaf y bydd yn galw yw 14 Gorffennaf tua hanner dydd. Oedran teg Llongyfarchiadau i Mr Peter Crabtree ar ddathlu ei benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar.

Rhoddion Derbyniwyd rhodd o £10 gan Evie Morgan Jones; diolch yn fawr. Diolch hefyd am y rhodd o £11.50 gan William Large. Mudo Croeso’n ôl i Lanbedr i Gwynli Jones. Mae wedi dod i fyw i Fryndeiliog, a dymunwn y gorau iddo. Cyntaf ddwywaith

Ysgol Llanbedr

JÔC

Pnawn Mawrth, Gorffennaf 15

Un noson, aeth lleidr i mewn i ardd enfawr a dechrau cerdded yn araf at y tŷ. Yn sydyn, clywodd lais yn dweud, “Mae Iesu yn dy wylio di.” Arhosodd y dyn am funud, a meddwl ei fod wedi dychmygu’r llais. Dechreuodd gerdded eto, a chlywodd y llais unwaith eto yn dweud, “Mae Iesu yn dy wylio di.” Dechreuodd feddwl mai ei gydwybod oedd yn siarad efo fo. Edrychodd o’i gwmpas ac o’r diwedd gwelodd barot mawr yn eistedd ar gangen. Gofynnodd y dyn iddo, “Ti ddwedodd ‘Mae Iesu yn dy wylio di’?” “Ie,” atebodd y parot. “Beth ydy dy enw di?” “Pinocio,” oedd yr ateb. “Pinocio? Pa fath o ddyn fase’n galw ei barot yn Binocio?” “Yr yn fath o ddyn fase’n galw ei Ddoberman yn Iesu,” oedd ateb y parot.

FFAIR HAF

am 3.30 o’r gloch

Cyhoeddiadau Sul

am 2.00 oni nodir yn wahanol GORFFENNAF 13 - Capel y Ddôl, Undebol 20 - Capel Salem - Mr Eurfryn Davies 27 - Capel Nantcol, Eric Jones AWST Capel Salem 17 - Parch Dewi Tudur Lewis MEDI 7 - Capel y Ddôl, Glenys Jones

Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein www.geiriadur.ac.uk

Llongyfarchiadau arbennig i Iona-May Sloan-Lewis, ysgol gynradd Llanbedr, ar ddod yn gyntaf mewn dwy gystadleuaeth ym mabolgampau sir yr Urdd yn Harlech. Bydd yn cynrychioli’r sir yn y ras redeg B3 a 4 a’r naid hir. Yn wir, fe dorrodd record yn y naid hir gan neidio 3.28m. Gwych! Pob lwc iddi ym Mae Colwyn.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru ar lein! O hyn ymlaen ni fydd rhaid troi tudalennau nac edrych mewn geiriadur arall i gael hyd i ystyr gair neu ymadrodd. Hefyd bydd modd gweld yn syth, er enghraifft, beth yw cenedl gair, y ffurfiau lluosog, y diffiniad ohono, pa eiriau eraill sy’n golygu’r un peth, a llawer mwy.

SYLWER Ni fydd Llais Ardudwy yn ymddangos ym mis Awst. Bydd ar werth eto ar Medi 3.

YSGOL LLANBEDR SWYDD CLERC LLYWODRAETHWYR Mae angen llenwi’r swydd uchod o Medi 1, 2014. Gobeithir medru penodi cyn diwedd y tymor hwn. Ymholiadau a rhagor o wybodaeth gan: Miss Meryl Jones - Ffôn: 01341 241422 Dyddiad cau: Gorffennaf 16

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

TRACTORAU ERYRI Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932 5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Dydd Mercher, 18 Mehefin, aethom i Fetws-y-coed ar ein trip blynyddol. Roedd yn ddiwrnod braf iawn a’r golygfeydd o’r bws yn fendigedig. Cawsom ginio yng Ngwesty’r Royal Oak ac roedd y croeso, y gwasanaeth a’r bwyd yn ardderchog. Yna aeth rhai ohonom o gwmpas y siopau a chafodd eraill eistedd yn gyfforddus yn y gwesty i sgwrsio. Cychwyn adre am dri wedi cael diwrnod wrth ein bodd. Anfonwn ein cofion at Gretta, Lilian a Leah oedd ddim yn teimlo’n ddigon da i fod gyda ni. Cynhelir ein cyfarfod blynyddol ar 16 Gorffennaf yn Neuadd yr Eglwys. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Ifor a Gwenfair, Noddfa, Talybont, ar enedigaeth merch fach, Enlli Mair, chwaer fach i Tomos a Siôn. Rhodd Rhodd i’r Llais gan Taid a Nain, Hendre Eirian - £10 Pwyllgor Apêl yr Urdd Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 yn y Bala, hoffai pwyllgor Apêl Dyffryn Ardudwy a Thalybont ddatgan eu diolchiadau a’u gwerthfawrogiad i drigolion yr ardal am bob cymorth a chefnogaeth yn ystod y gweithgareddau codi arian dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targed o £5,500. Diolch yn fawr i bawb.

6

NYTH YN TARFU

Sylwais fod adroddiad o dan Cyngor Cymuned Llanfair am Gwmni ‘Tree Fella’ ym mis Mehefin. Hoffwn ymateb. Drwg gennyf am gymryd amser hirach na’r disgwyl i docio’r coed, ond roedd nyth o gywion sguthan yn y goeden wrth ddrws yr eglwys pan es i draw i wneud y gwaith. Fedrwn i ddim torri eu cartref nhw i lawr. Penderfynais eu gadael nhw am gyfnod i gael amser i hedfan o’r nyth. Mi ddaru bachgen sy’n gweithio hefo fi sgwennu pennill a’i roi o ar giât yr eglwys i esbonio’r sefyllfa. Sguthan yr Ywen Fe dorrais un ywen yn gywrain, Gan symud ymlaen at yr ail un, Ond ar ganol y torri Fe sylwais heb oedi, Ar nyth bach o gywion -’rhen sguthan! Mae’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn hyn. Diolch. Nedw Griffiths

DARLLEN GYDA’N GILYDD YN Y BERMO

Mae grŵp darllen gyda’n gilydd newydd am ddim yn cael ei sefydlu yn Llyfrgell Abermaw. Mae prosiect Gogledd Cymru ‘Llais a Llyfr’ The Reader Organisation wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Llyfrgelloedd Gwybodaeth a Chymorth Iechyd a Lles Macmillan i sefydlu’r grŵp hwn. Mae darllen gyda’n gilydd yn sylfaenol wahanol i grwpiau darllen confensiynol. Yn hytrach na darllen llyfr ar eich pen eich hun, ac yna dod at eich gilydd mewn grŵp i drafod, efallai mewn ffordd academaidd neu ddadansoddol, mae darllen gyda’n gilydd yn golygu darllen stori fer, neu gerdd, neu lyfr, gyda’ch gilydd, yn uchel mewn grwpiau bach wythnosol. Mae’r grwpiau yn fach ac yn gyfeillgar. Bob wythnos, bydd llyfrau a cherddi yn cael eu darllen yn uchel a bydd trafodaeth amdanynt dros baned o de a bisgedi. Gallwch ymuno cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, does dim pwysau ar neb. Mae amrywiaeth eang o straeon byrion, nofelau a bydd cherddi gan ein hysgrifenwyr mwyaf enwog yn cael eu darllen yn uchel: y cwbl sydd raid i aelodau’r grŵp ei wneud yw eistedd a gwrando. Mae croeso i bawb yn y grwpiau ddarllen gyda’n gilydd, p’un a ydych yn ddarllenydd, ddim yn ddarllenydd, neu rywun a fyddai’n hoffi amser a lle i ymlacio. Ac mae’n rhad ac am ddim! Clwb Cinio Ddydd Mawrth, Gorffennaf 1 aethom ar daith i ganol mwynder Maldwyn. Yn gyntaf, aethom i Ddolanog i weld Capel Coffa Ann Griffiths. Tra yn y capel, cawsom beth o hanes y capel gan Rhiannon. Yna ymlaen i Ddolwar Fach, cartref Ann Griffiths, ac i’r eglwys yn Llanfihangel yng Ngwynfa i weld ei chofeb. Wedi cael cinio yn Llanfyllin, ymwelsom â Chapel Pendref, sydd hefyd yn gysylltiedig ag Ann Griffiths. Yna ymlaen i Pontrobert i weld Hen Gapel John Hughes. Croesawyd ni gan Nia Rhosier i’r capel a chawsom hanes y capel a hanes y Parch John Hughes ganddi hi. Roedd yn brofiad arbennig iawn bod yno. Yna troi am adref wedi cael diwrnod wrth ein bodd, diwrnod y byddwn yn ei gofio yn hir iawn. Diolch i Enid am wneud y trefniadau ar ein cyfer.

