Llais Ardudwy
50c
RHIF 480 - HYDREF 2018
MERCHED Y WAWR NANTCOL YN DATHLU
Calendr Llais Ardudwy ar werth rŵan yn y siopau arferol
CYNGERDD DROS Y FFIN
Bu canmol mawr i gyngerdd Côr Meibion Ardudwy yn Essington, swydd Stafford, ganol mis Medi. Cyngerdd oedd hwn a drefnwyd gan Elfyn Pugh, sy’n wreiddiol o Lanbedr. Cafodd y Côr dderbyniad teilwng iawn a chafodd Treflyn ac Ann Jones, oedd yn cyd-ganu, gymeradwyaeth gynnes iawn gan y gynulleidfa. Ddiwedd y mis, cafodd y Côr dderbyniad gwresog iawn hefyd yng Ngŵyl Gwrw Llanbedr.
MYFYRIWR Y FLWYDDYN
Prynhawn dydd Mercher, Medi 5, daeth aelodau cangen Nantcol ynghyd i Westy Portmeirion i ddathlu pen-blwydd y gangen yn 50 oed. Croesawodd Rhian Jones, Llywydd presennol y gangen, Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol y Mudiad i’r achlysur. Yn dilyn gwledd o frechdanau a chacennau blasus, cawsom anerchiad ddifyr gan Tegwen yn sôn am y troeon trwstan a ddaeth i’w rhan wrth ymweld â’r canghennau. Fe’n hanogodd i ddal ati i hybu gwaith y mudiad ac i geisio denu aelodau newydd i’r gangen. Yna, torrwyd y gacen ddathlu, gwaith graenus Beti Mai Miller, gan Beti Wyn Jones, un o aelodau gwreiddiol y gangen. Cynhelir ein cyfarfod nesaf nos Fercher, Hydref 3 yn Neuadd Llanbedr am 7.30 o’r gloch. Croeso cynnes iawn i aelodau hen a newydd.
Derbyniodd Laura Sadler, Cae Gwastad, Harlech dystysgrif myfyriwr y flwyddyn ar y cwrs Gwyddoniaeth Meddygol ym Mhrifysgol Bangor gan Mr Merfyn Williams, un o’r tiwtoriaid a chyfarwyddwyr y cwrs. Cafodd Laura hefyd yr anrhydedd o fod yn llysgennad y cwrs. Mae’n gobeithio parhau i astudio a gwneud cwrs MSc ar ôl graddio. Dymunwn yn dda iddi.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Barcdy, Talsarnau 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Gosodir y rhifyn nesaf ar Tachwedd 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Tachwedd 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Hydref 29 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: Erddyn Davies. Gwaith: Athro sydd bellach wedi ymddeol. Cefndir: Yn enedigol o Ddyffryn Ardudwy, fe’m ganwyd yn Erddyn! Fy rhieni oedd Wil a Mair Davies ac mae gennyf chwaer, Gwyneth, a dau frawd, Iorwerth a Hywel. Bûm yn ddisgybl yn ysgol y pentref ac Ysgol Ardudwy, ac yna’n fyfyriwr yn y Coleg Normal. Bûm yn dysgu am ddeugain mlynedd, yn gyntaf yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, ac yna yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli. Rwyf yn briod â Gwenyth, merch o Eglwysbach, Dyffryn Conwy, ac mae gennym bedwar o blant - Huw Erddyn, Annest Gwenyth ac efeilliaid Llŷr Erddyn a Rhun Erddyn. Rydym yn byw yn Dyffryn, Llanfaglan ers tua 25 mlynedd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded mynyddoedd a llwybrau cefn gwlad a seiclo. Beth ydych chi’n hoff o’i ddarllen? Cylchgronau - Llafar Gwlad a Golwg a nofelau gan awduron megis Henning Mankell, Jo Nesbo a Stieg Larsson. Ar hyn o bryd dwi’n darllen nofel ‘Awst yn Anogia’, gan Gareth Ff Williams. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rhaglenni teledu sy’n ymwneud â chwaraeon, ac ar Radio Cymru mae rhaglenni Aled Hughes a
LLYTHYR
Tudur Owen yn reit ddifyr. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn rhy dda! Hoff fwyd? Pysgod, lledan yn arbennig, llysiau ffres o’r ardd, pwdin reis a tharten lus. Hoff ddiod? Guinness ac ambell wydriad o win coch. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Aelodau’r teulu, ffrindiau o ddyddiau ysgol a choleg a’r diweddar Tommy Cooper. Lle sydd orau gennych? Ardudwy – Tir Duw, a mynyddoedd Eryri. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Pan yn blentyn roeddwn wrth fy modd yn treulio gwyliau ysgol ar Ynys Gifftan. Dwi hefyd wedi cael sawl gwyliau cofiadwy yn gwersylla ar y cyfandir pan oedd y plant yn iau. Yn ddiweddar dwi wedi cael llawer o hwyl gyda ffrindiau yn hwylio ar y Lucky Ner, cwch Iwan Morris, ac yn crwydro gwledydd De America gyda ffrindiau o Harlech. Beth sy’n eich gwylltio? Gweld pobl yn ddi-hid am yr amgylchedd. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun sy’n hwyliog a ffyddlon. Pwy yw eich arwr? Cliff Jones, cyn-chwaraewr gyda Spurs a Chymru.
Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Rhai sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol er mwyn eraill. Beth yw eich bai mwyaf? Mae’n debyg mod i’n gallu bod yn styfnig ac mae’r wraig yn aml yn cwyno mod i braidd yn ‘laid back’. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gweld aelodau’r teulu yn iach ac yn hapus a Tottenham yn cael llwyddiant tebyg i ddechrau’r 1960au! Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd ar wyliau i Wlad Yr Iâ hefo’r wraig. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Gwyddfid yw fy hoff flodyn gwyllt ac o ran blodau’r ardd mae’n agos rhwng lili’r dyffryn a phys pêr. Eich hoff gerddor? Mae’n rhaid i mi ddewis Meirion Williams. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Caneuon y Beach Boys a’r Eagles. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu canu’r piano. Eich hoff ddywediadau? ‘I’r pant y rhed y dŵr’ a ‘Dyfal donc a dyrr y garreg’. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn reit fodlon fy myd.
Wil Evans, Erddyn Davies, Iolo Owen a Dylan Roberts ar daith ym Mhatagonia ychydig o flynyddoedd yn ôl
Annwyl Olygydd
Gŵyl Cerdd Dant – Apêl am Stiwardiaid
Dydd Sadwrn, Tachwedd 10, cynhelir yr Ŵyl Cerdd Dant yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Ar achlysuron o’r fath mae caredigion y ‘pethe’ ym Meirionnydd wedi arfer cyd-dynnu a chyd-weithio ac felly rydym yn apelio am stiwardiaid ar gyfer yr Ŵyl o bob cwr o’r hen sir a thu hwnt. Bydd pedwar cyfnod stiwardio yn ystod y dydd - 07.30-12.00, 12.00-16.00, 16.00-20.00, 20.00-00.00. Os ydych yn fodlon cynorthwyo buasem yn falch o glywed gennych. Diolch yn fawr. Yn gynnes, Dwyryd Williams (01341 423494 dwyryd@gmail.com ) Ifan Alun Puw (01678 540633) Prif Stiwardiaid
GRADDIO
Llongyfarchiadau i Thomas Pennie, Cae Gwastad, sydd wedi graddio mewn Hyfforddiant Chwaraeon o Brifysgol John Moores Lerpwl. Pob dymuniad da i’r dyfodol.
Llongyfarchiadau hefyd i Danial Owen, mab Dafi a Gwen Owen, Ael-y-glyn, ar ennill gradd BSc dosbarth cyntaf mewn daearyddiaeth ffisegol. Mae’n mynd yn ei ôl i Brifysgol Lerpwl i wneud cwrs ôl-radd mewn dadansoddi data.
HARLECH Yn yr ysbyty Dymuniadau gorau i Eirlys Stumpp sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen ac sy’n awr wedi cael dod adref. Mae’n un o’n darllenwyr ffydlonaf a hynny ers blynyddoedd lawer. Dyweddïo Llongyfarchiadau mawr i Sam Soar, mab Linda a Dave Soar, a Tiana Radovanovic o Melbourne, Awstralia, ar eu dyweddïad ar Medi 5. Pob lwc i’r pâr ifanc i’r dyfodol.
PEN-BLWYDDI ARBENNIG
100 oed Dymuniadau gorau a phenblwydd hapus i Douglas Owen, gynt o Harlech a bellach yn Hafod Mawddach, y Bermo, sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed ar 11 Hydref. Cariad mawr gan y teulu i gyd. 90 oed Pen-blwydd hapus iawn hefyd i Mr Gwilym Williams, gynt o 41 Y Waun, ar ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar Medi 1. Mae pawb yn yr ardal yn dymuno’n dda iddo.
Sefydliad y Merched Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod nos Fercher 12 Medi 2018 ac hefyd un gwestai. Cyflwynwyd y wraig wadd, Nick Darton a roddodd sgwrs ar gyfathrebu gyda’r byddar a’r trwm eu clyw. Mae Nicky yn gweithio gyda Chymdeithas y Byddar a rhoddodd hanes ei gwaith gyda chymorth lluniau. Dangosodd y gwahanol gyfarpar sydd ar gael gan yr NHS ers 1948. Rhoddwyd y diolchiadau gan Jenny Dunley. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu penblwyddi y mis hwn. Nodwyd dyddiadau o bwys, sef Byw yn Iach, 18 Hydref, Dolgellau a Diwrnod yn y Bala yn gwneud pethau Nadolig, 8 Rhagfyr. Mae rhai llyfrau Harlech yn dal ar werth. Cawsom hanes y Clwb Crefft i ddechrau ar 20 Medi yn Hen Lyfrgell Harlech am 1.30. Fe fydd y bwrdd gwerthu yn yr hydref yn cynnwys jamiau, piclau, cacennau a phlanhigion. Enillwyd y raffl gan Jan Spicer. Cystadleuaeth: 1 Christine, 2 Jenny, 3 Sheila. Mae Sefydliad y Merched yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Harlech ar ail nos Fercher pob mis. Croeso i unrhyw un ymuno â ni neu ddod draw am y noson.
Disgyblion cyntaf Ysgol Ardudwy
90 oed Pen-blwydd hapus iawn hefyd i Olwen Jones, Rock Terrace. ‘Llongyfarchiadau a chariad oddi wrth Allan ar ben-blwydd arbennig, Mam, yn 90 oed ar 10 Hydref.’
Dymuna Marian Rees, 34 Y Waun, ddiolch yn gynnes iawn am y cyfarchion, cardiau a’r anrhegion a dderbyniodd ar achlysur ei phen-blwydd yn 60 oed ar Medi 18. £10
Llwyddiant Llongyfarchiadau i Hefin Jones, Arfor, Robert Edwards, 43 Y Waun, ac Edwin Jones, Eithinog, Cae Gwastad ar eu llwyddiant mewn sioeau amrywiol yn ddiweddar Diolch Diolch i Mari Strachan am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad i Llais Ardudwy.
Cyhoeddiadau’r Sul
Rehoboth Hydref 7 - am 2.00 o’r gloch Diolchgarwch - Elfed Lewis Jerusalem Hydref 14 - am 3.30 Diolchgarwch - Parch Iwan Ll Jones
Yr wyf wedi dychwelyd ar ôl tipyn o amser i i edrych ar safwe Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn benodol ar luniau disgyblion cyntaf Ysgol Ardudwy. Yr wyf yn sicr y bydd gan eich darllenwyr ddiddordeb mewn edrych arnyn nhw. Mae’r safwe wedi newid llawer yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Dosbarth 2X Ysgol Ardudwy ydi hwn. Roedd yn amser anodd i’r ysgol wrth iddyn nhw orfod uno ysgolion y Bermo a Llanbedr ac hefyd addasu’r maes llafur. Aeth disgyblion hŷn 1A ac 1B y Bermo i 2A a 2B a’r rhai ieuengaf i 2X a 2Y. Mae’n sicr bod hyn yn syml i Llanbedr oherwydd bod dosbarth 2Z yn Ardudwy. Cofion Gwyn Cable
Bydd Bethan Howie, 1 Tŷ Canol yn 60 oed ar Hydref 19. Mae’n siŵr y bydd ’na lawer o ddathlu. Pen-blwydd hapus i chi i gyd gan eich teuluoedd a’ch holl ffrindiau yn yr ardal. Yn 60 oed Llongyfarchiadau i David Soar, Cae Gwastad oedd yn dathlu ei ben-blwydd ar Medi 17.
