TORRI GWALLT 50c ER BUDD YMCHWIL CANSER
Llais Ardudwy RHIF 470 - IONAWR 2018
CAU DAU GAPEL YN NHALSARNAU Jane Taylor Williams wedi torri ei gwallt
Capel Bryntecwyn Mater o dristwch i ni yw cyhoeddi bod Capel Bryntecwyn wedi cau ar ddiwedd 2017. Cynhelir gwasanaeth cau’r Capel nos Fawrth, 16 Ionawr 2018 am 6.30 o’r gloch dan ofal y gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Mae croeso i aelodau, cyn-aelodau a chyfeillion eraill ddod i’r gwasanaeth. Ar dudalen 12, gallwch ddarllen hanes cau capel arall yn ardal Talsarnau, sef Capel Soar. Ar bnawn Sul, Rhagfyr 17 cynhaliwyd gwasanaeth cartrefol yng Nghapel Soar dan ofal y Diacon, Stephen Roe, Dolgellau. Dyma ergyd i grefydd yn yr ardal ond mae hefyd yn hoelen arall yn arch y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn yr ardal hon.
Capel Soar
Penderfynodd Jane Taylor Williams a anwyd ym mhentref Gwynfryn, Llanbedr wneud rhywbeth anghyffredin er mwyn codi arian at Ymchwil Canser Gogledd Cymru cyn y Nadolig. Fel y gwelwch o’r lluniau, mae Jane wedi eillio ei gwallt! Digwyddodd yr eillio yng nghwmni ffrindiau yng Ngwesty’r Fictoria, Llanbedr ar Tachwedd 4 lle cafwyd parti i nodi’r achlysur. Roedd am wneud hyn er cof am ei chwaer. Llwyddodd i godi £1635.50 at yr achos. Cyfarfu Jane ag un o’r arbenigwyr canser sy’n gweithio ym Mangor, sef Dr Edgar Hartsuiker a dywedodd wrtho ei bod am gyflwyno’r arian iddo. Nododd yntau fod croeso i unrhyw un drefnu i ymweld â’r uned - gellir gwneud hynny trwy ffonio Mrs Myfanwy Jones ar 01766 780245. Dymuna’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn iddi am ei hymdrech tuag at yr achos teilwng hwn.
Jane yn y gegin yn Aber Artro cyn torri ei gwallt
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Chwefror 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Chwefror 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ionawr 29 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook
@llaisardudwy 2
Enw: Samantha Marie Cooper. Gwaith: Cyfrifydd. Cefndir: O Landecwyn yn wreiddiol, byw yn Harlech rŵan gyda Mike (fy mhartner) a Maddie fy nghi. Gradd mewn Astudiaethau Plentyndod ac AAT (association of accounting technicians) Lefel 4. Yn gweithio ym Mhorthmadog Concrete a Chlwb Golff Dewi Sant. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mi fyddaf wrth fy modd yn mynd â Maddie am dro ac rydym yn cystadlu mewn ‘agility’ sy’n cynnwys dipyn o redeg. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ar hyn o bryd nid wyf yn darllen dim. Dim digon o amser yn y dydd i gael eistedd i lawr i ymlacio gyda llyfr. Rydw i yn hoff o ddarllen llyfrau Guto Dafydd. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Mi ydwi’n hoff iawn o raglenni sebon yn enwedig Rownd a Rownd! Ydych chi’n bwyta’n dda?
Mi wnes i ddechrau dilyn ‘Slimming World’ ddechrau mis Chwefror ac rydw i wedi newid fy arferion drwg. Hoff fwyd? Rydw i’n hoff iawn o gyri cyw iar efo’r holl drimings! Hoff ddiod? Glasiad bach o win pinc melys neu rywbeth efo bybls ynddo fo. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Robbie Williams, Celine Dion, dyna i chi driawd y buarth gyda thro annisgwyl. Na dydw i ddim am ddeud pwy ydi’r mw mw! Lle sydd orau gennych? Rydw i wrth fy modd yn mynd lawr i Gaerdydd, ond does unlla yn debyg i gartref. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Y gwyliau gorau erioed i mi ei gael oedd gyda’m teulu yn Florida. Trip ardderchog i mi pan oeddwn yn 10 oed i gael mynd ar yr holl reidiau ym Mharc Disney a gweld fy hoff gymeriad, Pluto y ci. Efallai mai yn y fan honno y blodeuodd fy nghariad at gŵn. Beth sy’n eich gwylltio? Pobol sydd yn anonest ac yn dweud celwydd. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gonestrwydd. Does dim posib bod yn ffrindiau heb onestrwydd. Pwy yw eich arwr? Dad yw fy arwr i. Mae bob amser wedi edrych ar fy ôl pan fo angen. Yn ogystal â hyn rydw i yn gwybod y gallaf ddibynnu arno yn y dyfodol os byddaf ei angen. Rwyf yn lwcus iawn o’m teulu. Gallaf ddibynnu arnyn nhw i gyd. Beth yw eich bai mwyaf?
Gweld y gorau ym mhawb bob amser. Rydw i’n credu’n gryf mewn rhoi cyfle i bawb, ond weithiau gall hyn ddod yn ôl i’m brifo pan rydw i’n anghywir. Hefyd mae gennyf ofn pechu neb. Rwy’n berson sy’n hoff o gyd-dynnu gyda phawb ac mae unrhyw ddrwgdeimlad gyda rhywun yn gwneud i mi deimlo yn anghyfforddus. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Does dim byd gwell yn y byd gen i na cael mynd i gystadlu gyda Maddie mewn llefydd gwahanol. Mae gweld Maddie yn gwneud yn dda yn dod â balchder mawr i mi. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd am wyliau hir rownd y wlad efo Mike a Maddie a buaswn yn gwneud rhai newidiadau i’r tŷ. Eich hoff liw? Pinc. Eich hoff flodau? Lilis. Eich hoff gerddor? Rydw i’n hoff iawn o’r lleisiau mawr fel Robbie Williams, Celine Dion a Mariah Carey ac yn hoff iawn o gerddoriaeth pop fodern. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Against All Odds, Mariah Carey a Westlife. Pa dalent hoffech chi ei chael? Darllen meddyliau! Eich hoff ddywediadau? Mwya’r brys, mwya’r rhwystr. Dim pwynt codi pais ar ôl piso. Yn ara’ deg mae dal iâr. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus a balch.
CYNGOR CYMUNED HARLECH Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar. Cytunwyd bod y cofnodion yn gywir. Ar ôl trafodaeth cytunwyd parhau i gyfrannu trwy’r cynllun praesept, felly bydd y Cyngor hwn yn cyfrannu £18,968.90 yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 ac hefyd yn ymrwymo i hyn am 5 mlynedd ar yr amod bod aelodau’r Bwrdd yn adrodd yn ôl yn flynyddol i’r Cyngor. CYNGOR GWYNEDD Adroddodd Freya Bentham bod cyfarfod wedi ei gynnal ar y 29ain o’r mis diwethaf gyda Mr Chris Jones ynglŷn ag ‘Adfywio Harlech’ a bod ganddi gyfarfod gyda Bwrdd y Theatr yn fuan. Hefyd adroddodd y bydd llinellau melyn dwbl yn cael eu gosod ar y gornel i lawr i Bentre’r Efail ym mis Ionawr, hefyd arwyddion mwy amlwg o ran y cyflymder ar y ffordd wrth fynd allan am gyfeiriad Talsarnau, hefyd bod cynlluniau i wneud Ffordd Glan y Môr yn fwy diogel i gerddwyr. Hefyd datganodd ei bod wedi cael gwybod bod cais cynllunio’r Coleg i drosi’r ganolfan adnoddau yn westy wedi ei ganiatáu. Roedd wedi cyfarfod â rhai o gynrychiolwyr ‘Ymweld â Chymru’ ac wedi mynd a nhw o amgylch yr ardal; hefyd ei bod wedi mynychu cyfarfod parthed Pen Llŷn a’r Sarnau. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid y ffliw a derbynnydd aer di-awdurdod presennol gyda ffliw a system dderbynnydd aer gwahanol ar yr edrychiad cefn, cadw’r rendr llwyd ar edrychiad ochr yr estyniad cefn yn lle’r wynebfaen sydd wedi ei chymeradwyo eisoes o dan ganiatâd cynllunio - Llys y Graig, Harlech. Cefnogi’r cais hwn oherwydd ei fod yn hanfodol i’r busnes. Gosod 12 carafan statig yn lle 18 llain carafan teithiol – Maes Carafanau Woodlands, Harlech Cefnogi’r cais hwn oherwydd bydd cael carafanau statig ar y safle yn fwy diogel yn lle rhai teithiol oherwydd eu bod yn gorfod mynd dros y groesfan, hefyd bydd rhai sy’n rhentu’r rhai statig yn fwy tebygol o ddod i’r ardal yn amlach. UNRHYW FATER ARALL Mae angen mwy o gysylltiad â’r Theatr a chytunodd Freya Bentham ddod a hyn i sylw Bwrdd y Theatr. Nid yw’r bysiau i gyd yn dod i mewn i’r dref a gorfodir pobl i gerdded o ben rhiw Dewi Sant. Mae twll yn un o’r gridiau ar waelod y grisiau ger Y Branwen. Cytunodd Elfyn Anwyl dynnu ei lun a’i anfon i’r Clerc. Mae ceir yn parcio gyferbyn â’r fynedfa i Arfryn, Ffordd Uchaf ond datganwyd nad oedd lle arall i’r ceir dan sylw barcio.
Alice Jones, Delfryn (Ty’n y Wern gynt) Ganed Alice ar y 25ain o Ionawr 1939, y 3ydd plentyn i’r diweddar Ellen Ardudwen a Harri Jones, Ty’n y Wern a chwaer annwyl i Blodwen, Harri, Robin, Meurig, Oscar, Rhian a’r diweddar Gruffydd. Aeth i ysgol gynradd Dyffryn cyn symud ymlaen i ysgol ramadeg y Bermo. Ar ôl gadael yr ysgol arhosodd adre i helpu i edrych ar ôl y plant ieuengaf. Yn dilyn y cyfnod yma aeth i weithio i’r ddeintyddfa yn y Bermo hefo Harri Morris. Yna symudodd i weithio i Woolworths, lle bu am tua ugain mlynedd. Roedd wrth ei bodd yno. Gwnaeth lawer o ffrindiau a bu llawer o hwyl a llond bol o chwerthin. Rhai yn unig oedd yn ddigon ffodus i adnabod yr Alice go iawn – hiwmor tawel, direidi a hwyl. Un oedd yn agos at ei chalon oedd anti Enid, y ddwy yn mynd i bob man hefo’i gilydd ac yn mwynhau. Yn 21 oed priododd hefo John. Partneriaid am oes. Priodas fechan [5 yn unig] yng Nghapel Horeb am 9 y bore! Dathliad syml i ddilyn yn Nhy’n y Wern gyda’r teulu agosaf. Treuliwyd y mis mêl yn Llundain. Ymgartrefu yn Fron Heulog am saith mlynedd gyda chymdogion gwerth chweil sef Ned a Dora Owen. Yna penderfynu codi tŷ sef Delfryn. Alice wrth ei bodd wrth symud tafliad carreg o’i chartref genedigol. Cyfnod prysur iawn Meryl yn cael ei geni, a’r teulu bach yn gyflawn. Bywyd Alice oedd y teulu, y capel, y côr a choginio. Merch ei milltir sgwâr yn siŵr i chi. Byddai wrth ei bodd yn gwrando ar yr emynau ar y radio ac yn eu canu yn y capel. Pan fyddai yn ymgolli, gallai godi’r to gyda’i llais unigryw. Bu’n aelod ffyddlon iawn o Gantorion Enddwyn gan feddu ar lais soprano arbennig. Yn ystod y cyfnod yma, dechreuodd grwydro hefo’r côr. Buont yn Iwerddon a hyd yn oed yn bellach pan fu rhaid cael pasport i ganu yn Llydaw. Roedd hyn yn garreg filltir go iawn! Flynyddoedd cyn hynny roedd wedi bod yn canu cerdd dant, fel amryw o ferched y pentref, gyda’r diweddar Mr O T Morris, ac wedi cael y profiad o ganu yn yr Albert Hall yn Llundain. Roedd hi wrth ei bodd yn canu. Yna daeth cyfnod prysur arall yn yr wythdegau pan aned Dylan ac Elen. Alice wedi gwirioni. Rhian wedyn yn mynd yn ôl i weithio ac Alice yn cael magu’r ddau fach. Wedi hynny, bu’n gofalu am ei mam gyda gofal ac amynedd am ugain mlynedd. Roedd Alice yn hynod lwcus o’i chwaer Rhian a fu’n mynd a hi o le i le am flynyddoedd i ymarferion canu, Merched y Wawr ac ati. Ond fe ddaeth tro ar fyd tua pymtheg mlynedd yn ôl, pan ddaeth afiechyd creulon, cas i’w rhan. Rhaid diolch am y gofal a gafodd Alice gan nifer o bobl, yn deulu ac yn ffrindiau, yn enwedig pan fu John yn wael iawn dechrau 2009. Bu llawer o bobl o gymorth mawr, a rhaid enwi Eifiona Shewring a gerddodd filltiroedd yng nghwmni Alice am flynyddoedd, beth bynnag oedd y tywydd. Diolch Eifiona. Diolch hefyd am y gofalwyr a oedd yn taro heibio. Pob un a gwên ac yn cadw rhywun i fynd. Ond yn anffodus daeth y dydd pan oedd rhaid cael mwy o ofal, a hynny yn ofal nyrsio penodol. Felly daethpwyd i benderfyniad anodd iawn ac aeth Alice i gartref y Pines yng Nghricieth. Yma bu hi’n lwcus o’r gofal a gafodd hyd y diwedd. Mae John, Meryl a’r teulu yn ddiolchgar iawn i’r staff am fod mor ofalus ohoni. Cofiwn fel ag yr oedd hi y rhan helaethaf o’i bywyd. Yr oedd hi yno yn glust i wrando ac yn hynod garedig. Gwraig addfwyn a gweithgar yn llawn ymroddiad i’r hyn oedd yn agos at ei chalon. Bu’r teulu yn lwcus iawn ohoni ac mae ein dyled yn fawr iddi. Ar Fedi’r cyntaf eleni, daeth newyddion hyfryd a hapus iawn fod babi bach newydd wedi cyrraedd, ac Elen a Phil yn ei henwi yn Alys Medi. Fe fyddai Anti Alice wedi bod yn falch o’r enw. Edrychwn ymlaen i’w gweld yn newid o ddydd i ddydd, ac yn siwr i chi, bydd Anti Alice yn gwylio hefyd. Yn sicr, mae gan bob un ohonom atgofion melys am Alice – merch, gwraig, mam, nain, chwaer, modryb a ffrind - atgofion i’w trysori am byth. O gilfach y côf daw atgofion Am hafau digwmwl di-drai, Atgofion sy’n cynnal y teulu Pan fyddo y llanw ar drai. Diolch Dymuna John, Meryl a’r teulu oll, ddiolch o galon i bawb am yr holl gardiau, galwadau ffôn a’r ymweliadau yn dilyn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, nain, chwaer a modryb arbennig ac annwyl iawn sef Alice Jones. Diolch am y rhoddion hael a gasglwyd tuag at Alzheimers. Diolch hefyd i Pritchard a Griffiths am y trefniadau trylwyr a gofalus. Yn olaf, yr ydym yn anfon ein diolch diffuant i’r Parch Christopher Prew a gamodd i’r bwlch ar y funud olaf oherwydd y tywydd, a gwneud hynny yn anrhydeddus, ac mewn modd cartrefol iawn. Rhodd a diolch £10
Blwyddyn Newydd yn Tsieina holl geriach glanhau yn cael eu rhoi i gadw i sicrhau na fydd y lwc dda yn cael ei lanhau o’r cartref. Caiff y tai eu haddurno gydag addurniadau papur gyda negeseuon lwc dda arnynt fel ‘Hapusrwydd’ a ‘Chyfoeth’.
