Llais ionawr 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl ddarllenwyr!

Y SIOP FACH FRAWYCHUS

RHIF 437 IONAWR 2015

AILAGOR NEUADD YR EGLWYS DYFFRYN ARDUDWY

Llun: Keith Phillips

Daeth nifer dda ynghyd, nos Fercher Rhagfyr 10fed, i ailagoriad Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Ardudwy, hyn yn dilyn gwaith adnewyddu. Braf oedd gweld croestoriad da o wahoddedigion, yn cynrychioli’r Cyngor Cymuned a’r enwadau crefyddol ynghyd ag amrywiol fudiadau a grwpiau lleol eraill. Priodol iawn oedd hyn o gofio hanes y neuadd, adnodd fu’n gwasanaethu’r gymuned am dros ddau gan mlynedd. Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y Parchedig Ganon Beth Bailey a chafwyd hanes y prosiect ganddi. Diolchodd i’r tîm fu’n gyfrifol am y gwaith gan eu llongyfarch am lwyddo i’w gwblhau o fewn blwyddyn. Penderfyniad Eglwysi Bro Ardudwy i achub yr adeilad a’i droi’n ganolfan gynnes, fodern i wasanaethu Offeiriadaeth y Fro fu’n sbardun i fwrw mlaen â’r gwaith.

Llun: Keith Phillips

Cyfrannodd yr Eglwysi £9000 tuag at y costau, gyda’r gweddill yn dod o roddion unigolion a grwpiau eraill. Cefnogol iawn fu busnesau lleol hefyd gan roi deunyddiau megis unedau cegin a llenni ar gyfer y ffenestri. Ni fu’r gwaith adnewyddu yn gyfyngedig i du fewn yr adeilad, gyda’r to, waliau a’r landeri yn hawlio sylw. Ariannwyd y gwaith yma trwy gyfrwng grant o Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor ac unwaith eto, haelioni busnesau lleol.

Roedd cyffro mawr wrth i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Ardudwy gerdded i’r Theatr i weld Y Siop Fach Frawychus. Roedd llawer o straeon wedi bod yn byrlymu drwy’r ysgol am flodyn oedd yn tyfu, a bod y blodyn enfawr yma yn rhan o’r sioe ac yn bwyta’r cymeriadau. Roeddwn yn edrych ymlaen at weld hyn gyda fy llygaid fy hun, a chawson ni ddim ein siomi! Fel mae’r rhai ohonoch welodd y sioe yn gwybod, mae Y Siop Fach Frawychus yn cylchdroi o gwmpas dau gymeriad, sef yr hyfryd Audrey a’r Seymour esgeulus, sydd yn gweithio mewn siop flodau ddiddim yn Skid Row. Mae’r siop ar fin cau pan mae Seymour yn prynu planhigyn gwahanol sydd yn tyfu a thyfu, ac yn byw ar waed a chig ffres. Llwydda i ddenu cwsmeriaid newydd gan achub y siop. Roedd portread Dafydd Hughes ac Alaw Jones o Seymour ac Audrey yn wych, gyda diwedd trist wrth i’r ddau gael eu bwyta gan Audrey 2 - y planhigyn, oedd yn cael ei leisio gan Cai Edwards yn hynod effeithiol, a dychrynllyd! Cael eu bwyta gan Audrey 2 oedd tynged y deintydd a chariad Audrey, Orin Scrivello (Flynn Gannon) a Mrs Mushnik, perchennog y siop flodau (Shauna McKeown). Roedd portread Flynn Gannon o’r deintydd yn ddoniol dros ben, a’r olygfa wrth i Seymour ei ladd am iddo niweidio Audrey yn un o uchafbwyntiau’r sioe! Roedd perfformiad y corws yn dda iawn gyda gwahanol ddisgyblion yn chwarae rhannau pwysig yn y sioe. Mae’n rhaid dweud fy mod wedi hoffi perfformiad Ronnette, Chifon a Crystal (Aaliyah, Eva ac Angharad - B8) a oedd fel adroddwyr yn symud y sioe yn ei blaen ac yn cyflwyno golygfeydd a digwyddiadau. Llifodd y stori o olygfa i olygfa drwy eu perfformiadau dawnus. Roedd set y sioe yn edrych yn broffesiynol gyda’r gwaith celf wedi ei wneud gan Mrs Marini a disgyblion yr ysgol, ac roedd gwaith pwysig hefyd yn cael ei wneud gefn llwyfan gan y disgyblion yma a’r athrawon er mwyn sicrhau bod y golygfeydd yn llifo. Mae’n siŵr ei bod yn dipyn o waith symud Audrey 2, a rheoli’r planhigyn enfawr erbyn diwedd y sioe. Roedd y gerddoriaeth hefyd yn wych, gyda cherddorion proffesiynol, athrawon a Dalton Foster o B9 yn aelodau o’r band. Diolch yn fawr i Mrs Coles-Williams a Mr Einion Dafydd am eu holl waith yn paratoi a llwyfannu’r sioe hon, a llongyfarchiadau i’r cast a’r criw am berfformiad gwych eto eleni. Elin Haf Jones


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

(07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Chwefror 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ionawr 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Margaret Roberts Cefndir: Gweithio fel Swyddog Gweinyddol yn Ysgol Eifionydd a chyn hynny yn y Llys Sirol. Gwaith: Wedi ymddeol Man geni: Llundain Sut ydych chi’n cadw’n iach? Garddio a cherdded i fyny’r rhiwiau i Landecwyn. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cylchgronau garddio ar hyn o bryd ond rwy’n hoff iawn o lyfrau Harri Parri a William Owen, Borth-y-gest am eu hiwmor. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rhaglenni garddio, crwydro a natur ac ambell i opera sebon. Ydych chi’n bwyta’n dda? Trïo fy ngorau a pheidio bwyta gormod o siocled. Hoff fwyd?

Cig oen a mint sos, moron Ty’r Acrau a llysiau ffres. Hoff ddiod? Gwin Rosé a diod ysgawen. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu, Alan Titchmarsh ac Anwen Barcdy a ffrindiau i gael digon o hwyl a chwerthin iach. Lle sydd orau gennych? Fy milltir sgwâr. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Rwsia a chael gweld palasau ac adeiladau anhygoel. Beth sy’n eich gwylltio? Pont Briwet yn dal ar gau a dim sôn am ei hagor a chyflwr presennol y Gwasanaeth Iechyd sydd yn achosi pryder i lawer. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Y gallu i gadw cyfrinach. Pwy yw eich arwr? Mr Kinahan, yr arbenigwr llygaid, a’i gwnaeth yn bosib i mi weld heb sbectol, rwy’n diolch iddo bob dydd. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y rhai sydd yn gweithio’n wirfoddol er lles eraill. Beth yw eich bai mwyaf? Poeni am bob dim. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Rhai sydd yn diystyru teimladau eraill.

Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Diwrnod yn yr ardd pan mae’r haul yn tywynnu. Byddaf wrth fy modd yn eistedd yn heddwch Ynys Gifftan neu ’Chollwyn yn mwynhau hefo’r plant – ble well? Eich hoff liw? Glas a lliwiau golau i godi’r galon. Eich hoff flodyn? Sawl un yn dibynnu ar y tymor, ond mi fyddai’n hapus iawn o weld yr eirlysiau a’r cennin Pedr yn ymddangos ar ôl noethni’r gaeaf. Eich hoff fardd? Eifion Wyn am symlrwydd ei farddoniaeth. Eich hoff gerddor? Mendelssohn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Cyfaddasiad roc o ‘Teilwng yw’r Oen’ o’r Meseia ac mi rydw i’n hoff iawn o ganu cerdd dant a bandiau pres. Pa dalent hoffech chi ei chael? Llais i ganu a’r gallu i baentio llun. Eich hoff ddywediad? Deuparth gwaith yw ei ddechrau. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddigon prysur er fy mod wedi ymddeol, ond yn eithaf bodlon fy myd.

YN YR ARDD Colofn fisol newydd - Mis Ionawr Os yw’r ddaear wedi rhewi, cuddiwch eich rhosynnau neu goed ffrwythau sydd heb eu plannu â gwrtaith a’u gosod mewn potyn mewn lle cysgodol neu sied hyd nes y bydd y tywydd yn gwella. Byddai’r hen bobl yn dweud ei fod yn syniad da i roi cinio ar ddiwrnod Nadolig i’r rhosod hefyd. Os na wnaethoch chi hynny ychydig yn ôl, wel dyma’ch cyfle i’w bwydo nhw rŵan. Cliriwch hen ddeilach a glaswellt a spigwch y lawnt yn ddwfn hefo fforch. Mae hwn yn waith caled ond mae’n talu ar ei ganfed am fod yr aer yn ysgafnhau’r pridd ac yn rhwystro mwsog yn nes ymlaen. Planhigyn y mis – Hamamelis mollis (Collen ystwyth/Wych hazel) Daeth y goeden hon o Tsieina yn 1879. Mae’n goeden boblogaidd gan fod y brigau sy’n dal clystyrau o flodau melyn peraroglus yn dod â lliw ar ganol gaeaf. Yn nes ymlaen, bathwyd yr enw collen ystwyth gan ymsefydlwyr Prydeinig i Ogledd America oedd yn gweld tebygrwydd i’r gollen oedd yn gyfarwydd iddynt o’u mamwlad. Daw’r gair ‘wych’ o’r hen air Saesneg am frigau hyblyg; dyna pam y defnyddir brigyn o’r gollen hon fel gwialen i chwilio am ddŵr – ‘dowsing rod’.


Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Ar noson stormus ym mis Rhagfyr teithiodd deuddeg ohonom i Fro Ddyfi. Roeddem wedi derbyn gwahoddiad i ymuno ag aelodau Pennal. Fe’n croesawyd yno gan y Llywydd, Ann Jones. Y wraig wadd oedd Elliw Williams o Lanfihangely-pennant. Teitl ei sgwrs oedd ‘i mewn trwy un drws ag allan trwy’r llall’. Aeth â ni o fferm Tynybryn i Gaerberllan, wedyn Llanllwyda ag erbyn hyn mae’n byw yn Ty-Ffwrn. Cawsom noson hamddenol, agos-atoch gyda pherlau o storïau yn ei chwmni. I ddilyn cawsom wledd arall wrth y byrddau. Diolchodd Llewela am y gwahoddiad, y croeso a’r bwyd blasus, heb anghofio’r storïau difyr. Edrychwn ymlaen at gwmni Merfyn Tomos, Archifydd Meirionnydd, ar 20 Ionawr. Dymunwn Flwyddyn Newydd Dda i bawb.

Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 3ydd o Ragfyr Alma a Rhian oedd yn gyfrifol am drefnu’r noson. Ni wyddai neb beth i’w ddisgwyl ac roedd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar. Wel, roedd yn werth aros, a chawsom ein llwyr ddiddanu gan Ann a Treflyn Jones; Treflyn yn gyn-aelod o Gôr Meibion Ardudwy ac Ann yn Brifathrawes Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy. Braf iawn oedd cael eistedd yn ôl a gwrando ar lais bariton cyfoethog Treflyn a chyfeilio medrus iawn Ann. Dymunwn Flwyddyn Newydd dda i bawb ac edrychwn ymlaen at eich cwmni ar y 7fed o Ionawr.

Pen-blwydd nodedig Llongyfarchiadau i Mrs Jennie Jeffs, Arianfryn oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ar Ragfyr 8. Deallwn fod y tŷ yn llawn blodau! Dramâu Ar 11 Chwefror am 7.30yh perfformir dwy ddrama fer yn Ystafell y Celfyddydau, Theatr y Ddraig gan gwmni Dinas Mawddwy. Trefnir y noson hon gan aelodau’r Gymdeithas Gymraeg a Merched y Wawr. Edrychwn ymlaen at eich gweld, mae’n noson hwyliog. Rhodd Diolch am y rhodd o £11.50 i’r Llais gan Dr Iwan Bryn Williams, Y Bala.

