Llais gorffennaf 2016

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 454 GORFFENNAF 2016

ATHRAWON YN DRINGO TRI CHOPA

Carwyn Edwards, o Fodedern, Ynys Môn sy’n ddifrifol wael mewn ysbyty yn America

Llun o Carwyn Edwards cyn iddo fynd yn sâl a wynebu sawl triniaeth ddrud yn America

Ar gopa Pen y Fan Ar gopa’r Wyddfa Ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fehefin deffrodd criw o ddeg o athrawon Ysgol Ardudwy am 1:30am er mwyn cychwyn ar her Tri Chopa Cymru. Roedd rhaid iddynt godi ar awr mor anarferol o gynnar oherwydd roeddent eisiau cwblhau’r her cyn y gêm bêldroed fawr yn erbyn Gogledd Iwerddon. Taclo tri mynydd oedd yr her, sef Pen y Fan, Cader Idris a’r Wyddfa yn olynol. Pwrpas cwblhau’r her oedd codi arian tuag at Gronfa Carwyn Edwards. Mae Carwyn Edwards, sy’n enedigol o Ynys Môn, yn dioddef o Endicartis yn yr UDA ac wedi cael saith llawdriniaeth hyd yma ac yn anffodus wedi colli ei ddwy goes erbyn hyn. Mae chwaer yng nghyfraith Carwyn, Sara Edwards, yn athrawes yn Ysgol Ardudwy, felly penderfynodd criw o staff y dylent godi arian i helpu i dalu’r costau meddygol, a all fod yn £100,000. Cychwynnodd y cerddwyr am 2:30am i fyny Pen y Fan ac roedden nhw yn ôl i lawr ac ar y ffordd i Ddolgellau erbyn 4:30am. Erbyn 7:00am, roedd y criw yn barod i fentro i gopa’r Gader. Ar ôl 3 awr ac ugain munud daethant yn ôl i faes parcio Tŷ Nant i gael paned a rôl bacwn gan Sara ac Aled (brawd Carwyn). Hanner awr gorau’r diwrnod! Erbyn canol y bore, dim ond yr Wyddfa oedd ar ôl. Cyrhaeddodd y bws Pen y Gwryd toc wedi hanner dydd a dechreuodd y cerddwyr am y copa am hanner awr wedi hanner. Cawsont dywydd ofnadwy ar y copa ac roedd pob un o’r deg yn wlyb at eu crwyn. Er hynny, ni wnaeth y tywydd amharu ar yr hwyl gafodd y criw ac roedden nhw yn ôl i lawr erbyn y gêm (ei chlywed ar y radio). Mae’r criw eisoes wedi codi dros £2000 at yr achos arbennig yma. Os ydych yn dymuno cyfrannu, gallwch wneud drwy linc ar wefan Ysgol Ardudwy (www.ysgolardudwy.org), neu trwy gysylltu ag Elfyn Anwyl neu drwy olygyddion Llais Ardudwy. Buasai’r cerddwyr a’r teulu yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad.

Ar lethrau’r Wyddfa

Llongyfarch Dr Siân Hoffem longyfarch Siân LloydWilliams, merch yng nghyfraith Gareth ac Annwen Williams, Glanffrwd, Talybont, ar dderbyn gradd Doethur mewn Addysg o Brifysgol Bangor. Bu Siân, Iwan a Begw yn byw am gyfnod yn 1 Gilar Wen, Harlech, a bu Siân yn aelod o gôr Cana-mi-gei. Erbyn hyn mae Siân, Iwan a’u dwy ferch fach Begw a Siwan wedi ymgartrefu yn Llandrillo. Mae Siân yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel darlithydd Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Da iawn, Dr Siân.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960

Enw: Raymond Gregson Gwaith: Bûm yn gweithio yn y llynges ar longau tanfor am 21 o flynyddoedd. Cefndir: Yn wreiddiol o Lanfair ac yn dal i fyw yno. Cefais fy addysg yn Ysgol Ardudwy. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dydw i ddim ond dwi’n cerdded bob dydd ac yn cael chwisgi bob nos efo ‘News at Ten’. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau - unrhyw lyfr! Byddaf yn darllen tudalen y ceffylau yn y ‘Daily Star’ yn fanwl. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Last of the Sumer Wine rhaglen ddoniol iawn yn fy ngolwg i.

Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Falklands. Beth yw eich bai mwyaf? Dod allan o’r llynges yn rhy fuan wnes i. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Noson dda yn y dafarn efo’r hogia. Eich hoff liw? Du. Dwi’n reit hoff o’r nos. Eich hoff flodyn? Rhosyn - does dim i guro arogl rhosyn. Eich hoff gerddor? John Lennon. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? My Old Man’s a Dustman gan Lonnie Donegan. Pa dalent hoffech chi ei chael? Faswn i’n falch taswn i’n medru chwarae dartiau yn well nag ydw i - dwi ddim gwerth! Eich hoff ddywediad? Anodd ei sgwennu mewn papur fel Llais Ardudwy ond rhywbeth yn debyg i ‘Goleua hi o’ma’ ond yn fwy anweddus na hynna! Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus iawn ac yn cael lot o hwyl efo fy ffrindiau.

YN YR ARDD - MIS GORFFENNAF

Dyma ein mis poethaf yn aml. Mae’n amser braf i eistedd yn yr ardd a’i mwynhau. Mae’n syniad da i gadw planhigion yn edrych yn dda trwy dorri’r hen flodau oddi arnyn nhw. Mi fyddan nhw’n blodeuo am gyfnod hwy wrth wneud hynny.

Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Medi 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Awst 29 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

Ydych chi’n bwyta’n dda? Mi ydw i yn bwyta’n dda ond fydda i ddim yn hoff o gyrrains a sultanas. Hoff fwyd? Cyri - unrhyw fath. Hoff ddiod? Chwisgi. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Sophia Loren tasa hi’n fodlon gwneud hynny. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Dwi wedi crwydro llawer hefo’r sybmarin ond dydw i ddim i fod i ddweud i le roeddwn i’n mynd. Yn Portsmouth, New Hampshire, America y cefais i amser da ar ôl i’r syb fy ngadael i yno! Beth sy’n eich gwylltio? Ambell i gymeriad yn y dafarn ond gwell peidio enwi! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod o’n un da am dalu pan fyddaf angen glasiad o chwisgi. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Eu gwario nhw - a rhoi y rhan fwyaf i elusennau plant. Pwy yw eich arwyr? Yr hogia ddaru golli eu bywydau yn y Malfinas/

Bydd angen sicrhau bod unrhyw blanhigion newydd yn cael digon o ddŵr – fe wnaiff dŵr golchi llestri yn iawn. Fel y nodwyd y mis diwethaf, mi fydd hofio’n rheolaidd i gadw’r chwyn dan reolaeth yn talu ar ei ganfed.

Tasgau

1. Tacluswch farf yr hen ŵr [clematis] ac unrhyw blanhigion eraill sy’n dringo. 2. Os oes gennych blanhigion mewn ystafell haul, gellir eu gosod yn yr awyr iach dros yr haf. 3. Dyfriwch y planhigion newydd ond byddwch yn ddarbodus efo’r dŵr. 4. Torrwch yr hen flodau oddi ar y planhigion er mwyn ymestyn y tymor blodeuo. 5. Os yw’n well gennych gael corbwmpen [courgette] torrwch y marro yn ifanc. 6. Astudiwch eich catalog er mwyn archebu bylbiau at y gwanwyn nesaf. 7. Rhowch fwyd i’r lawnt yn arbennig os na roesoch fwyd iddi yn y gwanwyn. 8. Dyma amser da i roi llyfiad o baent i unrhyw waith coed.


Y BERMO A LLANABER Diolch Diolch i’r Parch R W Jones am y rhodd o £6 i’r Llais.

Theatr y Ddraig, Bermo 8 Gorffennaf, nos Wener, 7.30 yh – Ffilm ‘The Jungle Book’ (PG, 106 munud). Hefyd, cyn bo hir bydd Clwb Rotari Mawddach yn cynnal noson Oscar i godi arian, lle cynigir bwffe, cyn dangos y ffilm ‘Bridge of Spies’ (12A 143 munud). Dewch i gefnogi achosion lleol. Am docyn i’r uchod neu am fwy o fanylion am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01341 281697, anfonwch e-bost at info@ dragontheatr.co.uk, neu galwch heibio’r Theatr am raglen.

