Llais ionawr 2016

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 448 IONAWR 2016

£249,000 i Neuadd Llanbedr

GALWADAU FFÔN TWYLL Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau ffôn lle mae rhywun yn honni ei bod yn gweithio i’r Cyngor. Daw’r rhybudd hwn wedi i ddigwyddiad gael ei ddwyn at sylw’r Cyngor fod aelod o’r cyhoedd wedi derbyn galwad ffôn gan rywun yn honni ei bod yn galw o swyddfa treth y Cyngor. Roedd yr unigolyn ar y ffôn yn ceisio darganfod manylion cyfrif banc personol gyda’r esgus fod ad-daliad Treth Cyngor yn ddyledus iddyn nhw ac y byddai’r manylion yn cael eu defnyddio yn y broses ad-dalu. Dywedodd Manon Williams o adran Safonau Masnach Cyngor Gwynedd: “Mae ceisio cael pobl i ddarparu eu manylion cyfrif banc personol fel hyn yn sgâm gywilyddus. Rydym yn cynghori aelodau o’r cyhoedd i beidio â darparu unrhyw fanylion personol neu wybodaeth gyllidol i unrhyw fusnes neu unigolyn nad ydyn nhw’n eu hadnabod.” Gall bobl leihau’r nifer o alwadau ffôn digroeso y maen nhw’n eu derbyn drwy gofrestru gyda Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (TPS) sydd hefyd yn cynnwys rhifau ffôn symudol. Mae hyn yn bosib drwy ffonio 0845 0700707 neu wrth ddefnyddio’r ffurflen gofrestru sydd ar gael ar eu gwefan : www.tpsonline.org.uk/tps Os oes gennych bryderon, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05.

£215,000 i Theatr Harlech

[£100K i gael sinema ddigidol] Mae’r elusen sy’n gyfrifol am Neuadd Llanbedr a’r cae chwarae wedi llwyddo i gael £249,000 gan y Loteri tuag at ariannu cynllun gwella ac ymestyn Neuadd Llanbedr. Yn ogystal, sicrhawyd £100,000 ychwanegol gan ffynonellau lleol, yn cynnwys: arwerthiant Canolfan Artro, Parc Cenedlaethol Eryri, Cist Gwynedd a Mantell Gwynedd. Rhaid cydnabod gwaith arbennig Gwyndaf Williams, Tyddyn Siân, Llanbedr, a dreuliodd gannoedd o oriau yn paratoi’r ceisiadau. Hefyd Gruff Price, y pensaer am baratoi cynlluniau yn rhad ac am ddim. Diolch hefyd i Iolyn Jones, Goronwy Davies a Kevin Titley am eu gwaith diwyd wrth ddod â’r maen i’r wal. Mae Canolfan Gymdeithasol Llanbedr wrthi’n paratoi ceisiadau ychwanegol i ariannu gwerth £50,000 o waith sy’n hanfodol i gwblhau pob manylyn o’r cynllun. Mae’r elusen hefyd yn cychwyn apêl i godi arian ar gyfer y rhan yma o’r gwaith. Gobeithir cwblhau’r gwaith erbyn Hydref 2016.

Y Pwyllgor Datblygu: Eirwyn Thomas, Kevin Titley, Iolyn Jones, Fred Foskett, Morfudd Lloyd, Goronwy Davies, Margaret Cross a Gwyndaf Williams. Llun: Mari Wyn

Mae sinema ddigidol o’r radd flaenaf a chyfleuster cynadledda ar raddfa fawr werth £100K yn dod i Theatr Harlech! Bydd gwaith adeiladu helaeth yn digwydd dros y misoedd nesaf, a bydd yr awditoriwm ar gau tan y gwanwyn 2016. Bydd lle i 256 o bobl yn y sinema newydd, a chânt fwynhau gwylio’r ffilmiau newydd diweddaraf ar y sgrîn fawr gyda system sain amgylchynol newydd, a fydd cystal os nad gwell na sinemâu aml-sgrîn modern eraill. Yn Theatr Harlech mi fydd sinema fodern fwyaf yr ardal ac, ynghyd â’r cyfleusterau sgrinio gwell, bydd y bar yn y cyntedd yn cael ei stocio gyda danteithion blasus a rhesymol. Gobeithir ailagor Theatr Harlech ar ei newydd wedd cyn gynted ag y bo modd yn y gwanwyn. Bydd y Theatr hefyd yn cyflwyno ystod eang o ddrama byw, dawns a cherdd, digwyddiadau i’r gymuned leol, a chreu hwb creadigol yn Theatr Harlech tan 2017, sy’n adeiladu ar lwyddiant ein Cynllun Artistiaid sydd wedi bodoli ers dwy flynedd. Mae ein Hartist Preswyl, yr actor Daniel Llewelyn-Williams, bellach wedi ymddangos fel y prif gymeriad yn y ‘39 Steps’ yn Llundain, ac ar hyn o bryd yn actio yn ‘Eastenders’ fel y doctor! Mae Daniel wedi bod yn cynnal gweithdai actio i bobl ifanc gyda ni yn y Theatr ers dwy flynedd. Mae Theatr Harlech yn falch o’i gefnogi trwy ei helpu i fynd â’i sioe ‘A Regular Little Houdini’ i Gaeredin yn haf 2016.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960

Enw: Alma Griffiths. Gwaith: Wedi ymddeol o weithio i Fanc Barclays am 35 mlynedd ond yn gweithio’n achlysurol i Gyngor Gwynedd fel Cofrestrydd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded ac yn ddiweddar beicio - er bod Dei yn treulio oriau yn aros amdana i’n dod i fyny rhiwiau. Beth ydych yn ei ddarllen? Veritas, Mari Lisa (a Mills & Boon ar Kindle)! Hoff raglen radio neu teledu? Mae Geraint Lloyd wrth fy ochr yn y gwely bob nos ran amla ac mi rydwi wrth fy modd efo ‘Sounds of the 60s’ ar fore Sadwrn, gan fy mod yn gwybod y geirie. Ydych yn bwyta’n dda? Rhy dda! Hoff fwyd: Cinio dydd Sul efo cig eidion o London House a coginio fo fy

hun gan fy mod yn un dda iawn am neud grefi ac mi fyddai’n licio sbarion ar ddydd Llun. Hoff ddiod? Cloudy Bay. Pwy fase’n cael dod allan i fwyta efo chi? Wel! Sa raid cael bwrdd go fawr i’r ‘Criw’ erbyn hyn sef teuluoedd Bryn Coch, Llys y Garnedd a Nant y Coed. Siŵr ’sa Rhian ac Elenor yno hefyd ac fe fyddai Alice fach yn siwr o fod yn iste ar fy nglin. Lle sydd orau gennych? Traeth Bennar yn y bore bach. Lle cawsoch eich gwyliau gorau? Dwi’n byw i fynd ar wyliau! Anodd dewis i ddeud y gwir bob un gwyliau ‘Criw’ yn lot o hwyl ac roedd crwydro Ewrop ar y trên efo Dei yn wych; yna amser gwerthfawr yng nghwmni Siôn a Tomos yn yr Eidal. OND mae ’na dyniad at Canada ac mi roedd mynd o Vancouver i fyny i Glacier Bay a hedfan i gerdded ar rewlif Mendenhall yn fythgofiadwy. Beth sydd yn eich gwylltio? Pob dim bron gan fy mod yn ddynes ganol oed groes erbyn hyn! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Amynedd – mae angen o i fod yn ffrind i mi! Pwy yw eich arwr? ‘Does ond Un. Beth yw eich bai mwyaf? Dwi’n iawn hyd yn oed pan dydw i ddim! Beth ydych yn gasáu mewn

pobl? Bod yn ddauwynebog a diegwyddor. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? To uwch fy mhen, bwyd ar y bwrdd a sgidie am fy nhraed a digon o bres yn fy mhoced i fynd am dro nawr ac yn y man. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Iris. Eich hoff fardd? T H Parry Williams. Eich hoff gerddor? Twm - mae’r hen dŷ ’ma llawer iawn rhy dawel heb sŵn y gitâr a’r band yn ymarfer yn y garej. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Wsnos yma - C’est La Vie gan y Stereophonics ond mae Llythyrau Tyddyn y Gaseg, Bryn Fôn yn fy nghyffwrdd a hefyd deuawd y Pysgotwyr Perl, Bizet. Riff Pretty Woman yn gwneud imi orfod dawnsio! Hoffi amrywiaeth o gerddoriaeth ac wrth fy modd yn medru clywed darn o gerddoriaeth yn rhywle ac yna ei lawrlwytho yn syth i fy ffôn. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru ’whare piano (a dwi’n gwbod mae cianu di hwnna i fod ond ’whare oedden ni’n ei ddeud ym Machynlleth!) Eich hoff ddywediad? Waeth heb godi pais ar ôl p**o. Sut buasech yn disgrifio’ch hun ar hyn o bryd? Pendroni be ga i neud pan dyfa’i fyny!

Tasgau 1. Gwaredu’r goeden Nadolig trwy ei thorri’n ddarnau mân a’i defnyddio fel taenfa [mulch] i orchuddio’r pridd. 2. Agorwch ffenestri’r tŷ gwydr ar ddyddiau braf. 3. Pan nad yw’r pridd yn rhy wlyb, gallwch balu rhannau nad ydynt eisoes wedi’u palu. 4. Gallwch drwsio ac ail-siapio ochrau’r lawnt.

6. Gallwch docio coed afalau a gellyg. 7. Gallwch roi bwced ar y riwbob a’i berswadio i dyfu’n gynt.

YN YR ARDD - MIS IONAWR

Ym mis Ionawr mae angen amddiffyn yr ardd rhag rhew a barrug, gwyntoedd cryfion a glaw trwm. Gallech symud rhai planhigion er mwyn sicrhau eu bod yn cael mwy o oleuni. Cofiwch fwydo’r adar hefyd – mae bwyd yn brin iawn iddyn nhw yn ystod y gaeaf.

Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 29 am 5.00. Bydd ar werth ar Chwefror 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Rhagfyr 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Gallwch hefyd ddechrau cynllunio ar gyfer yr ardd lysiau eleni.

5. Edrychwch yn ofalus ar y Dahlia, Begonia a’r Canna rhag ofn eu bod wedi pydru.

8. Cynlluniwch y modd yr ydych am gylchdroi eich cnydau yn yr ardd lysiau eleni. 9. Rhowch fwyd a diod yn rheolaidd i’r adar. 10. Mwynhewch gynllunio ymlaen wrth ddarllen eich catalogau.


