Llais Ardudwu Hydrewf 2019

Page 1

Llais Ardudwy

70c

RHIF 491 - HYDREF 2019

ENNILL YR EILDRO

Llongyfarchiadau i Alun Williams, Trem Enlli, Llanaber ar ennill ‘Trailffest’ am yr eildro yn olynol ar Medi 21. Mae’r ras 12 milltir yn mynd o orsaf drên Tanygrisiau i’r orsaf ym Mhorthmadog. Roedd yn ddiwrnod anarferol o boeth eleni gydag ambell un o’r rhedwyr yn gorfod rhoi’r gorau iddi. Cwblhaodd Alun y ras mewn 1 awr 35 munud.

HER Y DYN HAEARN Yn blygeiniol fore Sul, Medi 15, roedd tre’ glan môr Dinbych-ypysgod yn llawn bwrlwm, gyda heulwen ha’ bach Mihangel yn gwenu ar y ddwy fil a mwy o athletwyr oedd am daclo Ironman Cymru. Tyfodd y cyffro a’r emosiwn yn sŵn yr Anthem Genedlaethol a buan cynhyrfwyd wyneb tawel y dŵr gan gystadleuwyr mewn siwtiau gwlyb a chapiau nofio melyn. Ymhlith y 2039 roedd y cyn-chwaraewyr rygbi Shane Williams a Gareth Thomas. Yno hefyd roedd rhif 1983, sef Gethin Owen, Tal-y-bont gynt, yn barod am y frwydr ar ôl misoedd o baratoi. Ydy, mae cwblhau’r ‘dyn haearn’ yn frwydr gorfforol a meddyliol. Llwyddodd Gethin i nofio’r 2.4 milltir ynghynt na’r disgwyl, mewn awr a 12 munud. Gadael y traeth wedyn a rhedeg un cilomedr i’r ardal gyfnewid, lle roedd ei feic yn aros, ac ar ôl addasu rhywfaint ar y wisg, i ffwrdd ar hyd ffyrdd de Sir Benfro am 112 o filltiroedd. Anhygoel oedd y gefnogaeth yn Ninbych-y-pysgod ac yn y pentrefi ar hyd y cwrs beicio, pob llais yn sbardun i’r cystadleuwyr. Cwblhaodd Gethin yr ail gymal mewn 6 awr a 37 munud a bellach dim ond mater bach o farathon llawn

oedd yn ei aros! Cwrs o gylch strydoedd y dref ac allan hyd bentref Perthi Newydd (‘New Hedges’ ar y map!), i’w gwblhau bedair gwaith, er mwyn gwneud y pellter o 26.2 milltir. Nawr, roedd y frwydr ar ei hanterth ond gydag anogaeth y rhedwyr i’w gilydd, llwyddodd Gethin i orffen mewn amser parchus o 4 awr a 49 munud. Roedd her yr Ironman drosodd a chyfanswm ei amser ond saith munud a hanner dros ei darged o dair awr ar ddeg, amser a’i osododd yn y traean uchaf. Hir a chaled fu’r diwrnod, ond bellach gall ystyried ei hun yn ‘ddyn haearn’ a gwisgo’i fedal liwgar gyda balchder.

CODI £1290

ENNILL CWPAN

Llongyfarchiadau i Llion Kerry, 11 Ffordd y Wylan Fach, Harlech ar ennill cystadleuaeth golff i dirmyn clybiau golff gwledydd Prydain yn Formby yn ddiweddar. Mae’n aelod o Glwb Golff Dewi Sant, Harlech ac yn chwarae gyda handicap o un. Mae’n aelod rhan-amser o’r Gwasanaeth Tân ac yn chwarae rygbi i Glwb Bro Ffestiniog. Enillodd y gystadleuaeth gyda sgôr oedd chwech yn is na’r safon. Mae’n gyw o frîd gan fod ei dad, John a’i ewythr, Roger yn dirmyn yn Harlech am rai blynyddoedd cyn iddyn nhw ymddeol.

Llongyfarchiadau i’r criw o bobl ifanc o Dyffryn a Thal-y-bont am redeg hanner marathon Llyn Efyrnwy dydd Sul, Medi 8. Roeddent yn codi arian i wahanol elusennau. Roedd y rhedwyr yn casglu at dair elusen, sef MacMillan, Alzheimers a thîm Achub Mynydd Aberglaslyn. Hyd yn hyn maent wedi casglu £1,290 gyda’r arian yn parhau i chwyddo’r coffrau. Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi mewn unrhyw fodd. Da iawn, Julia Hughes, Owain Hedd Roberts, Hana J Wellings, Aled Roberts, Sion Aled Wellings, Aron Rhys Wellings, Aiden Hughes, Kieron Hollingworth.


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Tachwedd 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Tachwedd 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Hydref 28 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Argreffir Llais Ardudwy ar y dydd Llun cyntaf ym mhob mis

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: [Mari] Einir Jones ond ‘Nin’ i fy nheulu. Gwaith: Wedi ymddeol ers pedair mlynedd. Bûm yn gweithio fel cogyddes yn Ysgol Ardudwy am 15 mlynedd, wedyn es i ymlaen i weithio yn Ysbyty Dolgellau am 14 mlynedd. Cefndir: Cefais fy ngeni a’m magu yn y Dyffryn yn un o bedwar o blant i Ieuan [Dŵr] a Ceinwen Pugh-Jones. Cefais fy addysg yn ysgol y pentref ac wedyn yn Ysgol Ardudwy. Es ymlaen i Goleg Technegol Wrecsam lle gwnes i gyfarfod fy ngŵr, Edward. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dim ond cadw i fynd - gwneud gwaith tŷ, stwna yn yr ardd a gwarchod yr wyrion. Beth ydych chi’n ei ddarllen?: Hunangofiannau a nofelau ysgafn.

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Heno, Rownd a Rownd, Garddio a Mwy, Fets, Strictly Come Dancing a rhaglenni meddygol. Ydych chi’n bwyta’n dda? Wedi torri i lawr yn ddiweddar prydau llai rŵan ond dydi o ddim wedi gwneud gwahaniaeth i fy edrychiad! Hoff fwyd? Yn hoff o bysgod o bob math. Hoff ddiod? Dydw i ddim yn yfwr mawr port a lemon weithiau. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Ed y gŵr, fuaswn i ddim yn mynd hebddo fo. Lle sydd orau gennych? Mynd efo Ed yn y garafan i ymlacio. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Cefais amryw o wyliau cofiadwy ond ni allaf enwi unrhyw un sy’n sefyll allan. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n dod i fyw yma a chwyno wedyn fod yr adnoddau lleol yn brin. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gallu siarad yn agored a bod yn driw a chefnogol. Pwy yw eich arwr? Mae pawb yn arwr yn ei fyd ei hun! Pwy ydych chi yn ei edmygu yn yr ardal hon? Ed y gŵr am fod mor feddylgar ac amyneddgar ac am wneud

LLYTHYR Annwyl Olygyddion Diddorol oedd darllen llythyr Iona yn rhifyn Medi, Llais Ardudwy. Búm i’n byw yng Nghoety Bach am ychydig flynyddoedd yn union cyn i Iona symud yno. Cofiaf Wil a Barbara Owen, Garth Byr yn dda a’u dau fab, John a Guto a Catrin Jane y ferch. Roedd John yn wan ei iechyd a’i fryd ar fynd i’r weinidogaeth a Guto adre ar y fferm – bu farw mewn amgylchiadau trasig dros ben. Credaf eu bod wedi eu claddu ym mynwent Soar. Byddwn yn cerdded o Ysgol Talsarnau yng nghwmni Iorwerth Ty’n Bwlch at Soar, ac yna llusgo adref gan ddarllen y Daily Express a godwn yn Nhŷ Cambrian, Talsarnau i deulu Garth Byr. Cofiaf am syrcas sâl felltigedig yn cael ei chynnal yn y cae y tu ôl i’r Ship unwaith neu ddwy ond dwi’n meddwl mai o syrcas yn Harlech y dihangodd y mwnci yr oedd Iona yn sôn amdano - ta waeth am hynny! Cofiaf griw mawr o bobl wedi hel wrth bont Rhosigor rhyw fin nos a’r mwnci ar ben coeden yn rhythu arnyn nhw. Credaf iddo gael ei ddal yn Soar ymhen ychydig o ddyddiau wedyn. Roedd hyn ddiwedd y 50au/ddechrau’r 60au ddywedwn i. Diolch am y Llais bob mis. Cofion, Dafydd Williams, Bethel, Caernarfon

penderfyniadau doeth a bod yn gefn imi bob amser. Beth yw eich bai mwyaf? Siarad gormod efo pawb [yn ôl Ed]! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael byw fy mywyd yn fy ffordd fach syml fy hun heb neb yn busnesa efo fi. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei wario yn ôl fy nymuniad - ac yn bwyllog. Eich hoff liw? Glas. Lliw fy llygaid i a llygaid Ed. Mae hefyd yn fy atgoffa am awyr las y gwanwyn pan mae’r gaeaf wedi mynd heibio. Eich hoff flodyn? Briallu a holl flodau’r gwanwyn. Eich hoff gerddor? Mae gennyf amryw o ffefrynnau. Dwi’n hoffi canu ysgafn o’r 60au a dwi’n hoffi caneuon Bryn Fôn yn arbennig. Eich hoff ddarnau o gerddoriaeth? Ave Maria ac Anfonaf Angel. Pa dalent hoffech ei chael? Dawnsio ‘Ballroom’. Roeddem yn cael gwersi yn yr ysgol gynradd ers talwm. Eich hoff ddywediadau? Mae yna olau ym mhen draw’r twnnel. Sut buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Wedi priodi am 50 mlynedd, dydw i ddim ond eisiau iechyd i fwynhau gydag Ed.

GWESTY DEWI SANT HARLECH

Awst 2019

Medi 2019

Hydref 2019


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Harlech a Llanfair Daeth nifer o aelodau i gyfarfod cyntaf y tymor. Braf oedd cael croeaswu Freda, ein swyddog datblygu atom. Wedi delio gyda materion yn ymwneud â’r gangen, aeth Bronwen ymlaen i groesawu ein gwraig wadd, Siân Roberts. Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Siân wedi dysgu Cymraeg i safon uchel iawn. Aeth â ni i fyd y chwedlau; yn gyntaf chwedl tarddiad y ddraig goch a wedyn chwedl Rhita Gawr a sut y cafodd ‘Yr Wyddfa’ ei enw. Roedd gan Siân wybodaeth eang iawn ac roedd yn cyflwyno mewn ffordd fywiog. Cafwyd noson arbennig i gychwyn y tymor. Er hynny, mae’n chwith meddwl y gallai llawer mwy o Gymry’r ardal ein cefnogi er mwyn hybu achos y Gymraeg yn yr ardal. Buasai’n braf gweld mwy o aelodau yn y gangen. Ar bnawn Gwener, Medi 6 cynhaliwyd ein Te Cymreig arferol. Cafwyd te blasus o ddanteithion Cymreig gyda chyfle i brynu amrywiaeth o gynnyrch o’r stondin cynnyrch cartref. Gwnaed elw sylweddol tuag at y gangen. Diolch i bawb am gefnogi ac i’r aelodau am eu cyfraniadau boed yn ddanteithion Cymreig, nwyddau i’r stondin neu yn wobrau raffl.

Mae’n fis Hydref ac mae’r cnau yn aeddfedu ar y coed cyll a’r hen wiwer yn gorfod penderfynu lle i’w cadw’n ddiogel dros fisoedd y gaeaf. Rhaid iddi wneud yn siŵr bod digon i’w chadw hi i fynd tan y gwanwyn. Wrth feddwl am gnau dwi’n cael atgofion o fy nyddiau cynnar yn Llanallgo, Sir Fôn. Roedd Mam a Dad yn mynd â ni efo bagiau i le ar gyrion Marianglas lle roedd mwy na digon ar y coed. Dwi’n siŵr ein bod ni’n casglu llawer mwy nag oedden ni eu hangen ar gyfer ein hunain. Cnau mwnci dwi’n eu cofio adeg y Dolig. Tybed a oedden nhw’n eu gwerthu er mwyn cadw’r blaidd o’r drws? Fel rheithor y plwyf, doedd y tâl ddim yn ddigon i’n cadw’n ofnadwy o gyfforddus er doedden ni byth yn llwgu ac roedden ni’n hapus dros ben. Ar hyn o bryd, mae’r coed yn llawn lliwiau a phob math o eirin yn hongian yn drwm. Os ydach chi’n hoffi tynnu lluniau dyma amser da i grwydro, gwisgwch yn dda a chadwch eich llygaid ar agor - mae byd natur yn ddiddorol! Mae’r Gymdeithas yn trefnu teithiau maes pob dydd Sadwrn mewn tair rhan o Gymru ac mi fydd croeso mawr i chi ymuno â ni. Os ydach chi’n dysgu neu wedi dysgu Cymraeg, wel dyma eich cyfle i ymarfer eich siarad ac, ar yr un pryd, ddysgu am fyd natur. Beth amdani? Sadwrn Siarad bob dydd Sadwrn! Mae rhaglenni’r tair ardal ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru Edrychwn ymlaen at eich gweld chi. Rob Evans Aelod Pwyllgor Marchnata – Cymdeithas Edward Llwyd