RHAGHYSBYSIAD Nos Wener, 24 Hydref

Cyngerdd

yn y Neuadd Gymuned Talsarnau Parti’r Goedlan (Tudur Gwanas a’r teulu) a Thrio Canig o Sir Fôn. Pris tocyn - £10 Plant am ddim Cyhoeddiadau’r Sul Horeb

GORFFENNAF 6 Jean ac Einir

13 Cyfarfod Gweddi 20 Anthia a Gwennie 27 Rhian a Meryl AWST 3 Hilda Harris 10 Huw a Rhian 17 Beryl a Rhiannon 24 Cyfarfod Gweddi 31 Parch Emlyn Richards MEDI 7 Parch Dewi Morris


MARIAN THOMAS, Preseli, Talybont Ganwyd Marian ar 11 Hydref 1935, y pumed o chwech o blant i Mary a Rees Edwards, Awelfa, Clunderwen, Sir Benfro. Roedd eu tad yn ddiacon ac arweinydd y gân, felly dim syndod fod rhaid i’r plant fynychu’r capel ddwywaith bob Sul. Rhaid oedd cerdded i’r capel wrth gwrs a phleser mawr i’r plant oedd cael eu cario ambell dro gan ŵr o’r pentref oedd yn berchen ar gar! Aelwyd hapus a phrysur oedd Awelfa a bu Marian yn weithgar iawn gyda holl agweddau bywyd pentre’ gwledig gan gynnwys y cwmni drama a’r Ffermwyr Ifanc. Roedd y teulu yn gerddorol a bu Marian a’i chwiorydd Morfydd, Mair a Morwen, yn perfformio yn y capel a’r neuaddau lleol. Mae’n debyg fod genyn cerddorol y teulu Edwards wedi neidio un genhedlaeth cyn ail ymddangos yn Megan ac Ellen, wyresau Marian a Tudor! Chwaraewyd darnau o gerddoriaeth oedd at ddant Marian yn y gwasanaeth angladdol, cân gan Rhydian ar y cychwyn ac un o ganeuon Shirley Bassey ar y diwedd. Yn sgil aelodaeth o glwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen, tyfodd ei gwybodaeth am faterion amaethyddol. Bu’r arbenigedd yma o help ar amryw achlysur ac fe gofir yn benodol am y tro yr aeth ffesantod ei brodyr John a Lewis ar goll. Allweddol oedd rôl Marian yn y dasg o ddod o hyd iddynt! Yn dilyn ei haddysg gynnar yn ysgol y pentre, ymlaen i Ysgol Ramadeg Arberth. Wedi dyddiau’r ysgol uwchradd, dilyn cwrs nyrsio tan i niwed ar ei chefn ddod â’r hyfforddiant i ben yn gynamserol. O ganlyniad, dychwelodd Marian i Glunderwen i weithio yn siop y fferyllydd. Yn ystod y cyfnod yma daeth i adnabod un o feibion enwocaf Sir Benfro, y bardd Waldo Williams. Yn dilyn cyfnod yn siop y fferyllydd, dilynodd ei chwaer Morwen i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, i weithio fel Dirprwy Fetron. Gyda dwy o’r chwiorydd Edwards yng ngofal lles y myfyrwyr, ni fu pethau

byth yr un fath yn y Drindod! Ar achlysur un o’r gemau rygbi, yn anesboniadwy, aeth dillad tîm y coleg ar goll! Mae’n debyg i’r ffaith fod gan y Dirprwy Fetron agoriad i bob twll a chornel fod yn “allweddol” yn y diflaniad! Mae’n debygol mai’r digwyddiad yma ddaeth â Marian i gyffyrddiad â myfyriwr ifanc o Gwmtwrch Uchaf, Tudor Thomas. Tyfodd y garwriaeth a phriodwyd y ddau yng Nghapel Pisgah , Llandysilio yn 1961. Yn dilyn penodiad Tudor i swydd athro yn Ysgol Ardudwy, bu rhaid cefni ar y De a throi am wlad y “Gogs”. Gyda’i phrofiad yn y Drindod, llwyddodd Marian i gael swydd fel howsgiper yng Ngholeg Harlech, lleoliad perffaith er mwyn cadw llygad ar Tudor, lawr y ffordd! Daeth cyfnod arall o addysg i Marian - dysgu gyrru car! Ei thiwtor oedd yr enwog John Henry. Yn ystod un wers arbennig, gyda’r modur yn agosáu at groesfan sebra, gofynnodd ei thiwtor, “Be’ da chi’n weld o’ch blaen Mrs Thomas?” Atebodd Marian yn hyderus, “y Cnicht!” Chwarae teg, ar ddiwrnod clir, mae’r Cnicht yn mynnu dangos ei hun! Ar ôl cyfnod yn Nhŷ Isaf, Talybont, symudodd y ddau i Preseli lle bu amrywiol sgiliau Tudor yn ddefnyddiol ar gyfer adeiladu cyfres o estyniadau i’r cartref. I Marian, rhaid oedd canolbwyntio ar fagu teulu. Cyrhaeddodd Elin yn amserol iawn ar ddydd cyntaf hanner tymor y gwanwyn, Chwefror 1965. Roedd yna amseru da o safbwynt Emyr hefyd, yntau yn cael ei eni ar ddydd cyntaf gwyliau’r haf 1968. Roedd yna gynllunio da yn Preseli felly! Da oedd bywyd yn Nhalybont, mor dda, nes i frawd Marian John, ddilyn nhw’r holl ffordd o Rhodesia! Tyfodd y ddau deulu i fyny gyda’i gilydd gyda threiffl arbennig Esme yn sicrhau fod y berthynas yn aros yn un clos! Buan yr amlygodd doniau artistig Marian eu hunain. Trodd ei llaw at amrywiol weithgareddau, paentio tsieina, gwneud gemau a chardiau cyfarch ac yn arbennig gwau. Bu ei chyfnod o ddefnyddio gwlân mohair yn llwyddiannus,

cymaint y llwyddiant nes i’r “mohair” ymddangos ym mrechdanau ysgol Elin ac Emyr ar sawl achlysur! Yn fwy diweddar, bu gwau Marian yn llesol i eraill, wrth iddi wau tedis a dillad ar gyfer babanod cyn pryd yn Swydd Efrog ynghyd â phlant yn Affrica. Roedd yn gogydd ardderchog, gyda’i harbenigedd yn ymestyn o deisennau garw i siytni tomato sbeislyd! Doedd arni ddim ofn arbrofi ac roedd ymhlith y cynta’ i ddefnyddio’r microdon. Ni fu llwyddiant bob amser a bu cam ddarllen cyfarwyddiadau un Nadolig yn golygu na fu na bwdin i’w fwynhau. Bu’r pwdin i mewn yn rhy hir, nes creu llond cegin o fwg! Roedd y pwdin druan yn fwy addas ar gyfer ei danio o ganon Castell Harlech na’i weini ar y bwrdd cinio ‘Dolig! Bu ganddi gryn ddiddordeb mewn chwaraeon ar hyd ei hoes. Mi gofiwch helynt diflaniad dillad y tîm rygbi! Mae gan y teulu atgofion am nosweithiau braf ar draeth Talybont a nofio yn y môr. Doedd ei chryfder ddim yn y nofio fodd bynnag ac yn y gamp o dennis bwrdd y daeth i’r brig. Bu’n bencampwraig Merched y Wawr Cymru ar fwy nag un achlysur. Yn dilyn ymddeoliad Tudor o Goleg Meirionnydd yn 1993, cychwynnodd y ddau ar fenter newydd - rhedeg siop grefftau. Pethau Cain oedd yr enw swyddogol ond i rai, dyma oedd Harrods Talybont. Cafwyd deg mlynedd lwyddiannus cyn

ffarwelio â’r fenter. Cyfle wedyn i Marian ganolbwyntio ar ei diddordeb pennaf, bod yn famgu gariadus i Megan ac Ellen. Roedd Marian yn unigolyn o gymeriad cryf a gwynebodd ei hafiechyd, oedd yn drugarog fyr, gyda dewrder a phenderfyniad. Dyma rinweddau a ddangosodd yn ystod ei bywyd. Gweithredodd bob amser yn unol â’r hyn y credai oedd yn iawn. Yn ychwanegu lliw a chynhesrwydd i’w bywyd, roedd yna synnwyr digrifwch cryf ond un tyner ac addfwyn serch hynny. Bu’n gyfaill gwir a theyrngar i lawer ond doedd ei theyrngarwch ‘nunlle’n gryfach nag at ei theulu. Llwyr oedd y gefnogaeth iddynt a gonest a chlir oedd ei chyngor bob amser. Un gynnes a hael ei chymeriad, cyfoethogodd Marian fywydau pawb ddaeth i gyffyrddiad â hi, boed hynny fel gwraig, mam, mam-gu, chwaer, modryb neu ffrind. Dim syndod felly i gynulleidfa barchus iawn ymgynnull yn Amlosgfa Aberystwyth, ddydd Mawrth, Mai 20fed. Bu’r gwasanaeth angladdol yng ngofal medrus y Parchedig Ganon Beth Bailey. Darllenwyd y drydedd salm ar hugain gan Clive Rowlands a phriodol, o gofio cefndir Marian, oedd darlleniad J Keith Jones o gerdd Waldo, “Cofio”. Gadawodd Marian etifeddiaeth o atgofion da a rheini yn awr fydd yn help i gynnal y teulu wrth iddynt orfod ymdopi â’u colled.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