Y BERMO A LLANABER Teyrnged i Mrs Gretta Jones (Cyflwynwyd gan Sioned Mair ac Alun Owen.) Ganwyd a magwyd Anti Gretta yn Nhalsarnau. Aeth i’r ysgol gynradd yno ac yna i Ysgol Ramadeg Y Bermo. Roedd yn awyddus i fynd i ddysgu ac roedd posib cael swydd yr adeg hynny yn syth o’r ysgol. Bu yn Llandecwyn ac yna Aberllefenni. Daeth arolygwr yno a’i chynghori i fynd i’r coleg. Dywedodd lawer gwaith mai dyna’r cyngor gorau a gafodd. Aeth i ddilyn cwrs dysgu yn y Normal am ddwy flynedd ac wedyn cael swydd yn Adran y Babanod yn ysgol gynradd y Bermo. Roedd Bermo’n agos iawn at ei chalon. Carai’r ardal a’i thrigolion. Gwnaeth lawer iawn o waith yn y gymuned. Roedd y capel yn bwysig iawn iddi. Bu’n athrawes Ysgol Sul am flynyddoedd ac yn rhan o weithgareddau’r capel. Bu’n gwirfoddoli yn siop Achub y Plant, yn helpu’r RNLI, gan sefyll i hel arian iddynt ar y stryd. Roedd Merched y Wawr a’r WI yn bwysig iddi yn ogystal â’r Gymdeithas Gymraeg, Clwb Garddio a’r Lit and Deb. Bu hi ac eraill yn ymuno â dosbarthiadau dysgu Cymraeg er mwyn i’r dysgwyr gael ymarfer. Cefnogai bopeth Cymraeg, gan wrando ar Radio Cymru a gwylio S4C - roedd rhaid gweld Prynhawn Da a Heno. Hoffai dreulio amser gyda’r teulu gan ddod ar wyliau at ei chwaer yng Ngharrog a chyfarfod y teulu am bryd o fwyd. Cafodd Elen ac Iddon a ni’r plant wyliau bendigedig yn aros gydag Anti Gretta ym Mryn Peris. Roedd yn mwynhau sgwrsio gyda ni ar y fainc o flaen y tŷ. Roedd ei hanhwylder yn gwneud hi’n anodd iddi ymdopi a da oedd ei gweld wedi setlo mor hapus ers

blwyddyn yn Hafod Mawddach. Roedd Anti Gretta, Bryn Peris a Bermo yn rhan enfawr o’n bywydau ni a bydd colled fawr ar ei hôl. Dymunem fel teulu ddiolch i bawb am bob cydymdeimlad ac i’r rhai fu’n cymryd rhan yn y gwasanaeth. Carem ddiolch yn fawr i bawb fu’n ei helpu yn y blynyddoedd olaf ym Mryn Peris, y rhai fu’n ymweld â hi yno ac yn Hafod Mawddach. Diolch i staff Hafod Mawddach am eu gofal ac i Ysbyty Gwynedd. Diolch arbennig i ferched Bermo am eu parodrwydd i wneud y paned; byddai hyn wedi plesio Anti Gretta yn fwy na dim. Merched y Wawr Nineteen57 oedd y bwyty yn Nhal-y-bont lle buom yn mwynhau ein cinio Nadolig eleni, a mwynhau a wnaethom ni hefyd - bwyd blasus, cwmni difyr a staff hynod glên yn gweini arnom. Roedd un ar bymtheg o aelodau wedi dod i’r cinio a braf oedd cael cwmni Dorothy ac Eurwen, y ddwy wedi gwella’n ddigon da i ddod gyda ni. Yn ystod y cinio darllenodd Llewela, ein Llywydd, gyfarchion Nadolig gan Meryl Davies, y Llywydd Cenedlaethol, cyn ein hatgoffa am ein cyfarfod nesaf ar Ionawr 19, 2016, pan fydd Martin Topps o’r Gwarchodlu Cymreig yn dod atom. Jean a Megan fydd yng ngofal y noson a byddwn yn cwrdd am 7.00 o’r gloch fel arfer yng Nghanolfan Gymunedol Y Bermo - croeso cynnes iawn i bawb. Ystafell Gymunedol, Theatr y Ddraig Nos Fercher, 3 Chwefror am 7.30 Cwmni Drama Dinas Mawddwy yn perfformio dwy ddrama fer. Mynediad am ddim.

ENGLYN DA

Y mae it o’th grwydro maith - aneddau Yr ei iddynt ganwaith, Mae ’na dŷ ymhen y daith Nad ei yno ond unwaith. Dafydd Wyn Jones Aberangell

Y Llongwr yn y Llan Â’r ail ryfel byd yn ei anterth brawychwyd trigolion yr ardal wrth i wylwyr y glannau ddarganfod corff llongwr o’r Llynges Fasnach ar y traeth yn Ardudwy. Y dyddiad oedd 27 Gorffennaf 1941. Symudwyd y corff i’r marwdy yn Llanaber, er mwyn cael tystysgrif a llofnod y crwner i’w gladdu. Bu’r angladd ym mynwent Llanddwywe. Yr oedd wedi bod yn haf sych, ond fore’r angladd cafwyd cawod o law ysgafn, fel pe bai pobl yr ardal yn wylo. Di-enw yw’r garreg fedd, ond yn sicr mae ei enw ar gofeb yn rhywle. Heddwch i’w lwch. Fel broc o’r môr y daethost ti I orffwys ar y tywod, I gofio am dy aberth, frawd, Rhoddaf flodyn ar dy feddrod. A gweddi ddistaw ar fy rhan Uwchlaw y llecyn yn y Llan. J V Jones Rhodd i’r Llais £5

LLYTHYR

Annwyl Ddarllenwyr,

Apêl am gyfraniadau i gofio hanes y genedl. Mae’n ganrif ers y Rhyfel Mawr ac mae cymaint o’n treftadaeth heddwch ac effaith y rhyfel ar Gymru eto i’w ddatgelu. Ond ni ddaw’r hanes yma i’r fei oni bai am ymdrechion unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol wrth wirfoddoli i ymchwilio a chyflwyno’r hanes. Yn aml ceir gwraidd hanes diddorol yn y papur bro neu gan y gymdeithas hanes lleol. Nawr dychmygwch werth yr ymdrech o gasglu’r holl ymchwil yma ynghyd fel cenedl, gan sicrhau ei fod ar gael yn ddigidol ar ffurf hanesion a delweddau (wedi eu sganio gyda chymorth Casgliad y Werin). Dyma’r ysgogiad y tu ôl i brosiect Cymru dros Heddwch. Ond dim ond tair blynedd sydd gennym bellach i gasglu’r holl ‘hanesion cudd’ yma. Hanesion a all fod yn gyfarwydd i chi efallai ond, heb gymorth gennych i chwilota ac i rannu, a allai fynd yn angof i’r cenedlaethau i ddod. Gall fod yn hanes effaith rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf ar eich cymuned, hanes gwrthwynebwyr cydwybodol lleol, cyfraniad eich bro i ŵyl neu ymgyrch heddwch, ymdrechion mudiadau lleol, neu lenyddiaeth a chelf yn dehongli agweddau o anghydfod/heddwch. I gynnwys eich ymchwil yn y darlun mawr cenedlaethol, a fyddech mor garedig â chysylltu â www.cymrudrosheddwch.org neu hannahuws@wcia.org.uk am daflen ‘Hanesion Cudd/Hidden Histories’, neu galwch 01248 672104 os am sgwrs cyn dechrau arni. O gofio cyfraniad papurau bro fel ystorfa o hanes lleol yr ardal, mawr yw ein diolch rhagflaen. Cofion Hanna a Ffion Cydlynwyr Cymunedol Cymru dros Heddwch

PWY GEITH Y GIG?

Ydych chi eisiau bod mewn band newydd ifanc, cyffrous? Eisiau cael y cyfle i gyfansoddi cân newydd sbon gydag arbenigwyr yn y maes? Eisiau cyfle i berfformio yn fyw o flaen cynulleidfa fawr? O ia – a bod ar y teledu gyda bandiau enwog fel Candelas, Swnami, Yr Eira? Fel rhan o gyfres deledu newydd i S4C – ‘Pwy Geith y Gig’, fydd yn cychwyn ffilmio ym mis Ionawr, rydym yn chwilio am 6 aelod i greu band newydd sbon fydd yn cael cyfle i gael eu mentora gan arbenigwyr yn eu maes a chael y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr yn Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint. Os ydych chi rhwng 11 a 16 oed, yna dyma’ch cyfle i fod mewn band a pherfformio mewn gig arbennig! Am fanylion llawn, ewch i www.pwygeithygig.cymru Meinir Dauncey Williams Cydlynydd Rhaglenni Plant cwmnida.tv 01286 685300 e: 254 | 07814 028989

3


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Llanfair a Harlech Ar ôl y dechrau arferol, darllenwyd llythyr gan ein Llywydd Cenedlaethol, Meryl Davies, gyda chyfarchion y Nadolig.

Eglwys y Santes Fair Llanfair

GWASANAETH PLYGAIN Nos Fercher, Ionawr 20 am 7.00 o’r gloch Trefnir gan Gyfeillion Ellis Wynne Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mrs Meinir Lewis sy’n glaf yn Ysbyty Alltwen. Mae eich cyfeillion yn meddwl llawer amdanoch yn ystod y cyfnod hwn, Meinir.

Ennill £57,000 ar ôl i’r tocyn fod ‘ar goll’!

Disgrifiwyd y noson hon fel ‘Brethyn Cartref ’ gan mai un o’r aelodau oedd yn gyfrifol am y noson, sef Edwina. Dangosodd sut i wneud trefniant blodau bwrdd ar gyfer y Nadolig. Yna tro’r aelodau oedd hi i wneud trefniant tebyg wrth fwyta taffi a datys marsipán wedi eu paratoi gan Hefina. Llwyddodd pawb i greu trefniant tebyg mewn awyrgylch gartrefol yng nghwmni’n gilydd. Cyn troi am adra, paned a seigiau blasus wedi eu paratoi gan Bronwen a Gwenda. Hefina dalodd y diolchiadau ar y diwedd. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â D J Roberts, Uwch Glan a Mair M Williams, Derlwyn ar farwolaeth eu cyfnither Glenys Mairliw Williams a fu farw ar 21 Tachwedd. O Stryd Jones, Blaenau Ffestiniog, roedd Glenys erbyn hyn yn preswylio ym Mryn Blodau. Ein cydymdeimlad hefyd â Ceinwen, ei chwaer, sy’n byw yng Ngellilydan, a’i theulu yn ardal Ardudwy a thu hwnt. Roedd Glenys yn ferch i’r diweddar Dora Evans, gynt o fferm Brwynllynnau, Llanfair.

4

Llongyfarchiadau calonnog i David a Gwyneth Williams, Derlwyn, Llanfair ar ennill £57,000 ar Loteri Iwerddon dros y Nadolig, a hynny o fewn 4 awr i’r cyfnod hawlio ddod i ben. Roedd holi mawr am y bobl oedd wedi ennill yr arian ond heb ei hawlio. Roedd David a Gwyneth wedi bod yn ymweld â’r teulu yn Warrington dros yr Ŵyl a chlywson nhw ddim am y cyhoeddusrwydd o gwmpas yr enillwyr oedd ar goll. Da iawn chi a phob lwc i’r dyfodol.

THEATR HARLECH 01766 780667

am 7.30 oni nodir yn wahanol

Ionawr

9 - Criw Celf Bach 10 - Ffilm - Leviathan [15] - yn y Theatr 11 - Ffilm - Omar [15] ym Mhlas Tanybwlch

‘Corachod Siôn Corn’ yn Ffair Nadolig yr Eglwys yn Harlech yn ystod mis Rhagfyr. Diolch i’r criw gweithgar.

