Llais hydref 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 445 HYDREF 2015

HANNER MARATHON

Mi gauwn ni’r banc yn nhref Harlech, Mi ddwedwn fod technoleg ar fai, Does wnelo hyn ddim oll ag elw Ond mae hwnnw ychydig yn llai; Y ni yw y banc oedd yn gwrando, Ond mae’r dyddiau hynny ar ben; A dyma fydd ein neges Nadolig Does dim lle yn y llety - Amen!

Ar Waith Ar Daith Ar y 12fed o Fedi, cafodd fy nheulu a minnau wahoddiad i fynd i Gaerdydd i weld y sioe ‘Ar Waith Ar Daith’. Roedd y sioe yn anhygoel o dda. Roedd yna lawer o ddawnswyr da a cherddoriaeth dda a llawer mwy o bethau i ni eu mwynhau. Cawsom y cyfle i eistedd efo’r VIPs ac roedd hwnna yn brofiad grêt. Cefais gyfle i gyfarfod llawer o bobl bwysig a hefyd mi gefais gyfle i fod ar y teledu a chael fy nghyfweld gan Nia Roberts. Doeddwn i ddim yn gallu coelio mai fy ngeiriau fi oedd wedi cael eu dangos ar wal Canolfan y Mileniwm a hefyd wedi cael eu taflu allan o ganon mewn conffeti. Roedd pawb yn dal fy ngeiriau roedd o’n foment anhygoel. Rhywbeth arall anhygoel oedd bod fy ngeiriau wedi cael eu smentio i mewn i’r llawr tu allan i Ganolfan y Mileniwm am byth hefo fy enw i ar y gwaelod; dydw i ddim yn gallu coelio hynny! Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych, yn dechrau hefo Gŵyl y Gelli Gandryll yn ôl ym mis Mai pan gefais y cyfle i gael cyfweliad gyda Shân Cothi ar y radio, i fyny at rŵan yn y sioe ‘Ar Waith Ar Daith’ yng Nghaerdydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn i gymaint o bobl yn cynnwys fy nheulu, fy athrawon yn Ysgol Ardudwy, pobl Gŵyl y Gelli Gandryll a phobl o Ganolfan y Mileniwm. Wnaf i byth anghofio’r profiad yma.

Llwyddodd Damon John, Tŷ Canol, Harlech i gwblhau hanner marathon Abersoch mewn 1 awr a 50 munud ar Medi 19. Roedd yn rhedeg y ras er cof am ei daid, Basil Jerram, ac yn codi arian ar gyfer Cymdeithas Alzheimer. Hyd yma mae wedi llwyddo i godi £1,525. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddo.

ORDEINIO GWEN EDWARDS Yn y llun fe welir Mrs Bethan Johnstone yn dymuno’n dda i’r chwaer Gwen Edwards, Hafoty, Harlech ar ôl gwasanaeth arbennig yn Eglwys Engedi [Berw Goch], ddydd Sul, Medi 6, pan ordeiniwyd Gwen yn aelod llawn o’r weinidogaeth. Dywedodd Gwen ei bod yn sylweddoli mai un tîm yw’r aelodau i gyd a’i bod yn edrych ymlaen at weld pawb yn cyd-weithio. Roedd yn hyderus y gallai ddibynnu ar y tîm i’w helpu hi i wneud ei gwaith. Roedd hwn yn ddiwrnod hapus iawn i bob un o’r aelodau. Dymunwn yn dda iddi mewn cyfnod anodd iawn yn hanes ein heglwysi.

Charlotte yng nghwmni Shân Cothi a Gwyneth Lewis

Yn olaf, rwyf hefyd wedi cael cyfle i gyfarfod Gwyneth Lewis sef y person oedd wedi creu y geiriau gwreiddiol ar Ganolfan y Mileniwm. Roedd yna yna llawer o waith paratoi cyn y sioe ac roedd o wedi troi allan yn grêt, ac rydw i yn falch iawn ohonof fy hun! Charlotte Ann Hunt, Harlech [Llongyfarchiadau cynnes iawn i Charlotte ar ei champ. [Gol.] DIOLCH Dymuna mam a thad Charlotte [Cheryl ac Anthony] a’i chwaer Katie, a’r teulu i gyd nodi eu bod mor falch o lwyddiant Charlotte. Dymunir diolch i staff Ysgol Ardudwy, i Sarah Roberts o Ganolfan y Mileniwm a fu’n gofalu amdanyn nhw yng Nghaerdydd ac i bawb arall a wnaeth y diwrnod yn un mor arbennig. Fe gawson nhw ddiwrnod bythgofiadwy. Mae’r newyddion wedi eu syfrdanu ac maen nhw uwchben eu digon.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

Enw: Geraint Williams Gwaith: Saer coed ac adeiladwr sy’n gweithio’n lleol. Mae gen i hefyd fusnes llifio symudol ac mae hwnnw wedi ymestyn i godi siediau a chreu dodrefn gardd. Cefndir: Byw yn Gwrach Ynys, Talsarnau ac yn fab i Deborah a’r diweddar Gwynfor. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Hoff iawn o fynd am jog pan gaf gyfle. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dydw i ddim yn ddarllenwr fel y cyfryw. Byddaf yn cael papur dyddiol a Llais Ardudwy ac rwyf wrth fy modd yn darllen cylchgronau sy’n ymwneud â saethu a physgota. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Doedd dim byd i guro ‘C’mon Midffild’ ac mae’n chwith am gomedi Cymraeg dda sy’n

gwneud i rywun chwerthin. Mae rhaglenni Cyw hefyd yn dda fel y gwn i pan fyddaf yng nghwmni plant fy chwaer, Caryl. Ydych chi’n bwyta’n dda? Trio ond bwyta gormod o feinciag – dant melys fel Dad. Hoff fwyd? Cinio cig oen Cymreig wedi ei rostio gyda digon o saws mint. Hoff ddiod? Seidr Magners. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Martin Howie os ydi o’n talu. Lle sydd orau gennych? Allan ar y cwch ar ddiwrnod braf o haf yn ‘sgota ger Garn Fadryn. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Sgio yn Slovenia, mae’n wlad fendigedig. Roeddwn wrth fy modd hefyd yn gwylio cwpan rygbi’r byd yn Awstralia gyda hogia Talsarnau. Beth sy’n eich gwylltio? Dim llawer o ddim. Byddaf yn ceisio peidio cynhyrfu gormod. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn driw a gonest. Pwy yw eich arwr? Dic Tŷ Cerrig. Roedd yn ffrind triw iawn i fy nhad ac mae’n gyfaill agos i’r teulu. Hen foi iawn. Beth yw eich bai mwyaf? Peidio dweud ‘na’. Yn fy ngwaith fel saer, yn aml mae mwy nag un cwsmer eisiau sylw’r un pryd. Byddaf yn gwneud fy

Plannu bylbiau Wrth i’r dyddiau fyrhau, rŵan ydy’r amser i blannu bylbiau’r gwanwyn. Mae’r pridd yn dal yn gynnes ac fe fydd cyfle iddyn nhw fagu gwreiddiau, ond gadewch blannu tiwlipau tan ddiwedd Tachwedd. Oergaledwch nhw cyn eu

plannu. Os am eu gosod yn anffurfiol, taflwch nhw i fyny wedyn eu plannu lle maen nhw’n disgyn. Creu lawnt Rŵan yw’r amser hefyd i greu lawnt newydd, neu ei thrwsio, ei hawyru a’i sgriffio. Parhewch i dorri lawnt sefydlog sy’n dal i dyfu, ond gadewch hyd at 3’’ o dyfiant dros y gaeaf. Mae’n well peidio â’i droedio, os yn bosibl. Cyffredinol Torrwch hen dyfiant coediog i lawr at y bonyn. Bwydwch camelia, tri lliw ar ddeg (hydrangea) a rhododendron â gwrtaith arbennig i flodau sy’n hoffi pridd asid. Defnyddiwch y llawnder tymhorol o ddail a glaswellt ar gyfer eich tomen gompost.

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen@barcdy.co.u

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736

YN YR ARDD - Mis Hydref

Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Tachwedd 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Hydref 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

ngorau i ateb gofynion pawb – ond mae’n anodd weithiau. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael gwyliau efo ffrindiau da mewn lle cynnes heb y ffôn yn canu a heb fod yn rhy bell oddi wrth far sy’n gwerthu diodydd diddorol. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd ag Efan, Guto a Hari ar saffari i Affrica i weld y bywyd gwyllt. Eich hoff liw? Lliw coedyn derw Cymreig. Does dim i’w guro. Byddaf wrth fy modd yn ei drin. Eich hoff flodyn? Nid wyf yn adnabod fawr ond mae’n dda gweld y briallu, arwydd fod y gwanwyn ar ei ffordd. Eich hoff gerddor? Byddaf yn hoff o bob math o gerddoriaeth. Mae Bob Marley yn ffefryn. Hoff ddarn o gerddoriaeth? Hen Wlad fy Nhadau cyn gêm rygbi yn Stadiwm y Mileniwm. Mae’n gyrru ias i lawr fy asgwrn cefn bob tro. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu dringo creigiau fel Eric Jones. Rydw i’n edmygu ei dalent. Eich hoff ddywediad? ‘Spot on, job done!’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn brysur gyda’m gwaith ond yn fodlon iawn fy myd.

Dewch â’r planhigion tŷ i mewn dros y gaeaf, a’u cynefino’n raddol i’r tymheredd gwahanol. Bydd angen i offer yr ardd gael eu glanhau a’u hogi cyn eu cadw dros y gaeaf. Cofiwch lanhau’r potiau hefyd. Mae ‘Jeyes Fluid’ gwan yn eu diheintio’n dda.


Theatr Harlech

Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg Edrychwn ymlaen at gyfarfod cyntaf y tymor pryd y cawn gwmni Craig Duggan, newyddiadurwr adnabyddus. Byddwn yn cwrdd ar 14 Hydref am 7.30 yh yn y Parlwr Mawr. Dyddiadau eraill i’w nodi: 4 Tachwedd: sgwrs gan John Sam Jones. 2 Rhagfyr: Parti Lliaws Cain. Cofion Anfonwn ein cofion cynhesaf at Mrs Dorothy Williams, Craig y Wylan, Llanaber sydd dan anhwylder. Rydym i gyd yn meddwl amdanoch, Dorothy, ac yn hyderu y byddwch yn ôl yn ein plith gyda’ch prysurdeb arferol cyn bo hir. Merched y Wawr Cawsom ddiwrnod heulog, braf ar gyfer cyfarfod agoriadol y tymor newydd ac aeth nifer o’r aelodau draw i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, lle cawsom groeso cynnes gan y curadur.

Yn gyntaf cawsom weld ffilm ddiddorol dros ben am fywyd Lloyd George, cyn mynd i grwydro o gwmpas y safle ac ymweld â gweithdy a Highgate clyd. Difyr iawn oedd gweld dosbarth ‘go iawn’ yn cynnwys desg yr athro, y bwrdd du a chlywed tâp o leisiau’r plant yn adrodd eu tablau yn Saesneg. Buom yn cerdded o gwmpas yr ardd cyn mynd draw at lan y Ddwyfor i weld bedd Lloyd George - lle â naws arbennig iddo. Yn ein blaen wedyn i Gricieth i fwynhau swper blasus ym mwyty Tir a Môr, lle cawsom groeso cynnes gan Gwenno. Bydd ein cyfarfod nesaf am 7.30 ar nos Fawrth 20 Hydref, yn y Ganolfan Gymuned yn y Bermo, pan fydd Lynda o Angylion Sebon yn dod atom. Dewch chwithau i fwynhau noson ddifyr - croeso cynnes i bawb!

