Llais Ardudwy 50c
Enillydd Tlws yr Eisteddfod
RHIF 456 HYDREF 2016
CAE CHWARAE NEWYDD
Llongyfarchiadau i Celt Roberts, Talsarnau, enillydd Cystadleuaeth Golff Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016. Chwaraewyd y gystadleuaeth ar Gwrs Golff Sir Fynwy ar gyrion Y Fenni yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd Celt ei fod o wrth ei fodd ei fod o wedi ennill y gystadleuaeth arbennig yma.
Dyma luniau o’r cae chwarae newydd o ffordd yr orsaf wrth droi i lawr rhwng y Ship a’r hen swyddfa bost yn Nhalsarnau. Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i’r pwyllgor bach am eu gwaith ar y cynllunio sef Charlene Roberts, Chris Rayner, Siôn Richards, Geraint Williams a Meirion Griffiths. Diolch i Huw Owen am ei waith dechreuol yn gwella ansawdd y tir gwlyb ac i’r Cyngor Cymuned yn cyllido ar ôl rhoi arian o’r neilltu am rai blynyddoedd ar gyfer hyn. Annwen Hughes a John Richards fu’n hybu’r gwaith ar y cae chwarae a’r maes parcio ar yr un safle gan obeithio y bydd yn adnodd gwerthfawr i bentref Talsarnau. Trefnir agoriad swyddogol yn y dyfodol agos.
HWYLIO ROBOTAIDD
Llun o’r tîm hefo Dewi’r cwch yng Nghanada. Enwau’r tîm o’r chwith: Elizabeth Stone, Louis Taylor, Daniel Clark, Tom Cartwright. Mae Tom Cartwright o Ddyffryn Ardudwy yn rhan o dîm AberSailbot ym Mhrifysgol Aberystwyth a fu’n cystadlu dros yr haf gyda chwch hwylio robotaidd. Mae’r cwch (Dewi) sy’n 1.2m o hyd, wedi ei raglennu i fesur yr amgylchiadau ee cyfeiriad gwynt o’i gwmpas, er mwyn cyfrifo llwybr a llywio rhwng cyfres o bwyntiau ar fap. Bu’r tîm yn Kingston, Ontario, Canada ym mis Mehefin, a daethant yn drydydd yng nghystadleuaeth ‘International Robotic Sailing Regatta’. Maent newydd ddychwelyd o ail gystadleuaeth yr haf yn Viana Do Castelo, Portiwgal, lle daethant eto’n drydydd yn eu categori yng nghystadleuaeth ‘World Robotic Sailing Championship’. Mae Tom yn edrych ymlaen at barhau â’r prosiect yn ei ail flwyddyn yn astudio Cyfrifiadureg yn Aberystwyth.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Tachwedd 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Tachwedd 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Hydref 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Gethin Rhys Owen Gwaith: Gwyddonydd, Cyfarwyddwr ac Ymgynghorydd ym maes microsgopeg electron ym Mhrifysgol British Columbia, Canada. Cefndir: Cefais fy magu ar fferm Coed Uchaf yn Nyffryn Ardudwy. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ac yna yn Ysgol Ardudwy. Ar ôl graddio mewn biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cefais gyfle i astudio yn Y Swistir, Canada a’r Unol Daleithiau. Bellach, rwyf yn briod â Marissa, yn dad i ddau o blant, Deian a Mairead, ac wedi cartrefu yma yn Vancouver ers dros ddeng mlynedd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Ers fy arddegau mae cadw’n heini wedi bod yn bwysig iawn i mi erioed. Mynydda a sgïo oedd fy mhrif ddiddordebau yn y gorffennol ond mae pwysau gwaith a chyfrifoldeb teulu wedi rhoi stop ar hyn am y tro. Y dyddiau yma ceisiaf neilltuo amser i redeg neu feicio’n wythnosol ac ers dwy flynedd rwyf yn ymarfer karate gyda’r plant. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Byddaf yn darllen llawer o bapurau gwyddonol a dogfennau yn sgil fy ngwaith ac felly tydy darllen ddim yn rhywbeth sy’n apelio ataf yn fy amser rhydd. Os caf afael ar lyfr da, fe ddaw’r awydd i ddechrau darllen yn hwyrol iawn! Fel rheol cofiannau sydd yn mynd â’m bryd ond cefais flas flwyddyn yma yn ailddarllen llyfr Angharad Price, O Tyn y Gorchudd, a chael pleser mawr o ddarllen bywgraffiad y mynyddwr lleol, enwog
Eric Jones, ‘Antur i’r Eithaf Atgofion Byw ar y Dibyn’. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Y dyddiau yma, byddaf yn lwcus os caf gyfle i weld newyddion unarddeg y nos ond gofalaf fy mod yn pori drwy newyddion Cymru a Phrydain yn ddyddiol ar y cyfrifiadur. Ydych chi’n bwyta’n dda? Byddaf yn ceisio fy ngorau i fwyta amrywiaeth o fwydydd yn gymedrol. Hoff fwyd? Dim bwyd penodol ond byddaf yn mwynhau cig moch, ŵy ’di ffrio a bara saim a chinio cig oen pan fyddaf adref yng Nghoed Uchaf. Hoff ddiod? Panad o de. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Fy ngwraig Marissa, os fydd rhywun yn fodlon gwarchod y plant! Lle sydd orau gennych? Rhywle lle gaf dawelwch a lle i’r enaid gael llonydd. Yng nghanol sŵn a dwndwr y ddinas byddaf yn hel meddyliau am yr amseroedd y byddwn wrth fy modd yn eistedd ar y garreg fawr yn ffridd Llwyngwian ac yn edrych i lawr tuag at y môr gan ryfeddu at yr olygfa odidog o Ynys Enlli a Phen Llŷn a byddaf yn dyheu am y distawrwydd llethol. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Mae pob gwyliau pan gaf ymweld â’r teulu un ai yng Nghymru neu Periw yn amser arbennig i mi. Beth sy’n eich gwylltio? Llawer o bethau dianghenraid sydd yn digwydd yn y byd y dyddiau yma. Wrth imi feddwl am ateb i’r cwestiwn yma, mae’r dreifar car ara’ deg sydd o fy mlaen yn gwneud i fy ngwaed ferwi! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun sy’n cadw at ei air. Pwy yw eich arwr? Does dim un unigolyn penodol yn amlygu ei hun oherwydd bod gan bob un rinweddau da a drwg ond mae llawer o bobol wedi cael dylanwad arnaf. Mae etheg gwaith a chariad fy rhieni tuag atom yn rhywbeth yr wyf yn ceisio ei efelychu ac yn ei werthfawrogi llawer mwy wrth
imi gael y cyfrifoldeb o fagu teulu. Roedd gweld fy mrawd Gareth yn barod i adael cartref mor ifanc, yn 14 oed, er mwyn gwireddu ei freuddwyd i fod yn bianydd hefyd wedi cael effaith ar gyfeiriad fy ngyrfa. Bum yn ffodus iawn o gael tyfu i fyny yng nghwmni llawer o gymeriadau ym mhentre Dyffryn ac yn Harlech wrth weithio hefo Dad yn siop y Plas. Anodd iawn yw enwi unigolion gan fod pawb wedi creu argraff arnaf mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Beth yw eich bai mwyaf? Gohirio pethau tan y funud olaf. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Heblaw am fod yng nghwmni fy nheulu rhaid dweud fod y saith mlynedd a dreuliais yn Alpau’r Swistir wedi bod yn amser lle y dysgais lawer gan y trigolion sut i fwynhau bywyd. Maent yn rhoi pwyslais ar weithio yn galed ac effeithiol a hefyd ar fwynhau amser hamdden. Dyna yw fy syniad o hapusrwydd ac yn nod imi a fy nheulu. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei roi yn y cyfri banc. Eich hoff liw? Gwyrdd. Eich hoff flodyn? Clychau’r gog (yn enwedig y rhai wrth Sarn Gornant). Eich hoff gerddor? Byddaf yn mwyhau pob math o gerddoriaeth o’r clasurol a gwerin i roc trwm!! Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Toccata o’r bumed Symffoni i’r Organ yn F, Op 42 #1, gan Charles-Marie Widor. Pa dalent hoffech chi ei chael? Dwi’n grediniol fod posib llwyddo i wneud rhywbeth drwy ymarfer cyson. Buaswn wrth fy modd petawn yn cael cyfle i ganu organ bib mewn Eglwys Gadeiriol. Pwy a ŵyr, efallai y caf gyfle wedi imi ymddeol! Eich hoff ddywediad? Gormod o ddim nid yw’n dda. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bob amser yn brysur a dim digon o oriau mewn diwrnod. Er hynny, yn hapus iawn fy myd.
Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch
Ar ddechrau’r tymor aeth nifer o’n haelodau draw i Benmaenpool i gyfarfod â Rhys Gwynn, Warden Parc Cenedlaethol Eryri, i glywed sgwrs ddifyr am ei waith. Roedd rhai wedi gweld Rhys ar y teledu yn sôn am yr enwau hyfryd sydd ar lynnoedd yn yr Wnion a’r Fawddach, ac roedd yn braf gweld yr enwau hyn wedi eu cerfio ar gerrig a’u gosod mewn wal arbennig. Mae’r wal yn gampwaith, ac mae ôl oriau o lafur arni. Esboniodd Rhys fod pob rhan o’r wal wedi eu hailgylchu yn lleol - hyd yn oed llygad gloyw’r eog. Cawsom hefyd gip ar yr ardd fechan gerllaw sydd wedi ei phlannu’n arbennig i fod yn hafan i fywyd gwyllt. Diolchodd Llewela yn wresog i Rhys cyn i ni fynd drws nesaf bron, i Westy’r George i fwynhau cinio blasus. Wedi’r cinio llongyfarchodd Llewela Jean ar ei llwyddiant yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, a chawsom gyfle i weld dwy enghraifft o’r gwaith llaw buddugol - da iawn Jean! Llongyfarchwyd Gretta ar
lwyddiant ei hŵyr Tom a’i dîm yng Nghanada ac ym Mhortiwgal, gyda’u cwch arbennig. Roedd yn braf cael cwmni Gretta unwaith eto. Diolchodd Llewela i Mair, Megan a Heulwen am ddarllen Llais Ardudwy. Anfonwyd ein cofion cynhesaf at Elinor. Llongyfarchiadau i Gôr Bro Meirion ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni. Mae dwy o’n haelodau, Llewela a Jean, yn aelodau o’r côr. Bydd ein cyfarfod nesaf ar Hydref 18 pan fydd Phil Mostert, Harlech, yn dod atom i sôn am ‘Llais Ardudwy 1975 - 2016’. Rydym yn cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Y Bermo ar y drydedd nos Fawrth o bob mis am 7.00yh, ac mae croeso cynnes i bawb. Gwenda Llongyfarch Llongyfarchiadau mawr i Iola Thomas, Llys-y-Delyn, Bermo ar ennill gradd Meistr yn y Gwyddorau (MSc) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Mae’r teulu i gyd yn ymfalchïo yn ei llwyddiant.