Hanesion gan Caerwyn a Bet Roberts, Sgubor, Llandanwg

Un o’r atgofion cynharaf sydd gennyf ydy tua 1948 am grwydryn a oedd yn hanu’n wreiddiol o gylch Tywyn ac a ddeuai i’r ardal o bryd i’w gilydd i chwilio am waith ar ffermydd. Byddai’n arfer aros am gyfnodau rhywle rhwng ychydig o wythnosau neu hyd at dri mis ar y tro, a phan ddeuai roedd rhaid mynd a’i llyfr rashions bwyd a oedd fel arfer bron yn llawn i lawr i siop Denman yn Harlech. Un o’r llefydd a enwir yn y llyfr cyn iddo ddod i Ferthyr oedd Staylittle, ac felly cafodd y ffug enw ‘Stay Little.’ Roedd yn ŵr a hoffai droi at ei Dduw mewn gweddi ac yn arfer mynd i hwyl wrth weddïo yn y llofft stabl yma ym Merthyr, a’r tro hwn cofiaf am William Williams a Glenys ei ferch o Faes yr Aelfor wedi dod i ymweld â ni ym Merthyr a thra aeth Glenys i’r tŷ eisteddodd ei thad ar risiau’r llofft stabl i wrando arno yn mynd trwy ei weddïau. Un diwrnod pan roedd acw a fy nhad eisiau mynd i lawr i Sêl Harlech roedd bustach wedi marw gennym, ac roedd rhaid ei gladdu. Gan fod y caeau gwair wedi eu cadw nid oedd dyfnder i’w gladdu yn unman arall a chynigiwyd lle gan gymydog yn Erw Wen lle y llusgwyd yr hen fustach i’w gladdu. Y noson honno daeth Ifan Erw Wen heibio Merthyr i ofyn pan na chladdodd yr hen fustach yn iawn. Mi aeth yn row go iawn rhyngddynt a mynnodd ei fod wedi ei gladdu yn iawn. “Wel naddo”, meddai Ifan, “mae ei ben o allan.” “O ydi, dwi’n gwybod bod ei ben o allan achos bod yr hen fustach wedi disgyn ar ei dîn i’r twll, ac oherwydd hynny roedd ei ben allan ond rhoddais dywyrch o’i amgylch.”

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Cyhoeddiadau Caersalem 2015 Am 2.15 o’r gloch oni nodir yn wahanol

CHWEFROR

7 Parchg Dewi Tudur Lewis 14 Marc Jon Williams

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid.


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher, 2 Rhagfyr Croesawyd yr aelodau gan ein llywydd Gwen, a chanwyd cân y mudiad gyda Rhian yn cyfeilio. Llongyfarchwyd Ifan, mab Beti, ar ei briodas â Claire yn ddiweddar. Aethpwyd ymlaen i drafod materion y gangen a chofnodion y pwyllgor rhanbarth. Croesawyd Mair Tomos Ifans atom oedd wedi dod a’i thelyn deires (Beti Bwt) gyda hi ac fe gawsom noson hwyliog a chartrefol iawn yn ei chwmni. Cawsom lawer o eitemau gwahanol - hanes y delyn, caneuon Plygain, carolau Plygain, carolau haf a charolau mynyddig, stori hanes Gwenllian ar y delyn, limrics ar gerdd dant - dyn eira, coeden Dolig, Santa a’r trimings, straeon llawn hiwmor, a darlleniad doniol am Gadw’r Sgôr! Diolchodd Rhian i Mair yn gynnes iawn ar ein rhan. Ar ddechrau’r noson clywsom am Apêl Uned Famolaeth Ysbyty Jowai yn yr India sydd angen cymorth i foderneiddio offer yr uned a diolch i Mair am ei chyfraniad caredig i’r apêl. Ar 6ed Ionawr byddwn yn croesawu’r dysgwyr atom gyda noson gwis yng ngofal Teresa Ross. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Elfyn a Carla ar enedigaeth eu merch fach, Isla Seren, a anwyd ar Dachwedd 2il. Maent yn byw ym Mynydd Isa ger Yr Wyddgrug. Mae Nain, sef Susanne Davies, wedi gwirioni!

Llwyddiant

Capel y Ddôl IONAWR 2016 10 Parch William Davies 24 Miss Glenys Roberts 31 Mr E M P Jones CHWEFROR 7 Mrs Eirwen Evans Capel Salem IONAWR 2016 17 Parch Dewi Tudur Lewis CHWEFROR 21 Parch Dewi Tudur Lewis

Capten ar yr Adran Iau Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd Ysgol Llanbedr. Yn dilyn eu llwyddiant yn nhwrnament yr Urdd, dalgylch Ardudwy, maen nhw’n cael mynd ymlaen i gystadlu yn nhwrnament y sir ym mis Ionawr. Pob lwc blant! Cymdeithas Cwm Nantcol Ar ddechrau cyfarfod ganol Rhagfyr, cyfeiriodd y Llywydd at golli dau aelod triw a ffyddlon yn Agnes Roberts, Frongaled a Geraint Wynne, Meifod. Cydymdeimlodd hefyd â Cledwyn a theulu Garej y Morfa, Harlech yn eu profedigaeth o golli Llion. Wedi dymuno pen-blwydd hapus i dri aelod, cawsom noson o ddifyrrwch pur yng nghwmni Dilwyn Morgan o’r Bala, a fu’n adrodd straeon doniol am ei fagwraeth a’i ddyddiau ysgol. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ein cyfarfod nesaf ar Ionawr 18, pan ddisgwylir Hedd Bleddyn i’n hannerch ar y testun ‘Atgofion’. Cofiwch fod croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni. Buasem yn falch o weld aelodau newydd ar ôl ein colledion diweddar.

Gŵyl Gwrw Llanbedr Manylion am sut i

wneud cais am grant Gwahoddir mudiadau lleol sydd am wneud cais am grant gan yr Ŵyl Gwrw i gysylltu â Robin Ward, ysgrifennydd yr Ŵyl, trwy e-bostio llanbedrbeerfestival@gmail.com a gofyn am ffurflen gais. Bydd angen dychwelyd y ffurflenni cyn diwedd mis Ionawr.

ATEBION PÔS Y BEIRDD - MIS RHAGFYR

1. Peredur Lynch. 2. Cynan. 3. William Morris. 4. Rolant o Fôn. 5. Gerallt Lloyd Owen.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

Capel y Ddôl Cafwyd Gwasanaeth Nadolig eleni dan ofal Eleri gydag Aled, Aron ac Elliw yn cynorthwyo gyda’r eitemau cerddorol a’r darlleniadau. Thema’r gwasanaeth oedd ‘Y Pedwerydd Sul yn yr Adfent’ ar ffurf fodern. Roedd yr arddangosfa o Stori’r Preseb, a gyflwynwyd i’r Capel rai blynyddoedd yn ôl gan y diweddar Keith John, yn ychwanegiad hyfryd i’r gwasanaeth. Talwyd y diolchiadau gan Glenys Jones a dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Mudo Dymunwn yn dda i Roger, Janet a Geraint Owen, Hen Feudy gynt yn eu cartref newydd yn Nolgellau. Gobeithio y byddant yn hapus yno. Mae Janet yn symud yn ôl i’w chynefin. Marwolaeth Bu farw Mrs Irene Stokes, Ty’nyrardd. Cofiwn hi flynyddoedd yn ôl yn cadw siop ffrwythau a llysiau lewyrchus yn y pentref. Bu’r gwasanaeth angladdol yn Eglwys Sant Pedr ar 5 Ionawr am 2.00 o’r gloch. Rhoddion Diolch i Mrs Deilwen Jee am y rhodd o £6.50; hefyd, i Mrs Edith Owen am y rhodd o £6.50.

Llongyfarchiadau mawr i Elin Haf, Pensarn, am ennill Tlws Ann Lewis yn ystod cyfarfod golff ym mis Hydref. Hefyd, llongyfarchiadau arbennig iddi am gael ei henwebu i fod yn Gapten ar yr Adran Iau yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant am y flwyddyn 2016. Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr, y ferch gyntaf i gael ei henwebu i’r swydd yn hanes y Clwb! Da iawn ti, Elin. Addurniadau Addurnwyd pentref Llanbedr yn hynod o ddisglair dros dymor y gwyliau. Diolch yn fawr iawn i rai fu wrthi’n brysur gyda’r trefniadau. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Pat Hughes yn Ysbyty Dolgellau a Mrs Adamouski yn Hafod Mawddach.

Cymdeithas Cwm Nantcol IONAWR 2016 18 Hedd Bleddyn, Penegoes, ‘Atgofion’. CHWEFROR 1 Elfyn Llwyd, Llanuwchllyn, ‘Braslun o Fywyd Seneddol’.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 10 Rhagfyr daeth criw da iawn ynghyd i’r festri i brofi naws y Nadolig gyda Nerys a Geraint Roberts ac Alwena Morgan. Cyflwynwyd a chroesawyd hwy gan Mair. Trwy gyfrwng darllen storïau a barddoniaeth gan Nerys a Geraint yn canu carolau a chaneuon addas eraill gydag Alwen yn cyfeilio, cafwyd noson arbennig iawn a dangoswyd i ni wir ystyr y Nadolig. Diolchodd Mair iddynt yn gynnes am noson wych iawn ac roedd y gwrandawiad a gawsant yn dweud y cyfan. Yn dilyn, mwynhawyd bwffe bys a bawd wedi ei baratoi gan Ellie, Caffi’r Hen Grydd a diolch yn fawr i Enid, ein hysgrifennydd, am wneud yr holl drefniadau. Ar 14 Ionawr byddwn yn cael cwmni Geraint Thomas i roi golwg ar olygfeydd gorau Cymru. Teulu Ardudwy Ddydd Mercher, 16 Rhagfyr daethom ynghyd i fwynhau cinio Nadolig wedi ei baratoi gan Ellie, Caffi’r Hen Grydd. Croesawyd pawb gan Gwennie ac anfonodd ein cofion at Beti a Meinir gan nad oedden nhw’n teimlo’n ddigon da i fod gyda ni a darllenodd gerdyn Nadolig i’r aelodau gan Lilian. Anfonodd ein cydymdeimlad llwyraf at deulu Geraint Wynne, Meifod a fu’n garedig iawn tuag at y Teulu tra’n gadeirydd y Cyngor Cymuned. Diolchodd i Siop Fox’s, London House ac i Margaret Pauline am eu gwobrau tuag at y raffl. Llongyfarchodd Arfon, mab Elizabeth Jones, ar ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru’r flwyddyn nesaf. Mwynhawyd pryd ardderchog a diolchwyd yn gynnes i Ellie a’i staff am y wledd a’r gwasanaeth. Ar 20 Ionawr byddwn yn cael arddangosfa o’i gwaith llaw gan Mrs Emsyl Davies. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Jane Jones, Berwyn, yn Ysbyty Gwynedd a Mis Catrin Evans, Pentre Uchaf, yn Ysbyty Dolgellau.

6

Horeb Nos Fercher, 16 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig gan blant yr Ysgol Gynradd yn Horeb. Yna fore Sul, 20 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig gan blant yr Ysgol Sul a rhai o’r oedolion a chafwyd gwasanaeth hyfryd iawn a daeth Siôn Corn yno i rannu anrhegion i’r plant roedd mewn hwyliau da iawn. (Diolch i’r athrawon am y paratoi a’r trefnu.) Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Gwenda ac Eurwyn, Alwen a Llion ac Eifion ac Alison a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli mam a nain annwyl, sef Mrs Agnes Roberts, Frongaled. Hefyd, anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Ann, Huw a John a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli eu brawd Geraint.