TUDOR THOMAS Teyrnged

Roedd Tudor yn athro, prifathro, crefftwr, adeiladwr, pysgotwr [a photsiar!], yn chwaraewr rygbi a chriced, yn Gristion o argyhoeddiad ac yn goblyn o gymeriad. Deuthum i’w adnabod yn dda rhyw ddeugain mlynedd yn ôl pan oedden ni’n dau yn gwneud cwrs gradd ym Mangor ar ddiwedd 70au’r ganrif ddiwethaf. Roedden ni’n cyd-drafod llawer ar waith bryd hynny ac yn cymdeithasu fin nos. Roedd ei gariad at y gêm rygbi yn amlwg iawn ac roedd ganddo wybodaeth eang iawn amdani ar raddfa leol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol. Roedd ganddo stôr o straeon digri hefyd a byddwn wrth fy modd yn gwrando arno yn traethu yn iaith yr hwntw. Ni ellid tynnu Cwmtwrch Uchaf ohono fo! Onid oedd yr enwog Clive Rowlands yn un o’i gyfeillion bore oes! [Roedd hefyd yn frawd yng nghyfraith i Dewi Bebb.] Pan ddaeth yn athro ifanc i Ysgol Ardudwy roedd bri, bryd hynny, ar bêl-droed; ond gyda chymorth rhai o’i gyd-athrawon, yn cynnwys y diweddar Reg Morris a chyfeillion eraill, fe sicrhaodd le teilwng i rygbi ar faes llafur yr ysgol. Mae rhai yn ei adnabod fel crefftwr da. Ef a gododd ei gartref, Preseli yn Nhal-ybont. Bu’n gyfrifol am lunio coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn allweddol yn y broses o sefydlu Clwb Rygbi Harlech. Gwasanaethodd y clwb yn ddeheuig iawn a hyd

yn ddiweddar yr oedd yn un o’r ffyddloniaid yn cefnogi ar ochr y cae - yn aml iawn yng nghwmni Dr Gareth. Mi gaech gyfarchiad cynnes ganddo ar bnawn Sadwrn ac yna byddai’n holi bob amser am y teulu. Stori fach wedyn cyn canolbwyntio ar y gêm. Ambell i sylw beirniadol am waith y dyfarnwr - ond heb orwneud hynny rhag gwneud drwg i enw da’r clwb! Roedd yn un da am gymysgu gydag aelodau o bob oed a mawr oedd y parch iddo gan drwch yr aelodau. Trwy ei ymdrechion yn casglu cyfraniadau gan is-lywyddion, llwyddodd i godi dros £1000 yn flynyddol i goffrau’r clwb. Roedd colli ei wraig, Marian, yn ergyd drom iawn iddo gan eu bod yn gwpl mor agos. Ond parhai yr un sirioldeb, yr un wên groesawus a’r ymddiddan cynnes. Roedd gando feddwl y byd o’r plant, Elin ac Emyr a’i wyrion Megan ac Ellen ac roedd yn ymfalchïo yn eu llwyddiant. Teithiai yn aml i Gaerdydd i weld Elin ac i Lymm i weld Emyr, a byddai’n helpu’r ddau gyda mân waith o gwmpas eu tai. Dringodd ysgol gyrfa hyd nes dod yn ddirprwy bennaeth Coleg Meirionnydd - ac yn bennaeth am y flwyddyn olaf y bu yno. Yn y fan honno, roedd canmol mawr i’w drefnusrwydd, ei addysgu da a’i hiwmor iach. Cymaint oedd y parch iddo fel iddo gael ei benodi yn Ynad Heddwch ar fainc y Bermo. Dyn addas iawn i’r swydd gan ei fod wedi ei gynysgaeddu â synnwyr o degwch, doethineb a synnwyr cyffredin. Bu’n was da a ffyddlon i’r ardal hon. PM

Hanes y Curad

gan Dewi a Ffion Thomas, Llanbedr

Hanes sydd gennym am ŵr o’r enw William Pugh. Credir ei fod yn enedigol o Lwyn-y-ffynnon, Dolgellau tua 1749. Cafodd radd BA yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a chredir o ganlyniad iddo yn gyntaf gael ei wneud yn gurad yn Llanfair am ychydig cyn symud yn ddiweddarach i blwyf Llanfihangel y Pennant, Tal-y-llyn i fod yn gurad ar ofalaeth yno. Yn ôl pob sôn tra yno fe roedd yn trio merlen newydd a oedd yn eiddo i ŵr a elwir yn John Davies (hwyrach at bwrpas o dynnu’r hers) ger yr eglwys, ond tra yn ei thrio allan gyda chymorth gŵr arall o’r enw William Lewis Owen, cawsant syniad y buasai’n brawf da i danio’r gwn gerllaw i weld beth wnâi. Llenwodd William Pugh ei wn fflint trwy dywallt powdr gwn i’r faril ac wedyn gwthio papur brown a oedd, mae’n debyg, fel rhyw wad eithaf swmpus i ddal y powdr yn ei le er mwyn i’r fflint ei danio ar drawiad y morthwyl. Ond ar y diwrnod arbennig hwn sef 17 o Fawrth 1796 taniodd y gwn (hwyrach yn ddamweiniol) a thrawyd William Lewis Owen a oedd ar gefn y ferlen yn ei ysgwydd gan yr ergyd a bu farw o’i anafiadau dridiau yn ddiweddarach. Arestiwyd William Pugh BA a’i gyhuddo o lofruddiaeth a bu’r achos yng Nghwrt y Sesiwn Fawr yn y Bala. Yn ôl y cyhuddiad roedd William Pugh wedi llwytho ei wn gyda phowdr gwn ac wedyn ychwanegu ychydig o bapur brown a bwled gyda’r canlyniad ei fod wedi saethu William Lewis Owen. Ond yn ôl yr amddiffyniad mynnodd nad ond powdr gwn a wad o bapur brown a roddodd a hwyrach o bosib y buasai hyn yn ddigon i anafu unrhyw unigolyn a fyddai’n sefyll gerllaw yn ddifrifol neu yn angheuol, ond daeth y rheithwyr i’r penderfyniad ei fod yn ddieuog o’r cyhuddiad o lofruddio ond yn euog o ddynladdiad. Yn dilyn yr helynt fe’i derbyniwyd yn ôl fel Curad yn ei gymdogaeth ond ar y 7fed o Fai 1801 fe’i sefydlwyd yn Gurad yn ôl yma yn Llanfair ac ar y 13eg o Chwefror 1816 cafodd ei wneud yn Rheithor ar ei ofalaeth. Bu ef a’i wraig Mary yn byw yn Argoed a chawsant unarddeg o blant. Daeth un o’r meibion sef John Richard Pugh, i redeg tanerdy yno, ac fe briododd yntau â merch ei gymydog o Bensarn lle’r oedd ei thad Evan Edwards yn ffermio ac yn goedwigwr. Tua diwedd ei oes adeiladwyd Rheithordy ar ffordd Uwch Glan ond ni wyddys i sicrwydd os daeth yno i fyw at ei ferch. Bu farw ar ddiwrnod Nadolig 1843 yn 95 oed a gwelir ei garreg fedd ar ochr dde rhodfa Eglwys y Santes Fair, Llanfair. Daw’r stori uchod o ‘Pawb â’i Bwt o Ardudwy’, Grŵp Hyfforddi

THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667

Sesiwn Pnawn Da - Gorff 7 Ffilm: Independence Day: Resurgance - Gorff 8-12 Ffilm: Absolutely Fabulous: The Movie - Gorff 15-21 Theatr: Whatever Happened to LaLa Shockette - Gorff 16 Ffilm: Top Cat Begins - Gorff 22-28 Ffilm: Ghostbusters - Gorff 29-31, Awst 1-3 Theatr: Danny the Champion of the World - Awst 3 [yn y Castell] Ffilm: BFG - Awst 5-11 Theatr: Ruddigore - Awst 11 [yn y Castell] Ffilm: Star Trek Beyond - Awst 12-18 Theatr: A Midsummer Night’s Dream - Awst 16 [yn y Castell] Ffilm: Finding Dory - Awst 19-25 Ffilm: Jason Bourne - Awst 19-25 Ffilm: Ice Age: Collision Course - Awst 26-31, Medi 1 3


HARLECH

Priodas Llongyfarchiadau mawr i Sarah a John ar achlysur eu priodas yn ddiweddar. Mab i Julie ac Emyr Price o Harlech yw John. Priodwyd y ddau yn Eglwys Llanfair gyda’r parti i ddilyn yng Ngwesty’r Oakeley ym Maentwrog ar Fehefin 4. Dymuniadau gorau i chi’ch dau. Diolch a rhodd £10 Ysgard Eglwys Tanwg Sant Mae Ysgard yn fand o dalentau hen ac ifanc sy’n chwarae cerddoriaeth offerynnol a lleisiol mewn nifer o arddulliau. Mi Nos Wener, Gorffennaf 8 wnawn nhw chwarae caneuon roc a jazz yn ogystal â chaneuon am 7:30. gwerin wedi’i haddasu a baledi Mynediad - £5 wrth y drws enwog megis ‘Georgia On My Gostyngiadau i rai dan Mind’ a wnaethpwyd yn enwog gan Ray Charles, ‘Tenderly’ a 18 oed a theuluoedd. Pererin Wyf (‘Amazing Grace’). Bu’r band yn brysur efo gigs yn y Capel Jerusalem Bermo a Neuadd Goffa Harlech HARLECH ac maen nhw wedi perfformio Gorffennaf 10 yng Ngŵyl Roc Ardudwy Parch Dewi T Lewis am 4.00 llynedd ac eleni. Bellach mae’r band wedi tyfu i gynnwys adran Gorffennaf 17 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 offerynnau pres.

