Llais Ardudwy Hydref 2020

Page 1

Llais 70c Ardudwy RHIF 502 - HYDREF 2020

DAU GANMLWYDDIANT CAPEL REHOBOTH, HARLECH

Dathlu 200 mlynedd yng Nghapel Rehoboth, y Bedyddwyr Albanaidd Er gwaetha’r pandemig, ar brynhawn braf dydd Sul Medi 20fed, cawsom gynnal ein gwasanaeth i ddathlu dau ganmlwyddiant ers pan agorwyd drws y capel am y tro cyntaf. Yn ôl y canllawiau, dim ond trideg oedd yn cael bod yn bresennol, ac ar ôl i bawb arwyddo’r gofrestr angenrheidiol o bwy oedd yna, cawsom wasanaeth byr. Roeddynt i gyd yn siomedig na chawsom gael canu, ond anodd fuasa hi gan fod pawb yn gorfod gwisgo mwgwd beth bynnag. Gwasanaeth o ddiolch ydoedd (mae gennym ni le mawr i ddiolch, yn does?) Ar ein gweddïau cawsom enwi pawb o’n hanwyliaid oedd wedi methu a bod gyda ni. Hefyd, dyma fuasai wedi bod ein gwasanaeth o ddiolchgarwch am y cynhaeaf a braf oedd gweld y blodau, ffrwythau a llysiau yn addurno y ffenestri, fel yr arferiad. Wrth gwrs, diwrnod oedd hwn i gofio anwyliaid oedd, ar hyd y blynyddoedd, wedi cadw’r drws ar agor, ac wedi ein dysgu ninnau, bob un ohonom, i gerdded y llwybr i’r capel. Gorffennwyd y dathlu drwy i bawb ymuno wrth fwrdd y cymun. Diolch i Peter ac Elizabeth am eu parodrwydd i glirio y fynwent o amgylch y capel. Hefyd, mawr yw ein diolch i Elizabeth am lanhau ac addurno’r capel. Hyfryd oedd gweld baneri Cymru yn chwifio yn y gwynt ar hyd ochr y llwybr. Eu merch, Christine a roddodd y gacen, wedi ei haddurno yn addas iawn, a chymerodd ei lle wrth ochr y gannwyll ddau gant. Goleuwyd y gannwyll i atgoffa bawb fod y gannwyll yn dal ar olau yn y dyddiau rhyfedd yma. Penodwyd Iola, fel yr hynaf ohonom ar y diwrnod, i dorri y gacen, a chafodd pawb damaid ohoni i fynd adref gyda hwy. Cytunodd pawb ein bod wedi cael gwasanaeth hapus iawn i ddathlu ac i gofio diwrnod mor bwysig i’r capel. Welwn ni byth ddathlu mor bwysig eto. Diolch i bawb am eu cyfraniad helaeth ar y diwrnod.


GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com 2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com 3. Haf Meredydd Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 01766 780541

ENNILL DOETHURIAETH

SWYDDOGION

Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 30 a bydd ar werth ar Tachwedd 4. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Hydref 27 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

2

Llongyfarchiadau i Dr Kelly Ann Young (nee Maguire) yn wreiddiol o Roslin, Dyffryn Ardudwy, merch i John a Susan a chwaer i Amanda, sydd wedi llwyddo i ennill ei doethuriaeth ers mis Mawrth ar ddechrau’r cyfnod cloi. Pwnc ei thesis oedd addysgeg sgaffaldio sgiliau iaith Gymraeg mewn rhaglenni israddedig wedi seilio ar ei phrofiad dysgu ar gyrsiau israddedig Busnes trwy gyfrwng y Gymraeg. Symudodd ei theulu i bentref Dyffryn yn 1981 ac aeth Kelly i Ysgol Gynradd Dyffryn ac Ysgol Ardudwy lle dysgodd hi’r Gymraeg dan hyfforddiant Mr Elfed ap Gomer a Mr Elfyn Vaughan Jones. D’wedodd Kelly, ‘Fel merch o Wolverhampton yn wreiddiol, dwi mor

ddiolchgar i’m hathrawon a wnaeth magu fy hyder a fy malchder yn yr iaith Gymraeg a Chymreictod, rydw i’n fythol ddiolchgar am y gallu i siarad Cymraeg yn rhugl a nawr mae gyda fi’r cyfle i rannu hyn gydag eraill’. Mae Kelly yn Uwch-ddarlithydd Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn arbenigo mewn Busnes Cynaliadwy a Moesegol ac yn rheolwr y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Reolaeth. Mae’n ddarlithydd cysylltiol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eleni cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr ‘Hwyluso Addysg Cyfrwng Cymraeg’ ledled Cymru. Erbyn hyn, mae Kelly yn byw ym Mhont-y-pŵl, gyda’i gŵr, Scott, a’i merched Georgia a Rebecca. Yn anffodus, cafodd y seremonïau graddio eu gohirio eleni, ac roedd Kelly yn edrych ymlaen at ddathlu gyda’i merch Georgia a wnaeth raddio hefyd eleni gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifyddeg o Brifysgol Caerdydd. Mi oedden nhw am raddio ar yr un diwrnod â’i gilydd a dwedodd Kelly ‘ni’n edrych ymlaen at y seremoni graddio blwyddyn nesaf ac yn gobeithio bydd e’n ddathliad mawr gyda phawb o’r teulu yn gallu ymuno â ni’.

UCHEL SIRYF

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Eryl Francis Williams, Derwen, Ffordd Uchaf, Harlech ar gael ei ddewis yn Uchel Siryf Gwynedd am y flwyddyn 2020-21. Yr Is-siryf yw Dr John Gwilym Owen o adran y Gyfraith, Prifysgol Bangor. Caplan y Siryf fydd y Parchedig Ganon Beth Bailey, Gorsygedol. Mae Uchel Siryfion yn rhoi cymorth ym maes atal troseddau, y gwasanaethau brys ac i’r sector gwirfoddol. Bu llawer yn arbennig o weithgar yn annog mentrau lleihau troseddau, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Penodiad gan y Goron yw hwn. Pob dymuniad da i Eryl yn y swydd. Gwyddom y bydd yn ymroi nerth deng ewin.


HOLI HWN A’R LLALL

Enw: Alun Owen Gwaith: Wedi ymddeol ond mi oeddwn yn gweithio fel peiriannydd strwythur (structural engineer). Cefndir: Fe’m ganwyd yn Berwynfa, Y Bala, tŷ fy nain a thaid ar ochr fy mam. Roedd taid yn ddirprwy brifathro ac roedd fy nain yn ŵyres i Michael D Jones. Cawsom lawer stori ganddi am yr hen ddyn. Ei merch hi oedd fy mam. Fy nhad oedd John Owen, yn enedigol o Ddolwyddelan, yn bregethwr i ddechrau yn Llangynog, yna Groes ger Dinbych cyn dod i Lanbedr yn 1950. Cefais addysg uwchradd yn Ysgol Ardudwy. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Drwy gerdded ychydig o gwmpas yr ardal a thynnu lluniau gyda chamera. Roeddwn yn cerdded a dringo mynyddoedd a seiclo llawer ond roedd rhaid rhoi’r gorau iddynt oherwydd fod effaith cefn gwan wedi dal i fyny ar ôl gormod o neidio allan o awyrennau o uchder ac ar un tro yn glanio yn ddrwg mewn ffos. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cylchgronau ar ffotograffiaeth, seiclo, cefn gwlad a bywyd gwyllt - Ninnau, Y Casglwr, Gwreiddiau Gwynedd, Yr Angor ac wrth gwrs Llais Ardudwy. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Nid oes modd cael teledu Cymraeg yn Sir Gaerhirfryn (Lancashire), ond dwi’n gwrando ar BBC Radio Cymru i gael newyddion. Ar y teledu, rhaglenni digrif fel Last of the Summer Wine, rhai cartŵns a rhaglenni dogfennol. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rhy dda a braidd gormod. Hoff fwyd? Bwyd traddodiadol Prydeinig ran fwyaf yn cynnwys cyw iâr neu borc. Ar adegau, hoffaf bryd o gig coch fel bacwn (efo ŵy), stêc ffiled neu rost bîff efo tatws a llysiau a grefi. Hoffi hefyd cael pysgodyn a sglodion neu pitsa ar adegau eraill - ond dim pysgod cregyn. Hoff ddiod?

Gwin coch fel Malbec o’r Ariannin ac yfed gyda bwyd yn unig a’i dilyn gyda gwydriad o port neu Limoncello. Coffi du, wedi ei wneud wrth falu ffa coffi a dŵr poeth mewn cafetière. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? I fynd yn ôl mewn amser a hanes, Llwyd ap Iwan, mab hynaf Michael D Jones. Buasai pryd o fwyd a sgwrs o gwmpas tân, ar noswaith ar y paith, a chig guanaco yn coginio dros y tân. Roedd Llwyd yn beiriannydd a syrfëwr gwych a aeth allan i Patagonia yn 1886 a chyfrannu llawer i sefydliad y Cymry yn y Wladfa. Cynlluniodd rhai o’r ffosydd i gael dŵr o’r afon Camwy i feithrin y cnydau. Roedd hefyd yn anturiaethwr ac wedi archwilio y tu hwnt i Ddyffryn Camwy, fel John Daniel Evans (El Baqueano), ac i’r Andes a pharatoi nodiadau a mapiau da. Mae Mynydd Llwyd yn yr Andes heddiw wedi ei enwi ar ei ôl. Trist iddo gael ei saethu, ddyddiau ar ôl Nadolig 1909 yn Nant y Pysgod, yn ystod lladrad gan ddau lofrudd o griw Butch Cassidy a’r Sundance Kid. Lle sydd orau gennych? Ynysoedd Prydain. Un ynys arbennig yw St Kilda yn yr Alban ac rwyf wedi bod yno lawer gwaith. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn nechrau’r nawdegau roeddwn yn arweinydd parti gweithio ar ynysoedd St Kilda. Aros am bythefnos yno yn trwsio ac atgyweirio’r hen adeiladau ar y brif ynys, sef Hirta. Hefyd yn 2013 cefais gyfle i gael trip bythgofiadwy i’r Wladfa a chyfarfod fy mherthnasau a disgynyddion eraill o deulu Michael D Jones. Roedd yn bleser cyfarfod â llawer ohonynt ac fe agorodd y drws i baratoi a chwblhau cart achau pob un o’r teulu, yn dechrau gyda phriodas M D Jones gydag Ann Lloyd yn 1858, ac ymlaen hyd heddiw. Mae’n cynnwys pawb, a’r babanod newydd, hyd at 2020. Beth sy’n eich gwylltio? Dim yn gwylltio’n hawdd ond llawer o bethau (dibwys hwyrach i eraill) braidd yn poeni neu gythruddo – fel modurwyr, ac yn arbennig lorïau, yn gyrru rhy agos i gefn y car; rhai yn tipio ysbwriel yn y wlad; rhai yn ymddwyn yn wirion; ac ymlaen. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Un sydd â theyrngarwch, amynedd a gonestrwydd ac yn barod i roi cefnogaeth a gallu gwrando’n dda. Pwy yw eich arwr? Llwyd ap Iwan, neu ei dad a’i fam. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal

hon? Wedi gadael yr ardal ers amser hir ac felly yn anodd iawn enwi un arbennig. Beth yw eich bai mwyaf? Gadael y mwyafrif o bethau hyd y funud olaf. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Pan gawn ryddid o’r feirws unwaith eto yn y dyfodol, fe fydd yn ddymunol iawn cael eistedd, a hwyrach grwydro ychydig am dro, a gwerthfawrogi’r byd natur a’r cefndir hardd (a’r tawelwch os fydd bosib) mewn lleoedd yng Nghymru fel ar lannau Llyn Tegid yn Y Bala, yng Nghwm Bychan neu Gwm Nantcol. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei gyfrannu rhwng ysgolion Cymraeg yn y Wladfa, sef Ysgol yr Hendre, Trelew; Ysgol Feithrin y Gaiman ac Ysgol y Cwm yn Nhrefelin. Mae’r oll wedi cau ers amser maith a dim golwg ar agor yn y dyfodol agos oherwydd effaith y feirws Covid-19. O ganlyniad maent yn cael trafferth ariannol ofnadwy. Eich hoff liw a pham? Glas neu wyrdd – prif liwiau natur a’r gorau a’r mwyaf caredig i’r llygadau. Eich hoff flodyn? Rhosyn rwyf yn meddwl (ond nid wyf yn arddwr o gwbl). Eich hoff gerddor? Dwi’n hoff o wrando ar gerddoriaeth glasurol neu un gyda thôn dda. Yr oeddwn yn hoff o ganeuon cyntaf y Beatles am flynyddoedd. Cefais gyfle i fynd i’w gweld yn yr Odeon, Lerpwl, yn Rhagfyr 1963. Nid oedd llawer o fechgyn yn y gynulleidfa. Roedd y merched yn sgrechian yn ofnadwy a llawer yn llewygu o’m cwmpas, a gwirfoddolwyr Ambiwlans Sant Ioan yn stwffio smelling salts o dan eu trwynau. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chware’r piano neu rhyw offeryn cerdd yn dda. Rhoddais y gorau i’r holl waith gan Linor Lloyd, Llanbedr; a oedd yn brwydro efo fi dros rai blynyddoedd yn ceisio dysgu’r piano imi. Ceisio dysgu chware’r feiolin ond colli’r holl arbenigedd ar ôl ymadael i’r coleg. Eich hoff ddywediadau? Dyma un rwyf yn cytuno efo fo, yn arbennig ar yr adegau y feirws Covid-19 yma, lle mae pawb i fod i hunan-ynysu, ond rhai ddim: “The world is full of idiots ... and I have met a lot of them!” Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn euog o fod yn ddiog. Ar ôl ymddeol rwyf wedi mwynhau’r oriau gwirion. Os yn gwybod bod rhaid fe wnaf baratoi a threfnu pethau ymlaen llaw ... fel moto y Sgowtiaid,“Be Prepared”.

3


EMYR MORRIS JOHN

Wel Dad bach, mae’r amser wedi dŵad i ni ddweud ffarwel. Emyr John ... mae’r llu negeseuon rydym wedi eu derbyn drwy Facebook yn dyst i dy boblogrwydd a’r ffaith dy fod yn gymeriad a hanner: ‘Un o’r goreuon oedd Emyr’, ‘Dyn ffeind a charedig’, ‘Such a hard working and genuine man’ ‘Andros o gês’, ‘Calon enfawr’, ‘A true legend, a gent and will be sorely missed’, ‘Atgofion melys o forio canu Blaenwern yn y Lion’, ‘Your Dad was one in a million’. Ia, dyna Dad. Ond, heddiw, rhaid cofio hefyd am Mam. Dad oedd ei chariad cyntaf – cariad am oes. Mi fydda hi’n mynd hefo’i ffrind, Caerwen, i wylio Harlech yn chwarae pêldroed, y cae ffwtbol bryd hynny ar safle Ysgol Ardudwy. A dyna pan sbotiodd EM! Hogan un ar bymtheg oedd hi, ond mi roedd yn gwybod yn syth bin mai Emyr John oedd y boi iddi hi. Buon nhw’n canlyn am rai blynyddoedd – Dad yn sgwennu at Mam bob dydd tra roedd yn y Coleg Normal, Bangor ac yn ei ffonio bob nos. Rhoddodd Taid Min-yDon ddarn o dir iddyn nhw wedi iddyn nhw ddyweddïo. Ac felly, fesul bricsan gyda’r nos - fel y medrant fforddio – fe godwyd Trem-y-Wawr, ein cartref, lle bu’r ddau ohonyn nhw (a ninnau) mor hapus. Y ddau mewn cariad hyd y diwedd un, yn parhau i afael llaw a rhoi rhyw sws fach bob hyn a hyn. Be am Dad? Be fedra i ddeud? Mae’r pethau a nodwyd gan Steve yn ei bortread o Dad, a ysgrifennodd pan yn blentyn ysgol, dros 30 o flynyddoedd yn ôl, yn wir hyd heddiw. Cymryd amser i wneud bob dim yn iawn, roedd yn un mor daclus wrth ei waith ac yn cymryd balchder mawr yn unrhyw beth a phopeth a wnâi – o’r ardd i’w waith fel adeiladwr, i’w edrychiad pan fyddai’n mynd allan am ryw ‘jeri binc’ bach. Byddai wrth ei fodd pan fyddai pobl, ar eu ffordd i’r traeth, yn stopio i edmygu yr ardd ffrynt. A dyna hi wedyn ... sgwrs

4

am hydoedd. Mi siaradai â phawb, mor gyfeillgar, a byddai’n trin pawb yr un fath. Un hael iawn oedd o, yn rhannu yr holl lysiau a blodau a dyfai. Un mawr ei gymwynas, byth yn gwrthod rhoi help llaw i neb, ond yn gwneud hyn yn dawel fach. Un da ei gyngor oedd Dad – mi fydd chwith heb dy ddoethineb, Dad bach – yn glust i wrando ac yn ysgwydd i bwyso arno. Fydda fo byth yn barnu ond yn gweld y gorau ym mhawb. Ond mi roedd ganddo dempar, ond fel matsien mi fyddai’r gwyllt yn diflannu cyn gynted ag y byddai’n cynnau, a byth yn dal dig. Roedd Trem-y-Wawr wastad yn llawn miwsig a Dad yn aelod brwd o Fand Arian Harlech am flynyddoedd maith, yn chwarae’r bass trombone. Wrth ei fodd yn mynd i gyngherddau bandiau pres ac ar ben ei ddigon pan fyddai’r All Star Brass Band yn dod i’r Theatr. Dyna pam roedd dwy emyn dôn yn ei wasanaeth angladdol wedi eu chwarae gan fandiau pres. Byddai chwarae golff yn un o’i ddiddordebau mwyaf ers talwm, a bu’n aelod o’r Clwb Golff am flynyddoedd lawer. Bu’n cynrychioli’r clwb fel aelod tîm lawer i dro. Byddai wrth ei fodd yn adrodd un hanesyn. Roedd tîm ohonyn nhw wedi mynd i Rosneigr i chwarae yn y ffeinal 7-bob-ochr yn erbyn Clwb Gogledd Cymru, Llandudno. Dad oedd yr ‘anchor man’, yn chwarae’n olaf. Roedd Harlech wedi ennill tair gêm ac wedi colli tair gêm a Dad yn ‘6 down and 9 to play’. Edrychai’n annhebygol iawn y byddai Dad yn ennill – a’r tîm arall yn dechrau dathlu wrth y bar. Ond, erbyn y twll olaf, roedd pob dim yn gyfartal… ac ennill ar yr unfed twll ar hugain fu’r hanes! Gallwch ddychmygu’r dathlu! Byddai wrth ei fodd yn cymdeithasu, tynnu coes a chael hwyl, yn joio ryw ginsan mawr neu ddau yn y Golff, yr hen Glwb Chwaraeon, y Rum Hole (fel a fu) neu’r Lion. A rhaid oedd gorffen y noson drwy ganu, a’r gan ola ... wel, Blaenwern wrth gwrs. Morio canu a HALELIWIA ar ei diwedd. A rhywsut neu’i gilydd, byddai wedi llwyddo i ‘fenthyg’ blodyn (rhosyn fel arfer) ar ei ffordd adra - i Mam. Roedd yn dad, taid a hen daid mor gariadus ac addfwyn, yn meddwl y byd ohonom, bob un wan jac. A doedd dim yn ei blesio fwy na phan fyddai pawb adra. O Dad bach, mi fydd chwith mawr ar dy ôl, ond os sticiwn ni at dy egwyddor o ‘6 down and 9 to play’ er gwaetha’r storm, fe ddown drwyddi ac ‘fe ddaw eto haul ar fryn’. Cwsg yn dawel, Dad bach. Caru chdi am byth. Carys