Theatr y Ddraig, y Bermo HYDREF
Am 7.30 oni nodir yn wahanol. 7, Gwener, ‘A Comedy Show for All Ages’ 9, Sul, ffilm: The Legend of Tarzan 14, Gwener, Diwrnod Gwerthuso Hen Bethau, 2.30 y prynhawn 14, Gwener, Cerddoriaeth: Noson Bluegrass gyda’r Boggy Mountain Boys 21, Gwener, ffilm: Florence Foster Jenkins 22, Sadwrn, Sêl Pen Bwrdd a chawl i ginio, 10 y bore hyd 3 y prynhawn. Mae archebion ar gyfer y digwyddiad hwn yn dod i mewn ar hyn o bryd; i archebu stondin i werthu fel unigolyn, grŵp lleol neu elusen, rhowch alwad i ni ar 01341 281697. Diolch yn fawr hefyd i siop y Co-operative yn y Bermo sydd wedi ein henwebu fel un o’u Hachosion Cymunedol. Bydd mwy o fanylion i’w cael ynglŷn â’r cynllun aelodaeth hwn gan y Co-op cyn bo hir.
APÊL AM EITEMAU AC ERTHYGLAU I’R LLAIS
Mae angen parhaus am ddeunydd i lenwi colofnau’r papur hwn. Os oes gennych atgofion yr hoffech eu rhannu, neu wybodaeth ddiddorol, hen luniau, posau, - yn wir unrhyw beth fuasai yn eich barn chi yn diddori ein darllenwyr, buasem yn falch o’u cael. Yn yr un modd, os oes gennych ddiddordeb mewn llenwi’r holiadur ‘Holi Hwn a’r Llall’ - rhowch wybod. Diolch am bob cefnogaeth.
Yr olygfa o Bont y Bermo (parhad)
I gyfeiriad y de-ddwyrain gellid gweld bryncyn y Tegla, gyda’i dir mawnog, ac ar ei drwyn pellaf Teras Crescent fel lloer wythnos oed, a’i ffenestri yn grisialu dan belydrau’r haul. Tu draw oedd rhannau uchaf o bentref tlws Arthog yn nythu yn glyd yng nghysgodion y coed, a thu cefn i’r pentref codai degau o fân fryniau, a hafnau culion, a chymoedd anhygyrch yn eu gwahanu, gydag ambell i raeadr ffrochwyllt yn llamu fel gwallgofddyn dros ddibynnau erch, gan daflu ei lafoerion gwyn i’r trobwll islaw. Dyna Gader Idris benfoel yn cusanu’r awyr lân. Hen Gader Idris gawr, mawreddog yn wir ei drem, erch ac ysgythrog ei glogwyni, cribog a serth ei ochrau, ond swynol iawn y dydd hwnnw oedd syllu ar ei arucheledd a’i brydferthwch dihafal, wedi lliwio ei fynwes lydan, a’i ysgwydd dalgryf yn pwyntio i’r heulwen glir. Ac yna edrychai Gwilym Lewis yn unionsyth i gyfeiriad Dolgellau, a gwelai olygfa na allai byth ei anghofio, - y Fawddach lefn fel afon o arian toddedig yn llithro’n dawel am ei chartref yn y môr, ac ar ei hwyneb liaws o gychod mân yn dawnsio’n sionc ar ei donnau mân. Ar ei glannau bob ochr, gwelai ddegau o blasau hardd, fel botymau clir ar gôb werddlas y bronydd. Yn y pellter draw, dacw druman Gwynfynydd, bro’r aur, a chorynnau Moel Ispri a Moel Cynwch, mannau’r geifr a’r praidd. Yn nes i’r Bermo drachefn, a’i wedd mor felyn â’r aur ymguddiai yn ei grombil, dacw glogwyn aur y Clogau, a lliaws o glogwyni euraidd eu lliw
yn gymdeithion iddo, a phentref tawel y Bont Ddu yn llochesu dan eu cysgodion, Draw, draw ymhell, dacw gopa’r Diphwys, du ei drem a gwgus ei ael, a darn o’r Llawllech yn ffurfio ysgwydd iddo. Ac yna’n nes i gyfeiriad y gogledd ddwyrain, roedd cymoedd hirion a bryniau moelion a hafnau dyfnion, a’u hochrau yn orchuddiedig â choed o bob lliw a llun, ac ambell i gae eithin melynwawr fel bathodyn aur yn harddu eu bronnau. Wrth ymyl oedd Cwm Sylfaen, meillionog ei wedd a gweiriog ei bryd, - hen gwm y bu tylwyth teg yn cynnal eu dawnswleddoedd ar ei wyneb gynt. Wrth ei draed oedd angorfa glyd Aberamffra, a dau neu dri o gychod bychan a’u cadwynau yn bachu yn ddi-sigl yn ei fraich. Erbyn hynny, tra’r oedd yr haul yn prysuro at y gorwel, ac wrth fynd i’w weld yn paentio’r weilgi yn harddach nac erioed, gwelwyd hefyd yn y ffurfafen a fu drwy’r nawn mor glir, ambell i gwmwl gwyn fel cnu gwlân yn hofran yn hamddenol uwchben. Clywid cri ambell i gornchwiglen yn gymysg â brefiadau’r defaid a’r ŵyn, gyda murmur y llanw yn dod i mewn i briodi â’r Fawddach. Ond dacw’r ddau drên olaf o gyfeiriad Dolgellau a Llwyngwril yn dod i igam-ogam fel seirff yn troelli gylch y bryniau, ac yn rhagfynegi y byddai’r bont ar gloi ar fyrder, a hwyr oedd i Gwilym Lewis gyfeirio oddi arni, wedi treulio nawnddydd difyrraf ei oes. W Arvon Roberts, Pwllheli
3
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor yn Neuadd yr Eglwys ddiwedd Medi. Croesawyd pawb gan Gwennie a rhoddwyd croeso arbennig i Mrs Elizabeth Jones oedd wedi gwella’n ddigon da i ymuno â ni ar ôl llawdriniaeth. A llongyfarchodd ei mab, Arfon ar ei benodi yn Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru. Diolchodd i Carey Cartwright am argraffu’r rhaglenni i ni eleni. Cydymdeimlodd ag Ann Williams a gollodd ŵyr bach, Elinor Evans wedi colli ei brawd Eurwyn, oedd hefyd yn gefnder i Eleri Bowater. Eleri wedi colli perthynas arall hefyd, sef Mr Eryl Simpkiss. Anfonodd ein cofion at Mrs Leah Jones, Miss Lilian Edwards a Mrs Meinir Lewis. Llongyfarchodd Jessica, gorwyres Mrs Catherine Jones ar ei chanlyniadau ardderchog yn ei arholiadau TGAU, sef 7A* a 7A. Yna cyflwynodd ein siaradwr gwadd, Elfed ap Gomer. Mae Elfed yn ynad heddwch a threuliwyd pnawn diddorol a difyr iawn yn ei gwmni. Rhoddodd hanes sefydlu’r llys yn Nolgellau gyda hanesion am rai a ymddangosodd yno - un wedi ei grogi yn Nolgellau. Dangosodd luniau i ni o du mewn y llys sydd bellach wedi ei gau. Yna rhoddodd waith i ni ei wneud mewn grwpiau a chafwyd cryn hwyl ar wneud hynny. Diolchwyd yn gynnes iawn i Elfed gan Mrs Greta Cartwright. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Hilda, Enid, Anthea a Gwennie. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Llion a Jaime Wellings, Brooklands, Talybont, ar enedigaeth mab bach, Noa John. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mrs Mattie Williams, Gorsdolgau, y plant Aled, Eryl a Nia a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid annwyl, sef Mr Eurwyn Williams. Cydymdeimlwn hefyd â’i chwiorydd Elinor a Beti a’i frawd Iwan a’u teuluoedd.
4
Cydymdeimlo Ar 11 Medi bu farw Mr Eryl Simpkiss, Glyn Ellen, Caernarfon. Cydymdeimlwn â’i wraig Betty, ei fab Paul a’r teulu a’i frawd Lyn. Roedd Eryl yn un o blant y Dyffryn. Cystadleuaeth Bêl-droed Dydd Sul, 18 Medi cafwyd diwrnod llawn hwyl a llwyddiannus iawn ar gae pêl-droed y pentref. Cafwyd cystadleuaeth bêl-droed rhwng y tafarndai, tai bwyta a busnesau lleol er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd raffl fawr, stondinau amrywiol yn cynnwys cŵn poeth, oedd yn brysur iawn. Hoffai Rhian Davenport ddiolch ar ran yr Ambiwlans Awyr i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd i wneud y diwrnod mor gofiadwy a gwnaed elw o £1966. Cyfanswm anrhydeddus iawn i’r achos teilwng hwn. Diolch Dymuna Mrs Eluned Williams, Islwyn, ddiolch yn fawr am y cardiau, ymweliadau a’r galwadau ffôn a dderbyniodd tra yn Ysbytai Gwynedd a Dolgellau ac yna yn Hafod Mawddach. Diolch £5 Rhaghysbysiad Cynhelir y 35ain Noson o Garolau a drefnir gan Bwyllgor ’81 yn Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy ar y nos Fawrth cyn y Nadolig, 20 Rhagfyr 2016 am 7.00 o’r gloch. Arweinir y canu gan Mr Aled Morgan Jones ynghyd ag eitemau gan Gôr Meibion Ardudwy. Croeso cynnes i bawb. Ceir cyfle yn ystod yr egwyl am baned, mins pei a sgwrs. Cofiwch y dyddiad a dowch i brofi naws y Nadolig. Diolchgarwch Cynhelir Oedfa Ddiolchgarwch yn Horeb, Dyffryn, nos Lun, 10 Hydref am 7.00 o’r gloch. Pregethir gan y Parch Ron Williams.
Archdderwydd Cymru Richard Jones Fu farw yn y tresi, Amaethwr, cynganeddwr cain A’r gwanwyn yn y cwysi. ‘Cynhaeaf ’ ddaeth a storws lawn I Dic o fferm yr ‘Hendre’, Ond ‘Storom Awst’ ddiffoddodd fflam Y gŵr a’i aml ddonie. J V Jones Rhodd Diolch am y rhodd o £6 oddi wrth O Huw Ellis a £1 oddi wrth Edward Williams. Festri Lawen Horeb Cyfarfod cynta’r tymor Nos Iau, 13 Hydref am 7.30 yn y capel yng nghwmni Côr Eifionydd. Croeso i aelodau hen a newydd.