CYNGERDD YSGARD

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 4

Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau a gwesteion i’r cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher, 8 Mehefin yn y Neuadd Goffa Harlech gan yr Is-lywydd Mrs Jan Cole. Cafwyd munud o dawelwch i gofio am aelod ffyddlon yn y blynyddoedd cynt cyn ei salwch, sef Mrs Pam Cooper oedd wedi marw yn ddiweddar. Dymuniadau gorau i Mrs D Harper oedd dal yn Ysbyty Madog. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys, sef y Ffair Haf yn y Bermo ddydd Iau, 7 Gorffennaf. Grŵp Artro oedd yn gyfrifol am y stondin gacennau yn Ffair Haf y Band Arian ar 9 Gorffennaf; fe fydd rhai o’r aelodau yn gwneud te yno. Cynhelir cinio ym Mhortmeirion ar 30 Mehefin. Roedd rhai o’r aelodau wedi bod ar daith gerdded i warchodfa natur y Gwaith Powdwr ac ar daith gerdded ar hyd yr arfordir o Gricieth i Lanystumdwy. Ar ôl gorffen y busnes cyflwynwyd y gŵr gwadd Mr Merfyn Thomas o Archifdy Dolgellau. Diolchwyd i Mr Thomas gan yr Is-lywydd Mrs Jan Cole. Enillwyd y gystadleuaeth ‘Hen Lyfr’ gan Jenny Dunley, yn ail Joyce Wood, a 3ydd Mavis Kershaw. Enillwyd y raffl gan Stella Calvert a Brenda. Diolch Hoffai Mrs Eirlys Stumpp ddiolch i’r teulu a ffrindiau am y cardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniodd ar ôl bod yn Ysbyty Gwynedd ac yna yn ôl i Alltwen. Diolch hefyd i bawb oedd yn gweini yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Diolch a rhodd £5 Yn gwella Dymuniadau gorau i Miss Menna Jones, Calgary, Bronygraig, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ac yn awr yn Ysbyty Alltwen. Rhoddion a diolchiadau Arfon a Denise Jones £10 Dienw £5 Julie Price £10

Rhoi a Chymeryd a Mynd

Beth yw dy neges di, löyn yr haf? Ymysg y blodau’r boreau braf? Wyt ti’n rhoi rhywbeth ar wefus y blodyn? Wyt ti’n cymeryd rhywbeth wedyn? “Rhoi a chymeryd,” medd glöyn yr haf, “Rhoi a allaf, a chymeryd a gaf.” Pam ar un blodyn, löyn yr haf? Yr oedi mor hir fel pe’n gariad glaf? A pham drachefn, yr ei mor chwim Oddi ar un arall heb oedi dim? “Oedi yr ydwyf ”, medd glöyn yr haf “Cyd a’m croeso ble bynnag yr af.” Diolch iti, löyn yr haf, Cofio dy wersi yn hir a wnaf, “Rhoddi cusan a derbyn gwên, A mynd cyn i’r croeso fynd yn hen.” J D Davies, Llys Maelor, Harlech (1903)

Graddio Llongyfarchiadau i Elen Anwyl Jones, 36 Tŷ Canol, ar lwyddo i gael Gradd Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd; hefyd, pob dymuniad da i ti yn dy swydd newydd, oddi wrth y teulu. Diolch a rhodd £5 Rhagoriaeth Llongyfarchiadau i Beca Lumb, 2 Tŷ Canol ar ennill gwobr am ragoriaeth ar ei chwrs Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Pob lwc iddi ym Mhrifysgol Manceinion ym mis Medi.

Clwb Rygbi Harlech

RYGBI 7 BOB OCHR Awst 6

Cofrestru am 10.30 Gêm gyntaf am 12.00

Neuadd Goffa, Harlech

NOSON GOFFI at Ymchwil Canser Nos Iau, Gorffennaf 14 am 7.00


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Pen-blwydd arbennig Dymunwn yn dda i Mrs Myfanwy Wannop, Llwynithel ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 90 oed ar y 10fed o Orffennaf. Am 18 mlynedd bu’n gofalu am siaradwyr i’n diddori yn Nheulu Artro; diolch yn fawr iawn iddi am ei gwasanaeth am yr holl flynyddoedd. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Alun a Moira, Graig isa ar ddod yn daid a nain eto. Ganwyd mab bach i Rwth a Trystan, Ned Seimon, brawd bach i Nansi.

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Haf Llewelyn ar gyhoeddi ei nofel ddiweddaraf - ‘Y Traeth’.

DEWCH I MEWN! MAE’R EGLWYSI YN AGORED!

O hyn ymlaen, mae pob Eglwys yng Nghymru sydd ym Mro Ardudwy yn agored yn agored drwy’r dydd, pob dydd. Croeso i ymwelwyr ym mhob eglwys - o Landecwyn a Llanfihangel-ytraethau yn un pen i’r fro, hyd at y Bermo a Bontddu yn y pen arall. Chwilfrydig? Diddordeb mewn hanes? Angen heddwch a distawrwydd? Eisiau rhoi gweddi fer? Mae’r adeiladau hyn, rhai ohonynt yn hen iawn, a phob un yn unigryw, yn agored i chwi. Mwynhewch! Yn ogystal â’r gwasanaethau arferol a gynhelir yn yr eglwysi hyn, cynhelir y gwasanaeth Gosber yn hollol yn Gymraeg yn Eglwys Llandecwyn ar y Sul olaf ym mis Gorffennaf ac Awst am 4 yp. Croeso cynnes i bawb!

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy Eisiau helpu i ailgynna Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy? Dewch i weld, aelodau hen a newydd; croeso i ffreutur yr Aerodrom ar 25 Gorffennaf am 7.00 o’r gloch.

GORFFENNAF 10 - Capel y Ddôl, Parch Adrian Williams 17 – Capel Salem, Parch Carl Williams 24 - Capel y Ddôl, Mrs Glenys Jones AWST 21 – Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis MEDI 4 – Capel y Ddôl, Parch Reuben Roberts

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

Oedran teg Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gwynli Jones, Bryndeiliog, fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Orffennaf y 19eg.

Rydym ynghanol cyfnod digon toreithiog o ran ysgrifennu nofelau Cymraeg, ac mae Haf Llewelyn yn datblygu i fod yn rhan bwysig o’r bwrlwm yma. Gellid disgrifio Y Traeth fel nofel hanesyddol, gan ei bod wedi ei lleoli yn Sir Feirionnydd a rhannau o Sir Gaernarfon ar ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’n olrhain bywyd rhai o deuluoedd bonedd y cyfnod ac mae ôl ymchwil manwl ar y cynnwys. Ac mae’r elfen hanesyddol yn gefnlen gofiadwy i’r stori oesol am dyndra teuluol, cariad, disgwyliadau cymdeithasol a siom. Y prif leoliad yw Plas y Wern, cartref Siôn Wynne, etifedd stad enfawr Gwydir, a’i deulu, a thrigolion yr ardal yw’r cymeriadau. Roedd Siôn wedi priodi Margaret Cave, merch un o deuluoedd pwysig Swydd Caerlŷr ac wedi edrych ymlaen at sicrhau a pharhau llinach Gwydir. Yn anffodus, doedd hynny ddim mor hawdd â’r disgwyl a daw tyndra’r sefyllfa a chymhlethdodau cymeriad Margaret i’r amlwg.