Gwasanaethau’r Sul Horeb IONAWR 10 Gwennie ac Anthia 17 Alma Griffiths 24 Hilda Harris 31 Parch Goronwy Prys Owen CHWEFROR 7 Rhian a Meryl

GLYN EDWARDS

Glyn oedd yr ieuengaf o bump o blant i Thomas ac Eleanor Jane Edwards, sef, Lena, Idris, Thomas John, Hywel a Glyn. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i fyw i Hendre Eirian. Pan dorrodd y rhyfel ym 1939, ei ddymuniad oedd ymuno â’r RAF, a phan wnaeth gais i wneud hynny darganfuwyd nad oedd ond pymtheg oed. Dywedwyd wrtho gan y ‘Recruitment Officer’ - “You already have an important job, you are a farm boy”. Ac felly, yn Hendre Eirian y bu weddill y rhyfel yn ymwneud â’r byd amaeth. Dysgodd fod yn dipyn o ‘jack of all trades’, gan gynnwys saethu a hela llwynogod - ei hoff bethau. Parhâi i hela yn ei 80au gan fwynhau cwmni’r hogia ifanc a ddeuai, yn ôl a debygai ef, i’w dysgu ganddo! Un arall o’i ddiddordebau pan yn ifanc oedd ei foto beic, a byddai’n aml i’w weld yn Nolgellau ar nos Sadwrn. Mentrodd gynnig lifft yn ôl i’r Dyffryn i sawl un ar ei biliwn. Bu ar Ynys Manaw sawl gwaith yng nghwmni cyfoedion yn gwylio rasys y TT. Cyn hwylio, byddai’n aros yn Lerpwl gyda’i chwaer, Lena â’r Capten Tom Davies.

CEIR MITSUBISHI

Cyfarfu â Margaret ym 1951 a gwnaethant eu cartref ac ennill eu bywoliaeth ar safle carafanau Caerelwan. Ganed iddynt dri o blant, Ann, Elwyn a Delyth. Ergyd drom i’r teulu oedd colli Elwyn trwy ddamwain moto beic ym 1977. Pan werthwyd safle Caerelwan, cafodd Glyn waith yn y Bermo gyda Sandy Sharp yn ail-wneud wynebau a thu mewn i siopau. Ar ddiwedd y 60au agorodd Margaret siop yng Nghaerelwan a daeth Glyn yn ei ôl unwaith eto i weithio yno fel ‘handyman’. Dyma pryd y daeth y teulu i fyw i Arfryn. Meddai Glyn ar lais bas cyfoethog. Hoffai’r darnau corawl clasurol a mwynhaodd yn fawr ei gyfnod yng nghwmni Cantorion Enddwyn a Chôr Ardudwy. Tor-iechyd fu’n gyfrifol am iddo roi’r gorau i’r corau. Yn ystod y 90au, roedd yn aelod o wythawd Coed Ucha, a chyda Geraint Meifod yn rhoi sylfaen gadarn i’r wythawd. Yn ystod rhai o’r nosweithiau a gynhaliwyd fe gyflwynai Glyn englynion a barddoniaeth a ysgrifennwyd gan ei dad, ynghyd â phrisiau’r farchnad amaeth drigain mlynedd ynghynt. Annibynnwr oedd Glyn, ac yn aelod selog yn Rehoboth, a loes calon iddo oedd dod â’r Achos yno i ben. Gwasanaeth angladdol Margaret, ei briod, oedd yr olaf i’w gynnal yn y capel yn 2011, a phrofodd ergyd drom arall yn y fynwent y prynhawn hwnnw, ym marwolaeth Nerys, ei nith. Yn Ebrill 2014, dathlodd Glyn ei ben-blwydd yn 90 oed, ac ysgrifennwyd yr englynion canlynol ar gyfer yr achlysur: Yn erwau Hendre Eirian - y gwron Flagurodd yn ddiddan, Un â chof am fro, â chân, A’i eiriau fyth i’n herian. Dyma gymer a wisga’i ‘feret’ - ddydd gwaith, Ddydd gŵyl a’r Sul weithie, Gŵr â’i lwydd, gŵr gwir ei le Gŵr a’i eglwys yn greigle. Ffrindiau cun a’th deulu’n deg - weli’n Dy galon, ŵr glandeg, Yn daer ar ddathlu’r naw deg Yn chwennych cei ychwaneg.

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid

Nid oedd llawer ychwaneg i fod. Dirywiodd ei iechyd yn sydyn iawn a threuliodd y misoedd diwethaf hyn yn gyfforddus ac yn ddiogel yn Hafod Mawddach, lle cafodd ofal arbennig. Diolch am gael ei adnabod a chael cyd-gerdded rhan o’r daith yn ei gwmni. Cysga’n dawel, Glyn. HD


AGNES ROBERTS Roedd gwreiddiau mam yn ddwfn yn Ardudwy. Cafodd ei geni ar Fehefin 18fed, 1935, yng Nghoed Ystumgwern yn ferch i Griffith Jones, Tŷ’n y Wern a Nain Talybont, sef Margaret Jane Evans o Fryncrug. Yr oedd gan mam un brawd mawr yr oedd yn meddwl y byd ohono, sef William. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar ym Mryn Bach. Ymhen ychydig, dyma’r teulu’n symud i’r Trawsdir rhwng Talybont a’r Bermo, cyn ymgartrefu yn ddiweddarach yn 1, Gwelfor, Talybont. Ar ôl cyfnod yn y coleg ym Mangor bu’n dysgu yn Lerpwl ac yn Llwyngwril ac Arthog am gyfnod. Ond yn 1960, dewisodd roi heibio ei gyrfa fel athrawes, a phriodi Hughie Frongaled. Cawsom ein magu yn sŵn cerddoriaeth ac ymhen dim roeddan ninnau’r plant fel Dad a Mam yn canu ac yn cystadlu mewn eisteddfodau. Gallai droi ei llaw at amryw o bethau oedd ynghlwm â gwaith tŷ: mwynhâi baentio a phapuro waliau; byddai’n gwnïo dillad i ni’r plant ac iddi hi ei hun - a’r rheiny’n para’n dda; gallai ddarnio a thrwsio yn ddethau hefyd: roedd y patchus ar bengliniau oferôls Dad yn werth eu gweld! Roedd ganddi gof aruthrol; gallai ddyfynnu talpiau o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg o’i dyddiau ysgol a choleg, heb sôn am yr holl weithiau a ddysgodd fel unawdydd, mewn côr a pharti. Ac wedi dyddiau coleg, ati hi y byddai ei ffrindiau yn troi pan oedd angen rhoi enw ar wyneb, a’r cof yn pallu! Oedd, roedd yn ofalus iawn ohonom ni i gyd yn Frongaled –yn nyrs dda, i ni yn blant, i Dad yn ystod yr achlysuron prin y bu’n rhaid iddo fo ildio i salwch ac i Taid a Nain Drws Nesa yn eu henaint. Chafodd hi ddim gofalu am ei mam ei hun oherwydd natur ei salwch, ac ’roedd hynny yn loes calon iddi hi; eto, tra bu Nain Talybont mewn iechyd nid âi i unman hebddi hi. Wrth i ni’r plant dyfu, trodd ei llaw fwyfwy at waith y fferm hefyd ac yn wir, daeth yn dipyn o giamstar ar dynnu ŵyn. Aeth i ddosbarthiadau yn Nolgellau er mwyn meistroli’r gamp ac ymhen dim, hi oedd y fydwraig a gai ei galw i helpu dod ag ŵyn bach cyndyn yr ardal i’r byd. Bron iawn nad oedd hi’n mwynhau genedigaeth anodd, - oen y tu ôl ymlaen, neu un â’i ysgwydd yn sownd - ac yn sicr fe gai wefr o glywed y fref wantan gyntaf ar ddiwedd yr ymdrech.

Eto, er ei bod yn ofalus o anifeiliaid, doedd hi ddim mor hapus o’u gweld yn crwydro o flaen y tŷ, gan fod ganddi dipyn o feddwl o’i blodau. Cyn gynted ag y byddai dafad yn mentro blasu unrhyw beth a dyfai yn yr ardd fach, mi fyddai allan ar ei hôl hi, yn chwifio lliain sychu llestri ac yn bygwth ei bywyd! Roedd yr ieir yn cael yr un driniaeth yn union. Ond cofiwn un tro i’r ceiliog fentro rhoi ei big yn nhiriogaeth Mam. Nid ceiliog cyffredin mo’r ceiliog hwn. Yr oedd yn fawr, yn wyn ac yn bluog tu hwnt gyda chlamp o gynffon nobl. Yn wir, cymaint oedd meddwl Dad o’r ceiliog hwn, fel y rhoddodd iddo enw: Glyn Ceiliocws. Ond doedd waeth gan Mam am ei enw na’i statws: yr oedd o wedi dechrau crafu o gwmpas ei thiwlips ac yr oedd yn rhaid ei hel o’r ardd. Cornelodd y creadur yn y patch glas, a chydiodd yn ei gynffon. Roedd yr hyn ddigwyddodd nesaf yn sioc enbyd. Gollyngodd y ceiliog ei gynffon, heglodd hi drwy’r giât ac i ffwrdd â fo yn ôl i’r cae, gan adael Mam yn gafael mewn tusw enfawr o blu gwyn, gosgeiddig. Nid dyna ddiwedd y stori. Ymhen ychydig, daeth Dad i’r tŷ, yn amlwg wedi gweld yr aderyn moel, gan fytheirio’n wyllt ei fod am dagu’r ci a fu’n gyfrifol am y fath lanast! Aeth rhai dyddiau heibio cyn iddi gyfaddef y gwir, ond hoffem nodi na wnaeth yr un o’r cŵn ddioddef yn dilyn y digwyddiad hwn! A gallwch ddychmygu’r chwerthin a fu wrth adrodd yr hanes wedyn! Wrth edrych yn ôl, mae’n amlwg i ni fod priodas Dad a Mam wedi bod yn gyfoethog a chadarn, felly roedd colli Dad bum mlynedd yn ôl yn ergyd drom i Mam, yn un na lwyddodd yn llawn i ddygymod â hi. Yr oedd wedi colli cymar oes, a bu’r blynyddoedd diwethaf hyn yn ddigon anodd iddi. A chyn i ni ddod i wybod am achos ei gwaeledd olaf, gwyddem fod rhywbeth o’i le gan fod y cof a fu mor sicr yn pallu a’r hyder yn pylu. Treuliodd ei misoedd olaf yn Waunfawr a’r Felinheli a’i dyddiau olaf yng Nghartref Nyrsio Cerrig yr Afon, lle cafodd ofal arbennig. Yno cawsom gip unwaith eto ar yr hiwmor a’r hwyl a oedd mor nodweddiadol ohoni. Wrth edrych yn ôl ar ein plentyndod ni, do, cawsom bob gofal a chefnogaeth, cawsom ein canmol a’n cystwyo fel bob plentyn, ond yn gyfeiliant i bob dim roedd yna chwerthin, a bydd y chwerthin hwnnw’n aros. Alwen