DAD

Portread o’i dad a ysgrifennodd Stephen John pan oedd yn blentyn 11 oed. Enw fy nhad yw Emyr Morris John. Y mae’n bum troedfedd a naw modfedd o daldra. Mae o braidd yn dew ar hyn o bryd ond mae arno eisiau colli pwysau. Ni fydd hyn yn hawdd oherwydd ei fod mor hoff o fwyd, yn enwedig sglodion. Mae ganddo lygaid glas, gwallt cyrliog gweddol hir a thrwyn cam. Fe dorrodd asgwrn ei drwyn wrth baffio mewn pencampwriaeth yn y fyddin. Mae o’n gryf iawn ac mae o braidd yn wyllt os bydd rhywbeth wedi ei gynhyrfu. Mae’n hoff iawn o gael popeth yn daclus yn ei waith ac yn ei gartref. Bydd yr ardd yn mynd â llawer iawn o’i amser. Bydd yn tyfu llysiau a blodau ac mae wedi ennill droeon mewn sioeau gyda’i gynnyrch. Mae’n hoffi bob math o chwaraeon, yn enwedig golff a phêl-droed. Bu’n chwarae pêl-droed pan oedd yn iau ond rŵan mae’n chwarae golff. Mae wedi ennill llond cwpwrdd o gwpanau ac mae’n gwisgo’n lliwgar pan fydd yn chwarae. Mae hefyd yn hoff iawn o fiwsig, yn enwedig bandiau pres. Bu’n chwarae trombôn gyda Band Harlech am flynyddoedd a bydd wrth ei fodd yn mynd i wrando ar gyngherddau gan fandiau pres. Ar y teledu, ei hoff raglen yw Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar nos Sul. Nid yw’n hoffi ffilmiau sâl a ‘sothach’ y mae’n ei ddweud am y rhan fwyaf o raglenni. Adeiladu yw ei waith a bydd yn dweud y drefn am y gwaith gwael sydd i’w weld heddiw. Mae wedi adeiladu llawer o dai yn Harlech a’r cylch. Mae’n hoff iawn o’i deulu a phlant bach. Bydd wrth ei fodd yn tynnu arnynt a chael hwyl efo nhw a phan ddaw ei wyrion i’n tŷ ni mae’n hapus iawn. Mae’n dad caredig a da i ni ac yr ydym yn meddwl y byd ohono ac yn ei garu. Fo yw’r tad gorau yn y byd. Stephen Diolch Dymuna Iola a’r teulu ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt ar ôl colli Emyr. Rhodd a diolch £25


TANYSGRIFWYR DRWY’R POST

Gair byr i ddiolch i’r rhai ohonoch sydd wedi ymateb yn brydlon i’r llythyrau a gawsoch gyda rhifyn mis Medi. Ymddiheuraf fod rhai wedi cael llythyr er mai rhywun arall sy’n arfer talu. Cysylltwch os gwelwch yn dda i adael i mi wybod os yw hyn wedi digwydd (mae’r manylion cyswllt ar dudalen 2). Buasai’n braf derbyn tâl gan y gweddill ohonoch yn ystod y mis nesaf. Cofiwch gynnwys y rhif a nodwyd ar eich llythyr, mae’n gymorth i mi weinyddu. Yn ddiolchgar, Iolyn Jones Trysorydd

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

5


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL PRIODAS AUR

Llongyfarchiadau i Euron a Mair Richards, Ffynnon Mair a fydd yn dathlu eu priodas aur ar Hydref 17. Fel y gwelwch, fe ddaeth y teulu ynghyd i dynnu llun yng nghwmni Mari Lloyd er mwyn dathlu’r achlysur. Ffotografydd ifanc Hyfrydwch oedd gweld Mari Lloyd ar raglen Heno yn sôn am ei gwaith fel ffotograffydd. Yn ystod y cyfnod cloi, bu Mari yn creu cofnod dogfennol o bob teulu yng Nghwm Nantcol trwy dynnu eu lluniau. Erbyn hyn, mae Mari yn defnyddio’r hen ysgol yn y Cwm fel stiwdio. Os am weld mwy o’i lluniau edrychwch ar ei gwefan - marilloydphotos.co.uk Braf gweld merch lleol yn dychwelyd adref i weithio mewn maes anghyffredin. Pob lwc yn y dyfodol iti Mari! Grŵp Llanbedr-Huchenfeld Yn anffodus, achos cyfnod y gofid, mae’r daith eleni o bobl leol i Huchenfeld ym mis Hydref wedi cael ei chanslo. Mae’r grŵp wedi anfon ei ddymuniadau gorau i faeres Huchenfeld gan addo y byddwn yn cadw’r cyswllt yn fyw pan fydd amgylchiadau yn addas ar gyfer hynny. Gobeithio bydd holl aelodau’r Grŵp yn gallu cadw eu hunain yn iach ac yn ddiogel.

MOELFRE

Chwefror 2020

Gorffennaf 2020 6

Diolch Dymunaf ddiolch i’m cyfeillion am eu geiriau caredig a’r dymuniadau da wrth i mi symud o Ardudwy. Rwyf yma yn Llanuwchllyn ers dros ddau fis bellach ac wedi setlo’n rhyfeddol Now y gath a minnau, ond mae’r ddwy iâr yn chwilio am le gwell gan lwyddo i ddianc, er maen nhw’n dodwy bob dydd! Hoffwn ddiolch hefyd i Susan ag Albert Groom am ofalu am y bocs trwm o’r Llais bob mis, gan fynnu eu cario at y car i mi. Roeddynt hefyd yn gofalu am y cyfrif iawn o’r Llais i’w rhoi i Bethan i fynd i Port, ac wrth gwrs - i Susan fel trysorydd y byddwn yn trosglwyddo arian y tanysgrifiadau. Ymddeoliad hapus i’r ddau, fu’n gweithio mor ffyddlon dros y Llais. Diolch o galon hefyd i’r criw bach sydd yn dal ati mor ddygn i gael y Llais at ei gilydd. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw am fy nghopi bob mis. Gweneira

Lluniau: Jennifer Greenwood


HEN LUNIAU O YSGOL ARDUDWY

Casgliad o ryseitiau, lluniau a chynghorion oddi ar grŵp Facebook poblogaidd Merched y Wawr. Yn fuan ar ôl Clo Mawr y Covid-19 ym Mawrth 2020, sefydlodd tair o aelodau Merched y Wawr y dudalen Facebook Curo’r Corona’n Coginio er mwyn annog pobl i rannu eu ryseitiau a’u cynghorion. Ymhen rhai wythnosau roedd 15,000 wedi ymaelodi â’r grŵp, gan greu cymuned gyfeillgar sy’n ymestyn ar draws y byd. Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno cyfran fechan yn unig o gynnwys y dudalen, gan ddathlu’r creadigrwydd yn ein ceginau a safon ein cynnyrch Cymreig. Noddir y gyfrol hon gan Cywain a Hybu Cig Cymru. Pris: £10. Dyma un rysait er diddordeb. CACEN RWTSH RATSH 8 owns ffrwythau cymysg 4 owns menyn 4 owns siwgr caster hanner cwpan o lefrith 1 ŵy 8 owns blawd codi Rhowch y 4 cynhwysyn cyntaf mewn sosban a dod â’r cyfan i’r berw gan ei droi a’i gymysgu. Gadewch iddo oeri [hyn yn bwysig!]. Adiwch yr ŵy a’r blawd codi a chymysgu. Rhowch y gymysgedd mewn tun yn y popty [gwres 140 - 150C ffan am awr].

7


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Is-gadeirydd y Parc

Diolch Dymuna Bethan, Deilwen a Gwynedd a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth diweddar. Casglwyd £501 tuag at achos Ambiwlans Awyr Cymru er cof am William (Bill) Thomas. Rhodd a diolch £25 Rhodd Diolch am rodd o £25 i Llais Ardudwy gan wraig sy’n dymuno bod yn ddienw.

Llongyfarchiadau gwresog iawn i Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar gael ei hethol yn Is-gadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hon yn swydd bwysig a dymunwn yn dda i Annwen yn y gwaith. Bu’n Gadeirydd Cyngor Gwynedd yn 2018-19 ac mae hynny’n tanlinellu’r parch sydd iddi mewn llywodraeth leol. Mae Annwen yn weithgar iawn mewn sawl cylch yn lleol ac ymhellach. Dymunwn bob hwylustod iddi yn ei gwaith.

PLANT YR YNYS

Bob, Priscilla, Roger, John, Anthony a Dafydd. Evan Evans, 2 Tŷ Gwyn sydd efo nhw.

TÎM DARTIAU BRON TREFOR 1982

PRIODAS DDEIAMWNT

Rhes gefn: Roger, Derwyn, Dafydd Vaughan, Bryn, Emyr, Brian a Keith Rhes flaen: John, Iwan, Nigel, Bryn ac Ieuan

R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286

TRYCIAU IZUZU Llongyfarchiadau cynnes iawn i Eirwen a Barry Steward, Awel y Mynydd, Llandecwyn fydd yn dathlu eu priodas ddeiamwnt ar Hydref 8. Dymuniadau gorau gan Linda, Bob, Hannah, Jo, Ellie ac Alexa. £10

8


LLANFAIR A LLANDANWG Adnewyddu’r platfform MAM OEDD YN IAWN yng ngorsaf Llandanwg Mae’r gwaith yng ngorsaf Llandanwg yn golygu adnewyddu’r platfform drwy osod waliau cynnal newydd o goncrit wedi’i rag-gastio a wyneb newydd llawn ar y platfform presennol. Bydd gwaith yn digwydd yno bob dydd rhwng 7 y bore a 7 gyda’r nos o ddydd Llun, 5 Hydref i ddydd Gwener, 13 Tachwedd 2020, ond fe all y dyddiadau yma newid. Dyddiadau shifftiau Dydd Llun 5/10 hyd Gwener 16/10 Canol yr wythnos yn unig Dydd Sadwrn 17/10 hyd Sul 1 Tachwedd – 7 diwrnod yr wythnos Dydd Llun 2/11 hyd Gwener 13/11 – Canol yr wythnos yn unig. Mae Network Rail yn ymwybodol eu bod yn gweithio’n agos at amryw o gartrefi yn y fro ac yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw darfu a fydd yn digwydd. Os oes gan unrhyw un gwestiynau neu bryderon ynghylch y gwaith a fydd yn digwydd, ffoniwch Linell Gymorth 24-awr NR ar 03457 114141 neu ewch i www.networkrail.coluk/ contactus Am fwy o wybodaeth am fyw yn ymyl y rheilffordd, ewch i: https://www.networkrail.co.uk/ communities/living-by-the-railway/ Rebecca Harvey, Rheolwr Cysylltiadau Cymunedol Rhodd Diolch i Mrs Elisabeth Jones, Tyddyn y Gwynt am dalu mwy na’r gofyn am gopïau o Llais Ardudwy yn ystod cyfnod y gofid mawr. Anfonwn ein cofion ati.