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123
Cydymdeimlad Ar yr 21ain o Fedi fe gollwyd un arall o blant y Dyffryn, sef Mrs Muriel Hughes, Cefn Gwyn, Talsarnau. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei phriod, Ieuan a’i merch Angharad a’r teulu a hefyd at Eirlys, Thyrlus ac Audrey a John, ei brodyr a’i chwiorydd.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb HYDREF 9 Gwasanaeth Diolchgarwch y plant a’r oedolion 16 Parch Ioan Davies 23 Parch Goronwy P Owen 30 Miss Eluned Williams TACHWEDD 6 Parch Eric Greene
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT • Croesawyd Mrs Rhian Davenport i’r Cyngor i ddangos tapestrïau i’r aelodau. Roedd yr aelodau wedi eu synnu o weld y gwaith da oedd wedi ei wneud arnyn nhw a chytunwyd i’w harchebu a’u gosod yn y Neuadd. • Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu’r diweddar Mr Eurwyn Williams, Gorsdolgau. Ceisiadau cynllunio Cdi derbynfa newydd yn cynnwys estyniad i’r tŷ - Parc Carafanau Caerelwan, Talybont Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau Cynllunio â phenderfyniad arnynt Codi estyniad ochr deulawr - 12 Glanwerydd, Dyffryn Ardudwy caniatáu. Adeiladu estyniad deulawr - Plas Bach, Dyffryn Ardudwy - caniatáu. Creu mynediad newydd a ffurfio dreif newydd - Bryn y Bwyd, Talybont caniatáu. Gosod ffenestri to, codi garej, ymestyn feranda a theras yr ardd - Bron Werydd, Dyffryn Ardudwy - caniatáu. Gosod cladin allanol - 7 Bryn Awelon, Dyffryn Ardudwy - caniatáu. Neuadd Bentref Diolchwyd i Mr Gwynfor Edwards am osod y plac er cof am Mr Meirion Williams ar y wal y tu allan. Diolchwyd i’r Owen Gwilym Thomas am lenwi’r tyllau yn y maes parcio. Nid yw’r drysau awtomatig yn gweithio’n iawn ac mae angen eu trwsio. Archwilio’r lloches bws, mynwentydd a pharciau chwarae Cafwyd adroddiadau manwl iawn a thrafodwyd dulliau o roi sylw I’r diffygion a restrwyd. Gwefan y Cyngor Mae’r wefan bellach yn fyw. Bwriedir creu cyfeiriad e-bost grŵp a chytunwyd i osod cyswllt i ddigwyddiadau lleol ar y wefan. Parc Cenedlaethol Eryri Mae’r Parc Cenedlaethol wedi cael gorchymyn i godi llawer mwy o arian am bopeth maent yn ei wneud i geisio gwella’r sefyllfa ariannol. Mae’r broses o adolygu Cynllun Datblygu Lleol yn cychwyn neu ar waith ac mae’n bwysig fod y Cynghorau Plwyf yn cael mewnbwn i hwn. Bydd Rebeca Jones yn gyfrifol am gysylltu â Chynghorau i helpu i ffurfio cynllun datblygu newydd. Hamdden Harlech ac Ardudwy Cadarnhawyd y bydd y Cyngor yn cyfrannu £9,742 i Hamdden Harlech ac Ardudwy yn ystod 2017/18. Cafwyd gwahoddiad gan Hamdden Harlech ac Ardudwy i anfon un cynrychiolydd o’r Cyngor i gyfarfodydd y Bwrdd a chytunodd y Cyng Mike Treganza fynychu’r cyfarfod nesaf. Eglwysi Bro Ardudwy Y Cyngor sy’n gyfrifol am y gwaith canlynol ym mynwent Eglwys Llanddwywe - bod y wal derfyn sydd ar ochr de ddwyreiniol y fynwent wedi bolio ac angen sylw; hefyd ar yr ochr ogleddol o’r capel, bod wal gerrig gydag olion rheiliau haearn ar ei phen, a bod y rhain wedi rhydu’n ddifrifol ac yn finiog iawn ag angen eu tynnu. Diolchodd hefyd i’r Cadeirydd am wneud y gwaith ffensio o amgylch y twll mawr ar ran y Cyngor a datganodd y Cadeirydd ei fod wedi codi’r ffens o amgylch y twll mawr yma ar ei gostau ei hun. Cytunodd y Cadeirydd gyfarfod â Pam Odam ar y safle gan nad ydy’r Cyngor yn siŵr ai hwy oedd yn gyfrifol am y rhan yma o’r fynwent. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder nad oedd adeiladwaith y tŷ newydd ar safle’r hen le Sefydliad y Merched yn Nhalybont yn cadw i’r cynlluniau a gofynnwyd i’r Clerc ysgrifennu at y Parc Cenedlaethol yn lleisio pryderon y Cyngor. Mae angen glanhau’r ffos sy’n llifo trwy lwybr cyhoeddus rhif 50 yn enwedig ger Pentre Mawr. Mae angen mwy o arwyddbyst i Lwybr yr Arfordir.
HEN LUNIAU
Cawsom y lluniau isod gan Mrs Eirlys Nolan, y Bermo. Tybed a all un o’n darllenwyr adnabod y bobl sydd yn y lluniau ac anfon gair atom? Diolch am bob cymorth.
ENGLYN DA
Rhyfel
Bydd dial o’r anialwch - yfory Nes adferir tegwch I atal llid plant y llwch Ni all lladd ennill heddwch. Dic Jones
5
HARLECH Sefydliad y Merched, Harlech Croesawodd y Llywydd Christine Hemsley yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech nos Fercher 14 Medi. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Dymunwyd yn dda i Dorothy Harper sydd yn dal yn Ysbyty Madog ac i Sue Wagner oedd wedi cael damwain tra’r oedd ar ei gwyliau. Llongyfarchwyd Sue Williams ar gael gwobrau yn Sioe Haf Harlech, a diolchwyd i Edwina Evans am ein cynrychioli gyda threfnu blodau ar ran y Sefydliad yn Eglwys Llandanwg yn ddiweddar. Diolchwyd i’r aelodau oedd wedi cyfrannu at yr eitemau roeddynt wedi ei baratoi i’r bwrdd gwerthu yn y sioe gelf yn Neuadd Goffa Harlech yn yr haf, ac i’r aelodau oedd wedi bod yn gyfrifol am helpu yn y diwrnod chwaraeon yn ddiweddar. Mae’r Clwb Cinio’n mynd i’r Ship ar 28 Medi. Mae’r Clwb Cerdded yn mynd am dro i warchodfa Cook’s ym Mhenrhyndeudraeth ar 20 Medi ac mae bore coffi yn Llyfrgell Harlech, ar 8 Hydref; a bydd tri thîm o Sefydliad y Merched yn mynd i’r helfa drysor yn Nolgellau ar 23 Medi. Darllenwyd y llythyr o’r sir a nodwyd dyddiadau o bwys. Cafwyd adroddiad gan y Trysorydd; mae’r llyfr o Harlech yn dal i gael ei werthu’n dda iawn.
Croesawyd y wraig wadd Maureen Doncaster oedd wedi dod ar fyr rybudd a chawsom hwyl wrth wneud ioga’n ein cadeiriau. Diolchwyd iddi ar ran yr aelodau gan Edwina Evans. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 12 Hydref yn y Neuadd Goffa. Y wraig wadd fydd Marion Wagstaff ac fe fydd yn siarad am ‘elf slippers’. Croeso i ymwelwyr. Teulu’r Castell Fe fydd Teulu’r Castell yn ail gychwyn yn Neuadd Goffa Llanfair ar 11 Hydref am 2 o’r gloch. Mae Edwina Evans wedi paratoi cwis, felly dewch â beiros efo chi. Edrychwn ymlaen at weld yr aelodau hen a newydd. Priodas ruddem Llongyfarchiadau i Tony a Maria Wainwright, 48 Y Waun, ar ddathlu eu priodas ruddem ar 16 Hydref; hefyd pen-blwydd hapus, Maria, ar 24 Hydref. Cariad mawr oddi wrth mam Rhodd £5
CALENDR LLAIS ARDUDWY Mae’r calendr ar werth rŵan. Bargen am £4. Sicrhewch eich copi yn fuan. Cylch Meithrin Pob dymuniad da i Rhian Eleri sydd bellach yn arweinydd y Cylch Meithrin. Diolch i Gail Roberts am ei gwaith fel arweinydd dros y pum mlynedd diwethaf.
Macmillan Daeth criw da ynghyd i’r bore coffi a drefnwyd yng Nghaffi Glan Dŵr [y pwll nofio] er budd yr elusen Macmillan. Rydym yn falch o fedru cyhoeddi bod yr elw yn £366.90. Diolch i bawb.
Rhodd: Mrs Bronwen Williams, 16 Tŷ Canol - £5 Newyddion da Ar 22 Medi cafwyd y newyddion da bod y twll yn y ffordd wrth fynedfa Tŷ Canol bellach wedi ei drwsio a’i lenwi a bod wyneb newydd ar y ffordd.
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gyda Richard Horne a’r teulu, 59 Y Waun, ar golli ei wraig Jane yn sydyn iawn ar 22 Medi. Elw Gwnaed elw o £323.58 at elusen Macmillan yn y bore coffi a drefnwyd gan Mrs Judith Strevens a’i mam Stephanie yn Siop Anrhegion y Castell. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Y gwaith o drwsio’r twll ym mis Awst
HARLECH TOYOTA
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 6
COFIO JIM NELSON
Daeth tyrfa o rhyw 80 o bobl ynghyd i wasanaeth coffa James Anwyl Nelson a gynhaliwyd yng Nghapel Jerusalem ar Medi 15. Cyflwynwyd teyrnged iddo gan y Parch Bob Hughes ac mae’n fraint gennym gyhoeddi talfyriad ohoni isod. Wrth golli Jim Nelson fe gollwyd un o hoelion wyth y dref. Heddiw fe gofiwn ni am ddyn tawel, a gŵr bonheddig yr oedd ei gyfeillion mor awyddus i dalu’r gymwynas olaf iddo. Mae’r nifer dda sydd wedi dod i’r gwasanaeth hwn yn tystio i’r cariad a’r parch oedd iddo ymhell ac agos. Bu’n byw yn Harlech ar hyd ei oes. Roedd ganddo siop ddillad yn Llanbedr oedd yn boblogaidd gyda phobl y maes awyr, a daeth amryw ohonyn nhw, gan gynnwys Derek Whitehead, yn gyfeillion oes iddo. Yn Bron Meini roedd y siop, lle’r oedd Meira a Beti Mai wedi mopio efo Jim pan oedden nhw’n genod ifanc. Roedd yn ffrind agos i’r teulu a Meira ei hun sydd piau’r llun sydd ynghlwm wrth y coffâd hwn. Wedi hynny aeth i weithio at ei frawd, Alun, yn y fferyllfa yn Harlech. Cafodd dwy farwolaeth effaith fawr arno: colli Alun yn fuan wedi ei ymddeoliad a cholli ei fam y bu’n gofalu amdani am 8 mlynedd yn 1994, yn 90 oed.
