Llais ionawr 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

CALENDR LLAIS ARDUDWY Mae ychydig o gopïau ar ôl. Bargen am £4.

RHIF 459 IONAWR 2017

CYNGHERDDAU NADOLIG

Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Unwaith eto cafwyd cyngerdd Nadolig llwyddiannus iawn. Diolch i’r athrawon ymroddgar, y rhieni cefnogol ond yn arbennig i’r plant gyda’u brwdfrydedd.

Ysgol Gynradd Talsarnau Cafwyd cyngerdd Nadolig llwyddiannus iawn, gyda dwy sioe ar wahân gan y babanod a’r plant hŷn. Diolch i’r athrawon i gyd am eu gwaith gwych ac i’r rhieni am bob cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Ni ddaeth gwybodaeth i law am gyngherddau ysgolion eraill yr ardal. Gyrrwch fanylion i ni ac fe geisiwn eu cynnwys yn rhifyn Chwefror.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Chwefror 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Chwefror 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ionawr 29 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Enw: Cledwyn Roberts Gwaith: Gweithio bob dydd yn garej y Morfa yn Harlech. Cefndir: Cefais fy ngeni yn y Bermo. Rwyf yn fab i’r diweddar Lewis a Jennie Roberts ac yn frawd ieuengaf i Brenda, Chris a Trefor. Bûm yn byw yn Is y Deri, Harlech. Symudodd y teulu i 50, Y Waun cyn symud i’r garej. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Byddaf yn helpu ar y fferm yn Nhy’r Acrau ar ddwy noson yr wythnos ac rwyf yn dal i weithio yn y garej. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Daily Post bob dydd, y Cambrian News a Llais Ardudwy ac unrhyw gylchgrawn yn ymwneud â ffermio. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ar y teledu byddaf yn gwylio Ffermio, Noson Lawen,

Cefn Gwlad, Dechrau Canu, Dechrau Canmol – hefyd Ar Eich Cais ar y radio gan Dai Jones. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn mwynhau fy mwyd bob amser – yn enwedig yn Ty’r Acrau! Hoff fwyd? Ar wahân i ginio dydd Sul byddaf yn hoffi stecsan wedi ei choginio’n dda. Hoff ddiod? Diet Coke neu lemonêd a phaned o de bob amser. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Mrs Leah Jones a’i ffrindiau, a hefyd Tec a Pris. Lle sydd orau gennych? Rwyf yn hoff iawn o ymweld â fy nheulu ym Mhen Llŷn, lle godidog yn yr haf ond dyn fy milltir sgwar ydw i. Mae’n anodd curo bro fy mebyd. Byddaf wrth fy modd yn y garej yn tynnu coes hwn a’r llall, pobl fel Alun Graig Isa ac Ann Garej a Dic Tŷ Cerrig. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Byddaf wrth fy modd yn mynd ar dripiau Caelloi ac mae’r Black Forest yn sefyll yn y cof. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n methu cadw at eu gair a phobl sy’n fy nhynnu oddi ar fy echel. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Un y medraf rannu cyfrinach ag ef ac yn fodlon gwrando

bob amser. Pwy yw eich arwyr? Tegid fy nai, Meirion fy nghefnder, Olwen Ty’n Braich, Vera a Jean fy nghyfneitherod a Tec Ty’r Acrau. Beth yw eich bai mwyaf? Un drwg am beidio a gwrando ar gyngor. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Mae iechyd yn bwysig, ffrindiau da a chael crwydro yma ac acw. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Eu rhoi yn y banc at y dyfodol. Eich hoff liw? Glas – lliw’r awyr a’r môr yn yr haf. Eich hoff flodyn? Rhosyn – roedd mam yn eu tyfu bob amser yn yr ardd. Eich hoff gerddor? John ac Alun a Dafydd Iwan. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Y Pysgotwyr Perlau. Pa dalent hoffech chi ei chael? Hapus iawn fel ydw i. Eich hoff ddywediad? ‘Y cyntaf i’r felin gaiff falu.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus iawn fy myd ar hyn o bryd, yn gallu helpu eraill a chael sgwrs efo hwn a’r llall wrth fy ngwaith yn llenwi ceir efo petrol.

CHWILIO AM OFALWYR CARTREF Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am fwy o bobl i weithio fel gofalwyr cartref. Ar hyn o bryd, mae bron i 300 o ofalwyr cartref yn gweithio i Asiantaeth Gofal Cartref y Cyngor, sydd rhyngddyn nhw’n darparu dros 5,500 o oriau’r wythnos o wasanaeth. Gyda chyfran uwch na chyfartaledd Cymru o bobl dros 65 oed, a’r nifer yn cynyddu’n barhaus, mae mwy o alw nag erioed am ofalwyr o’r fath yng Ngwynedd, a chyfleoedd i staff newydd i ymuno â’r tîm. Meddai Huw Ceiriog o Adran Oedolion, Iechyd a Lles y Cyngor: “Rydan ni’n chwilio am unigolion cydwybodol, dibynadwy a charedig, ac nid o reidrwydd am gymwysterau penodol. Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n rhoi ystyriaeth arbennig i bobl sydd â phrofiad o weithio yn y maes gofal, neu i fyfyrwyr sydd ar fin cwblhau eu hastudiaethau yn y maes.” Dywedodd fod y Cyngor yn gallu cynnig amodau gwaith hyblyg i bobl addas. “Yn ddelfrydol, rydan ni’n chwilio am bobl i weithio dros 25 awr yr wythnos, ond mi allwn ni gynnig cytundebau am lai o oriau a hyblygrwydd i bobl sydd ag ymrwymiadau eraill,” meddai Huw Ceiriog. “Rydan ni’n cynnig cytundebau sefydlog a phob math o fanteision fel tâl gwyliau, costau ac amser teithio a chynllun pensiwn atyniadol. Os nad oes gennych chi gymwysterau, mi fyddwch yn cael hyfforddiant ac yn cael treulio amser gyda gofalwr profiadol i gynefino â’r gwaith.” Gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu gyda’r Cyngor am fwy o wybodaeth a ffurflen gais ar www. gwynedd.llyw.cymru/swyddi neu trwy ffonio 01341 424534.


LLANFAIR A LLANDANWG CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Merched y Wawr, Harlech a Llanfair Ar ddechrau’r cyfarfod, darllenwyd cylchlythyr y llywydd cenedlaethol yn dymuno cyfarchion yr ŵyl i’r holl aelodau. Gwen Edwards oedd y wraig wadd. Daeth â thri threfniant blodau a drefnwyd ymlaen llaw ganddi. Daeth yr aelodau â blodau a gwyrddni i ffurfio eu trefniannau eu hunain, gyda Gwen yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut i’w gwella. Ar ddiwedd y cyfarfod, llwyddodd yr aelodau i greu amrywiaeth o drefniannau blodau amrywiol a deniadol. Cyflwynodd Gwen ei thri threfniant fel gwobrau raffl ac fe’u henillwyd gan Edwina, Ann ac Eirlys. Bronwen oedd yn gyfrifol am drefnu’r danteithion blasus a fwynhawyd ar ddiwedd y cyfarfod. Roedd Bronwen yn dathlu ei phen-blwydd ar y diwrnod a chyflwynodd Gwen drefniant arbennig iddi.