3
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Llanfair a Harlech Braf oedd cael cwmni aelodau o gangen Llan Ffestiniog â’r gŵr gwadd, John Price i’r cyfarfod a gweld y Neuadd yn llawn. Aeth Bronwen ymlaen wedyn i groesawu John Price. Yn enedigol o Sir Fôn ond bellach yn byw ym Machynlleth, mae’n adnabyddus fel gof arian ac yn un sydd wedi dylunio a gwneud degau o goronau a thlysau ar gyfer gwahanol Eisteddfodau. Cychwynnodd John drwy sgwrsio am y bobl a gafodd ddylanwad arno pan oedd yn ifanc. Wedyn aeth ymlaen i sôn sut y bu iddo ddylunio coron Eisteddfod Môn 2017. Roedd yn teimlo ei bod yn fraint cael dylunio coron ar gyfer Eisteddfod Môn gan iddo gael ei fagu yno. Cawsom olwg ar y broses ddylunio a’r gwneud, a deall mai Mary, ei wraig, a fu’n Llywydd Cenedlaethol y Mudiad, sy’n gyfrifol am y darn ffabrig. Merched y Wawr oedd wedi comisiynu iddo wneud y goron gan fod y Mudiad yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu. Edwina ddiolchodd i John ar ein rhan a Gwennys Griffiths ar ran cangen Llan. Ymlaen wedyn â materion yn ymwneud â’r mudiad. Braf oedd cael croesawu dwy aelod newydd. Llongyfarchwyd Eirlys ar ei llwyddiant yn y Sioe Sir am wau pâr o fenig. Cydymdeimlwyd â theulu Meinir yn eu profedigaeth ac fel y dywedodd Bronwen, Meinir oedd Merched y Wawr a Merched y Wawr oedd Meinir. Bu’n weithgar iawn ers y cyfarfod cyntaf a bydd chwith ar ei hôl yn ein cangen ac yn y rhanbarth. Gofynnwyd i ni sefyll i gofio amdani. Gofynnodd Linda, ar ran y teulu, i ni ddiolch i’r aelodau a fu mor driw iddi ac am eu caredigrwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Cynhaliwyd Te Cymreig ar bnawn Gwener, Medi 7. Gwnaed elw sylweddol i’r gangen. Diolch i bawb, ac yn arbennig i Glwb y Werin Talsarnau, am ddod i’n cefnogi. Ym mis Tachwedd, byddwn yn cynnal noson ‘Brethyn Cartref ’ yn dylunio a gwneud cerdyn Nadolig. Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau newydd. Mudiad gwirfoddol ydym sy’n trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac addysgiadol sy’n hybu addysg, diwydiant a’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyhoeddiadau’r Sul
Caersalem am 2.15 7 Hydref - Diolchgarwch, Parchedig Tecwyn Ifan. 21 Hydref - Marc Jon Williams.
Llongyfarchiadau i Ieuan ac Eirian Owen, Eryri ar ddathlu eu priodas aur ar Medi 28. Dymunwn yn dda i Ieuan hefyd yn dilyn dwy lawdriniaeth yn ddiweddar. Hyderwn y cawn ei weld o gwmpas yn fuan.
HANNER MARATHON
Llongyfarchiadau mawr i Damon John o Harlech ar lwyddo i gwblhau rhagor o rasus hanner marathon yn ddiweddar! Ar ddechrau mis Medi, fe redodd ras y Great North Run am y tro cyntaf, gan gwblhau’r cwrs mewn 1:45:16; gyda’i gariad Leanne a’i rieni Sally a Dev yn gwylio ymysg y dorf. Pythefnos yn ddiweddarach, ac ychydig yn agosach i adref y tro hwn, fe gwblhaodd hanner marathon Abersoch mewn 01:40:48. Dyma’r pedwerydd tro i Damon redeg y cwrs yma, a’i amser gorau hyd yn hyn. Ar ddydd Sul Hydref 7, fe fydd Damon yn teithio lawr i’r brifddinas ac yn cystadlu yn hanner marathon Caerdydd am y tro cyntaf – ei drydydd ras mewn ychydig dros fis. Pob hwyl i ti Damon yn y ras honno! Yn y llun uchod wele Damon gyda neb llai na Mo Farah y noson cyn ras y Great North Run - mae’n siwr bod o wedi cael digon o gyngor gen ti, Damon! Diolch Dymuna Bethan, Ifanwy, Annes a’r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Griff. Diolch yn arbennig i’r Parch Iwan Llewelyn Jones am arwain y gwasanaethau yn yr amlosgfa ac ar lan y bedd, ac i Dylan a Bryn o gwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr a phroffesiynol. Rhodd a diolch £10 Golff Llongyfarchiadau i Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ei llwyddiant mawr ar y maes golff yn ddiweddar. Enillodd bencampwriaeth merched hŷn Cymru yn sir Fynwy ym mis Medi.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
4
Hysbysfyrddau Bu trafodaeth ynglŷn â’r ffaith bod yr hysbysfwrdd ger groesffordd Caersalem angen dipyn o waith atgyweirio ac oherwydd hyn, cytunwyd i archebu un newydd wedi ei wneud o ddeunydd ailgylchu, hefyd i’w osod tu mewn i’r lloches bws ar y wal. Bydd y Clerc yn dod a gwybodaeth am hysbysfyrddau o’r fath i gyfarfod nesa’r Cyngor. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr a gwahoddiad ffurfiol gan yr uchod yn hysbysu’r Cyngor bod eu cyfarfodydd blynyddol gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned yn digwydd ar Hydref 4 ym Mhlas Tan y Bwlch. Cytunodd Eurig Hughes a Russell Sharp fynychu’r cyfarfod. Materion Cyngor Gwynedd Adroddodd Annwen Hughes bod cynlluniau’r ffordd osgoi yn Llanbedr erbyn hyn wedi cael eu caniatáu a gobeithio y bydd y gwaith yn cychwyn y flwyddyn nesa. Roedd pawb yn falch o glywed y newyddion hyn. Hefyd adroddodd bod Swyddogion yr Uned Draffig wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda’r cynllun i symud yr arwyddion 30mya. yn nes i lawr ar ffordd Llandanwg oherwydd bod rhai o’r trigolion lleol wedi gwrthwynebu.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Robin Jones, Llys Brithyll, sydd yn Ysbyty Dolgellau. Gobeithio ei weld adref yn fuan.
COFFÁU
Ysgol Cwm Nantcol 1934-5
Dymuno’n dda Dymunwn yn dda i Rwth a Trystan a’r plant yn eu cartref newydd, Beudy’r Ddôl, Cilcychwyn. Clwb cawl Edrychwn ymlaen at ddechrau tymor arall o Glwb Cawl yn y Neuadd ddydd Iau, 11 Hydref o 12.30 - 2 o’r gloch. Colli Lesley Howie Ar ddiwedd Awst bu farw Lesley Howie, fferm Gwynfryn ar ôl cystudd hir. Cydymdeimlwn â’i gŵr Alec a’u merched Victoria, Clare a Samantha a’u teulu yn eu profedigaeth. Colli Robert McCready Hefyd, bu farw Robert McCready, Bryndeiliog. Cydymdeimlwn â’i wraig Nan yn ei cholled. Cymdeithas Cwm Nantcol Bydd y Parch Marcus Robinson yn agor tymor arall o Gymdeithas Nantcol gyda phregeth yng Nghapel Nantcol nos Fercher, 17 Hydref am 7.00 o’r gloch. Beth am ddod atom yn ystod tymor y gaeaf? Mae rhaglen amrywiol wedi ei pharatoi a chewch gwmni difyr a noson allan. Diolch Diolch i Gwenda Shepherd am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad i Llais Ardudwy. Rhodd Diolch am rodd o £25 gan Alun Owen.
Cyhoeddiadau’r Sul
Am 2.00 y prynhawn HYDREF 7 Capel y Ddôl, Evie M Jones 14 Capel Nantcol, G P Jones 21 Capel y Ddôl, Elfed Lewis 28 Capel y Ddôl, Parch Gareth Rowlands TACHWEDD 4 Capel y Ddôl, Eleri O Jones
Cofio y rhai a gollwyd yn ystod y Rhyfel mawr o Lanbedr Mae’n fwriad gan Gyngor Cymuned Llanbedr gofio y dynion a gollwyd sydd â’u henwau ar y gofeb yn Llanbedr, drwy drefnu arddangosfa a lluniaeth ysgafn ar Sul y Cofio ym mis Tachwedd eleni, i goffáu100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Mawr. Gwnaf drwy gyfrwng Llais Ardudwy apêl am unrhyw luniau, gwybodaeth, eitemau, hen lythyrau sydd wedi eu cadw gan ddisgynyddion fyddai yn help at y digwyddiad yma. Yn yr un modd, mae chwech enw a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd. Falle bod mwy o wybodaeth ar gael parthed rheini. Hyderaf yn fawr y cawn ymateb er mwyn creu digwyddiad teilwng. Llawer o ddiolch. Morfudd morfuddlloyd@gmail.com
Llais Ardudwy
Rhes ôl (chwith i’r dde) 1 William Lewis Evans, Nantcol. Yn drist iawn bu i William foddi ar fore Sul yn afon Nantcol pan nad oedd ond tua 17 oed. 2 Edward Morris Jones, Graig Isa. Bu’n cadw siop ‘Berwyn’ yn Nyffryn Ardudwy am flynyddoedd. 3 William Stephen, Maes y Garnedd. Teithiodd tipyn o’r Cwm gan setlo mewn fferm ar Ynys Môn. 4 Ifan Oliver Jones, Graig Isa. Dyrchafodd i fod yn Gadeirydd Cyngor Dosbarth Meirionnydd. 5 Glenys Edwards, Cilcychwyn. Un o blant y Cwm a arhosodd yn ei milltir sgwâr. 6? 7 Mair Evans, Nantcol. Ar ôl priodi bu’n byw yng Nghae Du, Harlech. 8 Hannah Jones, Graig Isa. Ar ôl priodi bu’n byw am gyfnod yn yr Allt Goch cyn symud i Dy’n Rhos Fawr, Rhos Fawr. Rhes Flaen 1 Oswald Jones, Hendrewaelod. Bu farw yn 19eg oed o’r dicáu. 2 Merfyn Jones, Hendrewaelod. Aeth i Lerpwl i gadw garej ar ôl cyfnod yn yr awyrlu. 3 Meurig Wyn Jones, Hendrewaelod. Ffermwr, bugail a gyrrwr lori ymysg pethau eraill. Un arall a arhosodd yn ei filltir sgwâr. 4 Robat Prysor Evans. Bu’n ffermio ym Maes y Garnedd ac yn Gelli Bant. Yn y Cefn Mrs Linksby, yr athrawes. Roedd hi’n wreiddiol o Benrhyndeudraeth. Bu’n athrawes yn Ysgol Cwm Nantcol am tua tair blynedd ac roedd ganddi fab o’r enw Tomos. Tybed a oes unrhyw un yn gwybod hanes Tomos?
Mae angen Is-olygyddion i helpu gyda’r gwaith o gasglu deunydd i’r papur. Nid oes angen Cymraeg perffaith ac nid oes angen sgiliau cysodi. Gallech gychwyn drwy ofalu am un dudalen yn unig. Dewch i gysylltiad os teimlwch y gallech chi fod o gymorth.
