Llais Ardudwy Ionawr 2019

Page 1

Llais Ardudwy

70c

MERCHED Y WAWR BERMO, HARLECH A LLANFAIR

RHIF 483 - IONAWR 2019

GWOBRAU DYLUNIO

Ymunodd Canghennau Bermo a Harlech i fwynhau cinio Nadolig yn Hendrecoed, Llanaber ddechrau Rhagfyr. Bronwen Williams [Llywydd Harlech] oedd yn arwain y fendith cyn gwledda. Mwynhawyd pryd blasus iawn dan ofal y cogydd Kevin. Cyn troi am adref, darllenodd Llewela Edwards [Llywydd Bermo] gyfarchion Nadolig gan Meirwen, y Llywydd Cenedlaethol a chafwyd cyfle i sgwrsio gyda chyfeillion cyn troi am adref.

PRIODAS DDEIAMWNT

Rhys Parry

Ryan John

Llongyfarchiadau i Ryan John, Tŷ Canol, Harlech ar ddod yn ail mewn cystadleuaeth ar draws Cymru. Mae’r myfyriwr 19 oed yn astudio celf a dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Llwyddodd i gael y wobr arian yn nigwyddiad cyfryngau a chreadigol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gampws Coleg Gwent yng Nghasnewydd ganol mis Rhagfyr. Cafodd gwaith Rhys Parry, myfyriwr 18 oed o Lan Ffestiniog sy’n astudio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Dolgellau, hefyd ei ganmol gan y beirniaid am ei ddyluniad ‘cain a soffistigedig’.

SEINDORF HARLECH PEN-BLWYDD PRIODAS

Hyfrydwch bob blwyddyn ydi clywed Band Harlech yn dod ag ysbryd yr Ŵyl i’n plith gyda chasgliad o garolau a chaneuon Nadoligaidd. Mae’r traddodiad hwn yn yr ardal yn mynd yn ôl yn bell iawn. Mae rhai yn cofio’r band yn ymweld â nifer o bentrefi a hyd yn oed cyn belled â Chwm Nantcol! Eleni fe fuon nhw yn Ffair Nadolig Talsarnau, Noson Oleuo Llanbedr, Gwasanaeth Undebol Sant Tanwg, Harlech, Gwasanaeth Nadolig Llanbedr ac ym Mhant Mawr, Harlech. Yn ôl eu harfer, diweddwyd y diddanwch eleni yng ngwaelod Harlech. Diolch iddyn nhw am eu gweithgarwch diflino.

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Ronnie a Gwyneth Davies, Pentre Uchaf ar ddathu penblwydd priodas arbennig. Maent wedi bod yn briod am 60 mlynedd. Priodwyd nhw yn Eglwys Llanenddwyn, Dyffryn ar Ionawr 3, 1959. Dymuniadau gorau a chariad mawr gan Linda a’r teulu, Olwen a’r teulu a Keith a’r teulu. XXX

BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N DARLLENWYR


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Chwefror 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Chwefror 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ionawr 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Gareth Thomas

Gwaith: Arolygydd Cynllunio Cefndir: Fe’m ganwyd yn Harlech, lle roedd fy rhieni, Barbara a Meirion yn byw ac yn gweithio yn y Clwb Golff. Mae fy chwaer, Karen, yn dal i fyw yn Harlech. Mynychais Ysgol Ardudwy yn nechrau’r saith degau. Wedyn es i i Brifysgol Birmingham lle cwrddais â Maggie, fy ngwraig. Rwyf wedi gweithio fel cynllunydd tref gydag amryw o awdurdodau lleol gan gyrraedd Prif Swyddog Cynllunio gyda Chyngor Powys. Nawr rydw i’n gweithio i’r Llywodraeth gyda’r Arolygaeth Cynllunio yn penderfynu apeliadau yn erbyn ceisiadau cynllunio sydd wedi eu gwrthod gan awdurdodau lleol. Mae hyn yn golygu cynnal ymholiadau a gwrandawiadau cyhoeddus. Rwyf wedi byw yn y Trallwng ers blynyddoedd lawer ac mae gennyf ddau fab. Mae James yn gyfreithiwr a’r llall, Matthew, yn gynllunydd tref.

Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rwyf yn dal i chwarae pêldroed 5-bob-ochr a mynd i’r

gampfa. Mae gen i feic ffordd da ac mae’r haf hwn wedi bod yn arbennig o dda ar gyfer beicio. Rwyf wrth fy modd yn cerdded mynyddoedd yn yr Alpau ac Eryri.

byrhau eu bywydau? Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Teyrngarwch Pwy yw eich arwr? Winston Churchill Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Doc Pete - mae wedi bod yn ffrind da i’r teulu, yn enwedig yn ystod amseroedd anodd. Beth yw eich bai mwyaf? Diffyg amynedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Iechyd da a’r gallu i wneud yr hyn yr ydych ei eisiau. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Pe bawn i’n hunanol, byddwn yn prynu beic ffordd newydd. Fel arall, byddwn yn ei rannu rhwng fy nau fab i’w wario fel y mynnant. Eich hoff liw a pham? Aur a du - lliwiau Wolves. Prysuryn dod yn dîm gorau yr Uwch Gynghrair! Eich hoff flodyn? Eirlysiau. Eich hoff gerddor? Bruce Springsteen - mae’r teulu cyfan yn hoff iawn ohono ac wedi mynychu llawer o’i gyngherddau. Pa dalent hoffech chi ei chael? Bod yn bianydd cyflawn. Eich hoff ddywediadau? Peidiwch byth ag edrych i lawr ar unrhyw un oni bai eich bod chi’n eu helpu i fyny. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Cymharol hapus a bodlon. Nid wyf yn dymuno ymddeol eto!

tocynnau i gêm, straeon am deithiau drwy stormydd enbyd er mwyn cefnogi eu gwlad, straeon lliwgar am dripiau i’r Alban, Iwerddon, Ffrainc ac yn y blaen, a chyfeillgarwch oes gydag unigolion ledled rhai o’r gwledydd hynny. Mae Ifan Evans am glywed eich straeon chi dros gyfnod y chwe gwlad. Straeon doniol, dwys, lliwgar, hynod. Straeon sy’n profi mai cefnogwyr

rygbi Cymru yw’r rhai mwyaf angerddol, eithafol, ymroddedig a gorau yn y byd! E-bostiwch eich straeon i ifan@bbc.co.uk Neu gyrrwch bwt yn y post i: Rhaglen Ifan Evans BBC Radio Cymru Heol y Priordy Caerfyrddin SA31 1NE Cofiwch gynnwys eich enw a’ch rhif ffôn. ‘Ogi, ogi, ogi...’!

Beth ydych chi’n ei ddarllen? Yn diweddar, rwyf wedi mwynhau’r gyfres o lyfrau Elena Fferanti am fywyd teuluol yn Napoli [Naples]. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Desert Island Discs ar y radio os mai dim ond i glywed eu hoff gerddoriaeth. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, rwy’n bwyta’n dda! Hoff fwyd? Pysgod, yn enwedig draenog y mor [sea bass]. Hoff ddiod? Cwrw go iawn - mae’r mudiad cwrw crefft wedi arwain at greu cwrw hyfryd – ond erbyn hyn dim ond yfwr achlysurol ydw i! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Robert Plant o Led Zeppelin. Dwi’n eistedd wrth ei ymyl wrth wylio Wolves. Ef yw fy arwr o’r saith degau. Lle sydd orau gennych? Harlech - yn enwedig ein traeth gwych yn edrych dros Benrhyn Llŷn ac ar draws i Eryri. Nid oes lle fel eich tref enedigol. Ond rwyf hefyd yn mwynhau mynd i’r Alpau a Llyn Genefa. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Taith ffordd i fyny arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau sy’n dod i ben ar ffin Canada. Roedd y cimychiaid yn anhygoel. Beth sy’n eich gwylltio? Ysmygu. Pam mae pobl eisiau

LLYTHYR STRAEON RYGBI AR RADIO CYMRU

Wrth i Raglen Ifan Evans edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae gan bob ardal yng Nghymru ei straeon unigryw sy’n ymwneud gyda chefnogi’r tîm cenedlaethol. Straeon am aberth unigolion i sicrhau


LLANFAIR A LLANDANWG PLYGAIN CYFEILLION ELLIS WYNNE 2019 yn Eglwys Llanfair Ionawr 16, am 7.00

Cynhelir Plygain y Lasynys Fawr yn 2019 ar 16 Ionawr am 7.00 o’r gloch yn Eglwys Llanfair. Yn dilyn y Plygain, gobeithiwn unwaith eto gynnal swper Y Plygain yn Neuadd Goffa Llanfair. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tamaid o fwyd at y swper yn y gorffennol, ac os hoffech gyfrannu eto eleni neu helpu ar y noson, cysylltwch ag Elfed Roberts, 770621 neu Haf Meredydd os gwelwch yn dda (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr). Hefyd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â pharti Plygain y Lasynys (unrhyw lais), dewch draw i’r ail ymarfer a gynhelir yn y Lasynys Fawr ar brynhawn Sul, 13 Ionawr, am 3.00 o’r gloch.

Prif sgoriwr Cynhaliwyd y gêm gyfeillgar arferol rhwng y chwaraewyr profiadol a’r rhai amhrofiadol ar Ragfyr 27 gyda Bennet Richards yn dyfarnu.

Meilir Roberts, Uwchglan oedd y chwaraewr a sgoriodd y pwyntiau mwyaf yn ystod y gêm. Da iawn Meilir.

TREM YN ÔL

Yr hinsawdd Yn nyddiau olaf mis Tachwedd daeth Mr Wright, Hafodybryn, Llanfair pan yn cerdded yng nghyffiniau y chwarel, ar draws clwstwr o fefus gwyllt, ac arno ymysg eraill ac yn fwy na’r lleill, un goch ac aeddfed. Y mae cymdogaeth Llanfair yn wastad yn hynod am gynharwch ei chynhyrchion, ond anghyffredin yno a lleoedd eraill ym Mhrydain ydoedd gweld ffrwythau aeddfed yn Nhachwedd yn yr awyr agored. Nid rhyfedd oedd i Edmund Griffith, YH, Dolgellau, adeiladu plasty iddo’i hun yn yr ardal, a’i fod mor hoff ohono. Y Genedl Gymreig, 27/11/1900

Cydymdeimlo Cydymdeimlir yn ddiffuant iawn gyda theulu’r diweddar Mrs Sybil Smith a fu farw’n ddiweddar. Roedd yn wraig i’r diweddar Jim Smith ac yn fam annwyl i’w phlant ac yn nain a hen nain hefyd. Bu’r angladd ym Mhorthmadog ar Ionawr 3, a daeth nifer dda o’i chyfeillion yno i dalu’r gymwynas olaf iddi. Diolch Dymuna Sera Griffith a Mike ddiolch yn ddiffuant i bawb am yr holl gardiau, negeseuon ac anrhegion a dderbyniwyd ganddyn nhw ar achlysur geni Nia Grace. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu caredigrwydd. Rhodd a diolch £10 Dan anhwylder Anfonwn ein cofion at Mrs Maureen Jones, Bryn Tanwg sydd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar. Mae’n wraig hynod o weithgar yn y pentref ac mae ei chyfeillion yn cofio ati yn annwyl iawn. Croesawu dysgwyr Mae gwahoddiad i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg yn yr ardal i ddod i gyfarfod arbennig o Ferched y Wawr, Harlech a Llanfair yn y Neuadd Goffa ar Mawrth 5. Bydd croeso cynnes a chyfle i chi ymarfer yr iaith.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Hysbysfyrddau Nid yw’r hysbysfwrdd newydd wedi ei archebu oherwydd bod yr un oedd wedi ei ddewis gan yr aelodau yn y cyfarfod diwethaf yn cynnwys drws oedd yn agor ar i lawr, ac ym marn yr aelodau roedd drws o’r math yma’n rhy beryglus. Ar ôl ailedrych ar y dewisiadau, cytunwyd i archebu un llai o faint ond gyda dim ond un drws. Hamdden Harlech ac Ardudwy Derbyniwyd copi o wahanol adroddiadau ganddynt, hefyd copi o ddyddiadau cyfarfodydd i’w cynnal yn y dyfodol sef nos Iau Ionawr 17, Mawrth 21, Mehefin 20 a Medi 19, yn cychwyn am 6.00 o’r gloch. Bydd y cyfraniad praesept yn £8,023.90 yn y flwyddyn ariannol 2018/19. Pwyllgor Neuadd Goffa Penderfynwyd cael gwared â’r offer chwarae yn y cae chwarae oherwydd ei fod mewn cyflwr drwg. Hefyd eu bod wedi cytuno i gynnal noson agored i drigolion Llanfair yn y dyfodol agos er mwyn cael gweld sut mae y diffibriliwr yn gweithio. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy £3,883.80. Llais Ardudwy - £300 GOHEBIAETH Comisiwn Ffiniau Derbyniwyd llythyr gan yr uchod ynghyd â chopi o Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol Sir Gwynedd sydd wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried. yn datgan y bydd Ward Llanbedr a Llanfair yn ymuno gydag Ward Harlech a Thalsarnau i greu un Ward gyda dau Gynghorydd Sir. [Diolch yn fawr i Gyngor Llanfair am eu meddwlgarwch yn dyfarnu £300 i Llais Ardudwy. Gol.]

Calendr Llais Ardudwy Mae rhai copïau ar ôl ond dim llawer! 3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Bu’r aelodau yn gwledda yn y Clwb Golff yn Harlech cyn y Nadolig a hynny yng nghwmni aelodau Côr Meibion Ardudwy. Roedd y bwyd yn ardderchog. Wedi swpera, cafwyd orig yng nghwmni Nerys a Geraint Roberts, Bronaber gydag Alwena Morgan, Ffestiniog yn cyfeilio iddyn nhw. Cafwyd ganddynt gyflwyniad o ddarlleniadau a chaneuon Nadoligaidd dyrchafol. Bwyd addas i’r enaid ar ôl y pryd arall. Diolchwyd i Evie Morgan am drefnu ac am yr holl waith arall a wnaed ganddo yn ystod y flwyddyn. Disgwylir Mair Tomos Ifans ar Ionawr 7 i’n diddanu gyda hanes ‘Y Fari Lwyd’. Mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â ni.

Capel y Ddôl Cynhaliwyd Llith a Charol yng Nghapel y Ddôl ar y 9fed o Ragfyr. Roedd y Gwasanaeth yng ngofal Gretta a Glenys a chafwyd darlleniadau gan bob aelod oedd yn bresennol. Yn ystod y gwasanaeth canodd Aled dair carol oedd yn briodol â thema’r Gwasanaeth. Dyma’r tro cyntaf i ni gael y math yma o wasanaeth a theimlwyd iddo fod yn hynod lwyddiannus. Apêl Ambiwlans Awyr Dymuna Aled ac Eleri ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd at Elusen Apêl Ambiwlans Awyr Cymru yn Nerbynfa Rhaeadr Nantcol eleni. Casglwyd swm anrhydeddus iawn o £1,057.79 at yr Apêl.