Marwolaeth Bu farw Mr Roy Plumtree, Pen Rhiw ganol mis Awst ac yntau yn 93 oed. Roedd yn ŵr cwrtais bob amser. Meddai ar bersonoliaeth ddymunol iawn a bu’n aelod gweithgar mewn sawl cymdeithas yn y gymuned dros nifer o flynyddoedd. Dymuna Dorothy, Sarah a Simon ddiolch i’w cyfeillion am bob arwydd o gefnogaeth a gafwyd yn ystod y cyfnod anodd a fu. Rhodd a diolch £5 Teulu Roy Plumtree

Rheilffordd Bydd stesion Llandanwg ar gau o Hydref 7 hyd Hydref 24. Bydd gwasanaeth bws ar gael. O Hydref 24 hyd Tachwedd 10 ni fydd trenau yn rhedeg o’r Bermo i Bwllheli ond, yn ôl a ddeallwn, bydd bws ar gael.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Yn dilyn cyfarfod ar y safle gyda Mr Dylan Jones o Gyngor Gwynedd a chael map yn dangos y cynllun newydd arfaethedig, mae rhai o’r cyhoedd wedi gwrthwynebu hyn ac eisiau cadw at yr hen gynllun. Roedd y Clerc, yn ei swydd fel y Cynghorydd Sirol, wedi cael trafodaethau gyda Mr Jones ac roedd wedi datgan ei fod yn fodlon mynd yn ôl i’r cynllun gwreiddiol, ond rhaid nodi, pe bai gwrthwynebiad yn cael ei dderbyn, ni fyddant yn gallu ailgynnig y cynllun a bod yna dri dewis, sef tynnu’r cynnig yn ôl, cyflwyno cynnig gwahanol neu fynd a’r cynnig ymlaen i’r pwyllgor cynllunio am benderfyniad. Roedd yn rhaid i’r Clerc/Cynghorydd Sirol gadarnhau ei bod yn fodlon symud ymlaen gyda hyn. Adroddodd ymhellach ei bod wedi meddwl yn ddwys am gynllun y llinellau melyn a’i bod wedi dod i’r penderfyniad, oherwydd mai rhai nad ydyn nhw’n byw ar hyd y ffordd hon sydd wedi gwrthwynebu, ei bod yn teimlo, os yw preswylwyr Llandanwg yn teimlo’n gryf bod angen y llinellau melyn hyn y dylem wrando arnynt. Hefyd, mae tystiolaeth gan Mr Houliston o ddamweiniau yn digwydd ar y ffordd ger Glan y Don oherwydd y goryrru a cheir wedi parcio yno. Cytunwyd i fwrw ymlaen gyda’r cynllun gwreiddiol a gosod llinellau melyn ar hyd y ffordd at Glan Gors. CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel y garej bresennol a chodi ystafell ardd ar ei phen ei hun – Bryn Hoel, Frondeg, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Gosod strwythur 14 panel solar symudol yn y cwrtil – Gorwelfa, Pant yr Onnen, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd copi o fapiau o’r cynigion a mapiau manwl o Gynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031, ynghyd â chopi o Ddatganiad Ysgrifenedig y Cynllun dan sylw. Cytunodd Martin Hughes edrych dros y ddogfen hon ar ran y Cyngor.

CYFARFOD BLYNYDDOL

Llais Ardudwy yn YSTAFELL Y BAND HARLECH Nos Fawrth, Hydref 29 am 5.00 o’r gloch

Dydd Sadwrn,Hydref 19eg 2019 am 1.00 o’r gloch

yn Neuadd Goffa Harlech Rhaglen Eisteddfod gan mairoberts4@btinternet.com

Dewch am dro i gystadlu, i wylio, i gefnogi, i fwynhau! Mynediad £2 i oedolion ac am ddim i blant. Lluniaeth ysgafn ar werth.

CROESO CYNNES I BAWB!

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL PRIODAS

Llongyfarchiadau gwresog i Gwilym Noble (Tyddyn Llidiart) ac Eva Kantor ar ddathlu eu priodas yn Orfu, Hwngari ar Gorffennaf 19. Gan mai lleiafrif o bobl yr ardal yma o Hwngari sy’n gallu siarad Saesneg, roedd Gwilym ac Eva wedi sicrhau fod geiriau defnyddiol wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg ar bob bwrdd. Mawr fu’r croeso i’r teulu a’r ffrindiau aeth draw i’r briodas yn yr ardal hyfryd hon o Hwngari. Mae’r cwpl wedi ymgartrefu yn Llanrug gyda’u mab Idris Evan. Gratulálok! (Llongyfarchiadau.)

Rhiw Llech

Wedi clywed yr holl hanes am Rhiw Llech, Harlech, lle mae stryd mwyaf serth y byd, daeth atgofion lu i mi. Cofiaf gerdded gwartheg a defaid o Gwmnantcol i Sêl Harlech ym mhedwardegau a phumdegau cynnar y ganrif ddiwethaf. Roeddem yn troi o’r ffordd wrth Gelliwaen a dilyn llwybr dros y gefnen heibio y Fron ac yn ôl i’r ffordd fawr wrth Pen-y-bont, yna trwy Gwm Uwchartro heibio Werngron. Roedd un ohonom yn mynd yn dawel heibio’r anifeiliaid i sefyll mewn croesffordd i’w rhwystro rhag mynd y ffordd anghywir. Unwaith roeddem wedi cyrraedd Penrhiwgoch, ein pennau ar i lawr oedd hi wedyn gan ofalu fod un ohonom ar y blaen. Erbyn cyrraedd sgwâr Harlech byddem yn siŵr o help gan rai fyddai o gwmpas y stryd. Roedd pawb yn gwybod mai am Rhiw Llech roeddem yn anelu. Yna cyrraedd cae sêl lle mae’r stad ddiwydiannol heddiw. Yn ymyl roedd tryciau trên a chorlannau pwrpasol gan fod y rhan fwyaf o’r anifeiliaid oedd wedi eu gwerthu yn mynd ar y trên. Ni allaf gofio inni gael llawer o drafferth ar y ffordd ond clywais Andro yn adrodd hanes criw bach o ŵyn yn mynd trwy ddrws agored ar dop rhiw dre ac allan trwy’r cefn i’r ardd, a thro arall i fustach fynd trwy ddrws agored a thipyn o strach i’w gael i fagio allan. Roedd hon yn siwrnai braf iawn; biti na fedraf ei cherdded eto. Atgofion melys. Llongyfarch Gweneira Jones Llongyfarchiadau i Alun a Moira Allt Goch Jones, Graig Isa, ar ddod yn daid a nain eto. Ganwyd mab bach i Cyhoeddiadau’r Sul Tomos a Sonia ar 15 Medi – ein am 2.00 o’r gloch y prynhawn dymuniadau gorau. HYDREF 6 Capel y Ddôl, Parch John Tudno Williams 13 Capel y Ddôl, Parch Gareth Rowlands 20 Capel Nantcol, Mrs Morfudd Lloyd 27 Capel y Ddôl, Mrs Eirwen Evans

4

Cofion Ein cofion at Mrs Janet Griffith, Craig Artro, sydd wedi derbyn triniaeth yng Ngobowen. Hefyd, ein cofion at Miss Anwen Roberts, Bryn Deiliog; gobeithio bydd y ddwy yn gwella’n fuan.

Merched y Wawr Nantcol Fe’n croesawyd i gyfarfod cyntaf y tymor wedi seibiant dros yr haf gan Rhian, y Llywydd. Rhoddwyd croeso arbennig i Beti Wyn a Pat, y ddwy wedi gwella’n ddigon da i ymuno â ni unwaith eto. Cyflwynodd Rhian ein gwraig wadd sef Gwerfyl Owen-Harding o ardal Cemaes, Machynlleth. Ar ôl gweithio fel cynllunydd gwalltiau ac i Gronfa Loteri Cymru, penderfynodd Gwerfyl sefydlu busnes sy’n ymwneud ag un o’i phrif ddiddordebau, sef dylunio mewnol tai. Ar yr un pryd, roedd ei gŵr a hithau ar fin codi tŷ a gwelodd y cyfle i arbrofi gyda syniadau. Erbyn hyn, mae’r busnes yn mynd o nerth i nerth gan gynnig cymorth i ddewis arddull, lliwiau, defnyddiau a darparu siamplau. Gall roi darlun 3D o’r arddull a ddewiswyd a thrafod lle i osod dodrefn o fewn yr ystafell. Mae’n cynnig gwasanaeth chwilio am gyflenwyr, archebu deunyddiau, tecstilau a dodrefn. Dywedodd ei bod yn dod ar draws llawer o bethau defnyddiol mewn siopau elusen, yn ailgylchu defnyddiau ac yn gweddnewid dodrefn drwy baentio neu gyda gwaith polstri. Yna, cawsom gip ar ei chartef moethus. Buan iawn y daethom i sylweddoli fod ganddi lygad craff am liw a’i bod yn llwyddo i ddefnyddio ei llygad proffesiynol i weddnewid ystafell gyfan. Diolchodd Rhian i Gwerfyl am noson hynod o ddifyr a hynny mewn dull hwyliog a chartrefol. Yn dilyn paned a sgwrs, aethpwyd ymlaen i drafod materion y gangen. Cyfeiriodd Rhian at farwolaeth Mair Penri a’r golled i ni fel Mudiad. Dymunwyd gwellhad i John, gŵr Jean, yn dilyn triniaeth yn ddiweddar. Penderfynwyd gwahodd canghennau Harlech a Thalsarnau i ymuno hefo ni yng nghyfarfod mis Ebrill. Cytunodd Anwen i ddarllen rhifyn mis Medi o Llais Ardudwy.

Teulu Artro I ddechrau tymor Teulu Artro cafwyd bwffe blasus yng ngwesty Victoria. Braf oedd gweld Pat yno ar ôl ei thriniaeth, ac anfonwn ein cofion at Beti Parry sydd ddim yn teimlo’n dda yn ddiweddar, ac Elinor ac Winnie hefyd. Gobeithio y byddant i gyd yn gwella’n fuan.

CYMDEITHAS CWM NANTCOL 2019-2020 ‘Y Gymdeithas sy’n asio Doniau brwd Ardudwy’n bro.’ JIJ

Am y tymor nesaf, byddwn yn cyfarfod yn Neuadd Llanbedr ar nosweithiau Mawrth. Croeso cynnes i bawb! Tachwedd 12 Parti’r Eryrod, Llanuwchllyn Tachwedd 26 Bethan Gwanas ‘Bethan a’i llyfrau’ Rhagfyr 9 Cinio Nadolig ym Mwyty’r Clwb Golff, Harlech. Diddanwyr: John Price a Gwilym Bryniog Ionawr 14 Dilwyn Morgan ‘Hiwmor ddoe a heddiw’ Ionawr 28 Rhys Gwynn ‘Rhyfeddodau Cadair Idris’ Chwefror 11 Dr John Williams, Lerpwl ‘Clefydau’r Beibl’ Chwefror 25 Dafydd Iwan ‘Hanes y 60au a’r 70au trwy ambell i gân’ Diolch Diolch i Alun Owen am y rhodd o £25 ac i Gwenda Shepherd am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad i Llais Ardudwy. Marwolaethau Bu farw Brian Axworthy, Bryn Deiliog, ar Awst 28. Cydymdeimlwn â’i ferched Chris a Dawn a’r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Bu farw Dewi, mab Mrs Mattie a’r diweddar Arthur Roberts, Bryn Deiliog, yn 48 oed. Cydymdeimlwn â hi a’r teulu yn eu profedigaeth. Hefyd, bu farw Mrs Jane Craig, Hafod y Bryn. Cydymdeimlwn â’i gŵr Chris a’r teulu yn eu profedigaeth.