Capel Nantcol Nos Fercher, 17 Hydref am 7.00 o’r gloch
Cyfarfod Diolchgarwch
Pregethwr Gwadd: Parch Marcus Robinson
5
STRAEON AR THEMA Thema’r Mis: Siopa
Caerdydd Cofiaf fynd i aros i Gaerdydd am benwythnos efo Gerallt Garej, Bili a Chris Parry a’r gwragedd. Mi aeth y merched, Ann, Rose, Carys a Janet i siopa bore Sadwrn ac aethon ni’r dynion i wagsymera. Roedd Rose newydd fod yn siopa yng Nghaerwrangon [Worcester] felly doedd hi ddim eisiau rhyw lawer. Ar y ffordd yn ôl i’r gwesty, dywedodd Ann ei bod wedi anghofio rhywbeth a dyma Janet a Carys yn cynnig mynd efo hi. Cynigiodd Rose fynd â’r bagiau siopa yn ôl i’r gwesty er mwyn ysgafnhau llwyth y merched. A beth welodd Chris wrth iddo eistedd yng nghyntedd y gwesty ond Rose yn cerdded i mewn â’i hafflau yn llawn - tri bag mawr - a hithau wedi bod yn siopa deuddydd ynghynt! Wel mi aeth yr awyr yn las, os nad yn biws, a phan ddaeth Ann, Janet a Carys yn ôl mi roedd ’na gryn chwerthin. Penwythnos difyr iawn oedd hwnnw! PM
Camddealltwriaeth Roeddwn yn gweithio yn Llandudno un bore ac yn gorfod bod yng Nghaernarfon erbyn 1.00 o’r gloch. Roedd Janet y wraig wedi gofyn i mi, os cawn gyfle, i nôl neges ac mi siarsiodd fi i beidio dod â thorth gan fod digon o fara yn y tŷ. Doedd gen i ddim amser i’w golli, dyma frysio drwy Tesco efo’r drol. Wrth i mi ddadlwytho wrth y til, mi sylweddolais yn sydyn nad fy nhrol wreiddiol i oedd hon. Roedd ’na bedair torth ar ei gwaelod ac ambell i beth arall nad oeddwn i wedi eu rhoi ynddi! Doedd dim amdani ond parhau i ddadlwytho a thalu cyn gynted ag y medrwn a’i heglu hi o’r siop cyn i mi greu helynt. Mi adroddais yr hanes i gyd wrth fy nghydweithwyr yng Nghaernarfon ond doedd yr un ohonyn nhw am brynu torth gen i ’chwaith. Afraid dweud i mi gael pryd o dafod wedi cyrraedd adref. PM
Prynu cardigan Siopa gyda’m cyfaill Seamas [y Gwyddel] yn y Ffindir oeddwn i. Roedd o am brynu cardigan i’w wraig, Eilis, a phenderfynodd ofyn i Marja-Leena a Maija ei helpu. Roedd un broblem fach. Doedd Seamas ddim yn gwybod beth oedd maint Eilis. Dyma fo’n cerdded allan o’r siop i’r stryd efo’r ddwy ferch a dweud y buasai yn chwilio am ddynes tebyg ei maint i Eilis. [Roedd peth fel hyn yn anathema i ferched y Ffindir!] Bid a fo am hynny. Mi welodd Seamas wraig tebyg o ran maint yn cerdded y stryd ac fe’i gwahoddodd i ddod i mewn i’r siop efo fo. [Bu’n dipyn o ‘charmer’ erioed!] I dorri stori hir yn fyr, mi brynodd Seamas y gardigan ac roedd hi’n ffitio fel maneg pan aeth â hi adref i Ddulyn. Pan fyddwn ni’n cyfarfod yn achlysurol, mae Maija a MarjaLeena yn chwerthin llawer wrth ailadrodd yr hanes. Stori anodd ei choelio mi wn, ond mae’n berffaith wir! PM
Siopa yn Namibia Aeth chwech ohonom am wyliau i Botswana a Namibia. Tra yn Windhoek, prif-ddinas Namibia, aethom o gwmpas y siopau a’r marchnadoedd. Er mwyn diogelwch, roedd un ohonom yn aros yn y bws mini gan eistedd yn sêt y gyrrwr a’r drws ar glo. Pan oeddem yn newid drosodd, er mwyn i eraill siopa, neidiodd Terry (un o’n ffrindiau, a arferai fod yn y fyddin) i sêt y gyrrwr gan daflu ei fag ar y llawr o flaen y sêt flaen. Caeodd y drws yn glep ond ni chafodd amser i’w gloi gan, ar amrantiad, daeth dyn i sgwrsio ag ef. Cafodd Terry deimlad annifyr gan droi yn sydyn a chael cip ar ddyn arall yn dwyn ei fag – gyda’i bres personol, ein harian torfol a’i basport ynddo. Dyma fo’n neidio allan o’r bws, a gweiddi nerth ei ben, ‘Aros. Lleidr!’ – yn yr iaith fain, wrth gwrs! (Nid oedd yn gallu rhedeg ar ei ôl rhag gadael y bws). Mae ganddo lais anferthol ac wrth iddo barhau i weiddi roedd pawb yn stopio ond am y lleidr. Sylweddolodd yntau bod pawb yn gwybod pwy oedd felly taflodd y bag ar y llawr, diolch i’r drefn.
Y testunau sydd i ddod: Tachwedd: Magu plant Rhagfyr: Bwyd
6
Fodd bynnag, daliwyd y dyn oedd yn tynnu sylw Terry a chafodd ei hebrwng atom gan yr heddlu (a gyrhaeddodd yn sydyn ar y naw). Roedd pobl y stondinau a’r siopau yn ei daro ac yn gweiddi arno. Roeddynt yn flin gan fod pawb wedi stopio siopa! Mai Roberts Llanast mewn siop Bydd atgofion am ambell i siop yn mynnu eu lle yn y cof, flynyddoedd ar ôl i’w drysau gau am y tro olaf. Pwy all anghofio hynodrwydd siop Miss Williams yn Nyffryn Ardudwy, ac mae ymweliad Dai Jones â’r siop ymhlith clasuron rhaglenni Cefn Gwlad? “Emporiwm” ychydig yn wahanol oedd siop Gwilym Davies ym mhentre Hermon, gogledd Sir Benfro. Portland oedd yr enw arni a Siop Gwilym Portland oedd hi i bawb. Cof plentyn sydd gennyf ohoni; mynd yno gyda’m rhieni i nol pâr o ’sgidiau neu pan ddaeth yr amser i brynu beic. Er teimlo mai rhyw dywyll a chymharol fach oedd, rhaid fod yna arwynebedd sylweddol iddi, o gofio fod y siop yn gwerthu ystod eang o nwyddau yn cynnwys bwydydd, nwyddau haearn, ’sgidiau, wellintons a beics wrth gwrs! Beth oedd mor hynod am Siop Gwilym Portland felly? Wel, yn syml, yr annibendod. Os am brynu pâr o ’sgidiau ac yn dod ar draws esgid o’r maint cywir a chyffyrddus, rhaid oedd chwilio yn y pentwr ’sgidiau am ei chymar! Roedd Gwilym Davies yn sicrhau’r prynwr fod “y llall yma yn rhywle!” Dro arall, cwsmer yn dod o hyd i feic oedd yn plesio. Lliw iawn, cloch, sedd ac o’r maint priodol.
Un broblem, neu’n hytrach dwy, dim olwynion. Chwilio nes dod o hyd iddynt, cyn talu’r pris rhesymol. Dyna’r gyfrinach mae’n siŵr, prisiau cystadleuol a hwyl y chwilio. Hynodrwydd siop a’i pherchennog. Nid yn annisgwyl efallai, o gofio’r llanast, bu ’na dân difrifol a daeth dyddiau Siop Gwilym Portland i ben. Erys yr atgofion serch hynny. Ray Owen Atgof cynnar Pan oeddwn yn Ysgol Gynradd y Bermo, penderfynodd ffrind a minnau fynd ar ein beics dros y bont i Arthog. Erbyn cyrraedd daeth chwant bwyd arnom ac felly i mewn i’r siop â ni (ia, siop yn Arthog bryd hynny!). Ar y silff gwelsom focsys bach gyda llun lemon meringue deniadol iawn i fechgyn 10 oed a dyna eu prynu. Wedi mynd allan o’r siop, dyma agor y bocsys – wel dyna siom, beth oedd yno ond y cynhwysion i wneud y darten. John Williams Siopa efo Dad Grace a’i chwaer Mary yn penderfynu mynd i Wrecsam i siopa. Roedd eu tad yn hoff iawn o gael mynd am reid ac felly dyma ei wahodd. Ar ôl cerdded o gwmpas am ychydig dyma fynd mewn i Woolworth. Trefnu i’w gyfarfod wrth y drws am ddau o’r gloch a ffwrdd â nhw. Pan ddaeth yr awr, yn ôl a nhw i Woolworth a dim sôn am eu tad. Yr amser yn mynd heibio a dyna ddechrau poeni lle yn y byd oedd o wedi mynd. Erbyn i’r ddwy ddeall, roedd drws cefn i’r siop hefyd a dyna lle roedd yn aros amdanyn nhw ers amser! John Williams
A OES HEDDWCH?