Siarc Dydd Gwener, 4ydd o Ragfyr fe olchwyd siarc i’r lan ger Ynys y Brawd, Y Bermo. Mako siarc ydoedd tua 9 troedfedd o hyd, a’r enw arall arno yw siarc mecryll. Euthum lawr i’r traeth (am dro efo Nel, yr ast) ar y dydd Sadwrn ac roedd dau aelod o’r Warchodfa Forwrol wrthi yn ei ddadrannu. Byddai’r darnau yn cael eu danfon i wahanol brifysgolion i’w dadansoddi. Roedd dau hen glwyf ar ei ochr a thybiant mai hyn oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth. Fel mae ei enw yn awgrymu, mecryll yw hoff fwyd y Mako siarc ond yn stumog hwn roedd llamhidydd dwy droedfedd o hyd. John, Trem Enlli

HIWMOR POBOL CAPEL Pwy oedd Bull McCabe? Beth oedd natur y berthynas rhwng yr hen Frenhines Fictoria a’i ‘chariadlanc’ o India? Pa gysylltiad sydd rhwng T H Parry Williams a Mistar Chips? Sut tybed y daeth un o ddramâu coll Cynan i’r fei? Pam defnyddio’r ymadrodd ‘Ych a fi’ mewn cyswllt â Syr Thomas Parry o bawb? Sut fath o hiwmor yw hiwmor pobol capel? Ceir atebion i’r cwestiynau hyn a llawer mwy yn y gyfrol ddifyr hon sy’n gymysgedd o’r dwys a’r gwamal, y difri a’r digri. Caiff y darllenydd ei ddal yn chwerthin yn uchel un munud ond ei orfodi i oedi’n ystyriol yn y nesa’. Daw’r cyfan unwaith eto o law’r awdur toreithiog o Forth-y-gest - y Monwysyn alltud brwd - y dywedwyd amdano gan Derec Llwyd Morgan ei fod yn ‘un o Gymreigwyr idiomatig gorau ei genhedlaeth’. Mae llyfr y Pregethwr yn cyhoeddi bod amser i wylo ac amser i chwerthin. Yn y llyfr hwn, sonia William Owen am oedfa yn Ebeneser, Borth-y-gest pan ‘ruthrodd homar o gi Dalmatian drwy’r drws agored.’ Roedd y Parch Harri Parri, y gweinidog ar y pryd, ar fin ledio’r emyn: Pam y caiff bwystfilod rheibus Dorri’r egin mân i lawr ... Cwestiwn yn Ysgol Sul Llanfairpwll. ‘Beth oedd Ioan Fedyddiwr yn ei wneud â’r locustiaid gynta?’ ‘Wel eu dal nhw siŵr iawn!’ Athro yn holi, ‘Ydach chi’n tybio bod yr hen ddiafol ‘na’n berson o ryw fath?’ ‘Nac ydw myn pibwst i, mi fasa’n dda i’r llymbar hwnnw gael bod yn giwrat i ddechra’!’ Hoffais hefyd y beddargraff hwn i Mari o Lanwrtyd oedd yn sgit am ei gwely, wastad yn cysgu’n hwyr: Yma y gorwedd Mari salw Dan y garreg hon yn farw Os carodd hi’r bedd fel y carodd hi’r gwely, Hi fydd y ddwytha i atgyfodi. Mae cyfeiriad hefyd at gynnwys colofn Dewi Jones yn Yr Arwydd, papur bro ardal Benllech ym Môn: Peidiwch â gadael i boen meddwl eich lladd. Gadewch i’r eglwys eich helpu. Canodd Miss May Morris ‘Ni chaf ddod y ffordd hon eto’ ... er dirfawr bleser i bawb. Bydd y Weight Watchers yn cyfarfod nos Iau. Defnyddiwch y drws dwbl yn nhalcen y capel. Priodwyd Huw a Megan Thomas yn yr eglwys ac felly daeth i ben y cyfeillgarwch a ddechreuodd ers dyddiau’r ddau yn yr ysgol. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys stori Robin Williams am y Dr Lewis Jones, Cricieth. Roedd wedi ei alw at glaf cyn y gwasanaeth ac yna brysiodd yn ffrwcslyd i’r sêt fawr gan agor y llyfr emynau i ledio’r emyn cyntaf a chan ddweud megis ar un gwynt wrth y gynulleidfa: ‘Cewch chi ganu hon ar eich tina!’ Llyfr difyr a diddorol. Os cawsoch docyn llyfr yn anrheg Nadolig, wel gwych iawn - chwiliwch am y llyfr a mwynhewch!

3


LLANFAIR A LLANDANWG Tanwg Thomas Roedd Tanwg yn gymeriad hoffus a charedig iawn. Cawsom lawer iawn o hwyl yn ei gwmni dros y blynyddoedd. Byddai llawer ohonom yn cyd-deithio gydag o yn y fan Commer bryd hynny doedd dim iddo gario rhyw chwech neu saith ohonom o le i le. Bu untro yn ceisio rhoi ras adref i Gerallt a hwnnw yn gyrru Lotus Cortina! Yn ddiweddarach, byddai’n cario pobl i gemau chwist a bingo ac yn teithio cryn bellter. Mae gan lawer o bobl le i ddiolch iddo. Cafodd ei stopio gan blismon ar un o’r teithiau a gofynnwyd iddo i chwythu i’r bag [yr anadlennydd]. Ymateb Tans i’r plismon oedd. ‘Fydda i ddim yn blydi cyffwrdd yn rheina.’ A doedd o byth yn yfed tropyn. Roedd ganddo wên fawr ar ei wyneb bob amser. Roedd y wên yn amlwg iawn pan oedd ganddo law dda mewn gêm chwist. Byddai’n taro ei gardiau ar y bwrdd yn o galed bryd hynny. Roedd o’n chwaraewr da ac yn aml ymhlith y gwobrau. Ac os na chai wobr am chwarae, byddai’n ennill y raffl yn eithaf rheolaidd. Roedd wrth ei fodd yn chwarae snwcer a phan na fyddai’r shot yn ei blesio, byddai’n taro’r bwrdd hwnnw yn o galed hefyd. Byddai sigâr yn ei geg yn aml, hyd yn oed pan fyddai yn chwarae snwcer yn yr Institiwt! Bu un neu ddau yn dweud y drefn am hynny ond ni chymrai Tans unrhyw sylw. Yr un modd pan gawsai gerydd gan reffari o safon Colin Rayner, ei ateb parod fyddai ‘Dwi wedi hitio’r shot rŵan, mae’n rhy hwyr!’ Roedd hwyl i’w gael ar y cae pêl-droed hefo fo hefyd. Yr arbediad orau wnaeth Chris Parry yn gôl Harlech yn erbyn Caernarfon Reserves oedd pan ddaru Tans benio’r bêl yn ôl i gyfeiriad gôl Harlech. Rhyw atgofion fel yna sydd gennym am y cymeriad hoffus hwn. Un na wnaeth unrhyw ddrwg i neb erioed. Bydd hi’n chwith hebddo yn yr ardal hon. Cydymdeimlwn ag Edward a Mair, a Gwyneth a Wyn a’r teulu oll. Gerallt ac Edwin

4

CYNGOR CYMUNED

Cydymdeimlwyd â Mair Thomas a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei brawd yng nghyfraith Mr Tanwg Thomas, Ceg y Bar, Llandanwg. Yr Elor Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y cytundeb at Gyfeillion Ellis Wynne yn gofyn iddynt ei arwyddo a’i ddychwelyd i’r Cyngor. Pwyllgor Neuadd Adroddodd Robert G Owen fod aelodau’r pwyllgor yn pryderu bod rhai wedi dod â chŵn i’r cae chwarae y tu cefn i’r neuadd a bod baw cŵn ar y gwellt. Mae’r pwyllgor yn ystyried archebu dwy sêt newydd i’r siglenni yn y dyfodol. Ceisiadau cynllunio â phenderfyniad arnynt Cais Adran 73 i ddiddymu Amodau 9, 10 a 11 o ganiatâd cynllunio mewn perthynas â gofynion ‘Côd Cartrefi Cynaliadwy’ - Hafan a Mordan, Llandanwg - caniatáu Adran Forwrol Datganwyd siom nad yw’r cyhoedd yn dilyn cyfarwyddiadau’r arwyddion cŵn ar draeth Llandanwg. Bydd eu swyddogion morwrol yn ymweld â’r traeth yn amlach yn 2015. Ymddiriedolaeth Genedlaethol Mae’r gwaith o drwsio’r bont fach ger Eglwys Llandanwg wedi’i gwblhau. Maent yn ystyried ailffensio ochr ddeheuol yr Eglwys yn ystod y misoedd nesaf gan ei fod mewn cyflwr sâl. Adran Rheolaeth Adeiladu Derbyniwyd hysbysiad o fwriad i ddymchwel Sŵn y Môr, Llanfair. Hamdden Harlech ac Ardudwy Cynhelir cyfarfod ym mhwll nofio Harlech ar Ionawr 29 am 7.00 o’r gloch gyda chynghorau eraill yr ardal. Mae’r Cyngor wedi addo £500 iddynt. Llythyr Dim ond un gweithiwr oedd ar y lori ludw yn y pentref yn ddiweddar. Anfonwyd yr wybodaeth at Gyngor Gwynedd. Unrhyw Fater Arall Mae angen sylw ar Lwybr yr Arfordir ar dro Frondeg. Mae angen casglu’r arwyddion rhybudd a osodwyd ar ochr y ffordd o gwmpas yr ardal ers rhai misoedd. Mae Robert G Owen wedi clirio’r goeden oedd wedi cwympo ar draws y llwybr o Dy’n Llan i Uwchglan. Mae Dylan Hughes wedi dechrau archwilio’r llwybrau cyhoeddus a’u categoreiddio.

Triniaeth Bu Mrs Gwyneth Roberts, Uwchglan yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Deallwn ei bod yn gwella wedi’r driniaeth. Anfonwn ein cofion ati. Gwellhad buan Dymuniadau gorau am wellhad buan i Mrs Mair M Williams sydd wedi dod i Ysbyty Alltwen ar ôl bod yn glaf yn Ysbyty Gwynedd. Rydym i gyd yn meddwl amdani ac yn anfon ein cofion ati. Diolch Dymuna Gwyneth, Edward a’r teulu ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoff. Diolch hefyd am y swm anrhydeddus gyfrannwyd at yr Ambiwlans Awyr er cof am Tanwg. Rhodd a diolch: £20

CYFEILLION Y PWLL NOFIO Ionawr 31: Alastair Scott o’r BBC, yn trafod ‘A lifetime of Sport’, yng nghaffi’r pwll nofio. Os hoffech helpu i godi arian, rhowch ganiad ar 01766 780576 neu 780952.

Cyhoeddiadau Caersalem

Am 2.15 oni nodir yn wahanol. IONAWR 11 Parchg Dewi Tudur Lewis CHWEFROR 15 Parchg Edmwnd Owen

Eglwys y Santes Fair, Llanfair

GWASANAETH PLYGAIN Nos Fercher, Ionawr 14 am 7.00 o’r gloch Trefnir gan Gyfeillion Ellis Wynne

CÔR BRO MEIRION Daw amryw o aelodau Côr Bro Meirion o ardal Ardudwy, ac yn ystod mis Hydref a Thachwedd 2014 bu criw ffilmio Cefn Gwlad yn brysur yn cofnodi rhai o ymarferion y Côr yn Nolgellau a chyngerdd yn Rhydymain ar gyfer y rhaglen. Dangoswyd y rhaglen hon dros ŵyl y Nadolig. Roedd y gwaith camera yn wych a phleser oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd ar y sgrîn. Bydd y Côr yn ymddangos hefyd ar y rhaglen Noson Lawen ar y 10fed o Ionawr 2015. Pob lwc i’r Côr gweithgar hwn yn ystod 2015.

