Llais Ardudwy
ELUSEN Y CAPTENIAID
RHIF 476 - GORFFENNAF 2018
Myfanwy jones yn derbyn y siec ar ran Ymchwil Canser Gogledd Cymru
50c
DANGOS LLUNIAU
Yn ddiweddar, cyflwynwyd siec am £1370 i Ymchwil Canser Gogledd Cymru a siec arall am £1370 i’r Ambiwlans Awyr gan gapteiniaid Clwb Golff Dewi Sant, Edwin Jones a Diane Lamkin.
GWOBR ARALL I ARWYN
Llongyfarchiadau i Arwyn Williams, Tŷ Newydd, Ynys ar ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth y gwanwyn y rhaglen deledu ‘Heno’. Mae wedi ennill tair gwobr ar y rhaglen yn weddol ddiweddar. Fe gofiwch i ni ddangos ei lun o’r hydref yn Llais Ardudwy eisoes. Daeth y llun isaf yn drydydd yng nghystadleuaeth y gaeaf.
Morfudd, Mari Wyn a Hefin Lloyd mewn arddangosfa o luniau Mari Wyn ar ddiwedd ei chwrs yng Ngholeg Caer eleni. Bu Mari yn canolbwyntio ar luniau o ardal Llanbedr a bydd arddangosfa ohonyn nhw yn Neuadd Nantcol ar Gorffennaf 17 ac 18, rhwng 3.00 a 7.00 o’r gloch. Edrychwn ymlaen yn awchus i weld y lluniau!
PÊL-RWYD Rhoi ein traed i fyny o flaen y tân yn gynnes wna y rhan fwyaf ohonom ni ar ddiwrnod oer yn y gaeaf pan mae’r wlad i gyd yn wyn dan eira. Ond nid dyna syniad Arwyn Williams o dreulio ei amser hamdden. Yn hytrach, bydd Arwyn yn anelu am gopaon Eryri, gyda’i gyd-gerddwyr, beth bynnag fo’r tywydd. Fel y tystia ei luniau gwych o’r mynyddoedd, mae Arwyn yn gerddwr ac yn ddringwr profiadol iawn ac wedi cyrraedd bron pob copa yn Eryri erbyn hyn. Pob hwyl iddo ar ei deithiau ac edrychwn ymlaen am weld rhagor o’i luniau trawiadol o’r wlad o’i gwmpas. Gallwch ddilyn hanes ei deithiau ar ei dudalen Facebook. Edrychwn ymlaen am weld ei lun o’r haf ar ‘Heno’ eto cyn bo hir! Pob lwc i ti Arwyn. Bu tîm pêl-rwyd Harlech yn cystadlu yng nghystadleuaeth Tarian Coffa Glesni yn Dolgellau ym mis Mehefin. Er na ddaethon nhw i’r brig, bu’n brofiad da iddyn nhw fel tîm gweddol newydd. Mae croeso i ferched o bob oed ddod i’r sesiynau ymarfer pob nos Lun rhwng 7.00 ac 8.00 yn Neuadd Chwaraeon Ardudwy.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Awst 31 am 5.00. Bydd ar werth ar Medi 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Awst 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook
@llaisardudwy 2
Enw: Huw Gruffydd Roberts Gwaith: Wedi ymddeol ers 1984 ac yn Brifathro Ysgol Gynradd Corwen cyn hynny. Cefndir: Fe’m ganwyd yn Nyffryn Ardudwy yn Ty’n y Bryn, ac yna byw yn Gwelfor. Fy rhieni oedd William a Mary Roberts ac roedd gen i bedair chwaer - May, Beti, Dilys a Gwyneth! Bûm yn y Coleg Normal, Bangor gan ddysgu yn Ninbych, Llanuwchllyn, Melin y Wig a Glyndyfyrdwy. Ar ôl ymddeol bûm yn mwynhau gweithio fel saer coed. Fy mhriod yw Mari Llewelyn o Forth-y-gest ac rydym wedi bod yn briod rŵan ers 65 o flynyddoedd. Mae gennym ddau blentyn a thri ŵyr. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cadw’n brysur!
Beth ydych chi’n ei ddarllen? Papur newydd yn ddyddiol a nofelau. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Flog it, Mastermind, University Challenge a bydd Radio Cymru ymlaen yn y bore gennym. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw – yn dda iawn diolch. Hoff fwyd? Tatws, cig a grefi. Hoff ddiod? Panad. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu, yn enwedig yr wyrion – mae ganddyn nhw sgwrs fywiog a diddorol. Lle sydd orau gennych chi? Wedi teithio llawer o’r hen fyd yn enwedig efo’r garafan ond does unlle yn debyg i gartre. Lle gawsoch chi’r gwyliau gore? Yn y Swistir – gwlad arbennig. Beth sy’n eich gwylltio? Dim llawer – ar adegau y wraig !
Beth yw eich holl rinwedd mewn ffrind? Ffyddlondeb. Pwy yw eich arwr? Gwynfor Evans. Beth yw eich bai mwyaf? Bwyta gormod o fferins! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael amser gyda’r teulu adre. Beth fuasech yn ei wneud efo £5000? Cael gwyliau da gyda’r teulu i gyd. Beth yw eich holl liw? Glas. Eich hoff flodyn? Rhosyn. Eich hoff gerddor? Beethoven. Eich hoff dddarn o gerddoriaeth? Verdi - y Requiem. Eich hoff ddywediadau? Diarhebion. Sut buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Wedi cyrraedd 92 mlwydd oed, rydw i reit hapus fy myd. Diolch i’m teulu ac i’m ffrindiau.
Huw Roberts yn eistedd gyda Beti, a Mari tu ôl iddo ar ddathliad ei ben-blwydd yn 90 oed.
LLYTHYR Gwersyll yr Urdd Llangrannog Mehefin 2018
Annwyl gyfeillion Hiraethu am hafau hyfryd Llangrannog Ar nos Iau, 9fed o Awst am 5.30yp ym Mhabell y Cymdeithasau (Y Senedd), Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd bydd trafodaeth banel yn rhannu atgofion a straeon am hafau a dreuliwyd yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, boed hynny fel staff, swog neu breswyliwr. Rydym hefyd yn estyn gwahoddiad cynnes i holl ddallenwyr y papur i ymuno yn y sgwrs drwy rannu eu straeon. Croeso i bawb ddod â lluniau ac atgofion a bydd posib i ni gofnodi’r rhain fel rhan o broses archifo’r Urdd. Yn cadeirio fydd Angharad Mair, gyda’r panel yn cynnwys Steffan Jenkins (cyn-gyfarwyddwr y gwersyll), Ian Gwyn Hughes a nifer o gyn-wersyllwyr, swogs, staff ac enwogion eraill. Os hoffech gadarnhau eich presenoldeb, gellir gwneud hynny drwy ebostio llangrannog@urdd.org Fel y gwyddoch efallai, yn 2022 bydd yr Urdd yn dathlu ein canmlwyddiant felly dyma gyfle i edrych yn ôl ac edrych ymlaen ... Diolch Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog
DYDDIADUR Y MIS Pob dydd Iau - Stondin Ambiwlans Awyr Cymru, Gardd Gwynfor a Maureen, Bermo, 9.30 – 4.00 Gorffennaf 7 - Bore Coffi, Hen Lyfrgell, Harlech, 10.00 – 12.30 Gorffennaf 12 - Gyrfa Chwist, Neuadd Talsarnau, 7.30 Gorffennaf 17/18 - Arddangosfa lluniau Mari Wyn, Neuadd Nantcol, 3.00 – 7.00 Gorffennaf 17 - Gyrfa Chwist, Neuadd Goffa Llanfair, 7.00 Gorffennaf 26 - Gig ‘Gastric Banned’ (Ambiwlans Awyr Cymru), Neuadd Dyffryn Ardudwy, 7.30 Awst 1 - Ffair Haf, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 2.00 – 4.00 Awst 5 - Diwrnod Golau Glas, Bermo Awst 11 - Diwrnod Hwyl, Dyffryn Ardudwy Awst 15 - Cystadleuaeth Plant Peintio carreg neu lechen, Eglwys Llanfihangel-y-traethau, 10.00 Awst 16 - 19 - Gŵyl Flodau, Eglwys Llanfihangel-y-traethau Awst 25 - Sioe Arddwriaethol Harlech Medi 7 - Te Cymreig, Neuadd Goffa Llanfair, 2.00 - 3.30 Medi 29 – Trio ac Annette Bryn Parri, Neuadd Talsarnau
Neuadd Gymuned Talsarnau
Noson o Adloniant gyda TRIO AC ANNETTE BRYN PARRI Nos Sadwrn, Medi 29, 2018 Tocyn: £10 Tocynnau ar gael rŵan gan Mai Jones 01766 770757 ac Anwen Roberts 01766 772960 Elw at gostau cynnal y Neuadd Gymuned
RHODD I LLAIS ARDUDWY
Os oes gennych ddigwyddiad i’w gynnwys, a wnewch chi anfon y manylion at Mai Roberts os gwelwch yn dda? Rhif ffôn: 01341 242744 Cyfeiriad e-bost: mairoberts4@btinternet.com
CADW HARLECH YN HARDD Penderfynodd y Cyngor Ysgol yn Ysgol Ardudwy gynnal diwrnod gwisg hamdden er budd dau bapur bro y dalgylch, Llais Ardudwy a’r Wylan, er mwyn cefnogi ymdrechion y ddau bapur i gynnal yr iaith Gymraeg yn yr ardal ac i ddiolch iddyn nhw am gynnal eitemau cyson am yr ysgol yn y papurau. Casglwyd £280 i’w rannu rhwng y ddau bpaur ac yn y llun gwelir Mrs Edwina Evans yn derbyn siec o £140 gan rai o aelodau’r Cyngor Ysgol ar ran Llais Ardudwy.
DYDDIADAU GOSOD 2018
Fel y gŵyr y cyfarwydd, caiff y papur ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf ymhob mis [ar wahân i fis Awst]. Byddwn, fel arfer, yn gofyn am i’r deunydd gyrraedd Haf Meredydd erbyn y dydd Llun cyn y diwrnod gosod. Dyma’r dyddiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:
Nid ydym yn hoffi gweld baw cŵn yn enwedig pan mae unigolyn yn ei gludo i mewn i siopa, cartrefi neu gerbydau. Mae harddwch naturiol Harlech yn cael ei ddifetha gan ychydig o berchenogion cŵn sydd ddim yn glanhau ar ôl eu cŵn neu’n taflu eu bagiau i goed yn lle i’r biniau. Mae’r ymgyrch “Cadw Harlech yn Hardd” yn cael ei lansio gan Joe Patton sy’n byw yn Harlech. Mae’r ymgyrch yn anelu at ennill calonnau a meddyliau pobl i lanhau baw cŵn a defnyddio’r biniau priodol. Mae cynllun lleol yn cefnogi’r ymgyrch ac maent wedi darlunio lluniau sydd yn dangos harddwch naturiol Harlech. Mae rhai wedi cael eu dewis fel poster gyda’r neges “Cadwch Harlech yn Hardd”, ac yn gofyn i berchenogion cŵn ddarllen gwybodaeth ar wefan y cyngor cymuned. Mae’r wefan yn dangos lle mae biniau gwastraff cŵn ac yn esbonio effeithiau baw cŵn ar yr amgylchedd. Mae ymgyrch ‘Cadw Harlech yn Hardd’ yn rhedeg rhwng dydd Llun, Gorffennaf 16 a dydd Gwener, Medi 7.
NEWYDDION I LAW
GOSOD Y PAPUR
PAPUR AR WERTH
Awst 27 Medi 24 Hydref 29 Tachwedd 26
Awst 31 Medi 28 Tachwedd 2 Tachwedd 30
Medi 5 Hydref 3 Tachwedd 7 Rhagfyr 5
Byddwn yn cymryd hoe fach dros yr haf. Diolch am bob cymorth.
TREIALU BWS BACH Gwennol
Deallwn y bydd Cyngor Gwynedd a phartneriaid eraill yn treialu bws bach i deithio o faes parcio Min-y-don i Faes Parcio Bron-y-graig yn Harlech yn ystod yr haf eleni. Gobeithir mesur effaith y bws ar fusnesau lleol yn y gobaith y gall y gymuned gyfrannu at y gost yn y dyfodol. Mae’r newyddion i’w groesawu’n fawr.