Dathlu degfed pen-blwydd Gŵyl Gwrw Llanbedr

Nos Sadwrn, Tachwedd 7 am 7.00

CYNGERDD

CALENDR 2016 LLAIS ARDUDWY ar werth yn awr Sicrhewch eich copi yn fuan eleni!

Cyfundeb Annibynwyr Meirion

Eglwys Crist, Y Bermo Nos Fercher, Tachwedd 4 am 7.00

SYNIADAU AT Y SUL Noson i drafod sut i gynnal oedfa eich hunain yng nghwmni: Parch Euros Wyn Jones Parch Casi Jones Parch Aled Davies Croeso cynnes i bawb o unrhyw enwad i ymuno â ni!

yng nghwmni: Rhys Meirion Elin Fflur Pres Mân Cyflwynydd - Aeron Pughe Tocyn: £15 Elw at yr Ambiwlans Awyr Cymdeithas Hanes a Chofnodion Meirionnydd

Cyfarfod Blynyddol am 11.30 y bore

Cyflwyniad gan Brian Slyfield ‘400 mlynedd o lyfrau’ ac arddangosfa o hen lyfrau yn Neuadd Llanelltyd, Dolgellau am 2.30 y pnawn ar ddydd Sadwrn, 10 Hydref

3


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod cyntaf a braf gweld un aelod newydd sef Eileen Lloyd. Llongyfarchwyd Iwan, ŵyr Gweneth, a Rhiannon ar eu priodas yn ddiweddar. Dymunwyd yn dda i Sera Griffith ar ei swydd newydd yn Stockport, ac i Mair M Williams oedd yn aelod ffyddlon o’r gangen ers blynyddoedd ond sy’n methu â bod yn y cyfarfodydd oherwydd anhwylder, i Gwyneth Roberts, hithau wedi bod o dan anhwylder yn ddiweddar ac yn gobeithio y cawn ei gweld yn ôl yn fuan, ac i’r Dizzie Dancers oedd yn teithio i Glasgow ar gyfer cystadleuaeth bwysig. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Diolchwyd i’r aelodau am gyfrannu a helpu yn y Sioe Sir a hefyd i’r Te Cymreig; gwnaethpwyd elw da ohono. Y wraig wadd oedd Meryl Davies, ein Llywydd Cenedlaethol. Roeddem fel cangen yn teimlo’r fraint o gael y Llywydd yn bresennol a hithau’n ei theimlo’n fraint cael dod atom wrth ymweld â’r gwahanol ganghennau. Cawsom hanes sut y daeth i fod yn Llywydd, hanes ei bywyd, y ddwy daith feicio noddedig a hefyd hanes ei blwyddyn gyntaf oedd yn un brysur iawn. Edwina a ddiolchodd iddi ar ran y gangen.

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mrs Ann Lewis Min-y-môr, Llandanwg ar ddod yn bedwerydd yng nghystadleuaeth golffwyr hŷn Gwledydd Prydain ym Mhrestatyn yn ddiweddar. Cafodd un diwrnod lle nad oedd pethau gystal neu mi fyddai wedi bod yn agos iawn i’r brig. Dal ati Ann!

Cyhoeddiadau Caersalem 2015 Am 2.15 o’r gloch oni nodir yn wahanol HYDREF 11 Br Marc Jon Williams, Diolchgarwch TACHWEDD 1 Parchg Christopher Prew 8 Parchg Iwan Llewelyn Jones

Swydd newydd Pob dymuniad da i Sera Griffith sydd wedi derbyn swydd yn Adran Dai Cyngor Stockport. Hyderwn y bydd yn parhau i gadw cysylltiad â’r ardal hon.

Llinell Gymraeg

Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus i David Roberts, Uwch Glan a oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar.

6 Tachwedd am 7.30 yr hwyr Ystafell y Band

SAMARIAID 0300 123 3011

Body Shop

Elw at Neuadd Goffa Harlech

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR CEISIADAU CYNLLUNIO Caniatáu un ffenestr dormer a thair ffenestr do i’r to sy’n wynebu’r de, un ffenestr do i’r edrychiad gorllewinol, un ffenest lefel uchel i’r edrychiad dwyreiniol, ac un ffenestr lefel isel i’r edrychiad gogleddol - Sŵn y Môr. Gwrthwynebiad i’r cais hwn oherwydd bod y datblygiad yn amharu ar dai cyfagos. Hefyd yn argymell yn gryf bod panel ymweld y Parc Cenedlaethol yn ymweld â’r safle. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod banc HSBC yn Harlech yn cau ar Ragfyr 4. Cytunwyd bod y Clerc yn holi a fydd y peiriant arian yn aros ar y safle. Cafwyd gwybod nad oedd y gordyfiant ar y grisiau i lawr o Gae Garw i’r ffordd fawr byth wedi cael sylw. MATERION CYNGOR GWYNEDD Adroddodd Annwen Hughes ei bod wedi ymweld â Mrs Ellen Oakley, Isallt, Pensarn a oedd yn datgan pryder am oryrru ar y ffordd am Sarn Hir. Cysylltwyd â’r Adran Briffyrdd yng Nghaernarfon i drafod y mater. Hefyd roedd yn gofyn a fyddai’n bosib gosod sedd yn y lloches bws ger Isallt gan fod y lloches dan sylw ym mherchnogaeth y Cyngor Cymuned; cytunwyd i osod sedd yno a gofyn i Mr Hywel Jones wneud y gwaith.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Dewch i chwarae Pêl-rwyd Pêl-rwyd yn y Ganolfan Chwaraeon, Harlech, nos Iau 7.00yh tan 8.00yh. Croeso i bawb.

Cylch Llenyddol Idris Cynhelir cyfarfod nesa’r cylch

29 Hydref am 7.00

Festri’r Tabernacl, Dolgellau,

Jessica Enston ‘Dyfodol yr Ysgwrn’ Croeso i aelodau hen a newydd.

Clwb 200 Côr Ardudwy

Mis Medi

1. £30 Dion Steffan Williams 2. £15 Beryl Jones 3. £7.50 Ifor Evans 4. £7.50 David Gray 5. £7.50 Gwenda Jones 6. £7.50 Emsyl Davies

Mis Hydref

1. £30 Ken Roberts 2. £15 Iwan Morgan 3. £7.50 Efan Anwyl 4. £7.50 Dylan Williams 5. £7.50 Iwan Prys Owen 6. £7.50 Gwyndaf Williams Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

CYNGERDD EGLWYS ST TANWG Nos Sadwrn, 31 Hydref, 7.30pm

Cyngerdd Corawl ‘Resurrection’

ymweliad arall gan y côr poblogaidd hwn o Rwsia £10 wrth y drws Bydd lluniaeth ar gael Neuadd Goffa, Harlech

DAWNS YSGUBOR

Honda Civic Tourer Newydd

4

Dewch i ymuno â ni i gael hwyl a chadw’n heini, hefyd i gefnogi ein canolfannau chwaraeon. Hefyd, pêl-rwyd ar nos Wener yn y Ganolfan Chwaraeon, y Bermo 6.00yh tan 7.00yh.

Hydref 15, am 7.00 o’r gloch Tocyn: £12 Dewch â chyllyll a ffyrc a’ch diodydd eich hunain Ymholiadau: 01766 780245 01766 781324 Elw at Ymchwil Canser


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Genedigaeth Llongyfarchiadau i Gwilym Noble, Tyddyn Llidiart ac Eva ar enedigaeth mab bach, Idris Evan. Maen nhw’n byw yn y Felinheli. Bedydd Ar ddiwrnod hyfryd o braf, ar ddydd Sul, Medi 13 bedyddiwyd Gruffydd Gwyrth, mab bach Gwynfor a Catrin Edwards, gan y Parch Megan Williams BA yng Nghapel Nantcol. Roedd yn ddiwrnod hapus iawn i Taid a Nain Parc Isaf ac i Nain Plas Caermeddyg a’r teulu. Priodi Dymuniadau gorau i Rwth Graig Isaf a Trystan Powl-Jones o Fryncrug ar eu priodas. Roedd y gwasanaeth yn Eglwys Llanddwywe ddydd Sadwrn 19eg o Fedi yng ngofal y Parch Bob Hughes. Rhoddion Diolch am y rhoddion i’r Llais: £22 oddi wrth Alun Owen, £6.50 oddi wrth Gwenda Shepherd, £12 gan Edwyn Humphreys a £6.50 gan Lisbeth James. Deon Dymuniadau gorau i Kathy, gwraig Paul Jones, Bryndeiliog, gynt, ar ddod yn Ddeon ar Gadeirlan Bangor. Llongyfarch Taid a Nain Llongyfarchiadau i Euron a Mair Richards, Ffynnon Mair ar ddod yn daid a nain i Mabli Llewelyn, merch fach i Sioned a Gwyn, Llanllyfni a anwyd ar Orffennaf 22. Cymdeithas Cwm Nantcol Bu’r cyfarfod blynyddol yn ddiweddar. Mae’r sefyllfa ariannol wedi gwella ond mae angen gwario ar estyll tywydd [fascia boards] ac ar ddiddosi’r drws. Trefnir cyngerdd yn Nyffryn Ardudwy ar Hydref 24 er budd y Gymdeithas. Cafwyd sawl enw ar gyfer siaradwyr gwadd a diddanwyr am y tymor sydd i ddod. Rhagwelir y bydd y cyfarfodydd yn rhai difyr iawn yn ôl yr arfer. Beth am i chi ddod aton ni y tymor hwn? Cewch wledd yn sicr.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch HYDREF Capel y Ddôl, 11 Mr Evie M Jones 18 Parch John Tudno Williams TACHWEDD Capel Nantcol, 8 Mr Eurwyn Pierce Jones Capel Salem HYDREF 18 Parch Dewi Tudur Lewis, Diolchgarwch TACHWEDD 15 Mr Eurfryn Davies

Taith Ysgol Sul i Gwm Bychan tua 1948 Rhes ôl: Doreen Stockwell, Lorraine Thomas, Lizbeth Humphries, Dewi Stockwell, Meirion Pugh Jones. Rhes ganol: Daloni Roberts, May Jones, Gwenda Morris, Catrin Jones Tŷ’n Llan, Brian Roberts, Cyril Lloyd, Emlyn Griffith, James Ifor Griffth, Ifor Pugh. Rhes flaen: Ann Blackman, Edith Lloyd, Meira Wyn Arthur, Bethan Roberts, Alun Griffith, John Pugh, John Griffith. Côr Meibion Ardudwy Cafwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn Llanfachreth yn ddiweddar. Bydd cyngerdd yn Nyffryn Ardudwy ar Nos Sadwrn, Hydref 24 gyda’r elw yn mynd i Gymdeithas Cwm Nantcol. Edrychir ymlaen yn arw at glywed eu cantorion gwadd, sef Ann Hafod Williams a Seimon Menai [enillydd yr unawd bariton yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni]. Byddant yn canu ddwywaith yn Harlech cyn y Nadolig - y naill yn noson wobrwyo’r Cyngor Cymuned a’r llall yn y gwasanaeth undebol yn Eglwys St Tanwg ar Ragfyr 13. Byddant mewn cyngerdd carolau yn Nyffryn Ardudwy ganol Rhagfyr. Mae’r holl aelodau yn edrych ymlaen yn arw at deithio i Gernyw i gynnal dau gyngerdd fis Hydref nesaf. Pen-blwydd hapus i’w cyfeilydd, Idris Lewis oedd yn 50 oed yn ddiweddar.