Roedd yn awyddus i gael ei gladdu yn yr un bedd â hi ym mynwent St Tanwg. Ei grefydd oedd bwysicaf ym mywyd Jim. Fe welsoch y llun ohono yn rhifyn diwethaf Llais Ardudwy gydag ieuenctid Capel Tabernacl yn 1952. Cofia Edwina Evans amdano fel blaenor ac athro Ysgol Sul yn ei ugeiniau. Cofia Edwina amdano fel dyn addfwyn ond gyda meddwl annibynnol: gallai fod yn ddyn cadarn ac ni chaniatâi unrhyw lol yn y dosbarth! Roedd o’n ŵr amlwg yng Nghapel y Tabernacl ond roedd o’n barod iawn i fy helpu er enghraifft pan oeddem ar bwyllgor undebol yn y dref yn paratoi’r gwasanaeth Nadolig bob blwyddyn. Wedi i’r Tabernacl gau, aeth i addoli yng Nghaersalem, Llanfair a bu hefyd yn mynychu gwasanaethau cymun yn St Tanwg. Daeth ymhen y rhawg yn aelod ffyddlon a gweithgar yng Nghapel Jerusalem oedd bron drws nesaf i’w gartref. Teimlai’n gartrefol yno am reswm arbennig. Ei hen fodryb, Catherine Anwyl, ddaru gyfrannu, yn rhad ac am ddim, y tir lle codwyd y capel a chyfrannu at y rhan fwyaf o’r costau adeiladu. Mi ddes i adnabod Jim yn dda pan o’n i’n sgwennu llyfryn am gapeli ac eglwysi Harlech. Roedd ganddo stôr o wybodaeth yn ei feddwl yn ogystal ag mewn dogfennau a llyfrau ynghyd â nodiadau manwl eraill. Bu’n gymorth hawdd ei gael. Fe gofiwn amdano mewn mwy nag un ffordd, ond hyderwn y bydd y gwasanaeth hwn yn goffâd teilwng o ddyn rhyfeddol. Boed iddo orffwys mewn hedd. Dyro iddo, o Arglwydd, orffwys tragwyddol; A llewyrched goleuni gwastadol arno. Amen.
Neuadd Goffa, Harlech
CYNGOR CYMUNED HARLECH Cae Chwarae Brenin Siôr a Llyn y Felin Bydd y Cyngor yn cyfrannu’r £4,151 o gyllideb 2017/18 at ddatblygiadau cae chwarae Brenin Siôr. Mae CADW wedi cytuno i wneud y gwaith o adfer cae chwarae Llyn y Felin i gyd a chytunwyd i ofyn iddynt ddechrau ar y gwaith cyn gynted â phosib. Cytunwyd i ofyn i bawb fydd yn llogi cae chwarae Brenin Siôr o hyn ymlaen i roi cyfraniad i’r Cyngor; caiff y cyfraniad ei drosglwyddo i elusen o ddewis y Cyngor. Hysbysfwrdd Mae’r hysbysfwrdd newydd yn y dref wedi ei osod. Adroddodd Freya Bentham bod un goriad yn cael ei gadw yng nghaffi’r Llew Glas a’i bod wedi gosod rhybudd yn yr hysbysfwrdd yn datgan pe bai rhywun angen gosod poster iddynt ei adael yn y Llew Glas. Cyfarfod gyda Hamdden Harlech ac Ardudwy Cadarnhawyd y bydd y Cyngor yn cyfrannu £18,424 i Hamdden Harlech ac Ardudwy yn ystod 2017/18. Cytunodd Freya Bentham fynychu’r cyfarfod nesa ar ran y Cyngor; nid oedd yn fodlon eu mynychu bob mis. Nadolig yn y dref Mae trefniadau mewn llaw i gynnal digwyddiadau yn y dref o’r 1af o Ragfyr hyd at yr 8fed. Bydd gorymdaith ar hyd y stryd a phlant yn cario llusernau y maent wedi eu gwneud mewn gweithdy blaenorol a fydd yn cael ei gynnal dros ddau benwythnos o dan arweiniad Ms Paula Ireland; bydd ras hwyl nos calan gaeaf yn cael ei chynnal ar Hydref 29. Cytunwyd i ail-ddechrau’r gystadleuaeth addurno ffenestri ar gyfer y Nadolig a gofyn i Mr a Mrs Gwynne Pierce o Lanbedr feirniadu’r gystadleuaeth hon ar Ragfyr 10. Ceisiadau cynllunio Newidiadau i garej/storfa i ffurfio tŷ – Hen Garej, Rock Terrace, Harlech Dim sylwadau ar y cais hwn ond pryderon ynglŷn â’r fynedfa. Estyniad i lecyn parcio - Hen Dyrpeg, Harlech. Cefnogi’r cais. Codi uchder to’r gweithdy - Morfa Garage, Harlech. Cefnogi’r cais. Estyniad unllawr ac estyniad i’r balconi blaen - Fila Medi, 1 Heol y Bryn, Harlech. Cefnogi’r cais. Parc Cenedlaethol Eryri Bydd Harlech Estates (Commercial) Ltd yn mynd i apêl ynglŷn â’r dyfarniad ynglŷn â chais cynllunio i newid defnydd o ardd breswyl i lwybr yn 70 Cae Gwastad. Bydd yr apêl yn cychwyn ar Awst 19. Nid oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau i’w gwneud. UNRHYW FATER ARALL Mae angen tocio’r coed sydd wedi tyfu ar safle gweithdai Tan y Castell. Mae’r Cyngor Cymuned yn awyddus i gael bysiau i barcio ym maes parcio Bron y Graig Uchaf cyn belled â bod y Cyngor Sir yn gweithio i hysbysebu lle parcio i fysiau yn y dref. Mae gordyfiant ar hyd ochr y ffordd wrth fynd allan o’r dref i gyfeiriad croesffordd Dewi Sant. Mae wyneb y llwybr Bron y Graig am Bendref yn beryglus.
HYDREF
Capel Jerusalem
9 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 Gwasanaeth Diolchgarwch - Undebol 16 Parch Dewi Morris am 3.00
Byddwn yma i chi... A fyddwch chi yma i ni?
GALW AM WIRFODDOLWYR YN HARLECH
DEWCH A PHRYNWCH
Hydref 22, am 11.00 Dewch i gefnogi’r ymdrech i gasglu arian at ddathliadau’r Nadolig yn y dref. Caiff pob cyfraniad ei werthfawrogi.
Mae’r gwasanaeth hosbis yn y cartref rwan yn derbyn ceisiadau am wirfoddolwyr yn eu siop yn Harlech. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: 01766 781081 neu 01286 662772 7
LLANFAIR A LLANDANWG Rhodd Diolch i Meira Dodd, Sŵn y Môr am y rhodd o £10. Merched y Wawr Croesawodd Hefina, ein Llywydd gangen Nantcol atom. Treuliwyd gweddill y noson yng nghwmni Mair Tomos Ifans
Neuadd Goffa Harlech
Aduniad Ysgol Ardudwy
EISTEDDFOD ARDUDWY Hydref 15 am 1.00 o’r gloch Ysgrifennydd: Ceri Griffith, Morawel, Ffordd Morfa, Harlech Ffôn: 07748 692170
Ddaru chi gychwyn ar eich gyrfa yn Ysgol Ardudwy yn1971? Rydan ni’n trefnu aduniad ar Hydref 8. Byddwn yn cychwyn yn Ysgol Ardudwy am 3.00 y pnawn ac yna yn cael tamaid i’w fwyta yng Nghlwb Golff Dewi Sant am 6.30. Cysylltwch â Linda Soar ar 01766 780966.
Aduniad cofiadwy efo wyth o ffrindiau
gyda Winnie’r Delyn fechan. Cafwyd atgofion am fywyd cynnar ei mam yn y Bala a’i gwyliau yn blentyn ym Morfa Bychan. Canodd ddwy gân oedd yn gyfarwydd i ni ac ymunodd pawb i ganu gyda Mair. Glenys Evans oedd mam Mair ac fe fu yn aelod gyda ni yn Harlech cyn iddi hi a Richard Evans, tad Mair, cyn brifathro Ysgol Tanycastell, symud i Dywyn i fyw. Cawsom noson wych i ddechrau’r tymor ac yna lluniaeth a sgwrs gyda’n gilydd. Bronwen dalodd y diolchiadau ar ein rhan ac Anwen, Llywydd Nantcol ddiolchodd ar ran cangen Nantcol. Aelodau’r gangen oedd yn gyfrifol am y lluniaeth a’r gwobrau raffl. Cadeirydd Llongyfarchiadau i Hefina Griffith ar gael ei hethol yn Gadeirydd Llais Ardudwy. Bu’n gweithio yn y cefndir ers rhai blynyddoedd ac mae’n deilwng iawn o’r anrhydedd. Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.