3
LLANFAIR A LLANDANWG CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Ysgol Llanfair
Rhes gefn Greta Parry (Bunn), Clayton Palmer (y diweddar), Wendy Griffiths, Penlan, Naomi McKenzie, Marian Evans, Maes yr Aelfor, Mair Hall, Ann Naylor Evans, ?, Mr Richard Evans Ail res o’r cefn Andy Unwin, Tim Unwin, Beth Jones (y diweddar), Glenys Jones, Sharon Hughes (Dodd), Linda Richards, Foel, Carol Grace, Susan Lumb, Heulwen Haf Evans (Hall), , Tyddyn y Felin, Nia Medi, Fiona McKenzie, Belinda Chambers, Jonathan McKenzie, 3ydd rhes Julie Grace, Santina Jones,Tudor Jones, Sally Unwin, Michelle Halewood, Nerys John, Angela Halewood, Gareth Jones, Rhes flaen Emyr Evans, Gordon Jones, David Jones, Michael Grace, Catherine Williams, Carol Jones. Llun drwy garedigrwydd Bethan Ifan, merch y diweddar Mr Richard Evans Merched y Wawr Harlech a Llanfair Cafwyd tri chyfarfod yn ystod mis Mehefin. Yn gyntaf y cyfarfod blynyddol, pryd y cafwyd adroddiadau am waith y flwyddyn gan y Hefina, Eirlys a Janet. Diolchodd y dair i’w cyd-swyddogion am eu cydweithio yn ystod y flwyddyn. Swyddogion y tymor nesaf fydd Llywydd - Bronwen, Is-lywydd - Eirlys, Ysgrifennydd - Janet, Trysorydd - Ann gyda phob aelod ar y pwyllgor. Paratowyd danteithion gan Hefina, Eirlys a Bronwen. Trefnwyd i gyfarfod mewn wythnos i ddechrau paratoi rhaglen y tymor nesaf. Ar y 12fed o’r mis cynhaliwyd cyfarfod gyda’r swyddogion newydd. Croesawyd pawb i’r pwyllgor gan Bronwen. Llongyfarchwyd y criw o feicwyr ar eu camp o seiclo 270 milltir gan godi arian at Awyr
4
Las, hefyd i ‘Ddisgyrchiant’ o Aelwyd Ardudwy a ddaeth yn ail allan o bedwar ar ddeg o grwpiau yn y gystadleuaeth Dawnsio Hip Hop. Ymlaen wedyn i geisio trefnu rhaglen at ddant pawb y tymor nesaf. Erbyn hyn gellir dweud y bydd cyfarfod cyntaf y tymor ar nos Fawrth, Medi’r 4ydd. Disgwylir Carol Llywelyn Jones atom gyda’i ‘Ffatri Jam’. Bydd croeso i gyn-aelodau ac aelodau newydd. Hefyd bydd y Te Cymreig yn cael ei gynnal eleni ar brynhawn Gwener Medi 7. Ar nos Fawrth y19eg o’r mis aeth saith aelod draw i’r Bermo. Ar ôl pryd blasus yn y Last Inn, cafwyd cyfle i sgwrsio gyda rhai o’r gangen y Bermo oedd hefyd yn gwledda. Aeth rhai am dro ar hyd y cei cyn ei throi am adra a phawb wedi mwynhau’n fawr.
Ethol Swyddogion 2018/19 Cadeirydd: Eurig Hughes Is-gadeirydd: Russell Sharp Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £3,883.80 - hanner y cynnig praesept Adroddiad y Trysorydd Adroddodd y trysorydd ei bod wedi bod yn ymweld â’r Archwiliwr Mewnol, ei bod wedi cael adroddiad da a bod y llyfrau i gyd mewn trefn a’r cyfrifon yn gywir. Ysgol Ardudwy Derbyniwyd llythyr gan y pennaeth yn gofyn a fyddai’n bosib i rai o ddisgyblion B9 wneud gwaith cymunedol fel rhan o’u hwythnos weithgareddau ar yr 11eg a 12fed o Orffennaf. Cytunwyd i ofyn iddyn nhw chwynnu o amgylch y maes parcio. Unrhyw fater arall Angen tynnu sylw at y ffaith fod angen sylw ar y ddwy gamfa sy’n croesi’r lein yng ngwern Argoed. Angen anfon at yr Adran Briffyrdd i dynnu eu sylw at y ffaith fod y coed a dorrwyd ar hyd ochr y ffordd o Argoed i gyfeiriad Pensarn yn aildyfu.
Ynys Enlli
Hoffech chi fynd draw i Ynys Enlli am y dydd? Lle i hyd at 11 y tro ar y cwch - dewch â’ch ffrindiau. Cysylltwch efo Haf i drefnu (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr).
Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Jemma a Chris Stevens, Tŷ Canol, Harlech ar enedigaeth merch fach, Leia Haf, chwaer fach i Harri. wyres i Glenys Jones, Ael y Glyn gynt ac i taid a nain Bermo, Stan a Christine Stevens, Marine Gardens, y Bermo, a gorwyres i Gladys Jones, Llanfair Rhodd £5
Merched y Wawr Harlech a Llanfair
Cofiwch am y Te Cymreig yn Neuadd Goffa Llanfair ar Medi 7 o 2.00 tan 3.30
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Côr Meibion Ardudwy Roedd 31 o aelodau yn yr ymarfer yn ddiweddar. Dyma’r nifer mwyaf fu yn y côr ers degawdau! Bu’r Côr yn canu yn neuadd fawr San Siôr [St George’s Hall] yn Lerpwl yn ddiweddar gan aros noson yn y ddinas. Cafwyd cyngerdd cofiadwy iawn a gwrandawiad astud gan gynulleidfa niferus. Aeth rhai o’r gwragedd ar y daith a mwynhau orig yn siopa yn y ddinas. Bu’r Côr yn diddanu yn y Clwb Golff yn Harlech yn ddiweddar ac mewn cyngerdd ar y cyd â Meibion Dwyfor a Chanami-gei yn Neuadd Dyffryn ar Mehefin 24. Cytunodd y Côr i deithio i ardal Willenhall ger Wolverhampton i gynnal cyngerdd ganol mis Medi. Mae’r aelodau wrth eu bodd yn cael teithio’n bell i gyngherddau mawrion. Yn 90 oed Dymunwn yn dda i Mrs Kathleen Roberts, Y Felin. Bu iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ar 18 Mehefin, a gobeithio ei bod yn teimlo’n well. Mae un arall o hen blant Llanbedr yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 ym mis Gorffennaf sef Mrs Megan Jones, Pwllheli (o Gilfach gynt). Mae hi’n derbyn Llais Ardudwy ers blynyddoedd; dymunwn yn dda iddi hithau. Garddwest Bu Susanne Davies yng Ngarddwest Palas Buckingham ar wahoddiad y Frenhines. Bu Susanne yn gweithio ym myd addysg ers 40 o flynyddoedd. Llongyfarchiadau mawr iddi a diolch am wasanaeth clodwiw.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch GORFFENNAF Capel y Ddôl 8 Miss Glenys Roberts 15 Parch Patrick Slattery MEDI 2 Parch R O Jones Capel Salem GORFFENNAF 15 Parch Dewi Tudur Lewis Marwolaeth Bu farw Mrs Myfanwy Wannop, Llwyn Ithel, ar Mehefin 9 yn Ysbyty Dolgellau, ar drothwy ei phen-blwydd yn 92 oed. Bu gwasanaeth ei hangladd yn Eglwys Sant Pedr ac fe’i rhoddwyd i orffwys ym mynwent Capel y Ddôl ar ddydd Mercher, Mehefin 20. Cydymdeimlwn â’i phlant Heather, Minette ac Arthur a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Bu Myfanwy’n weithgar iawn yn Nheulu Artro fel ysgrifennydd am flynyddoedd lawer. Y gog Roedd y gog yn canu yng Nghoed Uwchlawrcoed am 10 o’r gloch nos Wener, Mehefin 22 – tybed oedd hi’n ffarwelio am flwyddyn arall?
ARDDANGOSFA Gwaith ffotograffiaeth Cwrs BA gan
Mari Wyn
MAE’R PARC EICH ANGEN CHI! Oes gennych chi syniadau a barn am sut mae gwella a gwarchod Parc Cenedlaethol Eryri? Mae’r Awdurdod yn awyddus i glywed oddi wrth y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma er mwyn creu cynllun rheolaeth newydd o’r enw ‘Cynllun Eryri’. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr amgylchedd, iechyd a lles, yr economi a chymunedau ac fe fydd yn dylanwadu ar fywyd yn y Parc am flynyddoedd i ddod. O hyn hyd at diwedd Medi, bydd pawb sydd eisiau cyfrannu at y cynllun yn gallu dweud eu dweud er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn creu cynllun terfynol fydd yn gallu gwneud y gorau o fyw, gweithio, gofalu am, ac ymweld â’r Parc gan ddefnyddio’r adnoddau a’r cyllid sydd ar gael yn y modd gorau posib. Mae dogfen ymgynghori wedi cael ei pharatoi er mwyn sbarduno pobl i gyfrannu i’r broses bwysig yma. Gallwch chi gyflwyno eich sylwadau trwy nifer o ffyrdd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd teithiol gaiff eu hysbysebu trwy gydol yr haf, y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan sef www.eryri.llyw.cymru, neu drwy anfon llythyr i sylw’r Awdurdod yn y pencadlys ym Mhenrhyndeudraeth. Meddai Owain Wyn, Cadeirydd yr Awdurdod, ‘Pobl Eryri yw dyfodol y Parc a bydd eu cyfraniad i’r Cynllun hwn yn dylanwadu ar drywydd y Cynllun a’r hyn y byddwn yn ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.” Manteisiwch ar y gwahoddiad felly. Trwy gydweithio gallwn gyflawni llawer er mwyn sicrhau dyfodol arolesol a chyffrous i’r Parc.
ENGLYN DA
CYMRU, CYMRO, CYMRAEG Mawryga gwir Gymreigydd - iaith ei fam Mae wrth ei fodd beunydd; Pa wlad wedi’r siarad sydd Mor lân â Chymry lonydd? Caledfryn, Parch William Williams 1801- 69
HARLECH TOYOTA
Neuadd Cwm Nantcol Gorffennaf 17 ac 18 3.00 tan 7.00 Croeso cynnes i bawb
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon Blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT TEULU ARDUDWY
Teulu Ardudwy I ddiweddu’r tymor aethom i Westy Bron Eifion yng Nghricieth i gael te pryhawn. Cafwyd gwledd mewn lleoliad hyfryd iawn a phawb wedi mwynhau’n fawr. Roeddem yn falch iawn fod Mrs Cartwright wedi gallu ymuno â ni ac yn meddwl am Miss Lilian Edwards oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar y diwrnod hwn, 20 Mehefin. Byddwn yn ailgychwyn ym mis Medi.
Clwb Cinio Daeth criw da i fwynhau cinio yn Nineteen 57 ar 13 Mehefin. Ni fyddwn yn cyfarfod eto tan fis Medi pan fyddwn yn gobeithio mynd i ymweld â’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Mr a Mrs Dafydd Thomas, Faeldre gynt, yn eu profedigaeth o golli modryb i Mair, sef Mrs Olwen Griffith, gynt o Islaw’rdref ar noswyl ei phen-blwydd yn 100 oed. Trist hefyd oedd clywed am farwolaeth Mrs Edna Jennings, Tŷ Mawr gynt. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei merch, Margaret a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Arthur Jones, Isgoed, sydd yn yr ysbyty.
6
Pen-blwydd Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Miss Lilian Edwards oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 20 Mehefin. Dathlu Cynhaliwyd te prynhawn yn y Neuadd Bentref bnawn Gwener, 22 Mehefin i ddathlu canmlwyddiant Mudiad y Suffragettes. Côr Meibion Ardudwy Cafwyd cyngerdd cofiadwy yn Neuadd Dyffryn ddiwedd mis Mehefin pan ddaeth Côr Meibion Dwyfor, Cana-migei, a Chôr Meibion Ardudwy at ei gilydd i gynnal noson gymdeithasol a chyngerdd. Cafwyd mwyniant hefyd yn gwrando ar yr unawdydd, Treflyn Jones. Trefnwyd y noson gan aelodau Cana-mi-gei ac fe wnaed elw o £500 tuag at yr Ambiwlans Awyr.