John a Roger Kerry ar eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol newydd yn Nhalsarnau ym 1959 a’r efeilliaid yn 11 oed 70 mlynedd yn ôl, llosgwyd tŷ yn Llanfair o’r enw Awelfryn. Achubwyd pawb o’r tŷ heblaw am fachgen bach dwy oed. Roedd ei fam yn rhedeg o amgylch y caeau yn chwilio amdano. Daeth dyn o’r enw Wmffra Williams draw i helpu. Rhoddodd sach dros ei ben ac aeth i mewn i’r mwg a’r fflamau, a theimlodd ei ffordd o amgylch y tŷ, nes teimlo bwndel bach yng ngwaelod un gwely, a’r bwndel bach oedd fi, Roger Kerry. Pymtheng mlynedd yn ddiweddarach bu farw Wmffra Williams. Pan oeddwn i yn ddeunaw oed, roedd yna wasanaeth yn y tŷ, sef 6 Derlwyn. Dywedodd mam wrthyf fod yn rhaid i mi fynd i’r gwasanaeth, a minnau’n gwrthod ond mynd oedd rhaid. Roedd y gwasanaeth preifat am 1 o’r gloch y prynhawn. Pan gerddais i mewn drwy’r drws ffrynt oedd yn agored a gweld a sefyll yn y cefn yn yr ystafell fyw, gwelais bobl yn gofyn i’r naill a’r llall, “Pwy ydy hwn?”, ac wrth glywed rhai yn egluro am ddewrder Wmffra Williams, pymtheg mlynedd yn ôl, roeddwn yn gwybod mai mam oedd yn iawn. Cafodd Wmffra Williams fedal am ei ddewrder, ond nid aeth i Lundain i’w derbyn gan ei fod yn ddyn mor swil. Oes, mae yna 70 mlynedd ers y tân, ond rwyf yn dal i feddwl am ddewrder Wmffra Williams bryd hynny. RK

Swyddfa’r Post Symudol Talsarnau

Amserlen newydd Corona o’r 6ed o Hydref dydd Mawrth a dydd Gwener 11.45 - 12.30 9


YMWELIAD Â GOGLEDD BRO ARDUDWY YN 1883 (RHAN 2) Cyrhaeddodd O R Morris eglwys blwyf Llandecwyn, a chafodd ar ddeall mai ychydig iawn oedd yn arfer ei mynychu oddiethr ychydig o ‘ddisgyblion y torthau’ meddai. Daeth heibio dau gapel bychan (Brontecwyn a Soar) yn perthyn i’r Wesleaid, a threuliodd Sul yn Talsarnau. Yno y preswyliai David Williams y pregethwr, pan oedd O R Morris yn fachgen – un oedd yn hynod o flêr ei gyflwr. Cofiai fel y byddai’r het ar ei ben a honno ymhell rhy fawr – het lydan, drom, a chantol ddigon mawr i fod yn ambarel iddo bron; a byddai ei lodrau a’i gôt mor llac, fel y byddai’r plant yn ofni eu gweld yn llithro oddi amdano. Hefyd byddai sgarff wedi ei glymu mor llac, nes fod pobl yn synnu sut nad oedd wedi datod a syrthio i ffwrdd. Ond yr oedd David Williams, Talsarnau, yn hen Gristion da, yn bregethwr eithaf sylweddol – er yn hynod o farwaidd a sych ei draddodiad, ac oherwydd hynny yn amhoblogaidd fel pregethwr. Yno hefyd y bu y Parch Griffith Williams (1824-81) yn byw am y rhan fwyaf o’i oes, ac yn cadw siop yno, sef awdur ‘Cofiant y Parch R Humphreys, Dyffryn’ (1873), ‘Yr hynod William Ellis, Maentwrog’ (1875) a ‘Bwthyn fy Nhaid Oliver’ (1880). Yr oedd ef ac O R Morris yn gyfeillion mawr am flynyddoedd ym more eu hoes. Yr oedd wedi meddwl cael llawer o fwynhad o edrych yn ôl dros y blynyddoedd gyda Griffith Williams yn ystod ei ymweliad, ond yr oedd ef wedi marw ychydig cyn iddo gyrraedd Meirion.

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN

Llais Ardudwy 10

Oddi yno aeth i Harlech, tref a fu yn bwysig ac enwog am ei chastell enwog’, ond oedd erbyn hynny ‘yn lle bychan dibwys, er yr haera y trigolion iddo fod unwaith yn brif dref y sir’. Wrth edrych arni yr oedd yn ei atgoffa am rai o’r corneli a’r croesffyrdd a ddarluniai Nashby yn Kentucky a Virginia. Tywyswyd ef o amgylch y castell gan un o’r brodyr. Ar y gwastadedd eang oddi tano y cynhaliwyd rasys Harlech, rhyw ganrif neu ddwy ynghynt, ond yr oedd gwareiddiad a chrefydd wedi rhoi atalfa iddynt ers tro. Yr oedd gan y Methodistiaid gapel hardd yn Harlech, ‘eglwys gref a’r frawdoliaeth yn hynod garedig a siriol.’ Ymholai’r bobl ynglŷn â’r Parch David Pugh (1821-87), Rock Hill, Wisconsin, un a fu’n aelod o’r eglwys honno pan yn blentyn. (Yr oedd yn hyddysg mewn hanes, seryddiaeth, daearyddiaeth a daeareg, a chanddo wybodaeth eang mewn cerddoriaeth a rheolau barddoniaeth. Yr oedd yn briod â Laura Owen o Pennal, Meirion. Bu’n weinidog gyda’r Presbyteriaid Cymraeg yn Chicago, Racine a Milwaukee. Ei ffugenw oedd Delta Pi. Enillodd ar gyfansoddi pryddest ar ‘Yr Areithfa Gymraeg’ yn Eisteddfod Scranton, Pennsylfania yn 1854). Yr oedd yna deimladau cynnes tuag at D Pugh o hyd, a dangosodd yr aelodau amryw o flychau casgliad a wnaed ganddo pan yn ifanc i O R Morris. Da oedd ganddo allu tystio wrthynt fod David Pugh yn un o arloeswyr Methodistiaid yn Wisconsin ym mlynyddoedd ei ymweliad. Aeth oddi yno i’r Gwynfryn, yng nghwr Ardudwy, a thrannoeth i gapel Horeb, Dyffryn, lle bu yr enwog Richard Humphreys (17901863), mab Gwern y Cynyddion, Dyffryn, ac yna’r Faeldref, yn byw y rhan fwyaf o’i oes. (Un o’i ferched

oedd Jennette Griffith Humphreys, marw 1888, priod yr enwog Parch Edward Morgan (1817-71), Dyffryn. Ar y ffordd rhwng y ddau le pasiai O R Morris y Faeldref lle yr oedd Mrs Morgan yn byw ar y pryd, trodd i mewn i’w chyfarch a chafodd dderbyniad croesawus. Pregethodd yn y capel y noson honno, ac ymysg y gynulleidfa yr oedd yr hen flaenor David Owen, a sgwrs a’i fab O D Owen, ac amryw o’i ferched yn byw yn yr un ardal ac O R Morris yn Minnesota. Aeth David Owen ac ef i ymweld â’r gweinidog, y Parch William Thomas (m 1916), Pwllheli a Llanrwst ar ôl hynny, sef priod merch Richard Humphreys yr hen weinidog, a chafodd derfyn dydd difyr yng nghwmni ei gilydd. Gadawodd y Dyffryn am y Bermo, lle y cartrefai y Parch D Davies (1815-87), Penmachno gynt, ‘gŵr o ddoniau naturiol, a ffraethineb mwy na chyffredin, gyda llais clir, tanbaid’, oedd erbyn hyn mewn gwth o oedran. Yno hefyd y cartrefai y Parch Richard Humphreys Morgan (1850-99), ŵyr i’r Parch Richard Humphreys (1790-1863), a mab i’r Parch Edward Morgan, ac a fu’n weinidog Caersalem (MC), Bermo, o 1877 i 1887. Rhedai Rheilffordd y Cambrian trwy holl bentrefi’r glannau, fel bod hynny wedi lleihau trafnidiaeth morol i raddau helaeth. Dywed O R Morris fod ‘yno gryn lawer o bobl ddiarth yn cyrchu yno i ymbleseru ac ymdrochi yn yr haf, a chryn lawer o dai wedi eu paratoi ar eu cyfer.’ Ychwanegodd fod ‘Ardudwy yn llain o wlad hyfryd ar y cyfan, a’i wyneb tua’r môr, ond ei bod yn gul iawn ac yn dechrau codi’n fuan i foelydd a bryniau uchel.’ Symudodd ymlaen am Dde Meirionnydd wedi hynny.