Capel Nantcol Nos Lun, Hydref 12 am 7.00 o’r gloch

CYMDEITHAS HANES HARLECH Tachwedd 21, 2015 2.30 Aber Artro, Llanbedr Cofiant a Bywyd Jackie Williams, Harlech Tocyn: £2.50 wrth y drws

CYMANFA GYMRAEG TYSTION JEHOFA Ym mis Awst 7, 8 a 9 eleni daeth Tystion Jehofa Cymraeg eu hiaith at ei gilydd yn yr ‘Arena and Conference Centre’ Lerpwl i fwynhau Cymanfa Gymraeg ei naws. Thema’r achlysur oedd ‘Efelychu Iesu’, dyn y mae pawb yn barod i gydnabod arwyddocâd ei ddylanwad ar Gristnogaeth a hanes y byd. Trwy gyfrwng sgyrsiau, symposia a dramáu lliwgar daeth lles efelychu esiampl Iesu a rhoi ei ddysgeidiaeth ar waith yn ein byw bob dydd, i’r amlwg. Melys oedd clywed y canu o’n llyfr moliant, ‘Canwch i Jehofa’. (Salm 104:33) Gan fod teuluoedd cadarn a hapus yn cyfrannu’n sylweddol at fudd a lles cymdogaeth aml-ddiwylliant ein hoes, diddorol oedd gweld rhan swmpus o’r rhaglen yn annog rhieni i feithrin amgylchfyd cariadus yn y cartref, a defnyddio’u hamser a’u hadnoddau i gryfhau undod eu teuluoedd. Roedd yr anerchiad cyffrous fore Sul, ‘Iesu Grist Gorchfygwr y Byd’ yn uchafbwynt teilwng i’r cyfan.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Pregeth Ddiolchgarwch gan

Parch Emlyn Richards Croeso cynnes i bawb.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Ar Fedi 15fed yn Ysbyty Dolgellau, bu farw Miss Annie May Roberts, gynt o fferm Egryn a 3 Gwelfor, Talybont, yn 92 mlwydd oed. Cydymdeimlwn â’i nithoedd Nia ac Eira yn eu profedigaeth. Pen-blwyddi arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Blodwen Williams, Bodfan, a fydd yn dathlu penblwydd arbennig ar 12 Hydref. Ein dymuniadau gorau hefyd i Meirion Williams, Pantyrafal gynt, fydd yn dathlu penblwydd arbennig ar 10 Hydref ac i Robin Coulson ar 15 Hydref. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gareth Eilir, mab Mr a Mrs Owen, Coed Uchaf sydd wedi ei benodi yn bennaeth adran piano yng Ngholeg Eton, Windsor. Rydym yn ymhyfrydu fel ardal yn dy lwyddiant, Gareth. Hefyd, fe gafodd Gareth ei ordeinio yn flaenor yn Eglwys Jewin, Llundain ar 2 Hydref. Clywsom lawer o hanes yr Eglwys yma gan Huw Edwards ar raglen deledu yn ddiweddar. Teulu Ardudwy Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor bnawn Mercher, 16 Medi yn Neuadd yr Eglwys. Croesawyd pawb gan Gwennie a mynegodd mor falch roeddem o weld Mrs Gretta Cartwright wedi gallu ymuno â ni unwaith eto. Anfonodd ein cofion at Miss Lilian Edwards a diolchodd iddi am ei rhodd i’r Teulu. Anfonodd ein cofion hefyd at Mrs Leah Jones, gan ei llongyfarch a dymuno’n dda iddi ar gyrraedd pen-blwydd arbennig iawn ar 27 Medi. Cydymdeimlodd ag Iona ac Anthia yn eu profedigaeth o golli eu modryb Alwyn, oedd yn byw yn Awstralia. Diolch i Carey Cartwright am baratoi’r rhaglenni i ni eto eleni. Llongyfarchodd Anthia ac Emlyn ar ddathlu eu priodas aur a’u hŵyr ar raddio o Brifysgol Abertawe. Llongyfarchodd ŵyr ac wyres Mrs Cartwright - Tom ar ei ganlyniadau lefel A a Lisa

6

ar ei chanlyniadau TGAU a dymunodd yn dda i Tom ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yna croesawodd Mrs Carol Clay o’r Bermo atom. Mae Carol yn weithgar iawn yn Eglwys Christ Church, y Bermo a hefyd gyda chyfarfod cenhadol chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac wedi cynrychioli’r enwad dros y byd. Gyda chymorth sleidiau rhoddodd hanes tair o’i theithiau i’r India, un i ymweld â’r ysbyty yn Shillong a sefydlwyd gan y cenhadon o Gymru. Diolchwyd yn gynnes iddi gan Enid Owen. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Hilda, Anthia, Enid a Gwennie. Festri Lawen Horeb Cyfarfod cynta’r tymor. Nos Iau, 8 Hydref am 7.30 yng nghwmni’r Glaslanciau o Borthmadog. Clwb Cinio Cyfarfu 16 ohonom yn 1957 yn Nhal-y-bont dydd Mawrth, 22 Medi am ginio a chyfle i gymdeithasu. Cawsom groeso cynnes a bwyd ardderchog. Ar 20 Hydref byddwn yn mynd i’r caffi newydd yng Ngwesty’r Castell yn Harlech. Yno erbyn 12.00 ac mae croeso i unrhyw un ymuno â ni. Eisteddfod Ardudwy Neuadd Dyffryn Ardudwy Hydref 10fed am 1.00yp Copi o’r rhaglen ar gael gan Jane Sharp – 01766 780890. Rhoddion Diolch i Mr a Mrs Meirion Williams, Talybont am eu rhodd o £10 ac i O Huw Ellis am y rhodd o £5 i’r Llais. Neuadd Dyffryn a Thal-y-bont

CYNGERDD gyda

Chôr Meibion Ardudwy Seimon Menai Ann Williams Nos Sadwrn, Hydref 24 am 7.00 Tocyn: £5 Plant yn rhad

Elw at Gymdeithas Cwm Nantcol

Hilda yn saith oed Pen-blwydd Arbennig Pen-blwydd hapus iawn i ti, Hilda, ar Hydref 15 gan dy deulu, ffrindiau a chymdogion.

Diolch Diolch i Rhian Davenport am y gwaith gwirfoddol gwych y mae’n ei wneud dros yr Ambiwlans Awyr yn yr ardal hon. Dyma lun a dynnwyd ohoni wrth ei stondin yn y Sioe Sir yn Harlech eleni.

Achlysur arbennig

O’r chwith i’r dde: Rhes gyntaf – Emlyn, Andrew, Eleri, Nerys a Sheila Ail res: Anthia, Steven, Howard a John Dydd Sadwrn, gŵyl y banc yn Awst daeth dwy chwaer a brawd o’r Dyffryn - Anthia, Eleri a John - ynghyd â’u teuluoedd a ffrindiau i Neuadd Bentref Dyffryn i ddathlu sawl achlysur arbennig yn ystod 2015: 9 Ebrill - Sheila, gwraig John yn 60 oed 10 Mai – Andrew, ŵyr Emlyn ac Anthia yn 21 oed 20 Mai – Nerys, merch John a Sheila yn 35 oed 8 Mehefin – Eleri yn 70 oed 9 Awst – Howard, mab yng nghyfraith John a Sheila yn 40 10 Awst – Steven, mab yng nghyfraith Emlyn ac Anthia yn 50 oed 16 Awst - priodas ruddem John a Sheila 11 Medi – priodas aur Emlyn ac Anthia Diolch i bawb am noson i’w chofio ac i Mel a’r merched am eu gwaith paratoi. Cyhoeddiadau’r Sul, CAPEL HOREB Horeb Nos Lun, 19 Hydref HYDREF am 7.00pm 11 Gwasanaeth Diolchgarwch y plant Cyfarfod 18 Parch Reuben Roberts Diolchgarwch 25 Parch Gareth Rowlands Pregethir gan: TACHWEDD Parch Eric Greene, Y Bala 1 Miss Eluned Williams


Brodor o’r Bermo yn amddiffyn ei dref

Yn 1898, ymddangosodd cyhuddiad difrifol yn un o’n cylchgronau Cymreig, yn erbyn trefi a phentrefi Cymru, oedd yn datgan eu bod ymhell ar ôl mewn glanweithdra, rhywbeth oedd yn hanfodol i iechyd. Pwysleisiai’r gohebydd mai un o bethau mwyaf gwarthus Cymru yn 1898 oedd budreddi ei phentrefi, a bod glanweithdra a thaclusrwydd ymysg y Cymry gan mlynedd ar ôl gwerin Lloegr. Rhaid oedd mynd i rannau tlotaf yr Eidal i ddarganfod lleoedd mor aflan â rhai o bentrefi gwledig Cymru, yn ôl y gohebydd dienw. “Y ffenestri hyll, y pentyrrau baw, diffyg blodau, y drewi ffiaidd. Cymru ‘lân’ yn wir. O ddifrif, onid yw’n bryd i ni ddeffro?” meddai. Rhuthrodd un o’r enw R Price Hughes, y Bermo i ymateb i’r cyhuddiad, ac i amddiffyn tref y Bermo. Dechreuodd drwy ddweud bod glanweithdra yn nodwedd amlwg ymysg y trigolion. Roedd y siopwyr yn glanhau ffenestri’r siopau bob bore, yn ‘sgubo’r llwch a’r baw allan, ac yn arddangos popeth a werthwyd ganddynt yn daclus yn eu lle. “Casineb pennaf pobl y Bermo yw budreddi, mae’r strydoedd yn lân bob amser,” meddai R Price Hughes. Gofalai’r Cyngor Dinesig am ddigon o weithwyr i gyflawni’r gwaith pwysig hwnnw. Roedd cyflwr iechyd y dref yn uchel iawn. Yn wir, cynghora y meddygon yn unfrydol ar i bobl wael ymweld â’r Bermo i gael adferiad iechyd y blynyddoedd hynny, gan ei fod yn cael ei gydnabod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn un o’r lleoedd mwyaf iachusol yng Ngwledydd Prydain. Roedd pobl y Bermo wedi gwario £33,000 tuag at gael eu tref yn lân - swm aruthrol i dref fach fel hwy. Gwnaed aberth neilltuol tuag at sicrhau cyflawnder o ddŵr am flynyddoedd oedd i ddod. Roedd yna hefyd amryw o erddi hardd yno, a blodau amryliw a llysiau o bob math yn tyfu ynddynt. Credai pobl y Bermo ei fod yn anhepgorol cael gardd fach wrth y tŷ. Ac roedd hynny, meddai Price Hughes, yn cyfrif i raddau helaeth fod y dref mor iach a chyfartaledd y marwolaethau mor isel. Syndod oedd bod yn y dref erddi o gwbl pan ystyriwyd mor ddrud oedd pris y tir, yn ddrutach na’r un dref arall yng Nghymru y pryd hwnnw. Enghraifft o hynny oedd fod yr Annibynwyr Saesneg yn talu £800 y flwyddyn am y tir lle y safai eu