8
Yn ddiweddar aeth Wendon draw i ynys Jersey am aduniad cofiadwy efo wyth o ffrindiau. Cychwynnodd nyrsio efo’r merched eraill yn Llundain yn 1966 felly dyna 50 mlynedd i ddathlu bod yn ffrindiau selog. Mae’r criw o ferched yn cyfarfod bob blwyddyn ers blynyddoedd ac mae rhai’n dod o gyn belled â Malaysia, Florida a Vancouver! Ceir llawer o hwyl a sbri bob tro! Meddai Wendon: ‘Edrychwn ymlaen at y nesa!’ TAITH YR IAITH YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG Yn 1801 roedd 95% o’r boblogaeth yn Gymry Cymraeg. Pa ffactorau achosodd y newid mawr erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, pryd y cofnodwyd ond 49.9% yn medru’r Gymraeg ? Heddiw, mae’r ganran yn llai nag 20% - beth sydd yn digwydd a phaham ? Dewch i wrando ar ddau arbenigwr yn y maes, Yr Athro Robert Owen Jones a’r Dr Simon Brooks. Dyma’r manylion: Dydd Sadwrn Hydref 15fed, rhwng 10.30 – 2.30. Darperir paned, ond pawb i ddod â bwyd. Mynediad: di-dâl. Mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn estyn croeso cynnes i bawb sydd yn caru ac yn poeni am ddyfodol ein hiaith i ddod i’r cyfarfod pwysig hwn, y degfed yn ein cyfres arloesol ‘Ein Gwir Hanes’ Yn gywir, Jini Gwyrfai
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Hysbysfwrdd Mae wedi cyrraedd a chytunwyd i’w osod yn lle’r hen un pan fydd gan Mr Hywel Jones amser i wneud y gwaith. Toiled Cyhoeddus Llandanwg Adroddodd Annwen Hughes ei bod wedi gwneud ymholiadau gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â mynd i bartneriaeth gyda hwy a chael 10% o’r arian maent yn ei dalu am barcio yn y maes parcio yn Llandanwg. Teimlwyd bod talu £500 y flwyddyn i Gyngor Gwynedd am gael bod yn rhan o’r bartneriaeth hon yn ormod. Hamdden Harlech ac Ardudwy Ar ôl trafodaeth drylwyr, cadarnhawyd y bydd y Cyngor yn cyfrannu £7,544 i Hamdden Harlech ac Ardudwy yn ystod 2017/18. Bydd Mair Thomas yn mynychu’r cyfarfod nesaf ar ran y Cyngor. Ceisiadau cynllunio Diddymu Cytundeb Adran 106 - The Garden Flat, Pensarn Hall, Llanbedr. Cefnogi’r cais hwn. Newid ystafell wydr - Morlais, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Adran Briffyrdd Bydd yr Arolygwr yn asesu’r gordyfiant ger Castellfryn a’r coed rhwng Argoed a Phensarn ac yn ymateb fel bo’r angen. Mae’r gwaith o wagio’r cwteri ger Min y Môr a Thy’n y Maes wedi ei gwblhau, ac mae cyfarwyddyd wedi ei anfon i wagio’r bin baw cŵn ar y Maes, Llandanwg. UNRHYW FATER ARALL Nid yw’r llinellau gwyn ar ganol y ffordd byth wedi cael eu hailbeintio ar ôl i’r ffordd gael ei hailwynebu. A fyddai’n bosib llenwi’r twll ger lloches bws Caersalem pan fydd deunydd sbâr ar gael? Mae camfa wern Argoed wrth ymyl y lein ar ochr y clawdd llanw wedi malu.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Colli Eurwyn Ar Fedi 4ydd bu farw Eurwyn Williams, Gorsdolgau, brawd Mrs Elinor Evans, Moelfre. Cydymdeimlwn â hi a’r teulu yn eu colled. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mrs Greta Benn, Llenyrch, yn ei phrofedigaeth o golli ei chyfnither Gwyneth David, Caerdydd, hefyd â Rwth wedi colli ei mam. Mae hi’n ymweld yn gyson â’r ardal. Colli Gwyn Thomas Drwg oedd gennym ddeall fod Gwyn Thomas, Pontllyfni, wedi marw. Cafodd ei fagu gan John a Nel Thomas yn Nhy’n Llidiart Bach, Pensarn. Roedd yn cadw mewn cysylltiad â’r ardal ac yn derbyn y Llais tan yn ddiweddar. Brysiwch wella Gobeithio bod Meurig Jones, Hendre Waelod, yn gwella ar ôl llawdriniaeth ar ei lygaid. Marw yng Nghaergrawnt Daeth y newydd trist fod Guy Simmons, Gellibant gynt, wedi marw yng Nghaergrawnt. Bu’r teulu â chysylltiad â’r ardal ers blynyddoedd lawer. Rhodd Diolch am y rhodd o £20 gan Alun Owen a £6 gan Gwenda Shepherd. Côr Meibion Ardudwy Mae cryn edrych ymlaen at y daith i Gernyw ddiwedd y mis lle bydd y côr yn cynnal tri chyngerdd. Bu’r côr yn canu mewn priodas, dathliad pen-blwydd, yng Nghlwb Golff Harlech ac yng nghinio Clwb Rotari Mawddach yn ddiweddar. Ymddengys y bydd cyfnod y Nadolig yn brysur iddyn nhw hefyd. Gŵyl Gwrw Mwynhawyd Gŵyl Gwrw Llanbedr a’r adloniant amrywiol oedd yn rhan o’r ŵyl gan griw da o bobl dros y ddau diwrnod. Hyfryd oedd gweld cynifer o fragdai Cymreig yn arddangos eu cynnyrch. Diolch i’r pwyllgor am eu gwaith clodwiw.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch HYDREF Capel y Ddôl 9 Parch Dewi Tudur Lewis 16 John Tudno Williams 23 Mrs Greta Benn 30 Parch Dafydd Andrew Jones Capel Salem 16 Diolchgarwch, Parch Dewi Tudur Lewis
Merched y Wawr Nantcol Dechreuwyd y tymor gyda Changen Harlech yn Neuadd Llanfair, a chafwyd noson arbennig iawn yng nghwmni Mair Tomos Ifans yn sôn am atgofion cynharaf ei mam yn Y Bala a Morfa Bychan, yn ogystal ag atgofion o’r amser pan oedden nhw’n byw yn Harlech cyn gorffen gyda chân neu ddwy – noson werth chweil. Yna ar Fedi’r 26ain, teithiodd yr aelodau i Benrhyndeudraeth ar wahoddiad Cangen Deudraeth i ymuno â nhw ar eu noson agoriadol, a chafwyd gwledd ardderchog arall yng nghwmni Gwyneth Glyn – yn diddanu’n hamddenol gan swyno pawb. Diolchodd Anwen, ein Llywydd, yn gynnes iawn am y croeso, yr adloniant ardderchog a’r wledd i ddilyn yn Llanfair a Phenrhyndeudraeth. Swyddogion am 2016–2017: Llywydd - Anwen Williams, Ysgrifennydd - Enid Owen, Trysorydd - Pat Thomas. Bydd ein cyfarfod nesaf yn Neuadd Nantcol, nos Fercher, Hydref 5ed, am 7.30 o’r gloch gyda Nia Ritchie o Gerrigydrudion yn sôn am ‘Ei disgynyddion ar y Mimosa’. Croeso cynnes iawn i aelodau hen a newydd. Babi newydd Llongyfarchiadau i Angharad a Luke Wreglesworth, sy’n byw bellach yn Church Fenton, Swydd Efrog ar enedigaeth merch fach, Erin Jessica, ar 22 Medi. Llongyfarchiadau hefyd i Susanne Davies, nain y ferch fach. Cymdeithas Cwm Nantcol Capel Cwm Nantcol
PREGETH DDIOLCHGARWCH Parch Emlyn Richards Hydref 19 am 7.00 o’r gloch Croeso cynnes i bawb.
Diolch am gael benthyg yr ysgrif ganlynol gan y diweddar Catrin Enid Richards, Parc yr Onnen gynt, a ysgrifennwyd ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod y Gwynfryn yn 1967.
Cwm Nantcol Wrth gychwyn am y Cwm fel y’i gelwir ac aros ar y groesffordd rhwng y Dyffryn a Choedystumgwern, gwelsom fynegbost newydd sbon yn ein cyfeirio CWMNANTCOL 3½. Rhaid oedd dringo rhiwiau serth a ffarwelio â Dyffryn Ardudwy nes dod yn agos at droed y Moelfre, y mynydd y bydd yn rhaid imi esgyn dros ei ysgwydd megis i ben yr Allt Fawr, lle â golygfa odidog o Ardudwy oddi tanom a’r mynydd yn codi’n syth y tu ôl inni. Wedi teithio ar hyd y ffordd gul am ychydig down i olwg Cwm Nantcol. Gwell aros am ychydig i fwynhau’r olygfa ddihafal sy’n ymestyn o’n blaenau. Ym mhen ucha’r Cwm y mae creigiau gleision y ddwy Rinog yn ei warchod megis, a Bwlch Drws Ardudwy yn y canol, lle y crwydra ymwelwyr haf a dringwyr drwyddo i Drawsfynydd. Y mae mynyddoedd llai oddeutu fel y Llethr sydd y tu ôl i’r Moelfre ac ar ochr arall i’r Cwm y mae Foel Wen. Fel ymhob cwm, ymlwybra afon yn llinyn drwy ganol Cwm Nantcol - afon Nantcol, afon hamddenol iawn a rhyw ddwy bont i’w croesi, ond er mor dawel yr ymddengys gall fod yn gellweirus iawn fel y cofir i lanc ifanc foddi yn un o’i phyllau dyfnaf. Serch hynny, y mae’n hafan i’r pysgotwyr ac i’r ymwelwyr syn’ gadael eu ceir modur ac yn bwyta ar ei glannau. Wrth edrych i lawr tuag at Benisa’r Cwm cawn gipolwg ar ddau adeilad sydd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd trigolion y Cwm. Dyma’r ysgol a’r capel. Mi ddefnyddir yr adeilad cyntaf fel ysgol bellach ond fel canolfan lle y cynhelir eisteddfod ac ambell chwith. Er bod plant ifanc yn y Cwm heddiw, y mae car modur yn eu cyrchu yn ôl a blaen i lawr i ysgol arall yn Llanbedr islaw. Bydd gwasanaeth yn y capel hefyd yn aml a chynulleidfa selog yno. Dyma’n unig y ddau fan cyfarfod yn y Cwm; nid oes yno’r un siop na thafarn. Y mae yma tua dwsin o ffermdai, rhai yn dai haf, ond y mwyafrif yn drigfa i deuluoedd prysur, croesawgar â chymdogaeth dda yn chwarae rhan fawr yn eu bywyd. Pobl gymwynasgar ac fel un gyda’i gilydd fel ymhob ardal fach. Wrth droed y Rhinog Fawr y mae fferm y Nantcol, fferm â’i thir yn fynydd i gyd. Yn is i lawr y mae hen fferm hynafol iawn Maesygarnedd, lle y dywed hanes fod y Cyrnol John Jones wedi bod yn byw, brawd yng nghyfraith i Oliver Cromwell yn amser y Brenin Siarl y Cyntaf. O ganlyn yr afon a’r ffordd i lawr down at bont gyntaf y Cwm. Pont Cilcychwyn neu’r Bont Gerrig fel y’i gelwid ers talwm ond ffordd yn mynd dros bont goncrit sydd yma heddiw. Yna fe dry’r ffordd draw heibio’r ddôl gerllaw nes dod at dŷ Cil Cychwyn. Mae hanes rhamantus i’r lle hwn. Dywedir fod merch Plas Cors-y-Gedol o’r Dyffryn islaw wedi dianc i ffwrdd gyda mab y bugail yn ymyl ac wedi aros am egwyl yng Nghil Cychwyn. Y mae’r ffordd yn nes atom o hyd a gwell fyddai i ninnau fynd i’w chyfarfod heibio’r Gelli Bant i lawr at groesffordd yr Hendre. Hendre Waelod lle y bu Siôn Phylip yn byw, englynwr da a bardd teulu Gors-y-Gedol, a aeth yn ddiweddarach i fyw i Fochras, ynys wrth aber afon Nantcol, neu afon Artro fel y’i gelwir pan una’r afon Nantcol gydag afon Cwm Bychan yn is i lawr. Wedi cyrraedd y groesffordd rhaid troi i lawr am Lanbedr dros Bont y Cwm islaw fferm Penisa’r Cwm, a chanlyn y ffordd i lawr i ardal goediog Cefncymerau a’r Gwynfryn. Yna i’r ffordd bost yn is i lawr yn Llanbedr, a dyna ni wedi cael golwg frysiog ar Gwm Nantcol a mwynhau tawelwch a golygfa gwerth edrych arni. Ffugenw: Ardudwen
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN CYNGOR CYMUNED
Cangen Talsarnau o Ferched y Wawr yn sefyll tu allan i Porth y Wawr yn Nant Gwrtheyrn ar ddiwrnod eu hymweliad â’r Nant. Cydymdeimlad Merched y Wawr Trist oedd gennym glywed am I agor rhaglen y flwyddyn, aeth farwolaeth Muriel Williams, aelodau Cangen Talsarnau ar Cefn Gwyn. ymweliad â Nant Gwrtheyrn ar Estynnwn ein cydymdeimlad ddydd Iau, 8 Medi. Er iddi fod yn fore gwlyb iawn, roedd y glaw llwyraf â’i gŵr Ieu, ei merch Angharad a’i hŵyr Nathan a’r wedi clirio erbyn cyrraedd y teulu oll yn eu profedigaeth. Nant tua chanol bore a daeth yr haul allan i’n croesawu. Rhodd Wedi galw heibio’r swyddfa i adael i Miriam Grant wybod ein Diolch am y rhodd o £2 gan bod wedi cyrraedd, gan y byddai Angharad Morris. hi’n rhoi sgwrs lawn hwyrach yn y bore, aeth pawb i Gaffi Meinir Capel Newydd Bydd y seiadau dros ginio yn ail am baned a sgwrs i gychwyn y gychwyn Hydref 6ed am 12.30. diwrnod. Croeso cynnes i bawb ddod i Daeth Miriam heibio’r Caffi tua 11.20 a phawb yn mynd gyda hi drafod cwestiynau pwysig fel ‘Ydi Cristionogaeth yn achosi i’r Capel i fyny’r ffordd i glywed rhyfeloedd?’ ‘Lle mae’r nefoedd?’ ei chyflwyniad, gyda chymorth a chwestiynau eraill. sgrîn, am yr hanes diddorol Gwasanaeth Diolchgarwch i’r hyn a grëwyd yn y Nant ac Hydref 12fed am 7.30 sydd bellach yn Ganolfan Iaith Pregethwr: Y Parchg Emyr boblogaidd iawn. Yna cawsom James, Caerdydd ein tywys o gwmpas y tai a Oedfaon nos Sul am 6.00. chael cipolwg ar yr ystafelloedd moethus oedd yn y lleoedd aros HYDREF 23 - Huw Roderick a hyn yn codi awydd ar bawb 30 - Dewi Tudur i ddod am dro eto, neu hyd yn TACHWEDD oed i ddod i aros am ychydig a 6 - Dewi Tudur mwynhau’r golygfeydd godidog 13 - Dewi Tudur a’r tawelwch braf! Tynnwyd llun y Gangen tu allan i Borth y Wawr - y tŷ a noddwyd gan Ferched y Wawr yn y Nant. Yn ôl wedyn i Gaffi Meinir am ginio blasus a mwynhau’r olygfa oddi yno wrth fwyta a sgwrsio. Ar ôl trafod rhai materion y Gangen, yn ôl â ni i fyny i’r Capel unwaith eto i weld yr arddangosfa wych sydd yno o hanes y Nant a gweld lluniau a darllen hanes y bobl fu’n byw a gweithio yno. Galw yn y siop lyfrau fach cyn cychwyn adref ganol pnawn gyda phawb wedi mwynhau diwrnod arbennig iawn. Diolchodd Siriol i Mai am drefnu’r ymweliad.