GERAINT WYNNE

Roedd Geraint yn gymeriad hoffus iawn, ffrind triw i lawer, caredig ac yn barod ei gymwynas bob amser, swil ar brydiau ond eto yn gadarn ei farn ac yn barod i fynegi hynny ar bob achlysur. Ymysg ffrindiau, roedd yn unigolyn hwyliog gan fwynhau sbort ac meddai ar chwerthiniad iach. Cafodd ei addysg gynnar yma yn y Dyffryn ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Y Bermo cyn symud i Ysgol Ardudwy, Harlech. Nid oedd dysgu yn bwysig gan Ger. Roedd ei fryd ar fod yn ffermwr ac ysai am y dydd i gael gadael yr ysgol a bod adref yn helpu ei dad ym Meifod. Yn fuan wedi gadael yr ysgol, treuliodd gyfnod yn yr ysbyty yn Lerpwl ac ar ôl gwella derbyniwyd ef i ddilyn cwrs amaeth yng Ngholeg Llysfasi. Roedd Geraint yn ei elfen a gwnaeth lawer o ffrindiau a hyd heddiw roedd yn dal mewn cysylltiad â llawer ohonynt. Yn dilyn y cyfnod hapus yma, dychwelodd i weithio adref ar y fferm ym Meifod a ffermydd eraill yn yr ardal hefyd. Yn ystod yr amser yma roedd yn aelod ffyddlon o Glwb y Ffermwyr Ifanc yn y pentref lle dysgodd lawer am y byd ffermio gan gynnwys beirniadu stoc. Bu hyn yn feithrinfa dda iddo ac ymhen blynyddoedd gwelwyd ef yn beirniadu mewn sioeau amaethyddol ar hyd a lled y wlad. Bu hefyd yn arddangos gwartheg Duon Cymreig gan ennill gwobrau am fagu teirw a gwartheg. Yn ŵr ifanc iawn dangosodd ddiddordeb yn y pentref a’r gymuned ac yn ei ugeiniau cynnar daeth yn aelod o’r Cyngor Plwyf gan barhau yn y swydd hyd y diwedd, cyfnod o bron i 50 mlynedd. Tipyn o gamp, dybia’ i! Yn ystod ei yrfa wleidyddol bu hefyd yn cynrychioli’r ardal fel Cynghorydd Dosbarth. Roedd Geraint yn adnabod yr ardal a gynrychiolai gan weithio’n frwd a diduedd dros bawb. Bydd bwlch mawr ar ei ôl ar nifer o bwyllgorau. Roedd yn aelod brwd o Gôr Ardudwy a hynny eto yn ddi-dor am bron i 50 mlynedd. Meddai ar lais bâs bariton swynol a chai bleser o ganu mewn partïon ac wythawdau mewn cyngherddau ac

eisteddfodau lleol. Trwy anogaeth Geraint y sefydlwyd Wythawd Coed Uchaf ac ar ein haelwyd ni y cynhelid yr ymarferion. Digon o hwyl a chwerthin a Ger o’i go hefo’r copïau hen nodiant – dim ond sol-ffa oedd yn gwneud y tro. Ger fyddai’n cael y “gigs” i ni bob amser gan fod cylch ei ffrindiau a’i gydnabod yn eang iawn. Roedd ganddo gysylltiadau di-ri a ninnau wrth ein boddau yn cael trip i berfeddion gwlad yn aml. Trefnodd gyngerdd blynyddol i godi arian tuag at gynnal y Neuadd Bentref. Eto, roedd ganddo gysylltiadau mewn sawl ardal a llwyddai i wahodd corau safonol o flwyddyn i flwyddyn. Wedi marwolaeth ei dad, daliodd ati i ffermio yn ei gartref a chynorthwyo ar ffermydd cyfagos. Roedd yn gymwynaswr heb ei ail, dim ond codi’r ffôn a byddai Ger yno yn barod i helpu i hel defaid, cneifio, hel gwair, codi tatws ac ati. Byddai wrth ei fodd yn dod acw i gynghori a rhoi dipyn o addysg sut i ffermio i mi! Uchafbwynt blwyddyn fyddai dyddiau plannu a chodi tatws ym Meifod ac yn ddiweddarach yn Frongaled. Deuai mintai o ffrindiau at ei gilydd i helpu a Ger wrth ei fodd yn sgwrsio a thynnu coes. Byddai’n brysur yn ystod tymor yr haf yn beirniadu cynnyrch yr ardd mewn sioeau amaethyddol pell ac agos. Braint iddo oedd cael ymddangos ar raglen Cefn Gwlad hefo Dai Jones, Llanilar. Gwelwyd Ger yn sgwrsio’n rhydd a hwyliog a mawr fu’r canmol . Siom mawr iddo oedd gorfod rhoi gorau i ffermio rhyw 8 mlynedd yn ôl oherwydd cyflwr ei iechyd. Daliodd i fyw yn ei gartref ym Meifod Uchaf a pharhau i gadw diddordeb yn y byd ffermio. Câi bleser o fynd i’r sêl yn Nolgellau yn wythnosol i roi’r byd yn ei le gyda’i gyfeillion ac i weld ac i feirniadu safon yr anifeiliaid. Bu cyfnod ei ymddeoliad yn un prysur iddo. Etholwyd ef yn Llywydd y Sioe Sir a theimlai’n falch iawn o’r anrhydedd gan iddo weithio’n ddiwyd am flynyddoedd i gynnal y Sioe. Roedd yn bendant ei farn y dylai’r Sioe fod yn symudol os oedd am lwyddo. Daeth anrhydedd arall i’w ran pan etholwyd ef yn Llywydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig. Roedd hyn yn uchafbwynt ei yrfa fel bridiwr Gwartheg Duon a gwnaeth y gwaith gydag arddeliad. Rydym yn dathlu bywyd un a gyfrannodd gymaint i’w gymuned. Diolch am gael ei adnabod a bod yn rhan o’i fywyd. EPO

7


HARLECH Sefydliad y Merched Rhoddodd y Llywydd, Christine Hemsley, groeso i bawb i’n cyfarfod Nadolig ar 10 Rhagfyr. Cynhaliwyd y noson yng nghaffi’r Castell. Dymunwyd yn dda i’r rhai oedd yn methu bod yn bresennol oherwydd salwch. Roedd dwy aelod sef Mrs Libby Williamson a Mrs Pat Church wedi cael triniaeth mewn ysbyty. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd rhai dyddiadau pwysig. Cynhaliwyd y gwasanaeth carolau yn Nolgellau ym mis Rhagfyr ac yr oedd rhai o aelodau Band Harlech yn cymryd rhan. Daeth Sefydliad y Merched Harlech yn ail yng nghystadleuaeth y Ffair Nadolig yn y Bala. Gwenda Griffith oedd yn cynrychioli cangen Harlech. Ar ôl y busnes cafwyd gwledd gwerth ei chael gan Freya a’r staff. Jennifer Dunley oedd y cwis feistr a Myfanwy Jones yn arwain y canu o ganeuon Cymreig. Enillwyd y rafflau gan Myfanwy Jones, Denise Hagan, Eileen Greenwood, Jennifer Dunley, Josie Robinson ac Ana Edwards. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn y Neuadd Goffa, Harlech, ar 13 Ionawr 2016. Y gŵr gwadd fydd Mr Graham Perch. Croeso i aelodau newydd. Rhodd i’r Llais Diolch i deulu’r diweddar Deio Williams, Awel y Môr am y rhodd o £20.

Priodas

Llongyfarchiadau i Aron Payne, Hafod y Morfa, Harlech a Becky Rogers, Y Goedlan, Caerfyrddin ar eu priodas ar Medi 25, 2015. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn y De Courcey’s Manor, Caerdydd. Cafodd y teulu a ffrindiau ddiwrnod arbennig. Pob dymuniad da i’r ddau yn eu cartref newydd yng Nghaerdydd. Rhodd: £10

Cyhoeddi Llyfryn

Lansiwyd y llyfr ‘100 facts about Harlech’ a gasglwyd ynghyd gan wahanol aelodau o Sefydliad y Merched ac wedi ei olygu gan Sheila Maxwell. Mae’r llyfr ar werth mewn gwahanol siopau yn Harlech. Hwn yw project canmlwyddiant Sefydliad y Merched Harlech.

Symud Anfonwn ein cofion at Arawn Jones, Cerrig Gwaenydd sydd erbyn hyn yng nghartref Cefn Rodyn, Dolgellau.

8

Teulu’r Castell Cafwyd cinio Nadolig ardderchog yn y Ship, Talsarnau, ar 9 Rhagfyr 2015. Braf iawn oedd gweld Menna Jones ac Olwen Jones ar ôl eu triniaeth yn yr ysbyty. Dymunwyd yn dda i Meirion Thomas oedd wedi dathlu penblwydd rai dyddiau ynghynt ac i Bronwen Williams, hithau wedi cael pen-blwydd ychydig ddyddiau ynghynt hefyd. Hefin Jones fu’n diolch i bawb. Braf iawn oedd gweld Enid Smith efo ni hefyd. Diolch i bawb a roddodd y rafflau i ni. Ni fydd cyfarfod ym mis Ionawr, ond cofiwch am y cyfarfod nesaf ar 9 Chwefror sef bingo gyda Gwenda Jones.

Cyfeillion Ellis Wynne Eglwys y Santes Fair Llanfair

GWASANAETH PLYGAIN

Capel Jerusalem HARLECH IONAWR 10 Parch Iwan Llewelyn Jones am 4.00 - Undebol 17 Parch Dewi Morris am 4.00 CHWEFROR 7 Parch Iwan Llewelyn Jones am 3.30 - Undebol

Colli Llion Ac yntau yn ddim ond 33 oed, bu farw Llion Wyn Roberts, 11 Tŷ Canol, mab Trevor a brawd i Gerwyn. Nid oedd wedi mwynhau’r iechyd gorau yn y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, roedd ganddo lawer o ffrindiau a arhosodd yn driw iddo. Roedd hynny yn amlwg yn y dyrfa fawr a ddaeth i dalu’r gymwynas olaf iddo. Roedd yn hoff iawn o’r cŵn Alsatian ac yn arbennig o hoff o ddilyn ei hoff dîm pêl-droed, sef Arsenal. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Rehoboth yng ngofal y Parchedig Iwan Llewelyn Jones gydag Iwan Morus Lewis wrth yr organ. Cydymdeimlwn yn fawr iawn gyda’r teulu.

Nos Fercher, Ionawr 20 am 7.00 o’r gloch Cynhelir ymarfer Parti Plygain y Lasynys ar bnawn Sul 17 Ionawr am 3.00 o’r gloch

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid

Croeso cynnes i unrhyw un sydd am ymuno â ni.


GWASANAETH NADOLIG YSGOL ARDUDWY Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig gwahanol i’r arfer yn yr ysgol eleni. Roedd yn drefniant ar y cyd â Chôr Meibion Ardudwy a chafwyd datganiadau a charolau Nadoligaidd gyda darlleniadau a pherfformiadau llafar. Roedd Band yr ysgol, unawdwyr, y Côr Disgyblion a Chôr Staff ynghyd â Chôr Meibion Ardudwy yn rhan o’r cynhyrchiad gyda darlleniadau o’r Beibl a darnau Nadoligaidd pwrpasol, a bu tri disgybl yn cyflwyno sgets. Pleser oedd gweld Neuadd yr ysgol yn llawn ar gyfer y digwyddiad a chafwyd lluniaeth gan Gyfeillion yr Ysgol ar ddiwedd y noson. Casglwyd £300 er budd ‘Childline’. Diolch yn fawr iawn i Gwion Llwyd am dynnu’r lluniau.

BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N DARLLENWYR! 9


Hanes Syr Charles Phibbs Plas Gwynfryn

Dirywiodd eu perthynas yn fuan pan geisiodd gyflwyno gwelliannau a chodi’r rhent tra’r oedd yr economi amaethyddol mewn dirwasgiad. Surodd y berthynas hyd yn oed ymhellach Rhagair o’i hanes yn Iwerddon pan gymerodd fawnogydd at ei cyn dod i Lanbedr a gofnodwyd ddefnydd ei hun a gyrrodd ei gan Einion Thomas, Archifdy denantiaid i fawnogydd eraill Meirion. sâl a gwlyb. Am hyn, cafodd ei Gellir olrhain enw Phibbs o anwybyddu a bu raid iddo gael Swydd Lincoln tua diwedd yr amddiffyniad yr heddlu i dorri’r unfed ganrif ar bymtheg pan mawn. Yn wir, dirywiodd eu roddwyd rhodd o dir yn Iwerddon perthynas gymaint fel bu raid gan y Goron i ddau frawd a oedd iddo gael presenoldeb yr heddlu yn filwyr, sef William Phibbs i warchod ei deulu yn ogystal â’i ger Cork ac i Richard Phibbs yn weithlu yn Doobeg. Kilmainham y tu allan i Ddulyn. Wedi hynny ni chlywid llawer o’u Yn 1900 adenillodd lid ei hanes tan y flwyddyn 1659 pan denantiaid pan gymerodd gafodd Richard (a ddisgrifiwyd denantiaeth o fferm arall gyda fel milwr) dir yn “Baronies pholisi o anwybyddiaeth a oedd Corran” a “Tireagh” yn Swydd yn eiddo i Arglwydd Harlech. Sligo a oedd mewn rhan a elwir Roedd hyn yn wrthun yng yn ”Cromwellian Settlement ngolwg yr “United Irish League”, of Ireland”, a thrawsblannwyd sef cymdeithas a sefydlwyd y brodorion Catholig i ardal gan William O’Brien fel “Land i’r gorllewin o Shannon yn League” a ddaeth i gael ei Connaught. Creodd y polisi hadnabod fel “gwarchodwyr haearnaidd hwn gryn gasineb meddiannau tenantiaid”, ac roedd yn erbyn y drefn Seisnig gan y cymhelliad Phibbs yn anfaddeuol, werin Wyddelig, ac i gadw trefn a phasiwyd y penderfyniad ar rith y drefn Seisnig neilltuwyd canlynol: tir yn Connaught i gyn-filwyr a “That we regard the action oedd yn barod i gymryd siawns of Phibbs ... in grabbing the mewn hinsawdd elyniaethus, ac Leitrim ranch as deserving the i’r rhandiroedd hyn y symudodd condemnation and we call on all Richard Phibbs a’i deulu. League branches to take united Edrychwyd ar y teulu fel goruchafiaethwyr a thargedwyd bygythiadau real atynt, ond er gwaethaf hyn gwelwyd teulu’r Phibbs yn herwyr llwyddiannus, ac erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ganddynt feddiant ar dirwedd sylweddol yn Sligo a Galway ac eto yn dal i awchu am ragor o feddiant. Yn 1870 prynodd Charles Phibbs eiddo a ddisgrifir fel “Townland of Doobeg” tua deng milltir ar hugain i’r de o dref Sligo.

action ... and make it clear that he will not be allowed with impunity to ignore the League”. Golyga’r gorchymyn y byddai Phibbs yn cael ei anwybyddu’n gymdeithasol ac mewn llythyr at George Wyndham, Prif Ysgrifennydd Iwerddon, cwynodd am ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn erbyn y Gynghrair a thrwy hynny roedd yn amhosib rhedeg y Stad yn llwyddiannus.

Erbyn hyn roedd ei weithlu Dros y blynyddoedd gwariodd yn gadael ac roedd yn cael swm anferthol ar wella’r stad a ei anwybyddu gan bawb fel oedd fel y disgrifiodd yn “aflêr”, ac gofaint a oedd yn arfer pedoli adeiladodd dy, yn ôl y disgrifiad iddo. Hysbysebodd ei felinydd y yn gwrt-dy, heb fod yn fawr ond byddai’n codi mwy am ei flawd yn arswydus o lwm a heriol ei a dywedodd un o weithwyr siop olwg iddo fo ei hun, a alwyd yn ddillad ar ran y perchennog wrth Doobeg ar lethr gyda golygfa ei ferch na fyddant yn cydnabod orchfygol dros yr ardal. bellach busnes y teulu. Erbyn hyn Ar yr olwg gyntaf roedd ni allodd ymddiried yn yr Heddlu perthynas gynnes rhwng Phibbs chwaith, a pharhaodd hyn nes a’i denantiaid, er efallai bod hyn rhoddodd Phibbs y gorau i’r tir yn fwy oherwydd poblogrwydd ei . wraig nag ef ei hun, a ddisgrifir fel Yn 1916 bu Charles Phibbs farw un trahaus. ac fe’i claddwyd mewn llecyn preifat ar ei dir nepell o’i dy.

10

Dilynwyd ef gan ei fab a oedd o’r un enw â fo ei hun, a hefyd yn ôl

cariad â’r lle. Beth bynnag oedd y rheswm yma y daeth.

pob sôn roedd wedi etifeddu hen ffordd drahaus ei dad, er iddo gael ei ddisgrifio fel ffermwr da a dyfeisgar. Bu ei ddyddiau yn Doobeg yn rhai helbulus.

Yn ôl yn Iwerddon cymerodd y Gweriniaethwyr feddiant o’i dy yn Doobeg a’i ddefnyddio fel Pencadlys yn ystod y rhyfel gartref. Parhaodd rhai o weithwyr yr ystâd yn driw i Phibbs ac felly roedd eu dyfodol yn y fantol. Fe yrrwyd llythyr yn Hydref 1922 at Pat Hunt a oedd yn fforman ar y Stad a chawsant orchymyn i ddiweddu eu gwaith ar yr ystâd erbyn 6 Hydref 1922. Aeth y llythyr yn ei flaen “Should ye fail to obey, drastic measures shall be taken by night or by day”. Arwyddwyd mewn ffordd ddramatig gan “The Man behind the gun”.

Yn ystod y “Tan War” roedd yn cael ei ystyried fel “Prif Gydymdeimlwr” â Phrydain yn yr ardal. Dyma safiad yr oedd yn ymffrostio ynddo ar y dechrau ac roedd yn amharod i ymddiswyddo fel “Grand Juror” ar y “Quarter Sessions” hyd yn oed ar ôl i’r IRA ei herwgipio am gyfnod byr a bygwth ei saethu. Llosgwyd ei dŷ gwair a bygythiwyd ei weithwyr, ond roedd y bygythiadau hyn yn cael eu gwanhau gan bresenoldeb y fyddin Brydeinig. Cafwyd cadoediad a arweiniodd at gytundeb “Anglo Irish Treaty”, ond gwaethygodd hyn ei broblemau, ac fe’i hynyswyd ymhellach pryd y diddymwyd ei warchodaeth. Nid oedd yr IRA ychwaith wedi anghofio ei safiadau yn ystod yr helynt, ac roeddynt yn benderfynol o gael gwared ag ef. Trwy gydol Mai 1922 roeddynt yn targedu ei dy yn rheolaidd trwy saethu, a ffrwydrwyd adeilad lle’r oedd yn cynhyrchu trydan a pheintiwyd sloganau ar wal y tŷ a’r adeiladau. Cafodd y lle’n raddol ei ddinistrio, ond ar y noson 21 o Fai 1922, torrwyd bedd iddo o flaen ei dy a gosodwyd y beddargraff canlynol arno. “Here lie the remains of Charles Phibbs Who died with a ball of lead in his ribs. His tenants are all aggrieved at how quick he went, for he went all of a sudden without lifting the rent”.

Erbyn hyn roedd yn sylweddoli bod y ‘sgwennu ar y wal’, ac roedd y bygythiadau a’r dinistr yn pwyso arno, a phenderfynodd godi ei bac a gadael Iwerddon am Ardudwy a phrynu Plas y Gwynfryn, Llanbedr yng Ngorffennaf 1922. Nid oes cadarnhad pam y daeth i Blas y Gwynfryn, Llanbedr. Mae rhai’n amau mai dylanwad Arglwydd Harlech oedd y rheswm, trwy fod ganddo ystâd ger Harlech a hefyd ei fod yn berthynas pell iddo. Mae eraill yn dweud ei fod wedi gweld hysbysiad am Blas y Gwynfryn a bod ei wraig wedi syrthio mewn

Nid pawb oedd yn falch o weld Phibbs yn gadael. Roedd “Easter Vestry of the Church of Ireland” yn unfrydol yn eu cynnig o gydymdeimlad â’r teulu am orfod gadael eu cartref a’r golled iddynt oherwydd hynny. Er gwaethaf yr holl fygythiadau dychwelodd Charles Phibbs i Doobeg yng ngwanwyn 1923 er gwaethaf y perygl bod yr IRA yn chwilio amdano, ond yn ôl y traddodiad mi lwyddodd i adennill peth o’i eiddo fel dodrefn yn ogystal â llestri arian a guddiwyd gan y gweision iddo, a hefyd gloch y tŷ a oedd yn arfer galw’r gweision i ginio ond a roddwyd yn ddiweddarach yn anrheg i Eglwys Llandanwg. Ni feiddiodd ymweld â Doobeg wedyn oherwydd bygythiadau’r IRA a oedd yn dal i fod mewn grym, ond daeth ag un unigolyn gydag ef i Lanbedr, sef cyn rhingyll yn yr RIC a fu’n warchodwr personol iddo rhag ofn y byddai’r IRA yn ei ddilyn. Yma yn 1936 cafodd ei wneud yn Farchog am ei wasanaeth i lywodraeth leol a hyn er na fu’n dirfeddiannwr poblogaidd yn Iwerddon. Bu farw yn 1964 ac fe gafodd ei amlosgi a thaenwyd ei lwch ar lethrau ei wlad fabwysiedig. Fe’i dilynwyd gan ei fab Harloe Phibbs. Gwerthwyd ty Doobeg yn 1932 i Mr O’Dowd ond fe’i gwerthwyd yn ddiweddarach wedyn i berchnogion eraill. Defnyddiwyd bedd ei dad a oedd wedi ei wneud â gwaith briciau a cherrig i gadw arfau yn ystod y rhyfel gartref gan yr elfen deyrngarol leol.


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Gwasanaeth Nadolig Daeth cynulleidfa dda ynghyd i’r Gwasanaeth Nadolig yng Nghapel Bryntecwyn pnawn Sul, 20 Rhagfyr. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim a thrwy gymorth taflunydd, cafwyd cyflwyniad arbennig ar gyfer y Nadolig. Wedi cyflwyno gweddi, gwahoddodd y Gweinidog y plant ymlaen i gymryd rhan a chafwyd cyfraniad hyfryd ganddynt, gan ddechrau gyda datganiadau ar y piano gan Lois, Sioned ac Erin Fflur. Yna unawd gan Anna Efa, darlleniadau gan bob un o’r plant hŷn, a chydganu swynol i gyfeiliant Elin Williams ar y piano. Y rhai fu’n cymryd rhan oedd Ellie, Beca, Osian, Jack, Sioned, Lois, Erin Fflur, Cari Ellen, Dylan Bryn ac Anna Efa. Diolchodd Mai Jones i’r Parch Anita Ephraim am ei hanerchiad, ac i’r plant i gyd, dan ofal Carys Evans, am wneud eu rhan hwythau. Hyfryd iawn, unwaith eto, oedd eu gweld i gyd yn cyfrannu cymaint at y gwasanaeth. Cafwyd te parti bach ar y diwedd a rhoddwyd anrheg i’r plant. Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau Ionawr 14 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb

Merched y Wawr Croesawyd pawb i’r cinio Nadolig ym Mhlas Aberdunant, Prenteg, canol dydd, 10 Rhagfyr gan y Llywydd, Siriol Lewis. Roedd rhai o’r gwŷr hefyd wedi ymuno yn yr achlysur a mwynhawyd pryd o fwyd blasus mewn awyrgylch gynnes braf yn yr hen blasty yma. Cynhaliwyd y raffl wedi gorffen bwyta ac roedd nifer o wobrau i’w hennill. Pwyllgor y Neuadd Hoffai aelodau pwyllgor y Neuadd ddiolch am eich cefnogaeth i’r Yrfa Chwist Nadolig a gynhaliwyd ar y 10fed o Ragfyr pryd y cafwyd elw o £330. Mae gennym neuadd arbennig iawn ond mae’n dibynnu ar waith caled ar ein rhan i’w chadw i fynd. Hoffem ddiolch i Iwan am ei waith misol yn cadw trefn arnom. Bydd gwobrau hael eto ym mis Ionawr oherwydd gweddillion o’r Yrfa Chwist Nadolig. Diolch i holl aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn paratoi gwledd inni amser y Nadolig a hefyd am ofalu am wobrau raffl ar hyd y flwyddyn. Gobeithiwn am Flwyddyn Newydd dda hefo llawer o hwyl ac iechyd da i ni i gyd i’w mwynhau.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Clwb y Werin Mwynhawyd cinio Nadolig gan aelodau’r Clwb yn y Ship Aground, Talsarnau amser cinio dydd Llun, 7 Rhagfyr. Cafwyd pryd o fwyd ardderchog a phawb yn canmol yr arlwy. Diolchodd Eirlys Williams i Gwenda Griffiths am drefnu’r achlysur ac i’r cogydd am y wledd a gafwyd. Roedd Gwenda hefyd wedi trefnu bod pawb yn cael gwobr gyda’u tocyn raffl cyn mynd adref. Bydd y Clwb yn ail-gychwyn ar ddydd Llun, 4 Ionawr 2016.