Plygain Cyfeillion Ellis Wynne

CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ newydd - Plas Tanwg, Llandanwg Dim sylwadau ar y cais hwn oherwydd nad oedd digon o wybodaeth am yr adeilad presennol ar gael. Awgrymwyd bod Panel Ymweld y Parc Cenedlaethol yn ymweld â’r safle Swyddfa docynnau/siop newydd o fewn Parc Fferm Plant - Cae Cethin, Llanfair Cefnogi’r cais hwn UNRHYW FATER ARALL Adroddodd Mair Thomas ei bod hi a Robert G Owen wedi mynychu cyfarfod o bwyllgor y Neuadd a’u bod yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn gallu cyfrannu at y gost o wagio un o ddau bin brown oedd ar y safle. Cytunwyd i wneud hyn. Mae’r hysbysfwrdd newydd wedi ei osod ar y Maes yn Llandanwg ac mae angen adnewyddu’r un ger croesffordd Caersalem. Datganwyd pryder y bydd llai o olau ar hyd y ffordd os bydd y goleuadau ar hyd y ffordd o Frondeg i Harlech yn cael eu newid.

THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667 IONAWR

6, 7, 9, 10, 11, 12 Sully: Miracle on the Hudson [12A] 22 Bolshoi Ballet: The Sleeping Beauty

CHWEFROR

2 NTL Live: Amadeus

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes

CYMARIAETHAU BYD YR ADAR Cofiwch am Blygain Cyfeillion Ellis Wynne, y Lasynys, a gynhelir yn Eglwys Llanfair am 7.00 ar nos Fercher, 18 Ionawr 2017. Cynhelir ail ymarfer grŵp Plygain y Lasynys Fawr am 3 o’r gloch ar brynhawn Sul, 15 Ionawr 2107. Yn dilyn y Plygain bydd lluniaeth ar gael yn Neuadd Llanfair a byddem yn hynod ddiolchgar unwaith eto am bob cymorth ar y noson; cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elfed Roberts ar 770621 neu elfedtynffridd@gmail.com Croeso cynnes i bawb.

Mae ef/hi fel sgrech y coed – hefru, plagio neu’n canu’n echrydus. Sgrech – hogan wyllt ac anwadal. Y gloman wirion – am rywun sydd wedi gwneud rhywbeth gwirion. Fel c’lomen yn ei thŷ - budr a blêr. Yn sych fel cesail colomen. Deryn y nos/hen dylluan/gwdi hŵ – allan drwy’r nos. Hen gnocell – un yn cario clecs. Hen glagwydd – crancyn swnllyd. Fel dŵr ar gefn chwaden. Ceiliog gŵr dandi - powld a balch a’i frest yn chwyddo. Ffesant o foi - gormod o feddwl ohono’i hun. Yn crafu fel iâr pen domen. Hen dwrci blin – dyn barus ac annymunol. Fel pioden - am gasglu. Cudyll – un yn hofran o gwmpas nes gweld ei gyfle. Fel brân yn disgwyl i’r ddafad farw - un yn aros ei gyfle. Canu fel eos. Canu fel raga rug - rhegen yr ŷd [siarad yn ddi-daw hefyd]. Mae hi fel iâr shagan - iâr â’i phlu o chwith. Aderyn corff – wedi claddu rhywun erbyn amser te bob dydd, neu rywun sydd wastad yn brudd. Mor heini â phioden. Fel iâr ar fat rags, fel iâr ar daranau. Fel iâr tan badell - heb symud o’i gynefin. Cyn falched â phaun. Mor llawen â’r gog. Mor fain â choesau robin goch. Yn denau fel crëyr/ fel brân. Fel ceiliog wedi torri ei ben - rhedeg o gwmpas yn ddireol. [Os oes gennych ragor, anfonwch atom. [Diolch. Gol.]

3 A


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Gwellhad buan Dymunwn wellhad buan i Robert J Evans ac Alec Howie, y ddau wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar. Ffermio Ar raglen Ffermio S4C nos Lun, 5 Rhagfyr, roedd Alun Elidir yn sgwrsio gyda Delyth, Tyddyn Bach am ei gwaith fel rheolwraig fferm Llanerchaeron. Gwelsom gip hefyd o’i thad, Eirwyn ac Osian Wyn, ei mab bach, ym marchnad Dolgellau. Croeso adref Croeso adre i Manon a’r teulu o Awstralia i aros gyda taid a nain yn y Bryn. Maent yn disgwyl gweld ychydig o eira cyn pen diwedd eu gwyliau. Rhoddion Diolch am y rhoddion isod i’r Llais: £10 gan Anna Wyn Jones, £6 gan Edith Owen.

Clwb 200

Côr Meibion Ardudwy GWOBRAU NADOLIG Rhagfyr 2016

£40 Ynyr Edwards £20 Elin Williams £10 Edward Thomas £10 I Bryn Lewis £10 Isfoel Davies £10 Gwen Edwards

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch IONAWR

PEN-BLWYDD HAPUS

8 Capel y Ddôl, Parch Dewi Tudur Lewis 15 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis 22 Capel Nantcol, Gweneira Jones 29 Capel y Ddôl, Parch Helen Wyn Jones CHWEFROR 5 Capel y Ddôl, Parch Christopher Prew Côr Meibion Ardudwy Cafwyd cyngerdd llwyddiannus iawn ym Mhlas Aberartro ar drothwy’r Nadolig yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy a Phres Mân, band pres yn cynnwys chwe aelod a nifer ohonyn nhw â chysylltiadau lleol. Yr unawdwyr oedd Iwan Morgan ac Iwan Morus Lewis. Cafwyd cyfle i flasu gwin y gaeaf a mins peis yn ystod yr egwyl. Gwnaed elw sylweddol i goffrau’r Côr ac anfonwyd £100 at achosion da yn enw Mr a Mrs Paul Morgan i ddiolch iddyn nhw am eu lletygarwch ar y noson. Cymdeithas Cwm Nantcol Nos Lun, Ionawr 16 am 7.30 ‘O lysiau cochion Ardudwy i gaset y Wladfa: ar drywydd y tafodiaethau Cymraeg.’ Dr Iwan Rees, Harlech Pob croeso i rai nad ydynt yn arfer mynychu.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

EIN GWIR HANES

Mae’n bleser gennym ddymuno pen-blwydd hapus iawn yn 80 oed ar Ragfyr 15 i Evie Morgan Jones, Penybryniau, Dyffryn Ardudwy. Dros y blynyddoedd bu’n gefn mawr i fywyd cymdeithasol a diwylliannol y fro hon. Bu’n weithgar gyda’r Ffermwyr Ieuanc a chyda’r gymdeithas amaethyddol, yn arwain eisteddfodau lu yn y fro, yn arwain gyrfaoedd chwist, ac yn aelod allweddol o Gôr Meibion Ardudwy. Bu’n gyn-olygydd y papur hwn, mae’n gyn-gynghorydd sir, yn gyn-ynad heddwch, yn ddiacon yn ei gapel, ac yn un o gonglfeini Cymdeithas Cwm Nantcol. Erys yn weithgar iawn mewn sawl maes. Penblwydd hapus iawn i ti, Evie. Hyderwn y cei di flynyddoedd lawer eto o iechyd er mwyn i ti fedru parhau i gynnal y ‘pethe’ yn yr ardal hon yr un mor anrhydeddus ac y gwnaethost dros y blynyddoedd.