10
Ffair Nadolig Cynhelir ein ffair flynyddol ar nos Iau, 24 Tachwedd. Edrychwn ymlaen at groesawu ein stondinwyr sefydlog ac hefyd rai newydd – os am archebu bwrdd ffoniwch Anwen 01766 772960 neu Mai 01766 770757 Eglwys Llanfihangel-y-traethau
GWASANAETH DIOLCHGARWCH Parch Beth Bailey Hydref 9 am 11.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb.
Cae chwarae/Maes parcio Diolchwyd i Chris Rayner a Mrs Charlie Roberts am eu holl waith gyda’r cynllun hwn. Adroddodd Geraint Williams ei fod wedi bod yn holi am brisiau i dario’r maes parcio a chytunwyd i dario’r fynedfa’n unig am y tro a gadael y gweddill fel y mae am ryw hanner blwyddyn i flwyddyn. Hefyd, adroddodd bod angen hadu o amgylch y maes parcio. Hamdden Harlech ac Ardudwy Cadarnhawyd y bydd y Cyngor yn cyfrannu £3,772 i Hamdden Harlech ac Ardudwy yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18. Cytunodd Dewi Tudur Lewis a John Richards fynychu’r cyfarfod nesaf ar ran y Cyngor. UNRHYW FATER ARALL Cafwyd adroddiad o’r cyfarfod gyda’r Parc Cenedlaethol gan Owen Lloyd Roberts a Gwenda Griffiths. Cafwyd gwybod bod Eifion Williams wedi cyfarfod â Caerwyn Roberts ger ystâd dai Cilfor er mwyn trafod ymestyn y lle parcio ger y tai hyn. Cytunwyd i anfon at CCG yn gofyn a fyddai’n bosib datblygu’r tir dan sylw a gofyn iddynt gysylltu gydag Eifion Williams. A oes posib gosod giât fochyn yn lle camfa wrth ochor y giât ger Pont Briwet? Pam nad ydy’r llinellau gwyn byth wedi eu hailosod ar ôl i’r ffordd gael ei ailwynebu? Mae angen canllaw/gwell gafael ar y gamfa ger Llyn Tecwyn Uchaf. Bu tirlithriad o’r llwybr ar yr ochr ogleddol i Lyn Tecwyn Uchaf. Cafwyd pryderon am gyflwr y llwybr sy’n mynd o Soar at Bont y Glyn.
CLEDD Â MIN YW CLADDU MAM
Er Cof am Muriel Williams 1927-2016 Ganwyd Muriel yng Nglanywern, Dyffryn Ardudwy yn un o bump o blant i’r diweddar John a Lilly Hughes. Ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio yn Siop Fferyllydd yn y Bermo am rai blynyddoedd cyn setlo i lawr yng Nghefn Gwyn ar ôl priodi. Bu Ieuan a Muriel yn briod and 61 o flynyddoedd ac wedi aros yn eu milltir sgwâr am y rhan fwyaf o’u bywyd. Y ddau reit hapus adref ar yr aelwyd yng Nghefn Gwyn, Muriel yn darllen ac Ieuan yn gwylio ‘sports’ fel y byddai Muriel yn dweud. Mae iddynt un ferch Angharad sydd yn awr yn byw yn Saltney gyda’i phriod Phil, ac un ŵyr sef Nathan, yntau wedi priodi â Leanne a ganddynt ddau o blant bach, Lilly a James. Roedd Muriel yn teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael byw i fod yn hen nain a thaid a’r plant wrth eu bodd yn eu cwmni yng Nghefn Gwyn. Rhaid cyfeirio at Nathan yma gan iddo dreulio rhan helaeth o’i blentyndod yng Nghefn Gwyn gyda’i daid a nain. Dywediad Muriel bob amser oedd ‘Mae’n gannwyll fy llygaid’, a hynny oedd wir hyd y diwedd – galw am Nathan oedd ei geiriau olaf. Roedd Nathan yr un mor ofalus a charedig o Nain ac yn barod iawn bob amser i gymryd ei chyngor. Yn ystod ei hieuenctid cafodd Muriel amser hapus iawn yn aelod o’r Aelwyd yn Nyffryn Ardudwy a chael cyfle i gymryd rhan yn y cwmni drama. Byddai wrth ei bodd yn enwi’r rhai oedd yn cymryd rhan ac yn aml, fel y dywedai, roedd ‘giggles’ cyn diwedd pob perfformiad. Amser hwyliog iawn o chwerthin a thynnu coes. Hefyd roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn dawnsio ac roedd yn mwynhau cerddoriaeth Glenn Miller a phenderfynwyd chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y Gwasanaeth fel teyrnged i Muriel. Nid oedd Muriel yn gapelwraig ers rhai blynyddoedd bellach ond roedd yn credu mewn gweddi. Dywedai ei phader bob noson hyd yn oed yn ei gwaeledd gan y credai ei fod yn rhoi cymorth iddi mewn amser tywyll iawn. Cafodd pob caredigrwydd yn Ysbyty Dolgellau a Muriel yn gwerthfawrogi’r cyfan trwy ddiolch lawer gwaith yn ddyddiol i’r nyrsys am eu gofal diflino. Mae ein cydymdeimlad dwysaf ag Ieuan, Angharad a Phil, Nathan, Leanne a’r ddau fach Lilly a James, y chwiorydd Eirlys ac Audrey, y brodyr Thyrlus a John ynghyd â’r teulu oll. ‘Yn angof ni chaiff fod.’
CYMDEITHAS BRODWAITH CYMRU
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy
Ysgoloriaeth £500 Feidiog, 12 Maes Tegid, Y Bala. LL23 7BF.
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau Hydref 13 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb
Neuadd Talsarnau Nos Fawrth, Tachwedd 22 am 7.30
CYNGERDD
Cana-Mi-Gei Côr Meibion Ardudwy
Elw at Eglwys Llanfihangel-y-traethau Dewch yn llu!
Neuadd Talsarnau Nos Fawrth, Hydref 18 am 7.30 Sesiwn hyfforddi ynglŷn â sut i ddefnyddio’r diffribiliwr Croeso cynnes i bawb!
Dewch i Hwyl yr Hydref yn Y Maes Awyr, Llanbedr: Hydref 25 @ 2–4 y pnawn. Dyma sesiwn 2 awr o stori, dawns a chreu ar gyfer plant i fyny i 6 oed a’u teuluoedd efo Cwmni’r Frân Wen…am ddim! Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01286 679452. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Dylan ac Ellen, Maes Trefor ar enedigaeth eu merch fach, Ffion Medi, wyres fach i gadw Eirian, Maes Gwndwn yn brysur. Pob dymuniada da iddynt gan y teulu. Te Tri ‘da Tommo Mae Tommo wedi bod yn Yr Ogof yn Yr Ynys yn recordio rhaglen mis Hydref o Te Tri. Gwrandawyr ffyddlon Tommo sy’n cael y fraint o gael bod ar y rhaglen hon. Cofiwch wrando – mae May Wells yn edrych ymlaen yn arw! Taith gerdded er budd y Diffibriliwr Mae taith gerdded wedi ei threfnu gan Gwenda Griffiths ar gyfer bore dydd Mercher 26 Hydref. Bydd yn daith rwydd ac addas i bob oedran, yn cynnwys plant. Cyfarfod am 10.30 ar faes parcio’r Ysgol Gynradd. Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau call a dewch a thamaid o fwyd at ginio bach ar y ffordd. Derbynnir unrhyw gyfraniad tuag at gostau’r diffibriliwr.