Y Traeth Haf Llewelyn ‘Mae gan Haf Llewelyn feistrolaeth gadarn ar ei chyfrwng a’r cyfnod dan sylw. Gall ddod â chymeriadau hanesyddol yn fyw, gan eu cyfuno’n ymddangosiadol ddiymdrech gyda rhai o’i dychymyg ei hun i greu stori afaelgar, hynod hawdd ei darllen.’ Aled Islwyn, Barn

Mae Margaret yn gymeriad bregus iawn, ac o ganlyniad i’r ffordd y cafodd ei thrin gan ei mam a theulu’r Wynniaid, mae’n dioddef o iselder ysbryd. Down i ddeall bod merched bonheddig y cyfnod yn fawr gwell na pheiriannau cynhyrchu meibion a fyddai’n etifeddu cyfoeth y teulu. Ac nid yn unig roedd Margaret wedi methu cenhedlu mab, roedd wedi geni merch anabl. Dysgwn ar ddechrau’r nofel fod y plentyn yn cael ei magu gan eraill ymhell oddi wrth ei mam. Yn sgil y ‘methiannau’ hyn bu’n rhaid i Margaret ddioddef dirmyg a sen heb gymorth ei gŵr; byddai hwnnw’n treulio llawer iawn o’i amser yn Llundain ac, yn ddiweddarach, dramor, yn ceisio creu cysylltiadau gyda theuluoedd bonheddig ar y cyfandir. Mae cwrs stori’r teulu, a Margaret yn benodol, yn newid pan ddaw Begw ati’n forwyn i’r Wern. Mae perthynas agos yn tyfu rhyngddi hi a Margaret. Mae stori Begw’n datblygu ochr yn ochr â stori Margaret, a down i gydymdeimlo â’i sefyllfa hithau hefyd. Nid oes unrhyw ddewis ganddi ond aros gyda’i meistres drwy’r holl gymhlethdodau. Ac er mai stori’r plas yw hon yn y bôn, mae llawer o gyfeirio at arferion y werin yn y cyfnod hefyd. Ac mae cymeriadau mwy gwerinol eu gwedd yr un mor bwysig i’r stori hefyd. Yn ogystal â stori Begw, mae perthynas Lewys a Sabel yn gyrru rhannau helaeth o’r nofel. Mae salwch difrifol ac effaith hynny ar gymdeithas yn gysgod dros y cyfan, a does dim rhyfedd am hynny gan mai dyma gyfnod y pla du. Ac fel yn Mab y Cychwr, mae tirwedd drawiadol Sir Feirionnydd yn chwarae rhan fawr drwy gydol y nofel. Mae’r penodau byr yn gymorth i symud y darllen yn ei flaen yn gyflym ac mae’r manylion hanesyddol yn ddiddorol iawn. Mae llawer o olygfeydd teimladwy yma sy’n sicrhau bod y delweddau’n fyw wrth ddarllen ond er y digwyddiadau trist, tybed a oes nodyn mwy gobeithiol tua’r diwedd? Ydy hynny’n awgrymu y bydd dilyniant arall yn ymddangos yn y dyfodol agos? Mae Y Traeth yn ddilyniant o fath i Mab y Cychwr, ond er bod nifer o’r un cymeriadau’n ymddangos yn y ddwy, does dim rhaid darllen y nofel flaenorol i gael blas ar hon. Dyma nofel fyddwn i’n ei hargymell ar gyfer eich gwyliau – mwynhewch y darllen. Hefin Jones Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Diolch Diolch yn fawr iawn am y cardiau ac ymholiadau tra bum yn Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl yn ddiweddar, ynghyd â’r ymweliadau ar ôl dod adref. Gwerthfawrogwyd y cyfan. Evan Parc Isaf Rhodd £10.00 Brwydr Coedwig Mametz Gan mlynedd ers brwydr Coedwig Mametz yn y Rhyfel Byd Cyntaf cofiwn am Edmund Davies, London House, Dyffryn oedd yno ar 9 Gorffennaf pan laddwyd 300 o’i gyd-filwyr. Cadwodd ddyddiadur o’r cyfnod pan gyrhaeddodd Ffrainc yn Ebrill 1916 gyda’r 17/Ffiwsilwyr Cymreig. Ond roedd yn methu disgrifio’i brofiadau yn y goedwig a dyma’i sylw: “Credaf fod yr olygfa o faes y frwydr yn rhy ofnadwy i neb byth roddi disgrifiad cywir ohoni.” Wedi ei brofiadau erchyll yn y Somme anafwyd ef yn ddrwg yn Chwefror 1917 pan laniodd ‘rifle grenade’ yn y ‘loop hole’. Cafodd ei gludo i Boulogne er mwyn croesi i Loegr a mynd i ysbyty yn swydd Efrog. Daeth ato’i hun a gwasanaethodd yn Iwerddon wedyn nes cael ei daro’n wael iawn ac ofnwyd y byddai’n marw. Yn wyrthiol daeth drwyddi a dod yn ôl i’r Dyffryn i gadw’r siop. Mae’r hanes yn llyfr ‘Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf ’ gan Gwyn Jenkins a gyhoeddwyd gan Y Lolfa. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Elin ac Emyr Thomas a’r teulu yn eu profedigaeth o golli eu tad, Mr Tudor Thomas, Preseli, Talybont. Daeth Tudor yn athro ifanc i Ysgol Ardudwy, gan symud ymlaen yn ddiweddarach i Goleg Meirionnydd yn Nolgellau. Bu’n weithgar iawn yng Nghapel Rehoboth ac roedd yn un o arloeswyr y gêm rygbi yn yr ardal hon. Gweithiodd yn galed er lles Clwb Rygbi Harlech. Roedd yn gymeriad annwyl iawn ac yn uchel ei barch mewn sawl cylch.

6

Aelodau Teulu Ardudwy ar orsaf y trên bach yn Llanuwchllyn

Teulu Ardudwy Ddydd Mercher, 15 Mehefin oedd diwrnod ein trip blynyddol. Cawsom groeso a chinio blasus iawn yn yr Eagles yn Llanuwchllyn ac yna mynd ar y trên bach i’r Bala ac yn ôl cyn dychwelyd adra drwy Dryweryn a Thrawsfynydd. Buom yn hynod ffodus i osgoi’r cawodydd trymion.

Clwb Cinio

Ar Fehefin yr 28ain bu’r clwb cinio ar ymweliad ag Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw. Diolchwn i John Emlyn am ein tywys drwy’r tŷ a gweithdy’r crydd. Cyn cinio yn ‘yr Hydd’, cawsom weld yr ywen hynaf yng Nghymru a safai ym mynwent eglwys Sant Digain. Wedi pryd gwerth chweil, dyma ddychwelyd i Lanrwst i ymweld â Chastell Gwydir gyda’r peunod lliwgar o gwmpas y lle, ac yna aed i weld nenfwd lliwgar Capel Uchaf Gwydir a saif ar y llethrau uwch Ddyffryn Conwy. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Raymond Owen, Talybont, sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl. Rydym yn meddwl amdanoch, Ray, ac yn dymuno adferiad iechyd llwyr a buan i chi.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb GORFFENNAF 10 Parch Carwyn Siddall 17 Parch Emlyn Richards 24 Parch Eirian Wyn 31 Parch Iwan Ll Jones

AWST 7 Huw a Rhian 14 Alma 21 Parch Gareth Rowlands 28 Hilda Harris MEDI 4 Parch Reuben Roberts


Teyrnged Teyrnged John Richards i’w chwaer, Eireen (fel y darllenwyd gan y Parch Dewi Tudur) Ganwyd Eireen ym Minffordd, Horeb, union dros y ffordd i’r capel yma ar ddydd Llun, 10fed o Dachwedd 1958, yn ferch i Ifan a’r diweddar Glenys Richards. Nyrs Davies o 1 Penrhiw ddaeth â hi i’r byd – ac fe gafodd Eireen gyfle i dalu’r gymwynas yn ôl pan oedd Nurse Davies yn cartrefu yn Hafod Mawddach. Mae’n debyg fod John wedi dweud mai brawd bach oedd o ishio - nid chwaer - ond os oedd rhaid cael chwaer, roedd o ishio chwaer groen-dywyll! Ac ar ôl geni Eireen, mi stranciodd John, yn dweud “Ddim honna o ni ishio”. Ond honna oedd o ishio - Eireen gafodd o yn chwaer, a mi fuo ’na gwlwm tynn brawd a chwaer rhyngoch chi ar hyd eich bywyd. Mynychodd Eireen Ysgol Dyffryn, yna Ysgol Ardudwy ac yn 1975, Coleg Meirionnydd, i ddilyn cwrs coginio. Yn 18 oed, fe gafodd waith ym Mhant yr Eithin (fel yr oedd bryd hynny) a hithau, a’i ffrind Martha, yn ofalus iawn o’r plant oedd yn byw yno. Roedd ei gofal yn fawr iawn dros y plant, ac roedd yn eu hanwylo. Ond, mi gafon nhw lot o hwyl hefyd yn y cyfnod yma. Ar ôl i Pant yr Eithin gau, cafodd Eireen waith yn Hafod Mawddach fel Cymhorthydd Gofal. Roedd hwn yn gyfnod hapus iawn iddi yn ei gwaith, ac roedd yn boblogaidd iawn hefo’i chyd-weithwyr a’r rheini yn dod yn ffrindiau da iddi. Roedd wrth ei bodd hefyd hefo’r

preswylwyr ac roedd pawb yn canmol ei charedigrwydd a’i hanwyldeb tuag atyn nhw. Roedd yn enwog am ei charedigrwydd tuag at bobl eraill. Roedd yn gorffen yn Hafod Mawddach ddechrau mis Mawrth eleni. Ond, yn drist iawn, ar y 24ain - diwrnod pen-blwydd ei diweddar fam - cafodd wybod bod y canser yn ôl, a’i fod yn derfynol. Trwy gydol salwch a gwendid enbyd, pan oedd hi’n amlwg yn dioddef, chlywodd neb hi’n cwyno ac roedd yn ddewr a gwrthod bod yn hunandosturiol. Mae hynny’n dweud y cwbl am Eireen ni. Fel teulu, mae’n dyled yn fawr i’r criw enfawr o ffrindiau triw oedd ganddi (ac fe wna’i ychwanegu – i gefnogaeth Pete – a chithau fel teulu). Mae’n chwithig iawn – ac anodd i ni feddwl – ein bod wedi ei cholli mor fuan. Diolch Dymuna Ifan a’r teulu oll ddiolch i ffrindiau triw Irene a oedd yn gefn iddi hyd at y diwedd. Diolch hefyd am y galwadau ffôn a’r llu o gardiau a fu’n gefn mawr yn ein galar. Hefyd, addas yw diolch i’r Parch Dewi Tudur am arwain y gwasanaeth, y Canon Tony a Stephanie Beacon a’r Parch Bob Hughes, a heb anghofio’r gofal gan yr holl nyrsys fu’n gweini dros Eireen - ac i Pritchard a Griffiths. Diolch a rhodd £20