HANNER MARATHON
Edna Mary Jennings, Tŷ Mawr, Dyffryn Ardudwy Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ar Fehefin 17eg a chynhaliwyd angladd preifat i’r teulu a ffrindiau agos ar lan y bedd yn y Fynwent Newydd, Dyffryn Ardudwy, ar Fehefin 26ain, 2018, yn ôl ei dymuniad. Gwên siriol oedd ei golud – a gweini’n Ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd; Bu fyw’n dda, bu fyw’n ddiwyd A lle bu hon mae gwell byd. W Rhys Nicholas Diolch Dymuna Margaret, Richard a’r teulu ddiolch o galon am y negeseuon, galwadau ffôn a’r cardiau a dderbyniwyd ar achlysur eu profedigaeth. Diolch i Hilda Harris am wasanaeth hyfryd ar lan y bedd ac i bawb arall a gymerodd ran yn yr angladd. Diolch hefyd i Albert a Susan Groom a fu yn gymdogion ffyddlon a charedig tu hwnt i Mam ar hyd y blynyddoedd. Rhodd £15.00
Yn y llun fe welir Seren Llwyd o Ddyffryn Ardudwy a fu’n cymryd rhan mewn ras hanner marathon yng Nghoed y Brenin yn ddiweddar. Ei hamser oedd 2 awr a 27 munud. Da iawn chdi, Seren.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb
GORFFENNAF 8 Parch Dafydd Rees Roberts 15 Parch Huw John Hughes 22 Anthia a Gwennie 29 Andrew Settatree AWST 5 Anwen Williams 12 Alma Griffiths 19 Huw a Rhian 26 Rhian a Meryl MEDI 2 Parch Carwyn Siddall
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799
www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru Cyhoeddwyd rhestr gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin. Mae hon yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru. Mae’r rhestr yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes. Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr. Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans. Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Rydym yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.” Lansiwyd y rhestr mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.” Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn cymryd sylw o ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw. Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935! Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni. Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: comisiynyddygymraeg/cymru/enwaulleoedd.
Cylch Meithrin Y Gromlech, Dyffryn Ardudwy Llongyfarchiadau calonnog i’r Cylch ar dderbyn canmoliaeth yn eu harolygiad gan Estyn yn ddiweddar. Llawer o ddiolch i bawb sy’n helpu mewn unrhyw ffordd; gyda diolch i’r arweinwyr brwdfrydig sef Anti Lyn, Anti Rachel ac Anti Meinir. Diolch hefyd i’r Pwyllgor gweithgar a chefnogol sy’n gweithio’n ddiwyd yn y cefndir i sicrhau llwyddiant a ffyniant y Cylch.
Mynd am dro o ‘Brethyn Cartref ’, cylchgrawn Sefydliad y Merched - 1979
Deffro yr un amser ag arfer, agor y llenni a sylweddoli mai bore Sadwrn yw. Meddwl am yr hen weinidog yn dweud o’i wely esmwyth un bore oer, wrth wrando sŵn esgidiau cryfion y chwarelwyr yn cyrchu i ddal y trên chwech, i fynd i’r gwaith, ‘Diolch am yr Efengyl.’ Swatio’n ôl o dan y dillad wedi gweld y rhew ar y ffenestr, ond dim eira; troi’r radio ymlaen i gael y newyddion wyth. Eira dros rannau helaeth o Wledydd Prydain, ac i barhau i rewi drwy’r dydd. Efrog Newydd yn llonydd, y lluwchfeydd enfawr yn cadw pawb dan do, y ffatrïoedd yn ddistaw, a llawer heb gynhesrwydd na golau. Mor falch fuasai llawer un o’r tân glo a’r hen lamp olew. Codi, a gobeithio fod y tegell bron â berwi ar y Rayburn; dim byd tebyg i’r paned, yn enwedig yn y bore. Yr haul yn torri trwy’r cwmwl, gwneud hynny o waith sy’n angenrheidiol a phenderfynu cael cinio gweddol gynnar. Bwyta gan ‘Fynd am Dro’ gydag Alun Williams a mwynhau cais gan wraig yn dysgu Cymraeg am Perlau Taf yn canu ‘Mi glywaf dyner lais’. Hyfryd. Hawdd iawn yw eistedd i lawr ar bnawn Sadwrn, taro’r botwm a gwylio chwaraewyr wrthi â’u holl egni, ond gwell heddiw yw defnyddio peth o’m hegni i fynd am dro. Dim cwmwl yn yr awyr a phobman yn ddistaw; yn rhy oer i gân aderyn ac yn rhy gynnar i frefiadau’r oen bach. Croesi’r caeau, ac yna mor swynol cerdded drwy’r carped o ddail tua’r afon. Yr unig sŵn sy’n torri ar draws y tawelwch yw lli gadwyn – mae rhywun yn gofalu am danwydd! Cofio fel y gwyliem yn blant y fflamau o dân coed, a gweld pob math o wynebau ynddyn nhw. Troedio ochr yr afon Sgethin a rhyfeddu at natur. Wedi rhewi yn eithriadol o galed ers nosweithiau, - cerrig yng nghanol yr afon â modfeddi o rew arnynt, y gwellt ar y dorlan fel rhes o ddannedd hirion cribyn. Golygfa na welais mohoni o’r blaen, canghennau a brigau yn crogi uwch y llif mewn câs gwydr trwchus. Hyn yn dwyn i’m cof flynyddoedd yn ôl pan rewai’r glaw fel y disgynnai, brigau yn torri gan bwysau’r rhew, wyneb y tŷ fel grisial a’r buarth yn llyn o rew. Pe buasai gan
Bwyllgor Chwaraeon y Sir eisiau man i sglefrio, ni fyddai gan Ice Rink Cei Connah ddim siawns yn erbyn hwn yn Nhrawsfynydd. Dim ond ychydig filltiroedd sgwâr gafodd y profiad eithriadaol hwn. Tybed a oes rhywun yn cofio’r flwyddyn? Gresyn nad oedd tryloywderau yn bethau cyffredin y dyddiau hynny. Ymlaen at yr hen bont yr arferai’r porthmyn gerdded eu da drosti ar eu ffordd i Loegr, wedi aros y nos yn Llety Lloegr. Y mistar yn cysgu yn y tŷ a’r gweision yn gwylio’r anifeiliaid yn y corlannau gerllaw. Busnes oedd iddyn nhw, ond pleser oedd i wraig a gerddai bron bob dydd, nes ei bod bron yn 83 oed, o Dal-y-bont i fyny’r llethrau a throsodd i Lyn Penmaen. Mae carreg i’w choffau ar ochr y llwybr. Mam oedd hi i un a fu’n Esgob Winchester. Mynd yn hŷn ond ddim yn hen. Ar y garreg y mae’r geiriau: Gogoniant i Dduw To the enduring memory of JANET HAIGH who even as late as her Eighty-fourth Year Despite dim sight and stiffened joints still loved to walk this way from Tal-y-bont to Penmaenpool This stone was placed in 1953 by her son MERVYN sometime BISHOP OF WINCHESTER Courage Traveller Y lluwchfeydd yn dal ar y Moelfre; rhaid cael rhagor o eira i fynd â hwn i ffwrdd medd yr hen air. Troi dros y ffridd i olwg Bae Ceredigion. Llanw a thrai mawr mae’n sicr, neu ni fyddai Sarn Badrig, a droellai am filltiroedd i’r môr, i’w gweld mor glir. Bu hon yn ddiwedd i aml gwch bach tra yn ei chroesi ar y glasfor, a chred eraill mai mur Cantre’r Gwaelod ydyw. Eryri fel mynyddoedd yr Alpau yn glaerwyn, a’r eira yn mynd yn llai ac yn llai ar eu copaon nes cyrraedd gwlad Llŷn. Pasio heibio Cors-y-gedol, plasdy hynafol a chartref William Vaughan a fu ar un adeg yn Aelod Seneddol. Yr eirlysiau yn fantell wen yn y coed a braf yw gweld cynffon oen bach yn dechrau agor. Os yw hin Chwefror yn eithriadol o oer eleni, dengys rhain fod y gwanwyn ar y trothwy. Cyrraedd yn ôl a gobeithio fod y tegell ar ferwi, a diolch am gael mwynhau natur yn ei ogoniant ym Mro Ardudwy. Gretta Cartwright
7
Cynefin Cymraeg
CYNGOR CYMUNED HARLECH
– annog defnydd o’r iaith yn y maes awyr agored
Cwm Idwal Yr haf yma bydd dwy o fentrau iaith y gogledd, ar y cyd gyda phartneriaeth amgylcheddol yn trefnu cyfres o deithiau maes fydd yn cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn eu gwaith yn y sectorau amgylcheddol ac awyr agored. Rhwng Mehefin a diwedd Medi bydd Partneriaeth Cwm Idwal, partneriaeth a ffurfiwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i warchod a rheoli’r Cwm yn cynnal pedair taith maes yn y Cwm ar themâu sy’n cynnwys bioamrywiaeth, daeareg, hanes enwau lleoedd ac agweddau ar dwristiaeth a rheolaeth. Targedir y teithiau at unigolion sy’n ennill bywoliaeth neu’n gwirfoddoli yn y sectorau awyr agored neu amgylcheddol sy’n byw yn siroedd Conwy a Gwynedd. Meddai Guto Roberts, Warden Partneriaeth Cwm Idwal: “Mae’r sectorau awyr agored ac amgylcheddol yn tyfu, mae’n allweddol ein bod yn gofalu fod yna ddigon o bobl sy’n gweithio yn y meysydd hynny nid yn unig yn siarad Cymraeg ond hefyd yn ei defnyddio o ddydd i ddydd yn eu gwaith. “Mae Cwm Idwal yn cynnig ei hun yn berffaith fel ystafell ddosbarth awyr agored i ni ddehongli pob agwedd ar dirwedd, planhigion, bywyd gwyllt a threftadaeth ieithyddol y rhan yma o Eryri i bobl sy’n gweithio yn yr awyr agored.” Hyrwyddir y teithiau gan Fenter Iaith Conwy a hunaniaith y fenter iaith yng Ngwynedd. Dywedodd Ifan Llewelyn Jones, Swyddog Datblygu Iaith hunaniaith: “Un o amcanion y mentrau iaith ydi annog mwy o siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn y gweithle.” Os hoffai unrhyw un sy’n gweithio, neu’n gwirfododli yn y sectorau awyr agored neu amgylcheddol, yn byw yn siroeodd Gwynedd neu Conwy fwy o wybodaeth dylent ebostio Guto.Roberts@ nationaltrust.org.uk
Cwm Idwal yn y gaeaf
8
Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau’r Cyngor i Freya Bentham am ennill y wobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn yn ystod wythnos fusnes Gwynedd. Yn yr un modd, llongyfarchwyd Elfyn Anwyl a’i gyd-deithwyr am gwblhau’r daith feiciau o Harlech i Iwerddon yn ystod yr wythnos ddiwethaf a chasglu arian tuag at elusen Awyr Las. Diolchodd Elfyn Anwyl am y rhodd ariannol hael a gafwyd gan y Cyngor tuag at y daith hon. Coleg Harlech Croesawyd Michelle Kerswell o Dysgu Oedolion Cymru [DOC] i’r cyfarfod er mwyn trafod yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd ar safle’r Coleg a’r Theatr wedi i’r ddau le gau. Nododd bod diddordeb gan brynwr yn Wern Fawr a bod DOC yn gweithio hefo’r asiant ar hyn o bryd, hefyd eu bod wedi gwneud y lle’n ddiogel. Hefyd bod y Llyfrgell Genedlaethol yn cydweithio i gofrestru’r llyfrau oedd yn Llyfrgell y Coleg. Gofynnwyd beth oedd yn digwydd hefo’r adeiladau rŵan eu bod yn wag a datganwyd ganddi bod y Swyddog Diogelwch yn ymweld â’r safle yn rheolaidd ac yn rhoi’r mesurau angenrheidiol ar waith. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn ateb oddi wrth Mr Mark Baines ynglŷn â DOC yn cyflwyno’r seddi cyhoeddus oedd o amgylch y Coleg i’r dref a’i fod wedi cytuno i hyn ac y byddai’n cysylltu’n fuan i wneud trefniadau. Hefyd gofynnwyd i Mrs Kerswell a fyddai’n bosib i’r Cyngor Cymuned gymryd drosodd Penygraig yn gyfan gwbl gan gynnwys llwybr y geifr a datganwyd ganddi y byddai’n gwneud ymholiadau ynglŷn â’r mater yma. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu estyniad unllawr a gosod to llechi a gwydr - Min y Don, Ffordd Glan y Môr, Harlech Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Clwb Beicio Ardudwy Gofynnwyd a oedd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â’r newidiadau i gynnwys trac aml bwrpas ar gae chwarae Brenin Siôr ac yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor ynghyd â chyfraniad at hyn. Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi’r cynllun yma, hefyd i gyfrannu tuag ato pan fydd angen. Grŵp Parciau Cymunedol Harlech Mae’r grŵp uchod yn gofyn a fyddai’n bosib codi cysgodfan ar gae chwarae Brenin Siôr fel bod yna le i blant a phobl ifanc ymgynnull gyda’r £5,000 mae’r Cyngor Cymuned wedi ei glustnodi ar eu cyfer, neu os na fydd y Cyngor yn fodlon â hyn, byddant yn gwario’r arian ar ddarparu llwybr i bobl gydag anableddau i’r ardal chwarae, hefyd trwsio’r ffens ar hyd ochr y cae. Cytunwyd yn unfrydol y byddai’n well gan y Cyngor weld y £5,000 yn cael ei wario ar ddarparu llwybr i bobl gydag anableddau a thrwsio’r ffens oherwydd roedd ganddyn nhw bryderon ynglŷn â gosod cysgodfan ar y cae.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau’r Cyngor i: Arron Tregenza ar gael ei ddewis i gynrychioli Cyngor Gwynedd i hwylio o Lerpwl i Ddulyn ac wedyn i Gaerdydd. Kieron Thomas ar ennill Pencampwriaeth UBA Prydain gyda bocsio. Rachel English o salon gwallt y Castell ar ennill Salon y Flwyddyn, hefyd i London House ar ennill gwobr Selsig y Flwyddyn. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd tir o gae chwarae i faes parcio - Cae Chwarae Llidiart. Datganwyd buddiant yn y cais hwn oherwydd mai’r Cyngor oedd wedi cyflwyno’r cais i’r Parc Cenedlaethol ac ni drafodwyd y cais. MATERION YN CODI Datblygu Maes Parcio Derbyniwyd copi o’r cais cynllunio ynglŷn â’r datblygiad uchod, hefyd llythyr gan Mr a Mrs Mart yn gwrthwynebu’r cais cynllunio i ddatblygu’r uchod oherwydd eu bod o’r farn bod defnydd da yn cael ei wneud o’r parc chwarae, hefyd oherwydd bod dau faes parcio yn y pentref eisoes. Cyfarfod Blynyddol Un Llais Cymru - Llanbedr 23.5.18 Mynychodd y Cadeirydd y cyfarfod uchod ar ran y Cyngor. Roedd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Mr Dilwyn Williams, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng Dafydd Meurig, yn bresennol i drafod cydweithio a throsglwyddo mwy o gyfrifoldebau i’r Cynghorau Cymuned.