COFIO GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL Y RHYFEL BYD CYNTAF Dydd Sadwrn, Tachwedd 17, 2018 Capel Bowydd, Y Sgwâr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3UW RHAGLEN 9:30-10:00 10:00-10:20 10:20-10:50 10:50-11:20 11:20-12:15 12:15-13:30 13:30-14:00 14:00-14:45 14:45-15:15 15:15-16:00 16:00-16:15
COFRESTRU / PANED Croeso - Liz Saville Roberts AS Cymdeithas y Cymod yn ystod y dyddiau cynnar Sut mae Cymru wedi cofio Hedd Wyn - Ifor ap Glyn Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916 - Dr Aled Eirug EGWYL / CINIO Deiseb Heddwch Merched Cymru - Lowri Ifor Heddychiaeth yn 2018: - Cymru dros Heddwch Dros Gymru’n Gwlad? - Vivian Parry Williams Sesiwn Banel Gair i Gloi’r Diwrnod - Liz Saville Roberts AS
DWI’N COFIO Dwi’n cofio taith i Derrynoid yng Ngogledd Iwerddon a chyfarfod y Farwnes Blatch . . . Tua 1993 oedd hi. Rhoddwyd y cyfrifoldeb ar Paraic MacDonncha [Tanty] a minnau am sicrhau cartref i gynhadledd Interskola, a oedd i’w chynnal yn yr Iwerddon yn 1994. Dyma deithio o Galway yng nghar Tanty, a hwnnw’n mynd fel cath i gythraul. Roedd y polion teligraff fel dannedd crib! Bu bron i ni daro buwch ar ganol y ffordd, ond llwyddodd Tanty i stopio’r car ychydig fodfeddi oddi wrthi. Ond doedd y braw hwnnw’n ddim o’i gymharu â’r hyn oedd yn fy wynebu wedi i ni gyrraedd Derrynoid. Mynd i goleg addysg newydd sbon yr oedden ni, gan obeithio y buasai yno ystafelloedd cysgu addas i ryw 60 o bobl. Roedd y Farwnes Blatch yn agor y coleg yn swyddogol ac roedd gwahoddiad i ni ein dau wedi ei drefnu drwy swyddfa Tanty, yn ôl yr hyn a ddeallwn. Roedd ‘yr helyntion’ yn parhau yn Iwerddon bryd hynny. Gwelwn ambell i filwr efo’i fachine gun. Diau bod heddlu cudd ym mhobman hefyd. Holais Tanty am y tocyn swyddogol a sicrhaodd fi fod rheiny yn disgwyl amdanom ar y bwrdd yn y cyntedd. Dyma gamu i’r cyntedd a gweld ugeiniau o fathodynnau swyddogol ond doedd dim golwg fod un yn fy enw i! Dyma Tanty, ar amrantiad megis, yn gafael mewn bathodyn a’i roi i mi. Yr enw ar y tocyn hwnnw oedd – Prof Seamas O’Buachalla, Trinity College, Dublin! Roeddwn yn chwys diferyd! Plismyn a swyddogion diogelwch ym mhobman, i amddiffyn y farwnes ac i gadw’r heddwch, a minnau yno heb unrhyw awdurdod. Ac yn waeth na hynny, yno dan gochl bod yn athro prifysgol. Gwisgais y bathodyn, heb ddangos gormod o ffwdan, a hynny ar frest chwith fy nghrys,
Y coleg addysg yn Derrynoid lle cynhaliwyd y gynhadledd Gymreig yn siŵr o ollwng y fel nad oedd ond y gair Prof ystod y deg munud nesaf gan gath o’r cwd. Ond roedd rhaid yn y golwg! Bûm yn sefyllian yngan brawddegau tebyg i: bod yn gwrtais wrth y wraig am rai munudau cyn clywed Hello Seamas, how’s your health? cyhoeddiad ar yr uchel seinydd. wadd. You’re looking much younger! Gwenais a phlygu fy mhen Yn ffodus i mi, roedd y theatr How’s the book coming along? rhyw fymryn, yna gafaelais ddarlithio yn orlawn, a gorfu What chapter are you working yn ei llaw yn dyner. Diolch i ni ein dau fynd drws nesaf i on now? i’r drefn, fe symudodd y wylio’r agoriad ar deledu cylch I heard that you’d given up the cyfyng. Whiw, dyna ysgafnhau farwnes yn ei blaen i ysgwyd drink, Seamas, but it’s good llaw Tanty, a oedd wrth fy cryn dipyn ar fy mhryderon! to see you with a glass in your ymyl. Dechreuodd hwnnw Wedi i’r farwnes orffen siarad, hand. siarad efo hi fel melin bupur, allan â ni i’r cyntedd i chwilio Roedd y Farwnes Blatch a’i a dweud mor falch oedd o am damaid i’w fwyta. gosgordd o blismyn, wedi weld buddsoddiad yn yr ardal. Pwy ddaeth heibio i mi yn y diflannu i niwloedd y gogledd [Mae o’n siaradwr tan gamp ac cyntedd cul ond y farwnes ei erbyn hyn, a gallwn ymlacio a ni bûm erioed cyn falched o hun a dau horwth mawr o’r chwerthin ar y cyd â’r holl bobl hynny.] heddlu cudd o bobtu iddi. oedd yn tynnu fy nghoes. A chyn i mi gael amser i feddwl, Ymlaen â ni wedyn i’r lle Ond mi chwysais chwartiau y bwyd ar ôl i mi gael fy ngwynt dyma hi’n gwenu fel giât, estyn bore hwnnw. ataf. Bar yn gweini gwin ei llaw allan ataf, a’m cyfarch PM yn un gongl a bar yn gweini yn ddigon moesgar, ‘Hello, Guinness mewn cornel arall. pleased to meet you, Professor Credaf fod yr unoliaethwyr O’Buachalla.’ [Erbyn hynny, wedi mynd at y gwin a’r roedd y bathodyn i gyd yn y gweriniaethwyr at y ddiod ddu. golwg.] Roeddwn yn adnabod ambell Beth fedrwn ni ei wneud neu un, drwy gysylltiadau dros y ei ddweud? Roedd y ddau blynyddoedd ac roedd ambell blismon yn fy ngwylio’n i wyneb yn gyfarwydd, os nad ofalus iawn, a doedd wiw i mi yr enw. Daeth amryw ataf yn yngan gair neu buasai fy acen
Y Farwnes Blatch
Tanty a minnau yn y cyfnod
Seamas O’Buachalla yw’r gŵr ar y chwith, does dim tebygrwydd o gwbl rhyngom ni ein dau!
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Clwb Cinio Ar 16 Hydref byddwn yn mynd i’r Grapes ym Maentwrog am ginio. Cyfarfod yno am 11.45 gan ein bod eisiau bod yn Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd erbyn 2.30. Teulu Ardudwy Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor bnawn Mercher, 19 Medi. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i aelod newydd sef Rhian Davenport. Roeddem yn falch o weld Mrs Enid Thomas wedi gwella’n ddigon da i fod gyda ni. Nid oedd Mrs Beti Parri yn teimlo’n ddigon da i ddod, ac anfonwn ein cofio gorau ati. Cydymdeimlodd â Mrs Lorraine Coe yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd Micky ac â Mrs Iona Anderson, cyfnither i Micky. Mynegodd ein tristwch o golli un a fu’n aelod cyn i afiechyd ei rhwystro sef Mrs Meinir Lewis, Llanfair, a chydymdeimlodd â Bethan a Geraint a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Diolchodd i Mr Carey Cartwright am brintio’r rhaglenni i ni eto eleni. Anfonodd ein cofion at Miss L M Edwards a Mrs G Cartwright, y ddwy yn dal yn aelodau ond yn methu dod, a diolchodd iddynt am eu cyfraniad ariannol i’r Teulu.
Yna, croesawodd John Blake atom am yr eildro i gario ymlaen gyda hanes ei deulu ar ochr ei fam a’i dad ac i rannu ei atgofion am ei blentyndod yn y Dyffryn gan orffen gyda chwis. Roedd pawb wedi mwynhau a diolchodd Gwennie iddo am brynhawn diddorol iawn. Bydd y cyfarfod nesaf ar 17 Hydref. Festri Lawen, Horeb Mae cyfarfod cyntaf y tymor ar 11 Hydref am 7.30 yn y festri pan fyddwn yn cael cwmni Côr Ysbyty Ifan - Hogia ’Sbyty. Diolch Diolch i W H Owen ac O H Ellis am dalu mwy na’r gofyn wrth iddyn nhw adnewyddu eu tanysgrifiadau i Llais Ardudwy. Cofion Anfonwn ein cofion gorau at Mr Gareth Jones, Cerist, Dyffryn, sydd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar. Rhaghysbysiad Bydd Pwyllgor ’81 yn trefnu Noson o Ganu Carolau yn Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, nos Fawrth, 18 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch, o dan arweiniad Aled Morgan Jones gyda Chôr Meibion Ardudwy. Bydd panad ar gael yn ystod yr egwyl.
Plant newydd Dosbarth Derbyn Ysgol Dyffryn Ardudwy
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb
Am 10.00 y bore oni nodir yn wahanol HYDREF 7 Parch Christopher Prew, 5.30 14 Diolchgarwch yn yr Eglwys, Mai Roberts yn trefnu 21 Elfed Lewis 28 Parch Gareth Rowlands TACHWEDD 4 Dafydd Charles Thomas
8
Capel Horeb
Nos Lun, 22 Hydref am 7.00 o’r gloch
Cyfarfod Diolchgarwch Pregethwr Gwadd: Parch Ddr Elwyn Richards
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Croesawodd y Cadeirydd y ddau aelod newydd i’r Cyngor sef Jonathan Greenfield ac Eryl Jones Williams. Ar ran y Cyngor, estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau’r Cyngor i bob disgybl o’r ardal yn eu canlyniadau arholiadau yn ddiweddar. Ceisiadau Cynllunio Codi byngalo dormer (dyluniad diwygiedig am dŷ annedd wedi ei gymeradwyo’n flaenorol – Llain 4 Tan y Foel, Ffordd y Capel). Cefnogi’r cais. Codi byngalo dormer (dyluniad diwygiedig am dŷ annedd wedi ei gymeradwyo’n flaenorol – Llain 7 Tan y Foel, Ffordd y Capel). Cefnogi’r cais. Cais rhannol ôl-weithredol i gadw gwaith di-awdurdod i’r adeilad a throsi i uned gwyliau yn cynnwys ffordd mynediad newydd a gosod gwaith trin carthion – Nant Eos. Cefnogi’r cais hwn. Amnewid toeau mwynau a pvc y gweithdy/stiwdio, allandy ac ystafell ymolchi gyda to gwydr ffibr a gosod 3 ffenest to a lleoli 3 bae storio Briws. Cefnogi’r cais hwn. Defnyddio’r 10 pod gwersylla sydd wedi cael caniatâd eisioes rhwng Chwefror 14 mewn un blwyddyn a 3 Ionawr y flwyddyn ganlynol Maes Carafanau a Gwersylla Trawsdir, Llanaber. Cefnogi’r cais hwn. Cae Pêl-droed Derbyniwyd copi o’r brydles tir agored am 5 mlynedd gan CCG a fydd rhwng y Cyngor a nhw. Cytunwyd bod y Cadeirydd yn ei harwyddo ar ran y Cyngor. Angen gwybod pwy fydd yn gyfrifol am dorri gwair y cae pêl-droed a chytunwyd i adael y mater yma ar hyn o bryd. Swyddfa Bost Adroddodd Eryl Jones Williams ei fod wedi ceisio cael y newyddion diweddaraf ynglŷn â beth oedd yn digwydd gyda’r uchod erbyn y cyfarfod heno, ond nid oedd wedi derbyn dim. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddwyd bod cyfarfod yr uchod wedi ei gynnal ar 12 Gorffennaf a bod e-bost wedi ei dderbyn gan Aelodau’r Bwrdd yn datgan pryder nad oes digon o aelodau ar y Bwrdd i redeg y safle, ac os na fydd mwy o wirfoddolwyr yn dod ymlaen fel aelodau o’r Bwrdd erbyn diwedd Medi 2018 bydd y safle yn cau. Hefyd adroddwyd bod y nofio cynnar ar fore Llun am 7.30 o’r gloch wedi dod i ben, hefyd y nofio cyhoeddus ar ddydd Mawrth rhwng 12.30 a 2.00 o’r gloch.
HYSBYSEBION
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 GALLWCH HYSBYSEBU YN Y BLWCH HWN AM £6 Y MIS
9
ENWAU LLEOEDD Enwau lleoedd ardal Ardudwy, Meirionnydd ac yn bennaf plwyf Llandecwyn a Thalsarnau. Casglwyd yr isod at ei gilydd gan Olwen Jones, Yr Ynys, pan oedd yn nosbarth 2M. Ei hathro oedd Mr Dallis-Davies.
Garreg Gro gro – gro’r môr. Carreg – (i) Ll carr (‘rhedaf ’) yr afon Ddwyryd yn rhedeg i’r môr? (i) carreg – yn yr ystyr gyffredin yn nodi man arbennig. Felly, tŷ ar y graig yn ymyl y fan lle mae’r afon yn rhedeg i’r môr? Yr Ynysoedd Clogwyn Melyn Darn o dir gyda dŵr o’i gwmpas yw’r ynys a cheir afonydd neu gorsydd clog cf. Gwyddeleg ‘cloch’ - maen, carreg. o’u cwmpas hefyd. Gelwid hefyd ddolau neu ddolydd ar lan afon, tir Clog > clogwyn gwastad ar fin y dŵr, ar yr un enw. Felly, Clogwyn Melyn – Carreg felen gan mai ar godiad tir yn Flynyddoedd yn ôl arferai’r môr olchi ar greigiau Meirionnydd yn wynebu’r môr mae’r tŷ melyn – tywod? enwedig dan graig Castell Harlech ac ymlaen ar yr afon Ddwyryd. Edrin Erbyn heddiw tir sych a geir yno a elwir yn Forfa Harlech. Mae’r (i) sŵn, atsain ynysoedd oedd yn y môr i’w gweld hyd heddiw er mai tir sych sydd (ii) garw o’u cwmpas; am i forglawdd gael ei adeiladu i gadw’r llanw rhag dod (iii) ystormus, gwyntog. trosodd. Gan fod y tŷ yma eto bron ar y traeth gellir tybio mai lle garw Yr Ynys am wynt a thywydd mawr ydyw a sŵn y môr a’r tywydd i’w Dyma’r ynys fwyaf ohonynt i gyd gyda phentref sy’n dwyn yr un enw. glywed. Ynys Gifftan Cefn Mein Yn ôl straeon yr ardal dywedir mai “Gift of Queen Anne” yw’r esboniad Mein < Main – darn/cefnen o dir sy’n ymestyn allan ar y traeth ond dywedodd Mr John Lloyd mai “Chieftain” o’r Saesneg wedi ei drosi ar Forfa Harlech. yw. O’r môr gwelir mai’r ynys yma yw’r uchaf o’r holl ynysoedd yn yr Penwein ardal a hon oedd yr oedd y llongau yn ei gweld wrth lywio eu ffordd i Penwein < Pen y Waun. harbwr Porthmadog. Gwaun = tir pori, gweundir. Gwrachynys Felly, diwedd y tir pori, o fan honno y tir yn dywodlyd a sych. Yn y fan hon gwelir ystyr yr enw ym maint yr ynys, hynny ydy, Gwrach Llanlleidr = bach. Mae hi wrth droed Yr Ynys. Llanlleidr < Llanlleidir < Llafn y Llaith Dir. Y Lasynys Heb fod yn bell oddi wrth Penwein. Tir gwlyb yng ngodre’r (Cartref Ellis Wynne, y Bardd Cwsg) Lasynys < Glasynys. Glas = y tir graig, tir nad oes fawr ddim yn tyfu yno, dim ond brwyn. wedi tyfu’n wyrdd wedi i’r môr gilio > glasu. Llafn – rhan finiog cyllell neu gleddyf. Llaith – gwlyb. Felly, Glasfryn darn main o dir gwlyb. Dyma’r ynys sy’n llai na’r lleill i gyd. Ynys fechan > bryn, ychydig o Cerrig Gweunydd godiad tir. Cerrig Gwenyn < Cerrig y Gweunydd. Gweunydd – rhostir, Tyddyn Siôn Wyn doldir. Mae’r fferm yma’n agos iawn i Llanlleidir. Tyddyn – Ty-ddyn, hynny ydy, dynn. Yn y Wyddeleg golyga “bryn neu Tanforhesgen ucheldir” a arferir olygu caer neu amddiffynfa. i] Tanyfaethesgen - > rhesgen – hen enw ar ddarn o dir pori Heddiw ystyr tyddyn yw fferm fechan, ond rhoddir yr enw tyddyn ar yr gwyllt yn ymyl y môr – tir pori. adeilad ei hun. Hesg – mae’r rhain yn tyfu mewn lle gwlyb. Tan y foel – o’r ochr Yn ôl hanes yn yr ardal dywedir mai Siôn Wyn, un o Wyniaid ogleddol i’r ffarm yma mae Yr Ynys a darn ohoni a elwir Y Foel Maesyneuadd oedd wedi ymgartrefu yma ac yna iddo gael ei erlid o felly mae’r fferm dan olwg y foel. Dyddynsiônwyn i ... Esgairnolwyn (Ysgyfanolwyn ar lafar). ii] Tanforhesgen - < Tafarn Hesgen – tafarn mewn lle gwlyb, lle Esgair: cefnen is fynydd, ochr serth. bu’r môr ar un adeg. Dywedir iddo rowlio i lawr yr ochr yma fel olwyn a’i erlidwyr o’i ôl Tŷ’r Acre ac iddo ddod lawr i ochr y môr at geg yr afon Dwyryd, lle mae fferm Acre < Acrau – acer o dir, o Forfa Harlech sydd heb hesg yn tyfu heddiw o’r enw Llechollwyn. yno. Felly, tŷ wedi’i adeiladu ar acer o dir da. Llechollwyn Acre Galed (ar lafar ’Chollwyn) Acrau Galed – eto acer o dir, a hwnnw wedi caledu. Llech – darn o graig yn dangos allan o’r ddaear. Ar lan y môr mae’r fan Crafnant yma lle mae’r cerrig yn yr amlwg, felly dywedir mai dyma’r fan LleFferm yng Nghwm yr afon Artro ar y ffordd i Gwmbychan. collwyd-Wyn. Crafu – rhwbio yn erbyn nant - < dyffryn ond symudodd yr Maesyneuadd enw oddi ar y darn tir i’r dŵr ar waelod y nant. Felly, ochr yr Neuadd - Saesneg ‘Hall’, cartref uchelwyr. Maes – yn y Gelteg = ma afon Artro sy’n llawn o gerrig; ac wedi crafu yr ochr a gwneud ei > gwastadedd; gwastadedd yn perthyn i’r uchelwyr. Tir yn perthyn i’r gwely yno. plas, cartref William Wyn, bardd Cywydd y faen. Lenthryd Heuwal y Gwynt lenthryd < Y Felen Ryd, y Felen Rhyd. Darn traeth ar draws yr – Hoewal y Gwynt afon Ddwyryd y ceir ei hanes yn y Mabinogi. Rhyd – man lle (i) hoewal - “shed” mae afon yn fas ac y gellir ei chroesi ar droed. Felen – tybed mai (ii) Hoew – al disgrifio pa fath o ryd ydyw drwy ddweud am liw’r tywod, gan hoew – llifeiriant al- Groeg ali – crwydro o gwmpas, felly y gwynt yn mai yn ymyl y môr y mae? crwydro; drwy bopeth, heb yn wybod i ble. Fel yn Heuwal y Gwynt, Cefn Gwyn Harlech, lle’n agored i’r gwynt. cefn – ochr. Gwyn – (i) lliw; (ii) dywedir mai cartref un o Hwylfa Groes Wynniaid Maesyneuadd ydoedd? hwylfa – hawl gyfreithiol i’r diffaith cyffredin (common) o saith Y Fucheswen droedfedd o led hynny yw, ffordd weddol gul. Ceir yr enw yma yn ardal Ffestiniog hefyd. Dywedir fod Hwylfa Groes – gwahanol ffyrdd culion yn cyfarfod ei gilydd. gwartheg gwyn o epil y Belted Galloways – hen frîd Albanaidd, Yn Hwylfa Groes, Dyffryn Ardudwy, mae pedair ffordd yn cyfarfod. wedi bod yn Nhalsarnau. Gall hyn fod yn wir oherwydd fferm gymharol ddiweddar ydyw. Heddiw fe geir fferm Fucheswen
10
ARDAL ARDUDWY Fawr, a thŷ o’r enw Fucheswen Fach. Buches – buwch. Gafael Crwm (i) enw ar ddarn o dir, ac ynddo bedwar rhan. Pedwar tyddyn mewn rhandir, a phedwar rhandir mewn gafael, a phedair gafael mewn tref. Crwm – plygedig, cam. (ii) Gafael < Gefail. Crwm < Cwm. Gefail y Cwm. Glyn Cywarch glyn – lle gwastad. Cywarch - ‘flax’, y planhigyn y ceir edau ohono i wneud rhaffau. Felly, man gwastad lle ceir blodyn ac edau ohono. Rhyd yr Eirin Rhyd yr Eirin < Rhyd yr Erwau. Rhyd – lle i groesi. Erwau - ‘acres’. Felly, caeau hir yno. Tyddyn Rhyddig Rhuddig < Rhyddid < wed’i ystumio o Rhirid (enw dyn). Felly, tyddyn yn eiddo i Rhirid. Talwrn Bach Talar – talar o dir – un o ddau ben cae sy’n cael ei droi (aredig), pen tir. Talwrn Fawr a Thalwrn Bach. Dolorgan neu Dolorcan dôl – darn o dir gwastad. Dôl Morgan? - darn o dir yn perthyn i ddyn o’r enw Morgan. Garth Byr Garth – (i) cefnen o dir; (ii) tir wedi ei gau i mewn. Garth Byr yn Nhalsarnau – cefnen o dir heb fod yn serth iawn, dim ond ychydig o godiad hyd at foel CefnTrefor. Nant Pasgan nant – gwelir ‘Crafnant’. Pasgen – hen enw personau Celtaidd. Felly, man yn perthyn i unigolyn arbennig. Cefn Cymerau cefn – codiad tir o’r tu ôl i fan arbennig. Cymerau – cymer – uniad dwy afon. Felly, Cefn Cymerau lle mae’r Artro a’r Nantcol yn uno. Moelyglo moelyglo > moelyglog - ‘g’ wedi colli. Moel – bryn, lle uchel. Glog ‘brushwood’, prysgwydd? Moelygeifr bryn lle gwelir geifr yn weddol aml. Rhosigor (i) tybia rai yn y cylch mai Ormsbry-Gore – teulu Arglwydd Harlech oedd Rhosigor (tebygu i’w gilydd ar lafar). (ii) Rhosigor – rhos i gor – lle gwastad, gweddol wlyb, caeau gwael. Cor – gwartheg. Felly, man gweddol sâl i roi anifeiliaid ynddo oherwydd fferm ar dir gweddol wastad ydyw, yn enwedig y caeau isaf yno.
Llanfihangel-y-traethau llan – tir wedi ei gau i mewn, gydag enw sant ar ei ôl, tir yw wedi ei gysegru i’r sant hwnnw – Llanfihangel. Mihangel - ‘Michael’, sant y môr. Y Traethau – eglwys ar boncyn ger y môr. Felly, eglwys wedi’i chysegru i sant y môr. Tyddyn yr Eglwys tyddyn – fferm fechan. Felly, fferm fechan yn perthyn i’r Eglwys, neu’n hytrach i’r person, gan mai ef oedd yn ffermio yno. Llandecwyn lle cysegredig i’r Sant Tecwyn. Tallin < Talyllyn – fferm uwchben Llyn Tecwyn Uchaf. Pentre Llandecwyn Arferid ei alw’n Bentre Brynbwbach < Bryn y Bwa Bach – oherwydd mae’r bryn ar fath o dro. Maeshylfar Maeshylfar – maes ael y môr – man wrth ben y môr. Y Fonllech Y Fonllech – Y Fonllefhir – llwybr hir ar hyd ochr y mynydd o Eisingrug i Lanfair. Erbyn heddiw dyma’r enw a roir i’r mynydd. Llidiart Garw llidiart – agoriad. Llidiart garw – agoriad i’r mynydd (ar y Fonllech) y tir yn arw, a dyma’r tŷ (fferm) olaf cyn y mynydd agored. Ffridd Llwyn Gurfal - Ffridd Llwyn y Gwyrddail. Ffridd – porfa ddefaid, pordir mynyddig. Llwyn – swp o goed yn glwstwr, perth. Gwyrddail – perth o goed gwyrdd. Felly, lle mynyddig gyda llwyn o goed gwyrdd. Gwndwn darn o dir arbennig? Rhydgoch rhyd – lle gwlyb gyda ffordd i groesi. Coch – nant gyda’r dŵr yn goch yng ngwaelod un o’r caeau. Felly ffordd yn croesi’r nant o ddŵr coch. Cae’r Odyn enw ar gae lle’r oedd odyn galch i’r calch oddi ar y llongau yn aber yr afon Ddwyryd. Dalar Bant darn o dir hir main mewn pant. Cefnfas – cefnen o dir. Rofft – cae bach yn ymyl y tŷ i droi anifeiliaid iddo. Gwastad Annas gwastad Annas < gwascar annos. Llecyn gwastad lle tyfai coed ynn. Olwen Jones
Mantolen Ariannol Llais Ardudwy 2017-2018
Pigion Cyfarfod Blynyddol Llais Ardudwy 2017-2018
Gwerthiant 2349.97 Tanysgrifwyr 1768.80 Hysbysebion 1695.00 Rhoddion 860.00 Cymorthdal 1870.00 Cymorthdal lleol 0.00 Calendr 1492.90
Argraffu Cysodi a theipio Teithio Stampiau ac amlenni Tâl am ystafell Argraffu Calendrau Llyfrau anfoneb Archwilio cyfrifon
Cyfanswm Incwm 10,036.67 Cyfanswm costau
5676.47 3030.47 366.32 694.86 170.00 1020.76 73.00 25.00
• •
• • •
11056.88 •
Colled am y flwyddyn: £-1020.21 Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
•
Llais Ardudwy
• • • •
Llwyddwyd i gynhyrchu papur 20 tudalen bron bob tro y llynedd. Erys y baich yn drwm ar rai unigolion. Mae’r tudalennau lliw yn boblogaidd ond yn ddrutach. Gwahoddir pobl i helpu yn y gwaith drwy ddod yn isolygyddion. Gobeithiwn gael tîm o bobl i olygu’r papur fel sy’n digwydd gyda phapurau bro eraill. Bydd costau cysodi yn codi yn y flwyddyn sydd i ddod. Roedd angen disgen galed ar cyfrifiadur yn ddiweddar. Byddwn yn buddsoddi mewn peiriant newydd yn fuan. Gwnaed colled o dros fil o bunnoedd y llynedd. Byddwn yn gofyn am gymorth gan y Cynghorau Cymuned. Penderfynwyd codi pris y papur i 70c ym mis Ionawr. Erys Llais Ardudwy yn rhatach na phapurau eraill. Nodwyd bod 70c yn cyfateb i tua thraean cwpaned o goffi mewn caffi! Bydd yr holl sywddogion yn aros yn eu swyddi. Diolchwyd i’r holl weithwyr am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.