CYNGERDD CATRIN FINCH YN LLANDANWG

Yn ystod mis Rhagfyr, cafwyd cyflwyniad hyfryd ac amrywiol ar y delyn gan y delynores fydenwog, Catrin Finch. Roedd hi, ynghyd â’i gŵr Hywel, wedi teithio o Gaerdydd i Eglwys Llandanwg, a daeth Elinor Wigley (mam yng nghyfraith Catrin) i lawr o gyffiniau Caernarfon i’w cyfarfod yno ar y noson. Braf oedd gweld yr hen eglwys hynafol yn orlawn, a bod rhywfaint o bobl gynhenid Ardudwy yn y gynulleidfa. Rydym yma yn yr ardal hon yn ffodus iawn o gysylltiad Catrin a Hywel â’r eglwys hon. Yma bu i’r ddau gyfarfod, ac yma priododd y ddau. Mae Catrin felly’n fodlon iawn rhoi ei chefnogaeth, a braint oedd cael clywed ei datganiad yng ngolau llusernau ac yn awyrgylch hyfryd yr hen eglwys.


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Mwynhawyd cinio Nadolig blasus yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech ddechrau Rhagfyr. Ein diddanwyr oedd Geraint a Nerys Roberts o Fronaber, gydag Alwena Morgan yn cyfeilio. Cawsom ein diddori gan raglen o ganu ac adroddiadau addas i’r Nadolig – yn wir cawsom hefyd ein hanesmwytho wrth i ni feddwl am rai anffodus dros yr ŵyl. Diolchwyd yn gynnes gan Phil am noson wirioneddol dda ac am waith graenus y tri gwestai. Bydd Ioan Gruffydd, ŵyr y Gŵr o Baradwys, yn cyflwyno hanes ei daid, Ifan Gruffydd, ar Ionawr 12. Croeso mawr i aelodau newydd. Marwolaeth Yn gynnar fore Mawrth, 25 Tachwedd, bu farw Mrs Eileen Charlton, ‘Camellias’. Cafodd gystudd hir a blin, a gofalwyd amdani yn dyner iawn gan ei merch Sheila, gyda thîm o ofalwyr ardderchog. Fe’i ganed yn Northampton yn 1920, ac wedi priodi symud i ymyl Caerlŷr, ac yna i Sir Amwythig. Yn y flwyddyn 1991 penderfynwyd dod i Lanbedr, oherwydd roedd John y mab a’r teulu wedi cartrefu yn y Bermo. Yn ystod y Pasg, gwireddwyd eu breuddwyd o symud i Bron Meini. Wedi marwolaeth ei phriod, daeth Eileen a Sheila i Camellias yn Hydref 2001. Bu’n weithgar iawn yn ystod y rhyfel gyda’r WRVS, ac Ambiwlans Sant Ioan. Roedd ganddi amryw o ddiddordebau, gyda gwaith llaw’r prif un, a byddai wrth ei bodd yn mynychu’r grŵp crefft ar nos Lun. Bu’n aelod selog o Sefydliad y Mercher, ac roedd hefyd yn hoffi garddio a theithio. Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Christ Church y Bermo ar 4 Rhagfyr, o dan ofal y Parch R W Jones BA, ei chyn weinidog, a rhoddodd deyrnged deilwng iawn iddi. Rhoddwyd i orffwys ym mynwent Eglwys Sant Pedr. Cydymdeimlwn â Sheila, John a June, a’r teulu oll.

Diolch Dymuna Ann a Wenna a’u teuluoedd ddiolch am bob neges o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli Mam, Nain a Hen-nain annwyl iawn, sef Margaret Morgan, Bodafon, Llanbedr. Diolch yn fawr i aelodau’r teulu, y cymdogion a’r ffrindiau lu am eu haelioni a’u caredigrwydd tuag at ein Mam dros y blynyddoedd. Diolch hefyd am y cyfraniadau ariannol tuag at Parkinsons UK; derbyniwyd cyfanswm parchus iawn tuag at yr elusen. Diolch £10 Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mari Wyn, Tyddyn Hendre, ar ennill mewn cystadleuaeth gelf yn y Sioe Aeaf gyda’r Ffermwyr Ifanc. Geni Daeth dwy eneth fach newydd i’r Cwm yn ddiweddar. Ganwyd Elena Grug ar 27 Tachwedd, merch fach i Eleri a Gwyndaf, Maesgarnedd, a chwaer fach i Cari ac Erin, a ganwyd Nansi Angharad ar 9 Rhagfyr, merch fach i Rwth a Trystan, Graig isa. Mae’r Cwm yn prysur lenwi â phlant unwaith eto. Dymuniadau gorau i’r ddau deulu. Llongyfarchiadau i Carys a Richard, Bryndeiliog, ar enedigaeth merch fach. Cyfarfod Nadoligaidd Prynhawn Sul, 7 Rhagfyr, cafwyd cyfarfod gyda naws Nadoligaidd iddo yn Nantcol wedi ei drefnu gan Morfudd ac Eleri. Cymerwyd rhan hefyd gan Cara, Cai, Mari Wyn ac Iona. Yna cawsom baned, mins pei a bara brith. Diolch yn fawr iddynt. Rhoddion Diolch am y rhodd o £1.50 gan Mrs Edith Owen a £1.50 gan y Parch Paul Jones. Geni Llongyfarchiadau i Ffestyn a Clare Williams, Caer ar enedigaeth Elsie Anna yn ddiweddar. Wyres i Ann a Mwff Williams, Llanbedr.

ROBERT JOHN JONES

Adwaenwn Robert John Jones ers pan oeddwn yn blentyn yn mynychu Ysgol Sul y Gwynfryn. Fe’i hadwaenid gan ei gyfoedion fel Robin Ffatri, gan i Dŷ Isa ar un adeg fod yn ffatri wlân yn y gorffennol pell. Bu’n gwasanaethu fel garddwr yng Ngwesty’r Victoria hyd ei ymddeoliad. Roedd yn arddwr o’r radd flaenaf a bu’n llwyddiannus mewn sioeau fel cystadleuydd a beirniad. Ni all unrhyw un anghofio cynnyrch ei ardd yn Nhŷ Isaf, yn flodau, llysiau a ffrwythau. Byddai’n mwynhau cynghori unrhyw unigolyn ynglŷn â’r grefft o arddio a sawl tro bu’n rhannu ei brofiad a’i wybodaeth mewn gwahanol gymdeithasau’r fro. Bu’n gwasanaethu yn yr ail Ryfel Byd a’r cof cyntaf sydd gennyf ohonof yw iddo fynychu’r Ysgol Sul yn lifrau’r llu awyr. Bu ei fam, Mrs Ruth Jones yn ofalwraig Capel y Gwynfryn hyd i afiechyd ei rhwystro ac yna fe’i dilynwyd gan Robert John. Ef oedd o leiaf y drydedd genhedlaeth yn ddilynol i wneud y gwaith. Gwnaeth y swydd mewn ffordd arbennig, yn gofalu am bob peth yn cynnwys trwsio manion bethau fel bo angen. Ef hefyd a oedd yn gofalu am y fynwent, ac wynebu sawl anhawster dros y blynyddoedd. Wedi iddo fethu parhau oherwydd dirywiad yn ei iechyd y sylweddolwyd cymaint o gyfrifoldeb a dderbyniodd dros y blynyddoedd. Bu’n flaenor effeithiol ers 1987. Cafodd ei ddewis yn llywydd y Cyfarfod Misol rai blynyddoedd yn ôl ac roedd hynny wedi ei blesio tu hwnt i bob amgyffred. Hen lanc twt a thaclus oedd ac er nad oedd unrhyw gyfleusterau hwylus a modern yn y cartref, byddai bob amser yn lân a thrwsiadus, ei grys gwyn yn ‘Persil White’. Cofiaf fel y byddai’n cerdded i’r capel yn ei siwt nefi blw a’i esgidiau duon bob amser yn sgleinio. Pan oedd Ysgol Sul yn y Gwynfryn a’r plant yn cynnal gwasanaeth Nadolig byddai yn

ei garedigrwydd wedi prynu anrheg fach iddynt. Mewn gwasanaeth Diolchgarwch byddai wedi addurno’r Capel â ffrwythau, llysiau a blodau o gynnyrch ei ardd a’i dŷ gwydr. Ar derfyn y gwasanaeth dywedai wrth y criw bach fyddai’n bresennol, ‘Helpwch eich hunain i’r ffrwythau a’r llysiau’ a byddai wedi trefnu i ddod a bagiau yn bwrpasol. Roedd yn bleser ganddo eu rhannu. Roedd yn hollol unigryw ond nid bob amser gyda’r tact gorau. Sawl tro y cafwyd ateb brathog ganddo. Cofiaf yn y Capel rhyw dro un o’r aelodau yn cynnal gwasanaeth. Cyflwynodd yr aelod y gwasanaeth gyda graen mewn cwta hanner awr. Robert John yn codi ac yn lle diolch i’r aelod am y gwasanaeth dywedodd, ‘’Tawn i’n gwybod fod y gwasanaeth mor fyr mi faswn i wedi paratoi rhywbeth fy hun beth bynnag i’. Dim ond Robert John fyddai’n dweud peth fel yna. Byddai’n aml yn diweddu ei frawddeg gyda’r geiriau ‘beth bynnag i’! Meddai ar lais tenor mwyn a bu’n aelod o sawl côr. Roedd ymhlith y rhai gychwynnodd Gôr Meibion Ardudwy yn 1953 a bu’n aelod ffyddlon am gyfnod maith. Pan gyhoeddid detholiad y Gymanfa, byddai wrth ei fodd yn trafod ei gynnwys ac wedi dewis ei ffefryn dôn, a mynnai yn flynyddol i organydd y Sul ei chwarae wedi terfyn y gwasanaeth. Dymuna’r teulu i mi, ar eu rhan, ddiolch i un yn arbennig sef Mrs Beti Taylor am ei charedigrwydd diflino tuag at Robert John a thuag at ei fam Mrs Ruth Jones cyn hynny. Y maent yn gwerthfawrogi’r cymorth a’r caredigrwydd yn fawr iawn. EMJ

Cyhoeddiadau’r Sul

Capel y Ddôl, i gyd am 2.00 o’r gloch IONAWR 11 Mrs Glenys Jones 18 Parch Patrick Slattery CHWEFROR 1 Parch Dewi Tudur Lewis

Colli Geraint Bu farw Geraint Morris Jones, Bryn Deiliog yn frawychus o sydyn. Roedd yn ŵr galluog a hoffus ac yn wybodus iawn am hanes yr ardal hon. Bu’n dioddef salwch ers peth amser. Cydymdeimlwn â’i deulu i gyd yn eu profedigaeth lem.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Bethan Griffiths, Talybont, Bangor (Bronywerydd gynt), oedd yn dathlu penblwydd arbennig ar 18 Rhagfyr. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mr a Mrs Carey Cartwright, Tom a Lisa, Parc Uchaf, yn eu profedigaeth o golli tad Angelika a hynny ychydig o fisoedd yn unig ar ôl iddi golli ei mam. Cydymdeimlwn hefyd â David a Valmai Owen yn eu profedigaeth o golli ewythr Valmai, sef Mr Arwel Jones, Blaenau Ffestiniog. Profedigaeth Ar Ragfyr 12 yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog, yn 92 mlwydd oed, bu farw Mr Jimmy Moore, 23 Pentre Uchaf, Dyffryn, gŵr y ddiweddar Nansi (Morris). Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth. Festri Lawen, Horeb Nos Iau, Rhagfyr 11 aeth nifer dda ohonom i Fwyty’r Llong yn Nhalsarnau i fwynhau cinio Nadolig ardderchog. Croesawyd pawb gan Gwennie a diolchodd i Enid am wneud y trefniadau ar ein cyfer. Bydd y cyfarfod nesaf nos Iau, 8 Ionawr pan fyddwn yn cael cwmni Tecwyn Ifan. Teulu Ardudwy Bnawn Mercher, 17 Rhagfyr aethom i Dŷ Mawr, Llanbedr am ein cinio Nadolig. Cawsom groeso cynnes a gwledd eto eleni a phawb wedi mwynhau. Braf oedd cael croesawu Mrs Gretta Cartwright yn ôl i’n plith unwaith eto. Diolch i Fox’s a London House a Margaret Pauline (Tywyn) am wobrau at y raffl. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 21 Ionawr yng nghwmni Gwen Pettifor, Llanfair.

