Llais hydref 2014

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 434 HYDREF 2014

CALENDR LLAIS ARDUDWY

Calendar 2015 ar werth rŵan - dim ond £4 neu £5.50 drwy’r post Anrheg Nadolig Delfrydol!

YMWELD Â PHANT DU

I agor tymor y gaeaf aeth aelodau Merched y Wawr, Bermo a’r Cylch i Bant Du ym Mhenygroes. Cawsant wledd o olygfa o Ddyffryn Nantlle ynghyd â hanes diddorol ac addysgiadol y Winllan ers cychwyn y fenter.

YMWELD AG ABATY CYMER

I agor tymor y gaeaf aeth aelodau Merched y Wawr, Talsarnau a’r Cylch i Abaty Cymer ger Dolgellau. Cawsant hanes yr Abaty gan Nia Rowlands, Y Vanner cyn iddyn nhw wledda ym Mwyty’r Sospan.

CARLAMU YMLAEN

Cafodd Ceri John o Harlech y wobr gyntaf a chafodd Nansi Evans-Brooks o Lanbedr yr ail wobr wrth gystadlu ar hyfforddi, neidio a rhedeg traws gwlad mewn gŵyl geffylau yng Nghroesoswallt yn ddiweddar. Pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

(07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Enw: Dafi Owen [Cae Cethin] Gwaith: Rydw i’n dysgu pobl sut i yrru car wedi i mi ymddeol o swydd archwiliwr adeiladau gyda’r Cyngor Sir. Man Geni: Bermo, mewn cartref mamaeth. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rydw i’n hoff iawn o gerdded y mynyddoedd a glannau’r môr. Rydw i hefyd yn chwarae golff ac yn hoffi gêm o ddominos. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ni fûm erioed yn ddarllenwr mawr ond y llyfr mwyaf doniol a ddarllenais erioed oedd llyfr

rownd laeth fy nhad lle’r oedd ganddo ffugenw i bawb rhwng Llanfair a Harlech - Berti, Guto, Persi ac ati. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Gemau rygbi’r chwe gwlad a ‘Homeland’. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn rhy dda â bod yn onest. Hoff fwyd? Cyri neu stecan. Hoff ddiod? Peint o Brains SA yn yr Old Arcade, Caerdydd ac ers talwm diod o ddŵr oer o feudy Cefn Isaf yn Llanbedr. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Gwen a’r plant ac, o bosib, Nicole Kidman. Lle sydd orau gennych? Y Rhinogydd, Yr Alpau o gwmpas Chamonix a Llanfair. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Gyda Gwen a’r plant yn beicio yn Yosemite, California ac yn ail agos, Taith y Llewod gyda Gwynfor John a’r hogia. Beth sy’n eich gwylltio? Pont Briwat! A phobl sy’n hwyr. Beth yw eich hofff rinwedd mewn ffrind? Bod yno i wrando.

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 31 am 5.00. Bydd ar werth ar Tachwedd 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Hydref 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

GMM MELIN SYMUDOL

Peiriant Wood-Mizer LT40

Pwy yw eich arwr? Gareth Edwards a Garth, fy mrawd yng nghyfraith, a fu mor garedig gyda fy rhieni yn eu henaint. Beth yw eich bai mwyaf? Yn ôl y plant, rydw i’n mynd yn fwy ‘grumpy’ wrth i mi fynd yn hŷn. Rydw i braidd yn rhy barod i agor fy ngheg weithiau. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl nad oes ganddyn nhw barch at ddim byd, yn enwedig pethau hanesyddol. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Eistedd ar lan Gloywlyn yn pysgota. Ennill y ‘Winchelsea’ gyda Dan y mab. Eich hoff liw? Glas golau – lliw y môr a’r awyr pan mae’n braf, a lliw glas y dorlan. Eich hoff flodyn? Bwtsias y gog a briallu – arwydd fod y gwanwyn wedi cyrraedd go iawn. Eich hoff fardd? Morris Dolbebin. Un hawdd deall ei waith ac roedd o’n un da am englyn. Eich hoff gerddor? Jools Holland. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Hen Wlad fy Nhadau yn Stadiwm y Mileniwm. Byddaf hefyd yn hoff o wrando ar fand pres. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu pysgota pluen i’r un safon â fy nghyfaill Jim Friedhoff, a gallu golffio fel Dafydd Idwal. Eich hoff ddywediad? Dan dy fendith. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus braf wedi ymddeol ers blwyddyn. Wrth fy modd yn dysgu pobl sut i yrru car.

Dywediadau am y Tywydd

MELIN SYMUDOL I LIFIO COED Gallwn ddod acw i lifio’ch coed a’u torri nhw’n blanciau 07963 600252 01766 770345 www.gwyneddmobilemilling.com

HYDREF

Hydref hir a glas, blwyddyn newydd oerllyd gas. Hydref teg, gaeaf gwyntog.


Y BERMO A LLANABER Diolch Dymuna Oscar Jones, 2 Hillside, Stryd y Brenin Iorwerth, ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb fu’n holi amdano wedi ei anhwylder diweddar. Diolch am y cardiau a’r dymuniadau da wedi i mi fod yn yr ysbyty. Rwy’n teimlo’n llawer iawn gwell erbyn hyn. Llais Ardudwy ar werth Buasem yn falch iawn pe bai ein darllenwyr ffyddlon yn y Bermo yn dweud wrth eu cyfeillion bod y papur ar werth [a’r calendr hefyd] yn y Siop Gig. Cofiwch bod modd i chi adael newyddion neu hysbysebion hefyd hefo David yn y Siop Gig.

Merched y Wawr Bermo I agor tymor y gaeaf ar noson hyfryd, aethom draw i Bant Du ym Mhenygroes. Cawsom wledd o olygfa o Ddyffryn Nantlle ynghyd â hanes diddorol ac addysgiadol y Winllan ers cychwyn y fenter. Yn dilyn, cawsom luniaeth a chyfle i flasu a phrynu peth o’r gwin. Bydd y cyfarfod nesaf ar Hydref 21ain, pan fydd Eirian Jones, Dinas Mawddwy, yn dangos ei chrefft o wneud cardiau.

Plac yn ei ôl Mae’r plac o osodwyd i goffáu Harol Lowe, arwr y Titanic, wedi ei ailosod ar wal yr harbwr CALENDR LLAIS ARDUDWY DRWY’R POST wedi iddo gael ei ailgynllunio. Os am gopi o’r calendr drwy’r post yng Ngwledydd Prydain, Ewch yno i weld y gwaith gwych. anfonwch siec am £5.50 at Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS - siec yn daladwy i P Mostert. Diolch yn fawr.

ARDDANGOSFA

Gwahoddiad i agoriad yr arddangosfa o Reilffyrdd ym Mhenllyn. Agorwyd gan Dorothy Eiddona Selleck ar Fehefin 6ed 2014.

Mae’n anrhydedd fawr i mi agor yr Arddangosfa hon. Daw ag atgofion bywiog yn ôl i mi. Bu fy nhad a’i frodyr, sef Fred a Douglas, yn gweithio ar y lein yma. Felly, fe fu’r lein yma yn hynod o bwysig yn fy mywyd i, ac ym mywydau fy ffrindiau bore oes: y teulu Lloyd-Evans, Yr Ambros Huws a Glyn Goli. Daeth gweithwyr y lein a’u teuluoedd â chyfoeth o brofiadau difyr i’r dref. Roeddynt yn trafeilio ar hyd a lled Prydain ac weithiau ar y cyfandir. Roedd plant y lein yn deall y dywediadau yn ymwneud â’r gwaith: y trên i fyny i Lundain ac i lawr i Bermo, a’r amserau gwaith ‘bore neu hwyr’. Roeddem yn mwynhau

CALENDR 2015

astudio llyfr gwyliau’r GWR (God’s Wonderful Railway) a byddem yn canfod sut i wneud yn fawr o’r ticedi trafaelio rhad. Ar Sadyrnau yn yr haf byddem yn mynd â’n ffrindiau i Bermo i chwarae ar y traeth. Wrth fynd ar y trên roeddem yn cyfarfod pobl ddiddorol ac yn sgwrsio yn Gymraeg a Saesneg am y golygfeydd godidog a’r hanes diddorol. Fel plentyn pump oed meddyliais pa mor bell oedd y lein yn mynd: trwy’r mynyddoedd i’r Blaenau, ac ar draws y môr ar ôl Bermo: ymlaen i ebargofiant. Dyna oedd cychwyniad fy niddordeb mewn daearyddiaeth. Ym Mehefin 1936 dioddefodd fy nhad ddamwain ddychrynllyd ar y lein, pryd y collodd ei goes ac anafu ei ben yn ddifrifol. Bu ei driniaeth yn Ysbyty Dolgellau yn wych, ac achubwyd ei fywyd; ond roedd ansicrwydd ynglŷn â chael ei swydd yn ôl. Felly,

penderfynodd fy mam ymweld â Syr Watcyn Williams Wyn, un o Gyfarwyddwyr y GWR. Bu Mam, Taid a fy hen Daid yn gweithio i’r teulu WilliamsWyn. Aeth Mam a fi ar y trên i’r Station Flag, ac wedyn mewn cwch i Lan Llyn. Yno cyfarfyddom â’r gŵr bonheddig croesawgar. Siarsiodd Mam i mi wenu a pheidio siarad. Ond trafododd Mam sefyllfa fy Nhad druan a’r ansicrwydd ynglŷn â chael ei swydd yn ôl mewn cyfnod o ddiweithdra a thrafferthion economaidd. Pe byddai’n Nhad yn llwyddo yn y prawf iechyd, byddai yn dychwelyd i’w waith. Rhoddodd Syr Watcyn hanner coron i mi, llawer o arian yr adeg honno i hogan fach. Bu dynion y lein yn hynod o gefnogol i’m Tad yn ystod ei gyfnod o waeledd. Gwellodd a dal i weithio hyd at ddiwedd y lein ym 1965. Yn y cyfnod hynny roedd Y Bala a’r rheilffyrdd yn wahanol iawn i beth ydynt heddiw. O’r cyfnod yma dysgais fynd at y pennaeth mewn dadl, er mwyn cael chwarae teg. Gwers bwysig! Dr Beeching, cyfarwyddwr Y Rheilffyrdd Prydeinig yn 1965 benderfynodd gau’r lein, oherwydd nid oedd yn talu. Ond anfonodd ei weithwyr i ddarganfod faint o deithwyr