11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN
ANTI DRUDWEN YN FFARWELIO
Cydymdeimlad Estynnir cydymdeimlad ag Eluned a Geraint Williams a’r teulu yn Nhalsarnau, a hefyd at Emyr a Sally Williams yn Llanfairpwll yn dilyn eu profedigaeth o golli aelod agos o’r teulu yn Llanfair. Roedd Falmai Wilder yn chwaer i Emyr ac yn fodryb i Eluned a Geraint. Anfonir ein cofion atoch yn eich colled. Gwasanaeth Diolchgarwch Eglwys Llandecwyn Cadarnheir mai am 4.00 o’r gloch prynhawn Sul, 7 Hydref y cynhelir y Gwasanaeth yma yn Eglwys Llandecwyn a’r pregethwr gwâdd fydd y Parch Tecwyn Ifan. Croeso cynnes i bawb.
Diwrnod trist oedd hi yn y Cylch Meithrin ddiwedd y tymor wrth ffarwelio hefo Anti Drudwen. Bu Drudwen yn gyfrifol am y Cylch am 13 mlynedd a bydd hiraeth mawr ar ei hôl. Dymunir yn dda iddi yn ei swydd newydd yn yr ysgol.
MERCHED Y WAWR
Y Capel Newydd am 6.00 o’r gloch
HYDREF 7 - Dewi Tudur 14 - Sulwyn Jones, Abertawe 21 - Geraint Jones, Y Drenewydd 28 - Dewi Tudur
Y Capel Newydd
Oedfa Ddiolchgarwch
Nos Fercher, Hydref 10, am 7:00 Pregethwr Parch Ifan M Davies Goginan Croeso cynnes i bawb [gwneir casgliad]
Cydnabyddiaeth Diolch i drefnwyr Gŵyl Flodau Eglwys Llanfihangel-y-traethau ‘Body Shop’ am eu rhodd o £25 i’r Neuadd Cynhelir noson gan ‘Body mewn cydnabyddiaeth o Shop’ yn Neuadd Talsarnau nos gyfraniad Grŵp Trysorau Wener, 19 Hydref am 7.30 o’r gloch. Dowch i brofi ac i brynu’r Talsarnau i’r Ŵyl, trwy ddangos, ar wal fewnol yr Eglwys, nifer deunyddiau neilltuol yma. Croeso cynnes i bawb i ddod i’r o luniau o’r ardal o wahanol achlysuron, ac o bobl a phlant o’r achlysur. Yr elw at y Neuadd. dyddiau a fu. Roedd hyn wedi rhoi pleser i lawer. Mae’n fwriad Byrddau gwerthu yn Neuadd gan y Grŵp gynnal noson yn Gymuned Talsarnau Neuadd Talsarnau yn gynnar y Yn hytrach na mynd i sêl cist flwyddyn nesaf i ddangos rhagor car yn yr awyr agored, gan fod y o fideos a lluniau. Hysbysebir tywydd mor wlyb, penderfynwyd y dyddiad yn Llais Ardudwy yn cael byrddau gwerthu yn Ystafell nes at yr amser. y Gloch yn y Neuadd yn ystod Côr Meibion Ardudwy mis Awst eleni, a braf iawn yw cael adrodd bod y trefniant yma wedi bod yn llwyddiant AWST 2018 arbennig. Wedi gwneud apêl 1. Bili Jones £30 yn y gymuned, daeth nifer fawr 2. Ffion Meleri Thomas £15 o eitemau i law i’w gwerthu a 3. Pat Thomas £7.50 gwerthfawrogwyd pob dim a gyfrannwyd. Mae Pwyllgor y 4. Idris Williams £7.50 Neuadd yn ddiolchgar iawn i 5. Edwin Jones £7.50 bawb a gyfrannodd, ac a fu’n 6. Huw Dafydd £7.50 helpu efo’r byrddau gwerthu dros y cyfnod. Cafwyd dipyn o hwyl MEDI 2018 yn ystod yr amser a nifer o bobl 1. Geraint Williams £30 yn dod ‘ar sgowt’ i weld beth £15 oedd ar gael! Llwyddwyd i godi 2. I Bryn Lewis 3. Gwilym Rhys Jones £7.50 dros £600 i goffrau’r Neuadd. 4. Lowri Llwyd £7.50 Diolch yn fawr iawn am bob 5. Bili Jones £7.50 cymorth a chyfraniad.
Clwb 200
Merched y Wawr I ddechrau rhaglen y Flwyddyn 2018-19 aeth aelodau cangen Talsarnau ar ymweliad â Chanolfan Arddio Frongoch, Caernarfon, dydd Mawrth, 11 Medi. Cychwyn am 10.00 o’r gloch y bore, cyrraedd Frongoch a chael paned gyda’n gilydd cyn mynd ati i wneud ychydig o siopa mewn lle cysurus a diddorol dros ben, yn arbennig felly i’r rhai o’r aelodau oedd yn hoff iawn o arddio! Yna ail-ymgynnull i fwynhau cinio blasus gyda’n gilydd. Cychwyn am adref ganol pnawn wedi mwynhau diwrnod da i ailgydio yn ein gweithgareddau. Rhaghysbysiad Ffair Nadolig Cynhelir Ffair Nadolig yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Iau, 29 Tachwedd am 6.30 o’r gloch. Rhagor o fanylion ym mis Tachwedd. Diolch Diolch i Gwyndaf Williams am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad i Llais Ardudwy.
12
Rhaghysbysiad: Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cyfeillion Ellis Wynne am 5.30 nos Fawrth 27 Tachwedd, yn yr Hen Lyfrgell, Harlech
6. D Llysfoel Davies £7.50
Cyngherddau Mis Hydref 9 - Cae Pêl-droed Bermo, 6.00 13 - Hafan Artro, Llanbedr, 3.00 20 - Dolfor, Y Drenewydd, 7.30 24 - Llanfachreth, 7.30
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Ethol Cynghorydd Gan na wnaed ymholiadau am y sedd wag, mae gan y Cyngor yr hawl rŵan i gyfethol. Mae rhybudd ynglŷn â hyn wedi ei osod yn y pentref. Trafodir y mater ymhellach yn y cyfarfod nesaf. Ffordd Barcdy a Ffordd Stesion Datganwyd pryder gan yr Aelodau am gyflwr ffordd Barcdy; hefyd roedd John Richards wedi anfon lluniau a chysylltu gyda’r Adran Briffyrdd yn Nolgellau. Adroddodd Freya Bentham bod yr Adran Briffyrdd yn disgwyl am adroddiad ar gyflwr y ffordd. Mae angen gwell arwyddion yn rhybuddio am y gwaith ffordd Datganwyd pryder ynghylch pa mor agos at y groesffordd o’r ffordd fawr i lawr am ffordd y Stesion yr oedd rhai ceir yn parcio. Mae angen llinellau melyn dwbl ar y rhan yma o’r ffordd. Canllawiau ar gyfer ceisiadau ariannol - cytunwyd ar y canlynol: 1. Unigolyn lleol sy’n casglu drwy gynnal gweithgaredd at elusen sydd wedi ei chofrestru – hyd at £500 2. Unigolyn lleol sy’n codi arian at ddibenion personol - fel taith addysgol neu chwaraeon – hyd at £300 3. Mudiadau neu sefydliadau sydd â changen lleol ar gyfer cynnal digwyddiad yn lleol (ee Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc, Sefydliad y Merched, Merched y Wawr, Ysgol Feithrin) – hyd at £1000. 4. Sefydliadau lleol sy’n cynnal gweithgareddau sydd o fudd economaidd, diwylliannol, hamdden neu o les iechyd corfforol neu feddyliol (ee corau, bandiau, cwmnïau drama, canolfannau hamdden) – hyd at £2,000. 5. Rhaid cael mantolen ariannol hefo bob cais gan fudiadau a chymdeithasau lleol. Gellir newid y canllawiau wrth drafod bob cais. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Derbyniwyd ateb gan yr uchod yn diolch i’r Cyngor am eu geiriau caredig a anfonwyd atynt yn dilyn y tanau yn yr ardal yn ystod y tywydd poeth.
CYNGOR CYMUNED HARLECH Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Gordon Howie a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei chwaer yng nghyfraith, sef Mrs Lesley Howie. Gwefan y Cyngor Mae’r wefan yn barod. Cytunwyd i dalu’r £1,500 i gwmni Indie Wales am ddylunio a gweinyddu’r wefan. Y Fynwent Datganwyd pryder ynglŷn â ceir yn cael eu parcio ger y safle uchod yn rheolaidd drwy’r dydd ac yn rhwystro mynediad i lawr y ffordd am Llys Bach, hefyd yn parcio o flaen gatiau y ddwy fynwent. Cytunwyd i osod rhwystr i rwystro hyn rhag digwydd, hefyd cytunwyd i gyfarfod yn y fynwent noson cyfarfod nesa’r Cyngor am 6.30 o’r gloch er mwyn archwilio’r cerrig beddau. Grŵp Adfywio Harlech Bu’r bws Hoppa yn llwyddiannus iawn ond ni dderbyniwyd y ffigyrau terfynol eto. Awgrym bod y bws yn cychwyn rhedeg yn gynt y flwyddyn nesaf ac yn gorffen yn hwyrach. Nodwyd hefyd bod mwy o arwyddion diogelwch wedi eu gosod o amgylch y Coleg a safle’r cyn-westy Dewi Sant. Hefyd nodwyd bod cynllun wi-fi cymunedol ar gael i ran benodol o’r dref am gost o tua £1,000 a chytunwyd i gyfrannu hanner y gost yma, a bod y Pwyllgor Twristiaeth yn cyfrannu hanner arall y gost. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Nododd Freya Bentham ei bod wedi derbyn copi o e-bost yr oedd un defnyddiwr o’r pwll wedi ei anfon at Fwrdd yr uchod yn datgan siom ei fod wedi cael gwybod bod y nofio cynnar ar fore Llun a’r nofio cyhoeddus ar ddydd Mawrth rhwng 12.30 a 2.00 o’r gloch. Cytunwyd bod rhaid cael gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd gyda’r ganolfan uchod cyn rhoi gweddill y cyfraniad iddynt a bod eisiau cael mantolen ariannol ganddynt pan fydd y cyfrifon yn cael eu gwneud ym mis Tachwedd. Cytunodd Freya Bentham i gael yr wybodaeth yma i’r Cyngor. Ceisiadau Cynllunio Trosi ac ailwampio’r stabl ynghlwm â’r tŷ i ffurfio cegin ac ystafell gawod, aildoi’r stabl gan ychwanegu ffenestri to, adfer waliau’r modurdy ac ychwanegu to llechi a chlwyd ystlumod - Pen Cerrig Pella, Ffordd Uchaf. Cefnogi’r cais hwn. Caniatâd Adeilad Rhestredig am newidiadau i drosi ac ailwampio’r stabl ynghlwm â’r gegin ac ystafell gawod, ffurfio agoriadau drws mewnol rhwng y stabl a’r tŷ, aildoi’r stabl gan ychwanegu ffenestri to, adfer ffenestri ar y cefn, adnewyddu’r lloriau isaf, ychwanegu tancio ar y waliau cefn, gosod system wres canolog, aildrefnu’r ystafell ymolchi a’r golchdy a newidiadau i strwythurau cwrtil - Pen Cerrig Pella, Ffordd Uchaf. Cefnogi’r cais hwn.