Annwyl Olygydd, Mae Cymdeithas Brodwaith Cymru yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn i fyfyrwyr Cymraeg sy’n mynd i goleg i ddilyn cwrs tecstiliau. Gall yr ysgoloriaeth olygu hyd at £500 a gellir rhannu os bydd mwy nag un ymgeisydd yn deilwng. Bu nifer o fyfyrwyr yn llwyddiannus yn y gorffennol a phleser oedd cael arddangos peth o’u gwaith ar stondin y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Disgwylir i’r ymgeiswyr fod yn 18 oed a throsodd. Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo brodwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a threfnir darlithoedd, dosbarthiadau ac arddangosfeydd mewn ardaloedd ledled Cymru. Diffinir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn addurno gan ddefnyddio edau a nodwydd, a cheir amrywiaeth o dechnegau ar gyfer hyn. I gael ffurflen gais neu os am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Gwyneth Jones, Feidiog, 12 Maes Tegid, Y Bala. Gwynedd. LL23 7BF. 01678 52081 feidiog12@gmail.com 16eg Ionawr 2017 yw’r dyddiad cau. Gyda diolch, Yn gywir, Gwyneth Jones (Ysgrifennydd)
Ebrill 2016 £30 Sian Edwards £15 Iwan Bryn Lewis £7.50 Eileen Greenwood £7.50 Kirsty Jones £7.50 Bili Jones £7.50 Eirlys Williams Mai 2016 £30 Dr Gareth Williams £15 Deilwen Rowlands £7.50 Eleri Jones £7.50 Helen Williams £7.50 Beryl Jones £7.50 Fflur Llywelyn Mehefin 2016 £30 Christina Jones £15 Idris Lewis £7.50 Edwin Jones £7.50 Andy Stanley £7.50 Edward Thomas £7.50 Gwen Edwards Gorffennaf 2016 £30 Gwen Edwards £15 Mair Thomas £7.50 Goronwy Davies £7.50 Tecwyn Williams £7.50 Bili Jones £7.50 E I Evans Awst 2016 £30 Tecwyn Williams £15 Olwen Jones £7.50 Phil Mostert £7.50 Edwin Jones £7.50 Ingrid Wood Williams £7.50 Lea Ephraim Medi 2016 £30 Deilwen Rowlands £15 Ann Jones £7.50 Esther W Jones (y ddiweddar) £7.50 Barbara Owen £7.50 Bili Jones £7.50 Geraint Williams
Lluniau i’r Llais Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy
Os byddwch yn anfon lluniau electronig atom, buasem yn ddiolchgar pe medrech sicrhau eu bod yn luniau jpg ac yn rhai mawr - o gwmpas 1MB os yn bosib. Mae’n hawdd lleihau llun mawr, ond mae’n anodd iawn chwyddo llun bach. Diolch am bob cefnogaeth. 11
Theori’r ‘Chweched Radd’
Cyflwyniad Ledled y byd, cred llawer o bobl yn Theori’r Chweched Radd a bod pobl a phethau wedi eu cysylltu â’r naill a’r llall mewn rhyw ffurf neu’i gilydd drwy gyfrwng chwe cham. Mae hyd yn oed Bill Gates, guru Microsoft, â barn bositif am y ffenomenon. Does gen i ddim barn bendant am y peth, ond rhaid i mi gyfaddef bod digwyddiadau yn ystod fy mywyd sy’n anodd eu hegluro. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn ymwneud â Chymru sydd, oherwydd ei maint, yn cynnwys cymunedau clos. I bwrpas yr erthygl hon, rydw i’n barod i gydfynd â’r theori a pha’r un bynnag, pwy ydw i i fod yn awdurdod? Cefndir Personol Pwy ydw i? Fy enw ydy Steve Stephens, neu Styfyn Styfn, fel cawn fy adnabod pan oeddwn i’n ifanc. Roedd gen i chwaer, y diweddar Dorothy (gwraig Ieuan) a dau frawd William (gŵr Eunice) a’r diweddar Morris (gŵr Shirley). Sarah a Griffith Stephen oedd ein rhieni ac roeddem yn byw ym Maes y Garnedd, Cwm Nantcol. Roedd Cwm Nantcol yn nodweddiadol o gymuned glos, fechan. Oherwydd salwch, bu raid i ni ymadael â’r fferm dros ddeng mlynedd a thrigain yn ôl. Prynwyd y fferm gan y teulu Evans sydd i’w canmol yn fawr am y gwelliannau maen nhw wedi eu gwneud i’r tŷ a’r adeiladau yn ogystal â’r tir yn ystod y blynyddoedd. Maen nhw yn ddisgynyddion i Harriet a John oedd yn ffrindiau mawr gyda fy rhieni. Os ydi fy ngwybodaeth i’n gywir, Harriet oedd y fydwraig ddaeth â fi i’r byd. Diolch Harriet! Maes y Garnedd hanesyddol Rydw i’n grediniol na fyddai Maes y Garnedd mor enwog oni bai am ddau ffigwr hanesyddol fu’n byw yno a chyfnod o ganrif rhyngddynt. Yr un diweddaraf ohonyn nhw oedd Siân Owen a anfarwolwyd yn lluniau Curnow Vosper i Gapel Salem a Diwrnod Marchnad. Roedd hi’n byw yno tua 1837. Y llall oedd y Cyrnol John Jones a drigai yno tua phum can mlynedd yn ôl. Ar waetha’r bwlch rhyngddyn nhw, ymddengys fod llwybrau John Jones a fy rhieni wedi croesi sawl gwaith. Ai’r Theori 6 Gradd sy’n gyfrifol? Y Celc Cymreig/ cyswllt y Dresel Gymraeg Am gyfnod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, câi manganîs ei gloddio yn Llethr. Un noson ar ei ffordd adref, sylwodd un o’r mwynwyr ifanc ar garreg â lliw gwahanol arni. Dychwelodd yno gyda rhai o’i ffrindiau drannoeth a dechrau tyllu o’i chwmpas. Y canlyniad oedd darganfod ychydig o dlysau yn dyddio’n ôl i ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Bu cryn ddyfalu ynglŷn â’u tarddiad ond tybed oedden nhw’n perthyn i deulu’r Jonesiaid ac iddyn nhw gael eu cuddio yno gydag adfer y frenhiniaeth. Boed hynny fel y bo.
12
Bellach mae’r tlysau, a adnabyddir fel y Celc Cymreig, ym meddiant Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Mae posibilrwydd fod dresel Cymreig a berthynai i fy nheulu ar un cyfnod ym Maes y Garnedd, yn yr amgueddfa yn Sain Ffagan hefyd. Dyma enghraifft felly o eitemau arbennig, un yn perthyn i deulu’r Jonesiaid a’r llall i fy nheulu i a bellach yn cael eu cadw dan yr unto. Mae’n swnio’n swreal ond gallai fod yn ffaith pan fo rhywun yn cysidro ffenomenon y chweched radd. Jones y Perchennog Tir Mae digon o dystiolaeth i ddangos fod gan y Cyrnol John Jones lawer o diroedd nid yn unig yn Lloegr a’r Iwerddon, ond hefyd yng Nghymru. Ymhlith ei diroedd roedd Uwchlawrcoed, rhwng Tyddyn Llidiart ac Alltgoch. Yn ôl rhai cofnodion, bu John Jones ei hun yn byw yno. Bu fy mam yn byw yno’n ogystal gyda’i rhieni a rhai o’r brodyr a’i chwiorydd. Onid dyma enghraifft arall o’r chweched radd ond fod cyfnod o amser rhyngddynt? Gadael cartref Penderfynais adael ardal Ardudwy yn weddol ifanc a mynychu Coleg Technegol Wrecsam. Cefais lifft yno gyda chwpwl caredig o ymyl Talsarnau gan fod eu mab hwythau yn mynd i’r un lle. Daeth y mab a minnau’n ffrindiau da gan aros yn yr un llety yn Wrecsam am y rhan fwyaf o’n cyfnod yno. Heb yn wybod i mi ar y pryd, roeddwn i’n dilyn yn llwybr Cyrnol John Jones a deithiodd yno ryw bum can mlynedd ynghynt i eistedd yn sedd lywodraethol ei ddiweddar frawd Edward. Yn fuan iawn aeth y cyrnol ati i adael ei ôl. Priododd ei wraig Margaret, oedd yn hanu o ardal Wrecsam, a daeth i feddiant tiroedd a thŷ o’r enw Brynffynnon, oedd o bosib wedi ei ewyllysio iddo gan Edward ei frawd. Cyfeirir at y tiroedd hyn hyd heddiw fel Tir Brynffynnon. Mewn cyfnod o bum can mlynedd, mae’r tiroedd hyn yn sicr wedi cyfnewid dwylo. Mewn cyfnodau diweddarach, codwyd eglwysi o wahanol enwadau ar rai o’r tiroedd. Mae’r Eglwys Gatholig a’r neuadd wedi eu lleoli ar beth o’r tir sydd union gyferbyn â’r coleg y bum ynddo am bedair blynedd. Mae’n debygol i mi dreulio’r cyfnod hwn mewn coleg felly ar dir Brynffynnon. Codwyd eglwys a neuadd arall dan nawdd y Presbyteriaid tua’r un cyfnod â’r Eglwys Gatholig. Yn y neuadd hon y dysgais ddawnsio (o ryw fath). Pan goronwyd Elisabeth II, mynychais sawl un o’r dawnsfeydd a gynhaliwyd yno. Yn ystod un ddawns, gofynnais i un ferch ifanc gyda gwallt hir, tonnog tywyll am ddawns. Ychydig a wyddwn ar y pryd fy mod yn dawnsio gyda fy narpar wraig Lillian, o bosib ar yr union fan lle safodd y Cyrnol John Jones ganrifoedd ynghynt yn syllu ar y sêr. Aeth y Cyrnol a minnau i Wrecsam o Faes y Garnedd a chyfarfod ein gwragedd yno. Y chweched radd yn sicr! Gyda llaw, cyd-ddigwyddiad arall ydy mai enw cartref fy niweddar chwaer Dorothy ac Ieuan fy mrawd yng nghyfraith, ydy Brynffynnon, Rhosfawr ger Pwllheli. Ffrind a chyd-fyfyriwr Mae’n amser cyflwyno fy ffrind a’m cyd-fyfyriwr. Gwyndaf Williams, Cefn Gwyn, Ynys ger Talsarnau ydy o a June Morris yw ei wraig. Priodasant yn fuan ar ein hôl ni. Roedd June a fy ngwraig yn ffrindiau pennaf tra’n byw yn Wrecsam. (Rydym yn meddwl am June a Gwyndaf yn y cyfnod anodd hwn). Mae Heulwen, chwaer i Gwyndaf, yn briod ag Evie Morgan, Cefnuchaf, Cwm Nantcol gynt, a brawd Gweneira, Allt Goch ydi Evie. Mae Gweneira’n weddw i Ifan Jones, Graig Isa’, sef y fferm agosaf i Faes y Garnedd. Felly dyma ni’r chweched radd yn ymddangos eto. Daeth ffrind pennaf fy ngwraig yn chwaer yng nghyfraith i wraig a briododd ŵr o Gwm Nantcol ac mae ganddo chwaer sy’n weddw i ffrind a aned yng Nghraig Isa’. Dryslyd ond gwir. A dyma ffaith arall - Dorothy fy chwaer a’i gŵr a’u genod Rhian ac Iola oedd yn byw yn Allt Goch cyn i Gweneira a’r diweddar Ifan brynu’r fferm! Cofion atoch i gyd yng Nghymru a phob bendith. Steve Stephens (Styfyn Styfn) comero@cogeco.co [i’w barhau]
BWYD A DIOD
136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT
Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.