Y Ddraig o Tseina
Gall y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ddigwydd ar unrhyw adeg rhwng diwedd mis Ionawr a chanol Chwefror, yn dibynnu ar gylchdro’r lleuad. Y lleuad sy’n dylanwadu ar y dathliadau yn Tsieina sy’n chwyrligwgan o ddreigiau amryliw a llusernau hudol.
Dathlu bywyd newydd
Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, neu Ŵyl y Gwanwyn, yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y wlad. Dyma ddathlu bywyd newydd a thymor o hau ac aredig.
Mae’r dathliadau’n dechrau ar ddiwrnod lleuad cyntaf y mis ac yn parhau tan y 15fed diwrnod, pan mae’r lleuad ar ei lawnaf. Mae’r wythnos gyntaf yn cael ei dathlu gydag ymweliadau at ffrindiau a theulu gyda thraddodiadau arbennig i ennyn lwc dda. Mae’r ail wythnos yn dod i ben gyda Gŵyl y Llusern sy’n digwydd ar y 15fed diwrnod o fis y lleuad. Mae dyddiad y dathliadau yn amrywio’n flynyddol yn dibynnu ar y lleuad. Dilyna pobl Tsieina eu calendr eu hunain sydd wedi ei seilio ar y lleuad. Denu lwc dda Gung hei fat choi!
Blwyddyn Newydd Dda!
Dyma’r Ŵyl hynaf yn Tsieina ac mae iddi nifer o ddefodau a thraddodiadau. Cyn dechrau’r dathliadau, mae pobl Tseina yn glanhau eu cartrefi er mwyn gwaredu unrhyw lwc drwg. Ar Nos Galan, mae’r
Ar Nos Galan, mae’r teuluoedd yn dod at ei gilydd ac yn bwyta pryd mawr traddodiadol. Mae yna fathau amrywiol o fwyd yn cael eu paratoi yn dibynnu ar ranbarthau’r wlad. Yn y Gogledd, mae pobl yn bwyta djiaozi - twmplen wedi ei stemio ac yn y De - nian gao sy’n rysait poblogaidd sef pwdin reis melys. Yna, wedi bwyta llond bol, mae’n rhaid aros tan hanner nos cyn cael y sioe tân gwyllt sy’n ddefod bwysig. Cred y bobl bod y rocedi a’r cyffro’n codi braw ar yr ysbrydion drwg ac yn eu hel i ffwrdd. Mae’r lliw coch yn cynrychioli tân, felly mae pobl yn gwisgo mewn dillad coch o’u pennau i’w traed ar yr achlysur hwn.
Hud y Llusern Addurniadau’r Flwyddyn Newydd Ar Ddydd Calan, mae’r plant yn deffro i ddarganfod amlen goch wedi’i llenwi gydag arian a danteithion o dan eu gobennydd, wedi eu gadael yno gan eu rhieni. Daw’r dathlu i ben gyda Gŵyl y Llusern ar y 15fed dydd o fis y lleuad. Mae’r llusernau yma wedi eu paentio gyda llaw fel arfer gyda golygfeydd hyfryd o hanes neu chwedl arnynt. Mae’r bobl yn hongian y llusernau ar eu ffenestri ac yn eu cario dan olau’r lleuad. Mae dawns y ddraig yn cael ei pherfformio gyda’r ddraig fawr o bapur, sidan a bambŵ yn cael ei dal gan ddynion ifanc sy’n ei harwain drwy’r strydoedd i gasglu arian. Gellid dadlau nad yw’r ddraig yn anhebyg i’r Fari Lwyd Cymreig.
3
LLANFAIR A LLANDANWG MyW yn cyflwyno rhodd i’r Ysgol Feithrin
Ar ran Merched y Wawr Harlech a Llanfair, cyflwynwyd siec am £100 i arweinydd Cylch Meithrin Harlech, Rhian Corps gan Hefina Griffith yn ddiweddar. Codwyd yr arian drwy drefnu Te Cymreig yn Neuadd Goffa, Llanfair yn ystod mis Medi. Mrs Ceinwen Margaret Roberts Ar 11 Rhagfyr 2017 bu farw Ceinwen, merch y diweddar Lewis a Dora Evans (Brwynllynnau gynt), yn 93 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei hangladd fore Mawrth, 19 Rhagfyr ym Maentwrog, a gwasanaethwyd gan y Parch Anita Ephraim. Pan oedd Ceinwen yn blentyn roedd y teulu’n byw yn Llandecwyn, Maentwrog, a Phenrhyndeudraeth. Yn 1937 pan oedd Ceinwen tua 14 oed cafodd ei rhieni denantiaeth Llech y Cwm ar stad Mrs Ing a dyma symud yno. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu i Ceinwen a Glenys weithio adref ar y ffarm, Glenys ei chwaer yn godro a Ceinwen yn mynd hefo’r ceffyl i werthu’r llaeth. Bu’r gwaith yn anodd yn ystod y rhyfel - troi y tir, hau a chynaeafu. Roedd hi a’i diweddar annwyl briod, Robert Isaac, yn fynych i’w gweld yn cynnal arddangosfeydd o bob math o gwmpas yr ardal ac ymhellach, yn amrywio osod blodau i arddangos hen greiriau, ac roedd clod mawr iddi am ei chof a’i gallu. Am gyfnod hir bu ganddi gyfres yn Fferm a Thyddyn yn adrodd hanes ei hoes a’i chyfnod, am hen draddodiadau ac arferion cefn gwlad a bywyd amaethyddol y gorffennol. Daeth y bywyd prysur i ben a chiliodd y wên dyner. Anfonwn ein cydymdeimlad â’i pherthnasau yn ardal Ardudwy a thu hwnt.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth Mr Gwilym Jones, Bryn Awelon a oedd, cyn ei ymddeoliad, wedi bod yn aelod gweithgar iawn o’r Cyngor hwn am dros 40 o flynyddoedd. Cydymdeimlwyd â’r teulu yn eu colled. Lloches Bws Frondeg Cytunwyd i ddymchwel y lloches a gosod posteri’n hysbysu hyn yn gyntaf a phe na bai sylwadau na gwrthwynebiadau wedi eu derbyn erbyn cyfarfod nesa’r Cyngor a gynhelir ar yr 17eg o Ionawr bydd yr aelodau yn trafod y camau nesaf. Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi mynychu cyfarfodydd Bwrdd yr uchod ar yr 16eg o’r mis hwn a’u bod wedi cael gwybod beth oedd archebion y pwll, y caffi a’r wal ddringo hyd at ddiwedd Hydref 2017. Trafodwyd y cynllun praesept am y flwyddyn ariannol nesaf ac adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn sawl e-bost a llythyr yn annog y Cyngor i gefnogi’r cynllun. Ar ôl trafodaeth cytunwyd parhau i gyfrannu trwy’r cynllun praesept ac felly bydd y Cyngor hwn yn cyfrannu £7,767.60 yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19; hefyd n ymrwymo i hyn am 5 mlynedd Cyngor Gwynedd Mae Ms Bethan Hughes o Gyngor Gwynedd ar gael i drafod opsiynau ar gyfer y flwyddyn nesaf o ran darpariaeth toiledau cyhoeddus yn ein cymuned. Cytunwyd i barhau gyda’r cynllun partneriaeth ar hyn o bryd.
Maurice Jarvis, Ty’n y Berllan Ddyddiau cyn y Nadolig, bu farw Maurice Jarvis, gynt o Tŷ Mawr, Llanfair. Cynhaliwyd ei angladd ddydd Mercher, 3 Ionawr, yn Eglwys Llanfair. Cydymdeimlwn â’i wraig Marian, ei ferch Ann a’i fab Paul a’u teuluoedd, yn eu colled. Rhodd Diolch i Gwyneth Meredith am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad.
Alaw Sharpe Gwasanaeth Carolau Daeth tyrfa dda ynghyd i wasanaeth carolau hyfryd o fendithiol yn Eglwys Sant Tanwg cyn y Nadolig. Oherwydd y tywydd anffafriol, ni allai aelodau Cana-mi-gei fod yn bresennol. Daeth Carwyn Evans i arwain Seindorf Harlech ac fe gafwyd perfformiad caboledig ganddyn nhw. Mi gamodd Alaw Sharpe i’r adwy a chanu dwy garol ar fyr rybudd. Hyderwn y cawn well tywydd y flwyddyn nesaf ac y bydd aelodau Cana-mi-gei yn medru bod yn bresennol yn 2018.
Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
Y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch
4
Merched y Wawr Daeth 11 aelod ynghyd i Fistro’r Castell i fwynhau cinio Nadolig blasus wedi ei baratoi gan Lee a’i staff. Braf oedd gweld bod Meinir wedi gallu ymuno â ni ar y noson. Darllenodd Hefina neges gan y Llywydd Cenedlaethol, Sandra Morris Jones. Anfonwyd ein cofion at Gwenda a Bronwen oedd yn methu bod gyda ni ar y noson. Diolch i Eirlys am drefnu. Pen-blwyddi arbennig Llongyfarchiadau i Lance a Falmai Wilder , Gwêl y Don, Pant yr Onnen, Llanfair sydd yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed yn ystod mis Ionawr, Lance ar 1 Ionawr a Falmai ar 29 Ionawr. Roeddynt hefyd yn bresennol yn yr oedfa olaf yng Nghapel Soar sef diwrnod dathlu eu penblwydd priodas yng Nghapel Soar 57 mlynedd yn ôl ar 17 Rhagfyr, 1960.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Ysgol Llanbedr ‘Elen Benfelen a Siôn Corn’ oedd perfformiad y Cyfnod Sylfaen – a gwych iawn oedd pob un ohonyn nhw hefyd – Elen, yr eirth, y corachod, Sion Côrn, y dawnswyr disglair ac anifeiliaid y goedwig!
Ar daith o amgylch y byd fu CA2 am fod Brenda wedi cael llond bol yn paratoi ar gyfer y Nadolig ar ei phen ei hun. Aethpwyd â hi i amryw o wahanol wledydd i ymlacio, ond penderfynu dod yn ôl i Gymru i ddathlu’r Nadolig wnaeth hi yn y diwedd – diolch byth!
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel y Ddôl IONAWR 14 Mr Evie Morgan Jones 28 Mrs Glenys Jones Capel Nantcol 21 Parch Patrick Slattery
Cymdeithas Nantcol IONAWR 8 Linda’r Hafod, ‘Rhai Awduron Môn’ 22 Dr Rhiannon Ifans a Trefor Puw yn trafod y Plygain CHWEFROR 5 Mair Tomos Ifans ‘Serch yn y Caneuon Gwerin’
Llongyfarch Llongyfarchiadau i Eilir a Megan, Morfa Mawr ar enedigaeth eu mab bach Gruff. Dymuniadau gorau iddyn nhw. Deallwn fod Gruff yn dod yn ei flaen yn dda erbyn hyn.
Danteithion Cafodd rhai o drigolion hynaf yr ardal ddiwrnod arbennig pnawn Iau 14 Rhagfyr yn y Neuadd. Cawsom amrywiaeth o ddanteithion gan Jane Taylor Williams a’i chriw gweithgar. Diolch yn fawr iddynt. Daeth rhai o blant yr ysgol i ganu carolau inni. Diolch iddynt hwythau; cawsom bnawn difyr.
Rhodd Diolch i Edith Owen am y rhodd o £16.
