Llais gorffennaf 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 465 - GORFFENNAF 2017

CHWARAE PEDAIR ROWND O GOLFF - ar yr un diwrnod!

NOSON GOFFI ER BUDD YMCHWIL CANSER Deallwn mai Pwyllgor Ymchwil Canser Ardal Harlech yw un o’r goreuon am godi arian drwy ogledd Cymru. Llongyfarchiadau iddyn nhw am eu gwaith gwiw. Yn eu noson goffi ddiweddaraf ar Fehefin 9, llwyddodd aelodau’r pwyllgor i godi £1250 tuag at yr elusen deilwng hon. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

SWYDDOGION Y PWYLLGOR

O’r chwith i’r dde: Jack Forster [cyn-ysgrifennydd], Myfanwy Jones [Cadeirydd], Mair Eluned [Trysorydd], Sheila Lees a Jim Lees [Cyd-ysgrifenyddion].

O’r chwith: Martin Perch, Jamie Howie, Joe Soar, a Llion Kerry cyn iddyn nhw gychwyn ar y rownd olaf Bu pedwar golffiwr o Harlech yn chwarae pedair rownd o golff yn ddiweddar - a hynny ar yr un diwrnod, ie golygodd hynny chwarae 72 o dyllau! Roedden nhw’n gwneud hynny fel rhan o her Macmillan er mwyn codi arian at yr elusen hwnnw sy’n darparu nyrsys ar gyfer pobl sy’n dioddef o ganser. Llwyddodd Joe Soar, Jamie Howie, Llion Kerry a Martin Perch i godi dros fil o bunnoedd at yr achos da hwn. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddyn nhw a diolch iddyn nhw am eu hymdrech dros les pobl eraill. Mae’n hyfryd cael canmol ein pobl ifanc am eu gwaith rhagorol.

TAITH ER COF AM GWYNFOR

CNEIFIO NODDEDIG 900 o ddefaid mewn 24 awr

Dewch i gefnogi Arfon Pugh ar Fferm Merthyr, Harlech. Bydd y sesiwn yn cychwyn am 4.00 nos Wener, Gorffennaf 14. Cesglir arian tuag at Tenovus Cymru er cof am Gwynfor John. Ffurflenni noddi ar gael o gwmpas yr ardal.

Arfon Pugh

Daeth oddeutu 50 o ffrindiau a theulu’r diweddar Gwynfor John Williams, Gwrachynys, Talsarnau ynghyd ar ddydd Sadwrn, Mehefin 24 i gerdded i ben Diffwys a Llethr o Gors-y-Gedol, Dyffryn Ardudwy. Roedd y tywydd braidd yn anffafriol ac roedd hi braidd yn wlyb dan draed. Er hynny cafwyd diwrnod hwyliog a chofiadwy a llawer o bleser wrth gerdded yn yr awyr iach. Wedyn daeth y rhan fwyaf o’r cerddwyr i gymdeithasu yn Nhŷ Mawr, Llanbedr lle trefnwyd bwyd a diod iddyn nhw.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 1. am 5.00. Bydd ar werth ar Medi 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Awst 28 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Enw: Gwyneth Edwards Gwaith: Wedi ymddeol ers 1989. Bum yn athrawes bioleg yn Rhuthun am 4 blwyddyn ac yn Ysgol Ardudwy am 30 o flynyddoedd. Cefndir: Cefais fy ngeni ar fferm ym Mhenmorfa ger Porthmadog ac wedyn symud yn 8 oed i Gaernarfon. Roedd llawer o fanteision i fyw yn y dref, ee gwrando ar Lloyd George a Paul Robeson yn y Pafiliwn mawr a dod i adnabod rhai fel Anthropos, yr awdur, y Parch John Roberts, yr emynydd, Dic Hughes, y Co bach, a’r meuryn gwreiddiol, sef tad fy ffrind ysgol, Elis Rowlands. Cefais hefyd bedair blwyddyn hapus yn y Coleg ger y lli, Aberystwyth, pan roedd y bechgyn yn dod yn ôl o’r fyddin – felly digon o ddewis! Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cadw’n brysur yn y tŷ, neu’r ardd pan fydd y tywydd yn caniatáu! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau Cymraeg yn enwedig hunangofiant neu hanes, ac yn hoff o’r llyfrau bach Llên y Llannau sy’n dod allan bob

blwyddyn. Rwy’n mynd i’r Llyfrgell yn Abermaw yn wythnosol, ac y mae yno ddigon o bapurau a llyfrau i’w darllen. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ar y radio byddaf yn gwrando ar Galwad Cynnar bob bore Sadwrn a rhaglenni Dei Tomos, a Beti a’i Phobl. Ar y teledu byddaf yn edrych ar raglenni coginio, a Phrynhawn Da a Heno. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn trio cael amrywiaeth o fwyd. Ychydig yn aml yn well na phrydau mawr. Hoff fwyd? Cinio dydd Sul. Pysgod ffres yn enwedig mecryll. Hoff ddiod? Te neu goffi drwy laeth. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Aelodau Merched y Wawr, Abermaw a’r cylch. Lle sydd orau gennych? Unrhyw le yng Ngwynedd neu Sir Conwy, o safon uchel. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Awstria gyda Gwenfron, y ferch, yn hedfan am y tro cyntaf ac yn gwirioni ar y golygfeydd o’r awyren. Wedyn manteisio ar lifftiau cader i weld y wlad. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n taflu sbwriel. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Un sy’n gwrando, cadw cyfrinachau, ac yn gymwynasgar. Pwy yw eich arwr? Martin Luther King. Bu’n brwydro dros gyfiawnder a heddwch i bawb.

Beth yw eich bai mwyaf? Casglu gormod o bethau ac yn araf i newid gyda’r oes er fy mod yn gweld y manteision. Un drwg am beidio â gwrando ar gyngor? Na, rwy’n gwrando, a phendroni dros y cyngor wedyn. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Pan fydd fy ffrindiau a’r teulu yn hapus ac yn iach. Yn hapus mewn lle tawel. Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Rhoi ychydig i elusennau o’m dewis a mynd ar fordaith. Eu rhoi yn y banc at y dyfodol? Ie, rhan ohono. Eich hoff liw? Ar hyn o bryd, fioled. Eich hoff flodyn? Pys pêr oherwydd y persawr a’r gwahanol liwiau. Eich hoff gerddor? Dafydd Iwan Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Y Meseia gan Handel. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru canu a chanu’r piano. Eich hoff ddywediadau? “Gwael yw bywyd heb iechyd, er ei gael yn aur i gyd.” “Rhoddwch a chwi a gewch.” Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon. Yn falch o gyfarfod neu glywed am gynddisgyblion, fel Raymond a Colin yr oedd eu hanes yn Llais Ardudwy’n ddiweddar, wedi cael gyrfaoedd diddorol ond fel fi wedi heneiddio! Rwyf yn aelod o Ffrindiau Hafod Mawddach ac yn medru mynd yno am sgwrs yn aml.

CYSTADLEUAETH NEWYDD i Feirdd yng Ngŵyl Lyfrau PENfro 2017

Beirniad: Y Prifardd Ceri Wyn Jones Gwobrau: 1af - £300; 2il - £125; 3ydd- £75. Ffi gystadlu: £4 y gerdd Dyddiad cau: Dydd Sul, Gorffennaf 30, 2017. Testun: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau) ar y thema ‘Chwedl’ neu ‘Chwedlau’. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Sadwrn, Medi 9fed, 2017, am 3.00 y prynhawn yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen, Sir Benfro. Caiff beirdd sy’n cyrraedd y rhestr fer gyfle i ddarllen eu gwaith o flaen Ceri Wyn a chynulleidfa. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un oed 16 neu hŷn. Dylai’r cerddi fod yn Gymraeg a heb eu cyhoeddi na’u cyflwyno i gystadlaethau cyfredol na chyhoeddiadau eraill. Rhaid i’r cystadleuydd gyflwyno gwaith gwreiddiol ar bapur A4R, mewn gofod sengl, heb fod dros 40 llinell. Ewch i wefan https://penfrobookfestival.org.uk/ am reolau a manylion cystadlu, a chliciwch ar Competitions ac yna ar Gystadleuaeth Barddoniaeth PENfro.


THEATR ARDUDWY

Caneuon Ffydd

Hapus Dyrfa Eto

Soniais o’r blaen na welodd emyn mawr Islwyn - “Gwêl uwchlaw cymylau amser” ei ffordd i’r casgliad Caneuon Ffydd. Mae’n debyg fod delweddau’r emyn wedi mynd yn ddiarth iawn i ni bellach. Fodd bynnag, roedd yr emyn yng nghasgliadau’r enwadau ymneilltuol hyd at ymddangosiad y gyfrol newydd. Y dôn uwch ei phen yng Nghaniedydd yr Annibynwyr ac yn Llawlyfr Moliant Newydd y Bedyddwyr oedd St Garmon. Mae St Garmon ar gael yn Caneuon Ffydd [tôn rhif 60] ond uwchben emyn enwog Nantlais - “Yn dy law y mae f ’amserau”, emyn a genir yn rheolaidd mewn gwasanaethau dechrau’r flwyddyn. Awdur y dôn oedd gŵr o’r enw Edward Meredith Price, ffermwr o Sir Faesyfed. Ganwyd ef yn 1816 yn fab Penlan, Pant y Dŵr. Mae Pant y Dŵr ar y ffordd gefn rhwng Llanidloes a Rhaeadr ac os nad ydych ar frys ar eich taith i Gaerdydd, ac os ydi’r tywydd yn braf, gadewch yr A470 am ychydig o filltiroedd a theithio ar hyd y ffordd yma lle cewch olygfeydd hyfryd a phentrefi bach diddorol. Cyfansoddodd E M Price y dôn tua’r flwyddyn 1845 ond yn o fuan wedyn bu ei frawd oedd yn cyd-amaethu ag ef farw a dechreuodd anesmwytho ar ei fywyd yng nghefn gwlad Maesyfed. Penderfynodd werthu popeth oedd ganddo ac ymfudodd i Awstralia i wneud ei ffortiwn. Wn i ddim faint o lwc a gafodd yn Awstralia ond cafodd dro lwcus iawn o anlwc ar y ffordd adref yn 1859. Bwriad E M Price oedd dychwelyd o Awstralia ar long y Royal Charter. Trwy ryw amryfusedd neu’i gilydd methodd â dal y llong mewn