Eleni eto, bydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr yn parhau â’r gyfres arloesol a phoblogaidd, ‘Ein Gwir Hanes’. Dyma’r dyddiadau ar gyfer eich dyddiaduron yn 2017: Chwefror 4ydd, Mai 13eg a Hydref 14eg. Bydd pob cyfarfod yn dechrau yn brydlon am 10.30 y bore ac yn dod i ben tua 2.30 y prynhawn. Yn ein cyfarfod cyntaf ar Chwefror 4, byddwn yn cofio a dathlu tri chanmlwyddiant geni’r Pêr Ganiedydd, Williams Pantycelyn, gŵr a effeithiodd mor drwm ar fywyd ein cenedl hyd heddiw. Mae ein dau siaradwr yn wŷr sy’n hyddysg iawn yn ei hanes ac yn hanes y cyfnod roedd o’n byw ynddo, Dr Goronwy Prys Owen, Y Bala, a’r Athro E Wyn James, Caerdydd. Ni chodir tâl mynediad. Darperir paned am ddim, a bydd croeso cynnes yn eich disgwyl. Dowch â thamaid o fwyd i’ch canlyn. Am ragor o fanylion, cysylltwch â ni - ffôn: 01286 660546, e-bost canolfanuwchgwyrfai@gmail. com ‘Anghofio yw bradychu’.

Cwrs Undydd

Ysgrifennu i Bapurau Bro yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy Dydd Sadwrn, Ebrill 8, 2017 Tiwtor: Karen Owen Ffi’r Cwrs: £32 y pen

Os ydych yn awyddus i gyfrannu at Llais Ardudwy ond ychydig yn ansicr ynghylch sut i fynd ati, beth am gofrestru ar y cwrs hwn? Cewch arweiniad ar sut i ddod o hyd i stori dda a’i hysgrifennu mewn ffordd ddifyr a bachog, a chyflwyniad ar sut i ddefnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae Llais Ardudwy yn barod i gefnogi hyd at dri unigolyn o’r ardal i fynychu’r cwrs. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch âg unrhyw un o’r golygyddion. A4


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Gradd mewn nyrsio Dyma lun Sioned Parry, merch David Parry, 3 Castell y Gog wedi iddi dderbyn ei gradd mewn nyrsio ym Mhrifysgol Caerloyw [Gloucester]. Llongyfarchiadau Sioned a phob dymuniad da yn dy swydd newydd. Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 8 Rhagfyr cafwyd noson i’w chofio yng nghwmni Trefor Pugh a Rhiannon Evans. Croesawyd pawb gan Edward Owen ac yna cyflwynwyd a chroesawyd Trefor a Rhiannon gan Raymond Owen. Y Plygain oedd testun y sgwrs. Daliodd sylw’r gynulleidfa o’r munud cyntaf gan ei bod yn siaradwraig mor ddifyr, doniol a dramatig ar adegau. Yn ystod y sgwrs roedd Trefor a Rhiannon yn canu rhai o’r carolau ac roeddynt yn ddeuawd swynol dros ben a phawb wedi eu cyfareddu gan eu canu. Diolchodd Raymond iddynt am noson arbennig iawn, noson a roddodd i ni wir naws y Nadolig. Yn dilyn, mwynhawyd bwffe wedi ei baratoi gan Westy Cadwgan. Diolchodd Edward i Mai, yr ysgrifennydd, am wneud yr holl drefniadau ac i bawb a fu’n helpu. Ar 12 Ionawr byddwn yn cael sgwrs gan Carwyn Siddall am Ynys Llanddwyn.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

Nadolig 1966 Fore’r Nadolig 1966, yn Horeb bedyddiwyd pedwar o blant bach gan y Parch Hywel Evans. Y pedwar oedd Elfyn, mab Gwennie a’r diweddar Gwynedd Roberts, Judith, merch Emlyn ac Anthia Owens, Meryl, merch John ac Alice Jones a’r diweddar Robert Morus, mab Jane a’r diweddar Edward Morus Jones. Ysgrifennwyd y pennill bach canlynol gan John, tad Meryl, i gofio’r Nadolig hanner can mlynedd yn ôl. Horeb Aeth pumdeg mlynedd heibio A dyna Sul i’w gofio, Pedwar teulu yma’n dod A’u plantos i’w bedyddio. Yn wylaidd iawn yng nghwmni Duw A Hywel Evans wrth y llyw. Duw yw angor dynol ryw Yn ei gwmni r’ym yn byw. John Teulu Ardudwy Amser cinio ddydd Mercher, 21 Rhagfyr, aethom i’r Nineteen 57 yn Nhalybont am ein cinio Nadolig. Croesawyd pawb gan Gwennie. Anfonodd ein cofion at Ann, Lilian, Leah a Meinir oedd yn methu bod gyda ni. Diolchodd i Fox’s a London House am eu gwobrau caredig iawn at y raffl ac i Margaret Pauline. Diolchodd hefyd i Hilda am fynd i brynu’r anrhegion. Mwynhawyd cinio bendigedig a mawr oedd y canmol. Diolchodd Enid i Gwennie am wneud y trefniadau a diolchodd Gwennie i Siôn, Iola a’r staff am y croeso a’r wledd a gafwyd a dymunodd Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb. Fe welwn ni chi i gyd yn y flwyddyn newydd.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb IONAWR 8 Cyfarfod gweddi 15 Parch Dewi Morris 22 Enid ac Edward Owen 29 Hilda Harris CHWEFROR 5 Alma Griffiths

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Eglwys Llanenddwyn Croesawyd y Parch Beth Bailey i drafod Eglwys Llanenddwyn, Y Ficerdy, Y Stablau a’r darn tir cyfagos. Bydd y rhain bellach, yn anffodus, yn cael eu rhoi ar y farchnad. Nid oedd yn bosib cael grantiau i adnewyddu’r Eglwys ac mae’r aelodau erbyn hyn wedi symud i addoli yn Eglwys Llanddwywe. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi estyniadau sengl ac estyniad llawr cyntaf - Fach Wyddil, Ffordd y Llan. Cefnogi’r cais hwn. Codi polyn 17.5m gyda 3 antena, 2 dysgl trawsyrru, 2 caban offer a 2 caban mesurydd - Tir yn The Barns, Talybont. Cefnogi’r cais hwn. 10 pod gwersylla/llain carafán deithiol ychwanegol a gostwng y nifer o bebyll o 30 i 10 - Tyddyn Goronwy, Talybont. Cefnogi’r cais hwn. Adlinio cynllun trydan dŵr sydd wedi ei gymeradwyo - Dyfrffos presennol i’r afon Ysgethin, Talybont. Cefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Mae coeden wedi gwyro ar ffordd Gors y Gedol. Anfonir llythyr at Mr Raymond Owen sydd wedi ymddeol o fod yn ysgrifennydd pwyllgor Elin Humphreys ers sawl blwyddyn.

UN O WOBRAU GWILYM OWEN - yn rhifyn Nadolig ‘Golwg’

Radio Cymru - ‘Mae’n rhaid i mi anfon un o’m gwobrau i ddau o sylwebwyr pêl-droed yr orsaf - Dylan Griffiths ac Iwan Roberts. Mae’r ddau wedi cael blwyddyn ardderchog yn ystod cyfnod euraid y bêl gron yng Nghymru. Y nhw ydy’r sylwebwyr pêl-droed gorau yn yr iaith Gymraeg. Dylan bob amser yn gwneud ei waith cartref yn drylwyr ac Iwan, gyda’i eirfa sicr a’i arbenigedd sionc, yn gwneud gwrando bob amser yn bleser. Melys, moes, mwy!’ Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau i Clive a Laura (wyres Ann Eurwen Roberts) ar enedigaeth mab bach, brawd bach i Harry. Gwasanaeth Nadolig Fore Sul, 18 Rhagfyr, cafwyd gwasanaeth Nadolig gan blant yr Ysgol Sul gyda rhai o’r oedolion yn cymryd rhan. Gwnaeth y plant eu gwaith yn ardderchog ac roedd y capel wedi ei addurno’n chwaethus. Cyn diwedd y gwasanaeth daeth Santa heibio â llond sach o anrhegion i’r plant a siocledi i’r oedolion hefyd. Gwnaed casgliad arbennig tuag at Gymdeithas Alzheimer a chasglwyd £200.