Gwarchodwyr y Traethau

Bu’r Gwarchodwyr Traethau Cambrian wrthi’n casglu sbwriel ar draeth Mochras, ddydd Sul, Rhagfyr 2il. Casglwyd 120 kg o sbwriel sy’n golygu bod cyfanswm y sbwriel a gasglwyd ganddyn nhw am y flwyddyn dros dunnell a hanner! Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i lendid traethau ac aberoedd Ardudwy. Tina Triggs, Sarah Tibbets a Dianna Tregenza sydd yn arwain y Cambrian Beach Guardians. Roedd ambell un o Lanbedr wedi ymuno gyda’r ymgyrch ym Mochras.

Capel y Cwm Treuliwyd orig ddiddorol iawn yng nghwmni Morfudd a fu’n traddodi ar y testun Y Plygain a chanwyd rhai o’r hen garolau oedd yn cyd-fynd a’r Gwasanaeth. Mwynhawyd paned a mins peis ynghyd â chyflath blasus ar y diwedd, eto wedi ei baratoi gan Morfudd a dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Teulu Artro Cafwyd cinio Nadolig p’nawn Mawrth 4ydd o Ragfyr yng Ngwesty Victoria. Daeth criw da ohonom yno ac roeddem yn falch o groesawu Elizabeth a Lorraine yn ôl atom, ac anfon ein cofion at Pam oedd yn cwyno ac yn methu dod. Diolchodd Glenys, ein llywydd, i Greta ac Iona am drefnu’r cinio a diolchodd Beti i griw y gegin am baratoi gwledd inni a phawb wedi ei fwynhau. Cawsom i gyd anrheg o felysion wedi eu cyflwyno’n ddel ar y byrddau gan Siôn Corn (Jennifer); diolch yn fawr iawn iddi am y syndod, hefyd cawsom anrheg o’r bwrdd raffl cyn troi am adra. Diolch i bawb am eu haelioni. Pen-blwydd hapus i ddwy Mae dwy o aelodau Teulu Artro yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed yn ystod mis Ionawr – Winnie ar yr 20fed ac Iona ar y 26ain. Dymunwn yn dda i’r ddwy. Clwb Cawl Dydd Iau cyn y Nadolig cawsom wledd yn y Clwb Cawl, digon o ddanteithion a chyngerdd gan blant meithrin a phlant yr ysgol gynradd. Diolch yn fawr iddynt i gyd am bnawn difyr.

Cyhoeddiadau’r Sul IONAWR (am 2.00 o’r gloch) 13 – Capel y Ddôl, Evie M Jones 27 – Capel Nantcol, Morfudd Lloyd CHWEFROR 3 – Capel y Ddôl, Elfed Lewis Cofion Anfonwn ein cofion at Non, Tynllan gynt, gan ddymuno’r gorau iddi. Marwolaeth Yn ddiweddar fu farw Richard Jones, brawd hynaf Robert, Rowena ac Idris. Anfonwn ein cydymdeimlad atynt yn eu colled. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Megan Scott a Robin Jones, y ddau yn Ysbyty Dolgellau. Gwellhad buan Dymunwn wellhad buan i Olwen Evans, Werngron ac Edmund Bailey, Plas y Bryn, y ddau wedi mynd i Ysbyty Gwynedd ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Cyfarchion Diolch i Edith (Lloyd gynt) am ei chyfarchion Nadolig a chofion at bawb. Meddai Edith am y Llais, ‘Diolch amdano’, ac yn ei cherdyn roedd yr englyn yma: Y slotian a’r tinseleitus – yw’r Ŵyl i’r rhelyw ond erys imi eiliad cariadus Ceidwad byd yn cydio bys. Ifor ap Glyn Eirlysiau Gwelwyd clwstwr o lili wen fach yng nghyffiniau Llanbedr ar y 29ain o Ragfyr. GPJ

ENGLYN DA CLOD Y CLEDD

Celfyddyd o hyd mewn hedd - aed yn uwch O dan nawdd tangnefedd, Segurdod yw clod y cledd, A’i rwd yw ei anrhydedd. Dianna Tregenza, Tina Triggs a Sarah Tibbets, arweinwyr Gwarchodwyr Traethau Cambrian

4

William Ambrose [Emrys], 1813 -1873


ENGLYNION Y NADOLIG

TALDRAETH AR Y BRIG

YMSON MAIR Heno datgelwyd i minnau paham Y mae pen y bryniau Oll yn oll yn llawenhau,Mae’r achos yn fy mreichiau. T Arfon Williams (1935-98) AR GARDIAU NADOLIG Down yn nes at y preseb - i weled Y golau’n Ei wyneb; Ildiwn ein hunanoldeb Yma’n awr; nid ydym neb. Mae llety Taldraeth, sydd wedi’i leoli ym Mhenrhyndeudraeth Y CRIST TLAWD William Jones Williams, newydd glywed eu bod wedi ennill 2 wobr arall gan Lux Travel I Aer Nef rhoes yr anifail - ei le Coed y Bedo, Cefnddwysarn & Tourism Awards sef - Gwely a Brecwast Gorau Prydain 2019 a Ger wal oer yr adfail; Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid Prydain. Ein Iesu yn y biswail Celyn a thelyn a thân - ar aelwyd, Mae’n cael ei redeg gan y perchennog, Mirain Gwyn. Agorodd A’n Duw yn y domen dail. A charoli diddan, Mirain y Gwely a Brecwast unigryw hwn ym mis Awst 2016. Iwan Morgan (Nadolig 1994) A’r hen fyd i gyd yn gân Dywedodd Mirain ‘Mae’n fraint derbyn y gwobrau yma, gan fod ein O achos y Mab Bychan. gwir ethos a chroeso Cymreig yn cael cydnabyddiaeth, a hynny yn SÊR Y Parch Robert Owen, ystod ein dwy flynedd gyntaf o fasnachu.’ Gwesty ‘pum seren’ heno - i deulu, Llanllyfni (1908-72) Nadolig i’w gofio! Yn y ddinas - doedd yno Boed gwres y tân amdanoch - a Ond ‘un’ uwch ei westy O! seren Iwan Morgan (Nadolig 2009) Nos o eira arnoch, RHYFEDDOD DYFODIAD CRIST Rhyfeddod i’w ryfeddu - fu rhoi Mab O fru Mair y Wyry’, Un a ddaeth i ddaear ddu I roi’i waed i’n gwaredu. Iwan Morgan (Nadolig 2012) ‘A HWY A GAWSANT Y DYN BACH’ Ni wyddom am ddim rhyfeddach, - Crëwr Yn crio mewn cadach, Yn faban heb ei wannach, Duw yn y byd fel Dyn Bach. Y Parch J Eirian Davies (1918-2004)

A’r hen Siôn Corn sanau coch A’i lawenydd gŵyl ynoch. Myrddin ap Dafydd

NADOLIG Wyf heddiw yn rhyfeddu, wyf ar daith Hefo’r doeth i’r beudy, Wyf y sant tyneraf sy’, Ond wyf Herod yfory. Gerallt Lloyd Owen (1944-2014)

Y Goeden Nadolig Yn enw Cariad, paid a’i gadel - hi’n hagr I wgu’n y gornel; Dwy owns neu lai o dinsel Wna’r wrach ddu’n briodferch ddel. T Arfon Williams 1935-1998

RHAGLEN CYMDEITHAS CWM NANTCOL 2018/19 Ionawr 7: Mair Tomos Ifans, ‘Y Fari Lwyd’ Ionawr 21: John Price, ‘Dylanwadau a Choronau’ Chwefror 4: Glyn Williams, ‘Sgwrs a Chân’ Chwefror 18: Iwan Morgan, ‘Dylanwadau’

Ychwanegodd Mirain, ‘Dymunaf herio lletai eraill gan fy mod yn credu mai ni yw’r llety mwyaf Cymreig yn y byd.’ Mae hyn oherwydd bod yr iaith Gymraeg yn amlwg a gyda henebion Cymreig, gan gynnwys dodrefn sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, a gasglodd fy rhieni am dros 40 mlynedd, yn ogystal â phaentiadau o safon uchel o Ogledd Cymru. Rydym yn defnyddio cynnyrch lleol o ansawdd da ac yn cynnig brecwast llawn Cymreig ynghyd ag opsiynau cartref eraill megis Soufflè Omlette, caws ar dôst, leicecs a dewis enfawr o jamiau a siytni cartref a grëwyd gyda’n cynnyrch gardd ein hunain. ‘Mae Taldraeth hefyd yn defnyddio dwfes gwlân organig Cymreig a gobennydd o Baavet, Harlech a matresi gwlân organig Cymreig Abaca o Rydaman a thecstiliau Laura Ashley a deunyddiau ymolchi Myddfai.’ Pob dymuniad da i’r dyfodol.

BWYDO RHOSOD

Mae siawns dda fod y rhan fwyaf ohonom wedi cael sawl cinio gwerth chweil dros yr Ŵyl. Yn ôl yr hen goel, mae angen rhoi cinio Nadolig i’r rhosod, hefyd. Wnaethoch chi hynny? Os na wnaethoch, yna dydy hi ddim yn rhy hwyr. Wedi’r cyfan, mae angen bwyd a maeth ar bob planhigyn; mater o synnwyr cyffredin ydy hynny.

5


HARLECH Teulu’r Castell Cynhaliwyd cyfarfod mis Rhagfyr yn Bistro’r Castell, Harlech, ddydd Mawrth, 11 Rhagfyr. Croesawyd pawb gan y llywydd Edwina Evans. Braf iawn oedd gweld cyn gymaint wedi dod ac yn arbennig Olwen Jones a Menna Jones. Cafwyd cinio gwych a blasus iawn. Diolch i’r perchennog, Lee am drefnu bod yr aelodau i gyd yn gynnes a chyfforddus, hefyd i’r ddau ifanc oedd yn gyfrifol am weini’r bwyd, ac hefyd am y llu o rafflau a dderbyniwyd. Rhoddwyd y diolchiadau gan Bronwen Williams. Cofiwch nad oes cyfarfod ym mis Ionawr a’r nesaf fydd ddydd Mawrth, 12 Chwefror, am 2.00 yn Neuadd Llanfair. Croeso i unrhyw un ymuno â ni i gael chwarae bingo a chael te a sgwrs. Grŵp Artro Sefydliad y Merched Cynhaliwyd gwasanaeth carolau gan Grŵp Artro yn Eglwys Sant Tanwg, Harlech ar 7 Rhagfyr. Cymerwyd rhan gan aelodau Harlech, Llanfair a’r Bermo. Cymerwyd y gwasanaeth gan Pam Odam, a chwaraewyd yr organ gan Ross Williams. Croesawyd a diolchwyd i bawb a gymrodd ran yn y gwasanaeth bendigedig gan Gadeirydd y Grŵp sef Edwina Evans. Diolch i bawb oedd wedi trefnu a pharatoi’r lluniaeth ar ôl y cyfarfod. Diolch yn fawr iawn i Ann Edwards oedd wedi trefnu ac argraffu’r rhaglen ar gyfer y prynhawn.

Gwasanaeth Undebol Roedd Eglwys Sant Tanwg yn orlawn ar gyfer y gwasanaeth eleni. Cafwyd cyfraniadau gan Cana-mi-gei a Band Harlech oedd yn gyfrifol am y cyfeiliant i’r carolau. Roedd cyfanswm y casgliad yn £167.15. Caiff ei gyflwyno i’r Banc Bwyd lleol er mwyn lleddfu ymhlith y tlawd a’r anghenus.

Llongyfarchiadau i Dafydd Ifan, mab Ifan a Helen Pritchard, 26 Tŷ Canol a Bethan Thomas ar eu priodas yn Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll ar Ragfyr 1af. Mae Dafydd yn athro yng Nghonwy. Byddant yn ymgartrefu yn Gaerwen, Ynys Môn. Pob lwc i’r ddau.

Capel Rehoboth, Bedyddwyr Albanaidd, Harlech Cawsom wasanaeth hyfryd i ddathlu Gŵyl y Geni yng nghwmni llawer o gyfeillion ac amryw o gyn-aelodau’r Ysgol Sul. Hyfrydwch oedd cael y genhedlaeth ieuengaf yn arwain y gwasanaeth eleni ac yna gwnaethant greu awyrgylch hyfryd o act y geni. Roedd hi’n braf cael Jane Sharp yn cyfeilio i’w merch Alaw, y ddwy yn gyn-aelodau o’r Ysgol Sul, a phawb yn cael boddhad wrth wrando ar Alaw yn canu mor swynol. Roedd hi’n bleser mawr cael cwmni y ddwy unwaith eto. Yna braint oedd cael ymuno yn y Cymun Bendigaid, gyda’r genhedlaeth ieuengaf yn dod a’r gwasanaeth i ben drwy ganu Nadolig Llawen i bawb. Prudd oeddem wrth orfod nodi fod y chwaer Olwen Evans yn yr ysbyty ar ôl damwain yn ei chartref. Mae pawb yn anfon cofion ati hi. Yna fe wnaeth pawb fwynhau paned a mins pei a chyfle i gael sgwrs ac atgofion gyda llawer o ffrindiau. Diolch i bawb a ddaeth i ymuno â ni i ddathlu’r Ŵyl. Anfonwyd £110 o gasgliad i Tŷ Gobaith Cymru eto eleni. Diolch i bawb.

Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mrs Maureen Williams, 20 Tŷ Canol sy’n glaf yn Ysbyty Gwynedd. Pen-blwydd Llongyfarchiadau i Gethin Jones, Pant-yr-eithin [Tŷ Canol gynt] fydd yn ddathlu ei benblwydd yn 21 oed ar Ionawr 14. Cariad mawr gan y teulu i gyd.

6

Colli Trefor Bu farw Mr Trefor Roberts, 11 Tŷ Canol, gŵr y ddiweddar Pat, tad Gerwyn a’r diweddar Llion. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled. Bydd teyrnged lawn iddo yn ein rhifyn nesaf.

Clwb Roc Ardudwy Cynhelir digwyddiadau casglu arian i wahanol fudiadau yn y gymuned yn ystod 2019: Neil Diamond Tribute Act, 15 Chwefror US4/U2 Tribute Band, 20 Ebrill Abba Tribute Band, 3 Mai Queen Tribute Band, 8 Mehefin Tom Jones/Elvis Tribute, 7 Medi.

Gŵyl y Baban Geiriau’r gantores a’r actores amryddawn Caryl Parry Jones a ddewiswyd yn thema ar gyfer ein haddoliad yng Nghapel Jerusalem y Nadolig hwn. Hyfrydwch oedd croesawu Meibion Prysor i uno efo ni ar drothwy ‘Gŵyl y Baban’. Yn ystod y sesiwn addoliad a gynlluniwyd gan Mr Iwan Morgan, cyflwynwyd carolau hen a newydd – a rheiny wedi eu plethu efo darlleniadau Beiblaidd cyfarwydd i ni ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Diolch i bawb ddaeth i gefnogi ar noson stormus. Roedd cyfanswm y casgliad yn £130, ond anfonwyd £150 i Gronfa Peiriant Di-ffib, Trawsfynydd. Sefydliad y Merched Cynhaliwyd y cyfarfod amser cinio yn y Branwen ar brynhawn dydd Mercher, 12 Rhagfyr. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys. Cafwyd lluniaeth o gawl a brechdanau, a rhoddwyd y diolchiadau gan yr Ysgrifennydd Edwina Evans. Fe fydd y cyfarfod nesa am 2.00 o’r gloch, 9 Ionawr yn Neuadd Goffa Harlech. Fe fydd gyrfa chwilod wedi ei drefnu gan Christine Freeman. Treiathlon Harlech Rhannwyd arian i gymdeithasau lleol fel a ganlyn: Neuadd Goffa £800 Clwb Treiathlon £280 Cadetiaid Awyr £150 Clwb beicio Ardudwy £150 Hamdden Harlech £150 Ymatebwyr Cyntaf £150 Cynhelir Treiathlon 2019 ar Ebrill 14. Rhoddion Chris Parry £5 Di-enw £5


CYNGOR CYMUNED HARLECH Clwb Beicio Ardudwy Adroddodd y Cadeirydd ar ran Mrs Tracy Dawson o Glwb Beicio Ardudwy, ei bod hi a Mr Joe Patton wedi cyfarfod Partneriaeth Awyr Agored, Beicio Cymru, Chwaraeon Cymru, Anabledd Cymru, Margaret Buttering (aelod o’r grŵp parciau cymunedol) a Martin Hughes i drafod cynlluniau i’r trac. Roedd penderfyniad wedi ei wneud i ffurfio pwyllgor strategol er mwyn cymryd cyngor a gweithio hefo sefydliadau lleol er mwyn dod o hyd i’r trac gorau a’u bod yn bwriadu cyfarfod eto yn y flwyddyn newydd. Roedd sesiwn flasu wedi ei chynnal ar yr 11eg o’r mis diwethaf pan roedd hi, Mr Joe Patton a Laura o Beicio Cymru wedi cynnal sesiynau blasu ym maes parcio glan y môr ac roedd Joe Patton wedi bod yn gweithio hefo grŵp beicio ym Mhlas Menai sydd yn rhoi cyfle i blant a gofalwyr reidio beic gyda’i gilydd ac roedd Joe yn gallu defnyddio dau o’r beiciau o’r sesiwn flasu. O’r sesiwn flasu maent wedi hysbysebu holiadur yn y Cambrian News a thrwy yr ysgolion lleol er mwyn gweld beth yw angen yr ardal yn enwedig i blant gydag anableddau. Maent wedi gofyn am grant gan y Co-op ac ar restr fer Co-op y Bermo. Maent eisiau gwybod gan y Cyngor hwn a oes angen caniatâd cynllunio. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd y Clerc mai dyddiadau’r cyfarfodydd sydd i’w cynnal yn y dyfodol fydd nos Iau, Ionawr 17, Mawrth 21, Mehefin 20 a Medi 19, i gychwyn am 6.00 o’r gloch. Hefyd cafwyd gwybod y bydd y cyfraniad praesept yn £19,594.90 yn y flwyddyn ariannol 2018/19. Cytunwyd bod y Cadeirydd a Gordon Howie yn cynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd uchod ynghyd â Freya Bentham fel Cynghorydd Gwynedd. GOHEBIAETH Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Derbyniwyd llythyr gan yr uchod ynghyd â chopi o Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol Sir Gwynedd sydd wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried, yn datgan y bydd Ward Harlech, Talsarnau a Llandecwyn yn ymuno gydag Wardiau Llanfair a Llanbedr i greu un Ward gyda dau Gynghorydd Sir. Copi o’r cofnodion Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod yn gofyn a fyddai hi’n bosib anfon copïau o agendâu a chofnodion y Cyngor iddo, hefyd eisiau gwybod pryd mae y goleuadau Nadolig yn cael eu cynnau. Cytunodd y Cadeirydd ddelio gyda’r mater yma.

CYRRAEDD OED YR ADDEWID

John a Roger Kerry

Llongyfarchiadau i John Kerry oedd yn 70 oed ar Tachwedd 22 a Roger Kerry oedd yn 70 oed ar Tachwedd 23. [Y naill cyn hanner nos a’r llall wedi hanner nos!] Bu’r ddau yn dioddef o’r un anhwylder yn ddiweddar ond maent wedi gwella’n dda. Maent yn dal i fynd ac yn bwrw iddi gydag afiaith i’w diddordebau ac yn hynod dda am ymweld â phobl oedrannnus.

CYMRAEG Y RHEILFFORDD

BWYD A DIOD

Gwobrwyon Gwin Cymru 2018

Gwn mai teimlad o fraint a phryder a gaiff Dylan pan mae’n derbyn y gwahoddiad i feirniadu gwinoedd Cymru. Coeliwch neu beidio, mae hi’n joban anodd dros ben gyda chyfrifoldeb mawr i fod yn deg i fusnesau gwin ein gwlad. Er hyn, mae’n ddyletswydd hefyd ar y tri beirniad, sef Dylan, Linda Johnson-Bell a Sue Tolsen, i beidio tanseilio enw da’r diwydiant tra hefyd yn rhoi’r clod haeddiannol i’r cynnyrch a’r arbenigwyr sy’n datblygu eu sgiliau yn y maes bob blwyddyn. Cynhelir y digwyddiad urddasol hwn yng Ngwinllan Llannerch - diolch i Robb Merchant, cadeirydd y Gymdeithas Gwinllannoedd Cymru a’i wraig Nicola am drefnu. Diddorol oedd clywed ei gyflwyniad i’r noson. Soniodd am y twf yn y diwydiant a’r cnwd arbennig y flwyddyn hon wrth gwrs ond dilynodd hyn gyda ffaith a’m synnodd. Mae jôc yn y byd gwin sy’n aml yn cael ei hadrodd: ‘Sut mae creu ffortiwn fach allan o winllan?’ Ateb: ‘Cychwyn gyda ffortiwn fawr.’ Rwyf o hyd wedi cymryd yn ganiataol fod creu busnes gydag elw da yn gryn her yn y maes yma gyda’r costau cychwynnol uchel; tair i bum mlynedd o aros am y cnwd cyntaf heb incwm, a’r sefyllfa fregus oherwydd pa mor anodd yw darogan ein tywydd. Ond soniodd Robb am ei daith bersonol a’r ymateb i’r syniad o dyfu grawnwin ar y pryd yn adlewyrchu’r gred gyffredinol mae rhyw ‘ffad’ oedd yn hytrach na chynnig busnes o ddifrif. Erbyn hyn, mae’n andros o

glod iddo - ac yn newyddion hynod ddiddorol i’r byd amaeth efallai - ei fod yn gallu dweud fod elw gwell o ddarn o dir a blannwyd â grawnwin o’i gymharu ag unrhyw gnwd arall yng Nghymru. Felly mae’n hanfodol cael gwobrwyon Cymru bob blwyddyn i adrodd a chyhoeddi llwyddiant y maes. Ac am 11yb aeth y beirniad at eu gwaith o flasu a sgorio’r gwin gan ddefnyddio meini prawf rhyngwladol i benderfynu a oes safon aur, arian neu efydd yn eu mysg. Unwaith eto, mae’n bwysig cadw hygrededd y cynnyrch trwy feirniadu’n llym a gyda’r meini prawf rhyngwladol oherwydd y nod yw bod safon aur o Gymru cystal ag un o’r Eidal neu Ffrainc. Yn dilyn hyn, roedd cinio nos i ddatgan a dathlu’r canlyniadau gyda’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, yn cyflwyno’r gwobrwyon. Eleni, cafwyd dwy fedal aur, sy’n dipyn o gamp i ddweud y gwir. Gwinllannoedd Llaethliw a Montgomery enillodd y rhain am eu gwinoedd gwyn. Enillwyd 20 medal arall arian neu efydd gan winllannoedd Conwy, Whitecastle, Parva, Llannerch yn ogystal â Montgomerey a Llaethliw eto. Llaethliw ddaeth i’r brig, yn ennill y brif wobr gyda’i gwin gwyn o’r grawnwin Solaris. Llongyfarchiadau mawr i ddiwydiant gwin Cymru sy’n brysur yn gwneud ei farc. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Gwasanaeth Nadolig Fore Sul, 2 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig Horeb. Trefnwyd y gwasanaeth ‘Mins peis a sbrowts?’ gan Mai Roberts a chymerwyd y rhannau yn y ddrama gan blant yr Ysgol Sul a rhai o’r oedolion. A’r neges ar ddiwedd y ddrama oedd ei bod yn hawdd anghofio mai Gŵyl Gristnogol ydy’r Dolig. Rhaid i ni gofio dathlu – dathlu’r newyddion da o lawenydd mawr a ddaeth i’r holl fyd.

Diolch Ar ran Clwb Cadwgan, dymuna Margaret a Jane ddiolch yn fawr iawn i Lodge Ardudwy RAOB am eu rhodd hael o £225 i’r Clwb.

Bedydd Fore Sul, 16 Rhagfyr, cafwyd gwasanaeth arbennig arall yn Horeb, pan fedyddiwyd Elgan, Mared a Gethin, plant bach Gwynfor a Meinir Evans, Eithin Fynydd gan y Parch Olwen Williams, Tudweiliog. Defnyddiwyd dŵr o Ffynnon Enddwyn i fedyddio’r tri bach.

Teulu Ardudwy I Hendrecoed Isaf yr aethom am ein cinio Nadolig. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i Blodwen (Tŷ’n Wern) sydd wedi ymuno â ni. Roeddem yn falch o weld Lorraine yn ôl gyda ni yn dilyn ei llawdriniaeth. Anfonodd ein cofion at Mrs Cartwright, Miss L M Edwards a Mrs Elizabeth Jones. Diolchodd i London House ac eraill am eu gwobrau at y raffl. Cafwyd croeso cynnes iawn yn Hendrecoed, gwasanaeth da iawn a bwyd ardderchog a phawb wedi mwynhau. Diolchodd Gwennie i’r staff a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Ar Ionawr 16, bydd Mrs Beti Parry, Mrs Elinor Evans a Miss Glenys Roberts yn hel atgofion.

Festri Lawen, Horeb Roedd nos Iau, 13 Rhagfyr yn noson oer a gwyntog iawn ond ar waetha’r tywydd daeth nifer dda iawn i’r festri. Cawsom gwmni dau ddigrifwr o Wyddelwern, sef y ddau frawd, Tudur a Steffan. Mae Tudur yn athro a Steffan yn weithiwr cymdeithasol mewn ysgolion. Fe’u croesawyd gan David Roberts a buan iawn yr anghofiwyd y tywydd yn yr hwyl a’r chwerthin. I ddilyn mwynhawyd bwffe wedi ei drefnu gan Jean, Anwen ac Einir a phawb o’r aelodau wedi cyfrannu at y bwyd. Diolch i chi i gyd. Diolchodd David i Tudur a Steffan am noson gofiadwy. Anfonwyd ein cofion at John Gwilym, ein cadeirydd, sydd yn gwella ar ôl ei lawdriniaeth. Ar 10 Ionawr byddwn yn cael cwmni Tomos Heddwyn Griffiths a’r criw. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Huw a Rhian Dafydd yn eu profedigaeth o golli modryb Huw. Hefyd anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Rhodri, mab Huw a Rhian, sydd wedi cael llawdriniaeth go fawr yn ddiweddar.

8

Diolch Dymuna Ian, Meirionwen, Dai a Jane a’r teulu ddiolch am y cardiau a’r geiriau caredig yn eu colled o chwaer a modryb annwyl, Delyth. Diolch a rhodd £10

Priodas aur Llongyfarchiadau i Ifan ac Anne Lloyd Jones, Byrdir ar ddathlu eu priodas aur ddiwedd Rhagfyr. Diolch Dymuna John Gwilym Roberts, Gorwel ddiolch o galon i bawb am eu galwadau ffôn, cardiau, ymweliadau a’u dymuniadau gorau tra yn yr ysbyty yn ddiweddar. Gwerthfawrogir pob neges. Rhodd £10 Rhoddion Derbyniwyd £21 gan Margaret a Dilys, Ystumgwern; diolch yn fawr iddynt ac hefyd am eu cyfarchion Nadolig i bawb sy’n ymwneud â’r Llais. Hefyd, diolch i Gwenan Owen, Aldwyth Wynne ac Edward Williams am eu rhoddion.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Cydymdeimlodd y Cadeirydd â Mrs Catrin Edwards a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei mam sef Mrs Mary Evans, Plas Cae’r Meddyg, Llanbedr. CEISIADAU CYNLLUNIO Cais ôl-weithredol i ddymchwel y tŷ presennol ac adeiladu tŷ newydd – Dolafon, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Cais rhannol ôl-weithredol i adeiladu adeilad amaethyddol – ‘The Barns’, Ffordd Tyddyn y Felin, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Gosod 5 carafan statig ychwanegol, ail-leoli 1 carafan a thirlunio caled cysylltiol - ‘Barmouth Bay Holiday Village’, Tal-y-bont Dim sylwadau ar y cais hwn nes bydd y Cyngor wedi derbyn mwy o fanylion ynglŷn â’r cais hwn ee ai carafanau statig neu siale fydd yn cael eu gosod yna, hefyd a fydd preswylwyr yn gallu aros ynddynt drwy’r flwyddyn neu rhan o’r flwyddyn? Gosod 2 ffenester dormer ‘Catslide’ - Awelfryn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol i gadw’r adeilad fel y’i adeiladwyd - Nant Eos, Dyffryn Ardudwy. Nid barn y Cyngor Cymuned sydd ei angen ond yn hytrach gwybodaeth bersonol gan Gynghorwyr unigol o ddefnydd y tir yma yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf. MATERION YN CODI Coed Nadolig a goleuadau Adroddwyd bod y goeden Nadolig wedi ei gosod yn Nhal-y-bont a bod Steffan Jones wedi archebu mwy o oleuadau i’w gosod arni. Ar ran y Cyngor, diolchwyd i Mr Stephen Williams, Llwyngriffri a Mr Andrew Paganusi am helpu’r Cadeirydd ac i Steffan Jones ac Edward Griffiths am helpu gyda’r gwaith hyn. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Nid oes cyfarfod o’r uchod wedi ei gynnal ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ond derbyniwyd copi o ddyddiadau cyfarfodydd y dyfodol sef nos Iau, Ionawr 17, Mawrth 21, Mehefin 20 a Medi 19, i gychwyn am 6.00 o’r gloch. Hefyd cafwyd gwybod y bydd y cyfraniad praesept yn £10,365.50 yn y flwyddyn ariannol 2018/19.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


Enoch Powell DIWEDD TRALLODUS ROBERT W ROBERTS, 1912-1988 POSTMON, GYNT O’R BERMO - Rhan 1

Roedd Enoch Powell yn wleidydd diflewyn-ar-dafod ac yn medru siarad Cymraeg yn rhugl; a hynny mewn dull digon hen ffasiwn. Yn 1968, fe rwygodd Gwledydd Prydain gyda’i araith ‘Afonydd gwaed’. Araith oedd honno yn rhybuddio am ganlyniad mewnlifiad, yn enwedig o’r gymanwlad. Clywais sgwrs ar y radio yn ddiweddar gyda’r Arglwydd Elystan Morgan ac roedd yn trafod y diweddar wleidydd dadleuol. Pan ofynnwyd sut un oedd o am sgwrs, dywedodd ei fod yn berson oeraidd a di-sgwrs. Ond roedd ganddo un hanesyn doniol am Enoch Powell yn ymweld â’r barbwr. Gofynnodd y barbwr iddo sut fyddai’n hoffi cael torri ei wallt. Yr ateb annisgwyl gafodd o oedd – mewn distawrwydd os yn bosib. John Williams Hendreclochydd

DYFFRYN ARDUDWY Carolau ‘81 Llond neuadd o bobl yn barod i ganu carolau yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy dan arweiniad Aled Morgan Jones oedd yn ein croesawu wrth gerdded i mewn i Neuadd Dyffryn a Thal-y-bont ar Ragfyr 18. Cafwyd gair o groeso gan y Parch Tony Beacon a’r diolchiadau gan y Parch Stephanie Beacon. Diolchodd yn arbennig i’r Côr am ein harwain mewn canu clod i ddalthlu’r Nadolig, i merched y baned ac i bawb am eu rhoddion at y lluniaeth ac yn enwedig i Mrs Greta Cartwright am ei brwdfrydedd dros y noson arbennig hon ers y cychwyn cyntaf.

Hanai Robert W Roberts o Lanaber, y Bermo. Ei rieni oedd Owen Roberts (1804-58), Llanaber, a Laura Roberts (1810-99), Goetre Isaf, Llanenddwyn. Yr oedd yn frawd i Ellis Roberts, saer maen, Y Bermo; Ebenezer L Roberts (m 1908) yn Tacoma, Washington, ac yno y claddwyd ef. Cyrhaeddodd Silverton yn 1875, lle bu’n cadw siop ddodrefn a nwyddau metel am nifer o flynyddoedd. Yr oedd wedi buddsoddi llawer mewn eiddo a mwyngloddio. Symudodd i Tacoma yn 1901 ar ôl gwerthu ei fusnesau yn Silverton. Brawd hefyd i Gwendolyn Roberts (18561917) a ymfudodd yn 1887. Yr oedd R W Roberts yn ŵr i Jane Griffith (1857-1947) o Ddolgellau, ac yn dad i Laura (1881-1955), Robert, Owen (1883-1963), ac Evan Roberts (1885-1937). Ymfudodd o’r Bermo i Silverton, Colorado, yn Ebrill, 1885, ynghyd â’i fam weddw, ei wraig, a thri o blant. Gwnaeth ei gartref yn San Juan, Silverton. Dyma’i hanes: Ar Ebrill 19, 1886, dechreuodd fwrw ychydig o eira yn nhref Silverton, Sir San Juan, Colorado (poblogaeth yr adeg hynny oedd tua 1,000). Erbyn diwedd y prynhawn yr oedd tua chwe modfedd wedi gorchuddio wyneb y ddaear. Daliodd i fwrw’n drwm drwy oriau’r nos, nes fod yna bump troedfedd o eira wedi disgyn cyn pen deugain awr. Honno oedd un o’r stormydd eira gwaethaf a welwyd gan neb yn yr ardal hyd at yr adeg honno, ond bu yna rhai gwaeth ar ei hôl. Torrwyd pob cysylltiad rhwng Silverton, canolfan fwyngloddio arian bryd hynny, â’r byd oddi allan, pan ddrylliwyd y gwifrau telegram, ac ataliwyd trenau y Rio Grande gan yr eira. Daeth nifer o lithriadau eira i lawr yma a thraw o amgylch y dref, ond ni achoswyd fawr o niwed. Un bore dydd Mawrth o’r mis hwnnw, am wyth o’r gloch y bore,

Gwasanaethau’r Sul Horeb

IONAWR 13 Parch Dewi Morris 20 Parch Christopher Prew, 5.30 27 Anwen Williams CHWEFROR 3 Parch Pryderi Llwyd Jones

R W Roberts

cychwynnodd Robert McNicholas, rheolwr Cwmni Transportation Mears ynghyd â phump o ddynion, yn cynnwys ei hun, Robert W Roberts, postmon a gyrrwr coets fawr, Emmanuel Mayers, James Scoops a Theodore Tilton, gyda 29 o fulod, gyda’r bwriad o gadw ffordd Red Mountain yn agored er gwaethaf popeth; ac yn dilyn hynny, os medrai efo a’i griw fynd drosodd, yr oedd fel mater o raid ar y postmon wrth reswm, er y gallai feddwl mai diawydd iawn oedd R W Roberts i feddwl cychwyn. Mae’n rhaid fod Mr McNicholas wedi treulio digon o amser yn y mynyddoedd hynny (San Juan) i ymatal rhag ymgymryd â’r fath anturiaeth ofnadwy; ond yn hytrach na defnyddio ei synnwyr gadawodd i’w fympwy ffôl ei lywodraethu, yr hyn a brofodd yn angeuol i R W Roberts, 31 mlwydd oed, oedd yn dilyn y tu ôl i’r dynion eraill. Cychwynnodd y pedwar gyda’r anifeiliaid ben bore; yna ar ôl iddo ddeall eu bod wedi cychwyn hwyliodd R W Roberts ei hun i’w dilyn ar eu holau. Daliodd i fyny a chyd-deithiodd gyda hwy. Wedi iddynt deithio yn y modd hwnnw am tua saith milltir o Silverton i gyfeiriad Red Mountain, heb gael fawr o drafferth, clywsant rhyw sŵn mawr, ac ar ôl edrych i fyny, er eu mawr fraw, gwelsant fod yr afalans yn cychwyn am tua 300 o droedfeddi o hyd, a thri chwarter milltir i fyny uwch eu pen, a hwythau yn analluog i ffoi yn ôl na blaen, ond yn gorfod ymdrechu eu gorau am eu bywyd, trwy geisio cadw eu hunain cyhyd ag y gallent uwchben yr eira. Llwyddont i wneud hynny ar ôl brwydro caled, ar wahân i R W Roberts a thua deunaw o fulod, a aeth yn aberth i’r storm. Cyn gynted ag y gwelodd ei gymdeithion ei fod wedi cael ei gladdu yn y pentwr eira, gwaeddont

am gymorth, ac yn y man daeth tua chwech o ddynion allan o gaban Gold Bug gerllaw. Cychwynnont ar eu hymchwiliad gyda brwdfrydedd, ond er eu holl ymdrechion buont wrthi o 11 y bore hyd 4 o’r gloch y prynhawn cyn dod o hyd i gorff R W Roberts, o dan tair troedfedd o eira. Symudwyd ei gorff i gaban Gold Bug lle y gadawyd ef am ddwy noson oherwydd ffyrnigrwydd y storm. Ar y nos Fercher, cychwynnodd pedwar o ddynion, sef Thomas Williams (m 1892), John A James, Joseph Watts, a Robert Neeley, i fyny i’r mynydd, er mwyn dod a’r corff i lawr yn fore y diwrnod canlynol. Cawsant dipyn o drafferth i gyrraedd y caban, fel yr oedd yn 4 o’r gloch yn y prynhawn cyn iddynt gyrraedd yn ôl. Aed a’r corff i Horace Prosser, trefnwr angladdau, ac oddi yno i’w gartref at ei deulu drannoeth, sef Dydd Gwener y Groglith, diwrnod y cynhaliwyd angladd R W Roberts. Aed ymlaen gyda’r gwaith o gloddio am yr anifeiliaid, a daethpwyd o hyd i chwech o fulod yn fyw. Cafwyd hyd i 12 oedd wedi marw, sef colled o $1,200 i Gwmni Transportation Mears. Er nad oedd ond blwyddyn a phedwar diwrnod ers pan ymfudodd R W Roberts a’i deulu i America, yr oedd wedi ennill llawer o gyfeillion. Ar ôl mynd y tu allan i’r dref, yr oedd yn rhaid cael esgidiau eira pwrpasol, ac yna rhoi yr arch ar sled fach er mwyn i’r cludwyr ei llusgo, tra yr oedd eraill yn brwydro eu ffordd trwy yr eira, i gyrraedd Mynwent Hillside. Gwasanaethwyd yn y tŷ yn Gymraeg, ac ar lan y bedd yn Saesneg gan William J Richards (A) m 1906, brodor o Ferthyr Tudful, a ordeiniwyd yn 1868 yn weinidog yn Abererch a Chwilog, Eifionydd. Canwyd emynau Cymraeg gan y gynulleidfa niferus. W Arvon Roberts

9


STRAEON AR THEMA: Eisteddfota Y Band Un Dyn

Pan yn athro ifanc a dibrofiad yn ardal ’Stiniog yn niwedd saithdegau’r ganrif ddiwethaf gofynnwyd i mi ddysgu parti adrodd gogyfer â ‘Steddfod yr Urdd. ‘Y Band Un Dyn’ oedd enw’r darn prawf ac yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi gwneud joban go dda ar ddysgu’r criw brwdfrydig. Yn ystod y cyfnod hwn fe’m ‘penodwyd’ yn ysgrifennydd cylch yr Urdd felly fy nghyfrifoldeb i, ymysg llawer o bethau eraill, oedd trefnu beirniaid ar gyfer yr Eisteddfod Cylch. Yr oeddwn yn hynod o gefnog oherwydd y ffaith i mi lwyddo i ddenu un o hoelion wyth y cyfnod yn feirniad adrodd – yr oedd yn feirniad cenedlaethol. Ar brynhawn yr eisteddfod yr oeddwn wrth y bwrdd yng nghefn y llwyfan yn cadw llygad ar y rhaglen ac yn ysgrifennu tystysgrifau pan ddaeth y beirniad adrodd nid anenwog ataf gan eistedd ddigon trwm yn y gadair wag wrth f ’ochor. Cychwynnodd drafod y gystadleuaeth flaenorol fel petawn yn adroddwr o fri ac yn medru cyfrannu at ragoriaethau neu fethiannau’r cystadleuwyr. Yr oedd reit huawdl ei farn gan ymhelaethu beth, yn ei farn ef, oedd ei angen ar gyfer y gystadleuaeth. Fodd bynnag, cadwodd ei sylwadau mwyaf deifiol ar gyfer perfformiad y parti olaf yn y gystadleuaeth. Yr oedd hwn fel petai wedi mynd ar ei nerfau go iawn. Ni fu iddo ddal dim yn ôl. Tynnodd y perfformiad yn rhacs. Yr oedd ganddo hyd yn oed sylwadau ar hyd y llinellau ‘Pwy aflwydd ddysgodd y parti yna? Di-glem ta be?’ Embaras! Mae’n debyg fy mod wedi cochi at fy nghlustiau ond ni ddywedais air. Fy ‘Mand Un Dyn’ i oedd ganddo dan sylw!! Aflwyddiannus fu ceisio cyrraedd yr Eisteddfod Sir y flwyddyn honno! Dylan Roberts

Yng nghwmni Nain

Yn 1994 yr es i i fy Eisteddfod Genedlaethol gyntaf a minnau ond yn 6 mis oed, ac ers hynny nid wyf ond wedi methu un Eisteddfod - pan fu Nain farw. Mae gennyf atgofion lu, torri fy mraich yn y Bala, 1997 ac ymweld ag Ysbyty Gwynedd ym Mangor, 2005. Ond mae’r atgofion melysaf i

10

gyd yn cynnwys Nain Tŷ Gwyn. Roedd yn Eisteddfodwraig frwd. Byddai’n gadael y garafan ben bore am y pafiliwn gyda’i brechdanau ac yn dod yn ôl pan fyddai’r cystadlu wedi gorffen am y diwrnod. Byddai’n gadael y pafiliwn pan fyddai’r dawnsio gwerin ymlaen er mwyn chwilio am y lle chwech. Roedd yr Eisteddfod yn 2003 yn Meifod ac fe benderfynodd Nain y byddai yn gyrru yno ei hun, ac er mwyn cadw cwmni iddi, cytunais i fynd gyda hi. Roedd Mam, Dad a Rob fy mrawd yn dod y tu ôl i ni gyda’r garafan. Roeddem eisoes wedi penderfynu y buasem yn cwrdd yn Nolgellau i gael brecwast. Wedi brecwast, aeth Nain a minnau yn ein blaenau a throi ym Mallwyd. Ymhen sbel, pwy ddaeth y tu ôl i ni ond Mam yn fflachio ei goleuadau i adael lle i ni gario ymlaen ar ein taith. Yna roedd yn rhaid troi am Meifod. Doedd Nain na minnau ddim wedi gweld car yn dod i’n cwarfod na chwaith yn mynd yr un ffordd â ni. Doedd dim arwydd melyn Eisteddfod yn unman ac fe ddaethom i’r canlyniad ein bod wedi mynd ar y ffordd anghywir. Panig! Doedd dim amdani ond ceisio dod o hyd i le addas ar gyfer troi er mwyn dod o hyd i’r ffordd gywir. Wedi chwilio, daeth Nain i’r canlyniad ei bod wedi darganfod y lle delfrydol i droi. Giât fach wrth ochr ffordd oedd yn eithaf cul. Wedi tua ‘six point turn’, neu chwaneg hyd yn oed, fe lwyddodd Nain i droi ei Rover 25 aur ac fe gychwynasom yn ôl ar y ffordd y daethom arni. Dim ond cwta chwarter milltir i lawr y ffordd yr oeddem wedi mynd a phwy ddaeth i’n cwarfod ond Mam a’r garafan. Roeddem yn mynd y ffordd iawn wedi’r cyfan! Roedd Nain druan yn 79 mlwydd oed yn wynebu yr un picl â’r un yr oedd wedi ei wynebu 3 munud ynghynt. Roedd rhaid dod o hyd i rywle eto i droi er mwyn dilyn Mam a’r garafan am yr Eisteddfod. Iwan Morus Lewis Atal dweud

Yn Eisteddfod Harlech ddiwedd y 70au oedden ni ac Evie oedd yn arwain. Daeth John Morfa Mawr ymlaen i gystadlu ar unawd unrhyw offeryn dan 15 os cofiaf yn iawn. Chwythu’r corn oedd o, ond rhaid bod ei wefusau yn brifo achos chafodd o ddim llawer o hwyl arni. Cysurwyd ef gan Evie

gyda, ‘Doedd dim bai arnat ti John, rhyw hen atal deud oedd ar y corn yntê!’ PM

Picnic Ym Mangor, 2005, roedd Nain eto wedi penderfynu mynd â’i char ei hun yn hytrach na mynd gyda Mam a’r garafan. Roedd Mam a Nain wedi trafod faint o gloch yr oedden nhw’n bwriadu cychwyn 11:00 y bore o’n tŷ ni gan obeithio y byddai ar faes y carafanau erbyn amser cinio. Fe benderfynodd Nain ei bod hi a minnau yn mynd i gychwyn am 10:00 y bore. Doeddwn i ar y pryd ddim yn deall o gwbl pam ein bod ni eisiau cychwyn awr o flaen Mam. Pam ddylen ni fod ar faes y carafanau o leiaf awr cyn Mam? Daeth y rheswm yn glir pan ddaru Nain droi am Safeway (Morrison erbyn hyn) yng Nghaernarfon. Roedd Nain wedi penderfynu ein bod ni yn mynd i gael picnic ar y ffordd. Felly dyma brynu brechdanau, creision, siocled, popeth o dan haul a dweud y gwir ac i ffwrdd â ni. Hyd y gwn i, mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd am bicnic wrth ochr afonydd, ar lân y môr neu barc efallai, ond nid Nain. Roedd Nain wedi penderfynu mai’r lle perffaith i gael picnic oedd yn y gilfan gyntaf ar dop ffordd osgoi’r Felinheli. Rheswm Nain am hyn oedd ein bod yn gallu cael picnic yn y car ac yna disgwyl i Mam yrru heibio ni gyda’r garafan fel ein bod ni yn gallu ei dilyn hi i mewn i’r maes carafanau, ac felly y bu. Wedi gorffen y picnic fe daniodd Nain y car yn barod i ddisgwyl am Mam. Roedd Nain yn barod i gychwyn fel petai ar linell gychwyn ‘grand prix’. Pan ddaeth Mam i ben y ffordd osgoi, fe ruthrodd Nain allan yn syth ar ei hôl heb edrych os oedd car yn dod ai peidio! Roedd llawer iawn o hwyl i’w gael gyda Nain. IML

Addewid eisteddfodwr ifanc Eisteddfod Brynaman 1963 oedd yr achlysur a minnau yn aelod o dîm siarad cyhoeddus Ysgol Ramadeg Hendygwyn-arDaf. Cyffrous oedd cyrraedd y rownd derfynol a theithio i Ysgol Uwchradd Brynaman i herio tîm o Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Y beirniad oedd I B Griffith, Caernarfon. Cynhaliwyd y ffeinal, os cofiaf yn iawn, ychydig amser cyn wythnos yr Eisteddfod ei hun.

Tri oedd yn y tîm, sef cadeirydd (fi), un i siarad ar y testun gosod a’r llall i gynnig pleidlais o ddiolchgarwch. Bu I B Griffith yn garedig yn ei sylwadau ac mi gefais ambell dic yn y blychau cywir am lywio’r gweithgareddau. Tybiaf y byddem wedi codi’r cwpan oni bai fod gan Ysgol Dyffryn Conwy un siaradwr huawdl. Cofiaf i’r beirniad ddweud amdano y byddai yn datblygu i fod ‘yn goblyn o siaradwr da os na fyddai wedi siarad ei hun i ben cyn hynny’. Profodd y blynyddoedd mai rhan gyntaf proffwydoliaeth I B a wireddwyd. A phwy oedd yr hogyn chweched dosbarth llawn addewid? Neb llai na Dafydd Elis Thomas. Ray Owen Crystiau Bu’r arweinydd yn llywio Cyfarfod y Prynhawn yn yr Eisteddfod am flynyddoedd maith ac yn adnabod y plant yn dda. Doedd yr arweinydd ddim yn un cryf ei stumog ar y gorau ac fe allai gyfogi ar y peth lleiaf. Hebryngodd y ferch fach i’r llwyfan a hithau’n cnoi rhywbeth yn o arw. Yn barod i berfformio, tynnodd y rhywbeth o’i cheg ac agor llaw’r arweinydd a dweud wrtho, ‘Edrych ar ôl hwnna i mi nes y byddaf wedi gorffen.’ Beth gafodd o ganddi? Llond llaw o grystiau! Olwen Jones Eisteddfod hwyr Cofiaf fynd i Eisteddfod Llanfachreth efo’r Côr; tua 1976 oedd hi. Meirion Williams oedd yn beirniadu’r canu ac roedd o mor boblogaidd, roedd yno ddegau o gantorion eisiau beirniadaeth ganddo, a hynny ar yr unawd Gymraeg a’r her unawd! Roedd hi’n oriau mân y bore pan ddaethon ni adref. Dywedodd y diweddar Robin Griff, Chwarel Hen, Llanfair wrthyf ei fod wedi mynd yn syth i odro ar ôl cyrraedd adref! PM

Gwobrau eisteddfodol Dwy wobr sydd i bob cystadleuaeth mewn Steddfod meddan nhw. Y wobr gyntaf a chael cam! DR Y TESTUNAU NESAF: Chwefror: Canu Mawrth: Cadw ymwelwyr Ebrill: Garddio Mai: Gwyliau


RHAGOR O STRAEON AR Y THEMA EISTEDDFOTA

Y BERMO A LLANABER

Y Gymdeithas Gymraeg Y gŵr gwadd ar ddechrau’r flwyddyn newydd oedd Phil Mostert. Cawsom hanes Meibion Ardudwy dros y blynyddoedd y bu’n aelod o’r Côr - sef o 1975 hyd heddiw. Bu’n trafod sut y mae’n cyflwyno rhaglen y Côr o flaen cynulleidfaoedd amrywiol - weithiau cynulleidfa cwbl Gymraeg, yn aml sefyllfa ddwyieithog, ac ar dro Ar ddiwedd mis Hydref, bu cynulleidfa mewn gwlad dramor. farw’r Parchedig Ddoctor Owen Rhannodd hefyd rhai o’i stôr Ellis Evans, yn enedigol o’r helaeth o straeon amrywiol. Bermo, yn dawel yng nghwmni Wedyn bu’n sôn am droeon ei deulu. trwstan yng nghmwni nifer o Roedd yn academig uchel iawn gymeriadau’r Côr. ei barch ac ef oedd cyfarwyddwr Tua diwedd ei gyflwyniad, cyfieithiad newydd y Beibl soniodd Phil am werthiant Cymraeg o 1994 hyd 1997. recordiau a chryno ddisgiau’r Yn 97 mlwydd oed, roedd Côr. Does yr un ohonyn nhw ar erbyn hyn wedi ymgartrefu yn gael y dyddiau hyn onibai eich Llanfairpwll, Ynys Môn. bod yn eu dadlwytho o ‘iTunes’ neu raglenni tebyg i ‘Spotify’. Eglwys Crist Gallwch brynu eu record gyntaf Ar fore dydd Nadolig cafwyd yn ail-law am oddeutu £13! oedfa deuluol hyfryd dan ofal Diolch i Phil am noson hwyliog Mr Raymond Owen. Cawsom a chartrefol. Hwyrach cawn glywed geiriau carol o waith ddarllen am hanes Côr Meibion Huw Dylan a chyda geiriau Ardudwy yn Llais Ardudwy yn y amserol iawn gan gofio’r holl dyfodol. Criw o ferched o’r ardal hon wallgofrwydd sydd yn ein byd Bydd ein cyfarfod nesaf ar y Ers blynyddoedd, mae yna faes carafanau a phebyll hwylus i bawb yn yr heddiw. Roedd yr anerchiad yn Eisteddfod Genedlaethol lle bynnag y bo a braf iawn ydi hi yno hefyd. cyd gyda Merched y Wawr, sef ein hannog nid yn unig i gael Amser maith yn ôl, cyntefig oedd hi ar y meysydd yma a dweud y lleiaf Noson Dramâu yn y Parlwr Nadolig Llawen ond Nadolig a digon amrwd oedd pabell ambell un! Felly oedd hi ar griw o ferched Mawr yn Theatr y Ddraig ym Llawn hefyd yng nghariad Crist. Ardudwy yn Eisteddfod y Bala ym 1967. Gofyn am fenthyg pabell mis Chwefror - dyddiad i’w Diolch arbennig i’r bobl ifanc am frown Sioe Gŵn Dyffryn am wythnos i fod yn gartref i griw ohonom gadarnhau. Croeso cynnes iawn eu presenoldeb; maent yn rhoi fel Margaret Jennings (Traws erbyn hyn), Heulwen P Williams, Hendre i bawb. Eirian, (Llanbrynmair), Lisbeth Richards Penisarcwm (Llithfaen), Megan gobaith i’r dyfodol. Ffyddlondeb Am flynyddoedd lawer bu ‘Eisteddfod Fach’ mewn pentref pan oedd y dynion yn cystadlu yn erbyn y merched. O du’r dynion, byddai ymarfer dygn am sawl wythnos yn nhŷ’r arweinyddes. Os holai gwraig lle byddai dyn y lle yn mynd wedi ’swylio, yr ateb geid oedd ‘Picio lawr i Ffridd’ a bys ar y trwyn. Ni châi neb wybod beth fyddant yn ganu, adrodd nac actio tan noson yr Eisteddfod. Hwyrach y byddai holi am ffrogiau, teits a wigs ac ambell frwsh neu fwced ond dyna’r cwbwl. O du’r merched, byddai gwybodaeth agored os byddai mynd i lawr i’r Neuadd i ymarfer. Cafwyd Bandiau’r Gegin a’r dynion mewn sgertiau a phob math o offer creu sŵn. Cystal oedd y merched bob tro ond y dynion ai â hi yn aml. Gwelwyd nhw hefyd mewn Parti Canu wedi’u gwisgo mewn ffrogiau a teits fishnet. Cofiaf y dillad ond nid wyf yn cofio pa ddarn a ganwyd. Dro arall, bu iddynt gystadlu ar ddarn o farddoniaeth Gerallt Lloyd Owen - ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’ - a gwneud argraff. Yr un a fu wrthi’n ddiwyd hefo nhw oedd Hywel Edwards, tad Bet Roberts, Ysgubor, Llanfair. Roedd o bob amser ag anogaeth ac amynedd. Daeth amser pan oedd yr Arweinyddes yn gwanhau oherwydd oedran ond yn dal mor benderfynol ag erioed o arwain y ‘bechgyn’ ’ma hefo’r Parti Canu. Cymaint oedd ei dycnwch, fel am y tro olaf ond un roedd y sawl oedd reit o’i blaen yn y parti yn gymydog agos iddi ac yn dal y copi iddi hefyd. Y flwyddyn ddilynol a’r tro olaf iddi arwain, daliodd ei chymydog y copi iddi a’i dal hithau gerfydd ei garddwrn i’w helpu a’i sadio a’i chadw ar ei thraed. Ymhen oddeutu hanner blwyddyn daeth y postmon heibio’r cymydog a gofyn iddo fynd lawr i gartref yr Arweinyddes hefo fo gan nad oedd wedi cael ateb yno. Aeth y cymydog i’r tŷ wedi i frawd dall yr Arweinyddes agor y drws iddo a dweud wrtho am fynd fyny i lofft ei chwaer. Yno, tu ôl i’r drws roedd yr Arweinyddes wedi disgyn. Cododd hi’n ôl ar y gwely. Bu farw ymhen tair wythnos. Oedd, roedd y ddau yn deall ei gilydd yn reit dda fel cymdogion. Olwen Jones

Thomas, Faeldre (Llanfyllin), Meinir Jones Pugh (Penrhyndeudraeth), Jean Jones, Talsarnau (Bontddu), Ann Wynne, Meifod (Bryncrug), Gweneth Lloyd, Lasynys (Caerdydd), ac Olwen Jones ’Rynys (Dinas Mawddwy). Nid oedd John Pensarn, fy nhad, yn deall wir beth oedd ar ein pennau eisiau gwneud y fath beth! Sachau cysgu gan bob un ond heb esmwythder oddi tanom ond gwair! Coginio popeth ar stôf fach nwy ac hyd yn oed yn llosgi’r pys a dwy athrawes goginio y dyfodol yn ein mysg! Berwi dŵr i ymolchi ac un neu ddwy â ffrindiau yn stryd y Bala i allu mynd atynt am olchfa iawn! Rhai ohonom yn rhy ifanc i fynd fewn i dai tafarnau ond roedd modd cael diod yng nghanol y dorf enfawr tu allan yng nghanol yr holl firi. Canu yn y stryd a phawb yn gwybod caneuon Dafydd Iwan a thân yn ein boliau dros Gymru a’r Iaith. Byddai cyngherddau am 8 o’r gloch ac yna byddai Dawns Werin neu Noson Lawen yn cychwyn am 10 o’r gloch yn Neuadd Bentref Llandderfel lle buom yn chwarae Ciwpid ac Ann Meifod yn dawnsio hefo Arwyn Bryn Erwest! Mwy o atgofion am y ceiliog yn cael ei bluo’n fyw a hen feic rhydlyd yn cael ei wthio i mewn i’n pabell na llawer ddigwyddodd yn yr Eisteddfod ei hunan. Ond cael gwefr aruthrol o fod yn rhan o Barti Llefaru yn y cyngerdd Culhwch ac Olwen ac wedi’n dysgu gan Silyn Hughes. Y côr anferth o Feirionnydd yn canu yn wych. Bu yna stiwardio dipyn yn y Bala hefyd. Wythnos anhygoel o hwyliog a ddeil yn hir yn y cof. OJ

Cafwyd ymateb calonogol y tro hwn. Cofiwch am straeon am ganu ar gyfer y rhifyn nesaf. Diolch, diolch yw fy nghân. [Gol.]

Marwolaeth

Y Gymdeithas Gymraeg Mwynhawyd noson arbennig yn Eglwys Crist, Y Bermo, ar Ragfyr 5ed yng nghwmni Parti Merched Lliaws Cain o Drawsfynydd, a’u harweinydd Cellan Lewis, Dolgellau. Cafwyd amrywiaeth o ganeuon ganddynt gyda naws Nadoligaidd hyfryd a’r Eglwys wedi ei haddurno’n hardd. Cafwyd lluniaeth blasus ac orig ddifyr yn y festri ar ôl y Cyngerdd. Cychwyn gwych i ddathliadau’r Ŵyl. Llawer o ddiolch i bawb am eu cyfraniadau. Arwydd Llongyfarchiadau i’r Cyngor Tref ar osod yr arwydd, Nadolig Llawen Abermaw mewn lle mor amlwg yn y dref.

Côr Meibion Ardudwy Yn ôl ‘iTunes’ dyma yw deg uchaf Côr Meibion Ardudwy: • Si Hei Lwli Mabi • Gwalia • Mangwane Mpulele • Aus Der Trauber • Yma Mae Nghalon • I’se Weary O’Waitin • Yn ôl i’r Hen, Hen Fro • Cekolina • Island in the Sun • Una Paloma Blanca Gellir lawrlwytho unrhyw un o’r caneuon a’u hychwanegu at eich casgliad eich hun am £0.79. Dyna wna pobl ifanc heddiw, dydyn nhw ddim yn prynu CD gyfan - maen nhw’n dewis caneuon unigol ac yna yn creu casgliad ar amrywiaeth o ddyfeisiadau digidol - gan gynnwys eu ffôn symudol rhyfedd o fyd!

11


RHOD Y RHIGYMWR Iwan Morgan Mae diwedd Rhagfyr yn gyfnod ymweld â chyfeillion yn nhref ‘An Daingean’ [Dingle, de orllewin Swydd Kerry, Gweriniaeth Iwerddon] ar fy nghyfeillion Phil a Bryn a minnau. Bu inni fynd â char drosodd sawl gwaith yn y gorffennol, ond ar ôl teithio ar y fferi dros nos o Gaergybi, cymrwn drên rŵan o orsaf Heuston, Dulyn, i lawr drwy Port Laoise a Thurles i Mallow, Swydd Corc, pryd y bydd Bili, sydd bellach yn byw’n rhan-amser yn yr Ynys Werdd, yn ein codi a’n cludo’n ei gerbyd am gwta ddwyawr arall i Dingle. Er mor flinedig a hir y daith, a ninnau’n mynd yn hŷn mewn oedran, mae’r croeso a gawn yno’n un gwresog. Profiad a gawsom ym mhellafoedd Swydd Kerry yn ystod y tridiau a dreuliwyd yno rhwng y Nadolig a’r Calan a symbylodd y sylwadau a ganlyn. Cytunem mai’r duedd ydyw i ni glywed canu carolau ar y cyfryngau’n dod i ben ar ddydd Nadolig. Ymddengys fod yr un peth yn wir yn Iwerddon. O gofio bod Cymru a’r Ynys Werdd yn gefndryd Celtaidd, arweiniodd hynny ni i gwestiynu ‘Pa un o’r ddwy wlad a feddai’r garol hynaf?’ Fe allwn ni’r Cymry fynd yn ôl i’r Oesoedd Canol, pryd yr oedd hi’n arferiad gan Feirdd y Tywysogion brofi’r croeso’n y llysoedd, a hynny am ganu cerddi o fawl i’w noddwyr, mewn iaith hynafol ac arddull gywrain – cerddi oedd yn anodd i’w deall yn amlach na pheidio.

Detholiad o ‘Geni Crist’ - Madog ab Gwallter ‘Mab a’n rhodded, Mab mad aned dan ei freiniau, Mab gogoned, Mab i’n gwared, y Mab gorau, Mab Fam Forwyn grefydd addfwyn, aeddfed eiriau, Heb gnawdol dad, hwn yw’r Mab rhad, rhoddiad rhadau. Cawr mawr bychan, cryf, cadarn, gwan, gwynion ruddiau, Cyfoethog, tlawd, a’n Tad a’n Brawd, awdur brodiau, Iesu yw Hwn a erbyniwn yn ben rhïau, Uchel, isel, Emaniwel, mêl meddyliau. Geni Dofydd yng nghaer Dafydd yn ddiamau Nos Nadolig, nos anhebyg i ddrygnosau; Nos lawenydd i lu bedydd, byddwn ninnau! Pan aned Mab, Arglwydd pob Pab, popeth piau.’ Fe ddylen ni fel Cymry Cymraeg ymfalchïo fod y geiriau uchod [ar wahân i rai ymadroddion] yn rhai y gallwn eu deall heddiw - dros saith canrif yn ddiweddarach. Dyma drawsgrifiad o’r penillion a ddetholwyd: ‘Mab a roddwyd i ni, Mab a aned yn freintiedig – Mab gogoniant, Mab i’n gwaredu, y Mab gorau; Mab i fam forwyn, addfwyn ei chrefydd, aeddfed ei geiriau; Heb dad o gnawd, hwn yw’r Mab grasol, rhoddwr bendithion. Cawr mawr bychan, Mab y cryf cadarn gwan, gwyn ei ruddiau, Mab cyfoethog tlawd, ein Tad a’n Brawd, awdur barnedigaethau; Iesu yw hwn a dderbyniwn yn ben brenin, Mab dyrchafedig gostyngedig, Emaniwel, meddyliau mêl.

Ond o’r cerddi sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwnnw, fe gadwyd un oedd yn drawiadol o wahanol i’r lleill – un sydd, yn ôl un ysgolhaig, ‘ar ei phen ei hun yn ei symlrwydd a’i melyster sain, ei thynerwch, a’i thlysni ffres.’

Geni Arglwydd yn ninas Dafydd yn ddiamau; Nos Nadolig: nos annhebyg i nosweithiau drwg, Nos lawenydd i lu gwledydd Cred: byddwn ninnau lawen, Noson y ganed Mab sy’n Arglwydd ar bob Pab – ef piau pob peth.’

Cân Nadolig ydy honno – o bosib yr un hynaf y gwyddom amdani’n ein hiaith. Fe’i cyfansoddwyd adeg teyrnasiad Llewelyn y Llyw Olaf, gan un a hanai o ochrau Llanfihangel Glyn Myfyr, ger Cerrigydrudion – Madog ab Gwallter [mynach a berthynai i Urdd y Brodyr Llwydion].

Aeth y sgwrs ymlaen wedyn i drafod y carolau hyna’n yr Iaith Wyddeleg. Tybiai un o’r cwmni mai ‘Carül Loch Garman’ [y ‘Wexford Carol’] ydyw. YYmwneud â Genedigaeth Iesu wna honno hefyd. Ar un adeg, credid fod yr alaw’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, ond mae amheuaeth ynglŷn â hynny bellach. Clywodd y cerddor William Grattan Flood [1859-1928], oedd yn organydd a chyfarwyddwr cerdd yn Eglwys Sant Aidan, Enniscorthy, Swydd Wexford un o hen drigolion yr ardal honno’n ei chanu, ac fe fu iddo ei thrawsgrifio. Credir fod y geiriau dipyn hŷn na’r alaw – mae’n bosib mai o’r 16eg ganrif. ‘Ó, tagaig’ uile is adhraigí n leanbh cneasta sa chró ‘na luí ...’

Cerdd ar un o fesurau cynharaf ein barddoniaeth ydy cerdd y Brawd Madog, ‘y rhupunt byr’ – a chyda’r holl odli a chyseinedd sy’n rhedeg trwyddi, mae’n gerdd hyfryd o bersain. Ond er ei chywreinrwydd mydryddol, llwydda’r bardd i adrodd hanes Geni Crist yn syml a gafaelgar o gam i gam. Mae’n cadw’n bur glos at yr hanes Beiblaidd, heb grwydro i fyd y chwedlau niferus a dyfodd o gwmpas y Geni. Ers sawl blwyddyn bellach, byddaf yn cyflwyno detholiad o’r hen garol yma ar gerdd dant, a hynny ar un o’n hen geinciau traddodiadol – ‘Bedd Dafydd Gam’. Un o elynion Owain Glyn Dŵr oedd Dafydd Gam – bonheddwr o Sir Frycheiniog neu Sir Fynwy a laddwyd tra’n ymladd dros Harri’r Pumed, brenin Lloegr, ym Mrwydr Agincourt ym 1415. Yn digwydd bod, roedd gen i recordiad a wnes o garol Madog ap Gwallter yn 2014 ar fy ffôn fach, a bu criw ohonom yn gwrando arni o gwmpas y tân yn nhŷ Paddy Bawn Brosnan. Sylwadau un o’r Gwyddelod oedd: ‘Beejesus, we’ve just heard a Welsh carol from the 13th century being sung on a 21st century I-phone!’

12

‘Good people all, this Christmas time, consider well and bear in mind What our good God for us has done in sending his beloved son, With Mary holy we should pray to God, with love, this Christmas day ...’ Dymuniadau gorau am flwyddyn newydd fendithiol i’r darllenwyr oll.

IM

Erthygl a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro yw’r uchod. Tybiais y buasai o ddiddordeb hefyd i ddarllenwyr Llais Ardudwy ac afraid dweud i Iwan gytuno ar unwaith i ni gael ei defnyddio. Diolch Iwan. [Gol.]


O’r Geiriadur: sboncen

O DEUED ETO

pob Cristion’ yn syml a thaclus fel y gweddai i hen garol a genid gan y werin yn eu Swyddogaeth Geiriadur Prifysgol Cymru yw cofnodi a disgrifio plygeiniau, ond roedd y dôn ar datblygiad geiriau dros amser. Nid ydym byth yn bathu geiriau newydd fin gwisgo diwyg dipyn yn fwy – mae yna sefydliadau eraill yn gyfrifol am hynny, megis Canolfan ffansi. Bedwyr. Sut mae mynd ati i fathu term neu air newydd? Mae rhai Cyhoeddwyd y ‘Llyfr Emynau geiriau yn amlwg yn fenthyciadau o’r Saesneg ee abacws, datwm, ac a Thonau y Methodistiaid eraill yn gyfuniadau o elfennau sy’n bodoli eisoes ee gliniadur, cadCalfinaidd a Wesleaid’ yn drefniad, ond mae ’na ambell un sy’n fwy creadigol! Mae llawer o bobl yn cadw’n iach drwy chwarae sboncen, sef, yn ôl y 1929 ac fe gafodd ‘O deued Geiriadur, ‘Gêm i ddau neu bedwar o chwaraewyr a chwaraeir â racedi pob Cristion’ le yn hwnnw yn a phêl rwber fechan a fwrir yn erbyn waliau cwrt caeëdig’. ‘Squash’ un o dair yn unig yn yr adran yw’r enw Saesneg ar y gêm, ac mae’r gyfrol Termau Chwaraeon 1965 garolau. Aildrefnwyd y dôn ar yn cynnig cadw at hynny, a Geiriadur Termau 1973 yn cynnig ‘sgwas’. gyfer y casgliad gan J T Rees a O ble felly daeth yr enw sboncen? Yn ôl Dr M P Bryant-Quinn, rhoddwyd enw iddi, sef ‘Olwen’. gofynnwyd i’r Athro Stephen J Williams gymreigio’r enw gan banel Brodor o Ystradgynlais, yn yr cyfieithu termau y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Yr oedd yn ysgolhaig o hen Sir Frycheiniog, oedd John fri a ddyfeisiodd gannoedd o dermau Cymraeg, yn enwedig ym maes Thomas Rees (1857-1949) ac fel chwaraeon. Bu farw ym 1992, ac mae coffadwriaeth iddo gan D Ben yn hanes Caradog Roberts bu’n Rees yn sôn am ŵr bywiog, cyfeillgar a chymdeithasgar. Mae’n debyg Y tro diwethaf, cawsom olwg rhaid iddo yntau roi’r gorau ei fod hefyd yn un arbennig o dda am ddweud stori, a dyma’r hanes ar yr hen garol ‘O deued pob i addysg ffurfiol yn gynnar adroddwyd ganddo am fathu’r enw sboncen. Cristion’. Wedi derbyn y gwahoddiad i gymreigio’r enw, fe aeth yr Athro a throi allan i weithio. Bu’n Williams i’r gampfa i wylio pobl yn chwarae’r gêm. Wrth iddo syllu Y llyfr emynau cyntaf yr gweithio fel glöwr yng Nghwm o’r oriel a gwrando ar y belen yn taro yn erbyn wal y cwrt ac yn ymddangosodd y garol ynddo Rhondda a lleoedd eraill. ond rhybedian, daeth y gair sbonc, yn yr ystyr adlam, i’w feddwl, gyda sŵn oedd Caniedydd 1921, sef ni adawodd i amgylchiadau y gair Cymraeg yn cyfateb yn union i’r hyn yr oedd yn ei glywed wrth llyfr emynau yr Annibynwyr. anffafriol ei lethu. Wedi ennill i’r gêm fynd rhagddi. Atodi’r terfyniad -en wedyn, a dyna greu’r gair! Roedd yr hen alaw wedi ei gradd yn Toronto, bu’n dysgu Esiampl dda o enw yn dynwared y weithred mae’n cyfeirio ati, a chynganeddu ar gyfer pedwar cerdd yn yr Unol Daleithiau. chipolwg ddifyr ar y broses o fathu enwau. Gyda’r gaeaf ar y trothwy, llais fel tôn gyffredin i’r oes Yn nes ymlaen yn ei yrfa, bu’n a’r nosweithiau’n medru bod yn hir, cymrwch y cyfle i bori yn GPC sef soprano, alto, tenor a athro cerdd yn Nhregaron ac Ar Lein gan gofio am yr hanesyn bach hwn a chwilio am enghreifftiau bas. Gwnaed hyn ar gyfer wedyn yng Ngholeg y Brifysgol, tebyg: http://gpc.cymru y ‘Caniedydd’ gan Caradog Aberystwyth. Trefnodd lawer Roberts (1878-1935) ac fe o donau ar gyfer casgliad wnaeth yr un gwaith i lawer 1929 a chyfansoddodd lawer o o hen donau yn y casgliad, yn donau gwreiddiol. Un ohonynt ogystal â darparu sawl tôn o’i yw ‘Llwynbedw’, sef y dôn y waith ei hun. Mae llawer o’r byddwn yn canu`r geiriau, rheini yn dal yn boblogaidd ‘Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon’ heddiw fel ‘In Memoriam’ a arni. ‘Rachie’. Pan aeth J T Rees ati i drefnu Ganwyd a magwyd ‘Olwen’ ar bedwar llais, fe aeth Caradog Roberts yn dros ben llestri. Mae’r trefniant Rhosllannerchrugog yn yr yn glamp o un cymhleth. Mae’r hen Sir Ddinbych. Mae’n siŵr pedwar llais yn rhedeg i fyny bod ei rieni wedi gobeithio y ac i lawr, yn enwedig felly y bas byddai yn gerddor da. Cafodd druan. ei enwi ar ôl Caradog, na, nid Yn wir, mae’r trefniant yma yr hen bendefig o Frython wedi bod bron a lladd amal un ond yr arweinydd corau mawr ac mae angen baswr go lew i enwog aeth â chôr o 456 o daclo`r hen ‘Olwen’! Dde Cymru i ganu i’r Palas Pan ddaeth ‘Caneuon Ffydd’, Grisial yn Llundain a synnu’r trefniant Caradog Roberts a byd gyda gallu’r Cymry i ganu fabwysiadwyd ac aeth yr enw mor swynol. Cychwynnodd ‘Olwen’ ar goll hefyd. Caradog Roberts ei yrfa fel saer JBW coed ond mynnodd addysg a hyfforddiant cerddorol. Erbyn diwedd ei oes gymharol fer ef oedd cyfarwyddwr cerdd Coleg y Brifysgol, Bangor. Bu yn gymwynaswr mawr i ni fel Cymry a’i ddylanwad ar emyn donau i’w deimlo o hyd. Mae ei drefniant o ‘O deued

SAMARIAID LINELL GYMRAEG 0808 1640123

13


HYSBYSEBION

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 GALLWCH HYSBYSEBU YN Y BLWCH HWN AM £6 Y MIS

14


STRAEON EMLYN RICHARDS

Bûm yn ailddarllen rhai o gyfrolau Emlyn Richards yn ddiweddar. Mae’n wyneb adnabyddus, wrth gwrs, ac yn llenor da. Dywed Cen Williams amdano, ‘Mae’r cyfan wedi’i gyflwyno mewn iaith y mae Cymry’r gogledd, yn werin a dosbarth canol dysgedig, yn ei deall - Cymraeg sy’n agos iawn at y llafar, ond y llafar urddasol.’ Dyma ichi damaid i aros pryd o ambell i gyfrol. Ewch i chwilio amdanyn nhw efo’r tocynnau llyfrau gawsoch chi dros y Nadolig! O’r llyfr ‘Yr Ardal Wyllt’ Fe gredid bod rhinwedd neilltuol mewn tail ceffylau ac fe wneid defnydd cyson ohono fel moddion i wella gwahanol anhwylderau ar anifeiliaid. Un ohonynt fyddai’r ‘sgoth wen’ ar lo. Cleddid y llo yn y domen a dim ond ei ben allan! Clywsom am gladdu’r mochyn a ‘blaen ei drwyn yn sticio allan’, ond claddu’r llo er mwyn iddo fyw a wneid! Gadewid y llo yno, yn dyhefod yn y gwres. Er mor ddoniol y moddion fe weithiai’n ddi-feth, ac achubwyd llawer llo rhag y bedd.

‘Porthmyn Môn’ Yn ddiddorol iawn, yn Gymraeg yr arwerthai John Rowlands [John Bodgynda, Brynteg] bob amser, a gwnai hynny yn llithrig a llyfn ... Tra oedd John wrthi’n gwerthu corlanaid o ddefaid un tro, galwodd rhywun arno - ‘Faint o ddannadd sydd ganddyn nhw?’ Fel ergyd atebodd yr ocsiwniar - ‘Mae ganddyn nhw fwy nag sydd gen ti.’ Holodd un arall pan werthai John Rowlands hwch dorrog - ‘Pa bryd y daw hi â moch?’ ‘Gynta byth ag y medar hi!’ meddai’r arwerthwr. Ar achlysur arall gwerthai hwyaid, gryn ddeg i ddwsin a cheiliog yn ei plith. Gan fod yna Saeson yn dangos diddordeb yn yr adar byddai raid troi i’r Saesneg. Ymddangosai’r dasg yn ddigon hawdd. ‘How much for the ducks?’ gofynnodd John, a dyna hi’n nos arno. Plygodd at gydnabod yn ei ymyl, ‘Be gebyst ydi ceiliog chwiadan yn Saesneg, dŵad?’ ‘Drake,’ meddai hwnnw, er mwyn rhyddhau’r

ocsiwniar mud. ‘Paid a rwdlian,’ meddai John gan gredu’n siŵr fod y cyfaill yn tynnu’i goes. Dewisodd ei gyfieithiad ei hun: ‘How much for the ducks and the ducker?’ ‘Rolant o Fôn’ Gan fod potsio yn fywoliaeth i sawl un ym Môn yn y gorffennol, fe ymddangosant yn gyson yn y llys. Ar un achlysur, a Rolant ar ei orau yn achub cam un o botsiars mwyaf adnabyddus yr ynys, pwysleisiodd mai helfa fechan iawn oedd gan ei gyfaill y noson y daliwyd ef. Tra oedd yr amddiffynnwr yn dyfalu am ryw rinwedd yn y potsiar druan, fe dorrwyd ar ei draws gan Glerc y Llys, a fynnai atgoffa’r fainc o gyn-droseddau’r potsiar - yr oedd rheini’n rhaffau o hyd. Dechreuodd y clerc ddarllen y cyn-droseddau, a’r cyfan ohonynt yn ymwneud â photsio. Gwrandawai’r ynadon gan synnu fod yna gymaint ag un ffesant ac ysgyfarnog ar ôl ym Môn. Torrodd cwestiwn y cadeirydd ar draws y clerc, ‘Well, Mr Jones, what can you say now about this man?’ Cododd Rolant yn bwyllog gan ateb, ‘I think you should deal leniently with him, My Worship; he is, after all, one of the best customers of the Court.’ Rhyddhawyd y potsiar. Pwy fu yma...? Tuedda pobl Llŷn i droi pob lle yn ‘gynefin siarad’. Cafwyd

cynefin newydd ar ôl 1948, sef meddygfa’r doctor - yr enw yn Llŷn fyddai’n syml, ‘Tŷ Doctor’. Yr oedd hwn yn fan delfrydol gan y deuai iddo bobol o gylch eang i uno â’i gilydd yn adar o’r unlliw. Y Sarn, Pengroeslon, y Rhiw, Porth Neigwl a Nanhoron - dyma filltir sgwâr y cleifion hyn. Gan nad oedd neb yn mendio mi roeddent yn cyfarfod yn gyson. Mae sôn i un o’r criw ofyn un bora, ‘Lle mae Huw heddiw?’ Atebodd cyfaill iddo’n gwbwl ddibetrus, ‘Tydio ddim hanner da heddiw!’ Fu erioed feddyg haws mynd ato fo na Doctor Jôs a thueddai pobl i gymryd mantais arno yn hyn o beth... Cyfarfu â dyn o’r Sarn wrth Gongl-y-meinciau, cartref Ellis Roberts y saer. ‘Mi rydw i’n bur wael, doctor,’ meddai’r dyn. ‘Mae fy ngwres i dros gant a phump.’ ‘O!’ meddai’r meddyg, ‘well i chi alw efo Ellis Roberts i gael arch; nid doctor ydach chi isio yn y cyflwr yna!’ Dro arall daeth gŵr ifanc a’i nain drosodd o Ynys Enlli at y doctor yn Aberdaron. Yr oedd Doctor Jôs yn disgwyl amdanynt. Sibrydodd yr ŵyr yng nghlust y doctor: ‘Peidiwch â mynd i ormod o gostau efo hi, gan ei bod hi mewn oed mawr.’ Dro arall galwyd ef ar noson o eira i fwthyn ar lethrau mynydd y Rhiw. Wedi hir ymdrech, cyrhaeddodd ac yn ôl ei arfer curodd ar y drws, agor a cherdded i mewn, Roedd yr hen lanc yn eistedd wrth

danllwyth o dân braf a’i wyneb coch yn disgleirio yn fflam y tân. Holodd y doctor am ei waeledd ac meddai’r bythynnwr, ‘Ei gweld hi’n noson fawr yr oeddwn, a thybiais tybed allai’r doctor ddod yma ar y fath dywydd pe bawn i yn wael!’ Diflannodd y doctor bach i’r nos a chadw’i ymateb a’i deimladau iddo’i hun. Wedi archwilio gwraig ganol oed yn bur drylwyr ar un achlysur, fe droes ei gefn arni ac edrych drwy’r ffenest gan fwmian rhyngddo ac ef ei hun, ‘Babi eto.’ Deallodd y wraig ffromodd, gwylltiodd a gweiddi, ‘Dwn i ddim yn y byd mawr yma sut yr aeth o yna.’ Meddai’r doctor bach yn dal i syllu drwy’r ffenest, ‘Mi wn i yn iawn.’ Potsiars Môn Bu Seth Jones yn hynod ofalus rhag cael ei hun yn rhwyd y cipar ac ni fyddai byth yn gorddibynnu ar ei sgiliau a’i ddoniau neilltuol, ond fe droai bob amgylchiad yn gyfle i botsio. Ymunodd ar un achlysur â chôr o Rosmeirch a gerddai’r plwyf i ganu carolau cyn y ’Dolig ac, yn naturiol, yr oedd y ddau blasty yn dynfa naturiol i’r carolwyr. Rhoes Cyrnol Lloyd, Tregaian bunt i’r côr am gael clywed ei ddewis garol, ac yr oedd asbri’r Nadolig i’w weld a’i deimlo yno. Aethant ymlaen wedyn drwy’r coed i Dresgawen, i’r un awyrgylch Nadoligaidd eto. Yr oedd gwedd a lleferydd gŵr y tŷ yn brawf ei fod mewn hwyliau rhagorol, a rhoes yn hael ryfeddol i goffrau’r côr gan roi caniatâd iddynt alw yn nhai’r ciperiaid ar y stâd. Yn ddistaw bach, fe ddiolchodd Seth Jones am y nos! Pan agorwyd drws tŷ’r pen-cipar, Lekin, gwelwyd fod ciperiaid y stâd i gyd wedi cyfarfod yno, ac yr oeddynt oll mewn hwyliau da eithriadol. Synhwyrodd y potsiar nad oedd yr un ohonynt mewn cyflwr diogel i fynd allan y noson honno; gadawodd y côr ac aeth adre i nôl y filgast a’r gwn. Yn ôl disgrifiad Seth Jones, yr oedd ffesantod fel sypiau grawnwin ar y coed. Dychwelodd i’w dŷ dan ei faich yn tystio na chafodd ’Dolig tebyg i hwn erioed.

15


Chwaraewyr Profiadol [ac Amhrofiadol] Clwb Rygbi Harlech

PYTIAU OLWEN

Dyma ychwaneg o’r casgliad a roddwyd at ei gilydd gan Olwen pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy o atgofion a ffeithiau difyr am Ardudwy. Y bardd W D Williams a rhywfaint o’i waith Athro wedi ymddeol ac yn byw yn y Bermo lle bu’n brifathro’r Ysgol Gynradd yno am bron i ugain mlynedd. Ganed ef ym 1900 yn Llawrybetws, ger Corwen; bu yn yr Ysgol Gynraedd yno, Ysgol Ramadeg y Bala, a Choleg y Brifysgol, Bangor. Cyhoeddodd ‘Adlais Odlau’, Cerddi’r Hogiau’, ‘Cân ac Englyn’, ‘Goronwy Owen’, ‘Pleser Plant’ (cyd-awdur). Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n feirniad ynddi droeon. bu’n golygu ‘Yr Athro’ am naw mlynedd, yn aelod o dîm Meirionnydd yn ‘Ymryson y Beirdd’, yn cyfrannu amrywiol raglenni i’r BBC am flynyddoedd. Y Garreg Ateb (Carreg Saeth, Cwm Bychan, Llanbedr, Ardudwy) O Graig y Saeth myn watwar Fy llafar dros y llyn, Gan godi ofn â’i hanfod Ddiasbad drwy y glyn; I’w gwrando hi, o grwydro’r rhod A’r hen hen daith ‘rwy’n dod – rwy’n dod. Yng nghell yr alltud clywais Ei hadlais lawer pryd, Cans dilyn wnâi ei llafar Fi i bedwar ban fy myd: A rhaid i mi fu dweud ‘y mod I’r hen hen dir yn dod – yn dod. Fe’m gwnaed o bridd y ddaear, Mi sugnais laeth ei bron; A llais yr hen ddihenydd A’m geilw’n ôl i hon; Myn greddf y maes o graidd fy mod: Ym mhen ei daith mae’n dod – mae’n dod. Gras o Flaen Bwyd O Dad yn deulu dedwydd – y deuwn A diolch o’r newydd; Cans o’th law y daw bob dydd Ein lluniaeth a’n llawenydd.

16

Y bardd Salmon Meirion Jones a rhywfaint o’i waith Postmon wedi ymddeol yn byw yng Ngheinewydd, Talsarnau, a ganwyd ef yn Glyn Lodge yn 1906. Ar ôl gadael yr ysgol gynradd aeth i weithio ar y tir. Yr oedd ganddo ddiddordeb mewn barddoniaeth a barddoni yn gynnar; ail ddeffrowyd yr elfen hon ynddo gan ei brofiadau gyda’r lluoedd arfog yn Lloegr ac ar y Cyfandir yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y Wifren Bigog Bum yn ei gosod ganwaith O’r ffridd hyd gur y ddôl, Er rhwystro’r defaid gwancus A fynnai grwydro’n ffôl; Ond methai rhes ei dannedd main A’u cadw draw o ardd fy nain.

AMBIWLANS AWYR CYMRU

Mae llu o wŷr yr Almaen A’u llygaid ar y ffin, Cans neithiwr fe’i gosodais Hyd ymyl maes y drin. Ceir ar ei dannedd waed a chnawd Am nad yw dyn yn caru’i frawd. Cân o Ddiolch O deuwn oll i Seion, I roddi diolch ddigon Am bethau Duw, a Thad pob dawn Bob dydd a gawn yn gyson, I’n llaw heb inni ofyn, Y deuant trwy y flwyddyn Diferant beunydd ar ein gwlad Yn rhoddion rhad i’w derbyn. Am ddolydd bras eu cnydau, Am Dad sy’n dal i faddau, Am fawredd Duw o dan y sêr, A llawnder ei drysorau: Am Iesu yn y Drindod A’r ffordd bob dydd i’w nabod, Ein diolch boed dros ddaear faith Ymhob rhyw iaith yn barod.

S M Jones

Mawr yw ein diolch i Gwynfor a Maureen Owen, Bron-ygraig am eu caredigrwydd yn caniatáu i ni gynnal ein stondin Ambiwlans Awyr Cymru, yn eu gardd bob dydd Iau o gyfnod y Pasg hyd at yr hydref. Eleni llwyddwyd i godi £4600, £100 yn fwy na’r llynedd. Gwnaed hyn trwy werthu rhoddion yr ydym yn eu derbyn gennych chi, bobl yr ardal a nwyddau Ambiwlans Awyr Cymru. Hoffem ddiolch i bawb sy’n ein cefnogi mewn unrhyw ffordd, a’r ffyddloniaid sy’n dod heibio i brynu yn wythnosol. Yr ydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi bancio £17,713 tuag at yr achos teilwng yma eleni, trwy fynychu gwahanol weithgareddau, derbyn rhoddion a gwagio bocsys.


Atgofion bore oes

– rhan 5, gan Ann Doreen Thomas Yn dilyn ei phlentyndod cynnar yn Harlech, symudodd ei theulu o’r ardal. Dyma’r hanes: Rwyf yn cofio mam yn ysgwyd fi a dweud wrthyf bod rhaid imi godi reit sydyn neu y buasem ni yn colli y trên. Cawsom gar i lawr i’r stesion a daeth Nyrs Roberts a’i gŵr gyda ni a helpu ni ar y trên. I mi roedd y siwrna fel oes a rwyf yn gwybod bod mam a dad wedi blino ateb fi pan oeddwn yn gofyn mor amal oeddan ni yna? Ond erbyn deallt roedd yn siwrna hir ar draws y wlad a hynna tua 193839 cyn y rhyfel rwy’n siŵr. Wedi cyrraedd y stad dywedodd mam a dad nad oedd y wagan trên oedd yn dod a’n heiddo ni o Harlech wedi cyrraedd. Roedd lle wedi ei drefnu inni aros yn y Rack a Manger, tafarn oedd ar y gornel a dyna lle y buom yn aros tan ddaeth ein dodrefn. Rack a Manger Cottages oedd rhes o dai i weithwyr y stad. Pump tŷ a rhif pedwar oedd i fod i ni. Tai i’r gweithwyr y stad oedd rhain ond roedd yna dai crandiach i’r penaethiaid ar rannau o’r stad. Hynny oedd, mi oedd gan y prif weithredwr dŷ ar ben ei hun, ac wedyn mi oedd yna dai pâr, dau ohonynt i’r Head gamekeeper, Head y dairy ac ati. Roeddwn i erioed wedi dod ar draws sefyllfa lle oedd yna wahaniaeth mewn bobol a phlant. I mi roedd pawb yr un fath ond mi ddois ar draws hyn hyd yn oed yn yr ysgol. Rwyf yn cofio gofyn os cawn i ymuno mewn rhyw gêm oeddynt yn chwarae a ‘go away’ gefais i. Wedi deall, plant penaethiaid y stad oedd yn chwarae gyda’i gilydd a ddim eisiau plant y gweithwyr gymysgu gyda nhw. Dyna oedd y drefn adeg y tridegau, nhw a ni yn cyrraedd lawr i’r plant hyd yn oed. Ffordd bach gul oedd y ffordd i’r pentre lle’r oedd yr ysgol dwy ystafell a dwy hen ferch yn athrawon. Mi alwyd y prifathro i baratoi am y rhyfel hwyrach ond y ddwy ddynes oedd yna beth bynnag. Miss Fish oedd un ac os wyf yn cofio’n iawn Miss Godwin oedd y llall. Roedd honno reit annwyl ond am y Miss Fish. Roedd gas gennyf fi a thybiwn bod gas ganddi finnau. Rwyf yn cydnabod

fy mod yn hŷn na fy oed yr adeg honno ond oedd bywyd wedi’m gwneud i yn hŷn. Roeddwn wedi sylwi bod plant y penaethiaid stad yn cael bod ym mlaen y dosbarth a phlant y gweithwyr yn y cefn a phan oedd Miss Fish yn holi oedd hi bob amser yn gofyn i’r rhai hynny beth oedd yr ateb yn gyntaf. Dyma fi yn dweud wrth mam pan gyrhaeddais adref rhyw ddiwrnod a dyma hi yn dweud wrthyf i beidio bod yn ddigywilydd ond i ddal i roi fy llaw i fyny. Ond un tro dyma fi yn gweiddi allan mai fy llaw i oedd i fyny gyntaf ac ateb y cwestiwn a dyma y Miss Fish yn troi ataf a dweud fy mod yn ddigywilydd ac aeth a fi i’r stafell fach lle’r oedd y gofalwr yn cadw ei frwshys ac ati a gorfod imi aros yn fanna tan amser mynd adref. Mi oedd yna ddyn peth amser yn ôl yn dweud hanes y tywydd ar y teledu a Mr Fish oedd ei enw fo. Druan ohono os oedd yn perthyn i’r hen gnawes yna. Pentref del oedd Crawley, tai efo to gwellt, y cyntaf i mi eu gweld erioed a llyn bach yn ei ganol oedd yn rhewi yn y gaeaf. Roedd mam wedi dweud wrthyf i beidio a mynd yn agos ato a dim i adael i’m brawd bach pedair oed fynd yn agos iddo chwaith. Mi ddaeth mwy o sôn am y rhyfel a ddim yn bell o Crawley roedd yna aerodrome ac mi ddaethom yn fuan iawn i ddysgu sŵn ein Spitfires ni. Roeddynt yn hedfan uwch ein pennau yn trainio peilots ac yn dod yn isel nes oeddwn yn gweld pen y peilots. Mi roedd mam yn dod i’n cyfarfod ni o’r ysgol rhai dyddiau a dod a phicnic gyda hi. Ffordd gul oedd yr un oeddwn yn trafeilio i’r ysgol arni a gwrych uchel o goed cnau ac ati bob ochr. Mae’n siŵr bod y rhyfel wedi dechre achos daeth prysurdeb mawr dros y ffordd i’r ysgol a deallwn bod nhw yn adeiladu dau air-raid shelter, un i’r merched ac un i’r hogia. Daeth yna air-raid warden i’r ysgol hefyd i ddweud wrthym pan glywom ni y seiren, hynny oedd, fo yn chwibanu, oedd eisiau inni fynd o dan y desgiau ond wedi i’r shelters gael eu gorffen i mewn i fanna oedd rhaid inni fynd. Hefyd oedd rhaid inni gario ein gas masks i’r ysgol bob dydd. Gan mai pedair oed oedd Hilary y fi oedd yn gorfod cario y ddau gas mask a bag yn cario ein brechdanau cinio. Roedd yn rhy bell inni fynd adref am ginio ac adeg honno nid oedd yna ginio ysgol. Cawsom botel fach o laeth amser chwarae bore. [I’w barhau]

TÎM RYGBI DAN 16 YSGOL ARDUDWY

Ar ddydd Iau, Rhagfyr 13, heriodd tîm rygbi dan 16 Ysgol Ardudwy dîm Ysgol Bro Idris yn Nolgellau. Roedd y gwynt yn chwythu’n gryf a’r amgylchiadau’n anodd ond roedd safon uchel i’r gêm. Ysgol Ardudwy enillodd o 24-15.

17


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Sioe Nadolig Ysgol Talsarnau

Pleser pur oedd cael bod yn bresennol i weld dwy sioe gan blant Ysgol Gynradd Talsarnau y Nadolig hwn. Diolch i’r staff am eu hyfforddi ac i’r disgyblion am wneud eu gwaith mor rhagorol.

Merched y Wawr

Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bymtheg aelod o Gangen Talsarnau i’r cinio Nadolig yng Nghaffi’r Bistro, Harlech ddydd Iau, 6 Rhagfyr. Cydymdeimlwyd gyda dwy aelod oedd yn methu bod gyda ni oherwydd angladdau teuluol. Cyn dechrau bwyta, darllenodd Siriol ‘Gyfarchion y Nadolig 2018’ gan y Llywydd Cenedlaethol, Meirwen Lloyd. Yna daeth y bwyd ar y bwrdd a mawr fu’r canmol i’r cinio ardderchog. Roedd y cig a’r pysgod yn arbennig o flasus, gyda digonedd o wahanol lysiau yn cael eu gweini. Roedd y gwahanol bwdinau hefyd yr un mor flasus a mwynhawyd paned a mins pei i orffen y gwledda. Braf oedd cael dau o bobl ifanc, yn Gymry da, yn gweini arnom yn annwyl iawn. Tynnwyd y raffl ac roedd anrheg bach ar gyfer pawb. Cyflwynodd Siriol y diolchiadau ar y diwedd – i Mai am drefnu’r achlysur, i Gwenda am ofalu am yr ochr ariannol ac i’r cogydd, Lee Williams am y croeso a’r cinio ardderchog a baratowyd ar ein cyfer. Dymunwyd Nadolig Llawen i bawb ar y diwedd.

Clwb y Werin Cyfeillion y Neuadd Gymuned Gair bach i’ch atgoffa bod Cyfraniad Blynyddol 2019 Cyfeillion y Neuadd yn daladwy cyn diwedd Ionawr, £20 i deulu o bedwar, hynny ydy 2 oedolyn a 2 blentyn, £10 i oedolyn, a £5 i bensiynwyr. Byddwn yn dra ddiolchgar o dderbyn eich cyfraniadau, gan werthfawrogi pob cefnogaeth. A fyddwch mor garedig â’i roi, un ai i Colin Rayner, Gwenda Griffiths neu Margaret Roberts, a byddwch yn derbyn tocyn aelodaeth am y flwyddyn. Capel Newydd Oedfaon am 6:00yh IONAWR 6 - Dewi Tudur 13 - Dewi Tudur 20 - Aled Lewis 27 - Dewi Tudur CHWEFROR 3 - Dewi Tudur 10 - Alun Thomas Oedfa Dechrau Blwyddyn, nos Fercher 16 Ionawr 16 am 7:00. Croeso cynnes i bawb.

18

Hyfforddiant Peiriant Diffib Nos Iau, Chwefror 7 am 7.30 yn y Neuadd Gymuned. Dewch i fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant gan unigolyn cymwys. Croeso cynnes i bawb. Cydymdeimlad Estynnir cydymdeimlad â Keith Bisseker a’r teulu, Bryn Awel, Talsarnau yn eu profedigaeth o golli Gwyneth ddechrau mis Rhagfyr. Gyrfa Chwist Rhagfyr Cafwyd noson dda gyda dipyn mwy nag arfer wedi dod i ymuno yn yr Yrfa Chwist, nos Iau, Rhagfyr 13 yn y Neuadd. Diolch i aelodau Pwyllgor y Neuadd am baratoi y bwyd Nadoligaidd a hefyd diolch am y cyfraniadau ariannol a rhoddion at y raffl. Cafwyd noson hwyliog a diolch i Martha am gadw trefn arnom drwy gydol y flwyddyn. Gwnaed elw o £222 at y Neuadd. Diolch i bawb. Neuadd Talsarnau

Gyrfa Chwist

Nos Iau, 10 Ionawr am 7.30 o’r gloch

Aelodau o Glwb y Werin yn dathlu’r Nadolig yng Nghaffi’r Pwll Nofio

I gaffi’r Pwll Nofio yn Harlech aeth aelodau Clwb y Werin am ginio Nadolig ar ddydd Sul, 9 Rhagfyr. Penderfynu ar ginio Sul oherwydd ei fod yn anodd cael dyddiad cyfleus i bawb yn ystod yr wythnos, gan fod nifer o’r aelodau hefo apwyntiadau amrywiol ynglŷn â’u hiechyd! Bu Bethan yn y caffi’n garedig iawn yn rhoi naws Nadoligaidd i’r cinio Sul arferol, a diolch iddi hi a’r tîm am baratoi cinio mor ardderchog ar ein cyfer. Roedd 16 ohonom – pawb wedi gallu dod wrth lwc! Mae’n bleser cael adrodd bod arian y raffl wythnosol a fanciwyd, wedi galluogi i bawb gael y cinio am ddim, yn ogystal â thalu am anrheg i bob un i fynd adre’ gyda hwy. Croesawodd Gwenda bawb i’r cinio, gan ddiolch am eu cyfeillgarwch a’u presenoldeb yn y Clwb drwy gydol y flwyddyn, a gobeithio am heddwch a llawenydd i bawb dros yr Wyl; dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i bawb yn 2019. Diolchodd Jack Forster i Gwenda am y trefniadau ac i staff y caffi am y cinio blasus.


Urdd Gobaith Cymru

Blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr Llais Ardudwy! Y dyddiau yma, does dim ar y teledu ond syniadau o lefydd i fynd ar wyliau yn ystod haf 2019, ond i aelodau’r Urdd troi eu golygon at yr Eisteddfod Cylch fydd prif bwrpas y deg wythnos nesaf. Bydd nifer fawr o oriau yn cael eu treulio yn ceisio dysgu geiriau, gwella tonyddiaeth, rhoi trefn ar y stepio cywir wrth ddawnsio a cheisio rhoi ar waith darnau o gelf. Prysurdeb tu hwnt. Yn wir, mae’r adeg wedi cyrraedd i ddechrau meddwl am gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd gyda’r gobaith o gyrraedd y prif lwyfan yng Nghanolfan y Mileniwm ar ddiwedd mis Mai yn ffocws i bawb. Dyddiad cau Eisteddfod Cylch Nodyn pwysig i atgoffa pawb mai’r dyddiad cau er mwyn cofrestru i gystadlu yn yr Eisteddfod Cylch eleni yw dydd Mawrth, 19 Chwefror am 6yh. Bydd yn bosib gwirio’r wybodaeth yma hyd at ddydd Gwener, 22 Chwefror am 6.00yh. Mae angen bod yn aelod i gystadlu ac mae’n bosib ymaelodi drwy fynd i safle we’r Urdd a dilyn y cyfarwyddiau perthnasol. Mae’r pris aelodaeth wedi codi i £10 erbyn hyn. Cynhelir yr Eisteddfod Cylch yn Ysgol Ardudwy ar 16eg Mawrth. Nofio Pob lwc i’r criw sydd yn teithio i lawr yr A470 ar ddiwedd Ionawr ar gyfer cystadlu yn y Gala Nofio Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Pêl-droed Talaith y Gogledd Bydd timau o fechgyn a merched B7 a B8 Ysgol Ardudwy yn cystadlu yng Nghanolfan Hamdden Brailsford, Bangor yn erbyn Ysgolion Uwchradd eraill ledled y gogledd ar ddiwedd Ionawr. Pob lwc i bawb sydd yn cynrychioli’r Cylch yn y mis nesaf mewn gwahanol weithgareddau chwaraeon. Diolch am eich cefnogaeth, Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd

SIOE ARDDIO HARLECH Trwy amryfusedd, ni chynhwyswyd y canlyniadau cywir ar gyfer Sioe Arddio Harlech yn ein rhifyn diwethaf. Oherwydd hynny, nid oedd yr holl enwau yn gywir yn ein hadroddiad. Ymddiheurwn am y gwall oedd y tu hwnt i’n rheolaeth ni fel golygyddion. [Gol.]

Rhai o’r disgyblion sydd wedi ennill yn eu cystadlaethau nofio

19


YSGOL ARDUDWY

BANC BWYD DE GWYNEDD

Aeth criw o ddisgyblion B11 draw i Fanc Bwyd De Gwynedd yn ddiweddar gyda’r nwyddau gafodd eu rhoi gan eu cyd-ddisgyblion. Roedd gwirfoddolwyr y Banc Bwyd yn dra diolchgar am y nwyddau ar amser mor brysur o’r flwyddyn. Diolch i bawb a gyfrannodd yn hael.

GWEITHDY CALENNIG

DYDDIADUR Y MIS

Ionawr 9 –

Ionawr 10 – Ionawr 10 – Ionawr 16 – Ionawr 16 – Ionawr 19 – Ionawr 21 – Chwefror 3 – Chwefror 7 – Chwefror 12 – Ebrill 13 – Ebrill 14 –

Gyrfa Chwilod Sefydliad y Merched, Neuadd Goffa Llanfair, 2.00 Festri Lawen, Tomos Heddwyn Griffiths, Festri Horeb, Dyffryn Ardudwy, 7.30 Gyrfa Chwist, Neuadd Gymuned Talsarnau, 7.30 Teulu Ardudwy, Neuadd Dyffryn Ardudwy, Hel Atgofion, 2.00 Plygain Cyfeillion Ellis Wynne, Eglwys Llanfair, 7.00 Bingo Caffi’r Pwll Nofio, Harlech, 2.30 Cymdeithas Cwm Nantcol, John Price, 7.30 Casglu sbwriel ar un o draethau Ardudwy (manylion ar FB Cambrian Beach Guardians) Hyfforddiant Peiriant Diffib, Neuadd Gymuned Talsarnau, 7.30 Teulu’r Castell, Neuadd Llanfair, 2.00 Cyngerdd Coffa Elen Meirion yn 50 oed, Y Ganolfan Porthmadog, 7.30 Côr Godre’r Aran, Rhys Meirion, Steffan Lloyd Owen, Elan Meirion, a Nic Parry yn arwain. Treiathalon Harlech 2019, - rhaghysbysiad er mwyn dechrau ymarfer!

TOYOTA HARLECH

AYGO X-CITE

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Aygo - chewch chi mo’ch siomi! Cynhaliwyd diwrnod arbennig yn Harlech ar 1 Ionawr gyda gweithdy Calennig yn y Neuadd Goffa yn y bore, gyda Siân a ‘Mari Lwyd’ yn cymryd rhan. Cafwyd te a choffi yn yr Hen Llyfrgell, lle siaradodd Neil Evans am Dr Lewis Lloyd, a rhoddodd Edwina Evans sgwrs am Harlech flynyddoedd yn ôl. I orffen, cafwyd cyngerdd ardderchog yn Eglwys Tanwg Sant efo Seindorf Arian Harlech i ddathlu diwylliant lleol. Diolch i bawb sydd wedi helpu ac i Gronfa Partneriaeth Eryri am ariannu’r diwrnod.

Chrissy Walters a’i mam, Jean Philebrown yn teimlo’n lwcus

Sandra sy’n gyfrifol am dynnu’r rhifau lwcws Siân a’r Fari Lwyd

Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Ionawr 19 am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm

Croeso cynnes i bawb! Diolch am gefnogi.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk facebook.com/harlech.toyota Twitter@harlech_toyota

Janet Griffiths yn dewis ei gwobr wedi iddi ennill gêm

Ros McAlister yn rhannu’r danteithion yn y sesiwn cyn y Nadolig


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.