TREM YN ÔL
Gwasanaeth Nadolig Capel y Ddôl Pnawn Sul, Rhagfyr 17eg cafwyd Gwasanaeth Nadolig, wedi ei drefnu gan Eleri. Thema’r gwasanaeth oedd Stori’r Geni gyda rhai darlleniadau newydd a rhai o’r beibl.net. Cafwyd orig hynod ddiddorol gydag Aled, Aron ac Elliw yn cynorthwyo gyda darlleniadau a chaneuon Nadoligaidd oedd yn rhoi naws y Nadolig ar ei orau gyda’r gynulleidfa yn ymuno mewn ambell garol. Darllenodd Aled lythyr gan Joseff yn olrhain hanes y daith i Fethlehem a pha mor ofalus y bu yr asyn bychan o gario Mair a hithau ar fin esgor y baban bychan – gwych o stori. Croesawodd a diolchodd Glenys i bawb am wasanaeth gwych, yn arbennig i Eleri am drefnu a gwneud y gwaith ymchwil i baratoi’r rhaglen. Goleuo’r pentref Braf yw gweld y pentref wedi ei oleuo dros gyfnod y Nadolig. Diolch yn fawr i’r rhai fu’n brysur yn addurno.
Colli Meinir Brawychwyd yr ardal wrth glywed am farwolaeth sydyn Mrs Meinir Evans, Cefn Isaf, gwraig Gwilym a mam Gareth a Delyth. Mae ein meddyliau gyda’r teulu. Gobeithiwn gynnwys coffâd llawn iddi yn ein rhifyn nesaf.
Tynnwyd y llun hwn pan enillodd pentref Llanbedr gystadleuaeth am bentref taclusaf Cymru yn 1963.
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT CYNGOR CYMUNED
Dwy o aelodau Cyngor Ysgol Dyffryn Ardudwy yn derbyn siec am £836 gan Faes Carafanau Sunnysands, Tal-y-bont yn dilyn ffair a gynhaliwyd yno'n ddiweddar. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at John, Meryl a Rhys a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli Alice, priod, mam, nain, chwaer a modryb annwyl. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Susan Jones (Feathers gynt), Llwyn Ynn, Tal-y-bont sydd yn Ysbyty Dolgellau. Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 14 Rhagfyr, croesawodd Mai, llywydd y noson, Arfon Gwilym a Sioned Webb atom. Cafwyd noson ddifyr iawn yn eu cwmni, Arfon yn sgwrsio’n gartrefol ac yn canu i gyfeiliant Sioned ar y delyn a’r piano. Cafwyd canu carolau, plygain a cherdd dant gan Arfon a chyd-ganu da iawn gan y gynulleidfa. I ddilyn cafwyd bwffe bendigedig wedi ei baratoi gan Siôn ac Iola Wellings o Nineteen 57. Ar 11 Ionawr cawn gwmni’r Parch Marcus Robinson. Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Mr Ifan Richards, Minffordd, Dyffryn ar 31 Rhagfyr. Roedd yn gymeriad annwyl iawn ac yn uchel ei barch yn yr ardal. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei fab John a’r teulu oll yn eu profedigaeth.
6
Gwasanaeth Nadolig Fore Sul, 2 Rhagfyr, cafwyd Gwasanaeth Nadolig bendithiol iawn yn Horeb wedi ei drefnu gan Mai a Rhian Roberts gyda phlant yr Ysgol Sul a’r oedolion yn cymryd rhan. Roedd y capel wedi ei addurno’n hardd gan Alma a Dei Griffiths. Teulu Ardudwy Bnawn Mercher, 20 Rhagfyr, aethom i Nineteen 57 am ein cinio Nadolig. Croesawyd pawb gan Gwennie ac roeddem yn falch iawn for Mrs Elizabeth Jones wedi gallu ymuno â ni. Mynegwyd ein tristwch o glywed am farwolaeth sydyn Mrs Leah Jones a fu’n aelod ffyddlon iawn am flynyddoedd. Cydymdeimlodd ag Anthia ac Iona yn eu profedigaeth o golli eu cyfnither Alice. Diolchodd i Miss Lilian Edwards am ei rhodd ariannol i’r Teulu, i Fox’s a London House am wobrau raffl ac i Hilda am ofalu am yr anrhegion. Mwynhawyd pryd ardderchog a sgwrsio difyr. Cyn cychwyn am adre dymunodd Gwennie Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 17 Ionawr. Clwb Cinio Byddwn yn cyfarfod yn y Grapes, Maentwrog, ddydd Mawrth, 16 Ionawr am hanner dydd.
Cais Cynllunio Nodwedd olwyn ddŵr - Tir ger Pont Ysgethin, Tal-y-bont Cefnogi’r cais hwn oherwydd y bydd yn gwella edrychiad yr ardal. Diffibrilydd Tal-y-bont Adroddodd y y Clerc ei bod wedi gwneud ymholiadau i weld a fyddai modd ei osod yn y ciosg BT yn Nhal-y-bont a’i bod wedi derbyn ateb yn datgan bod Cyngor Gwynedd wedi gwrthwynebu tynnu’r blwch ffon o’r ciosg hwn. Cytunwyd y byddai’n well ei osod ar wal y lloches bws a chytunodd y Cadeirydd i ddelio gyda’r mater. Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn ateb gan Bennaeth yr ysgol uchod ynglŷn â’r pryder o blant yn chwarae gemau peryglus a’i bod yn datgan ei bod wedi derbyn galwad ffôn gan un o’r Cynghorwyr ynglŷn â’r pryder oedd wedi ei fynegi gan un o yrwyr loris Knight Movers ychydig fisoedd yn ôl, a’i bod wedi siarad â’r plant a’r rhiant perthnasol bryd hynny. Roedd y pryder bryd hynny am y gornel wrth ymyl Bro Enddwyn. Dywedodd y rhiant bod yn rhaid i’w phlant groesi’n rhywle a does dim palmant o gwbl o’u cartref nhw nes bron â chyrraedd Ael-y-Bryn. Roedd hefyd yn datgan nad oedd wedi clywed dim byd ymhellach ac nad oedd neb wedi sôn am beryglon wrth ffordd y neuadd nac am y ffordd sy’n arwain i lawr o Gapel Horeb ond yn bendant byddai yn siarad gyda’r plant am hyn. Hefyd roedd yn datgan y byddai’n ddefnyddiol iawn gwybod oedran y plant yn benodol er mwyn mynd at wraidd y broblem go iawn rhag ofn bod hyn yn berthnasol i blant oed uwchradd hefyd.
Mae’r plant bach yma o Ddyffryn Ardudwy i gyd yn 60 oed eleni. Hwyl iddyn nhw ar y dathlu!
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799
www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
Nadolig yn yr Ysgol
Disgyblion y dosbarth hŷn yn Ysgol Dyffryn Ardudwy yn dathlu'r Nadolig yn eu siwmperi!
Gwasanaethau’r Sul, Horeb IONAWR 14 Hilda Harris 21 Anwen Williams 28 Jean ac Einir CHWEFROR 4 Beryl Jones
SAMARIAID Llinell Gymraeg
0808 164 0123 Llais Ardudwy CYSTADLEUAETH Ysgrifennu tair erthygl ar gyfer Llais Ardudwy, oddeutu 600 gair ar unrhyw bwnc. Mae £100 o wobr ar gael i’w rhannu rhwng y buddugwyr yn unol â barn y beirniaid. Beirniaid: Golygyddion Llais Ardudwy Dyddiad cau: Y deunydd i gyrraedd unrhyw olygydd erbyn diwedd mis Mawrth 2018.
DYDDIADAU GOSOD LLAIS ARDUDWY 2018
Fel y gŵyr y cyfarwydd, caiff y papur ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf ymhob mis [ar wahân i fis Awst]. Byddwn, fel arfer, yn gofyn am i’r deunydd gyrraedd Haf Meredydd erbyn y dydd Llun cyn y diwrnod gosod. Dyma’r dyddiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod: NEWYDDION I LAW GOSOD Y PAPUR PAPUR AR WERTH Ionawr 29 Chwefror 26 Mawrth 26 Ebrill 30 Mai 29 Mehefin 25 Awst - 27 Medi 24 Hydref 29 Tachwedd 26
Chwefror 2 Mawrth 2 Mawrth 30 Mai 4 Mehefin 1 Gorffennaf 6 Awst 31 Medi 28 Tachwedd 2 Tachwedd 30
Chwefror 7 Mawrth 7 Ebrill 4 Mai 9 Mehefin 6 Gorffennaf 4 Medi 5 Hydref 3 Tachwedd 7 Rhagfyr 5
Diolch am bob cymorth.
FFESANTOD Mae’r ffesant yn aderyn tlws iawn, yn enwedig y ceiliog. Dyma gyfle i chi ailddarllen cerdd enwog Bardd yr Haf amdano. Y CEILIOG FFESANT Oherwydd fod d’amryliw blu Fel hydref ar dy fynwes lefn, A phob goludog liw a fu Yn mynd a dyfod hyd dy gefn, Cadwed y gyfraith di rhag cam; Ni fynnwn innau iti nam. Oherwydd clochdar balch dy big, A’th drem drahaus ar dir y lord, Mi fynnwn heno gael dy gig Yn rhost amheuthun ar fy mord; A byw yn fras am hynny o dro Ar un a besgodd braster bro. R Williams Parry
Llais Ardudwy CASGLU A DOSBARTHU’R PAPUR Ni chawsom unrhyw ymateb i’n cais diweddar am gymorth i ddosbarthu’r papur. Mae’n golygu rhyw hanner diwrnod o waith. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i wneud hyn yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Byddwn yn talu 40 ceiniog y filltir am y gwaith.
7
CYMERIADAU ARDAL TALSARNAU
John Jones, Pensarn, Glan-y-wern ar y chwith pellaf yn ei het wellt amser cynaeafu ar un o ffermydd yr ardal wrth Stabal Mail, Talsarnau. Taid Dafydd Llew, Maesgwndwn, Vera Davies, Pwllheli, y diweddar Hefin, Orthin a Jean Bynglo gynt, Brenda Owain, Blaenau Ffestiniog, Christine John, Trevor Wyn Roberts a Cledwyn Roberts, Garej Morfa, Harlech, Katie, Hefin ac Evan, Llaniestyn ac Olwen Ty’nybraich, Dinas Mawddwy a’r ddiweddar Jennie Margaret Dora Jones, Dresden, Yr Almaen. Diolch yn fawr iawn i Celt Roberts am drwsio’r llun.
COFFÂD
GLYN ROBERTS Roeddwn i yn y Bermo ddeuddydd wedi i mi glywed am ymadawiad Glyn ac yntau yn 85 oed. Roedd y lle yn ddistaw fel y bedd; fel pe bai’r dref yn talw gwrogaeth, yn tawelu o barch i un oedd mor annwyl gan ei thrigolion. Rhaid gosod Glyn ymhlith y cwmni dethol - yng nghornel yr anfarwolion! Roedd o’n unigryw. Coffa da iawn amdano. Dyma i chi gymeriad os bu un erioed! Dyn hoffus, caredig, ffraeth, dymunol, hwyliog, doniol, teyrngar, rhadlon, sensitif a thriw. Byddai’n canu’n braf wrth lanhau’r stryd yn y Bermo. Bûm yn tynnu ei goes fod strydoedd Bermo yn llawer glanach ar ôl iddo ymddeol, a chwerthin yn aflafar y byddai. Buom yn ffug daeru sawl tro yn
8
y Côr - dau goch wnaiff gythraul medden nhw! Meddai ar lais tenor meddal a chynnes. Ym marn Gwilym Jones, ganddo ef oedd y llais puraf yn y Côr. Pe bai wedi cael hyfforddiant buasai wedi mynd ymhell yn y byd canu. Mawr oedd y galw amdano i ganu unwadau efo Côr Meibion Ardudwy. Cofiaf encore ac encore gan griw o bobl fawr un noson ym Maes-y-neuadd. ‘Oes gen ti gân arall Glyn?’ holais innau. ‘Nac oes, ond mi fedra i adrodd,’ atebodd yn hollol o ddifri - ac aeth ymlaen i adrodd cerdd Saesneg am storm, i fonllef o gymeradwyaeth gan y pwysigion! Yn ôl Evie, gwnaeth yr un peth yn y ‘George’ yng Nhricieth pan oedd y Côr yn diddanu yn swper Undeb Amaethwyr Cymru - sef adrodd ‘Y Llwynog’! O gofio lliw ei wallt roedd y sefyllfa yn hynod ddoniol. Roedd ei ffyddlondeb i’r Côr yn rhyfeddol. Cofiwn iddo unwaith fod yn hwyr yn cyrraedd cyngerdd. Roedd wedi ffawdheglu yr holl ffordd! Byddai’n canu yn y ‘Royal’ yn y Bermo yn achlysurol gan gyflwyno ei enillion i gronfa’r Côr. Casglai hen boteli lemonêd ar strydoedd y Bermo ac eto cyflwynai ei dderbyniadau i gronfa’r Côr.
Ers ei farwolaeth, yn ôl y teulu mae llawer wedi dod atyn nhw i adrodd y straeon mwyaf annwyl amdano. Fel y stori amdano’n gweld gwraig yn cario bag siopa trwm i fyny’r rhiw yn y Bermo, i gyfeiriad eglwys St Ioan. Gadawodd ei frws ar ochr y ffordd a chario’r neges i’r wraig yr holl ffordd i fyny cyn dychwelyd at ei ddyletswyddau. A chanddo fo y clywyd gyntaf mai yr un brws oedd ganddo ers blynyddoedd - ond ei fod wedi cael ambell i goes newydd ac ambell i frws newydd ar y gwaelod! Wedyn y bachwyd y stori gan griw ‘Only Fools & Horses’! Clywais hefyd ei fod yn gôl-geidwad da iawn yn ei ieuenctid ac mae’r straeon amdano yn dal ar gof yr hogia lleol a fyddai’n chwarae ar y traeth y dyddiau hynny. Cofiaf y Côr yn cychwyn am ogledd Lloegr i ddal y fferi i’r Almaen yn Hydref 1987. Taith fawr oedd honno. A dyna Glyn, yn hollol ddiffuant, yn mynd at y meicroffon gan gyhoeddi ei fod yn meddwl mai addas ar antur mor enbyd oedd cychwyn gyda gair o weddi - ac mi weddïodd o’r frest! Ond, wrth gwrs, fe ŵyr y cyfarwydd fod Glyn yn Gristion o argyhoeddiad. A phwy all anghofio amdano’n cael cawod ac yn rhoi ‘Vim’ ar ei gorff yn lle talc!