Urdd Meirionnydd Sut mae hi’n mynd, bobl? Tybed lle aeth y tywydd hir felyn tesog? Misoedd y gaeaf sydd o’n blaenau bellach ac mae’r atgof o fwyta hufen iâ ar y traeth wedi hen fynd heibio. Ond peidiwch â phoeni, mae’r Urdd yn ôl ac yn barod i fynd eto! Fel mae llawer iawn yn gwybod, mae’r Urdd yn fudiad i aelodau. Eleni, fe fydd y tâl aelodaeth yn £8 hyd at hanner nos ar 9fed Ionawr, 2020. Wedyn, bydd yn codi i £10 felly peidiwch ag oedi. Mae yna becyn aelodaeth i deuluoedd ar gael hefyd - £20 i ddechrau ac yn £25 wedi’r dyddiad cau. Mae yna daith ar y gorwel i griw Meirionnydd wrth i ni ymweld â Disneyland i weld Mici’r llygoden a’i ffrindiau. Bydd y daith yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor Chwefror. Mae ychydig o lefydd yn dal ar ôl ar y bws. Byddwn yn cynnal gweithdy dawns gan arbenigo yn y clocsiau a gwerin yng Nghanolfan Coed y Brenin. Fe’i cynhelir ar ddydd Llun a Mawrth yn ystod gwyliau hanner tymor sef 28 a 29 Hydref gan gychwyn am 10 y bore a gorffen am 3 y prynhawn. Bydd yn agored i fechgyn a merched o flwyddyn 3 i fyny. Gellir cael mwy o wybodaeth ar ein safle we yn yr Ysgolion neu drwy ffonio Swyddfa’r Urdd yng Nglanllyn. Fe fydd pris i’w dalu am y gweithgaredd yma. Dyma beth fydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf • 7-bob-ochr i dimau Merched, 17 Hydref - Clwb Pêl-droed Y Bala • 7-bob-ochr i ysgolion – 24 Hydref - Clwb Pêl-droed Y Bala • Gala Nofio Rhanbarthol - 16 Tachwedd - Pwll nofio Harlech Unwaith eto, diolch i chi am eich cefnogaeth i ni yn yr Urdd ar lefel Cylch ac yn Rhanbarthol. Hwyl am y tro. Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd 01678 541002 dylan@urdd.org

H

DIARHEBION H-M Ll

ardd ar ferch bod yn ddistaw Harddwch pob hardd, tangnefedd Haul gwanwyn, gwaeth na gwenwyn Hawdd cymod lle bo cariad Hawdd dweud, caled gwneud Haws bodloni Duw na diafol Heb Dduw, heb ddim Heb ei fai, heb ei eni Heb wraig, heb ymryson Hedyn pob drwg yw diogi Hen bechod a wna gywilydd newydd Hir ei dafod, byr ei wybod Hir pob aros Hir yn llanc, hwyr yn ŵr Hwy pery clod na hoedl

I

onawr cynnes, Mai oer I’r pant y rhed y dŵr

aw ddiofal a fydd gwag Llon colwyn ar arffed ei feistres Llon llygod lle na bo cath Llwm yw’r ŷd lle mae’r adwy Llysywen mewn dwrn yw arian

M

ae ffôl yn ymlid ei gysgod Mae meistr ar meistr Mostyn Mae pont i groesi pob anhawster Mae rhagluniaeth yn fwy na ffawd Mae’r diawl yn dda wrth ei blant Mam ddiofal a wna ferch ddiog Meddu pwyll, meddu’r cyfan Meddwl agored, llaw agored Meistr pob gwaith yw ymarfer Mewn llafur mae elw Mwyaf poen yw poen methu Mwyaf eu trwst, llestri gweigion

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Eglwysi Bro Ardudwy - Digwyddiadau 24 Hydref - 7:00yh Eglwys Tanwg Sant, Harlech Arwerthiant Bro Ardudwy gyda chaws a gwin Cyfle i weld yr eitemau o 5:30yh. A oes gennych eitemau yr hoffech eu cynnig i’w gwerthu? Gellir storio eitemau yn Hen Lyfrgell Harlech. Cysylltwch â Sue Wager ar 01766 781620. 3 Tachwedd Sant Ioan, Abermaw 10.30yb Gwasanaeth y Fro Gwasanaeth Cyfunedig Bro Ardudwy Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd Côr yr Atgyfodiad o St Petersburg Eglwys Sant Ioan, Bermo, 7.00yh; tocynnau £12 10 Tachwedd Gwasanaethau Sul y Cofio 9.30yb Sant Pedr, Llanbedr 9:30yb Tanwg Sant, Harlech 10:45yb Sant Ioan, Abermaw 10:55yb Bodfan Sant a’r Santes Fair, Llanaber 10:55yb Santes Ddwywe, Llanddwywe 10:55yb Llanfihangel-y-traethau

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930

5


Canfod y Gân

RHAI O DEULU Y FUCHES WEN

Catherine [Jones] Evans 1837-1920 Nod y prosiect hwn yw trawsnewid bywydau drwy gerddoriaeth gan fod gan bawb gân i’w chanu a’r hawl i ddarganfod a rhannu eu cân. Rydym yn trefnu grwpiau cerddoriaeth i unigolion 16+ gydag anableddau dysgu, ac unigolion sydd heb anableddau dysgu i gael cyfle i berfformio, cyfansoddi, arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau gwahanol ar y cyd gyda cherddorion llawrydd. Mae gennym grwpiau yng Nghaernarfon, Pwllheli ac yn Harlech bob pythefnos. Y bwriad yw bod pob unigolyn o fewn y grŵp yn cymryd rôl gyfartal a bod cerddoriaeth yn ffordd o wella agweddau o iechyd meddwl a llesiant o fewn y grŵp. Mae ein grwpiau yn hollol gynhwysol. Mae’r elfen gymdeithasol yn greiddiol i’r prosiect. Ein gobaith yw y gallwn newid agweddau yr unigolion a’r gymdeithas ehangach o anabledd. Cynhelir grŵp Canfod y Gân yr ardal yn Ysgol Ardudwy bob pythefnos ar nosweithiau Mawrth, o 5.30 tan 7.00. Rydym wedi bod yn cynnal sesiynau ers mis Mai. Mae’n grŵp mawr, bywiog a gweithgar sy’n cael

digonedd o hwyl yn perfformio caneuon cyfarwydd, yn creu o’r newydd ac yn byrfyfyrio – mae’r sesiynau’n fyrlymus heb os! Mae gennym aelodau o Harlech, Dyffryn Ardudwy, Penrhyndeudraeth, Blaenau Ffestiniog a Bermo. Rydym yn awyddus iawn i groesawu aelodau sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth gymunedol a gweithgareddau creadigol ac a fyddai’n ymrwymo fel aelod neu fel gwirfoddolwr. Cymerwch gip ar ein gwefan www.canfodygan.cymru neu dilynwch ein hynt a helynt ar Facebook a Twitter. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch gyda Mared Gwyn-Jones drwy ebost mared@cgwm.org.uk neu ar 01286 285230. Hoffem gyflwyno ein hunain a’r prosiect i’r gymuned leol ar Tachwedd 9, o 2.00 tan 4.00 yn Ysgol Ardudwy. Cynhelir cyngerdd a the prynhawn, MYNEDIAD AM DDIM, dan arweiniad y grŵp, a gwesteion arbennig Sera Owen (unawdwydd) ac Elin Taylor (cello). Mae croeso i chi i gyd fwynhau prynhawn o gerddoriaeth ac adloniant. Dewch i fwynhau gyda chriw Canfod y Gân. Dewch yn llu!

Ffermdy Llennyrch

- trafod y dyfodol ar Hydref 15 Rhaglen: 12.00 - 3.00 (cinio wedi’i ddarparu) Ar Hydref 15, fe’ch gwahoddir i drafodaeth anffurfiol ar syniadau ac opsiynau ar gyfer dyfodol ffermdy ac adeiladau Llennyrch a hwylusir gan Arwel Jones o Celtic. Cofiwch roi gwybod i ni eich bod yn dod fel y gallwn drefnu arlwyo ac ati! Cyfarfod yng Nghanolfan Prysor. I’r rhai sy’n dymuno ymweld â’r tŷ ei hun a’r adeiladau, mae Kylie yn fodlon mynd â phobl am ymweliad cyflym (tua 10.30) â’r eiddo cyn y cyfarfod. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Kylie ar KylieJonesMattock@woodlandtrust.org.uk

6

Griffith D Evans 1838-1926

Mab David O Evans (1788-1855), o Dolorgan Fawr, Llandecwyn, a Margaret Roberts (1794-1860), o Fuches Wen, Llanfihangel-y-traethau, oedd Griffith D Evans (1836-1926) a anwyd 16 Ebrill 1838. Yn 1852, yn 14 mlwydd oed, ymfudodd Griffith gyda’i rieni ac aelodau eraill o’r teulu, ar fwrdd y llong Rapphannock, i Berlin, Sir Green Lake, Wisconsin. Yr oedd Berlin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn lle nodedig am ei melinau llifio, a lle yr oedd y gaeafau yn hir ac yn oer iawn. Cafodd y ddinas ei henw ar ôl prifddinas Prussia, prifddinas yr Almaen heddiw. Ymhen rhyw dair blynedd ar ôl tirio yno bu ei dad farw yno yn 67 oed, ac yna ei fam yn 1860 yn 66 oed. Ym mis Tachwedd, 1865, ym mhentref Rose (Wild Rose yn ddiweddarach), Sir Waushara, Wisconsin, priododd Griffith D â Catherine Jones (1837-1920), merch i William R (1809-1881), ffermwr, a Mary Jones, 1816-1886), o Rose, Wisconsin, y teulu yn wreiddiol o’r Waun, Nantglyn, Sir Ddinbych. Yr oedd Catherine wedi ymfudo i’r America flwyddyn o flaen ei phriod, ac wedi byw yn Remsen, Sir Oneida, Efrog Newydd, am ddwy flynedd cyn symud i Springwater, Wisconsin, 27 milltir o Berlin. Yr oedd ei thad yn nai i’r Parchedig Isaac Jones (1794-1873), gweinidog gyda’r Methodistiaid yn Nyffryn Clwyd, ac un a ysgrifennodd lawer i’r cylchgronau Cymraeg gan gynnwys Y Faner. Yr oedd Griffith a Catherine yn aelodau brwdfrydig yng Nghapel Presbyteriaid Cymraeg Caersalem, mam eglwys Horeb, Wild Rose. Ganwyd i Griffith D a Catherine Evans wyth o feibion: Robert Llewellyn D D (1866-1960), David (1869-1952), William J (1870-1898), Willie (g1871), Fred (1874-1963), Lewis (1875-1880), Roger (1878-1920) a Roger arall (1880-1956). Ar 22 Mai 1861, ac yntau yn byw yn Berlin, ymrestrodd Griffith D yn aelod o gwmni B, Wisconsin 3rd Infantry Regiment, a gwasanaethodd fel preifat yn y Rhyfel Cartref hyd 7 Rhagfyr 1863, pan ryddhawyd ef oherwydd anallu. Ar 28 Mawrth 1864, bron i flwyddyn cyn diwedd y Rhyfel Cartref, ymunodd â chwmni C, Wisconsin 38th Infantry, fel corporal, trosglwyddwyd ef i Gwmni G, 24th Veterans Reserve Corps, 22 Chwefror 1965, a’i ryddhau o’r fyddin 27 Gorffennaf 1865, tri mis ar ôl y rhyfel. Erbyn 1875 yr oedd Griffith D a’i deulu yn byw yn Lowville, Sir Lewis, Efrog Newydd, pentref yn Nyffryn yr afon Ddu, wrth droed mynyddoedd yr Adirondack. Gwlad fryniog a choediog oedd yr ardal honno, a mwy na hanner ei thiroedd heb eu diwyllio pan gyrhaeddodd Griffith Evans a’i deulu yno. Dechreuodd y Cymry boblogi’r sir tua 1845 ac yr oedd amryw ohonynt mewn amgylchiadau cysurus yno. Yr oedd yno wastaddiroedd eang, a dyffrynnoedd bychan toreithiog lle y bu Griffith a’i deulu, gan gynnwys Evan, un o’i frodyr, oedd tua’r un oed ag ef, yn dilyn eu galwedigaeth dyddiol fel ffermwyr. Tua 1889 symudodd Griffith a Catherine, ynghyd â phump o’u plant, i Beatrice, Sir Gage, Nebraska (ystyr Dŵr Bas), poblogaeth o 2,440, yn alltud o gymdeithas Gymraeg, ac unwaith eto yn dilyn ei waith dyddiol fel ffermwr. Yr oedd y tiroedd amaethyddol yno o’r fath orau i’w gael gan y Llywodraeth oddeutu glannau yr afon Big Blue. Nebraska yn ôl y ‘New York Witness’ yn 1878 oedd y lle gorau yn yr Unol Daleithiau i ymfudwyr. Ac o ran y tywydd, yr oedd diwedd y flwyddyn 1885 yn anarferol o ddymunol yn Sir Gage, ond daeth y flwyddyn newydd i mewn yng nghanol un o’r stormydd mwyaf ffyrnig o wynt ac eira a welwyd yno ers blynyddoedd, parhaodd am dridiau, nes llwyr atal y trenau mewn amryw fannau. Y flwyddyn honno, 19 Gorffennaf 1886, yn 68 oed, bu farw Mary Jones, mam Catherine Evans, yn Springwater, Wisconsin, a chladdwyd hi ym Mynwent Caersalem, yn y dref honno. Yr oedd ei phriod, William, un o sefydlwyr cyntaf ei ardal ac yn ŵr amlwg yn ei gapel gyda’r ieuenctid, wedi ei rhagflaenu ers 31 Ionawr 1881, yn 72 oed. (i’w barhau). W Arvon Roberts, Pwllheli


Pwyllgor RABI - Meirion Mae 30 mlynedd ers sefydlu’r pwyllgor uchod a’r flwyddyn ddiwethaf, 2018, roeddem yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd o ennill Powlen Bryn Davies fel pwyllgor am ein cyfraniad arbennig i waith RABI trwy Gymru a Lloegr. Yn ystod y flwyddyn, cawsom gyngerdd arbennig i ddathlu’r achlysur hwn yn Ysgol Bro Idris, lle’n diddanwyd gan Rhys Meirion, Aled Wyn Davies, Alejandro Jones, a disgyblion o’r ysgol. Yn fwy diweddar cafwyd noson hwyliog ar fferm Bryn Celynnog, Cwm Prysor, trwy garedigrwydd Gwladys a Dylan Hughes gyda’r ‘Welsh Whisperer’ ac artistiaid lleol yn diddanu. Cawsom

wledd o fochyn rhost gan gwmni Oinc Oinc o Ben Llŷn, a bar dan ofal tafarn Plas Coch, Y Bala. Mae’n dyled fel pwyllgor yn fawr i’r holl gwmnïau lleol sydd bob amser yn barod i’n cefnogi ac i bob un ohonoch sy’n barod i gyfrannu mewn unrhyw ffordd - o brynu raffl i ddyfalu enw mochyn! Bydd ein gweithgaredd nesaf yn Neuadd Rhydymain, nos Fercher, Tachwedd 13, lle cynhelir Arddangosfa Celfyddyd Blodau gan Donald Morgan o Blodau’r Bedol, Llanrhystyd. Mynnwch eich tocyn, am £10 y pen i sicrhau eich lle, eich mins peis a gwin cynnes, drwy ffonio Mair ar 07747 763009.