W Arvon Roberts


HAF PLENTYN O’R DDINAS YNG NGHYMRU

Amser a ddengys

Yn ystod wythnos olaf gwyliau’r haf arferai Mam ein hannog i fynd efo hi i gartref ein hen fodrybedd ar gyfer yr ymweliad blynyddol. Fel plant o’r ddinas roedd cael hwyl a sbri yng nghefn gwlad am y chwe wythnos hyn yn nefoedd. Cawsom hi’n anodd braidd cael ein ffrwyno gan bnawn ar aelwyd tair modryb (dwy yn weddwon) a’u brawd oedd dan anfantais. Roedd ein taith ar hyd priffordd dawel iawn, dros gamfeydd yn y waliau cerrig ac ar draws caeau fferm sy’n arwain at yr afon. Roedd rhaid croesi’r afon trwy ddefnyddio planc - sef “pont bren” a ddaeth yn “bompren.” Roedd hon yn ddychryn imi. Ofnwn i’r planc gael ei siglo gan chwaer ddireidus yn neidio i fyny ac i lawr. Meddyliais y buaswn yn syrthio ar fy mhen i’r afon islaw. Yna roedd yn rhaid cerdded ar draws y dolydd ac i fyny i’r tŷ lle’r oedd ein modrybedd yn aros. Unwaith y tu mewn, roedd disgwyl i ni eistedd yn dawel, gyda’r holl sgwrs yn Gymraeg - wedi’i chychwyn gan unrhyw un o’r tair modryb. Roedd y sgwrs yn gwrtais ac roeddem ar ein hymddygiad gorau heb unrhyw obaith o gael ein rhyddhau i redeg yn wyllt (fel ar fferm Nain). Ganed ein modrybedd yn nyddiau olaf y 19eg ganrif. Nid oedd yr un ohonynt wedi magu plant ac felly roedd eu disgwyliadau o safbwynt ymddygiad plant yn perthyn i’r cyfnod hwn. Ar ôl holi sut oedd pethau yn yr ysgol, roedd te prynhawn yn cael ei weini. Fodd bynnag, cyn hyn, byddai’r piano yn cael ei hagor a disgwylid i mi chwarae alaw. Er fy mod wedi cael llawer o wersi piano, nid oeddwn gystal â Mam a fy modryb, ond, rywsut, llwyddais i berfformio un eitem - emyn Gymraeg. Roedd hyn fel arfer yn cael derbyniad cwrtais er gwaethaf fy mhryderon. Roedd yr ystafell ym mlaen y tŷ fferm mawr ar ei ben ei hun gydag ystafell arall mewn lleoliad tebyg yr ochr arall i’r cyntedd canolog, sef y parlwr. Ond ni fûm i erioed yn y parlwr! Yn y gegin fawr yr oedd y rhan fwyaf o bethau yn digwydd. Roedd un wal yn cynnwys dresel Gymreig hynod fawr a oedd yn cynnwys casgliad o lestri patrwm helyg (na welais i mohonyn nhw erioed yn cael eu defnyddio). Roedd yno hefyd stôf haearn bwrw fawr, ddu oedd yn llosgi glo a ffwrn ynddi i bobi bara. Cawsai’r dŵr ar gyfer ein te ei gynhesu mewn tegell du oedd yn hongian dros y tân ar fachyn mawr. Roedd yr un ffenestr

Llun a dynnwyd o flaen Llechryd, Tal-y-bont, hefo ‘plant Lerpwl’. Roedd plant Lerpwl yn treulio pob gwyliau haf gyda Nain a Taid ym Mhentre Canol, Dyffryn. Cartref plentyndod Taid oedd Llechryd, Tal-y-bont. Yn eistedd tu ôl: Owen Morris, Llechryd. O flaen Owen, Marian, Siopwen (?) O flaen Marian o’r chwith: *Meinir, §Marilyn, *Meirion Wynne, §Brenda, ac §Alan *plant Emyr Wynne, Meifod Uchaf gynt §plant Lerpwl godi fawr yn yr ystafell yn wynebu’r môr yn y pellter ac yn darparu golygfa ogoneddus. Lle i’r piano oedd ar y wal oedd yn weddill a dau lun o berthnasau [neiaint] Americanaidd ac ychydig o fân bethau eraill. Bara tenau a dorrwyd gan y fodryb hŷn ac wedi’i daenu â smeren denau o fenyn cartref oedd te prynhawn. Rhoddwyd y tafelli hyn ar blât a phan ystyriwyd bod digon wedi’u torri, caem ein gwahodd i ddechrau rhannu o’r lletygarwch. Roedd jam eirin damson yn ganolog i’r wledd. Casglwyd y ffrwythau o’r berllan gerllaw. Byddai un fodryb yn gosod llwyaid o’r jam yn ofalus yng nghanol y plât. Roedd hyn bob amser yn fy mhoeni. Nid oeddwn yn deall pam yr oedd hi’n gwneud hyn. Y cyfan roeddwn i’n ei wybod oedd mai dyma’r cyfan y caniatawyd inni ei gael - fel gyda thrwch y bara a’r menyn, roeddem yn gorfod bwyta’n gynnil. Cynhaliwyd yr holl ddefod yn foneddigaidd ac addfwyn ac fe wnaethom addasu yn unol â hynny. Roedd ein modrybedd yn byw mewn oes pan oedd disgwyl i blant gael eu gweld ac nid eu clywed ac fe wnaethom lynu wrth y drefn hon. Yn dilyn te prynhawn cawsom ein gollwng yn rhydd i chwarae yn y wlad o gwmpas. Roeddem yn rhydd i grwydro at yr afon (heb unrhyw gyfyngiad ar amser na lleoliad) ac aethom ati gyda brwdfrydedd. Ar adegau eraill, byddem wrth ein bodd

yn mynd gydag un o’r modrybedd i lawr i’r beudy [a gyrhaeddwyd trwy groesi’r rheilffordd gyfagos] lle’r oedd y fuwch wedi ei chlymu. Roedd y fuwch yn cael ei godro â llaw ac wedi hynny cludwyd y bwced o laeth yn ôl yn ofalus i’r tŷ. Yn y bwtri cawsai’r llaeth ei ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd. Y cam cychwynnol oedd defnyddio’r separator a oedd yn cael ei droi efo llaw i greu’r egni allgyrchol i gynhyrchu’r hufen gwerthfawr. Roedd y modrybedd yn ei werthfawrogi’n fawr. Yn unol â’r drefn yn y cyfnod hwnnw, roedd y llaeth hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i gorddi menyn - proses lafurus ond rhythmig a allai fod yn eithaf hypnotig. Defnyddiwyd y llaeth sgim yn y cartref yn ogystal â bwydo unrhyw loi a fyddai’n cael eu magu ar y pryd. Byddai’r prynhawn yn gwibio heibio yn gyflym. Digwyddai’r un ddefod pan oeddem yn barod i adael, a dal bws ar gyfer dychwelyd at Nain. Byddai un o’r modrybedd yn holi faint o’r gloch oedd hi. Byddai pawb â’i olygon ar y cloc taid mawr, golygus ar ochr dde’r ddresel a byddai’r ymateb yn union yr un fath bob tro. Roedd mecanwaith y cloc - oedd yn gweithio trwy dynnu cadwyn a phwysau arbennig o fawr yn ddyddiol er mwyn ailgychwyn y mecanwaith - wedi cael ei osod yn gynharach yn y dydd. Wrth edrych dros ei hysgwydd, byddai’r fodryb hŷn yn pennu’r union amser trwy nodi bod y cloc hyn a hyn o oriau a munudau yn gyflym. Felly, roedd yn rhaid gwneud syms a chyfri’r union amser o’r amser ymddangosiadol hwn. Yn ystod fy holl flynyddoedd o ymweld, dyma oedd y drefn heb unrhyw newid nac amrywiad erioed. Sut roedden nhw’n gwybod faint o amser yr oedd y cloc wedi symud yn ei flaen, wnes i erioed ddarganfod, ond dyna oedd eu dull o gyfrif - ac ni fethodd byth! Wrth adfyfyrio ar y profiad, mae’n debyg ei fod yn arwydd nad oedd mesur amser yn y ffordd fwy ffurfiol yn bwysig mewn gwirionedd - roedden nhw’n byw eu bywydau mewn dull syml, gwahanol ac nid oedd y cloc ond yn addurn hardd yn y gegin. Ar un ystyr, roedd amser yn aros yn ei unfan wrth i ni ymweld ac eto, trwy ryw hynodrwydd, doedd o ddim. Mi gawsom gyfle i brofi oes wahanol a byw mewn parth amser [time zone] gwahanol ac, fel y gŵyr pawb - amser a ddengys. Brenda E Turner

11


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Ar y radio Braf clywed Ceri, merch Gareth ac Anwen Williams, Glanffrwd, Tal-ybont, ar raglen hwyr Geraint Lloyd, yn sôn am ei bywyd ym Melbourne, Awstralia yn ddiweddar. Mae hwythau wedi bod yn gaeth i reolau Covid-19 ac roedd Ceri yn dysgu o bell fel athrawon yng Nghymru. Bu Ceri yn brysur yn codi arian i achos da sef ymchwil canser ar Ddiwrnod y Daffodil ar Awst 15. Trefnodd Fore Coffi Rhithiol Cymru/ Awstralia gan feddwl codi tua cant o ddoleri. Gyda charedigrwydd trigolion codwyd 670 o ddoleri. Hefyd clywsom John Ceri, Dolgau yn sôn am Ddyffryn Ardudwy. Gorfu i wrandawyr Radio Cymru ddyfalu pa bentref a ddewiswyd ganddynt - mae rheilffordd yn y pentref, mae cromlech ger yr Ysgol, ganwyd pêldroediwr rhyngwladol yn y pentref hwn. Dyfalwyd llawer i bentref ledled Cymru gan y gwrandawyr a diolch bod John Ceri yn ddeffro am 23.30 i addysgu’r wlad am Ddyffryn Ardudwy. Diolch i’r ddau am roi Ardudwy ar y map unwaith yn rhagor. Pen-blwyddi arbennig Dymuniadau gorau i Jane Corps, Bryn Ifor, Mary Ceridwen Graham (Jones), Penrhiw a Rhiannon Evans, Hafanedd ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Dim yr amser gorau i ddathlu gyda theulu a ffrindiau ond daw cyfle eto yn y dyfodol; yn y cyfamser pen-blwydd hapus gan eich ffrindiau. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn fawr â theulu Meirion Owen, Ty’n Cae yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid annwyl, brawd ac ewythr ffeind. Bu dan anhwylder ers tro bellach ac anodd oedd peidio cael ei weld draw yn Ysbyty Gwynedd. Cysur mawr iddo ef a’i deulu oedd cael symud i Ysbyty Dolgellau.