Gwobrau Gwin Cymreig 2016
DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy
Ardudwy
Bocsys a ‘bubblewrap’ ar lein
Yn bendant mae gennym lawer i fod yn falch ohono o ran cynnyrch Cymreig. Yn Gwin Dylanwad, nid oes angen nac awydd gennym i edrych am gaws o unrhyw wlad ond Cymru - mae digon yma o safon uchel, o gaws caled Hafod i gaws glas Boxberg (enw od, ond yn wir, mae’n Gymreig). Ond rŵan, cawn ychwanegu gwin i gynnyrch arbennig Cymru gyda balchder. Roedd cadarnhad o hyn yn y diwrnod gwobrwyo gwinoedd Cymreig a gafodd ei gynnal yng ngwinllan Llannerch ger Caerdydd. Robb Merchant o winllan White Castle yw Cadeirydd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru ac roedd naws broffesiynol y digwyddiad yn rhoi statws a hygrededd i’r cynnyrch. Nododd Dylan fod y teimlad yn union yr un fath â bod mewn digwyddiad tebyg yn Ewrop. Hefyd, roedd yn plesio’n fawr i weld geiriad ar y tlysau yn yr iaith Gymraeg. Cawsom y fraint o flasu gwinoedd o bob rhan o Gymru gan gynnwys gwinaeaf cyntaf Gwinllan Conwy. Roedd yna win pefriog fase’n cystadlu gyda Siampên efo mws yn llenwi’r geg yn ogystal â blas ac arogl burum yn deillio o’r dechneg o’i aeddfedu yn y botel dros bum mlynedd ar y gwaddod a hyn i greu cymhlethdod yn y blas. Pleser oedd gweld gwin coch gyda blas derw ac yn arwydd fod y gwinwyr yn dechrau arbrofi i greu gwinoedd gwahanol a newydd i Gymru. Gwaith David Cowderoy, Michael Harrison a Linda Johnson-Bell (gwinwr, prynwr
i Bibendum ac awdur gwin yn ôl eu trefn) oedd penderfynu lle i ddyfarnu’r clod. Roedd 41 gwin yn y gystadleuaeth a daeth y tri beirniad i’r penderfyniad i roi gwobrau i winoedd Tintern Parva, White Castle, Kerry Vale, Llaethliw, Gwinllan Conwy ac Ancre Hill. Yn ogystal, cafodd pedwar gwin dlws arian: Tintern Parva am Bwthyn Rhosyn 2015 a’u gwin byrlymus Dathliad 2013; Kerry Vale am eu Solaris 2014 a White Castle am eu Pinot Noir Précoce 2014. Bydd manylion o’r gwobrau eraill ac enwau’r gwinoedd eraill ym mhost nesaf dylanwad.blogspot. com. Llongyfarchiadau mawr i’r bobl arbennig yma am eu hangerdd. Yn lle eich tipl arferol, rhowch gynnig ar gaws Hafod gyda Pinot Noir Précoce Robb a Nicola Merchant o White Castle. Mae hwn wedi ei aeddfedu mewn casgenni derw gyda digon o gorff a blas i gyd-fynd â chynnwys cryf y Cheddar organig yma. Parwch gregyn gleision o’r Fenai gyda’r Solaris a gynhyrchwyd gan Colin a Charlotte Bennett o Winllan Conwy. Yfwch Tintern Parva Dathliad neu Ancre Hill Blanc de Blancs i’ch dathliad arbennig nesaf neu jest i roi wmff bach i chi’ch hunan a mwynhau bywyd! Mae gymaint sy’n newydd a chyffrous i’w flasu yma’n ogystal â gwinoedd o lefydd mwy traddodiadol. Prynwch winoedd llethrau Cymru a dathlwch weledigaeth criw bach sy’n rhoi ein gwlad ar y map. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine
13
Aduniad Ysgol Ardudwy 1956-2016
Ar nos Sadwrn, 10 Medi, 2016, dathlwyd yng ngwesty Min y Môr, Bermo, aduniad trigain mlynedd o gau ysgol ramadeg y Bermo ac ysgol uwchradd Llanbedr ym 1956, a’r dechrau yn gynnar ym 1957 yn yr ysgol gyfun yn Harlech, sef Ysgol Ardudwy. Daeth deg ar hugain o’r ‘hen’ (!) ddisgyblion a gychwynnodd yn Ysgol Ardudwy’r flwyddyn honno at ei gilydd am y noson a phryd o fwyd ym Min y Môr. Trefnwyd yr holl ddigwyddiad ar ôl y syniad cyntaf gan gynysgolwr William Large, o Lanbedr y dyddiau hynny ond rŵan yn trigo yn Llangollen. Oedran cyffredinol y mwyafrif o’r unigolion oedd dros ddeg a thrigain mlynedd ac nid oedd rhai heb gyfarfod na chysylltu efo’r cyd-ysgolorion eraill ers gadael yr ysgol dros hanner can mlynedd yn ôl. Er hynny fel yr oedd y cymdeithasu rhwng yr unigolion yn cynyddu drwy gydol y noson nid oedd yn hwyr na’n anodd adnabod wynebau o’r gorffennol. Hwyrach fod nabod yr wynebau yn llawer mwy hawdd na’r enwau i ddechrau ond roedd y rhestr o enwau pawb a baratodd Will Large yn cynorthwyo ac yn gyfrifol am i bawb adnabod ei gilydd eto cyn i’r noson derfynu. Er oedran hŷn y cwmni, roedd y rhan fwyaf yn edrych yn weddus, yn iach ac yn dda iawn. Roedd y criw yn cynnwys 17 merch ac 13 o ddynion o bob rhan o wledydd Prydain a’r byd, sef Awstralia a’r Hisbaen yn arbennig. Yn wir, roedd o leiaf tair iaith i’w clywed drwy’r noson sef y Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg. Roedd rhai o’r personoliaethau’n byw mewn gwledydd eraill erbyn hyn a rhai’n dod yn benodol i fod yn yr aduniad yma a hwyrach hefyd ar wyliau ym Mhrydain. Testun y rhan fwyaf o’r sgyrsiau oedd yr hanes, atgofion a’r profiadau fel disgyblion drwy’r blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol, personoliaethau a chymeriadau’r athrawon, ac wedyn yr ymchwil o adael yr ysgol a throsglwyddo i goleg, brifysgol neu waith a’r byd mawr. Aml i ymholiad
14
am ddisgyblion eraill nad oedd yn bresennol a beth oedd wedi digwydd iddynt. Storïau ac ymffrostio am bethau pwysig a chyflawnderau personol a’r profiadau o deithio’r byd eang yn enwedig gan rai. Ar y cyfan, fe wnaeth bob un oedd yno ar y noson fwynhau’r profiad, y croeso a’r cwmni a chyfarfod ‘hen’ gyd-ddisgyblion, y bwyd bendigedig a blasus, y Min y Môr fel man cyfarfod a’r holl drefniadau ardderchog gan Will Large. Rhaid cyflwyno ein diolch a’n gwerthfawrogiad iddo am yr holl drefnu a’r noson ddifyr a phleserus iawn. Bydd Aduniad 1956-2016 Ysgol Ardudwy yn siŵr na fydd aduniad a noson Merched: debyg i’w phrofi byth eto. Anna Wyn Jones (Richards), Margaret Jones (Pugh), Hefina Alun Owen, Medi 2016 Shah (Jones), Hilda Harris, Eleri Lea Jones, Norma Stockford (Griffiths), Erica White (Crofts), Marcia Jones (Emmanuel), Diana Webb Davies, Helia Wolfson (Gapper), Jill Hughes (Dunne), Mair Martinez (Morgan), Lynda Morgan (Thomas), Marrilynne Snowden (Smith), Glenys Jones (James), Ann Williams (Goodchild), Sheila Head (Simpson).
[mab hynaf y Parch John Owen, Bodafon, Llanbedr, y pregethwr Methodistaidd (1950-1977), a brawd i Gwenda (Davies), a Geraint Owen].
THEATR HARLECH
Ffôn: 01766 780667
HYDREF
7-8 a 11-12, FFILM, The Magnificent Seven. Daw saith dyn o’r ‘hen orllewin’ at ei gilydd i helpu pentref wrthsefyll lladron ffyrnig. 19 - Gŵyl y Grawnwin - ‘O’r Newydd’, noson yng nghwmni’r dylunydd tecstiliau Cefyn Burgess a’r actor Llion Williams. 22-27, FFILM, Trolls (PG) am 2.30. Byd lliwgar sy’n llawn cymeriadau doniol a bythgofiadwy. 22-27, FFILM, The Girl on the Train (15), bywyd Rachel Watson yn dilyn ei hysgariad. Mae hi’n dal y trên i’w gwaith yn Llundain gan fynd heibio ei hen gartref. Am fanylion llawn, ffoniwch 780667 neu ewch i www.theatrardudwy.cymru
Dynion: Thomas John Jones, Peter Watson, Hefin Evans, David Charles Thomas, Alun Owen, William Henry Owen, Ronald Williams, Humphrey Williams, Iorwerth Edwards, Aled Hughes, Goronwy Morris, William Large, Tifor Roberts.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
01341 421917 07770 892016
07776 181959 Sŵn y Gwynt
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com
www.raynercarpets.co.uk
Llanuwchllyn 01678 540278
Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
01766 780186 07909 843496
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998
drwy’r post Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
ARCHEBU A
Gwynedd
Tafarn yr Eryrod
Llais Ardudwy
GERALLT RHUN
Talsarnau,
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
Cigydd, Bermo
01341 280436
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
TAITH CÔR MEIBION ARDUDWY I GERNYW
Bydd aelodau Côr Meibion Ardudwy yn teithio i Gernyw i gynnal tri chyngerdd rhwng 25 a 30 Hydref eleni ac yn aros yn ardal Falmouth. Yn naturiol, mae yna gryn waith paratoi wedi ei wneud gan gynnwys dysgu caneuon o Gernyw. Ar nos Iau, Hydref 27, bydd y côr yn canu yn ardal Bodmin gyda Chôr Meibion Lanivet, ar nos Wener, Hydref 28 bydd cyngerdd gyda Chôr Meibion Dinas Truro yn Helston ac ar nos Sadwrn, Hydref 29, bydd cyngerdd gyda Chôr Meibion Treverva yn nhref Falmouth. Fe ŵyr y cyfarwydd bod chwe iaith Geltaidd, sef Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg a Manaweg. O’r rhain, dywedir mai Cernyweg yw’r hawsaf i ni ei deall gan fod gwreiddiau’r ddwy iaith yn agos. Cyn bo hir fe gaiff yr aelodau weld a phrofi drostyn nhw eu hunain. Yn 1776, ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i’r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben -- poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk. [Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tref ni, sy’n gallu sgwrsio mewn Cernyweg ar hyn o bryd hen bobl, pedwar ugain blwydd; mae’r Gernyweg yn anghofiedig yn hollol o safbwynt y bobl ifanc.]
Llun: Geoff Sheppard Arwydd Cernyweg - ‘Croeso i Bensans’ yng ngorsaf reilffordd Penzance
Ond gwyddom fod yr iaith ar i fyny yng Nghernyw y dyddiau hyn a bod oddeutu 500 o’r brodorion yn ei siarad yn rhugl [557 yn ôl Cyfrifiad 2011]. Deallwn bod miloedd o bobl yn dysgu’r iaith ond pa mor lwyddiannus yw hyn? Bydd yn ddiddorol holi faint o ddefnydd o’r Gernyweg sydd yn yr ysgolion ac a oes llwyddiannau i’w gweld. Fe welwch o’r tabl isod pa mor debyg yw llawer o’r geiriau:
Cernyweg
Cymraeg
Kernowek Cernyweg gwenenen gwenynen cador cadair keus caws yn-mes mas, allan
16
Cernyweg
Cymraeg
codha cwympo, syrthio gavar gafr chi tŷ gweus gwefus aber aber niver nifer, rhif peren peren, gellygen scol ysgol megy mygu steren seren hedhyw heddiw whibana chwibanu A dyma i chi rai ymadroddion syml yn y ddwy iaith: Bore da - Myttin da P’nawn da - Dohajedh da Noswaith dda - Gorthuher da Nos da - Nos da Sut wyt ti? - Fatla genes? Iawn diolch - En poynt da, meur ras Diolch - Meur ras dhis Os gwelwch yn dda - Mar pleg Pwy wyt ti? - Piw os ta? Dewi ydw i - Dewi ov vy Rydw i’n dda iawn, diolch, a ti? - Yn poynt da ov vy meur ras, ha tejy? Hwyrach nad ydi hi’n iaith mor syml i ni wedi’r cyfan!
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU