Llais Ardudwy 50c
CLOD I CHARLOTTE
RHIF 443 GORFFENNAF 2015
PONT BRIWET AR FIN AGOR - O’R DIWEDD!
Charlotte yn derbyn ei thystysgrif gan Gwyneth Lewis Yng ngwanwyn 2014, dechreuodd Canolfan Mileniwm Cymru weithio gyda 14 o ysgolion uwchradd ledled Cymru fel rhan o ddathliadau Dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o ganmlwyddiant Dylan Thomas a’r arysgrif enwog gan Gwyneth Lewis sydd ar wyneb y Ganolfan, roedd ganddynt dasg i’r disgyblion . . . i ystyried yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymreig neu’n byw yng Nghymru, rŵan ac yn y dyfodol, ac i gyfansoddi eu fersiynau eu hunain o gerdd yr arysgrif gan ddefnyddio’r llythrennau presennol. Gweithiodd cannoedd o bobl ifanc i greu mwy na 500 o gerddi ac roedd y trefnwyr wedi’u syfrdanu gan y canlyniadau. O’r holl gerddi, dewisodd Gwyneth Lewis ddwy fel ei hoff rai hi, ac un ohonynt oedd ymdrech Charlotte Hunt o Ysgol Ardudwy, Harlech. Yn ddiweddar, cafodd ei gwahodd i Ŵyl y Gelli i gael ei gwobrwyo gan Gwyneth Lewis. Hefyd, cafodd ei chyfweld ar raglen Shân Cothi ar Radio Cymru yn fyw o faes yr ŵyl. Llongyfarchiadau mawr, Charlotte!
Yr hen Bont Briwet [Llun: Wyn Edwards]
Rydym bellach yn gallu cadarnhau y bydd y bont ffordd yn agor i draffig o 2.00 y prynhawn ddydd Llun, 13eg o Orffennaf 2015. Bydd disgyblion o Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, yn agor y bont yn swyddogol, a bydd cyfle i gerddwyr gerdded ar draws y bont o 1.00 y prynhawn ymlaen. Fel y gwyddoch, mae’r contractwyr wedi bod yn gweithio tuag at ddyddiad agor ar ddiwedd mis Mehefin ond dydy’r tywydd yn ystod mis Mai a dechrau Mehefin ddim wedi bod yn ffafriol. Mae hyn wedi effeithio ar elfennau o’r datblygiad sydd yn ddibynnol ar y tywydd, er enghraifft tywallt y concrid a diddosi’r dec. Yn anffodus, mae hyn wedi gwthio dyddiad yr agoriad yn ôl pythefnos. Tra bydd y bont ffordd yn agored, mi fydd yna ychydig o waith yn cael ei wneud a fydd yn golygu y bydd ar adegau, efallai, oleuadau traffig dros dro ar y ffordd. Er gwybodaeth, bydd y system gonfoi ar yr A496 rhwng Llandecwyn a Gelli Grin yn dod i ben pan fydd y bont yn agor i draffig. Does ond gobeithio na fydd gormod o drafferthion yn ardal Penrhyndeudraeth wrth i bawb heidio dros y bont yn y dyfodol agos.
CALENDR LLAIS ARDUDWY 2016
Ar werth yn fuan!
Diolch i bawb a brynodd galendr 2015. Gwerthwyd bob un ohonyn nhw. Afraid dweud y dylid sicrhau eich copi yn fuan eleni!
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Medi 9. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn diwedd Awst fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.
2
Enw: Hefin Jones. Gwaith: Wedi ymddeol. Cefndir: Ar ôl gorffen ysgol, mynd yn brentis saer i Flaenau Ffestiniog ac yna i Ysgol Ardudwy, gwneud Gwasanaeth Milwrol am ddwy flynedd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Chwarae golff ddwywaith yr wythnos. Beth ydych chi’n ei ddarllen?
Eich hoff ddywediad? Yr hyn a allodd hwn ei wneud, efe â’i gwnaeth. Lle sydd orau gennych? Adra yn Harlech. Nid oes unlle gwell yn fy marn i. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Awstralia pan oedd Aled yn byw yno. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl yn swnian am bethau nad ydynt yn gwybod dim amdanynt. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Un y gallwch ddibynnu arno. Pwy yw eich arwr? Y diweddar Fred Dibnah. Beth yw eich bai mwyaf? Bod yn flêr yn y gweithdy. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl yn canmol eu hunain ac yn gweld bai ar bawb. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael mynd yn y garafán hefo Gwenda i sioeau ar hyd a lled y wlad. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus a bodlon fy myd.
Dim llawer o amser i ddarllen, dim ond y ‘Daily Post’, ‘Cambrian News’, Llais Ardudwy, a chylchgrawn ‘Engineering in Miniature’. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ffermio, rasys ceir F1 ac André Rieu. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw. Hoff fwyd? Cinio dydd Sul a phwdin reis cartref. Hoff ddiod? Te neu goffi wedi ei wneud trwy lefrith. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Teulu. Eich hoff liw? Gwyrdd – lliw natur. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr. Eich hoff fardd? Y diweddar Dic Jones. Eich hoff gerddor? André Rieu. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Hen Wlad fy Nhadau. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru canu.
YN YR ARDD Gorffennaf ac Awst
Sychu a Chadw Llysiau
dda, hefyd pys, blodfresych gaeaf, Os ydych wedi tyfu mwy o lysiau ysbigoglys (spinaets) a moron. nag sydd eu hangen, mae’n rhaid Mae’r rhan fwyaf o deulu’r bresych yn gallu aros yn y ddaear eu storio nhw’n ofalus. Torrwch y coesau yn y bore ar ôl tan fod angen eu defnyddio. Gellir claddu cnydau sydd â i’r gwlith ddiflannu a chyn bo’r gwreiddiau ee moron neu fetys, haul yn grasboeth. Ni ddylech mewn tywod. [Mae llawer i ddewis ond y dail sy’n berffaith. arddwr yn cadw’r rhain yn y Mae rhai llysiau yn dirywio’n ddaear tan ar ôl y Nadolig.] fuan iawn ar ôl eu casglu. Mae Mae angen awyr yn yr oergell, hyn yn digwydd oherwydd bod y siwgr naturiol yn troi’n startsh. felly peidiwch â’i gorlenwi. 3-5 gradd C (37-40 gradd F) yw’r Ceisiwch gadw’r bwydydd sy’n rhyddhau ethylen - fala, afocado, tymheredd iawn. bananas, melon, nectarîn, gellyg, Golchwch y llysiau cyn eu bwyta, ar ôl iddynt fod yn yr oergell. eirin gwlanog, eirin a thomatos -ar wahân i flodfresych, ysgewyll, Nid yw’n syniad da i gadw bresych, ciwcymbr, pys a phupur. tomatos yn yr oergell; mae’n newid eu blas. Mae pob math o ffa yn rhewi’n
Oeddech chi’n gwybod? •
•
•
• •
• •
Fod bresych yn cynnwys cymaint o galsiwm ag sydd mewn llaeth? Os yw eich ffa dringo yn barod i’w bwyta, fe fyddant yn torri’n hawdd heb blygu. Mae hadau pwmpen yn llawn o sinc ac yn dda i iechyd y brostad. Mae banana yn dda i wrthweithio asid yn y stumog. Mae mwy o fitamin C mewn llysiau gwyrdd tywyll nag sydd mewn rhai gwyrdd golau. Mae oddeutu 200 o hadau mewn mefusen. Mae llus yn eich helpu i weld yn y tywyllwch.
Y BERMO A LLANABER Un o Wirfoddolwyr y Flwyddyn 2015
Tom Jones,(Is-lywydd WCVA), Lesley Griffith AC, Hugh Roberts a Ruth Marks (Prif Weithedwr WCVA) Mae cyn swyddog Parc Cenedlaethol wedi treulio’r rhan fwyaf o’r degawd diwethaf yn gofalu am ‘y casgliad gorau, mae’n siŵr’ o ffotograffau hanesyddol ym Mhrydain, gan ennyn diddordeb bydeang a meithrin cydlyniant cymunedol mewn tref glan y môr y mae ei phoblogaeth yn draddodiadol wedi bod o natur amharhaol. Mae Hugh Griffith Roberts, o’r Bermo, hefyd wedi helpu i hyrwyddo cynhwysiant digidol ymysg pobl hŷn, gan eu hannog i ddefnyddio gwefan i edrych ar y lluniau a’u rhannu â chyfeillion drwy e-bost. Roedd Hugh ymysg 17 o unigolion a grwpiau a gafodd eu gwobrwyo yng Ngwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru yn y Pierhead, Bae Caerdydd, ddydd Iau 18 Mehefin. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddo a diolch am yr holl waith. Hoffai Hugh ddiolch i’r Capten Michael Tomlinson a’i wraig Janie am ei dywys i’r brifddinas a’i letya am ddwy noson. Yn hollol annisgwyl gwahoddwyd Beti ‘Tan y Fedw’ a’i merch Dilys Morris Jones atyn nhw i ginio nos Iau. Y pump o gwmpas y bwrdd wedi eu geni yn y Bermo.
TREM YN Ôl I’R YSGOL FEITHRIN
Merched y Wawr Daeth tymor 2014-15 i ben gyda thaith i Gwmni Seren ym Mlaenau Ffestiniog. Trefnwyd i gyfarfod wrth y stordy ddillad am 5.00yh a diolch i’r pedair aelod a’n cludodd yno. Cawsom ein croesawu gan Adelyn Ellis, Prif Weithredwraig y Cwmni, ac eglurodd y broses o adnewyddu dodrefn a dillad. Roedd yn frwdfrydig iawn dros yr achos ac yn falch bod gwaith i tua 40 o bobl. Ymunodd Sioned Parry, Rheolwraig Gwesty Seren â ni yma. Ymlaen wedyn i Gylch yr Efail, gweithdy oedd yma. Roedd y gwaith yn hynod o gywrain ac yn drefnus tu hwnt. Yna ymweld â siop Waverley, a dyma gyfle i brynu amrywiaeth o bethau megis cardiau, dillad, gemwaith ac ati. Roedd y deunyddiau hyn wedi eu prynu gyda’r pres a gafwyd wrth werthu nwyddau o’r gweithdy. Y lle olaf i ni ymweld ag o oedd Gwesty Seren, Llan Ffestiniog. Agorwyd y drysau yma yn Ebrill 2014. Cawsom ein tywys o gwmpas y gwesty tair seren gan Adelyn a Sioned. Mae’r
ystafelloedd wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a chorfforol a’u teuluoedd. Roedd yma gyfleusterau anhygoel ac roedd y penseiri wedi meddwl am bob agwedd o anghenion y cwsmer. Diolchodd Llewela i Adelyn a Sioned am eu croeso a’r hanes difyr. Erbyn hyn roedd pawb yn barod am swper. Cawsom wledd a gwên gan y merched oedd yn gweini arnom. Taith i’w chofio. Aethpwyd ymlaen i ganu penblwydd hapus i Jean a oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig. Trefnwyd rota ar gyfer gwneud paned ym mhabell Merched y Wawr yn y Sioe Sir yn Harlech. Diolch i’r aelodau yma a hefyd i rai addawodd wneud cacennau cri. Diolchodd Llewela i’r swyddogion am eu gwaith dros y ddwy flynedd flaenorol. Diolch yn arbennig i Elenor am gadw trefn ar yr arian am 31 o flynyddoedd ac i’r aelodau am eu cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at dymor arall ym mis Medi gyda Dorothy, Gwenda a Jean wrth y llyw.
Cyfeillion Ysgol y Moelwyn 17 Lôn y Bryn, Bangor
Annwyl Olygydd, A gawn ni, drwy eich papur, estyn gwahoddiad i gyn-ddisgyblion a chyfeillion Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, ddod i aduniad yn Eisteddfod Meifod. Byddwn yn cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau 2, dydd Mawrth 4ydd Awst o 9.30 y bore. Cawn sgwrs gan y prifathro Dewi Lake, bydd Gwyn Thomas yn coffáu Dr Meredydd Evans, a chyflwynir gwobrau’r Gymdeithas i ddisgyblion o’r ysgol. Yn gywir Jennifer Thomas a Sian Arwel Davies
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Rhes gefn: Margaret Pugh, Marie Robertson, Chris Tibbets. Canol: Gwawr Edwards, Gethin Owen, Craig Jones, Barry Naylor. Blaen: David Court, Sara Williams, Beca Brown, Carol Wilcox, Ieuan Giffin.
Honda Civic Tourer Newydd
3
Aduniad Ysgol Ardudwy 1966
Cawsom noson wych a bythgofiadwy yng nghwmni’n gilydd yn y Clwb Golff, Harlech, dros chwedeg ohonom, cynddisgyblion Ysgol Ardudwy o Lanfrothen i lawr i’r Bermo, a rhai heb weld ei gilydd ers dros ddeugain mlynedd. Diolch i staff y Clwb Golff am fod mor gymwynasgar, Darren am y miwsig o’r cyfnod pan roeddem yn yr ysgol, ac i Linda Soar am y gacen i’n helpu i ddathlu troi’n chwedeg. Difyr yw nodi bod dau bâr o’r flwyddyn wedi priodi ei gilydd sef Martin Cannon a Janice Barnard, hefyd Susan Jackson a Stephen Parkinson. Yn y llun o’r chwith i’r dde: Rhes flaen: Kanthi Ford (Minffordd), Ann Sherwin (Penrhyn), Ann Llwyd Williams (Penrhyn), Stephen Parkinson (Harlech), Susan Jackson (Talsarnau), Howard Weale (Penrhyn), Colin Pugh (Bermo), Geoffrey Callender (Minffordd), Catherine Eastwood (Minffordd), Robert Ridley (Harlech). Ail res: Delyth Jones (Bermo), Marian Wyn Jones (Pensarn), Rhona Williams (Bermo), Olwen Morris Jones (Bermo), Meinir Griffith (Bermo), Margaret Millns (chwaer Evelyn), Enid Ellis (ffrind), Pamela Smith (Bermo), Ann Thomas (Llanfair), Melfyn Thomas (Minffordd), Fergus Mercer (Harlech), Paul Crabtree (Llanbedr), Tony Jeffs (Bermo),
4
Kirti Ghelani (Bermo), Franz Borowski (Bermo). Trydedd res: Ann Pierce (Penrhyn), Philip Owen (Bermo), Huw Owen (Harlech), David John (Llanfair), Al Smith (Harlech), Peter Jones (Llanbedr), Merfyn Howie (Llanbedr), Rhiannon Williams (Bermo), Olive Watson (Penrhyn), Eluned Edwards (Bermo), Anwen Pugh (Dyffryn), Jean Davies (Penrhyn), Iona W Jones (Penrhyn), Eluned Williams (Talsarnau), Delyth Hughes (Talsarnau), Eirian Evans (Llanfair), Evelyn Millns (Penrhyn), David (Dafi) Wyn Owen (Llanfair) Rhes pedwar: Iddon Hall (ffrind), Martin Cannon (Dyffryn), John Hearn (Bermo), James Friedhoff (Harlech), Gareth Thomas (Harlech), Shabir Sabur (Bermo), Delphine Boardman (Penrhyn), Lesley Williams (Penrhyn), Jan Ballard (Bermo), Merfyn Williams (Llanfrothen), Nesta Parry-Williams (Talybont), Ann Edwards (Dyffryn) Rhes gefn: Ann Harris (Dyffryn), David Alan Jones (Bermo), Silyn Roberts (Penrhyn), Roberta Williams (chwaer Lesley), Jane Jones (ffrind), Ann Griffith (chwaer Meinir), Gunars Grinvalds (ffrind). Yn anffodus, roedd Graham Hughes (Dyffryn) a Brian Williams (Dyffryn) wedi eu cuddio yn y llun.
BIL YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL (CYMRU) Ganol Gorffennaf 2013 ymddangosodd ‘Dyfodol ein Gorffennol’, dogfen ymgynghori ar ddeddfwriaeth benodol i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru. Roedd sylwadau’r gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i’w canmol: “Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn adnodd gwerthfawr ... serch hynny, mae’n adnodd sydd o dan fygythiad ac mae angen ymateb i’r heriau sy’n codi...” Erbyn hyn, mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi dechrau ar ei daith drwy’r Cynulliad. Y cam cyntaf fydd ei ystyried gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Rhwng nawr a thoriad yr haf, bydd y pwyllgor hwnnw’n casglu tystiolaeth ar gyfer llunio adroddiad ar y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill. 17 Mehefin eleni oedd y cyfle olaf i’r cyhoedd gynnig sylwadau ar y Bil Treftadaeth. Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn grediniol fod bwriadau’r Bil Treftadaeth yn gam pwysig tuag at ddiogelu a rheoli gweddillion ffisegol yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae’r amodau sydd wedi’u rhoi gerbron yn cwmpasu adeiladau rhestredig, henebion rhestredig a pharciau a gerddi hanesyddol. Ac mae enwau, wrth gwrs, ynghlwm wrth bob un o’r gweddillion ffisegol hyn; enwau sy’n corffori negeseuon sydd wedi eu trosglwyddo inni o’r gorffennol. Â’r bil yn ei wedd bresennol heb ystyried tystiolaeth yr enwau a heb warant sy’n sicrhau gwarchod enwau, mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn debyg o fod yn anghyflawn. Mae hynny’n drueni. Mae’n colli cyfle i gynnig gwarchodaeth i enwau. Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn gobeithio y bydd modd ailystyried a diwygio, a rhoi lle dyladwy i enwau wrth drefnu fframwaith gwasanaethau’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Syndod inni yw na fu ymgynghori o fath yn y byd gydag aelodau’r Gymdeithas o’r cychwyn cyntaf yn 2013. Ni fu gennym lais, ychwaith, ar y Grŵp Cyfeirio allanol a gynullwyd yn fuan wedyn. Byddai ein haelodaeth wedi croesawu gwahoddiad i gynnig tystiolaeth gerbron un o’r gweithgorau. Gwrthodwyd pob cynnig. Nid oes yr un corff arall ag arbenigedd ac enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i gynnig cyngor arbenigol ym maes enwau lleoedd Cymru. Byddai’r Gymdeithas, yn naturiol, yn croesawu’r cyfle i gyfrannu i’r drafodaeth. Hyderwn y bydd modd ystyried hynny yn ystod yr wythnosau cyn cyfnod cau pen y mwdwl. Oni fyddai’n dda o beth petaem yn datgan ein pryder i’r aelodau sy’n ein cynrychioli yn y Cynulliad, na chrybwyllwyd enwau lleoedd Cymru o gwbl yn y ddogfen ymgynghori ar y dreftadaeth hanesyddol? Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org
ORIEL YR ADUNIAD Ysgol Ardudwy 1966
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Mary Lloyd, Trefechan, Aberystwyth (Tŷ’r Orsaf, Dyffryn, gynt) oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 19 Mehefin. Cofion cynnes iawn atoch, Mrs Lloyd. * * * Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau hefyd i Mrs Jean P Jones, Sarnfaen a Mrs Agnes Roberts, Frongaled. Roedd Jean ac Agnes yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 18 Mehefin. Clwb Cinio Ddydd Iau, 18 Mehefin aeth y Clwb Cinio i Westy’r Afr yng Nglandwyfach am ginio ac yna ymlaen i Lanbedrog i Oriel Plas Glyn y Weddw i weld arddangosfa o luniau am Batagonia. I orffen y tymor byddwn yn mynd am ginio i Fwyty 1957 yn Nhalybont ar 14 Gorffennaf. Eisteddfod Ardudwy Neuadd Dyffryn Ardudwy Hydref 10fed am 1.00 yp Copi o’r rhaglen ar gael gan Jane Sharp - 01766 780890 Ysbyty Cafodd Cerian Griffiths, Tremydon, lawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ac anfonwn ein dymuniadau gorau iddi. Brysia wella, Cerian.
Teulu Ardudwy Ddydd Mercher, 17 Mehefin aeth y Teulu am eu trip blynyddol. Cafwyd cinio ardderchog yng Ngwesty Caerwylan yng Nghricieth ac yna ymlaen i ganolfan arddio Tyddyn Sachau ger Pwllheli. Er nad oedd yn ddiwrnod braf roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Cynhelir ein cyfarfod blynyddol ar 15 Gorffennaf. Diolch Dymuna Megan, Robert a Medwyn, Werncynyddion, ddiolch am bob cydymdeimlad a estynnwyd iddynt ar ôl colli Mam a Nain. Diolch hefyd i bawb yn Hafod Mawddach am bob gofal. Diolch yn fawr £5 Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb
Diolch i Margaret Slack o Coventry am anfon y llun uchod atom. Yn ei llythyr, mae’n nodi y bydd Margaret, Rhiannon ac Eirian yn dathlu pen-blwyddi arbennig yn ystod y misoedd nesaf. Hoffai Margaret hefyd ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Blodwen. Rhodd £5 - Margaret Slack.
GORFFENNAF 12 Anthia a Gwennie 19 Parch Gareth Rowlands 26 Rhian a Meryl AWST 2 Parch W H Pritchard, 5.30 9 Hilda Harris 16 Parch Gareth Rowlands 23 Parch Goronwy Prys Owen 30 Beryl a Rhiannon MEDI 6 Parch Dewi Morris, 5.30
YSGOL SUL HOREB 1952
Rhes gefn, o’r chwith i’r dde: Mrs Griffith, Garage; Miss Cassie Jones, Tŷ Capel, Miss Jones, Bryn Ysgol. Rhes flaen: Mrs Margaret Jones, Pentre Canol; Mrs Edith Parry, Morfa View; Athro ?, Mrs Roberts, Lluesty a Mrs Gwenfron Wynne, Tanyfron.
6
Pen-blwydd arbennig
Trip Ysgol Sul Horeb Aeth 13 oedolyn a 9 o blant ar y daith i Fyd Mari Jones yn Llanycil ddydd Sul, Mehefin 7fed. Roedd y tywydd yn ffafriol a chyrhaeddodd pawb ymhen hir a hwyr! Ar ôl i bawb brynu paned yn Ysgoldy Thomas Charles croesawyd pawb gan Nerys a gwyliwyd ffilm fer ar ddatblygiad y safle. Yna aethom i’r Eglwys sydd wedi ei throi yn amgueddfa gan gadw rhai o nodweddion yr Eglwys. Cafodd y plant daflenni cwis a bu pawb yn brysur yn chwilio am yr atebion yn yr arddangosfa a’r adnoddau rhyngweithiol oedd ar gael. Gwelsom fedd Thomas Charles a’i deulu yn y fynwent ac aeth rhai i chwilio am feddau Bob Croesor, mam Betsi Cadwaladr, ac eraill – ond yn ofer. Mwynhawyd picnic a chwarae yn y parc cyn cychwyn am Lanuwchllyn a thaith ar y trên bach i’r Bala. Derbyniwyd tocyn a neidiodd pawb ar y trên ar y cerbydau agored gan ei bod mor braf. Wrth gwrs, buan iawn ar y daith y sylweddolwyd bod dafnau duon yn glanio arnom! Ar y ffordd yn ôl, cawsom daith yn y cerbyd caeëdig a phawb yn gwenu fel cath. Cawsom weld llawer o weithgareddau’n digwydd ar Lyn Tegid gan fod y tywydd yn braf - canŵio, hwylio, padlo - gan y cŵn. Gwelsom Wersyll yr Urdd Glanllyn, lle bu aelodau cynradd Urdd Meirionnydd yn treulio penwythnos ar Fehefin 19eg-21ain. Ni welsom yr anghenfil, Tegid, chwaith - hwyrach ein bod wedi ei ddychryn gyda’n sŵn! Teithiodd pawb adre yn eu hamser eu hunain gan fyfyrio’n bleserus ar ein hantur i Benllyn.