Festri Horeb, Dyffryn Ardudwy

HEN LUN O FAND DYFFRYN

Noson Sosej a Mash

Nos Sadwrn 31 Ionawr am 7.00 o’r gloch

Mynediad drwy docyn yn unig.

Pris £10

(er budd yr elusen Sands)

Tocynnau gan Alma 01341 247975 ac ym Modurdy’r Efail Clwb Cinio Bydd ein cyfarfod nesaf ar 20 Ionawr – coffi yn Davy Jones’ Locker am 10.30 y bore a chinio yn y Last Inn. Cerdd dant Galwad ar gyn aelodau Parti Cerdd Dant O T Morris os ydych yn dal i gofio’r geiriau “Ychydig gwpaneidiau, O gudd ffynhonnau’r cwm”, “O Feirionnydd sir y siroedd” “I’m mwyn hendud, Ardudwy, Wynnaf man y canaf mwy” a “Naddu, caboli, carreg, a’i hanwylo”- ond mwy na hynny wrth eu darllen rŵan yn eu canu! - yna cysylltwch ag Alma ar 01341 247975 neu Rhian ar 01341 247381. Mae’n fwriad gennym gyfarfod yn ystod mis Ionawr i fynd dros yr hen ffefrynnau uchod ac yna eu canu (heb feirniad yn agos!) ar Ionawr 31 yn Festri Horeb. Dewch i fwynhau a hel atgofion - mi synnwch pa mor rhwydd yw eu cofio pan glywch yr alawon.

Cyhoeddiadau’r Sul Horeb

IONAWR 11 Edward ac Enid Owen 18 Parch Gareth Rowlands 25 Hilda Harris CHWEFROR 1 Parch Dewi Morris 5.30

Credir mai yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf y tynnwyd y llun. Rhes gefn: Dic Jones, Dafydd Hughes, Jim Griffith, Gwilym Griffith, Dafydd Edwards, William Roberts. Rhes flaen: Ernest Parry, Ellis Edwards, Griff Jones, Evan Pugh, Evan Jones.

BAND DYFFRYN Wedi adeiladu’r Ysgol Elfennol newydd tua 1924, prynodd y Cyngor Plwyf yr hen ysgol i’w haddasu a’i defnyddio fel Neuadd y Pentref. Yng nghofnodion Sefydliad y Merched sylwais iddynt hwy gael eu parti Nadolig cyntaf yna ym 1930, felly yr oedd cegin ar gael a’r neuadd yn cael ei llogi i’r gwahanol gymdeithasau ac achlysuron, ac roedd y Seindorf Arian yn un ohonynt. Roeddynt yn cyfarfod i ymarfer unwaith yr wythnos. Rhoddodd Cyrnol Carson, Hengwm, gwpwrdd mawr o’r stabl i gadw’r offerynnau, cofnodion, stands a chopïau dan glo. Bu fy nhad, Dafydd Edwards, Môr Wylfa, yn arwain y band am dipyn o flynyddoedd. Yr oedd angen trwsio’r offerynnau a threfnais noson goffi a byrddau gwerthu yn y neuadd i godi arian i wneud hyn a phrynu ambell offeryn ail law hefyd. Gyda dyfodiad Mr Wilson yr orsaf feistr dyma gyfnod cychwyn Carnifal blynyddol ym

Colli cymeriad Cafwyd newyddion trist dros ben ar ddechrau blwyddyn newydd. Trawyd Elwen Pryce Evans yn sâl ar 1 Ionawr ac fe’i cludwyd i’r ysbyty mewn hofrennydd, lle bu farw’r diwrnod canlynol. Roedd hi wedi bod yng nghwmni Enid a Nedw dydd Nadolig ac yn ei hwyliau da arferol. Meddai Dwyryd, o Gôr Bro Meirion: “Er nad oeddem yn ei gweld mor aml mewn ymarferion yn ddiweddar, fe gofiwn Elwen gyda hoffter arbennig - roedd yn gymeriad hoffus a hwyliog dros ben a doedd neb tebyg iddi am roi rhywun yn ei le gyda’i sylwadau crafog a ffraeth. Cofiwn hefyd ei llais alto grymus - prin fod angen neb arall yn yr adran pan oedd Elwen yn bresennol. Bydd colled fawr ar ei hôl.” Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn â’i brodyr Alun a Robert Elwyn a’i chwiorydd Jean ac Einir a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

6

mis Awst. Cafodd cydweithiwr da iawn yn Robert Edward Griffith, Henborth, a wnaeth orsedd i’r frenhines a’i gosgordd i eistedd yn ddiogel ar y lori, a gwneud tableau hyfryd. Byddai’r Band yn cychwyn eu taith o Fryntirion i Dalybont, ac i gae Pentrecanol i goroni’r frenhines a beirniadu’r cystadlaethau. Byddai dawns yn cael ei chynnal yn y Neuadd Bentref ar y noson honno. Bum yn ysgrifenyddes y Pwyllgor Carnifal am gyfnod. Gorchwyl arall oedd mynd o gwmpas yr ardal rhai nosweithiau cyn y Nadolig i chwarae carolau. Byddent yn mynd i’r Hengwm wrth gwrs. Roedd Capten Penrhyn Jones, Parc Uchaf yn gefnogol iawn a byddent yn mynd i Gorsygedol a Pharc Uchaf yr un noson hefyd. Ar fore dydd Nadolig byddent yn chwarae carolau o un pen y pentref i’r llall a chyrraedd Môr Wylfa – 24 ohonynt un tro am goffi a mins pei – bore Nadolig o bob diwrnod! Roedd Mr Palmer Jones, Y Ffridd yn ymweld yn gyson â’r ymarfer, yn enwedig yn yr haf, a byddai’n cael y baton i arwain yn achlysurol. Dyna drem yn ôl i’r bwrlwm yn y fro yn y 40au a’r 50au, amser difyr iawn. Lilian Edwards


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT Ailagor Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Ardudwy Yn ystod y cyfarfod i ailagor Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Ardudwy cafwyd amlinelliad o hanes yr adeilad gan Ray Owen, Clerc ac un o Ymddiriedolwyr Gwaddol Addysgol Ellin Humphrey. Adeiladwyd y neuadd yn 1810 trwy gyfraniadau lleol a pharodrwydd y plwyfolion i roi deunyddiau adeiladu. Yn ystod y bedwaredd ganrif a’r bymtheg, bu’n gartref i ysgol elusennol a sefydlwyd gan Ellin Humphrey. Wedi dyddiau’r ysgol, gosodwyd y stafell yn ogystal â Bryngolau, y tŷ athro ynghlwm. Un o brif denantiaid yr hen ’stafell ysgol neu’r ‘room’ fel y’i gelwid yn lleol, oedd Clwb y Comrades. Roedd cynnal a chadw’r adeilad fodd bynnag, yn straen ar gyllid cyfyngedig yr elusen ac yn dilyn penderfyniad Clwb y Comrades i derfynu ei denantiaeth ac i denant Bryngolau wneud yr un fath, cytunodd ymddiriedolwyr yr elusen addysgol i werthu’r adeilad i gyd ynghyd â’r tir o gylch. Prynwyd yr eiddo gan Gyngor Eglwys Plwy’ Llanenddwyn yn 1972 am £4425. Dyma’r arian sydd heddiw wedi tyfu, wrth gwrs, gan ddod ag enillion blynyddol a rennir ymhlith myfyrwyr Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont sy’n dilyn cwrs prifysgol. Uchafbwynt y noson oedd estyn croeso cynnes i’r Gwir Barchedig Andrew John, Esgob Bangor i ailagor yn swyddogol y neuadd ar ei newydd wedd. I nodi’r achlysur, dadorchuddiodd yr Esgob gwilt clytiau wedi ei greu yn ofalus gan aelodau’r Grŵp Crefftau. Lliwgar yw’r cwilt gyda’r groes yn cael lle amlwg a chanolog ynddo. Caiff ei hongian yn y neuadd fel atgof parhaol o’r ailagoriad. Wedi dadorchuddio’r cwilt, dywedodd Esgob Andy mai braint oedd cael bod yn bresennol ar achlysur mor arbennig. Ychwanegodd fod cael neuadd gyfforddus, gynnes a chroesawgar yn adnodd pwysig iawn i unrhyw Ardal Offeiriadaeth, yn cynnig canolfan ar gyfer hyrwyddo gwaith a chenhadaeth yr offeiriadaeth. Mae’r neuadd ar gael at wasanaeth y gymuned ac yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, bu’n gartref i fwrlwm o weithgareddau. Mae hyn nid yn unig yn ychwanegu at ei gwerth ond hefyd yn ymgorffori’r ysbryd fu’n symbyliad i’w hadeiladu yn y lle cyntaf, tros 200 mlynedd yn ôl.

BWYTA O LAW ALBERT

Diolch i Mr Albert Groom, Derwen, Dyffryn Ardudwy am anfon y llun uchod atom. Fe welwch fod y robin goch yn ddof iawn ac yn bwyta o law Albert. Buasem yn wir ddiolchgar am unrhyw luniau diddorol cyhyd â’u bod yn lluniau clir o safon dda. Cofiwch roi bwyd i’r adar yn ystod misoedd y gaeaf yn arbennig. Dywed yr RSPB y dylid eu bwydo drwy’r flwyddyn. Mae dŵr glân i’w yfed ac ymolchi ynddo yn bwysig iddyn nhw hefyd.

RHAGOR O ENWAU

Y tri yn eistedd yn y blaen o’r chwith i’r dde: Mr Palmer Jones, Y Ffridd; Cyrnol Carson, Hengwm; a Mr Dafydd Edwards, Môr Wylfa. Diolch i Leslie Mitchelmore am yr wybodaeth.

CODI ARIAN MAWR AT YR AMBIWLANS AWYR Arwerthiant Arbennig Ambiwlans Awyr Cymru yn nhafarn yr Ysgethin 11/12/2014

Côr Eglwys San’ Pedr fu’n diddanu gan berfformio fersiwn arbennig o’r garol ‘O little town of Bethlehem’. Roedd y geiriau a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, yn rhoi hanes yr adnewyddiad mewn ffordd ddifyr iawn. Mawr fu’r mwynhad o’u gwrando. Daeth y noson i ben trwy gymdeithasu a mwynhau lluniaeth ysgafn, wedi ei baratoi’n ofalus fel arfer, gan Ellie Wilks a’i staff. Marwolaeth Anfonwn ein cydymdeimlad â Meri Jones (Ritchie gynt, o Dyffryn), Bryn Tirion, Ysbyty Ifan, ar farwolaeth ei gŵr Myrddin (Mil) yn frawychus o sydyn ar 27 Rhagfyr yn 61 oed. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol ar ddydd Sadwrn, 3 Ionawr yn Eglwys Sant Ioan, Ysbyty Ifan, ac yna’n dilyn ym mynwent Capel Seion. Anfonwn ein cydymdeimlad â’r teulu oll.

Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi i chwi ddarllenwyr y Llais fod y noson uchod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mawr yw ein diolch i bawb a gefnogodd mewn unrhyw ffordd: I Iris Pugh am ei rhodd garedig o’r cwilt a wnaed ganddi â llaw, a gododd fil o bunnoedd at gyfanswm y noson. I dafarn yr Ysgethin wedi cyfrannu £6,457 drwy wneud ‘spot the ball’ a chael ymwelwyr i roi rhodd am ddefnyddio’r Wi-fi. I Aled ac aelodau Côr Meibion Ardudwy am fod mor barod i’n cefnogi, a rhoi naws mor gartrefol i’r noson – Aled yn gwisgo dwy het drwy fod yn arwerthwr heb ei ail gan wneud y noson yn hwyliog ond proffesiynol iawn. Yn olaf diolch i’n ffrindiau oll, (gormod i’w henwi!) fu’n coginio cacennau bendigedig a helpu ar y noson drwy glercio ayyb. Rhaid i ni enwi un yn arbennig, sef Alma, sydd wedi rhoi llawer o oriau i helpu i gasglu’r rhoddion gyda ni. Fe godwyd y swm anrhydeddus o £4,387 ar y noson, a gyda chyfraniad yr Ysgethin fe drosglwyddwyd £10,844. Diolch o galon i bawb.