STRAEON AR THEMA
gwraig y tŷ yn enwog am edrych ar ôl y ceiniogau. Minnau yn benderfynol o werthu’r gacen ffrwythau olaf oedd ar y fan cyn troi am adref. Mawr fu’r brolio am y gacen nes i’r wraig ildio a dweud ‘olreit, dewch â hi, does dim raid ei bwyta ond mi fydd yn dyna gynnig dangos sut roedd y edrych yn neis ar y bwrdd.’ ci yn gweithio. Roedd rownd fy nhad ar ddydd Dyma’r ffermwr yn cychwyn efo Llun yn gorffen mewn lle ‘cer rownd’ ac mi wnaeth y ci ei waith yn daclus gan hel y ddiadell delfrydol iawn, sef yr enwog i gyd at ei gilydd yn un cylch. Fel erbyn hyn, Dafarn Sinc ger roedd y ci yn anelu at y cylch, mi Maenclochog. Yr adeg hynny waeddodd y ffermwr ‘Cut in half’ adnabyddwyd y lle fel y Precelly ac, wrth gwrs, dyna a wnaeth y ci, Hotel, Rosebush. Diddorol fod tystysgrif priodas Tri sgarff sef torri’r ddiadell yn ei hanner Waldo yn dangos y Precelly Hotel Rhai blynyddoedd yn ôl bellach yn ôl ei arfer. A choeliwch neu fel ei gyfeiriad. Fodd bynnag, roedden ni ar un o’n teithiau i beidio, mi werthwyd y ci! yn ôl at y rownd fara! Byddai’r Galway. Phil a Jack Carson a PM dafarnwraig yn dod allan i gael ei minnau yn rhannu llofft yng nwyddau cyn ein gwahodd i fewn Ngwesty’r Imperial. Dwi’n cofio Siop elusen am beint! Er mwynhau peint ar i mi ddychwelyd i’r gwesty Mae Gwenan, fy merch, yn sgut wedi cael bargen ar dri scarff am am godi bargeinion mewn siopau ddiwedd rownd arall, rhaid oedd gwneud syms a llunio bil am y 9 punt (arian Iwerddon y pryd) elusen. Un diwrnod, roeddem nwyddau. Ni ddisgwylid i’r ‘peint hy tair punt yr un. yn cyfarfod â Nia am baned ym ar y tŷ’ arwain at ddisgownt! Gofynnodd Jack imi lle y cefais Mhorthmadog. Mi ofynnodd Ray Owen nhw. Nia i Gwenan lle roedd hi wedi ‘Dos allan o’r gwesty a throi i’r prynu’r top roedd hi yn ei wisgo. dde i’r siop rownd y gornel.’ Mynd i brynu mochyn. ‘Mewn siop elusen yn Port.’ Ymhen hir a hwyr daeth Jack yn Dyma Nia yn dechrau chwerthin Mis Tachwedd. 12.30. Glaw yn ei ôl a gofynnais iddo a gafodd yr a dyma Gwenan yn gofyn beth curo ffenest y gegin a’r gwynt un fargen. o Traws yn taro drws y cefn. oedd yn bod. ‘Naddo,’ meddai Jac, ‘mi ddaru Ac meddai Nia wrth Gwenan, ‘Fi Drapia! Mae’r Bargain Hunt nhw godi 27 punt arna i.’ ’ma’n dda heddiw a finne iso aeth â nhw yno bore ddoe!’ ‘Ac mi dalaist ti hynny? brysio i Bermo i brynu mochyn. Bili Jones ‘Do, do’n ni ddim am greu Ond rhaid gwylio’r rhaglen hyd helynt!’ y diwedd, dyma ysbrydolieth y Gyrru fan fara Wedi trafod, yr hyn a ddaeth yn prynu wedi’r cyfan. Yn ystod gwyliau ysgol a choleg, amlwg oedd fod Jac wedi mynd Ydech chi wedi diflasu ar feddwl byddwn yn mynd â’r fan fara allan o’r gwesty a throi i’r chwith a nwyddau eraill ar hyd a lled am rwbeth gwahanol fel anrheg a mynd i siop arall - un llawer cefn gwlad Gogledd Sir Benfro a Nadolig erioed? Wel, ‘Bargain drutach! Dwi’n rhoi bai ar y Hunt’ amdani! Mae fy chwaer gorllewin Sir Gâr, fu’n gyfrwng Guinness! Neris, Rhian a minne yn chware’r llenwi fy mhoced yn ystod Bili Jones gêm ers talwm a fel yma mae’n gwyliau’r haf yn benodol. gweithio - rhaid prynu eitem Cefnder fy nhad a’i deulu Ci defaid gan gadw mewn cof eiriau’r oedd perchnogion y busnes cynllunydd William Morris a chyda’n nhad yn gweithio’n -‘have nothing in your house that llawn amser iddyn nhw, you do not know to be useful or roedd ’na ddigon o gyngor ar believe to be beautiful.’ sut i werthu’n llwyddiannus. Yna wedi’r Nadolig, os nad yw’r Amrywiol oedd y rowndiau anrheg yn plesio, rhaid ei werthu Roedd ffermwr o ardal Tywyn a phob un â’i chymeriadau. i weld os cafwyd mwy nag a yn berchen ar gi defaid. Roedd Byddai rhai yn cynnig lluniaeth dalwyd amdano. y ci yn hel y defaid at ei gilydd yn rheolaidd a phan fyddwn i, A dyna pam fy mod yn rhuthro yn eithaf taclus, ond wedi iddo fel gyrrwr llenwi adeg gwyliau, drwy ddrws Lloyd Jones am wneud hynny byddai’n mynnu cwrteisi oedd manteisio ar yr un hollti’r ddiadell yn ei hanner; ac caredigwrwydd. Byddai sgwrsio gwarter wedi un ar ddiwrnod ni allai’r ffermwr dynnu’r cast o’r a gwledda yn rhan o’r profiad felly stormllyd. Ond roedden nhw ci. gan olygu i ambell ddiwrnod fynd wrthi yn gwerthu dodrefn! Finne wedi dod i brynu’r mochyn bach Un diwrnod, roedd ymwelydd o yn hir. arian dela erioed i Neris, i gael Sais yn pwyso ar y giât a holodd a Tybiaf i mi ar adegau gael tipyn cadw pinne yn y clustog bach glas oedd y ci ar werth. ‘Ydi,’ atebodd o lwyddiant a chofiaf i un wraig oedd ar ei gefn. y ffermwr, ‘ond mae ’na un ddweud wrthyf y buaswn yn Gofyn i’r dyn wrth fy ochr pam broblem, dydi’r ci ddim ond yn llwyddo i werthu carped staer i deall Cymraeg.’ deulu yn byw mewn bynglo! Dro roedden nhw ar yr eitemau bach a deall eu bod nhw wedi A dyna esbonio: ‘cer rownd’ oedd arall cofio galw mewn ffermdy gwerthu yn handi, gan nad oedd y command i’r dde, ‘cer ffwrdd’ i’r ym Mro’r Preseli, gan gofio fod lawer o neb yno. Y tywydd garw chwith a ‘gorwedd’ i’w stopio. A
Thema’r Mis: Prynu a Gwerthu
wedi cadw selogion yr ocsiwn i ffwrdd! Y peth nesa i fyny oedd dresel fawr a meddyliais fase Dei wrth ei fodd yn cael dresel yn anrheg (gan ei fod o’n licio hen bethau!) ac o’n ni’n siŵr sa hi jest y peth ar waelod y staer acw. Neb lawer o awydd codi arni. I fyny a fy llaw! Ond yna rhywun yn fy erbyn. Reit ta! Amser i’r swch a’r wyneb dydi o ddim bwys faint ydi o, mi bryna i o’ -ynghyd ag ysgydwad bach o’r pen- ac i lawr â’r morthwyl! I mi! Ddo i lawr i moen hi bore Sadwrn,’ meddwn ni ac adre i ddeud wrth Dei - roedd hi rhy fawr i gadw’r syrpreis tan bore Dolig. Codi ei aeliau a rowlio’i lygaid wnaeth Dei pan adroddais yr hanes. Wedi cael help Twm i fachu’r treilar bore Sadwrn, dyma ni’n tri yn cychwyn am y Bermo. Erbyn hyn, roedd y ddresel yn ddau ddarn yng nghornel yr ystafell werthu ac mi gefais olwg iawn arni am y tro cynta. Dim ond dau air ddedodd Twm ‘coed tân!’ Chware teg i Dei, roedd o’n gweld potensial ynddi ond doedd hi ddim yn cael dod i mewn i’r tŷ nes oedd o wedi ei boddi hi mewn lladdwr pry-pren. Felly, am wsnos gyfan, mi fues yn trotian i’r garej i chwistrellu’r tyllau bach nes oedd Dei yn fodlon. Golchi hi lawr efo Fairy Liquid a Flash ac roedd pethe’n edrych ar i fyny. Amser i gychwyn polsho efo’r hen Beeswax. Oriau o bolsho a byffio, a wir teimlais bod yr hen hogan yn gwenu arnom yn ddiolchgar! Cymerodd ei lle yn berffaith ar waelod y staer. Mae’n llawn o lestri a gwydrau gorau, llieiniau bwrdd a’r pethe ’na sydd ond allan pan mae llond tŷ yma -ac yn arbed Dei i fynd â nhw yn ôl ac ymlaen i’r atig. Felly mae o wrth ei fodd efo hi. Na, dydi o ddim am ei gwerthu! I ddeud y gwir does yr un ohonom wedi gwerthu dim byd rydan ni wedi’i dderbyn hyd yma o’r garthen Melin Tregwynt i’r jwg ddŵr grisial o Waterford i’r ffiguryn Doulton a’r hen fapiau seiclo - rydan ni’n gweld pob un yn hardd neu’n ddefnyddiol. A dwi’n dal i chwilio am fochyn!