HANES BRODOR O LANDECWYN
YR YSGWRN Cartref Hedd Wyn
Cysylltwch â: Jess/Siân ar 01766 770274
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
Capel Brynaerau, Pontllyfni
Capten Lewis Jones Ganwyd Lewis Jones yn 1787, blwyddyn pan oedd capten llong arall, sef William Bligh, yn cychwyn ar ei fordaith i Tahiti ar fwrdd y Bounty, yn 33 oed. Yr oedd Lewis yn fab i Gapten Owen, Tŷ Newydd, Llandecwyn. Daeth Lewis yn gapten medrus yn ŵr ifanc, a byddai’n hwylio yn fynych i Lundain. Ar ei ymweliadau â’r brifddinas deuai i gysylltiad â’r Parchedig James Hughes (‘Iago Trichrug’: 1779-1844), yr esboniwr Beiblaidd, ac awdur emynau fel ‘Cyduned Seion Lân’, a ‘Mae enw Crist i bawb o’r saint’. Bu’r cyfarfyddiad hwnnw a’r ffaith iddo glywed John Elias o Fôn (1774-1841) yn pregethu yn foddion iddo lynu wrth grefydd yn ŵr ifanc tair ar hugain oed. Yn 27 oed priododd ag Ann Pugh, merch i John a Jane Pugh, Lleuar Bach, Clynnog, Arfon, lle y bu’n byw gweddill ei oes. Treuliodd rai blynyddoedd yn gapten ar iot Arglwydd Niwbwrch, a chyfrifid ef yn ŵr parchus gan deulu Glynllifon, Arfon, gydol ei oes. Yr oedd yn cael ei gydnabod fel gwladwr o
safle uchel ac anrhydeddus, ac ymddiriedwyd ynddo i wneud ewyllysiau, ac i ymdrin ag achosion plwyfol. Bu’n flaenor o 1830 i 1870, ac yn wasanaethwr yn ei gapel, yn y Cyfarfod Misol, ac yn y Cymdeithasfaoedd. Bu’n ymdrechgar fel Ysgrifennydd yr Adeiladau ynghyd ag eraill i gael adeiladu capel newydd ym Mrynaerau, Pontllyfni, Arfon, yn 1861 pan oedd gofyn am gapel mwy. Fe fu farw yn 1870, yn 83 mlwydd oed, a’i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog. Olynwyd ef yn flaenor gan ei fab, William Pugh Owen yn 1867, ond fu farw yn ei flynyddoedd cynnar. Un o gymeriadau Brynaerau oedd Robert Jones Un Fraich. Pan oedd yn gweithio gyda phladuriau, anafwyd braich Robert Jones gymaint fel y bu’n rhaid ei thorri i ffwrdd. Ond gallai balu ei ardd efo’i un fraich, a phlannu bob math o lysiau yn rhyfeddol. Prynodd drol a merlyn bach gwineugoch. Enw’r merlyn oedd Capten, ar ôl Capten Lewis Jones. W Arvon Roberts, Pwllheli 7
HARLECH CYNGHERDDAU’R EGLWYS
Nos Sadwrn, 11 Gorffennaf 7.30yh - Cyngerdd Organ Graham Eccles, Cyn-Gyfarwyddwr Cerdd, Eglwys Gadeiriol Bangor Mynediad am ddim, casgliad. Nos Wener, 28 Awst, 7.30yh - Cyngerdd Organ Alastair Sampson, tiwtor organ wedi ymddeol, Coleg Eton Mynediad am ddim, casgliad. Bydd lluniaeth ar gael ym mhob cyngerdd.
Teulu’r Castell Fe fydd y te yn cael ei gynnal brynhawn dydd Mawrth 14 Gorffennaf am 3 o’r gloch yn y Tebot Arian, Dyffryn Ardudwy. Fe fydd cludiant yn cael ei drefnu i bawb. Tair Beth Cafwyd diwrnod hapus iawn yng Nghapel Rehoboth, Harlech pan briododd Bethan Smith, Maes yr Haf, Harlech a Ben Bailey, Gors y Gedol, Tal-y-bont. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Chwaer Bethan Johnstone a chafwyd darlleniad a gweddi gan y Parch Beth Bailey. Nodwyd mai dyma’r tro cyntaf i’r tair Beth fod gyda’i gilydd yn y sêt fawr. Pa mor aml mae peth fel hyn yn digwydd tybed? Dymuniadau gorau i’r pâr ifanc. Sefydliad y Merched Croesawodd y Llywydd Mrs Christine Hemsley’r aelodau a gwesteion i’r cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher 10 Mehefin yn y Neuadd Goffa, Harlech. Canwyd y gân Meirion gyda Mrs Myfanwy Jones yn cyfeilio. Croesawyd Mrs Libby Williamson yn ôl ar ôl cyfnod yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Dymunwyd pen-blwydd hapus i bawb oedd yn dathlu’r mis hwn. Yr oedd y Llywydd a Jan Cole wedi bod yn cynrychioli cangen Harlech ym Mhalas Buckingham yn ddiweddar ac amryw o aelodau wedi bod yng nghyfarfod blynyddol NFWI yn Neuadd Albert. Roedd llawer o aelodau hefyd wedi bod yn gweld y cyfarfod ar linc fideo yn Theatr y Ddraig yn y Bermo a phawb wedi cael diwrnod gwych yn gweld pob peth oedd yn digwydd yn Llundain. Cafwyd lluniaeth wedi ei baratoi gan Bendigedig o’r Bermo. Cawsom ddathliad arall ym Mhortmeirion ar y 10fed o Fehefin. Fe fydd y Ffair Haf yn cael ei gynnal yn Theatr y Ddraig ar 2 Gorffennaf. Mae paratoi mawr ar gyfer y Sioe Sir sydd yn Harlech ar 26 Awst. Roedd rhai aelodau oedd yn edrych ar ôl stesion Harlech wedi cael bod ym Mhortmeirion
8
- y diwrnod wedi ei drefnu gan Arriva Cymru. Ar ôl darfod y busnes croesawyd y wraig wadd Anne Fleming oedd yn siarad am ei gwaith gyda Mantell Gwynedd. Diolchwyd iddi gan Jan Cole. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 8 Gorffennaf gydag Emsyl Davies. Croeso i unrhyw un ddod atom am y noson. Pen-blwydd Pen-blwydd hapus i Elen Anwyl Jones, 36 Tŷ Canol, a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 21 ar Orffennaf yr 2il.
CYNGOR CYMUNED HARLECH
Rhandiroedd Adroddodd Huw Jones ei fod ef a Gareth Jones wedi bod yn mesur y rhandiroedd. Datganwyd pryder Noson Goffi Ymchwil Canser nad oedd tenantiaid y rhandiroedd Harlech Cynhaliwyd y noson nos Wener wedi trefnu yswiriant eu hunain a chytunwyd i anfon llythyr ynglŷn 19 Mehefin yn y Neuadd Goffa â hyn; hefyd i’w hysbysu bod y Harlech. Hoffai Mrs Myfanwy Cyngor am gynnal cyfarfod gyda’r Jones, llywydd y pwyllgor tenantiaid ar y safle yn fuan. ddiolch i bawb a gyfrannodd at Cyngerdd Nadolig y noson. Diolch yn arbennig i Penderfynwyd cynnal yr uchod eto eleni ac ar ôl trafodaeth, cytunwyd David Hughes fu’n cyfeilio ar y piano mor wych. Gwnaed elw o i ofyn a fyddai’n bosib ei gynnal yn Ysgol Ardudwy ar Ragfyr 9. £1,200 at Ymchwil Canser. Ceisiadau am gymorth ariannol ‘Dizzie Dancers’ - £250.00 Codi £4000 Ysgol Ardudwy Llwyddodd Andrew Parry, Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr Bwlch y Garreg gynt i godi dros uchod yn gofyn a fyddai’n bosib i rai £4000 yn dilyn ei daith feicio o ddisgyblion B9 wneud gwaith yn y noddedig. Aiff hanner yr arian gymuned ddechrau mis Gorffennaf. at yr Ambiwlans Awyr a’r hanner Cytunwyd i ofyn iddynt drwsio’r ffens o amgylch yr offer chwarae arall at Bwll Nofio Harlech. yng nghae chwarae Brenin Siôr a chwynnu o amgylch yr ardal. Genedigaeth Cytunodd Judith Strevens a Huw Llongyfarchiadau i Bethan a Nathan Miller ar enedigaeth mab Jones i ddelio gyda’r mater hwn. Unrhyw Fater Arall bach, Jac, ŵyr i Eleri a gorwyr i • Rhoddwyd caniatâd i Glwb Morris Evans, Pentrefelin a Mair Rygbi i ddefnyddio cae chwarae Evans, Harlech. Dymuniadau Brenin Siôr ar Awst 15 i gynnal gorau i’r teulu bach ym twrnament rygbi tag. Mhontypridd. • Cytunwyd i anfon llythyr o gefnogaeth at Seindorf Arian Harlech parthed eu cais i gael grant er mwyn eu galluogi i inswleiddio’r adeilad, cael cegin newydd ac adnewyddu’r trydan yn ystafell y band.
Pedair cenhedlaeth o’r un teulu
Capel Jerusalem, Harlech
GWASANAETH UNDEBOL Gorffennaf 12 am 4.00 o’r gloch
Y Parch Dr Geraint Tudur Croeso cynnes i bawb.
