Llais Ardudwy Hydref 2021

Page 1

Llais Ardudwy 70c

RHIF 513 - HYDREF 2021

yn ymddeol o’i waith fel cigydd yn London House. Bu Derek yn gweithio yno am 30 o flynyddoedd. Gŵr bonheddig, siriol bob amser, a dim yn ormod o drafferth iddo. Bydd yn chwith ar ei ôl ond am y flwyddyn gyntaf o’i ymddeoliad bydd yn dod yn ôl i weithio ar ddydd Gwener a dydd Diolch,Sadwrn.Derek, am dy wasanaeth a mwynha dy ymddeoliad. Diolch hefyd i holl staff London House a Fox’s am eu gwasanaeth i ni drwy’r pandemig. Rydym yn ffodus iawn o gael dwy siop mor dda yn y pentre. YMDDEOLIADHAPUS!

am Farchogion Ardudwy, cysylltwch â Benjie ar 07765 656429. Ar y chwith: Y Cyng Gwynfor Owen a Benjie Williams Ar 30 Medi roedd Derek Tibbetts

Ar 15 ac 16 Medi (diwrnod Glyndŵr) cynhaliwyd gweithdai gan Farchogion Ardudwy y tu mewn i Gastell Harlech ar gyfer 250 o blant o ysgolion cynradd lleol i’w dysgu am fywyd trigolion y castell ar un pryd a’r hyn y mae Owain Glyndŵr wedi ei adael ar ei ôl i ni. Am 7.30 gyda’r hwyr ar 16 Medi cychwynnodd y cludwyr lampau o Pen Graig, gan aros am ychydig wrth yr Eglwys lle cafwyd bedith gan y Parchedig Tony Hodges mewn Lladin a Chymraeg, cyn mynd ymlaen i’r Castell. Yn y Castell, o flaen dros gant o ddilynwyr lleol, cafwyd eglurhad dwyieithog byr am hanes Glyndŵr, cyn ychydig eiriau gan y Cynghorydd Gwynfor Owen. Daeth y noson i ben wrth ganu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau. Hoffai Marchogion Ardudwy ddiolch i bawb a ddaeth draw i gymryd rhan yn y gweithdai i ysgolion a’r orymdaith. Os hoffech gael

MARCHOGIONARDUDWYmwyowybodaeth

HOLI

Y gallu i wneud i mi chwerthin, a gallu tynnu coes. Pwy yw eich arwr? Selwyn Griffiths, fy hen brifathro yn Ysgol Llanbedr; mi roedd ’na lawer o hwyl i’w gael yn yr ysgol pan oedd o yna. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Athrawon a staff Ysgol Tanycastell.

2

Beth yw eich bai mwyaf? Gorfod cael y gair olaf. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Byd heb ffonau symudol. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd i rasys Caer a’i roi o i gyd ar y ffefrynnau. Eich hoff liw a pham? Mi fuasai’r plant yn dweud gwyn gan fy mod wedi peintio pob ystafell yn y tŷ yn wyn yn ystod y cyfnof clo. Ond erbyn i chi ddarllen hwn, efallai y bydd o’n liw arall. Eich hoff flodyn? Lupins. Eich hoff gerddor? Y Carpenters; llais Karen Carpenter ydy’r gorau i mi ei glywed erioed. Pa dalent hoffech chi ei chael? Siarad iaith arall. Eich hoff ddywediadau? Mae na le ’ma, ac ysgwydda fel neidr. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus a bodlon. Cofiwch am SIOE

ARDUDWYCALENDRLLAIS2022Ynysiopaurŵan.£5

HARLECHARDDIO

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960

Tachwedd 6 yn y Neuadd Goffa

3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541 HWN A’R LLALL

Beth sy’n eich gwylltio? Baw ci; a Darren pan mae o heb gau’r fridge! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind?

Enw: Donna Williams Gwaith: Gweinyddes yng Nghaffi Castell, Harlech. Cefndir: Wedi fy magu yn Llanbedr, yn ferch i Rowena a’r diweddar Gwyndaf Williams (Amwythig/Shrewsbury). Yn briod efo Darren, ac yn fam i Siôn a Tomi. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded efo’r plant, a llawer o arddio. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ddim yn un fawr am ddarllen. Mam wedi dweud wrthyf os oedd na waith cartref darllen i ddarllen tair tudalen yn unig: y dudalen flaen, y canol, a’r diwedd. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Columbo, Gardeners’ World, C’mon Midffîld, a Naked Attraction ydi’r ffefrynnau; fedrai’m dewis dim ond un. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yndw, ond dwi’n trio torri lawr ar y salad. Hoff fwyd? Ffa pôb ar dost efo ŵy ’di ffrio. O, a siocled wrth gwrs. Hoff ddiod? Potel o seidar ar ôl torri gwair. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y diweddar Sean Connery, Al Pacino, Dion Dublin, a fy ffrind gora Llinos Dolgau. Lle sydd orau gennych? Y Tŷ Mawr ar “Sunday sesh”!, a ffarm Rob (Cae Cethin) efo’r hogiau. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Groeg, fy ngwyliau tramor cyntaf gyda’r merched a Jane Tŷ Mawr fel ‘chaperone’.

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 29 a bydd ar werth ar Tachwedd 3. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Hydref 25 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

Ydych chi wedi sylweddoli bod rhywbeth newydd yn Nyffryn Ardudwy? Mae canolfan newydd wedi ei sefydlu yng nghanol y pentref – sef y rhandiroedd. Maent wedi eu creu ar dir Pentre Uchaf. Bu galwad am randiroedd yn y pentref ers blynyddoedd ac, erbyn hyn, mae grŵp newydd wedi’i sefydlu, sef Y Tir, Pentre Uchaf, Rhandiroedd a Pherllan Gymunedol. Rydym mor ddiolchgar ein bod ni wedi medru gallu prydlesu’r tir gan ‘Adra’ a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ac am y cyfle i ddatblygu’r tir. Datblygiad newydd arall na fyddwch wedi sylwi arno ydi prosiect i sefydlu perllan ar y rhan sydd o flaen y cartrefi. Y bwriad ydi plannu 12 o goed afal ar ffurf cylch. Mi fydd y coed i gyd yn rhywogaethau brodorol. Rydym yn gwahodd unigolion a busnesau i noddi coeden afal yn y cylch hwn. Os hoffech chi inni blannu coeden er cof am rhywun annwyl gallwn wneud hynny a gosod plac coffa i nodi enw eich anwylyd. Yn yr un modd, gall busnes brynu coeden ac fe nodwn yr enw gerllaw’r goeden. Gan mai safle crwn ydi o, bwriadwn blannu coed ffrwythau eraill yn y pedair ‘cornel’ hefyd. Y nod yw creu lle arbennig i bobl y gymuned – i gerdded ac i eistedd, i fwynhau’r blodau yn y gwanwyn, i elwa o ffrwythau’r haf ac i edmygu dail yr hydref. Gall hwn hefyd fod yn fan cyfarfod ac yn lle i gynnal digwyddiadau yn y Ospentref.oesgennych ddiddordeb mewn rhandir neu mewn plannu coeden, cysylltwch â Kathy Aikman: kathleenaikman64@gmail.com

3

Tudur CyfarwyddwrWilliams– Samariaid Gogledd Orllewin Cymru. R J Ffôn:GarejHondaWilliamsTalsarnau01766770286

gwbl anhysbys.

330 o bobl eu bywydau yng Nghymru, 248 o ddynion ac 82 o ferched ac mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol felly o gymryd eu bywydau na merched. Dynion yn yr oedran 40-44 sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad yng Nghymru, tra mai hunanladdiad yw’r achos uchaf o GWASANAETH GWRANDO’R SAMARIAID farwolaeth mewn dynion ifanc rhwng 16 a Mae’r25.ystadegau’n dangos bod achosion o hunanladdiad yn uwch yn y siroedd gwledig yng Nghymru sydd yn adlewyrchu’r pwysau a’r problemau sydd yng nghefn gwlad a’r byd amaethyddol. Gwynedd oedd y sir â’r raddfa uchaf o hunanladdiadau bob 100,000 person yng Ngogledd Cymru yn 2019 - 15.5; ar Ynys Môn roedd yn 13.1 ac yn Sir Conwy 11.5. Ceredigion oedd â’r raddfa uchaf yng Nghymru sef 18.2. Mae ffonau argyfwng ar y ddwy bont Menai wedi cysylltu â’n Cangen

ymddiried

o

RHANDIROEDD A PHERLLAN

Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando ar gyfer y rhai sydd yn unig, yn drallodus neu yn ystyried diweddu eu bywydau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Yn ystod 2020 atebodd y Samariaid alwadau am gymorth bob 9 eiliad, gan ateb dros 3 miliwn o alwadau ffôn dros y flwyddyn a dros hanner miliwn o ebyst. Wrth drafod y teimladau hyn o unigrwydd a diffyg cysylltiad a all arwain ar hunanladdiad, y gobaith yw y bydd hyn yn lleddfu’r teimladau o anobaith a bydd y galwr yn dod i sylweddoli bod modd gwella’r sefyllfa Gweledigaethrywfaint.

o

ben, ymweld

dros

byth

Ganolfan

Covid

i gael sgwrs wyneb yn

y Samariaid yw y bydd llai’n marw o hunanladdiad. Nid yw hunanladdiad yn anochel; mae’n bosib ei rywstro a chydnabyddir gan lawer o ymwchwil mai’r allwedd i geisio rhwystro hyn yw’r cyfle i siarad a rhannu teimladau. Mae’r rhesymau am hunanladdiad yn gymhleth, ond tu ôl i bob ystadegyn mae unigolyn sydd yn gadael teulu a chymuned wedi eu dryllio gan eu colled. Mae’r nifer o hunanladdiadau yn bryder mawr - yn 2019 diweddodd ni gan obeithio y bydd unigolyn yn ffonio mewn sefyllfa o anobaith. Mae’r Samariaid, fodd bynnag, ar gael i unrhyw un sydd yn dymuno cael clust i wrando a’r cyfle i fynegi eu teimladau a’u pryderon, nid yn unig y rhai sydd yn ystyried diweddu eu bywydau. Mae unigrwydd, iselder a theimladau hunanladdiad yn gallu effeithio ar bobl o bob rhan gymdeithas. Ni fyddwn yn barnu ac weithiau, oherwydd amgylchiadau, gall fod yn haws mewn rhywun sydd yn Mae’n bosib cysylltu y ffôn, trwy e-bost neu lythyr, a phan fydd y pandemic ar â’r eto wyneb.

Bydd ein cyfarfod nesaf nos Fercher 6ed Hydref am 7.30 yn Neuadd Llanbedr - croeso cynnes i aelodau hen a newydd ymuno â ni.

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn fel ardal â Gwenda (merch y diweddar Barchedig John Owen, Llanbedr gynt), ar farwolaeth ei gŵr Glyn (Owen Glyn Davies) ar 22 Medi, yn Llanfairpwll, Môn. Yn briod cariadus i Gwenda, roedd Glyn yn dad arbennig i Iona, Dyfed a Siôn, yn daid annwyl i’w holl wyrion ac yn frawd hoff. Mae’r golled yn un drom i’w deulu Cynhaliwydoll.y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Bangor ddydd Llun, 4 DerbyniwydHydref. rhoddion er cof am Glyn tuag at Hosbis Dewi Sant ac Urdd Gobaith Cymru, trwy law y cwmni ymgymerwyr Gareth Williams, 1 Garneddwen, Bethesda. LlongyfarchiadauLlongyfarch i Gweneira Jones, gynt o’r Allt Goch, ar ddod yn hen nain unwaith eto, ac i Haf Llewelyn ar ddod yn nain eto. Ganwyd mab bach, Cianán, brawd bach i Moi, i Grisial a Shane ym mis Awst. Pob hwyl i’r teulu bach. Cylch Meithrin Llanbedr

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Merched y Wawr Cawsom gyfarfod cynta’r tymor ddydd Mercher, 1af o Fedi, gyda thaith gerdded wedi ei threfnu gan ein Llywydd, Beti Mai. Cychwyn yn Neuadd Llanbedr ac i fyny am y Gwynfryn, croesi’r bont yno ac yn ôl i bentref Llanbedr. Roedd Beti wedi paratoi taflenni llawn gwybodaeth a lluniau o lefydd hanesyddol a diddorol ar y daith - yr Hen Felin, Hen Ysgol, Plas Gwynfryn, Capeli Beser, Y Ddôl a Moriah, Felin Beser/ Ffatri Wlân, Pont Gwynfryn, Plas Aberartro, Dolmygliw, Y Gloddfa, yr ystafell Ddarllen/Llyfrgell, Pont Llanbedr a Gwesty’r Fictoria - a dyna lle y daeth y noson i ben wrth fwynhau pryd o fwyd blasus a chyfle am sgwrs a dal i fyny hefo pawb. Diolch i Beti am daith hamddenol, hanesyddol a diddorolllongyfarchwyd Beti hefyd am ennill y wobr gyntaf yn Sioe Llanelwedd gyda’i fidio ‘Am Dro’ a aeth â ni i hen gartref ei theulu, Y Garreg Lwyd.