Y testun ar gyfer rhifyn mis Medi fydd ‘Anifeiliaid’. Cofiwch anfon atom. Diolch ymlaen llaw. [Gol.]
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN
PEIRIANNAU DIFFIB
Gŵyl Flodau
Eglwys Llanfihangel-y-traethau
16 – 19 Awst 2018
Diffibrilwyr i’r gymuned Mae Pwyllgor Rheoli Neuadd Gymuned Talsarnau yn falch iawn o allu cyhoeddi bod tri diffibriliwr yn eu lle erbyn hyn – un ers peth amser, trwy garedigrwydd y perchnogion, ar wal Garej Talsarnau, ac yn awr mae dau arall wedi’u gosod mewn hen flychau ffôn yn Llandecwyn a’r Ynys, ac wedi eu labelu’n glir gydag arwyddion amlwg. Diolch i rai o aelodau’r Pwyllgor fu’n glanhau a thorri coed o gwmpas y blychau ffôn, a gosod yr offer a’r arwyddion yn eu lle. Mae’r Pwyllgor am gydnabod ac yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a dderbyniwyd at brynu rhain ac yn arbennig o ddiolchgar i Alison Rayner am ei chyfraniad o £1,000 er cof am ei gŵr Ian; diolch hefyd i Gyngor Cymuned Talsarnau am eu cyfraniad o £1,000 ac i Grŵp Cynefin am £1,000 ganddynt hwy, ynghyd ag amryw o gyfraniadau sylweddol eraill gan drigolion yr ardal, sy’ wedi talu am yr offer a’r bocsys i’w dal. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Gwasg Eryri, Porthmadog am baratoi’r arwyddion a’r stribedi lliwgar ar gyfer yr hen flychau ffôn – i gyd yn rhad ac am ddim. (Fe welwch o’r lluniau amgaeëdig bod y blychau ffôn yn hawdd i’w gweld) Trwy rodd a dderbyniwyd gan Gapel Soar ar ôl iddo gau yn Rhagfyr 2017, ac i wireddu eu dymuniad i gael diffibriliwr yn ardal Soar gyda’r arian, mae angen yn awr i archebu blwch arall a dyma fydd y cam nesaf i’w drefnu gan y Pwyllgor. Mair Webb Yn dawel yn ei chwsg yng Nghartref Nyrsio Alexandra, Tywyn, gynt o Dalsarnau a Fairbourne, ar 23 Mehefin 2018, bu farw Mair Webb yn 90 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Geraint Edwards ac yna Dennis Webb oedd Mair, ac roedd yn fam, yn nain ac yn hen nain hoff. Cydymdeimlwn â’i mab Huw a’i wraig Nia, ei merch Dwynwen a’r teulu i gyd yn eu colled. Cynhaliwyd angladd preifat, ond cynhelir gwasanaeth coffa cyhoeddus i Mair yng Nghapel Tabernacl, Dolgellau ar ddydd Llun, 9 Gorffennaf am 2.00 o’r gloch. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, trwy law Glyn Rees a’i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Sgwâr Eldon, Dolgellau Gwynedd (01341 422322).
Eglwys Llanfihangel-y-traethau
Gŵyl Flodau Awst 16, 17,18, ac 19 Cystadlaethau Plant Peintio carreg neu lechen Thema: Hwyl yr haf
Gwobrau 1, 2 & 3 - Meithrin/Derbyn/ 5-7/8-11/12-16 Y gwaith i gyrraedd erbyn 10.00 ar Awst 15 yn yr eglwys 10
Sesiynau cerddorol ayyb gan dalentau lleol Dydd Iau, 16 10.00 -12.00 & 1.00 - 3.00 Lluniau: ‘Trysorau Talsarnau’ 11.00 -12.00 Teithiau Tywys y Fynwent: Robert Hughes 2.00 - 4.00 Teithiau Tywys y Fynwent: Gwenda Paul 3:15 Canu’r Delyn: ‘Lodesi’r Lasynys’ Dydd Gwener, 17 10.00 -12.00 & 1.00 - 3.00 Lluniau ‘Trysorau Talsarnau’ 2.00 - 4.00 Teithiau Tywys y Fynwent: Gwenda Paul 6:30 Datganiad ar y corn: David Bisseker 7:00 Unawdydd: Roger Kerry. Organydd: Ross Williams Dydd Sadwrn, 18 11.00 -1.00 Teithiau Tywys y Fynwent: Robert Hughes 2.00 - 4.00 Teithiau Tywys y Fynwent: Gwenda Paul Dydd Sul, 19 11:30 Gwasanaeth yng ngofal y Parch Robert Hughes gydag unawd gan Alaw Sharp, casgliad tuag at elusennau lleol 2:30 Seindorf Harlech 3:00 Datganiadau Corn ac Organ gan David Bisseker ac unawdau gan Alaw Sharpe CROESO CYNNES I BAWB Genedigaethau Llongyfarchiadau mawr i Kayleigh a Gareth Owen ar enedigaeth eu mab, Harri Wyn ar 10 Mehefin, ŵyr bach i Carol Stevens, Awelon, Llandecwyn a gor-ŵyr i Derwyn a Sali Evans, Penrhyndeudraeth. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Owain Tudur a Caryl Lewis o Benrhyndeudraeth ar enedigaeth eu merch, Gwenno Elen ar 12 Mehefin, chwaer fach i Gruffydd ac wyres gyntaf i Dewi Tudur a Siriol Lewis, Llwyn Dafydd, Talsarnau. Estynnir pob dymuniad da i’r ddau deulu ar achlysuron hapus. Swydd newydd Llongyfarchiadau i Melanie Cooper (Bryn Eithin, Llandecwyn gynt) yn ei swydd newydd fel Pennaeth Cynorthwyol, yn gyfrifol am ddisgyblion B9-11, yn Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Pob dymuniad da iddi yn y swydd. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau mawr i Chloe Lois Roberts, Cysgod y Llong, Talsarnau ar lwyddo yn Arholiad Ffliwt Gradd 4 gyda chlod. Da iawn chdi Chloe.
TREM YN ÔL Prynhawn Gwener, 12 Mehefin, boddwyd bachgen 14 oed, ac un arall tua 18 oed (dau frawd) dan amgylchiadau trist iawn, sef plant Mrs Davies, Penclogwyn, Penrhyndeudraeth. Aeth y bachgen ieuengaf i ymdrochi yn ymyl Pont Briwat, a dywedir iddo fynd ar ei ben i le dwfn, ac yntau heb allu nofio. Yr oedd tua pump o fechgyn eraill ar y lan ar y pryd, ac meddai un ohonynt wrth weld nad oedd y bachgen yn dyfod i’r golwg, “Mae o yn boddi”. Neidiodd ei frawd ar ei ôl, ac wrth ymdrechu ei achub bu y ddau foddi. Darganfuwyd eu cyrff. Hebryngwyd hwynt gyda’r amcan o’u rhoi mewn ystafell yn y tloty, ond ni chaniatawyd hynny. Pan yr oedd y drol a’r cyrff ynddi ar y ffordd, daeth mam y bechgyn o Borthmadog. Methai Mrs Davies â dirnad beth oedd yr holl helynt a welai o’i blaen. Hawddach dychmygu ei theimladau na’u disgrifio pan ddywedwyd wrthi yr hyn oedd wedi digwydd. 2/7/1891 W Arvon Roberts
Merched y Wawr, Talsarnau Cafwyd diwrnod braf iawn ddydd Mawrth, 12 Mehefin i fynd ar ein hymweliad i orffen gweithgareddau’r gangen am 2017-18. Tri llond car yn cychwyn am 9 o’r gloch y bore i fynd i Felin Uchaf, Rhoshirwaun, ger Aberdaron. Cyrraedd yno ymhen ychydig dros awr a chael ein croesawu gan Dafydd Davies-Hughes, sy’n gofalu am y safle. Wrth fwynhau paned a bisged, cyflwynodd Dafydd, sy’n saer coed profiadol, ychydig o’r cefndir i’r fenter yn Felin Uchaf, y cynllun i greu canolfan hanes yno, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol i adeiladu gwahanol
fathau o dai crwn, gyda’r bwriad o gynnal arddangosfeydd a chynnal cyrsiau ayyb, a hefyd bydd caffi yno ar gyfer ymwelwyr. Cawsom ein tywys o gwmpas y safle gan Dafydd a chael gwybod mwy am y cynlluniau arfaethedig ar gyfer y Felin. Mae’r gwaith adeiladu a’r gwaith coed yn y tai crynion yn werth ei weld ac edmygwyd yr ymdrech sy’n cael ei wneud gan nifer dda o wirfoddolwyr, gyda rhai yn dod o bell iawn i helpu. Mae gerddi eang gyda llysiau a ffrwythau yn tyfu a chedwir ieir, a’r bwriad yw i fod yn hunan-
gynhaliol. Mae gweithdy saer enfawr ar y safle ac roedd dau gwch mawr yno ar y pryd yn cael eu hatgyweirio. Cyn cychwyn am adre’, wedi diolch i Dafydd am y croeso a’i sgwrs ddiddorol, cyflwynwyd rhodd ariannol gennym tuag at yr holl waith arbennig sy’n digwydd yno. Mwynhawyd cinio blasus ar y
ffordd adref ym Mhlas Glyn-y -weddw, Llanbedrog a chafwyd cyfle i weld o gwmpas y Plas ac yn arbennig yr arddangosfa o Ynys Enlli sy’ yno ar hyn o bryd. Diwrnod gwerth chweil i gloi rhaglen y flwyddyn. Diolch i Anwen am drefnu diwrnod ardderchog.