Un tro yn y Côr, roedd ’na drafferth efo amseriad un o’r caneuon yn ôl Dafydd Bryn, yr arweinydd bryd hynny. Y Sul canlynol, fe ddaeth Glyn â chloc larwm efo fo a’i gynnig i Dafydd - i hepu efo’r amseriad, wrth gwrs! Cafodd y Côr wahoddiad i’w ail briodas. Roedd ef a’i wraig, Ruth mor hapus am gyfnod cyn ei salwch creulon hi. Parhau i fyw yn Aberllefenni ond byddwn yn ei weld yma ac acw - mewn cyngerdd neu angladd. Nodais eisoes ei fod yn ŵr triw. Yr un oedd yr hwyl a’r tynnu coes a’r un oedd y ddiffuantrwydd wrth iddo holi am aelod oedd yn absennol oherwydd salwch. Wrth ganu efo’r Côr, cyflwynai Glyn unawd Gymraeg yn yr hanner cyntaf, Myfanwy oedd honno yn aml iawn. Ac yna fe ganai ‘I’ll walk beside you’ a thynnu deigryn i lygad yn yr ail hanner. Mi gofiaf am amser hir y diminuendo ganddo ar y cymal olaf oedd yn gorffen gyda’r geiriau ... ‘to the land of dreams’. Cwsg yn dawel yr hen Glyn. Mi fydd ’na gornel glyd iawn i ti a’th debyg yng ngwlad y breuddwydion. Cydymdeimlwn yn arw iawn gyda Hywel, Gail, Peter, Roger a’r teulu oll yn eu colled a’u tristwch a gweddiwn am iddyn nhw gael nerth i’w cynnal drwy’r amser anodd hwn. PM
H YS B YS E B I O N
Cefnogwch ein hysbysebwyr
CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
E B Richards
Llais Ardudwy
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
GERALLT RHUN
ARCHEBU A
01341 421917 07770 892016
07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk
£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr
Tafarn yr Eryrod
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
dros 25 mlynedd o brofiad
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Margaret Williams a’r teulu, 13 Cilfor ar farwolaeth ei thad yn y Bermo yn ddiweddar. Gwasanaeth cau Capel Soar Ar brynhawn Sul, 17 Rhagfyr 2017 cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Nghapel Soar, Talsarnau a chloewyd y drws am y tro olaf, ar ôl dros 200 gan mlynedd o’r achos Wesleaidd yn yr ardal. Daeth nifer o aelodau, cynaelodau a ffrindiau eraill ynghyd i’r gwasanaeth oedd dan ofal y Diacon Stephen Roe. Cymerwyd rhan hefyd gan W Arvon Roberts, Pwllheli a’r Parch Gwyn Thomas. Y cyfeilyddion oedd Ella Wynne Jones a Mai Jones. Roedd swyddogion y Capel wedi trefnu te prynhawn blasus yn Neuadd Gymuned Talsarnau, wedi’i baratoi gan Einir, Bryn Eithin, Llandecwyn, a gwahoddwyd pawb i’r Neuadd ar ddiwedd y gwasanaeth lle cafwyd cyfle i ymlacio, sgwrsio a hel atgofion. Marwolaeth Bu farw Penny Talbot (Evans, Borthlas gynt) ar 17 Rhagfyr, yng Nghasnewydd, lle roedd hi a’i gŵr, David a’u meibion, Gareth a James, wedi ymgartrefu. Estynnwn gydymdeimlad dwys â’r teulu yma yn eu profedigaeth, yn ogystal â Kevin, ei brawd.
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau, Ionawr 11
am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb!
Capel Newydd Nos Wener, Ionawr 12 am 7:00 cynhelir Oedfa Dechrau Blwyddyn. Croeso cynnes i bawb. Ionawr 14 - Dewi Tudur Ionawr 21- Derrick Adams Ionawr 28- Dewi Tudur Chwefror 4 - Dewi Tudur. Oedfaon dydd Sul am 6:00.
10
Dymuno gwellhad Da iawn oedd deall bod Gwion Davies, Draenogan Fawr wedi gwella’n ddigon da i gael dod adref cyn y Nadolig i fwynhau cwmni’r teulu, ar ôl derbyn llawdriniaeth brys yn Ysbyty Gwynedd. Anfonwn ein cofion atat Gwion a phob dymuniad da am wellhad llwyr a buan. Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i John Richards a’r teulu, Hafan Deg, Bryn Eithin yn eu profedigaeth o golli tad John yn y Dyffryn ar ddydd ola’r flwyddyn. Rydym yn meddwl amdanynt yn eu colled. Llanfihangel-y-traethau Casglwyd £150 yn y Gwasanaeth Cristingl er budd Uned Babanod Alder Hey, lle ganed Gruff Llewelyn, mab Megan ac Eilir, Morfa Mawr.
Capel Bryntecwyn Ar nodyn trist, rydym yn gorfod adrodd bod Capel Bryntecwyn wedi cau diwedd 2017. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf gyda’r plant prynhawn Sul, 24 Rhagfyr, dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Yn ystod y gwasanaeth, cymerwyd rhan mewn darlleniadau a chân gan Ellie, Osian, Erin, Sioned, Cari Ellen, Dylan ac Anna, dan ofal Carys Evans, cyn cael cyflwyniad arbennig gan Anita Ephraim, yn cynnwys adrodd stori Sant Ffransis o Assisi a sut y bu iddo drefnu i ddechrau perfformio hanes drama’r geni gynta’ erioed yn yr Eidal. Roedd yn wasanaeth hyfryd a diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan werthfawrogi cefnogaeth mamau’r plant, dwy ohonynt wedi bod yn gyn-aelodau ffyddlon yn yr Ysgol Sul yma am nifer o flynyddoedd - Meinir a Siwan, a Carys wedi mynychu Ysgol Sul yn Nolwyddelen. Roedd pawb wedi gwneud eu rhan yn arbennig o dda ac mae chwith meddwl, ar ôl yr holl flynyddoedd, na fydd cyfarfod fel hyn yn cael ei gynnal eto ym Mryntecwyn. Nain a taid Llongyfarchiadau i Trefor ac Annwen Hughes, Plas Uchaf ar ddod yn daid a nain am y tro cyntaf ar Tachwedcdd 28. Braf clywed fod Gruff Llewelyn yn dod yn ei flaen yn dda y dyddiau hyn.
Merched y Wawr Talsarnau
Marw annisgwyl Yn annisgwyl, ar ddydd Nadolig, bu farw Bill Roberts, Tremadog (Tŷ Newydd, Yr Ynys gynt). Roedd yn arddwr brwd ac yn hoff o ganu a dilyn pêl-droed. Estynnwn ein cydymdeimlad â’i deulu a’i ffrindiau. Cinio Nadolig Merched y Wawr Yng Ngwesty Seren, Ffestiniog, cynhaliwyd cinio Nadolig Cangen Talsarnau a hynny ar bnawn dydd Iau, 7 Rhagfyr. Cafwyd croeso cynnes gan y staff yno a mwynhawyd cinio ardderchog mewn ystafell gyfforddus, gyda golygfa wych i’w gweld oddi yno. Roedd nifer o wobrau raffl i’w hennill a bu bron pawb yn lwcus o gael gwobr fach. Diolchodd Ella i staff y Gwesty am eu paratoadau ar ein cyfer, a diolchodd i Mai am wneud y trefniadau ac i Gwenda am ofalu am yr ochr ariannol a’r raffl. Bu’n achlysur pleserus iawn mewn awyrgylch braf.
SIOE NADOLIG YSGOL TALSARNAU Cafwyd dwy sioe wych eto eleni gan ddisgyblion Ysgol Talsarnau. Gan y plant ieuengaf cafwyd stori’r geni oedd ychydig yn wahanol gan wau ymweliadau gan Siôn a Siân Corn i’r plot. Gan y disgyblion hŷn cawsom fwrlwm o ganu a dawnsio wrth iddyn nhw gyflwyno darluniau o waith yr ysgol dros y flwyddyn. Diolch i’r pennaeth a’i staff gweithgar am eu gwaith gwiw.
TRYSORAU Y Faner, dydd Gwener, 2 Awst 1991
Parhad o rifyn Rhagfyr 2017 Dyma ail ran yr eitem ganlynol o’r rhifyn uchod o’r Faner. Yr awdur yw Rhiain Phillips a dreuliodd ran o’i phlentyndod yn Nhalsarnau. Apêl y mynydd Cefais fy ngeni wrth droed y Moelwyn ac wedyn, treulio blynyddoedd maboed efo panorama o’r Graig Ddrwg dros y Manod, y Moelwyn, y Cnicht, Yr Wyddfa hyd Foel Gest yn hanner cylch o’n cwmpas yn Nhalsarnau. Ym Mangor wedyn, mynyddoedd Arfon oedd yn tra arglwyddiaethu ar ein gorwelion. I wneud yn siŵr na fyddaf yn gweld eu colli ar yr ynys yma, fe af a llun dyfrlliw o waith John Morris efo fi; llun o ardal yn Eryri yng nghanol gaeaf dydd yn fy atgoffa am grinsian sych yr eira; gloywder dŵr oer y nant yn rhedeg i lynnoedd Mymbyr ac amrywiaeth ddramatig cymylau bygythiol a phelydrau o oleuni ar y llechweddau. Wrth weld cip ar gartre’r Firbanks, daw atgofion am y bywyd mynyddig, fel y’i darlunnir yn ‘I Bought a Mountain’. Ac wrth gofio bod Arthur a’i farchogion yn cysgu i aros gwŷs o Gymru ym Mwlch y Saethau caf wau stori amdanynt wrth ddangos cysgod y Blwch
rhwng Lliwedd Chrib yr Wyddfa i Lowri. Yn anad dim efallai, bydd y llun yn cadw’n fyw’r cysylltiad â chymdogion caredig yn Yr Wyddgrug. Mi af â ‘llais’ ffrind arall efo fi hefyd. Wrth ddewis ‘Hanes Llenyddiaeth Gymraeg’, gallaf glywed llais yr Athro Thomas Parry yn darlithio, wrth i mi ddarllen ei eiriau. Doedd neb yn hwyr i ddarlith naw pan fyddai Syr Thomas yn darlithio gan mai pleser pur oedd bod yn ei gwmni, yn rhannu o’i stôr o ddysg yn ffraeth a difyr a theimlo ei bersonoliaeth gynnes, llawn hiwmor. Caf lyfrgell gyfan o fewn un clawr yma a chan mor wareiddiedig yr iaith a’r arddull, mi fydd yn ddihangfa pan aiff cyntefigrwydd yr ynys yn drech na fi. Gyda’r cynnwys yn rhychwantu o’r Mabinogi hyd Ddaniel Owen ac o Aneirin hyd John Morris Jones, caf rywbeth at fy nant waeth beth fydd yr hwyl. Mae dau ddyn mewn gwirionedd yn gysylltiedig â’r llyfr yma i mi. Fy athro Cymraeg yn yr ysgol ramadeg, H J Hughes, a ddaeth â fo i’m sylw gyntaf ac agor ffenestri imi, y ffenestri y bûm i’n edrych ar y byd drwyddynt byth wedyn, mae’n debyg. Roedd cael cyfeiriadau at ein bro ein hunain yn beth dieithr iawn yn ein hysgol ni yn y Bermo. Mi welais Bulpud Huw Llwyd yng Nghynfal ond yn y llyfr yma y clywais i am Forgan Llwyd. “Aelod o deulu Cynfal
yn Ardudwy wedi ei wreiddio yn naear fras y traddodiad Cymraeg.” Aem heibio i’r Lasynys yn aml ond ddywedodd neb wrthym am weledigaethau’r ‘prynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’ hwnnw a’r meistr oedd yn cribinio “Holl gilfachau ei gof nes cael yr un gair cymwys bob tro, a hwnnw fel hudlath dewin yn rhithio o flaen llygad y darllenydd ryw gymeriad y mynnai’r awdur ei ddangos.” Maeth i frogarwch egwan oedd y balchder a deimlwn wrth ddarllen am wron fy mro a darllen brawddeg fel hyn gan Syr Thomas. “Y mae Phylipiaid Ardudwy yn enghreifftiau teg o’r bywiogrwydd llenyddol a ffynnai yn nechrau’r ganrif ”. (17eg). Naturiol oedd i’r brogarwch esgor ar genedlgarwch wrth weld gwewyr cenedl dros y canrifoedd drwy lygad dewin llawn mor gelfydd ag Ellis Wynne. Rhaid oedd ymateb gyda balchder i sylw fel hyn, “ ... byddai i wir enaid y genedl, er gwaethaf llywodraeth estroniaid a llawer o ormes didostur, ffynnu ac ymgryfhau, a chynhyrchu er ei diddanwch ei hun gorff o geinder llenyddol na fu ei hafal, yn hanes y genedl, o ran swm na safon.” Gan na fyddai yn beth doeth ar ynys unig i boeni am y dyfodol, caf ymgolli yn y gorffennol gwych heb orfod gresynu am na heddiw nac yfory ...”