7


HARLECH

Merched y Wawr, Rhagfyr 2014 Croesawodd Hefina bawb. Cydymdeimlwyd â Meinir oedd wedi colli cyfnither yn y de a Mair Thomas wedi colli brawd yng nghyfraith, sef Tanwg. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Cytunodd Bronwen, Eirlys a Janet roi’r Llais ar dâp ym mis Rhagfyr ac Ionawr, a Bronwen yn cytuno i ddarllen stori yn y Cylch Meithrin ym mis Rhagfyr. Cafwyd cerdyn Nadolig gan y Cylch Meithrin yn diolch am ein cefnogaeth ar hyd y flwyddyn. Aethpwyd drwy’r ohebiaeth a ddaeth o’r Ganolfan. Edwina oedd yng ngofal y noson. Dangosodd yn ei ffordd hwyliog sut i wneud trefniant blodau Nadoligaidd. Wedyn aeth yr Llun: Nigel Hughes aelodau ati i wneud un tebyg – a Priodas gydag Edwina yn rhoi cymorth Edwin Jones (Morlais) a Mair pan oedd angen, llwyddodd Eluned Jones (yn wreiddiol bawb i greu trefniant bron cystal o Goedpoeth) ar achlysur eu â’r un wnaeth Edwina. Noson priodas ym Mhlas Brondanw ar gartrefol iawn gyda phawb wedi 5 Rhagfyr. mwynhau’n fawr iawn. Daeth Gofynnwyd am roddion yn Hefina â thaffi a datys siocled i lle anrhegion a chasglwyd helpu pawb i ganolbwyntio. dros £1400 i’w rhannu rhwng Bronwen a Meinir fu’n gyfrifol Ambiwlans Awyr Cymru a’r am y danteithion hyfryd. RSPCA (Bryn y Maen). Mae Hefina roddodd y diolchiadau ar Edwin a Mair yn hynod o ran yr aelodau. ddiolchgar am y dymuniadau gorau a’r cyfraniadau hael gan eu cyfeillion oll.

Gwasanaeth Nadolig Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yn Eglwys Rehoboth ar 21 Rhagfyr. Gwasanaeth o garolau a gafwyd gyda darlleniadau byr. Hyfryd oedd gweld cynulleidfa mor dda a chael cwmni cyfeillion Eglwys Jerusalem. Cymerwyd rhan gan Gwen, Carys, Rhian, Wendy, Angela a Judith gydag Angharad wrth yr organ. Penderfynwyd rhannu’r casgliad rhwng Tŷ Gobaith Cymru (yn ôl ein harfer) ac Ymchwil y Canser, gan fod y salwch creulon hwnnw wedi cymryd un aelod annwyl oddi wrthym yn ddiweddar. Mwynhawyd paned, mins pei a sgwrs yn y festri ar ôl y gwasanaeth. Diolch i bawb a gyfrannodd. Hoffem hefyd ddiolch i Mr Phil Mostert am ei eiriau hyfryd yn ei deyrnged i’n brawd Arwel a’i gefnogaeth i ni fel Eglwys yn ddiweddar.

8

Sefydliad y Merched Harlech Nos Fercher, 10 Rhagfyr, croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod oedd yn cael ei gynnal yng nghaffi’r pwll nofio, Harlech, gan y llywydd Christine Helmsley. Dymunwyd pen-blwydd hapus i rai oedd yn dathlu pen-blwydd ym mis Rhagfyr. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau i’w cofio yn arbennig y dathliadau yn 2015. Ar ôl trafod y busnes i gyd, cafwyd bwffe wedi ei drefnu gan staff y pwll nofio, a da iawn oedd o hefyd ac yn werth eu cefnogi ar bob achlysur. Yna cawsom adloniant gwych gan y ddau frawd John a Roger Kerry. Rhoddwyd anrheg i Edwina, cyn-lywydd y gangen, ac i Jan Spicer oedd y fraint o’i phenodi i fod yn llywydd SyM Llanfair. Roedd Christine wedi darparu’r addurniadau i’r byrddau; fe’u rhoddwyd wedyn fel gwobrau i’r raffl. Cafodd pawb noson hwyliog a hapus. Edrych ymlaen rŵan at y rhaglen wych sydd wedi ei darparu ar gyfer 2015.

Teulu’r Castell Fe aeth 20 o aelodau’r Teulu i gael cinio Nadolig yn y Ship, Talsarnau, ddydd Mercher 3 Seindorf Rhagfyr. Hoffai aelodau a charedigion Croesawyd pawb gan y llywydd Seindorf Arian Harlech ddiolch Edwina Evans a dymunwyd yn o galon i drigolion yr ardal am dda i’r rhai oedd yn methu bod eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn. hefo ni oherwydd salwch. Casglwyd £316 ar fore Nadolig. Cafwyd cinio ardderchog, a Hoffem hefyd ddymuno hogia’r garej yn edrych yn smart Blwyddyn Newydd Dda i bawb iawn ac yn tendio arnom i gyd, o’n cefnogwyr. a phawb yn cael hwyl yn eu cwmni. Diolchwyd i bawb gan Siop Esgidiau Hefin Jones. Mae’r siop yn parhau yn agored Dalier Sylw: Ni fydd cyfarfod ac er gwybodaeth dyma’r ym mis Ionawr; bydd lleoliad patrwm agor cyfredol: a diwrnod y cyfarfod ym mis Dydd Llun - wedi cau Chwefror yn cael eu trefnu erbyn Dydd Mawrth - 11.30 tan 1.00 diwedd y mis hwn. 2.00 tan 4.00 Dydd Mercher - wedi cau Cydymdeimlo Dydd Iau - 11.30 tan 1.00 Cydymdeimlwn gyda Peter a 2.00 tan 4.00 David Rees a’r teulu i gyd ar Dydd Gwener - fel dydd Iau farwolaeth eu mam, Teresa Dydd Sadwrn - fel dydd Iau Alice Rees, ar 19 Rhagfyr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, oedd Rhoddion yn byw yn 61 Cae Gwastad, Capel Rehoboth - £20 Harlech. Roedd Teresa yn wraig Miss Menna Jones - £1.50 annwyl iawn yng ngolwg pawb Mrs Nansi Williams - £6 o’i chyfeillion. Bydd yn chwith Mair ac Edwin Jones - £10 iawn colli ei gwên barod a’i charedigrwydd.

Diolch Hoffai pwyllgor Neuadd Goffa Harlech ddiolch yn fawr i holl drigolion yr ardal o Gilfor i Dalybont a ffrindiau eraill o Sir Fôn a Wrecsam am gasglu’r talebau ‘Wish’ yn y Daily Post i ni. Diolch arbennig i Mr a Mrs E Griffith, Dinbych sydd â chysylltiad ac atgofion lawer o Harlech a’r Neuadd am eu rhodd o £100 i’r Neuadd. Mae’r dyddiad cau yn nesáu felly buasem yn ddiolchgar pe baech yn danfon unrhyw dalebau sydd ganddoch i Linda Soar (ysgrifennydd) neu Hefina Griffith (trysorydd). Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Gwyneth Williams, Amwythig (merch y diweddar Frances a Bob Evans, Gorwel, Harlech) a’r teulu ar farwolaeth ei gŵr Glyn (o Borth- madog yn wreiddiol) ym mis Rhagfyr. Bu farw merch Gwyneth a Glyn flwyddyn yn ôl, ac anfonwn ein cydymdeimlad â hi a Mark, ei mab, yn eu colled fawr. Cystadleuaeth ddringo Llongyfarchiadau i Dîm Dringo Canolfan Hamdden Harlech ac yn enwedig i Santi Sloan-Backs [12 oed] ac Iona Sloan-Lewis [9 oed] am gystadlu yn eu cystadleuaeth gyntaf yng Nghystadleuaeth Ddringo Ieuenctid Beacon ganol mis Rhagfyr. Daeth Iona yn ail a daeth Santi yn drydydd. Da iawn! Daliwch ati gyda’r gwaith caled. Marwolaeth Anfonwn ein cydymdeimlad ag Anne (Nanw) Wynne, gynt o Clogwyn, yr hen siop esgidiau ar Stryd Fawr Harlech, ar farwolaeth ei gŵr Edward Griffith, gynt o dop dre Harlech, yn 94 mlwydd oed ar 21 Rhagfyr. Ar un cyfnod roedd tad Edward yn bostfeistr yn Harlech. Symudodd Edward a Nanw i ardal Dinbych flynyddoedd yn ôl oherwydd gwaith Edward fel rheolwr banc. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011


RHAGOR O HARLECH

CYNGOR CYMUNED

Llongyfarchwyd Judith Strevens ar achlysur ei phriodas yn ddiweddar a dymunwyd yn dda i’r ddau yn y dyfodol. Rhandiroedd Mae’r rhandiroedd i gyd wedi eu llogi ar wahân i’r un bach. Cytunwyd i ofyn i’r Ysgol Feithrin a fyddant â diddordeb yn y rhandir yma’n ddidâl. Datganwyd pryder bod un o’r rhandirwyr wedi gosod ffens a giât o amgylch y rhandir y mae hi’n ei rentu a bod hyn yn rhwystro un rhandirwr arall rhag mynd at ei randir o a hefyd wedi plannu coed. Derbyniwyd dau bris i wneud y gwaith ffensio yn y safle a chytunwyd i roi’r gwaith i Mr Hywel Jones. Coed Nadolig ac addurno’r dref Mae’r coed i gyd wedi eu gosod. Bwriedir archebu mwy o goed y flwyddyn nesaf a chynnal cystadleuaeth. Ceisiadau Cynllunio Estyniad i’r man parcio presennol – Bwthyn Amherst Cefnogi’r cais. Codi teras, to gwydr, ffenestri to newydd a gosod palmant setiau ar y dreif - Llys Bach. Cefnogi’r cais. Newid y cyrn mwg, adnewyddu camerâu cylch cyfyng, bric awyr newydd, gosod dwy stof, cegin a golchdy newydd, ystafell ymolchi en-suite a sgrîn y landin - Crown Lodge. Cefnogi’r cais. Modurdy newydd, ymestyn y man parcio, gosod ffliw a drws newydd yn yr edrychiad gogleddol - Ciltan, Harlech. Cefnogi’r cais. Adran Briffyrdd Mae Archwiliwr Ffyrdd wedi galw i sawl safle yn y dref ac wedi rhoi sylw da i gwynion y Cyngor. Cafwyd cwyn gan aelod o’r cyhoedd ynglŷn â chyflwr y llochesi bws yng ngwaelod y dref. Cânt eu trwsio yn fuan. Parc Cenedlaethol Eryri Mae’r Cyngor yn dal i ystyried lle i osod y paneli arddangosfa oedd yn yr hen Ganolfan Groeso yn y dref. Hamdden Harlech ac Ardudwy Cynhelir cyfarfod ym mhwll nofio Harlech ar Ionawr 29 am 7.00 o’r gloch gyda chynghorau eraill yr ardal. Mae’r Cyngor wedi addo £1500 iddynt. Unrhyw Fater Arall Angen gwybod pryd fydd y gwaith yn cael ei gyflawni ar Ffordd Morfa. Cytunwyd i anfon llythyr at gwmni R L Davies yn gofyn iddynt wneud gwaith cymunedol yng nghae chwarae Llyn y Felin a’r llwybr y tu ôl fel y maent wedi ei addo. Datganwyd pryder bod rhai o weithwyr cwmni R L Davies yn parcio ym mhob man o gwmpas y dref ac i lawr ffordd Penllech yn lle parcio islaw’r castell fel maent i fod i’w wneud. Mae ddau ddrws ar hysbysfwrdd y dref wedi dod yn rhydd. Datganwyd pryder am ddyfodol Theatr Harlech. Mae pwyllgor yr Hen Lyfrgell yn bwriadu gosod ramp ar gyfer pobl gydag anableddau i’r adeilad. Mae angen golau ger 1 Pen y Bryn a chytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ynglŷn â hyn.

