Llais hydref 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

MEISTR AR EI GREFFT

RHIF 467 - HYDREF 2017

PENCAMPWRAIG CYMRU Hefin Jones, Harlech yn derbyn y gwpan am yr arddangosfa orau gan Wil Williams, Is-lywydd Sioe Aberteifi Llongyfarchiadau i Hefin Jones, Arfor, Harlech ar ei lwyddiant mewn amryw o sioeau yn ystod y flwyddyn. Ym mis Awst, ymwelodd â Sioe Amaethyddol Aberteifi gan ennill y wobr gyntaf am arddangosfa hyd at 25 troedfedd o hyd. Ymwelodd â Sioe Brynbuga ym mis Medi lle cafodd y drydedd wobr am yr arddangosfa orau. Wedyn yn Sioe Ganllwyd, cafodd y wobr gyntaf am wagen Gymreig ynghyd â’r wobr gyntaf a’r brif wobr gyda’i injan dân yn adran y cynnyrch fferm.

Llongyfarchiadau i Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ennill Pencampwriaeth Golff Cymru i Ferched dros 50 ddechrau mis Medi. Dyma’r ail dro iddi ennill y gystadleuaeth hon. Sgoriodd Ann 73 a 71 mewn gwyntoedd cryfion ac enillodd y gystadleuaeth o wyth ergyd i Jane Rees o dde Lloegr. Ganol mis Medi roedd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Gwledydd Prydain yn Portrush yn Iwerddon, ond ni chafodd hwyl cystal yn y fan honno eleni.

SEICLO

Gethin Owen (mab Ray a Barbara Owen, Tal-y-bont) fu’n cymryd rhan yn y Birmingham Velo yn ddiweddar. Roedd 15,000 yn cystadlu. Ar ôl cychwyn yn Birmingham, roedd y seiclwyr yn teithio ar hyd ffyrdd caeedig Swyddi Caerwrangon a Stafford cyn dychwelyd i’r man cychwyn. Can milltir o seiclo caled felly ac mi lwyddodd Gethin i orffen mewn rhyw 5 awr a hanner. Wythnos ynghynt, roedd Gethin yn cystadlu yn nhreiathlon Llanc y Tywod a gynhaliwyd yng Nghoedwig Niwbwrch, Ynys Môn.

ASTUDIO CREIGIAU Bydd tîm o ymchwilwyr o Exeter, Leeds a Rhydychen yn astudio creigiau ger Mochras yn ystod mis Tachwedd eleni. Maen nhw’n gobeithio taflu goleuni ar y cyfnod Jurasig, rhyw 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bydd Amgueddfa Cymru yn trefnu cyfres o sgyrsiau byrion gan yr ymchwilwyr ar nos Wener, Hydref 14 yn y Neuadd Gymunedol yn Llanbedr. Ar ddydd Sadwrn, Hydref 15 bydd diwrnod agored i’r gymuned yn y Neuadd Gymunedol rhwng 10.00 a 4.00 er mwyn i bobl yr ardal fedru dysgu mwy am beth sy’n digwydd a pham fod y ddaeareg mor ddiddorol. Bydd creigiau a ffosiliau ar gael i’w harchwilio a threfnir gweithdai ar gyfer disgybion ysgol. Caiff y gweithdai eu harwain gan y Dr Math William.

CALENDR Ar werth yn y siopau rŵan.

Neuadd Gymunedol Dyffryn a Thal-y-bont

CYNGERDD

2018

Llais Ardudwy Bargen am £4!

CÔR MEIBION ARDUDWY TREFLYN JONES ANN WILLIAMS Nos Sul, Hydref 8 am 7.30 o’r gloch


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert

Enw: Chris Rayner Gwaith: ‘Lead Systems Engineer’ Cefndir: Peirianneg fecanyddol Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rhedeg, beicio, codi pwysau. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dim byd ar wahân i Llais Ardudwy ar hyn o bryd.

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ralio. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw. Hoff fwyd? Cinio Sul. Hoff ddiod? Dŵr. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu a ffrindiau. Lle sydd orau gennych? Adra. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Nerja, Sbaen. Beth sy’n eich gwylltio? Colli rhywbeth a methu dod o hyd iddo. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn onest. Pwy yw eich arwr? Mike Tyson. Beth yw eich bai mwyaf?

Casgliad o Enwau Lleoedd Gwahoddiad Caredig i Gystadlu

Dyma fanylion cystadleuaeth rhif 182 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Awst 2018: ‘Casgliad o hyd at 30 o enwau lleoedd unrhyw ardal, pentref neu dref yng Nghymru, gyda thrafodaeth ar eu hanes a’u hystyron a chofnod o’u cyfeirnod grid. Dylid hefyd, pan fo hynny’n bosibl, nodi ffynhonnell yr wybodaeth.’ Cystadleuaeth yw hon a osodwyd gan Amgueddfa Werin Cymru, gyda £200 o wobr, yn rhoddedig gan yr Amgueddfa, a’r Athro David Thorne yn beirniadu. Daw’r wobr ariannol o Gronfa

Goffa Elizabeth Reynolds (1907-1986), Brynhoffnant, Ceredigion. Hyfrydwch arbennig i mi, er 1963, oedd cael adnabod Elizabeth Reynolds. Yr oedd yn un o brif gymwynaswyr diwylliant gwerin Cymru, ac y mae ar gadw yn Sain Ffagan gasgliadau helaeth o’i gwaith, ffrwyth llafur cariad yn cofnodi agweddau cyfoethog yn ymwneud â’r maes hwnnw ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Cyn ei marwolaeth (9 Mawrth 1986) yr oedd wedi mynegi ei dymuniad i gyflwyno rhodd

Dilynwch ni ar Facebook

2

ariannol i’r Amgueddfa Werin er mwyn hyrwyddo cofnodi ac astudio ein llên gwerin, a thrwy gydweithrediad caredig ei mab, Idris, dyna a ddigwyddodd. Mawr yw ein diolch iddi. Afraid dweud y mae gennym yng Nghymru fwynglawdd o enwau lleoedd sy’n teilyngu pob gofal i’w trysori, ac y mae cofnodi ac astudio’r enwau hyn yn allwedd heb ei ail i hanes pobl a’u bro. Canmil diolch i chwi, felly, am roi cynnig ar y gystadleuaeth arbennig hon yn Eisteddfod Caerdydd ac am annog eraill i gystadlu. Robin Gwyndaf

Caredigrwydd Adran Talsarnau

Gosodir y rhifyn nesaf ar Tachwedd 3. am 5.00. Bydd ar werth ar Tachwedd 8. Os gwelwch yn dda, newyddion i law Haf Meredydd erbyn diwedd mis Hydref fan bellaf. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

@llaisardudwy

Gwario gormod. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bywyd a theulu iach. Beth fuasech yn ei wneud efo £5,000? Trio safio fo! Eich hoff liw? Coch (LFC). Eich hoff flodyn? Cennin Pedr. Eich hoff gerddor? Tom Odell. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Calon Lân. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru canu. Eich hoff ddywediadau? “Iawn”, “Dad”, “Mam”, “Cariad”. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Wedi blino ar ôl Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion.

Aelodau Cyngor Ysgol Talsarnau yn dal y siec am £180

Yn dilyn y cyngerdd a drefnwyd gan Adran yr Urdd, Ysgol Taslsarnau, llwyddwyd i godi cyfanswm o £360. Penderfynwyd y buasai £180 o’r arian yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at dalu am gludo disgyblion yr adran i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Roedd y Cyngor Ysgol hefyd yn awyddus i gefnogi peiriant diffib yr ardal a gwnaed hynny drwy gyflwyno’r £180 oedd yn weddill i’r gronfa leol. Chwarae teg i’r disgyblion am fod mor garedig tuag at eraill.


HARLECH Sefydliad y Merched Harlech Rhoddodd y Llywydd, Christine Hemsley, groeso i’r aelodau i’r cyfarfod nos Fercher 13 Medi yn y Neuadd Goffa, Harlech. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu’r mis yma. Diolchwyd i Eileen Greenwood am ein gwahodd i’w chartref i gael te parti ym mis Awst. Diolchwyd i’r aelodau oedd wedi gwneud nwyddau ar gyfer stondin werthu Arddangosfa Grŵp Celf Llanfair ym mis Awst. Ym mis Hydref bydd yr aelodau yn gwneud eu cyfraniadau i fudiadau lleol. Bydd aelodau’r Sefydliad yn trefnu i gael peintio’r Neuadd Goffa ac maen hefyd yn mynd i dalu am y paent. Ar 24 Tachwedd am 1 o’r gloch bydd y Sefydliad yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Not in my name’. Bydd Joyce Watson AC yn dod i Harlech ar gyfer yr achlysur. Bydd y grŵp celf nesaf ar 30 Medi a’r dosbarth grefftau cyntaf ar ddydd Iau, 21 Medi. Yn anffodus roedd y gŵr gwadd, Paul Morgan o Neuadd Aberartro yn wael ac yn methu bod gyda ni, ac ar fyr rybudd mi ddaeth Dianna Treganza i roi sgwrs ar Sea Shepherd UK. Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn am y drwg y mae pethau plastig, pren, rhwydi a phob math o bethau sy’n cael eu taflu i’r môr yn ei wneud i’r pysgod ac i’r adar. Mae’r holl sbwriel sydd yn cael ei adael ar lan y môr ac yn y môr yn gwneud llawer o ddrwg i’r amgylchedd. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref yn Neuadd Goffa Harlech, gyda Kevin Evans o’r Cemlyn yn rhoi arddangosiad goginio. Damwain Anfonwn ein cofion at Mrs Carol O’Neill, 30 Cae Gwastad, un o ohebwyr Llais Ardudwy, a gafodd ddamwain yn diweddar ond sydd yn gwella’n dda erbyn hyn.