ENGLYN DA

RHINWEDDAU RHOSMARI Mae ymchwil gwyddonol diweddar wedi profi bod arogl rhosmari yn gwella’r cof. Roedd hen bensiynwyr oedd wedi arogli rhosmari wedi gwella’u cof 15%. Mae rhosmari yn cynnwys asid gwrthfacterol, gwrthocsidiol a llawer o olewau hanfodol sydd â rhinweddau gwrthlidiol, gwrthffyngaidd a gwrth-heintiol. Yn ogystal, mae’n cynnwys manganîs - sy’n bwysig ar gyfer lleihau’r perygl o ganser, ac yn arbennig canser y fron. Rhinwedd arall ynddo yw’r haearn ynddo sy’n rheoli cludiant ocsigen yn y gwaed a photasiwm sy’n rheoli curiad y galon a phwysedd gwaed. Un llesol dros ben yw’r rhosmari - cofiwch amdano!

Ar lan y môr mae carreg wastad Lle bûm yn siarad gair â’m cariad, O amgylch hon fe dyf y lili Ac ambell gangen o rosmari.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

Treialon Cŵn Defaid Ardudwy a’r Cylch

AR WERTH PIANO MEWN CYFLWR ARDDERCHOG

Draenen

Lleian addfwyn y llwyni - a hafwisg Mehefin amdani; Ond yn heth y dinoethi Ar y gwrych oer, gwrach yw hi. J Lloyd Jones [1885-1956]

yn Egryn, Talybont Dydd Mercher, 17 Awst am 8.30 y bore a Dydd Sul, 21 Awst am 10.00 y bore

YMHOLIADAU 01341 247712 COED UCHAF DYFFRYN ARDUDWY

7


LLANFAIR A LLANDANWG Diolch Dymuna Elizabeth Jones, Tyddyn Gwynt, ddiolch o galon i’w theulu a’i ffrindiau am y cardiau, y negeseuon ffôn a’r ymweliadau a gafodd yn ystod ei arhosiad mewn gwahanol ysbytai yn ddiweddar. Diolch i bawb Rhodd a diolch: £20

Llwyddo Llongyfarchiadau i Iwan Morus Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ennill cystadleuaeth bwysig yng Nghlwb Golff Dewi Sant. Ef enillodd bencampwriaeth y Clwb Golff eleni - cryn gamp! Llongyfarchiadau iddo hefyd ar gymhwyso i fod yn athro yn ddiweddar.

Neuadd Llanfair TE CYMREIG Merched y Wawr

Pnawn Gwener, Medi 2 2.00 - 3.30

Te mefus Mae Eglwys Santes Fair ynghyd ag Eglwys Sant Pedr, Llanbedr, yn cynnal te mefus yn Neuadd Goffa, Llanfair, ar ddydd Iau 21 o Orffennaf rhwng 2 a 4. Croeso i bawb. Marwolaeth Wedi cyfnod o waeledd, bu farw Mrs Betty Langley, Tyddyn Llwyn, Llandanwg yn 86 oed. Cofir amdani fel gwraig ddymunol, addfwyn a phoblogaidd. Roedd yn weithgar yn y gymuned a’i diddordebau yn cynnwys y Gymdeithas Arddio, Sefydliad y Merched ac Eglwys Llanfair.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Coed o amgylch giât Porth yr Eglwys Mae Mr Colin Rayner wedi peintio’r coed uchod am ddim. Anfonwyd llythyr o ddiolch iddo am wneud y gwaith mor sydyn ac am ei haelioni. Gofynnwyd i Mr Geraint Williams wneud ramp er mwyn galluogi mynediad i gadair olwyn i’r fynwent. Adnewyddu Mae angen cefn newydd ar hysbysfwrdd maes parcio Llandanwg gan ei fod wedi pydru ac yn rhydd yn y gwaelod ac mae angen peintio’r un wrth groesffordd Caersalem ac mae angen cadwyn newydd. Mae angen peintio’r sedd wrth yr eglwys a thynnu eiddew o’i hamgylch. Cais Cynllunio Diddymu Amodau Rhif 10, 11 a 12 o ganiatâd cynllunio mewn perthynas â gofynion “Cod Cartrefi Cynaliadwy” - Bryn Melyn, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau Cynllunio â phenderfyniad arnynt Newid garej - Maes Teg, Cae Garw, Llanfair - caniatáu Gwaith peirianyddol i sefydlogi’r twyni sydd wedi erydu - traeth Llandanwg - caniatáu Codi adeilad amaethyddol - Argoed, Llanbedr - caniatáu Cyngor Gwynedd Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i drafod y cymunedau is-sirol. Datganwyd siom nad oedd enw pentref Llanfair wedi ei gynnwys. Mae yna ymdeimlad cryf iawn yn yr ardal yma ein bod yn cael ein hanwybyddu eisoes. Mae’r datganiad yma yn mynd ymhell i gadarnhau’r ymdeimlad yma. Llwybr 23 Mae cyflwr llwybr cyhoeddus rhif 23 yn wael oherwydd y gwaith ffensio a gafodd ei gwblhau uwchben chwarel Llanfair. Unrhyw fater arall Datganwyd pryder nad oedd yr arwyddion 30 mya byth wedi eu hadnewyddu.

8

Merched y Wawr Llanfair a Harlech Llongyfarchwyd Eirlys ar briodas Denise ag Arfon yn ddiweddar. Llongyfarchiadau hefyd i Ceri Griffith, merch Hefina, ar lwyddiant David Bisseker yn Eisteddfod yr Urdd. Ceri oedd wedi hyfforddi David. Anfonwyd cofion at Elizabeth sydd bellach wedi cyrraedd adref a hefyd at ddwy gyn-aelod sef Gwyneth Roberts a Mair M Williams, y ddwy heb fod yn dda yn ddiweddar. Mae’r swyddogion yn aros am dymor arall gyda Bronwen wedi ei hethol yn Is-lywydd. Cafwyd adroddiadau gan y Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Cafwyd blwyddyn lwyddiannus eto a diolchodd Hefina, y Llywydd, i’r aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr. Yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â’r cyfarfodydd misol, cafwyd dosbarth gwneud cardiau, darllen y Llais ar gyfer tapiau’r deillion, paratoi te Cymreig a pharatoi lluniaeth ar gyfer y beirniaid a’r cyhoedd yn Eisteddfod yr Urdd ardal Ardudwy, rhoi blodau ar y gofeb yn Harlech, bod yn gyfrifol am bnawn i Deulu’r Castell, ymweld â changen Llan Ffestiniog ac i gloi, taith i Blas Brondanw i ginio ac ymweld â’r gerddi. Diolch i Eirlys am y gwaith trefnu ar hyd y flwyddyn. Sue a Linda oedd yn gyfrifol am y baned. Cofiwch am y Te Cymreig ddechrau mis Medi.