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy AWST 2019 1. Idris Lewis £30 2. Bryn Lewis £15 3. Pat Thomas £7.50 4. Gwyndaf Williams £7.50 5. Christine Jones £7.50 6. Ffion M Thomas £7.50 MEDI 2019 1. Gwen Edwards 2. Bryn Lewis 3. Olwen Evans 4. Celt Elis Dobson 5. Bryn Lewis 6. Aled M Jones

£30 £15 £7.50 £7.50 £7.50 £7.50

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

Llyfrau Llafar Cymru Erbyn heddiw mae tua 30 o wirfoddolwyr yn recordio darlleniadau o lyfrau Cymraeg a rhai Saesneg sy’n ymwneud â Chymru. Bydd pob recordiad yn cael ei brosesu i ddisgiau digidol a’u danfon at ddeillion a phobl â nam golwg i’w galluogi i fwynhau’r llyfrau hyn fel eraill ohonom. Danfonir y cyfryw iddynt a’u dychwelyd yn ddi-dâl. Mae’r gwasanaeth a gyflawnir gan Llyfrau Llafar Cymru yn dibynnu’n llwyr ar haelioni caredig unigolion, eglwysi a mudiadau yn ogystal â nifer o Gynghorau Sir a Bro ledled Cymru. Gwerthfawrogir yn fawr y rhoddion hyn. Nid ydym yn codi tâl am y ddarpariaeth i’n “gwrandawyr”, ond mae arnom angen arian i gyflogi dau aelod o staff, prynu adnoddau a chyfarpar angenrheidiol a chroesawir unrhyw rodd fach neu fawr. Mae pob cyfraniad a gawn yn ein galluogi i barhau i wneud bywyd yn fwy pleserus i’r cannoedd sy’n cael eu hamddifadu o ddarllen oherwydd diffyg eu golygon. Os gwyddoch am aelod o’ch teulu neu am unigolion yn eich ardal fyddai’n dymuno derbyn ein gwasanaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn falch iawn i gwrdd â’ch gofyn. Am ragor o wybodaeth neu i dderbyn ein catalog cyfredol, ffoniwch: 01267 238225 neu danfonwch e-bost: llyfraullafarcymru@outlook.com Sulwyn Thomas, Caerfyrddin

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Graddio 2019 Llongyfarchiadau i Tom Gwyrfai Cartwright, Parc Uchaf a raddiodd gyda gradd anhrydedd dosbarth 1af mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf. Dymuniadau gorau iddo hefyd yn ei swydd newydd, eto gyda’r Brifysgol yn Aberystwyth. Mae Tom yn parhau i gyflwyno ‘Y Sioe Gymraeg’ bob nos Lun ar Radio Bronglais. Diolchiadau gan Twm a Lisa Griffiths £10 Clwb Cadwgan Gyda thristwch mae Age Cymru wedi penderfynu dod â gwasanaeth Clwb Cadwgan i ben ar ôl 27 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned. Dymuna Jane, Margaret, hefyd Aldwyth a Frances a’r aelodau ddiolch i bawb am bob cymorth a chefnogaeth dros y blynyddoedd. Cafwyd y diwrnod olaf ddydd Iau, 19 Medi. Rhodd £10 Mawr yw diolch yr aelodau, eu teuluoedd a’r gymuned i Jane, Margaret, Aldwyth a Frances am eu gwaith dros 27 o flynyddoedd ac am eu gofal a’u caredigrwydd ac am greu awyrgylch mor hapus yng Nghlwb Cadwgan. Gwasanaethau’r Sul, Horeb HYDREF 6 – Parch Eric Greene 13 – Parch Gareth Rowlands 20 – Parch Megan Williams, Diolchgarwch, 5.30 27 – Gwasanaeth Diolchgarwch yr Eglwys. TACHWEDD 3 – Andrew Settatree

8

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, 18 Medi. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i Jean Jones oedd wedi ymuno â ni. Cydymdeimlodd â Gwyneth Davies yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd John Gwilym. Anfonodd ein cofion at Mrs Beti Parry sydd heb fod yn dda iawn yn ddiweddar ac at Mrs Gretta Cartwright a Miss Lilian Edwards sy’n dal yn aelodau er nad yw’n bosib iddyn nhw ddod i’r cyfarfodydd. Diolchodd i Carey Cartwright am argraffu’r rhaglenni i ni eto eleni. Yna croesawodd Margaret Ellen Roberts o Sir Fôn atom, Margaret Tyddyn Felin i ni, merch y diweddar John Ellis, Tyddyn Ellis a Mary Margaret, Eithin Fynydd. Cafwyd pnawn difyr iawn yn ei chwmni yn sôn am ei phlentyndod yn y Dyffryn, yng Nghaerdydd ac yn Nhaicynhaeaf. Wedi gadael yr ysgol ymunodd â’r Heddlu a bu’n gwasanaethu yn Lerpwl ac yng Ngwynedd. Roedd hi’n gweithio yn y Bermo pan ddigwyddodd y trychineb mawr ym Mhenmaenpŵl yn 1966. Bu’n rhaid iddi adael yr Heddlu pan briododd yn 1972 gan nad oedd merched priod yn cael gweithio yn yr Heddlu bryd hynny. Mae ganddi ddwy ferch, Siân a Linda. Bu hefyd yn rheolwraig cartref i’r henoed yn Sir Fôn am flynyddoedd ac roedd ganddi straeon doniol iawn am y cymeriadau annwyl oedd o dan ei gofal. Mae Margaret yn weithgar iawn yn ei chymuned ac yn gwirfoddoli gyda sawl mudiad. Bu’n ysgrifennydd Steddfod Môn dair gwaith. Mae hi’n dod yn ôl i Dyddyn Felin yn aml iawn, gan fod ei merch Linda yn byw yno. Diolchwyd i Margaret am brynhawn difyr iawn gan Einir. Ar Hydref 16 byddwn yn cael gwasanaeth Diolchgarwch.

Clwb Cinio Bydd y Clwb Cinio yn cyfarfod yn Nhafarn Brondanw, Llanfrothen, am hanner dydd, ddydd Mawrth, 15 Hydref, ac yna’n ymweld â’r Eglwys.

Symud yn agosach Rydym fel ardal yn falch o glywed bod Elinor Jones, Dolafon a Sebonig gynt, wedi dod i Gartref Madog ym Mhorthmadog ar ôl treulio cyfnod mewn ysbyty. Cyn ei gwaeledd, bu Elinor yn barod iawn ei chymwynas i lawer yn y gymuned ac yn ffrind ffyddlon a charedig iawn. Codi £1700 Ym mis Chwefror eleni, rhoddodd Gareth Charlton, Trem Enlli, Dyffryn un o’i arennau i’w ferch Jennie. Trawyd Jennie yn wael yn Chwefror 2017 ychydig cyn ei phen-blwydd yn 18 oed a bu ar beiriant dialysis am ddwy flynedd. Bu’r llawdriniaeth yn llwyddiant ac erbyn hyn mae Gareth yn ôl yn ei waith a Jennie yn y coleg ac yn edrych ymlaen i fynd i Brifysgol y flwyddyn nesaf. Ar Awst 31, cerddodd Gareth i fyny’r Wyddfa yn ystod y nos i godi arian i Ysbyty Frenhinol Lerpwl a llwyddodd i godi £1700. Gwnaeth hyn i ddiolch i’r ysbyty yn Lerpwl a hefyd i Ysbyty Gwynedd am y gofal arbennig a gawsant a’r caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt ar amser anodd.

Genedigaeth Llongyfarchiadau i Llion a Jaimee Wellings, Brooklands, Tal-y-bont, ar enedigaeth mab bychan, Ned Elis, brawd bach i Noa John. Priodas Aur Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Edward ac Einir Jones, Penrhiw, fydd yn dathlu 50 mlynedd o fywyd priodasol ar Hydref 22. Festri Lawen, Horeb Cynhelir cyfarfod cynta’r tymor nos Iau, 10 Hydref am 7.30 yng nghwmni Hogia’r Berfeddwlad. Diolch Diolch i Margaret Slack am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad. Carolau Cynhelir Carolau ’81 yn y Neuadd Bentref ar nos Fawrth, Rhagfyr 17 am 7.00 o’r gloch gyda Chôr Meibion Ardudwy a’u harweinydd, Aled Morgan Jones yn llywio’r noson.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT DATGAN BUDDIANT Datganodd John Ellis Williams ac Edward Williams fuddiant yng nghais cynllunio North Lodge, Dyffryn Ardudwy; nid oeddent yn bresennol pan drafodwyd y cais. CEISIADAU CYNLLUNIO Chwalu estyniad a modurdy presennol a chodi estyniad a modurdy mwy o faint – North Lodge, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Neuadd Bentref Adroddodd y Cadeirydd bod cyfarfod o bwyllgor yr uchod wedi ei gynnal yn ystod y mis diwethaf a’u bod wedi penderfynu bod angen trefnu cyfarfod rhwng swyddogion y pwyllgor hwn ynghyd â Chadeirydd a Chlerc/Swyddog Cyfrifol Ariannol y Cyngor er mwyn cael gwybod yn iawn pwy sy’n gyfrifol am beth. Cytunwyd, gan fod cyfarfod o bwyllgor y neuadd yn cael ei gynnal nos Iau y 12fed o’r mis hwn, i geisio cynnal cyfarfod yn ystod y diwrnod hwnnw er mwyn gallu adrodd yn ôl i’r pwyllgor gyda’r nos. Rheolau Sefydlog a Rheolau Ariannol y Cyngor Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o fersiwn newydd o’r uchod i bob aelod drwy gyfrwng e-bost er mwyn iddynt gael amser i’w darllen. Datganodd pawb oedd yn bresennol eu bod wedi cael golwg arnynt a’u bod yn edrych yn iawn. Cytunwyd i fabwysiadu y Rheolau hyn. UNRHYW FATER ARALL Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Steffan Chambers ei fod wedi derbyn cŵyn bod y biniau ailgylchu glas ar stad Bro Arthur yn cael eu taflu ar hyd y stryd gan y gweithwyr ar ôl iddynt eu gwagio. Cytunwyd i anfon y gŵyn ymlaen i Gyngor Gwynedd. Datganwyd pryder bod y torri gwair wedi bod yn flêr yn yr ardal eleni yn enwedig i lawr y ffordd am Dyffryn Seaside Estate. Cytunwyd i anfon hwn ymlaen i’r Adran Briffyrdd.

Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Gwyneth Jones, Pentre Uchaf sydd wedi bod yn yr ysbyty ond wedi cael dod adref erbyn hyn. Llongyfarchwn hi hefyd ar ddathlu pen-blwydd arbennig ym mis Mai. Gwartheg Duon Cynhaliwyd diwrnod agored Cymdeithas y Gwartheg Duon ddydd Sadwrn, Medi 28, pan ddaeth tyrfa luosog i ymweld ag Egryn, Eithin Fynydd a Gwern Caernyddion. Yng nghanol dyddiau o dywydd gwael, bu’n sych a dymunol. Bu’n amgylchiad hapus a braf oedd cael bod yn rhan o ddigwyddiad mor gofiadwy. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Mrs Gwyneth Davies, 19 Pentre Uchaf, y plant Lina, Olwen a Keith a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli Mr Ron Davies, priod, tad, taid hen daid a brawd annwyl.

Anfonwn ein cofion hefyd at Mrs Enid Thomas, Borthwen sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ond yn Ysbyty Bryn Beryl ar hyn o bryd. Bore Coffi

Cynhaliwyd Bore Coffi yn Nineteen 57 fore Gwener, Medi 27 tuag at elusen Macmillan. Er gwaethaf y tywydd, daeth nifer fawr iawn i gefnogi a chasglwyd £745 at yr elusen. Dymuna Iola a Siôn ddiolch o galon am y gefnogaeth ardderchog ac am y cyfraniadau hael at yr elusen arbennig hwn.

CHWILIO AM BERTHNASAU MR OWEN PARRY, KIMBERLEY HOUSE, BERMO Mae gan hen ffrind i mi dystysgrif wedi’i dyfarnu i Mr Owen Parry. Roedd y dystysgrif yn eiddo i dad fy ffrind, sef y Parchedig Ddr Owen E Evans, a fu farw’r llynedd. Mae hi wedi’i chyflwyno mewn ffolder crand efo ffotograff o Mr Parry (gweler y llun). Mae’r deyrnged yn Saesneg yn darllen:

We, the Members of the Barmouth and Dolgelley Quarterly Board of the Methodist Circuit, and other friends, wish to express our regard and recognition of your service as Circuit Steward for Twenty-one years. We appreciate your uniform courtesy, integrity and deep interest in many offices of the Church. You have been Treasurer of the Ebenezer (Barmouth) Trust for many years. You have also been deeply interested in Foreign Missions as Treasurer of the Circuit and have been Treasurer of the Poor Fund. Together with the late Mr O W Morris, Glanglasfor, you arranged English Services for many summer months. Both inside and outside the Church you have proved yourself an organiser of rare quality, especially in the arrangement of many high class concerts for the benefit of the Circuit. You also laboured unceasingly during the Great War to raise large sums of money for Comforts to the Troops and Funds for Hospitals. Assuring you of our esteem and regard and our best wishes for the future happiness of Mrs Parry and yourself.