Capel Engedi

HYDREF 8 Parch Gareth Rowlands am 4.00 29 Parch Dewi T Lewis

Diolch Dymuna Iwan a Rhiannon, mab a merch-yng-nghyfraith Marian a’r diweddar Gareth Rees, ddiolch o galon am y cyfarchion a’r rhoddion hael a dderbyniwyd ar enedigaeth eu merch, Mabli Haf Rees. Rhodd £10 Llongyfarch Llongyfarchiadau i Aaron Griffiths, mab David Griffiths, 16 Y Waun, sydd yn RAF Cosford, a fydd yn derbyn ei radd ôl-radd mewn Cyfathrebu Di-wifr (Wireless Communications) ym Mhrifysgol Wolverhampton ar ddydd Gwener, 22 Hydref 2017. Llongyfarch Llongyfarchiadau cynnes iawn i Osian Rhys, Hafoty a Mererid Wyn Owen o Henryd, Conwy ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Diolch Rhoddion dienw i Lais Ardudwy - £15 - £4.50 Yn gwella Braf yw gallu adrodd bod Mr Edwin Jones, Eithinog, Cae Gwastad yn gwella ar ôl ei ddamwain ddiweddar. Tipyn bach mwy o ddŵr ynddo fo y tro nesaf, Edwin! Cofion Anfonwn ein cofion at Meirion Thomas, Castell y Morfa sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Deallwn ei fod gartref erbyn hyn. Peiriant Diffib Cofiwch fod y peiriant diffib ar gael yn yr Orsaf Dân yn Harlech a hynny am 365 diwrnod y flwyddyn. Noder hefyd bod yr offer cardiopulmonary resuscitation yn gweithio ochr-yn-ochr â’r peiriant diffib. Diolch i’r ymatebwyr cyntaf yn Harlech am yr wybodaeth.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Rhandiroedd Mae Mr D Priestly yn rhentu dau randir. Mae angen tacluso’r ffordd i mewn i’r rhandiroedd a chytunwyd i edrych i mewn i hyn a gweld beth oedd cyflwr y ffordd dan sylw. Cae Chwarae Llyn y Felin Cyn dechrau trafod y mater uchod datganodd y Cadeirydd bod angen ei gwneud yn glir mai’r Cyngor Cymuned oedd yn berchen ar y cae chwarae uchod ac roedd pawb yn unfrydol i hyn; hefyd bod angen anfon llythyr at Ms Julie Thomas ar ran y Grŵp Parciau Cymunedol i ddiolch iddynt am eu gwaith gyda’r cae chwarae uchod. CEISIADAU CYNLLUNIO Newidiadau mewnol a gosod to newydd - Tŷ’r Felin, Ffordd Pen Llech. Cefnogi’r cais hwn. Cais i ymestyn cyfnod dechrau’r datblygiad am 5 mlynedd ychwanegol - Tŷ’r Gof, Heol y Bryn. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol Bydd y Cyngor yn cadw toiledau Bron y Graig Isaf, Min y Don a’r Queens yn agored am y flwyddyn sydd i ac am 2018/19. Bydd angen clustnodi £8,000 ar gyfer y toiledau. UNRHYW FATER ARALL Mae pryder nad yw ceir yn gallu pasio ar y stryd. Mae angen sylw ar y ffens ger y cae pêl-droed. Datganwyd pryder bod datblygiad yn digwydd ar y darn tir ger ystâd dai Tŷ Canol. Datganwyd siom a phryder nad oes neb yn croesi gyda phlant o’r ysgol i’r orsaf drên erbyn hyn, a bod angen rhywun yna er diogelwch y plant.

Neuadd Goffa, Harlech

SIOE ARDDIO GLAN GAEAF Dydd Sadwrn, Tachwedd 4 am 2.00 o’r gloch Cofiwch gefnogi!

Y LADIS

MAIR TOMOS IFANS CARYS HUW a NIA MEDI Tŷ Siamas Dolgellau Hydref 14 am 8.00 o’r gloch Tocyn: £8 01341 421800 Carreg filltir Cyfarchion pen-blwydd arbennig i Adrian Lumb, 2 Tŷ Canol sydd wedi dathlu ei benblwydd yn 50 oed ar Hydref 2. Dymuniadau gorau gan y teulu i gyd.

Capel Jerusalem HYDREF

8 Parch Dewi Morris am 4.00 22 Parch Dewi Morris am 4.00 Cymun

Plant newydd y Dosbarth Meithrin yn Ysgol Tanycastell 3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Ysgol Llanbedr Wedi gwyliau prysur, prysur, mae pawb yn ôl yn yr ysgol, yn barod amdani eto eleni! Dyma ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen i gyd yn falch o fod yn ôl – a’r saith newydd yn y Dosbarth Derbyn yn cychwyn ar eu taith yn Ysgol Llanbedr. Croeso atom ni Kassidy, Megan, Kyan, Eden, Gwen, Seren a Tyler – mi fyddwch chi wrth eich bodd yma!

Neuadd Gymuned Llanbedr

CYNGERDD Côr Meibion Carnguwch Nos Fawrth, Hydref 31 am 7.30 Tocyn: £5 Plant am ddim

Elw at Gymdeithas Cwm Nantcol Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch HYDREF Capel y Ddôl Hydref 8 Parch Gareth Rowlands Hydref 15 Mrs Greta Benn Hydref 29 Parch Eric Greene TACHWEDD Tachwedd 5 Parch Huw Dylan Jones Capel Salem Hydref 22 Eurfryn Davies Diolchgarwch Tachwedd 19 Parch Dewi Tudur Lewis 4

Cymdeithas Cwm Nantcol Hydref 23 Cyfarfod Diolchgarwch yng Nghapel Nantcol am 7.00 Parch Iwan Ll. Jones Hydref 31 Cyngerdd yn Neuadd Llanbedr Côr Meibion Carnguwch Croeso cynnes i bawb! Tachwedd 13 Parch Marcus Robinson ‘Y gaplaniaeth yn ei holl amrywiaeth.’ Diolch Diolch i Mrs Gwenda Shepherd, Llan Ffestiniog am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad i Llais Ardudwy. Pen-blwydd Dymuniadau gorau i Mrs Betty Taylor a fydd yn dathlu ei phenblwydd yn ystod y mis hwn. Gwasanaeth Coffa Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa yng Nghapel Horeb, bnawn Gwener, Medi 22 i Shirley Stephens o Ganada, priod y diweddar Morris Jones, Maesygarnedd gynt. Genedigaeth Llangyfarchiadau i Eleri a John Thomas, 1 Morfa Mawr ar enedigaeth eu mab bychan, Ilan Edward Thomas. Llongyfarchiadau hefyd i Doreen [Hen Nain], ac i Edward a Helen, Hengaeau, Llanfair ar ddod yn Daid a Nain.

Merched y Wawr Nantcol Croesawodd Anwen, y Llywydd, bawb i gyfarfod cyntaf y tymor, a hynny yn Neuadd y Cwm, nos Fercher, Medi 6. Aeth ymlaen i groesawu’r gŵr gwadd, sef Wyn Peate o Garndolbenmaen. Cafwyd braslun o’i hanes - a chlywed iddo gael ei eni yn Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, ac yna symud i fyw i Gricieth pan oedd yn 7 oed. Roedd ganddo ddiléit mawr mewn lorïau a cheir er pan oedd yn fach iawn, ond dilyn cwrs i fod yn athro fu ei hanes. Ond roedd yr elfen i ymdrin â cherbydau yn ormod a rhoddodd y gorau i’w swydd fel athro ysgol a chychwyn ‘Ysgol Yrru’ - ‘Ysgol ar Olwynion’ ym Mhorthmadog yn 1994. Aeth ymlaen i sôn am y troeon trwstan, a gwahanol ddigwyddiadau difyr a dychrynllyd ddaeth i’w ran yn y swydd, gan bwysleisio mai ei arf bwysicaf yn y gwaith oedd ‘seicoleg’. Diolchodd Gwen iddo am noson hynod o ddifyr a hwyliog. Enillwyd y raffl gan Ceri, a chriw Uwchartro oedd yng ngofal y baned. I ddilyn trafodwyd ychydig o faterion busnes. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Beti Mai, Jane, Elinor Dolgau, Einir, Elinor Moelfre ac Elizabeth. Dymunwyd gwellhad buan i John Ceri, gŵr Elinor, wedi iddo gael damwain ar y beic cwad yn ddiweddar. Dymunwyd yn dda i Edward, gŵr Einir hefyd, sydd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ar hyn o bryd. Llongyfarchiadau i Beti Roberts ar ddod yn hen nain unwaith eto, i Iago Siôn. Hefyd llongyfarchiadau i Owain, mab Ceri, ar ei ddyweddïad â Llinos o Landdeusant, Ynys Môn, ac i Osian, mab Gwen, ar ei ddyweddïad â Mererid, o Henryd, Conwy. Llongyfarchodd Anwen holl blant yr ardal ar eu canlyniadau yn y gwahanol arholiadau, gan ddymuno’n dda iddynt yn y dyfodol. Hefyd mynegodd mor braf oedd gweld Gareth Eilir, mab Enid, yn feirniad yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

PRIODAS DDIEMWNT

Llongyfarchiadau mawr i Betty a Brian Taylor, Pentre Gwynfryn ar ddathlu eu priodas ddiemwnt ar Hydref 19, gan y teulu a ffrindiau. Rhodd £5 Marwolaeth Ar y dydd olaf o Awst bu farw Howell Jones, 6 Moelfre Terrace yn 86 oed. Gedy chwaer, Catherine Jones a chydymdeimlwn â hi a’r teulu yn eu profedigaeth. Daeth Howell o’r Lôn, Llanuwchllyn i fyw at Catherine a’i diweddar ŵr, Griffith i Dyddyn Pandy 16 o flynyddoedd yn ôl ar ôl dioddef afiechyd blin. Ond wedi gwella bu’n bugeilio i Meirion ar y fferm, ac wedi iddo symud i bentref Llanbedr roedd o a’i gi ffyddlon i’w gweld o gwmpas yr ardal. Beth amser yn ôl, bu raid iddo fynd i Gartref Madog ac yno y bu farw’n dawel, wedi cael pob gofal. Roedd Howell yn ŵr hoffus iawn a phob amser â gwên ar ei wyneb. Bydd colled i’r teulu ar ei ôl, yn enwedig i Catherine a oedd wedi gofalu mor dyner amdano. Diolch Dymuna Catherine Jones, 6 Moelfre Terrace ddiolch o galon i’w theulu a chyfeillion am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniodd yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd Howell. Rhodd £10 Diolch Diolch i Mr Alun Owen am ei rodd o £25 i Llais Ardudwy.


Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS

Gweithwyr Ffatri Cooke’s - chwilio am yr enwau

Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!

Neuadd Gymunedol Llanbedr

Mwydod! Y da, y drwg a’r hyll

Archwilio daearegol unigryw gan Amgueddfa Cymru - gwaith ymchwil diddorol ym Mochras Hydref 14 am 7.00

Sgyrsiau gan amryw o’r ymchwilwyr daearegol Hydref 15 rhwng 10.00 a 4.00

Diwrnod Agored - cyfle i ddysgu mwy am beth sy’n digwydd a pham fod y ddaeareg mor ddiddorol

Diolch i Edwin Evans am ei neges ar ôl gweld y llun yn y Llais. Meddai Edwin, “Dydw i ddim yn meddwl mai gweithwr Cookes ydyn nhw ond pobol oedd yn gwneud gwaith i David Cooke ar ei dŷ yn Aberartro. Mi roeddwn innau wedi gweithio yno tra’n gweithio gyda Wil Parry, Byrdir. Rhes ôl Griff Ellis, Wil Parry, ?, un o fechgyn Michelmore, Huw Jones?, Llew Williams, Bronfair (tad Colin), Ted Lloyd, ? er fy mod i’n siŵr mod i’n ei adnabod, ?, Gwynli Jones, Emyr John. Rhes flaen ?, ?, Dan Bennet, David Cooke, Robert Evans (Byrdir), ei dad Harry Evans, Ernie Horne. Roedd Huw Jones, Ted Lloyd, Dan Bennet, Robert Evans a Harry Evans yn gweithio i Wil Parry. Roedd Harry Evans wedi priodi chwaer Wil Parry. Roedd Dan Bennet yn un o wlad Pwyl ac wedi aros yma ar ôl y rhyfel. Yn byw yn Dolwar, Penre’r Efail, roedd yn ddyn clyfar ac yn ‘radio operator’ ar y llongau. Roedd gan Ernie Horne arthritis drwg ac roedd yn chwarae llwyau pren! Roedd Ted Lloyd yn frawd i Gandi a Tibs ac yn byw drws nesaf i fi yn Ty’n y Groes, Harlech.