Cadlywydd David Evans (1817-1895) – Pennod tri Ar ôl saith mlynedd o gystadlu â’r byd ar y lan, a fu’n gyfnod o lwyddiant i David Evans pan brynodd 64 o aceri o dir, yn cynnwys gwinllannoedd, a hefyd adeiladu tŷ yn Berlin yn 1859, ond hefyd cyfnod o aflwyddiant yn ogystal, oherwydd i’r banciau fethu gan adael nifer o fasnachwyr yn fethdalwyr, enynnwyd ynddo drachefn ail awydd am fynd yn ôl i’r môr. Mehefin 4, 1860, prynodd y barc Chesapeake yn Boston, Massachusetts, a gwnaeth amryw o fordeithiau i India’r Gorllewin, De America a Phrydain. Erbyn hyn yr oedd y Rhyfel Cartref (1861-65) wedi torri allan yn yr America, a phan oedd yn Llundain gyda’i long clywodd am orchfygiad milwyr yr Undeb ym Mrwydr Bull Run, Virginia, yn haf 1862, cymhellwyd fflam o wladgarwch ynddo. Prysurodd gyda’i long i Boston. Gwerthodd hi, a dychwelodd i Berlin, Wisconsin DC i gynnig ei wasanaeth i’r llywodraeth yn adran y llynges – gwasanaeth yn ymwneud ac adran cyllid y wlad, ac a fu o werth amrhisiadwy i’r llywodraeth a’r llynges. Cafodd swydd fel 3ydd Lifftenant a’i ddyrchafu ar ôl hynny yn 2il a 1af Lifftenant. Un o’r gorsafoedd y bu ynddynt oedd Port Townsend, yng Nghulfor Puget, talaith Washington, yn y gogledd gorllewin, ac ar ôl hynny yn Baltimore, yn llywydd ar long fach y cyllid, sef y Kewanee (adeiladwyd yn ystod y Rhyfel Cartref, dinistriwyd gan ffrwydriad yn Siapan, yn 1869). Yn ystod ei amser yn Baltimore, ofnwyd y byddai y ddinas yn cael ei anrheithio gan y Lifftenant Cadfridog Gilmore (1811-67), llywodraethwr rhyfel. Anogwyd i David Evans osod ei long mewn cyflwr a safle i amddiffyn y ddinas, pe byddai angen. Anfonwyd tair miliwn ar ddeg o ddoleri i’w cadw mewn lle diogel ar y llong, sef arian yr holl fanciau a’r trigolion, ac aeth Capten Evans allan i’r môr gyda’i long hyd nes y bu i’r Gogleddwyr ailgymryd dinas Baltimore. Yn ddiweddarach, apwyntiwyd ef ar ddyletswydd neilltuol yn Ninas Efrog Newydd. Ac ar ôl hynny bu’n gapten y Varina yn y ddinas honno, ac yna y Tiger ar yr afon Potomac, ar yr adeg y torrwyd y newydd am lofruddiaeth yr Arlywydd Lincoln (Ebrill 15, 1865). Ar 25 Mai, 1865, gorchmynwyd Capten Evans unwaith eto i Ddinas Efrog Newydd, ac yn fuan wedyn dyrchafwyd ef yn swyddog gweithredol y Cuyahoga. Tua’r un pryd yr oedd agerlong o’r enw Salmon P Chase, llong a arferai deithio ar y Llynnoedd Mawr mewn gwasanaeth, ond rhoddwyd ar ddyletswydd gan Capten Evans, o Fôr yr Iwerydd i Lyn Ontario, ar hyd yr afon St Lawrence. Cafodd deligram ar ôl hynny iddo fynd unwaith eto i Baltimore, i ddanfon yr agerlong John A Dix i lawr i Key West, Florida, yn y de: a’r gwanwyn canlynol i gyrchu y New Dix i ddinas Detroit. Erbyn 30 Mai, 1867, cyrhaeddodd safle capteniaeth ar fwrdd y Morris ym Mae Mobile, Alabama. Bu ei feibion David a Richard Ll Evans yn gwasanaethu oddi tano tra yn y lle hwnnw, er iddynt gael eu heffeithio yn drwm gan y tywydd. I’w barhau
CWIS TELEDU
Annwyl Olygydd, Ydy darllenwyr Llais Ardudwy yn bobl cwis ac yn awyddus i ennill dipyn o bres? Mae Cwmni Da yn cynhyrchu cwis newydd fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C yn y flwyddyn newydd. 16 CYSTADLEUYDD! 2 GWT! 1 ENILLYDD A LOT FAWR O LWC! Mae cydweithio a gwrthweithio yn sgiliau hanfodol yn y cwis yma. Bydd rhaid i’r cystadleuwyr fod yn ddigon hyderus i gamu ymlaen os oes pwnc maent yn arbenigo ynddo ond hefyd yn ddigon synhwyrol i gamu nôl os ydy aelod arall o’r tîm yn gwybod mwy am y pwnc dan sylw. Byddwn yn ffilmio yng Nghaernarfon naill ai ym mis Rhagfyr 2018 neu Ionawr 2019. Os oes gan rywun ddiddordeb, mae croeso iddyn nhw gysylltu â ni drwy e-bost: rhannu@cwmnida.tv neu thrwy ffonio 01286 685300. Cadi Mai cwmnida.tv 01286 685 300 e:226 Cwmni Da, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SR
13
Y BERMO A LLANABER
Llongyfarchiadau Yn ddiweddar, enillodd Alun, Trem Enlli ras ‘Trailfest’. Mae’r ras flynyddol hon yn dechrau yn Nhanygrisiau ac yn dilyn cwrs mynyddig 12 milltir o hyd i lawr i harbwr Porthmadog. Yn y llun, fe welir Alun yn derbyn ei wobr gan Lawrence Washington, perchennog bragdy Mŵs Piws, un o noddwyr y ras. Merched y Wawr Cawsom groeso cynnes gan Llewela, ein Llywydd i gyfarfod cyntaf y tymor. Anfonwyd ein cydymdeimlad at deulu y diweddar Anwen Tudor MacFarlane. Bu Anwen yn aelod ffyddlon o’r gangen. Aethpwyd ymlaen i drafod ychydig o faterion y mudiad. Cafwyd adroddiad o Bwyllgor Rhanbarth Iaith a Gofal gan Pam. Diolch i Gwenda am gytuno i ddarllen Llais Ardudwy mis Hydref ar gyfer y deillion. Cynhelir gwasanaeth Llith a Charol ar 3 Rhagfyr yn Y Bala. Croesawodd Grace Rhiain Bebb, ein gwraig wadd o Fachynlleth, i’r cyfarfod. Tiwtor Cymraeg ydi Rhiain; mae wedi sefydlu siop siarad yn adeilad Owain Glyndŵr. Testun ei sgwrs oedd ‘Gymerwch chi baned’? Tybed a ydych chi yn hoffi paned mewn cwpan/mwg neu gwpan tsieni? Darllenwyd am hen arferion o wneud te, llyfrau o 1850 a hefyd un o lyfrau Llafar Gwlad ‘Gym’rwch Chi Baned?’. Yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg roedd ‘Tea Party’ yn beth poblogaidd iawn. Roedd Rhiain hefyd wedi dod â chasgliad o lestri perthnasol. Cafwyd noson gartrefol, agos atoch yn ei chwmni. Diolchwyd i Rhiain gan Llewela. Yna mwynhawyd paned o de! Diolch Diolch i Aled Lewis Evans am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad i Llais Ardudwy.
ENGLYN DA Y BARDD YN 60 OED
Myned sy’ raid i minnau - drwy wendid I’r undaith â’m tadau, Mae ‘mlinion hwyrion oriau, A’m nos hir yn ymnesâu. Robert ap Gwilym Ddu, 1766-1850 14
Cymdeithas y Deillion Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn recordio a chynhyrchu ystod eang o Lyfrau Llafar sydd ar gael yn eich llyfrgelloedd lleol. Y llyfrau diweddaraf ar gyfer plant a phobol ifanc a recordiwyd yw’r canlynol: 1. MISS PRYDDERCH A’R CARPED HUD (Mererid Hopwood) 2. SAITH SELOG – ANTUR AR Y FFORDD ADREF: addasiad Manon Steffan Ros a DAL ATI GWEN (Siân Lewis) 3. MAES Y MES – Dwy stori gan Nia Gruffydd : RHOSWEN A’R EIRA a MWYAREN A’R LLEIDR 4. NA, NEL! Wps! ac UN TRO (Meleri Wyn James). Gellir eu benthyca yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â’ch llyfrgell leol.
Diwrnod Shwmae Su’mae - Hydref 15 Eleni bydd Diwrnod Shwmae Su’mae yn digwydd am y chweched tro ar Hydref 15fed. Cofiwch achub ar y cyfle i ddathlu’r iaith Gymraeg, yn eich ysgol, coleg, gweithle, ysbyty, caffi, bar, tafarn, canolfan cymunedol, neu siop leol. Erbyn hyn mae cannoedd o ddigwyddiadau ac achlysuron yn cael eu cynnal o Fôn i Fynwy ar Hydref 15 neu yn ystod yr wythnos honno. Mae nifer o sefydliadau ac ysgolion yn cynnal digwyddiadau o gwmpas y diwrnod er mwyn hyrwyddo’r iaith, annog eraill i’w defnyddio ac fel ffordd o bontio rhwng cymunedau Cymraeg a di-gymraeg. Cewch fanylion a syniadau ar www.shwmae.org Gallwch ein dilyn ar Twitter @shwmaesumae ac ar Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae
GŴYL Y DIOLCHGARWCH Daeth Gŵyl y Diolchgarwch unwaith eto. Byddai yn arferiad mewn sawl capel ac eglwys i addurno’r cysegr â ffrwythau a llysiau heb sôn am duniau a phacedi bwyd. Weithiau pobid torth arbennig gyda phatrymau arni o dywysen neu felin i gyfleu ysbryd yr Ŵyl. Un peth od am yr Ŵyl yn y 1950au a’r 1960au oedd fod bron bawb yn dod i un o leiaf o’r cyfarfodydd diolch. Efallai na welech chi rai pobl yn y capel am flwyddyn gron tan fis Hydref. Fe fyddent yn fodlon ddigon swatio adre dros y Pasg a’r Dolig ond pan ddeuai’r Cyfarfodydd Diolch heidient am y moddion. Byddai ffermwyr Llŷn yn enwog am hyn, fel y sylwodd John Rowlands, bardd y lori laeth [1911-1969] yn ei englyn iddynt: Gyrrant i’r Diolchgarwch – yn un llu Yn llawn edifeirwch; Mwy, mewn capel ni welwch Yr un o’r rhain mwy na’r hwch. Ond chwarae teg, teimlo’r angen i ddiolch oedd arnyn nhw. Wn i ddim beth am yr hwch chwaith. Mae ambell i emyn cynhaeaf wedi cadw ei boblogrwydd ar hyd y blynyddoedd. Un o`r rhai hynny ydi emyn enwog Elfed sydd yn cychwyn gyda’r geiriau, ‘Pob peth ymhell ac agos’. Mae gan Elfed 44 o emynau yn y Caneuon Ffydd: dim ond William Williams Pantycelyn sydd hefo mwy na hynny.