TAITH YR ARFORDIR Yn ddiweddar, cawsom ymwelwyr o Ganada yn aros yn Nhrem Enlli, Llanaber. Daw Mona a David Mathews o Calgary, Alberta, Canada ac maent, ar hyn o bryd, yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sy’n 870 milltir ar ei hyd. Amcan y daith yw mwynhau golygfeydd godidog arfordir Cymru a chodi arian at ymchwil canser.

Caiff yr arian ei ddosbarthu rhwng sefydliadau ymchwil yng Nghymru, Canada a’r Amerig. Mae David yn enedigol o Borth, Sir Aberteifi. Symudodd i Ganada i ddysgu a’r bwriad oedd aros yno am ryw ddwy flynedd, ond bellach mae 35 o flynyddoedd wedi mynd heibio! Dydd Gŵyl Ddewi oedd

diwrnod cyntaf y daith gan gychwyn yng Nghasgwent a cherdded i fyny am Aberystwyth. Croesi Cymru wedyn ac ailddechrau yng nghyffiniau Caer, ar hyd arfordir y gogledd, Sir Fôn, Pen Llŷn ac yn ôl am Aberystwyth. Tra ar y daith roedd David yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. Lle mae’r esgidiau cerdded ‘na? Ewch ati, tydy byth yn rhy hwyr i ddechrau.

Beth amser yn ôl bûm ddigon ffodus i deithio i Ganada gyda Chôr Godre’r Aran ac roedd David yn gefnogol iawn ac yn gymorth mawr wrth drefnu’r daith. Os hoffech wybod mwy am y daith, mae ganddynt safwe arbennig gyda llawer iawn o luniau a dynnwyd ar hyd y daith gan gynnwys ardal Ardudwy. www.madwalking.com John a Grace Williams

Ymateb Mona a David Mathews

Buom yn ffodus iawn i fedru aros am ychydig ddyddiau yn safle carafanau a gwersylla Trem Enlli, Llanaber, ger Y Bermo. Mae’n safle gwych, modern gyda golygfeydd arbennig iawn dros y môr. John Williams a’i wraig, Grace, yw’r perchnogion. Cawsom amser gwych yn cerdded yn yr ardal ac ambell i gawod o law, ond doedd dim blewyn o bwys am hynny. Dyma le hyfryd i gerdded Llwybr yr Arfordir. Diolch i John a Grace am eu croeso twymgalon.

GWOBR AM GYDWEITHIO Ym mis Mai aeth aelodau o staff Fferyllfa Rowlands a Meddygfa Minfor, Abermaw i Wobrau Fferyllol Cymru yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Cyhoeddwyd ar y noson fod tîm Bermo wedi ennill y wobr Gweithio Mewn Partneriaeth: Fferyllfa a Meddygfa y Flwyddyn 2014. Rhoddwyd canmoliaeth i sut y mae’r fferyllfa a’r feddygfa yn cyd-weithio i sicrhau y gofal gorau posibl i gleifion yn y gymuned leol. Roedd y gwaith yn cynnwys rhedeg system ail-bresgripsiwn effeithiol, hybu byw yn iach yn y gymuned, trefnu meddyginiaethau mewn argyfwng, rhannu gwybodaeth fferyllol, lawnsio’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, a sicrhau bod meddyginiaeth atal cenhedlu ar gael ar frys a chynnyrch rhoi’r gorau i ysmygu. Roedd y ddau dîm wrth eu bodd i ddod a’r wobr yn ôl i’r Bermo.

8

Marian, Eirian, Mona, Betty a Holly


Y BERMO A LLANABER

CYLCH MEITHRIN Y GROMLECH

Cafodd plant Meirionnydd gyfle gwych i fod yn rhan o Basiant Meithrin yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn yn Y Bala. Roedd tua 270 o blant rhwng 2 a 4 - digon o waith trefnu! Thema’r sioe oedd arch Noa ac felly cafodd pob cylch meithrin y cyfle i wisgo gwisg anifail. Dyma lun o blant cylch meithrin y Gromlech wedi eu gwisgo fel pili pala. Cafwyd diwrnod gwerth chweil a’r plantos wedi mwynhau cwrdd â Doti a Dewin. Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i Grace, John a’r teulu yn eu profedigaeth o golli modryb, Anti Menna Corris, a oedd mor annwyl ganddynt. Merched y Wawr Yn ein cyfarfod mis diwethaf, cawsom ymddiheuriadau gan Lilian, Gretta a Gwenda. Diolchwyd i Iris a Jean am wneud y baneri ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Cafwyd adroddiad o’r Ŵyl Haf ym Machynlleth gan Grace. Diolchwyd i Dorothy, Geinor, Grace a Jean am ein cynrychioli. Cafwyd adroddiad gan Pam ar ran y dysgwyr. Croesawyd Mair Tomos Ifans atom i’n diddori yn ei ffordd ddihafal ei hun. Cawsom amryw gân werin a hanes diddorol ganddi am bob un, ac fel oedd dylanwad ei mam wedi ei hysgogi. Hefyd, rhoddwyd croeso i’r plantos Ellis ac Osian. Diolchwyd iddi gan Pam. Merched y te oedd Dorothy, Gwyneth a Pam. Enillwyd y raffl gan Mair. Ar brynhawn braf o Fehefin aeth aelodau’r gangen ar daith i ymweld â’r Lasynys Fawr. Cawsom groeso cynnes gan Catrin Glyn, a chael sgwrs am y Lasynys a’i hanes dros baned a chacen. Yna cafwyd taith o gwmpas y tŷ, a phawb yn rhyfeddu ei fod

yn dŷ mor fawr gyda chymaint o ystafelloedd. Diddorol oedd gweld darnau gwreiddiol y tŷ, fel rhai o’r lloriau a’r gwely cudd, a hefyd yr hon ddodrefn ar fenthyg o Sain Ffagan, oedd o’r un cyfnod ag Ellis Wynne. Cafwyd prynhawn difyr a diddorol iawn. Ar y ffordd adref, cafwyd pryd o fwyd blasus yn y Wayside.

TRO I’R MYNYDD Gosododd Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams a chriw lleol Bermo dipyn o her iddynt eu hunain yn gynharach ym mis Mehefin. Doedd hi ddim yn Sul y Tadau arferol i Gethin a’r criw, wrth iddynt ymgymryd â’r her enwog o ddringo’r tri mynydd uchaf yn nhair o wledydd y DU - Ben Nevis yn Yr Alban, Scafell Pike yn Lloegr a’r Wyddfa. Mae’r orchest yn anoddach fyth oherwydd bod rhaid cwblhau’r sialens ddringo o fewn 24 awr. Aelodau o griw Bad Achub Bermo oedd cnewyllyn y criw, gyda Gethin, y ffermwr o’r Bontddu yn ymuno â nhw. Yn ôl Gethin, doedd heb gael fawr o gyfle i hyfforddi ar gyfer yr her o ddringo’r 11,000 o droedfeddi a’r 24 milltir o daith a wynebai. “Rhwng ffermio, gwaith Cyngor Gwynedd a’r bywyd teuluol prysur sydd yma, doeddwn i ddim wedi cael llawer o amser i hyfforddi,” meddai Gethin. “Dwi’n hynod falch o ddweud bod y deg ohonom a gymrodd ran wedi llwyddo, a bu’r cyfeillgarwch yn fodd o’n cynnal a chefnogi’n gilydd pan oedden ni’n ei gweld hi’n anodd,” eglurodd. “Y peth gwaethaf i mi oedd cerdded i lawr llethrau’r mynyddoedd, yn enwedig y darnau serth i lawr Ben Nevis. Ond mi roedd y criw yn cynnal rhywun ac yn ein gyrru yn ein blaenau.” Ni fu llawer o gwsg rhwng y teithio i waelod y mynyddoedd yn ôl Gethin. Roedd 950 o filltiroedd o deithio rhwng cychwyn o Bermo i Ben Nevis, ger An Gearasdan (Fort William), yna draw i Scafell Pike, Ardal y Llynnoedd ac yn ôl i Eryri i gopa’r Wyddfa cyn cychwyn yn ôl am adref. “Roedden ni’n flinedig iawn ar ôl y daith 36 awr, rhwng y teithio i’r lleoliadau. Ond mi lwyddon ni i ddringo’r tri mynydd o fewn y 24 awr a chodi dros £2000 ar gyfer gwasanaeth y Bad Achub. “Mae’n achos teilwng iawn, a’r cyfan yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Roedd y criw fu’n dringo gyda mi yn dal swyddi llawn amser ac yn gwirfoddoli i’r Bad Achub yn Abermaw yn eu hamser sbâr. Mae’n glod i’w gwaith a’u dyfalbarhad, a dwi’n falch iawn iawn ohonyn nhw i gyd. “Aeth y criw cyfan am ddiod fach ar ôl cyrraedd yn ôl i Bermo, ac fe gawsom groeso twymgalon gan y bobl leol. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu ac am y gefnogaeth gawson ni yn ystod yr her,” meddai Gethin. Traed i fyny pia hi rŵan i Gethin a’r criw!