Rhowch wybod i ni os medrwch chi lenwi’r bylchau. Diolch. [Gol.]

CARNIFAL LLANBEDR 1953

Diolch i Mrs Gwenda Shepherd, Llan Ffestiniog am anfon y llun yma i ni. Dyma ei chynnig ar enwi’r bobl ond y mae’n holi a oes unrhyw un arall all helpu: Rhys Jones - Siop Gwynfryn, Edith Lloyd - Brittania, Celia Jones, Gwenda Morris - nyrs, Y diweddar Ceridwen Evans - Miss UK , Betty Wyn Evans, Ann Hughes - Bryn Artro, Aldwyth Wynne?, John Griffith - dringwr, Alun Owen - athro, Gwenda Thomas wedi’i gwisgo fel gŵr yn mynd i briodi gyda Catherine Ty’n Llan - bechod na fuasai’r llun yn gyfan. Yn y cefn, credaf mai Mr Meirion Arthur sy’n sefyll [mae’n debyg iddo!]. Yn sefyll y tu ôl i’r athro y mae Nain Jones neu Nain Sylvia fel roedd yn cael ei galw gan lawer; roedd yn byw ym Mryn Deiliog.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Genedigaeth Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Elen (merch Rhian, Ty’n Wern) a Phil ar enedigaeth merch fach, Alys Medi, ar Fedi’r 1af. Mae’r teulu bach yn byw yng Nghaerdydd. Cydymdeimlad Bu farw Mrs Eirian Helena Williams, Llys Gwrtheyrn (Ystumgwern gynt) ar Medi 6. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei phlant Margaret, Siân, Dilys a John a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli un annwyl iawn. Er cof Er cof am mam annwyl, Eirian Williams, Ystumgwern gynt, gan Margaret a’r teulu. Rhodd £25 Festri Lawen, Horeb Cynhelir cyfarfod cynta’r tymor yn y festri, nos Iau 12 Hydref am 7.30. Marwolaeth Ar Fedi’r 7fed yng Nghartref Nyrsio Plas Gwyn, gynt o Ty’n y Pant, bu farw Mrs Betty Joan Jones. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei phlant Adrian, Bobby, Gordon a Bethan a’u teuluoedd ac at ei brawd Mr Bob Major yn eu profedigaeth. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Owain Williams (mab Ceri ac Arwel Williams), Ffridd y Gog, a Llinos Parry o ardal Llanfechell, Ynys Môn, ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Pob lwc yn y dyfodol.

Teulu Ardudwy Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, Medi 20. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i Margaret Pauline sydd wedi symud i fyw i Dal-y-bont o Dywyn. Cydymdeimlodd â Mrs Catherine Jones yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd, Howell. Anfonodd ein cofion at Mrs Elizabeth Jones sydd gyda’i mab, Arfon, ar hyn o bryd. Diolchodd i Carey Cartwright am wneud y rhaglenni eto eleni. Yna croesawodd Rhian ac Alma i’n plith a llongyfarchodd Rhian ar ddod yn nain i Alys Medi. Yn ystod yr haf cafodd Rhian wahoddiad i barti ym Mhalas Buckingham fel gwerthfawrogiad o’i gwaith diflino yn codi arian i’r Ambiwlans Awyr. Aeth â’i ffrind pennaf, Alma, gyda hi ac Alma fu’n gyfrifol am y trefniadau i gyd er mawr ryddhad i Rhian. Roedd y ddwy wedi gwisgo’r dillad a’r hetiau crand roeddynt yn eu gwisgo ar y diwrnod ac yn edrych yn smart iawn. Rhian adroddodd hanes y daith ar y trên a’r parti yn y Palas yn ei dull dihafal ei hun ac roedd Alma yn dangos y lluniau. Cafwyd pnawn difyr iawn a llawer o chwerthin a phawb wedi mwynhau. Diolchwyd iddynt gan Enid Owen ac anogodd hwy’n daer i recordio’r hanes gan ei fod yn werth ei glywed. Canwyd pen-blwydd hapus i Alma fydd yn dathlu pen-blwydd arbennig ddiwedd mis Medi.

Yn ystod yr haf bu Rhian a’i chyfeillion yn cynnal stondin i godi arian i’r Ambiwlans Awyr bob dydd Iau yn y Bermo ac fe lwyddwyd i godi £4,000 – ardderchog, yn wir. Darlith – Un o’r Sêr Disgleiriaf Eleni mae’n ddau ganmlwyddiant geni’r gŵr a fu’n bennaf gyfrifol am gasglu cronfa i godi a chynnal Coleg y Bala. Un o gyrion Llanidloes oedd y Parch Edward Morgan a anwyd ar 20 Medi 1817. Daeth yn adnabyddus fel Edward Morgan y Dyffryn. Sefydlwyd ef yn weinidog Horeb yn 1849. Roedd yn ffermio yn Faeldref hefyd, ond “gweinidog yr efengyl wyf i, nid ffermwr”, meddai. Ar y fferm honno y ganwyd ei ŵyr E Morgan Humphreys, y newyddiadurwr a’r awdur. Y llynedd adferwyd y darlun ohono a fu yn festri Horeb am flynyddoedd a’r darluniau o’i dad a’i fam yng nghyfraith Richard ac Ann Humphreys. Richard Humphreys gododd Gapel Horeb yn 1820. Nos Iau, 21 Medi, cynhaliwyd noson i ddangos y tri llun ar eu newydd wedd yn Festri Horeb ac yn ogystal fe gafwyd darlith gan William H Owen, Bangor (Pantgwyn gynt) yn sôn am fywyd a gwaith Edward Morgan. Hefyd arddangoswyd y llestri Cymun arian hardd a roddodd

Ann Humphreys i Horeb. Ar ddiwedd y noson mwynhawyd paned a sgwrs. Yn ogystal, i gyd-fynd â’r noson mae William wedi cyhoeddi llyfryn dan y teitl ‘Un o’r Sêr Disgleiriaf ’ yn adrodd peth o hanes y gweinidog a’i deulu ac mae’r hanes yn ddiddorol iawn. Mae copïau ar gael drwy’r post drwy anfon siec am £3.50 yn daladwy i William H Owen, 14 Lôn y Meillion, Bangor, Gwynedd LL 57 2LE. Bore coffi Fore Gwener, Medi 8fed cynhaliwyd bore coffi yn Nantycoed, cartref David a Mai Roberts i godi arian at Corwynt Cariad, Apêl y Pilipinas, Cymorth Cristnogol, Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Llwyddwyd i godi £250. Diolch yn fawr i Mai a phawb a fu’n helpu a diolch o galon am y cyfraniadau hael. Rhodd Diolch am y siec o £50 a dderbyniodd Llais Ardudwy gan bwyllgor ‘Celf yn y Llan’. Diolch Diolch i Mr O Huw Ellis am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad i Llais Ardudwy.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

Ysgol Dyffryn Ardudwy Plant newydd y Dosbarth Derbyn yn Ysgol Dyffryn Ardudwy yn eu gwisg ysgol â logo newydd yr ysgol arno, sef y Gromlech.

6

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


LLYN HYWEL

NEWYDDION YR URDD

Gogoniant Llyn Hywel Llun: Ray Owen, Ebrill 2015 Llyn Hywel Mae olion rhyw law ar y meini mud A llaw ’sgrifen wen hyd y cerrig llwyd, Yma’n nhawelwch nad ydyw o’r byd Mae côr y canrifoedd yn danllwyth nwyd, A’i si rhwng y cloddiau fel anthem dôn Yn datgan moliannau i’r pedwar ban, Pwy ŵyr nad o’r cynfyd y treiddia’r sôn Am wres a rhadlonrwydd mewn hyfryd fan, Yng ngŵydd perffeithrwydd na luniodd ’run gŵr ’Rwy’n amau bod had dwyfoldeb mewn dyn, Hwyrach fod angen i’r gwyntoedd a’r dŵr I agor fy llygaid drachefn i’w lun., Yna, daw chwarddiad o’r ymennydd pŵl A ddwed ’mod i’n byw mewn paradwys ffŵl. Elfed Lewis, Ionawr 2001

Braslun o waith y diweddar Elfed Lewis Gwaith y diweddar fardd o Dal-y-bont yw’r soned, sy’n cyfleu naws unigryw lleoliad Llyn Hywel, wrth droed y Rhinog Fach. Mae yna ryw hud a lledrith i’r llyn a rhyw naws arallfydol i’r lle. Yn wir gall y cerddwr ddychmygu ei fod ym myd C S Lewis ac yn rhyw gornel o deyrnas ddychmygol Narnia. Mae Colin Adams yn ei gyfrol “The Mountain Walker’s Guide to Wales” yn dadlau mai dyma o bosib y llyn gyda’r lleoliad gorau yng Nghymru. Mae Elfed Lewis wedi profi o ramant Llyn Hywel a’i leoliad gan ddihuno ynddo’r awen i lunio cerdd. Dadlennol yw’r cwpled olaf, yn cyfleu daliadau personol y bardd. Ray Owen

RHOI GWALLT

Cafodd Elain, merch Craig a Suzanne, Wendon, Dyffryn Ardudwy dorri wyth modfedd o’i gwallt ac roedd yn dymuno rhoi ei gwallt i’r ‘Little Princess Trust’ a fydd yn ei ddefnyddio i wneud wigiau/gwallt gosod ar gyfer plant bach sy’n colli eu gwallt. Yn 2006, fe rannwyd 1000 o wigiau i fechgyn a merched ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon. Da iawn Elain, rydym yn falch iawn ohonot ti. Bore Coffi Cynhaliwyd Bore Coffi MacMillan yn Nant-y-Coed, Dyffryn Ardudwy ar Medi 29. Llawer o ddiolch i bawb a fynychodd ac i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd. Braf oedd cael sgwrs gyda phawb a chefnogi elusen arbennig. Gwnaed elw ardderchog o £537.65. Diolch o galon.