Eifion John Cydymdeimlwn yn ddwys â Beryl John, Bryn Celyn, Derlwyn, Llanfair, ar farwolaeth ei gŵr Owen Eifion John ar 26 Mehefin. Roedd Eifion, a oedd wedi ei fagu’n lleol ac wedi byw yn Ardudwy ar hyd ei oes, yn un o deulu mawr ac yn frawd i Mari, Emyr, a Bryan a’r diweddar Lowri, Elwyn, Wil, Megan ac Eirlys. Cydymdeimlwn â Beryl a holl aelodau’r teulu yn eu colled. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf ac fe’i claddwyd ym Mynwent Llanfair. Eglwys Tanwg Sant, Harlech Fel y gwyddoch, mae Eglwys Tanwg Sant, Harlech, yn un o’r canolfannau yn Ardudwy lle gallwch adael dillad, esgidiau, bwydydd sych, ac yn y blaen ar gyfer y ffoaduriaid. Mae angen trosglwyddo’r pethau sydd wedi eu casglu a’u cludo i Flaenau Ffestiniog i’w gadael yn siop betio’r dref. Os ydych chi’n mynd i Blaenau bob hyn a hyn a fyddech chi’n fodlon galw heibio’r Eglwys cyn mynd i weld a oes unrhyw beth yno i’w gludo i fyny i’r Blaenau lle bydd yn cael ei ddidol a’i bacio’n barod i’w gludo ymhellach? Os felly, cysylltwch efo unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yn Harlech megis Beth Bailey (bethbaileybro@gmail.com), David Naylor neu Myfanwy am fwy o fanylion.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU


CYNGOR CYMUNED HARLECH Llyfrgell Croesawyd Catrin Thomas, Uwch-reolwr Dysgu Cymunedol, a Hywel James, Pennaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd i drafod y diweddaraf ynglŷn â’r llyfrgell yn Harlech. Bydd y llyfrgell bresennol yn cau a byddant yn gosod desg a chyfrifiadur mewn adeilad addas yn y dref. Datganwyd siom fawr o glywed hyn a chytunwyd i wrthwynebu. Cae Chwarae’r Brenin Siôr Adroddodd y Clerc bod y Cyngor wedi talu am y ffens o amgylch yr offer chwarae a’u bod wedi derbyn pres y grant o £3,000 gan Grŵp Parciau Cymunedol Harlech tuag at y gost yma. Datganwyd bod angen bin ysbwriel y tu mewn i’r ffens hon oherwydd bod cymaint o lanastr yn cael ei adael ar y safle. Hysbysfwrdd Mae hysbysfwrdd newydd i’w osod yn y dref. Ethol Cynghorydd Cytunwyd i gyfethol Ms Bentham fel aelod o’r Cyngor. Ceisiadau Cynllunio Diddymu Cytundeb Adran 106 - 73 Cae Gwastad, Harlech. Gwrthwynebiad i’r cais hwn oherwydd bod yr aelodau o’r farn pe bai caniatâd i ddiddymu’r Cytundeb yma yn cael ei roi, byddai hyn yn gosod cynsail at y dyfodol. Cyngor Gwynedd Derbyniwyd hysbysiad o geisiadau ynglŷn â thrwydded eiddo i Byrdir House a’r Clwb Golff. Penderfynwyd nad oedd gwrthwynebiad. Cyfoeth Naturiol Cymru Mae clymog Japan yn tyfu ar y ffos ddŵr yn Harlech. Cyfrifoldeb y

tirfeddiannwr yw cael gwared â hwn. Nid ydynt yn barod i drin y clymog Japan hyn nes bydd gwybodaeth am y perchennog wedi dod i law. Harlech Estates Wedi cael llythyr gan yr uchod ynglŷn â chais cynllunio ger 70 Cae Gwastad. Cytunwyd i’w adael ar y bwrdd. UNRHYW FATER ARALL Mae rhywun yn torri llwybr cyhoeddus ger Pant Mawr heb ganiatâd y Cyngor. Mae un o breswylwyr Bron y Graig yn gwrthwynebu i fws barcio ym maes parcio Bron y Graig Uchaf sy’n golygu y bydd y dref yn colli allan ar ymwelwyr yn ymweld â’r dref a chytunwyd i anfon llythyr at Gyngor Gwynedd yn datgan siom am hyn. Cytunwyd i ailsefydlu’r gystadleuaeth Nadolig yr oedd y Cyngor yn ei chynnal flynyddoedd yn ôl. Cytunwyd i ofyn i blant Ysgol Ardudwy dacluso o amgylch y cerflun ger y Castell, peintio’r sedd ger y toiledau yn y gwaelod a glanhau’r lloches bws ger y toiledau hyn hefyd. Datganwyd siom nad oedd y peiriant talu ym maes parcio glan y môr yn gweithio dros wythnos y Sulgwyn a chytunwyd i anfon llythyr at Gyngor Gwynedd yn datgan hyn oherwydd bod y maes parcio hwn yn llawn bob dydd yn ystod yr wythnos hon gan fod y tywydd mor boeth. Datganwyd siom mawr fod cae chwarae Llyn y Felin yn dal wedi cau a chytunwyd i ofyn i CADW pryd maent yn mynd i wneud y gwaith y maent wedi ei addo yn dilyn y gwaith a wnaethpwyd ganddynt.

Staff Ysgol Ardudwy yn y 60au a’r 70au

Diolch i Geraint Percy Jones am gael benthyg y llun Athrawon Ysgol Ardudwy ar ddiwedd y 60au/dechrau’r 70au Rhes flaen: Eirian Jones, Lilian Edwards, Enid Jones, Manon Lewis, M G Evans – prifathro, Huw John Hughes, Horace Green, Iorwerth Simon, Reg Morris. Ail res o’r gwaelod: Aled Morgan, R Silyn Hughes, Peter Crabtree, Sali Roberts, Geraint Percy Jones, Alun Williams, Colin Palmer, Jack Cartwright. Y drydedd res: Gwyneth Edwards, Biddie Hope, Elma Parry, Llewela Edwards, Elizabeth Wyn Williams, Jill Hope Jones, Miss Brewer, Mair M Williams, Louisa Thomas. Yn y cefn: Ron Brooks, Paul Newing, Ifan Lloyd Jones, Bill Page Williams, Tudor Thomas, Dic Muir, Hugh Roberts.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN PRIODAS

Lluniau o’r diwrnod i gofio Gwynfor Williams, Gwrachynys ar y Rhinog Fach

Ar Mehefin 18, cychwynnodd 53 o ffrindiau Gwynfor John, o bell ac agos, am y Rhinogydd. Er gwaethaf y tywydd, cyrhaeddodd pawb i ben y Rhinog Fach. Wedyn cafwyd cyfle i gymdeithasu yn Nhŷ Mawr a rhannu atgofion amdano. Diolch i Iwan Morris am ei waith trefnu ac i Deborah am drefnu’r lluniaeth.

Llun: Edward Reynolds Photography Llongyfarchiadau i John Edward Thomas, Hengaeau, Llanfair ac Eleri Medi Davies, Draenogan Mawr, Talsarnau, ar eu priodas ar Mai 7 yn eglwys Llanfihangel-y-traethau dan ofal y Parch Bob Hughes. Cafwyd y wledd briodas ym Mwyty Mawddach, Llanelltyd. Bydd y ddau yn ymgartrefu ym Morfa Mawr, Llanbedr. Cydnabyddiaeth Dymuna teulu John Richards, Bryn Eithin, Llandecwyn ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a fynegwyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Irene Richards. Diolch hefyd am y cyfraniadau ariannol tuag at Gyfeillion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy a Chyfeillion Hafod Mawddach. Y swm terfynol i’w rannu yw £2,030. Rhodd £20.00 Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau mawr gan y teulu i Sara Macdonald, wyres Eifion a Gwen Williams, 5 Cilfor, Llandecwyn ar dderbyn Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifyddiaeth a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor. Pob dymuniad da i Sara yn ei swydd newydd yn Llandudno. Rhodd £10.00 Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau hefyd i Garmon Tudur Lewis, Llwyn Dafydd ar dderbyn Gradd 2:1 mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Pob lwc i’r dyfodol.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

10

Gwasanaeth Gosber Cynhelir Gwasanaeth Gosber yn Eglwys Llandecwyn prynhawn Sul, 31 Gorffennaf a phrynhawn Sul, 28 Awst am 4.00 o’r gloch. Diffibrilydd i’r pentref Mae Pwyllgor Rheoli’r Neuadd Gymuned erbyn hyn wedi prynu’r offer yma ac rydym yn ddiolchgar i Garej Honda am ganiatáu i ni gael ei osod ar wal y garej o fewn cyrraedd y cyhoedd. Bydd Calonnau Cymru yn cynnig hyfforddiant yn y Neuadd Gymuned ar sut i ddefnyddio’r offer ac fe hysbysir pawb o’r dyddiad a’r amser y bydd hyn yn digwydd. Mae croeso i unrhyw un fynychu’r hyfforddiant yma. Mae’r apêl gan Bwyllgor y Neuadd am gyfraniadau tuag at ariannu’r offer hollbwysig yma yn parhau a byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad tuag at y costau.

Neuadd Talsarnau GYRFA CHWIST Nos Iau Gorffennaf 14 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb

Rhodd Deborah Williams, Gwrachynys £20


Plant yr Eglwys, Talsarnau yn y 50au

Rhes flaen o’r chwith i’r dde – Dafydd Guto, Gwen a’i chwaer Ann Jones, Helen a Jean Hughes, Noel Jones, Dafydd Hughes a Carol Williams. Rhes ganol – Gwenfair Richards, Jennifer Woods, Joan Richards, Ruth Crowder, Keith Williams, Brian Ifans, Wil Morgan, Ann Hughes a Mari Jones. Rhes gefn – Richie Edwards, Hughie Jones, John Morgan, Gwenda Jones, Eleri Richards, Sylvia Humphreys, Richard Morgan, Vicky Humphreys a’u hathro John Evans (darllenwr lleyg).