A’r Unol Daleithiau Tydw i ddim mewn difri eisiau mynd â ffilm efo fi. Prin ydy’r rhai wyf wedi eu gweld yn ddiweddar a phrinnach y rhai fuaswn am eu hailweld. Efallai y byddai Lowri a finnau’n mwynhau “Eirawen a’r saith corrach” unwaith neu ddwy, ond ar y cyfan mae’n gas gen i bethau Walt Disneaidd ac am y llygoden hunan gyfiawn yna yn Tom a Jerry, bu fel tân ar fy nghnawd ers blynyddoedd yn chwarae mig efo’r gath druan. Ar ôl i Lowri fynd i’w gweld felly y bydd y ffilm yn dod allan ac mi af â ‘Gone with the wind’ efo fi. Yn un peth, mi gaf werth fy mhres am dros deirawr ac mae digri a difri, gwamal a phwysig yn dod i’r brig yn eu tro. Mi fydd hwn eto’n ddihangfa i’m cludo’n ôl i ymweliadau hapus a gawsom yn nhaleithiau deheuol America. Er bod Atlanta wedi ailgodi sawl gwaith o’r llwch a adawodd Sherman ar ei ôl, mae acenion araf Georgia’n dal yn eco o hen ddyddiau rhamantus y Tara a ysbrydolai Scarlett O’Hara. Efallai y caf innau ysbrydoliaeth gan y ffilm i fynd i’r afael â llyfr sydd gen i mewn golwg ar agweddau ar hanes yr Unol Daleithiau. Dim esgus fod gormod o alwadau eraill ar ynys bellennig. A dyna fi efo llond côl o drysorau. Rhiain Phillips
11
Soar (W), Talsarnau (1804 – 2017) Daeth cyfnod o addoli i ben yn Nhalsarnau prynhawn Sul 17 Rhagfyr, pan gynhaliwyd gwasanaeth cartrefol yng Nghapel Soar dan ofal y Diacon, Stephen Roe, Dolgellau. Roedd yn hael ei ganmoliaeth i’r aelodau am gadw’r achos ymlaen cyhyd, dros dau can mlynedd. Y Diacon Roe fu’n gyfrifol am y rhannau defosiynol cyn i W Arvon Roberts, Pwllheli, un o Oruchwylwyr Ardal De Gwynedd annerch ar hanes yr achos yn Soar. Dilynwyd gyda phregeth gan y Parch Gwyn C Thomas, Penrhyndeudraeth, cynweinidog yr eglwys. Cyfeiliwyd gan Mrs Ella Jones a Mrs Mai Jones, Llandecwyn. Braf oedd gweld cynifer o aelodau, a rhai a fu â chysylltiad â Soar, yn bresennol, rhai wedi teithio gryn bellter er mwyn cael bod yno. Cynhaliwyd lluniaeth ysgafn ar ôl yr oedfa yn y Neuadd, Talsarnau, lle cafwyd cyfle i gymdeithasu a dwyn atgofion melys a hiraethus. Y cyfnod cynnar Cynhaliwyd yr oedfa gyntaf yn yr ardal yn Nhachwedd, 1804 , yn Tynygroes, Brontecwyn, ac yna dechreuwyd pregethu mewn cwr arall o’r gymdogaeth ym Mhandy Eisingrug. Y blaenor cyntaf oedd Robert Owen, Y Bermo. Yr oedd rhif yr aelodau yn 1821 yn 45 ac enwau fel Humphrey Lloyd, Eisingrug; Owen Roberts, Draenogau Bach; a David Roberts, Cae’r Ffynnon, yn britho’r hanes. Ychydig wedyn ymgymerodd Capten Griffith Roberts, Cefn Trefor Isaf â’r dasg o adeiladu capel. Cafwyd y coed, y calch, a’r cerrig, a’r cludiad yn rhad gan ffermwyr yr ardal. Agorwyd y capel cyntaf 2 Gorffennaf 1824. Erbyn 1838, aeth yr adeilad yn rhy fach. Prynwyd yr hen gapel a hefyd y tir lle y safai’r capel arno gan Capten Roberts am y swm o £196. Adeiladwyd y capel presennol yn 1839 a’i agor yn Ionawr 1840. Gwnaed yr hen gapel yn dai, a sicrhawyd tir ar gyfer mynwent. Cododd rhif y capel i 100. Daeth trai a llanw ar ôl hynny. Yn niwedd 1860, yn dilyn Diwygiad ’59, cododd rhif yr aelodau i 170. Adeiladwyd yr oriel hardd yn 1890. Bu Soar yn enwog am fagu sawl pregethwr: Edmund Evans (Utgorn Meirion), W Owen (UDA), Griffith Owen (Maes Llan), E R Evans (UDA), a John Roberts (Penrhyn). Derbyniwyd hefyd i’r weinidogaeth rhai fel y Parchedigion L Owen, E W Owen, W R Griffiths, W R Roberts a D Tecwyn Evans. Llun y Pasg, 1893, canodd Côr Undebol Talsarnau yn Soar, o dan arweiniad Mr E M Roberts (Eos Tecwyn) amryw ddarnau, enillont hefyd wobr am y prif ddarn cerddorol ‘Enaid Cu’. Yn 1895, o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd, bylchwyd yr eglwys ym marwolaeth rhai o’i phobl ieuanc, sef Miss Laura Parry, Trevor Place; William Morris, Rhiw; John R Jones, Bryn Street, a gyfarfyddodd ei ddiwedd wrth ddilyn ei waith fel porter yn Stesion Aberdyfi; hefyd Miss Gwenalin M Roberts, Cefn Trefor Isaf, yn 17 mlwydd oed. Anerchwyd yn y Gymdeithas Lenyddol a Diwinyddol, 28 Chwefror, 1899, gan Miss Maggie Jones, Tyddyn Shôn Wyn, ar ‘Ferched Duwiol y Beibl’. 19 Awst 1893, traddodwyd darlith yn Soar gan y Parch J R Ellis a’i briod o’r India, ar ‘India a’i thrigolion’. Hydref 1904, dathlwyd Canmlwyddiant Wesleyaeth yn Ardal Talsarnau. Y Sul olaf o’r flwyddyn 1908 pregethwyd yn Soar gan y Parch W R Griffiths, gweinidog eglwys Annibynwyr llewyrchus yn Hiteman, Iowa, mab Mr a Mrs Griffith, Bron-y-garth, Soar. Cafwyd oedfa rymus ac effeithiol. 23 Rhagfyr 1909, cafwyd dadl ddiddorol ar ‘A ydyw darllen nofelau yn niweidiol?’ Cadanhaol, Mr Ellis Jones Edmunds, Nacaol, Miss Sallie Roberts, Brontecwyn. Bu dadl frwd ac adeiladol. Yr oedd Cymdeithas Soar a Brontecwyn wedi uno am y tro. Y blaid nacaol a orfu. Llywyddwyd gan y Parch R Morton Roberts.
12
Pregethwyd am y tro cyntaf gan Mr Alun Griffiths, Tanygrisiau, am 10 a 6. Yn anffodus iawn yr oedd yn Sul ystormus a’r ardal yn wasgaredig, ac at y cwbl yr influenza yn blino degau fel yr oedd y cynulliadau lawer o dan y cyfartaledd (1914). Gwisga’r achos yn Soar agwedd bur lewyrchus, a phob adran o’r eglwys yn llawn gwaith a brwdfrydedd. Cafwyd cynulliadau da yn y Seiat nos Fercher, a’r Cyfarfodydd Gweddi nos Lun a nos Sadwrn. Sefydlwyd Dosbarth Darllen ar ddechrau’r gaeaf – y Parch J R Roberts, athro, Mr David Jones, yn ei gynorthwyo, a Mr W Williams yn ysgrifennydd. Hefyd Cymdeithas y Bobl Ieuanc – undebol rhwng Soar a Bryntecwyn (1917). Bu’r fangre lle safaist yn hardd a dymunol, Uwch dyffryn a choedydd, O! olwg mor braf! Pan fyddo holl natur ym mri gogoniant Yn gwisgo ei hardd flodau yn nhymor yr haf. Ond ynot y clywid am rhywbeth amgenach Na harddwch y blodau er tlysed eu lliw; Trwy enau’th genhadon y traethwyd bob Sul, Hen drefn iachawdwriaeth yn groyw i’n clyw. W Arvon Roberts, Rhagyfr 2017
NOFIO
Bu pedair aelod o Adran yr Urdd, Talsarnau yn cystadlu yn y ras gyfnewid cymysg a rhydd yn y Gala Nofio Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae Erin Mitchelmore, trydydd o’r chwith hefyd wedi mynd drwodd yn y ras pili pala unigol.
SEINDORF HARLECH YN BRYSUR
Diolch i Seindorf Harlech am fynd o gwmpas yr ardal ar fore’r Nadolig - er bod y tywydd yn ofnadwy. Maen nhw’n gwneud hyn yn flynyddol. Yn anffodus, oherwydd y tywydd anffafriol bu raid cwtogi ar y chwythu eleni. Er hynny, llwyddwyd i godi £250 mewn amser byr. Diolch i bawb fu’n helpu a diolch am y danteithion blasus a gafwyd o dŷ i dŷ.
CAROL PLYGAIN CANEUON FFYDD Cyfarchion y Tymor! Gobeithio bod holl ddarllenwyr Llais Ardudwy wedi cael Nadolig llawen a bendithiol a’u bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at fendithion y flwyddyn newydd. Er bod yr Ŵyl wedi pasio bellach, fe fydd tymor y plygeiniau yn para am ronyn bach eto. Mae’r plygain yn parhau i fynd yn unol â’r hen galendr fel ag yr oedd cyn 1752, bron i wythnos ar ôl ein cyfrif ni heddiw. Felly, mae’r tymor canu plygain yn para hyd ganol mis Ionawr. Mae’n braf gallu dweud fod y traddodiad nid yn unig yn
parhau ond hefyd yn ffynnu. Hanner can mlynedd yn ôl ni chynhelid Plygeiniau ond mewn ychydig o ardaloedd yng nghanolbarth Cymru, yn bennaf yn Nyffrynnoedd Banwy, Dyfi a Tanat, ond erbyn heddiw maent wedi lledaenu dros Gymru ac yn adennill eu bri. Yn ardal Llais Ardudwy mae Plygain Llanfair yn cynnal y traddodiad a hynny yn anrhydeddus iawn. Ceir ychydig o’r hen garolau plygain yn y casgliad Caneuon Ffydd. Mae un ohonynt â chysylltiad uniongyrchol ag ardal Ardudwy sef rhif 473, “Roedd yn y wlad honno fugeiliaid yn gwylio eu praidd rhag eu llarpio’r un lle; daeth angel yr Arglwydd mewn didwyll fodd dedwydd i draethu iddynt newydd o’r ne`” Eiddo gŵr lleol yw’r garol hon, sef John Richards neu Siôn Ebrill â rhoi iddo ei enw barddol. Ganwyd ef yn Nyffryn Ardudwy yn 1745 a bu farw mewn henaint teg yn 1836. Ceir ei hanes yn llyfr Odlau Moliant o eiddo’r diweddar Emrys Jones, Cricieth ynghyd â llawer o’i waith. Yn ardal Llanbedr y treuliodd lawer o’i oes. Bu’n graswr ym Melin Gwerneinion. Gwnai gewyll i ddal cimychiaid a gwau hosannau gan gludo ei nwyddau i’r ffeiriau ar gefn mulod. Yr oedd yn un o`r Wesleaid cyntaf yn yr ardal ac addolai yn yr hen Gapel Beser ger Rhwngyddwybont. Canodd englyn i Beser,
HARLECH TOYOTA
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota
Beser dda noddfa Dduw addfwyn – rhad rodd Rhed iddo rhag gelyn; Dialydd mawr sy`n dilyn Mab Duw yw noddfa pob dyn. Mae’r syniad yma o bechod a chosb yn ymddangos lawer iawn yng ngwaith Siôn Ebrill fel y cawn weld. Canodd Siôn Ebrill fel llawer o feirdd ei oes garolau plygain, carolau Pasg, emynau ac englynion. Cawn ganddo gerdd i ddiolch am adferiad iechyd a cherddi lleol eu natur, fel cywydd er cof am Rowland Williams, Corsygedol ac englynion i ddau frawd, sef Harry a Morgan Parry, Erwgochyn a foddwyd wrth fynd hefo cwch o Mochras yn 1821. Ond am y garol y cofir Siôn Ebrill heddiw. Dau bennill allan o`r wyth gwreiddiol a gawn yn Caneuon Ffydd a chadwyd allan y byrdwn i’w ganu ar ôl pob pennill. Mae rhai o’r hen garolau yma yn hirfaith ac fe fyddid yn eu canu yn yr eglwysi hyd doriad gwawr. Cymharol fyr yw’r garol yma felly ond go brin y carai carolwyr heddiw ei chanu yn ei chrynswth. Mae yna dipyn o ddiwinyddiaeth yma fel sydd o fewn llawer o’r hen garolau - fel gwelwn wrth i Siôn Ebrill grybwyll fod Mair yn magu nid yn unig ei mab ond y sawl oedd yn bod cyn creu’r byd, “Rhwn ydoedd cyn bydoedd yn bod.” Cawn lawer o’r Hen Destament yn y garol; hanes y sarff yng ngardd Eden a hanes Arch Noa hefyd, “Arch Noa pan ydoedd uwchlaw y mynyddoedd Ni chadwodd o’r dyfroedd ond wyth, Crist ydyw’r arch nerthol rhag dilyw tragwyddol, Bydd bywiol a llesol y llwyth.” Mae yna erchyllterau mawr trwy’r penillion a gollwyd. Adroddir creulondeb Herod a’i ymgais i ladd y baban Iesu, “Rhoes Diafol yng nghalon yr hen Herod greulon Am ladd y mab ffyddlon heb ffael, Ond Mair gyda’i phlentyn i’r Aifft aeth yn sydyn Lle methodd y gelyn ei gael.” Ac mae yma erchyllterau gwaeth fyth. Anogir pawb i ffoi i’r amddiffynfa fel y ffodd Lot o ddinas Sodom yn yr hanes yn Llyfr Genesis rhag y Tân Mawr, “Fe lŷsg yr anuwiol mewn ffwrnais uffernol Lle bydd yn dragwyddol eu gwae,
Mewn carchar diddiwedd, holl ddrysau trugaredd Yn caffael o’u cyrraedd eu cau.” Fe welwch efallai nad yw’r garol yn y gwreiddiol yn hollol addas ar gyfer gwasanaeth Nadolig yr ysgol gynradd lle mae llawer o’r plant yn ddigon ofnus hefo Siôn Corn heb sôn am ddarluniau graffig yr hen Siôn Ebrill o boendod hyd dragwyddoldeb. Ond cofiwn mai adlewyrchu cred gwerin ei oes oedd y bardd. Ond nid yw Siôn Ebrill yn anghofio darlunio’r gwynfyd fydd ar gael i’r ffyddlon a’r da yn y byd a ddaw. “Yn rhyddion o’u cystudd yn canmol eu Harglwydd Yn cario hardd balmwydd bob un, Mewn teyrnas uwch daear fel haul yn dra hawddgar Heb garchar na galar na gwŷn.” Mae’r byrdwn yn ddiddorol. Yn gyntaf oll, mae’n dyddio’r garol a chawn wybod yn sicr pryd y canwyd hi gyntaf, “Mae oedran ein Harglwydd un mil a saith gan mlwydd Naw dengmlwydd a dwyflwydd yn dod.” 1792 felly! Mae gweddill y byrdwn yn weddi ar i Dduw amddiffyn ei eglwys a bendithio’r brenin a’r deyrnas gan gadw Pabyddiaeth ac anffyddiaeth draw. Roedd y cyfnod yn un digon peryglus, roedd y brenin newydd ei adfer ar ôl afiechyd meddyliol dwys a chwyldro mawr yn Ffrainc yn lladd cannoedd ac yn bygwth heddwch Ewrop i gyd. Gallwn fentro bod gweddi Siôn Ebrill yn ddiffuant iawn. Rhif y dôn yw 397. Ni chlywais ganu’r garol ar unrhyw dôn arall. Mae hi yn gweddu i’r dim a lle ynddi i arafu a phwysleisio’r geiriau gan ddangos y cyffyrddiadau cynganeddol sy’n rhedeg trwy’r garol. Yn ôl y Cydymaith, fe gasglwyd yr alaw o ganu gŵr o’r enw Henry Williams, gwehydd o Rydyrarian, Llansannan yn 1910. Roedd Henry Williams yn un o gyndeidiau y canwr a’r digrifwr, Gari Williams. Y cerddor enwog Caradog Roberts [1878-1935] o Rosllannerchrugog drefnodd yr alaw fel y gwelwn ni hi yn y Caneuon Ffydd. Byddai yn chwith iawn ceisio canu’r garol ar unrhyw alaw arall. Blwyddyn newydd dda i bawb!