Ffôn: 01766 780667

Gorffennaf/Awst

pryd ac fe hwyliodd honno hebddo. Wrth hwylio heibio gogledd Môn daliwyd y Royal Charter mewn storm enbyd a drylliwyd hi ger Moelfre. Roedd yna 371 o deithwyr arni a 112 o griw gydag ychydig o swyddogion y cwmni llongau. O’r cyfan i gyd, dim ond 21 o deithwyr a 18 o griw a achubwyd. Mae yna straeon fod llawer un o’r teithwyr wedi boddi wrth geisio mynd a’u haur a’u heiddo eraill i’r lan hefo nhw trwy’r dŵr. Mae yna chwilio hyd heddiw ar y traethau ac yn y môr cyfagos yn y gobaith y daw yna drysorau i’r lan. Claddwyd llawer o’r rhai a gollwyd ym mynwent Eglwys Llanallgo. Ond gallodd E M Price ddychwelyd i’w fro enedigol ac ailsefydlu fel ffermwr. Cyfansoddodd sawl tôn ond St Garmon yw’r unig un sydd yn adnabyddus bellach. Symudodd maes o law i Lanfair ym Muallt ac yno y claddwyd ef pan fu farw yn 1898. Mae’n siŵr ei fod wedi enwi’r dôn ar ôl Garmon, nawddsant ei blwyf genedigol Sant Harmon a llawer plwyf arall yng Nghymru. Er hyn nid yw’r dôn St Garmon yn boblogaidd gan bawb. Mae yna gryn dipyn o ailadrodd ynddi a gall rhai penillion o hynny fynd yn feichus yn enwedig os ydi’r gynulleidfa yn o denau. Cofiaf un gweinidog yn dweud wrthyf ar ddechrau gwasanaeth dechrau’r flwyddyn y carai ledio’r emyn “Yn dy law y mae f ’amserau” ond dim ond os cai ffeirio’r dôn am un arall. Roedd ganddo ofn na fyddai ganddo nerth ar ôl yr holl ailganu i bregethu ac na fyddai gan y gynulleidfa ddim nerth ar ôl i wrando. Daethpwyd i ddealltwriaeth sydyn! Y tro nesaf cawn sôn am ddawnsio a gwneud ychydig o waith ditectif! JBW

7,8 Ffilm Pirates of the Caribbean Salazar’s Revenge 14 Ffilm Alien: Covenant 15 Bryn Fôn 20 NT Live - Angels in America Rhan 1 - Millenium Approaches 21-26 Ffilm Transformers - The Last Knight 23 NT Live André Rieu - Cyngerdd Maastricht 2017 27 NT Live - Angels in America Rhan 2 - Perestroika 28 Ffilm Hedd Wyn 28 Ffilm Wonder Woman 29-1 Awst Despicable Me Awst 3 Theatr tu allan Illyria: The Comedy of Errors Castell Harlech 4-8 Ffilm Cars 3 11-15 Ffilm Spider Man: Homecoming Capt Underpants: The 1st Epic Movie War for the Planet of the Apes 18-22 Ffilm Dunkirk 25-31 Ffilm The Nut Job 2: Nutty by Nature

THEATR ARDUDWY Nos Sadwrn, Gorffennaf 15 BRYN FÔN am 7.30 Tocyn: £10

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 3


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol ddechrau Mehefin. Anfonwyd ein cofion at Mrs Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt sydd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Glan Clwyd. Cafwyd adroddiadau o waith y flwyddyn gan Hefina [Llywydd], Eirlys [Ysgrifennydd], ac adroddiad ariannol gan Janet; dywedodd bod y sefyllfa ariannol yn iach. Penderfynwyd anfon siec i Gronfa Ymchwil Canser Gogledd Cymru gan fod aelodau a pherthnasau wedi dioddef o’r aflwydd dros y blynyddoedd. Diolchwyd i Hefina, Eirlys, Janet ac i Ann a Bronwen am eu gwaith ar hyd y flwyddyn. Diolchwyd hefyd i Maureen ac Ann Lewis [Cadeirydd ac Ysgrifennydd Neuadd Llanfair] am sicrhau bod y Neuadd wedi ei pharatoi ac yn gynnes ar ein cyfer bob mis. Aeth wyth o’r aelodau ar bnawn Mawrth 20 draw i’r Parc i ddathlu’r 50. Arhoswyd yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn am swper cyn mynd ymlaen i’r Parc. Croesawyd ni yno gan Tegwen a Delyth. Roedd y neuadd yn werth ei gweld, y swyddogion a’r cyn-swyddogion wedi bod yn brysur yn trefnu a gosod yr arddangosfa. Y llwyfan wedi ei osod gyda’r paneli o bob rhanbarth - gwaith cywrain yn dangos nifer fawr o sgiliau. Yna aethpwyd o gwmpas llawr y neuadd i weld ôl-rifynnau’r Wawr, llyfrau

lloffion, a llyfr yn dangos y ffermwyr o Sir Feirionnydd oedd yn magu gwartheg duon yn 1967. Sgwrs gan Tegwen wedyn a chyflwyniad o sleidiau a gasglwyd fel rhan o’r prosiect treftadaeth. Paned a chacen cyn troi am adref a phawb wedi elwa o’r profiad o gael bod yn y Parc. Bydd Eirlys yn trefnu rhaglen ddiddorol ar ein cyfer dros yr wythnosau nesaf. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddechrau mis Medi a gwahoddwn aelodau newydd i ymuno â ni. Fe gaech groeso cynnes iawn. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mrs Gwyneth Roberts, Uwchglan oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar. Treuliodd beth amser yn yr ysbyty wedi iddi dderbyn clun newydd. Anfonwn ein cofion atoch Gwyneth. Carreg filltir Llongyfarchiadau hefyd i Jean Hammond sydd wedi cyrraedd carreg filltir nodedig yn ddiweddar.

Merched y Wawr Harlech a Llanfair

Cofiwch am y Te Cymreig

ddechrau mis Medi

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2017/18: Cadeirydd: Cyng Eurig Hughes Is-gadeirydd: Cyng Russell Sharp Hamdden Harlech ac Ardudwy Cafwyd adroddodd manwl gan Mair Thomas am nifer o weithgareddau. Roedd y noson gydag Eric Jones y dringwr yn llwyddiannus iawn a’r caffi’n llawn, bod archebion am yr haf yn edrych yn dda, bod ganddynt gynlluniau i gael y llyfrgell ar y safle a’u bod yn meddwl agor am fwy o oriau dros gyfnod yr haf. Mae angen tocio coed sy’n gordyfu ger y pwll a bydd Mr Meirion Griffith yn torri’r gwair o amgylch y pwll. Datganwyd pryder nad oedd llenni ar y ffenestri rhwng y caffi a’r pwll gan fod hyn yn golygu bod pobl yn gallu gwylio eraill yn nofio. Ysgol Ardudwy Bydd grŵp o ddisgyblion B9 yn gwneud gwaith yn y gymuned ar Gorffennaf 12 ac 13 fel rhan o wythnos weithgareddau’r ysgol. Cytunwyd i ofyn iddynt chwynnu o amgylch y maes parcio a’r llwybr ar hyd ochr y maes parcio. Goryrru Mae pryder am oryrru ar y ffordd i faes parcio Llandanwg ac yn gofyn a fyddai’n bosib gosod twmpathau atal cyflymder ar y ffordd cyn y gornel am y maes parcio er mwyn arafu gyrwyr. Cytunwyd i anfon copi o’r e-bost at Gyngor Gwynedd yn gofyn am eu barn ynglŷn â chael ceir i arafu, hefyd i gysylltu gyda’r heddlu yn gofyn iddynt gadw llygad ar y sefyllfa. Unrhyw Fater Arall Angen gofyn i Mr Meirion Griffith dorri’r gwair ar hyd llwybr wal Allt y Môr gan fod cerddwyr yn gorfod cerdded ar y ffordd. A oes baner i’w chael hefo Gwobr Werdd y Traeth? Pa bryd yr oedd y gwaith o ailwneud yr arwyddion ger croesffordd Pensarn yn digwydd? A fyddai hi’n bosib ailgychwyn cludo plant Llanfair i Ysgol Tanycastell? Cafwyd addewid i wneud pan roedd Ysgol Llanfair yn cau ym 1972/73.

Llanfair Pob dymuniad da i Ann Chidgey (Ann Jarvis, Tŷ Mawr gynt) a ordeiniwyd i’r Offeiriadaeth ar ddiwedd Mehefin. Fe’i hordeiniwyd fel deacon, sef y cam cyntaf i ddod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Llanelwy ar 24 Mehefin, gan y Gwir Barchedig Gregory Cameron.

DWY WOBR I BEN

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU Llun: Rod Davies Photography, Dolgellau Derbyniodd Ben, mab Michelle a Mark Davies, 3 Pant-yr-onnen, Llanfair, ddwy wobr ar ddiwedd y tymor rygbi eleni - ‘chwaraewr y chwaraewyr’ a’r ‘prif sgoriwr ceisiau’. Mae’n ddisgybl B10 yn Ysgol Ardudwy ac mae’n chwarae i dîm dan 16 Dolgellau. Mae hefyd wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm dan 16 oed Rygbi Gogledd Cymru yn y tymor sydd i ddod. Llongyfarchiadau iddo.

4


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Côr Meibion Ardudwy Trwy garedigrwydd Goronwy ac Emsyl Davies, cawsom y pleser o groesawu cyfeillion o Osaka yn Siapan i’n hymarfer ganol mis Mehefin. Yn eu plith yr oedd Jinichi Arata, arweinydd Côr Meibion Osaka. Mae’n gwybod yn dda am y traddodiad corawl yng Nghymru ac mae’n ymddiddori’n fawr mewn caneuon Cymraeg.