Mae Helen Thomas yn gweithio gyda’r Cylch ers blynyddoedd - dros 20 mlynedd, a Jackie Hooban ydy’r arweinydd newydd gyda Julie Harris, Jasmine Morgan, a Lily Hewlett yn cynorthwyo. Mae’r plant wedi bod yn creu gyda chynnyrch ailgylchu ac wedi creu fflagiau a chwifiwyd i groesawu beicwyr Ras Feiciau Gwledydd Prydain yn ddiweddar wrth iddynt wibio drwy’r pentrefi yn Ardudwy. Capel Salem 17 Hydref am 2.00 y prynhawn Gwasanaeth Diolchgarwch dan arweiniad Parch Dewi Tudur Lewis

5 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Byddaf yn agor siop yn yr Hen Ysgol, Cwm Nantcol ar ddyddiau Sadwrn a Sul, Tachwedd 13 ac 14, rhwng 11.00 a 5.00. Bydd cyfle i chi weld beth sydd ar gael gan gynnwys gwaith turnio Ashwoodwork. Dyma gyfle gwych i brynu anrhegion Nadolig. Oherwydd nad oes derbyniad ‘wi-fi’ na ffôn, ni fydd yn bosib i chi dalu gyda cherdyn ar y diwrnod. Cysylltwch â mi os am ragor o fanylion. marilloydphotos@gmail.com

Mae’r eisteddfod wedi mynd ac rŵan dyma yw y Neuadd Goffa bellach, lle i Saeson ymgynnull a’n gadael ni yn y tywyllwch a thrio troi ni i’w ffordd nhw o Gwrandofyw.lawer ar Nosweithiau Llawen ac Eisteddfodau’r ffermwyr ieuanc ayyb sy’n ffynnu yn y canolbarth, Sir Fôn a Sir Benfro, sydd hefyd gyda gymaint o broblemau, ond mae pawb yn y mannau hyn yn gwella ac rydym ni yn gadael i bopeth fynd o dan ein trwynau. Mae dau flwch fflag ar y castell ac un o’r ddraig wedi ei thynnu i lawr yn barod – am Jac yr Undeb arall mae’n siŵr! H Hall, MerchedTyddyn-y-FelinyWawrHarlech a Llanfair Cychwynnodd y tymor newydd nos Fawrth, Medi 6 yn Neuadd Llanfair. Cyfarfod i roi cyfle i ymaelodi oedd prif bwrpas y noson ynghyd â chynnig syniadau ar sut i ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu’r gangen. Er bod nifer yr aelodau yn llai erbyn hyn, rydym wedi trefnu cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn. Rydym yn gobeithio y cawn aelodau newydd i’n cefnogi er mwyn gallu dweud ein bod

6 DewchNEWYDDHYBRIDCOROLLAiroicynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! Ffordd info@harlech.toyota.co.ukwww.harlech.toyota.co.uk01766HarlechNewyddLL462PS780432 Twitter@harlech_toyotafacebook.com/harlech. TOYOTA HARLECH LLANFAIR A LLANDANWG Diolch Dymuna Mrs Hefina Griffith, 2 Llwyn y Gadair ddiolch yn ddiffuant iawn i’w theulu a’i chydnabod am bob neges a chymwynas a dderbyniodd tra bu yn glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Dathlu Ar ddydd Gwener, 10 Medi, roedd Maureen, Bryn Tanwg, Llanfair yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed. Cynhaliwyd parti i ddathlu ar y prynhawn dydd Gwener ac roedd croeso i gyd-ddathlu ar y diwrnod efo hi a CofionTerry.gorau oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau i gyd, Maureen. Diolch Diolch am yr holl gardiau a blodau a dderbyniais ar fy mhen-blwydd, ac i bawb a roddodd gyfraniadau o £205 tuag at MDA Research. Diolch i Sue a Bryn am ‘wneud fy niwrnod’. Maureen, rhodd o £10 Swyddfa’r Post Cofiwch bod gwasanaethau Swyddfa’r Post ar gael yn Neuadd Goffa Llanfair pob dydd Gwener rhwng 12.15 ac 1.45 y prynhawn. MACHLUD HAUL O LLANDANWGDRAETHLluniau:Linda

Mae hyd yn oed hen ymwelwyr yma i Dyddyn-y-Felin yn gweld y newid ac ddim er gwell ac yn colli gweld a chlywed y bobl a’r iaith yn y siopau.

Soar Pawb â’i farn Tybed be oedd yn mynd ymlaen yn Neuadd Goffa Harlech heno? Jac yr Undeb i lawr y ffordd i gyd a dim fflag y Maenddraig!‘nhw’ yn cymeryd ni drosodd, mae’n siŵr, fel yr hen amser pryd oedd neb o’r bobl leol Cymreig yn gallu mynd yn agos i’r castell; cadw’r bobl gynhenid allan, ac mae’r dref yn brysur fynd felly fel mae pawb yn gweld, hanes yn dod yn ôl i’n rhoi ni yn ôl yn ein lle.

yn ffynnu. Mari Lloyd fydd y wraig wadd yng nghyfarfod Tachwedd - nos Fawrth cyntaf y mis, sef 2 Tachwedd yn Neuadd Llanfair am 7 o’r gloch. Côr Meibion Ardudwy Mae’r Côr wedi ailddechrau canu yn y Ganolfan, Llanbedr am 7.30. Rydym yn parchu rheolau Covid-19. Mae croeso cynnes iawn i aelodau newydd sydd wedi cael dwy frechiad. Mae’r neuadd wedi’i phuro, bylchau rhwng y cadeiriau, does dim toriad am baned ac mae’r ymarfer yn dod i ben am 8.45.

Nid oes angen geiriau heddiw I gyfleu ’nheimladau i, Dim ond gair o ddiolchgarwch Am gael bod yn Fam i ti. Menna Medi Ganwyd Barbara ar y diwrnod disgwyliedig sef Rhagfyr 4, 1965 yn y Bermo gyda chymorth Dr Merfyn. Ymhen ychydig ddyddie, cyrhaeddodd Olwen a Ron adre gan gyflwyno Pete i’w chwaer fach newydd. Er mai braidd yn betrusgar oedd Pete ar y cychwyn buan iawn daeth y ddau yn ddeuawd hapus, gan hyd yn oed rannu’r atic yn yr haf pan oedd Olwen yn cadw bobl ddiarth. Mwynhawyd sawl prynhawn yn yr haf ar lan y môr lle dysgodd Barbara sut i nofio. Mae’n debyg mai yma y datblygodd hoffter o’r traeth a nofio yn y môrrhywbeth gallodd ei wneud hyd mis Awst diwethaf yma. Roedd Barbara wrth ei bodd gydag anifeiliaid ac roedd wastad ci neu gath yng Nglasfor. Pan oedd Olwen yn mynd trwy ei phetha ac yn trio gweiddi ar y plant - galwodd Babs yn Tinker (y ci)! Rhywbeth nad oedd Pete yn gadael i’w chwaer fach Hyfforddwydanghofio!Babsfel aromatherapydd, adweithegydd ac iachawr Reiki, ac roedd wrth ei bodd yn gweithio yng Nghastell CafoddHarlech.Pete y fraint o yrru Babs yn ôl ac ymlaen i’r amryw apwyntiadau a daeth i werthfawrogi ei chwaer fach fel person diddorol a chynhyrfus, hyfryd a thlws, cryf a dewr, drygionus a llawn hwyl. Roedd yn ddireidus gyda gwên ar ei hwyneb bob amser. Pan glywodd Babs am ei chyflwr ychydig flynyddoedd yn ôl roedd yn poeni mwy am sut oedd y teulu‘n mynd i ddygymod â’r newyddion yn hytrach na’r hyn oedd o’i blaen hi ei ‘Nidhun. yw’r canser wedi ennill - ni fel teulu sydd ar ein hennill gan ein bod wedi tyfu’n agosach a chryfach gyda’n gilydd. Rydym yn dathlu ein hamser gyda Babs er ein bod yn ein dagrau yn ei methu’n Ynofnadwy.’ystody Clo Mawr roedd Babs, Penny, Lucy, Suzie ac Alis yn brysur ar-lein yn cadw’n heini, yn sgwrsio am bopeth dan haul, yn trafod yr amrywiaeth eang o lyfrau a ddarllenwyd ganddynt. Trwy popeth roedd gwên Babs yn disgleirio. “Diolch Babs am fod yn ti - Mam, chwaer a ffrind ysbrydoledig.” Tri gair oedd yn dod a hapusrwydd i Barbara yn ôl Penny a Lucy sef merched, machlud a nofio. Roedd yn fam arbennig, rhywun a oedd yn eu hysbrydoli, yn eu hannog, yn eu caru. Gwerthfawrogodd Barbara y pethau bychain- am dro ar y traeth a nofio yn y môr, gwylio’r machlud. Roedd bob amser yn gwneud olwyn drol ar y traeth - hwyl a theimlad o ryddid. “Roedd Mam yn ‘magic’”. a hud a lledrith i’n bywydau a gobeithiwn y gallwn ei ffendio rŵan ei bod wedi ein gadael. Rydym wedi colli Mam, ein ffrind gorau ac mae’n brifo’n arw i ddweud ffarwel. Nos da a diolch, Mam. Pan mae rhywun ’da chi’n ei garu yn rhan o’r cof, mae’r cof hwnnw’n drysor byw.

Dymchwel y ports blaen a’r penty presennol ac adeiladu estyniadau unllawr ar y blaen a’r ochr - Hen Gaerffynnon, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

7

CEISIADAU CYNLLUNIO Adnewyddu strwythurol gan gynnwys gosod cladin allanol ac ailadeiladu balconi a gosod balwstrad allanol gwydr -Dol-y-Cae, Frondeg. Cefnogi’r cais hwn. Trosi adeilad allanol o garreg yn fwthyn unllawr gydag 1 ystafell wely - Adeilad allanol, fferm Llandanwg, Llandanwg Cefnogi’r cais hwn.

Paratowyd a chyflwynwyd gwasanaeth i gofio Barbara Mary Telfer, 6 Haulfryn, Llanfair gan Alma Griffiths yn Amlosgfa Aberystwyth ar Fedi’r 14eg.

Derbyniwyd teyrngedau gan ei mam, Olwen; ei brawd, Peter a Suzie; a’i merched, Penny a Lucy. Dyma rannau o’u teyrngedau didwyll i Barbara.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Croesawyd Hywel Jones i’w gyfarfod cyntaf. MATERION YN CODI Llinellau Melyn ger stesion Llandanwg Adroddodd y Clerc ei bod, fel Cynghorydd Gwynedd yr ardal, wedi cysylltu gydag Iwan ap Trefor ynglŷn â’r mater bod y conau ar ochor y ffordd wedi cael eu casglu at ei gilydd ac i ofyn a yw hyn wedi ei wneud yn swyddogol. Cafodd ateb yn datgan nad oedd hyn wedi ei wneud yn swyddogol ac, o ganlyniad i hyn, byddai yn anfon Swyddog i ail osod y conau. Cafwyd gwybod bod y conau hyn yn dal i gael eu symud o ochr y ffordd. Hefyd, roedd wedi derbyn ateb gan Ms Rosy Berry yn dilyn yr ymateb yr oedd wedi ei anfon ati yn dilyn cyfarfod diwethaf y Cyngor a’i bod yn datgan ei bod yn siomedig bod y Cyngor yn cefnogi cynllun y llinellau melyn, ac nad oedd damweiniau wedi digwydd ar y ffordd hon. Cyfarfod gyda thrigolion Llandanwg –18Awst Adroddodd y Clerc, fel Cynghorydd Gwynedd yr ardal, ei bod, ar gais rhai o drigolion Llandanwg wedi trefnu cyfarfod safle gyda Mr Iwan ap Trefor er mwyn trafod pryderon goryrru ar y ffordd. Roedd hyn yn dilyn cyfarfod rhwng y Cyng Hughes, Trudy Thomson a Marie-Claire Marsden i drafod eu pryderon ynglŷn â’r mater hwn. Cafwyd gwybod bod Mair Thomas a David John Roberts hefyd yn bresennol ar ran y Cyngor Cymuned ac roedd 5 o drigolion Llandanwg yn bresennol. Nododd y Cyng Hughes bod pryder ynglŷn â goryrru i lawr y ffordd yn Llandanwg wedi ei godi y ôl ym mis Mehefin 2017 a’i bod bryd hynny wedi cyfarfod Mr Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaethau Traffig Cyngor Gwynedd a bod cynlluniau i symud yr arwydd 30 mya yn nes i lawr y ffordd. Yn anffodus, cafodd y cynllun hwn ei stopio oherwydd bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn gwrthwynebiadau iddo. Roedd yr heddlu wedi bod yn cadw golwg ar y gyrru i lawr y ffordd hon bryd hynny. Yn y cyfarfod gyda Mr Iwan ap Trefor cytunwyd bod mesurydd traffig yn cael ei osod ar y ffordd yn gyntaf, hefyd bod arwyddion Araf/Slow yn cael eu gosod ar y ffordd gyda chefndir coch bob ochr i’r bont ac arwydd yn dynodi bod pont yn nes ymlaen. Roedd y Cyng Hughes wedi ceisio cysylltu gyda Mr Iwan ap Trefor er mwyn cael diweddariad yn

dilyn y cyfarfod ond nid oedd wedi cael ateb ganddo eto. Datganwyd y pryder sydd gan drigolion Llandanwg nad oedd y bws sydd yn cael ei defnyddio yn lle’r trên oherwydd bod lein y Cambrian ar gau gan fod gwaith yn cael ei wneud ar Draphont y Bermo ddim yn mynd lawr i Landanwg ond yn hytrach bod unrhyw un sydd angen ei defnyddio yn gorfod cerdded i fyny at Frondeg. Nododd Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Thrafnidiaeth Cymru ynglŷn â hyn fwy nag unwaith a’u bod wedi datgan eu bod rŵan yn edrych i mewn i ddefnyddio tacsis i fynd â thrigolion at y bws yn Frondeg pan fydd angen.