Ym Mhlas Glyn-y-weddw
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
Yn y Felin Uchaf Rhaglen Aled Huws Dyna ardderchog oedd gwrando ar raglen Aled Huws ar Radio Cymru fore Iau, Mehefin 21ain a chlywed llais Elgan Tudur Lewis o Dalsarnau gynt. Mae Elgan yn gweithio fel saer coed yn Antarctica ac roedd yn siarad hefo Aled am ei brofiadau. Mae’r criw sydd yn gweithio yn Rothera, Antarctica yn gwneud yn fawr o’r Alban Haf sef eu dydd byrraf hwy - drwy gael dathliadau hwyliog. Da iawn ti, Elgan; mae’r teulu a ffrindiau yn edrych ymlaen at dy gael di adref yn ôl. Capel Newydd - oedfaon am 6:00 GORFFENNAF 8 - Meirion Thomas 15 - Dewi Tudur 22 - Dewi Tudur 29 - Dewi Tudur AWST 5 - Dewi Tudur 12 - Dewi Tudur 19 - Dewi Tudur 26 - Hywel Meredydd Davies
Neuadd Talsarnau GYRFA CHWIST Nos Iau, Gorffennaf 12 am 7.30 o’r gloch 11
Atgofion bore oes yn Harlech – rhan 1, gan Ann Doreen Thomas
Mae yna gân, yn does, “O na fyddai’n haf o hyd”; wel, fel yna oedd hi yn teimlo y dyddiau hynny, haul pob haf a siŵr o eira yn y gaeaf y blynyddoedd cyn yr ail ryfel byd, yng ngwaelod Harlech i ferch ifanc. Ardal hollol saff i blant chwarae a phawb yn adnabod ei gilydd a llawer ohonynt yn perthyn i’w gilydd trwy waed neu briodas. Symud i lawr i waelod Harlech ddaru ein rhieni oherwydd bod yna dair llofft yno, ac felly oedd posib gosod un llofft i ‘visitors’ yr oedd teulu ein tad yn anfon i lawr i mam o Garden Cottage yn Pentrerefail. Mae rhaid i imi gyfeirio at y ffaith nad oes gennyf ddim cof o neb fod yn gas na bwlio na ffraeo yn y dyddiau yna. Roeddwn yn ffrindiau hefo Diana Crossing a Martha Lloyd a Dilys Pugh ac wedi i’r wyth tŷ cyngor gael eu codi daeth Florence Shepherd a Beryl Thomas atom i chwarae. Fel y dywedais, symud i lawr i waelod Harlech o Pentrerefail ddaru ni. Dod o bentre genedigol ein tad ddaru ni er mwyn i mam gael bod yn nes at ei theulu yn Hafod Wen. Nôl ym Mhentrerefail, rŵan mynd i lawr o stryd fawr lle oedd y merched oedd wedi mynd a fi am dro. Rwyf yn cofio edrych i fyny ac yn gweld y lleuad mawr. Mynd a fi adref oedd y genod i’r tŷ oedd yn un o dri oedd newydd gael eu hadeiladu gan Mr Jones Morris, perchennog siop ddillad. Yr oedd yr adeilad yn sownd i’r rhes o dri thŷ. Tybiwn i fod y tai wedi cael eu hadeiladu mewn gardd a oedd ynghlwm i gefn y siop. Roedd adeilad y siop yn uchel yng nghefn y tai i’w weld. Dros y ffordd i’r rhes tai oedd tŷ fy ewythr, brawd ein tad oedd yn byw yno hefo’i deulu, ei wraig Aunty Maggie a phedwar o ferched – Betty (Elizabeth), Mirdeg, Margaret a Mair. Mair yn bum mlynedd yn hŷn na fi. Roeddwn yn meddwl y byd o’r merched yma; i mi roeddan nhw’n chwiorydd mawr, ac yn enwedig Mair. ‘Nenas’ oedd hi yn galw fi bob amser yno. Yn Garden Cottage yr oeddwn pan ddaeth fy nhad i nôl fi a mynd a fi dros y ffordd a dweud wrthyf bod ganddo rywbeth imi ac mai brawd bach oedd o, David Hilary. Saesneg oedd ein mam a daeth i gyfeiriad Harlech yn 1925 gyda’i mam a thad (godparents). Y rheswm ein bod wedi cartrefu yn Pentrerefail oedd bod ein mam eisiau bod yn nes i’w mam a thad bedydd oedd yn byw yn Hafod Wen, ‘convalescence home’ i weithwyr Cadbury’s, lle oedd mam wedi bod yn byw gyda’i theulu. Daethon nhw i Harlech i sefydlu y cartref i’r gweithwyr gael gwella ar ôl salwch. Y cartref cynta yn y wlad i gael ei sefydlu i’w gweithwyr gan gwmni. Crynwyr oedd cwmni Cadbury’s a Chrynwyr oedd teulu mam. Y sôn oedd eu bod wedi trafeilio trwy wledydd Prydain ac wedi dod ar draws Harlech, y môr a’r mynyddoedd yn apelio iddynt ac mi brynwyd Hafod Wen gan Cadbury’s, plasdy oedd ar werth ar y pryd. A fanna y buont pan aeth mam am dro a chyfarfod ein tad ar riw y coleg tua 1928. Roedd ein tad wedi mynd fel arfer ar nos Sul i weld ei frawd oedd yn byw ym Mhentrerefail. Dwy lofft oedd yn ein tŷ fel yn y ddau dŷ arall. Pan oeddwn yn blant roedd ganddom dueddiad i alw ffrindiau, perthyn ai peidio, yn Aunty neu fodryb. A drws nesaf i ni oedd Aunty Amy ac yn y tŷ wedyn Aunty Esther. Dwy lofft oedd a pham ddaeth yr hogyn penderfynodd ein rhieni symud i lawr i waelod Harlech i dŷ tair llofft. Oedd yna reswm arall am hyn hefyd, achos oedd brawd a chwaer yng nghyfraith ein tad yn cadw pobl ddiarth ac felly roedd mam yn gallu cael rhai sbar gan ein modryb. Roedd hyn yn help ariannol i ni. Dyna oedd hi adeg hynny, y bobl ac yn enwedig teulu, yn gofalu am ei gilydd. Roedd symud i waelod Harlech yn dra gwahanol i fyw ym Mhentrerefail achos roedd yna fwy o le i chwarae. Mi oedd yna gaeau ar draws y ffordd i’n tai ni. Mae stad o dai yna rŵan ond adeg hynny gors oedd yno, ac wedi ei dyfu fel oeddwn yn gallu chwarae tŷ bach ac roedd ganddon ni leoliad cegin a llofft. Cawsom hen lestri wedi malu ac ati ac roedden ni’n cael hwyl eu gosod ac yn gwybod y bysan nhw yna heb eu cyffwrdd y bore wedyn. Er mai plant oeddem ni, roeddem yn parchu eiddo ein gilydd. Byddaf yn meddwl yn aml lle mae’r genod y buom yn chwarae tŷ bach efo nhw rŵan. (i’w barhau)
12
PORTH Y NEFOEDD Un o`r emynau na ffeindiodd ei ffordd i’r Caneuon Ffydd yw’r emyn ardderchog yma: Porth y Nefoedd sy`n agored I groesawu`r truan trist; A goludoedd gras y Brenin Sydd yn rhad yn Iesu Grist: At ei orsedd Af i mofyn am ei hedd. Mae’r emyn yn hen Lyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid a Wesleaid ond nid yng Nghaniedydd yr Annibynwyr na Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr. Yr oedd yn hen lyfr yr Annibynwyr. O dan yr emyn yn yr hen lyfr Methodistiaid ceir enw’r bardd, neu yn hytrach lythrennau yn cynrychioli ei enw -JPR. Pwy oedd JPR? Wel nid y chwaraewr rygbi sydd yn arbenigwr meddygol! Er bod ganddo ddoniau niferus, ni chlywais ei fod ef yn enwog fel cyfansoddwr emynau. Ystyr y llythrennau JPR ydi John Price Roberts (1854 –1905). Gŵr o Benmachno yn wreiddiol, gychwynnodd fel pregethwr cynorthwyol gyda’r Wesle pan oedd yn gweithio mewn siop ym Manceinion. Gwelodd ei enwad fod ganddo ddoniau arbennig a bu yn olygydd llawer o’u cyhoeddiadau a chyfansoddodd sawl emyn. Dywedir ei fod wedi cael teimladau dwys iawn yn ystod diwygiad 1904–1905 ond bu farw yn ddim ond 51 oed yn 1905, pan oedd yn weinidog yn Nhregarth. Mae’r emyn yma yn un da i’w ganu cyn gweddi ac mae’r ail bennill yn afaelgar iawn – Er yn euog, er yn ofnus, A lluddiedig ar y daith, Cefais ganddo fodd i ganu Mewn cyfyngder lawer gwaith: Wrth ei orsedd Ceisiaf eto hedd fy Nuw.
Yn Nhremadog ers talwm, roedd cymeriad arbennig o’r enw Robert Jones, Arosfa. Pan fyddai yn cymryd rhan yn y capel, yr emyn yma oedd yr un y byddai’n ei ledio bob tro cyn mynd i weddi. Byddai’n cychwyn ledio’r emyn yn ei sêt ei hun ac yn cerdded i lawr llwybr y capel yn adrodd yr emyn a byddai wedi cyrraedd y sêt fawr cyn bod pobl yn barod i ddechrau canu. Un Sul, daeth pregethwr i Beniel, Tremadog. Yr adeg hynny, byddai’r pregethwr yn Nhremadog am 10.00 y bore a 5.30 yr hwyr, ond yn y prynhawn byddai yn pregethu yng nghapel bach Brynmelyn ac yn cael tê gyda teulu Porthyrhirfaen. Mae’n amlwg fod y tê yn dda a’r sgwrs yn felys gan fod y pregethwr yn ddigon digychwyn i fynd yn ôl i Dremadog. Roedd o wedi cymryd mai am 6.00 yr oedd y gwasanaeth ac fe ddychrynodd braidd a rhuthro am Dremadog cyn gynted ag yr âi’r car ar hyd y ffordd gul. Pan gyrhaeddodd y pregethwr ddrws y capel, roedd y gwasanaeth wedi dechrau a Robert Jones, Arosfa wedi mynd i weddi wlithog. Roedd o’n diolch am yr holl fendithion yr oedd wedi eu derbyn, un ar ôl y llall a rhwng bob un o’r bendithion roedd yn datgan fel byrdwn, ‘Ac os ydi dy was Di wedi’n siomi ni, O Arglwydd mawr, siomaist Ti neb erioed’. Wn i ddim be wnaeth y pregethwr – cerdded i mewn i’r capel? Mi wn i be fyswn i wedi ei wneud – sleifio adre’n ddistaw bach! JBW
H YS B YS E B I O N MWY NA SIOP BAPUR...
SIOP DEWI
14/15 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth 01766 770266
dewi11@btconnect.com Papurau, cylchgronau, llyfrau a chardiau Ac yn NEWYDD Bwydydd Cyflawn a Bwydydd Iach Cefnogwch eich siop leol, Cymraeg ei hiaith
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
-
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297
CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239
ARCHEBU A
01341 421917 07770 892016
Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
i unrhyw le yn yr UK!
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
GERALLT RHUN
07776 181959
1 Osmond Terrace, Penrhyn Ceir ar gael yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd Ffoniwch 01766 772926 07483 166901
Llais Ardudwy
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk
C.E.F.N Tacsi Cyf
Tafarn yr Eryrod
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
dros 25 mlynedd o brofiad
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 13
BWYD A DIOD Blas o Ynys Môn
Ciosg Cilfor a chiosg Yr Ynys lle mae dau beiriant diffib wedi eu gosod yn ddiweddar
Llun o’r 60au
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
^
14
Llais Ardudwy
Tra mae Dylan yn un am diroedd pell, dwi wrth fy modd yn hela tridiau yng Nghymru. I ddweud y gwir, ’da ni’n dau’n hoffi cerdded a chwilota am brofiadau bwyd a diod Cymreig, ac ni chawsom ein siomi yn Sir Fôn. Hen felin wynt ger Llangoed oedd ein nyth am dair noson: lle mor braf roedd yr awydd i fynd allan am fwyd ddim mor gryf. Er hynny, roedd bwrdd wedi’i gadw yn y ‘Marram Grass’. Lle ‘cwyrci’ iawn gyda bwyd da - o’r cerrig gleision mewn saws sbeislyd i’r pwdin ffigys gyda jeli te ffrwythau cochion. Mae sawl lle arall i fwyta ar yr ynys ond blas brys gawsom o lefydd y byddwn yn dychweled iddynt: Y Pot Jam ym Mhorthaethwy: lle glân a modern yn amlwg yn gweini bwydydd o safon. Roedd Catch 22 yn Y Fali hefyd yn plesio gyda sgons ysgafn a blasus (anodd cael digon!) ond gydag iogwrt chwip a leim yn lle hufen – neis iawn wir. Nid oedd amser am fwyd y noson yno (a dwi o hyd yn mynd â ‘chef ’ ar wyliau gyda fi beth bynnag!) ond yn garedig iawn, cawsom fara cartref i fynd gyda ni. Wel, os ydi’r dorth yn arwyddocaol o safon y fwydlen dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl yn fuan. Cynnyrch ffres ar gael o ffermydd sy’n creu argraff gadarnhaol iawn o Fam Cymru i mi: asparagws; arwyddion yn eich gwahodd i hel mefus ffres; tatws lleol a chaws – mae’n wledd amrywiol. Ffetys o Sir Fôn rydym yn ei weini yn Dylanwad - dim ond caws Cymreig y byddwn yn ei brynu - pam lai pan mae’r safon mor uchel? Ond daethom ar draws ddau arall sy’n glod i ffermydd Cymru unwaith eto. Caws Rhyd y Delyn oedd y cyntaf. Fferm odro ym Mhentraeth sydd gan Menna a Maldwyn Jones yw hon ac maent yn cynhyrchu cawsiau sy’n cystadlu gyda’r gorau. Roedd y caws meddal gyda chroen gwyn a gawsom y noson honno yn curo’r Camembert di-flas sydd ar gael yn yr archfarchnadoedd yn rhacs. Cawsom hefyd y pleser o gwrdd Carrie Rimes, a hi sy’n cynhyrchu Brefu Bach. Yn wir, mae hwn ar gael ym Marchnad Borough yn Llundain sy’n glod yn ei hunan. Caws wedi’i gynhyrchu o laeth defaid Llŷn ydi Brefu Bach. Roedd yr enghraifft hufennog flasus yma yn codi’r cwestiwn pam nad oes fwy o gaws llaeth defaid yn cael ei gynhyrchu yng Ngogledd Cymru? Efallai y byddwn yn gweld mwy o fentergarwch yn y cyfeiriad yma yn y dyfodol – a dwi’n edrych ymlaen yn fawr. Am y tro, byddaf yn mwynhau gwydraid o win gwyn Pant Du o Benygroes gyda fy nghaws llaeth dafad – digon asidig i ddal ei dir a dim ond tafliad carreg i ffwrdd o lle gynhyrchwyd y llaeth – perffaith! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau Lle i aros: Melin Wynt - https:// www.whitebeachholiday.co.uk/ windmill/index.shtml
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123
DWI’N COFIO
Dwi’n cofio chwarea golff yn Harlech efo Nigel Mansell...