capel hwy. Ond er yr anfantais yr oedd y Bermo ar y blaen i lawer tref yng Nghymru gyda’i gerddi. Fe â Price Hughes ymlaen i sôn am sefydlu cangen o’r gymdeithas honno yn dwyn enw Saesneg arni, The Selborne Society, a sefydlwyd rai blynyddoedd ynghynt yn y Bermo. Amcan y gymdeithas oedd cael y bobl ddiarth a fyddai’n ymweld â’r dref i barchu natur y gymdogaeth, a’u rhybuddio i beidio â thaflu ‘papurau, briwsion, croen eurafal, a phethau cyffelyb i’w difrodi.’ Roedd yna apêl hefyd i ymatal rhag cymeryd mwy nac un math o’r un lle, pan yn casglu blodau a rhedyn, ac i ddangos pob caredigrwydd ac addfwynder tuag at anifeiliaid afresymol. Ymysg aelodau’r gymdeithas oedd Miss Frances Power Cobbe (1822– 1904), yr awdures Wyddelig, a ffrind i Charles Darwin: a Miss Marianne Farningham (18341909), a anwyd yng Nghaint ond a fu farw yn y Bermo, awdur yr emyn ‘Just as I am, Thine Own to Be.’ Cynhaliwyd y cyfarfodydd unwaith y mis, pryd y deuai rhywun amlwg i annerch ar bynciau yn ymwneud â byd natur. Yn ôl Miss Farningham prin y gellid cael golygfeydd yn unman i’w cymharu â’r golygfeydd yn ardal y Bermo. Onid ydyw yn syndod meddwl o hyd heddiw cyn lleied o feirdd a godwyd yno, wrth ystyried y fath olygfeydd hardd sydd yno i danio enaid. Mae edrych o’r Panorama ar Ddyffryn Mawddach, y mynyddoedd ar bob ochr, a Chader Idris yn codi fel brenhines uwchben y cwbl, ar noson o haf, yn olygfa odidog. Tybed mai wrth edrych ar olygfa debyg y cyfansoddodd Islwyn (1832–78), y llinellau tlws canlynol: “Ac oedfa’r nef yw’r nos. Duw! Duw sy’n siarad I’w theml ymgynullai’r sêr i losgi mewn addoliad! A’u llygaid, heuliau’r hwyr, yn tanio oll gan gariad, Odidog gôr? Anadlaf finnau odlig I’w canmol draw o’m preswyl nosol unig.” Ym mywgraffiad Tennyson (1809– 92), a gyhoeddwyd yn 1897, dywed ei fab hynaf, Hallam, mai tra yn aros yn y Bermo y cymhellodd golygfeydd y gymdogaeth iddo ysgrifennu rhannau o’i gerdd enwog ‘In Memoriam’ (1850). W Arvon Roberts, Pwllheli

TÎM RYGBI 1962

Anfonwyd y llun uchod atom gan Hilda Harris, Llys Meirion. Mae Hilda yn adnabod rhyw 11 o’r chwaraewyr wrth eu henwau. Tybed a fedr un o’n darllenwyr enwi’r tîm cyfan? Treialon Cŵn Defaid Ardudwy a’r Cylch, Egryn, 26 Medi Llawer o ddiolch i bawb a gyfrannodd ym mhob ffordd at lwyddiant y treialon eleni. Cawsom ddiwrnod da o gystadlu gyda 63 o gŵn yn rhedeg. Roedd yno awyrgylch hamddenol a braf - a’r tywydd yn fendigedig! Enillydd Cwpan Goffa Robert Pryce Jones, Sebonig: Medwyn Evans o Ddolgellau. Enillydd Cwpan Meifod: Karolina Dyszy, Corwen. Yn anffodus, nid oedd enillydd i Gwpan Sylfaen i’r bugail ifanc eleni. Gwell lwc y flwyddyn nesa – yn ein 10fed blwyddyn o dreialon. Eleni, bydd cyfraniad yn mynd tuag at yr Ambiwlans Awyr a’r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol fydd yn cael eu cynnal yn Nhywyn, Meirionnydd, fis Medi 2016. Diolch £5

Pwyllgor ’81 Cynhelir Noson Garolau eto eleni gyda Chôr Meibion Ardudwy ac Aled Morgan Jones yn arwain. Dyddiad i’w gofio: nos Fawrth 15 Rhagfyr. Dechrau am 7.00 yr hwyr yn Neuadd y Pentref, Dyffryn Ardudwy. Bore Coffi Cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan yn Nant-y-Coed, Dyffryn Ardudwy ddydd Gwener, 25ain Medi. Llwyddwyd i godi £264 ar y diwrnod, a gyda chyfraniadau ychwanegol a gêm ym Modudrdy’r Efail aeth y cyfanswm i £314. Llawer iawn o ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i’r fenter a braf oedd cael sgwrs dros baned a chacen.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i gyfarfod 9 Medi gan y llywydd Christine Hemsley. Llongyfarchwyd SyM Llanfair ar ennill y Bowlen Rosod yn y Sioe Sir am eu gwaith. Ar ôl trafod y busnes croesawyd y gŵr gwadd Terry Mills. Cafwyd hanes diddorol a chawsom weld lluniau gwych. Medi 16 oedd diwrnod dathlu pen-blwydd y Sefydliad yn 100 oed. Cafwyd y dathliad trwy garedigrwydd Eileen Greenwood Y Gwarchodlu Cymreig yn ei thŷ. Mi oedd yr aelodau Llongyfarchiadau i Thomas wedi paratoi’r bwyd a gwnaed Richards, 9 Bron yr Hwylfa, y gacen ddathlu gan y llywydd Harlech ar gwblhau ei Christine Hemsley. Gan fod hyfforddiant gyda’r Gwarchodlu y tywydd mor braf cawsom Cymreig yng nghanolfan fod yn yr ardd, a chafwyd hyfforddiant y fyddin yn prynhawn ardderchog. Roedd Catterick, Swydd Efrog. Aeth rhai o aelodau SyM Llanfair rhai o’i deulu i fyny i’r ganolfan wedi dod atom i ddathlu’r 100 ar ddiwrnod y parêd pasio mlwyddiant. allan a chael bod yn dystion 18 Medi i’r achlysur arbennig hwn. Ar Aeth rhai o aelodau Harlech hyn o bryd, mae Thomas yn gydag aelodau o wahanol gwasanaethu gyda’r bataliwn ganghennau i Gaerdydd. Ar y fel rhan o gatrawd Gwarchodlu nos Wener, cafwyd cyngerdd Troedfilwyr yn yr Osgordd ac ardderchog yn Neuadd Dewi yn gwarchod y Frenhines yn ei Sant gyda Rhys Meirion, chartrefi amrywiol ac hefyd ar Catrin Finch ac Elin Manahan ddyletswydd yn Nhŵr Llundain. Thomas, a phedwarawd yn canu Mae wedi ei leoli gyda’r bataliwn trwmpedau. Ar y dydd Sadwrn yng nghanol Llundain. cawsom gyfarfod Ffederasiwn Cenedlaethol SyM Cymru. Y Graddio cadeirydd oedd Ann Jones, Llongyfarchiadau i Rachel Cadeirydd Pwyllgor Cymru. Pearce, Trem Eryri ar ennill Yn y prynhawn cawsom sgwrs gradd dosbarth cyntaf mewn gan Tessa Dunlop ar waith ‘The seicoleg ym Mhrifysgol Sheffield. Bletchley Girls’, a chawsom sgwrs Deallwn ei bod wedi torri ei ffêr yn ddiweddar ac anfonwn ein cofion cynhesaf ati. Brysia wella Rachel.

Phil Williams Wedi cystudd hir bu farw Phil Williams, Heulfryn, Ffordd Uchaf. Roedd Phil yn ŵr bonheddig er ychydig yn swil. Roedd wrth ei fodd yn ei ardd lle’r oedd o’n cael hwyl arbennig ar dyfu bob math o flodau a llysiau. Y ffarwel haf [chrysanthemum] oedd ei hoffter mwyaf. Bu’n hael ei gefnogaeth i Sioe Flodau Harlech Brysiwch wella am flynyddoedd lawer. Anfonwn ein cofion at Mrs Iola Roedd ganddo flwch pren wrth John, Trem y Wawr sydd wedi ymyl y tŷ ar gyfer talu am ei bod dan anhwylder ers tro. domatos a doi cwsmeriaid lawer Deallwn ei bod ychydig yn well y yno i’w prynu. dyddiau hyn. Roedd yn hoff iawn o chwarae dominos ar nos Iau lle’r oedd Anafu yn tynnu coes ymhlith ei Anfonwn ein cofion at Tecwyn ffrindiau a bu cyfnod pan oedd Williams. Tŷ’r Acrau sydd wedi o’n mwynhau mynd i weld anafu ei goes yn ddiweddar. gemau rygbi’r gynghrair gyda’i Mae’n ddiolchgar i’w gymdogion gyfeillion. am bob cymorth efo’r gwartheg. Roedd yn ddyn hael ac yn barod iawn ei gymwynas. Bydd chwith Pen-blwydd arbennig mawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn Roedd Mrs Leah Jones, Artro, â’r teulu yn eu profedigaeth. Castell y Morfa, Harlech, yn Diolch dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed Dymuna Eifiona, Sue, Anne, ar 27 Medi. Garry a’r teulu ddiolch i bawb am y caredigrwydd a’r Diolch gefnogaeth a ddangoswyd tuag Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i atynt ar ôl colli Phil - gŵr, tad, bawb yn deulu a ffrindiau am yr taid, hen daid a brawd annwyl. holl gardiau a charedigrwydd a Diolch am yr holl gardiau, y dderbyniais ar achlysur fy mhen- geiriau caredig a’r atgofion blwydd arbennig. cynnes am Phil. Diolch o galon Diolch £5 i chi i gyd. Leah Jones, Artro, Rhodd a diolch £20 Castell y Morfa Colli Haf Trist iawn yw gorfod cofnodi marwolaeth Haf Williams, gwraig Dr Peter Williams, Gwynedd wedi cystudd hir. Roedd yn gymeriad hoffus iawn ac yn boblogaidd ymhlith pawb o’i chydnabod. Bydd coffâd llawn iddi yn ein rhifyn nesaf. gan Connie Fisher ar y cam nesaf yn ei bywyd ar ôl gorfod rhoi’r gorau i ganu ar ôl y drafferth a gafodd gyda’i gwddw. Diolch yn fawr i Jill Houliston, ysgrifennydd y sir, oedd wedi trefnu’r holl beth. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, 14 Hydref gyda Carol Power yn sôn am Aber Dragon Jewellery. Croeso i ymwelwyr.

YARIS

Diolch

Dymuna Mrs Blodwen Jones, 23 y Waun, Harlech, ddiolch o galon i bawb am eu holl gardiau, blodau, anrhegion, a galwadau ffôn ar ddathlu ei phen-blwydd yn ddiweddar.