BarbaraTeyrngedMaryTelfer

8 Graddio

Llongyfarchiadau arbennig i Lisa Gwynant Cartwright, Parc Uchaf, Dyffryn ar ennill gradd BA (Anrhydedd) Dosbarth Cyntaf mewn Almaeneg gydag Eidaleg, a dyfarniad rhagoriaeth am ei gwaith llafar yn y ddwy iaith. Astudiodd Lisa tuag at ei gradd ym Mhrifysgol Lancaster, gan dreulio blwyddyn dramor ym Mhrifysgol Heidelberg yn yr Almaen. Bydd Lisa yn dychwelyd i Brifysgol Lancaster am flwyddyn arall i ddilyn cwrs MA yn y maes ieithyddiaeth (linguistics). Dymuniadau gorau i ti, Lisa. Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Gwynfor a Meinir Evans, Llys Enlli ar enedigaeth mab, William Aron, brawd i Elgan, Mared a Gethin. Llongyfarchiadau hefyd i’r neiniau a’r teidiau - Hefin a Bethan Evans, Eithin Fynydd ac Emyr a Heulwen Evans, Maes yr Aelfor. Llongyfarchiadau hefyd i’r hen neiniau sef Olwen Evans, Werngron a Gweneth Evans, Glan Gors, Llandanwg. Ein dymuniadau gorau i chwi fel teulu.

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Dave a Sioned, merch David Parry, Castell y Gog, ar enedigaeth merch fach, Georgie, chwaer fach i Noah. Llongyfarch

Dyweddïad

Colli Gwynfor Ar 5 Medi, yn Ysbyty Tywyn, bu farw Mr Evan Gwynfor Evans, Llwyn y Gog, Tal-y-bont (Islaw’rffordd gynt) yn 84 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod, Mrs Morfudd Evans, ei feibion Robert Wynne, Dylan a Geraint a’u gwragedd, ei wyresau Mari a Alaw, ei ŵyr Steven, ei chwiorydd Jane a Dilys a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb i gyd am 10.00 o’r gloch HYDREF 10 Parch Dewi Morris 17 Andrew Settatree 24 Diolchgarwch 31 Parch Anna Jane Evans TACHWEDD 7 Iola a Glesni Colli Dei Bryn Bwyd David Gareth Trist14/11/1941-13/09/2021.Edwards,ywcofnodimarwolaeth Dei Bryn Bwyd. Ar ôl iddo adael Ysgol Ramadeg y Bermo, ymunodd â’r RAF yn Farnborough. Yn dilyn y cyfnod hwnnw, aeth i weithio i BAE [British Aircraft Establishment]. Wedi iddo briodi Janet, merch o Norfolk, mi aethon nhw i Saudi Arabia am gyfnod a dod yn ôl pan oedd eu hunig fab ar fin cael ei eni. Buont wedyn yn byw yng nghartref Janet yn Norfolk. Mae’n gadael ei wraig, mab, dau ŵyr ac un wyres. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu oll.

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Dan a Claire, Noddfa, ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Cerdded i godi arian Ddwy flynedd yn ôl fe roddodd Gareth Charlton, Trem Enlli, un o’i arennau i’w ferch Jennie, oedd yn ugain oed ar y pryd. Erbyn hyn mae Jennie yn 22 ac yn astudio ym Mhrifysgol Bath Spa ac yn iach ac yn mwynhau bywyd. I ddathlu dwy flynedd ers y trawsblaniad mae Gareth am gerdded 70 milltir mewn 3 niwrnod o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty’r Royal yn Lerpwl, i godi arian i’r ddwy ysbyty, i Aren Cymru ac i Gymdeithas Cleifion Aren Gwynedd am eu cefnogaeth iddynt fel teulu ar amser anodd. Chwe mis ar ôl y driniaeth llwyddodd Gareth yn y sialens o gerdded i fyny’r Wyddfa yng ngoleuni’r sêr. Llynedd fe gerddodd Gareth o Uned Dialysis Ysbyty Alltwen ger Porthmadog i’r Uned Arennau yn Ysbyty Gwynedd i godi arian yn ogystal. Mae’n fwriad gan Gareth ymgymryd â sialens Aren Cymru i gerdded 531 o filltiroedd dros 12 mis gan ymweld â phob Uned Arennau yng RoeddNghymru.Gareth yn cychwyn ar y daith o Fangor i Lerpwl ar 25 Medi. Cydymdeimlad Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Barbara Mary Telfer ar 1 Medi yn 55 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei mam, Mrs Olwen Telfer, ei merched Penny a Lucy, ei brawd Pete a’i wraig Suzie, ei nith Alis a’r teulu oll yn eu galar a’u hiraeth. Diolch Hoffem ddiolch yn fawr iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod ein profedigaeth o golli Barbara. Mae pawb wedi bod yn ffeind iawn gan gynnwys staff Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, ac yn gymorth mawr inni fel teulu. Olwen; Peter, Suzie ac Alis; Penny a Lucy. Rhodd £20

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

CADEIRYDDCYHOEDDIADAU’R Croesawyd Mr Evan Owen i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor. Estynnwyd cydymdeimlad gyda’r Cadeirydd a’r teulu yn dilyn eu profedigaeth o golli Mr Evan Edwards, Parc Isaf, yn ddiweddar. Estynnwyd cydymdeimlad â theulu y diweddar Mr Evan Gwynfor Evans, Islawrffordd yn dilyn ei farwolaeth ychydig o ddyddiau yn gynt.

ELINOR POST - BRENHINES DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CEISIADAU CYNLLUNIO Rhyddhau Amod 04 (enghraifft o ddefnyddiau i’w defnyddio i adeiladu waliau allanol yr unedau carafan) a 07 (Cynllun tirlunio) ynghlwm i Ganiatâd Cynllunio dyddiedig 25/06/2020 - Maes Carafanau Rhinog, Ffordd yr Orsaf, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Codi adeilad amaethyddol a storfa dail - Eithin Fynydd, Tal-y-bont Cefnogi’r cais hwn. Gosod lifft allanol i gadair olwyn ynghyd â gwaith cysylltiolHiraethog, Dyffryn Ardudwy Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol, 1-8 Bro Arthur, Dyffryn Ardudwy . Cefnogi’r cais Codihwn. estyniad deulawr ar yr ochrCaerffynnon, Dyffryn Ardudwy Cefnogi’r cais hwn.

Pan gerddodd yr ymwelwr i mewn i’r siop, sylweddolodd nad oedd ’na neb yna. Galwodd, gan feddwl y buasai rhywun yn ymddangos, ond wnaeth neb, ac mi adawodd y siop. Wrth gerdded i lawr o’r siop tuag at y ffordd fawr, mi drodd yr ymwelwr rownd a sylwi ar rhywun yn ystafell ffrynt y tŷ, nesa at y siop, a’i phen yn gwyro ar y bwrdd gyda dim symudiad o gwbwl i’w Felly,weld.neid i mewn i’r car heddlu ac ymlaen i Ddyffryn Ardudwy ac i siop Elinor Post. Pan gyrhaeddais y tu allan i’r siop ac edrych i fyny at y tŷ, mi sylwais yn syth mai Elinor oedd yr unigolyn yr oedd yr ymwelwr wedi ei weld. Roedd ei phen yn dal i wyro i lawr ar y bwrdd. Pan es i mewn i’r siop mi alwais “Miss Williams, Miss Williams” fel roeddem ni yn ei hadnabod hi. Doedd dim ymateb ganddi, felly cerddais rownd cefn y cownter ac i mewn i ddarn o’r tŷ. Sylwais bod drws yr ystafell lle roedd Miss Williams ynddo yn gaeëdig. Ro’n i’n dal i alw ei henw ac yn dal i gael dim atebiad. Ro’s gnoc ar ddrws y lolfa a’i agor, a phan es i mewn i’r ystafell roedd pen Elinor yn dal i wyro ar y bwrdd. Mi alwais allan eto, “Miss Williams, Miss Williams”. Dim ymateb i’w gael, felly rhoddais fy llaw yn ysgafn ar ei hysgwydd a dal i alw ei henw, pan sylwais ar ei hysgwydd yn symud rhywfaint, ac mi gododd ei phen o’r bwrdd a dweud, “Ro’n i ond yn cael rhyw bum munud bach”. Ar ôl gwneud yn siŵr bod bopeth yn iawn, mi ddychwelais i’r orsaf. I chwi, ddarllenwyr Llais Ardudwy a’r rheini sydd wedi clywed am y gân, “Brenhines Aberdaron” gan Rhydian Meilir, wel dyna chi enghraifft dda o Miss Elinor Post yn fy marn i, fel “Brenhines Dyffryn Ardudwy a Thaly-bont”. Meirion Jones

Newidiadau i’r to fflat presennol i greu to brig a throsi’r garej sydd ynghlwm yn ystafell wely - Yr Hen Dŷ Cerbyd, Benar Fawr, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Codi adeilad newydd i amgau garej parod presennol ac estyniad i ddarparu llety anecs - tir yng nghefn Trem Eifion, Dyffryn Ardudwy Adroddodd y Clerc mae newydd dderbyn y cais cynllunio uchod oedd hi felly cytunwyd, pe bai gan yr aelodau unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais, i’w hanfon i’r Clerc erbyn Medi 24. Pe na bai wedi clywed unrhyw beth erbyn y dyddiad hwn byddai yn cymryd eu bod yn cefnogi’r cais. Ymateb i’r rhifyn diwethaf Colli Mervyn Ger Perth yn Awstralia ar 8 Medi bu farw Mr Mervyn Lewis yn 80 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei briod Jane (Parc Isa), ei ferched, Carolyn a’i gŵr Mark a Julie a’i gŵr Sean, ei wyrion Ben, Joe, Michael a Mathew, ei wyresau Molly a Nanci, ei 16 o or-wyrion a gor-wyresau a’r teulu oll yn eu Flynyddoeddprofedigaeth.ynôlprynodd Mervyn a Jane Westy’r Cadwgan a bu’r fenter yn llwyddiant mawr gyda chroeso cynnes a bwyd da bob amser. Ymfudodd Carolyn a Mark a Julie a Sean i Perth ac yna, rai blynyddoedd wedi iddynt ymddeol, ymunodd Mervyn a Jane â hwy. Mae Jane yn derbyn y Llais bob mis. Rydym yn anfon ein cofion atat, Jane, ac yn meddwl amdanat ar amser anodd.