Ras y Tri Chopa Cafwyd ras hynod o lwyddiannus eto eleni, gyda dwsin o gychod yn cymryd rhan, a’r cyntaf yn cyrraedd An Gearasdan (Fort William) yn yr Alban am 10.47 yr hwyr ar nos Fawrth, Mehefin 10fed. ‘Wight Rose’ oedd hon, cwch Geoff West o Ynys Wyth; mae Geoff yn hen law ar gystadlu yn y ras - mae o wedi ennill chwe gwaith hyd yn hyn. Cafwyd ymweliad â swyddfa’r ras gan ddau ddosbarth o Ysgol y Traeth, ac roeddent wedi paratoi negeseuon mewn tair potel, a rhoddwyd y rhain i dri chwch; un, Moby J, i luchio’r botel dros fwrdd yr iot rhwng Y Bermo a Chaernarfon, yr ail iot, Denebola, cwch o wlad Belg, i luchio’r botel rhwng Caernarfon a Whitehaven, a’r drydedd i luchio’r botel rhwng Whitehaven a Fort William. Bydd yn ddiddorol gwybod a gaiff yr hen blant unrhyw ymateb i’w negeseuon - gobeithio y cânt.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN o flwyddyn i flwyddyn). Roedd Dad wrth ei fodd gyda’i rôl ‘front of house’ yng Ngwrach Ynys, byddai’n treulio oriau yn siarad gyda phobl o bob cornel o’r byd am lwybrau’r Wyddfa neu am hanesion lleol. Byddai pawb yn cael yr un hanes nes bod Gwen Tŷ’r Acra, Donna a Linda Soar [oedd yn gweithio acw] wedi cael llond bol o’u clywed. Un diwrnod wrth roi dillad ar y lein [un o’i brif ddyletswyddau] roedd Dad wedi cyffroi fel plentyn pan ddaeth Willie John McBride i aros dros y penwythnos; roedd yn ddyn balch Wedi brwydr hir yn erbyn canser iawn y noson honno. yr ymennydd, bu farw Gwynfor Un o’r pethau roedd Dad yn wych Williams, Gwrach Ynys, ac yntau am ei wneud oedd trefnu. Boed yn yn 65 oed. Dyma grynodeb o’r barti, trip neu gyngerdd. Byddai’n deyrnged a draddodwyd gan Caryl, cael syniad ac yna allan doi’r papur ei ferch, yn y gwasanaeth i ddiolch ac yna byddai’n dechrau gwneud am ei fywyd. rhestr o pwy fyddai’n dod. Byddai ‘Dwi erioed wedi ysgrifennu pob rhestr yn dechrau gydag enw teyrnged ac fel arfer Dad fyddai’r Dic Tŷ Cerrig. Os oedd Dad person cyntaf fuaswn yn mynd yn cael syniad roedd eisiau ei i’w weld i’m helpu gyda rhywbeth weithredu yn syth heb aros tan fel hyn. Buaswn yn rhedeg pob yfory. Mae ei daith gyda Dic i dim heibio fo’n gyntaf os yn waith Seland Newydd i weld Cwpan ysgol neu wahoddiad parti. Felly y Byd rygbi yn tystio i hyn. roedd ysgrifennu hwn am fod yn Penderfynodd ar y dydd Iau bod o anoddach heb gael fy ‘proof reader’ eisiau mynd ac ar ôl galwad sydyn i edrych drosto. Ac nid y fi oedd yr i Dic, dyma brynu’r tocynnau a unig un i ofyn i Dad am help gan i hedfan allan ar y dydd Sul. Yna amryw o hogiau lleol ddod i gwelwyd nhw gan hanner y byd Gwrach Ynys i ofyn am help i ar y teledu yn eistedd o flaen Rhys ysgrifennu ‘araith gwas priodas’ neu Priestland. gerdd at ryw achlysur. Pan oedd Dad yn trefnu rhywbeth, Ganed Dad yn Nhremadog yn 1949. byddai’n gwneud yr ymdrech fwyaf Roedd wrth ei fodd yn dweud ei fod i sicrhau fod pob manylyn yn ei le. wedi’i eni yn yr un lle â ‘Lawrence Pan fyddai yn mynd ar drip gyda of Arabia’. Aeth i Ysgol Talsarnau Mam byddai’r ddau yn treulio cyn mynd i Ysgol Ardudwy. Roedd oriau yn astudio mapiau ac yn gan Dad lawer o atgofion melys darllen llyfrau. Dydi trefnu heddiw o’i amser yn yr ysgol ac roedd ddim wedi bod yn hawdd gan wedi mwynhau yn fawr dal i fyny drio gwneud yn siŵr y byddai pob hefo pawb a oedd yn ei flwyddyn manylyn yn plesio Dad. yn Nhalsarnau yn ddiweddar ym Roedd yn hogyn ei filltir sgwâr a mharti pen-blwydd John a Roger. byddai yn gwneud unrhyw beth i’w Yna aeth i weithio i Drawsfynydd ardal. Roedd yn aelod o’r Cyngor am ychydig cyn treulio gweddill ei Cymuned ers sawl blwyddyn. fywyd gwaith yn hapus iawn ym Doedd neb yn fwy balch o gael mhwerdy Tanygrisiau. Byddai yn Neuadd Gymuned newydd yn y dweud yn aml nad aeth i Brifysgol pentref. Gweithiodd ef ac Anti a’i fod o wedi bod i Goleg Bywyd, Shân yn galed i’w ariannu, a ac yn ei farn ef, wedi dysgu llawer gydag Arwel Michael cerddodd o mwy. Ystradgynlais i gopa’r Wyddfa i godi Fe gwrddodd Dad â Mam yng arian i’r Neuadd. Fel y gŵyr pawb, Nghaerdydd ac ar ôl prynu ŵy a parhaodd i drefnu teithiau cerdded chips iddi, parhaodd i’w ‘sbwylio’ yn y blynyddoedd diwethaf i godi hi am 38 o flynyddoedd hapus. arian. Petai bob cymuned yn cael Priodwyd y ddau yng Nghapel rhywun fel Gwynfor John, mi fuasai Brynaerau yn 1976, ac yna fe lle llawer gwell yn yr hen fyd yma. brynon nhw Gwrach Ynys. Ers Maen nhw’n deud mai tu ôl i pob hynny, gweithiodd y ddau yn dyn da mae dynes dda. Roedd ddiddwedd yn adnewyddu a gan Dad yr orau, neu fel byddai ef chadw’r tŷ a daeth Dad i’w adnabod yn ei ddweud ‘champion’ o wraig. fel Gwynfor Gwrach Ynys. Roedd y ddau yn gweithio mor dda Buon nhw’n cadw pobl ddiarth neu gyda’i gilydd ac yn deall ei gilydd ‘strange people’ fel oedd Dad yn eu i’r dim. Roedden nhw’n cael hwyl galw, a chroesawyd cannoedd i’r yng nghwmni ei gilydd ond roedd ardal gyda brwdfrydedd ac ambell ambell i gamddealltwriaeth, nid stori (un neu ddwy stori yn datblygu ffrae. Ond dros banad a chacen