NEWYDDION YR URDD

Blwyddyn Newydd Dda i’r holl aelodau ac i’n cefnogwyr drwy’r ardal. Bydd y golofn yn parhau ym mis Chwefror gyda holl hanes y mudiad yn yr ardal. Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd

A 5


Hwb i’r Gymraeg yn y gymuned Dewr arloeswyr gadarn ydy’r Gymraeg yn eich cymuned chi? Oes ’na angen Dyffryn Ardudwy – rhan 2 Paammor fwy o ddigwyddiadau yn y Gymraeg? Ydach chi’n teimlo’n dwyreiniol o adran chwarterol De Orllewin, T3, R22. Hwnnw oedd yr eiddo sefydlog cyntaf o dir a brynwyd gan y Cymry yn Sir Racine. Tystiodd hanner can mlynedd arall newid mawr yn Racine. Yn lle pentref distadl o ychydig gannoedd o breswylwyr cafwyd dinas hardd ac anturiaethus o thua 24,000 o breswylwyr, yn cynnwys bron i 2,000 o Gymry. Erbyn Cyfrifiad 1900 roedd poblogaeth y Cymry wedi gostwng i 1,124. Yn eu mysg roedd: DAVIES, Edward, marw Mehefin 10, 1911, yn Randolph, Wisconsin. Ganwyd 6 Ionawr 1842 yn Nyffryn Ardudwy, yn fab i Mr a Mrs William Davies, (Yn y rhifyn diwethaf, cawsom Randolph, ar ôl hynny. Ymfudodd hanes y bobl o Ddyffryn Ardudwy pan oedd ond ychydig fisoedd a ymfudodd i America. Aeth rhai oed i Black River, Efrog Newydd, ymlaen i Racine, Wisconsin, a lle bu’r teulu yn byw am bedair chawn fwy o’u hanes isod). blynedd. Oddi yno symudont Ymysg y cwmni [a aeth i Racine] o ardal Lake Emily, Wisconsin. oedd Griffith Richards a’i wraig, Dewiswyd yn flaenor yno yn 1885. ei fab Richard Richards a’i wraig, Priododd yn 1870 a ganwyd iddo a’i fab arall, Thomas (1820ef a’i briod dri o blant: Daniel 1867) gynt o Ddolgau, Dyffryn E Davies, Milwaukee (swyddog Ardudwy, Robert Owen (1803yswiriant), Miss Winnie Davies, 1884), mab Owen ac Elizabeth Randolph, a phriod y Parch Evans, a’i wraig Jane Evans a thri Robert Henry Jones, Emporia, o blant, Thomas Davies a’i wraig Kansas, sef Margaret Ann. Roedd a thri o blant, Thomas E Jehu a’i wraig a dau o blant, Thomas Isaac yn frawd i W W Davies, Racine; Thomas a’i wraig, Richard G Jones Mrs Edward Jones, Chicago; a Mrs a’i wraig, ac Evan Jones, gŵr sengl. Evan Roberts, Racine. Symudodd i Randolph tua 1897 a chodwyd ef O’r cwmni gwreiddiol - William yn flaenor yn y fan honno hefyd. Hughes o Ddyffryn Ardudwy (marw Medi 15 1871), Humphrey EDWARDS, John J (1843-1928), MERCH Thomas Richards, Thomas, Dyffryn Ardudwy (mab Capten Evan Thomas, 1832-1880) Dyffryn Ardudwy. Ymfudodd yn 1849 a bu farw yn Mankato, a Hugh Jones, cyrhaeddodd y tri Minnesota. hyn yn Racine ar ddydd Nadolig, EVANS, Laura (1840-1914), ar ôl cyrraedd yr holl ffordd o merch Thomas ac Elizabeth Evans. Detroit i Racine. Ganwyd yn Nhy’n y Cae, Dyffryn Y gwanwyn canlynol ymunodd Ardudwy a bu farw yn Racine. eu teuluoedd â hwy ynghyd â William G Roberts a James Pugh. HUGHES, Mrs Jannet (1796Ar 28 Medi 1841, prynodd Griffith 1878). Ganwyd yn Nyffryn Richards ddarn o dir oddi wrth un Ardudwy; ymfudodd yn 1841 gydag wyth o blant. Bu ei phriod, o’r enw C Cleveland, sef hanner Edrych tua’r gogledd, Stryd Fawr Racine, Wisconsin, yn yr 1850au

Stryd Fawr Racine, Wisconsin, yn yr 1850au

A 6

hyderus i gynnal y digwyddiadau yma? Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn cael eu hystyried mewn cyfres o sesiynau gan Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) yn ystod Chwefror 2017. Cynhelir 3 digwyddiad ar gyfer pwyllgorau cymunedol, neuaddau, cymdeithasau ac unrhyw un arall â diddordeb i’w cynorthwyo i roi’r Gymraeg ar y brig. Bydd y sesiynau yn cynnwys cyflwyniad gan Menna Jones, Antur Waunfawr a Dylan Bryn Roberts, Rheolwr canolfan Popdy ym Mangor, yn ogystal â chyfle i rannu syniadau ac ymarfer da. Y gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn helpu unigolion a grwpiau cymunedol i fod yn fwy hyderus i gynnal gweithgareddau yn y Gymraeg, i roi hwb i eraill wneud yr un modd, ac i ganfod ffyrdd o ddenu pobl newydd i mewn i’r gweithgareddau hyn. Cynhelir y sesiynau ar: 2 Chwefror: Canolfan Henblas, Y Bala: 6-8 yr hwyr; 9 Chwefror: Oriel Plas Glyn y Weddw: 2-4 y pnawn; 16 Chwefror: Antur Waunfawr: 6-8 yr hwyr. I gofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hunaniaith ar 01286 679452 / hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru

William Hughes, farw 15 Medi 1871. Roedd hi a’i gŵr ymysg enwau’r rhai a sefydlodd yr achos Methodistiaid Cymraeg yn Racine (Pike Grove, 1843), oedd bum milltir o’r dref. Yn eu cartref hwy y cynhaliwyd yr Ysgol Sul am y tro cyntaf, ac y cafwyd pregeth Gymraeg gyntaf gan y Parch Richard Davies (1804-87, brodor o Sir Drefaldwyn. Roedd Mrs Hughes wedi ei chystuddio am amser maith ac yn analluog i symud ei hun. Gofalwyd amdani hyd ei diwedd gan Kate Hughes, un o’i merched. Bu farw yn Racine, 11 Medi 1878, yn 82 mlwydd oed. JENKINS, Mrs Mary (1833-1916). Ganwyd yn Gronant, Dyffryn Ardudwy. Ei rhieni oedd Richard a Catherine Roberts. Ymfudodd yn 1853, a bu farw yn Racine. JONES, Hugh (1852-1855). Ganwyd yn Nyffryn Ardudwy, yn fab i Robert a Mary Jones. Bu farw yn Racine. JONES, John G, 6 Mawrth 1909, yn Wales, Iowa, ar ôl 10-12 mlynedd o waeledd a chystudd gewynnol. Ganwyd a magwyd yn Nyffryn Ardudwy tua 1829. Collodd ei fam yn fachgen ifanc iawn. Ymfudodd yn 20 oed. Roedd yn un o ddau o flaenoriaid cyntaf y Methodistiaid yn Wales, ac yn ofalwr ac yn arweinydd y gân. Roedd yn dad i bump o blant: John R Jones, Emerson, Iowa; D G Jones a Mrs Robert Thomas, Wales; Mrs T A Williams, Denver; Mrs S R Williams, Brookfield, Missouri; a hefyd Griffith, Ellis, Lillie a Katie a’i rhagflaenodd. JONES, Rees E, 1 Hydref 1890,