9 CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Pan ddarllenais yr erthygl yn eich rhifyn diwethaf am siop Elinor Post, Dyffryn Ardudwy, mi ddaeth ag atgofion yn ôl imi pan o’n i’n blismon yn y Bermo Yn yr 80 – 90au mi ges alwad yn oriau mân y bore un diwrnod gan ymwelwr oedd yn pryderu dros Miss Elinor Williams. Mae’r digwyddiad yn cychwyn pan gerddais yn ôl i’r swyddfa am tua thri o’r gloch y bore i gael fy mwyd ar ôl bod yn patrolio strydoedd Bermo ar droed. Ro’n i ar ganol cael fy mwyd pan glywais gnoc ar y cownter a sylwi ar rhyw ymwelwr yn sefyll yno. Mi ddeudodd wrtha’i ei fod wedi galw yn y siop yn y Dyffryn; troi allan i fod yn siop Elinor Post neu, fel arall, siop Awelon.

Cydymdeimlad Bu farw Fred Atterbury, 6, Cilfor yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf â’i deulu oll yn eu profedigaeth. Rydym yn meddwl amdanynt. Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Catrin a Llŷr, Gellilydan ar enedigaeth eu mab bach, Elis Llewelyn ar 13 Medi. Mae Elis yn ail ŵyr i John a Gwyneth Richards, Bryn Eithin, Llandecwyn, yn ŵyr i Deilwen Griffiths, Dyffryn Ardudwy ac yn gefnder bach i Euros, Lois, Mari, Lowri, Lana ac Elain. Dymuniadau gorau a phob hwyl i’r teulu i gyd ar y newydd-ddyfodiad.

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Capel Newydd, Talsarnau Rydym yn parhau i gynnal cyfarfod gweddi ar Skype ar fore Sul am 10:30. Ar nos Sul, mae’r oedfaon am 6:00 yn y capel. Mae croeso i chi ymuno hefo ni ond plîs cysylltwch fel bod sedd gadw i chi. HYDREF 3 - Dewi Tudur 10 - Dewi Tudur 17 - Rhys Llwyd 24 - Dewi Tudur 31 - Dewi Tudur TACHWEDD 6 - Dewi Tudur Rydym am ohirio Oedfa Diolchgarwch yn y gobaith y bydd y sefyllfa hefo Covid-19 wedi gwella’n fuan. Byw mewn gobaith! 10 *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014www.gwyneddmobilemilling.comGenedigaethLlongyfarchiadau mawr a phob dymuniad da i Dylan ac Awen Davies, Bron Heli, 1 Bryn Eithin, Llandecwyn ar enedigaeth eu merch fach, Beca Fflur ar 14 Awst. Pob hwyl i’r teulu i gyd. Neuadd Gymuned Talsarnau Mewn cyfarfod o Bwyllgor Rheoli’r Neuadd, penderfynwyd ailagor y Neuadd o ddydd Gwener, 1af Hydref 2021 ymlaen, a bydd ar gael i’w llogi gan y gymuned ar gyfer cynnal gwahanol weithgareddau. Bydd croeso i unrhyw un gysylltu â’r Clerc Llogi, Margaret Roberts, ar 01766 770599 i wneud trefniadau. Rhodd Teulu Ty’n Braich, Dinas Mawddwy £22 Y Neuadd Gymunedol Clwb y Werin Bydd Clwb y Werin yn ailddechrau yn ystafell fawr y Neuadd, ddydd Mawrth, 5ed Hydref rhwng 1.30 a 3.30 y prynhawn. Bydd cyfle i chwarae gemau o bob math ee sgrabl (yn Gymraeg a Saesneg), cardiau, dominos neu tenis bwrdd, a dyma gyfle i ddysgwyr gael ymarfer y Gymraeg mewn awyrgylch gynnes braf. Mae hyn yn gyfle hefyd i gael cwmpeini ac i ddangos a sôn am eich gwahanol ddiddordebau megis gwau neu grosio, ac i ddynion fentro dod hefyd i sôn am y garddio efallai, ac i gael syniadau ar sut i ddefnyddio’r holl afalau o’r ardd eleni! Ceir paned a sgwrs a bydd raffl wythnosol, ar gost bychan o £2.00, gyda gêm o bingo ar ddiwedd y prynhawn. Gobeithio y dowch i ymuno â ni yn ystod misoedd y gaeaf i fwynhau cymdeithasu a chael dipyn o hwyl. Cofiwch am ffrindiau sydd angen cael eu cludo yn y car ac y byddant yn gwerthfawrogi cael dod i’r Neuadd. Hyderwn y daw criw da ohonoch i dreulio prynhawn difyr yn y Neuadd braf sydd gennym yn Nhalsarnau. Bydd croeso cynnes i chi ymuno. Gwenda

• Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091

CEISIADAU CYNLLUNIO Codi balconi pren yn y cefn ac ar yr ochr ynghyd â grisiau cysylltiedig - 1/2 Penrallt, Soar, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod claddin allanol - 6 a 7 Maes Gwndwn, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Merched y Wawr Bu deg o aelodau Cangen Talsarnau am ginio i Gaffi Gwinllan Pant Du, Penygroes dydd Mercher, 22 Medi i ddechrau gweithgareddau rhaglen 2021-22, gan obeithio y byddwn yn gallu parhau i gyfarfod yn fisol unwaith eto yn ystod y gaeaf. Cawsom ddiwrnod heulog braf yno, a chroeso cynnes i fwynhau cinio blasus iawn gyda’n gilydd, a chael cyfle i sgwrsio mewn awyrgylch gartrefol. Estynnodd Siriol, ein Llywydd, groeso i bawb, gyda chroeso arbennig i Dawn, ein haelod hynaf, a da oedd ei gweld hi gyda ni. Cafwyd cyfle i gyfeirio at ychydig o faterion cenedlaethol a gofynnwyd yn garedig i bawb dalu’r tâl aelodaeth o £18.00 yn ein cyfarfod nesaf. Eglurodd Siriol beth sydd i ddod yn ein rhaglen yn ystod y flwyddyn, gan ddechrau yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Lun, 4ydd Hydref gyda sgwrs gan Sioned Williams ar greu gwahanol fathau o goffi. Edrychwn ymlaen at ei sgwrs, a braf fyddai gweld aelodau newydd yn ymuno gyda ni. Aeth pawb adref o Bant Du yn hwyr y prynhawn wedi cael amser pleserus iawn. Trefnwyr Angladdau

Gofynnwyd a oedd diweddariad wedi cyrraedd ynglŷn â’r golau solar yng Nglan y Wern, a datganodd y Clerc ei bod wedi anfon at yr Adran Briffyrdd eisoes yn gofyn am ddiweddariad.

Croesawodd y Cadeirydd Mabon ap Gwynfor i’r cyfarfod i drafod materion o bwys oedd gan yr Aelodau. Cafwyd braslun o’r hyn roedd Mabon wedi bod yn ei drafod ar lawr y Senedd megis y diffygion sydd yn y gwasanaeth iechyd a chynnig Deddf i reoli ail gartrefi. Hefyd, datganodd ei fod yn ymgyrchu i sefydlu canolfan ddeiagnostic brys a diolchodd am gefnogaeth y Cyngor hefo hyn. Datganwyd pryder bod diffyg gofal diwedd oes yn yr ardal a dywedodd Mabon ei fod yn ceisio sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud er mwyn sefydlu hospis. Datganwyd pryder gan yr Aelodau am y diffyg Heddlu sydd yn yr ardal ac awgrymwyd bod y Cyngor yn gwahodd y Comisiynydd Heddlu i gyfarfod o’r Cyngor i drafod hyn. Diolchodd y Cadeirydd i Mabon am ddod i gyfarfod o’r Cyngor. MATERION YN CODI Maes Parcio’r Pentre Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael ateb gan Peter Roberts, Uwch Beiriannydd Goleuo, Cyngor Gwynedd ynglŷn â gosod lampau yn y maes parcio uchod. Datganwyd ei fod wedi cael golwg ar y maes parcio a’i bod yn bosib rhoi golau ychwanegol ar gefn lamp 2 a 3; byddai hyn yn arbed tyllu a chostau. Cytunodd yr Aelodau i’r lampau gael eu gosod yn y lleoliad hwn.

11

MrsGOHEBIAETHJudithAllen Derbyniwyd neges gan yr uchod yn gofyn a fyddai hi’n bosib cael palmant ar ochr y ffordd o’r Ynys tuag at stesion Tŷ Gwyn. Cytunwyd i gefnogi hyn.

UNRHYW FATER ARALL Eisiau diolch i Mr Meirion Griffith am dacluso o gwmpas y meinciau yng Nghilfor, hefyd, eisiau gofyn iddo wneud hyn bob blwyddyn o hyn ymlaen. Eisiau gofyn i Mr Meirion Griffith dacluso o amgylch lloches bws Glan y EisiauWern. anfon at yr Adran Briffyrdd i ofyn iddynt docio y gwrych ger lloches bws o flaen stad dai Cilfor, hefyd tocio yr eithin unwaith yn rhagor ar ochr y ffordd o groesffordd Llandecwyn i lawr am Bont Briwet.

Datganwyd pryder rŵan bod gwerthiant Capel Soar bron â’i gwblhau nad oedd yr arwydd “dim parcio” y gofynnwyd amdano beth amser yn ôl byth wedi ei osod gan Gyngor Gwynedd. Cytunodd y Cyng Gwynfor Owen edrych i mewn i’r mater hwn.

Datganwyd pryder nad oedd dim gwaith wedi ei wneud i’r ffordd o Bronwylfa at Trem Eifion a bod ei chyflwr erbyn hyn wedi gwaethygu gyda thyllau mawr ynddi, hefyd bod rhai teithwyr wedi difrodi eu ceir oherwydd hyn.

Datganwyd pryder nad oedd y ffordd i fyny o stad Bryn Eithin byth wedi cael sylw er bod y Cyngor wedi tynnu sylw yr Adran Priffyrdd at hyn yn ôl ym mis AngenMai. tynnu sylw yr Adran Briffyrdd bod yna glymog Siapan yn tyfu ger yr hen bont yn Ynys. Datganwyd siom nad oedd y Cyngor wedi gael atebion i’r materion a anfonwyd at yr Adran Briffyrdd yn dilyn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf er bod y Clerc wedi ailgysylltu gyda hwy yn gofyn am atebion.

• Gofal Personol 24 awr

Croesawyd Lisa Birks i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor. Estynnwyd llongyfarchiadau i John Richards a’r teulu yn dilyn genedigaeth ŵyr bach yn ddiweddar.

12Cafwyd atebion cywir gan Phil Mostert, ac Angharad Morris, Y AnfonwchWaun, eich atebion i’r Sgwâr Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. PÔS SGWÂR GEIRIAU A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y GEIRIAUATEBIONDRYSFA1GeralltRhun Drwg iawn gennym am y llithriad yn y grid o dan Drysfa Geiriau rhif 1. Trwy amryfusedddd, cafodd N ac O rifau gwahanol yn y grid o gymharu â’r ddrysfa. Ymddiheuriadau lu. 1 22 16 2 23 25 26 11 11 8 25 13 14 20 28 13 16 15 11 13 14 28 22 16 20 19 15 8 16 28 15 28 16 25 2 12 7 18 13 26 21 25 16 12 22 20 2 22 25 7 16 13 19 Dd 25 I 22 O 16 25 12 13 26 7 13 28 26 26 20 26 28 3 25 25 19 11 2 17 18 20 26 26 15 20 10 25 22 27 25 13 22 26 13 2 28 26 2 6 20 27 2 2 19 22 16 28 10 7 9 1 20 6 20 12 13 4 25 2 16 2 1 24 20 8 16 22 13 16 22 25 1 20 12 2 26 22 19 1- 2- 3- 4- 5 - 6- 7- 8- 910- 11- 12- 13- 14- 15- 16- 17- 1819 - Dd 20- 21- 22 - O 23- 24- 25 - I 26- 27- 28- Ph Phil Mostert 2 Dydd Sadwrn 11 Medi 2021. Harlech 38-3 Porthmadog Clwb Rygbi Porthmadog oedd yr ymwelwyr i Ardudwy mewn gêm ‘Plât Undeb Rygbi Cymru’ ac mewn chwinciad gwelwyd rhyfelwyr Harlech yn tanio trwy sgorio eu pwyntiau cyntaf drwy gais gan Eon Williams, ond methodd Aeron Griffiths y trosiad. Ychydig o funudau yn ddiweddarach, sgoriodd Eon Williams ei ail gais a’r tro yma llwyddodd Aeron Griffiths efo’r trosiad. Yn fuan wedyn, sgoriodd Harlech eu trydydd cais drwy Ynyr Roberts ond methodd Aeron Griffiths gyda’r trosiad. Wedyn daeth cyfle i’r ymwelwyr i sgorio eu pwyntiau cyntaf drwy gic gosb lwyddiannus Manocha Lewis. Ychydig cyn hanner amser, mi sgoriodd Ynyr Roberts ei ail gais o’r gem gydag Aeron Griffiths yn trosi yn llwyddiannus i adael y sgôr ar hanner amser yn Harlech 24 -3 YnPorthmadog.gynnarynyr ail hanner, roedd y tîm cartref i lawr i 14 o chwaraewyr ar ôl i Ewart Williams dderbyn cerdyn melyn ond ysbrydolodd hyn y tîm cartref i fynd ymlaen i sgorio eu pumed cais trwy i Aeron Griffiths weld bwlch yn rheng yr amddiffynwyr a daliodd Geraint Owen y bêl a chroesi’r llinell gais am y pumed cais. Yna cyn y chwiban olaf, roedd un cais arall i ddod i’r tîm cartref drwy Gerallt Thomas a dilynodd Aeron Griffiths gyda’r trosiad llwyddiannus i adael y sgôr derfynol yn Harlech 38-3 DyfarnwydPorthmadog.y gêm gan yr actor Dewi Rhys o Gaernarfon. Adroddiad gan Meilir Roberts CLWBHARLECHRYGBI