Ar gefn y ffolder mae fy ffrind wedi ychwanegu’r wybodaeth yma am y dystysgrif: bod hi wedi’i dyfarnu i Mr Parry rhywbryd rhwng 1939 a 1944, a chafodd ei rhoi i O E Evans gan weddw Mr Parry yn ystod 1944, tra oedd O E Evans yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth. Gan mai ger Llundain mae fy ffrind yn byw, a finnau wedi ymgartrefu ym Meirionnydd, rwyf wedi gwirfoddoli i geisio dod ar draws rhywun sydd yn perthyn i Mr Parry er mwyn rhoi’r dystysgrif iddyn nhw. Felly, os ydych yn perthyn iddo, croeso i chi fy ebostio ar sw@sueproof.cymru. Susan Walton

9


YMWELWYR O HUCHENFELD

Bu grŵp bychan o Huchenfeld, ein gefaill bentref yn yr Almaen, yn ymweld â Llanbedr dros benwythnos Medi 20fed – 22ain. Roedd nifer o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer yn cynnwys gweithdy lle trafodwyd syniadau ynglŷn â sut i symud ymlaen a chryfhau ein perthynas a thaith gerdded o amgylch rhaeadr Nantcol a thrwy’r coed. Cawsant de a chroeso cynnes iawn yng nghartref Pip, gweddw

10

John Wynne, a oedd wrth ei bodd yn cael y cyfle i’w cyfarfod unwaith eto. Gan bod yr Ŵyl Gwrw yn digwydd dros y penwythnos roedd hon yn gyfle i wrando ar adloniant lleol a chymysgu a sgwrsio efo pentrefwyr. Mynychodd ein hymwelwyr wasanaeth tairieithog arbennig yn Eglwys Sant Pedr ar y bore Sul ac yna cynhaliwyd prynhawn agored yn y Neuadd lle cawsom ein diddanu gan y

Côr Cymunedol, telynores ifanc sef Erin Lloyd, a Mari Lloyd, ffotograffydd lleol, a roddodd sgwrs ddiddorol am ei gwaith. Yn ychwanegol, cawsom glywed band acordion yn chwarae’n fyw o Huchenfeld trwy linc Skype a thorrwyd cacen fendigedig, wedi ei gwneud gan Beti Miller, gan Sabine Wagner, Maer Huchenfeld. Yn dilyn, roedd yna gyfle i bawb sgwrsio, ymweld â stondinau pobl leol a mwynhau panad a

chacen. I gloi’r penwythnos cafodd y criw gyfle i wrando ar Gôr Meibion Ardudwy yn ymarfer ar y nos Sul, cyn troi am adre ben bore Llun. Teimlwyd fod yr ymweliad wedi bod yn un lwyddiannus iawn ac wedi chwarae rhan bwysig mewn datblygu’r berthynas arbennig yma rhwng Llanbedr a Huchenfeld. Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y penwythnos.


DYDDIADUR Y MIS Hydref 2 - Cymdeithas Gymraeg Bermo, Euros Hughes, Parlwr Bach, 7.30 Hydref 10 - Festri Lawen, Hogia’r Berfeddwlad, 7.30 Hydref 11 - Roc Ardudwy, ‘Totally Tina’, Neuadd Goffa, 7.30 Hydref 19 - Eisteddfod Ardudwy, Neuadd Goffa Harlech, 1.00 Hydref 23 - Roc Ardudwy, ‘Sesiwn’, Neuadd Goffa Harlech, 7.30 Hydref 24 - Hel Atgofion, Neuadd Talsarnau, 7.30 Hydref 26 - Bingo, Caffi’r Pwll Nofio, 2.30 Hydref 29 - Cyfarfod Blynyddol Llais Ardudwy, Ystafell y Band, 5.00 Tachwedd 2 - Sioe Arddio Harlech, Neuadd Goffa, 2.00 Tachwedd 6 - Cymdeithas Gymraeg Bermo, Elfed Lewis, 7.30 Tachwedd 12 - Cymdeithas Cwm Nantcol, Parti Eryrod, Neuadd Llanbedr, 7.30 Tachwedd 14 - Festri Lawen, Cefin Roberts, 7.30 Tachwedd 26 - Cymdeithas Cwm Nantcol, Bethan Gwanas, Neuadd Llanbedr, 7.30 Tachwedd 28 - Ffair Nadolig, Neuadd Talsarnau, 6.30 Rhagfyr 7- Cinio Nadolig Clwb Rygbi Harlech, Nineteen 57, 7.00 (enwau erbyn Tachwedd 20) Rhagfyr 17 - Carolau ’81 gyda Côr Meibion Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 7.00 Cysylltwch â Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

ENGLYN DA PLENTYN YN ANGLADD EI FAM Yr oedd yno wrtho’i hun - er bod tad, Er bod torf i’w ganlyn; Ddoe i’r fynwent aeth plentyn, Ohoni ddoe daeth hen ddyn. Gerallt Lloyd Owen, 1944 - 2014 11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Braich, am ei chwmni bywiog ar y daith gerdded, ac am gael treulio diwrnod arbennig o ddiddorol gyda hi yn Ninas Mawddwy.

Merched y Wawr Dechreuwyd rhaglen y gangen am 2019-2020 trwy fynd ar ymweliad ag Olwen a Wyn Jones, Ty’n y Braich, Dinas Mawddwy ar ddydd Mercher, 11 Medi. Er i’r tywydd fod yn anffafriol wrth i ni gychwyn yn y bore, erbyn cyrraedd Ty’n y Braich a chael croeso gan Olwen a Wyn – a phaned a bisged yn y gegin fawr - daeth yr haul i’r golwg ac aeth nifer dda ohonom, dan arweiniad Olwen, i gerdded ar hyd y ffordd at Maesyglasau tua milltir i ffwrdd – hen gartref teulu Wyn. Roedd y tŷ’n adfail llwyr erbyn hyn ond cafwyd llawer o fwynhad yn sgwrsio gydag Olwen am hanes y tŷ a’r teulu ar hyd y daith. Roedd Maesyglasau mewn llecyn godidog a gellid dychmygu sut oedd bywyd mewn man digon anghysbell flynyddoedd yn ôl. Wedi dychwelyd i Ty’n y Braich ymlaen â ni am ginio i’r Cross Foxes, lle roedd pryd o fwyd yn disgwyl amdanom. Mwynhau’r pnawn yn sgwrsio’n ddifyr a sôn am hanesion a chysylltiadau gyda phobl roedd Olwen, sy’n enedigol o Dalsarnau, yn eu hadnabod. Tra’n aros am y bwyd, cafwyd cyfle i Siriol, ein Llywydd, gyflwyno rhai materion i’n sylw. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Ella, Bet a Gwenda Paul. Cyhoeddwyd mai Carys Edwards o Ganllwyd fydd gyda ni yn ein cyfarfod cyntaf yn y Neuadd nos Lun, 7 Hydref, yn sôn am y busnes o gadw gwenyn, a bydd Cangen Harlech yn ymuno â ni ar y noson. Gofynnwyd yn garedig i aelodau Talsarnau dalu £20 i’n Trysorydd yn y cyfarfod hwn, sy’n cynnwys y tâl aelodaeth o £18.00 am y flwyddyn, ynghyd â’r £2.00 arferol am y baned a raffl. Hefyd, roedd gwahoddiad wedi’i dderbyn gan Gangen Nantcol i ni ymuno â hwy yn Neuadd Llanbedr, nos Fercher, 1 Ebrill 2020 i wrando ar sgwrs a chyngor gan Helen Williams o Ddinbych ar ‘Hyder Mewn Lliw’. Cyn gadael, diolchodd Siriol i staff y gwesty am y bwyd, ac i Olwen am y croeso i Dy’n y

12

Gwellhad Dymunwyd gwellhad llwyr a buan i Siriol Lewis yn dilyn llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar, a gobeithiwn y bydd wedi gwella digon da i ymuno gyda ni yng nghyfarfod Merched y Wawr ddechrau mis Hydref. Cydymdeimlad Daeth profedigaeth i ran dau deulu o’r ardal yn ystod y dyddiau diwethaf, yn dilyn marwolaeth Mair Thomas a Dafydd Lewis, y ddau wedi bod yn byw yn agos at ei gilydd yn yr Ynys ers talwm, a’r ddau wedi treulio peth amser, hyd at eu dyddiau olaf, yng nghartref y ‘Pines’ yng Nghricieth. Bu farw Mair Thomas, Tŷ Capel Eden, Bronaber, Trawsfynydd (Tŷ Cerrig gynt), ddydd Sul, Medi 29 yn 91 oed. Yna dydd Llun, Medi 30, bu farw Dafydd Lewis (Dafydd Warin gan bawb), Glan-y-morfa, Ynys yn 86 oed. Estynnir cydymdeimlad dwys â Gerallt Jones ac Ann Morgan, brawd a chwaer i Mair, a’r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Hefyd, yn yr un modd, cydymdeimlir ag Eirlys Williams, Tanforhesgan a’r teulu, ym marwolaeth Dafydd, cefnder i Eirlys. Anfonir cofion atoch i gyd yn eich colled a’ch galar.

Tybed a oes unrhyw un o’n darllenwyr yn gwybod lle tynnwyd y llun hwn? Hwyrach bod gennych stori ddiddorol am y cyfnod hwn. Pwyllgor y Neuadd Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor nos Lun, 23 Medi. Adroddwyd bod mis Awst wedi bod yn hynod o brysur, yn enwedig ar benwythnosau, wrth i’r Neuadd gynnal arwerthiant yn ystod yr haf dan ofal rai o aelodau’r Pwyllgor a chyfeillion eraill. Cafwyd llawer o eitemau o bob math i’w gwerthu a braf yw gallu adrodd bod bron i £800 wedi’i godi at goffrau’r neuadd. Mae hyn yn newyddion da wrth gwrs, ond roedd angen dipyn o waith adnewyddu ar y neuadd yn ystod yr haf – megis trwsio drws a ffenestri nad oedden nhw’n cau’n iawn, a thalu am y gwaith o osod rheiddiadur newydd ar y wal yn y brif ystafell; hefyd adnewyddu’r canllaw rhydd tu allan a gosod slabiau concrit newydd oedd wedi torri ar ochr y llwybr cerdded at y neuadd – y costau yma i gyd yn dod i £4,058. Adroddodd Margaret Roberts, y Trysorydd, ei bod wedi gorfod codi swm o £4,000 o Arian Wrth Gefn er mwyn talu’r biliau am gynnal a chadw’r neuadd. Mynegwyd pryder bod costau rhedeg yr adeilad yn drwm a diffyg cefnogaeth lleol i’r gweithgareddau y mae’r pwyllgor yn ceisio eu cynnal. Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi trefnu dau achlysur yn y Neuadd cyn y Nadolig fel â ganlyn: yn gyntaf - Nos Iau, 24 Hydref am 7.30 o’r gloch, cynhelir noson o ‘Hel Atgofion’ eto, drwy lun a fideo. Bydd hyn yn ddilyniant o’r atgofion a ddangoswyd mis Mawrth eleni. Bydd paned a bisged ar gael a gwerthfawrogir unrhyw gyfraniadau at y Neuadd. Yn ail – nos Iau, 28 Tachwedd am 6.30 o’r gloch, cynhelir ein Ffair Nadolig arferol a gwahoddir Band Bach Harlech i ymuno â ni. Hefyd yn ôl yr arfer, bydd Gyrfa Chwist ar yr ail nos Iau o’r mis, sef 12 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch. Gobeithiwn yn wir y byddwch yn cefnogi’r gweithgareddau yma o hyn i’r Nadolig. Fe’ch gwahoddir hefyd i gynnig syniadau ac awgrymiadau ar gyfer cynnal gweithgareddau a fyddai’n codi arian at gynnal a chadw’r Neuadd.