oedd ar y trên ar bnawn Mercher pan oedd y siopau ar gau. Hen dric cas. Hefyd, roedd cyngor dinas Lerpwl eisiau boddi Dyffryn Tryweryn er mwyn creu argae a boddi pentref diwylliedig Capel Celyn. Bu llawer iawn o wrthwynebiad gan nifer o fudiadau. Ond fe foddwyd y dyffryn a chodwyd ffordd newydd yn lle’r rheilffordd i Drawsfynydd. Dyna golled aruthrol i’r fro: yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Dim rhagor o sgyrsiau difyr hefo pobl leol ac ymwelwyr ar y trên. Dim cludo anifeiliaid, llechi na milwyr ar y trên: colled ddychrynllyd, a cholli cwmnïaeth y dynion ar y lein. Dim gwaith rhagor. Pawb yn dibynnu ar y bws a’r car a hynny’n anodd mewn tywydd drwg. Y plant ysgol uwchradd yn gorfod trafeilio ar y bysiau, llawer llai cyfleus na’r trên a llai o chwarae gemau yn y twnnel! Felly, llai o drafodaethau ar y trên rhwng cymunedau ar hyd y lein. Yn ystod y rhyfel roedd y trên yn angenrheidiol i ddod â phlant bach Lerpwl i ddiogelwch Meirionnydd. Hefyd plant ofnus iawn o’r cyfandir i loches Y Bala. A thrên oedd ein bywyd yr adeg honno!

3


HARLECH Taith Gerdded Ar Fedi 20, cychwynnodd ugain o bobl ar daith gerdded o Gricieth i Fangor i godi arian at Ymchwil y Galon. Trefnydd y daith oedd Carys Roberts, sy’n cynnal dosbarth Pilates yn Nhalsarnau a Dyffryn Ardudwy bob wythnos. Dwy o’r ardal fu’n cerdded oedd Dilys Williams a gerddodd cyn belled â’r Groeslon, a Lucinda Yemm a gerddodd yr holl ffordd, sef cyfanswm o 24 milltir mewn 6 awr. Casglwyd cyfanswm o £9,000 at y gronfa. Diolch Hoffwn ddweud ‘diolch’ wrth bawb sydd wedi fy noddi i gerdded o Gricieth i Fangor er mwyn codi arian at Ymchwil y Galon. Mi gerddais i 24 milltir. Mae pobl wedi bod mor hael; mae gen i fwy na £400 i’w roi i’r achos. [Sut mae gan le mor fach galon mor fawr?] Dwi’n falch iawn o fyw yma hefo pobl mor garedig. Lucinda Yemm

PRIODAS

LLYTHYR Annwyl Olygydd Rydw i wrth fy modd gyda’m copi electronig o’r Llais. Mae o’n dod bob cam i Dde Affrica mewn chwinciad ac yn sbario amser a chostau postio. Ac ar yr iPad mae pob tudalen mewn lliw! Gwych iawn. Mawr ddiolch. Enid [Glasfryn gynt]

Llongyfarchiadau i Deian a Lowri ar achlysur eu priodas yn Eglwys Llandanwg ar y 6ed o Fedi. Diolch i bawb am eu caredigrwydd a’u cyfeillgarwch. Y mae’r ddau a’u teuluoedd yn ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi’n fawr. Dymuno’n dda Pob hwyl i aelodau Cana-Mi-Gei a Chôr Meibion Ardudwy sydd yn teithio gyda’i gilydd i Iwerddon ddiwedd y mis. Byddant i ffwrdd oddi cartref am dair noson ac yn cynnal dau gyngerdd, y naill yn ninas Galway a’r llall ym mhentref Furbo yng Nghonamara. Mae’r ddau gyngerdd wedi eu trefnu gan Hospis Galway sy’n gorfod codi swm enfawr o arian yn flynyddol. Dyma’r tro cyntaf i CanaMi-Gei deithio dramor ond mae aelodau Côr Meibion Ardudwy yn hen lawiau arni.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Gwahoddir ceisiadau i rentu garej fach dan glo sydd ger yr hen ladd-dy yn Harlech. Am fwy o wybodaeth a thelerau rhentu’r garej, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes ar 01766 780971. Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 31 Hydref

Neuadd Goffa, Harlech

DAWNS YSGUBOR Hydref 23, am 7.00 o’r gloch Tocyn: £12 Dewch â chyllyll a ffyrc a’ch diodydd eich hunain Ymholiadau: 01766 780245 Elw at Ymchwil Canser Neuadd Gymuned Talsarnau Cofiwch am

EISTEDDFOD ARDUDWY Dydd Sadwrn, Hydref 11 Ymholiadau - Heledd Evans 01766 780350 Bore Coffi MacMillan

Llwyddwyd i godi dros £250 yn y Bore Coffi a drefnwyd dan nawdd Nyrsus MacMillan yn Awelon, Harlech yn ddiweddar. Yr un oedd yr hanes yn y Bore Cofffi a gynhaliwyd yn Llanfair, pan lwyddwyd i godi dros £250 unwaith eto at yr achos teilwng hwn.

4


calling 01766 780 952.

RHAGOR O HARLECH CAFFI’R PWLL NOFIO Nos Sadwrn, Hydref 18 am 7.30 o’r gloch Noson yng nghwmni’r awdur a’r bardd lleol

Richard Poole

‘Golwg ar waith Dylan Thomas’ Tocyn: £5 yn cynnwys lluniaeth ysgafn ar gael yn y pwll neu drwy ffonio 01766 780952

YARIS

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Dewch i weld yr Aygo newydd!

CYNGOR CYMUNED HARLECH

Rhandiroedd Mae rhai rhandiroedd ar gael. Dylid cysylltu â Korina Mort. Mae garej hefyd ar gael i’w llogi. Darn Tir ger y Cwrt Tenis Bydd Mr Martin Howie yn gwneud y gwaith clirio ar y darn tir uchod ac yn codi ffens i rwystro cŵn rhag mynd i mewn, torri’r eithin ar y llwybr sy’n mynd heibio’r cwrt tenis, a thorri’r llwybr o’r bont fach i’r giât wrth y lôn (A496). Cais Cynllunio - Adeiladu estyniadau cefn ac ochr, ailleoli ystafell wydr, ymestyn y porth a chodi lloches car ar wahân - Isgaer, Ffordd Glan y Môr. Cefnogi’r cais hwn. CADW – yn holi a fyddai’r Cyngor yn fodlon trefnu tocynnau am ddim i bobl leol fynd i mewn i’r castell. Cytunwyd i ofyn am fwy o fanylion cyn gwneud penderfyniad. Cyfoeth Naturiol Cymru Gwnaed gwaith cynnal a chadw yn Nhachwedd 2013 ac mae trefniant i lanhau’r ffos ar ddiwedd y flwyddyn yn llesol o ran risg llifogydd ac yn lleihau aildyfiant chwyn cyn y gaeaf. Yn anffodus, mae nifer o gwynion am arogleuon yn y ffosydd

Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy Mae’r Clwb bellach wedi ail ddechrau cyfarfod dros y gaeaf. Cafwyd noson agoriadol ar 30 Medi, gyda Threfnydd y Sir a Morfudd a Julian yn gwneud pizzas. Ychydig o aelodau ffyddlon a ddaeth i’r cyfarfod hwyliog yma, a chael profi pizzas cartref, a chwarae gemau gwirion. Hyderaf erbyn y mis nesaf y bydd mwy o aelodau yn ymuno yn yr hwyl., er sicrhau dyfodol Clwb Ardudwy. Rydym am gyfarfod bob yn ail wythnos yn Neuadd Llanbedr am 7.30. Ceir y manylion i gyd ar weplyfr Ffermwyr Ifanc Ardudwy. Bydd cystadlaethau ysgafn y Sir yn cael eu cynnal yn Theatr Harlech ar 17 Hydref. Edrychwn ymlaen yn fawr at hynny, i weld doniau brwd drwy’r Sir yn cystadlu, a hefyd bydd eisteddfod flynyddol y Sir yn cael ei chynnal yn Ysgol y Gader ar 25 Hydref. Mae yna gyfleoedd gwych ar gael drwy’r Mudiad yn addysgiadol, yn amaethyddol ac yn gymdeithasol, wrth gwrs. Yn sicr mae’n agor drysau at lawer o bethau eraill, ac yn brofiad da i’w roi ar eich CV. Does dim rhaid i chi fod yn ffarmwr i ymuno. Clwb i ieuenctid cefn gwlad yw’r Clwb. Felly galwch draw i’n gweld ar 14 Hydref yn Neuadd Llanbedr am 7.30 yr hwyr. (Unrhyw un sydd yn yr ysgol Uwchradd, neu Goleg, neu waith). Wrth sôn am waith hoffwn ar ran y Clwb ddymuno’n dda i Llinos Ford a fydd yn dechrau gwaith ar fferm odro yn Sir Benfro yn fuan. Dymunwn y gorau iddi, ac er nad ydym eisiau ei cholli o’r Clwb, deallwn y bydd yn ymuno â Chlwb yn Sir Benfro. Bydd y rheini yn siŵr o fod ar eu hennill, a bydd croeso o hyd iddi ddod draw atom i ddweud ei hanes. A phwy a ŵyr na fyddwn yn ei gweld yn cystadlu yn y Sioe Frenhinol yn ein herbyn y tro nesaf? Llongyfarchiadau hefyd i Mari Lloyd a dderbyniodd rodd o £10 fel aelod iau o’r Mudiad am fynychu’r mwyaf o gyfarfodydd pwyllgora yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Mari hefyd yn ffotograffydd swyddogol y Sir, ac mae hyn yn help garw ac yn brofiad gwych at ddatblygu ei sgiliau ffotograffiaeth ar gyfer ei gwaith Coleg. Dyma enghraifft wych o sut mae drysau’n agor wrth i chi ymaelodi â’r Ffermwyr Ifanc. Dewch draw ... Mari, Tyddyn Hendre