YARIS

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Dewch i weld yr Yaris newydd!

HARLECH DDOE A HEDDIW

Diddorol yw sylwi’n ofalus ar y ddau lun wedi eu tynnu o’r un safle. Y naill beth amser yn ôl a’r llall yn weddol ddiweddar. Fel y gwyddom, bu llawer o adeiladu yn y cyfnod diweddar. Mae’r coed wedi tyfu hefyd. Tybed pryd y cafodd y ddau lun eu tynnu?

Cangen Plaid Cymru, Trawsfynydd

CABARET BLYNYDDOL

ENILLWYR RAFFL FAWR CLWB RYGBI HARLECH

yn Neuadd Trawsfynydd

Nos Sadwrn, Ionawr 17

ARTISTIAID LINDA GRIFFITHS (Plethyn) SORELA (Merched Linda) TUDUR EVANS (Storïwr) JAMBYLS (Grŵp Lleol)

Hamper - Eirian Gravell Twrci - Llion Kerry Hwyaden - Alma Griffiths Chwisgi - Freya Bentham 3 Potel o win - T L Hughes Gin - Gavin Hughes MYNEDIAD: £10 Port - Gwion Jones Sheri - Wyn? PLANT: £5 Elw’n rhannol i YMCA Traws Fodca - Andrew Stone Cynnyrch Nivea - Mary Ellis Chwisgi - Liam Mart Hyfforddwr Personol Wil Huntley Llwyddwyd i godi £748 at Cwt Band, Harlech goffrau’r Clwb Rygbi. Diolch i bawb am eu Nos Iau, Ionawr 15 cefnogaeth. am 7.30 Richard Hughes Elw at Gymdeithas Cwm Nantcol Awel y Morfa

GYRFA CHWIST

9


COLLI ALUN ‘SBARDUN’ HUWS Canwr a Chyfansoddwr

Er cof am Sbardun Y gŵr o Aberstalwm Oedd Alun Sbardun Huws, Fu farw mor ddisymwth ’Rôl cracio’r tebot piws. Mae’r sgrifbin nawr yn segur A’r tebot ond lle bu, A’r gŵr amryddawn ynte’ Gyda’r angylion fry. Talwyd teyrngedau lu i ganwr a chyfansoddwr a fu farw’n 67 oed. Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws, cyn-ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, yn aelod o sawl grŵp adnabyddus yn yr 1970au cynnar yn cynnwys Tebot Piws, Ac Eraill a Mynediad am Ddim. O Benrhyndeudraeth yn wreiddiol, roedd wedi byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer. Bu farw yn dilyn salwch byr mewn ysbyty yng Nghaerdydd yng nghanol mis Rhagfyr. Yn ôl Dewi Pws Morris, cyfaill a chyd-aelod o Tebot Piws, roedd Cymru wedi colli rhywun gyda dawn arbennig. “Roedd yn sgwennu caneuon am yr hen ddyddiau, caneuon gwerin go iawn, ac roedd ganddo arddull unigryw.” Cydymdeimlwn â’i deulu yn ardal Penrhyndeudraeth a’i ffrindiau lu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

LLYTHYR Cyfeillion Ellis Wynne

Ond heddiw dim ond hanes Yw’r cyfaill Sbardun Huws, Fu’n canu gyda hogia Dan label Tebot Piws. Bu’r angladd yn y Barri. Lluosog dyrfa ddaeth I gofio cyfaill annwyl O’r Penrhryn, a’r ddau draeth. John V Jones

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy Mis Rhagfyr 1 [£40] Hywel Williams 2 [£20] Siân Edwards 3 [£10] Harry Jones 4 [£10] Ann Lloyd 5 [£10] Hefin Jones 6 [£10] Donna Williams

EIN GWIR HANES

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Thomas Gee a Rhyfel y Degwm Chwefror 7, 2015 10.30 - 2.30 Ieuan Wyn Jones a Bob Morris Ni chodir tâl o gwbl

Darperir paned a chroeso cynnes, ond rhaid i fynychwyr ddod â bocs bwyd gyda nhw. Rhagor o fanylion: 01286 660546/853/655 neu e-bostiwch: canolfanuwchgwyrfai@gmail.com

CEIR MITSUBISHI

Cystadleuaeth: Portread o Ellis Wynne Annwyl Olygydd, Yn eich rhifyn diwethaf, roedd manylion am gystadleuaeth arlunio i ysgolion yr ardal lle’r oedd gofyn i’r plant bortreadu a dehongli delweddau o lyfr yr awdur Ellis Wynne o’r Lasynys “Gweledigaethau Y Bardd Cwsg”. Hoffwn ychwanegu at hyn trwy grybwyll estyniad pellach i’r gystadleuaeth. Mae gan y rhan fwyaf o enwogion Cymru lun portread o ryw fath ohonynt eu hunain. Ond nid felly Ellis Wynne. Ni wyddom sut un oedd o o gwbwl o ran pryd a gwedd. Mae hyn yn anfantais i ni Gyfeillion Ellis Wynne sy’n ceisio ei hyrwyddo ef a’i waith llenyddol. Ar yr un pryd a’r cystadlaethau i ysgolion felly gwahoddwn yr arlunwyr yn eich plith i geisio rhoi inni bortread dychmygol o Ellis Wynne, gan gofio iddo fod yn glerigwr, ficer Eglwys Llanfair, a’i fod yn dod o deulu a oedd yn un o fân uchelwyr Meirionnydd, ei fod wedi cael addysg prifysgol ond a oedd yn ymwneud â gwerin bobl Meirionnydd yn niwedd y 17eg ganrif. Cynigir gwobr o £60 am y portread buddugol gyda chydnabyddiaeth i unrhyw ymgais deilwng arall ac mae’r dyddiad cau i’r gystadleuaeth hon ar Ionawr 30. Cyfyngir y maint i’r portread hwn i faint papur A3, ac mae’r cyfrwng yn agored, ond atgoffir unrhyw gystadleuydd y bydd y gallu i ddefnyddio’r portread neu ran ohono mewn argraffiadau gan Gyfeillion Ellis Wynne, yn ffactor wrth gloriannu. Os am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin yn Y Lasynys 01766 781395 , neu ebost ylasynys@btconnect.com Neu ataf fi ar 01766 540681 neu g.rhun@btinternet.com Diolch yn fawr. Yn gywir, Gerallt Rhun (Cadeirydd Cyfeillion Ellis Wynne)

10

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math - madarch, wyau, cacennau, llysiau, bara, cig, taffi a jamiau!

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 11


Eigra yn trafod Rhiannon

CROESAIR 1

2

4

3

7

5

‘Y cof sydd gen i ydy o ferch fonheddig, urddasol efo’r wên barod a’r llygaid trist. Ynddynt, roedd rhyw hen wewyr yn llechu; hiraeth na allai amser, y meddyg gorau, fyth mo’i ddileu.’ Eigra Lewis Roberts Barn, Rhagfyr/Ionawr

6

8 9 10

11

12 13

17

14

18

16

15

19

20

21

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

22

CROESAIR IONAWR 2015 AR DRAWS 1 Amser sy’n cael ei dreulio i bwrpas arbennig (6) 4 Bae bach (5) 7 Lliw porffor tywyll (6) 8 Unigolyn sy’n gyfrifol am ysgrifennu llyfr neu erthygl (5) 10 Crafanc (4) 11 Teithio mewn car (6) 13 Gwarchod (7) 15 Math o blanhigyn sydd â blodau mawr gwyn (4) 17 Teulu ar wasgar (5) 19 Haerllug (4) 22 Dweud rhywbeth yn sydyn fel arwydd o deimlad dwfn neu syndod (5) 23 Esgid ysgafn, agored (6)

I LAWR 1 Y gallu i wneud rhywbeth yn dda (4) 2 Y cyflwr o fod yn ddigalon (7) 3 Cerbyd â phedair olwyn ar gyfer cludo llwythi trymion (5) 5 Swm o arian sy’n cael ei dalu i ddigolledu am niwed ac ati (7) 6 Anferth (7) 9 Gwraig sy’n cyfansoddi emynau (8) 12 Hunanbwysigrwydd (7) 14 Pentref yn Sir Ddinbych, Llanarmon yn ... (3) 16 Cymar ceiliog (3) 18 Creadur a chlustiau hir sy’n perthyn i deulu’r ceffyl (4) 19 Gair i ddisgrifio rhywun sy’n gwneud beth y cafodd orchymyn i’w wneud (4) 20 Grym (4) 21 Llinyn main o ddefnydd megis cotwm neu sidan (4)

12

Rhiannon Davies Jones

Ffacs 01766 771250

23

ENILLWYR MIS RHAGFYR Dyma’r enillwyr y tro hwn: Idris Williams, Tanforhesgan, Talsarnau; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli; Iwan Morus Lewis, Llandanwg; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy. ATEBION RHAGFYR AR DRAWS 1. Sbriws 4. Celyn 8. Rwbel 9. Caledu 10. Nant 11. Naddion 13. Goch 15. Nam 16, Orig 17. Eleni 18. Gamocs 21. Elw 22 Uchelgais I LAWR 1. Seren 2. Robin 3. Wylo 5. Eilyddio 6. Ymdrochi 7. Economeg 12. Enllibus 13. Gaeleg 14. Chwerwi 19. Magu 20. Cain SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

Honda Civic Tourer Newydd

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

PWLL NOFIO HARLECH Pa bryd y galla’ i fynd i nofio? Llun Mawrth Mercher Iau Gwener Sul

12.00 tan 2.00, nofio lôn: 6.00 tan 7.00 4.30 tan 7.00 12.00 tan 12.45 7.00 tan 9.00, 11.00 tan 2.30, 3.30 tan 6.00, oedolion 6.00 tan 7.00 3.00 tan 4.00, nofio lôn: 6.00 tan 7.00 Merched yn unig 7.00 tan 8.00 11.00 tan 2.00


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Cymorth Cyntaf Ar y 25ain o Dachwedd daeth dau gynrychiolydd o Medi-Tec i roi cwrs Cymorth Cyntaf i ddisgyblion Blwyddyn 10 i gyd. Roedd y cwrs yn cynnwys Gofal o’r Claf Anymwybodol, CPR a’r Safle Dadebru. Dysgwyd sut i ddelio efo rhywun oedd yn tagu, sut i reoli gwaedu ar ôl damwain a sut i ddelio ag adweithiadau anaphylactic. Cafodd y disgyblion gyfle i gydweithio gyda’i gilydd yn ymarferol. Roeddynt wrth eu boddau ac wedi dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr.

Celfyddydau Perfformio yn cynorthwyo gyda’r gweithdai. Braf oedd gweld ymateb brwdfrydig disgyblion o’r cynradd wrth weithio gyda’r rhai hŷn! Cafwyd dau ddiwrnod o weithdai llwyddiannus dros ben, gyda’r disgyblion yn creu gwaith o safon uchel a phawb o bob oedran wedi mwynhau’r profiad.

“Roedd yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth a fyddai’n ddefnyddiol iawn ar gyfer y dyfodol. Pwy a ŵyr pryd fydd sefyllfa frys yn codi a gall ein help ni gyfrannu at wella’r claf, os nad achub eu bywydau?” Sophie Gill a Lea Ledermann (B10)

Gymnasteg Eryri Cafodd genethod B7 a B8 gystadlu yng nghystadleuaeth Gymnasteg Eryri yng Nghanolfan Tenis Caernarfon. Roedd rhaid iddynt berfformio dau ddilyniant llawr a dau ehediad. Enillydd genethod B7: Elin Ann Lane Fe wnaeth Cerys Sharp, Amelia Greenway, Gwenno Lloyd, Lowri Llwyd a Millie Tookey yn arbennig o dda ar y diwrnod.