Yn y llun mae Mrs Margaret Eirlys Stumpp, hen nain, Mrs Maria Wainwright, nain, Mrs Rachel Jones, mam, ac Elsi Maria Jones, y ferch fach. Rhodd £5
I’w osod Fflat un llofft ar stâd GLAN GORS, Harlech ar gael o ganol Awst Ffôn: 07769 713014
lle cwblhaodd ei gwrs, yna priododd Nain a daeth yn athro daearyddiaeth. Wedi ychydig flynyddoedd yn Lloegr, dychwelodd i Gymru ac i Ysgol Ramadeg y Bermo; ac wedyn i Ysgol Ardudwy. Dyma lle y treuliodd ei flynyddoedd hapusaf, ac fe’i adnabwyd gan ei ddisgyblion i gyd fel ‘Moi Mop’. Roedd yn athro o’r hen deip, gyda disgyblaeth lem, ond roedd yn uchel ei barch gan ei ddisgyblion, a bob amser yn deg. Byddai amryw o’i gyn-ddisgyblion yn dal i alw heibio iddo pan fyddent yng Nghaerdydd, ac yn danfon cardiau Ganwyd a magwyd Reg Morris yn Nadolig ato’n flynyddol. Roedd nhafarn y ‘Nag’s Head’ neu Dafarn y Llygoden ym mhentref Abercych, ganddo gof anhygoel a gallai gofio, tan ei farwolaeth, tua 90% o’r ger Aberteifi. Mae’r dafarn yn disgyblion aeth trwy ddrws Ysgol adnabyddus yn yr ardal gan i’w Ardudwy. Hoffai’n fwy na dim ddad-cu, oedd yn ddylanwadol gael cyfarfod â thrigolion yr ardal iawn yn ei fywyd, ac yn ei 90au ar a chyn-ddisgyblion er mwyn cael y pryd, ladd llygoden-fawr enfawr sgwrs am hen gymeriadau’r ardal yn ei ardd datws ar lan yr afon. a’r plant direidus, yn enwedig y rhai Mae’r llygoden-fawr (‘coypu’ o Dde o’r Bermo a Phenrhyndeudraeth. America) bellach wedi’i stwffio ac Wedi iddo ymddeol, symudodd i ar ddangos yn y dafarn – a dyna dde Cymru er mwyn cael bod yn o ble y daeth yr enw “Tafarn y agosach at y teulu; Dai, Lyneth ac Llygoden”. Gyda llaw, ei dad-cu Iwan, yr wyrion, ac erbyn hyn y oedd y pysgotwr cwrogl hynaf ar gor-wyrion. Roedd yr wyrion i gyd y Teifi ar y pryd, ac oherwydd hyn yn addoli Taid, a oedd yn ei dro yn fe’i anrhydeddwyd â’r teitl Breninfalch iawn o bopeth roeddent yn ei bysgotwr neu ‘Kingfisher’. Ni fyddai yn yfed alcohol oherwydd gyflawni, boed hyn yn academaidd, iddo gael ei fagu mewn tafarn, ac un yn gerddorol neu ym myd chwaraeon. o’i ddyletswyddau fel llanc ifanc yn Doedd arian na phethau materol yn yr 1930au oedd gosod y meddwon golygu dim iddo. Am athroniaeth ar eu ceffylau, a byddai’r ceffylau dda! Roedd yn ddyn hael iawn, wedyn yn mynd â’u meistri adre’n yn hollol ddi-ffws; ni chasglodd ei reddfol, ar eu liwt eu hunain. fedalau rhyfel hyd yn oed, doedden Mynychodd Ysgol Ramadeg nhw’n golygu dim iddo! Dyna’r Aberteifi. Tra yno, cafodd math o ddyn ydoedd. ‘detention’ un tro am fod yn hogyn Rhinwedd arall yng nghymeriad drwg; canlyniad hyn oedd gorfod Taid oedd ei fod yn sylweddoli iddo cerdded adre, taith o ryw ddeg fyw bywyd hir a hapus, ac i’r eithaf; milltir. Nid anghofiodd fyth am ac oherwydd ei ffydd, doedd arno hyn a phan ddaeth yn athro ei hun, ddim ofn marw. Gan iddo fyw’n ni roddodd ‘detention’ i unrhyw ddisgybl, mewn gyrfa oedd i barhau hirach na’r mwyafrif o’i ffrindiau, ac wrth dderbyn y newyddion am dros 30 o flynyddoedd. bod rhywun wedi marw, daeth yn O Aberteifi, aeth Taid ymlaen i arferiad iddo ddweud ‘Braf ei fod yn Brifysgol Aberystwyth, i astudio daeareg a mathemateg. Cefnogwyd cael mynd cyn y gaeaf.’ Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hoffai drafod ef yn ariannol drwy’r cyfan gan ei y manylion ar gyfer ei angladd ei dad-cu, ac roedd ganddo feddwl y hun yn weddol reolaidd; nododd na byd ohono a pharch mawr iddo. fyddai am unryw ffws, pa emynau Ar ganol ei astudiaethau, galwyd yr hoffai i bawb ganu, ac ei fod arno i gefnogi’r rhyfel ac fe’i am gael lle am 9.00 y bore yn yr danfonwyd i Ogledd yr Affrig lle amlosgfa fel na fyddai neb yn gorfod y daeth yn un o ‘Lygod-mawr yr trafeilio ymhell. Byddai angen Anialwch’ o dan Montgomery. dweud wrtho’n ddigon cadarn bod Wedi wythnos yn unig o ryfela, fe’i saethwyd a dyna ddiwedd ar ei yrfa amlosgfeydd yn llefydd prysur a byddai rhaid derbyn yr amser a fel milwr! O Ogledd yr Affrig, fe’i dychwelwyd gynigiwyd i ni! Diolch am yr atgofion melys a hapus i Gibraltar ac yna i ysbyty Treforys. (‘Happy days’ fel y dywedai), bydd Yma, gofalwyd amdano gan Gwen (Nain), a ddaeth yn wraig iddo maes rhain yn byw yn ein calonnau am byth; a bydd iti orffwys mewn hedd o law. Roedd Nain ar y pryd adre’n perffaith hedd. gweithio yn yr ysbyty fel cyfnod o Cysga’n dawel ‘Taidi’, gwyn dy fyd seibiant rhag dilyn llinell-flaen y - a braf dy fod ti’n cael mynd cyn y rhyfel fel nyrs. gaeaf. Ar ddiwedd y rhyfel, dychwelodd Dai, Lyneth ac Iwan i Brifysgol Aberystwyth
Reg Morris 1917-2015
Pen-blwydd hapus!
Ar y chwith, Lloyd Hughes sydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed. Mae’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Yn y canol, Callum Hughes, Siop Llanbedr, ac ar y dde ei gefnder Aidan Hughes [sy’n frawd i Lloyd]. Mae’r ddau yn dathlu eu penblwyddi yn 21 oed cyn bo hir. Mae Callum wedi graddio o Brifysgol Keele a bydd Aidan yn dechrau ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Manceinion yn fuan. Pen-blwydd hapus i’r tri ohonyn nhw a phob dymuniad da i’r dyfodol.
Cae Brenin Siôr
FFAIR HAF HARLECH Dydd Sadwrn, Gorffennaf 11
Stondinau Amrywiol Elw at Seindorf Harlech Michael Johnstone, mab Elizabeth a Peter Johnstone, Ger y Nant, Harlech sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed. Bu’n gweithio ym Mhorthmadog ers iddo adael yr ysgol. Pen-blwydd hapus i ti gan y teulu i gyd a dymuniadau gorau i’r dyfodol. Rhodd a diolch - £20 Beth am ymuno gyda’ch plentyn bach ... yn AMSER TWF? Llyfrgell Harlech Gorffennaf 16 10.30 – 11.30 Amser stori, canu a chrefft Am fwy o fanylion cysylltwch â Morfudd ar 01341 241645, neu Gweplyfr (Facebook) Twf Meirionnydd
RHODD I’R LLAIS - £50 Er cof am T R [Reg] Morris gynt o Afallon, Harlech gan Dai, Lyneth, Iwan a’r teulu oll. ‘Wedi iddo golli ei olwg, roedd Iwan a Lyneth yn darllen Llais Ardudwy bob mis i’n tad ac roedd o’n cael boddhad mawr yn dal i fyny efo’r hanesion lleol.’ Dai Morris [ar ran y teulu] 2 Llys Hebog, Abertawe
Y Lasynys Fawr Bydd y Lasynys Fawr yn agored bob prynhawn dydd Iau a phrynhawn dydd Gwener rhwng 1 a 4 o’r gloch drwy gydol yr haf. Croeso i unrhyw un alw draw yn ystod yr oriau yma neu os hoffech drefnu amser a dyddiad arall, cofiwch gysylltu a gadael neges ar 01766 781395.
Grŵp Cynefin
Grantiau Datblygu Cymunedol Grŵp Cynefin Pwrpas y grant yw ariannu prosiectau gan grwpiau cymunedol yn ardal weithredol Grŵp Cynefin, i wella ansawdd bywyd cymunedau lleol. Byddai unrhyw brosiect fyddai yn gwella, hwyluso a gwneud ardal neu gymuned yn fwy pleserus i fyw ynddo yn cymhwyso. £55 yw’r uchafswm grant sydd ar gael i bob grŵp. Y dyddiadau cau eleni yw 17 Gorffennaf, 10 Medi a 18 Rhagfyr. Mae croeso i unrhyw grŵp gysylltu i gael sgwrs am eu syniad efo Bethan Thomas, Swyddog Cymuned, ar 01286 889222 neu Ben Gregory ar 01286 889214.
9
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher, Mehefin 3 cawsom air o groeso gan Gwen ar noson braf iawn yng Nghwm Nantcol. Atgoffwyd yr aelodau am y daith gerdded yn Nhrawsfynydd ar nos Wener y 5ed, cwrs gosod blodau yn Llanelltyd ddydd Sadwrn y 6ed a phenwythnos preswyl Merched y Wawr yn Llanbedr Pont Steffan 4-6 Medi. Diolch i Beti Mai ac Enid am gytuno i’n cynrychioli yng nghyfarfod y Sioe Sir. Aeth Gwen ymlaen wedyn i gyflwyno ein gŵr gwadd am y noson, sef Phil Mostert, oedd am sôn am ei ymweliad â Kenya. Eglurodd mai ar wahoddiad Llywodraeth y Ffindir y cafodd fynd yno am gyfnod i ymweld â phedair ysgol i arfarnu eu defnydd o gyfrifiaduron ag iddynt gyda chymaint â 57 mewn un dosbarth. Cawsom rai hanesion difyr iawn ac addysgiadol ganddo yn ogystal ag agoriad llygaid wrth iddo sôn am y tlodi, y diffyg dŵr glân ac ati. Gorffennwyd trwy fynd â ni ar saffari drwy sgwrs a lluniau diddorol iawn. Diolch yn fawr iddo am ddod i rannu ei brofiadau gyda ni. Dros baned a chacen cawsom awgrymiadau ar gyfer rhaglen y tymor i ddod. Mis nesaf byddwn yn ymweld â’r Lasynys Fawr gyda phryd o fwyd i ddilyn yn y Llong, Talsarnau i ddod a’r tymor i ben. Capel Salem Cafwyd oedfa fendithiol yn Salem, nos Wener, Mai 22ain a daeth nifer dda ynghyd. Pregethodd y Parch R O Roberts ar y tair dameg gyfarwydd yn Luc 15 gydag argyhoeddiad amlwg fod Efengyl Iesu Grist yn parhau i fod yn berthnasol i bawb ohonom. Gwnaethpwyd casgliad o dros £100 at waith elusennol yn Nepal. Diolch i bawb am gyfrannu. DIOLCH Dymuna Robin [Bob] Jones, Frongelli, Gellilydan ddiolch i bawb o’r ardal, yn enwedig aelodau Côr Ardudwy, am y gefnogaeth a gafodd wrth reidio beic a chasglu dros £400 at Tŷ Gobaith, Conwy.
10
Er cof Er cof am fam a nain gan Megan, Robert a Medwyn, Werncynyddion. £5
Genedigaeth Llongyfarchiadau i Gwynfor a Catrin ar enedigaeth mab bach, Gruffudd. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn dod i fyw i Dwllnant, a hefyd llongyfarchiadau i Mrs Mary Evans, Plas Caermeddyg, ar ei ŵyr bach newydd.