Roedd fy mrawd, John, a minnau yn gweithio’n fuan un bore ar y golff yn 1993 ac mi welson ni ddau golffar allan ar y cwrs oddeutu chwech o’r gloch y bore. Wrth iddyn nhw ddod yn nes mi wnes adnabod un ohonyn nhw, sef Nigel Mansell [pencampwr gyrrwr Formula 1 y byd yn 1992]. Wedi deall, roedd o’n dod i’r ardal ers pan yn blentyn ac yn aros yn Nhal-y-bont. Doedd o ddim yn hoffi gormod o ffwdan a stŵr ac oherwydd hynny roedd o’n mynd allan i chwarae ben bore ac yn gorffen ei gêm cyn i’r torfeydd gyrraedd. Bid a fo am hynny, mi gawson ni sgwrs hefo’r ddau a dyma John a finnau yn cynnig her iddyn nhw ar y golff y bore wedyn, sef Cymru yn erbyn Lloegr [fel jôc] a dyna nhw yn derbyn yn syth. Ac fel y gwelwch o’r llun uchod, mi gafodd John a minnau y fraint o chwarae yn ei erbyn. Hen foi iawn oedd o heb unrhyw rodres o gwbl. Mi gawson ni gêm dda ond y Saeson ddaru ennill! Roger Kerry
NEWYDDION YR URDD
Glan-llyn Diolch yn fawr iawn i ysgolion Talsarnau, Tanycastell a Dyffryn Ardudwy am gynrychioli’r ardal yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn ddiweddar. Dros 50 o blant wedi cael profiadau bythgofiadwy wrth adeiladu rafft, rhwyfo, defnyddio’r cwrs rhaffau, cyfeiriannu, ceufad a llawer iawn mwy mewn cwta dau ddiwrnod. Diolch i’r gwirfoddolwyr am eich cefnogaeth i’r penwythnos. Disneyland Paris Mae yna ychydig o seddau’n dal ar ôl ar gyfer y daith i Disneyland yn ystod hanner tymor yr hydref. Peidiwch ag oedi.
Ysgol Bêl-droed Cynhelir y tridiau yma yng Nghlwb Chwaraeon Madog rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 1, yn cychwyn am 10.00yb ac yn diweddu am 3.00yp. Yn agored i aelodau rhwng B3 a B9. Mae’r llefydd yn brin, felly dewch ymlaen os ydych eisiau lle i’ch plentyn. Mae’r pris yn £25 ac fe fydd pêl i bawb sy’n cwblhau’r tridiau! Taith yr Eidal Pob lwc i’r rhai hynny o Ysgol Ardudwy sy’n rhan o daith yr Urdd i’r Eidal ar ddiwedd mis Gorffennaf. Unwaith eto, profiad anhygoel wrth ymweld â gwledydd eraill, ychydig o haul a llond bol o hwyl. Be well
MIS YMA GAN MLYNEDD YN ÔL Llys Ynadon Deudraeth. Cyhuddai Mr W H Minshell, ar ran Cwmni Rheilffordd y Cambrian, bump o enethod ieuainc a gwragedd o Dalsarnau o drespasu ar y rheilffordd ac o wrthod myned oddiar y rheilffordd pan ofynwyd iddynt. Eu henwau ydynt Jane Williams, High-street; Annie Williams a Mary Williams, Rhiw House; Dora Jones, High-street; a Jennie Owen, Lloyd-street. Tystiai Mr. John Pritchard, gorsaf-feistr Talsarnau, iddo weled y diffynyddion yn myned i’r llinell ger y Crossing yn Nhalsarnau. Yr Herald Cymraeg 2 Gorffennaf 1918 (Yn yr un llys) Cyhuddai yr Arolygydd Thomas Jones o Gyngor Dosbarth Deudraeth William Pugh Jones, Twll Nant; Edward Rowlands, Maesgarn (edd?); Robert Evans, Cilcychwyn; ac Evan Edward Lloyd, Penisa’rcwm, yr oll o Lanbedr, o wneud niwed i glawdd ffordd fawr rhwng Cefnucha a Phenisa’rcwm. Eg!urodd Mr Thomas Roberts (Clerc y Cyngor Dosbarth) fod Mr Guthrie Jones wedi ysgrifennu ato ar ran y diffynyddion yn cynnig talu am y niwed i’r ffordd, sef £2 a’r costau. Yr Herald Cymraeg 2 Gorffennaf 1918 Yng Nghyngor Plwyf Harlech, caed trafodaeth ynghych pris presennol yr ymenyn. Ystyrrid fod 2s 4c y pwys yn bris rhy uchel yr adeg hon o’r flwyddyn, ac yn annog i Bwyllgor Rheolaeth y Bwyd i’w ostwng. Hefyd pasiwyd penderfyniad yn erbyn dogni yr ymenyn. Y Clorianydd 3 Gorffennaf 1918 ‘AGORED I’R BYD.’ Arddangosfa Harlech a’r Cylch, Awst 5ed, 1918. Cwpan Arian hardd, gwerth £5 i’w hennill y tro cyntaf, Rhodd Mr. a Mrs J H Griffith, Plas Gwynfryn, Llanbedr. Am y pytatws goreu, dau ryw, 12 o bob un. Tâl am entro 2s. y tro. Dyddiad olaf i entro Gorphennaf 27, 1918. Yr elw i fyned at wahanol gronfeydd y cylch, o fewn terfynau yr Arddangosfa, gogyfer â Milwyr a Morwyr analluogir yn y Rhyfel. Pob manylion i’w cael gan yr Ysgrifennydd, J W Roberts, Isgraig, Harlech. Yr Herald Cymraeg 9 Gorffenaf 1918 Ymwelwyr. Y mae lluaws mawr o fyddygions, chwedl pobl y Bermo am bawb sydd yn siarad Saesneg, wedi cyrraedd, mwy nag a obeithid, braidd, a hefyd y mae adar yr haf, Mri. Pare a Bodwen, hwythau wedi glanio. Hwy sydd yn difyrru pobl a phlant ar lan y môr, ac ydynt yn hen ymwelwyr bellach. Priodolir dyfodiad yr haf gan luaws iddynt hwy, oblegid nid anfynych y clywir rhai yn dywedyd, ‘Wel, fe ddaw y byddigions rŵan, oblegid y mae Parc a Bodwen wedi cyrraedd.’ Y Dydd 12 Gorffennaf 1918 Côr y Meibion (Bermo). Y mae Côr y Meibion wedi dechreu canu ar nos Sabothau eto eleni, er yn llawer llai o ran rhif. Cymer y Saeson ddiddordeb neilltuol yng nghanu y Cymro, ac ymdyrrant ar nos Sul i wrando, a nos Sul diwethaf rhoddwyd anerchiad i’r cantorion a’r cynhulliad gan Mr William George, Cricieth. Y Dydd 19 Gorffennaf 1918
yn wir? Bydd y criw yma yn cyd-deithio gyda phobl ifanc ar draws Talaith y Gogledd. Mwynhewch pob eiliad.
iddo gystadlu yn erbyn 14 o’r rhedwyr gorau yn y gogledd. Diolch Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi ac ymaelodi plant a phobl ifanc er mwyn iddyn nhw gael profiadau mewn sawl maes ar hyd y flwyddyn. Bu’r flwyddyn
yma yn un brysur tu hwnt ac o edrych ymlaen, mae’r
Athletau Talaith y Gogledd Llongyfarchiadau i Leo Papirnyk ar ddod yn ail yn y ras 75 metr i fechgyn B3 a 4 Talaith y Gogledd. Camp aruthrol i’r hogyn o Bermo wrth
hyn sydd o’n blaenau yr un mor gyffrous. Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd
15
GENOD YR HŴLA, HŴLA YNG NGHARNIFAL HARLECH
RYGBI TAG
Ferched! ydych chi wedi rhoi cynnig ar:
PÊL-RWYD CERDDED?
Yn y llun fe welir Bethan Griffith [Howie], Karen Thomas [Kerry] a Maggie Jones [Gilbody] yng Ngharnifal Harlech yn eu hieuenctid. Buasai’n ddifyr cael y stori y tu ôl i’r llun!
Ysgol Talsarnau
Mae’n ffordd wych o gadw’n heini a gwneud ffrindiau newydd. Ymunwch â ni ar ddydd Iau rhwng 4.00 a 5.00 o’r gloch yng Nghanolfan Hamdden Harlech Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01766 781181
HWYL YN Y PARTI
Ysgol Dyffryn Ardudwy Cystadleuaeth Gêm Goffa Gwynfor John. Ysgol Talsarnau oedd yn fuddugol gydag Ysgol Tanycastell yn ail ac Ysgol Dyffryn Ardudwy ac Ysgol y Traeth yn gyfartal drydydd. Llongyfarchiadau i bawb fu’n chwarae ar noson braf o haf. Diolch i Mr Elfyn Anwyl a Mr Gareth Williams, Ysgol Ardudwy am drefnu’r gemau ac i Osian Roberts, Llion Kerry, a Dai Higgs am ddyfarnu. Diolch hefyd i Olwen am baratoi y bwyd ac i Harlech Toyota am noddi’r crysau ac i bawb o’r Clwb am eu cymorth i sicrhau llwyddiant y noson.
Llun a dynnwyd ym mharti pen-blwydd Chris Parry yn y Clwb Golff yn Harlech yn ddiweddar
Tîm Iau Ysgol y Traeth
Teulu Bwlch-y-garreg - Andrew, Chris, Neal a Tracy
16
Tîm Hŷn Ysgol y Traeth
Y Cadlywydd David Evans, 1817-1895 Daeth David Evans yn Llywydd y barc Americanaidd Jane Tudor, a adeiladwyd yn Bath, Maine. Ar noson dywyll, stormus yn Chwefror 1847 rhedodd y llong i’r feisdon ar ochr orllewinol i Penygogarth ar y ffordd i Lerpwl o Baltimore gyda chargo o India corn, blawd, a chig eidion, ar ei mordaith morwynol, dim ond ychydig wythnosau ar ôl gadael y dociau yn Maine. Gwerthwyd hi mewn ocsiwn ymhen llai na thair wythnos ac ail drefnwyd hi i’r môr yn urddaslo gan y Cadlywydd Evans, ac aeth am fordaith o amgylch Cape Horn i San Francisco, Califfornia. Erbyn cyrraedd yno yn 1850 yr oedd clefyd yr aur a ddarganfuwyd y flwyddyn flaenorol yn ei anterth. Gadawodd rhai o’r dwylaw y llongau niferus oedd ym Mae San Ffrancisco i gymryd eu siawns, a mynd i’r cloddiau aur i chwilio am yr aur gwerthfawr; ond llwyddodd Cadlywydd Evans i allu cadw pob un o’i griw nes dychwelyd i Brydain, ar ôl bod hefyd ym Mumbai (Bombay), India.