Pwyllgor ’81 Cynhelir noson o garolau a drefnir gan Bwyllgor ’81 yn Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy nos Fawrth cyn y Nadolig, 19 Rhagfyr 2017, i ddechrau am 7.00 o’r gloch. Arweinir y noson gan Mr Aled Morgan Jones a cheir eitemau gan Gôr Meibion Ardudwy. Yn ystod y cyfarfod bydd egwyl am baned a sgwrs. Croeso cynnes i bawb. Diolch Diolch i Wyn Edwards, Bryn Eithin, Carleg Uchaf, Dyffryn Ardudwy am ei barodrwydd i gyfrannu lluniau i galendr Llais Ardudwy eleni.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb

HYDREF 8 Parch Gareth Rowlands 15 Gwasanaeth Diolchgarwch i blant ac oedolion 22 Parch Ioan Davies 29 Parch Eric Green TACHWEDD 5 Parch Pryderi Llwyd Jones

Dyma ni ar gychwyn tymor newydd a chalendr llawn o weithgareddau y gall unrhyw aelod fod yn rhan ohonynt. Athletau Cynhaliwyd Athletau Talaith y Gogledd ar ddiwedd tymor yr haf yn Stadiwm Athletau Glannau Dyfrdwy yng Nghei Connah a daeth llwyddiant i rai o athletwyr mwyaf addawol y dalgylch wrth i Nansi Evans-Brooks, Ysgol Llanbedr, gipio dwy fedal ar y noson - cyntaf gyda naid o 3.51 metr yn y pwll tywod a hefyd dod yn drydydd yn y 600 metr. Yn B3 a B4 oedd y cystadlu yma, felly gobeithio y bydd dy dalent yn parhau am flynyddoedd i ddod. Roedd Nansi’n cystadlu yn erbyn nifer fawr o athletwyr arall o wahanol Siroedd ar draws y Gogledd megis Eryri, Môn, Dinbych, Y Fflint, Wrecsam, Conwy ac wrth gwrs eraill o Feirionnydd. Da iawn wir am dy ymdrech anhygoel. Hefyd llwyddodd tîm cyfnewid cymysg (4x100m) o Ysgol Llanbedr ddod yn gyntaf i redwyr yn B3 a B4 gydag amser o 01:10:18 dros 400 metr. Felly noson dda i’r ysgol fach yma yng nghefn gwlad Meirionnydd. Mae’r lluniau i’w gweld ar dudalen 9 yn y rhifyn hwn. Da iawn, bawb. Chwaraeon Cynhelir 5-bob-ochr ar lefel Ranbarthol eleni. Dyma’r dyddiadau: 5-bob-ochr i Adrannau 2 Hydref yng Nghanolfan Hamdden Bermo. 7-bob-ochr Merched i ysgolion 12 Hydref yng Nghlwb Pêl-droed Y Bala. 5-bob-ochr i ysgolion o dan 50 o ddisgyblion ar 19 Hydref yng Nghanolfan Hamdden Penllyn. 7-bob-ochr Agored i ysgolion ar 26 Hydref yng Nghlwb Pêl-droed Y Bala Teithiau Trefnir taith o Ysgol Ardudwy i Alton Towers eto eleni. Y dyddiad fydd 21 Hydref gan gychwyn o’r Ysgol Uwchradd.

Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd

7


Cwestiwn ac Ateb

Mae cynnal cwis wedi mynd yn boblogaidd iawn ym mhobman gyda phobl yn cyrchu neuaddau a festrïoedd ac yn wir ambell i dafarn i gystadlu. Os mynnwch, ac os yw’r amser gennych, gallwch eistedd o flaen y teledu o ddechrau’r pnawn bron hyd amser swper hefo’r twidlydd yn eich llaw yn mynd o gwis i gwis. Cewch ryfeddu at ystod eang gwybodaeth ambell un a rhyfeddu fwy fyth fod ambell i greadur mor anobeithiol o fod wedi cytuno i sefyll o flaen y camera i arddangos ei anwybodaeth ddybryd. Ar un adeg fe fyddai ar y radio gwis o’r enw ‘Round Britain Quiz’. Yn wir mae’n bosib ei fod yn parhau ond nid wyf wedi clywed amdano ers tro bellach. Yn y cwis yma, byddai’r holwr yn enwi rhyw bedwar neu bump o bethau neu leoedd a phobl ac yn gofyn i’r timau enwi’r cysylltiad rhyngddyn nhw. Byddai’r timau wedyn am y gorau i wneud hyn a byddai’r sawl fyddai’n gallu cysylltu’r cyfan heb help yn cael marciau llawn. Wel, rhyw gwestiwn tebyg sydd gen i’r mis yma, a dyma fo. Beth ydi’r cysylltiad rhwng Rheilffordd Tal-yllyn, Gwalchmai a’r gyfrol Caneuon Ffydd? Pwrpas gwreiddiol Rheilffordd Taly-llyn oedd cludo llechi o chwarel Bryn Eithin yn Abergynolwyn i Dywyn. Bu’r chwarel yn llwyddiannus am gyfnod maith ond erbyn 1909 roedd yn anodd cael deupen y llinyn ynghyd yn y chwareli bach ac roedd yn edrych yn debyg na fyddai oes hir i’r gwaith. Un gŵr oedd yn poeni am sefyllfa cyflogaeth ym Meirionnydd oedd Syr Henry Haydn Jones (1863-1950) a ddaeth yn Aelod Seneddol dros y sir y flwyddyn ganlynol. Setlodd y broblem trwy brynu prydles y chwarel, y lein a rhan helaeth o bentref Abergynolwyn. Ganed Haydn Jones yn Rhuthun ond pan fu ei dad farw pan oedd yn blentyn bychan, daeth ei fam ag ef a’i frodyr i ardal Tywyn. Merch Caethle, Tywyn oedd hi. Roedd yna dipyn o fynd a thipyn o fodd yn y teulu. Aeth dau yn brif weithredwr cwmni yswiriant. Bu Syr Haydn Jones yn AS (Rhyddfrydol) dros Sir Feirionnydd o 1910 hyd 1945. Teg yw dweud na wnaeth enw mawr iddo ei hun yn San Steffan fel rhai o’i gydoeswyr yno - pobl fel Aneurin Bevan, Jim Griffiths a Lloyd George ei hun. Yn wir clywais rywun yn dweud amdano nad agorodd Syr Haydn ei enau yn Nhŷ’r Cyffredin ond

8

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

unwaith yn ystod y cyfnod maith y bu yno, ac roedd hynny i ofyn am gael agor ffenest! Ond cam â Syr Haydn a wnaeth y gŵr hwnnw: gwelaf yn Hansard, cofnod areithiau San Steffan, ei fod wedi siarad 427 o weithiau dros y blynyddoedd a hynny lawer iawn ar faterion cyflogaeth ac iechyd. Sicrhau gwaith yn lleol oedd y prif reswm iddo brynu chwarel Aberllefenni at yr hyn oedd ganddo yn barod. Ond erbyn 1946, yn dilyn colledion a damweiniau, roedd yn amlwg nad allai Syr Haydn ddal ymlaen ymhellach â’r gwaith yn Abergynolwyn. Penderfynodd gau’r chwarel a dechrau sgrapio’r offer. Er mai cludo llechi oedd prif bwrpas a gwaith y rheilffordd roedd pobl leol wedi bod yn ei defnyddio i deithio i fyny ac i lawr Dyffryn Dysynni ac roedd twristiaid hefyd wedi dechrau gweld gwerth yn y trên bach. Rhoddwyd perswâd ar Syr Haydn a chytunodd i ddal ymlaen gyda’r lein tra gallai. Felly y bu am ychydig o flynyddoedd, ond wedi marw Syr Haydn yn 1950 roedd ei weddw yn awyddus i drosglwyddo’r baich. Fel y gwyddoch, ffurfiwyd cwmni i ailagor a rhedeg y lein a phery hyd heddiw yn dynfa i filoedd yn un o ddyffrynnoedd harddaf Cymru. Wel ie, meddech, ond beth yw’r cysylltiad â Gwalchmai? Yn Sir Fôn mae’r pentref hwnnw debyg? Nodais gynnau fod Syr Haydn wedi colli ei dad yn gynnar. Ysgolfeistr yn Rhuthun oedd Joseph David Jones (1827-1870), gŵr galluog a thalentog iawn yn ôl pob golwg. Ymhlith ei dalentau oedd y gallu i gyfansoddi tonau cynulleidfaol â’r rhai hynny yn ganadwy ac yn gofiadwy hefyd. Mae pedair ohonyn nhw yn Caneuon Ffydd, sef Beddgelert (166), Harlech (290), Capel y Ddôl (576) ac, wrth gwrs, Gwalchmai (291). Mae Gwalchmai yn dôn boblogaidd nid yn unig gyda ni’r Cymry ond trwy’r byd i gyd. Ac yn haeddiannol felly gan fod sain hyder a gobaith yn y dôn, sy’n ei gwneud yn bleser i’w chanu. JBW