12

Dyma lun o Troedyrhiw, ger Brynyfelin fel yr oedd ers talwm. Cafwyd y llun gan Mrs Pam Davies sy’n byw yno heddiw. Faint ohonom sy’n ei gofio fel hyn tybed? Dywed Mrs Davies mai’r gŵr ifanc yn y llun ydi’r diweddar Mr Arthur Griffiths, y Felin ac mai ef a roddodd y llun iddi hi. Mae rhai ohonom yn cofio Alan, Graham a Carol Williams yn dod i fyw yno gyda’u rhieni cyn i’r tŷ gael ei adnewyddu. Roed eu tad yn torri gwallt yno. John Meirion Morris Ar Fedi 18 bu farw y cerflunydd dawnus o Lanuwchllyn, John Meirion Morris. Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanuwchllyn ond roedd Ardudwy yn golygu llawer iddo hefyd gan mai ym Mhenygarth, Pensarn, y cafodd ei fam, Catrin, ei geni a’i magu, a byddai John wrth ei fodd pan yn fachgen yn dod ar ei wyliau i Benygarth at Anti Lizzie. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod, Gwawr, sydd hefyd â chysylltiadau agos ag Ardudwy, ei blant Alwyn a Iola, ei wyrion a’i wyresau, a’i chwaer Bet yn eu profedigaeth. Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Ann Humphreys (Meifod Uchaf gynt) oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 19 Fedi. Ein cofion gorau atat, Ann. Genediaeth Llongyfarchiadau i Mrs Ann Price, Bro Enddwyn, ar enedigaeth ai gor-wyres gyntaf. Enw’r eneth fach ydy Everly Grace ac mae hi’n wyres i fab ieuengaf Ann, sef Andrew.

Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mrs Meinir Lloyd Jones, Llwyn Hudol, Penrhyndeudraeth (2 Horeb Terrace gynt), yn ei phrofedigaeth o golli ei phriod, Geraint. Diolch GERAINT LLOYD JONES, LLWYN HUDOL, PENRHYNDEUDRAETH. Dymuna Meinir, Dafydd, Catherine â’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth lem ac annisgwyl o golli Geraint. Bu pob galwad ffôn, cardiau, llythyrau ac ymweliadau o gysur mawr iddynt. Diolch am y rhoddion hael i Dŷ Gobaith er cof am Geraint. Diolch i nyrsus y Gymuned â’r Gofalwyr am eu gofal tyner ohonno. Diolch i’r Parchedigion Christopher Prew a Megan Williams am eu gwasanaeth ddydd yr angladd dan yr amgylchiadau anodd yma. Diolch arbennig i Pritchard a Griffiths, Trefnwyr Angladdau yn enwedig Gareth Connick am drefniadau trylwyr a theimladwy. Diolch o waelod calon i bawb. Rhodd a diolch £20


Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Daeth 13 o aelodau ynghyd ar 8 Medi i drafod y ffordd ymlaen. Oherwydd y tywydd garw bu rhaid troi i mewn i westy Min y Môr am sgwrs a phaned. Diolch i swyddogion a chynrychiolwyr pwyllgorau sydd wedi cytuno i aros yn eu swyddi am dymor arall. Dosbarthwyd copi dwbl y Wawr a chasglwyd tâl aelodaeth. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â gweddill y tymor, a phenderfynwyd i gwrdd yn yr awyr agored ym mis Hydref os bydd y tywydd yn caniatáu.

MELIN LIFIO SYMUDOL Crёwch bren gwerthfawr o goed wedi’u cwympo! COED WEDI’U LLIFIO [trawstiau, cladin, planciau a physt] DODREFN WRTH FESUR [wedi’u creu i’ch mesuriadau chi] GWAITH ADEILADU [toeon, fframiau-A, heulfannau, decin a siediau gardd] COED TÂN [meddal a chaled, mewn bagiau mawr a bach]

Geraint Williams, Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com

Calendr 2021 ar werth yn y siopau rŵan - £5

RHAGOR O”R DYFFRYN Syrthio Roedd Eileen Lloyd yn aros gyda’i mab yn Nyffryn Ardudwy yn ystod y pandemig a thra yno fe syrthiodd a thorri ei choes. Bu’n glaf yn Ysbyty Gwynedd am bedair wythnos ond mae hi wedi dychwelyd i gartref ei mab ac yn gwella yn araf. Cofion ati a brysiwch wella yn iawn. Symud Anfonwn ein dymuniadau gorau at Mrs Gwyneth Jones, Pentre Uchaf (Ty’n Buarth gynt), sydd wedi symud i fyw i’r Amwythig at ei mab Gareth.

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 13


ATEBION Y CROESAIR Llongyfarchiadau i Mai Jones, Bronallt, Llandecwyn ar lwyddo i gwblhau’r croesair. Bydd Gerallt Rhun, sef lluniwr y croesair, yn trefnu i drosglwyddo’r wobr o £10 iddi’n fuan. Yn anffodus, rhoddwyd yr un rhif i ‘w’ ac ‘ng’ [sef 20] yn y canllawiau. Ymddiheuriadau am hyn. Rŵan fod yr atebion yn glir, gallwch werthfawrogi’r gwaith mawr a’r clyfrwch aeth i greu’r croesair a hefyd i ganfod yr atebion. Da iawn Gerallt a Mai!

TOYOTA HARLECH

POS RHIF 3

Yn y pôs hwn mae pob llythyren y wyddor Gymraeg rywle yn y croesair (ar wahân i Ph a J) Ceisiwch ddyfalu pa rif sy’n cynrychioli pob llythyren. Mae tair llythyren wedi eu dadlennu eisoes 3

14

4 10

10

4

24 5

14

15

9

2

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn!

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk

10

22

4

7

8 7

23

17

2

23 3

25

13 8

23 5

12 7

14

24

11

22

4 6

14

25

8

5

1

5

5 22

14

2

5

10

21 7

6

8

19

10

26

23 3

4

17

16

7

7

14

25

17

5 2

23 3

2

4

4 2

2

7

17

4 23

25

24

20

5 23

23

14

26

10

7

4

2

10

24

3

11

22

7 1

20

7 2

5

2 7

25

5 14

4

17 5

5

6 21

5

23 4

4 5

15

22 27

23 18

24

5

8

5

6

23 5

5

26

Twitter@harlech_toyota facebook.com/harlech.

14

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

ALUN WILLIAMS

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

GALLWCH HYSBYSEBU * Cartrefi YN Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol Archwilio a Phrofi AM £6 Y MIS

TRYDANWR

07776 181959

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

JASON CLARKE

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. 01766 770504

Llanuwchllyn 01678 540278

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

GERAINT WILLIAMS

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

GWION ROBERTS, SAER COED

Gwrachynys,Talsarnau

01766 771704 / 07912 065803

ADEILADWR

Gwarantir gwaith o safon

Ffôn: 01766 780742 / 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL Gadewch i’r felin ddod atoch chi! Y cyntaf i’r felin gaiff lifio! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Glanhäwr Simdde

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT

Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Llais Ardudwy

Gosod, Cynnal aaChadw Stôf Stôf Gosod, Cynnal Chadw Stove Installation & Maintenance

07713 703 222

argraffu da am bris da Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com

TREFNWYR ANGLADDAU

E-gopi llaisardudwy@outlook.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi holwch Paul am bris ar paul@ylolfa.com 01970 832 304 www.ylolfa.com

ARGRAFFU DA AM BRIS DA gwahanol feintiau.indd 9

19/12/2013 12:58:44

Gwasanaeth personol dydd a nos Capel Gorffwys Ceir angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

15


IAITH Y CAPEL, IAITH Y FYDDIN

Buom yn sôn o’r blaen am yr organ yn y capel. Ond yn iaith y capel erstalwm ‘yr offeryn’ oedd yn cynnal y canu ac nid yr organ na’r harmoniym. Os na fyddai’r organydd yn y gwasanaeth byddai un o’r blaenoriaid yn gofyn ar goedd, ‘Mrs Jones, wnewch chi gymryd at yr offeryn?’ A byddai pawb yn deall be oedd be. Ac nid yr ‘offeryn’ oedd yr unig air crand yn iaith y capel. Gallai’r gynulleidfa sôn am seti’r capel ond yn ffurfiol byddai adroddiad y capel yn sôn am yr eisteddleoedd. ‘Had yr Eglwys’ oedd y plant ac wedi dod i’w harddegau cânt eu cyfrif yn ‘gyflawn aelodau’, sylwch ac nid ‘aelodau cyflawn’. Pan fyddai hi yn amser gwneud y casgliad cyhoeddid y gwneid ef nid ‘rŵan’ nac ‘yn awr’ nac ychwaith ‘ar hyn o bryd’ ond ‘yn bresennol’. Mae sawr oes yr hen Gwîn Fictoria ar yr ymadroddion yma yn ddigon trwm am wn i. Ac eto, mae yna ryw fath o urddas hen ffasiwn ar rai o’r dywediadau yma. Rydw i wedi clywed pethau erchyll o’r sêt fawr o bryd i’w gilydd. Cofiaf rywdro fod mewn gwasanaeth diolchgarwch ysgol y pentre mewn capel ym Meirionnydd. Ar y diwedd, daeth cadeirydd y llywodraethwyr ymlaen i ddiolch a hynny’n ddigon taclus yn y Gymraeg nes oedd pob nain a phob modryb wedi gwirioni. Fel yr oedd o’n cloi ei sylwadau, fe ystyriodd y cadeirydd y dylai o ddweud gair neu ddau yn Saesneg hefyd ac meddai, ‘And the children have made a hell of a good job.’ Mae’n siŵr bod yr hen saint yn y fynwent tu allan yn troi fel slecs dan y meini.

16

Ond mae llawer i emynydd wedi cyflwyno iaith y fyddin yn eu cyfansoddiadau. Na, nid ymadroddion y soldiwrs ond penillion sy’n cyffelybu cwrs bywyd i frwydr neu ryfel yn erbyn lluoedd y fall. A pham lai? Mae Pantycelyn wedi cyffelybu oes y Cristion i daith neu bererindod. ‘Pererin wyf mewn anial dir’, meddai ac mae sawl emynydd wedi sôn am fordaith. Meddai Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855), ‘Ar fôr tymhestlog teithio rwyf ’, ac mae’n hawdd gwerthfawrogi’r syniadau o ymdrech a rhwystrau a buddugoliaeth sydd yn yr emynau yma. Mae un enwad wedi mabwysiadu’r syniad yma o ddifri. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi ei threfnu’n rhengoedd a graddau fel byddinoedd y gwledydd ac mae hynny’n apelio yn fawr at lawer. Trwy hyn maent yn gallu trefnu eu gweithwyr i gydaddoli ac i wneud llawer o waith da. Bu ganddynt unwaith achos ym Mhenrhyndeudraeth a chlywais lawer yn dweud ei bod hi’n chwith ar ôl y Salfeshion yn y Penrhyn ac yn enwedig felly ar ôl y canu yno. Un o hoff emynau Byddin yr Iachawdwriaeth yw:

‘Fight the good fight with all thy might, Christ is thy strength, and Christ thy might...’ Ac wrth gwrs, ‘Onward, Christian soldiers, marching as to war...’