TALSARNAU Cyfeillion Ellis Wynne Cyngerdd Y Glerorfa
Cafwyd cyngerdd gwych a hynod a drefnwyd gan Gyfeillion Ellis Wynne, Y Lasynys Fawr, yn Ysgol Ardudwy ar nos Sadwrn, 27 Mehefin. Daw cerddorion y Rhodd Glerorfa, cerddorfa werin, o bob Derbyniwyd £10 gan William cwr o Gymru ac roedd oddeutu Large, diolch yn fawr. 35 ohonyn nhw ar y llwyfan y noson hon, ambell un yn lleol Pen-blwydd arbennig megis Ken Robinson o Finffordd, Anne Styles, o Borthmadog yn Llongyfarchiadau i Mrs Greta Benn, Llenyrch, a fydd yn dathlu wreiddiol, ar y ffidil, ac Anna Georgina Chitty, o Langwnnadl, Côr Meibion Ardudwy ei phen-blwydd yn 90 oed ar 14 Braint oedd cael croesawu Côr Awst. Pen-blwydd hapus i chi a wrth y delyn. Merched Leelo o Parnu yn llawer ohonynt eto ac iechyd i’w Mae’r gerddorfa yn perfformio ‘sets’ o alawon gwerin Cymreig a Estonia yn ystod wythnos olaf mwynhau. chyflwynir ambell i eitem hefyd Mehefin. Cafwyd cyngherddau gan unawdwyr dawnus yn eu gwirioneddol gofiadwy yn Dic Penderyn mysg. eu cwmni. Cawsom gyfle i Yn y Cymro, 5 Mehefin, roedd Diolch i bawb a gefnogodd ac a gymdeithasu a dysgu rhywbeth erthygl sydd yn sôn am geisio gyfrannodd at lwyddiant y noson am Estonia. Roedd y merched cael pardwn i Dic Penderyn a - o hysbysebu, gwerthu tocynnau, wedi dotio ar yr ardal ac roedden grogwyd ym 1831 ar ôl ei gael yn tywys aelodau’r gerddorfa o nhw’n ddiolchgar iawn am y euog o drywanu milwr yn ystod amgylch y Lasynys yn ystod y croeso twymgalon a gawsant. Terfysg Merthyr. Mynnodd Dic dydd, cyfrannu nwyddau at y raffl, Mae’r Côr Meibion yn brysur ei fod yn ddieuog hyd y diwedd, ac mewn unrhyw ffordd arall. gyda sawl cyngerdd ar y gweill. ac roedd 11,000 wedi arwyddo Llawer o ddiolch, gan aelodau Gyda golwg ar y tymor hir, deiseb i’w gefnogi ym Merthyr pwyllgor lleol Cyfeillion Ellis byddwn yn teithio i Gernyw ym Tudful. Wynne. mis Hydref 2016 i ganu mewn Roedd y Parchedig Edmund dau gyngerdd gyda’n brodyr Evans o Soar yn gefnogol iawn Brysiwch wella Celtaidd. iddo ac wedi marchogaeth ei Ein dymuniadau gorau i Nia, geffyl i Gaerdydd ac arhosodd Fuches Wen, sydd bellach yn ôl Cydymdeimlo yn y gell dros nos gyda Dic adre yn dilyn damwain. Rydym Cydymdeimlwn â theulu Graig Penderyn ac wrth droed y yn falch o ddeall ei bod erbyn Isa yn eu profedigaeth o golli grocbren yn rhoi ei gefnogaeth hyn yn gallu mynd o gwmpas ar mam Moira, sef Mrs Ellen Hoare iddo drannoeth. Tybed oedd un fagl. Cofion cynnes atoch, ar Mai 24 ar drothwy ei phenEdmund Evans yn weinidog yn Nia, oddi wrth eich ffrindiau blwydd yn 87 oed. Soar? Siŵr fod haneswyr ardal yn yr ardal - rydym yn falch o Talsarnau yn gwybod amdano. glywed eich bod yn dal i wella ac Diolch yn cryfhau. Dymuna teulu Graig Isa ddiolch am yr holl gardiau, negeseuon, cacennau a blodau fu iddynt dderbyn ar achlysur colli mam. Rhodd a diolch £10
Hen deulu Maes y Garnedd Trist oedd clywed am farwolaeth Brian Stephens yng Nghanada, sef mab i Stephen Stephens, Maes y Garnedd gynt, a ymfudodd i Ganada gyda’i wraig Lilly ym 1955. Yn 56 oed, bu’n dioddef o ganser. Mae ei dad a’i fam yn dal i fyw yn Burlington, ddim yn bell o Toronto, Canada.
Cyhoeddiadau’r Sul Am 2.00 o’r gloch
Capel Salem GORFFENNAF 12 Mr Eurfryn Davies 19 Parch Dewi Tudur Lewis AWST 16 Parch Dewi Tudur Lewis MEDI 20 Parch Dewi Tudur Lewis 27 Parch Dafydd H Edwards Capel y Ddôl GORFFENNAF 26 Mrs Iona Anderson MEDI 6 Mrs Eurwen Evans
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Dathlu pen-blwydd priodas Llongyfarchiadau mawr iawn i Ieuan a Muriel Williams, Cefn Gwyn, Talsarnau ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt ar 12fed Gorffennaf, 2015. Llawer o gariad oddi wrth Angharad, Phillip, Nathan a Leeanne, a Lilly Grace a James Ellis i hen nain a thaid arbennig iawn. Rhodd a diolch £10
Recordio Rhaglen Talwrn y Beirdd yn Nhalsarnau Recordiwyd dwy raglen yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Fawrth 9fed Mehefin 2015 am 7 o’r gloch. Roedd 4 tîm yn cystadlu yn rownd yr wyth olaf - Hiraethog (Ardal Dinbych) yn erbyn Bro Alaw (Sir Fôn) a Chaernarfon yn erbyn y Tir Mawr (Pen Llŷn).
Gyrfa chwist Cynhelir yr yrfa arferol y mis yma ar nos Iau’r 9fed o Orffennaf ond byddwn yn cael egwyl ym mis Awst. Ailddechrau wedyn ar y 10fed o Fedi gan y bydd y bont wedi hen agor a chawn weld ambell i wyneb cyfarwydd unwaith eto. Gwyliau hapus!
Cydnabyddiaeth Dymuna Rhiannon a Gareth, teulu’r ddiweddar Bet (Elizabeth Merched y Wawr Ellen Jones), a fu farw yng Ym mis Mehefin, aeth aelodau Nghartref y Pines, Cricieth, gynt Cangen Talsarnau i’r Llyfrgell o Osmond Terrace, Penrhyn ac Genedlaethol yn Aberystwyth. wrth gwrs o Soar, Talsarnau, Gwnaed cais am grant gan ddiolch o galon i berthnasau, Gronfa’r Loteri Fawr i’n galluogi Priodas ffrindiau a chymdogion am eu Yn ddiweddar priodwyd Annwyl i fynd ar y daith ac rydym yn caredigrwydd tuag atynt yn eu ddiolchgar iawn am y gefnogaeth Gwennant Rogers a Huw Owen profedigaeth o golli mam, nain a ariannol yma. Williams. Mae Annwyl yn ferch hen nain annwyl iawn. Wedi cael paned, aethom i’r i Mandy a Paul o Aberdeunant, Diolch am y llu cardiau, ddarlithfa a gweld ffilm ddiddorol Y Prifardd Ceri Wyn Jones oedd ymweliadau a galwadau ffôn. Llandecwyn, a Huw yn fab i ar hanes y Llyfrgell i ddechrau, y meuryn a Dwynwen yn cadw’r Diolch hefyd am yr haelioni tuag Keith a Margaret o Lanbedrog. yna sgwrs am ddau brosiect sy’n sgôr a chadw trefn. Mae’r ddau’n byw a gweithio at elusen ‘Alzheimer’. digwydd yno ar hyn o bryd, cyn Daeth cynulleidfa dda ynghyd ac Gwerthfawrogwyd yn fawr iawn yng Nghaerdydd ac roedd y gorffen gyda hen ffilm o waith estynnwyd croeso cynnes iawn i bresenoldeb teulu a ffrindiau ddau wedi dychwelyd i’r gogledd Geoff Charles, gyda Cynan yn i briodi. Roedden nhw wedi sylwebu, yn sôn am fywyd faciwî bawb. Nodwyd gyda chwithdod yn yr angladd yng Nghapel bod rhai cyfeillion y byddent mwynhau eu mis mêl yn Hawaii yng Nghymru yn ystod yr ail Soar dydd Gwener, 5 Mehefin. wedi dymuno ac wedi mwynhau Diolch yn arbennig i’r Parch a San Fransisco. Cafodd parti’r ryfel byd. Ar ôl cinio, aethom i bod yn y noson arbennig hon, yn Gwyn Thomas am ei wasanaeth briodas ei ddathlu yng Nghors y wahanol rannau o’r adeilad gan Gedol. gyflwyno llawer o wybodaeth am absennol, ond mai eu dymuniad ystyriol. Diolch hefyd i Ella fyddai i’r noson fod yn un yr holl adnoddau sydd ar gael Wynne Jones am ei gwasanaeth llwyddiannus a hwyliog. Dyddiad i’w nodi - Cyngerdd yno. Yn olaf, gweld arddangosfa wrth yr organ. Diolch am y Cafwyd gornestau arbennig, gyda Meibion Prysor o hen lyfrau ac ysgrifau a chael lluniaeth arbennig a ddarparwyd cystadlu brwd a chafwyd hanes Siôn Prys a oedd wedi Rydym wedi trefnu noson yng gan y ‘Ship Aground’; a diolch gwneud cyfraniad mor werthfawr enghreifftiau o’r llon a’r lleddf nghwmni Meibion Prysor, nos enfawr i Malcolm a Dylan o i lenyddiaeth Gymraeg. ynghyd â digon o hiwmor a Sadwrn 3ydd Hydref eleni. Gwmni Pritchard a Griffiths am Bu’n ddiwrnod hynod o ddifyr hwyl gan y meuryn o’i gadair. Pris mynediad fydd £10 i eu gwasanaeth rhagorol. ac addysgiadol a mwynhawyd Cafodd y gynulleidfa lawer oedolion. Rhagor o wybodaeth Rhodd a diolch £10.00 y cyfan gan aelodau’r gangen o bleser a mwynhad - roedd yn nes i’r amser. a chyfeillion eraill oedd wedi hynny’n amlwg yn yr ymateb a’r Cadwch y dyddiad yn rhydd! Cartref newydd ymuno â ni. chwerthin. Roedd y rhaglenni Yn ystod mis Mehefin, bu i i’w clywed ar Radio Cymru’r Meirion ac Anwen Roberts Sul canlynol ac yn cael eu hail ymddeol o Safle Gwersylla ddarlledu ar y dydd Mawrth Barcdy a symud i fyw i Graig y canlynol, gyda’r ail ornest yr Nos, Llandecwyn. Ar ôl bywyd wythnos wedyn. prysur o dros ddeugain mlynedd Bu aelodau’r timau a’r meuryn a yn byw yng Nghae Brân a gofalu Dwynwen yn mwynhau tamaid am Barcdy, dymunir pob lwc i’w fwyta cyn troi am adref. iddynt yn eu cartref newydd i Diolch yn gynnes iawn i bawb gael amser i ymlacio a mwynhau gyfrannodd at y noson mewn ymddeoliad hir a hapus. unrhyw ffordd. MJ
Aelodau cangen Merched y Wawr, Talsarnau ar eu hymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol ar 18 Mehefin 11
THEATR HARLECH
CROESAIR 1
2
3
5
4
7
6
8
9
Gorffennaf 29 - The Taming of the Shrew Awst 13 - The Sorcerer’s Apprentice Awst 18 - The Three Muskateers
10
11
13
12 14
16
17
15 18
20
19
Pôs y Beirdd Gorffennaf ac Awst gan Iwan Morgan
21
AR DRAWS 1 Gwneud yn amhur [5] 4 Brwydr gystadleuol – Yr ...? [6] 7 Yr ail blaned o’r haul [5] 8 Maes, darn o dir glas [6] 9 Gofyn cwestiynau [4] 10 Y weithred o ddal ati [6] 11 Gwael [4] 12 Pwyso a mesur gwerth neu safon rhywun neu rywbeth [5] 16 Un sy’n chwarae ar yr asgell mewn gêm [7] 19 I lawr yn is na’r prif lawr [4] 20 Cybyddlyd [8] 21 Cwta [3]
ENILLWYR MIS MEHEFIN Dyma’r enillwyr y tro hwn: Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Idris Williams, Tanforhesgan, Talsarnau; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; David T Hughes, Cyffordd Llandudno; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Sue Mills, Harlech; Ifan Pritchard, Tŷ Canol, Harlech; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Mari Morris, Meirion, Harlech; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli.
I LAWR 1 Rhan wastad, finiog cleddyf ac yn y blaen [4] 2 Cwch hir, cul a gwaelod fflat [7] 3 Gair i ddisgrifio dau neu ragor o bobl yn canu neu’n chwarae’r un nodau ar yr un pryd [6] 4 Un o greaduriaid y môr [7] 5 Ymofyn, dod â [3] 6 Bod yn anfoesgar wrth rywun [6] 11 Llugoer [6] 13 Brodor sy’n dod o Loegr [4] 14 Gair i ddisgrifio rhywbeth neu rywun sydd y tu fas [4] 15 Postyn hir [5] 17 Anerchiad byr, difyr [4] 18 Yn awr [4]
ATEBION MEHEFIN AR DRAWS 1. Creulon 5. Nosi 7. Islaw 8. Odiaeth 9. Ystwyth 10. Eto 12. Bidog 14. Pedol 17. Echnos 19. Ymdrech 21. Neidwyr 22. Naws I LAWR 1. Criced 2. Eglwysi 3. Lawnt 4. Nionyn 5. Nain 6. Sbeitio 11. Pendant 13. Ocsiwn 16. Peint 18. Naid 20. Elwa SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol Awst os gwelwch yn dda.