Jinichi Arata Er hynny, syndod i ni yn wir oedd pan gododd o ar ei draed a chanu ‘Tra Bo Dau’ i ni yn swynol a sensitif a chydag ynganiad da iawn. Mae’n biti mawr nad oedd mwy o bobl yno i’w glywed. Wedi hynny aeth ymlaen i ganu cân hyfryd iawn yn ei famiaith. Fe ddylai fod Radio Cymru ac S4C yn gwybod am ei ymweliad â Chymru! Yn ystod canol Mehefin, bu’r Côr yn westeion i barti Kööri a Chôr Someron Naiskuoro o ardal Somero yn y Ffindir. Mwynhawyd eu canu swynol gan gynulleidfaoedd yn Nhalsarnau, Trawsfynydd a’r Bermo. Ar derfyn y noson yn y Bermo, cawsom wahoddiad ganddyn nhw i ystyried trefnu taith i ymweld â nhw yn y Ffindir rhywdro ar amser cydgyfleus yn y dyfodol. Rhodd Bu Edwyn Humphreys a’i ferch ar ymweliad â’r ardal am ychydig ddyddiau. Diolch iddo am y rhodd o £20 i Llais Ardudwy.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

Beudy Doldanwan Wedi darllen yn Llais Ardudwy am daith Cymdeithas Ted Breeze Jones yng Nghwm Nantcol yn ddiweddar, sylwais fod y criw yn mynd heibio beudy ‘Doldanwan’ ar lafar gwlad, ond yn ôl ‘Ardudwy a’i Gwron’ [David Davies] yr enw gwreiddiol oedd ‘DolEdenowen’. Mae yna enw hefyd Weirglodd Glan y Merddwr sydd, mae’n debyg, yr ochr uchaf i Bont Cilcychwyn a darn o dir ‘Cylch y Mur Crin’. Roeddem ni yn enwi llidiart oedd ar derfyn Cilcychwyn a Maesgarnedd yn llidiart Gamfa Grin. Yn ôl Cyfrifiad 1891, y rhai olaf i fyw yn Dol-Edenowen oedd William a Catherine Lloyd a chwech o blant. Aethant wedyn i fyw i Gelliwaen. [GJ]

Cilcychwyn

Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS

Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch GORFFENNAF Capel y Ddôl 9 Parch Gareth Rowlands 30 Mrs Eurwen Evans Capel Salem 16 Parch Dafydd Edwards 9 Parch Dewi Tudur Lewis MEDI Capel Nantcol 3 Parch Aled Lewis Evans

DIOLCH Dymuna Aled Morgan Jones, Cefn Uchaf ddiolch i bawb am bob arwydd o ewyllys da a ddangoswyd tuag ato, ac am y negeseuon a dderbyniodd wedi iddo dderbyn llawdriniaeth i’w ben-glin yn ddiweddar. Gwerthfawrogwyd pob cymorth ymarferol hefyd. Rhodd a diolch £10

DAU AELOD FFYDDLON

Robert Wyn ac Idris Lewis, dau o feibion Llanbedr sy’n aelodau o Gôr Meibion Ardudwy, yn ymlacio wedi’r cyngerdd diweddar yn Christ Church, Bermo. Mwynhawyd bwffe yng Ngwesty Min-ymôr a chafwyd cyfle i gymdeithasu gyda’n cyfeillion o’r Ffindir.

WAGENNI PENMAENMAWR

Llais Ardudwy YN EISIAU GOLYGYDDION YR IFANC

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n medru annog ffrindiau i sgwennu pytiau [rhyw 300 gair] ar destunau difyr. Wrth bobl ifanc, rydan ni’n sôn am rheini sydd wedi gadael yr ysgol. Os teimlwch chi yr hoffech chi rannu’r baich o baratoi’r papur bob mis, a’i wneud yn fwy apelgar i’r ifanc, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion.

Ymlwybra gwagenni i fyny ac i lawr Wrth gludo y meini o’r mynydd, A’r hyn sydd yn glws ym Mhenmaenmawr Mae’r gwagenni yn helpu ei gilydd. Y wag ar i fyny a’r lawn ar i lawr, Dyna yw’r drefn ym Mhenmaenmawr. Os llawn wyt o gyfoeth y mynydd fry Rho help i eraill ddringo, Y lawn er ei rhwysg fydd yn wag yn y man A beth pe bai ti fydd honno? Helpwn ein gilydd i fyny ac i lawr, Cofiwn wagenni Penmaenmawr. 5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Gŵyl Haf, Eglwysi Bro Ardudwy Mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu fel rhan o ddathliadau haf, Eglwysi Bro Ardudwy. Nos Wener, Gorffennaf 7, cynhelir Noson Bingo yn Neuadd yr Eglwys, i gychwyn am 7:00. Yna, rhwng Gorffennaf 28 ac Awst 2 ceir penllanw’r dathliadau, gydag amrywiaeth o weithgareddau. Bydd arddangosfa flodau a chrefftau yn Eglwys Llanddwywe yn ddyddiol rhwng 11yb a 4yp, gan gychwyn Gorffennaf 28 a gorffen Awst 1. Bydd hen gofrestri’r eglwys ar gael yn ystod y cyfnod yma, fel y gall ymwelwyr chwilio am gofnodion teuluol. Cynhelir Arwerthiant Cist Car ddydd Gwener Gorffennaf 28 o 12 o’r gloch tan 4yp yn Neuadd yr Eglwys, Dyffryn. Hefyd yn y neuadd, ddydd Sadwrn y 29ain bydd gweithgaredd cymdeithasol ar gyfer plant ac oedolion yn cychwyn gyda hwyl a sbri i’r plant am 4yp. Bydd barbeciw am 6 a noson gerddorol i ddilyn am 7:30yh. Bydd lluniaeth ar gael, ond gofynnir i bawb sy’n dymuno gwneud hynny ddod â’u diod alcoholaidd gyda nhw. Ddydd Sul, Gorffennaf 30, bydd Canu Mawl yn Eglwys Llanddwywe am 2:30yp. Daw’r Arddangosfa Flodau i ben ar y cyntaf o Awst ac yna ar yr ail o’r mis, cynhelir y Ffair Haf flynyddol yn Neuadd y Pentref, Dyffryn Ardudwy, o 2 tan 4:30 y prynhawn. Niferus fydd y stondinau, yn cynnwys crefftau, bric a brac, tombola, cacennau a chynnyrch. Bydd gemau a raffl hefyd ac mae yna groeso cynnes i bawb. Teulu Ardudwy Dydd Mercher, 21 Mehefin, diwrnod crasboeth, aethom ar ein trip blynyddol. Wedi mwynhau cinio blasus yng Ngwesty’r Afr, Glandwyfach, aethom ymlaen i Ganolfan Arddio Frongoch. Ar waethaf y gwres llethol., cafwyd llawer o hwyl ac roedd pawb wedi mwynhau.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Sophie Rollins, Bron Hyfryd, ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth barbwr gorau Prydain ym Mirmingham ar 21 Mai. Curodd Dan Gregory o Lundain yn y chwarteri a’r ffefryn Bulen Dogan yn y rownd gyn-derfynol. Ond Elvis Gjobaj o Epsom, Surrey, enillodd y gystadleuaeth gyda Sophie’n ail. Roedd Sophie’n falch iawn o’i llwyddiant gan fod 150 wedi cymryd rhan drwy wledydd Prydain.

Palas Buckingham - parhad

Pen-blwydd Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Dilys Roberts, Gorffwysfa oedd yn dathlu penblwydd arbennig ar 1 Mehefin. Croeso Mae Margaret, chwaer Dilys, wedi symud o Dywyn i fyw yn Llwyn Ynn, Tal-y-bont. Nid yw Margaret wedi mwynhau iechyd da’n ddiweddar. Croeso’n ôl, Margaret, a gobeithio y byddi’n gwella’n fuan. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Holly a Mathew Coulson, Gwynfa, ar enedigaeth merch fach, Megan Rose, chwaer fach i Dylan a Logan. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Jane Jones, Byngalo Berwyn, sydd ar hyn o bryd yng nghartref Cefn Rodyn, Dolgellau.

Y mis diwethaf, fe welwyd llun o Rhian ac Alma wedi dod ar draws eu cymdogion, Sharon a Steve Wells o’r Dyffryn, yng Ngarddwest Palas Buckingham. Roedd Sharon wedi derbyn gwahoddiad gan y Frenhines am ei chyfraniad i nyrsio am dros 35 o flynyddoedd. Fe ddechreuodd Sharon ei gyrfa yng Ngwynedd, yn gweithio yn theatr Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 1983. Ymlaen wedyn yn 1985 i weithio i Ysbyty Dolgellau cyn symud, 25 o flynyddoedd yn ôl, i Nyrsio yn y Gymuned. Dywed Sharon iddi fod yn fraint cael cyfle i ymweld â’r Palas a’i bod hi wedi teimlo fel brenhines ei hun drwy’r dydd! Braint i ninnau fel ardal yw cael Cymraes leol wedi aros yn ei milltir sgwâr i ddilyn ei gyrfa a gwasanaethu ei chymuned mor ffyddlon.

CYNGERDD BLYNYDDOL CÔR Y BRYTHONIAID Y Ganolfan, Porthmadog 7.30 yr hwyr, nos Sul, Gorffennaf 23ain

Unawdwyr Gwâdd Meinir Wyn Roberts (Soprano) Steffan Rhys Hughes (Tenor) Urien Siôn Hughes (Corn bariton) Drysau ar agor am 7 o’r gloch Tâl Mynediad - £10.00 Tocynnau ar gael o nifer o siopau ym Mhorthmadog

neu ffoniwch Phill T. Jones 01341 423 021

6

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â theulu a chyfeillion Mrs Kate Olwen Roberts o Lanuwchllyn a fu farw’n ddiweddar. Cofion atoch i gyd yn yr ardal hon yn eich colled. Crwydro Ardudwy Yn dilyn y daith i gofio am Gwynfor John yn ddiweddar, soniodd amryw yr hoffen nhw barhau i fynd i grwydro’n achlysurol yn Ardudwy a dod i nabod llwybrau’r ardal. Os oes gynnoch chi ddiddordeb felly mewn mynd am dro, efallai gyda’r nos yn ystod yr haf i ddechrau, yna cysylltwch efo Haf (manylion y tu mewn i glawr y Llais).