JBW
13
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
BWYD A DIOD
Codi o’r Llwch – Her y Gwinwyr
Ffacs 01766 771250
Sara gyda gwinwydden 100 mlwydd oed o leiaf! Honda Civic Tourer Newydd
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy
Trwy brynu gan winllannoedd teulu gobeithiwn ddatblygu perthynas dda gyda’n cyflenwyr a gwybodaeth fanwl am eu cynnyrch. Yn naturiol, mae cyfeillgarwch yn tyfu dros amser. Teimlwn eu poen pan maen nhw’n mynd trwy amseroedd caled, fel sy’n digwydd yn aml yn ym myd amaeth. Yn amlach na dim, cnwd sy’n difetha oherwydd tywydd neu glefyd. Felly pan glywsom yn diweddar fod ein cyflenwr o Casa de Mouraz wedi dioddef dinistr a oedd yn fygythiad i ddyfodol y winllan, roedd yn dipyn o sioc. Ym mis Medi 2017, aeth Dylan i weld Sara Dionisio ac Antonio Ribeiro o Casa de Mouraz, arloeswyr gwinwyddaeth Organig a Biodynamic yn ardal Dão Portiwgal sydd â chanmoliaeth fyd-eang. Ni feddyliodd wrth fwynhau sgwrs a thaith trwy’r winllan gyda’r cwpl bywiog ac ecsentrig y byddai’n derbyn e-bost mewn ychydig mwy na mis, yn adrodd am y difrod a ddioddefwyd o ganlyniad i’r tanau a gydiodd ym Mhortiwgal ym mis Hydref.
Dinistriodd y tanau dros 50% o’u gwinllannoedd. Ychydig yng nghynt roedd Sara wedi dangos un winwydden dros gan mlwydd oed i Dylan. Hefyd, collwyd y tŷ lle cafodd Antonio ei eni a’r storfa lle mae’r poteli gwin yn cael eu cadw. Diolch maen nhw fod pawb yn ddiogel ac o leiaf mae’r adeilad lle maen nhw’n cynhyrchu’r gwin wedi ei arbed rhag y tân. Er hyn, mae gwaith mawr o’u blaenau ond, gydag ysbryd y teulu’n uchel a thrwy ‘crowd funding’ y gobaith yw codi digon o arian i atgyfodi’r busnes llewyrchus a blaengar hwn. Bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw ailblannu eu gwinllannoedd a’r isadeiledd. Am eich buddsoddiad, cewch dalebau i brynu gwin yn 2022 fel rhan o’r ‘perk’, wel, fel mae’r Saeson yn dweud, ‘It would be rude not to!’ Mae gwinoedd Portiwgal yn haeddu mwy o sylw a byddwn yn buddsoddi yn Casa de Mouraz i gefnogi’r bobl hyfryd sy’n cynhyrchu gwinoedd arbennig o dda. Rwy’n edrych ymlaen at 2022! Dyma i chi ddolen gyswllt i’w gwefan: https://www.indiegogo.com/projects/casa-de-mouraz-wines-2-0rising-from-the-ashes#/ Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
14
NEWYDDION YR URDD
Y BERMO A LLANABER SIOEAU NADOLIG YSGOL Y TRAETH
Gweithgareddau Cynhaliwyd nifer fawr o weithgareddau cyn y Nadolig. Roedd disgos yn boblogaidd gyda’r plant a’r bobl ifanc yn ymateb yn gadarnhaol wrth ddewis y caneuon – caneuon newydd iawn yn cael eu dewis ond rhai sydd yn dyddio yn ôl nifer o flynyddoedd oedd y ffefrynnau gan nifer.
Sioe Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn - Y Lletywr Blinedig - yn neuadd yr ysgol
Sioe Blynyddoedd 1 a 2 - Joseff a Mair - yn neuadd yr ysgol
Nofio Ddiwedd Ionawr bydd yr isod yn cynrychioli’r Rhanbarth yn y Gala Nofio Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Cyfle da i’r nofwyr ddangos eu talentau drwy wneud eu gorau ac wedyn fe ddaw llwyddiant - Iwan Evans-Brooks a Lowri Howie, Ysgol Llanbedr, hefyd Erin Mitchelmore a thimau cyfnewid Ysgol Talsarnau. Pob lwc i bawb. Pêl-droed Talaith y Gogledd Aeth timau bechgyn a merched B9 a B10 o Ysgol Ardudwy i gystadlu yng Nghanolfan Hamdden Brailsford ym Mangor yn erbyn 30 o dimau eraill. Doedd dim llwyddiant y tro yma ond cafwyd perfformiadau penigamp gan bob un o’r chwaraewyr. Bydd cyfle i rai yn B7 a B8 i gystadlu ar ddiwedd Ionawr. Eisteddfod Cylch Nodyn pwysig i atgoffa pawb fod y dyddiad cau er mwyn cofrestru i gystadlu yn yr Eisteddfod Cylch eleni ar ddydd Mawrth, 13 Chwefror am 6yh. Bydd yn bosib gwirio’r wybodaeth yma hyd at ddydd Gwener, 16 Chwefror am 6yh. Diolch am eich cefnogaeth i waith yr Urdd yn lleol drwy 2017 gan obeithio y byddwch yn ein dilyn eto
Sioe B3, B4, B5 a B6 - Bethlehem- yn Theatr y Ddraig
Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd
Cymdeithas Gymraeg Bermo Cynhaliwyd noson arbennig yn Eglwys Christchurch, Bermo ar nos Fercher, Rhagfyr 6ed yng nghwmni Cana-mi-gei gyda’u harweinydd Llys Ifor Hael Mrs Ann Jones. Cawsom amrywiaeth o garolau gydag unawdau gan Mr Treflyn Jones a Miss Alaw Sharpe. Llys Ifor Hael, gwael yw’r gwedd - yn garnau Mwynhawyd yr arlwy gerddorol gan y gynulleidfa a’r lluniaeth Mewn gwerni mae’n gorwedd; blasus ar ôl y cyfarfod. Diolch i bawb am bob cymorth. Drain ac ysgall mall a’i medd, Colli Ivy Mieri lle bu mawredd. Trist yw gorfod cofnodi marwolaeth Mrs Ivy Griffiths, Heol y Llan Evan Evans [Ieuan Fardd], 1731-1788 wedi cyfnod yn yr ysbyty. Roedd yn wraig hawddgar iawn ac yn ffrind triw i lawer. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu colled.
ENGLYN DA
15
BWYD Ers dod i amlygrwydd fel cystadleuydd ar y Great British Bake Off yn 2013, mae Beca Lyne-Pirkis wedi dod yn enw ac wyneb cyfarwydd fel cogydd a chyflwynydd teledu. Daw’r gyfrol swmpus hon o bron i gant o ryseitiau yn sgîl ei chyfres ddiweddaraf gydag S4C. Ceir amrywiaeth eang o ryseitiau yn y gyfrol ddwyieithog hon – o bobi bara i felysion bore coffi, o gig araf y barbeciw i seigiau llysieuol annisgwyl, o brydau Americanaidd torfol mawr i swper sydyn i’r teulu. Mae rhai o’r clasuron i’w cael yma hefyd, fel teisennau cri [pice ar y maen], ond gyda chyffyrddiad unigryw Beca – troi’r teisennau cri yn rhai ham a chaws, a hefyd
100 LLE I’W GWELD CYN BREXIT
yn rhai gyda siocled tywyll ac oren. Yn y cyflwyniad byr, eglura Beca fod rhan o’i theulu yn dod o America ac i mi, y prydau wedi eu hysbrydoli gan y wlad honno oedd sêr y gyfrol, yn enwedig y ffa pob a phorc – sy’n werth pob eiliad o’r coginio araf, credwch fi! Mae’r ryseitiau yn hawdd i’w deall a’u dilyn ar y cyfan, gydag ambell rysáit i herio cogyddion profiadol hefyd, yn enwedig rhai o’r pwdinau melys a wnaeth Beca yn enwog yn wreiddiol ar y Bake Off. Mae’n werth darllen y cyfarwyddiadau ar gyfer y ryseitiau yn y ddwy iaith gan fod ambell anghysondeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, tra bod angen dibynnu ar brofiad a chrebwyll coginio ar adegau, gan fod y rhestrau cynhwysion yn brin eu manylion ar adegau. Mae’n braf cael llun o bob saig i wybod sut y dylai’r cynnyrch gorffenedig edrych, ond mae’n drueni nad yw pob llun o ansawdd sy’n gwneud cyfiawnder â’r rysáit. Er hynny, mae’r gyfrol yn edrych ac yn teimlo’n safonol iawn ar y cyfan. Mae hon yn gyfrol gyfoethog o ryseitiau amrywiol a fydd yn dod â llawer o bleser i deuluoedd, bwydgarwyr, a ffans Beca a’r Bake Off.