SIOE SIR MEIRION Tŷ Cerrig, Talsarnau Dydd Mercher, Awst 26 12
Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 yng Nghastell Harlech
1. Ac anhreuliedig haul Gorffennaf gwych Yn gwahodd tua’r llethrau. Yn y fan, Ar ddiarwybod droed a distaw duth Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o’m blaen ... 2. Chwa Gorffennaf ddaw i’m tŷ Yn y bore melys, Gyda neithdar maes a môr Ar ei lleithiog wefus; Onid merch y môr a’r maes Yw fy nghalon innau; Câr fugeilio’r gwenith gwyn, Câr gyfeillach tonnau. (Mae’r ‘maes’ a’r ‘môr’ yn allweddol i’r bardd telynegol hwn.) 3. Yn fore awn i Ferwyn, I’w frig iach ar fore gwyn, Yn Awst, a mynnwn eistedd Ar y foel orau a fedd. Dymunol flodau mynydd, Iach eu sawr i’w wychu sydd. (Lluniodd D Vaughan Thomas unawd bariton adnabyddus ar y cywydd enwog hwn.) 4. Ni chofir certh ryferthwy Storom Awst a’i llanastr mwy, Y cnwd fel talcen eidion, Ac arlwy’r brig ar lawr bron. A’i anniben ysgubau Yn llwyd a brwysg eu gwellt brau. 5. Mis Awst, a’r grug o’n cylch, a’r môr Odanom heb na gwg na chas, Ac un cwch draw ar adain wen Fel glőyn byw’n y glas. (Canodd bryddestau i Ieuan Gwynedd ac i Bwyll Pendefig Dyfed cyn canu i fro’i febyd; daeth yn Archdderwydd wedi’r Ail Ryfel Byd.)
ATEBION MIS MEHEFIN 1. Gwilym Tilsli - awdl ‘Y Glöwr’ - Caerffili 1950 2. John Lloyd Jones, Dulyn - awdl ‘Y Gaeaf ’ - Rhydaman 1922 3. Eifion Wyn 4. Alan Llwyd - ‘Ffawydden Goch ym Mehefin’ o’i gyfrol o gerddi natur ‘Edrych drwy Wydrau Lledrith’ 5. John Lloyd Jones, Llwyndafydd, Llangrannog - ewythr y Prifardd Idris Reynolds - draenen arall na wobrwywyd gan Eirian Davies yn y Bala ym 1967.
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Llais Ardudwy
Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
01766 780186 07909 843496
Pritchard & Griffiths Cyf.
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio
Phil Hughes Adeiladwr
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Tacsi Dei Griffiths
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 13
YARIS
ATHLETWYR LLWYDDIANNUS YSGOL ARDUDWY
AURIS
AYGO NEWYDD
TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432
BECHGYN B7
Dewch i weld yr Aygo newydd!
Gwerin y Coed
Os oes plant neu bobl ifanc yn eich mysg sy’n mwynhau neu eisiau rhoi cynnig ar weithgareddau bywiog yn yr awyr agored, archwilio byd natur a/neu eisiau gwneud pethau o bwys i’w bro, yna Gwerin y Coed ardal Penrhyndeudraeth ydy’r mudiad perffaith iddyn nhw. Caiff grwpiau Gwerin eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac mae ein swyddfa newydd ar y Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth (uwchben y llyfrgell). Mae ein grwpiau yn cynnwys plant oed 3-6, 6-9, 9-12 ac mae grŵp newydd sbon ar fin dechrau i’r ‘anturwyr’ - rheini dros 13 oed. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ar: catrin@gwerin.org neu llinos@gwerin.org neu ffoniwch [neu adael neges ar] 01766 238401. Cofion cynnes, a phob hwyl, Catrin Roberts
MERCHED B7
BECHGYN B8
MERCHED B8 14
NEWYDDION YSGOL ARDUDWY
Seremoni Cyflwyno Ffeiliau Cynnydd Daeth rhieni a chyfeillion disgyblion B11 at ei gilydd i ddathlu eu cyfnod yn yr ysgol, ac ymhyfrydu yn eu llwyddiannau academaidd a chymdeithasol. Owen Owens, Uwch Reolwr yn yr Adran Addysg yng Nghaernarfon, oedd yn cyflwyno’r ffeiliau i’r disgyblion eleni, a chafwyd araith a chyngor pwrpasol ganddo i’r disgyblion wrth iddynt drosglwyddo i addysg ôl 16 neu fyd gwaith. Roedd y disgyblion wedi trefnu eitemau o adloniant eu hunain i ddiddanu pawb ac, ar ôl y seremoni, cafodd pawb fwynhau bwffe a baratowyd gan staff y gegin. Cyflwynwyd dwy wobr arbennig yn ystod y prynhawn, sef Gwobr Goffa Elfed Evans am ragoriaeth yn y byd chwaraeon i Georgia Povey, a Gwobr Dyfalbarhad i William Richards. Dymunwn bob llwyddiant i’r disgyblion i gyd yn eu harholiadau TGAU a chyrsiau BTEC, ac i’r dyfodol. Dawn Dweud
Dau o B7 fu’n dysgu Cymraeg yn y Ganolfan Iaith ym Mhorthmadog yn ddiweddar yw Aaron Gunter a Gabriel Payne. Bu brolio mawr ar eu cynnydd. Mae’r ddau’n siarad Cymraeg yn dda ar ôl cyrraedd yn ôl a gobeithio y bydd eu hyder yn parhau i dyfu o hyn allan. Ymweliad Capel ac Eglwys (gan Osian a Beca 7D) Ddydd Llun, Ebrill 20, aethom i eglwys a chapel yn nhref Harlech, yn lle mynd i’r wers Gymraeg arferol, oherwydd roeddem wedi bod yn sôn am y gwahaniaethau rhwng eglwys a chapel yn ein gwersi addysg grefyddol. Roedd Eglwys St Tanwg yn grand
hefo llawer o addurniadau fel ffenestri lliw a baneri lliwgar. Cadeiriau oedd yna i eistedd arnynt, nid meinciau. Yn fy marn i, roedd y cadeiriau yn fwy crand na hen feinciau! Nid lle i addoli oedd yr eglwys yn unig; roedd yn lle i fedyddio hefyd. Yn yr eglwys gwelsom gloch, croes, allor, pulpud, organ a darllenfa. Bydd pobl yn canu’r gloch i ddweud wrth bobl am ddod i’r eglwys. Roedd y groes yna i gofio am Iesu Grist. Bwrdd hefo lliain yn y blaen oedd yr allor, ac roedd y pulpud a’r ddarllenfa yn lle i’r Ficer bregethu ac arwain y gwasanaethau. Doedd yr organ ddim yn fawr iawn. Roeddwn yn hoff o’r eglwys oherwydd roedd yn grand, ond gallai yr holl addurniadau dynnu sylw rhai pobl rhag canolbwyntio ar addoli Duw. Yn wahanol i’r eglwys, roedd Capel Jerusalem yn blaen ac yn llai na’r eglwys. Meinciau oedd yn y capel; roedd rhai meinciau yn dangos ôl traul. Roeddech yn gallu bedyddio mewn capel ond doedd dim bedyddfaen yno. Roedd croes i’w chael yno ac organ, pulpud, darllenfa, bwrdd cymun a ffenestri plaen, di-liw. Roedd yr organ yn fach iawn, hyd yn oed yn llai nag organ yr Eglwys. Unwaith eto, roedd y pulpud a’r ddarllenfa yn lle i’r Gweinidog bregethu; doedd y pulpud ddim mor fawr ag un yr Eglwys. Yn fy marn i, mae’r capel yn lle i addoli heb gael addurniadau i dynnu sylw. Roedd y daith yn hwyl ac yn ddiddorol iawn, a’r gwahaniaethau rhwng yr eglwys a’r capel yn amlwg. Mabolgampau De Gwynedd Buom yn cystadlu yn erbyn saith o ysgolion eraill de Gwynedd ar Drac Athletau Treborth. Cafwyd canlyniadau arbennig o dda gan ddisgyblion B7. Daeth Tîm y Merched yn gyntaf ac roedd Tîm y Bechgyn yn ail. Daeth Tîm Bechgyn B8 yn ail a byddant yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf, eto ar drac Treborth, i gystadleuaeth Eryri. Roedd genethod B8, 9 a 10 a bechgyn B9 a 10 hefyd wedi rhoi o’u gorau ar y diwrnod. Llongyfarchiadau i’r rhai ddaeth i’r brig. Dyma rai o’r goreuon:
Bechgyn B7 Aiden Jones Taflu pwysau 1af Ryan Jones Taflu disgen 1af Osian Ephraim 800m 2il Aiden Jones Taflu picell 2il Merched B7 Llio Henshaw 200m 2il Llio Henshaw Naid hir 2il Cerys Sharp Disgen 1af Tîm Ras Gyfnewid 2il Bechgyn B8 Justin Firth 100m 2il Rowan Bavin 800m 1af Ben Davies Taflu pwysau 1af Rowan Bavin Naid uchel 1af Justin Firth Naid driphlyg 2il Merched B9 Katia Bischoff 200m 1af Katia Bischoff Naid hir 2il Ysgard yng Ngŵyl Roc Ardudwy Aeth y dorf yn wyllt wrth weld band Ysgard yn camu ar lwyfan Gŵyl Roc Ardudwy am y tro cyntaf. Dyma fand o dalentau ifanc o’r ysgol yn chwarae yn eu gig cyntaf ac, yn barod, maen nhw wedi cael galwadau i chwarae eto ... OMB! Ai dyma gychwyn ei world tour? Bydd eisiau asiant, limos, jet breifat, tocyn cinio cynnar ... Aelodau’r band presennol ydy Shona McKeown (allweddell), Dafydd Hughes (llais ac allweddell), Gwion Lloyd (cornet), Tirion Evans (gitâr), Jacob Evans (gitâr acwstig a cajon), Dalton Foster (gitâr a drymiau), Miki Adamkiewicz (drymiau a congas), Max Liggett (drymiau a congas) a Mr D (sacs ac allweddell). Maen nhw wedi bod yn ymarfer yn y Clwb Cerdd ar ôl ysgol ar ddydd Iau ac wedi asio i greu sain cyffrous gan ddefnyddio
caneuon roc a blues gan fwyaf. Gyda llaw, os oes gennych chi sy’n darllen awydd gwella’ch doniau cerddorol, mae croeso i unrhyw un o ddisgyblion Ardudwy ymuno yn y sesiynau hyn: mae Ysgard yn edrych am sêr y dyfodol yn barod. Dechreuodd y set efo riff ffynci ‘Dyn y Melon Ddŵr’ cyn i’r adran bres blastio’r alaw gyfarwydd. Roedd y dorf wedi mopio arnyn nhw o’r nodyn cyntaf. Aethon nhw ymlaen i chwarae ‘Autumn Leaves’ mewn arddull roc a chân Affricanaidd o’r enw Mopti. Beth ydy Mopti meddech chi; sbïwch mewn atlas! Yn ogystal â chwarae’n dynn fel ensemble, llwyddodd rhai o’r chwaraewyr i greu unawdau byrfyfyr gwych megis Tirion ar ‘Wild Elephants’, Dafydd ar ‘Watermelon Man’ a Dalton ar Mopti, efo Miki a Max yn rhoi tameidiau ffrwydrol ar y cit drymiau. Profiad gwych i’r chwaraewyr ifanc oedd gorfod paratoi ar gyfer perfformiad byw. Roedd yr offerynnau i gyd y tu ôl i’r llwyfan a dim ond 15 munud i gael y cyfan i’w le a chael ‘soundcheck’ cyn perfformio. Felly, ble mae ail gig y ‘world tour’? Wel, neuadd Ysgol Ardudwy ar gyfer B5 ar ddiwedd mis Mehefin. Yna, mae’r band mewn trafodaethau gyda Theatr y Ddraig, Y Bermo, ac yn edrych ar ddyddiadau ym mis Hydref. Maen nhw hefyd yn trafod posibiliadau gyda gwyliau eraill yn yr ardal, ond os hoffech chi fwcio’r band, cysylltwch ag Ysgol Ardudwy. Cofiwch yr enw – YSGARD.