O’r Herald Cymraeg

Mae’n gyfnod cyfnewid cartref ac felly wrth grynhoi - nid Ty’nbraich taflu! dois ar draws hwn o’r ganrif ddiwethaf.

Dinas Mawddwy Mae’n gyfnod cyfnewid cartref ac felly wrth grynhoi - nid taflu! Mrs A.E. James gwraig James y Bwtshiar,drws nesa i dois ar draws hwnoedd o’r ganrif ddiwethaf. Laethdy Gutooedd Llaeth a’i Deulu Harlech. Ysgrifennodd Mrs A E James gwraig James yyn Bwtshiar, drws nesa i Laethdy lyfr hefyd am hanes Port.Dynes foneddigaidd Guto Llaeth a’i Deulu yn Harlech. Ysgrifennodd lyfrannwyl. hefyd am hanes Port. Dynes foneddigaidd annwyl. Roedd hi’n chwaer i Owie Thomas fu’n fwtshiar Dyffryn a’r ddau wedi’u magu yn Port. Diolch am bapur difyr bob mis. Hwyl, Olwen

Diolch Hoffai May Wells, Yr Ogof, Ynys, ddiolch am ei gofal arbennig yn Ysbyty Gwynedd ac wedyn yn Ysbyty Alltwen. Bu staff Radio Cymru’r BBC yn hynod brysur yn gofalu fod y cyfarchion yn cyrraedd yr ysbyty iddi a hoffai May ddiolch o galon iddynt ac i’w chymdogion a’i theulu am eu caredigrwydd ar amser mor anodd iddi. Dymunwn wellhad buan iddi a braf ei chael adref yn ôl mewn hwyliau da. Rhodd £5

Gwobrwyo Llongyfarchiadau cynnes iawn i Beca Williams, merch Iolo ac Elin Williams, Cysgod y Llong sydd wedi perfformio yn hynod o dda eleni ac wedi derbyn gwobr Chwaraewraig y Chwaraewyr a Chwaraewraig y Rheolwr yn Nhîm Pêl-droed Penrhyndeudraeth dan 14 oed.

Capel Newydd Talsarnau Cynhelir Oedfa bregethu bob nos Sul am 6.00 o’r gloch GORFFENNAF 3 Dewi Tudur 10 Dewi Tudur 17 Dewi Tudur 24 Dewi Tudur 31 Dewi Tudur

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Ysgol Talsarnau

Cyngerdd

yn Neuadd yr Ysgol Nos Iau, 14 Gorffennaf am 5.30. Mynediad i oedolion £3

Honda Civic Tourer Newydd

11


BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais

Llais Ardudwy

Ardudwy

Y Gwinaeaf yn Le Domaine Gautheron

Hinsawdd a Thywydd – Ffrind neu Elyn?

DAMSEL IN THIS DRESS [Twtil, Harlech]

Siop Ddillad i Bawb

Yn agored bob dydd 9.30 - 5.30

5

Rhywbeth newydd bob dydd yn ein siop unigryw. Disgownt o 10% wrth gyflwyno’r hysbyseb hon [un yn erbyn bob taliad]. Ffôn: 01766 780199

Rhwng Tymhorau a Rhesymau ac ‘As Is’, gyferbyn â’r siop hufen iâ. Chwiliwch amdanom ar ein Gweplyfr [Facebook]

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 12

Llais Ardudwy

Cafodd Dylan e-bost gan Alain Gautheron yn ddiweddar, gwinwr o Chablis yn Ffrainc. Roedd y cynnwys yn dorcalonnus; difethodd y rhew 70% o’r cnwd y flwyddyn yma, cyn i’r cenllysg ddisgyn a dinistrio efallai 10% arall. Mae’r neges yn syml: bydd dim ond 20% o stoc arferol ganddynt i’w werthu’r flwyddyn nesaf. Bywyd bregus yw ffermio a tydi’r winllan ddim yn eithriad. Er bod hinsawdd Chablis yn addas i win gyda balans eithaf da o law a haul, nid yw’r tywydd mor ddibynadwy, a hyn sy’n gallu achosi difrod. Mae’n fwy bregus fyth ym Mhrydain. Yn 2012, datganodd Nyetimber, gwinllan yng Ngorllewin Sussex sy’n cynhyrchu tua 400,000 potel o win byrlymus pob blwyddyn, nad oedd safon y grawnwin yn ddigon da oherwydd y tywydd gwlyb ac oer. Cymerodd y cynhyrchwyr y penderfyniad anodd iawn i beidio â gwneud gwin y flwyddyn yna. Mae hyn yn ergyd drom i fusnes os yn dibynnu’n llwyr ar un cnwd. Mae gwinwydd yn eithaf hyblyg ac yn tyfu ym mhob math o dir a phridd, o dywod ysgafn i glai trwm neu glampiau o gerrig fel yng Ngogledd Rhone. Maent yn llwyddiannus rhwng y llinellau lledred 30° a 50°, i’r de a’r gogledd o’r cyhydedd lle mae’r hinsawdd yn eithaf sefydlog gyda hafau braf a gaeafau eithaf mwyn. Y tywydd yw’r ffactor sy’n amrywio’r cynhaeaf bob blwyddyn. Ar yr un nod, mae amrywiaeth yn beth da a dyma sy’n ddiddorol am winllannoedd Ewrop - yr annisgwyl, pa rinweddau gwahanol fydd yn y gwin o flwyddyn i flwyddyn? Ond ar y gwaethaf, mae’n gallu difetha cnydau yn llwyr. Yng ngogledd yr Eidal mae ffwneli mawr yn saethu cemegau i’r awyr i geisio atal cenllysg, problem nad yw yn bodoli yn Awstralia lle mae’r tywydd yn hollol sefydlog a’r gwinwr yn gallu cynhyrchu’r un safon yn union bob blwyddyn. Y tywydd poeth yma sy’n cynhyrchu’r gwinoedd mawr a chryf mae rhai yn ei garu ac eraill yn gasáu. Y ddilema sy’n eu hwynebu yn rhai ardaloedd o Awstralia yw cynhesu byd eang – mae’n gallu mynd yn rhy boeth i dyfu grawnwin. Bydd newyddion Alain Gautheron yn golygu codi eu prisiau a dydy hyn byth yn beth da. Yn ffodus, mae’r bunt wedi cryfhau yn erbyn yr ewro eto am y tro, felly ni fydd yn ategu at eu problemau i allforio i Brydain. Fel merch fferm, teimlaf empathi cryf tuag at y gwinwyr yma sy’n ddibynnol ar ffactorau fel y tywydd, sy’n gallu bod yn ffrind da iawn yn y winllan neu’r fferm fynydd ond hefyd yn elyn creulon iawn. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine


YSGOL ARDUDWY Gwobr Goffa Elfed Evans

Llun arall o’r staff a fu’n dringo tri chopa i godi arian i Gronfa Carwyn Edwards - y tro hwn ar Gopa Cader Idris Llun: Nigel Hughes Daeth llawer o rieni a chyfeillion disgyblion B11 ynghyd ar 26 Mai i’r Seremoni Cyflwyno Ffeiliau Cynnydd. Cyflwynwyd y ffeiliau eleni gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas. Cyflwynwyd Gwobr Goffa Elfed Evans eleni i Dafydd Jones. Gwobr ydi hon sydd yn cael ei chyflwyno i’r disgybl sydd wedi serennu ym maes chwaraeon. Llongyfarchiadau i ti, Dafydd.

Mabwysiadu Gorsaf Drên Harlech Fel rhan o’r cynllun i fabwysiadu’r Orsaf, bu cynrychiolwyr o’r Cyngor Ysgol yn rhan o ddigwyddiad arbennig gan Drenau Arriva ym Mhortmeirion ar 22 Mehefin i fudiadau sydd wedi mabwysiadu gorsafoedd. Bydd y gwaith yn dechrau ar yr Orsaf gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod yr Wythnos Weithgareddau drwy beintio murluniau a sefydlu gerddi a photiau blodau. Ben Davies a Millie Tookey Yn ddiweddar, bu Ben Davies a Millie Tookey yn cystadlu yng nghystadlaethau rhanbarthol yr ATC (Air Training Corps). Roeddent yn cynrychioli Cymru a’r Gorllewin yn erbyn gweddill y Deyrnas Unedig. Daeth Ben yn gyntaf yn y naid hir ac yn ail wrth daflu pwysau. Daeth Millie yn drydydd yn y ras gyfnewid. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt.