Damwain Dymuniadau gorau i Mrs NOSON Christine Hemsley, Bryn Tirion, YNG NGHWMNI yr Ynys, sydd wedi cael damwain rai dyddiau cyn y Nadolig. MEIBION PRYSOR Brysiwch wella, oddi wrth yn Neuadd Gymuned Talsarnau aelodau o Sefydliad y Merched Harlech.

Nos Wener, Ionawr 22

Honda Civic Tourer Newydd

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid

am 7.30 Cydymdeimlad Mynediad: Ddrwg iawn gennym glywed Oedolion - £5, Plant – di-dâl y newydd trist am farwolaeth Tocynnau gan: Mai 01766 770757 Anwen 01766 772960 ac wrth y drws ar y noson

Gareth Oliver Evans, Borthlas, Llandecwyn ar 29 Rhagfyr, yng Nghartref Nyrsio Madog. Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Penny a Kevin a’r teulu yn eu profedigaeth.

11


ATEBION SYDYN ‘Wyt ti’n mynd allan yn y glaw yma?’ ‘Nac ydw, yn yr un nesaf.’ Ateb y ffôn gartref, ‘Lle wyt ti?’ ‘Aros am y bws.’

CANEUON I’W CANU Ydych chi’n un o’r bobl hynny sy’n gwybod y bennill gyntaf mewn amryw o ganeuon ond yn mynd ar goll wedyn? Hwyrach y buasai’n syniad da i ni gyhoeddi un gân bob mis yn Llais Ardudwy - tybed a fuasai hynny o gymorth i’r rhai sy’n hoff o ganu? Diau y cawn wybod gan ein darllenwyr. Dyma gychwyn gyda chân gyfarwydd:

Mae dynes dew yn sefyll ar eich troed. ‘Ddrwg gen i, ddaru hynna frifo?’ ‘Naddo, dwi wedi cael anaesthetig!’

Ar lan y môr

‘Wyt ti’n cysgu?’ ‘Nac ydw, paratoi ar gyfer marwolaeth ydw i!’

2. Ar lan y môr mae carreg wastad, lle bûm yn siarad gair â’m cariad, O amgylch hon fe dyf y lili ac ambell sbrigyn o rosmari.

1. Ar lan y môr mae rhosys cochion, ar lan y môr mae lilis gwynion, Ar lan y môr mae ‘nghariad inne yn cysgu’r nos a chodi’r bore.

‘Ai am fod Dad wedi gadael arian mawr i mi rwyt ti’n fy ngharu?’ ‘Dim o gwbl, mi faswn yn dy garu di pwy bynnag fasa wedi gadael yr arian i ti.’ Gwraig: ‘Pam wyt ti’n dod adref yn hanner meddw?’ Gŵr: ‘Am fy mod i wedi gwario fy arian i gyd!’ Aros mewn siop am frechdan gig. ‘Ydach chi am ei bwyta yn fan hyn, ynteu fynd â hi efo chi?’ ‘Y ddau!’ Pan oedd Philip o Facedonia yn ymosod ar gatiau Sparta, fe anfonodd neges at y brenin oedd y tu hwnt i’r giât gan nodi, ‘Os enillwn ni’r frwydr am y ddinas fe’i llosgwn ni hi i’r llawr.’ Cafodd ateb un gair yn ôl: ‘Os!’ Ateb Nicholas Fairbairn i’r cyn-Weinidog Iechyd, Edwina Currie yn ystod yr argyfwng salmonela. ‘A yw’r foneddiges yn cofio ei bod hi ei hun wedi bod yn ŵy ar un adeg, ac mae llawer o aelodau’r Tŷ yn gwaredu iddo erioed gael ei ffrwythloni!’ ‘Rydw i’n fodlon cymryd cyngor ar hamddena gan y Tywysog Philip. Mae’n arbenigwr byd eang. Mae wedi bod yn ymarfer y grefft am y rhan fwyaf o’i fywyd.’ Neil Kinnock ‘Mae’r Dywysoges Anne yn hoffi natur er gwaetha’r hyn y mae wedi ei wneud iddi.’ Bette Midler ’Fedar o ddim cicio efo’i goes chwith, fedar o ddim penio’r bêl, fedar o ddim taclo a dydy o ddim yn sgorio llawer o goliau. Ar wahân i hynny, mae o’n iawn.’ George Best yn trafod David Beckham Y Fonesig Astor yn siarad efo Winston Churchill: “Winston, tasa chi’n ŵr i mi, mi faswn i yn rhoi gwenwyn yn eich coffi chi.’ Churchill: ‘Madam, taswn i yn ŵr i chi, buaswn yn ei yfed o!’ Yr Aelod Seneddol, Bessie Braddock yn siarad efo Churchill: ‘Winston, rydych chi wedi meddwi!’ Churchill: “Bessie, rydych chithau yn hyll, ond bore ’fory mi fydda i yn sobor!’ Y diweddar Ryan Davies yn diddanu ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cael ei heclo o’r cefn. Dyma oedd ateb Ryan i’r gwron yn y cefn: ‘Gwrando yma was, pe baet ti gystal diddanwr â fi, mi fasa seti’r pafiliwn yma i gyd yn wynebu tuag atat ti!

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 12

Llais Ardudwy

3. Ar lan y môr mae cerrig gleision, ar lan y môr mae blodau’r meibion Ar lan y môr mae pob rhinwedde, ar lan y môr mae ’nghariad inne. 4. Mor hardd yw’r haul yn codi’r bore, Mor hardd yw’r enfys aml ei liwiau Mor hardd yw natur ym Mehefin, ond harddach fyth yw wyneb Elin. 5 Llawn yw’r môr o swnd a chregyn, llawn yw’r ŵy o wyn a melyn, Llawn yw’r coed o ddail a blodau, llawn o gariad merch wyf innau. 6. Dros y môr y mae fy nghalon, dros y môr y mae ’ngobeithion, Dros y môr y mae f ’anwylyd, sydd yn fy meddwl i bob munud.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Rhandiroedd Datganwyd pryder bod defaid yn mynd i mewn i’r rhandiroedd a chytunodd Caerwyn Roberts i ddelio gyda’r mater yma. Mae’r gwaith o gau’r twll yn yr Hen Ladd-dŷ wedi’i wneud. Mae angen diffodd y tap dŵr am y gaeaf a rhoi arwydd i fyny’n datgan hyn. Safle Pen y Graig Nid yw’r terfyn yn iawn; rhaid cysylltu gyda Mr Bryn Williams, Cyfreithiwr, ynglŷn â hyn. Mae angen cysylltu hefyd â Mr Colin Jones ynglŷn â chael safle parcio bws oherwydd bod problem i fysiau droi o’r gwaelod yng nghroesffordd Rhiw Dewi Sant. Hysbysfyrddau Cytunwyd bod y Clerc yn ysgrifennu at Mr James Maxwell yn gofyn am esboniad o sut oedd y grant a dderbyniwyd ganddo wedi ei wario. Nadolig 2015 Adroddwyd bod y noson agor yn hwyr ar y 1af o’r mis wedi bod yn llwyddiant mawr a bod amryw wedi bod o amgylch y dref. Roedd y siopau a oedd wedi aros yn agored yn canmol y busnes ychwanegol yr oeddynt wedi ei gael. CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel y storfa bresennol a chodi tŷ newydd - Hen Safle’r Garej, Rock Terrace. Pryderon ynglŷn â’r fynedfa. Caniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel storfeydd presennol - Hen Safle’r Garej, Rock Terrace. Pryderon ynglŷn â’r mynedfeydd. Creu tramwyfa newydd gan gynnwys adeiladu wal gynnal - Darbod, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Rebecca Evans Cytunwyd i roi caniatâd iddi i osod plac ar un o’r seddi cyhoeddus ar Ffordd Uchaf er cof am ei thaid, y diweddar Mr Philip Williams. Mrs Samantha Scriven Bydd sedd goffa ei thad yn cael ei danfon i gae chwarae Llyn y Felin yn y dyfodol agos. Cytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater yma. UNRHYW FATER ARALL Pryder bod cerrig yn dal ar ochor y ffordd ar Ffordd Uchaf ger mynedfa Heol y Bryn. Gofyn pryd bydd y llinellau gwyn yn cael eu peintio ar y ffordd o riw Dewi Sant am y dref. Y plinth ar Ben y Graig angen sylw. Nid oes bellach dwll yn y wal. Mae angen sylw ar y goeden ger y Gofeb. Anfonwyd adroddiad yr ymchwiliad a wnaed ar gae chwarae Llyn y Felin at Mr Lawrence Smith o CADW. Cafwyd adroddiad o’r cyfarfod gyda’r Parc Cenedlaethol gan Thomas Mort.


CINIO NADOLIG CANA-MI-GEI Cynhaliwyd cinio Nadolig côr Cana-mi-gei ar nos Wener, 18 Rhagfyr yn y Nineteen57, Tal-y-bont. Yn ymuno efo’r merched roedd aelodau o Gôr Meibion Ardudwy. Cafwyd hwyl ar y dathlu yng nghwmni Alastair James y diddanwr.