Cofiwch am SIOE ARDDIO HARLECH yn y Neuadd Goffa Dydd Sadwrn, Awst 29
15
SWYDDOGION NEWYDD Y CLWB GOLFF
Yn y llun gwelir y Llywydd newydd Mr David Vaughan o Ddolgellau a'r ddau gapten newydd, Mrs Mair Eluned Jones a Mr John Wolstenholme o Harlech.
Clwb Chwaraeon Madog, Porthmadog am 7.30 o’r gloch Gorffennaf 14 ac 15. Tocynnau gan Robert Lewis 01766 512055
LLWYDDIANT ROC ARDUDWY 2015
Mynychodd dros 600 o bobl yr Ŵyl newydd sbon yma ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd awyrgylch anhygoel yno gyda cherddoriaeth trwy dydd yng nghysgod Castell Harlech Digwyddiad gwych ar gyfer yr ardal gyfan. Bydd yr Ŵyl yn help i godi arian er mwyn cadw’r pwll nofio, y wal ddringo a’r caffi yn agored yn y Ganolfan Hamdden yn Harlech. Mae angen i ni godi tua £50,000 y flwyddyn i gadw’r ganolfan yn agored a bydd digwyddiadau fel hyn yn helpu i godi’r arian angenrheidiol. Rydym yn ymladd i gael arian drwy’r amser i gael dau ben llinyn ynghyd ac mae’r Bwrdd Gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn i gadw’r ganolfan yn agored i bawb gael mwynhau’r adnoddau. Rydym yn dal i chwilio am ragor o bobl i’n helpu ni i ddod o hyd i’r cyllid ychwanegol yma yn flynyddol - os nad ydym yn dod o hyd i arian ychwanegol yn ystod y 12 mis nesaf, yna nid wyf yn gweld sut y gallwn aros yn agored. Codwyd oddeutu £5,000 yn sgil trefnu Roc Ardudwy - sy’n hollol anhygoel ar gyfer digwyddiad un diwrnod. Grŵp bach o wirfoddolwyr ydym ni sydd wedi rhoi llawer iawn o amser i drefnu’r digwyddiad hwn a hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd yn bersonol am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros yr achos. Hoffem hefyd ddiolch i Gyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Banc HSBC, a Chwmni Magnox am helpu i ariannu’r digwyddiad hwn. Diolch arbennig i John Roberts, Ffestiniog am y lorri, ein llwyfan ffantastig, yr holl wirfoddolwyr a helpodd a diolch yn arbennig i Einion Dafydd, Pennaeth Cerdd Ysgol Ardudwy am lunio gig gwych gyda’r cerddorion ifanc o’r ysgol (Ysgard) a staff Banc HSBC a oedd yn gyfrifol am y giatiau i ni drwy’r dydd. Gobeithio y gallwn wneud hyn eto! Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn helpu mewn unrhyw ffordd - codi arian, helpu gyda cheisiadau grant, sgiliau busnes, gwaith gweinyddol neu roi ychydig o amser gwirfoddol, yna gallwch gysylltu â mi ar hal.chair@btconnect.com neu ffoniwch 01766 780576. Heidi Williams Cadeirydd Gwirfoddol - Hamdden Harlech ac Ardudwy (www.harlechleisure.co.uk)
Y grŵp Ysgard o Ysgol Ardudwy ar lwyfan Roc Ardudwy
16
Taith gerdded i gofio am Gwynfor John Ar ddydd Sadwrn, 20 Mehefin daeth tua 90 o bobl ynghyd i grwydro cyffiniau’r Cnicht ac i gofio am Gwynfor John.
Cafwyd diwrnod bythgofiadwy er gwaetha’r tywydd gwlyb a’r niwl trwchus ym mhob man – aeth y criw ar gyfeiliorn braidd cyn dod at chwarel Cwmorthin. Yno, penderfynwyd anghofio am ddringo’r Moelwyn Mawr a dychwelwyd i’r Ring, Llanfrothen. Daeth pawb i lawr yn saff ac wedi mwynhau. Gobeithir trefnu taith eto’r flwyddyn nesaf. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n hael iawn gyda dros £2,500 wedi ei dderbyn hyd yma. Mae Dafydd Thomas (GEWS) wedi cerdded i ben Mont Blanc ac wedi chwifio baner y Ddraig Goch gydag enw Gwynfor John arni ar y copa. Mae Dafydd wedi casglu arian at Tenovus a’i fwriad yw ei ychwanegu i’r gronfa. Diolch yn fawr iawn i Iwan Morris a Meirion Wyn, dau o gyfeillion mawr Gwynfor, am drefnu’r daith.
Dafydd ar ben Mont Blanc
ADAR ANGAU
Rhes o blant gafodd eu lladd gan fom o un o’r ‘adar angau’ Yn dilyn darllen erthygl hirfaith yn y Llais am y datblygiadau yn y Gwersyll Milwrol yn Llanbedr, meddyliais y dyliwn anfon llun. Mae’r rhan fwyaf o’r lluniau yn rhy gignoeth i’w dangos. Mae’r llun yma’n dangos rhes o blant gafodd eu lladd gan fom o un o’r adar angau yma. Siom dychrynllyd oedd darllen y sylwadau canmoliaethus am y datblygiad yma ac, i goroni’r cwbl, annog ein pobol ifanc i geisio gwaith yn y fath le! Gallwch ddadlau tan ddydd Sul Pys fod yna ddefnydd cyfreithlon a llesol i’r ‘adar
angau’ - ond mae pawb yn gwybod mai defnydd llwfrgi ydi’r defnydd mwyaf o ddigon. Dynion yn eistedd mewn swyddfa foethus yn chwarae ar gyfrifiaduron ac yn bomio pobol - a phlant - i ebargofiant dyna’r defnydd. Ydy pobol Ardudwy yn cytuno hefo’r datblygiad yma? Ydy’r Parc Cenedlaethol wedi rhoi caniatâd cynllunio? Clywais fod y datblygiad mor ‘hysh-hysh’ fel nad ydi Swyddogion y Parc ddim yn cael gwybod beth sy’n digwydd yno. Yn siomedig, Dewi Tudur
Hen deulu Jones Pensarn, Glanywern Annwyl Ddarllenwyr Yn Nolgellau yn ddiweddar cefais sgwrs gyda Hywel Edwards a oedd yn arfer cyrchu cynnyrch Hufenfa Meirion ac wedyn ar ei fusnes ei hun o gwmpas Sir Feirionnydd yn gwerthu menyn. Trafodwyd y tywydd ac effaith hynny ar gynnyrch yr ardd. Poenai eleni y gwelai datws cynnar wedi duo oherwydd yr oerni a gafwyd. Aeth ymlaen i gofio, er mawr bleser imi, ei fod o, ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, yn arfer cael tatws cynnar - wrth werthu ei gynnyrch - yn y Siop fach yn y parlwr ym Mhensarn gan Nans Jones. Yno hefyd y ceid prynu pob cynnyrch ffres o’r ardd. Roedd y cwbwl wedi’i dyfu yn yr ardd o gwmpas tŷ Pensarn ac yn ‘Rardd Sarn oedd yn rhandir yr ochor arall i bont Glanywern. Yno hefyd byddai gan Dafydd Williams, Wil Jones a Dic Hughes randiroedd a rentwyd gan Iarll Harlech. Yn Rardd Sarn Idwal Jones Pensarn byddai dau dŷ gwydr i dyfu tomatos, letys ayb. O gwmpas ac yn ochr y tai gwydr byddai coed cwsberins, mafon, gwelyau mefus yn ogystal â mannau i datws cynnar. Cyn fy amser i byddai yno fagu moch hefyd. Gorchwyl ni blant - Dafydd Llew (Maesgwndwn) a fi yn enwedig, fyddai gofalu, os byddem adra o’r ysgol - i arbed Anti Nans - fyddai agor ffenestri’r tai gwydr i un neu ddau o dyllau ar y ffenestri yn y to ac os byddai’n boeth IAWN agor y ffenestri a’r drysau ochor. Credaf i Dafydd a fi fwyta llawer o elw Idwal pan fyddai raid inni gasglu tomatos a mafon yn enwedig! Cofiaf fod un goeden fendigedig hefyd yn llwythog o gwsberis brown, meddal, melys. Gorchwyl arall gaem ar nos Wener fyddai mynd yn y Standard Ten glas hefo Idwal neu Dol yn dreifio o gwmpas Cilfor, Talsarnau a Harlech i werthu’r cynnyrch yma! Dafydd yn mynnu cario’r fasged a finna a’r adnod wythnosol yn gorfod gofyn, ‘Fuasech chi’n hoffi letys/tomatos heddiw?’ Cofio Dol yn mynd yn sownd hefo’r car ar Twtil wrth fethu cael y gêr i rifyrs gan fod ambell i ymwelwr yn dod fyny ac yn hawlio’r ffordd i gyd. Yr ateb i’r broblem yma? Anti Dol yn fwy na pharod i ddod oddi wrth y llyw a gadael i Samariad Trugarog - un o’r brodyr John Llanfair - facio’r car iddi. Chwarae teg i ddreifar o galiber mwy profiadol na Dol - roedd yn anodd bacio’r hen Standard ar y gorau heb sôn am facio fyny Twtil. Mae gen i lyfr cownt Siop Pensarn ac enwau’r cwsmeriaid rheolaidd blynyddol a oedd yn prynu cynnyrch yr ardd. Tybed a oes rhai o ddarllenwyr y Llais yn cofio’r amser yma ac yn fodlon rhannu atgofion â mi am hynny a hefyd mwy o hanesion am y teulu ym Mhensarn beth bynnag a fônt! Yn gam neu gymwys - mae’r ysgwyddau ddigon llydan fel gweddill y cyfnitherod a chefndryd! Yno yn y cartref, fin nos, ac amseroedd cau siop byth yn digwydd, byddai trafodaethau mawr politicaidd rhwng y Llafurwyr, Torïaid a Chomiwnyddion. Yn eu canol, yn achlysurol, Niclas y Glais a Richard Bowering, y garddwr a fagwyd yn Fucheswen Bach gerllaw. Cefais i’r fraint o fod yn ferch fach iawn yn cael eistedd ar unrhyw lin a fodlonai fy nghymryd yn gwrando ar y sgwrsio a’r anghydweld politicaidd. Cymdeithas werinol ar ei gorau. Os oes unrhyw un â hanesyn am Deulu Pensarn byddwn ddiolchgar. Cofion, Olwen Ty’nybraich, Dinas Mawddwy SY20 9LX E-bost: tynybraich@gmail.com Ffôn 01650 531379
Enillwyr Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy Ebrill
Mai
Mehefin
1 £15 Isfoel Davies 2 £10 Bryn Lewis 3 £7.50 Aneurin Evans 4 £7.50 Phil Mostert 5 £7.50 Ray Owen 6 £7.50 O M Evans
1 £15 Elliw Nantcol 2 £10 Heulwen Jones 3 £7.50 Mike Triggs 4 £7.50 Lowri Llwyd 5 £7.50 D H Roberts 6 £7.50 Ffion Thomas
1 £15 Gwen Edwards 2 £10 Idris Williams 3 £7.50 Ieuan Edwards 4 £7.50 Aneurin Evans 5 £7.50 Harry Jones 6 £7.50 Seren Llwyd
17 A
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Cynhaliwyd y cyfarfod arferol y pwyllgor blynyddol i gychwyn. Cafwyd adroddiadau gan y llywydd, yr ysgrifennydd a’r trysorydd. Diolchodd Hefina, y llywydd, i’w chyd-swyddogion am eu cymorth. Rhoddodd Eirlys, yr ysgrifennydd, amlinelliad o weithgareddau’r flwyddyn ac adroddodd Janet, y trysorydd, bod y sefyllfa ariannol yn iach. Yna aed ymlaen gyda’r cyfarfod arferol. Diolchodd Edwina ar ran Teulu’r Castell i’r aelodau am eu croeso, y te blasus a’r adloniant gan Roger a John. Hefyd, diolchodd Edwina i’w swyddogion am eu gwaith ar hyd y flwyddyn. Darllenwyd yr ohebiaeth – manylion y penwythnos preswyl; llythyrau gan y dysgwyr yn diolch am y croeso a dderbyniwyd gan y gangen ym mis Ebrill, a llythyr gan gangen Llan Ffestiniog am y noson a gafwyd ym mis Mai. Llongyfarchiadau i Dizzee Dancers, a phob dymuniad da iddynt yn Glasgow ac i bawb a fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Ar 16 Mehefin aeth pymtheg o aelodau i Aberdunant am eu taith flynyddol. Yn gyntaf cafwyd trên i Borthmadog a thacsi i Aberdunant lle mwynhawyd pryd blasus iawn cyn cychwyn am adref. Diolch i Eirlys am drefnu noson arbennig iawn. Ar 23 Mehefin, trefnwyd cyfarfod i drefnu rhaglen y flwyddyn nesaf. Cafwyd nifer o awgrymiadau ac edrychwn ymlaen am raglen ddiddorol ac amrywiol. Cychwynnir gyda The Cymreig ar 4 Medi yn Neuadd Llanfair rhwng 2.00 a 3.30 y prynhawn. Bydd nifer o stondinau yn ogystal â the blasus. Cofiwch gefnogi.