GWYNFOR JOHN WILLIAMS

10

byddent yn penderfynu mai Mam oedd yn iawn ac yn symud ymlaen i wneud y joban nesaf ar y rhestr. Roedd y ddau wedi cael blas ar deithio yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi gweld llawer iawn. Cyflawnodd rai o’i uchelgeisiau sef cerdded i ‘base camp’ Everest a chyrraedd copa Kilimanjaro. Os oes yna un gair yn dod i’r meddwl wrth feddwl amdano, hwyl fyddai hwnnw. Roedd hwyl i gael yn ei gwmni bob amser. Roedd wrth ei fodd yn tynnu coes eraill a doedd dim ots o gwbl os oedd pobl yn tynnu ei goes ef. Un o’r bobl fyddai wrth ei fodd yn tynnu ei goes oedd Arfon Pugh. Roedd 40 mlynedd o wahaniaeth oedran rhwng Arfon ac ef ond roedd eu perthynas yn agos fel dau ffrind, sy’n dangos mor eang y sbectrwm oedran o ffrindiau oedd ganddo. Byddai o hyd yn canu. Pan oeddwn yn iau, byddwn yn cuddio yn y car pan fyddai’n bloeddio ei ganeuon opera wrth aros wrth y goleuadau ar Bont Briwet. Byddai wrth ei fodd yn canu ar ôl gêm rygbi a byddai wrth ei fodd gyda Meirion Wyn a’r criw yng Nghaerdydd. Un o’i uchafbwyntiau diwethaf oedd trip y Llewod i Awstralia. Roedd peth trefnu wedi bod cyn mynd ac roedd wedi cynhyrfu fel hogyn bach. Byddai yn fy ffonio yn syth ar ôl pob gêm ac roedd yn llawn cyffro yn adrodd pob manylyn o gêm yr oeddwn i newydd ei gweld hefyd. Fel Taid Jet yr oedd yn cael ei nabod yn tŷ ni ers geni’r plant. Roedd o reit barod i ddweud wrtha i am beidio sbwylio’r plant ond Dad fyddai’r gwaethaf am wneud hynny. Roedd wrth ei fodd yn ymuno yn y chwarae a dwi’n cofio un o ffrindiau Efan yn dweud wrtho yn ei barti pen-blwydd ‘mae Taid chdi’n cŵl’. Rydym wedi derbyn llawer iawn o gardiau a galwadau ffôn yn yr wythnos diwethaf ac os oes un neges gyffredin - pa mor ffeind oedd Dad yw honno. Nid yn unig roedd yn ffeind iawn wrthon ni i gyd fel teulu, ond mi fyddai’n barod i wneud cymwynas i unrhyw un. Doedd ganddo erioed air cas i’w ddweud am neb. Byddai bob amser yn cerdded yr ail filltir i helpu rhywun. Hoffwn ddiolch ar ran y teulu am yr holl alwadau ffôn, ymweliadau, blodau a chacennau sydd wedi cyrraedd Gwrach Ynys yr wythnos hon. Ond hefyd hoffwn ddiolch i bawb am eich caredigrwydd a’ch cymorth yn ystod y flwyddyn. Hogan Dad oeddwn i ac yn fy llygaid i roedd Dad yn gallu gwneud a sortio pob dim. Doedd dim bwys lle roeddwn yn y byd, byddwn bob amser yn ffonio adra os mewn picl,

a byddai Dad o hyd yn fy rhoi ar ben ffordd. Yn anffodus, ni fydd Gwynfor John ar ben arall y ffôn, bellach, i ofyn cymwynas ond mae o wedi dangos i mi drwy esiampl sut i fyw fy mywyd. Mwynhau pob eiliad gyda gwên, ceisio helpu eraill pan fo angen ac yn hytrach na meddwl am wneud rhywbeth, mynd ymlaen a’i wneud yn y fan a’r lle. Nid yw heddiw’n ddiwrnod i deimlo’n drist. Cawn lawenhau a chofio’r hwyl a gawsom yn ei gwmni drwy dynnu coes a chwerthin lond ein boliau. Felly, os oeddech yn ei adnabod fel gŵr, tad, Taid Jet, brawd, cefnder, Gwynfor Gwrach Ynys, Gwynfor John, ffrind, cymydog, trysorydd pwyllgor neuadd, aelod o bwyllgor clwb rygbi, cyn-lywydd pwyllgor Sioe Sir - heb os bydd bwlch enfawr yn eich bywyd ar ei ôl. Os byddaf yn cyflawni hanner y pethau a gyflawnodd Dad yn ei 65 mlynedd ar y ddaear yma, byddaf yn berson hapus a bodlon. Diolch am yr holl hwyl ac am fod yna i ni i gyd. Cwsg yn dawel Dad.’ Diolch Dymuna teulu Gwrach Ynys, a Margaret a Prysor ddiolch i bawb am yr holl gardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a phob cefnogaeth a dderbyniasant ar ôl colli Gwynfor. Rhodd a diolch - £20 Cydymdeimlad Anfonwn gydymdeimlad dwys at deulu Gwrach Ynys, Deborah, Geraint, Caryl ac Elfyn, Efan, Guto a Hari, yn eu profedigaeth fawr o golli Gwynfor. Hefyd, estynnwn yr un cydymdeimlad â Margaret a Prysor a’r teulu ac anfonwn ein cofion atynt oll fel teulu yn eu galar a’u tristwch. Cydymdeimlwn hefyd yn arw iawn â Deborah yn ei phrofedigaeth o golli ei thad yn Ysbyty Gwynedd ar Mehefin 9. Cafodd Deborah a’r teulu ergyd ddwbl greulon yn ddiweddar. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â holl deulu Coedty Mawr, Llandecwyn ym marwolaeth Mrs Megan Williams yn dilyn salwch blin. Roedd Megan yn wraig uchel iawn ei pharch yn yr ardal. Diolch Dymuna Gwen Williams, 5 Cilfor, Llandecwyn ddiolch o galon i bawb am yr holl gardiau blodau, galwadau ffôn ac ymweliadau â hi yn yr ysbyty ac ar ôl dod adref, ar ôl iddi gael damwain a thorri ei choes. Diolch yn fawr iawn i bawb. Gwen ac Eifion Rhodd a diolch £10


MERCHED Y WAWR BERMO

MEGAN EIFIONA WILLIAMS Ganwyd Megan ar Ebrill 18, 1935 yng Nghroesor, yn ferch i John Ellis ac Elisabeth Ellen Williams, a chwaer i Iorwerth, Nancy, Beti Wyn a’r diweddar Griffith John ac Alice. Roedd yn wraig annwyl i Evan ac yn fam arbennig i Merfyn a Ceryl, Mair a Kevin, John a Kath, Ann, Carys a Gareth. Roedd yn nain hoffus i Caryl, Awen, David, Arwel, Mared, Arwyn, Kirsty, Ffion, Llifon a Llŷr. Roedd hefyd yn hen nain falch o Elin fach a Lowri Megan. Y teulu oedd yn bwysig i Megan a hefyd ei ffrindiau. Roedd yn meddwl llawer am bobl eraill a byth yn meddwl llawer amdani ei hun. Bu’n aelod yng Nghapel Croesor ac yna yng Nghapel Siloam, Llanfrothen cyn symud i Gapel Soar yn Nhalsarnau. Bu’n helpu John a Nellie yn y Ring, Llanfrothen ac yn gweithio yng Nghaffi Madog hefo Mr a Mrs Morgan am rai blynyddoedd. Bu hefyd yn gweithio i Mr a Mrs Emmanuel lle roedd yn fawr ei gofal dros bobl yr ardal. Wedi iddi briodi Evan, symudodd i Faes Gwndwn, Talsarnau ac wedyn i fyny i fferm Coedty Mawr, Llandecwyn lle’r oedd yn gaffaeliad mawr gyda’r gwaith ffermio ac yn arbennig yr ochr fusnes. Er hynny, nid oedd yn rhy brysur i helpu Fal a David yn Nhregwylan a chafodd flynddoedd hapus iawn o gyd-weithio yno. Roedd hefyd yn aelod o Gôr Cymysg Blaenau Ffestiniog ac yn mwynhau cwmni’r aelodau. Roedd yn hoff iawn o ganu. Er yr holl brysurdeb, fe gawsai, yn ei thro, gyfle i fynd ar wyliau gydag un o’r cwmnïau bysus lleol yng nghwmni Bet a Gerallt. Ond roedd bob amser yn falch o gael dod adref i weld ei theulu ac i fynd ymlaen â’r gwaith. Ychydig fisoedd yn ôl, cyn i’r salwch ei rhwystro, aeth Megan yng nghwmni Fal, Gwen ac Eifion i’r Eidal ar wyliau. Dyma’r tro cyntaf erioed iddi fentro dros y môr. Bu iddynt fwynhau eu hunain yn arw a mawr oedd gofal y tri ohonynt o Megan. ‘O Arglwydd Dduw, na ad im geisio dim gan eraill, eithr rhoddi boed i mi. Na foed im hawlio dim imi’n y byd, ond rhoi i eraill fydd fy mraint o hyd.’ Dyna athroniaeth bywyd Megan. Mae dwy linell arall yn ei disgrifio i’r dim: ‘Caredig iawn i ni a fu, A theilwng gefn i’w theulu.’ DIOLCH Dymuna teulu’r ddiweddar Megan Eifiona Williams ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch arbennig i’r Parchedigion Gwyn Thomas, Dewi Tudur a Christopher Prew am wasanaeth hyfryd. Hefyd i’r trefnwyr angladdau, Pritchard a Griffiths, Tremadog am eu gwaith caboledig. Diolch i Fal, Tregwylan am drefnu’r te ar ôl y gwasanaeth. Casglwyd £1400 er cof amdani at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Diolch i bawb am y cyfraniadau hael. Rhodd a diolch - £10

Baner cangen Bermo a’r cylch ym mhabell MyW yn Eisteddfod yr Urdd. Diolch i Jean ac Iris am fod mor barod i’w gwneud. Diolch hefyd i’r aelodau a fu’n gofalu am y baned a’r teisennau cri.