Dilyniant i noson gafwyd ym mis Mawrth

Graddio Llongyfarchiadau i Tomos Siôn Macdonald sydd wedi graddio gyda 2:1 mewn Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae Tomos yn ŵyr i Eifion a Gwen Williams ac yn fab i’r ddiweddar Amanda. Da iawn ti, Tomos. Nain a Taid a’r teulu. Rhodd a diolch £10

Cyflwyniad gan Grŵp Trysorau Talsarnau

Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Iau, Hydref 24 am 7.30 Lluniaeth ysgafn a chroeso cynnes

Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00. Croeso i bawb HYDREF 6 - Dewi Tudur 13 - Dafydd Protheroe Morris 20 - Dewi Tudur 27 - Dewi Tudur TACHWEDD 6 - Dewi Tudur Oedfa Ddiolchgarwch Nos Fercher, 9 Hydref am 7:00 Pregethwr: Parch Rhodri Glyn, Llansannan. Croeso cynnes i bawb (gwneir casgliad). Eglwys Llanfihangel-y-traethau Gwasaneth Diolchgarwch dwyieithog gyda’r Tad Tony Hodges Dydd Sul, Hydref 20, am 11:30 Croeso cynnes i bawb


DAVID JOHN LEWIS [Dafydd Warin] COFFÂD

Dyna un arall o gymeriadau’r ardal wedi’n gadael ni - a hwnnw’n un mawr ym mhob ystyr. Magwyd Dafydd yng Nglan-y-morfa [Warin] yn fab i John a Sarah Lewis, yn frawd i’r diweddar Edward [Ned] ac yn ewythr triw i Heather. Bu’n ffodus iawn o fod yn byw yn agos i’w gyfnither Eirlys [Tanforhesgan] gan fod Eirlys mor ofalus o’i les ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys y cyfnod dros ddeg mlynedd pan fu mewn cartref gofal. Bu’n driw iawn iddo hyd at ei farwolaeth. Roedd yn ŵr swil ond yn hoffus a phoblogaidd dros ardal eang. Gŵyr ei gyfeillion yn dda am ei natur annwyl a mynwesol ac am ei gymeriad diwenwyn. Bu’n fawr ei ofal o’i fam am flynyddoedd. Wedi gadael ysgol aeth i weini ar ffermydd Glan-y-môr, Fuches Wen a Tŷ Mawr. Yn dilyn hynny, bu’n gweithio’n ddiwyd i Gyngor Gwynedd nes iddo frifo’i ysgwydd mewn damwain ac ymddeol yn gynnar. Roedd criw hapus o bobl ifanc yn yr Ynys bryd hynny a byddai Dafydd yn fawr ei ofal ohonyn nhw, yn arbennig y merched. Bydd amaethwyr y fro ac eraill yn ei gofio fel dyn dal tyrchod. Crwydrai’r ardal yn hamddenol gyda’i drapiau gan ailymweld â’r twrch yn aml. A’r bil am ei lafur? £1 y twrch am gyfnod ac wedyn £2, oedd yn ffiaidd o resymol - yn enwedig pan gododd pris tanwydd! Nododd wrthyf rhywdro fod un neu ddau wedi ceisio gostwng ei bris - doedd o ddim yn un am ddal dig ond roedd o’n cofio! Gallai drafod pêl-droed yn ddeallus iawn ac roedd yn mynd i weld gemau yn lleol ac ymhellach i ffwrdd. Cofiaf fynd efo fo i Lerpwl ac i Wrecsam droeon. Roedd Wrecsam yn chwarae Spurs un tro a dyma benderfynu gadael rhyw bum

munud cyn y diwedd - a cholli dwy gôl. Chwerthin ddaru Dafydd ac mi oedd o’n chwerthwr harti. Cefais ei gwmni sawl tro ar deithiau i’r Ynys Werdd yng nghwmni rhai o’i hoff gyfeillion. Roedd yn mwynhau’r teithiau am ei fod yn gyfle i arsylwi ar fyd amaeth, byd natur a phobl amrywiol. Roedd yn ddyn pobol! Buom yn rhannu ystafell lawer gwaith. Roedd ei lanweithdra yn rhyfeddol. Cysgai yn drwm a chodai efo’r wawr. Roedd yn ddyn ffraeth a sydyn ei ateb ar adegau. Un tro roedden ni mewn tafarn yn Kilkenny, a ninnau’n gwrando ar offerynnwr yn creu sŵn drwg efo offeryn traddodiadol debyg iawn i fagbip - y pibau uilleann. ‘Mae hwn yn swnio’n union fel pe bai’n gwasgu’r gath’, medd Sulwyn. ‘Y peth nesaf welwn ni fydd neidr yn codi o’r fasged ’na,’ meddai Dafydd, gan gyfeirio at fasged wiail yng nghornel yr ystafell. A chyn pen dim, roedd Dafydd wedi ysbrydoli Iwan Morgan i weithio englyn i’r achlysur: Aeth ‘Warren’ i Kilkenny-i wylio Band Gwyddelig wrthi; Yn hwyl y diwn ffidl-i-di Ei neidr fynnodd godi. Mi fydd eraill yn ei gofio yn Nhigh Mico a’i ateb ffraeth am y dyn oedd yn bwyta matsys, un ar ôl y llall! Lle bynnag roeddech chi efo Dafydd, roedd hwyl i’w gael yn ei gwmni. Mi gofiwn ni’r hwyl a’r cymeriad hoffus. Diolch am gael ei nabod. ‘Gwyn eu byd y rhai pur o galon.’ PM

Dafydd ar yr ochr dde - yng nghwmwni ffrindiau tu allan i ‘Peacocks,’ Maam Cross. Mae John Gilar, Sulwyn, Twm Gilar, Jack Carson a rŵan Dafydd Warin wedi’n gadael. Coffa da amdanyn nhw i gyd.

NEUADD GYMUNED TALSARNAU

- apêl am gymorth a chefnogaeth Mae Neuadd Gymuned Talsarnau yn ganolbwynt i lawer iawn o weithgareddau sy’n digwydd yn yr ardal. Yn y Neuadd, mae gweithgareddau ar gyfer lles y corff yn digwydd megis Pilates, dawnsio llinell ac ioga. Yn y Neuadd, mae’r plant lleiaf yn cael eu profiadau cyntaf o gyd-fyw a dechrau dysgu gyda phlant bach eraill ac mae plant yr ysgol gynradd yn cael gwersi addysg gorfforol a phrofiadau technoleg gwybodaeth. Dyma lle mae Côr Cana-mi-gei yn ymarfer a lle mae henoed yr ardal yn cymdeithasu. Mae mwy - ond mae’r uchod yn ddigon i ddangos bod defnydd helaeth o’r adeilad pwysig hwn. Golyga hyn fod traul a chostau ar adeilad o’r fath ac mae pris i’w dalu am hynny. Yn ystod yr haf eleni, bu raid atgyweirio’r system wresogi, gwneud gwaith ar ffenestri a drysau tân y neuadd fawr a gwaith atgyweirio ger prif fynedfa’r Neuadd. Fe gostiodd y cyfan £4,000. Ydy, mae hwn yn swm anferthol ac mae angen canfod symiau sylweddol i gadw’r drysau ar agor. Yr apêl ydy am gymorth, am syniadau, a phobl i drefnu gweithgareddau codi arian; mae angen gwaed newydd ar y pwyllgor rheoli. Yn ddiweddar, derbyniwyd rhodd ariannol i’r Neuadd gan drefnwyr Ras Llandecwyn, oedd yn hynod dderbyniol. Mae hon fel gweithgaredd yn enghraifft ardderchog o un ffordd i gynnig cymorth i gynnal y Neuadd, ond yn anffodus, nid yw’n ddigon ar ei ben ei hun. Mae angen mwy o gymorth na hyn arnom. Pe gallech gynnig cymorth byddem yn hynod o falch. Yn y diwedd, dyfodol ein neuadd ni sydd yn y fantol. Bydd cyfarfod nesaf o bwyllgor y Neuadd nos Lun, 28 Hydref am 7.30.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

MATERION YN CODI Cae Chwarae Mae rwber ychwanegol wedi ei archebu i’w osod yn y cae chwarae uchod ar gost o £1,487.82. Adroddodd Dewi Tudur Lewis ymhellach nad oedd y rwber dan sylw wedi ei chwalu o amgylch y cae. Cytunwyd i gysylltu gyda Mr Chris Rayner i ofyn beth oedd yn digwydd. Hefyd cytunwyd i ofyn i Mr Meirion Griffith a fyddai’n bosib iddo osod y fainc ar y darn o dir ger Gwelfor cyn gynted â phosib, hefyd gosod rhywbeth i rwystro’r cerrig mân sydd wedi eu taenu ar y llain tir dan sylw rhag llithro i’r ffordd yn ystod tywydd garw. Hefyd, cytunwyd i ofyn iddo fod yn gyfrifol am dderbyn y polyn fflag a’i osod yng Ngardd y Rhiw. Sefydlu Hosbis ym Mlaenau Ffestiniog Adroddodd Eluned Williams ei bod hi ag Ann Jones wedi mynychu’r cyfarfod hwn a bod trafodaeth wedi ei gynnal ynglŷn â throsi’r hen adeilad ffisiotherapi ym Mlaenau Ffestiniog yn hosbis 4-gwely. Roedd Mr Trystan Pritchard o Hosbis Dewi Sant, Llandudno yn bresennol i roi esboniad o waith hosbis yn ogystal â be sydd ei angen i sefydlu a rhedeg yr hosbis. Datganodd Eluned ymhellach ei bod wedi gofyn a fyddai’n bosib sefydlu hosbis yn yr ward wag sydd yn Ysbyty Alltwen oherwydd byddai hyn yn llai o gostau gan fod yr adnoddau yna eisoes. Cefnogir y fenter mewn egwyddor ond mae angen holi am y goblygiadau ariannol i’r ardal. CEISIADAU CYNLLUNIO Trosi beudy yn llety gwyliau, Beudy Cefn Faes, Tallin, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Nid oes bwriad i symud yr arwyddion 30 mya yn Ynys. Ynglŷn â’r cais am gylchfan newydd yng Nglan y Wern, mae data hanesyddol yn dangos nad oes cofnod o unrhyw ddamwain ar y gyffordd hon o fewn yr 20 mlynedd diwethaf. Credir y buasai’n anodd iawn denu unrhyw arian ar gyfer gwelliannau fel cylchfan (sydd â phris o oddeutu £500,000) ar sail Diogelwch y Ffyrdd. Derbyniwyd ateb ynglŷn â glanhau’r arwydd sy’n nodi croesffordd wrth ddod i mewn i’r pentref o gyfeiriad Llandecwyn, y tyllau yn y gylchfan yng Nglan y Wern a’r ffaith bod y ffordd o Maesyneuadd i fyny am Moel Glo angen sylw. UNRHYW FATER ARALL Mae angen lle pasio rhwng Winllan Fach a Soar ac mae rhai’n parcio ar y ddwy ochr o’r ffordd wrth fynd i fyny am Soar. Cytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater. Mae angen newid y camfeydd ar y clawdd llanw yng Nglan y Wern oherwydd eu bod yn rhy uchel a bod unigolyn wedi cael damwain wrth fynd dros un yn ddiweddar. Cytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater hwn a chysylltu gyda Liz Haynes. Datganwyd pryder bod rhai’n gadael ysbwriel wrth y seddi cyhoeddus ger groesffordd Cilfor.

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru


Y BERMO A LLANABER

LANSIO CYFROL Cangen Merched y Wawr, Bermo a’r Cylch yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed Merched y Wawr Roedd Medi 2019 yn garreg filltir bwysig i aelodau Merched y Wawr, Bermo a’r Cylch. Mae 40 mlynedd ers pan sefydlwyd y gangen. Cyd-ddigwyddiad oedd ein bod yn cwrdd i ddathlu ym Mwyty’r ‘Banc’ oherwydd yn y fflat uwchben bu’r cyfarfod cyntaf; sef cartref Megan Jones, un o’r sefydlwyr a llywydd cyntaf y gangen. Braf iawn oedd cael cwmni Megan yn y swper. Cafwyd gair o groeso gan Llewela, ein llywydd. Diolchodd i Megan a’i chyfeillion am yr ysbrydoliaeth i ffurfio cangen yn y dre. Soniodd am gynnwys rhaglen y tymor cyntaf gan nodi mai £1 oedd y tâl aelodaeth! Braf oedd cael cwmni rhai o’r aelodau gwreiddiol ynghyd ag aelodau ffyddlon y gangen. Anfonwyd ein cofion at rai fu dan anhwylder yn ddiweddar. Wedi’r gwledda, cawsom sgwrs gartrefol gan Tegwen Morris, ein Cyfarwyddwr Cenedlaethol. Diolchodd inni am fod yn gefnogol i waith y mudiad a mynegodd pob dymuniad da i ni yn ystod y tymor. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 15 Hydref am 7.00 yn y Parlwr Bach. Edrychwn ymlaen at noson yng ngofal dwy o’n aelodau, sef Gwyneth Edwards a Glenys Jones. Croeso cynnes i chi ymuno â ni; rydym yn griw cartrefol.

BINGO

Caffi’r Pwll Nofio, Harlech Dydd Sadwrn, Hydref 26 a Rhagfyr 7 am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm Croeso cynnes i bawb!