ADNEWYDDUGRANTIAUibrynwyrtrocyntafyngNgwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn lansio cynllun grantiau i adnewyddu tai gwag er mwyn cynyddu cyfleoedd i bobl fedru cael cartref fforddiadwy o fewn eu cymuned. Bydd y grant ar gael ar gyfer prynwyr tro cyntaf sydd â chysylltiad lleol â’r ardal lle saif y tŷ. Pwrpas yr arian fydd cynnig cymorth i brynwyr tro cyntaf adnewyddu tai gweigion i ddod a nhw i safon byw derbyniol. Mae modd gwneud cais am hyd at £15,000 tuag at gostau megis ailweirio, ailblymio system wresogi canolog, gwaith atal lleithder, ffenestri a drysau allanol, aildoi neu rendro. Ffoniwch Galw Gwynedd [01766 77100] i holi am wybodaeth. Diolch i Maggie Evans [Edwards gynt] am y llun. Mae Maggie yn ferch i’r diweddar Idris Edwards. Yn ôl Maggie, dyma’r tro olaf i’w thad dyfu ŷd a’i gynaeafu fel hyn.

Bu’r gefnogaeth i’r papur hwn yn arbennig o dda yn ystod y pandemig. Diolch yn fawr i bawb sy’n mynd i’r drafferth i anfon deunydd atom. Rydym yn awyddus iawn i gynnwys rhagor o luniau tebyg i’r uchod.

Buasai’n amheuthun cael mwy o luniau o bobl wrth eu gwaith. Yn naturiol, mae’r lluniau yn fwy diddorol os nad ydyn nhw’n rhy hen. Felly, os gwelwch yn dda, ewch ati i chwilio ymhlith eich lluniau rhag ofn fod yno rywbeth allai fod yn ddiddorol i ddarllenwyr y papur hwn. Llais Ardudwy

Priodwyd y ddau yng Nghapel Tiberias yn 1904 a mynd i fyw i’r tŷ capel wedyn. Bu farw Edward yn sydyn yn 1933 ond arhosodd Laura yn y tŷ a gofalu am y capel tan 1952. Pan oedd Eisteddfod yr Urdd yn Nolgellau yn 1993 cafodd Goronwy a’r teulu gyfle i ymeld a thŷ ei nain am y tro cyntaf er hanner can mlynedd. Yn byw yn yr Wyddgrug, mae’n dal i chwilio am hanes y teulu a serch ei fod wedi llwyddo i ddod o hyd i grynswth o wybodaeth mae’n dweud fod rhagor ar ôl i’w ganfod. Ymddeol Hoffwn ddiolch o galon i bawb am y dymuniadau da a’r llu o anrhegion a dderbyniais ar achlysur fy ymddeoliad fel pennaeth Ysgol y Traeth, Abermaw. Cefais y fraint o weithio yn yr ysgol am 25 o flynyddoedd a dymunaf yn dda i’r ysgol yn y dyfodol. Elin Wyn Jones Rhodd a diolch £20

Cymraes uniaith olaf Fel Cymraes uniaith olaf y Bermo y disgrifiwyd nain Goronwy Morris, un o feibion y dref, mewn erthygl ddiweddar ganddo yn Gwreiddiau Gwynedd Roots, cylchgrawn Hanes Teuluoedd Gwynedd. Roedd Laura Morris wedi bod yn cadw tŷ capel Tiberias, y Bontddu. Yno y cafodd ei dad, John Arthur Morris, Crosville gynt, ei fagu. Roedd hi wedi bod yn cadw’r tŷ capel tan ddechrau’r pumdegau pan dorrodd ei chlun a symud at y teulu ym Min y Morfa, y Bermo. Bu farw yn 92 oed yn 1967. Mewn teyrnged iddi yn Y Dydd dywedodd y prifardd W D Williams ein bod wedi colli un o bileri hen fywyd Cymreig cylch y Bermo a’r Bontddu. Mae’n debyg mai hi oedd Cymraes uniaith olaf y Bermo, meddai. Fel y dywed Goronwy, ei hŵyr, “ie, dynes un iaith a dau lyfr oedd nain. Darllenai’r Beibl a’r Llyfr Emynau yn gyson a chai fodd i fyw ynddynt.” Merch Blaencwmynach ym mhen draw’r Cwm oedd Laura Jones. Symudodd y teulu i Garthgell wedyn. Pan oedd hi’n gweithio yn Glanronwy (Graig Fawr heddiw) ger Bontddu Hall cyfarfu â’i gŵr Edward Morris. Roedd o’n lletya yno ac yn gweithio yng ngwaith aur y Clogau. Yn frodor o Ddyffryn Clwyd roedd o a’i frawd wedi dod i Drawsfynydd i weithio ar y ffermydd yn torri gwair. Wedyn yr aeth Edward i chwilio am aur.

13 Y BERMO A LLANABER

Bryn Bwyd, Tal-y-bont yn 1987

Tyfu gwenith ar fferm

Smithy

smithygaragedyffrynwww.smithygarage-mitsubishi.co.uk247799smithygarageltdArgaelardelerau0%hurbrynudros3blyneddhebunrhywisafswmernes

CambwysleisioacAti 14Soniais

poblogaidd ar gyfer agor gwasanaeth. Bu cryn lythyru yn y wasg am y peth ar y pryd a chredaf mai dyma’r gŵyn a leisiwyd amlaf am y casgliad. Fodd bynnag, cadwyd y dôn Pen-Parc a rhoddwyd geiriau John Elias arni. Ond bobol bach, tydyn nhw ddim yn ffitio’n daclus o gwbl. Ymhob pennill mae’r acen yn disgyn ar y sill cyntaf yn y llinell. Digon teg, os ydi ystyr y geiriau yn gofyn am hynny. Ond o geisio ffitio geiriau John Elias ar y dôn Pen-Parc, mae’r pwyslais yn mynd ar eiriau dibwys. Yn y pennill cyntaf er enghraifft (ac rydw i wedi rhoi llinell o dan lle mae’r acen bob tro): ‘Ai am fy meiau i dioddefodd Iesu Mawr pan ddaeth yng ngrym ei gariad ef o entrych nef i lawr?’ Fe welwch fod y dôn yn mynnu bod y sawl sy’n canu yn rhoi’r pwyslais ar eiriau fel ‘pan’ ac ‘o’. Ac mae hyn yn digwydd trwy’r emyn i gyd. Mae’r pumed pennill yn rhoi’r pwyslais ar ‘pan’, ‘wrth’ ac ‘i’. Pe bai rhywun yn adrodd yr emyn neu yn ei osod felly ar gerdd dant fe fyddai’n swnio’n chwerthinllyd ac fel y dywedodd yr Athro R T Jenkins, ’y mae emyn y gellir chwerthin am ei ben yn cyflawni hunanladdiad’. Rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs, ond fe fyddai’n well gen i pe bai Pen-Parc wedi ei hepgor a’r pwyllgor wedi rhoi St Bride o’r Caniedydd (6) neu Cymer o’r Llyfr Emynau (302) ar y geiriau. Byddai’r geiriau’n cael gwell parch felly. JBW Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd Tel: 01341

Mewn oes ddiniweitiach na’n hoes ni gallai ladd ffair wagedd ag un bregeth ac mae sôn hyd heddiw amdano yn cynnal ocsiwn ar y meddwon yng YNghaergybi.traddodiad tu ôl i’r emyn ydi bod y forwyn fach yn nhŷ John Elias wedi bod yn edrych yn ddigon trist a bod yr hen bregethwr wedi gofyn iddi beth oedd yn bod. Yn sydyn edrychodd y forwyn ym myw llygad y meistar a gofyn iddo, ‘Mr Elias, ai am fy meiau i dioddefodd Iesu mawr?’ Wn i ddim pa ateb a roddodd y pregethwr iddi ond bu’r cwestiwn yn troi a throi ym meddwl John Elias a’r diwedd fu iddo gyfansoddi un o emynau mawr yr iaith. Byth ar ôl hynny fe ymddangosodd ymhob casgliad bron. Ac nid yw Caneuon Ffydd yn eithriad. Y broblem yw bod yr emyn wedi ei briodi â’r dôn Pen-Parc o eiddo J T Rees (1857–1949). Daeth y dôn yma i’r amlwg yn Atodiad 1985 i Lyfr Emynau’r Methodistiaid ar eiriau Gwilym R Jones (1903–1993); ‘Yn wylaidd plygu wnawn i frenin yr holl fyd ...’ Ni chynhwyswyd emyn Gwilym R Jones yn Caneuon Ffydd a gwelodd llawer ei golli gan ei fod yn emyn

o’r blaen bod y pwyllgor a luniodd y casgliad ’Caneuon Ffydd’ wedi cael hwyl arbennig arni a bod y llyfr yn un o drysorau’n cenedl. Wedi dweud hynny, mae yna un neu ddau o bethau od iawn ynddo fo. Dyma rai o`’r pethau sydd wedi fy nharo i yn chwithig gan obeithio na fydda i yn tynnu blewyn o drwyn neb. Dyma’r trydydd emyn yn y llyfr: ‘Agorwn ddrysau mawl i bresenoldeb Duw; pan fydd ein calon ni`n y gân ei galon ef a`n clyw.’ Dyna bennill cyntaf emyn i’n gwahodd i’r addoliad. Yr awdur ydi’r Prifardd John Gwilym Jones, bardd cadeiriol, gweinidog a phregethwr galluog a chymeradwy. Anodd f’ai dychmygu gwell na theilyngach emyn i agor gwasanaeth o foliant. Ond beth am y dôn? Y dôn sydd uwchben yr emyn ydi Drysau Mawl gan William Mathias (1934 – 1992) ac yn ôl y ‘Cydymaith Caneuon Ffydd’ fe’i cyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr emyn hwn. Mae’n anodd gweld sut. Wedi agor yn dawel, bron fel agor drws, mae’r dôn yn neidio o air i air yn y drydedd a’r bedwaredd linell. Pan fyddaf yn clywed y dôn yr hyn a ddaw i’m meddwl ydi llyffant yn sboncio. Go brin mai hon yw’r ddelwedd orau ar agoriad gwasanaeth crefyddol. Mae i’r llyffant ei le yn siŵr – ond efallai nid yn y capel. Ond credaf fod y briodas fwyaf anghymarus yn y casgliad i’w chael yn emyn 482. Dyma emyn mawr John Elias (1774–1841). Un o ardal Rhosfawr ar derfyn Lleyn ac Eifionydd oedd John Elias ond yn Sir Fôn y treuliodd y rhan fwyaf o’i oes. Roedd yn bregethwr nerthol a dywedid fod y diafol yn crynu wrth glywed ei enw. Ac nid y diafol yn unig chwaith; roedd ei gyd-weinidogion ei ofn fel gŵr â chleddau. Roedd o’n gymaint o unben fel y byddai rhai yn ei alw ‘y Pab o Fôn’ - ond yn ei gefn wrth gwrs!