ym Mhenygraig, Remsen, Efrog Newydd, yn 64 mlwydd oed. Roedd yn enedigol o Ddyffryn Ardudwy ac yn fab i John a Mary Richards. Ymfudodd yn 1846 a bu’n gweithio am rai blynyddoedd gyda’r Parch Morris Roberts (1799-1878), gynt o Langywer, Meirionnydd, sef brawd-yngnghyfraith ei fam. Ar ôl hynny bu’n gwasanaethu yn ardal Bethel, ger Remsen, lle y priododd â Miss Mariah Roberts, merch Owen Roberts, tinman, a buont yn byw ar fferm y Parch Morris Roberts am flwyddyn cyn iddynt symud i Whitemore Lot i fyw am ddeg mlynedd. Roedd yn ddiacon ym Mhenygraig, Remsen. Rhagflaenwyd ef gan ei briod dair blynedd ynghynt. Cynhwysai’r teulu un mab a dwy o ferched. JONES, Robert Blair (1837-1885), mab Richard a Laura Jones. Ganwyd yn Nyffryn Ardudwy. Ymfudodd yn 1843, priododd â Maggie Ellis, Utica, Efrog Newydd. Bu farw yn Racine. LLOYD, Mrs Jane Poole, 15 Chwefror 1868, yn Racine, wedi cystudd byr, er iddi fod yn wael ers misoedd. Roedd yn briod â John Lloyd ac yn chwaer i’r Parch William Davies, Llanegryn. Ymfudodd tua 1849 a bu’n aelod gyda’r Annibynwyr. Bu farw yn 47 mlwydd oed gan adael ei gŵr ac un ferch fach. POWELL, Laura (1825-1883). Ganwyd yn Nyffryn Ardudwy, yn ferch i Sam ac Ellen Griffith. Ymfudodd yn 1853. W Arvon Roberts [Gol]: Tybed a oes perthnasau i rai o’r arloeswyr uchod yn dal ar ôl yn ardal Ardudwy?


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod Nadolig a gynhaliwyd ym Mwyty’r Castell nos Fercher, 14 Rhagfyr 2016, gan y Llywydd Christine Hemsley. Cafwyd ymddiheuriadau gan aelodau oedd yn methu bod yn bresennol. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu eu pen-blwyddi ym mis Rhagfyr. Darllenwyd llythyr oedd yn dweud bod eisiau aelodau i fynd ar y bwrdd Economeg Cartref, ac yn gofyn sut oedd aelodau’n teimlo gan fod prinder o gystadleuwyr yn y Sioe Sir, ac oherwydd hynny mi oedd cystadlaethau wedi eu canslo. Roedd aelodau o gangen Harlech yn meddwl cynnal dim ond cystadleuaeth y Fowlen Rosod y flwyddyn nesaf. Bydd y cynigion yn cael eu trafod ym mis Ionawr; hefyd, enwau i fynd ar y Bwrdd Ymddiriedolwyr i’w derbyn erbyn mis Ionawr. Y bwrdd gwerthu ym mis Ionawr fydd cardiau Nadolig wedi eu hailgylchu. Mae aelodau’n awyddus i ddechrau dosbarthiadau crefft; bydd y cyntaf yn cael ei gynnal ar 19 Ionawr am 2 o’r gloch yn yr Hen Lyfrgell. Ar ôl trafod y busnes cynhaliwyd y parti Nadolig. Diolchwyd i Freya a’r staff am y bwyd blasus oedd wedi ei drefnu. Diolchwyd i Jenny Dunley am drefnu’r cwis. Diolchwyd i Christine am drefnu’r noson gan Sheila Maxwell.

Teulu’r Castell Fe aeth 22 o’r aelodau i gael cinio Nadolig yn y Ring yn Llanfrothen ar 6 Rhagfyr 2016. Cawsom groeso a chinio bendigedig yno ac fe ddaeth Siôn Corn i’n gweld a thynnu’r rafflau. Mi oedd Beryl Edwards wedi dathlu ei phen-blwydd yn 90 ar 5 Rhagfyr, ac roedd Bronwen Williams a Meirion Thomas hefyd yn dathlu pen-blwydd ym mis Rhagfyr. Roedd pawb yn cofio at Menna Jones a Dorothy Harper gan fod y ddwy’n methu bod hefo ni yn y cinio, Dorothy yn ôl yng Nghartref Madog erbyn hyn. Diolchwyd i’r staff am ginio bendigedig ac awyrgylch cynnes a braf gan Edwina. Diolchwyd i’r pwyllgor am drefnu’r cinio ac am eu gwaith trwy’r flwyddyn gan Hefin Jones. Does dim cyfarfod ym mis Ionawr ond fe fydd y cyfarfod nesaf ar 14 Chwefror 2017 gyda sgwrs am Ynys Enlli gan Haf. Mae pawb yn edrych ymlaen gan fod rhai o’r aelodau wedi bod gyda hi’n ddiweddar ar daith yno.

Cyngor Cymuned Harlech Ar ran Cyngor Cymuned Harlech hoffwn ddiolch i bawb oedd yn gyfrifol am addurno Harlech ym mis Rhagfyr. Hefyd i’r siopau busnes oedd wedi addurno’r siopau - pob un ohonynt yn deilwng o wobr, ond yr un oedd wedi cael y wobr oedd Hosbis yn y Cartref. Mi oedd y ffenestr yma’n werth ei gweld a llawer o feddwl wedi mynd i mewn i’w haddurno. Diolch hefyd i Mrs Annwen Prif Fachgen Llongyfarchiadau i Gethin Jones, Williams, prifathrawes Ysgol 37 Tŷ Canol ar gael ei ddewis yn Tanycastell am fod yn feirniad brif fachgen yn Ysgol Hafod Lon, yn y gystadleuaeth. Roedd Harlech yn werth ei weld dros yr Penrhyndeudraeth. ŵyl a phawb wedi dotio at y coed bach Nadolig ar hyd y ffyrdd a’r Rhodd dynion eira a wnaed â theiars Diolch i Maggie Cope am ei ceir. Diolch yn fawr iawn i bawb. rhodd o £10 i’r Llais. Rhodd £10 Edwina Evans Diolch Cydymdeimlad Dymuna Mrs Janet Mostert, Cydymdeimlwn â Mrs Bronwen Bryn Awel ddiolch i bawb am Williams, 16 Tŷ Canol a’r teulu y galwadau ffôn, y cardiau, yn eu profedigaeth ar drothwy’r y blodau a phob neges o ddymuniadau da a dderbyniodd Nadolig o golli ei chwaer, Mrs Eluned Hughes, oedd yn byw ar ôl iddi dderbyn triniaeth yn Ysbyty Llandudno yn ddiweddar. yng Nghricieth.