Awdur yr emyn yma yn Saesneg oedd y Parch Sabine Baring-Gould (1834-1924). Fel llawer o ficeriaid ei oes roedd Baring-Gould yn ddyn od iawn. Roedd o’n ysgolhaig a llenor medrus a dywedir iddo gyfansoddi’r emyn y cofiwn amdano mewn deg munud tra roedd o’n aros i wasanaeth yr eglwys gychwyn. Mynnai ddod â’i geffyl i mewn i’r ysgoldy wrth iddo ddysgu plant yno a chredai fod rhai o’i gynulleidfa yn troi’n fleiddiaid ac yn crwydro’r nos pan fyddai’r lleuad yn llawn. Ei dad oedd y sgweiar yn Lewtrenchard, Swydd Dyfnaint a chanddo ef yr oedd yr hawl i benodi person y plwyf. Pan fu farw’r hen fachgen, etifeddodd y mab yr ystad ynghyd â’r hawl penodi a chyn gynted ag y cafodd gyfle, fe gymrodd y swydd iddo ef ei hun. Roedd ganddo ef a’i

wraig bymtheg o blant ond byddai yn drysu rhyngddynt yn aml. Un prynhawn roedd plant yr eglwys i gyd yn y ficerdy yn cael te parti pan sylwodd y ficer ar eneth fach ddel tua chwech oed. ‘Wel’, meddai`r ficer, ‘plentyn pwy wyt ti dywed?’ Ac meddai’r plentyn, ‘Un o’ch rhai chi, Dadi.’

Mae’r trosiad Cymraeg, ‘Rhagom, filwyr Iesu,’ yn rhai o’r hen lyfrau emynau ond sylwaf nad ydyw yn y Caneuon Ffydd. Efallai nad yw’r syniad yma o uniaethu gyrfa’r Cristion yn y byd â phrofiad milwr yn y rhyfel mor dderbyniol ag y bu unwaith. Emyn arall na cheir yn y Caneuon Ffydd ydi un oedd yn boblogaidd iawn gennym mi fel plant: ‘Rwyf finnau`n filwr bychan, Yn dysgu trin y cledd I ymladd dros fy Arglwydd Yn ffyddlon hyd fy medd ...’

Mae’r dôn gan Joseph Parry (18411903) ac mae’r pennill yn mynd fel milwr yn martsio. Ar ddiwedd pob pennill mae yna gytgan yn amser 6:8 i roi swing iawn i’r geiriau. Er bod y geiriau gwreiddiol bellach allan o’r ffasiwn, rydw i wedi clywed plant yn canu carol swynol iawn ar y dôn yma. Ond dyna fo, mae’r tonau yma yn cael eu hailgylchu dro ar ôl tro ac felly y mae hi wedi bod erioed. Mae geiriau’r milwr bychan gan Thomas Levi (1825-1916), awdur toreithiog fu am flynyddoedd yn weinidog Capel Tabernacl, Aberystwyth. Bu am bron i hanner canrif yn olygydd Trysorfa’r Plant. Mab iddo oedd Thomas Arthur Levi (1874-1954) a fu’n Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth am gyfnod maith ac a fu’n gyfrifol am roi safon a statws i’r adran fel y gallai gystadlu ag unrhyw adran gyffelyb ym Mhrydain. Mae yna sawl stori ddifyr am yr Athro Levi. Wedi iddo ymddeol, daeth gohebydd un o’r papurau lleol i’w holi: ‘Proffesor Levi, dros gyfnod o lawer o flynyddoedd mae’n siŵr eich bod wedi gweld llawer o newid yn Aberystwyth.’ ‘Do wir’, meddai’r hen Athro, ‘y rhan fwyaf ohono fe ar y traeth.’ Wel, dyna dipyn o grwydro; fe awn dros Fôr Iwerydd tro nesaf.

JBW


ATGYFODI’R WENNOL

Beth wnaethoch chi yn ystod y cyfnod clo? Mae rhai wedi sefydlu gwefannau newydd a chreu busnesau i werthu pethau maen nhw’n eu cynhyrchu yn y tŷ. Rhai wedi penderfynu dysgu iaith newydd, llawer wedi dewis Cymraeg i’w dysgu. Diolch a phob lwc iddyn nhw. Eraill yn ailafael ar y grefft o goginio neu gerdded mwy. Beth ydach chi wedi ei wneud? Y peth cyntaf wnes i oedd archebu llyfrau, tua hanner dwsin. Llawer digon i fy nghadw i fynd dros y tair wythnos roedd y cyfnod yn mynd i barhau. Yr unig beth allaf fi ddweud yw roedd y tair wythnos yna braidd yn hir! Er mod i wrth fy modd yn darllen, ni allaf eistedd mewn cadair a darllen am fwy nag awr a hanner heb ddechrau pendwmpian. Beth arall allwn i ei wneud? Yn raddol ddoth y syniad i fy mhen o atgyfodi cylchlythyr i ddysgwyr roeddwn i wedi sefydlu tuag ugain mlynedd yn ôl.

Yn fy siwrne hir yn ôl at yr Iaith es i ar gwrs ysgrifennu Cymraeg creadigol yng Ngregynog. Roedd y profiad yn bwysig iawn, cefais gyfle i siarad Cymraeg yn rheolaidd ac yn y pen draw cefais gyfle i fod yn diwtor. Sylweddolais fod addysgu yn ffordd effeithiol iawn o ddysgu. Yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs, roedd Gregynog yn cael warden newydd, un di-Gymraeg, ac roedd pobl yn poeni am ddyfodol y Ganolfan Iaith. Mi wnaeth rhai ohonom ni sefydlu Cyfeillion Canolfan Iaith Gregynog a gan fod gen i fusnes argraffu ar y pryd mi wnes i sefydlu cylchlythyr o’r enw Y Wennol. Gan fy mod i ar gwrs ysgrifennu Cymraeg creadigol roedd llawer o bobl i gyfrannu ac roedd tiwtoriaid yn anfon gwaith eu dysgwyr ataf fi. Aeth Y Wennol ymlaen am ychydig o flynyddoedd tan i mi symud i fyw i Abertawe. Efo’r dechnoleg newydd roeddwn i’n teimlo’n ffyddiog y byddwn yn gallu

ENGLYN DA MIS HYDREF

Mae’n hydref, a mi’n edrych, - ar dy wedd, Cofio’r dyddiau gorwych;, Aeth pob lliw, aeth pob llewych, A’th gofl yn ddim ond sofl sych. Alun Cilie, 1897 - 1975

atgyfodi’r Wennol. Ychydig o fisoedd ynghynt roeddwn i wedi cyfarfod â grŵp o ddysgwyr a oedd yn cyfarfod yng Nghaffi’r Three Cliffs yn wythnosol. Gofynnais iddyn nhw a fydden nhw’n fodlon ysgrifennu erthyglau a chefais i ddigon i gael y rhifyn cyntaf allan erbyn diwedd y mis. Erbyn hyn mae chwe rhifyn wedi gweld golau dydd ac mae pedwar o ddysgwyr yn cyfrannu’n gyson. Mae’r profiad o ysgrifennu yn un gwerthfawr iawn i ddysgwyr, ac mae’r ffaith eu bod nhw’n treulio amser i roi eu meddyliau at ei gilydd i ysgrifennu yn datblygu eu medrau siarad hefyd. Mae hynny yn rhoi hyder iddyn nhw a lleihau’r pwysau arnyn nhw pan maen nhw’n sgwrsio. Mae hyn wedi fy atgoffa fi o’r safon y mae dysgwyr yn gallu ei gyrraedd a’u brwdfrydedd i ddefnyddio’r iaith. Dw i’n ailfyw’r pleser roeddwn i’n ei gael wrth weithio ar Y Wennol wreiddiol. Felly, Gymry Cymraeg neu ddysgwyr, mae’n werth darllen Y Wennol. Byddwch yn gweld yn syth pa mor dalentog y mae dysgwyr yn gallu bod. Mae croeso mawr i unrhyw gyfraniad o unrhyw lefel o ddysgu, ac mi fydda i’n hapus i ddanfon copi i unrhyw un sydd yn cysylltu â fi ar bobwennol@ ntlworld.com Gwnewch hynny rŵan, cyn i chi anghofio! Pob hwyl! Rob Evans

MANYLION BANC Llais Ardudwy Mae amryw wedi holi am fanylion banc Llais Ardudwy er mwyn iddyn nhw fedru rhoi cyfraniad neu adnewyddu eu tanysgrifiad. Os ydi o’n gyfraniad, nodwch CYF ar y taliad ac os ydi o’n danysgrifiad [£7.70 y flwyddyn yn electronaidd] nodwch TAN. Banc: HSBC Porthmadog Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229

17


HARLECH

PRIODAS

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Jennifer O’Callaghan (Edwards, y Waun gynt) yn eu profedigaeth. Roedd Jennifer yn fam i Marc, Aaron a Joanne a mam wen i Antoinette, yn chwaer i Dawn a’r diweddar Barrie. Erbyn hyn roedd Jennifer wedi cartrefu yn ardal Tra Li, De Iwerddon ac yn briod â Tim. Mae’n gadael llawer iawn o ffrindiau yn yr ardal hon fydd yn cofio’n hir iawn am ei chyfeillgarwch a’i haddfwynder. Anfonwn ein cofion at Dawn sydd yn ymweld yn aml â thref Harlech. Damwain Mae Menna Jones, Bron y Graig wedi bod yn Ysbyty Gwynedd am beth amser ar ôl damwain yn ei chartref. Dymuniadau gorau iddi hi a mawr obeithio y gwelwn ni hi yn ôl adre yn y dyfodol agos. Dan anhwylder Mae Arwyn Owen, priod Lilian (Nantmor gynt ) wedi bod yn ôl ac ymlaen yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Dymunwn wellhad yn fuan iddo. Cofion hen ffrindiau Harlech atoch. Swydd newydd Mae Peter Johnstone, Ger y Nant, wedi bod yn gweithio i Safonau Masnach, Cyngor Gwynedd am 32 o flynyddoedd. Bellach mae o wedi derbyn swydd fel Uwch Swyddog Gorfodaeth Lles Anifeiliaid.