“Mae gen i fwy o hyder erbyn hyn ynglŷn â beth i’w wneud mewn sefyllfa o argyfwng. Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn.” Dafydd Jones (B10) “Roedd y cyfle yma i wneud cymorth cyntaf wedi cadarnhau beth wyf yn gwybod yn barod, gan fy mod yn dysgu llawer iawn am gymorth cyntaf gyda’r ATC.” Catrin Lewis (B10) Yn ogystal â dysgu sgiliau pwysig ar gyfer bywyd, bydd y cwrs hefyd yn cyfrif tuag at gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru, ‘Gwella Dysgu a’ch Perfformiad Eich Hun’. Gweithdai cynradd Daeth disgyblion B5 a B6 o ysgolion cynradd y dalgylch yma i gymryd rhan mewn gweithdy Drama, Cerdd a Chelf wedi’u seilio ar sioe gerdd Ysgol Ardudwy, ‘Y Siop Fach Frawychus’. Yn ystod y dydd buom wrthi’n canu caneuon o’r sioe gan ddefnyddio offerynnau cerdd i gadw rhythm; treuliwyd un sesiwn yn dylunio a chreu posteri lliwgar, a’r sesiwn olaf yn creu hysbysebion gweledol gan ddefnyddio iPadau i recordio. Roedd disgyblion y dosbarthiadau BTEC

Pêl-rwyd Ar ôl hanner tymor chwaraeodd tîm genethod Blwyddyn 7 yn erbyn Ysgol y Gader ac enillon nhw o 5 gôl i 3.

Gala Nofio’r Urdd Bu nifer o ddisgyblion yr ysgol yn llwyddiannus iawn yng Ngala Nofio rhanbarth Meirionnydd. O ganlyniad, maent yn mynd ymlaen i gystadlu yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ionawr. Pob lwc i Chelsea Smedley, Steffan Titley, Olivia Povey, Sam Povey ac Alaw Sharp. Chelsea Smedley - 1af Rhydd a 1af Cefn Steffan Titley - 1af Broga a 1af Cymysg Unigol Olivia Povey - 1af Broga a 1af Cymysg Unigol Sam Povey - 1af Cefn a 2il Cymysg Unigol Alaw Sharp - 1af Pili Pala a 2ail Cymysg Unigol Cerys Sharp - 2il Rhydd Cyfnewid Rhydd a Chymysg Genethod B7 a 8 - Ysgol Ardudwy 2il: Cerys Sharp, Gwenno Lloyd, Lowri Llwyd a Beca Williams. Noson agored Unwaith eto, roedd yr ystafelloedd a’r rhodfeydd yn llawn lliw, gydag enghreifftiau gwych o waith disgyblion wedi’u cyflwyno’n gelfydd. Braf oedd gweld llawer o ddisgyblion cynradd a’u rhieni yn cymryd y cyfle i weld yr ysgol ar waith, ac roedd y nifer ddaeth yn galonogol iawn. Bu cyfarfod yn y Neuadd ar ddechrau’r noson gyda nifer o arddangosfeydd yn cynnwys gymnasteg a chelfyddydau perfformio; darlleniadau Saesneg i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas a pharti adrodd Cymraeg. Bu cyflwyniad hefyd o’r prosiect cynradd/uwchradd Technoleg a Thechnoleg Gwybodaeth: ‘Amddiffyn y Castell’, a ddigwyddodd yn gynharach yn y tymor. Wedyn cafodd pawb gyfle i grwydro’r ysgol i weld a chymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol a phwncbenodol yn ogystal ag arddangosfeydd yn y pynciau, a chafodd y rhieni cynradd y cyfle i weld cynnyrch eu plant yn y prosiect. Noson lwyddiannus iawn yn wir.

Pêl-droed Mae tîm pêl-droed Blwyddyn 8 wedi cael cryn lwyddiant yn ddiweddar wrth ennill tair gêm o’r bron – 3-1 yn erbyn Ysgol Botwnnog, 3-2 yn erbyn Ysgol Glan-y-Môr ac 8-2 yn erbyn Ysgol y Gader. Da iawn chi! Rygbi Bu llwyddiant diweddar mewn rygbi hefyd. Curodd ein tîm Flwyddyn 11 Ysgol Uwchradd Tywyn o 32 pwynt i 10, curodd ein tîm Blwyddyn 9 Ysgol y Berwyn o 48 pwynt i 22 ac roedd gêm gyfartal yn erbyn Ysgol y Gader hefyd.

13


ARWEL JONES

Pan fyddaf yn meddwl am Arwel y mae un ymadrodd yn dod i’r meddwl yn syth, sef gŵr bonheddig. Dyma rai ansoddeiriau eraill i’w ddisgrifio – dymunol, gweithgar, diffuant, galluog a doeth. Gallwn restru llawer mwy. Roedd wedi ei fagu yn Harlech ac roedd ganddo feddwl y byd o’r dref a’i phobl. Cofiaf fel y byddai yn dod gartref o ardal Llanidloes bob penwythnos yn selog i aros gyda’i fam oedrannus ym Mhentre’r Efail. Bob bore Sadwrn, byddai ef ac Elsi yn dringo stepiau’r Plas i nôl ychydig negeseuon. Wrth gerdded yn eu blaenau byddent yn dod ar draws llu o’u cydnabod a byddai cerdded o Siop y Plas at Siop Gwyndy yn y pen draw yn cymryd hydoedd i’r ddau – bron fel cerdded maes yr Eisteddfod Genedlaethol neu’r Sioe Sir. Roedd rhyw serennedd yn perthyn i Arwel wrth iddo gyfarfod ei ffrindiau a holi eu hynt a’u helynt. Felly hefyd fel gweinidog yng Nghapel Rehoboth. Yn aml, byddai Elsi yn cymryd y rhannau arweiniol mewn gwasanaeth ac yn darllen yn hynod o glir a graenus. Yna byddai Arwel yn pregethu gyda neges amserol yn ddi-ffael. Ei arferiad wedyn fyddai dod at y drws i gyfarch pawb ar y ffordd allan, ac fe welech yn glir cymaint o bleser a gâi o wneud hyn.

Roedd o’n un da mewn angladd hefyd; yn gefn i bobl mewn galar a thristwch ac yn urddasol bob amser. Byddai’n paratoi yn drylwyr ac ym mhob teyrnged yn olrhain achau’r bobl y cafodd ei fagu yn eu plith, cyn manylu ar rinweddau mawr yr ymadawedig. Bydd bwlch enfawr ar ei ôl ymysg ei frodyr a’i chwiorydd yn Rehoboth, Engedi, Rhos a Bryndeunydd, Llannefydd. Mae atgofion melys iawn gan lawer am ei gampau ar y cae pêldroed. Roedd yn bêl-droediwr o fri. Digon yw dweud iddo chwarae i dîm Porthmadog yng Nghynghrair Cymru pan oedd cewri yn y tîm. Roedd yn chwaraewr dawnus a chreadigol ac yn un digon caled ond ni chafodd ei enw erioed yn y llyfr bach. Cafodd yrfa academig ddisglair. Wedi mynychu Ysgol Ramadeg y Bermo aeth i’r Brifysgol ym Mangor ac ennill gradd mewn gwyddoniaeth a gradd uwch rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Bu’n dysgu yn Lerpwl, y Drenewydd a Llanidloes cyn cael ei benodi yn ddirprwy [1978] ac yn bennaeth Ysgol y Moelwyn yn 1985. Roedd yn bennaeth poblogaidd ymhlith disgyblion ac athrawon. Am 13 mlynedd bu’n gynghorydd sir dros Blaid Cymru ym Mlaenau Ffestiniog ac ef oedd Cadeirydd Gwynedd yn 2005. Golygodd hyn lawer o waith iddo – ddydd a nos, ond fe’i cyflawnodd yn ei ddull nodweddiadol, yn drylwyr a graenus gan gadw at ei weledigaeth bersonol ac at ei egwyddorion Cristnogol. Nid oedd yn syndod mai at Gymorth Cristnogol yr aeth y cyfraniadau er cof amdano. Roedd yn fraint fawr cael ei adnabod. ‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear.’ Heddwch i’w lwch. PM

Diolch: Dymuna Els Jones a’r teulu ddiolch o waelod calon i chi bobl cylch ‘Llais Ardudwy’ am eich caredigrwydd a’ch haelioni wedi colli Arwel. Gwerthfawrogir yn fawr gyfraniad Mr Phil Mostert er cof amdano. Y Chwaer Bethan Johnstone ac aelodau Capel Rehoboth, nis anghofir am eich cefnogaeth. £25 - er cof am Arwel Jones

14

Ffermwyr Ifanc Ardudwy Wel siomedig iawn yw’r nifer sydd wedi ymaelodi eleni. Methu a deall pam, a chymaint i’w gael gan y Mudiad. Rwyf wedi cael cymaint o gyfleon drwy’r Mudiad arbennig yma. Gwelsoch raglen o Eisteddfod Cymru ar S4C yn ddiweddar. Roedd hon yn dangos y safon sydd yna drwy berfformiadau ar lwyfan. Ond mae eitemau eraill hefyd ar gael, sgwennu, ffotograffiaeth, celf, cyfrifiaduraeth a llawer mwy. Rhywbeth at ddant pawb. Daeth Sir Feirionnydd yn 6ed eleni. A’r Côr sirol yn 3ydd. Aeth cadair Eisteddfod Cymru i Gwmtirmynach, Elain, Defaity. Llongyfarchiadau mawr iddi. Bum yn cystadlu yn eisteddfod y Sir yn Nolgellau yn ddiweddar. A chael peth llwyddiant hefyd. Celf dan 26 yn 1af a 3ydd. Rhaid oedd gwneud unrhyw gelf mewn unrhyw gyfrwng wedi ei ysbrydoli gan amaethyddiaeth. Bu i mi gystadlu eto eleni gyda’r gystadleuaeth CIWB. Yr angen y tro hwn oedd gwneud 5 crefft (gosod blodau, addurno cacen, ffotograffiaeth, coginio pryd i ddau, celf gwahanol) ar y thema ‘Carreg filltir’ a’i osod mewn ffrâm. Dewisiais wneud yr eitemau ar y thema Priodas Aur, gan fod yma yn yr Hendre ychwanegiadau wedi dathliad priodas aur Nain a Taid tua 7 mlynedd yn ôl bellach. Cafwyd llwyddiant gyda hwn hefyd drwy ddod yn gyntaf a merched o Glwb Maesywaen yn ail. Braf fyddai cael cwmni i osod y gwaith yma yn Llanelwedd , tra’n cynrychioli Sir Feirionnydd yn y gystadleuaetyh drwy Gymru yn niwedd Mawrth 2015 a thacluso peth ar y gwaith gorffennedig. Hwyrach bod gan rai ohonoch syniadau newydd. Daeth eitem cywaith clwb ‘Dewch i’n Bro’ am hanes Ardudwy yn gyntaf hefyd. Felly y celf a’r llyfryn yn mynd ymlaen i steddfod CFfI Cymru. Braint yw cael dweud i’r ddwy eitem blesio’r beirniaid, 1af gyda’r Celf ac ail gyda’r llyfryn bach. Coeden Ardudwy yn gyntaf yn y Sir, ond yn 5ed drwy Gymru yn Y Ffair Aeaf . Ar ddydd Sant Steffan cafwyd y ras hwyaid flynyddol. Er eto eleni cynnal y ras fel raffl bu raid oherwydd y llif yn yr afon Artro. Gwerthwyd 700 o hwyaid plastig melyn eleni. Yr elw yn cael ei rannu rhwng Pwyllgor Neuadd Bentref Llanbedr a RABI Meirionnydd. Dyma’r enillwyr: £100 i Irene Thomas, Atomfa Trawsfynydd. £10 i’r canlynol: Ceri Owen, Jackie Maes Artro, Nick Bryn Artro, Colin Gwynfryn Farm, Ashley Roberts, Atomfa Trawsfynydd, Neil Parry, Gwen Jones, Llanfrothen. Carwn ddiolch i bawb eto am eu cefnogaeth eto eleni. Bydd yn rhaid ailedrych ar drefniadau y ras hwyaid at y flwyddyn nesaf oherwydd y tywydd.