yr adeg yma o’r flwyddyn, yn enwedig ar gyfnodau o dymheredd uchel a dŵr isel a disymud, ond mae’r sefyllfa yn gwella gyda glaw yn creu llif i’w olchi ymaith. Bydd gwaith cynnal a chadw yn cynnwys y ffos ger ystad Castell y Morfa yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Waith 2014. Heddlu Gogledd Cymru Gofynnwyd a fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn diogelu cofebion sydd mewn risg o gael eu dwyn neu eu difrodi drwy eu marcio a SmartWater. Bydd yr hylif atal troseddau hwn yn sicrhau bod pob cofeb yn unigryw a bod modd eu holrhain yn haws pe baent yn cael eu dwyn. Cytunwyd i gymryd rhan yn y project hwn. Unrhyw Fater Arall Holwyd beth sy’n mynd i ddigwydd hefo Hwylfa’r Nant yn awr gan fod ystâd Pant yr Eithin yn cael ei ddatblygu. Mae angen sylw ar y byrddau picnic a’r ffrâm ddringo yng nghae chwarae Llyn y Felin. Nid yw’r llwybr i fyny o’r Tŷ Crwn yn un cyhoeddus. Datganwyd pryder am ordyfiant ar y wal o flaen yr Eglwys. Gofynnwyd a fyddai’n bosib tynnu un lle parcio o flaen siop Spar er mwyn i yrwyr gael gweld a oes rhywbeth yn dod i’w cyfarfod. A fyddai’n bosib gosod bin sbwriel ar tir ger yr Eglwys? Datganwyd pryder am yr ysbwriel sydd rhwng y Siop Cebab a hen ystafell arddangos Toyota. Mae angen trwsio carreg ger stepiau’r Hen Lyfrgell. Mae Pwyllgor yr Hen Lyfrgell yn bwriadu codi pont ger y fynedfa er mwyn galluogi mynediad i bobl gydag anableddau.

Eglwys Sant Tanwg, Harlech Nos Wener, Hydref 31 Côr o Rwsia:

‘Resurrection’

am 7.30. Tocynnau wrth y drws - £8 5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Sefydliad y Merched Cafwyd prynhawn difyr iawn ym Mehefin gyda Mrs Jean Powell Jones, Talybont, yn rhoi arddangosfa o’i gwaith llaw, amrywiaeth o waith arbennig a chywrain. Yn hytrach na thrip eleni, aethom i westy Bryn Artro yn Llanbedr. Cychwyn ganol bore gyda choffi ac amser i drafod gwaith y Sefydliad, y cofnodion a’r ohebiaeth. Yna ymlaen i fwynhau’r cinio. Heulwen oedd y cyrchfan ym mis Awst. Cyfarfod ganol dydd dros fwffe wedi ei baratoi gan Gretta. Yna prynhawn ymysg ein gilydd i ymlacio a sgwrsio, gyda llawer o hel atgofion, yna paned cyn troi am adref. Ail gychwyn tymor yr hydref a chyfarfod yn Heulwen dan lywyddiaeth Mrs Dorothy Harper. Darllenwyd y cofnodion, y llythyr newyddion a’r fantolen ariannol gan Gretta. Cyflwynwyd ein gwraig wadd Mrs Gwen Pettifor gan Mrs Dorothy Harper. Mae Gwen yn arbenigo mewn amrediad o grefftau. Gwelsom enghreifftiau o’i gwaith llaw, a wnaeth i ddechrau pan yn yr ysgol gynradd ym Mhenrhyn, ac wedi dal ati pan oedd yn byw mewn gwahanol wledydd yn cynnwys yr Alban a gwlad Pwyl, cyn dod yn ôl i Feirion. Mae gan Gwen lygad arbennig am ddefnydd, lliw a phatrwm. Prynhawn ardderchog cyn eistedd i lawr i de. Enillwyd y brif raffl gan Mrs Leah Jones. Llongyfarchiadau Dymuniadau gorau i David a Catrin Taylor ar enedigaeth merch fach, Beth Wyn, wyres i Dave Taylor, Y Bryn. Hefyd i Gwyn, mab Einion a Rhian Roberts, ac Elin ar enedigaeth merch fach, Elsi Wynne, chwaer fach i Morgan a Joseff a gorwyres i Mrs Beti Parry, Uwch y Nant. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mr William H Owen, Bangor [Pant Gwyn gynt] fydd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar Hydref 25. Mae Mary a William yn ddarllenwyr cyson o’r Llais.

6

Diolch Dymuna Ray a Barbara Owen, Llwyn Ynn, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn sgil eu profedigaeth ddiweddar o golli mam a mam yng nghyfraith. Rhodd a diolch £10

Priodas Yng Nghapel Horeb ar Medi 20, priodwyd Glesni Haf, merch David a Mai Roberts, Nant y Coed a Gavin Fitzgerald o Iwerddon. Y Parch R W Jones oedd yn gwasanaethu a’r organydd oedd Edward Owen. John Fitzgerald oedd y gwas priodas a’r morynion oedd Llio Williams, Rosanna Andrews, Hana Wellings ac Ava Fitzgerald gyda Lowri Grug yn forwyn fach a Joseff Roberts yn facwy. Yr ystlyswyr oedd Charles Dunne, Jon Curley, Conor Doyle, Jason Tinder ac Owain Hedd Roberts. Yn ystod y cofrestru, cafwyd unawd ar y ffliwt gan Juliet Johns a’r cofrestrydd oedd Alma Griffiths. Roedd y capel wedi’i addurno’n hardd iawn gan Rhian Davenport ac Alma Griffiths. Cynhaliwyd y wledd briodasol yn Nant Gwrtheyrn. Dymunwn bob hapusrwydd i Glesni a Gavin yn eu bywyd priodasol. Byddant yn ymgartrtefu yng Nghaerdydd. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Mr a Mrs Carey Cartwright, Tom a Lisa, Parc Uchaf yn eu profedigaeth o golli mam Angelika oedd yn byw yn Frankfurt yn yr Almaen. Cydymdeimlwn hefyd â Mr a Mrs Ray Owen, Llwyn Ynn, Taly-bont a’r teulu yn eu profedigaeth o golli mam Ray. Roedd Mrs Owen yn 89 oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac wedi byw yn Nhŷ Capel Hebron am 50 mlynedd. Pen-blwyddi Arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Heather Jones, Byrllysg oedd yn dathlu penblwydd arbennig ar Fedi 18. Roedd arddangosfa arbennig o beintiadau Heather yn Y Stablau yn ystod Celf yn y Llan.

Oedfa Ddiolchgarwch yn Horeb, Nos Lun, Hydref 20 am 7.00 o’r gloch Pregethir gan y Parch Eric Greene, Y Bala Croeso cynnes i bawb

Festri Lawen, Horeb Nos Iau, Hydref 9 am 7.30

Parti Porlais o’r Bala Croeso cynnes i aelodau hen a newydd

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Mary Jones, Dôl Eiddon, Rhydymain [ond yn fwy adnabyddus i ni fel Mary Pantenddwyn] oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar Hydref 4. Cofion cynnes atat, Mary, gan y teulu a’th ffrindiau yn y Dyffryn. Bore Coffi Fore Gwener, Medi 28, cynhaliwyd bore coffi at achos da Macmillan yn Nant y Coed, cartref David a Mai Roberts. Codwyd £224.90. Dymuna Mai ddiolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd yr achos teilwng hwn. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Einir, Arthur, Eirianwen a’u teuluoedd yn eu profedigaeth sydyn a thrist o golli nai a chefnder yn 50 oed, sef Steven Owens, Penybont-ar-Ogwr, mab hynaf eu diweddar chwaer, Matilda. Cydymdeimlwn â’i wraig, ei blant, ei dad Dewi a’i frodyr Elwyn a Gareth.

Ymweliad Braf oedd gweld Brenda, Pentre Canol yma ar wyliau. Cafodd ei geni a’i magu yn Lerpwl ac mae wedi byw yn Seland Newydd am flynyddoedd, ond mae Dyffryn yn agos iawn at ei chalon ac mae’n dal i siarad Cymraeg mor naturiol ag erioed. Cawsom ei chwmni yn yr oedfa yn Horeb ac mae’n derbyn y Llais bob mis. Tynnwyd y llun yn ffair Dolgellau tua diwedd 50au’r ganrif ddiwethaf. O’r chwith i’r dde - Mattie [Harlech], Brenda, Ella, Matilda, Gwennie a Marilyn, chwaer Brenda sy’n byw yn y Swistir.


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT Priodas Aur Yn y llun gwelir Mervyn [Harlech] a Jane [Parc Isa’] a briodwyd yn Horeb, Dyffryn ar Hydref 3, 1964. Anfonwn ein llongyfarchiadau a’n dymuniadau gorau atynt ar ddathlu 50 mlynedd o fywyd priodasol. Bu Mervyn a Jane yn rhedeg Gwesty’r Cadwgan am flynyddoedd lawer. Erbyn hyn maent yn byw yn Perth, Awstralia. Anfonwn ein cofion atynt ac at eu merched Carolyn a Julie a’u teuluoedd. Teulu Ardudwy Rhoddwyd croeso arbennig i aelodau newydd, Mrs Meinir Lewis, Llanfair ac i Nellie Ty’n Bryn gynt. Mae Nellie yn byw yn Hull ond yn dod i’r Dyffryn ar ei gwyliau at Blodwen ac yn ymuno â ni. Roeddem yn falch o weld bod Elinor Evans wedi gwella’n ddigon da i fod gyda ni. Diolchwyd i Sefydliad y Merched am gael defnyddio’r neuadd ac i Carey Cartwright am baratoi’r rhaglenni unwaith eto. Darllenwyd llythyr gan Mrs Gretta Cartwright a Miss Lilian Edwards yn diolch am y blodau a anfonwyd iddynt gan y Teulu. Derbyniwyd rhodd ariannol gan Miss Lilian Edwards i Deulu Ardudwy a diolchodd Gwennie yn gynnes iddi. Llongyfarchodd Mrs Beti Parry ar enedigaeth ei hail or-wyres, Elsi Wynne, a dymunwyd yn dda i’w hwyres, Glesni, oedd yn priodi ar y Sadwrn canlynol. Dymunwyd yn dda hefyd i Enid ac Edward Owen ar eu taith i Ganada i ymweld â Gethin a’r teulu.