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Dymunwyd gwellhad buan i John Ceri Evans yn dilyn ei ddamwain diweddar. Diolchwyd i bawb a fu’n tacluso o amgylch y Gofeb. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu ffordd newydd i’r gorllewin o bentref Llanbedr Cytunodd yr aelodau’n unfrydol i gefnogi’r cais ond roedden nhw’n bryderus nad oedd cylchfan wedi ei gynnwys yn y cynllun, yn enwedig ar y groesffordd i lawr am Fochras. Hefyd byddant yn falch o weld arwyddion clir mewn mannau priodol er mwyn hyrwyddo’r pentref ar fannau o bwys yn y cymoedd. MATERION YN CODI Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thalybont Bu trafodaeth ynglŷn ag archebu diffribilydd i Dal-y-bont a chafwyd cais am gyfraniad gan y Cyngor. Cytunwyd i aros tan y mis nesa cyn rhoi cyfraniad. Nid yw’r Grŵp uchod yn teimlo bod ganddynt y gallu proffesiynol i lunio cynllun i’r maes parcio newydd a chytunwyd bod y mater yma’n dod yn ôl i’r Cyngor. Archwilio’r llochesi bws, mynwentydd a pharciau chwarae Cafwyd adroddiad manwl Siân Edwards yn canmol rhai llecynnau ac yn tynnu sylw at fan newidiadau oedd eu hangen yma ac acw. Adran Briffyrdd Bydd toiled Tal-y-bont yn agored am y flwyddyn i ddod ac am y flwyddyn 2018/19. Bydd angen clustnodi £4,000 yn y gyllideb ar gyfer y toiledau. UNRHYW FATER ARALL Mae’r giât ar y llwybr sy’n mynd o Dal-y-bont dros y Bont Goch i ffordd Tyddyn Felin yn cael ei gadael yn agored yn aml iawn. Mae wal wedi disgyn i’r ffos ger ystâd Bryn Heulog. Mae angen torri’r llwybr o Benywern dros y lein ac i lawr am Gaerelwan. Cafwyd gwybod bod gyrrwr bron â gadael y ffordd ger Bryn Bywyd yn ystod y glaw trwm a chytunwyd bod y Clerc yn anfon at yr Adran Briffyrdd yn gofyn iddynt ymchwilio i leihau’r dŵr sydd yn dod i’r ffordd ar dywydd garw yn y fan hon.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Cae Chwarae/Maes Parcio Gosodir y plac yn fuan. Cytunwyd i aros nes bydd y plac ar sedd y mae Clwb Rygbi Harlech eisiau ei gosod yna cyn cynnal yr agoriad swyddogol. Maes Parcio Cilfor Dywed Open Reach y bydd symud polyn sy’n rhwystr i’r datblygiad yn costio £6,000. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi Tŷ - Tir ger Ship Aground. Cefnogi’r cais hwn gan obeithio y bydd y tŷ yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl leol. Uwchraddio gorsaf delathrebu - Gorsaf Ddarlledu Arqiva, Yr Onnen, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Codi mast telathrebu 15m - ger Felin Rhyd Fawr, Maentwrog. Cefnogi’r cais hwn. CEISIADAU AM GYMORTH ARIANNOL Hamdden Harlech ac Ardudwy - £1,885.88 Canolfan Hamdden Harlech - £500 UNRHYW FATER ARALL Nid oedd y gwair wedi ei dorri mewn rhai mannau yn yr ardal. Mae ysbwriel yn chwythu o’r lorïau ailgylchu ac yn gadael llanast. Datganwyd nad oedd y Cyngor yn fodlon gyda’r ymateb ynglŷn â gosod giât fochyn ar y llwybr ger Pont Briwet a chytunodd y Clerc i gysylltu gyda Ms Liz Haynes unwaith yn rhagor a datgan mai’r Cyngor oedd y perchennog ac nid y ffermwr; hefyd am ofyn am gyfarfod ar y safle. Mae tyllau dŵr mawr yn yr hen faes parcio. Mae angen tynnu sylw Cyngor Gwynedd at gyflwr y wal o dan Graig y Nos a rhwng Garth Byr a Glan yr Afon. Mae coed wedi gordyfu i’r ffordd o Garth, Soar i lawr am ystâd Maes Gwndwn, hefyd i lawr o Gefn Trefor Isa at Fryn Golau. Mae angen gadael i Gyngor Gwynedd wybod bod Capel Soar yn cau ond bydd y fynwent yn parhau i gael ei defnyddio, mai nid maes parcio i’r tai gerllaw sydd yna ond man pasio a bod angen arwydd yn datgan hyn yna.


H YS B YS E B I O N

Cefnogwch ein hysbysebwyr

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

E B Richards

Llais Ardudwy

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

GERALLT RHUN

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau mawr i Dawn Jones, 5 Glan Gors, (10 Cilfor gynt) ar enedigaeth mab, Aeron Gwilym, ym mis Gorffennaf. Llongyfarchiadau hefyd i Nain a Taid balch, Gavin a Llinos Jones, Cilfor ac i hen Nain Mrs Betty Evans, Maes Mihangel, Ynys. Dymuna Dawn ddiolch i bawb am y cardiau, rhoddion a’r galwadau ffôn. Rhodd £5

Gwasanaeth Diolchgarwch

Taith gerdded i godi arian at y Peiriant Diffib Dydd Mercher 1 Tachwedd Gwaith Powdr Penrhyn Cyfarfod yn y man parcio ar ddiwedd y bont am 10.30 y bore. Dewch â phecyn bwyd at ginio bach ar y ffordd. Bydd hon yn daith mewn lle sych o dan draed ond gwisgwch esgidiau addas a dillad cynnes. Croeso i blant dan ofal oedolyn. £5 i oedolion. Plant am ddim.

Eglwys Llanfihangel-y-traethau Hoffai’r aelodau ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd tuag at y noson goffi yn Neuadd Talsarnau yn ddiweddar. Gwnaed elw o £511 tuag at yr achos. Diolch hefyd i bawb a fynychodd y gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Llandecwyn. Y pregethwr gwadd oedd y Parch Peter James ac roedd yn hyfryd ei groesawu ef a’i wraig, Lis atom unwaith eto. Diolch hefyd i Mrs Myfanwy Jones am ganu’r organ. Rhodd a diolch £5

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gyda theulu Llwyndafydd yn eu profedigaeth o golli mam Siriol. Anfonwn ein cofion atynt. Diolch Dymuna Siriol a Dewi Tudur ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad yn ddiweddar pan fu farw mam Siriol yng Nghaerdydd. Diolch am y llu galwadau, cardiau a galwadau ffôn. Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Eleri (Draenogau gynt) a John Thomas, 1 Morfa Mawr, Llanbedr ar enedigaeth mab, Ilan Edward ar 13 Medi. Pob dymuniad da i’r teulu bach. Llongyfarchiadau hefyd i Gwion a Gwyneth ar ddod yn daid a nain unwaith eto a dymuniadau gorau i Taid am wellhad buan yn dilyn ei driniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Gwasanaeth Coffa Cynhelir gwasanaeth er cof am Eirlys Williams, Tŷ Cerrig, Penrhyndeudraeth (Coety Bach gynt) yn Capel Newydd am 2:00, dydd Mercher, Hydref 13. Croeso cynnes i bawb.

10

Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys Llandecwyn b’nawn Sul 17 Medi. Arweiniwyd y gwasanaeth gan Tecwyn Williams, gyda’r Parch Peter James yn rhoi’r anerchiad. Myfanwy Jones oedd wrth yr organ. Cafwyd darlleniadau gan Eifiona Lane a John Richards a gweddi gan Gwenda Paul. Braf oedd gweld cymaint o ffrindiau a chymdogion yn bresennol.

DOSBARTH DERBYN NEWYDD

Croeso cynnes i Alfie, Macs, Osian a Deio i’r Dosbarth Derbyn yn Ysgol Taslarnau.

MERCHED Y WAWR

Genedigaeth Llongyfarchion calonnog i Megan a Damian ar enedigaeth eu mab bychan, Ernest John. Mae’n siŵr bod nain a taid, sef Rachel a Roy, Clogwyn Melyn, Ynys yn falch dros ben ohono, a hefyd yr hen nain a’r hen daid, sef y Parch a Mrs Bob Hughes, hwythau wedi gwirioni’n lân. Rydym yn hynod falch hefyd bod Sheila yn gwella ac wedi cael canlyniadau da yn ddiweddar. Rhodd a diolch £10

I agor Rhaglen 2017-18, aeth aelodau Cangen Talsarnau ar ymweliad ag Archifdy Dolgellau ar ddydd Iau, Medi 7. Cyrraedd yno am 10.30 y bore a chael croeso gan Gethin Jones, a oedd wedi gosod allan ddeunyddiau ar y byrddau yn y brif ystafell y tybiai a fyddai o ddiddordeb i ni yn ymwneud â’n hardal. Ond cyn edrych drwy’r rhain, cawsom sgwrs ddiddorol gan Lyn Francis, Archifydd Gwynedd, yn sôn am y gwaith a phwrpas yr hyn a wneir yn yr Archifdy, a’r pwysigrwydd o gadw’r holl ddogfennaeth, sy’n gynnwys llawer o gofnodion cyhoeddus, swyddogol a phreifat. Yna cawsom ein tywys gan Gethin Jones o gwmpas yr ystafelloedd eraill yn yr adeilad lle cedwir yr holl ddeunyddiau a sylweddoli cymaint o bethau oedd yn cael eu storio. Yna yn ôl at y byrddau a dechrau edrych drwy hen lyfrau log, lluniau, mapiau ac adroddiadau. Buan Dymuno’n dda iawn aeth dwy awr heibio ac yn anffodus rhaid oedd gadael i fynd Pob dymuniad da i Elgan Tudur am ginio i’r dre. Lewis, Llwyndafydd wrth Diolchodd Siriol Lewis i staff yr Archifdy am fore difyr iawn ac iddo gychwyn i Antarctica! edrychir ymlaen at gael ail ymweld â hwy eto. ddechrau Tachwedd. Mae Elgan, Mwynhawyd cinio blasus a sgwrs yng Ngwesty’r Llong, Dolgellau sy’n saer coed profiadol, yn cyn troi am adref ganol pnawn. mynd yno i weithio fel rhan o Bydd ein cyfarfod nesaf yn y Neuadd Gymuned am 7.00 o’r dîm sy’n gwneud archwiliadau gloch nos Lun, 2 Hydref, pryd y cawn gwmni Haf Llewelyn o gwyddonol ar ran Coleg Girton, Lanuwchllyn. Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni ar y Caergrawnt. Edrychwn ymlaen noson yma. at gael dipyn o dy hanes. Cofia Capel Newydd am 6.00 anfon lluniau a newyddion i’r Neuadd Talsarnau HYDREF Llais, bob hyn a hyn! 8 - Dewi Tudur Pob dymuniad da i ti oddi wrth 15 - Gwydion Lewis y teulu a ffrindiau. 22 - Dewi Tudur Nos Iau, Hydref 12 29 - Dewi Tudur Rhodd i’r Llais am 7.30 o’r gloch TACHWEDD Celt a Meira Roberts £10 5 - Rhys Llwyd CROESO I BAWB! Croeso cynnes i bawb.

GYRFA CHWIST


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Harlech a Llanfair Croesawodd Hefina pawb i gyfarfod cyntaf y tymor newydd. Adroddwyd bod y Te Cymreig wedi bod yn llwyddiant. Gwnaed elw o £270. Diolchodd Hefina i bawb am eu cymorth yn ystod y pnawn. Penderfynwyd rhoi cyfraniad hael i’r Cylch Meithrin yn Harlech. Cafwyd adroddiad ariannol a nodwyd bod y sefyllfa yn foddhaol. Croesawyd Paula Steward a Shannon Llwyd-Hopcroft, swyddogion Cefnogi Cymuned yr heddlu atom. Cafwyd cynghorion ynglŷn â sut i gadw ein hoffer yn ddiogel wrth siopa, cyngor ar sut i gadw offer o gwmpas y tŷ a’r ardd rhag lladron. Daethant â nifer o nwyddau gyda nhw i sicrhau diogelwch o gwmpas y tŷ. Bronwen roddodd y diolchiadau ar ran y gangen am gyflwyniad cartrefol a rhadlon. Eirlys a Cassie oedd yng ngofal y baned.

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch CROESO CYNNES I BAWB!