15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

16Fel y soniais y tro diwethaf, mae gen i dros hanner cant o lythyrau a ysgrifennwyd gan fy nhaid, John Griffith Roberts, Caerau, Abermaw rhwng 1919 ac 1923 at ei fab hynaf, Gwilym, a oedd wedi mynd i weithio i Gwmni Cunard yn Lerpwl. Mae’n rhoi rhyw ddarlun inni o fywyd yn y Bermo a’r ardal a fydd efallai o ddiddordeb i ddarllenwyr Llais Ardudwy. Mae’n amlwg eu bod yn cael tipyn o law trwm ganrif yn ôl hefyd! Yn ei lythyr dyddiedig dydd Sul 4 Gorffennaf mae fy nhaid yn disgrifio cyngerdd y bu ynddo yng Nghastell Harlech. Cafwyd canu gwych gan y côr a ffurfiwyd o nifer o wahanol gorau yn yr ardal, yn perfformio sawl corws o’r ‘Meseia’, ac nid oedd yn edifar o gwbl ganddo fynd, ond fe gawsant drochfa go iawn. Roedd hi wedi bwrw glaw drwy’r dydd a’r nos, a mwd ofnadwy y tu mewn a thu allan i’r castell. Roedd y merched bonheddig oedd yn pasio heibio i’w seddau cadw 7/6 at eu fferau mewn mwd, a dim gorchudd dros bennau’r gynulleidfa i’w cadw rhag y glaw. Disgrifia weld Ben Davies a Laura Evans, yr unawdwyr, yn canu dan gysgod ymbarel, a Dr Walford Davies yn cyfeilio a’r glaw yn pistyllio dros nodau’r piano. Fe ddaliodd y côr o dros 2,000 o leisiau ati yn ddewr, nes i’r trefnyddion alw am yr ‘Halleluja’: canwyd y corws hwnnw yn ardderchog ond hyd yn oed wedyn fe fynnodd y côr ganu ‘Worthy is the Lamb’ o dan eu hymbarels! Mae’n debyg bod yr ymgais i orchuddio’r safle wedi costio £160 ac wedi bod yn fethiant llwyr, a bod y gerddorfa wedi costio £200 er na chawsant gyfle i chwarae’r un nodyn. Yn ôl y sôn, fe gynhelid Gwyliau Cerdd a phasiantau hanesyddol yn y castell bob haf yn y cyfnod hwn ac mae adroddiadau am gorau lleol o 1,500 neu fwy o leisiau yn dod at ei gilydd dan arweiniad enwogion fel Syr Edward Elgar, Syr Henry Wood a Syr Henry Walford Davies. Roedd Ben Davies, un o’r unawdwyr yn y cyngerdd hwn, yn denor adnabyddus, yn enwog yn y byd opera ac ar lwyfan cyngerdd ac oratorio ac wedi canu fel unawdydd ar lwyfan Covent Garden, yr Albert Hall ac yn Ffair y Byd yn Chicago, ac roedd Laura Evans hithau yn gontralto o fri ar lwyfannau Cymru a thu hwnt. Hi a wahoddwyd i ganu Cân y Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 yn Birkenhead, a phan gyhoeddwyd bod y bardd buddugol, Hedd Wyn, wedi ei ladd ar faes y gad, dewisodd ganu ‘I Blas Gogerddan’. Dr Henry Walford Davies oedd yr arweinydd a’r cyfeilydd y noson honno, fel y gwelwn - dwy flynedd yn ddiweddarach yr oedd wedi ei urddo’n farchog. Roedd hefyd yn gyfansoddwr blaenllaw, ac erbyn hyn, ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Athro Cerdd mewn colegau cerdd yn Llundain, roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru ac yn Athro Cerdd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyngherddau ‘mawreddog’ gyda cherddorion proffesiynol o safon uchel iawn felly oedd y rhain yng Nghastell Harlech, a’r corau lleol a’r gynulleidfa o Ardudwy a’r cyffiniau yn cael cyfle i’w clywed. Margaret Wallis Tilsley a’r cyffiniau ganrif yn ôl (3) Llun: Cadw Wel, dyma ni wedi cyrraedd tymor y siwtni, ac i gael rysâit y mis yma dwi wedi mynd drwy llyfr ryseitiau Mam (y diweddar Elizabeth Jones, Tyddyn y RoeddGwynt).Mam yn mwynhau gwneud siwtni, jam a marmalêd, fel y gwyddoch. Mae’n siŵr mai siwtni maro ac afal oedd ei ffefryn. Mi fyddai yn gwneud pwysi o hwn bob blwyddyn, ac roedd yn boblogaidd iawn gennym fel teulu. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau! Er cof am Mam Annwyl Rysáit 3 phwys o maro Pwys o nionod Pwys a hanner o afalau Pwys o siwgr Peint o “pickling vinegar” 2 llond llwy de o turmeric. Dull Piliwch y maro yna ei dorri yn ei hanner a gyda llwy sgwpiwch allan y canol yn lân. Yna, torrwch yn ddarnau bach. Rhowch mewn desgil gydag oddeutu 2 llond llwy de o halen a’i orchuddio gyda chling ffilm a’i adael dros nos. Y diwrnod canlynol, draeniwch y maro a’i roi mewn sosban, adiwch iddo yr afalau a’r nionod sydd wedi cael eu torri yn fach, a hanner y finegar. Gadewch iddo godi berw, ac wedyn ei fud-ferwi nes y bydd yn dendar, tua hanner awr. Yna ychwanegwch y siwgwr, turmeric a’r finegar. Gadewch iddo fud-ferwi nes y bydd wedi tewychu, tua 20 Cynheswchmunud. y jariau yn barod cyn eu llenwi â’r siwtni. Rhian

RysáitMair y mis

Y Bermo

sang CARNIFAL HARLECH 1980 Llun: Bethan Johnstone Mi fydd llawer o’r ardal yn cofio’r teulu Ritchie yn byw yn y Dyffryn, a’u cysylltiad teuluol â bro Ardudwy. Dyma hanes aelodau’r teulu sydd bellach yn ffermio yn ardal Ysbyty DrosIfan. y bedair blynedd ddiwethaf, mae RSPB Cymru wedi bod yn rhan o gydweithrediad arloesol i adfer mawnogydd yn nyffryn uchaf yr afon Conwy. Ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cydweithiodd RSPB Cymru gyda’r teulu Ritchie – tenantiaid Blaen y Coed, fferm ucheldir ar Stad Ysbyty Ifan yr Ymddiriedolaeth. Saif y fferm o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig y Migneint, ehangder mawr a phwysig o rostir yr ucheldir a gorgors. Yn 2017, dechreuwyd gweithio gyda’r tenantiaid i adfer lleiniau o fawnogydd wedi eu niweidio a’u diraddio, gyda’r nod o greu gwell cynefinoedd ar gyfer adar yr ucheldir. Gwnaed y gwaith ymarferol – cau ffosydd draenio a cheunentydd dwfn wedi erydu; creu argaeau a ffurfio pyllau i ail-wlychu’r ardal – gan y tenantiaid eu hunain. Dengys monitro agos bod y cynefin yn ymateb yn dda, gyda phyllau’n ailffurfio a phlanhigion arbenigol y gors yn ffynnu unwaith eto. Mae’r trawsffurfiad a welir ar y darn hwn o dir yn rhyfeddol. Lle unwaith y bu ardal o orgors wedi ei diraddio, mae gennym bellach gynefin cyfoethog sy’n darparu casgliad cyfan o wasanaethau ecosystem hanfodol megis storio carbon, gwarchod rhag llifogydd a chartref i fywyd gwyllt Hefyd, derbyniwyd newyddion gwych dros yr haf: nythodd dau bâr o gwtiaid aur a phedwar pâr o ylfinirod o fewn y cynefinoedd a ail-wlychwyd. Ers hynny, gwelwyd cywion y cwtiad aur a’r gylfinir yno – y llwyddiant nythu cyntaf ar y safle hwn i’r ddwy rywogaeth ers yr 1990au. Dengys y llwyddiannau hyn bod gwaith cadwraeth wir yn talu ar ei ganfed. Hoffai RSPB Cymru ddiolch i denantiaid Blaen y Coed am eu gwaith dygn ac am fod yn enghraifft o sut y gellir gwireddu ffermio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Maen nhw wedi cyfuno ymdrechion cadwraeth gyda’r orchwyl feunyddiol Mae’r teulu Ritchie wedi adfer cynefin y fawnog ar eu fferm. o gynnal busnes eu fferm; dyma stori wych a mawr obeithiwn y bydd yn ysbrydoli projectau tebyg yn y dyfodol.

17 R J

NeuaddTalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZUGoffaHarlechdanei

ARLOESWYRYFAWNOG

Diolch i bawb am ymuno ac am bob cyfraniad

CEISIADAU CYNLLUNIO Rhyddhau amodau rhif 8 (Triniaeth Ffiniau), rhif 9 (Tirlunio) rhif 10 (Datganiad Dull ar gyfer trin chwyn clymog Siapan) rhif 11 (manyleb ar gyfer rhaglen o waith archeolegol) a rhif 13 (Tir halogedig) o ganiatâd cynllunio dyddiedig 18/12/20 - Tir rhwng Trem Arfor a Hiraethog, Stryd Fawr, Harlech. Cefnogi’r cais Codihwn.estyniad deulawr ar yr ochr - Sibrwd-y-Môr, Hen Ffordd Llanfair, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Derbyniwyd llythyr gan HSBC yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn gwneud newidiadau i’w cyfrif busnes gan gynnwys newidiadau i rai o’u gwasanaethau. Ni fydd y cyfrif cymunedol ar gael mwyach a bydd yn newid i gyfrif banc elusennol ond bydd rhif y cyfrif yn aros yr un fath. O’r 1af o Dachwedd eleni bydd y newid hwn yn digwydd a bydd y cyfrif newydd yn cario taliad misol a bydd rhaid talu rŵan am newid sieciau neu godi arian. Y gost ar gyfer cyfrif banc elusennol fydd £5.00 y mis a bydd cost o 40c ar bob siec a fydd yn cael ei dalu i mewn neu allan o’r cyfrif. Rhoddwyd caniatâd i’r Clerc/Trysorydd wneud ymholiadau gyda’r banc ynglŷn â sefydlu taliadau BACS, hefyd i gael cerdyn debyd.

Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynglŷn â dathliadau pen-blwydd y Parc yn 70 oed ac fel rhan o’r dathliadau maent yn cynnig “Pecyn Plannu Coed” i’r Cyngor; os bydd gan y Cyngor ddiddordeb mewn derbyn y pecyn hwn mae’n rhaid iddynt gysylltu gyda’r Swyddog erbyn y 30ain o Fedi. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i ofyn a fyddai yn bosib derbyn 20 o becynnau plannu coed yn lle 70.

HARLECH 18

MATERION YN CODI Ethol Cynghorydd Roedd Ms Emma Howie wedi datgan diddordeb mewn bod yn Aelod o’r Cyngor a chytunwyd i’w chyfethol a’i gwahodd i gyfarfod nesaf y Cyngor.

– Adran Economi a Chymuned Derbyniwyd llythyr gydag atodiadau gan yr uchod ynglŷn ag ‘Ardal Ni 2035’ sy’n datgan y byddant yn cychwyn ar gyfnod o drafod ac ymgysylltu gyda’r Cyngor hwn ac yn gofyn i ni ystyried y cwestiynau isod fel grŵp cyn i’r Cadeirydd a’r Clerc gael cyfarfod gyda Gwen Evans, Swyddog Cefnogi Cymunedau yn rhithiol. Trafodir y mater yn fwy manwl yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.

Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod ynglŷn ag Arolwg ‘Ein defnydd o’r Iaith Gymraeg’ y maent yn bwriadau gofyn i’r cyhoedd ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf, yn gofyn i aelodau’r Cyngor ei gwblhau hefyd. Cytunwyd bod y Clerc yn anfon y llythyr hwn ymlaen at bob Aelod er mwyn iddynt allu ei gwblhau ar lein pe baent yn dymuno gwneud hynny.

CYNGOR CYMUNED

PRIODAS Capel Rehoboth Ar brynhawn braf, ddydd Sul 26ain o Fedi, cawsom gynnal ein gŵyl o ddiolchgarwch am y cynhaeaf. Addurnwyd y capel gyda blodau, llysiau a ffrwythau gan yr aelodau. Cafwyd cynulleidfa dda iawn a’r gwasanaeth yn gorffen gyda’r chwaer Gwen Edwards yng ngofal y cymun.

CyngorGOHEBIAETHGwynedd

CydymdeimloHARLECH Cydymdeimlwn yn ddiffuant â Jackie Blanks, 28 Y Waun ym marwolaeth ei chymar Charlie Stimpson. Roedd Charlie yn hen foi iawn, yn gymeriad annwyl iawn ac yn naturiol garedig. Bydd chwith mawr ar ei ôl gan ei gydweithwyr yn Huws Gray ac hefyd ymhlith aelodau y timau dartiau lle’r roedd o yn gryn giamstar.

Croesawydhael.Christopher

Braithwaite i’w gyfarfod cyntaf.