Yna croesawyd Mr Wyn Meredith o Ddolgellau atom i roi hanes Y Tanws, busnes teuluol llwyddiannus iawn am flynyddoedd lawer. Aeth pethau’n ddrwg ar y busnes yn ystod dirwasgiad 20au’r ganrif ddiwethaf, ond pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd gwellodd pethau gan fod angen lledr i wneud ‘bomber jackets’. Cafwyd pnawn hynod o ddiddorol ac addysgiadol yn ei gwmni ac roedd wedi dod â llawer o bethau i’w ddangos i ni. Roedd tad Dilys Roberts wedi bod yn gweithio yn y Tanws fel gyrrwr lori. Diolchodd Glenys Jones iddo am brynhawn gwerth chweil. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Hilda, Enid a Gwennie. Ar Hydref 15, byddwn yn ôl yn Neuadd yr Eglwys. Rhodd Derbyniwyd rhodd o £10 i’r Llais gan Owen a Betty Ellis a £1.50 gan Edward Williams. Diolch yn fawr.

MYFANWY MORRIS

Ganwyd Myfanwy yn Lerpwl ym 1910 yn un o bump o blant i’r Capten Rowland Humphreys a’i wraig Jane. Carcharwyd ei thad yn yr Almaen ar ddechrau’r Rhyfel Mawr ac o ganlyniad roedd yn rhaid i’r teulu symud o Lerpwl i fyw i ddechrau gyda pherthnasau yn Llanbedr ger Harlech a Morfa Bychan. Ar ôl y rhyfel byddai’r teulu yn ystod gwyliau’r haf yn teithio ar long ager ei thad a hwylio o gwmpas Prydain ac Iwerddon. Weithiau byddent yn ymweld â Ffrainc, yn enwedig Llydaw. Pan oedd hi’n 21ain oed bu yn byw gyda’r teulu Hanson yn Llydaw, a dyna le y dysgodd hi lawer o’r sgiliau yng ngwniadwaith a choginio. Yn ei harddegau ymunodd â’r Geidiau yn Nyffryn Ardudwy a mynychodd gyrsiau drama yng Ngholeg Harlech gan arbenigo mewn dylunio a gwneud gwisgoedd. Yng nghanol y tridegau cyfarfu â’i darpar ŵr Griffith Morris, y pensaer o Borthmadog. Cyn bo hir fe briodon a chychwyn teulu eu hunain, Tudor i ddechrau, wedyn Hywel a Daniel ac yna’r unig ferch Emsyl. Mewn tristwch, bu farw Hywel dwy flynedd yn ôl. Yr oedd Myfanwy yn aelod prysur o Sefydliad y Merched am nifer o flynyddoedd a chyda hwy datblygodd ei sgiliau ac ennill tystysgrif y City and Guilds mewn Gwniadwaith. Fe wnaeth wisgoedd Cymreig i’r telynoresau Edith Evans, Eleanor Dwyryd a Llio Rhydderch.

Genedlaethol amryw o weithiau ac ennill teilyngdod yn Eisteddfod Caerffili ym 1950. Ffaith ryfeddol ydy fod Myfanwy wedi ymwneud â hyn oll a magu pedwar o blant ar yr un pryd. Mae ganddynt gof ohoni yn gweithio ymlaen tan oriau mân y bore un noson ar ôl y llall i gwblhau’r gwaith. Pan adawodd y plant y nyth fe welodd amser i ddilyn ei diddordeb o ymchwilio i hanes y teulu a’r hanes lleol. Dros amser fe wnaeth gasgliad swmpus o luniau a dogfennau sydd yn awr yn ddiogel yn Adran Archifau Gwynedd. Sgwennodd lyfr, sef ‘Porthmadog – Llanw Ddoe’ gyda chefnogaeth yr Adran, sy’n efelychiad o ffrwyth ei llafur ar raddfa leol a chenedlaethol. Ym 1980 ar ôl gwaeledd hir ac anodd, bu farw ei gŵr, Griff. Ar ôl ychydig amser mentrodd trwy ymuno â’r Gymdeithas Hanes leol a chymryd rhan ar deithiau i lefydd diddorol. Fe deithiodd hi dramor gyda Hywel a’i deulu a chyda Gwen ei chwaer hynaf. Ymwelodd ag Oberammargau yn yr Almaen, Malta, Moroco a Sbaen. Yn ei henaint fe ddechreuodd farddoni yn y Saesneg. Fe gafodd yr ail wobr mewn dylunio cwiltiau mewn cystadleuaeth yn agored i Brydain gyfan. Dymuna’r teulu ddiolch yn fawr iawn i Gartref Gofal Madog, Ysbyty Gwynedd a’r holl ffrindiau agos a chymdogion triw am alw heibio’n gyson i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb HYDREF 12 - Gwasanaeth Diolchgarwch 19 - Parch Christopher Prew 5.30 26 - Parch Carwyn Siddall TACHWEDD 2 - Miss Eluned Williams

Bu’n cystadlu yn yr Eisteddfod

7


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cyhoeddiadau Sul

Capel Salem HYDREF 19 Parch Dewi Tudur Lewis (Diolchgarwch) * * * Am 2.00 oni nodir yn wahanol HYDREF 19 Capel y Ddôl, Parch John Tudno Williams 26 Nantcol, Parch Dewi Tudur Lewis TACHWEDD 2 Capel y Ddôl, Mrs Eleri Owen Jones

Ffarwelio gydag Elin, Lowri, Seren, Logan, Iwan a Cari, gan ddymuno pob lwc yn Ysgol Llanbedr

Cylch Meithrin Llanbedr

Hoffem yn gyntaf ddymuno pob lwc i saith o gyn-ddisgyblion ar gychwyn eu gyrfa yn Ysgol Gynradd Llanbedr: Elin, Cari, Lowri, Seren, Logan, Iwan a Tristan. Ffarweliwyd â’r criw mewn parti ar ddiwedd y tymor a diolchwyd i Anti Heulwen, Anti Helen ac Anti Christine am eu holl waith yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal estynnwn groeso cynnes i’r disgyblion newydd i’r Cylch eleni: Ben, Harry, Charlie a Morgan. Mae criw bach cartrefol iawn yn y Cylch a byddwn yn trefnu sawl achlysur yn y gymdeithas yn fuan iawn. Bu’n haf prysur yn casglu arian at y Cylch. Diolch i gyfraniad Jodie E Photography ar ôl bore o dynnu lluniau, i deulu Maes Carafanau Hendre Coed am drefnu barbeciw, ac i’r holl blant a’u rhieni am dreulio bore braf ar draeth Mochras yn adeiladu cestyll tywod noddedig. Am fanylion cofrestru darpar ddisgybl gyda ni, cysylltwch gydag Eleri Evans, Maes y Garnedd (01341 241342). Cystudd Bu farw Mrs Margaret Morgan, Bodafon, ar Fedi 10fed ar ôl cystudd blin. Cydymdeimlwn â’i merched Ann a Wenna a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mrs Gwyneth Evans, Isfryn gynt, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ond yn ôl yng Nghartref Madog erbyn hyn. Gobeithio ei bod wedi gwella. Diolch Er cof am Mam a Dad annwyl, Glenys ac Eric Thomas, Siop Gornel, Llanbedr. Mae lle gwag mawr yn ein bywydau ar eich holau, eich dau. Teresa, David a Jenny Wynfydd £20

8

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu Mrs Megan Jones a fu farw ddechrau Medi yn 94 oed. Symudodd i fyw i Faesteg rai blynyddoedd yn ôl i fod yn nes i’w theulu, ond roedd yn dal i gysylltu â’i chyfeillion yn Llanbedr a Harlech. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu Mrs Kitty Kerr, Ivy Cottage a fu farw yn ddiweddar. Cydymdeimlwn yn arbennig â’i gŵr Leslie a’u mab Steven a’i blant yn eu profedigaeth. Diolch Diolch yn fawr am y rhodd o £12.50 i’r Llais gan Alun Owen a £3 gan Gwenda Shepherd.

Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher, Medi’r 3ydd fe gawsom noson ardderchog i ddechrau’r tymor newydd gydag ymweliad â Chwmni Seren, Ffestiniog. Cawsom groeso cynnes iawn gan Ann, Linda ac Adeline - sefydlwyd y Cwmni 18 mlynedd yn ôl i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu i fyw yn annibynnol, gweithio a chymdeithasu o fewn eu cymuned. Cawsom hanes y sefydlu, y broses o ail-gylchu, cyfle i brynu dillad o’r siop ac ymweld â’r siop ddodrefn aillaw a newydd. Wedyn ymlaen i’r siop grefftau cyn mynd i’r gwesty newydd, sef Gwesty Seren yn Llan Ffestiniog. Cawsom ein tywys o amgylch y gwesty moethus yma sy’n cynnig gwyliau ar gyfer pobl ag anableddau, eu teuluoedd a gofalwyr. Pryd o fwyd blasus wedyn wedi ei baratoi ar ein cyfer i orffen noson fendigedig. Rhoddwyd y diolchiadau gan Gwen a Beti. Swyddogion newydd y gangen yw: Llywydd: Gwen Edwards Ysgrifennydd: Beti Miller Trysorydd: Meinir Evans Beth am ymuno â ni yn neuadd Cwm Nantcol nos Fercher Hydref 1af am 7.30 o’r gloch a chael hanes Egryn a’r Cyffiniau yng nghwmni Rhydian Morris o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol?

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy Mis Medi

1 £30] Janet Mostert 2 [£15] Ester Jones 3 [£7.50] Iorwerth Davies 4 [£7.50] Betty Owen 5 [£7.50] Iolo Williams  6 [£7.50] Alun P Evans

CYMDEITHAS CWM NANTCOL

PREGETH DDIOLCHGARWCH Parch Emlyn Richards yng Nghapel Nantcol Nos Lun. Hydref 13 am 7.00 o’r gloch Cyfarfod Blynyddol Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Cwm Nantcol yn ddiweddar. Trafodwyd y rhaglen am y flwyddyn sydd i ddod ac mae addewid am raglen ddifyr a diddorol unwaith yn rhagor. Manylion yn y rhifyn nesaf. Trafodwyd hefyd ddulliau o godi arian gan bod y gwariant wedi bod yn bur drwm yn ddiweddar. Trefnir cyngerdd yn Neuadd Dyffryn Ardudwy ac mae’n fwriad i drefnu Gyrfa Chwist yn Llanbedr cyn y Nadolig.

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL PORTHMADOG ar Sadwrn ola’r mis yn y Ganolfan, ger yr Harbwr, Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Croeso cynnes Cynnyrch cartref o safon uchel Byddwn o dro i dro yn chwilio am gynhyrchwyr newydd Manylion ar ein Safwe: www.marchnadporthmadogmarket.co.uk

TRACTORAU ERYRI

Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932


Marwolaeth Ar Medi 5 bu farw Katie Kerr, Ivy Cottage, yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd. Cynhaliwyd gwasanaeth yn yr Amlosgfa ym Mangor yng nghwmni ei theulu a ffrindiau agos ar Fedi 19. Darllenodd Mari Lloyd yn ddewr iawn ar ran y teulu deyrnged wedi ei pharatoi gan ei mam. A gwnaeth Malcolm Griffiths ddarllen darn wedi ei gyflwyno gan Ayla Kerr, gair o ddiolch i’w Nain.

am hynny. Wedyn cafodd ofal ei hwyrion Ayla a Ryan pan oeddent yn blant bach, a bu fel mam i Ayla yn enwedig. Yr oedd wedi dotio tuag atynt wrth gwrs, ac yn falch iawn ohonynt. Ymysg ei theulu, un o bleserau mwyaf Anti Ket oedd gofalu am fywyd gwyllt. Yr oedd yn noddfa i bob creadur boed yn anifail neu yn aderyn. Nid oedd yn licio gweld dim byd yn dioddef. Byddai’n gwario punnoedd lawer am greision india corn i fwydo’r adar, a byddai’n bwydo pob cath golledig yn yr ardal. Gofal, a gofalus am bob peth fel ei gilydd. Teyrnged Felly’r oedd ei natur, un ffeind iawn, Ganwyd Anti Ket ar Medi 16, 1932, a rhoi pawb arall yn gyntaf. yng Ngharn Fadryn, yn un o 8 o blant Pan oeddwn efo hi yn Ysbyty John a Barbara Owen. Symudodd y Gwynedd ychydig ddyddiau cyn teulu’n ôl i Glan Rhos, Dyffryn pan Nadolig 2012, roedd wedi disgyn ar oedd Katie yn 2 oed. Yna ymgartrefu lwybr yr ardd, wrth nôl rhywbeth yn ddiweddarach yn Nhŷ Croes, o’r rhewgell yng ngwaelod yr ardd. Gwynfryn. Bu am gyfnod yn Ysgol Dydd Sadwrn oedd hi. Ffoniodd Llanbedr, ond cafodd ei tharo’n wael fi ddydd Sul i ddeud “Dwi’n gyda’r diciâu a threuliodd, ynghyd â meddwl y byddai’n well i mi fynd i’r Val ei chwaer fach, gyfnod yn y Tŷ hosbitol”. Felly minnau yn gwneud Gwyn, Llwyngwril, er mwyn dod y trefniadau, a mynd a hi i fyny i dros yr afiechyd. Fangor 21 o Ragfyr. Eistedd mewn Pan yn 16 oed gadawodd Tŷ Croes derbynfa brysur ofnadwy, a phawb am Rydychen, lle’r oedd ei chwaer yno yn reit ddiamynedd. Anti Ket hynaf Maggie yn byw. Bu’n gweithio yn sgwrsio’n braf efo mi, a ddim yno mewn gwesty. Daeth yn ôl yn cwyno dim. Ar ôl sawl x ray, i Lanbedr lle bu am gyfnod yn cawsom ar ddeall ei bod wedi torri gweithio yn y Victoria ac yn ffatri ei ffêr yn ddrwg mewn 2 le. Methu Bloor. Ffatri gwneud ‘washers’ rhoi cast arno i’w asio ar y pryd. asbestos oedd hon ac ni wnaeth les Siŵr ei bod bryd hynny mewn poen i’w hiechyd hi nac Anti Val. garw, ond ni ddywedodd air, dim Ymhyfrydai yn ei gardd a’r awyr ond poeni ei bod yn fy nghadw i agored, a mynd â’r cŵn am dro. Daw rhag paratoi at y Nadolig. Minnau i’m meddwl eiriau Crwys: yn gorfod mynd adref hebddi, a Gydag ymyl troedffordd gul bu raid iddi aros am wythnos ym A rannai’r ardd yn ddwy Mangor pryd hynny. Helpu wedyn Roedd gan fy Mam ei border bach pan oeddwn yn clirio dillad mam, a O flodau perta’r plwy.…. sawl noson yn dod i fyny i’r Hendre Nid oedd unrhyw ffỳs yn perthyn i gadw cwmni i’n nhad. Roeddem iddi ond er hynny yr oedd yn fawr o feddwl bryd hynny mor bendant ei daliadau a phenderfynol fregus a phrin oedd ei hamser iawn ei ffordd. hithau. Byddai wastad yn reidio ei beic yn Mae’r hen deulu yn mynd yn llai ôl ac ymlaen i’r pentref. Nid oedd o hyd. Wrth ffarwelio efo Anti erioed wedi dreifio car. Bydda hi Ket, dwi’n siŵr ar ran y teulu yr hefyd yn cael pleser yn paentio hoffwn ddiolch i bawb, heb enwi ystafelloedd yn y tŷ, a byddai’n sefyll neb, fu’n driw iddi hyd at y diwedd ar ben cadair er mwyn cyrraedd y a doctoriaid a staff y feddygfa yn nenfwd. Byddai hefyd yn wastad y Bermo, ac i bawb a hwylusodd wrthi’n gwau rhyw ddilledyn yn drefniadau heddiw ’ma. dragwyddol, gan beidio gwastraffu Ei gadael eto fydd raid yma heddiw dim edafedd, a byddai’r siwmperi o ’ma, ond rywsut gyda chân bob ganlyniad yn lliwgar a streipïog iawn. aderyn ar awel y gwynt y cofiwn Ym 1963 fe briodwyd gyda Less ac amdani. Mae hithau bellach yn ymgartrefu yn Ivy Cottage. rhydd yn ein mysg , yn rhydd o’i Ganwyd iddynt un mab sef Steven, phoen a’i hing. cannwyll llygaid y ddau ohonynt. Hwyl fawr, Anti Ket. Bu Katie yn hynod garedig wrth Mrs Morfudd Jones, Ffatri (mam Robert John) Tŷ Isa, gan edrych ar ei hôl. Hefyd Diolch bu’n gofalu’n dyner iawn am Nain a Carai Less a Steven a’r teulu ddaeth i lawr o Dŷ Croes i fyw gyda ddiolch i bawb am bob arwydd hwy yn ei gwaeledd hithau. Roedd o gydymdeimlad a ddangoswyd Kety fel nyrs pryd hynny, ac wedi iddynt yn ystod y cyfnod anodd aberthu llawer o gysuron oherwydd cymryd y dyletswyddau hyn, ac yma. roedd y teulu’n ddiolchgar iawn iddi Rhodd at y Llais o £10.00

LLANFAIR A LLANDANWG CYNGOR CYMUNED

Gwellhad buan Dymuniadau gorau am adferiad llwyr, ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, i David E Evans, Haulfryn, Cydymdeimlodd y Cadeirydd Gwenllian Jones, Bryn Awelon ac â Chlerc y Cyngor a’r teulu, Eifion John, 14 Derlwyn. yn dilyn ei phrofedigaeth o golli ei mam, Mrs Eleanor Rhoddion Jones, Crafnant, Llanbedr yn Derbyniwyd rhodd o £10 oddi ddiweddar. wrth Meira Dodd. Diolch yn fawr. Yr Elor Bu Catrin Glyn yn gweld yr Golff uchod yng Nghae Cethin. Daeth Ann Lewis , Min y Cytunodd y byddai Cyfeillion Môr, Llandanwg i safle 11 Ellis Wynne yn ei chymryd i’w allan o 96 o gystadleuwyr ym harddangos yn y Lasynys. Mhencampwriaeth Gwledydd Prydain yn Dornoch yn Polisïau Risg y Cyngor ddiweddar. Safle canmoladwy Mae angen sylw ar do lloches iawn - trueni na chafodd cystal bws Frondeg ac mae angen lwc ar y diwrnod olaf. tocio’r goeden wrth y lloches Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Hefina bawb i gyfarfod cyntaf y tymor. Llongyfarchwyd Ann ar ddod yn hen nain i Beca; Llŷr, mab Gwyneth a Natalie ar eu priodas; Ceri merch Hefina ar ei swydd newydd. Canwyd y gân i gyfeiliant Meinir. Cafwyd adroddiadau fod y Te Cymreig wedi gwneud elw o £305, a bod y sefyllfa ariannol yn iach. Diolchodd Hefina i bawb am y gefnogaeth i’r Te Cymreig. Cytunodd Bronwen i ddarllen stori yn yr Ysgol Feithrin ym mis Hydref. Gohebiaeth: 1. Llythyr gan ‘Gofal Canser y Fron’ yn diolch am ein cyfraniad. 2. Theatr Bara Caws, Hydref 10 yn y Theatr. 3. Cynllun Lleoli Oedolion Gwynedd yn cynnig sgwrs. Tynnwyd sylw cynrychiolwyr at y Pwyllgorau Rhanbarth. Cyflwynodd Hefina y wraig wadd, sef Mair Penri [a’i phriod]. Cafwyd cychwyn ardderchog i’r tymor yn gwrando ar Mair yn adrodd ei hatgofion am Nansi Richards, Brenhines y Delyn. Talwyd y diolchiadau gan Edwina. Mair Lloyd a Winnie oedd yn gofalu am y baned.

SAMARIAID Llinell Gymraeg ar gael 0300 123 3011

hon.

Ceisiadau Cynllunio Diddymu Amodau 8 a 9 o ganiatâd cynllunio – Sŵn y Môr, Llanfair - dim gwrthwynebiad. Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ newydd - Sŵn y Môr, Llanfair - caniatáu UNRHYW FATER ARALL Mae angen sylw ar goed o amgylch giât Porth yr Eglwys. Cytunwyd bod yr aelodau yn cael golwg arnynt. Mae angen tynnu’r eiddew oedd yn tyfu o amgylch y beddau yn yr hen fynwent. Mae ambell un yn dal i fynd â chŵn i’r chwith ar draeth Llandanwg er bod arwydd yn dynodi iddynt beidio. Mae’r gwaith ar y coed ar ochr y ffordd o Gae Cethin draw am Bensarn wedi ei wneud Mae angen eu chwistrellu i rwystro’r coed rhag tyfu yn ôl. Holwyd a yw Cyngor Gwynedd yn casglu moch daear sydd wedi eu lladd ar y ffordd neu beth yw’r drefn o’u gwaredu.

Cyhoeddiadau Caersalem 2014

Am 2.15 oni nodir yn wahanol HYDREF 12 Parch Tecwyn Ifan, Diolchgarwch 19 Parch Christopher Prew 26 Br Marc Jon Williams TACHWEDD 16 Parch Eirian Wyn Lewis 23 Parch Olwen Williams am 2.00 o’r gloch

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Pen-blwydd arbennig Gobeithio bod Ann Jones (Harris gynt) wedi mwynhau ei phen-blwydd arbennig ar 13 Medi. Cofion oddi wrth y teulu a ffrindiau yn yr ardal.

Cyfarfod Tommo Mae llawer ohonom yn gwrando ar Radio Cymru o fore gwyn tan nos gan fod cymaint ohonom yn byw ein hunain. Yn wahanol i’r teledu lle mae’n rhaid eistedd i edrych, hefo’r radio gallwn Darlith Goffa Merfyn Williams barhau i weithio yn y tŷ a hefyd “Rhai o Feirdd Gwlad Eryri”. mynd â’r radio allan hefo ni i’r Traddodir y ddarlith gan Dr ardd neu’r shed. Cofiaf yn dda Bleddyn Owen Huws am 7.30 yh am gyfnod yn fy hanes pan yn y Stablau, Plas Tanybwlch ar oedd gen i dŷ gwydr hyfryd 16 Hydref 2014. Croeso i bawb. ond cymdogion swnllyd a throi’r radio i fyny i foddi eu Ffair Lyfrau’r Hydref sŵn wnawn i, a chadw yn fy Yn dilyn llwyddiant y llynedd synhwyrau yn yr ardd, oedd yn mae’n bleser eich hysbysu ein nefoedd i mi. bod yn cynnal ein hail Ffair Mae May yn rhoi Talsarnau ar Lyfrau ar ddydd Sadwrn y 18fed y map ar y radio’r dyddiau yma. o Hydref, 2014 yn y Neuadd Mae ganddi arwr mawr yn y Gymuned, Talsarnau. Felly pnawn sef Tommo ac wedyn mae gwahoddiad i unrhyw un Geraint Lloyd gyda’r nos a John (arwerthwyr ai peidio) i logi ac Alun ar nos Sul. Trefnodd bwrdd. CHWILOTWCH, Radio Cymru i Tommo ddod CLIRIWCH, a dewch i i gyfarfod May o Dalsarnau WERTHU! Nifer cyfyngedig yn y Llew Glas ym mis Awst o fyrddau sydd gennym yn ynghyd â Betty o’r Ynys a Menna y Neuadd felly cysylltwch ar o Harlech oedd yn cael penfrys i logi bwrdd neu am fwy o blwydd arbennig. fanylion. Y cyntaf i’r felin fydd Dyma lun o Tommo i May sy’n hi! cael lle ar y silff ben tân. Diolch i Radio Cymru am roi cymaint o bleser i ni yn ein Neuadd Gymuned cartrefi.

Talsarnau

GYRFA CHWIST Hydref 9 am 7.30 o’r gloch ac wedyn ar yr ail nos Iau yn y mis

Cofion Anfonwn ein cofion at Dawn Jones, 10, Cilfor, sydd yn Ysbyty Gwynedd yn cael profion. Rydym yn meddwl amdani ac yn dymuno’r gorau iddi am wellhad buan a chael dod adref.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

YNYS MANAW 1965?

O’r chwith i’r dde: Geraint Owen, Lasynys; Richard Morgan, Tŷ Cerrig; y diweddar Ifor Pugh, Llanbedr; Dewi Jones, Alltgalch; ac Eric James Jones, Llandecwyn yn mwynhau eu hunain ar eu gwyliau ar Ynys Manaw ganol y 60au.

DIOLCH

Dymuna teuluoedd Gwrach Ynys a Chilfor ddiolch o galon i bawb am y cyfraniadau hael er cof am Gwynfor. Casglwyd y swm anrhydeddus o £4,600 i Tenovus at waith ymchwil i ganser yr ymennydd ym Mhrifysgol Bangor. Diolch hefyd i’r llu o ffrindiau a ymunodd â nhw i gerdded i ben y Rhinog Fach, hoff le Gwynfor, lle gwasgarwyd ei lwch. Rhodd a diolch: £20

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

10


Y Capel Newydd Talsarnau

Dau ddyddiad i’ch dyddiadur: Hydref 29 am 7.30 cynhelir Oedfa Ddiolchgarwch. Mae gan bawb ohonom lawer o resymau dros fod yn ddiolchgar i Dduw. Byddai croeso cynnes i chi ymuno hefo ni. Bore Sadwrn Tachwedd 8, Bore Coffi Tear Fund 10.30-12.30. Cyfle i brynu anrhegion Nadolig a chefnogi gwaith ‘Tear Fund’ yr un pryd! Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Dewi a Siriol ar 01766 770953.

NEUADD GYMUNED TALSARNAU Cyngerdd gyda

Trio Canig Parti’r Goedlan Nos Wener, 24 Hydref 2014 am 7.30 Tocynnau £10 (plant ysgol yn ddi-dâl) ffôn 770757 neu 770736 Cofion Anfonwn ein cofion cynhesaf a’n dymuniadau gorau at Mr Idris Williams, Tanforhesgan, sydd yn glaf yn Ysbyty Gwynedd ac yn aros am driniaeth lawfeddygol. Hyderwn y byddwch yn teimlo’n well yn fuan iawn.

Rhoddion Derbyniwyd rhodd o £12 oddi wrth Angharad Morris a £6.50 oddi wrth Gwyndaf Williams. Diolch yn fawr.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

Cydymdeimlwyd â Chlerc y Cyngor a’r teulu, yn dilyn ei phrofedigaeth o golli ei mam, Mrs Eleanor Jones, Crafnant, Llanbedr yn ddiweddar. Merched y Wawr Cais Cynllunio - Cais i symud allfrigiad creigiog o fewn cwrtil Trefnwyd i’r aelodau ymweld domestig - Penbryn Isa, Llandecwyn ag Abaty Cymer, Llanelltyd Gwrthwynebu’r cais oherwydd nad yw’r cynlluniau yn cyd-fynd dydd Iau, 11 Medi. Cychwyn â’r gwaith sydd wedi’i wneud ar y safle a hefyd mae angen asesiad am 10 o’r gloch y bore, a chael risg ac asesiad effaith amgylcheddol y gwaith. Awgrymu’n gryf bod diwrnod arbennig o braf i panel ymweld y Parc yn mynd i’r safle. deithio yno. Wedi cyrraedd, Parc Cenedlaethol Eryri cael ein croesawu gan Nia Derbyniwyd ymholiad ynglŷn â charafán deithiol ar dir ger Cynefin, Rowlands, Fferm y Vanner, a Llandecwyn yn gofyn a oes gan y Cyngor unrhyw wybodaeth oedd yn barod i gyflwyno hanes ynglŷn â phryd y sefydlwyd y garafán ar y tir a defnydd y garafán ers yr Abaty i ni ers ei gychwyn yr amser hwnnw. Mae’r aelodau’n ymwybodol bod carafán ar y safle cyntaf hyd at ei ddiddymu gan ond ddim yn gwybod ers pryd. Harri’r 8fed yn 1537. Roedd Cyngor Gwynedd sgwrs Nia yn hynod o ddiddorol Bydd y gwaith o lenwi’r tyllau yn y maes parcio i lawr ffordd stesion ac addysgiadol. Yna mynd o yn cael ei wneud ym mis Hydref. gwmpas a cheisio dychmygu sut Unrhyw Fater Arall fyddai bywyd yn yr Abaty pan Datganwyd pryder bod gormod o geir yn parcio yn ystâd dai Cilfor. oedd y lle ar ei anterth. Cyn Datganwyd pryder bod cymaint o ddamweiniau wedi digwydd gadael, diolchwyd yn gynnes ger cornel Tregwylan a bod y ffordd ar wastad Barcdy yn pantio a iawn i Nia gan Siriol Lewis, chytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r materion. Mae angen Llywydd y Gangen,, ar ein rhan gorffen glanhau’r Gofeb a chytunodd John Richards ddelio gyda’r ni i gyd, am ei chroeso a’i sgwrs mater. Datganwyd pryder bod goryrru’n digwydd wrth ddod trwy’r a werthfawrogwyd yn fawr iawn. pentref a chytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater. Yna ymlaen i Ddolgellau i Mae angen gwybod pryd mae’r coed ar y llwybr o Gafael Grom at fwynhau cinio blasus yn y lwybr y Wern yn mynd i gael eu clirio a hefyd mae angen gwybod ‘Sosban’ ac yna cyfle i wneud pryd mae’r gwaith yn mynd i gael ei wneud ar lwybr y Wern. Mae ychydig o siopa cyn cychwyn angen sylw hefyd ar y llwybr o’r llifddorau draw am y stesion sy’n adre ganol pnawn. Roedd yn rhan o Lwybr yr Arfordir. ddechrau da i weithgareddau’r flwyddyn i ddod.

AR OSOD YN NHALSARNAU BYNGALO DWY LOFFT Ymholiadau: 01766 780359

PRIODAS

Y BARDD CWSG A GUTO FFOWC

Welsoch chi gerdd Ellis Wynne (Y Bardd Cwsg) ar y testun ‘Noson Guto Ffowc’? Naddo mae’n debyg, oherwydd yn awr y mae’n gweld golau dydd am y tro cyntaf. Cerdd fer mewn Lladin ydyw, dan y teitl ‘In Quintum Novembris’, yn gwaredu at Gynllwyn y Powdwr Gwn ac yn diolch am y waredigaeth i’r deyrnas. Daeth i’r fei ymhlith papurau Ymddiriedolaeth David Hughes yn Archifdy Ynys Môn, Llangefni, a gwarantodd yr Athro Gwyn Thomas bod y copi yn llaw Ellis Wynne ei hun. Fe’i cyhoeddir yn y gyfrol ‘Hen Lyfr Bach Cerddi’r Bardd Cwsg’, dan olygyddiaeth Dafydd Glyn Jones. Yn yr un pecyn o ‘Hen Lyfrau Bach’ ceir tri llyfr bychan arall, i ffitio poced y Cymro o ran maint ac o ran pris. Am tro cyntaf ers 1923, ceir y casgliad cyflawn o gerddi’r Bardd Cocos, gyda rhagymadrodd gwerthfawr Thomas Roberts (Alaw Ceris). Ceir detholiad newydd gan Dawi Griffiths o waith Eben Fardd mewn mydr a rhyddiaith. A cheir y stori ‘Dewis Blaenoriaid’ gan Daniel Owen, gwaith cynnar a ddisgrifiwyd gan Saunders Lewis fel ‘y peth perffeithiaf a sgrifennodd ef ’. Bwriedir ‘Yr Hen Lyfrau Bach’ fel chwaer-gyfres i ‘Gyfrolau Cenedl’, yn ailgyflwyno gweithiau byrrach a ddylai fod ar gael i bob Cymro. Mae rhes hir o gyfrolau eisoes wedi eu cynllunio, ac y gobeithir gweld eu cyhoeddi os ceir cefnogaeth. Mae’r diolch i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai am gyfraniad hael a wnaeth yn bosibl gyhoeddi’r pedair cyfrol gyntaf. Bydd y gyfrol, a’r pecyn, ar gael yn Ffair Cyfeillion y Lasynys, sydd i’w chynnal yn Neuadd Talsarnau ddydd Sadwrn, 18 Hydref.

Ym mis Awst, priodwyd Sioned(Rhosigor gynt) a Stephen Henshaw yng Ngwesty Portmeirion. Llio Non a Mali oedd y morwynion [eu dwy merch] a rhoddwyd Sioned i ffwrdd gan eu mab, Cai. Y gwas oedd Steven Jones ffrind y priodfab. Cynhaliwyd parti i ddathlu’r briodas yng Ngwesty’r Oakeley Arms a threulir y mis mêl yn Florida yn ystod Mis Hydref.

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

4

7

5

6

8

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol

HYDREF 10 - Garw

9

10

11

12

13

14

16 18

20

Ar draws

1 Marc hen glwyf (5) 4 Mynd i ffwrdd (6) 7 Safle mewn tîm rygbi (5) 8 Carreg galed, lwyd (6) 9 Oernadu (3) 11 Gwlad yn Asia, prif ddinas Phnom Penh (8) 12 Seindorf (4) 13 Asio ynghyd (3) 14 Nam (3) 18 Terfysg (5) 19 Miniog (6) 20 Ffrwyth bach coch neu felyn (7) 21 Dymunol (4)

I lawr

1 Cymryd enw Duw yn ofer(5) 2 Math o gist bren y rhoddir corff marw ynddi (3) 3 Y rhan o’r corff rhwng y gwddf a’r bol (6) 4 Gŵr gweddw (7) 5 Niwed (6) 6 Y flwyddyn hon (5) 10 Gwneud sŵn eithaf uchel i ddynodi poen (8) 12 Adeilad i letya milwyr (6) 15 Nant fechan (6) 16 Ffasiwn (5) 17 Ystyried (5) 19 Goglais (4) SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

12

15

17

Drama newydd heriol am bobl a’u brwydrau mewn cyfnod o newid ysgytwol yn hanes diweddar Cymru. Diwedd yr 80au yn Nyffryn Aman. Mae’r byd yn newid i Llew ac nid dwylo garw’r dynion sy’n cynnal teuluoedd bellach ond bysedd diwyd y gwragedd. Os yw gorwelion Llew yn culhau, mae gorwelion ei wraig Sara a Lowri ei ferch yn lledaenu i gyfeiriadau annisgwyl. Gyda’r holl newidiadau mae seiliau’r aelwyd yn simsanu. Canllaw oedran: 14+

16 - Cymdeithas Ffilm Harlech am 6.00 yh.

19

21

ENILLWYR MIS MEDI Dyma’r enillwyr y tro hwn: Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; David T Hughes, Cyffordd Llandudno; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Idris Williams, Tanforhesgan, Talsarnau; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli; Gwenfair Ayckroyd, Y Bala.

Atebion Mis Medi

AR DRAWS 1. Amser 4. Archolli 7. Encilio 8. Arwr 9. Deryn 10. Diafol 11. Neilon 13. Nef 16. Galaru 18. Plygu 20. Landeri 21. Reit

Mae’r Gymdeithas bellach yn 20 oed ac i ddathlu’r ffaith ei bod yn ‘gymdeithas ffilm hynaf Cymru’, fe’ch gwahoddir i’r Theatr i ddathlu gyda ni. Byddwn yn dechrau’r dathliadau gyda derbynfa yn y cyntedd am 6.00 yr hwyr ar nos Iau, 16 Hydref, lle cewch gyfle i siarad gydag aelodau’r gymdeithas am yr holl ffilmiau y maent wedi eu gweld dros y blynyddoedd. Cewch hefyd gyfle i wrando ar drafodaethau gyda’r aelodau am yr hyn y mae’r Gymdeithas yn ei olygu iddynt. Ar ôl y dderbynfa byddwn yn cychwyn tymor newydd y Gymdeithas gydag ymddangosiad ffilm gyntaf 2014/15 sef ‘The Great Beauty’ am 7.30 yh.

25 – Pink Floyd, 7.30 yh

Mae’r cyngerdd yn daith drwy dair degawd o gerddoriaeth Pink Floyd gyda chyfuniad o ganeuon cynnar Syd Barrett drwy ei gyfnod eiconig o Dark Side of the Moon, a Wish You Were Here, ar albwm llai adnabyddus Atom Heart Mother, yn cael ei berfformio drwy sioe oleuadau laser a delweddau wedi eu hysbrydoli gan Pink Floyd.

28 – Female Gothic, 7.30 yh

Yn y tywyllwch rhwng bywyd a marwolaeth, clywn hanesion rhyfedd, erchyll a brawychus gan ddynes ofnus; straeon cudd ac wedi eu hanghofion - tan rŵan. Yn nhraddodiad cyffrous o M R James ac Edgar Allan Poe, mae’r geiriau yn dathlu tri darn o waith gothig a oedd wedi eu colli gan awduron benywaidd gorau oes Victoria.

CEIR MITSUBISHI

I LAWR 1. Aberdar 2. Sacarin 3. Rilen 4. Acordion 5. Chwarae 6. Llawio 12. Iarlles 14. Esgair 15. Alarch 16. Galw 17. Lint 19. Aig

Ffair Aeaf

yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth dydd Sadwrn Tachwedd 22 rhwng 2.00 a 4.00 y prynhawn Stondinau o bob math a bargeinion lu Croeso cynnes i bawb Mynediad yn cynnwys ‘pana’d: £1 Trefnir gan Gangen

Penrhyndeudraeth Plaid Cymru

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk


NEWID I DRETH CAR ATHLETWYR DAWNUS YSGOL ARDUDWY

Bydd mwy na 90 o flynyddoedd o hanes moduro yn dod i ben yr wythnos hon wrth i’r ddisg dreth car papur gael ei diddymu. Cafodd y ddisg ei chyflwyno yn 1921, ond o ddechrau Hydref ymlaen ni fydd angen i fodurwyr ddangos y ddisg dreth ar ffenestri eu ceir. Ond, dyw hynny ddim yn golygu bod dim angen talu’r dreth, gan y bydd modurwyr yn cael dewis adnewyddu’r dreth ar-lein neu yn Swyddfa’r Post. Un newid allweddol arall yw y bydd pobl sy’n prynu car newydd yn gorfod adnewyddu’r dreth ar unwaith, yn hytrach na defnyddio’r dreth sy’n weddill ar yr hen gar. Bydd y rhai sy’n gwerthu ceir yn gallu hawlio ad-daliad gan y DVLA am y misoedd sydd yn weddill ar y dreth. Bydd y rhai nad ydynt wedi talu eu treth yn cael eu dal ar gamerâu sy’n adnabod rhifau trwydded ceir neu gan yr heddlu.

Llongyfarchiadau mawr i dimau athletau bechgyn Blwyddyn 7 ac 8 am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Athletau Meirion-Dwyfor. Yno buont yn cystadlu yn erbyn ysgolion Y Berwyn, Y Moelwyn, Glan y Môr, Eifionydd, Botwnnog a’r Gader i ganfod pwy fuasai’n mynd ymlaen i gynrychioli Eryri ym mhencampwriaeth timau athletau Eryri Gogledd Cymru. Dyma restr o’r disgyblion a ddisgleiriodd. Cafwyd perfformiadau ardderchog gen Rowan Bavin, Ben Davies, William McKenzie, Cedri Jones a Tomos Bromley drwy ddod yn gyntaf yn eu cystadlaethau.

DISGYBLION YSGOL ARDUDWY YN PERFFORMIO ‘YN YR HAF’

Un o uchafbwyntiau teledyddol yr haf yn sicr oedd darllediad y rhaglen ‘Salem’ ar S4C. Ynddi, roedd y cerddor amryddawn o Lŷn yn wreiddiol, Endaf Emlyn, yn edrych yn ôl ddeugain mlynedd ar ymddangosiad ei albwm o ganeuon o’r un enw â’r rhaglen. I’r rhai hynny sy’n ddigon hen i gofio’r achlysur, roedd y record hon yn torri tir newydd yn y Gymraeg, ac yn gosod safon nad yw wedi ei wella arno ar lawer ystyr ers hynny. Yn y rhaglen roedd Endaf Emlyn yn ymweld â’r capel bach enwog yng Nghwm Nantcol am y tro cyntaf yn ei fywyd, yn olrhain y paentiad gwreiddiol a gomisiynwyd i werthu sebon ‘Sunlight’, ac yn cael tipyn o hanes y cymeriadau yn y llun gan rai o drigolion y fro. Un o’r rhai oedd yn dweud peth o’r hanes oedd y nofelydd Haf Llewelyn, sy’n gyn-ddisgybl o’r ysgol hon. Uchafbwynt y rhaglen i ni, yn bendant, oedd perfformiad gan ddisgyblion Ysgol Ardudwy o’r gân ‘Yn yr Haf ’, dan arweiniad Einion Dafydd, ein Pennaeth Cerddoriaeth. Cafodd adolygiad da yn ‘Golwg’, a chanmoliaeth uchel gan eraill. Roedd yn braf clywed y gân wreiddiol yn cael gwedd newydd, ddeheuig, wedi’r holl flynyddoedd.

13


YMATEB I ERTHYGL

Diolch i Gwyneth Williams, Amwythig, am ei hymateb i’r eitem gan Eirian Stephen Jones yn rhifyn diwethaf y Llais am ewythr i Gwyneth, sef Evan Evans, Brwynllynnau, Llanfair, a laddwyd yn Ffrainc yn y Rhyfel Mawr ar 19 Medi 1917. Dyma sydd gan Gwyneth i’w ddweud:

“Rwyf wedi ysgrifennu at Eirian Stephen Jones hefo copïau o’r wybodaeth sydd gen i am Ddewyrth Evan. Yn 1972 pan oedd Dad (y diweddar Bob Evans, Brwynllynnau) yn byw yn Y Waun, cyrhaeddodd adref un diwrnod i ddarganfod bod Mr Moore o Upton upon Severn wedi galw a gadael ffotocopi mewn ffrâm hefo llun Evan a barddoniaeth i’w goffau. John Evans, Tyddyn y Felin, Harlech, a Morris G Lloyd, Llanfair oedd y beirdd. Roedd modryb Mr Moore, sef Maggie Lloyd, Fferm Ffridd, Sarn, wedi gofyn i Mr Moore roi’r llun i Dad ar ôl iddi hi farw. Roedd hi’n chwaer i Morris G Lloyd. Buodd Dad i weld bedd Evan yn y chwedegau. Mae gan Edwin [brawd Gwyneth] lun o Dad wrth y bedd a byddwn yn anfon copi i Eirian.”

CYNGERDD gyda

Côr Meibion Ardudwy Ann Williams Seimon Menai

Nos Sul, Hydref 26 am 7.30 o’r gloch Mynediad - £5 Plant yn ddi-dâl Er budd Cymdeithas

Teulu Brwynllynnau gydag Evan Evans ar y chwith, Robert Evans o'i flaen a Dora Stephens nesaf at Evan Evans Dan draed y rhyfel erchyll Fe sethrir blodau’r oes, A miloedd o galonnau Sy’n gwaedu dan eu loes, Tywelltir môr o ddagrau Gan lawer tad a mam, Am syrthio yn y rhyfel Eu hanwyl fab dinam. Mor anhawdd yw dygymod  cholli plentyn serch, A’i golli mor ddisyfyd Yng nghanol rhyfel erch. Ca’dd fedd yn nhir yr estron A’i enaid aeth at Dduw, Lle nad oes sôn am ryfel Na blinder o un rhyw. Mor wag yw’r aelwyd heddyw, Mor lawn yw braw y fron, Heb obaith gweled Evan Yn dod dan wenu’n llon, Rieni, peidiwch wylo, Mae ef yn wyn ei fyd, Cewch weled Evan eto Mewn cartref dwyfol clyd. P’te Morris G Lloyd, Tŷ Mawr, Llanfair Gobaith heddiw sydd yn syllu, Tua Ffrainc yn ddistaw, fud; Cariad sydd yn methu sychu Dagrau uwch yr ebyrth drud; Pan ddaw heddwch i deyrnasu Ac i atal grym y lli, Gyda’r rhai fu yn ei brynu Evan annwyl, cofir di.

Ar y dystysgrif mae’r geiriau: Er Serchog Gof am Gorporal Evan Evans, Brwynllynnau, Harlech, yr hwn a gollodd ei fywyd yn y rhyfel yn Ffrainc, Medi 19, 1917 yn 24 mlwydd oed.

14

Neuadd Gymunedol Dyffryn a Thal-y-bont

Lawer canwaith yn cyd-chwarae Buom gynt ym moreu oes; Pan oedd gwawr o’n blaen yn oleu A chyn dechreu dwyn y groes, Hyd y ffriddoedd difyr branciem Heb un malais yn ein bryd; Y pryd hynny ni feddyliem Ni fod drain hyd lwybrau’r byd. Tyner oeddit, tawel, addfwyn, Fel y gwanwyn yn y coed; Gobaith oedd yn chwareu’i delyn Hyd dy lwybrau di erioed;

Cefaist gorph golygus, hawddgar, Delw iechyd ar dy rudd; Tybiem y cai’th flagur cynnar Lawn ymagor yn ddi-ludd. Ond fe ddaeth ystorm a’i chyffro – Clywyd adsain corn y gad, Ac yn sŵn yr alwad honno Est i ymladd dros dy wlad; Wedi llawer blin ysgarmes Yn yr Armagedon fawr, Ieuanc waed dy galon gynnes Roist yn aberth drud i lawr. Evan annwyl! Pe gwybyddai’r Llaw ro’es farwol saeth i ti, Mor ddi-frad y fron a glwyfai, Tybed na ataliai hi; Ond yn sŵn y storom erwin, Yn rhyferthwy’r ddrycin drom, Y mae cariad yn gynefin Gyda llwybrau duon siom. Ffarwel gyfaill, ffarwel iti, Gwyn dy fyd uwch pob rhyw gŵyn, Os yn naear Ffrainc yr huni Wyla’th henfro er dy fwyn; Nis gall holl fagnelau’r gelyn Dorri mwyach ar dy hedd; O! na cha’em ni ollwng deigryn, Dim ond deigryn ar dy fedd. John Evans, Tyddynyfelin, Harlech

Cwm Nantcol

PIANO AR FENTHYG

Oes angen piano dros dro arnoch chi? Ar gyfer plentyn sy’n dysgu canu’r piano o’r newydd, Neuadd Gymuned, Canolfan Gymdeithasol, lleoliad ymarferion côr lleol? Os felly, mae croeso i unrhyw un gael benthyg piano sy’n chwilio am gartref dros dro yn ardal Ardudwy a’r cyffiniau. Neu os oes gennych barlwr/ ystafell lle gellir cadw piano am gyfnod, byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu. Llawer o ddiolch. Am fwy o fanylion, cysylltwch â 01766 770736.

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy Mis AWST

1 £30] Hywel Williams 2 [£15] Helen Williams 3 [£7.50] Edward Thomas 4 [£7.50] Llion Kerry 5 [£7.50] Dewi Thomas 6 [£7.50] Guto Anwyl


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

T N RICHARDS Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Adnewyddu Hen Ddodrefn Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


Siop Ddodrefn Newydd yn y Bermo Mae Capel Caersalem, a godwyd yn 1866, ar Stryd Fawr Bermo wedi cael ei adnewyddu diolch i fisoedd o waith dygn gan y brodyr Jack a Fred Brooks, Tal-y-bont. Ers iddyn nhw agor ar Fedi 8, mae pobl wedi bod yn rhuthro i’r siop, ‘Pieces for Places’, nid yn unig i weld y gwaith adnewyddu ond i edmygu’r darnau o ddodrefn a nwyddau cartref caboledig sydd yno. Bu Jack ar hyd y wlad, ac ymhellach, yn chwilio am y darnau gorau ar gyfer ei siop, gan gynnwys nifer o ddarnau gan gynhyrchwyr yma yng Nghymru, ac mae Jack o hyd yn chwilio am fwy o gyfleodd i gydweithio gyda chynhyrchwyr lleol. Mae ‘Pieces for Places’ ar gyfer pobl sy’n gwerthfawrogi dyluniad da ac yn creu profiad siopa unigryw. Mae gan y siop bob dim i ddodrefnu unrhyw ystafell yn y cartref. Yn ogystal â’r hyn sydd ar gael yno, mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth dylunio ac yn gallu dod o hyd i unrhyw beth yn ôl gofynion y cwsmer neu wneud eu gorau i addasu rhywbeth sydd ar gael yn y siop yn barod. Mae Fred a Jack yn cyflogi chwech o bobl leol ac mae’r tîm yn blaenoriaethu gwasanaeth cwsmer. Cwmni tad Jack a Fred, Stonewest Construction, sydd wedi cwblhau’r gwaith ar y capel Gradd 2, a golygodd yr holl broject ymdrech fawr gan yr holl deulu. Mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn galonogol ac mae Jack a Fred yn gwerthfawrogi’r holl gymorth a gafwyd gan y gymuned leol. Roedd Jack yn bendant ei fod eisiau siop y gallai siopa ynddi ei hun, ac nid ymhell i ffwrdd mewn dinas fawr ond adref yma ym Meirionnydd. Mae ‘Pieces for Places’ ar agor saith diwrnod yr wythnos, LlunSadwrn 9.30-18.00, Sul 10.00-16.00, ac ar Facebook.

Celf yn y Llan Cynhaliwyd yr arddangosfa o Gelf yn y Llan ar Fedi 17-21, yn Nyffryn Ardudwy a Thal-ybont. Cynhelir yr arddangosfa bob yn ail flwyddyn ac eleni Mrs Diana Tregenza, Llys Enddwyn oedd yn gyfrifol am y trefniadau. Mae’n cynllunio ac yn gwneud ffrogiau priodas. Roedd arddangosfeydd lliwgar a deniadol mewn pum lleoliad, eglwysi Llanenddwyn a Llanddwywe, Y Stablau, Neuadd yr Eglwys a’r Neuadd Bentref. Roedd y gwaith gwnïo, cwiltio, gwau, croesbwyth, gwaith les a’r peintiadau o safon uchel iawn. Yn Eglwys Llanddwywe roedd arddangosfa yn ymwneud â’r

16

Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys lluniau diddorol, medalau a gwaith llaw o’r cyfnod. O ddiddordeb mawr i ni’r Cymry oedd ffrog briodas a

phenwisg y diweddar Mrs Ann Catrin Harris, mam Hilda ac Ann, oedd yn cael ei dangos yn Eglwys Llanenddwyn ynghyd â llun o Mr a Mrs Harris ar

ddydd eu priodas yn 1943. Mae pobl dalentog iawn yn byw yn Ardudwy. Diolch am arddangos eich gwaith a rhoi cyfle i ni fwynhau a rhyfeddu.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.