Diolch Dymuna Mrs Gwyneth Roberts, Uwchglan ddiolch i’w theulu a’i chyfeillion am y cardiau, yr ymweliadau a’r negeseuon a dderbyniodd tra bu yn glaf yn Ysbyty Gwynedd. Mae wedi dod adref erbyn hyn ac mae’n gwella’n raddol bob dydd. Rhodd a diolch £10 Diolch Diolch i Mrs Meira Dodd, am ei rhodd o £10 i Llais Ardudwy. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Elizabeth Jones, Tyddyn Gwynt sydd yn yr ysbyty yn Wrecsam. Hyderwn y bydd ar ei ffordd adref cyn bo hir. Diwrnod agored Cynhelir diwrnod agored er cof am Josh Llwyd-Hopcroft, Hen Ysgol Llanfair, ar Hydref 28 yn yr Ysgethin, Tal-y-bont rhwng 12.00 a 4.00. Trefnir nifer o weithgareddau, gan gynnwys barbeciw, yn ystod y dydd. Gwahoddir cyfraniadau gan y cyhoedd er mwyn hybu’r achos. Rhennir yr elw rhwng y Tree House Project a Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn.

Neuadd Gymuned Talsarnau

FFAIR NADOLIG

Nos Iau, Tachwedd 30 am 6.30 Dewch i brynu anrhegion Nadolig Mynediad: Oedolion £1, Plant – am ddim

Gellir llogi bwrdd gwerthu am £10 Ffôn 01766 772960/770757

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Asesu Risg Nododd Mair Thomas bod yr hysbysfyrddau i gyd yn iawn ar wahân i’r un ger croesffordd Capel Caersalem a oedd angen ei beintio. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu ffordd newydd i’r gorllewin o bentref Llanbedr. Cytunodd yr aelodau’n unfrydol i gefnogi’r cais uchod er lles economaidd y gymuned, ond eu bod yn bryderus nad oedd cylchfan wedi ei gynnwys yn y cynllun, yn enwedig ar y groesffordd sydd yn mynd am Fochras; hefyd roeddent yn bryderus ynglŷn â chyflymder y ffordd ac yn gofyn iddo gael ei leihau o 60mya i 40mya. Trosi sgubor yn uned llety gwyliau - Beudy Isaf, Argoed, Llanbedr. Cefnogi’r cais hwn oherwydd byddai’r datblygiad yn tacluso edrychiad yr adeilad presennol a’i arbed rhag mynd yn adfail ymhen amser. Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £3,770.66 UNRHYW FATER ARALL Mae tyllau yn y ffordd ger Llwyn a Ty’n Llidiart, Pensarn. Nid yw’r bin baw cŵn yn cael ei wagio’n aml iawn ar dir y Maes. MATERION CYNGOR GWYNEDD Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod mesurydd traffig ar y ffordd i lawr am Landanwg. Bu’r Heddlu ar y ffordd gyda gwn laser . Mae un unigolyn wedi ei stopio am oryrru i lawr y ffordd hon yn barod.

Clwb 200

Côr Meibion Ardudwy

££££££££ Ydych chi wedi cael gwared â’r hen ddarnau punt? Rhaid eu gwario nhw cyn Hydref 15!

Medi 2017 £30 Elizabeth Corps £15 Wyn Jones £7.50 Rhys Morgan Owen £7.50 Kirsty Jones £7.50 Ifor Evans £7.50 Dylan Williams

AR OSOD

Byngalo wedi ei ddodrefnu, dwy ystafell wely, yn Nhalsarnau. Dim ysmygwyr nac anifeiliaid anwes. Cysylltwch ar 07860 845551

AR OSOD

Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Yng nghyfarfod cynta’r tymor aethom i Fwyty Dylanwad, Dolgellau. Cawsom ein croesawu gan Llinos a Dylan ag yna ein tywys o amgylch yr adeilad. Difyr a bywiog oedd y sgwrs a diddorol dysgu am y newidiau a wnaethpwyd yno. I ddilyn cawsom swper blasus. Diolchodd Llewela i bawb oedd wedi cyfrannu at ein rhaglen a dymunodd yn dda i’r aelodau oedd yn methu bod yn bresennol. Trafodwyd materion perthnasol o’r pwyllgor rhanbarth. Ar 25 Hydref, byddwn yn croesawu Emsyl Davies, Llanbedr atom. Croeso cynnes i aelodau hen a newydd.

Râs y trên Llongyfarchiadau i Alun, Trem Enlli, Llanaber ar ei gamp yn ennill râs y trên yn Nhywyn ar 8 Awst. Llwyddodd i redeg 10k mewn 37 munud. Mae’n rhedeg a chystadlu yn rheolaidd adref yma ac yn Seland Newydd. Calendr Llais Ardudwy Cofiwch fod y calendr ar werth yn siop gig David Jones ar y stryd fawr.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

11


‘O Lys Aberffraw i Gribau Eryri’[Parhad]

Cip ar waith y nofelydd hanes Rhiannon Davies Jones, Ardudwy ac atgofion am ei gwaith a’i bywyd. Fe wyddom bellach wrth gwrs am arddull hollol unigryw Rhiannon Davies Jones, ei chrefft o rhoi brawddeg ar frawddeg, ei dull unigryw o greu awyrgylch, boed hynny am dawelwch y Clas yn Lleian Llan Llŷr, unigrwydd Ethne yn ymdrochi yng nghwmni duwies y dŵr yn Eryr Pengwern, neu wewyr Llywelyn ger afon Irfon. Disgrifiwyd hyn gan John Gwilym Jones fel ‘mynegiant fel melfed’, neu’r ‘fine gossamer’ y cyfeirir ato yn nheyrnged Meic Stephens yn yr Independent. Dyma’i disgrifiad synhwyrus o Ethne ar lan yr afon yn Eryr Pengwern ‘Bob bore, fel yr oedd y gwres yn codi a’r haul canol dydd yn tynnu tua’i anterth, byddai Ethne yn trochi’i gwallt yn nŵr yr afon - gwallt du fel y frân a syrthiai’n dorchau trwchus dros ei hysgwyddau ... edrychai hithau i’r dŵr a gwylio’i llun yng ngwely’r afon. Hi oedd duwies yr afon, bryd hynny. Siglai’i chorff yn ôl ac ymlaen yn ei dyfroedd gan brin gyffwrdd y graean oddi tano. Weithiau deuai brithyll o rywle gan greu cylchoedd chwareus fel llynnoedd tro bychan, yn goglais ei chorff. Dro arall, cyffyrddai ei phen â bonion y brwyn wrth y lan gan gosi gwraidd ei gwallt ac wedyn fe ddoi haul canol dydd i fyseddu’i thraed. Yn raddol ... meddiennid hi’n llwyr gan yr haul. Ef oedd ei meistr a phan fyddai’r haul wedi cyrraedd ei anterth, fe ddechreuai gilio’n betrus drach ei gefn gan adael y mân gysgodion yn y dŵr. Bryd hynny fe grebachai ei chorff hithau yng ngwely’r afon. Yr oedd y cynnwrf drosodd. Yna, fe godai Ethne ar ei thraed a chribo’i gwallt ... disgynnai’r diferion o’r gwallt wrth ei thraed. Hwy oedd dagrau duwies yr afon, am i’r haul ymadael â hi..’ Wedi ei chyfnod yn y Bermo, aeth ymlaen wedyn i’r Brifysgol ym Mangor, lle daeth i gyswllt â nifer o bobl ddylanwadol y cyfnod, yn eu plith Yr Athro Thomas Parry a’r Athro R T Jenkins. Does ryfedd i hanes Cymru dreiddio i’w hymwybod - ni allai ddianc rhagddo. Yn Cydio Mewn Cwilsyn, mae Rhiannon Davies Jones yn sôn am y dylanwadau hyn arni, a difyr yw nodi’r cyngor canlynol a gafodd gan yr Athro Thomas Parry – “Os am ysgrifennu, dewiswch rhwng barddoniaeth a rhyddiaith.” Er i Rhiannon farddoni yn ei harddegau a’i hugeiniau, mae’n bur debyg iddi gadw at gyngor ei hathro, oherwydd ni wn i am unrhyw gerddi o’i gwaith, ac eithrio’r hwiangerddi y cawn eu clywed yn y man, ond yn sicr, mae yn ei rhyddiaith dinc digamsyniol o farddoniaeth pur.

Protest Amddiffyn Tir Cymru - Trawsfynydd 1951 Yr oedd Rhiannon Davies Jones yn gymeriad teimladwy a sensitif, yn wraig a deimlai pethau i’r byw. Yr oedd hi’n wraig wleidyddol, a chanddi ddelfrydau, credoau ac egwyddorion nad oedd yn hawdd iddi eu rhoi o’r naill du. Fe ddeuai, fel y clywsom eisioes, o deulu o ryddfrydwyr radicalaidd ochr ei thad, ac yr oedd y daliadadu hyn wedi eu gwreiddio’n ddwfn ynddi hithau. Yn bersonnol fe wn i am y natur hwnnw lle’r oedd tegwch yn ben ar bopeth, fyddech chi ddim yn cael cam gan Rhiannon D.J. Ond ar lefel ehangach, roedd ei chred yn Nghymru a’r Gymraeg yn flaenllaw iawn, ac mae cymaint o’i gwaith, er wedi eu gosod ganrifoedd yn ôl, yn adlewyrchu’r teimladau hynny o siom ac anobaith, yn aml yn ganlyniad cyfnod o ddigalondid ynglŷn â chrêd y Cymry yng ngwerth eu diwylliant a’u cenedl. Mae ei nofel Llys Aberffraw, er engraifft wedi ei symbylu yn ôl yr awdur ei hun ar ddigwyddiadau’r arwisgiad, a’r drychineb o golli dau ŵr ifanc yn y ffrwydriad yn Abergele. Felly hefyd ei nofel Eryr Pengwern, ac fel hyn y dywed Rhiannon ei hun am ysgrifennu’r gwaith hwnnw - ‘yn ystod yr ymgyrch dros Bedwaredd Sianel a bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio. Ceisiwyd dal ar awyrgylch cyfnos y cyfnod Celtaidd yn ei gefndir a’i iaith gan gadw mewn cof y ddelfrydiaeth gynt. Credaf bellach fod henaint ein cenedl ni yn ddigon o warant dros ei pharhad.’ Yn y geiriau hyn, bron na fedraf hedfan yn fy ôl eto i ddechrau’r wythdegau, a chlywed eco o’r ochenaid honno - fel y byddai, pan glywai am rhyw achos eto fyth o ddiffyg parch neu ymosodiad ar ein Cymreictod a’n hawliau fel Cymry.