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT MATERION YN CODI Archwilio’r llochesi bws, mynwentydd a pharciau chwarae Cafwyd adroddiadau manwl ar y materion uchod. Nodwyd rhai materion oedd angen sylw a thrafodwyd sut i ddelio gyda’r materion hyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan Mrs Margaret Snarr ynghyd â lluniau yn dangos cyflwr blêr mynwent Llanenddwyn cyn torri’r gwair; hefyd nodwyd bod cwynion wedi eu derbyn am flerwch y fynwent gyhoeddus cyn torri’r gwair ond diolchwyd i’r contractwr am dorri’r gwair cyn gynted ag y cafodd wybod am y cwynion. Cytunwyd o hyn ymlaen i ofyn i’r contractwr dorri gwair y mynwentydd i gyd bob pythefnos hyd fis Medi; hefyd cytunwyd i gadw golwg ar y sefyllfa. Cytunodd Siân Edwards i gynnal archwiliad eto’r mis nesa. Llywodraethwyr yr Ysgol Gynradd Eglurodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Michael Tregenza ar ôl y cyfarfod diwethaf yn datgan y byddai’n well ganddo beidio â bod ar y Bwrdd uchod oherwydd byddai’r ysgol yn gorfod ysgwyddo’r baich o dalu am gyfieithydd a thalu am gyfieithu’r dogfennau perthnasol. Nodwyd mai Cyngor Gwynedd fyddai’n ysgwyddo’r baich ac oherwydd hyn cytunodd Michael Tregenza i barhau ar y Corff Llywodraethwyr ar hyn o bryd. Ysgol Ardudwy Bydd grŵp o ddisgyblion B9 yn dod i wneud gwaith yn y gymuned ar y Gorffennaf 12 ac 13 fel rhan o wythnos weithgareddau’r ysgol. Cytunwyd i ofyn iddynt roi staen ar waelod pyst ffensio’r parc chwarae newydd, peintio’r fainc y tu allan o’r fynwent newydd a thacluso llochesi bws y pentref, Glanrhos a Ffordd Ystumgwern. UNRHYW FATER ARALL Datganodd Margretta Cartwright ei bod eisiau tynnu sylw Swyddog Llwybrau Cyngor Gwynedd bod angen sylw ar y cerrig ym mhen draw llwybr cyhoeddus y parciau o’r gamfa ymlaen am Ddyffryn Ardudwy o dan Meifod Uchaf at y fynwent newydd gan eu bod mewn cyflwr gwael iawn. Datganwyd pryder bod gwaith am ei wneud ar reilffordd Bennar ar y 3ydd/4ydd o Orffennaf rhwng 11.50 yr hwyr a 6.05 y bore a bod hyn yn amser prysur y gwyliau. Hefyd datganwyd nad oedd eu dull o reoli traffig y ffordd arall yn addas gan ei bod yn ffordd gul sy’n mynd dros dir preifat.

GORFFENNAF

Gwasanaethau’r Sul, Horeb

9 Parch Gareth Rowlands 16 Pererindod, Taith Capel 23 Parch W H Pritchard, 5.30 30 Anthia a Gwennie

AWST 6 Ceri Hugh Jones 13 Huw a Rhian Jones 20 Hilda Harris 27 Parch Philip de la Haye MEDI 3 Aled Lewis Evans

ENGLYNION DA Rydym yn cynnwys cyfres o englynion y tro hwn oherwydd ar Orffennaf 31 eleni bydd yn gan mlynedd ers y lladdwyd Hedd Wyn ar Gefn Pilcem yn ystod y Rhyfel Mawr yn Fflandrys, Gwlad Belg. Nid oes yr un Cymro diwylliedig nad yw’n gwybod yr hanes. Gwyddom fod nifer o drigolion yr ardal hon am deithio i wlad Belg i gymryd rhan yn y cofio. Trefnwyd rhaglen yn Langemarc wrth y gofeb i’r milwyr o Gymru ger croesffordd Hageboos a’r gofeb ar y mur sy’n nodi’r fan lle clwyfwyd ef yn angheuol. Yna ar y Sul, cynhelir gwasanaeth ger ei fedd ym mynwent Artillery Wood rhyw filltir o’r gofeb. Bydd gwasanaeth hefyd ger porth Menin yn nhref Ieper [Ypres] lle mae enwau 55,000 o filwyr na chanfuwyd eu cyrff yn ystod y brwydro. Byddwn yn cofio am Hedd Wyn a hefyd am y miloedd a gollodd eu bywydau mewn cyflafan hollol ddibwrpas a dianghenraid.

Englynion Coffa Hedd Wyn Y bardd trwm dan bridd tramor, — y dwylo Na ddidolir rhagor: Y llygaid dwys dan ddwys ddôr, Y llygaid na all agor. Wedi ei fyw y mae dy fywyd, — dy rawd Wedi ei rhedeg hefyd: Daeth awr i fynd i’th weryd, A daeth i ben deithio byd. Tyner yw’r lleuad heno — tros fawnog Trawsfynydd yn dringo: Tithau’n drist a than dy ro Ger y ffos ddu’n gorffwyso. Trawsfynydd tros ei feini — trafaeliaist Ar foelydd Eryri: Troedio wnest ei rhedyn hi, Hunaist ymhell ohoni. Ha frodyr! Dan hyfrydwch llawer lloer Y llanc nac anghofiwch; Canys mwy trist na thristwch Fu rhoddi llesg fardd i’r llwch. Garw a gwael fu gyrru o’i gell un addfwyn Ac o noddfa’i lyfrgell: Garw fu rhoi’i bridd i’r briddell Mwyaf garw oedd marw ymhell. Gadael gwaith a gadael gwŷdd, gadael ffridd Gadael ffrwd a mynydd; Gadael dôl a gadael dydd, A gadael gwyrddion goedydd. Gadair unig ei drig draw! Ei dwyfraich Fel pe’n difrif wrandaw, Heddiw estyn yn ddistaw Mewn hedd hir am un ni ddaw. R Williams Parry 1884-1956

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 7


HARLECH

YMWELD Â’R PALAS

Dan anhwylder Anfonwn ein cofion at Mrs Ann Evans, 30 Y Waun sydd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar ac yn glaf yn Ysbyty Gwynedd. Rhodd Diolch i Mrs Bet Jones, Llanddaniel [Henllys gynt] am anfon rhodd o £5 i ni. Bydd rhai o’n darllenwyr yn edrych ymlaen at ei gweld yn yr Eisteddfod Cofio John Barnett Genedlaethol ym Modedern. Cynhaliwyd yr angladd ar 10 Mehefin yn Eglwys Sant Tanwg, Pen-blwydd Harlech gyda’r Parchedigion Anfonwyd £500 at Water Aid Tony a Stephanie Beacon yn yn dilyn pen-blwydd Phil gwasanaethu. Mostert, Bryn Awel ddechrau’r Cafwyd teyrnged gan un o mis diwethaf. Diolch i bawb ffrindiau pennaf John, sef a gyfrannodd at y gronfa yn hytrach na chyflwyno anrhegion Norman Fletcher, a chafwyd darlleniad gan David Vaughan. personol. Cafwyd hefyd ddarlleniad gan un o’r teulu ar ran ŵyr Beryl a Genedigaeth John, sef Kai, mab Andrew a Llongyfarchiadau mawr i Joe Steff, a’r teitl oedd ‘To my hero Soar a Fiona Morris, Talgoed, Harlech ar enedigaeth eu merch Taidi’. Aria Lynn ar Fehefin 9 yn 5 pwys Rhoddwyd John i orffwys yn y fynwent newydd. 12 owns. Llongyfarchiadau hefyd i Nain a Diolch Taid, Cae Gwastad, Harlech, sef Linda a Dave Soar, a Nain a Taid Dymuna Mrs Beryl Barnett a’r teulu ddiolch i bawb am Nasareth, ger Llanllyfni. bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddyn nhw Pen-blwydd yn dilyn colli gŵr, tad, tad yng Pen-blwydd hapus iawn i nghyfraith a Taidi arbennig i Steve O’Neill, 30 Cae Gwastad, Harlech sy’n cyrraedd oedran go Kai, a ffrind i lawer. Hyd yma, arbennig ar Orffennaf 7. Mi gaiff mae’r rhoddion er cof am John o fynd ar y bysus am ddim rŵan! yn £1,500. Anfonir yr arian er budd elusen Clefyd y Galon. Llongyfarchiadau hefyd i Robert Rhodd £10 Edwards, 43 y Waun oedd yn Pen-blwydd dathlu pen-blwydd arbennig ar Pen-blwydd hapus i Billy Jones, ddydd Sadwrn, 10 Mehefin. 11 Y Waun a fydd yn 18 oed ar Un arall oedd yn dathlu ei phen- Awst 23 eleni. Gan y teulu oll a Cara XXX. blwydd yn 70 oed ddiwedd mis Mehefin oedd Mrs Ann Evans, 2 £5 Trem y Don [Ann Garej]. Cafwyd parti mawr i ddathlu yng Capel Engedi nghwmni ei theulu lluosog yn Gorffennaf y Clwb Golff. Gweler y llun ar 9 Gareth Rowlands am 4.00 dudalen 13. Rhaid i ni ddweud ei bod yn dal i edrych yn ifanc Capel Jerusalem iawn. Gorffennaf 9 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 Llongyfarch 23 Parch Dewi Morris am 4.00 Llongyfarchiadau hefyd i Mrs SIOE ARDDIO Wendy Williams, Cae Gwastad sydd wedi dathlu ei phen-blwydd HARLECH yn 70 oed yn ddiweddar. Sioe Haf, Awst 19

Sioe Glan Gaeaf, Tachwedd 4

8

Llongyfarchiadau i Aled a Katie Jones o Reigate, Surrey a fu mewn parti ym Mhalas Buckingham yn ddiweddar. Mae Aled yn fab i Mr Hefin Jones, Arfor ac yn gweithio fel rheolwr ariannol i gwmni Kimberley Clarke. Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y Llywydd, Christine Hemsley, yr aelodau i’r cyfarfod ar nos Fercher, 14 Mehefin yn Neuadd Goffa Harlech. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Darllenwyd y deyrnged oedd wedi ei ysgrifennu gan frawd Dorothy Harper, Lesley, ac a draddodwyd yn y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Bangor yn ddiweddar. Darllenwyd hon yn ein cyfarfod gan yr Is-lywydd Jan Cole. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r rhai oedd yn dathlu’r mis yma a chyfarchion arbennig i’r Llywydd oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 30 Mehefin. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau arbennig sef y Ffair Haf yn y Bermo ar 6 Gorffennaf, lle’r oedd grŵp Artro’n gyfrifol am stondin; hefyd y cinio ym Mhortmeirion ar 29 Mehefin. Roedd Val Vine o’r Bermo wedi dod atom i ddweud hanes y Gynhadledd Genedlaethol yn Lerpwl a gynhaliwyd 6 Mehefin. Yna croesawyd Rob Booth oedd wedi dod i siarad am Waith Powdr Penrhyndeudraeth. Cawsom hanes difyr y gwaith sy’n digwydd yno rŵan a chawsom weld lluniau o’r hen amser. Diolchwyd iddo ar ran yr aelodau gan Edwina Evans. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 12 Gorffennaf a’r testun fydd argraffu ar ddefnydd gyda Nerys Rowse. Eglwys St Tanwg Nos Iau, Gorffennaf 6 am 7.30

YSGARD

Tocyn: £5 wrth y drws

Gostyngiad i rai dan 18. Bydd lluniaeth ar gael. Gobeithio y byddwch yn gallu dod draw i gefnogi ac i fwynhau’r grŵp yma.