Pennod dau
Wedi gwneud amryw fordeithiau pell gyda’r Jane Tudor, penodwyd ef i gymryd gofal o’r agerlong Arno, o Lerpwl, 1,825 tunnell, a’r agerlong gyntaf a hwyliodd oddi yno i Fôr y Canoldir. Diflannu fu hanes y llong rhywbryd ar ôl Hydref 1913. Yr oedd David Evans yn ymweld â’r Unol Daleithiau cymaint o weithiau, a chanddo ysbryd annibynnol a gwerinol, fel y penderfynodd ddyfod yn sefydlydd a dinesydd ohoni, ac yn 1853, ymfudodd gyda’i ail wraig a’i ddau fab, gan fynd yn uniongyrchol i Berlin, Sir Green Lake, Wisconsin, lle
yr oedd ei rieni a’i frodyr a’i chwiorydd wedi ei ragflaenu rai blynyddoedd ynghynt. Gan iddo lwyddo i gasglu swm o arian wrth gefn, anturiodd mewn tiroedd a lotiau yn Berlin a’r wlad oddi amgylch. Dywed un ffynhonnell fod David a’i frawd yn byw yn Oshkosh, ugain milltir o Berlin, lle bu ei frawd (Owen) yn ffermio am flynyddoedd cyn iddo ymddeol a gosod ei ffarm a byw yn Racine, Wisconsin. Yr oedd yno afon oedd yn nodedig gyfleus i nofio agerlongau, a choedydd; ac oherwydd hynny yr oedd yno lawer o felinau llifio, yn rhoi tipyn o fasnach i’r
lle. Gan ei fod mor anturiaethus aeth David Evans hefyd i fasnachu mewn lumber. Hefyd ymgymerodd â chytundeb mawr yn gwneud y rheilffordd o Milwaukee i Berlin. Yr oedd Berlin hefyd yn lle nodedig am ei melinau llifio. O’i hamgylch, a thu draw i’r gogledd oer, yr oedd miloedd o filltiroedd petrual o’r coedydd mwyaf gwerthfawr, a miloedd o bobl yn gweithio ynddynt, ac yn ennill eu bywoliaeth yn gysurus. Ond yr oedd eu gaeafau yno yn rhai hir ac oer iawn. Adeiladodd y Methodistiaid (1855), yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr (1860) gapeli Cymraeg bychan yno. 300 oedd y boblogaeth Gymraeg yn Berlin yn 1872. Bu David Evans ac Owen, ei frawd, yn gyfeillion mynwesol i Evan R Evans, pregethwr gyda’r Methodistiaid, ac yr oedd Evan a Richard, ei frawd, yn adnabod y ddau cynt. Meibion Coety Bach, Llandecwyn, oedd y ddau, ac wedi ymfudo i Wisconsin yn 1851. (i’w barhau) W Arvon Roberts, Pwllheli
Rhagor o luniau Arwyn
Ar ben Moel Siabod
Ar y Grib Goch
17 A
Y BERMO A LLANABER
Cafwyd dau ddiwrnod bythgofiadwy o weithgareddau awyr agored yn Ysgol y Traeth ddiwedd mis Mai. Dan hyfforddiant staff Glan Llyn, bu disgyblion B4 yn mwynhau cwblhau heriau caiacio, cerdded, gwneud tân a rhostio malws melys (‘marshmallows’). Roedden ni yn ffodus iawn o’r tywydd! Ac fe gawson ni ddefnydd gwych o’r adnoddau naturiol lleol. Diolch Diolch i’r Parch R W Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad i Llais Ardudwy.
Taith Gerdded 2018 Er Cof am Gwynfor John Gwrach Ynys Mwynhawyd taith gerdded ddiddorol a chyfeillgar ar ddydd Sadwrn, Mehefin 23. Cychwynodd 55 o deithwyr brwdfrydig o Moel y Geifr gan anelu am Moel Ysgyfarnogod. Blasus a derbyniol oedd y picnic ar ben Moel Ysgyfarnogod, gyda rhai wedi cael mwy o seibiant nag eraill! Wedyn golygfa wefreiddiol o Fae Ceredigion gydag Eglwys Llandanwg yn y pellter. Ymlaen â ni a chyrraedd Moel Penolau gyda golygfa anhygoel o Ffestiniog a Thrawsfynydd. Rhaid oedd dringo i ben y ddau glogwyn gyda’r plant fel geifr yn esgyn i’r uchelderau. Disgyn wedyn i lawr am Fryn Cader Faner ac ymgynnull ger y meini hynafol. Pawb yn cyrraedd yn ôl yn ddiogel o dan ofal Deborah, ac yna oedi am ychydig i edrych yn ôl a diolch am gyfle i werthfawrogi ein bro a’n hetifeddiaeth. Mwynhwyd orig ddifyr a lluniaeth blasus yn Nhŷ Mawr wedyn gan droi am adre yn falch o’n hymdrechion.
18 A
HARLECH
Er cof am Gwenda Casglwyd £1260 yn angladd Mrs Gwenda Jones, Arfor ac fe’u rhannwyd rhwng Teulu’r Castell a phwyllgor Ymchwil Canser Gogledd Cymru, dau achos oedd yn agos iawn at ei chalon.
PEN-BLWYDD HAPUS
Dyrchafiad Pob dymuniad da i Aled a Katie Jones a’r teulu [Arfor gynt] wrth iddyn nhw symud i Atlanta, Georgia ddechrau mis Gorffennaf. Mae Aled, sy’n gyfrifydd, yn symud gyda’i waith i Kimberley Clarke, lle mae’n bennaeth yr adran ariannol. Brysiwch wella Dymunwn wellhad buan i Mrs Rhian Jones, Hafod-y-bryn [Anti Rhian Ysgol Tanycastell] ar ôl iddi dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Mae plant yr ysgol, y staff a’ch holl ffrindiau yn cofio atoch. Canser y Gogledd Orllewin Yn ddiweddar cynhaliwyd Noson Goffi yn Neuadd Goffa, Harlech i godi arian i’r elusen Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Trefnwyd nifer o stondinau amrywiol a lluniaeth ysgafn a daeth aelodau o’r Band Bach i gynnig adloniant. Hefyd cynhaliwyd ocsiwn o luniau gan Mavis Gaskell a roddwyd i’r elusen er cof am Mrs Libby Williamson gan ei merch, Sue a chodwyd swm sylweddol. Derbyniwyd rhoddion hael gan nifer o gefnogwyr lleol a chodwyd dros fil o bunnoedd ar y noson. Diolch o galon i bawb a weithiodd mor galed i sicrhau noson lwyddiannus. Bydd yr arian yn mynd i bencadlys yr elusen yn Lerpwl ac yna i Brifysgol Bangor i gynnal gwaith ymchwil pwysig. Mae Cangen Harlech eisoes eleni wedi cyfrannu £5,000 i goffrau’r elusen. Rhodd £10 Helen a Bedwyr Williams, Ty’n y ffordd, Harlech Capel Jerusalem GORFFENNAF 8 Parch Iwan Llewelyn Jones, Undebol am 3.30. Croeso cynnes i bawb.
Llongyfarchiadau i Chris Parry, Bwlch-y-Garreg ar gyrraedd oed yr addewid yn ddiweddar. Cafwyd parti i ddathlu yn y Clwb Golff yng nghwmni ei deulu a’i ffrindiau agos.
Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod ar 13 Mehefin yn Ysgol Tanycastell gan y Brifathrawes, Mrs Williams. Cafwyd gwledd o ganu gan y plant. Cawsom ganu, dawnsio disgo, canu gyda recorders, canu’r piano, rhai’n adrodd yn y Gymraeg a’r Saesneg a grŵp actio. Cawsom awr o amser pleserus iawn yn gweld a chlywed y plant yn mwynhau’r prynhawn gymaint â ni yn gwrando arnyn nhw. Diolchodd Edwina i bawb am y gwahoddiad ac am y cyngerdd gwych, a mawr yw ein dyled i’r athrawon am yr amser a’r gofal y maent yn eu rhoi i’r plant. Mi oedd yna lawer o waith paratoi a dysgu’r plant ar gyfer y prynhawn yma. Mae’r aelodau’n edrych ymlaen o flwyddyn i flwyddyn at gael clywed a gweld y plant wrth eu gwaith. Ar ôl y cyngerdd cafwyd te ardderchog wedi ei baratoi gan Gyfeillion Tanycastell a diolch i’r plant am weini ar bob bwrdd te, a chael sgwrs gyda’r aelodau. Roedd y pres te o’r raffl yn dod i £44 ac yn cael ei roi i Gyfeillion Tanycastell at yr ysgol. Diolch yn fawr i bawb o’r ysgol a’r Cyfeillion a’r plant am brynhawn gwych Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y Llywydd Jan Cole yr aelodau ac ymwelydd, Jean Storey, ar nos Fercher, 13 Mehefin, i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech. Cyflwynwyd y wraig wadd, Carys o Carysmatic oedd wedi dod i siarad am Pilates. Cafwyd hanes cychwyn Pilates a’i werth i lawer oedd yn dioddef efo cryd cymalau, poen cefn, a llawer o bethau eraill yn ymwneud â phoen yn dod o’r asgwrn cefn. Rhoddwyd y diolchiadau gan Edwina Evans. Cafwyd sgwrs gan Debbie Jones am y ddeddf GDPR a sut bydd yn newid a gwneud gwahaniaeth i Sefydliad y Mercher o ran storio lluniau a data personol. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd y dyddiadau o bwys, sef y te ‘vintage’ yn Llanelltyd ar 28 Mehefin gyda sgwrs gan Geoff Cole o’r Cemlyn am hanes te o wahanol wledydd; helfa drysor yn y Bermo ar 18 Gorffennaf; swper yn y Marshal Supper Club yn Llandanwg ar 4 Gorffennaf – cyswllt Christine. Pawb i gofio am y Sioe Sir sydd yn dathlu 150 mlynedd; bydd aelodau’n mynd a dangos eu gwaith yn yr arddangosfa. Atgoffwyd pawb am y bore coffi yn yr Hen Lyfrgell, 7 Gorffennaf 10.00 -12.30. Enillwyd y gystadleuaeth gan Joyce Wood, ac enillwyd y raffl gan Annette Evans.
Pen-blwydd hapus iawn i’r ferch fach yma, sef ‘Magi Fach’, Maggie Gilbody [Jones gynt] a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed ar Gorffennaf 23 eleni. Gobeithio y cei di amser gwych yn dathlu. Dymuniadau gorau a chariad mawr gan y teulu a dy ffrindiau i gyd. Ysgol Tanycastell Mae’r llun ar y dde yn dangos cymaint yr oedd plant Tanycastell wedi mwynhau bod yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglanllyn. Mae mwy o hanes yr ysgol ar y dudalen gefn.
19 A
Newyddion Ysgol Tanycastell PENWYTHNOS GLANLLYN Treuliodd 27 o ddisgyblion B4/5 a 6 benwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Glanllyn. Er gwaetha’r glaw (ie glaw!), ac ychydig o gwsg, fe fwynhaodd pawb – y canwio, bowlio deg, cyfeiriannu, adeiladu rafft, rhwyfo ac wrth gwrs y disgo!
CRIW MENTRUS IAWN! Fel rhan o brosiect menter busnes, mae disgyblion B3 a 4 wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn creu bocsys adar. Enw y busnes yw Sigl-di-gwt. Penderfynodd y dosbarth gystadlu mewn cystadleuaeth ‘Y Criw Mentrus’ a gynhaliwyd yn y Venue yn Llandudno. Cafodd y tîm ddwy wobr.
Y cyntaf oedd Gwobr Arbennig – Ymgysylltu â Busnes a’r ail wobr oedd Terfynydd Rhanbarthol sy’n golygu fod y tîm yn cystadlu yn y rownd derfynol drwy Gymru gyfan yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf. Pob lwc i chi. Os hoffech archebu un o’r bocsys adar, cysylltwch gyda sigl-digwt@gmail.com TEULU’R CASTELL Ar ddydd Mercher, Mehefin 13 daeth aelodau o Deulu’r Castell yma i gael eu diddanu. Cafwyd pnawn o ganu, chwarae offerynnau amrywiol, dawnsio, actio a llefaru. Yna, roedd disgyblion Blwyddyn 6 yn gweini bwyd i’r aelodau. Roedd digon o fwyd yno i bawb fynd â phecyn adref gyda nhw! Diolch yn fawr i Gyfeillion yr Ysgol am drefnu’r bwyd. ATHLETAU’R URDD Llongyfarchiadau mawr i Nansi Brookes-Evans a William Bailey am gynrychioli Meirionnydd yng nghystadleuaeth Athletau Rhanbarthol yr Urdd ym Mharc Eirias ar nos Fawrth Mehefin 26. Roedd Nansi yn cymryd rhan yn y naid hir a William yn rhedeg 600m. Da iawn chi!
20 A
LLWYDDIANT RYGBI Yn ddiweddar bu disgyblion B5 a B6 yn cymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth rygbi. Yn y gystadleuaeth (10.03.18) daeth y tîm yn fuddugol. Yr wythnos ddiwethaf chwaraeodd dau dîm o’r ysgol yng Nhystadleuaeth Gwynfor John. Daeth Tîm Tanycastell A yn ail a thîm Tanycastell B yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i chi.