MERCHED Y WAWR TALSARNAU

Ar fore dydd Iau, 19 Mehefin aeth aelodau Cangen Talsarnau ar ymweliad â Chwmni Seren ym Mlaenau Ffestiniog. Cawsom ein croesawu gan Sioned, Swyddog Marchnata’r Cwmni, a Rachel, un o’i chydweithwyr, yn y Stordy Dillad, yn egluro’r hyn sy’n digwydd yno ac yna cael ein tywys o gwmpas yr ystafell adnewyddu dodrefn a mynd i’r siop ddodrefn – eu Harrods hwy! - a’r ddwy’n egluro’n dda am y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan weithwyr Seren. Bu’n agoriad llygad i’r rhan fwyaf ohonom wrth sylweddoli’r holl sy’n cael ei gyflawni yno ac yn ein gwneud yn awyddus iawn i ail-ymweld. Ymlaen i’w gweithdy – Cylch yr Efail, a chael sgwrs am y gwaith

crefft sy’n digwydd yno - eto gwaith o safon uchel iawn, a chafwyd cyfle i brynu rhai o’u nwyddau. Y lle olaf i ni ymweld ag o oedd Gwesty Bryn Llywelyn, Ffestiniog a chael ein tywys gan Sioned a Rachel o gwmpas yr adeilad moethus yma, sydd wedi’i baratoi fel lle aros yn arbennig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a chorfforol. Cyn iddynt ein gadael, diolchwyd i’r ddwy am eu croeso ac am eu cwmni pleserus yn ystod y bore. Yna, eistedd i lawr i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn awyrgylch braf, gyda staff dymunol iawn yn gweini. Bu’n ddiwrnod braf iawn ac yn ddiweddglo rhagorol i raglen y flwyddyn.

CALENDR Y LLAIS Rydym yn chwilio am 13 llun lliw o’r ardal i’w cynnwys yng Nghalendr 2014. Os gallwch ein helpu, cysylltwch ag un o’r golygyddion cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn.

11


MERVYN ROBERTS

11 Mawrth 1923 – 9 Mai 2014 Cynhaliwyd angladd Mervyn ar 4 Mehefin yn Amlosgfa Lodge Hill, Birmingham, yng nghwmni ei deulu a’i gyfeillion. Y gerddoriaeth agoriadol oedd Bryn Terfel yn canu Calon Lân, ac yn ystod y gwasanaeth cafwyd ‘Abide with me’ gan Fand Pres Glofa Grimethorpe a Gwŷr Harlech gan Fand Bach Harlech. Ganwyd ef yn Harlech ym 1923, yn blentyn ieuengaf Griffith ac Ellen Roberts. Ef oedd yr unig fachgen ac roedd ganddo dair chwaer sef Barbara, Doreen ac Eirlys. Bu’n ddigon ffodus i dreulio ei blentyndod yn Harlech, man hyfryd iawn, a threuliodd Mervyn yr hafau’n chwarae ar y traeth, yn y twyni ac yn y castell. Dechreuodd hyfforddi fel prentis deiliwr o dan law ei dad. Roedd hefyd yn dilyn ôl troed ei dad mewn ffyrdd eraill. Roedd Griffith Roberts yn gerddor da ac yn arweinydd Band Arian Harlech am lawer blwyddyn. Trosglwyddodd ei ddoniau cerddorol i’w fab, a’i ddysgu i ganu’r corned. Ymunodd Mervyn â Band Harlech yn

Beth fydd yn digwydd ar Faes Awyr Llanbedr ? Ers tua thair blynedd, mae’r gangen leol o Gymdeithas y Cymod [Cell Dwyryd a Glaslyn, Porthmadog] wedi bod yn holi am fwy o wybodaeth am y datblygiadau yn Llanbedr. Mae dau gyfarfod cyhoeddus wedi’u cynnal gyda siaradwyr sydd yn rhan o ymgyrch fyd-eang ynglŷn â’r UAV - awyrennau di-beilot (drones); llythyrau i’r wasg i gynghorwyr ac AC ac AS; deiseb a llawer o waith ymchwil. Gofyn cwestiynau er mwyn cael gwybodaeth yw’r nod. Dyna hefyd oedd bwriad y gweithredu uniongyrchol ar Fehefin 13 pan aeth pump o aelodau’r gymdeithas dros y giât i’r Maes Awyr ac ysgrifennu ‘Dim Adar Angau’ ar y llain lanio [gyda phaent sy’n hawdd cael gwared ohono]. Yn nes ymlaen yn y

12

12 oed. Bu’r band yn hynod o lwyddiannus. Dychwelodd i chwarae yn y band ar sawl achlysur hyd yn oed ar ôl iddo adael Harlech, er enghraifft yn yr Eisteddfod. Roedd gan Mervyn a’i deulu, yn ogystal â thref Harlech, feddwl mawr o’r band. Dim ond 16 oedd Mervyn pan gychwynnodd y rhyfel. Ymunodd â’r Royal Welsh Fusiliers, catrawd ei dad, yn 18 oed ym mis Chwefror 1942. Bu’n cymryd rhan yn y glanio yn Normandy ym 1944 ac, wrth iddo ef a’i gyfeillion fynd tuag at Caen, aethant ar goll, dod ar draws y gelyn a’u cymryd yn garcharorion. Fe’u cludwyd yn garcharorion rhyfel i Zagan yng Ngwlad Pwyl heddiw. Enw’r gwersyll hwn oedd Stalag Luft III, sy’n enwog oherwydd stori’r ‘Great Escape’. Roedd y twneli dianc wedi eu cloddio ym 1943 gan adran yr RAF/USAF o’r gwersyll; daliwyd Mervyn mewn rhan arall ar gyfer y Fyddin a’r Morlu ac nid oedd yn gwybod dim am y rhai a ddihangodd. Wedi blwyddyn dan glo, ym 1945 gorfodwyd y carcharorion i adael y gwersyll a martsio tua’r gorllewin oddi wrth fyddin Rwsia a oedd yn nesáu. Cerddodd y rhain am dri mis, gan gyrraedd Hanover.

Cyfeiriodd at y cyfnod hwn fel ‘Marts Marwolaeth’ gan fod cymaint o’i gyfeillion wedi marw ar y ffordd o’r oerni, newyn a blinder. Goroesodd Mervyn y daith ond mewn amser byr yr oedd yn ôl yn yr Almaen, lle bu’n teilwra a thrwsio gwisgoedd y fyddin. Wedi’r rhyfel agorodd Mervyn fusnes teilwra yn Edgbaston. Ym Mirmingham y cyfarfu â merch ifanc o’r Almaen o’r enw Ursula a oedd yn gweithio fel nyrs. Priododd y ddau ym 1953 ond yn drist iawn datblygodd Ursula’r clefyd Alzheimer a bu farw yn 2006. Cafodd swydd gyda Cadbury’s, lle’r oedd ei frawd yng nghyfraith Fred (gŵr ei chwaer Doreen) eisoes yn gweithio. Arhosodd y ddau gyda’r cwmni, gan fwyta llawer o siocled dros y blynyddoedd! Roedd Mervyn yn 91 oed ac mae Fred yng nghanol ei 90au sy’n dangos na wnaeth hyn ddim niwed iddynt. Tra’r oedd gyda Cadbury’s chwaraeodd i Fand Arian Bourneville. Roedd wrth ei fodd yn chwarae golff ac roedd yn aelod o’r Clwb Bowls. Hoffai Mervyn ac Ursula deithio i Sbaen, Groeg ac yn aml i’r Almaen i ymweld â pherthnasau Ursula ond roedd Mervyn yn cael ei ddenu’n ôl i Harlech,

i gyfarfod perthnasau a hen gyfeillion. Roedd yn falch iawn fod Band Arian Harlech yn parhau i ffynnu ac wrth ei fodd bod cymaint o blant Harlech yn dysgu canu offeryn pres, gan gadw’r traddodiad. Dyn tawel a diymhongar oedd Mervyn a oedd yn mwynhau’r pethau syml mewn bywyd: cwmni ei gyfeillion, cinio tafarn a pheint neu ddau, gwylio’r criced neu’r pêl-droed ar y teledu. Tynnwyd y llun isod ohono ar ei ben-blwydd ym mis Mawrth yn cael cinio allan yn yr heulwen yn Webbs o Wychbold, lle’r arferai fynd yn aml gydag Ursula.