Dim lle yn y llety! Bwthyn yn llawn!


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Colli Lona Brawychwyd yr ardal o glywed y newydd am farwolaeth Mrs Lona Williams, Glanywern [Rhosigor gynt]. Roedd yn wraig uchel iawn ei pharch yn yr ardal hon. Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn â’i brawd Medwyn ac â’i merched Ffion, Sioned a Glesni. Gobeithir cynnwys coffâd llawn iddi yn ein rhifyn nesaf. Merched y Wawr Ar ddydd Gwener, 12 Rhagfyr, aeth aelodau Cangen Merched y Wawr Talsarnau, ynghyd â nifer o’r gwŷr, i gael cinio Nadolig yng Ngwesty Seren, Ffestiniog. Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis bawb i’r achlysur a dechreuwyd drwy gyd-adrodd y fendith. Wrth aros am y bwyd, darllenodd Siriol gyfarchion arbennig ar gyfer yr Ŵyl gan Meryl Davies, y Llywydd Cenedlaethol, cyn hysbysu’r aelodau o dri mater arall - Cwrs Crefft y Gogledd ym Mhlas Isaf, Corwen ar 24 Ionawr, cyrsiau ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Tŷ Newydd, a’r llyfr ‘Caeau a Mwy’, sef casgliad Merched y Wawr o hen enwau gwreiddiol o leoedd yng Nghymru sydd ar werth yn y siopau’n awr. Yna gweinyddwyd y bwyd gan bobl ifanc dymunol iawn a mwynhawyd cinio blasus gan bawb, gan dreulio pnawn difyr yn sgwrsio wrth y bwrdd bwyd. Wedi’r gwledda, tynnwyd y raffl ac roedd nifer o wobrau. Bu naw aelod o’r gangen, ac un gŵr, yn ffodus o’u hennill. Diolchwyd i’r Gwesty am baratoi ar ein cyfer a chawsom gymorth gan Sioned, Swyddog Marchnata Cwmni Seren, i dynnu llun pawb cyn gadael.

Gwellhad buan Dymunwn wellhad buan i Wil Jones, yr Onnen, sydd yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd. Anfonwn ein cofion ato. Triniaeth Felly hefyd i John Williams, Coety sydd gartref wedi iddo fod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Profiad newydd i ti John! Brysia wella! Gwasanaeth Nadolig Bryntecwyn Daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i Gapel Bryntecwyn prynhawn Sul, 21 Rhagfyr, pryd y cafwyd Gwasanaeth arbennig ar gyfer y Nadolig, gyda’r Gweinidog, y Parch Anita Ephraim yn cymryd y rhan agoriadol, ac yna cafwyd darlleniadau pwrpasol gan yr ieuenctid a’r mamau. Trefnwyd y gwasanaeth gan Carys Evans gyda chymorth Meinir Jones a Siwan Mitchelmore. Y plant a fu’n perfformio oedd Ellie, Osian, Jac, Sioned, Erin, Dylan Bryn, Cari Ellen ac Anna Efa. Wedi iddynt ganu’r garol ‘I orwedd mewn preseb’ i orffen eu rhan hwy, cafwyd anerchiad cofiadwy ac amserol i’r plant gan y Parch Anita Ephraim a rhannodd becyn o ddanteithion i bob un wrth orffen ei chyflwyniad. Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad arbennig i’r oedfa gan Mai Jones, a chyhoeddwyd y byddai’r casgliad yn cael ei roi tuag at Apêl arbennig Cymorth Cristnogol. Dymunwyd Nadolig Dedwydd i bawb cyn canu’r garol i ddiweddu’r gwasanaeth. Roedd te parti wedi’i drefnu i’r plant ar y diwedd a rhoddwyd anrheg i bob un cyn iddynt droi tuag adref.

Clwb y Werin Dymunwn wellhad buan i Dorothy Harper, Argraig sydd yn Ysbyty Gwynedd ers wythnos yn dilyn anhwylder gyda’r asthma. Gobeithiwn ei gweld yn dod yn nes adref i orffen gwella yn fuan. Dyma lun o ginio Clwb y Werin ym mwyty’r Ship ar bnawn Llun y 15fed o Ragfyr lle cafwyd cinio Nadolig ardderchog mewn awyrgylch cartrefol braf. Mi ddaeth 18 aelod yno ond anfonwn ein cofion at Glenys Jones (sydd yn gofalu am ein paned bob wythnos) a Marjory Martin oedd heb fod yn dda. Cafodd Eirlys ginio i’w rannu adref hefo Idris a dymunwn wellhad buan iddo yntau. Enillodd bawb wobr raffl ar y diwrnod hefyd. Diolchodd Myfanwy Jones am y trefniant a’r cinio gwych. Dyweddïo Llongyfarchiadau mawr i Richard Morgan ac Eleri, Tŷ Cerrig sydd wedi dyweddïo yn ddiweddar. Gobeithio i chi fwynhau eich gwyliau diweddar ar Gamlas Panama. Diolch Hoffai Gwynfor Lloyd Williams (ging-ging) ddiolch am y gofal dwys arbennig a gafodd yn ddiweddar yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a gofal ei deulu ar ôl dod allan. Mae gartref yn Angorfa bellach ac yn ddiolchgar am yr ymweliadau gan gymdogion a ffrindiau, yn ogystal â’r teulu sydd mor garedig wrth y ddau. Braf ei weld yn gwella erbyn hyn. Rhodd a diolch £10

Ennill cd Llongyfarchiadau i May Wells yr Ogof, Ynys, ar ennill cd ar raglen Tommo ar Radio Cymru.

Ar y cd mae 17 o ganeuon Brian ar yr organ. Cafodd gerdyn Nadolig o Gaerfyrddin a phawb o’r criw wedi ei arwyddo, yn ogystal â bocs o siocledi. Mae May yn un o’u gwrandawyr ffyddlonaf, a braf clywed ei henw ar y Radio - da iawn May o Dalsarnau!

15


DAWNS FASGIAU CANA-MI-GEI

CYSTADLEUAETH IONAWR Dyma bump o ddyfyniadau’n cynnwys y gair ‘Ionawr’. Fedrwch chi enwi’r beirdd? [Cynhwysir ambell gliw i’ch helpu!] 1. Wyt Ionawr yn oer A’th farrug yn wyn, A pha beth a wnaethost I ddŵr y llyn? Mae iâr fach yr hesg Yn cadw’n ei thŷ, Heb le i fordwyo Na throchi’i phlu. 2. Ias Ionor y sy’ heno - a rhywun O’r awyr sy’n pluo! Duw Iôr, yn d’eira dyro Draed twym i adar y to!’ (Enillodd gadair, coron a medal ryddiaith y Brifwyl - y cyfan o fewn wyth mlynedd i’w gilydd.)

Rhai o ferched Cana-Mi-Gei yn amlwg yn mwynhau noson o ddifyrrwch yn Llanberis yn ddiweddar. Tybed faint ohonyn nhw fedrwch chi eu hadnabod?

CD BandArall - ‘Lleuad Borffor’

Band gwerin ydy BandArall i’r rhai nag ŵyr ddim amdanom a bu’n fwriad gan aelodau’r band gynhyrchu cryno ddisg ers peth amser ac o’r diwedd cyflawnwyd y dasg a daeth yr amser i ni gyhoeddi ei bod hi wedi ei rhyddhau. Mae arni ddeuddeg o draciau, a chan fod y rhan fwyaf o’r band yn hanu o Feirionnydd, mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y dewis, ond ddim yn llwyr felly chwaith. Mae yma amrywiaeth o alawon a chaneuon traddodiadol megis “Hefo Deio’i Dywyn” a “Codi Angor” a hefyd gynyrchiadau mwy cyfoes gan aelodau o’r band, megis “Lleuad Borffor” gan Gerallt Rhun, a “Lliw’r Machlud” - alaw gan Hefin Jones. Ond drwy nifer helaeth o’r cynnwys, mae’r cyswllt â Sir Feirionnydd i’w glywed. Mae’r traciau eraill yn cael eu lle am ein bod ni, yn syml iawn, yn mwynhau eu canu neu eu chwarae ac yn cael llawer o bleser. Mae peth newid wedi digwydd yn aelodaeth y band dros y blynyddoedd ond oddeutu wyth o aelodau sydd wedi bod yn chwarae yn gymharol gyson. Fe gychwynnwyd fel grŵp o unigolion yn dod at ei gilydd fel gweithdy gwerin ac mae ein diolch i Dan Morris fel symbylydd a’r un roddodd hyder i rai ohonom roi

16 A

cynnig ar ddechrau chwarae, yn fawr iawn. Dechreuwyd cynnal gweithgareddau’n gyhoeddus o ddifrif ym 1996 ac yn rhyfeddol daeth galwadau i ni chwarae mewn gwahanol achlysuron. Mae’r band wedi chwarae mewn nifer o wyliau gwerin, ar alw yn aml i chwarae mewn priodasau, dawnsfeydd twmpath, achlysuron codi arian, cymdeithasau amrywiol a phartïon pen-blwydd ac yn mwynhau chwarae mewn ambell i dafarn o dro i dro hefyd! Mewn llawer o’r nosweithiau holwyd a oedd gennym cd a bu raid ateb nad oedd. Ond braf fydd cael rhoi ateb cadarnhaol o hyn ymlaen. Hoffem gydnabod cymorth Gai Toms am y gwaith recordio yn Y Sbensh yn Nhanygrisiau ac am ei

amynedd diddiwedd, i Dŷ Siamas, Dolgellau am eu cydweithrediad ac am gael defnyddio eu hadnoddau ar gychwyn y fenter ac i Siwan Evans a Chwmni Sain am y broses gynhyrchu. Ein bwriad wrth greu cd oedd cael rhywbeth ar gof a chadw fel enghraifft o’r math o gerddoriaeth rydym ni fel criw wedi ei chynhyrchu, rhywbeth fydd yn rhoi blas inni o’r pleser rydym wedi ei gael gyda’n gilydd ers yn agos i 20 mlynedd fel band. Os caiff eraill rhywfaint o bleser wrth wrando, yna bydd hynny’n ychwanegu at y gwerth. £10 ydy’r pris ac mae’r cd ar gael yn Siop Eifionydd, Siop Dewi, Penrhyn; Hen Bost, Blaenau; Awen Meirion, Bala; neu gan aelodau’r band.

3. Mae Ionawr yn troelli’r cymylau uwchben A chuddio Eryri dan fantell oer wen, Y cenllysg yn greulon, y rhewynt yn llym, A’r gaeaf yn ymdaith yn amlder ei rym ... (Bu’r sosialydd a’r diwygiwr cymdeithasol yma’n weinidog gyda’r Hen Gorff yn Nhanygrisiau am saith mlynedd yn nechrau’r ugeinfed ganrif) 4. Rho inni dirion Ionawr Oriau mwyn heb eira mawr ... (Enillodd gadair y Brifwyl un flwyddyn, a’r goron yn y flwyddyn ganlynol. Yn enedigol o Sir Benfro.) 5. Hardd lances yn ei thresi - a gwenwisg Y gwanwyn amdani; Ionor gwyn, hen wraig yw hi, Hir ei dannedd ar dwyni. (Gwnaethpwyd cam mawr â’r englyn hwn i’r ‘Ddraenen’ yn y Bala ym 1967! Gweinidog gyda’r Bedyddwyr oedd yr awdur.) Anfonwch eich atebion at Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS erbyn Ionawr 25 fan hwyraf os gwelwch yn dda. Pob hwyl! [Diolch i Iwan Morgan, Ffestiniog am ei gymorth parod wrth lunio’r gystadleuaeth.]


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.