Un o Flaen-y-coed yn Sir Gaerfyrddin oedd Howell Elvet Lewis, a rhoi iddo ei enw llawn, a chafodd oes hir o 1860 i 1953. Bu yn weinidog gyda’r Annibynwyr – eglwysi Saesneg eu hiaith - yng Nghymru a Lloegr nes symud i Gapel Cymraeg Kings Cross yn Llundain yn 1904. Bu yno nes ymddeol i Gymru yn 1940. Fe gofia rai o ddarllenwyr Llais Ardudwy i’w ferch Vona Morgan fod yn byw yn Nhalsarnau am gyfnod. Mae Elfed wedi llwyddo i lunio’r emyn diolchgarwch perffaith. Mae’n sôn am fendithion natur, darpariaeth Duw ar ein cyfer yn faterol ac yn ysbrydol gan gloi pob pennill gyda’r byrdwn llawen a diolchgar: ‘Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw gan hynny dewch a llawenhewch cans da yw Duw.’ Rhyw fath o efelychiad ydi’r emyn o emyn Almaeneg o eiddo Matthias Claudius [17401815], ‘Wir pflugen und wir streuen’. Troswyd yr emyn yma i’r Saesneg gan Jane M Campbell [1817-1878], ‘We plough the fields and scatter’, ac mae’r emyn Saesneg yn hynod o boblogaidd trwy’r byd. Nid cyfieithiad ydy emyn Elfed ond rhyw efelychiad eitha rhydd a ysbrydolwyd gan yr emyn gwreiddiol. Roedd Elfed yn rhugl mewn Almaeneg yn ogystal â’r Saesneg. Does ond un dôn bosib wrth gwrs! ‘Cynhaeaf ’ ydi honno o waith Almaenwr o’r enw Johann Abraham Peter Schulz [1747-1800]. Ffraeodd Schulz hefo’i dad a fynnai iddo fynd yn offeiriad ac yntau wedi rhoi ei fryd ar yrfa gerddorol. Cafodd yrfa lwyddiannus yn Berlin cyn symud i Ddenmarc i weithio i’r teulu brenhinol yno. Yn anffodus, amharwyd ar ei iechyd yno wrth iddo geisio achub llyfrgell gerdd y brenin rhag y tân a ddinistriodd y palas yn 1795. A dyna deithio o Lŷn trwy Lundain a’r Almaen i Ddenmarc! JBW
Atgofion bore oes yn Harlech – rhan 2 gan Ann Doreen Thomas Doedd yna ddim llawer o geir yn Harlech yn 1936-37, a phan oedd te parti pen-blwydd Ann Bowen Thomas yn cael ei gynnal tua Ionawr 3 yn Neuadd fawr y Coleg, y reid adre yn y twllwch oedd y dileit mwya. Bydda Ben Bowen Thomas, Warden y Coleg, yn cynnal te parti i blant ysgol cynradd Harlech bob blwyddyn i ddathlu pen-blwydd Ann. Roedd mam Ann wedi marw yn ifanc, a rwyf yn cofio cael ffrog wlân las, ‘am ei fod yn aeaf ’ medda mam, a finna eisiau ffrog sidan fel oedd rhai eraill yn eu cael. Ond y reid adref fyddwn i yn edrych ymlaen ato bob tro. Car y coleg oedd o a Mr Jones, oedd yn byw wrth ein hymyl ni, oedd y dreifar. Dwn i ddim faint ohonon ni oedd i fewn ond roeddem fel sardîns, dim ‘health a safety’ ohoni ac eistedd ar y llawr hyd yn oed. Fydda ’na syrcas yn dod i gaeau Y Glyn hefyd, yr un rhai bob tro. Roeddwn wrth fy modd yn eu gwylio ac yn niwsans i’r perchennog dwi’n siŵr, ond oeddem ni y plant wrth ein boddau ac yn teimlo bod y syrcas yn cymryd drosodd ein lle chwarae ni, felly roedd yn iawn i ni gael mynd o gwmpas y syrcas. Wedi meddwl erbyn heddiw, roedd yn beryg i ni grwydro o gwmpas yr anifeiliaid gwyllt oedd yn y syrcas go iawn – llewod ac eliffantod ac ati. Bob blwyddyn roedd yna sipsiwn yn dod oherwydd nid ffordd lydan oedd Ffordd Morfa adeg hynny ond ffordd i un cerbyd a llinell llydan a gwair y naill ochr. Wel, roedd o’n ddigon llydan i garafan a honno yn garafan sipsi go iawn, a fydda ’na geffyl ar gortyn hir yn gallu bwyta’r gwair. Fydda ’na filgi a chi hefyd; un neu ddau ganddynt bob amser. Fydda nhw’n mynd â’r cŵn i Ffridd Rasus i ddal cwningod ac yn eu gwerthu o gwmpas Harlech. Doedden nhw ddim yn meindio i ni’r plant eistedd ar y wal i’w gwylio nhw wrthi yn gwneud rhywbeth hefo pren. Dalltais wedyn mai gwneud pegia roedden nhw. Gan nad oedd dim dŵr i’w gael, byddent yn dod rownd y tai i ofyn os caen nhw lenwi eu bwcedi a sawl gwaith bydden nhw wrth ein tŷ ni. Roeddynt bob amser yn gwrtais ac yn diolch i Mam am y dŵr. Roeddynt yn sipsiwn go iawn. Dydw i ddim yn cofio hi’n bwrw roedd yn haf o hyd amser gwyliau, a fydda ni yn treulio oriau ar y lan y môr. Edrych yn ôl rŵan, methu coelio fel oeddem ni’r plant yn
mynd i lawr i’r traeth yn y bore. Doeddwn i ddim ond yn saith ac yn gofalu am frawd tair oed. Mynd lawr i’r traeth hefo potel Corona lemonêd oren neu lemon. Oedd posib cael sgwaria caled o oren neu lemwn pwdwr a’u rhoi yn y botel ddŵr a dyna ni. Fydda gwefusau rhywun yn oren neu lemon o’r staen, a brechdanau banana oedd y gorau. Yr un un bobl ddiarth fyddai yn dod i Harlech bob haf a fydda ganddyn nhw eu lleoliad arferol bob tro ar y traeth. Nid oedd ganddon ni watch ond roeddem yn gwybod yr amser yn iawn, achos pan oedd yn amser mynd adref fydden ni yn gweld yr ymwelwyr yn dechrau clirio. Chwarae teg iddynt, byddant yn dod â gweddillion eu bwyd i ni ei rannu ac roeddem yn cael picnic arall cyn i ni droi am adref. Wrth edrych yn ôl, rwyf yn meddwl yn siŵr bod yr ymwelwyr yma’n sylwi arnom ac wedi paratoi bwyd inni. Roedd y ffordd i lawr i’r traeth heibio Min-y-don a sawl byngalo pren nad oedd ond yn cael eu defnyddio yn yr haf. Rwyf yn cofio un byngalo pren oedd yn ddu a fydda na ddwy ddynes yn dod i aros o’r Pasg ymlaen. Un Pasg dyma si bod yna barti i ni blant y gwaelod a’n bod ni i fynd yna. Wedi cyrraedd, dyma nhw yn dweud bod yna gêm yn yr ardd oedd â choed bach a gors ac inni chwilio am wyau. A dyma ni yn gwahanu a sylwi bod Pegi Miny-don a’i breichiau yn llawn o wyau Pasg bach. Dyma’r merched yma’n ein cael ni at ein gilydd ac yn gofyn i Pegi druan sut oedd hi yn gwybod lle’r oedd yr wyau a hithau yn dweud yn fwyaf diniwad ei bod wedi bod yn ffenest llofft Min-y-don yn eu gwylio nhw yn cuddio nhw! Mae Pegi druan yn ei bedd ond mi ddaru fi atgoffi hi am hyn mewn angladd y bûm ynddo yn Harlech a mi gawsom hwyl wrth gofio amdano. Roedd yna dŷ arall ar y ffordd yna hefyd a fydda ’na hen ddyn yn eistedd tu allan yn yr haul bob tro y byddem yn pasio. Mi ddechreuodd gêm efo ni. Y munud ddaru o weld ni yn dod i’r golwg fydda fo yn codi ac yn gweiddi i ni aros a fydda fo yn dod i’r ffordd ac yn rowlio orennau inni er mwyn i ni eu dal. Ond be oedd o ddim yn ddallt oedd bod chippings yn mynd i mewn i’r croen. Roedd caredigrwydd i’w gael adeg hynny a phawb yn ei gymryd yn ganiataol. (I’w barhau)
15
ARDDANGOSFA GELF LLŶR ERDDYN DAVIES GALERI, CAERNARFON UNED O FESUR
Os cewch chi gyfle, ewch i Galeri, Caernarfon i weld arddangosfa o ffigurau wedi eu castio mewn efydd a pheintiadau o leoliadau yn Llŷn ac Eryri sydd mewn perygl o golli eu henwau Cymraeg. Mae’n arddangosfa sy’n werth ei gweld. Cymeriadau bach sy’n adlewyrchu sefyllfaoedd pob dydd yw canolbwynt yr arddangosfa gelf ‘Uned o Fesur’ gan Llŷr Erddyn Davies sydd â chysylltiad teuluol â Dyffryn Ardudwy. Mae pob ffigwr yn cychwyn ei fywyd wrth fodelu gyda chwyr ac unwaith y caiff ei drawsnewid i efydd mae’r ffigyrau yn dwysáu. Yng ngeiriau Llŷr, ‘Mae efydd ynddo’i hun yn ddeunydd coffaol, ac mae’r broses yn galluogi’r gwneuthurwr i wneud unrhyw beth yn fythol. Ni allwn ni fyth fod yn berchen ar efydd, dim ond ei fenthyg am gyfnod. Saif y ffigyrau hyn fel astudiaeth anthropolegol o fywyd bob dydd.’ Gwelwn ffigyrau Llŷr yn nhirluniau a thirnodau ei baentiadau. Mae’r tirluniau a ddewiswyd i’r gwaith hwn yn seiliedig ar golli enwau Cymraeg yn ogystal â hanes y lleoliadau. Yn aml fe gam-gyfieithiwyd enwau llefydd o’r Gymraeg i’r Saesneg neu fe fabwysiadwyd llysenwau Saesneg. Mae’r arddangosfa yn agored bob dydd ac mae’n parhau tan Hydref 28.
DYDDIADUR Hydref 3 Y Gymdeithas Gymraeg, Y Ganolfan Gymunedol, Theatr y Ddraig, Bermo, am 7.30 Tâl aelodaeth: £10. Dafydd Iwan, Sgwrs a Chân. Hydref 3 Merched y Wawr Nantcol, Neuadd Llanbedr, am 7.30 Hydref 11 Festri Lawen, Dyffryn Ardudwy, 7.30. Tâl aelodaeth: £10. Hogia ’Sbyty. Hydref 15 Diwrnod Shwmae/ Su’mae. Am syniadau www.shwmae.org Tachwedd 6 Merched y Wawr Llanfair a Harlech, Neuadd Goffa Llanfair, am 7.30 Tachwedd 10 Gŵyl Cerdd Dant Cymru, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Rhagfyr 8 Cinio Clwb Rygbi Harlech, Nineteen.57, 7.30. Enwau i Fodurdy’r Efail. Rhagfyr 16 ‘Gŵyl y Baban’ gyda Meibion Prysor, Capel Jerusalem, Harlech am 7.00 Rhagfyr 18 Carolau ’81, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, am 7.00
Anfonwch unrhyw fanylion ar gyfer y dyddiadur yn syth at Mai Roberts os gwelwch yn dda. Rhif ffôn: 01341 242744 e-bost: mairoberts4@btinternet.com
16
EISTEDDFOD ARDUDWY
Hydref 20 am 1.30 yn Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth Cyswllt: Mai E Roberts [01341 242744] Cofiwch gefnogi!