bore, fe ddaeth yr heddlu a chafwyd cyfle i ni egluro pam y bu gweithredu a’n bod yn derbyn y cyfrifoldeb, wrth gwrs. QinetiQ yw un o’r partneriaid mwyaf yn y datblygiad gyda Maes Awyr Llanbedr. Dyma’r cwmni sydd hefyd yn datblygu ac ymarfer y Watchkeeper UAV yn Aberporth - awyren ddibeilot at ddefnydd milwrol. Pa awyrennau ddi-beilot milwrol fydd yn cael eu datblygu yn Llanbedr? Mae sibrydion hefyd y gallai’r awyren ddi-beilot fwyaf yn y byd (y Global Hawk Americanaidd) ddefnyddio Llanbedr gan fod y llain lanio yn un mor hir. A yw hyn yn wir? Mae sôn y bydd y cwmni yn dod â gwaith. Cafwyd yr un addewid yn Aberporth, ond prin iawn fu’r swyddi i bobl leol. Pa sicrwydd sydd yn Llanbedr? Faint o bobl Meirionnydd sydd yn sylweddoli fod y gymuned ryngwladol yn ystyried y defnydd o’r drones ym Mhacistan, Afghanistan

ac Irac yn anghyfreithlon? A ydym am fod yn rhan o’r defnydd cynyddol ohonynt gyda mudiadau terfysgol hefyd yn gallu eu defnyddio? Dyna’r cwestiynau sydd y tu ôl i ymgyrchu Cymdeithas y Cymod ac y mae QinetiQ ei hun bellach wedi sylweddoli fod cyfrifoldeb arnynt i ddweud ac egluro mwy. Wrth fod o flaen y Fynedfa yn Llanbedr ar Fehefin 13, fe gawsom nifer annisgwyl o bobl yn aros wrth fynd heibio. Yr ydym yn gwerthfawrogi fod y Cyng OG Thomas wedi

dod atom ac er ei fod yn gwrthwynebu’r hyn yr oeddem yn ei wneud (mae’n poeni y gall ‘pobl fel chi’ rwystro cwmnïau ddod â gwaith i’r ardal) y mae’n amlwg fod angen mwy o wybodaeth ac amser i drafod, oherwydd mae’n hollbwysig ein bod ni, fel pobl yr ardal a Chymru, yn cael yr wybodaeth lawn cyn cytuno ar unrhyw ddatblygiad fydd yn effeithio ar ein bro a’n byd yn y dyfodol.

Dyma un o’r lluniau olaf a dynnwyd ohono a gallwch weld o’i wên lydan ei fod wedi mwynhau ei fywyd hyd y diwedd un. Rhodd £5

Cell Dwyryd a Glaslyn o Gymdeithas y Cymod


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Eisteddfod Yr Urdd Llogodd yr Ysgol stondin ar faes y Steddfod yn Y Bala eleni a bu’n brysur dros ben yn ystod yr wythnos. Roedd arddangosfeydd o waith yn cael eu harddangos a hefyd hen luniau o’r disgyblion. Roedd y rhan hon yn boblogaidd wrth i gyn-ddisgyblion chwilio am eu lluniau a hel atgofion. Cynhaliwyd perfformiadau gan ddisgyblion hefyd yn ystod yr wythnos ar lwyfan yn y stondin. Pippa Cunnington Holmes Ar ddydd Gwener, Mai 30 yn stondin Cyngor Gwynedd ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala cafodd Pippa Cunnington Holmes y fraint o gynrychioli Canolfan Iaith Porthmadog a’i hysgol yn nathliad pen-blwydd Canolfannau Iaith Gwynedd. Yn ôl Mrs Carys Lake, athrawes o’r Ganolfan Iaith, “Roedd Pippa yn rhan o’r seremoni yn llefaru’r darn yr oedd hi wedi cystadlu arno fore Mercher. Fe swynodd Pippa bawb yn y babell a nododd Carwyn Jones hynny yn ei araith hefyd. Roedd pawb wedi synnu pa mor dda oedd Pippa, yn enwedig o gofio mai dim ond 18 mis yn ôl y daeth i fyw i Gymru o Benbedw.” Dywedodd Pippa: ‘Dwi yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy ers Medi 2012. Wnes i ddysgu siarad Cymraeg yn y Ganolfan Iaith ym Mhorthmadog gyda Miss Lewis a Miss Lake. Cefais fy hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth Llefaru Unigol gan Miss Huw. Ar ddiwrnod y gystadleuaeth roeddwn ychydig bach yn nerfus i ddechrau ac yn poeni fy mod yn mynd i anghofio fy ngeiriau. Fe aeth y rhagbrawf yn iawn ond wnes i ddim cael llwyfan y tro yma! Ar y dydd Gwener roeddwn yn cymryd rhan ym Mharti penblwydd y Ganolfan Iaith. Roedd y cacennau yn flasus iawn ac mi ges i ysgwyd llaw gyda Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.’ Ymweliad Nicky John Yn ddiweddar daeth Nicky John o’r rhaglen ‘Sgorio’ atom i drafod ei gyrfa yn y cyfryngau. Mae Nicky yn gyn-ddisgybl o’r ysgol, felly roedd hi’n awyddus

i drafod ei llwyddiannau hefo ni. Fe wnaethom ddysgu llawer am ei swydd, a sut mae’n cyfweld chwaraewyr pêl-droed enwog ar draws y byd ar gyfer y rhaglen ‘Sgorio,’ sydd ar S4C yn wythnosol. Roedd yn ddiddorol dysgu am yr holl bêldroedwyr enwog y bu Nicky yn eu cyfarfod, fel David Beckham, Gerard Piqué a Dani Alves. Mae llawer o wahanol ffyrdd y gall unigolyn eu cymryd i fod yn rhan o’r byd chwaraeon ac roedd hi’n esbonio’r gwahanol rai yn dda iawn. Gwnaethom fwynhau gwrando am ei llwyddiannau a dysgom fod unrhyw un yn gallu cyrraedd y brig os gwnân nhw’r ymdrech. Ffair Basg Fel rhan o’r cwrs Sgiliau Allweddol, Gweithio Gydag Eraill, bu disgyblion B10 yn gweithio i drefnu Ffair Basg. Roedd y disgyblion yn gorfod rhannu’n grwpiau a phenderfynu ar gadeirydd ac ysgrifennydd ar gyfer bob grŵp. Ar ôl gwneud hyn roedd rhaid creu gêm er mwyn casglu arian yn ystod y ffair.

Nicky John gyda rhai o ddisgyblion B11

Dyfed Edwards, Cyngor Gwynedd, a Carwyn Jones yn llongyfarch Pippa

Creu gemau Cafodd nifer o gemau gwych eu creu ond yr un oedd yn sefyll allan fwyaf oedd y gêm ‘SNAPPOP’. Dyma gêm lle’r oedd athrawon yn gorfod sefyll o dan falŵns llawn wyau, glitr, llefrith a blawd hefo disgyblion yn cael cyfle i fyrstio’r balŵns drostynt. Roedd y diwrnod yn llwyddiannus tu hwnt a llwyddwyd i gasglu £1,000. Penderfynwyd yn ystod y gwaith paratoi fod yr arian a gasglwyd yn mynd at elusen leol sef Ambiwlans Awyr Cymru. Mi fydd rhai disgyblion B10 yn mynd i Gaernarfon ddiwedd y mis i gyflwyno siec i’r elusen. Diwrnod Chwaraeon Cafodd y Diwrnod Chwaraeon ei gynnal ar 20 Mehefin. Roedd yn ddiwrnod braf ac yn berffaith ar gyfer chwaraeon gan nad oedd yn rhy boeth. Bu cystadlu brwd ac yn y diwedd Tŷ Ysgethin a orfu.