BWYD A DIOD

Taith i Puglia Un o’r ‘pyrcs’ o redeg siop win a mewnforio yw’r teithio. Mae’n siŵr base Dylan yn cyfaddef yn syth mai cyfuniad o’i ddiddordeb yn naearyddiaeth a chrwydro a sbardunodd ei ddiddordeb mewn gwin. O ganlyniad, mae o wedi bod yn yr ardaloedd enwog yn Ewrop ac ymhellach, yn wir, i rai llefydd annisgwyl iawn, fel Moldova ac Armenia. Yn ystod yr hydref, cawsom fynd i Puglia – ‘sawdl’ yr Eidal. Hedfan i Brindisi a theithio o gwmpas yr ardal fach hyfryd a gwahanol iawn yma. Os cewch gyfle i fynd, peidiwch â methu Matera yn Basilicata, tref o ogofeydd, sydd erbyn hyn yn ardal arbennig gan UNESCO a haeddiannol iawn hefyd. Nid wyf erioed wedi gweld ffasiwn le, o’r ogofeydd sy’n edrych lawr dros y ceunant i’r system gasglu dŵr o dan y Piazza Vittorio Veneto a gafodd ei darganfod yn eithaf diweddar. Gallwch ymweld â’r deyrnged i sgiliau peirianneg cynnar yma sydd wedi’i chloddio a llaw i sicrhau dŵr glan i drigolion y dref. Wel, yna i edrych am win oeddem ond syndod oedd gweld cyn lleied o winllannoedd! Rydym yn prynu o’r ardal hon ond coed olewydd oedd i’w gweld yn ymestyn i’r pellter. Ymlaen â ni i San Donaci lle cawsom daith ddifyr o’u seler oedd wedi’u chreu o’r hen danc eplesu, lle’r arferid tywallt y gwin yn syth i mewn i’r seler trwy dwll yn y nenfwd. Gwelwyd ôl hyn gyda staen coch ar y waliau. Esboniodd Dylan fod hyn yn hollol arferol ond rwy’n eithaf balch i weld casgenni a dur gwrthstaen y dyddiau hyn. Difyr oedd cwmni gwin y

daethom ar ei draws o’r enw Menhir, yr enw wedi’i ddewis oherwydd natur greigiog yr ardal. Esboniais mai gair Cymraeg oedd hwn ac roedden nhw wrth eu bodd! Roeddwn wedi gwirioni gyda dyluniad trawiadol y labeli: un botel gyda gwefusau coch. ‘The designer is from Spain and they’re his girlfriend’s lips’. Am ramantus! ‘Well, not really, the lips on the latest vintage are his new girlfriend’s’. O diar! Ta waeth, roedd y gwin yn hyfryd a chawsom flasu sawl un wrth gael pryd yn eu bwyty gyda fformat unigryw o gynnwys gwydriad o win o’n dewis ym mhris pob cwrs. O, nefoedd! Un o’r gwinoedd a wnaeth ein taro oedd ‘Pietra’ o Cantina Menhir (carreg yw’r ystyr) wedi’u gynhyrchu gyda ‘Primitivo’ a’r grawnwin llai adnabyddus, ‘Susumaniello’. Mae Primitivo yn rawnwin poblogaidd yn yr ardal hon, sy’n adnabyddus fel Zinfandel yn Califfornia ac yn ffynnu mewn hinsawdd boeth. Ond yr hwyl yw blasu grawnwin llai adnabyddus fel Susumaniello, sydd yn cael eu tyfu yn Puglia yn unig. Bydd rhaid i ni geisio cael peth i’r siop! Llinos Gwin Dylanwad Porth y Farchnad Dolgellau LL40 1ET 01341 422870 www.dylanwad.co.uk

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

13


DARN DIFYR O’R CYMRO 1946 Diolch i Olwen Jones, yr Ynys gynt, am anfon y darn difyr yma a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Y Cymro yn ôl yn yr 1940au. Meddai Olwen: “Meddwl y byddai’r darllenwyr yn hoffi darllen y pwt o newyddion o 1946 a chytuno fod sawl ffordd o ehangu gwybodaeth wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y blynyddoedd a bod yna ddaioni ymhob ffordd! Dim rhyfedd fod hanes eu hardal yn wybodaeth gyffredinol i blant cyn fy amser i - roeddynt yn darllen yr wybodaeth yn eu papur hefyd a goleuo ambell riant hwyrach. Oeddem, roeddem yn gwybod tipyn am hanes Sir Feirionnydd yr amser hwnnw ac wedyn yn y 50au a’r 60au! Ond dywed llawer fod y byd wedi ehangu ers hynny! Gobeithio y caiff darllenwyr y Llais flas ar ddarllen yr hanesyn canlynol:

‘Ar hynt ddifyr drwy’r sir’, 26 Gorffennaf 1946 Taith plant ysgol Aeth tyrfa hapus o blant hynaf ysgolion Dyffryn Ardudwy, Llanbedr ac Abermaw ar daith addysgol drwy ran o Sir Feirionnydd brynhawn Gwener, dan ofal yr ysgolfeistri, Meirion Jones, D J Williams ac W D Williams, ac athrawon eraill. Amcan y daith oedd cael y plant i adnabod ac i garu hanes a golygfeydd eu bro eu hunain. Cyn cychwyn, yr oedd pob plentyn wedi paratoi map yn nodi’r prif leoedd o ddiddordeb, a rhaglen yn cynnwys yr hanes. Cafwyd y saib gyntaf wrth Eglwys Llanfair i weld bedd Elis Wyn dan yr allor, cofio englyn hysbys Siôn Phylip yn Llandanwg, ac yna ymlaen i weld Castell Harlech, a fu’n gartref a senedd i Glyndŵr. Cafwyd cipolwg ar y Coleg a’r bae islaw. Y frawddeg gyntaf o’r Mabinogi a atgofiwyd gan y

14

mwyafrif oedd: “A vo pen, bid bont.” Gyrrwyd heibio’r bryn a roes i’r Bardd Cwsg ei weledigaethau, a syllu ar Lasynys gyferbyn. Oddi yno i Dalsarnau a diolch i’r fro a fu’n gartref awduron “Swp o Rug”, “O’r Mwg i’r Mynydd,” ac “O Gorlan y Defaid.” Cofio hefyd O.O., y cerddor, a thad gŵyl Harlech. Gwelwyd Eglwys Llandecwyn a’r bryn ar ba un y trwythodd y gramadegwr Tecwyn ei hun a rheolau orgraff a chystrawen yr iaith Gymraeg.

DYFFRYN MAENTWROG

Yna, cyrraedd afon y Ddwyryd a gynhyrchodd ar ei thaith oleuni a phŵer i drefi a diwydiannau mawr Lloegr ac i ychydig o bentrefi Cymru. Gadael Penrhyndeudraeth ar y chwith a chyfeirio i Ddyffryn Maentwrog, Edmund Prys a JE, y canwr penillion, ym mynwent yr eglwys. Ym mhrydferthwch y dyffryn teimlwyd, fel y dywedodd Sais enwog, mai hawdd treulio oes yno a theimlo mai dim ond undydd oedd. Gweler plât Dolmoch a phont Inigo cyn dewis dringo’r Ceunant Sych a syllu ar ffordd yr Allt Goch fel sarff wen yn dringo’r llethr serth at Eglwys y Llan. Ar y chwith yr oedd cartref Tanymarian, a’r Allt, hen gartref pysgotwr enwoca’r cylch cyn ei ddiwedd trist yn furddun. Wedi cyrraedd copa’r ceunant yr oedd ardal Blaenau Ffestiniog, o’r Manod i Danygrisiau i’w gweled fel pedol ceffyl uwch y cwm, a thomenni’r chwareli is y creithiau ar ystlysau’r mynyddoedd. Y Moelwyn a’r Manod fel dau swyddog ar nifer o fynyddoedd llai. Syndod i’r plant oedd gweld y moduron mawr yn dringo i gwrt chwarel yr Oakley. Daeth y prif reolwr, Mr J Lloyd Humphreys, i’w cyfarfod ac i’w croesawu. Yn ei ddull dihafal Cymreig rhoes i’r plant amser i’w gofio, a syniad uchel o’r gweithwyr ym mhrif ddiwydiant Meirion. Gwasgai pob plentyn ei law yn dynn am y llechen hardd yn anrheg i bob yn ohonynt i gofio’r ymweliad. Ni chafodd neb fwy erioed na diolch gonest o galon plentyn fel a roddwyd i reolwr y chwarel am ei groeso a’r cyfle i weld rhyfeddodau’r gwaith. Gwaith

yr athrawon ar y daith wedi hyn oedd ceisio egluro’r dull o rannu cyflogau. Gwelwyd y bargeinwyr yn derbyn yr arian ac yn rhannu’r cynnwys i’r partneriaid.

CWM TEIGL

Ar y daith i bentref Ffestiniog gwelwyd Cwm Teigl a Chae’r Blaidd, sydd erbyn hyn yn noddfa’r crwydriaid boneddigaidd a gâr ddringo mynyddoedd y fro. Cofiwyd englynion ac awdl ‘Awen’, Elfyn, a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol iddo yn ei dref a’i sir yn niwedd y ganrif o’r blaen. Syllwyd ar Gwm Cynfal - bro enwog y Mabinogi, a chartref Morgan Llwyd, y cyfriniwr, a Huw Llwyd o Gynfal. Ym mwyty’r ysgol yr oedd lluniaeth wedi’i drefnu gan garedigion y pentre, a chroeso a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mrs J W Jones-Roberts, oedd yn fynegiant o deimladau’r fro. Crynhodd mewn anerchiad i’r plant hanes Ffestiniog traddodiadau a champweithiau gwŷr enwog y fro a roes i’r plant ddyhead am lawer mwy. Yna, gadael Ffestiniog yn gyfoethog o gariad at hanes lleol a dringo i Gwm Cynfal ac ymlaen i Gellilydan. Dangos Tyddyndu ar y ffordd a rhes mynyddoedd y Moelwyn i’w gweld dros ysgwydd. Daeth llyn Trawsfynydd i’r olwg lle y

boddwyd ffermydd i’w gronni i gynhyrchu trydan. Yn y pentref cafwyd saib i ddysgu’r englyn ar gofeb Hedd Wyn ac edrych i gyfeiriad yr Ysgwrn – ei gartref. Wedi croesi pont y pentref cafwyd Mr D J Williams ar ei orau yn adrodd hanes ac atgofion am Fronaber a’r cylch. Mynyddoedd y Rhinog ac afon Eden a Cain, a’r pistyll enwog, enwau beirdd y fro yn ddi-rif a llawer fferm ac enwogion yn dod yn rhan fyw o’r daith. Yn y Ganllwyd soniwyd am y brenhinbren enwog a choed y blanhigfa. Nid oedd terfyn i’r diddordebau ar y daith - yn Nhynygroes a’i hanes cafwyd cyfle i syllu ar y llwybr i Lanfachreth sy’n enwog ar lawer ystyr. Ni chafwyd hamdden i fynd i Abaty Cymar ac i Hengwrt. Rhaid fu bodloni ar weld y naill le a’r llall o’r moduron, yn ogystal ag ysgol Dr Williams cyn aros yn nhref Dolgellau. Y lleoedd nesaf o ddiddordeb cyn cyrraedd yn ôl i’r Abermaw oedd y Gader, Llanelltyd, Bontddu, ac Arthog hwnt i’r afon. Wrth deithiau fel hyn y sylweddolir gymaint o hanes sy’n gwneud i’r Cymro garu ei wlad. Dau ŵr gwadd ar y daith oedd Mr William Hughes, cyn ysgolfeistr yr Abermaw, a Mr Wyn Thomas, cyn ysgolfeistr Dyffryn.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf.

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


STORFA CANOLBARTH CYMRU www.midwalesremovals.co.uk STORFA CARTREF A BUSNES

Ystafelloedd storio ar gyfer eich anghenion Monitro diogelwch 24 awr - wedi’i wresogi Siop ar lein: www.boxshopsupplies.co.uk Ffôn: 01654 703592 Heol y Doll, Machynlleth, Powys SY20 8BQ

Nofio Oedolion £1 Plant 50c

Te a choffi am ddim Prydau rhesymol 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

16

Ardudwy

CALENDR LLAIS ARDUDWY

Calendar 2016 Mae ychydig ar ôl! Cyntaf i’r felin...!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.