Seiriol Hughes
STRAEON NOS DA I BOB REBEL O FERCH HANES 100 O FERCHED ANHYGOEL
Gwych o beth yw cael cynnyrch y prosiect arloesol hwn yn Gymraeg. Aeth yr awduron ati i gasglu straeon am 100 o ferched arloesol, gan dorri’r record am lyfr gwreiddiol a gyllidwyd yn dorfol, a chan gomisiynu gwaith celf gan 60 o artistiaid benywaidd o bedwar ban byd. Mae’r fersiwn Cymraeg yn Gymreig iawn. Nid yn unig mae’r Gymraeg yn llifo’n rhwydd, ond addaswyd peth o’r cynnwys fel bod y rhedwraig Lowri Morgan yn cymryd lle Margaret Thatcher. Hefyd ceir dyfyniadau pwrpasol Cymraeg
Rhaid cyfaddef ’mod i wedi hen syrffedu ar lyfrynnau bach teithio sy’n frith o eglwysi, cestyll ac amgueddfeydd, sef yn aml iawn yr unig bethau sy gan gyrchfannau twristaidd tramor i’w cynnig. Ac onid oes gennym ddigon ohonyn nhw yng Nghymru beth bynnag, a’r rheiny gyda’r gorau welwch chi yn unman? Ond cawn lawer mwy yn y gyfrol fach hyfryd hon, sy’n llawn o lefydd anarferol a rhyfeddol, ac mae’r lluniau dramatig o’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn brawf o hynny. Mae gen i brofiad personol o ffilmio yn ambell un, gan gynnwys chwareli Hallein (o lle daeth ein cyndeidiau Celtaidd) yn Awstria, a bryn anhygoel y croesau yn Lithwania. Ac yn nhiriogaeth Vlad Tepes yn Romania, mi dreuliais noson yn gwrando ar fleiddiaid gwyllt yn udo o gwmpas y gwesty. Dyna ichi dri lleoliad bythgofiadwy sy’n tystio i safon y dewis o lefydd yng nghyfrol Aled. Cefais flas arbennig wrth ddarllen am Nyth yr Eryr, sef tŷ haf Hitler mewn cornel diarffordd o’r Almaen, ac am zipwire yn y Tyrol sy’n creu ‘digon o destosteron i dyfu barf cyfan’! A hyd yn oed yn y lleoliadau poblogaidd, mae Aled wedi dod ar draws y gwahanol a’r anarferol, ee catacwmau sy’n ymestyn am 200 km dan ddinas Paris, theatr opera awyr agored, 7,000 o seddi yn
Awstria (mae ’na lun anhygoel o hon), a chrypt yn Rhufain sy wedi ei addurno gan esgyrn dynol. Oes, mae yma amgueddfeydd hefyd, ond nid y rhai y byddech chi’n eu disgwyl. Ym Mrwsel, cawn fanylion am dair ohonyn nhw sy’n canolbwyntio ar garthffosiaeth, yr erotig, a dillad isaf! Ac os nad yw hynny’n apelio, mae ’na amgueddfa KGB yn Tallinn, Estonia, ac un arall i geir Skoda yn y Weriniaeth Tsiec. Mae amrywiaeth y lleoliadau yn apelio’n fawr, o fryn y Sound of Music i’r bont sy’n troi’n dwnnel i gysylltu Denmarc a Sweden. Cawn wybod gan ba ddinas y mae’r farchnad fwyaf yn Ewrop, a pha ddinas yw’r hawsaf i fod yn sgint ynddi, gan fod y cwrw’n rhatach na dŵr. Rhwng popeth, gallwch gael blas ar bori drwy’r gyfrol hon – a mwynhau ffraethineb a doniolwch Aled – hyd yn oed os nad oes gennych fwriad i deithio ymhellach nag Aberystwyth. I’r rhai sydd am fentro, mae cyfarwyddiadau teithio manwl i bob lleoliad, ar awyren, mewn trên, ac mewn car – a hynny ar draws y 27 gwlad a fydd yn dal yn y Gymuned Ewropeaidd wedi Brexit. Fe gyflwynir y gyfrol er cof am Dr John Davies; a byddai ef wedi bod wrth ei fodd â’r cynnwys. Tweli Griffiths
Adolygiadau oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau
16
gan ferched ar y clawr cadarn. Ond beth am apêl y straeon eu hunain? Ceir yma gant o straeon un dudalen yr un o hyd am ferched o bob gwlad a phob cyfnod, o Cleopatra i Simone Biles y gymnastwraig, ac o bob maes, o fale i fathemateg, o fyd rasio i wleidyddiaeth, o gerddoriaeth i ffiseg. I gyd-fynd â phob stori, ceir portread trawiadol newydd, ynghyd â dyfyniad a manylion bywgraffiadol am bob unigolyn. Ar ddiwedd y gyfrol ceir lle i berchennog y llyfr ysgrifennu ei hanes ei hunan a llunio’i hunanbortread. Rhywbeth at ddant pawb, felly, ac er bod y straeon yn ddigon syml i blant iau allu eu mwynhau (o tua 6 neu 7 oed), does yna ddim byd syml am neges y llyfr, sydd yn ysbrydoliaeth i ferched o bob oedran. Mae’r fath gyfoeth ymchwil yn sail i’r prosiect fel y bydd pawb yn elwa o’r adnodd newydd hwn. Yn wir, dyna’r unig broblem wela i gyda’r llyfr: mae’n bwysig i bawb ei ddarllen, yn fechgyn a dynion yn ogystal â merched. Yn gwbl groes i lyfrau sy’n arfer targedu merched, does yma ddim pinc na blodau na chalonnau ar gyfyl y lle. Dyma chwa o awyr iach i’ch silff lyfrau. Heather Williams
ROBERT MEIRION THOMAS
Geni Rhagfyr 10, 1920 Marw Rhagfyr 14, 2017 Magwyd Meirion gan ei nain yn Llechwedd, Harlech hyd nes oedd yn 10 oed. Roedd ganddo feddwl y byd ohoni. Nid oedd ei arddegau yn gyfnod hawdd iddo pan adawodd ei dad gwyn y cartref a gadael Meirion fel ‘y dyn’ yn y teulu o bump. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed a mynd i weithio at y cigydd lleol yn cario cig o gwmpas y tai. Mae’n debyg mai oherwydd amgylchiadau’r teulu y digwyddodd hyn. Cyn ei fod yn 20 oed roedd yn aelod o’r RAF yng Ngogledd Affrica [lle cyfarfu yr un oedd i ddod yn wraig iddo, sef Barbara] a bu’n gwasanaethu yn Sicily yn yr Eidal. Yma y meithrinwyd cariad ynddo at ddiwylliant a ieithoedd - ac roedd o’n barod iawn bob amser i ddweud gair mewn Eidaleg neu Ffrangeg. Gadawodd y fyddin yn 1945 a phriodwyd Meirion a Barbara yn Abercenffig yn 1947. Bu iddyn nhw fagu tri o blant maes o law, sef Adrian, Gareth a Karen. Fel i lawer o’i gyd-wladwyr, roedd y blynyddoedd wedi’r rhyfel yn rhai anodd. Bu’n gweithio am gyfnod fel tirmon, yn adeiladydd, yn helpu i godi’r Atomfa yn Nhrawsfynydd, glanhau ffenestri, glanhau simneiau ac fel portar yng Ngwesty Dewi Sant - bu’n gwneud sawl un o’r swyddi hyn ar yr un pryd! Daeth cyfnod o sadrwydd i’r teulu pan benodwyd ef yn Stiward yn y Clwb Golff
gyda Barbara yn rhannu’r dyletswyddau. Roedd yn falch iawn o’i swydd ac roedd ei gwrteisi naturiol a’i natur radlon a charedig yn gweddu i’r dim i’r swydd. Daeth yn genhadwr dros y Clwb gan osod safonau mewn gwisg a gwasanaeth y gallai eraill eu dilyn. Yn aml iawn, ar achlysur cymdeithasol byddai ei ddireidi yn dod i’r golwg a byddai’n gwisgo ei sombrero ac yn clecian y castanets wrth iddo gamu i’r llawr dawnsio. Fel y dywed y gân, ‘Dyddiau difyr iawn’ oedd y rhain. Ymddeolodd yn 1983 wedi 15 mlynedd o wasanaeth yn y Clwb Golff a bu’n byw ym Mhensarn cyn symud i Lanfair ac yna i Harlech. Yn 1994, penderfynodd ymuno â Chôr Meibion Ardudwy a dyma gychwyn ar fywyd cymdeithasol bywiog iawn - ac yntau yn 74 oed! Y flwyddyn ganlynol, am y tro cyntaf yn ei hanes, enillodd y Côr y brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Credai Meirion fod cyswllt rhwng y ddeubeth hyn! Disgrifiwyd ef gan Phil Mostert, trefnydd y Côr, fel un o hoelion wyth y Côr ac fel canolbwynt unrhyw rialtwch oedd yn digwydd wrth i’r dynion ymlacio wedi cyngerdd. Anfonodd cyfaill iddo, Wilfgan Werner neges o’r Almaen wedi ei farwolaeth yn nodi cymaint o golled fydd ar ôl ei ganu, ei hiwmor, ei gynhesrwydd, ei letygarwch, ei ddiddordeb a’i straeon. Gall pawb oedd yn ei adnabod uniaethu â’r neges hon. Hyd yn oed yn ystod ei wythnosau olaf, pan oedd yn bur wael, ni chollodd y gallu i uniaethu â phobl. Nid oedd ei hiwmor yn bell a chreodd argraff gadarnhaol iawn ar lawer un a fu’n gweini arno yn ei gartref ac yn y cartref preswyl. Roedd yn ŵr, tad, taid a hen daid ffyddlon ac ymroddgar. Un o’r nodweddion mwyaf angerddol yn ei bersonoliaeth oedd ei hoffter o gymdeithasu boed hynny yn lleol, yn genedlaethol neu yn rhynggenedlaethol. Fe gollodd y gymuned hon un o’i gwir gymeriadau, ond fe gollodd hefyd un o’i gwŷr mwyaf bonheddig. PW
Ffair Nadolig Neuadd Gymuned Talsarnau Cynhaliwyd y ffair flynyddol nos Iau 30 Tachwedd. Ynghyd â stondinau amrywiol a rafflau, cafwyd ymweliad gan Siôn Corn ac adloniant difyr iawn gan Fand Bach Harlech a disgyblion Ysgol Talsarnau. Braf oedd gweld cymaint o rieni a phlant yn mwynhau’r noson yng nghwmni ei gilydd. Prif bwrpas y noson yma yw’r cymdeithasu ond braf yw cael dweud hefyd fod £285 o elw wedi ei wneud tuag at gynnal y Neuadd. Enillwyr Gwobrau Raffl Nadolig Cangen Deudraeth Plaid Cymru
1 £5 - 5993 Melfyn Edwards, Porthmadog 2 Tocyn mynediad i deulu i Bortmeirion – 1625 Helen Richards, Llan Ffestiniog 3 Tocyn mynediad i deulu i Bortmeirion – 0415 Cai Anwyl, Llanfrothen 4 £25 – 2701 Liz Haynes, Rhyd 5 Gwerth £15 o gig – 2529 Osian Huws, Penrhyndeudraeth 6 Potelaid o win – 2579 Alwena Jones, Porthmadog 7 Bacardi – 5312 Meinir Boyns, Maentwrog 8 Potelaid o whisgi – 5228 Lowri Th Jones, Y Bala 9 Gwerth £10 o betrol/disel – 9104 Gareth Owen, Penrhyndeudraeth 10 Hamper o nwyddau – 0464 Awel Irene, Llanfrothen 11 Bacardi – 2524 Sioned Huws, Penrhyndeudraeth Gwnaed elw o £815.00. Diolchodd Glyn Griffiths, cadeirydd y Gangen, i drefnwyr y raffl, i ddosbarthwyr y tocynnau, i’r gwerthwyr ac i bawb a gefnogodd. Diolch Dymuna’r teulu ddiolch i’r canlynol am y cymorth a gafodd Meirion yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Lol: [yn arbennig] oedd â pherthynas waith arbennig gyda Meirion, ei ‘graig’ am sawl blwyddyn. Peter: [gŵr Lol] am waith cynnal a chadw. Joe: [cymydog] am drin yr ardd Tom Mort: [ei gydymaith yng Nghymdeithas Hanes Harlech] Sue a Bryn Jones: [am eu cymorth gyda Theulu’r Castell] Diolch hefyd i’r gofalwyr yn y Gymuned am eu gwaith rhagorol ac i Gartref Madog am eu gofal caredig bob amser. Dymuna’r teulu ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt ym marwolaeth Meirion. Diolch hefyd i Dr Peter Williams am y deyrnged ac i Tony a Stephanie Beacon am y gwasanaeth gwiw. Rhodd a diolch £20
BARA BRITH
[neu gacen ffrwythau]
340g o ffrwythau cymysg 225g o fenyn 340g o siwgr brown mân 340g o flawd codi 3 ŵy * Berwi’r ffrwythau mewn dŵr am 5 munud a’u gogri * Adio’r menyn ac wedi iddo doddi, adio pob dim arall * Gosod mewn 2 dun torth * Coginio am awr i awr a hanner, 150C/Nwy 3/4.
17 A
HARLECH Sefydliad y Merched Cemlyn, Harlech, oedd y lle y cynhaliwyd y cyfarfod Nadolig ar nos Fercher, 13 Rhagfyr 2017. Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod gan y Llywydd newydd Jan Cole. Bras iawn oedd y busnes, ond mi oedd y ‘Penderfyniadau’ wedi bod yn llyfr SyM sef WI Life ac yr oedd yn rhaid i aelodau ddewis pa un o’r ‘Penderfyniadau’ yr oedden nhw yn credu ynddo. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn methu bod yn y cyfarfod ond yn arbennig i Gwenda Jones. Diolchodd Stella Calvert am y blodau a’r talebau rhoddion a roddwyd iddi am fod yn aelod o SyM Harlech am 60 blwyddyn. Ar ôl trafod holl fusnes y noson, cafwyd pryd dau gwrs a glasiad o win cynnes gyda gemau a chanu carolau yn dilyn. Ar ddiwedd y noson, talwyd y diolchiadau am noson arbennig iawn i Jan, Geoff ac i’r staff i gyd gan Denise Hagan. Fe fydd tymor newydd SyM yn cychwyn ar 10 Ionawr 2018. Croeso i aelodau newydd ymuno â ni.
Priodas aur Llongyfarchiadau mawr i Jim a Sheila Lees (Harlech) sydd yn dathlu eu priodas aur ar y 13eg o Ionawr, Mae Jim a Sheila yn bobl weithgar iawn yn Harlech, ac yn barod i helpu i godi arian at unrhyw achos, fel y pwll nofio, y Neuadd Goffa, Roc Ardudwy a llawer mwy. Pen-blwydd priodas hapus iawn iddyn nhw.
Teulu’r Castell Croesawodd y llywydd, Edwina Evans, yr aelodau i’r cyfarfod a’r cinio ar 7 Rhagfyr oedd wedi ei drefnu ym Mistro Harlech. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn methu dod atom; pawb yn cofio at Mair Meredydd Williams, ac hefyd yn dymuno’n dda i Gwenda Jones. Dymunwyd pen-blwydd hapus i Bronwen Williams oedd wedi dathlu pen-blwydd ar 6 Rhagfyr. Cafwyd cinio 3 chwrs blasus iawn. Diolch i bawb oedd wedi dod a’r aelodau yn eu ceir ac hefyd am y rafflau. Roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod a thalwyd y diolchiadau ar ran yr aelodau gan Menna Jones. Cofiwch nad oes cyfarfod ym mis Ionawr ond cynhelir y cyfarfod nesaf ar 13 Chwefror 2018. Diolchwyd i Roc Ardudwy am y rhodd o £300. Mae Roc Ardudwy yn codi arian i’r pwll nofio ond maen nhw hefyd yn cefnogi’r gymuned ehangach. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw.
Pen-blwydd arbennig arall Pen-blwydd hapus iawn i Jacky Blanks 28 y Waun, sydd yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn ar y 5ed o Chwefror. Gobeithio y cei di ddiwrnod i’w gofio, Jacky. Dymuniadau gorau Leah Jones gan dy ffrindiau a dy gymdogion Ar Ragfyr 14, yn dawel yn ei chartref Artro, Harlech y bu farw Leah Jones neu Leah Tyddyn Rhyddid fel mae pawb yn ei chofio. i gyd yn y Waun. Yr oedd Leah yn unig ferch i’r diweddar Eddie ac Elizabeth Evans, Erw Wen ac wedyn Tyddyn Rhyddid. Fe arhosodd Leah gartref ar Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Delyth y fferm i helpu ei mam a’i thad hefo’r ffermio gan eu bod yn ffermio Rees a Gareth Davies, Llangefni, Werncaernyddion yn Llanbedr yr adeg honno hefyd. ar enedigaeth Caleb John Davies Ar ôl y rhyfel, bu iddi gyfarfod Evan o Lan Ffestiniog a oedd yn aelod balch o’r Burma Star yn ei gyfnod yn y rhyfel. Bu i’r ar Tachwedd 29 yn 4 pwys 15 ddau briodi yn 1950 ac ymgartrefu yn Nhyddyn Rhyddid tan eu owns. Dymuniadau gorau i’r hymddeoliad a symud i lawr i’r Ddôl yn Dyffryn lle bu’r ddau am teulu bach. flynyddoedd yn hapus iawn, yn gweithio’n galed i gael tŷ a gardd yn union fel oedd eisiau, fel pin mewn papur, ac felly y byddwn yn ei Rhodd chofio. Diolch i Mari Strachan am y Wedi llwyddo i gael y lle i fyny â’r safon, fe aeth y lle yn drech na rhodd o £16. nhw ac felly bu iddyn nhw symud i Artro, oedd yn dŷ llai, ond bu y ddau eto yr un mor ddiwyd nes yr oedd y lle newydd wedi cyrraedd Sêl Ŵlân yr un safon. Felly y byddwn yn ei chofio hi; fel dynes ei milltir sgwâr a phopeth yn ei le. Gŵyl Dwynwen Bu ei hangladd ar fore Sadwrn, Rhagfyr 30 gyda’r gwasanaeth yn ei yng chartref ac oddi yno i fynwent Rehoboth.
18 A
Priodas Llongyfarchiadau mawr i Rachel Greenfield (Castle Hair Studios) a Gareth Ingles ar eu priodas ar yr 28ain o Ragfyr ym Mwyty Mawddach Llanelltyd. Dymunwn pob lwc a hapusrwydd i’r pâr ifanc, Pob lwc hefyd i Rachel sydd wedi symud ei busnes dros y ffordd i adeilad mwy. Croeso’n ôl i Dawn ar ôl ei chyfnod mamolaeth. Pen-blwydd arbennig Pen-blwydd hapus iawn i Sandra Yvonne sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed ar y 24ain o Ionawr, gan ei ffrindiau a chymdogion yn yr ardal,
Nghaffi’r Pwll Nofio 10.00 tan 3.00 Ionawr 25
Ann Rosaleen Evans
Roedd bywyd Ann yn un o groesawu pobl, eu bwydo, a’u gwneud i deimlo’n gartrefol yn eu cartref. Ganwyd Ann ar 8 Tachwedd 1943 yn Sale, Manceinion, lle dysgodd yn gynnar i gefnogi tîm pêl-droed Manchester United. Fel plentyn arferai fynd efo’i theulu i wylio tîm Matt Busby’n chwarae. Cyfarfu Ann ag Aneurin yn yr 1960au, pan ddaeth i weithio i Harlech, yng nghegin Hafod Wen. Bryd hynny, y teulu Cadbury oedd y perchennog, ac fe’i defnyddid fel cartref gwella i weithwyr o’u ffatri Bournville yn Birmingham. Cafodd Ann ac Aneurin deulu mawr o bump o blant, a dechreuodd Ann weithio eto wedi i Helen ddechrau yn yr ysgol. Ar ôl gweithio yn Ysgol Ardudwy, symudodd i Castle
Capel Jerusalem
Cottage, yna Coleg Harlech ac, yn ddiweddarach, y Clwb Golff. Fel mam i bump, doedd ganddi ddim llawer o amser i hi ei hun, ond byddai’n hoffi mynd i Ddawns Nadolig y Dynion Tân a mynd i weld ei pherthnasau yng ngogledd a de Lloegr. Cafodd hefyd wyliau yn ynysoedd y Canarias gyda’i chwaer Doreen. Lle bynnag yr oedd, roedd gyda’i theulu. Er ei phrysurdeb, roedd Ann bob amser yn gwylio ei hoff operâu teledu. Yn fam arbennig, byddai’n gwneud ei gorau glas bob amser i ddarparu be bynnag oedd ei angen ar ei phlant. Byddai wrth ei bodd pan fyddai ffrindiau ei phlant yn dod heibio’r cartref ac yn paratoi bwyd iddyn nhw. Wrth i’r plant dyfu i fyny a gadael y cartref, byddai Ann yn dweud, “Dyma eich cartref am byth”. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled. Diolch Dymuna Aneurin Evans a’r teulu, 30 Y Waun ddiolch i’w cyfeillion amrywiol am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddyn nhw yn ystod y brofedigaeth o golli Ann. Diolch yn arbennig i’r Parch Miriam Beecroft am wasanaeth bendithiol. Rhodd a diolch: £10
IONAWR 21 Parch Dewi Morris am 3.30. Croeso cynnes i bawb.
Iwan Bryn Williams Yn ddiweddar bu farw Iwan Bryn Williams, Y Bala, sef, mab y diweddar W D Williams, Y Bermo. Iwan oedd ail fab Anna ac W D Williams, gydag Iolo’n blentyn hynaf a Nia yr unig ferch. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yng Ngharrog a’r Bermo. Roedd yn amser rhyfel, gyda milwyr ymhob man. Er gwaetha’r sefyllfa, roedd yn amser hapus. Cai chwarae gyda’i ffrindiau ar lan y môr, mynychu’r Band of Hope a chystadlu ar y piano mewn gwahanol gyfarfodydd. Gan fod eu rhieni yn hoff iawn o fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, byddai’r plant yn mynd i Wersyll yr Urdd yn Llangrannog i dreulio’r wythnos, bron yn ddieithriad. Daeth Iwan yn un o’r swyddogion cyson (y ‘swogs’), yn treulio wythnosau bob haf yn helpu i edrych ar ôl y gwersyllwyr. Yn ystod cyfnod fel ‘swog’ yng Nglanllyn y cyfarfu ag Enid gyntaf. Roedd hithau yn un o’r criw oedd yn cyrraedd Glanllyn ar y bws o’r de. Byddai Enid yn cyfeilio ar y piano i’r dawnsio gwerin yn aml, tra bod Iwan yn galw ac yn hyfforddi’r dawnswyr. Cafodd Iwan ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Bermo ac yna enillodd ysgoloriaeth i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl ennill ei radd, aeth ymlaen i gwblhau Doethuriaeth, yna gwelodd hysbyseb yn y papur am swydd i ddysgu ffiseg yng Ngholeg Llanymddyfri, un o’r ychydig ysgolion preswyl yng Nghymru. Cafodd ei gyfweld gan y Warden a chafodd gynnig y swydd yn y fan a’r lle. Bu’n dysgu yn y Coleg am ddeg mlynedd ac mae rhai o’r bechgyn yn dal i sôn am y dylanwad mawr a gafodd arnynt. Yn ystod y cyfnod yma, priododd ag Enid ym 1963. Cyhoeddodd Iwan ddau lyfr ar ffotograffiaeth yn ystod y cyfnod yma, llyfrau sy’n hen ffasiwn iawn erbyn hyn. Erbyn diwedd 1970 roedd gan Enid ac Iwan dri o blant; Dyfed,
Rhian ac Elen. Roedden nhw wedi symud i’r Bala lle’r oedd Iwan wedi cael swydd Prifathro Ysgol y Berwyn. Yn nodweddiadol ohono, roedd yn amyneddgar bob amser, ac yn gweld y gorau ym mhawb. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf fel prifathro cafodd gynnig gan y Cyngor Prydeinig i fynd i Sri Lanka am fis i helpu i baratoi deunydd dysgu gwyddoniaeth. Profiad gwych oedd hwn i Iwan. Roedd gwyliau haf yn bwysig iawn bob blwyddyn, ac am y Cyfandir y bydden nhw’n anelu bob tro. Buon nhw’n gwersylla a chrwydro Llydaw, gweddill Ffrainc a’r Almaen am flynyddoedd. Dysgodd Iwan y plant i nofio, ac i werthfawrogi byd natur o’u cwmpas. Ym 1991, penderfynodd Iwan ymddeol a chael amser i ddilyn ei ddiddordebau ei hun. Bu’n flaenor ac ysgrifennydd yng Nghapel Tegid. Bu Iwan yn golygu Pethe Penllyn ac yn arwain Tîm Penllyn yn Ymryson y Beirdd. Roedd yn gystadleuol iawn ac yn mynnu cael y gorau allan o’r aelodau eraill. Yn ystod y nawdegau, bu’n cystadlu mewn nifer o Eisteddfodau. Enillodd ar yr englyn a’r cywydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd gadair Eisteddfod Aberteifi ddwywaith. Daeth amser i Iwan ag Enid fynd ar wahanol fathau o wyliau, yn cynnwys teithiau ar afonydd y Rhein, Moselle a’r Elbe. Teithio hefyd i rai o ddinasoedd pwysig yr Eidal a Sbaen. Roedd Iwan yn hoff iawn o’i ardd. Roedd o wastad yn ymfalchïo yn ei gnydau, yn enwedig y ffrwythau - cyrens duon, eirin Mair a mafon cochion. Er yr holl weithgareddau hyn, roedd Iwan wastad yn gefn i’w deulu yn enwedig i Enid. Roedd bob amser yn ei chefnogi hi a’r plant. Roedd yn gydwybodol, yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif, ac wrth ei fodd yng nghwmni ei blant a’i wyrion. Yn anffodus daeth salwch creulon iawn at ddiwedd ei oes, salwch oedd yn ei amddifadu o’r pethau a arferai ddod mor hawdd iddo. Cafodd ofal pedair awr ar hugain am ddeunaw mis yng Nghartref Madog ym Mhorthmadog. Amser anodd, ond roedd gwybod fod y gofal yno yn arbennig iawn, yn gymorth mawr i’r teulu.
Cadwch at yr adduned Flwyddyn Newydd – gyda chymorth cyfres deledu newydd Mae pawb yn dueddol o fwynhau trît dros gyfnod y Nadolig… ond yn fuan wedyn daw’r pryder am effaith hynny ar ein hiechyd… oedd hi’n syniad da cael y darn ola’ yna o’r treiffl? Mae’r ystadegau yn ddigon i’ch synnu! Mae’r twrci, y trimins, y pwdin a’r diodydd yn gallu cyfrannu at gyfanswm o 5,240 o galorïau i bob person, a hynny ar Ddydd Nadolig yn unig! Ar ben hynny, mae pryder cynyddol am gyflwr iechyd y genedl, gyda 60% o oedolion dros eu pwysau, ac 1 ym mhob 4 yn ordew. Ond, wrth i’r Flwyddyn Newydd fynd rhagddi mae S4C yn cynnig cyfle unigryw i newid hen arferion am byth; i helpu pum person brwdfrydig i gadw at eu hadduned am fywyd FFIT ac iach yn y gyfres newydd FFIT Cymru. Dyma gyfle unigryw i fanteisio ar hyfforddwr personol, dietegydd a seicolegydd fydd yn cefnogi ac yn cynghori pob cam o’r ffordd – ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y nod. Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan, gallwch gofrestru nawr ar wefan s4c.cymru/ffitcymru. Y dyddiad cau yw 2 Chwefror, 2018. Mae cynhyrchydd y gyfres, sy’n cael ei greu gan Cwmni Da, yn eich annog i fynd amdani. Meddai Siwan Haf, o Gwmni Da: ‘Anghofiwch am ymaelodi â champfa ddrud, dyma’r cyfle gorau i ddechrau byw yn iach gyda help ein tîm o arbenigwyr brwdfrydig. Ym mhle arall y gallwch chi fanteisio ar hyfforddwr, dietegydd a seicolegydd proffesiynol yn rhad ac am ddim?’ ‘Ar FFIT Cymru byddwn ni yn eich cefnogi chi ar hyd y daith. Drwy gymryd camau bychain, a newidiadau yn eich bywyd pob dydd, gallwch wneud newid mawr i’ch corff a’ch meddwl. Does dim angen treulio oriau ar y treadmill; does dim rhaid llwgu pob dydd – gyda’n gilydd gallwn newid ein ffordd o fyw ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.’ ‘Ar ddechrau’r flwyddyn, mi fydd llawer ohonom ni yn meddwl am yr adduned flynyddol i fwyta’n iach ac i wneud mwy o ymarfer corff; yn enwedig ar ôl hel ein boliau dros gyfnod y Nadolig. Felly rŵan ydi’r amser i fynd amdani!’ Bydd FFIT Cymru ar S4C ym mis Ebrill 2018. Yn cyflwyno mae Lisa Gwilym ac yn gwmni iddi bydd yr hyfforddwr personol o Benarth, Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke sy’n byw ym Mhont-y-clun a’r seicolegydd Dr Ioan Rees o Ben Llŷn.
Diolch i’w deulu am y deyrnged a’r llun ar gyfer y Llais, a’n cydymdeimlad llwyraf â nhw’n eu colled.
19 A
Wedi gorfwyta dros y Nadolig?
Llosgi’r calorïau CINIO NADOLIG
956 calori
= BEICIO am 4 awr PWDIN NADOLIG a menyn melys
Rhowch gynnig ar rai o’r ymarferion isod os ydych chi wedi bwyta gormod dros yr Ŵyl - neu er mwyn osgoi bwyta gormod p’run bynnag. MINS PEI
230 calori
= LONCIAN am 30 munud
GWIN Y GAEAF
106 calori
= CERDDED am 30 munud
427 calori
= SMWDDIO am 3 awr CACEN NADOLIG
CAWS A BISGEDI
249 calori
394 calori
= DAWNSIO am 1.5 awr
= NOFIO am 65 munud GWYDRIAD O SHERI
68 calori
= GWAITH TŶ am 20 munud
COCTEL CORGIMWCH
353 calori
= AEROBICS am 50 munud 20 A
GWYDRIAD O WIN PEFRIOG
91 calori
= CHWARAE EFO’R PLANT am 30 munud
3 DARN O SIOCLED
133 calori
= CERDDED I FYNY AC I LAWR Y GRISIAU am 15 munud