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

cawn yr hanes gan Mair Tomos Ifans

Roedd yn fraint i mi gael tynnu fy llun efo Llewela Edwards yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Roedd y ddwy ohonom wedi bod mewn cyfarfod i lansio’r gyfrol ‘Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis’ (Prydwen Elfed-Owens); ynddi ceir ychydig o hanes bob un o’r enillwyr o 1955 hyd 2018; ac mae Llewela a minnau yn eu plith. Rhyw wythnos neu ddwy cyn yr Eisteddfod roeddwn yn cael sgwrs efo cyd-weithiwr o Went, nad oedd yn siarad na deall y Gymraeg nac ychwaith ag unrhyw amgyffred o’r diwylliant sydd ynghlwm â’r iaith; ac roedd yr holl fwrlwm a rhaglen amrywiol yr Eisteddfod Genedlaethol yn ryfeddod iddo. Tra’n trafod cerddoriaeth werin mi wnaeth cyfaill arall, oedd yn rhan o’r sgwrs, sylw ynglŷn â’r ffaith bod “Cerddoriaeth Werin Cymru ar ei gwely angau tan yn ddiweddar, ond bod na griw o bobl ifanc wedi achub y ‘sîn’ .” Does neb balchach na mi bod cymaint o sylw i’r bwrlwm a’r diddordeb a’r parch mae cerddoriaeth werin yn ei chael y dyddiau yma. Ond mae dweud bod y traddodiad wedi bod ar ei ‘wely angau’ yn sen ac yn amharch tuag at y rhai hynny sydd wedi canu a chynnal y traddodiad ar hyd y blynyddoedd – cyn bod sôn am unrhyw ‘sîn’! Yn union fel yr hanesyn di-sail hwnnw am Sais yn cerdded i mewn i dafarn a phawb yn troi yn sydyn i siarad Cymraeg, mae’r sylw yma am y traddodiad gwerin ar ei wely angau yn marw’n dawel nes i griw penodol o’r genhedlaeth iau ddod heibio efo diffibriliwr i’w hatgyfodi yn hen chwedl ddi-sail sy’n cael ei hailadrodd hyd syrffed. Mae ailadrodd sylwadau fel hyn dro ar ôl tro yn tanseilio cyfraniad y rhai oedd yn cynnal y traddodiad o’ch blaen. Fe’m magwyd ar arfordir Meirionnydd, ym Mro Dysynni ac yn Ardudwy. Fe fyddwn yn clywed cerddorion, yn gantorion ac offerynwyr, yn perfformio alawon traddodiadol yn rheolaidd ar lwyfannau’r neuaddau pentref, mewn neuaddau ysgol ac mewn

capeli a festrïoedd. Dyna lle clywais ac y dysgais gymaint o ganeuon ac alawon traddodiadol. Doedden ni ddim yn mynd i unman penodol i wrando ar gerddoriaeth werin gan fod y traddodiad gwerin, yn cynnwys cerdd dant, i’w glywed ochr yn ochr ag emynau, hen ganiadau, darnau corawl, bandiau pres, canu ‘pop’, yn un felysgybolfa a elwid yn Noson Lawen, Consart neu Gyngerdd Mawreddog! Pobl oedd yn byw yn y gymuned oedd llawer o’r perfformwyr ac roedd amryw ohonynt yn enwau adnabyddus yn genedlaethol; Llewela Edwards, Mary Lloyd a Robin James Jones yn eu plith. Ac roedd eu dylanwad yn fawr arnaf i. Doedd dim angen ‘sîn’. Doedd dim angen heip na brol na ’phrosiect’. Doedd ‘na ddim ymgyrch i boblogeiddio. Jest gwneud. Efallai nad oedd y ‘traddodiad gwerin’ yn y cyfnod hwnnw yn ail hanner yr 20fed ganrif yn un swnllyd, llawn jingalerins a sglein ac yn tynnu sylw ato ei hun. Ond mae ei ddisgrifio fel bod ar ei wely angau yn gamwedd! Mae parhad unrhyw draddodiad yn ddibynnol ar drosglwyddo; heb drosglwyddo does dim i’w adfywio, ac fe ddylem oll barchu a chydnabod y trosglwyddiad hwnnw yn hytrach na’i ddi-brisio. A dyna pam bod cael tynnu fy llun efo Llewela Edwards yn Eisteddfod Llanrwst wedi bod yn fraint. “Felly’n wir”. Diolch, Llewela.

Wynebau adnabyddus i drigolion Ardudwy

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Robert Wyn a Sybil Jones, Cader Betti, Y Bermo ar ddathlu 65 o flynyddoedd priodasol. Cynhaliwyd y gwasanaeth ar 9 Hydref 1954 yn Eglwys y Bedyddwyr, Llandrindod. Magwyd Sybil yn Llanbister, pentref cyfagos. Bu Sybil yn aelod ffyddlon o Sefydliad y Merched a Robert Wyn yn aelod o Gôr Ardudwy am flynyddoedd. Mwynhewch yr achlysur hapus.

15


HARLECH Bydd cyfarfod Ionawr yn cael ei gynnal yn y prynhawn. Cynhelir Clwb Llyfr yn yr hydref, a bydd Clwb Crefftau’n dechrau ym mis Medi pan fydd Anette yn trefnu gwaith mosaig. Gofynnodd Sheila Maxwell am help i dacluso Y Lasynys Fawr. Enillwyd y blodau gan Jill, Wendy, Debbie a Jo. Enillwyd y gystadleuaeth gan Sue Williamson, Lesley, a Sheila.

Graddio Llongyfarchiadau i Beca Lumb, 2 Tŷ Canol, ar ennill gradd mewn Rheoli Adwerthu a Marchnata ym Mhrifysgol Manceinion. Mae hi wedi cychwyn swydd ym mhencadlys Vodafone ym Manceinion ac wrth ei bodd. Dymunwn hefyd anfon ein dymuniadau gorau i Amy Lumb sydd i ffwrdd yn Awstralia ers mis Ebrill. Hwyl ar y teithio Amy. Mam a Dad yn falch iawn o’r ddwy. Rhodd £10 Rhagoriaeth Llongyfarchiadau i Gethin Jones, Tŷ Canol oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor y llynedd. Fe gafodd ei gyflwyno gyda Thystysgrif Rhagoriaeth â’r clod o Ddysgwr y Flwyddyn yng nghwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol a Gweithio. Cafodd fedal aur am goginio a’r wobr gyntaf yn Eistedddfod yr Urdd gyda’i waith celf, a’r ddwy wobr trwy Gymru gyfan. Da iawn ti Gethin. Gwasanaethau’r Sul HYDREF 13 - Parch Iwan Ll Jones am 3.30 27 - Diolchgarwch Mr Phil Mostert am 4.00

SIOE ARDDIO HARLECH Sioe Glan Gaeaf Dydd Sadwrn, Tachwedd 2 am 2.00 Mynediad: £1.50

16

Graddio Llongyfarchiadau i Annest Mirain Jones, Hafod y Bryn, Ffordd Uchaf ar ennill ei gradd yn y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Manceinion. Bydd Annest rŵan yn dilyn cwrs Meistr yn y Gyfraith ym Manceinion. Pob lwc Annest. Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod cyntaf ar ôl seibiant yr haf ar nos Fercher 11 Medi, 2019, gan y llywydd, Jan Cole. Cafwyd munud o dawelwch er cof am aelod ffyddlon a gweithgar iawn, sef Christine Hemsley, a fu farw yn sydyn iawn ym mis Gorffennaf. Mae pawb yn cofio hefyd am ei gŵr, Mike, a’r plant. Croesawyd y wraig wadd Mrs Dorothy Round oedd wedi dod i ddangos i ni sut i osod blodau. Mi oeddynt yn ardderchog a phawb wedi dysgu a gweld sut i wneud gwahanol steil o flodau. Mi oedd yn garedig iawn wedi rhoi tair basged o flodau at y raffl. Darllenwyd llythyr yr oedd Edwina wedi ei ysgrifennu ar ran Grŵp Artro am y gwaith yr oedd Harlech, Llanfair a’r Bermo wedi ei wneud, y lluniaeth werth ei weld gan y tair cangen, ac yn arbennig y gwaith yr oedd Ann Edwards a Jill Houliston wedi ei wneud wrth drefnu’r diwrnod. Darllenwyd y llythyr o’r Sir. Cynhelir cinio dathlu ym Mhortmeirion ar 2 Hydref, pan fydd y Sefydliad yn gant oed. Bydd y Clwb Cinio’n cael ei drefnu o hyn ymlaen gan Ross, a’r parti Nadolig yn cael ei drefnu yn y Cemlyn.

Symud ymlaen Mae Hen Lyfrgell Harlech newydd dderbyn grant o £3,000 a ariannwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru o Gronfa LNB. O ganlyniad i’r grant bydd Llyfrgell Gyfeirio’n cael ei chreu yn syth bin yn yr adeilad. Yn y llyfrgell newydd mi fydd llyfrau o lyfrgell Coleg Harlech yn cynnwys rhai yn y Gymraeg a’r Saesneg am hanes lleol, llenyddiaeth, barddoniaeth, ayyb. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr i helpu gyda rhoi’r llyfrgell ar waith – cysylltwch â Sheila Maxwell ar harlecholdlibrary@btinternet. com Teulu’r Castell Bydd Teulu’r Castell yn cychwyn ar 8 Hydref yn Neuadd Goffa Llanfair am 2 o’r gloch. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

TÎM O WALIS

Pwy ydi’r rhain a pha bryd y tynnwyd y llun? Anfonwch atom os gwelwch yn dda! Diolch Hoffai Rose Craik, 3 Tŷ Canol, ddiolch yn fawr iawn i’w chymdogion a chyfeillion a fu mor garedig wrthi dros yr haf wedi iddi gael damwain i’w hysgwydd. Rhodd £10 Treiathlon Dosbarthwyd £1530 rhwng y canlynol: Marchogion Ardudwy Clwb Treiathlon Ysgol Ardudwy Ysgol Tanycastell Ymatebwyr Cyntaf Harlech Neuadd Goffa Harlech Teulu’r Castell Seindorf Arian Harlech. Cafodd y Cyngor Cymuned arian hefyd am y defnydd o gae chwarae Brenin Siôr V ar gyfer parcio.

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota


CYNGOR CYMUNED HARLECH Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Geraint Williams i’r cyfarfod i drafod y goleuadau Nadolig sydd wedi eu harchebu ganddo eisoes, hefyd y trefniadau sydd ganddo mewn llaw o ran gweithgareddau yn y dref cyn y Nadolig, a fydd yn digwydd ar 30 Tachwedd. Datganodd Mr Williams ei fod yn ddiolchgar am gyfraniad y Cyngor tuag at archebu’r goleuadau ond bod ganddo bryder y bydd y gost o osod y goleuadau hyn ar y polion trydan yn ddrud. Cytunodd Freya Bentham i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd i ofyn am ganiatâd i osod y goleuadau hyn, hefyd cytunodd y Cyngor i dalu am wneud y gwaith hwn. Diolchwyd i Mr Williams am ddod i’r cyfarfod. MATERION YN CODI Grŵp Adfywio Harlech Adroddodd Freya Bentham na fu’r bws wennol mor llwyddiannus eleni ond cafwyd gwybod bod dipyn o ddefnydd yn cael ei wneud ohoni yn y prynhawn. Datganwyd nad oedd cymaint o arwyddion yn hysbysebu’r bws o amgylch yr ardal eleni a bod angen mwy at y flwyddyn nesa os bydd y bws yn rhedeg eto; bydd hefyd angen gwirfoddolwyr i hybu’r fenter a gofynnwyd - os oedd gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli iddynt gysylltu â Freya Bentham. Cafwyd gwybod bod cyfarfod o’r grŵp hwn yn cael ei gynnal ar Hydref 24. MATERION CYNGOR GWYNEDD Diwedd y flwyddyn ddiwethaf gwnaeth unigolyn o Ddolgellau, nad oes ganddo gysylltiad â’r tir, ddechrau ffensio dau gae mawr rhwng Sibrwd y Môr a Wern y Wylan a gosod camerâu diogelwch yno. Mae wedi plannu coed sydd yn tyfu’n sydyn a fydd yn cuddio golygfeydd o’r môr. Mae Cyngor Cymuned Harlech wedi cysylltu gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a gwahanol adrannau yng Nghyngor Gwynedd. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw’r unigolyn hwn yn gwneud dim byd anghyfreithlon. Felly, er mwyn gwrthwynebu hyn, mae rhaid i ni ddod o hyd i berchennog y tir. Mae’r Cyngor Cymuned hefyd wedi gwneud llawer o ymchwil parthed perchnogaeth y tir. Gofynnwyd i bobl leol am wybodath a chafwyd gwybod mai dynes o Ganada sydd piau’r tir. Cafwyd hyd i gais cynllunio gan y Parc Cenedlaethol gan Elinor Neves o Toronto, Canada yn 1981. Yn anffodus. mae Elinor wedi marw, ond roedd ganddi un ferch, Jennifer Anne Neves Horn sydd, y credwn, yn byw yn New Brunswick, Canada. Mae’r Cyngor Cymuned yn ceisio dod o hyd i Jennifer neu ei phlant (yn ôl pob tebyg mae ganddi fab a merch). All rhywun helpu? Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglyn a pherchnogaeth y tir ar hyd Ffordd Uchaf, sut i ddod o hyd i Jennifer Anne Neves Horn o New Brunswick, Canada a chysylltu efo hi neu ei phlant, unrhyw beth arall a allai fod o bwys, a fyddech cystal â chysylltu hefo’r Cyngor Cymuned ar e-bost trwy Cynghorydd.FreyaBentham@gwynedd. llyw.cymru neu annwen@bt connect.com CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad unllawr ar y blaen – Llamedos, Ffordd Uchaf, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Datganodd y Cadeirydd ei fod yn mynd i wahodd yr Heddlu i gyfarfod y mis nesa oherwydd pryderon yn yr ardal am yr holl ladrata sydd wedi bod yn digwydd. Datganwyd pryder a siom nad oedd rhai o drigolion Tŷ Canol yn gadael i drigolion eraill osod potiau blodau ar y tir o flaen y tai er bod y tir hwn yn dir cyhoeddus ac heb fod yn eiddo i neb sydd yn byw ar y stad.