SEINDORF ARIAN HARLECH

Dyma lun aelodau’r band yn Nhŷ Canol fore’r Nadolig. Diolch iddyn nhw am ddod ag ysbryd yr ŵyl i’n cartrefi. Dymuna pwyllgor Seindorf Arian Harlech ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod 2016, yn enwedig eich haelioni i’n casgliad fore Nadolig [£260] a’r noson a gynhaliwyd gyda ‘Ratz Alley’ [£580]. a gweddïau gan aelodau o’r gwahanol eglwysi a chyfraniadau gan David Bisseker, Seindorf Arian Harlech a Meibion Prysor o Drawsfynydd. Cyflwynwyd anerchiad difyr a phwrpasol gan y Parch Miriam Beecroft. Roedd y casgliad eleni yn mynd i gefnogi ffoaduriaid ac anfonwyd £300 i Cefn, sef y grŵp lleol sy’n cefnogi ffoaduriaid. Arholiad piano Llongyfarchiadau i Erin Michelmore, Cae Gwastad ar lwyddo yn ei harholiad piano Gradd 1 yn ddiweddar. Eglwys Tanwg Sant Hyfryd oedd gweld yr eglwys yn gyfforddus lawn ar gyfer y Gwasanaeth Nadolig Undebol ar Ragfyr 11. Cafwyd darlleniadau

Marwolaeth Yn dawel yng nghartref Hafod Mawddach, Bermo yn 94 oed bu farw Miss Morfudd Edwards, Pencerrig gynt, chwaer hoff i’w diweddar frodyr a’i chwiorydd a modryb annwyl i Huw a Hilda. Cofir amdani fel cymeriad annwyl iawn yn yr ardal hon. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ar Ragfyr 22.

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 7 A


CYNGOR CYMUNED HARLECH

CD NEWYDD HOGIA HARLECH

Dathliadau Nadolig y Cyngor 2016 Diolchodd y Cadeirydd i Judith Strevens am drefnu’r digwyddiad uchod ac i bawb arall a’i helpodd ar y noson. Datganodd y Cadeirydd ymhellach pa mor llwyddiannus fu’r noson oleuo ar y 1af. Rhandiroedd Mae nifer yn tynnu allan o rentu rhandir erbyn hyn. Os oes gan rywun ddiddordeb mewn rhentu rhandir, mae croeso iddynt gysylltu gyda’r Clerc i gael mwy o fanylion. Cytunodd Freya Bentham osod rhybudd o’r fath ar yr hysbysfwrdd yn y dref. Hamdden Harlech ac Ardudwy Mae’r Bwrdd yn disgwyl cymorth ariannol gan y Cyngor yn ystod 2016/17 gan eu bod £2,750 yn brin yn eu cyllideb. Nid oes arian gan y Cyngor yn y flwyddyn ariannol hon oherwydd yr ymrwymiad gyda’r praesept ym mis Ebrill 2017 a bod Cyngor Gwynedd yn mynd i roi £20,000 iddynt er mwyn eu cynnal tan fis Ebrill 2017. Felly, cytunwyd i beidio â rhoi cymorth ariannol iddynt rŵan. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad ports ar y llawr cyntaf - Bryn Awelon, Harlech Cefnogi’r cais. UNRHYW FATER ARALL Mae gordyfiant ar hyd ochr y lein o Hwylfa’r Nant ymlaen at dŷ’r stesion. Bydd angen cysylltu gyda Mr Rhydian Mason o Network Rail ynglŷn â hyn.

‘COFIO’

Mae gordyfiant ger Pencerrig yn cuddio golau’r ffordd.

Gan fod y tywydd wedi oeri, dyma

Ganllawiau Hwylus! er mwyn cadw’n gynnes.

1. Pictiwrs Bach y Borth 2. Caru Cymru 3. Moel y Geifr 4. Cofio Gwynfor 5. Llosgi’r Bont 6. Nant y Mynydd 7. Y Border Bach 8. Ofer Chwilio 9. Llwybr y Mynydd 10. Somewhere Between

£10

Ar werth yn Siop Eifionydd neu drwy John a Roger [01766 780525]

Llwyddiant Rydym i gyd yn falch iawn o glywed fod y CD yn cael ei chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru. Da iawn Hogia Harlech. elfennau. Nid oes cymaint o ddŵr mewn tegelli siâp jwg oherwydd bod yr elfennau’n llai. Sosbenni a phadelli Dewiswch sosban o’r maint cywir ar gyfer y bwyd a’r cwcer (dylai’r gwaelod fod yn ddigon i orchuddio’r cylch coginio trydan) a chadwch y caead ymlaen wrth goginio. Wrth goginio â nwy, dim ond wrth waelod y sosban mae angen y fflam. Os ydyw’n ymestyn i fyny’r ochrau, rydych yn gwastraffu gwres.

Syniadau defnyddiol ar gyfer pobl hŷn. Dyma ychydig o syniadau ar gyfer cadw’n gynnes dros y gaeaf:

Dŵr poeth Mae angen i’r dŵr fod yn boeth ond byth yn ferwedig. I’r rhan fwyaf o bobl, mae gosod y thermostat ar 60°C/140°F yn iawn er mwyn ymolchi a golchi. Cofiwch roi’r plwg yn eich basn neu sinc! Mae gadael dŵr poeth i redeg heb y plwg i mewn yr un fath â thywallt pres i lawr y draen! Llenni neu Gyrtens Caewch eich llenni wrth iddi nosi er mwyn atal y gwres rhag dianc drwy’r ffenestr. Goleuadau Diffoddwch y golau bob amser pan fyddwch yn gadael ystafell - ac agorwch eich llenni neu’ch bleindiau i adael cymaint o olau dydd ag y bo modd i mewn yn ystod y dydd. Peiriannau trydanol Er mwyn arbed ynni, peidiwch â throi cyfarpar ymlaen nes bydd eu hangen a chofiwch beidio â’u trydanu os nad oes angen. Mae gadael y ‘botwm coch’ ymlaen ar unrhyw declyn trydanol yn dal i ddefnyddio ynni. Cofiwch edrych yn y llawlyfr i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar gof y peiriant. Tegelli Twymwch yr union faint o ddŵr sydd ei angen arnoch. Os ydych yn defnyddio tegell trydan, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorchuddio’r

A8

Bwyd 1 Cadwch stoc o fwyd yn y tŷ rhag ofn i’r tywydd waethygu a’ch atal rhag mynd i siopa. 2 Bwytewch o leiaf un pryd poeth y diwrnod. 3 Sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddiodydd poeth. Dillad 1 Gwisgwch ddigon o ddillad cynnes cyn mentro allan i’r oerni. 2 Mae gwisgo nifer o haenau o ddillad yn eich cadw’n gynhesach nag un haen drwchus. Cadw’n fywiog 1 Symudwch i gadw’n gynnes - gwnaiff ychydig o ymarfer corff eich helpu i gadw’n iach, hyd yn oed o fewn y tŷ. Amser gwely 1 Cofiwch gau’r ffenestri dros nos er mwyn cadw’r cynhesrwydd i mewn a’r oerni allan. 2 Os oes gennych flanced drydan sydd dros 10 mlwydd oed, dylech brynu un newydd. 3 PEIDIWCH BYTH â defnyddio potel ddŵr poeth ar yr un pryd â blanced drydan. 4 Gwisgwch yn gynnes ar gyfer y gwely.