Cyngherddau’r Haf Eglwys Tanwg Sant, Harlech 1. Dydd Iau, 31 Awst, 2.00 yp, Ensemble Telyn. Te Cymreig i ddilyn. 2 Dydd Sadwrn, 9 Medi, 7.30, cyngerdd organ a llinynnau. Mynediad am ddim i’r ddau, lluniaeth ar gael a chasgliad.


HARLECH

SIOE DDAWNSIO

Perfformiwyd dwy sioe ddawnsio wych gan griw y ‘Dizzy Dancers’ yn y Ganolfan Chwaraeon, Harlech yn ddiweddar pan ddaeth tua 150 o ddawnswyr i roi gwledd i dros 700 o bobl. Yn ystod y sioe, cyflwynwyd tusw o flodau i Eirian Foster gan ei thîm agos, yr holl ddawnswyr a’r rhieni diolchgar i ddiolch iddi am yr holl waith a wnaed yn ystod y flwyddyn. Mae’n cynnal dosbarthiadau yn y Bermo, Harlech, Penrhyndeudraeth a Blaenau Ffestiniog. Roedd yn dipyn o gamp i ferch ifanc drefnu sioe o safon i gynifer o ddawnswyr - anhygoel! Llongyfarchiadau cynnes iawn iddi. Dymuna’r dawnswyr ddiolch i Iolo Owen a David Evans am eu gwaith yn y cefndir, i Donna am gyflwyno ac i rieni Eirian am bob cefnogaeth.

Teulu’r Castell Mis Mai Croesawyd yr aelodau gan Lywydd Merched y Wawr, Mrs Hefina Griffith. Merched y Wawr oedd yn gyfrifol am y cyfarfod; maen nhw wedi gwneud hyn ers blynyddoedd. Trist iawn oedd cydymdeimlo â theulu Dorothy Harper. Bu’n aelod o Deulu’r Castell am flynyddoedd lawer ac roedd bob amser yn edrych ymlaen at ddod i’r cyfarfodydd. Y gŵr gwadd oedd Mr Phil Mostert. Llongyfarchwyd ef gan Edwina am gael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd. Gwnaeth lawer dros yr iaith a thros y gymuned a bu’n gweithio’n galed gyda Llais Ardudwy. Diolch i ti Phil am bob dim wyt ti wedi ei wneud. Cawsom sgwrs ddifyr ganddo am yr amser yr oedd yn athro ysgol a rhai o’r pethau diniwed yr oedd plant bach yn ei ddweud. Cawsom brynhawn hwyliog iawn yn ei gwmni, a diolchwyd iddo gan Edwina. Yna cawsom de blasus iawn wedi ei ddarparu gan Ferched y Wawr. Prynhawn llwyddiannus iawn a diolch i’r aelodau am y nifer o wobrau raffl a dderbyniwyd.

Teulu’r Castell Mis Mehefin Croesawyd yr aelodau i gaffi Chwarel Hen, Llanfair brynhawn Mercher ar 21 Mehefin gan Edwina. Diolchodd i Caroline Evans am ein gwahodd yno am y prynhawn. Croesawyd Bethan a’i thad, Mr Griff Thomas ac Enid Smith oedd yn ôl yn Harlech am yr haf. Anfonwyd ein dymuniadau gorau i Betty Grant oedd wedi cael damwain yn y tŷ ac i John Satchwell oedd yn Nhywyn, ac i bawb oedd wedi methu bod gyda ni. Dymuniadau gorau hefyd i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd y mis yma, yn enwedig Hefin Jones ar 27 Mehefin. Diolch i bwyllgor Teulu’r Castell am eu cyfraniad hwythau trwy’r flwyddyn ac i Maureen Jones ein Trysorydd am fod yn gyfrifol am yr arian. Diolch i’r aelodau oedd yn dod mor ffyddlon trwy’r flwyddyn trwy bob tywydd. Cawsom de gwych wedi ei baratoi gan Caroline a’r staff. Rhoddwyd y diolchiadau gan Hefin Jones.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Aelodau Clwb y Werin, Talsarnau yn mwynhau cinio yn Nineteen57, Tal-y-bont ganol Mehefin

Clwb y Werin Cafwyd pnawn Llun arbennig i Glwb y Werin yn Nineteen 57 yn Nhal-y-bont ar 19eg o Fehefin. Roedd y 14 aelod yno a dau o’n ffrindiau. Cawsom ginio gwerth chweil a phwdin blasus i ddilyn. Diolch o galon i deulu’r Rayner am eu cyfraniad hael er cof am Bronwen a wnaeth hyn yn bosibl. Roedd y lleoliad yn newydd i’r rhan fwyaf ohonom ac roedd pawb wedi eu plesio a’r tywydd hafaidd yn goron ar y cwbl.

DAU WEITHGAR

Dau sy’n weithgar iawn yn y gymuned hon ydi Prysor a Margaret Roberts o Landecwyn. Diolch iddyn nhw am yr holl waith gwirfoddol maen nhw’n ei wneud dros yr ardal. Diolch Dymuna teulu’r diweddar Graham Jenkins, Tŷ Gwyn, Yr Ynys ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad adderbyniwyd ganddynt yn dilyn eu profedigaeth. Diolch i bawb a fynychodd yr angladd ym Mae Colwyn a’r gwasanaeth yn Eglwys Llanfihangel. Diolch arbennig i’r Parch Bob Hughes am ei wasanaeth ar y ddau achlysur ac i’r Parchedigion Tony a Stephanie Beacon yn Llanfihangel. Diolch i bawb am y rhoddion at yr Eglwys a Thŷ Gobaith, Conwy. Rhodd a diolch £10 Capel Newydd GORFFENNAF 9 - Dewi Tudur 16 - Dewi Tudur 23 - Dafydd Protheroe Morris 30 - Dewi Tudur AWST 6 - Dewi Tudur 13 - Dewi Tudur 20 - Dewi Tudur 27 - Hywel Meredydd Davies

10

Rhodd £20 Mrs Deborah Williams, Gwrachynys Merched y Wawr I gloi rhaglen eleni, aeth criw da ohonom i ymweld â’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ar fore Iau, Mehefin 29. Roedd Sian Griffiths, Swyddog Cyswllt yn y Parc yno i’n croesawu a’n tywys o gwmpas cartref Hedd Wyn mewn dull diddorol ac addysgiadaol. Mwynhawyd cinio wedyn yng Nghanolfan Prysor a diolchodd Gwenda Paul i’r trefnwyr am wibdaith ddifyr iawn.

ORIG AR YNYS ENLLI

Faint ohonoch fu ar Ynys Enlli rhywdro? Dyna fu fy hanes i a ffrindiau eraill yn ddiweddar - cael treulio wythnos o wyliau ar yr ynys hudolus yma. Croesi ar y cwch o Borth Meudwy, gyda bocsus yn llawn o fwyd a diod gan nad oes archfarchnad yno! Tractor a threlar yn ein cyfarfod yr ochr arall i gario’n holl baciau i’n tai. Yng Ngharreg Fawr yr oedd ein criw ni yn aros y tro yma. Mae rhewgell yn gweithio hefo panelau solar a stôf nwy ymhob tŷ. Mae’r tai bach yn eitha cyntefig ac yn gofyn am dipyn o ddewrder pan ddaw eich tro chi i wagio’r bwced! Mae ambell un ohonom yn medru bod yn ddigon clyfar i osgoi’r orchwyl yma drwy fargeinio a chynnig gwneud rhyw oruchwylion diflas eraill yn ei le. Wna i ddim cyfaddef pwy! Mae pob mathau o adar diddorol i’w gweld yno ac mae gwylio’r morloi sy’n torheulo ar y creigiau drwy’r dydd yn therapi o’r math gorau. Gellir meddwl nad oes ‘dim byd i’w wneud yno’ ond wn i ddim i ble mae’r amser yn mynd tra rwyf yno. Crwydro a chymdeithasu drwy’r dydd, a bwyta, yfed a siarad wrth y tân bob gyda’r nos hefo cwmni difyr. Os na fuoch erioed, beth am roi cynnig arni? Anwen Roberts Os hoffech fynd draw i Enlli am y diwrnod, cysylltwch ag Anwen neu Haf am fwy o fanylion.