12

Go brin y bydden ni fel myfyrwyr yn narlithoedd Rhiannon, ar yr olwg gyntaf wedi ei rhoi ynghanol protestiadau’r mudiad cenedlaethol, ond mae’n nodyn o rybudd i bob myfyriwr ifanc, penboeth - cofiwch fe fu rhai yno o’ch blaen yn protestio - ac nid bob amser y rhai sy’n edrych fel radicaliaid ydi’r rhai mwyaf eithafol! Aeth Rhiannon ar un o brotestiadau cynnar y mudiad cenedlaethol - a’i harwr - Gwynfor Evans yn eistedd ar y blaen. Craffwch yn fanwl ac fe welwch sawl wyneb cyfarwydd ymysg cenedlaetholwyr Meirionnydd a thu hwnt. Protest yng nghyffiniau Trwsfynydd ydi’r achlysur, protest yn erbyn ehangu ar y gweithgareddau milwrol yno. Yn dilyn ei chyfnod ym Mangor, aeth Rhiannon Davies Jones yn ei blaen i Ddyffryn Clwyd ac yn athrawes i Ysgol Brynhyfryd - fel hyn y mae’n cyfeirio at Ddyffryn Clwyd a’r cyfnod ‘Gwlad dirion gyfoethog yn llawn o blasau uchelwyr...cyfnod pan oedd Baner ac Amserau Cymru yn frenin y papurau Cymraeg wythnosol ac ‘Ysgrifau Dydd Mercher’ Saunders Lewis yn ymddangos. Yr arbennig Gwilym R Jones a Mathonwy Hughes, wrth gwrs, yng Ngwasg Gee yn cymell ac yn gwerthfawrogi a dyma’r cyfnod o wir fraenaru yn y broses o ysgrifennu.’ Dyma gyfnod o fodlonrwydd a hapusrwydd ymddengys ym mywyd Rhiannon Davies Jones, cyfnod ieuenctid pan roedd cyfeillion clos yn rhannu anturiaethau boed hynny yn deithiau dringo, hwylio neu fawdheglu. Cyfnod y datblygu o ran ysgrifennu hefyd a’r dechrau cystadlu, a’r anogaeth gan unigolion megis Gwilym R. Jones a’r Dosbarthiadau Llenyddol. Yn y blynyddoedd hyn,sef pumdegau’r ganrif diwethaf datblygodd perthynas rhwng Rhiannon a gŵr ifanc o Ddyffryn Clwyd, sef Robert Clwyd Parry, cyfnod hapus yn ei bywyd, fel y dywed ei hun - ‘ yr oedd yr haul yn tywynnu arnom.’

Yr oedd hithau wedi cyrraedd yr hyder hwnnw yn ei gwaith ysgrifennu fel iddi hi a Clwyd fynd draw i Rhyl o bob man i bostio ei hymgais am y Fedal Ryddiaith i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960. Fe enillodd y wobr gyda’i chyfrol am Ann Griffiths, Fy Hen Lyfr Cownt, a chafodd ganmoliaeth uchel gan y tri beiriniad - J E Caerwyn Williams, J.O.Williams a Stephen J Williams, ac fel hyn y mae Stephen J Williams yn dweud yn ei ragair i’r argraffiad cyntaf ‘Fe lwyddodd ... gyda’r cywirdeb a’r treiddgarwch na ellid eu disgwyl, efallai, ond gan ferch, i ailgreu byd Ann Thomas (Griffiths) o’r defnyddiau sy’n hysbys ac yn gredadwy, ac o’i darfelydd artistig ei hun, gan ddynodi’n gynnil risiau pererindod ysbrydol yr emynyddes.’ Rydw i’n credu iddo gyffwrdd a gwirionedd pwysig yn ei sylw yma - mae merched yn flaenllaw yng ngweithiau Rhiannon, a’r rheiny yn wragedd sy’n amlygu cymeriad cryf a gwydn, nid rhyw fodau diniwed i gadw diddordeb y darllenydd yn y cymeriadau gwrywaidd mohonynt - ond merched gyda’i dyheadau, eu hangerdd a’u nôd eu hunain mewn bywyd. Ac nid yw’n portreadu’r ferch ychwaith fel y gwrthrych serch dilychwin, dyma ddisgrifiad o’r dywysoges Cristin, gwraig Owain Gwynedd yn Llys Aberffraw ‘Eisteddai’r Dywysoges Cristin wrth fwrdd y wledd. Dim ond ar adeg gŵyl y bwytâi hi yn y neuadd. Amdani roedd mantell o sidan glas ac ysgarlad, gleiniau o ambr am ei gwddf a thalaith o aur am ei gwallt. Buasai ei gwallt unwaith yn felyn fel ysgub o ŷd yn yr haul. Am ei braich gwisgai freichled a ddolennai fel neidr - ysbail a gawsai rhywun o’i hil o un o longau gwŷr Llychlyn ymhell cyn hynny. Yr oedd peth o nodweddion y neidr ynddi hithau hefyd, ei bysedd yn fain ac yn hir, a throai ei golygon yn esmwyth i bob cornel o’r neuadd ac fel gwibiai ei llygaid fe gryfhâi ei gwên. Gallai golynnu hyd at angau pe dymunai.’


Cyfoeth ein Corsydd

Torri mawn yng Nghwm Cynllwyd yn 1984

Apêl am hanesion llafar ar gyfer prosiect newydd ‘Cyfoeth ein Corsydd’

Ydych chi’n cofio, neu yn adnabod rhywun sy’n cofio’r hen arfer o dorri mawn? Os felly, cysylltwch â Haf Roberts, Swyddog Prosiect ‘Cyfoeth ein Corsydd’ ar 01766 770274 neu drwy ebost haf. roberts@eryri.llyw.cymru Mae hen atgofion o bobl yn gwneud canhwyllau brwyn, casglu mwsog, hel rhedyn ac eithin o ddiddordeb hefyd. Nôd prosiect ‘Cyfoeth ein Corsydd’ yw casglu a chofnodi atgofion ac arferion o’r modd y defnyddiwyd corsydd dros y blynyddoedd fel adnodd i gynhesu, goleuo, adeiladu ac i wella iechyd. Yn y diwedd bydd arddangosfa deithiol yn olrhain hanes ein defnydd hir o gorsydd a’u harwyddocâd dros yr oesau. Mae hanes cymharol ddiweddar o ddefnyddio mawn yn dal yn fyw yn ardal Penllyn, gyda Arwyn Jones, Blaencwm, Cwm Cynllwyd yn cofio torri mawn yn nghwmni ei dad a’i frawd. Mae nifer eraill o’r ardal gyda phrofiad o’r fath ac mae’r apêl yn holi am atgofion dros Gymru gyfan, nid yn unig yn Eryri. Yn ogystal â thorri, neu ladd, mawn, roedd yn hen arferiad o dorri brwyn ar gyfer canhwyllau cyn bod sôn am drydan. Hefyd, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddid mwsogl i drin clwyfau ac achub miloedd o filwyr. Ar wahân i dorri mawn, pabwyra a mwsoglu, mae na drysorau mwy cuddiedig wedi dod i’r golwg o’r gors. Mae rhain yn cynnwys Pair Arthog, bwced efydd a ddefnyddid fel blwch llwch o Blas Nannau, a thancard ywen Trawsfynydd. Mae’r ddau gelficyn hynafol wedi goroesi oherwydd bod y mawn yn cadw’r efydd a’r pren mewn cyflwr perffaith yn y gors, gan rewi amser fel petae. Daethpwyd o hyd i gyrff dynol yn y gors, yn ogystal, rhai miloedd o flynyddoedd oed, ble mae’n bosib gweld yr wyneb yn glir, yn union fel petae’n cysgu. Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’n corsydd yn storfeydd carbon pwysig ac yn storio a hidlo dwr gan osgoi llifogydd islaw’r dyffryn. Maent yn gynefin i lu o blanhigion, adar ac anifeiliaid sy’n dibynnu ar gynefin y tir corsiog. Cewch fwy o wybodaetham y prosiect drwy ffonio Haf ar 01766 770274 neu ebostio haf.roberts@eryri.llyw.cymru

Gwneud canhwyllau brwyn

Mwsogl migwyn

Nyrsus yn paratoi migwyn ar gyfer trin clwyfau milwyr

13


R J WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai Clynnog Fawr

EIN GWIR HANES Diwedd Llinach Tywysogion Gwynedd (1282-3) dydd Sadwrn Hydref 14, 2017 o 10.30 tan 2.30

Bore: yr Athro A D Carr, Bangor: ‘Yr ola’, eiddila’ o’i lin, Dafydd ap Gruffudd’. Pnawn: Ieuan Wyn ‘Tynged Etifeddion Dafydd a Llywelyn’. Darperir paned. 01286 660546/853. canolfanuwchgwyrfai@gmail.com

14

BWYD A DIOD

Neuadd Gymuned Talsarnau

TRIO CYMRU ac

Annette Bryn Parri

Nos Sadwrn, Tachwedd 18 am 7.30 Tocyn: £10 Plant ysgol am ddim

Tocynnau gan: Anwen Roberts 01766 772960 Mai Jones 01766 770757

Taith i Oporto

Nid i siarad am win ond i gyflwyno ar redeg busnes trwy iaith leiafrif a ddysgwyd oedd Dylan yn ddiweddar digon rhyfedd, a hyn ym Mhrifysgol Coimbra, Portiwgal. Ond, wrth gwrs, aeth i gael golwg ar winllannoedd yr ardal hefyd! Un cwestiwn sydd ar flaen tafod pobl yn aml yw a ydi sathru grawnwin gyda thraed yn ddull cyffredin? Wel, na, dim yn aml y dyddiau yma ond mae eithriad yng ngogledd Portiwgal lle yn ambell winllan cewch weld y traddodiad yn parhau i rai o’r gwinoedd gorau. Mae’r llethrau i fyny’r afon Douro o Oporto (lle mae gwin yn cael ei aeddfedu) fel pe baent wedi’u crafu gyda chyllell gan adael llinellau ar ochrau’r bryniau serth. Mae’n anodd gweld sut maent yn gallu trin y winwydden ar rai o’r silffoedd sydd bron yn fertigol. Cerrig tebyg i’n hardal ni sydd yma sef llechi a gwenithfaen a bron dim pridd i’w weld o gwbl, sy’n gorfodi’r planhigyn i yrru’r gwreiddiau yn ddwfn iawn i gael maeth. Lagares yw enw’r bathiau mawr sydd wedi’u creu o flociau gwenithfaen lle sathrwyd y grawnwin. Ar ôl casglu’r ffrwyth maent yn eu tywallt yn syth i mewn. Ond nid joban hawdd yw hon; mae’r hogiau yn eu trowsus cwta yn cerdded i fyny ac i lawr am oriau ac mae’r golwg ar eu hwynebau yn adlewyrchu natur ddiflas y swydd i fod yn onest! Dilynwyd trefn gadarn ‘corte’ i gychwyn lle maent yn gorfod cerdded llinell syth yn ôl ac ymlaen gan gadw rhythm weithiau gyda drwm neu rywun yn galw. Wedyn toriad ar ôl y tair awr gyntaf - ‘liberdade’ - yr enw yn dweud y cyfan! Hefyd, mae’n waith corfforol caled oherwydd datblygiad crwst dwfn o’r croen a dincod sy’n casglu ar ben y sudd. Mae’r eplesiad yn cychwyn yn sydyn iawn yn y tymheredd yna ac mae’r broses yn darfod trwy bwmpio’r sudd allan i danc oni bai eu bod yn creu gwin Port lle mae angen ychwanegu gwirod i’w gryfhau a lladd yr eplesiad. Fel canlyniad, nid yw’r siwgr i gyd yn newid i alcohol a hyn sy’n gwneud Port yn win coch melys. Y theori yw bod y traed yn llai caled ar y grawnwin ac mae’n bwysig i beidio malu’r dincod oherwydd mae blas chwerw iddynt. Os yw’r safon yn parhau o’r ardal hyfryd yma, rydym yn hapus iawn gyda’u dull. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau


ATHLETAU’R URDD Plant Llanbedr ar y Brig

THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667

Hydref

5 Hydref - Hamlet (Encore) Benedict Cumberbatch fel Hamlet. 6 Hydref - Cerddoriaeth glasurol, baroc, cyfoes a rhamantaidd. Arweinydd Anthony Hose. Unawdydd: Jeremy Huw Williams

Tachwedd

16 Tachwedd – Follies, sioe gerdd chwedlonol Sondheim.

Swydd Tiwtor Dysgu Cymraeg Rhan-Amser i Oedolion

Lleoliad: Meirionnydd Nansi Evans-Brooks, Ysgol Llanbedr, cyntaf gyda naid o 3.51 metr yn y pwll tywod

Nansi Evans-Brooks, Ysgol Llanbedr, ddaeth yn drydydd yn y ras 600 metr

Graddfa Cyflog 6: £17.02 - £25.08 (tâl fesul awr yn ôl profiad a lefel y cwrs) Rydym yn chwilio am unigolyn i ymuno â’n tîm o diwtoriaid rhanamser yn ardal Meirionnydd Bydd y dyletswyddau’n cynnwys: • Addysgu cyrsiau yn unol â chais y Tiwtor Drefnydd • Cydweithio’n agos gyda’r Tiwtor-drefnydd lleol i drefnu, hyrwyddo ac arolygu’r rhaglen gyrsiau • Cynnal a datblygu’r gefnogaeth electronig i ddysgwyr • Cyfrannu at weithgareddau dysgu anffurfiol yn y gymuned • Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol Byddai’n ddymunol i ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at safon gradd (neu gyfatebol) neu fod wedi ennill y Cymhwyster Cenedlaethol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan â phosib ac mae’r swydd ar gael am gyfnod o 12 mis yn y lle cyntaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio oriau fel sydd angen. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn trwy ein gwefan recriwtio arlein, jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy. Er hynny, os ceir anhawster i ddefnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais ar gael trwy ffonio 01248 383865. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Gwener 10 Tachwedd 2017. Wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal

HARLECH TOYOTA Tîm cyfnewid cymysg [B3 a B4] o Ysgol Llanbedr ddaeth yn gyntaf gydag amser o 01:10:18 dros 400 metr (4x100m).

ENGLYN DA

Neuadd Goffa Mynytho

Adeiladwyd gan dlodi, - nid cerrig Ond cariad yw’r meini; Cyd-ernes yw’r coed arni, Cyd-ddyheu a’i cododd hi. R Williams Parry, 1884-1956

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 15


RHANNU AMBARÉL

Mae Sonia Edwards yn awdur sydd wedi hen ennill ei phlwy’ ym myd llenyddiaeth Cymraeg, a chaiff ei hadnabod am ei harddull deimladwy, sensitif. Braf oedd ei gweld hi’n codi ar ei thraed i dderbyn y Fedal

DŴR YN YR AFON

Dyma gorwynt o nofel sy’n sicr o gadw eich diddordeb yn ystod y darllen, a chyfrol sy’n siŵr o ddryllio’r ddelwedd draddodiadol o’r cefn gwlad tawel, traddodiadol, yn rhacs. Dyma nofel gyntaf Heiddwen Tomos, awdur a fagwyd yn y gymdeithas wledig, amaethyddol yng Ngheredigion ac mae geirfa a thafodiaith ei milltir sgwâr yn rhan annatod a phwysig o’r cyfanwaith. Mae’r iaith mewn sawl man yn gwrs ac yn aflednais ond mae hynny’n cyferbynnu’n llwyr gyda’r darnau telynegol a disgrifiadol tlws. Derbyniodd y nofel ganmoliaeth gan feirniaid Gwobr Goffa

16

Ryddiaith yn Eisteddfod Môn eleni, a hithau’n un o bobol gwlad y medra. A bobol, mae hi’n medru! Mae ei chyfrol o straeon byrion, Rhannu Ambarél, eisoes wedi ennyn ymateb ffafriol iawn, a darllenwyr wedi eu swyno gan gynildeb hyfryd ei straeon. Er bod arddull gyfareddol ac unigryw’r awdur yn gyson drwy’r straeon, mae amrywiaeth mawr mewn tôn ac awyrgylch o stori i stori. Mae tueddiad, boed hynny’n ymwybodol ar ran yr awdur ai peidio, i ysgrifennu am wahanol bynciau tabŵ – affêr rhwng myfyrwraig a’i thiwtor; hen ŵr yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon i leddfu poen; profedigaeth. Er bod y rhain yn bynciau mawr, mae’r straeon a’r cymeriadau yn gwbl gredadwy. Tuedda’r awdur i graffu ar fanylion bychain bywyd bob dydd ynghanol y sefyllfaoedd mawr yma o newid byd - a Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016, gyda Fflur Dafydd, Jon Gower a Gareth F Williams wedi eu plesio’n fawr gyda’r cynnwys, ac mae’n dda iawn gweld bod yr awdur wedi dyfalbarhau i gyhoeddi’r nofel hon. Mae’r stori, fel y soniwyd, wedi ei gwreiddio’n ddwfn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae arferion y bywyd gwledig yn rhan annatod o’r cyfan, gydag arferion traddodiadol a’r bywyd modern yn cymysgu gyda’i gilydd, yn naturiol ddigon. Yn y bôn, hanes fferm deuluol sydd yma, Bryn y Meillion, a pherthynas tad a mab wrth iddynt ymladd (yn llythrennol weithiau!) i gadw deupen llinyn y busnes ynghyd. Ond mae llawer mwy i’r stori yma hefyd. Mae Rhys, y mab, yn gymeriad byrbwyll ac mae ei weithredoedd yn creu tyndra rhyngddo ef a phawb sy’n ei adnabod, ac yn enwedig Morgan ei dad. Mae ef yn gymeriad mwy gwastad, ond mae’n cario baich y gorffennol yn drwm ar ei ysgwyddau ac yn ei gweld hi’n anodd ymdopi â’r hyn y mae’n gweld ac yn ei deimlo. Mae Morgan a Rhys yn cael bywyd yn anodd ac yn unig iawn. Er bod digon o gymdogion o’u cwmpas, mae

Sonia Edwards

dyna ddod at symbolaeth yr ambarél. Mentraf ddweud na fydd unrhyw un a ddarllena’r straeon yma yn gweld yr eitem hon yn yr un ffordd eto. Mae’n symbol o agosatrwydd ac, wrth gwrs, yn eich diogelu rhag pob math o dywydd mawr. Caiff Sonia Edwards ei hadnabod am ei throsiadau a’i chymariaethau trawiadol, ac mae’r rheiny’n frith drwy’r straeon yma. Disgrifir alawon fel “pethau crwydrol, cyntefig

Heiddwen Tomos digwyddiadau’r gorffennol wedi sicrhau eu bod yn byw ar wahân i’r gymdeithas leol i raddau helaeth. Mae bywydau’r ddau wedi eu llunio gan eu gorffennol trist, ac yna mae eu hamgylchiadau’n newid yn llwyr eto pan ddaw Rhys adre’n annisgwyl gyda’i wraig newydd. Ond er y newid enfawr yma, mae rhai pethau’n gorfod aros am nad oes modd cael eu gwared. Er taw’r ddau ddyn yw’r prif gymeriadau, mae’r menywod yn chwarae rhan bwysig iawn yn y stori hefyd, ac mae cyfraniad Rosa i’r nofel yn hollbwysig wrth iddi ddatgelu’r hanes llawn i ni’n raddol drwy gyfrwng ei dyddiaduron a’i hatgofion. A hi sy’n esbonio arwyddocâd teitl y nofel i ni. Mewn ffordd, mae’r dynion yn osgoi trafod y materion sydd wedi dylanwadu gymaint arnynt; mae’n haws

fel y tonnau, yn aros ’run fath ond yn newid o hyd”. Mae gwneud paned yn achosi “sŵn y sarff o deciall yn chwythu’n biwis”. Byddai’r cyffyrddiadau barddonol yma yn gallu amharu ar lif y stori a theimlo braidd yn drwm, ond mae hynny’n cael ei osgoi gan fod y ddeialog yn llifo mor hawdd. Mae lleisiau’r cymeriadau yn gwbl glir ac mae’r ieithwedd a’r geiriau yn gyfarwydd i ni i gyd. A dyna yw hanfod hyfryd a chyfareddol Rhannu Ambarél. Mae’n cymryd cymeriadau a sefyllfaoedd sy’n gyfarwydd i ni i gyd, ac yn craffu arnyn nhw mewn manylder cain, barddonol, bendigedig. Dyma straeon fydd yn aros ym meddwl pob darllenydd am amser hir. Manon Steffan Ros Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. peidio, efallai, ond mae angen i ni wybod y gwir er mwyn ceisio deall yr hyn sy’n digwydd yn eu presennol nhw. Mae’n stori dywyll iawn ac yn gignoeth o onest ar brydiau hefyd. Ond dydy hynny ddim yn llethu’r darllen ac mae’r cymeriadau ymylol yn ysgafnhau tipyn ar y darllen. Mae helyntion amaethyddol a charwriaethol Ned y gwas, a busnesa Sioni Shw’od yn ychwanegu cryn dipyn o hiwmor at y stori. Mae’r llon a’r lleddf yn cydredeg fel mewn bywyd go iawn, ond yr elfennau tywyll sy’n cario’r dydd, a cheir ymdriniaeth â materion megis unigrwydd, twyllo a chynllwynio, trais yn y cartref, godinebu a marwolaeth yn y stori drasig hon. Efallai nad yw caledi a chymhlethdodau bywyd cefn gwlad yn bynciau hollol newydd, ond mae Heiddwen Tomos yn bendant yn awdur sy’n cynnig rhywbeth gwahanol. A hithau’n cipio’r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni, mae Heiddwen Tomos wedi dechrau o ddifrif ar ei thaith lenyddol. Hefin Jones Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.