Ymweliad â Chlwb Pêl-droed Llandudno Yn ystod y flwyddyn mae criw o ddisgyblion B8 wedi bod yn dilyn y rhaglen Sêr Darllen yr Uwch Gynghrair i ddatblygu eu sgiliau darllen. Fel rhan o’r rhaglen, cafodd y disgyblion gyfle i gyfarfod yr awdur Damian Harvey a chymryd rhan mewn sesiwn ysgrifennu creadigol gydag ef. Cafodd y disgyblion hefyd sesiwn ymarfer sgiliau pêl-droed gan un o hyfforddwyr Clwb Pêl-droed Llandudno ar y cae 4G – profiad gwerth chweil.

Ymweliad ag Eglwys a Chapel yn Harlech Aeth Adran y Gymraeg a holl ddisgyblion B7 i dref Harlech i ymweld ag Eglwys Tanwg Sant a Chapel Jerusalem. Fel rhan o’u gwaith ar fannau addoli Cristnogion, cafodd y disgyblion gyfle i gymharu beth oedd yn debyg ac yn wahanol rhwng y ddau sefydliad. Prom B11 Cynhaliwyd y Prom eleni yng Nghors y Gedol, Dyffryn Ardudwy ar 16 Mehefin. Roedd yn noson lwyddiannus iawn a phawb yn edrych yn smart iawn.

13


‘AELWYD ANGHARAD’ YMWELIAD Â’R LASYNYS

Ymweliad â’r Lasynys

Traethell Wen, 6 Ffordd Meillion, Llangristiolus, Ynys Môn LL62 5DQ Annwyl Olygydd, ‘AELWYD ANGHARAD’ A J LLOYD WILLIAMS Ysgrifennaf atoch i ofyn yn garedig am eich cymorth i gywain gwybodaeth a phrocio cof eich darllenwyr os gwelwch yn dda. Rwy’n ymchwilio i hanes opereta/drama gerdd o’r enw ‘Aelwyd Angharad’ o waith J Lloyd Williams a Llew Tegid fu’n hynod o boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru rhwng 1899 a thua 1940. Teitl llawn y gwaith oedd ‘Aelwyd Angharad, neu Hwyrnos Lawen Llwyngwern: Chwareugan yn dangos dull ac arferion bywyd gwledig Cymru Fu’ a’r hyn a gafwyd yma oedd darlun o’r hen arferiad Cymreig o gynnal noson lawen mewn cegin fferm yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd i’r chwareugan arwyddocâd diwylliannol gan mai byrdwn ei neges oedd pwysleisio’r angen am deyrngarwch tuag at yr iaith ac at draddodiadau Cymreig a chodi ymwybyddiaeth ohonynt. Er bod nifer o’r caneuon o fewn y ddrama gerdd yn waith gwreiddiol gan J Lloyd Williams cafwyd enghreifftiau hefyd o ddefnyddio alawon traddodiadol yma megis ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, ‘Croesaw Gwraig y Tŷ’ ac ambell enghraifft o ganu cerdd dant.

Ar ddiwedd mis Mehefin, trefnwyd taith heibio’r Lasynys Fawr i aelodau o eglwysi Llanfair, Llanbedr a Harlech gan Wendon Wigglesworth o Eglwys y Santes Fair, Llanfair. Nid oedd amryw ohonyn nhw wedi ymweld â’r Lasynys o’r blaen a chawsant eu tywys o gwmpas y tŷ, a dysgu dipyn o hanes Ellis Wynne a’r cyfnod yr oedd yn byw ynddo. Os hoffech bicio draw i’r Lasynys Fawr dros yr haf, cofiwch ei fod yn agored bob prynhawn dydd Iau a dydd Gwener rhwng 1.00 a 4.00 neu, os hoffech alw draw unrhyw bryd arall, yn unigolion neu fel grŵp, cofiwch ffonio 781395 yn ystod yr oriau uchod, neu gadewch neges a bydd rhywun yn cysylltu efo chi.

Cymdeithas Ted Breeze Jones Yn ddiweddar, bu aelodau Cymdeithas Ted Breeze Jones ar daith i weld adar môr Ynys Lawd a Chemlyn, Ynys Môn, a arweiniwyd gan Rhodri Dafydd.

Rwy’n chwilio am hen luniau, rhaglenni cyngerdd, hysbysebion neu unrhyw fanylion neu atgofion am berfformiadau o ‘Aelwyd Angharad’ mewn gwahanol ardaloedd felly os oes gan eich darllenwyr unrhyw wybodaeth allasai fod o gymorth i mi, byddwn yn falch iawn o glywed ganddynt. Amgaeaf lun o un o’r cwmnïau cyntaf i berfformio ‘Aelwyd Angharad’ sef Cwmni Dramayddol Prifysgol Bangor, 1904. Diolch yn fawr iawn, Yn gywir, Elen Wyn Keen

Y GANOLFAN, PORTHMADOG Cyngerdd Blynyddol CÔR MEIBION Y BRYTHONIAID Nos Sul, Gorffennaf 24 am 7.30 o’r gloch Artistiaid Robin Lyn (Tenor) Sian Wyn Gibson (Mezzo Soprano) Tocyn: £10 [01766 513372] 14

Diolch i Huw Dafydd am y lluniau.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

01766 780186 07909 843496

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15


GARDDWR PRYSUR Gŵr prysur iawn yw Bryn Lewis, Min-y-môr, Llandanwg. Prysur yn ei gymuned a phrysur yn ei ardd. Mae’n canu mewn pedwar côr - Meibion Ardudwy, Meibion Prysor, Meibion Dwyfor a Chantorion Gogledd Cymru. Mae o hefyd yn drysorydd Côr Ardudwy a Sioe Arddio Harlech. Mae’n treulio llawer o amser yn trin yr ardd dywodlyd sydd ganddo yn Llandanwg. Codi llysiau yw ei ddiléit mawr tra mae Ann ei wraig, sydd yr un mor brysur ond ar y maes golff, yn dangos mwy o ddiddordeb mewn blodau. Er hynny, Bryn fydd yn cychwyn y rheiny.

Fe chwalodd ei dŷ gwydr yn y stormydd mawr a gafwyd yn 2014, ‘ond fe ges i un newydd sbon gan y cwmni yswiriant,’ meddai Bryn. Mae’n un gweddol fawr 10 troedfedd wrth 8 ac mae’n ei ddefnyddio i dyfu tomatos [Alicante, Gardener’s Delight a Shirley], ciwcymbyrs a phupur yn bennaf. Mae’n eu tyfu mewn potiau wedi eu gosod mewn bagiau mawn [ring culture] ac mae o’n cael hwyl arni. Ond fydd o ddim yn gwerthu dim o’r cynnyrch - yn hytrach mae’n eu rhoi nhw i gymdogion a chyfeillion.

Mae moron yn tyfu’n dda mewn prif tywodlyd - Autumn King yw ei ddewis oherwydd y blas - ond mae’n rhaid gwylio rhag y pryfed. Mae’n tyfu betys, letys, pannas, bresych, ffa, rhiwbob a rhes hir o bys. ‘Mae Ann wrth ei bodd efo pys ac mae hi’n rhewi bageidiau ohonyn nhw. Fyddwn ni ddim yn rhannu’r pys efo neb!’ ‘Beth am gennin?’ ‘Does ‘na neb yn eu bwyta nhw ond y fi, felly fydda i ddim yn boddro hefo nhw.’ O ran tatws, Picasso yw ei ffefryn fel taten ddiweddar; taten fawr, lân sy’n blasu’n dda. Mae o hefyd yn tyfu Swift fel tysan gynnar. Mae’r tatws ac amryw o gnydau eraill yn cael llawer o dail gwartheg. ‘Mae digon o dail i’w gael gan fy mrawd yng nghyfraith, Edward Hengaeau, ac mi fyddaf hefyd yn prynu peledau o dail ieir - maen nhw’n fendithiol iawn.’ Mae Bryn yn yr ardd hon ers 1984 ac mae wedi gwella llawer ar y pridd dros y blynyddoedd. Rydw i wrth fy modd yma ac mae’r cynnyrch yn fy mhlesio - fy unig elyn yma yw’r gwningen ac mae honno’n frwydr sy’n parhau!’ Pob hwyl ar y garddio Bryn, ac ar y canu a diolch am gael dod i’r ardd.

Bu’n dioddef yn arw o gryd cymalau yn y cyfnod diweddar ac fe welwch o’r llun uchod fod ganddo gansen yn sownd yn y bibell ddŵr er mwyn arbed plygu ei gefn. Syniad da ynte! Mae ei ddwylo wedi chwyddo rhyw gymaint hefyd ond dywed fod y mab, Robert yn dda am helpu pan fo angen. Mae Iwan, y mab arall, hefyd yn dyfrio pan fo angen - ond mae yntau hefyd yn ŵr prysur rhwng Band yr Oakeley, Côr Ardudwy, Band Harlech a’r Clwb Golff.

16

Hoffem gynnwys cyfres o erthyglau ar arddwyr y fro. Yn sicr, mae digon ohonyn nhw. Os allwch chi helpu yn hyn o beth, dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Diolch.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.