18

Llongyfarchiadau gan y ddau deulu i Kimberley a Jamie Howie a briodwyd ar Medi 6 yn Carvoeiro, Portugal. Genedigaeth Hoffai Fiona a Joe Soar, Talgoed, Harlech, ddiolch o galon am y cyfarchion, cardiau a rhoddion a gawsant ar enedigaeth eu merch Esmi Rhodd yn ddiweddar. Rhodd a diolch £10

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gydag Eirlys Huntley (Jones, Garden Cottage gynt) sydd wedi colli ei phriod yn ddiweddar.

Diolch Mae nifer o drigolion ardal Harlech [a dydyn nhw ddim am inni eu henwi] wedi talu mwy na’r gofyn wrth dalu am Llais Ardudwy am flwyddyn gyfan. [Caiff y papur ei werthu o dŷ i dŷ mewn rhai mannau.] Diolch am eich cefnogaeth a’ch caredigrwydd. Rhodd Diolch am roddion o £50 a £5 i Llais Ardudwy gan wragedd sy’n dymuno bod yn ddienw.

CANOLFAN FFITRWYDD HARLECH Pêl-rwyd Cerdded


HEN LUNIAU CARNIFAL HARLECH DAWNSIO MORRIS [1978] Jane Jones, Bronwena Evans a Carol ydi’r oedolion. Bronwena fu’n gofalu am ddillad y plant i gyd.

DILLAD NOFIO

BRENHINES EIFIONA

Gwyn [Saer], Hefin [Saer] a John [Llaeth] yn portreadu diwrnod ar draeth Harlech Roedd hi’n ganmlwyddiant ar y gwasanaeth tân 1878-1978 bryd hynny.

Emyr James, Roberta, Eirlys, Anita, Davina, Eifiona, June, Iona, ?, Mary, Eirianwen, Ernest, ?, Kenrick, Pat a Dilys

Ar yr un fflôt o dan yr ymbarel mae Emyr Rees [a Geraint y mab ar y gadair] a Cyril Williams yn ei flwmars coch. Roedd criw y gwasanaeth tân yn gefnogol iawn i’r carnifal yn y dyddiau hynny.

TURKISH DELIGHT

Tracey Parry, Nia Ridley, Nicola Williams a Judith Johnstone oedd yn aelodau o harem y Sheik

Diolch i Bethan Johnstone am gael benthyg y lluniau

19


TALSARNAU YR OEDD MAM YN EI GOFIO PAN OEDD YN HOGAN FACH Thomas Gwilym Williams 1912-1996

Glanrafon – Odyn Galch

Humphrey Jones a’i ferched, Nancy, Siân a Margaret a’r mab Robert. Roedd gwraig Humphrey Jones yn chwaer i Dic Bryn, tad Meredydd Evans a Will Eve y pêldroediwr, oedd yn chwarae i Borthmadog. Stabal Ship Roedd Lowri Morris yn byw yno ar un adeg. Ship Aground John a Mrs Jones. Yr oedd John yn fab i William Jones. Priododd eu merch Berson a buont yn byw yn nhŷ Nelta Jones drws nesa i Pen y Gornel, ac wedyn symud i Penrhyn. Pen y Gongol Edward a Mrs Humphreys. Tŷ Anarferol Mr Jackson, prifathro Llandecwyn. Drws Nesa Gwen Jones a’i gŵr Lewis Jones, Methodist mawr. Roedd Lewis Jones yn frawd i William Jones, Allt Galch, taid Gwilym Hedd, a John Jones, Odyn Galch, tad Nel Evans, Cartrefle. Tŷ ochor yma i Humphrey Williams Betty Jones a ddaeth i lawr o Efail Fach, Llandecwyn. Roedd y ferch, Elin, yn yr ysgol hefo Mam. Roedd Efail Fach yn lle mae capel Llandecwyn rŵan. Tŷ Humphrey Williams Betty Richards oedd yn perthyn i Elin Jones, Trefor House ac i Bob Richard, y canwr o Penrhyn. Tŷ Ellis Owen Betsy a Fanny Lloyd; eu tad oedd Robert Lloyd, perchennog Siop Lloyd, a fo ddaru godi y tai sy’n cael eu galw yn Lloyd Street. Tŷ Siân Jones William Williams, teiliwr, ac wedyn daeth Siân Jones, sef mam Rees Jones i fyw yno. Roedd hi yn crasu bara ac yn gwneud pennog picl, ac hefyd roedd h’n gallu

20

gwneud India Roc. Roedd Siân Jones yn gyfnither i Nain. Siop Willie Williams Catrin Rowlands, yr oedd ei gŵr yn cadw shop cigydd ac yn dal y tir wrth y clawdd llanw. Roedd llyn yno ers talwm, ac yno yr oedd pobol y pentra yn boddi cathod a chŵn bach. Tŷ Catrin Jones William a Margaret Morris, sef Taid a Nain’ yno y cafodd Mam ei geni a Nel ei chwaer. Nhw oedd yr ail i fynd i fyw i’r tŷ. Aeth Taid a Nain i fyw i Rhiw, ac wedyn symud i lawr i Trefor Place. Tŷ Maggie Williams Morys Thomas a Betsy ei wraig. Roedd Morys yn frawd i Mary Tudor, sef mam Edward Tudor. Mi fu Richard Jones Bryntirion yn byw yno wedyn. Isgraig Dafydd Richard a’i wraig, sef tad a mam Elin Jones, Trefor House. Tan y Graig Sarah Williams a’i gŵr. Symudodd y ddau i fyw i Soar, i le mae gweithdy Goronwy, o dan Ysgoldy. Daeth Dafydd Jones y crydd a’i wraig, Ann yno, wedyn rhieni John Defi, Prince. Roeddynt yn byw yn y Prince of Wales cynt. Roedd Dafydd Jones yn fab i Betsy Jones, Gwndwn, ac Ann Jones yn chwaer i Elin Jones, Trefor House. Yr oedd y ddwy chwaer wedi priodi dau frawd. Tŷ Tommy Williams John Thomas y crydd, tad i Margaret Jones. Prince / Ceinfro Robert Williams y crydd, sef tad Willie Williams. Tŷ tafarn oedd y Prince ers talwm’ yr oedd yn cael ei alw yn Prince of Wales. Y Tŷ Bach Miss Roberts, yr oedd yn arw iawn am snuff. Sun Humphrey, roedd yn daid i Stanley Humphreys oedd yn Station Master yn Harlech, ac mae llawer o’r teulu yn Harlech rŵan. Tŷ tafarn oedd y Sun ers talwm ac roedd llawer o’r hen longwrs yn cyfarfod yno. Tŷ Jane Smith Mary Vaughan, chwaer Catrin Richards a briododd mab y Ship. Roedd hi yn cadw siop da-da a dipyn o ffrwythau. Roedd hi’n gwneud pwdin reis a phennog picl ar ddydd Sadwrn pan fyddai’r hogiau yn

dŵad adra o’r chwarel wedi bod yn baricsio ar hyd yr wythnos.

Tŷ Bessie Sioned, oedd yn hel llawer o goed ac yn crasu bara i bobol y pentre. Roedd ganddi dri mab, Hugh, Dafydd a Robin. Roedd Robin ar y môr. Tynberth Beti Dafydd, hen wraig nobl iawn, ac roedd y ferch yn wraig i Philip Vaughan oedd yn ganger ar y lein ac yn byw yn Crossing Tŷ Gwyn. Bank Stablau i gadw ceffylau pobol oedd yn mynd i gapel Methodist, yr oedd llofft uwchben lle roedd y Band of Hope yn cael ei gynnal. Tŷ Capel

Ann Jones oedd yn gyfnither i John Jones a Bennet Jones, Bryn Felin. Roedd Ann Jones yn dysgu rhai i wnïo. Gwilym House Roedd Josiah Williams yn byw yn y tŷ ac yn cadw siop drws nesa. Symudodd i Bwllheli a fo oedd yn dod â nwydda i’r siopau yn Nhalsarnau am flynyddoedd. Siop Newydd Daeth teulu Willie Morris yno wedyn a bu Miss Morris yn cadw siop am flynyddoedd ac yn gwerthu bron bopeth. Saer oedd Willie Morris ac mae llawer o sôn am ei dad fel William Morris, saer maen. Cottage Green Nain a Taid Mam, sef Dafydd Morris a Siân Morgan. Crydd oedd Dafydd Morris ac yn gwneud ei waith lle mae’r parlwr rŵan, a hitha yn crasu bara mewn popty mawr oedd yng ngefn y bwthyn. Daeth taid Lizzie Jones, gwraig Arthur Jones y teiliwr yno wedyn. Daeth mam Lizzie, Mrs Jones a’r ferch yno wedyn. Roedd gŵr Mrs Jones yn gapten llong. Nhw gafodd rai o’r tai ar ôl teulu Siop Lloyd - merch Robert Lloyd oedd hi. Bron Trefor Edmund Roberts; daeth i lawr o Ffridd Fedw. Fo oedd yn edrych ar ôl y clawdd llanw, ac yr oedd hefyd yn Wesla mawr ac yn codi canu yn Soar. Roedd ganddo swyddfa yn Trefor place. Aeth i fyw i Cefntrefor Bach wedyn. Bu gweinidogion Wesla yn byw yno wedyn ac un ohonynt oedd Edward Jones a oedd yn daid i Harri Jones y twrna. Roedd llwybr yr adeg hynny i fyny o Brontrefor ac yn dod allan wrth byngalo Rhiannon. [i’w barhau]


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.