13


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

4

5

6

GORFFENNAF

8

7

12 Gorffennaf - Stars of the Opera, caneuon o opera a cherddoriaeth boblogaidd. Ffefrynnau clasurol a modern. 30 Gorffennaf - Pirates of Penzance, un o weithiau mwyaf poblogaidd Gilbert & Sullivan. 17 Awst - Macbeth, Shakespeare, a berfformir gan gwmni Illyria yng Nghastell Harlech.

9 10

12

11

13

14

15

16

17 18

21 Awst - George’s Marvellous Medicine. 19

20

21 22

1 Ychen gwyllt (6) 4 Dyfais ar ffurf cylch sy’n troi ar ddarn yn ei chanol (5) 7 Cau ac agor un llygad yn gyflym fel arwydd (6) 8 Treulio tir neu greigiau yn raddol gan ddŵr neu’r tywydd (5) 10 Metel gwyn (5) 11 Gair arall am ganwr (6) 12 Edau (6) 15 Gwylio’n llechwraidd (5) 18 Siarad â Duw i ofyn neu ddiolch am rywbeth(5) 19 Sefydliad sy’n derbyn cyfnewid a benthyca arian (4) 22 Y rhif o flaen pedwar (3) 23 Gofalu â chariad am rywun a bod yn gysur iddynt (8)

1 Tref yng Ngogledd Cymru (8) 2 Americanwr (5) 3 Rhywbeth sy’n dynodi rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol(5) 5 Math o flwch ar ben uchaf y bibell wynt yn eich gwddf (7) 6 Mynd i’r dŵr i nofio (7) 9 Gweithred (3) 13 Cefn hir o fynydd (6) 14 Wedi’i wneud â llefrith (6) 16 Darn o bren gwydn wedi’i ddal ar ffurf hanner cylch gan linyn cryf (3) 17 Dawns fodern i gyfeiliant (5) 19 Rhan o’r corff sy’n cynnwys y stumog a’r perfedd [yn y de] (4) 20 Torri coed fesul darn bach ar y tro (4) 21 Er hynny (3)

14

SWYDD LLAWN AMSER

23

Ar draws

I lawr

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

ENILLWYR CROESAIR MIS MEHEFIN Dyma’r enillwyr y tro hwn: Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn Gwynt, Harlech; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Mair M Williams, Llanfair; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. ATEBION MIS MEHEFIN AR DRAWS 1. Aelwyd 4. Drysu 8. Ergyd 9. Riwbob 10. Nepell 11. Dala 13. Owns 15. Cofnodi 17. Ildio 18. Menter 22. Nwyfus 23. Nofel I LAWR 1. Agen 2. Lagwn 3. Ymdopi 5. Rownd 6. Siocled 7. Dryllio 12. Cofiant 14. Nodwydd 16. Colur 19. Egni 20. Tyfu 21. Rali SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS erbyn canol mis Gorffennaf os gwelwch yn dda.

Cyfrifydd dan hyfforddiant i hyfforddi drwy AAT hyd at ACCA. Does dim angen profiad blaenorol i’r swydd ond disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â chymhwyster TGAU mewn mathemateg, Cymraeg a Saesneg graddau A*- C.

Oriau gwaith – Llun i Gwener (36.25 awr) Cysylltwch â Iorwerth Williams ar 01766 512361 neu iorwerth@dunnandellis.co.uk Dunn & Ellis, Adeilad St David’s, Stryd Lombard, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9AP

TAI NEWYDD YM MHANT YR EITHIN Datblygiad newydd o dai fforddiadwy yn Harlech

Bydd datblygiad newydd o dai teuluol ym Mhant yr Eithin yn cynnig tai fforddiadwy yn Harlech. Mae’r 13 eiddo yn cynnwys tai ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu, yn ogystal â thai fforddiadwy ar gyfer pobl leol. Dywedodd swyddog Tai Gwledig Gwynedd, Arfon Hughes, fod dros 50 o deuluoedd ac unigolion ar y rhestr aros am dai yn Harlech a’r cylch. Felly, bydd ailddatblygiad Pant yr Eithin yn gyfraniad pwysig at ddyfodol tymor hir y gymuned hon. Bydd y tai yn rhai da am arbed ynni, ac felly’n helpu i leihau costau i’r tenantiaid. Ym mhob un o’r 13 cartref bydd paneli solar i gynhesu dŵr yn ystod y dydd, pympiau effeithiol i gasglu gwres o’r awyr a waliau a lloriau wedi eu hinsiwleiddio i safon uchel iawn. Meddai Caerwyn Roberts: “Mae hwn yn fuddsoddiad gwych i’r dref, yn gyfle rhagorol i bobl leol gael byw mewn tai fforddiadwy o safon uchel yn yr ardal hon, ac ar yr un pryd yn ateb anghenion pobl ag anableddau dysgu. Mae datblygiad Pant yr Eithin yn fuddsoddiad mawr yn lleol. Bydd yn galluogi i bobl fregus fyw’n annibynnol o fewn eu cymuned, gyda chefnogaeth wrth law i ateb eu hanghenion.”


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

T N RICHARDS Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Adnewyddu Hen Ddodrefn Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com

GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Tacsi Dei Griffiths Honda Civic Tourer Newydd Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


Taith gerdded Llwybr Arfordir Cymru Er mwyn codi arian a chynyddu ymwybyddiaeth am Eisteddfod Maldwyn 2015, penderfynodd Beryl Vaughan gerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd rhwng mis Mai 2014 a’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2015. Yn cyd-gerdded â hi mae Haf Meredydd. Yng nghwmni criw o gerddwyr lleol, cychwynnodd Beryl ar y daith ym Machynlleth ei hun a chyrraedd Tywyn ddiwedd y prynhawn hwnnw. Ar yr ail ddiwrnod, dilynwyd y Llwybr o Dywyn, drwy Lwyngwril a Fairbourne, i’r Bermo, ac ar y trydydd diwrnod, o’r Bermo tua’r gogledd i Harlech. Diolch i rai o bobl Bermo a ddaeth â rhoddion ariannol i’r Eisteddfod cyn i ni gychwyn ar y daith, ac i’r ddwy ddaeth efo ni i gerdded. Un o’r ddwy yma oedd Megan, Faeldref gynt ac ar ôl dilyn y traeth cyn belled â Mochras, cafwyd cinio’n y Vic, Llanbedr. Aeth Beryl a Haf ymlaen wedyn tua’r gogledd, a braf oedd cael croesi’r bont newydd dros yr Artro i fyny’r afon o Bensarn, a chael gweld y giât gywrain. Yna, dilynwyd y clawdd llanw o Bensarn am Landanwg a galw heibio’r Eglwys, cyn gwyro fymryn oddi ar y Llwybr i alw heibio Bet a Caerwyn yn yr Ysgubor (Bet hefyd yn dod yn wreiddiol o Faldwyn). Ar ôl paned a chroeso cynnes yno, i lawr o Allt y Môr yng nghwmni Caerwyn a Jess y ci a chyrraedd maes parcio’r traeth yn Harlech i orffen y cymal yma o’r daith. Bydd y cymal nesaf yn cychwyn o Harlech tua’r gogledd ar 18 Awst ac mae croeso i bobl leol ymuno â ni am gyfraniad o £10. Byddwn yn cerdded o Harlech i Borthmadog ar y diwrnod yma, cyn dilyn y Llwybr wedyn yr holl ffordd o amgylch Penrhyn Llŷn a chyrraedd Caernarfon ar 24 Awst. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r daith, e-bostiwch Haf (cyfeiriad e-bost y tu mewn i glawr y Llais) am fwy o fanylion. Dyma’r dyddiadau sydd wedi eu clustnodi ar gyfer mis Awst: 18 - Harlech i Borthmadog, 19 Porthmadog i Bwllheli, 20 Pwllheli i Bentowyn, 21 Pentowyn i Aberdaron, 22 Aberdaron i Dudweiliog, 23 Tudweiliog i Drefor, 24 Trefor i Gaernarfon. Ar ddechrau Medi byddwn yn cerdded o Wdig (ger Abergwaun) i Niwgwl mewn tridiau, yna byddwn yn ôl yn y gogledd eto o’r 18fed i’r 20fed o Fedi ac yn cerdded o Bont Menai i Gemaes. Gellir cyfrannu a chefnogi Beryl Vaughan drwy fynd i www. justgiving.com/taithgerddedberylvaughan, neu ewch i wefan yr Eisteddfod i weld mwy o luniau o gymalau eraill y daith hyd yma (cwblhawyd naw diwrnod hyd yma). Felly, ewch i chwilio am yr esgidiau cerdded yna, a dowch efo ni!

Nos Sadwrn, Awst 30 am 7.30 Tocynnau: £10 - ffoniwch 01766 780667

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Ffôn: 01766 770777

Bwyd da am bris rhesymol!

16


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.