Neuadd Llanfair Merched y Wawr
Te Cymreig
Pnawn Gwener Medi 4 2.00 - 3.30 Stondinau amrywiol 18 A
Cyhoeddiadau Caersalem 2014 Am 2.15 o’r gloch oni nodir yn wahanol. GORFFENNAF 28 Parch D Carl Williams
CYNGOR CYMUNED Coed o amgylch giât Porth yr Eglwys Adroddodd Russell Sharp ei fod wedi cyfarfod arbenigwr ar y safle uchod a’i fod yn gallu gwneud y gwaith oedd ei angen, ond nad oedd yn gallu gosod y gwaith yn ei le. Cytunwyd i dderbyn y pris gafwyd gan Mr Geraint Williams a gofyn iddo gyfarfod â Russell Sharp ar y safle cyn dechrau ar y gwaith. Cais cynllunio Gosod cladin allanol ac adeiladu balconi a mynedfa - Y Nyth, Llandanwg. Mynegwyd pryder ynglŷn â gorffeniad y cladin a’r effaith ar wedd y tai cyfagos. Cyngor Gwynedd O dan y drefn newydd, bydd oriau agor swyddfeydd cofrestru yn Nolgellau a Pwllheli rhwng 10.00 a 12.00 bob dydd ac ni fydd y swyddfeydd yn agored yn y prynhawn. Unrhyw Fater Arall • Mae Gerallt Jones wedi trwsio’r hysbysfwrdd ym maes parcio Llandanwg dros dro. • Mae angen sylw ar y llwybr cyhoeddus o’r ffordd fawr hyd at Gae Garw.
Sefydliad y Merched Llanfair Cyfarfod nesaf: Te 100fed pen-blwydd sefydlu Sefydliad y Merched, ar brynhawn dydd Gwener, 10 Gorffennaf, am 2.00 o’r gloch. Croeso i bawb, ac i aelodau newydd.
SIOE GREFFT A CHYNNYRCH
Neuadd Goffa, Llanfair ar brynhawn dydd Mawrth, 14 Gorffennaf rhwng 2-4 y prynhawn. Dewch draw am baned a chyfle i weld gwaith aelodau.
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
Ysbyty Bartholomew, lle symudodd Griffith Rowlands yn 1775 i gael profiad pellach yn ei yrfa fel llawfeddyg Griffith Rowlands, Llawfeddyg Ganwyd Griffith Rowlands ym mhlwyf Llanfair, ger Harlech ar y 9fed o Ebrill 1761, y flwyddyn y bu i’r meddyg, John Hill, Llundain, ddarganfod y cysylltiad rhwng baco a chanser, a phryd y cyhoeddodd ei adroddiad ynglŷn â rhybuddion yn erbyn defnyddio snisin (snuff) yn eithafol. Wedi bwrw ei brentisiaeth fel llawfeddyg yn Lerpwl, symudodd i Lundain yn 1775 i’r diben o gael ymarferiad pellach yn ei alwedigaeth yn Ysbyty Bartholomew. Cafodd ei dderbyn yn aelod o Gwmni Llawfeddygon Llundain, rhagflaenydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn y flwyddyn 1782. Ymsefydlodd yng Nghaer yn 1785 yn llawfeddyg yng nghlafdy’r ddinas lle y cyflawnodd ddyletswyddau ei swydd yn gymeradwyol am 43 o flynyddoedd. Mewn cyfnod mor faith o wasanaeth mae’n naturiol meddwl iddo gyfarfod â llawer o amgylchiadau dyrys yn ei alwedigaeth. Un amgylchiad nodedig yn ei ymarferiad oedd pan dorrwyd clun rhyw ddyn. Llifiodd i ffwrdd ddau ben yr esgyrn i’r diben iddynt gysylltu’n well â’i gilydd - a hynny dros hanner can mlynedd cyn cyfnod anaestheteg. Dim ond dau lawfeddyg yn holl Ewrop oedd wedi anturio gwneud hynny o’i flaen, ond bu’n llwyddiannus ymhell tu hwnt i’w ddisgwyliadau. Dan ei driniaeth ef y torrwyd ymaith fawd chwith y Parch Thomas Charles o’r Bala. Yr oedd y bawd wedi rhewi wrth i Thomas Charles deithio ar noswaith rewllyd dros fynyddoedd y Migneint rhwng Arfon a Meirion tua diwedd y flwyddyn 1799. Gyda chymorth Griffith Rowlands hefyd yn 1802 y tynnwyd carreg, un yn pwyso dwy owns a chwarter, o bledren y Parch Thomas Jones, Dinbych, ar ôl iddo ef ddioddef poenau am amser hir. Dyfeisiodd hefyd amryw offerynnau llawfeddygol y rhai a gymeradwywyd yn fawr gan
Griffith Rowlands, y llawfeddyg o’r 18fed ganrif a anwyd ym mhlwyf Llanfair gelfyddwyr ei gyfnod, ac a fuont yn fuddiol iawn i gyflawni diffygion corfforol. Byddai’r rhai a fyddai yn ei gynorthwyo gyda’r llawfeddygaeth yn cael eu cyrchu o bell ac agos, o Gymru a Lloegr. Yn 1798, roedd yn un o’r rhai sefydlodd gymdeithas yng Nghaer tuag at ddiwallu anghenion gwragedd tlawd oedd yn feichiog. I’r Gymdeithas hon y rhoddodd ef yn rhad ei wasanaeth fel colynwr (midwife) dros lawer o flynyddoedd, nes yn raddol i amryw o feddygon eraill y ddinas gynnig eu gwasanaeth yn yr un modd ac i’r un diben. Bu boneddigesau Caer a’r amgylchoedd yn barod iawn i roi eu cymorth i’r sefydliad a ffurfiwyd gan Griffith Rowlands. Casglwyd moddion ac anghenion digonol i weinyddu ymgeledd a chysur helaeth i gannoedd o wragedd tlawd anghenus yn flynyddol o dan yr amgylchiad a nodwyd, yn cynnwys cynfasau, llieiniau, dillad babanod, te, siwgr, sebon, ac yn y blaen, a rhoddwyd brech y fuwch (cowpox) yn rhad i bob plentyn a anwyd dan nawdd y Gymdeithas. Ambell i flwyddyn cai gymaint â 300 o wragedd tlawd fudd o’r elusennau hynny. Yn 1829 yr oedd cyfanswm y rhoddion yn £364, a’r draul yn £212.
Cana-mi-gei a Chôr Merched Leelo ar ôl y cyngerdd llwyddiannus iawn yn Neuadd Talsarnau
Eirlys, ac Idris yn ei gyngerdd cyntaf ers ei anhwylder
Iwan Morgan
ORIEL YMWELIAD CÔR MERCHED LEELO
Côr Leelo yn Neuadd Dyffryn
Phil yn cyflwyno ‘Oes Gafr Eto?’ cyn i’r ddau gôr yn ymuno i’w chanu
Côr Leelo a Chôr Meibion Ardudwy efo’i gilydd
Gwilym Rhys Jones yn arwain y ddau gôr
Iwan, Mervyn, Llion a Roger
Y ddwy arweinyddes yn y cefn
19 A
YMWELIAD CÔR MERCHED LEELO AG ARDUDWY
IAU, MEHEFIN 25 Aelodau’r côr yn cyrraedd Harlech wedi taith hir a blinedig. Cael bwyd wedi’i baratoi gan wragedd y côr meibion yn Ystafell y Band cyn iddyn nhw wasgaru at eu gwesteiwyr. Swper blasus iawn yn y ‘Ship’, Talsarnau; pysgodyn, sglodion a phys slwj, bwyd newydd iddyn nhw! Pob plât yn lân! Cyngerdd yn y neuadd bentref gyda Canami-gei ac Iwan Morus Lewis. Pawb wedi mwynhau yn arw.
A 20
GWENER, MEHEFIN 26 Amser rhydd i fwynhau’r ardal cyn cychwyn am Amgueddfa Reilffordd Porthmadog. Non yn rhoi paned a bara brith i bawb ac yn gwrthod cymryd arian. Cyfle i siopa wedyn a’r merched wrth eu bodd! Cyngerdd gwych yn neuadd bentref Trawsfynydd yng nghwmni unawdwyr lleol a phedwar côr - Leelo, Lliaws Cain, Meibion Prysor a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn. Dawnsio gwerin yn glo hwyliog i’r noson.
SADWRN, MEHEFIN 27 Lluniaeth ysgafn ym Mryn Awel cyn y barbeciw yn Ystafell y Band. Bwyd wedi’i baratoi gan y côr [a’r gwragedd] a phawb yn canmol. Mwynhau cyngerdd wedyn gan y Glerorfa yn Ysgol Ardudwy ac eitem gan y Côr Merched. SUL, MEHEFIN 28 Taith ar y trên i Bermo a chyfle i’r merched siopa ychydig. Swper blasus iawn ym mhwll nofio Harlech cyn y cyngerdd cofiadwy yn Nyffryn Ardudwy gyda’r Côr Meibion ac Iwan Morgan.
LLUN, MEHEFIN 29 Côr Leelo yn gadael Ardudwy yn eu dagrau. Roedden nhw mor ddiolchgar am y lletygarwch a’r croeso cynnes a gawson nhw. Llawer yn yr ardal wedi gwneud ffrindiau newydd a merched Estonia wedi cael argraff wych ar Gymru a’r Cymry. Diolch i aelodau a chefnogwyr y Côr Meibion am fod yn westeiwyr mor hael ac yn genhadon brwd dros yr ardal hon. Diau y cawn ni gwrdd eto â’n ffrindiau o Estonia.