ENGLYN DA

Afallon

Nid ar dir ac nid ar don - unrhyw fap Y mae’r fwyn Afallon, Ond ym mhob dyfal galon, Wir Gymreig mae erwau hon. R E Jones [1908-1992]


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Gwasanaeth Nadolig Bryntecwyn Daeth nifer dda ynghyd i Wasanaeth Nadolig Capel Bryntecwyn pnawn Sul, 11 Rhagfyr , dan ofal y Parch Anita Ephraim a arweiniodd y rhan dechreuol. Yna cafwyd cyfraniad arbennig o dda gan y plant, dan ofal Carys Evans, yn cyflwyno darlleniadau yn sôn am ddathlu’r Nadolig mewn gwahanol wledydd. Y rhai a gymrodd ran oedd Ellie, Osian, Jack, Sioned, Cari Ellen, Erin, Dylan ac Anna. Cyd-ganwyd ‘I orwedd mewn preseb’ i orffen eu rhan hwy. I ddilyn, rhoddwyd anerchiad cofiadwy iawn gan y Gweinidog, gan ddefnyddio gwifren gyda phedwar bwlb bach arni, wedi’i goleuo mewn gwahanol liwiau, ac eglurodd beth oedd pob lliw yn ei olygu. Ymatebodd y plant yn rhagorol i’w chyflwyniad. Diolchodd Mai Jones i bawb a gymrodd ran, gan ddiolch i’r plant am eu cyfraniad arbennig hwy i’r gwasanaeth. Wedi i’r Parch Anita Ephraim ddiweddu’r oedfa a phawb gyd-ganu’r garol olaf, cafodd y plant de parti bach cyn mynd adref. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau am wellhad buan at Bili Thomas, 1, Cilfor a Betty May Evans, Maes Mihangel, Ynys a Joyce Atterbury, 5, Cilfor y tri yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd.

Merched y Wawr Ar ddydd Iau, 8 Rhagfyr aeth holl aelodau Cangen Talsarnau i’r ‘Fic’ yn Llanbedr am ginio Nadolig, gyda rhai o’r gwŷr yn ymuno hefyd. Mwynhawyd pryd o fwyd da iawn mewn awyrgylch gynnes braf. Cafwyd nifer fawr o wobrau raffl a phawb bron yn ennill gwobr! Diolchodd Siriol i bawb am ddod i’r cinio, i Mai am wneud y trefniadau ac i Gwenda am ofalu am yr ochr ariannol. Dymunodd Nadolig Llawen i bawb ac atgoffwyd yr aelodau y bydd ein cyfarfod nesaf yn Neuadd Talsarnau ar nos Lun, 9 Ionawr yng nghwmni Naomi Jones o Barc Cenedlaethol Eryri.

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau Ionawr 12 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb Capel Newydd IONAWR

8 - Dewi Tudur am 6:00 11 - Oedfa Bregethu Dechrau Blwyddyn, Dewi Tudur am 7:30. 15 - Dewi Tudur am 6:00 22 - Irfon Parry am 6:00 29 - Dewi Tudur am 6:00

Rydym hefyd yn parhau i gofio am Bryn Williams, Tŷ Gwilym, sydd yn gwella yn araf yn Ysbyty Stoke ond sydd â ffordd fawr i fynd cyn gwella’n llwyr.

Cyngerdd Nadolig Ysgol Talsarnau

Unwaith eto, cafwyd cyngerdd Nadolig o safon uchel iawn gan blant yr ysgol gynradd. Sgwennwyd sioe y plant hŷn, oedd wedi ei seilio ar Ŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, gan y pennaeth, Mr Rhys Glyn, ac ef a gyfansoddodd nifer o’r caneuon. Os na fuoch chi yno - mi gawsoch golled fawr. Roedd y plant i gyd wedi dysgu eu gwaith yn rhagorol. Yn y llun uchod, fe welir y ddau ddisgybl oedd â’r prif rannau sef Erin Michelmore ac Osian Lockett. Cafwyd eitemau ar y piano gan y disgyblion yn ystod yr egwyl. Roedd gogwydd newydd ar Stori’r Geni gan y babanod a oedd yn seiliedig ar rywun o’r gofod yn dod i’r ddaear i ddysgu am y Nadolig cyntaf. Roedd y plantos yma hefyd yn gwneud eu gwaith yn rhagorol. Diolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol am wneud cymaint er lles y disgyblion.

PRIODAS

Llongyfarchiadau i Dafydd Williams (mab Benjie – Geraint – a Margaret Williams o Dalsarnau) a Maddy Matthews (merch Andy ac Amanda Matthews o’r Dyffryn) ar eu priodas ar ddydd Sul 18 Rhagfyr 2016 yng Ngwesty’r Grosvenor Pulford Spa ger Wrecsam. Celyn, eu merch fach, oedd y cludwr blodau a’u morwyn briodas oedd Tash, chwaer y briodferch. Cynorthwywr y priodfab oedd Chris a oedd yn y Brifysgol yr un pryd â Dafydd. Y tywyswyr oedd Euan, brawd y briodferch, a Dougie, Tasha a Billy a oedd hefyd yn y Brifysgol yr un pryd â’r cwpl. Yn dilyn y briodas, cafwyd y brecwast priodas a’r dathliadau gyda’r nos yn yr un lleoliad. Treuliodd y cwpl a’u merch fach wyliau Nadolig ym Minehead, Gwlad yr Haf, cyn dychwelyd adref. Mae’r ddau’n byw ac yn gweithio yn ardal Wrecsam. Diolch Dymuna Gwynfor a Beryl Williams, Angorfa ddiolch o galon am yr holl gardiau, anrhegion, galwadau ffôn ac ymweliadau wrth i Gwynfor ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed a’r ddau yn dathlu penblwydd Priodas Aur yn agos i’r un dyddiad. Mae Gwynfor wedi bod yn yr ysbyty dros yr holl ddathlu a hoffai ddiolch am y gofal arbennig a gafodd yn Ysbyty Gwynedd ac wedyn yn Ysbyty Bryn Beryl pan gafodd gyd-ddathlu hefo’r teulu. Mae Gwynfor adref erbyn hyn ac fe gafodd ddathlu’r Nadolig hefo’i deulu. Dymunwn iddynt Flwyddyn Newydd Dda. Rhodd a diolch £5.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

A 9


Y BERMO A LLANABER Llyfrgell Mae yna ychydig o newidiadau wedi bod i oriau agor yn Llyfrgelloedd Gwynedd. Gobeithiwn ein bod wedi gwrando ar ein defnyddwyr er mwyn eich galluogi i ymweld â’ch Llyfrgell ar amser cyfleus i chi, yn cynnwys bod yn agored ar ôl amser gwaith arferol. Bydd yr oriau agor newydd yn weithredol o Ionawr 3ydd 2017. Yr amser agor newydd i lyfrgell y Bermo yw: Llun 10.00-12.30 a 2.00-6.00 Mawrth 10.00-12.30 a 2.00-5.00 Iau 10.00-12.30 a 2.00-5.30 Gwener 10.00-12.30 a 2.00-5.00 Sadwrn 10.00-12.30. Cynhaliwyd cinio blynyddol Grŵp Cadetiaid y Fyddin, Bermo yng ngwesty Min-y-môr, Bermo ar Ragfyr 13. Cafwyd seremoni Cymdeithas Gymraeg y Bermo i wobrwyo’r cadetiaid am eu gwaith drwy’r flwyddyn. Diolch i’r Nos Fercher, Rhagfyr y 7fed gwesty a’r staff am y wledd ac i siopau’r Bermo am eu rhoddion at y croesawyd Côr Meibion raffl. Aiff yr arian a godir at hyfforddiant ac i brynu offer. Ardudwy i Christ Church Os oes gan rywun ddiddordeb mewn ymuno â ni, bydd y i ddiddanu aelodau o’r cyfarfod cyntaf ar Ionawr 10, 2017. Croeso i bobl ifanc o 12 oed Gymdeithas ac ambell ffrind. a gwirfoddolwyr dros 18 oed. Nid oes angen unrhyw brofiad Cyflwynwyd rhaglen amrywiol, blaenorol i ymuno. Diolch i bawb am noson lwyddiannus. ddiddorol gan y côr a chafwyd Liam Ashton-Hughes gwledd wrth wrando ar bum Cadlywydd Platŵn y Bermo unawdydd, gan gynnwys yr arweinydd. Crëwyd naws Nadoligaidd hyfryd gyda darlleniadau amserol, mewn awyrgylch gartrefol a chynnes iawn. Mawr yw ein diolch am gael bod mewn addoldy a oedd wedi ei addurno mor hyfryd. Braf yw gweld dau o hogiau’r ardal mor weithgar gyda’r côr, sef yr arweinydd ifanc Aled Morgan Jones ynghyd â’r cyfeilydd amryddawn Idris Lewis.