Y BERMO A LLANABER Cofio John Hugh Ar 17 Mai bu farw un arall o hen blant Llanaber, sef John Hugh Williams (Hendreclochydd gynt). Roedd yn fab i’r diweddar Beti a Robert Williams ac yn frawd ffyddlon i’w chwaer Mair. Yn dilyn addysg yn Ysgol Ramadeg Dolgellau, bu’n astudio yng ngholegau Durham ac Aberystwyth. Wedi cyfnod yn yr awyrlu yn cyflawni Gwasanaeth Cenedlaethol cafodd swydd gyda’r Weinyddiaeth Amaeth yn Nhrawscoed, ger Aberystwyth. Ar 1 Hydref 1952, priododd â Pegi Hughes, (Wenallt, Llanbedr) yng nghapel Moriah, Llanbedr. Cawsant fywyd priodasol dedwydd a llawn, a bendithiwyd nhw â dau fab, Arthur a Robert. Yn ei ddyddiau cynnar yn Nhrawscoed, byddai yn manteisio ar bob cyfle i ddychwelyd i Sir Feirionnydd i arbrofi ansawdd y pridd, a bu’n gymorth i lawer o ffermwyr yr ardal i wella’r borfa. Yn ystod ei yrfa, bu’n gweithio yng Nghaergrawnt ac Wolverhampton cyn ymddeol a dychwelyd i Aberystwyth. Bu John Hugh a Pegi yn briod am 64 o flynyddoedd hapus ac yn gofalu am ei gilydd hyd y diwedd.

Colli Ffrind Ar 5 Mai hunodd Angela Evans yn Hosbis Amwythig. Bu’n weithgar gyda sawl mudiad ac yn ffrind i lawer yn ystod ei hamser yn y Bermo a’r cylch. Angela a Megan Jones fu’n gyfrifol am sefydlu cangen o Ferched y Wawr yn y Bermo a phleser oedd cael eu cwmni wrth ddathlu ein pen-blwydd yn 30 oed. Hoffai weithio gyda phlant yr ysgol a’r capel ac roedd y plant yn edrych ymlaen at fynd i Sŵn yr Afon i baratoi at achlysuron penodol. Cofiwn yn arbennig am ei dawn a’i thalent wrth organ Capel Siloam. Cydymdeimlwn â Hefina, Tegid a Sam yn eu colled. ANGELA EVANS 1948-2017

Cyfieithiad ac addasiad o deyrnged Pauline Page-Jones i’w ffrind Angela. Traddododd Pauline y deyrnged yn y Gwasanaeth yn Amlosgfa Amwythig, Mai 24, 2017. Wedi’r blynyddoedd cynnar yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, symudodd Merched y Wawr i Aberpennar yn 5 oed. Ac yna yn 11 oed, symudiad arall pan aeth ei Ar ddiwrnod hynod o braf aeth thad, y Parchedig Haydn Davies, criw bach ohonom tua’r Parc i i weinidogaethu yn Nhrebanos, Ddathlu’r Aur. Aros am bryd Cwm Tawe. Magwraeth ar aelwyd canol dydd yn yr Eryrod, cael Gristnogol felly a roes y gwerthoedd croeso cynnes gan y staff a bwyd a’r ffydd iddi, rhinweddau a fyddai’n blasus. Mlaen wedyn i’r Parc ac help i’w chynnal yn ystod ei bywyd. yno i’n croesawu roedd Tegwen Datblygodd ddiddordeb mewn ein Cyfarwyddwr Cenedlaethol. cerddoriaeth yn gynnar iawn a phan I mewn i’r ysgol i weld yr ardyn blentyn ifanc byddai’n gwrando dangosfa, dyna i chi wledd i’r ar Ganiadaeth y Cysegr ar y radio llygaid – enwau aelodau cyntaf Y bob Sul. Buan y cafodd ei chopi Parc ar furlun, paneli celf a hane- o’r Caniedydd gan gyfarwyddo ei hun â nifer o’r emynau, y geiriau a’r sion difyr dros y 50 mlynedd tonau. Roedd yn meddu ar lais da, diwethaf. Cyn troi am adref a hwyrach y gallai fod wedi canlyn bu cyfle i sgwrsio dros banad a gyrfa yn y maes operatig. Yn ôl chacen. Diolch i’r swyddogion Angela, yr agosaf a ddaeth i’r byd a’r aelodau gweithgar am eu hwnnw oedd chwarae rhan Iolanthe gwaith. Braf gweld fod Mudiad mewn perfformiad o opera enwog hollol Gymreig wedi goroesi 50 Gilbert a Sullivan yn y Bermo! Ar mlynedd ac yn dal i barhau yn ôl gadael ysgol cafodd waith gyda chwmni Snells yn Abertawe. Roedd gryf ym mhob cwr o Gymru. Snells yn cyhoeddi a gwerthu cerddoriaeth a chyflenwi offerynnau Gartref cerddorol a dim rhyfedd felly fod Braf gweld Alun Llŷr, Trem Angela yn fodlon ar ei gwaith. Enlli gartref am sbel o Seland Yn 18 oed, priododd a symud i

Newydd.

fyw i Frynaman. Roedd ei gŵr, Brian Evans, yn weinidog Eglwys Bethania, Rhosaman. Ganwyd iddynt ferch, Hefina, a rhai blynyddoedd wedyn, ar ôl i’r teulu symud i Ruthun, ganwyd Tegid. Fel gwraig y gweinidog, ymdoddodd Angela yn rhwydd i waith y capel a’r gymuned yr oeddynt yn rhan ohoni. Roedd symudiad arall ar y gweill, y tro yma i’r Bermo. Elwodd Eglwys Siloam yn y dref yn sylweddol o’i chyfraniad, yn organydd, athrawes Ysgol Sul ac arweinydd y côr. Fel Cymhorthydd Dosbarth yn yr ysgol gynradd leol, cafodd fwy o gyfle i feithrin ei dawn gyda phlant a phobl ifanc. Niferus fu’r unigolion a hyfforddwyd ganddi a mawr oedd ei phleser o ganfod eu llwyddiant mewn eisteddfodau bach a mawr. Bu Hefina a Tegid yn ffodus o gael mam oedd yn hyfforddwraig mor ddawnus wrth iddyn nhw yn eu tro baratoi ar gyfer eisteddfodau. Gwaith arall y bu yn ymwneud ag e yn ystod y cyfnod hwn oedd Trefnydd Cenedlaethol yr elusen Action Research. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar draws Cymru yn sgil y gwaith yma. Cerddoriaeth a’i diddordeb dwys mewn eisteddfodau ddaeth â’r amlygrwydd pennaf iddi. Bu’n arweinydd cymanfaoedd canu a mawr oedd y galw am ei gwasanaeth. Roedd ei sgiliau fel cyfeilydd yn sicrhau galwadau cyson hefyd. Ni phallodd y ddawn tan y diwedd ac yn ystod y misoedd olaf yn Hosbis Hafren, Amwythig, llwyddodd i chwarae mewn un neu ddau o wasanaethau yno. Rhai dyddiau yn unig cyn ei cholli, cafodd Angela ymweliad oddi wrth un o’i chyn fyfyrwyr, Rhodri Jones. Mae o bellach yn creu gyrfa lwyddiannus iddo’i hun yn y byd cerdd a’i dymuniad oedd iddo ganu yn ei hangladd. Er gwaethaf ei gwaeledd, roedd ymweliad Rhodri â’r hosbis yn golygu cymaint iddi, ei phleser yn ddigamsyniol a’r edrychiad yn troi’n wên. Wedi cefnu ar Fro Ardudwy a symud i’r Trallwng, buan y gwelwyd Angela yn cynorthwyo ieuenctid y fro honno. Er bod rhai yn ddiGymraeg, llwyddodd i’w hyfforddi i safon uchel a chael llwyddiant ar lwyfan eisteddfodol. Er ei gwaith yn y Ganolfan Dwristiaeth, rhaid oedd cadw’r Llun yn rhydd er mwyn canolbwyntio ar yr hyfforddi, hyn yn ddi-dâl wrth gwrs ond yn llafur cariad llwyr i Angela. Teg felly oedd ei hapwyntiad fel Cynorthwy-ydd Cerdd Ysgol Gynradd Llansanffraid ym Mechain. Paratoi’r plant at

Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â chyngherddau amrywiol. Tu allan i’r ysgol, roedd yn weithgar gyda Chymdeithas Gymraeg Amwythig ac yn arweinydd Côr Meibion Clawdd Offa. Parhau wnaeth y gwaith o arwain Cymanfaoedd Canu a chyfeilio i unigolion a phartïon. Y Canolbarth fu’n gartref iddi yn ystod rhan olaf ei bywyd ac yn unol â’i phrofiad tan hynny, bu yna symud tŷ! Bwthyn cysurus ym Meifod i ddechrau cyn symud i’r cartref olaf, byngalo yn Llansanffraid ym Mechain. Y cyfnod yng Nghanolbarth Cymru ddaeth â hi i gysylltiad â’i chymar newydd a pharhaodd y berthynas hapus rhyngddynt am dros ddwy flynedd ar hugain. Roedd wythnosau Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol yn y dyddiadur yn flynyddol a’r ddau yn gwledda ar y diwylliant Cymreig. Ar hyd ei hoes bu Angela yn frwd dros y ‘pethe’ gyda’r iaith a’r diwylliant yn falm i’w chalon. O ran y corau, ffefryn Angela oedd Côr Godre’r Aran a mawr ei hedmygedd o’r Cyfarwyddwr Cerdd, Eirian Owen. Ychydig fisoedd yn ôl, er gwaethaf y dirywiad yn ei hiechyd, llwyddodd gyda help ei chymar Arwyn, i fod yn bresennol yn un o’u cyngherddau. Dewrder a phenderfyniad Angela yn goresgyn ei phoen a’i gwendid a’r côr fel arfer yn codi ei hysbryd. Nid anghofiodd am ei ffrindiau ym Mro Ardudwy ac roedd wrth ei bodd yn treulio cyfnodau yn y garafán yn Harlech. Bu’n ail gartref iddi ac er byw ugain mlynedd a mwy i ffwrdd o arfordir Bae Ceredigion, ni phallodd ei chariad tuag at y fro honno. Ni phallodd ei ffydd na’i phenderfyniad chwaith ac yn sgil colledion teuluol dros y cyfnod 2004-2009, y ffydd Gristnogol fu’n ei chynnal. Yn wyneb ei thostrwydd, dangosodd yr un dewrder gan guddio’r anhwylder trwy wên a thaclusrwydd ei gwedd. Mawr fu gofal Hefina, Tegid, Arwyn a Sam ohoni a hyd y diwedd roeddynt, fel eraill, mor edmygus o’r ffordd y wynebodd ei salwch creulon. Er gwaethaf yr hyn daflodd bywyd ati, cadwodd y ffydd ynghyd â heddwch yn ei henaid. Gadawodd Angela atgofion amrywiol a niferus a’r rhain fydd yn cynnal ei theulu a’i ffrindiau yn ystod y misoedd sydd i ddod. Tystiodd y gynulleidfa fawr yn Amlosgfa Emstrey i’w phoblogrwydd ac mae’n sicr y bydd i’r gobaith oedd yn ei chalon tan y diwedd ysbrydoli pawb fu’n ddigon ffodus o’i hadnabod. RO