AURIS

Rhodd a diolch £10. Genedigaeth

Llongyfarchiadau mawr i Kirsty a Gethin Evans 13 Y Waun, ar enedigaeth Korey Rees yn ddiweddar, brawd bach i Keira a Gracie, ŵyr i Carol a Steve Paul, Pen yr Hwylfa, a gor-ŵyr i Gwilym ac Elizabeth Williams, Y Waun.

8

AYGO

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

Diolch Dymuna Gwyn a Hazel Jones, 23 Y Waun, Harlech, ddiolch o galon i bawb am eu cyfarchion caredig ar ddathliad eu priodas ruddem yn ddiweddar.

CAPEL JERUSALEM am 4.00 o’r gloch Hydref 11 Parch Dewi Tudur Lewis Undebol Hydref 18 Parch Christopher Prew


Ymweliad Aelod Seneddol â staff a gwirfoddolwyr Canolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy

y flwyddyn, oddeutu £50,000, wneud gwahaniaeth mawr i sicrhau dyfodol y ganolfan a sut Coleg Harlech mae gweithio mewn partneriaeth Croesawyd Mr Tony Selivone a Mr Mark Isherwood i drafod gyda’r gyda’r awdurdod lleol yn hanfodol aelodau beth oedd yn digwydd yng Ngholeg Harlech. Bu trafodaeth ynglŷn â chydweithio gyda Chyngor Gwynedd a’r Cyngor Cymuned i greu er mwyn sicrhau llwyddiant lle i fysiau ollwng ymwelwyr i lawr yn y dref ger Pen y Graig, hefyd eu bod cyfleuster o’r fath. yn ystyried sefydlu’r llyfrgell yn y Coleg. Maent hefyd yn edrych ar ba Mae’n atyniad i breswylwyr gyrsiau sydd ar gael i’w cynnal yn y Coleg a hefyd pa lefydd aros fyddai ar Gwynedd ac yn ased i’r ardal Galwodd Liz Saville Roberts AS gael. leol a dylid ei hystyried fel draw ym Mhwll Nofio Harlech Rhandiroedd canolfan a roir ar waith gan grŵp ar 22 Medi. Cafodd ei thywys o Mae mwyafrif y tenantiaid wedi talu’r rhent. Cytunwyd i anfon at o staff a gwirfoddolwyr ar ran gwmpas y wal ddringo, y caffi a’r y gweddill i’w hatgoffa. Mae rhai nwyddau wedi eu dwyn o’r safle. Cyngor Gwynedd. Mae Bwrdd pwll nofio sydd bellach yn cael eu Gofynnwyd i Mr Geraint Williams gau’r twll yn yr Hen Ladd-dŷ. Cyfarwyddwyr Hamdden Harlech cynnal gan grŵp o wirfoddolwyr Safle Pen y Graig ac Ardudwy wedi gallu sicrhau yn dilyn penderfyniad Cyngor Mae’r ddwy goeden bellach wedi eu torri. Cytunwyd i dorri’r ddwy arbedion sylweddol dros y pum Gwynedd i gau’r ganolfan yn sycamorwydden sydd wedi gordyfu ar Ben y Graig ac sy’n cuddio’r castell. mlynedd ddiwethaf ar y cyd â Cyngerdd Nadolig 2015 2008. Yna cafodd gyfle i siarad ffurfiau creadigol o godi arian yn Cafwyd gwybod bod Band Arian Harlech ac Aelwyd Ardudwy wedi â’r gwirfoddolwyr sy’n aelodau y gymuned. Rhannwyd hyn i gyd cytuno i gymryd rhan. Bydd y Clerc yn cysylltu gyda Chôr Meibion o’r Bwrdd rheoli a rhai o’r gyda Liz yn ystod ei hymweliad. Ardudwy, Dizzie Dancers a phlant Ysgol Tanycastell. Cyfeillion sy’n helpu i wirfoddoli Meddai Heidi Williams: ‘Rydym Cae Chwarae Brenin Siôr yn y ganolfan a chodi arian. wedi cyflawni cymaint dros y pum Derbyniwyd pris gan Mr Martin Howie am osod ffens newydd o amgylch Rhannwyd gwybodaeth â Liz mlynedd ddiwethaf yma ond mae y lle chwarae a chytunwyd i ofyn i Mr Hywel Jones a Mr Emyr Evans am am y gwahanol weithgareddau arnom angen yr arian ychwanegol brisiau hefyd. sy’n digwydd yn y ganolfan ynghyd ag amser i ddatblygu’r CEISIADAU CYNLLUNIO a sut mae’r lle wedi datblygu Newidiadau i lecyn parcio - Tir gyferbyn â Delfryn, Y Llech Cefnogi’r cais. ganolfan.’ wedi i Gyngor Gwynedd ei Codi 4 tŷ annedd a rhai materion wedi eu cadw’n ôl - Tir i gefn Wyndcote, Yna gwahoddwyd Liz i roi throsglwyddo. Roedd Liz yn falch Hen Ffordd Llanfair. Gwrthwynebiad i’r cais hwn oherwydd nad oes ei cynnig ar y wal ddringo gydag o weld brwdfrydedd y staff a’r angen yn lleol ac yn awgrymu’n gryf bod panel ymweld y Parc yn cyfarfod aelod o staff, Darren Parry, a gwirfoddolwyr a’u hymrwymiad ar y safle. chyrhaeddodd ran uchaf y wal yn i gadw’r ganolfan yn agored i Codi estyniad, creu lle parcio ac adeiladu sied ystlumod - Y Garreg, Y ddidrafferth iawn. bawb ei mwynhau, yn bobl leol Llech. Awgrymu’n gryf bod panel ymweld y Parc yn cyfarfod ar y safle. Nododd Liz y gwaith gwych oedd ac yn ymwelwyr â’r ardal. Roedd Eisteddfod Ardudwy wedi ei gyflawni ac roedd am yn gefnogol i’r grŵp a’r hyn oedd Derbyniwyd gwahoddiad oddi wrth yr uchod i un aelod o’r Cyngor gefnogi’r ganolfan er mwyn ceisio yn cael ei wneud yn y ganolfan fynychu’r eisteddfod ar y 10fed o Hydref. Cytunwyd bod y Cyng Edwina sicrhau ei dyfodol. ac yn credu ei fod yn gyfleuster Evans yn cynrychioli’r Cyngor. Am fanylion, ewch i’r wefan: gwych i ddangos i eraill sut all UNRHYW FATER ARALL www.harlechleisure.co.uk Holwyd pam fod y giât ger cyn-westy Queens wedi ei chau a chytunodd ymddiriedolaeth gynnal canolfan Os hoffai unrhyw un anfon e-bost: Huw Jones wneud ymholiadau ynglŷn â hyn. yn effeithiol. Rhannodd y grŵp harlechleisure@btconnect.com Diolchwyd i Mrs Stephanie Evans am edrych ar ôl y blodau o gwmpas y eu pryderon â hi ynglŷn â’r Heidi Williams – Cadeirydd, dref drwy’r haf. dyfodol o ganlyniad i’r diffyg Hamdden Harlech ac Ardudwy Mae angen ysgrifennu at yr Adran Briffyrdd i dynnu eu sylw at y gordyfiant ariannu ar gael i ganolfan o’r sydd yn dod o ardd Bron Castell, Twtil ac yn amharu ar yrwyr sy’n mynd i fath. Fe all swm gweddol fach lawr Twtil.

CYNGOR CYMUNED HARLECH

Er cof am Beryl Ainsworth adegau hapus a dreuliwyd gyda’i a fu farw 4 Awst 2015, gan gilydd. Wedi iddyn nhw symud i Harlech, daeth Beryl a Pam i ei merch Pam Ganwyd Beryl a’i brawd Keith ar stad Alkrington Hall, Middleton, Swydd Gaerhirfryn (Lancashire). Yn ei harddegau, roedd wrth ei bodd yn dawnsio a dyma sut y cyfarfu Eric ym 1946. Priodwyd y ddau ym mis Ebrill 1947 a ganwyd Pam flwyddyn yn ddiweddarach. Ar ôl 1957 symudodd y teulu i Gymru, ac ar ôl cyfnodau byr ym Mhorthmadog a Chricieth symudodd y teulu i Gae Besi, Harlech ym 1958, ac yma y bu i Eric ailgyfarfod â Jack Forster a Bob Gaskell, cyd-beilotiaid iddo o Sgwadron 611. Roedd y tri’n hedfan gyda’i gilydd unwaith eto yn Llanbedr tra’r oedd eu gwragedd Beryl, Mavis a Sheila’n mwynhau cwmni ei gilydd. Mae Pam yn cofio’r chwerthin, y cyfeillgarwch a’r

addoli yn Eglwys Tanwg Sant. Daeth Beryl yn aelod gweithgar o’r gynulleidfa gan gymryd rhan mewn trefnu gweithgareddau codi arian megis cynnal stondinau, jymbl sêl, a phobi cacennau. O ganlyniad i’r gwaith yma daeth yn ffrindiau da efo Hilda Lee; roedd Beryl yn rhan o’r gymuned, ac ar un pryd roedd yn eistedd ar ddeg pwyllgor yn cynnwys bod yn Ysgrifennydd i’r RSPCA ac yn rhedeg y Brownies. Roedd yn nain falch i Anthony ac roedd wrth ei bodd pan ddeuai i aros gyda hi dros yr haf ac i chwarae golff gyda hi. Roedd yn rhywun a gafodd fywyd llawn a phrysur. Yn fam wych i Pam, roedd yno bob amser i’w chroesawu o’r ysgol, ac yn nain a hen nain hoff. Rhodd £20

Yr aelod seneddol Mrs Liz Saville Roberts yng nghwmni staff a gwirfoddolwyr y Ganolfan Adloniant yn ddiweddar.