Priodas Llongyfarchiadau mawr i Leanne a Damon John ar eu priodas - o’r diwedd - ar Fedi 5ed ym Mron Eifion, Bu’nCricieth.rhaid i’r cwpl aros ymhell dros flwyddyn a newid y dyddiad ar 4 achlysur diolch i Covid-19, ond o’r diwedd, cafwyd diwrnod arbennig i’w gofio yng ngwmni teulu a ffrindiau, a hynny yn yr heulwen! Dymunwn pob hwyl a hapusrwydd i’r Mr a Mrs John newydd yn eu bywyd priodasol! Dwy wobr Enillodd Abi Winters, cyn fyfyrwraig yng Ngholeg Meirion/Dwyfor ddwy wobr yn ddiweddar. Enillodd wobr gan Network Rail am ddyluniad yn nodi lle yr hoffai fynd pan fo’r pandemig drosodd. Llun papur o Bortmeirion a luniwyd gan Abi ac mae yn awr ar werth fel cerdyn post, poster neu gerdyn cyfarch ar siop arlein Network Rail. Wedyn enillodd Abi wobr o £2000 gan y Coleg Celf yng Nghaergrawnt am ei busnes blodau papur ‘Full Bloom’. Mae’n ferch i Chris a Tina Winter ac yn wyres i Rob a Marie Jones. Pob dymuniad da iddi hi.

19 CYLCH MEITHRIN HARLECH

PEN-BLWYDDCYFARCHION

HanesCymdeithasHarlech Bydd Cymdeithas Hanes Harlech yn ailddechrau cyfarfodydd ar Hydref 12fed am 7.30yh yn Neuadd Goffa, Dydy’rHarlech.gymdeithas ddim wedi cyfarfod ers 18 mis oherwydd y pandemig Covid-19. Mae sawl darlith wedi ei chynnal ar-lein drwy gyfrwng Zoom ond bydd pawb yn fodlon iawn mynd yn ôl i gwrdd â’i gilydd eto. Y siaradwr cyntaf yw Graham Harding efo ‘The History of Wine in Wales’. Ar ôl y ddarlith mi fydd y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a lluniaeth. Croeso i gyn-aelodau ac aelodau newydd. Cost aelodaeth yw £10 yr unigolyn am y flwyddyn. Bydd y cymdeithas yn cwrdd ar yr ail nos Fawrth bob mis tan fis Mehefin efo darlith wahanol - pob darlith trwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Cysylltwch â Siân Roberts, ysgrifennydd, am fwy o fanylion ar 01766 780516 neu sian.rob@ btinternet.comPen-blwyddhapus iawn i Huw Tommy Jones, 14 Tŷ Canol sy’n dathlu pen-blwydd arbennig yn 60 oed ar Hydref 7. Gobeithio y cei di ddiwrnod i’w gofio. Cariad mawr atat gan dy deulu i gyd a chan llawer o ffrindiau.

Cylch Meithrin Harlech Mae’r plant yn brysur yn y Cylch yn gweithio ar y thema ‘Fi fy hun’. Mae Anti Lynda ac Anti Nia yn mwynhau darllen y stori ‘Fy niwrnod Cyntaf yn y Cylch Meithrin’ ymysg llyfrau eraill a chadw dwylo’n brysur gyda gwaith llaw.

Roedd gan Dad falchder mawr o’i linach deuluol ac mi gofiwn yn blant nifer o’i ewythredd, modrybedd, cefndryd a cnitherod yn galw heibio a chroeso mawr yn eu disgwyl pob tro. Byddai’n sôn yn aml iawn am ei gysylltiadau teuluol ag ardal Aberdyfi a Pennal ac roedd yn bachu ar bob cyfle i ymweld â’r ardal. Roedd yn meddwl y byd o’i deulu a byddai wrth ei fodd yn gweld ni’r plant, ei wyrion a’i or-wyrion yn ymweld â Pharc Isaf. Dyn ei filltir sgwâr oedd o ac roedd wrth ei fodd yn ffermio ym Mharc Isaf.

fy nhad ar yr 20fed o Ebrill 1937 yn Glanmorfa, Llanelltyd, yn fab i David Rees ac Emily Edwards. Roeddent yn byw ar y pryd ar fferm Cae Gwernog, Llanelltyd. Pan yn unarddeg mis oed symudodd y teulu o Lanelltyd i Barc Isaf ac yn ddiweddarach ehangodd y teulu pan anwyd Wmffra, Jane, Ann a David. Cychwynnodd ei addysg yn ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy, ac er iddo fwynhau ei gyfnod yn yr ysgol gynradd ac Ysgol Ramadeg y Bermo, roedd yn dyheu am weithio ar y tir. Pan waelodd iechyd Taid bu raid iddo adael yr ysgol i fynd i helpu ar y fferm ac yntau ond yn 14 Traoed.ynffermio

Parc Isaf bu iddo hefyd fod yn was fferm ym Meifod Uchaf ac yn ddiweddarach i Gors y Gedol. Yn 1960 daeth cyfle i brynu Parc Isaf ac er nad oedd taid am fentro roedd dad yn gweld cyfle ac aeth ati i sicrhau pecyn ariannol i’w phrynu ac yntau ond yn 23 mlwydd oed. Ergyd drom i’r teulu oedd colli Taid yn 1961 ac yn hyn o beth cymerodd Dad y cyfrifoldeb am ofalu am ei fam a’i frodyr a’i chwiorydd iau. Nid oedd rhaid iddo feddwl ddwywaith am ofalu am ei deulu ac mae dyfnder ei ofalaeth yn destun balchder a pharch i ni oll. Yn 1960, ar noson allan yn y Bermo, cyfarfu â Mam. Roedd y ddau’r ‘match’ perffaith. Priodwyd ar y 29ain o Fedi 1962. Nid yn unig eu bod yn ŵr a gwraig cariadus ac yn bartneriaid busnes llwyddiannus ond hefyd yn ffrindiau gorau a’r ddau yn deall ei gilydd i’r dim. Ar ôl priodi, aethant i fyw i Twllnant ac yno buon nhw yn byw am naw mlynedd ble magwyd, Eleri, Gwynfor, Deilwen, Hefin a finnau cyn symud i Barc Isaf yn 1971 a ganwyd Bethan yn 1972. Yn ddiweddar iawn esboniodd fy nhad y drafferth gafodd o i gael hawl cynllunio i adeiladu dau dŷ ym Mharc Isaf er mwyn sicrhau cartref i nain ac i’w deulu Nidifanc.tasg hawdd oedd magu teulu o chwech ohonom, ond er mwyn gwneud yn siŵr nad oeddem yn mynd heb ddim, bu i Dad a Mam weithio yn ddiflino. Ar y pryd, mae’n siŵr nad oeddem yn gwerthfawrogi cymaint roedden nhw yn ei wneud i ni. Roedd Dad yn weithiwr caled ac roedd hi’n arferol iddo godi gyda’r wawr a gweithio oriau wedi’r haul fachlud. Er mwyn dal pen llinyn ynghyd a helpu i dalu am y fferm, cychwynnodd gontractio allan gan ffensio, dyrnu, torri gwair, cneifio a chodi siediau Roeddamaethyddol.hefydyn godro a mam hefo’r rownd lefrith. Byddem hefyd yn magu twrcis a cheiliogod ar gyfer y Nadolig.

Roedd y cae tatws hefyd yn llawn o gynnyrch amrywiol a byddem yn gwerthu’r cynnyrch yn lleol. Roedd y cyfnodau plannu a chodi tatws neu bluo yn achlysuron mawr i ni a braf oedd cael y teulu a ffrindiau ynghyd i helpu.

EVANTEYRNGEDEDWARDSPARCISAF

Er, fel plant, doedden ni ar y pryd ddim mor hoff o’r tasgau di bendraw o orfod trawsblannu, dyfrhau a chwynnu neu godi tatws ac yn ceisio meddwl am unrhyw esgus dan haul i beidio eu gwneud. Ond o edrych nôl rydym yn sylweddoli gymaint o arbenigwr tyfu cnydau oedd o ac yn ddiolchgar o gael dysgu yn ei gwmni. Doedd o ddim yn berson fyddai am aros yn llonydd am yn hir roedd wastad rhywbeth i’w wneud. Roedd yn grefftwr heb ei ail, ac wrth ei fodd yn trin coed a gall drwsio unrhyw beth. Gallai droi ei law at unrhyw beth - yn berffeithydd yn ei waith. Doedd o ddim yn un am gael gwared ar ddim byd gan y gwyddai y gallai ailddefnyddio pethau rhyw ddydd. Roedd rhaid i bopeth fod yn ei le ac roedd yna le i bopeth. Prin hefyd oedd y diwrnodau i ffwrdd. Byddem oll fel teulu yn edrych ymlaen at ddiwrnod codi tatws ac os byddem wedi gorffen cyn diwedd gwyliau hanner tymor byddem yn cael mynd am ddiwrnod allan. Ond rhaid oedd godro cyn ac ar ôl pob siwrne.

Mae’n anhygoel meddwl cymaint mae’r lle wedi gwella dros y blynyddoedd ac mae hynny yn dyst o’i ymroddiad a’i ddyfalbarhad i wella a chodi safon y tir. Roedd ganddo feddwl y byd o’i gymuned hefyd ac yn aml iawn pan ddaw cais am gymorth byddai dad yno yn syth i helpu. Roedd o yn berson cymwynasgar parod i roi help i unrhyw un oedd angen cymorth. Roedd ffrindiau yn bwysig iawn iddo ac roedd ganddo nifer o gymdogion a ffrindiau triw, Arthur Bara, Glyn Pentra Mawr, Geraint Meifod, Hughie Frongaled, Meurig yr Hendra a Ken Bellaport. Byddant yn cefnogi ei gilydd drwy gydol y flwyddyn – cyfeillion oes. Roedd diddordeb mawr ganddo mewn hen beiriannau a byddai wrth ei fodd yn ymweld â digwyddiadau neu sioeau a chael cyfle i weld yr hen beiriannau yn gweithio a chael ail fyw’r profiadau a’r hen draddodiadau. Fe ddaeth cyfle i Dad a Mam ymlacio ychydig a hynny ar ôl i Hefin orffen yn y coleg a dod i helpu ar y fferm. Yn hyn o beth, fe gafwyd ambell i wyliau ar y bysus ac roedd y ddau yn mwynhau’r tripiau hyn yn fawr iawn. Cafwyd ambell i ymweliad dramor Yr Eidal, Canada ac yr un fwyaf cofiadwy iddo oedd y daith ar y trên iâ i’r Swistir a’r daith yn cychwyn a gorffen yng ngorsaf trên y Dyffryn. Cafodd bleser o gael y profiadau a’r cyfle i ymweld â gwledydd Onderaill.mewn cyfnod anodd mae’n bwysig dathlu a gwerthfawrogi ei gyfraniad i’n bywydau. Nid yn unig ei fod yn dad arbennig roedd hefyd yn fentor heb ei ail. Rhoddodd arweiniad cadarn a rhoi sgiliau allweddol i bob un ohonom. Mae’r profiadau hyn yn dyst fod Dad a Taid wedi gadael eu marc arnom i gyd. Cyn cychwyn unrhyw ddarn o waith roedd rhaid holi barn Dad a chael cyfarwyddyd ynghylch sut oedd ei gyflawni. Byddai wastad yn esbonio

Ganed20

Cylch Meithrin Y Tonnau, Bermo yn mwynhau chwarae yn y glaw yn eu dillad glaw arbennig. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu yr ardal awyr agored y tymor hwn a bydd dim ots am y tywydd. ‘Mochel dan yr ambarel ...’