11


RHAGHYSBYSIAD Neuadd Gymuned Talsarnau

Noson o Adloniant gyda TRIO ac Annette Bryn Parri 18 Tachwedd 2017

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST

PICNIC A BARBECIW

Nos Iau Gorffennaf 13 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

12

Mae’r haf yn gyfle perffaith i fwynhau picnics a barbeciws gyda theulu a ffrindiau, felly rydym wedi rhoi ambell air o gyngor at ei gilydd i wneud yn siŵr nad ydych chi’n mynd yn sâl wrth fwyta yn yr awyr agored. Rydym wedi rhannu’r prif bethau i’w cofio yr haf hwn yn bedwar categori hawdd eu cofio. Oeri a dadmer Mae oeri bwyd yn iawn yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu, yn enwedig yn ystod misoedd cynnes yr haf. Felly, cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y pethau canlynol: 1. Peidiwch â dadmer bwyd ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylid dadmer bwyd yn llwyr yn yr oergell, neu os nad yw hyn yn bosibl, dylid defnyddio micro-don a dewis yr opsiwn ‘dadmer’ yn syth cyn ei goginio. 2. Oerwch unrhyw fwyd wedi’i goginio ar dymheredd ystafell, ac yna ei roi yn yr oergell o fewn awr neu ddwy. 3. Storiwch fwyd amrwd ar wahân i fwyd parod i’w fwyta, wedi’i orchuddio. Wrth ei baratoi, cofiwch gadw bwyd oer allan o’r oergell am yr amser byrraf posib. 5. Mae angen cadw unrhyw fwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’, bwyd wedi’i baratoi ymlaen llaw, salad a phwdinau yn oer ac allan o’r haul tan ei bod hi’n amser bwyta. 6. Mewn barbeciws a phicnics, dylid cadw bwyd oer sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym yn yr oergell neu flwch oeri tan i chi ei weini. 7. Ewch ati i wirio’n rheolaidd fod eich oergell yn ddigon oer – dylai fod o dan50 °C. 8. Peidiwch â gorlenwi’r oergell. Os ydych chi’n gwneud hyn, ni fydd yr aer yn gallu cylchredeg ac felly ni fydd modd cynnal y tymheredd cywir. Mae angen cadw rhai bwydydd yn yr oergell er mwyn arafu twf bacteria a chadw bwyd yn ffres ac yn ddiogel yn hirach. Yn gyffredinol, po oeraf yw’r tymheredd, y mwyaf araf y bydd germau’n tyfu, ond nid yw tymheredd oer yn atal germau rhag tyfu’n gyfan gwbl. Beth am ddefnyddio thermomedr oergell i wirio bod y tymheredd yn is na 50°C? Nid yw deialau’r oergell fel arfer yn dangos y tymheredd. Coginio Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau y caiff unrhyw facteria niweidiol ei ladd. Cofiwch: 1. Wrth goginio cynhyrchion briwgig megis byrgyrs cig eidion, selsig, a cebabs, porc, twrci a chyw iâr, dylech wirio bob tro: bod y cig yn stemio’n boeth drwyddo. nad ydych yn gweld unrhyw gig pinc wrth dorri i’r darn mwyaf trwchus. bod y suddion yn rhedeg yn glir.​ 2. Dylid coginio byrgyrs sy’n cael eu paratoi yn y cartref drwyddynt draw tan eu bod yn stemio’n boeth. Ni ddylid eu gweini’n waedlyd neu’n binc gan y gallai canol y byrgyr gynnwys bacteria niweidiol, sy’n achosi gwenwyn bwyd. 3. Unwaith i chi weini’r pryd, ni ddylai fod allan am yn hirach na dwy awr, neu awr os yw’n boeth iawn tu allan.


NEWYDDION YR URDD Cwpan yr Urdd Llongyfarchiadau i Ysgol y Traeth ar gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan yr Urdd ar ddechrau mis Mehefin. Colli i Ysgol Bro Hedd Wyn mewn gêm agos iawn oedd eu tynged. Glan-llyn Diolch i ysgolion Talsarnau, Tanycastell, Llanbedr a Dyffryn am gynrychioli’r ardal yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn ddiweddar. Dros 40 o blant wedi cael profiadau bythgofiadwy wrth adeiladu rafft, rhwyfo, defnyddio’r cwrs rhaffau, cyfeiriannu, ceufad a llawer iawn mwy mewn cwta dau ddiwrnod. Profiad gwaith Bydd Owain Evans (Penrhyn), sy’n ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, yn dod yn rhan o dîm y swyddfa Ranbarth cyn bo hir. Gobeithio y bydd yn mwynhau ei hun ac yn magu hyder iddo fynd i’r maes hwn wedi iddo gwblhau ei addysg. Ysgol Bêl-droed Cynhelir yr ysgol bêl-droed yng Nghlwb Chwaraeon Madog rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst. Mae pob dydd yn cychwyn am 10 y bore ac yn diweddu am 3 y prynhawn. Mae hwn yn agored i aelodau rhwng B3 a B9. Mae llefydd yn brin felly cysylltwch os ydych eisiau lle i’ch plentyn. Mae’r pris yn £25 ac fe fydd pêl i bawb sy’n cwblhau’r tridiau! Taith yr Eidal Pob lwc i ddisgyblion Ysgol

Ardudwy sy’n mynd ar daith i’r Eidal ar ddiwedd mis Gorffennaf. Profiad anhygoel wrth iddynt gyddeithio gyda phobl ifanc ar draws y Gogledd. Mwynhewch bob eiliad. Disgo’r 60au Bydd disgo yn Ysgol Tanycastell ar ddiwedd tymor yr haf. Y plant gafodd y syniad gyda’r thema yn mynd a ni’n ôl i 60au’r ganrif ddiwethaf. Mae’n siŵr fod hyn yn edrych yn bell yn ôl i rai gafodd eu geni yn y deng mlynedd ddiwethaf. Diolch Ers dwy flynedd, mae Mai Roberts, Dyffryn Ardudwy, wedi gweithredu fel Llywydd yr Urdd ym Meirionnydd – roedd yn Is-lywydd am ddwy flynedd cyn hynny hefyd. Mae’r Urdd yn lleol yn agos iawn i’w chalon. Ar ran holl wirfoddolwyr, plant, pobl ifanc a staff yr Urdd yn y Rhanbarth, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth gyson i’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni. Rydw i’n gwerthfawrogi hyn yn fawr. Cyn cau am yr haf Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi ein cefnogi ein plant a’n pobl ifanc er mwyn iddynt gael profiadau mewn sawl maes ar hyd y flwyddyn. Bu’n flwyddyn brysur tu hwnt ac wrth edrych ymlaen, mae’r hyn sydd o’n blaenau’r un mor gyffrous. Diolch am eich cefnogaeth.

CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Partneriaeth y toiledau cyhoeddus Mae’r Cyngor yn fodlon mynd i bartneriaeth ar y cyd â Chyngor Gwynedd a chadw toiled Bron y Graig yn agored trwy’r flwyddyn a’r toiledau ger y Queens a rhai Min y Don yn agored yn dymhorol ar gost o £8,000 i’r Cyngor. Cytunwyd i arwyddo’r cytundeb hwn ac anfon llythyr i Gyngor Gwynedd yn gofyn iddynt uwchraddio’r toiledau. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid ystafell haul upvc gydag estyniad blaen, adlunio teras llawr cyntaf gan gynnwys adeiladu grisiau troellog, ail-leoli simdde, gosod tiwb haul ar edrychiad cefn - Hafod y Morfa, Ffordd Glan y Môr. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod wedi derbyn cyflenwad o goed afal. Gan eu bod yn awyddus i’w rhannu ymysg y cymunedau lleol roedd 4 coeden afal ar gael i’r Cyngor am ddim. Cytunwyd i dderbyn y coed afal. Ysgol Ardudwy Bydd disgyblion B9 yn dod i wneud gwaith yn y gymuned ar Gorffennaf 12 ac 13. Byddant yn chwynnu o amgylch y maes parcio ger y fynwent a’r grisiau i lawr am Bentre’r Efail a thrwsio a pheintio’r sedd gyhoeddus ger toiledau’r Queens. UNRHYW FATER ARALL Angen gofyn i’r contractwyr sy’n torri gwair y parc chwarae ger ystâd Y Waun glirio’r gwair ar ôl ei dorri yn lle ei adael ar y ddaear. Cytunwyd i ymestyn rhentu’r rhandiroedd i gynnwys Talsarnau a Llanbedr; hefyd cytunwyd i adael i Judith Strevens a Ms Paula Ireland ddelio gyda rhentu’r rhandiroedd ar ran y Cyngor. Cafwyd gwybod bod grant loteri ‘Mannau Gwych yng Nghymru’ ar gael yn fuan, mai’r dyddiad cau am wneud cais oedd Awst 14 eleni, a gofynnwyd a fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn ffurfio partneriaeth hefo gwahanol fudiadau yn y dref. Cytunwyd i wneud hyn. Angen gofyn i Mr Meirion Griffith dorri’r gwair sydd ar hyd y ffordd ger y rhandiroedd, hefyd i dorri o amgylch y coed Nadolig sy’n tyfu gerllaw.

Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirion

PEN-BLWYDD HAPUS ANN YN 70 OED!

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy 13


CASTELL HARLECH

CASTELL HARLECH Fe’i paentiwyd ef gan gelfydd law, Ac enaid bardd gymysgai’i liw; Is haen o niwl ar graig uwchlaw Saif castell llwy tan henaint gwyw: Fe’i codwyd gynt mewn bard a thrais, Er rhwymo’n hil yn hual Sais. Heibio i’r niwl tyr golau’r wawr Yn ddisglair ar Ardudwy deg: A thywyn byw oleua lawr Y llain fu gynt yn drostain rheg: O gofio’i droi yn llys y salm Fe lif o’m darlun hedd a balm.