Swae Pen Bwrdd

Neuadd Goffa, Harlech Dydd Sul, Hydref 25, 11.00 - 4.00 Cyfle i godi arian neu hyrwyddo eich grŵp £5 am daliad ymlaen llaw, £10 ar y diwrnod os bydd lle Gosod byrddau o 9.00 ymlaen Cyswllt: 01766 780952/309/772928 galwch yn y pwll nofio, caffi, neu dderbynfa’r wal ddringo 9


Cerdded i bob man

crancod, dal lledod a hel cocos. Cawsem bum swllt am fwcedaid o gocos [gwaith rhyw awran i’w casglu] ac yna roeddem yn gwario Pan oedden ni’n blant nid oedd rhan o’r ffortiwn yn Siop Joni ar gennym ddewis ond cerdded i y ffordd adref. Ni chaem unrhyw bob man. Roeddwn i’n byw yn drafferth i werthu’r cocos na’r Hermon, pentref bach ddiarffordd lledod. Gwyddem yn iawn lle’r yng ngorllewin Sir Fôn; ac er bod oedden nhw i’w cael. Roedd rhaid yna wasanaeth bws, roeddem yn cerdded ar draeth Malltraeth nes cerdded i bob man, hyd yn oed i’r bod Plas Bodorgan o’ch blaen a ysgol oedd rhyw filltir i ffwrdd. thŵr Eglwys Llangaffo y tu cefn i chi. Roedd y lle yn drybola o Ceiniog oedd cost y daith i’r ysgol gocos a rheini’n rhai mawr. ar y bws. Ond yn hytrach na Roedd llawer o’m cyfoedion yn thalu i fynd ar y bws, roedden ni’n giamstars am ddal lledod. Aros cadw’r geiniog i’w gwario yn Siop nes roedd y llanw wedi mynd allan Joni. Cawsem lond llaw o bethau ac yna cerdded yr afon gyda’r haul da am geiniog bryd hynny. y tu ôl. Sefyll ar leden i’w dal ac Er bod y daith fymryn yn bell, yna ei thaflu i’r lan at yr un oedd roeddwn wrth fy modd yn cerdded yn gyfrifol am eu casglu. Byddem i’r ysgol a chael cyfle i sylwi ar y yn gwerthu’r lledod hefyd, ond yn wlad a’r bywyd gwyllt o’m cwmpas. amlach na dim yn mynd â nhw Roedden ni’n dysgu enwau’r coed, adref i’w ffrïo i swper. y planhigion a’r blodau gan blant Roedd rhai o’r bechgyn yn hŷn na ni. Ac rwyf yn eu cofio’n gosod lein ar draws yr afon i dda hyd heddiw – llygad doli, ddal draenogiaid y môr, ond blodyn neidr, trwyn y llo, llwyn roedd rhaid codi ben bore i nôl hidl, blodyn y gwynt, botwm crys y pysgod cyn i’r gwylanod eu ac ati. Roedden ni’n dysgu llawer gweld nhw’n hongian. Weithiau wrth weld y gwahanol adar ac byddai’r bechgyn hŷn yn achub y anifeiliaid yn eu cynefin naturiol blaen arnon ni a chawsem siwrnai – llwynog, dyfrgi, bronwen, seithug oherwydd, erbyn i ni carlwm, gwiwer, draenog, twrch gyrraedd, roedd y lein yn wag. daear, neidr ddafad, llygoden yr Roedden ni’n dal brithyll a ŷd. Anaml y deuai car heibio ac physgod eraill yn yr afon. Un roedd hynny yn ein galluogi i dull hwylus oedd taflu carreg at y ddefnyddio’r ffordd fawr fel cae pysgodyn [roedd y dŵr yn weddol pêl-droed! fas]. Ond roeddwn i hefyd yn cosi Roeddem wrth ein bodd yn brithyll. Wedi i mi weld brithyll o cerdded i’r traeth yn yr haf. Ni dan y dorlan, byddwn yn gorwedd wyddai ein rhieni i ble y crwydrem ar lan yr afon ac yna yn rhoi fy - dim ond i ni fod yn ofalus, llaw yn y dŵr yn ofalus. Sumud y gwyddent ein bod yn hollol saff. llaw yn araf o dan fol y pysgodyn Roedd pawb oedd dros saith a’i gosi am fymryn cyn gafael yn oed yn gallu nofio. Mi fyddai’r dynn ynddo a’i godi i’r lân. Anodd plant hŷn yn ein dysgu i nofio. ei goelio mi wn, ond fe wnes i hyn Roedden nhw’n ein herio i nofio fwy nag unwaith. ar draws afon Cefni ym Malltraeth Mewn nentydd bychain, roedden [peryglus mi wn!] ac roedd plant ni’n dal doctor coch a’i gadw hŷn ar gael pe bai unrhyw un yn mewn pot jam, ond roedden mynd i drafferthion. Mi es i i ni’n ei ddychwelyd i’r nant ar ôl i drafferthion unwaith a bu bron bawb o’r gang weld pa mor fedrus i mi a boddi – mi es i lawr dair oedden ni. Difyrrwch arall yn y gwaith cyn i Sgog [Robin Evans] nentydd oedd dal llysywod [‘slwod’ neidio i mewn a fy nhynnu i allan. oedd ein gair ni]. Byddem yn dal Rwyf yn fythol ddiolchgar iddo, y llysywen mewn rhwyd fechan wrth gwrs. Ddywedais i ‘run gair ac yna’n ei rhoi mewn pot jam a am yr helynt wedi i mi gyrraedd gadael y pot ar i fyny yn y nant. adref! Ond cael a chael fuodd hi i Aros wedyn ar ochr y nant nes mi y diwrnod hwnnw. clywsem andros o glec. Byddai’r Does gen i ddim llawer o gof yslywen wedi malu’t pot yn o fynd â bwyd efo ni i’r traeth. deilchion. Byddem yn bwyta eirin neu fwyar Gwyddem am bob math o lefydd duon neu’n codi moron [roedd prydferth yn yr ardal, a chofiaf am rhai yn codi swejan (neu rwdan) un yn arbennig lle’r oeddem yn ond nid myfi!] o gae cyfagos. mynd i hel bwtias y gog a chennin Doedden ni ddim yn eu glanhau pedr yn y gwanwyn. Gwyddem yn llwyr, dim ond rhoi rhyw hefyd lle i ddarganfod nythod slemp sydyn yn y gwair. Er hynny, adar ac roedden ni’n ofalus iawn roedd pob un ohonom yn iach o beidio â gwneud niwed i’r wyau. fel cneuen. Byddem hefyd yn hel

10

Gallem adnabod aderyn wrth sylwi ar ei nyth. Nyth o frigau blêr [bedw?] gan y golomen, titw mewn twll yn y wal, ffesant neu betrisen ar y llawr, robin goch mewn hen decell a nyth y dryw yn werth ei weld – pellen o wair â thwll yn y canol, yn berl pensaernïol. Byddai ffrindiau hŷn yn esbonio bod y bioden yn nythu’n gynnar ac yn bwydo ei chywion gydag wyau adar mân ac yn dangos inni sut yr oedd yr ehedydd yn cerdded i ffwrdd o’i nyth cyn codi i’r awyr oherwydd nad oedd hi am i ni wybod lle’r oedd ei nyth. Roedd adar yn ddifyrrwch mawr inni. Yn yr haf, cerddem rhyw dair milltir at graig yn agos i bentref Aberffraw oedd yn llawn o wyau adar y môr – môr-wenoliaid, gwylanod penddu, gwylanod cefnddu, bilidowcars, piod y môr ayyb. Gwyddem fod yr hen bobl yn bwyta wyau gwylanod ac un tro mi ddaru ni ferwi rhai mewn hen sosban – ond braidd yn gryf oedden nhw! Roedd Freddie a Gordon, dau o’n ffrindiau, yn byw ym Mhlas Bodorgan – eu tad yn hwsmon yno. Cawsem fynd i’r plas yn aml yn eu cwmni gan nad oedd Syr George Meyrick ond yno yn ystod gwyliau ysgol. Roedd un ystafell yn y plas yn llawn o adar wedi’u stwffio ac roedd yno sawl drôr yn llawn o wyau adar. Gallem enwi bron bob un o’r adar a nabod yr wyau oherwydd yr addysg a gawsom yn yr awyr agored. Roedden ni allan ym mhob tywydd ac nid oes gen i unrhyw gof o gael rhagolygon y tywydd gan neb, ar wahân i goel gwlad. Awyr goch yn y bore, tywydd drwg, awyr goch min nos, tywydd da. Enfys y bore aml gawode, enfys y pnawn tegwch a gawn, enfys y nos bwrw llond ffos! Defaid yn hel at ei gilydd, arwydd o wynt. Gwenoliaid yn hedfan yn isel, arwydd o law. Chwiws [gwybed mân] yn ein poeni a’n pigo, arwydd o law. Huddug yn disgyn o’r simne, arwydd o law. Dyma un rhigwm oedden ni’n ei chanu – ‘gwynt a glaw, yma a thraw o Gaergeiliog i Aberffraw’. Ym mis Mehefin, roeddem yn treulio ambell i fin nos yn hel briblins [tatws mân] yng nghaeau Llanfeirian. Nid oedd gennym hawl i wneud hynny, ond doedden ni ddim yn teimlo ein bod yn gwneud cam ag unrhyw un. Wedi’r cyfan, dim ond hel beth roedd y casglwyr swyddogol wedi eu methu oedden ni– ac roedd llawer i daten fawr wedi’i gadael ar ôl! Nid oedd unrhyw datws i

gymharu â’r rhain o ran eu blas. Cofiaf mai platiad o datws efo menyn [yn unig] oedd ein swper bryd hynny ac roedden nhw’n werth eu cael. Mi gofiaf y blas hyd heddiw. Ym mis Awst, caem gerdded, yn blant ac yn rhieni, i goed Bodorgan i gasglu coed tân. Byddai gan bob teulu hen goets pedair olwyn i gasglu’r boncyffion a dod â nhw adref. Cyrhaeddem adref yn ystod yr wythnos honno wedi blino’n lân ar ôl cerdded cymaint yn ystod y dydd, a wedyn llifio’r coed a’u storio’n ofalus. Doedd dim llif gadwyn bryd hynny. Byddem hefyd yn cerdded cyn belled â gorsaf reilffordd Bodorgan. Roedd dau lwybr gwahanol yn arwain at y fan honno. Un ohonyn nhw yn golygu mynd heibio Felin Gwna lle’r oedd un o goed eirin gorau’r fro. Heb fod ymhell, roedd perllan afalau gorau’r fro! Ond ger y stesion roedd y goeden castanwydden agosaf. Byddai raid i ni daflu cerrig at y concyrs er mwyn eu casglu. Yna byddai pob math o giamocs [a llên gwerin] yn perthyn i’r broses o galedu’r concyrs. Eu rhoi nhw mewn finag, mewn tail gwartheg, eu sychu yn y popty ac ati. Dyddiau difyr! Peth arall yr oedden ni’n ei wneud yn y ‘stesion’ oedd gosod dimai neu geiniog ar y lein cyn i’r tren gyrraedd. Byddem wrth ein bodd yn gweld y geiniog wedi dyblu o ran arwynebedd wedi i ni ei chodi oddi ar y trac. Byddem hefyd yn sefyll ar y bont i aros i’r tren fynd oddi tanom ac yna doi cwmwl enfawr o fwg drosom - a phawb yn tagu ac yn pesychu am sbel. Yn yr hydref, byddai’r crwydro yn lleihau gan fod y tywydd yn oer ac yn aml yn wlyb. Tueddem i gadw o fewn ein milltir sgwar wedi glan gaeaf. Allan yn chwarae yr oedden ni bryd hynny hefyd a hynny’n hir wedi iddi nosi. Byddem yn gwneud lle i guddio, yn gwneud trapiau, yn cynnal cystadleuaeth taflu gwaywffon, gwneud bwa saeth, sling ac ati. Byddem yn dwyn afalau ac eirin ym mis Medi, yn casglu cnau a choncyrs yn yr hydref ac yn paratoi at wasanaethau Diolchgarwch. Ym mis Tachwedd, byddem cyn brysured â chŵn mewn ffair wrth hel coed a hen deiars at Noson Tân Gwyllt. Pan ddoi’r Nadolig byddai’n amser canu carolau. Rhagor o gerdded i bob man. Ond nid oes gennyf ond atgofion melys o’r holl gyfnod.

PM


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN CYNGOR CYMUNED

CEISIADAU CYNLLUNIO Darparu llety byw ychwanegol i’r tŷ presennol a newid defnydd i weithdy Hen Neuadd Ysgol. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu 3 ffenestr dormer - Llwyn Dafydd, Soar, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad unllawr ac ehangu’r teras - Erw Beudy, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Storio hyd at 40 o garafanau teithiol dros y gaeaf - Maes Carafanau Barcdy, Cae Bran. Cefnogi’r cais hwn. Defnyddio stabl fel llety preswyl a gosod carafán ar gyfer defnydd preswyl mewn cysylltiad â defnydd o’r stabl - Lizzie’s Barn, Llandecwyn Angen gwybodaeth ynglŷn â’r defnydd o’r tir yma yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. CYMORTH ARIANNOL Apêl Cylch Ardudwy Sioe Llanelwedd - Meirionnydd 2016 - £200 Cydymdeimlad Merched y Wawr Hamdden Harlech - cytunwyd i wahodd Mr Iolo Owen i gyfarfod nesa’r Cyngor i drafod datblygiad y ganolfan cyn gwneud penderfyniad ar y swm I ddechrau Rhaglen 2015-16 aeth Estynnwn ein cydymdeimlad o gymorth ariannol. aelodau Talsarnau ar ymweliad â llwyraf i Deilwen Rowlands GOHEBIAETH (Cefn Gwyn gynt) a’r teulu yn Gwinllan Pant Du, Penygroes ar Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd eu profedigaeth o golli Tecwyn, ddydd Iau, 10 Medi, diwrnod Nid oes tystiolaeth mai Cyngor Gwynedd sydd berchen y tir ger Capel priod Deilwen, yn ddiweddar. delfrydol gyda’r tywydd yn Anfonwn ein cofion atoch oll fel Soar. Aseswyd y wal gyferbyn ag ystâd Maes Gwndwn a nodwyd mai heulog braf a chynnes i ymweld cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw cynnal y wal yma. teulu. â’r lle godidog yma. Derbyniwyd ateb ynglŷn â gosod arwydd 20 milltir yr awr ger yr ysgol Wedi cyrraedd ganol bore, cael gynradd. Maent yn gwneud asesiad o’r safle i weld a yw’n addas i barth o’r Diolch paned yn y caffi yn gyntaf, cyn fath. Dymuna Deilwen Rowlands mynd allan gyda’r perchennog, Parc Cenedlaethol Eryri a’r teulu (Cefn Gwyn gynt) Derbyniwyd cais gan Gyngor Eglwys Llanfihangel-y-traethau i godi toiled. Richard Wyn Huws a chael UNRHYW FATER ARALL gydnabod yn ddiolchgar pob sgwrs ganddo a dysgu am y Nododd Ann Jones ei bod wedi glanhau’r lloches bws a diolchwyd iddi am arwydd o gydymdeimlad a gwinllannau a’r perllannau oedd hyn. Cytunwyd bod pawb yn cadw golwg ar sefyllfa’r lloches bws ac yn ei dderbyniodd yn ei phrofedigaeth ar y bryniau o gwmpas a chael lanhau fel bo’r angen. gwybod am yr ymdrech a wnaed lem o golli ei hannwyl briod Anogir pawb i ddefnyddio’r gwasanaeth bws newydd sydd yn dod bob 2 Tecwyn ar ôl gwaeledd byr. i ddod o hyd i’r ffynnon ddŵr awr trwy’r pentref o gyfeiriad Bermo ac yn mynd i Borthmadog neu bydd Gwerthfawrogir yn fawr iawn ddofn gerllaw. Hanes diddorol y gwasanaeth yn dod i ben oherwydd diffyg defnydd gan mai dim ond y nifer o negeseuon ffôn a iawn – a chafwyd hefyd flasu’r arbrawf yw’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd. chardiau ynghyd â rhoddion dŵr oer hyfryd. Datganwyd pryder bod argae Llyn Tecwyn yn dal i ollwng. a dderbyniwyd tuag at Uned Roedd ei sgwrs yn hynod o Mae beiciau modur yn dal i fynd o amgylch Llyn Tecwyn. Mae angen Canser Clatterbridge. arwyddion ar y safle yn datgan bod beiciau modur wedi eu gwahardd. ddifyr a mwynhawyd gwrando arno’n sôn am sut y dechreuwyd Gwerthfawrogir yn ddiffuant yr Nid yw’r broblem o barcio ger gorsaf Llandecwyn byth wedi ei datrys. Mae cerddwyr yn parcio ym mhob man yn Llandecwyn. Angen arwydd 30 holl garedigrwydd ar adeg mor y busnes. Ar ôl bod allan am milltir yr awr yn Llandecwyn a phalmant ger Trem y Garth. drist. ryw awr, yn ôl i’r caffi wedyn am Credir nad yw beicwyr yn defnyddio’r llwybr beic newydd ar Bont Briwet. Rhodd £10 ginio roedd Iola Huws wedi’i Ni wneir defnydd o’r garejis gwag sydd ar stâd dai Cilfor. Mae canghennau baratoi ar ein cyfer a phawb eto’n coed yn gwyro dros y ffordd ger Tan Dderwen. Llongyfarch mwynhau’r arlwy yma. Nid oes modd mynd at y glastraeth o’r llwybr cyhoeddus ar ben y clawdd Llongyfarchiadau i Bill Roberts, llanw. Cyn mynd adre’, roedd cyfle i Tremadog (gynt o Dalsarnau), wneud ychydig o siopa a chael Mae angen ysgrifennu at berchnogion ‘Pike Cottage’ yn gofyn yn garedig prynu ambell i botel – neu ddwy ar ennill gwobrwyon yn Sioe iddynt newid enw’r tŷ yn ôl i Noddfa.

– o gynnyrch Pant Du! Diolchodd Siriol i Richard ac Iola am eu croeso ac am gael treulio amser bendigedig mewn lle mor hyfryd. Cafwyd diwrnod da i gychwyn rhaglen y flwyddyn. Anhwylder Anfonwn ein cofion at Idris Williams, Tanforhesgan sydd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar.

Capel Newydd, Talsarnau

Oedfa Ddiolchgarwch

Nos Wener, Hydref 23 am 7.00 o’r gloch

Trawsfynydd ar 12 Medi eleni am y bwmpen drymaf, nionod, ciwcymer a ffa dringo. Bu Bill yn yn cystadlu yno ers 1977 ac mae wedi ennill efo’r bwmpen drymaf Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Iau, 22 o weithiau. Dipyn o gamp.

FFAIR NADOLIG

Noson Goffi Tregwylan Diolchiadau Hoffai Fal Edwards ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at y Noson Goffi a gynhaliwyd nos Wener, 25 Medi yn Nhregwylan. Gwnaed elw o £700 tuag at Dŷ Gobaith ac Ambiwlans Awyr Cymru. Noson lwyddiannus iawn fuasai ddim wedi bod yn bosib heb eich cefnogaeth chi oll.

26 Tachwedd am 6.30 Mynediad: Oedolion £1 Plant – am ddim

Stondinau amrywiol Paned a sgwrs Dewch i brynu anrhegion Nadolig Gellir llogi bwrdd am £10 01766 772960

DIOLCH Dymuna Cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ddiolch yn ddiffuant i bawb fu’n darparu lluniaeth ym mhabell yr Undeb ar ddiwrnod y Sioe Sir. Cafwyd diwrnod eithriadol o brysur a gwyddom i lawer iawn o ferched weithio’n galed. Mae hyn yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn. Diolch hefyd i’r holl aelodau am eu cyfraniadau boed yn ariannol neu roddion o fwyd ar gyfer y diwrnod.

Suliau Capel Newydd Oedfaon am 6.00

Hydref 11 Dafydd Prothero Morris Hydref 18 - Dewi Tudur Hydref 25 - Edmwnd Owen Tachwedd 1, 8, 15 - Dewi Tudur

11


COLLI DEIO

Er i ni weld dirywiad yn ei iechyd ers tro, fe’n brawychwyd gyda’r newyddion am farwolaeth Deio Williams, Awel y Môr, Harlech ac yntau yn 71 mlwydd oed.. Roedd yn ŵr i Eirlys, yn dad i Darren a Donna, a Julie ac Andy, ac yn daid i Carwyn ac Eirian, Joseff, Billy a Siôn. Roedd yn meddwl y byd o’i deulu, yn eu canmol yn aml ac yn fawr ei gonsyrn amdanyn nhw. Bu’n gweithio ym Maes Awyr Llanbedr am rai blynyddoedd a gwnaeth ffrindiau da yn y fan honno. Pan fyddai yn ei hwyliau cawsem hanes y cymeriadau brith ac ambell dro trwstan ganddo. Bu’n chwarae criced a dartiau yn frwd ond bu ei gyfraniad i dîm pêl-droed Harlech yn un nodedig iawn, fel chwaraewr a chefnogwr. Ond dydy’r gair cefnogwr ddim yn ddigonol i ddisgrifio ei gyfraniad. Fe ŵyr y cyfarwydd yn dda am ei waith dygn dros y clwb dros gyfnod o flynyddoedd. Roedd yn chwaraewr medrus yn ei ddydd a gallai drafod y gêm yn ddeallus. Roedd wrth ei fodd yn gwylio gemau yng Nghynghrair Cymru ac fe deithiai yn eithaf pell i weld gemau. Wedi ymddeol o’r Camp, fe

drodd ei ddiddordeb at y siop. ‘Trugareddau’ oedd ei enw arni ac roedd yn enw cwbl addas. Fel Cymro da, mynnodd hefyd gael yr enw Cymraeg yn amlwg. Roedd y siop yn ychwanegu at liw a bwrlwm y stryd fawr yn y dref ac mi fydd yn chwith iawn heb ei weld yn dal pen rheswm yn ei fan arferol. Ef yn anad neb oedd yn gyfrifol am sefydlu’r cwis wythnosol yn nhafarn y Llew. Roedd hwyl i’w gael yn ei gwmni yn y fan honno ac roedd ei gwisiau ef yn rhai da bob amser. Roedd yn aelod gwerthfawr a’i wybodaeth yn eang iawn. Yr un fyddai ei ymateb gwamal i gwisiau gan ei gydnabod - ‘cwis digon symol heno hogia!’ Neu eiriau ychydig bach mwy lliwgar na hynny. Ef oedd yn gyfrifol am y croesair yn Llais Ardudwy ers rhai blynyddoedd. Nid tasg hawdd oedd hon. A doedden nhw ddim yn groeseiriau hawdd ychwaith! Ond fe fyddai’n ymateb yn ffyddlon bob mis a hynny mewn da bryd. Roedd ganddo ddiddordeb mewn geiriau ac ymadroddion ac roedd wedi cadw rhestr o’r dywediadau doniol a glywsai. Roedd yn ffrind ffyddlon i lawer hefyd ac yn un triw iawn; yn llawn hiwmor a chanddo chwerthiniad iach. Roedd o hefyd yn barod iawn ei gymwynas - a llawer o hynny yn digwydd yn y dirgel. Yr un ffyddlondeb a gafwyd gan Deio tuag at ei deulu agos, ei glwb pêl-droed, ei waith bob dydd, ei bapur bro ac at ei ffrindiau. Dyn gwerth ei gael i’r gymuned a dyn gwerth ei nabod. Cydymdeimlwn yn arw gyda’i deulu a’i ffrindiau lu yn eu colled.

CROESAIR MIS MEDI

ENILLWYR MIS MEDI

Dyma enillwyr mis Medi: Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Idris Williams, Tanforhesgan, Talsarnau; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn Gwynt, Harlech; Gwenfair Ayckroyd, Y Bala.

12

ATEBION MIS MEDI AR DRAWS 1. Crino 4. Ganwyd 7. Digio 8. Alinio 9. Bro 10. Ocsiwn 14. Pant 16. Nage 18 Idiom 19. Ceryddu 21. Newynu 22. Hidlo I LAWR 1. Cadw 2. Iogwrt 3. Ogof 4. Gwanc 5. Neifion 6. Ydi 11. Negyddol 12. Pasiant 13. Palmant 15. Toc 17. Milwr 20. Reit

THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667

TACHWEDD 7

Dathlu pen-blwydd Gŵyl Gwrw Llanbedr yn 10 oed. Noson arbennig o gerddoriaeth gyda Rhys Meirion, Elin Fflur, 10 o offerynwyr band pres blaenllaw’r wlad. Cyflwynydd: Aeron Pughe. Elw at yr Ambiwlans Awyr.

Pôs y Beirdd HYDREF gan Iwan Morgan

1. Gwynt yr Hydref ruai neithiwr, Crynai’r dref i’w sail, Ac mae’r henwr wrthi’n fore’n ‘Sgubo’r dail. 2. Gwelais fedd yr haf heddiw Ar wŷdd a dail, hardded yw Ei liwiau fyrdd, olaf ef Yn aeddfedrwydd lleddf Hydref. (gwnaeth y llenor amryddawn yma o Fetws yn Rhos gyfraniad pwysig i lenyddiaeth Cymru) 3. Ar y pumed ar hugain o Hydref Daeth gwreigan fusgrell o’r daflod wair Gan gamu’n bwyllog dros y grisiau cerrig. (enillydd Coron yn ei dref enedigol) 4. Hydref yn teimlo’i oedran yn y cwm, A’r coed yn eu cwman; Hen wŷr yn rhannu arian Hyd y dŵr, a’r dŵr ar dân. (gwelodd gyfoeth yn nŵr ei ‘afon’) 5. Mae’n firi ac mae’n fore fin Hydref yn y Nant, a gwawr yn gwisgo’i gorau heb leisiau a heb blant, ac uwch y trai, sŵn llais y lli, a thonnau hŷn na’i chwerthin hi. (ei dad, ei ddau ewyrth ac yntau’n Brifeirdd ... sawl gwaith drosodd!)

ATEBION MIS MEDI 1. Myrddin ap Dafydd - ‘Gŵyl Pen Draw’r Byd 2005’ 2. Waldo - ‘Medi’ 3. R Williams Parry - Awdl ‘Yr Haf ’ 4. Eifion Wyn - ‘Medi’ 5. Elizabeth Jane Williams (Awen Mona) - ‘Lleuad Fedi’


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf.

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

13


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Canlyniadau TGAU Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion B11 a gyrhaeddodd safonau uchel iawn unwaith eto eleni. Fel yn 2014, llwyddodd pob disgybl mewn o leiaf pum pwnc A*- C. Roedd nifer wedi cael canlyniadau arbennig gyda nifer fawr o Raddau A*/A. Roedd canlyniadau unigol nodedig gan Rosalyn Blow, Isla Thorpe a Lowri Evans. Mae’r ysgol yn falch iawn o’r canlyniadau gwych ac yn diolch i’r disgyblion am eu hymroddiad a’r athrawon am eu gwaith. Newidiadau Staff Ymddeolodd Myfanwy French, Croesawydd yn yr ysgol yn yr haf. Bydd llawer o rieni wedi cael cymorth ar y ffôn ganddi dros y blynyddoedd. Rydym yn croesawu Nan Tudor, hithau hefyd o Benrhyndeudraeth, yn ei lle. Gadawodd Rhian Davies, Pennaeth Ieithoedd Modern yn yr haf hefyd ac mae Naomi Redman wedi cymryd ei lle.

Prom B11 2015 Cynhaliwyd Prom Ymadael B11 yng Nghors y Gedol ar nos Iau 25 o Fehefin. Roedd yr hen blasty’n

14

Wythnos Weithgareddau Cafwyd Wythnos Weithgareddau llwyddiannus iawn ym mis Gorffennaf. Roedd disgyblion o bob blwyddyn yn dilyn rhaglenni arbennig. Aeth disgyblion B9 ar ymweliad dwy noson â Chaerdydd a threuliodd criw o B9 yr wythnos yn Ffrainc gan ymweld â bedd Hedd Wyng yng Ngwlad Belg. Fel rhan o’u hwythnos anwytho ym mis Gorffennaf cafodd disgyblion B6 y dalgylch gyfle i ymweld â gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn gyda rhai o athrawon yr ysgol. Yn ystod y deuddydd cafodd y disgyblion gyfle i ddringo, adeiladu rafftiau, canŵio a chyfeiriannu. Erbyn hyn, mae’r disgyblion wedi cyrraedd B7; croeso iddynt i gyd i’r ysgol.

lle delfrydol ar gyfer digwyddiad o’r fath, ac roedd disgyblion o B11 wedi addurno’r lle’n hardd, gan greu awyrgylch hyfryd. Cyrhaeddodd rhai mewn limos, rhai ar gefn tractor neu ‘gwad’, a daeth Sam ar ei feic! Roedd pawb wedi’u gwisgo’n ddel ac yn llawn hwyl. Wedi tynnu lluniau cafwyd bwffe ac yna seremoni gwobrau amrywiol gan gynnwys Brenin a Brenhines y Prom sef Izzy Kidd a Jack Davies. Hefyd yn ystod y noson cafwyd cyfle i weld hen luniau yn crynhoi eu hamser yn yr ysgol. Treuliwyd gweddill y noson yn dawnsio, a dawnsio, a dawnsio mwy wedyn! Trefnwyd y dathliadau gan Mili Da Costa, Ellie Ingram, Isobel Kidd, Emma Rooney a Danielle Smith; diolch i’r pump ohonynt. Diolch hefyd i staff Cors y Gedol a’r athrawon a fynychodd am noson wych!


Cana-mi-gei yn Lincoln

Ar ddechrau Gorffennaf, teithio tua’r dwyrain wnaeth y côr merched lleol, Cana-mi-gei, cyn belled â dinas Lincoln, ac yno bu’r merched yn aros yn llety myfyrwyr Prifysgol Bishop Grosseteste. Cychwynnwyd yn brydlon ar fws o’r Oakeley Arms ar y nos Wener, a chafwyd cyfle i ddathlu ein hymweliad ar ôl cyrraedd ein llety cyfforddus a modern iawn. Ar y bore Sadwrn, cafodd y merched gyfle i gerdded i’r ddinas. O’r brifysgol ar ben y bryn, rhaid oedd cerdded i lawr drwy ardal Bailgate, sef hen ran y ddinas, gyda’r castell ar un ochr a’r eglwys gadeiriol ar yr ochr arall. Roedd maint yr eglwys gadeiriol yn syndod i’r rhai a ymwelodd â hi, a’i hawyrgylch hamddenol braf. Crwydro i lawr yr hen stryd gul a serth, Steep Hill, wedyn nes cyrraedd y ddinas bresennol, a chael crwydro’r siopau a gwario; cyfle hefyd i rai gael cinio hamddenol yn yr haul braf ar lan y gamlas ar droed y rhiw. Gyda’r nos, roedd cyngerdd wedi ei drefnu yn y Capel ar

gampws y Brifysgol ac yma bu’r côr yn canu rhyw ddeg o ganeuon bob yn ail â grŵp o gantorion lleol oedd wedi dod ynghyd i gymryd rhan ar y noson. Dim ond un dyn bach oedd yn canu efo’r merched yn y grŵp yma, ond mi wnaeth yn rhyfeddol ar ei ben ei hun! Fore Sul, gadawyd Lincoln yn eithaf cynnar er mwyn cyrraedd Eglwys St Edmund’s, Holme Pierrepoint, Nottingham, lle’r oedd trefniant i’r côr ganu fel rhan o’r gwasanaeth am 11.00 y bore. Bu’r côr yn canu yma hefyd ddwy flynedd yn ôl ar eu hymweliad ag ardal Nottingham, ac, yn dilyn y lluniaeth wedi’r gwasanaeth, braf oedd cael crwydro unwaith eto drwy erddi’r plasty o frics coch ar y safle, a rhyfeddu at y blodau hardd, lliwgar ac amrywiol. Ar ôl ffarwelio â Holme Pierrepoint, troi am adref oedd hanes y côr, ar ôl taith ddifyr a llawn hwyl arall. Mawr yw ein diolch i Ann, ein harweinydd, i Elin, ein cyfeilydd, ac i Gwen a wnaeth y trefniadau. Edrychwn ymlaen at y tro nesaf!

NEUADD GOFFA PENRHYNDEUDRAETH

FFAIR AEAF

yng nghwmni SIÔN CORN a BAND ARALL Dydd Sadwrn, Tachwedd 28ain, 2015 am 2.00 o’r gloch Gemau i’r plant a llu o stondinau Mynediad, yn cynnwys lluniaeth - £1.50 CROESO I BAWB Trefnir gan Blaid Cymru

Lincoln 2015

Gweld yr haul ar hen lyn y Brythoniaid Er hwyliog oriau o deithio, bu raid. Lle braf yw Lincoln, afon rhed trwy’i chalon. Tu hwnt i’r enfys, lle da i ganu (heb fas)! Cyn ein canu i’r Esgob mawr, ciniawa Gwario, hunlunio, pincio a ... SIOPA! Yna Merched-mi-gei yn partio ’da pizza. Clodforwn Di am drip i’w gofio - haleliwia! Cleniaf eto’r dref hon a’i thawel drigolion. Ffeindia ffrindia da hawdd eu cymwynas. Eifiona Thomas Lane

15


DYDDIAU PRISIO ARBENIGOL PRISIO RHAD AC AM DDIM

Dydd Mawrth, Hydref 13, 10.00 - 3.00 Gwesty Bae Abermaw Ffordd Panorama, Bermo, Gwynedd LL42 1DQ [Parcio am ddim - yn dibynnu ar lefydd gweigion!] RYDAN NI EISIAU PRYNU OS YDYCH CHI AM WERTHU! Dydd Mercher, Hydref 14, 9.00 tan 1.00 Gwesty’r Belle View, Marine Terrace, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2BA [Parcio am ddim - yn dibynnu ar lefydd gweigion!] Darnau arian [unrhyw ran o’r byd, kruggerand, Bathdy Brenhinol, setiau], stampiau, papurau arian o bob math, hen bethau, oriorau, aur, arian, cardiau post, cardiau sigaret, medalau a militaria, peiriannau gwyddonol, clociau, gemwaith, cleddyfau, bidogau, arfau a ddiogelwyd, dogfennau cyn 1900/ llyfrau a mapiau, a rhaglenni a thocynnau chwaraeon cyn 1960.

BYDD ARBENIGWYR ARWERTHWYR LOCKDALES YN BRESENNOL, GELLIR TREFNU I ANFON I ARWERTHIANT NEU WERTHU AR Y PRYD, PRISIO AM DDIM, DIM YMRWYMIAD - NID OES ANGEN APWYNTIAD

Ffôn: [01473] 627110

16

www.lockdales.com

sales@lockdales.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.