CYLCH MEITHRIN Y GROMLECH

CYLCH MEITHRIN TALSARNAU Mae mwy o bwyslais y dyddiau hyn ar fynd â’r plant allan o’r

iddo oedd cael mynd am dro i Ben Llŷn ar ei ben-blwydd ym mis Ebrill gan grwydro a hel atgofion am y ffermydd bu’n ymweld a chneifio ynddynt flynyddoedd yn ôl. Roedd o wedi edrych ymlaen am y daith ac wedi mwynhau ei hun gyda’r nos yn dathlu ei ben-blwydd yn yr ardd gyda’r teulu i Maegyd. bwlch mawr ar ei ôl ym Mharc Isaf, a hiraeth mawr fydd amdano ac am ei ofal a’i gyngor gwerthfawr. Ond cofiwn y balchder oedd ganddo ohonom, y wên wrth gofleidio’r teulu a’r croeso arbennig wrth i ni gyrraedd. Mi gofiwn hefyd y cyfeillgarwch, y sgwrsio di-bendraw wrth roi’r byd yn ei le a’r tynnu coes o amgylch bwrdd y gegin - heb sôn am y barbeciws niferus yn yr ardd yn ystod yr haf; ac yntau yn ei elfen yn ein cwmni. Bydd hi’n chwith iawn i Mam o golli Dad sydd wedi bod yn gymar mor ffyddlon a gofalgar. Gwyddom fod Dad wedi gwerthfawrogi cael bod adra ym Mharc Isaf ac am y gofal tyner a chariadus gan Mam yn ystod ei waeledd. Diolch i ti Dad am fod yn ŵr, brawd, tad, taid a hen daid mor arbennig i ni gyd. Cwsg yn dawel a diolch o waelod calon am bob dim. DiolchIddon Dymuna’r teulu ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt a gwerthfawrogwyd y cardiau galwadau ffôn ac ymweliadau. Gwerthfawrogwyd hefyd y ffrindiau a chymdogion am dalu’r gymwynas olaf ar y daith i’r fynwent. Diolch arbennig am y cyfraniadau tuag at Nyrsys Cymunedol y Bermo ac Uned Gofal Dwys y Galon, Ysbyty Gwynedd. Diolch i’r Parch Megan Williams am gynnal gwasanaeth gofalgar ac i ymgymerwyr Pritchard a Griffiths am eu trefniadau gofalus a trylwyr. Mae ein diolch hefyd i’r nyrsys cymunedol fu mor garedig a chymwynasgar ac rydym yn llawn werthfawrogi’r gwaith caled maent yn ei wneud i helpu teuluoedd yr ardal. Rhodd £20.00

CYLCH MEITHRIN Y TONNAU

Plant Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy yn mwynhau chwarae yn y glaw. ‘Fi fy hun’ yw eu thema y tymor hwn ac maen nhw wedi bod yn paentio coeden deulu, blasu eu hoff ffrwyth, ac adnabod rhannau o’r corff gan ganu ‘Pen, ysgwyddau, coesau, traed...’

21 yn gywrain sut oedd gwneud pethau. Os oedd unrhyw beth o’i le, dim ond galwad ffôn oedd ei angen a byddai yn barod i roi ei farn a’i gyngor, neu os yn greisis go iawn byddai acw mewn chwinciad. Yn naturiol iawn, mae sawl atgof gennym o’n plentyndod a rheini y byddwn oll yn eu trysori, a diolch iddo Pleseramdanynt.mawr

TalsarnauMeithrinThemadosbarth.Cylchyw ‘Fi fy hun’ a stori’r Tri Mochyn Bach. Cawsant fwydo’r ieir, casglu mwyar duon, mwynhau yn y parc a chael picnic. Dyddiau prysur iawn.

Cylch Meithrin y Bermo Y plant ym 1974 gyda’u hathrawes Llewela Edwards

22Yn ôl cofnodion, cynhaliwyd pwyllgor cyntaf yr Ysgol Feithrin ym mis Medi 1971. Ond, wrth holi, sefydlwyd yr Ysgol Feithrin gyntaf yn 1968 yn Festri Capel Heol y Parc. Y Prifardd W D Williams oedd y sylfaenydd. Yr athrawes gyntaf oedd Mrs Nanw Jones (Wrecsam). Roeddynt yn cyfarfod yn y prynhawn gyda rhyw hanner dwsin o blant yn bresennol. Gwnaethai’r athrawes y gwaith yn wirfoddol oherwydd prinder arian. Roedd yn anodd casglu arian a bu llawer wrthi yn ddygn yn cynnal boreau coffi a chasglu hen deganau gan hwn a’r Panllall. gaeodd Capel Heol y Parc, symudodd yr ysgol i Neuadd yr Eglwys am ysbaid wedyn. Cynhaliwyd pwyllgor yn Twyni, cartref y Prifardd W D Williams, ganol Medi 1971, ac etholwyd W D Williams yn Llywydd, Mair Evans yn Ysgrifennydd, a Hefin Williams yn Drysorydd. Aelodau’r pwyllgor oedd Greta Jones, Margaret Owen, Nyrs Beryl Green, Megan Pritchard, Owen Parry, Eirwyn Rees a Glyn Roberts. Yn y pwyllgor penderfynwyd gofyn i rai o’r rhieni fod yn aelodau o’r pwyllgor. Enwebwyd Mrs Tudor Davies a’r Parch Brian Evans. Bu trafodaeth ar i’r mamau aros i gynorthwyo’r athrawes yn eu tro. Rhoddodd y Llywydd a’r Ysgrifennydd adroddiad ar eu gwaith yn pwrcasu’r ystafell newydd yn y Ganolfan Ieuenctid i gynnal yr Ysgol Feithrin a phenderfynwyd agor yr ysgol brynhawn Mawrth. Yr athrawes newydd oedd Mair Jones a phenderfynwyd rhoi cydnabyddiaeth o £1 y tro iddi, a chodi ffi o 10c y tro ar bob teulu. Addawodd y Llywydd gael gair gyda Mr Boyer, y Cyfarwyddwr Addysg ar y pryd, ynglŷn â chael dodrefn a chelfi i’r ysgol. Yn y pwyllgor nesaf ym mis Hydref 1971, roedd adroddiad yr athrawes yn eithaf ffafriol a byddai yn rhaid atal derbyn ychwaneg o blant, a phwysleisiodd y llywydd bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn yr ysgol gan mai dyna brif amcan ei sefydlu. Pasiwyd fod y mamau Cymreig i roi amser i’r ysgol er mwyn hyrwyddo’r Ymiaith.mhwyllgor mis Chwefror 1972 ymddiswyddodd Mair Jones, yr athrawes, ond cytunodd i barhau nes cael athrawes arall. Cafwyd gwasanaeth Mrs Aerona Williams, Llanelltud fel athrawes feithrin yn fuan wedi hyn. Byddai’r ysgol yn cyfarfod bob bore Llun ac Iau. I olynu Aerona Williams etholwyd Llewela Edwards ym mis Mehefin 1973. Daeth gwahoddiad i ddau aelod o bwyllgor pob Ysgol Feithrin fynd am de mewn pabell arbennig ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun, a dewiswyd W D Williams a Llewela Edwards. Pwyllgor Medi 1975 – roedd deg o blant ar y gofrestr ddechrau’r tymor; a’r athrawes yn cael cymorth cynorthwyes o Goleg Meirionnydd pan roedd yr ysgol ar agor fore Mawrth a bore Iau. Rhian Speake a olynodd Llewela Edwards fel athrawes, a dechreuodd ar y swydd newydd yn Hydref 1976. Ym mis Mai 1980 roedd Mair Williams yn athrawes ar ôl bod yn cynorthwyo Rhian am gyfnod. Rhoddodd Rhian Speake y gorau i’w swydd Nadolig 1981 a daeth Rhona Lewis yn gynorthwywraig. Dechreuodd Elizabeth Speake yn Rhagfyr 1990 fel cynorthwywraig. Bu Rhona yn y cylch am 27 mlynedd tan Medi 2008 pan ddechreuodd Nest Jones fel cynorthwywraig, a bu Mair Williams yno am 31 o flynyddoedd tan Medi 2009 pan gymerodd Gemma Jones yr awenau. Yn ddiweddarach bu Nest yn arweinydd ar ymadawiad Gemma. Yn yr haf aed a’r plant am dro ar hyd y prom yn y Bermo, am bicnic neu daith gerdded noddedig, i gasglu arian tuag at yr ysgol. Bu ymweliad Siôn Corn yn achlysur pwysig pob Nadolig a’r plant yn mwynhau’r parti wedi ei ddarparu gan y Cynhaliwydmamau. Cyfarfod Cenedlaethol Blynyddol y Mudiad yn Harlech yn Theatr Ardudwy yn 1988. Gofynnwyd i gylchoedd Meirionnydd wneud ‘collage’ yn seiliedig ar ein hardal. Ar hyd y blynyddoedd rydym wedi annog y plant i ddod ag anifeiliaid i’r cylch. Rydym wedi cael cathod, cŵn, adar, pysgod a phenbyliaid. Rydym hefyd wedi cael ymweliadau gan sioeau teithiol fel sioe bypedau a Chwmni’r Frân Wen.

Gŵyl Feithrin 1991 – Cynhelir Gŵyl bob blwyddyn a Chaerdydd (y Brif Swyddfa yr adeg honno) fyddai’n dewis gwahanol themâu. Lesotho oedd y thema y flwyddyn hon er mwyn casglu arian i blant y wlad honno. Cafwyd ymweliadau hefyd efo Maes Artro a’r Orsaf Dân. Ers diwedd 1984, cynhaliwyd yr ysgol am bum diwrnod yr wythnos. Er tristwch, ddiwedd 1992, agorwyd Uned Feithrin yn yr ysgol gynradd, a oedd yn golygu bod pob plentyn tair oed yn cael dechrau yn yr uned. Er yn edrych yn ddu i ddechrau, anfonodd llai nag a ddisgwylid o’r rhieni eu plant i’r uned, a chawsom gyfle i dderbyn plant iau, ond roedd yn rhaid cymysgu’r oedran. Diolch i’r criw sydd wedi rhoi sylfaen i addysg Gymraeg yn y Bermo ac i’r rheini sy’n gweithio’n ddygn yn y Cylch Meithrin heddiw i barhau â’r gwaith. Mae’r Cylch a’r Ysgol Gynradd yn gweithio gyda’i gilydd i hybu addysg plant meithrin ac yn sicrhau bod y plant yn cael sylfaen gref yn y Gymraeg er mwyn ei ddatblygu fel mae’r blynyddoedd yn mynd heibio. Braf yw gweld y plant yn gallu newid o un iaith i’r llall yn gwbl naturiol. Ymlaen â’r gwaith.

Wayne’ yng ngorllewin

Covid 21 ydi enw hwn. Gwaith haniaethol o’m pen a’m pastwn fy hun. O’n i’n meddwl fod peintio’r gadair a’r ferch yn gryn her. Mae’r cymylau a’r blodau yn dangos mai dechreuwr rhonc ydw i. Unwaith eto dim digon o Copiddyfalbarhad.orywbeth welais i ar ‘Youtube’ ydi hwn. Copi digon amaturaidd! Af at y paent eto yn y locdown nesaf!

DyffrynIwerddon.Mawddach, ond fy mod i wedi ychwanegu o’m dychymyg er mwyn

O’n i’n weddol hapus efo’r ci ond mae’r gwair cefndir yn flêr gen i. Angen gwersi! Pont Aberffraw - mae ’na gapel i fod yn y cefndir, ond roedd o fel pe bai’n sownd yn y bont. Dyma’i ddileu a chynnwys y gwyddau.Pont‘John

Craigarbrofi.y Deryn, Dysynni. Mae’n anodd cael arlliwiau o wyrdd a dylwn fod wedi dyfalbarhau mwy. Arbrofi yn arddull Bob Ross wrth wylio ei raglenni teledu. Llun o’r dychymyg ydi o. Y tro cyntaf i mi ddefnyddio olew. Arbrofi gydag arddull Kandinsky. Mae o’n llun amrwd iawn ond rhaid cofio mai amatur pur ydw i!

Dechreuais stwna efo paent acrylig ym mis Hydref 2021. Roedd y gwaith garddio yn lleihau ac roeddwn i am roi cynnig arni dros yr hydref a’r gaeaf er mai ychydig iawn o wersi gefais i yn yr ysgol. Hwn oedd un o’r rhai cyntaf. Mi wn bod angen rhoi cysgodion o dan y bowlen.

23 GWAITH PEINTIO’R GOLYGYDD

GEGIN

Clwb

Crempog betys (bitrŵt) a llus Cynhwysion 100g ceirch 2 100gŵy betys wedi ei goginio (nid mewn 1finag)llwy de o bwdr pobi 2 lwy fwrdd o hadau llin (flax) wedi eu malu’n bwdr 100ml llefrith olew cneuen goco (ar gyfer coginio’r mêl150gcrempog)olus(i’wdaenu dros y crempog). Dull 1 Rhowch y cynhwysion i gyd, heblaw’r olew cneuen goco, y llus a’r mêl, mewn cymysgwr (blender) a’u troi am rhyw ddau funud nes y bo’n 2llyfn.Cynheswch ychydig o olew cneuen goco mewn padell ffrio dros wres canolog. Efo llwy, taenwch oddeutu llond llwy fwrdd o’r toes i’r badell a gosodwch un neu ddau o aeron llus ar ei ben. 3 Coginiwch am un i ddau funud ar bob ochr, yna daliwch ati i goginio gweddill y toes (cewch oddeutu 10 o grempogau o bob cymysgedd).

Y GEFNRygbi Harlech Cyn gwyliau’r haf bu Siân Edwards, Victoria Redman ac Osian Roberts yn hyfforddi rygbi yn rhai o ysgolion y dalgylch. Dyma rai o’r timau. Mae’n amlwg eu bod wedi mwynhau eu hunain. Diolch am bob cefnogaeth a gobeithiwn eu gweld eto mewn cystadlaethau lleol.

4 Gweiniwch y crempogau gyda gweddill y llus a blaen llwy o fêl.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.