Babi newydd Llongyfarchiadau cynnes iawn i Tomos Puw a Sonia, Garreg Wen, Llechwedd ar enedigaeth eu mab, Tomi - brawd i Casey a Cian. Dan anhwylder Anfonwn ein cofion at Mr Edwin Jones, Eithinog, Tŷ Canol sydd wedi bod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Hyderwn ei fod yn teimlo’n llawer gwell erbyn hyn.

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN

Llais Ardudwy Yn anffodus, ni chafwyd unrhyw ymateb i’r cais uchod dros y misoedd diwethaf. Mae hynny’n siomedig ac yn golygu bod pryder ynghylch sut y bydd y papur yn parhau wedi’r 500fed rhifyn.

Ysgol Feithrin Harlech Cynhaliwyd pnawn ‘Coffi a Chacen’ at elusen Macmillan gan y Cylch Meithrin ar b’nawn Iau, Medi 26. Dymuna Helen Jennings, Ruth Powl-Jones a Linda Evans o’r Cylch ddiolch i bawb am eu rhoddion ac am y gefnogaeth dda a gawsant. Diolch hefyd i Amy Humphreys am ei chymorth ac i Mrs Annwen Williams, Pennaeth Tanycastell, am gael defnyddio Neuadd yr ysgol. Gwnaed elw o £275. Diolch Dymuniadau gorau i Bill Cruise, 15 Y Waun sydd wedi dod adref ar ôl bod yn glaf yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Dymuna’r teulu ddiolch i bawb fu mor garedig tra bu Bill yn yr ysbyty ac ar ôl iddo ddod adref. Rhodd £10

Bu tîm Roc Ardudwy yn brysur dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cynnal gweithgareddau codi arian. Maen nhw wedi cyfrannu’n ariannol at y canlynol: Hamdden Harlech ac Ardudwy Nifer o welliannau i’r peiriannau sy’n cynnal y pwll, uwchraddio offer yn y gegin, darparu byddau a chadeiriau newydd i’r caffi, darparu paent a phaentio’r fynedfa a’r stafelloedd newid. Cyfraniadau eraill yn y gymuned Prynu paent a phaentio’r Neuadd Goffa, Cinio Nadolig i Deulu’r Castell, Arian at y di-leithydd newydd i’r Hen Lyfrgell, goleuadau Nadolig y Gymdeithas Dwristiaeth.

Llongyfarch Llongyfarchiadau cynnes iawn i Mrs Ena Ridley, 22 Y Waun ar gwblhau naid y wifren sip [zip wire jump] ym Methesda ar Hydref 2. Roedd yr elw yn mynd at elusen Plant ar yr Ymylon.

Hoffwn ddiolch yn gynnes iawn i’r gwirfoddolwyr a’r gymuned leol am eu cefnogaeth barod. Jim Lees, Cadeirydd

Diwyddiadau nesaf Roc Ardudwy Nos Wener, 11 Hydref ‘Totally Tina’ Nos Sadwrn, 23 Tachwedd ‘Sesiwn’ Nos Wener, 6 Rhagfyr Ratz Alley a Dathliad Stryd Fwyaf Serth y Byd 2020 Nos Wener, 7 Chwefror Teyrnged i Rod Stewart 17


YSGOL TALSARNAU Unwaith eto eleni bu staff a disgyblion Ysgol Talsarnau yn gwneud eu rhan i gefnogi ymgyrch Macmillan. Y tro hwn, trefnwyd digwyddiad anghyffredin pan fu i Mrs Helen Davies wirfoddoli i eillio’i phen at yr achos. Fe wnaeth hyn gyda chymoth Mrs Nerys Whiteley sy’n brofiadol ym maes torri gwalltiau. Diolch i’r ddwy am eu parodrwydd i hybu’r achos pwysig hwn.

DYDDIADAU GOSOD

Llais Ardudwy

Deunydd i Haf Argraffu Cyhoeddi Tachwedd Hyd 28 4ydd 6ed Rhagfyr Tach 25 2il 4ydd Ionawr Rhag 27 6ed 8fed Chwefror Ion 27 3ydd 5ed Mawrth Chwef 24 2il 4ydd Ebrill Mawrth 30 6ed 8fed Mai Ebrill 27 4ydd 6ed Mehefin Mai 25 1af 3ydd Gorffennaf Meh 29 6ed 8fed Y ffordd hawsaf i gofio’r dyddiadau gosod yw cofio’r canlynol: • Argreffir Llais Ardudwy ar y dydd Llun cyntaf ym mhob mis. • Mae ar werth ar y dydd Mercher yn dilyn hynny.

Mrs Helen Davies ac Anti Drudwen cyn torri’r gwallt

Hanner ffordd drwy’r broses

Anti Nerys a Mrs Helen Davies gyda’r steil newydd Trefnwyd Pnawn Paned a Chacen hefyd a chawsom gefnogaeth dda iawn gan y disgyblion, eu rhieni a’n cyfeillion. Rhwng popeth llwyddwyd i godi £1,223.56 at ymgyrch Macmillan ac rydym yn dal i dderbyn arian. Diolch i bawb a gefnogodd mewn unrhyw fodd.

18

LLYTHYR

Annwyl Llais Ardudwy Gyda syndod a siom y darllenais sylwadau JBW ar emynau Williams, Pantycelyn yn rhifyn mis Medi. Yn ôl JBW, mae’r profiadau y mae Pantycelyn yn sôn amdanyn nhw â “thinc o orffwylldra” ynddyn nhw! Mae’n dyfynnu o emyn 517 yn Caneuon Ffydd yr emyn sy’n dechrau hefo’r geiriau ‘Dros bechadur buost farw...’ Ond JBW annwyl, hanfod, craidd a chalon Efengyl Iesu Grist ydi’r groes a’i neges - ei fod wedi marw dros bechaduriaid! Heb hynny, does dim Efengyl (Newyddion Da) a pha mor “neis” bynnag ydi’r emynau a arferwn ni heddiw, heb yr argyhoeddiad ysgytwol yna y mae Pantycelyn yn canu mor ardderchog amdano, gwag iawn ydi unrhyw grefydda. Wn i ddim ydio’n haeddu’r enw crefydda hyd yn oed! Capelyddiaeth yn well gair, efallai. Am y cwestiynau sydd gan yr Hen Bant yn yr emyn, onid dyma’r union gwestiynau sydd wedi arwain pobol ar hyd y canrifoedd ac sy’n dal i wneud hynny heddiw at wir grefydd. Beth yw hynny, tybed? Does gen i ddim ateb gwell na’r hyn a geir yn emyn 516 yn Caneuon Ffydd ‘Iesu ei hunan yw fy mywyd. Iesu’n marw ar y groes: Y trysorau mwyaf feddaf Yw ei chwerw angau loes; Gwacter annherfynol ydyw Meddu daear, da na dyn; Colled ennill popeth arall Oni enillir di dy hun. WW Ein hangen mwyaf ydi darganfod cyfrinach yr Hen Bant - nid ei ddilorni fel dyn gorffwyll! Yn gywir, Dewi Tudur

Daeth criw mawr iawn o bobl ynghyd i weld y gwallt yn diflannu


Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal

30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda Am gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru

WILLIAMS ETO

Does neb na fyddai’n cytuno mai William Williams, Pantycelyn (1717-1791) yw prif emynydd Cymru. Edrychwch yn unrhyw lyfr emynau Cymraeg ac fe welwch emyn ar ôl emyn o’i eiddo. Yn y Caneuon Ffydd mae yna gymaint ag 88 ohonynt. Mae’n amlwg bod Williams wedi mynegi profiadau sydd hefyd wedi bod yn brofiadau byw i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl. Ond mae yna lawer mwy i emynau Williams na hynny. Yn ei lyfr ardderchog ar rai o emynau mawr Cymru sef ‘Dechrau Canu’, mae E Wyn James yn sylwi bod Williams ‘yn adnabod ei Feibl yn drylwyr ac yn ysgrifennu ar gyfer pobl gyffelyb’. Mae hyn yn siŵr o fod yn wir; paratowyd yr emynau ar gyfer eu canu gan y Methodistiaid cyntaf – pobl oedd yn olau yn eu Beibl ac yn myfyrio yn gyson ynddo. Dro ar ôl tro gwelwn fod rhyw adnod neu bennod wedi ysbrydoli emyn. Dyna i chi emyn 728 yn y Caneuon Ffydd: ‘Pam y caiff bwystfilod rheibus dorri`r egin man i lawr?’ O lle y daeth y syniad yna tybed? Problem yn y cynhaeaf ŷd ym Mhantycelyn efallai? ‘Na’, meddai`r arbenigwyr. Dylanwad yr Hen Destament sydd i’w weld yma. Maent yn credu bod Williams yn cyfeirio at ail bennod Caniad Solomon lle mae’r awdur yn dweud, ‘Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd; canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin.’ Efallai wir ond mae yna broblem yma i mi. Rydw i’n deall yn iawn pam fod amaethwyr Ardudwy eisiau dal a difa llwynogod mawr a bach. Maen nhw’n lladd ŵyn heb sôn am ieir a hwyaid ac ati ond ydyn nhw yn difetha

tyfiant? Efallai y gall rhywun o ddarllenwyr Llais Ardudwy fy ngoleuo yn hyn o beth. Trown at yr ail bennill: ‘Gosod babell yng ngwlad Gosen, tyred, Arglwydd yno d`Hun...’ Ydy Williams yn sôn am gampio? Tent yn y cae, efallai? Go brin! Cofio mae Williams am hanes hen genedl Israel yn Llyfr Genesis. Pan ddaeth Jacob a’i deulu i’r Aifft i fyw, daethant yno i osgoi newyn yng ngwlad Canaan. Roeddent wedi cael gwahoddiad yno gan Pharaoh fel ffafr i Joseff, mab Jacob, oedd wedi arbed yr Aifft rhag y newyn. Oherwydd bod defaid a bugeiliaid yn ffiaidd gan yr Eifftiaid, rhoddwyd gwlad Gosen i deulu Jacob i fyw ynddi ac yno y cododd y teulu eu pebyll er mwyn iddynt drigo ar wahân a chadw eu traddodiadau a’u crefydd. Mae yna ddau bennill arall i’r emyn yma ond gadawyd hwy allan o’r Caneuon Ffydd. Mae’r rhain hefyd yn llawn o gyfeiriadaeth Feiblaidd. Canwyd yr emyn yma ar sawl tôn dros y blynyddoedd. ‘Arfon’, rhif 593 geir yn Caneuon Ffydd. Ŵyr neb pwy yw’r cyfansoddwr. Dywedir yn yr hen lyfrau mai alaw Gymreig ydi hi ac, yn ôl rhai, yn amrywiad o’r hen alaw Tros y Garreg. Ond haws ydy derbyn tystiolaeth y Cydymaith mai alaw o Ffrainc sydd yma mewn gwirionedd, oherwydd ei bod wedi ei chyhoeddi yn Paris yn 1690 ar gyfer gwasanaethau’r offeren yno. Addewais awgrym am drip yn y pwt diwethaf yn do? Wel, bu Williams dan addysg yn ardal Y Gelli Gandryll ym Mhowys pan oedd yn paratoi am yrfa ym myd meddygaeth. Nid oes llawer iawn yno heddiw heb newid yn yr ardal er dyddiau Williams ond os ewch chi yno rhyw dro gofalwch am fynd i weld Capel Maesyronnen. Mae’n dyddio o tua 1696 ac mae’n ddigon o bictiwr. Gan mai Annibynnwr oedd Williams ar y dechrau ac mai capel i’r Annibynwyr oedd Maesyronnen i ddechrau efallai nad wyf yn bell o’m lle yn tybio iddo droi i mewn unwaith neu ddwy. Mwy am Williams a Chaniad Solomon y tro nesa! JBW

19


GŴYL RYGBI TAG CWPAN Y BYD CLWB RYGBI HARLECH Yn ddiweddar, daeth dros 120 o blant ysgolion cynradd Ardudwy i gaeau Brenin Sior V yn Harlech i fwynhau chwarae rygbi a chymdeithasu. Rhannwyd y plant i dimoedd gwledydd cwpan rygbi y byd a chwarae’r gemau fel yn Siapan - ond bod yr Wyl drosodd mewn diwrnod! Yn yr wyth olaf roedd Awstralia a Ffrainc, Tonga a Fiji, Rwsia a Canada, De Affrica a Samoa. Yn y gemau cyn-derfynol roedd Ffrainc a Samoa, Tonga a Rwsia. Yn y gêm derfynol roedd Rwsia a Ffrainc, gyda Rwsia yn ennill. Gwobrwywyd y plant gan Mr Edmund Bailey a oedd yn falch o fedru llongyfarch pawb ar eu llwyddiant. Diolch i bawb am drefnu. Diolch i’r dyfarnwyr Graham Perch, Gavin Fitzgerald, Gareth Williams a Gwion Llwyd. Diolch hefyd i drefnwyr y cae, sef Eilir Hughes, Meilir Roberts, Susanne Davies, Dafydd Foulkes a’r criw o Ysgol Ardudwy. Yn bennaf diolch i r disgyblion a’u hathrawon am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth.

Pawb cyn cychwyn y gemau

Tîm Ffrainc oedd yn chwarae yn erbyn Tîm Rwsia yn y gêm derfynol a Rwsia enillodd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.