Ceir llawer o hanesion a thraddodiadau am y castell gwych a hardd hwn yn ne Gwynedd. Mae ei safle’n uwch na’r un o gestyll eraill Cymru, ac eithrio darn o Ddinas Brân. Bu i ddarganfyddiad arfau ac arian Rhufeinig yn y gymdogaeth ei gwneud yn debygol fod y castell wedi bod unwaith ym meddiant y Rhufeiniaid. Mae’r hanes cyntaf amdano’n dyddio’n ôl i’r amser pan yr oedd Brân Fendigaid a’i ferch Bronwen yn byw ynddo. Dywedwyd am y Brân hwnnw ei fod yn un o dri brenin Gwynfydedig Prydain, a’i fod wedi treulio saith mlynedd o garchar yn Rhufain fel gwystlddyn am ei fab, Caractacus, a’i fod yno wedi dysgu gwirioneddau mawr yr Efengyl. Pan ddychwelodd i Brydain yr oedd Brân yn un o’r rhai cyntaf i bregethu’r grefydd newydd o heddwch, a thrwy hynny cafodd y teitl o ‘Fendigaid’. Priododd ei ferch Bronwen bendefig Gwyddelig o’r enw Mathallwch. Tybir fod Harlech, neu Tŵr Bronwen fel y gelwid ef y pryd hynny, yn lle pwysig yr adeg honno, gan ei fod yn amddiffyn y fynedfa i’r traethau, ac yr oedd cyd-ymddiddan parhaus rhyngddo â Chastell Cricieth ar y traeth gyferbyn ag ef. Cafodd Castell Harlech ei ehangu a’i gryfhau yn y chweched ganrif gan y rhyfelgar Maelgwyn Gwynedd, Tywysog Gogledd Cymru. Cafodd enw newydd yn y ddegfed ganrif, Caer Collwyn, pryd yr ehangwyd ef yr ail waith gan Collwyn ap Tangno, Arglwydd Ardudwy. Dechreuwyd adeilad costfawr yn Harlech yn 1283, o dan Iorwerth I, oddi wrth gynlluniau Henry de Elfreton, pensaer cestyll

14

Caernarfon, Conwy, ac eraill. Cafodd y castell ei orffen tua Tachwedd 1284. Yn 1401 yr oedd nifer o weithredoedd dewr yn digwydd yn Harlech. Yr oedd Owain Glyndŵr yn dechrau rhyfela’n agored â’r Brenin Harri IV. Yn Nhachwedd 1401, pan yr oedd y Brenin a’i sylw ar ddynion yr ochr draw i’r terfyn, gwnaeth Glyndŵr ruthr eofn ar Harlech, yr hwn a achubwyd i Harri drwy ddyfodiad 500 o filwyr o Gaer. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cymerodd Glyndŵr y cyfle, pan oedd Harri IV yn rhyfela byddinoedd unedig yr Albanwyr a’r Ffrancwyr, i amgylchu Harlech. Yn niwedd 1403 rhifai ei amddiffynwyr 26 o ddynion yn unig, ac yr oedd y dynion mor amheus o’u harweinydd fel y’i gosodwyd ganddynt dan glo. Yn Ionawr y flwyddyn ddilynol nid oedd ond 16 yn ei ddal. Gwnaed cais am gymorth o Gricieth a Chonwy, ac yn ddiweddarach anfonodd Harri IV longau i geisio eu cynorthwyo o’r môr, ond yn y cyfamser yr oedd Owain Glyndŵr wedi gwneud cytundeb â’r rhai oedd yn y Castell, a chymerodd y Castell dan ei ofal yn 1414, ac yno y trigodd ei wraig, ei ddau fab hynaf, Gruffydd a Meredydd, a’i frawd ieuengaf Tudor, a’i frawd yng nghyfraith, John Hammer, Edmund Mortimer a’i deulu, Rhys Gethin, yr hwn yr oedd pobl de Cymru gymaint o’i ofn, a lliaws o rai eraill. Hefyd yr oedd yno feirdd, a’r enwocaf oedd Gruffydd Llwyd, neu Iolo Goch fel y’i hadnabyddid. Saif y Castell yn gryf a chadarn fel cawr hyd heddiw. W Arvon Roberts

I’w llecyn mwy daw gweision trad, Mewn syched gwir am winoedd Dysg; O’r pwll a’r fferm, a chwarel gwlad, A’u serch i’w gwlad fel fflam a lysg: Tyrd, Elis a’th ‘sbienddrych’ hir A gwêl y gobaith dardd o’th dir.

Deffro’n wir, fardd, o’th hirfaith “gwsg” A thyrd am dro i’r fangre fwyn; Mae cerddi’n hwyr mor bêr â’r mwsg, Ac iaith dy hil fel eos llwyn A gweledigaeth ddaw i ti Am euraid oes ein cenedl ni! John Rhys (Hymyr), 1934

Cyfrol hardd i gofio Hedd Wyn gan Robin Gwyndaf Yn cynnwys detholiad helaeth o’i gerddi difyr a dwys, ac atgofion cofiadwy rhai o gyfeillion hoff y bardd. Clawr caled; 400 tudalen; 160 o luniau. £14.95. Y Lolfa Lawnsiad: Eisteddfod Môn, Pabell y Cymdeithasau 1 Dydd Gwener, 12 Awst 2017, am 1.00 pm


H YS B YS E B I O N

Cefnogwch ein hysbysebwyr

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

E B Richards

Llais Ardudwy

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

GERALLT RHUN

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY

Y Fagloriaeth Gymreig - Her Menter Fel rhan o’u hastudiaethau ar gyfer Her Menter y Fagloriaeth Gymreig bu disgyblion B11 yn cynllunio mentrau er mwyn gwerthu nwyddau a chynnyrch amrywiol. Roedd yn bleser gwahodd Eluned Yaxley, Uwch Swyddog Codi Arian Tŷ Gobaith, i’r ysgol yn ddiweddar i dderbyn siec am £207.73 gan Osian Toohill a Lois Williams, sef yr elw a gasglwyd o’r gwerthiannau.

ganddo i’r disgyblion wrth iddynt drosglwyddo i addysg ôl 16 neu fyd gwaith. Roedd y disgyblion wedi trefnu eitemau o adloniant eu hunain i ddiddanu pawb ac, ar ôl y seremoni, cafodd pawb fwynhau bwffe a baratowyd gan staff y gegin. Cyflwynwyd tair gwobr arbennig yn ystod y pnawn - Gwobr Goffa Elfed Evans ar gyfer rhagoriaeth yn y byd chwaraeon i Cadi Roberts gan y Cynghorydd Gareth Thomas, Gwobr Dyfalbarhad i Justin Williams gan y prifathro a Gwobr Goffa Colin Palmer ar gyfer rhagoriaeth yn y maes celf i Henry Ruffy, gan Maureen Blower, gweddw y diweddar Colin Palmer oedd yn athro celf yn Ysgol Ardudwy am nifer o flynyddoedd. Dymunwn bob dymuniad da iddyn nhw yn eu harholiadau TGAU a chyrsiau BTEC, ac i’r dyfodol.

Cystadleuaeth Beicio Mynydd 5x60 Llongyfarchiadau mawr i Emily Hughes, Iona Lewis ac Elan Rayner am ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth tîm yng nghystadleuaeth Beicio Mynydd 5x60 Gogledd Cymru yn Nant Bwlch yr Haearn. Daeth Emily ag Elan yn gyntaf yn eu rasys unigol gyda Iona yn ail.

Cystadleuaeth Fathemategol yr Urdd a’r Gymdeithas Wyddonol Llongyfarchiadau i Ellis Dafydd Lloyd Jones a Rhys Gruffudd Jones, B8 sydd wedi cyrraedd safon uchel iawn yng nghystadleuaeth fathemategol yr Urdd a’r Gymdeithas Wyddonol yn yr Eisteddfod eleni. Derbyniodd y ddau dystysgrif, llyfr posau Posau Pum Munud a phos mathemategol i gydnabod eu camp. Seremoni Cyflwyno Ffeiliau Cynnydd Daeth rhieni a chyfeillion y disgyblion at ei gilydd i ddathlu eu cyfnod yn yr ysgol, ac ymhyfrydu yn eu llwyddiannau yn academaidd ac yn gymdeithasol. Cyflwynwyd y ffeiliau eleni i’r disgyblion gan y Cynghorydd Gareth Thomas o Benrhyndeudraeth. Cafwyd araith a chyngor pwrpasol

16

Gwobr Rheilffyrdd Cymunedol Mae bron i 12 mis wedi mynd heibio ers i’r ysgol fabwysiadu Gorsaf Harlech. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’r disgyblion yn brysur yn peintio, tacluso a garddio. Mae grŵp o ddisgyblion B7 yn ymweld â’r orsaf yn wythnosol er mwyn sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal yno. Roedd yn bleser mawr i ddysgu bod gwaith caled y disgyblion wedi cael ei gydnabod gan Trenau Arriva Cymru sydd wedi enwebu gwaith yr ysgol ar gyfer Gwobr Rheilffyrdd Cymunedol y Gymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol. Mae’r Gymdeithas yn cefnogi grwpiau a phartneriaethau yn y gymuned sy’n cysylltu eu cymuned gyda’r rheilffordd ac yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad disgyblion yn Ysgol Ardudwy. Llwyddiant Athletau Dan Do Yn dilyn eu perfformiadau gwych yng nghystadleuaeth Athletau Dan Do Eryri yn ystod tymor y gwanwyn, cafodd Bethany Doughty a Llio Henshaw eu dewis i gystadlu gyda Tîm Athletau Dan Do GogleddOrllewin Cymru mewn cystadleuaeth Cymru gyfan yng Nghwmbrân. Daeth Tîm Gogledd-Orllewin Cymru yn fuddugol ac o ganlyniad bu’r Tîm yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth derfynol Athletau Dan Do y Deyrnas Unedig ym Manceinion ddiwedd mis Ebrill. Cafodd Bethany a Llio brofiadau anhygoel wrth gystadlu ar lefel genedlaethol yng Nghymru a thu hwnt. Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.