CADETIAID

HYBU CHWARAEON Grantiau i glybiau

Merched y Wawr Cydymdeimlwyd â Glenys Jones a’r teulu o golli chwaer. Dymunwyd pen-blwydd hapus i Pegi Parry a ddathlodd benblwydd arbennig yn ddiweddar. Diolch i Llewela am gytuno i gymryd rhan yng ngwasanaeth ‘Llith a Charol’ yn Nolgellau. Ar ôl mynd trwy’r ohebiaeth, cyflwynwyd a chroesawyd Olwen Jones o Rydymain atom gan Grace. Teitl y noson oedd ‘Coed Nadolig’, ac roedd y byrddau yn wledd i’r llygaid. Eglurodd Olwen sut i wneud yr addurniadau ac roedd yn amlwg ei bod yn feistr ar y grefft. Cawsom noson gartrefol yn ei chwmni. Trefnwyd y noson gan Gwyneth, Llewela a Grace.

A 10

Bore Nadolig Cafwyd oedfa deuluol fer i ddathlu geni’r Iesu yn Eglwys Christ Church. Arweiniwyd yr oedfa gan John Williams a chanwyd y garol ‘O, Sanctaidd Nos’ gan Tomos, Cadog, Guto a Brychan i gyfeiliant Llŷr ar y gitâr. Braf oedd cael cwmni plant eto ar fore o ddathlu. Parti carolau Bu Parti Carolau Enddwyn, yn ôl eu harfer, yn diddanu preswylwyr Hafod Mawddach ychydig cyn y Nadolig. Braf iawn oedd cael sgwrsio a hel atgofion gyda hen ffrindiau. Bu’r staff wedyn yn garedig yn rhannu mins peis a gwydriad o win i gynhesu’r cantorion. Diolch i’r parti hwn sydd bob amser mor barod i ddiddanu cymdeithasau yn yr ardal.

Cylchdeithiau

Mae cylchdeithiau cerdded newydd wedi eu datblygu oddi ar Lwybr Arfordir Gwynedd. Mae Gwynedd yn sir hynod boblogaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac mae’r rhwydwaith o lwybrau sydd gennym ledled y sir yn adnodd hollbwysig - a hynny ar gyfer trigolion lleol sydd am fwynhau ein cefn gwlad yn ogystal â’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod yma bob blwyddyn Mae Cist Gymunedol Gwynedd wedi dyrannu cyfanswm o £11,732 fel twristiaid. Yn sicr, bydd y i naw o glybiau chwaraeon yng Ngwynedd yn ystod cyfarfod cylchdeithiau yma’n gaffaeliaid diweddar. wrth adeiladu ar enw da Mae’r grantiau Cist yma’n rhoi cymorth a chefnogaeth i glybiau a Gwynedd fel lle safonol ar gyfer sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud â chwaraeon ledled y sir gweithgareddau awyr agored ac yn hyrwyddo ffitrwydd, yn helpu i hybu clybiau a sefydliadau Mae gwaith wedi digwydd yn chwaraeon yn y Sir a darparu gwell cyfleoedd chwaraeon i drigolion ddiweddar i osod arwyddion Gwynedd. i dywys cerddwyr ar hyd y Rhannwyd grantiau i nifer o glybiau gan gynnwys Grŵp Cefnogi De cylchdeithiau ac mae diolch i Eryri (Parkinsons UK) er mwyn sefydlu clwb Boccia. Y gobaith yw wirfoddolwyr a thirfeddianwyr sefydlu nifer o glybiau er mwyn rhoi’r cyfle i nifer o unigolion sydd am gynorthwyo. Mae gwaith â chlefyd Parkinson i gymryd rhan drwy’r sir ac i ddod at ei gilydd i marchnata hefyd wedi digwydd. gynnal cystadlaethau. Mae’r 18 cylchdaith yn cynnwys Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gefnogaeth ariannol ardal y Bermo a Maentwrog. gan Gist Gymunedol Gwynedd, cysylltwch â thîm datblygu Mae mwy o wybodaeth i’w chwaraeon Cyngor Gwynedd drwy e-bostio LAGO@gwynedd.llyw. gweld ar: www.youtube.com/ cymru neu ffoniwch 01766 771000. user/VisitSnowdonia


136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

Ardudwy

LLESTR BREGUS Hywel Gwynfryn

Roedd llais y canwr o Drelogan, sir Fflint, yn gyfarwydd drwy Gymru, Lloegr ac mewn rhannau helaeth o gyfandir Ewrop a Gogledd America. Roedd yn adnabyddus am ei waith ym myd opera ac oratorio, ac am ei berfformiadau o emynau a chaneuon gwerin ei famwlad. Pam, felly, fod y disgrifiad o David Lloyd fel

llestr bregus mor dreiddgar o addas? Ymgais yw’r cofiant hwn i ateb y cwestiwn. Er mwyn cyflwyno cipolwg ar fywyd David Lloyd, mae Hywel Gwynfryn yn mynd i’r afael â’r straeon am fercheta cyson, ynghyd â phroblemau yfed, iselder ysbryd, a’r pwysau trwm a deimlai’r tenor i ddiddanu’i edmygwyr. Ym 1954, cafodd David Lloyd ddamwain, gan dorri ei asgwrn cefn, a bu cryn amheuaeth a ddeuai fyth yn dod yn ôl i’r llwyfan cyhoeddus. Nid oedd modd iddo berfformio am chwe blynedd; ni ddychwelodd i’r llwyfan tan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 1960, a bu farw ym mis Mawrth1969 yn 56 mlwydd oed, yn dilyn damwain yn ei gartref. Darperir ar ein cyfer gwledd o ffotograffau sydd yn darlunio pob cyfnod o fywyd y canwr hwn. J. Graham Jones Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

BARDD AR Y BÊL Llion Jones O Andorra i Lyon, dyma lyfr sy’n dilyn taith gofiadwy tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 drwy eiriau bardd. Mae’r gyfrol yn dal blas haf hynod 2016 ac yn dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol ar hyd pob cam o’r daith. Gyda lluniau trawiadol, mae’r llyfr yn gofnod lliwgar o gamp Chris Coleman a’i dîm.

Dyma i chi ddau lyfr arall y gallwch ystyried eu prynu gyda’r tocynnau llyfr gawsoch chi gan Siôn Corn. Darllen difyr iawn!

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy

11 A


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

01341 421917 07770 892016

Sŵn y Gwynt

Tiwniwr Piano

Gwynedd

g.rhun@btinternet.com

www.raynercarpets.co.uk

Llanuwchllyn 01678 540278

Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi lliw llawn pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ARCHEBU A

Talsarnau,

Tafarn yr Eryrod

Llais Ardudwy

GERALLT RHUN

07776 181959

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

A 12

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.